Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :
Nôl i'r rhestr dogfennau Gweld y dudalen hon heb lincs
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
 
13:30
Y Llywydd / The LlywyddBywgraffiad
Galw’r Aelodau i drefn.
 
13:30
Datganiad gan y Llywydd
Y Llywydd / The LlywyddBywgraffiad
Cyn i fi alw ar y Prif Weinidog, rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau am ymuno â fi yn anfon ein cydymdeimladau at bawb sydd wedi eu heffeithio gan y digwyddiad erchyll yn Las Vegas ddoe.
 
1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
 
13:30
Y Llywydd / The LlywyddBywgraffiad
Yr eitem gyntaf ar yr agenda, felly, yw’r cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf, Joyce Watson.
 
Cymru fel Gwlad Amrywiol o ran Ethnigrwydd
 
13:30
Joyce WatsonBywgraffiad
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Cymru wedi elwa ar fod yn wlad amrywiol o ran ethnigrwydd? (OAQ51135)
 
13:30
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Gwnaf. Drwy gydol ein hanes, mae pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig wedi dod â sgiliau ac entrepreneuriaeth i Gymru. Ac, wrth i ni ddathlu Mis Hanes Pobl Dduon, mae'r thema, 'Ein sêr, ein dyfodol, ein hanes' yn cefnogi ein huchelgeisiau yn rhan o 'Ffyniant i Bawb', gan ein bod yn gwybod bod angen pobl amrywiol, greadigol, hynod fedrus a hyblyg ar Gymru ffyniannus.
 
13:30
Joyce WatsonBywgraffiad
Diolchaf i chi, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Yr wythnos diwethaf, roeddwn i wrth fy modd o fod yn bresennol ac o siarad yn lansiad degfed Mis Hanes Pobl Dduon Cymru. Mae digwyddiadau, a gynhelir trwy fis Hydref, yn ein helpu i fyfyrio ar dreftadaeth gyfoethog Cymru a chyfansoddiad amrywiol ei phobl a'u cyfraniad at lunio Cymru. Ac mae'n rhoi cyfle i ni fel corff seneddol estyn allan i bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a’u hannog i ymgysylltu â ni a'r gwaith yr ydym ni’n ei wneud. Fel y gwyddoch, Prif Weinidog, bydd ein cynllun prentisiaeth Cynulliad nesaf yn cael ei lansio y flwyddyn nesaf. A gaf i ofyn i chi, felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hybu ceisiadau gan gymunedau pobl dduon ac ethnig?
 
13:31
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, rydym ni'n darparu £360,000 yn ystod 2017-20 ar gyfer rhaglen ymgysylltu â phobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru gyfan, gan ddarparu gwybodaeth, wrth gwrs, i Lywodraeth Cymru ar faterion a heriau allweddol, a bydd hynny'n ein helpu ni, wrth gwrs, i sicrhau ein bod ni’n gallu recriwtio mewn ffordd sy'n adlewyrchu'n llawn poblogaeth a chyfansoddiad Cymru.
 
13:32
Mark IsherwoodBywgraffiad
Tair wythnos yn ôl, roeddwn i’n bresennol mewn cyfarfod yn Wrecsam gyda llysgennad Gwlad Pwyl o Lundain, y prif gonswl o Fanceinion, cynrychiolydd y cyngor, gwahanol asiantaethau a oedd yn bresennol, ac, wrth gwrs, cynrychiolwyr o’r cymunedau Pwylaidd a Phortiwgeaidd, yn trafod sut y gallem ni ddatblygu canolfan gyswllt. Yn yr achos hwn, siaradodd conswl Gwlad Pwyl am y ffaith y byddai’n bosibl y gallai clybiau busnes cymunedol Pwylaidd godi'r cyllid i gael mynediad at hyn. Ond mae angen rhywun arnom i hwyluso’r ffordd ymlaen, i fynd i'r afael â'r rhwystrau y mae pobl yn y cymunedau hyn yn parhau i’w hwynebu, a hefyd, o ganlyniad, i leihau pwysau ar wasanaethau statudol. Sut gallai Llywodraeth Cymru helpu i hwyluso cynnydd yn y maes hwn?
 
13:32
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, rydym ni’n ceisio gweithio, wrth gwrs, trwy ein hymgysylltiad â'r gwahanol gymunedau, trwy'r gwahanol fforymau sydd gennym, a hefyd, wrth gwrs, y gwaith gyda llysgennad Gwlad Pwyl a chynrychiolwyr diplomyddol Gwlad Pwyl yn y DU. Rydym ni’n fwy na pharod i weithio gyda'r llysgennad er mwyn nodi lle mae grwpiau o'r fath yn bodoli yng Nghymru a sut y gallwn ni ymgysylltu â nhw orau. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod. Os byddaf yn ysgrifennu at lysgennad Gwlad Pwyl, efallai pe gallem amgáu'r geiriau y mae wedi eu defnyddio yn y Siambr hon yn rhan o'r llythyr, ac yna wrth gwrs, gallwn weld sut y gallwn gydweithio gyda'n gilydd orau i sicrhau'r canlyniad y mae wedi ei ddisgrifio.
 
13:33
Bethan JenkinsBywgraffiad
Prif Weinidog, ddydd Gwener, roeddwn i gyda'r tîm cymorth ieuenctid ethnig yn Abertawe, ac roedden nhw’n dweud yr hoffent gael llawer mwy o gefnogaeth wrth fynd i ysgolion a lleoliadau addysg o ran ceisio cael cymunedau i gydweithio. Ac felly, mewn un ysgol, roedd ganddyn nhw ferch wen yn gwisgo hijab, a cherddodd i lawr y stryd, ac yna daeth yn ôl a dweud pa mor wahanol yr oedd hi'n teimlo ei bod hi wedi cael ei thrin oherwydd ei bod yn gwisgo un darn o benwisg a oedd yn wahanol i'r ffordd y byddai’n gwisgo fel rheol. Ac rwy'n credu y byddai'r mathau hyn o bethau yn helpu plant nad ydynt erioed wedi cael eu cyflwyno i gymunedau eraill, neu ethnigrwydd arall, yn eu bywydau i geisio deall sut beth yw byw’r profiadau beunyddiol hynny. Felly, roeddwn i’n meddwl tybed a allech chi siarad â nhw—gwn eu bod yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru—i roi adnoddau ychwanegol iddyn nhw fynd a gwneud hyn mewn ysgolion eraill ledled Cymru, i sicrhau, pan fyddwn ni'n dechrau’n ifanc, y gellir lliniaru’r problemau posibl hynny trwy ddechrau cyn gynted fyth ag y gallwn?
 
13:34
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, a gaf i awgrymu bod y sefydliad dan sylw yn dilyn y llwybr arferol—yn siarad â swyddogion y Gweinidog—ac yna, wrth gwrs, gallwn ystyried pa adnoddau allai gael eu rhoi ar gael yn y dyfodol?
 
Gwasanaethau Eiriolaeth i Gleifion
 
13:34
Janet Finch-SaundersBywgraffiad
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau eiriolaeth i gleifion yng Nghymru? (OAQ51134)
 
13:34
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Gwnaf. Rydym ni wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau eiriolaeth cleifion effeithiol yng Nghymru. Darperir gwasanaethau i oedolion gan gynghorau iechyd cymuned, ac mae byrddau iechyd lleol yn gyfrifol am drefnu darpariaeth gwasanaethau eirioli i blant ac eiriolwyr iechyd meddwl arbenigol.
 
13:35
Janet Finch-SaundersBywgraffiad
Diolch. Yn ystod ein dadl yn ddiweddar, roedd eich Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon wir o blaid diddymu cynghorau iechyd cymuned a’u disodli gyda chorff newydd. Mae hyn er gwaethaf llawer iawn o wrthwynebiad gan y cyhoedd. Pa mor eironig felly, Prif Weinidog, yn fy ngohebiaeth ddiweddaraf â’r Ysgrifennydd Cabinet ynghylch achos anodd yn ymwneud ag etholwr, bod ganddo’r hyfdra i awgrymu y dylwn i argymell i'm hetholwyr gysylltu â'u CIC, gan drosglwyddo cyfrifoldeb, i bob pwrpas, am ddiffygion ei wasanaeth iechyd ef a chithau. Prif Weinidog, oni fyddech chi’n cytuno â mi bod hyn braidd yn ddauwynebog gan yr Ysgrifennydd Cabinet, ac a fyddech chi hefyd yn rhoi ar goedd eich cydnabyddiaeth a’ch cefnogaeth i'r gwaith y mae'r cynghorau iechyd cymuned a'u gwirfoddolwyr wedi ei wneud ar ran ein cleifion fel gwasanaeth eirioli dros flynyddoedd lawer?
 
13:36
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Dauwynebog—dyna air y dydd. Rwy'n credu i ni gael hwnnw ddoe gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ei araith a anwybyddwyd yn eang. [Chwerthin.] Nid wyf yn derbyn o gwbl bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod yn ddauwynebog mewn unrhyw fffordd. Wrth gwrs, byddai'n cyfeirio etholwr i chi at wasanaeth eirioli annibynnol. Dyna sy'n bodoli o dan y strwythur presennol a dyna fydd yn bodoli yn y dyfodol—gwasanaeth annibynnol. Ni all y Gweinidog fod yn annibynnol, wrth reswm, felly rwy'n credu bod yr ateb y mae wedi ei roi i chi yn gwbl gywir: sef os oes angen eiriolaeth ar eich claf, mae'n briodol y dylai'r gwasanaeth eirioli hwnnw fod yn annibynnol. Mae'n briodol, felly, mai'r cyngor iechyd cymuned ydyw, gan mai nhw sy’n darparu'r gwasanaeth hwnnw ar hyn o bryd, ac—rydym ni’n aros i weld, wrth gwrs, beth fydd yr ymatebion i'r Papur Gwyn—rhoddwyd y cyngor cywir i’ch etholwr, yn fy marn i, yn seiliedig ar yr hyn yr ydych chi wedi ei ddweud wrthyf yn y Siambr heddiw.
 
13:37
Rhianon PassmoreBywgraffiad
Prif Weinidog, cyhoeddwyd hyrwyddwyr cyn-filwyr a lluoedd arfog byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2017. Enwodd Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan, sy'n gwasanaethu fy etholwyr yn Islwyn, Brian Mawby fel yr hyrwyddwr. Llongyfarchiadau iddo. Pa effaith y mae'r Prif Weinidog yn credu y bydd yr hyrwyddwyr hyn yn ei chael ar sicrhau bod cynlluniau gwasanaeth lleol yn darparu cymorth, a bod eu cynlluniau lleol yn adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau’r dynion a menywod dewr yng Nghymru sydd wedi gwasanaethu ein cenedl gyda dewrder yn ein lluoedd arfog?
 
13:37
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Yn sicr. Gwyddom, wrth gwrs, bod hyrwyddwyr effeithiol iawn mewn sawl agwedd ar fywyd cyhoeddus yng Nghymru, ac maen nhw'n gwneud llawer i ddylanwadu'n gadarnhaol ar gyfeiriad y Llywodraeth ac, yn wir, cyrff ac asiantaethau cyhoeddus. Felly, ydw, rwy’n sicr yn cydnabod y gwaith y mae eich etholwr wedi ei wneud, fel y mae llawer o bobl eraill wedi ei wneud ledled Cymru, gan eu bod yn ychwanegu at yr wybodaeth sydd gan y Llywodraeth fel y gall y Llywodraeth weithredu yn y ffordd fwyaf priodol i'r bobl.
 
13:37
Caroline JonesBywgraffiad
Prif Weinidog, mae llais cleifion annibynnol yn hanfodol, yn enwedig i’r rheini na allant gael gwrandawiad. Rydym ni wedi gwneud cynnydd enfawr o ran darparu eiriolwyr i bobl â phroblemau iechyd meddwl, ond mae gwasanaethau eiriolaeth cleifion hefyd yn hanfodol i bobl â dementia. Bu galwadau i bawb â dementia gael mynediad at eiriolwr medrus ac annibynnol sy'n deall dementia ac sy’n gallu eirioli’n effeithiol. Prif Weinidog, a ydych chi'n cefnogi'r safbwynt hwn ac a wnewch chi amlinellu'r camau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i wella gwasanaethau eirioli i bobl â dementia?
 
13:38
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, byrddau iechyd sy’n gyfrifol am drefnu’r ddarpariaeth o wasanaethau eiriolaeth cleifion cyffredinol ar gyfer plant, a gellir cefnogi plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal iechyd meddwl ymhellach i godi pryderon trwy fanteisio ar eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol. Mae gan bob bwrdd iechyd yng Nghymru drefniadau ar waith i ddarparu eiriolwyr iechyd meddwl sydd wedi'u hyfforddi i weithio gyda phlant a phobl ifanc—mae hynny'n wir. Ac wrth gwrs, rydym ni eisiau sicrhau bod llais y claf yn cael ei gryfhau pan ddaw i wasanaethau iechyd meddwl i oedolion. Rydym ni wedi gwneud llawer, wrth gwrs, i gynorthwyo'r sefydliadau hynny sy'n helpu pobl a'u teuluoedd sy'n ymdrin â dementia fel, er enghraifft, trwy fwrw ymlaen â lleoedd ystyriol o ddementia fel y gall pobl fynd a byw eu bywydau cyhyd â phosibl ac mewn amgylchedd mor gyfarwydd â phosibl.
 
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
 
13:39
Y Llywydd / The LlywyddBywgraffiad
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
 
13:39
Leanne WoodBywgraffiadArweinydd Plaid Cymru
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae digartrefedd yn aflwydd ar unrhyw gymdeithas wâr. A ydych chi wedi sylwi bod nifer y bobl sy’n cysgu ar y stryd yn cynyddu ar hyn o bryd?
 
13:39
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Yn ôl y cyfrif diwethaf, 141 yw nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd. Cynhaliwyd y cyfrif hwnnw ym mis Tachwedd 2016. Mae'n anodd, wrth gwrs, cyfrif y nifer yn rheolaidd gan ei fod yn amrywio i fyny ac i lawr, ond mae hi'n iawn i nodi'r ffaith fod cysgu ar y stryd yn broblem, a dyna pam— bydd yr Ysgrifennydd yn gwneud ei ddatganiad ar y gyllideb yn ddiweddarach—byddwn yn ceisio darparu'r holl adnoddau y gallwn er mwyn lliniaru'r broblem.
 
13:40
Leanne WoodBywgraffiad
Mae digartrefedd ar gynnydd, Prif Weinidog, ac mae hynny o gyfrifau pobl sy’n cysgu ar y stryd, ceisiadau am gymorth digartrefedd, pobl mewn llety dros dro, achosion o droi pobl allan—y cwbl. Yma yng Nghaerdydd, mae'r Wallich yn amcangyfrif y bu cynnydd o 18 y cant i’r nifer sy’n cysgu ar y stryd o'i gymharu â'r un chwarter yn 2016. Nid yw'n unrhyw syndod, i ni o leiaf, bod hyn yn digwydd. Rhagwelodd pawb y byddai hyn yn digwydd o ganlyniad i doriadau lles, a ddechreuodd, i’ch atgoffa, o dan Lywodraeth Blair pan benodwyd Arglwydd Freud i’w swydd weinidogol gyntaf. Ond roedd hefyd yn hawdd rhagweld y byddai system wleidyddol ddiffygiol San Steffan yn anwybyddu'r rhybuddion hyn ac yn bwrw ymlaen â'u toriadau beth bynnag. Pam nad oedd eich Llywodraeth a'ch plaid chi yn fwy rhagweithiol wrth geisio'r pwerau i beidio â gorfod gweithredu'r toriadau hyn?
 
13:41
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, mae'n un peth meddu ar y pwerau, peth arall yw meddu ar yr arian. Un peth yw dweud, 'Rydym ni’n mynd i wneud rhywbeth'; os nad yw'r arian yno i'w wneud, yna mae'n dod yn fwy anodd. Beth ydym ni wedi ei wneud? Wel, rydym ni newydd gyhoeddi £2.6 miliwn ychwanegol i gynorthwyo gwasanaethau i bobl sy'n cysgu ar y stryd a phobl ifanc, ac yn hollbwysig rydym ni wedi cyflwyno deddfwriaeth i atal digartrefedd yn y lle cyntaf. Mae ymdrin â phobl sydd eisoes ar y stryd yn bwysig, ond does bosib nad yw’n wir hefyd bod ataliaeth yn flaenoriaeth i ni. Mae'r ddeddfwriaeth wedi golygu mwy o gymorth i fwy o bobl a chymorth yn gynharach, gan gynnwys pobl sy’n cysgu ar y stryd, ac mae'r ystadegau digartrefedd diweddaraf ar gyfer chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol hon yn dangos cyfradd sefydlog o lwyddiant ar adeg o alw cynyddol—ataliwyd digartrefedd 63 y cant o'r holl aelwydydd yng Nghymru a oedd dan fygythiad o ddigartrefedd. Ni fyddai hynny wedi digwydd mewn unrhyw le arall, ac mae hynny o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth.
 
13:41
Leanne WoodBywgraffiad
Prif Weinidog, ni allwch chi gondemnio San Steffan am ddiffyg tosturi gan barhau i dderbyn bod y pwerau i atal digartrefedd yn dal i fod yn San Steffan. Rydych chi'n iawn—rydych chi wedi diwygio'r system ddigartrefedd yn ddiweddar i fabwysiadu dull mwy ataliol, ond yn amlwg ceir nifer fawr o bobl sydd wedi syrthio drwy'r tyllau llydan iawn yn eich rhwyd ​​ddiogelwch. Nawr, os ydych chi'n derbyn ein bod ni’n wynebu argyfwng digartrefedd—a byddwn i'n synnu o’ch clywed yn gwadu ein bod ni’n wynebu argyfwng—a wnewch chi ymrwymo i ddiddymu prawf Pereira i gael gwared ar fwriaded digartrefedd, gan roi terfyn ar angen blaenoriaeth, fel bod gan bawb hawl i gartref?
 
