Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :
Nôl i'r rhestr dogfennau Gweld y dudalen hon heb lincs
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (y Fonesig Rosemary Butler) yn y Gadair.
 
13:30
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Wel, prynhawn da, bawb. Dyma ddechrau trafodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
 
13:30
Datganiad gan y Llywydd
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Cyn i ni ddechrau trafod, mae’n bleser gennyf groesawu Llywydd Senedd Gwlad yr Iâ, sef y Senedd hynaf yn y byd, a dirprwyaeth o’i seneddwyr, sy’n bresennol yn yr oriel gyhoeddus heddiw. Croeso i chi. Diolch yn fawr iawn.
 
1. Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
 
13:30
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Ac yn awr, symudwn ymlaen at yr eitem gyntaf, sef eitem 1, sef cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Rwy’n meddwl y bydd y cwestiynau’r prynhawn yma yn cael eu hateb gan y Dirprwy. Felly, daw cwestiwn 1 gan Llyr Gruffydd.
 
Pwysau Staffio
 
13:30
Llyr GruffyddBywgraffiad
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysau staffio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OAQ(4)0701(HSS)[W]
 
13:30
Vaughan GethingBywgraffiadY Dirprwy Weinidog Iechyd
Diolch am y cwestiwn. Mae’r pwysau staffio ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gyson â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig ar yr adeg hon o’r flwyddyn. Mae camau gweithredu ar waith i fynd i’r afael â’r heriau a sicrhau staffio cynaliadwy. Mae’r rhain yn cynnwys trefniadau recriwtio wedi’u targedu—gan gynnwys nyrsys o’r Undeb Ewropeaidd—a mentrau proffil uchel, fel y rhaglen datblygu meddygon teulu rhagorol.
 
13:31
Llyr GruffyddBywgraffiad
Pan fydd gweithwyr proffesiynol fel Pwyllgor Meddygol Lleol Gogledd Cymru yn disgrifio’r sefyllfa fel bom yn tician ac ar ymyl y dibyn, a phan fo Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yng Nghymru yn dweud bod argyfwng yn y gweithlu, a phan ddywed GP Survival Cymru fod meddygfeydd yng ngogledd Cymru yn disgyn fel dominos, a ydych yn cytuno â’r Prif Weinidog pan ddywed nad oes unrhyw argyfwng yn y gweithlu meddygon teulu yng ngogledd Cymru?
 
13:31
Vaughan GethingBywgraffiad
Diolch am y cwestiwn dilynol. Nid wyf yn cytuno bod yna argyfwng, ond mae heriau gwirioneddol. Nid oes prinder—yn sicr, nid oes lle i hunanfodlonrwydd ynglŷn â’r sefyllfa sy’n ein hwynebu yn awr ac i’r dyfodol. Mae rhai heriau lleol rydym yn eu cydnabod, a rhoddir sylw iddynt, ac rwy’n meddwl mai’r hyn sy’n rhoi hyder i ni yw’r ffordd y rheolwyd y materion hynny yn y gorffennol diweddar, a thu hwnt. Felly, byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth gydag undebau llafur a chyrff proffesiynol i ddeall y sefyllfa rydym ynddi yn awr ac wrth gwrs, i ddatblygu ein strategaeth ar gyfer y gweithlu, lle y mae gennym gefnogaeth nid yn unig y Llywodraeth a chyrff y GIG, ond y cynrychiolwyr staff unigol eu hunain. Felly, mae’n bwysig iawn ein bod yn cael trafodaeth onest, ond trafodaeth lle nad ydym yn estyn am iaith eithafol, ac yn ymdrin â’r sefyllfa fel rydym yn ei hwynebu.
 
13:32
Ann JonesBywgraffiad
Ddirprwy Weinidog, ddoe—neu’r diwrnod cynt, hyd yn oed—gwelwyd dechrau cyfnod Gary Doherty fel prif weithredwr newydd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr. Tybed a wnewch chi fanteisio ar y cyfle yn gynnar i siarad ag ef am bwysigrwydd staff o’r Undeb Ewropeaidd a mannau eraill sy’n gweithio yn Betsi Cadwaladr, ac a wnewch chi drafod gydag ef pa effaith y gallai Prydain yn gadael yr UE ei chael ar y staff gweithgar sydd gennym yn y gwasanaeth iechyd, ac ar recriwtio yn y dyfodol.
 
13:32
Vaughan GethingBywgraffiad
Diolch am y cwestiwn. Fe fyddwch yn falch o glywed y byddaf yn cyfarfod â Gary Doherty pan fyddaf yn y gogledd nesaf, o fewn y pythefnos nesaf, ac edrychaf ymlaen at gael sgwrs gydag ef ynghylch blaenoriaethau a rennir ar gyfer dyfodol gofal iechyd yng ngogledd Cymru, ac yn arbennig, ynglŷn â mynd i’r afael â’r materion sy’n ymwneud, nid â mesurau arbennig, ond â’r cynllun gwella y mae Llywodraeth Cymru wedi’i gyhoeddi. Ac rwy’n credu ei fod wedi gwneud datganiad i’w groesawu ar y dechrau, ynglŷn â bod eisiau mynd i’r afael â hynny, ac ystod o flaenoriaethau eraill ar gyfer dinasyddion gogledd Cymru.
 
Rydych hefyd yn gwneud pwynt pwysig ynglŷn ag effaith bosibl gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae Betsi Cadwaladr wedi recriwtio, rwy’n credu, 85 o nyrsys, o bob rhan o’r Undeb Ewropeaidd, er enghraifft, yn y flwyddyn ddiwethaf. A gwyddom fod recriwtio staff meddygol o rannau eraill o’r byd, y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, yn anos—mae’n bosibl, ond mae’n anos. Ac mae’n arwydd go iawn i’r rhai a fyddai eisiau gadael yr Undeb Ewropeaidd—y byddai i bob diben yn gwneud ein gallu i recriwtio staff proffesiynol meddygol a gofal iechyd cysylltiedig yn anos, nid yn haws, gan fod ein byrddau iechyd i gyd wrthi’n recriwtio o fewn yr Undeb Ewropeaidd, ac nid wyf am weld rhwystr ychwanegol i’r staff rhagorol hynny rhag dod yma i weithio yng Nghymru.
 
13:34
Mark IsherwoodBywgraffiad
Wel, yn amlwg, mae meddygon teulu yn gontractwyr hunangyflogedig, ond byrddau iechyd a Llywodraethau sy’n gyfrifol am gynlluniau gweithlu strategol ar eu cyfer. Ac mae blynyddoedd ers i Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol rybuddio am y bom yn tician, blynyddoedd ers i BMA Cymru ddweud nad yw ymrwymiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru wedi digwydd yn y ffordd a fwriadwyd, a 21 mis ers i gadeirydd pwyllgor meddygol gogledd Cymru ddod i’r Cynulliad hwn i ddweud bod gennym argyfwng yng ngogledd Cymru. Sut, felly, rydych yn ymateb i’r llythyr a anfonwyd at y Prif Weinidog, gan grwpiau sy’n cynrychioli meddygon teulu yng ngogledd Cymru, yn ei gyhuddo o fod wedi colli gafael ar realiti’r heriau sy’n wynebu meddygon teulu yng ngogledd Cymru?
 
13:34
Vaughan GethingBywgraffiad
Wel, fel y gŵyr yr Aelodau, ymdriniodd y Prif Weinidog â’r cwestiynau hyn unwaith eto ddoe, ac ailadroddaf yr hyn a ddywedais wrth Llyr Gruffydd ar ddechrau’r gyfres hon o gwestiynau. Rydym yn cydnabod bod heriau real iawn ar draws rhannau penodol o ofal iechyd, nid yng Nghymru yn unig, ond ledled y DU. Byddwn yn parhau i weithio gyda phobl yn y proffesiwn meddygol ar gynllunio a darparu dyfodol diogel i’r gwasanaeth iechyd gwladol. Er enghraifft, rydym eisoes wedi sicrhau cytundeb dwy flynedd newydd gyda meddygon teulu. Daeth hwnnw o drafod a gweithio gyda phobl sy’n gweithio yn y gwasanaeth, yn hytrach na dechrau ffrae gyda hwy, fel y gwelwn dros y ffin. Mae’n bendant yn fuddiol i ni barhau i weithio yn y modd arbennig hwnnw. Lle y ceir heriau, rydym yn gweithio’n adeiladol gyda phobl sy’n rhan o’r proffesiynau gofal iechyd i’w datrys gyda’n gilydd. Rydym wedi gweld hynny’n gyson yn y gorffennol yng Nghymru ac nid oes rheswm dros feddwl na fydd hynny’n digwydd yn y dyfodol.
 
13:35
Aled RobertsBywgraffiad
Weinidog, ers rhyw ddwy flynedd rŵan, mae nifer ohonom ni wedi bod yn pwyso ar y Llywodraeth o ran rhestrau aros hirach yn y gogledd nag yn unman arall. Fe ddywedodd Mark Drakeford ym mis Gorffennaf 2014 ei fod yn ymwybodol bod Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr yn methu â chyrraedd y targed o 36 a 26 o wythnosau o ran y rhestrau aros a bod ei swyddogion o’n gweithio’n agos efo’r bwrdd iechyd i wella’r sefyllfa. Mae’r bwrdd iechyd wedi bod o dan fesurau arbennig am 90 mis erbyn hyn. Felly, a allwch chi ddweud yn union pa welliant sydd wedi’i wneud o ran y rhestrau aros a beth yn union y mae eich swyddogion chi, fel Llywodraeth, yn ei wneud i wella rhestrau aros yng ngogledd Cymru?
 
13:36
Vaughan GethingBywgraffiad
Diolch am y cwestiwn. O ran cyflawni ein targed ar gyfer amseroedd aros yn hytrach na’r rhestr, ceir rhai meysydd heriol o ran staffio, ond nid yw’r heriau mwyaf yn ymwneud â’r pwysau staffio eu hunain mewn gwirionedd—maent yn ymwneud mwy â’r gallu i gael system sy’n briodol gytbwys. Felly, mae yna broblem gyda’r materion tymor byr ac mae capasiti ychwanegol yn cael ei gyflwyno. Mae hynny’n ymwneud yn rhannol â chael adnoddau ychwanegol i staff y GIG. Mae hyn hefyd yn ymwneud yn rhannol â chomisiynu capasiti ychwanegol ac mae hefyd yn system ehangach ar draws y gwasanaeth iechyd i sicrhau ein bod yn rhedeg y system lle rydym yn deall beth yw’r capasiti a’r galw. Mae hynny’n ymwneud yn rhannol â symud mwy o ofal i ofal sylfaenol ac i ffwrdd ac allan o ysbytai, ac mae hefyd yn ymwneud yn rhannol â gwneud y defnydd gorau posibl o’r hyn sydd gennym mewn gofal eilaidd.
 
Enghraifft dda o fenter yng ngogledd Cymru i helpu i reoli hyn yw’r gwasanaeth ffisiotherapi fel rhan o’r llwybr orthopedig. Atgyfeirir pobl yn rheolaidd at y gwasanaeth ffisiotherapi ac mae’n dargyfeirio pobl yn llwyddiannus rhag llawdriniaeth bosibl i gael eu trin yn llwyddiannus heb fod angen ymyrraeth lawfeddygol. Mae hynny wedi digwydd yn gyson hefyd ar draws meddygfeydd meddygon teulu yng ngogledd Cymru. Felly, cyflwynwyd amrywiaeth o fesurau eisoes a’n her bob amser yw: beth rydym yn ei ddeall a beth rydym yn ei wneud yn awr? Sut i gael dull mwy darbodus o weithredu yn y dyfodol sy’n gwneud y defnydd gorau posibl o’n hadnoddau i gyflawni’r canlyniadau gorau posibl i’n cleifion o fewn y safonau priodol ar gyfer amseroedd aros?
 
Grŵp Cydweithredol Gofal Iechyd y Canolbarth
 
13:37
Elin JonesBywgraffiad
2. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith y Grŵp Cydweithredol Gofal Iechyd y Canolbarth? OAQ(4)0699(HSS)[W]
 
13:37
Vaughan GethingBywgraffiad
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Mae Grŵp Cydweithredol Gofal Iechyd y Canolbarth yn gwneud cynnydd da gyda rhaglen waith uchelgeisiol i wella gofal iechyd yng nghanolbarth Cymru. Mae llwyddiannau’r flwyddyn gyntaf yn cynnwys cynllun cymrodoriaeth newydd i feddygon teulu, 12 o wlâu llawfeddygol ychwanegol yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais a llwyddo i recriwtio ymgynghorydd pediatrig newydd.
 
13:38
Elin JonesBywgraffiad
Ddirprwy Weinidog, mae sefydlu’r grŵp cydweithredol yma yn un o benderfyniadau mwyaf goleuedig eich Llywodraeth chi, ac, o ddilyn gwaith y grŵp yn fanwl, rwy’n hyderus bod Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda yn gweld yr angen i gydweithio ar draws ffiniau yn y canolbarth. A wnewch chi sicrhau bod y tri bwrdd iechyd—Powys a Betsi Cadwaladr hefyd—yn rhoi blaenoriaeth i’r gwaith yma ac yn cynnwys Bronglais a gwasanaethau o gwmpas Bronglais yn eu rhaglen gynllunio nhw ar gyfer gwasanaethau yn y dyfodol, er lles y cleifion hynny sydd yn byw yn ardal dalgylch ysbyty Bronglais?
 
13:38
Vaughan GethingBywgraffiad
Gwnaf, rwy’n hapus i roi’r sicrwydd hwnnw, ac rwy’n croesawu’n arbennig y modd y mae’r Aelod dros Geredigion yn cydnabod gwaith y grŵp cydweithredol a’r modd y daethpwyd i’r penderfyniad hwn. Roedd yn bwynt pwysig mewn amser i ofal iechyd yng nghanolbarth Cymru a’r cylch pan gyhoeddwyd yr adroddiad, o ran newid y naratif a’r drafodaeth ynglŷn â gofal iechyd yng nghanolbarth Cymru. Yn hytrach nag awgrymu drwy’r amser fod yna gynllun i’r ysbyty ddiflannu, ceisiai ddeall beth sydd yno a beth sydd angen bod yno yn y dyfodol, a dod â gwahanol gyrff at ei gilydd—cyrff gofal iechyd, gweithwyr proffesiynol y GIG, y cyhoedd a gwleidyddion—i gael trafodaeth wahanol mewn gwirionedd ynglŷn â dyfodol gofal iechyd yn y canolbarth. Rwy’n hynod o falch o weld bod camau llwyddiannus wedi’u cyflwyno a byddwn yn parhau i gefnogi hynny ac yn disgwyl y bydd cynnydd pellach yn y dyfodol.
 
13:39
Joyce WatsonBywgraffiad
Ddirprwy Weinidog, roedd un o’r darnau cynharaf o waith a gyhoeddwyd gan y grŵp cydweithredol yn ymwneud â theleiechyd, a buddsoddodd Llywodraeth Cymru swm sylweddol o arian yn hynny. Yn amlwg, mae gan y dechnoleg honno botensial go iawn ar gyfer ein cymunedau gwledig, gan leihau pellteroedd ac amseroedd teithio i apwyntiadau. A allwch chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith hwnnw?
 
13:40
Vaughan GethingBywgraffiad
Gallaf, rwy’n hapus i roi’r wybodaeth ddiweddaraf. Mae astudiaeth Grŵp Cydweithredol Gofal Iechyd y Canolbarth bellach wedi cwblhau astudiaeth ar weithgarwch teleiechyd gyda £25,000 o gyllid. Mae dros £200,000 o gyllid ychwanegol i fynd ar weithredu argymhellion yr astudiaeth gan ein bod yn cydnabod bod teleiechyd, i amryw o bobl yng nghanolbarth Cymru yn arbennig—ond mae yna bwynt cyffredinol yma am weddill y GIG—yn rhan bwysig o ddarparu gofal llawer gwell yn fwy lleol hefyd fel nad oes angen i bobl fynd i apwyntiadau cleifion allanol yn rheolaidd. Gallant gael gofal arbenigol wedi’i ddarparu mewn lleoliad lleol. Felly, mae hyn yn bendant yn rhywbeth rydym yn ei gyllido ac yn ei flaenoriaethu gyda’r grŵp cydweithredol. Rydym yn disgwyl gweld mwy ohono yn y dyfodol er budd cleifion a chlinigwyr eu hunain i sicrhau ein bod yn darparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn lle bynnag y bo hynny’n bosibl ac mor lleol ag sy’n bosibl.
 
13:41
Russell GeorgeBywgraffiad
Un o amcanion Grŵp Cydweithredol Gofal Iechyd y Canolbarth yw cyflwyno rhaglen o newid sy’n mynd i’r afael â darparu gofal iechyd i bobl canolbarth Cymru mor agos at eu cartref â phosibl. Nawr, y Drenewydd yw’r dref fwyaf ym Mhowys, ond nid yw’r uned mân anafiadau ond ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 a.m a 6:30 p.m. A gaf fi ofyn pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael gyda’r grŵp cydweithredol ynglŷn â’r posibilrwydd o sefydlu uned mân anafiadau 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos yn y Drenewydd i gyflawni’r amcan, wrth gwrs, o ddarparu gofal iechyd mor agos â phosibl at bobl canolbarth Cymru?
 
13:41
Vaughan GethingBywgraffiad
Wel, rwy’n credu bod y cwestiwn yn datgelu’n daclus yr her a geir pan fo gwleidyddion eisiau cael cynlluniau unigol yn eu hetholaethau eu hunain ni waeth beth y mae’r dystiolaeth yn awgrymu sy’n iawn. Mae’n bwysig bod y grŵp cydweithredol yn deall anghenion gofal iechyd y boblogaeth a’r ymateb gorau posibl gan bob un o’r darparwyr yn yr ardal, ac mae angen iddynt gydweithio â’i gilydd. Cafwyd amrywiaeth o fentrau i geisio cyflawni ein disgwyliadau y bydd mwy o ofal yn cael ei ddarparu’n lleol. Rwyf newydd ddisgrifio un yn y cwestiwn blaenorol gan Joyce Watson. Rydym yn dysgu hefyd o weithgaredd y ward rithwir mewn rhan o Bowys yn ogystal er mwyn deall y ffordd orau o ddarparu gofal iechyd ei hun, yn hytrach na dweud ein bod am ganolbwyntio maes gweithgaredd ni waeth beth y mae’r dystiolaeth yn ei ddweud wrthym ynglŷn â’r ffordd orau un o ddefnyddio ein hadnoddau mwyaf gwerthfawr, sef ein staff, i gyflawni’r canlyniadau gorau posibl i gleifion a phobl canolbarth a gorllewin Cymru.
 
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
 
13:42
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at gwestiynau gan lefarwyr y pleidiau ac yn gyntaf y prynhawn yma, llefarydd Plaid Cymru, Elin Jones.
 
13:42
Elin JonesBywgraffiad
Ddirprwy Weinidog, roedd maniffesto’r Blaid Lafur yn 2011 yn ymrwymo i roi mynediad i feddygfeydd teulu fin nos ac ar fore dydd Sadwrn. A ydych chi’n credu eich bod chi wedi llwyddo i wireddu’r ymrwymiad yma?
 
