Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 

Cwestiynau

Cwestiynau llafar

Caiff Aelodau'r Cynulliad (ACau) ofyn Cwestiynau Llafar y Cynulliad i'r Prif Weinidog, i Weinidogion Cymru, i'r Cwnsler Cyffredinol ac i Gomisiwn y Cynulliad am unrhyw fater sy'n dod o fewn eu maes cyfrifoldeb. Atebir cwestiynau llafar yn ystod cyfnod a neilltuir ar gyfer Cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn. Bydd y Prif Weinidog yn ateb cwestiynau bob wythnos, a bydd Gweinidogion Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol yn ateb cwestiynau ar batrwm cylch pedair wythnos. Gofynnir cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad unwaith pob pedair wythnos hefyd.

Hysbysiad o gwestiynau llafar

Bydd y Llywydd yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau i’r Prif Weinidog ac i Weinidogion Cymru. Caiff pob Aelod gynnwys ei enw yn y balot. Caiff unrhyw Aelod gyflwyno cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Chomisiwn y Cynulliad. Ar gyfer cwestiynau i’r Prif Weinidog, rhaid i’r Aelod gyflwyno ei gwestiwn llafar o leiaf dri diwrnod cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer ei ateb. Dylid cyflwyno cwestiynau i Weinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol a Chomisiwn y Cynulliad o leiaf bum niwrnod cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer eu hateb. Rhaid i'r cwestiynau fod yn berthnasol i gyfrifoldebau'r Gweinidog dan sylw (neu i gyfrifoldebau Comisiwn y Cynulliad pan ofynnir cwestiynau i'r Comisiwn). Defnyddir cyfrifiadur i ddewis trefn ar hap ar gyfer gofyn y cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.

Cwestiynau brys

Caiff yr Aelodau ofyn Cwestiynau Llafar Brys hefyd heb orfod rhoi hysbysiad. Dim ond os bydd y Llywydd yn meddwl bod y mater yn un o bwys cyhoeddus brys y caiff Aelod ofyn Cwestiynau Brys.

Cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn - y drefn

Yn ystod y cwestiynau llafar, gelwir yr Aelod perthnasol i ofyn y cwestiwn a gyflwynwyd. Ar ôl i'r Gweinidog ateb (neu i'r Comisiynydd os gofynnwyd y cwestiwn i Gomisiwn y Cynulliad), caiff yr Aelod ofyn un cwestiwn arall sy'n berthnasol i'r cwestiwn a gyflwynwyd. Gelwir hwn yn gwestiwn atodol. Caiff y Llywydd benderfynu hefyd a ddylid galw ar Aelodau eraill i ofyn cwestiwn atodol perthnasol neu beidio. Bydd y Gweinidog (neu'r Comisiynydd) yn ateb pob cwestiwn atodol yn ei dro. Caiff Dirprwy Weinidogion ateb cwestiwn ar ran Gweinidog os yw'n gyfrifol am y pwnc dan sylw.

Cwestiynau i'w hateb yn ysgrifenedig

Os na lwyddir i gyrraedd cwestiwn llafar yn ystod trafodion Cyfarfod Llawn, caiff yr Aelod ateb ysgrifenedig ar yr un diwrnod.    Hefyd, caiff Aelodau gyflwyno cwestiynau'n benodol i gael ateb yn ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru neu Gomisiwn y Cynulliad. Nid oes terfyn ar nifer y cwestiynau ysgrifenedig y caiff Aelod eu cyflwyno. Bydd pob ateb ysgrifenedig yn cael ei gyhoeddi yng Nghofnod y Trafodion.

Partners & Help