Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :
Nôl i'r rhestr dogfennau Gweld y dudalen hon heb lincs
Cofnod y Trafodion
04/04/2016
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (y Fonesig Rosemary Butler) yn y Gadair.
 
13:30
1. Datganiad ar Tata Steel
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Dyma ddechrau trafodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.3, ar gais y Prif Weinidog, rwyf wedi galw'r Cynulliad fel mater o bwysigrwydd cyhoeddus brys ar gyfer datganiad ar Tata Steel a galwaf ar y Prif Weinidog i wneud y datganiad. Carwyn Jones.
 
13:30
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Diolch i chi, Lywydd. A gaf i ddiolch i chi am alw'r Cynulliad yn ôl ar adeg bwysig yn ein hanes economaidd a chymdeithasol?
 
Lywydd, rwy’n credu bod dyfodol i gynhyrchu dur yng Nghymru a, gan weithio gydag eraill, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth y gallwn i sicrhau’r dyfodol hwnnw. Mae Port Talbot, Llanwern, Shotton a Throstre wedi bod yn cynhyrchu dur o ansawdd uchel ers blynyddoedd. Mae cymunedau cyfan wedi tyfu i fyny o gwmpas y gweithfeydd hynny ac mae bywoliaeth miloedd o deuluoedd yn dibynnu ar benderfyniadau sy'n cael eu gwneud nawr. Y teuluoedd hynny a'r cymunedau hynny yw blaenoriaeth gyntaf y Llywodraeth hon, nawr ac yn y dyfodol.
 
Lywydd, mae gennyf un neges syml i bobl Cymru a Llywodraeth y DU. Ni chaiff y gweithfeydd hyn gau. Ni ellir caniatáu i ddur Cymru—dur Prydain—farw. Mae'r gweithfeydd hyn yn hollbwysig i ddyfodol buddiannau’r Deyrnas Unedig. Ni all Prydain wynebu unfed ganrif ar hugain lle’r ydym yn dibynnu’n gyfan gwbl ar ddur a fewnforir. Mae angen y gallu arnom i wneud ein dur ein hunain ac i adeiladu ein dyfodol ein hunain.
 
Roedd penderfyniad Tata i roi eu gweithfeydd ar werth yn siomedig iawn. Gwrthododd y bwrdd gynllun gwrthdroad a gyflwynwyd iddyn nhw gan eu rheolwyr yn Ewrop. Credaf fod gweithlu teyrngar ac effeithlon Tata yn haeddu'r cyfle i weithredu'r cynllun hwnnw a gwneud iddo weithio. Mae'r gweithfeydd yn cael eu rheoli'n dda ac mae'r gweithlu wedi gwneud popeth a ofynnwyd ganddynt, a mwy. Mae'r sefyllfa bresennol wedi cael ei chreu gan amodau gwyrgam yn y farchnad ddur fyd-eang, ac nid gan unrhyw aneffeithlonrwydd ar ran y gweithlu.
 
Lywydd, mae’n rhaid i mi ddweud fy mod i’n siomedig bod Llywodraeth y DU wedi methu â mynd i'r afael â'r anawsterau sylfaenol o ran cynhyrchu dur yn y DU mewn ffordd systematig. Rydym ni wedi sefyll ochr yn ochr â'r diwydiant dur ers blynyddoedd yn achwyn am gostau ynni uchel a dympio dur. Mae camau Llywodraeth y DU hyd yn hyn wedi bod yn araf ac yn annigonol. Mae'n eglur nad yw hi wedi mynnu bargen ddigon cryf ar lefel yr UE i ddiogelu ein cynhyrchion rhag effeithiau dympio dur sy’n ystumio'r farchnad. Yn hytrach, fe wnaethom ddarganfod ar y penwythnos nad yr Undeb Ewropeaidd sy’n dal y DU yn ôl, ond i’r gwrthwyneb—mae Llywodraeth y DU wedi bod yn dal yr Undeb Ewropeaidd yn ôl.
 
Mae'n rhaid i ni ymdrin â'r hyn sydd o’n blaenau. Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio'n agos ac yn ddiflino gyda Tata a Llywodraeth y DU i wneud popeth y gallwn i sicrhau dyfodol hyfyw a chynaliadwy. Rydym ni mewn cysylltiad agos, hefyd, gyda'r undebau, sy'n cyflawni swyddogaeth adeiladol iawn.
 
Lywydd, mae’n rhaid i dri pheth ddigwydd i sicrhau dyfodol y gweithfeydd: yn gyntaf, os na ellir dod o hyd i brynwr yn ystod y cyfnod gwerthu, mae’n rhaid i Lywodraeth y DU gymryd y gweithfeydd i berchnogaeth gyhoeddus tan y gellir dod o hyd i brynwr. Mae Llywodraeth Cymru yn barod i gyfrannu o'n hadnoddau yr arian yr ydym ni wedi ei addo yn flaenorol i gefnogi gwrthdroad. Yn ail, mae angen i Lywodraeth y DU gytuno ar drefn tariffau realistig ar lefel yr Undeb Ewropeaidd i liniaru dympio dur. Mae angen i gynhyrchwyr dur yn y DU weithredu ar sail deg mewn cymhariaeth â gweddill y byd. Yn drydydd, mae angen i ni weld strategaeth hirdymor i ostwng prisiau ynni a gwella effeithlonrwydd ynni ar gyfer diwydiannau ynni-ddwys yn y DU. Heb y mesurau hyn, bydd y problemau sylfaenol yn ailymddangos yn ddiweddarach ac yn tanseilio dyfodol y gweithfeydd, pwy bynnag sy'n berchen arnynt. Yr hyn yr ydym ni ei angen, felly, yw cynllun cynaliadwy ar gyfer yr hirdymor.
 
Lywydd, mae Tata yn paratoi prosbectws gwerthu ar gyfer eu gweithrediadau. Mae’n rhaid iddo ganiatáu amser digonol a realistig i brynwyr sydd â diddordeb ystyried y cynnig. Dylai hyn fod yn fisoedd, nid wythnosau. Wrth iddo baratoi i adael Cymru, mae'n rhaid i Tata ystyried ei gyfrifoldebau cyfreithiol a moesol. Mae gan Tata ddyletswyddau a rhwymedigaethau i'w weithlu a’i gymunedau dur. Mae'n gwmni ag enw byd-eang am gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol ac ni ddylai ildio’r enw da hwnnw’n rhad.
 
Mae gennym ddyletswydd i'r gweithlu yng ngweithfeydd Tata i gyflwyno ein dadl yn seiliedig ar ffeithiau gonest. Mae’n rhaid i unrhyw ateb a gynigir fod yn ymarferol ac yn gydnerth. Fel yr wyf wedi dweud eisoes, byddwn yn cefnogi'n gryf trosglwyddiad i berchnogaeth Llywodraeth y DU, os oes angen, tra ein bod yn dod o hyd i brynwr.
 
Ond mae’n rhaid i mi fod yn eglur ar un peth: nid yw’r adnoddau gan Lywodraeth Cymru i fod yn berchen ar weithfeydd Tata na'u rheoli. Nid ydynt gennym, ac ni ddylai unrhyw un gamarwain y gweithlu i feddwl yn wahanol. Ond rydym ni’n gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ac rydym ni'n barod i gyfrannu o adnoddau Llywodraeth Cymru i helpu i sicrhau ateb hirdymor.
 
Gadewch i mi symud ymlaen, Lywydd, i rai camau penodol. Mae gennym ni dîm o swyddogion yn Llundain heddiw sy’n gweithio ar y manylion gyda'r Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau ac eraill. Siaradais â Phrif Weinidog y DU yr wythnos diwethaf a byddaf yn siarad ag ef eto yfory. Dywedaf eto: rydym ni wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth y DU i wneud popeth y gallwn i sicrhau’r dyfodol. Bu rhai datganiadau cynnar o ddiddordeb yng ngweithfeydd Tata—rwyf wedi siarad ag un darpar brynwr y bore yma. Sut yr ydym ni’n ymdrin â’r datganiadau o ddiddordeb hyn yw sylwedd ein gwaith ar y cyd â Llywodraeth y DU.
 
Ym mis Ionawr, sefydlwyd tasglu Tata gennym, o dan gadeiryddiaeth Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, gan ddod ag undebau, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill ynghyd i ystyried ffyrdd o gefnogi ein cymunedau dur. Cyfarfu’r tasglu y bore yma ac rydym ni wedi cyhoeddi ein bod wedi sefydlu ardal fenter Glannau Port Talbot ac rydym ni wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn cael ei gadeirio gan Roger Maggs, un o sylfaenwyr y cwmni buddsoddi Celtic House Venture Partners. Gallaf hefyd gyhoeddi ein bod yn lansio'r cynllun ardrethi busnes ardaloedd menter yng Nglannau Port Talbot. Mae'r cynllun yn agored i geisiadau o'r wythnos hon tan 30 Medi. Ei nod yw cynhyrchu twf ymhlith busnesau bach a chanolig eu maint a bydd yn rhoi hwb ychwanegol i’r ardal.
 
Lywydd, rwy’n disgwyl y bydd cefnogaeth i'n cymunedau dur ym mhob rhan o'r Siambr hon. Fel y dywedais ar y cychwyn, y gweithlu, eu teuluoedd a'u cymunedau sydd flaenaf yn ein meddyliau. Ond nid ydym yn seilio hyn ar deimladau yn unig. Nid ydym yn dadlau dros gynnal diwydiant sy’n marw. Mae Cymru angen dur. Mae Prydain angen dur. Fel Prif Weinidog Cymru, ac fel aelod o gymuned wleidyddol ehangach Prydain, rwy’n dweud na allwn ystyried dyfodol heb allu i gynhyrchu dur gartref. Mae dur yn hanfodol i'n buddiannau strategol hirdymor, ar gyfer ein heconomi a'n hamddiffyniad. Mae Teyrnas Unedig heb gynhyrchu dur yn Deyrnas Unedig sy'n wanach ac yn llai yn y byd.
 
Lywydd, nid yw cynhyrchu dur yn ymwneud ag ystadegau a'r economi yn unig, er bod y rheini’n hanfodol: mae'n rhan sylfaenol o bwy yr ydym ni fel gwlad. Felly, y neges eglur y mae angen i’r Cynulliad Cenedlaethol hwn ei gyfleu heddiw i'n holl gymunedau dur—Port Talbot, Llanwern, Trostre a Shotton—yw ein bod yn sefyll gyda chi, ysgwydd wrth ysgwydd. [Cymeradwyaeth.]
 
13:38
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Galwaf nawr ar arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
 
13:38
Andrew R.T. DaviesBywgraffiadArweinydd yr Wrthblaid
Diolch i chi, Lywydd, a diolch i chithau, Brif Weinidog, am eich datganiad y prynhawn yma. Diolch i chi, Lywydd, am gytuno i alw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ôl o dan yr amgylchiadau eithriadol hyn, ond mae'n gwbl ddealladwy pam. Rydym ni’n sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda'r cymunedau dur ar hyd a lled Cymru, ond, yn wir, ar hyd a lled y Deyrnas Unedig. Mae'n hanfodol ein bod yn cynnal gallu cynhyrchu dur y wlad hon a chynnal y gallu ym Mhort Talbot, Trostre, Llanwern a Shotton, oherwydd, heb ddur, fel y dywedasoch yn gwbl gywir, Brif Weinidog, bydd y wlad hon yn wanach, ac mae'n hanfodol, yn economaidd, ein bod yn cadw’r gallu domestig hwnnw.
 
Fodd bynnag, rydym yn deall bod corwyntoedd rhyngwladol o gwmpas y diwydiant dur y mae angen eu hwynebu a’u herio hefyd, a dyna pam mae hi mor bwysig gweithio Llywodraeth i Lywodraeth, sefydliad i sefydliad, gan weithio gyda'r Undeb Ewropeaidd yn ogystal â gwneud yn siŵr bod gan y farchnad Ewropeaidd y tariffau ar waith sy’n ofynnol er mwyn cael chwarae teg i bawb. Cyflwynwyd tariffau yn ddiweddar sydd wedi helpu rhai sectorau o'r farchnad dur, ond mae'n hanfodol bod y drafodaeth yn parhau i wneud yn siŵr bod y chwarae teg hwnnw’n cael ei gyflwyno i farchnad ddur y DU ac, yn bwysig, marchnad ddur Cymru.
 
Byddwn yn talu teyrnged i'r gweithwyr ar holl safleoedd Tata, ond, yn wir, yr holl safleoedd sy'n cynhyrchu dur yma yng Nghymru, gan fod gennym ni Celsa yma yng Nghaerdydd a dur Liberty yng Nghasnewydd hefyd, sydd hefyd wedi wynebu eu heriau economaidd eu hunain ac a fydd, yn amlwg, yn edrych gyda diddordeb i weld pa gefnogaeth sy’n cael ei chynnig i'r diwydiant dur cyfan. Ond, yn bwysig, y mater ar hyn o bryd yw sut yr ydym ni’n llwyddo i sicrhau bod asedau Tata’n cael eu gwerthu’n llwyddiannus.
 
Rydych chi, Brif Weinidog, ar sawl achlysur yn ystod y pedwerydd Cynulliad, wedi pwysleisio’r berthynas waith a fu gan Lywodraeth Cymru â Tata Steel, ac yn wir rydych chi wedi bod allan i ymweld â phencadlys Tata ar sawl achlysur. Felly, mae'n bwysig, a fy nghwestiwn cyntaf i chi yw: a allech chi esbonio sut y bydd y berthynas waith honno’n parhau gyda Llywodraeth y DU a Tata Steel, yn bwysig, i sicrhau'r amser a'r lle i ganiatáu i ddarpar brynwyr ddod ymlaen a llwyddo yn y trafodaethau hynny i sicrhau dyfodol y gweithfeydd, nid yn unig ym Mhort Talbot, ond yn Nhrostre, yn Llanwern ac yn Shotton hefyd? Oherwydd mae angen i ni fod yn edrych ar y pecyn cyfan yn y fan yma, gan fod un swydd a gollir yn un swydd a gollir yn ormod yn unrhyw un o'r cymunedau hynny. Yn bwysig, unwaith y byddwn wedi sefydlu’r berthynas waith honno, mae angen i ni ddeall yr amserlen y gallai’r gweithfeydd gael ei gwerthu’n unol â hi. Yn amlwg, bydd y cyfnod datganiadau o ddiddordeb, sydd, yn ôl a ddeallaf, yn gyfnod tair i bedair wythnos, ac mae Tata Steel yn cyflwyno ei brosbectws wrth i ni siarad yr wythnos hon, rwy’n deall. Pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Tata Steel ar eu hyblygrwydd o ran y cyfnod datganiadau o ddiddordeb hwnnw a fydd mor hanfodol o ran rhoi hyder i ddarpar brynwyr unrhyw ran o’r gweithrediadau gwaith dur yma yng Nghymru, neu’r cwbl?
 
Heddiw, rydych chi wedi siarad yn helaeth am yr hyn y gallai Llywodraeth Cymru ei roi ar y bwrdd, neu rydych chi wedi sôn am Lywodraeth Cymru yn rhoi cefnogaeth ar y bwrdd, er bod hynny’n unol â’r modd sydd ar gael i chi fel gweinyddiaeth ddatganoledig, a dyna pam y bydd mor hanfodol bwysig gweithio ar y cyd â Llywodraeth y DU, a fydd, yn yr achos penodol hwn, yn gallu rhoi cymaint mwy ar y bwrdd hwnnw. Pan eich bod chi’n clywed y sylwadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol ddoe, a'r Llywodraeth gyfan dros y penwythnos, gallwn fod yn hyderus y bydd adnoddau sylweddol ar gael. Ond a allech chi ei gwneud yn eglur i'r Cynulliad y prynhawn yma beth yn union y bydd Llywodraeth Cymru yn ei roi ar gael mewn ffordd ystyrlon fel y gallwn ddeall y cynnig sydd ar gael i ddarpar brynwyr?
 
Yn eich datganiad y prynhawn yma, Brif Weinidog, rydych chi wedi sôn am ardrethi busnes. Mae hwn yn faes y mae Tata Steel wedi galw amdano ers amser maith—i gynnydd gael ei wneud yn y maes penodol hwn. Yn anffodus, ni wnaed cynnydd yn unol â’r amserlen a roddwyd a allai fod wedi hwyluso rhywfaint o gefnogaeth yn arwain at y penderfyniad hwn. Rydych chi wedi gwneud y penderfyniad heddiw, yn amlwg, am statws ardal fenter ond, yn benodol, rydych chi wedi crybwyll y byddai'n effeithio ar fusnesau bach a chanolig eu maint. Yn amlwg, rwy’n tybio na fydd y pecyn penodol hwn o fawr o ddiddordeb o bwys i Tata na'r prynwr llwyddiannus. A allwch chi gynnig unrhyw gysur o ran ardrethi busnes mewn cyd-destun ehangach y mae Llywodraeth Cymru yn ei ystyried ar hyn o bryd a allai fod yn rhan o'r cynnig y byddech chi’n ei roi ar y bwrdd i gynorthwyo darpar brynwyr unrhyw un o'r darpariaethau Tata Steel yng Nghymru?
 
Mae caffael cyhoeddus yn faes mawr y gellid ei gynyddu bob amser ac, yn amlwg, prosiectau seilwaith mawr. Fe’ch clywais yn siarad yn faith y bore yma ar y radio, Brif Weinidog, am gysyniad morlyn llanw Abertawe. Rwyf i—byddwch yn gwybod—ac mae Ceidwadwyr Cymru’n gwbl gefnogol o gysyniad y morlyn llanw, ac rydym ni’n croesawu’n fawr camau Llywodraeth y DU yn hyn o beth, ac yn gobeithio y bydd cynnydd yn cael ei wneud. Yn amlwg, fel Prif Weinidog, un o'r prif faterion y gallai Llywodraeth Cymru ei ddwyn ymlaen yw ffordd liniaru'r M4, a gallai hynny hefyd ysgogi galw am ddur Cymru yn sylweddol. Mae'n amlwg y bu’r gallu gennych chi i wneud hynny dros y pum mlynedd diwethaf. Am ba reswm bynnag, nid yw hynny wedi digwydd. A allwch chi roi rhywfaint o anogaeth i ni ynghylch pa fesurau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd o ran caffael cyhoeddus i gynorthwyo'r diwydiant dur yma yng Nghymru?
 
Hoffwn ailadrodd eto, o feinciau Ceidwadwyr Cymru, ac rwy’n credu’n angerddol o’r ymdrechion y mae Llywodraeth y DU yn eu gwneud, bod dur yn gwbl hanfodol i'n diogelwch economaidd a chenedlaethol yn yr hirdymor. Mae'n rhaid i ni fod â gallu i wneud dur yn ddomestig yn y Deyrnas Unedig ac yng Nghymru. Byddaf yn gweithio'n ddiflino gydag unrhyw wleidydd o unrhyw blaid wleidyddol mewn unrhyw sefydliad i wneud yn siŵr ein bod yn sefyll dros y cymunedau sy'n cael eu heffeithio gan y cyhoeddiad hwn, ein bod yn gwneud yn siŵr bod canlyniad llwyddiannus ar ddiwedd y trafodaethau, ac, ymhell i'r dyfodol, bod dur Cymru o ansawdd ar y marchnadoedd rhyngwladol a domestig fel y gallwn barhau’n falch y dreftadaeth wych sydd gan y wlad hon o ran cynhyrchu dur dros lawer iawn o ddegawdau.
 
13:44
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
A gaf i ddiolch i arweinydd yr wrthblaid am ei sylwadau a’r dôn iddo ei mabwysiadu? Mae ganddo gwestiynau yn y fan yna, wrth gwrs, y byddaf yn ceisio eu hateb. Mae'r berthynas gyda Tata wedi bod yn dda dros y blynyddoedd diwethaf. Pan es i i Mumbai, cyhoeddwyd buddsoddiad o £400 ganddynt. Cyflawnwyd hynny ganddynt. Mae'n iawn dweud bod y sefyllfa ar y pen trwm, ym Mhort Talbot yn arbennig, yn rhywbeth sydd wedi digwydd yn gymharol ddiweddar. Ychydig dros flwyddyn yn ôl, roedd Port Talbot yn dechrau mantoli’r cyfrifon, ond mae'r farchnad ddur fyd-eang wedi newid er gwaeth, fel y gwyddom, ac mae hynny wedi effeithio’n arbennig o wael ar Bort Talbot. Ond nid ydym yn sôn am sefyllfa yma ble bydd Port Talbot bob amser mewn sefyllfa lle mae'n colli arian. Mae'n gwestiwn o bontio'r bwlch rhwng lle yr oedd a lle y gall fod yn y dyfodol, sef menter gwneud dur lwyddiannus a llewyrchus.
 
Rwyf wedi cael nifer o sgyrsiau gyda Tata dros y misoedd diwethaf, ac yn enwedig yn ystod yr wythnos neu ddwy ddiwethaf. Gallaf ddweud bod Tata yn deall y pwynt a wneuthum iddynt, bod yn rhaid iddyn nhw edrych ar eu gweithfeydd yn y DU, ac yn wir yng Nghymru, fel pecyn—nad yw gwerthu gwahanol ardaloedd yn rhywbeth y byddem yn ei gefnogi—ac, a dweud y gwir, os edrychwch chi, er enghraifft, ar Shotton, sy’n waith sydd, yn hanesyddol, yn gwneud arian, mae Shotton yn dibynnu ar Bort Talbot i gael gafael ar ei borthiant, a phe na byddai Port Talbot yno, byddai'n cymryd chwe mis o leiaf, mae Shotton wedi dweud wrthyf, i gael gafael ar ddur i barhau i weithredu. Mae hynny’n chwe mis heb gynhyrchu, ac mae hynny'n golygu colli cwsmeriaid. Felly, er, ar bapur, bod rhai gweithfeydd sy’n gwneud yn well nag eraill, mewn gwirionedd, maen nhw i gyd yn eithaf dibynnol ar ei gilydd.
 
Yn rhan o'r sgwrs a gefais yr wythnos diwethaf gyda Tata hefyd, roeddwn i eisiau archwilio gyda nhw yr amserlen yma. Yr hyn y maen nhw wedi ei ddweud wrthyf yw mai tair i bedair wythnos yw’r amserlen, ond, yn ystod y cyfnod hwnnw, bydden nhw eisiau gweld prynwyr yn dod yn eu blaenau a gwneud datganiad o ddiddordeb. Nid ydynt yn disgwyl i bethau gael eu cwblhau o fewn tair i bedair wythnos. Byddai'n cymryd misoedd i gloi pethau a gwerthu. Felly, yr hyn sy’n hanfodol, wrth gwrs, yw bod prynwyr yn dod ymlaen yn ystod yr wythnosau nesaf. Bydd hynny wedyn, wrth gwrs, yn ymestyn yr amserlen, mae Tata wedi dweud wrthyf, y gellir gwerthu yn unol â hi.
 
Ceir y mater, wrth gwrs, o bensiynau, y bydd angen i Lywodraeth y DU roi sylw iddo. Rwy'n meddwl ei bod yn iawn i ddweud, ac ni fyddai'r Aelodau yn synnu fy nghlywed i’n dweud hyn bod rhwymedigaeth, yn yr un modd â chymaint o gynlluniau pensiwn, ac, yn rhan o unrhyw broses werthu, bydd angen ateb ar gyfer y rhwymedigaeth pensiwn sy'n bodoli o gwmpas Tata UK ar hyn o bryd. Mae hynny'n rhywbeth y bydd angen i Lywodraeth y DU ei ystyried.
 
Cododd arweinydd yr wrthblaid y mater o ardrethi busnes, ac, yn wir, yr hyn y mae hynny’n ei olygu o ran y pecyn cymorth. Rwy'n credu ei bod yn bwysig, yn gyntaf oll, hysbysu’r Aelodau am y sefyllfa o ran ardrethi busnes. Ystyrir bod ardrethi busnes sydd wedi’u targedu at sectorau penodol yn gymorth gwladwriaethol detholus. Ceir ond eu dyfarnu yn unol â gofynion de minimus. Mae hynny'n golygu mai €200,000 yw cyfanswm y rhyddhad y gellir ei ddyfarnu o ran ardrethi busnes dros gyfnod o dair blynedd. Cofiwch, wrth gwrs, mai £15 miliwn yw’r bil ardrethi. Fel y gwelwch, mae'n swm bach iawn o arian y gallem ni ei gynnig o ran cymorth ardrethi busnes.
 
Rydym ni hefyd wedi edrych ar ffyrdd o dynnu rhai dosbarthiadau o offer a pheiriannau—rydym ni’n gweithio gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar hyn—o bob asesiad ardrethi. Nid oes unrhyw ffordd gyflym na rhwydd o wneud hyn a fyddai'n osgoi cymorth gwladwriaethol ac apeliadau gan eraill yn y sector, oherwydd—. Yn hanesyddol, nid oes llawer iawn o ddata ar gael. Ond rydym ni’n amcangyfrif, o ran Tata, bod tua £4.5 miliwn i £6 miliwn o'i fil ardrethi bob blwyddyn yn cynnwys offer a pheiriannau. Yr hyn a wnaethom yn hytrach oedd cynnig pecyn gwerth £60 miliwn, felly 10 gwaith y swm o arian a fyddai wedi bod ar gael trwy unrhyw fath o gymorth ar gyfer offer a pheiriannau, a phedair gwaith maint unrhyw beth a fyddai'n cael ei roi ar gael o ran maint ei fil ardrethi busnes. Byddai hynny’n cynnwys benthyciad masnachol gwerth £30 miliwn i newid y llinell CAPL yn llinell galfaneiddio, £30 miliwn arall ar gyfer gwelliannau amgylcheddol ar gyfer prosiectau amrywiol, a hyd at €2 filiwn ar gyfer sgiliau a hyfforddiant. Dyna yr ydym ni wedi ei roi ar y bwrdd. Mae hynny’n parhau i fod ar y bwrdd a byddwn yn archwilio, wrth gwrs, yr hyn y gallai fod angen i ni ei wneud yn y dyfodol er mwyn cadw’r swyddi hyn yng Nghymru.
 
O ran caffael, mae'n deg i ddweud nad yw marchnad Cymru yn ddigon mawr i gynnal cynhyrchu dur ynddo'i hun, er ein bod wedi gweld mwy a mwy o fusnesau yng Nghymru yn llwyddo o ran gallu gwneud cais llwyddiannus am gontractau sector cyhoeddus, ac mae 55 y cant ohonynt yn mynd i fusnesau Cymru erbyn hyn. Clywais yr hyn a ddywedodd am y morlyn llanw. Rydym ni eisiau gweld y morlyn llanw yn mynd yn ei flaen. Mae'n brosiect hynod bwysig, mae ar y garreg drws Port Talbot, mae ganddo botensial mawr nid yn unig i’r gwaith dur, ond y dociau, ac mae ganddo botensial mawr ar gyfer datblygu’r offer y byddai ei angen i gynnal a chadw—ac adeiladu’r offer hwnnw, yn wir—ym Mhort Talbot ei hun, a byddai'n hwb enfawr i gynhyrchu dur pe byddai’r morlyn yn cael ei gymeradwyo, a hefyd, wrth gwrs, i weld mwy’n cael ei wneud o ran symud ymlaen gyda phrosiectau seilwaith mawr, fel y rheilffyrdd cyflym sydd wedi eu crybwyll hyd yn hyn.
 
Mater yr M4—ydy, mae'n wir i ddweud y byddai ffordd liniaru i'r M4 yn ddefnyddiol, ond, fel y mae’n gwybod, mae’n rhaid i’r arian ar gyfer adeiladu unrhyw ffordd liniaru i’r M4 ddod o arian y bydd angen ei fenthyg. Nid yw’r pwerau hynny gennym ni eto. Nid ydym erioed wedi dweud y byddem ni’n gallu fforddio ffordd liniaru i'r M4 o gwmpas Brynglas o'n cyllideb gyfalaf arferol. Byddai'n rhaid iddo fod trwy arian a fenthycwyd, ac nid yw’r arian hwnnw ar gael, yn sicr tan y byddwn yn cael y pwerau hynny.
 
Fel y dywedais, rwy'n ddiolchgar am y modd y gwnaeth ei sylwadau. Edrychaf ymlaen at gyfarfod â Phrif Weinidog y DU yfory. Gwn fod Prif Weinidog y DU a minnau yn edrych ar yr un amcan, sef sicrhau ein bod yn parhau i fod â diwydiant dur yn y DU. Wrth gwrs, rwy’n barod i weithio gydag ef, ac unrhyw un arall wrth gwrs, i sicrhau bod hynny'n dal i fod yn wir.
 
13:50
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Nawr, mae gen i arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
 
13:50
Leanne WoodBywgraffiadArweinydd Plaid Cymru
Diolch, Lywydd. Diolch i chi am eich datganiad, Brif Weinidog. O'r cychwyn cyntaf, rwyf eisiau ailadrodd i’r Aelodau yma heddiw, ac i bobl allan yna yn y wlad ehangach—ac yn enwedig i’r cymunedau hynny y mae eu dyfodol yn y fantol—fod Plaid Cymru wedi ymrwymo i weithio am ganlyniad lle mae dur yn parhau i fod yn ddiwydiant craidd yn y wlad hon. Mae bob amser yn demtasiwn, yn enwedig ar adeg etholiad, i roi gormod o sylw i bwyntiau pleidiol a cholli golwg ar yr hyn sy'n wirioneddol bwysig: pobl, eu bywoliaeth, cymunedau, eu dyfodol. Wedi dweud hynny, ceir cwestiynau difrifol i Lywodraeth Cymru eu hateb, ac rydym ni yma heddiw i graffu ar eu camau yn hyn o beth.
 
Y tro diwethaf i ni wynebu argyfwng diwydiannol o'r math hwn, nid oedd datganoli yn bod. Caniataodd Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan i gynifer o'n cymunedau gael eu dad-ddiwydiannu bryd hynny, ac maen nhw’n barod i wneud hynny eto nawr. Y tro hwn, mae gennym ni gyfle—mae gennych chi, Brif Weinidog, gyfle—i wneud i ddatganoli gyfrif, ac i ddangos yr arweinyddiaeth sydd ei hangen yn y wlad hon nawr. Safbwynt Plaid Cymru, a ystyriwyd ac sy’n adeiladol, yw bod ymyrraeth y Llywodraeth yn hanfodol er mwyn ymateb i’r her bresennol. Rydym wedi bod yn dadlau’r pwynt hwnnw ers mis Ionawr diwethaf, ac rydym ni wedi colli amser gwerthfawr ers hynny. Gallai’r atebion gynnwys menter ar y cyd rhwng Llywodraeth a'r sector preifat; gallai gynnwys gwladoli dros dro; gallai gynnwys cyfran gyhoeddus barhaol. Ein barn ni yw na ddylai unrhyw beth fod oddi ar y bwrdd; dim byd o gwbl.
 
Mae gen i gyfres o gwestiynau i chi nawr, Brif Weinidog, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi roi atebion cynhwysfawr i’r cwestiynau hyn. Hoffwn ddechrau trwy ofyn i chi am dasglu eich Llywodraeth ar ddur. A wnaethoch chi ofyn i'r tasglu lunio cynlluniau wrth gefn rhag ofn i Tata gyhoeddi y byddai’n gwerthu’r cwbl, fel y galwodd Plaid Cymru amdano ym mis Ionawr? A fyddwch chi’n ehangu cylch gwaith ac aelodaeth y tasglu nawr, fel ei fod yn meddu ar y sgiliau a'r arbenigedd angenrheidiol i wynebu'r argyfwng presennol? Y bore yma, clywsom nad oedd Llywodraeth Cymru wedi gweld copi o gynllun McKinsey. A allwch chi ddweud wrthym ni pa ymdrechion yr ydych chi wedi eu gwneud i gael gafael ar gopi o'r cynllun hwnnw? A oes gan Lywodraeth y DU gopi o'r cynllun hwnnw? A oes gan yr undebau llafur gopi o'r cynllun hwnnw? Ac, os na allwch chi gael copi, a wnewch chi gomisiynu eich cynllun achub eich hun ar gyfer dur nawr?
 
Rydym ni’n clywed bod Llywodraeth y DU yn cyfarfod ac yn trafod â darpar brynwyr. A ydych chi'n rhan o’r cyfarfodydd hynny, ochr yn ochr â Gweinidogion Llywodraeth y DU? A ydych chi’n cynnal eich trafodaethau eich hun gyda darpar brynwyr, neu a yw hynny'n cael ei adael i Weinidogion y DU yn gyfan gwbl? A oes gennych chi asesiad o'r rhwymedigaeth adfer amgylcheddol ym Mhort Talbot a safleoedd eraill yn y wlad, ac a ydych chi’n cytuno y dylai'r costau gael eu talu fel gwaddol ymadael gan Tata os byddant yn gwerthu’r safle?
 
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud y byddai'n barod i roi arian ar y bwrdd i helpu i achub y diwydiant dur, ac rydym ni’n croesawu hynny. A wnewch chi fynd ymhellach heddiw ac ymrwymo i fuddsoddi mewn cyfran gyhoeddus os gallai hynny helpu i sicrhau dyfodol y diwydiant hwn?
 
Yn olaf, Brif Weinidog, mae ffynhonnell yn eich Llywodraeth wedi dweud ei fod yn gwybod am y tebygolrwydd y byddai Tata’n gwneud cyhoeddiad i werthu ei fusnes yn y DU fisoedd yn ôl. A oeddech chi'n gwybod, Brif Weinidog? Os nad oeddech, pa rai o'ch Gweinidogion oedd yn gwybod, ac, os oedden nhw’n gwybod, pam na wnaethant eich hysbysu chi?
 
Mae nifer o faterion eraill i'w codi yma yn y Siambr y prynhawn yma, a bydd fy nghydweithwyr yn codi rhai o'r materion hynny, ond, am y tro, byddwn yn ddiolchgar am atebion cynhwysfawr i'r pwyntiau hynny. Mae'n rhaid i ni i gyd fod yn barod i wneud yr hyn y gallwn nawr, i wneud beth bynnag sydd ei angen i gadw’r ffwrneisi hynny’n llosgi ym Mhort Talbot. Mae gennym ddyletswydd i'r gweithwyr hynny i ddangos arweinyddiaeth ar hyn. Felly, os gwelwch yn dda, Brif Weinidog, peidiwch â diystyru unrhyw beth nawr. Rydym ni i gyd yn cytuno na allwn fforddio colli’r diwydiant hanfodol hwn, felly gadewch i ni wneud yn siŵr nad ydym yn gwneud hynny.
 
13:55
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
A gaf i ddiolch i arweinydd Plaid Cymru am ei sylwadau? Ychydig iawn o'r hyn a ddywedodd y byddwn yn anghytuno ag ef. Mae ymyrraeth yn hanfodol, yn wir. Mae menter ar y cyd yn sicr yn rhywbeth y mae angen ei ystyried. Yn sicr mae angen ystyried Menter ar y cyd. Mae angen cyfranogiad Llywodraeth y DU; nid oes unrhyw ffordd y gallai Llywodraeth Cymru gymryd rhan mewn menter ar y cyd, o ystyried y symiau o arian dan sylw, ar ei phen ei hun. O ran cymryd drosodd dros dro, wel, rwyf wedi bod yn dweud hynny ers nifer o ddiwrnodau nawr, bod yn rhaid i hynny fod yn opsiwn. Yn benodol, mae angen ei wneud er mwyn sicrhau bod mwy o amser i ddod o hyd i brynwr os oes angen hynny. Felly, mae angen i Lywodraeth y DU fod yn barod i gymryd y diwydiant dur yn y DU drosodd er mwyn i'r cyfle hwnnw gael ei greu.
 
