Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :
Nôl i'r rhestr dogfennau Gweld y dudalen hon heb lincs
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:00 gyda’r Llywydd (y Fonesig Rosemary Butler) yn y Gadair.
 
13:00
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Prynhawn Da. Dyma ddechrau trafodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
 
1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
 
13:00
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol, a daw cwestiwn 1 gan Altaf Hussain.
 
Polisi Coedwigaeth
 
13:00
Altaf HussainBywgraffiad
1. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi coedwigaeth Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0427(NR)
 
13:00
Carl SargeantBywgraffiadY Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Mae strategaeth goetiroedd Llywodraeth Cymru yn rhoi manylion am ein polisi coedwigaeth a’n gweledigaeth hirdymor ar gyfer rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy yng Nghymru. Mae dros 250,000 o goed llydanddail brodorol wedi’u plannu mewn 12 o safleoedd ledled Cymru ar gyfer pob plentyn a anwyd neu a fabwysiadwyd ers lansio Plant yn 2008.
 
13:00
Altaf HussainBywgraffiad
Weinidog, a allwch ein sicrhau y bydd pob adroddiad llifogydd a baratoir yn y dyfodol gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnwys patrwm plannu coed ac unrhyw archwiliadau i’r system ddraenio yn ein coedwigoedd ucheldirol?
 
13:01
Carl SargeantBywgraffiad
Mae ein rhaglenni rheoli llifogydd yn gynhwysfawr iawn ac mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru strategaeth glir iawn ar gyfer eu datblygu. Byddwn yn sicr yn gobeithio bod y materion y mae’r Aelod yn eu dwyn i fy sylw heddiw yn rhan o’r ffocws hwnnw ar gryfhau’r cynlluniau yn y dyfodol.
 
13:01
David ReesBywgraffiad
Weinidog, mae cynrychiolwyr ar ran pyllau dŵr a chanolfan beicio mynydd Glyncorrwg wedi bod mewn cysylltiad â fy swyddfa yn mynegi pryder dwfn ynghylch y difrod a wneir i lwybrau beicio mynydd gan feiciau motocross ar draws y sector coedwigaeth cyfan yng Nghwm Afan. Yn wir, cefais wybod y bore yma hyd yn oed fod beicwyr, tra roeddent yn teithio ar hyd y llwybrau, yn mynd benben â beicwyr eraill yn dod i fyny ac yn troi a dod yn eu holau. Yn yr ystyr hwnnw, a wnewch chi ofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru gyfarfod â’r heddlu i edrych ar ffyrdd y gellid plismona’r cam-drin hwn yn briodol er mwyn sicrhau na wneir difrod a fuasai’n cau llwybrau? Mae’r llwybrau hyn yn hanfodol i economi twristiaeth Cwm Afan uchaf, a byddai eu cau yn cael effaith sylweddol ar yr ardal honno.
 
13:02
Carl SargeantBywgraffiad
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn, a oedd unwaith eto yn crybwyll materion pwysig iawn i’w etholwyr a’i etholaeth. Wrth gwrs, mae’n anodd iawn rheoli’r materion hyn, ac mae’n ymwneud â sicrhau bod yna ddull integredig o fynd i’r afael â’r mater gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a’r heddlu. Buaswn yn annog mwy o gamau gweithredu, a byddaf yn sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymwybodol o’ch pryderon.
 
13:02
Jeff CuthbertBywgraffiad
Weinidog, mae Cymru yn enwog am ei choetiroedd hynafol a hanesyddol ac maent yn rhan hanfodol o’n hamgylchedd naturiol. A wnewch chi ddweud wrthym heddiw, Weinidog, pa rôl y gall ein coetiroedd ei chwarae yn cyflawni’r amcanion lles sydd wedi’u cynnwys yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015?
 
13:02
Carl SargeantBywgraffiad
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Mae’n parhau i hyrwyddo Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), fel y gwnâi pan roddodd gychwyn ar y ddeddfwriaeth ar ei thaith drwy’r Cynulliad hwn. Diolch i’r Aelod am hynny.
 
Mae ein cynllun gweithredu ar gyfer strategaeth goetiroedd Cymru yn nodi ein camau gweithredu a’n gweithgareddau tymor byr ar gyfer cyflawni uchelgeisiau hirdymor ein strategaeth, sydd yn ei thro’n cyfrannu at amcanion llesiant ehangach y Ddeddf. Ein gweledigaeth yw y bydd coed a choetiroedd yn darparu budd cymdeithasol a chymunedol gwirioneddol, yn lleol ac yn genedlaethol, gan gefnogi diwydiannau sy’n seiliedig ar goetiroedd ffyniannus a chyfrannu at amgylchedd o ansawdd gwell ledled Cymru.
 
Amaethyddiaeth a Materion Gwledig
 
13:03
Russell GeorgeBywgraffiad
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gwybodaeth am amaethyddiaeth a materion gwledig ar gael i ffermwyr? OAQ(4)0416(NR)
 
13:03
Rebecca EvansBywgraffiadY Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd
Rydym yn sicrhau bod gwybodaeth ar gael i ffermwyr mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys drwy wefannau, gohebiaeth ysgrifenedig, negeseuon e-bost, e-gylchlythyrau, negeseuon testun, negeseuon uniongyrchol, cyfryngau cymdeithasol, a thros y ffôn. Rydym hefyd yn cyfarfod yn rheolaidd gyda rhanddeiliaid i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt ynglŷn â datblygiadau.
 
13:03
Russell GeorgeBywgraffiad
Weinidog, mae’r cyhoeddiad ‘Gwlad’ wedi bodoli ers rhai blynyddoedd bellach ac mae wedi cael croeso da gan ffermwyr yn Sir Drefaldwyn. Ni fydd ond ar gael ar-lein o’r mis nesaf ymlaen, ac ni fydd ar gael ar ffurf copi caled. Nawr, mae argaeledd band eang mewn rhannau o Sir Drefaldwyn yn parhau i fod yn broblem, fel rwy’n siŵr eich bod yn deall, felly a allwch roi gwybod i mi pa ddewisiadau eraill a fydd ar gael i ffermwyr nad ydynt yn gallu darllen y fersiwn ar-lein o ‘Gwlad’?
 
13:04
Rebecca EvansBywgraffiad
Fe fyddwch yn ymwybodol fod Cyflymu Cymru yn cael ei gyflwyno’n gyflym ledled Cymru gyfan ac ers dechrau’r prosiect, mae cyfanswm o 37,582 o eiddo preswyl a busnes ym Mhowys yn unig wedi cael band eang cyflym iawn drwy’r prosiect hwnnw ac mae dros £10.5 miliwn wedi’i fuddsoddi yn y broses o gyflwyno’r prosiect ar draws y rhanbarth. Bydd yn parhau i gael ei gyflwyno dros y flwyddyn nesaf.
 
Rydych yn gywir yn dweud bod ‘Gwlad’ wedi symud ar-lein, a bydd hynny’n ein helpu i gynnig ffordd fwy amserol a chyson a llai costus o ddarparu gwybodaeth i ffermwyr. Rwy’n credu bod yn rhaid i ni gofio bod llythrennedd TG yn rhan annatod o feddwl busnes a ffocws busnes yn yr unfed ganrif ar hugain.
 
13:05
Joyce WatsonBywgraffiad
Ddirprwy Weinidog, rydych eisoes wedi dweud bod Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu yn chwarae rhan fwy yng ngwaith Llywodraeth Cymru o ymgysylltu â ffermwyr, ond yr ochr arall i hynny yw’r gallu, wrth gwrs, i ddefnyddio’r dechnoleg sy’n datblygu, yn arbennig mewn perthynas â ffermwyr sydd eisiau ac sydd angen datblygu eu sgiliau cyfrifiadurol. Ddirprwy Weinidog, a yw hynny’n rhywbeth rydych yn gweithio arno i helpu’r diwydiant i ymateb i’r heriau hynny?
 
13:05
Rebecca EvansBywgraffiad
Ie, diolch i chi am y cwestiwn. Mae Cyswllt Ffermio yn darparu sesiynau ymarferol i ffermwyr ddatblygu a chryfhau eu llythrennedd cyfrifiadurol, yn enwedig ar ystod o bynciau sydd o ddiddordeb iddynt, megis deall EIDCymru, defnyddio taenlenni ac yn y blaen. Rydym hefyd yn cynnig sesiynau un i un ar gyfer cael mynediad at wasanaethau Cyswllt Ffermio. Mae gennym rai rhaglenni cymorth digidol ar gael ar hyn o bryd ar gyfer ffermwyr sydd angen llenwi eu ffurflenni cais sengl 2016 ar-lein, ac rwy’n falch iawn fod 251 o gwsmeriaid, yn barod, wedi trefnu apwyntiad cymorth digidol. O’r ffermwyr sydd eisoes wedi cyflwyno’u ffurflenni cais sengl ar gyfer 2016, naill ai’n llawn neu’n rhannol, mae nifer fawr ohonynt yn ffermwyr nad oedd wedi bod ar-lein o’r blaen. Felly, rwy’n credu ein bod yn cynnig cyfle da iawn i ffermwyr o ran y cymorth y gallwn ei gynnig i’w helpu i ddod yn fwy llythrennog ym maes TG ac i elwa ar yr holl fanteision sydd ar gael i fusnesau drwy fod ar-lein.
 
13:06
Simon ThomasBywgraffiad
Ddirprwy Weinidog, y wybodaeth y buaswn yn wirioneddol awyddus i’w gweld yn cael ei darparu i ffermwyr a’n cymunedau gwledig yw’r manteision o aros yn yr Undeb Ewropeaidd a chostau gadael. Hyd yma, mae’r cynllun datblygu gwledig ar ei ben ei hun wedi darparu £78 miliwn yn Sir Gaerfyrddin a £48 miliwn i’n cymunedau gwledig yn Sir Benfro. Mae ein taliad sengl, wrth gwrs, yn cefnogi ffermwyr yn y ffordd draddodiadol y maent yn gofalu am ein tirwedd, ein hamgylchedd ac yn cynhyrchu bwyd ar ein cyfer. Pe baem yn gadael yr UE, fel y mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig eisiau i ni ei wneud, bydd tariff o 15 y cant ar y 35 y cant o gig defaid Cymru sy’n cael ei allforio i’r UE. Dyma’r ffeithiau sy’n rhaid i ni eu cyfleu. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynhyrchu’r ffeithiau hynny, yn enwedig ar lefel etholaeth, er mwyn i bawb ohonom fynd â hwy at ein cymunedau gwledig a datgelu’r holl siarad gwag yno a tharo’n ôl yn ei erbyn?
 
13:07
Rebecca EvansBywgraffiad
Diolch. Ni allwn gytuno mwy â phob gair rydych newydd ei ddweud, yn enwedig eich siom ynghylch safbwynt arweinydd y Ceidwadwyr ar aros yn Ewrop a’r effaith a gâi hynny ar ein cymunedau ffermio. Mae’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a minnau wedi darparu papur sy’n dangos y manteision y mae ein hadran wedi elwa arnynt ac y mae pobl wedi elwa arnynt drwy hynny, o ganlyniad i fod yn aelodau o’r Undeb Ewropeaidd, ac rwy’n siŵr y byddem yn hapus i’w rannu gyda’r holl Aelodau.
 
13:07
Aled RobertsBywgraffiad
Ddirprwy Weinidog, mae nifer o ffermwyr wedi cysylltu â fi ynghylch taliadau 2016 SAF. Mae nifer ohonyn nhw ddim wedi derbyn taliadau 2015, ac mae yna rai eraill yn apelio ar gyfer 2015. Mae’n rhaid iddyn nhw roi’r SAF 2016 i mewn erbyn mis Mai. Sut yn union ydych chi’n delio efo’r sefyllfaoedd yma lle mae eu hundebau nhw’n dweud y dylen nhw ddim bod yn ceisio am SAF 2016 tan fod canlyniad SAF 2015 wedi’i gwblhau? Pryd ydych chi’n gobeithio y byddwch chi wedi delio â’r holl ddryswch ac oedi ynglŷn â thaliadau y llynedd?
 
13:08
Rebecca EvansBywgraffiad
Hoffwn eich atgoffa, wrth gwrs, nad oes unrhyw oedi yn y taliadau. Mae’r cyfnod talu’n dod i ben ar 31 Mehefin eleni. Ond hyd yn hyn, rydym wedi cael tua 12,000 o apeliadau ac fel y byddwch yn gwybod, rwyf wedi cyflwyno proses apeliadau symlach er mwyn eu symud drwy’r system yn gyflym iawn. Rydym yn anelu i gwblhau’r rhan fwyaf o’r apeliadau hynny a byddwn yn ysgrifennu at gwsmeriaid erbyn diwedd mis Mawrth, a’r holl gwsmeriaid cyn y dyddiad cau ar gyfer ffurflenni cais sengl 2016, a bydd hynny’n caniatáu amser iddynt gynnwys unrhyw newidiadau y maent angen eu gwneud i’w ffurflen 2016. Felly, os oes unrhyw gwsmeriaid yn methu â diweddaru eu ffurflen 2016, rwyf wedi gofyn i swyddogion ddefnyddio pŵer newydd a roddwyd i ni gan y Comisiwn Ewropeaidd o eleni ymlaen i roi cyfle i hawlwyr ddiweddaru eu ffurflen hawlio heb gosbau o fewn 35 diwrnod i gael eu hysbysu bod y wybodaeth yn anghyson.
 
13:09
Kirsty WilliamsBywgraffiadArweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Ddirprwy Weinidog, tybed a fyddwch yn defnyddio’r mecanweithiau amrywiol sydd gennych i roi gwybod i ffermwyr ynglŷn â dyfodol polisi Glastir y Llywodraeth. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, ni fydd unrhyw geisiadau newydd ar gyfer elfen mynediad y flwyddyn nesaf. Mae llawer o bobl yn poeni am hynny. Hefyd, pan ddaw eu contractau i ben, os nad ydynt yn gallu ymuno â chynllun fferm gyfan, bydd hynny’n ddinistriol i’w lefelau incwm a hefyd yn ddinistriol i’r amgylchedd, gan y bydd yn rhaid i lawer ddwysáu eu harferion ffermio unwaith eto. A wnewch chi egluro beth yw polisi’r Llywodraeth mewn perthynas â Glastir?
 
