Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :
Nôl i'r rhestr dogfennau Gweld y dudalen hon heb lincs
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
 
13:30
Y Llywydd / The LlywyddBywgraffiad
Galw’r Aelodau i drefn.
 
1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
 
13:30
Y Llywydd / The LlywyddBywgraffiad
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw’r cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf, David Rowlands.
 
Gwerthu Tir i South Wales Land Developments Cyf
 
13:30
David J. RowlandsBywgraffiad
1. Pryd fydd yr adroddiad ar yr ymchwiliad i werthu tir i South Wales Land Developments Cyf yn cael ei gyhoeddi? OAQ(5)0735(FM)
 
13:30
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei adroddiad ym mis Gorffennaf 2015 a chyhoeddodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ei adroddiad ym mis Ionawr 2016.
 
13:30
David J. RowlandsBywgraffiad
Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Prif Weinidog, rydych chi wedi sefydlu ymchwiliad i'r hyn a ddisgrifiwyd gan un o bwyllgorau’r Cynulliad hwn fel dull di-hid o gael gwared ar asedau cyhoeddus, a oedd yn gywilyddus. A disgrifiwyd y cytundeb hwn hefyd fel un o’r camgymeriadau mwyaf yn y cyfnod diweddar yng Nghymru. Felly, onid yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod yr ymchwiliad hwn yn brawf o gymhwysedd y fframwaith cyfan o graffu a gweinyddu sy'n ffurfio gweinyddiaeth ddatganoledig yng Nghymru? Yn ogystal â hyn, onid yw'n wir fod camgymeriad mor fawr â hwn yn mynnu bod cydbwysedd angenrheidiol yn cael ei gadw cyn gynted â phosibl i sicrhau nad yw’r math hwn o lanast yn digwydd eto? Ar hyn o bryd, mae'n ymddangos bod tybiaeth fod y mater hwn wedi cael ei roi o’r neilltu.
 
13:31
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, nac ydy. Cydnabu’r archwilydd cyffredinol ein bod ni wedi gweithredu'n gyflym ac yn briodol ar ôl i bryderon gael eu mynegi. Comisiynwyd adolygiad gennym o ran llywodraethu cronfa buddsoddi mewn adfywio Cymru, yn ogystal ag adolygiad gan gymheiriaid o'r cyngor proffesiynol, a gynhaliwyd gan Deloitte, a sicrhawyd bod canlyniadau'r ddau adolygiad hyn ar gael i'r archwilydd cyffredinol.
 
13:31
Mark RecklessBywgraffiad
Daeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i'r casgliad bod CBCA a Llywodraeth Cymru wedi colli degau o filiynau o bunnoedd i’r trethdalwr. Ac eto, mae Llywodraeth Cymru wedi honni nad yw'n bosibl dangos bod y tir wedi cael ei werthu am lai na’i werth. Wrth ymateb i'r PCC, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru bod proses gyfreithiol wedi ei chychwyn, a dywedodd bod camau cyfreithiol pellach yn cael eu hadolygu. A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau pa un a yw’r broses honno a'r camau pellach hynny yn sifil, yn rheoleiddiol neu’n droseddol? Ac, os yw'n mynd i geisio iawndal, a all ef gadarnhau bod angen iddo dderbyn yn gyntaf ei fod wedi gwneud colled?
 
13:32
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae achosion cyfreithiol sy'n parhau, ac, o ganlyniad, ni allaf wneud sylw pellach.
 
13:32
Neil McEvoyBywgraffiad
Ffeithiau’r mater hwn, dim ond i gymryd Llys-faen, yw bod tir wedi cael ei werthu am £2 filiwn, y dywedwyd wythnosau’n ddiweddarach ei fod yn werth £41 miliwn. Mae'r mater yn staen ar ddatganoli, ac rwy'n credu ei fod yn staen ar eich Prif Weinidogaeth chi. A ydych chi'n cefnogi penderfyniad Heddlu De Cymru i ailagor yr ymchwiliad i gytundeb tir Llys-faen?
 
13:32
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Yn gyntaf oll, mae’n rhaid i ni fod yn ofalus gan fod Gweinidogion o’i blaid ei hun yn rhan o hyn hefyd. Ond, gan ddiystyru’r ffaith honno, nid oedd hon yn bennod a adlewyrchodd yn dda ar y rhai a oedd yn rhan ohoni. Rwy’n derbyn cymaint â hynny. Serch hynny, ceir achosion cyfreithiol sy'n dal heb eu cwblhau ac, fel y dywedais, ni allaf wneud sylwadau ar yr achosion hynny tra eu bod yn parhau i fod yn gyfredol.
 
Coleg Cymunedol y Dderwen
 
13:33
Huw Irranca-DaviesBywgraffiad
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am adroddiad monitro diweddar Estyn ar Goleg Cymunedol y Dderwen? OAQ(5)0733(FM)
 
13:33
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Rwy'n falch iawn o weld bod Coleg Cymunedol y Dderwen wedi gwneud cynnydd digonol yn erbyn ei argymhellion o'r arolygiad craidd ym mis Hydref 2015 i gael ei dynnu o'r categori mesurau arbennig. Ac rwy’n gobeithio, wrth gwrs, bod yr ysgol yn cynnal hynny ac yn parhau i wella.
 
13:33
Huw Irranca-DaviesBywgraffiad
Rwyf wrth fy modd bod y Prif Weinidog wedi gweld yr adroddiad hwnnw, a bydd yn nodi mai sylwadau Nick Brain, pennaeth gweithredol yr ysgol, oedd eu bod nhw wedi hedfan allan o fesurau arbennig. Rwy'n credu y gallai hyn fod yn ddigynsail hyd yn oed—mae’r newid wedi bod yn anhygoel. Rwy’n cofio yn fuan ar ôl y sefyllfa ‘bron iawn yn argyfwng’ yr aeth yr ysgol iddi, y pennaeth yn sefyll ar ei draed mewn seremoni wobrwyo yn yr ysgol honno, pan roedd eu pennau’n isel, ac yn dweud, ‘rwy’n dweud wrthych chi, byddwn ni’n gweddnewid yr ysgol hon yn gyflym iawn’ ac, erbyn yr haf hwnnw, roedden nhw wedi sicrhau’r canlyniadau TGAU gorau erioed. A wnaiff ef ymuno â mi i ganmol nid yn unig y pennaeth, ond holl staff yr ysgol, y staff cymorth, yr athrawon, pawb sy'n ymwneud â'r ysgol yno, ond hefyd y llywodraethwyr yn ogystal, a’r disgyblion hefyd? Mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd i'r ysgol, ond mae hedfan allan o fesurau arbennig yn y modd hwn, gyda chymorth awdurdod lleol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gyda chymorth Llywodraeth Cymru a chyllid Her Ysgolion Cymru, wedi bod yn weddnewid anhygoel, ac mae'n dangos yr hyn y gellir ei wneud gydag arweinyddiaeth ar bob lefel er lles ein disgyblion a'n myfyrwyr.
 
13:34
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Rwy'n credu bod y dadansoddiad yn hollol gywir. Mae gan Nick Brain hanes o lwyddiant mewn mannau eraill yn y fwrdeistref sirol. Ond mae'n dangos y gwahaniaeth y gall arweinyddiaeth ei wneud i sefydliad sy'n mynd trwy gyfnod anodd. Mae'r staff fwy neu lai yr un rhai, mae'r disgyblion fwy neu lai yr un rhai, ond, yn amlwg, nid oedd yr arweinyddiaeth yno, yn y modd y byddai pobl wedi ei ddisgwyl. Mae yno nawr, ac mae'n wych gweld y cynnydd sydd wedi ei wneud.
 
13:35
Suzy DaviesBywgraffiad
A gaf i ychwanegu fy llais innau at y teimladau hynny hefyd? Rwy'n credu bod hyn yn newyddion gwych i Goleg Cymunedol y Dderwen. Er hynny, mae'r adroddiad yn nodi bod y cwricwlwm yn cyfyngu ar barhad datblygiad sgiliau Cymraeg ac ieithoedd tramor modern y disgyblion ar hyn o bryd, a bod bwriad i fynd i'r afael â hynny yn 2017-18. Wel, gallai sgiliau dwyieithog a thairieithog hyd yn oed, fel yr wyf yn gobeithio eich bod yn derbyn, fod yn fodd o wireddu symudedd cymdeithasol, ac, wrth gwrs, mae gennym ni’r targed o 1 filiwn o siaradwyr. Felly, a oes unrhyw gymorth y gallai Llywodraeth Cymru ei roi i’r ysgol, neu'r consortiwm sy'n gysylltiedig â hyn, neu gyngor neu gymorth ychwanegol, er mwyn sicrhau eu bod wir yn llwyddo yn hyn o beth yn ystod y flwyddyn i ddod?
 
13:35
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Rydym ni’n barod, wrth gwrs, i roi cyngor, fel y bydd yr awdurdod addysg lleol. Ond rwy’n ffyddiog, gyda'r arweinyddiaeth sydd ar waith yn yr ysgol nawr, y byddant yn gallu ymateb i'r heriau a osodwyd arnynt ac, wrth gwrs, parhau â'r cynnydd da sydd wedi ei wneud.
 
13:36
Caroline JonesBywgraffiad
Prif Weinidog, mae'n newyddion da bod Coleg Cymunedol y Dderwen allan o fesurau arbennig, a dylid llongyfarch y staff a'r disgyblion ar wneud cynnydd cryf yn erbyn y rhan fwyaf o argymhellion Estyn. Prif Weinidog, pa gymorth mae eich Llywodraeth yn ei roi i'r ysgol er mwyn sicrhau ei bod yn gwneud cynnydd gwell o ran gwella rhifedd a llythrennedd disgyblion, a sut wnaiff eich Llywodraeth sicrhau nad yw'r gwaith hwn yn cael ei effeithio gan doriadau i’r gyllideb a orfodwyd gan yr Awdurdod Addysg Lleol? Diolch.
 
13:36
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, yn bennaf, wrth gwrs, mater i'r Awdurdod Addysg Lleol yw darparu cymorth i ysgolion. Ond, yn y pen draw, mae ysgol angen tîm arweinyddiaeth cryf, ac mae hynny wedi ei sefydlu yng Ngholeg Cymunedol y Dderwen. Mae'r canlyniadau yno i bawb eu gweld. Ac rydym ni’n disgwyl, wrth gwrs, i ysgolion, a'r Awdurdod Addysg Lleol, gydymffurfio â pholisïau Llywodraeth Cymru a rhoi cyngor ar y sail honno.
 