O ran y tasglu, naddo, ni ofynnwyd i’r tasglu edrych ar yr hyn y dylid ei wneud pe byddai’r gweithfeydd yng Nghymru yn cau. Mae hynny oherwydd bod ein pwyslais wedi bod ar sicrhau nad ydynt yn cau. Pan gyfarfûm â Tata cyn y Nadolig, amlinellwyd eu pryderon ganddynt ar yr adeg honno, ond nid ydynt wedi dweud wrthym ar unrhyw adeg eu bod yn bwriadu cau'r gweithfeydd—erioed. Yn wir, mae hynny'n amlwg o’r ffaith nad ydynt wedi cyhoeddi eu bod yn cau'r gweithfeydd; maen nhw wedi cyhoeddi eu bod yn gwerthu. Fe’i gwnes yn eglur, fel y gwnaeth yr undeb Community, i Tata y byddai unrhyw awgrym y byddai Port Talbot neu unrhyw waith arall yn cau yn y dyfodol yn gwbl annerbyniol, a phe na byddent yn gallu rhedeg y gweithfeydd, y dylent wneud yn siŵr bod y gweithfeydd hynny’n cael eu rhoi ar werth, a dyna, wrth gwrs, ddigwyddodd yn dilyn y sgyrsiau a gefais yr wythnos diwethaf.
 
O ran cynllun McKinsey, wel, Tata yw perchennog cynllun McKinsey. Nid ni sy’n berchen arno; nid oes gennym unrhyw ffordd o gael gafael arno. Rwyf wedi gofyn amdano. Yn y drafodaeth a gefais yr wythnos diwethaf gyda Mr Chatterjee o Tata, gofynnais iddo am gopi o'r cynllun. Dywedodd wrthyf y byddai'n rhaid iddo ymgynghori â chyfreithwyr cyn y gellid rhoi'r cynllun hwnnw ar gael. Nid yw’r cynllun hwnnw gan Lywodraeth y DU ychwaith. O ran yr undeb, byddai'n rhaid iddyn nhw ateb hynny, ond nid wyf wedi cael unrhyw arwydd bod cynllun McKinsey gan yr undeb. Dylai cynllun McKinsey fod ar gael i'r Llywodraeth. Mae'n bwysig ein bod yn cael ei weld—a Llywodraeth y DU, yn wir—fel y gallwn lunio barn ynghylch bwrw ymlaen â’r cynllun hwnnw. Felly, rwyf wedi gwneud fy safbwynt yn eglur iawn i Tata fy mod i’n disgwyl i’r cynllun hwnnw fod ar gael i'r Llywodraethau fel y gallwn ei hasesu.
 
O ran gwaith adfer, byddai angen cael gafael ar swm sylweddol o arian i adfer safle Port Talbot. Mae wedi bod yno ers 70 mlynedd. Ceir nifer o faterion y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi eu nodi eisoes, ac mae'n gywir i ddweud y byddai angen llawer o gannoedd o filiynau, o leiaf, i adfer y safle, a dyna pam, yn fy marn i, y mae'n well o safbwynt economaidd—os ydym ni’n ei weld o'r safbwynt hwnnw yn unig—i sicrhau bod cynhyrchu dur yn parhau, oherwydd y rhwymedigaethau sy'n dod i'r amlwg os bydd cynhyrchu dur yn dod i ben ym Mhort Talbot ac os bydd y gweithfeydd eraill o dan fygythiad hefyd.
 
O ran cyfran gyhoeddus, wel, mae'n dibynnu ar faint. Rwyf wedi gweld aelodau o’i phlaid yn siarad am gannoedd o filiynau o bunnoedd y mae Llywodraeth Cymru wedi eu rhoi o’r neilltu. Nid yw’r arian hwnnw gennym. Nid yw ein cronfeydd wrth gefn ar hyn o bryd yn ddim mwy na £392 miliwn—mae hynny ar ddechrau'r flwyddyn ariannol, ac mae hynny’n cynnwys pob un geiniog sydd gennym ni wrth gefn. Felly, nid yw’r £500 miliwn i £600 miliwn a awgrymwyd gennym ni i brynu cyfran mewn diwydiant, er bod gennym ni arian, fel y soniais, sydd ar gael i gefnogi'r diwydiant, ond mae’n rhaid i ni weithio gyda Llywodraeth y DU ar hynny. Y gwir amdani yw bod gan Lywodraeth y DU lawer mwy o adnoddau, fel y mae arweinydd yr wrthblaid wedi ei ddweud, na’r hyn sydd gennym ni. Mae ganddi'r gallu i fenthyg ac i godi arian nad oes gennym ni. Ac felly, o ran cyllid, ydym, rydym ni’n barod i helpu’n ariannol. Mae hynny'n wir; rwyf eisoes wedi dweud hynny. Ond, mae gan Lywodraeth y DU fynediad at lawer mwy o adnoddau. Ac, wrth gwrs, rydym ni’n sôn am y diwydiant dur sy'n bodoli yn bennaf yng Nghymru, ond hefyd y tu allan i Gymru hefyd. Mae hwn yn ddiwydiant strategol i’r DU. Mae mor strategol â’r banciau, a dyna pam mae angen i ni wneud yn siŵr y gweithredir dull y DU gyfan sy'n sicrhau bod y diwydiant dur yn parhau.
 
O ran yr awgrym ein bod yn gwybod y byddai gweithfeydd yn cau, mae hynny’n anghywir. Nid oedd unrhyw un yn gwybod bod y gweithfeydd yn mynd i gau, ac, yn wir, nid yw'r gweithfeydd yn mynd i gau ar hyn o bryd; maen nhw ar werth. Ceir bygythiad, wrth gwrs; rydym ni’n deall hynny. Yr hyn sy'n gwbl hanfodol nawr yw gweithio gyda Llywodraeth y DU ac, yn wir, yr holl bleidiau yn y Siambr hon i wneud yn siŵr bod y prynwyr sydd eisoes wedi amlygu eu hunain yn cynnig cynlluniau a bod cymorth gan y Llywodraeth ar gyfer y cynlluniau hynny ac y gallwn achub ein swyddi cynhyrchu dur.
 
13:59
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Rydym yn galw nawr ar Kirsty Williams, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru—Kirsty Williams.
 
14:00
Kirsty WilliamsBywgraffiadArweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. A gaf i ddiolch i chi am alw’r Aelodau yn ôl i’r Siambr y prynhawn yma, ac a gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad? Fel chithau, Brif Weinidog, rwy’n meddwl bod yn rhaid i’r unigolion yr effeithir arnynt yn uniongyrchol gan y bygythiad i'w bywoliaeth fod yn flaenllaw yn ein meddyliau, y rhai sy'n gweithio yn y gweithfeydd ar hyn o bryd, nid yn unig ym Mhort Talbot—ac mae'n amlwg pam mai Port Talbot sydd flaenaf yn ein meddyliau—ond hefyd y bobl sy'n gweithio yng Nghasnewydd, yn Shotton ac yn Nhrostre yn Llanelli, hefyd, y bydd pob un ohonynt yn wynebu ansicrwydd difrifol. Wrth gwrs, mae'n mynd y tu hwnt i'r rhai a gyflogir yn uniongyrchol, i'r gymuned ehangach. Byddwch chi a minnau wedi bod yn dyst yn ein hieuenctid i’r hyn sy'n digwydd i gymuned pan fydd cyflogwyr a diwydiant o'r math hwn yn cael eu rhwygo allan o gymuned: mae’n taro’r boblogaeth gyfan—y busnesau llai sy’n ymdrin yn uniongyrchol â'r gweithfeydd mwy a’r diwydiannau gwasanaeth sy'n tyfu i fyny o gwmpas y gweithfeydd hynny. Rydym ni’n gwybod sut y mae cymunedau wedi ei chael yn anodd yn y gorffennol i ddod o hyd i fathau eraill o gyflogaeth i’w dinasyddion pe byddai’r swyddi hyn yn cael eu colli.
 
A gaf i hefyd ddweud ei bod yn annirnadwy i mi y byddai unrhyw Lywodraeth—pa un a yw honno'n Llywodraeth y DU neu, yn wir yn Llywodraeth ddatganoledig—yn caniatáu i'r DU golli diwydiant sy'n un o bwysigrwydd strategol cenedlaethol? Mewn byd fwyfwy ansefydlog ac ansicr, byddai'n hynod o ffôl, byddwn yn awgrymu, i adael ein cenedl fel yr unig economi ddatblygedig yn y byd heb ei allu ei hun i gynhyrchu dur.
 
Mae’n ddrwg gen i ddweud y dylai’r clychau larwm fod wedi bod yn canu. Ar ôl colli Redcar a’r bygythiad i Scunthorpe, dylem ni wedi bod ar ein gwyliadwriaeth mai ein gweithfeydd ni fyddai nesaf. Mae'n eglur iawn y gwelwyd y perygl hwnnw gan y diwydiant yn ei gyfanrwydd pan gynhaliwyd uwchgynhadledd ddur Rotherham y llynedd. Roedd y diwydiant yn eglur iawn yn dod allan o'r uwchgynhadledd ddur honno am yr hyn yr oedd ei angen arno—yr hyn yr oedd ei angen gan Lywodraeth San Steffan a'r hyn yr oedd ei angen gan sefydliadau datganoledig. Yn anffodus, mae’n eglur i mi na ymatebwyd i’r galwadau hynny yn brydlon, yn enwedig, mae gen i ofn, gan Lywodraeth San Steffan.
 
Yr hyn y mae angen i ni ei wneud nawr yw edrych i weld pa gamau y gallwn eu cymryd i wneud y gweithfeydd mor ddeniadol â phosibl i ddarpar brynwr, a dyna yr hoffwn ganolbwyntio arno. Rydym ni’n gwybod bod ardrethi busnes yn ffactor, ac nid yw’r drefn ardrethi busnes bresennol wedi’i strwythuro mewn ffordd a fyddai'n gwneud gwahaniaeth ystyrlon. Rydym ni’n gwybod, pan gyhoeddwyd adolygiad Sutton o ardrethi busnes 18 mis yn ôl, eu bod wedi gwneud argymhelliad penodol iawn ynghylch offer a pheiriannau. Brif Weinidog, rydych chi wedi dweud yma heddiw eich bod wedi cynnig rhywbeth yn hytrach na chymryd camau’n gysylltiedig ag offer a pheiriannau; rwy’n gofyn y cwestiwn: pam mae’n rhaid iddo fod yn un neu’r llall? Ar hyn o bryd, o ystyried difrifoldeb y sefyllfa, pam na allwn ni wneud y ddau? Rwy’n sylweddoli efallai fod y pethau hyn yn cymryd amser, ond bu 18 mis ers i’r argymhelliad gael ei wneud i’ch Llywodraeth ynghylch offer a pheiriannau, ac rwy’n meddwl tybed pryd y byddwch chi mewn sefyllfa i gyflwyno trefn a fydd yn ceisio cynorthwyo nid yn unig Tata ond pob un o'n diwydiannau gweithgynhyrchu gydag ardrethi busnes o safbwynt offer a pheiriannau, oherwydd, rwy'n siŵr y byddech chi’n cytuno â mi, byddai honno'n un ffordd y gallem ni wneud gwerthiant posibl yn fwy deniadol.
 
Rydych chi hefyd yn gywir i ddweud, wrth gwrs, bod cyfraniad Cymru at gaffael cyhoeddus yn gyfyngedig, a byddwn yn gofyn i chi pa drafodaethau yr ydych chi wedi bod yn eu cael yn eich sgyrsiau gyda Phrif Weinidog y DU a Llywodraeth San Steffan ynghylch pa mor bell y gallwn ni wthio’r mater o gaffael dur Cymru a Phrydain mewn prosiectau cyhoeddus. Rwy’n sylweddoli bod rheolau ynghylch hynny, ond beth allwn ni ei wneud i fanteisio i'r eithaf ar y cyfle i ddefnyddio’r cynhyrchion hyn? Gadewch i ni fod yn eglur: maen nhw’n gynnyrch o ansawdd. Dim ond yr wythnos hon, siaradais â gweithgynhyrchydd a oedd wedi mewnforio dur o Tsieina dim ond iddo gyrraedd a darganfod ei bod yn amhosibl ei ddefnyddio yn eu cynhyrchion. Rydym ni’n cynhyrchu cynnyrch o'r radd flaenaf y dylid ei ddefnyddio cymaint â phosibl o ran caffael cyhoeddus.
 
A gaf i droi at fater yr ardal fenter? Rwy'n croesawu ei sefydliad yn fawr iawn. A allech chi amlinellu i mi pa ganlyniadau yr ydych chi’n eu disgwyl o ganlyniad i greu’r ardal fenter? Beth ydych chi'n disgwyl iddo ei gyflawni? Ac eto, er fy mod i’n deall bod y pwyslais, yn naturiol, ar ardal Port Talbot, pa gymorth ychwanegol allai fod ar gael i ddiwydiannau bach a chanolig eu maint o amgylch y gweithfeydd eraill ledled Cymru? A oes unrhyw gynlluniau i gymryd camau tebyg o ran Casnewydd, Llanelli a'r gwaith yn Shotton?
 
A gaf i ofyn hefyd, yn eich trafodaethau gyda Llywodraeth San Steffan, beth ydych chi’n gofyn amdano? A allem ni gael eglurder ynghylch beth yw eich disgwyliadau a’r hyn yr ydych chi’n gofyn amdano? Rydym ni’n gwybod mai’r rhwymedigaeth pensiwn yw un o'r materion mwy a allai anghymell darpar brynwr. A allech chi ddweud pa drafodaethau y byddwch chi’n eu cael gyda Llywodraeth San Steffan am y mater o ran pensiynau, a pha sicrwydd y gallwch chi ei roi i’r bobl hynny sy'n derbyn pensiwn sydd efallai’n bryderus iawn am yr hyn a allai ddigwydd i hwnnw?
 
Rwy’n credu bod yn rhaid i Lywodraeth y DU fod y benthyciwr pan fetho popeth arall yn yr achos hwn, ac, os oes angen, darparu’r cyllid pontio hwnnw i alluogi gwerthiant llwyddiannus i ddigwydd yn y dyfodol. A ydych chi wedi gofyn y cwestiwn hwnnw’n uniongyrchol i Brif Weinidog y DU, a beth oedd ei ymateb, os gwelwch yn dda? A allech chi hefyd ein sicrhau, yn eich trafodaethau gyda Llywodraeth San Steffan a’ch tîm yr ydych wedi ei anfon i Lundain i weithio gyda’r Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau, wrth ystyried darpar brynwr y bydd rhywfaint o sicrwydd na fydd y gwaith hwn a’r gweithwyr hyn yn cael eu gwerthu i rywun sydd â'r bwriad yn y pen draw o stripio asedau’r cwmni? Rydym ni eisiau gwerthu hwn i fusnes sy’n mynd i barhau i gynhyrchu dur, nid dod i mewn i Gymru, a chymryd y goes wedyn, ar ôl tynnu’r hyn sydd orau allan ac yna gadael y gweddill ar ôl. Mae angen rhywfaint o sicrwydd arnom y bydd hwn yn cael ei werthu fel busnes parhaus a llwyddiannus.
 
Ac yn hynny o beth, Brif Weinidog, rydym ni’n gwybod ein bod yn cynhyrchu cynnyrch o ansawdd rhagorol. Rydym ni’n gwybod ein bod yn cynhyrchu cynhyrchion dur arloesol, sy’n well na’r hyn a allai fod ar gael yng ngweddill y byd. Pa gynlluniau ydych chi’n eu trafod yn fewnol o fewn eich Llywodraeth eich hun a chyda Llywodraeth San Steffan am ddyfodol strategol hirdymor i’n diwydiant? Oherwydd rwy’n credu bod dyfodol iddo. Mae hwn yn ddiwydiant sydd nid yn unig yn rhy fawr i fethu; mae’n ddiwydiant sy'n rhy dda i adael iddo fethu, a byddwn yn gwerthfawrogi eich safbwynt ar yr hyn y byddwch yn ei wneud i lunio cynllun ar gyfer ymrwymiad hirdymor i gynhyrchu dur yn ein gwlad.
 
14:08
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
A gaf i ddiolch i arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol am ei sylwadau ac am ei chwestiynau? Mae mater y rhwymedigaeth pensiwn yn un pwysig ac, wrth gwrs, mae mater y rhwymedigaeth pensiwn yn bwysig o ran gwerthu’r cwmni. Bydd angen cael trafodaeth bellach gyda Llywodraeth y DU, sy'n ymwybodol o'r mater, er mwyn gwneud yn siŵr nad y rhwymedigaeth pensiwn yw’r rhwystr sy'n atal gwerthiant rhag digwydd, ac mae hynny'n rhywbeth y byddaf yn ei drafod eto gyda Phrif Weinidog y DU yfory.
 
O ran offer a pheiriannau, fel y dywedais yn gynharach, rydym ni wedi bod yn edrych yn ofalus ar ffyrdd o dynnu dosbarthiadau penodol o offer a pheiriannau o bob asesiad ardrethi. Rydym ni wedi ystyried pa un a ellid cyflwyno cap ar y gwerth ardrethol a pha un a ellid cynnig rhyddhad yn erbyn buddsoddiadau newydd mewn offer a pheiriannau. Rydym ni wedi cael trafodaethau manwl gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Nid ydynt wedi nodi ffordd gyflym o wneud hyn a fyddai'n osgoi cymorth gwladwriaethol ac apeliadau, o ystyried y diffyg data sydd ganddynt ar gael a’r cymhlethdodau technegol. Wedi dweud hynny, bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn edrych ar sefyllfa well o ran ardrethi busnes y flwyddyn nesaf, a fydd o gymorth i’r sector. Ond fel y dywedais yn gynharach, mae offer a pheiriannau werth tua £4.5 miliwn i £6 miliwn ar y bil ardrethi cyn belled ag y mae Tata yn y cwestiwn. Yr hyn yr ydym ni wedi ei gyflwyno yw pecyn sydd 10 gwaith yn fwy, a chyflymach; dyna oedd y problemau a oedd gennym. Ac eto, gydag ardrethi busnes rydym ni wedi ein cyfyngu i €200,000 dros gyfnod o dair blynedd oherwydd rheolau cymorth gwladwriaethol. Felly, y penderfyniad a wnaethpwyd gennym oedd, yn hytrach na chamu drwy'r mwd yn hynny o beth, y dylem ni roi cynnig ar y bwrdd a oedd yn llawer mwy na'r cynnig y gellid ei wneud o ran offer a pheiriannau ac ardrethi busnes , ac mae hynny'n dal i fod ar y bwrdd i unrhyw ddarpar brynwr newydd.
 
O ran caffael, beth ellir ei wneud er mwyn ysgogi galw? Adeiladu pethau; gwneud yn siŵr bod prosiectau ffyrdd yn mynd yn eu blaenau; gwneud yn siŵr bod prosiectau rheilffyrdd yn mynd yn eu blaenau; gwneud yn siŵr bod y morlyn llanw yn mynd yn ei flaen. Mae'n bosibl nodi mathau penodol o ddur yn rhan o'r prosiectau hynny, ond mae angen i'r prosiectau fynd yn eu blaenau yn y lle cyntaf. Prosiectau'r DU ydyn nhw, ac mae seilwaith yn sbardun hynod o bwysig pan ddaw i sbarduno galw am ddur.
 
O ran yr ardal fenter, amcan honno yn wir yw helpu busnesau bach a chanolig, a’n nod, wrth gwrs, yw gweld yr ardal fenter honno’n tyfu.
 
O ran y safleoedd eraill y gofynnodd hi amdanynt, wel, wrth gwrs, Port Talbot yw'r safle ar hyn o bryd sydd yn y sefyllfa anoddaf. Pen trwm Port Talbot sy’n colli’r mwyaf o arian, er nad wyf yn argyhoeddedig ei fod yn £1 filiwn y dydd, a dweud y gwir. Ond mae'n bendant yn colli arian. Felly, yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud hyd yn hyn yw edrych ar Bort Talbot yn bennaf, ond nid yn unig. Rydym ni’n gwybod, wrth gwrs, y bydd pryderon a gofidiau yn Nhrostre, yn Llanwern, yn Orb, a hefyd, wrth gwrs, yn Shotton. Rydym ni’n deall hynny, a byddwn yn gweithio gyda'r holl safleoedd i wneud yn siŵr y gallwn weithio i sicrhau eu dyfodol.
 
Gofynnodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol i mi beth yr ydym ni’n gofyn amdano gan Lywodraeth y DU. Rydym ni angen i Lywodraeth y DU gefnogi tariffau uwch. Maen nhw yno, ond nid ydynt, hyd yn hyn, wedi eu cefnogi’n ddigonol. Mae gwledydd eraill—gwelsom Tsieina yn ei wneud dros y penwythnos—yn gosod tariffau ar gynhyrchion dur penodol. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod chwarae teg a, hyd yn hyn, nid yr Undeb Ewropeaidd sydd wedi bod yn rhwystro hyn, ond Llywodraeth y DU. Rwy’n gobeithio nawr bod dealltwriaeth o’r mater, a byddem yn cefnogi Llywodraeth y DU, wrth gwrs, o ran gwneud yn siŵr fod y tariffau yn deg ac yn debyg i dariffau sy'n cael eu gosod gan wledydd eraill ledled y byd.
 
Prisiau ynni—rydym ni wedi bod yn lobïo ar brisiau ynni ers 2011. Rwyf i wedi trafod prisiau ynni yn bersonol gyda Vince Cable yn Tata pan oedd ef yn Ysgrifennydd Gwladol. Mae angen i ni weld symud ar hynny. Nid oes amheuaeth—gallwch siarad â diwydiannau ynni-ddwys ledled Cymru, a byddant yn dweud yr un peth wrthych—bod prisiau ynni yn y DU yn uwch nag yn yr Almaen ac yn Sbaen. Mae'n rhaid ymdrin â hyn; fel arall, y neges fydd yw nad yw'r DU yn fan lle mae croeso i ddiwydiannau ynni-ddwys. Bydd angen ymdrin â hynny.
 
Ac, wrth gwrs, i ddangos ymrwymiad i'r diwydiant. Nid wyf yn amau ​​Prif Weinidog y DU pan ei fod yn dweud ei fod yn ymrwymedig i sicrhau bod cynhyrchu dur yn parhau. Yn y sgyrsiau yr wyf i wedi eu cael—ac mae wedi dweud hyn yn gyhoeddus—dywedodd nad gwladoli yw'r ateb. Diffiniwch 'gwladoli', wrth gwrs, yw'r cwestiwn yn y fan yna. Yr hyn sydd ei angen, fodd bynnag, yw parodrwydd i sicrhau y bydd y Llywodraeth yn cymryd asedau Tata drosodd—os bydd angen—er mwyn dod i hyd i brynwr. Mae'n golygu creu’r cyfnod hwnnw i brynwr wneud yn siŵr bod pob cyfle i'r gweithwyr yn Tata gael dyfodol.
 
Mae hi yn llygad ei lle i ddweud mai’r peth olaf y byddem ni eisiau ei weld yw tynnwr asedau’n dod i mewn i redeg y gweithfeydd yng Nghymru. Mae'r sgwrs yr wyf i wedi ei chael gyda darpar brynwr—nid yw’r prynwr penodol hwn, er na allaf ddatgelu pwy ydyw, yn dynnwr asedau; mae’n rhywun a fyddai â diddordeb mawr mewn cynhyrchu dur. Ond, mae'n hollol iawn mai’r peth olaf y byddem ni eisiau ei weld yw i fusnes ddod i mewn i stripio’r ased er mwyn dileu cystadleuaeth, yn rhywle arall efallai—ar gyfer gweithfeydd mewn rhannau eraill o Ewrop. Felly, mae cael rhywun sy'n mynd i redeg asedau Tata fel busnes yn gwbl hanfodol.
 
O ran dyfodol strategol dur, wel, tua blwyddyn yn ôl, nid oedd Port Talbot yn colli arian; roedd yn mantoli’r cyfrifon. Roedd wedi bod trwy gyfnodau anodd o'r blaen, mae hynny'n wir, ond roedd yn mantoli’r cyfrifon. Mae’r hyn sydd wedi digwydd yn y farchnad ddur fyd-eang wedi achosi anawsterau mawr i Bort Talbot am y rhesymau yr ydym ni wedi eu hamlinellu eisoes. Ond y pwynt yr wyf i wedi ei wneud yw: nid yw’r problemau hyn yn barhaol. Nid yw hwn yn ddiwydiant sy'n siŵr o farw; nid yw'n ddiwydiant sy'n siŵr o golli arian am byth a thu hwnt. Y cwbl sydd ei angen arno yw cymorth i gael trwy'r argyfwng byrdymor cyfredol. Byddwn yn barod i helpu. Mae Llywodraeth y DU wedi nodi ei bod yn barod i helpu ac mae'n bwysig bod yr ymrwymiadau hynny’n cael eu troi’n weithredu.
 
14:13
David ReesBywgraffiad
Diolch, Lywydd. A gaf i ddiolch i chi unwaith eto am alw’r Cynulliad yn ôl, gan ei bod yn bwysig bod gwleidyddion yn cael cyfle i ofyn y cwestiynau i’r Llywodraeth i gael atebion ar gyfer dyfodol y diwydiant dur, yn enwedig i’r cymunedau sy'n goroesi oherwydd y diwydiant dur? Brif Weinidog, a gaf i ddechrau trwy ddiolch i chi am eich datganiad? Nid oes unrhyw beth ynddo y gall neb anghytuno ag ef yn hynny o beth. Rwy'n credu mai dyna’r ydym ni i gyd eisiau bwrw ymlaen ag ef. A gaf i hefyd ddiolch i Lywodraeth Cymru am y gwaith sydd wedi ei wneud ar y diwydiant hyd yn hyn? Gwn ein bod wedi bod yn codi’r cwestiwn o brisiau ynni ers blynyddoedd lawer—ers i mi fod yn y Cynulliad. Hefyd, sefydlwyd y tasglu ar unwaith yn dilyn y cyhoeddiad diwethaf, a byddwn yn gobeithio y bydd y tasglu nawr, efallai, yn edrych hefyd ar rai o'r materion a fydd yn codi yn dilyn newyddion trychinebus yr wythnos diwethaf gan Tata am y penderfyniad i werthu sector dur y DU o'i fusnes, ac ym Mhort Talbot yn arbennig.
 
Roeddem ni i gyd yn gobeithio y byddai Tata yn derbyn y cynllun goroesi, neu’r bont, fel y mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei adnabod. Ond, yn anffodus, mae'n ymddangos na wnaethant dderbyn hynny, ac nid oedd neb yn disgwyl y newyddion a gawsom ni nos Fawrth diwethaf. Nid wyf eisiau bod yn bleidiol—gwn fod sylwadau am gyfranogiad Llywodraeth y DU a’i hanallu i weithredu hyd yma, ond gadawaf hynny o’r neilltu gan fy mod i, fel chithau, eisiau edrych i’r dyfodol. Fel chithau, rwy’n credu bod dyfodol i gynhyrchu dur yng Nghymru, yn enwedig ym Mhort Talbot. Mae miloedd o bobl yn fy etholaeth i—gweithwyr dur, contractwyr, gweithwyr y gadwyn gyflenwi, busnesau a'u holl deuluoedd—eisiau atebion i rai cwestiynau am ddyfodol y gwaith a'r camau yr ydym ni’n mynd i’w cymryd i sicrhau hynny. Rydym ni wedi clywed geiriau gennych chi a Llywodraeth y DU na fydd unrhyw garreg yn cael ei gadael heb ei throi a bod yr holl ddewisiadau ar y bwrdd. Rwy’n cynnwys yn y sylw hwnnw, felly, ymyrraeth y wladwriaeth. Nid ydym eisiau ei alw’n 'wladoli'—iawn; gadewch i ni ei alw’n 'ymyrraeth y wladwriaeth'. Mae hynny'n iawn gennyf i. Ond rydym ni eisiau cefnogaeth i’r gwaith, ac rydym ni eisiau rhoi digon o amser iddo. Nawr, dywedasoch fod amser ar gyfer datgan diddordeb, ond mae datganiadau o ddiddordeb yn seiliedig ar hyfywedd yn aml ac mae angen amser arnom ni i’r gwaith ddangos hyfywedd a’r potensial y gall y gwaith ei gynnig i unrhyw un sydd â diddordeb mewn prynu'r gwaith. Felly, rwy’n meddwl bod yn rhaid i'r trafodaethau yr ydych chi’n eu cael gyda Tata yn sicrhau y cynigir hyblygrwydd, neu mae'n rhaid i Lywodraeth y DU roi’r cymorth hwnnw er mwyn caniatáu amser i ddatganiad o ddiddordeb gael ei wneud. Ni allwn ei wneud nawr, a dyna fy mhryder. Ni allwch chi wneud datganiad o ddiddordeb mewn chwe wythnos. Mae angen i chi fod yn ymwybodol o hyfywedd, potensial y gwaith, mae angen i chi wneud y diwydrwydd dyladwy, ac, os oes rhywun yn dod i mewn nawr, yna nid yw’r amser hwnnw’n ddigon da.
 
Mae'n amlwg yn amser i’r ddwy Lywodraeth weithio gyda'i gilydd fel un, i uno. Mae angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fod yn unsain ar hyn. Rwy’n gobeithio os bydd Llywodraeth y DU yn arwain—ac mae'n rhaid i mi fod yn onest, nid yw fy fydd yn Llywodraeth y DU wedi ei hargyhoeddi eto—byddwn eisiau i Lywodraeth Cymru arwain ar hyn er mwyn sicrhau bod y diwydiant dur yn goroesi yma yng Nghymru.
 
Brif Weinidog, mae gennyf lawer o gwestiynau i chi. Mae rhai wedi eu hateb a’u gofyn eisoes, felly byddaf yn ceisio osgoi ailadrodd y rheini, Lywydd. Ond rwy’n awyddus i ganmol y gweithwyr dur yn gyntaf. Mae'r rhai sy'n adnabod ffatri Port Talbot yn adnabod y gwaith ac yn ymwybodol o’r lefelau cynhyrchu yn y gwaith hwnnw. Mae’r gweithwyr dur hynny wedi ymrwymo eu hunain y tu hwnt i arferion gwaith arferol i ddangos yr hyfywedd a’r gweithrediad sy'n gweithio. Mae angen i ni wneud rhywbeth gan eu bod yn haeddu ein cefnogaeth. Maen nhw’n haeddu i’r Llywodraeth Cymru hon gymryd camau i sicrhau bod dur yn parhau, nid yn unig ym Mhort Talbot, er mai dyna’r prif bwyslais, ond ledled Cymru. Oherwydd, fel y nodwyd yn gywir eisoes, mae Casnewydd, Shotton, Trostre i gyd yn rhan o hyn—a'r Orb yng Nghasnewydd. Ni allwn anghofio hwnnw ychwaith, gan fod hwnnw’n rhan o Tata Steel. A gaf i hefyd ddiolch, cyn i mi barhau, i arweinwyr y pleidiau eraill? Oherwydd mae cefnogaeth ar draws y pleidiau yn bwysig i’r diwydiant hwn, i’r sector ac i’r cymunedau a fydd yn cael eu heffeithio gan y penderfyniad hwn.
 
Brif Weinidog, rydych chi wedi cael trafodaethau gyda Tata. Rwy'n credu ei bod yn bwysig eich bod yn parhau i drafod gyda Tata, ond a allwch chi ddweud wrthyf am yr hyblygrwydd y mae Tata yn siarad amdano yn yr amserlen hon? Maen nhw wedi nodi mai chwe wythnos yw'r cyfnod, o'r hyn rwy’n ei ddeall, ond a oes hyblygrwydd yn eu trafodaethau i ymestyn hynny a pheidio â phennu torbwynt a pheidio â dweud ymhen chwe wythnos, 'Rydym ni’n cau'? Mae hynny'n hanfodol, nid yn unig i Bort Talbot, ond, fel y nodwyd gennych, mae'r rhestr archebion chwe mis ar gyfer Shotton yn mynd i fod yn hanfodol yn hynny o beth. Felly, a oes trafodaeth ar hyblygrwydd?
 
Soniasoch hefyd am y pecyn a gyflwynwyd gennych i Tata. A gawsoch chi ymateb gan Tata am y pecyn hwnnw, ac a oes hyblygrwydd yn y pecyn hwnnw? Soniasoch heddiw am y £60 miliwn a roddwyd ar y bwrdd. A yw hwnnw'n hyblyg? A oes posibilrwydd o fwy? A allem ni edrych ar brosiectau eraill, fel yr orsaf bŵer—oherwydd nid wyf yn credu i chi grybwyll y posibilrwydd hwnnw—a hyblygrwydd mewn mentrau ar y cyd ar gyfer yr orsaf bŵer ym Mhort Talbot, a fyddai'n ei wneud, unwaith eto, yn ddeniadol i ddarpar brynwr?
 
Nawr, hoffwn ofyn un neu ddau o bwyntiau am gyllid ar y cyd Llywodraeth y DU. Pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch ymyrraeth y wladwriaeth, ac a fydd Llywodraeth Cymru yn rhan o hyn, y tu hwnt i'r pecyn yr ydych chi wedi sôn amdano? A oes posibilrwydd, y tu hwnt i'r pecyn hwnnw, i gymryd rhan yn ymyrraeth y wladwriaeth yn y diwydiant?
 
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd i fynd i'r afael â'r materion yn yr UE? Rydym ni i gyd yn gwybod bod mewnforion rhad wedi eu hamlygu gan lawer o bobl, gan gynnwys gweithwyr ym Mhort Talbot. A ydych chi wedi cael trafodaethau gyda'r UE, eich hunain, fel Llywodraeth Cymru? Pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU? Fe wnaethoch nodi yn gwbl gywir y ffaith eu bod yn rhwystro'r dyletswyddau cyfradd is. Ni fyddwn yn rhoi clod iddyn nhw am edrych ar unrhyw beth. Maen nhw wedi rhwystro dyletswyddau cyfradd is, ac mae angen iddyn nhw newid tac ar hynny ac mae angen iddyn nhw ddechrau gosod dyletswyddau ar lefel resymol sy'n gwneud y diwydiant yn gystadleuol gyda'r mewnforion o Tsieina a mewnforion o Rwsia. A wnewch chi fynnu cael lle ar Gyngor y Gweinidogion pa bryd bynnag y bydd dur yn cael ei drafod yn Ewrop? Oherwydd, ar hyn o bryd, mae'n ymddangos—ac rwy’n mynd i fod yn blaen, nid oes gennyf unrhyw ffydd yn Sajid Javid gan fod ei sylwadau yn y gorffennol wedi dangos ei ddiffyg dealltwriaeth llwyr o ddur. A wnewch chi fynnu cael lle wrth y bwrdd hwnnw, fel y gallwn gael rhywun sy'n adnabod y diwydiant dur yn mynd allan i Ewrop i drafod y pethau hynny?
 
A wnewch chi hefyd geisio sicrhau bod Tata yn gweithredu fel gwerthwr cyfrifol? Mae gennyf bryder dwys am y sefyllfa bresennol o ran y llyfrau archebion a chaffael cynhyrchion. Rwy'n credu bod angen i ni sicrhau nawr ein bod yn ymdrin â'r rheini yng Nghymru ar gyfer Cymru. Ar hyn o bryd, rwy’n deall ei fod yn safle ar y cyd â'r gwaith yn yr Iseldiroedd. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod y gwahaniad hwnnw’n digwydd, fel y gallwn ddangos bod Cymru yn gyfle proffidiol. Mae gweithwyr dur wedi dweud wrthyf fod yr ierdydd stoc yn cael eu lleihau a’u disbyddu. Unwaith eto, mae gen i bryder mawr ynghylch hynny oherwydd, os yw’r ierdydd stoc yn cael eu disbyddu, bydd y lefelau cynhyrchu yn gostwng. Ni allwn adael i hynny ddigwydd oherwydd, y ffwrneisi chwyth, unwaith y byddant wedi mynd yn oer, dyna ddiwedd arnynt, am byth. Mae angen i ni sicrhau bod y ffwrneisi chwyth hynny’n parhau i weithredu. Felly, a wnewch chi sicrhau bod Tata yn gweithredu’n gyfrifol ym mhob agwedd ar eu busnes, ac nad ydynt yn ei wneud yn llechwraidd, a dyna rwyf yn ofni yw’r sefyllfa y maen nhw’n ein gadael ni ynddi?
 
