Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :
Nôl i'r rhestr dogfennau Gweld y dudalen hon heb lincs
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (y Fonesig Rosemary Butler) yn y Gadair.
 
13:30
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Prynhawn da. Dyma ddechrau trafodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
 
1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
 
13:30
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth yw’r eitem gyntaf y prynhawn yma, a daw cwestiwn 1 gan Julie Morgan.
 
Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd
 
13:30
Julie MorganBywgraffiad
1. Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael â’i chymheiriaid yn y gwledydd datganoledig am oblygiadau cyllido tynnu allan o’r UE? OAQ(4)0684(FIN)
 
Altaf HussainBywgraffiad
4. Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o’r effaith y bydd refferendwm yr UE yn ei chael ar gyllid Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0678(FIN)
 
Jenny RathboneBywgraffiad
10. Beth yw’r goblygiadau ar gyfer cronfeydd strwythurol yng Nghymru os bydd y DU yn penderfynu gadael yr UE yn y refferendwm sydd i ddod? OAQ(4)0685(FIN)
 
13:30
Jane HuttBywgraffiadY Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
Lywydd, deallaf eich bod wedi rhoi caniatâd i gwestiynau 1, 4 a 10 gael eu grwpio.
 
Ddydd Llun, mynychais gyd-bwyllgor y gweinidogion ar Ewrop yn Llundain, lle y buom yn trafod refferendwm Llywodraeth y DU ar yr UE, a’r effaith niweidiol y byddai gadael yn ei chael ar economi a diogelwch rhanbarthau ledled y DU.
 
13:30
Julie MorganBywgraffiad
Diolch i’r Gweinidog am ei hymateb. Un o’r prif bryderon a fynegwyd wrthyf yng Nghaerdydd ynghylch y posibilrwydd o adael yr UE yw’r effaith enfawr a gaiff hyn ar ymchwil prifysgol, sydd, wrth gwrs, yn ychwanegu llawer iawn o werth i economi Cymru. Gwn fod Prifysgol Caerdydd, er enghraifft, yn cael arian o gronfa Horizon 2020 yr UE yn benodol. Felly, a yw’r Gweinidog yn rhannu’r pryderon ynglŷn â’r hyn a fydd yn digwydd i’r cyllid ar gyfer ymchwil prifysgol, ac a yw’n gwybod a yw’r cyrff datganoledig eraill yn rhannu’r un pryderon?
 
13:31
Jane HuttBywgraffiad
Diolch i Julie Morgan am ei chwestiwn. Rhannaf y pryderon hyn yn gyfan gwbl, ac yn ychwanegol at yr arian penodol a ddyrannir gan yr UE, sy’n werth £500 miliwn y flwyddyn i Gymru, fel y dywedwch, wrth gwrs, mae ffrydiau ariannu fel Horizon 2020 yn darparu cyfleoedd pwysig iawn ar gyfer ymchwil ac arloesi. Byddaf yn mynychu digwyddiad Horizon 2020 yfory, i ddathlu llwyddiant busnesau a phrifysgolion Cymru, gan gynnwys Caerdydd, o ran sicrhau £30 miliwn o gyllid Horizon 2020 hyd yn hyn, i gefnogi datblygiadau arloesol a gwyddonol ac i ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau o’r radd flaenaf.
 
13:32
Altaf HussainBywgraffiad
Weinidog, mae refferendwm yr UE yn un o’r penderfyniadau mwyaf y bydd yn rhaid i bobl Cymru eu gwneud yn ystod y ganrif hon. Mae’n hanfodol, felly, eu bod yn ymwybodol o’r ffeithiau ynghylch effaith eu penderfyniad. A wnewch chi sicrhau bod eich adran, yn y cyfnod sy’n arwain at y refferendwm, yn cyhoeddi gwybodaeth glir ynghylch effaith aros yn yr UE, yn ogystal ag effaith gadael, gan osgoi dibynnu ar rethreg wleidyddol am beryglon gadael neu aros yn yr UE? Diolch.
 
13:32
Jane HuttBywgraffiad
A gaf fi ddiolch yn fawr iawn i’r Aelod am y cwestiwn? Credaf mai un o’r pwyntiau pwysicaf yw ein bod ni, fel Llywodraeth sydd o blaid busnes, yn credu’n gryf y byddai gadael yr UE yn golygu y byddai Cymru yn waeth ei byd. Drwy fod yn yr UE, ar hyn o bryd mae gan Gymru warant saith mlynedd o arian yr UE—o 2014 i 2020—ynghyd â thaliadau cymorth incwm i ffermwyr, sy’n werth dros £500 miliwn y flwyddyn yng Nghymru, ac mae’n amlwg fod yn rhaid rhannu’r wybodaeth hon. Ddydd Llun—i’w gofnodi unwaith eto—bûm yn ymweld ag Ysgol Beirianneg Prifysgol Caerdydd i gyhoeddi £15 miliwn o arian yr UE ar gyfer prosiect systemau integredig hyblyg Flex-E. Mae’n waith cydweithredol, sydd nid yn unig yn cynnwys prifysgolion Cymreig—Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Aberystwyth, a Phrifysgol Bangor—ond busnesau yn ogystal, gan ymgysylltu â diwydiant, a datblygu ymchwil o’r radd flaenaf sy’n darparu cyfleoedd ynni modern a charbon isel.
 
Ond wrth gwrs, y ffaith amdani yw bod prosiectau’r UE sydd wedi elwa, er enghraifft, yn cynnwys buddsoddiad o €420,000 yn TrakCel o Gaerdydd gan Horizon 2020, sydd fel y crybwyllais yn ffynhonnell allweddol o gyllid yn enwedig ar gyfer ein prifysgolion a’n busnesau. Credaf fod yn rhaid i ni gydnabod bod Llywodraeth Cymru, wrth gefnogi aros yn rhan o’r UE, yn credu y byddai Cymru’n waeth ei byd pe bai’r DU yn gadael ac y byddai’r effaith economaidd a chymdeithasol ar fusnesau, swyddi pobl, ein ffyniant a’n diogelwch yn hollol ddinistriol.
 
13:34
Jenny RathboneBywgraffiad
Yn ddiweddar, ymwelais â Chanolfan Delweddu Prifysgol Caerdydd er Ymchwil yr Ymennydd, sydd wedi derbyn miliynau o bunnoedd gan yr Undeb Ewropeaidd, ac mae’n peri pryder mawr ymysg eu partneriaid Ewropeaidd o ran sut y byddai’r prosiect enfawr, arwyddocaol, byd-enwog hwn sy’n werth miliynau o bunnoedd yn parhau pe bai Prydain yn gadael yr UE. Felly, yn amlwg, gorau po gyntaf y cawn y refferendwm allan o’r ffordd.
 
Hoffwn ystyried agwedd ychydig yn wahanol ar lwyddiant yr Undeb Ewropeaidd, sef bod bron i 100 mlynedd wedi bod ers brwydr y Somme, pan fu farw miliwn o bobl am resymau na allwn eu cofio erbyn hyn, a bod 70 mlynedd wedi bod bellach ers unrhyw ryfel sylweddol yn Ewrop. Byddwn wedi meddwl mai dyma un o’r agweddau pwysicaf o fod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd. Tybed a allech ddweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud o ran y ffordd y byddwn yn dathlu Diwrnod Ewrop eleni i dynnu sylw at y pwynt hwn.
 
13:35
Jane HuttBywgraffiad
Rwy’n ddiolchgar iawn i Jenny Rathbone am ehangu’r drafodaeth hon i gynnwys effeithiau ehangach pwysig a difrod gadael yr UE, nid yn unig o ran yr effaith ar fusnes y farchnad sengl, prifysgolion a’n pobl a’n cymunedau, ond ar y ddealltwriaeth ehangach o’r hyn roedd bod yn rhan o Ewrop a’r Undeb Ewropeaidd yn ei olygu. Wrth gwrs, mae Diwrnod Ewrop yn rhoi cyfle i ni gydnabod yn eang y cysylltiad diwylliannol, yn ogystal â hanesyddol—. Credaf fod yr arddangosfa, a hyrwyddwyd gan ein Llywydd i gydnabod rôl ein perthnasau ar draws y Senedd yn y ddau ryfel byd—y rhyfeloedd mawr—a’n heffaith a’n perthynas ag Ewrop, wrth gwrs, hefyd yn cydnabod pwysigrwydd y cyfathrebu a wnawn gyda phobl ifanc o ran eu dealltwriaeth ehangach.
 
13:36
Rhodri Glyn ThomasBywgraffiad
Weinidog, mae gan Gymru botensial enfawr o ran datblygu ynni morol nid yn unig yng nghyd-destun y cynllun presennol yn Abertawe, ond mae yna gynlluniau arfaethedig eraill yng Nghasnewydd, yn y Fro ac ym Mae Colwyn hefyd. A allwch chi gadarnhau y bydd hi’n llawer iawn anoddach i ddatblygu’r prosiectau yma oddi allan i’r Undeb Ewropeaidd nag y byddai hi o fewn yr Undeb Ewropeaidd?
 
13:37
Jane HuttBywgraffiad
Gallaf gadarnhau hynny, yn sicr, Rhodri Glyn Thomas. Wrth gwrs, roeddwn yn hyrwyddo ynni morol ym Mrwsel yn ddiweddar iawn, yn siarad am y cyfleoedd. Gallwn elwa hefyd, wrth gwrs, o’r cyllid sydd ar gael, gan gynnwys £12 miliwn ar gyfer ynni adnewyddadwy drwy Deep Green ar Ynys Môn a Wave Hub oddi ar arfordir Sir Benfro fel un enghraifft o ble mae hynny’n cysylltu ag ynni morol. Felly, mae hyn yn rhywbeth y byddai Cymru’n ei golli, ac o ran cynnig y morlyn llanw ym mae Abertawe, y gobeithiwn gael ymateb yn ei gylch gan Lywodraeth y DU, ond nid wyf wedi clywed y gyllideb yn llawn o ran fy nghwestiynau, rwy’n falch iawn bod Banc Buddsoddi Ewrop yn ei weld fel y math o brosiect y byddent yn hoffi ei gefnogi.
 
Y Portffolio Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
 
13:38
Simon ThomasBywgraffiad
2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael am y dyraniad cyllidebol i'r portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol? OAQ(4)0676(FIN)[W]
 
13:38
Jane HuttBywgraffiad
Fe wnes i ymgynghori yn eang wrth ddatblygu’r gyllideb ‘Cymru Decach, Cymru Well—Buddsoddi at y Dyfodol’ a gafodd ei phasio yr wythnos diwethaf.
 
13:38
Simon ThomasBywgraffiad
Diolch, Weinidog. Pa ddarpariaeth sydd yn eich paratoadau cyllidebol ar gyfer newidiadau gan fyrddau iechyd? Y prynhawn yma, fe fues yn cyflwyno deiseb, ar y cyd â Paul Davies, o dros 20,000 o enwau ar gyfer adfer gwasanaethau pediatrig i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn sir Benfro. Ar ôl trafod gyda phrif weithredwr Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda, rwy’n ymwybodol eu bod nhw’n cael cadw’r gwasanaethau hyn o dan adolygiad o hyd ac yn ystyried sut y gallan nhw wella’r gwasanaethau gan eu bod mor bwysig i’r gwasanaeth brys a damweiniau yn yr ysbyty hefyd. Beth fyddwch chi’n ei wneud, felly, wrth drafod gyda byrddau iechyd os ydyn nhw am adfer gwasanaethau sydd wedi cael eu symud ymaith?
 