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
 
13:37
Y Llywydd / The LlywyddBywgraffiad
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
 
13:37
Neil HamiltonBywgraffiadArweinydd Grŵp UKIP Cymru
Diolch, Llywydd. Bydd y Prif Weinidog yn gwybod bod economi Cymru werth tua £60 biliwn y flwyddyn, ac, o hynny, gwariant cyhoeddus yw £38 biliwn ohono, rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru—tua dwy ran o dair o'r cyfanswm. A yw'n cytuno â mi bod angen dirfawr am fwy o arallgyfeirio? Mae angen i ni gael mwy o gyfalaf preifat i mewn i Gymru, i greu mwy o gyfoeth i godi’r sylfaen dreth, ac, felly, i gael y cyfle i wario mwy ar ysgolion, ysbytai, ac ati. A dyna pam roedd y penderfyniad ar Gylchffordd Cymru yn arbennig o siomedig, oherwydd roedd hwnnw’n brosiect a oedd yn cynnig gwerth £315 miliwn o gyfalaf preifat i ddod i Gymru, a nawr nid yw hynny'n mynd i ddigwydd, ac yn hytrach rydym ni’n mynd i wario gwerth £100 miliwn arall o arian trethdalwyr ar barc diwydiannol gwag. Onid yw hyn yn feirniadaeth ar Lywodraeth Cymru, ar ôl 20 mlynedd, ein bod ni wedi symud tuag at yn ôl yn hytrach nag ymlaen?
 
13:38
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, y pwynt rwy’n ei wneud am y gylchffordd yw bod y gylchffordd angen gwarant y Llywodraeth ar y lleiaf un. Nawr, pe byddai’r gylchffordd mewn sefyllfa ariannol gryfach, ni fyddai angen y warant arni. Yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yw symud ymlaen gyda'r parc technoleg. Mae'n seiliedig ar drafodaethau yr ydym ni wedi eu cael gyda darpar fuddsoddwyr. Mae'n seiliedig ar y ffaith ei bod wedi bod yn anodd, ers cryn amser, denu buddsoddiad i mewn i rai rhannau o Gymru oherwydd diffyg adeiladau lle gall pobl leoli eu hunain mewn gwirionedd. Ac, yn drydydd, wrth gwrs, bydd ganddo bwyslais mawr ar sgiliau. Y peth olaf yr ydym ni ei eisiau yw i swyddi gael eu creu, ond bod pobl leol yn methu â chael y swyddi hynny. A bydd y parc technoleg yn cyflawni ym mhob un o'r meysydd hynny.
 
13:38
Neil HamiltonBywgraffiad
Wel, y cwbl y bydd y parc technoleg yn ei wneud yw darparu cyfres o adeiladau gwag. Nid oes unrhyw ddiddordeb yn yr adeiladau hynny y gall y Prif Weinidog gyfeirio ato sy’n rhoi unrhyw sicrwydd y byddan nhw’n cael eu meddiannu gan unrhyw gwmni modurol, nac unrhyw gwmni arall, mewn gwirionedd, ond, o leiaf gyda thrac rasio o’r radd flaenaf, yng ngoleuni penderfyniadau a allai gael eu gwneud yn Silverstone, lle gallai fformiwla 1 symud i ffwrdd, yna mae hon yn ganolfan amlwg i ffurfio clwstwr o ddiwydiannau cysylltiedig. Heb hynny, nid oes fawr o obaith y bydd hyn yn ddim mwy llwyddiannus nag ardal fenter Glynebwy o ran denu swyddi i ran o'r byd sydd eu hangen yn daer.
 
13:39
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, fel y dywedais, y gwir amdani yw hyn: rydym ni wedi siarad â darpar fuddsoddwyr ac mae diddordeb. Nid ydym ni’n bwriadu codi adeilad yno na fydd yn cael ei lenwi. Y rheswm pam yr ydym ni’n symud ymlaen yw oherwydd ein bod ni wedi gwrando ar safbwyntiau, ac rydym ni wedi gwrando ar gwmnïau—cwmnïau fel TVR, sy'n dod i Lynebwy, ac eraill—sydd â diddordeb mewn creu’r clwstwr modurol hwnnw. Dywedodd pob un ohonynt wrthym nad oedd cylchffordd yn hanfodol i’w cynlluniau busnes, a’u bod nhw’n dal yn awyddus i weithio gyda ni i ddarparu'r swyddi hynny. Cofiwch, wrth gwrs, mai prin iawn yw’r swyddi y byddai'r gylchffordd ei hun wedi eu creu. Cam 2—y parc technoleg, yr ydym ni’n bwriadu ei adeiladu—fyddai wedi creu mwyafrif y swyddi.
 
13:40
Neil HamiltonBywgraffiad
Wel, wrth gwrs, dywedwyd gan y datblygwyr o’r cychwyn mai mantais fawr y cyfleuster hwn oedd bod yn ganolfan i gasgliad llawer mwy o gwmnïau a fyddai'n cynhyrchu swyddi yn economi go iawn gweithgynhyrchu am flynyddoedd lawer iawn i ddod. Mae’r swyddi hynny yn llawer llai pendant nag o'r blaen erbyn hyn, ond yn hytrach na gwarant gan y Llywodraeth, efallai na fyddai fyth galw amdani, mae gennym ni addewid gwirioneddol gan Lywodraeth Cymru nawr i wario arian go iawn—arian trethdalwyr; hyd at £100 miliwn dros 10 mlynedd—heb unrhyw sicrwydd bod yr un swydd yn dod allan o hynny y tu hwnt i'r cyfnod adeiladu. Felly, oni ddylem ni fod yn gwneud llawer mwy nag yr ydym ni’n ei wneud i sicrhau bod Cymru yn lleoliad deniadol ar gyfer buddsoddiad sector preifat, fel y dywedais i yn fy nghwestiwn cyntaf, er mwyn codi’r sylfaen dreth fel bod gan Lywodraeth Cymru fwy o adnoddau ar gael iddi i'w gwario ar yr holl amcanion cymdeithasol hynod ddymunol yr ydym ni i gyd yn eu rhannu?
 
13:41
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, nid wyf yn anghytuno â'r pwynt y mae'n ei wneud. Rwy’n ei atgoffa, wrth gwrs, am gyhoeddiad Construcciones y Auxiliar de Ferrocarriles yr wythnos diwethaf o greu 300 o swyddi yng Nghasnewydd. Rydym ni newydd weld ein ffigurau buddsoddiad uniongyrchol tramor gorau ers bron i 30 mlynedd. Mae'n arwydd bod Cymru yn lle y mae busnesau eisiau buddsoddi ynddo, ein bod ni’n cael gwell swyddi. Ar ddechrau’r 1990au, denwyd buddsoddiad i Gymru ar y sail bod gennym ni’r cyfraddau cyflog isaf yng ngorllewin Ewrop. Mae'r dyddiau hynny wedi hen fynd ac ni ddylent fyth ddod yn ôl. Rydym ni’n gallu denu swyddi i Gymru yn gynyddol ar y sail bod gan ein pobl y sgiliau sydd eu hangen, bod gennym ni, i ddyfynnu Aston Martin, Lywodraeth â balchder ac angerdd o ran gwerthu Cymru i'r byd, ac mae'r canlyniadau a welwn i fuddsoddiad uniongyrchol tramor yn siarad drostynt eu hunain.
 
13:41
Y Llywydd / The LlywyddBywgraffiad
Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
 
13:41
Leanne WoodBywgraffiadArweinydd Plaid Cymru
Diolch, Llywydd. A ydych chi’n credu bod Cymru yn symud tuag at addysg uwch rhad ac am ddim neu ymhellach i ffwrdd oddi wrth hynny?
 
13:41
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Rwy’n credu ein bod ni wedi cyflwyno pecyn teg o gyllid ar gyfer israddedigion ac ôl-raddedigion, ac mae hynny, wrth gwrs, yn rhywbeth yr ydym ni’n falch, fel Llywodraeth, o’i wneud. Bydd y pecyn sydd ar gael i fyfyrwyr yng Nghymru yn fwy hael na'r rheini yn Lloegr.
 
13:42
Leanne WoodBywgraffiad
Rwy’n gwybod ei bod hi’n ddiwedd y tymor, Prif Weinidog, ond nid oedd hwnna'n ateb argyhoeddiadol iawn. Rwyf i wedi clywed amrywiaeth o wahanol ymdrechion i gyfiawnhau y cyhoeddiad a wnaethpwyd yr wythnos diwethaf, yn y Siambr hon ac y tu allan iddi gennych chi ac aelodau'r Cabinet, ond mae’r hyn yr wyf i’n ei glywed gan fyfyrwyr yn wahanol iawn. Mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr o’r farn y dylai ffioedd dysgu gael eu rhewi ac maen nhw’n dweud bod y cyhoeddiad y mae eich Llywodraeth wedi ei wneud yn gam enfawr at yn ôl. Maen nhw’n dweud y bydd hyn yn rhwystro mynediad at addysg yn hytrach na’i helpu, ac maen nhw’n dweud y dylai fod camau ymarferol tuag at addysg uwch rhad ac am ddim. Roedd y myfyrwyr hynny yn dyfynnu yr hyn a oedd, hyd at yr wythnos diwethaf, yn bolisi’r Blaid Lafur. Pam ydych chi wedi troi eich cefn arnynt?
 
13:42
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, cytunodd UCM i adolygiad Diamond, felly mae'n syndod eu bod nhw’n dweud nawr nad ydyn nhw’n cefnogi'r hyn a gynigir. Wrth gwrs, byddan nhw eisiau cynrychioli myfyrwyr—rydym ni’n deall hynny. Yr hyn y mae adolygiad Diamond yn ei wneud yw darparu cyllid hefyd — [Torri ar draws.] Yr hyn y mae adolygiad Diamond yn ei wneud hefyd yw darparu, am y tro cyntaf, cymorth i fyfyrwyr ôl-raddedig, sy’n eithriadol o bwysig. Rydym ni’n cadw at, wrth gwrs, yr addewidion maniffesto a wnaed gennym yn 2016.
 
13:43
Leanne WoodBywgraffiad
Ni argymhellodd adolygiad Diamond gynnydd i ffioedd, Prif Weinidog. A hefyd, cytunodd nifer o bartïon i gymryd rhan yn yr adolygiad hwnnw, ond ni wnaethant gytuno i weithredu pa bynnag ganlyniad a argymhellwyd. Eich Llywodraeth chi sy’n gyfrifol am hynny. Prif Weinidog, rydych chi wedi troi eich cefn ar fyfyrwyr, ac mae’n rhaid eich bod chi’n clywed yr un negeseuon yr ydym ni wedi bod yn eu clywed. Mae Plaid Cymru o’r farn bod addysg uwch yn fudd cyhoeddus ac y dylid ei hariannu ar draws y gyllideb addysg gan gymdeithas gyfan. Mae myfyrwyr eisiau i'w prifysgolion gael eu hariannu’n well trwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a thrwy eich Llywodraeth chi, nid o'u pocedi eu hunain. Ni ddylai myfyrwyr gymryd baich y galw hwnnw am well cyllido oherwydd mae bwlch cyllido hanesyddol yn bodoli oherwydd eich diffyg buddsoddiad chi fel Llywodraeth. Rydych chi eisiau i fyfyrwyr dalu am y bwlch cyllido. Rydym ni’n credu bod hynny'n anghyfiawn.
 
