First Minister, Newport has gone through some tough times as far as steel is concerned. There has been a lot of restructuring. Local workforces have had to adapt, and they have shown tremendous resilience. They have achieved amazing change and shown unquestionable commitment. We have seen that resilience reflected in continuing operations at Llanwern and, indeed, the Orb steelworks; also, at Liberty and a variety of smaller players. So, I think it’s clear that steel, with its strong history in Newport, still has a great future because of that adaptability, resilience and strength. So, I very much want to see the Welsh Government working with partners—the UK Government and others—to recognise that potential. Indeed, parts of the operations—and this isn’t true just of Newport and just of Llanwern and the Orb works, but is also true, I know, of other parts of the steel industry in Wales—are profitable at the current time. We must, of course, avoid any cherry-picking, as you’ve been very strong in saying, First Minister, and we must see all of the operations in Wales in and the UK as a whole. They are integrated. They do rely on each other, again as you’ve outlined today. So, that, I think, is the spirit within which this debate and this statement today takes place, First Minister—looking at it all as an integrated whole. When we look to restructuring and investment for the future, I do think that we need to look at it as a whole, and that will include those profitable operations at the moment, which do have great potential, and skilled workforces that have shown that they can produce world-class products that can be exported and can take advantage of niche markets. They have shown that innovation and strength to deal with the challenges of the current day and the future. I’m sure that, in the restructuring, the investment, and the research and development, First Minister, operations such as Llanwern and the Orb works will be at the forefront of supporting that expertise, that experience and that strength. I would like to hear from you today that that very much is the way that the Welsh Government is thinking.
Brif Weinidog, mae Casnewydd wedi bod trwy adegau anodd cyn belled ag y mae dur yn y cwestiwn. Bu llawer o ailstrwythuro. Mae gweithluoedd lleol wedi gorfod addasu, ac maent wedi dangos cydnerthedd aruthrol. Maent wedi cyflawni newid anhygoel ac wedi dangos ymroddiad diamheuol. Rydym wedi gweld y cydnerthedd hwnnw yn cael ei adlewyrchu yn y gweithrediadau sy'n parhau yn Llanwern ac, yn wir, yng nghwaith dur yr Orb; hefyd, yn Liberty ac amrywiaeth o safleoedd llai. Felly, rwy’n credu ei bod yn amlwg bod gan ddur, â’i hanes cryf yng Nghasnewydd, ddyfodol gwych o hyd oherwydd yr hyblygrwydd, y cydnerthedd a’r cryfder hynny. Felly, rwyf i yn sicr eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid—Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac eraill i gydnabod y potensial hwnnw. Yn wir, mae rhannau o'r gweithrediadau—ac mae hyn yn wir nid yn unig am Weithfeydd Casnewydd a Llanwern a'r Orb, ond yn wir hefyd, rwy’n gwybod, am rannau eraill o'r diwydiant dur yng Nghymru—yn broffidiol ar hyn o bryd. Mae'n rhaid i ni, wrth gwrs, osgoi unrhyw ddewis a dethol, fel yr ydych wedi bod yn ei ddweud yn gryf iawn, Brif Weinidog, ac mae'n rhaid i ni ystyried yr holl weithrediadau yng Nghymru ac yn y DU yn ei chyfanrwydd. Maent yn integredig â’i gilydd. Maent yn dibynnu ar ei gilydd, unwaith eto fel yr ydych wedi ei amlinellu heddiw. Felly, dyna, rwy’n credu, yw ysbryd y ddadl hon a’r datganiad hwn heddiw, Brif Weinidog—ystyried y cyfan fel cyfanwaith integredig. Pan fyddwn yn ystyried ailstrwythuro a buddsoddi ar gyfer y dyfodol, rwy’n meddwl bod angen inni ei ystyried yn ei gyfanrwydd, a bydd hynny’n cynnwys y gweithrediadau hynny sy’n broffidiol ar hyn o bryd, sydd â photensial helaeth, a gweithluoedd medrus sydd wedi dangos eu bod yn gallu cynhyrchu cynhyrchion o'r radd flaenaf y gellir eu hallforio ac sy’n gallu manteisio ar farchnadoedd arbenigol. Maent wedi dangos yr arloesedd a’r nerth i ymdrin â heriau'r presennol a'r dyfodol. Rwy'n siŵr y bydd gweithrediadau fel Llanwern a'r gwaith Orb, yn y gwaith ailstrwythuro, buddsoddi, ymchwil a datblygu, Brif Weinidog, ar flaen y gad o ran cefnogi’r arbenigedd hwnnw, y profiad hwnnw a’r nerth hwnnw. Hoffwn glywed gennych chi heddiw mai dyna yn sicr yw barn Llywodraeth Cymru hefyd.