13:42
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae'r ddeddfwriaeth wedi gwneud cryn dipyn i fynd i'r afael â hynny. Mae ganddi hi a minnau wahanol safbwyntiau. Nid wyf yn credu ei bod hi’n gwneud synnwyr datganoli lles gan ein bod ni’n gwybod bod Cymru'n dderbynnydd net o'r pot cyffredinol. Rwy’n cytuno â hi bod gweithredoedd y Llywodraeth Dorïaidd wedi bod yn ddidostur, ac wedi arwain at fwy o bobl i fod yn ddigartref. Roeddwn i yn Brighton yr wythnos diwethaf ac roedd hi’n hynod amlwg pa mor wael oedd y broblem yn Brighton. Mae gennym ni broblem yng Nghymru, rydym ni’n gwybod hynny. Roedd yn llawer gwaeth yno. Rwy'n credu bod rhan o hynny oherwydd, yn Lloegr, nad ydynt wedi deddfu deddfwriaeth a fyddai'n helpu i atal digartrefedd yn y lle cyntaf. Yr ateb i hyn, wrth gwrs, yw cael system les sy'n gweithio i bobl, system les sy'n drugarog, a system les a weinyddir gan Lywodraeth Lafur yn Llundain.
 
13:43
Y Llywydd / The LlywyddBywgraffiad
Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
 
13:43
Andrew R.T. DaviesBywgraffiadArweinydd yr Wrthblaid
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg araith yn ddiweddar a dynnodd sylw at y ffaith bod ysgolion uwchradd yng Nghymru nad oeddent wedi bod yn cyflwyno yr un disgybl ar gyfer arholiad gwyddoniaeth TGAU tan yn ddiweddar—dim un disgybl mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru. Hefyd, bu tuedd i lawer o ysgolion gyflwyno disgyblion ar gyfer y cyrsiau BTEC haws, pan, yn 2016, roedd cyfradd basio o 99 y cant. Mae Estyn, mewn adroddiad diweddar, wedi amlygu'r anawsterau y mae rhai pynciau gwyddoniaeth yn eu hwynebu yn y ffordd y maent yn cael eu haddysgu mewn ysgolion yng Nghymru. Onid ydych chi'n meddwl ei bod hi’n hanfodol, os ydym ni’n mynd i fod yn uchelgeisiol ynghylch darparu economi cyflog uchel, economi fedrus, bod gennym ni fwy o ddisgyblion yn sefyll arholiadau gwyddoniaeth? A pha hyder allwch chi ei roi, yn yr arholiadau PISA yn 2018, y byddwn ni’n gweld gwelliant gwirioneddol yn y pynciau gwyddoniaeth? Rydym ni wedi mynd yn ôl 20 safle, o 505 i 485, rhwng 2006 a 2016. Mae'n rhaid iddo fod yn faes gwella allweddol. Ac eto, o dan eich arweinyddiaeth chi, mae gennym ni ysgolion nad ydynt wedi bod yn cyflwyno disgyblion ar gyfer arholiadau gwyddoniaeth o gwbl.
 
13:44
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Yn gyntaf oll, rydym ni wedi bod yn pwysleisio ers cryn amser yng Nghymru yr angen i greu cydraddoldeb parch rhwng yr academaidd a'r galwedigaethol. Felly, ni ddylem wneud cymariaethau negyddol rhwng cymwysterau BTEC a TGAU. Mae un yn gymhwyster galwedigaethol; mae'r llall yn fwy o gymhwyster academaidd. Bydd ysgolion yn cyflwyno ymgeiswyr ar gyfer yr arholiad priodol yn unol â’r hyn y maen nhw'n teimlo sydd ei angen arnynt, o ran eu sgiliau yn y dyfodol.
 
Mae'n gofyn am PISA. Wel, rydym ni wedi gweld canlyniadau TGAU yn gwella flwyddyn ar ôl blwyddyn—mae hynny'n arwydd da o ran PISA. Rydym ni wedi gweld gwelliannau mewn pynciau safon Uwch—mae hynny'n arwydd da y bydd PISA yn gwella yn y dyfodol. Mae gennym ni arholiadau newydd, wrth gwrs—rydym ni wedi gwneud yn siŵr eu bod nhw wedi cael eu cyflwyno heb fawr o anhawster. Rydym ni wedi gwneud y penderfyniad i ohirio cyflwyniad y cwricwlwm—dyna'r penderfyniad cywir, a gwyddom fod athrawon a gweithwyr proffesiynol wedi cefnogi hynny. Ac, wrth gwrs, rydym ni’n adeiladu ysgolion ledled Cymru gyfan—ysgolion na fyddent yn cael eu hadeiladu pe byddai ef yn fy swydd i.
 
13:45
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
Prif Weinidog, roedd hwnna'n ateb truenus. Yn ystod eich arweinyddiaeth chi—[Torri ar draws.] Yn ystod eich arweinyddiaeth chi—[Torri ar draws.] Yn ystod eich arweinyddiaeth chi, rydym ni wedi bod ag ysgolion uwchradd yng Nghymru—. Ac nid fy sylwadau i yw’r rhain, oherwydd ni allwn ni gael y data—rydym ni wedi gwneud cais i Lywodraeth Cymru i gael y data y seiliodd Ysgrifennydd y Cabinet ei haraith arnynt. Dyma’r araith—. Mae'r araith yn y fan yma; ei sylwadau hi ydyn nhw, nid fy sylwadau i, sy'n dweud mor gywilyddus y mae pethau wedi bod, o dan eich Llywodraeth chi, y bu gennym ni ysgolion uwchradd nad ydynt wedi cyflwyno yr un—dim un—myfyriwr ar gyfer TGAU gwyddoniaeth—nid Safon Uwch, TGAU. Sut ar y ddaear allwch chi amddiffyn hynny a chithau wedi bod yn Brif Weinidog ers saith mlynedd? Sylwadau eich Ysgrifennydd y Cabinet yw’r rhain, nid fy rhai i, felly sut gallwn ni fod â ffydd y byddwn ni’n gweld y gwelliannau sydd eu hangen arnom ni mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg pan ein bod ni wedi cael agwedd mor laissez-faire gan eich Llywodraeth?
 
13:46
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Roedd hwnna'n ymateb a oedd yn deilwng o Ysgrifennydd Gwladol Cymru—ac nid canmoliaeth yw hynny, gyda llaw. Y gwir amdani yw bod y system wedi cael ei newid. Rydym ni newydd gyflwyno, wrth gwrs, y cymwysterau TGAU newydd; mae hynny wedi digwydd. Felly, ymhell o fod yn eistedd yn ôl a gwneud dim, rydym ni’n annog ysgolion i gyflwyno disgyblion ar gyfer TGAU a chymwysterau eraill, ac ar yr adeg iawn—ac ar yr adeg iawn—fel nad ydynt yn eu cyflwyno yn gynnar er mwyn eu cael nhw trwy bwnc penodol a bod y graddau’n gostwng o ganlyniad. Mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni wedi ei wneud fel Llywodraeth. [Torri ar draws.] Wel, mae'n anarferol i David Melding fod fel hyn, ond, yn amlwg, mae rhywbeth wedi codi ei wrychyn y bore yma, neu y prynhawn yma.
 
Rydym ni’n hyderus yn yr hyn yr ydym ni’n ei wneud: rydym ni’n hyderus yn yr hyn yr ydym ni’n ei wneud o ran newid y maes llafur; rydym ni’n hyderus yn yr hyn yr ydym ni’n ei wneud o ran canlyniadau—rydym ni’n gweld canlyniadau'n gwella, ar lefel TGAU a Safon Uwch. Rydym ni’n gweld arian yn mynd i mewn i addysg mewn ffordd sydd wedi cael ei hatal i ysgolion gan ei blaid ef yn Lloegr. Rydym ni’n gweld ysgolion yn cael eu hadeiladu ledled Cymru na fyddai ei blaid ef wedi eu hadeiladu pe bydden nhw mewn grym yma. Ac, wrth gwrs, rydym ni eisiau sicrhau bod cymaint o'n disgyblion yn cael cymaint o gyfleoedd â phosibl i sefyll arholiadau i gael y cymwysterau sydd eu hangen arnynt—dyna'n union yr ydym ni wedi ei wneud o ran y system yr ydym ni wedi ei chyflwyno erbyn hyn.
 
13:47
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
Prif Weinidog, mae'n debyg bod David Melding yn cael ei gythruddo gan eich perfformiad y prynhawn yma, oherwydd mae’n agwedd laissez-faire iawn, mae’n rhaid i mi ei ddweud. Ni allwch amddiffyn system nad yw wedi—[Torri ar draws.] Ni allwch amddiffyn system nad yw wedi bod yn cyflwyno myfyrwyr TGAU ar gyfer y pynciau gwyddoniaeth, ac yna sefyll yn y fan yna a cheisio ei hamddiffyn. Rwyf eisiau bod â ffydd, Prif Weinidog, y byddwn ni’n gweld gwelliant. Rwyf i eisiau gweld gwelliant yn system addysg Cymru. Rydym ni i gyd eisiau gweld hynny. Ond cawsom ni’r canlyniadau gwaethaf ers 10 mlynedd yn yr arholiadau TGAU diwethaf. Mae gennym ni’r arholiadau PISA yn dod nawr yn 2018. Gofynnais i chi yn y cwestiwn cyntaf: ble yr ydym ni'n mynd i fod? Rhowch awgrym i ni o ble yr ydym ni’n mynd i fod—rhowch rywbeth i ni ddod allan o’r cwestiynau hyn i'r Prif Weinidog lle gallwn farcio eich gwaith cartref o ran ble bydd gwyddoniaeth yn 2018.
 
13:48
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae’r nifer sy’n cael eu cyflwyno ar gyfer gwyddoniaeth wedi cynyddu. Newidiwyd y system gennym yn rhannol i annog ysgolion i gyflwyno mwy o fyfyrwyr, a'u cyflwyno nhw ar yr adeg sy'n briodol iddyn nhw. Gwnaed hynny. Mae'n sôn am y canlyniadau TGAU gwaethaf ers 10 mlynedd—nid wyf yn cydnabod hynny, os cymharwch chi debyg gyda thebyg. Os yw'n credu bod pethau'n wych yn Lloegr, awgrymaf fod angen iddo edrych ar yr hyn a ddigwyddodd yn Lloegr gyda'r system yno. Ac mae'n gwneud y gymhariaeth honno o bryd i’w gilydd. Edrychwch, byddwn yn sicrhau bod y system addysg yn cael ei hariannu'n briodol yn ôl y setliad y byddwn yn ei gael ganddo fe a'i Lywodraeth. Os yw eisiau gweld—[Torri ar draws.] Os yw eisiau gweld mwy o arian yn mynd i mewn i addysg, a gaf i awgrymu ei fod yn lobïo—oherwydd mae’n fwy effeithiol na'i gydweithiwr seneddol—ei gydweithwyr yn Llundain i gael mwy o arian i mewn i addysg ledled y DU ac i Gymru’n arbennig? Gallem wneud llawer mwy gyda setliad tecach. £1 biliwn i ddenu Gogledd Iwerddon—dim gair, dim gair, gan y blaid gyferbyn; dim gair. Gadewch i ni weld Cymru'n cael yr un chwarae teg a gadewch i ni weld pa un a all y Ceidwadwyr Cymreig sefyll yn erbyn eu cydweithwyr yn San Steffan.
 
13:49
Y Llywydd / The LlywyddBywgraffiad
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
 
13:49
Neil HamiltonBywgraffiadArweinydd Grŵp UKIP Cymru
Diolch yn fawr, Llywydd. Y prynhawn yma— [Torri ar draws.] Roeddwn i'n gwybod bod y Siambr yn gylch, Llywydd; nid oeddwn i’n sylweddoli ei fod yn troi hefyd. Y prynhawn yma, byddwn yn clywed y gyllideb amlinellol gan yr Ysgrifennydd cyllid, ond mae'n amlwg bod ei ryddid wedi ei gyfyngu gan natur y ffordd yr ariennir Llywodraeth Cymru. Daw naw deg dau y cant o'r arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei wario ar hyn o bryd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig trwy grant bloc. Felly, mae llwyddiant economi Cymru a gallu Llywodraeth Cymru i wario yn dibynnu, yn hollbwysig, ar gyflwr economi'r DU, sydd, yn ei thro, yn dibynnu, yn hollbwysig, ar bolisïau economaidd y Llywodraeth yn San Steffan. A yw'n credu y byddai canlyniadau i Gymru y math o gynlluniau gwario a amlinellodd Jeremy Corbyn yr wythnos diwethaf yn Brighton, yn yr hirdymor, o fudd i economi Cymru? Maen nhw wedi dod i gyfanswm o tua £312 biliwn. Mae'n rhaid mai dyna un o’r areithiau drutaf yn hanes dynoliaeth. Mae hynny’n £4.15 biliwn y funud, £69.3 miliwn yr eiliad. Byddai rhaglen araith o'r fath yn gwneud economi’r DU yn fethdalwr mewn gwirionedd, ac ni all hynny fod yn ddim llai na thrychinebus i Gymru.
 
13:50
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Nid yw erioed wedi bod yn rhatach i fenthyg. Ym 1945, daeth Llywodraeth i rym yn y DU, yn llywyddu gwlad wedi ei dinistrio ac economi wedi ei dinistrio, gyda llawer llai o arian ar gael iddi. Ac eto llwyddodd i greu'r gwasanaeth iechyd gwladol, llwyddodd i roi diwydiant yn ôl ar ei draed. Llwyddodd i sicrhau bod safon byw pobl yn dechrau codi. Aeth i’r afael â gwlad a oedd wedi cael ei dinistrio oherwydd effeithiau rhyfel. Os gallan nhw wneud hynny, yna gall Llywodraeth Lafur ei wneud nawr. Rydym ni wedi cael saith mlynedd o gyni ac nid oes dim wedi newid er gwell. Mae wedi gwaethygu a gwaethygu a gwaethygu. Saith mlynedd wedi eu gwastraffu: mae'n amser am newid.
 
13:51
Neil HamiltonBywgraffiad
Nid wyf eisiau dadlau hanes economaidd â'r Prif Weinidog, ond, yn syth ar ôl y rhyfel, roedd gennym ni, wrth gwrs, y rhaglen cymorth Marshall ac roedd gostyngiad sylweddol iawn mewn gwirionedd i gyfran y ddyled i CMC yn ystod Llywodraeth Attlee rhwng 1945 a 1951. Pan ddaeth Tony Blair i rym ym 1997, £359 biliwn oedd y ddyled genedlaethol ac, yn ei dymor cyntaf yn y swydd, fe'i gostyngodd ymhellach. Gostyngwyd hynny i £317 biliwn yn 2001. Yna, fe wnaeth Gordon Brown droi’r tapiau gwario ymlaen, ac rydym ni i gyd yn gwybod beth ddigwyddodd gyda'r argyfwng ariannol yn 2008. Mae’r ddyled genedlaethol—[Torri ar draws.] Mae'r ddyled genedlaethol—[Torri ar draws.] Mae'r ddyled genedlaethol bron yn £2 triliwn erbyn hyn ac rydym ni’n gwario, bob blwyddyn, £56 biliwn ar log y ddyled yn unig. Pe byddai rhan Cymru o’r llog dyled hwnnw, a fyddai’n ugeinfed rhan—mae hynny tua £2 biliwn y flwyddyn—ar gael i Lywodraeth Cymru ei wario ar y gwasanaeth iechyd, gofal cymdeithasol, addysg, beth bynnag, byddai Cymru'n llawer gwell ei byd nag y mae ar hyn o bryd.
 
13:52
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae’n rhaid i bob Llywodraeth fenthyg. Wel, prin iawn yw’r llywodraethau nad oes rhaid iddynt fenthyg—y rhai â chyfoeth olew fel rheol. Y gwir amdani yw eich bod yn benthyg i fuddsoddi. Yr hyn yr ydym ni’n ei weld ar hyn o bryd yw Llywodraeth sy'n taro economi Prydain oddi ar y ddaear. Rydym ni’n gwybod, cyn belled ag y mae chwistrelliadau ariannol yn y cwestiwn, nad yw hynny'n digwydd. Nid yw'r economi yn cael ei hysgogi. Nawr, nid yw ef eisiau i mi roi darlith iddo ar hanes economaidd—rwyf am wneud hynny, a hanes economaidd diweddar y bydd yn ei gofio. Oherwydd roedd yn ymddangos ei fod yn awgrymu mai Gordon Brown oedd yn gyfrifol am argyfwng ariannol y byd yn 2008. Y gwir yw i’r argyfwng gael ei achosi gan fanciau anghyfrifol yn gwerthu cynhyrchion ariannol i bobl yr oeddent yn gwybod yn iawn na fyddent yn gallu eu had-dalu. Yna, fe wnaethant fwndelu'r dyledion hynny a'u gwerthu nhw i fanciau eraill, gan heintio'r system gyfan. Dyna beth ddigwyddodd. Rydym ni’n dal i fyw gyda chanlyniadau hynny. Mae'n eithaf eglur i mi, felly, na ellir dilyn yr hen ffyrdd o wneud pethau yn y dyfodol. Mae arnom angen chwistrelliad Keynesaidd o arian parod i'r economi er mwyn sicrhau ein bod ni'n creu mwy o gyflogaeth, ein bod ni’n rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl, ac yn ysgogi'r economi yn y modd hwnnw. Oherwydd mae’n gwbl eglur, dros y saith mlynedd diwethaf, nad yw'r hyn a wnaed yn gweithio.
 