Soniasoch am brynwyr, Brif Weinidog. Soniasoch am stripio asedau, a byddaf yn sôn am yr enw: amlygwyd Mr Gupta ac mae wedi cael cryn dipyn o sylw yn y papurau newydd a’r wasg. Unwaith eto, mae'n debyg ei fod yn awgrymu ei fod eisiau gosod ffwrnais arc ym Mhort Talbot, a fyddai'n cau'r ffwrneisi chwyth i lawr, a fyddai'n rhoi terfyn ar y gwaith sinter, yn yr ierdydd stoc, y concastiau, y ffyrnau golosg a’r gwaith BOS i gyd—cau dwy ran o dair o'r gwaith fwy neu lai. Fe’i hadeiladwyd fel gwaith integredig. Mae'n gweithio fel gwaith integredig. Byddai hynny'n cymryd miloedd o swyddi, nid yn unig yn y gwaith, ond yn y gymuned ac yn y gadwyn gyflenwi a chontractau allanol. Felly, a fyddwch chi’n cael y trafodaethau hynny er mwyn sicrhau nad ydym yn cyrraedd y sefyllfa honno, nad ydym yn gweld y gwaith yn cael ei ddatgymalu, ac nad ydym yn gweld y miloedd o swyddi hynny'n cael eu colli o ganlyniad i hynny?
 
Yn olaf, Brif Weinidog, mae gennych chi, efallai, hyder—nid oes gennyf i hyder—yn Llywodraeth y DU. Rwy’n bod yn agored; rwy’n bod yn onest. Maen nhw wedi cymryd dros ddwy flynedd i weithredu—ac o'r hyn rwy’n ei ddeall, nid yw'r arian wedi dod drwyddo o hyd—pecyn iawndal y dreth werdd. A oes gennych chi wir hyder y byddant yn trefnu eu hunain ac yn gwneud rhywbeth dros y diwydiant dur? Oherwydd, fel y nodwyd heddiw, mae’n ddiwydiant sylfaenol, yn ddiwydiant strategol. Heb ddur yn y DU, ac yn enwedig yma yng Nghymru, bydd effaith fawr ar weithgynhyrchu a gweddill ein heconomi. Mae'n bwysig bod gan fy etholwyr hyder—ac nid oes ganddyn nhw hyder yn y Llywodraeth Dorïaidd ar hyn o bryd—ein bod ni’n symud ymlaen gyda chynllun â golwg ar gyfer y dyfodol. Nid wyf yn gwneud unrhyw esgusodion am ofyn yr holl gwestiynau hyn, gan fod bywoliaeth miloedd o bobl yn dibynnu ar y penderfyniadau a gymerwn fel Llywodraeth, yma ac yn y DU. Gallaf ddweud wrth bobl nawr: Ni fyddaf yn gyfaill i unrhyw Lywodraeth sy'n troi ei chefn arnyn nhw. [Cymeradwyaeth.]
 
14:23
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
A gaf i ddiolch i’r Aelod am ei sylwadau? Gwn ei fod wedi bod yn bresennol ar bob cyfle i gefnogi'r rhai sy'n gweithio yn ei etholaeth, a'r rhai sy'n byw yn ei etholaeth. Pryd bynnag yr wyf i wedi bod ym Mhort Talbot, mae wedi bod yno, ac mae ef a minnau wedi cael trafodaethau helaeth dros yr ychydig wythnosau diwethaf am Bort Talbot ei hun. Felly, a gaf i dalu teyrnged iddo yn hynny o beth?
 
Cyfarfûm â Tata Europe ychydig cyn y Nadolig. Ar yr adeg honno yr awgrymwyd i mi bod cynllun gwrthdroad—cynllun McKinsey, fel y’i hawgrymwyd. Yn anffodus, rydym ni’n gwybod na wnaeth bwrdd Tata dderbyn y cynllun gwrthdroad. Felly, ar yr adeg honno yr ydym ni’n gwybod bod Tata wedi penderfynu ei fod yn dymuno gwerthu ei asedau yn y DU. Mae'n gwbl gywir i dynnu sylw at yr anawsterau o gasglu datganiadau o ddiddordeb mewn cyfnod byr iawn. Tair i bedair wythnos yw'r amserlen y gwnaethant ei chrybwyll i mi. Mae'n amserlen hynod o fyr, nad yw’n realistig, a dyna pam, wrth gwrs, yr wyf i wedi bod yn dweud bod angen i Lywodraeth y DU fod yn barod—a byddem ni, wrth gwrs, yn rhan o’r broses honno—i gymryd drosodd y gwaith o redeg yr asedau hynny er mwyn, o leiaf, cael mwy o amser i ddod o hyd i brynwr. Oherwydd mae’r amserlen yn fyr dros ben. Y peth i’w bwysleisio eto, fel y soniais yn gynharach, yw nad yw hwn yn rhyw fath o ddiwydiant hynafol. Mae Port Talbot wedi cael buddsoddiad—cannoedd o filiynau o bunnoedd o fuddsoddiad. Mae'n waith da â pheiriannau modern a gweithlu medrus. Felly, mewn cyfnod pan roedd y farchnad ddur fyd-eang yn fwy cadarn nag y mae ar hyn o bryd, byddai'n waith a fyddai'n ddeniadol. Mae'n gwestiwn o wneud yn siŵr ei fod yn dal i fod yno pan fydd y farchnad dur yn gwella—fel y gwnaiff ar ryw adeg; rydym ni’n gwybod hynny.
 
O ran y gweithwyr dur eu hunain, mae wedi talu teyrnged i'r rhai yn ei gymuned. Bydd yn gwybod fod yr 'abaty', fel y mae pawb yn ei alw, wedi bod yn ffynhonnell o gyflogaeth i lawer yn yr ardal ehangach hefyd. Yn ne-orllewin fy etholaeth fy hun, adeiladwyd pentref Corneli ar gyfer gweithwyr yn y gwaith dur. Felly, mae cyrhaeddiad a dylanwad y gwaith hwnnw’n eang iawn yn wir.
 
O ran yr ymatebion yr wyf wedi eu cael gan Tata, mae Tata wedi bod yn ymwybodol o'r pecyn a oedd ar y bwrdd. Rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni dderbyn bod terfyn i'r hyn y gallwn ei wneud, ac felly mae angen i Lywodraeth y DU gyfrannu arian hefyd. Nid oes modd dianc rhag y ffaith, er mwyn i'r gweithfeydd gael eu hystyried yn ddeniadol i’w prynu, bod angen i arian i fod ar y bwrdd gan Lywodraethau. Rydym ni’n derbyn hynny. Rydym eisoes wedi cynnig y swm hwnnw o arian; bydd yn rhaid i ni edrych i weld beth allai fod ei angen yn y dyfodol, a byddwn yn gwneud hynny. Mae hynny eisoes ar y bwrdd, ond bydd angen i Lywodraeth y DU hefyd, wrth gwrs, gyfrannu arian hefyd, o'i hadnoddau mwy sylweddol, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir sicrhau gwerthiant.
 
Bu gohebiaeth helaeth rhyngom ni a Llywodraeth y DU, a rhyngom ni a'r UE, o ran y mater o dariffau, fel y byddai'r Aelod yn ei ddisgwyl, pan roedd y mater hwn yn fyw—. Hynny yw, bu gohebiaeth helaeth ynghylch prisiau ynni ers blynyddoedd lawer, ac, fel y byddai'r Aelod yn ei ddisgwyl, bu gohebiaeth ynghylch y mater o dariffau, yn ogystal â'r ffaith bod y rhwystrau tariff yn llawer rhy isel, yn enwedig o'u cymharu â gwledydd eraill ac yn enwedig ar ôl y newyddion a glywsom dros y penwythnos, o ran yr hyn y mae Tsieina wedi ei wneud.
 
Rydym ni eisiau bod mor adeiladol ag y gallwn. Mae'n iawn i ddweud bod angen i Tata weithredu fel gwerthwr cyfrifol. Rwyf wedi dweud hynny wrthynt, ac rwyf wedi dweud hynny’n gyhoeddus, ac maen nhw wedi dweud wrthyf eu bod yn deall bod angen i’w hasedau yn y DU fod mewn cyflwr lle gellir eu gwerthu, a byddai hynny'n golygu, wrth gwrs , sicrhau bod y ffwrneisi chwyth yn dal wedi’u cynnau. Mae ef a minnau’n gwybod, unwaith y bydd ffwrneisi chwyth yn oeri, bod yn rhaid buddsoddi swm sylweddol o arian er mwyn eu gwneud yn weithredol eto a byddai hynny'n effeithio’n andwyol ar economeg unrhyw bryniant, a dyna y mae Tata wedi ei ddweud wrthyf, y byddant yn sicrhau, o leiaf, y bydd yr hyn y maen nhw’n ei gynnig ar werth mewn cyflwr i'w werthu ac, yn wir, i gael ei brynu. Felly, gallaf sicrhau'r Aelod y byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU a chydag eraill i sicrhau dyfodol i'n diwydiant dur. Ni allaf ddychmygu economi ddiwydiannol fawr heb allu i gynhyrchu dur, a dyna beth sy'n ein hwynebu yma yn y DU. Mae'n bwysig, felly, bod Llywodraethau ar bob lefel yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod yr hyn sy’n ddiwydiant strategol yn parhau felly yn y dyfodol.
 
14:27
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Galwaf ar William Graham, fel Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes—William Graham.
 
14:27
William GrahamBywgraffiad
Diolch i chi, Lywydd, am y cyfle hwn i ystyried y sefyllfa argyfyngus sy'n wynebu diwydiant dur Cymru. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes, fe wnaethom gynnal cyfarfod â'r diwydiant, yr undebau a'r Gweinidog i fynd i'r afael â'r peryglon a oedd ar fin digwydd i’r diwydiant dur—ac roedd hyn fis yn ôl. Ar ran y pwyllgor hwnnw, ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Gwladol dros fusnes ac Ysgrifennydd Cymru yn galw am gamau gweithredu brys ar dariffau i leddfu effeithiau dympio dur o Tsieina ar y farchnad. Fe wnaethom nodi bod rhai o fesurau’r UE wedi bod yn llwyddiannus. Gostyngodd mewnforion o wialen wifr o Tsieina i fwy neu lai sero y llynedd ar ôl i fesurau gael eu gosod yn 2009 a’u hadnewyddu y llynedd. Gostyngodd mewnforion o ddur anorganig wedi’i orchuddio o Tsieina 90 y cant yn dilyn ardollau a osodwyd yn 2013, a bu gostyngiad o bron i 90 y cant i gynhyrchion dur di-staen gwastad eto yn dilyn ardollau a gyfrifir o dan y rheol ardollau llai. Ac mae arwyddion addawol bod mesurau a osodwyd ym mis Ionawr ar fariau dur atgyfnerthu yn dechrau cael effaith, ac mae mewnforion yn gostwng yn barod. Ond roeddem yn nodi hefyd, fel y dywedodd David Rees, bod dur o Rwsia erbyn hyn wedi dod i'r farchnad ar bump a 10 y cant yn is na dur o Tsieina hyd yn oed.
 
Felly, gwnaethom dynnu sylw at gost prisiau ynni i'n cynhyrchwyr, ac mae'r Prif Weinidog eisoes wedi ymdrin â hynny, ac roeddem yn teimlo'n gryf iawn y dylai fod chwarae teg i gynhyrchwyr yng Nghymru. Rydym hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflymu'r broses o weithredu ar ardrethi busnes, a nodwyd fel ffactor pwysig yn y pwysau ariannol ehangach sy'n effeithio ar y diwydiant, ac mae'r Prif Weinidog wedi rhoi esboniad eisoes o ba mor anodd yw hynny. Nodwyd gennym, er enghraifft, o ran offer a pheiriannau, bod hyd yn oed y gronfa yn cael ei threthu, ac nid yw'r math hwnnw o gyfleuster ond yn rhan o'r cymhlethdod yn hyn o beth.
 
Fodd bynnag, pan ddaw i gaffael yn y sector cyhoeddus, teimlai'r pwyllgor y dylem sicrhau bod awdurdodau contractio yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig yn gwneud mwy i nodi bod ein contractau yn sicrhau manteision cymdeithasol. Dylem wneud mwy i wneud yn siŵr ein bod yn defnyddio ein holl bŵer prynu i gefnogi'r diwydiant dur, ac mae seilwaith eisoes wedi'i nodi. Ond rydym wedi nodi, er 2011, o 130 o gontractau caffael corfforaethol Llywodraeth Cymru oedd werth mwy na £0.5 miliwn, mai dim ond 53 y cant o'r rheini sydd wedi eu dyfarnu i fusnesau Cymru. Mae adran caffael cyfalaf Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu 44 o gontractau gwerth mwy na £500,000, a dim ond 36 y cant o’r rheini aeth i fusnesau sydd wedi eu lleoli yng Nghymru. Teimlai'r pwyllgor yn gryf y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi cyhoeddi canllawiau, trwy ei his-adran Gwerth Cymru, i sicrhau ein bod yn caffael dur sy'n bodloni'r safonau a gymeradwywyd gan y siarter ar gyfer dur Prydeinig cynaliadwy. Yn y cyfarfod, clywsom hefyd fod Llywodraeth Cymru yn edrych ar ansawdd dur Cymru, ac efallai y gallai'r Prif Weinidog roi syniad i ni o'r hyn sydd wedi digwydd ynglŷn â hynny yn benodol. Gwnaethom ofyn hefyd am y trafodaethau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynglŷn â’r posibilrwydd o wneud cais i Gronfa Addasu Globaleiddio Ewrop, a gwnaethom ofyn i'r Prif Weinidog am y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â hynny.
 
Bydd y senedd yn gwybod bod y pwyllgor yn bwyllgor trawsbleidiol, a’r hyn a oedd yn atseinio'n bendant yn ein sylwadau oedd bod yn rhaid i ddur Cymru barhau.
 
14:30
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau? Mae'n gywir i ddweud bod nifer y ceisiadau llwyddiannus gan fusnesau o Gymru am gontractau sector cyhoeddus wedi cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd, ond mae’n wir i ddweud ein bod yn dymuno gwneud mwy. Ni allwn bennu y dylai contractau fynd i fusnesau o Gymru—yn ôl y gyfraith neu mewn unrhyw ffordd arall, yn amlwg,—ond mae'n bwysig ein bod yn gallu helpu busnesau i ddeall beth sydd ei angen er mwyn iddynt allu gwneud cais llwyddiannus am gontractau. Rydym yn deall, wrth gwrs, fod swyddogaeth yma i adran gaffael Llywodraeth Cymru, yn ogystal â marchnad llawer mwy y DU.
 
Mae’r Aelod eisoes wedi nodi yr hyn yr wyf wedi ei ddweud am ardrethi busnes ac am offer a pheiriannau. Mae'n gywir yn yr hyn y mae'n ei ddweud o ran rhai o'r tariffau sydd wedi eu gosod ar lefel yr UE, ond nid ydynt yn mynd yn ddigon pell, dyna'r anhawster. Mae'r sefyllfa yn un sy’n newid yn gyflym; gwelsom hynny yn dilyn penderfyniad y Tsieineaid ddydd Sadwrn. Rwyf yn pwysleisio nad yw hyn yn rhyw fath o ymosodiad ar Tsieina, gan fod Tsieina yn bartner masnachu pwysig; apêl ydyw, yn syml, am chwarae teg. Rydym yn gwybod bod gwledydd eraill wedi rhoi mesurau ar waith i ddiogelu eu diwydiannau strategol sef dur, wrth gwrs; mae angen i ninnau wneud yn siŵr bod y DU ac, yn wir, Llywodraeth yr Iseldiroedd yn cefnogi'r hyn sydd ei angen a’r hyn sy’n ofynnol er mwyn gwneud yn siŵr bod y diwydiant dur yn cael chwarae teg yma yng Nghymru. Byddaf yn parhau i wneud y pwynt hwnnw, wrth gwrs, i'r Prif Weinidog yfory ac, yn wir, mewn trafodaethau dilynol.
 
14:32
Rhun ap IorwerthBywgraffiad
A gaf i ddiolch yn gyntaf i'r Prif Weinidog am ymateb yn gadarnhaol i'r ceisiadau am ailalw’r Cynulliad a diolch i'r Llywydd am orchymyn yr ailalw hwnnw? Rwy'n credu y byddai wedi bod yn annirnadwy na fyddem wedi ailymgynnull ar yr adeg hon. Dylwn ddweud ar y dechrau ein bod ni i gyd yma eisiau gweld Llywodraeth y DU yn gwneud mwy—gwneud llawer, llawer mwy. Ond, rydym wedi ailymgynnull, wrth gwrs, nid yn unig fel modd o lobïo Llywodraeth y DU, ond i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am ei gweithredoedd wrth ymateb i'r argyfwng dur.
 
Weinidogion, gan fy mod, yn rheolaidd wedi gwisgo eu bathodynnau 'Achubwch ein Dur', ers dechrau’r argyfwng presennol, ac mae achub ein dur yn rhywbeth y mae pob un ohonom yma yn angerddol drosto, ond byddwn i'n atgoffa’r Gweinidogion, na all gwneud datganiad cyhoeddus o'r fath, yn gofyn am i ddur gael ei achub, gymryd lle camau gweithredu. Nid grŵp pwyso yw Llywodraeth Cymru yn hyn i gyd. Mae Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa freintiedig o allu helpu i lunio’r strategaeth, i arwain y strategaeth, a all roi dyfodol i ddur, a dylai Llywodraeth Cymru fod yn glir iawn, nid yn unig wrth alw am gamau gweithredu gan Lywodraeth y DU, ond o ran egluro yn union y math o gamau y mae angen i Lywodraeth y DU eu cymryd a sut mae Llywodraeth Cymru ei hun yn barod i gyfrannu at y strategaeth honno ym mhob ffordd bosibl. Mae DU heb ddiwydiant dur yn rhywbeth nad yw'n werth meddwl amdano, ond mae cymhelliant ychwanegol, yn sicr, i Lywodraeth Cymru wrth geisio dangos arweinyddiaeth strategol ar anghenion dur yng Nghymru, oherwydd byddai colli'r diwydiant dur yma yn drychinebus—nid yn unig i’r unigolion yr effeithir arnynt yn uniongyrchol, y gweithwyr, eu teuluoedd a'u cymunedau, ond ar gyfer economi Cymru gyfan. Cymru yw'r wlad sydd fwyaf dibynnol ar y diwydiant dur yn Ewrop, a byddai colli dur i Gymru fel y DU yn colli ei diwydiant ceir dair gwaith drosodd. Dyna pam mae arnom angen Llywodraeth Cymru ragweithiol ac nid adweithiol.
 
Rwyf am ofyn nifer o gwestiynau i'r Prif Weinidog. Edrych i’r dyfodol, wrth gwrs, sy’n bwysig nawr, ond mae'n bwysig hefyd, rwy’n meddwl, edrych eto ar weithredoedd y Llywodraeth yn y cyfnod yn arwain at y sefyllfa yr ydym ynddi heddiw. Yn gyntaf, er ​​fy mod i yn sicr, yn rheolaidd, wedi cefnogi camau a gymerwyd yn sgil y cyhoeddiad am golli swyddi ym mis Ionawr i ymateb i'r sefyllfa honno o ran ceisio dysgu sgiliau newydd i’r gweithlu, ac yn y blaen, a rhai o'r cyhoeddiadau sydd wedi eu gwneud heddiw ynglŷn â pharthau menter ac ardrethi busnes, a all y Prif Weinidog egluro hefyd pa waith cyfochrog sydd wedi ei wneud ers mis Ionawr ar y gwaith mwy strategol o sicrhau bodolaeth y diwydiant? Roedd Llywodraeth Cymru yn gwybod ers y Nadolig fod yr ysgrifen ar y mur, yn ôl y 'Financial Times'. A gaf i ofyn pa asesiadau manwl y gwnaeth y Prif Weinidog orchymyn iddynt gael eu cynnal, o gwmpas y Nadolig efallai, o'r effaith bosibl ar economi Cymru gan y gwahanol ddewisiadau yr oedd Tata yn eu ceisio?
 
Ar fater y tariffau, roedd y Prif Weinidog yn feirniadol o Lywodraeth y DU ar y radio y bore yma; mae ef wedi bod yn feirniadol eto y prynhawn yma am flocio tariffau uwch ar fewnforion dur o Tsieina. Mae'n rhaid i mi anghytuno ag ef, fodd bynnag, nad yw hyn yn rhywbeth y daethom i wybod amdano ar y penwythnos. A gaf i ofyn pa sylwadau ffurfiol a wnaed gan Lywodraeth Cymru i Weinidogion y DU ar adeg y trafodaethau ar lefel Ewrop am y risg o flocio tariffau ar ddur o Tsieina?
 
A gaf i ofyn beth yw'r pecyn ariannol sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru, os nad mewn punnoedd a cheiniogau ar y cam hwn, efallai am resymau masnachol dilys, yna efallai y gall y Prif Weinidog ddweud wrthym am ddiben y pecyn ariannol hwnnw, a sut y mae'n cyd-fynd â'r hyn y mae Llywodraeth Cymru ei eisiau gan Lywodraeth y DU? Dywedodd y Prif Weinidog yn ei ddatganiad y prynhawn yma fod Llywodraeth Cymru yn barod i gyfrannu o'i hadnoddau yr arian yr addawodd yn flaenorol i gefnogi’r gwaith o wrthdroi’r sefyllfa. A yw'r Prif Weinidog efallai wedi ystyried ei bod yn amser i ailasesu maint y cyfraniad ariannol hwnnw, o ystyried difrifoldeb cynyddol y sefyllfa yr ydym yn canfod ein hunain ynddi, efallai ailflaenoriaethu gwariant neu’r cynlluniau gwariant cyfredol? A gaf i ofyn hefyd faint o gyfraniad yr ydych chi wedi’i gyfrifo i’w geisio gan Lywodraeth y DU er mwyn gwneud eich cynigion strategol ar gyfer dyfodol dur yng Nghymru yn ymarferol?
 
Nawr, dywedodd y Prif Weinidog y bore yma mai cronfeydd cyfyngedig yn unig sydd gan Gymru—mae hyn yn wir, wrth gwrs—ond dywedodd hefyd mewn erthygl yn yr 'Independent' ychydig ddiwrnodau yn ôl na allwn wladoli hyd yn oed os byddai gennym yr adnoddau a'r pwerau i wneud hynny. Nawr, nid wyf yn ymuno â rhyw ymgyrch ideolegol dros wladoli parhaol—rwy’n chwilio am fesurau ymarferol i'n cael ni drwy'r argyfwng—ond dywedodd canghellor yr wrthblaid ddoe, os bydd yn rhaid i ni wladoli yn y tymor byr, mae hynny’n iawn. Dywedodd Sajid Javid hyd yn oed, ar ran Lywodraeth y DU, fel gwrthwynebydd ideolegol i ymyrraeth, nad oedd am ei ddiystyru. A all y Prif Weinidog efallai esbonio pam yr oedd yn ymddangos yn yr erthygl honno ei fod yn amharod i ymrwymo i wneud beth bynnag sydd ei angen, hyd yn oed os mai hwnnw yw’r cyfle olaf?
 
Nawr, rydym wedi cyflwyno ein syniadau. Rwy'n siŵr nad ydyn nhw'n berffaith; Rwy'n siŵr bod rhai cynigion a wnaed gennym yn codi cwestiynau pellach y mae angen eu hateb. Ond rydym wedi gweithio'n ddiwyd gyda'r rhai hynny yn y diwydiant yng Nghymru ac yn y DU a thu hwnt, gydag economegwyr, gydag undebau, oherwydd ein bod yn angerddol dros geisio canfod dyfodol ar gyfer dur. A wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i ymgysylltu’n wirioneddol â ni a phartïon eraill wrth fynd ar drywydd atebion?
 
Yn olaf, dywedodd y Prif Weinidog hefyd yn yr erthygl honno yn yr 'Independent' ei fod am i Lywodraeth y DU fod yn feiddgar, ac rydym wedi clywed yr Aelod dros Aberafan yn dweud mai ychydig iawn o hyder sydd ganddo yn y camau gweithredu sy’n dod gan Lywodraeth y DU. Rydym hefyd yn gofyn am feiddgarwch gan Lywodraeth Cymru. Nid wyf yn hollol siŵr bod gennym strategaeth glir wedi ei nodi’n fanwl gan Lywodraeth Cymru hyd yn hyn. Mae ar ein gweithlu, ein cymunedau, ein diwydiant dur, ein heconomi gyfan angen hynny; beth yw’r cynllun beiddgar hwnnw y gallwn ei ddisgwyl bellach? Nid yw ein diwydiant dur yn haeddu dim llai na hynny.
 
14:39
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Cyn imi ofyn i'r Prif Weinidog i ymateb, a gaf i atgoffa’r Aelodau i ddiffodd eu ffonau symudol? A hefyd aelodau o'r cyhoedd yn yr oriel gyhoeddus, os gwelwch yn dda, oherwydd eu bod yn amharu ar y system ddarlledu. Diolch. Mae'n ddrwg gennyf, Brif Weinidog.
 
14:39
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau? Os caf geisio ymateb i'w gwestiwn cyntaf drwy ddweud bod y trafodaethau a gawsom gyda Tata cyn y Nadolig wedi nodi’r anawsterau yr oedd Tata yn eu profi ac, ar y pwynt hwnnw, roeddynt yn dymuno symud ymlaen gydag adroddiad McKinsey. Fe wnaethom weithio gyda nhw ac, yn wir, gwnaethom ohebu gyda Llywodraeth y DU a'r UE er mwyn hwyluso’r canlyniad hwnnw. Ar ôl y Nadolig, mae'n amlwg bod y sefyllfa wedi newid—nad oedd bwrdd Tata, yn amlwg, yn awyddus i fwrw ymlaen ag adroddiad McKinsey ac, ar yr adeg honno, gwnaethant benderfynu rhoi yr asedau ar werth. Nid oedd gwerthu yn ddewis cyn y Nadolig; roedd yn rhywbeth, bryd hynny, yr oeddent yn gryf yn ei erbyn. Ond newidiodd hynny yn sgil y sylwadau a wnaed iddynt gan undeb Community—nid oes gennyf amheuaeth am hynny—a'r sylwadau y gwnaethom ni eu nodi wrthynt nad oedd yn fater o ddatrys neu gau, fel y dywedwyd wrthyf i, roedd yn ddatrys neu, os nad hynny, rhoi'r cyfle i werthu. Dyna'n union lle yr ydym yn canfod ein hunain ar hyn o bryd, er bod heriau o hyd, fel y gwyddom, o ran y dewis hwnnw.
 
Dywedais wrth y Siambr beth oedd y pecyn ariannol, felly gwnaf ei ailadrodd ar gyfer yr Aelod. Mae'n fwy na £60 miliwn: benthyciad o £30 miliwn, £30 miliwn ar gyfer gwelliannau amgylcheddol ar gyfer prosiectau amrywiol a hyd at €2 filiwn ar gyfer sgiliau a hyfforddiant. Mae’r pecyn hwnnw yn parhau i fod ar y bwrdd. Byddwn wrth gwrs yn ailedrych ar yr hyn y gallai fod angen ei wneud yn rhan o becyn yn y dyfodol.
 
Gofynnodd beth yw'r amcangyfrif o faint o arian y byddai ei angen mewn gwirionedd. Rydym yn siarad am lawer o gannoedd o filiynau. Os ydych yn ystyried y rhwymedigaethau yn ogystal, yna mae'n mynd y tu hwnt i hynny. Mae mater y pensiynau yn sylweddol, byddai angen i Lywodraeth y DU ymdrin â hynny, ac, wrth gwrs, mae'r sefyllfa amgylcheddol hefyd yn sylweddol. Ond nid wyf i wir yn credu y byddai Tata yn cyflwyno eu hasedau i’r DU i ba bynnag lefel o’r Llywodraeth a hefyd rhoi siec o £1 biliwn ar ben hynny. Rwy'n credu ei bod yn anodd gweld hynny, er fy mod yn gwybod ei fod wedi’i argymell gan rai, ac mae'n gywir i ddweud bod yna atebolrwydd amgylcheddol sylweddol os nad yw gwneud dur yn parhau. Wrth gwrs, os bydd yn parhau, yna nid yw’r atebolrwydd hwnnw yn codi.
 
O ran yr hyn yr ydym yn ei wneud fel Llywodraeth, rydym yn gwybod bod y math o symiau yr ydym yn sôn amdanynt yn y fan yma y tu hwnt i'n hadnoddau ni fel Llywodraeth, yn enwedig gan na chawn fenthyg arian ac na chawn godi arian. Fel yr wyf wedi ei ddweud o'r blaen, mae hwn yn ddiwydiant strategol i’r DU: mae angen dull y DU. Mae rhai gweithfeydd yn Lloegr yn ogystal—dylem gofio hynny—sydd yn rhan o'r broses bresennol. Nid yw hynny'n golygu dweud, wrth gwrs, na fyddem yn ailystyried pa fath o gyllid y byddai angen ei roi ar y bwrdd yn y dyfodol. Yn amlwg, mae'n rhaid parhau i adolygu hynny, ond rwyf eisoes wedi dweud wrth y Siambr faint sydd gennym mewn cronfeydd wrth gefn. Ni allem wario ein holl gronfeydd wrth gefn ar un peth ac wedyn heb fod â dim ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Yn amlwg, bydd yr Aelodau'n deall mai dyna'r gwir amdani.
 
Beth felly yw'r cynllun? Rwyf eisoes wedi nodi y ffordd ymlaen cyn belled ag yr wyf i fel Prif Weinidog yn y cwestiwn: mae angen i ni ymdrin â thariffau ac mae angen i ni ymdrin â phrisiau ynni. Beth bynnag yr ydym yn ei wneud, ni allwn ddylanwadu ar brisiau ynni; mater i Lywodraeth y DU yw hwnnw ac mae hynny’n wir am dariffau hefyd. A hefyd, wrth gwrs, ymrwymiad—. Gofynnodd imi am wladoli. Roeddwn yn siwr ei fod yn bod yn ddireidus pan ddywedodd hyn. Yr hyn yr wyf wedi ei ddweud yw na all Llywodraeth Cymru wladoli, nid oes gennym y pwerau na’r arian i wneud hynny. Wel, mae gan Lywodraeth y DU. Os yw’n golygu cymryd y gweithfeydd i berchnogaeth gyhoeddus, yn sicr am y tro, wrth gwrs, byddwn i'n cefnogi hynny—rwyf wedi dweud hynny eisoes yn y Siambr heddiw—yn arbennig i roi cyfle i’r diwydiant adfer yn y dyfodol. Ond mae'r adnoddau yn nwylo Llywodraeth y DU.
 
Nid grŵp pwyso ydym ni—mae e’n iawn—nid ydym yn gallu sefyll o'r neilltu yma, rydym yn rhan o'r broses, ond nid yw'n realistig i feddwl bod gennym yr adnoddau yng Nghymru yn unig i gymryd drosodd asedau Tata yng Nghymru, ynghyd â'r rhwymedigaethau sydd ynghlwm wrthynt. Mae angen gwaith gennym ni, mae'n wir. Mae angen gwaith gan Lywodraeth y DU o ran lleihau rhai o'r rhwymedigaethau hynny ac, wrth gwrs, gwaith o ran dod o hyd i brynwr yn y dyfodol.
 
14:44
Peter BlackBywgraffiad
A gaf i adlewyrchu geiriau Aelodau blaenorol gan ddweud ei bod yn annirnadol y byddai'r diwydiant dur yn diflannu o economi'r Deyrnas Unedig; o ran y rhanbarth yr wyf i yn ei gynrychioli yng Ngorllewin De Cymru, mae angen i ni gadw gweithfeydd Port Talbot yn fusnes gweithredol; ac os yw hynny'n golygu bod Llywodraeth y DU, yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, gan gymryd rhan yn hynny i wneud i hynny ddigwydd neu hyd yn oed yn cymryd drosodd y gwaith cyfan er mwyn gwneud i hynny ddigwydd yn y tymor byr, yna rwy’n meddwl bod hynny'n rhywbeth y mae angen ei ystyried yn weithredol? Credaf fod angen llawer mwy o weithredu gan Lywodraeth y DU, yn arbennig, o ran sut y byddai’n mynd i’r afael â hyn, oherwydd, hyd yn hyn, y cyfan yr ydym wedi ei weld yw geiriau ac ychydig iawn o weithredu, ac rwy'n hynod bryderus yn wir o ran y ffordd y mae'n ymddangos bod Gweinidogion y DU yn ymdrin â’r mater penodol hwn.
 
Brif Weinidog, o ran rhai cwestiynau ynglŷn â Llywodraeth Cymru, ond hefyd o ran yr hyn yr ydych chi’n ei wybod am yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud—oherwydd rwy’n credu ein bod mewn sefyllfa yma, mewn gwirionedd, o ofyn cwestiynau i Lywodraeth y DU drwy'r hyn yr ydych chi’n ei wybod am yr hyn y maent yn ei wneud, ac nid yw honno’n sefyllfa ddelfrydol. Ond, yn gyntaf oll, o ran ardrethi busnes, rydych wedi dweud wrth y Siambr mai eich pecyn eich hun o £60 miliwn yw'r ffordd ymlaen a ffefrir gan Lywodraeth y DU. Rwy’n derbyn bod hynny 10 gwaith yr hyn y byddech yn ei gael o becyn ardrethi busnes wedi'i ganolbwyntio ar offer a pheiriannau, ond a allwch chi gadarnhau pa un a ydych chi hefyd yn bwrw ymlaen â’r argymhellion o ran ardrethi busnes ar offer a pheiriannau yn ychwanegol at y pecyn hwnnw, ac os felly, pa fath o amserlen fyddai’n berthnasol i hynny? Oherwydd er bod y £60 miliwn yn becyn pwysig iawn, byddai unrhyw beth ar ben hynny sy'n gwneud y gwaith hwn yn fusnes gweithredol gwell i rywun ei gymryd drosodd, drwy leihau eu costau, wrth gwrs, yn gwneud pethau'n llawer haws.
 
O ran y gronfa bensiwn, awgrymwyd y dylai Llywodraeth y DU gymryd y cyfrifoldeb am y gronfa bensiwn yn yr un modd ag y cymerodd y cyfrifoldeb am gronfa bensiwn y Post Brenhinol, a wnaeth y broses o werthu’r Post Brenhinol yn un mwy hyfyw. A ydych chi’n gwybod, drwy eich sgyrsiau gyda Gweinidogion y DU, pa un a ydynt yn ystyried hyn yn ymarferol fel ffordd bosibl ymlaen? Os felly, a yw hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth y DU yn barod i ymrwymo iddo?
 
Rydym wedi clywed llawer o sôn am y tariffau. Wrth gwrs, mae Gweinidogion y DU eu hunain wedi cyfeirio at hyn. Fodd bynnag, mae’r cwestiwn am ddiddymu'r rheol ardollau llai yn un yr wyf yn meddwl yr ydym i gyd yn pryderu amdano. Mae hynny'n cadw tariffau ar ddur ar lefel rhy isel, o'i gymharu â'r hyn sydd ei angen, i wrthsefyll y dur rhad sy’n dod i mewn o Tsieina a gwledydd eraill. Yn eich sgyrsiau gyda Gweinidogion y DU, a ydych chi’n cael yr argraff eu bod bellach yn deall bod eu gwrthwynebiad blaenorol i ddileu'r rheol ardollau llai wedi niweidio Tata Steel, ac yn arbennig o ran Port Talbot; ac a ydych chi yn cael yr argraff eu bod bellach yn deall y gallai fod angen iddynt wrthdroi'r gwrthwynebiad hwnnw yn y dyfodol?
 
