Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :
Nôl i'r rhestr dogfennau Gweld y dudalen hon heb lincs
Cofnod y Trafodion
15/03/2016
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (y Fonesig Rosemary Butler) yn y Gadair.
 
13:30
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Prynhawn da. Dyma ddechrau trafodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
 
1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
 
13:30
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Cwestiynau i'r Prif Weinidog yw’r eitem gyntaf y prynhawn yma, a daw cwestiwn 1 gan Kirsty Williams.
 
Safonau Addysg (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
 
13:30
Kirsty WilliamsBywgraffiad
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am safonau addysg ym Mrycheiniog a sir Faesyfed? OAQ(4)2786(FM)
 
13:30
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae safonau addysg yn yr ardal, yn gyffredin â safonau yng Nghymru yn ei chyfanrwydd, yn cyflwyno darlun sy’n gwella. Mae hyn yn cynnwys, ar lefel genedlaethol a lleol, gwelliant i ganlyniadau cyfnod allweddol 4, gan gynnwys lefel 2.
 
13:30
Kirsty WilliamsBywgraffiadArweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna? Brif Weinidog, ar sawl achlysur, rydych chi wedi dweud yn y Siambr hon na ddylai ysgolion sy’n darparu safon dda o addysg gael eu cau, ac, fel yr ydych chi newydd ddweud eich hun, ceir gwelliannau i safonau addysg ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed. Felly, a wnewch chi gytuno â mi y bydd cynlluniau annoeth Cyngor Sir Powys i gau nifer o ysgolion cynradd bach gwledig, ac uno ac o bosibl cau rhai o'n hysgolion uwchradd, yn gwneud dim i wella lefelau cyrhaeddiad addysgol pobl ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? Gwn fod llawer o’m hetholwyr eisoes wedi ysgrifennu atoch ar y pwnc hwn ac yn gobeithio y bydd Lywodraeth Cymru yn ymyrryd, os oes modd. Beth allwch chi ei ddweud wrth y rhieni hynny sydd wedi ysgrifennu atoch yn pryderu y bydd y cynlluniau hyn, yn hytrach na gwella canlyniadau addysgol ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, yn gwneud pethau'n waeth mewn gwirionedd?
 
13:31
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, fel y mae’r Aelod yn gwybod, materion i’r awdurdod lleol yw’r rhain. Er hynny, fel y mae hi hefyd yn gwybod, mae gan Weinidogion Cymru swyddogaeth o dan rai amgylchiadau statudol penodol, ac felly ni allaf wneud sylwadau ar unrhyw gynlluniau a allai gael eu hatgyfeirio i Weinidogion Cymru. Ond gwn ei bod hi, dros nifer o wythnosau yn y Siambr hon, wedi mynegi pryderon ei hetholwyr. Rwyf wedi mynegi'r farn nifer o weithiau fy mod i wedi gobeithio y byddai'r awdurdod addysg lleol yn cymryd y pryderon hynny i ystyriaeth. Os caiff y mater nawr, wrth gwrs, ei atgyfeirio i Weinidogion Cymru, yna mae'r rhain yn faterion a fydd yn cael eu hystyried gan y Gweinidog perthnasol.
 
13:32
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Mick Antoniw ar Frycheiniog a Sir Faesyfed.
 
13:32
Mick AntoniwBywgraffiad
Ie. Brif Weinidog, mae ansawdd y safonau addysgol ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed yn amlwg yn dibynnu ar faint o gyllid addysgol sydd ar gael. Brif Weinidog, ar 17 Tachwedd, 2010, dywedodd arweinydd Ceidwadwyr Cymru, pan ofynnwyd iddo o faint y byddent yn torri'r gyllideb addysg, a dyfynnaf, 'Tua 20 y cant'. Yng ngoleuni gwrthodiad arweinydd presennol Ceidwadwyr Cymru i ymrwymo i ddiogelu’r gyllideb addysg, ni allwn ond tybio y byddant yn torri addysg 20 y cant, pe bydden nhw fyth mewn grym. Brif Weinidog, beth fyddai'r goblygiadau i addysg yng Nghymru pe byddai'r Torïaid fyth yn cael eu hethol i rym?
 
13:32
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Pe byddai toriad o 20 y cant i gyllid addysg ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, byddai hynny'n cael effaith niweidiol aruthrol, fel y byddai mewn mannau eraill yng Nghymru, gan gynnwys yn yr etholaethau yr ydym ni’n eu cynrychioli. Byddai'n golygu, er enghraifft, 5,000 yn llai o athrawon ar draws Gymru o bosibl, byddai'n sicr yn golygu llai o adnoddau i ysgolion, a byddai'n sicr yn golygu na fyddai ysgolion yn cael eu hadeiladu yn y dyfodol. A chawsom gadarnhad o hyn dros y penwythnos, pan ddywedodd arweinydd yr wrthblaid na fyddai'n diogelu gwariant ar addysg.
 
13:32
William PowellBywgraffiad
Yn unol â chofrestr buddiannau’r Aelodau, dylwn ddatgan fy mod i’n aelod o Gyngor Sir Powys, ond hefyd yn llywodraethwr, ac ers talwm yn wir, yn brif fachgen un o’r ysgolion sydd o dan fygythiad o gau. [Torri ar draws.]
 
13:33
Aelod Cynulliad / An Assembly Member
Cyn y rhyfel. [Chwerthin.]
 
13:33
William PowellBywgraffiad
O, yn sicr. Brif Weinidog, rwy'n ymwybodol iawn o'r pryder ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed ar hyn o bryd ynghylch y cynigion ad-drefnu ysgolion. Un mater penodol sy’n cael ei godi’n eang gan aelodau pryderus o'r gymuned yw arwahanrwydd tybiedig proses gwneud penderfyniadau’r cabinet, a chaiff hyn hefyd ei adlewyrchu mewn mannau eraill yn fy rhanbarth i, yn Sir Benfro, gyda materion presennol sy’n dod i’r amlwg. Brif Weinidog, a fyddech chi’n cytuno â mi y byddai o fudd mawr i achos tryloywder pe byddai arweinwyr awdurdodau lleol sy'n wynebu penderfyniadau o'r fath yn ymatal rhag yr arfer o gynnal cyfarfodydd cabinet anffurfiol, heb eu cofnodi cyn sesiynau busnes ffurfiol, er mwyn rhoi mwy o hyder i’r cymunedau yr effeithir arnynt am dryloywder y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud?
 
13:34
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Rwy'n credu bod tryloywder yn gwbl hanfodol. Mae'n bwysig, lle mae pobl yn gweld penderfyniadau'n cael eu gwneud—hyd yn oed os byddant yn anghytuno â’r penderfyniadau hynny—eu bod yn deall sut y gwnaed y penderfyniadau hynny, a'r rhesymeg sy’n sail i’r penderfyniadau hynny. Nid wyf yn gwybod pa broses a ddilynwyd ym Mhowys y tro hwn, ond, yn amlwg, rwy’n ymwybodol—fel y mae’r Aelod wedi ei nodi, ac, yn wir, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol—bod hwn yn fater arbennig o ddadleuol ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed.
 
Gwasanaethau Iechyd Meddwl (De Cymru)
 
13:35
Julie MorganBywgraffiad
2. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella gwasanaethau iechyd meddwl yn ne Cymru? OAQ(4)2778(FM)
 
13:35
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, un o flaenoriaethau'r Llywodraeth yw gwella iechyd meddwl a lles pobl ledled Cymru, ac mae gwasanaethau wedi eu gwella trwy gynyddu cyllid yn y clustnodiad bob blwyddyn trwy gydol tymor y Cynulliad hwn, gyda dros £15 miliwn o gyllid ychwanegol eleni.
 
13:35
Julie MorganBywgraffiad
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Rwy'n siŵr bod y Prif Weinidog yn ymwybodol bod Ysbyty'r Eglwys Newydd yn cau ei ddrysau ddiwedd y mis hwn ar ôl 108 mlynedd o ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer Caerdydd a'r cyffiniau. Felly, mae wir yn ddiwedd cyfnod. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod y gwasanaethau iechyd meddwl newydd—yr adeilad a ddarparwyd yn ysbyty Llandochau—yn gwbl ragorol ond a wnaiff e hefyd gydnabod y gwaith da sydd wedi ei wneud yn yr Eglwys Newydd gan y staff dros flynyddoedd lawer ar gyfer pobl â phroblemau iechyd meddwl?
 
13:35
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Rwy'n fwy na pharod i ymuno â'r Aelod yn y ganmoliaeth sydd ganddi i'r staff, yn y presennol a'r gorffennol. Mae’r Eglwys Newydd wedi gwasanaethu dinas Caerdydd ers 1908, ond mae'n bryd, wrth gwrs, sicrhau bod y cyfleusterau yr ydym yn eu darparu i bobl â phroblemau iechyd meddwl yn cynnig y dechnoleg ddiweddaraf. Dyna pam, wrth gwrs, yr ydym ni’n gweld y buddsoddiad yn Hafan y Coed yn Llandochau. Mae'n fuddsoddiad o £88 miliwn ac, wrth gwrs, mae’n gyfleuster a fydd yn darparu'r lefel gorau bosibl o ofal i’r rhai sydd angen cymorth gyda'u hiechyd meddwl.
 
13:36
Angela BurnsBywgraffiad
Weinidog, mae’n amlwg bod angen i wasanaethau iechyd meddwl esblygu wrth i arfer a gwybodaeth newid. Fodd bynnag, rwy’n pryderu bod pobl agored i niwed yn cael eu dal rhwng adnoddau sy’n brin o staff a newidiadau polisi, boed nhw'n bobl â salwch iechyd meddwl difrifol a pharhaus fel dau o’m hetholwyr, y mae’n rhaid i un ohonynt fynd i fod mewn ysbyty 200 milltir i ffwrdd o gartref yr unigolyn hwnnw, ac un arall 150 milltir i ffwrdd, neu boed nhw'n bobl fel defnyddwyr canolfan Avenue yn Ninbych-y-pysgod, sydd ag anableddau meddyliol a chorfforol difrifol. Y pryder sy'n cael ei adleisio i mi gan weithwyr iechyd proffesiynol neu weithwyr iechyd meddwl proffesiynol a theuluoedd y mathau hyn o bobl yw nad ydynt yn credu bod y gwasanaethau’n bod yn ddigon cyfannol, ac mae'n ymddangos bod pobl yn cael eu plygu i gyd-fynd â'r polisïau newydd sy'n dod drwyddo a’r Deddfau newydd, yn hytrach na bod y polisïau hynny’n cael eu haddasu i gyd-fynd â’u gofynion agored i niwed penodol. Brif Weinidog, beth all eich Llywodraeth ei wneud i sicrhau y bydd newidiadau cyflym ac effeithiol i sicrhau bod rhai o'r bobl fwy agored i niwed hyn wir yn cael pecynnau wedi'u teilwra sy'n gweddu orau iddyn nhw a'u teuluoedd?
 
13:37
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, rydym ni, wrth gwrs, wedi cynyddu'r gyllideb ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl. 600 miliwn yw’r cyfanswm a wariwyd eleni, i fyny o 510 miliwn yn 2010-11 ac, wrth gwrs, bydd yr Aelod yn ymwybodol o £7.65 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol i wella a datblygu gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed arbenigol. Mae hynny’n gynnydd o 17 y cant mewn CAMHS ar draws gofal sylfaenol ac eilaidd. Rydym ni hefyd wedi cyhoeddi £30 miliwn arall o gyllid ychwanegol ar gyfer pobl hŷn. Mae hynny'n gyfraniad sylweddol o adnoddau a byddem, wrth gwrs, yn disgwyl i'r gwasanaeth gofleidio o amgylch yr unigolyn yn hytrach na’r unigolyn, fel y dywedodd, yn cael ei wneud i gyd-fynd â'r gwasanaeth. Nid dyna’r math o wasanaeth y byddem yn dymuno gweld byrddau iechyd lleol yn ei ddarparu; rydym yn disgwyl i'r gwasanaeth gael ei deilwra, cyn belled â phosibl, i'r unigolyn.
 
13:38
Eluned ParrottBywgraffiad
Brif Weinidog, roeddwn i’n ddiolchgar am ymateb pwyllog y Gweinidog iechyd i’r ddadl iechyd meddwl a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf. Fodd bynnag, nid oedd unrhyw ymrwymiad penodol i wella gwasanaethau cymorth a chyngor a gwybodaeth i deuluoedd. Tybed, o ystyried pa mor bwysig yw hyn, a wnewch chi ystyried gwneud yr ymrwymiad hwnnw i edrych ar arfer gorau ledled y DU ac asesu'r cymorth sydd ar gael i bobl sydd naill ai'n gofalu am rywun â salwch meddwl neu’n bryderus am rywun yn eu teulu sy'n dangos arwyddion o drallod meddwl, ond nad ydynt yn gwybod ble i fynd i gael cymorth neu gefnogaeth.
 
13:39
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae hwn yn un o'r rhesymau, wrth gwrs, pam yr ydym ni wedi cynyddu'n sylweddol y cyllid ar gyfer CAMHS, gan ein bod yn gwybod bod CAMHS wedi bod yn wasanaeth lle bu llawer iawn o alw a gwyddom, i lawer o rieni, pan fo ganddynt, yn aml iawn, blant ifanc sy'n dangos arwyddion y mae’n anodd i rieni eu rheoli, mai CAMHS yw'r lle y byddant yn cael eu hatgyfeirio iddo ac, o ran yr arian yr ydym ni wedi ei ddarparu ar gyfer CAMHS, bydd yr arian hwnnw—bydd £2.7 miliwn ohono’n mynd i wella gallu CAMHS i ymateb y tu allan i oriau ac ar adegau o argyfwng, er enghraifft. Yr hyn sy'n gwbl hanfodol pan geir, efallai yn hwyr fin nos, problem na all gofalwr neu riant ymdrin â hi, yw bod cymorth ar gael ar adeg y mae ei angen ar gyfer yr unigolyn—y plentyn neu'r unigolyn ifanc—a hefyd i’r gofalwr neu’r rhiant, ac, felly, wrth gwrs, bydd y cymorth i deuluoedd yn ystod ac y tu allan i oriau arferol yn cael ei wella.
 
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
 
13:39
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn at gwestiynau gan arweinwyr y pleidiau nawr ac arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies, sydd gyntaf y prynhawn yma.
 
13:40
Andrew R.T. DaviesBywgraffiadArweinydd yr Wrthblaid
Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, yr wythnos diwethaf, gofynnais i chi am ffordd liniaru'r M4 a dywedasoch ydy, mae adeiladu ffordd liniaru'r M4 yn un o’ch ymrwymiadau. Yr wythnos diwethaf, cawsom adroddiad a gyhoeddwyd hefyd a oedd yn nodi'n eglur y bu cynnydd sylweddol i’r gost o adeiladu ffordd o'r fath, yn enwedig y llwybr du, a nodwyd fel y dewis a ffefrir gan y Llywodraeth hon. A allwch chi egluro pam roedd eich sylwadau gwreiddiol cyn y Nadolig yn awgrymu y byddai'n cael ei hadeiladu am swm sylweddol is nag £1 biliwn, a bod adroddiad gan y Llywodraeth yn nodi erbyn hyn mai £1.1 biliwn yw’r gost wirioneddol?
 
13:40
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Yn gyntaf oll, ceir £147 miliwn wrth gefn yn y ffigur hwnnw, yr ydym ni’n bwriadu ei wasgu, wrth gwrs, cyn belled â phosibl. Bu newid i ben dwyreiniol y cynnig, lle mae cyffordd well wrth yr M48 yn mynd i gael ei hailfodelu. Cynyddodd hynny £60 miliwn ar y gost. Fodd bynnag, bu hynny o ganlyniad i geisiadau gan y cyhoedd am well cysylltedd. Mae pont feiciau ychwanegol dros y draffordd arfaethedig i'r gorllewin o Gasnewydd i hwyluso'r Casnewydd i hwyluso 'uwch lwybr beicio' Caerdydd wedi’i gynnwys hefyd, yn ogystal â gwaith ar dwnnel rheilffordd Dyffryn. Felly, mae'r rhain yn faterion sydd wedi codi yn ystod y cynllun. Nawr, o'n safbwynt ni, rydym ni’n dymuno gweld ffordd liniaru yn cael ei hadeiladu i'r M4. Mae'n wir dweud mai'r llwybr du yw’r llwybr yr ydym ni’n ei ffafrio, ond, wrth gwrs, rydym ni’n barod i ystyried dewisiadau eraill pe byddent yn ymarferol. Hyd yn hyn, bu’n anodd gweld sut y gallant fod mor effeithiol â’r llwybr du, ond ceir proses statudol y bydd yn rhaid ei dilyn yma. Ond yr hyn sy’n gwbl wir yw na fydd y broblem yn diflannu. Mae'n broblem fawr. Pan edrychwn ni ar gynnal digwyddiadau mawr yn Stadiwm y Mileniwm, mae'n fater sy'n cael ei godi gyda ni ac mae ef a minnau, rwy’n meddwl, o’r un safbwynt o fod eisiau gweld ffordd liniaru yn cael ei hadeiladu.
 
13:41
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Bydd llawer o bobl yn pryderu at faint sylweddol y rhifau sy’n cael eu trafod a'r gwahaniaeth sydyn o £300 miliwn rhwng, yn amlwg, ffigurau y soniwyd amdanynt gennych chi eich hun, a nawr yr adroddiad hwn, yn cadarnhau pris darparu o £1.1 biliwn. Ond mae un peth yn eglur, ac rwy’n cytuno'n llwyr â chi, ni all y sefyllfa o gwmpas Casnewydd barhau, ac mae angen dybryd am ffordd liniaru i'r M4. A ydych chi’n cytuno â mi y bydd yn ddyletswydd ar ba bynnag Lywodraeth sy’n cael ei ffurfio yma ar ôl 5 Mai i gael y ddarpariaeth o ffordd liniaru'r M4 yn rhan annatod o’i strategaeth drafnidiaeth yn ystod ei dymor yma yn y pumed Cynulliad?
 
13:42
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Rwy’n cytuno â hynny. Dyma’r broblem draffig anoddaf sydd gennym ni ar ein ffyrdd o bell ffordd. Nid yw'n mynd i wella. Ceir problem o ran cydnerthedd y twneli hefyd. Gwn fod rhai sy'n dadlau dros y llwybr glas; yr anhawster gyda'r llwybr glas i mi yw ei fod yn ffordd ddeuol, nid traffordd tair lôn, ac, yn ail, mae'n effeithio ar tua 4,000 o dai, gan ei fod yn mynd yn agos iawn at gymaint o dai, a byddai’n rhaid dymchwel rhai ohonynt. Nid oes unrhyw ffordd rwydd o ddatrys y broblem, nid oes unrhyw ffordd rad o ddatrys y broblem, ond rydym ni’n gwybod bod angen datrys y broblem.
 
13:43
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Lywydd, gyda'ch goddefgarwch, gan mai dyma’r cwestiynau i'r Prif Weinidog olaf y byddaf i a'r Prif Weinidog yn cymryd rhan ydynt cyn yr etholiad, hoffwn dalu teyrnged i'r Aelodau sy'n ymddeol sy'n gadael y Cynulliad, oddi wrth yr holl bleidiau yma. Er bod gennym ni’r theatr wleidyddol yn y Siambr hon, rwy'n siŵr y byddwch chi’n cytuno â mi, Brif Weinidog, fod pawb yn mynd i mewn i fywyd cyhoeddus gyda'r bwriadau gorau, beth bynnag fo’u hymlyniad gwleidyddol, a, thrwy eu dulliau eu hunain, maen nhw’n ceisio ac yn ymdrechu i gyflawni dros eu hetholwyr ac, yn wir, er budd gorau Cymru yn y sefydliad hwn. Gobeithiaf y byddwch yn gallu ymuno â mi i dalu teyrnged i’m cyd-Aelod William Graham sydd, ers 17 mlynedd, wedi gwasanaethu’r sefydliad hwn mor ddiwyd, gydag unplygrwydd, balchder ac angerdd, ac, yn y pen draw, wedi gwasanaethu ei etholwyr mor dda. Ond, yn anad dim, rwy’n gobeithio y byddwch chi’n cytuno â mi, beth bynnag fydd yn digwydd yn yr etholiad dros y chwech i saith wythnos nesaf, yn y Cynulliad a fydd yn cynnull yma ar gyfer y pumed Cynulliad, bod pobl yn mynd i mewn i fywyd cyhoeddus am y rhesymau gorau, sef llunio a helpu i greu gwell amgylchedd, gwell cymuned a gwell Cymru o fewn y Deyrnas Unedig.
 
13:44
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, ni allai neb anghytuno â'r hyn y mae arweinydd yr wrthblaid wedi ei ddweud. Roedd William Graham yn un o'r grŵp gwreiddiol ym 1999, fel yr oeddwn innau, ac yn bersonol mae'n rhywun y byddaf yn gweld colled ar ei ôl yn y Siambr hon, ac rwy'n siŵr fy mod i’n siarad dros lawer, os nad pawb, yn hynny o beth. Roeddwn i’n meddwl ddoe ddiwethaf ei bod yn bur debyg fy mod i wedi bod trwy fwy na 200 o sesiynau cwestiynau i’r Prif Weinidog, gyda thua 2,000 o gwestiynau yr wyf i wedi—fe wnaf i ddefnyddio’r ymadrodd ‘ymdrin â nhw’, a gall eraill farnu a gawsant eu hateb ai peidio. [Chwerthin.] Ond, yn sicr, mae'n wir, pan fydd rhywun yn sefyll yn fy lle i, yna mae'n bwysig iawn cael eich profi—yn anghyfforddus weithiau—ar faterion y dydd, a daw hynny yn ôl at y pwynt efallai mai theatr yw hyn—mae ef a minnau’n gwybod bod elfen o theatr i hyn—ond ceir elfen ddifrifol hefyd, sef rhoi prawf fforensig yr hun y mae’r Llywodraeth yn ei wneud.
 
13:45
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn nawr at arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
 
13:45
Leanne WoodBywgraffiadArweinydd Plaid Cymru
Hoffwn adleisio sylwadau arweinydd y Ceidwadwyr wrth ddymuno’n dda i’r holl Aelodau sy'n ymddeol, ac yn enwedig y tri Aelod o fy ngrŵp i sy’n ymddeol, Alun Ffred Jones, Jocelyn Davies a Rhodri Glyn Thomas. Ond dymunaf yn dda i bob un ohonoch chi.
 
Bri Weinidog, pan gawsoch eich ethol yn arweinydd y Blaid Lafur saith mlynedd yn ôl, dywedasoch, a dyfynnaf,
 
Rwyf i eisiau bod yn arweinydd i Gymru gyfan.... I ennill Cymru yn ôl, mae’n rhaid i Lafur Cymru wrando ac mae'n rhaid iddi ddysgu.
 
Beth fu’r wers fwyaf yr ydych chi wedi ei dysgu mewn saith mlynedd fel Prif Weinidog?
 
13:45
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Y wers yr ydych chi’n ei dysgu’n fuan fel Gweinidog yw na all pethau gael eu gwneud mor gyflym ag y byddech yn dymuno ar adegau. Ac mae hi’n gofyn—. Roeddwn i’n meddwl tybed a fyddai'r cwestiwn hwn yn dod. Fy ateb i yw, er enghraifft, yn ôl yn 2011 cymerodd mwy o amser nag y byddem wedi ei ddisgwyl i gychwyn y rhaglen ddeddfwriaethol; roedd yn ymgymeriad mwy, rwy’n meddwl, nag yr oeddem ni’n ei sylweddoli ar y pryd. Ers hynny, wrth gwrs, mae’r materion hynny wedi eu datrys, ac mae'r Cynulliad yn sicr wedi ymateb i'r dasg o lunio deddfwriaeth gadarn y craffwyd yn ofalus arni—a 24 o Ddeddfau yn y cyfnod hwnnw. Mae hynny’n llwyddiant sylweddol mewn cyfnod byr iawn o amser. Ond, ydw, rwy’n meddwl ei bod yn anodd ar y cychwyn yn 2011 i gael y rhaglen ddeddfwriaethol i weithredu mor gyflym ag y byddem wedi dymuno.
 
13:46
Leanne WoodBywgraffiad
Iawn, felly nid ydych chi wedi dysgu unrhyw wersi am restrau aros y GIG yn tyfu neu safle rhyngwladol sy’n gwaethygu o ran addysg, neu ddiffyg cynnydd economaidd. Brif Weinidog, ymhlith y sylwadau a’r adborth niferus yr wyf yn eu cael gan bobl ynghylch y sesiynau hyn yw eich bod yn osgoi cwestiynau’n rheolaidd, eich bod yn osgoi—[Torri ar draws.]
 
13:47
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Trefn.
 
13:47
Leanne WoodBywgraffiad
[Yn parhau.]—eich bod yn osgoi ateb y cwestiynau ac mai anaml y byddwch chi’n ymgysylltu. Nawr, o gofio mai dyma sesiwn gwestiynau olaf y tymor, a ydych chi’n difaru peidio ag ymgysylltu mwy yn y sesiynau hyn? Ac a ydych chi’n difaru peidio â dangos arweinyddiaeth wirioneddol i’r wlad hon?
 
13:47
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, wyddoch chi, mae arweinydd Plaid Cymru yn ei gwneud hi swnio fel pe byddwn i’n eistedd yma fel sffincs ac yn dweud dim byd yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog. Efallai na fydd hi’n hoffi fy atebion, ond mae'n cael atebion. Nid wyf yn cytuno â’r materion y mae wedi eu codi. Rydym ni’n gweld rhestrau aros yn lleihau—rhestrau aros diagnostig yn lleihau ym maes iechyd. Rydym ni’n gweld ein canlyniadau TGAU gorau erioed, canlyniadau Safon Uwch rhagorol, y cyfnod sylfaen yn gwneud yn dda, ysgolion newydd yn cael eu hadeiladu ledled Cymru—150 o ysgolion naill ai'n cael eu hadeiladu neu y bwriedir eu hadeiladu. Rydym ni’n gweld ym maes addysg bod y lwfans cynhaliaeth addysg wedi ei gynnal. Rydym ni’n gweld nad yw ein myfyrwyr yn ddarostyngedig i £22,000 o ddyled ychwanegol fel y mae eu cymheiriaid yn Lloegr. O ran diffyg cynnydd economaidd, mae ein diweithdra yn is nag yn Llundain, mae'n is nag yn yr Alban ac yn is nag yng Ngogledd Iwerddon. Mae hynny'n llwyddiant sylweddol. Rydym ni wedi bod yn hynod lwyddiannus o ran dod â swyddi i Gymru—roedd Aston Martin yn un enghraifft; mae General Dynamics yr wythnos diwethaf yn enghraifft arall, ac mae mwy i ddod yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf. Nid ydym erioed wedi bod mewn sefyllfa mor gryf o ran dod â buddsoddiad i Gymru. Yr unig beth—bydd yn cytuno â mi, rwy'n siŵr, ar y pwynt hwn—yr unig beth a all beryglu hynny yw’r ansicrwydd ynghylch aelodaeth o'r UE.
 
13:48
Leanne WoodBywgraffiad
Brif Weinidog, nid ydych chi’n derbyn bod unrhyw broblemau yn y wlad hon yr ydych chi’n gyfrifol amdanynt o gwbl, ydych chi? Ar y diwrnod y cawsoch eich ethol yn arweinydd, dywedasoch eich bod eisiau gwrando a’ch bod chi eisiau dysgu. Nawr, chwe blynedd ar ôl i chi ddod yn arweinydd, lansiwyd ymarfer ymgysylltu gennych chi—cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus ledled y wlad, i wrando ar bobl ac i ddysgu mae’n debyg. Nawr, tybed, a yw hynny'n golygu eich bod wedi treulio'r chwe blynedd gyntaf ddim yn gwrando ar bobl nac yn dysgu? Wrth i’r haul fachlud ar eich Llywodraeth a'r pedwerydd Cynulliad, a ydych chi’n barod nawr i ddangos rhywfaint o ostyngeiddrwydd a chyfaddef nad yw hyn cystal â phosibl i’n gwlad? Ac a wnewch chi dderbyn mai nawr yw'r amser i Gymru gael Prif Weinidog a fydd yn ateb cwestiynau, a fydd yn ymgysylltu ac a fydd yn trin y sesiynau craffu hyn a'r cyhoedd yng Nghymru gyda'r parch y maen nhw’n ei haeddu?
 
13:49
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, hynny yw, byddaf yn gadael i bobl eraill ddyfarnu’r cyferbyniad rhwng arweinydd yr wrthblaid ac arweinydd Plaid Cymru. Ond mae’n gwneud y pwynt mai dyma’r cwestiynau i’r Prif Weinidog olaf, bod etholiad yn dod a’i bod yn dymuno cael ei gweld fel darpar Brif Weinidog. Dyma’r pwyntiau y byddwn i’n eu gwneud iddi: nid wyf yn credu mai’r ateb i'r heriau yn y gwasanaeth iechyd yw cwango iechyd enfawr wedi’i leoli yng Nghaerdydd; nid wyf yn credu bod hynny’n mynd i fod yn boblogaidd yn y gorllewin a'r gogledd—cwango, a dweud y gwir, a fyddai mor fawr y byddai bron mor fawr â'r Llywodraeth ei hun ac y byddai ganddo gyllideb bron mor fawr â'r Llywodraeth ei hun. Credaf fod hynny’n ymwrthod â chyfrifoldeb. Ni fyddai unrhyw bwynt cael Gweinidog iechyd pe byddai gennym ni gwango mor fawr â hynny.
 
