Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :
Nôl i'r rhestr dogfennau Gweld y dudalen hon heb lincs
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Dirprwy Lywydd (David Melding) yn y Gadair.
 
13:30
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Trefn, trefn. Dyma ddechrau trafodion y Cynulliad Cenedlaethol.
 
1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
 
13:30
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yw Eitem 1. Cwestiwn 1, Gwenda Thomas.
 
Datblygu’r Diwydiant Adeiladu
 
13:30
Gwenda ThomasBywgraffiad
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu’r diwydiant adeiladu yng Nghymru? OAQ(4)0672(EST)
 
13:30
Edwina HartBywgraffiadGweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Gwnaf. Rhagwelir y bydd twf o 7.1 y cant mewn allbwn adeiladu cyfartalog blynyddol yng Nghymru dros y pum mlynedd hyd at 2020, y cryfaf o blith unrhyw un o’r gwledydd datganoledig neu ranbarthau Lloegr, cyfradd sydd bron yn dair gwaith cyfradd y DU o 2.5 y cant.
 
13:30
Gwenda ThomasBywgraffiad
Diolch, Weinidog. Fel llawer o etholaethau eraill yng Nghymru, mae gan Gastell-nedd ardaloedd mawr o goetiroedd conwydd. Nodaf fod Llywodraeth Cymru a Wood Knowledge Wales yn trefnu cynhadledd i ysgogi mwy o ddefnydd o bren a dyfir yma yng Nghymru yn y diwydiant adeiladu. Os gwelwch yn dda, a allech amlinellu pa gamau eraill sydd ar waith i hybu’r defnydd o bren wedi’i gaffael yn lleol?
 
13:30
Edwina HartBywgraffiad
Bydd y digwyddiad ei hun, sy’n cael ei gynnal ym mis Mawrth, yn hybu’r defnydd o bren yn y diwydiant adeiladu ac yn dangos yr hyn y gall y diwydiant coed ei gynnig, a bydd yn denu nifer fawr o siaradwyr o’r fasnach a’r sector adeiladu. Mae pren, mewn gwirionedd, yn faes pwysig iawn o ran cyflogaeth. Mae’r defnydd cynyddol o bren Cymru yn darparu cyfleoedd cymdeithasol, economaidd a thwf yn ogystal â manteision amgylcheddol, ac yn ychwanegu gwerth at y cadwyni cyflenwi, gan sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud gan Peter Davies—cyn-Gomisiynydd Dyfodol Cynaliadwy—sydd wedi bod yn edrych ar hyn, ac maent yn edrych ar rai o’r problemau a’r rhwystrau rhag defnyddio coed yn y diwydiant adeiladu.
 
13:31
Mark IsherwoodBywgraffiad
Mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu yng Nghymru wedi nodi prinder gweithwyr adeiladu sydd â’r sgiliau priodol fel rhwystr i gynllunio’r gweithlu a’r rhwystr mwyaf i wneud y gorau o’r cyfleoedd i’r sector yng Nghymru dros sawl blwyddyn yn olynol. Felly, sut rydych yn ymateb i’r alwad yn eu maniffesto ar gyfer 2016 am gymorth a thwf mewn cynhyrchiant yn y diwydiant adeiladu drwy ddiwygio sgiliau a hyfforddiant?
 
13:32
Edwina HartBywgraffiad
Wel, o ran pryderon y diwydiant ynglŷn â sgiliau yn y dyfodol, gwn fod yr holl faterion hyn yn cael sylw gan fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg.
 
13:32
Joyce WatsonBywgraffiad
Fel y dywedoch, Weinidog, bydd y sector adeiladu yng Nghymru gyda’r cyflymaf yn y DU o ran twf ac yn creu tua 30,000 o gyfleoedd gwaith yng Nghymru, yn ôl pob tebyg. A allwch amlinellu, Weinidog, sut y mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn ysgolion yr unfed ganrif ar hugain wedi bod o fudd ac yn mynd i fod o fudd i’r diwydiant adeiladu yng Nghymru?
 
13:32
Edwina HartBywgraffiad
Wel, fel y nodir yn y rhaglen ar ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, credaf y bydd y cynlluniau seilwaith a nodir yn rhoi hwb i gyflogaeth, gan gynnal hyd at 300 o swyddi yn y broses o ddylunio ac adeiladu ysgolion newydd yn ein cymunedau ledled Cymru, gyda chyfanswm o £23 miliwn wedi’i ddyrannu i raglen ysgolion ac addysg yr unfed ganrif ar hugain 2015-16. Felly, bydd hynny’n fwy o fuddsoddiad eto ac yn sicr yn helpu cyfleoedd gwaith yn gyffredinol.
 
13:33
Kirsty WilliamsBywgraffiadArweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Weinidog, mae cwmnïau adeiladu bychain yn fy etholaeth yn credu bod y polisi a weithredir gan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog mewn perthynas â symiau gohiriedig yn gwneud datblygiadau ar raddfa fach yn aneconomaidd ac yn amhosibl eu cyflawni, a gallai hynny, o bosibl, effeithio’n enfawr ar nifer y swyddi sy’n cael eu creu gan y cwmnïau adeiladu bychain hynny. Pa asesiad a wnaethoch o effaith polisïau o’r fath ar gwmnïau adeiladu llai o faint—y rhai heb unrhyw ddiddordeb mewn datblygu datblygiadau tai enfawr, ond sydd â diddordeb mewn prosiectau bach, unigol gydag un, dau, tri neu bedwar o unedau, nad ydynt yn cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, oherwydd y polisi hwnnw?
 
13:33
Edwina HartBywgraffiad
Wel, mae’n rhaid i mi ddweud, credaf ei bod yn bwysig iawn i ni edrych ar y gwaith o ddatblygu prosiectau o amgylch pentrefi. Gall llond llaw o dai wneud gwahaniaeth aruthrol o ran tai gwledig ac ati. Yn amlwg, nid fy maes i yw hwn, ond mae’n fater y tynnodd yr adeiladwyr fy sylw ato, ac mae’n fater y byddaf yn parhau i’w godi gyda’r parciau cenedlaethol. Rwyf wedi cael cyfarfodydd gyda’r parciau cenedlaethol ynghylch materion eraill sy’n effeithio ar ddatblygiad economaidd, a byddwn yn sicr yn hapus i ymgymryd â hyn.
 
13:34
Jenny RathboneBywgraffiad
Un o’r dyfeisiadau mwyaf gwych a wnaed yng Nghymru yw’r tŷ SOLCER ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac mae wedi denu llawer iawn o ddiddordeb oherwydd ei allu i gynhyrchu mwy o ynni nag y byddai unrhyw aelwyd yn ei ddefnyddio. Tybed pa asesiad y mae’r Llywodraeth wedi’i wneud o’r sgiliau adeiladu sydd eu hangen i adeiladu cartrefi newydd o safon y tŷ SOLCER ar raddfa ddiwydiannol.
 
13:34
Edwina HartBywgraffiad
Wel, oherwydd ein perthynas waith agos gyda Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu, maent yn ymwybodol o’r sgiliau y bydd eu hangen ar gyfer yr hyn sy’n brosiect o’r radd flaenaf, a datblygiadau pellach ohono yn y dyfodol, gobeithio.
 
Y Seilwaith Trafnidiaeth Cenedlaethol
 
13:34
Altaf HussainBywgraffiad
2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'i chyd-weinidogion am y seilwaith trafnidiaeth cenedlaethol? OAQ(4)0674(EST)
 
13:34
Edwina HartBywgraffiad
Wel, rwy’n trafod yn rheolaidd gyda chyd-Aelodau Cabinet ynghylch y seilwaith ledled Cymru.
 
13:35
Altaf HussainBywgraffiad
Weinidog, mae awdurdodau lleol yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â datblygiadau tai newydd, ond ni roddir fawr o ystyriaeth i effaith y rhain ar y rhwydwaith cefnffyrdd. Pa asesiad y mae eich Llywodraeth wedi’i wneud o’r effaith y bydd penderfyniadau cynllunio lleol yn ei chael ar y seilwaith trafnidiaeth cenedlaethol a’r hyn y gallwch ei wneud i liniaru effaith o’r fath?
 
13:35
Edwina HartBywgraffiad
Wel, rydym yn cynnal trafodaethau rheolaidd gyda’n cydweithwyr llywodraeth leol mewn perthynas â datblygu. Maent yn rhoi gwybod i ni os ydynt yn credu y gallwn helpu a chynorthwyo gydag unrhyw ddatblygiadau ar y ffyrdd, ac mae honno’n ddeialog barhaus.
 
13:35
Peter BlackBywgraffiad
Weinidog, ddydd Sul holodd etholwr i mi ynglŷn â’r posibilrwydd o ddefnyddio rheilffyrdd cludo nwyddau yng nghwm Nedd i gludo teithwyr i Abertawe. Beth yw potensial ymestyn y prosiect metro ymhellach i’r gorllewin a defnyddio rheilffyrdd newydd o’r fath i wella trafnidiaeth i mewn i ardal Abertawe?
 
13:36
Edwina HartBywgraffiad
Mae’n rhaid i’r dinas-ranbarth ei hun ganolbwyntio ar rai o’r materion trafnidiaeth sy’n codi yn ninas-ranbarth Abertawe, a dyma un o’r meysydd y byddwn yn disgwyl iddynt eu hystyried.
 
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
 
13:36
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau, gan ddechrau’r wythnos hon gyda llefarydd y Ceidwadwyr, William Graham.
 
13:36
William GrahamBywgraffiad
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, tybed a gaf fi ofyn i chi am sicrwydd y tro hwn ynghylch Felothon Cymru. Fe fyddwch yn ymwybodol fod y llythyrau eisoes wedi’u hanfon at y rhai sy’n debygol o gael eu heffeithio. Nid oedd y llynedd yn llwyddiant mawr o ran y tarfu a fu ar gynifer o fusnesau a phobl. Roedd y digwyddiad ei hun yn llwyddiant mawr. A gawn ni sicrwydd gennych, y tro hwn, y manteisir ar bob cyfle i osgoi’r problemau ofnadwy hynny i unigolion?
 