13:53
Neil HamiltonBywgraffiad
Byddech chi’n meddwl, o'r hyn y mae’r Prif Weinidog newydd ei ddweud, na fu Llywodraeth Lafur rhwng 1997 a 2008 ac nad Gordon Brown oedd Canghellor y Trysorlys, yn gyfrifol am reoleiddio banciau, ond rydym ni’n gwybod ei fod yn credu mewn rheoliad ysgafn o fanciau, felly roedd yn gyfrannwr at yr argyfwng ariannol, a wnaeth ei foddi yn y pen draw. Roedd Jim Callaghan yn gwybod sut beth oedd ymdopi ag argyfwng ariannol. Rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn cofio'n dda iawn iddo ymddangos ym 1976 mewn cynhadledd Plaid Lafur dra gwahanol gan ddweud:
 
Roeddem ni’n arfer meddwl y gallech chi wario eich ffordd allan o ddirwasgiad a chynyddu cyflogaeth trwy...gynyddu gwariant gan y llywodraeth. Gallaf ddweud wrthych yn gwbl ddidwyll nad yw’r dewis hwnnw’n bodoli mwyach, ac i'r graddau yr oedd yn bodoli erioed, fe lwyddodd ar bob achlysur...trwy chwistrellu dos mwy o chwyddiant i'r economi, ac yna lefel uwch o ddiweithdra fel y cam nesaf.
 
Mae’n ymddangos bod Jeremy Corbyn wedi anghofio’r wers honno, os gwnaeth ei dysgu hi erioed. Nid ei ffordd ef fel rhyw fath o Siôn Corn hen ffasiwn, yn estyn i mewn i fag diwaelod o anrhegion i'w taflu allan i blant hawdd eu twyllo yw’r ffordd ymlaen i unrhyw blaid wleidyddol synhwyrol neu realistig sydd ag unrhyw fwriad o ddal swyddi uchaf y wlad.
 
13:54
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Rydym ni wedi cael datgeliad y prynhawn yma o strategaeth UKIP ar gyfer ymdrin ag apelio at bleidleiswyr ifanc. 'Rydych chi i gyd yn blant hawdd eich twyllo' yw'r ffordd y maen nhw’n mynd i gael eu disgrifio yn y dyfodol, felly ni allaf weld llawer ohonyn nhw’n pleidleisio dros UKIP yn y dyfodol.
 
Yn y 1970au, roedd heriau penodol gyda ‘stagflation’, fel y dylai gofio, oherwydd y cynnydd mawr i bris olew o ganlyniad i argyfwng olew 1973. Gwyrodd hynny’r cylch economaidd arferol ac, o ganlyniad, gwelsom ddiweithdra cynyddol a chwyddiant cynyddol ar yr un pryd, a oedd yn golygu bod y ffordd draddodiadol o chwistrellu arian i'r economi i ymdrin â diweithdra uchel— [Torri ar draws.] Gallaf roi darlith ar hanes economaidd i arweinydd yr wrthblaid, os yw'n dymuno, gan ei fod yn gwybod llai na dim am y peth—[Torri ar draws.] Ac felly mae amgylchiadau'r 1970au yn wahanol iawn, iawn. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrtho am 1976—. Dyma ystadegyn iddo: 1976 oedd yr adeg mewn hanes pan oedd Prydain fwyaf cyfartal—pan roedd Prydain fwyaf cyfartal. Ers hynny, mae'r Torïaid wedi ei gwneud yn fwy a mwy a mwy anghyfartal, a dyna’r hyn y bydd Llywodraeth Lafur yn ei newid.
 
Tlodi Ymysg Menywod Ifanc
 
13:55
Eluned MorganBywgraffiad
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar dlodi ymysg menywod ifanc yng Nghymru? (OAQ51108)[W]
 
13:56
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae menywod ifanc yn fwy tebygol o fod yn rhan o aelwydydd un rhiant ac aelwydydd gwaith rhan amser sydd mewn mwy o risg o fyw mewn tlodi. Rydym ni’n darparu amrywiaeth o gefnogaeth i hybu ffyniant drwy eu helpu i ddod dros y rhwystrau sy’n eu hatal rhag mynd i mewn i fyd cyflogaeth er mwyn eu gwneud nhw yn fwy cyflogadwy ac i’w dodi nhw mewn sefyllfa i gael gwaith addas sy’n talu’n dda.
 
13:56
Eluned MorganBywgraffiad
Diolch yn fawr. Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol bod Angela Rayner, ysgrifennydd addysg yr wrthblaid, wedi awgrymu yng nghynhadledd y Blaid Lafur yr wythnos diwethaf, y byddai Llywodraeth Lafur newydd yn ymrwymo i roi terfyn ar dlodi misglwyf mewn ysgolion. A oes gan y Prif Weinidog unrhyw fwriad i gyflwyno mesur o'r fath yng Nghymru?
 
13:56
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Do, sylwais ar y cyhoeddiad. Mae'n rhywbeth rwy'n gwybod y byddwn ni’n edrych arno fel Llywodraeth i weld sut y gellir ymdrin ag ef yn y modd mwyaf effeithiol. Ond mae'n gysyniad y mae angen ei archwilio'n ofalus iawn er mwyn sicrhau y gellir ymdrin ag ef yn effeithiol yng Nghymru.
 
13:57
Suzy DaviesBywgraffiad
Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, ymwelais â labordai profi Severn Trent ym Mhen-y-bont ar Ogwr—efallai y byddwch yn gyfarwydd â nhw eisoes—ac roedd y rhan fwyaf o'r uwch dîm yno yn fenywod. Ni chawsant eu haddysgu'n ddiweddar yng Nghymru, mae gen i ofn, felly nid yw'n eich helpu chi o ran cwestiwn Andrew, ond, serch hynny, mae'n enghraifft wych o fenywod yn ymgymryd â gyrfaoedd STEM da. Maen nhw hefyd yn enghraifft dda, mewn cyfleuster lle byddech chi’n disgwyl addysg lefel gradd fel rheol, bod eu diddordeb yn troi nawr at y sector addysg bellach i weld a all myfyrwyr o’r fan honno gael eu penodi i swyddi priodol, ac fel y gwyddom, mae pobl o gefndiroedd tlotach yn tueddu i ddefnyddio addysg bellach ychydig yn fwy. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr bod Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru yn sefydlu gweithgor mewnol sy'n datblygu canfyddiadau adroddiad 'Menywod Dawnus ar gyfer Cymru Lwyddiannus'. Felly, roeddwn i’n meddwl tybed a allwch roi diweddariad i ni ar hynny, o ran pryd y gallem ni weld rhai canlyniadau yn ei sgil.
 
13:57
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gyda dyddiad ar gyfer cyhoeddi'r ddogfen honno. O ran yr orsaf bwmpio, byddaf yno ddydd Gwener, felly byddaf yn gallu clywed yn bersonol yr hyn y maen nhw eisoes wedi ei ddweud wrthi hi.
 
13:58
Sian GwenllianBywgraffiad
Mewn llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar 17 Gorffennaf, fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr economi hyn: ni fyddai’n ddoeth cyhoeddi cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer tlodi. Onid ydy hyn yn ddatganiad cwbl rhyfeddol? Dim cynllun gweithredu penodol. Dim targedau ar gyfer lleihau tlodi. Dim monitro, oherwydd nid oes yna ddim byd i’w fonitro, er gwaetha’r ffaith bod dros 30 y cant o blant yn byw mewn tlodi yng Nghymru. A ydych chi’n cytuno efo fi bod hyn yn arwydd clir fod y Llywodraeth Lafur yma wedi troi’i chefn yn llwyr ar deuluoedd tlawd Cymru?
 
13:58
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
‘Na’ yw’r ateb i hynny. Mae tlodi yn rhywbeth sy’n cael ei ddelio ag ef ar draws Llywodraeth; nid yw’n rhywbeth sydd dim ond yn dod o dan bortffolio un Gweinidog, ac rydym ni’n gwybod pa mor bwysig yw hwn. Os edrychwch chi ar beth y gwnaethom ni gyhoeddi wythnos diwethaf, mae’n amlwg ein bod ni’n ystyried tlodi fel rhywbeth sydd yn hollbwysig i’w ddatrys yma yng Nghymru, a’r ffordd i wneud hynny, wrth gwrs, yw sicrhau bod pobl â’r sgiliau sydd eu heisiau arnyn nhw, bod yna gyfleon i bobl, y ffaith bod nhw’n gallu cael gofal plant am ddim—rhywbeth, wrth gwrs, sy’n bolisi y gwnaethom sefyll arno yn yr etholiad, ac rydym ni’n symud ymlaen er mwyn gweithredu hynny—ac, wrth gwrs, i sicrhau bod yna swyddi ar gael sydd yn talu’n dda. Nid yw pob ‘lever’ gyda ni—o achos y ffaith rydym ni’n gwybod, ynglŷn â chyflogaeth ac ynglŷn â thâl, eu bod yn rhywbeth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig—ond rydym ni moyn sicrhau ein bod yn gallu gwneud y mwyaf rydym ni yn gallu wneud yng Nghymru er mwyn mynd i’r afael â thlodi.
 
13:59
Huw Irranca-DaviesBywgraffiad
Prif Weinidog, mae'r grŵp gweithredu ar dlodi plant wedi nodi'n gynnar iawn bod y ffordd y mae credyd cynhwysol wedi'i strwythuro yn peri risg wirioneddol i annibyniaeth ariannol menywod yn y cartref. Mae wir yn tanseilio eu gallu i fod yn annibynnol ac i gael annibyniaeth ariannol.
 
Rydym ni’n gwybod erbyn hyn gan Gyngor ar Bopeth Cymru bod rhai pobl yn yr ardaloedd treialu, rhai menywod, yn rhoi'r gorau i weithio oherwydd problemau gofal plant, o ganlyniad uniongyrchol i gynllun a chyflwyniad credyd cynhwysol fel ag y mae. Ac rydym ni’n gwybod nawr, wrth gwrs, yr wythnos hon, yn ôl ffigurau'r Llywodraeth ei hun, bod dros 80 y cant—dros 80 y cant—o dderbynwyr credyd cynhwysol sy'n cael ei gyflwyno yn mynd i ôl-ddyledion rhent. Mae ardaloedd treialu y Llywodraeth ei hun yn dangos ei fod yn drychineb llwyr a’i fod yn gyrru menywod ifanc, ond hefyd pawb, i dlodi. A gaf i ofyn i'r Prif Weinidog pa sylwadau pellach y gall eu gwneud i Lywodraeth y DU? Oherwydd mae’r effaith yng nghymunedau pob un ohonom yn mynd i fod yn sylweddol.
 
14:01
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, byddwn yn parhau i wneud y sylwadau hynny, ond bydd yn rhaid i ni ymuno â’r ciw. Hynny yw, mae eu ASau eu hunain yn dweud y dylid rhoi'r gorau i'w gyflwyno. Pe gallwn i grynhoi agwedd y Llywodraeth Geidwadol, byddwn yn ei wneud fel hyn: lleihau'r baich ariannol ar y cyfoethog—torri trethi—a chynyddu'r baich ariannol ar y tlotaf—cael gwared ar gredydau treth, y dreth ystafell wely, credyd cynhwysol. Rydym ni’n gwybod, wrth gwrs, yn ogystal â hyn eu bod nhw’n gwneud y pethau hyn mewn ffordd ddi-glem, a dyna mae cyflwyniad presennol credyd cynhwysol yn ei wneud. Mae arweinydd yr wrthblaid yn meddwl bod hyn yn ddoniol. Pan ein bod ni’n siarad am les, mae'n meddwl ei fod yn ddoniol. Wel, pam na aiff ef i siarad â phobl sy’n cael eu heffeithio gan hyn? Pam na aiff ef i siarad â phobl am fygythiad digartrefedd? Pam na aiff ef i siarad â phobl sy'n canfod eu hunain mewn sefyllfa lle maen nhw’n mynd i ôl-ddyledion rhent? Efallai y byddai'n dysgu sut beth yw bywyd go iawn wedyn. Oherwydd rydym ni’n ymdrin â'r materion hyn yn rheolaidd, ar sail etholaeth, ac rydym ni’n gweld creulondeb credyd cynhwysol, ynghyd â chymaint o’r polisïau eraill a ddatblygwyd gan Lywodraeth Geidwadol o fantais i’r cyfoethocaf yn unig.
 
Y Rhwydwaith Rheilffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru
 
14:02
Neil HamiltonBywgraffiad
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? (OAQ51114)
 
14:02
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae datganoli cyllid ar gyfer seilwaith rheilffyrdd yn parhau gyda Llywodraeth y DU. Maen nhw wedi gwrthod datganoli hynny. Er gwaethaf y sefyllfa hon, ers 2011, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi oddeutu £200 miliwn mewn rhaglen o welliannau i’r seilwaith rheilffyrdd, gan gynnwys gwasanaethau rheilffordd ychwanegol a gwell yn y canolbarth a’r gorllewin.
 
14:02
Neil HamiltonBywgraffiad
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Rydym ni’n croesawu cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer astudiaeth o ddichonoldeb i ailagor rheilffordd Aberystwyth i Gaerfyrddin. Rwy'n siŵr y bydd yn cytuno â mi mai'r ffordd orau o adfywio rheilffyrdd a gaewyd yn bennaf yn y 1960au o dan gynllun Beeching fyddai creu cyfleoedd cost isel ar gyfer y trenau a'r cerbydau a fyddai'n gweithio ar y rheilffordd. Oherwydd y costau gweithredu fydd y rhwystr mawr. Cafwyd amcangyfrif o gyfanswm cost o £700 miliwn i ailagor y rheilffordd benodol hon. Ond bu rhai astudiaethau calonogol iawn a gynhaliwyd o drenau sylfaenol yn cael eu gweithgynhyrchu gan ddefnyddio deunyddiau ysgafn ac yn rhedeg ar gyflymder isel, y gellid eu cyflwyno yn y ddwy flynedd nesaf o ganlyniad i dreial gwerth £4 miliwn. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog bopeth o fewn ei allu i annog cyflwyniad y dechnoleg newydd hon a fydd yn cynnig y cyfle i efallai agor llawer mwy o reilffyrdd yng Nghymru wledig a gafodd eu cau flynyddoedd yn ôl?
 
14:03
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Na. Yr hyn y mae'n sôn amdano yw rheilffyrdd ysgafn. Mae'n fodel a ddefnyddir ar gyfer rheilffyrdd maestrefol ac ar gyfer teithiau byr. Nid wyf yn credu y bydd taith o 50 milltir rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth yn cael ei gwasanaethu orau gan gerbyd rheilffordd ysgafn â seddi caled, er enghraifft, heb y math o gyfleusterau y byddech chi'n eu disgwyl mewn trên pellter hwy. Ac, wrth gwrs, gyda rheilffyrdd ysgafn, rydych chi'n canfod eich hun mewn sefyllfa lle mae’n rhatach, mae’n wir, gan nad yw’r gofynion o ran signalau yr un fath, er enghraifft, ond mae'r lefelau cysur yn llawer iawn is ac nid wyf yn meddwl y dylai pobl yng ngorllewin ein gwlad gael gwasanaeth trên sy'n llawer llai cyfforddus na fyddai’n cael ei ddisgwyl ar hyd llwybr cyfatebol yn Lloegr. Os ydym ni’n mynd i symud ymlaen—. Mae'n her sylweddol—nid wyf yn credu y gallwn ni ei thanbwysleisio—her sylweddol a chost sylweddol i ailgyflwyno rheilffordd Aberystwyth i Gaerfyrddin, ond os yw’n mynd i gael ei wneud, mae'n rhaid ei wneud yn iawn.
 
14:04
Russell GeorgeBywgraffiad
Prif Weinidog, roeddwn i’n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cadarnhau y bydd gorsaf Carno yn cael ei chynnwys yn y broses asesu cam 2 bresennol ar gyfer gorsafoedd newydd yng Nghymru. Bydd deiseb hefyd yn cael ei chyflwyno i'r Cynulliad yfory gan grŵp gweithredu gorsaf Carno, 10 mlynedd ar ôl y ddeiseb gyntaf, yn annog y Llywodraeth i ailagor gorsaf Carno o fewn cyfnod o bum mlynedd. Nawr bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi y bydd Carno yn cael ei ystyried, a wnewch chi amlinellu beth yw'r camau nesaf yn ystod y broses hon, ac a ydych chi'n teimlo bod pum mlynedd yn amserlen realistig ar gyfer ailagor gorsaf Carno?
 
14:05
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Dim ond i hysbysu'r Aelod, y cam nesaf, fel y mae’n gwybod, yw bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi penderfynu cynnwys Carno yn y rownd bresennol o asesiadau cam 2. Beth mae hynny'n ei olygu? Mae'n golygu cael gwybodaeth gan Network Rail ar y modd y gellir ei gyflawni ac ystyriaethau gweithredol ar y gorsafoedd a flaenoriaethwyd. Hefyd, rhedwyd model asesu safonol i asesu'r galw a ragwelir yn y gorsafoedd arfaethedig hefyd. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gofyn i swyddogion ymgysylltu â'r grŵp gweithredu yn rhan o’r broses cam 2. Felly, dyna lle’r ydym ni ar hyn o bryd, bydd yn gwybod, wrth gwrs, beth yw ein bwriad ni. Ceir llawer o ffactorau anhysbys. Pan fyddwch chi'n ymdrin â Network Rail, nid yw bob amser yn eglur beth yw'r heriau. Rydym ni wedi darganfod hynny yn y gorffennol, pan nodwyd problemau nad oeddent yn hysbys ar yr adeg y gwnaed cyhoeddiad. Ond ein bwriad, bydd yn gwybod, yw ailagor Carno, yn amodol, wrth gwrs, ar yr asesiad.
 
14:06
Simon ThomasBywgraffiad
Yn ôl beth rwy’n ei ddeall o beth mae’r Prif Weinidog a’r Gweinidog dros yr economi wedi ei ddweud yn y gorffennol, y sefyllfa bresennol yw bod y fasnachfraint yn mynd i gychwyn heb fod y pwerau llawn na’r arian llawn wedi eu datganoli i Lywodraeth Cymru, ac felly mae Llywodraeth Cymru, i bob pwrpas, yn mynd i fod yn asiant dros Lywodraeth San Steffan. Os dyna’r sefyllfa, a gaf i ofyn i chi’n blwmp ac yn blaen, yng ngoleuni beth ddigwyddodd i drydaneiddio i Abertawe, a ydych chi’n ymddiried yn Llywodraeth San Steffan i drosglwyddo pwerau llawn mewn pryd ac, yn bwysig, i drosglwyddo’r arian llawn mewn pryd yn ogystal?
 