Yr ateb i ddatblygiad economaidd, er gwaethaf y llwyddiant mawr yr ydym ni wedi bod yn ei gael, yw ailgyflwyno Awdurdod Datblygu Cymru—mynd yn ôl i'r dyddiau maith yn ôl, i ryw wynfyd dychmygus pan roedd Awdurdod Datblygu Cymru yn gwneud yn well. Mae'n ymddangos i mi bod cynigion Plaid Cymru fel arfer yn golygu sefydlu pwyllgor anferth o ryw fath. Gwelsom yr un peth gyda'r corff arloesi cenedlaethol. Mae hynny'n ymwrthod â chyfrifoldeb. Ni allwch chi sefydlu, yn fy nhyb i—. Ni allwch chi roi datblygu economaidd ac iechyd i ffwrdd a disgwyl cael eich dwyn i gyfrif fel Llywodraeth. Rydym ni wedi cael y llwyddiant mwyaf a gawsom ers 30 mlynedd ym maes datblygu economaidd. Mae hynny oherwydd bod y tîm sydd gennym ni yn wych. Roeddem ni’n llwyddiannus o ran cael Aston Martin oherwydd—ac rwyf am ddyfynnu yr hyn a ddywedasant—ein brwdfrydedd a’n proffesiynoldeb. Ni allwn ddadwneud hynny a sefydlu asiantaeth a fyddai'n achosi mwy o darfu fyth, a fyddai'n cymryd y sylw oddi wrth greu swyddi a denu buddsoddiad. Nid wyf yn credu, er enghraifft, yng Ngheredigion, neu yng Ngwynedd, bod y syniad o gwango iechyd wedi’i leoli yng Nghaerdydd yn arbennig o boblogaidd.
 
13:51
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn nawr at arweinydd y—
 
13:51
Elin JonesBywgraffiad
[Anghlywadwy.]
 
13:51
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn nawr at arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams. Nid Elin Jones.
 
13:51
Kirsty WilliamsBywgraffiad
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. A gaf i ddechrau trwy ddiolch i chi, Lywydd, am y degawdau o wasanaeth cyhoeddus yr ydych chi wedi ei roi i’n gwlad, yn enwedig yn eich swyddogaeth fel Llywydd yn ystod y tymor Cynulliad hwn? Dymunaf yn dda i chi yn eich ymdrechion yn y dyfodol. A gaf i gyfeirio’r dymuniadau da hynny at holl Aelodau'r Cynulliad sy'n ymddeol ar ddiwedd y sesiwn, yn enwedig i ddosbarth 99 a chydweithwyr a ddechreuodd ar y daith datganoli ochr yn ochr â mi bryd hynny? A gaf i ddymuno’n dda iddynt hwythau yn eu hymdrechion yn y dyfodol hefyd?
 
Ymryson Brif Weinidog, a gaf i ddiolch i chi am y caredigrwydd personol yr ydych chi bob amser wedi ei ddangos i mi? Dywedasoch eich bod wedi ymdrin â 2,000 gwestiynau i’r Prif Weinidog. Yn ôl yn yr hen ddyddiau, roeddwn i’n cael gofyn mwy na thri. Nid wyf yn gwybod am ymdrin â 2,000—prin iawn yw’r atebion yr ydych chi wedi eu rhoi yn yr amser hwnnw—ond rwyf wedi mwynhau’r trafodaethau ar draws y Siambr yn arw ar y cyfan.
 
Os caf i droi at fy nghyfres o gwestiynau heddiw, yn yr etholiad diwethaf, gwnaethoch addewid i wneud meddygfeydd yn fwy hygyrch i bobl sy'n gweithio er mwyn iddyn nhw gael gafael ar wasanaethau meddygon teulu lleol fin nos ac ar foreau Sadwrn. Mae canlyniadau arolwg yr wyf i wedi ei gynnal ymhlith meddygon teulu yn dweud bod 77 y cant ohonynt yn dweud bod eich polisi wedi methu â gwella oriau agor. Nid yw wedi gweithio. A dangosodd eich arolwg eich hun gan eich Llywodraeth eich hun bod 40 y cant o bobl yn dal i ddweud ei bod yn anodd iawn cael apwyntiad gyda meddyg teulu. O gofio mai dyna oedd eich prif ymrwymiad iechyd, pam ydych chi’n teimlo nad yw meddygon teulu yn teimlo eich bod wedi ei gyflawni?
 
13:53
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Bydd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn maddau i mi am fod yn amheus am arolygon y Democratiaid Rhyddfrydol. [Chwerthin.] Mae llawer ohonom ni yn y Siambr hon sydd â phrofiad o weld taflenni sy'n dangos bod y Democratiaid Rhyddfrydol ar fin cymryd ein seddau ein hunain neu seddi cyngor yn wir, a bydd hi'n gwybod ein bod wedi cael rhywfaint o sbort dros y mater hwnnw dros y blynyddoedd yn y Siambr hon. Heb weld yr arolwg nac yn wir deall faint o bobl a ymatebodd iddo, yn amlwg, ni allaf wneud sylw arno, ond dylech gofio fy amheuon o'r cychwyn.
 
O ran mynediad at apwyntiadau meddygon teulu, mae 82 y cant o feddygfeydd teulu ar agor yn ystod oriau craidd beunyddiol—8 a.m. i 6.30 p.m. ddydd Llun i ddydd Gwener mewn geiriau eraill; mae 97 y cant o feddygfeydd yn cynnig apwyntiadau ar unrhyw adeg rhwng 5 p.m. a 6.30 p.m. ar o leiaf dau ddiwrnod gwaith—mae hynny i fyny o 92 y cant yn 2011; mae 79 y cant o feddygfeydd yn cynnig apwyntiadau ar unrhyw adeg rhwng 5 p.m. a 6.30 p.m. bob dydd—i fyny o 62 y cant yn 2011; ac mae canran y meddygfeydd sydd ar gau am hanner diwrnod ar un diwrnod gwaith yr wythnos wedi gostwng o 19 y cant yn 2011 i 4 y cant yn 2015. Wrth gwrs, gan fod meddygon teulu yn tueddu i fod yn gontractwyr annibynnol, rydym ni’n dibynnu arnyn nhw i sicrhau eu bod yn gallu darparu'r gwasanaeth y dylent ei ddarparu. Ond, serch hynny, yr hyn yr ydym ni wedi ei weld yw gwelliant aruthrol i hygyrchedd meddygon teulu yn y rhan fwyaf o feddygfeydd yng Nghymru.
 
13:54
Kirsty WilliamsBywgraffiad
Lywydd, mae tybiaeth a honiadau’r Prif Weinidog na allwch chi ymddiried mewn arolwg Democratiaid Rhyddfrydol yn fy mrifo—yn fy mrifo’n ofnadwy. [Chwerthin.] Siartiau bar efallai, Brif Weinidog, ond byth arolygon. Y gwir amdani, Brif Weinidog, yw bod yr apwyntiadau hynny ar gael—wrth gwrs eu bod nhw. Ond mae nifer y bobl sydd eisiau defnyddio’r apwyntiadau hynny yn llawer uwch na nifer yr apwyntiadau sydd ar gael ar hyn o bryd. Dyna pam mae 40 y cant o bobl a ymatebodd i arolwg eich Llywodraeth yn dweud eu bod yn ei chael hi'n anodd trefnu apwyntiad.
 
Ychydig cyn yr etholiad diwethaf, dywedasoch hefyd y byddai Cymru ymhellach i fyny’r rhestr pan fyddai sgoriau addysg rhyngwladol nesaf PISA yn cael eu cyhoeddi. Nawr, pan gawsant eu cyhoeddi, yr hyn a ddangoswyd ganddynt oedd mai Cymru oedd yn perfformio waethaf yn y DU ar gyfer darllen, mathemateg a gwyddoniaeth. Yn dilyn hynny, rydych chi wedi rhoi'r gorau i geisio bod yn un o'r 20 cenedl ryngwladol uchaf yn gyfan gwbl. Pam ydych chi'n teimlo nad oeddech chi’n gallu cadw eich addewid o ran addysg yng Nghymru a wnaethoch ar ddechrau'r tymor hwn yn y swydd?
 
13:55
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
PISA yw'r un maes y mae angen i ni ei ddatrys er mwyn gweld gwelliant. Mae popeth arall yn symud i'r cyfeiriad iawn. Pam ydw i'n dweud hynny? Wel, gwnaethom yr addewid yn 2011 y byddem yn cymhwyso lefel o amddiffyniad i wariant ysgolion. Rydym ni wedi gwneud hynny—mae £106 miliwn yn ychwanegol ar gael yn system addysg Cymru na fyddai wedi bod ar gael fel arall. Ynghyd â’i phlaid hi, wrth gwrs, cyflwynwyd y grant amddifadedd disgyblion gennym; mae hwnnw wedi bod yn llwyddiannus. Mae Her Ysgolion Cymru wedi helpu i godi safonau’r ysgolion hynny nad ydynt yn perfformio cystal ag y byddem yn disgwyl iddynt, ac rydym ni’n gweld canlyniadau’n gwella yn gyffredinol, sy'n rhoi rheswm i ni amau ​​y bydd y canlyniadau PISA yn gwella yn y dyfodol. Rydym ni’n ei weld gyda TGAU, rydym ni’n ei weld gyda Safon Uwch, ac yn bwysig, rydym ni’n gweld ysgolion yn cael eu hadeiladu ledled Cymru. Yn fwyaf diweddar, roeddwn i’n agor ysgol gymunedol newydd yn Aberdâr, ac yn torri’r dywarchen gyntaf ar gampws newydd Coleg y Cymoedd yn Aberdâr, hefyd. Mae hynny’n arwydd o Lywodraeth sy'n buddsoddi yn ein pobl ifanc.
 
13:56
Kirsty WilliamsBywgraffiad
Brif Weinidog, yn gynharach eleni, hawliwyd gennych eich bod angen pum mlynedd arall i gwblhau degawd o gyflawni. Ac eto, er gwaethaf eich dwndwr wrth ateb arweinydd Plaid Cymru, mae diweithdra yng Nghymru wedi bod yn uwch nag yn Lloegr, yr Alban a'r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd yn ystod pob un ond dau chwarter y Cynulliad hwn. Mae gennym ni’r economi lleiaf cynhyrchiol yn y DU a'r lefelau uchaf o dlodi plant y tu allan i Lundain. Nawr, os mai’r lefel hon o ddarpariaeth yw’r hyn y gallwn ni ei ddisgwyl yn ystod y pum mlynedd nesaf o Lywodraeth Lafur, pa obaith all fod i’r bobl hynny nad oes ganddynt swyddi ac y mae eu plant yn byw mewn tlodi, llawer ohonynt sydd â rhieni mewn cyflogaeth lawn amser a dweud y gwir, ond sydd ar gyflogau sy'n golygu na allant gynnal y teulu hwnnw?
 
13:57
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, mae problemau yno, wrth gwrs, i Lywodraeth y DU o ran credyd treth i deuluoedd sy’n gweithio, nad ydym ni’n eu rheoli. Ceir problemau o ran budd-daliadau eraill nad ydym yn eu rheoli ac rydym ni wedi gresynu’r hyn y mae Llywodraeth y DU wedi ei wneud o ran ymosod ar y rhai sy’n derbyn y cyflogau isaf. Nid nhw wnaeth achosi'r argyfwng ariannol ar 9 Awst 2007; y benthyca di-hid gan y rhai yn y sector bancio a wnaeth hynny, ac eto, caniateir iddyn nhw ddianc heb unrhyw gost a'r rhai sy'n cael eu talu’r lleiaf yw'r rhai sy'n cael eu cosbi fwyaf. Rydym ni wedi—a bydd yn cytuno â mi, rwy'n siŵr, ar hyn—gresynu’r hyn sydd wedi ei wneud yn hynny o beth.
 
Ond rydym ni wedi dod â buddsoddiad i Gymru. Ac nid yw'r rhain yn swyddi, fel yn y 1990au, y daethpwyd â nhw i Gymru gan fod pobl yma ar gyflogau isel—dyna beth ddigwyddodd yn y 1990au; bydden nhw’n dod i Gymru, gan y byddai pobl yn derbyn llai o gyflog nag yn unman arall. Mae'r rhain yn swyddi sy'n swyddi o ansawdd uchel; maen nhw’n swyddi medrus. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod y sgiliau hynny gan ein pobl. Rydym ni wedi gwneud hynny trwy Dwf Swyddi Cymru ac, ar ôl mis Mai, fel y bydd hi'n gwybod, mae fy mhlaid wedi addo sicrhau bod prentisiaethau ar gael i bob oedran. Dyna'r ffordd i sicrhau bod y biblinell sgiliau yno. Ac, wrth gwrs, rydym ni wedi addo sicrhau bod 30 awr o ofal plant am ddim ar gael ar gyfer plant tair i bedair blwydd oed, i rieni sy'n gweithio, am 48 wythnos y flwyddyn. Mae hwnnw’n gymorth sylweddol i lawer iawn o rieni sy'n gweithio sydd â phlant ifanc i'w galluogi i gyrraedd y gwaith a dyna, wrth gwrs, yw'r ffordd bwysicaf o leihau tlodi: cael gwared ar rwystrau i bobl sy'n dymuno mynd i’r gwaith ac yna sicrhau, wrth gwrs, eu bod yn gallu cyrraedd y gwaith a chodi eu hincwm eu hunain ac incwm eu teuluoedd.
 
13:59
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn ôl at gwestiynau ar y papur nawr a daw cwestiwn 3 gan Nick Ramsay.
 
Yr Uned Gyflenwi
 
13:59
Nick RamsayBywgraffiad
3. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu perfformiad ei uned gyflenwi dros dymor y pedwerydd Cynulliad? OAQ(4)2777(FM)
 
13:59
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Dylid barnu perfformiad ac effeithiolrwydd yr uned gyflenwi ar ddarpariaeth y rhaglen lywodraethu, sydd bron yn gyflawn o ran darpariaeth.
 
13:59
Nick RamsayBywgraffiad
Diolch. Lywydd, a gaf innau hefyd gynnig fy nymuniadau da i chi ar gyfer y dyfodol? Mae eich cyngor a’ch cyfarwyddyd wedi eu gwerthfawrogi yn fawr erioed gennyf i ac, rwy’n gwybod, Aelodau eraill yn y Siambr hon.
 
Brif Weinidog, mae bob amser yn ddiddorol clywed ychydig mwy am waith yr uned gyflenwi. Nid yw cymaint yn y cysgodion â SPECTRE, rwy’n cyfaddef, ond weithiau, mae'n ymddangos ei bod ar y trywydd hwnnw. Mae Andrew R.T. Davies wedi gofyn i chi am gostau ymchwyddol llwybr du’r M4 heddiw. Ar ba adeg yn ystod datblygiad y ffordd wnaeth yr uned gyflenwi ddweud wrthych y byddai'r llwybr a ddewiswyd yn costio mwy nag £1 biliwn? Oherwydd, ac eithrio cyffyrdd a phontydd ychwanegol, nid yw wedi bod cyhyd â hynny ers i chi ddweud wrth y Siambr hon y byddai'r costau'n sylweddol is na'r £1 biliwn a mwy y mae’n ymddangos yr ydyn nhw nawr.
 
14:00
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, na, oherwydd fel y soniais yn gynharach, ceir elfennau o'r cynllun sy'n newydd, yn enwedig o ran yr uwch-briffordd feicio, sydd yn bwysig iawn, gan ei bod yn cydymffurfio â’r Ddeddf teithio llesol ac, wrth gwrs, y trefniadau wrth gefn sy’n rhan o hynny. Byddai'n esgeulus i mi beidio â chynnig fy niolch i'r Llywydd hefyd. Rwy'n ymwybodol nad wyf i wedi gwneud hynny eto. A gaf i gynnig y diolch hwnnw nawr? Gwn fod y Siambr wedi bod yn afreolus weithiau, a gwn nad yw'r Llywydd wedi cael—ac mae hi’n pwyntio ataf i—y dasg rwyddaf, ond dyna natur democratiaeth gadarn, am wn i. Mae'n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelod bod rhaid iddo benderfynu a yw o blaid y ffordd liniaru ai peidio, oherwydd yn y Siambr hon yn y gorffennol mae wedi rhoi awgrym ei fod yn amheus am yr angen am ffordd liniaru o gwbl. Gall ddadlau’r achos hwnnw, wrth gwrs, rhwng nawr a mis Mai.
 
14:00
Christine ChapmanBywgraffiad
Brif Weinidog, mae'n amlwg bod cyflawni dros bobl Cymru wedi bod yn thema allweddol i’ch Llywodraeth yn ystod y tymor Cynulliad hwn. Roedd yn braf eich gweld yn torri'r tir ar gyfer y campws Aberdâr newydd ar gyfer Coleg y Cymoedd yr wythnos o'r blaen. A ydych chi’n cytuno y bydd y buddsoddiad hwn o £22 miliwn yn cynnig gwell mynediad at addysg bellach i bobl Cwm Cynon, ond hefyd yn gwneud cyfraniad i'w helpu i wireddu eu potensial, sy'n hynod werthfawr, nid yn unig iddyn nhw fel unigolion ond i Gymru yn ei chyfanrwydd?
 
14:01
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Yn sicr. Dyrannwyd £11 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru i Goleg y Cymoedd tuag at y cynllun. Bydd yn cynnig cyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer 811 o fyfyrwyr llawn amser a 450 o rai rhan-amser gan ddisodli, wrth gwrs, yr adeiladau presennol, nad ydynt wedi bod yn addas ers amser maith, ac, wrth gwrs, mae'n agos iawn at ganolfannau cludiant cyhoeddus, yr orsaf reilffordd yn arbennig, a fydd yn ei gwneud yn hawdd iawn i fyfyrwyr deithio i'r campws er mwyn dysgu yno. Felly, ie, enghraifft arall o Lywodraeth Cymru yn buddsoddi yn nyfodol ein pobl ifanc.
 
14:02
Rhodri Glyn ThomasBywgraffiad
Mae’r uned gyflenwi yn un o ddirgelion mawr y Cynulliad yma, Brif Weinidog, ac mae’n dristwch mawr i mi orfod gadael y sefydliad yma ar ôl 17 mlynedd heb fyth ddeall beth yn union y mae’r uned gyflenwi hon yn ei gyflawni. Tybed, mewn ysbryd da, gan eich bod chi’n amlwg mewn ysbryd felly ar ddiwedd y tymor yma, a fyddech chi’n rhoi ateb tryloyw a chwbl agored i mi: beth yn union mae’r uned gyflenwi hon yn ei wneud?
 
14:02
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Gweithredu’r rhaglen lywodraethu. Mae hynny’n cael ei ymddangos drwy’r dystiolaeth sydd yno lle rydym wedi cyflawni bron popeth sydd yn y rhaglen honno. Felly, mae’r uned wedi gwneud y gwaith y dylen nhw.
 
Prentisiaethau
 
14:02
Sandy MewiesBywgraffiad
4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi prentisiaethau fel elfen allweddol o'r broses o fynd i'r afael â diweithdra ymysg pobl ifanc? OAQ(4)2784(FM)
 
14:02
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Cyhoeddwyd £5 miliwn ychwanegol gennym yn ddiweddar ar gyfer prentisiaethau y flwyddyn nesaf. Rydym, wrth gwrs, wedi canolbwyntio ar dyfu nifer y prentisiaethau ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 mlwydd oed, gan godi nifer y rhai sy'n gadael yr ysgol ac yn mynd ymlaen i brentisiaethau. Wrth gwrs, mae gennym ni gynlluniau ar ôl mis Mai, os cawn ni’r cyfle, i sicrhau ein bod yn creu mwy o brentisiaethau i bobl o bob oed.
 
14:03
Sandy MewiesBywgraffiad
Mae wythnos prentisiaethau yn adeg briodol i amlygu llwyddiant Llywodraeth Cymru o ran helpu pobl ifanc i mewn i waith trwy ei chefnogaeth i brentisiaethau a rhaglen Twf Swyddi Cymru. Mae hefyd yn briodol i amlygu’r gwaith ardderchog sy'n cael ei wneud yn Sir y Fflint gan Airbus a Choleg Cambria. Maen nhw’n cael pobl ifanc i mewn i brentisiaethau, yn ddynion a menywod. Fodd bynnag, mae arolwg Nwy Prydain wedi canfod bod cyngor gyrfaoedd gwael yn arwain at fenywod yn cyfyngu eu dewisiadau gyrfaoedd, gan ddiystyru prentisiaethau fel llwybr gyrfa ymarferol ar eu cyfer. Felly, gan edrych i'r dyfodol, sut y bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn adeiladu ar ei llwyddiannau er mwyn annog mwy o fenywod ifanc i fanteisio ar brentisiaethau?
 
14:04
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae'r Aelod yn codi mater hynod bwysig, gan fod cydraddoldeb yn thema allweddol o’n gwaith ar brentisiaethau. Dyna pam yr ydym ni wedi comisiynu Estyn i gynnal adolygiad thematig o rwystrau i brentisiaethau yn 2014, ond mae hi'n crybwyll, wrth gwrs, enghreifftiau da, nid yn ei hetholaeth hi, ond heb fod yn bell iawn i ffwrdd, yn Airbus, lle mae rhaglen cadetiaid diwydiannol Airbus ym Mrychdyn yn cynnwys dwy garfan menywod yn unig. Maen nhw wedi rhoi cyfle i dros 140 o fyfyrwyr blwyddyn 9 a 10 gymryd rhan mewn prosiect peirianneg diwydiannol. Mae hynny, wrth gwrs, yn helpu i sicrhau bod merched ifanc o'r oedran hwnnw’n cael y cyfle i weld beth y mae’n rhaid ei wneud yn y swydd a byddant, wrth gwrs, yn defnyddio’r profiad hwnnw wedyn i wneud penderfyniadau yn y dyfodol ar gyfer eu hunain. Mae'n hynod bwysig yr ystyrir bod gyrfaoedd yr un mor agored i'r ddau ryw—rydym ni’n deall hynny—a chynlluniau fel y cynllun cadetiaid diwydiannol, a cheir eraill fel clwb Sadwrn Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sy'n sicrhau bod yr hyn sydd wedi bod yn wendid yn hanesyddol, mewn geiriau eraill, menywod ifanc yn mynd i faes peirianneg, yn cael sylw trwy brofiad ymarferol.
 
14:05
Janet Finch-SaundersBywgraffiad
Brif Weinidog, yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, o dan eich Llywodraeth, mae Cymru wedi disgyn 14 o leoedd yn erbyn gwledydd eraill o ran safonau gwyddoniaeth, wedi disgyn naw o leoedd mewn mathemateg ac wedi disgyn 11 o leoedd o ran darllen. Mae mwy na 30 y cant o bobl ifanc 15 i 16 mlwydd oed nad ydynt wedi cyrraedd y lefelau llythrennedd a rhifedd sy’n eu galluogi i gyfathrebu a gweithredu'n effeithiol yn y gweithle—mae hynny yn ôl ffigurau Estyn ei hun. Gellid dweud bod eich rhaglen lywodraethu yn sicr wedi methu dros y pum mlynedd diwethaf. Mae hyn, wrth gwrs, yn arwain wedyn at ymddieithrio pobl ifanc o’r system addysg. Byddai Llywodraeth Geidwadol yng Nghymru yn arwain at gyflwyno—nid wyf i’n gwybod pam yr ydych chi’n edrych mor ddryslyd—[torri ar draws.] Mae'r ffigurau hyn yn—
 
14:05
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Dewch at y cwestiwn. [Anghlywadwy.]—ar sut y mae pobl yn edrych.
 
14:05
Janet Finch-SaundersBywgraffiad
Byddai Llywodraeth Geidwadol yng Nghymru—
 
14:06
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Na, dewch at y cwestiwn. Peidiwch â dim ond darllen yr hyn—.
 
14:06
Janet Finch-SaundersBywgraffiad
[Yn parhau.]—yn arwain at gyflwyno colegau technegol prifysgol a fyddai'n meithrin prentisiaethau sy'n arwain at swyddi cynaliadwy o ansawdd uchel. A wnewch chi gefnogi ein polisi?
 
14:06
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Bydd yn rhaid i'r Aelod faddau fy amheuon, gan ei bod yn cynrychioli plaid a gafodd wared ar gronfa Swyddi'r Dyfodol ac a ddiddymodd un o'r cynlluniau pwysicaf ar gyfer cynorthwyo pobl ifanc i mewn i waith a oedd yn bodoli, a dyna pam, wrth gwrs, y gwnaethom ni gyflwyno Twf Swyddi Cymru, y cynllun mwyaf llwyddiannus ar gyfer creu cyfleoedd i bobl ifanc, byddwn yn dadlau, yn Ewrop. Dyna pam y byddwn ni’n adeiladu ar hynny er mwyn sicrhau bod cyfleoedd ar gael ar gyfer pob oedran. Yr hyn nad yw'n egluro, wrth gwrs, yw bod ei harweinydd, ymhlith ei drafferthion lawer ddydd Sadwrn, gan gynnwys cael ei anwybyddu gan David Cameron, wedi dweud mai dim ond un gyllideb y byddai’n ei diogelu. Ni fyddai'n diogelu’r gyllideb ar gyfer prentisiaethau. Nawr, ar sail hynny, yr hyn y mae'r Aelod yn ei awgrymu yw y bydd cynllun newydd ar waith, ond heb unrhyw arian. Byddwn ni'n sicrhau, yn yr hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud, bod cyfleoedd ar gael i bawb. O ystyried hanes y Ceidwadwyr o dorri cronfa Swyddi'r Dyfodol, o dorri eu cymorth i’r rhai sydd eisiau addysg, o dorri’r lwfans cynhaliaeth addysg a sicrhau bod yn rhaid i fyfyrwyr dalu llawer mwy yn Lloegr, yr ateb i'ch cwestiwn yw: 'Nac ydym, nid ydym yn cytuno gan fod eu hanes yn drychinebus.'
 
14:07
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Rwy’n bod yn hael iawn heddiw, Darren Millar. Peidiwch â fy nhemtio. Rhun ap Iorwerth.
 
14:07
Rhun ap IorwerthBywgraffiad
Diolch. Mi oedd hi’n braf iawn cyfarfod Dafydd Jones yr wythnos diwethaf sydd newydd ddechrau ar brentisiaeth fel ffiter efo Orthios yn y parc eco yng Nghaergybi. Mae o’n edrych ymlaen at gael datblygu ei yrfa fel peiriannydd yn Ynys Môn. Wrth gwrs, mae’n bwysig iawn bod cwmnïau yn cael eu tynnu i mewn i raglenni prentisiaethau a bod yna ddigon o brentisiaethau ar gael, ond mae hi hefyd yr un mor bwysig, wrth gwrs, fod pobl ifanc yn dod yn ymwybodol o’r cyfleon sydd ar gael iddyn nhw drwy brentisiaethau. A wnaiff y Prif Weinidog, felly, gydnabod y niwed sy’n cael ei wneud i annog prentisiaethau i gychwyn pobl ifanc ar lwybrau tuag at brentisiaethau drwy gwtogi ar gyllideb Gyrfa Cymru gan dros hanner yn oes y Llywodraeth yma? Oni bai bod y cyngor iawn ar gael yn y lle iawn, nid ydy pobl ifanc yn mynd i fod yn ymwybodol o’r llwybrau sydd ar agor iddyn nhw.
 
14:08
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, nid oes prinder o gwbl o bobl ifanc sydd eisiau cael prentisiaeth. Rydym ni wedi gweld hynny yn Airbus ac rydym ni’n ei weld e mewn sawl rhan arall o Gymru. Nid oes problem gyda phobl yn gwneud cais i gael prentisiaeth ac, wrth gwrs, os edrychwn ni ar gynllun fel Jobs Growth Wales, mae hwnnw wedi bod yn llwyddiannus dros ben: 80 y cant o bobl ifanc wedi cael y cyfle i fynd ymlaen i addysg bellach neu i swydd. Mae hynny’n dangos, wrth gwrs, fod beth rydym ni wedi bod yn gwneud fel Llywodraeth wedi bod yn llwyddiannus dros ben a’n bwriad ni yw sicrhau bod hwn yn cael ei ymestyn ar ôl mis Mai i rheini o bob oedran.
 
Lleoedd Ysgol (Caerdydd)
 
14:09
Eluned ParrottBywgraffiad
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am argaeledd lleoedd ysgol yng Nghaerdydd? OAQ(4)2785(FM)
 
14:09
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, mater i awdurdod addysg lleol Caerdydd fyddai hwnnw, wrth gwrs.
 
14:09
Eluned ParrottBywgraffiad
Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog, fel ag yr oedd. Mae'n rhaid i mi ddatgan buddiant, Lywydd, gan fod fy mab fy hun yn cael ei effeithio gan y sefyllfa hon. Rwy’n siŵr y byddwch chi’n ymwybodol, Brif Weinidog, o’r anhrefn yng Nghaerdydd o ran neilltuo lleoedd mewn ysgolion uwchradd. Mae nifer o ysgolion ar draws y ddinas wedi’u heffeithio, ond dwyrain y ddinas yn arbennig. Bythefnos ar ôl yr adeg pan oedd lleoedd i fod i gael eu cadarnhau, mae llawer o blant fy etholwyr nad oes ganddynt le mewn unrhyw ysgol uwchradd o hyd, ac mae'r rhieni hynny, yn ddealladwy, yn hynod bryderus. Brif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i ymchwilio i’r hyn sydd wedi mynd o chwith yng Nghaerdydd eleni o ran neilltuo lleoedd mewn ysgolion uwchradd, ac a fyddwch chi’n barod i gamu i mewn os bydd yr awdurdod lleol yn dal i fethu â datrys y sefyllfa?
 