Nawr, rwy’n nodi—[Torri ar draws.]—y gwnaed y cyhoeddiad yn ystod gwyliau’r haf—
 
13:44
Y Llywydd / The LlywyddBywgraffiad
A gawn ni ganiatáu i arweinydd Plaid Cymru barhau os gwelwch yn dda? Nid ydym ni angen i gyhuddiadau gael eu taflu o gwmpas y Siambr. Leanne Wood.
 
13:44
Leanne WoodBywgraffiad
Diolch, Llywydd. Gwnaed y cyhoeddiad hwnnw yn ystod gwyliau'r haf, pan roedd myfyrwyr eisoes wedi gadael y campws. Ar ddiwedd y tymor Cynulliad hwn, a wnewch chi roi rhywfaint o newyddion da haeddiannol i’r myfyrwyr hynny nawr a throi eich cefn ar y cynnydd hwnnw i ffioedd dysgu neu onid yw’r Blaid Lafur yn credu mewn addysg uwch rhad ac am ddim mwyach?
 
13:44
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, yn gyntaf oll, rwy’n synnu o glywed ei bod hi'n ymbellhau ei hun o adolygiad Diamond, sy'n newyddion i mi, mae’n rhaid i mi ddweud, ar y cam hwn. Yn ail, nid yw'n ddigon iddi ddweud ei bod hi eisiau i ffioedd dysgu gael eu diddymu heb ddweud o ble mae'r arian yn mynd i ddod. Nid yw'n wleidyddiaeth ddifrifol i ddweud hynny—[Torri ar draws.] Nid yw'n wleidyddiaeth ddifrifol i ddweud, yng Nghymru, eich bod chi eisiau diddymu ffioedd dysgu ac yna peidio â dweud o ble mae'r arian yn dod. Mae'n rhaid i ni ymdrin â'r byd go iawn. [Torri ar draws.] Yn ail—
 
13:45
Y Llywydd / The LlywyddBywgraffiad
Gadewch i ni glywed y Prif Weinidog yn ymateb. Gadewch i ni ganiatáu i'r Prif Weinidog ymateb.
 
13:45
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Yn ail, a yw hi'n dweud ffioedd ar gyfer israddedigion, neu i ôl-raddedigion hefyd? Mae hynny'n rhywbeth y mae angen iddi ei egluro. Yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yw cydnabod nad yw cyllid ôl-raddedig wedi bod ar gael ar lefelau digonol yn y gorffennol, ac felly mae'r pecyn yr ydym ni’n ei gynnig i israddedigion ac ôl-raddedigion yn deg ac yn well na’r hyn sydd ar gael yn Lloegr.
 
13:45
Y Llywydd / The LlywyddBywgraffiad
Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
 
13:45
Andrew R.T. DaviesBywgraffiadArweinydd yr Wrthblaid
Diolch i chi, Llywydd. Prif Weinidog, ddoe cyhoeddodd yr archwilydd cyffredinol yr adroddiad hwn ar gysylltiadau cytundebol bwrdd iechyd prifysgol Caerdydd a'r Fro gyda RKC Associates, sydd, i’r anghyfarwydd, yn gwmni adnoddau dynol. Yn y 10 mlynedd yr wyf i wedi bod yn y Cynulliad hwn—ac rwyf i wedi gweld cryn dipyn o adroddiadau, er tegwch, yn y 10 mlynedd hynny—mae hwn yn amlwg yn un o'r adroddiadau mwyaf damniol a welais. Byddwn yn ddiolchgar o ddeall eich safbwynt chi arno, o ystyried y crybwyllir Llywodraeth Cymru mewn sawl cyfeiriad ynglŷn â rhoi caniatâd i’r contractau gael eu cytuno â’r unigolyn hwn ac, yn anad dim, bod ar y panel dethol a ganiataodd i’r unigolyn symud ymlaen a chymryd y lle hwn gyda bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro yn y pen draw.
 
13:46
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, mae'r rhain yn faterion, yn y pen draw, i’r bwrdd eu hesbonio, ond rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog yn siarad â'r bwrdd iechyd er mwyn cael esboniad ganddyn nhw a bydd, wrth gwrs, yn hysbysu’r Cynulliad maes o law.
 
13:46
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
Prif Weinidog, roeddwn i wedi gobeithio y byddech chi wedi cael eich briffio’n llawer gwell na hynna. Nid dim ond mater i fwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro yw hwn o bell ffordd. Mae hwn yn fwrdd sy’n destun rhyw fath o fesurau arbennig gan Lywodraeth Cymru—craffu ariannol, yn arbennig, gan ei fod yn wynebu diffyg ariannol enfawr o £30 miliwn i £35 miliwn, yn ôl yr amcangyfrif diwethaf, yn y flwyddyn ariannol hon. Roedd y contract a gytunwyd a’r telerau cyflogaeth mewn rhai agweddau yn talu £1,000 y dydd a threuliau, a TAW, yn ôl yr archwilydd cyffredinol. Nid oes unrhyw dryloywder neu ddim ond ychydig iawn; Nid oes unrhyw ymatebolrwydd neu ddim ond ychydig iawn. Ceir anallu i'r archwilydd cyffredinol ddeall mewn gwirionedd sut y gwnaed y penodiadau, oherwydd mae hi’n ymddangos, ymhlith cyn uwch swyddogion y bwrdd iechyd, bod pwyntio bys at rywun arall o ran bod wedi gwneud penderfyniad yn digwydd, ac felly dim ond mynd rownd a rownd mewn cylchoedd mae pethau. Yr un person eglur sy’n rhan o hyn, gan ei bod hi ar y panel dethol pan wnaed y penodiad terfynol, yw cadeirydd y bwrdd iechyd, a oedd yn rhan o’r dethol hwnnw. A oes gennych chi ffydd yng nghadeirydd y bwrdd iechyd o ystyried y cyhuddiadau a wnaed—nid y cyhuddiadau, mae’n ddrwg gen i—y cynigion a wnaed yn yr adroddiad hwn gan yr archwilydd cyffredinol ei hun? Oherwydd rydym ni wedi ei weld dro ar ôl tro: pan fydd y pethau hyn yn mynd allan o reolaeth, gallant arwain at ganlyniadau trychinebus i’r gwaith o redeg a rheoli'r bwrdd iechyd wrth ddarparu gwasanaethau yma yng Nghaerdydd a'r Fro.
 
13:48
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, yn gyntaf oll, nid yw'r bwrdd iechyd yn destun mesurau arbennig. Dywedodd ei fod yn fath o fesurau arbennig, ond nid yw'n destun mesurau arbennig mewn gwirionedd o ran y diffiniad o'r term. Yn ail, bydd yr Ysgrifennydd Iechyd yn mynd i’r afael â’r mater gyda'r bwrdd iechyd, yn mynnu atebion, a bydd yr atebion hynny yn cael eu rhannu â'r Cynulliad.
 
13:48
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
Sylwaf na wnaethoch chi roi pleidlais o ffydd yng nghadeirydd y bwrdd iechyd, a chynigiais y cyfle hwnnw i chi. Oni allwch chi ddeall pa mor rhwystredig a pha mor ddig y mae aelodau'r bwrdd iechyd yn teimlo pan fyddant yn gweld adroddiad fel hwn sy'n nodi ymgynghorwyr yn cael eu cyflogi am £1,000 y dydd a threuliau? Dros y 18 mis o gyflogaeth, £26,000 a TAW mewn treuliau yn unig—mae hynny'n fwy nag y mae nyrs yn dechrau arno, hynny. Ac yna, pan gynigiwyd contract terfynol, daethant at Lywodraeth Cymru i ofyn am ganiatâd i godi'r uchafswm o £136,000 y flwyddyn i £150,000 y flwyddyn. Nawr, mae hwn yn fwrdd iechyd sydd wedi bod yn y newyddion oherwydd yr achos llys ddydd Gwener diwethaf—bod staff yn wynebu erlyniad a hefyd gofynion am daliadau o ddirwyon a gafwyd. Ond, yn bwysicach, bydd dicter mawr ymhlith aelodau allweddol o'r bwrdd iechyd a chleifion sy'n defnyddio'r bwrdd iechyd pan fyddant yn deall y natur ddi-hid y mae’r sefyllfa hon wedi codi ynddi. Ni ellir caniatáu iddo barhau. Fel y dywedais, gofynnwyd am ganiatâd Llywodraeth Cymru i alluogi’r trefniadau hyn i symud ymlaen, a rhoddodd Llywodraeth Cymru ei chaniatâd. Felly, mae gennych chi swyddogaeth allweddol i ddeall hyn a gwneud yn siŵr na fydd yn digwydd eto. Nodaf hefyd fod cyfarwyddwr cyffredinol y gwasanaeth iechyd wedi ysgrifennu at bob bwrdd iechyd yng Nghymru i ddarganfod a oes unrhyw drefniadau fel hyn mewn byrddau iechyd eraill. A ydych chi mewn sefyllfa i egluro'r sefyllfa o ran eich dealltwriaeth o'r trefniadau, yn enwedig pan ddaw i ymgyngoriaethau fel hyn mewn rhannau eraill o Gymru a allai ddod ag anfri ar y gwasanaeth iechyd?
 
13:50
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, yn gyntaf oll, mae gen i ffydd yn y cadeirydd. Yn ail, mae’r mater hwn yn rhywbeth y mae angen ymchwilio iddo ymhellach, a bydd Aelodau'r Cynulliad yn cael eu hysbysu am beth fydd canlyniad yr ymchwiliad hwnnw mewn gwirionedd.
 