Cyfeiriodd Kirsty Williams, rwy’n meddwl, at beidio â bod eisiau dod â rhywun i mewn a fyddai'n stripio asedau’r gwaith hwn. Rwyf i yn sicr yn cefnogi hynny. Ni allwn gael rhywun yn prynu Tata Steel ac yna’n stripio ei asedau. Rwyf hefyd yn bryderus, oherwydd ein bod wedi clywed sôn am brynwyr sydd â mwy o ddiddordeb yn y math arc trydan o gynhyrchu, a fyddai, yn ymarferol, yn israddio lefel y cynhyrchu sydd ar gael yn y melinau rholio dur ym Mhort Talbot. A allaf i gael eich sicrwydd bod hynny’n cael ei drafod a pha un a oes unrhyw brynwr a fyddai’n cymryd drosodd Port Talbot yn ystyried israddio'r gwaith cynhyrchu i ailgylchu dur, mewn gwirionedd, yn hytrach na chynhyrchu'r dur o ansawdd uchel sy'n cael ei gynhyrchu yno ar hyn o bryd?
 
Yn olaf, Brif Weinidog, o ran cymorth uniongyrchol Llywodraeth Cymru ar gyfer ardal Port Talbot, rwyf yn croesawu'n fawr y ffaith bod y parth menter yn cael ei ddatblygu. Rwy'n credu bod honno'n fenter bwysig iawn, ac rwy’n credu ei fod yn gwbl hanfodol ein bod yn cael hynny. Mae'n rhaid i ni beidio ag anghofio bod 750 o swyddi wedi mynd mewn gwirionedd, beth bynnag sy'n digwydd o ran Tata Steel. Mae'n bwysig iawn bod cefnogaeth yn cael ei rhoi o ran hyfforddiant ac ati i geisio dod o hyd i swyddi newydd a ffynonellau newydd o gyflogaeth i ardal Port Talbot. A fydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â'r awgrym a wnaed gennym sawl gwaith yn y Siambr hon—neu'r Siambr arall—o ran cwmni datblygu trefol ar gyfer Port Talbot yn yr un modd ag y sefydlodd Llywodraeth Cymru yn 2003 yng Nghasnewydd fel ffordd o geisio denu buddsoddiad i'r ardal ac fel modd o ddarparu cymhellion i gwmnïau ddod i mewn a darparu cyflogaeth ychwanegol yn ardal Port Talbot a’r cyffiniau?
 
14:49
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau? Siaradodd, wrth gwrs, am Bort Talbot. Mae angen i mi bwysleisio—ac rwy'n siŵr mai dyma ei farn ef hefyd—ein bod yn sôn am yr holl weithfeydd fel pecyn. Port Talbot ar ei ben ei hun—. Y pen trwm ym Mhort Talbot yw’r pen â’r anawsterau mwyaf ar hyn o bryd, ac mae'n bwysig, wrth gwrs, ein bod yn ystyried hwn fel pecyn. Rwy’n deall ei fod yn ei ranbarth ef, ac mae wedi canolbwyntio ar Bort Talbot. Bydd ef wedi clywed yr hyn a ddywedais am ardrethi busnes a'r ffaith i ni sefydlu pecyn a oedd yn llawer mwy na'r hyn yr oeddem yn gallu ei gynnig o ran ardrethi busnes, ac yn llawer cyflymach o ran y sefyllfa offer a pheiriannau. Gallaf ddweud, fodd bynnag, ein bod wedi gofyn i Asiantaeth y Swyddfa Brisio ynghylch pa un a all cyflwr y diwydiant gael ei ystyried mewn prisiadau yn y sector dur. Maent wedi dweud, er eu bod hwy yn ffafrio defnyddio lwfans ledled y diwydiant, y byddant yn ystyried cyflwr y farchnad a'i effaith ar sut y mae pob un o’r gweithfeydd yn gweithredu ar gyfer prisiad 2017. Er na fydd effaith lawn hyn yn glir hyd nes bod y broses ailbrisio wedi ei chwblhau, mae'n golygu y bydd gwerthoedd ardrethol, o 2017 ymlaen, yn adlewyrchu yn well yr amgylchiadau presennol mewn gweithfeydd dur yng Nghymru.
 
Gofynnodd i mi a oeddwn yn gwybod beth yw safbwynt Llywodraeth y DU ar bensiynau. Rwy'n credu ei bod yn deg i ddweud nad ydynt wedi cael eu hargyhoeddi hyd yn hyn am yr angen i ymyrryd ar fater y gronfa bensiwn, ond efallai bydd y sefyllfa honno yn newid heddiw. Rwy’n ceisio bod yn ddiplomatig drwy ddweud y gallai'r sefyllfa newid o ran Llywodraeth y DU. Mae'n ddigon posibl eu bod yn ailystyried yr hyn sydd angen ei wneud o ran y gronfa bensiwn. Mae'n iawn o ran yr hyn y mae'n ei ddweud am y rheol ardollau is. Mae'n iawn bod Llywodraeth y DU yn gwrthwynebu diddymu'r rheol ardollau is, a byddaf yn nodi’r pwynt hwnnw wrth y Prif Weinidog yfory bod angen i ni—. Unwaith eto, mae angen i ni wneud yn siwr nad ydynt yn diflannu i wneud yn siŵr ein bod yn gallu cael y tariffau cywir ar waith, nid fel mesur gwarchodol amlwg ond i sicrhau'r chwarae teg, y mae gweithwyr yn ein gweithfeydd yng Nghymru yn ei haeddu.
 
Dyddiau cynnar iawn yw'r rhain, o ran cael prynwr, ac mae'n rhaid i ni aros i weld a fydd prynwyr eraill yn dod i'r amlwg. Ond yn sicr, o'n safbwynt ni, yr amcan yw sicrhau bod y gweithfeydd yn parhau i gyflogi pobl, yn amlwg, ac i barhau i fod mewn sefyllfa lle maent yn cynnig y swyddi y maent yn eu cynnig ar hyn o bryd. Ond mae'n anodd rhoi gwarant ar hynny oherwydd nid ydym yn gwybod, hyd yma, faint o brynwyr allai ddod i'r amlwg a beth allai natur eu diddordeb fod. Byddwn yn ystyried materion y cwmni datblygiad trefol—neu rywbeth tebyg iddo—y soniodd amdano. Mae gennym y tasglu, wrth gwrs. Mewn amser, gallai’r tasglu ddechrau edrych ar ddewisiadau eraill, yn dibynnu, wrth gwrs, ar ba newyddion a gawn ynglŷn â dyfodol y diwydiant dur.
 
14:51
John GriffithsBywgraffiad
Brif Weinidog, mae Port Talbot yn yng nghanol y storm o safbwynt y frwydr dros fodolaeth y diwydiant dur yn y DU—nid yw hynny'n syndod, o ystyried maint a gallu'r gweithrediadau yno, y swyddi dan sylw, a pha mor bwysig ydynt i economi’r rhanbarth. Serch hynny, mae Llanwern, Trostre a Shotton hefyd yn hanfodol i'w heconomïau lleol a rhanbarthol hwythau, ac rwy'n credu ein bod wedi clywed hynny’n cael ei adlewyrchu mewn gwahanol gyfraniadau heddiw ac, yn wir yn eich datganiad eich hun, ac rwyf yn ddiolchgar iawn am hynny, ynghyd â'r holl waith y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud, ac y mae yn ei wneud, i ymdrin â'r argyfwng hwn.
 
Brif Weinidog, mae Casnewydd wedi bod trwy adegau anodd cyn belled ag y mae dur yn y cwestiwn. Bu llawer o ailstrwythuro. Mae gweithluoedd lleol wedi gorfod addasu, ac maent wedi dangos cydnerthedd aruthrol. Maent wedi cyflawni newid anhygoel ac wedi dangos ymroddiad diamheuol. Rydym wedi gweld y cydnerthedd hwnnw yn cael ei adlewyrchu yn y gweithrediadau sy'n parhau yn Llanwern ac, yn wir, yng nghwaith dur yr Orb; hefyd, yn Liberty ac amrywiaeth o safleoedd llai. Felly, rwy’n credu ei bod yn amlwg bod gan ddur, â’i hanes cryf yng Nghasnewydd, ddyfodol gwych o hyd oherwydd yr hyblygrwydd, y cydnerthedd a’r cryfder hynny. Felly, rwyf i yn sicr eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid—Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac eraill i gydnabod y potensial hwnnw. Yn wir, mae rhannau o'r gweithrediadau—ac mae hyn yn wir nid yn unig am Weithfeydd Casnewydd a Llanwern a'r Orb, ond yn wir hefyd, rwy’n gwybod, am rannau eraill o'r diwydiant dur yng Nghymru—yn broffidiol ar hyn o bryd. Mae'n rhaid i ni, wrth gwrs, osgoi unrhyw ddewis a dethol, fel yr ydych wedi bod yn ei ddweud yn gryf iawn, Brif Weinidog, ac mae'n rhaid i ni ystyried yr holl weithrediadau yng Nghymru ac yn y DU yn ei chyfanrwydd. Maent yn integredig â’i gilydd. Maent yn dibynnu ar ei gilydd, unwaith eto fel yr ydych wedi ei amlinellu heddiw. Felly, dyna, rwy’n credu, yw ysbryd y ddadl hon a’r datganiad hwn heddiw, Brif Weinidog—ystyried y cyfan fel cyfanwaith integredig. Pan fyddwn yn ystyried ailstrwythuro a buddsoddi ar gyfer y dyfodol, rwy’n meddwl bod angen inni ei ystyried yn ei gyfanrwydd, a bydd hynny’n cynnwys y gweithrediadau hynny sy’n broffidiol ar hyn o bryd, sydd â photensial helaeth, a gweithluoedd medrus sydd wedi dangos eu bod yn gallu cynhyrchu cynhyrchion o'r radd flaenaf y gellir eu hallforio ac sy’n gallu manteisio ar farchnadoedd arbenigol. Maent wedi dangos yr arloesedd a’r nerth i ymdrin â heriau'r presennol a'r dyfodol. Rwy'n siŵr y bydd gweithrediadau fel Llanwern a'r gwaith Orb, yn y gwaith ailstrwythuro, buddsoddi, ymchwil a datblygu, Brif Weinidog, ar flaen y gad o ran cefnogi’r arbenigedd hwnnw, y profiad hwnnw a’r nerth hwnnw. Hoffwn glywed gennych chi heddiw mai dyna yn sicr yw barn Llywodraeth Cymru hefyd.
 
Pan ddaw i dariffau, Brif Weinidog, unwaith eto, fel yr ydych wedi ei grybwyll, rydym wedi gweld datblygiad newydd gyda gosod tariffau gan Tsieina ar ddur a fydd yn cynnwys y dur trydanol y mae'r gwaith Orb yng Nghasnewydd yn ei gynhyrchu. Credaf fod hynny wedi cyflwyno elfen newydd i’r ddadl hon am dariffau a dympio dur o Tsieina a sut y mae angen i Lywodraeth y DU ymateb, ac, yn wir, sut y mae angen i'r Undeb Ewropeaidd ymateb. Felly, a ydych chi’n cytuno bod hwn yn ffactor newydd y mae angen ei asesu nawr, ac, efallai, bod angen ystyried o’r newydd sut y mae Llywodraeth y DU yn ymateb i'r cwestiynau hyn a’r problemau dympio hyn a'r effaith ofnadwy y mae’n ei gael ar ein diwydiant dur?
 
Hefyd, Brif Weinidog, rwy’n credu ein bod wedi clywed gan nifer o bobl heddiw fod cwestiwn sylfaenol hanfodol iawn yma y mae angen i Lywodraeth y DU ei ateb. A yw Llywodraeth y DU mewn gwirionedd yn barod i ystyried y DU heb allu sylweddol i wneud dur? Rydym wedi clywed am bwysigrwydd y diwydiant amddiffyn ar gyfer ein partneriaethau â chenhedloedd eraill o ran amddiffyn y DU. Rydym yn gwybod am bwysigrwydd gweithgynhyrchu yn gyffredinol, wyddoch chi, ar gyfer y sefyllfa a statws y DU fel y pedwerydd neu bumed economi fwyaf ar lwyfan y byd. A yw Llywodraeth y DU yn barod mewn gwirionedd i ystyried dyfodol ar gyfer y DU heb y gallu hwnnw i wneud dur, neu a ydynt yn barod i wneud beth bynnag sydd ei angen i gadw'r capasiti hwnnw, gan gynnwys perchnogaeth gyhoeddus?
 
Fel yr ydych chi wedi ei ddweud, Brif Weinidog, mae'n ddiwydiant cylchol, a chawsom y profiad hwnnw yng Nghasnewydd. Ychydig o flynyddoedd yn ôl, cafodd y pen trwm ei gau i lawr yng Nghasnewydd. Yn gyflym iawn, roedd Corus yn difaru’r penderfyniad hwnnw yn fawr ac yn dweud, oherwydd bod y farchnad wedi codi eto, oherwydd bod llawer mwy o alw am ddur, eu bod yn difaru na wnaethant gadw'r pen trwm yng Nghasnewydd, ac roeddent yn dioddef yn ariannol o ganlyniad i beidio â chadw'r pen trwm hwnnw. Felly, mae'n ddiwydiant cylchol ac, fel y dywedwch, mae angen i ni ddod o hyd i ffordd drwodd i’r amserau gwell hynny, ac efallai mai perchenogaeth gyhoeddus yw’r ffordd o gyflawni hynny.
 
Yn olaf, Brif Weinidog, a ydych chi’n cytuno â mi, fel y dywedais, bod yn rhaid inni ystyried gweithrediadau Tata yng Nghymru yn ei gyfanrwydd—Port Talbot, Llanwern, Trostre a Shotton—a bod yn rhaid i ni gydnabod y perfformiad a’r cynhyrchion o’r ansawdd uchaf sy’n cael eu cyflawni a’u cynhyrchu yn y gwahanol safleoedd hynny, a bod yn rhaid i’n gwaith cynllunio, ein buddsoddiad ar gyfer y dyfodol, ymchwil a datblygu, adlewyrchu hynny? Mae'n rhaid bod dyfodol cynaliadwy ar gyfer yr holl weithfeydd hyn, ac mae'n rhaid i gymunedau, undebau llafur a'r gweithlu, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, a'r Undeb Ewropeaidd, i gyd weithio gyda'i gilydd i gyflawni’r canlyniad hwnnw yr wyf i o’r farn yr ydym i gyd yn dymuno ei weld, sef: cadw’r gallu hwnnw i gynhyrchu dur, achub ein dur ar gyfer ein holl gymunedau, Brif Weinidog, ar hyd a lled Cymru. Fel llawer o bobl eraill yma heddiw, rwyf wedi bod allan yn cnocio ar ddrysau ac yn ymgyrchu, a’r hyn yr wyf i wedi ei glywed gan bobl yw na fyddant yn derbyn dod â’r gwaith o gynhyrchu dur i ben yn y DU; maent yn mynnu bod hynny yn parhau, ac maent yn awyddus i weld pob lefel o lywodraeth yn gweithio gyda'r gweithlu a'n undebau llafur i wneud yn siŵr bod hynny'n cael ei gyflawni. Brif Weinidog, mae’n rhaid i ni beidio â siomi pobl yng Nghymru na ledled y DU.
 
14:58
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Diolchaf i fy hen gyfaill, yr Aelod dros Ddwyrain Casnewydd, am yr angerdd y mae wedi ei ddangos. Rwyf yn gwybod bod y diwydiant dur yn agos iawn at ei galon gan ei fod wedi byw ei fywyd yng nghysgod yr hyn a oedd yn weithfeydd dur Llanwern, ac mae'n deall, wrth gwrs, bwysigrwydd y diwydiant o hyd i'w etholwyr.
 
Mae rhai yn dadlau bod masnach rydd yn holl bwysig, ond nid oes pwynt dadlau pan fo gwledydd a blociau economaidd yn gosod tariffau, ac rydym wedi gweld y tariff sydd wedi ei osod dros y penwythnos diwethaf ar ddur a gynhyrchir yn ei etholaeth ef. Y pwynt yw hwn: nid oes pwynt ceisio defnyddio cyfres o reolau hunanosodedig pan nad oes neb arall yn gwneud hynny, ac mae'n golygu bod yn rhaid i’r DU roi ei hun mewn sefyllfa lle y mae'n gefnogol i'r tariffau sydd eu hangen ar hyn o bryd, gan wneud yr hyn y mae pawb arall yn ei wneud. Nid yw hyn yn rhywbeth anarferol a fyddai ond yn digwydd yn yr UE; mae pob bloc economaidd mawr neu wlad yn cymryd y camau hyn er mwyn gwarchod yr hyn maent yn ei ystyried yn ddiwydiant strategol, ac mae'n bwysig bod y DU yn gwneud hynny hefyd.
 
Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi ei hymrwymiad i'r diwydiant dur. Mae angen iddi gyflawni hynny. Mae cymaint â hynny'n wir, ond rydym wedi bod yn gofyn iddynt wneud hynny ers misoedd, os nad blynyddoedd. Mae'n bwysig nawr, wrth gwrs, ein bod yn gallu gweithio gyda'n gilydd i wneud yn siŵr bod y gwaith cynhyrchu dur yn parhau yng Nghymru ac, yn wir, yng ngweddill y DU, oherwydd, fel y dywed yn gywir, mae’r capasiti i gynhyrchu dur yn sylfaenol i economi ddiwydiannol fawr. Mae'n anodd dychmygu, fel y dywedais o'r blaen, sut y gallai'r DU ffynnu heb y gallu i gynhyrchu ei dur ei hun—elfen gwbl sylfaenol, byddwn i'n dadlau, o unrhyw economi.
 
Crybwyllodd ymchwil a datblygu. Dywedais yn gynharach, wrth gwrs, bod £2 filiwn ar gael ar gyfer sgiliau a hyfforddiant yn rhan o'r pecyn yr ydym wedi ei gynnig. Rydym wedi gweithio ar ymchwil a datblygu gyda Tata yn y gorffennol ac rwy’n gwybod, er enghraifft, bod Prifysgol Abertawe, gyda'i champws newydd, wedi bod yn awyddus iawn i weithio gyda Tata i ddarparu'r arbenigedd sydd ei angen ar gyfer y dyfodol. Yr hyn sydd ei angen nawr, wrth gwrs, yw pontio'r bwlch anodd sy'n bodoli ar hyn o bryd i gyrraedd y sefyllfa honno lle y gall ymchwil a datblygu gael ei ddatblygu ymhellach, lle gellid ystyried cynhyrchion newydd yn y dyfodol, ym Mhort Talbot a’r gweithfeydd eraill, ac mae pontio'r bwlch hwnnw nawr yn holl bwysig. Mae hwn yn ddiwydiant strategol, mor strategol â bancio, a dylid ei drin yn yr un modd.
 
15:00
Suzy DaviesBywgraffiad
Diolch i chi am eich datganiad, Brif Weinidog, ac a gaf i ddiolch hefyd i bobl eraill sydd wedi codi cwestiynau gyda chi heddiw—mae'n sicr yn gwneud fy rhestr i o gwestiynau yn llawer byrrach a'ch atebion chi i'r cwestiynau hynny hefyd? Hoffwn, fodd bynnag, gysylltu fy hun â'r sylwadau hynny a fynegwyd yn erbyn stripio asedau, y rhai hynny sydd o blaid sicrhau dyfodol hirdymor ar gyfer Port Talbot, ac, wrth gwrs, y—credaf mai 'llongyfarchiadau' yw’r gair cywir—llongyfarchiadau i'r gweithlu ym mhob un o'n gweithfeydd, ond yn enwedig ym Mhort Talbot, yn amlwg, gan ei fod yn fy rhanbarth i. Gweithiodd fy nhad-cu a fy mam yn Nhrostre, ac nid oes angen dweud wrthyf i sut y gall dur wneud fframwaith trosiadol ar gyfer cyllid teulu, heb sôn am gyllid ac economi cymuned. Rwy'n credu bod dyletswydd ar y ddwy Lywodraeth i wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau na fydd y fframwaith hwnnw’n chwalu, a bod unrhyw ddiffyg yn yr uchelgais hwnnw yn cael ei osgoi cymaint â phosibl gan y ddwy Lywodraeth hynny.
 
Er fy mod yn cydnabod bod dyfodol y gweithfeydd ym Mhort Talbot ynghlwm â dur Cymru a dur y DU yn gyffredinol, rwy’n meddwl bod y cysyniad o ddiwydiant cenedlaethol strategol yn gysyniad diystyr oni bai ei fod yn cynnwys Port Talbot, ac felly rwyf wedi bod yn ddiolchgar ichi am eich sylwadau heddiw, a sylwadau Aelodau eraill, ac, wrth gwrs, yr Ysgrifennydd Gwladol ddoe, a ddywedodd ei fod yn benderfynol o sicrhau dyfodol ar gyfer Port Talbot. Rydym i gyd yn dymuno cael yr un peth o ran hyn, rwy’n credu.
 
Deallaf y bydd ymyriadau penodol gan y Llywodraeth yn dibynnu ar natur y ceisiadau i brynu ar ryw adeg yn y dyfodol, ond hoffwn ddod yn ôl, os caf, Brif Weinidog, at y sgyrsiau yr ydych eisoes wedi eu cael gyda Tata ynglŷn â bod yn barod i werthu, os gallaf ei roi felly. Rwy’n sylweddoli eich bod wedi dweud, yn eich sgyrsiau ar adeg y Nadolig, nad oeddech wir yn ystyried gwerthu—credaf mai’r geiriau a ddefnyddiwyd gennych oedd bod Tata yn gryf yn erbyn gwerthu—ond o gofio yr amodau yn y byd ar y pryd a'r breuder presennol o fewn Tata, a oedd eisoes wedi gwaredu dros 1,000 o swyddi yn ardal Port Talbot, byddwn yn awyddus i wybod beth y gwnaethoch ofyn iddynt yn benodol amdano ar y pryd.
 
Pan oedd MG Jaguar mewn trafodaethau—ac mae hyn yn mynd yn ôl beth amser, yn amlwg, erbyn hyn—nodwyd gofynion penodol gan y cwmni hwnnw cyn cynnig cymorth y wladwriaeth i roi cyfle, i’w gadw i fynd, tan y gallai gael ei brynu, yn eironig, wrth gwrs, gan Tata, fel y digwyddodd. Rydych chi wedi cynnig pecyn cymorth; rwy'n tybio y byddwch wedi bod eisiau rhyw fath o sicrwydd am hynny. Felly, o gofio ar adeg y Nadolig eich bod yn dweud eich bod yn siŵr nad oedd gwerthu yn ddewis—rwyf yn rhannu barn rhai o’r bobl ar fy ochr chwith yma bod hynny, efallai, ychydig yn naïf—beth oeddech chi'n gofyn amdano i Tata bryd hynny i brofi ei fod yn dal yn hyfyw ar draws ei holl ystad yng Nghymru, a beth wnaethoch chi ofyn iddynt am y cwestiwn anodd—os oes gwerthu i fod, er nad oes neb yn dymuno i hynny ddigwydd, beth wnaethoch chi ei fynnu ganddynt o ran ei gadw’n barod i’w werthu? Rwy’n gwerthfawrogi eich bod yn dweud bod Tata yn gyflogwr cyfrifol a'i fod yn awyddus i gadw ei asedau er mwyn ei wneud yn ddeniadol i’w werthu, ond beth wnaethoch chi ofyn amdano ar y pryd? Beth oedd yn ei wneud yn ddewis deniadol yn eich barn chi, wrth ragweld unrhyw werthu?
 
Rydym hefyd wedi clywed ychydig bach, yn y cyfryngau, yn bennaf, bod gwaith ad-drefnu yn debygol—ac, o gofio yr hyn yr wyf eisoes wedi’i ddweud fy mod yn erbyn stripio asedau, rwy’n credu ei bod hefyd yn werth cadw mewn cof bod Tata eisoes wedi gwneud llawer iawn o ad-drefnu, yn enwedig ym Mhort Talbot, felly mae'r gair 'ad-drefnu', i mi, ddim ond yn nodi mwy o botensial i golli swyddi. Rwy’n gwerthfawrogi'r hyn a ddywedasoch am Lywodraeth Cymru yn creu parth menter a'r cyhoeddiadau sydd wedi dod trwy'r tasglu. Rydym hefyd yn gwybod pa brosiectau seilwaith nad ydynt ar gael ar unwaith i ni. A allwch chi ddweud wrthym beth y byddai Llywodraeth nesaf Cymru yn gallu ei gadarnhau o fewn dyddiau o ddod yn Llywodraeth Cymru o ran seilwaith y gellir gweithredu arno ar unwaith? Yr hyn y mae cwmnïau adeiladu wedi ei ddweud wrthym yn y gorffennol yw bod angen iddynt allu cynllunio i gaffael, a'r hyn nad oes ganddynt ar hyn o bryd yw sicrwydd am y prosiectau seilwaith yng Nghymru y gallant weithio arnynt ar unwaith. Diolch.
 
15:05
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Dim ond i egluro'r sefyllfa i'r Aelod, roedd fy nhrafodaethau i gyda Tata cyn y Nadolig ar y pwynt pan y dewis oedd symud ymlaen gydag adroddiad McKinsey, sef y dewis a ffafriwyd, ac felly rhoi ar waith cynllun gwrthdroi—ar yr adeg honno, awgrymwyd na fyddai gwerthu yn rhywbeth a fyddai'n cael ei ystyried, oherwydd y byddai'n creu cystadleuaeth. Ac felly nid oedd gwerthu yn sicr yn ddewis a oedd ar gael ar y pryd. Yna, buom yn gweithio gyda Tata gan hysbysu Llywodraeth y DU am y sefyllfa, ond mae'n amlwg eu bod ar ryw adeg wedi penderfynu bod gwerthu yn mynd i fod yn ddewis. Cawsant eu lobïo'n galed gan yr undeb, Community, mi wn, a chan yr undebau eraill, ac, yn wir, gwnes i’r pwynt wrthynt y byddai unrhyw benderfyniad i gau yn annymunol iawn—ac y byddai angen iddynt symud ymlaen â chynllun McKinsey, neu, os nad oedd hynny'n bosibl, i chwilio am gyfle i werthu, sef yr hyn y maent wedi penderfynu ei wneud ar hyn o bryd. Roeddent yn ymwybodol o'r pecyn cymorth y gellid ei roi ar y bwrdd, ond roedd angen mwy arnynt, ac nid oedd unrhyw gynnig arall ar gael ar y pryd gan Lywodraeth y DU.
 
Rwy'n credu ei bod yn deg i ddweud nad oedd Llywodraeth y DU yn gweld pa mor ddifrifol oedd y sefyllfa; maent yn gweld hynny erbyn hyn, ac rwyf yn credu bod Prif Weinidog y DU yn awyddus i wneud yn siwr eu bod yn ymdrin â'r mater o dariffau a'u bod yn ymdrin â'r mater o gostau ynni yr ydym wedi bod yn eu lobïo amdanynt ers amser maith iawn. A, beth bynnag ddigwyddodd yn y gorffennol, y pwynt pwysig nawr yw symud ymlaen i ddiogelu’r diwydiant yn y dyfodol.
 
O ran bod yn barod i werthu, cafwyd y sgwrs honno yr wythnos diwethaf. Pan ofynnais i Tata beth oedd eu cynlluniau, dywedwyd wrthyf eu bod yn deall bod angen i'r ased fod yn barod i’w werthu, ac eglurais iddynt y byddai hynny'n golygu y byddai'r ffwrneisi chwyth yn parhau i fod ynghynn ym Mhort Talbot. Nid yw hynny'n golygu o reidrwydd, wrth gwrs, y byddai'n parhau i gynhyrchu dur. Y pellaf yr oeddynt yn barod i fynd oedd dweud y byddent yn sicrhau, os bydd rhywun yn dymuno prynu, y byddai'r ffwrneisi chwyth mewn cyflwr lle y gellir eu gwerthu; felly, byddai'r ffwrneisi chwyth yn parhau i fod wedi eu cynnau.
 
O ran prosiectau seilwaith, mae ffordd liniaru'r M4 yn un prosiect o'r fath; rwy'n gwybod bod gwahanol safbwyntiau yn y Siambr ynglŷn â hynny, ond hwnnw yn sicr yw’r prosiect seilwaith posibl mwyaf sydd gennym yr ydym ni yn ei reoli, ac, wrth gwrs, pethau fel y morlyn llanw a phrosiectau eraill y DU. Felly, gallwn yn sicr symud ymlaen, yn dibynnu ar ganlyniad yr etholiad, gyda ffordd liniaru'r M4. Mae prosiectau eraill ledled Cymru. Bydd yr Aelodau'n gwybod mai un o'r materion sy'n cael ei ystyried yw croesfan arall dros y Fenai. Mae hynny, wrth gwrs, yn brosiect posibl. Ac, wrth gwrs, bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r metro a'r cyfleoedd mae hwnnw'n eu cynnig. Ond, ar eu pennau eu hunain, ni fyddant yn ddigon. Mae angen y morlyn llanw arnom; mae angen i ni wneud yn siŵr bod cyfleoedd i ddur Cymru a dur Prydain gael ei ddefnyddio mewn prosiectau seilwaith sy'n cael eu datblygu ledled y DU gyfan.
 
15:08
Bethan JenkinsBywgraffiad
Diolch i chi, Lywydd, am gytuno i alw'r Aelodau yn ôl yma heddiw. Rwyf yn clywed bod rhai pobl yn dweud nad yw'n werth i ni ailymgynnull, ond credaf fod yn rhaid i ni fel cenedl, ddangos arweinyddiaeth, ac, os yw'r ddadl hon yma heddiw yn golygu unrhyw beth, credaf fod dangos arweinyddiaeth yn allweddol.
 
Yn fy marn i, o blith popeth sydd wedi digwydd yn ystod yr wythnos ddiwethaf, y mae dau beth yn gwbl sicr, ac mae eraill wedi ei ddweud hefyd— nad yw cau gwaith dur Port Talbot yn ddewis, ac mai wythnosau yn unig sydd ar ôl cyn ei bod yn rhy hwyr. Rydym i gyd yn gwybod erbyn hyn—neu, o leiaf, dylem i gyd fod yn gwybod erbyn hyn—beth fyddai'r canlyniadau i Bort Talbot, ac rwyf yn sôn am Bort Talbot ac nid wyf yn ymddiheuro am wneud hynny, gan ei bod yn ardal yr wyf yn ei chynrychioli. Dyma'r cwbl y mae pobl yn siarad amdano ar garreg eu drws, ac mae hynny'n gwbl briodol. Felly, mae'n iawn ein bod yn mynd rhagddi yn syth a gweld yn union beth all y Cynulliad hwn ei wneud i ymladd dros ddyfodol y diwydiant hwn sy'n hanfodol i Gymru. Mae'n rhaid i Gymru ddangos arweinyddiaeth, ac os, Brif Weinidog, nad grŵp pwyso ydym, fel y cytunasoch â Rhun ap Iorwerth yma i'r dde i mi, yna pam nad oeddech chi yn y trafodaethau Tata ym Mumbai fel Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â Llywodraeth y DU?
 
Gadewch i ni ddechrau gyda Tata ei hun. Pa fwriadau y mae Llywodraeth Cymru yn credu sydd gan Tata ar gyfer ei weithrediadau yng Nghymru? Mae'r iaith a ddefnyddir gan y cwmni yn peri pryder i'r gweithwyr dur. Nid oedd ei gyhoeddiad yn fawr o hysbysebiad ar gyfer gwerthiant. Mae'r cwmni wedi ailddatgan ei ddymuniad i werthu, ond mae hefyd wedi tynnu sylw at y diffyg pensiwn, a bod colledion tybiedig Port Talbot wedi codi o £1 filiwn i £2.5 miliwn y dydd. Byddai gwerthu ac adfywio Port Talbot yn ei alluogi i gystadlu yn uniongyrchol â gwaith dur blaenllaw Ewropeaidd Tata yn yr Iseldiroedd, felly yr wyf yn awyddus i wybod os ydych wedi trafod hyn gyda Tata ac a ydynt, felly, o ddifrif am ddod o hyd i brynwr.
 
A yw Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Tata a oes angen neu a ddylai'r rownd bresennol o ddiswyddiadau barhau os ydynt yn gwerthu'r safle?
 
Maddeuwch i mi am beidio, o bosibl, â deall y siarad bargyfreithiwr yma heddiw, ond yr wyf eisiau gwybod—yn gynharach, dywedasoch nad oeddech yn gwybod a oeddent yn bwriadu cau, ond mae'n rhaid eich bod yn gwybod bod bygythiad y gallai hyn ddigwydd. Mae angen i mi gael eglurder ar gyfer y bobl yn fy ardal ynglŷn â phryd yn union yr oeddech chi neu Weinidogion eraill yn gwybod, fel y gallech fod wedi gweithredu mor gynnar â mis Ionawr neu mor hwyr â mis Rhagfyr y llynedd i sicrhau ein bod o gwmpas ein pethau ynglŷn â'r mater penodol hwn.
 
Ynglŷn â'r colledion dyddiol a adroddir, mae'r gweithwyr dur yn dweud wrthyf nad yw'r ffigurau hynny yn golledion gwirioneddol, ond pa mor brin o amcanestyniadau Tata yw'r safle—yr hyn yr oedd Tata wedi gobeithio ei wneud, yn hytrach na'r hyn y mae wedi ei golli. A ydych chi wedi cwestiynu'r ffigurau hynny yn benodol, ac, os felly, beth y mae Tata wedi ei ddweud wrthych chi, oherwydd mae'r cyfryngau yn adrodd hynny fel ffaith? Dywedasoch wrthym yn gynharach nad ydych yn argyhoeddedig ynglŷn â'r ffigurau hynny. Sut ydych chi'n dweud hynny? Ar ba sail ydych chi'n dweud hynny yma heddiw?
 
O ran prynwr, pa fath o brynwr y byddai Llywodraeth Cymru yn meddwl fyddai fwyaf addas i weddnewid y gwaith dur, yn hytrach na gwerthu ar frys y mae llawer ohonoch wedi sôn amdano yma heddiw o ran tynnu popeth o werth oddi yno, oherwydd mae angen i ni edrych yn ofalus ar gynigion fel y rhai hynny gan Liberty? Os bydd y pen trwm yn cael ei gau i lawr, gallai cymaint â dwy ran o dair o'r gweithlu presennol fynd. A yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried hynny yn rhan o'i chynlluniau?
 
A yw Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda Tata i sicrhau cyllid o'r gronfa Ewropeaidd ar gyfer datblygiad strwythurol a Horizon 2020, yn benodol ar gyfer diwydiant dur Cymru yn awr? Oherwydd, rwyf yn ymwybodol o ddatganiadau diweddar y Gweinidog Cyllid ar y ddau. Darllenais nhw ac roeddwn yn ceisio edrych am ddur, ond nid oeddwn yn gallu dod o hyd i unrhyw beth o fewn y ddau ddatganiad hynny yn benodol am ddur. Os mai hwn yw’r mater pwysicaf ar hyn o bryd, yna does bosib, pe byddai’r Gweinidog hwnnw’n mynd i Frwsel i gael y sgyrsiau hynny ag aelodau staff y Comisiwn, dylai gwneud dur fod wedi bod wrth wraidd y trafodaethau hynny. Ni allaf weld hynny yn natganiadau Llywodraeth Cymru.
 
Gan fod materion bellach yn llawer mwy difrifol, mae'n dda gweld eich bod chi’n cyd-weld â syniadau Plaid Cymru ynglŷn â pherchnogaeth gyhoeddus, fel y mae David Rees hefyd. A yw Llywodraeth Cymru wedi ailystyried cynigion Plaid Cymru ar gyfer defnyddio ei chyllideb gyfalaf i gefnogi adeiladu'r gwaith pŵer newydd ym Mhort Talbot? Ein dadl ni yw y gellir ystyried hyn yn welliant amgylcheddol, a ddylai liniaru unrhyw bryderon Ewropeaidd posibl am gymorth gwladwriaethol.
 
O ran gweithgynhyrchu, pa drafodaethau sy’n benodol i Tata ydych chi wedi'u cael gyda'r EEF neu gyrff masnach eraill? Beth maen nhw'n ei ddweud wrthych chi am ddyfodol ein diwydiant dur a sut y mae eu safbwyntiau nhw yn cael eu cynnwys yn eich ffordd o feddwl?
 