14:05
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Os nad ydyn nhw’n gwneud hynny, ni allwn ni ddim symud ymlaen, yn blwmp ac yn blaen. Rŷm ni wedi gwneud popeth sydd eisiau arnom ni, ac felly mae’n rhaid iddyn nhw nawr weithredu. Nid oes dim arwydd nawr y bydd yna broblem yn y pen draw. Rŷm ni’n moyn sicrhau bod y ‘franchise’ yn symud ymlaen ym mis Ebrill fel y dylai fe. Rŷm ni’n siarad, wrth gwrs, gyda’r undebau hefyd, er mwyn sicrhau eu bod nhw’n deall beth rŷm ni’n ceisio ei wneud. Byddai wedi bod yn llawer yn rhwyddach—llawer yn rhwyddach—petaen nhw wedi datganoli’r gyllideb a’r pwerau i ni y tro cyntaf, yn enwedig y pŵer i gyfeirio Network Rail. Nid yw hynny ddim gyda ni ar hyn o bryd, felly mae’n rhaid inni ystyried ffyrdd newydd o wneud pethau, ond beth sy’n bwysig yw ein bod ni’n gallu gweithredu nawr dros bobl Cymru mewn ffordd nad oedd yn bosib o’r blaen.
 
14:07
Joyce WatsonBywgraffiad
Prif Weinidog, roedd llawer iawn i'w groesawu yn natganiad diweddaraf y Gweinidog trafnidiaeth ar y fasnachfraint nesaf, a'r hyn a groesawyd yn arbennig oedd yr ymrwymiad i gadw gardiaid ar bob gwasanaeth, rhywbeth y mae pobl wedi ymgyrchu'n weddol ddwys i'w weld, ac maen nhw’n ei groesawu. Yr ymrwymiad arall oedd y dylai’r cerbydau newydd gael eu cynnal a’u cadw, yn ddelfrydol, gan weithwyr yma yng Nghymru. Yn ddiweddar iawn, cefais daith o gwmpas y buddsoddiad a wnaed yn nepo Machynlleth, a chyfarfûm â rhai o'r 33 o weithwyr hynod fedrus sy'n byw yno ac yn gweithio yno. Felly, yn y dyfodol, Prif Weinidog, a gaf i ofyn y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau dyfodol cadarnhaol i'r hyn yr ydym eisoes wedi buddsoddi ynddo, yng ngorsaf Machynlleth ac yn y bobl sy'n gweithio yno?
 
14:08
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Yn sicr. Os cofiaf yn iawn, roedd gan Fachynlleth ddepo yn y 1980au, yna fe gaeodd, yna fe’i hailagrowyd, gan fod ei angen, yn amlwg, i wasanaethu trenau ar reilffyrdd canol Cymru ac Arfordir Cambria. Felly, ydym, rydym ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni’n cadw ein rhwydwaith o ddepos, ond hefyd yn cynyddu'r nifer yn y dyfodol, gan ein bod ni’n gwybod y bydd cerbydau newydd, y bydd moddau trafnidiaeth newydd y byddwn ni’n eu hystyried, ac mae'n bwysig, wedyn, bod yr offer yn cael eu cynnal a’u cadw yng Nghymru cyn belled ag y mae hynny’n bosibl.
 
Polisïau Creu Cyfoeth
 
14:09
David J. RowlandsBywgraffiad
5. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn mesur llwyddiant ei pholisïau creu cyfoeth? (OAQ51116)
 
14:09
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae'n bwysig ystyried perfformiad economi Cymru drwy ddefnyddio basged o ddangosyddion a pheidio ag edrych ar un mesur unigol. Wrth gwrs, mae 'Ffyniant i Bawb' yn dangos y ffordd ymlaen. Bydd y cynlluniau a fydd yn dilyn yn rhoi mwy o fanylion.
 
14:09
David J. RowlandsBywgraffiad
Diolchaf i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog, ond o fesur nid yn unig creu cyfoeth, ond hefyd iechyd, addysg, darpariaeth tai ac ati, a yw Ron Davies, cyn Ysgrifennydd Cymru Llafur, yn iawn pan ei fod yn dweud, ar ôl 20 mlynedd o Gynulliad Cenedlaethol dan reolaeth Llafur, bod Cymru bellach yn dlotach nag yr oedd 20 mlynedd yn ôl? Aeth cyn-seren y blaid Lafur hwn ymlaen i ddweud nad yw'n gallu enwi unrhyw fenter sydd wedi gwella bywydau pobl Cymru. Does bosib, Prif Weinidog, bod yn rhaid i chi gytuno bod hwn yn ddadansoddiad yr un mor ddamniol o bolisïau Llafur ers datganoli ag unrhyw un a fynegwyd yn y Siambr hon.
 
14:10
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
'Na' yw'r ateb. Nawr, ble’r ydym ni am ddechrau? Beth am ddechrau gyda Twf Swyddi Cymru, ie? Y ffaith bod cymaint o bobl wedi eu cynorthwyo i mewn i swyddi, rhoddwyd hyfforddiant i bobl ifanc. Edrychwch ar y cymorth a roddwyd i weithwyr i gadw eu swyddi pan darodd y dirwasgiad yn galed yn 2008-09. Gadewch i ni siarad am y bobl sy'n fyw oherwydd Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013, a gafodd gefnogaeth drawsbleidiol ar draws y Siambr hon. Edrychwch ar y ffaith bod gennym ni’r ffigurau buddsoddi uniongyrchol tramor gorau ers 30 mlynedd. Edrychwch ar ein lefelau cyflogaeth. Rwy’n amau, mewn gwirionedd, bod angen i Ron ddarllen mwy o bapurau newydd.
 
14:10
Mohammad AsgharBywgraffiad
Mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi honni bod swyddfeydd Llywodraeth Cymru dramor wedi methu yn eu nod o hybu allforion i'r gwledydd hynny. Mae'r ffigurau'n awgrymu bod allforion i'r gwledydd hynny, mewn gwirionedd, wedi gostwng rhwng 2013 a 2016, i lawr 13 y cant i'r Unol Daleithiau, i lawr 22 y cant i Wlad Belg a 55 y cant i Japan. Prif Weinidog, pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adolygu effeithiolrwydd ei swyddfeydd tramor i hybu masnach gyda'r gwledydd y maent wedi eu lleoli ynddynt?
 
14:11
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae wedi syrthio i drap yn y fan yna, a osodwyd iddo gan Lywodraeth y DU, oherwydd yr hyn sydd wedi digwydd yw bod y fethodoleg wedi newid, felly—os cofiaf yn iawn—os oes gennych chi ffatri yng Nghymru sy'n allforio, ond bod ei phencadlys yn Lloegr, mae'n cael ei gyfrif fel allforio o Loegr. Dyna'r broblem. Felly, yn sydyn, rydym ni’n gweld y newidiadau sydyn hyn i’r ffigurau allforio, nid oherwydd bod llai o nwyddau'n cael eu hallforio’n ffisegol, ond oherwydd eu bod yn cael eu cyfrif fel rhai sydd wedi dod o Loegr gan fod eu pencadlys yn Lloegr. Gwyddom fod llawer o sefydliadau sy’n gweithgynhyrchu yng Nghymru nad yw eu pencadlys yng Nghymru.
 
Mae'n gofyn cwestiwn: beth ydym ni'n ei wneud i roi hwb i'n presenoldeb dramor? Rydym ni’n bwrw ymlaen â strategaeth i wneud yn union hynny. Mae’r cydbwysedd hwnnw y mae'n rhaid ei daro rhwng: a ydych chi'n hybu swyddfa sy'n bodoli eisoes neu a ydych chi'n agor swyddfa newydd? Comisiynwyd gwaith gennym gan Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru; rhoddasant wybodaeth i ni ynghylch sut y dylem fynd ati i wneud hynny. Yn ystod y misoedd nesaf, bydd Aelodau'n clywed am agor swyddfeydd newydd ac, wrth gwrs, hybu staff dramor er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi hwb i'n presenoldeb, gan weithio'n aml iawn gyda'r Adran Masnach Ryngwladol—yn fwyaf aml, gyda’r Adran Masnach Rhyngwladol mewn gwirionedd—ond yn y marchnadoedd hynny lle mae gan Gymru bresenoldeb cryf ac mae angen iddi gryfhau ei phresenoldeb yn y dyfodol.
 
14:12
Adam PriceBywgraffiad
Onid yw'n wir, serch hynny, Prif Weinidog, er gwaethaf yr hyn a ddywedasoch am lefelau diweithdra—ac mae hynny i’w groesawu; eu bod wedi gostwng yn is na chyfartaledd y DU am gyfnod ddechrau’r 1990au hefyd, oni wnaethant? Ond mae'r broblem yn ymwneud ag incwm, â ffyniant. Gallwch ddewis unrhyw nifer o fasgedi o ddangosyddion, boed nhw’n enillion cyfartalog, yn incwm gwario aelwydydd, yn werth ychwanegol gros y pen, yn incwm fesul awr a weithiwyd, ac ati. Rydym ni wedi gwaethygu o gymharu â lle’r oeddem ni ar ddechrau datganoli, ac nid dyna’r hyn a addawyd. Felly, beth ydym ni’n ei wneud yn anghywir a beth yw'r dangosydd—sut ydym ni'n mynd i fesur y llwyddiant, gobeithio, a ddaw rywbryd yn y dyfodol?
 
14:13
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Nid yw’n fater o’n bod ni wedi gwaethygu, a bod pobl rywsut yn dlotach nag yr oeddent. Yr hyn sy'n gywir i’w ddweud, wrth i’n cynnyrch domestig crynswth—neu os hoffech chi fesur incwm aelwydydd domestig gros hefyd—gynyddu, nid yw wedi gwella ar yr un raddfa â rhannau eraill o'r DU. Dyna'r disgrifiad cywir. Gofynnodd y cwestiwn: beth ydym ni'n ei wneud am hyn? Wrth wraidd popeth mae sgiliau—sgiliau. Yr hyn a ddigwyddodd ar ddechrau datganoli yw ein bod wedi gweld llawer o'r busnesau hynny, rwy’n credu, a ddaeth yma oherwydd yr arian gan ddarparu gwaith heb sgiliau—fe wnaethant adael. Aethant i Hwngari. Aeth busnes yn fy etholaeth i fy hun i Hwngari. Aethant at economïau cost is, oherwydd mai'r cyfan yr oedden nhw eisiau ei wneud oedd gweithgynhyrchu'n rhad. Nawr, ni allwn chwarae'r gêm honno, ac ni ddylem geisio gwneud hynny. Felly, mae'r pwyslais nawr, yn drwm, ar sgiliau. Un o'r cwestiynau a ofynnwyd i ni gan fuddsoddwyr tramor erioed yw 'A yw eich pobl yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen arnom ni er mwyn i ni allu gweithredu yng Nghymru'? Yn gynyddol, wrth gwrs, yr ateb yw 'ydyn'.
 
Rydym ni’n gweithio'n agos iawn gyda cholegau addysg bellach ac rydym ni’n gweithio gyda'n prifysgolion mewn ffordd nad oedd yn digwydd 10 mlynedd yn ôl. Nid oedd gan ein prifysgolion ddiddordeb mewn gweithio tuag at ddatblygu economaidd bryd hynny; roedden nhw’n ystyried eu hunain yn sefydliadau academaidd yn unig. Er tegwch iddynt, maen nhw wedi newid. Bydd yn cymryd cryn dipyn o amser i ffrwyth y gwaith hwnnw ymddangos, ond rydym ni’n gweld buddsoddwyr yn dod i Gymru na fyddai, i siarad yn blaen, wedi dod 20 mlynedd yn ôl—buddsoddwyr pen uchaf sy'n talu mwy o ran y swyddi y maen nhw’n eu creu. Yr hyn sy'n allweddol nawr yw parhau i symud ar y llwybr hwnnw, nid yn unig o ran FDI. Bydd yn gwneud y pwynt, rwy'n deall, o ran annog BBaChau yng Nghymru. Nid yw'n gwestiwn o’r naill neu'r llall, a dyna'n union yr ydym ni eisiau ei wneud hefyd, gan weithio eto gyda'r prifysgolion ac eraill, gan sicrhau bod entrepreneuriaid ifanc sydd â syniadau da yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i roi'r syniadau hynny ar waith. Yn gynyddol, ledled Cymru, rydym ni’n gweld y busnesau hynny nawr yn dechrau cael eu creu ac yn tyfu.
 
'Cymwys am Oes: Cwricwlwm i Gymru—Cwricwlwm am Oes'
 
14:15
Hefin DavidBywgraffiad
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weithredu 'Cymwys am Oes: Cwricwlwm i Gymru—Cwricwlwm am Oes'? (OAQ51136)
 
14:15
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Lansiodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg 'Addysg yng Nghymru: Ein cenhadaeth genedlaethol' ar 26 Medi. Mae hwnnw'n ailddatgan ein hymrwymiad i lunio cwricwlwm gweddnewidiol er mwyn darparu system addysg well i Gymru.
 
14:15
Hefin DavidBywgraffiad
Rwy'n croesawu'n gyffredinol agwedd Llywodraeth Cymru at weithredu argymhellion yr Athro Graham Donaldson, ond bydd Aelodau'n ymwybodol o sylwadau'r Athro Donaldson a adroddwyd gan y BBC y bore yma, pryd y dywedodd fod cynnydd yn parhau i fod yn dda, ond rhybuddiodd hefyd yn erbyn
 
unrhyw golli momentwm yn holl ddeinamig y diwygiad hwn.
 
Pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda'r Athro Donaldson ynghylch y newidiadau a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet yr wythnos diwethaf? A beth fyddai ymateb y Prif Weinidog i bryderon yr Athro Donaldson ynghylch y colli momentwm posibl?
 
14:16
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, mae'r Athro Donaldson yn goruchwylio'r bwrdd gweithredu mewn gwirionedd. Mae'n cytuno ein bod ni wedi gwneud y penderfyniad cywir i gyflwyno'r cwricwlwm fel cyflwyniad graddol yn hytrach na phopeth ar yr un pryd. Bydd y dull yn golygu bod gan bob ysgol yr amser i ymgysylltu â datblygiad y cwricwlwm a bod yn gwbl barod, wrth gwrs, ar gyfer y newidiadau. Mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd eisoes wedi dweud bod angen i ni barhau â'n hymgyrch i greu cwricwlwm ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, a dyna beth fyddwn ni’n ei wneud, ond ar y cyflymder priodol.
 
14:16
Darren MillarBywgraffiad
Prif Weinidog, er i ni groesawu gohirio gweithrediad y cwricwlwm, un agwedd sy'n dal i beri pryder i ni yw'r ffaith y bydd yn ofynnol i ysgolion uwchradd gyflwyno dau gwricwlwm ar gyfer disgyblion yn yr ysgolion hynny am gyfnod o bum mlynedd. Nawr, mae hynny’n mynd i achosi anhrefn llwyr ac rwy'n credu ei fod yn mynd i sicrhau dryswch, yn enwedig i athrawon sydd newydd gymhwyso ac sy'n dod i mewn i'r system, a fydd wedi cael eu hyfforddi i ddarparu cwricwlwm newydd ond yn gorfod darparu’r hen un, ac i’r proffesiwn sydd eisoes dan bwysau sydd gennym ni allan yn y fan yna, y dywedodd oddeutu 70 y cant ohonynt eu bod yn teimlo eu bod yn gorweithio a dan straen oherwydd eu llwyth gwaith. Felly, beth ydych chi’n mynd i’w wneud i sicrhau bod ysgolion yn barod i ddarparu dau gwricwlwm i'r disgyblion yn yr ysgolion hynny a sicrhau nad yw cyrhaeddiad disgyblion yn gostwng o ganlyniad, ac nad yw'r staff yn gorweithio mwy nag y maen nhw nawr?
 
14:17
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, pe byddai hynny'n bryder, ni fyddai'r undebau addysgu yn cefnogi hyn, ond maen nhw wedi gwneud hynny. Maen nhw wedi cefnogi gweithrediad graddol. Mae sgiliau addysgu yn drosglwyddadwy. Nid yw'n wir bod rhywun wedi'i hyfforddi i addysgu cwricwlwm penodol. Mae ganddyn nhw sgiliau addysgu y maen nhw’n eu haddasu yn ôl y cwricwlwm sydd o'u blaenau. Nid yw’n ddigynsail, wrth gwrs, i ysgolion addysgu gwahanol gwricwla ar yr un pryd. Pan gyflwynwyd y cwricwlwm cenedlaethol, bu’n rhaid i ysgolion baratoi ar gyfer hynny. Roedd gorgyffwrdd yn aml bryd hynny. Roedd y cyfnod sylfaen yr un fath. Roedd fy nhad yn gweithio ym maes addysg yn y 1980au a gallaf ddweud wrthych, roedd pethau'n arfer newid bob chwe mis bron, yr oedd yn rhaid i'r athrawon ymdopi â hynny. Roedd gan Weinidogion gymaint o obsesiwn ar y pryd—ac nid Gweinidogion Cymru oedden nhw; nid oedd ganddynt reolaeth dros addysg bryd hynny, dros y maes llafur—roedd athrawon yn canfod eu hunain yn gorfod bodloni mympwy Gweinidogion a oedd eisiau newid pethau drwy'r amser. Nawr, does bosib mai dyna fyddai'r dull gorau. Mae'n hynod bwysig nad ydym yn cyflwyno cwricwlwm tan fod y proffesiwn yn barod. Maen nhw wedi nodi eu bod yn fodlon gyda'r dull hwn, a dyna pam yr ydym ni wedi dilyn y dull yr ydym ni wedi ei ddilyn.
 
Recriwtio Nyrsys yng Ngogledd Cymru
 
14:18
Llyr GruffyddBywgraffiad
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am recriwtio nyrsys yng ngogledd Cymru? (OAQ51115)[W]
 
14:18
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, gyda chefnogaeth ein hymgyrch Hyfforddi, Gweithio, Byw, wrthi yn recriwtio rhagor o nyrsys.
 