Soniodd am y mater o barcio ceir staff. Mae hyn wedi bod yn rhywbeth sydd wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar. Mae'n bwysig, rwy’n credu, fod y rhesymeg sy’n sail i'r achos llys yn cael ei ddeall. Y rheswm pam y cymerwyd camau gorfodi oedd oherwydd y bu marwolaeth ar y safle, yn rhannol o ganlyniad i barcio anghyfreithlon ac yn rhannol oherwydd llif y traffig sy'n mynd drwy'r safle. Mae tua 16,000 o symudiadau traffig yn mynd trwy Ysbyty Athrofaol Cymru ar hyn o bryd, ac mae'n iawn y ceir gorfodaeth briodol ar gyfer parcio anghyfreithlon ac anniogel. Mae’n rhaid i hynny ddigwydd ar safle sydd mor brysur â hyn. Mae’n anodd gwybod pam yr aeth yr unigolion hyn i'r llys a pha gyngor a gawsant. Gwn fod un ohonynt yn benodol wedi cael 59 o docynnau parcio. Unwaith eto, ni roddir unrhyw esboniad pam mae hynny’n bod. Mae'n anffodus i’r unigolion hynny—rwy’n deall hynny—ond mae'n hynod bwysig bod gorfodaeth briodol ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru o ran diogelwch, ac i atal pobl rhag parcio yno drwy'r dydd, er mwyn gwneud yn siŵr bod gan gleifion sy'n cyrraedd y safle leoedd i barcio. Felly, mae’n rhaid i orfodi ddigwydd. Fel arall, a ydym ni’n dweud y gall pobl barcio yno heb ofni unrhyw fath o gosb? Mae pethau wedi mynd yn bell iawn o ran tri unigolyn; mae'n anodd gwybod pam mae hynny’n bod. Gallaf ddweud bod y syniad eu bod yn wynebu costau o £150,000 yn lol. Nid ydym yn gwybod o ble mae’r ffigur hwnnw wedi dod ac nid oes unrhyw sail iddo mewn gwirionedd. Ond mae Ysbyty Athrofaol Cymru yn safle lle mae llawer iawn o draffig yn symud, ac mae angen gorfodaeth ar gyfer y symud hwnnw.
 
Trafnidiaeth Gyhoeddus (Sir Benfro)
 
13:51
Paul DaviesBywgraffiad
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella trafnidiaeth gyhoeddus yn sir Benfro? OAQ(5)0729(FM)
 
13:51
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae’r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2015, yn nodi’r buddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer 2015-20 ym mhob rhan o Gymru.
 
13:52
Paul DaviesBywgraffiad
Brif Weinidog, yn ddiweddar mae eich Llywodraeth chi unwaith eto wedi penderfynu peidio â blaenoriaethu unrhyw orsafoedd trenau yn sir Benfro, er gwaethaf bod rhai gorsafoedd, fel gorsaf Aberdaugleddau er enghraifft, angen gwelliant sylweddol. Nawr, rydw i’n gwerthfawrogi, pan fyddwch chi fel Llywodraeth yn buddsoddi arian mewn prosiectau rheilffyrdd, y byddwch chi’n gwneud hyn gyda rhanddeiliaid fel Network Rail, Arriva Trains ac ati, ond i ystyried eich bod chi’n gwario arian sylweddol, a allech chi ddweud wrthym ni beth ydych chi’n ei wneud i sicrhau bod unrhyw arian gan Lywodraeth Cymru sy’n ariannu gwelliannau yn cael ei ddosbarthu’n deg, fel bod pob rhan o Gymru o leiaf yn cael ei ystyried?
 
13:52
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae yna griteria, wrth gwrs, sy’n agored ac sy’n gallu cael eu gweld, sydd yn cael eu defnyddio er mwyn sicrhau pa orsafoedd ddylai gael eu cefnogi dros y blynyddoedd. Mae hon yn broses hollol agored. Nid yw hi’n rhoi unrhyw fath o bwyslais ar un rhan o Gymru neu’r llall. Mae’n ystyried pa lefydd sydd eisiau’r buddsoddiad. Wrth gwrs, trwy fuddsoddiad Llywodraeth Cymru agorodd gorsaf tref Abergwaun, wrth gwrs, ar ôl sawl blwyddyn wedi cau. Mae yna fwy o wasanaethau hefyd ar y rheilffordd hwnnw, ac rŷm ni wastad, wrth gwrs, yn ystyried ym mha ffordd y gallwn ni helpu i wella’r gwasanaeth rheilffordd a hefyd y gwasanaeth bysiau yn sir Benfro.
 
13:52
Simon ThomasBywgraffiad
Brif Weinidog, fe wnaethoch chi gadarnhau ddydd Gwener yn y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Wenidog na fydd y fasnachfraint yn un lle mae elw yn dychwelyd i gyd i’r Llywodraeth, ond yn un lle rydych chi’n gorfod contractio gyda chwmni preifat. Pa gamau ydych chi’n eu cymryd, felly, i sicrhau bod unrhyw elw sydd yn dod o dwf a’r buddsoddiad sydd gan Lywodraeth Cymru yn y fasnachfraint yna yn cael ei ddychwelyd i bobl yn sir Benfro a thu hwnt, ac nad ydym yn gweld y sefyllfa bresennol lle mae un cwmni yn gwneud elw ar gefn arian cyhoeddus?
 
13:54
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Byddai hynny, wrth gwrs, yn rhywbeth y byddwn i’n ei dderbyn. Gallaf ddweud hynny a dim byd arall, rwy’n credu. Nid yw’r cyfle gyda ni i redeg y gwasanaeth rheilffordd ein hunain neu drwy gwmni rydym ni’n ei reoli. Ond, wrth gwrs, mae’n hollbwysig bod gyda ni fodel sydd mor agos ag sy’n bosib at fodel sydd yn ailfuddsoddi unrhyw elw yn ôl yn y gwasanaeth ei hunan, a hefyd, wrth gwrs, i sicrhau bod pobl Cymru yn gweld cynnydd yn y lefel o wasanaeth—nid dim ond ynglŷn â mwy o drenau, ond mwy hefyd, wrth gwrs, o drenau sydd yn drenau da i deithio arnyn nhw. Mae hynny yn rhywbeth sydd yn hollbwysig fel rhan o’r ‘franchise’.
 
Ardaloedd Menter
 
13:54
Mike HedgesBywgraffiad
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i ardaloedd menter? OAQ(5)0732(FM)
 
13:54
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Gwnaf. Rydym ni’n parhau i fod yn ymrwymedig i gynorthwyo wyth ardal fenter bresennol sydd wedi eu lleoli ledled Cymru, a bydd datganiad ysgrifenedig yn cael ei gyhoeddi’n fuan i roi manylion sut y mae hynny'n cael ei gyflawni.
 
13:54
Mike HedgesBywgraffiad
Hoffwn ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Nid oedd ardaloedd menter y 1980au yn llwyddiannus yng Nghymru, gyda'r fwyaf yn Abertawe yn troi’n ardal siopa fawr y tu allan i'r dref. Yn wir, defnyddir y term 'ardal fenter' yn Abertawe i ddiffinio ardal siopa y tu allan i'r dref. Pryd mae’r ardaloedd presennol yn mynd i gael eu hadolygu, a beth fydd yn cynrychioli llwyddiant?
 
13:55
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, mae llwyddiant, wrth gwrs, yn golygu creu mwy o swyddi. Nid yw'n golygu creu parc siopa arall, a ddigwyddodd, fel y mae’r Aelod yn ei nodi’n gywir, yng Nghwm Tawe isaf ddechrau’r 1980au. Gallaf ddweud, o ran llywodraethu, bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyfarfod â chadeiryddion byrddau ardaloedd menter ar 12 Mehefin i gael trafodaeth gychwynnol ynghylch llywodraethu ardaloedd menter a chyfeiriad y rhaglen ardaloedd menter yng Nghymru yn y dyfodol. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu cyfarfod â'r cadeiryddion eto ddiwedd yr haf i barhau â’r trafodaethau hynny, gan ganolbwyntio ar sicrhau bod trefniadau yn y dyfodol yn bodloni gofynion y Llywodraeth a pholisi Llywodraeth sy'n dod i'r amlwg.
 
13:55
Russell GeorgeBywgraffiad
Prif Weinidog, ceir wyth ardal fenter ledled Cymru. Nid oes yr un ohonyn nhw yn fy etholaeth i. Byddwn i’n dweud, yn y canolbarth, bod diddordeb mawr mewn entrepreneuriaeth a bod lefel uwch o fusnesau newydd nag efallai mewn rhannau eraill o Gymru. Felly, yr hyn y byddwn yn ei ofyn i chi, Prif Weinidog, yw: a ydych chi’n credu bod achos dros ardal fenter, neu gytundeb twf, ar gyfer y canolbarth, sy’n canolbwyntio'n arbennig ar dyfu busnesau a chreu swyddi sy'n talu'n well?
 
13:56
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Byddwn bob amser yn archwilio’r achos hwnnw. Hynny yw, mae dau beth yn bwysig i’w etholaeth ef. Yn gyntaf oll, wrth gwrs, ceir seilwaith, gyda band eang yn un elfen o hynny. Yn ail, ceir problem gyda'r grid trydan, sy’n ddadleuol, rwy’n deall, yn ei etholaeth ef, ond nid yw’r grid presennol yn arbennig o gryf pan ddaw i ddatblygu gweithgynhyrchu yn y dyfodol. Mae e'n gwybod, fel y gwn innau, pa mor ddadleuol yw peilonau yn ei etholaeth, felly fe wnaf i ei gadael hi yn y fan yna. Ond, mae'n fater y bydd angen ei ddatrys yn y dyfodol. Ond, rwy'n fwy na pharod i ystyried sut y gallai cytundeb twf o'r fath edrych, sut y byddai'n gweithio yn ddaearyddol, hefyd, mewn rhai rhannau o Gymru, ac, wrth gwrs, rwy’n rhannu ei awydd i weld mwy o swyddi a gwell swyddi yn nes at y cartref.
 
13:57
Adam PriceBywgraffiad
Mae llawer o bobl yn teimlo bod Cylchffordd Cymru yn gyfle enfawr a gollwyd i ardal fenter Glynebwy. Yr wythnos diwethaf, gan gyfeirio at gyfarfod a drefnwyd ymlaen llaw gyda'r cwmni, dywedasoch
 
fod y cwmni wedi derbyn y mater o ran y broblem o fod ar y fantolen a'r risgiau yr oedd hynny’n eu peri i ni—ni wnaethant ddadlau â hynny.
 
Dywedodd prif weithredwr y cwmni, Martin Whitaker,
 
Yn amlwg mae’r datganiad hwnnw yn anghywir.
 
Fe’i gwnaed yn eglur gennym nad oeddem yn cytuno â'r asesiad hwn.
 
Prif Weinidog, pa un ohonoch chi sy’n dweud celwydd?
 
13:57
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae’r hyn a ddywedais yn gywir. Rwy’n cadw at fy ngeiriau.
 
13:57
David ReesBywgraffiad
Mae’r olaf o’r wyth ardal fenter hynny ym Mhort Talbot mewn gwirionedd, yn fy etholaeth i, a hi yw'r unig un yng Ngorllewin De Cymru. Ond mae'n bwysig ein bod ni’n gweld hynny’n cael ei ddefnyddio nawr i wir dyfu'r economi leol a thyfu busnesau lleol. Sut ydych chi'n monitro’r cynnydd yn yr ardal fenter honno i sicrhau bod hynny’n digwydd mewn gwirionedd a bod diben yr ardal fenter yn cael ei gyflawni mewn gwirionedd?
 