13:10
Rebecca EvansBywgraffiad
Ie, rydych yn iawn i ddweud na cheir cyfle i wneud cais mynediad Glastir eleni, a’r rheswm am hynny yw bod gwerthusiad annibynnol o’r cynllun, yn ogystal ag adborth gan randdeiliaid, wedi awgrymu bod mwy o fanteision amgylcheddol ac y byddai gwell gwerth am arian, ac y gellid cyflawni hynny drwy fabwysiadu dull wedi’i dargedu’n well yn seiliedig ar gyfalaf o ddarparu cymorth amaeth-amgylcheddol. Felly, rydym bellach yn cynnig cymorth drwy ein cynllun Glastir Uwch arloesol yn ogystal â chynllun Creu Coetiroedd Glastir a chynllun newydd grantiau bach Glastir, ac mae pob un ohonynt ar gael i ffermwyr wneud cais amdanynt. Mae gwybodaeth am yr holl gynlluniau hyn a’r cyfnodau ymgeisio ac yn y blaen ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
 
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
 
13:10
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at gwestiynau gan lefarwyr y pleidiau. Yn gyntaf y prynhawn yma, mae llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
 
13:10
Russell GeorgeBywgraffiad
Diolch i chi, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, ar ddiwedd y pedwerydd Cynulliad, pa sgôr allan o 10 y byddech yn ei rhoi i’ch Llywodraeth am y gefnogaeth y mae wedi’i ddarparu i’r diwydiant ffermio?
 
13:10
Rebecca EvansBywgraffiad
Deg.
 
13:11
Russell GeorgeBywgraffiad
Wel, Ddirprwy Weinidog, mae gennyf farn wahanol ar hynny. Mewn gwirionedd, Ddirprwy Weinidog, mae record eich Llywodraeth wedi gadael ffermydd Cymru o dan anfantais ddifrifol o gymharu â’u cystadleuwyr rhyngwladol. Mae’r cam i dynnu 15 y cant oddi ar daliadau fferm uniongyrchol wedi taro ffermwyr yn galed—ac ni ddigwyddodd yn unman arall yn y DU na Ewrop—ac rydych hefyd wedi llywyddu dros y toriad mwyaf erioed i gyllideb amaethyddiaeth a bwyd, y toriad mwyaf i unrhyw un o adrannau’r Llywodraeth, ar adeg pan oedd y diwydiant llaeth yn arbennig wedi cyrraedd pwynt o argyfwng peryglus. Mae eich rhagolwg o incwm ffermydd a gyhoeddwyd yn ddiweddar wedi canfod y rhagwelir y bydd incwm cyfartalog busnesau o un flwyddyn i’r llall yn gostwng bron 16 y cant i £24,500 ar draws pob math o fferm, ac ar gyfer ffermydd llaeth, bydd gostyngiad cyfartalog o 40 y cant. O ystyried hyn, pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith i atal y dirywiad ariannol ar draws y diwydiant ffermio?
 
13:11
Rebecca EvansBywgraffiad
Wel, fe gyfeirioch at y 15 y cant a drosglwyddwyd o golofn 1 i golofn 2, a phwrpas hynny, fel rydym wedi egluro sawl gwaith dros y blynyddoedd, oedd i’n galluogi i wneud buddsoddiadau strategol mewn busnesau fferm i gyflawni newid trawsnewidiol yn y diwydiant amaeth yng Nghymru, ac rydym yn gwneud hynny. Yn ystod y saith mis cyntaf yn unig y bu’n weithredol, rydym eisoes wedi sicrhau bod £213 miliwn o fuddsoddiad ar gael er budd—[Torri ar draws.]
 
13:12
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Nid oes angen unrhyw gymorth ar y Gweinidog gan feinciau Plaid Cymru. Weinidog. [Torri ar draws.] Nac unrhyw feinciau eraill, o ran hynny. Weinidog.
 
13:12
Rebecca EvansBywgraffiad
Diolch. Felly, yn ystod y saith mis cyntaf y bu’n weithredol yn unig, rydym eisoes wedi sicrhau bod £213 miliwn o fuddsoddiad ar gael er budd cymunedau, ffermwyr, coedwigwyr a busnesau bwyd yng Nghymru, ac roedd y rhan fwyaf ohono ar gyfer ffermwyr a choedwigwyr, gyda £110 miliwn o grantiau ar gael iddynt. Wrth gwrs, fe wyddoch fod 70 y cant ond ar gael i ffermwyr, coedwigwyr a pherchnogion tir yn unig a gallant fanteisio ar weddill y rhaglen datblygu gwledig bron yn gyfan gwbl hefyd. Rydym eisoes wedi cyflwyno, neu agor, nifer o gynlluniau, fel y gwyddoch. Mae Cyswllt Ffermio yn gynnig gwych i ffermwyr, a byddwn yn sicr yn eu hannog i ymgysylltu â’r gwasanaeth. Mae Glastir Uwch, tiroedd comin, organig, adfer coetiroedd a chreu coetiroedd i gyd wedi agor. Mae grantiau cynhyrchu cynaliadwy wedi agor, ac ail gyfnod ar gyfer mynegi diddordeb wedi agor ar eu cyfer, a’r gyllideb wedi’i threblu. Mae’r grant buddsoddi mewn busnesau bwyd a’r gronfa datblygu cymunedau gwledig wedi agor, mae’r cynllun cydweithredu a datblygu’r gadwyn gyflenwi wedi agor, gyda’r cyfle i wneud newid trawsnewidiol ar draws y gadwyn gyflenwi; ac mae’r cynllun buddsoddi mewn busnesau coed a chynllun grantiau bach Glastir ill dau wedi agor, a hoffwn annog ffermwyr i fanteisio ar y cyfleoedd y mae’r rhain yn eu darparu.
 
13:13
Russell GeorgeBywgraffiad
Mae gwerthiant rhyngwladol cig oen a chig eidion Cymru yn werth mwy na £225 miliwn i economi Cymru. Mae’n hanfodol ein bod yn diogelu’r diwydiant allweddol hwn i ffyniant Cymru gyfan. [Torri ar draws.]
 
13:14
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Trefn. Trefn. Mae’n ddrwg gennyf, a wnewch chi adael iddo ofyn y cwestiwn o dan amodau gweddol dawel—ac a wnewch chi fod mor gryno ag y gallwch? Rwy’n gwybod eich bod yn gallu bod yn gryno, felly dangoswch pa mor gryno y gallwch fod.
 
13:14
Russell GeorgeBywgraffiad
Diolch i chi, Lywydd. Felly, a wnewch chi gefnogi bwriad y Ceidwadwyr Cymreig i gyflwyno siarter cig coch i sicrhau cynaliadwyedd y diwydiant cig coch yng Nghymru? A wnewch chi hefyd roi manylion unrhyw drafodaethau a gawsoch mewn perthynas â mewnforio cig oen o Seland Newydd a chynnig unrhyw asesiad ar sut y mae hyn wedi effeithio ar gaffael a gwerthiant cig oen Cymru? [Torri ar draws.]
 
13:14
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Mae’n ddrwg gennyf, cyn—. Ddirprwy Weinidog.
 
13:14
Rebecca EvansBywgraffiad
Wel, rwy’n rhannu pryder yr Aelod ynglŷn â faint o gig oen Seland Newydd sy’n cael ei fewnforio i’r Undeb Ewropeaidd, yn enwedig pan fo gennym gynnyrch o ansawdd mor dda ar gael yma yng Nghymru. Felly, rwy’n sicr yn rhannu’r pryder hwnnw. Byddaf yn cyflwyno sylwadau ddydd Llun yng nghyfarfod Gweinidogion amaethyddiaeth y cyngor Ewropeaidd ynglŷn â chwotâu yn arbennig, ac yn archwilio a allwn gael cwotâu llai yn ystod ein cyfnod brig ar gyfer cig oen, oherwydd gwn fod hynny’n cael ei wneud ar gyfer cynhyrchion eraill, fel garlleg, mewn mannau eraill o’r UE. Felly, byddwn yn edrych ar hynny’n benodol.
 
Fe fyddwch yn gwybod bod Llywodraeth Cymru, drwy Hybu Cig Cymru, yn aelodau o grŵp yr UE ar gyfer ystyried cig dafad, a gyfarfu am y tro cyntaf ym mis Tachwedd. Roeddwn yn falch o allu sicrhau bod lle i Gymru yn y grŵp hwnnw ar ôl ei drafod gyda’r Comisiynydd Hogan yn Sioe Frenhinol Cymru, ac rwy’n credu y bydd hynny’n rhoi cyfle arall a fforwm arall i fynd ati o ddifrif i geisio symud y mater hwn yn ei flaen yn Ewrop.
 
13:15
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Diolch. Symudwn yn awr at lefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
 
13:15
Llyr GruffyddBywgraffiad
Diolch, Lywydd. Weinidog, rwy’n deall bod Llywodraeth Cymru ar fin cynnal ymgynghoriad ar gyflwyno parth perygl nitradau yn Sir Benfro. Rwyf wedi derbyn sylwadau gan ffermwyr sy’n arbennig o bryderus y bydd hyn yn digwydd, wrth gwrs, yn ystod y diddymiad. A allwch gadarnhau a yw hynny’n wir, ac os yw, a ydych yn credu bod hynny’n briodol?
 
13:15
Carl SargeantBywgraffiad
Ydi, mae’n wir, a bydd yn parhau. Yn amlwg, ni fyddwn yn gwneud unrhyw benderfyniadau gyda’r Llywodraeth hon; mater i’r Llywodraeth nesaf yw bod yn wybodus ynghylch yr ymgynghoriad a gynhelir.
 
13:16
Llyr GruffyddBywgraffiad
Ond rwy’n siŵr y buasech yn deall y pryderon sydd gan bobl na fydd ganddynt Aelodau Cynulliad i droi atynt am gyngor a chefnogaeth yn ystod yr ymgynghoriad hwnnw, neu am ran fawr o’r broses ymgynghori. Felly, buaswn yn gofyn i chi ystyried y bwriad hwnnw a’r posibilrwydd o’i ohirio rywfaint efallai. Gan symud ymlaen at brif fater yr ymgynghoriad ei hun, os cyflwynir cynigion, bydd goblygiadau pellgyrhaeddol i lawer o ffermydd—hyd at 2,000, rwy’n credu, o ffermydd sy’n ffinio â llednentydd y Cleddau ac ardal aber y Cleddau. Ar hyn o bryd, yn amlwg, mae gan lawer o ffermwyr hyd at oddeutu tair wythnos efallai o storfeydd slyri ar gael iddynt. Un o’r gofynion o bosibl fydd sicrhau hyd at bum mis o storfeydd slyri, a buasai hynny’n galw am fuddsoddiad enfawr a chost gyfalaf enfawr, wrth gwrs, ar adeg pan fo llawer o’r busnesau hyn yn cynhyrchu ar golled. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym a fyddai’r Llywodraeth yn ystyried rhoi cymorth i’r ffermwyr y byddai’r gofynion hyn yn effeithio arnynt, er mwyn iddynt allu cydymffurfio â hwy heb beryglu eu busnesau?
 
13:17
Carl SargeantBywgraffiad
Dau bwynt. Yn gyntaf oll, byddaf yn ystyried y mater a grybwyllwyd gennych ynglŷn â’r ymgynghoriad, os yw hynny’n peri pryder. Fodd bynnag, yr hyn sy’n rhaid i ni ei wneud yw mynd i’r afael â’r mater hwn ac mae’n rhaid iddo gael ei ddatrys mewn un ffordd neu’r llall. Mae gennym lawer gormod o achosion o lygredd gwasgaredig ar draws ein cyrsiau dŵr ac mae’n rhywbeth y mae’n rhaid i ni fynd i’r afael ag ef gyda’n gilydd. Mae’r broblem ynglŷn â’r ymgynghoriad yn ymwneud ag a fydd yn barth perygl nitradau lleol neu’n gynllun cenedlaethol, a bydd hynny’n rhywbeth y bydd yn rhaid i’r ymgynghoriad ei ystyried.
 
O ran cymorth i ganolfannau fferm a ffermydd sydd angen gwneud addasiadau, buaswn yn hapus i gael trafodaethau pellach. Rwy’n credu y bydd yn rhaid i’r Llywodraeth nesaf, wrth gwrs, gael trafodaethau pellach gyda’r diwydiant i weld sut y gallant reoli hyn yn well, ond yn y pen draw mater i’r sector fynd i’r afael ag ef yw hwn ac rwy’n credu bod angen i’r Llywodraeth edrych yn ofalus ar sut y gallwn eu symud a’u trosglwyddo i ofod gwell.
 
13:18
Llyr GruffyddBywgraffiad
Diolch yn fawr, Weinidog. Byddwch yn gwybod, wrth gwrs, mai Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am sicrhau ein bod yn cyflawni ein dyletswyddau o ran y gyfarwyddeb fframwaith dŵr yma yng Nghymru, a byddwch hefyd yn gwybod bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn wynebu toriad sylweddol i’w cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Fel pwyllgor yr amgylchedd, rydym wedi cael gwybod erbyn hyn y bydd yn rhaid iddynt gyflwyno toriadau i rai agweddau o’u gwasanaethau, gan gynnwys monitro tystiolaeth, er bod pobl yn dweud wrthym fod yna brinder data eisoes; rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd, sy’n amlwg yn fater sy’n peri pryder cynyddol i lawer o gymunedau ledled Cymru; cyllido gwasanaethau a phartneriaethau addysg, sy’n rhywbeth y credwn fod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i fod i’w annog; yn ogystal â lleihau’r gweithlu ymhellach. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Swyddfa Archwilio Cymru adroddiad ar drefniadau llywodraethu Cyfoeth Naturiol Cymru, ac roedd yn datgan bod
 
CNC o’r farn y bydd angen gwneud newidiadau sylfaenol i bwrpas a strwythur CNC yn sgil lefel ddisgwyliedig y toriadau yn y gyllideb.
 
A ydych yn cytuno, ac os ydych, pa agweddau ar ei wasanaethau y byddech yn eu diddymu?
 
13:19
Carl SargeantBywgraffiad
Rwy’n credu bod hwn yn fater i’r bwrdd ac i Cyfoeth Naturiol Cymru ei drafod wrth iddynt symud ymlaen. Y ffaith amdani yw, os oes llai o arian i ddarparu gwasanaethau, bydd llai o wasanaethau. Ni allaf amddiffyn hynny. Mae’r ffaith ein bod wedi cael £1.4 biliwn yn llai gan Lywodraeth y DU yn effeithio ar wasanaethau cyhoeddus yma ledled Cymru. Ni fyddwch byth yn clywed Russell George yn brefu am y ffaith eu bod yn rhoi llai o arian i ni ddarparu gwasanaethau; yr unig beth y mae ef ei eisiau yw mwy i’w blaid ei hun, ac mae ei arweinydd yn awyddus i adael Ewrop, sydd hefyd yn peri dryswch. Y ffaith amdani yw y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyflawni eu gwasanaethau; rwy’n disgwyl iddynt wneud hynny, ac rwy’n gweithio gyda hwy bob mis, yn cyfarfod â hwy i drafod sut y byddant yn gweithredu’r gyllideb ostyngol.
 
13:19
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at lefarydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, William Powell.
 
