Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :
Nôl i'r rhestr dogfennau Gweld y dudalen hon heb lincs
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
 
13:30
Y Llywydd / The LlywyddBywgraffiad
Galw’r Aelodau i drefn a chroesawu’r Aelodau yn ôl wedi toriad yr haf.
 
13:30
Datganiad gan y Llywydd
Y Llywydd / The LlywyddBywgraffiad
Mae’n bleser gen i gyhoeddi, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod Deddf Treth Gwaredu Tirlenwi (Cymru) 2017, a Deddf Undeb Llafur (Cymru) 2017 wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar 7 Medi 2017.
 
1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
 
13:30
Y Llywydd / The LlywyddBywgraffiad
Yr eitem gyntaf i ni y prynhawn yma yw’r cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf, Russell George.
 
'Gwasanaethau sy'n Addas i'r Dyfodol'
 
13:30
Russell GeorgeBywgraffiad
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymgynghoriad Llywodraeth Cymru 'Gwasanaethau sy'n Addas i'r Dyfodol'? (OAQ51025)
 
13:30
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Rydym yn croesawu pob cyfraniad i’r ymgynghoriad pwysig hwn. Rydym ni eisoes wedi derbyn dros 700 o ymatebion a bydd y rhain yn cael eu defnyddio i sicrhau bod unrhyw newid deddfwriaethol yn y dyfodol mor effeithiol ag y gall ei fod i bobl Cymru. Bydd yr ymgynghoriad yn para tan ddiwedd y mis hwn.
 
13:30
Russell GeorgeBywgraffiad
Prif Weinidog, rwy’n gobeithio y gwnewch chi ymuno â mi i gydnabod y gwaith pwysig y mae cynghorau iechyd cymuned yn ei wneud ledled Cymru. Rwyf wedi cael y cyfle i gyfarfod â chyngor iechyd cymuned Powys ar sawl achlysur dros doriad yr haf. Ac un pryder y maen nhw wedi ei godi gyda mi yw'r cyfeiriad y mae’n ymddangos bod Papur Gwyn Llywodraeth Cymru yn ei ddilyn, ac un mater penodol y maen nhw wedi ei godi gyda mi yw nad yw’r Papur Gwyn yn cynnwys unrhyw gydnabyddiaeth o gymhlethdodau gwasanaethau trawsffiniol, ac nid yw'n cyfeirio ychwaith at y swyddogaeth graffu bwysig y mae ein cynghorau iechyd cymuned yn ei chyflawni ar ran cleifion. Byddwch yn deall, wrth gwrs, bod mwyafrif llethol fy etholwyr yn defnyddio gwasanaethau ar draws y ffin. Pa sicrwydd allwch chi ei roi i gyngor iechyd cymuned Powys bod gan gleifion o Gymru sy'n defnyddio gwasanaethau dros y ffin eiriolwr effeithiol os bydd trefniadau’n newid yn y dyfodol?
 
13:31
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, rydym ni eisiau i hynny barhau, wrth gwrs, a dyna pam mae hi mor bwysig bod CIC Powys a CICau eraill yn ymateb i'r ymgynghoriad, fel y gallwn ni fwrw ymlaen â deddfwriaeth gyda'r consensws ehangaf posibl.
 
13:32
Steffan LewisBywgraffiad
Mae gan gynghorau iechyd cymuned annibyniaeth, arbenigedd a phwerau i ymyrryd ar ran cleifion er mwyn cynnal eu diogelwch a'u hurddas. Felly, a all y Prif Weinidog esbonio sut y mae cymryd y fath swyddogaethau oddi wrth y lefel leol a'u canoli'n genedlaethol, ac yna eu gwanhau, yn mynd i wella diogelwch ac urddas cleifion?
 
13:32
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae’n rhaid i ni gofio, wrth gwrs, nad yw CICau yn arolygiaeth. Mae gennym ni arolygiaeth iechyd sy'n gwneud hynny. Mae ganddyn nhw swyddogaeth, wrth gwrs, o ran gweithredu fel llais cleifion ac mewn sawl ffordd arall. Gallaf ddweud wrth yr Aelodau y bu cyfarfod cadarnhaol iawn gyda bwrdd y CIC. Ceir llawer o dir cyffredin yn y Papur Gwyn ei hun. Ceir rhai materion y bydd angen eu trafod ymhellach, ond y bwriad yw cryfhau llais y claf ar draws Cymru gyfan, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda CICau er mwyn cyflawni hynny.
 
Gofal Diwedd Oes
 
13:33
Jayne BryantBywgraffiad
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ofal diwedd oes yn ne-ddwyrain Cymru? (OAQ51053)
 
13:33
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae ein buddsoddiad o £3 miliwn yn yr hosbis newydd ym Malpas a agorwyd yr wythnos diwethaf yn dangos ein hymrwymiad i ofal diwedd oes yn y de-ddwyrain. Mae'r cynllun cyflawni gofal diwedd oes wedi’i ddiweddaru, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2017, hefyd yn nodi'r camau yr ydym ni’n eu cymryd i sicrhau dull cydweithredol o wella gofal diwedd oes ledled Cymru.
 
13:33
Jayne BryantBywgraffiad
Diolch, Prif Weinidog. Yr wythnos diwethaf, ynghyd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, roeddwn i’n bresennol yn lansiad yr uned cleifion mewnol o’r radd flaenaf ym Malpas. Mae'r uned 15 gwely yn cynnig cymorth i bobl ag anghenion rheoli symptomau cymhleth a gofal diwedd oes, ac fel y soniasoch, mae'r buddsoddiad o £3 miliwn o arian Llywodraeth Cymru ar gyfer hosbis Dewi Sant yn enghraifft dda o sut i ddarparu gofal hosbis o'r radd flaenaf ac yn helpu i fodloni’r galw am wasanaethau gofal lliniarol yn y de-ddwyrain. Felly, a wnewch chi ymuno â mi, Prif Weinidog, i dalu teyrnged i weledigaeth y bwrdd cyfarwyddwyr yn Dewi Sant, yn enwedig y prif weithredwr, Emma Saysell, a chefnogaeth aruthrol y gymuned leol a gwirfoddolwyr, ac i ddangos y gall buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â'r bwrdd iechyd a'r awdurdod lleol, wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl pan fo'i angen arnynt fwyaf?
 
13:34
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Gwnaf. Mae'n enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth, oherwydd mae'r buddsoddiad wedi galluogi tîm gofal hosbis Dewi Sant i ddarparu model gofal lliniarol a gydnabyddir yn gyffredinol fel enghraifft dda o ofal o'r radd flaenaf. Nawr bod yr adeilad newydd wedi’i gwblhau ac ar agor, bydd yr elusen, wrth gwrs, yn gallu cynorthwyo mwy o bobl sydd angen eu cymorth ar ddiwedd eu bywydau nawr, ac rwy’n llongyfarch yr elusen ei hun yn fawr am y gwaith y mae wedi ei wneud i sicrhau bod yr hosbis yn cael ei agor.
 
13:34
Nick RamsayBywgraffiad
Prif Weinidog, a gaf i gytuno â sylwadau Jayne Bryant, a hefyd croesawu agor yr hosbis newydd ym Malpas? Fel y mae’r prif weithredwr, Emma Saysell, wedi ei ddweud, mae hwn yn ddatblygiad nodedig a’r gobaith yw y bydd yn llenwi bylchau a nodwyd yn flaenorol yn y ddarpariaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac rwy'n siŵr y bydd yn mynd o nerth i nerth.
 
Byddwch yn gwybod, Prif Weinidog, fy mod i’n aml yn codi mater clefyd niwronau motor yn y Siambr hon a'i effaith ofnadwy ar ddioddefwyr, yr amcangyfrifir bod hyd at 5,000 ohonynt ledled y DU ar unrhyw adeg. Mae un o ganfyddiadau allweddol adroddiad diweddar Demos ar effaith ariannol MND ar ddioddefwyr a'u teuluoedd wedi dweud y gall gwasanaethau yn aml fod yn araf i ymateb i anghenion dioddefwyr MND oherwydd cyflymder datblygiad y clefyd. Felly, a allwch chi ymrwymo i edrych eto ar y ddarpariaeth o wasanaethau, gan gynnwys gofal hosbis a lliniarol yng Nghymru, i sicrhau—oes, mae gennym ni adeilad newydd gwych ym Malpas, ac mae hwnnw’n un rhan o'r jig-so—y gall y gwasanaethau a ddarperir gadw i fyny â dioddefwyr clefydau cymhleth fel MND?
 
13:35
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae'r Aelod yn codi mater pwysig. Roeddwn i ar fai yn anghofio ei longyfarch, wrth gwrs, ar ei briodas ddiweddar, a'i ymroddiad i ddod yn ôl yma. Credaf nad oedd hwnnw’n ddewis iddo ei wynebu, ond, serch hynny, mae ef yma. Ond fy llongyfarchiadau, yn amlwg, iddo ef a'i wraig newydd.
 
Mae clefyd niwronau motor yn salwch ofnadwy. Mae’n datblygu’n gyflym iawn fel rheol. Weithiau, mae'n symud yn gyflymach mewn rhai pobl nag eraill. Mae'n anodd rhagweld cyflymder datblygiad y salwch, ond, yn anffodus, wrth gwrs, mae'n hysbys beth mae'r salwch yn ei wneud i'r corff yn y pen draw. Rydym ni eisiau gweithio gyda'r elusennau clefyd niwronau motor i sicrhau bod lefel y gofal yn iawn i'r unigolyn, gan ein bod ni’n gwybod nad yw'n bosib rhagweld gydag unrhyw gywirdeb sut y bydd y clefyd yn datblygu o ran ei gyflymder, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth yr ydym ni wedi bod yn gweithio gyda'r elusennau clefyd niwronau motor er mwyn ei gyflawni.
 
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
 
13:36
Y Llywydd / The LlywyddBywgraffiad
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
 
13:36
Leanne WoodBywgraffiadArweinydd Plaid Cymru
Diolch, Llywydd. Mae hi bron yn 20 mlynedd i'r diwrnod ers y bleidlais ym 1997 i sefydlu'r sefydliad hwn, ac mae’n rhaid i dymor newydd ddod â phennod newydd yn hanes Cymru. Prif Weinidog, ni wnaf i yn bersonol fyth anghofio’r fuddugoliaeth, pan wnaeth cymaint ohonom ni yn y Siambr hon, a’r tu allan, helpu i sicrhau buddugoliaeth i'n gwlad ar y noson honno. Mae llywodraethu ein hunain yn fuddugoliaeth ynddi'i hun. Nid oes unrhyw wlad arall wedi llywodraethu un arall yn dda.
 
Ond mae Llywodraeth Cymru yn wahanol sefydliad i'r Cynulliad Cenedlaethol. Rwy’n cytuno â Ron Davies pan ddywed fod angen i Weinidogion ofyn cwestiynau anodd i’w hunain ynghylch cyflawniad. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno ag ef?
 
13:37
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Nac ydw. Cafodd Ron, wrth gwrs, y cyfle i lywio cyfeiriad y Cynulliad Cenedlaethol, ond rydym ni’n gwybod, wrth gwrs, am ei stori anffodus. Rwy'n falch o'r hyn yr ydym ni wedi ei gyflawni dros yr 20 mlynedd diwethaf. Pan fyddaf yn edrych yn ôl ar sut le oedd Cymru yn y 1990au: gwlad â diffyg hyder, lle’r oedd pobl ifanc eisiau gadael, gwlad nad oedd ganddi broffil cryf dramor—nid oedd hynny'n digwydd. A’r un peth sy'n fy nharo i yw ei bod yn cael ei dderbyn fel normal bryd hynny y dylai diweithdra fod yn sylweddol uwch yng Nghymru nag yng ngweddill y DU. Ystyriwyd bod hynny’n rhywbeth a oedd yn anochel. Nid dyna'r achos mwyach; mae diweithdra naill ai ar gyfartaledd y DU, neu’n is na chyfartaledd y DU. Gallwn barhau, wrth gwrs, ac efallai y byddai hi’n disgwyl i mi wneud hynny, ond rwy’n dewis cymariaethau penodol yn y fan yma â'r 1990au, yn y ffordd y mae Cymru wedi newid er gwell yn yr 20 mlynedd ers y refferendwm.
 
13:38
Leanne WoodBywgraffiad
Wel, mae pobl yn dal i adael, Prif Weinidog, fel y gwyddoch yn iawn. Ac, y llynedd, dywedasoch fod Llafur hanner ffordd trwy ddegawd o gyflawni. Ond, i lawer o bobl, gweddol yw perfformiad presennol y Llywodraeth ddatganoledig a dweud y lleiaf, ac nid yw pobl wedi gweld ei bod wedi gwneud unrhyw wahaniaeth i'w bywydau nac i ansawdd gwasanaethau cyhoeddus. Ac nid fy ngeiriau i yw’r rhain, ond canfyddiadau ymchwil i agweddau at ddatganoli, y byddwch chi wedi eu darllen ddoe. Os ydym ni hanner ffordd trwy ddegawd o gyflawni, pam mae ein canlyniadau iechyd ac addysg yn gyson waeth na’r rhai yn yr Alban? Pam mae ein cyfradd pasio TGAU eleni yn waeth na chymwysterau cyfatebol yr Alban? Pam mae rhestrau aros yn hwy ar gyfartaledd? Ac mae hynny heb hyd yn oed sôn am gymariaethau â Lloegr neu â gwledydd eraill gorllewin Ewrop. Beth yw’r esboniad nad yw eich Llywodraeth yn cyflawni’r canlyniadau y mae pobl yn eu disgwyl ac yn eu haeddu?
 
13:39
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, yn wahanol iawn i hynny—nid wyf yn credu bod yr Alban y Shangri-La a bortreadir. Bu problemau gwirioneddol yn system addysg yr Alban. Ceir problemau o hyd ynghylch y bwlch cyrhaeddiad, yr ydym ni wedi ei gau ac nad ydyn nhw. Os edrychwn ni ar iechyd, a’n bod yn edrych ar y 1990au, roedd yn normal yn y 1990au, yn nyddiau’r Llywodraeth Dorïaidd, i bobl aros dwy flynedd am lawdriniaeth. Roedd hynny'n normal. Nid yw pobl yn derbyn hynny ddim mwy—dim mwy. Gwyddom fod amseroedd aros wedi gostwng yn sylweddol er gwaethaf y ffaith y bu toriad enfawr i’n cyllideb yn y cyfnod hwnnw. Rydym ni newydd weld y canlyniadau TGAU gorau erioed. Mae gan yr Alban ei system addysg ei hun. Allwch chi ddim cymharu eu system gymwysterau nhw â’n system ni gan ei bod mor wahanol. Rydym ni’n adeiladu ysgolion ledled Cymru gyfan; yn Lloegr, nid oes unrhyw beth yn cael ei adeiladu. Rydym ni’n falch o'r ffaith honno. Os edrychwn ni ar yr economi, 4.3 y cant yw ein cyfradd ddiweithdra. Ni ellid bod wedi breuddwydio am hynny yn y 1990au. Rydym ni’n dal i ddenu buddsoddiad rhagorol i Gymru—y ffigurau buddsoddi uniongyrchol tramor gorau ers 30 mlynedd—ac mae hynny oherwydd bod gennym ni Lywodraeth sy'n gallu mynd allan a gwerthu Cymru. Beth bynnag yw gwleidyddiaeth y Llywodraeth honno, mae'r proffil sydd gan Weinidogion yn llawer iawn mwy na'r hyn a welwyd yn y 1990au, a dyna pam yr ydym ni wedi bod mor llwyddiannus o ran dod â swyddi i Gymru.
 
13:40
Leanne WoodBywgraffiad
Rydych chi'n swnio'n hunanfodlon, Prif Weinidog, ac mae’n ymddangos bod eich atebion yma y prynhawn yma'n awgrymu bod pethau eisoes yn mynd mor dda, bod hyn mor dda ag y gall hi fod. Nid degawd o gyflawni, ond yn hytrach degawd o hunanfodlonrwydd. Rydym ni angen, Prif Weinidog, gwlad lle mae premiwm ar hunanlywodraeth. Mae gwneud ein penderfyniadau ein hunain yn gam cyntaf hanfodol, ac mae Plaid Cymru yn falch fod y wlad hon wedi cymryd y cam hwnnw. Ond y cam nesaf yw gwireddu’r premiwm hwnnw. Dylai bod yn ddinesydd Cymru olygu bod bonws gwasanaeth cyhoeddus: difidend datganoli, wedyn, os mynnwch chi. Felly, rhof un her i chi heddiw, wrth i ni nodi 20 mlynedd ers y bleidlais 'ie' honno: erbyn diwedd y tymor Cynulliad hwn, a fydd y Llywodraeth Lafur wedi cau'r bwlch gyda'r Alban o ran iechyd, addysg a'r economi? Ac os byddwn ni’n dod i ddiwedd y tymor hwn a’i bod yn ymddangos nad oes unrhyw arwydd o gau'r bwlch hwnnw, a wnewch chi dderbyn a chyfaddef wedyn bod angen Llywodraeth newydd ar Gymru?
 
13:41
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, nid fi y mae eisiau iddi ei argyhoeddi, ond yr etholwyr, ac nid yw hi wedi eu hargyhoeddi nhw o hynny. Nid oes unrhyw bwynt achwyn i mi am ddiffyg llwyddiant ei phlaid ei hun. Nid wyf i’n derbyn bod bwlch rhyngom ni a'r Alban. Nid wyf i’n derbyn bod bwlch rhyngom ni a'r Alban o ran addysg. Mae cyfradd ddiweithdra'r Alban yn gyson uwch na'n cyfradd ni. Nid fel pe byddai'r Alban, yn economaidd, yn gwneud yn hynod o dda, ac o'n safbwynt ni rwy'n falch o'r hyn yr ydym ni wedi ei gyflawni dros yr 20 mlynedd diwethaf. Mae etholwyr Cymru wedi cydnabod hynny. Maen nhw wedi gweld hynny mewn etholiad ar ôl etholiad, ac ni fydd unrhyw arwydd o hunanfodlonrwydd gennym ni. Gwyddom ei bod yn mynd yn fwy a mwy anodd i argyhoeddi pobl i bleidleisio drosom yr hwyaf yr ydym ni mewn Llywodraeth, a byddwn yn gweithio'n fwy a mwy caled i sicrhau bod pobl yn parhau i roi eu cefnogaeth i ni.
 
13:42
Y Llywydd / The LlywyddBywgraffiad
Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
 
13:42
Andrew R.T. DaviesBywgraffiadArweinydd yr Wrthblaid
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ym mis Awst, cyhoeddwyd yr adroddiad am Kris Wade o Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Adolygiad bwrdd gwaith oedd hwn o’r bwrdd iechyd hwnnw yn cyflogi Kris Wade, gŵr sy’n bwrw cyfnod o 21 mlynedd yn y carchar ar hyn o bryd am laddiad ag ysgogiad rhywiol y wraig 65 oed, Christine James. Yn ystod y blynyddoedd yn arwain at lofruddiaeth Ms James, roedd Kris Wade yn destun dim llai na thri honiad ar wahân o gam-drin rhywiol ymhlith cleifion agored i niwed. Ar adeg cyhoeddi’r adolygiad bwrdd gwaith, beirniadwyd yr adroddiad gan fy mhlaid i am ei ddiffyg annibyniaeth. Rydym ni o’r farn na all fyth fod yn dderbyniol i fwrdd iechyd ymchwilio i bryderon difrifol amdano'i hun. Yn dilyn sawl galwad gan fy mhlaid i, a chan y BMA ac eraill yn y Siambr hon yn wir, cyhoeddodd eich Llywodraeth swyddogaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o ran adolygu'r adroddiad bwrdd gwaith a gyflawnwyd gan y bwrdd iechyd. Sut ar y ddaear y gall hi fod yn dderbyniol i fwrdd iechyd ymchwilio i gyhuddiadau mor ddifrifol o’i fethiant ei hun?
 
13:43
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae'n ddarlun cymhleth, ac rwy’n deall y galar y mae'r teulu wedi ei wynebu. Roedd tri chyhuddiad; mae hynny'n gywir. Ni chymerwyd unrhyw gamau gan yr heddlu o ran y cyhuddiadau hynny, ac felly ni chyflwynwyd unrhyw achosion troseddol. Wedi dweud hynny, mae'n hynod bwysig bod ymchwiliad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, nid yn unig i’r gwersi y gellir eu dysgu, ond i’r gwersi y gellir eu dysgu fel y gallwn fod yn sicr fel Llywodraeth bod unrhyw fethiannau a allai fod wedi bodoli yn y system bryd hynny yn cael eu hunioni, ac y gall y teulu gael eu sicrhau wedyn bod y bwrdd iechyd wedi gwneud popeth y gallai fod wedi ei wneud i ymdrin â'r sefyllfa. Ni fyddwn yn gwybod yr ateb i'r cwestiwn hwnnw tan y byddwn yn cael canfyddiadau adroddiad yr arolygiaeth iechyd, wrth gwrs.
 
13:44
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
Prif Weinidog, rwy'n deall na ofynnwyd i’r un claf, yr un gweithiwr proffesiynol meddygol na’r un aelod o staff, roi cyfweliad ffurfiol yn ystod yr adolygiad. Mae hynny, does bosib, yn annerbyniol. A allwch chi gadarnhau y bydd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn cymryd tystiolaeth gan glinigwyr, gan gleifion ac, yn anad dim, gan unrhyw un sy'n gysylltiedig â'r ymchwiliad a ganiataodd i'r trychineb ddatblygu ac a arweiniodd yn y pen draw at y gŵr hwn yn cael ei ddedfrydu i 21 mlynedd yn y carchar?
 
13:44
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae'n hollbwysig bod yr ymchwiliad yn annibynnol. Nid fy lle i yw dweud wrth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru beth y dylent ac na ddylent ei wneud, ond rwy'n credu ei bod hi’n briodol i mi ddweud y byddwn yn disgwyl iddyn nhw gael cymaint o dystiolaeth mor eang â phosibl er mwyn i’w canfyddiadau terfynol fod mor gadarn â phosibl.
 
13:45
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
Rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn dweud y byddai'n deg i chi neu'ch Llywodraeth, ar ffurf Ysgrifennydd y Cabinet, bennu’r cylch gorchwyl ar gyfer adroddiad, ymchwiliad, beth bynnag yr hoffech chi ei alw, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, oherwydd mae’n amlwg ei fod ef wedi gofyn iddyn nhw wneud hynny. Pan wnes i ddarganfod na ofynnwyd i’r un unigolyn meddygol, na ofynnwyd i’r un claf, gyflwyno tystiolaeth i'r ymchwiliad hwn, mae hynny'n anhygoel, mae'n rhaid i mi ddweud. Ac rwy’n galw arnoch i bennu cylch gorchwyl llym ar gyfer yr ymchwiliad hwn gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru fel y gall yr adroddiad y maen nhw’n ei gyflwyno i'ch Llywodraeth fwynhau hyder yr Aelodau yma, y cyhoedd ehangach, eu bod yn cael eu diogelu rhag pobl fel Kris Wade yn gweithio yn ein gwasanaeth iechyd. A wnewch chi roi'r ymrwymiad hwnnw bod y cylch gorchwyl yn ddigon cadarn o ymchwiliad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i'r ymchwiliad hwn fel y gallwn ni fod yn hyderus bod cleifion ac aelodau'r cyhoedd yn cael eu diogelu rhag sefyllfa lle nad yw pobl fel Kris Wade byth yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru?
 
13:46
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Yr ateb i'r cwestiwn yw 'gwnaf', wrth gwrs. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod yr ymchwiliad ei hun (a) yn annibynnol a (b) yn gadarn. Nid wyf yn siŵr a yw'n dweud, yn y gorffennol, na chyfwelwyd digon o bobl, neu a yw hynny'n digwydd nawr, ond pa bynnag ffordd, byddaf yn sicrhau bod hynny'n cael ei ystyried i sicrhau bod y mater hwnnw'n cael sylw. Ond mae'n amlwg yn bwysig bod y canfyddiadau’n cael eu hystyried yn gadarn ac y gall pawb yn y Siambr hon eu cefnogi.
 