14:18
Llyr GruffyddBywgraffiad
Wel, yn ôl y cyfrif diwethaf, roedd 92 o swyddi nyrsys yn Ysbyty Wrecsam Maelor yn wag, gyda nifer, wrth gwrs, cynyddol o nyrsys yn agosáu at oed ymddeol yno hefyd. Nawr, mae prinder y niferoedd yna o nyrsys yn golygu bod nyrsys arbenigol erbyn hyn yn gyson yn gorfod gweithio ar wardiau cyffredinol ac mae’n argyfwng dyddiol yn yr ysbyty, sef y mwyaf, wrth gwrs, yng ngogledd Cymru. Nawr, mae recriwtio tramor drudfawr y bwrdd iechyd, yn India a Barcelona, drwy asiantaeth breifat, wedi bod yn fethiant llwyr; dim ond pedwar nyrs o India, er enghraifft, sydd wedi llwyddo i basio’r prawf iaith. Felly, ar ôl methiant cynllunio’r gweithlu eich Llywodraeth chi dros nifer fawr o flynyddoedd, ar ôl gosod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig ers dros ddwy flynedd a hanner erbyn hyn, a ydych chi yn derbyn cyfrifoldeb am y sefyllfa druenus yma?
 
14:19
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Rydym ni’n gweld bod pethau yn gwella. Er enghraifft, mae yna gynyddiad wedi bod yn nifer y nyrsys sydd yn hyfforddi yn y gogledd. Mae’r nifer nawr yn fwy uchel nag yn unrhyw flwyddyn o’r 10 mlynedd diwethaf. Felly, rydym ni wedi buddsoddi mewn recriwtio, a hefyd, wrth gwrs, mewn hyfforddi. Mae hynny wedi meddwl bod 13 y cant o gynyddiad wedi bod yn nifer y llefydd hyfforddi nyrsio yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Rydym wedi dodi £95 miliwn o fuddsoddiad i mewn i hyfforddi, ac mae hynny’n meddwl bod yna 3,000 o fyfyrwyr newydd yn gallu astudio rhaglenni gofal iechyd yng Nghymru, ar draws Cymru. Un her, wrth gwrs, yw’r ffaith nad yw pobl yn moyn dod i’r Deyrnas Unedig rhagor o achos Brexit, am un rheswm, a’r ffaith nad ydyn nhw’n credu bod unrhyw fath o groeso yma nawr. Mae hynny’n rhywbeth, wrth gwrs, a ddigwyddodd y llynedd, ond er mwyn delio â hynny, rydym yn deall bod yn rhaid hyfforddi mwy o nyrsys yng Nghymru. Dyna pam yr ydym yn gweld, wrth gwrs, y cynyddiad sylweddol yn y ffigurau sydd yn hyfforddi.
 
Ymchwiliad Cyhoeddus yr M4
 
14:20
Lee WatersBywgraffiad
8. Pa asesiad y mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud o gyflwyniad Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i ymchwiliad cyhoeddus yr M4? (OAQ51122)
 
14:20
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, wrth gwrs, mae'r cyflwyniad i’w groesawu. Mae'n bwysig bod yr ymchwiliad cyhoeddus yn agored ac yn fanwl. Dyna, wrth gwrs, yw’r hyn sydd yn digwydd ar hyn o bryd.
 
14:20
Lee WatersBywgraffiad
Diolch. Yn ei thystiolaeth i ymchwiliad cyhoeddus yr M4, cydnabu'r Llywodraeth y bydd traffordd newydd yn achosi niwed hirdymor, ond y byddai’r manteision economaidd byrdymor yn gorbwyso hyn. Mae cynghorydd annibynnol y Llywodraeth ei hun, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru erbyn hyn, wedi dweud nad yw hyn yn gydnaws â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae corff gwarchod y Ddeddf yn dweud nad yw'r cytundebau hyn yn gyfreithlon yng Nghymru mwyach. A wnaiff y Prif Weinidog gytuno i sefydlu grŵp arbenigol i lunio ateb yn gyflym i'r tagfeydd ar yr M4 sy'n gydnaws â chyfraith a basiwyd gennym ni?
 
14:21
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, dyna'n union beth sy'n digwydd nawr oherwydd mae gennym ni ymchwiliad annibynnol sy'n edrych ar yr M4. Fe'i cynlluniwyd i fod mor eang â phosibl—felly nid oedd yn edrych ar un cynllun penodol yn unig—a dyna beth mae'n ei wneud. Felly, mae'n bwysig bod yr ymchwiliad hwnnw'n gallu adrodd yn ddiduedd ac yn annibynnol, gan ystyried yr holl dystiolaeth sydd ger ei fron.
 
14:21
Y Llywydd / The LlywyddBywgraffiad
Diolch i’r Prif Weinidog.
 
14:21
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Y Llywydd / The LlywyddBywgraffiad
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i’n galw ar arweinydd y tŷ, Jane Hutt.
 
14:21
Jane HuttBywgraffiadArweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip
Diolch, Llywydd. Mae un newid i agenda heddiw—mae'r amser a neilltuwyd i'r gyllideb ddrafft wedi ei ymestyn i 90 munud. Mae’r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes a geir ymhlith papurau'r agenda, sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
 
14:22
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
Arweinydd y tŷ, a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, os gwelwch yn dda, ynglŷn â’r adroddiad ynghylch ad-drefnu ysbytai cyffredinol dosbarth yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ac ardal Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf? Hyd yn hyn, nid wyf yn credu y cafwyd datganiad. Mae gan hyn oblygiadau sylweddol iawn i bobl yng ngorllewin Bro Morgannwg sy'n defnyddio Ysbyty Tywysoges Cymru fel eu prif ysbyty cyffredinol dosbarth, a meddygfeydd yn arbennig yng ngorllewin y Fro sy'n atgyfeirio eu cleifion i Ysbyty Tywysoges Cymru. I sicrhau bod gennym ddealltwriaeth o sut y gallai’r cynigion hyn fynd yn eu blaenau neu beidio mynd yn eu blaenau, byddai croeso i ddatganiad gan y Llywodraeth er mwyn gweld mewn gwirionedd beth yw’r meddylfryd am y rhesymeg sydd y tu ôl i unrhyw newidiadau arfaethedig i drefn bresennol y byrddau iechyd sy’n rheoli Ysbyty Tywysoges Cymru ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg, h.y. Byrddau Iechyd Cwm Taf ac Abertawe Bro Morgannwg.
 
14:23
Jane HuttBywgraffiad
Wel, wrth gwrs, mae’r materion hyn yn cael eu hystyried mewn ymgynghoriad, a gwnaed y dewisiadau a'r awgrymiadau hynny yn glir yn y datganiad diweddar ac yn y Papur Gwyn. Felly, yn amlwg, mae cyfle i ystyried hyn o ran yr hyn sy’n bwysig, sef darparu gwasanaeth i'r bobl leol.
 
14:23
Steffan LewisBywgraffiad
A allwn ni gael datganiad gan Lywodraeth Cymru ar yr argyfwng cynllunio ym mwrdeistref sirol Caerffili? Nid oes cynllun datblygu lleol gweithredol ar gael ar hyn o bryd ac, o ganlyniad i hyn, mae'r system gynllunio wedi’i gogwyddo’n sylweddol o blaid datblygwyr ac, yn wir, datblygiad anghynaladwy ac amhriodol. Mae’r dyfarniadau diweddar gan yr arolygydd cynllunio wedi tynnu sylw at y ffaith bod y gofyniad am gyflenwad tir pum mlynedd yn trechu'r holl ystyriaethau eraill, gan gynnwys deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol y mae cymaint o sôn amdani. Felly, a allwn ni gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet er mwyn atal yr angen i Gaerffili ddefnyddio’r cyflenwad tir pum mlynedd hyd nes bod cynllun datblygu lleol cynaliadwy ar waith yn y fwrdeistref sirol honno?
 
14:24
Jane HuttBywgraffiad
Wel, wrth gwrs, mater i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yw hwn. Yn amlwg, maen nhw’n ymwybodol ac yn ymdrin â'r mater hwn ac, wrth gwrs, ceir trafodaeth a dadl gadarn yn lleol amdano. Ac wrth gwrs, dyna beth y byddwn ni’n ei ystyried o ran ymgysylltiad Ysgrifennydd y Cabinet â hyn.
 
14:24
Jeremy MilesBywgraffiad
A gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth? Y cyntaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg o ran y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â bwlio lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol mewn ysgolion. Rwy'n cydnabod parodrwydd Ysgrifennydd y Cabinet i gyfarfod â mi a Hannah Blythyn i drafod y mater hwn. Bydd hi'n ymwybodol o'r adroddiad a gyhoeddwyd gan Stonewall Cymru yn ystod yr wythnos ddiwethaf, sy'n amlygu bod mwy na hanner y bobl ifanc Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol yng Nghymru, a 73 y cant o bobl trawsryweddol yng Nghymru, yn dal i wynebu bwlio yn yr ysgol, gyda chanlyniadau difrifol iawn mewn nifer o enghreifftiau. Mae'r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru ac ar awdurdodau lleol i weithredu nifer o argymhellion, a byddwn yn croesawu datganiad yn ymwneud â pha gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd ar fater y mae'r Llywodraeth cydnabod ei fod yn fater o bwys.
 
Ac ail ddatganiad, os gwelwch yn dda, o ran pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i gais Abertawe i fod y Ddinas Diwylliant, a gobeithiwn y bydd hynny o fudd i ranbarth ehangach bae Abertawe. Mae Hull, Dinas Diwylliant bresennol y DU, , wedi cael buddsoddiad sylweddol yn ei rhanbarth o ganlyniad. Mae ein rhanbarth ni wedi dioddef brad gan y Ceidwadwyr o ran trydaneiddio, ac rydym yn ofni y bydd hynny’n digwydd mewn cysylltiad â'r morlyn, felly byddem ni’n croesawu datganiad ar gefnogaeth y Llywodraeth ar gyfer y cais hwnnw.
 
14:25
Jane HuttBywgraffiad
Diolch i Jeremy Miles am y ddau gwestiwn yna. Rwy'n credu y bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r 'Adroddiad Ysgol' 2017 diweddaraf gan Stonewall Cymru, ac mae'n galonogol nodi bod yr adroddiad hwnnw, mewn gwirionedd, yn dangos bod nifer y disgyblion lesbiaidd, hoyw a deurywiol sy’n cael eu bwlio oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol wedi gostwng gan bron i draean. Ond rydym yn amlwg yn cydnabod bod yn rhaid i ni wneud llawer mwy i atal y niwed addysgol ac emosiynol hirdymor posibl y gall bwlio ei achosi. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi bod yn glir iawn ei bod hi’n disgwyl i ysgolion fabwysiadu agwedd o ddim goddefgarwch i bob math o fwlio, gan gynnwys bwlio homoffobig, biffobig neu drawsffobig, a chydnabyddwn, wrth gwrs, o ran yr adroddiad ysgol hwnnw, a'r canllawiau gwrth-fwlio presennol, bod hynny'n ei gwneud yn ofynnol inni ystyried yr adroddiad diweddaraf ac ystyried pa un a oes angen ei ddiweddaru.
 
O ran eich ail bwynt, wrth gwrs bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi cais dinas a sir Abertawe i fod yn Ddinas Diwylliant y DU ar gyfer 2021. Byddai, os yw’n llwyddiannus yn amlwg, yn darparu arian sylweddol i Abertawe. Rydym ni eisoes wedi darparu cefnogaeth ychwanegol ar ffurf adnoddau i helpu Abertawe â heriau ymarferol cyflawni’r flwyddyn, er enghraifft o ran arbenigedd mewn twristiaeth a marchnata, ac wrth gwrs mae'n cyd-fynd â’r fargen ddinesig ac yn cyflymu’r broses o adfywio’r ddinas. Ac wrth gwrs, ar ôl Brexit, bydd yn dangos i’r byd bod Cymru'n parhau i edrych tuag allan ac ar agor i fusnes. Felly, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith yn ymuno â chyngor Abertawe, ac uwch swyddogion, pan fydd y panel asesu Dinas Diwylliant yn ymweld â'r ddinas ar 23 Hydref. Roeddwn i’n falch iawn o fod yn Abertawe yr wythnos diwethaf, ddydd Iau diwethaf, pan gyflwynwyd y cais yn ffurfiol gan arweinydd y cyngor, gyda'i gabinet a'i bartneriaid, pan ymwelais â Thabernacl Treforys yn etholaeth Mike Hedges, i ddathlu'r ffaith eu bod nhw wedi ennill anrhydedd Cymru Sanctaidd.
 
14:27
Mohammad AsgharBywgraffiad
A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi am gefnogaeth i fusnesau yng Nghasnewydd? Ym mis Mawrth eleni datgelwyd bod Newsquest yn cau ei ganolfan is-olygu yng Nghasnewydd a fydd yn golygu y bydd 14 o bobl yn colli eu swyddi, er gwaethaf derbyn cymorth grant gwerth mwy na £340,000 gan Lywodraeth Cymru. Yna, ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd Essentra ei gynlluniau i gau ei ffatri pacio, gan roi cannoedd o swyddi mewn perygl. Roeddent eisoes wedi cael mwy na £0.5 miliwn o bunnoedd gan Lywodraeth Cymru. Arweinydd y tŷ, a allwn ni gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar y telerau a'r amodau y mae grantiau Llywodraeth Cymru yn cael eu cyflwyno i gwmnïau ac a yw ef yn credu bod angen adolygu’r telerau ac amodau hynny er mwyn sicrhau bod eu hamcanion yn cael eu cyflawni ac ein bod yn sicrhau'r buddion gorau i'r trethdalwr? Diolch.
 
14:28
Jane HuttBywgraffiad
Gwn y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn dymuno rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf nid yn unig am y buddsoddiad yng Nghasnewydd a’r cymorth i fusnes, ond hefyd am y newyddion da a gyhoeddwyd yn ddiweddar o ran datblygu, y bydd yr economi leol yn elwa arno. Wrth gwrs, mae ei swyddogion yn ymgysylltu’n agos, pan fo busnesau'n cael anawsterau, yn enwedig y busnesau hynny yr ydym ni eisoes wedi eu cefnogi o ran eu datblygiad.
 
14:29
Julie MorganBywgraffiad
Ym mis Medi, roeddwn i’n bresennol yn rali Cyllido Teg i Gymru yn erbyn cyni, yn neuadd y ddinas yng Nghaerdydd, ynghyd ag Aelodau eraill o'r Cynulliad, ac yn fwy diweddar, aeth arweinwyr a meiri ledled y DU i San Steffan er mwyn cael cyfarfod, roedden nhw’n gobeithio, gyda'r Llywodraeth ynglŷn â mater cyllid teg, ond ni ddigwyddodd y cyfarfod hwnnw, ac wrth gwrs heddiw mae gennym ddatganiad ar y gyllideb ddrafft gan Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl naw mlynedd o gyni, a thoriadau parhaus. Ac felly, o gofio y disgwylir y bydd cyllideb refeniw Llywodraeth Cymru, erbyn 2019-20, £1.2 biliwn yn llai, a allai arweinydd y tŷ awgrymu unrhyw ffordd, trwy fusnes y tŷ hwn, y gallwn ni flaenoriaethu’r mater hwn yn well?
 
14:30
Jane HuttBywgraffiad
Diolch i Julie Morgan am y cwestiwn yna. Ac wrth gwrs, yn syth ar ôl ein datganiad busnes, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, fel yr oeddech chi yn ei ddweud, yn cyhoeddi cyllideb ddrafft amlinellol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19, gan wneud datganiad llafar. Rydym wedi galw dro ar ôl tro—yn sicr o dan arweiniad Ysgrifennydd y Cabinet—ar Lywodraeth y DU i ddod â’i pholisi niweidiol a diffygiol o gyni i ben. Ac roedd yn dda gweld partneriaid yn dod at ei gilydd—arweinwyr a meiri, ac, yn wir, Aelodau'r Cynulliad—yn cefnogi'r alwad honno, y rali honno yn erbyn cyni, yn neuadd y ddinas yng Nghaerdydd. Ond mae gennym ni’r cyfle cyntaf y prynhawn yma i drafod y gyllideb ddrafft, ar y diwrnod y mae'n cael ei chyhoeddi. A bydd cyfle arall i ailadrodd ein galwad ar Lywodraeth y DU i ddewis llwybr gwahanol, i ddod a’r cyni i ben.
 
14:31
Jenny RathboneBywgraffiad
Ymwelodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig â'r tŷ SOLCER ym Mhen-y-bont ar Ogwr yr wythnos diwethaf. Cawsom wybod nid yn unig am ganlyniadau perfformiad y tŷ gwych hwn fel gorsaf bŵer, sydd bellach yn cynhyrchu mwy o drydan nag y mae'n ei ddefnyddio am naw mis o’r flwyddyn, ond clywsom hefyd am bump ôl-osodiad gwahanol y mae Prifysgol Caerdydd a phartneriaid eraill wedi eu gweithredu, mewn pum math gwahanol iawn o dai. Ac, am brisiau fforddiadwy yn sicr, roedden nhw’n gallu gweddnewid y cartrefi hyn yn gyfan gwbl, a hynny ar gyfer yr hyn a fyddai, fel arall, yn gartrefi anodd iawn eu gwresogi, gan gynnwys un a oedd yn wag—ac wedi bod yn wag am flynyddoedd lawer—ac sydd bellach yn denu rhent premiwm oherwydd y safon uchel y mae’n ei gynnig.
 