13:19
William PowellBywgraffiad
Diolch, Lywydd. Weinidog, mae llawer o gymunedau ledled Cymru wedi cael eu heffeithio dros y blynyddoedd diwethaf, fel rydym i gyd yn gwybod, gan lifogydd yn achosi anafiadau a marwolaeth, difrod enfawr i gartrefi pobl ac yn cael effaith andwyol ddifrifol hefyd ar economi ehangach Cymru. A wnewch chi amlinellu’r gefnogaeth sydd ar gael ar hyn o bryd, drwy Lywodraeth Cymru, i gymunedau yr effeithir arnynt gan lifogydd yng Nghymru?
 
13:20
Carl SargeantBywgraffiad
Wel, diolch i chi am eich cwestiwn. Mae gennym raglen fuddsoddi dda iawn ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd. Mae’r cyd-Aelod sy’n eistedd wrth eich ymyl, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas—. Roeddwn yn Nolgellau yr wythnos diwethaf yn agor cynllun, ac rydym yn gwybod yn dilyn llifogydd y Nadolig a ddigwyddodd ar Ŵyl San Steffan, fod y cynllun hwnnw wedi achub tua 300 o gartrefi a 54 o fusnesau rhag llifogydd, oherwydd y buddsoddiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru a chronfeydd strwythurol Ewropeaidd. Felly, mae’n bwysig iawn ein bod yn parhau i fod yn rhan o Ewrop er mwyn gwneud buddsoddiadau doeth sy’n diogelu ein cymunedau ar hyd a lled Cymru.
 
13:20
William PowellBywgraffiad
Diolch i chi am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Rwy’n sicr yn cytuno 100 y cant â’ch sylwadau mwyaf diweddar ar bwysigrwydd y gwariant hwnnw ar seilwaith. Fodd bynnag, mae ymchwil a wnaed yn ddiweddar ar ran Pwyllgor Deisebau’r Cynulliad Cenedlaethol yn dangos bod yna becyn cyllido gryn dipyn yn fwy hael ar gael mewn gwirionedd nag a geir yn Lloegr, nid yn gymaint ar yr ochr seilwaith, ond o ran ymateb i’r rhai sy’n ymadfer ar ôl llifogydd.
 
Mae cartrefi a busnesau dros y ffin yn cael—. Mae awdurdodau lleol yn cael £500 ar gyfer pob aelwyd yr effeithiwyd arnynt, grantiau o hyd at £5,000 i helpu aelwydydd i ddiogelu eu heiddo unigol rhag llifogydd, a hefyd £2,500 i fusnesau yr effeithiwyd arnynt. Yn ogystal â hyn, mae Llywodraeth y DU yn rhoi arian cyfatebol tuag at yr arian a godir gan elusennau cofrestredig sy’n cefnogi cymorth llifogydd yn weithredol.
 
Gyda pherygl llifogydd yn sicr o gynyddu yn yr amser sydd i ddod, beth sydd angen i’r Llywodraeth nesaf ei ystyried o ran creu grantiau penodol ar gyfer gwrthsefyll llifogydd, sydd ar gael yn uniongyrchol i’r cymunedau yr effeithir arnynt ledled Cymru?
 
13:22
Carl SargeantBywgraffiad
Iawn. Diolch i’r Aelod unwaith eto am ei gwestiwn hynod o gryno. Y broblem i ni yma yng Nghymru; gadewch i ni roi hyn mewn cyd-destun. Cafodd tua 150 o eiddo eu heffeithio gan lifogydd yn ystod cyfnod y Nadolig o gyfanswm o—ar sail Cymru. Pe baem yn edrych ar yr eitemau newyddion dros gyfnod y Nadolig ac yn edrych ar yr hyn a ddigwyddodd yn Lloegr, y rheswm am hynny oedd eu diffyg buddsoddiad mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd.
 
Rydym yn buddsoddi mewn atal yn hytrach nag ymateb ar ôl iddo ddigwydd, oherwydd i bobl sy’n dioddef llifogydd, mae’n rhywbeth ofnadwy sy’n digwydd iddynt, ac maent yn gweld nad yw’r swm bach o arian gan Lywodraeth y DU i’r unigolion hyn yn cael fawr o effaith ar reoli eu heiddo yn y tymor hir.
 
Yn syth ar ôl llifogydd y Nadolig, fe fuddsoddom mewn rhaglen £3 miliwn er mwyn gwneud gwaith atgyweirio mewn cymunedau ledled Cymru, a chafwyd proses gyflwyno ceisiadau gan awdurdodau lleol. Ond unwaith eto, rwy’n awgrymu bod yn rhaid i ni edrych ar y buddsoddiadau doeth a wnaethom—fel yn Nelyn, ym Mro Morgannwg ac yn Llanelwy gydag Ann Jones—edrych ar y rhain a gwneud yn siŵr fod eu cymunedau’n gallu gwrthsefyll llifogydd yn hirdymor, nid gwneud buddsoddiadau bach ar ôl y digwyddiad yn unig.
 
13:23
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
[Anghlywadwy.]
 
13:23
William PowellBywgraffiad
Diolch i chi am ein hatgoffa’n amserol, Lywydd. Rwy’n derbyn yr hyn a ddywedoch, Weinidog, ynglŷn â gwerth gwariant ataliol, er bod un neu ddau o gynlluniau â ffocws penodol y byddwn yn gofyn barn y Gweinidog yn eu cylch. Yn gyntaf, mewn perthynas â rhyddhad treth gyngor ac ardrethi busnes sydd ar gael yn Lloegr, a yw Llywodraeth Cymru wedi edrych ar gyflwyno hynny? Ac yn olaf, y gronfa adfer ffermio sydd wedi sicrhau bod grantiau penodol ar gael i fusnesau ffermio yr effeithiwyd arnynt yn fwyaf uniongyrchol yn Cumbria, Northumberland a gweddill gogledd Lloegr. Pa ystyriaeth y byddwch yn barod i’w rhoi yn y dyfodol i fabwysiadu rhai o’r cynlluniau ymarferol hyn, sydd wedi cael croeso mawr, i ychwanegu at y gyfres o gronfeydd sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i’r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiadau trychinebus hyn?
 
13:24
Carl SargeantBywgraffiad
Wel, gwrandewais yn ofalus iawn ar yr Aelod, ar ei sylwadau, ond fel y dywedais yn gynharach, mae’n rhaid i ni roi hyn yn ei gyd-destun. Y broblem yma yw ein bod yn ymdrin â’r mater yn wahanol iawn i’r hyn sy’n digwydd yn Lloegr. Rydym yn cynnal buddsoddiad ac yn parhau i fuddsoddi’n helaeth iawn yn ein cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd. Felly, rwy’n agored i syniadau ar faterion perthnasol yn gyffredinol, o bosibl, a sut y gallwn eu rhoi ar waith, ond mewn gwirionedd rydym yn gwneud gwaith da iawn gyda’r adnoddau cyfyngedig rydym yn eu cael gan Lywodraeth y DU.
 
13:24
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn ôl yn awr at y cwestiynau ar y papur a daw cwestiwn 3 gan Lynne Neagle.
 
Cloddio Glo Brig
 
13:24
Lynne NeagleBywgraffiad
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae canllawiau ar geisiadau cynllunio cloddio glo brig yn rhoi ystyriaeth i anghenion cymunedau lleol? OAQ(4)0421(NR)
 
13:25
Carl SargeantBywgraffiad
Diolch i’r Aelod dros Dorfaen am ei chwestiwn. Mae ‘Nodyn Cyngor Technegol Mwynau 2: Glo’ yn nodi cyfarwyddyd cynhwysfawr ynglŷn â sut y dylid ystyried anghenion cymunedau lleol. Mae hyn yn cynnwys nodi sut y gall y gymuned gymryd rhan drwy gydol y prosiect, o’r cais cynllunio i adfer a chau’r safle.
 
13:25
Lynne NeagleBywgraffiad
Weinidog, rwyf wedi ysgrifennu atoch yn ddiweddar i fynegi fy mhryder fod rhai o drigolion y Farteg yn dweud wrthyf eu bod wedi cael cynigion o £1,000 i’w dalu i bob cartref dros gyfnod y cynllun glo brig arfaethedig. Pan gysylltodd cyngor Torfaen â’r datblygwr, nid allodd gael cadarnhad ynglŷn ag unrhyw gynigion i breswylwyr, ac mae hynny’n destun pryder. Os yw taliadau o’r fath yn gyfreithlon, credaf y dylent gael eu gwneud mewn modd agored a thryloyw a thrwy drafod â’r holl drigolion yr effeithir arnynt. A fyddech yn cytuno bod gwneud cynigion o’r fath i rai preswylwyr ac nid i eraill yn creu risg o rannu cymuned ac atal proses gynllunio dryloyw? A wnewch chi ystyried cyhoeddi canllawiau pellach i ddiogelu trigolion yn y sefyllfa hon?
 
13:26
Carl SargeantBywgraffiad
Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Yn amlwg, Lywydd, ni allaf roi sylwadau ar gais cynllunio penodol pan fo’n gais byw, ond rwy’n talu teyrnged i’r Aelod nad yw byth yn rhoi’r gorau i fanteisio ar y cyfle i ddwyn y mater hwn i fy sylw. O ran y pwynt mwy cyffredinol ynghylch y cais sy’n ymwneud â thaliadau i gymunedau, buaswn yn gobeithio yr ystyrir ei fod yn cael ei wneud mewn ffordd agored a thryloyw, ac os yw’r Aelod yn dymuno ysgrifennu ataf gyda mwy o fanylion, heb ystyried y cais, byddaf yn gofyn i fy nhîm edrych arno’n fanwl.
 
13:26
William GrahamBywgraffiad
Dywedodd y Prif Weinidog yn gyhoeddus fod y canllawiau yn ‘Nodyn Cyngor Technegol Mwynau 2: Glo’ yno i gydymffurfio â hwy, ac eto mae yna geisiadau cynllunio o hyd sy’n cael eu cyflwyno a’u hystyried ac ni chânt eu gwrthod ar unwaith er nad ydynt yn adlewyrchu’r canllawiau hynny. A fyddai’r Gweinidog yn ystyried cyhoeddi canllawiau cryfach, gan bwysleisio gofyniad i adlewyrchu penderfyniadau’r Cynulliad hwn ac atgyfnerthu’r glustogfa 500m ddynodedig?
 
13:27
Carl SargeantBywgraffiad
Wel, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, rydym yn adolygu ‘Nodyn Cyngor Technegol Mwynau 2: Glo’. Mae hwnnw ar y gweill, ac yn amlwg mae fy nhîm yn gweithio ar fanylion hwnnw. Byddai’n anghywir i unrhyw Weinidog ragfarnu unrhyw gais. Mae’n rhaid iddo ddod drwy’r sianeli priodol. Rydym yn credu bod ‘Nodyn Cyngor Technegol Mwynau 2: Glo’ fel y mae ar hyn o bryd yn ddogfen briodol, ond rydym yn ei ddiweddaru ac rydym yn parhau i wneud hynny gyda phob un o’r nodiadau cyngor technegol hefyd.
 
13:27
Bethan JenkinsBywgraffiad
Weinidog, yn ddiweddar darllenais ddogfen gyda’r teitl bachog, ‘Canllaw Arfer Gorau ar Asesiadau Rhwymedigaeth Adfer Pyllau Glo Brig’, gan yr Awdurdod Glo, y gofynnodd eich Llywodraeth amdani. Er fy mod yn croesawu’r adroddiad hwnnw, dau baragraff yn unig ar ddiwedd y ddogfen 13 tudalen sy’n sôn sut y mae’r prosesau adfer yn effeithio ar y rhai sy’n byw yn yr ardal mewn gwirionedd. Rwyf wedi mynychu uwchgynadleddau gydag Aelodau Cynulliad eraill yn yr ystafell hon, ac o ystyried cryfder teimladau’r trigolion ynglŷn â sut y mae cloddio glo brig yn effeithio ar eu hiechyd ac ar eu ffordd o fyw, pam mai dau baragraff yn unig a neilltuwyd ar eu cyfer a pham fod y rhan fwyaf ohono wedyn yn gwyro o blaid y datblygwr?
 
13:28
Carl SargeantBywgraffiad
Wel, rwy’n credu mai cynnwys y paragraffau sy’n bwysig a gwneud yn siŵr ein bod yn gallu dangos bod y rhaglen adfer yn rhan annatod iawn o’r cais, ac rwy’n credu bod yn rhaid i ni allu dangos hynny. Cefais gyfarfod yn ddiweddar gyda Llywodraeth y DU ar y sail fy mod yn credu mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yn y pen draw yw llawer o’r darpariaethau glo brig a geir yng Nghymru mewn perthynas â’r rhaglen adfer.
 
13:28
David ReesBywgraffiad
I ddilyn hynny, Weinidog, yn amlwg, mae adnoddau ariannol ar gyfer rhaglen adfer lawn yn hanfodol cyn y gellir cymeradwyo cais. Felly, a wnewch chi gynnwys pwyslais cryfach yn eich canllawiau ar sicrhau bod yr adnoddau ariannol ar gael fel nad oes yn rhaid i gymunedau fel y rhai o amgylch Parc Slip wynebu twll gwag am amser hir iawn am fod y cwmnïau’n dweud nad oes ganddynt yr arian?
 
13:29
Carl SargeantBywgraffiad
Mae’r Aelod yn gywir i nodi’r mater hwn. Mae ‘Nodyn Cyngor Technegol Mwynau 2: Glo’ eisoes yn datgan y dylai gweithredwyr ddangos er boddhad y Gymdeithas Cynhyrchion Mwynol fod ganddynt fond neu gynllun gwarant diwydiant sefydledig, wedi’i gyllido’n briodol, a fyddai’n cyllido rhaglen ariannol y gwaith adfer a gofal dilynol yn ddigonol os ceir diffyg ar ran y gweithredwr. Fel y dywedais wrth Bethan Jenkins yn gynharach, ac fel rwyf wedi’i ddweud wrth yr Aelod pan fo’n dwyn y mater i fy sylw, mae’r sefyllfa ym Margam yn deillio’n uniongyrchol o breifateiddio gan Lywodraeth y DU ac mae’r polisi presennol yn galw’n gadarn am ddarpariaethau adfer gan Lywodraeth y DU.
 
Bil yr Amgylchedd (Cymru)
 
13:29
Rhun ap IorwerthBywgraffiad
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyletswydd cyrff nad ydynt wedi’u datganoli i gydymffurfio â Bil yr Amgylchedd (Cymru)? OAQ(4)0426(NR)[W]
 
13:29
Carl SargeantBywgraffiad
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Bydd Adran 6 Bil yr Amgylchedd (Cymru) yn gosod dyletswydd bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau newydd estynedig ar awdurdodau cyhoeddus a fydd hefyd yn berthnasol i’r rhan fwyaf o awdurdodau cyhoeddus y DU sy’n cyflawni swyddogaethau mewn meysydd nad ydynt wedi’u datganoli mewn perthynas â Chymru.
 