14:10
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, mae'n ofynnol i'r awdurdod lleol ddarparu lleoedd i blant. Mae'n rhaid iddyn nhw wneud hynny’n deg. Mae’n rhaid bod meini prawf ar waith sy’n dryloyw fel y gall pobl ddeall nad yw’r trefniadau derbyn yn cael eu gweithredu'n briodol. Mae'n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelod fy mod i’n gwybod bod un o'r problemau’n ymwneud ag Ysgol Uwchradd Caerdydd, a disgyblion, rwy’n deall—ac mae hwn yn fater a godwyd gyda mi gan Jenny Rathbone fel yr Aelod dros Ganol Caerdydd—yn mynd o Bentwyn i Lanisien nad ydynt yn gallu mynd i Ysgol Uwchradd Caerdydd. Ond roedd hynny o ganlyniad i newid, rwy’n deall, i’r dalgylch a wnaed gan ei phlaid hi ar 1 Medi 2011. Felly, nid yw hynny, yn amlwg, wedi helpu rhieni yn y rhan honno o Gaerdydd.
 
14:10
Jenny RathboneBywgraffiad
Roedd y newid a wnaed gan weinyddiaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn 2011, y mae’n ymddangos sy’n achosi’r anhrefn hwn, yn annheg, yn enwedig i drigolion Pentwyn, sy'n gorfod cerdded heibio Ysgol Uwchradd Caerdydd i gyrraedd Ysgol Uwchradd Llanisien. Mae'r Aelod yn anwybodus pan nad yw'n ymddangos i fod yn deall, pan nad yw pobl yn cael eu dewis cyntaf, os nad ydynt yn rhoi ail ddewis, yna mae'n amhosibl i'r cyngor neilltuo lle iddyn nhw. A wnaiff y Prif Weinidog gytuno â mi mai’r hyn sydd wir ei angen arnom ni yw system dryloyw iawn y mae pawb yn ei deall ac sy'n deg i bob dinesydd ac nad yw’n cyffindwyllo’r system o blaid rhai?
 
14:11
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, mae’n rhaid ymgynghori ar newidiadau i drefniadau derbyn, fel newidiadau i ddalgylchoedd, yn unol â'r cod derbyn i ysgolion. Mae'n nodi disgwyliad cryf iawn y bydd rhieni’n cymryd rhan yn yr ymgynghoriad, ac mae'n hynod bwysig bod rhieni yn deall beth yw’r rhesymeg pan gaiff dalgylchoedd eu pennu. Yn ogystal â hynny, wrth gwrs, pan ddaw i dderbyniadau, mae'n ofynnol i'r Cyngor sicrhau bod y trefniadau derbyn yn dryloyw ac yn cael eu gweithredu'n briodol, a bod y meini prawf sy’n berthnasol pan fydd gormod o geisiadau yn cael eu cymhwyso'n deg.
 
14:12
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
Brif Weinidog, un o'r pethau sy'n achosi llawer iawn o bryder i rieni wrth geisio cael lleoedd mewn ysgolion yw’r cynlluniau datblygu y mae cynghorau’n eu cyflwyno, sy’n amlwg yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w cymeradwyo. A ydych chi’n credu bod y cyngor cynllunio a roddir i ddarparu ar gyfer datblygiadau tai newydd—yn enwedig yng Nghaerdydd, lle cynigir datblygiadau tai mawr ar gyrion Caerdydd—yn ddigon cadarn yn y profion y maen nhw’n yn eu gosod ar gyfer darparu addysg, ond hefyd gwasanaethau cyhoeddus eraill y mae angen eu cyflwyno i ddarparu ar gyfer y cymunedau hynny? Nid yw’r dagfa hon yn mynd i ddiflannu’n fuan, ac mae nifer y lleoedd ysgol yng Nghaerdydd o dan bwysau enfawr.
 
14:12
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, ar y cyfan yng Nghaerdydd, wrth gwrs, ceir ysgolion eraill lle mae lleoedd dros ben. Ond, wrth gwrs, yn anochel, ceir rhai ysgolion a fydd yn cael eu hystyried yn fwy poblogaidd nag eraill. Mae’r gallu gan awdurdodau lleol, trwy gytundebau adran 106, i wneud yn siŵr bod y ddarpariaeth addysg yn cael ei gwneud pan fydd ystadau tai newydd, yn arbennig, yn cael eu hadeiladu. Ceir enghreifftiau ledled Cymru lle mae hynny wedi digwydd—lle mae ysgolion cynradd newydd wedi eu hadeiladu, yn arbennig. Mae’n rhaid iddyn nhw gymryd hynny i ystyriaeth a chael cytundeb adran 106 er mwyn gwneud yn siŵr bod y ddarpariaeth addysg yn ddigonol pan fod ystâd newydd o dai yn cael ei hadeiladu. Mae’r offerynnau ganddyn nhw i wneud hynny. Mae'n bwysig iawn, wrth gwrs, eu bod yn defnyddio'r offerynnau hynny.
 
Rhestru Adeiladau
 
14:13
Aled RobertsBywgraffiad
6. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog grwpiau cymunedol i gymryd rhan yn y broses o restru adeiladau o arwyddocâd hanesyddol a lleol? OAQ(4)2787(FM)[W]
 
14:13
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, rydym yn erfyn i Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) gael Cydsyniad Brenhinol ar 21 Mawrth. Bydd y Ddeddf, wrth gwrs, yn galluogi i adeiladau hanesyddol gael eu diogelu yn well. Rydym yn drafftio canllawiau ar lunio a rheoli rhestrau o asedau hanesyddol sydd o ddiddordeb lleol arbennig, a’r angen i annog diddordeb a chyfranogaeth gymunedol o’r dechrau.
 
14:14
Aled RobertsBywgraffiad
Rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol o sefyllfa ysgol y Llwyni yn Wrecsam—y ‘Groves’—lle mae’r cyngor, gan roi rhybudd o bedwar diwrnod, wedi dweud eu bod nhw eisiau dymchwel yr adeilad, a hynny’n groes i obeithion mwyafrif y bobl leol. Wrth dderbyn eich bod chi yn drafftio canllawiau eich hun ar hyn o bryd, a wnewch chi ei gwneud yn glir i gyngor Wrecsam nad oes gofyn arnyn nhw ddymchwel yr adeilad tra’u bod yn gwneud cais am grant ysgolion yr unfed ganrif ar hugain? Dyna’r esboniad y mae’r cyngor yn ei roi ar hyn o bryd, sef nad oes ganddo’r arian i ail-wneud yr adeiladau presennol a’u bod nhw eisiau eu dymchwel er mwyn creu ysgol newydd yn rhatach. A wnewch chi, felly, ei gwneud yn glir i gyngor Wrecsam nad oes disgwyl iddyn nhw ruthro i ddymchwel yr adeilad hanesyddol yma?
 
14:14
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, nid oes rhaid iddynt wneud hynny; mae hynny’n wir. Rwyf wedi sefyll tu fas i’r ysgol gyda Lesley Griffiths, fel Aelod Wrecsam, ac rwy’n gwybod bod hwn yn rhywbeth sydd yn bwysig iawn yn yr ardal, ac mae pobl yn anhapus gyda phenderfyniad Wrecsam i dynnu’r adeilad lawr. Ond, beth sy’n bwysig yw bod y cyngor yn sylweddoli nad oes yn rhaid iddyn nhw wneud hyn. Mater iddyn nhw yw hwn. Nid yw’n rhywbeth lle dylen nhw dreial rhoi’r bai ar rywun arall, achos mae’n rhywbeth y maen nhw eisiau ei wneud. Mae’n rhaid iddyn nhw sicrhau eu bod nhw’n esbonio hynny i’r bobl leol ac nid ceisio rhoi’r bai ar unrhyw gorff arall.
 
14:15
Mike HedgesBywgraffiad
Rydym ni’n gwybod bod bron pob un o'r adeiladau pedwaredd ganrif ar bymtheg mawr wedi eu rhestru ar ryw ffurf. Mae llawer, yn anffodus, yn adfeiliedig neu wedi cael eu gadael, a gallaf feddwl am dri yn fy etholaeth i, a dim ond dwy wal sydd gan un ohonynt, ond mae’n dal i fod yn rhestredig. Oni allem ni gytuno bod angen i ni gael cymunedau i benderfynu pa rai o'r adeiladau hyn yw'r pwysicaf a cheisio cael yr arian a'r buddsoddiad sydd eu hangen i warchod yr adeiladau hyn? Mae gennyf bryderon difrifol bod rhai adeiladau pwysig iawn yn dod—. Fel y gŵyr y Prif Weinidog, mae gen i ddiddordeb mawr yng nghapeli’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac mae gan lawer iawn o'r rhain gynulleidfaoedd sy’n diflannu ac mewn perygl o fod yn wag yn y dyfodol agos. Onid yw'n bwysig ein bod yn ceisio penderfynu ar beth allwn ni ei gadw, ac yna cael y buddsoddiad i'w gadw?
 
14:16
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Ydy, mae’r Aelod, wrth gwrs, yn cynrychioli etholaeth lle ceir eglwys gadeiriol yr anghydffurfwyr, sef Tabernacl Treforys, ond i ddod yn ôl at yr hyn a ddywedais yn gynharach, mae'r Ddeddf ei hun yno, a'r hyn y byddwn yn ei weld o ganlyniad i'r Ddeddf yw y bydd canllawiau’n cael eu creu a fydd yn golygu y bydd rhestrau o asedau hanesyddol yn cael eu rheoli, a bydd angen ymgysylltu â chymunedau o'r cychwyn cyntaf, wrth gwrs. Cymunedau sy'n gwybod orau pa adeiladau y maen nhw eisiau eu cadw sydd o werth arbennig iddyn nhw, a bydd cael y rhestr honno o asedau hanesyddol yn ddefnyddiol i gymunedau ddeall pa asedau sydd ganddyn nhw, ac yna, wrth gwrs, i fwrw ymlaen â cheisio defnyddio neu warchod yr asedau hynny yn y dyfodol.
 
14:17
Suzy DaviesBywgraffiad
Brif Weinidog, rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i groesawu Cyfeillion Gwaith Tun a Rhaeadr Aberdulais, sy'n ymweld â'r Cynulliad o fy rhanbarth i heddiw. Maen nhw’n cynnig llawer iawn o gefnogaeth i staff ar safle Ymddiriedolaeth Genedlaethol arbennig o enwog, sy'n eu helpu i fod yn lleisiau lleol i hyrwyddo twristiaeth yng Nghwm Nedd a'r cyffiniau. Ystyriodd gwaith cwmpasu’r Bil treftadaeth swyddogaeth gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol o ran cymryd, pan fo'n briodol, cyfrifoldeb am asedau treftadaeth lleol. Er na adlewyrchwyd hyn yn y Bil Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), pa dystiolaeth a ganfuwyd gan y Llywodraeth yn ystod y broses honno a fyddai'n helpu sefydliadau cymunedol lleol, fel y Cyfeillion efallai, i fod ar flaen y gad o ran llunio'r rhestrau lleol hyn?
 
14:18
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, roeddwn i yno ddau fis yn ôl, fel yr wyf yn siŵr eu bod nhw’n ymwybodol. Hwnnw oedd fy ymweliad cyntaf a gwnaeth gryn argraff arnaf i. Mae'n safle yr oeddwn i wedi gyrru heibio iddo lawer gwaith, ond erioed wedi ymweld ag ef, ac es i yno yn ystod ail wythnos mis Ionawr.
 
Gan ddod yn ôl at yr hyn a ddywedais o'r blaen, mae cyfranogiad cymunedol yn y gwaith o reoli rhestrau o asedau hanesyddol yn hynod bwysig, ac fel yr wyf wedi ei ddweud ar ddau achlysur blaenorol bellach, mae'n aruthrol o bwysig bod pobl yn cael eu hymgysylltu cyn gynted â phosibl o ran llunio’r rhestrau hynny ac o ran gallu rheoli’r asedau hynny yn y dyfodol.
 
14:18
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Diolch yn fawr, Brif Weinidog.
 
14:18
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn at eitem 2 nawr, sef y datganiad busnes, a galwaf ar y Gweinidog, Jane Hutt.
 
14:18
Jane HuttBywgraffiad
Bu dau newid i'r datganiad busnes ar gyfer yr wythnos olaf hon o fusnes, Lywydd—tynnwyd y ddadl ar y cynllun addasu tai yn ôl ac fe'i disodlwyd gan ddatganiad llafar 45 munud ar system addasu estynedig gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi; ac ad-drefnwyd eitemau’r Prif Weinidog a chânt eu cynnig fel yr eitemau olaf o fusnes ar agenda’r Cyfarfod Llawn.
 
14:19
Russell GeorgeBywgraffiad
Weinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Weinidog yr economi a thrafnidiaeth ar y potensial o darfu ar draffig wedi’i achosi gan y gwaith o adeiladu fferm wynt Tirgwynt? Codais y mater hwn gyda'r Prif Weinidog yn ystod cwestiynau y mis diwethaf a rhoddodd sicrwydd i mi fod swyddogion yn gweithio gyda datblygwyr i sicrhau y byddai cydrannau mawr yn cael eu symud y tu allan i'r adegau prysuraf i sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl ar y ffyrdd. Roedd yr ateb hwnnw i’w groesawu. Fodd bynnag, rwyf wedi cael adroddiadau gan gynghorau cymuned sy’n sicr wedi cael gohebiaeth sy'n dangos y bydd gwaith symud tyrbinau’n digwydd yn ystod mis Awst, sef amser prysuraf y flwyddyn wrth gwrs. A gaf i ofyn felly, am ddatganiad gan y Gweinidog yn rhoi sicrwydd o ran pryd y bydd y symudiadau’n digwydd, ac efallai y caf i hefyd ofyn i'r Gweinidog adrodd ar faterion y tynnwyd fy sylw atynt sef bod datblygwyr yn defnyddio ffyrdd B, sydd wedi’i wahardd o dan gytundebau? Efallai y gellid adrodd ar hyn mewn unrhyw ddatganiad a gyflwynir hefyd.
 
14:20
Jane HuttBywgraffiad
Gallaf sicrhau'r Aelod, Russell George—rwy’n ddiolchgar iawn, a dweud y gwir, eich bod wedi croesawu'r ateb yr wythnos diwethaf—gallaf eich sicrhau y bydd y Gweinidog yn cadw at ei hymrwymiadau.
 
14:20
Mike HedgesBywgraffiad
Weinidog, a gaf i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y grant cyflawni dros blant a theuluoedd, gan fy mod i’n cael fy hysbysu gan etholwyr pan eu bod yn clicio ar y ddolen ar dudalen Lywodraeth Cymru, mae'n dangos: 'The page cannot be found’? Mae'n dal i gael ei hysbysebu gan Gyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe fel grant sydd ar gael, fodd bynnag.
 
14:20
Jane HuttBywgraffiad
Rwy'n siŵr y gellir datrys y broblem honno fel mater o frys.
 
14:20
Kirsty WilliamsBywgraffiad
Tybed a allai'r Gweinidog busnes roi datganiad ysgrifenedig ar gael gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, rwy’n credu, ar y mater o droseddau seiber. Mae nifer o’m hetholwyr a Heddlu Dyfed Powys wedi cael eu hysbysu am e-bost cribddeiliaeth sy'n cael ei anfon i ddarparwyr gwely a brecwast a llety lleol, yn bygwth postio adolygiadau hynod negyddol a niweidiol ar wefannau os nad ydynt yn cyflwyno swm sylweddol o bitcoin ac arian yn sgil hynny. Yn amlwg, mae'n ddatblygiad pryderus iawn i berchnogion y busnesau hynny. O ystyried bod hyn yn amlwg yn weithredu ar raddfa fawr, byddai'n ddefnyddiol cael gwybod beth y gall y Llywodraeth ei wneud i gynorthwyo, yn unol â’i phwerau, i rybuddio busnesau ac i ddiogelu busnesau.
 
14:21
Jane HuttBywgraffiad
Rwy'n siŵr y byddwch eisoes wedi tynnu sylw'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus at hyn o ran enghreifftiau, ond bydd y Gweinidog yn hapus i edrych ar hyn o ran ystyried datganiad.
 
14:22
William GrahamBywgraffiad
Weinidog Busnes, a gaf i ddweud faint yr wyf i wedi mwynhau ein sgyrsiau dros y blynyddoedd? Nid wyf wedi cael y wybodaeth yr oeddwn i ei heisiau bob amser, efallai, ond yn sicr atebwyd y cwestiynau gydag unplygrwydd ac, os caf i ddweud, dychymyg.
 
Mae fy nghwestiwn heddiw yn ymwneud â datganiad ysgrifenedig, os caf, gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ar—credaf y bydd—darfu anhygoel yng nghanol dinas Casnewydd wrth i rai cysylltiadau trafnidiaeth mawr gael eu cau. A gaf i ofyn am y datganiad hwnnw, i ofyn yn arbennig a fydd unrhyw gefnogaeth i fusnesau a fydd yn cael eu heffeithio er gwaeth, a hefyd, gan gadw mewn cof y datganiadau y mae’r Gweinidog wedi eu gwneud i'r Siambr dros y misoedd diwethaf, sut y bydd Network Rail yn cael ei oruchwylio'n ddigonol i sicrhau y cedwir at y dyddiadau?
 
14:22
Jane HuttBywgraffiad
Hoffwn innau hefyd dalu teyrnged a diolch i William Graham am y ffordd rasol iawn y mae wedi gofyn cwestiynau i mi ac, wrth gwrs, dymuno'n dda iddo yn ei ymdrechion yn y dyfodol. Gwn y bydd yn parhau i fod yn gynrychiolydd gweithgar iawn, mewn sawl ffordd, yn ei gymuned. Ond byddwn hefyd yn dweud, wrth gwrs, y bydd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth eisiau rhoi sicrwydd i bobl Casnewydd o ran y datblygiadau, ac wrth gwrs, bydd y canlyniad yn fuddiol iawn i Gasnewydd.
 
14:23
David ReesBywgraffiad
Weinidog, ddoe, roedd gweithwyr dur ym Mhort Talbot yn dechrau’r broses o gael eu hysbysu am ba un a fydd ganddynt swydd yn y dyfodol ai peidio yn y gwaith, oherwydd y penderfyniad a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2016. Hyd yma, mae Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth wedi bod o gymorth mawr i'r Aelodau trwy ein diweddaru ni am y wybodaeth am y tasglu. A wnewch chi sicrhau y bydd y diweddariadau’n parhau yn ystod yr amser i ddod, gan fod hwn yn gyfnod anodd i lawer o weithwyr a'u teuluoedd, ac mae'n bwysig eu bod yn deall y camau sydd ar gael iddyn nhw ar ôl gwaith y tasglu a'r dyfodol o'u blaenau?
 
14:23
Jane HuttBywgraffiad
Gwn, David Rees, y bydd y Gweinidog eisiau diweddaru’r Aelodau—yn enwedig y ffaith eich bod wedi codi'r materion hyn yn rheolaidd ar ran eich etholwyr—ar y cynnydd o ran gwaith dur Tata.
 
14:24
Eluned ParrottBywgraffiad
Tybed a gaf i ofyn am ddatganiad ar gynnal a chadw a glendid ein rhwydwaith cefnffyrdd yn dilyn cwynion gan fy etholwyr am gyflwr gwarthus yr ymylon ar yr A48(M) wrth i chi ddod i mewn i Gaerdydd, a ffyrdd eraill hefyd. Yn amlwg, gyda llawer o ddigwyddiadau mawr yn dod ag ymwelwyr i Gymru, mae hwn wir yn gyflwyniad cywilyddus ac yn codi cywilydd ar ein dinas a byddwn yn croesawu cynllun gweithredu ar yr hyn y maen nhw’n mynd i'w wneud i ddatrys y mater.
 
14:24
Jane HuttBywgraffiad
Mae'r rhain yn faterion gweithredol a fydd yn rhaid eu hystyried, wrth gwrs, gyda llawer iawn o adborth ac ymgysylltu adeiladol i sicrhau y rhoddir sylw llawn a chynhwysfawr i hyn.
 
14:24
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Diolch yn fawr, Weinidog.
 
14:24
3. Datganiad: Y Cynllun Addasiadau Gwell
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at eitem 3, sef datganiad gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi am y system addasiadau uwch. Galwaf ar y Gweinidog, Lesley Griffiths.
 
14:24
Lesley GriffithsBywgraffiadY Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Diolch, Lywydd. Mae addasiadau’n chwarae rhan hanfodol mewn helpu pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain mor ddiogel ac annibynnol â phosibl. Mae'r system bresennol yn helpu llawer o bobl i gyflawni hyn; fodd bynnag, mae angen ei gwella. Mae Aelodau'r Cynulliad wedi trafod y mater hwn ar sawl achlysur yn y Cyfarfod Llawn a hefyd yn y pwyllgor. Rydym i gyd yn awyddus i weld y system yn gwella ac yn cael ei darparu’n gyflymach. Mae heddiw’n nodi penllanw rhaglen o ymchwil a gwaith gyda rhanddeiliaid allweddol, ac rwy’n falch o gyhoeddi system well â hunaniaeth newydd: Galluogi—Cymorth i Fyw'n Annibynnol, a gaiff ei chyflwyno o 1 Ebrill.
 
Mae addasiadau, yn ogystal â gwella ansawdd cyffredinol bywyd pobl, yn lleihau galwadau y gellir eu hosgoi ar ein GIG a’n gwasanaethau cymdeithasol sydd dan bwysau. Bob blwyddyn, mae miloedd lawer o bobl yn cael cymorth. Bob blwyddyn, mae awdurdodau lleol, cymdeithasau tai a Llywodraeth Cymru yn gwario dros £50 miliwn i ddarparu'r addasiadau sydd eu hangen ar unigolion. Mewn blwyddyn arferol, mae awdurdodau lleol yn cymeradwyo 4,500 o grantiau cyfleusterau i bobl anabl ac mae tua 6,000 o denantiaid cymdeithasau tai yn cael addasiad. Mae mwy na 17,000 o bobl yn cael cymorth gan y rhaglen addasiadau brys, ac mae asiantaethau Gofal a Thrwsio yn helpu mwy na 30,000 o bobl. Ar y cyfan, mae gan ein sefydliadau hanes da o ddarparu cymorth, ond mae adolygiadau olynol wedi dweud y gellid gwella’r system.
 
Nid yw Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol gyfrifol am ddarparu addasiadau; er hynny, mae ganddi ran hanfodol i’w chwarae wrth sicrhau bod y fframwaith ar gyfer darparu yn caniatáu iddynt gael eu darparu mewn ffordd effeithiol a phrydlon yn gyson ledled Cymru. Cafodd ymchwil i addasiadau ei gomisiynu yn gynharach y tymor hwn, gyda golwg ar fod yn gatalydd ar gyfer newid. Nid wyf eisiau gweld ymchwiliad arall yn nhymor nesaf y Cynulliad a fydd eto'n nodi'r un pryderon ac yn dod i’r un casgliadau. Roeddem yn ymroddedig i wella'r system a, phan gyhoeddwyd adroddiad yr adolygiad ym mis Ionawr 2015, gofynnais i’r holl randdeiliaid allweddol ddangos eu bod hwythau’n ymroddedig hefyd. Ac rwy’n falch o ddweud eu bod.
 
Bydd yr holl ymgeiswyr yn cael gwasanaeth gwell beth bynnag fo'u hoedran, eu hanabledd, eu deiliadaeth neu eu lleoliad. Bydd y pwyslais ar yr unigolyn a'i deulu. Mae pa sefydliad sy’n darparu’r addasiad ac yn talu amdano yn eilaidd i bobl yn cael y cymorth sydd ei angen, pan fo ei angen arnynt. Bydd yn system syml, glir â dim ond tri lefel bras o gymorth. Cyn gynted ag y bydd yr angen wedi’i ganfod, caiff cyngor a gwybodaeth eu darparu. Y cam nesaf yw asesiad o anghenion, a datblygu cynllun gweithredu a'i roi ar waith cyn gynted ag y bo modd.
 
Bydd tri chategori bras o gymorth. Caiff addasiadau bach iawn, gosod rheiliau cydio a rheiliau grisiau, er enghraifft, eu cyflwyno’n gyflym, heb ffwdan a gyda chyn lleied â phosibl o waith papur. Ni fydd prawf modd na gofyniad am asesiad gan therapydd galwedigaethol. Rhagwelir y bydd yr holl addasiadau bach iawn hyn yn cael eu darparu o fewn saith diwrnod. Mae awdurdodau lleol a chymdeithasau tai eisoes yn darparu hyn i'w tenantiaid, felly nid oes unrhyw reswm pam na ellir cyflawni hyn i bawb. Mewn rhai achosion, fel yr angen am addasiad bychan iawn er mwyn i rywun gael dychwelyd adref o'r ysbyty, caiff addasiadau eu darparu ar yr un diwrnod neu'r diwrnod wedyn. Hoffwn i hyn ddigwydd yn gyson ledled Cymru. Bydd codi ymwybyddiaeth ymhlith gweithwyr iechyd proffesiynol am y cymorth sydd ar gael, a sut i’w gael, yn flaenoriaeth. Bydd y categori bach fel arfer yn cynnwys cawodydd cerdded i mewn, lifftiau grisiau a rampiau. Gall y rhain gynnwys asesiad gan therapydd galwedigaethol, ond byddant ar drywydd cyflym i sicrhau bod gwaith yn cael ei gwblhau cyn gynted â phosibl. Y categori mawr yw'r rhai lle mae angen newid i'r adeiledd. Oherwydd eu natur, bydd y rhain yn cymryd mwy o amser na’r categorïau eraill; er enghraifft, efallai y bydd angen caniatâd cynllunio. Fodd bynnag, drwy wella'r asesu a’r cyfathrebu, caiff yr ymgeisydd gymryd rhan lawn a gellir rhoi darlun cliriach iddo o’r gwaith sydd ei angen ac amserlen ar gyfer ei gwblhau.
 
Mae hon yn ymagwedd ddoeth, yn seiliedig ar anghenion, a nodir ar y cyd â'r sawl sydd ag angen cymorth. Bydd yn defnyddio addasiadau’n effeithiol ac yn defnyddio arian cyhoeddus yn y ffordd orau bosibl. Bydd profion modd yn parhau ar gyfer y categorïau bach a mawr, ond bydd cymorth, gan gynnwys benthyciadau i wella'r cartref, ar gael i bobl sy'n cael anhawster i dalu eu cyfran o unrhyw gostau. Mae'r system wedi ei chynllunio i sicrhau gwasanaethau cyson dda ym mhob maes, ond gyda hyblygrwydd pan nodir amgylchiadau anarferol. Bydd system gynhwysfawr ar gyfer monitro perfformiad a llunio adroddiadau, ac un gyfres graidd o wybodaeth yn ymwneud â phob addasiad gan bob darparwr, nid dim ond grantiau cyfleusterau i'r anabl. Bydd y data’n cynnwys adborth gan dderbynwyr i ganfod lefel y boddhad â'r cymorth a gafwyd ac i ganfod cyfleoedd i wella gwasanaethau ymhellach.
 
Bydd y system well yn perthyn i’r holl randdeiliaid allweddol, sy’n ymroddedig i chwarae eu rhan yn llawn. Fel arwydd o'n hymrwymiad, rydym yn darparu £4 miliwn arall i gefnogi'r system yn ei blwyddyn gyntaf.
 
Rwy’n falch iawn bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi ymuno â'r system ar gyfer awdurdodau lleol, a bod Cartrefi Cymunedol Cymru wedi gwneud hynny ar ran cymdeithasau tai. Maent wedi croesawu'r system well a'r ffordd y cafodd ei datblygu mewn partneriaeth â sefydliadau a fydd yn chwarae rhan allweddol yn ei llwyddiant. Maent yn cydnabod y manteision y bydd y system well yn eu creu i'r bobl sydd ag angen cymorth i fyw'n ddiogel ac yn annibynnol. Maent wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru ac eraill i gyflwyno hyn o fis Ebrill 2016 ymlaen. Roedd ein gweithgor hefyd yn cynnwys y Coleg Therapyddion Galwedigaethol a Swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, ac mae’r naill a’r llall ohonynt yn falch o weld y datblygiad hwn hefyd.
 
Y prif ganlyniadau fydd gwella annibyniaeth ac ansawdd bywyd. Bydd y risg llai o godymau yn helpu i leihau'r galw ar wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Bydd hefyd yn helpu pobl sydd wedi eu derbyn i'r ysbyty i ddychwelyd adref cyn gynted â phosibl. Caiff y system newydd ei monitro'n ofalus iawn i sicrhau ein bod yn cyflawni'r canlyniadau ac yn darparu’r buddion disgwyliedig. Ceir adroddiadau rheolaidd am gynnydd, ac rwyf hefyd wedi dyrannu cyllid ar gyfer gwerthusiad annibynnol; bydd y Cynulliad hwn yn cael adroddiadau am ganlyniadau hwn.
 
Mae'r neges yn glir: mae angen gwella darpariaeth addasiadau ledled Cymru. Bydd y datblygiad yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw yn cyflawni hyn, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y gwahaniaeth gwirioneddol y bydd hyn yn ei wneud.
 
14:31
Mark IsherwoodBywgraffiad
Wel, ar ôl 17 mlynedd, ni allwn gytuno mwy â’ch gosodiad:
 
Nid wyf eisiau gweld ymchwiliad arall yn nhymor nesaf y Cynulliad a fydd eto’n nodi’r un pryderon ac yn dod i’r un casgliadau.'
 
Ac, wrth gwrs, rwyf wedi gweld ymchwiliadau olynol yn ystod y tri thymor yr wyf wedi bod yma.
 
