Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Cymrodyr Academaidd 2019

Mae Dr David Dallimore (Prifysgol Bangor) yn ymgymryd â gwaith ymchwil i lywio nifer o bapurau briffio ac adroddiad ar integreiddio addysg a gofal plentyndod cynnar. Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar nifer o gwestiynau allweddol

  • Sut y mae Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar wedi datblygu yng Nghymru?
  • Beth yw sylfeini presennol Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar o ran polisi, deddfwriaeth, a chysyniadau?
  • Sut y mae Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru yn cymharu â systemau mewn gwledydd eraill?
  • Beth yw'r rhwystrau deddfwriaethol, rheoleiddiol, strwythurol a chysyniadol o ran datblygu mynediad at Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar ymhellach yng Nghymru?

Cyhoeddodd Dr Dallimore y cyntaf mewn cyfres o bapurau ymchwil, 'Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru: cyflwyniad' (PDF, 1144KB) ym mis Mai 2019. Dilynwyd gan ail bapur ymchwil, 'Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru: Pwysigrwydd Ansawdd' (PDF, 877KB) yng Nghorffennaf 2019.

 

  

Mae Dr Alec Dauncey (Prifysgol Bangor) yn gweithio ar gwmpasu'r dystiolaeth ddiweddaraf sy'n berthnasol o ran polisi ar wasanaethau ecosystemau mewn perthynas â chyfres o senarios coetiroedd. Mae coetiroedd yn darparu ystod o wasanaethau ecosystem gan gynnwys: dal a storio carbon, ansawdd dŵr, rheoli peryglon llifogydd, llif dŵr tymhorol, cadwraeth pridd, a rheoli llygredd gwasgaredig. Mae'r senarios yn cynnwys:

  • Rheoli coetiroedd conifferaidd a brodorol presennol, gan gynnwys coetiroedd ffermydd, o dan systemau gorchudd di-dor neu gyfoed.
  • Adfer safleoedd coetiroedd hynafol a blannwyd, a chynefin agored.
  • Coetir newydd; llydanddail, conifferaidd, a chymysg; trwy blannu neu drwy gytrefu naturiol.

Bydd y dystiolaeth sy'n ymwneud â phob senario yn cael ei hystyried o ran risgiau, a chyfleoedd lle mae pawb ar ei ennill neu 'neb yn edifar', ynghyd â'u lle o ran dulliau rhannu tir ac arbed tir ar raddfa'r dirwedd.

 

 

Bydd Dr Lucy J Griffiths (Prifysgol Abertawe) yn cynhyrchu papur ar gynllun drafft Llywodraeth Cymru - Pwysau Iach: Cymru Iach ar gyfer y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, gan ganolbwyntio ar ba mor dda y mae'n cyflawni'r her o gael mwy o blant a phobl ifanc i fod yn egnïol yng Nghymru. Bydd Lucy hefyd yn ysgrifennu briff ar lefelau gweithgarwch corfforol ac ymddygiadau yn y boblogaeth hon, gan ddefnyddio data o Astudiaeth Cohort y Mileniwm, i lywio dadl y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar y pwnc hwn yn y Cyfarfod Llawn.

Cyhoeddodd Dr Griffiths erthygl ar y cyd gyda'r Athro Gareth Stratton o Brifysgol Abertawe, 'Bodloni'r gofynion: A yw plant yng Nghymru yn symud digon?', ym mis Mehefin 2019.

 

 

Bydd Dr Sarah Nason (Prifysgol Bangor) yn ymchwilio ac yn gwneud argymhellion i wella rôl y Cynulliad o ran craffu ar system cyfiawnder gweinyddol Cymru, sy'n datblygu. Mae'r system hon yn cynnwys nifer o wahanol gyrff (gan gynnwys tribiwnlysoedd, ymdrinwyr cwynion, comisiynwyr, llysoedd a mwy), ac mae'n ymwneud â'r cyfreithiau sy'n gysylltiedig â'r penderfyniadau a wneir gan gyrff cyhoeddus, datrys anghydfod rhwng unigolion a chyrff cyhoeddus, a sut y gellir dysgu o hyn er mwyn gwella'r ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus.