13:30
Rhun ap IorwerthBywgraffiad
Diolch yn fawr iawn. Mae fy niddordeb i yn benodol yn ymwneud â chynlluniau’r Grid Cenedlaethol i adeiladu peilonau newydd ar draws Ynys Môn, cynllun sy’n amhoblogaidd iawn efo pobl yr ynys, sy’n poeni am yr effaith amgylcheddol, yr effaith ar yr economi, ar werth eiddo, ac yn y blaen. Mae pobl Ynys Môn yn ffafrio rhoi’r gwifrau o dan y tir neu o dan y môr. Wel, mi wnes i ysgrifennu at y Gweinidog, ac, yn y llythyr hwnnw, mi oedd o’n cadarnhau yr hyn rydym ni newydd ei glywed rŵan, sef bod yna ddyletswydd, wrth gwrs, ar gyrff megis Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, a’r Grid Cenedlaethol sy’n ymwneud â phrosiectau yng Nghymru i gydymffurfio â’r dyletswydd bioamrywiaeth a hydwythedd—neu ‘resilience’—yn adran 6 o Fil yr Amgylchedd (Cymru). Ar sail hynny, felly, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael efo’r Grid Cenedlaethol, i wneud yn siŵr eu bod nhw yn ymwybodol o’u dyletswyddau cyn i’r Bil dderbyn Cydsyniad Brenhinol yn y dyfodol agos? Ac a ydy’r Gweinidog yn cytuno efo fi y dylai ystyriaeth fanwl iawn gael ei rhoi ar yr effaith ar ein hadnoddau naturiol mewn unrhyw gynlluniau trosglwyddo trydan?
 
13:31
Carl SargeantBywgraffiad
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Cafwyd llawer o ddadlau gyda Llywodraeth y DU ar yr union fater hwn, fel y bydd yr Aelod yn gwybod. Ar un adeg, nid oedd Llywodraeth y DU yn caniatáu cydsyniad y Goron i’r rhan hon o’r Bil ar ei daith drwy’r Cynulliad hwn, ond adferwyd hynny ar gam diweddar iawn. O ran seilwaith yn benodol, byddaf yn trafod hynny ymhellach gydag Edwina Hart, a byddaf yn ysgrifennu llythyr at yr Aelod mewn perthynas â’r mater penodol y mae’r Aelod yn ei grybwyll ynghylch peilonau ac Ynys Môn.
 
13:31
Janet HaworthBywgraffiad
Weinidog, yn ddiweddar ymwelais â safle dŵr gwastraff yng ngogledd Cymru, a safle cyflenwad dŵr cyhoeddus. Yn ystod yr ymweliad, soniwyd am yr angen i sicrhau bod yna ffyrdd mwy rhagweithiol ac ataliol o gynnal a chadw ac uwchraddio ein system garthffosiaeth. Roeddent hefyd yn pwysleisio pa mor bwysig yw cael eu cynnwys yn llawn mewn ymgyngoriadau ynghylch prosiectau adeiladu newydd. A gaf fi eich annog un tro olaf yn ystod y Cynulliad hwn, i gynnwys Dŵr Cymru yn ôl-weithredol fel ymgynghorai statudol ar benderfyniadau cynllunio newydd? Cefais fy sicrhau bod yna dimau gwasanaeth sy’n barod ac yn abl i gyflawni’r ddyletswydd hon er mwyn cynnal uniondeb y gwasanaethau cyhoeddus hanfodol hyn.
 
13:32
Carl SargeantBywgraffiad
Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am dynnu’r mater hwn i’n sylw, gan fy mod yn siŵr fod yr Aelod wedi pleidleisio dros hynny fel ymgynghorai statudol, sydd yn y Bil mewn gwirionedd.
 
Datblygiadau Tai
 
13:32
John GriffithsBywgraffiad
5. Sut y rhoddir ystyriaeth i faterion amgylcheddol wrth ystyried ceisiadau cynllunio ar raddfa fawr ar gyfer datblygiadau tai? OAQ(4)0418(NR)
 
13:32
Carl SargeantBywgraffiad
Diolch i John Griffiths am ei gwestiwn. Mae’n rhaid i awdurdodau cynllunio lleol gydbwyso’r materion amgylcheddol sy’n gysylltiedig â datblygiad ochr yn ochr â’r materion cymdeithasol ac economaidd wrth ystyried ceisiadau cynllunio, gan gynnwys y rhai ar gyfer datblygiadau tai ar raddfa fawr.
 
13:33
John GriffithsBywgraffiad
Weinidog, mae gwyrddu ein hamgylchedd trefol yn creu ardaloedd lleol mwy dymunol. Mae hefyd yn gwella ymrwymiad ac ymwybyddiaeth o’r amgylchedd, ac yn wir, yn annog mwy o weithgarwch corfforol, gan arwain at wella iechyd a lles. O ystyried y manteision hynny—ac yn wir, mae manteision pellach hefyd—sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod datblygiadau tai ar raddfa fawr yn creu amgylcheddau o’r ansawdd gorau?
 
13:33
Carl SargeantBywgraffiad
Rydym yn annog hyn mewn nifer o ffyrdd, ac un ohonynt yn unig yw’r broses gynllunio. Ond rwyf hefyd yn croesawu pethau fel Newport City Homes, a gwn eu bod yn gweithredu yn etholaeth yr Aelod. Rwy’n ddiolchgar iddynt am sefydlu cronfa gwella’r amgylchedd, sy’n darparu cyllid sbarduno o hyd at £5,000 i bobl leol allu gwella eu cymdogaethau a’u cymunedau. Credaf fod Llywodraethau’n gallu deddfu ar lawer o bethau, ond mewn gwirionedd, mae cynnwys y gymuned yn y gwaith o newid y ffordd y mae eu cymuned yn gweithredu yn sicr yn ffordd synhwyrol o symud ymlaen.
 
13:34
Mohammad AsgharBywgraffiad
Weinidog, mae Cymru newydd gael un o’r gaeafau cynhesaf a gofnodwyd erioed, gyda llifogydd sylweddol o ganlyniad i hynny. Yn rhy aml, mae awdurdodau lleol yn caniatáu i ddatblygwyr adeiladu mewn ardaloedd y gwyddys eu bod mewn perygl o wynebu llifogydd, mewn ymgais i gyrraedd targedau a osodwyd yng nghynllun gofodol Cymru. Pa ystyriaeth y mae’r Gweinidog wedi’i rhoi i ddynodi ardaloedd sydd mewn perygl o wynebu llifogydd yn dir llain las, a gwahardd datblygu tai mewn ardaloedd o’r fath yng Nghymru?
 
13:34
Carl SargeantBywgraffiad
Wel, unwaith eto, croesawaf y cwestiynau heddiw o feinciau’r gwrthbleidiau; mae’r rhan fwyaf o’r cwestiynau a ddaeth i law heddiw yn eithaf doniol. Dyma’r blaid a bleidleisiodd yn erbyn Bil yr amgylchedd, heb fod mor bell yn ôl â hynny. Dyma’r bobl a oedd yn llawn amheuon ynglŷn â’r materion yn ymwneud â newid yn yr hinsawdd. Dyma’r blaid sydd am wella, cynhyrchu, ffracio ar draws gweddill Cymru—plaid o blaid ffracio gyferbyn, ac rydych yn fy holi ynglŷn â gaeafau cynhesach. Mae’n rhaid i chi ystyried materion eich plaid a beth rydych yn ei feddwl mewn gwirionedd wrth ofyn y cwestiynau hyn o ddifrif.
 
13:35
Eluned ParrottBywgraffiad
Weinidog, yng Nghaerdydd, rydych newydd awdurdodi adeiladu 1,200 o gartrefi newydd yn Llys-faen—datblygiad Churchlands. Rwy’n siŵr fod y Gweinidog wedi’i lethu gan etholwyr yn gwrthwynebu hyn ar sail y diffyg seilwaith trafnidiaeth, fel finnau yn wir. Ond heb unrhyw seilwaith trafnidiaeth, bydd yr effaith ar yr amgylchedd lleol yn hynod o negyddol, os na chynllunnir ar gyfer hyn o’r cychwyn cyntaf. A wnaiff y Gweinidog weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau y caiff effaith seilwaith cynhaliol ar yr amgylchedd lleol ei ystyried yn fwy trylwyr pan fydd safleoedd newydd yn cael eu datblygu?
 
13:35
Carl SargeantBywgraffiad
Unwaith eto, Lywydd, ni allaf roi sylwadau ar y cais, gan ei fod wedi’i benderfynu, ac mae hynny’n un o weithredoedd fy adran. O ran y cwestiwn mwy cyffredinol ynglŷn â seilwaith trafnidiaeth, mae’n amcan polisi pwysig pan fo ceisiadau’n dod drwy unrhyw raglen, ac mae cynlluniau datblygu lleol yn hanfodol i sicrhau bod hynny’n rhan drylwyr o’r broses ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol.
 
13:36
Jeff CuthbertBywgraffiad
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cyhoeddi ei gynllun datblygu lleol drafft yn ddiweddar, ac wrth gwrs, rydym i gyd yn deall bod angen mwy o dai fforddiadwy ledled Cymru. Fodd bynnag, mae nifer o fy etholwyr yn pryderu y gallai mannau gwyrdd deniadol, megis Gwern-y-Domen ger Rhydri, gael eu colli oherwydd bod gormod o adeiladwyr tai yn dymuno codi ystadau preswyl newydd mewn ardaloedd mwy proffidiol yn fy etholaeth, yn agos i Gaerdydd a’r M4. Weinidog, a fyddech yn cytuno bod hyn yn dangos bod angen mabwysiadu ymagwedd fwy cytbwys tuag at ddatblygiadau preswyl ar draws awdurdodau lleol, gan sicrhau cysylltiadau trafnidiaeth da er mwyn ei gwneud yn fwy deniadol i ddatblygwyr adeiladu mewn ardaloedd eraill, megis ymhellach i’r gogledd yng nghwm Rhymni?
 
13:37
Carl SargeantBywgraffiad
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Mae mabwysiadu cynllun datblygu lleol cyfredol yn hanfodol er mwyn sicrhau’r swyddi, y cartrefi a’r seilwaith sydd eu hangen ar gymunedau. Mater i’r awdurdod lleol ei benderfynu yw lleoliad a graddfa twf mewn cynllun datblygu lleol. Fodd bynnag, pan fydd cwestiynau’n codi rhwng awdurdodau lleol cyfagos, dylid eu hystyried wrth ddatblygu’r cynllun datblygu lleol hefyd.
 
Pobl sy’n Dlawd o ran Tanwydd
 
13:37
Mark IsherwoodBywgraffiad
6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu pobl sy’n dlawd o ran tanwydd? OAQ(4)0415(NR)
 
13:37
Carl SargeantBywgraffiad
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Mae Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yn ariannu’r broses o osod mesuryddion arbed ynni mewn eiddo domestig a feddiannir gan aelwydydd incwm isel a’r rhai sy’n byw mewn cymunedau difreintiedig. Mae cynllun Nyth hefyd yn darparu mynediad at gyngor a chymorth am ddim i ddeiliaid tai sy’n byw yng Nghymru i’w helpu i leihau eu biliau ynni.
 
13:37
Mark IsherwoodBywgraffiad
Wrth gwrs, mae angen ymagwedd arnom sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn cyfan yn ogystal ag ar y tŷ cyfan, a dyna pam mai mater o gyfiawnder cymdeithasol yw hwn. Fodd bynnag, nododd ymchwiliad yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd i’r farchnad ynni fod cartrefi yng Nghymru yn arbennig o annhebygol o siopa o gwmpas. Sut, felly, rydych yn ymateb i’r alwad ym maniffesto Cynghrair Tlodi Tanwydd Cymru ar Lywodraeth nesaf Cymru i gefnogi gwasanaethau cynghori annibynnol i helpu a chynorthwyo pobl mewn tlodi tanwydd—gyda’r pwyslais ar ‘annibynnol’?
 
13:38
Carl SargeantBywgraffiad
Rwy’n falch iawn o’r cynllun effeithlonrwydd ynni sydd gennym yma yng Nghymru. Mae’n cael effaith aruthrol ar gymunedau ledled Cymru. Gadewch i ni ystyried, er enghraifft, yr hyn sy’n digwydd gyda’i blaid ef dros y ffin. Nid oes rhaglen effeithlonrwydd ynni genedlaethol yn Lloegr. Cynllun gan Lywodraeth y DU yw rhwymedigaeth cwmni ynni i’w gwneud yn ofynnol i gyflenwyr mawr gyflwyno mesurau effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau domestig ym Mhrydain. Bydd y gyllideb ar gyfer y rhwymedigaeth cwmni ynni yn £640 miliwn y flwyddyn o 2017, ac rwy’n cyfarfod yn rheolaidd â’r chwe chwmni ynni mawr i wneud yn siŵr ein bod yn gallu datblygu a gwella ein rhaglenni ochr yn ochr â’u rhaglenni hwy er mwyn sicrhau ein bod yn cael mwy na’n cyfran deg yma yng Nghymru ar gyfer datblygu effeithlonrwydd ynni.
 
13:39
Lindsay WhittleBywgraffiad
Weinidog, diben y cynlluniau effeithlonrwydd ynni Arbed a Nyth oedd lleihau tlodi tanwydd yng Nghymru yn sylweddol. Mae’n debyg eich bod yn gywir yn awgrymu ei fod yn llwyddiannus yn y cartrefi hynny sydd wedi elwa. Ond gan fod y ffigurau diweddaraf yn awgrymu bod 330,000 o aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd, a ydych yn credu bod y cynlluniau hyn wedi bod yn ddigonol?
 
13:39
Carl SargeantBywgraffiad
Gallwn bob amser wneud mwy. Credaf y gall pob Llywodraeth wneud mwy, ond yr hyn na ddylem ei wneud yw peidio â chydnabod y gwaith aruthrol a wnaed gan y ddau gynllun. Y rhaglen Nyth: o fis Ebrill 2011 i fis Mawrth 2015, cafodd dros 68,000 o ddeiliaid tai gyngor a chymorth i’w helpu i wresogi eu cartrefi yn fwy effeithiol, gyda thros 70,000 a fodlonai’r meini prawf cymhwysedd yn cael gwelliannau ynni yn y cartref am ddim.
 
Mae’r cynlluniau’n effeithiol iawn yn sicrhau bod cartrefi ledled Cymru yn llawer mwy cydnerth ar gyfer y dyfodol.
 
Ond wrth gwrs, gallai’r Llywodraeth hon ac unrhyw Lywodraeth arall yn y dyfodol wneud mwy, a byddwn yn annog y Llywodraeth nesaf i fuddsoddi’n sylweddol, fel rydym yn ei wneud ar hyn o bryd yn y rhaglenni effeithlonrwydd ynni hyn.
 
