Cynllun Cymrodoriaeth Academaidd
Mae'r cynllun Cymrodoriaeth Academaidd yn galluogi academyddion ar lefel uwch yn eu gyrfa (ar ôl cwblhau PhD) i dreulio amser yn gweithio gyda staff y Gwasanaeth Ymchwil ar brosiect penodol, pan fo hyn o fudd i'r academydd ac i'r Cynulliad yn gyffredinol.
Nod y cynllun yw:
- Darparu mynediad i arbenigedd ar bynciau sy'n berthnasol i feysydd blaenoriaeth;
- Hybu dealltwriaeth y cyhyoedd o'r Cynulliad ymlith y gymuned ymchwil;
- Meithrin perthasau rhwng staff y Cynulliad a'r gymuned ymchwil; a
- Cefnogi nodau strategol Comisiwn y Cynulliad o ddarparu cymorth seneddol rhagorol ac ymgysylltu â holl bobl Cymru.
Rydym yn chwilio am academyddion i weithio fel cymrodor gyda'r Gwasanaeth Ymchwil rywbryd yn ystod 2019. Mae'r alwad am geisiadau bellach wedi cau.
Pwy all wneud cais?
Mae'r broses ymgeisio ar gyfer y Cynllun Cymrodoriaeth Academaidd ar gyfer ymchwil i'w gynnal rhywbryd yn ystod 2019 bellach wedi cau.
Mae dau lwybr i wneud cais:
Mae'r Cynllun Cymrodoriaeth yn agored i academyddion uwch (sydd eisoes wedi cael PhD) a gyflogir gan sefydliad addysg uwch yn y DU. Rhaid i bob ymgeisydd fod â'r hawl i weithio yn y DU.
Cyfarwyddyd a Chwestiynau Cyffredin
Cysylltwch â graham.winter@cynulliad.cymru am rhagor o wybodaeth ynglŷn â'r cynllun.
Pynciau Posibl ar gyfer Cymrodoriaeth yn 2019
Rhagor o wybodaeth am gymrodyr sydd yn gweithio gyda'r Cynulliad ar hyn o bryd
Rhagor o wybodaeth am gymrodyr blaenorol sydd wedi cwbhlau Cymrodoriaeth
Darllenwch y Briffiau Ymchwil ym mlog PIGION Senedd Ymchwil