13:39
Jane HuttBywgraffiad
Yn amlwg, mae’r gyllideb derfynol ar gyfer y flwyddyn nesaf, ar gyfer 2016-17, yn darparu ar gyfer buddsoddiad ychwanegol o dros £300 miliwn mewn gofal iechyd—refeniw o £260 miliwn a £53 miliwn o gyfalaf. Mae’r cyllid ychwanegol yn golygu bod y gyllideb yn fwy nag erioed yn awr ac yn 48 y cant o’r arian a fydd yn cael ei ddyrannu i adrannau Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Wrth gwrs, os edrychwch ar hynny yn nhermau gwariant y pen, mae’n wariant o £262 yn ychwanegol y pen ar iechyd. Ond mae hynny’n galluogi ein byrddau iechyd i ymateb i anghenion eu cymunedau lleol a’u poblogaethau iechyd. Ac wrth gwrs, mae hynny hefyd yn golygu y gallwn fuddsoddi, yn enwedig mewn perthynas â chyfalaf, yn yr adnoddau hollbwysig hynny y gwn eich bod wedi eu crybwyll, megis yr angen i fuddsoddi mewn diagnosteg, seilwaith cyflymyddion llinellol a labordai cathetreiddio newydd.
 
13:40
Darren MillarBywgraffiad
Weinidog, gwrandewais ar eich ateb yn ofalus iawn. Ni wnaethoch ddim i gydnabod mai eich Llywodraeth chi yw’r unig un erioed a fydd yn gorffen tymor gyda gwariant y GIG yn is mewn termau real na phan ddechreuoch. Dyna realiti’r mater. Mae’n record hollol gywilyddus sydd wedi achosi problemau andwyol yn ein gwasanaeth iechyd, problemau sydd i’w gweld ledled y wlad. A allwch ddweud wrthym a ydych yn gresynu at y toriadau mwyaf erioed a wnaed i GIG Gymru gan eich Llywodraeth ac effaith hynny ar gleifion ac ar staff gweithgar?
 
13:41
Jane HuttBywgraffiad
Wel, rwy’n synnu, Darren Millar, nad ydych yn barod i ystyried ac edrych ar y ffigurau swyddogol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU, a ddangosai fod gwariant y pen ar iechyd yn uwch yng Nghymru ac wedi cynyddu’n gyflymach nag mewn unrhyw ran arall o’r DU. Onid ydych am i’r cyhoedd wybod hynny yn eich etholaeth chi? [Torri ar draws.] Unwaith eto, mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn dangos bod y swm o arian—[Torri ar draws.]
 
13:41
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Darren Millar.
 
13:41
Jane HuttBywgraffiad
[Yn parhau.]—y mae Llywodraeth Cymru yn ei wario y pen ar iechyd yng Nghymru 1 y cant yn uwch nag yn Lloegr yn 2014-15, ei fod wedi tyfu’n gyflymach yng Nghymru yn y flwyddyn honno nag yn unrhyw un arall o wledydd y DU, a bod gwariant y pen ar iechyd ynghyd â gwasanaethau cymdeithasol yn £172—7 y cant y pen yn uwch nag yn Lloegr. A chredaf ei bod yn bwysig cydnabod, unwaith eto, adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar wasanaethau iechyd yn y DU, a ddywedodd fis diwethaf fod—mae’r adroddiad yn dangos sut y mae’r gwasanaethau iechyd yn gweithredu ym mhedair gwlad y DU ac roedd yn cydnabod ymrwymiad hirsefydlog ac eang y GIG yng Nghymru i wella ansawdd y gofal y mae’n ei ddarparu yn barhaus.
 
13:42
Aled RobertsBywgraffiad
Ym mis Ionawr, Weinidog, fe ddywedodd eich Gweinidog iechyd chi nad oedd arian ychwanegol ar gael ar gyfer byrddau iechyd. Mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr erbyn hyn yn nodi bod yna orwariant o ryw £20 miliwn. A allwch chi gadarnhau a ydy’r Llywodraeth wedi cytuno cynllun tair blynedd efo bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr erbyn hyn, ac, os nad ydynt, a ydych chi’n fodlon efo rheolaeth ariannol o fewn y bwrdd iechyd, wrth ystyried eu bod nhw’n gwrthod cyfeirio cleifion at ysbytai yn Lloegr, megis Gobowen, erbyn hyn, o achos prinder arian?
 
13:42
Jane HuttBywgraffiad
Wel, mae’n bwysig, Aled Roberts, ein bod yn cydnabod y dyraniadau ychwanegol a wneuthum yn ystod y flwyddyn ariannol hon i gynorthwyo byrddau iechyd. Ym mis Medi y llynedd, cyhoeddais becyn cyllid ychwanegol o £58.8 miliwn i gefnogi’r GIG yng Nghymru, a chyllid o £45 miliwn i wella nifer o fentrau yn y gwasanaeth, gyda’r bwriad o wella perfformiad yn y gwasanaeth yn 2015-16, ac wrth gwrs, cyhoeddais £45 miliwn yn ychwanegol o’r cronfeydd i ymdopi â phwysau’r gaeaf ar 8 Chwefror eleni, a bydd hyn oll yn cynorthwyo byrddau iechyd fel Betsi Cadwaladr i ddiwallu eu hanghenion a’u gofynion.
 
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
 
13:43
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at gwestiynau gan lefarwyr y pleidiau, a llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Nick Ramsay, sydd gyntaf y prynhawn yma.
 
13:43
Nick RamsayBywgraffiad
Diolch. Weinidog, rwy’n siŵr y byddwch yn ymuno â mi i groesawu’r gyllideb heddiw, haneru tollau pont Hafren pan fyddant yn dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus mewn ychydig flynyddoedd, a chyllid y fargen ddinesig, wrth gwrs, a gyhoeddwyd ddoe—enghraifft wych o Lywodraeth Geidwadol y DU yn darparu ar gyfer Cymru ac yn gweithio mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru. Weinidog, rydym wedi galw ers amser am lawr Barnett i fynd i’r afael â phroblem cyllid teg i Gymru. Gwyddom fod y Canghellor a’r Trysorlys wedi cytuno ar hynny yn awr. Pa drafodaethau a gawsoch gyda’i swyddogion ynglŷn â rhoi’r cyllid gwaelodol hwnnw ar waith?
 
13:44
Jane HuttBywgraffiad
Wel, rwyf innau hefyd yn falch iawn fod Llywodraeth y DU wedi gwrando ar fy ngalwadau o ran—. Roeddwn am gael gwared ar y tollau ar bont Hafren, wrth gwrs. Maent wedi gwrando ar fy ngalwad ac wedi’u torri, a chroesawaf hynny wrth gwrs. Nid ydynt wedi mynd yn ddigon pell, ond mae’n gam i’r cyfeiriad cywir. Roeddwn hefyd yn falch iawn o fod yn rhan o’r cyhoeddiad—Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a 10 awdurdod lleol yn dod at ei gilydd mewn partneriaeth—i groesawu bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd. Ond mae eich cwestiwn yn bwysig iawn o ran gosod sylfaen gadarn, hirdymor i’n cyllid yng Nghymru. O ran y cyllid gwaelodol a fformiwla Barnett, mae’n rhaid i mi ddweud ar y pwynt hwn fy mod yn croesawu adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar gyllid i Gymru yn y dyfodol. Yn wir, rwyf wedi ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid—gobeithiaf ei bod wedi cael fy llythyr—i ddweud fy mod yn derbyn pob un o’ch argymhellion gan eu bod yn adlewyrchu’r heriau a wynebwn. O ran y cyllid gwaelodol ei hun, do, wrth gwrs, rydym wedi gweithio’n galed i sicrhau’r cyllid gwaelodol hwnnw, ond mae’n rhaid iddo fod yn gyllid gwaelodol—ac rydych wedi cydnabod hyn yn drawsbleidiol, fel y Pwyllgor Cyllid—ar gyfer y dyfodol, nid ar gyfer yr adolygiad hwn o wariant yn unig.
 
13:45
Nick RamsayBywgraffiad
Ydi, Weinidog, cytunaf yn llwyr â chi fod cyllid gwaelodol yn hollbwysig, fel y mae gweithredu’r cyllid gwaelodol hwnnw’n gynnar, ond mae mecanwaith sut rydych yn ei osod yn hollbwysig hefyd. Cytunaf â chi na ddylid ei ailosod; efallai y dylid ei adolygu yn ystod y blynyddoedd i ddod, ond ni ddylid ei ailosod.
 
Fe sonioch am adroddiad y Pwyllgor Cyllid, nad ydym, yn anffodus, wedi cael amser i’w drafod gan iddo gael ei lansio mor hwyr. Rydych wedi gweld yr argymhellion. Mae un ohonynt yn argymell corff annibynnol i bennu’r swm o arian y bydd Cymru’n ei gael yn y dyfodol, yn enwedig o ran didyniadau i wneud iawn am drethi datganoledig. A ydych yn cytuno bod angen corff annibynnol, ac unwaith eto, pa drafodaethau a gawsoch gyda’r Trysorlys ynglŷn â sut y gellid ffurfio’r corff hwnnw?
 
13:46
Jane HuttBywgraffiad
Wel, unwaith eto, rwy’n croesawu ac wedi derbyn yr argymhelliad hwnnw, a chredaf ei bod yn bwysig fy mod yn cofnodi hynny fel eich Gweinidog cyllid, mewn ymateb i adroddiad defnyddiol iawn y Pwyllgor Cyllid ar gyllid i Gymru yn y dyfodol. Yn wir, ysgrifennais heddiw at y prif ysgrifennydd, Greg Hands, y cyfarfûm ag ef hefyd brynhawn ddoe, i rannu eich adroddiad gydag ef ac i ddweud fy mod yn cytuno â’r holl argymhellion ac yn gobeithio ei fod ef hefyd yn cytuno, am ei bod yn hanfodol fod Llywodraeth y DU yn cytuno hefyd. Yn benodol, soniais am y ffaith ein bod yn croesawu eich argymhelliad yn fawr, fel y dywedais wrtho, o ran cael proses adolygu annibynnol yn rhan o’r drefn. Fel y gwnaed gyda fframwaith cyllidol yr Alban, rydym yn disgwyl i’r un cyflafareddu annibynnol a’r un graddau o annibyniaeth fod yn berthnasol i fframwaith cyllidol Cymru.
 
13:47
Nick RamsayBywgraffiad
Weinidog, dyma’r tro olaf y byddaf yn eich holi cyn diddymu’r Cynulliad hwn mewn ychydig wythnosau, felly a gaf fi fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i chi a’ch swyddogion am eich cydweithrediad agos dros y ddwy flynedd ddiwethaf ar y briff cyllid? Mae hynny wedi bod yn llawer o gymorth i mi ac i’r Pwyllgor Cyllid hefyd.
 