Llifogydd yng Ngogledd Cymru
 
13:40
Janet Finch-SaundersBywgraffiad
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am faterion sy’n gysylltiedig â llifogydd yng ngogledd Cymru? OAQ(4)0428(NR)
 
13:40
Carl SargeantBywgraffiad
Mae perygl llifogydd a chynlluniau posibl ledled Cymru yn cael eu dwyn i sylw Llywodraeth Cymru drwy’r awdurdodau rheoli risg. Dros dymor y Llywodraeth hon, byddwn yn buddsoddi dros £285 miliwn mewn rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd, gan gynnwys dros £77 miliwn yng ngogledd Cymru.
 
13:40
Janet Finch-SaundersBywgraffiad
Diolch yn fawr, Weinidog. Rwy’n amlwg yn croesawu’r £5 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd gennych ddoe. Ond yn Aberconwy, mae angen gwneud llawer o waith atgyweirio o hyd, ac wrth gwrs, rwy’n cynnwys castell Gwydir, sy’n adeilad rhestredig gradd I, gan gynnwys ei erddi graddedig prin a godidog, a’r llifogydd difrifol yno ar 12 achlysur gwahanol dros y gaeaf hwn.
 
Nawr, Weinidog, mae hwn yn rhan annatod o’n treftadaeth hanesyddol yng ngogledd Cymru, ac mewn gwirionedd mae’r perchnogion wedi adfer y castell hwn yn ofalus iawn gan gadw pob un o’i nodweddion gwreiddiol. Weinidog, gwyddoch fy mod wedi crybwyll hyn wrthych y tu allan i’r Siambr hon, ac nid wyf yn rhy hapus ynglŷn â’ch diffyg diddordeb, gawn ni ddweud, yn yr adeilad hwn. Weinidog, a wnewch chi weithio gyda’r perchnogion, a wnewch chi weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, ac a wnewch chi weithio i sicrhau ein bod yn osgoi problemau llifogydd a phroblem yr adeilad hwn yn benodol, ond yn bwysicach, a wnewch chi eu helpu i wneud yr atgyweiriadau hanfodol sydd eu hangen yn awr?
 
13:41
Carl SargeantBywgraffiad
Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Unwaith eto, anrheg arall gan y gwrthbleidiau. Fy mlaenoriaeth yn hyn o beth yw diogelu pobl, nid cestyll. Y ffaith amdani yw bod 300 o bobl—300 eiddo—yn etholaeth Dafydd Elis-Thomas wedi cael eu diogelu dros gyfnod y Nadolig, ac mae’r Aelod gyferbyn â mi yn awyddus i warchod gerddi mewn castell. Gadewch i ni gael ein blaenoriaethau’n gywir. Mae hyn yn ymwneud â sicrhau ein bod yn gofalu am bobl ledled Cymru, nid cestyll, fel y mae’r Aelod yn dymuno ei wneud.
 
13:42
Ann JonesBywgraffiad
Weinidog, gan barhau â thema diogelu pobl, a gaf fi ofyn i chi gofnodi faint y mae Llywodraeth Cymru wedi’i fuddsoddi yn diogelu fy etholwyr yn Nyffryn Clwyd rhag peryglon llifogydd posibl, ar yr arfordir ac o afonydd?
 
13:42
Carl SargeantBywgraffiad
Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn, ac rwy’n siŵr y dylem ddiolch i’r Aelod am fy ngwahodd i Lanelwy dros gyfnod y Nadolig. Roedd dathlu’r Nadolig gydag Ann Jones ar y glannau yn Llanelwy yn rhywbeth nad oeddwn wedi meddwl amdano eleni, ond roedd yn sicr yn bleserus iawn.
 
Ers i’r Llywodraeth hon ddod i rym, rydym wedi buddsoddi dros £19 miliwn mewn rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn ardal Cyngor Sir Ddinbych. Mae hyn yn cynnwys £6.6 miliwn o gyllid Ewropeaidd. Mae’r Aelod yn parhau i ysgrifennu ataf i sicrhau bod y cynllun yn cael ei gyflawni’n effeithiol ac yn effeithlon gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ac rwy’n hyderus y gallant wneud hynny. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dyrannu £3 miliwn, drwy’r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, i ddatblygu gwaith yn Llanelwy yn y flwyddyn ariannol nesaf.
 
13:43
Alun Ffred JonesBywgraffiad
Weinidog, rwyf i wedi tynnu sylw, lawer gwaith, at ddifrod llifogydd pentref Tal-y-bont, pentref nad ydych chi wedi ymweld â fo eto, rwy’n gwybod. Ond, gan fod cynllun gwarchod Tal-y-bont a’r A55 wedi’i gytuno bellach gyda Chyngor Gwynedd, a allech chi gadarnhau y bydd y Llywodraeth yn cyllido cost y cynllun hwnnw yn llawn? Diolch.
 
13:43
Carl SargeantBywgraffiad
Mae’n rhaid i mi gywiro’r Aelod: rwyf wedi ymweld â Thal-y-bont. Roeddwn yno y diwrnod o’r blaen gyda’r ymgeisydd gwych, Sion Jones, dros yr ardal benodol honno. A gaf fi ddweud hefyd fod yr Aelod wedi derbyn cyllid ychwanegol i Wynedd o £0.5 miliwn—£551,100 i awdurdod Gwynedd? [Torri ar draws.] Nid yw’r Aelod yn hoffi fy ymateb, Lywydd. Nid wyf yn hollol siŵr beth rwyf wedi’i ddweud.
 
13:44
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Wel, rydym yn gwrando arnoch. Parhewch.
 
13:44
Carl SargeantBywgraffiad
O, diolch. Nid wyf yn siŵr os yw’r Aelod yn dymuno i mi ailadrodd y ffaith fy mod yn Nhal-y-bont yr wythnos diwethaf—
 
13:44
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Na, nid wyf yn credu ein bod angen i chi ailadrodd unrhyw beth.
 
13:44
Carl SargeantBywgraffiad
[Yn parhau.]—gyda’r aelod, Sion Jones, ymgeisydd Llafur dros yr ardal.
 
Y cwestiwn ynglŷn â Gwynedd: cawsant gyllid ychwanegol fis diwethaf o £551,100 ar gyfer y datblygiad ac i ailasesu’r problemau a oedd yn peri pryder i’r Aelod, problemau a ddigwyddodd gyda’r llifogydd ar Ddydd San Steffan a’r diwrnodau ar ôl y cyfnod hwnnw.
 
13:44
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Wel, mae’n ddiddorol iawn, ond roedd yna ychydig gormod o wybodaeth ynglŷn â phwy oedd gyda chi ar y pryd. Cwestiwn 8, Alun Ffred Jones. [Torri ar draws.] Trefn. Cwestiwn 8, Alun Ffred Jones. A ydych am ei ofyn?
 
13:44
Alun Ffred JonesBywgraffiad
Ie. Cwestiwn 8, ie?
 
Prosiectau Ynni Cymunedol
 
13:44
Alun Ffred JonesBywgraffiad
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl prosiectau ynni cymunedol fel rhan o strategaeth newid hinsawdd Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0419(NR)[W]
 
13:45
Carl SargeantBywgraffiad
Diolch i’r Aelod dros Arfon am ei gwestiwn. Rwy’n cydnabod bod gan ynni cymunedol rôl allweddol yn y broses o fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd drwy leihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil, yn ogystal â darparu cyfle i gymunedau leihau eu hôl troed carbon. Dyna pam y lansiais wasanaeth ynni lleol Llywodraeth Cymru, sy’n rhoi cymorth i’n cymunedau a’n busnesau bach a chanolig ddatblygu eu prosiectau ynni adnewyddadwy eu hunain.
 
13:45
Alun Ffred JonesBywgraffiad
Wythnos yn ôl, roeddwn i’n dathlu dechrau dau gynllun hydro cymunedol yn Arfon, Ynni Padarn Peris ac Ynni Ogwen, wrth iddyn nhw gynnig cyfle i’r cyhoedd brynu cyfranddaliadau yn y projectau yna. A wnewch chi ymuno â mi yn llongyfarch y ddau grŵp yma, ynghyd ag Ynni Anafon, wrth gwrs, yn Aber, ar eu blaengaredd yn dechrau cynlluniau ddaw a manteision mawr i’r ardaloedd hynny yn y blynyddoedd sydd i ddod?
 
13:45
Carl SargeantBywgraffiad
Yn wir, mae’r Aelod yn iawn i grybwyll y mater pwysig iawn hwn ynghylch ynni adnewyddadwy yn y Siambr heddiw. Rwy’n croesawu ac yn cefnogi nifer o grwpiau ledled Cymru ac mae’n rhywbeth y byddwn, unwaith eto, yn annog y Llywodraeth yn y dyfodol i fuddsoddi ynddo i gefnogi cymunedau cydnerth ar gyfer y dyfodol.
 
13:46
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Diolch, Weinidog.
 
2. Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
 
13:46
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at eitem 2, sef cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi. Daw cwestiwn 1 gan William Graham.
 
Gwasanaethau Chwarae o dan Oruchwyliaeth
 
13:46
William GrahamBywgraffiad
1. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau na fydd rheoliadau gofal plant yn cael effaith andwyol ar wasanaethau chwarae o dan oruchwyliaeth a ddarperir gan awdurdodau lleol? OAQ(4)0433(CTP)
 
13:46
Lesley GriffithsBywgraffiadY Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Diolch. Mae gwasanaethau chwarae awdurdodau lleol yn ddarostyngedig i drefniadau cofrestru gofal plant o dan Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010. Mae’r safonau gofynnol cenedlaethol diwygiedig ar gyfer gofal plant a reoleiddir yn nodi sut y mae’n rhaid i’r rheoliadau gael eu bodloni ac yn ystyried y gwahanol fathau o leoliadau, gan gynnwys darpariaeth gwasanaethau chwarae.
 
13:46
William GrahamBywgraffiad
Rwy’n ddiolchgar i’r Gweinidog am ei hateb, ond yn amlwg yn siomedig ei bod wedi cadarnhau hynny. Onid yw’n bosibl dadreoleiddio rhannau o hynny? Oherwydd caiff cynlluniau chwarae haf a drefnir gan gynghorau, a chan Gyngor Cymuned Cwmbrân yn benodol a chynghorau eraill ledled Cymru, eu darparu er mwyn caniatáu i blant integreiddio a datblygu drwy weithgareddau chwarae dan oruchwyliaeth. Er ei bod yn ymddangos eu bod yn cael eu dal gan y rheoliad hwn, a allech gysylltu â chydweithwyr i wahanu gweithgareddau chwarae dan oruchwyliaeth oddi wrth y rheoliadau sy’n diogelu ein plant mewn gwasanaethau gofal?
 
13:47
Lesley GriffithsBywgraffiad
Yr ateb syml yw ‘na’—na fyddwn yn edrych ar unrhyw ddadreoleiddio. Rwy’n ymwybodol o’r mater rydych newydd ei grybwyll. Yn amlwg, penderfyniad yr awdurdodau lleol a’r cynghorau cymuned yw sut y maent yn darparu’r cynlluniau hyn. Er enghraifft, mewn perthynas â Thorfaen, cefais wybod am y newidiadau arfaethedig y maent yn eu cyflwyno i’w darpariaeth cyn yr haf y llynedd, ac felly cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud i ymestyn trefniadau cofrestru gofal plant.
 
Dechrau’n Deg
 
13:47
Jenny RathboneBywgraffiad
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y gellir prif-ffrydio yr hyn a gyflawnir gan Dechrau’n Deg? OAQ(4)0437(CTP)
 
13:47
Lesley GriffithsBywgraffiad
Diolch. Un o ymrwymiadau’r rhaglen lywodraethu oedd dyblu nifer y plant sy’n elwa o Dechrau’n Deg. Rydym wedi rhagori ar y targed o 36,000 flwyddyn yn gynnar, ac mae ystadegau diweddar yn dangos ein bod yn bendant ar y trywydd iawn i gyrraedd mwy o blant unwaith eto eleni. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i wella canlyniadau i blant a’u teuluoedd.
 
13:48
Jenny RathboneBywgraffiad
Weinidog, yn ystod eich ymweliad â Dechrau’n Deg Pentwyn gyda mi yn ddiweddar, gwelsom pa mor dda y gweithiai ymwelwyr iechyd gyda gweithwyr cymorth i deuluoedd a bod hyn yn sicr yn cydgysylltu’r cymorth roedd teuluoedd yn ei gael. Nid oes cyfarwyddiadau’n dod gyda rhianta, ac felly gall fod yn anodd iawn. Roeddwn yn meddwl tybed faint rydym yn ei ddysgu o lwyddiannau Dechrau’n Deg o ran galluogi hynny i fod yn ffordd o weithio i’r holl wasanaethau blynyddoedd cynnar yn gyffredinol.
 
13:48
Lesley GriffithsBywgraffiad
Do, cawsom ymweliad da iawn, a chefais gryn fudd, wyddoch chi, o siarad â’r ymwelwyr iechyd. Credaf fod rhaglen Dechrau’n Deg a gwasanaethau ymwelwyr iechyd generig yn gweithio’n dda iawn gyda’i gilydd. Rwyf hefyd wedi bod yn falch iawn o weld nifer y bydwragedd—mae’r nifer wedi cynyddu mewn lleoliadau Dechrau’n Deg ledled Cymru. Mae Plentyn Iach Cymru bellach ym mhortffolio fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a chredaf y bydd Dechrau’n Deg a Plentyn Iach Cymru gyda’i gilydd yn cynnig dull llawer mwy cyson a darbodus o weithredu ar sail tystiolaeth. Credaf y bydd hynny’n nodi ac yn ymateb i gryfderau ac anghenion teuluoedd. Rydych yn hollol iawn, mae’n debyg mai rhianta yw un o’r gorchwylion mwyaf anodd y byddwn yn eu gwneud ac nid oes gwerslyfr ar ei gyfer, felly credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cefnogi teuluoedd yn y dyfodol.
 
13:49
Angela BurnsBywgraffiad
Weinidog, mae dadansoddiadau blaenorol o berfformiad Dechrau’n Deg wedi dynodi neu wedi cyfeirio at ddiffyg ymwybyddiaeth ymhlith rhieni o’r cynlluniau yn ogystal â’r anhawster o gadw a hyfforddi gweithwyr iechyd o fewn y cynlluniau—ffaith y gwn eich bod wedi’i chydnabod eich hun. Tybed a allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â sut y mae hynny’n mynd rhagddo. A ydym yn gallu ymgysylltu â mwy o rieni? A ydym yn gallu cadw mwy o’r gweithwyr meddygol proffesiynol sydd eu hangen arnom yn y cynllun hwnnw i helpu i’w hyrwyddo?
 