13:46
Y Llywydd / The LlywyddBywgraffiad
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
 
13:46
Neil HamiltonBywgraffiadArweinydd Grŵp UKIP Cymru
Diolch yn fawr, Llywydd. Yn nogfen y Llywodraeth, 'Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl', mae'n cydnabod, yn yr arolwg agweddau cymdeithasol Prydain yn 2013, bod 86 y cant o boblogaeth y DU eisiau gweld llai o fewnfudo, ac eto polisi'r Llywodraeth yma yng Nghaerdydd, yn y ddogfen hon, yw gwrthwynebu cyflwyno unrhyw fath o darged ar gyfer lleihau mewnfudo. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos gostyngiad sylweddol i’r hyn yr ydym ni wedi ei weld yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond hyd yn oed ar y lefel mewnfudiad net o 0.25 miliwn y flwyddyn, sydd gennym ni ar hyn o bryd, byddai hynny'n ychwanegu, pe byddai’n parhau, 8 miliwn at ein poblogaeth erbyn 2032, 21 miliwn erbyn 2064, pan fyddai poblogaeth y DU yn 85 miliwn. Yn syml, nid yw hynny'n gynaliadwy. Cyn i'r Prif Weinidog ddweud, wel, mae mewnfudo’n hollbwysig ar gyfer twf economaidd, yn 2014, cynhaliodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol astudiaeth ar effeithiau mewnfudo ar lefelau cyfredol, 0.25 miliwn net y flwyddyn. Mae hynny'n ychwanegu 0.4 y cant at CMC ond hefyd 0.4 y cant at y boblogaeth, fel na fyddai CMC fesul pen yn gwella; does fawr ddim gwahaniaeth. Onid yw'n bryd i Lywodraeth Cymru ddeffro i realiti bywyd yn y Brydain fodern?
 
13:48
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Dylid teilwra mewnfudo yn ôl anghenion y DU. Targedau—. Mae'n artiffisial. Beth yw pwynt targedau? Gadewch i ni archwilio'r sefyllfa honno. Dywedwch, er enghraifft, ein bod ni’n dymuno recriwtio mwy o feddygon i GIG Cymru ond y dywedwyd wrthym, 'Mae'n ddrwg gennym, rydym ni wedi cyrraedd y cwota ar gyfer eleni'. Nid yw hynny’n gwneud dim synnwyr. Pam ar y ddaear fyddai hynny’n bolisi synhwyrol i unrhyw Lywodraeth ei fabwysiadu? Felly, rydym ni wedi cynnig barn ar fudo. Nid ydym yn gwybod beth yw barn Llywodraeth y DU eto. Dyma ein cynnig ni o ran sut yr ydym ni’n credu y dylai'r system edrych, ond mae'n hollbwysig, wrth gwrs, bod y polisi hwnnw’n cael ei deilwra i'r hyn sydd ei angen mewn gwirionedd ar y DU, nid targed artiffisial.
 
13:48
Neil HamiltonBywgraffiad
Mae'r Prif Weinidog yn gwybod nad dyna'r unig ffordd y gall targedau weithio. Yn arbennig, nid yw'r problemau sydd gennym ni ar gyfer y lefelau mewnfudo yr ydym ni’n eu dioddef ar hyn o bryd ym meysydd gweithwyr proffesiynol, fel meddygon a nyrsys, lle byddant bob amser yn gallu cymhwyso ar gyfer beth bynnag yw anghenion sgiliau'r wlad. Ond ar waelod y raddfa incwm, yn arbennig, i’r rhai â sgiliau isel neu sydd heb sgiliau, mae ffactorau sylweddol iawn ar waith sy'n gwthio’r lefelau incwm y mae pobl yn debygol o’i gael i lawr. O gofio bod Cymru'n economi cyflog isel, a’n bod ni ar waelod y raddfa incwm ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU, oni ddylem ni fod yn fwy pryderus ynghylch lleihau'r mewnlifiad o fewnfudiad pobl heb sgiliau neu â sgiliau isel er mwyn amddiffyn y rheini sydd fwyaf agored i niwed yng nghymdeithas Cymru?
 
13:49
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Rwy'n credu bod arweinydd UKIP wedi datgelu’r gwirionedd pan ddywedodd fod mewnfudo yn rhywbeth yr ydym ni’n ei ddioddef. Mae'n rhaid i mi ddweud wrtho bod cyfran dinasyddion yr UE yng Nghymru yn isel dros ben—llawer is na 5 y cant o'r boblogaeth. Mae'n wir bod pobl yn gweithio yng Nghymru; mae hynny'n wir. Ond mae angen iddo siarad â busnesau, a fydd yn dweud wrtho bod angen iddyn nhw allu recriwtio pobl mewn llawer iawn o wahanol swyddi, rhai ohonynt yn fedrus iawn, rhai ohonynt ddim mor fedrus, ond mae angen y bobl hynny. Yr hyn yr wyf yn ei ddweud wrtho yw y dylem ni ddioddef mewnfudo, fel y byddai’n ei ddweud, ar y lefel sy'n briodol i anghenion ein heconomi. Mae'n rhaid i mi ddweud wrtho: mae'n sôn am economi cyflog isel; mae ef yn rhan o’r broses o leihau cyflogau. A wnaeth ef gefnogi'r isafswm cyflog? Naddo, ni wnaeth ef gefnogi'r isafswm cyflog. Wrth gwrs na wnaeth ef. A yw'n gefnogol o ffyrdd o orfodi'r isafswm cyflog i rwystro unrhyw un sy'n dioddef camfanteisio, ni waeth o ble y maen nhw'n dod? Nac ydy, rwy’n amau ​a yw hynny’n wir. Ni all, ar y naill law, achwyn am leihau cyflogau pan fo’i hanes ei hun yn dangos ei fod yn erbyn yr isafswm cyflog ac felly'n hapus i weld cyflogau’n cael eu gyrru at i lawr pan yr oedd mewn man arall.
 
13:50
Neil HamiltonBywgraffiad
Mae'r Prif Weinidog yn gwybod bod polisi fy mhlaid i o blaid yr isafswm cyflog. Yn y dyddiau pan oeddwn i'n aelod o'r Blaid Geidwadol, roedd y Blaid Geidwadol yn erbyn cyflwyno isafswm cyflog, ond mae UKIP wedi cefnogi cyflwyno isafswm cyflog erioed, ac, wrth gwrs, ni fu’r un erlyniad yng Nghymru am dorri'r ddeddfwriaeth isafswm cyflog, er ein bod ni’n gwybod bod hyn yn digwydd. Felly, nid yw Llywodraeth Cymru, er gwaethaf holl brotestiadau’r Prif Weinidog, yn gwneud dim i wneud i’w pholisi ei hun weithio. Pan ddefnyddiais y gair 'dioddef' o ran polisi mewnfudo, yr hyn yr oeddwn i’n ei olygu oedd bod graddfa a chyflymder y mewnfudo hwn yn rhoi straen enfawr ar wasanaethau cyhoeddus, ond hefyd ar incwm y rheini sydd ar waelod y raddfa incwm. Ar hyn o bryd, rydym ni mewn cyfnod o dwf economaidd, ond wrth gwrs mae'r problemau wir yn dod yn amlwg pan fydd y cylch economaidd yn gostwng. Ceir cyfoeth o astudiaethau academaidd, y cyfeirir at rai ohonynt yn y ddogfen hon, sy'n dangos—. Fel astudiaeth Banc Lloegr, er enghraifft—dangosodd fod cynnydd o 10 y cant i gyfran y mewnfudwyr sy'n gweithio mewn swyddi penodol mewn rhanbarthau penodol yn arwain at ostyngiad o 2 y cant i gyflogau. Mae hwn yn fater difrifol mewn economi lle mae enillion cyfartalog yng Nghymru ddim ond 75 y cant o rai'r DU.
 
13:52
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Yn gyntaf oll , rwy’n synnu o’i glywed yn dweud na wnaeth sefyll fel ymgeisydd Ceidwadol ym 1997 ar sail ymrwymiad maniffesto i beidio â gwrthwynebu isafswm cyflog. Rwy’n cofio mai dyna’r achos bryd hynny, sydd wedi ei anghofio'n gyfleus nawr. Yn ail, fel y mae’n gwybod yn iawn—neu mae’n bod yn ddrygionus—nid Llywodraeth Cymru yw'r awdurdod erlyn pan ddaw i ddeddfwriaeth isafswm cyflog. Nid yw wedi'i datganoli. Mater i Lywodraeth y DU yw targedu adnoddau i’r awdurdod priodol fel y gall yr erlyniadau hynny ddigwydd. Mae'n sôn am dystiolaeth sy'n dangos bod cyflogau'n cael eu gyrru at i lawr. Ble mae'r dystiolaeth honno? Ni welaf unrhyw dystiolaeth bod hynny'n wir. Rwy’n gweld tystiolaeth o gyflogau yn cael eu gyrru at i lawr gan rai cyflogwyr sy'n ddiegwyddor. Rwy'n gweld cyflogau’n cael eu gyrru at i lawr gan bobl sy'n gweithio ar gontractau achlysurol yn y sector preifat. Rwy'n gweld cyflogau yn cael eu gyrru at i lawr gan bolisïau Llywodraeth y DU o gael gwared ar bethau fel credydau treth sy'n helpu'r rheini ar gyflogau isel, wrth gwrs, gan gyflwyno toriadau treth i’r rhai sy’n cael y cyflogau mwyaf. Nid oes yr un ohonom ni eisiau gweld cyflogau isel; rwy'n deall hynny. Ond a gaf i awgrymu iddo dargedu ei ynnau at y broblem wirioneddol yn y fan yma, sef y polisi a roddwyd ar waith gan Lywodraeth bresennol y DU?
 
'Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl'
 
13:53
Mark RecklessBywgraffiad
3. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch dogfen bolisi 'Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl' Llywodraeth Cymru? (OAQ51052)
 
13:53
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Nid ydynt wedi dymuno cael unrhyw drafodaethau, er ein bod ni wedi anfon y ddogfen atynt.
 
13:53
Mark RecklessBywgraffiad
Fodd bynnag, ymddengys fod y Prif Weinidog wedi trafod gyda Phrif Weinidog yr Alban a datblygu strategaeth a dull ar y cyd â Llywodraeth yr Alban. Onid yw'r Prif Weinidog yn sylweddoli bod Cymru wedi pleidleisio 'gadael' yn y refferendwm? Dywedodd ei hun fod gan hynny lawer i'w wneud â symudiad rhydd pobl, ac eto mae ei ddogfen yma yn cefnogi symudiad rhydd pobl ym mhopeth ond enw. Yn hytrach na pharhau i fewnforio pobl i redeg ein GIG, oni ddylem ni fod yn hyfforddi pobl yma yng Nghymru, a pham, ar ôl 20 mlynedd o Lywodraeth dan arweiniad Llafur, mae'r ddogfen hon yn dweud bod angen gwneud gwaith sylweddol o hyd i gyflawni hynny?
 
13:54
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Pam mae gennym ni dramorwyr yn ein GIG? Onid dyna’r hyn y mae'n ei ddweud, mewn gwirionedd? Dyna beth yw hyn. Mae'r gwasanaeth iechyd gwladol, fel gwasanaeth iechyd unrhyw wlad arall yn y byd datblygedig, bob amser yn dibynnu ar feddygon o wledydd eraill. Nid wyf i’n poeni o ble mae meddygon yn dod cyn belled â’u bod yn dda a’u bod yn darparu gwasanaethau ar gyfer ein pobl. Dyna sy'n cyfrif yn y pen draw. Nid oes gennyf ddiddordeb mewn gwybod ble y cawsant eu geni; mae gen i ddiddordeb yn eu sgiliau meddygol. Dyna beth sydd gen i i'w ddweud wrtho.
 
Ydw, rwyf i wedi siarad â Phrif Weinidog yr Alban am y mater hwn. Unwaith eto, dywedaf wrtho nad yw’r dehongliad y rhoddodd ef a'i gyn-blaid ar y bleidlais y llynedd yn ddehongliad yr wyf i’n ei rannu. Y cwbl yr ydym ni’n ei wybod yw bod pobl wedi pleidleisio i adael yr UE. Ni wnaethant bleidleisio dros Brexit caled. Rhoddwyd y cyfle iddynt bleidleisio dros Brexit caled ym mis Mehefin; ni wnaethant bleidleisio dros Brexit caled, ac felly mae'n gyfrifoldeb i bob un ohonom ni yn y Siambr hon geisio dehongli'r safbwynt yr oedd gan bobl ar hynny. Ond mae'n rhaid i mi ddweud na ddywedodd neb wrthyf i ar garreg y drws—dim un person, hyd yn oed pobl a oedd yn gefnogwyr mwyaf brwd Brexit y gallwch chi eu dychmygu—'Yr hyn sydd ei angen arnom yw llai o feddygon o dramor yn y wlad hon'. Ni ddywedodd neb hynny. Ac felly, ymgais yw hon, yn y ddogfen hon, i gyflwyno safbwynt ar sut y gellir gwneud i fudo weithio yn y dyfodol. Nid ydym wedi clywed dim gan ei blaid bresennol na'i blaid flaenorol i ychwanegu at y ddadl honno.
 
13:55
Dawn BowdenBywgraffiad
Prif Weinidog, pan gefais i gyfarfod â ffermwyr yn Rhymni yn ddiweddar—oes, mae ffermwyr yn Rhymni—fe wnaethom drafod nifer o faterion yn ymwneud â Brexit, a'i effaith bosibl ar yr economi wledig, ac yn groes i'r awgrymiadau yng nghwestiwn Neil Hamilton yn gynharach, un pryder a oedd ganddynt oedd eu hanallu i allu recriwtio llafur yn lleol—llafur achlysurol, llafur tymhorol—gan arwain at eu dibyniaeth ar ffrwd gyson o lafur mudol yr UE. A fyddech chi'n cytuno â mi fod angen i lafur tymhorol o'r UE wedi’i reoleiddio fod ar gael mewn unrhyw gytundeb ar symudiad pobl ar ôl Brexit?
 
13:56
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, mae'n hynod bwysig. Gwyddom, fel arall, y bydd prinder llafur difrifol yn y diwydiant amaethyddol, ac mae hynny'n rhywbeth nad yw Llywodraeth y DU wedi mynd i'r afael ag ef yn briodol eto. Mae'n dod yn ôl i'r pwynt yma eto: rydym ni angen polisi mewnfudo sy'n synhwyrol, sy’n deg, sy’n gytbwys, ac rydym ni’n credu, yn y ddogfen yr ydym ni wedi ei llunio ar Brexit a mewnfudo, ein bod ni wedi gwneud yn union hynny. Nid wyf yn derbyn bod pobl wedi pleidleisio i adael yr UE ac yna penderfynu adeiladu ffens ddychmygol na gwirioneddol o gwmpas y DU gan ar yr un pryd, wrth gwrs, gyda llaw, cadw'r ffin agored gyda'r UE yng Ngweriniaeth Iwerddon, sy’n rhywbeth nad yw wedi ei ddatrys. Felly, mae hon yn ffordd ymlaen yr ydym ni’n credu sy’n synhwyrol, yn deg, ac yn bodloni dymuniadau pobl Cymru a fynegwyd yn y refferendwm y llynedd.
 
13:57
Michelle BrownBywgraffiad
Onid yw'r Prif Weinidog yn gweld efallai bod y rhesymau pam mae’n ymddangos ein bod ni’n ddibynnol ar weithwyr mudol yn ddeublyg? Yn gyntaf, prin yw’r cymhelliad i hyfforddi pobl leol ar gyfer swyddi pan ei bod yn hawdd iddyn nhw fewnforio gweithwyr parod a chymwysedig. Ac, yn ail, mae tâl ac amodau mor wael mai dim ond gweithiwr mudol o wlad sydd â safonau byw sy'n waeth na'n rhai ni sy'n barod i ddioddef camfanteisio fel hyn. Beth ydych chi'n mynd i’w wneud i wrthdroi'r ddibyniaeth ar weithwyr yr UE a gweithwyr mudol?
 
13:57
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, yn gyntaf oll, rydym ni i gyd eisiau gweld tâl ac amodau gwell, ac mae'n hynod bwysig ein bod ni’n gweld cyflog byw priodol yn cael ei gyflwyno ar draws ein heconomi, yn y sector preifat hefyd, ac mae’n bwysig bod gennym ni Lywodraeth y DU sy’n cydnabod pwysigrwydd hynny. Ond nid oes gen i obsesiwn â'r syniad mai’r hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud yw taflu cymaint o weithwyr tramor allan â phosibl, sef yr hyn y mae hi'n ei ddweud i bob pwrpas. Ac nid yw pobl Cymru yn rhannu’r dehongliad hwnnw, fel y dangosir gan y ffaith fod ei phlaid—nid wyf yn gwybod a yw hi'n dal yn y blaid ai peidio—wedi ennill canran mor isel o'r bleidlais yn yr etholiad. Onid yw'n dweud rhywbeth wrthych chi nad yw pobl Cymru yn cefnogi'r math o Brexit yr ydych chi'n ei gefnogi, a’n bod ni wedi gweld hynny ym mis Mehefin?
 
Llafur Dan Orfod
 
13:58
Joyce WatsonBywgraffiad
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â llafur dan orfod yng Nghymru? (OAQ51050)
 
13:58
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Gwnaf. Rydym ni wedi ymrwymo i weithio gyda chomisiynwyr yr heddlu a throseddu a phartneriaid i fynd i'r afael â chaethwasiaeth, sy'n cynnwys llafur dan orfod. Ym mis Mawrth, lansiwyd ein cod ymarfer cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi i wneud cadwyni cyflenwi yn dryloyw ac atal camfanteisio ar weithwyr—sy’n torri tir newydd, yn wir, i Gymru ac i'r DU.
 
13:58
Joyce WatsonBywgraffiad
Diolchaf i chi am yr ateb yna. Dywedodd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn ddiweddar bod caethwasiaeth fodern neu lafur dan orfod mor gyffredin erbyn hyn fel bod pobl gyffredin yn debygol o ddod i gysylltiad heb yn wybod â dioddefwyr bob un dydd, a bod y dioddefwyr hynny i'w gweld yn y diwydiannau allweddol, gan dynnu sylw penodol at amaethyddiaeth, gofal cartref a chymdeithasol, pysgota, prosesu bwyd, golchi ceir, ac adeiladu. Ar hyn o bryd, o dan Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015, dim ond cwmnïau â throsiant blynyddol o £36 miliwn y flwyddyn y mae'n rhaid iddynt ddatgan pa gamau maen nhw wedi eu cymryd i atal caethwasiaeth yn eu cadwyni cyflenwi. Rwy'n credu y byddwch chi’n cytuno nad yw'r rhan fwyaf o gwmnïau yng Nghymru yn cyrraedd y trothwy. Felly, Prif Weinidog, pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda chydgysylltydd gwrth-gaethwasiaeth Cymru am ei gynigion ar gyfer cod ymarfer y gallai cwmnïau gytuno i gyd-fynd ag ef yn wirfoddol?
 
13:59
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, lansiwyd y cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol a chadwyni cyflenwi gennym ym mis Mawrth. Ei nod oedd cynorthwyo busnesau i wneud cadwyni cyflenwi yn dryloyw ac i atal gweithwyr rhag dioddef camfanteisio. Fel y dywedais, mae hynny’n torri tir newydd i Gymru a'r DU. Gwn fod grŵp arweinyddiaeth gwrth-gaethwasiaeth Cymru yn codi'r broblem o gaethwasiaeth trwy hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth, oherwydd—a gwn ei bod hi’n angerddol ynglŷn â hyn—rydym ni eisiau sicrhau bod Cymru’n elyniaethus i gaethwasiaeth.
 
14:00
Janet Finch-SaundersBywgraffiad
Prif Weinidog, mae cydgysylltydd gwrth-gaethwasiaeth Cymru, Stephen Chapman, wedi cyfaddef y gallai fod achosion o gaethwasiaeth fodern yn sector gofal cymdeithasol Cymru. Mae wedi dweud bod hyn yn digwydd yn rhywle. Ar draws sector mor fawr yng Nghymru, mae’n bosibl iawn y gallai problemau fod ymhellach i lawr y gadwyn gyflenwi gyhoeddus. Pa gamau ydych chi'n eu cymryd i sicrhau, lle mae gwasanaethau'n cael eu darparu gan ein cyrff cyhoeddus yng Nghymru, y ceir mesur pendant a chadarn i atal unrhyw fath o gaethwasiaeth fodern yng Nghymru?
 
14:00
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, drwy'r hyfforddiant, wrth gwrs, yr wyf i wedi nodi eisoes y mae’r grŵp arweinyddiaeth wedi ei ddatblygu, ac yn ail, wrth gwrs, drwy'r cod ymarfer ei hun. Gwn fod y cydgysylltydd yn angerddol o ran sicrhau ein bod ni'n gyrru caethwasiaeth allan, hyd yn oed lle mae'n gudd, wrth gwrs, mewn rhai sefydliadau. Mae'n sôn am y sector gofal cymdeithasol. Nid oedd yn honni bod ganddi dystiolaeth, er tegwch, bod hynny’n digwydd, ond roedd hi'n dyfynnu’r hyn a allai fod yn digwydd yng Nghymru. Rydym ni’n gweithio'n agos iawn gyda'r cydgysylltydd i sicrhau bod Cymru, fel y dywedais, yn elyniaethus i gaethwasiaeth.
 
14:01
David J. RowlandsBywgraffiad
Prif Weinidog, tynnais eich sylw ychydig amser yn ôl at hanes y mewnfudwyr hynny sy’n cael eu gorfodi i weithio yn y diwydiant glanhau ceir. Nodais eu bod nhw’n gweithio am lai na £3.50 yr awr, 10 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos—o dan amodau llafur caethweision i bob pwrpas. Eich ateb ar y pryd oedd nad oedd hyn yn rhan o gylch gwaith Llywodraeth Cymru. Wel, o gofio bod problem llafur caethweision yng Nghymru yn un sy’n tyfu—adroddwyd am 47 o achosion yn 2014, 71 yn 2015 a 124 o achosion yn 2016—onid yw'n ddyletswydd nawr ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio ei holl bwerau i ymyrryd, gan gynnwys ysgogi llywodraeth leol i archwilio'r posibilrwydd o gau'r cyfleusterau ysgeler hyn?
 
14:02
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, mae’r grym hwnnw gan lywodraeth leol eisoes, wrth gwrs, o ran ei hymrwymiadau safonau masnach. Os oes gan yr Aelod dystiolaeth bod hynny'n digwydd, byddaf yn falch o edrych ar y dystiolaeth honno ac yna ei rhannu gyda’r awdurdod erlyn priodol. Mae'r hyn y mae'n ei ddisgrifio yn annerbyniol, ond mae'n hollbwysig bod tystiolaeth ar gael i allu bwrw ymlaen â hyn, yn y pen draw, neu gyda’r gobaith, wrth gwrs, o erlyniad llwyddiannus.
 
Tirlithriad yn Mhant-teg
 
14:02
Dai LloydBywgraffiad
5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r tirlithriad diweddar yn ardal Pant-teg, Ystalyfera? (OAQ51011)
 
14:03
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Rwy’n gwybod bod yna gyfarfod ar 22 Awst lle roedd swyddogion y Llywodraeth wedi ymuno â chyngor Castell-nedd Port Talbot er mwyn ystyried y ffordd ymlaen. Byddwn ni, wrth gwrs, fel Llywodraeth yn ystyried unrhyw beth mae’r cyngor yn ei ddweud pan fyddant yn rhoi sylwadau i ni, fel cafodd ei gytuno yn y cyfarfod, rwy’n deall.
 
14:03
Dai LloydBywgraffiad
Diolch am yr ateb yna. Roedd rhai ohonom ni yn rhan o’r cyfarfodydd yna hefyd. Ond mae’n wir i ddweud bod y digwyddiad yma, y tirlithriad yma, wedi bod yn dipyn o ergyd i deuluoedd yn lleol, ac wedi creu cryn dipyn o ansicrwydd hefyd yn ardal Ystalyfera. Gan fod hyn yn ddigwyddiad anarferol iawn, heb ei debyg, a wnewch chi fel Llywodraeth Cymru wneud ymrwymiad cyhoeddus heddiw i roi help ariannol ychwanegol i gyngor Castell-nedd Port Talbot i ddelio efo’r mater, yn ogystal ag unrhyw gronfeydd Ewropeaidd sydd yn agored i ni i ddelio efo’r sefyllfa unigryw yma?
 