13:36
Edwina HartBywgraffiad
Wel, yn sgil y pryderon a fynegwyd ar draws y Siambr ynghylch yr effaith andwyol a gafodd ar unigolion, er i ni ganmol llwyddiant y digwyddiad mawr ei hun, credaf fod trafodaethau manwl wedi bod rhyngom ni a’r awdurdodau lleol perthnasol, a’r hyn sy’n eithaf amlwg, o ran llwybr 2016—y llwybr manwl—yw y bydd mapiau rhyngweithiol a llinellau ffôn ar gyfer ymholiadau a bydd hyn oll yn cael sylw maes o law. Ond yn ogystal, wrth gynllunio’r digwyddiad, bydd yn rhaid cael deialog fwy agored a thryloyw gyda busnesau a chymunedau. Felly, rwy’n rhoi sicrwydd i chi ynghylch hynny. Ond mae’n bwysig cydnabod bod angen i ni gynnwys y gymuned hefyd, oherwydd mae’r digwyddiad yn anghyfleus i’r gymuned er ei fod yn newyddion da i Gymru, wrth gwrs.
 
13:37
William GrahamBywgraffiad
A gaf fi ofyn i chi hefyd—? Byddwch wedi gweld yr adroddiad gan y Pwyllgor Menter a Busnes, yn benodol ynghylch gorsaf Caerdydd Canolog a’r amheuon ynglŷn â’i chapasiti. Rwy’n sylweddoli y bydd y Gweinidog yn ymwybodol iawn o’r symiau mawr a fydd yn angenrheidiol i wella honno’n drylwyr, heb sôn am y problemau gyda Network Rail. A gaf fi ofyn i’r Gweinidog a yw’n rhagweld y byddai hyn yn flaenoriaeth i’w phlaid os ydynt yn ffurfio Llywodraeth?
 
13:37
Edwina HartBywgraffiad
Wel, credaf y dylai gwelliannau i orsaf Caerdydd fod yn flaenoriaeth i bawb ohonom. Wrth gwrs, cawsom drafodaeth fer yn y pwyllgor am y materion hyn y bore yma, oherwydd mae’n rhaid i’r orsaf gael capasiti i ymdopi â’r cynnydd mawr rydym yn disgwyl ei weld yn nifer y teithwyr, pa un a ydynt yn gwneud teithiau dyddiol rheolaidd i ac o’r orsaf drenau, ac yn ogystal, credaf fod problem wirioneddol o ran yr hyn sydd angen ei wneud o ran buddsoddi. A fydd y cronfeydd buddsoddi ar gael i Network Rail wneud y gwaith sydd ei angen arnom? Rwyf wedi ysgrifennu at Syr Peter Hendy yn dweud y byddai’n well gan Lywodraeth Cymru weld unrhyw gyllid a gymeradwyir gan Network Rail yn y dyfodol yn canolbwyntio ar wella capasiti trenau a symud teithwyr. Llefydd fel y grisiau cul hynny—a oes modd mynd i’r afael â materion fel hynny? Mae gennym broblemau gyda chiwio a rheoli torfeydd yno. Felly, mae’n amlwg fod yna faterion penodol rydym yn lobïo amdanynt mewn perthynas â Network Rail a byddwn yn parhau i wneud hynny, gan fy mod yn meddwl ei bod yn bwysig i brifddinas Cymru gael canolfan drafnidiaeth briodol o ran ei chapasiti.
 
13:38
William GrahamBywgraffiad
A gaf fi ofyn un cwestiwn olaf ynglŷn ag Erasmus? Ymddengys bod—. Sut rydych chi’n annog myfyrwyr ledled Cymru i wneud cais am fwy o gyfranogiad yn y rhaglen bwysig ac angenrheidiol hon?
 
13:39
Edwina HartBywgraffiad
Wel, ie, nawr eich bod wedi crybwyll y pwynt hwn, byddaf yn sicr yn cael gair gyda fy swyddogion i weld sut y gallwn helpu a chynorthwyo gyda’ch ymholiad.
 
13:39
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Ac yn awr, llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
 
13:39
Rhun ap IorwerthBywgraffiad
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mewn cais rhyddid gwybodaeth diweddar a gyflwynwyd gan Blaid Cymru, gofynasom am wybodaeth ynglŷn â faint o ddur a wnaed yng Nghymru sydd wedi’i ddefnyddio mewn prosiectau cyhoeddus a oruchwyliwyd gan Lywodraeth Cymru dros y pum mlynedd ddiwethaf. Efallai y bydd y Gweinidog yn ymwybodol, neu efallai na fydd yn ymwybodol, ein bod wedi cael gwybod nad yw’r wybodaeth hon wedi’i chofnodi. O ystyried record gyffredinol Llywodraeth Cymru ym maes caffael lleol, a’r ffaith ei bod yn parhau i wneud yn waeth na phob un o lywodraethau’r DU ar y mesur hwn, a wnaiff y Gweinidog esbonio sut yn union y mae’r Llywodraeth yn bwriadu cefnogi diwydiant dur Cymru yn y dyfodol drwy brosesau caffael os nad yw’r Llywodraeth hon hyd yn oed yn gallu mesur y gyfradd bresennol o ddur Cymru a gaffaelir?
 
13:40
Edwina HartBywgraffiad
Wrth gwrs, rydym yn cydnabod bod llawer iawn o gontractau ac rydym yn edrych ar y materion sy’n codi o fewn contractau. Un o’r materion sydd wedi codi ynglŷn â dur yw ein bod yn ceisio gweld pa ddur y gellir ei gynhyrchu yng Nghymru, ac o ba safleoedd, a’r hyn gallwn ei wneud wedyn â’r diwydiant. Bydd yn rhaid i ni edrych i weld sut yr awn ati i ddechrau cofnodi gwybodaeth yn y maes hwn.
 
13:40
Rhun ap IorwerthBywgraffiad
Rwy’n falch fod hwn yn faes lle y mae’r Gweinidog yn cytuno bod methiant wedi bod ar ran y Llywodraeth. Maes arall: gwelir yr Undeb Ewropeaidd a’r Comisiwn Ewropeaidd, yn hollol gywir, fel elfen allweddol yn y broses o roi rheolau ac arferion ar waith i amddiffyn y diwydiant dur yng Nghymru. Mae cais rhyddid gwybodaeth arall a gyflwynwyd gan Blaid Cymru wedi datgelu mai unwaith yn unig y mae Llywodraeth Cymru, dros gyfnod o bedair blynedd, wedi crybwyll materion yn ymwneud â’r diwydiant dur mewn llythyr at is-lywydd y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer swyddi, twf, buddsoddi a chystadleurwydd. Nawr, mae pob plaid, gobeithio, yn cytuno bod angen i ni weithio’n agosach gyda’r Undeb Ewropeaidd ar y mater hwn.
 
Yr wythnos hon, arweiniwyd dirprwyaeth gan Bethan Jenkins, Aelod y Cynulliad dros Orllewin De Cymru, a Jill Evans, ASE Plaid Cymru, i Frwsel er mwyn cynnal dau ddiwrnod o sgyrsiau gydag uwch swyddogion y Comisiwn Ewropeaidd i drafod eu hymateb i’r argyfwng dur parhaus sydd wedi arwain yn ddiweddar, wrth gwrs, at golli cymaint o swyddi. Mae’n hawdd yn awr, wrth gwrs, i’r Gweinidog dderbyn eto efallai fod y Llywodraeth wedi methu â bod yn ddigon rhagweithiol yn y gorffennol yn ei hymwneud â swyddogion yr UE, ond sut y bydd y Gweinidog yn awr, ac yn y dyfodol, yn mynd ati i sicrhau cysylltiad a lobïo gan Lywodraeth Cymru ar lefel yr UE i hyrwyddo buddiannau diwydiant dur Cymru?
 
13:41
Edwina HartBywgraffiad
Credaf fod angen i mi wneud pethau’n hollol glir: mae rhai o’r honiadau hyn yn hollol anghywir o ran yr hyn rydym yn ei wneud a ddim yn ei wneud. Yn y bôn, rydym wedi bod yn un o’r gweinyddiaethau mwyaf rhagweithiol wrth ymdrin â’r diwydiant dur. Mae gennym berthynas agos â’r diwydiant dur—yr undebau a’r cwmnïau dur fel ei gilydd. Rydym wedi bod yn mynegi pryderon real ers 2011. Mae Tata, wrth gwrs, yn gwmni angori. Rydym wedi cael cyfarfodydd lefel uchel gyda hwy ac wedi gwneud popeth yn ein gallu.
 
Pan siaradwch am yr hyn sy’n digwydd ym maes caffael, nid oes neb arall yn gwneud hyn o ran mesur pa ddur sydd mewn contractau cyhoeddus. I bob pwrpas rydym wedi ymrwymo i’r siarter mewn perthynas â chaffael cyn unrhyw un arall, ac rydym yn gwneud y gwaith.
 
O ran lobïo, a phwy rydym yn siarad â hwy, nid un llythyr yn unig yw hynny; mae gennym swyddfa ym Mrwsel ac rydym yn cael trafodaethau rheolaidd yn gyffredinol. Gwyddom fod lobïo’n ymwneud â mwy na darn o bapur a llythyr; mae’n ymwneud hefyd â’r hyn rydych yn ei wneud. Mae’n rhaid i ni gofio hefyd, wrth gwrs, mai’r DU yw’r aelod-wladwriaeth.
 
13:42
Rhun ap IorwerthBywgraffiad
Ond mae amheuon yn parhau ynghylch gweithgareddau yn y gorffennol o ran sicrhau cysylltiad a lobïo gan Lywodraeth Cymru, ac rydym yn mawr obeithio y bydd gwersi o’r gorffennol yn cael eu dysgu o ran yr angen am ymgysylltiad ar lefel uwch rhwng Llywodraeth Cymru a swyddogion yr UE.
 