13:50
Lesley GriffithsBywgraffiad
Yn ystod yr ymweliad y cyfeiriodd Jenny Rathbone ato, roedd yn ddiddorol iawn siarad â’r ymwelwyr iechyd yno ynglŷn â’r hyn y gallem ei wneud i’w wneud yn ddeniadol. A dweud y gwir, credaf fod pob ymwelydd iechyd—a chyfarfuom â thua chwech yn ystod yr ymweliad—yn dymuno aros yn y lleoliad Dechrau’n Deg. Roeddent yn teimlo efallai fod mwy o fewnbwn ganddynt gyda theuluoedd na rhai o’r ymwelwyr iechyd generig yn y tymor hwy, yn amlwg. Mae’n broblem. Rwy’n cael trafodaethau gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae’n bwysig iawn fod y nifer cywir o ymwelwyr iechyd gennym. Crybwyllais fydwragedd hefyd am fod hwnnw’n fater tebyg. Mae rhai’n cael eu secondio o fyrddau iechyd, ond rydym yn awyddus i gadw’r math hwnnw o brofiad yn y lleoliadau Dechrau’n Deg.
 
13:50
Aled RobertsBywgraffiad
Weinidog, rwy’n siŵr y byddwch wedi darllen adroddiad a gyhoeddwyd fis diwethaf, a oedd yn cydnabod bod yna nifer fach o rieni nad oedden nhw’n gallu cael gwasanaethau Cymraeg o fewn Dechrau’n Deg achos nad oedd digon o staff sy’n siarad Cymraeg ar gael. Beth yw eich ymateb i’r sefyllfa yna, wrth gofio’r holl ddadleuon yr ydym wedi’u cael yma, a pha gamau ydych chi’n galw ar gynghorau lleol i’w cymryd i wella’r sefyllfa?
 
13:51
Lesley GriffithsBywgraffiad
Wel, mae’n bwysig iawn, os yw teulu’n dymuno i’w gwasanaeth gael ei ddarparu drwy gyfrwng y Gymraeg, eu bod yn gallu cael hynny. Nid wyf wedi cael unrhyw broblemau gyda phobl yn cwyno nad ydynt wedi gallu gwneud hynny. Mae’n fater y byddaf yn ei drafod gydag awdurdodau lleol, os caiff ei ddwyn i’w sylw, ond nid wyf wedi cael unrhyw ymholiadau penodol ynglŷn â hynny o gwbl.
 
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
 
13:51
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at gwestiynau gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Rhodri Glyn Thomas, sy’n gyntaf y prynhawn yma.
 
13:51
Rhodri Glyn ThomasBywgraffiad
Weinidog, rydych wedi gwneud ymrwymiad i ddileu tlodi ymysg plant erbyn 2020—yr un ymrwymiad ag y mae pob un o’ch rhagflaenwyr wedi’i wneud ers 1999. Beth sy’n eich gwneud chi’n hyderus bod modd ichi gyflawni’r ymrwymiad hwnnw?
 
13:52
Lesley GriffithsBywgraffiad
Wel, rydym yn sicr wedi cadarnhau ein huchelgais i ddileu tlodi plant erbyn 2020, yn wahanol i Lywodraeth y DU, sydd wedi troi cefn ar y targed hwnnw, fel y gwyddoch. Adolygasom ein strategaeth tlodi plant y llynedd, ac yn ein hymgynghoriad, roedd yn amlwg iawn i mi fod y rhanddeiliaid yn awyddus i gadw’r targed hwnnw yn ei le. Mae newidiadau diwygio lles a welwn gan Lywodraeth y DU yn gwneud hyn hyd yn oed yn anoddach, ond rydym yn dal wedi ymrwymo i’r uchelgais hwnnw.
 
13:52
Rhodri Glyn ThomasBywgraffiad
Rwy’n deall bod gennych chi uchelgais i wneud hynny, Weinidog, ac eich bod chi wedi’i osod fel targed. Yr hyn nad wyf yn gallu ei ddeall o’ch ateb chi ydy sut yn union rŷch chi’n mynd i weithredu’r ymrwymiad hwnnw. Fe gyhoeddodd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol adroddiad beirniadol iawn o ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â thlodi ymysg plant yr haf diwethaf. Pa newidiadau ŷch chi wedi’u cyflwyno yn sgil argymhellion yr adroddiad hwnnw?
 
13:53
Lesley GriffithsBywgraffiad
Fe wyddoch—oherwydd, yn amlwg, rydych yn aelod o’r pwyllgor hwnnw, ac rwyf wedi rhoi tystiolaeth i’r pwyllgor hwnnw—ein bod wedi mabwysiadu ymagwedd newydd o ran y ffordd rydym yn mynd i’r afael â thlodi, nid tlodi plant yn unig ond y ffordd rydym yn mynd i’r afael â thlodi. Oherwydd, yn amlwg, os yw plentyn yn byw mewn tlodi, mae hynny oherwydd bod eu rhieni yn byw mewn tlodi. Felly, rydym wedi adnewyddu ein hymagwedd ar draws y Llywodraeth. Mae gennym lawer mwy o ffocws ar gyflogadwyedd, ar uwchsgilio a’r blynyddoedd cynnar i geisio sicrhau ein bod yn cyrraedd y targed hwnnw yn ein huchelgais i ddileu tlodi plant erbyn 2020.
 
13:53
Rhodri Glyn ThomasBywgraffiad
Wel, y cwestiwn a ofynnais i, Weinidog, oedd: pa newidiadau ŷch chi wedi’u cyflwyno yn y ffordd y mae eich adran chi yn mynd i’r afael â’r broblem yma? Un peth yw dweud eich bod chi wedi cymryd agwedd newydd—’refreshed’ yn eich geiriau chi—ato fe, ond beth yn union ydych chi wedi’i wneud i newid sefyllfa sydd wedi bod yn fethiant i Lywodraeth Cymru ers 1999? Ac os nad ydych wedi cyflwyno newidiadau, sut ŷch chi’n gallu dweud wrthym ni fod gennych chi ymrwymiad i ddileu tlodi ymhlith plant erbyn 2020?
 
13:54
Lesley GriffithsBywgraffiad
Wel, mae’r newidiadau yn rhan o’r ymagwedd newydd sydd gennym tuag at drechu tlodi. Felly, er enghraifft, gyda Cymunedau yn Gyntaf mae gennym lawer mwy o ffocws ar gyflogadwyedd, ac fe fyddwch yn ymwybodol o gynlluniau fel Esgyn a Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth, sy’n gweithio ochr yn ochr â seilwaith Cymunedau yn Gyntaf i sicrhau bod rhieni yn cael y cyfleoedd i gael gwaith a meithrin sgiliau.
 
13:54
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at lefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Mark Isherwood.
 
13:54
Mark IsherwoodBywgraffiad
Diolch. O dan eich mesurau, mae gennym baradocs lle y gall ymddangos bod tlodi plant yn lleihau pan fo economi yn mynd yn dlotach. Wrth gwrs, un o’r ffactorau sy’n cyfrannu yw teuluoedd yn chwalu. Yn yr Alban, mae’n Flwyddyn y Tad, a drefnwyd gan Lywodraeth yr Alban mewn partneriaeth â Fathers Network Scotland i dynnu sylw at y cyfraniad cadarnhaol y mae tadau yn ei wneud i blant, teuluoedd a chymdeithas. Sut y byddech yn gweithio, fel Llywodraeth Cymru neu fel gwrthblaid ar ôl yr etholiad nesaf, os byddwch yma, i gefnogi cynnwys mwy ar dadau mewn rôl gadarnhaol ym mywydau eu plant, gan efelychu a dysgu o brofiad yr Alban drwy gael blwyddyn y tad yng Nghymru?
 
13:55
Lesley GriffithsBywgraffiad
Un o’n prif anawsterau yw’r hyn a ddywedais o’r blaen, ac mae’n ymwneud â newidiadau diwygio lles Llywodraeth y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo ymgysylltiad gyda thadau. Disgwylir i awdurdodau lleol fynd ati i hyrwyddo gwasanaethau i dadau a chefnogi eu hymgysylltiad. Ac unwaith eto, gyda Dechrau’n Deg, dyna faes arall lle rydym yn gweithio’n agos iawn er mwyn sicrhau bod tadau yn cael eu cynnwys.
 
13:55
Mark IsherwoodBywgraffiad
Wel, gobeithiaf fod hynny’n golygu y byddech yn pwyso ar brofiad yr Alban, ond efallai y byddwch yn egluro hynny yn eich ymateb nesaf. Mae elusennau yng Nghymru, megis FNF Both Parents Matter, wedi gweithio gyda 4Children, elusen y DU sy’n ymwneud â phlant a theuluoedd, er mwyn hwyluso grwpiau ffocws i dadau i lywio eu hymchwiliad i deuluoedd, ac mae eu hadroddiad 4Children sy’n deillio o hynny, ‘Britain’s Families: Thriving or Surviving?’, yn dweud y gall tadau ei chael hi’n anodd rhianta mewn modd mor ymarferol â mamau. Sut, felly, rydych yn ymateb i’w hargymhellion y dylai pob gwasanaeth i deuluoedd fod yn groesawgar i dadau, pan oedd y dystiolaeth o Gymru’n awgrymu fel arall, a’n bod angen ymgyrch gyhoeddus ehangach i bwysleisio rôl bwysig tadau yn y bywyd teuluol modern?
 
13:56
Lesley GriffithsBywgraffiad
Wel, credaf ein bod ni, fel Llywodraeth, yn cydnabod ei bod yn hanfodol fod tadau’n rhan o’r rhianta ymarferol y cyfeirioch ato. Soniais am Dechrau’n Deg, ac enillodd gweithiwr o Dechrau’n Deg Abertawe a elwir yn ‘weithiwr tadau’ ​​wobr yn ddiweddar, ac mae hynny oherwydd bod ein gweithwyr tadau yn mynd allan ac yn ymgysylltu â thadau, gan sicrhau eu bod yn meithrin perthynas â’r tadau, fel eu bod hwythau, yn eu tro, yn gallu meithrin perthynas gyda’u plant.
 
13:57
Mark IsherwoodBywgraffiad
Wel, fel y dywedodd un rhiant o Gymru yn yr adroddiad:
 
Mae popeth yn canolbwyntio ar y mamau, mae tadau’n cael eu gadael yn y cefndir. O’r bydwragedd, ymwelwyr iechyd, mae tadau’n cael eu gadael yn y tywyllwch. Mae popeth yn canolbwyntio ar y fam.
 
Mae mam, wrth gwrs, yn hanfodol, ond mae dad yn hanfodol hefyd. O ystyried bod cyfran y plant sy’n cael eu rhoi mewn gofal yng Nghymru wedi bod yn codi ac yn sylweddol uwch na’r niferoedd sy’n cael eu rhoi mewn gofal yn Lloegr, sut rydych yn ymateb i’r datganiad gan Gomisiynydd Plant Cymru y gallai ffactorau perthnasol gynnwys gwasanaethau cymorth llai effeithiol i deuluoedd, mwy o weithwyr proffesiynol a thimau cyfreithiol sy’n wrth-risg, a lefelau tlodi plant uwch, ac i gyd-fynd â phwyslais Llywodraeth Cymru ar leihau niferoedd y plant sy’n derbyn gofal, rhaid cael cymorth effeithiol i blant a’u teuluoedd, sydd, wrth gwrs, yn golygu’r ddau riant?
 
13:57
Lesley GriffithsBywgraffiad
Mae gennym ystod eang o gynlluniau sy’n cefnogi teuluoedd, ac maent yn cefnogi’r ddau riant. Fe sonioch fod un person wedi dweud bod popeth yn ymwneud â’r fam. Wel, nid wyf am wneud sylwadau ar un person, ond cytunaf yn llwyr fod ein holl gynlluniau yno i gefnogi’r ddau riant, y mamau a’r tadau.
 
13:58
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Ac yn olaf, llefarydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Peter Black.
 
13:58
Peter BlackBywgraffiad
Diolch, Lywydd. Weinidog, diolch am eich llythyr, a dderbyniais heddiw, ynghylch y gwasanaeth datgelu a gwahardd sy’n cael ei redeg gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Rydych yn dweud yn eich llythyr eich bod wedi bod yn trafod y newidiadau i’r gwasanaeth hwn ers 2013, ac eto, pan wyf yn cyfarfod â chyngor chwaraeon Cymru a chyrff chwaraeon eraill, dywedant wrthyf nad ydynt wedi bod yn rhan o’r broses hon, er gwaethaf y ffaith fod 50 y cant o wiriadau’r gwasanaeth datgelu a gwahardd yn ymwneud â gweithgareddau chwaraeon. A allwch egluro pam nad yw eich proses ymgynghori wedi ymwneud â chyngor chwaraeon Cymru, Undeb Rygbi Cymru a chyrff chwaraeon eraill sydd â buddiant ym mharhad y gwasanaeth hwn?
 
13:59
Lesley GriffithsBywgraffiad
Wel, fel y dywedais yn fy llythyr atoch, mae fy swyddogion wedi bod yn gwneud y gwaith hwn gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ers 2013, a’r Cyngor hwnnw sydd wedi bod yn rhedeg y cynllun. Yn ôl yr hyn rwy’n ei ddeall, roeddent wedi ymgysylltu â Chwaraeon Cymru. Rydych yn hollol iawn; rydych yn nodi bod oddeutu 50 y cant o’r gwiriadau a wneir ar gyfer yr amryw o gyrff chwaraeon ledled Cymru. Credaf fod amgylchiadau wedi newid yn sylweddol ers i’r cynllun gael ei gyflwyno 12 mlynedd yn ôl, a dyna pam y dechreuodd y gwaith hwnnw yn ôl yn 2013, cyn i mi gael y portffolio hwn.
 
13:59
Peter BlackBywgraffiad
Weinidog, deallaf eich bod wedi bod yn ymgysylltu â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, ac nid oes amheuaeth am hynny, ac rwy’n derbyn eich bod hefyd yn deall bod 50 y cant o’r gwiriadau hyn ar gyfer cyrff chwaraeon. Felly, mae pam eich bod wedi cymryd yn ganiataol y byddid yn ymgysylltu â chyrff chwaraeon pan nad oeddech wedi mynd ati’n weithredol i ymgysylltu â hwy mewn gwirionedd yn peri penbleth. Ymddengys i mi fod y rhagdybiaeth honno wedi rhoi llawer o gyrff mewn sefyllfa wirioneddol anodd, ac mae perygl y bydd rhai gweithgareddau’n dod i ben yn gyfan gwbl gan nad oedd modd bwrw ymlaen â’r gwiriadau hyn. Weinidog, pan wnaethoch y penderfyniad hwn, bu’n rhaid i chi gwblhau asesiad o’r effaith ar hawl plant i herio, wrth gwrs, yn ogystal ag asesiad risg. A allech roi syniad pa bryd y caiff y rhain eu cyhoeddi, os gwelwch yn dda?
 