14:03
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Gallaf i ddeall, wrth gwrs, fel mae’r teuluoedd yn teimlo o achos y ffaith maen nhw’n gorfod wynebu rhywbeth fel hyn. Yn y cyfarfod ym mis Awst, y cytundeb oedd y byddai’r cyngor yn dod nôl i ni gyda’r manylion. Nid yw hynny wedi digwydd eto. Unwaith mae hynny’n digwydd, wrth gwrs, gallwn ni ystyried a thrafod y peth ymhellach.
 
14:04
Jeremy MilesBywgraffiad
Diolchaf i Dai Lloyd am ddod â'r cwestiwn hwn i chi y prynhawn yma, Prif Weinidog. Bu hanes o dirlithriadau yn y rhan arbennig honno o'm hetholaeth i. Mae'r perygl newydd yn deillio o dirlithriadau mewn ardaloedd yr ystyriwyd cynt eu bod yn rhai risg isel. Byddwch yn deall pryder yr aelwydydd y gofynnwyd iddynt adael eu cartrefi, a'r pryder a deimlir gan y gymuned ehangach, yn enwedig wrth i’r cyngor ailasesu'r perygl yn yr ardal yn gyffredinol. Byddem yn croesawu unrhyw gefnogaeth y gall Llywodraeth Cymru ei rhoi, i'r gymuned a'r cyngor, i ddatrys y mater hwn, a hefyd, efallai, o gofio bod nifer o fuddiannau portffolio'r Llywodraeth yn rhan o hyn, i gael dull cydgysylltiedig o ran y cymorth y gall Llywodraeth Cymru ei ddarparu.
 
14:05
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Nid yw'n eglur eto beth fyddai natur y cymorth hwnnw, a dyna pam yr ydym ni’n edrych ymlaen at dderbyn y sylwadau gan y cyngor, er mwyn i ni ystyried hyn ymhellach. Ond cyn belled ag y mae’r bobl yno yn y cwestiwn, gallaf ddeall yn iawn eu bod nhw eisiau cael sicrwydd cyn gynted â phosibl. Rydym ni’n awyddus i wneud hynny a byddwn yn parhau i weithio gyda'r cyngor er mwyn cyflawni hynny.
 
14:05
Suzy DaviesBywgraffiad
Efallai bod maes lle gall Llywodraeth Cymru roi cymorth ar unwaith, a dyma fe: efallai y byddwch chi'n cofio, yn y cyfarfod y cyfeiriwyd ato'n gynharach, y daeth adroddiad annibynnol i'r amlwg a awgrymodd mai'r ardal sydd wedi’i heffeithio oedd y lleiaf tebygol o ddioddef tirlithriad neu lithriad, ac aeth natur yn groes i'r adroddiad hwnnw. Felly, efallai y bydd lle yma i Lywodraeth Cymru allu helpu Castell-nedd Port Talbot ddiffinio'r cylch gorchwyl ar gyfer yr adroddiad newydd sy'n cael ei gomisiynu, er mwyn darganfod a yw'r 150 o gartrefi sydd o bosibl mewn perygl erbyn hyn mewn perygl mewn gwirionedd, ac mae hynny'n rhywbeth sy’n ychwanegol at y cymorth ariannol y mae Dai Lloyd wedi ei awgrymu. Felly, mae hwnnw'n gymorth penodol iawn yr wyf i’n credu y gallwch chi ei roi yn gynnar.
 
14:06
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Rydym ni’n fodlon gweithio gyda'r cyngor, wrth gwrs, i weld pa gymorth y gallwn ni ei ddarparu o ran comisiynu unrhyw adroddiad newydd. Ac eto, rydym ni’n disgwyl sylwadau'r cyngor yn hynny o beth.
 
Rhwydwaith Metro i Fae Abertawe
 
14:06
Lee WatersBywgraffiad
6. A wnaiff y Prif Weinidog gomisiynu astudiaeth ddichonoldeb cam cynnar lawn o rwydwaith metro i Fae Abertawe? (OAQ51049)
 
14:06
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Rydym ni wedi ariannu gwaith datblygu ar gysyniad amlinellol metro ar gyfer de-orllewin Cymru yn y flwyddyn ariannol hon, drwy'r gronfa drafnidiaeth leol. Mae cyngor sir Abertawe—Dinas a Sir Abertawe ddylwn i ddweud—yn cydgysylltu’r gwaith hwn mewn partneriaeth â'r awdurdodau lleol eraill yn y de-orllewin ac mae'r prosiect yn datblygu'n dda.
 
14:06
Lee WatersBywgraffiad
Diolch, Prif Weinidog. Gan fod Llywodraeth Theresa May wedi cefnu ar ei haddewid i drydaneiddo’r rheilffordd i Abertawe a'r gorllewin, mae hyn wedi rhoi pwyslais pendant ar gysylltedd holl ddinas-ranbarth bae Abertawe. Rwy’n croesawu’r gefnogaeth i’r cysyniad ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus modern, cydgysylltiedig. Rwy'n credu mai’r hyn y mae angen i ni ei weld nawr yw astudiaeth o ddichonoldeb fanwl fel y gallwn ddeall yn iawn sut y gall cymunedau yn etholaeth Llanelli gysylltu â chymunedau eraill ar draws y dinas-ranbarth trwy reilffordd, bysiau a theithio llesol.
 
14:07
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae'r prosiect wedi dechrau'n dda. Cynhaliwyd gweithdy gyda swyddogion cynllunio rhanbarthol ym mis Mai. Roedd yn darparu’r fframwaith ar gyfer y cysyniadau sy'n dod i'r amlwg. Mae'r gwaith hwnnw'n parhau. Ond ydw, rwy’n rhannu siom yr Aelod at dorri addewid gan Lywodraeth y DU i drydaneiddio’r brif reilffordd cyn belled ag Abertawe. Rwy'n cofio’n iawn yr Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd, Cheryl Green—. Cheryl Green? Cheryl Gillan. Cheryl Green yw arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol ym Mhen-y-bont ar Ogwr—dyna ni. Cheryl Gillan. Wnaiff hi ddim maddau i mi am hynna, Cheryl Gillan—yr un o’r ddwy ohonyn nhw, rwy’n amau. Ond rwy'n ei chofio’n iawn yn dweud ei bod y tu hwnt i amheuaeth y byddai'r rheilffordd yn cael ei thrydaneiddio mor bell ag Abertawe—ac mae'r arian wedi mynd. Bydd y bobl sy'n chwilio amdano, rwy’n amau, yn dod o hyd iddo yn Belfast.
 
14:08
Suzy DaviesBywgraffiad
Rwy'n falch bod cefnogaeth gynyddol i'r syniad hwn. Mae'n rhywbeth y mae Mike Hedges wedi ei godi yn y Siambr o'r blaen ac yn rhywbeth yr wyf i wedi siarad amdano hefyd. Pan wnaethom ni gyfarfod â'r bwrdd cysgodol fel grŵp o Aelodau Cynulliad lleol fis Rhagfyr diwethaf, dywedasant nad oedd seilwaith trafnidiaeth yn rhan o'u syniadau o ran y bargeinion dinesig. Rwy'n falch bod pethau wedi symud ymlaen ar hynny. Ond mae'n rhywbeth yr wyf i hefyd wedi ei grybwyll i Gymdeithas Porthladdoedd Prydain, sy'n effeithio ar nifer o'r etholaethau yn ardal y fargen, sydd â hanes cryf o ran logisteg ac y mae’n ymddangos nad yw’n chwarae unrhyw ran yn y drafodaeth bargen ddinesig o gwbl. Felly, rwy’n meddwl tybed, pe byddai astudiaeth o ddichonoldeb yn cael ei chomisiynu, a fydd yn cynnwys lle i'r porthladdoedd yn ardal y fargen, ac a fydd lle yn y fargen ddinesig ar gyfer unrhyw ganfyddiadau o'r adroddiad hwnnw, hyd yn oed o dderbyn bod y cymorth ariannol i’r fargen ddinesig yn eithaf hael?
 
14:08
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae’n rhaid i ni gofio, wrth gwrs, bod y fargen ddinesig yn cael ei hysgogi gan awdurdodau lleol ac nid gennym ni. Mae'n bartneriaeth rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, ond cyfrifoldeb awdurdodau lleol drwy gydweithio yw blaenoriaethu ac ymgysylltu. Fodd bynnag, yr hyn a wnaf yw rhannu eu sylwadau â'r awdurdodau lleol a gofyn iddyn nhw beth maen nhw'n ei wneud i ymgysylltu ag ABP yn benodol—mae wedi gofyn am hynny—a byddaf, wrth gwrs, yn rhannu'r ymateb hwnnw gyda hi.
 
14:09
Dai LloydBywgraffiad
Ymhellach i’r egwyddor o sefydlu metro, a ydych chi’n cytuno fod hyn yn gyfle i ni greu, fel man cychwyn, system fysys sydd wedi’i rheoli a’i delifro gan gynghorau lleol yn hytrach na chwmnïau bysys preifat?
 
14:09
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Ydw. Wrth gwrs, fe fydd y pwerau yn dod i ni yn ystod y misoedd nesaf, a bydd cyfle wedyn i ystyried ym mha ffordd y dylai bysiau gael eu rheoli. Rydym yn gwybod, wrth gwrs, fod yna achos cryf dros sicrhau bod system yn cael ei ailsefydlu lle mae’n bosib i gynghorau redeg gwasanaethau yn y pen draw—eu hunain neu drwy ddefnyddio ‘franchise’. Ond, wrth gwrs, rydym ni’n moyn sicrhau bod mwy o reolaeth dros fysiau lleol na sydd wedi bod yn wir yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
 
14:10
Jeremy MilesBywgraffiad
Ategaf y sylwadau a wnaeth Dai Lloyd am bwysigrwydd bysiau i'r rhai ohonom ni ag etholaethau nad ydynt yn realistig yn mynd i gael eu gwasanaethu gan unrhyw ateb ymarferol rheilffordd yn unig. A wnaiff ef ymrwymo bod unrhyw astudiaeth o ddichonoldeb a gomisiynir hefyd yn ystyried y defnydd o dechnoleg fodern? Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi wedi bod yn edrych yn ei waith ar dagfeydd bws ar ddefnyddio technoleg i sicrhau y gall bysiau weithredu mewn system wirioneddol integredig. A fyddai unrhyw astudiaeth o ddichonoldeb yn adlewyrchu'r egwyddorion hynny hefyd?
 
14:10
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Bydd, bydd angen iddi. Ceir nifer o ffyrdd y gallwch chi ddarparu metro: rhai fel rheilffyrdd trwm, rhai fel rheilffyrdd ysgafn, bysiau cyflym a’r posibilrwydd o lonydd bysiau penodedig. Ceir llawer iawn o ffyrdd lle gellir cyflwyno system metro ac mae'n hynod bwysig bod unrhyw astudiaeth yn gallu ystyried technoleg fodern sy'n dod i'r amlwg, yn enwedig er mwyn hwyluso dewisiadau cludiant cyflymach i'r cyhoedd.
 
Hawliau Pobl Anabl
 
14:11
Rhianon PassmoreBywgraffiad
7. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu a hyrwyddo hawliau pobl anabl yng Nghymru? (OAQ51039)
 
14:11
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae ein fframwaith ar gyfer gweithredu ar fyw'n annibynnol wrthi’n cael ei adolygu ar hyn o bryd. Rydym ni wedi cydweithio'n agos â phobl anabl a sefydliadau anabledd ledled Cymru i sicrhau ein bod ni’n gwneud cynnydd pendant i hybu a diogelu hawliau pobl anabl ac, wrth gwrs, mae hynny'n rhywbeth y byddwn ni’n parhau i’w wneud yn y dyfodol.
 
14:11
Rhianon PassmoreBywgraffiad
Diolch, Prif Weinidog. Mae Theresia Degener, cadeirydd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, wedi ei alw'n 'drychineb dynol', yn dilyn eu hymchwiliad i'r ffordd y mae'r DU yn trin ei dinasyddion anabl. Mae Atos a Capita, y mae Llywodraeth y DU wedi eu gwneud yn gyfrifol am gynnal asesiadau taliadau annibynnol personol, wedi ennill dros £0.5 biliwn o arian cyhoeddus ers 2013, tra bod dros 61 y cant o'r rheini a apeliodd yn erbyn eu hasesiadau PIP yn eu hachosion tribiwnlys wedi ennill eu hachos. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo pobl anabl yng Nghymru yn ystod y gostyngiadau digynsail i’w hincwm gan Lywodraeth y DU?
 
14:12
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, ni allwn wrthdroi'r hyn y mae Llywodraeth y DU wedi ei wneud. Ni allaf anghytuno â'r defnydd o'r ymadrodd 'trychineb dynol'. Mae rhywbeth o'i le gyda'r system lle mae 61 y cant o achosion yn cael eu hapelio'n llwyddiannus. Mae rhywbeth o'i le arni. Mae'r gyfradd apêl honno'n llawer iawn uwch nag y byddech chi'n ei chael yn y llysoedd troseddol ac yn llawer uwch nag y byddech chi'n ei gael mewn mannau eraill. Mae hynny'n arwydd bod yr asesiadau cychwynnol, a bod yn blaen, yn anghywir ar y cyfan, ac os yw'r asesiadau'n anghywir mae'r system wedi torri. Mae hyn yn rhywbeth i Lywodraeth y DU ymdrin ag ef. Byddwn yn parhau i weithio, wrth gwrs, gyda phobl anabl, fel y dywedais, a sefydliadau anabledd, i weithredu fel eu heiriolwr wrth wrthdroi system sy’n amlwg ddim yn gweithio.
 
14:12
Mark IsherwoodBywgraffiad
Yn amlwg, mae hwnnw'n fater y mae'r grŵp trawsbleidiol ar anabledd hefyd wedi bod yn casglu tystiolaeth arno. Rwy'n credu bod 80 y cant o apeliadau gan bobl â nam ar y synhwyrau yn llwyddiannus, sy’n dangos y broblem yr ydym yn ei hwynebu. Felly, rydym ni’n rhannu eich pryder ynghylch y mater hwn. Ond mewn cyfarfod grŵp trawsbleidiol ar anabledd yn y gogledd ym mis Mehefin, ac yn yr un modd mewn cyfarfod o’r grŵp awtistiaeth trawsbleidiol yn y gogledd ym mis Medi, codwyd pryderon gyda ni gan gynrychiolwyr pobl anabl leol a phobl anabl leol eu hunain ynghylch cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer grant byw'n annibynnol Cymru. Fel y gwyddoch, bu gennych gynllun dros dro gydag awdurdodau lleol ers iddo gael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU. Cyhoeddwyd gennych y bydd cyfrifoldeb a chyllid yn cael ei drosglwyddo i awdurdodau lleol o 2018-19. Mae pobl anabl yn bryderus y bydd hynny'n atal eu gallu i fyw'n annibynnol a chefnogi eu lefel uchel o anghenion gofal a chymorth. Pa sicrwydd allwch chi ei roi iddyn nhw, felly, y bydd mesurau diogelu ar waith i sicrhau bod yr arian yn mynd i’r lle y bwriedir iddo fynd, y bydd asesiadau'n dal i gael eu cynnal ar sail sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn gyda derbynwyr y grant, ac mai pobl anabl eu hunain fydd y llais arweiniol gydag awdurdodau o ran canfod eu hanghenion?
 
14:14
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Byddem yn disgwyl i awdurdodau lleol, wrth gwrs, gyflawni eu rhwymedigaethau i bobl anabl a rhoi digon o arian o'r neilltu i’w hanghenion ariannol gael eu cydnabod a'u bodloni. Wrth gwrs, mae awdurdodau lleol yn atebol i'w hetholwyr os byddant yn dilyn polisïau y mae'r etholaeth yn credu eu bod yn annerbyniol.
 
14:14
Sian GwenllianBywgraffiad
Mae symiau bychan o arian yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i rai teuluoedd sydd â phlant neu blentyn anabl. Rwyf wedi sôn am rai enghreifftiau penodol yn y Siambr yma cyn heddiw o deuluoedd yn fy etholaeth i sydd wedi elwa ar grantiau bychan, gan helpu i wella ansawdd bywydau plant anabl, gan gynnwys gwella iechyd meddwl, cryfhau perthynas deuluol a chynyddu cyfleoedd hamdden. A ydych chi’n cytuno â mi fod yr arian y mae’r Llywodraeth yn ei ddarparu i’r ‘family fund’ yn ffynhonnell werthfawr o gymorth, ac y dylid ei gynnal o dros y blynyddoedd nesaf?
 
14:15
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Rŷm ni’n deall, wrth gwrs, fod yna gronfeydd sy’n gwneud lot fawr o wahaniaeth i’r gorau i fywydau pobl. Yn anffodus—ac nid wyf yn sôn am y gronfa hon yn uniongyrchol—rydym wedi gweld toriadau yn ein cyllideb ni, ac mae yna benderfyniadau anodd sy’n gorfod cael eu gwneud yn ystod blwyddyn ariannol. Ond rydym ni’n moyn sicrhau ein bod ni’n gallu blaenoriaethu beth sy’n gweithio a beth sydd â’r lles mwyaf i deuluoedd. Hynny fydd yn ein harwain ni fel Llywodraeth dros yr wythnosau cyn bod y gyllideb derfynol yn cael ei chyhoeddi.
 
Bargen Ddinesig Bae Abertawe
 
14:15
Suzy DaviesBywgraffiad
8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fargen ddinesig Bae Abertawe? (OAQ51002)
 
14:15
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae'n gwneud cynnydd da, gan ddatblygu'r cynigion a fydd yn datgloi cyllid y Llywodraeth.
 
14:15
Suzy DaviesBywgraffiad
Diolch am yr ateb yna. Yn ddiweddarach heddiw, wrth gwrs, byddwn yn trafod yr adolygiad seneddol ar iechyd a gofal cymdeithasol, sydd eisoes wedi nodi potensial technoleg gwybodaeth a thechnoleg gwyddor bywyd arall na fanteisiwyd arno’n llawn o ran diwygio'r gwasanaethau hynny, ac i mi, mae hyn yn cyfeirio’n uniongyrchol at fargen ddinesig bae Abertawe. Pa drafodaethau diweddar ydych chi wedi eu cael gyda'r arweinwyr llywodraeth leol ynglŷn â phennu'r strwythur llywodraethu, gyda chynrychiolaeth gytbwys o'r sector preifat—soniasoch am y porthladdoedd yn gynharach—fel y gallwn weld rhywfaint o weithgarwch cyflymach ar y fargen?
 
14:16
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Materion i awdurdodau lleol yw’r rhain yn y pen draw, fel y dywedais, ond rwy'n ffyddiog bod y strwythur llywodraethu sydd ganddyn nhw ar waith yn briodol ac yn effeithiol, a byddwn yn gweithio gyda nhw, fel y bydd Llywodraeth y DU, i barhau i ddarparu’r fargen ddinesig. Mae’n rhaid i mi ddweud mai’r hyn fydd yn hynod bwysig o ran darparu ar gyfer Abertawe fydd cyflwyno morlyn llanw bae Abertawe. Ac er ein bod ni’n gwybod bod adolygiad annibynnol wedi dweud y dylai symud ymlaen, nid ydym wedi gweld unrhyw gamau gan Lywodraeth y DU o hyd. Rwy'n siŵr ei bod hithau'n rhannu'r rhwystredigaeth hon hefyd. Mae hyn wedi bod yn fisoedd ar fisoedd ar fisoedd ar fisoedd heb—. Hynny yw, nid yw hon yn enghraifft ar ei phen ei hun, ydy hi, pan na wnaed unrhyw benderfyniad am brosiect a fyddai'n darparu 1,000 o swyddi ac a fyddai’n helpu i adfywio llawer o'n porthladdoedd? Byddai hynny o gymorth mawr i ardal bae Abertawe, gan weithio, wrth gwrs, ar y cyd, â’r fargen ddinesig ei hun.
 
14:17
Simon ThomasBywgraffiad
Jest ar y pwynt yna, mae datblygiad y morlyn llanw hefyd yn mynd i gyfoethogi cyfleoedd ar gyfer porthladdoedd, rwy’n meddwl, yn ardal dinas-ranbarth bae Abertawe. Roeddwn i’n falch o fod mewn derbyniad wythnos diwethaf yn San Steffan gyda’r Gweinidog, Ken Skates, a oedd yn trafod y cyfleoedd ar gyfer ein porthladdoedd ni. Pa mor bwysig yw e fod ynni o’r môr, pa bynnag ffordd mae’n cael ei ddatblygu, yn rhan o gryfhau y cyfleoedd ar gyfer porthladdoedd, a chyfleoedd hefyd i gyfoethogi cytundeb bae Abertawe?
 
14:17
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Hollbwysig, achos rydym yn gwybod, wrth gwrs, os bydd ynni yn cael ei greu yn y môr mae’n rhaid cael lleoedd lle mae modd cynhyrchu y peirianwaith ac i sicrhau bod y peirianwaith yn cael ei gynnal hefyd. Ac, wrth gwrs, mae yna gyfleon yn fanna i borthladdoedd fel Port Talbot, er mwyn creu swyddi yn fanna, er mwyn ailadeiladu rhai rhannau o’r dociau ym Mhort Talbot. Ond nid oes ateb gyda ni eto gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ac mae’n hollbwysig eu bod nhw’n sylweddoli taw hyn yw’r ffordd ymlaen ynglŷn â chreu ynni, ynni gwyrdd, taw hyn yw’r ffordd ymlaen ynglŷn â chreu swyddi yma yng Nghymru, ond mae’n rhaid i ni gael ateb, ac ateb positif, wrthyn nhw.
 
14:18
Y Llywydd / The LlywyddBywgraffiad
Diolch i’r Prif Weinidog.
 
14:18
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Y Llywydd / The LlywyddBywgraffiad
Yr eitem nesaf ar ein agenda ni yw’r datganiad busnes, ac rwy’n galw ar arweinydd y tŷ, Jane Hutt, i wneud y datganiad.
 
14:18
Jane HuttBywgraffiadArweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip
Diolch, Llywydd. Fel y bydd yr Aelodau yn gweld, mae gennyf nifer o newidiadau i agenda heddiw. Bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiadau yn fuan ar 'Ffyniant i Bawb—Y Strategaeth Genedlaethol', ac yn dilyn hynny, bydd datganiad ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). Yna bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn cyflwyno datganiad ar bapur polisi Llywodraeth Cymru, ‘Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl’. Yn olaf, bydd y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad ar y cynllun cyflawni ar gyfer rheoli tybaco 2017-2020. Ac mae'r busnes am y tair wythnos nesaf fel y dangosir ar y datganiad busnes a'r cyhoeddiad a welir ym mhapurau’r cyfarfod sydd ar gael yn electronig i'r Aelodau.
 
14:19
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
Arweinydd y tŷ, a oes modd cael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth am y gwelliannau ar ffordd Blaenau'r Cymoedd, ac rwy’n defnyddio'r gair 'gwelliannau', oherwydd yn amlwg pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau bydd yn welliant sylweddol ar y cyfleoedd trafnidiaeth sydd gan fusnesau yn y rhan arbennig honno o’r byd. Ond yn ddiweddar, mae busnesau o fy rhanbarth i fy hun wedi bod yn dod ataf yn tynnu sylw at ffyrdd wedi’u cau, ciwiau ar y ffyrdd, tagfeydd traffig ac ati yn y rhan hon o'r rhwydwaith ffyrdd yng Nghymru. Mae hyn wedi cael effaith uniongyrchol ar eu proffidioldeb ac, yn wir, eu gallu i ehangu oherwydd eu bod ar ddeall bod y gwaith adeiladu ar ei hôl hi’n sylweddol, ac y bydd y cyfnod cyn i’r gwaith ddod i ben yn sylweddol hwy. Rwyf i wedi clywed enghreifftiau o 12 i 18 mis yn hwy, ac felly dyna pam yr wyf i’n gofyn am ddatganiad fel y gallwn ni gael eglurhad o sut yn union y mae'r gwaith adeiladu yn mynd rhagddo. A yw'r prosiect wedi aros o fewn y gyllideb? Ac, yn bwysicaf oll, pa ffydd y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei roi i fusnesau yn y de-ddwyrain fod y gwaith yn mynd rhagddo yn unol â’r amserlen, ac er bod hyn yn achosi problemau byrdymor, y dylid goddef hynny i ryw raddau ac y bydd y manteision hirdymor yn werth y boen yn y pen draw? Ond, ar hyn o bryd, mae llawer o fusnesau yn y de-ddwyrain, ac yn enwedig yng Nghanol De Cymru, o’r farn eu bod yn dioddef y boen heb unrhyw arwydd o ddatrysiad yn y pen draw. Pe byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu rhoi datganiad am gynnydd y gwaith, byddwn i’n gwerthfawrogi hynny'n fawr iawn.
 