13:42
Vaughan GethingBywgraffiad
Fe fyddwch yn ymwybodol, o’r ffigurau diweddaraf, fod mwy o fynediad at wasanaethau meddygon teulu, gyda mwy o wasanaethau ar gael yn ystod yr oriau craidd ac oriau estynedig yn ystod yr wythnos. Fel rwyf wedi’i ddweud mewn cwestiynau cynharach, rydym yn gobeithio cyflawni newidiadau i ofal iechyd yma yng Nghymru drwy drafod a chytuno gyda’n staff, ac mae’r rhain yn faterion y byddwn yn parhau i’w trafod gyda chynrychiolwyr o fewn y GIG a meddygon eu hunain sydd, fel y gwyddoch wrth gwrs, yn gontractwyr annibynnol.
 
13:43
Elin JonesBywgraffiad
A gaf i ddychwelyd i’ch addewid chi yn 2011, cyn yr etholiad? Yn ddefnyddiol iawn, fe amlinelloch chi rywfaint o fanylion am yr ymrwymiad hwnnw mewn datganiad ar 3 Gorffennaf 2012, gan ddweud y byddech chi’n ymestyn argaeledd apwyntiadau fin nos, ar ôl 6.30 p.m., yn ystod 2013-14. A ydych chi’n ymwybodol, mewn pedwar bwrdd iechyd—Caerdydd a’r Fro, Cwm Taf, Powys a Betsi Cadwaladr—nad oes yna un feddygfa yn cynnig apwyntiadau wedi 6.30 p.m., ac, yn Abertawe Bro Morgannwg, dim ond 1 y cant o feddygfeydd sy’n gwneud, ac mae hynny wedi cwympo o 27 y cant bedair blynedd yn ôl? Mae’ch polisi chi yn fethiant llwyr o ran eich ymrwymiad chi i bobl Cymru cyn yr etholiad diwethaf. A ydych chi nawr yn fodlon cydnabod hynny?
 
13:44
Vaughan GethingBywgraffiad
Wel, mae’r ffigurau gwrthrychol yn dangos bod mwy o apwyntiadau ar gael y tu allan i oriau gwaith, ac mae gennym waith peilot ar y gweill yn y de-ddwyrain—[Torri ar draws.]—i sicrhau bod pobl, yn enwedig pobl sy’n gweithio, yn gallu cael mynediad at feddygfeydd meddygon teulu y tu allan i’r ardal y maent yn byw ynddi ac yn nes at eu man gwaith mewn gwirionedd. Felly, ceir pwynt pwysig yma ynghylch sicrhau bod gwell mynediad ac argaeledd i bobl allu cael gofal sylfaenol fel y bo’n briodol a lle y bo’n briodol. Mae’r Llywodraeth hon yn parhau’n ymrwymedig i hyn, ac rydym yn disgwyl gweld rhagor o waith yn cael ei wneud yn y dyfodol i sicrhau mynediad priodol i bobl at ofal iechyd lleol.
 
13:44
Elin JonesBywgraffiad
Yn ôl eto at eich ymrwymiad yn 2011 a’r hyn a ddywedasoch, sef y byddech chi yn ymestyn apwyntiadau fin nos a hefyd ar fore dydd Sadwrn, ac y byddech chi’n gwneud yn benodol y gwaith o ymestyn apwyntiadau ar fore dydd Sadwrn yn ystod y flwyddyn 2014-15. Dim ond dwy feddygfa drwy Gymru gyfan sydd yn cynnig apwyntiadau ar ddydd Sadwrn, a’r rheini bob yn ail ddydd Sadwrn. A ydych chi’n fodlon bod yn onest gyda’r Cynulliad yma, a gyda phobl Cymru, o ran eich ymrwymiad iechyd rhif 1 yn 2011, eich bod chi wedi methu â chwrdd â’r ymrwymiad yna, ac a wnewch chi roi ymddiheuriad i bobl Cymru am fethu â chwrdd â’r ymrwymiad yna?
 
13:45
Vaughan GethingBywgraffiad
Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn olaf. O ran y gwaith rwyf wedi’i amlinellu eisoes, mae argaeledd estynedig i bobl allu cael mynediad at ofal sylfaenol. Mae’r Llywodraeth hon yn ymrwymedig i hyn ac yn y dyfodol, rydym yn disgwyl i bobl allu cael mynediad at fwy o ofal iechyd yn lleol. [Torri ar draws.]
 
13:46
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Elin Jones, rydych wedi gofyn eich cwestiwn. [Torri ar draws.] Elin Jones, bihafiwch.
 
A wnewch chi ateb, os gwelwch yn dda?
 
13:46
Vaughan GethingBywgraffiad
Mae’r mynediad at ofal sylfaenol yn rhywbeth rydym wedi’i ehangu, o ran yr oriau estynedig sydd ar gael, ac rydym eisoes yn gwybod bod rhai meddygfeydd eisoes yn darparu mynediad gyda’r nosau ac ar benwythnosau hefyd ar sail ehangach. Ein her bob amser yw pa mor gyson yw hynny ac a yw’n ateb anghenion y cleifion eu hunain mewn gwirionedd. Felly, byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â’r proffesiwn i sicrhau bod mynediad at ofal sylfaenol ar gael mor hwylus â phosibl, ac mae’r Llywodraeth hon yn ymrwymedig i hynny yn awr ac ar gyfer dyfodol y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru.
 
13:46
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at lefarydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru—Kirsty Williams.
 
13:46
Kirsty WilliamsBywgraffiadArweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Weinidog, o ystyried eich methiant i gyflawni eich prif addewid o ran gwella mynediad at feddygon teulu, nid yw’n syndod, felly, fod 40 y cant o’r cleifion a holwyd wedi mynegi ei bod yn anodd cael apwyntiad gyda meddyg teulu. Ac nid apwyntiadau gyda’r nos oedd hynny, neu hyd yn oed apwyntiad ar benwythnosau; mae llawer o bobl yn dweud ei bod yn anodd cael apwyntiad arferol yn ystod oriau arferol. Pa gamau a gymerwyd gennych yn ystod y pum mlynedd diwethaf i sicrhau y gall pobl gael apwyntiad gyda meddyg teulu mewn modd amserol, ac a fyddech yn cytuno â mi a fy etholwr a geisiodd wneud apwyntiad yn ddiweddar i gael canlyniadau sgan? Dywedwyd wrtho y gallai weld meddyg mewn tair wythnos, a dywedwyd wrtho os oedd am weld y meddyg a’i hatgyfeiriodd i gael y sgan yn y lle cyntaf, byddai’n rhaid iddo aros wythnos arall wedyn. Felly, byddai’n aros pedair wythnos i gyd am apwyntiad i weld meddyg teulu i gael canlyniadau sgan.
 
13:47
Vaughan GethingBywgraffiad
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Mae’n rhywbeth rydym yn ei gydnabod o ran yr heriau y mae pobl yn eu hwynebu gyda mynediad at ofal iechyd ar y diwrnod neu apwyntiadau ar unwaith, ac mae’n dod o arolwg iechyd Cymru. Felly, er nad yw’r mwyafrif o bobl yn gweld hyn yn broblem, barnwn fod nifer sylweddol o bobl yn credu bod hyn yn her o ran cael apwyntiadau ar y diwrnod, a bod ymdrin â phobl sy’n gontractwyr annibynnol a deall sut y mae eu systemau apwyntiadau eu hunain yn gweithio yn her. A gwyddom y bydd meddygfeydd a phractisau ym mhob etholaeth, ochr yn ochr â’i gilydd, yn gweithredu systemau go wahanol. Felly, mae’n rhan o’n her, wrth weithio gyda byrddau iechyd a phractisau meddygon teulu, yn eu clystyrau yn ogystal, o ran sut y gallant wella eu systemau fel bod modd copïo a chyflwyno’r modelau gorau un sy’n cyflawni yn ôl disgwyliadau cleifion. Nawr, nid oes ffordd o fynnu’n syml fod meddygfeydd meddygon teulu yn gweithredu’r un model apwyntiadau yn union, oherwydd bydd angen iddo amrywio mewn gwahanol rannau o’r wlad. Ond rwy’n cydnabod yr her, a dyna hefyd pam rydym yn disgwyl i Fy Iechyd Ar-lein gael ei gyflwyno i fwy a mwy o bobl er mwyn gwneud yn siŵr fod trefnu apwyntiadau yn awr ac yn y dyfodol mor hawdd â phosibl. Felly, mae’n her sy’n ein hwynebu yn awr. Mae’n un lle rydym yn cydnabod y ceir arfer da, yn wir, yn y rhan fwyaf o lefydd yng Nghymru, ond yn sicr, nid yw’n rhywbeth y byddem yn dweud yn ei gylch ein bod yn fodlon ar y sefyllfa bresennol.
 
13:49
Kirsty WilliamsBywgraffiad
Ddirprwy Weinidog, nid oedd yn ceisio cael apwyntiad ar yr un diwrnod—ni allai hyd yn oed gael apwyntiad yn yr un mis i weld canlyniadau ei sgan. Nawr, yn eich dogfen, fe ddywedoch nid yn unig y byddech yn gwella mynediad at feddygon teulu, ond y byddech yn sicrhau bod pwysau’n cael ei dynnu oddi ar ein hadrannau damweiniau ac achosion brys. Wel, ym mis Ionawr eleni, treuliodd cyfanswm o 3,294 o gleifion 12 awr neu fwy mewn adran achosion brys, ac mae gwefan eich Llywodraeth ei hun yn dweud nad ydych yn cyrraedd eich targedau o ran lleihau nifer y bobl sy’n treulio pedair awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Felly, nid ydych wedi cyrraedd eich targed ar gyfer meddygon teulu. Nid ydych wedi cyrraedd eich targedau ar gyfer adrannau damweiniau ac achosion brys. Pam hynny?
 
13:49
Vaughan GethingBywgraffiad
Fe fydd yr Aelod yn gwybod, o’r cwestiwn a atebais yr wythnos diwethaf ac yn wir, y datganiadau ysgrifenedig a gyhoeddwyd gennym, fod cynnydd sylweddol ac ychwanegol yn nifer y cleifion a dderbynnir i adrannau damweiniau ac achosion brys ledled Cymru a’r DU. Yma yng Nghymru, cafwyd cynnydd o 10 y cant yn y nifer a dderbyniwyd i adrannau damweiniau ac achosion brys o’i gymharu â mis Ionawr y llynedd. Mae hynny bron yn 8,000 o gleifion yn ychwanegol. Yn wir, drwy fis Rhagfyr a mis Ionawr, gwelwyd mwy na 63,000 o bobl o fewn y terfyn amser o bedair awr. Yr hyn sy’n bwysig i ni yw bod y targedau eu hunain yn fodd defnyddiol o nodi rhan o’r gofal—nid y gofal i gyd—y mae pobl yn ei gael. Eto i gyd, yr amser cyfartalog i bobl gael eu gweld, eu trin a’u rhyddhau neu eu derbyn i’r ysbyty yw tua dwy awr a 10 munud.
 
Nid oes modd osgoi’r ffaith fod rhai pobl mewn man aros ysbyty am fwy o amser nag y byddem yn ei ddymuno, ond maent bob amser yn cael eu trin a’u rheoli’n weithredol, ac mae hynny’n rhywbeth rwy’n ei drafod yn rheolaidd â byrddau iechyd—sut y maent yn lleihau nifer y bobl sy’n aros 12 awr neu fwy. Ond byddai’n well gan lawer o bobl aros, cael eu gweld, eu trin a’u rhyddhau wedyn, yn y pen draw, os mai dyna yw’r peth iawn i’w wneud ar eu cyfer, yn hytrach na chael eu derbyn yn artiffisial, fel y mae’r system yn gweithio yn Lloegr, lle y ceir cosbau ariannol am beidio â gwneud hynny. Rwy’n meddwl mai’r system sydd gennym yng Nghymru yw’r un iawn. Yr her yw sut rydym yn ymdrin â’r pwysau hwnnw, ac mae angen cydnabod bod pwysau digynsail yn dod drwy ddrysau ein hysbytai ar hyn o bryd. Diolch i ymroddiad a gwaith caled y staff, rydym yn parhau i weld a thrin pobl ag urddas bron iawn ym mhob achos.
 
13:51
Kirsty WilliamsBywgraffiad
Ddirprwy Weinidog, eich rhaglen lywodraethu chi a ddywedodd y byddech yn gwella mynediad at feddygon teulu yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Nid ydych wedi gwneud hynny. Eich rhaglen lywodraethu chi a ddywedodd y byddech yn tynnu pwysau oddi ar ein hadrannau damweiniau ac achosion brys. Nid ydych wedi gwneud hynny. Mae ein hadrannau damweiniau ac achosion brys, fel rydych newydd ei ddweud, yn fwy prysur nag y buont erioed. Ond efallai mai’r methiant mwyaf damniol yn y rhaglen lywodraethu yw hwn: fe ddywedoch y byddech yn cau’r bwlch rhwng y bobl dlotaf a’r bobl gyfoethocaf yn y wlad hon o ran canlyniadau iechyd a disgwyliad oes. Dywed gwefan eich Llywodraeth ei hun fod y bylchau hynny wedi aros yr un fath. Pam y credwch nad ydych wedi llwyddo i wneud yr hyn yr addawoch ei wneud dros y pum mlynedd diwethaf, sef cau’r bwlch iechyd rhwng ein pobl dlotaf a’n pobl gyfoethocaf?
 
13:52
Vaughan GethingBywgraffiad
Wel, gadewch i mi ymdrin â’r pwyntiau y mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol newydd eu gwneud am y pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae’n gwbl ymwybodol fod llawer iawn o waith yn digwydd ar leihau’r pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys, ac ar leihau derbyniadau, fel nad oes angen i bobl fynd i’r ysbyty’n ddiangen. Nid yw ceisio awgrymu bod y galw ychwanegol sy’n dod drwy ddrysau adrannau damweiniau ac achosion brys rywsut yn fai ar y Llywodraeth, a’n bod yn uniongyrchol gyfrifol am yr angen hwnnw, o unrhyw ddefnydd o gwbl, ac nid yw’n cydnabod realiti’r sefyllfa. Rwy’n wirioneddol siomedig ynglŷn â’r modd y cafodd hynny ei awgrymu.
 
Mae’n glod sylweddol i’n staff eu bod yn rheoli ac yn ymdrin â’r pwysau ychwanegol, a gwyddoch yn dda iawn fod y galw ychwanegol ar yr adeg hon o’r flwyddyn yn deillio o amrywiaeth o ffactorau gwahanol. Mae gennym boblogaeth dlotach, hŷn, fwy sâl na Lloegr yn gyffredinol, ac mae hynny’n golygu bod mwy o bobl yn dod drwy ein drysau—mwy o bobl â chyflyrau iechyd cronig. Nid yw’r galw digynsail hwnnw’n caniatáu i Lywodraeth Cymru ddweud ymhen blwyddyn neu ddwy flynedd y gallwn gau’r tap. Yr her yw sut i ragweld hynny a chynllunio ar ei gyfer. Sut rydym yn paratoi ein gwasanaeth iechyd gwladol i ymdrin yn briodol â hynny, gan weithio law yn llaw â’u partneriaid ym maes gofal cymdeithasol a gofal sylfaenol? Mae honno’n her rydym yn cael trafodaeth yn ei chylch gyda phob un o’n partneriaid, ac mae’n rhywbeth sydd ar waith gennym. Fe fyddwch yn gwybod o’ch etholaeth eich hun am amrywiaeth o fesurau a roddwyd ar waith yn y maes.
 
O ran y bwlch mewn disgwyliad oes iach rhwng ein dinasyddion tlotaf a mwy cefnog, mae’r ffaith nad yw’r bwlch yn cynyddu yn rhywbeth i’w gydnabod, oherwydd pan fyddwch yn edrych ar anghydraddoldebau iechyd mewn amrywiaeth o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig, nid yw’r bwlch wedi bod yn cau. Mae gennym raglenni wedi’u targedu’n benodol—er enghraifft, Byw’n Well, Byw’n Hirach y cefais y pleser o’i lansio ym Mlaenau Gwent yn ddiweddar. Mae’r rhaglen honno’n mynd ati’n weithredol i edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i leihau anghydraddoldebau iechyd rhwng ein cymunedau tlotaf a’n cymunedau mwy cefnog. Ceir ymgysylltiad gweithredol gyda’r bobl hynny, ac ymgysylltiad gweithredol gydag ystod o bartneriaid gwahanol y mae angen iddynt i gyd symud i’r un cyfeiriad. Rwy’n falch fod gennym ymrwymiad gwirioneddol i roi’r gorau i anghydraddoldebau iechyd a gwneud rhywbeth yn eu cylch, ac rwy’n falch iawn o’r gwaith a wnawn gyda’n partneriaid i wneud yn union hynny.
 
13:54
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at lefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar.
 
13:54
Darren MillarBywgraffiad
Diolch i chi, Lywydd. Weinidog, mae un o bob saith o bobl Cymru ar restr aros y GIG. Beth rydych yn ei wneud ynglŷn â hynny?
 
13:54
Vaughan GethingBywgraffiad
Nid oes un o bob saith o bobl ar restr aros y GIG. Rwy’n hapus i gywiro anwybodaeth yr Aelod ynglŷn â’r mater. [Torri ar draws.]
 
13:54
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Trefn. Trefn.
 
13:54
Vaughan GethingBywgraffiad
Mae ffigurau rhestrau aros yn cydnabod bod nifer o bobl ar fwy nag un rhestr, fel y gwyddoch yn iawn. Nid yw awgrymu bod un o bob saith o bobl Cymru gyfan ar restr aros yn wir. Byddai’n well gennyf pe gallem gael trafodaeth resymegol ynglŷn â’r gwasanaeth iechyd a’i heriau, yn hytrach na cheisio rhoi camargraff bwriadol o’r sefyllfa drwy gamddyfynnu ffigurau yn y modd rydych yn ei wneud. Rwy’n gobeithio y byddwch yn cydnabod hynny pan fyddwch yn codi ar eich traed nesaf.
 
13:55
Darren MillarBywgraffiad
Dim ateb o gwbl gan y Gweinidog ynglŷn â’r hyn y mae’n ei wneud i leihau’r rhestrau aros hyn sy’n hwy nag y buont erioed. Gadewch i ni roi hyn mewn persbectif: mae bron i 440,000 o bobl ar restrau aros yma yng Nghymru. Pan ddaeth Carwyn Jones yn Brif Weinidog Cymru, roedd y ffigwr bron yn hanner hynny; mae wedi dyblu o dan ei oruchwyliaeth. Nid yn unig fod mwy o bobl ar restr aros, ond mae mwy o bobl yn aros yn hwy na mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Gwyddom, er enghraifft, o’r ystadegau swyddogol, mai’r amser aros cyfartalog ar gyfer llawdriniaeth clun yng Nghymru yw 75 diwrnod—yn sicr, dyna ydoedd yn 2014-15—o’i gymharu â 197—. Mae’n ddrwg gennyf, mae’n 75 diwrnod yn Lloegr o’i gymharu â 197 diwrnod yma yng Nghymru. Gwyddom hefyd fod ffigurau amseroedd aros ar gyfer llawdriniaeth ddargyfeiriol ar y galon yn dangos bod bwlch o 111 o ddiwrnodau yma—dyna’r amser aros yng Nghymru—o’i gymharu â 57 diwrnod yn unig yn Lloegr. Pam y dylai pobl Cymru ddioddef yr amseroedd aros hwy hyn? Rwy’n gofyn y cwestiwn a ofynnais i chi’n gynharach: beth rydych yn ei wneud i leihau’r amseroedd aros hyn?
 