Pedair amcan y gymrodoriaeth yw:

  • gwella ymwybyddiaeth o gyfiawnder gweinyddol a'i gysylltiad â gwaith etholaethol Aelodau'r Cynulliad
  • ymchwilio ac adrodd ar ddewisiadau ar gyfer sicrhau mwy o atebolrwydd o ran sefydliadau cyfiawnder gweinyddol i'r Cynulliad
  • ymchwilio ac adrodd ar sut y gellir cymryd agwedd gyson tuag at faterion cyfiawnder gweinyddol yn neddfwriaeth y Cynulliad
  • ymchwilio i'r cysylltiadau rhwng egwyddorion cyfiawnder gweinyddol a hawliau dynol yng Nghymru gan lywio trafodaethau'n ymwneud â chyfraith hawliau dynol i Gymru sy'n datblygu, a goruchwyliaeth y Cynulliad o faterion hawliau dynol.
 

 

 

Bydd Dr Filippos Proedrou (Prifysgol De Cymru) yn cynhyrchu adroddiad sy'n ymdrin â'r bwlch yn y polisi hinsawdd yng Nghymru.  Yn benodol, bydd y gwaith hwn yn llunio polisi hinsawdd o fewn strategaeth polisi cyhoeddus cyffredinol Cymru ar gyfer y dyfodol a fframwaith cyfreithiol Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol.  Bydd yn dod â thystiolaeth ac achosion gorau o bob cwr o'r byd, ac yn addasu'r cynigion presennol er mwyn gwneud y mwyaf o'u mewnbwn i gyllidebau carbon baeddgar a llwyddiannus y dyfodol. Bydd hefyd yn craffu ar rai o'r effeithiau y bydd Brexit yn eu cael ar bolisi hinsawdd Cymru.

Cyhoeddodd Dr Proedrou Briff Ymchwil ar Fynd i'r afael â'r bwlch yn y polisi hinsawdd yng Nghymru ym mis Gorffennaf 2019.

 

 

Bydd Dr Roiyah Saltus (Prifysgol De Cymru) yn casglu tystiolaeth ar:

  • gysyniadau ac ymyriadau i leihau unigrwydd ymhlith mudwyr hŷn a/neu grwpiau poblogaeth lleiafrifoedd ethnig, ac
  • ymyriadau (rhaglenni, mentrau neu brosiectau) sy'n mynd i'r afael ag unigrwydd, yn ymyriadau sydd wedi'u teilwra'n benodol i'r poblogaethau targed ac ymyriadau generig sy'n cynnwys ymfudwyr hŷn a phobl hŷn o leiafrifoedd).

Mae hyn wedi'i wreiddio yn ffocws ehangach y Cynulliad Cenedlaethol ar les, gwell iechyd y cyhoedd a chydlynu cymunedau – gydag angen mwy penodol (ymysg pethau eraill) i ychwanegu gwerth at ddatblygu strategaeth unigrwydd Llywodraeth Cymru a'i chyflwyno yn ddiweddarach.

 

 

Bydd Dr Helen Taylor (Prifysgol Metropolitan Caerdydd) yn ymgymryd â gwaith ymchwil i ehangu dyletswyddau cyfreithiol yn ymwneud â digartrefedd mewn perthynas â Deddf Tai (Cymru) 2014. Bydd yn dadansoddi'r cynnig i gynnwys 'cysgu ar y stryd' fel categori angen blaenoriaeth a bydd yn casglu data ar yr effaith y gallai hyn ei chael ar unigolion sy'n cysgu ar y stryd. Roedd ymchwil PhD Helen yn ymwneud ag agweddau tuag at fregusrwydd yn y Ddeddf ac ar hyn o bryd mae'n darlithio mewn Astudiaethau Tai, gan arbenigo mewn polisi, dulliau ymchwil a digartrefedd.

 

 

 

Blog PIGION Ymchwil y Senedd
 

 

Partners & Help