14:20
Jane HuttBywgraffiad
Byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn fodlon ysgrifennu at yr Aelodau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw am yr amserlen. Yn sicr, ar ôl teithio, yn wir, ar y rhan newydd wych sy'n mynd â chi y tu hwnt i Lynebwy a gweld unwaith eto sut y mae buddsoddiad cronfeydd Ewropeaidd—rydych chi'n gweld yr arwydd mawr, 'Wedi'i ariannu gan gronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd', ac mae'n amlwg bod y gwelliannau yn gwneud gwahaniaeth mawr yn barod. Ond o ran y rhan olaf o’r ffordd, a oedd bob amser yn mynd i fod y rhan anoddaf o ran peirianneg, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am yr amserlen ddiweddaraf.
 
14:21
Julie MorganBywgraffiad
A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd ynghylch unrhyw gynnydd a wnaed ar sefydlu'r ymchwiliad cyhoeddus i waed halogedig ac a fu unrhyw gysylltiad rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan ar y mater hwn?
 
Yn gynharach yn y mis hwn, roeddwn i’n falch o fynd i gyfarfod grŵp hollbleidiol San Steffan ar waed halogedig, dan gadeiryddiaeth Diana Johnson AS, i weld a oedd unrhyw ffordd o gael rhyw fath o safbwynt unedig rhwng Cymru a'r ASau yn San Steffan. Yng Nghymru, yn sicr, mae'r grŵp trawsbleidiol, Hemoffilia Cymru a Llywodraeth Cymru i gyd yn y bôn yn canu’r un gân: bod arnom eisiau ymchwiliad cyhoeddus dan arweiniad barnwr—ymchwiliad statudol—dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005, ond ymddengys bod ansicrwydd ynghylch yr hyn sy'n digwydd yn San Steffan mewn gwirionedd. Felly, tybed a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd roi datganiad i ddweud wrthym beth yw'r sefyllfa hyd y gŵyr ef.
 
14:22
Jane HuttBywgraffiad
Diolch i Julie Morgan am y cwestiwn yna, a hefyd am roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei hymgysylltiad gweithredol iawn drwy fynd i gyfarfod o’r grŵp trawsbleidiol yn Llundain lle, wrth gwrs, mae Hemoffilia Cymru wedi bod yn ddylanwadol iawn o ran gweithio gyda sefydliadau sy'n cynrychioli pobl sydd wedi dioddef, o ganlyniad i'r gwaed halogedig. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei gwneud yn glir y dylai'r ymchwiliad edrych yn fanwl ar bob elfen er mwyn datgelu’r gwir ynghylch yr hyn a ddigwyddodd. Mae Vaughan Gething wedi ysgrifennu at yr Adran Iechyd, yn cefnogi'r alwad am ymholiad o dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005, i ennyn hyder y rhai hynny y mae'n ceisio eu gwasanaethu. Deallaf fod ymgynghoriad y DU wedi ei ymestyn i 18 Hydref i alluogi pawb yr effeithiwyd arnyn nhw, i fynegi eu barn.
 
14:23
Llyr GruffyddBywgraffiad
Rydw i’n ymwybodol bod yna ddadl yfory, neu drafodaeth bolisi o gwmpas cael gwared ar y cynghorau iechyd cymunedol, ond mae’r pwynt rydw i eisiau codi’n ymwneud yn fwy penodol â phrosesau ymgynghori ehangach y Llywodraeth yma. Buaswn i’n falch i gael datganiad oddi wrth yr Ysgrifennydd Cabinet sydd â chyfrifoldeb—yr Ysgrifennydd cyllid, hyd y gwelaf i, sy’n gyfrifol am ymwneud â’r cyhoedd a rheoli perfformiad—jest i ddeall yn union beth yw’r cyfundrefnau ffurfiol y mae’r Llywodraeth yma wedi mabwysiadu pan mae’n dod i wahanol fathau o ymgynghoriadau. Beth yw’r safonau y mae’r Llywodraeth yn disgwyl eu cwrdd mewn prosesau o’r fath a pha fesurau monitro sydd yn eu lle i sicrhau bod y safonau yna’n cael eu cyfarfod?
 
Rŷm ni wedi clywed, er enghraifft, na chafodd y cynghorau iechyd cymunedol wybod bod y Papur Gwyn yn mynd i gynnig eu ddiddymu nhw cyn iddo gael ei gyhoeddi. A phan ofynnwyd pam nad oedd cyfres helaeth o ddigwyddiadau ymgynghori o gwmpas y Papur Gwyn, mi ddywedwyd bod llawer o’r rheini wedi’u cynnal mewn perthynas â’r Papur Gwyrdd, ond, wrth gwrs, nid oedd y Papur Gwyrdd yn cynnig diddymu’r cynghorau iechyd cymunedol, felly, yn amlwg, mae yna gwestiynau yn fanna ynglŷn â’r broses ymgynghori. Erbyn hyn, wrth gwrs, rŷm ni’n deall bod yna ddigwyddiadau wedi’u trefnu, ond bod y rheini wedi’u trefnu ar frys ar y funud olaf gyda phob math o honiadau ynglŷn â sut y mae’r rheini wedi cael eu trefnu. Y cyfan mae hynny’n ei wneud, wrth gwrs, yw tanseilio ffydd y cyhoedd yn y broses ymgynghori, ond hefyd tanseilio ffydd y cyhoedd yn y penderfyniad terfynol pan fydd hwnnw’n cael ei wneud.
 
Nawr, y flwyddyn ddiwethaf, fe gynhaliodd cyngor iechyd cymuned y gogledd dros 500 o ymweliadau dirybudd â wardiau ysbyty yng ngogledd Cymru—llawer iawn, iawn, iawn yn fwy nag unrhyw gorff arall sydd yn gwneud unrhyw beth tebyg. Ac os ydy Cymru yn symud at fodel tebyg i’r Alban, sydd, gyda llaw, wedi cael ei disgrifio fel rhyw fochdew diddannedd, yna’r peth lleiaf y gallwn ni ei ddisgwyl yn fy marn i yw ymgynghoriad trylwyr, ystyrlon a theg, ac nid yr hyn sydd wedi cael ei ddisgrifio i fi fel yr hyn rŷm ni’n ei gael nawr, sydd yn ymgynghoriad brysiog ac amaturaidd.
 
14:25
Jane HuttBywgraffiad
Wel, rwyf i’n credu ei bod hi’n bwysig iawn, ac wrth gwrs, cyn y ddadl yfory, ein bod yn pwysleisio—a gwn y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i ddweud—ein bod yn croesawu pob cyfraniad i'r ymgynghoriad. Papur Gwyn yw hwn. Bydd ymgynghoriadau yn sicrhau bod unrhyw ddeddfwriaeth yn y dyfodol mor effeithiol â phosibl, ac wrth gwrs mae'n bwysig cydnabod nad yw’r cynigion yn y Papur Gwyn yn ymwneud â’r Cynghorau Iechyd Cymuned yn unig, er eu bod yn canolbwyntio ar hynny, ond bod y cynigion hefyd yn ystyried sut y gallwch chi gryfhau llais y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, sydd yn amlwg yn fater allweddol o ran y defnyddwyr gwasanaeth hynny, a hefyd i wella ansawdd a threfn lywodraethu y gwasanaethau hynny yng Nghymru.
 
Rwy’n ymwybodol bod cadeirydd y bwrdd cynghorau iechyd cymuned wedi anfon llythyr agored at arweinwyr y pleidiau, ac rwy'n sicr bod nifer o Aelodau wedi cyfarfod â chynrychiolwyr cynghorau iechyd cymuned yn ystod yr haf. Rwy'n credu ei bod yn glir iawn mai'r ymateb sy’n dod i’r amlwg cyn diwedd yr ymgynghoriad hwn yw bod angen i ni ddysgu sut y gallwn ni fwrw ymlaen â hyn i sicrhau bod cyrff y dyfodol yn annibynnol ac yn gallu clywed gan bobl yn uniongyrchol, gan gynnwys clywed yn uniongyrchol gan bobl wrth iddyn nhw dderbyn gofal. Mae'r pwyntiau hyn yn cael eu gwneud, wrth gwrs, gan y Cynghorau Iechyd Cymuned eu hunain. A’r cynigion hynny, lle mae’r rhai hynny yn ymwneud â llais y cyhoedd yn y Papur Gwyn —mae'r ymatebion hynny ar lefel uchel ac rydym ni eisiau sicrhau bod unrhyw gorff a sefydlir, yn cynrychioli dinasyddion mewn iechyd a gofal cymdeithasol mewn gwirionedd. Felly, unwaith eto, mae'r pwyntiau hyn i gyd yn ddefnyddiol.
 
14:27
Mohammad AsgharBywgraffiad
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, os gwelwch yn dda? Mae'r cyntaf yn ymwneud â defnyddio Orkambi i drin pobl yng Nghymru sy’n dioddef ffibrosis cystig. Yn ei ateb i fy nghwestiwn ysgrifenedig ar 15 Awst eleni, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet nad oedd y feddyginiaeth hon ar gael fel rheol oherwydd ei chost uchel a’r manteision clinigol cymharol fach. Aeth ati i ddweud nad oedd Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan wedi derbyn ymateb gan y gweithgynhyrchwyr, Vertex, ynghylch arfarniad arall. Rwyf i wedi cael gwybod erbyn hyn bod Vertex wedi cyflwyno cais, sy'n cael ei adolygu gan y grŵp. A gaf i ofyn am ymrwymiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd i wneud datganiad cyn gynted ag y bo modd ar ôl i'r adolygiad hwn ddod i ben er mwyn i’r rhai sy’n dioddef o’r afiechyd difrifol hwn gael yr holl wybodaeth am ba un a yw Orkambi ar gael?
 
Yn ail, a gaf i ofyn pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu dweud pa un a fydd cyllid ar gyfer menter tîm ymateb i godymau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn parhau, gan fod y cynllun treialu wedi dod i ben ar 13 Mawrth eleni? Diolch.
 
14:28
Jane HuttBywgraffiad
Diolch am y cwestiynau yna. Byddaf yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet egluro'r sefyllfa o ran y cyllid sydd ar gael ar gyfer y cyffur, sydd, wrth gwrs, ar gyfer pobl â ffeibrosis systig, ac rydych chi wedi cael ymateb ym mis Awst a byddaf i’n egluro'r sefyllfa. Hefyd, er mwyn ystyried y canlyniad, wrth gwrs, yn ogystal â chydnabod llwyddiant canlyniad y cynllun treialu o ran gwasanaethau ambiwlans Cymru, bydd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn dymuno cydnabod y ffaith ei fod ar waith erbyn hyn mewn rhannau eraill o'r DU.
 
14:29
Vikki HowellsBywgraffiad
Arweinydd y tŷ, yn ystod yr haf, yr oedd yn bleser i mi gael ymweld â chlwb cinio a hwyl yn Ysgol Gynradd Penywaun, sydd yn fy etholaeth i. Roeddwn i'n falch iawn o weld bod y cynllun yn cael effaith gadarnhaol ar y disgyblion a gymerodd ran, yn enwedig wrth fynd i'r afael â’r broblem newyn yn ystod y gwyliau. A gawn ni ddatganiad gan yr Ysgrifennydd addysg, yn myfyrio ar gynllun yr haf hwn, a hefyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ar y gwersi y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu arnyn nhw yn y dyfodol?
 
Yn ogystal, mis Medi yw Mis Ymwybyddiaeth Sepsis, a gan fod sepsis yn lladd 2,500 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn, a wnaiff yr Ysgrifennydd dros iechyd roi’r wybodaeth ddiweddaraf ni am yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r cyflwr hwn sy'n bygwth bywyd?
 
14:30
Jane HuttBywgraffiad
Diolch, Vikki Howells, am y ddau gwestiwn yna. O ran y cwestiwn cyntaf, credaf fod llawer o bobl wedi gweld y cyhoeddusrwydd cadarnhaol iawn, nid yn unig yng Nghymru, ond tu hwnt hefyd, o ran pwysigrwydd y clybiau cinio a hwyl sydd wedi'u sefydlu a'r buddsoddiad a wnaed gennym ni trwy gydol yr haf o ran gweinyddu'r cynllun hwnnw. Wrth gwrs, mae pwyslais y cynllun hefyd yn ymwneud â'r gweithgareddau cyfoethogi ac addysgol y mae'n eu cynnig i’r dysgwyr sy'n mynychu. Fe wnaethom ni dreialu hynny y llynedd. Cyhoeddwyd hynny yn 2017, ym mis Ionawr eleni, ac mae'r canfyddiadau yn galonogol iawn o ran canlyniadau iechyd, cymdeithasol ac addysgol. Ac rwy’n gwybod y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dymuno rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am hynny, o ran y rhaglen gyfoethogi yng ngwyliau’r haf eleni.
 
Rwy'n credu bod eich ail bwynt yn bwysig iawn ynglŷn â sepsis. Ers 2013, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi blaenoriaeth uchel ar leihau'r niwed a’r marwolaethau y gellir eu hosgoi, a achosir gan sepsis i'r GIG yng Nghymru, ac mae’n parhau i wneud hynny. Mae llawer mwy yr ydym ni’n dymuno ei gyflawni o ran y dull gweithredu system gyfan, ac rydym yn falch bod grŵp dysgu ymateb brys Cymru i salwch acíwt yn ystyried sut y gallwn gyflwyno systemau yn ein lleoliadau gofal sylfaenol a chymunedol, yn ogystal ag yn ein hysbytai, i allu adnabod symptomau yn gynharach o lawer i sicrhau y gallwn ymyrryd cyn gynted â phosibl.
 
14:31
Bethan JenkinsBywgraffiad
Fel yr ydym wedi clywed eisoes heddiw, rydym ni i gyd yn gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd wedi cyflwyno datganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf, yn cyhoeddi y bydd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn cynnal asesiad o’r adolygiad bwrdd gwaith o’r gwersi a ddysgwyd gan Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Ni fyddaf yn nodi'r holl fanylion eto, ond roedd hwn yn ddadansoddiad pwysig o ofal a diogelwch cleifion, ac roedd y canlyniadau yn ddifrifol. Gwelwyd diffygion ar bob lefel, o'r brig i’r gwaelod, ac nid oes unrhyw un hyd yn hyn wedi ei ddwyn i gyfrif am y diffygion hynny ym Mhrifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Mae llawer ohonom ar draws y rhaniad gwleidyddol, yn ogystal â Chymdeithas Feddygol Prydain, ac aelodau teulu’r fenyw a laddwyd gan Kris Wade, wedi gofyn am ymchwiliad annibynnol sy'n ystyried pob agwedd ar y mater hwn, yn hytrach nag asesiad o’r adroddiad bwrdd gwaith mewnol diffygiol hwn gan Brifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn unig, sydd eisoes wedi achosi gwrthdaro buddiannau yn hyn o beth.
 
Nid yw’r cylch gwaith yr wyf i wedi ei weld—. Er bod y Prif Weinidog yn dweud heddiw nad oedd unrhyw gylch gwaith, nid yw'r cylch gwaith yr wyf i wedi'i weld gan yr Ysgrifennydd iechyd yn mynd yn ddigon pell. Mae angen i ni sicrhau bod pawb a wnaeth gŵyn bryd hynny yn cael eu clywed, bod y dioddefwyr yn cael eu clywed, a bod teulu y rhai yr effeithiwyd arnyn nhw yn cael eu clywed hefyd. Mae’n rhaid i ni gael atebolrwydd yn y broses hon, ac mae’n rhaid i ni gael rhagor o wybodaeth wrth law fel Aelodau'r Cynulliad. Felly, roeddwn i’n hynod, hynod siomedig pan glywais i’r newyddion hyn yn ystod yr haf. Cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi gan Brifysgol Abertawe Bro Morgannwg, ond ni chawsom ddatganiad ysgrifenedig bryd hynny. Ond wythnos cyn i ni ddod yn ôl, cawsom ddatganiad ysgrifenedig. Mae angen datganiad llafar gan yr Ysgrifennydd Iechyd ar hyn, fel y gallwn ofyn cwestiynau perthnasol iddo ynghylch yr hyn y bydd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ei wneud yn awr, oherwydd os nad yw Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ystyried yr adroddiad hwn, nac yn casglu eu tystiolaeth eu hunain, ni fydd hynny’n ddigon da a bydd angen i ni godi'r cwestiynau hyn eto. Ond byddwn yn annog y Llywodraeth, er lles democratiaeth agored, wrth i ni ddathlu datganoli, yn enw democratiaeth agored, i ni allu cael datganiad llafar gan yr Ysgrifennydd Iechyd.
 
Roedd yr ail gwestiwn yr oeddwn i’n dymuno ei ofyn yn ymwneud â gofalwyr ifanc. Cawsom ddadl gadarnhaol iawn cyn diwedd y tymor, a dywedodd y Gweinidog ei bod yn siarad â grwpiau gofalwyr ifanc. Dywedwyd wrthyf ers hynny, bod llawer o YMCAau ledled Cymru ddim yn teimlo yr ymgysylltwyd â nhw, neu y bydden nhw’n hoffi ymgysylltu â’r broses honno. Felly, tybed a gawn ni ddatganiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae'r Gweinidog yn ei wneud ar gyfer gofalwyr ifanc, fel y gallwn ni i gyd fod yn rhan o'r broses arbennig honno.
 
14:34
Jane HuttBywgraffiad
Diolch am y ddau gwestiwn yna. Yn dilyn y pwyntiau a wnaeth y Prif Weinidog mewn ymateb i’r adolygiad hwn, ac i ychwanegu at ei bwyntiau: wrth gwrs, byddwch chi wedi gweld y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet ar 15 Medi, a chredaf ei bod yn bwysig cyfeirio at ei ddatganiad. Fel y dywed yn y datganiad, 'Rwyf eisiau cael fy modloni', o ran Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn benodol, oherwydd bod y rhain yn wersi i'w dysgu yn ehangach na hynny,
 
‘rwyf eisiau cael fy modloni bod y bwrdd iechyd wedi nodi camau priodol a bod ei ymateb yn ddigon cadarn. Rwyf hefyd eisiau sicrwydd bod trefniadau effeithiol ar waith ar draws y sefydliad i fonitro'r ffordd y mae unrhyw newidiadau i bolisïau a gweithdrefnau yn cael eu gweithredu a’u hymsefydlu.’
 
Ac wrth gwrs, fel y gwyddoch, gofynnwyd i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru gynnal asesiad annibynnol, a bydd ef yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau pan ddaw yr adroddiad hwnnw i law.
 
O ran eich ail gwestiwn, do, yn amlwg, cawsom ddadl gadarnhaol iawn. Gwn y bydd y Gweinidog yn dymuno ymgysylltu â’r Aelodau a'r pwyllgor priodol o ran datblygu camau cadarnhaol ar gyfer cefnogi ein gofalwyr ifanc.
 
14:35
Hannah BlythynBywgraffiad
Arweinydd y tŷ, yn dilyn y datganiad ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Tref y Fflint yn gynharach y mis hwn a nododd na fydd y cynigion ar gyfer gwaith celf yng Nghastell y Fflint yn mynd rhagddo fel y bwriadwyd yn flaenorol, a gaf i ofyn am ddatganiad ar y mater hwn gan Lywodraeth Cymru, o ran diweddaru’r cynllun i fynd ati i fuddsoddi yng nghastell y Fflint yn y dyfodol, a hefyd bod hynny’n rhoi sicrwydd llwyr bod y buddsoddiad a glustnodwyd ar gyfer y Fflint yn dal i fynd i’r Fflint, a bod cymuned y Fflint yn cymryd rhan weithredol mewn penderfynu ar natur y buddsoddiad hwnnw yn y dyfodol?
 
14:36
Jane HuttBywgraffiad
Diolch, Hannah Blythyn, ac rwy’n credu y gallwch chi fod yn sicr o ran cefnogaeth Ysgrifennydd y Cabinet i hyn. Rydym ni wedi cydnabod nad yw’n addas bwrw ymlaen â'r cynnig ar gyfer y cerflun cylch haearn yng nghastell y Fflint. A chafwyd cyfarfodydd adeiladol a chynhyrchiol iawn â phobl leol a rhanddeiliaid ynglŷn â hyn, o ran canslo’r prosiect. Bydd y buddsoddiad yn cael ei ddefnyddio, ac rwyf wedi fy sicrhau ei fod wedi'i neilltuo ar gyfer y gwaith celf, i helpu i ddatblygu uwchgynllun ehangach ar gyfer y gefnfro, gan ystyried, wrth gwrs, safbwyntiau pobl leol. Bydd hyn yn cynnwys amrywiaeth o fuddsoddiadau cyfalaf ar gyfer yr ardal, cynnal digwyddiadau a gweithgareddau, i wella dealltwriaeth o hanes y castell, ac arwyddocâd y gefnfro. Ond, wrth gwrs, bydd Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Tref y Fflint yn rhan o hynny, i sicrhau bod yr uwchgynllun hwn yn brif flaenoriaeth.
 
14:37
Simon ThomasBywgraffiad
A gaf i ofyn am ymateb gan y rheolwr busnes ar ddwy eitem o fusnes y Llywodraeth? Yn gyntaf, a gaf i ofyn a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu llunio datganiad ar y sefyllfa yng Nghatalonia ar hyn o bryd? Cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban ddatganiad ddau neu dri diwrnod yn ôl. Mae'r sefyllfa yng Nghatalonia yn ymddangos yn llawn peryglon.
 
Y cefndir yw bod Llywodraeth Catalunya, gyda chymorth Senedd Catalunya, wedi galw refferendwm ar annibyniaeth ar 1 Hydref. Nid yw Llywodraeth Sbaen wedi ymgysylltu â'r broses hon o gwbl, ac mae wedi ceisio tanseilio'r broses ar bob cam. Ac rwy'n credu o ran y rhai ohonom ni sydd yn y lle hwn oherwydd refferenda—a gafodd y cytundeb ar ddyfodol y DU, refferendwm y llynedd, a, dwy flynedd yn ôl, refferendwm ar ddyfodol yr Alban, pob un wedi’i gytuno arno trwy gytundeb Caeredin, a chytundebau eraill, yn rhan o'r ffordd y mae democratiaeth seneddol yn symud ymlaen— mae’r newyddion o Catalunya ar hyn o bryd yn peri pryder mawr. Mae pethau megis symudiad amlwg a ffisegol cerbydau arfog i fyny ac i lawr y ffyrdd yn Barcelona, ​​y brifddinas, a’r cyffiniau, a bygythiadau uniongyrchol i erlyn dros 600 o feiri tref a dinas a alwodd am refferendwm. Nid ydym ni’n sôn am bobl sy'n galw am annibyniaeth yn y fan yma; rydym ni’n sôn am bobl sy'n dweud yn syml y dylen nhw gael yr hawl i ymreolaeth yn unol â siarter y Cenhedloedd Unedig, ac mae rhai ohonyn nhw wedi dweud, 'Gawn ni refferendwm, ond byddaf i’n pleidleisio "na"’, ond maen nhw’n dal yn cael eu bygwth y byddant yn cael eu herlyn gan wladwriaeth Sbaen. A bygythiad penodol, yr wythnos hon, i dynnu cyllid yn ôl oddi wrth Lywodraeth Catalunya— tynnu yn ôl yn uniongyrchol y cyllid hwnnw sy'n caniatáu i ddatganoli weithio yng ngwladwriaeth Sbaen. Nid hon, byddwn i’n awgrymu, yw’r ffordd yr ydym ni’n ymdrîn â heriau hunaniaeth ac annibyniaeth a refferenda yn yr UE, nac yn wir yn hanes y Deyrnas Unedig—mae ein hanes diweddar ar y mater hwn wedi bod yn amlwg iawn ac yn eglur i bawb.
 