Weinidog, rydych yn llwyr gydnabod yr egwyddor o gyllid teg i Gymru ac adolygu fformiwla Barnett. Rwyf wedi apelio sawl tro dros y—pa faint bynnag y bu—y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf am gyllid teg i Gymru. Mae’r Gweinidog gwasanaethau cyhoeddus yma heddiw hefyd, ac fe fydd yn gwybod yn iawn fy mod wedi galw am ailasesu fformiwla ariannu llywodraeth leol sy’n darparu ar gyfer Cymru. A wnewch chi gytuno y byddwch chi neu eich olynwyr yn ystyried hyn yn y Cynulliad nesaf, ac a wnewch chi gytuno â mi nad yw’n deg nad yw awdurdodau gwledig yng Nghymru yn cael y cyllid sydd ei angen arnynt i ymdopi â materion fel teneurwydd poblogaeth a darparu gwasanaethau dros ardal fawr? Gwn eich bod wedi gwrthod gwneud hyn yn y gorffennol, ond er lles y Gymru wledig, a wnewch chi ystyried hyn eto, os gwelwch yn dda?
 
13:48
Jane HuttBywgraffiad
Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Nick Ramsay am ei eiriau caredig a hoffwn fynegi’r un diolchiadau am gael y cyfle i weithio gyda chi yn ogystal â chael fy nghraffu gennych fel llefarydd cyllid yr wrthblaid. Credaf ein bod wedi elwa o weithio ar sail drawsbleidiol, yn dilyn argymhellion comisiwn Holtham ymlaen at gomisiwn Silk, ac yna’r ffordd rydym wedi bwrw ymlaen â’n galwadau am gyllid tecach i Gymru. Rwy’n derbyn ac yn cefnogi eich argymhelliad ynghylch fformiwla Barnett a chryfhau nid yn unig yr ymrwymiad i’r cyllid gwaelodol, ond hefyd y dylem edrych ar reidrwydd cael fformiwla ar sail anghenion. Rydym yn credu hynny’n gryf mewn perthynas â fformiwla Barnett.
 
Ond wrth gwrs, o ran y materion ehangach, rwy’n siŵr y byddwch yn manteisio ar y cyfle i ofyn y cwestiynau hyn i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, mewn perthynas â llywodraeth leol. Wrth gwrs, mae’r Gweinidog hefyd wedi cychwyn ei adolygiad annibynnol ei hun o gyllid ar gyfer llywodraeth leol, fel y mae llywodraeth leol yng Nghymru wedi’i wneud. Felly, mae’n destun sy’n amlwg iawn yn agored i drafodaeth a dadl.
 
13:49
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at lefarydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Peter Black.
 
13:49
Peter BlackBywgraffiad
Diolch i chi, Lywydd. Weinidog, a gaf finnau hefyd adleisio geiriau Nick Ramsay wrth ddiolch i chi am y gwaith a wnaethoch gyda’r Pwyllgor Cyllid a chyda mi fel llefarydd cyllid Democratiaid Rhyddfrydol Cymru dros y pum mlynedd ddiwethaf? Credaf ein bod wedi gweithio’n dda iawn gyda’n gilydd mewn partneriaeth i sicrhau manteision da i Gymru ac i rannau o Gymru. Credaf fod y gwaith a wnaethom fel Pwyllgor Cyllid a chyda chi wedi helpu i hybu’r broses ddatganoli yn ogystal. Felly, diolch i chi am hynny.
 
Weinidog, rydych wedi cyfeirio at adroddiad y Pwyllgor Cyllid, ‘Dyfodol Cyllido Cymru’, na fydd amser gennym i’w drafod yn y Siambr hon, fel y dywedodd Nick Ramsay. Mae argymhelliad 6 o’r adroddiad hwnnw’n dweud,
 
‘fel gofyniad lleiaf, fod rhaid gwneud penderfyniad egwyddorol ar sut y caiff y grant bloc ei leihau cyn datganoli trethi.’
 
Tybed a allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a’r Trysorlys ynglŷn â sicrhau bod y mecanwaith hwnnw ar waith, gan ei fod eisoes wedi ei roi ar waith yn yr Alban.
 
13:50
Jane HuttBywgraffiad
Wel, hoffwn innau ddiolch i Peter Black am ei gyfraniad ac am y ffordd rydym wedi gweithio gyda’n gilydd, a’i ymatebion i fy ngheisiadau yn ogystal â fy ymatebion i’w geisiadau yntau, o ran ceisio sicrhau sail decach i gyllid cyhoeddus pwysig Cymru. Credaf y bydd hynny’n effeithio ar ein cofnod o’r tymor Cynulliad hwn.
 
Byddwn yn dweud bod hyn yn hanfodol bwysig o ran argymhelliad 6. Mae’n argymell y dylid gwneud penderfyniad egwyddorol ynglŷn â sut y bydd y grant bloc yn cael ei leihau cyn datganoli trethi. Ceir nifer o ddulliau y gellid lleihau grant bloc Cymru yn gyfnewid am y refeniw treth a fydd yn llifo i Gymru ar ôl datganoli trethi. Byddai’n annheg iawn pe bai rhai o’r ffyrdd yr awgrymwyd y gellid bod wedi gwneud hynny gyda Llywodraeth yr Alban yn cael eu defnyddio yng Nghymru, felly mae’n rhaid i ni sicrhau nad yw hynny’n digwydd. Rydym wedi dweud, ac mae’r Prif Weinidog wedi dweud, ein bod yn teimlo y dylem ddilyn yr un llwybr â’r trafodaethau â Llywodraeth yr Alban a Thrysorlys Llywodraeth y DU i sicrhau fframwaith cyllidol sy’n addas i Gymru cyn datganoli cyllidol.
 
Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddweud fy mod yn siomedig nad yw’r Prif Ysgrifennydd wedi cytuno i gyfarfod ers i mi ei gyfarfod ym mis Rhagfyr, er i ni ofyn sawl gwaith. Ac rwy’n gobeithio y bydd y Cynulliad hwn heddiw, ar draws y pleidiau, yn cefnogi fy awydd i sicrhau bod y cyfarfod hwnnw’n digwydd cyn diddymu’r Cynulliad.
 
13:52
Peter BlackBywgraffiad
Diolch am eich ateb, Weinidog. Credaf fod argymhelliad 7 yn dechrau’n fendigedig o gynnil, rwy’n credu, pan ddywed:
 
‘Cred y Pwyllgor yn bendant fod angen i’r berthynas rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wella.’
 
A fyddai’r Gweinidog—? Rydych eisoes wedi cyfeirio at fethiant Prif Ysgrifennydd y Trysorlys i gyfarfod â chi, ac rwy’n deall hefyd fod problemau wedi bod ynglŷn â’r ffaith na chynhaliwyd cyfarfodydd pedairochrog rhwng y Gweinidogion cyllid mor aml ag y byddech wedi’i hoffi. A gaf fi ofyn, pan gawsoch gyfarfod gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys ddoe, a roddodd unrhyw arwydd i chi fod hyn yn debygol o newid, ac y byddai ef yn awr yn ymgysylltu’n fwy brwd gyda Llywodraeth Cymru o ran rhoi’r fframweithiau cyllidol hyn ar waith?
 
13:53
Jane HuttBywgraffiad
Wel, yn amlwg, cawsom drafodaeth ddymunol iawn ddoe, wrth i ni groesawu’r fargen ddinesig arloesol ar gyfer prifddinas-ranbarth Caerdydd. Fel y dywedais wrtho, fel yr ysgrifennais ato heddiw, roedd arwyddo bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd ddoe—roedd hyn yn fy llythyr ato heddiw—yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fo Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gweithio gyda’i gilydd. Mae angen adlewyrchu hyn wrth i ni barhau i wneud cynnydd gyda’r fframwaith cyllidol i Gymru. Felly, unwaith eto, i’w gofnodi heddiw, dyna rwyf wedi galw amdano, gan gydnabod y gallwn weithio gyda’n gilydd yn gynhwysfawr ac yn gydlynol.
 
13:53
Peter BlackBywgraffiad
Unwaith eto, diolch am eich ateb, Weinidog. Mae’r trethi sydd ar fin cael eu datganoli i ni i fod i ddod yn weithredol yn 2018. Sicrhawyd cytundeb yr Alban ar y funud olaf i bob pwrpas, er eu bod yn cael cytundeb eithaf rhesymol. Ond tybed beth yw’r amserlen yn awr o ran llunio’r cytundeb gyda’r Trysorlys er mwyn i ni allu ei gwblhau cyn y dyddiad terfynol yn 2018, a dechrau gweithredu ein cyfundrefn dreth ein hunain o hynny ymlaen?
 
13:54
Jane HuttBywgraffiad
Mae’n rhaid i ni fwrw ymlaen â hyn yn awr—mae’r cloc yn tician. Gyda chefnogaeth y Cynulliad heddiw, rwy’n siŵr, rwy’n rhagweld y bydd y trafodaethau hynny’n symud ymlaen yn gyflym yn awr.
 
13:54
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at lefarydd Plaid Cymru, Alun Ffred Jones.
 
13:54
Alun Ffred JonesBywgraffiad
Diolch yn fawr. Gan mai dyma’r tro olaf y caf i gyfle i’ch holi chi, Weinidog, a gaf innau ddiolch i chi am eich cydweithrediad parod? Rwy’n mynd i ofyn nifer o gwestiynau hawdd sy’n seiliedig ar adroddiad y pwyllgor.
 
A ydych chi’n cytuno ag argymhelliad y pwyllgor y dylid cytuno ar newidiadau i’r datganiad polisi ariannu rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r gweinyddiaethau datganoledig ac y dylent gael eu cofnodi’n dryloyw?
 
13:55
Jane HuttBywgraffiad
Cytunaf yn llwyr. Byddem yn sicr yn croesawu ymagwedd fwy tryloyw gan Lywodraeth y DU o ran ariannu llywodraeth ddatganoledig. Rwyf am ailadrodd eto, mewn ymateb i’ch cwestiwn, Alun Ffred Jones, y dylem gael corff annibynnol i asesu’r dyraniad, craffu gwell a mecanwaith anghydfod gwell.
 
13:55
Alun Ffred JonesBywgraffiad
Diolch yn fawr. A ydych chi’n cytuno hefyd ag argymhelliad 5, y dylai’r broses i ddosbarthu’r grant bloc fod â sail statudol gadarn, ac na ddylai fod ar ddisgresiwn y Gweinidog?
 
13:55
Jane HuttBywgraffiad
Cytunaf â hynny, a chredaf fod y ffaith ein bod yn dal i alw ar Lywodraeth y DU i amlinellu manylion cyllid gwaelodol hirdymor sy’n mynd i’r afael â mater cyllido yn cyd-fynd i raddau helaeth â derbyn yr argymhelliad hwnnw mewn gwirionedd. A gaf fi ddweud hefyd pa mor ddiolchgar rwyf fi i Alun Ffred Jones am ei ymwneud cwrtais, a’i graffu grymus, dros yr amser y bûm yn Weinidog cyllid ac yntau’n llefarydd cyllid i Blaid Cymru?
 