14:00
Lesley GriffithsBywgraffiad
Byddant yn cael eu cyhoeddi cyn diwedd y tymor.
 
14:00
Peter BlackBywgraffiad
Diolch eto am hynny, Weinidog. Credaf fod hynny’n ddefnyddiol iawn. Yn eich llythyr, dywedwch eich bod yn gobeithio rhoi trefniant arall ar waith yn sydyn, lle y byddwch yn ôl pob tebyg yn ystyried sefydliadau ambarél eraill sy’n gallu cyflawni’r gwiriadau hyn. A ydych yn ymwybodol nad yw’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd bellach yn derbyn unrhyw gyrff ambarél newydd i ymdrin â’r gwiriadau hyn ar-lein, a’u bod ar hyn o bryd ond yn gallu derbyn cyrff ambarél newydd sy’n ymdrin â gwiriadau papur, sy’n gallu cymryd hyd at 18 wythnos yn hytrach na’r ychydig ddyddiau y mae gwiriadau ar-lein yn eu cymryd? Os ydych yn ymwybodol o hynny, a allech egluro pa drefniadau sy’n cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod corff ambarél yn gallu cyflawni’r rôl hon yn y dyfodol, ac y gellir cadw at y dyddiad cau a osodwyd gennych drwy ymestyn y cyllid, sef mis Medi, ac y bydd trefniadau eraill ar waith?
 
14:01
Lesley GriffithsBywgraffiad
Mae swyddogion yn bwrw ymlaen â hyn yn awr gyda’r Cyngor Gweithredu Gwirfoddol. Fe sonioch fod rhywfaint o gyllid gennyf sy’n cael ei danddefnyddio, ac rwyf bellach wedi darparu’r cyllid hwnnw iddynt er mwyn ymestyn y cynllun tan ddiwedd mis Medi, felly bydd swyddogion yn cael y trafodaethau hynny ynghylch peidio â defnyddio cyrff ambarél cofrestredig. Fe sonioch am yr anawsterau y mae sefydliadau yn eu hwynebu. Cymru yw’r unig wlad yn y DU sydd â’r cynllun hwn, felly, er enghraifft bûm yn siarad â rhywun o Hoci Cymru—roedd gan England Hockey eu cynllun eu hunain; nid ydynt yn edrych ar unrhyw gynllun arall. Felly, credaf fod yn rhaid i ni gydnabod mai ni yw’r unig wlad a oedd yn darparu’r cynllun hwn yn y DU. Ni yw’r unig wlad yn y DU a ddarparodd yr help hwnnw i’r trydydd sector. Ni allwn barhau i wneud yr un pethau, yn enwedig pan fo tystiolaeth yn dangos bod yna ffyrdd llawer mwy costeffeithiol o sicrhau’r un canlyniad.
 
14:02
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn ôl at y cwestiynau ar y papur yn awr, a daw cwestiwn 3 gan Mark Isherwood.
 
Tai mewn Ardaloedd Gwledig
 
14:02
Mark IsherwoodBywgraffiad
3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cwrdd â’r galw am dai mewn ardaloedd gwledig? OAQ(4)0428(CTP)
 
14:02
Lesley GriffithsBywgraffiad
Diolch. Mae cynyddu’r cyflenwad tai mewn cymunedau ledled Cymru yn rhan o fy mlaenoriaethau ehangach ar gyfer y cyflenwad tai. Rwy’n cydnabod bod heriau penodol i gefn gwlad Cymru ym maes tai ac rwyf wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer prosiectau swyddogion galluogi tai gwledig i gefnogi’r gwaith o barhau i gyflwyno cartrefi fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig.
 
14:02
Mark IsherwoodBywgraffiad
Diolch. Wrth gwrs, bu cryn bryder o ganlyniad i hepgor y llinell wariant ar gyfer swyddogion galluogi tai, a chafodd eich cyhoeddiad tro pedol ar hyn groeso mawr yng nghynhadledd adfywio gwledig Cartrefi Cymunedol Cymru yr wythnos diwethaf. Wrth fwrw ymlaen â hyn, fodd bynnag, pa gamau a roddwyd ar waith gennych mewn gwirionedd—? Dyna a ddigwyddodd. Cawsoch eich holi gennym ynglŷn â hyn yn y pwyllgor, ac ni lwyddoch i ateb y cwestiwn y pryd hwnnw. Fodd bynnag, pa gamau a roesoch ar waith ers gwerthusiad Llywodraeth Cymru yn 2014 o swyddogion galluogi tai gwledig yng Nghymru i fynd i’r afael â’r pryder a fynegwyd ynddo fod y gweithgaredd wedi newid o godi ymwybyddiaeth gymunedol o anghenion tai gwledig a mesur yr anghenion hynny, pan fo angen cynorthwyo’r swyddogion galluogi, mewn gwirionedd, i nodi’r anghenion hynny er mwyn gweithio gyda’r gymuned i ddarparu mwy o dai?
 
14:03
Lesley GriffithsBywgraffiad
Rwy’n cydnabod yn llwyr fod swyddogion galluogi tai gwledig yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran darparu tai gwledig. Cyhoeddais estyniad i’r cyllid y llynedd yn eu cynhadledd, felly maent bob amser wedi cael sicrwydd fod y cyllid yno iddynt allu parhau i weithio gyda chymunedau ledled Cymru wledig i sicrhau bod prosiectau’n cael eu cyflawni.
 
14:04
Simon ThomasBywgraffiad
Weinidog, mae nifer o etholwyr yn Nhrefdraeth, Sir Benfro wedi cysylltu â mi am eu bod wedi wynebu pwysau difrifol ym maes tai yn ymwneud â datblygiadau tai masnachol mewn ardaloedd gwledig. Yr wythnos ddiwethaf ymwelais â Brynhir yn Ninbych-y-pysgod lle y mae datblygiad tebyg yn bygwth cymunedau cynaliadwy. Mewn ardaloedd gwledig, ymddengys ein bod naill ai’n wynebu datblygiadau drud iawn, heb lawer o dai fforddiadwy ac sy’n gwneud y gorau o’r golygfeydd ac atyniadau ar gyfer ail gartrefi ac yn y blaen, neu’r dewis arall, sef datblygiadau amgen iawn, os hoffech, o dan y polisi Cenedl Un Blaned, sy’n sicr yn rhywbeth nad yw’n apelio at bawb. Felly, beth rydych yn ei wneud fel Llywodraeth i edrych ar ddewisiadau eraill mewn ardaloedd gwledig—pethau fel cymunedau fforddiadwy bach eu heffaith, lle y mae pobl yn berchen ar eiddo drwy gynlluniau perchentyaeth cydfuddiannol, a cheir cydweithrediaeth fyw ar y cyd, sy’n garbon isel, ond hefyd yn gost isel i’r rhai sy’n byw yno. Mae’r rhain yn dai gwirioneddol fforddiadwy. Oni ddylem fod yn gwneud mwy i hyrwyddo hyn fel dewis amgen yn lle datblygiadau masnachol yn llawer o’n hardaloedd gwledig?
 
14:05
Lesley GriffithsBywgraffiad
Dylem, yn sicr, ac rydym yn ystyried pa ddewisiadau eraill sydd gennym ar gyfer y dyfodol. Rwy’n hoff iawn o gynlluniau tai cydweithredol. Rydym bellach wedi cefnogi o leiaf tri datblygiad cydweithredol ledled Cymru; rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i ymweld â dau ohonynt. Ond credaf fod yn rhaid i ni edrych ar ffyrdd amgen, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Rydym yn amlwg yn buddsoddi llawer iawn o arian, dros £400 miliwn, drwy’r grant tai cymdeithasol, ac unwaith eto, credaf fod angen i ni edrych i weld sut y mae hwnnw’n cael ei wario, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
 
14:05
William PowellBywgraffiad
Weinidog, gan barhau â’r thema a gyflwynodd Simon Thomas, y bore yma yn y Pwyllgor Menter a Busnes, siaradodd Ross Murray, Llywydd Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad, ynglŷn â’r potensial sydd gan nodyn cyngor technegol 6 i helpu i fynd i’r afael â rhai o’r materion hyn. Fel un o gyd-awduron y polisi hwnnw, dywedodd fod iddo lawer o rinweddau. Fodd bynnag, o ran ei gyflawni, mae wedi bod yn eithaf siomedig, yn enwedig y lefel o awdurdodau lleol sy’n gwneud defnydd ohono. Felly, o ystyried ei gyfraniad i adeiladu mwy o dai fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig, pa ymrwymiad y gallwch ei wneud ar ran Cynulliad yn y dyfodol y bydd y gwaith hwn yn cael ei flaenoriaethu, yn enwedig drwy weithio gyda’r Gweinidogion hynny sy’n gyfrifol am lywodraeth leol a chynllunio lleol i sicrhau mwy o gefnogaeth i’r fenter werthfawr hon?
 
14:06
Lesley GriffithsBywgraffiad
Yn amlwg, rwy’n gweithio’n agos iawn gyda fy nghyd-Aelod y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, a gwn ei fod yn diwygio’r system gynllunio drwy Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 a thrwy ei gynigion ‘Cynllunio Cadarnhaol’, ond rwy’n siŵr y byddai Llywodraeth newydd yn awyddus iawn i edrych ar hynny.
 
Hawliau Dynol
 
14:06
Yr Arglwydd / Lord Elis-ThomasBywgraffiad
4. Pa gynnydd a wnaed o ran hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yn y pedwerydd Cynulliad? OAQ(4)0438(CTP)[W]
 
14:06
Lesley GriffithsBywgraffiad
Diolch. Mae egwyddorion cydraddoldeb a hawliau dynol yn sail i’n rhaglen lywodraethu. Rydym wedi gwneud cynnydd da o ran ein hamcanion cydraddoldeb, fel yr amlygwyd yn ein hadroddiadau blynyddol ar gydraddoldeb. Rwy’n pryderu ynghylch amseriad ymgynghoriad y Ddeddf Hawliau Dynol Brydeinig, ac wedi ysgrifennu at Michael Gove yr wythnos hon.
 
14:07
Yr Arglwydd / Lord Elis-ThomasBywgraffiad
Ond onid un o’r heriau mwyaf yw’r un a glywsom amdani ddoe, pan gyhoeddwyd yr adroddiad ‘Menywod Dawnus ar gyfer Cymru Lwyddiannus’, gyda’r diffyg difrifol mewn peirianneg, ffiseg a chyfrifiadureg sydd yn cael ei bwysleisio yn yr adroddiad, ein bod ni’n brin o 600 o academyddion STEM yng Nghymru? Onid oes yna gyfle, felly, i’r Llywodraeth yma roi neges i’r Llywodraeth nesaf, pwy bynnag fydd ynddi hi, fod hwn yn flaenoriaeth o ran economi Cymru, ac mai hyn, yn wir, fydd un arall o gyfraniadau disglair y Gweinidog sy’n gyfrifol am faes addysg uwch, yn ogystal â’r economi a thrafnidiaeth, sef galluogi llawer mwy o fenywod i fanteisio ar yr addysg uwch y dylen nhw fod yn ei chael er mwyn dod yn ymchwilwyr llwyddiannus i economi Cymru?
 
14:08
Lesley GriffithsBywgraffiad
Oes, yn bendant. Nid wyf wedi cael cyfle i ddarllen yr adroddiad hwnnw, ond rwy’n sicr yn ymwybodol o’r ffigurau. Ar draws y Llywodraeth, gyda nifer o fy nghyd-Weinidogion, rydym yn gwneud gwaith da iawn ar geisio annog menywod i ystyried gyrfaoedd y gellid eu hystyried yn yrfaoedd amgen, nad oeddent, efallai, wedi meddwl amdanynt i ddechrau. Siaradais mewn digwyddiad fis diwethaf yn Wrecsam ynglŷn â menywod yn cael eu hannog i ddod i mewn i’r diwydiant adeiladu a pheirianneg yng nghyswllt y carchar newydd sy’n cael ei adeiladu yng ngogledd Cymru. Felly, ni chredaf mai mater ar gyfer y Gweinidog addysg uwch neu’r Gweinidog gwyddoniaeth yn unig yw hwn, fel y dywedoch—dylai’r holl Weinidogion edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i sicrhau bod menywod yn ymwybodol o’r gyrfaoedd hyn.
 
14:08
Gwyn R. PriceBywgraffiad
A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i hyrwyddo hawliau a chyfleoedd pobl ag anableddau?
 
14:09
Lesley GriffithsBywgraffiad
Diolch. Mae fframwaith gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer byw’n annibynnol yn nodi’r camau rydym yn eu cymryd i hyrwyddo hawliau pobl anabl yng Nghymru i fyw’n annibynnol a sicrhau bod ganddynt yr un hawliau ag unrhyw ddinesydd arall. Mae pobl anabl wedi cyfrannu’n helaeth at y gwaith o ddatblygu’r fframwaith, a chredaf y bydd hynny’n rhoi sicrwydd iddynt hwy ac i ninnau, fel Llywodraeth, ein bod ni’n mynd i’r afael â’r materion sydd bwysicaf iddynt. Hefyd, mae gennym fforwm cydraddoldeb i bobl anabl, ac rwy’n ymgysylltu’n uniongyrchol â phobl anabl ac yn clywed ganddynt sut y mae ein deddfwriaeth a’n polisïau yn effeithio ar eu bywydau.
 
14:09
Janet Finch-SaundersBywgraffiad
Weinidog, yn dilyn Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ddoe, mae’n parhau’n warthus fod gennym fenywod, yma yng Nghymru ym 2016, yn dal yn gwneud yr un gwaith â dynion ac yn dal i gael eu talu’n is. Hyd yn oed heddiw, er gwaethaf Deddf Cyflog Cyfartal 1970, mae gan fy awdurdod lleol nifer o hawliadau cyflog cyfartal nas talwyd. Sut y mae eich Llywodraeth yn gweithio gyda llywodraeth leol i sicrhau bod anghydraddoldeb o’r fath i’n menywod sy’n gweithio yn dod i ben, ac yn dod i ben ar unwaith?
 
14:10
Lesley GriffithsBywgraffiad
Wel, byddwn yn hapus iawn i ysgrifennu at awdurdodau lleol i’w hatgoffa am y dyletswyddau hynny cyn diwedd y tymor hwn.
 
Cymunedau yn Gyntaf
 
14:10
John GriffithsBywgraffiad
5. A wnaiff y Gweinidog yn nodi’r cynnydd a wnaed ar draws portffolios Llywodraeth Cymru o ran cyflawni amcanion Cymunedau yn Gyntaf? OAQ(4)0434(CTP)
 
14:10
Lesley GriffithsBywgraffiad
Diolch. Mae Cymunedau yn Gyntaf yn gweithio ar draws y meysydd portffolio ac yn parhau i gyflawni yn erbyn ystod o amcanion economaidd, iechyd a dysgu. Mae data perfformiad ar gyfer 2015-16 yn cael eu cwblhau, a chaiff ei gyhoeddi cyn toriad y Pasg. Mae’r data diweddaraf a gyhoeddwyd, ar gyfer 2014-15, yn dangos bod cynnydd da yn cael ei wneud mewn nifer o feysydd.
 