Mae'r rhanddeiliaid allweddol y gwnaethoch sôn amdanynt wedi dweud wrthyf mai’r mater allweddol iddyn nhw yw mai dechrau proses yw hyn, nid ei diwedd. Sut, felly, ydych chi'n ymateb i'w cwestiwn, 'Sut y mae gennym sicrwydd y bydd yr ymrwymiad i hyn yn parhau ar ôl yr etholiad?' Yn amlwg, nid ydym yn gwybod yn union beth fydd Llywodraeth Cymru—mae gennym i gyd ein gobeithion, ond nid ydym yn gwybod. Rwy'n gwybod y bydd fy mhlaid yn ymrwymo ein hunain i barhau â hyn ar ôl yr etholiad, ond sut, yn eich etifeddiaeth, y byddwch chi'n sicrhau ymrwymiad i hyn, beth bynnag fydd canlyniad yr etholiad, yn y Cynulliad nesaf?
 
Fel y byddwch yn gwybod, mae'r comisiynydd pobl hŷn wedi croesawu’r bwriad y tu ôl i'r cynllun newydd addasiadau i gartrefi. Mae hi'n dweud bod hyn yn tawelu’r pryderon y mae hi wedi’u codi, ond mae hi'n dweud ei bod yn bwysig cydnabod y bydd llwyddiant y cynllun yn dibynnu ar sicrhau bod cynllun newydd yn cael ei roi ar waith mewn ffordd gyson ledled Cymru, gan ddefnyddio profiadau pobl i ysgogi gwelliannau parhaus. Yn ymarferol, pa offer, pa fecanweithiau, sy’n cael eu rhoi ar waith i hwyluso hynny?
 
Mae'r gyllideb weithredol refeniw byw'n annibynnol ar gyfer 2016-17 yn cyfuno tair llinell gyllideb—Gofal a Thrwsio, y rhaglen addasiadau ymateb cyflym, a pholisi tai a datblygu, sydd hefyd yn ariannu sefydliadau cyfranogiad tenantiaid a chydraddoldeb. Mae gan y llinell gyllideb gyfunol ostyngiad o 10 y cant ar y flwyddyn gyfredol, ac rwyf ar ddeall mai asiantaethau Gofal a Thrwsio rheng flaen fydd yn cael blaenoriaeth ar gyfer y gyllideb hon. Sut, felly, y caiff cyllid ei ddiogelu, er enghraifft, ar gyfer y rhaglen addasiadau ymateb cyflym, ac ar gyfer darpariaeth ehangach eich cyhoeddiad heddiw, yn y cyd-destun hwnnw?
 
Gwnaeth ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i addasiadau cartref, yn 2013, gyfres o argymhellion, gan gynnwys rhoi mecanweithiau ar waith i fonitro bodlonrwydd cwsmeriaid â chanlyniadau mwy hirdymor, ac archwilio gwasanaethau addasiadau i nodi arfer gorau a'i roi ar waith. Gwrthododd eich rhagflaenydd y cynigion hynny, ond gwnaeth yr adolygiad o addasiadau byw'n annibynnol eu cefnogi eto, ac yn argymell casglu data perfformiad mewn ffordd gyson gan yr holl asiantaethau cyflenwi. Sut, felly, y bydd y system newydd yn sicrhau bod data yn cael ei rannu, a’n bod yn dysgu oddi wrtho ac yn ei ddefnyddio, er mwyn sicrhau’r ffyrdd mwyaf effeithiol o ddarparu a galluogi addasiadau?
 
Croesawodd Coleg y Therapyddion Galwedigaethol eu cyfranogiad yn y broses hon. Roeddent yn dweud bod y grŵp datblygu wedi dod â’r holl randdeiliaid at ei gilydd yn effeithiol i wir ymrwymo i'r system. Ond maent yn dweud bod angen i'r grŵp barhau i weithio i sicrhau bod yr hyn a ddysgir o'r gwaith monitro ac adolygu yn cael ei roi ar waith, ac yn gofyn sut y gellir sicrhau hyn, o ystyried yr etholiad sydd ar ddod. Unwaith eto, byddem ni’n ymrwymo i hynny, ond, unwaith eto, pa fecanweithiau sydd wedi eu rhoi yn eich etifeddiaeth ar hyn?
 
Ac, i symud at, rwy’n meddwl, fy nghwestiwn olaf, mae Coleg y Therapyddion Galwedigaethol yn croesawu'r pwyslais ar addasiadau yn rhan o becyn cyflawn i bobl ag anghenion a dymuniadau cymhleth, ond yn dweud y bydd yn hanfodol sicrhau y gall pobl gael gwybodaeth a chyngor i drefnu’r hyn y maent yn ei wneud eu hunain a sicrhau bod mwy o gymorth ar gael mewn modd amserol ac effeithiol i sicrhau y rhoddir yr ateb cywir i’r unigolyn heb ystyried daliadaeth, oed na chyllid. Mae hyn yn cynnwys addasiadau, datrysiadau tai amgen ac ystod o ddewisiadau. Sut yr ydych chi, felly, yn ymateb i'w datganiad mai’r unig ffordd o gyflawni hyn yw i’r holl wasanaethau gydweithio, gyda chanlyniadau dymunol yr unigolyn yn ganolog i'r broses o wneud penderfyniadau—rhywbeth yr wyf fi’n ei alw’n gyd-gynhyrchu, rhywbeth yr ydych chi’n ei alw’n rhywbeth gwahanol, ond, yn y bôn, sy’n golygu pobl yn gwneud pethau gyda’i gilydd?
 
14:35
Lesley GriffithsBywgraffiad
Diolch i Mark Isherwood am ei gwestiynau ac rwy’n meddwl, fel chithau—a dywedais hyn yn fy natganiad agoriadol—yn sicr ni hoffwn fod yma mewn Cynulliad newydd yn edrych ar y materion hyn eto. Y rheswm yr wyf wedi cymryd rhywfaint o amser i wneud hyn a rhoi’r system hon ar waith yw oherwydd ein bod yn benderfynol o’i wneud yn iawn y tro hwn oherwydd fy mod yn credu ein bod wedi gweld anghysondeb ledled Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
 
Rydych yn gofyn sut y byddwn yn symud ymlaen, a byddaf yn trefnu gwerthusiad annibynnol yn ystod y flwyddyn gyntaf, a bydd canfyddiadau hwnnw ar gael i'r Cynulliad hwn. Fodd bynnag, hoffwn gael gwerthusiad dros dro rywbryd yn ystod y flwyddyn i sicrhau ein bod ar y trywydd iawn. Soniais fod CLlLC wedi ymuno ar ran yr awdurdodau lleol a bod Cartrefi Cymunedol Cymru wedi ymuno ar ran y cymdeithasau tai. Felly, dyna sut yr wyf yn teimlo y byddwn yn symud ymlaen â hyn, oherwydd bydd cyfnod tawel nawr oherwydd yr etholiad, yn amlwg, ond rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn y bydd y rheini wedi ymuno cyn i’r cynllun hwn gael ei gyflwyno o 1 Ebrill ymlaen ac, fel chithau, rwy’n ymroddedig i fwrw ymlaen â hyn.
 
Rwy'n meddwl bod y rhoi ar waith—wyddoch chi, rwy’n dweud yn union yr un peth â’r comisiynydd pobl hŷn: mae'r rhoi ar waith yn hollbwysig. Mae'n iawn cael cynllun, ond, os nad yw'n cael ei roi ar waith yn y ffordd gywir, yn amlwg, ni chawn y gwelliant yr hoffem i gyd ei weld. A hoffwn i'r gwerthusiad ddangos ble mae'r rhwystrau, oherwydd, yn amlwg, mae yna rwystrau. Os ydych yn gweld pa mor anghyson yw’r ddarpariaeth ledled Cymru, gallwch ganfod y rhwystrau. Felly, drwy gasglu’r data hwnnw—. Felly, ar gyfer pob addasiad sy'n cael ei osod yng nghartref rhywun, byddwn nawr yn cael y data hwnnw. Felly, byddwn yn gallu monitro hynny’n llawer mwy gofalus. Er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei beirniadu am beidio â gwneud y grantiau cyfleusterau i bobl anabl, am beidio â’u cadarnhau’n ddigon cyflym, felly cawn weld ble mae’r rhwystr hwnnw. Cawn weld yn yr awdurdodau lleol—rydych yn gwybod eich hun bod rhai awdurdodau lleol yn darparu addasiadau’n dda iawn ac yn gyflym, a bod rhai eraill yn arafach. Felly, unwaith eto, byddwn yn gallu canfod y rhwystrau hynny’n llawer haws.
 
Soniasoch am fodlonrwydd cwsmeriaid â gwasanaethau ac, unwaith eto, ochr yn ochr â gwerthuso pob addasiad bydd darparwr yr addasiad hwnnw wedyn, ar ôl ei gwblhau, yn darparu ffurflen i'r unigolyn sydd wedi cael yr addasiad a byddwn yn gallu canfod lefelau boddhad cwsmeriaid. Soniais fy mod wedi cael £4 miliwn o arian newydd i gefnogi’r cynllun hwn yn y flwyddyn gyntaf. Gwnaethoch gwestiynu’r toriad 10 y cant i gyllideb Gofal a Thrwsio, er enghraifft. Byddwch yn gwerthfawrogi bod ein cyllidebau ni i gyd wedi cael toriadau sylweddol mewn rhai meysydd, ond rwyf wedi cael cyfarfodydd gyda Gofal a Thrwsio dros y 18 mis diwethaf i sicrhau na fydd hyn yn effeithio ar wasanaethau rheng flaen, ac rwyf wedi cael y sicrwydd hwnnw. Rwy'n meddwl ei bod yn bwysig iawn ein bod, dros y flwyddyn nesaf, yn dysgu gwersi o'r gwerthusiad i sicrhau ein bod yn gallu, fel y dywedais, canfod rhwystrau a gweld lle y gallwn wella gwasanaethau.
 
Gwnaethoch ofyn am wybodaeth a chyngor i unigolion, a bydd hynny’n rhan o'r cynllun cyfathrebu. Unwaith eto, fel y dywedais, bydd cyfnod tawel cyn yr etholiad, ond rwyf wedi neilltuo cyllid ar gyfer cynllun cyfathrebu a fydd yn sicrhau bod aelodau o'r cyhoedd, gweithwyr iechyd proffesiynol, meddygon teulu a chanolfannau Cyngor ar Bopeth yn cael taflenni ffeithiau allweddol, neu—. Byddwn yn sicrhau bod gwybodaeth yn mynd allan yn llawer haws.
 
14:39
Mike HedgesBywgraffiad
Weinidog, rwyf wir yn croesawu'r cynnig i gyflymu addasiadau bach. O fy mhrofiad i o fod yn wleidydd etholedig ers dros chwarter canrif, addasiadau bach yw’r rhan fwyaf o'r addasiadau y mae pobl yn dod i ofyn amdanynt. Weithiau, cewch bobl yn dweud wrthynt bod angen llawer mwy arnynt ond yn aml yr hyn y maent yn gofyn amdanynt yw mân addasiadau bach iawn i’w gwneud hi gymaint yn haws byw yn eu cartref. Ac rwyf hefyd yn gwybod bod dros 30,000 o bobl hŷn wedi cael cymorth gan y gwasanaethau Gofal a Thrwsio yn ôl y ffigurau diweddaraf. Rwy'n siŵr y gwnaiff y Gweinidog ymuno â mi i longyfarch Gofal a Thrwsio ar y gwaith ardderchog y maent yn ei wneud i ddarparu newidiadau bach, hawdd yng nghartrefi pobl, sy'n gwneud cymaint o wahaniaeth ac, mewn llawer o achosion, yn caniatáu i bobl aros yn eu cartrefi.
 
Rwy’n gwybod yn fy etholaeth i bod gwaith addasiadau yn chwarae rhan hynod o bwysig o ran gwella ansawdd bywyd llawer o’r dinasyddion hŷn sydd ag angen cymorth i wneud eu cartrefi'n fwy addas i'w hanghenion. Rwyf hefyd yn gwybod bod angen gwella darpariaeth addasiadau—fel y dywedasoch, Weinidog, yn gynharach. Beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, gan weithio gyda'r asiantaethau a'r sefydliadau sy'n darparu'r gwasanaethau hyn bob dydd, i wella'r gwasanaeth i sicrhau y gall mwy o bobl aros yn eu cartrefi lle y maent yn dymuno aros?
 
14:40
Lesley GriffithsBywgraffiad
Diolch i Mike Hedges am y cwestiynau yna, ac rwy’n sicr yn ymuno â chi i longyfarch gwaith gwych Gofal a Thrwsio, fel y dywedwch—30,000 o addasiadau y flwyddyn. Mae rhai ohonynt yn fach iawn ac yn cael eu gwneud o fewn y targed saith diwrnod sydd gennym erbyn hyn. Mae llawer yn cael eu gwneud ar yr un diwrnod, yn enwedig os oes rhywun yn aros i ddod allan o'r ysbyty ac mai dyna beth sydd ei angen arnynt i sicrhau eu bod yn cael eu rhyddhau ar amser. Rwy’n cofio ymweld â menyw yng Nghasnewydd—nid wyf yn siŵr ai yng Ngorllewin Casnewydd ynteu yn Nwyrain Casnewydd oedd hyn, oherwydd roedd John Griffiths a Rosemary Butler ill dau gyda mi—ond roedd menyw yno yn ei nawdegau a oedd wedi cael, yn syml, dwy o reiliau llaw, a, wyddoch chi, roedd hynny wedi gweddnewid ei bywyd. Felly, gallwn weld bod addasiadau bach iawn weithiau’n gallu gwneud gwahaniaeth mawr i ansawdd bywyd rhywun. Soniais y byddwn yn cael y gwerthusiad hwn dros y flwyddyn nesaf. Rwy'n meddwl ei bod yn bwysig iawn, os ydym am helpu darparwyr i ddarparu’n llawer mwy cyson ac yn llawer mwy effeithiol, ein bod yn gwybod ble mae’r anawsterau ac y gallwn weithio gyda'r darparwyr i sicrhau ein bod yn eu goresgyn.
 
14:41
Jocelyn DaviesBywgraffiad
Weinidog, wrth gwrs, mae’r system hon, y system addasiadau i'r cartref, wedi cael sylw, rwy’n meddwl, o leiaf chwe gwaith i mi gofio—yn wir, unwaith tra’r oeddwn i’n Weinidog—a bob amser mae problemau wedi cael eu nodi a gwelliannau wedyn, wrth gwrs, wedi eu haddo, ac yna mae’r adolygiad nesaf yn canfod problemau tebyg eto. Rwy'n meddwl ei bod yn eithaf digalon bod rhywbeth sydd wedi bod yn flaenoriaeth ers cyn hired yn dal i wynebu problemau parhaus. Gwnaethoch amlinellu pwysigrwydd yr addasiadau o ran helpu pobl i fyw'n annibynnol ac yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain cyhyd ag y bo modd, ac rwy'n siŵr y byddech yn cytuno ei bod wedi bod yn rhwystredig bod y system wedi parhau i fod mor anghyson, a bod rhai, mae'n rhaid i mi ddweud, gwasanaethau rhagorol yn cael eu darparu mewn rhai ardaloedd, ond bod gormod o bobl hefyd yn aros yn rhy hir mewn ardaloedd eraill. Nawr, roedd eich adolygiad y llynedd yn nodi nifer o argymhellion clir i ledaenu'r enghreifftiau o arfer da iawn ledled Cymru, a hoffwn ddiolch i chi heddiw, Weinidog, am wneud y datganiad hwn ac ailadrodd fy ngobaith y bydd yr adolygiad nesaf yn dweud bod y gwelliannau wedi eu gwneud. Ac rwy’n falch iawn o glywed y bydd gwerthuso wedi’i gynnwys yn y system, oherwydd rwy’n meddwl bod hynny'n hollbwysig. Felly, sut y bydd y system newydd hon yna’n lledaenu'r arfer da hwnnw ledled Cymru, a sut y byddwch yn sicrhau y byddwn yn gweld gwelliant ym mhob ardal awdurdod lleol? Ac a fydd y gwerthuso’n digwydd ledled y wlad i gyd, ac a fydd yn cael ei gyhoeddi fel y gallwn weld lle nad yw pobl yn cael y gwasanaeth y maent yn ei haeddu?
 
Soniasoch am weithwyr iechyd proffesiynol yn eich datganiad ac wrth ateb Mark Isherwood, ac rwy’n gobeithio nad dim ond ymgyrch codi ymwybyddiaeth untro yw hon. Felly, a fyddwch yn monitro, neu sut y byddwch yn monitro, pa un a yw gweithwyr iechyd proffesiynol yn manteisio ar y cyfleoedd i gael gwybodaeth? Ac efallai y rhowch wybod inni os bydd hynny’n rhan o'u hyfforddiant.
 
A fy nghwestiwn olaf: a ydych chi'n gweld adeg pan na fydd y pethau hyn mwyach yn destun prawf modd—rwy’n gwybod nad yw pob un yn destun prawf modd—ond a allwch chi ragweld adeg pan fyddwn yn cael gwared â'r prawf modd ar gyfer addasiadau i bobl anabl?
 
14:43
Lesley GriffithsBywgraffiad
Diolch i Jocelyn Davies am y cwestiynau yna. Dechreuwn â’r un olaf, a, wyddoch chi, ni fyddwn yn cynnal profion modd ar gyfer yr addasiadau bach iawn, sy'n un o'r ffyrdd yr wyf yn meddwl y byddwn yn goresgyn y fiwrocratiaeth ac y byddwn yn gallu cyflymu’r addasiadau bach iawn hynny. Byddai'n wych peidio â chynnal profion modd, ond nid oes digon o arian ar gael. Wrth edrych i'r dyfodol, pe byddai pethau'n gwella yn ariannol, pwy a ŵyr, ond ar hyn o bryd nid oes gennym y gyllideb i wneud hynny.
 
Rydych yn llygad eich lle, mae rhai gwasanaethau rhagorol, ond mae'n dameidiog ac mae'n anghyson ledled Cymru, a byddai wedi bod yn braf gweld yr arfer gorau hwnnw’n cael ei rannu’n llawer mwy cyson, ond yn anffodus nid oedd hynny’n digwydd. Rydym wedi dibynnu i raddau ar awdurdodau lleol i wneud hyn, ac rwy’n meddwl mai’r gwahaniaeth gyda'r system hon yw ein bod ni, fel Llywodraeth Cymru, yn rhyw fath o gyflwyno hyn nawr ac yn cymryd llawer mwy o gyfrifoldeb amdano. Dywedais fy mod yn falch iawn bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi ymrwymo’r awdurdodau lleol i'r cynllun, a bod Cartrefi Cymunedol Cymru wedi gwneud yr un peth ar gyfer cymdeithasau tai. Bydd y gwerthuso’n digwydd ledled Cymru gyfan. Bydd y Cynulliad hwn yn cael adroddiadau am y gwerthuso. Gwneir gwerthusiad dros dro i'r Gweinidog yn ystod y flwyddyn, ond rwy’n meddwl ei bod yn bwysig ein bod yn gallu gweld yn gyflym iawn bod y system yn gwella.
 
14:45
Peter BlackBywgraffiad
Weinidog, a gaf i'n gyntaf oll groesawu'r datganiad? Fel y mae Jocelyn Davies wedi'i ddweud, rwy’n meddwl ein bod wedi cael o leiaf pump neu chwech o'r adolygiadau hyn o’r system, yn sicr ers i mi fod yma—17 mlynedd i gyd yn y Cynulliad hwn—gan gynnwys efallai ddau neu dri adroddiad pwyllgor ac un neu ddau o adolygiadau Llywodraeth hefyd. Mae'r ystadegau diweddaraf sydd ar gael o ran grantiau cyfleusterau i bobl anabl yn dangos, o'r 22 awdurdod lleol, bod 17 yn darparu’r grantiau hyn ar nifer cyfartalog o ddiwrnodau calendr—. Mwy na chwe mis—maent yn cymryd mwy na chwe mis i ddarparu’r grantiau hyn, ac rwy’n meddwl bod hynny’n eithaf trychinebus. Yn sicr ceir rhywfaint o gysondeb yno, ond nid yw’r cysondeb hwnnw o reidrwydd o blaid y bobl sy'n dibynnu ar ddarparu’r addasiadau hynny’n gyflym. Rwy’n pryderu, o gofio mai ym mis Gorffennaf 2013 oedd adroddiad diwethaf y pwyllgor, bod y Gweinidog—nid wyf yn siŵr ai chi ydoedd—wedi ymateb iddo ym mis Medi 2013 a bod yr adroddiad diwethaf, y gwnaethoch sôn amdano yn eich datganiad, yn Ionawr 2015, sydd bellach 14 mis yn ôl. Pam mae’n cymryd cymaint o amser i ddatrys y broblem hon yn iawn? Pam mai dim ond nawr yr ydym yn cael datganiad? Nid yn unig y mae pwyllgorau blaenorol wedi tynnu sylw at hyn, ond bu dau adroddiad dros flwyddyn yn ôl a dwy flynedd yn ôl yn edrych ar y mater penodol hwn. Rwy’n pryderu ei bod yn cymryd cymaint o amser ar gyfer hynny.
 
Os caf gyfeirio at adroddiad y pwyllgor yn ôl ym mis Gorffennaf 2013 ac, yn arbennig, at un agwedd sy'n ymwneud â'ch datganiad, argymhellodd y pwyllgor y dylem edrych ar y dangosyddion perfformiad sydd ar gael, ac yr wyf newydd gyfeirio atynt, o ran grantiau cyfleusterau i bobl anabl a darparu nifer o atebion i hynny. Gwrthododd y Gweinidog ar y pryd yr argymhelliad hwnnw ar y sail mai’r amcan yw lleihau nifer y dangosyddion perfformiad, nid eu cynyddu.
 
Yn eich datganiad, rydych nawr yn dweud:
 
'Bydd system gynhwysfawr ar gyfer monitro perfformiad a llunio adroddiadau, un gyfres graidd o wybodaeth sy'n cynnwys pob addasiad gan bob darparwr, nid dim ond Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl.'
 
Felly, a allwch chi egluro pa un a fydd y dangosyddion cenedlaethol a strategol presennol yr wyf wedi cyfeirio atynt yn cael eu dileu nawr a'u disodli â dangosydd arall, ynteu a fydd dangosyddion ychwanegol ar ben hynny? A beth yn union y byddwch chi'n ei fesur o hyn ymlaen? Mae'r dangosyddion presennol, fel y deallaf, yn mesur o'r ymholiad cychwynnol hyd at gwblhau. A fyddwch yn mesur cyfnod gwahanol? A fydd yna ddangosydd strategol yn ymwneud ag ansawdd? A allwch roi ychydig mwy o wybodaeth inni ynglŷn â beth yn union fydd y dangosyddion hyn bellach, a fydd yn ein galluogi i fonitro pa mor effeithiol yw eich system newydd mewn gwirionedd?
 
Un arall o argymhellion adroddiad y pwyllgor oedd y dylai fod un pwynt mynediad i'r system o fewn pob ardal awdurdod lleol. Nid ydych wedi cyfeirio mewn gwirionedd at hynny yn eich datganiad, ond mae gennyf ddiddordeb, o ystyried eich bod wedi bod yn gweithio gyda chymdeithasau tai a gydag awdurdodau lleol, ai eich bwriad yw y bydd yna un pwynt mynediad yn awr ar gyfer yr ymholiadau hyn ynteu a ydych chi'n dal i ddibynnu ar y rhaniad rhwng cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol, er y byddant yn gweithredu system debyg neu'r un system?
 
O ran argymhellion ychwanegol y pwyllgor, un o'r argymhellion ynglŷn â'r prawf modd oedd y dylai'r Llywodraeth gynnal dadansoddiad cost a budd o’r prawf modd ac adrodd yn ôl i'r pwyllgor am eu casgliadau. Dywedasoch y bydd y prawf modd yn cael ei ddiddymu o ran yr addasiadau bach iawn. A ydych chi'n cynnal dadansoddiad cost a budd o’r addasiadau eraill ynglŷn â hynny?
 
Yn olaf, Weinidog, o ran y cymdeithasau tai hynny sy'n gymdeithasau trosglwyddo stoc, ceir materion penodol ynglŷn â'r rheini oherwydd, wrth gwrs, ni allant gael gafael ar yr un arian â chymdeithasau tai eraill ac maent yn dibynnu ar eu cynlluniau busnes yn hynny o beth. Rwyf wedi cael gwaith achos—ac rwy’n gwybod eich bod wedi ysgrifennu ataf heddiw am un o'r materion hynny yr wyf wedi’u codi gyda chi—lle, gydag addasiad ar raddfa fawr, mae'r gymdeithas TSRF i bob diben wedi ceisio ei drosglwyddo i’r awdurdod lleol heb roi’r gefnogaeth berthnasol i'w tenant. Sut y bydd hynny’n gweithio bellach yn y drefn newydd gyda’r cymdeithasau TSRF hynny? A fyddant bellach yn ddarostyngedig i'r un drefn â chymdeithasau tai eraill? A fydd yr un cronfeydd ar gael iddynt ag i gymdeithasau tai eraill? A fydd dyletswydd arnynt i weithio'n agosach gydag awdurdodau lleol? Diolch.
 
14:49
Lesley GriffithsBywgraffiad
Diolch i Peter Black am ei gwestiynau. Na, nid fi oedd y Gweinidog ym mis Medi 2013, ond fi oedd y Gweinidog ym mis Ionawr 2015 pryd, fel y dywedwch, y daeth yr adolygiad hwn i'r amlwg. Rwyf eisoes wedi dweud fy mod yn meddwl ei bod yn iawn i gymryd amser i wneud hyn yn iawn y tro hwn fel nad oes rhaid inni gael adolygiad arall eto.
 
Rydych yn gofyn a fydd un pwynt. Wel, ni fydd gennym siop un stop, er enghraifft, ond nid wyf eisiau i bobl orfod mynd i sawl gwahanol fan. Os ydynt yn gwneud cais am addasiad i awdurdod lleol neu i gymdeithas dai, hoffwn i hynny gael ei wneud mewn modd mor ddi-dor â phosibl, ac rwy’n meddwl y bydd y system yr ydym wedi’i chyflwyno nawr yn helpu yn y ffordd honno.
 
O ran grantiau cyfleusterau i bobl anabl, gall gymryd amser hir i’w darparu, ond gallai hynny fod am lu o resymau: maint y gwaith neu pan fo'r ymgeisydd wedi gofyn am oedi, er enghraifft. Ond rwy'n meddwl bod yr ystadegau’n cuddio'r ffaith bod nifer sylweddol o addasiadau’n cael eu cynnal yn gyflym iawn a gyda chyn lleied â phosibl o fiwrocratiaeth. Rwy'n meddwl y bydd y ffaith y bydd y data hwn gennym, nad oedd gennym o'r blaen, a'r ffordd y caiff ei gasglu bellach yn rhoi darlun llawer llawnach inni o'r hyn sy'n cael ei wneud, ble mae'r broblem ac a oes rhwystr yn y system.
 
Gofynasoch am y dangosydd grantiau cyfleusterau i bobl anabl; nid oes gennyf unrhyw gynlluniau i newid y dangosyddion ar unwaith, ond rwy'n credu y bydd y system well yn darparu gwybodaeth lawer mwy cynhwysfawr am yr hyn sy'n cael ei ddarparu. Dim ond un rhan o'r system yw’r grantiau hyn. Bydd gwerthusiad annibynnol yn dangos inni lle y gallai o bosibl fod angen newid y dangosyddion perfformiad. Rwy'n meddwl bod hynny'n rhywbeth y gallwn edrych arno yn ystod y flwyddyn.
 
Gwnaethoch ofyn imi am addasiadau sy’n destun prawf modd. Yn amlwg, ni fydd yr addasiadau bach iawn yn destun prawf modd. O ran y rhai bach a mawr, byddant yn destun prawf modd a bydd yn rhaid inni edrych ar y data ynglŷn â’r rheini, wrth fwrw ymlaen â’r gwerthusiad. Mae'n bwysig iawn bod cymdeithasau tai—a gwnaethoch gyfeirio at y rhai sydd wedi cael y trosglwyddiad stoc—yn gweithio’n agosach gydag awdurdodau lleol. Mae hynny'n rhywbeth y gallwn, unwaith eto, edrych arno wrth inni fwrw ymlaen â’r gwerthusiad.
 
14:52
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Diolch, Weinidog.
 
14:52
4. Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at eitem 4, sef Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Gwelliannau Canlyniadol) 2016, a galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol—Mark Drakeford.
 
Cynnig NDM5999 Jane Hutt
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
 
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Chwefror 2016.
 
Cynigiwyd y cynnig.
 
14:52
Mark DrakefordBywgraffiadY Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy’n cynnig y cynnig.
 
Mae’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn uno dyletswyddau a swyddogaethau awdurdodau lleol mewn perthynas â gwella llesiant pobl sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr sydd angen cymorth, mewn un Ddeddf.
 
Mae’n darparu fframwaith statudol i gyflawni ymrwymiad ar y cyd i ganolbwyntio ar lesiant, hawliau a chyfrifoldebau.
 
Lywydd, er mwyn i Ddeddf 2014 gyflawni ei nod o ddiwygio gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, mae’n rhaid gwneud nifer o welliannau i'r ddeddfwriaeth bresennol. Mae'r rheoliadau hyn gerbron y Cynulliad y prynhawn yma yn diwygio ac, mewn rhai achosion, yn diddymu'r ddeddfwriaeth sylfaenol sydd ar hyn o bryd yn sail i ddarpariaeth gofal a chymorth i bobl a chefnogaeth i ofalwyr yng Nghymru, oherwydd bydd y ddeddfwriaeth flaenorol honno bellach yn cael ei disodli gan Ddeddf 2014, pan ddaw i rym ar 6 Ebrill eleni.
 
Mae angen y rheoliadau i sicrhau nad oes unrhyw ddyblygu na gorgyffwrdd rhwng swyddogaethau o dan Ddeddf 2014, a swyddogaethau o dan y ddeddfwriaeth sylfaenol bresennol.
 