Mae cyfyngiadau, wrth gwrs, ar yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei hun ei wneud, yn seiliedig ar y setliad datganoli presennol, i helpu diwydiant dur Cymru, ond mae’r Gweinidog wedi crybwyll o’r blaen, fel rhan o’r tasglu dur yr ydym, wrth gwrs, yn ei groesawu a’i gefnogi, y gallai Llywodraeth Cymru edrych ar y posibiliadau a gynigir drwy gynlluniau rhyddhad ardrethi busnes, er enghraifft. Ar hyn o bryd mae Llywodraeth yr Alban yn arwain y ffordd ac yn dangos beth y gellir ei wneud yng Nghymru i gefnogi’r diwydiant dur drwy dorri ardrethi busnes yn yr Alban am flwyddyn. Dyna’r union fath o frys y credaf fod angen i ni ei weld gan Lywodraeth Lafur Cymru. Credaf y dylai’r Gweinidog gyfaddef yn awr, er ein bod yn cydnabod bod y Llywodraeth yn ceisio symud i gyfeiriad penodol, fod y camau gweithredu braidd yn araf yn dod o hyd. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf, felly, ynglŷn â’r hyn sy’n cael ei wneud o ran darparu rhyddhad ardrethi busnes i weithfeydd dur ledled Cymru?
 
13:43
Edwina HartBywgraffiad
Ofnaf nad wyf yn barod i gyfaddef nad ydym yn gwneud unrhyw beth a’n bod yn rhy araf, oherwydd mewn gwirionedd rydym yn gwneud llawer iawn o waith sy’n cael ei barchu’n fawr a’i ddeall gan y diwydiant.
 
O ran rhai o’r materion yn ymwneud ag ardrethi busnes, mae ardrethi busnes yn gymhleth dros ben, fel y byddai unrhyw un sydd wedi siarad â’r Comisiwn Ewropeaidd erioed yn ei ddeall o ran beth yn union yw cymorth gwladwriaethol. Mae terfynau ar yr hyn y gallwch ei wneud ac mae Llywodraeth yr Alban wedi dewis cymryd trywydd penodol, ond gadewch i ni beidio â meddwl bod yr hyn y maent wedi’i wneud yn mynd i leddfu’r gwir broblemau yn y diwydiant dur a’r gefnogaeth sydd ei hangen. Nid wyf yn derbyn eich dadansoddiad o hyn. Rydym yn cyd-fynd yn llwyr â’r diwydiant o ran sut rydym yn ceisio helpu. Maent yn cefnogi’r hyn rydym yn ei wneud ac maent yn dweud bob amser yn yr holl dystiolaeth y maent wedi’i rhoi i bawb ein bod ni, fel Llywodraeth, wedi bod yn hynod o ragweithiol.
 
13:44
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Ac yn awr, llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Eluned Parrott.
 
13:44
Eluned ParrottBywgraffiad
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, croesawaf y cyhoeddiad gan Brif Weinidog Cymru dros y penwythnos fod y Llywodraeth hon yn bwriadu creu metro gogledd Cymru, ond hyd yn hyn, ni chafwyd unrhyw fanylion ynglŷn â sut beth fydd hwnnw. Nawr, yn amlwg, nid oes gan ogledd Cymru rwydwaith o reilffyrdd y Cymoedd fel de-ddwyrain Cymru, felly tybed a allwch ddweud wrthym beth y mae hynny’n ei olygu o ran llwybrau a gwasanaethau i bobl gogledd Cymru.
 
13:44
Edwina HartBywgraffiad
Gallaf. Rydym ar hyn o bryd yn edrych ar y materion sy’n ymwneud â metro ar gyfer gogledd-orllewin Cymru—rydych yn hollol gywir. Bydd yn canolbwyntio’n fawr ar integreiddio nid yn unig y rheilffyrdd, ond gwasanaethau bws hefyd, wrth gwrs, a pha waith pellach y gallwn ei wneud. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, a byddaf yn sicrhau ei fod ar gael maes o law.
 
13:45
Eluned ParrottBywgraffiad
Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn amlwg, mae metro ar gyfer gogledd Cymru a metro ar gyfer de-ddwyrain Cymru yn bwysig iawn, ond bydd pobl yn y Canolbarth yn meddwl tybed beth y gallant ei ddisgwyl a beth rydych yn ei wneud i sicrhau nad yw pobl sy’n byw, er enghraifft, ym Mhowys neu yng Ngheredigion, yn cael eu hanghofio yn yr ymgyrch hon i gael systemau metro, a pharhau i gael y buddsoddiad mewn llwybrau a gwasanaethau sy’n hanfodol er mwyn cefnogi cymunedau gwledig a threfi marchnad.
 
13:45
Edwina HartBywgraffiad
A gaf fi ddweud hyn? Credaf fod ein record yn siarad drosti ei hun o ran y buddsoddiad a wnaed gennym yng nghanolbarth a gorllewin Cymru. Rydym wedi sicrhau llwybrau ychwanegol, ac rwyf wedi ymrwymo’n benodol, fel y gwyddoch, i ailagor rheilffordd Caerfyrddin ac Aberystwyth ac rwy’n edrych yn awr, hyd yn oed, ar bosibiliadau cludo nwyddau ar y rheilffordd honno. Bydd yn ymwneud ag adnoddau, wrth gwrs, ond rydym wedi ymrwymo i’r ardal honno. Wrth gwrs, credaf fod angen i ni barhau i weithio, gan fod yn rhaid i ni sicrhau trafnidiaeth er nad yw’r boblogaeth yn fawr. Y peth gorau a allai ddigwydd, wrth gwrs, fyddai i ni allu rheoleiddio bysiau, fel y gallem sicrhau’n bendant wedyn eu bod yn cysylltu â’r canolfannau trenau, ac yn y blaen, a chredaf y bydd hynny’n hanfodol ar gyfer y dyfodol.
 
13:46
Eluned ParrottBywgraffiad
Yn wir, diolch i chi am hynny. Os caf oddefgarwch y Dirprwy Lywydd, credaf mai gennyf i y mae’r fraint o ofyn yr olaf o gwestiynau’r llefarwyr y byddwch yn eu hwynebu fel Gweinidog yn y lle hwn, ac roeddwn am gofnodi fy nymuniadau gorau i chi yn y dyfodol. Rwy’n siŵr y bydd llefarwyr y gwrthbleidiau eraill yn cytuno eich bod wedi bod yn wrthwynebydd aruthrol yn ogystal â’n ffigwr aruthrol yn y Cynulliad hwn, a dymunwn yn dda i chi yn y dyfodol. [Cymeradwyaeth.]
 
Fodd bynnag, mae gennyf gwestiwn, sy’n ymwneud ag Abertawe a chymoedd Abertawe, fel y mae Peter Black newydd sôn, a’r ffaith mai saeth dros Ben-y-bont ar Ogwr yn unig sy’n eu cynrychioli ar fap metro de Cymru. Nid yw hynny’n ddigon mewn gwirionedd o ystyried y math o broblemau sydd gennym o hyd yn Abertawe a chymoedd Abertawe o ran tlodi trafnidiaeth ac o ran y tagfeydd ofnadwy a welsom ar y rhwydwaith ffyrdd y bore yma. Roedd eich ateb yn ddiddorol ynglŷn â’r dinas-ranbarth a’r hyn y gallent ei wneud i rwydwaith trafnidiaeth Abertawe, ond y cwestiwn sydd gennyf i chi mewn gwirionedd yw hwn: pa arian fydd ar gael i’r dinas-ranbarth hwnnw er mwyn iddynt allu datblygu astudiaeth ddichonoldeb briodol ar gyfer ymyriadau a allai drawsnewid y rhan orllewinol o goridor de Cymru?
 
13:47
Edwina HartBywgraffiad
Ar hyn o bryd mae’r Athro Cole yn gweithio gyda bwrdd y dinas-ranbarth yn yr ardal i edrych ar ddatblygiad yr agenda bolisi a’r hyn y gellid ei gyflawni mewn gwirionedd. Mae wedi dechrau edrych ar y llwybrau y gallem eu gwneud o ran teithio llesol a beth fyddai’r ffordd orau o integreiddio. Mae’r gwaith hwnnw’n parhau, a maes o law, bydd yn rhaid iddo gael rhywfaint o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.
 
Gweithgynhyrchu yn Nhorfaen
 
13:47
Lynne NeagleBywgraffiad
3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth ar gyfer gweithgynhyrchu yn Nhorfaen? OAQ(4)0679(EST)
 
13:47
Edwina HartBywgraffiad
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y diwydiant gweithgynhyrchu i Dorfaen a’r flaenoriaeth o hyd yw datblygu a chryfhau’r sylfaen weithgynhyrchu yn Nhorfaen.
 
13:48
Eluned ParrottBywgraffiad
Diolch yn fawr, Weinidog. Wrth gwrs, yn hanesyddol, mae’r sector wedi bod yn sylfaen i economi Cymru, yn enwedig yn y Cymoedd, a chroesawaf eich cydnabyddiaeth o’i bwysigrwydd yn Nhorfaen. Hyd yn oed heddiw yng Nghymru, mae’n cynhyrchu dros hanner allforion Cymru, er mai un o bob 10 swydd yn unig sy’n perthyn i’r sector. Croesawaf yn arbennig y ffaith fod deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch yn sector allweddol sy’n cael ei gydnabod gennych. Roeddwn am holi ynglŷn ag ymgyrch Swyddi gwell yn nes at adref Cyngres yr Undebau Llafur, ac rwy’n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi ei chroesawu. Rwy’n ymwybodol fod y Gweinidog cyllid wedi arwain ar y trafodaethau hynny, ond hoffwn ofyn a allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni heddiw ynglŷn â pha drafodaethau a gawsoch gyda’r Gweinidog a chydweithwyr yn yr undebau llafur i sicrhau bod yr ymgyrch hon yn cael effaith fawr yn y sector gweithgynhyrchu.
 
13:48
Edwina HartBywgraffiad
Ie, rydych yn llygad eich lle: mae fy nghyd-Aelod Jane Hutt wedi arwain ar yr ymgyrch hon, ond rydym yn gweithio’n agos gyda’n gilydd, ac mae undebau llafur wedi cyflwyno’u sylwadau unigol i mi ynghylch pwysigrwydd yr ymgyrch hon. Pan fyddwn yn sôn am systemau trafnidiaeth newydd, nid cludo pobl allan o leoedd yw eu pwrpas bob amser; maent yn ymwneud hefyd â chael pobl i mewn i waith. Felly, mae’n broses ddwyffordd yn y Cymoedd, nid proses unffordd i lawr at yr arfordir yn unig.
 