13:56
Vaughan GethingBywgraffiad
Rwy’n siomedig eich bod eto wedi rhoi camargraff o’r ffigurau. Rwy’n siomedig eich bod unwaith eto yn rhoi camargraff o’r ffeithiau wrth siarad am ein gwasanaeth iechyd gwladol. Mae awgrymu bod un o bob saith o bobl ar restr aros a chithau’n gwybod nad yw hynny’n wir—rwy’n poeni ynghylch lefel eich gonestrwydd wrth i chi gymryd rhan yn y ddadl hon. O ran nifer y bobl ar restr, neu’r nifer o apwyntiadau ar restr aros, mewn gwirionedd, yn Lloegr mae’r ganran wedi codi hyd yn oed yn uwch nag yng Nghymru. Mewn gwirionedd, nid yw nifer y bobl sydd ar restr yn dweud wrthych pa mor gyflym y caiff pobl eu gweld nac am ansawdd y driniaeth y mae pobl yn ei chael. Byddwn yn gofyn i chi eto, Darren Millar, i ailystyried y modd rydych yn camddefnyddio ffigurau heb gyflwyno llwyddiant ein gwasanaeth iechyd gwladol yn onest yma yng Nghymru.
 
I ymdrin â’ch pwynt ynghylch llawdriniaethau clun, gwyddom, er enghraifft, nad yw’n ymwneud yn syml â faint o amser rydych yn ei aros; mae gennym ddiddordeb yn y canlyniadau yn ogystal. Fe fyddwch yn berffaith ymwybodol o archwiliad diweddar i gyfraddau marwolaethau ar ôl llawdriniaethau clun. Roedd gan 11 o safleoedd ysbyty penodol yn Lloegr bryderon sylweddol ynghylch y gyfradd farwolaethau o fewn 30 diwrnod, a’r ysbyty a oedd yn perfformio orau yn y categori mewn gwirionedd oedd Bronglais yma yng Nghymru. Mae’n dangos bod safon yn gwbl ganolog i’r hyn a wnawn yma yng Nghymru, a hoffwn yn fawr pe gallech o leiaf gydnabod hynny a’r ansawdd gwasanaeth y mae pobl yn ei gael yn rheolaidd gan ein staff yma yn y GIG yng Nghymru.
 
13:58
Darren MillarBywgraffiad
Rwy’n dal i aros am ateb ar yr hyn rydych yn ei wneud ynglŷn â’r amseroedd aros—
 
13:58
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Darren Millar.
 
13:58
Darren MillarBywgraffiad
[Anghlywadwy.]
 
13:58
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Darren Millar. Darren Millar. Darren Millar, a wnewch chi eistedd i lawr am funud?
 
Ddirprwy Weinidog, hoffwn i chi ystyried y ffordd rydych yn mynegi eich atebion cyn i chi ateb rhagor ohonynt. Iawn—Darren Millar.
 
13:58
Darren MillarBywgraffiad
Diolch i chi, Lywydd. Rwyf wedi gofyn am ateb ar ddau achlysur yn awr i’r hyn rydych yn ei wneud i leihau amseroedd aros. Rydych yn sôn am ganlyniadau. Mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon wedi rhybuddio am y niwed i bobl o ganlyniad i amseroedd aros ar gyfer llawdriniaethau dargyfeiriol ar y galon yma yn ne Cymru; daeth Swyddfa Archwilio Cymru i’r un casgliad hefyd. Beth rydych yn ei wneud i leihau’r amseroedd aros annerbyniol hyn? Os ydym am siarad am fod yn onest ac yn agored gyda’r cyhoedd, pam ar y ddaear nad ydych yn derbyn bod yna argyfwng o ran amseroedd aros yma yng Nghymru a bod angen mynd i’r afael â hynny ar frys? A ydych yn derbyn bod eich toriadau mwyaf erioed i gyllidebau’r gwasanaeth iechyd gwladol yn effeithio ar allu’r GIG i fynd i’r afael â’r amseroedd aros hyn?
 
13:59
Vaughan GethingBywgraffiad
Wrth gwrs, rydym yn buddsoddi’r swm mwyaf erioed yn y gwasanaeth iechyd gwladol yma yng Nghymru, er gwaetha’r ffaith ein bod yn dioddef toriadau flwyddyn ar ôl blwyddyn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, a arweinir gan ei blaid; dyna yw realiti’r sefyllfa. Rydym yn gwneud y dewisiadau o ran buddsoddi yn ein gwasanaeth iechyd gwladol yn y cyfnod ariannol anoddaf un i’r Cynulliad Cenedlaethol hwn, ac rwy’n falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni. O ran amseroedd aros, rydym yn disgwyl i amseroedd aros leihau. Ar ddiwedd y flwyddyn hon, fe fyddwch yn gweld gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru sydd wedi gwella amseroedd aros ym mhob maes. Byddwch yn gweld y cyflawniad hwnnw, a phan wnewch chi, rwy’n disgwyl i chi wneud y peth gweddus i’n gwasanaeth iechyd gwladol ac ymddiheuro am awgrymu fel arall. Rwy’n disgwyl i chi gywiro’r camargraff. Rwy’n disgwyl i chi fod yn ddigon cwrtais i gydnabod bod y ffordd rydych yn bychanu ein gwasanaeth iechyd gwladol, y ffordd rydych yn rhoi camargraff o weithgarwch ein gwasanaeth iechyd gwladol, yn dwyn anfri arnoch, ac ni fydd pobl Cymru yn cael eu twyllo gan Dorïaid yn gweiddi am y gwasanaeth iechyd gwladol. Mae pobl Cymru yn gwybod yn iawn na allwch ymddiried yn y Torïaid gyda’n GIG.
 
14:00
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn ôl at y cwestiynau ar y papur yn awr. Daw cwestiwn 3 gan Sandy Mewies.
 
Cyfleusterau Gofal Iechyd Sylfaenol yn y Fflint
 
14:00
Sandy MewiesBywgraffiad
3. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth o gyfleusterau gofal iechyd sylfaenol yn y Fflint? OAQ(4)0704(HSS)
 
14:00
Vaughan GethingBywgraffiad
Gwnaf, rwy’n hapus iawn i wneud. Diolch am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo £5 miliwn o gyllid cyfalaf ar gyfer canolfan iechyd a gofal cymdeithasol integredig newydd yn y Fflint. Bydd y ganolfan newydd arfaethedig yn integreiddio a chydleoli amrywiaeth o wasanaethau sylfaenol, cymunedol, cymdeithasol a’r sector gwirfoddol.
 
14:00
Sandy MewiesBywgraffiad
Diolch. Mae’r gymeradwyaeth i ganolfan iechyd y Fflint a’r nifer o wasanaethau a ddarperir i’w chroesawu. Yn yr ymgynghoriad gwreiddiol ar wasanaethau iechyd yn 2012, fe ddywedais, pe bai gwasanaethau’n cael eu disodli, yna y dylai’r gwasanaethau sy’n dod yn eu lle ateb anghenion poblogaeth sy’n cynyddu’n barhaus, a bod yn ddiogel a chynaliadwy. Dywedais hefyd fod yr amserlen a gynlluniwyd ar gyfer darparu’r gwasanaethau hynny yn ddychrynllyd o hir. Weinidog, a gaf fi ofyn i chi roi camau ar waith i sicrhau nad yw’r cynllun hwn yn dioddef unrhyw oedi pellach ac yn y dyfodol, fod byrddau iechyd yn gweithredu i sicrhau, os oes angen disodli gwasanaethau mewn cymuned, fod y cyfnod pontio mor gyflym ac mor llyfn â phosibl?
 
14:01
Vaughan GethingBywgraffiad
Diolch am y cwestiwn. Gwnaed y pwyntiau hynny’n dda gan Sandy Mewies. Dylwn ddweud, o ystyried mai’r rhain fydd eich cwestiynau iechyd diwethaf, eich bod wedi bod yn eiriolwr cyson a pharhaus dros gyfleusterau gofal iechyd newydd i wasanaethu pobl y Fflint, ac rwy’n cydnabod bod y gwaith o gynllunio’r cynllun hwn wedi bod yn hir, ac y byddem wedi hoffi ei weld yn cael ei gyflawni’n gyflymach. Rydych yn gwneud pwynt cwbl deg: dylai’r cyfnod pontio fod mor ddi-dor â phosibl.
 
Mae gwasanaethau gofal iechyd wedi parhau i gael eu darparu, ond rwy’n meddwl y byddem, yn y dyfodol, yn disgwyl na fydd unrhyw oedi pellach o gwbl yn y broses o gyflawni’r cynllun hwn, fel bod pobl y Fflint yn cael y buddsoddiad sylweddol wedi’i ddarparu ar garreg eu drws i ddarparu ystod sylweddol ac ychwanegol o wasanaethau iddynt. Felly, rwy’n credu bod hon yn enghraifft dda o’r math o gynlluniau y dylem eu gweld mewn rhannau eraill o Gymru yn ogystal, ac edrychaf ymlaen at allu cyflawni hynny yn ystod tymor nesaf y Cynulliad.
 
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
 
14:02
John GriffithsBywgraffiad
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysigrwydd ymdrin ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd i wella’r ddarpariaeth o wasanaethau yng Nghymru? OAQ(4)0697(HSS)
 
14:02
Vaughan GethingBywgraffiad
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Ein dull o weithredu yng Nghymru yw galluogi a chefnogi gweithio mewn partneriaeth ar draws iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn sicrhau bod pobl yn cael gwasanaethau, gofal a chymorth integredig o ansawdd uchel. O’r herwydd, rydym wedi diogelu ein cyllidebau gwasanaethau cymdeithasol hanfodol ac wedi darparu cyllid penodol, fel y gronfa gofal canolraddol, i ysgogi gweithio mewn partneriaeth.
 
14:03
John GriffithsBywgraffiad
Weinidog, yn Lloegr, rwy’n credu ein bod yn gweld canlyniadau diffyg cefnogaeth Llywodraeth y DU i ofal cymdeithasol ar ffurf problemau difrifol ym maes gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd. Diolch i’r drefn, yma yng Nghymru, fel rydych wedi sôn yn fyr, gwelwn ddull integredig o weithredu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol drwy, er enghraifft, y gronfa gofal canolraddol. A fyddech yn cytuno bod y sefyllfa yn Lloegr ar hyn o bryd, oherwydd diffyg strategaeth a pholisi integredig o’r fath, yn wers lesol ynghylch yr hyn sy’n digwydd os nad ydych yn gweithredu felly? A wnewch chi fy sicrhau i a phobl Cymru y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddatblygu a gweithredu polisi mewn ffordd gydgysylltiedig ym maes iechyd a gofal cymdeithasol?
 
14:03
Vaughan GethingBywgraffiad
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn ac am dynnu sylw at effaith sylweddol y toriadau i ofal cymdeithasol yn Lloegr nad ydym wedi’u hefelychu yma yng Nghymru. Mae ffigurau’r Trysorlys ei hun yn dangos bod gwariant y pen saith y cant yn uwch yng Nghymru ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Nid y Llywodraeth hon yn unig sy’n dweud bod yna broblem ym maes gofal cymdeithasol yn Lloegr. Mae Simon Stevens, prif weithredwr y GIG yn Lloegr, wedi galw’n gyson am setliad sy’n sefydlog yn wleidyddol ac am gyllido gofal cymdeithasol yn Lloegr. Rwy’n falch o’r ffaith ein bod yn darparu ateb gwirioneddol gydgysylltiedig yma yng Nghymru, gan edrych ar iechyd a gofal cymdeithasol gyda’i gilydd. Mae’n help i egluro pam fod gennym system lawer mwy cadarn yma yng Nghymru rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae hefyd yn help i egluro pam fod gan Loegr lefel uwch nag erioed o oedi wrth drosglwyddo gofal pan ymddengys ein bod ni’n cadw’r lefel yn sefydlog ac yn llwyddo’n llawer gwell yma yng Nghymru.
 
14:04
William GrahamBywgraffiad
Rwy’n hynod ddiolchgar i’r holwr am dynnu sylw at un o bolisïau craidd y Ceidwadwyr Cymreig. Rydym wedi ymrwymo i greu cronfa arloesi mewn gofal gwerth £10 miliwn i gydgysylltu iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. A ydych yn derbyn bod y gronfa arloesi mewn gofal yn fwy tebygol o helpu pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain?
 
14:04
Vaughan GethingBywgraffiad
Byddwn wrth fy modd yn gweld manylion polisi’r Ceidwadwyr a sut ar y ddaear rydych yn mynd i’w gyllido. Yng Nghymru, mae gennym y gronfa gofal canolraddol sy’n darparu gofal integredig—£20 miliwn y llynedd, £50 miliwn o refeniw y flwyddyn nesaf, a £10 miliwn o gyfalaf ychwanegol. Dyma Lywodraeth sy’n cyflawni o ran integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, ac edrychaf ymlaen at ein gweld yn gallu parhau’r daith honno yn y Cynulliad nesaf.
 
14:05
Lindsay WhittleBywgraffiad
Wel, Ddirprwy Weinidog, heb yr hyn y byddem yn ei ystyried yn integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol go iawn, sut y byddwch yn sicrhau—a byddwn yn dyfynnu polisi gofal iechyd darbodus eich Llywodraeth—y bydd pobl yn cael y gofal cywir yn y lle cywir ar yr amser cywir, oherwydd o’r hyn rwyf wedi’i glywed heddiw, mae eich plaid mewn twll braidd a’r cyngor arferol yw taflu’r rhaw a rhoi’r gorau i balu? Yn bersonol, pe bawn i’n chi, byddwn yn dod allan o’r twll. [Chwerthin.]
 
14:05
Vaughan GethingBywgraffiad
Wel, wel—sôn am ladd trosiad. [Chwerthin.] Rwy’n ailddatgan eto nad oes gan y blaid hon a’r Llywodraeth hon unrhyw fwriad o gwbl o ddilyn agenda Plaid Cymru i chwalu’r gwasanaeth iechyd yn nifer o ddarnau gwahanol. Nid ydym yn credu y bydd hollti gofal iechyd cymunedol a sylfaenol yn nifer o rannau gwahanol o lywodraeth leol yn ddefnyddiol o gwbl i gyflawni integreiddiad go iawn o iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym yn falch iawn o’r dull rydym yn ei weithredu yn Neddf Gwenda Thomas a basiwyd gan y Cynulliad hwn ar fodel gwahanol er mwyn i iechyd a gofal cymdeithasol weithio gyda’i gilydd. Mae’r byrddau partneriaeth eisoes yno, fel y mae’r cyllidebau cyfun a’r gyfarwyddeb y mae’r Llywodraeth hon yn eu cyhoeddi, a’r arian go iawn rydym yn ei roi yn y gronfa gofal canolraddol er mwyn sicrhau ei bod yn cael ei darparu. Rydym yn cydnabod ei bod hi’n bwysig i iechyd a gofal cymdeithasol weithio gyda’i gilydd; dyna pam rydym yn edrych arnynt gyda’i gilydd pan fyddwn yn eu cyllido. Rydym yn falch iawn o’r gwaith y maent yn ei wneud gyda’r sector gwirfoddol hefyd, ac rydym yn disgwyl mwy o hynny yn y dyfodol wrth i ni sicrhau canlyniadau go iawn i bobl ym mhob rhan o Gymru.
 
14:06
Gwenda ThomasBywgraffiad
Weinidog, yn aml gofal yn y cartref yw’r pwynt lle y mae anghenion iechyd a gofal cymdeithasol yn gorgyffwrdd yn fwyaf amlwg. A fyddech yn cytuno y dylai cyrff cyhoeddus, wrth iddynt fynd i’r afael ag anghenion defnyddwyr gwasanaethau drwy eu systemau gofal cartref, ganolbwyntio’n llwyr ar ansawdd y gofal a ddarperir, a hawl defnyddwyr gwasanaethau a’u gofalwyr i fod yn rhan ganolog o’r broses o lunio a darparu gwasanaethau, ac na ddylai’r amcanion hyn fod yn ddarostyngedig ar unrhyw adeg i’r awydd i gystadlu â darparwyr eraill yn y farchnad gofal cymdeithasol?
 
14:07
Vaughan GethingBywgraffiad
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn; cytunaf â’r pwynt y mae’n ei wneud. Rydym wedi dweud yn glir iawn wrth ddarparwyr iechyd a gofal cymdeithasol ein bod yn disgwyl ffocws ar ansawdd wrth gomisiynu fel sbardun i’r gwaith y maent yn ei wneud. Dyna pam rydym hefyd wedi’u cyfarwyddo i ddefnyddio cynllun y Ddeddf a dreialwyd gennych drwy’r Cynulliad hwn i sicrhau eu bod yn cynllunio ac yn deall anghenion ein poblogaeth, ac yna yn cyfarfod â’i gilydd hefyd. Felly, mae gennym faes penodol lle rydym yn disgwyl iddynt weithio gyda’i gilydd ar gydgomisiynu a darparu’r gwasanaethau hynny. Dyna pam ein bod yn diogelu gwariant iechyd a gwasanaethau cymdeithasol; dyna pam fod £21 miliwn ychwanegol wedi mynd tuag at ofal cymdeithasol yn y gyllideb ddiwethaf. Ond rwy’n arbennig o falch eich bod wedi sôn am anghenion gofalwyr. Rydym yn edrych yn benodol ar anghenion gofalwyr ar hyn o bryd, ac mae hon yn rhan wirioneddol arloesol o’r cynllun deddfwriaethol a gyflwynwyd gennych, ac rwy’n credu bod Cymru mewn sefyllfa dda iawn o gymharu â gweddill y DU i sicrhau a rhoi cydnabyddiaeth briodol i hawliau ac anghenion gofalwyr yn y dyfodol.
 
Hemoffilia a Gwaed Halogedig
 
14:08
Julie MorganBywgraffiad
5. A wnaiff y Dirprwy Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran taliadau i bobl sydd â hemoffilia a heintiwyd gan waed halogedig? OAQ(4)0706(HSS)
 
14:08
Vaughan GethingBywgraffiad
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Ar 21 Ionawr eleni, cyhoeddodd yr Adran Iechyd yn Whitehall gynigion i newid taliadau a wneir o dan yr amgylchiadau rydych newydd eu hamlinellu. Daw’r ymgynghoriad hwnnw i ben ar 15 Ebrill, a byddwn yn annog unrhyw un yr effeithir arnynt yng Nghymru, eu teuluoedd a’u cynrychiolwyr i fynegi eu barn cyn y dyddiad cau.
 
14:08
Julie MorganBywgraffiad
Diolch i’r Dirprwy Weinidog am yr ymateb hwnnw, ond rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog yn ymwybodol bod y Gymdeithas Hemoffilia a grwpiau hemoffilia yng Nghymru wedi cael gwybod gan y Gweinidog iechyd cyhoeddus yn Lloegr a chan Swyddfa Cymru, er eu bod wedi cael cais i gyfrannu at y broses ymgynghori yn Lloegr, y bydd union swm a ffurf y taliadau yn faterion i Lywodraeth Cymru benderfynu arnynt. Roedd hyn, rwy’n credu, yn newyddion i Lywodraeth Cymru, ac roedd yn syndod mawr i bobl a theuluoedd sydd wedi dioddef llawer drwy fod yn gleifion a halogwyd gan waed wedi’i heintio, ac a ddaliodd HIV a hepatitis C mewn gwirionedd, ac sydd mewn sefyllfa lle nad ydynt yn gwybod beth sy’n digwydd; maent wedi drysu’n llwyr ynglŷn â’r sefyllfa. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a oedd y Dirprwy Weinidog yn gallu egluro’r sefyllfa o ran yr hyn sy’n gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru, a beth y mae’r Adran Iechyd yn ei wneud drwy gyfleu negeseuon sy’n gwrthdaro yn y fath fodd.
 