13:58
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Rydym ni’n ffyddiog bod yr ardal fenter yn gweithio'n dda ym Mhort Talbot. Rydym ni’n gwybod, wrth gwrs, bod cyfle ar gyfer gweithgynhyrchu o’r radd flaenaf; y datblygiad, er enghraifft, o seilwaith TGCh llawn a fydd yn datblygu perthynas i ni gyda Tata Port Talbot; datblygu gallu ynni ac amgylchedd yr ardal fenter; adeiladu unedau busnes ac unedau swyddfa priodol; a chynorthwyo'r gwaith o adeiladu canolfan arloesi bae Baglan. Gallaf ddweud, ers sefydlu’r ardal, bod nifer o ymholiadau wedi eu derbyn, yn gofyn am wybodaeth am gymorth ar gyfer twf neu leoliadau newydd. Mae'r rhain ar y camau datblygu cynnar, ond ceir rhai mewnfuddsoddiadau sylweddol, o bosibl.
 
Dysgu Cynhwysol sy'n Seiliedig ar Waith
 
13:58
Hefin DavidBywgraffiad
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddull gweithredu Llywodraeth Cymru mewn perthynas â dysgu cynhwysol sy'n seiliedig ar waith? OAQ(5)0736(FM)[R]
 
13:58
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Yr wythnos diwethaf, cyflwynodd y Gweinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth agenda'r Llywodraeth ar gyfer cyflogadwyedd. Mae Cymru’n Gweithio yn cydnabod ymrwymiad y Llywodraeth hon i sicrhau bod dysgu seiliedig ar waith yn parhau i fod yn gynhwysol i bawb, waeth beth fo'r angen.
 
13:59
Hefin DavidBywgraffiad
Yr wythnos diwethaf, cefais gyfarfod â Dr Stephen Beyer o Brifysgol Caerdydd, sy'n gweithio ar brosiect Engage to Change, a sefydlwyd gan ddefnyddio arian o gyfrifon banc segur ac sy’n seiliedig ar bartneriaeth rhwng y Gronfa Loteri Fawr a Llywodraeth Cymru. Y nod yw cael pobl 16 i 25 mlwydd oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ac sydd ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth i mewn i waith hirdymor. Un o'r sefydliadau sy'n gweithio gydag ef yw Ysgol a Chanolfan Adnoddau Trinity Fields yn fy etholaeth i, lle rwy'n llywodraethwr, ac rwy’n datgan buddiant. Rwy'n credu bod ganddo swyddogaeth bwysig, y prosiect hwn, o ran cynorthwyo hyfforddiant swydd a phrofiad gwaith i’r bobl ifanc hynny. Rwy'n credu y gallai hefyd fod â goblygiadau i drefniadau pontio o dan y trefniadau newydd sy'n cael eu cyflwyno gan y Bil anghenion dysgu ychwanegol. A fyddai'r Prif Weinidog felly yn cefnogi model o'r math hwn os bydd y cynllun arbrofol trwy Brifysgol Caerdydd yn llwyddiannus?
 
14:00
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Byddwn, byddwn yn edrych i weld, wrth gwrs, sut y mae'r model yn gweithio, a byddwn yn gwerthuso'r model, ond rydym ni’n awyddus iawn i wneud yn siŵr bod gennym ni gymaint ar gael i gael pobl i mewn i waith, yn enwedig y rhai sydd ag anableddau a'r rhai sydd ar y sbectrwm awtistig, ac wrth gwrs, rydym ni’n edrych ymlaen at weld beth fydd canlyniadau'r prosiect.
 
14:00
Mohammad AsgharBywgraffiad
Rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn cytuno y dylai addysg uwch ymgysylltu â dysgu seiliedig ar waith i fynd i'r afael â'r rheidrwydd economaidd o gyflenwi gweithwyr sydd â’r sgiliau a'r wybodaeth briodol i'w paratoi ar gyfer natur newidiol gwaith yn yr hinsawdd swyddi bresennol. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd i annog mwy o gydweithredu rhwng cyflogwyr, sefydliadau cyflogwyr ac addysg bellach ac uwch i ddarparu ac ehangu’r dysgu perthnasol yn y gweithle yng Nghymru?
 
14:00
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Rydym ni’n gweithio'n agos iawn, wrth gwrs, gyda chyflogwyr gan ein bod ni’n gwybod bod dysgu seiliedig ar waith yn hynod bwysig i ddatblygu sgiliau pobl yn y dyfodol. Rydym ni’n ystyried sut i ddatblygu cyflogadwyedd pobl a sut yr ydym ni’n gweithio gyda busnesau er mwyn gwneud yn siŵr bod gan bobl y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol.
 
14:01
Gareth BennettBywgraffiad
Mae llawer o gyflogwyr yn teimlo bod pobl ifanc yn gadael y system addysg heddiw heb y sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnynt ar gyfer y farchnad lafur. Mae gan lawer o bobl radd, er enghraifft, ond nid yw cyflogwyr o’r farn eu bod yn barod ar gyfer gwaith. A ydych chi'n meddwl y dylid ailwampio’r system prifysgolion yng Nghymru?
 
14:01
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Rwy'n credu bod prifysgolion wedi gwella dros y blynyddoedd o ran y ffordd y maen nhw’n gweithio gyda busnesau. Mae'n wir i ddweud bod y cysylltiad yn denau iawn tua 10 mlynedd yn ôl. Nid oedd Prifysgolion o’r farn bod angen iddyn nhw weithio gyda busnesau yn y ffordd y maen nhw nawr. Rwyf i’n sicr wedi gweithio gyda phrifysgolion ac wedi mynd i brifysgolion lle maen nhw’n gweithio'n agos iawn gyda byd busnes, a lle maen nhw’n gweld eu hunain fel sbardun economaidd i greu busnesau newydd. Mae hynny'n rhywbeth yr wyf i’n ei groesawu'n fawr.
 
Lleisiau Cleifion
 
14:02
Llyr GruffyddBywgraffiad
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd lleisiau cleifion wrth ddarparu a datblygu gwasanaethau iechyd? OAQ(5)0743(FM)[W]
 
14:02
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae’n hollol allweddol bod llais dinasyddion yn cael ei glywed yn barhaus wrth ddatblygu a darparu gwasanaethau iechyd a gofal o ansawdd uchel.
 
14:02
Llyr GruffyddBywgraffiad
Wel, ydy, mae, ac wrth gwrs mae’ch Llywodraeth chi yn ymgynghori ar y funud ynglŷn â chael gwared â chynghorau iechyd cymunedol statudol. Rydw i’n gweld hwn yn gam yn ôl, ac yn gam peryglus, a dweud y gwir, yn enwedig i ni yn y gogledd, oherwydd mae angen llais cryf, annibynnol gyda phresenoldeb lleol sy’n gallu herio’r byrddau iechyd a herio’r Llywodraeth hefyd pan fod angen gwneud hynny. Mae’r cyngor iechyd yn y gogledd wedi gwneud dros 500 o ymweliadau ward yn y flwyddyn diwethaf, sef rhyw 500 yn fwy nag y mae Arolygaeth Gofal Iechyd Cymru wedi’u gwneud yn y gogledd. Mae angen ehangu rôl y cyngor iechyd nid ei ganoli i mewn i ryw gorff genedlaethol annelwig. Nawr, mae’r model newydd sydd yn cael yn grybwyll yn eich ymgynghoriad chi wedi’i seilio ar gyngor iechyd yr Alban, sydd wedi’i ddisgrifio yn ddiweddar fel ‘toothless hamster’. A ydych chi’n cytuno y byddai dilyn y trywydd hwnnw yng Nghymru yn gamgymeriad mawr?
 
14:03
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, rydym ni’n gwybod bod sawl un wedi dadlau bod eisiau model newydd er mwyn sicrhau bod yna gynrychiolaeth effeithiol o ddinasyddion ynglŷn ag iechyd a gofal cymdeithasol. Nid yw hwn yn rhywbeth sy’n mynd i wanhau llais y dinasyddion. Rydym ni’n moyn clywed beth yw barn pobl ynglŷn â’r cynlluniau sydd gyda ni ar gyfer corff annibynnol newydd, ac wrth gwrs rydym ni’n hapus iawn i glywed beth sydd ag Aelodau ac aelodau o’r cyhoedd i’w ddweud i sicrhau bod hwn yn rhywbeth sy’n cryfhau llais cleifion.
 
14:03
Rhianon PassmoreBywgraffiad
Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu’r penderfyniad i adeiladu ysbyty newydd â’r dechnoleg ddiweddaraf gwerth £350 miliwn yng Nghwmbrân, o’r enw Ysbyty Athrofaol y Grange? Bydd yn helpu i foderneiddio gwasanaethau iechyd ledled Gwent i’m hetholwyr yn Islwyn hefyd. Dywedodd Judith Paget, prif weithredwr bwrdd iechyd prifysgol Aneurin Bevan, a dyfynnaf,
 
Rydym ni wedi cael cefnogaeth wych gan bobl leol sy'n byw yn ardal y Bwrdd Iechyd gan eu bod yn deall y manteision y bydd yr ysbyty hwn...yn eu cynnig.
 
Prif Weinidog, onid dyma Lywodraeth Llafur Cymru a gwasanaeth iechyd gwladol Cymru mewn synergedd, yn gweithio gyda'i gilydd, yn gwrando ar gleifion wrth ddarparu a datblygu gwasanaethau iechyd? Sut gallwn ni barhau â'r arfer da hwn er budd ein pobl, sy'n gwybod mai yn nwylo Llafur Cymru i mae’r GIG fwyaf diogel?
 
14:04
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Ni chroesawyd y datganiad hwnnw gan feinciau'r Ceidwadwyr. Roedden nhw’n cwyno amdano. Rwy'n synhwyro brwdfrydedd yr Aelod, sy'n wych, ond nid yw cymaint â’r Aelod dros Dorfaen, y mae ei frwdfrydedd yno i bawb ei weld yn y Siambr ei hun. Ond mae hyn yn dangos, wrth gwrs, ein bod ni’n buddsoddi mewn cyfleusterau iechyd modern i’n pobl, ac mae hon yn enghraifft wych o hynny'n digwydd o dan Lywodraeth Llafur Cymru.
 