13:56
Alun Ffred JonesBywgraffiad
Diolch yn fawr. Rwy’n deall bod George Osborne wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn bwrw ymlaen â threth ar ddiodydd gorfelys—treth a gynigiwyd yn wreiddiol yma gan Blaid Cymru ac, wrth gwrs, a gafodd ei dilorni braidd, yn anffodus, gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones. A ydych chi’n croesawu’r cyhoeddiad hwn gan George Osborne heddiw?
 
13:56
Jane HuttBywgraffiad
Nid yn unig fy mod wedi ymateb, os cofiwch, Alun Ffred Jones, ond fe ymatebais i’r ddadl a gyflwynoch ac fe groesawais, ac yn wir, fel y byddwch yn ei gofio, fe gefnogais y—[Torri ar draws.] Cefnogodd Llywodraeth Cymru’r ddadl honno. Ond hefyd, rwyf am ddweud ei bod yn bwysig iawn i ni gydnabod bod gwaith yn cael ei wneud gan Sefydliad Bevan, sy’n edrych ar yr holl gyfleoedd ar gyfer trethi newydd y mae angen i ni eu hystyried, ac ar y sylfaen dystiolaeth, gan gydnabod wrth gwrs y byddai’n rhaid edrych ar rai o’r trethi hynny, megis y dreth ar siwgr, neu’n ymwneud â siwgr, ar sail y DU, a gwn ei fod yn newyddion da y gallai hyn gael ei ddatblygu.
 
13:57
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn ôl yn awr at y cwestiynau ar y papur, a daw cwestiwn 3 gan Rhodri Glyn Thomas.
 
Cefnogi Sefydliadau Cenedlaethol
 
13:57
Rhodri Glyn ThomasBywgraffiad
3. Pa gyllid ychwanegol y bydd y Gweinidog yn ei ddarparu i gefnogi sefydliadau cenedlaethol yng Nghymru er mwyn sicrhau eu dyfodol? OAQ(4)0680(FIN)[R]
 
13:57
Jane HuttBywgraffiad
Roedd y dyraniadau cyllid ar gyfer 2016-17 ar gyfer cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys ein sefydliadau cenedlaethol, wedi’u cynnwys yn y gyllideb derfynol ar 8 Mawrth.
 
13:57
Rhodri Glyn ThomasBywgraffiad
Fe ddylwn i ddatgan diddordeb gan fod fy nghyfnod i fel llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn dechrau ar 6 Ebrill, ond mae’r cwestiwn yma yn ymwneud â sefydliadau cenedlaethol yn gyffredinol yng Nghymru. Mae’n ymddangos i mi ein bod ni, dros y bum mlynedd diwethaf, wedi bod, wrth sôn am gefnogaeth o’r pwrs cyhoeddus i sefydliadau, yn sôn yn barhaus am y cwtogi sydd yn digwydd o San Steffan. Rwy’n mawr obeithio na fydd hynny’n digwydd am y 10 mlynedd nesaf, ond ein bod ni’n cydnabod y cyfyngiadau ariannol sydd gennym ni a bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r sefydliadau cenedlaethol yng Nghymru er mwyn gwneud y gorau o’r arian cyhoeddus sydd ar gael, er mwyn sicrhau partneriaethau a hefyd cydweithio rhwng y sefydliadau yma er mwyn sicrhau eu dyfodol nhw. Oherwydd mae’r sefydliadau yma yn hollbwysig i ddyfodol Cymru.
 
13:58
Jane HuttBywgraffiad
A gaf finnau hefyd ddatgan buddiant fod fy ngŵr yn un o ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru?
 
13:58
Rhodri Glyn ThomasBywgraffiad
Ydy, rwy’n gwybod hynny. [Chwerthin.]
 
13:58
Jane HuttBywgraffiad
Credaf ei bod yn bwysig, o ran ymateb i’ch cwestiwn, fod mynediad am ddim i’r llyfrgell genedlaethol ac i Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn rhan allweddol o ymrwymiadau ein rhaglen lywodraethu, gan gydnabod cyfraniad gwerthfawr y cyrff hynny i flaenoriaethau strategol llawer ehangach, gan gynnwys mynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â thlodi a chynyddu ymgysylltiad pobl mewn cymunedau difreintiedig, a’n bod yn gweld, fel y mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn gweld, fod y cyrff a noddir yn ei bortffolio yn wir yn gallu denu buddsoddiad pellach o ffynonellau eraill er mwyn ychwanegu at eu cyllidebau cymorth grant.
 
13:59
Angela BurnsBywgraffiad
Weinidog, er fy mod yn cydnabod pryderon Rhodri Glyn Thomas ynghylch y sefydliadau cenedlaethol, hoffwn wybod beth y gallech ei wneud yn greadigol i annog cyllid o’r brig i lawr i sefydliadau llai ledled Cymru. Nid ydym yn dymuno bod mewn sefyllfa lle y mae gennym goeden fawr wedi’i hamgylchynu gan goed ifanc gwan. Gall nifer o’r sefydliadau llai hyn, fel amgueddfeydd Dinbych-y-pysgod ac Arberth—ac mae llawer ohonynt ledled Cymru—ymgysylltu’n fwy effeithiol â’u cymunedau lleol am eu bod yn eu deall yn iawn, ac yn wir, ar yr un donfedd â hwy. Fy mhryder i a nifer o bobl eraill, am fod arian yn brin, yw bod yr holl gyllid yn mynd i’r sefydliadau mawr, ac mae’r rhai llai yn graddol lwgu.
 
Jane HuttBywgraffiad
Wel, ni fyddwn yn cytuno â hynny, ac wrth gwrs, o ran cyfraniad benthyciadau Cronfa Dreftadaeth y Loteri a ffynonellau eraill, gall y rheini gynorthwyo’r cyrff a’r sefydliadau llai o faint a phwysig iawn hynny, fel y dywedwch, Angela Burns. Ond rydym yn dal i wynebu’r ffaith—yn wir, hyd yn oed gyda’r gyllideb hon heddiw—ein bod wedi dioddef chwe blynedd o galedi, chwe blynedd o doriadau i gyllideb Llywodraeth Cymru. Ond rwy’n falch iawn o’r ffaith ein bod wedi gallu lleihau a lliniaru’r toriadau i lywodraeth leol yn sylweddol yn fy nghyllideb derfynol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, ac wrth gwrs, bydd hynny hefyd yn helpu ein hawdurdodau lleol i gefnogi’r cyrff diwylliannol lleol pwysig hynny.
 
14:01
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Grwpiwyd cwestiwn 4 gyda chwestiwn cynharach. Symudwn yn awr at gwestiwn 5, gan Keith Davies.
 
Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd
 
14:01
Keith DaviesBywgraffiad
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith cronfeydd strwythurol Ewropeaidd ar etholaeth Llanelli? OAQ(4)0677(FIN)[W]
 
14:01
Jane HuttBywgraffiad
Mae arian yr UE wedi cefnogi datblygiadau allweddol gwerth miliynau o bunnoedd i helpu i hybu swyddi a thwf yn Llanelli, gan gynnwys canolfan ddiwylliannol a chelfyddydau Y Gwaith, canolfan dreftadaeth gymunedol Plas Llanelly, a llawer o welliannau yng nghanol y dref.
 
14:01
Keith DaviesBywgraffiad
Diolch. Gallaf weld y gwahaniaeth sylweddol mae cyllid Ewropeaidd wedi’i wneud o fewn yr etholaeth. Mae cyllid Ewropeaidd wedi ariannu project adfywio mawr yng nghanol y dref, yn chwarter East Gate, sydd yn cynnwys Theatr y Ffwrnes, ac wedi cefnogi cymunedau a busnesau lleol, ac, wrth gwrs, mae Parc Arfordirol y Mileniwm gyda ni. A ydych yn cytuno â mi ei bod yn fudd i etholaeth Llanelli i’r Deyrnas Unedig barhau i fod yn aelod wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd?
 
14:02
Jane HuttBywgraffiad
Wel, wrth gwrs, Keith Davies, a diolch i chi am eich cwestiwn, rydym yn cefnogi aelodaeth y DU o’r UE yn gryf—mae’n hanfodol i’n heconomi, ein swyddi a’n diogelwch, a chanol ein trefi, fel Llanelli, a gweld adfywio canol y trefi hynny. Roeddwn yn arbennig o falch o ymweld â Phlas Llanelly, sy’n adeilad rhestredig gradd I— £7 miliwn o waith adfer, a gefnogwyd gan £2.5 miliwn o arian yr UE. Erbyn hyn, fel y gwyddoch wrth gwrs, dyna’r prif atyniad treftadaeth i ymwelwyr yn Llanelli. A Theatr y Ffwrnes, a gefnogir gan yr UE, Y Gwaith—creu canolfan amlddiwylliannol a chelfyddydol newydd yn Llanelli—ni fyddai’r rheini wedi bod yn bosibl heb arian yr UE. Ac ar draws Sir Gaerfyrddin gyfan—yn ôl at y ffeithiau a’r ffigurau—mae prosiectau’r UE ers 2007 wedi helpu 13,600 o bobl i ennill cymwysterau a thros 4,000 o bobl i mewn i waith, ac wedi creu dros 1,800 o swyddi a thros 500 o fentrau.
 
14:03
William PowellBywgraffiad
Rwy’n ddiolchgar iawn i fy ffrind Keith Davies am nodi’r mater pwysig hwn. Mae Sir Gaerfyrddin a Llanelli, fel y dywedoch, Weinidog, wedi elwa’n sylweddol iawn o fuddsoddiadau Ewropeaidd, drwy’r rhaglen datblygu gwledig a chefn gwlad ond hefyd drwy’r cronfeydd strwythurol. Yn benodol, hoffwn ofyn i chi ystyried manteision y system Bwcabus, sydd wedi darparu cyfrwng cymdeithasu a chymorth i bobl yn yr ardaloedd gwledig, gan roi mynediad iddynt i Lanelli a thu hwnt. Weinidog, a ydych yn cytuno â mi, ac yn wir gyda’r Aelod Ceidwadol uchel ei pharch o Senedd Ewrop, Dr Kay Swinburne, y byddai’n drychineb pe baem yn colli ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm ar 23 Mehefin?
 