14:09
Vaughan GethingBywgraffiad
Diolch i’r Aelod am dynnu sylw at y mater; rwy’n gwybod ei bod wedi dangos llawer iawn o ddiddordeb yn hyn fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar waed halogedig. Mae’n bosibl y byddai o gymorth pe bawn yn egluro bod Llywodraeth y DU a’r Llywodraethau yng Nghymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon wedi cytuno i arfer dull unedig o weithredu drwy’r DU mewn perthynas â thaliadau i bobl yr effeithiwyd arnynt gan y sgandal gwaed halogedig. Yn anffodus, yn dilyn hynny gwnaeth Llywodraeth y DU gyhoeddiad unochrog ar arian i bobl yn Lloegr cyn yr ymgynghoriad ei hun. Mae hynny wedi creu elfen fawr o ddryswch ymhlith pobl sy’n cymryd rhan yn yr ymgynghoriad ac yr effeithir arnynt ym mhob rhan o Gymru.
 
Ysgrifennodd Prif Weinidog Cymru at yr Ysgrifennydd Gwladol ar ddechrau mis Chwefror—ac rydym yn dal i aros am ymateb i’r llythyr hwnnw—yn tynnu sylw at y ffaith ein bod yn dymuno cael proses briodol rhwng y pedair cenedl, fel y cytunwyd ar y dechrau, ac nad ydym eisiau i unrhyw gyhoeddiadau unochrog pellach gael eu gwneud rhag peri dryswch ychwanegol, ac ar ddiwedd yr ymgynghoriad, byddwn yn disgwyl gallu mabwysiadu ymagwedd ddilys ar y cyd rhwng y pedair tuag at y mater penodol hwn, gan mai’r peth olaf y mae pobl sydd wedi dioddef o ganlyniad i’r sgandal gwaed halogedig ei eisiau yw gwahanol wledydd a gwahanol adrannau yn beirniadu ei gilydd, gan ddweud bod y bai ar rywun yn rhywle arall. Mae hyn yn cael ei arwain gan Lywodraeth y DU, mae’n ddull rydym i gyd eisiau gallu ymrwymo iddo, ac rwy’n gobeithio y ceir pwl o synnwyr cyffredin yn awr a dull cyffredin o fynd i’r afael â’r mater arbennig o anodd hwn.
 
14:11
Suzy DaviesBywgraffiad
Ddirprwy Weinidog, rwy’n siŵr y byddai’r Cynulliad yn gwerthfawrogi diweddariad cyffredinol ar fuddsoddiad mewn ymchwil a datblygu ym maes clefydau gwaed a chlefydau a gludir yn y gwaed megis hepatitis, fel y crybwyllodd Julie Morgan. Byddwn yn arbennig o ddiolchgar am yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd mewn perthynas ag anemia dinistriol i gynnwys gwybodaeth ynglŷn â’r syniadau diweddaraf am amlder a dos pigiadau fitamin B12 yn ogystal ag unrhyw therapïau newydd. A wnewch chi gadarnhau pa mor aml y mae Llywodraeth Cymru yn adolygu’r llenyddiaeth ar anemia dinistriol a pha un a yw wedi comisiynu unrhyw ymchwil yn uniongyrchol i’r clefyd hwn, i hemoffilia a chlefydau gwaed eraill neu glefydau a gludir yn y gwaed?
 
14:11
Vaughan GethingBywgraffiad
Mae gennym ystod o weithgarwch ar glefydau a gludir yn y gwaed ac mae gennym ystod o weithgarwch sydd wedi’i gyflawni, ac sydd wedi’i gynnwys, fel un o’n cynlluniau cyflawni. Byddai’n bleser gennyf ysgrifennu atoch gyda’r manylion hynny a sicrhau bod yr Aelodau eraill yn cael copi hefyd.
 
14:11
Rhun ap IorwerthBywgraffiad
Af innau yn ôl at y cynllun taliadau. Mae yna bryder difrifol bod yr hyn y mae Llywodraeth Prydain yn ymgynghori arno fo ar hyn o bryd yn cynrychioli cam eithaf sylweddol yn ôl o ran y gefnogaeth sy’n cael ei rhoi i’r rheini sy’n gorfod byw efo canlyniadau gwaed wedi’i heintio. A wnaiff y Dirprwy Weinidog roi ymrwymiad—yn ogystal â chwilio am eglurhad ynglŷn â beth sy’n digwydd—i weithio’n agos efo Llywodraeth Prydain yn ystod a thu hwnt i’r ymgynghoriad presennol i sicrhau, yn gyntaf, os ydy’r cyfrifoldeb am weithredu’r cynllun taliadau yn cael ei ddatganoli rywsut i Gymru, fod yna arian digonol yn dod i Gymru i weithredu y fath gynllun, neu os ddim, fod Llywodraeth Cymru yn cynrychioli buddiannau cleifion yng Nghymru drwy lobïo yn gryf yn erbyn y cam anghyfiawn sy’n cael ei argymell ac a allai, mae’n ymddangos, gael ei orfodi ar Gymru?
 
14:12
Vaughan GethingBywgraffiad
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Unwaith eto, mae’n help i gydnabod bod ystod o wahanol ddulliau talu gan wahanol gronfeydd elusennol ar hyn o bryd. Yn gyffredinol, cafwyd cytundeb mai cael cynllun sengl llai cymhleth fyddai’r peth iawn i’w wneud ar gyfer pobl yr effeithiwyd arnynt gan y sgandal. Yr her mewn perthynas â symud at y cynllun sengl hwnnw a’r camau unochrog a roddodd yr Adran Iechyd ar waith—nodais hynny’n gynharach yn yr ymateb i Julie Morgan.
 
O ran cynigion wrth iddynt ddod, rydym yn awyddus i weithio gydag Adran Iechyd y DU, fel y mae pob un o wledydd eraill y DU. Dyna’n bendant fyddai orau gennym. Os oes heriau o ran y ffordd y bydd hynny’n digwydd, byddwn yn cynrychioli buddiannau dinasyddion Cymru mewn unrhyw gynigion yn y dyfodol wrth gwrs. Ni fydd unrhyw ddiffyg ymdrech o ran hynny. Ond nid wyf am gychwyn rhyfel geiriau gyda’r Adran Iechyd. Rwyf eisiau gweld cydnabyddiaeth mai’r ffordd orau o ymdrin â hyn yw ar sail y DU gyfan ac mae’n golygu bod yn rhaid iddynt weithio gyda phob un o’r gweinyddiaethau datganoledig, a darparu bargen deg i bobl yr effeithiwyd arnynt gan y sgandal gwaed halogedig ym mhob gwlad yn y Deyrnas Unedig. Dyna rydym ei eisiau, dyna rydym yn gweithio tuag ato a byddwn yn parhau i gynrychioli buddiannau gorau dinasyddion Cymru wrth wneud hynny.
 
14:14
Eluned ParrottBywgraffiad
Weinidog, rwy’n ddiolchgar i chi am eich datganiadau blaenorol. Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm ag etholwr a oedd yn gofidio’n fawr am y pryder y mae’r sefyllfa hon yn ei achosi iddi ynglŷn â’i dyfodol. Un testun pryder penodol oedd y syniad a oedd mynd o gwmpas—ac nid wyf yn siŵr o ble y daeth—y dylid defnyddio rhywfaint o arian y taliadau i dalu am rai o’r meddyginiaethau newydd drud iawn sydd ar gael at hepatitis C, ac nad ydynt ond ar gael i gleifion sy’n dioddef o’r camau olaf un o’r clefyd, er mwyn eu darparu’n gynt. Tybed a allwch ddweud a yw hynny’n wir ai peidio ac a wnewch chi ddweud wrth Lywodraeth y DU ei bod hi’n wirioneddol angenrheidiol i bobl yr effeithiwyd arnynt gan waed halogedig gael mynediad at y rhain heb ystyried y cynllun talu.
 
14:14
Vaughan GethingBywgraffiad
Ie, diolch. Rwy’n ymwybodol o’r pryder gwirioneddol y mae teuluoedd yn ei deimlo, ac yn ôl pob tebyg bydd gan bob un ohonom etholwyr unigol yr effeithiwyd arnynt gan y mater penodol hwn. Dyna pam rwy’n mynd yn ôl at y penderfyniad a wnaeth y Gweinidog ym mis Awst y llynedd i sicrhau bod ystod o driniaethau newydd ond costus sy’n effeithiol ar gyfer pobl sy’n dioddef o hepatitis C datblygedig ar gael yma yng Nghymru, gan gynnwys, wrth gwrs, sofos—sofosbuvir, a gwn fod arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi cael trafferth dweud y gair yn y gorffennol hefyd—[Chwerthin.]—ond mae hwnnw ar gael bellach. Yr her bob amser yw sicrhau bod hwnnw ar gael i bobl sydd ei angen a gwneud yn siŵr ei fod ar gael yn fwy cyson. Felly, rydym wedi gwneud penderfyniad ynghylch cyllid i geisio sicrhau ei fod yn digwydd. Yr her yn awr yw gwneud yn siŵr ei fod yn digwydd yn gyson ledled Cymru. Rwy’n credu bod gennym y safbwynt cywir yng Nghymru o ran ein hamcanion. Mae angen sicrhau eu bod yn cael eu rhoi ar waith yn ymarferol yn awr. Dylai’r arian rydym wedi’i gyhoeddi sicrhau hynny.
 
Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig
 
14:15
Yr Arglwydd / Lord Elis-ThomasBywgraffiad
6. Pa ddarpariaeth newydd a wnaed ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig yn ystod y pedwerydd Cynulliad? OAQ(4)0696(HSS)[W]
 
14:16
Vaughan GethingBywgraffiad
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Ymhlith y darpariaethau newydd sylweddol ar gyfer gwasanaethau integredig yn yr ysbyty newydd yn Nhywyn a’r ganolfan iechyd cymunedol newydd a gyhoeddwyd ar gyfer Blaenau Ffestiniog, sydd, ill dau, yn cyfuno gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, a chyllidwyd y ddau ohonynt yn ystod y pedwerydd Cynulliad.
 
14:16
Yr Arglwydd / Lord Elis-ThomasBywgraffiad
A gaf ddiolch yn fawr i’r Gweinidog am yr ateb yna, a hefyd am y datblygiadau sydd yn digwydd yn ardal Dwyfor Meirionnydd? Rwy’n croesawu’r datblygiad yn Nhywyn ac yn edrych ymlaen at weld yr ysbyty’n cael ei agor, ac wrth gwrs datblygiad y ganolfan ym Mlaenau Ffestiniog. Ond, a gaf i hefyd ddiolch i’r Gweinidog am yr arweiniad ymarferol sydd yn digwydd mewn safleoedd fel Ysbyty Alltwen, lle o’r diwedd y mae gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau iechyd yn cydweithio yn yr un coridor, a hyd yn oed yn yr un ystafelloedd gydag achosion penodol, lle mae’r boen a achosid yn y gorffennol i gleifion a chleientiaid y gwasanaethau yma o orfod cael asesiadau ar wahân wedi dod i ben?
 
14:17
Vaughan GethingBywgraffiad
Do, ac rwy’n ddiolchgar am y gydnabyddiaeth o’r camau ymarferol sy’n cael eu cymryd i integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar lefel leol. Dyna y dylem weld mwy ohono yn ein barn ni. Dyna pam rydym yn ariannu ystod o gynlluniau i ddwyn iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd, nid yn unig yn Nhywyn a Blaenau Ffestiniog, ond yn Llangollen, y Fflint a Chylch Caron yn ogystal—enghreifftiau o’r math o integreiddio gwasanaethau ymarferol rydym am ei weld. Rydym yn ariannu cyfalaf ac rydym yn dod â phartneriaid at ei gilydd i wneud hynny. Dyna’r dull rydym yn ei ffafrio ar gyfer y dyfodol: dull partneriaeth ymarferol rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, yn hytrach nag ad-drefnu helaeth, ac fel y mae’r Aelod yn gwybod nid ydym yn cefnogi hynny. Ond rwy’n credu bod llawer i’w ganmol yn yr hyn sy’n digwydd eisoes a’r hyn y gallem weld mwy ohono yn y pumed Cynulliad.
 
Brechiadau yn erbyn y Ffliw
 
14:17
Sandy MewiesBywgraffiad
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y niferoedd sydd wedi cael brechiadau yn erbyn y ffliw y gaeaf hwn? OAQ(4)0705(HSS)
 
14:17
Vaughan GethingBywgraffiad
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Mae ymgyrch frechu’r tymor hwn yn parhau i fod ar waith. Mae arwyddion cynnar yn dangos bod nifer y bobl dros 65 oed sy’n cael y brechiad yn debygol o fod yn uwch nag y bu mewn blynyddoedd blaenorol, a gwyddom fod chwech o fyrddau neu ymddiriedolaethau iechyd eisoes wedi cyflawni’r targed o frechu 50 y cant o’u staff sy’n dod i gysylltiad uniongyrchol â chleifion.
 
14:18
Sandy MewiesBywgraffiad
Diolch yn fawr, Weinidog. Gwyddom hefyd, fodd bynnag, fod gormod o bobl iau mewn perygl o ddal y math penodol hwn o ffliw sy’n mynd o gwmpas ar hyn o bryd ac maent yn methu â manteisio ar y brechiad ffliw sydd ar gael iddynt yn rhad ac am ddim. Targed Llywodraeth Cymru ar gyfer brechiadau ffliw ar hyn o bryd yw 75 y cant. Gwyddom mai 50 y cant yn unig o bobl dan 65 oed sy’n cael eu brechu. Felly, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod y rhai sydd mewn perygl yn ymwybodol fod y brechiad hwn, sy’n rhad ac am ddim, ar gael a ble y gallant ei gael?
 
14:18
Vaughan GethingBywgraffiad
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Mae’n bwynt pwysig hefyd. Mae’n werth ystyried fod awgrym y llynedd, wrth gwrs, gyda’r ymgyrch ffliw, nad oedd y brechlyn mor effeithiol ag y gallai fod wedi bod. Mewn gwirionedd, deallwn bellach fod brechlyn ffliw y llynedd yn llawer mwy effeithiol na’r hyn a feddylid ac a nodwyd. Yn anffodus, mae rhai o’r adroddiadau yr adeg honno wedi cael effaith ar barodrwydd pobl i gael y pigiad ar gyfer y gaeaf hwn. Mae’n her go iawn. Rydych yn gwneud pwynt hollol gywir fod pobl iau wedi’u heffeithio’n waeth gan y math o ffliw a gawsom eleni. Felly, rydym yn annog pawb sydd mewn perygl, gan fy nghynnwys fy hun, ac sydd o dan 65 oed i sicrhau eu bod yn cael eu brechiadau pan fônt ar gael. Nid ydym yn credu mai’r her yw sicrhau bod pobl yn ymwybodol fod y brechlyn ffliw ar gael; mae’n ymwneud mewn gwirionedd a phobl yn cymryd y cam nesaf a dweud y byddant yn ei gael ac yn cael eu diogelu. Rwy’n dal i feddwl bod llawer gormod o bobl yn credu bod y ffliw yn ddiniwed rywsut. Yn wir, gwyddom fod pobl yn marw bob blwyddyn o ganlyniad i ffliw a bod pobl yn cael salwch difrifol. Felly, os ydych mewn grŵp sydd mewn perygl neu dros 65 oed, manteisiwch ar y cynnig a chael y brechlyn tra’i fod ar gael.
 
14:19
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Diolch yn fawr, Weinidog.
 
2. Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
 
14:19
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at eitem 2, sef cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau. Nid yw Janet Haworth yn bresennol, felly symudwn at gwestiwn 2, sef Aled Roberts.
 
Ni ofynnwyd cwestiwn 1, OAQ(4)0685(ESK).
 
Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
 
14:19
Aled RobertsBywgraffiad
2. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am lythyr cylch gorchwyl Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar gyfer 2015-16? OAQ(4)0692(ESK)[W]
 
14:20
Huw LewisBywgraffiadY Gweinidog Addysg a Sgiliau
Gwnaf. Diolch i’r Aelod dros Ogledd Cymru. Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru wedi gwneud cynnydd ar bob un o’r blaenoriaethau a nodais yn fy llythyr cylch gwaith 2015-16. Mae cynnydd yn cael ei fonitro’n rheolaidd drwy gyfarfodydd monitro chwarterol gyda Gweinidogion a swyddogion, a bydd y llythyr cylch gwaith ar gyfer 2016-17 yn cael ei gyhoeddi cyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.
 
14:20
Aled RobertsBywgraffiad
A gaf i ofyn ichi, ynglŷn â’r llythyr gorchwyl yna, a ydych chi’n meddwl, ar hyn o bryd, ynglŷn â’r £5 miliwn ychwanegol ar gyfer darpariaeth ran amser a’r £5 miliwn ychwanegol ar gyfer ymchwil y bydd yna gyfeirio penodol at y ffigurau hynny? Hefyd, a ydych chi mewn sefyllfa i gadarnhau y bydd y llythyr hefyd yn gofyn iddyn nhw i ddal ati ynglŷn â darpariaeth gyfrwng Gymraeg trwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol? Wrth wneud hynny, mae’n rhaid imi ddatgan diddordeb gan fod fy mab yn aelod o’r Coleg Cymraeg.
 
14:21
Huw LewisBywgraffiad
Rwy’n credu y gallaf dawelu meddwl yr Aelod ynglŷn â’r tri mater allweddol sy’n ymwneud â darpariaeth ran-amser, ymchwil a darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn addysg uwch. Fel y dywedais, mae gwaith yn mynd rhagddo ar baratoi’r llythyr cylch gwaith. Rwy’n disgwyl am gyngor gan fy swyddogion yn fuan ac yn unol â’r arfer, bydd y llythyr yn cael ei gyhoeddi cyn diwedd y flwyddyn ariannol gyfredol. Ond cofnodwyd eisoes fy mod wedi pwysleisio bod darpariaeth ran-amser ac ymchwil yn benodol yn feysydd sy’n peri pryder.
 
14:21
Angela BurnsBywgraffiad
Weinidog, yn ystod sesiwn gwestiynau ddiwethaf y llefarwyr, fe ddywedoch fod gan brifysgolion yng Nghymru dros £800 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn yn 2013-14. Mae’n ymddangos bod y ffigur gwirioneddol yn llawer llai—bron i hanner—oherwydd bod y rhan fwyaf o’r swm hwnnw’n anhylif. Yn wir, asesiad mwy cywir o sefyllfa ariannol y sector addysg uwch yw diffyg cyfanredol o £67 miliwn. A ydych o’r diwedd yn cytuno â’r ffigurau hynny sy’n dod o’r llyfrau, a sut yr ewch i’r afael â hynny pan fyddwch yn rhoi eu llythyr cylch gwaith i CCAUC? Sut yr ewch i’r afael â phroblemau cyllido addysg uwch, oherwydd heb system addysg uwch gadarn rydym yn gwneud cam â’n pobl ifanc?
 