Sut y mae newyddion yr wythnos diwethaf yn newid gwaith y tasglu? Rwyf yn deall eu bod wedi cwrdd heddiw, ond ni wnaethant hynny yr wythnos diwethaf, pan oedd hyn i gyd yn y newyddion. Pam na chawsant gyfarfod brys, fel yr ydym ni wedi ein galw yn ôl yma heddiw? Onid nawr yw'r amser i weithredu.
 
I ategu galwadau Leanne Wood yn gynharach, a allwn ni yn awr sefydlu ffrwd waith ar wahân ynglŷn â’r posibiliadau o ran perchnogaeth gyhoeddus? Ar hyn o bryd, nid yw hynny'n rhywbeth y mae'r tasglu wedi cael gwybod bod angen iddynt edrych arno—os ydw i'n anghywir, gallwch fy nghywiro.
 
O ran pensiynau, mae cynlluniau yn rhedeg diffygion tebyg i rai Tata ac yn eu hadennill mewn cyfnodau economaidd gwell. Roeddwn wedi dychryn o glywed ddoe fod Tata eisiau trosglwyddo ei gynllun i’r gronfa diogelu pensiynau, o ystyried y sefyllfa hynod anfoddhaol y mae gweithwyr ASW yn dal i fod ynddi ac y bu'n rhaid i bensiynwyr Visteon ymdrin â hi yn flaenorol. Rydym i gyd yn gwybod beth ddigwyddodd bryd hynny. A ydych chi wedi cynnal unrhyw drafodaethau gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau a'r rheoleiddiwr pensiynau, yn benodol ar hyn? Ac a fyddech chi fel Llywodraeth yn gwneud sylwadau i geisio osgoi y cynllun yn cael ei drosglwyddo i’r Gronfa Diogelu Pensiynau, a sicrhau bod Tata yn anrhydeddu unrhyw rwymedigaethau pensiwn y mae wedi eu gwneud?
 
Yn olaf, a yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw amcangyfrifiad o faint o swyddi a fyddai’n cael eu colli yn y dref a'r cylch nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â'r gwaith dur, ond yn dibynnu arno? Roeddwn i ym Mhort Talbot ddydd Sadwrn, yn siarad â thrinwyr gwallt, gwerthwyr tai, cigyddion—maent i gyd yn pryderu am y ffaith, os bydd swyddi’n diflannu yn y gwaith dur, y bydd hynny, yn sicr, yn cael, effaith andwyol ar eu gwaith nhw yno. Dyma’r mater pwysicaf yng ngwleidyddiaeth Cymru ar hyn o bryd. Tân ein ffwrneisi yw anadl ein draig Gymreig. Os bydd yn diffodd, bydd rhan o Gymru yn marw, ac ni allwn adael i hyn ddigwydd.
 
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Melding) i’r Gadair am 15:14.
 
15:14
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Maent o ddifrif. Rydym yn cynnal sgyrsiau rheolaidd gyda Tata ac wedi gwneud hynny ers llawer iawn o fisoedd a blynyddoedd. O ran y diffyg pensiynau, y peth olaf y byddem am ei weld yw sefyllfa’n codi lle nad yw pensiynwyr Tata yn gallu cael gafael ar eu hawliau pensiwn cyfan. Nid yw hynny'n rhywbeth y byddem yn ei gefnogi. Cyn belled ag y mae Llywodraeth y DU yn y cwestiwn, nid ydynt, hyd yn hyn, wedi awgrymu y byddent yn barod i gymryd drosodd y rhwymedigaeth bensiwn. Pa un a fydd hynny yn newid yn y diwrnod neu ddau nesaf, bydd yn rhaid inni aros i weld.
 
O ran y sefyllfa gyda Tata, ni chafwyd arwydd ganddynt erioed eu bod yn bwriadu cau eu gweithrediadau yng Nghymru, nac yn wir ym Mhort Talbot. Dywedasant fod adroddiad McKinsey ganddynt, a dyna beth fydd Tata Ewrop yn ei gyflwyno i fwrdd Tata. Roeddem yn gwybod hyn o’r datganiad a wnaethant. Y tro cyntaf yr oeddem yn gwybod eu bod am werthu, oedd o’r datganiad a wnaethant o Mumbai.  Ar y sail honno, wrth gwrs, yr ydym wedyn wedi symud ymlaen yn gyflym er mwyn ceisio datrys y problemau yn y diwydiant, gan weithio gyda Llywodraeth y DU.
 
Mae hi yn llygaid ei lle i ddweud—a dywedais hyn yn gynharach—fod yr £1 miliwn y dydd o golled yn ffigur yr wyf yn amheus yn ei gylch, yn bennaf oherwydd fy mod wedi cael ffigurau gwahanol gan Tata eu hunain o ran beth yw’r gwir ffigur. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth bod y pen trwm ym Mhort Talbot, ar hyn o bryd, yn colli arian, ond nid wyf yn argyhoeddedig ei fod yn £1 miliwn y dydd. Yn sicr, cyn y Nadolig, nid dyna oedd y sefyllfa. Rwyf wedi derbyn ffigurau gwahanol ers hynny. Byddai angen, wrth gwrs, edrych ar y llyfrau mewn mwy o fanylder er mwyn gweld beth yn union yw'r sefyllfa. Nid oes unrhyw anhawster o gwbl o ran sicrhau bod prynwr ymrwymedig. Y peth olaf y byddem eisiau ei weld yw prynwr yn dod ymlaen ac yna, wrth gwrs, yn mynd ati i leihau maint y gweithlu, neu yn wir tynnu pethau o werth o'r gwaith sydd yno eisoes.
 
Mae hi'n sôn am y gronfa globaleiddio Ewropeaidd. Penderfyniad Llywodraeth y DU, wrth gwrs, yw gwneud ceisiadau o dan honno. Nid ydynt wedi gwneud hynny hyd yn hyn. Byddwn yn parhau i bwyso arnynt i gael gafael ar bob ffynhonnell o gyllid Ewropeaidd rhag ofn y gallent eu hunain fod o fudd i'r gwaith dur.
 
O ran y gwaith pŵer, y mae'n rhywbeth yr ydym wedi bod mewn trafodaethau gyda Tata yn ei gylch. Bydd hi'n gwybod am y pecyn cymorth yr wyf wedi ei grybwyll eisoes. Mae hynny wedi cael ei gyflwyno ers rhai misoedd; ond, wrth gwrs, yr hyn nad yw wedi digwydd hyd yn hyn yw pecyn cyfatebol o ran maint gan Lywodraeth y DU, ac mae hynny'n gwbl hanfodol ar gyfer y dyfodol, er mwyn i'r diwydiant allu parhau.
 
O ran perchnogaeth gyhoeddus, yr wyf yn cytuno bod yn rhaid ystyried perchnogaeth gyhoeddus, ond mae'n ddiwydiant strategol y DU. Mae gan Lywodraeth y DU yr adnoddau i drosglwyddo i berchnogaeth gyhoeddus y diwydiant dur yng Nghymru ac yn Lloegr, oherwydd mae gweithfeydd dur yn Lloegr hefyd, o leiaf i sicrhau bod amser i ddod o hyd i brynwr ymrwymedig ar gyfer y dyfodol. Mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn ei gefnogi’n fawr iawn.
 
Felly, o ran mater y gronfa bensiwn, yr wyf yn meddwl fy mod wedi ymdrin ag ef, ac ydy, mae'n rhwymedigaeth. Unwaith eto, mae'r gronfa bensiwn a'r rhwymedigaethau amgylcheddol yn rhai sylweddol. Maent, o bosibl, ymhell y tu hwnt i’r hyn y gallem fforddio cymryd rheolaeth ohonynt fel Llywodraeth yng Nghymru ar ein pennau ein hunain. Dyna pam, wrth gwrs, y mae hyn yn dibynnu ar Lywodraeth y DU. Rydym yn derbyn bod galw ariannol arnom ni; nid ydym yn dweud nad oes gan hyn unrhyw beth i’w wneud â ni, yn amlwg, ond cyfrifoldeb Llywodraeth y DU wedyn yw sichrau—fel y gwnaeth gyda'r Post Brenhinol, fel y mae Peter Black eisoes wedi ei ddweud—ei bod hi’n haws i brynwr cyfrifol ddod ymlaen ac achub y swyddi sydd yno.
 
Yn olaf, gofynnodd hi i mi am y lluosydd. Mae'n 1 i 1.22. Am bob un swydd barhaus gyda Tata, mae'n cynnal cyfwerth â 1.22 o swyddi mewn mannau eraill. Felly, mae hi yn llygad ei lle pan ei bod hi’n dweud bod yr effaith o fewn yr economi ehangach yn sylweddol ac nid, wrth gwrs, yn gyfyngedig i'r rhai sy'n gweithio i Tata yn unig.
 
15:18
Sandy MewiesBywgraffiad
Rwyf i'n dod o bentref bach Brymbo, a oedd â gwaith dur eithaf sylweddol, mewn gwirionedd, o'i gymharu â'r pentref bychan ei hun. Roedd y gwaith dur yno yn llwyddiannus iawn, ac yn cynhyrchu dur o ansawdd uchel. Yr oedd yn ein helpu, nid dim ond yn ardal Brymbo, wrth gwrs; yr oedd yn cefnogi gweithlu mawr. Fe'i caewyd ym 1990, gyda cholled o 1,100 o swyddi. Gwerthwyd y felin bar a biled a oedd, ar y pryd, yn arloesol ac a oedd wedi ei gosod dim ond ychydig flynyddoedd ynghynt, i gwmnïau dur yn Tsieina. Nawr, wrth gwrs, nid yw’r hyn yr ydym yn ei weld yma, yng Nghymru, yn y DU ac yn Ewrop—ac yr wyf yn deall yr hyn y mae'r Prif Weinidog yn ei ddweud, fod gennym berthynas dda gyda Tsieina—nid yw'n newid y ffaith fod y diwydiant dur dan fygythiad oherwydd y dur dros ben sy'n dod atom ni o Tsieina; dur sydd ar farchnad y byd ac sy’n effeithio arnom ni. Y mae Brymbo wedi ei adfer, ond mae wedi bod yn gyfnod hir ac anodd, ac mae cymuned wahanol yno heddiw i'r gymuned a oedd yno o'r blaen. Dyna beth yr wyf yn ei ofni. Ni allwn fforddio tynnu’r diwydiant dur o Bort Talbot, Llanwern, Trostre na Shotton. Ni allwn fforddio gwneud hynny. Mae Cymru angen dur, ac mae dur angen Cymru.
 
Mae gennym weithwyr ymroddedig yma. Mae gennym undebau a fydd yn cydweithredu â'r rheolwyr, ac mae gennym arloesedd. Ni allwn fforddio colli hynny. Yr hyn yr ydym ei angen ar hyn o bryd fodd bynnag—. Mae pobl wedi bod yn siarad am y peth, ac yr wyf yn gobeithio—. Rwy’n ymddeol yfory, ond yr wyf yn gobeithio y bydd pobl yma yn cofio hyn, wrth iddynt gnocio ar ddrysau: pan fyddwch yn siarad am gydweithrediad gwleidyddol, mae'n rhaid iddo fod rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, a rhwng gwleidyddion o bob plaid.
 
Mae fy etholaeth bellach yn rhedeg ochr yn ochr â Shotton, a gaeodd ym 1980, gyda cholled o 6,500 o swyddi, gydag effaith ofnadwy iawn, iawn ar yr ardal. Ond mae’r ardal wedi ymladd o ddifrif i wella pethau. Bellach, rydym yn gwybod bod rhai cannoedd o weithwyr wedi'u cyflogi ar safle Alun a Glannau Dyfrdwy, neu Shotton, ac mae’r busnes caenu yn un proffidiol. Nid yw'n cynhyrchu dur, ond adroddwyd ei fod wedi gwneud £20 miliwn y llynedd. Mae pob un o'r gweithfeydd hyn yn rhan annatod o'r diwydiant dur. Ni allwn fforddio colli unrhyw un ohonynt. Dyna beth y dylem ei gadw mewn cof. Rwyf yn sylweddoli, gyda llaw, mai Port Talbot yw'r mwyaf, ac y bydd yn cael effaith enfawr. Dywedasoch eich hun: nid dim ond y swyddi sydd yn y gweithfeydd eu hunain sydd dan fygythiad; ond y bobl sy’n dibynnu ar y swyddi hynny. Ond, cyfeiriaf yn ôl at Frymbo, oherwydd roedd Kirsty Williams yn llygad ei lle mewn gwirionedd: ni allwn fforddio tynnu’r asedau gwerthfawr oddi yno. Nid yw'n gweithio. Nid yw'n llwyddiannus—nid ar gyfer y cymunedau a’r lleoedd y mae’r asedau gwrthfawr yn cael eu tynnu oddi yno.
 
Rwyf mor falch o'ch clywed yn dweud nad yw’r diwydiant hwn yn un sydd yn siŵr o farw. Mae'n gylchol. Gwnaeth John Griffiths y pwynt ei hun am Corus, sydd bellach yn difaru gollwng gafael ar rai pethau. Ond, mae'n rhaid i beth bynnag sydd gennym ar gyfer y dyfodol fod yn gryf ac yn gynaliadwy, ac mae'n rhaid iddo fod yn y hirdymor. Brif Weinidog, soniasoch am y gefnogaeth yr ydym yn barod i’w rhoi yma gan Lywodraeth Cymru, a'r pethau yr ydych wedi cytuno gyda phobl arnynt. Bydd yn rhaid edrych ar dariffau. Mae angen edrych ar brisiau ynni. Mae pecyn cyfan o bethau y mae angen ei roi at ei gilydd, ac rwy'n falch iawn o glywed bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i’r hyn y gallant ei wneud ar gyfer y newid sydd ei angen. Rydym angen i Lywodraeth y DU gydweithio gyda chi. Mae llawer o gwestiynau yr oeddwn am eu gofyn, wedi eu hateb, ond yr hyn yr hoffwn i wybod—. Ar y naill law, yr ydym yn dweud nad oes gennym lawer o amser oherwydd, pwy a ŵyr pwy sydd am ddod i mewn, neu ddim am ddod i mewn, a beth fydd yn diflannu? Ar yr un pryd, mae gennym hefyd David yma yn dweud wrthym—yn gwbl briodol—fod angen amser i’r gweithfeydd a’r rheolwyr hyn ddatblygu’r hyn sydd ganddynt i'w gynnig ac i ddangos pa mor dda ydyw. Felly, yr amserlen ydyw. Y peth arall yr wyf yn arbennig o bryderus amdano, efallai oherwydd fy mod yn ymddeol yfory, yw'r sefyllfa o ran pensiynau. Rydych chi wedi ei ateb i raddau, ond a oes unrhyw beth o gwbl y gallwn ei wneud i ddiogelu a chefnogi pobl sydd, nid yn unig yn wynebu colli eu swyddi, ond sydd mewn perygl o golli llawer o'u dyfodol hefyd? Dyna fy nghwestiynau.
 
15:23
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau? Mae hi wedi datgan yn angerddol iawn fod y gwaith dur ym Mrymbo, ac effaith cau gwaith dur Brymbo, wedi cael effaith enfawr ar y gymuned. Realiti'r sefyllfa yw hyn: ni allwch greu y nifer hyn o swyddi sy’n talu’n dda mewn cyfnod byr o amser. Dyna pam y mae hi mor bwysig bod swyddi fel y rhain yn y diwydiant dur yn cael eu cynnal, oherwydd nad oes modd cael swyddi eraill yn eu lle yn gyflym iawn neu, yn wir, swyddi sydd â’r un lefelau cyflog—yn sicr nid o fewn cyfnod cymharol fyr o amser.
 
Mae Tata, fel y soniais yn gynharach, yn gwmni sy'n gwerthfawrogi ei enw da byd-eang. Mae rhai cwmnïau na fyddent yn meddwl ddwywaith am gael gwared ar eu gweithfeydd yn y DU, mynd yn fethdalwyr, cerdded i ffwrdd oddi wrth y rhwymedigaethau amgylcheddol gwerth cannoedd o filiynau o bunnoedd, anwybyddu atebolrwydd pensiynau, unwaith eto, yn ôl pob tebyg, werth cannoedd o filiynau o bunnoedd, ac yna gadael yr awdurdodau lleol, mewn gwirionedd, o ran y rhwymedigaethau amgylcheddol, i gymryd y cyfrifoldeb a Llywodraeth y DU i gymryd y cyfrifoldeb o ran pensiynau. Mae Tata, fel cwmni, bob amser wedi ymfalchïo yn y ffaith eu bod yn gorfforaeth sy’n cymryd cyfrifoldeb cymdeithasol, ac rwyf wedi eu hatgoffa o hynny. Os ydynt am adael y DU, mae angen iddo fod ar delerau da, ac mae angen iddi fod yn sefyllfa lle mae pobl yn teimlo bod Tata wedi bod yn deg. Byddai colli’r enw da hwnnw, iddyn nhw, yn newid mawr o’r sefyllfaoedd y meant wedi bod ynddynt yn y gorffennol. Dyna pam yr wyf wedi dweud wrthynt fod angen digon o amser er mwyn caniatáu i brynwr ddod ymlaen. Mae’n rhaid i'r asedau fod yn barod i gael eu gwerthu. Nid yw troi cefn ar rwymedigaethau yn ddewis, ac, wrth gwrs, yr hyn y mae angen i ni ei weld yn awr—ac, fel yr ydym ni yn derbyn hyn, bydd Llywodraeth y DU yn ei dderbyn—yw cynnydd tuag at ddod o hyd i brynwr, ac os nad oes digon o gynnydd mewn cyfnod byr o amser, yna dylai Llywodraeth y DU gymryd cyfrifoldeb dros yr asedau yng Nghymru a Lloegr er mwyn dod o hyd i brynwr.
 
15:25
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Mae gennyf 17 o Aelodau sy'n dymuno cael eu galw o hyd. Mae’r mater hwn yn un hynod bwysig, nid wyf am osod unrhyw derfyn amser yn sicr, ond a gaf i atgoffa Aelodau na fydd trachywiredd a diffyg ailadrodd yn lleihau grym eich craffu a’ch dadl y prynhawn yma, mewn unrhyw ffordd? Eluned Parrott.
 
15:25
Eluned ParrottBywgraffiad
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Brif Weinidog, mae’n briodol heddiw ein body yn canolbwyntio ar y dyfodol, ond mae cwestiynau ynglŷn â’r gorffennol a’r presennol yr hoffwn rywfaint o eglurdeb yn eu cylch. Port Talbot yw gwaith dur mwyaf y DU erbyn hyn, felly dyfodol dur Cymru mewn gwirionedd yw dyfodol gallu Prydain i fod yn genedl weithgynhyrchu yn y dyfodol. Nid yn unig y mae’n fusnes strategol i ni oherwydd y degau o filoedd o bobl sydd yma sy'n gweithio yn y diwydiant, a'r effaith y byddai unrhyw gau yn ei chael ar ein cymunedau; y mae hefyd yn gwestiwn dirfodol, os mynnwch chi, ynglŷn â dyfodol Prydain fel economi ddiwydiannol fodern. Ai dyna beth fyddwn ni yn y dyfodol, ai peidio? Os na allwn gynhyrchu dur, ni allwn adeiladu cymaint â sied gardd heb fod yn ddibynnol ar fewnforion yn y dyfodol. A hynny ar drugaredd diwydiant dur â chymhorthdal Tsieina, ​​yr ymddengys, yn ôl ei weithredoedd, ei fod hanner ffordd at fod yn fonopoli. Ond, fel y dywedais, mae gennyf gwestiynau am y gorffennol, yr hoffwn eglurder yn eu cylch, cyn inni symud at y dyfodol.
 
Cefais wybod bod Sajid Javid wedi cyfaddef, pan gyfarfu ef â gweithwyr dur ym Mhort Talbot, ddydd Gwener, ei fod yn gwybod bod gwerthu asedau yn y DU yn ganlyniad tebygol dair wythnos ynghynt. Er gwaethaf hynny, nid aeth i Mumbai, ac wrth beidio â mynd, y mae wedi colli ffydd gweithwyr dur yma ym Mhrydain oherwydd ei weithredoedd. Rydych chi wedi dweud bod yr adroddiad yn y 'Financial Times', yr oeddech yn gwybod amdano ar adeg y Nadolig, yn anghywir. Ond nid ydych wedi bod yn gwbl glir ynghylch pa bryd yr oeddech yn gwybod bod gwerthu yn ganlyniad tebygol neu bosibl yma. Os oeddech yn gwybod eu bod yn comisiynu ymgynghorwyr rheoli i edrych ar ddyfodol y busnes, mae'n rhaid eich bod wedi rhagweld bod hyn yn bosibl, ac felly, gofynnaf ichi eto, oherwydd ni wnaethoch ateb pan ofynnodd Bethan Jenkins y cwestiwn hwn: pam nad oedd yr un cynrychiolydd o Lywodraeth Cymru yn y cyfarfod hwnnw ym Mumbai?
 
Mae perthynas Llywodraeth Cymru gyda Tata dros y misoedd nesaf yn hanfodol i gadw’r gweithfeydd dur hyn ar agor drwy'r argyfwng dybryd hwn. Fel yr ydym wedi clywed, os bydd y ffwrneisi yn diffodd, byddwn yn wynebu tasg hyd yn oed yn fwy, o ran dod o hyd i brynwr. Ond, o ystyried y sensitifrwydd masnachol, pa mor hyderus ydych chi fod Tata yn ceisio’n ddyfal i fynd ar ôl y gwerthiant cadarnhaol hwn y byddem i gyd yn dymuno ei weld? Rwyf yn bryderus iawn am y rhethreg negyddol yr ydym wedi ei glywed gan y cwmni, a chan eraill am y safleoedd yng Nghymru, ac os na fyddwn yn gwneud pethau'n glir, yna bydd dod o hyd i brynwr hyd yn oed yn anoddach. Yr ydych wedi bod eisiau gwneud pethau'n glir, mi wn, am y cwestiwn hwn ynghylch pa un a yw'r colledion ar y raddfa yr ydym yn gwybod amdani, ond gadewch i ni fod yn glir yma: mae'n rhaid i ni fod yn barod. Mae’n rhaid i ni ddweud wrth y byd fod hwn yn fusnes, fod hwn yn ddiwydiant, gyda dyfodol cadarnhaol, gyda phobl fedrus a thalentog, gyda chyfleoedd ar gyfer busnesau newydd yn y dyfodol, gyda rhagolygon arloesol. Mae hwn yn fusnes a chanddo ddyfodol, ac mae angen inni i gyd fod yn gytûn pan ydym yn sôn am ddyfodol Port Talbot.
 
Rydych yn hollol gywir, Brif Weinidog, y byddai tynnu asedau o'r gwaith dur yn drychineb, nid yn unig i Gymru, ond i Brydain fel gwlad ddiwydiannol. A ydych chi'n cytuno â mi y dylem ni hyd yn oed, mewn gwirionedd, fod yn wyliadwrus o rai o'r dulliau tameidiog y mae pobl yn siarad amdanynt? Oherwydd, mae'r gweithfeydd dur y mae Tata yn berchen arnynt ar draws y DU yn gyd-ddibynnol, yn ddiau. Os byddwn yn colli Port Talbot, bydd Shotton a Throstre yn colli eu cyflenwr. Os byddwn yn colli Shotton a Trostre, bydd Port Talbot yn colli rhywbeth fel traean o'i fusnes. Mae'r gweithfeydd hyn yn dibynnu ar ei gilydd yn gyfan gwbl, ac wrth inni edrych tuag at ddyfodol sy'n ddiogel, yn sicr ac yn gynaliadwy, mae'n rhaid i ni ddeall bod y busnes mewn gwirionedd yn gweithio fel partneriaeth. A ydych chi wir yn credu bod Llywodraeth y DU yn deall pa mor agos y mae’r busnesau hynny’n perthyn i'w gilydd? Ac a allwch chi roi unrhyw syniad i ni o’r hyn y maent yn ei feddwl o ran siarad â darpar brynwyr, a pha un a fyddant yn derbyn unrhyw gynnig tameidiog neu beidio?
 
Bu sôn am weithwyr a rheolwyr yn prynu'r cwmni fel ffordd bosibl o greu dyfodol cynaliadwy ar gyfer y busnes fel portffolio, a tybed, Brif Weinidog, a allwch chi roi syniad i ni o ba un a ydych chi wedi cael trafodaethau gydag unrhyw un o'r unigolion hynny. Os ydych, yn ychwanegol at y pecyn cymorth yr ydych wedi’i amlinellu yn flaenorol, pa gefnogaeth a chyngor ychwanegol y gall Llywodraeth Cymru eu cynnig i dîm o weithiwr a rheolwyr sydd eisiau prynu’r cwmni er mwyn eu helpu i ddod â chynnig hyfyw gerbron? Oherwydd, yn amlwg, o fewn yr amserlen sydd ar gael, mae hynny’n mynd i fod yn her.
 
Nawr, gan edrych ar y camau gweithredu y mae'n rhaid eu cymryd ar unwaith, yn amlwg, mae angen gweithredu ar unwaith gan Lywodraeth y DU i fynd â ni drwy'r argyfwng brys presennol hwn. Ond os yw dur yng Nghymru am fod yn ddiwydiant cryf a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol, mae’n rhaid i rywbeth newid yn y tymor hir. Pe na byddai hynny’n wir, ni fyddai Tata wedi bod yn comisiynu ymgynghorwyr rheoli i edrych ar y busnes. Ni allwn gystadlu o ran pris mewn marchnad nwyddau, yn y tymor hir, â dur o Tsieina. Ni allwn wneud hynny, ac ni ddylem. Ond, rwyf wir yn credu y gallwn sicrhau busnes hirdymor cynaliadwy os ydym yn edrych ar gystadlu â'r gorau yn y byd ar ansawdd yr hyn yr ydym yn ei gynnig ac ar fod yn gallu arbenigo a gwahaniaethu ein hunain, rhwng un cynnyrch a’r llall. Ond, y broblem yw, wrth gwrs, bod cynnyrch arbenigol yn newid yn gyflym iawn, ac rydym angen cynllun buddsoddiad hirdymor i’n rhoi ar flaen y gad yn y lle cyntaf a’n cadw ni yno yn y tymor hir.
 
Nawr, fel yr ydych wedi dweud yn gywir, roedd Port Talbot wedi mantoli’r gyllideb y llynedd, ond bellach nid ydyw. Mae hon yn farchnad sy'n symud yn gyflym iawn. A bod yn onest, mae'r gweithwyr yr ydwyf i wedi siarad â nhw wedi cael llond bol o fyw o argyfwng i argyfwng. A yw dur yr Almaen yn byw o argyfwng i argyfwng? Na, nid ydyw. Pam nad ydyw? Oherwydd eu bod wedi cynllunio ar gyfer y dyfodol. Maent wedi buddsoddi ar gyfer y dyfodol. Maent wedi cadw eu hunain ar flaen y gad, ac mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ninnau, pan fyddwn yn edrych ar adferiad gwaith dur Prydain yma yng Nghymru, yn gwneud yr un peth. Ni allwn fod yn hunanfodlon. Ni allwn gymryd yn ganiataol, os gallwn ni oroesi’r misoedd nesaf, y bydd y dyfodol bob amser yn llewyrchus. Mae'n rhaid i ni wneud yn well na hynny. A fyddech chi'n cytuno, Brif Weinidog, fod yn rhaid i’r cynllun pum pwynt a gyflwynodd y diwydiant a'i hundebau yn yr uwchgynhadledd ym mis Hydref, fod yn asgwrn cefn i unrhyw strategaeth yn y dyfodol? Os felly, mae dau o'r pum pwynt hynny yn eich dwylo chi.
 
Rydym wedi clywed am ardrethi busnes, ac rwy'n ddiolchgar am eich sylwadau ar hynny, ond mae eich ymateb o ran caffael yn gwbl absennol o'ch datganiad heddiw. Ydym, rydym yn gwybod bod rhai o'r cynhyrchion yn nwylo cynhyrchwyr dur eraill, ond mae'n rhaid i ni ofyn i chi: a ydych chi wedi gwneud archwiliad o gaffael Cymru i weld beth yw eich sefyllfa, fel prynwr, o ran y defnydd o ddur? A ydych chi wedi gwneud asesiad i weld faint o’r dur sy’n cael ei brynu gan Lywodraeth Cymru sy’n ddur o Gymru, yn y gorffennol agos? Pa gamau ydych chi wedi'u cymryd i sicrhau y bydd cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn y dyfodol yn cael gafael ar ddur mewn ffordd sy'n rhoi'r cyfle gorau posibl i ddur Cymru, ond ar yr un pryd yn cadw at y rheolau? Brif Weinidog, ni allwch reoli bob dim, rydym i gyd yn gwybod hynny, ond nid yw hynny’n rheswm i beidio â gwneud yr hyn sydd o fewn eich gallu. Pryd y gallwn ddisgwyl gweld amserlen gennych yn amlinellu pryd y bydd y camau gweithredu y mae’r diwydiant wedi bod yn erfyn amdanynt ers chwe mis, o'r diwedd yn cael eu gwireddu?
 
15:33
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, roeddwn yn meddwl, yn ystod yr ychydig oriau diwethaf, fy mod mewn gwirionedd wedi esbonio ein sefyllfa a'r hyn yr ydym ni eisiau ei weld wrth inni gamu ymlaen. Mae'n gywir i ddweud nad oedd gennym gynrychiolaeth y Llywodraeth ym Mumbai; a hynny oherwydd y bu trafodaeth sylweddol, dros y ffôn a thrwy ohebiaeth flaenorol. Gwnaed ein barn yn amlwg iawn i Tata, a’r farn honno oedd y dylid dilyn cynllun adroddiad McKinsey, a oedd yn gynllun gwrthdroad, nid cynllun i edrych ar ba un a ddylid cau'r gwaith dur ai peidio, ond cynllun gwrthdroad yr oedd Tata Ewrop yn dadlau o’i blaid fel y ffordd ymlaen, wrth fwrdd Tata ym Mumbai. Felly, y tro cyntaf i ni glywed bod gwerthiant am fod, oedd pan wnaed datganiad, oherwydd dyna pryd y cadarnhawyd y sefyllfa. Nid oeddem yn gwybod ychwaith beth oedd yr amserlen, hyd nes, unwaith eto, y cadarnhawyd y datganiad.
 
Mae'n gywir i ddweud mai’r peth olaf yr hoffem ei weld yw gwerthiant tameidiog y gwahanol weithfeydd. Ond nid wyf yn credu bod hynny'n bosibl beth bynnag. Mae Shotton, er enghraifft, yn cael ei ddur o Bort Talbot. Pe na byddai gan Shotton y dur hwnnw, byddai gan y safle chwe mis lle y byddai'n rhaid iddo chwilio am ddur o rywle arall, ac yn y cyfnod hwnnw, ni fyddai'n cynhyrchu unrhyw beth. Mae'n amlwg i Aelodau beth fyddai hynny'n ei olygu o ran colli cwsmeriaid ac o ran colli gwaith dros dro yn y gwaith dur hwnnw. Felly, er bod Shotton yn waith dur sy’n gwneud elw, y mae'n dal i fod angen y dur o Bort Talbot, yn sicr yn y tymor byr, er mwyn gallu ffynnu, ac mae'r un peth yn wir am y gweithfeydd dur eraill hefyd.
 
Nid ydym wedi gweld unrhyw fanylion eto am y cynigion i’r rheolwyr brynu'r cwmni; er fy mod wedi darllen amdanynt, nid oes dim wedi ei gyflwyno i ni eto. Byddem yn astudio hynny, wrth gwrs, yn fanwl ac yn edrych ar gefnogi unrhyw gynllun hyfyw sy'n cadw ac yn gwella’r diwydiant dur yng Nghymru. Rwyf wedi gweld y cynllun pum pwynt. Soniais am gaffael—ffordd liniaru'r M4 yw'r prosiect mwyaf sydd gennym. Rwy'n ymwybodol o farn ei phlaid ar hynny, ond dyma'r prosiect mwyaf sydd gennym, ac, wrth gwrs, fel yr wyf wedi crybwyll eisoes, mae'r morlyn llanw y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru.
 
O ran caffael, rydym wedi gweld cynnydd mewn faint o gynnyrch o Gymru sy'n cael ei ddefnyddio gan y sector cyhoeddus yng Nghymru, ond ni ddylem anghofio'r ffaith mai caffael ar lefel y DU ac ymdrin â phrisiau ynni a’r mater o dariffau, yw'r prif faterion yma. Gall, fe all caffael yng Nghymru helpu—nid wyf yn gwadu hynny—ond mae problemau pwysig a fyddai'n parhau os na fydd Llywodraeth y DU yn ymdrin â hwy yn awr. Felly, pwy bynnag sy'n rhedeg y diwydiant dur yng Nghymru—boed yn gyhoeddus neu'n breifat neu'n fenter ar y cyd—mae’n rhaid datrys y mater o brisiau ynni a thariffau o hyd, fel arall bydd y broblem yn parhau o hyd, pwy bynnag sy'n rhedeg y diwydiant. Ac mae'r rhain yn faterion, wrth gwrs, y byddaf yn eu trafod gyda'r Prif Weinidog yfory.
 
15:35
Keith DaviesBywgraffiad
Mae llawer o'r cwestiynau yr oeddwn yn mynd i’w holi wedi eu holi eisoes, ond rwy’n meddwl bod cryn dipyn o bwyntiau pwysig nad ydynt wedi eu hystyried o bosibl. Er enghraifft, rwyf yn meddwl am y 1980au a'r hyn a ddigwyddodd i'r diwydiant glo yng Nghymru. Ac un o'r prif resymau dros hynny oedd na chawsom unrhyw gefnogaeth gan Lywodraeth Prydain. Felly, roeddwn yn falch iawn o'ch clywed yn dweud yn gynharach eu bod yn gweld yn awr bod hon yn broblem ddifrifol, oherwydd hyd at yr wythnos diwethaf, roeddwn i wedi fy ngwir syfrdanu gan ddiffyg ymdrech Llywodraeth Prydain i gefnogi'r diwydiant dur yn y DU. A hyd yn oed pan wrandewais ar 'The Andrew Marr Show' fore ddoe, hyd yn oed wedyn, nid oedd y Gweinidog hwnnw’n gwybod yn iawn beth oedd yn digwydd yn fy marn i, oherwydd roedd yn siarad am brynwyr, ac un o’m pryderon i ynghylch prynwyr—. Gwrandewais ar rywun o Liberty a ddywedodd mai ffwrneisi chwyth sydd ym Mhort Talbot. Ni fyddai'n prynu Port Talbot gan fod arno eisiau creu cynhyrchion dur o gynhyrchion sbwriel, eu troi yn ddur, ac nid oes arno eisiau troi mwyn haearn yn ddur. A meddyliais, 'Sut ydych chi'n mynd i wybod beth mae’r prynwyr hyn yn mynd i’w wneud?' Felly, fy nghwestiwn i chi ar hynny, Brif Weinidog, yw hyn: pa ran y bydd Llywodraeth Cymru yn ei chwarae gyda Tata pan fyddant yn siarad am y math o brynwyr y maent yn cynnig gwerthu iddynt?
 
Cyn belled ag y mae’r prif bryderon yn y cwestiwn—ac fe soniasoch chi amdanynt yn gynharach; yr ynni a'r tariffau—wel, mater i Lywodraeth Prydain yw hynny mewn gwirionedd, ac os na allan nhw weld bod y DU yn dibynnu ar ddiwydiant dur da—oherwydd os nad oes gennym ddiwydiant dur da, ni fydd gennym ni unrhyw gwmnïau gweithgynhyrchu yn y wlad hon—felly mae nifer y swyddi yr ydym yn sôn am eu colli yn treblu yn ôl pob tebyg, nid yn unig y rhai sy'n ymwneud â chynhyrchu dur, ond y swyddi eraill sy’n ddibynnol ar hynny hefyd.
 