13:49
Mohammad AsgharBywgraffiad
Weinidog, yn ôl llyfrgell Tŷ’r Cyffredin, cododd nifer y swyddi gweithgynhyrchu 7 y cant yn yr Alban yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ond bu gostyngiad o 3 y cant yn y lefelau cyflogaeth ym maes gweithgynhyrchu yng Nghymru yn yr un cyfnod. Pa resymau y gall y Gweinidog eu rhoi dros y dirywiad hwn a pha gamau ychwanegol y bydd yn eu cymryd i gefnogi gweithgynhyrchu yn Nhorfaen a rhannau eraill o Gymru?
 
13:49
Edwina HartBywgraffiad
Wel, mae gennym bolisi clir o ran cefnogi gweithgynhyrchu. Pan fu gostyngiadau yn yr economi genedlaethol, mewn gwirionedd rhoesom arian i mewn yn y system i sicrhau ein bod yn gallu helpu a chynorthwyo busnesau. Hefyd, mewn perthynas â’n rhaglen hyfforddiant, maent yn fedrus iawn yn dod i mewn a helpu cwmnïau pan fo ganddynt anghenion hyfforddi penodol. Wrth gwrs, bydd cyhoeddiadau fel y cyhoeddiad da heddiw yn sicr yn gwella’r rhagolygon o ran gweithgynhyrchu pellach yng Nghymru.
 
Blaenoriaethau Trafnidiaeth yng Ngorllewin Cymru
 
13:50
Paul DaviesBywgraffiad
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0676(EST)
 
13:50
Edwina HartBywgraffiad
Mae ein blaenoriaethau trafnidiaeth wedi’u nodi yn y cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol.
 
13:50
Paul DaviesBywgraffiad
Weinidog, mewn datganiad y llynedd, fe wnaethoch yn glir y gallai deuoli’r A40 ddarparu buddion cadarnhaol yn y tymor hwy ac fe ymrwymoch i opsiynau pellach i wella cysylltiadau trafnidiaeth ar hyd yr A40. Yng ngoleuni eich datganiad, a allech roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ynglŷn â pha gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd ers eich datganiad ar yr A40 y llynedd, ac a allwch gadarnhau eich bod chi a’r Llywodraeth bellach yn cefnogi deuoli’r A40 yn Sir Benfro?
 
13:50
Edwina HartBywgraffiad
Penodwyd asiant y cyflogwr gennym ym mis Medi y llynedd ac rydym wedi dechrau ar y broses o gaffael contractwr i ddylunio ac adeiladu rhan Llanddewi Felffre o’r prosiect hwn. Mae’r rhaglen bresennol yn dangos y bydd y gwaith o adeiladu’r cynllun yn dechrau ar ddiwedd 2017, yn amodol ar gwblhau’r broses statudol. Bydd asiant y cyflogwr hefyd yn edrych ar y posibilrwydd o becyn ychwanegol o fesurau i wella’r A40 rhwng Sanclêr a Hwlffordd, gan ddefnyddio’r drefn 2+1 sydd wedi gweithio’n dda, fel y gwyddoch, gyda’r gwelliannau eraill i’r A40. Blaenoriaeth allweddol ardal fenter Dyfrffordd y Daugleddau yw sicrhau bod y seilwaith angenrheidiol ar waith gennym o ran ffyrdd.
 
13:51
Joyce WatsonBywgraffiad
Weinidog, rwy’n falch iawn o glywed yr ateb rydych newydd ei roi i Paul Davies. Fel rhywun sy’n gyrru ar hyd y ffordd honno o leiaf ddwywaith yr wythnos, rwy’n ymwybodol o’r manteision sydd eisoes wedi dod i’r rhan honno o’r ffordd o ganlyniad i’r buddsoddiad. Fe ddywedoch eich bod wedi cyflogi asiant ac y bydd y gwaith yn dechrau ar gynllun Llanddewi Felffre i Benblewin yn eithaf buan, Weinidog. A ydych yn cytuno mai dyma wir werth y buddsoddiad a wnaed yn yr ardal fenter, fel ein bod yn gallu gweithio gyda busnesau yn yr ardal honno i gyflawni’r newid sydd ei angen arnynt?
 
13:52
Edwina HartBywgraffiad
Ydw. Credaf ei bod yn bwysig iawn i ni weithio gyda busnesau a deall beth yw eu hanghenion. Mae’n bwysig iawn fod gennym rwydwaith ffyrdd da er mwyn ei gwneud hi’n haws i fusnesau allforio o’r ardal ac i hybu swyddi yn yr ardal.
 
13:52
Elin JonesBywgraffiad
Weinidog, rydych chi wedi bod yn gefnogol iawn hyd yn hyn o ymchwilio i’r posibiliad o ailagor y rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin. Rwyf ar ddeall bod yna drafodaethau cadarnhaol iawn yn parhau rhwng eich swyddogion chi a’r grŵp ymgyrchu Traws Link Cymru. Y cam nesaf, wrth gwrs, fydd i gomisiynu astudiaeth ddichonoldeb lawn ar gyfer y rheilffordd yma. Pryd ŷch chi’n rhagweld y bydd naill ai eich Llywodraeth chi neu’r Llywodraeth nesaf mewn sefyllfa i gymryd penderfyniad i gomisiynu astudiaeth ddichonoldeb lawn ar ailagor y rheilffordd bwysig yma?
 
13:53
Edwina HartBywgraffiad
Yn amlwg, cefais yr astudiaeth gwmpasu annibynnol ac mae fy swyddogion hefyd wedi cynnal gweithdy adolygiadau gan grwpiau cymheiriaid i edrych ar yr holl faterion sy’n codi. Byddaf yn awr yn cael cyngor ac yn ystyried y camau nesaf gyda hwy, gan y credaf ei bod yn bwysig i ni barhau i ddatblygu’r prosiect hwn.
 
13:53
Mike HedgesBywgraffiad
Fel y gŵyr y Gweinidog yn dda, Abertawe yw’r porth i orllewin Cymru. Mae seilwaith trafnidiaeth yn bwysig ar hyd y coridor o Abergwaun i Abertawe, y coridor o Benfro i Abertawe a’r coridor o Aberaeron i Abertawe. Pa gynigion sydd yna i wella’r llwybrau hyn ymhellach?
 
13:53
Edwina HartBywgraffiad
Credaf fod cynigion i wella’r llwybrau gennym eisoes, a chredaf fod angen gwneud gwaith pellach yng nghyd-destun trafodaethau yn y dinas-ranbarth ynglŷn â blaenoriaethu’r gwaith ychwanegol sydd angen ei wneud yn y rhanbarth i sicrhau ein bod yn cael ffyniant economaidd ar draws yr holl ranbarth.
 
13:53
William PowellBywgraffiad
Weinidog, gan barhau gyda thema’r rheilffyrdd a grybwyllwyd yn gynharach, rwy’n siŵr y byddwch yn ymuno â mi i groesawu’r newyddion cadarnhaol ychydig wythnosau yn ôl fod peirianwyr yng Nghyngor Sir Ceredigion wedi bod yn gweithio ar gynllun ar gyfer parcio a theithio yn Bow Street a gorsaf newydd. Yn y cyd-destun hwn, credaf y byddai hynny nid yn unig yn dod â manteision mawr i ogledd Ceredigion, ond hefyd yn lleddfu tagfeydd traffig a pharcio yn Aberystwyth ei hun. Os caiff y caniatâd cynllunio ei roi yng Ngheredigion, pa sicrwydd y gallwch ei roi, Weinidog, y rhoddir cymorth i gwblhau’r prosiect cyffrous hwn?
 
13:54
Edwina HartBywgraffiad
Cefais gyfle i ymweld â gorsaf Bow Street gyda’r Aelod Cynulliad Elin Jones, a chyfarfod â rhai o’r ymgyrchwyr ynglŷn â phwysigrwydd Bow Street o ran yr hyn y dylem fod yn ei wneud gyda gorsafoedd. Rwyf hefyd wedi crybwyll y mater wrth Network Rail, gan fy mod yn credu ei fod yn bwysig, a rhai o’r grwpiau rheilffyrdd cysylltiedig, sydd hefyd yn meddwl bod hynny’n bwysig iawn. Yn amlwg, efallai y daw’r penderfyniadau hyn ar ôl fy amser yn y swydd hon, ond credaf ein bod wedi ymrwymo’n fawr i’r hyn rydym yn ei ystyried yn gynllun hynod o ymarferol o ran gwelliannau yn Bow Street.
 
13:55
Yr Arglwydd / Lord Elis-ThomasBywgraffiad
Rhan allweddol o seilwaith rheilffyrdd Cymru, wrth gwrs, yw rheilffyrdd y Cambrian o Amwythig i Aberystwyth ac o Fachynlleth i Bwllheli. Beth yw ymateb y Gweinidog i’r ffigurau rhyfeddol a ddangosodd gynnydd o dros 40 y cant yn y defnydd o’r rheilffordd i Aberystwyth a chynnydd ymron i 90 y cant yn y defnydd o reilffordd Arfordir y Cambrian? A yw’r Gweinidog yn sicr, ar ôl ei chyfnod disglair hi fel Gweinidog trafnidiaeth, y bydd yna barhad i fuddsoddi a datblygu y gwasanaethau hyn?
 
13:55
Edwina HartBywgraffiad
Wel, gobeithiaf yn fawr y bydd y gwasanaeth hwn yn parhau i gael ei ddatblygu, gan fy mod yn credu bod y ffigurau’n siarad drostynt eu hunain. Mae’n bwysig cydnabod, os ydym yn genedl ddatganoledig, fod angen seilwaith arnom sy’n addas i’r holl bobl sy’n byw yng Nghymru.
 
Gwella Economi Gorllewin Cymru
 
13:56
Paul DaviesBywgraffiad
5. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella economi gorllewin Cymru? OAQ(4)0675(EST)
 
13:56
Edwina HartBywgraffiad
Rydym yn bwrw ymlaen ag ystod eang o faterion, gan gynnwys cymorth i fusnesau newydd a busnesau sy’n bodoli eisoes, gwelliannau seilwaith, ardrethi busnes ar gyfer busnesau bach, hyrwyddo Cymru fel cyrchfan i dwristiaid, ac wrth gwrs, yn eich ardal chi yn benodol, ardal fenter Dyfrffordd y Daugleddau.
 