14:22
Huw LewisBywgraffiad
Wel, Lywydd, nid oes gennyf syniad o gwbl o ble y daeth ffigur llefarydd y Ceidwadwyr o £67 miliwn o ddiffyg. Efallai y gallwn gael y drafodaeth honno pan fydd mwy o amser i ganiatáu hynny. Ond doi’r ffigurau a ddyfynnais o ffigurau a gyhoeddwyd gan y prifysgolion eu hunain, ac sydd ar gael i’r cyhoedd, sy’n dangos bod sefydliadau addysg uwch unigol yng Nghymru â mwy o gryfder wrth gefn na Llywodraeth Cymru ei hun. Mae hyn yn brawf, rwy’n credu, o sefyllfa ariannol gadarn addysg uwch yng Nghymru, sy’n ganlyniad uniongyrchol i’n polisïau cymorth i fyfyrwyr a’n buddsoddiad mewn addysg uwch dros dymor diwethaf Llywodraeth Cymru.
 
14:23
Elin JonesBywgraffiad
Weinidog, fel sydd wedi cael ei gyfeirio ato’n barod, un o lwyddiannau’r sector addysg uwch dros y blynyddoedd diwethaf yma yw’r twf yn y ddarpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae parhad y Coleg Cymraeg a chyllido cenedlaethol drwy HEFCW yn hanfodol i gynnal y momentwm yma. A wnewch chi gadarnhau, felly, y byddwch chi mewn sefyllfa i ofyn i HEFCW, drwy’r llythyr ‘remit’, i gynnal y llinell gyllideb i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i’r flwyddyn ariannol nesaf?
 
14:23
Huw LewisBywgraffiad
Wel, wrth gwrs, Lywydd, yn y pen draw mater i’r cyngor cyllido yw dyrannu ei adnoddau, ond mae’r Aelod yn hollol gywir fod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi gwneud cynnydd gwirioneddol ar wella darpariaeth addysg uwch cyfrwng Cymraeg ers 2011 pan gafodd ei sefydlu. Byddaf yn parhau i annog CCAUC i barhau i ganolbwyntio ar astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, gan fy mod o’r farn ei bod yn bwysig parhau i gefnogi gweithgareddau’r Coleg ar lefel sy’n cynnal y momentwm blaengar hwn.
 
14:24
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Cyn i ni symud at gwestiynau’r llefarwyr, hoffwn atgoffa’r Aelodau ei bod yn anghwrtais iawn i’r Siambr os oes gennych gwestiwn ysgrifenedig ar bapur a’ch bod yn gadael y Siambr cyn i’r cwestiwn gael ei ofyn am ei fod yn amddifadu pobl eraill o’r cyfle i holi’r Gweinidog ar y mater hwnnw. Felly, os gwelwch yn dda ceisiwch gymryd sylw yn y dyfodol a pheidiwch â gadael iddo ddigwydd eto.
 
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
 
14:24
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at gwestiynau’r llefarwyr a daw’r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan lefarydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Aled Roberts.
 
14:24
Aled RobertsBywgraffiad
Diolch, Lywydd. Weinidog, rydych chi wedi ei gwneud yn hollol glir ei bod yn bwysig ein bod yn cael cysondeb ar draws Cymru ynglŷn â gwella safonau yn ein hysgolion. Ond, mi oedd y ddadl yr wythnos diwethaf ar adroddiad blynyddol Estyn yn dangos bod yna fwlch yn dechrau digwydd rhwng yr ysgolion hynny sydd yn ardderchog a’r ysgolion, hwyrach, sydd angen mwy o gefnogaeth. Mae yna arian sylweddol yn cael ei roi i’r consortia rhanbarthol ar hyn o bryd i wella safonau. Mae yna arian wedi cael ei roi i mewn i raglen Her Ysgolion Cymru. Felly, a allwch chi ddweud yn union beth ydy eich disgwyliadau chi o ran y consortia rhanbarthol yna o ran gwella safonau a sut maen nhw’n gwneud ar hyn o bryd yn eich tyb chi?
 
14:25
Huw LewisBywgraffiad
Bydd yr Aelod yn gwybod, Lywydd, fy mod wedi mynegi diddordeb personol yng nghynnydd y consortia addysgol. Bûm wrthi fy hun yn arwain y digwyddiadau herio ac adolygu ym mhob un o’r pedwar consortiwm ledled y wlad dros y blynyddoedd diwethaf. Rwy’n credu ein bod yn dechrau gweld cynnydd gwirioneddol mewn perthynas â gwella ysgolion o ganlyniad i waith da y pedwar consortiwm. Mae’n gywir yn nodi bod Estyn wedi mynegi pryder ynglŷn â pholareiddio rhwng safonau ysgolion, er bod angen i ni fod yn ofalus: yr hyn roedd Estyn yn siarad amdano’n benodol oedd ysgolion uwchradd ac roedd y darlun yn wahanol iawn o’r cynnydd mwy cyffredinol yn y sector cynradd. Ond mae’r polareiddio hwn rhwng y gorau oll, y ddarpariaeth addysgu a dysgu ragorol yn ein hysgolion gorau, a’r rhai—nifer sy’n gostwng o ysgolion—lle na ellid dweud hynny amdanynt ar unrhyw gyfrif, yn fater sy’n rhaid i ni gadw llygad arno. Mae’n rhywbeth y mae angen i’r consortia fynd i’r afael ag ef.
 
14:26
Aled RobertsBywgraffiad
Mae Estyn hefyd yn sôn bod yna berig bod rhyw fath o gulni yn dechrau o ran y cwricwlwm ac, efo’r holl bwysau ar wella safonau, hwyrach bod rhai pynciau’n diflannu o’r cwricwlwm mewn ysgolion uwchradd. Maen nhw’n cyfeirio’n benodol, rwy’n meddwl, at ieithoedd modern. Fe wnaethoch chi gyhoeddi ym mis Mehefin llynedd y rhaglen ‘Global Futures’ lle’r oedd yna arian ychwanegol yn cael ei roi i mewn i geisio troi’r sefyllfa. A allwch chi ddweud yn union pa welliant yr ydych chi wedi’i weld o ran y sefyllfa yn ystod y flwyddyn gyntaf ac os ydych chi’n fodlon efo’r cynnydd o ran y rhaglen ar hyn o bryd?
 
14:27
Huw LewisBywgraffiad
Mae unrhyw gyfyngu posibl ar y cwricwlwm yn sicr yn rhywbeth i warchod rhagddo ac mae’n rhywbeth y bûm yn weithgar yn gwarchod rhagddo dros y flwyddyn neu fwy ddiwethaf mewn gohebiaeth gydag Aelodau yma a chyda sefydliadau partner eraill. Yn sicr, byddwn yn dweud bod rhai awdurdodau lleol, ac yn fwyaf arbennig, rhai penaethiaid, wedi camddehongli pethau fel y gofynion sydd ynghlwm wrth y cwricwlwm mathemateg TGAU newydd fel pe bai rywsut yn golygu bod yn rhaid iddynt gyfyngu ar nifer y pynciau TGAU sydd ar gael. Yn sicr, nid yw hyn yn wir. Mae cyfeiriad y teithio, wrth i ni symud tuag at ein ‘Dyfodol Llwyddiannus’, ein cwricwlwm Donaldson, yn seiliedig i raddau helaeth iawn ar gwricwlwm eang a chytbwys a dyna yw dyfodol addysg yn ysgolion Cymru. Rwy’n falch fod Dyfodol Byd-eang yn sicr wedi tanio dychymyg arweinwyr ieithoedd tramor modern yn ein hysgolion yn arbennig, a chefais fy ngalonogi’n fawr, mewn gwirionedd, gan y ffaith fod sefydliadau diwylliannol fel yr Institut Français a’r Goethe-Institut, llysgenhadaeth yr Eidal a llysgenhadaeth Sbaen, wedi mynd ati’n weithredol i ymsefydlu yma yng Nghymru am y tro cyntaf. Am y tro cyntaf erioed, maent wedi gadael Llundain ac wedi ymsefydlu yng Nghaerdydd er mwyn ein cynorthwyo ni yn awr gyda’r gwaith hynod o drwm sydd o’n blaenau, yn fwyaf arbennig o ran gwella sgiliau’r gweithlu ysgolion cynradd ym maes ieithoedd tramor modern.
 
14:28
Aled RobertsBywgraffiad
Cyn imi ofyn fy nghwestiwn olaf, rwy’n meddwl, am mai dyma’r cyfle olaf fydd gennyf fi, a gaf i jest ddymuno’n dda ichi ar ôl mis Mai a diolch ichi am eich cydweithrediad yn ystod y ddwy neu dair blynedd olaf yma? Mae’r cwestiwn olaf ynglŷn â datganiad gan Undeb Cenedlaethol yr Athrawon sydd yn sôn am y ffaith bod yn rhaid inni fel gwleidyddion greu rhyw fath o awyrgylch positif i’r proffesiwn ar gyfer ein hysgolion ni, ond hefyd yn dweud bod yr holl bwysau yma ar y proffesiwn yn creu sefyllfa lle mae yna berig bod datblygiad proffesiynol, recriwtio a phethau felly yn dechrau dioddef. Felly, a gaf i ofyn ichi, wrth ystyried bod niferoedd o fewn yr ysgolion cynradd rŵan yn cynyddu, a ydych chi’n fodlon efo’r nifer sydd yn dod i mewn i’r proffesiwn ac a oes yn rhaid inni ailedrych ar y ffordd rydym ni’n cynllunio ar gyfer y dyfodol o ran y gweithlu?
 
14:29
Huw LewisBywgraffiad
Mae’r Aelod yn rasol iawn gyda’i sylwadau, ac rwy’n diolch iddo am hynny. Mae’n gywir iawn hefyd, rwy’n credu, i bwysleisio’r pwyntiau penodol hyn yn ei gwestiwn olaf i mi fel Gweinidog addysg. Mae’r cyfan yn dibynnu—o ran cynnydd addysg yng Nghymru, mae’r cyfan yn dibynnu ar gynnydd y proffesiwn addysgu ei hun. Mae hyn yn ymwneud â chyflwyno awyrgylch yng Nghymru a fydd, rwy’n gobeithio, yn parhau i fod yn wahanol iawn i’r un dros y ffin yn Lloegr, un sy’n llym, un sy’n heriol, un sy’n disgwyl y safonau uchaf posibl, ond sydd hefyd, yn gyfnewid am hynny, yn gefnogol ac yn parchu’r proffesiwn addysgu. Bydd gennym y fargen newydd, y cwricwlwm newydd, y system newydd ar waith yn fuan mewn perthynas ag addysg a hyfforddiant cychwynnol i athrawon: mae’r cyfan wedi’i gynllunio, yn ei hanfod, i newid natur y proffesiwn addysgu yng Nghymru. Drwy wneud hynny’n unig y gallwn newid union natur y ddarpariaeth addysg i bobl ifanc.
 
14:30
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at lefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Angela Burns.
 
14:31
Angela BurnsBywgraffiad
Diolch i chi, Lywydd. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn hefyd, Lywydd, i ddymuno’r gorau i’r Gweinidog addysg yn ei yrfa yn y dyfodol? Efallai nad ydych chi a minnau wedi cytuno ar nifer fawr o bethau, ond rydych wedi hwyluso deialog, ac am hynny, rwy’n ddiolchgar, ac rwy’n dymuno’n dda i chi. Roeddwn yn credu y dylwn ddymuno’n dda i chi cyn i mi holi’r cwestiynau, gan na fyddwch mor hoff ohonof wedyn o bosibl.
 
Roeddwn eisiau crybwyll pwynt a wnaeth Aled Roberts am adroddiad Estyn, a nifer yr ysgolion uwchradd sy’n darparu profiad dysgu digonol neu anfoddhaol i’w disgyblion, gan na chafodd hynny rhyw lawer o sylw. Oherwydd yn ôl Estyn, nid yw cymaint â 46 y cant o’n hysgolion uwchradd—ychydig yn llai na hanner ein hysgolion—ond yn cynnig profiad dysgu digonol yn unig, neu hyd yn oed yn waeth, profiad dysgu anfoddhaol.
 
Rydym i gyd yn gwybod am y consortia rhanbarthol sy’n gyfrifol am wella ysgolion; maent wedi bod yn araf deg yn magu adennydd ar ôl ffanffer cyhoeddiad y Gweinidog addysg blaenorol yn eu cylch. Weinidog, beth y credwch y gallwch ei wneud yn yr amser sydd ar gael i sefydlu ffordd wirioneddol gydlynol o symud ymlaen, oherwydd mae’r bobl ifanc hynny sydd mewn ysgolion uwchradd—ychydig dan 50 y cant ohonynt—yn cael addysg lai na digonol, ac mae angen i ni allu symud hynny yn ei flaen?
 
14:32
Huw LewisBywgraffiad
Wel, mae llefarydd y Ceidwadwyr yn raslon ac yn finiog fel ei gilydd, ac mewn sawl ffordd, yn cynhyrchu’r awyrgylch rwyf wedi bod yn ceisio ei chreu o bosibl o gwmpas y proffesiwn addysgu, gyda phwyslais cyfartal ar gynorthwyo a herio.
 
Mae hi’n hollol gywir i nodi bod ysgolion cynradd—ac mae Estyn wedi dweud hyn yn blaen iawn: o ran gwella ysgolion, mae ysgolion cynradd i’w gweld yn arwain y ffordd, ac mae’n ymddangos ei fod yn adlais, mewn gwirionedd, o’r gwelliant a welsom mewn ysgolion yn Llundain yn hynny o beth, ac mewn ysgolion uwchradd, rydym yn gweld materion sy’n fwy problemus. Ond gadewch i mi ei hatgoffa bod y darlun cyfan yn llawn drwyddo o fomentwm i symud ymlaen. Y canlyniadau TGAU presennol yw’r canlyniadau gorau a gofnodwyd erioed. Mae’r bwlch cyrhaeddiad mewn perthynas â thlodi yn cau ym mhob cyfnod allweddol o addysg. Mae nifer yr ysgolion sy’n sgorio’n is na throthwy cynwysedig lefel 2 o 50 y cant bron â bod wedi haneru ers 2012. Mae pob awdurdod addysg lleol allan o weithdrefn mesurau arbennig bellach, a gwelodd dwy ran o dair o ysgolion Her Ysgolion Cymru gynnydd yn eu perfformiad yng nghanlyniadau arholiadau haf 2015. Momentwm yw hynny. Mae’n brawf diymwad fod ysgolion yn gwella.
 
14:33
Angela BurnsBywgraffiad
Weinidog, fe wyddoch na allaf ganiatáu i chi ganu clodydd yn y fath fodd, yn rhannol am nad yw’n ddarlun sy’n gyfarwydd i mi. Dywedodd adroddiad diweddar y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd mai un o’r problemau allweddol oedd bod y strategaethau ar gyfer addysgu gwahaniaethol ac asesu ffurfiannol heb eu datblygu’n ddigonol. Mae’r ystafelloedd dosbarth wedi’u llenwi gan 30 neu fwy o ddisgyblion, gyda gwahanol bersonoliaethau ac anghenion dysgu, felly mae angen hyfforddiant a datblygiad proffesiynol ar athrawon i’w helpu i ddiwallu anghenion amrywiol eu disgyblion. Rwy’n siŵr y byddwch yn dweud y bydd y fargen newydd yn datrys y broblem honno. Rwy’n siŵr y byddwch yn dweud y bydd y fargen newydd yn helpu i gynyddu’r 46 y cant o ysgolion uwchradd sydd ond yn ddigonol neu sy’n anfoddhaol. Ond Weinidog, rwy’n dweud hyn wrthych: ceir llawer o athrawon nad ydynt eto’n deall sut y mae’r fargen newydd yn gweithio a sut y bydd yn gweithio, a dyna yw eu llwybr i fod tuag at ddatblygiad proffesiynol. Weinidog, beth yw pwrpas polisi nad yw’n gwneud unrhyw synnwyr i’r proffesiwn?
 
14:34
Huw LewisBywgraffiad
Mae’n rhaid i mi wrthwynebu’r hyn y mae llefarydd y Ceidwadwyr yn ei ddweud yn y fan hon. Os oes yna athrawon nad ydynt yn ymwybodol o’r fargen newydd, yna byddwn yn ystyried hynny’n fater difrifol iawn, ac yn arbennig felly o ystyried ein bod yn cyfathrebu’n electronig â phob athro yng Nghymru bellach, yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt yn bersonol ynglŷn â datblygiadau’n ymwneud â materion allweddol fel eu datblygiad proffesiynol.
 
Mae methiant i fod ymwybodol o’r fargen newydd, fodd bynnag, yn beth gwahanol iawn i’w hawgrym fod athrawon rywsut yn edrych yn anffafriol iawn arni. Brwdfrydedd yn unig a welais ynglŷn â’r fargen newydd. O undebau athrawon i athrawon unigol eu hunain, cafwyd croeso unfrydol, bron, i’r egwyddorion sy’n sail i’r fargen newydd ac mae’n cael ei chyflwyno yr eiliad hon. Yn unol â’r athroniaeth sy’n sail i’r rhaglen gwella ysgolion a roddais ar waith, bydd y fargen newydd, yn ei hanfod, yn cael ei datblygu gan y proffesiwn ei hun. Nid mater i wleidyddion yw rhoi bwyd llwy i’r proffesiwn addysgu o ran ei ddatblygiad proffesiynol ei hun—mae’n bryd i’r proffesiwn addysgu yng Nghymru wireddu ei botensial ac ysgwyddo cyfrifoldeb dros ei dynged ei hun.
 
14:36
Angela BurnsBywgraffiad
Weinidog, mae hynny’n—
 
14:36
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Mae’n ddrwg gennyf, roeddwn yn credu ein bod wedi cael tri chwestiwn.
 
14:36
Angela BurnsBywgraffiad
Nid wyf yn credu hynny.
 
14:36
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Iawn, iawn. Os gallwch eu cadw’n fyr eto, byddai hynny o gymorth.
 
14:36
Angela BurnsBywgraffiad
Fe geisiaf fod yn gryno, Lywydd.
 
Weinidog, rydych yn siarad am y fargen newydd fel ffordd ymlaen i athrawon helpu i wella safonau addysg yma yng Nghymru ac rwy’n gwybod eich bod yn siarad am waith, er enghraifft, a wnaed gan ysgolion arloesi. Y rheswm pam fod y ddau beth mor bwysig yw oherwydd yr effaith y mae’n ei chael, neu’n methu â chael, ar geisio cau’r bwlch cyrhaeddiad. Weinidog, beth arall rydych chi’n mynd i’w wneud i sicrhau bod athrawon ac ysgolion a disgyblion, yn wir, yn gallu gweithredu’r cwricwlwm newydd yn effeithiol, gan fy mod yn ofni na fydd ysgolion arloesi, y fargen newydd ac ambell fenter arall yn ddigon. Rydym angen system gymorth gydlynol a chryf a chadarn ar waith ar gyfer y newidiadau enfawr a fydd yn ysgubo drwy addysg.
 