Ni allaf gofio pwy a ddywedodd yn gynharach—Bethan Jenkins oedd hi yn siarad am Bort Talbot; wel, pe byddai hi wedi cael trin ei gwallt yn Llanelli, byddai pobl yn gofyn yr un cwestiynau iddi yno—beth sy'n mynd i ddigwydd i'r swyddi yn Llanelli? Felly, nid Port Talbot yn unig sy'n poeni am yr hyn sy'n digwydd. Y prynhawn yma, Brif Weinidog, yr ydych chi wedi dweud ar sawl achlysur ac wedi cefnogi’r hyn a ddywedodd John Griffiths yn gynharach—nid ydym yn sôn am Bort Talbot yn unig; ond am Shotton, am Lanwern, am Drostre. Y cwestiwn yr oeddwn yn mynd i’w ofyn i chi oedd hyn: os ydym ni’n mynd i gael ardaloedd menter ym Mhort Talbot—ac rwy’n meddwl bod hynny’n syniad da—beth am y tri rhanbarth arall, felly? A ydym ni’n ystyried ardaloedd menter yn yr ardaloedd hynny? Oherwydd, yn y pen draw, rydym ni’n siarad am swyddi, ac fe soniasoch chi yn gynharach bod 1.22 o swyddi yn cyfateb i bob swydd yn y diwydiant dur. Ac fe ddarllenais i yn rhywle fod Tata yn gwario £200 miliwn ar gyflogau yng Nghymru. Nid wyf yn gwybod faint o swyddi yw hynny, ond os ydych chi’n dyblu hynny ac yn ychwanegu pumed arall ato, rydym ni’n siarad am nifer sylweddol o swyddi—dros 10,000 yn ôl pob tebyg. Felly, os yw hynny'n digwydd yng Nghymru, mae'n eithaf pwysig bod Llywodraeth Prydain yn sylweddoli beth fydd yn digwydd yn Lloegr hefyd, oherwydd os ydynt yn mynd i gynhyrchu ceir yn Lloegr, o ble y byddant yn cael y dur? A ydynt yn mynd i dalu’r prisiau isel hynny o Tsieina, a chael y dur safon isel yr oedd rhywun yn sôn amdano yn gynharach? Felly, mae eich dadl yfory gyda Phrif Weinidog y DU ynghylch yr hyn a fydd yn digwydd yn un eithaf pwysig, ac roeddwn yn falch iawn o'ch clywed yn dweud yn gynharach eu bod yn ystyried hon yn broblem ddifrifol, oherwydd hyd yn hyn, nid ydynt wedi ei hystyried yn broblem ddifrifol. Felly, gobeithio y byddwch yn cael trafodaeth dda a chadarnhaol gydag ef yfory. Diolch yn fawr.
 
15:39
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau? Mae llawer o hyn eisoes wedi’i drafod, ac mae'n tynnu sylw, wrth gwrs, at y pryderon sydd gan bobl am Drostre, yn amlwg, sydd yn ei etholaeth ef. Wrth gwrs, byddwn yn parhau i siarad â Tata a bod yn rhan o unrhyw broses os bydd prynwr yn dod ymlaen, gyda’r bwriad o sicrhau bod y nifer mwyaf posibl o swyddi yn cael eu diogelu o ganlyniad i’r broses honno.
 
15:40
Altaf HussainBywgraffiad
Diolch yn fawr, Brif Weinidog, am eich datganiad. Mae'n braf nodi bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gweithio gyda'i gilydd ar atebion i gefnogi ein diwydiant dur. Mae'r diwydiant dur yn hanfodol i'r DU, ac mae sicrhau dyfodol tymor hir, hyfyw i'r diwydiant yn hanfodol i’r bobl yn fy rhanbarth i. Mae'n rhaid i ni i gyd weithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â'r problemau sy'n wynebu'r sector dur.
 
O ran prisiau ynni, rydym yn croesawu'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU i liniaru effaith polisïau newid yn yr hinsawdd, sydd wedi arwain at roi £50 miliwn yn ôl i Tata ar ffurf iawndaliadau. Fodd bynnag, mae’n rhaid inni hefyd sicrhau nad yw’r camau a gymerir i gefnogi technoleg adnewyddadwy yn gwthio prisiau ynni i fyny. Brif Weinidog, a ydych yn cytuno â mi na ddylem fod yn rhoi cymhorthdal ​​i'r broses o ddiwydiannu ynni adnewyddadwy, ac y dylai cymhorthdal ​​y dyfodol fod yn fforddiadwy ac yn gynaliadwy? Rydym yn croesawu camau i adeiladu gwaith ynni effeithlon yn y gweithfeydd dur ym Mhort Talbot. Beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu’r gweithfeydd dur i ddod yn fwy effeithlon o ran ynni?
 
Drws nesaf i waith dur Port Talbot, mae parc ynni Baglan. A yw Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag unrhyw gwmnïau sydd â’r bwriad o ddatblygu atebion ar gyfer storio ynni? Yn y rhuthr i fanteisio ar dariffau cyflenwi trydan, mae toreth o ffermydd solar wedi dod yn weithredol yn ystod yr wythnosau diwethaf. Fodd bynnag, bu diwrnodau yng nghanol haf y llynedd pan oedd yr ynni solar a gynhyrchwyd yn uwch na'r galw amdano a chafodd yr ynni ei wastraffu, sefyllfa a fydd yn waeth o lawer eleni gyda'r capasiti newydd sydd bellach yn weithredol. Oni bai bod modd i ni storio’r ynni hwn, ni allwn ddarparu ynni glanach, rhatach i ddefnyddwyr ynni uchel fel y gweithfeydd dur. Brif Weinidog, a fyddwch chi’n gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau mwy o ymchwil a datblygu i atebion o ran storio ynni?
 
Un o'r cynhwysion mwyaf hanfodol wrth wneud dur yw glo. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i ganiatáu i'r gwaith dur ym Mhort Talbot gael gafael ar symiau enfawr o lo sy’n gorwedd o dan ranbarth Gorllewin De Cymru?
 
Rydym yn croesawu’r gwaith y mae Llywodraethau Cymru a'r Deyrnas Unedig wedi ymgymryd ag ef i sicrhau ardal fenter ym Mhort Talbot. A gaf i ofyn bod hyn yn cynnwys nid yn unig yr ardal gyfagos sydd o amgylch y gwaith, ond hefyd Aberafan a Chastell-nedd, gan fod y ddwy dref yn dibynnu ar y gwaith dur?
 
Yn olaf, Brif Weinidog, a gaf fi ofyn i chi weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i sicrhau consesiynau gan yr UE? Mae rheolau'r UE yn clymu un llaw y tu ôl i'n cefnau [Torri ar draws.] Wel, rydym wedi'n cyfyngu o ran y gefnogaeth y gallwn ei rhoi i'r diwydiant, ac ni allwn fynnu bod dur Cymru yn ofynnol mewn contractau caffael cyhoeddus. Er bod Llywodraeth y DU wedi cyflwyno canllawiau caffael newydd sy'n gwneud yr amodau yn fwy ffafriol i ddur Prydeinig, ni allwn bennu dur Prydeinig, gan ei fod yn torri rheolau caffael yr UE. I'r rhai hynny ohonom nad ydym wedi penderfynu ar refferendwm yr UE eto, mae hon yn adeg hollbwysig ar gyfer yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n rhaid iddynt ddangos hyblygrwydd tymor byr mewn cymorth gwladwriaethol a rheolau caffael er mwyn diogelu dyfodol tymor hir y diwydiant dur yng Nghymru. Diolch.
 
15:44
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, gadewch i mi yn gyntaf oll ymdrin â'r mater o brisiau ynni. Rwyf wedi gweld y ffigurau gan gynhyrchwyr dur eraill sy'n awgrymu bod prisiau yn yr Almaen 20 y cant yn is na’r DU ac mae Sbaen yn 37 y cant yn is. Mae ynni adnewyddadwy yn ffurfio rhan sylweddol o'u darpariaeth ynni. Nid yw’n ymwneud ag ynni adnewyddadwy o gwbl, ac os bydd yr Aelod yn meddwl yn ofalus am yr hyn y mae newydd ei ddweud—roedd yn gofyn i mi wrthwynebu cymorthdaliadau i ynni adnewyddadwy—mae hynny'n golygu ei fod yn erbyn y morlyn llanw, oherwydd prosiect ynni adnewyddadwy yw’r morlyn llanw, ac mae felly wedi mynd yn gwbl groes i’r hyn a ddywedodd ei arweinydd ei hun ar ddechrau'r ddadl hon. Pan ddaw i solar, holl bwynt y grid cenedlaethol—. Nid wyf yn credu bod ynni solar yn cael ei wastraffu. Holl bwynt y grid cenedlaethol yw bod ynni yn cael ei gyflenwi ar adeg pan fydd galw amdano. Felly, bydd rhywfaint o ynni yn dod o weithfeydd mwy, a rhywfaint o weithfeydd llai, megis y rhai sy'n defnyddio ynni solar. Felly, ni chaiff ynni solar ei wastraffu. Mae pob un ffynhonnell pŵer yn bwydo i mewn i'r grid cenedlaethol, a mater i’r Grid Cenedlaethol yw penderfynu ar sut y cyflenwir ynni.
 
Mae’n siarad am lo. Nawr, rwy'n siŵr ei fod yn golygu mai’r hyn y mae’n ei ddymuno yw y rhoddir ystyriaeth i bwll glo dwfn sy’n cefnogi'r gwaith dur. Rydym wedi rhoi cefnogaeth i hynny. Mae’n amlwg nad yw hynny’n ffactor ar hyn o bryd. Gobeithiaf nad yw'n awgrymu y dylai fod mwy o gloddio glo brig, yn enwedig i'r nifer helaeth ohonom y mae cloddio glo brig wedi gadael etifeddiaeth ddifrifol iawn yn ein hetholaethau. Rwyf yn gobeithio nad yw'n awgrymu bod hynny'n rhywbeth y byddai'n dymuno ei ddilyn, ond mae'n gwneud y pwynt am y pwll dwfn—os mai dyna yr oedd yn ei olygu, wel, ydy, mae'n rhywbeth yr ydym wedi gweithio â Tata arno yn y gorffennol o ran datblygu'r pwll glo dwfn hwnnw.
 
Mae'n rhaid i mi ddweud wrtho mai mater i Lywodraeth y DU yw'r tariffau. Llywodraeth y DU a wrthwynebodd gosod tariffau ar lefel briodol i amddiffyn y diwydiant dur. Nid yr UE a wnaeth hynny. Nid Llywodraeth y DU yn unig, a bod yn deg, ond Llywodraeth yr Iseldiroedd hefyd, os cofiaf yn iawn. Maent yn dweud nad oeddent am weld y tariffau hynny'n cynyddu oherwydd eu bod ofn rhyfel masnach gyda Tsieina. Rydym bellach wedi gweld, wrth gwrs, Tsieina yn gosod tariffau beth bynnag. Felly, rwyf yn ofni nad yr UE a ddylai gymryd y bai yn hyn o beth. Mae’n rhaid i Lywodraeth y DU edrych ar yr hyn y mae wedi'i wneud. Mae'n rhaid iddi gymryd camau yn awr i ddatrys y mater hwnnw—dyna’r sefyllfa yr ydym ynddi—a gwneud yn siŵr bod y tariffau ar waith i roi cyfle teg i ddur Cymru a Phrydain, ac i wneud yn siŵr bod gennym brisiau ynni sy'n gystadleuol. Nid yw’n ymwneud ag ynni adnewyddadwy o gwbl oherwydd gwyddom fod sectorau ynni adnewyddadwy sylweddol gan wledydd eraill, ac eto mae eu hynni yn rhatach nag yn y DU. Mae’n rhaid ymdrin â’r pethau hyn. Felly, oes, mae angen ateb tymor byr, mae hynny’n wir, ond, yn y tymor hir, mae angen datrys y materion hynny. Fel arall, bydd pwy bynnag fydd yn cymryd drosodd y gwaith neu weithfeydd yn y dyfodol yn ei chael hi’n anodd eu rhedeg gan wneud elw mewn gwirionedd yn y tymor canolig.
 
15:47
Joyce WatsonBywgraffiad
Brif Weinidog, y peth cyntaf yr wyf eisiau ei wneud yw diolch i chi: yn gyntaf am sefyll yn y fan yna am ddwy awr a hanner ac ateb yr holl gwestiynau gan ymdrin â hwy yn fedrus, fel yr ydych chi’n ei wneud bob amser, ond, yn bwysicach, am ailymgynnull y Cynulliad hwn, oherwydd ein bod ni yn deall yn iawn bod hwn yn gyfnod cwbl hanfodol a allai ddiffinio dyfodol Cymru fel yr ydym yn ei weld ar hyn o bryd.
 
Rwyf yn siarad yn y ddadl hon oherwydd, yn amlwg, bod Trostre yn fy ardal i ac y bydd yr effaith yn fawr ac yn glir ar yr ardal honno yn y rhanbarth hwnnw. Credaf, fel eraill, yr hoffwn i dalu teyrnged yma heddiw i'r gweithwyr sydd bob amser wedi rhoi o'u gorau glas, gyda chefnogaeth eu teuluoedd, sydd wedi rhoi o'u gorau glas, i sicrhau eu bod yn gallu cynhyrchu'r nwyddau y gallwn fod mor falch ohonynt, sydd yn ei dro yn cynhyrchu’r nwyddau Prydeinig gorau glas sy’n dod o Gymru.
 
Mae’n rhaid i mi ddweud fy mod yn siomedig hyd yn hyn gyda'r ymateb gan Lywodraeth y DU. Mae'n werth nodi bod pawb yng Nghymru yma pan oedd ein hangen, ac nad oeddem ni, mewn gwirionedd, ar wyliau yn rhywle arall, a'n bod wedi cydnabod y brys a oedd yn ofynnol i symud y mater hwn yn ei flaen. Mae’n werth nodi hefyd bod y banciau wedi eu hachub, a hynny'n gwbl briodol ar y pryd, ac efallai y dylai yr un math o achub fod ar gael i'r diwydiant dur. Rwyf yn gobeithio y bydd hynny'n digwydd, ac rwyf yn gwybod eich bod wedi galw am hynny. Ond os ydym yn sôn am ddur fel diwydiant strategol—ac y mae—yna mae angen strategaeth arnom a fydd yn sail i gyflawni hynny. Os edrychwch chi ar y twf yn yr economi—y twf a ragwelir fel ag y mae—mae ychydig yn uwch na 2 y cant yn y sector preifat, ond os oes gennych chi fuddsoddiad cyhoeddus dim ond yn y prosiectau hynny yng Nghymru yn unig, mae’n saethu i fyny i dros 6 y cant o dwf yn y sector cyhoeddus.
 
Mae hynny'n rhoi rhyw fath o syniad am yr hyn y gallem fod yn ei wneud pe byddem yn oedi a meddwl am ideoleg wahanol a allai, mewn gwirionedd, ddatblygu’r diwydiant gweithgynhyrchu yn y wlad hon, gan mai ideoleg, ar hyn o bryd, sy’n atal hynny rhag digwydd. Pe byddai gennym gynllun gweithgynhyrchu clir a oedd yn gysylltiedig â phob un o'r rhannau cyfansoddol sy'n mynd law yn llaw â hynny, a phe byddem yn cael rhywfaint o fuddsoddiad mewn dur—oherwydd am ddur yr ydym yn sôn—a phe byddem yn cael rhywfaint o fuddsoddiad mewn datblygu’r economi honno ac mewn dwyn prosiectau mawr ymlaen, efallai y byddem yn gweld gwyrdroad gwirioneddol mewn cyfnod byr iawn o ran y posibiliadau o gadw'r diwydiant dur yn fyw ac yn iach yng Nghymru. Mae'n wir, yn fy marn i, bod yn rhaid i ni gadw dur yma yng Nghymru. Oherwydd os ydym yn colli hynny, rydym yn colli'r holl bosibiliadau eraill y mae pawb wedi siarad amdanynt yma heddiw. Rydym wedi gwneud gwaith rhagorol yng Nghymru wrth ddod â diwydiant i Gymru. Mae angen diwydiant dur da hefyd i gefnogi'r mathau o ddiwydiant yr ydym wedi dod â hwy i mewn i Gymru.
 
15:51
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau ac ymuno â hi, wrth gwrs, i bwysleisio, unwaith eto, yr angen am ddiwydiant dur hyfyw a bywiog ym Mhrydain, ac, wrth gwrs, yng Nghymru? Credaf fy mod wedi ateb llawer o'r hyn a ddywedodd eisoes, ond gwn, fel rhywun sydd â Throstre yn ei rhanbarth, ei fod yn fater y mae'n teimlo angerddol iawn amdano, a hynny'n gwbl briodol.
 
15:51
Simon ThomasBywgraffiad
Fel un sydd hefyd yn cynrychioli Trostre, a gaf i ddweud yn y lle cyntaf fy mod i—ac, rwy’n siŵr, pawb yn y Cynulliad hwn—yn sefyll yn gadarn gyda’r gweithwyr yn Nhrostre a gweithwyr ehangach Tata ar gyfer eu dyfodol nhw, ac rwy’n gweld pa mor bwysig yw’r gwaith yna i dref Llanelli, nid jest fel gwaith, ond o ran y ffordd y mae’n ymwneud â gweithgynhyrchu yn Llanelli, y ffordd y mae’n ymwneud â’r diwydiant ceir yn Llanelli, a’r ffordd y mae’n creu sgiliau anhepgor y byddai eu colli yn Llanelli yn ergyd drom iawn i’r gorllewin cyfan? Felly, mae’n bwysig ein bod wedi ymgynnull fel Cynulliad i drafod y mater yma. Ond mae hi yr un mor bwysig nad ydym yn troi’n siop siarad. O bryd i’w gilydd, mae’r trafodion y prynhawn yma wedi ymddangos mwy fel gwylnos dros y diwydiant dur yn hytrach na Senedd gyda thân yn ei bol ar gyfer ymladd dros gorff, enaid a gwaed economi Cymru.
 
Beth nad yw pobl yn ei ddeall yn y gorllewin yw sut yr oedd yn bosibl achub y banciau gyda dros £100 biliwn, ond nid yw’n bosibl achub y diwydiant ‘steel’, sy’n costio rhywbeth fel £1.5 biliwn. Nid yw pobl yn deall hynny. Er mwyn inni beidio â bod yn siop siarad, ac er mwyn gwneud a mynnu gweithredu, mae’n rhaid inni gael yr atebion i’r cwestiynau hynny. Rydych yn cwrdd, Brif Weinidog, â David Cameron yfory, rwy’n deall. A wnewch chi ddweud wrtho fod y Senedd hon yn disgwyl, o leiaf—o leiaf—i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol gyfateb ei chynnig â’r hyn yr ydych chi wedi’i gynnig fel Llywodraeth Cymru eisoes? Rydych wedi sôn heddiw bod £60 miliwn ar gael gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn golygu bod angen o leiaf £1 biliwn gan Lywodraeth San Steffan yfory, ar y ford, i ddangos yn glir eu bod nhw’n mynd i gefnogi ein diwydiant dur.
 
Os na welwn ni arlliw o arian David Cameron yfory, byddwn yn gwybod bod Llywodraeth y DU yn troi ei chefn ar ddur, yn troi ei chefn ar Gymru, ac yn troi ei chefn ar economi Cymru. Mae angen i ni weld yr £1 biliwn hwnnw gan David Cameron yfory. A fyddech chi cystal â rhoi’r neges honno iddo, Brif Weinidog? Mae'n drueni mai datganiad yw hwn, nid penderfyniad, ac na allwn benderfynu fel Cynulliad heddiw mai dyna farn unedig, unfrydol y Cynulliad hwn—bod yn rhaid i Lywodraeth y DU o leiaf gyfateb yr hyn y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi'i wneud.
 
Ond, gan droi at yr hyn yr ydych wedi ei wneud eisoes, neu heb ei wneud, onid ydych chi hefyd yn cytuno bod yn rhaid i chi, yn awr, wneud llawer iawn mwy? Rydych wedi sôn bod £60 miliwn ar gael, a £30 miliwn o hwnnw yn fenthyciad mewn gwirionedd. Mae hynny, fwy na thebyg, yn llai nag yr ydych chi wedi ei roi i Aston Martin. Nawr, nid ydym yn gwybod y ffigurau cywir. Yn sicr, mewn ffyrdd eraill, mae'n llai nag yr ydych wedi ei roi Aston Martin. Beth yr ydych chi’n mynd i'w wneud yn awr ar gyfer y diwydiant hollbwysig hwn? Mae angen i chi gynyddu faint o gymorth y gallwch ei roi, a chywilyddio Llywodraeth y DU i roi cymorth ychwanegol. Cefais fy siomi gan yr hyn a ddywedasoch heddiw am wladoli posibl. Nid oes neb yn disgwyl i Lywodraeth Cymru ddod yn berchennog hirdymor dur Cymru. Nid oes neb yn disgwyl hynny. Ond fe wnaethoch gymryd y maes awyr trosodd oherwydd ei fod yn methu. Fe wnaethoch gymryd y maes awyr trosodd er mwyn ei drosglwyddo i berchnogion gwell maes o law. Cymerodd Llywodraeth yr Alban weithfeydd dur yr Alban trosodd dros dro, am gyfnod byr o amser, er mwyn i Liberty Steel allu camu i mewn wedyn.
 
A fo ben bid bont. Os ydych chi eisiau bod yn Brif Weinidog Cymru, mae’n rhaid ichi ddangos arweiniad yn y mater yma. Mae’n rhaid ichi fod yn barod i roi o’r neilltu eich pryderon—bod yn garcus, bod yn ofalus—a bod yn bowld, bod yn falch dros Gymru, a bod yn barod, os oes rhaid, i godi cywilydd ar y Deyrnas Gyfunol drwy gamu i mewn i achub y diwydiant hwn.
 
Un cwestiwn sydd heb gael ei ateb hyd yma yw: beth oedd Llywodraeth Cymru yn ei wneud pan oedd yr uwchgynhadledd yn Mumbai? Mae wedi cael ei ofyn i chi sawl gwaith, ac rwyf eisiau ei ofyn eto: ble oeddech chi neu aelod o’ch Llywodraeth pan oedd y gynhadledd yn digwydd? Pam nad oeddech chi wedi dilyn Stephen Kinnock? A bod yn deg iddo fe, Aelod Seneddol mainc cefn, wedi mynd yno i ddadlau dros ei gymuned. Rwy’n parchu’n fawr yr hyn y mae wedi’i wneud. Pam nad oeddech chi wedi gwneud hynny? Rwy’n gwybod beth oeddech chi’n ei wneud y penwythnos cyn hynny; rwy’n gwybod ble’r oeddech chi. So, dywedwch wrth y Cynulliad hwn pam nad ydych chi wedi penderfynu mynd o’r lle’r oeddech chi’r penwythnos cynt yn syth i Mumbai. Beth yw’r rheswm dros hynny?
 
A’r cwestiwn olaf oll yw: beth ydych chi’n ei wneud nawr ynglŷn â’r tasglu a’r gwaith sgiliau yn yr ardal hyn? Mae’n rhaid newid y tasglu a chylch gwaith y tasglu. Nid ydych chi wedi dweud dim am hynny heddiw, er iddo gael ei ofyn sawl gwaith. A hyd yn oed os ydym ni’n llwyddo cael prynwr newydd, neu hyd yn oed os yw’r gwaith wedi’i wladoli, fe fydd angen sgiliau newydd, bydd angen i rai pobl adael swyddi a chael sgiliau newydd, a bydd rhai pobl angen sgiliau newydd yn y swyddi presennol. Nid yw £2 filiwn, rwy’n awgrymu, yn ddigon da ar gyfer hynny. A ydych chi’n edifar erbyn hyn eich bod chi wedi torri’r gyllideb sgiliau dair blynedd o’r bron, gan chwalu’r arian sydd ar gael ar gyfer ailhyfforddi oedolion? A fyddwch chi felly yn ailedrych ar y mater yma? Nid yw £2 filiwn yn ddigon. Mae’n rhaid cael mwy o arian ar gyfer sgiliau, nid jest yn Nhrostre a Phort Talbot a thu hwnt, ond ar gyfer yr economi yn gyffredinol. Mae’r amser wedi dod i weithredu. Rŷch chi mewn sefyllfa berffaith i weithredu, fel arweinydd y wlad sydd gyda ni am y tro. A wnewch chi ddangos mwy o dân dros y diwydiant yma, os gwelwch yn dda?
 
15:57
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, a gaf i atgoffa'r Aelod nad oes angen pregethu wrthyf i am Bort Talbot? Rwyf yn byw bron o fewn golwg ohono. Rwyf wedi byw ger y gwaith dur hwnnw am lawer, lawer—rhan helaeth o fy mywyd, mewn gwirionedd, a gwn pa mor bwysig yw'r diwydiant i Gymru ac, yn wir—[Torri ar draws.] Wel, mae'n ddrwg gennyf os nad ydych yn derbyn hynny, gan ei fod yn digwydd bod yn wir.
 
Nawr, o ran y materion y mae ef wedi eu codi, yr wyf wedi gweld ei blaid yn awgrymu y dylem sefydlu cwmni dur â rhanddaliad gan Lywodraeth Cymru ynddo am ryw gost anhysbys a rhwymedigaeth anhysbys. Nawr, rwyf i’n croesawu awgrymiadau; nid wyf i’n eu bychanu, ond mae materion rhwymedigaeth amlwg o ran beth fyddai cost ariannol hyn, o ble byddai'r arian yn dod, a byddai angen gwarant ddigyfyngiad ar unrhyw fath o gwmni dur i allu gweithredu, neu byddai'n masnachu tra ei fod yn fethdalwr a byddai'r cyfarwyddwyr yn atebol yn bersonol. Felly, dyna’r broblem: byddai’n rhaid cael gwarant ddigyfyngiad gan Lywodraeth Cymru. Nawr, yn amlwg, mae hynny'n peri pryder, ac nid yw'r arian yn bodoli. Nid yw'r arian yn bodoli. Rwyf wedi esbonio iddo faint o arian sydd yn ein holl gronfeydd wrth gefn. Mae'n gywir i ddweud bod angen i ni ystyried pa fath o becyn y gallwn ni ei gyflwyno i ychwanegu at yr hyn sydd gennym eisoes, ac fe wnawn hynny. Mae hynny’n rhan o'r trafodaethau y byddwn yn eu cael gyda Llywodraeth y DU ac unrhyw brynwr posibl.
 
Soniodd am y maes awyr. Roedd y maes awyr yn £52 miliwn. Mae'n llawer, llawer llai na'r math o rwymedigaeth yr ydym yn sôn amdano nawr. Ac, wrth gwrs, mae materion—[Torri ar draws.] Wel, wnes i ddim torri ar ei draws ef pan oedd ef yn siarad. Ac, wrth gwrs, mae materion o ran prisiau ynni a marchnad y byd, ac, wrth gwrs, materion o ran tariffau nad ydynt yn bodoli o ran y maes awyr. Felly, mae maint y rwymedigaeth, maint yr amlygiad, yn sylweddol llai nag y byddai ar gyfer y diwydiant dur.
 
O ran yr hyn a wnaeth yr Alban, nid oedd gan Lywodraeth yr Alban unrhyw rwymedigaeth o gwbl am yr hyn yr oedd yn rhaid iddi ei wneud. Cymerodd gydag un llaw a rhoddodd â'r llall. Dyna’r cyfan a wnaeth. Nid oedd unrhyw rwymedigaeth. Nid oedd unrhyw risg i Lywodraeth yr Alban yn hynny o beth. Gweithredodd fel cyfryngwr, i bob pwrpas, ar gyfer un prynwr ac un gwerthwr. Ac nid wyf yn credu ychwaith, mae’n rhaid i mi ddweud, ei bod yn gywir na ddylid gorfodi Llywodraeth y DU i gydnabod ei rhwymedigaethau a'i dyletswyddau i bobl Cymru. Byddai dweud bod hyn i gyd yn fater i Lywodraeth Cymru yn amlwg yn anghywir. Nid oedd yn dweud hynny, a bod yn deg, ond mae eraill yn ei blaid wedi dweud hynny o'r blaen. Mae'n ased strategol y DU; mae gweithfeydd yn Lloegr. Nid ydym ni yn cynnig, rwy'n siŵr, cymryd drosodd y gweithfeydd hynny yn Lloegr.
 
Soniodd am y £60 miliwn. Byddaf yn gwneud y pwynt yn gryf iawn, ar ei ran ef ac ar ran Aelodau eraill, bod angen i ni weld cynllun ac arian ar waith cyn gynted â phosibl gan Lywodraeth y DU.
 
Nawr, wrth gwrs, mae’n rhaid i ni weld beth y gallai natur unrhyw gynnig gan brynwr posibl fod, ond os nad oes digon o amser yn ôl amserlen Tata i brynwr ddod i’r amlwg, bydd angen i Lywodraeth y DU gynnal y diwydiant yn y cyfamser. Byddaf yn gwneud y pwynt hwnnw yn gwbl glir.
 
Mae'n sôn am Mumbai; ni wnaeth y ddirprwyaeth a aeth i Mumbai siarad â’r bwrdd yng nghyfarfod y bwrdd. Roeddem mewn cysylltiad cyson â Tata o ran gohebiaeth, ar lefel swyddogol a gweinidogol, felly nid oedd unrhyw amheuaeth nad oeddent yn gwybod ein barn neu nad oeddent yn gwybod pa gymorth oedd ar gael. Yna, wrth gwrs, gwelsom eu penderfyniad, a hwnnw oedd y tro cyntaf i ni fod yn ymwybodol eu bod yn bwriadu gwerthu.
 
O ran sgiliau, wel, mae sgiliau yn bwysig, ond o'u cymharu â materion fel costau ynni, o'u cymharu â materion fel y tariff, ac o'u cymharu â materion fel y farchnad ddur, dyna’r prif faterion y mae angen eu datrys. Bydd angen cymorth ar bwy bynnag a fydd yn cynnal y diwydiant dur o ran pensiynau, bydd angen cymorth o ran prisiau ynni, a bydd angen datrys y mater o dariffau. Heb weithredu yn y tri maes hynny, ni waeth beth yw'r model busnes sy’n cynnal y diwydiant dur, ni fydd yn llwyddo, yn sicr yn y tymor canolig. Felly, mae angen datrys y materion hynny. Oes, mae yna faterion y byddwn yn eu dwyn ymlaen. Rydym eisoes wedi crybwyll y pecyn yr ydym eisoes wedi ei roi ar y bwrdd; byddwn yn ystyried beth arall y bydd angen ei wneud, a byddwn yn trafod â Llywodraeth y DU yr hyn y bydd angen iddi ei wneud er mwyn achub ein diwydiant dur; neu yn hytrach, rydym eisoes wedi bod yn trafod hyn â Llywodraeth y DU, a byddwn yn parhau i wneud hynny.
 
16:01
Carl SargeantBywgraffiadY Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Hoffwn ddiolch i'r Prif Weinidog am ganiatáu i mi siarad yn y ddadl hon fel yr Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy hefyd. Brif Weinidog, daeth yr wythnos diwethaf â llawer o atgofion yn ôl i mi—36 o flynyddoedd i’r diwrnod pan ddisgynnodd cwmwl ar Alun a Glannau Dyfrdwy a Sir y Fflint, pan gafodd dur Shotton, o dan Corus bryd hynny, hysbysiad diswyddo. Cafodd chwe mil a hanner o bobl yn fy etholaeth i, rybuddion diswyddo mewn un diwrnod, a newidiodd hynny ffurf fy nghymuned ac mae'r creithiau yn parhau hyd heddiw.
 
Soniasoch yn gynharach, Brif Weinidog, fod hwn yn ddiwydiant strategol ar gyfer y DU, ac rydych yn hollol gywir. Mae hwn hefyd, Brif Weinidog, yn argyfwng economaidd cenedlaethol, yn fy marn i. Y ffaith yw, y tro diwethaf i hyn ddigwydd, pan ddaeth y diwydiant bancio dan y pwysau hwn, camodd y Llywodraeth i mewn. Rwy'n galw heddiw am i Lywodraeth y DU gamu i mewn hefyd. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr nad yw ein cymunedau yn gweld yr hyn a welsom ni 36 mlynedd yn ôl yn fy nghymuned i, a hefyd mewn cymunedau fel un Sandy Mewies ym Mrymbo, heb fod cymaint â hynny yn ôl yn Wrecsam.
 
Nawr, mae'r Prif Weinidog yn iawn o ran llwyddiant Port Talbot, ac mae'n rhaid i ni sefyll yma mewn undod â chydweithwyr ar hyd a lled Cymru o ran y busnes o wneud dur yn ein cymunedau. Dyma ein treftadaeth ddiwydiannol. Dyma'r pethau yr ydym yn dda am eu gwneud. Yn wir, Brif Weinidog, byddwch yn ymwybodol bod Port Talbot fel diwydiant gweithgynhyrchu trwm yn un o arweinwyr y byd o ran dur gwyrdd, a dylem wneud yn siŵr ein bod yn hyrwyddo hynny ar bob cyfle. Yn fy etholaeth i, yn Shotton, mae paneli o safon fyd-eang yn cael eu creu a thechnoleg a sgiliau o'r radd flaenaf yn cael eu cyflawni ar gyfer nifer o fusnesau ar hyd a lled Cymru ac Ewrop, a hir y pery hynny, gan weithio gyda fy nghydweithwyr yn undebau Unite a Chymuned, sydd mor bwysig, i gynrychioli yr union bobl yr ydym yn eu cefnogi.
 
Mae gennyf ddau gwestiwn, Brif Weinidog, y gallech fy helpu eu hateb. Yn gyntaf oll, yr ydych yn cydnabod, fel yr wyf innau, y mater o ddiweithdra torfol a'r ofn o hynny. Rwy'n gofyn i chi, pan fyddwch yn cyfarfod â Mr Cameron yfory, eich bod chi’n gofyn iddynt gynnal adolygiad, yn gyflym iawn, o effaith diweithdra. Y ffaith yw bod 6,500 o bobl ym Mhort Talbot, neu 900 o bobl yn Shotton neu yn rhywle arall, yng Nghasnewydd, ar draws ein cymunedau, yn dioddef effaith hirdymor, a'r ffaith yw y gallai amddiffyn y gweithlu yn awr fod yn rhatach, mewn gwirionedd, nag effeithiau hirdymor dinistrio cymunedau yn y tymor hwy. Mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn edrych ar les cymunedau ar gyfer y dyfodol.
 
Fy ail bwynt, Brif Weinidog, yw fy mod innau hefyd yn cydnabod eich bod yn cydnabod pwysigrwydd y gweithlu ar draws Cymru, ac ar draws y DU, ac rwyf am ofyn i chi barhau i arwain yn y modd yr ydych wedi ei wneud yn ystod yr wythnos ddiwethaf, a rhoi sicrwydd i fy nghymuned i, a'r holl rai eraill hefyd, y byddwch yn gwneud sylwadau ar ran aelodau fy nhîm yn Shotton a chydweithwyr ar draws y sector dur yma yng Nghymru.
 
Brif Weinidog, yr ydych wedi bod, yn ystod yr wythnos hon a chyn hynny, yn wladweinydd y gyfundrefn hon a'r sefydliad hwn wrth arwain y ffordd ar draws Cymru, ac rwy'n falch iawn o fod wedi bod yn rhan o hynny. A gaf i ddweud, mae hefyd yn bwysig, ac mae'n anodd iawn i mi a phobl fel Dai Rees a John Griffiths—pobl sy'n cynrychioli cymunedau ar hyd a lled Cymru—i fod yn gymaint o wladweinyddion? Rwyf ond yn meddwl yn ôl i ddyddiau y 1980au pan ddaeth Mrs Thatcher â dyddiau duon i fy nghymuned, ac i lawer yn y gymuned hon. Gadewch i ni obeithio nad yw hyn yn ymwneud â Mr Cameron yn gorffen y gwaith a ddechreuodd Thatcher. Rwyf i a llawer yn yr ystafell hon yn dibynnu arnoch chi, Brif Weinidog, i fynd â'r neges i San Steffan, ac nawr mae'n amser i Mr Cameron weithredu. Diolch. [Cymeradwyaeth.]
 