Hefyd, mae angen gwneud gwelliannau canlyniadol i ddeddfwriaeth sylfaenol arall, sy'n cyfeirio at ddarpariaethau sy'n cael eu diwygio neu eu diddymu gan y rheoliadau. Mae'r Atodlen i'r rheoliadau’n cynnwys darpariaethau trosiannol a darpariaethau arbed mewn cysylltiad â'r diwygiadau y mae’r rheoliadau’n eu gwneud. Effaith y darpariaethau hyn fydd parhau i gymhwyso'r gyfraith bresennol ar gyfer pobl sydd ar hyn o bryd yn cael gofal a chymorth. Bydd hyn yn sicrhau bod trosglwyddiad didrafferth yn digwydd i unigolion o'r fath i mewn i'r trefniadau ar ôl 6 Ebrill. Ceir darpariaethau trosiannol pellach at yr un diben, yn rhan o'r Gorchymyn cychwyn sy’n dod â'r Ddeddf i rym ar 6 Ebrill 2016.
 
Lywydd, mae angen y ddarpariaeth yn y rheoliadau hyn ynghyd â'r darpariaethau trosiannol yn y Gorchymyn cychwyn i sicrhau y bydd y gyfraith ar gyfer plant ac oedolion a basiwyd gan y Cynulliad hwn yn cael ei chyflwyno’n drefnus ac yn effeithiol ac rwy’n gofyn i'r Aelodau eu cefnogi.
 
14:54
Altaf HussainBywgraffiad
Bydd Ceidwadwyr Cymru yn cefnogi'r rheoliadau hyn, ond roedd arnaf eisiau cofnodi fy niolch i fy nghyd-Aelod, William Graham, ac i'r cyn Ddirprwy Weinidog, Gwenda Thomas, am ddarparu'r Deddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant.
 
Mae'n etifeddiaeth addas mai’r diwrnod y mae’r ddau Aelod hyn yn ymddeol yw'r diwrnod y mae’r ffordd newydd hon o ddarparu gwasanaethau cymdeithasol yn dod i rym. Mae'r Ddeddf hon yn un o lwyddiannau mwyaf y Cynulliad hwn ac, fel un o'r Aelodau mwyaf newydd, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gweithio mor galed i wella darpariaeth gofal cymdeithasol, ac rwy’n falch fy mod wedi gallu chwarae rhan fach. Diolch.
 
14:55
Lindsay WhittleBywgraffiad
Lywydd, rwy’n ategu’r rhan fwyaf o deimladau Altaf Hussain, wrth gwrs. Mae rhai pryderon wedi eu mynegi gan rai pobl, gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, am y rheoliadau hyn. Rwyf hefyd yn nodi bod y Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol yn cefnogi'r rheoliadau, fel finnau. Ond, mae’n rhaid imi gytuno â'r Ymddiriedolaeth Gofalwyr, Weinidog, y gellid gwneud cyfeiriad cryfach, efallai, at sicrhau bod yn rhaid diwallu anghenion addysg bellach ac addysg uwch gofalwyr ifanc, yn enwedig y rhai rhwng 16 a 24 oed, mewn unrhyw gynlluniau cymorth i ofalwyr. Ond, byddwn yn cytuno, ar y cyfan, bod rheoliadau'r Ddeddf yno i wneud yn siŵr y bydd unigolion na ellir diwallu eu hanghenion yn anffurfiol yn gymwys i geisio a chael cymorth a gofal gan y gwasanaethau cymdeithasol. Rydym yn llwyr gefnogi’r Ddeddf.
 
14:56
Kirsty WilliamsBywgraffiad
Nawr, rwy'n ymwybodol bod y Gweinidog yn hoff iawn o’m hatgoffa bod y Ddeddf yn ffaith, a bod yn rhaid imi ddysgu byw gyda hi, ond mae gennyf i, a fy ngrŵp, bryderon difrifol o hyd am ganlyniadau’r ddeddfwriaeth hon. Ymhell o honiad Altaf Hussain ei bod yn un o uchafbwyntiau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, rwy’n bryderus iawn am yr effeithiau a gaiff y ddeddfwriaeth hon ar rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.
 
Ni ddefnyddiodd y Gweinidog y gair 'technegol', ond dim ond i roi gwybod i Aelodau, mae’r gwelliannau a’r newidiadau hyn yn y rheoliadau ymhell o fod yn dechnegol eu natur, oherwydd eu bod, fel y dywedodd y Gweinidog, yn diddymu hawliau sydd eisoes wedi eu cronni o dan y gyfraith ar gyfer dinasyddion penodol. Mae'n rhaid inni fod yn gwbl glir nad ydym yn tynnu’n ôl ar hawliau a hawliadau yr oedd unigolion yn arfer eu mwynhau. Yn hynny o beth, er enghraifft, rwy’n pryderu—ac mae pryderon wedi eu mynegi i mi—os byddwn yn troi at dudalen 83, sef addasiadau i adran 53, o ran, er enghraifft, hawl gofalwyr i gael taliad uniongyrchol a'r amgylchiadau pan y gallai hynny fod ar gael, mae'n ymddangos i mi, yn sicr, mai un ffordd o ddarllen hyn fyddai y gallai’r Llywodraeth fod yn tynnu’n ôl ar y llawer o addewidion a wnaethpwyd am daliadau uniongyrchol i ofalwyr yn ystod hynt y ddeddfwriaeth. Os yw hynny'n wir, a bod hynny’n dod yn wir, rwy'n bryderus iawn am yr effaith a gaiff hynny ar ofalwyr.
 
Mae’r Gweinidog yn dweud yn gwbl gywir y bydd y Ddeddf yn dod i fodolaeth ym mis Ebrill eleni, a cheir pryderon eang ymhlith llawer o bobl sy’n gweithio yn y sector, yn enwedig y trydydd sector, am ddigonolrwydd y paratoi a’r hyfforddiant sydd wedi digwydd. Nid wyf yn dweud nad yw’r Gweinidog a'i swyddogion wedi sefydlu rhaglen addysg a hyfforddiant i gynorthwyo i roi’r ddeddfwriaeth ar waith i sicrhau y bydd y staff hynny’n cael chwarae rhan yn y broses o gyflwyno’r ddeddfwriaeth a chymhwyso'r ddeddfwriaeth i'w cleientiaid, ond ceir pryderon difrifol ynghylch digonolrwydd hynny ac ynghylch pa un a yw pobl wir mewn sefyllfa i allu rhoi’r Ddeddf ar waith y mis nesaf.
 
Bydd y Gweinidog yn gwybod am yr Athro Luke Clements ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn ei adnabod yn bersonol, rwy'n siŵr; mae ef yn arbenigwr amlwg ym maes deddfwriaeth gofal cymdeithasol. Yn ddiddorol, cynghorodd y Llywodraeth flaenorol yn San Steffan ar ddeddfwriaeth gofal cymdeithasol yno, ac rwyf yn dyfynnu geiriau’r Athro Clements:
 
Mae popeth i'w ennill drwy ganiatáu o leiaf 6 mis arall (blwyddyn yn ddelfrydol) cyn dod â’r darn enfawr o ddeddfwriaeth hwn i rym.
 
Rwy’n meddwl y dylem wrando ar rybudd yr arbenigwr amlwg hwn yn y maes hwn, gan nad wyf yn argyhoeddedig ein bod yn wirioneddol barod na bod ymarferwyr yn wirioneddol barod i roi’r gyfraith ar waith ym mis Ebrill. Diolch.
 
14:59
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Y Gweinidog i ymateb i'r ddadl.
 
14:59
Mark DrakefordBywgraffiadY Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Wel, gadewch imi ddechrau ag amheuaeth Kirsty Williams am y Ddeddf, amheuaeth y mae hi wedi’i chynnal drwy gydol ei thaith. Rwyf yn anghytuno’n llwyr â hi. Ni allaf feddwl am ddim byd sy’n fwy tebygol o achosi trafferth i adrannau gwasanaethau cymdeithasol a'r bobl sy'n defnyddio eu gwasanaethau nag, ar y cam hwyr iawn hwn, taflu’r holl baratoadau sydd wedi’u gwneud i mewn i anhrefn drwy gyhoeddi na fyddwn, ar 6 Ebrill, yn rhoi’r Ddeddf ar waith wedi'r cyfan. Ni allaf feddwl am ddim byd a fyddai'n fwy gwrthgynhyrchiol na hynny.
 
Rwyf wedi cael fy nghalonogi’n fawr, yn ystod y 12 mis diwethaf, gan ymateb brwdfrydig y bobl a fydd yn gyfrifol am wasanaethau rheng flaen o dan y darn hwn o ddeddfwriaeth i’r rhaglen helaeth o baratoi a hyfforddi y mae’r Llywodraeth wedi’i darparu, gan weithio drwy Gyngor Gofal Cymru, cyfrifoldeb uniongyrchol a gymerwyd am y rhaglen honno gan Rhian Huws Williams, prif weithredwr y cyngor gofal, sydd wedi rhoi llawer iawn o egni personol i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud popeth a allwn i wneud pobl yn ymwybodol o'r Ddeddf, sut y bydd yn gweithio a sut y bydd yn newid eu bywydau gwaith. Gan ein bod wedi cael cymaint o lwyddiant, Lywydd, gyda'r ymdrechion paratoi a hyfforddi, rwyf wedi penderfynu darparu £1 filiwn i'r cyngor gofal unwaith eto y flwyddyn nesaf i ailadrodd yr £1 filiwn y maent wedi’i chael eleni, oherwydd rwy’n cydnabod, ar 7 Ebrill, na fydd y byd i gyd yn newid ac y bydd gweithwyr yn y flwyddyn gyntaf honno’n canfod bod angen iddynt ddod yn fwy cyfarwydd â manylion y Ddeddf a sut y mae'n gweithio ar lawr gwlad. Bydd yr £1 filiwn honno ar gael eto y flwyddyn nesaf i wneud yn siŵr y gallwn wneud yn union hynny.
 
Mae'r rheoliadau sydd gerbron y Cynulliad y prynhawn yma wir yn diddymu rhai hawliau sydd ar y llyfr statud eisoes, ond dim ond—dim ond—er mwyn rhoi’r hawliau estynedig yn eu lle a fydd gan yr unigolion hynny o ganlyniad i Ddeddf 2014. Mae hynny yn cynnwys taliadau uniongyrchol ac mae yn cynnwys agwedd fwy rhydd tuag at daliadau uniongyrchol, gan gynnwys eu darparu i ystod ehangach o ddefnyddwyr ar gyfer ystod ehangach o ddibenion a chaniatáu i’r defnyddwyr hynny ddefnyddio eu taliadau uniongyrchol i dalu ystod ehangach o unigolion, gan gynnwys aelodau o'r teulu, na fyddai wedi bod yn bosibl yn y gorffennol.
 
Rwy'n ddiolchgar i Lindsay Whittle am y pwyntiau a gododd am faterion gofalwyr. Mae gofalwyr wedi bod yn pryderu am y ddeddfwriaeth. Rydym wedi gweithio'n galed gyda nhw i wneud yn siŵr bod y trefniadau trosiannol y mae’r rheoliadau hyn yn eu rhoi ar waith yn amddiffyn y tir a enillodd y Mesur gofalwyr a roddodd y Cynulliad hwn ar y llyfr statud. Yn ddiweddar, cyfarfûm â grŵp o ofalwyr ifanc, grŵp trawiadol iawn o bobl ifanc, gan gynnwys menyw ifanc o ardal Caerffili. Byddaf yn rhoi sylw i’r pwynt a gododd Lindsay Whittle y prynhawn yma o ran sicrhau bod unrhyw gynlluniau sydd gennym gyda’r gofalwyr ifanc hynny yn ystyried eu hanghenion o ran addysg bellach ac addysg uwch.
 
Felly, Ddirprwy Lywydd, rwy’n fy nghanfod fy hun yn cytuno ag Altaf Hussain bod hon yn Ddeddf wirioneddol nodedig. Hwn fydd y darn unigol mwyaf o ddeddfwriaeth erioed i gael ei basio drwy'r Cynulliad hwn. Bu ymdrech ddeddfwriaethol enfawr, o ran y ddeddfwriaeth sylfaenol uniongyrchol ac o ran llif rheoliadau drwy'r Cynulliad hwn hefyd. Ategaf ei ddiolch i Gwenda Thomas, yn arbennig, ond hefyd i William Graham ac i’r holl aelodau eraill hynny o'r adran gwasanaethau cymdeithasol a weithiodd mor galed i sicrhau bod y Ddeddf cystal ag y gallwn ei gwneud, ac rydym nawr yn ei throsglwyddo i'r bobl sy’n gyfrifol am ei rhoi ar waith. Mae'r rheoliadau hyn yn hanfodol iddynt allu gwneud hynny. Gofynnaf i'r Aelodau eu cefnogi.
 
15:03
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebu. Gohiriaf yr holl bleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
 
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
 
15:03
5. Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Hyrwyddo Sgoriau Hylendid Bwyd) (Cymru) 2016
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Rydym nawr yn symud ymlaen i eitem 5, sef Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Hyrwyddo Sgorio Hylendid Bwyd) (Cymru) 2016. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd i gynnig y cynnig—Vaughan Gething.
 
Cynnig NDM5998 Jane Hutt
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
 
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Hyrwyddo Sgôr Hylendid Bwyd) (Cymru) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Chwefror 2016.
 
Cynigiwyd y cynnig.
 
15:04
Vaughan GethingBywgraffiadY Dirprwy Weinidog Iechyd
Diolch, Lywydd. Rwy’n cynnig y cynnig. Trafodwyd pwnc y rheoliadau sydd gerbron Aelodau'r Cynulliad heddiw am y tro cyntaf yn y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ystod hynt y Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) yn 2012. Roedd y pwyllgor—roeddwn yn aelod ohono ar y pryd—yn cydnabod manteision cyfeirio darpar gwsmeriaid at wefan sgoriau hylendid bwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd i wirio sgôr busnes cyn iddynt archebu bwyd o bell. Mae'r rheoliadau hyn yn cyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru ar y pryd i weithredu.
 
Bydd yn ofynnol bellach i fusnesau cludfwyd gyhoeddi datganiad dwyieithog ar ddeunyddiau copi caled penodol i gyfeirio'r defnyddiwr at y wefan sgoriau hylendid bwyd. Rydym yn pennu'r isafswm maint ar gyfer y ffont i sicrhau bod y neges yn cael ei gweld yn glir. Mae'r datganiad hefyd yn atgoffa defnyddwyr y cânt ofyn i'r busnes bwyd am ei sgôr hylendid bwyd wrth archebu. Mae cydymffurfiad yn seiliedig ar arddangos y datganiad ar y daflen. Bydd y daflen yn annilys os yw sgôr y busnes bwyd yn newid. Mae'r rheoliadau hefyd yn darparu ar gyfer busnesau cludfwyd i arddangos eu sgoriau hylendid bwyd yn wirfoddol ar eu taflenni. Mae llawer o siopau cludfwyd eisoes yn gwneud hyn, wrth gwrs, ond, yn anffodus, mae lleiafrif bach wedi arddangos sgoriau ffug neu gamarweiniol. Mae'r rheoliadau felly yn nodi, os oes sgôr wedi’i arddangos, bod yn rhaid iddo fod yn ddilys ac ar y fformat a nodir. Mae'r rheoliadau’n gwella'r cynllun sgoriau hylendid bwyd statudol yng Nghymru drwy lenwi bwlch lle nad yw defnyddwyr sy’n archebu bwyd o bell—er enghraifft, i’w ddanfon i’r cartref—yn cael cyfle i weld sgôr hylendid bwyd y siop cludfwyd cyn archebu. Dylai arddangos y datganiad ar y daflen annog defnyddwyr i edrych ar sgôr hylendid bwyd busnes cludfwyd, neu ofyn amdano, cyn archebu. Mae'r cynllun statudol yn llwyddiant, ac rwy'n falch am hynny. Mae'n rhaid inni ei ddiogelu at y dyfodol, ac rwy’n credu bod y rheoliadau hyn yn ein helpu i wneud hynny.
 
Yn bwysig, mae'r rheoliadau, wrth gwrs, yn darparu, os na fydd busnes bwyd yn cydymffurfio, ei fod yn cyflawni trosedd, ac mae’r rheoliadau’n nodi cosbau priodol. Bydd hyn yn caniatáu i awdurdodau lleol gymryd camau gorfodi priodol pan fo angen. Os caiff y rheoliadau eu cymeradwyo, byddant yn dod i rym ar 28 Tachwedd 2016, sef tair blynedd union ar ôl cychwyn y cynllun sgoriau hylendid bwyd statudol yng Nghymru.
 
Yn olaf, Lywydd, bwriad Llywodraeth Cymru o hyd, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cynulliad nesaf, yw datblygu rheoliadau i roi sylw i hyrwyddo sgoriau hylendid bwyd ar wefannau busnesau bwyd.
 
15:06
Darren MillarBywgraffiad
Diolch, Ddirprwy Weinidog, am amlinellu bwriadau'r Llywodraeth i gyflwyno'r rheoliadau hyn. Mae'n rhywbeth y gwnes ei argymell yn daer wrth i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ystyried y Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru)—bod angen rhyw gyfle i gwsmeriaid siopau cludfwyd allu canfod sgôr bwyd y sefydliad drwy ei lenyddiaeth. Ond rwyf ychydig yn bryderus y gallai’r rheoliadau fel y’u nodwyd greu rhai canlyniadau anfwriadol, felly rwy’n ofni y byddwn yn pleidleisio yn erbyn y cynigion sydd gerbron y Cynulliad heddiw. Os caf nodi'r rhesymau pam yr ydym eisiau gwneud hynny, gall y Gweinidog ystyried a allai fod angen gwelliant i'r rheoliadau.
 
Rwy'n llwyr gefnogi'r awgrym y dylai fod pwyntydd at y sgoriau hylendid bwyd sydd ar-lein mewn taflenni cludfwyd. Rwy'n meddwl mai dyna'r man lle bydd pobl yn gallu cael y wybodaeth ddiweddaraf am eu siopau cludfwyd lleol a'r sgôr hylendid bwyd sydd wedi'i ddyfarnu iddynt. Fodd bynnag, o ran arddangos sgôr ar y deunyddiau cyhoeddusrwydd eu hunain, rwy’n meddwl y gallai hynny gamarwain y defnyddiwr yn sylweddol ac o bosibl roi sicrwydd ffug am sgôr hylendid bwyd gwirioneddol y sefydliad y maent yn dymuno archebu rhywbeth ganddo. Felly, er enghraifft, gellid rhoi sgôr hylendid bwyd o 5 i sefydliad, a gellid dosbarthu taflenni ar y sail honno, ond bod arolygiad pellach o’i safonau hylendid bwyd yn cael ei gynnal a bod sgôr o 0 neu 1 yn cael ei ddyfarnu yn ystod yr arolygiad dilynol. Wrth gwrs, bydd gan daflen oes silff. Gallai fod yn nrôr uchaf rhywun yn ei fflat neu gartref yn rhywle a chael ei defnyddio’n rheolaidd dros nifer o flynyddoedd. Nid wyf eisiau i ddefnyddwyr gael sicrwydd ffug am sgôr hylendid os yw'r sgôr hylendid hwnnw ar y taflenni hynny’n anghywir. Felly, byddai’n llawer gwell gennyf weld system lle, os caniateir arddangos sgôr ar daflen, bod dyddiad rhoi’r sgôr wedi’i stampio’n glir ar y sgôr, fel y gall pobl fod yn ymwybodol o ba bryd y cafodd ei roi, ac y gallai fod perygl ei fod wedi dyddio’n sylweddol. Nid yw’r rheoliadau hyn yn gwneud unrhyw fath o ddarpariaeth ar gyfer hynny. Yn sicr nid ydynt yn mynnu bod hynny’n cael ei wneud, ac rwy’n meddwl eu bod yn ddiffygiol o ganlyniad.
 
Rwyf hefyd yn pryderu ychydig bach bod y gweithredwyr, yn amlwg, yn gallu seboni eu ffordd allan o fod wedi cyflawni trosedd os oes ganddynt esgus rhesymol o ran y drosedd a allai fod wedi'i chyflawni o ran darparu gwybodaeth gamarweiniol. Unwaith eto, gall sgôr hylendid bwyd fod yn hen yn llythrennol ddiwrnod ar ôl o daflenni gael eu dosbarthu mewn lle. Rwy'n meddwl ei bod yn hawdd iawn i bobl seboni eu ffordd allan o gael eu dwyn i gyfrif am yr hyn a allai fod yn weithred fwriadol o gamarwain aelodau'r cyhoedd drwy gyfrwng y rheoliadau sydd gerbron y Cynulliad heddiw. Felly, er fy mod yn cefnogi bwriad y Llywodraeth, yn llwyr ac yn llawn, o sicrhau bod gwybodaeth dda, o safon uchel ar gael i ddefnyddwyr am y sgoriau hylendid bwyd pan eu bod yn archebu dros y ffôn neu ar-lein neu oddi ar ddarn o lenyddiaeth sy'n dod drwy eu blwch llythyrau, nid wyf yn meddwl y byddai’r rheoliadau fel y maent wedi’u nodi yn cyflawni hynny. Mewn gwirionedd, rwy’n meddwl bod ganddynt y potensial i gamarwain y defnyddwyr a rhoi sicrwydd ffug iddynt am y sgoriau hylendid bwyd. Felly, byddwn ni’n pleidleisio yn erbyn y rhain, ac rwyf yn annog Aelodau eraill mewn pleidiau gwleidyddol eraill i wneud hynny hefyd.
 
15:10
Ann JonesBywgraffiad
Weinidog, a gaf i groesawu rheoliadau heddiw, sy'n adeiladu ar Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 Llywodraeth Cymru, deddf arloesol, byddwn yn awgrymu, neu, fel y mae’r rhan fwyaf ohonom yn cyfeirio ati’n annwyl, y 'scores on the doors'? Rwy’n credu bod y ffaith mai ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno cynllun sgorio hylendid bwyd statudol o’r fath yn profi bod y Llywodraeth hon eto wedi cymryd yr awenau ar faterion iechyd y cyhoedd, a hefyd yn y ffordd y gallwn o bosibl helpu i amddiffyn ein dinasyddion.
 
Nawr, rwy’n gwybod bod llawer o fusnesau, fel yr ydych wedi’i nodi, hefyd wedi croesawu'r gwaith hwn gan ei fod yn rhoi sicrwydd i’w cwsmeriaid o ansawdd eu cynnyrch. Wrth inni barhau i ddatblygu’r rheoliadau hyn, Ddirprwy Weinidog, tybed—ac fe’ch clywais yn dweud y byddai gofyn i Gynulliad yn y dyfodol ystyried y rheoliadau, gan gynnwys y rhai sy'n masnachu dros y rhyngrwyd, neu y byddai sgoriau ar wefannau—a fyddai hynny’n rhywbeth a fyddai'n flaenoriaeth i Lywodraeth Lafur a ddaw i mewn neu Lywodraeth Lafur newydd ar ôl mis Mai, neu a oedd yn rhywbeth y byddai'n rhaid inni fynd yn ôl i'r cychwyn ynglŷn ag ef, ynteu a oes rhai cynlluniau yno. Rwy'n teimlo y dylai'r rheini sy’n masnachu dros y rhyngrwyd fod â’r un hyder a'r un lefel o hyder yn y system sgorio hylendid bwyd â’r rhai ohonom sy'n prynu’n lleol mewn siopau neu siopau cludfwyd.
 
15:12
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Y Gweinidog i ymateb.
 
15:12
Vaughan GethingBywgraffiadY Dirprwy Weinidog Iechyd
Diolch, Lywydd, a diolch am y cwestiynau. Rhoddaf sylw i bwynt Ann Jones yn gyntaf, os caf. Rwy'n falch bod y rheoliadau wedi cael croeso ac yn falch o’r effaith y maent wedi ei chael. Mae dros 60 y cant o fusnesau bwyd Cymru bellach â’r sgôr uchaf, sef 5, ac mae gwelliant gwirioneddol a sylweddol wedi bod yn sgoriau busnesau bwyd, gan gynnwys yr estyniad i fasnachu bwyd ychydig dros flwyddyn yn ôl. Felly, rwy’n meddwl bod y sgoriau at ei gilydd wedi bod yn llwyddiant mawr iawn wrth helpu defnyddwyr i wneud dewisiadau doeth.
 
Yn ystod y drafodaeth yn y pwyllgor ar adeg pasio’r cynllun cychwynnol, bu cryn dipyn o drafodaeth am archebu drwy wefan hefyd. Bydd rhai pobl na fuddant yn gorfforol yn mynd i mewn i siop neu’n gorfod ffonio rhywun wyneb yn wyneb. Gwnaethom ystyried hyn, ac felly cadwodd y Llywodraeth ei haddewid i wneud rhywbeth am hynny. Mae ychydig yn fwy cymhleth wrth ymdrin ag archebu ar wefan, gan fod nifer ohonynt yn mynd drwy wefan mawr, boed hynny yn Cook, neu mae yna ddewis arall, Just Eat, hefyd. Felly, efallai y bydd gennych un wefan, un lle i fynd i mewn, gyda nifer o wahanol fusnesau bwyd. Felly, rydym yn awyddus i geisio gweithio drwy hynny. Yn yr ymgynghoriad y gwnaethom ei gynnal ar gyfer y rheoliadau hyn, gwnaethom ofyn cwestiwn am hyn. Felly, mae ychydig mwy o waith i'w wneud, ond roeddwn am fod yn glir gyda’r Aelodau nad yw’r Llywodraeth wedi ymgilio na cheisio osgoi'r ymrwymiad yr ydym wedi ei roi i weithredu ac i wneud rhywbeth, ond lle’r Cynulliad nesaf, gobeithio, fydd pasio cyfres o reoliadau a fydd yn gwneud hynny mewn ffordd gymesur ac effeithiol ar gyfer y busnes bwyd ac, yn bwysig, ar gyfer y defnyddiwr hefyd.
 
I ateb dau bwynt hanfodol Darren Millar, bu dau ymgynghoriad ar gyfer y rheoliadau hyn, y ddau gyda busnesau bwyd, y cyhoedd yn gyffredinol, a ledled yr Undeb Ewropeaidd—yn bwysig, gydag awdurdodau lleol yn ogystal, am y gallu i orfodi'r cynllun rheoliadau yr ydym yn awyddus i’w gyflwyno yn briodol. Does dim anghytundeb ynghylch y pwynt a’r pwrpas. Gwnaethoch y pwynt bod cefnogaeth drawsbleidiol iddynt wneud rhywbeth am hyn yn y pwyllgor ar adeg pasio’r cynllun gwreiddiol.
 
Yn fy sylwadau agoriadol, fe wnes i nodi ein bod yn cydnabod bod nifer bach o fusnesau bwyd sydd eisoes yn darparu sgoriau camarweiniol ar lenyddiaeth y maent yn ei dosbarthu. Rydym yn bod yn wirioneddol glir yn y rheoliadau hyn y bydd hynny'n drosedd, a mater i'r awdurdodau lleol fydd gorfodi hynny hefyd. Felly, rydym yn bod yn glir iawn, os oes sgôr wedi’i arddangos, bod yn rhaid iddo fod yn ddilys a bod yn rhaid iddo fod mewn fformat penodol.
 
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Melding) i’r Gadair.
 
Vaughan GethingBywgraffiad
Pan ydych yna’n troi at eich ail bwynt am allu osgoi hyn yn hawdd iawn drwy ddweud bod yna esgus rhesymol, wel, ar ôl ymarfer a deall yr hyn y mae cyfreithwyr yn ei olygu ac nad ydynt yn ei olygu wrth y term 'rhesymol', nid wyf yn meddwl y bydd hi mor syml â dweud, 'Rydym wedi cyhoeddi taflenni dair blynedd yn ôl ac yn dymuno parhau i’w defnyddio.' Derbyniaf yr ymyriad.
 
15:14
Darren MillarBywgraffiad
Diolch am dderbyn yr ymyriad. Y pwynt yr wyf yn ei wneud yw, yn amlwg, bod gan daflen oes silff amhenodol—mor hir ag y mae rhywun yn penderfynu ei chadw—ac oni bai bod stamp dyddiad yn ofynnol ynghyd â’r sgôr hylendid bwyd sydd ar y daflen—ac nid yw'r rheoliadau hyn yn mynnu hynny—mae'n hawdd iawn i bobl gael eu camarwain am y wybodaeth yn y taflenni. Gallai fod yn gywir ar adeg argraffu. A oes angen cywiro ar adeg yr argraffu—mae angen iddi fod yn gywir ar yr adeg honno—ynteu ar adeg y dosbarthu, ynteu ar adeg yr archeb? Hynny yw, pryd ddylai’r sgôr hwnnw fod yn ddilys pan fo rhywun yn archebu? O safbwynt defnyddiwr, byddai'n llawer haws ei gwneud yn ofynnol bod stamp dyddiad syml ar y sgôr hylendid bwyd hwnnw er mwyn i bobl allu gweld pryd y cafodd ei ddyfarnu.
 
15:15
Vaughan GethingBywgraffiad
Rwy’n cydnabod y pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud. Ond, o ran oes silff taflenni, nid wyf yn meddwl y bydd yn esgus rhesymol i fusnes bwyd ddweud ei fod wedi dosbarthu taflen, neu wedi argraffu taflenni, dair blynedd yn ôl ac nad yw’n mynd i ystyried y newid i'w statws. Lle’r busnes bwyd yw sicrhau bod y taflenni y mae’n eu cynhyrchu a’u danfon i ddefnyddwyr yn ddilys ar yr adeg y maent yn mynd i ddwylo defnyddwyr. Ni fydd yn esgus rhesymol dweud eu bod wedi argraffu nifer ohonynt sawl blwyddyn yn flaenorol.
 