14:36
Huw LewisBywgraffiad
Wel, mae’r system gadarn yno—mae yno mewn perthynas â’r ysgolion arloesi a fydd yn edrych yn uniongyrchol ar ddatblygu’r cwricwlwm ochr yn ochr â’u cydweithwyr yn ysgolion arloesi y fargen newydd, a fydd yn edrych ar y datblygiad proffesiynol sy’n ofynnol i ateb anghenion y cwricwlwm newydd, ond hefyd y datblygiad proffesiynol sy’n ofynnol er mwyn cyrraedd safon ddisgwyliedig wahanol iawn o ran ansawdd yr addysgu a’r dysgu yn fwy cyffredinol, pa un a yw hynny’n cynnwys y cwricwlwm newydd ai peidio. Dyma yw hanfod y symud tuag at system hunanwella—proffesiwn hunanwella sy’n rhyddhau ei hun mewn gwirionedd o’r angen i wleidyddion dincran gyda’r mecanwaith yn barhaus. Pan welwn bolisi’r Ceidwadwyr Cymreig ar addysg yn y diwedd, gobeithio y gwelwn ymrwymiad ynddo i’r system hunanwella ac rwy’n gobeithio na welwn ryw fath o droi’n ôl at eu meistri yn Llundain drwy gefnogi ysgolion rhydd ac academïau a fyddai’n arwain at hollti’r system ac yn gwneud y cynnydd tuag at system hunanwella yng Nghymru fwy neu lai’n amhosibl.
 
14:38
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at lefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, sydd bob amser yn enwog am fod yn gryno.
 
14:38
Rhun ap IorwerthBywgraffiad
Rwy’n gwneud fy ngorau, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, a yw un swyddog Gyrfa Cymru i bob chwe ysgol uwchradd yng Nghymru yn ddigon?
 
14:38
Julie JamesBywgraffiadY Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg
Mae’n wir fod y gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru wedi dioddef rhai toriadau i’w cyllideb yn ddiweddar a bu’n destun cryn drafod ym mhwyllgorau’r Cynulliad. Fel y dywedais lawer tro yn y Siambr hon, mae polisïau caledi’r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan yn greulon ac yn dinistrio llawer iawn o wasanaethau da ledled Cymru. Nid ydym wedi cael unrhyw ddewisiadau da i’w gwneud o ran y ffordd rydym yn rhoi ein cyllideb at ei gilydd.
 
Wedi dweud hynny, fodd bynnag, y bore yma, bûm mewn cyfarfod rhwng y teulu gyrfaoedd yng Nghymru lle buom yn trafod ymagwedd newydd at yrfaoedd gyda chyfuniadau o ddulliau i gynorthwyo disgyblion ar bob un o’r haenau—mae gennym haenau un i bump, i’r Aelodau yn y Siambr sydd angen eu hatgoffa ynglŷn â’r pwynt hwn—o blant sy’n dod drwy ein hysgolion a bydd gennym gyfuniad o ddulliau o sicrhau bod pob un ohonynt yn cael y wybodaeth, y cyngor a’r cyfarwyddyd gyrfaoedd sydd eu hangen arnynt fel y bo’n briodol i’r lefel o ymgysylltiad y maent ei angen gan y gwasanaeth gyrfaoedd.
 
14:39
Rhun ap IorwerthBywgraffiad
‘Rhai toriadau’ a ddywedoch, ac mae’n danosodiad sy’n sicr o aros yn y cof. Rydych yn agored iawn bob amser, fel Gweinidog, ynglŷn â bod eisiau gwneud mwy nag y gallwch ei wneud am resymau ariannol. Ond mae toriad o 57 y cant yn y cyllid ar gyfer Gyrfa Cymru mewn pum mlynedd yn llawer mwy na dim ond torri’r got yn ôl yr hinsawdd ariannol. Mae’n newid cyfan gwbl yn ymagwedd y Llywodraeth ac yn symud i ffwrdd o gyswllt wyneb yn wyneb fel polisi. Nawr, rwy’n gwybod bod angen gwahanol ffynonellau cyngor ar wahanol ddisgyblion, ac yn sicr, gallai cyngor ar-lein weithio i rai disgyblion. Af ymhellach a dweud nad oes angen cyswllt wyneb yn wyneb ar rai disgyblion hyd yn oed, ond a yw’r Gweinidog yn cytuno â mi—ac â’r hyn y mae gweithwyr proffesiynol ym maes gyrfaoedd yn dweud wrthyf—fod cyswllt wyneb yn wyneb yn dal i fod yn bwysig iawn i lawer o ddisgyblion? A wnaiff y Gweinidog gyfaddef na ellir darparu cyswllt wyneb yn wyneb i unrhyw beth tebyg i nifer y disgyblion sydd angen cyswllt wyneb yn wyneb gyda’r dyraniad presennol o adnoddau?
 
14:40
Julie JamesBywgraffiad
Byddwn yn hapus iawn i gytuno â Rhun ap Iorwerth. Gall cyswllt wyneb yn wyneb o’r fath fod yn bwysig iawn yn wir, yn enwedig i’r plant ar ben mwyaf agored i niwed y fframwaith cynnydd drwy’r haenau. Fodd bynnag, hoffwn nodi bod cynghorwyr gyrfaoedd, er yn hynod bwysig—a hoffwn gofnodi fy niolch i’r gwasanaeth gyrfaoedd am y gwaith gwych y maent yn ei wneud yn darparu’r hyn sy’n dal i fod yn un o’r gwasanaethau gyrfaoedd mwyaf rhagorol yn Ewrop ac wrth gwrs, un o’r unig rai sy’n dal i fodoli yn y DU mewn gwirionedd ar ôl anrheithio gwasanaethau gyrfaoedd yn Lloegr—nid hwy yw’r unig bobl sy’n darparu arweiniad wyneb yn wyneb. Mae gennym ystod eang o drefniadau eraill ar waith—y fframwaith ymgysylltu a datblygu ieuenctid, er enghraifft, sy’n cynnwys gweithwyr ieuenctid ac yn y blaen. Yn wir, mewn gwirionedd, bydd y broses o gyflwyno cwricwlwm newydd Donaldson yn cynnwys, fel un o’r pedwar diben, paratoi pobl i fod yn ddinasyddion gweithredol ac ymroddgar. Bydd hynny hefyd yn cynnwys diwygio’r cwricwlwm gyrfaoedd a byd gwaith a sut y maent yn ei ddatblygu.
 
Felly, y peth arall yr hoffwn ei ddweud—ac nid oes unrhyw reswm y dylai’r Aelod wybod hyn, gan nad wyf wedi dweud wrth neb eto mewn gwirionedd—yw ein bod yn bwriadu gwneud gwaith ar gynnig newydd i’r gwasanaeth gyrfaoedd, o ystyried ei gyllideb gyfyngedig. Rwy’n gobeithio cael hwnnw i’w le yn fuan iawn fel bod gennym rywbeth i bwy bynnag yw’r Llywodraeth newydd a ddaw ar ôl yr etholiad i seilio gwasanaeth rhagorol o’r radd flaenaf arno. Felly, rwy’n derbyn ei ddadl mewn gwirionedd: rwy’n credu bod wyneb yn wyneb yn bwysig iawn yn wir, ond nid yw’n bwysig fel gwasanaeth cyffredinol. Mae’n bwysig ei fod yn cael ei dargedu’n gywir, ac mae’n bwysig bod wyneb yn wyneb yn rhan o wasanaeth hollgynhwysol o ran pob un o’r pethau eraill sy’n angenrheidiol i gael pobl ifanc i mewn i fyd gwaith, sef diben y gwasanaeth gyrfaoedd wedi’r cyfan.
 
14:42
Rhun ap IorwerthBywgraffiad
Y broblem yw bod y targedu’n llawer iawn rhy gul. Mae’n ymddangos i mi mai’r hyn sy’n digwydd yw mai’r unig bobl ifanc sy’n cael eu targedu ar gyfer cyswllt wyneb yn wyneb yw’r rhai sydd mewn perygl o ddod yn rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Ceir llawer mwy o ddisgyblion na hynny sydd angen cyswllt wyneb yn wyneb. Nawr, ni cheir mecanwaith hyd yn oed, yn ôl yr hyn a ddeallaf, i sicrhau bod pob disgybl yn cael cymorth ar-lein digonol. Felly, mae hynny’n rhywbeth y mae angen ei ddatblygu. Mae perygl y gall disgyblion fynd drwy’r ysgol heb fawr ddim cymorth gyrfaoedd.
 
Nawr, deallwn fod Llywodraeth yr Alban wedi dilyn polisi tebyg o symud at gymorth ar-lein yn wreiddiol, ond yn dilyn ymchwil prifysgol a phwysau gan bobl fel Unsain, penderfynodd Llywodraeth yr Alban ddychwelyd at gyswllt wyneb yn wyneb gan ei bod yn cael ei gweld fel y ffordd orau ymlaen—y ffordd fwyaf effeithiol o gefnogi pobl ifanc, sef yr hyn y mae gwasanaeth gyrfaoedd da yn ei wneud. Onid yw’n bryd i Lywodraeth Cymru gyfaddef ei bod yn anghywir ynglŷn â chymorth gyrfaoedd mewn ysgolion yng Nghymru?
 
14:43
Julie JamesBywgraffiad
Hyd at y frawddeg olaf roeddwn yn teimlo bod yr Aelod yn gwneud yn dda iawn gan fy mod yn cytuno â chryn dipyn o’r hyn a ddywedodd, ond nid wyf yn credu ein bod wedi bod yn anghywir. Yr hyn rydym yn ei wneud yw edrych i weld sut beth fyddai’r gwasanaeth gyrfaoedd mwyaf effeithiol ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain ar y cyd â’r chwyldro mewn addysg a gyflwynwyd gan Lafur Cymru, ac ar y cyd â’r fframwaith ymgysylltu a datblygu ieuenctid, y gwasanaeth ieuenctid a nifer fawr o wasanaethau ieuenctid eraill ar gyfer yr unigolyn. Felly, nes eich brawddeg olaf, roeddwn yn meddwl ein bod yn mynd i allu cytuno â’n gilydd ar yr achlysur olaf hwn ar gyfer cwestiynau addysg. Felly, nid wyf yn meddwl ein bod wedi’i gael yn anghywir. Rwy’n credu bod yna le i ailwampio rhai rhannau o’r gwasanaeth gyrfaoedd, ac rwyf wedi dweud hynny’n hollol agored. Rydym yn edrych ar yr adroddiad hwn ac rwy’n gobeithio y bydd y Llywodraeth nesaf, pwy bynnag y bydd, yn bwrw ymlaen â hynny yn y ffordd orau bosibl am ein bod, mewn gwirionedd, yn falch iawn o’r gwasanaeth gyrfaoedd gwych sydd gennym yma yng Nghymru, ac rydym am ei warchod.
 
14:44
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn ôl yn awr at y cwestiynau ar y papurau. Daw cwestiwn 3 gan Janet Finch-Saunders.
 
Llythrennedd Plant
 
14:44
Janet Finch-SaundersBywgraffiad
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lythrennedd plant yng Nghymru? OAQ(4)0690(ESK)
 
14:44
Huw LewisBywgraffiadY Gweinidog Addysg a Sgiliau
Gwnaf, fe wnaf. Mae’r Llywodraeth hon wedi rhoi set gynhwysfawr o gamau gweithredu ar waith i gryfhau addysgu a dysgu llythrennedd, gan gynnwys y fframwaith llythrennedd a rhifedd cenedlaethol a phrofion cenedlaethol. Rydym yn awr yn gweld gwelliant yn y lefelau llythrennedd, ac mae Estyn wedi nodi bod safonau llythrennedd sylfaenol wedi gwella ar draws Cymru.
 
14:44
Janet Finch-SaundersBywgraffiad
Diolch. Weinidog, nid oes gennyf amheuaeth eich bod yn ymwybodol fod lefelau tlodi ein plant yng Nghymru wedi codi yn sylweddol ers 2004, a bod hynny felly yn effeithio ar eu lefelau addysg a llythrennedd. A allwch ddweud pam y mae’r Llywodraeth hon eto i gynnal asesiad llawn a phriodol o’r plant sy’n byw mewn tlodi y tu allan i ardaloedd Dechrau’n Deg? A yw’r rhifau ar gael gennych? A fyddech hefyd yn cytuno ei bod yn hanfodol i Lywodraeth yn y dyfodol ymrwymo i gamau gweithredu i sicrhau bod y plant hyn hefyd yn gallu cael cymorth o’r ansawdd sydd ei angen arnynt ar gyfer datblygiad iaith gynnar a lleferydd da? Faint sydd gennym, a beth rydych yn ei wneud yn eu cylch?
 
14:45
Huw LewisBywgraffiad
Lywydd, mae cwestiwn yr Aelod yn ddryslyd ac yn peri dryswch yn ogystal. Yn gyntaf oll, nid wyf yn meddwl y dylai unrhyw un o gefnogwyr y Blaid Geidwadol sefyll yn y Siambr hon a phregethu i’r gweddill ohonom, yn wir, ar y cynnydd yn nifer y plant sy’n byw mewn tlodi. Dyma’r blaid sydd wedi cael gwared ar gymorth budd-daliadau lles i’r teuluoedd sydd eu hangen fwyaf, ac sydd ar hyn o bryd yn ceisio gwneud i blant sy’n byw mewn tlodi ddiflannu drwy ystumio’r ystadegau yn Lloegr. Ni fydd hynny’n digwydd yma yng Nghymru. Rydym yn gwybod yn union faint o bobl ifanc rydym yn sôn amdanynt yma, oherwydd ein hymrwymiad i blant sy’n cael prydau ysgol am ddim a’n hymrwymiad drwy hynny i fuddsoddi’n ffafriol yn eu dyfodol a’u rhagolygon drwy’r grant amddifadedd disgyblion.
 
14:46
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at gwestiwn 4—David Rees.
 
Pynciau STEM
 
14:46
David ReesBywgraffiad
4. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu pynciau STEM mewn ysgolion? OAQ(4)0695(ESK)
 
14:46
Huw LewisBywgraffiad
Diolch i’r Aelod dros Aberafan. Mae ein gweledigaeth ar gyfer addysg ac ymagwedd strategol tuag at gynyddu sgiliau STEM, gan gynnwys cymorth digynsail i ysgolion, yn arwain at welliannau yng nghyrhaeddiad ein pobl ifanc. Er enghraifft, mewn mathemateg TGAU, llwyddodd 64.4 y cant i gael gradd A* i C yn 2015—2.7 pwynt canran yn uwch na’r flwyddyn flaenorol ac yn wir, y lefel uchaf a gofnodwyd erioed.
 
14:47
David ReesBywgraffiad
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Yr wythnos diwethaf, fe ymweloch â’r ail gampws ym Mhrifysgol Abertawe yn fy etholaeth a gweld drosoch eich hun y cyfleusterau peirianneg gwych sydd ar gael yno, ac fe glywoch hefyd eu bod yn annog plant ysgol i ddod i’r campws i weld y cyfleusterau hynny a phrofi’r dyfodol sydd gan STEM i’w gynnig i lawer o bobl. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog mwy o ysgolion a mwy o brifysgolion i fanteisio ar gynigion o’r fath fel y gallwn ennyn diddordeb pobl ifanc mewn pynciau STEM? Oherwydd, er mwyn eu cael i wneud mwy o bynciau Safon Uwch a TGAU, mae angen i ni eu dechrau’n gynnar; mae angen i ni eu hannog i ddilyn pynciau gwyddoniaeth, peirianneg, ac i beidio â bod ofn mathemateg, fel y mae llawer o bobl.
 
14:47
Huw LewisBywgraffiad
Yn hollol, Lywydd. Gwnaeth fy ymweliad â Phrifysgol Abertawe yn ddiweddar argraff fawr arnaf yn wir, yn enwedig eu nod i wella cyfranogiad o bob rhan o gymdeithas, mewn gwirionedd, ac yn fwyaf arbennig o gymunedau difreintiedig yn ne Cymru, a’u hymrwymiad hefyd i weithio gyda phobl ifanc ar oedran iau—i lawr i flwyddyn 9 rwy’n meddwl—o ran y grwpiau ysgol a oedd yn gweithio gyda hwy ar y campws. Ac rwy’n gwybod hefyd, wrth gwrs, fod Prifysgol Abertawe yn cymryd rhan mewn ystod eang o waith cyfoethogi STEM, megis y Technocamps a rhaglenni cymorth mathemateg pellach. Felly, rwy’n meddwl fod gwersi i’r gymuned addysg uwch ac yn wir, i ysgolion o ran y math o ymgysylltu sydd ar gael iddynt yn deillio o waith Prifysgol Abertawe, ac fe’u cymeradwyaf am hynny.
 
14:48
Suzy DaviesBywgraffiad
Rwy’n siŵr ein bod i gyd yn cytuno ynglŷn â phwysigrwydd hyrwyddo pynciau STEM yn y cwricwlwm Cymreig yn y dyfodol, a lle y mae plant a phobl ifanc yn dangos talent a dawn mewn dysgu o’r fath, yna rwy’n croesawu anogaeth gref i astudio’r pynciau hyn, yn enwedig pan gânt eu hastudio ar y cyd ag ieithoedd tramor modern. Fodd bynnag—cefais fy nghalonogi gan eich ateb i Aled Roberts ar hyn yn gynharach, Weinidog—a ydych yn barod i ddweud wrth eich olynydd y bydd Cymru a’i heconomi dan anfantais os yw plant a phobl ifanc yn cael eu hamddifadu o’r cyfle i ddarganfod pethau gwahanol, creadigrwydd, ac yn allweddol, dealltwriaeth o’r natur ddynol a’i effeithiau os na hyrwyddir y celfyddydau a’r dyniaethau i’r fath raddau o ran eu pwysigrwydd yn y cwricwlwm newydd?
 
14:49
Huw LewisBywgraffiad
Wel, am gyfle y mae’r Aelod yn ei gynnig i mi, a chyfle i ddweud—
 
14:49
Suzy DaviesBywgraffiad
[Anghlywadwy.] [Chwerthin.]
 
14:49
Huw LewisBywgraffiad
Prin y gallaf aros. Cyfle i ddweud wrth fy olynydd yr hyn a allai fod yn bwysig o ran polisi addysg. Gallwn draethu drwy’r dydd. Ond i fod o ddifrif ynglŷn â phwynt Suzy Davies, mae’n hollol iawn, wrth gwrs, fod yn rhaid i ni—a dof yn ôl at y pwynt a wneuthum yn gynharach—ymrwymo i gwricwlwm eang a chytbwys, a dyna, yn amlwg iawn, y mae Graham Donaldson wedi’i gynnig i ni yn ‘Dyfodol Llwyddiannus’. Yn wir, ar frig y rhestr, os mynnwch, o ran ein hymrwymiad i’r athroniaeth honno, mae ein rhaglen ysgolion creadigol a noddir ar y cyd gennym a Chyngor Celfyddydau Cymru. Felly, mae STEM yn bwysig, ond mae addysg eang a chytbwys yn galw am lawer iawn mwy.
 
14:50
Bethan JenkinsBywgraffiad
Weinidog, byddwch chi’n cofio fy mod i wedi codi gyda chi yn y gorffennol faterion ynghylch y ffaith nad yw pobl dros Gymru yn gallu astudio lefel A peirianneg er eu bod yn dymuno. I ddilyn ymlaen o hynny, roedd Edwina Hart yn dweud mewn ymateb i Rhun ap Iorwerth y bydd yna agwedd draws-sbectrwm i edrych ar sefyllfa Tata Steel. Tybed a ydych chi wedi cael trafodaethau gyda Gweinidog yr economi i weld sut mae mwy o bobl ifanc yng Nghymru yn gallu cael mynediad at astudiaethau peirianneg yn yr ysgol er mwyn iddyn nhw, wedyn, allu mynd i mewn i weithio yn llefydd fel Tata ym Mhort Talbot er mwyn creu peirianwaith a mecanwaith cynaliadwy i’r dyfodol yn yr ardal hynny.
 