14:10
John GriffithsBywgraffiad
Weinidog, bydd cynyddu gweithgarwch corfforol yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig o fudd i’w hiechyd, ac yn wir, i ansawdd eu bywydau yn gyffredinol. Ddydd Gwener, byddaf yn cynnal cyfarfod lleol yng Nghasnewydd i ddod â phartneriaid allweddol at ei gilydd i geisio sicrhau cynnydd pellach ar yr amcanion hynny. A wnewch chi sicrhau bod y cysylltiadau angenrheidiol yn cael eu gwneud ar draws portffolios Llywodraeth Cymru i ysgogi mwy o weithgarwch corfforol yn ein cymunedau mwy difreintiedig, o ystyried y manteision hyn?
 
Gwnaf, yn bendant. Mae’n braf iawn clywed y byddwch yn cael cyfarfod o’r fath ddydd Gwener. Edrychaf ymlaen at glywed y canlyniad. Mae Cymunedau yn Gyntaf yn ceisio gwella canlyniadau iechyd i bobl sy’n byw yn rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru. Fe fyddwch yn ymwybodol o lawer o’r prosiectau llwyddiannus sy’n cael eu rhedeg gan y rhaglen—GemauStryd, er enghraifft—er mwyn sicrhau’r pwyslais cryf hwnnw ar weithgarwch corfforol yn ogystal ag ar fyw’n iach a bwyta’n iach. Mae fy swyddogion a swyddogion Gweinidogion eraill yn gweithio ar draws adrannau’r Llywodraeth i sicrhau ein bod yn parhau i wella gweithgarwch corfforol a dewisiadau byw’n iach.
 
14:12
Mohammad AsgharBywgraffiad
Weinidog, mae ffigurau a ddarparwyd gan eich Llywodraeth yn datgelu bod Cyngor Dinas Casnewydd wedi dychwelyd dros £780,000 o gyllid grant Cymunedau yn Gyntaf i Lywodraeth Cymru yn ystod y tair blynedd rhwng 2012 a 2015. A wnaiff y Gweinidog roi gwybod pa systemau sydd ar waith i sicrhau bod cyrff cyflawni arweiniol yng Nghymru, megis Cyngor Dinas Casnewydd, yn gwneud defnydd llawn ac effeithiol o arian Cymunedau yn Gyntaf er budd y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu?
 
14:12
Lesley GriffithsBywgraffiad
Mae’n bwysig iawn fod unrhyw gorff cyflawni arweiniol yn defnyddio’r cyllid ar gyfer y bwriadau iawn, ac yn y ffordd gywir. Os oes unrhyw danwario, gwneuthum yn glir iawn y byddai’n cael ei ddychwelyd i’r Llywodraeth ac yna gellid defnyddio’r cyllid i sicrhau bod yr arian yn mynd tuag at flaenoriaethau eraill.
 
14:13
Lindsay WhittleBywgraffiad
Weinidog, 12 mis yn ôl yn unig, roedd adroddiad gwerthuso ar lwyddiannau’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn datgan nad oedd cymunedau bob amser yn cael eu cynnwys yn llawn yn y cynlluniau. Pa gamau y byddwch yn eu cynnig i sicrhau y bydd gan aelodau o’r gymuned leol lawer mwy o lais yng nghynnwys a threfniadaeth rhaglenni Cymunedau yn Gyntaf, os gwelwch yn dda?
 
14:13
Lesley GriffithsBywgraffiad
Mae’n rhaid i’r clystyrau Cymunedau yn Gyntaf nodi a dangos sut y maent yn ymgysylltu â phobl sy’n agored i niwed yn y cymunedau. Mae’n rhaid i’r holl weithgareddau gyfrannu at y nod cyffredinol o drechu tlodi, sef yr hyn y cynlluniwyd y rhaglen ar ei gyfer, gydag ymwneud y gymuned. Mae fy swyddogion yn monitro hynny’n ofalus iawn.
 
14:13
Christine ChapmanBywgraffiad
Weinidog, cefais wahoddiad yn ddiweddar i siarad mewn digwyddiad Oxfam Cymru i ddathlu eu prosiect Adeiladu Bywoliaethau a Chryfhau Cymunedau. Mabwysiadodd y prosiect, a weithredai mewn cymunedau ledled Cymru, gan gynnwys yng Nglyncoch yn fy etholaeth i, ymagwedd a ganolbwyntiai ar yr unigolyn, gallai ddangos canlyniadau trawiadol ac roedd yn ategu nodau ac amcanion Cymunedau yn Gyntaf. Mae’r prosiect wedi dod i ben, ond rwy’n awyddus i’r gwersi beidio â chael eu hanghofio. Felly, a yw’r Gweinidog wedi ystyried yr hyn y gallai Llywodraeth Cymru ei ddysgu o hyn, a sut y gellid ymgorffori ei lwyddiant o fewn Cymunedau yn Gyntaf a strategaethau gwrthdlodi eraill?
 
14:14
Lesley GriffithsBywgraffiad
Do; yn amlwg, rwy’n ymwybodol o’r cynllun hwn a gwn fod tua 1,000 o bobl wedi elwa o’r cynllun. O’r bobl a gymerodd ran yn y prosiect, roedd llawer wedi gweithio gyda Cymunedau yn Gyntaf, gan gynnwys yng Nglyncoch. Mae fy swyddogion eisoes wedi cyfarfod ag Oxfam Cymru i weld sut y gallant ymgorffori’r manteision a’r gwersi a ddysgwyd o’r prosiect o fewn Cymunedau yn Gyntaf.
 
Cefnogi Teuluoedd
 
14:14
Mark IsherwoodBywgraffiad
6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi teuluoedd yng Nghymru? OAQ(4)429(CTP)
 
14:14
Lesley GriffithsBywgraffiad
Diolch. Rydym yn darparu ystod o gymorth i deuluoedd a chefnogir ein hymrwymiad gan fuddsoddiad yn ein rhaglenni cymorth fel Teuluoedd yn Gyntaf a Cefnogi Pobl. Rydym hefyd yn darparu cefnogaeth a gwybodaeth i rieni drwy ein hymgyrch ‘Magu plant. Rhowch amser iddo’.
 
14:15
Mark IsherwoodBywgraffiad
Mae canolfannau cyswllt â phlant yn fannau lle y gall rhieni dibreswyl gael cyswllt dan oruchwyliaeth neu gyswllt â chymorth â’u plentyn neu â’u plant. Fel y gwyddoch, mae’r cyllid ar eu cyfer yn diflannu. Mae Cymdeithas Genedlaethol y Canolfannau Cyswllt Plant wedi ymateb i gynnig Llywodraeth Cymru o swm trosiannol untro o £2,000 gan ddweud bod hyn yn methu’r pwynt sylfaenol ynglŷn â’r angen i’r canolfannau gael eu hariannu ar gyfer y gwaith y maent yn ei wneud ac y byddant yn parhau i’w wneud, ac mae Relate yn datgan nad yw’r gyfradd chwalfeydd teuluol wedi lleihau a bod y problemau cysylltiedig yn parhau. O ystyried bod eich cyfrifoldebau gweinidogol yn cynnwys cymorth i deuluoedd a hawliau plant a phobl ifanc, sut rydych yn ymateb i’r pryder y bydd torri’r cyllid hwn ar gyfer ymyrraeth arbenigol, sy’n cefnogi teuluoedd drwy berthynas yn chwalu, yn effeithio ar wasanaethau eraill, gan gynhyrchu costau uwch o lawer yn nes ymlaen i’r gwasanaethau iechyd ac addysg a’r gwasanaethau cymdeithasol, ac wrth gwrs, cost uwch o lawer i’r plant dan sylw eu hunain?
 
14:16
Lesley GriffithsBywgraffiad
Diolch. Mae cefnogi teuluoedd a chefnogi perthynas pobl â’i gilydd yn nodwedd allweddol o ymrwymiadau ein rhaglen lywodraethu, fel yr amlinellais mewn cwestiwn blaenorol. Fodd bynnag, nid yw cyfryngu i deuluoedd yn fater datganoledig. Mae’n fater a gadwyd dan adain y Weinyddiaeth Gyfiawnder, a gwn fod y Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd wedi lleihau’r cyllid, ond mae’n rhaid i mi ddweud bod yr atgyfeiriadau atynt wedi gostwng yn sylweddol hefyd.
 
14:16
Ann JonesBywgraffiad
Weinidog, gobeithiaf y byddwch yn cytuno fod cyflogaeth yn ffordd allan o dlodi i lawer o deuluoedd, ac yn sicr i deuluoedd yn fy etholaeth i. Pa gynlluniau sydd gennych, felly, i sicrhau y bydd gofal plant a chyfleoedd hyfforddi gydol oes ar gael i’r teuluoedd mwyaf anodd eu cyrraedd mewn etholaethau, gan gynnwys fy etholaeth i, lle rydym yn dal i weld niferoedd uchel o bobl yn hawlio budd-dal diweithdra?
 
14:17
Lesley GriffithsBywgraffiad
Cytunaf yn llwyr fod cyflogaeth a buddsoddiad yn y blynyddoedd cynnar yn darparu llwybr allan o dlodi, a dyna pam rydym wedi mabwysiadu’r ymagwedd newydd hon tuag at drechu tlodi drwy gynyddu cyflogadwyedd, gwella sgiliau a chynorthwyo pobl i gael gwaith ac yna i gamu ymlaen yn eu swyddi, oherwydd gwyddom fod aelwydydd heb waith mewn perygl arbennig o fyw mewn tlodi, a dyna pam fod gennym raglenni fel Esgyn a Cymunedau am Waith. Ni chredaf mai ymwneud â gwella sgiliau’n unig y mae cael pobl i mewn i waith; credaf ei fod yn ymwneud ag edrych ar anghenion yr unigolyn a’r rhwystrau a allai eu hwynebu o ran cael gwaith. Felly, unwaith eto, mae Dechrau’n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf yn rhoi cymorth i blant a theuluoedd sicrhau canlyniadau hirdymor cadarnhaol.
 
14:17
Rhun ap IorwerthBywgraffiad
Rwy’n frwd dros sicrhau bod rhagor o ofal addysgol yn cael ei roi i blant o dair oed fel modd i ryddhau rhieni i fynd allan i weithio er eu lles eu hunain ac er lles economi Cymru. Ac, yn sicr, mi fydd maniffesto Plaid Cymru ar gyfer yr etholiad yma yn addo bwrw ymlaen at roi 30 awr yr wythnos o ofal i blant tair oed. A ydy’r Gweinidog yn cytuno bod hynny yn ffordd dda ymlaen?
 
14:18
Lesley GriffithsBywgraffiad
Wel, ymrwymiad Llafur Cymru yw 30 awr o ofal plant i rieni sy’n gweithio a chanddynt blant tair a phedair oed am 48 wythnos. Felly, credaf ein bod yn weddol debyg, ond mwy na thebyg ein bod ni ychydig yn well.
 
Cymunedau yn Gyntaf (Gogledd Cymru)
 
14:18
Janet HaworthBywgraffiad
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid Cymunedau yn Gyntaf yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)0432(CTP)
 
14:18
Lesley GriffithsBywgraffiad
Diolch. Rwyf wedi diogelu cyllid Cymunedau yn Gyntaf am y flwyddyn nesaf. Mae’r cyllid presennol sydd ar gael ar draws wyth clwstwr gogledd Cymru yn fwy na £4.4 miliwn. Mae ffigurau dangosol wedi’u darparu i’r cyrff cyflawni arweiniol ar gyfer 2016-17. Mae cynlluniau cyflawni ar gyfer y flwyddyn nesaf yn cael eu hasesu a bydd llythyrau cynigion terfynol yn cael eu hanfon ar ddiwedd yr ymarfer.
 
14:18
Janet HaworthBywgraffiad
Diolch am y data hwnnw, Weinidog; mae’n eithaf calonogol. Ond mae’r data ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf yn dangos bod pedwar cyngor yng ngogledd Cymru wedi dychwelyd dros 10 y cant o’u grant Cymunedau yn Gyntaf yn ystod eu blwyddyn ariannol lawn ddiwethaf, a chynghorau yng ngogledd Cymru yw pedwar o’r pum cyngor sy’n ad-dalu fwyaf o ran canran. Weinidog, mae eich Llywodraeth yn gwneud môr a mynydd o bwysigrwydd arian Cymunedau yn Gyntaf, felly a allwch egluro pam fod cymaint yn cael ei ddychwelyd i’ch Llywodraeth bob blwyddyn, a pha gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau bod y cyllid a ddyrannir i’r prosiect hwn yn cael ei ddefnyddio’n llawn?
 
14:19
Lesley GriffithsBywgraffiad
Un o gostau uchaf cyllid Cymunedau yn Gyntaf yw’r staff, yn amlwg, a phan fydd cynlluniau cyflawni yn cael eu cyflwyno, bydd costau staff wedi’u cynnwys yn y cynllun hwnnw. Os na fydd yr holl arian yn cael ei wario—os bydd cyfnod pan nad yw’r holl swyddi wedi’u llenwi, er enghraifft, neu os oes rhywun yn gadael ac nad ydynt yn gallu llenwi’r swydd honno—yna bydd yn rhaid dychwelyd yr arian hwnnw, a chredaf fod hynny’n hollol gywir a phriodol.
 
14:19
Sandy MewiesBywgraffiad
Weinidog, rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno mai llwyddiant y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yw ei ffocws ar ddarparu cyfleoedd newydd, sgiliau a chefnogi cyflogaeth fel ffordd allan o dlodi. Weinidog, a allwch wneud sylwadau ar waith y prosiect rhwydwaith entrepreneuriaeth busnes yn Sir y Fflint?
 
14:20
Lesley GriffithsBywgraffiad
Gwnaf, croesawaf waith y rhwydwaith yn fawr. Roeddent yn nodwedd amlwg, mewn gwirionedd, o’r gynhadledd Cymunedau yn Gyntaf ddiweddar, a gynhaliwyd yng Nghasnewydd, fis diwethaf, rwy’n credu. Roedd y gynhadledd honno’n help mawr i rannu dysgu ac arferion gorau, a gwn fod cyflwyniad y rhwydwaith wedi cael ymateb da iawn. Mae’r rhwydwaith yn cefnogi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â gweithio mewn partneriaeth, cefnogi gwirfoddoli yn y gymuned a ffocws cryf ar gyflogaeth fel ffordd allan o dlodi.