Felly, byddwn i’n gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig i gefnogi'r hyn a ddywedwyd gan Lywodraeth yr Alban; mae seneddau a llywodraethau eraill wedi cyhoeddi datganiadau tebyg yn yr UE hefyd. Rwy'n credu y byddai pobl Catalunya yn croesawu’r gefnogaeth honno yn fawr iawn. A hoffwn i atgoffa’r Aelodau o’r rhan bwysig y chwaraeodd Catalunya yn rhyfel cartref Sbaen, a'r cysylltiadau cryf sydd gan lawer ohonom, oherwydd yng Nghatalunya yr oedd llawer o ryfelwyr Cymru yn ymladd ar y pryd.
 
Rwyf i hefyd yn gobeithio y gallwn ni fel senedd ddod at ein gilydd—. Mae'n fater ar wahân. Rwy’n gwybod mai hi yw rheolwr busnes Llywodraeth Cymru, ond rwy'n gobeithio y gallwn ni fel senedd hefyd lofnodi llythyr yn cefnogi'r egwyddor o wneud y penderfyniadau hyn—nid 'ie' neu 'nage' i annibyniaeth fel y cyfryw, ond i’r egwyddor o ganiatáu i senedd a llywodraeth wneud penderfyniad i roi ystyriaeth i farn ei phobl, trwy refferendwm. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr iawn y gall y Llywodraeth fod yn gadarnhaol iawn ynghylch y galw hwnnw.
 
Os caf i yn awr droi at fater llawer mwy plwyfol, Llywydd, ac atgoffa'r Siambr, bod Ysgrifennydd y Cabinet, Kirsty Williams, ar 11 Gorffennaf, cyn i ni gau am doriad yr haf, wedi gwneud datganiad yn dweud ei bod yn bwriadu codi ffioedd dysgu yng Nghymru, a bod hynny'n arwydd ei bod hi wedi dwyn perswâd ar y Cabinet Llafur, wrth gwrs, i fabwysiadu polisi llwyddiannus iawn y Democratiaid Rhyddfrydol ar ffioedd dysgu. Felly, hoffwn i, yn awr, gael gwybod gan y rheolwr busnes, oherwydd ni allaf ei weld yn digwydd yn ystod y tair wythnos nesaf, pryd y byddwn yn trafod ac yn pleidleisio ar yr offerynnau statudol a ddaw yn sgil cynnyddu’r ffioedd dysgu yng Nghymru. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ei gweld hi yn ei swydd arall, fel chwip, ei gweld yn gorfodi’r meinciau cefn i bleidleisio dros godi ffioedd dysgu yma yng Nghymru ar ôl, wrth gwrs, iddyn nhw ei wrthwynebu'n llwyddiannus â chymorth y DUP yn Nhŷ'r Cyffredin yr wythnos diwethaf, a arweiniodd at Jeremy Corbyn a'i holl gefnogwyr yn dawnsio ar y stryd yn sgil y fuddugoliaeth wych hon i beidio â chodi ffioedd dysgu yn Lloegr. Felly, gadewch i ni weld a allwn ni ailadrodd y fuddugoliaeth honno yng Nghymru. A fydd hi’n ddigon dewr i ddod ag offeryn statudol i'r Siambr hon er mwyn i ni gael pleidleisio arno? Ac efallai y gall rhai ohonom ni bleidleisio yn unol â pholisi'r Blaid Lafur.
 
14:41
Jane HuttBywgraffiad
Wel, rwy’n credu, o ran eich cwestiwn cyntaf, Simon Thomas, wrth gwrs, mae gan Gymru gysylltiadau cryf iawn—hanesyddol, diwylliannol ac economaidd—â Chatalonia ac nid oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i gyhoeddi datganiad. Rwy'n credu eich bod chi wedi deall y pwynt yn dda o ran y datblygiad y prynhawn hwn. Rwyf i hefyd yn credu ein bod ni’n nodi eich pwyntiau o ran beth yw ein polisïau arloesol o ran ariannu addysg uwch ac addysg bellach. Rydym ni’n nodi eich pwynt.
 
14:42
Huw Irranca-DaviesBywgraffiad
Rwy'n siŵr bod y rheolwr busnes yn ymwybodol o’r Bil Aelod preifat sydd yn mynd drwy Dŷ'r Cyffredin ar hyn o bryd yn enw’r AS dros y Rhondda, Chris Bryant. Mae wedi’i seilio ar yr ymgyrch Protect the Protectors, sy’n ystyried cynyddu—atgyfnerthu— y ddeddfwriaeth, yr addysg, amddiffyniad y gweithlu, nid yn unig i aelodau'r gwasanaethau heddlu sy'n ymdrin â digwyddiadau brys, ond y gwasanaethau tân, parafeddygon ac eraill hefyd. Rwyf i hefyd yn datgan buddiant, gan fod fy ngwraig i’n gweithio fel radiograffydd mewn adran damweiniau ac achosion brys ar nosweithiau prysur. Yn rhy aml maen nhw hefyd yn gweld y dystiolaeth o ymosodiadau treisgar yn eu gwaith ac ni ddylai hynny fod yn dderbyniol.
 
Y rheswm yr wyf i’n gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet perthnasol ystyried rhoi datganiad ysgrifenedig ar y mater hwn, yw oherwydd y byddai'n galluogi Llywodraeth Cymru i ddangos ei chefnogaeth i’r egwyddorion y tu ôl i’r bil hwn, ond hefyd i amlinellu, os bydd y Bil hwn yn methu, oherwydd bu ymdrechion blaenorol i basio, mewn gwirionedd, Bil amddiffyn yr amddiffynwyr yn San Steffan—. Roedd yr ymgais gyntaf gan Holly Lynch, ar ffurf Bil Rheol Sefydlog Rhif 23, ym mis Chwefror eleni, ac erbyn hyn mae'n mynd rhagddo— yn llwyddiannus rydym ni’n gobeithio—yn enw yr AS dros y Rhondda. Ond os nad yw’n llwyddo, rwy'n siŵr bod lle i Lywodraeth Cymru a Chynulliad Cymru, o fewn ei gymwyseddau datganoledig, yn arbennig ym meysydd gwasanaethau cyhoeddus, ystyried yr hyn y gallwn ni ei wneud os nad yw Llywodraeth y DU a Senedd y DU yn fodlon rhoi rhwydd hynt i'r Bil yn enw yr AS dros y Rhondda. Felly, gofynnaf am ystyried datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru maes o law ar sut y gallai gefnogi'r egwyddorion ac ystyried o bosibl ein dewis amgen yng Nghymru.
 
14:43
Jane HuttBywgraffiad
Wel, diolch i Huw Irranca-Davies am ddod â hynny i'n sylw. Gwyddom y bu Biliau arloesol iawn o’r meinciau cefn, rhai sydd—. Llwyddodd Julie Morgan i gyflwyno un ar ddeddfwriaeth gwelyau haul pan oedd hi'n Aelod Seneddol. Rwy'n credu bod angen i ni edrych ar hyn—mae'n berthnasol iawn, yn amlwg, i'n gweithlu ni yma yng Nghymru—ac edrych ar y Bil Aelod preifat, ‘protect our protectors’, ac rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet eisiau gweld bod gwersi yn cael eu dysgu neu’r hyn y byddwn yn ei wneud os na fydd yn llwyddo.
 
14:44
Y Llywydd / The LlywyddBywgraffiad
Diolch i arweinydd y tŷ.
 
14:44
3. Datganiad: ‘Ffyniant i Bawb: Y Strategaeth i Gymru’
Y Llywydd / The LlywyddBywgraffiad
Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan y Prif Weinidog ar ‘Ffyniant i Bawb’, y strategaeth i Gymru. Y Prif Weinidog felly i wneud ei ddatganiad.
 
14:44
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Llywydd, ddoe gwnaethom ni ddathlu, wrth gwrs, 20 mlynedd ers y bleidlais ‘ie’ yna a ddaeth â datganoli i Gymru. Roedd e’n gyfle i edrych yn ôl ac i ystyried pa mor bell yr ydym ni wedi dod ers dyddiau’r Swyddfa Gymreig, amser pan yr oedd Cymru yn ddim ond adran Llywodraeth arall. Mae hefyd, wrth gwrs, yn gyfle i edrych ymlaen i’r 20 mlynedd nesaf.
 
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
 
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae sefydlu’r Cynulliad hwn, a hefyd, wrth gwrs, y Llywodraeth hon, wedi bod, wrth gwrs, yn siwrnai o aeddfedrwydd gwleidyddol a hefyd yn stori o hyder sydd yn tyfu a phenderfyniad cadarn wrth bawb yn y Siambr hon i weithredu dros Gymru. Mae’r cam nesaf, wrth gwrs, o’r siwrnai honno wedi cael ei nodi heddiw gan gyhoeddiad y strategaeth genedlaethol sydd wedi cael ei llunio i glymu gyda’i gilydd ymdrechion y sector gyhoeddus gyfan gwbl ynglŷn â gweithredu cenhadaeth ganolog y Llywodraeth hon ynglŷn â gweithredu ffyniant i bawb.
 
Dirprwy Lywydd, mae ffyniant yn ymwneud â llawer mwy na chyfoeth materol ac ni ellir ei bennu, na'i gyflawni, yn wir, gan dwf economaidd yn unig. Mae'n ymwneud â phob person yng Nghymru yn mwynhau ansawdd bywyd da, yn byw mewn cymuned gadarn, ddiogel, ac yn rhannu yn ffyniant Cymru. Mae'n amcan syml ac un yr wyf i’n siŵr na all neb dadlau ag ef. Fodd bynnag, er mwyn ei gyflawni bydd angen i bob rhan o'r Llywodraeth a'r gwasanaeth cyhoeddus gydweithio er mwyn ceisio cyflawni'r nod hwnnw.
 
Hon yw’r strategaeth gyntaf o’i math i'r Llywodraeth, sy’n casglu ynghyd mewn un man y modd y bydd meysydd niferus y Llywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd tuag at nod cyffredin, gan roi anghenion pobl Cymru yn gyntaf. Mae’r uchelgais syml y gallwn ni i gyd gydweithio er budd hirdymor Cymru wrth wraidd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae hwn yn gam pwysig wrth wireddu ein gweledigaeth.
 
Mae'r strategaeth hon yn rhoi sylw i’n hymrwymiadau yn ‘Symud Cymru Ymlaen’, yn eu gosod mewn cyd-destun hirdymor, ac yn nodi sut y byddant yn cael eu cyflawni mewn modd mwy craff, mwy cydgysylltiedig sy'n croesi ffiniau traddodiadol, y tu mewn a'r tu allan i'r Llywodraeth. Mae’n cydnabod na ellir mynd i'r afael â'r heriau sylfaenol yr ydym ni eu hwynebu fel gwlad dim ond trwy roi pobl cyn systemau a strwythurau a chael mwy o bob punt y mae'r sector cyhoeddus yn ei wario. Mae'n weledigaeth feiddgar ar gyfer cyflawni ein huchelgeisiau i Gymru. Ein huchelgais yw i Gymru fod yn ffyniannus ac yn ddiogel, yn iach ac yn weithgar, yn uchelgeisiol ac yn dysgu, ac yn unedig ac yn gysylltiedig.
 
Gan ddechrau gyda'r gyntaf o'r uchelgeisiau hynny, ‘ffyniannus a diogel’, ein nod yw economi Gymreig sy'n cynnig cyfleoedd ac sy’n mynd i'r afael ag anghydraddoldeb, gan ddarparu ffyniant unigol a chenedlaethol. Byddwn yn galluogi pobl i gyflawni eu huchelgais a gwella eu lles trwy gyflogaeth ddiogel a chynaliadwy.
 
Gan droi at yr ail uchelgais, ‘iach a gweithgar', rydym yn dymuno gwella iechyd a lles yng Nghymru ar gyfer unigolion, teuluoedd a chymunedau, gan ein helpu i gyflawni ein huchelgais o ffyniant i bawb, a chymryd camau sylweddol i newid ein dull o fod yn canolbwyntio ar drin i fod yn canolbwyntio ar atal.
 
Yn drydydd, rydym yn dymuno cael gwlad sy'n seiliedig ar y cysyniad o fod yn uchelgeisiol ac yn dysgu. Rydym am feithrin angerdd pawb i ddysgu trwy gydol eu bywydau, gan eu hysbrydoli gyda'r uchelgais i fod y gorau y gallant fod. Mae ar Gymru ffyniannus angen pobl greadigol, hynod fedrus iawn sy’n gallu addasu, felly addysg o ansawdd da o’r oed cynharaf fydd y sylfaen ar gyfer oes o ddysgu a chyflawni.
 
Yn olaf, Cymru unedig a chysylltiedig. Byddwn yn adeiladu cenedl lle mae pobl yn ymfalchïo yn eu cymunedau, yn hunaniaeth ac iaith Cymru, a'n lle yn y byd. Rydym yn adeiladu'r cysylltiadau hanfodol sy'n ei gwneud hi'n haws i bobl ddod at ei gilydd, er mwyn i'r economi dyfu, ac i ddod yn wlad hyderus sy’n gysurus â'i hun.
 
Dim ond trwy wneud cynnydd ym mhob un o’r meysydd hyn y byddwn yn gwireddu ein huchelgais o ffyniant i bawb. Fodd bynnag, roedd yna faterion oedd yn codi dro ar ôl tro: adegau neu sefyllfaoedd ym mywydau pobl pryd y gallai cymryd y camau cywir yn gynnar, yn aml wedi’u cydlynu ar draws gwasanaethau, newid rhagolygon unigolyn yn sylfaenol. Rydym wedi nodi pum maes blaenoriaeth—blynyddoedd cynnar, tai, gofal cymdeithasol, iechyd meddwl, a sgiliau a chyflogadwyedd—lle gallwn gael y cyfraniad mwyaf posib i'n ffyniant a'n llesiant hirdymor.
 
Dirprwy Lywydd, mae profiadau unigolyn yn ystod eu blynyddoedd cynnar, yn chwarae rhan arwyddocaol wrth lunio eu dyfodol, ac maent yn hollbwysig i'w siawns o fynd ymlaen i fyw bywyd iach, ffyniannus a bodlon. Sylfaen byw'n dda yw cartref fforddiadwy, o ansawdd da, sy'n dod ag ystod eang o fanteision i iechyd, dysgu a ffyniant. Mae gofal tosturiol, urddasol yn chwarae rhan hanfodol mewn cymunedau cryf, yn sicrhau y gall pobl fod yn iach ac yn annibynnol am gyfnod hwy, ac mae'n sector economaidd sylweddol yn ei hawl ei hun. Bydd un o bob pedwar o bobl yng Nghymru yn dioddef salwch meddwl ar ryw adeg yn eu bywydau, felly gall cael y driniaeth gywir yn gynnar, ynghyd â mwy o ymwybyddiaeth o gyflyrrau, atal effeithiau andwyol hirdymor mewn sawl achos.
 
Dirprwy Lywydd, pan fo sgiliau pobl yn well, mae ganddynt siawns well o gael gwaith teg, sicr sy’n rhoi boddhad iddynt. Ac os yw’r sylfaen sgiliau yng Nghymru yn gryf, mae gennym fwy o siawns o ddenu busnesau newydd a thyfu’r rhai sy'n bodoli eisoes er mwyn gwella ffyniant.
 
Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid i ddarparu gwasanaethau gwell, mwy di-dor i bawb yn y meysydd hyn. Uno gwasanaethau yw nod eithaf y llywodraeth ers tro byd. Er ein bod wedi cael peth llwyddiant nodedig, yng Nghymru mae gennym gyfle i wneud llawer mwy, a bydd nodi'r nifer bach hyn o feysydd yn caniatau i ni ganolbwyntio ein hegni ni ac eraill ar sbarduno gwelliannau mawr.
 
Yr hyn sy'n bwysig nawr yw gwneud i hyn ddigwydd. Byddwn yn rhoi ‘Ffyniant i Bawb’ wrth galon y Llywodraeth a bydd yn dylanwadu ar ein holl benderfyniadau. Byddwn yn cwblhau cyfres o gynlluniau dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf, gan nodi'n fanwl sut y byddwn yn cyflawni ein huchelgeisiau. Bydd hyn yn cynnwys cynllun gweithredu economaidd cynhwysfawr, dan arweiniad Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, gan drefnu adnoddau'r Llywodraeth mewn modd sy’n rhoi pwyslais ar seilwaith a thwf economaidd cynaliadwy a chynhwysol, yn unol â'r strategaeth.
 
Bydd iechyd yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon, a byddwn yn cyhoeddi cynllun gweithredu ar gyfer iechyd y flwyddyn nesaf. Bydd y cynllun hwn, wrth gwrs, yn ymateb i'r adolygiad seneddol, ond bydd hefyd yn nodi sut y gallwn ni gyflawni ein huchelgeisiau iechyd cyhoeddus ehangach a sut y gallwn ni ddefnyddio’r holl gyfleoedd sydd ar gael i’r Llywodraeth newid y pwyslais o drin pobl pan fyddant yn sâl i helpu pobl i fwynhau gwell iechyd. Ac mewn addysg, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yr wythnos nesaf yn cyhoeddi cynllun gweithredu newydd ar gyfer ysgolion, gan sicrhau y gall ein holl blant a’n pobl ifanc gyrraedd eu potensial.
 
Dirprwy Lywydd, mae ein rhaglen lywodraethu, ‘Symud Cymru Ymlaen’, yn nodi'r hyn y byddwn yn ei gyflawni ar gyfer pobl Cymru yn ystod y tymor hwn. Mae'r strategaeth genedlaethol hon, ‘Ffyniant i Bawb’, yn nodi sut y byddwn yn cyflawni hyn mewn modd mwy craff a manwl gan sbarduno cyflawni'r gwaith yn ystod y tymor hwn, ond gan osod y sylfeini tymor hwy ar gyfer Cymru fwy ffyniannus. Mae gennym ni weledigaeth uchelgeisiol ar gyfer dyfodol Cymru ac rydym ni’n cymryd camau pendant i'w gyflawni.
 
14:52
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Diolch. Andrew R.T. Davies.
 
14:52
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
Diolch, Dirprwy Lywydd. Prif Weinidog, diolch am eich datganiad y prynhawn yma. Un peth y mae'n rhaid eich bod chi a fi yn ei gyfrannu at yr economi leol yw ein bod yn prynu ein siwtiau yn yr un siop. Rwy'n sylwi bod gennym ni yr un siwt, ond rydych chi wedi prynu’r wasgod hefyd. [Chwerthin.] Nid wyf yn disgwyl unrhyw gellwair.
 
Rwy’n croesawu’r datganiad. Yn amlwg, mae'n ddatblygiad o'r rhaglen lywodraethu y sefydlodd y Prif Weinidog y llynedd, ac, fel y dywed y Prif Weinidog yn y datganiad, i raddau, sut gallwch chi anghytuno â llawer o'r pwyntiau sydd yn y datganiad a’r ddogfen y mae wedi ei chyflwyno, oherwydd mae’n cynnwys llawer o bethau y mae pawb yn cytuno eu bod heb amheuaeth yn dda, sydd fel arfer yn rhan o’r mathau hyn o gyhoeddiadau? Sylwais yn sylwadau clo y Prif Weinidog, y bydd, dros gyfnod y tymor hwn—rwy'n tybio—mwy o gig yn cael ei roi ar esgyrn rhai o'r cyhoeddiadau hyn gan wahanol ddatganiadau Ysgrifennydd y Cabinet yn eu meysydd portffolio penodol. Felly, mae'n debyg ei bod yn deg disgwyl, yn amlwg, cael mwy o wybodaeth wrth i'r tymor fynd rhagddo.
 
Ond ar ddechrau'r datganiad, mae'r Prif Weinidog yn nodi'r angen am fwy o weithio yn y sector cyhoeddus er mwyn sicrhau bod y bunt gyhoeddus yn mynd ymhellach, ac un o'r pethau sy'n rhwystredig eithriadol i etholwyr yw sut na allant gael gwahanol rannau o'r gwasanaethau cyhoeddus, sydd i fod yno ar eu cyfer, i'w helpu i weithio er eu budd eu hunain—ac rwy’n defnyddio gofal iechyd a chymdeithasol fel enghraifft—ac maen nhw’n dod at eu Haelodau Cynulliad. Rwy'n siŵr bod llawer o ACau yn yr adeilad hwn wedi cael y profiad, ac ni allant yn eu byw â deall pam na wnaiff y gwasanaethau hyn weithio i'w galluogi i gael y driniaeth neu'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt yn y man iawn. Felly, yr hyn y byddwn i'n ei ofyn i'r Prif Weinidog—o gofio’r profiad a chan mai ef oedd y Prif Weinidog a sefydlodd gomisiwn Williams, ynglŷn â diwygio llywodraeth leol yn y Cynulliad diwethaf, pryd y gwnaed llawer iawn o ymdrech gan y Llywodraeth ar y pryd i ddiwygio llywodraeth leol i geisio creu gwell ffordd o weithio, fel yr oedden nhw’n gweld pethau ar y pryd, ac i weithio ar gynigion adolygiad Williams—sut y mae ef yn credu y bydd y Llywodraeth hon damaid yn fwy llwyddiannus o ran diwygio'r gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru a fydd yn creu, fel y dywed yn ei sylwadau agoriadol yn y datganiad, ffordd fwy cydweithredol o weithio i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru sydd o fudd i'r defnyddiwr yn ogystal â'r gwasanaeth ei hun.
 
Rwyf hefyd yn derbyn y pedwar pwynt y mae'n tynnu sylw atynt yma—Cymru ffyniannus a diogel, na all neb anghytuno ag ef, yn amlwg—ond mewn gwirionedd, pan edrychwch chi ar y niferoedd economaidd dros y 18 mlynedd diwethaf, oherwydd y bu’n rhan o'r Llywodraeth sydd wedi bod mewn grym yma yng Nghymru dros yr 18 mlynedd diwethaf, yn yr adran benodol honno os edrychwch chi ar yr economi, er enghraifft, lle rydym ni i gyd yn cofio'r targed a osodwyd ym mlynyddoedd cynnar datganoli sef targed o 90 y cant ar gyfer gwerth ychwanegol gros, heddiw mae'r ffigwr hwnnw wedi gostwng i 71 y cant o werth ychwanegol gros. Sut yn y byd allwn ni fod ag unrhyw hyder nad ymarfer dibwys arall yw hwn, ac y byddwn ni’n gweld y gwelliannau yr ydym am eu gweld yn economi Cymru i'n rhoi ar ben ffordd i fod y wlad bwerus rwy'n gwybod y gall Cymru fod, pe byddai ganddi’r arweinyddiaeth gywir.
 
Rydym ni wedi clywed hyn dro ar ôl tro . Rydym ni wedi cael pedair strategaeth economaidd wahanol gan Lywodraeth Cymru: ‘Cymru'n Ennill’ ym 1999; ‘Cymru: Economi yn Ffynnu’ yn 2005; ‘Adnewyddiad economaidd: cyfeiriad newydd’ yn 2009; a nawr, byddwn yn cael cyfeiriad newydd gan Ysgrifennydd y Cabinet pan fydd yn gwneud ei ddatganiad am ei weledigaeth ar gyfer yr economi. Ac eto, fel y dywedais, pan ddaw i werth ychwanegol gros, er enghraifft, mae'r ffigurau'n boenus o ystyfnig, yn ymlusgo y tu ôl i rannau eraill y Deyrnas Unedig. Os edrychwch chi ar anghydraddoldeb rhanbarthol o ran gwerth ychwanegol gros, mae Ynys Môn, er enghraifft, yn £13,411. Yng Nghymoedd Gwent, roedd yn £13,681. Eto, yng Nghaerdydd a'r Fro, er enghraifft, roedd yn £22,783. Unwaith eto, ar ôl 18 mlynedd, sut y gallwn ni fod yn ffyddiog y bydd y Llywodraeth yn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol fel na fydd gwahanol raddau o anghydraddoldeb mewn gwahanol rannau o Gymru mwyach, ac na fydd gwahaniaethau mor fawr yn ein cymunedau —y gogledd, y canolbarth a’r de?
 