14:51
Huw LewisBywgraffiad
Wel, diolch i’r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Mae’n bwynt pwysig ac wrth gwrs, mae ehangder y cynnig Safon Uwch yn rhywbeth rydym yn ceisio’i warchod a’i ddiogelu. Rwy’n hapus iawn i gael y trafodaethau a grybwyllodd yn awr. Mae’n bwysig, fodd bynnag, peidio ag anfon y negeseuon anghywir i bobl ifanc. Nid oes rheidrwydd, mewn unrhyw fodd, os yw rhywun yn dymuno bod yn beiriannydd, i astudio peirianneg Safon Uwch. Yn yr un modd, os yw rhywun yn dymuno bod yn gyfreithiwr, yn sicr nid yw’n wir fod yn rhaid astudio’r gyfraith i Safon Uwch. Yn wir, byddai nifer dda o brifysgolion Grŵp Russell yn cynghori pobl ifanc mai’r hyn y mae ganddynt ddiddordeb ynddo o ran peirianneg, er enghraifft, yw bod yna gymhwysedd mathemategol da ar ran yr unigolyn, ac nid oes raid iddynt gael Safon Uwch mewn peirianneg o reidrwydd. Felly, mae’n bwysig nad yw pobl ifanc yn cael eu digalonni gan yr hyn rydym yn ei ddweud, ac nid yw Safon Uwch mewn peirianneg yn angenrheidiol er mwyn dilyn gyrfa mewn peirianneg.
 
14:52
Eluned ParrottBywgraffiad
Weinidog, os ydym am roi profiad cadarnhaol o addysg wyddonol i bobl ifanc yn gynnar, er mwyn eu cymell i fwynhau gwyddoniaeth drwy gydol eu hoes, mae’n bwysig fod gennym athrawon ysgolion cynradd sydd â’r hyder a’r gallu i gyflwyno gwersi gwyddoniaeth diddorol a chyffrous mewn ysgolion cynradd. Fe fyddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, o’r rôl wych y mae Techniquest wedi’i chwarae yma ym Mae Caerdydd yn eu rhaglenni allgymorth wrth ddarparu Datblygiad Proffesiynol Parhaus i athrawon, a thybed a allwch ddweud wrthym sut y bydd DPP i athrawon mewn addysg gwyddoniaeth a chyfathrebu yn cael ei gyflwyno dros y blynyddoedd sy’n dod.
 
14:52
Huw LewisBywgraffiad
Wel, mewn nifer fawr o ffyrdd. Rwy’n talu teyrnged i waith Techniquest, ond wrth gwrs, nid Techniquest yw’r unig ffordd o—. Yn wir, ni fyddai gan Techniquest y capasiti i fynd i’r afael â’r materion sgiliau sydd angen i ni fynd i’r afael â hwy mewn perthynas â’n haddysgwyr ysgolion cynradd o ran pynciau STEM. Yn ddiweddar, ymwelais â phrosiect diddorol iawn yn ardal Ein Rhanbarth ar Waith de-orllewin Cymru, a oedd yn ymwneud yn syml iawn â defnydd dychmygus o gydweithwyr gwyddoniaeth a thechnoleg ysgolion uwchradd yn gweithio’n agosach â’r ysgolion cynradd sy’n eu bwydo, a’r staff yn yr ysgolion hynny’n dod yn rhan o ddatblygiad proffesiynol staff yr ysgol gynradd, gyda syniadau da yn llifo i’r ddau gyfeiriad. Mae hyn yn ymwneud lawn cymaint â’r proffesiwn yn newid er ei fwyn ei hun, yn fy marn i, ag â chael cyrff allanol yno i helpu, er mor dderbyniol y gallai hynny fod.
 
Ariannu Disgyblion Ysgol
 
14:53
Mark IsherwoodBywgraffiad
5. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn ariannu disgyblion ysgol yng Nghymru? OAQ(4)0684(ESK)
 
14:53
Huw LewisBywgraffiad
Diolch i’r Aelod dros Ogledd Cymru. Nid yw Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn ariannu ysgolion yn uniongyrchol. Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am ariannu ysgolion am eu bod yn y sefyllfa orau i wybod beth yw anghenion eu hysgolion a’u dysgwyr. Mae Llywodraeth Cymru yn gosod y cyfeiriad strategol ar gyfer addysg, gan ddarparu’r polisi cenedlaethol a chyd-destun deddfwriaethol i lywodraeth leol allu gweithredu o’i fewn.
 
14:54
Mark IsherwoodBywgraffiad
Diolch. Wel, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllideb gros y disgybl uwch i ysgolion 17 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, gan gynnwys Sir Ddinbych a Wrecsam gerllaw, nag y mae’n ei rhoi i Sir y Fflint. O ystyried disgwyliad Llywodraeth Cymru a nodwyd yn flaenorol y dylai awdurdodau lleol flaenoriaethu cyllid fesul disgybl yn yr ysgolion, heb gadw dim yn ganolog heblaw’r hyn a ddylai fod yn angenrheidiol, sut rydych yn ymateb i sefyllfa lle y mae Sir Ddinbych a Wrecsam gyda chyllidebau mwy yn cadw £783 ac £810 yn unig, ond y mae Sir y Fflint, gyda chyllideb lai, yn cadw £882 y disgybl, ac felly mae ganddi un o’r cyllidebau dirprwyedig isaf i ysgolion yng Nghymru?
 
14:55
Huw LewisBywgraffiad
Fy nealltwriaeth i, Lywydd, yw bod pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru—felly nid wyf yn dangos rhagfarn wleidyddol yma—wedi rhagori ar yr 85 y cant o gyllideb ddirprwyedig i ysgolion a osododd Llywodraeth Cymru fel disgwyliad. Yn wir, drwy dymor nesaf y Cynulliad disgwyliwn i hynny gynyddu i 90 y cant o gyllid dirprwyedig. Nid wyf mewn sefyllfa, ac nid wyf yn meddwl y byddai’n ddoeth i mi ddyfarnu ynghylch y penderfyniadau amrywiol sy’n cael eu gwneud gan Sir y Fflint, Sir Ddinbych ac yn y blaen. Byddai cwestiwn cludiant i’r ysgol ynddo’i hun, er enghraifft, yn cyflwyno gwahaniaethau go amlwg rhwng cyllid dirprwyedig rheng flaen, ac mae’n fater sy’n codi i awdurdodau gwledig yn fwyaf arbennig. Byddai dirprwyo cyllid cludiant ysgol yn ddatblygiad trychinebus i rai awdurdodau gwledig yn arbennig. Mater i awdurdodau lleol yw gwneud eu penderfyniadau a wynebu eu hetholwyr pan ddaw’r amser.
 
14:56
Keith DaviesBywgraffiad
Hoffwn ganmol Llywodraeth Lafur Cymru am gynyddu’r cyllid ar gyfer disgyblion ysgol yng Nghymru yn y flwyddyn ariannol nesaf. Fodd bynnag, yn Sir Gaerfyrddin, mae’r weinyddiaeth a arweinir gan Blaid Cymru wedi dewis peidio â gwario’r arian ychwanegol hwn ar addysg. Mae Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin wedi dewis gwario’r arian hwn ar gyfres o brosiectau porthi balchder, gan dorri £3.6 miliwn oddi ar y gyllideb addysg mewn termau real. A ydych yn cytuno, Weinidog, er bod Plaid Cymru yn gwneud addewidion ynglŷn â gwario mwy ar addysg, na ellir ymddiried yn neb heblaw Llafur Cymru i ofalu am fuddiannau ein pobl ifanc?
 
14:56
Huw LewisBywgraffiad
Rwy’n ildio, wrth gwrs, i arbenigedd yr Aelod dros Lanelli o ran yr hyn sy’n digwydd yn lleol ac ar hyn o bryd mewn perthynas â phenderfyniadau a wneir yng Nghyngor Sir Caerfyrddin. Ond drwy gydol tymor cyfredol y Cynulliad, gallaf ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi diogelu cyllid ysgolion 1 y cant yn uwch na chyfradd y newid i floc Cymru yn gyffredinol, sydd, yn ystod tymor y Llywodraeth hon, wedi golygu bod £106 miliwn yn ychwanegol yn cyrraedd y rheng flaen yn ein hysgolion.
 
14:57
Kirsty WilliamsBywgraffiad
Weinidog, pa rôl y mae cyllid disgyblion yn ei chwarae pan fydd awdurdodau lleol yn ystyried cau ysgolion? A ydych yn cytuno â’r Prif Weinidog, sydd, mewn gohebiaeth, wedi dweud wrthyf na ddylai cyllid ysgogi penderfyniadau i gau ysgolion ac ni ddylid cau ysgolion oni bai bod hynny’n arwain at gynnydd mewn deilliannau addysgol?
 
14:57
Huw LewisBywgraffiad
Fel y nodwyd nifer o weithiau, deilliannau addysgol yw’r brif ystyriaeth wrth drefnu ysgolion—ad-drefnu ysgolion—a dyna y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl gan lywodraeth leol yn ei thro. Wrth gwrs, mae angen i faterion ariannol fod yn rhan o’r drafodaeth, ac mae’r mater hanesyddol a etifeddwyd gan fy rhagflaenydd, mewn gwirionedd, o ran lleoedd dros ben yn rhywbeth rydym wedi bod yn gweithio arno bellach dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac mae’r sefyllfa wedi gwella’n fawr yn hynny o beth. Ond mae’r Aelod yn hollol iawn i ddweud mai cynnydd yn y deilliannau dysgu ac addysgu yw prif ffocws unrhyw becyn ad-drefnu ysgolion, a dyna fel y dylai fod.
 
Cynigion Diamod i Leoedd Prifysgol
 
14:58
William GrahamBywgraffiad
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer y myfyrwyr o Gymru sy’n cael cynigion diamod ar gyfer lleoedd prifysgol? OAQ(4)0696(ESK)
 
14:58
Huw LewisBywgraffiad
Diolch i’r Aelod dros Ddwyrain De Cymru, ond mae arnaf ofn fod yn rhaid i mi ddweud nad yw’r lefel hon o wybodaeth yn cael ei chadw’n ganolog gan Lywodraeth Cymru.
 
14:58
William GrahamBywgraffiad
Rwy’n gresynu’n fawr nad yw’r wybodaeth honno ar gael, Weinidog. A gaf fi ofyn i chi roi sylwadau, felly—os derbyniwch y ffigurau hyn gennyf fi—fod gan Ddwyrain Casnewydd un o’r lefelau isaf, gan mai dim ond 4 y cant o’r disgyblion sy’n derbyn cynigion diamod, ond yn Sir Drefaldwyn, mae’n 16 y cant? A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar yr hyn y gellid ei wneud i leihau’r gwahaniaeth hwn?
 
14:59
Huw LewisBywgraffiad
Nid wyf yn ymwybodol o’r ffigurau y mae’r Aelod yn eu dyfynnu, ac rwy’n ansicr, mewn gwirionedd, ynglŷn â’u ffynhonnell—sut y ceir hyd iddynt, y ffigurau penodol hynny, ar lefel awdurdod lleol, o leiaf. Gallaf ddweud wrtho nad yw gwneud cynnig diamod, ar lefel genedlaethol, yn arfer cyffredin yng Nghymru, ac fel cyfran o gynigion i rai 18 oed, mae’n parhau i fod yn gymharol fach, sef oddeutu 2.5 y cant. Wrth gwrs, mae gan sefydliadau addysg uwch ymreolaeth o ran eu harferion derbyn, ond byddwn yn derbyn y pwynt canolog y mae’n ei wneud, rwy’n meddwl, sef bod hyn yn rhywbeth sydd angen i ni gadw llygad arno. Mae angen i ni fod yn ofalus, rwy’n meddwl, ynghylch y pwysau ar addysg uwch i gynyddu niferoedd myfyrwyr am fod hynny’n ysgogi eu cyllid, a beth y mae hynny’n ei olygu o ran dyfodol ein pobl ifanc a materion yn ymwneud ag ansawdd hefyd.
 
Addysg Uwch
 
15:00
Mike HedgesBywgraffiad
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am addysg uwch yng Nghymru? OAQ(4)0686(ESK)
 
15:00
Julie JamesBywgraffiad
Ni allwn danbrisio pwysigrwydd addysg bellach, ac felly rydym wedi diogelu’r cyllid ar gyfer addysg bellach ar gyfer y flwyddyn i ddod ac mae’n fwy hanfodol nag erioed i ganolbwyntio ar yr adnoddau sydd ar gael i ddysgwyr a sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio mor effeithiol â phosibl.
 
15:00
Mike HedgesBywgraffiad
A gaf fi ddiolch i’r Dirprwy Weinidog am yr ymateb hwnnw? Rwy’n credu ym mhwysigrwydd cyrsiau mynediad. Bûm yn dysgu ar nifer ohonynt. Maent yn rhoi ail gyfle i rai nad oedd yn cyrraedd eu potensial yn yr ysgol. Un enghraifft y gwn ​​amdani yw meddyg ymgynghorol mewn ysbyty a gyfarfûm yn ddiweddar a ddechreuodd ei yrfa ar gwrs mynediad i feddygaeth. Beth yw cynigion y Llywodraeth ar gyfer cyrsiau mynediad mewn colegau addysg bellach?
 
15:00
Julie JamesBywgraffiad
Ym mhob un o’r blynyddoedd y bu’n rhaid i ni wneud toriadau i’r gyllideb addysg bellach, mae mynediad i ddarpariaeth addysg uwch wedi cael ei drin yr un fath ag unrhyw ddarpariaeth amser llawn arall ac felly ni fu’n ddarostyngedig i’r toriadau sylweddol a wynebwyd mewn meysydd eraill. Fel cyrff ymreolaethol, gall pob sefydliad addysg bellach gynllunio a chyflwyno’r ddarpariaeth y mae’n ei gweld fel y fwyaf perthnasol i’w ardal ei hun. Dengys ein data o’r ddwy flynedd academaidd ddiwethaf fod y rhan fwyaf o’r ddarpariaeth mynediad wedi aros fwy neu lai yr un fath. Fodd bynnag, ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, sef y maes rydych yn sôn amdano’n benodol heddiw, bu cynnydd wedi’i gynllunio o tua 17 y cant ac rydym yn croesawu hynny’n fawr. Rwy’n rhannu safbwynt yr Aelod fod mynediad i gyrsiau yn bwysig iawn yn wir, gan ein bod eisiau sicrhau’n benodol fod pobl yn cael mynediad at addysg drwy gydol eu bywydau ac yn gallu datblygu eu hunain drwy gydol eu bywydau gan gamu ymlaen at sgiliau uwch sydd eu hangen yn ddirfawr ar yr economi.
 
15:01
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Mae’n ddrwg gennyf. Fe ddaliaf i fyny. Paul Davies.
 
15:01
Paul DaviesBywgraffiad
Diolch, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, rwy’n falch fod Coleg Sir Benfro yn ddiweddar wedi cynnal digwyddiad gwrth-fwlio o’r enw ‘Disgwyl parch’, gyda nifer o randdeiliaid lleol. Wrth gwrs, mae’n bwysig fod colegau addysg bellach yn hyrwyddo agenda parch ymhlith oedolion ifanc. O ystyried pwysigrwydd addysgu pobl ifanc ynglŷn â materion fel bwlio a thrais yn y cartref, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod colegau addysg bellach nid yn unig yn siarad â myfyrwyr am y materion hyn, ond yn mynd ati i hyrwyddo cydraddoldeb a pherthynas gadarnhaol rhwng oedolion ifanc?
 
15:02
Julie JamesBywgraffiad
Ie, rwy’n llwyr gytuno â’r Aelod ei bod yn rhan eithriadol o bwysig o dyfu’n oedolion ifanc ac fel y cyfryw, mae disgwyl i golegau addysg bellach roi sylw llawn i’r cyd-destun y maent yn addysgu eu cyrsiau ynddo. Gwnaeth Estyn sylwadau ffafriol iawn yn ddiweddar ar ymagwedd y rhan fwyaf o golegau addysg bellach tuag at faterion o’r fath, a byddem yn sicr yn ystyried datblygu mentrau i sicrhau, wrth i arfer da ddatblygu yn y meysydd hyn—a bydd yr Aelod yn gwybod bod arferion mewn perthynas â gwrth-fwlio, er enghraifft, yn dipyn o wledd symudol ar hyn o bryd, gydag arbrofi’n digwydd â gwahanol ddulliau o weithredu—fod colegau addysg bellach yn cadw’n glir o hynny ac yn gweithredu arferion gorau fel y bo’n briodol. Felly, rwy’n rhannu safbwynt yr Aelod ar hynny’n llwyr.
 
15:03
Lindsay WhittleBywgraffiad
Ddirprwy Weinidog, mae rhai sefydliadau addysg bellach wedi addasu i doriadau cyllido drwy hybu cysylltiadau â’r sector preifat ac archwilio ffrydiau incwm amgen. A allech ddweud wrthym a fu ymdrechion i amrywio ffynonellau ariannu yn llwyddiannus iawn, ac i ba raddau y mae hynny wedi lleihau’r gostyngiad yn y cyllid yn y blynyddoedd diwethaf, os o gwbl, wrth gwrs?
 
15:03
Julie JamesBywgraffiad
Wel, mae rhai colegau addysg bellach wedi camu ymlaen i gynnig y ddarpariaeth honno’n arbennig o dda. Mae’n rhaid dweud nad yw’n gyffredinol ar draws Cymru eto. Fodd bynnag, mae ColegauCymru, sef y corff ymbarél y mae’r colegau i gyd yn ei gefnogi, wedi gwneud gwaith yn ddiweddar ar draws y colegau i Lywodraeth Cymru, ac ar y cyd â Llywodraeth Cymru, ar ddull o weithredu a fyddai’n cynorthwyo pobl i ddysgu o arfer da yn gyffredinol. Rydym mewn trafodaethau gyda hwy ar yr union bwynt hwnnw wrth i bob coleg gyflwyno syniad sydd i’w weld yn gweithio er mwyn i ni allu lledaenu’r arferion da hynny a’u rhannu.
 
Hefyd, wrth gwrs, mae gennym ein digwyddiadau estynedig ar gyfer ymgysylltu â chyflogwyr, ac rydym yn sicr hefyd yn dod tuag ato o’r pen arall ac yn gwneud camau enfawr wrth geisio perswadio busnesau Cymru mai hyfforddi eu staff yw’r ffordd orau o’u cadw a bod yn gydnerth ar gyfer y dyfodol. Yn wir, bydd yr Aelod yn gwybod—rwy’n gwybod ei fod yn rhannu fy safbwynt i ar hyn—fod y data yn dangos po orau y byddwch yn trin eich staff a pho orau y byddwch yn eu hyfforddi, y mwyaf tebygol y byddant o barhau’n fodlon, yn iach ac yn gweithio i chi, a’r mwyaf tebygol yw eich busnes o dyfu. Felly, rydym yn gwneud llawer o waith ar rannu arferion da. Mae’n ddyddiau cynnar. Mae’r polisi wedi bod ar waith ers bron i dair blynedd bellach. Mae rhai colegau wedi gwneud cynnydd gwell nag eraill, ond mae pob un yn gwneud cynnydd yn y cyfeiriad cywir.
 