13:56
Paul DaviesBywgraffiad
Weinidog, y llynedd, fe gyhoeddoch fod Llywodraeth Cymru yn ystyried opsiwn i gyflwyno pontŵn arnofiol i ganiatáu i longau mordeithio angori ym mhorthladd Abergwaun o 2016 ymlaen. Byddai hyn, wrth gwrs, yn helpu i wella’r economi leol. A allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â’r gwaith sydd wedi’i wneud ar y prosiect penodol hwn, yn ogystal â sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r porthladd a phartneriaid allanol eraill i sicrhau’r cyfleoedd masnachol gorau posibl mewn gwirionedd i’r ardal leol?
 
13:56
Edwina HartBywgraffiad
Gallaf. Bydd pontŵn newydd yn cael ei ddefnyddio gan longau mordeithio yn Abergwaun eleni. Mae’n un o brosiectau pontŵn Stena Line, a ariennir drwy’r cynllun cymorth buddsoddi mewn twristiaeth. Bydd yn caniatáu i longau angori y tu allan i’r harbwr a chludo teithwyr i mewn drwy dendr. Credwn fod hyn yn hynod o bwysig, ond mae hefyd yn braf gwybod bod rhai o’r llongau mordeithio wrth eu bodd yn dod i Abergwaun, ac mae’n bwysig iawn ein bod yn parhau i gael y busnes hwnnw yno.
 
13:57
Simon ThomasBywgraffiad
Weinidog, fe fyddwch yn gwybod bod llawer o’r cwmnïau yn ardal fenter Aberdaugleddau yn awyddus i gontractio gyda’r morglawdd posibl—morlyn llanw, dylwn ddweud—ym mae Abertawe, a bod hwnnw o ddiddordeb mawr i orllewin Cymru oherwydd y beirianneg forol a’r cysylltiadau trafnidiaeth da iawn dros y môr sydd gennym yno os oes angen. Rwy’n datgan diddordeb fel cyfranddaliwr cymunedol yn y cynnig, fel cannoedd a miloedd lawer o bobl leol, yn y morglawdd llanw. Pa drafodaethau pellach a gawsoch ers i’r Llywodraeth benderfynu ailgomisiynu ystyriaeth hollol newydd o ynni’r llanw, a ninnau’n gwybod am botensial ynni’r llanw, o ran cynhyrchu ynni ond o ran creu swyddi hefyd? A ydych chi—Llywodraeth Cymru—yn rhan o’r asesiad hwn, a beth rydych yn ei wneud i geisio dylanwadu ar ei gyfeiriad?
 
13:58
Edwina HartBywgraffiad
Ie, cefais drafodaeth gydag Amber Rudd, ar ôl i’r penderfyniad gael ei wneud eu bod am benodi cadeiryddion annibynnol, sy’n mynd i fod yn annibynnol arnynt hwy hyd yn oed, yn ôl yr hyn a ddeallwn. Bûm hefyd yn parhau â thrafodaethau gyda’r Arglwydd Bourne yn gynharach yr wythnos hon i wneud safbwyntiau’r Cynulliad yn glir yn gyffredinol: ein bod i raddau helaeth o blaid y morlyn llanw, mewn egwyddor, ac yn dymuno i’r prosiect fynd yn ei flaen. Rydym hefyd wedi dweud yn glir wrthynt, os ceir asesiad annibynnol a chadeirydd annibynnol, byddem yn amlwg yn hoffi mynediad gydag unrhyw wybodaeth y gallwn ei rhoi i helpu’r cadeirydd annibynnol. Credaf y bydd penodi’r cyfryw gadeirydd annibynnol yn eithaf pwysig o ran cyfeiriad teithio’r comisiwn arbennig hwnnw.
 
Gwella’r A55
 
13:58
Sandy MewiesBywgraffiad
6. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith i wella’r A55? OAQ(4)0673(EST)
 
13:58
Edwina HartBywgraffiad
Wel, credaf fod nifer o brosiectau gennym ar waith i wella diogelwch a chydnerthedd y llwybr allweddol hwn. Credaf ei bod yn bwysig iawn i ni barhau â’n buddsoddiad yn y llwybr. Mae’r gwaith presennol ar dwnnel Conwy yn rhan o fuddsoddiad gwerth £42 miliwn yn seilwaith gogledd Cymru.
 
13:59
Sandy MewiesBywgraffiad
Diolch. Wrth gwrs, croesawir y miliynau o bunnoedd y mae’r Llywodraeth yn ei fuddsoddi i wella’r A55, ond fe fyddwch yn gwybod, Weinidog, fod yn rhaid cyflawni gwaith gwella ar y ffyrdd, a’i fod yn aml yn achosi aflonyddwch. A gaf fi ofyn, pan fydd yr holl waith hwn ar y gweill, eu bod yn cadw at amserlen gaeth, gan dderbyn y gall tywydd a phroblemau eraill ymyrryd, a bod y cyhoedd yn cael yr holl wybodaeth, a bod cyn lleied â phosibl o aflonyddu ar y llwybr hwn sy’n brif wythïen draffig hanfodol yng ngogledd Cymru?
 
13:59
Edwina HartBywgraffiad
Wel, cytunaf yn llwyr, a chredaf ei bod yn bwysig fod gwybodaeth ar gael ymlaen llaw bob amser ar wefan Traffig Cymru ac ar arwyddion ar ochr y ffordd. Tynnwyd fy sylw at bryderon nad yw hynny o reidrwydd wedi bod yn wir bob amser. Rwy’n deall cymaint o aflonyddwch y gall hyn ei achosi, ond mae’n ymwneud â diogelwch a dibynadwyedd y rhwydwaith, sef yr hyn sydd bwysicaf i mi yn y bôn. Mae swyddogion yn gweithio’n galed i sicrhau cyn lleied â phosibl o aflonyddwch. Mae’n bwysig ein bod yn cydnabod, er gwaethaf yr aflonyddwch, ei fod mewn gwirionedd er lles y cyhoedd sy’n teithio yn y dyfodol.
 
14:00
Janet Finch-SaundersBywgraffiad
Weinidog, dros flwyddyn yn ôl, ar gost o £4 miliwn i’r trethdalwr, fe wyddoch fod lonydd gwrthlif mewn argyfwng wedi’u gosod ar yr A55 er mwyn hwyluso traffig, yn enwedig yn ystod cyfnodau o oedi a thagfeydd. Eto i gyd, yn ystod y nifer fawr o wythnosau y bu gwaith ffordd problemus yno, ni ddefnyddwyd y rhwystrau hyn. Mae’n rhaid i mi ddweud bod llawer o fodurwyr a thrigolion yn Aberconwy wedi’u gwylltio ynglŷn â hyn. Weinidog, a wnewch chi gadarnhau, os gwelwch yn dda, a dweud wrth y Siambr pam na chawsant eu defnyddio ar ôl eu rhoi yno? Ac a allwch roi sicrwydd i ni, yn ystod unrhyw waith ffordd problemus arall yno, y caiff y rhain eu defnyddio bob amser?
 
14:00
Edwina HartBywgraffiad
A gawn ni beidio â defnyddio’r geiriau ‘gwaith ffordd problemus’? Gwnaed y gwaith hwn ar y ffordd er mwyn sicrhau diogelwch a dibynadwyedd y rhwydwaith a diogelwch a dibynadwyedd y bobl sy’n teithio arno. Y peth pwysicaf i mi pan wyf yn ymgymryd â’r gwaith hwn ar y ffordd yw diogelu bywydau pobl yn y pen draw, gan mai dyna sydd bwysicaf i mi. Rwy’n sylweddoli pa mor anodd yw peth o hyn, ac mae fy swyddogion yn ymdrechu mor galed ag y gallant i’w liniaru. Byddaf yn sicr yn dod â’ch sylwadau i sylw fy swyddogion sy’n helpu i gynnal y rhwydwaith.
 
14:01
Llyr GruffyddBywgraffiad
Weinidog, mae’r Llywodraeth, wrth gwrs, wedi ymrwymo bellach i uwchraddio’r A55 rhwng Abergwyngregyn a Thai’r Meibion. A allwch chi gadarnhau pryd yr ydych yn rhagweld y bydd y gwaith yna’n cychwyn ac, o bosibl, pryd yr ydych yn rhagweld y bydd y gwaith wedi’i gwblhau?
 
14:01
Edwina HartBywgraffiad
Wel, nid wyf yn hollol siŵr ynglŷn â’r dyddiad cychwyn, ac felly ni fyddwn yn gwybod y dyddiad cwblhau. Felly, a bod yn onest, fe edrychaf ar y ffigurau hyn yn hytrach na dibynnu ar fy nghof.
 
14:01
Aled RobertsBywgraffiad
Weinidog, pan wnaethoch chi gyhoeddi’r buddsoddiad o £42 miliwn yn y twneli yng Nghonwy i uwchraddio’r A55, ar 24 Mehefin y llynedd, fe ddywedasoch bryd hynny bod yna adolygiad llawn ynghylch pa welliannau eraill yr oedd eu hangen ar yr A55. A yw’r adolygiad hwnnw wedi cael ei gomisiynu, ac a ydych chi mewn sefyllfa i ddweud pryd y bydd yr adolygiad yn cael ei gyhoeddi?
 
14:02
Edwina HartBywgraffiad
Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hynny, a byddwn yn gobeithio’n fawr y cwblheir rhywfaint o’r gwaith hwn mewn pryd i mi allu rhoi gwybod i Aelodau’r Cynulliad cyn y toriad.
 
Buddsoddiad yn Nhorfaen
 
14:02
Lynne NeagleBywgraffiad
7. A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi mwy o fuddsoddiad yn Nhorfaen? OAQ(4)0678(EST)
 
14:02
Edwina HartBywgraffiad
Mae’n flaenoriaeth ledled Cymru gyfan. Mae gennym amrywiaeth o raglenni, gan gynnwys darparu cymorth i fusnesau drwy Busnes Cymru a phrosiectau trafnidiaeth a seilwaith TGCh.
 