14:04
Jane HuttBywgraffiad
Bûm yn cyfarfod â Kay Swinburne, ac yn wir â Derek Vaughan, pan oeddwn ym Mrwsel wythnos neu ddwy yn ôl, ac roeddem yn rhannu’r farn honno’n bendant. Credaf ei bod yn bwysig eich bod yn tynnu sylw at bwysigrwydd Bwcabus. Roeddwn yn falch o fynychu’r digwyddiad a oedd yn pwyso a mesur y cyfraniad y mae Bwcabus wedi’i wneud i gymunedau, gan alluogi pobl i gael mynediad i waith, hyfforddiant, a chyfleoedd hamdden mewn cymuned wledig. Ond credaf hefyd ei bod yn bwysig edrych ar fusnesau yn ogystal, ac yn Sir Gaerfyrddin, er enghraifft, o edrych yn unig ar y cyfanwerthwr bwyd annibynnol blaenllaw, Castell Howell, bydd yn elwa o raglenni dysgu seiliedig ar waith achrededig drwy brosiect tyfu gweithluoedd drwy ddysgu a datblygu, GWLAD, dan arweiniad Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, sef rhaglenni a gefnogir gan yr UE.
 
Effaith Cyllid Ewropeaidd (Torfaen)
 
14:05
Lynne NeagleBywgraffiad
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith cyllid Ewropeaidd ar Dorfaen? OAQ(4)0682(FIN)
 
14:05
Jane HuttBywgraffiad
Ers 2007, mae prosiectau’r UE yn Nhorfaen, megis Pontydd i Waith a busnesau newydd, wedi creu 1,380 o swyddi, 430 o fentrau, wedi cynorthwyo dros 15,700 o bobl i ennill cymwysterau a 3,675 o bobl i mewn i waith.
 
14:05
Lynne NeagleBywgraffiad
Diolch, Weinidog, a diolch am dynnu sylw at record ardderchog cyllid Ewropeaidd o ran creu swyddi a sicrhau ffyniant yn fy etholaeth. Fel y gwyddoch, mae Cymru wedi gwneud elw net o arian yr UE, a’r Cymoedd wedi elwa o adfywio strategol a phrosiectau i gael pobl i mewn i waith. Er hyn, gwyddom fod y Prif Weinidog wedi dweud na all gadarnhau y byddai arian ar gael yn lle cyllid yr UE pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Yn ystod yr Wythnos Prentisiaethau hon, maes lle y gwelwyd gwerth £144 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru a’r UE i dde Cymru y llynedd, a fyddech yn cytuno fod y cyfleoedd cyllido hyn yn gwbl hanfodol i sicrhau ffyniant yn ein cymunedau? Ac a wnewch chi ailddatgan eich ymrwymiad i ymladd i sicrhau ein bod yn aros yn yr UE?
 
14:06
Jane HuttBywgraffiad
Diolch yn fawr i’r Aelod dros Dorfaen am ei chwestiwn. Yn wir, diolch i’r holl Aelodau am ofyn y cwestiynau hyn heddiw er mwyn i ni gael cyfle cyn diwedd y tymor Cynulliad hwn i gofnodi ein pryderon ynghylch y perygl a fyddai yn ein hwynebu pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. A chredaf, yn enwedig yn ystod yr Wythnos Prentisiaethau, os edrychwn ar y prosiect Pontydd i Waith a gefnogir gan yr UE—wrth gwrs, roedd yr Aelod, Lynne Neagle, yn y digwyddiad lle buom yn pwyso a mesur effaith y prosiect hwnnw ar fywydau pobl mewn perthynas â’r prosiect nesaf ar gyfer gwella sgiliau a rhagolygon gwaith—a chydnabod hynny ar gyfer pob prentisiaeth a ariannwyd gennym—ac wrth gwrs, cefnogwyd y prentisiaethau hynny gan gyllid Ewropeaidd dros y pum mlynedd diwethaf—a chydnabod hefyd nad yw hyn yn ymwneud â phrentisiaethau yn unig, mae’n ymwneud â hyfforddiaethau, cronfa busnes Cymru, STEM Cymru a chynhwysiant gweithredol.
 
14:07
William GrahamBywgraffiad
Er y byddwn yn cytuno â llawer o’r hyn a ddywedodd yr holwr, gofynnaf heddiw i’r Gweinidog ddweud pa bryd y mae hi’n credu na fydd angen i’r Cymoedd fod yn gymwys i gael yr arian hwn gan yr Undeb Ewropeaidd.
 
14:07
Jane HuttBywgraffiad
Yn amlwg, mae’r ffaith fod gennym heddiw rai o’r ffigurau gorau o ran ystadegau’r farchnad lafur yn dangos bod Cymru’n gwneud cynnydd mawr, o ganlyniad i Lywodraeth Lafur Cymru, wrth gwrs, ac oherwydd ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd. Os edrychwch ar ffigurau’r farchnad lafur heddiw, maent yn dangos gostyngiad sydyn yn y gyfradd ddiweithdra yng Nghymru, ac mae cyfraddau cyflogaeth ar lefel uwch nag erioed o’r blaen. A chredaf fod y ffaith fod y farchnad lafur yng Nghymru yn parhau i berfformio’n well na’r DU yn gyffredinol, a bod economi Cymru yn mynd o nerth i nerth, yn dangos y cyfeiriad rydym yn anelu tuag ato o ran ein hadferiad economaidd. Ac mae’r fargen ddinesig, wrth gwrs, yn rhagor o newyddion da y gwn y byddwch yn ei rannu.
 
Cyllidebau Gwariant Cyfalaf
 
14:08
Bethan JenkinsBywgraffiad
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllidebau gwariant cyfalaf yn y dyfodol? OAQ(4)0674(FIN)
 
14:08
Jane HuttBywgraffiad
Building on the additional £4 billion of new investment in Wales levered through the Wales infrastructure investment plan, we will continue to use the plan as the key vehicle to deliver our strategic capital investment decisions.
 
14:08
Bethan JenkinsBywgraffiad
Weinidog, roeddwn yn awyddus i ofyn a ydych wedi cael unrhyw amser i feddwl am gynigion Plaid Cymru o ran helpu’r diwydiant dur, heb sôn am y problemau sydd ym Mhort Talbot ar hyn o bryd, lle y bydd pobl yn dod i wybod am y swyddi a allai gael eu colli. Cawsom y syniad o edrych ar y posibilrwydd o ariannu’r orsaf drydan yno. Sylwais eich bod wedi ateb fy nghwestiwn yr wythnos diwethaf, ac yna cawsom ddau ddatganiad ar Horizon 2020 a’r gronfa Ewropeaidd ar gyfer buddsoddi strategol, ac eto nid oedd dim yn y datganiadau hynny yn crybwyll y diwydiant dur neu unrhyw beth i’w wneud ag unrhyw arian Ewropeaidd o’ch cyfarfodydd yno yr wythnos diwethaf. A allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni os gwelwch yn dda, oherwydd rydym ar adeg dyngedfennol yn awr o ran rhagolygon swyddi pobl ym Mhort Talbot, a hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn gweithredu—os nad yn awr, yna pryd?
 
14:09
Jane HuttBywgraffiad
Wrth gwrs, mae Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn darparu diweddariadau rheolaidd ynghylch effaith ei thasglu, ac yn wir roedd hwn, wrth gwrs, yn bwnc a drafodais gyda’r Comisiwn Ewropeaidd pan fynychais y cyfarfodydd ym Mrwsel ychydig wythnosau yn ôl. Rydym hefyd, wrth gwrs, yn trafod y posibilrwydd o gael lwfansau cyfalaf uwch gyda Llywodraeth y DU, ac yn parhau i ddadlau’r achos dros gael mynediad at gyllid drwy gronfa addasiad globaleiddio Ewrop. A hefyd, wrth gwrs, o ran fy nghyfrifoldebau i, unwaith eto, mae gennym brosiect ReAct, sydd hefyd yn gysylltiedig â’r UE; dyna £10 miliwn o gyllid UE—cyfanswm o £16.7 miliwn—a gymeradwywyd fis Ebrill diwethaf. Ac mae hwnnw’n cynnig cefnogaeth uniongyrchol i bobl sy’n wynebu diswyddiadau yn Tata Steel. Wrth gwrs, mae hyn hefyd yn hollbwysig o ran y gwaith rwyf yn ei wneud i gefnogi caffael yn y cyfleoedd hynny.
 
14:10
Paul DaviesBywgraffiad
Weinidog, yn ei datganiad y llynedd, eglurodd eich cyd-Weinidog, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, y gallai deuoli’r A40 yn Sir Benfro greu enillion cadarnhaol yn y tymor hwy. Yng ngoleuni’r datganiad hwnnw, a allech chi amlinellu pa drafodaethau diweddar a gawsoch ynglŷn â dyraniadau tuag at y posibilrwydd o ddeuoli’r A40 yn Sir Benfro yn y dyfodol?
 
14:10
Jane HuttBywgraffiad
Fel y gwyddoch, rhoddodd y Gweinidog ddiweddariad ar yr astudiaeth wella ar gyfer yr A40. Wrth gwrs, comisiynwyd hwnnw i edrych ar opsiynau gwella posibl ar gyfer yr A40. Mae yna achos cryf, wrth gwrs, fel y gwyddoch, o ran y casgliadau y byddai deuoli’r A40 yn creu enillion cadarnhaol yn y tymor hwy. Mae hefyd yn cael ei chydnabod yn ffordd gyswllt ranbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol bwysig gyda mynediad at Abergwaun ac Aberdaugleddau yn ogystal ag ardal fenter Dyfrffordd y Daugleddau. Mae’r A40 yn rhan o’r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol a’r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru.
 
14:11
Kirsty WilliamsBywgraffiadArweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Weinidog, yn y gyllideb, fe gyhoeddoch fuddsoddiad cyfalaf yng nghamlas Mynwy ac Aberhonddu. Mae hwn yn seilwaith pwysig iawn ac yn hanfodol i’r economi dwristiaeth leol. A allech roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am natur y prosiect a’r buddion y credwch y bydd yn eu creu i’r economi yn y rhan honno o’r byd?
 
14:11
Jane HuttBywgraffiad
Rwy’n croesawu’r ffaith fy mod wedi gallu darparu’r arian hwn yn fawr iawn. Roedd yn gynnig, wrth gwrs, a gyflwynwyd i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol—rhywbeth y buasem wedi hoffi ei wneud pe bai gennym yr adnoddau. Mae’r arian newydd gael ei ddyrannu. Rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog yn gallu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar y cynnydd.
 
Y Portffolio Cymunedau a Threchu Tlodi
 
14:12
Alun Ffred JonesBywgraffiad
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith y dyraniad cyllidebol i’r portffolio cymunedau a threchu tlodi? OAQ(4)0681(FIN)[W]
 
14:12
Jane HuttBywgraffiad
Mae’r gyllideb ar gyfer cymunedau a threchu tlodi yn 2016-17 wedi cael ei chytuno yn £707 miliwn.
 
14:12
Alun Ffred JonesBywgraffiad
Diolch yn fawr. O fewn y portffolio gwrthdlodi mae’r cyllid i Gymunedau yn Gyntaf a Dechrau’n Deg wedi’i gynnal, sydd i’w groesawu’n fawr, ond mae’r unig gynllun sy’n weithredol ymhob cymuned, sef Teuluoedd yn Gyntaf, wedi’i gwtogi. Pam torri’r unig gynllun sydd ar gael ymhob un ardal?
 