14:05
Mark IsherwoodBywgraffiad
I ddod yn ôl at y cwestiwn gwreiddiol, dywedodd Cyngor Undebau Llafur Bro Clwyd, wrth ymateb i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru ar 29 Mehefin, ansawdd a llywodraethu gofal iechyd yng Nghymru, yn cynnig diddymu cynghorau iechyd cymuned, mai Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru, oherwydd ei gyfansoddiad, yw'r corff delfrydol i fod yn llais a chorff gwarchod ein cleifion. Sut ydych chi’n ymateb i'r datganiad hwnnw ac i'r ymateb gan Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru y byddai'r cynigion yn arwain at ddiwedd trefniadau hirsefydlog a sefydlwyd i roi grym yn nwylo pobl leol i fonitro sut y mae eu gwasanaethau GIG yn gweithio, ac, er enghraifft, ni fyddai gan y corff llais y dinesydd newydd arfaethedig hawliau cyfreithiol i ddwyn sefydliadau iechyd i gyfrif am y ffordd y maen nhw’n darparu eu gwasanaethau?
 
14:05
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, byddwn ni’n archwilio’r ymateb hwnnw, ynghyd â llawer o rai eraill, a bydd hynny’n hysbysu’r penderfyniad terfynol y byddwn yn ei wneud. Nid yw'r ffaith bod rhywbeth wedi bod ar waith ers blynyddoedd lawer yn golygu o reidrwydd y dylai barhau yn y dyfodol, ond edrychwn ymlaen at ganlyniadau'r ymatebion a gawn drwy'r ymgynghoriad.
 
Digartrefedd (Gogledd Cymru)
 
14:06
Nathan GillBywgraffiad
7. Beth yw asesiad y Prif Weinidog o'r sefyllfa ddigartrefedd yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0741(FM)
 
14:06
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, mae ein pwyslais ar atal yn cael effaith gadarnhaol yn y gogledd a'r de, ac mae bron i 8,800 o aelwydydd wedi eu hatal rhag bod yn ddigartref.
 
14:06
Nathan GillBywgraffiad
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae'n debyg eich bod yn ymwybodol bod tua 15,000 o bobl yn dod yn ddigartref yng Nghymru bob blwyddyn, gan gynnwys 2,800 o blant. O'r rheini, bydd ychydig o gannoedd yn byw ar y strydoedd. Yr wythnos diwethaf, llwyddodd fy swyddfa i helpu i ddod o hyd i lety ar gyfer cyn-filwr y lluoedd arfog a ddaeth, oherwydd problemau iechyd meddwl, yn ddigartref. Yn ôl elusennau digartrefedd, amcangyfrifir bod 7,000 o gyn-filwyr yn byw ar y strydoedd yn y Deyrnas Unedig. Beth mae eich Llywodraeth yn mynd i'w wneud gydag awdurdodau lleol ac asiantaethau cysylltiedig eraill i sicrhau bod eich cyfamod lluoedd arfog yng Nghymru yn cael ei gyflawni?
 
14:07
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, rydym ni wedi datblygu nifer o ddulliau ar wahân i gynorthwyo rhai o'r aelodau hynny o'n cymuned sydd yn y perygl mwyaf o fod yn ddigartref. Mae hynny'n cynnwys y llwybr tai newydd i helpu cyn-filwyr; y llwybr cenedlaethol ar gyfer cyn-droseddwyr; y llwybr i helpu pobl ifanc osgoi digartrefedd a fframwaith llety i bobl sy'n gadael gofal er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cael y cymorth sydd ei angen arnynt i ddod o hyd i lety addas. Mae’r llwybr hwnnw ar waith, oherwydd ein bod ni’n cydnabod, wrth gwrs, bod llawer o aelodau o'r lluoedd arfog, ynghyd, wrth gwrs, ag eraill sy'n arbennig o agored i niwed, sydd angen y cymorth penodol hwnnw.
 
14:07
Janet Finch-SaundersBywgraffiad
Disgwylir i awdurdodau lleol ledled Cymru, yn ôl eich Llywodraeth, ddarparu rhyw fath o ddarpariaeth tywydd oer ar gyfer unigolion digartref a’r rheini sy'n cysgu ar y stryd, pa un a oes dyletswydd statudol arnynt ai peidio. Fodd bynnag, mae’r canllawiau ar y polisi hwn, Prif Weinidog, yn amwys iawn. Yn sicr, yn fy awdurdod fy hun, nid oes unrhyw dymereddau nac arwyddion sefydlog o ba fath o amodau tywydd sydd wedi eu cynnwys yn y polisi. Felly, gall sut y mae hyn yn cael ei gymhwyso amrywio ar sail feunyddiol bron yn ystod tywydd eithafol iawn. Pa drafodaethau fyddwch chi’n eu cynnal o ran cyflwyno canllawiau mwy unffurf ar draws Cymru, fel nad yw ein pobl ddigartref mwyaf agored i niwed a phobl sy’n cysgu ar y stryd yn cael eu gadael, yn syml iawn, allan yn yr oerfel eithafol?
 
14:08
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae'r broses honno wedi dechrau. Ond, wrth gwrs, nid oes unrhyw beth yn atal awdurdodau lleol rhag gwneud hyn eu hunain a dweud mewn gwirionedd beth fydd eu canllawiau, pa dymereddau y byddant yn eu cydnabod. Nid oes unrhyw beth yn eu hatal rhag gwneud hynny, ond, er hynny, rydym ni’n bwrw ymlaen â'r broses o ddechrau edrych ar gryfhau'r canllawiau i gyflwyno mwy o gysondeb ledled Cymru.
 
14:08
Rhun ap IorwerthBywgraffiad
A gaf i dynnu eich sylw chi at achos diweddar etholwr oedd heb gartref, ac y bu Cyngor ar Bopeth a minnau yn ceisio ei helpu i sicrhau cartref argyfwng tan bod cartref mwy parhaol yn cael ei ddarparu ar ei gyfer o? Rydw i’n deall y pwysau sydd yna ar awdurdodau lleol, wrth reswm, ond yn yr achos yma, nid oedd y cyngor yn ystyried eu bod nhw’n gallu gweld yr unigolyn yma fel blaenoriaeth. Ond yn yr achos yma, beth oedd gennym ni oedd unigolyn oedd wedi cael diagnosis o broblem iechyd meddwl ac a oedd wedi cael gweithiwr cefnogi wedi ei neilltuo ar ei gyfer o. Mewn achos o’r math yna, felly, a ydych chi, fel Prif Weinidog, yn cytuno bod yn rhaid ystyried y rhai sydd wedi cael diagnosis iechyd meddwl fel blaenoriaeth?
 
14:09
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Anodd iawn wrth gwrs i—. Ynglŷn â phobl sydd â problemau iechyd meddwl, ni fyddai neb yn dadlau yn erbyn sicrhau eu bod nhw’n cael y cymorth sydd ei eisiau arnyn nhw. Pe bai’r Aelod yn ysgrifennu ataf i gyda manylion ei etholwr, byddwn i’n ddigon hapus, wrth gwrs, i ystyried y sefyllfa i weld beth allwn ni ei wneud i helpu.
 
Yr Adran Gwaith a Phensiynau
 
14:09
Lee WatersBywgraffiad
8. Pa gamau y bydd y Prif Weinidog yn eu cymryd i wrthgydbwyso rhaglen canoli swyddi Llywodraeth y DU mewn perthynas â'r Adran Gwaith a Phensiynau? OAQ(5)0742(FM)
 
14:10
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Cafodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth gyfarfod gyda Damian Hinds AS, y Gweinidog dros gyflogaeth, ddydd Iau diwethaf. Pwysleisiodd ein Gweinidog ni ein pryderon dwys ac anogodd bod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ystyried atebion eraill, gan gynnwys cyd-leoli pan fo hynny'n ymarferol, i sicrhau y gellir cadw swyddi da yn lleol.
 
14:10
Lee WatersBywgraffiad
Diolch, Prif Weinidog. Cefais innau hefyd gyfarfod â Damian Hinds ddydd Mercher diwethaf, ynghyd â'r AS dros Lanelli, Nia Griffith, a chanfuwyd gennym unwaith eto ei fod yn foneddigaidd, ond yn ddifater ynghylch ffawd y gweithwyr yn Llanelli, lle bydd y 150 o swyddi yn cael eu hadleoli. Amcangyfrifir na fydd 50 ohonynt yn gallu manteisio ar y cynnig i adleoli gan nad yw’n ymarferol, yn syml, i allu teithio i Gaerdydd ar gyfer gwaith rhan-amser. Bydd yr effaith yn sylweddol mewn ardaloedd fel Llanelli. Er gwaethaf addewid Prif Weinidog y DU yn rhan o'i strategaeth ddiwydiannol i ledaenu’r cyfoeth, ac, fel y dywedwch, er gwaethaf cynnig Llywodraeth Cymru i helpu i adleoli’r swyddfeydd i gynorthwyo'r Adran Gwaith a Phensiynau, nid oedd unrhyw fwriad i ymgysylltu o ddifrif gyda Llywodraeth Cymru ar hyn. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno ei strategaeth economaidd yn ddiweddarach yn y flwyddyn, a wnewch chi sicrhau bod darpariaethau penodol i ail-gydbwyso'r economi i wneud iawn am y rhaglen ganoli hon y mae'r Torïaid yn ei gwthio drwyddo?
 
14:11
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, ein mantra ni yw 'gwell swyddi, yn nes at y cartref'. Mae hynny’n llywio’r hyn a wnawn. Rydym ni’n gwybod ei bod hi’n hynod bwysig bod swyddi Llywodraeth ar gael ledled Cymru. Rydym ni wedi gwneud hynny; rydym ni wedi agor ein swyddfeydd ledled Cymru. Y swyddfeydd hynny a oedd yn bodoli yng Nghaerfyrddin, yng Nghaernarfon ac yn Llandrindod, rydym ni wedi gwrthwynebu erioed y pwysau i gael gwared arnynt. Maen nhw’n dal i fod yno, gan ein bod ni’n gwybod pa mor bwysig ydyn nhw i'r economi leol. Yn anffodus, nid yw’r un egwyddorion a gwerthoedd yn cael eu rhannu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
 
14:11
Simon ThomasBywgraffiad
Mae’n siomedig iawn, wrth gwrs, beth sydd wedi digwydd yn Llanelli, yn benodol y ffaith bod cynifer o bobl, efallai, ddim yn gallu symud ac ail-leoli. Ond gan droi at eich ymateb chi i Lee Waters, mae eich strategaeth swyddfeydd chi yn sôn am gau swyddfeydd hefyd. Rydych chi’n sôn am ostwng nifer y swyddfeydd i rywbeth fel 14 neu 15. Felly, ym mha ffordd, a dweud y gwir, a ydych chi yn wahanol i’r DWP?
 
14:12
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, mae yna rai swyddfeydd wedi cau dros y blynyddoedd—bach iawn o bobl oedd yn gweithio ynddyn nhw ac roedden nhw’n agos iawn at swyddfeydd eraill. Beth wnawn ni fyth yw canoli swyddi yn y dyfodol. Dyna pam, wrth gwrs, mae swyddi wedi symud mas o Gaerdydd dros y 10 mlynedd diwethaf. Ac, wrth gwrs, mae hynny’n rhywbeth rŷm ni’n moyn sicrhau sy’n datblygu eto yn y pen draw.
 