16:05
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod am ei sylwadau. Mae'n hollol iawn am y banciau, fel yr oedd Simon Thomas. Y gwir amdani yw bod y banciau wedi eu gwladoli; mae hwn yn ddiwydiant strategol, fel yr oedd ac y mae y banciau, ac felly mae'n rhaid i berchnogaeth gyhoeddus fod yn ddewis. Nid oes amheuaeth am hynny. Rwy'n cofio—. Nid oedd pob plaid yn gefnogol i gymryd y banciau drosodd fel y gwnaethpwyd, ond yr oedd yn bwysig cadw'r sector ariannol i fynd; mae'r un mor bwysig i gadw diwydiant strategol fel dur i fynd, oherwydd ei fod yn iawn wrth nodi bod y gost o ddiweithdra a'r gost i gymunedau yn sylweddol. Ac rydym yn gwybod, heb y swyddi hynny sy'n talu'n dda, byddwn yn gweld effaith—nid yn unig ym Mhort Talbot, neu yn Llanelli, neu yng Nghasnewydd, neu yn Shotton—ond yn fwy eang ar draws Cymru gyfan. Mae wedi gwneud y pwyntiau y mae wedi eu gwneud ar ran ei etholwyr, wrth gwrs, yn Shotton. Rwyf wedi clywed y Prif Weinidog yn yr hyn y mae wedi ei ddweud yn sôn ei fod yn dymuno gwneud yn siŵr bod dyfodol i ddur yng Nghymru ac ym Mhrydain. Rwyf wedi clywed yr addewidion a wnaed gan yr Ysgrifennydd busnes, ac yr wyf yn disgwyl iddo gyflawni'r addewidion hynny. Ac eto, yfory, byddaf yn gwneud y pwynt na allwn fforddio, yn y DU, colli ein diwydiant dur; ni allwn fod yn economi ddiwydiannol heb y gallu i wneud ein dur ein hunain. Byddwn yn chwarae ein rhan; mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd hithau hefyd; mae angen i ni bellach weld camau gweithredu dros y dyddiau nesaf.
 
16:07
Mark IsherwoodBywgraffiad
Pymtheng mlynedd ar hugain yn ôl, ymunodd y gymdeithas adeiladu yr oeddwn yn gweithio iddi yn flaenorol â chymdeithas adeiladu dur Shotton—Cymdeithas Adeiladu John Summers —gan ddechrau fy nghysylltiad hir fy hun â phobl wych y gymuned honno. Ac mae dros 800 o swyddi o hyd yn y gwaith dur yn Shotton. Ac ar ôl i Tata Steel Colors yn Shotton ddweud wrthyf yn gynnar y llynedd eu bod yn gwbl ddibynnol ar y gadwyn gyflenwi ar gyfer dur Prydeinig cynaliadwy, a'u bod wedi eu heffeithio yn uniongyrchol gan fewnforion is-safonol o fariau dur atgyfnerthu carbon oherwydd eu dibyniaeth ar borthiant o'r pen trwm yn ne Cymru, fel y'i disgrifiwyd ganddynt, ychwanegais fy nghefnogaeth ochr yn ochr ag Aelodau ar draws y Siambr ym mis Mawrth 2015 i'r galw am i Lywodraeth Cymru fabwysiadu siarter ar gyfer dur cynaliadwy, gan addo prynu bariau dur atgyfnerthu carbon ar gyfer concrit gan gyflenwyr sy'n cydymffurfio â'r fframwaith safonau ar gyfer cyrchu cyfrifol.
 
Ym mis Ionawr eleni, 10 mis yn ddiweddarach, gofynnais i'ch Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ba gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fabwysiadu'r siarter, neu a allai hi rannu gyda ni unrhyw rwystrau cyfreithiol neu eraill a allai atal mabwysiadu llawn ar lefel ddatganoledig. Ac fe atebodd:
 
roedd yna fater yr edrychodd Jane Hutt arno.... bydd yn rhaid i mi wirio pa reswm a roddwyd pam na allem ei wneud, oherwydd yr wyf yn cofio bod rhywbeth.
 
A allech chi ddweud wrthym beth oedd y rhywbeth hwnnw, Brif Weinidog, ac a oes cyfle o hyd i ailedrych ar hyn o fewn y cyd-destun bod y fframwaith cyfreithiol a'r fframwaith rhyngwladol yn berthnasol?
 
Mae fy ail bwynt a'r olaf yn ymwneud ag agwedd yr UE y mae cymaint o Aelodau wedi cyfeirio ati, oherwydd bod aelodaeth o'r UE yn golygu ein bod yn dibynnu ar y Comisiwn Ewropeaidd i gyflymu'r gwaith ar arferion masnachu annheg, a sicrhau effeithiolrwydd rheolau cymorth gwladwriaethol. Rwyf hefyd ar ddeall pan gyhoeddodd y Canghellor ei fod yn torri costau ar gyfer diwydiannau ynni-ddwys, gan gydnabod bod dur y DU wedi dweud bod y gost o ardollau gwyrdd oddeutu £4 miliwn y mis, gan olygu bod yr iawndal blynyddol yn agos i £50 miliwn y flwyddyn ar draws y sector, bod yn rhaid i hynny hefyd gael ei gymeradwyo ym Mrwsel yn gyntaf o dan reolau cymorth gwladwriaethol. Felly, ar ôl y trafodaethau ynglŷn ag argyfwng y diwydiant dur fis Tachwedd diwethaf ar lefel yr UE, yr oedd Ysgrifennydd busnes y DU wedi galw amdanynt, a arweiniodd at ymrwymiadau i gyflymu gwaith y Comisiwn Ewropeaidd yn y meysydd hyn, ac ar ôl i Lywodraeth y DU gyflwyno cwyn gwrth-ddympio ffurfiol gyda'r Comisiwn Ewropeaidd, gofynnais eto i'r Gweinidog ym mis Ionawr ba gyfathrebu uniongyrchol a fu rhwng Llywodraeth Cymru a'r Comisiwn Ewropeaidd ynghylch amddiffyn cynhyrchwyr dur rhag dympio dur rhad, ac atebodd hi:
 
'Rwy'n credu bod angen i ni ymdrechu'n galetach drwy ddefnyddio ein swyddfa ym Mrwsel, ac ati, o fewn Ewrop, i ddechrau cael rhagor ... o drafodaethau allan yna.
 
Wel, rydych chi wedi cyfeirio sawl gwaith at ohebiaeth gydag Ewrop, ond pa drafodaethau uniongyrchol, naill ai'n uniongyrchol neu drwy'r swyddfa ym Mrwsel, sydd wedi digwydd cyn mis Ionawr ac ers i'r Gweinidog fy ateb i ar y sail honno ym mis Ionawr? Diolch.
 
16:10
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, o ran y siarter, mae materion, wrth gwrs, a fydd yn berthnasol i gymorth gwladwriaethol, ond mae ffyrdd o amgylch hynny, fel y gŵyr yr Aelodau. Yr hyn na ellir ei wneud yw datgan yn blaen mai dim ond dur o Gymru a gaiff ei ddefnyddio, ond nid dyna fyddai Aelodau yn disgwyl i siarter o'r fath ei wneud, neu y byddent yn disgwyl i ni ei wneud yn hytrach. Felly, mae'n bwysig, wrth gwrs, i ni archwilio pob ffordd o sicrhau, fel yr ydym wedi bod yn ei wneud, bod dur o Gymru yn cael ei ddefnyddio. Ond, fel yr wyf wedi ei ddweud, mae'r brif farchnad y tu allan i Gymru—mae yn y DU ac, yn wir, yn Ewrop. Mae pobl yn siarad am yr UE, mae'r math o dariffau a fyddai'n cael eu gosod ar ddur y DU pe na byddem yn aelodau o'r UE yn codi ofn. Byddem yn colli'r farchnad allforion dur, ac mae'n farchnad allforion sylweddol ar gyfer Port Talbot. Felly, mae'n rhaid i ni fod yn glir iawn, iawn am hynny hefyd.
 
O ran y sefyllfa yn Ewrop, rydym wedi bod yn gohebu â'r Comisiwn gan wneud y pwynt ynghylch tariffau, ond gan y DU y mae'r sedd wrth y bwrdd, ac nid yw'r DU— mae'n rhaid i mi ddweud; rwyf wedi ei ddweud o'r blaen—wedi bod yn ddigon uchel eu cloch. Yn wir, maen nhw wedi gwrthwynebu gosod lefel deg o dariffau ar gyfer dur Prydain. Rwyf yn gobeithio bod hynny wedi newid erbyn hyn o ganlyniad i'r sefyllfa yr ydym yn anffodus yn ei gweld. Byddaf yn gwneud y pwynt hwn unwaith eto i'r Prif Weinidog yfory oherwydd ei bod yn bwysig nad ydym yn eistedd yno a chwarae gan ddilyn rhyw gyfres hunanosodedig o reolau, ein bod yn deall y byd fel ag y mae, ac mae hynny'n golygu amddiffyn ein diwydiant dur.
 
16:11
Mick AntoniwBywgraffiad
Brif Weinidog, nid oes unrhyw etholaeth yng Nghymru nad yw'r hyn sy'n digwydd yn y diwydiant dur yn effeithio arni. Cyfarfûm yr wythnos diwethaf ag etholwyr i mi sy'n gweithio yng ngwaith dur Port Talbot a'r rhai sydd hefyd yn gweithio mewn diwydiannau cysylltiedig. Mae gan rai ohonynt deuluoedd ifanc, bydd gan rai forgeisi, mae ganddynt gartrefi ac mae'r pryder am eu dyfodol a'u lles yn achosi canlyniadau sylweddol. Felly, mae dau bwynt cryno yr hoffwn eu gofyn. Mae'r un cyntaf, a godwyd, unwaith eto, gan un o fy etholwyr ac a oedd yn fater a godwyd yn y pwyllgor busnes pan dderbyniwyd tystiolaeth, yn ymwneud â'r Weinyddiaeth Amddiffyn ac rwyf yn meddwl bod y diwydiannau dur wedi dweud y byddai'n dda pe byddai'r Weinyddiaeth Amddiffyn wrth y bwrdd fel un o'r caffaelwyr dur mwyaf—yn prynu dur Sweden yn hytrach na dur y DU. Byddai'n dda pe byddent o leiaf yno wrth y bwrdd i drafod dyfodol y diwydiant dur, ac rwyf am ofyn i chi a yw hynny'n fater a fydd yn cael ei godi gyda'r Prif Weinidog.
 
Ond a gaf i godi, yn ogystal, bwynt arall, a hwnnw yn ymwneud â'r mater o berchnogaeth gyhoeddus? A gaf i'n gyntaf eich llongyfarch chi a Gweinidog yr economi, oherwydd ymddengys yn glir bod yr effaith yr ydych chi wedi ei chael mewn gwirionedd wedi symud Llywodraeth y DU o sefyllfa lle'r oedd yn dweud, 'Wel, fe wnawn ein gorau. Byddwn yn gwneud yr hyn a allwn, byddwn yn eich helpu orau y gallwn, ac ati, ond ni fyddwn yn gwladoli ', i sefyllfa o, 'Wel, nid ydym yn hoffi gwladoli, ond rydym yn barod i'w ystyried.' Mae hynny'n symudiad sylweddol. A gaf i ddweud, gan fod Llywodraeth y DU bellach yn derbyn y posibilrwydd o’r lefel honno o ymyrraeth gan y wladwriaeth, un peth y gellid ei wneud a fyddai'n tawelu ofnau a phryderon pawb sy'n gweithio yn y diwydiant a busnesau cysylltiedig sydd â morgeisi, teuluoedd a phlant i feddwl amdanynt a phryder am eu dyfodol, byddai cael y Llywodraeth y DU yn dweud, ‘Byddwn yn gwneud ein gorau, byddwn yn gwneud popeth y gallwn i ddod o hyd i brynwr neu beth bynnag ar gyfer y diwydiant dur, ond yn y pen draw, os bydd popeth arall yn methu, byddwn yn camu i mewn a bydd y diwydiant hwn yn dod i berchnogaeth gyhoeddus’. Byddai hynny’n rhoi sicrwydd o ddyfodol iddynt. Byddai hefyd yn anfon neges ryngwladol aruthrol bod gennym Lywodraeth y DU sy'n gwbl ymrwymedig i ddiogelu dur, a pha well ffordd o’i farchnata mewn gwirionedd ac i werthu'r diwydiant os mai dyna yw bwriad Llywodraeth y DU? [Aelodau'r Cynulliad: ‘Clywch, clywch.’]
 
16:14
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
A gaf i ddiolch i fy nghydweithiwr yr Aelod dros Bontypridd am ei sylwadau? Yn gyntaf, o ran y Weinyddiaeth Amddiffyn, mae e'n iawn: un o'r pryderon a godwyd, yn dilyn y cyhoeddiad, oedd na fyddai'r DU yn gallu cynhyrchu ei harfau ei hun heb gyrchu dur o dramor ac fel pŵer milwrol mawr yn y byd o hyd, mae bod heb y gallu mewn gwirionedd i arfogi eich lluoedd arfog heb boeni am o ble mae'r deunydd crai yn mynd i ddod yn fater difrifol. Mae'n iawn i nodi bod y Weinyddiaeth Amddiffyn yn gaffaelwr mawr, ac mae hynny'n rhywbeth, yn fy marn i, sy'n werth ei drafod gyda Llywodraeth y DU.
 
O ran perchnogaeth gyhoeddus, mae'r sefyllfa yn ddifrifol. Rwyf wedi gweld Llywodraeth y DU yn symud o, ‘Dim gwladoli, ond mae popeth ar y bwrdd beth bynnag’, i ystyried rhai cynigion eithaf radical, o bosibl. O safbwynt Llywodraeth Cymru, os na ellir canfod prynwr addas o fewn yr amserlen fer a gynigiwyd, yna cyfrifoldeb y Llywodraeth—Llywodraeth y DU yn bennaf— yw cymryd drosodd y gwaith o redeg y diwydiant dur. Mewn ymateb i'r cwestiwn, ‘Am ba hyd y dylid gwneud hynny?’, fy ateb yw: ‘Cyhyd ag y mae angen gwneud’, oherwydd ein bod ni eisiau gwneud yn siŵr bod y diwydiant dur yn parhau, ei fod yn cyrraedd pwynt lle mae'n broffidiol eto, ac y gellir cadw'r swyddi hynny. Fel y mae Aelodau eraill wedi sôn, digwyddodd hyn gyda'r banciau. Ni roddwyd cyfyngiad amser ar berchenogaeth gyhoeddus o'r banciau; mae'r un peth yn berthnasol ar gyfer dur.
 
16:16
Lindsay WhittleBywgraffiad
Nid wyf yn dda iawn, felly maddeuwch y llais. Roedd gennyf araith hyfryd wedi ei pharatoi, ond rydym wedi dweud yr holl 'wwhs' ac 'aahs' yn yr holl fannau cywir erbyn hyn ac rydym wedi clywed y cyfan o'r blaen. Mae'n wych, rwy'n siŵr, ond nid dyna mae'r gweithwyr dur ei angen mewn gwirionedd. Yr hyn y maent ei eisiau yw gweithredu. Wna i fyth anghofio, yn 1981, y saith mis a dreuliais yn ddi-waith. Dyna gyfnod gwaethaf fy mywyd, gallaf eich sicrhau. Pe dylai rhywun gwrdd â David Cameron yfory efallai mai pobl fel fi ddylai wneud hynny, i ddweud wrtho sut beth mewn gwirionedd yw ymlafnio ar incwm isel neu, mewn gwirionedd, dim incwm o gwbl. Mae'n anodd iawn.
 
Gwn eich bod eisiau cadw'r ddadl yn fyr, felly af yn syth at fy nghwestiynau. Brif Weinidog, beth fydd yn digwydd i weithrediadau coil dur yn Llanwern? Gan fod rhai agweddau ar y cyfleusterau yno wedi eu rhoi o'r neilltu ar hyn o bryd, a allwch chi gadarnhau y byddai cau neu roi'r safle o'r neilltu ym Mhort Talbot—Duw a'n gwaredo—yn golygu diwedd realistig i weld unrhyw weithrediadau yn ailgychwyn yn Llanwern? Pa effeithiau yr ydych wedi'u cael fel Llywodraeth ynghylch colli swyddi mewn sectorau nad ydynt yn gysylltiedig â dur oherwydd yr effaith ehangach ar gymunedau? A ydym ni'n cynghori pobl i arallgyfeirio nawr? Sut y byddwn ni'n ailsgilio unrhyw weithlu? Yr ydym eisoes wedi clywed—ni allaf gofio pwy ddywedodd hynny—bod 750 o swyddi wedi mynd beth bynnag; felly, mae angen i ni ailaddysgu y bobl hynny. A ydym ni'n cysylltu â phob sefydliad addysgol, ac a ydynt yn cael eu cynnwys yn hyn?
 
A fyddech chi'n cytuno, Brif Weinidog, ers i Lafur gael ei hethol ar addewid i sefyll dros Gymru, a gan fod bodolaeth gyfan y Blaid Lafur yn seiliedig ar eich ymdrechion ymddangosiadol i amddiffyn pobl sy'n gweithio rhag eithafion economeg yr adain dde, mai nawr yn sicr yw'r amser i chi mewn gwirionedd droi gair yn weithred? O gofio'r dinistr economaidd llwyr bron a ddigwyddodd pan gollwyd diwydiant strategol mawr y tro diwethaf yr oedd y Torïaid mewn grym, a ydych chi'n cytuno, na allwn y tro hwn, fforddio gadael i hynny ddigwydd, a bod yn rhaid i ni ddysgu oddi wrth gamgymeriadau'r gorffennol?
 
Yn olaf, Brif Weinidog, a fyddwch chi'n ddigon dewr i ofyn i David Cameron i roi'r gorau—os gwnewch chi faddau'r gair mwys—boddio'r Tsieineaid? Rydym ni i gyd yn gwybod ei fod eisiau iddynt adeiladu ei orsafoedd ynni. Mae'n rhaid i chi ddweud wrtho bod angen iddo weithredu. Rydym eisiau gweld gweithredu; fel arall byddwn yn gweithredu ein hunain.
 
Mae Llafur wedi treulio eich holl fodolaeth bron a fy mywyd cyfan i yn addo sefyll dros bobl sy'n gweithio. Wel, mae'n amser i chi gyflawni yr addewidion hynny. Rydych chi'n blaid fwy na fy mhlaid i, ond hei, byddwn yn ymuno â chi. Byddwn yn ymuno â chi; a dylai pob un ohonom sefyll dros y diwydiant a gwaith caled y bobl y gwnaethom addo eu cynrychioli wrth gymryd y llw, a allwch chi gredu'r peth, bum mlynedd yn ôl. Felly, gadewch i ni i gyd ddod ynghyd i achub y diwydiant hwn. Os bydd y naill Lywodraeth neu'r llall—Llundain neu Gaerdydd—yn methu nawr, wel, yn union fel nad wyf i erioed wedi anghofio fy nghyfnod o ddiweithdra, ni fydd pobl Cymru fyth yn anghofio chwaith. Diolch.
 
16:19
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Yr un peth na chaiff ddigwydd yw bod Port Talbot a gweithfeydd eraill yn cael eu haberthu er mwyn gweld Hinkley yn cael ei adeiladu drwy ei fodel ariannol bresennol. [Aelodau'r Cynulliad: 'Clywch, clywch.'] Mae hynny'n fy mhoeni. Nid wyf yn treulio fy amser yn gweld bai ar Tsieina. Mae Tsieina yn bartner masnachu pwysig, ond mae'n sicr y bydd amheuon bod yr angen i gael cyllid o Tsieina i adeiladu Hinkley wedi bod yn ffactor wrth wrthwynebu'r tariffau. Nawr, byddaf yn cyflwyno’r safbwynt hwn i'r Prif Weinidog yfory. Ni all hynny fod yn wir mwyach; mae'r Tsieineaid wedi gosod eu tariffau eu hunain. Felly, ni all Tsieina gwyno os bydd tariffau yn cael eu cynyddu ar lefel yr UE. Ni allwch adeiladu Hinkley ac aberthu rhannau eraill o'n diwydiant er mwyn gwneud hynny.
 
O ran coiliau dur, mae’n creu ansicrwydd, oherwydd gwyddom—ac mae Shotton eisoes wedi cael ei grybwyll—bod Shotton yn dibynnu ar Bort Talbot i gael ei gyflenwi. Er bod Shotton yn waith sy’n gwneud elw, nid oes ganddo unrhyw stoc i’w gyflenwi heb fod Port Talbot yno, yn sicr yn y tymor byr, a dyna pam, wrth gwrs, y mae’r holl weithfeydd mor gydgysylltiedig â’i gilydd fel eu bod yn dod fel pecyn, nid fel gweithfeydd unigol.
 
Nid ydym ar hyn o bryd yn bwriadu rhoi mesurau ar waith i ymdrin â chau gweithfeydd, oherwydd nid ein nod yw gweld hynny; rydym yn dymuno dod o hyd i brynwr, ac i'r Llywodraeth gymryd y gwaith dur drosodd os na ellir cael prynwr yn yr amserlen sydd wedi'i phennu. Fel y soniais yn gynharach, mae 1.22 o swyddi ar gyfer pob swydd sy'n cael ei darparu yn y diwydiant dur ei hun. Yr wyf yn cydnabod yr angerdd y daeth yr Aelod gydag ef i'r Siambr. Mae ganddo ef a minnau brofiadau o'r 1980au; roedd yn brofiad a ddaeth â mi i fy mhlaid ac i ble yr wyf erbyn hyn, gweld yr hyn a ddigwyddodd i'r diwydiant glo, ond mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr nad yw'r un peth yn digwydd i’r diwydiant dur. Rydym wedi clywed y synau cywir gan Lywodraeth y DU nawr, ond mae angen i ni weld rhywfaint o weithredu bellach.
 
16:21
Alun DaviesBywgraffiad
A gaf roi datganiad ar y cofnod, sef bod fy mrawd yn weithiwr dur?
 
Rwy'n credu y bydd llawer ohonom ar draws y Siambr yn croesawu'r datganiad sydd wedi ei wneud gan y Prif Weinidog y prynhawn yma, ond rydym hefyd yn croesawu'r dull gweithredu y mae Llywodraeth Cymru wedi'i arfer dros yr wythnosau a’r misoedd diwethaf, drwy chwarae rhan weithredol a rhagweithiol, gan geisio ymyrryd er mwyn sicrhau bod gan ddur y dyfodol yr ydym i gyd yn dymuno ei weld yng Nghymru. Gofynnwyd i chi, Brif Weinidog, i atgoffa David Cameron am nifer o bethau yfory, ond efallai y gallech ei atgoffa o bryd yr oedd y Ceidwadwyr y farn y byddent yn ymyrryd cyn brecwast, yn ymyrryd cyn cinio, ac yn ymyrryd cyn swper i arbed diwydiant Prydain. Gweinidog Ceidwadol oedd hwnnw yn siarad yn ei gynhadledd. Efallai bod angen atgoffa Gweinidogion Ceidwadol heddiw, y mae angen eu llusgo o flaen camerâu teledu i wneud dim ond y datganiadau mwyaf gwenieithus, eu bod, nid yn unig yn siomi gweithwyr dur Cymru, ond eu bod yn anghofio eu hanes eu hunain wrth wneud hynny.
 
A gaf i hefyd ddweud hyn wrthych chi, Brif Weinidog? Mae dur yn ddiwydiant sy’n symbolaidd o Gymru, ac unman yn fwy felly na lleoedd fel Glyn Ebwy, lle'r ydym wedi ein diffinio a'n disgrifio fel cymuned ac fel cenedl gan hanes dur ac fel lleoliad dur, ond hefyd sefyllfa dur yn nyfodol ein cymunedau.  Mae Cylchffordd Cymru, yn fy etholaeth fy hun, yn dymuno defnyddio dur—dur Cymru, Dur Prydain—er mwyn adeiladu’r cyfleuster newydd hwnnw, ond mae angen hefyd i ddur fod yn rhan o bolisi diwydiannol a pholisi economaidd sy'n mynd i sbarduno gweithgynhyrchu yng Nghymru.
 
Yr wyf yn gobeithio, Brif Weinidog, wrth ymateb i hyn, y byddwch yn gallu edrych y tu hwnt i'r argyfwng yr ydym yn ei brofi heddiw, at bolisi diwydiannol lle y mae dur wrth wraidd y polisi hwnnw, a dur yn sylfaen i’r polisi hwnnw, yn gallu sbarduno gweithgynhyrchu yng Nghymru, yn gallu sbarduno twf economaidd cynaliadwy mewn cymunedau fel Blaenau Gwent, a hefyd sicrhau bod dur yn parhau i fod wrth wraidd yr hyn a welwn fel economi Cymru yn y dyfodol. Ac wrth wneud hynny, rwy’n cydnabod yr hyn yr ydych wedi'i ddweud am yr angen i sicrhau chwarae teg i Tata ac i Bort Talbot a chyfleusterau eraill yr effeithir arnynt. Mae'n bwysig ein bod yn sicrhau bod Gweinidogion y DU, pan fyddant yn mynychu Cyngor y Gweinidogion, hefyd yn cael eu cynrychioli gan un o Weinidogion Cymru. Oherwydd rwy’n clywed yr hyn y mae Gweinidogion y DU yn ei ddweud eu bod yn dadlau o blaid pan fyddant yn mynd i Frwsel, i gyfarfodydd Ewropeaidd, ond yr wyf yn rhannu'r pryderon a godwyd gan David Rees. Nid wyf yn siŵr bod gennym ffydd ynddynt, a dweud y gwir. Nid wyf yn siŵr bod gennyf ffydd ynddynt. Mae gennym yr hawl, trwy’r memorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda'r Swyddfa Dramor, i gael ein cynrychioli yng Nghyngor y Gweinidogion, ac mae'n bwysig bod Gweinidogion Cymru yn cynrychioli diwydiant dur Cymru ac nad ydym ond yn dibynnu ar yr addewidion yr ydym yn eu clywed gan wleidyddion Ceidwadol, yr wyf wedi eu gweld ddydd ar ôl dydd yn diogelu buddiannau eu ffrindiau yn niwydiant ariannol y Ddinas yn Llundain, ond nid ydynt yn codi pin na bys na llais i siarad o blaid gweithgynhyrchu, i siarad o blaid dur, ac i siarad o blaid buddiannau economi Cymru. Felly, gadewch i ni sicrhau, pryd bynnag y bydd dadl am ddur neu drafodaeth am ddur mewn unrhyw gyfarfod Cyngor y Gweinidogion yn y dyfodol, bod un o Weinidogion Cymru yno, yn sefyll ar ei draed ac yn siarad ar ran gweithwyr dur yng Nghymru.
 
16:24
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
A gaf i ddiolch i'r Aelod? Mae gan ei etholaeth, wrth gwrs, draddodiad—yn drist erbyn hyn— hanesyddol o wneud dur. Rydym yn gwybod bod dur yn sicr yn rhan o'n hanes, ond nid yw'n perthyn yn ein gorffennol—dyna'r pwynt. Mae gan ddur ddyfodol; rwyf wedi dweud hyn lawer gwaith o'r blaen. Nid yw hwn yn ddiwydiant sy'n marw sy'n sicr o ddiflannu’n araf a cholli arian am byth—rhywbeth sydd, rywsut, yn perthyn i bennod yn ein hanes ac nad yw'n perthyn i'n dyfodol. Mae yn perthyn i'n dyfodol.
 
Rydym yn gwybod mai sefyllfa dros dro sydd gennym ar hyn o bryd yn. Rydym yn gwybod y gall wella yn y dyfodol, yn y dwylo iawn a chyda'r gefnogaeth gywir. Fel yr wyf wedi dweud sawl gwaith y prynhawn yma, mae meddwl amdanom ni heb y gallu i wneud dur yn golygu dychmygu economi nad yw mwyach yn economi weithgynhyrchu neu’n economi ddiwydiannol wirioneddol. Mae e’n iawn i ddweud bod angen i ni edrych y tu hwnt i'r sefyllfa bresennol. Mae angen i ni oroesi'r sefyllfa bresennol—mae cymaint â hynny’n wir—ond hefyd yn bendant edrych tuag at amser pan fydd dur—y pen trwm o gynhyrchu dur—yn broffidiol eto.
 
Mae e'n iawn i dynnu sylw at y sefyllfa o ran Cyngor y Gweinidogion. Rwy’n gobeithio erbyn hyn, fodd bynnag, bod Llywodraeth y DU wir yn deall bod angen iddi bwyso i gael tariff priodol ar waith, yn hytrach na'r hyn sydd gennym ar hyn o bryd. Bydd hyn yn cael cefnogaeth, rwy'n siwr; rwy'n gwybod y bydd yn cael cefnogaeth gan wledydd eraill ar gyfer cynnig o'r fath, ac mae angen i hynny fod ar waith gennym, ynghyd â'r mesurau eraill, er mwyn gwneud yn siŵr y gall ein diwydiant dur oroesi’r argyfwng presennol a ffynnu yn y dyfodol.
 
16:26
Mohammad AsgharBywgraffiad
Diolch yn fawr iawn, Brif Weinidog, am dreulio cymaint o amser ac am roi datganiad mor dda i ni, ond rwy’n anghytuno â llinell olaf y dudalen gyntaf lle yr ydych yn dweud bod
 
Llywodraeth y DU wedi bod yn dal yr Undeb Ewropeaidd yn ôl.
 
Nid wyf yn cytuno â hynny yn llwyr.
 
Rwyf yn dod o Gasnewydd. Yn 1970, pan gerddais i mewn i Gasnewydd yn ddyn ifanc iawn, fel myfyriwr, roedd gan felin ddur Llanwern mwy na 14,000 o weithwyr llawn amser. Roedd yn ddinas brysur. Nawr, hyd heddiw, gan fod Llanwern wedi mynd, nid yw’r ddinas wedi gwella'n llwyr. Felly, mae'n rhaid i chi ddysgu gwersi o golli gwaith dur o’r maint hwnnw. Mae Port Talbot yn union yr un fath. Ni ddylem fyth, ar unrhyw gyfrif, golli ein diwydiant dur yng Nghymru. Nid Cymru yw dur—dur yw Cymru. Felly, Brif Weinidog, un neu ddau o fy mhwyntiau yw—. Fe brynasoch chi Faes Awyr Caerdydd. Gwnaethoch ofyn i’r cynghorydd yno i'ch cynghori ynghylch sut y mae Maes Awyr Caerdydd yn rhedeg; mae'r cynghorydd gennych chi yno. Rydych chi hefyd yn gwybod pan feddiannwyd dur Port Talbot gan Tata, y rhoddwyd £800 miliwn o arian cyhoeddus iddynt. Rwy'n cytuno bod Tata yn un o'r cwmnïau mwyaf cyfrifol yn y byd, ond yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, a oedd gennych chi unrhyw gynghorwyr yno i'ch cynghori ar sut y maent yn masnachu o fewn y cwmni hwnnw? Beth oedd y sefyllfa o ran dur yn y cwmni hwnnw? Beth am fewnforio, allforio a datblygiad yn y cwmni? Roedd y gweithlu medrus yn gadael ac mae rhai ohonynt wedi bod yn gadael, dros y blynyddoedd diwethaf, fe wyddom—1,700 o swyddi—ac ni chymerwyd unrhyw sylw. Nid chi sydd ar fai, na Llundain nac unrhyw un arall. Rydym yn gwybod bod y Tsieineaid yno, ond y ffaith yw—.
 
Dywedasoch hefyd yn eich araith gychwynnol mai dim ond rhywbeth byrdymor fydd hyn. Felly, mae’n rhaid inni fod yn barod ar gyfer problemau tymor byr. Rydych yn rhoi eich arian da ar gyfer y tymor byr i ddiogelu ein gweithwyr yno, a dylem eu diogelu; does dim rheswm i beidio, oherwydd Port Talbot hefyd yw ein hanadl einioes ar gyfer dur nid dim ond ar gyfer Cymru, ond ar gyfer y Deyrnas Unedig a'r byd. Pan nad oedd y byd hyd yn oed yn gwneud hoelion, roeddem ni mewn gwirionedd yn cynhyrchu chwyldro diwydiannol yn y byd trwy Gymru. Mae'n cyflawni trosedd os ydym, mewn gwirionedd, yn ceisio cau hyn i lawr. Felly, byddwn yn argymell o’r ochr hon—rwyf yn siŵr bod y Prif Weinidog a Sajid Javid o’r un farn hefyd—peidio â difetha ein dur. Bydd ein dur yn parhau i fyw, rwyf yn eich sicrhau.
 
Fel y dywedais, nid Cymru yw dur—dur yw Cymru. Felly, fy mhwynt i yma yw: Brif Weinidog, pan aeth Mr Kinnock i Bombay, roeddwn i’n gwylio’r teledu—teledu byw—ar sianel Indiaidd. Ymhell cyn y cyfarfod, roeddent yn dweud nad oedd unrhyw obaith am unrhyw beth. A oedd unrhyw reswm da am hynny? Pam aethon nhw yno pan eu bod yn gwybod yn iawn am hyn—nad oedd unrhyw obaith o lwyddo? Felly, pam nad oedd ein Llywodraeth ni—rwyf yn golygu y Siambr hon—erioed wedi cynnig unrhyw beth iddynt, a dweud, 'Edrychwch, dyma gynnig i chi; os gwelwch yn dda, arhoswch a masnachwch, ac mae angen i ni ddod o hyd i'r prynwr cywir ac wedyn gallwn ymdrin â chi'—? Faint o arian? Rydych chi ond yn dweud £30 miliwn. Mae gennych chi £350 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn. Defnyddiwch cyn gymaint ag sydd gennych yn y sefydliad hwn. Gwnewch yn siŵr bod ein dur yn goroesi gyda'r math hwnnw o gyllid—rhyw fath o gyllid i’w gynnal. Yr unig bwynt y gallwn ni siarad amdano yw faint o arian y byddwch yn ei neilltuo ar gyfer y prynwr newydd neu gyfanbrynu gan reolwyr. Yn bersonol, credaf mai’r llwybr gorau yw, pryd bynnag yr ydych yn gwerthu'r cwmni hwn i gwmni arall, gwnewch yn siŵr bod ein Llywodraeth yn rhan o hynny. Diolch.
 
16:30
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau? Byddaf yn sicrhau bod y Prif Weinidog yn gwybod ei fod yn ystyried y byddai cau’r diwydiant i lawr yn cynrychioli trosedd. Soniodd am y maes awyr; a oedd, wrth gwrs, yn rhywbeth yr oedd yn ei gefnogi—am gyfnod byr o amser, hyd nes y dywedwyd wrthym mai rhai eironig oedd ei sylwadau o blaid—ond mae’r maes awyr ar raddfa sy’n llai o lawer. Mae'n raddfa llawer llai na'r hyn yr ydym yn sôn amdano o ran y diwydiant dur.
 
Mae Tata, a bod yn deg, wedi buddsoddi ym Mhort Talbot. Nid yw hwn yn waith sydd wedi ei amddifadu o fuddsoddiad dros y blynyddoedd diwethaf. Mae wedi rhoi buddsoddiad gwerth dros £400 miliwn yn y gwaith ei hun. Mae'n iawn i ddweud, ar yr adeg hon y llynedd, nad oedd y rhagolygon cyn waethed o bell ffordd ag y maent erbyn hyn. Ond mae marchnad ddur y byd wedi dirywio. Nid yw hynny'n golygu, wrth gwrs, y bydd yn aros felly am byth. Fel y dywedais o'r blaen, cynorthwyo'r diwydiant i fynd drwy’r argyfwng presennol—oherwydd dyna yw hyn—dyna yw'r nod.
 