14:02
Lynne NeagleBywgraffiad
Diolch yn fawr, Weinidog. Roeddwn yn falch iawn o glywed y gallwch ymuno â mi ddydd Llun i ymweld â Gwesty’r Parkway yng Nghwmbrân. Fel y gwyddoch, mae’r gwesty, sy’n eiddo i deulu de Savary, wedi elwa o lawer o fuddsoddiad i wella cyfleusterau. Rwy’n gobeithio bod yr ystafelloedd a’r cyfleusterau newydd sydd ganddynt yno wedi gwneud argraff arnoch, fel y gwnaethant arnaf innau. Wrth symud ymlaen, beth yw’r ffordd orau y gallwn sicrhau bod pecynnau marchnata i fusnesau lleol ac ymhellach i ffwrdd yn tynnu sylw at yr holl gyfleusterau ardderchog sydd ar gael gennym yn Nhorfaen, er mwyn i ni allu manteisio i’r eithaf ar fuddsoddiad yn y dyfodol?
 
14:03
Edwina HartBywgraffiad
Pan fydd y grŵp dinas-ranbarth yno yn edrych ar y cyfleoedd i annog busnesau, yn enwedig yn yr agenda dwristiaeth, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn eu bod yn elwa o’r holl gyfleusterau sydd ar gael yn y rhanbarth hwn ac yn ceisio’u marchnata yn briodol.
 
14:03
William GrahamBywgraffiad
Weinidog, pa asesiad a wnaethoch o’r gwelliannau arfaethedig—neu’r gwelliannau y gobeithir eu bod yn arfaethedig—i ffordd liniaru’r M4, a fydd yn galluogi mwy o fuddsoddi mewn llefydd fel Torfaen?
 
14:03
Edwina HartBywgraffiad
Pan oeddem yn edrych ar y materion hyn, yr arwyddion, a’r safbwyntiau sy’n dod o’r byd busnes yw y bydd yn gwneud gwahaniaeth dramatig i hygyrchedd busnesau; bydd yn ymddangos yn fwy ar y map. Ni fydd y ffyrdd yn gorlenwi. Mae hyn yn rhywbeth sy’n rhaid i ni ei werthu o ddifrif. Rydych yn nodi, rwy’n meddwl, o’r gefnogaeth gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain, eu bod yn teimlo’r un fath â ni ynglŷn â hyn.
 
Mewnfuddsoddi yng Ngorllewin Cymru
 
14:04
Angela BurnsBywgraffiad
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fewnfuddsoddi yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0677(EST)
 
14:04
Edwina HartBywgraffiad
Gwnaf; roedd 2014-15 yn flwyddyn eithriadol o ran denu mewnfuddsoddiad i Gymru, o dramor ac o lefydd eraill yn y DU.
 
14:04
Angela BurnsBywgraffiad
Diolch yn fawr, Weinidog. Darllenais gyda diddordeb y bore yma yr adroddiad ar fwriad dinas-ranbarth Bae Abertawe i greu arfordir rhyngrwyd yn ne-orllewin Cymru. Mae’n debyg y bydd cebl ffeibr optig trawsatlantig yn newid pethau o ran darparu band eang tra chyflym. Weinidog, a fydd hyn yn gwella’r signal band eang truenus y mae cymaint o fy etholwyr a’u busnesau yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn ei brofi? Os felly, sut y bydd yn gwella’r signal band eang truenus hwnnw? Rwy’n dechrau ofni, fel ffordd osgoi Llanddewi Felffre, nad yw darpariaeth gynhwysfawr o fand eang yn fy etholaeth yn ddim mwy na rhith.
 
14:04
Edwina HartBywgraffiad
Rwy’n falch iawn o’r cynlluniau sydd wedi’u cyflwyno ar gyfer y cytundeb dinas yr ydych yn amlwg yn cyfeirio ato. Rwy’n credu eu bod yn arloesol iawn yn gyffredinol. Mae’r pedwar awdurdod lleol wedi cytuno arnynt ac maent wedi cydweithio’n dda.
 
O ran band eang, ceir pobl yn fy etholaeth i sy’n dweud ‘truenus’, a cheir eraill sy’n dweud ‘gwych’. O ran y prosiect, mae ar y trywydd iawn i gyflawni. Gallai gymryd ychydig yn hirach mewn rhai ardaloedd, ond rydym yn ceisio sicrhau ein bod yn cadw at ein hymrwymiad. Rydym eisoes wedi gwneud hynny, o ran ffigurau bras ein hymrwymiad, ond mae mwy i’w wneud mewn rhai ardaloedd, a bydd gwelliannau yn y signal ffonau symudol yn helpu rhai o’ch etholwyr hefyd, gan fod yn rhaid i ni edrych ar gyflawni mewn perthynas â thechnolegau eraill hefyd.
 
14:05
Simon ThomasBywgraffiad
Weinidog, nid Charlotte yw fy enw, ac nid wyf yn fy 30au mwyach, ac nid wyf yn cŵl, ond rwy’n croesawu’r ffaith fod Aston Martin yn dod i Gymru. Mae’n ddiddorol iawn, fodd bynnag, mai technoleg drydanol y maent yn ei defnyddio, oherwydd, fel y mae’r Athro Garel Rhys wedi’i nodi, gallai hon fod yn ail don o weithgynhyrchu ceir yng Nghymru, gan ddefnyddio cerbydau trydan. Mae gennyf ddiddordeb arbennig yn y gadwyn gyflenwi yn awr i lawr i’r gorllewin, oherwydd mewn llefydd fel Llanelli, er enghraifft, mae gennym gadwyn gyflenwi moduron o hyd, sydd ar hyn o bryd yn gyfyngedig i’r farchnad geir draddodiadol, ond mae hyn yn agor posibiliadau newydd ar gyfer technolegau newydd. A allwch chi ddweud ychydig mwy—deallaf y gallai fod cwestiwn brys yn nes ymlaen, ond a allwch ddweud ychydig mwy ynglŷn â sut rydych am ddatblygu’r gadwyn gyflenwi, yn enwedig mewn mannau yng ngorllewin Cymru, lle rydym eisoes yn meddu ar y sgiliau i gyfrannu at y buddsoddiad gwych hwn?
 
14:06
Edwina HartBywgraffiad
Gallaf, a rhan o benderfyniad Aston Martin i ddod i Gymru oedd y newyddion da o ran sgiliau’r gweithlu a fyddai ar gael, a materion yn ymwneud â’r gadwyn gyflenwi. Felly, byddwn yn gweithio gyda hwy ar y gadwyn gyflenwi i sicrhau bod cymaint â phosibl yn dod at Aston Martin o bob rhan o Gymru. Ond credaf mai pleidlais o hyder ydoedd yn y ffaith ein bod yn gallu cyflawni fel cenedl ar draws pob agwedd ar yr hyn y maent ei angen. Mae’n sicr yn gyffrous iawn, gan y byddant yn symud yn y pen draw tuag at gerbydau trydan.
 
Cronfa Benthyciadau i Ficrofusnesau Cymru
 
14:06
Gwyn R. PriceBywgraffiad
9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd cronfa benthyciadau i ficrofusnesau Cymru? OAQ(4)0680(EST)
 
14:06
Edwina HartBywgraffiad
Gwnaf. Lansiwyd y gronfa lwyddiannus o £6 miliwn yn 2013 ac mae bellach bron wedi’i fuddsoddi’n llawn a bydd yn cael hwb o £6 miliwn i gefnogi’r sector busnes pwysig hwn.
 
14:07
Gwyn R. PriceBywgraffiad
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Pa gyfleoedd fydd ar gael i bobl Islwyn gyda chreu a diogelu 1,000 a mwy o swyddi yng Nghymru yn dilyn hwb Llywodraeth Cymru o £6 miliwn i gronfa benthyciadau i ficrofusnesau Cymru?
 
14:07
Edwina HartBywgraffiad
Wel, gall y gronfa gefnogi busnesau newydd ledled Cymru ac wrth gwrs, yn eich etholaeth, ac yn ogystal â’r gronfa microfusnesau, rydym hefyd wedi lansio cronfa ad-daladwy o £5 miliwn ar gyfer mentrau bach a chanolig a chronfa newydd o £10 miliwn i’w fuddsoddi mewn mentrau technoleg yng Nghymru. Credaf fod hynny’n newyddion da hefyd i fusnesau yn eich ardal.
 
14:07
Nick RamsayBywgraffiad
Weinidog, rydym yn croesawu’r newyddion y bydd busnesau bach a chanolig yng Nghymru yn awr yn gallu defnyddio’r broses ymgeisio ddau ddiwrnod o hyd am fenthyciadau rhwng £1,000 a £5,000. Mae manteision amlwg i’r ffaith nad yw cwmnïau’n gorfod aros am 10 diwrnod. Fodd bynnag, mae’n dal i fod yn hynod o bwysig gwirio risg ceisiadau a’u hystyried yn llawn. Mae llawer o enghreifftiau, Weinidog, fel y byddwch yn gwybod, lle y mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid a’r busnes wedi cau wedyn gan olygu bod y trethdalwr ar ei golled, fel y digwyddodd gydag Ideoba ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Sut y byddwch yn sicrhau bod Cyllid Cymru yn parhau’n fodlon eu bod yn gwneud buddsoddiad cadarn wrth brosesu ceisiadau mewn dau ddiwrnod yn hytrach na 10?
 
14:08
Edwina HartBywgraffiad
Pan fyddwch yn defnyddio’r ymadrodd ‘llawer o fusnesau’, mae hynny’n awgrymu na chafodd y mwyafrif o fusnesau gymorth neu fod rhywbeth wedi mynd o’i le. Wel, mae hynny’n bell o fod yn wir. Lleiafrif bychan iawn yw’r rhai na fu’n llwyddiannus. Rydym yn cyflawni’r holl gamau diwydrwydd dyladwy angenrheidiol, ond bydd yna bob amser fethiannau. Dyna natur y farchnad.
 
14:08
Julie MorganBywgraffiad
Mae’r benthyciadau i ficrofusnesau, rwy’n meddwl, yn gam da iawn ymlaen, fel y mae buddsoddiad y Llywodraeth yn gyffredinol, yn enwedig yn y diwydiant biowyddoniaeth. A yw’r Gweinidog yn ymwybodol o’r swyddi posibl y gellid eu colli yn GE Healthcare? Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae’n bosibl y caiff rhai o’r swyddi gweithgynhyrchu yn y gwaith trawsnewid papur a wneir yno eu hadleoli i Tsieina. A oes ganddi fwy o wybodaeth i’w roi i’r Senedd heddiw?
 