Bydd y Cynulliad yn cael cyfle arall yn y tymor nesaf i edrych eto ar y cynllun sgoriau hylendid bwyd. Bydd gennym brofiad ymarferol, os caiff y rheoliadau eu pasio, o'r hyn a fydd wedi digwydd mewn gwirionedd. Nid wyf yn cydnabod y diffyg sylweddol honedig y mae’r Aelod yn cyfeirio ato. Rwy'n meddwl bod hwn yn gynllun da. Mae wedi symud ymlaen â’r sgoriau yr ydym wedi’u cyflwyno. Mae wedi bwrw ymlaen â chynllun i ddarparu hyder gwirioneddol i ddefnyddwyr. A dweud y gwir, i fusnesau bwyd da sy'n darparu safonau hylendid bwyd priodol a safonau hylendid bwyd uchel, mae'n fantais gystadleuol deg a phriodol. Anogaf yr Aelodau i dderbyn y rheoliadau sydd wedi’u gosod ger eich bron heddiw.
 
15:16
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
 
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
 
15:16
6. Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar gyfer Bil Menter y DU mewn perthynas â Darpariaethau Cod Rheoleiddwyr ac Awdurdod Sylfaenol
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Eitem 6 yw'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol ar gyfer y Bil Menter o ran y cod rheoleiddwyr a’r darpariaethau awdurdod sylfaenol. Galwaf ar y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus i gynnig y cynnig—Leighton Andrews.
 
Cynnig NDM5992 Leighton Andrews
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Menter, sy'n ymwneud â gwelliannau i Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 mewn perthynas â'r cynllun Awdurdod Sylfaenol a gwelliannau i Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 mewn perthynas ag egwyddorion a chod y rheoleiddwyr, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
 
Cynigiwyd y cynnig.
 
15:17
Leighton AndrewsBywgraffiadY Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Diolch, Ddirprwy Lywydd.
 
Rwy’n cynnig y cynnig ac rwy’n ddiolchgar i'r Pwyllgor Menter a Busnes am ystyried y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Maent wedi nodi eu bod yn fodlon â’r memorandwm.
 
Cyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil Menter i'r Senedd ar 16 Medi y llynedd. Mae'r Bil yn gwneud gwelliannau i’r darpariaethau presennol sy'n ymwneud â chod y rheoleiddwyr a'r cynllun prif awdurdod. Efallai y dylwn esbonio: mae’r cod rheoleiddwyr yn god ymarfer sy'n ceisio darparu fframwaith seiliedig ar egwyddorion i reoleiddwyr ynglŷn â sut y dylent ymgysylltu â'r rhai y maent yn eu rheoleiddio.
 
Mae’n rhaid i bron bob rheoleiddiwr nad yw’n economaidd, gan gynnwys awdurdodau lleol ac awdurdodau tân ac achub, ystyried y cod wrth ddatblygu safonau, polisïau neu weithdrefnau. Mae'r Bil Menter yn gosod gofyniad newydd ar reoleiddwyr i adrodd am yr effaith y mae’r cod wedi ei chael ar y ffordd y maent yn arfer eu swyddogaethau, gan ei gwneud yn haws mesur effaith y cod ac asesu ei fanteision.
 
Mae'r Bil hefyd yn dileu'r cyfyngiad ar ddod â swyddogaethau rhai rheoleiddwyr penodol o fewn cwmpas y cod. Bydd yn caniatáu i ddod â swyddogaethau Ofgem, Ofcom, y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd ac Ofwat o fewn cwmpas y cod.
 
Rydym wedi sicrhau, drwy welliannau Llywodraeth y DU i'r Bil, mai lle Gweinidogion Cymru yw pennu swyddogaethau at ddiben y cod pan fo'r swyddogaethau o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol neu o ran pa swyddogaethau y caiff Gweinidogion Cymru eu harfer. Wrth gwrs, mae'n briodol y dylai’r pŵer hwn fod yng Nghymru.
 
I droi yn awr at y cynllun prif awdurdod. Mae'r cynllun wedi bod ar waith ers 2009 ac mae'n galluogi busnesau i ffurfio partneriaeth statudol ag un awdurdod lleol neu awdurdod tân ac achub, sydd yna’n darparu cyngor i reoleiddwyr lleol eraill ei ystyried wrth gynnal arolygiadau neu ymdrin â diffyg cydymffurfiad. Y nod yw sicrhau bod rheoleiddio lleol yn gyson ar lefel genedlaethol ac yn ddigon hyblyg i ymdrin ag amgylchiadau lleol.
 
Mae darpariaethau yn y Bil Menter yn symleiddio prosesau cymhwyster ac ymgeisio'r cynllun prif awdurdod yn gyffredinol; yn caniatáu i gyrff masnach ddarparu mynediad haws at y cynllun i’w haelodau drwy symleiddio'r prosesau ymgeisio a drwy gael gwared ar y gofyniad y dylai pob busnes unigol gynnal partneriaeth ar wahân; yn gwneud gwelliannau technegol sy'n ymwneud â gofynion hysbysu; yn ymestyn y cynllun fel bod rheoleiddwyr eraill, yn ogystal ag awdurdodau lleol, yn gallu bod yn rheoleiddwyr cymwys; yn galluogi rheoleiddwyr cefnogol i roi cymorth i'r prif awdurdod; ac yn mynnu bod rhai rheoleiddwyr ategol eraill sydd â swyddogaethau sy'n gorgyffwrdd ag awdurdodau lleol yn gweithredu'n gyson â chyngor y prif awdurdod.
 
Rydym wedi sicrhau, drwy ddiwygiadau Llywodraeth y DU, y bydd yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau gael cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn pennu, at ddibenion y cynllun prif awdurdod, rheoleiddiwr y mae ei swyddogaethau'n ymwneud â materion datganoledig i Gymru yn unig neu swyddogaeth reoleiddio, i'r graddau y mae’n arferadwy yng Nghymru, sy'n ymwneud â mater datganoledig i Gymru. Cymeradwyaf y cynnig hwn i'r Siambr.
 
15:20
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr. Felly, y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, mae’r cynnig wedi’i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
 
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
 
15:20
7. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandum Rhif 4) ar gyfer y Darpariaethau ym Mil Menter y DU sy’n ymwneud â Swyddi Sector Cyhoeddus: Cyfyngu ar Daliadau Ymadael
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Eitem 7 yw cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol ar ddarpariaethau Bil Menter y DU sy'n ymwneud â chyflogaeth yn y sector cyhoeddus: cyfyngiadau ar daliadau ymadael. Galwaf ar y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus i gynnig y cynnig—Leighton Andrews.
 
Cynnig NDM5994 Leighton Andrews
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Menter sy'n ymwneud â chyfyngu ar daliadau ymadael y sector cyhoeddus, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
 
Cynigiwyd y cynnig.
 
15:21
Leighton AndrewsBywgraffiadY Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Ddirprwy Lywydd, hoffwn unwaith eto fynegi fy niolch i'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol am ystyried y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn, a hefyd i gyngor partneriaeth y gweithlu am eu hymgysylltiad ag ef. Yn anffodus, nid oedd y pwyllgor yn gallu ystyried y memorandwm diwygiedig, ac roedd hyn y tu allan i fy rheolaeth i gan fod Llywodraeth y DU wedi cyflwyno gwelliannau hwyr iawn i'r Bil ar 1 Mawrth.
 
Fel y dywedais ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol arall, daeth Bil Menter Llywodraeth y DU i'r Senedd ar 16 Medi 2015. Mae'n cynnwys darpariaethau sy'n cyfyngu ar daliadau ymadael yn y sector cyhoeddus. Mae'r Bil yn cyflwyno pwerau i wneud rheoliadau i’r Trysorlys i gapio cyfanswm gwerth y taliadau ymadael yn y sector cyhoeddus ar £95,000. Bydd y Bil yn cwmpasu gweithluoedd sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Mae hynny'n cynnwys y GIG, llywodraeth leol a chyrff a noddir yng Nghymru. Mae'r cyrff hyn, wrth gwrs, yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol.
 
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r egwyddor o gyfyngu taliadau ymadael gormodol yn y sector cyhoeddus. Nid yw taliadau mawr i weithwyr cyhoeddus ar gyflog uchel yn boblogaidd â phobl Cymru, ac nid ydynt yn cynnig gwerth am arian i'n gwasanaethau cyhoeddus sydd dan bwysau—llawer ohonynt wedi gweld cyllidebau wedi’u lleihau gan doriadau a osodwyd gan San Steffan. Yn ogystal â hynny, rydym yn credu ei bod yn bwysig bod y taliadau ymadael yn deg, yn gymesur ac yn cynrychioli gwerth am arian i drethdalwyr Cymru, ond mae'n iawn ac yn briodol bod gan Weinidogion Cymru y pŵer i benderfynu ar y drefn gapio ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru. Ni chafodd hyn, wrth gwrs, ei adlewyrchu yn y Bil fel y'i drafftiwyd yn wreiddiol.
 
Ar ôl trafodaethau hir iawn gyda Llywodraeth y DU, rydym bellach wedi dod i gytundeb ar newidiadau i'r Bil. Mae hyn yn cynnwys pŵer i hepgor neu lacio gweithredu’r cap ar y gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru pe digwydd i Weinidogion Cymru deimlo ei bod yn briodol i wneud hynny. Yn ymarferol, bydd Gweinidogion Cymru yn gallu pennu trefniadau priodol ar gyfer sut y bydd y cap yn berthnasol. Mae'r pŵer hwn yn mynd i'r afael â phryderon a fynegwyd gan gyngor partneriaeth y gweithlu, yn enwedig o ran pensiynau a gweithwyr ar gyflogau is, ac rydym yn amlwg yn awyddus i amddiffyn sefyllfa gweithwyr cyflog isel.
 
Bydd rhai eithriadau i'w hystyried wrth ddefnyddio pwerau newydd. Er enghraifft, mae trefniadau cyflog ar gyfer Aelodau'r Cynulliad yn briodol yn rhywbeth i'r bwrdd taliadau benderfynu arno, ac rwy’n rhoi’r gwarantiad hwn i'r Cynulliad na fydd Gweinidogion Cymru yn arfer pwerau ynglŷn ag Aelodau’r Cynulliad. Rydym yn awyddus i barchu’r berthynas gyfansoddiadol briodol rhwng Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.
 
Rwy’n sylweddoli bod y gwelliannau yr ydym wedi’u sicrhau wedi dod yn hwyr iawn, fel y dywedais, ond rwy’n falch ein bod wedi llwyddo i sicrhau’r gwelliannau hynny gan Lywodraeth y DU, a gofynnaf i'r Cynulliad gefnogi'r cynnig hwn.
 
15:23
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i siarad—Christine Chapman.
 
15:23
Christine ChapmanBywgraffiad
Diolch. Cafodd y cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol ar gyfer y Bil Menter ei gyfeirio at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i'w ystyried, a chwblhawyd ar 25 Chwefror. Ni chafodd y pwyllgor y cyfle i ystyried y memorandwm atodol diwygiedig sydd ger ein bron heddiw, gan fod ei fod wedi ei gyflwyno ar ôl i ni gytuno ar ein hadroddiad. Mae ein hadroddiad, felly, yn ymwneud â’r cynharaf o'r cynigion cydsyniad deddfwriaethol.
 
Yn ein hadroddiad, roedd dau fater yr oeddem yn dymuno eu dwyn i sylw'r Cynulliad. Yn gyntaf, nid ydym yn derbyn y dylai Llywodraeth y DU geisio deddfu ynglŷn â thelerau ac amodau ar gyfer gweithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru; yn hytrach, dylai hyn fod yn fater i Lywodraeth Cymru. Yn ail, mae staff Comisiwn y Cynulliad yn debygol o gael eu dal gan y darpariaethau yn y Bil, ac effaith hyn yw y byddai angen i rai taliadau ymadael ar gyfer staff y Comisiwn gael eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol, ac mae hyn yn rhywbeth nad ydym yn ei gefnogi.
 
Yn dilyn ein hystyriaeth o'r memorandwm, ysgrifennodd y Gweinidog i roi gwybod i ni am ganlyniad trafodaethau rhyngddo ef a Llywodraeth y DU. Roedd y trafodaethau hyn wedi arwain at welliannau yn cael eu cyflwyno i'r Bil Menter, a oedd yn galluogi'r Gweinidog i osod memorandwm diwygiedig ac i hyrwyddo cynnig heddiw. Fel yr wyf wedi ei grybwyll, ni chafodd y pwyllgor gyfle i ystyried y cynnig cydsyniad deddfwriaethol diwygiedig, ond rwy’n ddiolchgar i'r Gweinidog am roi’r newyddion diweddaraf i ni am ddatblygiadau.
 
15:25
Mark IsherwoodBywgraffiad
Ar ôl i’r Ysgrifennydd Gwladol gyflwyno gwelliannau i'r Bil ar 1 Mawrth, yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n cyfyngu taliadau ymadael perthnasol Cymru, derbyniodd aelodau o'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol gyngor cyfreithiol gan gyfreithwyr y Cynulliad a oedd yn dweud bod y gwahaniad cyfansoddiadol rhwng y Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn hollbwysig, ond nid yw'n ymddangos bod hyn wedi cael ei ystyried yn briodol yn y Bil hwn.
 
Gwnaethoch gyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol pellach, Weinidog, ar 3 Mawrth gyda gwelliannau arfaethedig ychwanegol yr Ysgrifennydd Gwladol, fel yr ydych wedi eu manylu. Y cyngor cyfreithiol a gawsom oedd os bydd y gwelliannau arfaethedig hyn yn cael eu derbyn, byddai gan Weinidogion Cymru y pŵer i wneud rheoliadau sy'n cyfyngu taliadau ymadael ar gyfer Aelodau'r Cynulliad, a phe byddai rheoliadau'n cael eu gwneud byddai’r canlynol yn cael eu dal: grantiau ailsefydlu i Aelodau'r Cynulliad sy’n rhoi’r gorau iddi yn wirfoddol, a chynnydd yn y pensiwn a delir i Aelod Cynulliad sy'n rhoi’r gorau iddi yn gynnar—er enghraifft, os nad ydynt yn dda eu hiechyd. Mae hyn yn torri ar draws swyddogaeth y bwrdd taliadau—y bwrdd taliadau annibynnol. Wrth basio Mesur (Taliadau) Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2010, sefydlodd y Cynulliad yr egwyddor o annibyniaeth y bwrdd. Yn llythyr y Llywydd atoch chi ar 7 Mawrth dywedodd hi fod y Cynulliad, wrth basio Mesur (Taliadau) Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2010 wedi sefydlu’r egwyddor fod pob penderfyniad sy'n ymwneud â thâl Aelodau yn cael eu gwneud yn annibynnol ar y Cynulliad, Comisiwn y Cynulliad a Llywodraeth Cymru, sef gan y bwrdd taliadau. Dywedodd ei bod yn anaddas, felly, i Weinidogion Cymru gael unrhyw gylch gorchwyl yn ymwneud â thâl cydnabyddiaeth yr Aelodau, gan gynnwys y rhai sy'n dal swyddi ychwanegol. Dywedodd na fu unrhyw gydnabyddiaeth o'r angen am wahanu cyfansoddiadol rhwng Gweinidogion Cymru a'r Cynulliad mewn cysylltiad â thaliadau ymadael ar gyfer staff Comisiwn y Cynulliad—mater y cyfeiriwyd ato gan Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol funud yn ôl .
 
Yn eich ymateb, dywedwch y byddai'r gwelliannau yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau yn ymwneud â thaliadau ymadael i Aelodau'r Cynulliad. Rydych yn dweud, 'Fodd bynnag, gallaf gadarnhau nad yw'n fwriad gennyf i amharu ar y systemau sydd eisoes ar waith'. Ac rydych hefyd yn cadarnhau, os bydd y pŵer i wneud rheoliadau yn gorwedd gyda Gweinidogion Cymru, ni fyddech yn ceisio arfer y pŵer hwnnw. Ond dim ond am yr ychydig wythnosau nesaf yr ydych yn Weinidogion, ac mae hwn yn bŵer rheoleiddio sydd ar waith hyd nes y bydd newid deddfwriaethol dilynol yn y dyfodol. Y trosglwyddo ar y pŵer yw’r ymosodiad cyfansoddiadol ac sy’n groes i bleidlais y Cynulliad yn 2010 ynghylch annibyniaeth cydnabyddiaeth tâl, ac nid yr hyn y gallech chi yn unigol neu eich cydweithwyr presennol, yn unigol, ei wneud yn yr wythnosau sy'n weddill o'r Cynulliad hwn.
 
Rydych hefyd yn cyfeirio at yr angen am drafodaeth bellach a chadarnhad gan y Trysorlys ynghylch eu bwriad o ran deiliaid swyddi’r Cynulliad, megis y Llywydd, y Dirprwy Lywydd a Chomisiynwyr y Cynulliad, a'r angen i drafod y dewisiadau sydd ar gael gyda swyddogion y Trysorlys yn ehangach ynglŷn â dirprwyo'r pŵer i lacio'r cap i Gomisiynwyr y Cynulliad mewn cysylltiad â staff Comisiwn y Cynulliad. Ond nid ydym yn gwybod sut y gallai swyddogion y Trysorlys fod wedi ymateb i hynny, a pha un a yw hynny'n ymateb mewn ffordd a fyddai o bosibl yn mynd i'r afael ymhellach â'r pryderon y gallai fod gennym, ac eto gofynnir i ni bleidleisio ar hyn. Felly, ni allwn bleidleisio o blaid mater sy'n codi cwestiynau pwysig ynghylch nid yn unig gwahanu pŵer rhwng y Senedd a'r Llywodraeth, ond sydd hefyd yn gweithredu yn groes yn ymddangosiadol i bleidlais y Cynulliad yn 2010 ynghylch yr egwyddor hanfodol bod yn rhaid i daliadau cydnabyddiaeth i’r Aelodau yma fod yn annibynnol.
 
15:29
Mick AntoniwBywgraffiad
Weinidog, mae’n gynnig cydsyniad deddfwriaethol diddorol ac, wrth gwrs, mae'r ddeddfwriaeth yn ddiddorol ynddi ei hun, yn fwy o ran y pethau y mae'n eu dewis yn ddetholus, yn hytrach na'r hyn y mae'n ei wneud. A gaf i yn gyntaf oll ddweud fy mod yn meddwl bod y gwelliannau yr ydych wedi’u sicrhau i'w croesawu yn fawr iawn ac yn bwysig iawn o ran y swyddogaeth yr ydym ni yn ei chyflawni yn y Cynulliad hwn o fewn y sector cyhoeddus? A gaf i hefyd ddweud bod yr adran benodol hon y mae’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn ymdrin â hi yn anffodus mewn ffordd, oherwydd ei bod yn ceisio trin y sector cyhoeddus yn wahanol iawn i'r sector preifat? Er enghraifft, rydym yn gwybod bod cyflog uchaf—data diweddar y 'Financial Times' yw bod y cyflog uchaf yn awr 120 gwaith yn fwy na chyflog yr unigolyn cyfartalog sy’n gweithio, ac mae hynny'n gynnydd o 21 y cant—neu 44 y cant, os ydych yn ystyried manteision cyfranddaliadau a roddir. Dim ond 47 gwaith oedd hyn yn 2000; 30 gwaith ddegawd cyn hynny. Rydym hefyd yn gweld bod tâl cyfarwyddwyr a phrif weithredwyr yn y sector preifat—y mae’r adran hon mewn gwirionedd yn ei osgoi—bellach yn £2.5 miliwn ar gyfartaledd ar gyfer cyfarwyddwr cyfartalog y FTSE 100, ac mae tâl prif weithredwr cyfartalog yn £3.5 miliwn. A, dros y 14 mlynedd diwethaf, maen nhw wedi sicrhau cynnydd o 278 y cant iddynt hwy eu hunain.
 
Nawr, rwyf yn sôn am hynny dim ond i bwysleisio’r ffordd nad yw hynny’n cael sylw gan y Llywodraeth yn y Bil Menter, ac mae'n ymddangos i mi fod fendeta yn erbyn y sector cyhoeddus. Nawr, rydym yn gwybod o ddeddfwriaeth arall sy'n dod trwodd nad yw'r Torïaid yn hoffi’r sector cyhoeddus, nad ydynt yn hoffi’r cysyniad o fargeinio ar y cyd, a gallwn hefyd weld hynny o’r Bil Undebau Llafur, yr ydych hefyd wedi bod yn ymdrin ag ef. Ac rwy’n meddwl, Weinidog, o ran y dull gwahanol sydd gennym yng Nghymru o ran partneriaeth gymdeithasol, ymgysylltiad cymdeithasol, ymgysylltu ag undebau llafur, trefnu i weithio ochr yn ochr ac ar y cyd â'r bobl sy'n ein gwasanaethu mor dda yn y sector cyhoeddus, a oes unrhyw ffyrdd y gallwch weld y Bil Menter yn cael ei ddiwygio ymhellach er mwyn amddiffyn y safbwynt yr ydym yn dymuno ei ddilyn, un o gydweithrediad a phartneriaeth yng Nghymru, yn hytrach na'r math o wrthdaro y mae deddfwriaeth sy'n dod o San Steffan yn ceisio ymgysylltu ag ef.
 
15:31
Rhun ap IorwerthBywgraffiad
A gaf fi ddiolch i’r Gweinidog am nodi rhai o’r gwendidau, yr wyf i’n cytuno efo fo, sydd wedi bod yn y broses sydd wedi’n harwain ni at y pwynt yma? Yn sicr, mae’r diffygion o ran y gallu gan y Cynulliad yma i sgrwtineiddio cynigion a oedd yn dod yn rhy hwyr, ac, yn sgîl hynny, y methiant gan bwyllgor yn y fan hyn i ddylanwadu ar y Bil yn y pen draw.
 
Ar y cwestiwn o rôl Gweinidogion Llywodraeth Cymru mewn perthynas â thaliadau i Aelodau’r Cynulliad Cenedlaethol, rwyf wedi darllen y llythyr a dderbyniwyd gan y Gweinidog heddiw, yn nodi ei fod o’n teimlo ei fod o wedi cael y sicrwydd angenrheidiol—er nad y sicrwydd terfynol, felly. Ond mi dderbyniwn ni yr hyn sydd yn y llythyr hwnnw, er mwyn ein galluogi ni i gefnogi’r memorandwm heddiw.
 
Mi wnaf fi ddefnyddio’r cyfle yma, serch hynny, i dynnu sylw at un mater o bryder ynglŷn â’r cap ar daliadau diswyddo. Mi gytunaf fi efo’r Gweinidog, a oedd yn dweud, mewn egwyddor, wrth gwrs, rydym ni’n cytuno â’r angen i fod yn gyfrifol ynglŷn â sut mae taliadau diswyddo yn cael eu gweithredu. Mae yna wahaniaeth, serch hynny, yn gallu dod i’r amlwg rhwng egwyddor y mae rhywun yn ei chefnogi a beth sy’n bosib ac yn deg yn ymarferol.
 
Mi dynnaf fi sylw at bryderon dwys gan aelodau o staff yn Wylfa, sydd yn wynebu cyfnod anodd rŵan lle mae nifer yn mynd i allu derbyn taliadau diswyddo heb eu capio ar ôl gyrfaoedd hir yn Wylfa, lle mae eraill, a fyddai o bosib wedi dewis derbyn tâl diswyddo rŵan, yn cael eu gofyn i aros ymlaen i barhau â’r gwaith o ddatgomisiynu yr orsaf honno oherwydd bod ganddyn nhw’r sgiliau angenrheidiol i wneud hynny. Ond, oherwydd y byddan nhw yn aros ymlaen, bydd y taliadau diswyddo maen nhw’n gwybod sy’n mynd i ddod ymhen ychydig flynyddoedd yn mynd i gael eu capio. Ac, yn amlwg, mae hynny’n achos o amodau a thelerau gwaith yn cael eu newid mewn ffordd annheg, dadleuwn i, yng nghanol tymor cyflogaeth.
 
Ond, wrth gwrs, nid ydy hynny’n rhywbeth sydd wedi cael ei ddatganoli i’r Cynulliad nac i Weinidogion yn y fan hyn. Mi oedd hi’n bwysig, serch hynny, nodi hynny ar y cofnod. Ond, ar ôl derbyn y sicrwydd gan y Gweinidog bod y camau cywir wedi cael eu cymryd gan Lywodraeth Prydain, o ran rhoi sicrwydd ar ambell i fater, mi wnawn ni gefnogi’r memorandwm.
 
15:34
Peter BlackBywgraffiad
Bydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru hefyd yn cefnogi'r memorandwm, oherwydd, er bod gennym amheuon—fel sydd wedi eu mynegi gan Aelodau eraill—rydym yn cydnabod bod bwriad y polisi yn un y gallwn ei gefnogi, ond mae'n iawn y dylem fod yn cyfyngu cyflogau olaf hefyd ar lefel benodol o ran y defnydd o arian cyhoeddus. Rwy’n meddwl, fodd bynnag, bod rhai materion clir o amgylch y ffordd y mae’r Bil hwn wedi ei ddrafftio ac rwy'n credu ei fod yn tanlinellu problemau adrannau'r Llywodraeth yn ysgrifennu deddfwriaeth pan nad ydynt wedi cael unrhyw ymgysylltiad blaenorol â'r broses ddatganoli ac nad ydynt yn deall sut y mae Cynulliad Cymru a Llywodraeth Cymru yn gweithio. Rwy’n credu, yn amlwg, bod y mater o amgylch annibyniaeth y bwrdd taliadau yn un sy’n codi rhywfaint o bryder. Dylwn ddweud, wrth siarad heddiw, fy mod yn datgan fy mod yn aelod o Gomisiwn y Cynulliad oherwydd byddaf yn siarad am staff Comisiwn y Cynulliad, a ddylai gadw—dylai manylion ynghylch hynny aros gyda Chomisiwn y Cynulliad yn fy marn i.
 
Rwy’n derbyn sicrwydd y Gweinidog, y mae ef wedi’i roi ynglŷn â hyn, nad yw'n dymuno peryglu annibyniaeth y bwrdd taliadau ac nad yw'n dymuno ymyrryd â Chomisiwn y Cynulliad yn y ffordd y mae’n ymdrin â’i staff penodol. Ond rwyf yn pryderu, wrth gwrs. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, gallai Ysgrifennydd Gwladol Cymru ddal i fod â’r pŵer i wneud hynny. Tybed a allai'r Gweinidog gadarnhau pa un a yw'r Bil wedi’i ddiwygio yn dal yn caniatáu i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gynnal y swyddogaeth ar wahân i Weinidogion Cymru os oes angen, neu a oes yn rhaid iddo i gyd bellach fynd drwy Weinidogion Cymru, oherwydd os gall Ysgrifennydd Gwladol Cymru gyflawni'r swyddogaeth hon, yna rwy’n meddwl bod angen iddo fod yn ymwybodol o'r ffordd y gwnaethom sefydlu’r bwrdd taliadau a sut y caiff ei ystyried i fod yn annibynnol, oherwydd nid wyf yn dymuno ymwneud ag ymdrin â thâl ac amodau Aelodau'r Cynulliad, ac nid wyf yn credu bod unrhyw un arall yn y Siambr hon, ac rwy’n credu, yn amlwg, na ddylem gael deddfwriaeth y DU, sydd, mewn gwirionedd, yn rhoi'r hawl i Weinidogion wneud hynny.
 
Ddirprwy Lywydd, rwy’n meddwl mai’r mater allweddol yma yw pa un a all y Gweinidog sicrhau unrhyw welliannau pellach i adlewyrchu'r sefyllfa wirioneddol sy'n cael ei nodi yn y Bil mewn gwirionedd. Rwy’n deall, wrth gwrs, na fyddwn yn gallu cael cynnig cydsyniad deddfwriaethol, oherwydd mai hwn yw ein cyfarfod olaf ond un. Ond tybed a yw'r Gweinidog yn dal i siarad â Llywodraeth y DU ynghylch pa un a all unrhyw welliannau pellach gael eu dwyn i’r ddeddfwriaeth hon sydd yn cydnabod y ffordd y mae pethau wedi eu sefydlu yn y Cynulliad.
 
15:37
Jeff CuthbertBywgraffiad
Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu ar y mater hwn. Diolchaf i'r Gweinidog am ei ddiweddariad ac rwy’n cefnogi safbwynt Llywodraeth Cymru ar yr agwedd benodol hon ar y Bil. Mae'n ymddangos bod y cynnig cydsyniad deddfwriaethol diwygiedig a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU yn rhoi pwerau yn ôl i Lywodraeth Cymru, sydd, yn ei hanfod, yr hyn yr ydym wedi gofyn amdano. Mae'n hollol iawn bod penderfyniadau o ran sut y mae unrhyw gap yn cael ei gymhwyso i gyrff cyhoeddus sy'n dod o fewn cymhwysedd datganoledig yn cael eu gwneud yma yng Nghymru yn unol ag egwyddorion ein setliad datganoli. Er bod Llywodraeth y DU yn sicr wedi cymryd ei hamser i ddod yn ôl at y bwrdd trafod ar y mater hwn ac, fel arfer, nid yw'n ymddangos i fod yn ymddiried yn y Llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru, mae pŵer Llywodraeth Cymru i amrywio rheoliadau'r Trysorlys fel y maent yn effeithio ar feysydd datganoledig i'w groesawu ac yn sefydlu eglurder. Fel rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno, nid yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol diwygiedig yn ddelfrydol o ran yr hyn yr ei eisiau yn wreiddiol, ond rydym wedi sefydlu rhai blaenoriaethau allweddol yma yn unol â'n setliad datganoli ac rwy’n diolch i'r Gweinidog am ei waith yn y maes hwn. Dyma pam y byddaf yn cefnogi Llywodraeth Cymru.
 