Ac yna edrychwch ar ein hallforion, er enghraifft, y mae'r Prif Weinidog wedi sôn amdanynt yn aml iawn—am yr allforion a phwysigrwydd hyrwyddo Cymru dramor. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn cytuno ag ef yn ei gylch, ac rydym yn cynnig ein cefnogaeth lwyr. Ond os edrychwch chi ar allforion i'r Unol Daleithiau, maen nhw wedi gostwng 13 y cant. Os edrychwch chi ar allforion i’r India, maen nhw wedi gostwng 22 y cant. Os edrychwch chi ar Japan, maen nhw wedi gostwng 55 y cant. Unwaith eto, sut bydd y Llywodraeth yn gwrthdroi'r rhifau negyddol hyn pan fo angen i ni, gyda phroses Brexit, fod yn edrych yn fwy byd-eang ar y fasnach yr ydym ni’n dymuno ei hannog er mwyn i’n heconomi allu bywiogi a thâl go iawn gynyddu yma yng Nghymru ?
 
Yna, mae'n sôn am Gymru iach a gweithgar yn yr ail ran o'r datganiad y mae wedi'i wneud heddiw. Gwyddom fod un o bob saith o bobl yng Nghymru ar restr aros, yn anffodus. Clywsom dros doriad yr haf y bu cynnydd o 400 y cant—ac mae hynny yn werth ei ailadrodd: cynnydd o 400 y cant—yn nifer y bobl sy'n aros am 12 mis neu fwy am driniaeth yma yng Nghymru. Yn y bwrdd iechyd y mae gan Lywodraeth Cymru reolaeth uniongyrchol drosto—Betsi Cadwaladr—mae wedi mynd o ddim i gynnydd o 1,250 y cant yn nifer y bobl sy'n aros am 12 mis neu fwy. Felly, unwaith eto, pan ddarllenwch chi’r rhethreg yn y ddogfen a lansiwyd ar y cyd â'r datganiad y mae wedi'i wneud heddiw, sut y gallwn ni fod yn ffyddiog bod y daith y mae'r Llywodraeth arni—y Llywodraeth hon y mae ef yn ei harwain heddiw—yn dechrau mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau enfawr hyn yn ein cymdeithas?
 
Yna, mae’r bennod ‘Cymru Uchelgeisiol ac sy’n Dysgu’ yn ddogfen a lansiodd heddiw, a'r drydedd rhan o bedair y mae wedi mynd i'r afael â nhw yn ei ddatganiad yn trafod, ar dudalen 15:
 
Mae gormod o amrywiad o hyd yng nghyrhaeddiad plant pan fônt yn gadael yr ysgol.
 
Rwy’n gweld bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn cytuno â hynny ac yn ysgwyd ei phen yn gytûn. Daw hyn gan Lywodraeth sydd wedi bod yn gyfrifol am addysg ers 18 mlynedd—ac rwy'n clywed Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud, ‘Ond nid fi’. Rwy’n derbyn y pwynt hwnnw, er tegwch, ond roeddwn yn credu ei fod yn gyfrifoldeb ar y cyd, ac felly mae'n un Llywodraeth. Sut ydym ni i fod i gredu y bydd y datganiadau beiddgar a choeth yn y ddogfen hon mewn gwirionedd yn gwella lefelau cyrhaeddiad plant ar hyd a lled Cymru pan, ar ôl 18 mis—18 mlynedd, mae’n ddrwg gennyf, nid 18 mis—mae eich dogfen chi eich hun yn dweud bod, a gwnaf ailadrodd hynny eto, yn dal
 
gormod o amrywiad yng nghyrhaeddiad plant pan fônt yn gadael yr ysgol?
 
Yn olaf, yn y rhan ‘Unedig a Chysylltiedig’ o'r pedair rhan a nodwyd gennych yn eich datganiad, mae'n bwysig bod pob rhan o Gymru yn teimlo bod y Llywodraeth yn llywodraethu ar eu cyfer nhw. Ni waeth pa liw y gallai’r Llywodraeth honno fod, dyna'r ydym yn ei ddathlu ar hyn o bryd: 20 mlynedd o ddatganoli ac 20 mlynedd o wneud penderfyniadau lleol. Ond mae’n ffaith, yn hanesyddol, bod rhai Llywodraethau y mae'r Blaid Lafur wedi eu harwain yma wedi ceisio sbarduno adeiladu cenedl ar draul yr hyn sydd orau i'r rhan benodol honno o Gymru. Rwy'n cofio'n iawn, pan ddeuthum i'r Cynulliad hwn am y tro cyntaf, yn enwedig ym maes iechyd, roedd ymgyrch yn bod i anfon cleifion o ogledd Cymru i dde Cymru am driniaeth, pan oedd cysylltiadau trawsffiniol da eisoes ar waith ar gyfer cleifion gogledd Cymru i gael y driniaeth honno ym Manceinion, yn Lerpwl, lle'r oedd perthynas naturiol a llif naturiol pobl dros y blynyddoedd wedi datblygu. Rwyf yn gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn cefnogi fy ngalwad, wrth ddatganoli cyfrifoldebau i ba bynnag ranbarthau sydd eu hangen i gynyddu eu hôl troed economaidd, ond, yn anad dim, o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus, y bydd hyn yn cael ei ddarparu orau yn lleol, yn hytrach na model Parc Cathays canolog yr ydym wedi'i weld dro ar ôl tro, yn hanesyddol, yn cael ei ystyried fel y dewis gorau o ran gwneud penderfyniadau yma yng Nghymru. Mae llawer, llawer—
 
15:00
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
A ydym ni'n dirwyn i ben, os gwelwch yn dda? Rydych wedi cael mwy o amser nag y cymerodd y Prif Weinidog i gyflwyno'r datganiad.
 
15:00
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
Byddaf yn dirwyn i ben.
 
15:00
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Mae'n ddrwg gennyf. Prif Weinidog. Mae'n ddrwg gennyf.
 
15:00
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Diolch i arweinydd yr wrthblaid am ei sylwadau. Mae'n debyg mai'r cwestiwn na ofynnodd, ac yr wyf yn siŵr y caiff ei ofyn, yw ‘Beth yw diben y ddogfen hon?’, ac rwy’n deall hynny. Wel, mae'n iawn i ddweud y byddwn yn ymhelaethu ar y ddogfen ei hun, wrth gwrs. Diben y ddogfen hon yw ei bod yn rhoi i Aelodau'r Cynulliad hwn ac i’r cyhoedd y fframwaith y bydd penderfyniadau yn cael eu gwneud o fewn iddo. Wrth gwrs bydd hyn yn arwain Gweinidogion. Bydd pob penderfyniad a wneir gan Weinidogion yn cael ei fesur yn ôl yr hyn sydd yn y ddogfen hon, a'r uchelgeisiau yn y ddogfen hon a'r pum maes blaenoriaeth. Fel y soniais yn y datganiad ei hun, bydd cynlluniau gweithredu pellach a gânt eu datblygu yn ystod y misoedd nesaf.
 
Soniodd am sut i weithio ar draws y sector cyhoeddus. Wrth gwrs, byddwn yn ceisio cyflwyno Bil llywodraeth leol a fydd yn helpu i arwain at fwy o gysondeb mewn llywodraeth leol.
 
Gan ddod i'r pwynt a wnaeth yn olaf, mae'n iawn i ddweud ein bod ni'n dymuno, fel Llywodraeth, i benderfyniadau gael eu gwneud mor agos â phosibl i gymunedau pobl, ond rydym wedi canfod yn y gorffennol—gwnaeth hyn sbarduno’r ddeddfwriaeth flaenorol nad oedd yn llwyddiannus—bod hynny'n arwain at anghysondeb anferth, lle nad yw rhai cynghorau yn gallu darparu gwasanaethau yn y ffordd y dylent. Cymerwyd rheolaeth o un cyngor, Ynys Môn, oherwydd iddo fethu yn gyfan gwbl. Ar un adeg, roedd chwe chyngor—chwe awdurdod addysg lleol—mewn mesurau arbennig dros addysg. Nawr ni all hynny fod yn iawn. Sut, felly, ydym ni’n datrys hynny? Bydd y Bil llywodraeth leol yn ceisio gwneud hynny er mwyn ysgogi mwy o gysondeb, er mwyn cynorthwyo cynghorau i gyflawni’n well, a chyflawni darpariaeth gyson rhwng rhanbarthau. Nid wyf yn credu y gall unrhyw un esgus ein bod wedi cael system gadarn o lywodraeth leol dros yr 20 mlynedd diwethaf lle mae pob un cyngor bob amser wedi cyflawni fel y byddai pobl yn ei ddisgwyl. Yn amlwg nid dyna yw’r sefyllfa. Felly, er ei bod hi’n bwysig i wneud penderfyniadau yn lleol, mae’n rhaid inni ofalu nad oes anghysondeb mawr yn digwydd, oherwydd hynny, a bydd y Bil yn helpu i sicrhau nad yw hynny'n digwydd.
 
Mae'n sôn am ystadegau economaidd. Gallwn gyfnewid hyn yn ôl a blaen. Fel y dywedais yn gynharach yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog, mae’r gyfradd ddiweithdra bellach yn 4.3 y cant. Nid dyna'r ffigwr llawn; mae yna ormod o bobl sydd yn dal heb ddiogelwch gyflogaeth. Rwy'n deall hynny. Ond rydym ni wedi bod yn llwyddiannus wrth ddenu buddsoddiad i Gymru na fyddem erioed wedi'i gael o'r blaen. Mae Aston Martin yn un enghraifft. Rydym wedi llwyddo i achub ein maes awyr; byddai hwnnw, i fod yn blwmp ac yn blaen, wedi cau. Yn y dyddiau cyn datganoli, ni fyddai neb wedi ei achub; erbyn hyn mae'n ffynnu. Ein diwydiant dur—rydym ni wedi gallu gweithredu fel eiriolwyr cryf dros ein diwydiant dur er mwyn sicrhau bod y swyddi hynny'n aros yng Nghymru. ProAct a ReAct: roeddynt yn gynlluniau blaenllaw gyda’r gorau yn y byd, ac fe wnaethon nhw helpu i gadw pobl mewn swyddi pan roedd y dirwasgiad ar ei gryfaf—swyddi a fyddai fel arall wedi cael eu colli.
 
Mae'n cyfeirio at y ffaith, ac mae’r ffaith honno’n wir, bod gwahaniaethau rhanbarthol mewn gwerth ychwanegol gros yng Nghymru. Un o'r problemau yn yr ardaloedd sy'n agos i Gaerdydd yw bod cymaint o bobl yn byw mewn siroedd eraill ond yn gweithio yng Nghaerdydd. Nawr, rwy'n byw yng ngorllewin Cymru a'r Cymoedd. Gan fy mod i'n gweithio yng Nghaerdydd, rwy'n cael fy nghyfrif yn dreth economaidd—efallai y bydd rhai pobl yn dweud bod hynny'n wir beth bynnag, ond yn dreth economaidd ar orllewin Cymru a'r Cymoedd, oherwydd fy mod yn cael fy nhalu yng Nghaerdydd ac rwy'n gweithio yng Nghaerdydd, ac mae hynny'n rhan o'r broblem. Mae cymaint o bobl yn dod i Gaerdydd i gymudo, mae’n gostwng gwerth ychwanegol gros yr ardaloedd o'i chwmpas mewn ffordd nad yw'n bodoli mewn gwirionedd mewn mannau eraill a oedd â statws Amcan 1 o'r blaen. Nid dyna'r esboniad cyfan, wrth gwrs, oherwydd sgiliau yw'r ffordd arall o gynyddu gwerth ychwanegol gros. Nawr, un o'r materion y mae darpar fuddsoddwyr yn ein holi yn ei gylch yw: ‘Os ydym ni'n dod i Gymru, a oes gan eich pobl y sgiliau y mae eu hangen arnom ni i fod yn llwyddiannus?’ Ac, yn gynyddol, gellir ateb hynny'n gadarnhaol. Yn y gorffennol, nid ystyriwyd sgiliau'n bwysig; cyflog isel oedd yn bwysig: dewch i Gymru oherwydd bod y lefelau cyflog yn isel. Wel, mae'r dyddiau hynny ar ben. Nawr, rydym ni eisiau sicrhau ein bod yn denu buddsoddiad ar y sail bod ein lefelau sgiliau yn uchel.
 
Ond wrth gwrs, yr her fawr i ni yw mai ein marchnad allforio fwyaf yw marchnad sengl Ewrop: mae 67 y cant o'n hallforion yn mynd yno. Ni allwn ni newid hynny. Mae'n amhosibl newid hynny. A pham y byddem ni yn dymuno newid hynny beth bynnag? Mae'n farchnad enfawr ar garreg ein drws. Ni all yr Unol Daleithiau gymryd ei le; mae'n llai ac mae’n bellach i ffwrdd. Ni all Japan gymryd ei le—eto, mae’n bellach i ffwrdd ac yn llai. Ac felly mae’n rhaid ystyried heriau Brexit—a byddwn ni’n dod atyn nhw; bydd hon yn ddadl y byddwn ni, wrth gwrs, yn ei chael am fisoedd a blynyddoedd yn y Siambr hon—trwy'r telesgop o sicrhau'r mynediad gorau posibl—cyfranogiad yn y farchnad sengl, mynediad llawn heb rwystr i’r farchnad sengl, ond y mynediad hawsaf i'r farchnad sengl y gallwn ei gael ar gyfer busnesau Cymru, oherwydd dyna eu marchnad fwyaf a ni ellir cymryd ei lle yn rhwydd.
 
Soniodd am ‘iach a gweithgar’—mae yna heriau ym mhob gwasanaeth iechyd. Mae Lloegr newydd gofrestru'r nifer mwyaf erioed o bobl ar restrau aros, ac mae heriau y mae Lloegr yn eu hwynebu hefyd. Gwyddom yng Nghymru ein bod wedi gweld gwelliannau mewn rhai meysydd lle mae amseroedd aros wedi gostwng. Mewn meysydd eraill, mae gwaith i'w wneud o hyd. Rydym ni bob amser wedi cydnabod hynny. Ond rydym yn gwybod bod adroddiadau annibynnol wedi dangos bod y gwasanaethau iechyd ledled y DU yn gyfartal ar y cyfan.
 
‘Uchelgeisiol ac sy’n dysgu’—soniodd am hynny. Wel, byddwn i'n dadlau ein bod yn gweld y gwahaniaeth nawr. Ein canlyniadau TGAU yw'r rhai gorau erioed. Roeddwn yn edrych ar y graff ar gyfer canlyniadau TGAU yn y dyddiau cyn datganoli, pan gafodd llai na hanner y bobl ifanc bump A* i C yn eu TGAU, ac mae'r ffigur hwnnw bellach wedi dringo'n bell y tu hwnt i hynny. Cafwyd gwahaniaeth enfawr yn yr amser hwnnw. Mae’r canlyniadau TGAU y gorau erioed. Rydym ni’n gweld gostyngiadau yn y bwlch cyrhaeddiad. Mae'r grant amddifadedd disgyblion wedi gwneud gwahaniaethau ledled Cymru ac mae hynny'n rhywbeth sy'n gweithio i gymaint o bobl ifanc.
 
Yn olaf, o ran ‘unedig a chysylltiedig’—. Wel, yr ateb yr wyf i bob amser yn ei roi pan fydd pobl yn dweud, ‘Wel, mae’r Cynulliad yng Nghaerdydd; beth mae'n ei olygu i ogledd Cymru?’—Rwy’n dweud, ‘Wel, mae tri Ysgrifennydd y Cabinet yn y Llywodraeth sy'n dod o etholaethau’r gogledd’. Mae hynny'n lefel enfawr o gynrychiolaeth. Nid oes neb yn Llywodraeth y DU o etholaeth yng ngogledd Cymru. Ond mae llais y gogledd yn gryf iawn. Mae'n rhaid iddo fod. Mae 60 ohonom ni yma. Daw o leiaf chwarter yr Aelodau, fel yr wyf yn ei gyfrif, o'r gogledd. Wrth gwrs, mae'r llais hwnnw'n gryf; yr un fath ar gyfer Cymru wledig, yr un fath ar gyfer canolbarth a gorllewin ein gwlad—llais llawer cryfach nag a fu erioed yn y dyddiau cyn datganoli. Rwy'n cydnabod yr hyn y mae'n ei ddweud ynglŷn â datganoli i'r rhanbarthau. Unwaith eto, rwy’n amau bod barn yr Ysgrifennydd Gwladol a’i ffordd o wneud hynny ychydig yn wahanol i’w un ef. Rwy'n credu mai barn yr Ysgrifennydd Gwladol yw, ‘Gadewch i ni osgoi Llywodraeth Cymru a siarad â chynghorau'n uniongyrchol’. Nid yw hynny, yn amlwg, yn farn yr ydym yn ei rannu, er ein bod yn derbyn yr egwyddor o ddatganoli cymaint â phosib.
 
15:06
Adam PriceBywgraffiad
Fel Aelod o'r Cynulliad Cenedlaethol hwn, sy’n aml yn derbyn dogfennau strategaeth y Llywodraeth—ac maen nhw'n dod yn aml iawn—byddwch yn aml yn pendilio rhwng cyflwr o ddryswch a chyflwr o anobaith. Mae'n rhaid i mi ddweud, ar ôl darllen y ddogfen hon yn gyflym y prynhawn yma, rwy'n teimlo cymysgedd o'r ddau. Dryswch oherwydd rwy’n credu fy mod wedi camddeall mai dyma fyddai dyddiad cyhoeddi'r strategaeth economaidd newydd. Nid fi yw’r unig un, oherwydd sylwais fod Lee Waters wedi trydar ddoe:
 
Cyn lansiad strategaeth economaidd newydd Llywodraeth Cymru yfory, rwyf wedi nodi rhai o’m meddyliau yn Western Mail heddiw,
 
ac erthygl dda iawn oedd hi hefyd. A dyma ble yr ydym ni'n dod at yr anobaith, oherwydd roedd syniadau gwell, mwy diddorol a mwy gwreiddiol yn yr erthygl un dudalen honno na sydd yn y ddogfen hon.
 
Mewn gwirionedd, yr hyn sydd gennym ni yma—. Cofiwch ein bod ni—[Torri ar draws.] Ac os oeddwn i yno, rwy'n siŵr y byddai'r un peth yn wir am friff busnes Hefin David yr wythnos nesaf. ‘Cyn cyhoeddi strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru'—mae angen i chi wella eich cyfathrebu mewnol o leiaf.
 
Yr hyn sydd gennym ni, mewn gwirionedd, yw fersiwn lawnach o ‘Symud Cymru Ymlaen’, a gyhoeddwyd y llynedd. Mae'n fath o ‘Symud Cymru Ymlaen’ ar steroids, mewn gwirionedd, onid yw? Mae wedi tyfu o 15 tudalen i 27, felly ni all neb gyhuddo Llywodraeth Cymru o beidio â gwneud cynnydd. Dyna gynnydd o 100 y cant yng ngynhyrchiant Llywodraeth Cymru.
 
Roedd gennym ni bedair strategaeth drawsbynciol. Nawr mae gennym ni—beth yw e’—pum blaenoriaeth drawsbynciol, a phedair thema allweddol a thri chynllun gweithredu. Yn sicr, ni allwch chi eu cyhuddo o beidio â bod yn gynhwysfawr.
 
Nid oes gennyf yr amser i fynd ar ôl yr holl rai hynny, ond hoffwn ganolbwyntio ar un, ac, o ystyried y buom yn dathlu 20 mlynedd ers 1997 a datganoli, gadewch i ni ganolbwyntio ar yr economi, gan mai dyna oedd y cam mawr ymlaen i fod, y difidend datganoli. Fel y cyfeiriwyd ato eisoes, mewn gwirionedd, mae'r cynnydd yn y fan honno wedi bod yn gyfyngedig wrth gwrs. Gan edrych ar y 18 pwynt bwled—dyna'r cyfan ydyw, os ydych chi'n chwilio am gyfuchliniau'r strategaeth economaidd newydd, 18 pwynt bwled ar draws dwy dudalen—rwy'n ceisio deall, felly, beth y mae hynny’n dweud wrthym ni am gynnwys y strategaeth economaidd newydd. Efallai y bydd y Prif Weinidog yn gallu fy helpu. Y cwestiwn cyntaf yw: a dderbynnir graddfa’r her, mewn gwirionedd? Rwy’n credu eu bod ar feinciau cefn yr ochr sy’n llywodraethu. Nid wyf yn siŵr eu bod ar y fainc flaen. Oherwydd, fel y cyfeiriwyd ato eisoes, ym 1997, ble yr oeddem ni? Saith deg pedwar pwynt un y cant o werth ychwanegol gros y pen. Ble ydym ni nawr yn y ffigurau diweddaraf? Saith deg un y cant. Rydym ni wedi mynd ar yn ôl. Yr oeddem yn seithfed ar y cyfan, gyda llaw, o ran y 12 rhanbarth economaidd safonol yn y DU. Hyd yn oed ar hoff ddangosydd economaidd Llywodraeth Cymru, sef incwm gwario gros aelwydydd y pen, rydym ni hefyd wedi mynd ar yn ôl—87.8 y cant i 85.3 y cant. Felly, a dderbynnir graddfa'r her? Yn ei sylwadau yn gynharach y prynhawn yma, dywedodd y Prif Weinidog ein bod, yn y 1990au, yn wlad yr oedd pobl ifanc yn awyddus i’w gadael. Wel, mewn gwirionedd, gwelsom adroddiad dros yr haf gan y Resolution Foundation yn dangos bod pobl ifanc galluog yn gadael Cymru. Collodd Cymru fwy o raddedigion rhwng 2016—colled net o dros 20,000 o raddedigion yn ystod y cyfnod hwnnw. Rydym ni'n ddegfed o'r 12 rhanbarth safonol yn y Deyrnas Unedig o ran nifer y graddedigion a gollir.
 
Yn ail, a fydd yna dargedau? Rydym ni wedi cael cynnydd anhygoel o wael. Sut allwn ni fesur, mewn gwirionedd, a ydym ni yn mynd i fod â record well o gyflawni yn y dyfodol? Oherwydd, fel y dywedodd Chris Kelsey, ychydig iawn o fanylion a dim ond ychydig o dargedau penodol a geir yn y strategaeth hon. A lle mae'r awydd, yr awch—yr wyf yn ei synhwyro, i fod yn deg, ar feinciau cefn Llafur—am newid radicalaidd o ran strategaeth? Yn y bôn, rydym wedi dilyn yr un strategaeth am 40, 50 mlynedd, sydd, yn ei hanfod, yn dibynnu ar fuddsoddiad uniongyrchol o dramor. Dyna'r cyfan. Rydym ni wedi torri’r gwys honno. Ac i beth? Ble mae'r awydd yn y 18 pwynt bwled hyn am dderbyn na fydd y strategaeth honno'n ein gwasanaethu'n dda yn y dyfodol, ac felly bod angen syniadau newydd radicalaidd arnom?
 
Yn olaf, ar ddiwrnod olaf y tymor, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet eich bod yn bwriadu cyhoeddi'r strategaeth drawsbynciol hon ac yna y byddai rhaglen ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid. Rwy'n credu mai jargon yw hynny am ‘siarad â phobl’. Wel, fe wnes i ychydig o siarad dros y penwythnos, oherwydd roeddwn i eisiau gwybod beth fyddai yn y strategaeth economaidd hon nad oedd yn ymddangos, ac fe siaradais i â rhai pobl fusnes blaenllaw yr wyf yn eu hadnabod ac a fydd yn adnabyddus i lawer o’r bobl yma; Siaradais â rhai o economegwyr blaenllaw Cymru. Nid oedd yr un ohonynt yn gwybod beth fyddai yn y strategaeth economaidd nac yn y pwyntiau bwled gan nad oedd neb o Lywodraeth Cymru wedi siarad â nhw. Felly, ar ba sail ydych chi wedi llunio'r 18 pwynt bwled hyn? Pwy ydych chi wedi siarad â nhw? Oherwydd, rwy’n ofni mai’r hyn a gawn ni pan fyddwn ni'n gweld y cynllun gweithredu economaidd o’r diwedd, fydd, unwaith eto, cyfrwng gwag heb unrhyw sylwedd.
 