14:09
Edwina HartBywgraffiad
Ie, rydym yn ymwybodol o’r materion sy’n gysylltiedig â GE. Mae fy swyddogion yn cysylltu â’r cwmni, a byddaf yn cyhoeddi llythyr at yr Aelodau yn rhoi’r newyddion diweddaraf iddynt maes o law pan fydd gennyf wybodaeth o sylwedd.
 
14:09
Alun Ffred JonesBywgraffiad
A wnewch chi, Weinidog, gyhoeddi’r ystadegau sy’n dangos patrwm a dosbarthiad y grantiau i ficrofusnesau ar sail etholaethol neu sirol yng Nghymru?
 
14:09
Edwina HartBywgraffiad
Gwnaf. Os gallwn wneud hynny’n rhwydd ac yn gyflym, byddaf yn gwneud hynny.
 
Hyrwyddo Twristiaeth (Dwyrain De Cymru)
 
14:09
Mohammad AsgharBywgraffiad
10. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo twristiaeth yn Nwyrain De Cymru? OAQ(4)0670(EST)
 
14:09
Kenneth SkatesBywgraffiadY Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
Mae ein strategaeth dwristiaeth yn nodi ein blaenoriaethau i gefnogi’r diwydiant twristiaeth a gweithgareddau marchnata a hyrwyddo, gan gynnwys cyllid datblygu a chyfalaf.
 
14:09
Mohammad AsgharBywgraffiad
Diolch yn fawr, Weinidog. Mae gan Ddwyrain De Cymru lawer o leoliadau sy’n denu twristiaid ar deithiau undydd, megis castell Caerffili, abaty Tyndyrn, Big Pit ym Mlaenafon a’r bont gludo yng Nghasnewydd. Mae arolwg o ymweliadau undydd ym Mhrydain wedi datgelu bod nifer y teithiau undydd i Gymru o rannau eraill o’r DU wedi gostwng bron i un rhan o bump yn 2015, o’i gymharu â’r un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol. Pa gamau y byddwch yn eu cymryd i hyrwyddo atyniadau i ymwelwyr yn ne-ddwyrain Cymru a mannau eraill i weddill y Deyrnas Unedig er mwyn gwrthdroi’r gostyngiad hwn yn nifer y teithiau undydd?
 
14:10
Kenneth SkatesBywgraffiad
Mae’n ddiddorol fod yr Aelod yn ddetholus iawn o ran y dewis o ystadegau y mae’n eu dyfynnu. Y ffaith amdani yw bod ymweliadau dros nos yn cynyddu’n gyflym am fod pobl yn troi ymweliadau undydd yn wyliau, sef yr union beth rydym ei eisiau, ac yna fe welwch y cynnydd cyfatebol yn y gwariant gan dwristiaid yng Nghymru. Yn sicr, dyna rywbeth y dylai’r Aelod yn ne-ddwyrain Cymru ei groesawu. Y ffaith yw bod gwariant gan ymwelwyr, ymwelwyr undydd ac ymwelwyr ar eu gwyliau, bellach yn £2 biliwn yn economi de-ddwyrain Cymru—ac wedi codi’n gyflym o dan y Llywodraeth Lafur hon.
 
14:11
Lindsay WhittleBywgraffiad
Weinidog, er mwyn cyflawni twf sylweddol yn y sector hwn ac yn ne-ddwyrain Cymru a thu hwnt, mae’r diwydiant twristiaeth a’r arbenigwyr i gyd yn cytuno bod yn rhaid i ni ganolbwyntio mwy ar farchnata tramor. A ydych yn meddwl bod y £4 miliwn a ddyrannwyd tuag at farchnata Blwyddyn Antur 2016 yn ddigon i gystadlu â marchnata o rannau eraill o Ewrop ac a fydd yn cynnwys pob rhanbarth o Gymru, a’r de-ddwyrain yn benodol?
 
14:11
Kenneth SkatesBywgraffiad
Bydd, yn wir. A dweud y gwir, mae’r Aelod yn crybwyll pwynt pwysig iawn, sef bod y flwyddyn thematig, y ​​Flwyddyn Antur, wedi bod yn llwyddiant anhygoel; mae £4 miliwn yn amlwg yn ddigon. Nid yr hysbysebu uniongyrchol yn unig sy’n cyfrannu at y fenter hon, ond y cyfwerth hysbysebu. Gwelsom ar ddechrau’r flwyddyn hon, am ein bod wedi cyflwyno thema Blwyddyn Antur i Gymru yn 2016, ein bod wedi denu sylw hollol newydd mewn cyhoeddiadau fel y ‘Rough Guide’ a’r ‘Lonely Planet’. Yr her fwyaf sy’n ein hwynebu—y bygythiad mwyaf sy’n ein hwynebu—yn y sector twristiaeth yw’r posibilrwydd y bydd y DU yn gadael yr UE. Cyhoeddodd ‘The Daily Telegraph’, nad yw’n gefnogwr eithriadol o frwd dros barhau’n aelod o’r UE, stori yn gynharach y mis hwn a nodai nid un ond 10 rheswm pam y byddai ein sector twristiaeth yn dioddef pe baem yn gadael yr UE.
 
Cynlluniau Cyflawni Arbedion (Asiantau Cefnffyrdd)
 
14:12
Aled RobertsBywgraffiad
11. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau cyflawni arbedion sydd i'w paratoi gan asiantau cefnffyrdd? OAQ(4)0681(EST)[W]
 
14:12
Edwina HartBywgraffiad
Gan weithio ar y cyd gyda fy swyddogion, mae’r ddau asiant cefnffyrdd wedi nodi arbedion o £6.9 miliwn ar gyfer 2016-17 ac £1.24 miliwn ar gyfer 2017-18. Y tu hwnt i’r cynigion hyn sydd wedi’u costio, rwyf wedi gofyn iddynt gyflwyno gwerth £6 miliwn ychwanegol o arbedion effeithlonrwydd dros y cyfnod adolygu.
 
14:12
Aled RobertsBywgraffiad
Weinidog, a gaf fi ofyn a ydych yn fodlon nad yw’r arbedion effeithlonrwydd hynny’n cael eu gwneud ar draul gwasanaethau rheng flaen? Mae cynnydd amlwg mewn swyddogaethau ystafell gefn, yn sicr yn asiantaeth gogledd Cymru, lle y maent wedi cyflwyno systemau eithaf biwrocrataidd mewn perthynas â gwaith sydd i’w wneud ar y cefnffyrdd, gwaith a gâi ei wneud yn flaenorol gan y siroedd ac anfonebu amdano wedyn. Mae’n rhaid cael cyfnod o rai misoedd yn awr lle y bo’n rhaid awdurdodi’r gwaith hwnnw. A ydych yn fodlon, felly, na chyflawnir yr arbedion drwy dorri’n ôl ar wariant go iawn?
 
14:13
Edwina HartBywgraffiad
Byddwn fel arfer wedi ateb ‘ydw’ syml i hynny, o gofio’r hyn sydd wedi’i ddweud wrthyf. Ond yng ngoleuni’r ffordd rydych wedi codi’r mater hwn, mae’n fy nharo ei bod yn debygol eich bod yn ymwybodol o broblem waelodol. Felly, fe siaradaf â’m swyddogion ac adrodd yn ôl wrth y Cyfarfod Llawn er mwyn sicrhau bod yr hyn rwyf wedi’i ddweud wrthych yn wir.
 
Gwasanaethau Bws a Rheilffordd (Gorllewin Cymru)
 
14:13
Russell GeorgeBywgraffiad
12. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gydlynu gwasanaethau bws a rheilffordd yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0671(EST)
 
14:13
Edwina HartBywgraffiad
Nid yw’r cyfrifoldeb dros reoleiddio bysiau a gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru wedi’i ddatganoli ar hyn o bryd. Fodd bynnag, rwyf wedi sefydlu is-gwmni trafnidiaeth di-ddifidend ym mherchnogaeth lwyr Llywodraeth Cymru sy’n rhan allweddol o’n hymagwedd tuag at ddarparu system drafnidiaeth integredig fwy effeithiol yng Nghymru.
 
14:14
Russell GeorgeBywgraffiad
Diolch i chi am eich ymateb, Weinidog. Rwyf wedi sôn o’r blaen am y diffyg meddwl cydgysylltiedig ynglŷn ag amserlenni gwasanaethau bws a thrên. Rwy’n sicr wedi bod yn ceisio cael Trenau Arriva Cymru a Chyngor Sir Powys i gysylltu eu hamserlenni i weld os gellir gwneud addasiadau. Ond yn dilyn argymhellion grŵp cynghori Llywodraeth Cymru ar bolisi bysiau, sy’n argymell y dylid sefydlu partneriaethau rhwydwaith, a fyddech yn barod i sefydlu grŵp trosfwaol i edrych ar gydgysylltu amserlenni bysiau a threnau?
 
14:14
Edwina HartBywgraffiad
Mae’n rhaid i mi ddweud eu bod yn gwneud gwaith eithaf da ar rai o’r materion hyn mewn rhai ardaloedd. Lle y mae gennym gyfrifoldeb dros wasanaethau TrawsCymru T1 a T5, mae gennym gysylltiadau sy’n dda iawn â gwasanaethau trên yn Aberystwyth. Rydym hefyd yn rhoi arian i awdurdodau lleol wneud rhywfaint o’r gwaith cydgysylltu hefyd. Felly, nid wyf yn gwybod a fydd cael grŵp trosfwaol o reidrwydd yn ddefnyddiol. Yr hyn sydd ei angen arnom yw’r defnydd ymarferol ar lawr gwlad drwy drefniadau sy’n bodoli eisoes.
 
14:15
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Diolch yn fawr, Weinidog.
 
14:15
2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Nid oes cwestiynau wedi’u cyflwyno i’r Cwnsler Cyffredinol, felly—[Torri ar draws.] Symudwn yn gyflym dros eitem 2.
 