15:38
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
A’r Gweinidog i ateb.
 
15:38
Leighton AndrewsBywgraffiadY Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl yma heddiw ac i Gadeirydd ac aelodau'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol am eu craffu ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol blaenorol, ac roedd yn bwysig bod y Cynulliad yn ystyried effaith darpariaethau capio taliadau ymadael y sector cyhoeddus yn y Bil Menter. Ac a gaf i ddweud wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, wrth gwrs, pe na byddem wedi sicrhau'r gwelliannau yr ydym bellach wedi eu sicrhau gan Lywodraeth y DU yna byddem wedi bod yn pleidleisio yn erbyn y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gwreiddiol a gyflwynwyd gennym.
 
Mae angen i mi egluro, rwy’n credu, i Mark Isherwood nad ni sy’n gyfrifol am y sefyllfa sy'n ein hwynebu. Mae'n fater mewn gwirionedd i'w gydweithwyr ef yn San Steffan a'u Bil a'r agwedd y maent wedi ei chymryd, sydd wedi arwain at y sefyllfa y mae’n rhaid i ni fynd i'r afael â hi yn awr. Gadewch i mi ddweud bod fy swyddogion a minnau wedi bod yn ceisio gwelliannau i'r Bil hwn ers mis Medi diwethaf ac mae gen i gronoleg glir iawn o'r ffordd yr ydym wedi ceisio bwrw ymlaen â hyn. Ac mae, Peter Black, gadewch i mi ddweud, yn iawn i ddweud bod hyn yn enghraifft arall o ddeddfwriaeth San Steffan yn cael ei llunio ar dempled San Steffan yn unig heb feddwl am yr effaith ar y gweinyddiaethau datganoledig. Felly, bu'n rhaid i ni ei gwneud yn glir yn gadarn iawn i Lywodraeth y DU ein bod yn barod i bleidleisio yn erbyn Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol oni bai bod gwelliannau yn cael eu dwyn ymlaen, a chawsant eu dwyn ymlaen yn hwyr iawn yn wir.
 
Rwy’n ddiolchgar am y sicrwydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru y byddant yn cefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol heddiw a'u bod yn gwerthfawrogi'r problemau sydd wedi codi yn ein hymagwedd at y mater hwn a'r ffordd yr ydym wedi gorfod chwilio am y gwelliannau hynny a'r ffordd yr ydym wedi rhoi sicrwydd hefyd, gadewch i mi ddweud, ar y sefyllfa gyfansoddiadol i’r Llywydd o ran y materion sydd wedi codi dros y cydbwysedd rhwng Llywodraeth Cymru, y Cynulliad Cenedlaethol ac, yn wir, annibyniaeth y bwrdd taliadau. A gaf i ddyfynnu o'r llythyr yr wyf wedi anfon at y Llywydd heddiw? Dywedais fy mod i wedi cadarnhau yn fy llythyr blaenorol y byddai'n amhriodol i Weinidogion Cymru wneud unrhyw reoliadau sy'n llyffetheirio pŵer y bwrdd taliadau i wneud penderfyniadau am daliadau ymadael.
 
Credaf fod rhai materion nad ydynt wedi eu datrys, fel y mae Peter Black wedi sôn yn briodol, ac mae sgyrsiau yn digwydd rhwng fy swyddogion i a swyddogion y Trysorlys o hyd, ac rydym hefyd yn ymgysylltu, yn amlwg, gyda'r Llywydd yn hyn hefyd, ac mae'n iawn ein bod yn gwneud hynny. Rwy'n credu bod y Llywydd wedi dosbarthu fy llythyr dyddiedig heddiw i Aelodau'r Cynulliad er mwyn iddynt allu gweld y camau yr ydym wedi bod yn eu cymryd i ddatrys y materion hyn. Rwy’n sylweddoli, fel y dywedodd llefarydd Plaid Cymru, fod hyn wedi gwneud gwaith craffu effeithiol yn anodd yn y Cynulliad, ond rwyf yn meddwl ein bod wedi cyrraedd sefyllfa sydd yn amlwg yn llawer gwell na'r sefyllfa wreiddiol. Rwy'n falch fod fy nghydweithiwr Jeff Cuthbert wedi gallu rhoi hynny ar y cofnod. Gwnaeth fy nghydweithiwr Mick Antoniw, yr Aelod dros Bontypridd, yn briodol godi’r gwahaniaeth yn y dull rhwng y sector preifat a'r sector cyhoeddus, ac rwy’n falch ein bod wedi cael y cyfle i drafod y materion hyn yn fanwl yn ein cyngor partneriaeth y gweithlu, lle’r ydym wedi cael barn cyflogwyr ac undebau llafur, gan ddangos ein hymrwymiad i'r dull partneriaeth gymdeithasol, ac maent wedi croesawu'r ffordd yr ydym wedi datblygu hyn a’r gwelliannau yr ydym wedi gallu eu sicrhau.
 
Ddirprwy Lywydd, hoffwn gloi drwy ailadrodd ein cefnogaeth i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol a'n cefnogaeth barhaus i sicrhau bod taliadau ymadael a wneir yng Nghymru yn deg, yn briodol ac yn cynnig gwerth i drethdalwyr. Rydym yn credu bod y gwelliannau i'r Bil Menter yn galluogi Gweinidogion Cymru i sicrhau cyfyngiad ar daliadau ymadael gormodol ar draws y gweithlu datganoledig yn y sector cyhoeddus, ond, ar yr un pryd, yn ein galluogi i ddiogelu pobl ar gyflog isel. Ond byddwn yn sicrhau ein bod yn gweithredu'r pwerau sy'n cael eu rhoi i ni fel Gweinidogion Cymru mewn ffordd sy'n parchu’r setliad cyfansoddiadol yma yng Nghymru ac yn parchu annibyniaeth y bwrdd taliadau.
 
15:42
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
 
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
 
15:42
8. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil Tai a Chynllunio y DU sy’n ymwneud â Darpariaethau Prynu Gorfodol ac Ati
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Eitem 8 yw cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol ar y Bil Tai a Chynllunio, sy'n ymwneud â darpariaethau prynu gorfodol, ac ati. Galwaf ar y Gweinidog Cyfoeth Naturiol i gynnig y cynnig—Carl Sargeant.
 
Cynnig NDM5995 Carl Sargeant
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Tai a Chynllunio sy’n ymwneud â phrynu gorfodol, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
 
Cynigiwyd y cynnig.
 
15:42
Carl SargeantBywgraffiadY Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu'r cyfle hwn i esbonio cefndir y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol, a gyflwynwyd ar 22 Ionawr. Hoffwn hefyd ddiolch i'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd am eu gwaith craffu ar y Bil hwn. Mae prynu gorfodol yn arf pwysig i helpu i grynhoi’r tir sy'n angenrheidiol i gyflawni datblygu cynaliadwy pan fo trafodaethau gyda thirfeddianwyr wedi methu. Mae darpariaethau prynu gorfodol yn bodoli sy'n gysylltiedig â llawer o feysydd o gymhwysedd datganoledig, gan gynnwys ffyrdd, cynllunio ac adfywio. Mae'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn ymdrin â'r newidiadau i'r drefn prynu gorfodol a nodir yn Rhan 7 o Atodlenni 14 i 19 y Bil Tai a Chynllunio. Nod datganedig y newidiadau yw symleiddio a diweddaru'r drefn prynu gorfodol i'w gwneud yn gliriach, yn gyflymach ac yn decach. Mae'r cynigion yn gyffredinol dechnegol eu natur ac yn gwneud newidiadau mewn nifer o feysydd, gan gynnwys tirfesur tir gan awdurdodau caffael a threfniadau iawndal, ac ati.
 
Fel y mae adroddiad y pwyllgor yn ei wneud yn glir, nid yw ymgynghori wedi digwydd yng Nghymru. Rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgor am geisio barn gychwynnol rhanddeiliaid, gan gynnwys Cymdeithas y Gyfraith, Dŵr Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ar y materion hyn, a nodaf fod y rhanddeiliaid hyn yn fras yn cefnogi'r cynigion. Er mwyn sicrhau y gall yr ymgynghori priodol ddigwydd yng Nghymru, ysgrifennais at Brandon Lewis AS, y Gweinidog dros Dai a Chynllunio, i ofyn bod y Bil yn cael ei ddiwygio i roi pŵer i Weinidogion Cymru i gymhwyso, gydag addasiad, y darpariaethau prynu gorfodol yn ymwneud â Chymru—dull y cytunwyd arno yn y gorffennol. Yn anffodus, mae’r Gweinidog dros Dai a Chynllunio wedi gwrthod fy nghais gan nad yw'n ystyried bod prynu gorfodol o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol. Rwy’n anghytuno ag ef ar y pwynt hwn. Mae prynu gorfodol yn ymwneud yn glir â meysydd lle mae'r pwerau wedi'u datganoli ac mae’n offeryn hanfodol i gyflawni amcanion polisi Cymru. Felly, Ddirprwy Lywydd, ni allaf gefnogi'r cynnig mwyach, gan na fyddai’n iawn i gyflwyno'r ddeddfwriaeth yng Nghymru heb ymgynghori a chydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol hwn.
 
15:44
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, Alun Ffred Jones.
 
15:44
Alun Ffred JonesBywgraffiad
Diolch yn fawr. Fe drafodom ni’r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol ar y Bil Tai a Chynllunio yn ein cyfarfod ar 25 Chwefror 2016.
 
Mae ein hystyriaeth o’r memorandwm wedi canolbwyntio ar ddwy agwedd: yn gyntaf, rhinweddau’r newidiadau deddfwriaethol arfaethedig, ac yn ail, y broses a ddilynwyd i ganfod tystiolaeth o’r angen am y newid arfaethedig hwn i’r gyfraith yng Nghymru. Fe gyhoeddwyd ein hadroddiad ar 3 Mawrth. Am y rhesymau sy’n cael eu nodi yn yr adroddiad, rydym wedi cytuno, fel pwyllgor, na ddylai'r Cynulliad roi ei gydsyniad i Senedd y Deyrnas Unedig ddeddfu ar y mater hwn.
 
Ar gyfer y ddadl yma, canolbwyntiaf ar ein pryderon ynglŷn â’r broses. Ar sail yr ymatebion a gawsom gan randdeiliaid—ac nid oedd gennym gyfle i ymgynghori’n eang—a’r ffaith y cynhaliwyd ymgynghoriad cychwynnol Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar sail Lloegr yn unig, mae’n amlwg nad ymgynghorwyd â rhanddeiliaid yng Nghymru, ac mae hyn yn peri inni bryderu ynghylch ar ba sail y caiff y newidiadau hyn i’r gyfraith eu cynnig.
 
Fel pwyllgor sydd wedi cael y cyfrifoldeb o graffu ar ddeddfwriaeth, ni fyddem yn fodlon cytuno ar newid y gyfraith os na fu’n destun ymgynghori a gwaith craffu priodol. Mi gredwn ni y dylid cymhwyso’r un prawf cyn i'r Cynulliad benderfynu a yw am roi caniatâd i Senedd y Deyrnas Unedig ddeddfu ar ei ran yn y mater hwn.
 
Felly, rydym wedi dod i'r casgliad na ddylai’r Cynulliad, o dan yr amgylchiadau, roi ei gydsyniad i Senedd y Deyrnas Unedig ddeddfu ar y mater. Rydym yn falch bod y Llywodraeth wedi ailfeddwl ei chefnogaeth i’r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, a’i bod wedi ceisio cael newidiadau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i roi cyfle am ymgynghoriad. Er bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwrthod cais y Gweinidog, mae casgliad y pwyllgor yn sefyll na ddylai’r Cynulliad roi ei gydsyniad i Senedd y Deyrnas Unedig ddeddfu ar y mater yma.
 
15:47
Joyce WatsonBywgraffiad
Weinidog, roeddwn yn bryderus iawn o glywed yr hyn oedd gennych i'w ddweud am agwedd Gweinidog dros dai a chynllunio y DU tuag at eich cais bod y Bil yn cael ei ddiwygio er mwyn caniatáu ymgynghoriad priodol ar faes sydd, fel y dywedwch, yn amlwg yn un o gymhwysedd datganoledig. Mae hyn yn ymddangos i fod y diweddaraf mewn rhestr hir o achosion pan fo Llywodraeth y DU wedi anwybyddu anghenion a barn pobl Cymru. A ydych chi’n cytuno â mi, Weinidog, ei bod yn hen bryd i Lywodraeth Dorïaidd y DU hon ddangos rhywfaint o ymrwymiad i'r agenda barch y mae'n honni ei bod wedi ymrwymo iddi?
 
15:48
Llyr GruffyddBywgraffiad
Rwyf innau hefyd am gefnogi sylwadau Cadeirydd y pwyllgor a’r hyn sy’n cael ei amlinellu yn adroddiad y pwyllgor. Mae’n anaddas, yn fy marn i, i gefnogi’r cydsyniad deddfwriaethol atodol yma. Mi gawsom dystiolaeth gyfyngedig o safbwynt niferoedd, ac ar fyr rybudd, a bod yn deg, ac mae’r Gweinidog wedi cyfeirio at y rhanddeiliaid a wnaeth gyfrannu at hynny, ond mi oedd tystiolaeth arbennig o gryf gan Gymdeithas y Gyfraith yn fy marn i, a oedd yn amlygu’r gofidiau rydym ni wedi’u hadlewyrchu, wrth gwrs, yn yr adroddiad.
 
Mae’n rhaid imi ddweud, mi oedd hi’n ymddangos i fi, yn sicr yn gynnar yn y broses yma, bod y Llywodraeth yn llawn bwriadu cydsynio i’r cydsyniad deddfwriaethol atodol yma, tan i’r pwyllgor eu deffro i’r sylweddoliad bod yr amgylchiadau fel ag y maen nhw. Ond, wrth gwrs, rwy’n falch iawn bod y Gweinidog yn cydnabod bod angen gwrthwynebu hyn nawr oherwydd, fel rŷm ni wedi clywed, nid yw wedi bod yn destun ymgynghoriad digonol na chraffu digonol yma yng Nghymru. Wrth gwrs, mi gyfrannodd Cymdeithas y Gyfraith i’r ymgynghoriad gan Adran Gymunedau a Llywodraeth Leol San Steffan yn y dybiaeth mai cynigion i Loegr yn unig oedd o dan sylw, oherwydd roedden nhw, fel yr oeddem ni, wrth gwrs, o’r farn bod prynu gorfodol ac iawndal yn faterion sydd wedi’u datganoli. Ond, wrth gwrs, yn eu tystiolaeth wedyn, maen nhw’n ein hatgoffa ni, ac mi ddyfynnaf:
 
Mae dull yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol o ran yr ymgynghoriad hwn yn dystiolaeth bellach o ddiystyru gan yr Adran neu ei hanwybodaeth o ddimensiwn Cymreig parhaus rhai o'i swyddogaethau sy'n deillio o beidio â datganoli rhai pynciau.
 
Geiriau cryf gan Gymdeithas y Gyfraith. Byddwn i’n sicr yn cefnogi peidio â chefnogi’r cydsyniad deddfwriaethol atodol yma.
 
15:49
William PowellBywgraffiad
Bydd grŵp Democratiaid Rhyddfrydol Cymru hefyd yn cefnogi’r Llywodraeth yn y mater hwn ac yn pleidleisio yn erbyn. Mae'r mater o brynu gorfodol yn rhywbeth yr wyf wedi'i godi ar sawl achlysur yn y Cynulliad hwn o'r dyddiau cynnar a'r ffaith ei fod yn gwbl allweddol i gyflawni adfywio, adeiladu a phrosiectau eraill sydd er budd ein cymunedau. Mae'n amlwg o'r gwaith y mae fy mhwyllgor i, y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, wedi ei wneud i dynnu sylw at y gwendidau hyn yn achos Llywodraeth y DU ac, fel y mae Llyr Gruffydd hefyd wedi ei ddweud, y gwaith gwerthfawr sydd wedi ei wneud wrth gyfrannu at yr ymgynghoriad gan Gymdeithas y Cyfreithwyr. Rwy'n credu ei bod yn siomedig iawn ein bod yn gweld y math hwn o agwedd drefedigaethol bron gan Brandon Lewis wrth gynrychioli Llywodraeth y DU. Mae'n siomedig iawn, ac rydym yn rhoi ein cefnogaeth lawn i’r Llywodraeth yma heddiw mewn pleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol arfaethedig.
 
15:50
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Y Gweinidog i ymateb.
 
15:50
Carl SargeantBywgraffiadY Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n ymddangos bod y rhan fwyaf o'r cyfraniadau gan Aelodau heddiw o blaid y safiad a wnaed gan y Llywodraeth. Ni fyddwn yn ceisio cefnogi'r cynnig hwn heddiw.  Cynigiaf yn ffurfiol.
 
15:51
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio ar yr eitem yna.
 
15:51
9. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Darpariaethau ym Mil Menter y DU mewn perthynas â Rhannu Data ar gyfer Prentisiaethau
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Eitem 9 yw’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol ar ddarpariaethau Bil Menter y DU ynglŷn â rhannu data ar gyfer prentisiaethau. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg i gynnig y cynnig—Julie James.
 
Cynnig NDM5996 Julie James
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Menter, sy'n ymwneud â rhannu gwybodaeth mewn perthynas â phrentisiaethau, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
 
Cynigiwyd y cynnig.
 
15:51
Julie JamesBywgraffiadY Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig. Mae'r cynnig hwn yn ymwneud â gwelliant hwyr i Fil Menter Llywodraeth y DU. Diben y gwelliant hwn yw caniatáu rhannu data rhwng Cyllid a Thollau EM a Gweinidogion Cymru ar brentisiaethau. Gan fod y gwelliant wedi'i gyflwyno mor hwyr gan Lywodraeth y DU, ychydig iawn o amser a fu, yn anffodus, i ymdrin â'r memorandwm. Felly hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Busnes am gytuno i beidio ag anfon y memorandwm at un o bwyllgorau'r Cynulliad i graffu arno. Mae hyn wedi caniatáu'r amser i ni drefnu'r ddadl hon heddiw.
 
Byddai'r ddeddfwriaeth yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i wneud cais am wybodaeth gan Gyllid a Thollau EM ar daliadau ardoll prentisiaethau a wnaed gan gyflogwyr yng Nghymru. Yna gellid defnyddio’r wybodaeth hon i ddeall yn llawnach effaith ardoll prentisiaethau Llywodraeth y DU ar Gymru. Byddai'n ein galluogi i ystyried y rhyngwyneb rhwng ein polisïau prentisiaethau ein hunain a'r galw a fyddai’n debygol o gael ei greu gan gyflogwyr sy'n talu ardoll. Mae'n dechrau rhoi’r sylfaen dystiolaeth y mae ei hangen arnom i weithio gyda chyflogwyr ac i drafod o bosibl â Llywodraeth y DU.
 
Mae'r ardoll yn parhau i fod yn dreth annymunol ar gyflogwyr. Rydych chi wedi fy nghlywed yn dweud hyn ar sawl achlysur eleni. Ond, nid yw'r cynnig yn ymwneud â chyflwyno'r ardoll; mater i'r Canghellor yw hwnnw. Mae'r cynnig hwn yn ymwneud â Gweinidogion Cymru yn gallu sefydlu pyrth rhannu data gyda Chyllid a Thollau EM. Bydd y data yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth diogelu data ac ni fydd yn cael ei gyhoeddi mewn unrhyw fodd sy'n nodi cyflogwyr unigol. Bydd yn galluogi'r Llywodraeth i gael dealltwriaeth strategol o’r ardoll ar y dirwedd sgiliau yng Nghymru, yn enwedig ei rhyngweithio â'n fframwaith cyd-fuddsoddi a'r effaith ar wahanol sectorau o'r economi. Efallai y bydd aelodau hefyd yn dymuno nodi bod Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon wedi cymeradwyo cynigion tebyg yr wythnos diwethaf.
 
Barn y Llywodraeth hon yw ei bod yn briodol i’r ddarpariaeth hon gael ei gwneud ar gyfer Cymru yn y Bil Menter. Bydd hyn yn galluogi darpariaethau i ddod i rym ar draws y DU ar yr un pryd, gan ganiatáu dull cydlynol a chyson.
 
Nid yw'r ddarpariaeth yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru nac awdurdodau eraill Cymru. Bydd Gweinidogion Cymru ac awdurdodau eraill Cymru yn gallu penderfynu pryd i arfer y pŵer i rannu gwybodaeth gyda Chyllid a Thollau EM. Felly, rwy’n pwysleisio eto: nid yw’r cynnig yn ymwneud â'r ardoll ei hun; mae'n ymwneud â'r potensial ar gyfer rhannu data i'n galluogi i ddeall yn well yr effaith ar gyflogwyr a'r economi yng Nghymru. Cymeradwyaf y cynnig i'r Siambr.
 
15:53
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr. Y cynnig, felly, yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff y cynnig ei dderbyn, felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
 
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
 
15:53
10. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Darpariaethau ym Mil Mewnfudo’r DU mewn perthynas â Gofynion yr Iaith Gymraeg ar gyfer Gweithwyr yn y Sector Cyhoeddus
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Eitem 10 yw cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar ddarpariaethau Mesur Mewnfudo y DU ynglŷn â gofynion y Gymraeg ar gyfer gweithwyr yn y sector cyhoeddus. Galwaf ar y Prif Weinidog i gynnig y cynnig.
 
Cynnig NDM5993 Carwyn Jones
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y Deyrnas Unedig ystyried y darpariaethau yn y Bil Mewnfudo sy'n ymwneud â gofynion iaith Gymraeg ar gyfer gweithwyr penodol yn y sector cyhoeddus, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
 
Cynigiwyd y cynnig.
 
15:54
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn ar Ran 7 o Fil Mewnfudo y Deyrnas Unedig yn ymwneud â darpariaethau i roi dyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus i sicrhau bod personau a gyflogir mewn rolau sy’n ymdrin â chwsmeriaid yn gallu siarad Cymraeg neu Saesneg yn rhugl. Mae’r Bil hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdodau cyhoeddus hynny sefydlu gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â chwynion ynghylch torri’r ddyletswydd honno ac i roi sylw i god ymarfer wrth benderfynu a yw’r gweithdrefnau hynny yn ddigonol.
 
Hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol am ei waith craffu ar y cynnig hwn ac am yr adroddiad. Rwy’n nodi, wrth gwrs, nad oedd y pwyllgor yn codi unrhyw wrthwynebiad ynghylch cytuno i’r cynnig hwn.
 
A gaf i ddweud, o’r dechrau, nad yw Llywodraeth Cymru’n cytuno â pholisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n sail i’r darpariaethau hyn? Nid wyf i wedi gweld unrhyw dystiolaeth sy’n awgrymu bod yna broblem sydd angen ei ddatrys. Rwy’n hyderus bod gweithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru sydd mewn rolau sy’n ymdrin â chwsmeriaid yn rhugl yn y Gymraeg neu’r Saesneg, neu yn y ddwy iaith mewn llawer o achosion. Felly, gofynnais i wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig i hepgor gwasanaethau cyhoeddus datganoledig o’r Bil a gwnaeth y Llywodraeth honno gytuno.
 
Y rheswm, heddiw, pam rwy’n gofyn i Aelodau gefnogi’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn yw’r egwyddor—er mwyn diogelu statws y Gymraeg. Er na fydd gwasanaethau cyhoeddus datganoledig wedi eu rhwymo gan y darpariaethau hyn, mi fydd gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru sydd heb eu datganoli yn rhan o hwn. Yn achos gweithwyr sector cyhoeddus mewn cyrff sydd heb eu datganoli, mae’n bwysig bod y ddeddfwriaeth yn darparu bod rhuglder yn y Gymraeg yr un mor ddilys â rhuglder yn y Saesneg. Mae hwnnw’n egwyddor bwysig, wrth gwrs, i ni.
 
Er gwaethaf fy amheuon i am y polisi ei hun, rwy’n croesawu’r ffaith bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cynnwys y Gymraeg ochr yn ochr â’r Saesneg yn y Bil. Rwyf felly yn annog Aelodau i gytuno ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn.
 
15:56
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr. Y cynnig felly yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Caiff y cynnig ei dderbyn felly yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
 
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
 
15:56
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, rwyf yn cynnig bod y pum cynnig canlynol o dan eitemau 11, 12, 13, 14 a 15 eu grwpio ar gyfer y ddadl. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu?
 
15:56
11., 12., 13., 14. & 15. Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) (Rhif 2) 2016, Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 3) 2016, Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 4) 2016, Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 5) 2016, a Gorchymyn Mesur y Gymraeg
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Mae'r cynigion yn ymwneud â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a rheoliadau amrywiol. Galwaf ar y Prif Weinidog i gynnig y cynigion.
 
Cynnig NDM6001 Jane Hutt
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
 
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) (Rhif 2) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2016.
 
Cynnig NDM6002 Jane Hutt
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
 
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 3) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2016.
 
Cynnig NDM6003 Jane Hutt
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
 
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 4) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2016.
 
Cynnig NDM6004 Jane Hutt
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
 
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 5) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2016.
 
Cynnig NDM6005 Jane Hutt
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
 
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Darpariaethau Canlyniadol) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2016.
 
Cynigiwyd y cynnig.
 
15:57
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i, felly, symud yn gyntaf, wrth gwrs, y Gorchymyn i ddiwygio Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg 2011, rheoliadau 3, 4 a 5, a hefyd, wrth gwrs, Gorchymyn darpariaethau canlyniadol Mesur y Gymraeg 2011?
 
A gaf i ddechrau’r ddadl drwy esbonio beth yw’r rhesymau y tu ôl i’r gwahanol reoliadau a hefyd Orchmynion a dechrau gyda’r Gorchymyn i ddiwygio Atodlen 6 o Fesur y Gymraeg 2011 a Gorchymyn i ddod â dyletswydd Gweinidogion Cymru i fabwysiadu cynllun iaith Gymraeg o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i ben? A gaf i droi’n gyntaf, felly, at y Gorchymyn i ddiwygio Atodlen 6 o Fesur y Gymraeg 2011? Mae Atodlen 6 o’r Mesur wedi dyddio ers i’r Mesur cael ei basio yn 2011. Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio enwau rhai cyrff ac yn cynnwys cyrff eraill o’r newydd ac mae’n sicrhau bod y comisiynydd yn gallu gosod safonau ar bob corff sydd wedi ei enwi yn y rheoliadau.
 
Ynglŷn â’r rheoliadau, mae’r rheoliadau sydd ger eich bron heddiw wedi cael eu teilwra ar gyfer sectorau penodol. Mae Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 3) wedi eu paratoi ar gyfer darparwyr addysg bellach ac uwch Cymru, Career Choices Dewis Gyrfa a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Mae’n allweddol nad yw’r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael i fyfyrwyr yn lleihau neu’n mynd yn fwy anghyson wrth iddyn nhw barhau â’u haddysg bellach ac uwch. Mae’r rheoliadau yn mynd i’r afael â hynny.
 
Cyfoethogi profiad Cymraeg y myfyriwr yw’r nod. Mae’r rheoliadau, felly, yn gwneud darpariaeth i ystyried y Gymraeg wrth gynllunio cyrsiau academaidd. Mae’n allweddol bod pobl ifanc yn gallu parhau i dderbyn gwasanaethau Cymraeg wrth iddyn nhw barhau â’u haddysg bellach ac uwch, a bydd modd i’r comisiynydd hefyd roi safonau ar gyrff sy’n rhoi’r hawl i fyfyrwyr gyflwyno asesiadau yn Gymraeg.
 
Mae Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 4) yn caniatáu i Gomisiynydd y Gymraeg osod safonau ar bum tribiwnlys sy’n weithredol yng Nghymru yn ogystal â Chyngor y Gweithlu Addysg. Bydd y safonau hyn yn sicrhau bod gan bobl hawliau penodol wrth ddelio â’r cyrff hyn sydd yn cynnal gwrandawiadau. Mae’r rheoliadau yn gwneud hynny drwy gyflwyno safonau penodol ar gyfer achosion cyfreithiol.
 
A gaf i symud ymlaen, felly, at reoliadau Rhif 5, sy’n gwneud safonau yn benodol gymwys i’r heddluoedd, i’r awdurdodau tân ac achub a Chomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu? Mae’r rhain yn gyrff sydd yn dod i gyswllt cyson â’r cyhoedd mewn amryw o sefyllfaoedd. Maent yn chwarae rhan bwysig, wrth gwrs, o ran sicrhau diogelwch, ac mae’r safonau’n adlewyrchu hynny.
 
Mae safonau penodol yn cael eu cyflwyno i ddiogelu hawl y cyhoedd i gael gwasanaeth Cymraeg wrth gael cyfweliadau gyda’r heddlu, i roi un enghraifft. Mae’r safonau hefyd yn cydnabod yr heriau arbennig sydd ynghlwm wrth ddarparu gwasanaethau Cymraeg wrth ymateb i argyfwng. Rydym hefyd wedi cynnwys safonau newydd yn rheoliadau 3, 4 a 5 sy’n annog sefydliadau i sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn gwisgo bathodynnau i nodi eu bod yn siarad Cymraeg, sy’n ei gwneud yn rhwyddach wedyn, wrth gwrs, i bobl siarad Cymraeg—unwaith y maent yn gwybod bod rhywun arall gyda nhw sydd yn siarad yr iaith.
 