14:12
Jane HuttBywgraffiad
Yn amlwg, rydym wedi wynebu ystyriaethau anodd mewn perthynas â’r gyllideb hon ar gyfer 2016, ac rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth o effeithiau manteisiol. Rydych yn dweud, ac mae hynny’n gywir, ein bod wedi diogelu cyllid ar gyfer Dechrau’n Deg. Mae hynny’n golygu y gallwn barhau i ddarparu cymorth i 36,000 o blant. Ond yn amlwg, mae awdurdodau lleol hefyd wedi cael eu diogelu’n fawr o ran y dyraniadau a wnaethom, nid yn unig o ran y grant cynnal refeniw gwell na’r disgwyl, ond hefyd y £21 miliwn i wasanaethau cymdeithasol. Rwy’n gwybod bod yna ffyrdd y mae awdurdodau lleol yn cefnogi cynlluniau arbennig o bwysig o’r math hwnnw.
 
14:13
Mark IsherwoodBywgraffiad
Mae cyrff, o gomisiwn Williams i Archwilydd Cyffredinol Cymru, a chlymblaid o 130 o sefydliadau yng Nghymru wedi galw am ffordd wahanol o ddarparu gwasanaethau, nid yn unig oherwydd caledi ond oherwydd bod hyn yn galluogi ac yn ailalluogi unigolion a chymunedau. Eto i gyd, rydych wedi torri 10 y cant oddi ar gyllideb cefnogi cymunedau a phobl y trydydd sector. Sut rydych chi, felly, yn ymateb i’r pryder y bydd toriadau o’r fath i gymorth ar lawr gwlad, ar adeg pan fo fwyaf o angen ymgysylltiad y trydydd sector, yn ymyrryd â’u gallu i gefnogi’r cymorth a’r gwasanaethau mwy holistaidd a chosteffeithiol, sy’n cael eu harwain gan y defnyddwyr, y mae’r trydydd sector yn eu darparu? Maent yn disgrifio hyn fel rhywbeth sydd dan fygythiad aruthrol.
 
14:14
Jane HuttBywgraffiad
Rwyf bob amser yn ei gweld hi’n rhyfedd iawn fod Mark Isherwood yn lleisio’r apeliadau hyn ynglŷn â thoriadau. Wrth gwrs, y toriadau sy’n cael eu gwneud yw’r toriadau gan Lywodraeth Geidwadol y DU—toriadau y bu’n rhaid i mi eu hwynebu gyda chymaint—. Chwe blynedd—chwe blynedd—o fod yn Weinidog cyllid gyda thoriadau flwyddyn ar ôl blwyddyn—toriadau caledi diangen gan eich Llywodraeth chi. Ac ydy, mae’n ymwneud â blaenoriaethau ac mae’r blaenoriaethau a nodwyd gennym yn golygu ein bod wedi diogelu Dechrau’n Deg, yn golygu ein bod yn diogelu’r rhaglen Cefnogi Pobl, yn golygu ein bod yn parhau i ddiogelu buddion cyffredinol, ond mae hefyd yn golygu ein bod wedi rhoi mwy o arian i mewn i’r gronfa gofal canolraddol, ac wrth gwrs, rydym yn rhoi £3 miliwn tuag at Cartrefi Cynnes, sydd, rwy’n gwybod, drwy Arbed, yn mynd i’r afael â thlodi tanwydd, a byddech yn cefnogi hynny.
 
Caffael Sector Cyhoeddus
 
14:15
Peter BlackBywgraffiad
9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ganran caffael sector cyhoeddus sy'n cael ei chadw yng Nghymru? OAQ(4)0671(FIN)
 
14:15
Jane HuttBywgraffiad
Cyflenwyr yng Nghymru bellach sy’n ennill 55 y cant o wariant caffael sector cyhoeddus Cymru ac mae’r gyfran o gontractau a ddyfarnwyd drwy GwerthwchiGymru i fusnesau Cymru bron yn 70 y cant.
 
14:15
Peter BlackBywgraffiad
Diolch i chi am eich ateb, Weinidog. Yn amlwg, mae hynny’n welliant, ond mae gennym ffordd bell i fynd os ydym am wneud y gorau o’r bunt Gymreig. A gaf fi ofyn i chi pa gamau sy’n cael eu cynllunio ar gyfer y dyfodol o ran ceisio gwella’r ganran o gaffael sy’n cael ei chadw yng Nghymru, yn enwedig mewn perthynas ag awdurdodau lleol a byrddau iechyd?
 
14:15
Jane HuttBywgraffiad
Wel, ffocws allweddol, wrth gwrs, yn ein polisi caffael yw bod contractau cyhoeddus yng Nghymru yn agored ac yn hygyrch i’r holl gyflenwyr, yn uniongyrchol neu drwy’r gadwyn gyflenwi. Mae’r gwasanaeth caffael cenedlaethol yn arbennig o awyddus i weithio gyda sefydliadau yn y cylch dadansoddi gwariant hwn ar gyfer Cymru, a fydd, rwy’n gobeithio, yn dangos cynnydd. Ond rydym yn gwella defnydd o’r gwasanaeth caffael, a chredaf fod y ffaith fod Llywodraeth Cymru yn defnyddio GwerthwchiGymru yn sicrhau y ceir cyfleoedd gwerth is ac mae honno’n ffordd allweddol ymlaen ar gyfer cyflenwyr llai o faint a chwmnïau trydydd sector.
 
14:16
Janet Finch-SaundersBywgraffiad
Weinidog, roedd yr adroddiad ‘Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2015’ gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn nodi nifer o rwystrau cyffredin sy’n effeithio ar y mynediad i gaffael yn y sector cyhoeddus, yn enwedig ar gyfer mentrau bach lleol, ac yn benodol, yr holl fiwrocratiaeth ym mhrosesau caffael awdurdodau lleol sy’n ei gwneud yn gwbl amhosibl i ddarparwyr llai gystadlu. Weinidog, sut y gallwn fynd i’r afael â’r rhwystrau hyn yn ystod tymor nesaf y Cynulliad, fel y gall pob un ohonom gadw’r bunt Gymreig i droi yn ein hetholaethau ledled Cymru?
 
14:17
Jane HuttBywgraffiad
Wrth gwrs, mae pob awdurdod lleol wedi ymrwymo i ddatganiad polisi caffael Cymru. Ac mae mabwysiadu adnoddau fel y gronfa ddata gwybodaeth am gymwysterau cyflenwyr a’r canllawiau ymgeisio ar y cyd yn lleihau rhwystrau i fusnesau Cymru rhag ymgeisio am ein contractau, ond hefyd rydym wedi buddsoddi yn y prosiect a ddatblygwyd gennym ​​er mwyn sicrhau y gallwn wella gallu, cysondeb a phroffesiynoldeb yn y sector caffael, yn enwedig mewn llywodraeth leol.
 
14:17
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Diolch yn fawr, Weinidog.
 
2. Cwestiynau i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
 
14:17
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at eitem 2, sef cwestiynau i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae Cwestiwn 1 [OAQ(4)0684(PS)] wedi’i dynnu’n ôl. Cwestiwn 2, John Griffiths.
 
Cymuned y Lluoedd Arfog
 
14:17
John GriffithsBywgraffiad
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am berfformiad y pecyn o gefnogaeth ar gyfer cymuned y lluoedd arfog yng Nghymru? OAQ(4)0683(PS)
 
14:17
Leighton AndrewsBywgraffiadY Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Lywydd, rydym yn ymrwymedig i gefnogi aelodau sy’n gwasanaethu a chyn-aelodau o’r lluoedd arfog yng Nghymru. Mae ein pecyn cymorth yn nodi sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cyn-filwyr y lluoedd arfog yng Nghymru.
 
14:17
John GriffithsBywgraffiad
Weinidog, yn ddiweddar ymwelais â barics Rhaglan yng Nghasnewydd i weld yr hyfforddiant a ddarperir gan y coleg paratoi milwrol, yn darparu hyfforddiant ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd. Hefyd, wrth gwrs, roeddwn yn falch o groesawu lansiad maniffesto’r Lleng Brydeinig Frenhinol ar gyfer etholiadau’r Cynulliad, ac roeddech chi’n bresennol hefyd, fel yr oedd llawer o’r Aelodau eraill yma heddiw. A fyddech yn cytuno bod perthynas gref rhwng Llywodraeth Cymru a chymuned y lluoedd arfog yng Nghymru, ond bod angen i ni barhau i ddatblygu’r berthynas honno er mwyn sicrhau bod anghenion penodol cymuned y lluoedd arfog yn cael eu deall a’u diwallu’n llawn?
 
14:18
Leighton AndrewsBywgraffiad
Mae fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Ddwyrain Casnewydd, yn gwbl gywir ac rwy’n croesawu’n fawr y camau a roddodd ar waith i noddi derbyniad y Lleng Brydeinig Frenhinol pan lansiwyd eu maniffesto ar gyfer etholiadau’r Cynulliad ychydig wythnosau’n ôl. Rwy’n credu ei bod yn deg dweud bod ein pecyn cymorth ar gyfer y lluoedd arfog bron yn unigryw yn y Deyrnas Unedig. Rydym wedi bod yn llwyddiannus iawn yng Nghymru o ran gwella’r nifer sy’n manteisio ar y cerdyn disgownt amddiffyn; rydym wedi rhoi gwasanaethau cenedlaethol unigryw ar waith megis gwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr; ac wrth gwrs, rydym yn parhau i gadw hawliau llawn yn ein cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf i aelodau a chyn-aelodau o’r lluoedd arfog a’u teuluoedd. Rwy’n cytuno gyda fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Ddwyrain Casnewydd, fod yn rhaid i ni barhau i sicrhau fod y pecyn cymorth hwn yn cael ei ddatblygu yn y dyfodol.
 
14:19
Mohammad AsgharBywgraffiad
Weinidog, mae gadael y fyddin, yn aml, ar ôl cyfnod hir o wasanaeth yn creu llawer o heriau i gyn-filwyr. Mae’n aml yn golygu gorfod symud, symud cartref, dod o hyd i waith newydd a newid ffordd o fyw. Weithiau gall cyn-filwyr ei chael yn anodd cael gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael iddynt wrth ddychwelyd i fywyd sifil. Pa ystyriaeth sydd wedi’i rhoi i sefydlu rhwydwaith o siopau un stop ar gyfer cyn-filwyr, fel sydd ganddynt yn yr Alban, er mwyn sicrhau eu bod yn gwbl ymwybodol o’r cyngor a’r cymorth sydd ar gael iddynt yno?
 
14:20
Leighton AndrewsBywgraffiad
Lywydd, yn y lle cyntaf, wrth gwrs, mater i’r Weinyddiaeth Amddiffyn yw sicrhau bod gwasanaethau adsefydlu ar gyfer aelodau o’r lluoedd arfog yn ddigonol, ond rwy’n credu y gallwn fod yn falch o’r ffaith ein bod, yng Nghymru, wedi sefydlu’r cyfamod cymunedol ar draws pob un o’r 22 o awdurdodau lleol gyda hyrwyddwyr lluoedd arfog yn eu lle yn yr awdurdodau lleol hynny. Rydym wedi gweithio gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn, gyda chynrychiolwyr cymunedau’r lluoedd arfog a’r elusennau sy’n eu cefnogi i sicrhau bod y wybodaeth berthnasol wrth gael eu rhyddhau ar gael i aelodau’r lluoedd arfog.
 