Felly, rwy'n gwbl ymwybodol bod Arbed wedi gwneud gwaith gwych—dros £70 miliwn dros nifer o flynyddoedd, ac mae tua 20,000 o gartrefi, rwy'n credu, wedi’u gwella—ond tybed a allwn ni gael datganiad gan y Llywodraeth am sut y mae rhaglen Cartrefi Clyd Lywodraeth Cymru yn mynd i roi sylw i’r strategaeth neu ei chyflymu, gan ein bod ni bellach yn gwybod y gallwn ni ôl-osod cartrefi presennol, o gofio bod 80 y cant o'r tai y bydd pobl yn byw ynddyn nhw yn 2030 eisoes wedi'u hadeiladu. Nid yn unig y mae’n rhaid inni adeiladu cartrefi sy'n defnyddio ynni'n effeithlon, ond mae'n rhaid i ni, yn amlwg, drechu’r tlodi tanwydd y mae llawer o'n cymunedau yn ei ddioddef. Felly, tybed a allwn ni gael datganiad ynglŷn â sut y gallwn ni gyflymu'r rhaglen honno, ar sail dealltwriaeth newydd o ran sut y gallwn ni fynd ati i wneud hynny.
 
Yr ail bwynt yr oeddwn i’n meddwl tybed a allem ni gael datganiad arno yw y gwelwyd, yr wythnos diwethaf, adroddiad ar y niferoedd mewn gwahanol awdurdodau lleol sy'n manteisio ar ostyngiadau i’r dreth gyngor i ofalwyr pobl anabl a phobl sâl iawn, fesul awdurdod lleol. Ac roedd gwahaniaeth aruthrol rhwng un awdurdod lleol a’r llall—mewn rhai achosion, roedd hyd at 77 gwaith yn fwy yn manteisio arno. Felly, tybed a yw hi'n bosibl cael datganiad ar y niferoedd sy'n manteisio ar ostyngiad i’r dreth gyngor i ofalwyr yng Nghymru, fesul awdurdod lleol, er mwyn i ni weld pa awdurdodau lleol sy'n ei hyrwyddo'n briodol.
 
14:33
Jane HuttBywgraffiad
Diolch, Jenny Rathbone. Rwy'n credu y byddwch chi'n falch iawn o glywed, yn dilyn ymweliad eich pwyllgor a thŷ SOLCER, yn dysgu am y mathau gwahanol o ôl-osod, yn unol â’r iaith frodorol leol, rydym yn buddsoddi £104 miliwn yn Rhaglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru dros y pedair blynedd nesaf, i wella 25,000 o gartrefi eraill. A byddwn yn parhau i edrych ar ddewisiadau i gynyddu ein rhaglenni arbed ynni ein hunain. Ac, wrth gwrs, gan gydnabod na ellir cyflawni ein huchelgeisiau datgarboneiddio gydag arian y Llywodraeth yn unig. Mae hyn yn gofyn am gydweithio ar draws pob sector, i gynyddu’r mesurau arbed ynni y manteisir arnynt, yn enwedig ymhlith y cartrefi hynny sydd â’r modd i dalu. Felly, dyna rywbeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn ei ystyried yn ofalus, o ran sut i sbarduno’r newid hwn orau, a chynyddu gweithgarwch yn y maes hwn.
 
O ran eich ail bwynt, rwy’n credu mai adroddiad MoneySavingExpert oedd yr adroddiad yr oeddech chi’n cyfeirio ato. Mae'r adroddiad yn rhoi dealltwriaeth ychwanegol i ni ynghylch sut y rheolir y dreth gyngor ym mhob awdurdod lleol, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sôn am ei gynlluniau ar gyfer cyllid llywodraeth leol yr wythnos nesaf, gan ein bod newydd gyhoeddi gwaith ymchwil i'r dulliau y mae awdurdodau lleol yn eu defnyddio i ymdrin â dyled y dreth gyngor, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried y dystiolaeth amrywiol sydd ar gael yn y maes hwn, a byddwn yn cymryd nifer o gamau i sicrhau bod ein hymrwymiad i'r dreth gyngor yn decach.
 
14:35
Y Llywydd / The LlywyddBywgraffiad
Diolch i arweinydd y tŷ.
 
14:35
3. Datganiad: Cyllideb Ddrafft 2018-19
Y Llywydd / The LlywyddBywgraffiad
Yr eitem nesaf, felly, yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid ar gyllideb ddrafft 2018-19, ac rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad. Mark Drakeford.
 
14:35
Mark DrakefordBywgraffiadYsgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
Diolch yn fawr, Llywydd. Heddiw, rwy’n gosod cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Mae’n gyllideb a gafodd ei llunio mewn cyfnod o gynni, sydd bellach wedi para mwy na saith mlynedd, ac yng nghysgod mwy fyth o doriadau. Heddiw, am y tro cyntaf, wrth ochr y gyllideb rwy’n cyhoeddi adroddiad gan brif economegydd Cymru am gyllid cyhoeddus yn y dyfodol a’n rhagolygon economaidd. Mae’r neges yn glir: os yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn mynd i barhau ar ei thrywydd presennol, fe fyddwn ni’n wynebu estyniad pellach mewn cyfnod o gynni sydd eisoes yn hirach ac yn ddyfnach nag a welwyd erioed o’r blaen.
 
Llywydd, dyma'r cefndir llwm i baratoi cyllideb Cymru heddiw. Wrth i'r anawsterau ddyfnhau, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i wneud popeth a allwn i helpu ein gwasanaethau cyhoeddus i ateb yr heriau gwirioneddol y maent yn eu hwynebu heddiw, gan gymryd camau nawr i wella'r rhagolygon ar gyfer y dyfodol.
 
Yn unol â'r weithdrefn newydd y cytunodd y Cynulliad Cenedlaethol hwn â hi ar gyfer cyllideb eleni, mae'r wybodaeth sydd gerbron Aelodau'r Cynulliad heddiw’n nodi prif flociau adeiladu'r gyllideb: o ble mae'r arian yn dod a sut y caiff ei ddyrannu i wahanol adrannau'r llywodraeth. Yn hwyrach y mis hwn, bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi mwy o fanylder na'r hyn a ddarparwyd yn flaenorol, gan esbonio sut y mae Gweinidogion portffolio unigol yn bwriadu defnyddio'r adnoddau sydd ar gael iddynt. Llywydd, rwyf wedi gwrando'n ofalus iawn ar y galwadau gan y gwasanaeth iechyd, awdurdodau lleol ac eraill sy'n darparu gwasanaethau hanfodol ledled Cymru ynglŷn â phwysigrwydd gallu cynllunio’n bellach na 12 mis i’r dyfodol. Er gwaethaf yr ansicrwydd gwirioneddol yr ydym yn ei wynebu, ac sydd wedi dylanwadu ar y gyllideb hon, rwyf wedi gallu amlinellu cynlluniau refeniw ar gyfer y ddwy flynedd nesaf a chynlluniau cyfalaf ar gyfer tair.
 
Wrth osod blociau adeiladu ein cyllideb, Llywydd, yn gyntaf rwy'n troi at fater pwysig cronfeydd wrth gefn. Fel yr wyf wedi’i drafod yn flaenorol gyda'r Pwyllgor Cyllid, rwyf wedi cymryd ymagwedd arbennig o lym at gronfeydd wrth gefn yn ystod dwy flynedd gyntaf tymor y Cynulliad hwn. Er bod dyraniadau yn ystod y flwyddyn wedi'u gwneud o gronfeydd wrth gefn at ddibenion hanfodol, fy mwriad oedd defnyddio cymaint â phosibl o gronfa wrth gefn newydd Cymru, a drafodwyd yn rhan o'r fframwaith cyllidol. Mae'r cytundeb hwnnw'n golygu y gallwn fynd ag uchafswm o £350 miliwn ymlaen i'r gronfa wrth gefn honno o fis Ebrill nesaf ymlaen, a gwneud hynny heb rwystr gan y cyfyngiadau yr ydym wedi eu hwynebu o orfod cadw at fecanwaith cyfnewid cyllidebau Trysorlys y DU. Diolch i gymorth fy holl gydweithwyr yn y Cabinet, rwyf wedi llwyddo i gynllunio'r gyllideb hon ar y sail bod cronfa wrth gefn Cymru ar ei huchafswm, neu’n agos iawn at hynny, ar ddechrau'r flwyddyn ariannol nesaf. Yna, gallaf ddefnyddio manteision y rheolaeth ddarbodus hon i helpu i ddiogelu ein gwasanaethau cyhoeddus rhag y gwaethaf o'r toriadau yn y blynyddoedd anoddach sydd o'n blaenau.
 
Yn benodol, Llywydd, rwy'n bwriadu cymryd dau gam. Rwyf wedi penderfynu lleihau lefel yr arian wrth gefn yn ystod y flwyddyn, y byddai'n rhaid imi ei gadw fel arall. O ganlyniad, rhyddhawyd £40 miliwn mewn refeniw ym mhob blwyddyn i’w fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus. Ar yr un pryd, bydd lefel cronfa wrth gefn Cymru yn caniatáu imi ryddhau £75 miliwn arall yn 2019-20, mewn ffordd a reolir, i ategu ein cyllid refeniw.
 
Heb y penderfyniadau hyn, Llywydd, byddai gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn wynebu gostyngiadau pellach o £115 miliwn yn 2019-20. Mae hyn bron yn union y swm y mae'r Canghellor yn bwriadu ei dorri o’n cyllidebau yn y flwyddyn honno, o ganlyniad i'r gwerth £3.5 biliwn o doriadau heb eu dyrannu sy'n dal i hongian dros ein gwasanaethau. Rwy’n ailadrodd, unwaith eto, fy ngalwad arno y prynhawn yma i beidio â bwrw ymlaen â'r toriadau annheg a gwrthgynhyrchiol hynny. Ni fydd trethdalwyr Cymru yn cyfrannu dim llai yn y flwyddyn honno nag y maent yn ei wneud nawr, ond byddant yn cael eu twyllo o ganlyniad i'r camau y mae'r Canghellor yn dal i fwriadu eu cymryd.
 
Llywydd, rwy'n troi nawr at wariant cyfalaf. Rwy’n ailadrodd y neges yr wyf i a Gweinidogion cyllid o'r Alban ac o Ogledd Iwerddon wedi’i rhoi i dîm y Trysorlys yn Llundain: tra bod cyfraddau llog yn parhau i fod yn hanesyddol o isel, dyma'r amser i fenthyca i fuddsoddi yn ein dyfodol ar y cyd ac i greu'r amodau lle y gellir sicrhau ffyniant.
 
Yn ei ddatganiad hydref y llynedd, aeth y Canghellor ryw ffordd i atgyweirio'r difrod a wnaeth ei ragflaenydd. Rwy’n ei annog i wneud mwy eleni. O ganlyniad i'r cyfalaf ychwanegol a'r ffactor anghenion newydd yn fformiwla Barnett, bydd ein cyllideb yn 2019-20 at ddibenion buddsoddi hanfodol nawr 20 y cant yn is nag yr oedd yn 2009-10, yn hytrach na 27 y cant, ond, mae gostyngiad o 20 y cant ar adeg o angen brys yn doriad mawr iawn wir.
 
Felly, rydym wedi parhau i adeiladu ar y sylfeini a sefydlwyd gan fy rhagflaenydd, Jane Hutt, i ddatblygu ffyrdd newydd ac arloesol y gallwn lenwi'r bwlch cyfalaf hwnnw. Yr egwyddor sy'n sail i hyn oll yw y byddwn bob amser yn defnyddio'r ffurfiau cyfalaf lleiaf costus i gyd cyn symud ymlaen at ffynonellau eraill. Yn unol â'r egwyddor hon ac yn y gyllideb hon, byddwn yn defnyddio gwerth £4.8 biliwn o gyfalaf confensiynol, gan gynnwys cyllid grantiau a thrafodion ariannol a ddarperir drwy'r grant bloc. Yna byddwn yn benthyca £375 miliwn mewn cyfalaf—£125 miliwn y flwyddyn dros y tair blynedd nesaf—y tro cyntaf inni ddefnyddio'r pwerau benthyca newydd sydd ar gael yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru. Hyd yn oed ar ôl gwneud hynny, byddwn yn mynd ymhellach ac yn lliniaru'r pwysau cyllidebol ar gyrff cyhoeddus eraill a chymdeithasau tai i'w galluogi i wneud gwerth £400 miliwn o fenthyca ar gyfer buddsoddiad cyfalaf hanfodol.
 
A, Llywydd, pan fyddwn wedi cyflawni hynny i gyd, awn ymhellach eto. Byddwn yn sicrhau buddsoddiad gwerth dros £1 biliwn drwy'r cynlluniau model buddsoddi ar y cyd, sydd mor bwysig yn ein gwasanaeth iechyd, yn ein gwasanaeth addysg ac mewn trafnidiaeth. Y tu hwnt i hynny hefyd, byddwn yn ceisio tynnu i lawr cymaint o'r £208 miliwn o gronfeydd strwythurol yr UE sydd ar gael inni ar gyfer prosiectau cyfalaf, a byddwn yn bwrw ymlaen i geisio cymeradwyaeth i brosiectau allweddol pellach yn ystod y cyfnod nesaf, gan gynnwys metro de Cymru.
 
Yr hyn sy’n ganolog i hyn oll yw sut y mae’r penderfyniadau cyllido cyfalaf yr ydym yn eu gwneud yn cael effaith gronnol ar refeniw. Mae penderfyniadau hanesyddol, gan gynnwys PFI, a wnaethpwyd gan fwyaf cyn datganoli ei hun, yn golygu bod angen ychydig dros £100 miliwn mewn refeniw ar gyfartaledd ym mhob blwyddyn o'r gyllideb. Mae'r penderfyniadau a wnaethpwyd yn fwy diweddar i alluogi buddsoddiad arloesol mewn seilwaith cyhoeddus yn ychwanegu £30 miliwn arall at y swm hwnnw.
 
Mae hynny i gyd, Llywydd, yn dod â mi at ein hadnoddau refeniw. Ers datganoli pwerau treth, mae'r trefniadau ariannu ar gyfer Llywodraeth Cymru wedi newid. Bellach mae gennym y pŵer i godi refeniw yn uniongyrchol i ariannu gwasanaethau cyhoeddus drwy drethi datganoledig. Serch hynny, bydd mwyafrif helaeth y cyllid ar gyfer Cymru yn parhau i fod drwy'r grant bloc o'r DU, sy’n dal i gyfrif am bron i 80 y cant o'r refeniw sydd ar gael yn 2019-20.
 
Mae'r gyllideb ddrafft hon yn gweithredu am y tro cyntaf o dan y fframwaith cyllidol y cytunodd Llywodraethu Cymru a'r DU arno fis Rhagfyr diwethaf. Mae'r trefniadau hyn yn golygu y bydd Cymru'n cael £47 miliwn ychwanegol dros gyfnod y gyllideb hon, ac mae’r holl arian hwnnw wedi cael ei ddefnyddio i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus.
 
Llywydd, mae hon yn foment hanesyddol inni yng Nghymru. Hwn fydd y tro cyntaf i ni, fel Aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol, fod â’r pwerau i osod cyfraddau ein trethi ein hunain. Gyda'r pwerau newydd hynny, wrth gwrs, daw mwy o gyfrifoldebau, ac wrth inni ddechrau’r cyfnod newydd hwn o ddatganoli, byddwn yn darparu sefydlogrwydd a sicrwydd i drethdalwyr a dinasyddion Cymru. Nid yw hynny'n golygu bod rhaid inni gadw'r trethi fel y maent heddiw; mae gennym gyfle nawr i ddefnyddio'r offer newydd hyn i wneud newidiadau i helpu i symud Cymru ymlaen.
 
Llywydd, yn y gyllideb hon, rwy’n gwneud penderfyniadau ynglŷn â'r ddwy dreth gyntaf i'w datganoli i Gymru. Rwy’n mynd i ddechrau â’r dreth gwarediadau tirlenwi. Gallaf gyhoeddi heddiw y bydd y cyfraddau safonol ac is yn parhau i fod yn gyson â threth y DU am y ddwy flynedd nesaf, gan ddarparu'r sefydlogrwydd y mae busnesau wedi dweud wrthym mor glir bod ei angen arnynt. Rwy'n bwriadu gwneud y gyfradd ar gyfer gwarediadau anawdurdodedig yn 150 y cant o'r gyfradd safonol. Cymru yw'r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i osod cyfradd uwch ar gyfer gwarediadau tirlenwi anawdurdodedig, gan greu rhwystr ariannol ychwanegol i bobl sy'n gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon, a bydd y penderfyniad hwn yn ategu'r rheoliadau a osodwyd heddiw gan fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, a fydd yn galluogi rhoi rhybuddion cosb benodedig am droseddau tipio anghyfreithlon ar raddfa fechan. Rwyf hefyd yn cadarnhau fy ymrwymiad y prynhawn yma i ddyrannu £1.5 miliwn y flwyddyn i gynllun cymunedol y dreth gwarediadau tirlenwi yng Nghymru am bob un o'r pedair blynedd nesaf. Mae hyn yn sicrhau ein bod yn cadw ein hymrwymiad i gymunedau y mae gwarediadau tirlenwi’n effeithio arnynt, ac yn darparu ffrwd ariannu sefydlog i'r cymunedau hynny am y pedair blynedd nesaf, er ein bod yn disgwyl i'r refeniw a ddaw o'r dreth hon leihau’n raddol dros y cyfnod hwnnw.
 
Llywydd, rwy’n troi nawr at dreth trafodiadau tir. Rwyf wedi penderfynu cyflwyno trothwy cychwyn newydd, uwch i brynwyr tai yma yng Nghymru. O 1 Ebrill 2018 ymlaen, bydd trothwy cychwyn treth trafodiadau tir yng Nghymru yn symud o £125,000 i £150,000—y gyfradd gychwynnol uchaf yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Bydd hyn yn golygu na fydd y prynwr am y tro cyntaf cyfartalog yng Nghymru yn talu dim treth o gwbl wrth brynu cartref. Yn wir, bydd y prynwr tŷ cyfartalog yng Nghymru yn talu bron i £500 yn llai o dreth nag y byddent o dan drefn bresennol treth dir y dreth stamp. Yn wir, nawr bydd naw o bob 10 prynwr tŷ yn talu llai neu'r un faint o dreth yng Nghymru o dan y dreth trafodiadau tir. Bydd y penderfyniad yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw yn golygu y bydd y rhai sy'n prynu'r eiddo drutaf yng Nghymru yn talu mwy, ond mae hynny'n rhan annatod o unrhyw ymagwedd flaengar tuag at drethiant.
 