Yn olaf, mae’n bleser gen i gyflwyno Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Darpariaethau Canlyniadol) 2016. Mae’n dod â dyletswydd Gweinidogion Cymru i fabwysiadu cynllun iaith Gymraeg statudol o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i ben. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi gosod hysbysiad cydymffurfio ar Weinidogion Cymru, sydd yn golygu y byddwn yn cydymffurfio â safonau’r iaith Gymraeg o ddiwedd fis Mawrth 2016—diwedd y mis hwn—sef 30 Mawrth. Pan ddaw corff o dan y drefn safonau, mae Mesur y Gymraeg yn darparu nad yw ei gynllun iaith yn gymwys bellach. Mae’r Gorchymyn hwn yn sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn yr un sefyllfa â phob corff arall, ac yn dod â’r ddyletswydd i gael cynllun iaith statudol i ben.
 
Rwy’n eich annog, felly, i gefnogi’r Gorchmynion a’r rheoliadau, sy’n destun pleidlais heddiw, er mwyn symud ymlaen â’r gwaith o sicrhau bod rôl a sefyllfa’r iaith Gymraeg yn y rhannau hyn o’r sector cyhoeddus yn cael eu cryfhau.
 
16:02
Suzy DaviesBywgraffiad
Diolch i chi, Brif Weinidog. Mae'r oedi o ran cyflwyno Gorchmynion ar yr iaith Gymraeg yma yn ein gadael eto gyda chyfle llai na pherffaith i graffu. Nid yw'r Gorchmynion hyn y tu hwnt i bob dadl ychwaith, ond dyma ni, yn wythnos olaf y Cynulliad hwn, bum mlynedd ar ôl i’r Mesur gael ei gyflwyno, yn ceisio gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar ychydig iawn o dystiolaeth gytbwys. Nid gwaith y Cynulliad hwn yw dodi sêl bendith ar is-ddeddfwriaeth y Llywodraeth, yn fwy na gwaith y Cynulliad hwn yw dodi sêl bendith ar ddeddfwriaeth gynradd, ond dyna beth yr ydych chi, i bob diben, yn gofyn inni ei wneud.
 
Do, fe ddaeth y Gorchmynion hyn gerbron y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, CLAC, ond rydych chi’n gwybod ein bod ni’n edrych ar is-ddeddfwriaeth drwy lens benodol iawn yn y pwyllgor hwnnw. Nid ein rôl ni yw asesu cynnwys polisi. Y gorau y gallwn ni ei wneud yw tynnu sylw at unrhyw bryderon nad yw is-ddeddfwriaeth, fel y'i drafftiwyd, yn cyrraedd nod polisi'r Llywodraeth. Os yw memorandwm esboniadol y Llywodraeth yn dweud bod y nod wedi’i fodloni, mae’n anodd inni herio hynny heb dystiolaeth sy’n gwrthwynebu hynny. Mae yna ddadl y dylai Gorchymyn Rhif 3, o leiaf, fod wedi mynd at bwyllgor pwnc er mwyn asesu cryfder y gwrthwynebiadau sydd wedi dod i mewn oddi wrth gymdeithas sifil. Ond nid oedd digon o amser, nag oedd?
 
Gadewch inni ddechrau â Gorchymyn Rhif 2. Nid yw cymryd rhan mewn ymchwiliad safonau Comisiynydd y Gymraeg yr un fath ag ymgynghori ar ddeddfwriaeth y Llywodraeth. Nid yw gwneud y cyntaf yn gyfiawnhad egwyddorol am fethu â gwneud yr ail. Fodd bynnag, i fod yn bragmatig unwaith eto, rydych yn lwcus bod y sefydliadau a restrir yn y Gorchymyn i’w gweld mor amlwg o fewn profion Atodlen 5. Fel arall, ni fyddem ni’n cefnogi'r Gorchymyn hwn. Mae Gorchmynion Rhif 4 a Rhif 5 dim ond yn atgyfnerthu'r ddadl. Mae'r Gorchmynion hyn yn caniatáu i’r comisiynydd i gyflwyno hysbysiadau cydymffurfio ar nifer o sefydliadau. Roedd y sefydliadau eu hunain wedi gweithio gyda'r comisiynydd cyn iddi gynghori'r Llywodraeth ar y safonau perthnasol, ac mae gan y sefydliadau hynny yr hawl i apelio os ydynt yn credu bod y safonau yn rhy feichus. Ond ble mae'r cyfle i gymdeithas sifil roi sylwadau ar briodoldeb y safonau yn y Gorchmynion—defnyddwyr y gwasanaethau a’r buddiolwyr llawer o’r hawliau?
 
Dyna beth sydd wedi digwydd yng Ngorchymyn Rhif 3, yntê? Tra bu distawrwydd ar Orchmynion Rhif 4 a Rhif 5, oherwydd diffyg ymgynghori cyhoeddus, gwnaeth gynrychiolwyr myfyrwyr oresgyn y diffyg gwahoddiad i ymgynghori a nodir yn rhagweithiol eu pryderon am Orchymyn Rhif 3 yn eu llythyr at CLAC yn gynharach y mis hwn. Maen nhw’n honni nad yw Gorchymyn Rhif 3 yn cyflawni nodau polisi'r Llywodraeth ac maen nhw wedi darparu tystiolaeth i gefnogi eu dadleuon. Nid oedd i CLAC i brofi y dystiolaeth honno, dim ond i roi gwybod i'r Cynulliad—felly, mae'n rhaid i mi edrych arno o ran eu golwg nhw.
 
Mae cynrychiolwyr myfyrwyr yn nodi bod y safonau sydd i'w cymhwyso i sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch, yn ogystal â thri chorff addysg eraill, yn cynnig llai o gyfle i siaradwyr Cymraeg na chynlluniau iaith Gymraeg sydd eisoes yn bodoli. Mae eu llythyr yn nodi’r achosion penodol lle mae’r safonau yn wannach na’r cynlluniau. Mae hynny’n peri pryder achos rydych chi eich hunan, Brif Weinidog, wedi
 
‘cytuno y dylai’r safonau sy’n cael eu gosod ar gyrff cyhoeddus, fel isafswm, sicrhau bod y lefel o wasanaethau Cymraeg sy’n cael eu cynnig gan gyrff ar hyn o bryd yn parhau.’
 
Ni chafwyd unrhyw ymateb gan y Llywodraeth i'r gwrthwynebiadau—cyn belled ag y gwn i—er bod y llythyr yn gyhoeddus, ac a gefnogir ymhellach gan Gymdeithas yr Iaith.
 
Nid oes gennyf unrhyw awydd i rwystro amcanion y Mesur neu waith y comisiynydd, neu, yn wir, y tro yma, gwaith y Llywodraeth. Ond tra byddwch chi’n rhwystro gwaith y Cynulliad hwn drwy fethu ag ymgynghori—a gwrthod y cyfle i ni i wneud hynny gan osod y Gorchmynion hyn mor hwyr—wel, ni fyddwn yn gallu cefnogi’r Gorchmynion hyn. Byddwn ni, fodd bynnag, yn cefnogi’r Gorchymyn darpariaethau canlyniadol ac rydym yn falch o nodi y defnydd o’r weithdrefn gadarnhaol i ddiwygio’r Mesur. Diolch
 
16:07
Simon ThomasBywgraffiad
Mae Plaid Cymru hefyd yn gresynu bod cyn lleied o ymgynghori wedi bod ar y rheoliadau hyn. Serch hynny, rydym yn gweld bod y rhan fwyaf yn rhai yr ydym yn fodlon eu cefnogi heddiw. Rwyf yn mynd i ganolbwyntio fy sylwadau ar y set o reoliadau Rhif 3, sy’n ymwneud yn bennaf â phrifysgolion a cholegau.
 
Fe ddywedodd y Prif Weinidog, wrth agor y drafodaeth, mai bwriad y Gorchmynion hyn a’r rheoliadau hyn o dan y Mesur oedd peidio â lleihau hawl myfyrwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, ac yn wir, byddwn i’n gobeithio, i gryfhau’r hawliau hynny. Yn y cyd-destun hwnnw, rwyf yn dal heb fy argyhoeddi o gwbl, ac fel y mae Suzy Davies wedi’i amlinellu, mae nifer o bobl wedi bod mewn cysylltiad â fi yn ddiweddar. Rwyf wedi manteisio ar y cyfle i gwrdd â swyddogion y Gymraeg o undebau’r myfyrwyr yng Nghaerdydd ac yn Aberystwyth, ac rwy’n credu heddiw hefyd fod rhai o Fangor wedi ymuno â nhw, i friffio Aelodau’r Cynulliad ynglŷn â’r diffyg sydd yn y safonau fel y maen nhw wedi cael eu cyflwyno gan y Llywodraeth. Mae hwn, yn fy marn i, wedi deillio o’r ffaith bod y Llywodraeth yn ceisio brysio a hastu’r broses yma er mwyn ei chwblhau cyn diwedd y Cynulliad. Mae’r Llywodraeth wedi cael pum mlynedd i gyflawni safonau o dan y rheoliadau, ers pasio Mesur gwreiddiol yr iaith Gymraeg, ac mae’n siomedig i’n gweld ni’n cael ein gwasgu a’n pwyso ar y diwrnod olaf i basio safonau nad ydynt o reidrwydd yn dderbyniol i Blaid Cymru, ond, yn fwy pwysig, nad ydynt wedi cael derbyniad gwresog gan y bobl sydd yn ymdrin â’r safonau ac sy’n mynd i’w defnyddio nhw.
 
Nid nad yw’r Llywodraeth wedi cael rhybudd. Flwyddyn union yn ôl, fe unwyd pob un o’r gwrthbleidiau yma mewn llythyr at y Prif Weinidog i rybuddio nad oedd ei set gyntaf o safonau yn ddigon cryf. Fe ysgrifennais i, ar y cyd â Suzy Davies ac Aled Roberts, at y Prif Weinidog ym mis Chwefror y llynedd, yn mynegi nad oedd yna ddigon o baratoi a thryloywder yn y safonau arfaethedig. Fe wellwyd ar y safonau hynny, ac fe ddaeth y Llywodraeth nôl gyda set a oedd wedi gwella rhywfaint—digon i ni eu cefnogi er mwyn gweld y daith yma tuag at safonau’r iaith Gymraeg yn cael ei gweithredu. Byddwn i wedi gobeithio y byddai’r Llywodraeth wedi dysgu o’r broses yma, a pheidio â dod eto gyda set o safonau i’r Cynulliad nad oedd naill ai wedi cael eu trafod ymlaen llaw â’r gwrthbleidiau, er mwyn ennyn cefnogaeth, na hyd yn oed wedi cael eu trafod gyda’r bobl a oedd yn mynd i gael eu heffeithio fwyaf ganddyn nhw—ar wahân i sefydliadau. Nid pwrpas y safonau yw darparu ar gyfer sefydliadau, ond darparu hawliau ar gyfer dinasyddion ac ar gyfer unigolion. Y rheini sydd wedi cael eu colli o’r cyfle yma.
 
Hyd yn oed heddiw, roedd Plaid Cymru’n awyddus i drafod â’r Llywodraeth ynglŷn â thynnu’r safonau penodol yma—Rhif 3—yn ôl er mwyn iddyn nhw gael mwy o amser i ystyried—[Torri ar draws.] Mae yn wir—sori, Brif Weinidog. Mae yn wir.
 
16:10
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am ildio. Rhaid imi ddweud, rydym wedi bod yn trio siarad â’ch plaid a phleidiau eraill, a heb gael ateb ynglŷn â beth yn gwmws yw’r problemau. Rwy’n deall bod yna broblem, ond nid oes neb wedi esbonio eto beth yn gwmws yw’r broblem, neu’r problemau, gyda Rhif 3. Rydym wedi bod yn ceisio cael y sgwrs hon trwy’r dydd.
 
16:11
Simon ThomasBywgraffiad
Wel, pan mae rhywun yn dod atoch chi gan ddweud, ‘Mae yna broblem. Tynnwch yn ôl er mwyn trafod y broblem’, nid yr ateb yw dweud, ‘Rhowch inni y problemau i gyd nawr er mwyn inni eu trafod.’ Yr ateb yw, ‘Fe wnawn ni eu tynnu’n ôl ac fe gawn ni drafod.’ Mae mor syml â hynny. [Torri ar draws.] Brif Weinidog—. Ie, y bore yma, Brif Weinidog, oherwydd eich bod chi mor hwyr yn cyflwyno’r rheoliadau yma yn y lle cyntaf. Nid ydych wedi caniatáu cyfle i bwyllgor pwnc ystyried hyn. Nid ydych wedi rhoi cyfle i fwy na’r pwyllgor CLAC i’w wneud e yn ystod y 10 diwrnod diwethaf. Dyna’i gyd o graffu y mae’r rheoliadau hyn wedi ei gael. Mae angen mwy na hynny.
 
Gadewch inni restru rhai o’r pethau sy’n codi gwrychyn rhai o’r bobl sy’n gorfod byw gyda’r rheoliadau hyn. Mae’r rheoliadau, er enghraifft, yn rhoi’r hawl i staff prifysgolion gael mewnrwyd Gymraeg, ond nid y myfyrwyr. Wel, mae hynny’n gam yn ôl, does bosib? Maen nhw’n rhoi’r hawl i sicrhau bod—. Nid ydynt, yn hytrach, yn rhoi’r hawl i sicrhau bod llety Cymraeg ar gael i fyfyrwyr. I’r myfyrwyr yn Aberystwyth sydd wedi wynebu problemau gyda Phantycelyn yn ddiweddar, mae hynny fel ergyd iddyn nhw. Dyna beth maen nhw’n ei ddweud. Dyna beth sy’n eu poeni nhw.
 
Nid yw’n glir a oes hawl gan bobl i gael cwnsela neu gael tiwtor personol neu gael materion bugeiliol wedi’u darparu’n Gymraeg. Fe ddywedodd y Prif Weinidog fod hawl i gyflwyno gwaith yn y Gymraeg. Ond os yw hynny’n syml iawn ond yn cael ei gyfieithu er mwyn cael ei asesu, mae hynny’n gofyn cwestiwn ynglŷn ag ansawdd yr asesu academaidd. Felly, mae’n hynod bwysig cael trafod gwaith yn y Gymraeg, yn ogystal â chael ei gyfieithu.
 
Maen nhw hefyd yn hepgor nifer o weithgareddau prifysgolion, megis y ganolfan gelf Pontio ym Mangor a’r un yn Aberystwyth, o weithgareddau’r rheoliadau eu hunain. Nawr, rwy’n deall efallai bod cyd-destun masnachol i rai o’r pethau yma, ond mae yna arian cyhoeddus sylweddol wedi mynd i mewn, ac yn mynd i mewn i’r gweithgareddau hyn sydd hefyd angen cael eu cynnwys, rywsut neu’i gilydd, o fewn deddfwriaeth.
 
Dyna pam mae’r rheoliadau hyn yn ddiffygiol a dyna pam y byddem ni wedi disgwyl cael mwy o amser i’w trafod ac efallai ymgynghori mewn pwyllgor arnyn nhw. Mae’n drueni o beth, Ddirprwy Lywydd, ein bod, ar y diwrnod olaf o ddeddfu yn y lle hwn, yn gorfod delio â rhywbeth sy’n cael ei hastu drwyddo, ac yn gorfod gwneud penderfyniad un ffordd neu’r llall heb gael cyfle mewn ffordd synhwyrol i wneud hynny—mewn pwyllgor, drwy gasglu tystiolaeth, drwy weld a oes sail i’r pryderon hyn ai peidio—ond yn hytrach drwy araith fer o bum munud yn y Cynulliad. Ar sail yr hyn sydd wedi cael ei gyflwyno, ni allaf argymell y safonau arbennig yma. Fe allaf argymell y gweddill, ond ni allaf argymell y rhain achos bod yna bryderon dybryd gan y rhai sy’n mynd i weithio a derbyn addysg oddi tanynt. Rwy’n credu y byddwn yn gofyn, felly, i bob un o’r pleidiau yn y lle hwn ofyn i’r Llywodraeth ailystyried ac ailfeddwl.
 
16:14
Aled RobertsBywgraffiad
Mi fyddwn ni hefyd, fel grŵp, yn pleidleisio yn erbyn rheoliadau 3, a hynny o achos y nifer o achosion sydd wedi cael eu hategu gan Simon Thomas. Wrth wneud hynny, rwyf eisiau datgan bod fy mab yn aelod o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a hefyd bod fy ngwraig â chyfrifoldeb am y Gymraeg o fewn coleg addysg bellach.
 
Fe wnes i dderbyn, i fod yn deg, gan swyddfa’r Prif Weinidog, ddatganiad neu e-bost ddydd Gwener a oedd yn ceisio dweud yn union beth oedd safbwynt y Llywodraeth ynglŷn â rhai o’r materion a oedd wedi cael eu codi gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, ond wrth i nifer ohonom ni drafod efo myfyrwyr Cymraeg penodol—o Gaerdydd, o Fangor, ac o Aberystwyth—mae’n debyg bod yr amheuon yna yn dal i fodoli. Nid wyf yn deall, wrth i ni greu’r sefyllfa yma sydd yn wahanol iawn i’r hyn a gafwyd ymgynghoriad arno fo—ac mae rhestr rŵan o wasanaethau sydd yn cael eu cynnwys o fewn y rheol yma—pam rydym ni wedi symud, achos mae’r esboniad gan swyddfa’r Prif Weinidog yn awgrymu mai ymateb i safbwyntiau sefydliadau yr ydym ni yn y fan yma, hwyrach rhai o’r pryderon roedden nhw’n eu codi ynglŷn â rhai o’u gweithgareddau masnachol, ac mae yna sôn am ymchwil yn benodol. Os mai dyna yw’r bwriad, nid wyf yn deall pam fod colegau addysg bellach, er enghraifft, wedi cael eu cynnwys o fewn yr un mesurau â phrifysgolion, os ydyn ni’n dweud mai ymchwil ydy’r broblem.
 
Mi fydd y Prif Weinidog a’r Gweinidog addysg yn ymwybodol o dueddiad y colegau addysg bellach i greu is-gwmnïau masnachol ar hyn o bryd. Mae cwestiwn yn codi yn fy meddwl i: a fydd rhai o’r is-gwmnïau yna yn sefyll y tu allan i’r meysydd penodol yma? Hefyd, fel y dywedodd Simon Thomas, mae hefyd gwestiwn ynglŷn â rhai o’r is-gwmnïau masnachol, neu’r gweithgareddau masnachol sy’n cael eu cynnal gan y prifysgolion, wrth gyfeirio at Ganolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth a Pontio ym Mangor, lle mae’n ymddangos nad yw’r un hawliau o ran myfyrwyr yn benodol, a hefyd y cyhoedd, yn cael eu cynnwys am fod y gweithgareddau yna wedi cael eu heithrio.
 
Hefyd, mae’n rhaid i mi ddweud bod yna bryder ymysg y myfyrwyr. Ar hyn o bryd, rydym yn gwerthfawrogi’r ffaith bod yna lawer iawn mwy o gyrsiau ar gael yn y Gymraeg. Mae’r esboniad yma yn dweud mai nod hwn, fel y dywedodd y Prif Weinidog, ydy cyfoethogi profiad myfyrwyr, ond eto mae cwestiynau wedi codi nad ydynt wedi cael eu hateb gan y Llywodraeth, am wn i. Mae’n bosibl, o dan y rheol yma, i asesiad gwaith gael ei gyfieithu, ond mae myfyrwyr yn gofyn o ran yr adborth, felly, os yw’r asesiad yn cael ei gyfieithu, a fydd hawl gan y brifysgol i fynnu bod yr adborth personol i’r myfyriwr yn cael ei gynnig yn Saesneg, yn hytrach na’r Gymraeg, achos mae yna gynlluniau iaith penodol o fewn y prifysgolion ar hyn o bryd sydd yn cywiro hynny.
 
Mae’n rhaid i mi ddweud hefyd, o ran profiad personol, roedd fy mab i yn awyddus iawn i gael llety Cymraeg yng Nghaerdydd. Nid oes darpariaeth Gymraeg benodol yng Nghaerdydd, o gymharu efo Bangor ac Aberystwyth. Er iddo wneud cais am hynny—ac mi oedd gan adran llety Caerdydd nifer o achosion tebyg—nid oedd darpariaeth Gymraeg ar gael yn y pen draw. Felly, mae sefyllfa lle mae pobl yn awyddus i gael llety cyfrwng Cymraeg, os yn bosib, er mwyn iddyn nhw gynnal eu hiaith a chynnal gweithgareddau trwy’r iaith Gymraeg. Mae yna gwestiynau penodol yn codi hefyd o ran llety. Rwyf wedi ei dderbyn o, ond mae yna gwestiynau.
 
Rwy’n deall ein bod ni i gyd wedi rhoi’r Prif Weinidog dan bwysau o ran gwneud yn sicr bod y rheoliadau yma’n cael eu cynnig yn ystod y Cynulliad yma, ond yn anffodus, mae yna ryw ruthro yn ystod y sesiwn olaf yma wedi cymryd lle, lle, hwyrach, pe baem ni wedi cael mwy o amser, buasai rhai o’r problemau yma wedi cael eu gwyntyllu ymysg y bobl. Rwy’n gweld bod yna gyfeiriad yn y fan yma a bod rhyw fath o drafodaethau wedi cymryd lle ar ôl i’r Llywodraeth newid ei pholisi a symud at sefyllfa lle mae gwasanaethau’n cael eu rhestru. Ond, yn amlwg, nid yw rhai o’r grwpiau yma a oedd yn ymwneud â’r ymgynghoriad yn y lle cyntaf yn teimlo eu bod nhw wedi cael cyfle i ymateb i’r newid o ran polisi.
 
16:19
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Y Prif Weinidog i ateb.
 
16:19
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
A gaf i ddweud ar y dechrau nad wyf yn dal yn gwybod cweit beth yw’r broblem yma? Fe wrandawais i ar Suzy Davies, a dywedodd hi fod hwn yn gwanhau’r sefyllfa bresennol heb roi unrhyw dystiolaeth ynglŷn â sut roedd hynny’n iawn. Mi wnaeth Simon Thomas ac Aled Roberts ychwanegu mwy ar hynny. Nid wyf yn dal cweit yn deall beth yw’r broblem yma, ond i ddweud bod hon yn broblem i’r Llywodraeth, nid wyf yn derbyn hynny o gwbl. Fe wnaethom ni ‘shar-io’ gyda’r pleidiau eraill y manylion wythnos diwethaf ac nid oedd dim ateb, neb yn cwyno, dim byd bryd hynny—dim byd tan y bore yma. Bore yma y clywon ni am y tro cyntaf fod yna ryw broblem.
 
16:20
Suzy DaviesBywgraffiad
Cawsom ni ddim byd, gyda’r Ceidwadwyr, mae’n ddrwg gen i. Cawsom ni ddim byd wrthych chi.
 
16:20
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Ni chlywais i mo hynny. Bore yma, roedd hi’n amlwg bod yna broblem. Fe wnaethom ni gysylltu â’r pleidiau er mwyn i ni wybod beth yn gwmws oedd y broblem, a’r ateb roeddem yn ei gael nôl oedd, ‘Wel, nid yw’r rheoliadau yn rheoliadau rydym yn gallu eu derbyn’. Dyna fe. Wel, dyna le rydym ni ar hyn o bryd.
 
Ynglŷn â rhai o’r pethau sydd wedi cael eu sôn amdanynt, yn gyntaf i gyd os edrychwch chi ar reoliad 29, mae llety yno—mae yn y rheoliad ei hun—felly nid yw’n wir i ddweud bod yna ddim byd yna ynglŷn â llety; mae’n amlwg o’r rheoliad ei hun fod yn rhaid i brifysgolion sicrhau bod yna ddarpariaeth yn cael ei rhoi i fyfyrwyr ynglŷn a sicrhau bod llety ar gael iddyn nhw yn yr iaith Gymraeg. Mae’n amlwg—mae yna yn y rheoliad. Felly, nid wyf yn derbyn o gwbl bod yna broblem ynglŷn â llety; mae’n glir. Mae’r un peth ynglŷn â lles myfyrwyr a sicrhau eu bod nhw’n gallu cael cymorth a help. Mae’n amlwg yn fanna fod yn rhaid i hynny gael ei wneud yn Gymraeg; dyna’n gwmws pam ei fod ar wyneb y Bil ei hun.
 
Mae dau beth arall wedi cael eu cwnnu. Yn gyntaf, wrth gwrs, ynglŷn â gweithgareddau masnachol, nid dim ond bidiau rydym yn siarad amdanynt fan hyn. Dywedwch, er enghraifft, fod prifysgol eisiau masnachu dramor, a ydym wir yn dweud bod yn rhaid cael popeth yn Gymraeg hefyd? I mi, mae hynny’n rhywbeth sydd yn mynd ymhellach na beth sydd ei eisiau ynglŷn â masnachu dramor.
 
Ynglŷn â’r sefyllfa ynglŷn â gallu rhoi gwaith mewn yn Gymraeg, wel, wrth gwrs, mae’n bwysig dros ben fod hawl gan fyfyriwr i wneud hynny. Os ydym wir yn dweud bod yna hawl ganddynt i gael eu hasesu yn Gymraeg hefyd, felly rydym wedyn yn arwain at sefyllfa lle byddai’n rhaid cael darpariaeth ddwyieithog i bob pwnc ym mhob prifysgol. Dyna’r unig ffordd o sicrhau y byddai hynny yn gallu cael ei wneud. Aled.
 
16:22
Aled RobertsBywgraffiad
Nid oeddwn yn dweud hynny; rwy’n deall bod yna arbenigedd o fewn pynciau unigol, lle hwyrach fod yn rhaid i ni gyfieithu’r gwaith er mwyn i’r gwaith gael ei asesu. Ond y cwestiwn sy’n codi ydy: ar hyn o bryd, mae yna hawl i chi gael yr adborth yn ôl yn y Gymraeg, ond nid yw hynny’n glir o’r ymgynghoriad sydd wedi cymryd lle, o ran y myfyrwyr beth bynnag.
 
16:22
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae e yna, yn fy marn i, yn y rheoliad sydd yn delio ag asesu a phrofi myfyrwyr. Ni fyddwn yn erfyn i hynny newid o gwbl; mae honno’n hawl y bydd yn rhaid iddi aros. Y broblem yw os ydych chi’n dweud bod yna hawl gan fyfyrwyr i gael unrhyw fath o asesiad yn Gymraeg—rwy’n deall nad ydych chi’n dweud hynny—ond os taw dyna beth yw’r ddadl, mae hynny’n meddwl y byddai’n rhaid i bob cwrs gael ei ddarparu’n ddwyieithog, ac mae hynny’n ormodol yn fy marn i, er bod yn rhaid sicrhau bod myfyrwyr Cymraeg yn gallu rhoi gwaith i mewn a chael adborth nôl yn Gymraeg. Mae hynny, i mi, ar wyneb y rheoliadau eu hunain.
 
Nid oes modd i brifysgol na choleg addysg bellach roi’r ddyletswydd ar is-gwmni a dianc o’r ddyletswydd, achos nhw sydd â’r ddyletswydd i sicrhau bod yr is-gwmni yn sicrhau bod darpariaeth ar gael yn Gymraeg. Felly, maen nhw’n ffaelu jest dweud, ‘Nage ni’n sy’n gyfrifol am sicrhau bod y gwasanaeth yna yn cael ei roi i’r cyhoedd, felly mae’n gallu cael ei roi dim ond yn Saesneg.’ Nid oes modd iddyn nhw wneud hynny o dan y rheoliadau.
 
Heb unrhyw bwynt arall sydd wedi cael ei wneud ynglŷn â’r rheoliadau eu hunain, gallaf ddweud: ynglŷn â llety, mae ar wyneb y rheoliadau. Mae yno’n glir. Nid oes problem ynglŷn â sicrhau bod yna lety ar gael i fyfyrwyr Cymraeg; mae yno—29(j) yw’r rheoliad ei hun. Mae’r un peth gyda lles—29(c) sy’n delio â lles myfyrwyr; 29(g) sydd yn delio ag asesu myfyrwyr, ac mae hynny yn cynnwys, yn fy marn i, sicrhau eu bod nhw’n cael cymorth ac adborth yn ôl ynglŷn a’r gwaith maen nhw wedi ei roi mewn. Dyna beth yw’r sefyllfa.
 
Rwy’n gwybod bod rhai yn meddwl bod hwn yn gwanhau’r sefyllfa; nid ydyw. Mae’n trio ei gwneud yn llawer cliriach nag y mae hi ar hyn o bryd. Dyna pam rydym wedi ceisio sicrhau bod 29 mor eang ag sy’n bosib, er mwyn sicrhau bod y pryderon sydd wedi cael eu codi gan rai myfyrwyr yn cael eu delio â nhw. Rydym yn dod i ddiwedd y Cynulliad ac os nad yw’r rheoliadau hyn yn mynd trwyddo, ni fydd rheoliadau. Dyna fe. Mae’n bosib, wrth gwrs, i ailystyried y peth ar ôl yr etholiad, ond rwy’n dal i ddweud nad wyf yn gweld beth yn gwmws yw’r broblem yn fan hyn ynglŷn â’r rheoliadau eu hunain. Rwyf wedi delio, yn fy marn i, â’r pryderon sydd wedi cael eu rhoi o flaen y Cynulliad y prynhawn yma ac, i fi, nid wyf yn gweld bod yna unrhyw achos yn fan hyn i ddweud bod rheoliadau Rhif 3 yn gwanhau’r sefyllfa o gwbl.
 
16:25
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Y cynnig yw derbyn y cynnig o dan eitem 11. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Mae'r cynnig o dan eitem 11 wedi ei dderbyn felly.
 
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
 
16:26
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Y cynnig yw derbyn y cynnig o dan eitem 12. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais o dan eitem 12 tan y cyfnod pleidleisio.
 
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
 
16:26
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Y cynnig yw derbyn y cynnig o dan eitem 13. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar eitem 13.