15:12
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, gadewch i mi geisio helpu'r Aelod yn ei ddryswch a'i godi o'i anobaith. Yn gyntaf oll , diolch iddo am gydnabod y cysondeb sy'n bodoli rhwng y ddwy ddogfen y cyfeiriodd atynt. Maent i fod i fod yn gyson. Maent i fod i ddangos cyfeiriad cyffredin.
 
Nawr, y peth cyntaf y cyfeiriodd ato, y disgrifiodd, oedd perfformiad economaidd anhygoel o wael—nid yw felly. Dywedodd hefyd, i bob pwrpas, fod y strategaeth economaidd wedi bod yr un fath dros y 50 mlynedd diwethaf —eto, nid yw felly. Oherwydd rwy’n cofio’n dda yn y 1990au—diwedd y 1980au a'r 1990au—y penderfynodd Llywodraeth bryd hynny, mai'r ffordd o leddfu diweithdra yng Nghymru, yn eu barn nhw, oedd lleihau cyflogaeth mewn swyddi â chyflogau da fel dur a glo a’u disodli â swyddi â chyflogau gwael mewn sectorau heb sgiliau. Dyna pryd y dechreuodd ein cynnyrch domestig gros lithro, oherwydd, er ei bod yn ymddangos bod diweithdra yn is neu'n mynd yn is, roedd cyfraddau cyflogau pobl yn mynd yn is hefyd. Rydym ni wedi gwrthod hynny. Nid ydym ni’n derbyn bod model economaidd Cymru wedi'i seilio ar fod yr economi cyflog isaf yng ngorllewin Ewrop. Dyna'n union beth oedd yn digwydd ar ddiwedd y 1990au, yn arbennig. Gwnaethom yn siŵr ein bod yn mynd ar ôl buddsoddiad o ansawdd uchel. Mae gennym ni Wylfa B, mae gennym ni Surf Snowdonia, mae gennym ni Airbus, mae gennym ni Raytheon, a Maes Awyr Caerdydd—fe wnaethom ni achub hwnnw, byddai wedi cau—Aston Martin, CGI; mae'r rhestr yn faith. Rydym wedi denu buddsoddiad i Gymru ar lefel sgiliau na fyddai wedi ei ystyried yn y 1990au. Yn y pen draw, bydd hynny'n cynyddu incwm gwario gros aelwydydd, bydd mwy o arian ym mhocedi pobl, ac mae hynny'n rhywbeth na fyddwn ni'n ei newid.
 
Mynegodd ofid am ddibyniaeth ar fuddsoddiad uniongyrchol o dramor. Nid ydym ni’n mynd i fod yn hunangynhaliol, rydym ni'n deall hynny. Bydd buddsoddiad uniongyrchol o dramor yn hynod bwysig i ni yn y dyfodol; yr Unol Daleithiau yw ein buddsoddwr mwyaf o bell ffordd. Ydym—er na wnaeth y pwynt, rwy’n amau ei fod eisiau gwneud y pwynt hwn—rydym yn dymuno sicrhau ein bod yn annog mwy o entrepreneuriaid ifanc, lleol. Ac rydym yn gweld bod mwy o fusnesau yng Nghymru yn cael eu sefydlu erbyn hyn ac yn fwy llwyddiannus nag o'r blaen. Rwy'n cwrdd â phobl ifanc ac maen nhw’n cael eu hannog nawr mewn ffordd nad oedden nhw byth flynyddoedd yn ôl, pan oeddwn i yr un oed â nhw, ac maen nhw'n sefydlu busnesau, mae ganddyn nhw yr hyder i wneud hynny, mae ganddyn nhw’r hyder i dyfu ac i weithio gydag eraill. Rwy'n gweld ein prifysgolion, nad oedden nhw am amser maith yn gweithio gyda busnesau, nid oedden nhw’n ei ystyried yn rhan o'u cylch gwaith—. Maen nhw bellach yn gallu gweithio gyda'u graddedigion ac ymchwilwyr dawnus i sefydlu busnesau cysylltiedig, ac rydym ni’n eu gweld o gwmpas Abertawe ac o gwmpas Caerdydd—nid yno’n unig, ond yno yn arbennig.
 
Wrth gwrs, mae angen i ni sicrhau ein bod yn hyblyg, ac, ydw, os ydyn ni wedi cynhyrchu nifer o gynlluniau economaidd dros y blynyddoedd, rwy’n pledio'n euog i hynny; mae hynny oherwydd bod amgylchiadau'n newid. Yr her fwyaf y gwnaethom ni ei hwynebu oedd chwalfa 2008. Roedd hynny'n her enfawr i bob un economi yn y byd datblygol. Gyda ProAct a ReAct, gwnaethom sicrhau (a) bod pobl yn cadw eu swyddi, a (b) eu bod yn cael eu hyfforddi yn y swyddi hynny. Fel arall, byddai diweithdra wedi bod yn llawer, llawer uwch. Rydym ni’n gweithio gyda'n busnesau i gyflawni'r gorau ar gyfer ein pobl. Nawr, yn y pen draw, wrth gwrs, bydd yn cael y cyfle i edrych ar y cynllun gweithredu economaidd. Rwy'n siŵr y bydd yn dadlau ac yn anghytuno ag Ysgrifennydd y Cabinet. Ond pan ddaw i gymharu Cymru nawr â sut yr oedd Cymru yn y 1990au—gwlad â diweithdra uchel, rhagolygon isel, cyflogau isel iawn, polisi bwriadol i ddod â swyddi sgiliau isel, cyflog isel—rydym ni wedi dod ymhell ers hynny, ac rydym ni’n bwriadu mynd llawer ymhellach.
 
15:15
Neil HamiltonBywgraffiad
Fel arfer, erbyn i mi gael fy nghyfle i yn y datganiadau hyn, mae bron bob pwynt da wedi'i wneud, ac mae Adam Price wedi dweud yn dda bod—
 
15:16
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Gallwn i ddweud, ‘Symudwn ymlaen, felly’.
 
15:16
Neil HamiltonBywgraffiad
Wel, gallech chi. Rwy'n siŵr na fyddwch chi, Dirprwy Lywydd, gan eich bod yn llywydd teg ar y Cynulliad. Ond, fel y mae Adam Price wedi nodi'n effeithiol, gan fod y ddogfen ei hun yn ailadrodd ac yn ailwampio deunydd sydd wedi cael llawer o sylw yn y gorffennol, efallai na fydd beirniadaeth ailadroddus ohono'n hollol amhriodol. Pan oeddwn i'n arfer mynd i'r ysgol Sul yn fachgen bach, un o'm hoff emynau oedd ‘Tell me the old, old story’, ac wrth gwrs, dyna sydd gennym ni yma. Rwy'n credu bod y Prif Weinidog, ar un ystyr, wedi bod yn ddigon caredig i gyfaddef bod hynny’n wir. Oherwydd pan es i drwy’r ddogfen hon a gofyn, ‘Beth sy'n newydd?’, a mynd trwy ‘Symud Cymru Ymlaen’, roedd hi’n anodd dod o hyd i unrhyw beth a oedd yn newydd o gwbl. Ac wrth gwrs, gallwn ni i gyd chwerthin ar yr ystrydebau amrywiol sydd ynddo; mae pob llywodraeth yn cynhyrchu dogfennau o'r fath. Nid wyf yn dweud o gwbl bod Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am bopeth sydd o’i le ar Gymru a’i bod wedi methu'n llwyr yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, ond y prif bwynt sy'n codi, yn fy marn i, o'n profiad ni o'r 20 mlynedd diwethaf, yw bod methiant Llywodraeth Cymru, o'i gymharu â'r hyn sydd wedi bod yn digwydd mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig a gweddill y byd, yn amlwg iawn yn wir. Ac mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi sôn am yr ystadegau amrywiol, ac Adam Price eiliad yn ôl. Mae'n wir bod pobl Cymru yn dlotach heddiw, yn gymharol, nag y maen nhw wedi bod ers blynyddoedd lawer iawn. Mae'n wir, i raddau, fel y dywedodd y Prif Weinidog, oherwydd newid diwydiannol—roedd glo a dur yn swyddi â chyflogau da ac nid oedd yn bosibl cynnal y diwydiannau hynny ar y lefelau yr oedden nhw’n arfer cyflogi—nid ydym wedi llwyddo i ddenu i Gymru y swyddi â chyflogau uwch a ddylai fod wedi dod yn eu lle, a dyna'r her allweddol ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod.
 
Yr unig beth sy'n bwysig yn y ddogfen hon yw'r darn am feithrin diwylliant entrepreneuraidd, oherwydd os na allwn ni gynyddu gallu economi Cymru i greu cyfoeth, ni allwn gynhyrchu'r refeniw treth sy'n talu am yr holl wasanaethau cyhoeddus sef y pethau da yr ydym ni eisiau eu gweld, ac sydd wedi'u nodi'n dda yng ngweddill y ddogfen. Yma, nid wyf i’n credu bod stori Llywodraeth Cymru yn rhagorol o gwbl. Yn fwyaf diweddar, rydym ni wedi gweld y llanast ynghylch Cylchffordd Cymru. Roedd hwn yn brosiect enfawr o'r sector preifat a fyddai, pe byddai wedi cael ei weithredu, wedi dod â swm sylweddol iawn o gyfalaf ar gyfer y fenter benodol honno, ond yn sgil hynny, efallai y byddai llawer mwy wedi'i ddenu. Roedd ymagwedd Llywodraeth Cymru ynghylch hynny mor ddiddychymyg fel nad oeddwn yn gallu credu’r peth, gan ein bod wedi ein harwain ar y llwybr hwnnw yn ystod y flwyddyn, neu’r 18 mis, diwethaf, dim ond i gael ein gollwng dros ochr y dibyn i’r draen fel y cyfeiriodd y Prif Weinidog ato yn ei sylwadau eiliad yn ôl. Mae hynny'n symptomatig o'r broblem: diffyg gweledigaeth Llywodraeth Cymru, fel y mae Adam Price wedi’i nodi'n angerddol.
 
Ni allaf ond adlewyrchu, fel yr wyf wedi’i wneud o'r blaen, ar yr hyn sy'n digwydd 60 milltir i ffwrdd i'r dwyrain o Gaerdydd gyda pharc technoleg James Dyson. Pam nad ydym ni'n denu pethau o'r fath i Gymru? Oherwydd bod agwedd Llywodraeth Cymru yn anghywir. Ar gyfer y dyfodol, dylai sylweddoli na all llywodraethau greu diwylliant entrepreneuraidd. Mae'r Llywodraeth yn rhan o'r broblem yma. Os yw Cymru i fod yn fwy cystadleuol, yna mae’n rhaid i’r baich rheoleiddio fod yn fwy cymesur; mae'n rhaid i'r baich treth fod yn fwy cymesur. Mae gennym ni gyfle yn y fan hon, ond nid oes dim am hyn yn y ddogfen. Nawr ein bod yn cael y pwerau hyn i godi trethi ac amrywio trethi, yr hyn y dylem ni fod yn ceisio ei wneud yw gwneud Cymru yn fwy deniadol na rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig i helpu i unioni'r cydbwysedd yr ydym wedi'i etifeddu o'r gorffennol a chamgymeriadau llywodraethau o bob plaid, boed hynny ar lefel y DU neu, yn wir, yma yng Nghaerdydd. O ran cyfraddau busnes, unwaith eto, pam nad oes meddylfryd hirdymor ynghylch sut y gallwn ni godi'r baich hwn, sy'n gymaint o rwystr i fusnesau newydd—busnesau bach—wrth geisio sefydlu yn y lle cyntaf, oherwydd bod cost eiddo yn cael ei gynyddu’n artiffisial gan system ardrethi busnes sy’n hynafol ac yn amhriodol ar gyfer y byd modern?
 
Mae Brexit yn cynnig heriau, yn amlwg, ac mae'r Prif Weinidog bob amser yn sôn am yr heriau. Beth am y cyfleoedd? Mae'r Prif Weinidog yn eiriolwr profiadol. Mae'n amddiffyn yr anniffynadwy mewn modd darbwyllol iawn yn aml iawn yn y Siambr hon. Mae'n eiriolwr dros Gymru mewn rhannau eraill o'r byd. Ond mae ei gwynion cyson ynglŷn â sut y mae'n ddiwedd y byd os ydym yn gadael y farchnad sengl—. Nid yw’r farchnad sengl yn bopeth i ni. Nid oes marchnad sengl, mewn gwirionedd, beth bynnag, oherwydd fel y dywedodd James Dyson ei hun—sy'n gwerthu nwyddau a gynhyrchir yn yr Undeb Ewropeaidd—y diwrnod o’r blaen, mae cyfres o farchnadoedd rhanedig. Oes, mae system sengl o reoleiddio, yn aml iawn, ac mae hynny'n aml yn cael ei gamddefnyddio ac yn creu anfantais i ddiwydiant. Ond pe byddai'r Prif Weinidog yn gallu cynnig rhyw fath o lygedyn o obaith ac optimistiaeth ar gyfer allforion yn y dyfodol, nid yn unig i'r Undeb Ewropeaidd, ond hefyd i weddill y byd—. Wrth gwrs, fel y mae'n dweud, yn llygad ei le, rydym ni’n allforio mwy o Gymru i'r Undeb Ewropeaidd na rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig ac ni fyddwn ni’n gallu llenwi’r bwlch hwnnw dros nos. Ni fydd yn rhaid i ni lenwi’r bwlch dros nos. Mae symudiadau cyfraddau cyfnewid yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi mwy na gwrthbwyso unrhyw gynnydd tybiedig mewn tariffau sy'n debygol o gael eu gorfodi os na cheir unrhyw gytundeb â'r UE. Mae busnesau go iawn yn y byd go iawn yn fedrus ac yn hyblyg. Mae'n rhaid iddyn nhw fod felly neu ni fyddan nhw’n goroesi, a dyma'r broblem gyda'r Llywodraeth heddiw. Nid yw'n fedrus, nid yw'n hyblyg, nid oes ganddi wir weledigaeth ar gyfer y dyfodol, a dyna pam nad yw hyn yn cynnig mwy i ni nag unrhyw un o'r dogfennau blaenorol y mae'n ychwanegu atyn nhw—y pentwr anferth y byddwn heb os yn ychwanegu ato yn flynyddol yn y dyfodol.
 
15:22
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Gadewch i ni geisio dadansoddi llif ymwybod. Wel, gadewch i ni ddechrau gyda'r newid diwydiannol y dywedodd ef a ddigwyddodd, o dan ei oruchwyliaeth ef, mewn gwirionedd, lawer ohono. Byddai gwlad synhwyrol wedi deall y byddai swyddi’n cael eu colli ym maes glo a dur. Roedd y diwydiant dur yn cyflogi llawer o bobl, mwy nag yr oedd eu hangen, mae’n debyg. Ond mewn gwlad synhwyrol, byddai cynlluniau wedi'u sefydlu i ail-gyflogi pobl mewn swyddi da, ond nid dyna a ddigwyddodd. Yr hyn a ddigwyddodd oedd diswyddo miloedd o bobl ar un diwrnod a’u bod yn cael gwybod, ‘Dyna ni, nid oes swydd i chi’. Dyna pam y cynyddodd diweithdra a dyna pam y gostyngodd ein cynnyrch domestig gros, oherwydd yr ergyd ddeuol honno. Nid oedd hynny'n ymwneud â newid diwydiannol ar ei ben ei hun. Roedd hynny'n bolisi bwriadol gan Lywodraeth nad oedd yn poeni pe bai pobl yn cael eu diswyddo a lle y byddan nhw’n mynd ar ôl hynny.
 
Rwy'n cytuno ag ef am yr angen i greu diwylliant entrepreneuraidd a dyna beth mae'r ddogfen yn ei ddangos. Ond mae'n hynod bwysig—soniodd am Gylchffordd Cymru—nad ydym yn ailadrodd camgymeriadau'r gorffennol. LG, gwyddoch chi, oedd un o'r camgymeriadau mwyaf y gwnaeth Awdurdod Datblygu Cymru mewn gwirionedd—. Roedd ganddyn nhw enw da tan hynny, ond hwn oedd un o'r camgymeriadau mwyaf a ddigwyddodd, o edrych yn ôl. Ac mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn ynglŷn â'r hyn yr ydym ni’n ei gefnogi a’r hyn nad ydym ni’n ei gefnogi.
 
Mae'n sôn am yr hyn sy'n digwydd 60 milltir i'r dwyrain gyda James Dyson, wrth gwrs. Ymddengys fod ei ddadl ef am yr UE yn ymwneud â rheoleiddio sugnwyr llwch, hyd y gwelaf i. Mae'n eithaf amlwg mai marchnad sengl ydyw. Ble mae'n gweithgynhyrchu? Nid yw'n gweithgynhyrchu yn y DU, nac ydy? Felly, mae problemau yn y fan honno. Os yw mor wladgarol â hynny, efallai y dylai leoli popeth y mae'n ei wneud yn y DU ei hun.
 
O ran y baich rheoleiddiol y mae'n sôn amdano, beth yw hwnnw? Os yw'n dweud bod baich rheoleiddiol, byddai'n ddiddorol gwybod lle y mae'n gweld y beichiau hynny, gan nad yw'n rhoi unrhyw esiamplau. Mae'n sôn am faich treth. Mae'n rhoi enghraifft o ardrethi busnes. Rydym ni, wrth gwrs, yn ystyried sut y gallwn ni sefydlu system ryddhad barhaol o ran ardrethi busnesau bach. Rydym ni’n ystyried sut y gellir gwneud hynny gyda'r bwriad o weithredu hynny. Mae’n dweud bod ein hagwedd yn anghywir. Wel, gallaf ond cyfeirio—. Gallwn i fynd trwy restr lawn o bethau, ond fe’i cyfeiriaf at y geiriau a ddefnyddiwyd gan Aston Martin. Daethon nhw i Gymru, nid oherwydd bod mwy o arian yn cael ei gynnig, ond oherwydd balchder a phroffesiynoldeb Llywodraeth Cymru. Dyna pam y daethon nhw i Gymru a gellir ailadrodd hynny ar hyd a lled Cymru o ran y swyddi yr ydym ni wedi eu denu i Gymru.
 
Mae'n sôn am Brexit. Mae'n cydnabod bod yna heriau. Yn wir, mae heriau yn sgil Brexit. Mae'r farchnad sengl yn sicr yn bodoli, oherwydd ei bod yn defnyddio tariff cyffredin, ac o ganlyniad i hynny, i gael mynediad i’r farchnad honno, mae'n rhaid i bob un ohonom ni dalu'r tariffau neu ddod o hyd i ffordd o gytuno i osgoi talu'r tariffau hynny. A fodd bynnag, os oes gennych chi dariffau, mae gennych chi ffin galed yn Iwerddon. Nid oes unrhyw ffordd o osgoi hynny, oherwydd ni allwch chi gael system o dariffau ac yna dweud ‘Gyda llaw, mae gennym ni ffin tir gyda'r UE lle nad oes unrhyw reolau tollau o gwbl nac unrhyw dariffau yn daladwy’. Felly, nid yw eisiau ffin galed—iawn, rwy’n derbyn hynny—ond ni allwch chi gael tariffau a pheidio â chael ffin galed; mae'r ddau yn cyd-fynd â’i gilydd a'r holl ganlyniadau—canlyniadau trasig, mewn gwirionedd—a allai fod o ganlyniad i hynny.
 
Os gaf i hefyd ddadansoddi dadl y defnyddiodd ef yn gynharach. Dywedodd nad oedd ots am dariffau oherwydd bod y gyfradd gyfnewid wedi datrys y mater hwnnw. Wel, wrth gwrs, mae'r gostyngiad yn y bunt yn golygu bod nwyddau o'r Undeb Ewropeaidd bellach yn ddrutach yn y DU. Ychwanegwch dariffau ar ben hynny ac maen nhw’n ddrutach fyth a’r defnyddiwr sy’n talu amdanynt. Un o'r pethau na allwn ni byth ei ddeall yn y sgyrsiau a gefais gyda David Davis rai misoedd yn ôl oedd ei fod yn parhau i ddweud y gall tariffau roi pot o arian i ni y gallwn ni ei ddefnyddio i gefnogi busnes. Iawn, ond maen nhw'n cael eu talu gan y defnyddiwr. Y dyn cyffredin sy'n talu'r tariffau, nid y busnesau. Yn y pen draw, mae’r gost yn cael ei throsglwyddo i'r rhai sy'n prynu'r cynnyrch y mae tariff arno. Felly, mae'n anodd gweld sut y gall cyfraddau cyfnewid oresgyn y broblem os gorfodir tariffau. Siawns ein bod yn dymuno gweld byd lle, yn hytrach na gweld y DU yn cymryd marchnad o 400 miliwn o bobl ac eisiau gweld tariffau yn cael eu gorfodi ar eu nwyddau sy'n mynd i mewn i'r farchnad—siawns nad oes neb eisiau gweld hynny yn digwydd. Felly, mae llawer o’r hyn a ddywedodd na allaf ei dderbyn. Dywed fy mod i'n amddiffyn yr anniffynadwy. Mae'n rhaid i mi ddweud wrtho, rwy’n fwy na pharod heddiw i amddiffyn ac eirioli dros yr hyn y gellir ei amddiffyn yn fawr iawn.
 
15:26
Hefin DavidBywgraffiad
Hoffwn i ddiolch i Adam Price am y geiriau hyfryd, caredig. Rwy'n siŵr y byddan nhw’n gwneud byd o les i mi; diolch yn fawr. Ond rwy'n credu, mewn gwirionedd, mai rhywbeth i'w ddathlu ydyw, y rhyddid i fynegi ar y meinciau Llafur hyn. Rydym ni wedi cael ein hannog gan y Llywodraeth i gyfrannu at yr hyn y maen nhw’n ceisio'i wneud, ac nid wyf i erioed wedi cael fy annog gymaint i leisio barn fel gwleidydd etholedig.
 
Gyda hynny mewn golwg, rwy’n mynd i leisio fy marn. Mae gennyf i gwestiwn neu ddau am y strategaeth genedlaethol. Yn gyntaf, ar dudalen 25 mewn cysylltiad â gofal cymdeithasol: mae'n dweud bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu buddsoddi mewn model newydd arloesol ar gyfer darparu gofal yn y gymuned. A wnaiff y Prif Weinidog ateb y cwestiwn hwn yn uniongyrchol? [Torri ar draws.] Ydy e'n ceisio dod o hyd i'r ddogfen? Mae’n sôn ar dudalen 25 am
 
fuddsoddi mewn model newydd arloesol ar gyfer darparu gofal yn y gymuned.
 
A fyddai'r Prif Weinidog yn ystyried y sector cyhoeddus yn creu cartrefi gofal gan ddefnyddio adeiladau presennol neu adeiladau newydd, a chaniatáu i weithredwyr dielw bach, lleol eu rhedeg, gan felly roi pwyslais sylfaenol ar ofal cymdeithasol sylfaenol yn ein cymunedau?
 
O ran cynllunio, ar dudalen 5 mae'n dweud
 
bod y system gynllunio iawn yn hollbwysig i gyflawni ein hamcanion yn y strategaeth hon.
 
Byddwn i’n dadlau, er gwaethaf Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 a oedd yn croesawu creu cynlluniau datblygu strategol sydd eto i’w gweithredu, bod cynlluniau datblygu lleol yn amlygu anghydraddoldeb rhanbarthol yn y system gynllunio gyfredol; maen nhw’n fethedig. Rydym ni’n gweld drwy gynlluniau datblygu lleol gorddatblygiad y de, yn enwedig yn fy ardal i ar hyd goridor yr M4, a thanddatblygiad a diboblogi y gogledd. Byddwn i’n dadlau bod cynlluniau datblygu lleol ynghlwm yn llwyr â’r hyn sy'n ddichonadwy, a’r hyn a olygir gan ddichonadwy yw proffidiol. Mae angen i ni ystyried hynny a sut yr ydym yn newid hynny. Ac roedd tudalen 24 y ddogfen yn galonogol i mi, gan ddweud y bydd Llywodraeth Cymru yn
 
datgloi potensial BBaChau i adeiladu cartrefi.
 