I droi yn awr at fusnesau, Llywydd, bydd penderfyniadau a wnaf heddiw’n golygu mai yng Nghymru fydd y gyfradd gychwynnol isaf o dreth trafodiadau tir i fusnesau yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn golygu y bydd busnesau naill ai'n talu dim treth neu lai o dreth nag o dan dreth tir y dreth stamp wrth brynu unrhyw eiddo hyd at £1.1 miliwn. Bydd hyn o fudd i fusnesau bach a chanolig ledled ein gwlad—llif bywyd economi Cymru. Fel gydag eiddo preswyl, rwyf wedi ailgydbwyso trethiant ar adeiladau busnes i wella blaengaredd.
 
Llywydd, yn ogystal â gosod cyfraddau’r trethi newydd, rydym wedi cynhyrchu rhagolygon refeniw am y tro cyntaf. Hoffwn ddiolch i Brifysgol Bangor am wneud gwaith craffu a sicrwydd annibynnol ar y rhagolygon hynny. Rhagwelir y bydd treth gwarediadau tirlenwi’n cyfrannu £28 miliwn at gyllideb Cymru yn 2018-19, gan ostwng i £26 miliwn yn 2019-20. Rhagwelir y bydd treth trafodiadau tir yn codi £266 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf, gan godi i £291 miliwn yn 2019-20.
 
Ym mis Gorffennaf, Llywydd, gwnaethom ddechrau dadl genedlaethol yn gofyn i bobl gyflwyno syniadau am drethi newydd posibl yng Nghymru. Cafwyd nifer sylweddol o ymatebion, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan a helpu i lunio trethi Cymru yn y dyfodol. Heddiw, gallaf gyhoeddi'r pedwar syniad treth newydd y byddwn yn gwneud gwaith pellach arnynt cyn inni gynnig un syniad i Lywodraeth y DU yn gynnar y flwyddyn nesaf.
 
Mae'r galw cynyddol am ofal cymdeithasol yn rhoi pwysau sylweddol ar gyllideb Cymru. Felly, rwyf am archwilio ysgogiadau ariannol posibl, gan gynnwys trethi, i gefnogi darpariaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan adeiladu ar waith yr Athro Gerry Holtham. Byddwn yn archwilio effeithlonrwydd treth bosibl i roi terfyn ar fancio tir a threth gwaredu plastig yng Nghymru, a byddwn yn gweithio gyda llywodraeth leol i archwilio sut y gellid defnyddio treth ar lety twristiaeth i gefnogi'r diwydiant lleol ac annog swyddi a thwf yng Nghymru.
 
Llywydd, byddaf nawr yn nodi sut y byddwn yn defnyddio ein hadnoddau cyfalaf, refeniw a chronfeydd wrth gefn ar draws y Llywodraeth. Mae'r cyhoeddiad hwn yn ystyried ein cytundeb cyllideb dwy flynedd gyda Phlaid Cymru, lle mae nifer o'r mesurau y cytunwyd arnynt yng nghytundeb y llynedd yn cael eu gwneud yn rheolaidd, ac sy'n cynnwys buddsoddiadau pwysig eraill mewn meysydd y cytunwyd arnynt ar draws y gyllideb. Hoffwn gymryd y cyfle hwn i gofnodi fy niolch i Adam Price a'i dîm am yr holl amser y treulion nhw gyda ni i gytuno ar hyn dros gyfnod yr haf.
 
O ganlyniad i hynny oll, bydd cyfanswm y prif grŵp gwariant iechyd, lles a chwaraeon nawr yn £7.5 biliwn yn 2018, gan godi i £7.8 biliwn yn 2019-20. Bydd y prif grŵp gwariant hwnnw’n cynnwys £450 miliwn ychwanegol dros ddwy flynedd i'r GIG yng Nghymru. Bydd yn cynnwys £16 miliwn ychwanegol y flwyddyn i gefnogi'r gronfa driniaeth newydd, a gallaf ddarparu £90 miliwn ychwanegol ar gyfer rhaglen gyfalaf GIG Cymru dros y tair blynedd nesaf.
 
Bydd cyfanswm y prif grŵp gwariant llywodraeth leol, gan gynnwys trethi annomestig, nawr yn £4.5 biliwn yn 2018-19, a bydd yn parhau i fod yn £4.5 biliwn yn 2019-20. Bydd hynny'n cynnwys diogelu cyllideb rheng flaen ysgolion a gofal cymdeithasol, a bydd yn darparu £12 miliwn ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf ar gyfer gwasanaethau digartrefedd drwy'r grant cynnal refeniw. Mae hyn i gyd yn golygu y bydd llywodraeth leol yng Nghymru unwaith eto yn mwynhau setliad llawer mwy ffafriol na'u cymheiriaid dros y ffin yn Lloegr.
 
Llywydd, mae cyfanswm y prif grŵp gwariant cymunedau a phlant nawr yn £874 miliwn yn 2018-19, ac yn £777 miliwn yn 2019-20, i gynnwys buddsoddiad ychwanegol gwerth £70 miliwn dros ddwy flynedd i ehangu ein cynnig gofal plant blaenllaw, i sicrhau na fydd dim toriadau i'r grant Cefnogi Pobl, ac i ryddhau £340 miliwn ychwanegol mewn cyfalaf dros y tair blynedd i adeiladu 20,000 o gartrefi fforddiadwy. Bydd yn buddsoddi £14.9 miliwn ychwanegol mewn cyfalaf dros y cyfnod hwnnw i gefnogi adfywio ein cyfleusterau cymunedol, a gallaf ddyrannu £1 miliwn ychwanegol yn y ddwy flynedd ar gyfer y gronfa cymorth dewisol, yn uniongyrchol i helpu rhai o deuluoedd tlotaf ein gwlad.
 
Bydd cyfanswm y prif grŵp gwariant economi a seilwaith nawr yn £1.2 biliwn yn 2018-19 ac yn codi i £1.3 biliwn yn y flwyddyn ganlynol. Bydd hynny'n darparu £220 miliwn dros ddwy flynedd i gefnogi ein penderfyniad i greu 100,000 o brentisiaethau pob oed dros gyfnod y Cynulliad hwn. Bydd yn cynnwys £50 miliwn dros dair blynedd i ddatblygu gorsaf reilffordd a chyfleuster parcio a theithio newydd yn Llanwern, ac rwy'n bwriadu clustnodi arian yn y cronfeydd wrth gefn i brynu cerbydau newydd ar gyfer masnachfraint newydd Cymru a’r gororau, yn amodol ar ganlyniad y broses gaffael barhaus.
 
Ym maes addysg, bydd cyfanswm y prif grŵp gwariant nawr yn £1.6 biliwn yn 2018-19 ac yn y flwyddyn ganlynol. Bydd hynny'n ein galluogi i fuddsoddi £50.5 miliwn i godi safonau ysgolion dros y ddwy flynedd, i gynnal ein lefel buddsoddiad yn y grant amddifadedd disgyblion ac i fuddsoddi swm newydd o £40 miliwn dros ddwy flynedd i gyflymu rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, gan ddod â band A y rhaglen honno i ben hyd yn oed yn gyflymach nag y byddem fel arall wedi gallu ei gyflawni.
 
Bellach mae cyfanswm prif grŵp gwariant yr amgylchedd a materion gwledig yn £344 miliwn yn 2018-19 a £322 miliwn yn 2019-20, gan gynnwys darparu gwerth £150 miliwn o fuddsoddiad drwy ein rhaglen arloesol ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd a £7.5 miliwn o gyfalaf ychwanegol yn 2018-19 ar gyfer mesurau atal llifogydd wedi'u targedu. Rwy'n bwriadu darparu swm pellach o £5.4 miliwn dros y tair blynedd i gefnogi'r rhaglen datblygu gwledig i sicrhau y gallwn wneud y mwyaf o gyfleoedd arian cyfatebol i gefnogi ein cymunedau gwledig wrth inni baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd.
 
Bellach mae cyfanswm y prif grŵp gwariant gwasanaethau canolog a gweinyddu yn £297 miliwn yn 2018-19 a bydd yn gostwng i £286 miliwn yn 2019-20.
 
I gloi, Llywydd, hoffwn gofnodi fy ymrwymiad i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru drwy ddweud, os bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn penderfynu peidio â bwrw ymlaen â'r gwerth £3.5 biliwn o doriadau heb eu dyrannu, y byddaf yn anelu at ddefnyddio cymaint â phosibl o'r adnoddau a fyddai ar gael wedyn i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn rhwng y gyllideb ddrafft a phan fydd rhaid imi osod y gyllideb derfynol ddiwedd mis Rhagfyr eleni. O ganlyniad, mae'r gyllideb sydd gerbron y Cynulliad Cenedlaethol heddiw’n nodi cyfres feiddgar a chytbwys o gynigion sy'n cyflawni blaenoriaethau'r Llywodraeth Cymru hon a blaenoriaethau'r bobl yma yng Nghymru. Byddwn yn defnyddio ein pwerau i fuddsoddi yn ein gwasanaeth iechyd, i ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy newydd, i greu'r cynnig gofal plant mwyaf hael yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig ac i gychwyn ar ein cyfrifoldebau treth newydd mewn ffordd sy'n rhoi'r help mwyaf i'r bobl sydd ei angen fwyaf. Rwy’n cymeradwyo’r gyllideb i'r Cynulliad Cenedlaethol.
 
14:59
Nick RamsayBywgraffiad
Ysgrifennydd y Cabinet, diolch am eich datganiad am y gyllideb ddrafft ac am y cyfarfod a gawsoch gyda mi’n gynharach heddiw. A gaf i hefyd groesawu'r ffordd newydd o wneud y gyllideb, a'r newidiadau sydd wedi'u gwneud i fformat y datganiad hwn heddiw i baratoi'r ffordd ar gyfer datganoli treth y flwyddyn nesaf? Bu hyn yn alwad allweddol gan y Pwyllgor Cyllid, a gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, ers cryn amser, gyda dyfodiad y pwerau treth y flwyddyn nesaf.
 
Mae'r gyllideb hon, fel yr ydych wedi’i ddweud, yn cael ei ffurfio yn erbyn cefndir fframwaith cyllidol newydd, sy'n sicrhau refeniw ychwanegol ar gyfer Llywodraeth Cymru—mwy o refeniw nag y byddech wedi'i gael heb y fframwaith ariannol. Rwy’n gwerthfawrogi'ch sylwadau am sut, oherwydd toriadau, yr ydym yn dal i fod, rwy’n meddwl eich bod wedi dweud, 20 y cant i lawr o ran arian. Mae hynny'n llawer gwell na'r 27 y cant y byddem wedi bod yn ei wynebu heb ddyfodiad y fframwaith cyllidol, felly mae hynny i’w groesawu.
 
Ond a gaf i droi, yn gyntaf, at eich cyhoeddiad am gyfraddau a bandiau'r trethi newydd, oherwydd mae hynny’n wybodaeth newydd, gwybodaeth yr wyf i a gweddill y Siambr wedi bod yn galw amdani ers amser maith? Mae cyhoeddi hynny’n newyddion da a chaiff groeso gan y sefydliadau hynny sydd angen sefydlogrwydd a sicrwydd o ran cynllunio'r dirwedd dreth.
 
Os caf i droi at dreth trafodiadau tir yn gyntaf, a'r trothwy cychwyn newydd o £150,000, £25,000 yn uwch nag yn Lloegr, rwy’n credu eich bod wedi’i ddweud, a £5,000, rwy’n credu, yn uwch nag yn yr Alban, mae hynny i'w groesawu. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw ers amser maith am gymorth ychwanegol, yn sicr ar gyfer y bobl hynny sy'n prynu am y tro cyntaf yng Nghymru a’r bobl hynny sydd ar waelod yr ysgol dai, felly mae croeso i hynny. Wrth gwrs, roedd tro yn y gynffon, fel petai—pigyn yn y gynffon—sef bod angen adennill yr arian hwnnw a gwnaethoch gyhoeddi y byddai cyfradd uwch newydd. Felly, a gaf i ofyn ichi pa asesiad a wnaethpwyd o'r effaith y bydd hynny'n ei chael ar economi Cymru, yn enwedig yn ardaloedd gororau Cymru? Rwy'n meddwl eich bod wedi dweud bod Prifysgol Bangor wedi bod yn gweithio i Lywodraeth Cymru i wneud rhagolygon. A wnewch gyhoeddi manylion y rhagolygon hynny unrhyw bryd, ac a fyddwn yn gallu gweld sut yn union y mae’r dadansoddiad annibynnol hwnnw’n credu y bydd y newidiadau hynny i fandiau’n effeithio ar yr economi? Yn amlwg, dim ond dechrau datganoli treth yw hyn, felly, dros y misoedd a'r blynyddoedd i ddod, bydd hyn yn dod yn bwysicach fyth.
 
Soniasoch am y dreth gwarediadau tir hefyd, ac rwy'n meddwl, o ran manteision amgylcheddol addasu'r dreth honno, y bydd gennych gefnogaeth y rhan fwyaf o’r pleidiau, os nad pob plaid yn y Siambr hon, ac rydym am i’r dreth gwarediadau tir lwyddo cymaint ag y bo modd a bod yn well, yn wir, os yn bosibl, nag mewn ardaloedd eraill yn y DU.
 
Nawr, gwnaethoch chi sôn am y dreth dwristiaid, a bydd yn rhaid imi sôn am hyn. Rwy'n gobeithio mai dim ond teitl gwaith yw hwnnw ac na fydd yn mynd ymlaen yn y dyfodol. Nawr, yn amlwg, nid yw er budd neb yn y Cynulliad hwn na neb yng Nghymru i beidio â chymell twristiaeth. Rydym yn gwybod pa mor ddibynnol yw economi Cymru ar dwristiaeth. Mae'n un o brif bileri economi Cymru ac felly mae'n hollbwysig, nid yn unig bod unrhyw dreth dwristiaid, os a phryd y caiff ei datblygu—[Torri ar draws.] Nid yn unig bod unrhyw dreth dwristiaid yn osgoi cael effaith negyddol o ran y ffordd y caiff ei hamlinellu, ond hefyd nad yw Llywodraeth Cymru’n rhoi’r argraff, nac yn creu’r argraff, nad yw Cymru ar agor i fusnes o ran ein heconomi twristiaeth. Felly, rwy’n meddwl eich bod wedi rhoi syniad inni o'r cyfeiriad yr ydych yn gweld trethiant yng Nghymru yn mynd iddo, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n meddwl ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwneud hyn yn glir cyn gynted ag y bo modd ac nad ydym yn peri i bobl a hoffai ddod i Gymru i ymweld, am ba hyd bynnag o amser, beidio â gwneud hynny, felly mae angen inni weld rhywfaint o eglurder cyn gynted ag y bo modd ar hynny.
 
Gwnaethoch ddweud wrth agor eich datganiad fod hyn yn ymwneud â threthiant ar y lefel uwch, y darlun mwy. Rydych yn disgwyl i’r manylion ddilyn yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod, ac mae’n siŵr y bydd y Pwyllgor Cyllid yn craffu ar y gyllideb ddrafft dros y cyfnod hwnnw. Felly, os caf i droi at y ffordd y bydd y gyllideb hon yn cyflawni strategaeth Llywodraeth Cymru, y strategaeth ‘Ffyniant i Bawb’, dywedodd y Prif Weinidog y byddai hyn
 
‘yn sbardun i integreiddio a chydweithio ar draws sector cyhoeddus Cymru, ac yn rhoi pobl wrth wraidd gwell darpariaeth gwasanaeth.’
 
Mae hwnnw’n nod mawrfrydig, ac rwy'n siŵr y byddem i gyd yn cytuno ag ef. Gyda hyn mewn golwg, a allwch chi ddweud wrthym sut y mae hyn wedi’i adlewyrchu yn y ffrydiau cyllido ar gyfer y gyllideb hon a pha amddiffyniadau y mae Ysgrifennydd y Cabinet—pa amddiffyniadau ydych chi wedi'u gwneud—i sicrhau bod rhai prosiectau pwysig wedi'u neilltuo o fewn y ffrydiau?
 
Nawr, yn amlwg, mae gennym fargen arall o'n blaenau rhwng Llafur a'ch partneriaid yn y gyllideb hon, sef Plaid Cymru, rhywbeth yr ydym wedi dod i arfer ag ef dros y blynyddoedd diwethaf, rhywbeth y mae Cymru wedi gorfod dod i arfer ag ef, pa un a oeddent yn ei hoffi ai peidio, a rhan o fargen cyllideb dwy flynedd a fydd yn clymu dwylo Llywodraeth Cymru am y cyfnod hwnnw. Ond a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymateb i honiad Plaid Cymru bod dros 50 y cant o'i ymrwymiadau gwario, neu £500 miliwn, wedi'u sicrhau'n llawn neu'n rhannol dros y ddwy gyllideb ddiwethaf? Nid yw hyn wir yn gytûn â’r sylwadau a wnaethoch dros y penwythnos, felly byddwn yn ddiolchgar am rywfaint o eglurhad ynghylch hyn, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n hollbwysig bod pobl Cymru'n credu bod y gyllideb hon wedi cael ei gwneud er pennaf les Cymru—er eu pennaf les nhw—ac nid yw’n rhywbeth sydd wedi'i ruthro er mwyn cael ateb gwleidyddol cyflym; rwy'n siŵr y byddech am osgoi’r cyhuddiad hwnnw.
 