14:21
Darren MillarBywgraffiad
Weinidog, a wnewch chi ategu fy niolch i Lywodraeth y DU am eu buddsoddiad yn y rhaglen wych, Newid Cam, sydd wedi cael ei chefnogi gan eich Llywodraeth yn y gorffennol ac sy’n ymgysylltu’n effeithiol iawn â gwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr? Mae Llywodraeth y DU, wrth gwrs, wedi cyhoeddi’r pecyn £500,000 hwnnw. Mae’n dod ychydig wythnosau’n unig ar ôl cyhoeddiad na fyddai cyllid yn parhau ar gyfer y sefydliad hwnnw, a bydd hwn yn newyddion da iawn, yn wir, i gyn-filwyr a’u teuluoedd ledled Cymru.
 
14:21
Leighton AndrewsBywgraffiad
Rwyf eisiau talu teyrnged i’r gwaith y mae Newid Cam wedi’i wneud, ac fe’i gwelais, yn wir, yn fy etholaeth fy hun, sef y Rhondda, yn ddiweddar iawn, pan gyfarfûm â chyn-filwyr ac aelodau o Newid Cam i drafod y gwasanaethau y maent yn eu darparu a’r anghenion sydd ganddynt. Felly, rwy’n sicr am ymuno â’r Aelod i longyfarch Newid Cam ar y gwaith y mae’n ei wneud.
 
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
 
14:21
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at gwestiynau gan lefarwyr y pleidiau. Yn gyntaf y prynhawn yma mae llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Janet Finch-Saunders.
 
14:21
Janet Finch-SaundersBywgraffiad
Diolch. Weinidog, mae eich datganiad ddoe ynglŷn â’r ymgynghoriad ar Fil Llywodraeth Leol (Cymru) drafft yn nodi nad oes consensws clir o hyd ar strwythur llywodraeth leol yn y dyfodol. O ystyried eich bod, yn y gorffennol, wedi dweud wrth y rhai sy’n gweithio ar draws llywodraeth leol i ‘dyfu i fyny’ mewn perthynas â’ch cynigion dramatig i uno, sut rydych chi’n rhagweld y gellir gweithio’n gynhyrchiol gyda Llywodraeth newydd yng Nghymru a llywodraeth leol ar ôl tymor y Cynulliad hwn?
 
14:22
Leighton AndrewsBywgraffiad
A gaf fi ddweud wrth yr Aelod Ceidwadol fod fy sylwadau yn y pwyllgor, wrth gwrs, wedi’u cyfeirio at rai o gynrychiolwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a oedd eisoes wedi rhoi tystiolaeth i’r pwyllgor ac yn gwneud sylwadau a oedd, yn fy marn i, yn annefnyddiol ac yn anffodus?
 
14:22
Janet Finch-SaundersBywgraffiad
Diolch yn fawr, Weinidog. Ar ôl disgrifio pryderon Swyddfa Archwilio Cymru fod y Bil Llywodraeth Leol (Cymru) drafft yn effeithio ar annibyniaeth archwilio fel rhai ‘hurt’, sut rydych yn ymateb yn awr i ganfyddiadau Archwilydd Cyffredinol Cymru fod adran 143 o’r Bil yn tramgwyddo adran 108 a Rhan 2 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, fel y nodir yn fanwl ei lythyr cynhwysfawr i gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol?
 
14:23
Leighton AndrewsBywgraffiad
Nid wyf yn cytuno â’r archwilydd cyffredinol.
 
14:23
Janet Finch-SaundersBywgraffiad
Diolch. Yn olaf, Weinidog, gan mai’r rhain yw fy nghwestiynau olaf am y tymor Cynulliad hwn, a gaf fi ddiolch i chi am ymateb i fy nghwestiynau fel llefarydd gyda’r fath gwrteisi a hiwmor? [Chwerthin.] Weinidog, mae adroddiadau’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar y Bil Llywodraeth Leol (Cymru) drafft yn galw am ystyriaeth bellach, ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ynglŷn â sut y gellid talu’r gost o uno heb doriadau sylweddol i wasanaethau rheng flaen. Oni fyddech yn cytuno bod yn rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru ymrwymo i weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar y mater hwn? Wedi’r cyfan, hwy yw’r rhai sy’n adlewyrchu safbwyntiau’r aelodau y maent yn eu gwasanaethu mewn gwirionedd.
 
14:24
Leighton AndrewsBywgraffiad
A gaf fi ddechrau drwy ddweud fy mod wedi mwynhau croesi cleddyfau gyda’r Aelod yn y Siambr hon ac yn y pwyllgor dros y 18 mis diwethaf wrth i ni ysgwyddo’r cyfrifoldebau portffolio? Mewn perthynas â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, rwyf bob amser yn gwrando ar yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud. [Chwerthin.]
 
14:24
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
O, mae’n ddrwg gennyf. [Chwerthin.] Roedd hynny’n swnio fel un o’ch rhagymadroddion yn awr, Weinidog. [Chwerthin.] Mae’n wir ddrwg gennyf. Symudwn yn awr at lefarydd Plaid Cymru, Simon Thomas.
 
14:24
Simon ThomasBywgraffiad
Diolch i chi, Lywydd. Weinidog, serch hynny, rydych yn gadael eich swydd gyda 22 prif awdurdod lleol yn dal yn eu lle, tri awdurdod parc cenedlaethol, dros 730 o gynghorau tref a chymuned yn dal yn eu lle, 22 bwrdd gwasanaethau cyhoeddus statudol newydd, pedwar consortiwm addysg a myrdd o bartneriaethau rhanbarthol a chyrff cyflawni yn dal wrthi’n darparu gwasanaethau cyhoeddus. Os mai diwygio gwasanaethau cyhoeddus yw hyn, sut olwg fuasai wedi bod ar beidio â gwneud dim? [Chwerthin.]
 
14:25
Leighton AndrewsBywgraffiad
Wel, roeddwn yn ddiolchgar iawn i’r Aelod a’i gyd-Aelodau am ein helpu i basio Bil Llywodraeth Leol (Cymru) drwy’r Siambr, ychydig fisoedd yn ôl yn unig. Yn wir, roeddwn yn meddwl ar y pryd eu bod yn ddêt eithaf rhad. [Aelodau’r Cynulliad: ‘O.’]
 
14:25
Simon ThomasBywgraffiad
Efallai y byddwch yn difaru hynny mewn ychydig wythnosau. [Chwerthin.] Byddwn yn defnyddio’r ddeddfwriaeth pan fyddwn mewn Llywodraeth i gyflawni ein hagenda ar gyfer diwygio gwasanaethau cyhoeddus, a gadewch i ni weld pa fath o ddêt fyddwch chi wedyn. A throi at ddêts, gadewch i mi ofyn cwestiwn tebyg—mewn ffordd wahanol efallai, ond efallai y caf ateb gwahanol—i’r cwestiwn y gofynodd llefarydd y Ceidwadwyr i chi. Yn y gorffennol, rydych wedi awgrymu na ddylai Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gael ei hariannu gan y Llywodraeth ganolog ac y dylai ariannu ei hun, gan ei bod, wedi’r cyfan, yn cynrychioli haen arall o lywodraeth, ac yn aml, yn eich gwrthwynebu. A ydych yn gweld y bydd angen i chi roi diwedd ar gyllid Llywodraeth ganolog i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru er mwyn iddynt fod yn bartner go iawn yn y gwaith o ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus?
 
14:26
Leighton AndrewsBywgraffiad
Nid wyf yn siŵr fod angen i ni roi diwedd ar ein holl gymorth i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ond rwy’n credu, yn y pen draw, mai rôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn bennaf yw cynrychioli buddiannau llywodraeth leol yng Nghymru. Nawr, mae’n deg dweud bod llywodraeth leol yng Nghymru yn cael canran uchel iawn o’i hincwm gan Lywodraeth Cymru eisoes. Felly, rwy’n credu y gellid ystyried y byddai i ni ariannu Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar ben hynny yn gofyn ychydig gormod o haelioni’r Llywodraeth hon.
 
14:26
Simon ThomasBywgraffiad
Wel, un o’r pethau y mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn defnyddio ei chronfeydd, yn rhannol gennych chi, i’w wneud ar hyn o bryd, wrth gwrs, yw sefydlu comisiwn ar gyllid llywodraeth leol, dan gadeiryddiaeth yr Athro Travers, sy’n adnabyddus ym maes cyllid llywodraeth leol yn hynny o beth. Rwy’n deall y bydd hwnnw’n adrodd yn ôl, mewn gwirionedd, ar 24 Mawrth. Ni fyddwn yn cyfarfod fel Cynulliad; fodd bynnag, byddwch yn parhau i fod yn Weinidog y Llywodraeth. Felly, a allwch roi syniad i’r Cynulliad heddiw ar ein diwrnod olaf sut y gallech fod eisiau ymateb i’r adroddiad hwnnw, ac a ydych yn cytuno â mi fod diwygio cyllid ar gyfer llywodraeth leol yn rhywbeth sy’n gorfod mynd law yn llaw â diwygio’r cyrff cyflawni?
 
14:27
Leighton AndrewsBywgraffiad
Yn gyntaf, a gaf fi ddweud nad wyf yn cytuno bod diwygio cyllid llywodraeth leol yn gorfod mynd law yn llaw ag ad-drefnu llywodraeth leol? Yn wir, rwy’n credu efallai ei bod yn well i ni fwrw ymlaen ag un agenda cyn mynd i’r afael â’r agenda fwy hirdymor o ddiwygio cyllid llywodraeth leol. Fodd bynnag, bydd yn gwybod fy mod hefyd wedi penodi panel dyfodol cyllid i edrych ar rai o’r materion hirdymor hynny. Rwyf wedi cael briff trylwyr gan yr Athro Tony Travers ar waith y comisiwn annibynnol. Rwy’n croesawu’r gwaith a wnaed yno ac rwy’n edrych ymlaen at gyhoeddiad eu hadroddiad terfynol. Rwy’n credu y bydd yn bwysig ac yn cyfrannu’n sylweddol at y ddadl ehangach yng Nghymru ynglŷn â dyfodol diwygio cyllid llywodraeth leol. Gan mai hon yw ein sesiwn gwestiynau olaf, a gaf fi dalu teyrnged i’r Aelod sydd wedi fy nilyn o bortffolio i bortffolio—mae’n teimlo felly—yn y Siambr hon? O fewn ychydig wythnosau’n unig i ddod i’r Siambr hon, newidiodd bolisi ei blaid ar ffioedd dysgu ac yn awr rwy’n ei weld yn newid polisi ei blaid ar lywodraeth leol, ond mae wedi bod yn bleser gweithio gydag ef bob amser.
 
14:28
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at lefarydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Peter Black.
 