Mynediad at Wasanaethau Iechyd (Mynwy)
 
14:12
Nick RamsayBywgraffiad
9. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad at wasanaethau iechyd ym Mynwy? OAQ(5)0730(FM)
 
14:12
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae ysbyty newydd y Grange, wrth gwrs, yn cynrychioli ymrwymiad sylweddol o £350 miliwn a fydd yn darparu gwasanaethau i bobl Mynwy ac, wrth gwrs, yr hen sir Gwent. A bydd hwnnw, wrth gwrs, yn gam pwysig ymlaen o ran gofal iechyd i bobl Sir Fynwy a thu hwnt.
 
14:13
Nick RamsayBywgraffiad
Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Roedd yn bleser ymuno â'r Ysgrifennydd iechyd ar safle Ysbyty Athrofaol newydd y Grange—enw llawer gwell, rwy’n meddwl, na'r hen 'SCCC' fel yr ydym ni wedi bod yn ei alw ers cyhyd. Mae wedi cymryd amser maith i ddigwydd. Rwy'n credu mai yn 2007 wnes i fynd i gyfarfod am y tro cyntaf ynghylch adeiladu'r ysbyty newydd. Bryd hynny, rwy’n cofio bod y drafodaeth am hyn nid yn unig am y ganolfan gofal critigol, ond y ffordd y byddai'n rhyddhau lle mewn ysbytai presennol fel Ysbyty Brenhinol Gwent a Nevill Hall hefyd, ac y byddai hynny'n caniatáu ar gyfer ad-drefnu yn y dyfodol. Yn ôl yn 2007, rhagwelwyd y byddai Nevill Hall newydd erbyn hyn yn 2017-18. Mae hynny’n amlwg wedi llithro'n ôl. Beth yw'r amserlen ar gyfer ailfodelu'r gwasanaethau iechyd o amgylch y ganolfan gofal critigol—yr ail ddarn o'r pyramid, fel petai? Oherwydd mae’r ganolfan gofal critigol yn bwysig iawn, ond mae'n un rhan o'r jig-so iechyd cyffredinol yn y de-ddwyrain.
 
14:14
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, cofiwch, wrth gwrs, bod ein cyllideb gyfalaf wedi cael ei thorri gan 40 y cant, felly roedd hi'n anodd i ni fwrw ymlaen gyda'r rhaglen fel y byddem ni wedi dymuno ei wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Wedi dweud hynny, wrth gwrs, bu nifer o welliannau i’r gwasanaeth lleol eisoes, gan gynnwys mynediad uniongyrchol at ffisiotherapi yn Nevill Hall. Mae deietegydd cymunedol a gwasanaethau rheoli pwysau ar gael yno erbyn hyn, gwasanaethau diabetes cymunedol gwell a rheolaeth fferylliaeth well o feddyginiaeth cleifion. Felly, rydym ni eisoes yn gweld datblygiad gwasanaethau newydd yn Nevill Hall, a bydd y datblygiad hwnnw’n parhau, wrth gwrs, yn y dyfodol, ac ar ôl i ysbyty’r Grange agor.
 
Tynnwyd cwestiwn 10 [OAQ(5)0739(FM)] yn ôl.
 
14:14
Y Llywydd / The LlywyddBywgraffiad
Cwestiwn 11, Neil Hamilton.
 
Cwestiwn 12, Mark Reckless.
 
Cwestiwn 13, Rhun ap Iorwerth.
 
Diogelu Cofebau Rhyfel
 
14:14
Rhun ap IorwerthBywgraffiad
13. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelu cofebau rhyfel Nghymru? OAQ(5)0734(FM)[W]
 
14:15
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae cofebau rhyfel yn rhan bwysig o’n treftadaeth, ac yn atgof parhaol o’r aberth a wnaed ac o’r golled a ddioddefwyd gan gymunedau. Rwy’n falch bod cynllun grant Llywodraeth Cymru, a gafodd ei lansio yn 2014 fel rhan o’n gweithgareddau i gofio’r rhyfel byd cyntaf, wedi helpu i ddiogelu cofebau rhyfel ledled Cymru.
 
14:15
Rhun ap IorwerthBywgraffiad
I will remember today as the day when we reached question 13, and I thank Neil Hamilton and Mark Reckless for failing to get to their files swiftly enough. I’m very grateful to have the opportunity to ask the question, and it is a matter I feel quite strongly about. Major war memorials—you will know about them—on village squares are things that are protected, and Cadw do excellent work in protecting them.
 
But there are other war memorials around Wales—in chapels, for example, or even in old factories—that commemorate people who’ve lost their lives in wars. Those need protection too, and may I make an appeal to the Welsh Government to ensure that work is done—I can put the Government in touch with people who carry out research in this area—in order to assist us to safeguard our heritage for the future and commemorate those who lost their lives?
 
14:16
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
May I say that I have previously reached question 15, but not for some time—I was accused of giving answers that were too short, so I decided that I had to lengthen my answers. I know that the Llanrhyddlad memorial on Ynys Môn is now being considered for listing as a special memorial. It’s quite an unusual one, as I understand it, because it was redesigned after the second world war, and it has the figure of a soldier from the second world war on it.
 
One of the things that we had to do when we started this scheme was to ensure that we knew how many memorials we had, because no-one had a list and no-one knew exactly where they were. But what has happened up to now is that more and more people have considered that they have a memorial, and, of course, that they want some money to maintain that memorial in the appropriate manner. So, if there are some on Ynys Môn, it’s important that we know their location and, of course, that they know in what ways they can get some help.
 
14:17
Y Llywydd / The LlywyddBywgraffiad
Diolch i’r Prif Weinidog. Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw’n galw ar Jane Hutt i wneud y datganiad.
 
14:17
Jane HuttBywgraffiadArweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip
Llywydd, rwy’n awyddus i chi ystyried pwynt o drefn.
 
14:17
Y Llywydd / The LlywyddBywgraffiad
Ie, felly. Pwynt o drefn yw hwn, nid eich datganiad. Iawn. Pwynt o drefn—Jane Hutt.
 
14:17
Jane HuttBywgraffiad
Diolch, Llywydd. Rwy’n awyddus i chi ystyried pwynt o drefn a wnaed am gwestiwn Adam Price, yr oeddwn o’r farn ei fod yn amhriodol o ran Rheol Sefydlog 13.9, i’r Prif Weinidog o ran Cylchdaith Cymru y prynhawn yma.
 
14:18
Y Llywydd / The LlywyddBywgraffiad
Gwrandewais ar y cwestiwn yn astud. Nid oedd yn ymddangos bod unrhyw gyhuddiad yr oedd angen ei ddyfarnu allan o drefn yn y cwestiwn hwnnw. Cwestiwn i'r Prif Weinidog ydoedd yn amlwg, ac atebodd y Prif Weinidog y cwestiwn yn eglur. Nid wyf yn ystyried bod angen i mi ddweud rhagor ar hyn o bryd.
 
14:18
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Y Llywydd / The LlywyddBywgraffiad
Symudaf ymlaen at alw’r Gweinidog am ei datganiad—Jane Hutt.
 
14:18
Jane HuttBywgraffiadArweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip
Rwyf wedi gwneud ychydig o newidiadau i'r agenda heddiw, Llywydd. Bydd y Prif Weinidog yn gwneud cynnig gyda hyn i atal y Rheolau Sefydlog er mwyn ein galluogi ni i gynnal dadl ar gyhoeddiad yr wythnos diwethaf o Fesur yr Undeb Ewropeaidd (Encilio) Llywodraeth y DU. Yn hwyrach y prynhawn yma, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith yn cyflwyno datganiad llafar ar fanc datblygu Cymru. Mae'r busnes ar gyfer tair wythnos gyntaf tymor yr hydref yn ymddangos ar y datganiad a chyhoeddiad busnes ymhlith papurau'r cyfarfod, sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
 
14:19
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
Mewn cwestiynau i'r Prif Weinidog, codais gyda'r Prif Weinidog yr adroddiad damniol hwn a ddaeth i law oddi wrth yr archwilydd cyffredinol ynglŷn â’r ffordd y mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi recriwtio rhywun i swydd uwch o fewn ei strwythurau ar lefel cyfarwyddwr, wedi mynd ati i drosglwyddo symiau sylweddol o arian cyhoeddus—dros £300,000 o arian cyhoeddus—a’i bod yn ymddangos nad oes fawr ddim neu ddim atebolrwydd o gwbl o ran yr anallu i ddarparu anfonebau ar ei gyfer. Byddwch yn gweld gwir ddicter ymhlith gweithlu ardal Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd a'r Fro. Rwyf o’r farn fod yr adroddiad hwn yn gofyn am ymateb ar unwaith gan Lywodraeth Cymru fel y gallwn ddeall yn union sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i ymdrin â’r ymatebion hyn sydd yn angenrheidiol i adfer ffydd eto yn y Bwrdd Iechyd Lleol.
 
Fel y dywedais yn fy nghwestiwn i'r Prif Weinidog, mae’r Bwrdd Iechyd Lleol hwn yn wynebu diffyg yn y flwyddyn ariannol hon hyd at £30 miliwn i £35 miliwn. A phan ystyriwch ei fod yn mynd ati yn y lle cyntaf i gyflogi ymgynghorwyr ar £1,000 y dydd ynghyd â threuliau a TAW, ac yna’n cytuno ar gontract cyflogaeth ac yn ceisio caniatâd gan Lywodraeth Cymru i ymestyn y cyflog bandio hyd at £150,000 o uchafbwynt Llywodraeth Cymru ei hun o £136,000, mae angen cael ymateb gan Lywodraeth Cymru i adfer yr hyder y gallai’r staff, oherwydd yr adroddiad hwn, fod wedi ei golli yng ngallu'r rheolwyr a'r cyfarwyddwyr i ddangos llywodraethu da a gofalu am les y Bwrdd Iechyd Lleol. Felly, byddwn yn ddiolchgar i arweinydd y tŷ pe gallai ysgogi naill ai ddatganiad neu lythyr at Aelodau'r Cynulliad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd i amlinellu'n glir sut y mae’r adran iechyd yn Llywodraeth Cymru yn ymdrin â'r adroddiad hwn.
 