Hefyd, os yw sylwadau Plaid yn gywir, faint o ymrwymiadau gwariant y mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod eu hildio er mwyn sicrhau cefnogaeth Plaid i’r gyllideb hon? A allwch chi roi manylion inni am yr ymrwymiadau yr ydych wedi cefnu arnynt? Oherwydd, yn sicr, fel y byddech yn ei dderbyn, Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n rhaid hepgor rhywbeth. Rydych chi wedi dweud bod cyllidebau'n dynn, felly ni allwch chi ariannu popeth, felly mae gennym gytundeb newydd gyda Phlaid Cymru. Pa rai o flaenoriaethau'r Blaid Lafur yng Nghymru sydd wedi gorfod cael eu gohirio neu eu hepgor? Os caf i droi at—
 
15:05
Simon ThomasBywgraffiad
A wnaiff yr Aelod ildio?
 
15:06
Nick RamsayBywgraffiad
Gwnaf, rwy’n ildio.
 
15:06
Simon ThomasBywgraffiad
Roeddwn yn meddwl tybed a fyddai'r Aelod yn hoffi ceiniog, oherwydd mae hynny’n fwy nag y mae erioed wedi’i gael o unrhyw gytundeb cyllideb gydag unrhyw Lywodraeth yng Nghymru.
 
15:06
Nick RamsayBywgraffiad
Mae bob amser yn braf clywed—[Torri ar draws.] Nid wyf i’n siŵr—[Torri ar draws.] Nid wyf i’n siŵr—[Torri ar draws.] Nid wyf i’n siŵr a yw hwnnw'n sylw gan Plaid—
 
15:06
Y Llywydd / The LlywyddBywgraffiad
Iawn. Mae'r ymyriad wedi—
 
15:06
Nick RamsayBywgraffiad
[Yn parhau.]—neu’n sylw gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
 
15:06
Y Llywydd / The LlywyddBywgraffiad
Mae'r ymyriad wedi'i wneud. Gadewch i lefarydd yr wrthblaid barhau, os gwelwch yn dda.
 
15:06
Nick RamsayBywgraffiad
Diolch. Os caf i droi at rai o'r manylion a'n gwasanaeth iechyd gwladol, mae'r GIG yn flaenoriaeth allweddol i bobl Cymru ac mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn credu y dylai fod yn flaenoriaeth allweddol i ninnau. Wrth gwrs, rydym yn dal i ddal i fyny oherwydd diffyg amddiffyniad i’r gyllideb mewn termau real dros nifer o flynyddoedd, ond dyma lle'r ydym ni. Mae'r ddogfen ‘Ffyniant i Bawb’ yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau iechyd a gofal yn cronni eu cyllidebau. Felly, a yw'r gyllideb gyfredol wedi rhoi cyfrif am gyflawni'r nod hwn? Byddwn yn ddiolchgar pe gallech ddweud wrthym a yw'r sefydliadau dan sylw wedi cael gwybod yn llawn sut y bwriedir iddynt roi hyn ar waith.
 
Er fy mod yn croesawu'r ymrwymiad parhaus y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gyhoeddi i gronfa driniaeth newydd, nid ydym yn credu o hyd bod hynny'n gwneud iawn am ddiffyg cronfa trin canser, rhywbeth yr ydym wedi galw amdani ers amser maith yng Nghymru. Ar yr un pryd, rydym yn gwybod bod Llywodraeth y DU yn ddiweddar wedi cyhoeddi 2,000 o nyrsys, ymgynghorwyr a therapyddion ychwanegol ar gyfer gwasanaethau i blant a’r glasoed, a’u bod yn cyflwyno safonau amser aros ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl. A all pobl Cymru ddisgwyl yr un lefel o fuddsoddiad, a faint o'r £40 miliwn a addawyd yn y gyllideb a fydd yn caniatáu ar gyfer newidiadau o'r fath yng Nghymru hefyd, ac, yn hollbwysig, a fydd hyn wedi'i glustnodi'n briodol?
 
Mae'n hysbys bod gan fyrddau iechyd ledled Cymru ddyledion mawr iawn. Nid yw'n ymddangos bod unrhyw olau go iawn ym mhen draw’r twnnel o ran rheoli'r ddyled hon yn effeithiol. Pa mor hyderus ydych chi, Ysgrifennydd y Cabinet, y gall dyledion y byrddau iechyd, fel y £49 miliwn ym Mwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda—gallwn i fynd ymlaen—gael yr arian sydd ei angen arnynt drwy'r gyllideb iechyd ac na fyddwn yn gweld dyledion yn cynyddu yn y dyfodol?
 
I droi at drafnidiaeth a seilwaith, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi amlinellu pa mor dynn yw’r gyllideb ac rydych chi wedi dweud sut rydych chi'n bwriadu defnyddio pwerau benthyca cyllid cyfalaf. Mae’n amlwg bod arian parod yn brin, ond gobeithio y byddwch yn gallu bodloni’r nodau hynny. Ac, os caf i droi at yr M4, mae'n ddiddorol fy mod yn cofio, nid yn hir iawn yn ôl, Plaid Cymru yn dweud y byddai ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r llwybr du, sef eu hoff opsiwn, yn golygu na fyddent yn gallu dod i gytundeb o ran unrhyw gefnogaeth i gyllideb yn y dyfodol. Mae'n siŵr bod hwnnw’n fwy o gwestiwn i Plaid nag i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ond, wedi dweud hynny—ac rwy'n siŵr y gwnewch ddweud mai mater i'r ymchwiliad cyhoeddus yw hwn ar hyn o bryd—mae’n amlwg nad oes cefnogaeth ddofn i draffordd newydd, un o brif bwyntiau polisi trafnidiaeth y Llywodraeth, y tu ôl i'r fargen hon, felly a yw hyn wir yn sail gadarn i fwrw ymlaen arni, ac a yw’r cytundeb hwn wedi’i brofi o dan straen?
 
I gloi, Llywydd, ac, ar nodyn cadarnhaol, rwy'n croesawu'r ymrwymiad parhaus i fanc datblygu. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cefnogi'r gwaith o ailstrwythuro Cyllid Cymru ers amser maith, ac rwy’n gobeithio y bydd yn talu ar ei ganfed fel yr hoffem i gyd iddo wneud. I gloi, edrychaf ymlaen at weithio gydag aelodau eraill y Pwyllgor Cyllid a gyda chi eich hun i graffu'n llawn ar y gyllideb ddrafft hon dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Ac rwy'n gobeithio y bydd gan Gymru, erbyn y diwedd, gyllideb ddrafft a chyllideb derfynol a fydd wir yn cyflawni ar gyfer anghenion pobl Cymru.
 
15:09
Adam PriceBywgraffiad
Mae’n wir i ddweud, wrth gwrs, bod Cymru wastad wedi bod yn wlad lle mae’r angen yn llawer mwy na’r adnoddau sydd gyda ni i gwrdd â’r angen hynny. Ac mae hynny yn sicr yn wir ar hyn o bryd am y rhesymau yr oedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn eu darlunio, a hynny, wrth gwrs, yn ganlyniad i’r polisi llymdra o San Steffan.
 
Ond mae wedi bod yn wir, wrth gwrs, am gyfnod hirach na hynny. Mae haneswyr yn galw Cymru yn ‘genedl hwyr’ yn yr ystyr ein bod ni ddim wedi medru, wrth gwrs, adeiladu’r isadeiledd sydd yn angenrheidiol ar gyfer bod yn genedl lewyrchus. Mae pennu cyllideb, felly, yn un o’r cyfrifoldebau pwysicaf sydd gyda ni yn y lle hwn oherwydd, wrth gwrs, mae’n rhaid inni flaenori’r gwaith yna o ailadeiladu’r genedl yna a mynd i’r afael â rhoi ateb i’r esgeulustra sydd wedi bod am genedlaethau.
 
Dyna’r chwyddwydr rŷm ni’n ei ddefnyddio ym Mhlaid Cymru wrth asesu sut i ddwyn i gyfrif y Llywodraeth lle mae hynny’n angenrheidiol, ond hefyd, wrth gwrs, i weithio o blaid cydweithio lle mae yna dir cyffredin. Des i mewn i wleidyddiaeth er mwyn gwneud gwahaniaeth, a dyna beth mae Plaid Cymru wedi ei wneud, wrth gwrs, trwy’r cytundeb rydym ni wedi ei wneud unwaith eto gyda’r Llywodraeth Lafur. A dweud y gwir, byddai’n well gyda fi fod yn sedd yr Ysgrifennydd Cabinet, ac rydw i’n mawr obeithio y bydd Plaid Cymru yn arwain Llywodraeth ar ryw bwynt, achos mae yna bethau, wrth gwrs, lle rydym ni’n anghytuno’n chwyrn.
 
Mae yna feysydd lle na wnes i ddim llwyddo i berswadio’r Ysgrifennydd Cabinet: ar hyn o bryd, wrth gwrs, yr holl gwestiwn ynglŷn â’r cyflogau a’r cap ar gyflogau yn y sector gyhoeddus, y cwestiwn ynglŷn â’r ffioedd dysgu, wrth gwrs, a chynyddu’r baich a’r dyledion sydd yn mynd i fod ar fyfyrwyr. Yn fanna, rydym ni’n anghytuno â’r Llywodraeth, ac, am y rheswm hwnnw, wrth gwrs, nid ydym ni’n mynd i gefnogi’r gyllideb yma, ac mi fyddwn ni’n dal i anghytuno ar y meysydd hynny ac ar feysydd eraill. Ond lle mae yna dir cyffredin, wrth gwrs, rydym ni’n barod i gydweithio gyda phobl o bleidiau eraill er budd Cymru, a dyna beth mae pobl Cymru yn ei ddisgwyl oddi wrthym ni, a dweud y gwir, ydy gwleidyddiaeth sydd yn aeddfed, sydd yn edrych i’r hirdymor. All Cymru ddim aros tair blynedd a hanner am etholiad i gael Llywodraeth newydd er mwyn adeiladu’r seiliau sydd eu hangen ar gyfer yr hirdymor. Felly, nid ydw i’n ymddiheuro am eiliad am wneud ein rhan ni dros adeiladu’r Gymru well rydym ni eisiau ei gweld.
 
Mae nifer o feysydd lle na all Cymru aros am newid Llywodraeth, ac, felly, mewn Senedd lle nad oes gan y Llywodraeth fwyafrif, mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom, fel seneddwyr, i wneud ein rhan i roi ar waith mewn gwirionedd y math o bolisïau yr hoffem eu gweld, y cawsom ein hethol arnynt, a dyna'r hyn yr ydym yn ceisio'i wneud yn y cytundeb sydd gennym ac sydd wedi'i nodi. Rydym wedi gwneud y pwynt yn glir ar sawl achlysur yn ystod y blynyddoedd diwethaf bod rhaid inni sicrhau na ddaw Cymru, mewn microcosm, yn fersiwn o broblem y DU o or-ganoli, gor-grynodi, cyfoeth mewn un gornel o Gymru. Hoffem weld llwyddiant yn y gornel honno o Gymru, ond hoffem ei weld wedi’i ledaenu'n gyfartal, ac mae hynny hefyd yn golygu bod angen buddsoddiad cyhoeddus yn yr ardaloedd hynny hefyd. Ac eto, yn y cytundeb cyllideb hwn, fe wnaethom geisio pwysleisio cael y buddsoddiad hwnnw ym mhob rhan o Gymru.
 
Felly, mae gennym y £4 miliwn i gychwyn datblygiad trydedd pont Menai, mae gennym ddatblygiad y ganolfan gofal iechyd integredig yn Aberteifi, £15 miliwn i wella'r cysylltiadau rhwng y gogledd a'r de, ac uwchraddio gwasanaeth TrawsCymru yn ogystal, wrth gwrs, y gwaith sy’n parhau ar astudiaeth ddichonoldeb rheilffordd Aberystwyth-Caerfyrddin, fel y nodwyd yn gynharach, a'r amgueddfa bêl-droed genedlaethol yn y gogledd-ddwyrain hefyd. Ac, yn wir, os ydym yn tynnu tollau ar bont Hafren yn y gornel honno o Gymru, mae'n iawn hefyd ein bod yn dilyn yr egwyddor ac yn cael gwared ar y tollau ar bont Cleddau yn y de-orllewin hefyd.
 
Mae'n dda gweld ymrwymiad i sicrhau bod metro de Cymru yn cyrraedd pob rhan o'r Cymoedd yn ei ardal, ac felly'n edrych ar ymestyn a chysylltu â'r Rhondda Fach, a chreu metro newydd hefyd ar gyfer bae Abertawe a Chymoedd y de. Felly, mae sicrhau bod hon yn gyllideb i Gymru gyfan yn egwyddor graidd inni, a dyna'r hyn yr ydym yn ceisio'i wneud gyda'r cytundeb, ond mae hefyd yn fater o fuddsoddi yn ein dyfodol, felly mae'n dda gweld £40 miliwn ychwanegol yno ar gyfer addysg uwch ac addysg bellach. Yn sicr, pobl ifanc yw ein hadnodd pwysicaf—mae hynny’n wir am unrhyw wlad ac yn sicr yn wir amdanom ni. Hefyd, mae £6 miliwn ar gael i ffermwyr ifanc i sicrhau bod gennym ddyfodol i'r sector hwnnw sy’n seiliedig ar newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant. Yn y gogledd, mae £14 miliwn ar gyfer hyfforddiant meddygol a chronfa ddatblygu ar gyfer hyfforddiant meddygol i israddedigion, sy’n adeiladu ar y £7 miliwn ar gyfer y llynedd.
 
Mae ein cytundeb hefyd yn ymwneud â syniadau newydd—syniadau newydd sy'n ceisio llunio atebion i rai o'r problemau hirdymor yr ydym yn eu trafod yn y Siambr hon, gan edrych ar arloesiadau newydd o fewn iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r cynllun treialu Buurtzorg a fydd yn arwain at hyfforddi 80 o nyrsys ardal newydd, yr economi sefydliadol, sydd wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol eang—mae yma yn y cytundeb â Phlaid Cymru fel y gallwn ddechrau'r gwaith, nid dim ond siarad amdano, ond dechrau’r gwaith o roi hynny ar waith mewn ffyrdd pendant, gan ddechrau gyda gofal a chaffael fel elfennau i ganolbwyntio arnynt yn y sector.
 
Felly, mae nifer o feysydd yma y teimlwn hefyd nad ydynt wedi cael digon o fuddsoddiad yn y gorffennol, ac rydym yn ceisio unioni’r cydbwysedd. Iechyd meddwl—rwy'n meddwl bod yna gonsensws eang bod hwnnw'n sector nad yw wedi cael y gefnogaeth y mae'n ei haeddu, ac felly, eto, wrth wraidd y cytundeb, £40 miliwn ychwanegol ar ben yr £20 miliwn o’r llynedd, ond nawr, yn hollbwysig, yn gyllideb sylfaenol, fel y bydd yno, yn barhaus i’r dyfodol, fel y dylai fod os ydym am fodloni gofynion y sector pwysig hwnnw yn ein gwasanaeth iechyd cyhoeddus. Mae amaethyddiaeth a thwristiaeth yn cael arian ychwanegol. Yn aml maent wedi bod yn sectorau sinderela yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae angen inni eu gweld wir—. Maent wrth wraidd yr economi wledig, ac mae'n dda gweld arian ychwanegol yma o ganlyniad i flaenoriaethau Plaid Cymru yn y gyllideb hon.
 
Mae £15 miliwn o arian ychwanegol cyffredinol ar gyfer y Gymraeg, ac os ydych yn cyfrif yr holl feysydd ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r Gymraeg, mae’n fuddsoddiad ychwanegol o £20 miliwn. Arian ychwanegol—dyna sut yr ydym am gyflawni'r targed uchelgeisiol y mae'r Llywodraeth wedi'i nodi o ran y filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
 
15:17
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
A wnewch gymryd ymyriad?
 
15:17
Adam PriceBywgraffiad
Gwnaf siŵr.
 
15:17
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
Diolch. Byddwn yn ddiolchgar i gael deall gan lefarydd cyllid Plaid Cymru—. Rwy'n deall bod yr Ysgrifennydd cyllid, wrth amlinellu’r gyllideb, wedi dweud ei fod yn bwriadu archwilio mesurau treth penodol yn y sector twristiaeth i godi arian. Nid oedd yn bwriadu lliniaru trethi yn y sector twristiaeth; ei fwriad oedd codi arian. O gofio eich bod wedi cael trafodaethau manwl gyda'r Llywodraeth, beth yw eich dealltwriaeth o uchelgais y Llywodraeth yn y sector penodol hwn, y diwydiant twristiaeth yng Nghymru?
 
15:18
Adam PriceBywgraffiad
Wel, roedd yr arian ychwanegol y cyfeiriwyd ato ar gyfer marchnata. Hoffwn i'r Blaid Geidwadol nodi'r meysydd y mae'r holl syniadau cadarnhaol hyn y mae Plaid Cymru wedi'u dwyn at y bwrdd—pa un yr ydych chi'n anghytuno ag ef? Ydych chi'n meddwl y dylai fod llai o arian ar gyfer y sector twristiaeth?
 
15:18
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
Ni fyddem yn cyflwyno treth dwristiaeth.
 
15:18
Adam PriceBywgraffiad
O ran yr ardoll dwristiaeth, credaf fod hwn yn syniad sy'n haeddu cael ei archwilio. Fe'i defnyddir yn eang—[Torri ar draws.] Fe'i defnyddir yn eang yn y rhan fwyaf o economïau. Mae gan lawer ohonynt sectorau twristiaeth mwy na ni ac maent yn ei defnyddio i fuddsoddi'n ddeallus yn y sgiliau a'r seilwaith sydd eu hangen i gael economi twristiaeth lwyddiannus. Buddsoddi yn nyfodol eich gwlad yw hyn, a dylech roi cynnig arni rywbryd, yn hytrach nag achwyn o’r ymylon. Pam nad ydych chi'n gweld gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer dyfodol Cymru ac yn dod â'ch syniadau yma i'r Siambr hon? Dyna'r hyn yr ydych wedi eich ethol i’w wneud. O ganlyniad i'r cytundeb hwn a chytundeb y llynedd, a'r compact y gwnaethom ei lofnodi'n wreiddiol, bydd syniadau Plaid Cymru o'n maniffesto wedi'u cyflwyno'n rhannol neu'n llawn am gost o £565 miliwn. Yn wir,