15:04
Lynne NeagleBywgraffiad
Ddirprwy Weinidog, rwy’n ddiolchgar iawn am eich ymdrechion parhaus i sicrhau bod gennym gynnig ôl-16 cynhwysfawr i bobl ifanc yn Nhorfaen. A gaf fi ofyn a oes gennych y wybodaeth ddiweddaraf o’ch trafodaethau gyda chyngor Torfaen ar hyn, os gwelwch yn dda?
 
15:04
Julie JamesBywgraffiad
Rwy’n talu teyrnged i ddyfalbarhad yr Aelod ar y mater hwn, ac rwy’n sicr yn ymwybodol iawn ohono; rydym wedi cael nifer o gyfarfodydd ar y pwynt. Fy nealltwriaeth i yw bod y drafodaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Thorfaen yn mynd rhagddi yn berffaith hapus, a’u bod yn symud tuag at wneud achos busnes fel y gall gael y canlyniad roedd hi ei eisiau yn Nhorfaen o’r diwedd. Rwy’n meddwl mai diolch i’w hymdrechion hi fydd hynny pan ddigwyddo.
 
15:05
Jocelyn DaviesBywgraffiad
Mae Coleg Gwent yn sefydlu is-gwmni masnachu i gyflwyno dysgu yn y gwaith. Ar hyn o bryd, wrth gwrs, bydd y staff sydd eisoes yn gweithio yno yn dod yn ddarostyngedig i Reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981, ond maent wedi cael gwybod y bydd yr holl staff newydd yn cael telerau ac amodau newydd. A allwch chi wneud unrhyw beth i sicrhau bod staff addysgu a gyflogir gan gwmnïau masnachu colegau yn cael buddion y graddfeydd cyflog a gytunwyd yn genedlaethol ar gyfer Cymru gyfan?
 
15:05
Julie JamesBywgraffiad
Ie, mae’n bwnc braidd yn llosg, mewn gwirionedd, ac mae ynghlwm wrth waith y Gweinidog ar Gyngor y Gweithlu Addysg a beth y gallwn ei wneud ynglŷn â phwy sy’n gofrestredig a beth yw’r cymwysterau ar gyfer hynny. Felly, mae yna waith mawr yn mynd rhagddo ar y math o hwnnw o ddiogelwch. Yn y pen draw, yr ateb yw mai mater i’r coleg ydyw, ond nid yw hynny’n dweud nad oes gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb agos iawn yn hyn. Ac mewn gwirionedd, mae ColegauCymru hefyd yn gweithio gyda Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru o ran cydweithio ar drafodaethau uno posibl. Rwy’n credu ei fod yn beth parhaus, felly nid yw wedi digwydd eto mewn gwirionedd, ond rydym wedi bod yn ei annog gyda golwg ar gael set gyson o delerau ac amodau sy’n diogelu’r gweithlu, nid yn unig oherwydd bod hynny’n dda i’r gweithlu ond oherwydd ei fod yn diogelu’r safonau o ran yr hyfforddiant a ddarparir. Ac o ran hyfforddiant Llywodraeth Cymru, mae’r safonau’n bwysig iawn i ni. Felly, rwy’n derbyn rhagdybiaeth yr Aelod. Mae’n fater i’r colegau, ond serch hynny mae gennym farn gadarn ynglŷn â’r hyn y credwn y dylai ddigwydd yn hynny o beth.
 
15:06
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Diolch yn fawr, Weinidog.
 
15:06
3. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar ei Adolygiad o Ddeisebau Cyhoeddus
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at eitem 3, sef dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar ei adolygiad o ddeisebau cyhoeddus, a galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau—William Powell.
 
Cynnig NDM5981 William Powell
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
 
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar yr ‘Adolygiad o Drefniadau Deisebau Cyhoeddus’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Chwefror 2016.
 
Cynigiwyd y cynnig.
 
15:06
William PowellBywgraffiad
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy’n falch iawn o gael agor y ddadl hon heddiw ar adolygiad y Pwyllgor Deisebau o drefniadau deisebau cyhoeddus yma yn y Cynulliad Cenedlaethol. Cynhaliwyd yr adolygiad ar gais y Llywydd a chytunodd y pwyllgor â hi ei bod yn amserol, ar ddiwedd y pedwerydd Cynulliad, i ni ystyried sut y mae’r system a gyflwynwyd ar ddechrau’r trydydd Cynulliad yn gweithio a pha le oedd i wella ymhellach.
 
Yn y Cynulliad cyntaf a’r ail, cyflwynwyd llai na 60 deisebau i gyd i’r Cynulliad, ac ychydig iawn, os o gwbl, o gamau a gymerwyd mewn perthynas â’r rhan fwyaf ohonynt. Cyflwynwyd ein trefniadau cyfredol ar gyfer deisebau, fel y gŵyr llawer ohonoch, ar ddechrau’r trydydd Cynulliad. Yn allweddol, roedd yn ofynnol i un o bwyllgorau’r Cynulliad ystyried yr holl ddeisebau derbyniadwy. Arweiniodd hyn at gyflwyno dros 260 o ddeisebau newydd yn y trydydd Cynulliad, ac rwy’n talu teyrnged ar y pwynt hwn i’r llu o gyd-Aelodau sy’n dal yn y Siambr hon heddiw a chwaraeodd ran yn y dyddiau cynnar hynny, ac a gymerodd ran eu hunain yn rhoi’r system ar waith.
 
Yn ystod y Cynulliad hwn, mae’r Pwyllgor Deisebau wedi ystyried 360 ddeisebau newydd pellach, sydd gyda’i gilydd wedi’u llofnodi gan dros 400,000 o bobl, y mwyafrif helaeth ohonynt yma yng Nghymru. Ar y ffigurau hyn yn unig, rwy’n meddwl ei bod yn deg dweud bod ein system ddeisebau wedi bod yn gryn dipyn o lwyddiant. Ac mae’r adborth a gawsom yn ystod y pum mlynedd diwethaf, wedi’i ategu gan yr ymgynghoriadau a gynhaliwyd gennym fel rhan o’n hadolygiad, yn dynodi bod pobl Cymru at ei gilydd yn gwerthfawrogi’r system sydd gennym ar waith.
 
Gall y system ddeisebau arwain at newid cadarnhaol drwy ddylanwadu ar bolisi Llywodraeth, ac mae’n gwneud hynny, neu’n syml drwy ganiatáu cyfle i ddinasyddion gael eu pryderon wedi’u clywed yma wrth galon democratiaeth Cymru. Mae’n caniatáu i bobl gymryd rhan yng ngwaith ein Cynulliad, ac i roi sylw i’r materion y maent yn malio amdanynt.
 
Byddaf yn siarad ychydig yn fwy manwl yn nes ymlaen am ein hargymhellion. Ond rwy’n credu ei bod yn bwysig pwysleisio nad oedd y pwyllgor yn teimlo bod angen newid sylfaenol i’r system bresennol. Er bod lle i wella bob amser, mae’r pwyllgor yn gweld y newidiadau rydym wedi’u hargymell fel rhai cynyddrannol ac esblygol, yn hytrach na chwyldroadol. Rydym yn gobeithio y byddant yn arwain at system â mwy o ffocws a mwy perthnasol, gan gadw’r hygyrchedd a welir fel nodwedd mor werthfawr o’n trefniadau presennol.
 
Cyn i mi sôn am argymhellion y pwyllgor, hoffwn dreulio ychydig o amser yn edrych yn ehangach ar waith y Pwyllgor Deisebau yn ystod y Cynulliad hwn, a thynnu sylw at rai o’r deisebau rydym wedi’u hystyried gyda’i gilydd. Mae deisebau’n cwmpasu pob agwedd ar gyfrifoldebau’r Cynulliad a’r Llywodraeth. Fel y gallech ddisgwyl, mae’r nifer fwyaf a gawsom yn ymwneud ag iechyd a materion cysylltiedig—sy’n cyd-fynd, wrth gwrs, â chanfyddiadau arolwg y BBC ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi ddoe ddiwethaf—ond mae addysg, yr amgylchedd, trafnidiaeth, yr economi, yr iaith Gymraeg, llywodraeth leol, tai, diwylliant a lles anifeiliaid i gyd wedi denu nifer sylweddol o ddeisebau hefyd. Ac roedd llawer o rai eraill yn cwmpasu ystod eang o bynciau ar faterion sy’n peri pryder i bobl ar hyd a lled Cymru.
 
Wrth gwrs, nid yw pob un o’r deisebau a ddaw i law wedi, neu’n gallu cael eu datrys er boddhad cyflawn i’r rhai sy’n eu cyflwyno. Nid oes pwerau gweithredol gan y Pwyllgor Deisebau ac yn amlwg, ni all wrthod penderfyniadau’r Llywodraeth neu orfodi canlyniadau penodol. Yr hyn y gall ei wneud, fel y soniais yn gynharach, yw helpu deisebwyr i sicrhau newid cadarnhaol drwy ddylanwadu ar bolisi’r Llywodraeth neu bolisi sy’n cael ei ddatblygu, neu ddwyn y materion y maent yn malio amdanynt i sylw, yn syml iawn, a rhoi gwrandawiad teg a chyfiawn i’w pryderon.
 
Nid yw hynny’n golygu na chafwyd rhai llwyddiannau amlwg. O ganlyniad i ddwy ddeiseb, gan Bethany Walpole-Wroe a chan Pembrokeshire Parents Want a Say, mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi ysgrifennu at bob awdurdod lleol a chorff llywodraethu ysgol yng Nghymru, a’r consortia rhanbarthol, i sicrhau eu bod yn cymhwyso’r gyfraith yn gywir ar fater caniatáu i blant yng Nghymru gymryd gwyliau yn ystod y tymor.
 
Roedd deiseb gan gyfeillion Ffordd Goedwig Cwmcarn yn mynegi pryderon ynglŷn â sut y byddai effeithiau gwaith angenrheidiol iawn i ymdrin â chlefyd y llarwydd yn effeithio ar ddyfodol eu hamwynder gwerthfawr. Arweiniodd y ddeiseb at Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnwys y deisebwyr mewn cynlluniau ar gyfer y ffordd yn y dyfodol ac ymrwymiad i weithio gyda’r deisebwyr er mwyn bodloni eu dyheadau. Dywedodd y deisebwyr fod y ddeiseb wedi cyflawni popeth y gobeithient y byddai’n ei gyflawni.
 
Ar hyn o bryd rydym yn ystyried deiseb gan Mervyn Lloyd Jones a’r arbenigwr enwog ar goed, Rob McBride, ynglŷn â diogelu derwen hynafol Brimmon rhag gwaith sy’n gysylltiedig â ffordd osgoi’r Drenewydd sy’n fawr ei hangen, mater a oedd hefyd yn destun deiseb boblogaidd iawn yn gynharach yn y Cynulliad hwn. Er bod materion i’w datrys o hyd, mae’r Gweinidog bellach wedi cadarnhau sicrwydd ynghylch diogelu’r dderwen werthfawr 550 oed hon. Gyda llaw, fel y dywedais, roedd y ffordd osgoi hefyd yn destun deiseb gynharach, felly mae’n amserol ar ddiwedd y pedwerydd Cynulliad hwn ein bod yn gweld dyddiad cyflawni ar gyfer y ffordd osgoi ac yn gweld y goeden werthfawr honno’n cael ei diogelu hefyd.
 
Rydym hefyd wedi ymdrin â materion hynod o bersonol sy’n codi pryderon ehangach. Meddyliwch, er enghraifft, am y ddeiseb gan Emma Jones, y ganed ei mab 22 wythnos cyn pryd ac a fu farw wedyn yn drasig iawn. Er bod ei baban wedi’i eni’n fyw, ni chynigiwyd cymorth meddygol oherwydd y posibilrwydd cyfyngedig iawn o oroesi cyn 24 wythnos. Mae honno’n drasiedi bersonol, ond mae gweithredoedd Emma yn ein deisebu ar y mater ehangach wedi arwain at gynnal cyfarfod rhyngddi ac uwch swyddogion meddygol Llywodraeth Cymru i drafod goblygiadau ei hachos a’u cynghori ar sut y gellid gwella canllawiau yn y maes ar gyfer y dyfodol.
 
Ddoe ddiwethaf, cawsom ddeiseb ar ddiabetes math 1 gan Beth Baldwin, gyda’i hymgyrch hithau hefyd wedi’i wreiddio ym marwolaeth drasig ei mab, Peter, ond mae hi’n gadarnhaol ynglŷn â chyflwyno hyn er mwyn creu newid ar gyfer y dyfodol.
 
Yn fwy cyffredin, roedd deiseb yn galw am adfer y gwasanaeth bws X94 Wrecsam i Abermaw—cyswllt rhanbarthol hynod o bwysig yng ngogledd Cymru—yn llwyddiannus. Ond arweiniodd pryderon am y ddarpariaeth o wasanaethau bysiau rhanbarthol at nifer o ddeisebau eraill ac nid oedd y rhain yn faterion y gallai’r Pwyllgor Deisebau, gyda’i frîff eang ond amser cyfyngedig, eu datrys er boddhad pawb. Fodd bynnag, rwy’n falch iawn bod ein cyd-Aelodau yn y Pwyllgor Menter a Busnes wedi symud y deisebau hyn yn eu blaen, a chafodd y pryderon a fynegwyd ynddynt eu hystyried yn ei ymchwiliad i wasanaethau bysiau yng Nghymru, ac rwy’n deall y bydd yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir iawn.
 
Hoffwn ddiolch i’r pwyllgor am hynny, a hefyd i bwyllgorau eraill y Cynulliad sydd wedi cynnwys deisebau yn eu rhaglenni eu hunain—ffordd arall eto y gall deisebwyr leisio barn ac i ni allu gwneud i’r lle hwn weithio hyd yn oed yn well.
 
Roedd materion lles anifeiliaid hefyd yn cael lle amlwg yn ein trafodaethau, fel y soniais yn gynharach. Yn ddiweddar, mae’r pwyllgor wedi ystyried deiseb gan yr RSPCA yn galw am waharddiad ar ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Mae’r Dirprwy Weinidog wedi cytuno yn awr nad oes lle i anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau ac mae’n adolygu sut y gellir mynd i’r afael â’r mater yn y ffordd orau. Efallai y bydd yr Aelodau’n synnu clywed nad oes unrhyw waharddiad cyfreithiol yng Nghymru ar saethu’r rhywogaeth brin, gwyddau talcenwyn yr Ynys Las, ar hyn o bryd. Yn dilyn tystiolaeth gan ddeisebydd, mae’r Gweinidog wedi cytuno i edrych eto i weld a ddylid cael gwaharddiad mwy statudol yn lle’r gwaharddiad gwirfoddol sydd eisoes ar waith. Dyma gam ymlaen go iawn i’r rhywogaeth honno a hefyd i’r nifer o bobl sy’n eu hystyried yn werthfawr.
 
Mae rhai deisebau wedi arwain at adroddiadau a dadleuon yn y Cyfarfod Llawn—dadleuon ar sefydlu sefydliad heddwch i Gymru, ar losgi gwastraff, ar lygredd yng Nghilfach Tywyn a materion sy’n gysylltiedig â marwolaethau cocos, ar niwsans sŵn o dyrbinau gwynt, ar Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau yng Nghymru, ar recriwtio i’r fyddin mewn ysgolion ac yn fwy diweddar, ar argaeledd diffibrilwyr mewn mannau cyhoeddus. Mae llawer o’r dadleuon hyn wedi bod yn llawn gwybodaeth ac yn gyfrwng i oleuo, gobeithio, a hynny mewn ffyrdd annisgwyl weithiau. Er enghraifft, wrth drafod yr adroddiad yn edrych a ddylid cael tîm criced i Gymru, darganfuom y gallai Mohammad Asghar fod wedi bod yn gricedwr proffesiynol. Rwy’n meddwl efallai y byddem yn cytuno mai’r golled i fyd criced oedd ein helw ni yn y Cynulliad hwn—[Torri ar draws.] Beth bynnag, nid yw yma i siarad ar ei ran ei hun, ond efallai y bydd yn ymuno â ni yn nes ymlaen.
 
Gan droi wedyn at ein hadolygiad a’i brif argymhellion, mae’r pwyllgor wedi gwneud 17 o argymhellion, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt, o gofio’r dull esblygol y soniais amdano’n gynharach, yn parhau’r trefniadau presennol. Fodd bynnag, rydym wedi gwneud nifer o argymhellion pwysig i’w hystyried ar gyfer newid. Mae ein rhesymau dros yr argymhellion hyn wedi’u nodi’n fwy manwl yn ein hadroddiad. Wrth gwrs, mater i’r Pwyllgor Busnes, y Cynulliad ac yn wir y Pwyllgor Deisebau yn y dyfodol fydd penderfynu sut y dylid eu datblygu’n fanwl, ond at ddibenion y ddadl heddiw, fe dynnaf sylw at y mwyaf arwyddocaol o’r argymhellion a wnaethom.
 
Yn gyntaf, gan adlewyrchu’r dystiolaeth a gyflwynwyd gan y cyhoedd a rhanddeiliaid, dylid cynyddu’r nifer lleiaf o lofnodion ar ddeiseb o’r ffigur presennol o 10 i 50, ac o un i 50 ar gyfer deisebau gan sefydliadau. Rydym wedi argymell y gall unrhyw un, gan gynnwys pobl o dan 18 oed, barhau i gael yr hawl i lofnodi deisebau a gyflwynir. Fodd bynnag, pobl sy’n byw yng Nghymru neu sefydliadau sydd â chanolfan yng Nghymru yn unig a ddylai allu cyflwyno deiseb yn y lle cyntaf.
 
Dylai’r Pwyllgor Deisebau barhau i ymdrin yn unig â deisebau sydd o fewn cymhwysedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu bwerau Gweinidogion Cymru. Fodd bynnag, er mwyn i’r Cynulliad yn ei gyfanrwydd allu myfyrio ar faterion ehangach, rydym wedi argymell y dylid gallu defnyddio system ddeisebau ar-lein y Cynulliad i gyflwyno deisebau ar faterion nad ydynt wedi’u datganoli sy’n ymwneud â Chymru.
 
Rydym wedi argymell hefyd y dylai’r Pwyllgor Deisebau newydd ddatblygu meini prawf clir ar gyfer blaenoriaethu ystyriaeth o ddeisebau a’r deisebau a gaiff eu trafod yn y Cyfarfod Llawn. Ac er mwyn iddo allu edrych ar y broses gyfan o bob cyfeiriad, dylai’r Pwyllgor Deisebau ddod yn gyfrifol am benderfynu ar y meini prawf derbynioldeb ar gyfer deisebau a dylai gyhoeddi canlyniadau deisebau pan ddaw’n bryd eu cau. Er nad mater i’r Cynulliad hwn yw penderfynu ar y system ddeisebau wrth symud ymlaen, rwy’n gobeithio y bydd y ddadl hon heddiw yn cynnig fforwm drafod i unrhyw farn a fo gan Aelodau ar ein hargymhellion, a gobeithiaf y bydd modd i’r Pwyllgor Busnes eu hystyried yn fwy manwl wedyn yn gynnar iawn yn y Cynulliad newydd.
 
Wrth gloi, Lywydd,