Gofynnodd a wnaethom ni gynnig. Fe wnaethom roi cynnig ar y bwrdd. Roedd Tata yn ymwybodol y gallem roi pecyn gwerth £60 miliwn ar y bwrdd. Ar yr adeg honno, nid oedd unrhyw beth gan Lywodraeth y DU; a dyna oedd y broblem. Gwyddem na fyddai'n ddigon ynddo'i hun, ond ni ddaeth Llywodraeth y DU ymlaen gan gyflwyno pecyn cyfatebol, ni ymdriniwyd â thariffau, ni ymdriniwyd â chostau ynni. Rwyf yn credu bod rhai clychau larwm wedi bod yn canu yn Whitehall yn y dyddiau diwethaf hyn, a gobeithiaf fod hynny’n golygu y gallwn gyrraedd y sefyllfa lle mae angen i ni fod.
 
Rwyf yn synnu ei fod yn awgrymu y dylem wario pob ceiniog o'n cronfeydd nawr. Yn bendant, ni fyddwn i’n argymell hynny. Mae hynny'n ein gadael gyda dim byd o gwbl i ymdrin ag unrhyw fath o argyfwng yn ystod y flwyddyn. Nid wyf yn credu bod unrhyw sefydliad ariannol neu sefydliad cyhoeddus yn unrhyw le a fyddai'n gweithredu heb unrhyw gronfeydd wrth gefn o gwbl, yn enwedig pan nad oes ganddo unrhyw fodd o godi neu fenthyg arian. Felly, yn amlwg, nid yw hynny, yn sicr, yn ddoeth ar gyfer y dyfodol. Wedi dweud hynny, rydym yn deall y gallai fod galw ar gyllid cyhoeddus cyn belled ag y mae Llywodraeth Cymru yn y cwestiwn yn y dyfodol. Rydym yn ymwybodol o hynny. Ond rydym hefyd yn ymwybodol—ac mae Simon Thomas yn gwneud y pwynt ar fy rhan—bod cyfrifoldeb ar Lywodraeth y DU, sydd a mwy o adnoddau, i helpu i sicrhau bod y diwydiant dur yn parhau yng Nghymru.
 
16:32
Mike HedgesBywgraffiad
Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad a’r atebion a roddwyd ganddo hyd yma i nifer fawr o gwestiynau? Siaradaf fel rhywun a oedd yn arfer gweithio yng Ngweithfeydd Dur Orb Electrical ac yna ym Mhort Talbot, ac a adawodd Port Talbot yn ystod cyfnod o ddiswyddo yn yr 1980au. Mae gennyf lawer o ffrindiau a theulu o hyd sy'n gweithio yn Nhrostre a Phort Talbot, a chredaf na ddylid anghofio bod Trostre a Phort Talbot yn cymryd pobl o ardal eang iawn, sy'n cynnwys rhan fawr o Abertawe.
 
Mae’r problemau sy’n ymwneud â dur yn niferus ac yn amrywiol. Mae gennym arian cyfred sy’n rhy gryf, mae gennym economi fân-dyllog iawn ym Mhrydain, mae gennym gostau ynni uchel iawn, mae gennym sefyllfa lle y mae pris dur dalennog wedi gostwng rhwng €200 a £200 y dunnell o fewn cyfnod byr iawn. Mae’n amlwg bod hynny’n achosi problemau. Yr hyn yr wyf yn meddwl y mae angen ei wneud yw creu tariffau er mwyn atal y dympio dur hwn o Tsieina, fel arall ni fydd gennym ddiwydiant dur—nid yn unig ym Mhrydain, ond yn Ewrop. Hoffwn weld bargen ynni tebyg i'r un a oedd yn bodoli rhwng Alwminiwm Môn a’r Wylfa yn ystod y cyfnod pan oedd yr Wylfa yn gweithredu, pan oedd ynni rhad wedi’i warantu i Alwminiwm Môn dros gyfnod maith. Y cwestiwn sydd gennyf i chi, Brif Weinidog, fodd bynnag, yw: rydym wedi siarad am y diwydiant dur fel rhywbeth ar wahân; a oes unrhyw beth yr hoffech ei ddweud am bwysigrwydd y diwydiant dur i bethau megis gwneud ceir, gwneud caniau, nwyddau gwyn, a'r diwydiant bwyd, sy'n rhoi'r bwyd yn y caniau hynny? Mae'n rhan o economi integredig a, heb y diwydiant dur, byddai pob un o'r diwydiannau hynny, yn fy marn i, mewn perygl difrifol.
 
16:34
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, mae’r Aelod yn iawn, mae'r rheiny i gyd yn cael eu cynhyrchu ym Mhort Talbot, ac yn Nhrostre, wrth gwrs, yn arbennig, y rhai y mae wedi ei grybwyll , yn ogystal â'r hyn sy'n digwydd yn Shotton a Llanwern. Ceir materion difrifol o ran cyflenwad. Rydym yn gwybod bod materion o fewn gweithfeydd eraill, lle y byddai problemau cyflenwi pe na byddai Port Talbot, er enghraifft, yno yn gweithgynhyrchu dur, ac mae'n creu problem i’n diwydiant ym Mhrydain. Pan edrychwn ar hyn, mae'n rhaid i ni ofyn i ni'n hunain y cwestiwn hwn. Gwelsom yr hyn a ddigwyddodd yn yr 1980au a'r 1990au, pan dybiwyd bod preifateiddio cyffredinol a’r farchnad rydd yn cynrychioli rhywbeth da. Ac yr oedd pris i'w dalu am hynny. Yr hyn na allwn ei wneud—ac nid yw'n rhywbeth a oedd yn unigryw i un parti yn unig, rwyf yn credu bod hynny'n wir, ond y pris a dalwyd oedd colli swyddi mewn diwydiannau strategol pwysig. Mae’n rhaid i hynny ddod i ben. Mae hynny’n dod i ben heddiw. A'r neges y byddaf yn ei chyflwyno i Lywodraeth y DU a'r Prif Weinidog yw: dim mwy o hyn. Mae hwn yn ddiwydiant strategol, y mae angen cymorth y Llywodraeth arno, y mae angen ei gynnal ar gyfer y dyfodol, er lles Prydain ac er lles ein cymunedau yng Nghymru.
 
16:35
Llyr GruffyddBywgraffiad
Fel rydym ni wedi ei glywed, 36 mlynedd yn ôl, wrth gwrs, mi gollwyd 6,500 o swyddi yn Shotton, y diswyddiad unigol mwyaf mewn diwrnod yng ngorllewin Ewrop—ar y pryd, yn sicr, os nad yw hynny yn wir erbyn heddiw. Ac, fel rydym ni wedi ei glywed, mae’r effeithiau yn dal i gael eu teimlo; felly hefyd ym Mrymbo wedyn 10 mlynedd yn ddiweddarach yn 1990—1,100 o swyddi yn cael eu colli yn y fanna hefyd. Ond er gwaethaf yr hanes yna o golli swyddi, beth sydd gennym ni nawr yn Shotton, wrth gwrs, yw busnes sydd yn cynhyrchu elw a hefyd sydd yn fusnes hyfyw. Mae’n bwysig i ni gofio, rwy’n meddwl, yng nghanol trafferthion ehangach y sector, mai dyna yw’r sefyllfa yn Shotton. Maen nhw’n cynhyrchu rhwng £20 miliwn a £30 miliwn o elw y flwyddyn ar ddwy ran o’r busnes—mae Colors yn cynhyrchu rhyw £13 miliwn o elw, mae’n debyg, yn y flwyddyn ariannol sy’n dod i ben nawr, a Panels and Profiles yn cynhyrchu rhyw £18 miliwn. Ond, wrth gwrs, fel rŷch chi wedi cyfeirio ato, mae’r dur yn dod o Bort Talbot. Felly, mae hwn, mewn gwirionedd, yn gwmni dur integredig Cymreig gwirioneddol, er, wrth gwrs, nad yw mewn perchnogaeth Gymreig.
 
Mae'n waith arloesol a modern, sydd—. Mewn gwirionedd, Shotton ddarparodd y dur ar gyfer Stadiwm y Mileniwm ac ar gyfer Stadiwm Dinas Caerdydd hefyd—wyddoch chi, cartrefi ysbrydol rygbi Cymru a phêl-droed rhyngwladol Cymru. [Chwerthin.] Wel, dyna fy marn i, beth bynnag. Ond, yn amlwg, maent yn adeiladau eiconig y gallwn ddweud â balchder eu bod wir wedi eu creu yng Nghymru. Nawr, mae’r achos dros gadw Port Talbot ar agor felly yn bwysig i gymunedau eraill yn ogystal, ac rwyf yn siŵr bod pob un ohonom yn cydnabod hynny.
 
Ar hyn o bryd, wrth gwrs, mae dur yn cael ei gyflenwi i Shotton o Bort Talbot ar y rheilffordd. Os, Duw a'n gwaredo, bydd hynny’n newid yn y dyfodol, efallai y byddai’n bosibl danfon dur ar hyd yr Afon Dyfrdwy i Shotton, er y byddai angen buddsoddi mewn glanfa newydd i wneud hynny. A hoffwn ofyn i chi, Brif Weinidog, os ydym yn canfod ein hunain yn y sefyllfa benodol honno, a fyddai Llywodraeth Cymru yn fodlon darparu’r cyllid hwnnw er mwyn diogelu cyflenwad dur Shotton. Oherwydd nid yw Shotton, fel yr ydym wedi ei gydnabod, yn ymwneud yn unig â’r cannoedd o weithwyr a gyflogir yn uniongyrchol yno gan Tata; gallwn ddyblu neu dreblu hynny gyda’r rhai a gyflogir yn anuniongyrchol—mae canolfan gweithrediadau ar y safle, er enghraifft, gan Gwynedd Shipping Ltd, gyda channoedd o wagenni yn mynd i mewn ac allan bob mis, gan gyflogi nifer fawr iawn o yrwyr. Mae contractau golchi dillad, sgaffaldwyr, gweithwyr asiantaeth, ac ati, a phob un ohonynt yn dibynnu ar Shotton ar gyfer eu bywoliaeth. Ond, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni gofio na fyddai hawl gan y gweithwyr hynny o reidrwydd i gael unrhyw fath o becyn diswyddo pe byddai’r swyddi a gyflogir yn uniongyrchol yn cael eu colli, sydd, wrth gwrs, gwaetha’r modd yn bosibl ar hyn o bryd. Felly, byddai'r gwaith a wnaed i oresgyn yr ergydion economaidd dinistriol y mae Glannau Dyfrdwy a Wrecsam wedi’u dioddef yn y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i gau gweithfeydd dur yn cael ei ddadwneud os na fydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn rhoi trefn ar bethau yn yr achos hwn.
 
Nawr, rydych yn dweud wrthym, Brif Weinidog, y byddwch yn gwneud popeth posibl i ddiogelu buddiannau ein swyddi, ond nid oedd hynny’n cynnwys mynd i Mumbai. Gallai fod yn wir bod eich swyddogion mewn cysylltiad â'r cwmni, ond onid ydych chi'n cytuno â mi y byddai wedi anfon yr arwydd cryfaf posibl pe byddai Prif Weinidog Cymru yno wrth y bwrdd yn siarad â'r cwmni yn uniongyrchol, ac onid ydych yn teimlo drwy beidio â bod yno eich bod mewn gwirionedd wedi siomi pobl?
 
16:38
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae’r aelod yn siarad fel pe na byddwn i erioed wedi cwrdd â Tata, neu erioed wedi cael cysylltiad â nhw, neu erioed wedi siarad â nhw, neu erioed wedi cael unrhyw ohebiaeth â nhw. Cafwyd cysylltiad rheolaidd â Tata, trwy swyddogion yn ogystal â Gweinidogion. Ni allai Tata fod wedi bod mewn unrhyw sefyllfa arall heblaw gwybod ein barn ni, a gwybod yn dda iawn mai ein barn oedd bod yn rhaid cael dyfodol i'r diwydiant dur yng Nghymru. Mae awgrymu rhywsut na fyddent wedi bod yn gwybod hynny, nid yw’n dal dŵr rhywsut, gan fod popeth a ddywedasom mewn sgyrsiau â hwy, ac, yn wir, drwy ohebiaeth, yn eu gwneud yn gwbl glir ein bod yn awyddus i weld diwydiant dur Cymru yn ffynnu.
 
Nawr, o ran Shotton, byddwn yn gofyn i'r Aelod i beidio â rhoi'r argraff ar hyn o bryd mai’r hyn y mae angen i ni ei ystyried yw’r gwerthiant tameidiog o ran o’r ased. Mae wedi crybwyll y mater o gael glanfa i gyflenwi Shotton. Mae’n rhaid i mi ddweud, ar y cam hwn, mai fy nod yw cadw'r holl weithfeydd ar agor yn hytrach nag edrych ar bob un yn unigol ar hyn o bryd. Rwyf wedi siarad â’r rheolwyr yn Shotton, a gwnaethant y pwynt yn glir i mi fod Shotton yn dibynnu ar Bort Talbot am ei borthiant, ac y byddai'n chwe mis cyn y gallent ddod o hyd i ffynhonnell arall—mae hynny’n chwe mis heb gynhyrchu, o bosibl, oni bai bod cronfeydd wrth gefn ar y safle. Mae hefyd yn golygu, wrth gwrs, y gellid colli cwsmeriaid. Felly, er, ar yr olwg gyntaf, ydy, mae Shotton yn waith sy’n gwneud elw, mae angen i Bort Talbot ei gyflenwi er mwyn iddo barhau i weithredu. Felly, ar hyn o bryd, yn sicr, ni fyddwn yn fodlon edrych ar gymorth i safleoedd unigol. Rwyf am i bob un o’n safleoedd barhau i fod ar agor, pa un a yw’n Port Talbot, Trostre, Shotton neu Lanwern neu'r Orb. Mae pob un ohonynt yn bwysig i'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
 
16:40
Julie MorganBywgraffiad
Rwyf yn meddwl am y gweithwyr dur, eu teuluoedd a'u cymunedau ar yr adeg anodd iawn hon. Mae'r rhan fwyaf o fy etholwyr sy'n gweithio yn y gwaith dur yn Celsa yng Nghaerdydd, sydd, yn amlwg, yn cynhyrchu math gwahanol o ddur, nid cynnyrch gwastad, ond mae’r problemau yr un fath: Tsieina yn dympio dur, prisiau ynni a'r ardrethi busnes. Rwyf yn credu bod y rhain wedi eu trafod yn fanwl iawn yn y ddadl hon, a diolchaf i'r Prif Weinidog am ei atebion manwl iawn.
 
Fodd bynnag, mae’n rhaid i mi ddweud wrth y Prif Weinidog, ceir pryder mawr ar y strydoedd yng Ngogledd Caerdydd ynghylch tynged Tata ac ynghylch y cymunedau ym Mhort Talbot ac yn yr ardaloedd eraill, gan fy mod yn credu bod hwn yn fater sy'n ymwneud â Chymru gyfan, a, ble bynnag yr ydym yng Nghymru, rydym yn teimlo’n gryf am y materion hyn. Mae'n rhaid i mi ddweud wrth y Prif Weinidog hefyd pan oeddwn i’n mynd o gwmpas y strydoedd yng Ngogledd Caerdydd ddydd Sadwrn fod yr etholwyr yng Ngogledd Caerdydd o’r farn nad yw Llywodraeth San Steffan wedi ymateb yn ddigon cyflym. Rwyf yn falch o glywed bod Prif Weinidog Cymru yn dweud wrthym nawr fod Prif Weinidog y DU yno, yn barod ac yn awyddus i symud ymlaen, ond, yn sicr, dyna oedd barn fy etholwyr: na chafwyd ymateb digon cyflym.
 
Mae'r rhan fwyaf o'r materion yr oeddwn i’n dymuno eu codi yn ystod cwestiynau wedi eu codi, ond mae rhai materion yr hoffwn eu hailadrodd a gofyn amdanynt iddo—. Soniodd Alun Davies am ba mor bwysig yw hi i gael un o Weinidogion Cymru yng Nghyngor y Gweinidogion. A fydd Gweinidogion a swyddogion Cymru yn chwarae rhan uniongyrchol yn yr holl wahanol dimau a fydd yn trafod gyda darpar brynwyr ac a fyddant yno ar gyfer cynlluniau ar gyfer y dyfodol? Rwyf yn credu bod hyn yn gwbl hanfodol, gan fy mod yn credu bod angen yr arbenigedd a'r wybodaeth sydd gennym ni yma yng Nghymru i symud ymlaen â’r cynlluniau hynny, ac y bydd yn golled enfawr os fyddwn yno ar bob cam . Nid wyf yn gwybod faint o reolaeth y mae'n teimlo sydd ganddo dros y broses honno.
 
Yr ail bwynt yw: sut y byddwn yn sicrhau y bydd yr undebau llafur yn parhau i fod yn llwyr gysylltiedig â'r broses, oherwydd credaf ein bod i gyd yn dymuno talu teyrnged i'r ffordd rymus ac urddasol y maent wedi cyflwyno eu hachos? Rwy'n credu bob tro y gwelais un ohonynt yn siarad neu'n ymddangos ar y teledu, fy mod wedi meddwl pa mor ddiolchgar yr ydym eu bod yn gweithredu yn y modd hwn yn y wlad hon.
 
Yn olaf, y pwynt olaf yr oeddwn i’n dymuno ei wneud oedd—mae llawer o Aelodau wedi crybwyll y banciau—fe achubwyd y banciau. Cawsant eu gwladoli, y banciau. Achubwyd arian ein hetholwyr. Achubwyd yr arian yn ein pocedi, ac a gaf i atgoffa'r Siambr mai Llywodraeth Lafur a achubodd y banciau, mai Gordon Brown a achubodd y banciau, ei fod wedi cymryd y camau? Gwnaethant gymryd cyfrifoldeb a nawr mae'n rhaid i ni weld beth fydd y Llywodraeth bresennol, y Llywodraeth hon yn San Steffan, yn ei wneud nawr.
 
16:43
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau? Rydym wedi bod yn cael sesiynau briffio gan yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau sydd wedi bod yn awyddus i weithio â ni. Ni fyddai'n gwneud unrhyw synnwyr iddi fod fel arall, gan fod ateb y broblem sy'n wynebu'r diwydiant dur yn nwylo Llywodraeth y DU, ie, a Llywodraeth Cymru. Mae’n rhaid i'r ddau ohonom ni weithio gyda'n gilydd ar hyn. Os nad ydym ni'n rhannu gwybodaeth, caiff yr ateb ei wanhau o ganlyniad. Nawr, nid oes awgrym mai dyna yw’r sefyllfa ar hyn o bryd, ond ni all hynny fod yn wir yn y dyfodol. Mae pobl yn disgwyl i ni weithio gyda'n gilydd fel Llywodraethau er mwyn achub y diwydiant dur. Nid wyf yn credu y byddent yn ymateb yn arbennig o dda pe byddent yn credu nad oedd un Llywodraeth yn dweud beth oedd yn digwydd wrth y Llywodraeth arall. Nid dyma yw'r hyn y mae pobl yn dymuno ei weld ar hyn o bryd.
 
Treuliais lawer o amser yn siarad â Community ac Unite. Rwyf wedi treulio llawer o amser yn siarad â Roy Rickhuss. Buom yn siarad cyn iddynt fynd i Mumbai; buom yn siarad wedyn. Rydym wedi bod mewn cysylltiad â’n gilydd. Gwn fod yr undebau yn sicr yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth y maent wedi'i derbyn gan Lywodraeth Cymru ac ystadegau Llywodraeth Cymru.
 
Mae'r pwynt wedi ei wneud am y banciau. Beth yw strategol? Mae dur yn strategol, mae bancio yn strategol; mae angen trin y ddau yn yr un ffordd.
 
16:44
William PowellBywgraffiad
Hoffwn ddiolch i'r Prif Weinidog yn fawr iawn am ei ddatganiad heddiw ac am ymateb i'n cwestiynau. Fel brawd Alun Davies, roedd fy niweddar ewythr Jim hefyd yn weithiwr dur, ac roedd hynny yn etholaeth Alun ym Mlaenau Gwent. Fe soniodd wrthyf, flynyddoedd yn ôl, am y boen o gael ei swydd wedi ei dileu mewn degawd blaenorol, ac mae hynny'n adleisio’r hyn a glywsom yn gynharach gan Lindsay Whittle. Ond mae'n bwysig iawn nad oes gennym ymdeimlad o gadw gwylnos am ddiwydiant sydd wedi ei golli. Gwnaed y pwynt hwnnw yn gynharach heddiw.
 
Roedd yn fraint imi amser cinio, ynghyd â'm cyd-aelodau yn y Pwyllgor Deisebau, Bethan Jenkins a Joyce Watson, dderbyn deiseb gan rai o drigolion Port Talbot, a hefyd pobl sy'n gysylltiedig â'r undeb Community. Maen nhw wedi treulio llawer o'r prynhawn yn gwylio ein trafodaethau o'r oriel gyhoeddus. Yr hyn yr oeddent yn galw amdano—Mae'n un o'r deisebau byrraf a gafwyd gennym, ac mae dwy frawddeg ynddo, rwy'n credu. Gyda goddefgarwch y Dirprwy Lywydd, darllenaf yr hyn y maent yn ofyn amdano. Mae'n dweud yn syml:
 
Rydym ni y tanysgrifiedig yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio pob dull sydd ar gael iddi, gan gynnwys dulliau ariannol, i gefnogi'r gwaith o gwblhau’r gwaith pŵer newydd a gynlluniwyd ar gyfer gwaith dur Port Talbot. Bydd adeiladu’r gwaith hwn yn creu swyddi a phan fydd yn weithredol, bydd yn lleihau allyriadau, yn lleihau costau rhedeg Tata, ac yn helpu i ddiogelu swyddi hanfodol yn yr ardal.
 
Cyflwynwyd hwnna gan y gweithiwr dur sydd wedi ymddeol Peter Bamsey a'i gydweithwyr. Rydym wedi cael ymateb cadarnhaol cychwynnol gan eich Gweinidog busnes a menter, ac mae hefyd yn mynd i fod ar y bwrdd mewn sesiwn o’r pwyllgor hwnnw sydd ar ddod, rwyf ar ddeall. Ac rwyf yn ddiolchgar iawn am hynny, ond rwyf yn meddwl ei bod yn bryd i ni gynyddu ein cefnogaeth i’r datblygiad hollbwysig hwn—datblygiad hollbwysig o ran cynaliadwyedd gwneud dur yma yng Nghymru. A gaf i ofyn ichi, pan fyddwch yn cael eich sesiwn gyda David Cameron yfory, i ofyn iddo a fyddai ef yn hyrwyddo cais ar y cyd, o bosibl i Fanc Buddsoddi Ewrop, i ariannu mewn gwirionedd y math hwn o foderneiddio ym Mhort Talbot, ac mewn lleoliadau eraill, a fyddai’n cynyddu cynaliadwyedd, yn economaidd ac yn amgylcheddol, y diwydiant yn y dyfodol. Byddai hefyd yn gosod llinell amlwg yn y tywod o ran dangos ein hymrwymiad i ddyfodol y diwydiant.
 
Mae gennyf un cwestiwn arall mewn cysylltiad â hynny—a chyfeiriwyd yn gynharach at bolisïau caffael, ac rydym wedi clywed am y Weinyddiaeth Amddiffyn a'i pholisïau caffael. Yn union fel y mae gan Gymru wledig bryderon gwirioneddol am ei bolisïau cyrchu o ran cig a chyflenwadau, mae diwydiannau’r ardaloedd dur, yn destun pryder gwirioneddol yn hynny o beth. Mae’n amlwg bod y dulliau o wneud rhywbeth am hynny yn nwylo Prif Weinidog y DU. A wnewch chi, Brif Weinidog, godi'r mater hwnnw eto pan fyddwch yn trafod gyda David Cameron yfory? Diolch yn fawr.
 
16:47
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Gwnaf, mi wnaf. Gallaf sicrhau'r Aelod o hynny. O ran y gwaith pŵer, unwaith eto mae hwn yn fater y gallwn ei ystyried yn rhan o becyn cyffredinol. Fel y dywedais sawl gwaith y prynhawn yma, mae gennym rywbeth a oedd ar y bwrdd ac sydd ar y bwrdd; rydym yn gwybod y bydd yna fwy y bydd angen ei wneud o fewn yr adnoddau sydd gennym ac fel rhan o becyn cyffredinol a gynigir gan Lywodraeth y DU. Bydd hynny, a llawer o faterion eraill, yn ffurfio rhan o'r trafodaethau â'r Prif Weinidog yfory.
 
16:48
Jenny RathboneBywgraffiad
Mae nifer o siaradwyr eisoes wedi dweud pa mor bwysig yw’r diwydiant dur yn strategol i ddyfodol gweithgynhyrchu uwch. Nid yw’n ymwneud â’r diwydiant amddiffyn yn unig; nid yw’n ymwneud â’r diwydiant canio bwyd yn unig. Mae'n ymwneud â pha un a ydym yn mynd i gael diwydiant gweithgynhyrchu uwch yn y wlad hon neu beidio. Oherwydd ni allwn wneud hynny heb y gweithrediadau sydd wedi'u canoli ar hyn o bryd ym Mhort Talbot. Un peth nad oes neb wedi ei grybwyll hyd yn hyn yw'r gwaith strategol y mae Tata wedi bod yn ymwneud ag ef gyda’n prifysgolion yn y cynllun SPECIFIC, sy’n ymwneud â’r Ganolfan Beirianneg Cynnyrch Cynaliadwy ar gyfer Haenau Diwydiannol Gweithredol Arloesol, sef, mewn iaith syml, y paneli ar y tŷ SOLCER sy'n cynhyrchu'r ynni sy'n galluogi adeiladau newydd i ddod yn orsafoedd pŵer. Ni allwn fodloni ein rhwymedigaethau newid yn yr hinsawdd oni bai fod gennym Tata Steels y byd hwn, neu’r rhai a fydd yn cymryd drosodd y gwaith a wneir ar hyn o bryd gan Tata Steel, er mwyn bodloni ein rhwymedigaethau newid yn yr hinsawdd.
 
Wrth gwrs, rwyf yn croesawu yn llwyr yr awgrym gan y Prif Weinidog y dylem ni fod yn bwrw ymlaen gyda morlyn Abertawe a metro de Cymru, ond pe byddem yn gwneud hynny gyda dur tramor, byddem yn defnyddio dur a fewnforir, sy'n creu hyd at ddwy neu dair gwaith yn fwy o allyriadau carbon wrth ddod ag ef yma o Tsieina. Felly, fel Julie Morgan, gallaf adleisio'r sylwadau y mae wedi'u gwneud: sef nad yn unig y cymunedau hynny sydd â'r diwydiant dur wrth wraidd eu cymuned ond mae Cymru gyfan hefyd yn sylweddoli bod dur yn hollbwysig i'n dyfodol;, ein dyfodol diwydiannol, ein dyfodol gweithgynhyrchu uwch. Felly, rwyf yn credu bod diddordeb eang a chefnogaeth i’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, a phryder na fydd Llywodraeth y DU yn gweithredu.
 
Yng ngoleuni cyd-destun pwysigrwydd strategol y diwydiant dur, a'r gefnogaeth gyhoeddus sydd ar gael, hoffwn archwilio'r posibilrwydd o ychwanegu'r £60 miliwn y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar y bwrdd i esbonio'r posibilrwydd o ryw fath o danysgrifiad cyhoeddus os yw'r cynllun pontio, cynllun McKinsey—ac, rwyf yn gwerthfawrogi, nad ydych chi wedi ei weld hyd yma—yn gwneud rheswm. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i alluogi'r gymuned gyfan yng Nghymru i gymryd rhan mewn achub y gweithrediadau ym Mhort Talbot, sydd hefyd yn amlwg yn hanfodol i oroesiad yr holl weithrediadau dur eraill yng Nghymru? Gan fod hwn yn fodd—. Os na fydd Llywodraeth y DU yn gweithredu, neu'n gwrthod gweithredu, neu’n gwrthod rhoi'r arian sydd ar gael iddynt, a allwn ni yng Nghymru symbylu pobl Cymru, wedi'u harwain gan Lywodraeth Cymru, i achub ein diwydiant dur hyd nes y gallwn ddod o hyd i brynwr arall?
 
16:51
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae'n awgrym diddorol. Yn gyntaf oll, wrth geisio meddwl sut y byddai hynny'n gweithio, byddai'n rhaid sefydlu cwmni cyhoeddus cyfyngedig wedi'i restru er mwyn gallu cyhoeddi cyfranddaliadau. Byddai’n rhaid i gyfarwyddwyr y cwmni fodloni eu hunain nad oeddent yn masnachu tra eu bod yn fethdalwyr—a dyna, heb warant gan y Llywodraeth, fyddai’r sefyllfa—a bydden nhw wedyn yn atebol yn bersonol am ddyledion y cwmni hwnnw. Felly, unwaith eto, i ddod yn ôl at y pwynt hwn o warant ddigyfyngiad, o bosibl, ar y bwrdd gan Lywodraeth Cymru o ran y diwydiant dur yng Nghymru, sydd yn risg sylweddol i fod yn agored iddi.
 
Fy marn i yw, a dyma a fu erioed, mai diwydiant y DU yw hwn sydd angen cefnogaeth y DU. Gallwn roi rhywfaint o gefnogaeth ar y bwrdd, mae hynny’n wir, ond ni allwn wneud y cyfan o ystyried y rhifau yr ydym yn sôn amdanynt. Wrth gwrs, ceir materion y bydd angen eu datrys, megis costau ynni, megis tariffau, na allwn ddylanwadu arnynt, ac maent yn broblemau tymor hir ar gyfer y diwydiant y gellir dylanwadu arnynt ar lefel y DU. Wedi dweud hynny, byddwn yn edrych i weld beth sydd angen ei wneud yn ystod y dyddiau ac wythnosau nesaf i ddiogelu'r diwydiant, ond mae'n rhaid i ni fod yn wyliadwrus nad ydym yn creu sefyllfa lle mae'r atebolrwydd i gyd ar Lywodraeth Cymru a bod yr atebolrwydd pe byddai cwmni'n cael ei sefydlu. Fel arall, sut gall y cyfarwyddwyr fodloni eu hunain nad ydynt yn masnachu tra eu bod yn fethdalwyr? Yr unig ffordd i ddatrys hynny yw cael gwarant ar waith bod ffrwd ariannu ar gael a fydd yn galluogi’r cwmni i ddangos ei fod yn ddiddyled. Felly, ceir materion y byddai angen eu datrys nad ydynt yn hawdd eu datrys.
 
16:53
Nick RamsayBywgraffiad
Brif Weinidog, byddwch yn falch o wybod y byddaf yn gryno iawn, gan fod llawer o bwyntiau eisoes wedi eu cwmpasu, ac rydych chi bellach wedi bod yn sefyll yn y fan yna ers bron i dair awr a hanner, sydd yn ôl pob tebyg yn torri nifer helaeth o reoliadau iechyd a diogelwch, felly byddwn yn gadael ichi eistedd cyn bo hir. A gaf i ofyn â chi, yn gyntaf oll, am y mater caffael? Mae wedi ei grybwyll eisoes nad oes gan Lywodraeth Cymru yr holl ysgogiadau ar gael iddi, ond mae gennych rywfaint o bwerau caffael. Fe wnaeth Llywodraeth y DU a'r Llynges Frenhinol gaffael dur Prydeinig pan oeddent yn adeiladu llong awyrennau gyntaf y DU, ac mae'r ail un hefyd rwy'n credu, sydd i'w chyflwyno, yn cynnwys dur y DU, neu ddur Prydain. Mae’n amlwg nad oes gennych y math hwnnw o gynhyrchu o fewn rheolaeth Llywodraeth Cymru, ond ceir rhai pwerau caffael, yr wyf wedi'u trafod yn helaeth dros y pum mlynedd diwethaf gyda’r Gweinidog, Jane Hutt, felly a allech chi edrych ar hynny?
 
Yn ail, codwyd mater o ardrethi busnes gan nifer o Aelodau. Unwaith eto, nid hwn yw’r ateb cyfan, rwyf yn cydnabod hynny, ond gallai fod yn rhan o'r ateb. A wnewch chi addo edrych ar y drefn ardrethi busnes, sydd o fewn rheolaeth Llywodraeth Cymru, i weld beth y gellir ei wneud i geisio gwneud hynny mor ddeniadol â phosibl i'r diwydiant dur ac i unrhyw brynwyr posibl y gweithfeydd ledled Cymru? Rydym wedi siarad am yr holl weithfeydd ledled Cymru heddiw, a gwn fod John Griffiths a Lindsay Whittle wedi crybwyll Llanwern. Mae Llanwern yn un o'r cyflogwyr allweddol yn fy ardal leol i, felly hoffwn wybod yn benodol pa drafodaethau a gawsoch â Tata ac â Llywodraeth y DU ynghylch y gweithrediadau yn Llanwern. Rwyf yn falch iawn o glywed, ac yn croesawu'r ffaith, eich bod yn ystyried buddsoddi arian mewn offer yn rhan o becyn a fydd yn ceisio denu prynwr yn y dyfodol.
 
Yn olaf, byddwn yn dweud, Ddirprwy Lywydd, ein bod wedi cael trafodaeth ddiddorol iawn heddiw. Gwn y bu rhai lleisiau nad oeddent yn gefnogol, ond mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn sicr yn eich cefnogi i wneud yr hyn a allwch i ddiogelu dyfodol y diwydiant dur. Gwn fod pob siaradwr yma heddiw yn cyfleu safbwyntiau ychydig yn wahanol, mi wn, mewn gwahanol bleidiau, ond mae pob un ohonom mewn gwirionedd yn dymuno anfon ein dymuniadau gorau at y gweithwyr dur yng Nghymru a’u teuluoedd. Ni ddylech amau o gwbl bod cefnogaeth y Siambr hon gennych pan fyddwch yn cynnal y trafodaethau hynny. Mae pob un ohonom yn dymuno gweld y dyfodol gorau posibl i ddiwydiant dur Cymru. [Aelodau'r Cynulliad: 'Clywch, clywch.']
 
16:55
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau? Bydd wedi fy nghlywed yn siarad yn helaeth am gaffael mewn atebion blaenorol. Gydag ardrethi busnes, fel y dywedais o’r blaen, yr uchafswm y gallwn ei gynnig yw €200,000 dros gyfnod o dair blynedd, ond, fel y crybwyllais eisoes, bydd y gwerthoedd ardrethol o'r flwyddyn nesaf ymlaen yn cynrychioli amgylchiadau presennol y gweithfeydd dur yng Nghymru yn well yn dilyn y trafodaethau a gawsom gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Ni fu trafodaethau penodol am Lanwern, ond cafwyd trafodaethau, yn amlwg, am holl weithrediad Tata yng Nghymru. Mae'n debyg ei bod yn anochel bod y pwyslais mwyaf wedi bod ar Bort Talbot, o ystyried maint y gwaith ac o ystyried y ffaith mai yno y mae'r heriau mwyaf ar hyn o bryd, yn enwedig ar y pen trwm.
 
Rwyf yn ddiolchgar iddo am yr arwydd o gefnogaeth a roddwyd ganddo. Mae hwn yn fater, yn ogystal, lle y gallwn ddangos bod y DU yn gallu cefnogi diwydiant yng Nghymru. Y pwynt y byddaf yn ei wneud i’r Prif Weinidog yw bod Cymru'n elwa ar ei haelodaeth o’r DU, ac mae'n rhaid dangos bod hyn yn o fudd—bod y DU yn gallu defnyddio ei hadnoddau ehangach i sicrhau bod dur yn parhau yng Nghymru. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU er mwyn ceisio cyflawni hynny, gan ein bod yn gwybod nad yw ein pobl ar hyd a lled Cymru yn disgwyl dim llai, ac rwyf yn ddiolchgar i'r Aelodau am eu cyfraniadau yn ystod y prynhawn. [Cymeradwyaeth.]
 
16:57
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Diolch yn fawr, Brif Weinidog, ac rydym yn ddiolchgar i chi am sefyll wrth y podiwm drwy gydol y prynhawn i ateb y cwestiynau hyn a'r pwyntiau a gyflwynwyd ichi ar y mater hollbwysig hwn i Gymru gyfan.
 
Dyna ddiwedd trafodion heddiw.
 
Daeth y cyfarfod i ben am 16:57.
 
Nôl i'r rhestr dogfennau

Partners & Help