14:20
Jane HuttBywgraffiad
Byddaf yn ailadrodd yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yn ei ymateb, sydd yn rhywbeth pwysig, sef mai mater i fwrdd iechyd prifysgol Caerdydd a'r Fro yw hwn. Yn wir, wrth gwrs, rydym wedi cael—rwy'n siwr eich bod chi, Andrew R.T. Davies—. Mae'r cadeirydd wedi ysgrifennu ac mae gennym ddatganiadau clir iawn oddi wrth y prif weithredwr newydd ym mwrdd iechyd prifysgol Caerdydd a'r Fro ynglŷn â’r mater hwn. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig ailadrodd bod prif weithredwr y GIG yng Nghymru, Andrew Goodall, ar y pwynt ehangach, wedi ysgrifennu at bob un o'r byrddau iechyd i ofyn am sicrwydd ar fyrder fod trefniadau llywodraethu da o ran caffael a recriwtio ar waith ledled Cymru.
 
14:21
David ReesBywgraffiad
Ysgrifennydd y Cabinet ac arweinydd y tŷ, ym mis Mai dathlwyd pumlwyddiant llwybr arfordir Cymru. Mae llawer o bobl wedi cerdded ar hyd y llwybr hwnnw a mwynhau manteision y daith, ond, fel y cyfryw, nid ydyn nhw’n cael unrhyw gydnabyddiaeth am gerdded y daith. A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, neu efallai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, yn dibynnu ar bwy fydd yn cymryd yr awenau yn hyn o beth, o ran sut y gallwn annog mwy o bobl mewn gwirionedd i fynd ar y daith honno, rhoi tystysgrif iddynt, fel sy’n digwydd ar deithiau cerdded gwych eraill ledled y wlad hon, fel bod pobl yn cael eu cydnabod am yr hyn y maen nhw wedi ei gyflawni? Efallai y gellid defnyddio hynny hefyd fel agwedd fuddiol ar dwristiaeth, sef cael tystysgrifau ar gyfer agweddau neu elfennau o’r daith.
 
14:22
Jane HuttBywgraffiad
Rwy'n credu ei bod yn briodol iawn inni achub ar y cyfle hwn, a diolch i chi, Dai Rees, am godi hyn. Wrth gwrs, mae llwybr yr arfordir wedi bod yn llwyddiant mawr. Yn wir, mae'r adroddiad ar gyfer 2014-15 yn dangos bod effaith economaidd llwybr yr arfordir yn cynhyrchu tua £16 miliwn o werth ychwanegol crynswth i economi Cymru, a thua 715 o flynyddoedd unigolyn o gyflogaeth bob blwyddyn. Yn wir, mae ymchwil ddiweddar yn dangos ei fod yn uwch na hynny. Gwyddom hefyd, wrth gwrs, am y manteision iechyd a ddaeth i’r amlwg yn asesiad 2014. Ond rwy'n credu hefyd mai’r cysylltiadau sy’n bwysig—i'r llwybrau eraill, fel llwybr Taf, a llwybr yr arfordir i'r Cymoedd. Ac mae rhoi tystysgrifau am hynny a'r llwybrau, wrth gwrs, yn fater, wrth gwrs, i Ysgrifennydd y Cabinet ei ystyried.
 
14:23
Neil McEvoyBywgraffiad
Arweinydd y Siambr, hoffwn gael datganiad gan y Llywodraeth ar daliadau parcio i staff y GIG. Rwy'n credu ein bod i gyd yn ymwybodol o'r achos llys yr wythnos diwethaf, ac nid oes neb yn awyddus i weld nyrsys yn gorfod gwario miloedd o bunnoedd ar gael lle i barcio i fynd i’w gwaith. Mae llawer ohonom yn teimlo nad yw'n gyfiawn ychwaith fod cwmni o Ffrainc yn cymryd miliynau o bunnoedd allan o Gymru fel bod modd i bobl sâl a staff gyrraedd yr ysbyty.  Byddem yn hoffi pe bai eich Llywodraeth yn gweithredu fel eiriolwr ar y mater hwn, a hoffem wybod beth sy'n digwydd i wella cludiant cyhoeddus i ysbyty’r Heath, fel nad oes raid i bobl yrru yno. Yn olaf, hoffwn i chi fynd i'r afael â mater meysydd parcio yn cael eu dwyn i berchnogaeth gyhoeddus gan Lywodraeth Cymru, neu eu prynu'n orfodol, efallai, gan eich cydweithwyr ar draws y ffordd yng Nghyngor Caerdydd.
 
14:24
Jane HuttBywgraffiad
Diolch. Mae Neil McEvoy yn ymwybodol iawn, wrth gwrs, o bolisi Llywodraeth Cymru—polisi clir iawn—o ddim ffioedd am barcio ceir ar safleoedd ysbytai ledled Cymru. Rydym wedi ein siomi’n arw, a gwn y byddai ef yn deall hynny. Bu’n rhaid cynnal contract Ysbyty Athrofaol Cymru dros y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i drefniadau cytundebol a oedd wedi eu rhoi ar waith, a byddai’r gost yn afresymol pe byddem yn ceisio tynnu'n ôl o hynny. Ond bydd y contract yn dod i ben yn 2018, ac o hynny ymlaen ni fydd unrhyw gost ar staff na chleifion. Bydd Aelodau'r Cynulliad i gyd ar draws y Siambr yn ymwybodol fod y cadeirydd, Maria Battle, wedi ysgrifennu at yr Aelodau am deithio cynaliadwy a pharcio ceir yn Ysbyty Athrofaol Cymru, gan gydnabod y sefyllfa anodd iawn, wrth gwrs. Ymatebodd y Prif Weinidog hefyd iddi yn gynharach, o ran yr effaith ar staff.
 
14:25
Mohammad AsgharBywgraffiad
A gaf i ofyn i arweinydd y tŷ am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar y diffyg ariannol y mae ein hysgolion uwchradd yn ardal Casnewydd yn ei wynebu? Wrth bennu’r gyllideb ar gyfer 2017-18, rhybuddiwyd Cyngor Dinas Casnewydd fod yna argyfwng ariannu, gyda'r holl ysgolion uwchradd mewn dyled ariannol a rhai heb gronfeydd wrth gefn. Rwyf wedi cael gwybod bod un o'r ysgolion yn yr ardal honno yn wynebu diffyg o bron £0.75 miliwn, sy’n arian mawr. Os bydd y sefyllfa hon yn parhau, gallai arwain at golli swyddi a gweithgareddau fel chwaraeon, cerddoriaeth, drama yn diflannu o'n hysgolion am byth. A gawn ni ofyn am ddatganiad ar y mater hwn ar frys, os gwelwch yn dda? Diolch.
 
14:26
Jane HuttBywgraffiad
Wel, mae’r Aelod yn gwbl ymwybodol bod gan awdurdodau lleol yng Nghymru yr hyblygrwydd i bennu cyllidebau priodol ar gyfer anghenion eu cymunedau. Mae cyllid ar gyfer ysgolion yng Nghymru yn cynyddu, er gwaethaf y toriadau i'n grant bloc gan eich Llywodraeth Dorïaidd y DU. Y llynedd, darparwyd £35 miliwn yn ychwanegol gennym i’r cynghorau ar gyfer gwasanaethau ysgol ac, yn wir, mae data yn dangos bod y cyllid a ddirprwyir i ysgolion wedi cynyddu y llynedd o £2.123 biliwn i £2.142 biliwn eleni. Rydym wedi ymrwymo, wrth gwrs, i wario £100 miliwn yn ychwanegol dros dymor y Cynulliad i godi safonau. Ond byddwn hefyd yn gofyn i'r Aelod, Mohammad Asghar, a fyddai ef yn hoffi gofyn i Justine Greening a allwn gael cyfran deg o'r cyllid a gyhoeddwyd ganddi hi. Yn ôl a ddeallwn, mae’n cael ei gymryd o gyllidebau eraill o fewn y dyraniad addysg yn Lloegr. Heb yr un bunt na’r un geiniog i’n Llywodraeth ni yng Nghymru. A yw wedi mynd—? A yw hynny am ei fod wedi mynd yn gildwrn i'r DUP?
 
14:27
Mike HedgesBywgraffiad
Fel y gŵyr pawb, achoswyd y tân angheuol yn Nhŵr Grenfell, a laddodd o leiaf 80 o bobl, gan dân a ddechreuodd mewn cyfarpar trydanol. A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar ddiogelwch trydanol, gan gynnwys cynigion am brofion ar nwyddau gwyn, yn enwedig mewn tŵr uchel o fflatiau, ond rwy’n credu bod pob nwydd gwyn—? A gaf i atgoffa arweinydd y tŷ y bydd yn rhaid i unrhyw eitem a gymerir i Dŷ Hywel, er enghraifft, gael prawf dyfeisiadau cludadwy cyn i chi gael caniatâd i’w osod yn ei le?
 
14:27
Jane HuttBywgraffiad
Wel, rydym wedi ymrwymo, fel y dywedodd Carl Sargeant, i ddysgu’r holl wersi perthnasol o dân trasig Tŵr Grenfell, a chymryd yr holl gamau priodol. Dyna pam mae Carl Sargeant wedi cynnull grŵp cynghori ar ddiogelwch tân. Nid ydym am ragfeddiannu gwaith y grŵp hwnnw, ond mae angen i ni nodi achos cryfach na’r hyn sydd gennym nawr dros brofion gorfodol.
 
14:28
Julie MorganBywgraffiad
Mae dau fater yr wyf yn awyddus i’w codi. Amser cinio heddiw, cynhaliodd teuluoedd yng Nghymru, yr effeithiwyd arnyn nhw gan sgandal y gwaed halogedig, gyfarfod ar risiau'r Senedd i dynnu sylw at yr effaith a gafodd hyn ar bobl yng Nghymru. Yn amlwg, dros yr haf bydd negodi a thrafodaethau’n digwydd ar ffurf yr ymchwiliad cyhoeddus. Yn amlwg mae hyn wedi bod yn achos brwydr galed iawn gan deuluoedd yng Nghymru. A fyddai arweinydd y tŷ yn ymrwymo i sicrhau y bydd gan y Cynulliad ddiweddariadau rheolaidd ar gynnydd pan fyddwn ni’n dychwelyd ar ôl toriad yr haf?
 
Roedd gennyf ail fater. Roeddwn eisiau codi—yr ail fater yw cronfa ddŵr Llanisien yn fy etholaeth i, sef Gogledd Caerdydd. Fel y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod, mae brwydr faith wedi bod ynghylch y gronfa hon ac mae pawb sy’n byw yn lleol wrth eu bodd fod Dŵr Cymru bellach wedi cymryd drosodd ac yn cynllunio i fuddsoddi ynddi. Ond, yn y lle cyntaf, mae angen draenio'r gronfa ac mae hyn wedi cael ei gymeradwyo gan Gyfoeth Naturiol Cymru. A fyddai'n bosibl i Ysgrifennydd y Cabinet drefnu ei fod yn adrodd i'r Cynulliad, yn ddiweddarach yn y flwyddyn, am gynnydd y cynllun cyffrous hwn, a hefyd am y swyddogaeth fydd gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn hyn yn y dyfodol?
 
14:29