14:28
Peter BlackBywgraffiad
Diolch i chi, Lywydd. A gaf fi hefyd ychwanegu fy niolch i’r Gweinidog am ein hymgysylltiad yn y gorffennol a mynegi fy ngwerthfawrogiad o’r gwaith a wnaethom gyda’n gilydd i geisio gwella llywodraeth leol a’r gwahanol gyfrifoldebau sydd ganddo yn ei bortffolio? Gan ddilyn ymlaen o gwestiwn Simon Thomas mewn perthynas â chyllid llywodraeth leol, mae’r Gweinidog wedi cyfeirio at y panel dyfodol cyllid a sefydlodd, ac rwyf innau hefyd wedi cael briff ar gomisiwn Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac rwy’n deall y bydd hwnnw’n cyflwyno’i adroddiad ddydd Iau 26 Mawrth. Weinidog, wrth sefydlu eich panel dyfodol cyllid, pa egwyddorion rydych wedi gofyn iddynt eu hystyried o ran edrych ar sut y dylid ariannu llywodraeth leol yn y dyfodol?
 
14:29
Leighton AndrewsBywgraffiad
Ni fuaswn yn mynd ar ddêt gydag ef, am nad yw 26 Mawrth ar ddydd Iau, 24 Mawrth yw’r dydd Iau, fel y mae’n digwydd. Ond gan roi hynny o’r neilltu, mae’r rhain yn faterion pwysig. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at ddarllen adroddiad y comisiwn annibynnol a sefydlwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Daeth yr Athro Tony Travers gerbron fy mhanel dyfodol cyllid i roi tystiolaeth. Rydym i gyd yn gwybod, rwy’n credu, am ei enw da yn y maes dros ddegawdau ac mae wedi gwneud cyfraniad sylweddol iawn i fywyd cyhoeddus a meddwl y cyhoedd ynglŷn â materion cyllid llywodraeth leol, ac rwy’n siŵr y byddwn i gyd yn darllen yr hyn sydd ganddo i’w ddweud gyda diddordeb. Ac a gaf fi ateb yr Aelod a dweud fy mod wedi llwyr fwynhau ein cecru ar draws y Siambr hon dros y blynyddoedd, ac a gaf fi ddweud wrtho—os nad yw’n rhagdybio gormod—fy mod yn edrych ymlaen at weld hynny’n parhau?
 
14:30
Peter BlackBywgraffiad
Wel, diolch i chi am hynny, Weinidog. Rwyf innau hefyd yn edrych ymlaen at barhau hynny ar ôl 5 Mai hefyd. Weinidog, rydych wedi amlinellu unwaith eto sut rydych yn credu y bydd panel Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru—panel Tony Travers—yn gweithio, ond nid ydych wedi rhoi llawer o fanylion i mi, mewn gwirionedd, o ran yr hyn y mae eich panel dyfodol cyllid yn edrych arno. Beth yw’r prif egwyddorion y credwch y dylid eu cynnwys yn rhan o system gyllid llywodraeth leol yn y dyfodol? Yn amlwg, mae angen gwella gwasanaethau a chanlyniadau, ac ysgogi twf economaidd efallai. Ai dyna’r ysgogwyr allweddol, neu a oes yna ysgogwyr eraill rydych am eu hystyried hefyd?
 
14:31
Leighton AndrewsBywgraffiad
Wel, rwy’n credu bod angen i ni ystyried tegwch, mae angen i ni ystyried ffactorau fel amddifadedd, mae angen i ni ystyried yr holl faterion hynny a grybwyllwyd gan Aelodau yn y Siambr hon, gan gynnwys, wrth gwrs, teneurwydd poblogaeth. Ond rwy’n credu ein bod ni mewn cyfnod lle y bydd angen i lywodraeth leol, yn gynyddol, fod yn fwy cynaliadwy ynddi ei hun, ac felly mae ei gallu i greu cyllid yn mynd i fod yn gwestiwn mwy allweddol. Ac felly, ni fyddwn am i’r panel dyfodol cyllid ddiystyru unrhyw beth yn ei ystyriaethau ar hyn o bryd. Bydd yn bwrw golwg gyffredinol ar hyn; bydd yn sicr o ystyried yr hyn a ddywedwyd yn adroddiad y comisiwn annibynnol pan gaiff ei gyhoeddi. Ond o’m rhan i, buasai’n well gennyf i ni gymryd ein hamser i ystyried yr holl opsiynau a chael hyn yn iawn na rhuthro i ddiwygio cyllid llywodraeth leol mewn modd nad yw’n berffaith.
 
14:32
Peter BlackBywgraffiad
Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Rwy’n credu bod hynny’n hollol gywir, ac rwy’n credu ein bod wedi gweld y canlyniadau pan ruthrodd y Llywodraeth Geidwadol i ddiwygio, a chreu’r tâl cymunedol neu dreth y pen. Weinidog, rydych eisoes wedi siarad am roi mwy o gyfrifoldeb i lywodraeth leol a’i grymuso, ac rydych hefyd, wrth gwrs, wedi diddymu llawer o grantiau uniongyrchol i lywodraeth leol, er fy mod yn credu bod tua 50 ar ôl o hyd, ac mae angen edrych ar y rheini ar gyfer y dyfodol. A fyddech yn ystyried rhoi mwy o ryddid i lywodraeth leol godi eu trethi eu hunain a dyfeisio trethi’n lleol fel rhan o hyn? A yw hynny’n rhan o’ch dull o weithredu—dull mwy amrywiol, gan roi’r gallu i gynghorau lleol wneud pethau gwahanol mewn gwahanol ardaloedd?
 
14:32
Leighton AndrewsBywgraffiad
Rwy’n credu ei bod yn llawer rhy gynnar i ddweud beth fyddai’r panel dyfodol cyllid yn barod i’w argymell. Ond yn amlwg, mae angen iddo edrych yn gyffredinol ar dystiolaeth ryngwladol, ac rydym yn gwybod fod gan lywodraeth leol, ac yn wir, llywodraethau rhanbarthol mewn rhannau eraill o’r byd, nifer o wahanol ddulliau y gallant eu defnyddio i greu cyllid. Mae’n briodol ein bod yn rhoi ystyriaeth i bob un o’r rheini, ac ar hyn o bryd, ni fyddwn am ddiystyru pethau, ond rwy’n credu ei bod yn annhebygol y bydd—mae un maes y buaswn yn ôl pob tebyg yn dymuno ei ddiystyru, ac rwy’n credu ei bod yn annhebygol y byddai’r cysyniad o dreth incwm leol yn cael cefnogaeth gan y Llywodraeth hon.
 
14:33
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Mae Cwestiwn 3 [OAQ(4)0685(PS)] wedi’i dynnu’n ôl.
 
Ymgysylltu â’r Cyhoedd (Gwasanaethau Cyhoeddus)
 
14:33
Joyce WatsonBywgraffiad
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am swyddogaeth ymgysylltu â’r cyhoedd wrth gynllunio gwasanaethau cyhoeddus? OAQ(4)0691(PS)
 
14:33
Leighton AndrewsBywgraffiad
Mae Llywodraeth Cymru yn annog cyfranogiad y cyhoedd wrth lunio polisïau ac wrth gynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r Bil Llywodraeth Leol (Cymru) drafft a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn hyrwyddo pwysigrwydd ymgysylltu wrth gynllunio gwasanaethau cyhoeddus.
 
14:34
Joyce WatsonBywgraffiad
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Gyda’r gyllideb heddiw, ymddengys fod George Osborne yn benderfynol o dorri £4 biliwn oddi ar wariant cyhoeddus, ac mae’r twll yn dyfnhau, a bydd y Torïaid yn dal ati i gloddio, wrth gwrs, a dyna fydd y cyd-destun cyllidol a’r her i Lywodraeth nesaf Cymru, a bydd hefyd yn effeithio ar wasanaethau cyhoeddus. Felly, bydd ymgynghori â’r cyhoedd ar flaenoriaethau gwario a chynllunio gwasanaethau yn wirioneddol bwysig. A wnewch chi, felly, ailadrodd wrth y cyrff cyhoeddus, Weinidog, yr angen am ymgynghori hwylus a hygyrch sy’n destun cyhoeddusrwydd eang, ac er mwyn arbed arian, a wnewch chi ofyn iddynt gynnwys gwybodaeth ynglŷn ag ymgyngoriadau sydd i ddod mewn taflenni y mae’r cynghorau eisoes yn eu hanfon i bob tŷ yn eu hardaloedd?
 
14:34
Leighton AndrewsBywgraffiad
A gaf fi gychwyn drwy ddweud bod fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, yn iawn i atgoffa’r Siambr o’r toriadau difrodus i gyllid cyhoeddus a wnaed gan y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan—y toriadau o tua £1.3 biliwn y maent wedi’u gwneud i gyllideb Cymru a pholisïau economaidd, wrth gwrs, nad ydynt yn cyflawni ar lefel y DU, fel y gwyddom, nac ar gyfer pobl Cymru yn wir?
 
O ran yr eglurder y mae cynghorau angen ei roi i’w trigolion ynglŷn â chynigion sy’n cael eu datblygu ar gyfer gwariant lleol neu’r dreth gyngor leol, pan gyhoeddais y setliad llywodraeth leol, atgoffais y cynghorwyr yn fy llythyr atynt am bwysigrwydd ymgysylltu â’u cymunedau lleol wrth lunio cynigion cyllideb ac wrth wneud penderfyniadau cyllidebol. Mae rhai cynghorau’n gwneud hynny mewn modd cynhwysfawr iawn yn wir, ond yn y Bil Llywodraeth Leol (Cymru) drafft, wrth gwrs, byddwn yn gosod dyletswydd newydd ar awdurdodau lleol i ymgynghori â’u cymunedau a sefydliadau partner wrth osod blaenoriaethau gwario ar gyfer pob blwyddyn ariannol cyn i’r cyngor gytuno ar y cyllidebau.
 
14:36
Suzy DaviesBywgraffiad
Wrth gwrs, Weinidog, mae llawer o awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus yn awr yn cyflawni eu hymgyngoriadau bron yn gyfan gwbl ar-lein ac nid drwy gyfrwng taflenni, fel y mae Joyce Watson i’w gweld yn credu sy’n digwydd o hyd. Er bod hynny’n ei wneud yn fwy hygyrch i rai pobl, nid yw’n helpu’r rhai sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol mewn gwirionedd, a phlant a phobl ifanc yn arbennig. Rwy’n credu y buasai’n deg dweud nad oes llawer o dudalennau gwe yn cael eu cynllunio, fel y dylent, i fod yn hygyrch i blant ifanc a phobl ifanc. Rwy’n cofio ein bod yn rhannu’r un farn ynghylch ein hymrwymiad fel Cynulliad i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn treiddio i lawr i gyrff cyhoeddus sy’n cyflawni polisi Llywodraeth a thybed, felly, pa gamau rydych wedi’u rhoi ar waith, yn y chwe mis diwethaf, fe ddywedwn ni, i siarad â chyrff cyhoeddus ac awdurdodau lleol ynglŷn â chydymffurfio â’r hyn y credwn eu bod yn ymrwymiadau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.