Mae hynny'n gam calonogol iawn, ond un o'r pethau a fydd yn helpu busnesau bach a chanolig yw adfer safleoedd tir llwyd. A fyddai Llywodraeth Cymru felly yn ystyried adolygu polisi o ddarparu cymorth ar gyfer adferiad, a fyddai'n galluogi busnesau bach a chanolig i ddatblygu safleoedd tir llwyd, yn enwedig yn rhannau gogleddol yr ardaloedd yr wyf i’n eu cynrychioli?
 
Ac yn olaf, mae croeso mawr i ymagwedd ranbarthol, yn enwedig os yw'n ddull sydd wedi’i seilio ar leoliad, ac edrychaf ymlaen at weld sut y gellir gwneud hynny yn y cynllun economaidd sydd i ddod. Beth fydd yr olion traed rhanbarthol hynny ac a yw'r Prif Weinidog yn ffyddiog bod gan lywodraeth leol y strwythur, a hefyd y sgiliau a'r wybodaeth i gyflwyno strategaethau economaidd lleol? Bydd, bydd y Bil llywodraeth leol yn datblygu strwythur, ond a all ef fod yn ffyddiog y bydd sgiliau a gwybodaeth hefyd yn cael eu datblygu ochr yn ochr â hynny, yn enwedig o ran caffael, er enghraifft?
 
15:30
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Yn gyntaf, mae'r Aelod yn gwbl gywir i ddweud ein bod yn annog y math hwnnw o feddwl. Fel y mae’n gwybod, rydym ni wedi trafod sawl gwaith pa mor bwysig yw gallu defnyddio syniadau newydd o’r tu allan i'r Llywodraeth, ac rwy’n croesawu’r sylwadau a wnaeth. Gofynnodd gwestiwn uniongyrchol i mi a'r ateb yw 'ydym'. Rydym ni eisiau ystyried pob strwythur posibl o ran rhedeg cartrefi gofal, ac mae hwnnw’n syniad y gellir ei ystyried, yn sicr, i weld pa mor ddichonadwy ydyw.
 
O ran CDLlau, mae'n iawn dweud nad yw CDLlau ar eu pennau eu hunain yn ddigonol bellach. Mae’n rhaid i gynllunio rhanbarthol fod yn llawer cryfach, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni’n bwriadu parhau i symud ymlaen ag ef yn rhan o'r Bil llywodraeth leol. Mae'n hollol gywir i ddweud ein bod ni'n byw mewn byd lle nad yw ffiniau llywodraeth leol mewn gwirionedd yn cael eu parchu gan gynllunwyr, na chan natur, na chan ddaearyddiaeth, ac mae'n golygu pan fydd un awdurdod lleol penodol yn edrych ar ei CDLl yng nghyd-destun yr hyn sy'n digwydd yn ei ardal ei hun yn unig, yn aml ceir effaith ganlyniadol rywle arall. Ac felly, bydd gweld cynllunio rhanbarthol yn y dyfodol yn hynod bwysig. Mae’r mater o ôl troed rhanbarthol yn rhywbeth a fydd yn cael ei ystyried yn rhan o'r Bil llywodraeth leol. Rydym ni’n dymuno annog awdurdodau lleol i gydweithio er mwyn sefydlu strwythurau cynllunio rhanbarthol.
 
Mae'n gofyn y cwestiwn i mi: a ydw i’n ffyddiog y gall pob awdurdod lleol gyflawni o ran strategaethau economaidd lleol? Yr ateb i'r cwestiwn hwnnw yw: nac ydw, ni allan nhw ei wneud ar eu pennau eu hunain. Dyna lle mae angen iddyn nhw weithio gyda'i gilydd. Nid wyf yn credu bod digon o ddyfnder ym mhob awdurdod lleol unigol yng Nghymru i ddatblygu'r math o strategaeth economaidd sydd ei hangen, ond drwy gydweithio ar ôl troed rhanbarthol, gellir creu'r dyfnder hwnnw. Ac wrth gwrs, rydym ni’n gwybod hefyd nad yw economïau yn parchu ffiniau llywodraeth leol. Mae'n hynod bwysig bod awdurdodau Blaenau'r Cymoedd yn gallu gweithio gyda'i gilydd er budd pawb, yn hytrach na meddwl ‘Byddwn ni’n ymdrin â’r hyn sy'n digwydd yn ein hardal ni yn unig.’ Rydym ni’n gwybod nad yw'r byd yn gweithio fel hynny. Ac mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni’n awyddus i'w wneud. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gweithio'n agos iawn gydag arweinwyr llywodraeth leol, ac maen nhw’n deall y neges honno. Ni allwn ni barhau ar drywydd sy'n trin Cymru fel 22 o ardaloedd gwahanol sy'n gweithredu bron yn gyfan gwbl yn annibynnol ar ei gilydd, a dyna pam y bydd cynllunio rhanbarthol yn dod yn bwysicach yn rhan o'r Bil hwnnw.
 
Yn olaf, mae'n sôn am safleoedd tir llwyd. Ydym, rydym ni eisiau gweld mwy o adfer tir llwyd, ond mae cost sylweddol i hyn. Rwy’n gwybod am o leiaf un enghraifft y gwnes i ymdrin â hi pan oeddwn i'n Weinidog dros yr amgylchedd, pan oedd y gost o adfer un safle bach yn £20 miliwn. Yn y gorffennol oedd hynny, 10 mlynedd yn ôl, oherwydd nad oedd y busnes yn bodoli mwyach —y perchnogion gwreiddiol. Ac o ganlyniad i hynny, mae'r atebolrwydd yn dod i ddwylo Llywodraeth Cymru. Dyma’r sefyllfa gyda glo brig hefyd. Nawr, mae problemau gwirioneddol yn bodoli o ran adfer safleoedd brig glo, a bydd rhai ohonom ni yn y Siambr hon yn fwy na chyfarwydd â nhw, a beth sy'n digwydd os nad yw'r busnes sy'n berchen ar y safle yn bodoli mwyach—mae'n mynd i ddwylo’r derbynwyr neu’n diflannu yn llwyr. Ac felly, mae'r rhain yn faterion yr ydym yn ymrafael â nhw, ond mewn egwyddor, wrth gwrs, rydym ni’n dymuno gweld rhagor o safleoedd tir llwyd yn cael eu hadfer, ond mae’n rhaid i ni wneud hynny ar y sail ei bod yn glir bod cyfyngiad ar yr hyn y gallwn ni fforddio talu amdanyn nhw yn y flwyddyn ariannol.
 
15:33
Lee WatersBywgraffiad
Prif Weinidog, a gaf i groesawu o ddifrif yr ymdrech i geisio uno gwahanol feysydd gweithgarwch y Llywodraeth? Mae llywodraethau yn aml yn cael eu beirniadu am feddylfryd seilo, ac rwy’n credu bod y Llywodraeth yn haeddu rhywfaint o ganmoliaeth yn y ddogfen hon am y ffordd y mae wedi ceisio dod â gwahanol feysydd ei rhaglen a'i strategaeth at ei gilydd. Ac rwy’n edrych ymlaen, pan gaiff y cynlluniau gweithredu eu cyhoeddi, at fwrw ymlaen â manylion hyn, i weld sut y bydd hynny'n gweithio'n ymarferol.
 
Y maes penodol yr oeddwn i’n dymuno canolbwyntio arno oedd awtomeiddio, sy'n trawstorri amrywiaeth o bortffolios a meysydd, a bydd yn effeithio'n sylweddol ar bopeth a wnawn. Ac rwy’n synhwyro nad yw pob lefel o’r Llywodraeth yn ddigon parod ar gyfer y storm sy'n cael ei rhyddhau o'n cwmpas. Rydym ni eisoes wedi gweld effaith cau canolfan alwadau Tesco yng Nghaerdydd a'i symud i Dundee, ac rwyf ar ddeall bod hyn wedi’i seilio’n llwyr ar ystyriaethau ynghylch awtomeiddio. Mae cydnabyddiaeth yn y strategaeth mai'r amddiffyniad gorau fydd pobl sydd â'r gallu i weithio'n well ac yn ddoethach na pheiriannau ac sy’n gallu datrys y problemau na all peiriannau eu datrys. Ac, wrth gwrs, mae sgiliau yn rhan bwysig o ymdrin ag awtomeiddio. Ond mae hynny'n colli'r cyfleoedd hefyd.
 
Ydy, mae'n iawn—mae fformiwla Banc Lloegr yn awgrymu y gallai rhyw 700,000 o swyddi fod dan fygythiad yng Nghymru, ond os ydym ni’n manteisio ar awtomeiddio, mae cyfleoedd i ni hefyd, o ran gweithgynhyrchu, dylunio a chyflwyno roboteg. Es i ar ymweliad diddorol â Choleg Peirianneg Prifysgol Abertawe ddydd Gwener diwethaf, lle mae gwaith arloesol iawn yn digwydd ar yr agenda hwn yng Nghymru, ac ymweliad yr wythnos flaenorol ag EBS Automation Ltd yn Nafen, sy'n gwneud gwaith rhyfeddol. Felly, mae stori gadarnhaol i'w adrodd, ond roedd y pwynt y gwnaeth y Prif Weinidog ychydig o funudau yn ôl yn drawiadol, wrth feirniadu methiant Llywodraethau blaenorol i ymateb i'r swyddi yr oedd disgwyl eu colli yn y diwydiannau glo a dur yn y 1980au, a'r methiant i gynllunio ar gyfer yr hyn yr oedden nhw’n gwybod y byddai’n debygol o fod yn addasiad yn yr economi. Ac rwy'n credu ein bod ni’n wynebu newid tebyg o fewn cenhedlaeth. Rydym yn gwybod y bydd tarfu sylweddol ar y ffordd yr ydym ni’n trefnu gwasanaethau cyhoeddus a'r economi, ac mae’n rhaid i ni fod yn barod ar ei gyfer, ac mae’n rhaid i hyn ddigwydd ar draws y Llywodraeth gyfan. Ac rwy’n gobeithio y bydd ef yn arwain y gwaith hwnnw yng Nghymru.
 
15:35
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae'r Aelod yn hollol gywir. Y newid mawr, rwy’n credu, a ddigwyddodd yn ystod y blynyddoedd diwethaf yw cyflymder y newid. Ni fyddai wedi bod yn anodd rhagweld yn y 1970au bod glo—yn arbennig glo—yn dirywio. Ni allai neb fod wedi rhagweld y colli swyddi sydyn a ddigwyddodd, ond dyna fu’r duedd ers 1914. Yr hyn yr ydym ni’n ei weld yn awr yw cyflymder newid na fyddai wedi ei ystyried yn bosibl yn y 1970au. Ddeng mlynedd yn ôl, nid oedd y pwysau ar y sector manwerthu yr hyn y maen nhw yn awr, o ran cystadleuaeth o ffynonellau ar-lein, ac mae hynny'n rhywbeth y bu'n rhaid i'r sector manwerthu addasu iddo, yn llafurus iawn. Mae canolfannau galwadau o dan bwysau nawr mewn ffordd nad oedden nhw 10, 12 mlynedd yn ôl, wrth i dechnoleg wella. Yr her i ni, a Llywodraethau eraill, yw sicrhau, os bydd swyddi’n cael eu colli yn y meysydd hynny, bod swyddi eraill yn cael eu creu mewn mannau eraill, yn amlwg, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni’n ymwybodol iawn ohono.
 
Un o'r diwydiannau lle rydym ni'n arweinwyr byd mewn gwirionedd yw yswiriant—nid yn unig o ran cwmnïau unigol, ond gwefannau cymharu. Un o'r heriau y mae yswirwyr yn ei hwynebu yw ceir heb yrrwr—ceir sy'n gallu gyrru eu hunain. Beth y mae hynny'n ei olygu o ran asesu risg yswiriant? Sut ydych chi'n cyfrifo'r premiwm? Pwy sy’n atebol? Ond mae'r pethau hyn yn cael eu hystyried ar hyn o bryd, gan ein bod ni'n gwybod, ymhen 10 mlynedd—yn gynt na hynny, mae’n debyg—y bydd hon yn broblem wirioneddol. Felly, mae'n hollol gywir i ddweud bod heriau yn y fan honno, mae'n debyg nad ydyn nhw hyd yn oed wedi eu rhagweld eto, y mae'n rhaid eu cydnabod mor gyflym â phosib—rhai sy'n ymddangos yn bell, ond y byddan nhw ar ein gwarthau mewn dim o amser. Rydym ni'n barod iawn am yr her honno, er mwyn sicrhau, lle gwelwn newid yn digwydd, ein bod yn gwybod bod Cymru'n barod ar gyfer y newid hwnnw, a’n bod ni’n gwella sgiliau ein pobl, er mwyn sicrhau eu bod yn gallu manteisio ar y newidiadau hynny, mewn byd sy'n newid yn gyflym.
 
15:37
Russell GeorgeBywgraffiad
Fel Adam Price, rwyf innau hefyd wedi gwneud rhywfaint o ddarllen yn gyflym—llwyddais i ddarllen y ddogfen yn ystod un o'r cwestiynau yng nghwestiynau'r Prif Weinidog yn gynharach. Ac roedd pwyntiau yn y ddogfen yr oeddwn yn falch o'i weld yn y fan honno. Ond rwy'n siomedig, heddiw, nad ydym ni wedi gweld strategaeth economaidd gynhwysfawr. Fel aelodau eraill ar draws y Siambr hon, o bob plaid, dyna oeddwn i'n ei ddisgwyl. Ond a gaf i ofyn pam mae oedi wedi bod wrth dderbyn y ddogfen hon? Ym mis Gorffennaf, gwnaethoch ymrwymo y byddem ni’n gweld y ddogfen cyn diwedd y tymor. A gaf i ofyn i chi ddarparu dyddiad penodol o ran pryd y byddwn ni’n gweld y camau gweithredu penodol ar gyfer 'ffyniannus a diogel' a'r strategaeth economaidd? A phan fyddwn ni’n gweld y ddogfen honno, a fydd hynny'n ddogfen gynhwysfawr?
 
Wrth baratoi'r strategaeth hon, a gaf i ofyn sut y mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod ei bolisïau economaidd yn ategu strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU? Byddwch chi hefyd yn ymwybodol bod y strategaeth ddiwydiannol yn rhoi pwyslais mawr ar fynd i'r afael â'r anghysondeb rhanbarthol yn y ffyniant economaidd a'r prinder sgiliau sy'n bodoli ledled y DU. Nawr, rwy’n croesawu’n fawr iawn yn y ddogfen heddiw—nodaf eich bod yn bwriadu targedu ymyrraeth i anghenion economaidd pob rhanbarth. Mae hynny'n rhywbeth yr wyf i’n ei groesawu'n fawr iawn, a chroesawaf y cyfeiriad hefyd y byddwch chi’n canolbwyntio ar gryfderau pob rhanbarth—mae hynny i'w groesawu hefyd. Felly, sut y bydd strategaeth y Llywodraeth yn mynd i'r afael â'r materion hyn yn benodol, i ysgogi cynnydd mewn cynhyrchiant yn y gogledd a'r canolbarth yn arbennig? A gaf i ofyn yn hynny o beth pa ystyriaeth y mae'r Llywodraeth wedi'i rhoi i ddatblygu strategaeth economaidd ar gyfer canolbarth Cymru yn arbennig, a bargen dwf i ganolbarth Cymru?
 
Hefyd, ymddengys fod llai o bwyslais ar annog buddsoddiad mewnol yn y strategaeth hon. A wnewch chi, Prif Weinidog, gadarnhau bod eich Llywodraeth yn symud i ffwrdd o fewnfuddsoddiad fel piler allweddol o ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at ddatblygu economi Cymru? Ac os felly, sut y bydd y strategaeth yn sicrhau bod Cymru'n manteisio ar y cyfleoedd buddsoddi ac allforio a fydd yn codi o ganlyniad i Brexit, er mwyn hybu cysylltiadau masnach â phartneriaid eraill o bob cwr o'r byd?
 
15:40
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Gofynnwyd am nifer o gwestiynau yn y fan honno, a chamau penodol, yn arbennig. Y pethau pwysicaf yn gyntaf: bydd y cynllun gweithredu economaidd yn cael ei gyhoeddi yn ystod yr hydref a bydd ar gael i'r Aelodau ei weld.
 
Mae strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU yn aneglur. Nid dyma'r strategaeth fwyaf manwl. Edrychwn ymlaen at weld hynny yn datblygu dros amser. Y cwestiwn mawr nad yw'n cael ei ateb ynglŷn â hynny a'r gronfa ffyniant a rennir yw sut y bydd yn ymgysylltu â gwaith y Llywodraethau datganoledig. Ni fydd cronfa ffyniant a rennir yn gweithio os yw Llywodraeth y DU yn penderfynu ar ei blaenoriaethau yn unig. Ni fydd yn ymgysylltu’n iawn â'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru a'r hyn sy'n digwydd yn yr Alban. Rydym ni’n aros i weld sut y bydd hynny'n gweithio allan.
 
Mae'n sôn am y cytundeb twf canolbarth Cymru—mae hynny, wrth gwrs, yn rhywbeth y byddem ni’n dymuno arno wrth ddatblygu'r ddogfen hon a thu hwnt. Nid ydym ni’n symud i ffwrdd o fuddsoddiad mewnol. Mae buddsoddiad mewnol yn hynod bwysig i economi Cymru ac, yn unol â hynny, rwyf i, ers rhai misoedd, wedi edrych ar sut y gallwn ni roi hwb i'n presenoldeb dramor o ystyried bod Brexit yn digwydd. Ble arall y gallwn ni edrych? Pa farchnadoedd newydd allwn ni edrych arnynt? Ble dylem ni roi swyddogion Llywodraeth Cymru ar waith, fel arfer, â swyddogion yn yr hyn a oedd yn Fasnach a Buddsoddi y DU mewn swyddfeydd ledled y byd? Mae'r gwaith hwn yn bwysig i godi proffil Cymru. Rydym ni’n deall hynny ac mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo, ond mae'n iawn dweud bod codi proffil Cymru yn hynod bwysig—rydym ni’n gwybod hyn—o ran denu buddsoddiad. Byddwn i’n dadlau ein bod wedi gwneud hynny. Rydym ni wedi cael y buddsoddiad gan Qatar Airways, wrth gwrs, i'r maes awyr, ynghyd â llawer o bobl eraill o wledydd eraill, ac mae'n hynod bwysig bod momentwm yn parhau yn y dyfodol fel bod y llwyddiant a gawsom yn ystod y blynyddoedd nesaf yn cael ei ailadrodd pan ddaw at ddenu buddsoddiad tramor uniongyrchol.
 
15:41
Vikki HowellsBywgraffiad
Prif Weinidog, hoffwn i groesawu'r ymrwymiad yn y strategaeth genedlaethol i fodel newydd o ddatblygu economaidd sy'n canolbwyntio ar y rhanbarth. Rwy'n credu bod hynny'n arbennig o bwysig yn wyneb Brexit a cholli'r arian rhanbarthol y byddwn ni’n ei brofi o ganlyniad i hynny. Fodd bynnag, mewn cyhoeddiadau diweddar ar ddatblygu rhwydwaith o ganolfannau twf rhanbarthol, ymddengys bod y rhain yn bennaf yn rhannau mwyaf deheuol ein Cymoedd—mannau fel Pontypridd, Trefforest a Chaerffili. Felly, fy nghwestiwn i yw: sut y bydd y pwyslais rhanbarthol newydd yn cynorthwyo datblygiad economaidd yr ardaloedd mwyaf gogleddol yn ein Cymoedd lle yr ydym yn gwybod bod tlodi, diweithdra a salwch yn parhau i fod yn ystyfnig o uchel?
 
Yn ail, hefyd, fel eiriolwr angerddol ar gyfer yr economi sefydliadol, rwy'n falch o nodi bod y strategaeth yn sôn am gefnogaeth i fusnesau lleol ac arallgyfeirio cadwyni cyflenwi. Pa wybodaeth ychwanegol allwch chi ei rhoi ar sut y bydd Llywodraeth Cymru yn galluogi busnesau bach i dyfu a ffynnu, i lenwi'r canol sydd ar goll a chreu cyflogaeth gynaliadwy, o ansawdd da ac, yn anad dim, sy’n lleol?
 
15:43
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Yn gyntaf, mae’r mater o le y gall canolfannau twf fod yn rhan ogleddol y Cymoedd yn fater sy'n cael ei ystyried gan Dasglu’r Cymoedd. Felly, nid yw hynny'n cael ei golli; mae'n rhywbeth sy'n dal i gael ei ddatblygu. Rydym ni’n deall pwysigrwydd y gallu i edrych ar ganolfannau twf, yn enwedig o gwmpas ffordd Blaenau'r Cymoedd, yr ydym ni'n gwybod y bu’n hynod bwysig i ddatgloi datblygiad economaidd ym Merthyr, fel un enghraifft, ond cymunedau eraill hefyd.
 
Yn ail, wrth gwrs, rydym ni’n gwybod bod mwyfwy o bobl yn hunangyflogedig, felly mae eu gallu i gael cyngor yn hynod bwysig. Mae gennym ni, wrth gwrs, gyfres o fesurau sy'n gallu cynorthwyo pobl i chwilio am gymorth ariannol lle bo'n briodol, i chwilio am gyngor lle bo hynny'n briodol, ac un enghraifft o hynny yw sicrhau y gall pobl gael gafael ar wasanaethau band eang cyflym. Rwyf i wedi dweud hyn o'r blaen yn y Siambr: mae band eang yn yr unfed ganrif ar hugain yn cyfateb i'r rheilffyrdd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Os ydych chi'n gysylltiedig, rydych chi'n gysylltiedig â'r byd a dyna pam, wrth gwrs, rydym ni wedi buddsoddi cymaint o arian yn Cyflymu Cymru: i ddod â band eang cyflym iawn i lu o gymunedau na fydden nhw byth yn ei gael fel arall—rhai cymunedau trefol, rhai gwledig. Rydym ni’n gwybod ei bod hi'n hynod bwysig bod ein cymunedau'n gysylltiedig, gan ei bod yn golygu y gall pobl sefydlu busnesau yno yn hytrach na gorfod symud i lawr i ran ddeheuol de Cymru er mwyn cael gafael ar y cyflymderau sydd eu hangen arnynt.
 
15:44
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Diolch yn fawr iawn, Brif Weinidog, ac ymddiheuriadau i'r Aelodau hynny na allem ni alw arnyn nhw yn y datganiad hwnnw.
 
15:44
4. Datganiad: Bil yr UE (Ymadael)
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Rydym yn symud ymlaen at eitem 4, sydd, unwaith eto, yn ddatganiad gan y Prif Weinidog—Bil yr UE (Ymadael). Galwaf ar Carwyn Jones i gyflwyno'r datganiad.
 
15:44
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am faterion sy’n ymwneud â Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), ac yn benodol, y gyfres o welliannau a gyhoeddodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban ar y cyd y bore hwn.
 
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
 
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'n memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Mae'r memorandwm hwnnw'n nodi'n fanwl yr agweddau hynny ar y Bil sy'n gofyn am gydsyniad y Cynulliad, ac mae'n disgrifio'n glir iawn pam nad ydym yn derbyn y Bil yn ei ffurf bresennol. Nid wyf yn bwriadu cyflwyno’r dadleuon hynny'n fanwl eto. Yn hytrach, hoffwn i ganolbwyntio ar yr ateb adeiladol, y mae’r gwelliannau a gyhoeddwyd yn eu cynrychioli, sef ateb i broblem a grëwyd yn gyfan gwbl gan Lywodraeth y DU i’w hun, ac un y gellid fod wedi'i hosgoi pe bai ymgais wirioneddol i ymgysylltu â'r gweinyddiaethau datganoledig ar gynnwys y Bil hwn. Nid ydym yn brathu. Byddai wedi bod yn llawer haws inni fod wedi cael y drafodaeth hon beth amser yn ôl.