14:15
Cwestiwn Brys: Ffatri Aston Martin
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Rwyf wedi derbyn cwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66, a galwaf ar Andrew R. T. Davies i ofyn y cwestiwn.
 
14:15
Andrew R.T. DaviesBywgraffiadArweinydd yr Wrthblaid
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y newyddion cyffrous ynghylch sicrhau ffatri Aston Martin i Gymru? EAQ(4)0682(EST)
 
14:15
Edwina HartBywgraffiadGweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Wel, rwy’n siŵr fod y Siambr gyfan yn ymuno â mi i ddweud, ‘Onid yw’n newyddion da i ni heddiw yng Nghymru?’ ac ‘Onid yw’n newyddion da i’r safle yn Sain Tathan?’ A gaf fi dalu teyrnged yn benodol i waith caled fy swyddogion ac eraill sydd, dros y ddwy flynedd diwethaf, wedi gweithio’n ddiwyd gydag Aston Martin? Mae gennym berthynas ardderchog gyda’r cwmni. Rydym yn sôn am 750 o swyddi hynod fedrus, ac rydym yn sôn am y gadwyn gyflenwi. Felly, mae hwn yn newyddion da yn wir.
 
14:15
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
Diolch i chi am eich ymateb, Weinidog. Cytunaf yn llwyr â chi fod hwn yn newydd da iawn. Yn rhy aml, mae gennym gwestiynau brys sy’n canolbwyntio ar newyddion eithaf digalon a negyddol; dyma newyddion cadarnhaol iawn i dde Cymru a Bro Morgannwg. Pan fydd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cydweithio â phartneriaid lleol, mae’n dangos y gellir sicrhau’r cytundebau hyn, heb rithyn o amheuaeth. Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed sut y bydd adran y Gweinidog yn awr yn parhau i ymgysylltu â’r cwmni i sicrhau’r sgiliau y bydd eu hangen ar gyfer ardal nad yw’n hanesyddol wedi cael y math hwn o gyfleuster cynhyrchu yn yr ardal gyfagos, a hefyd pa fath o newidiadau a allai ddod yn weithredol, oherwydd, yn amlwg, dynodwyd Sain Tathan fel ardal fenter ar gyfer awyrennau ac felly gallai hyn gael ôl-effeithiau ar gyfleusterau eraill sydd ar y safle a busnesau eraill sy’n defnyddio’r un ardal. Ond rwy’n llongyfarch yr adran ac rwy’n llongyfarch Llywodraeth y DU am weithio ar y cyd er mwyn sicrhau’r mewnfuddsoddiad hanfodol hwn i Gymru. Gyda chaniatâd y Dirprwy Lywydd, hoffwn ganmol y Gweinidog yn ei sesiwn gwestiynau olaf am orffen ar nodyn mor gadarnhaol drwy sicrhau’r datblygiad hwn.
 
14:17
Edwina HartBywgraffiad
Wel, diolch yn fawr iawn, yn wir. Mae’n bwysig cydnabod, wrth gwrs, fel y byddwch yn gwybod, ein bod wedi cael ein hanawsterau gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn dros y blynyddoedd mewn perthynas â Sain Tathan, fel y mynegwyd gennyf yn y Siambr hon, wrth gwrs. Mae’n dda fod yr anawsterau hynny wedi’u diddymu. Rwy’n cael trafodaethau cyson gyda fy nghyd-Aelod, Jane Hutt, ynghylch y Weinyddiaeth Amddiffyn a’r hyn sy’n digwydd yn Sain Tathan, felly rydym wedi gwneud cynnydd yn hynny o beth.
 
Rwy’n credu mai’r peth pwysig ynglŷn â datblygiad Aston Martin yw ei fod yn dod i Gymru ac mae’n aros yn y DU. Mae hwn yn gwmni pwysig iawn i aros yn y DU o ran gweithgynhyrchu, a dyna pam rydym yn falch iawn o’i gael. Un o’r rhesymau pam y maent wedi penderfynu dod yma mewn gwirionedd yw’r ffaith y byddant yn gallu cael y personél hyfforddedig, byddant yn cael help a chymorth gyda hyfforddiant, ac mae pobl i’w cael. Rydym yn meddwl am y sgiliau ardderchog sydd gan y cyn-filwyr sydd o gwmpas, sydd wedi bod yn ffitwyr ac wedi gwneud gwaith. Dyna’n union y math o bobl y gallant fod yn eu recriwtio. Felly, gwyddom fod gennym y gronfa angenrheidiol o dalent i sicrhau bod unigolion ar gael ar gyfer y diwydiant.
 
Hefyd, un o’r pethau a ddywedodd Aston Martin yn eu cynhadledd i’r wasg, yn agored iawn, oedd pa mor gyfeillgar i fusnesau oedd ein Llywodraeth wrth drafod gyda ni. Felly, mae hwn yn newydd da. Nid wyf yn credu bod unrhyw beth negyddol yn y stori o gwbl, er y bydd pobl yn ceisio canfod rhywbeth, mae’n debyg. Mae’n newyddion da i Gymru, ac mae’n wych gweld enw mor eiconig ag Aston Martin.
 
14:18
David ReesBywgraffiad
Weinidog, rwy’n ymuno ag arweinydd yr wrthblaid i longyfarch Llywodraeth Cymru ar gael y prosiect hwn i Sain Tathan. Mae Bro Morgannwg yn lle delfrydol i gael y math hwn o gynllun ar waith. Ond crybwyllodd arweinydd yr wrthblaid sgiliau hefyd, ac rydych wedi tynnu sylw at y sgiliau sy’n bodoli ar hyn o bryd yn Sain Tathan, ond a fyddech yn ceisio defnyddio sgiliau tasglu a staff gweithfeydd Port Talbot, ac elfennau o’r gadwyn gyflenwi, gan fod cyfle amlwg yma i ailhyfforddi ac ailddatblygu unigolion sydd mewn sefyllfa dda i ddatblygu’r sgiliau hynny a symud ymlaen? Pan agorodd Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr, aeth llawer o weithwyr o’r gwaith dur i Ford. Felly, mae cynsail hanesyddol lle y mae hynny wedi digwydd.
 
14:19
Edwina HartBywgraffiad
Credaf ei bod yn bwysig edrych ar y sylfaen sgiliau yn ei chyfanrwydd ar draws yr ardal, o ran y rhai a fyddai ar gael i weithio yn Aston Martin. Hoffai Aston Martin fynd ar y safle cyn gynted â phosibl i ddechrau gwneud gwaith yn yr ardal benodol honno ac yna, wrth gwrs, gallwn droi at beth yw eu gofynion o ran sgiliau. Rwy’n credu ein bod i gyd yn cydnabod y ceir sgiliau yn y gweithlu yng Nghymru sydd o ansawdd uchel, ac yn awr rydym yn cael swyddi o ansawdd uchel er mwyn sicrhau cyflogaeth barhaus i unigolion.
 
14:19
Rhun ap IorwerthBywgraffiad
Rwyf hefyd yn croesawu’r cyhoeddiad hwn. Heb amheuaeth, gallwn ddisgwyl cyhoeddiadau yn y dyfodol ar y rhagdybiaeth o gaffael lleol mewn perthynas â fflyd gerbydau’r Llywodraeth ei hun yng ngoleuni’r datblygiad hwn gan Aston Martin. Byddaf hefyd yn defnyddio’r cyfle hwn i ddymuno’n dda i’r Gweinidog ar ôl ei sesiwn holi olaf heddiw. Un o’r materion rwyf wedi bod yn rhoi pwysau ar y Gweinidog yn ei gylch, gobeithio, yw ardaloedd menter. Nid oes amheuaeth y bydd y newyddion hwn yn helpu gyda dangosyddion perfformiad allweddol y Llywodraeth ar ardaloedd menter, ond tybed a allai’r Gweinidog ddweud wrthym pa rôl y chwaraeodd statws ardal fenter yn y broses o ddenu Aston Martin i Sain Tathan. Ac yn ychwanegol at gwestiwn cynharach gan Simon Thomas ar ddatblygu cadwyni cyflenwi yn gyffredinol, yn ogystal â chadwyni cyflenwi modurol, tybed a yw’r Gweinidog yn gallu dweud wrthym pa uchelgais sydd gan y Llywodraeth o ran datblygu cadwyni cyflenwi, yn benodol ym maes technoleg batri ac nid yn unig yn y diwydiant modurol, o ystyried y bydd hwn yn ddatblygiad mawr ym maes ceir sy’n rhedeg ar fatri.
 
14:20
Edwina HartBywgraffiad
Byddwn yn amlwg yn edrych ar yr holl faterion sy’n ymwneud â phob cadwyn cyflenwi, oherwydd eu bod yn flaenoriaeth. Os oes diwydiant newydd yn dod i’r amlwg, mae angen i ni ddechrau ar unwaith o ran annog cadwyni cyflenwi, beth bynnag yw’r datblygiadau diwydiannol. O ran yr ardal fenter, roeddent yn gwybod y byddai’r ardal fenter yn ddarostyngedig i welliannau eraill. Rydym yn amlwg yn edrych ar y seilwaith trafnidiaeth i mewn i’r ardal fenter. Rydym yn gosod ffordd newydd a fydd o fantais nid yn unig i Aston Martin ond i weddill yr ardal fenter, ac rwy’n meddwl bod angen ystyried y meysydd hyn. Rwy’n credu ei bod yn hynod ddefnyddiol mai’r Athro Garel Rhys oedd cadeirydd yr ardal fenter yn Sain Tathan o ran ei hanes gyda’r diwydiant ceir.
 
14:21
Eluned ParrottBywgraffiad
Weinidog, rwyf wrth fy modd gyda’r cyhoeddiad hwn, ac rwy’n gobeithio’n fawr iawn y bydd o fudd i bobl leol ac yn eu galluogi i gael mynediad at waith. Ond yn amlwg, mae hyn hefyd yn gyfle i ni fuddsoddi mewn hyfforddiant, ailhyfforddi ac ailsgilio’r gweithlu presennol yn yr ardal sydd, fel y dywedwch, â llawer o sgiliau trosglwyddadwy yn barod. Fodd bynnag, rydym yn cyflwyno llawer o’n sgiliau a’n buddsoddiad mewn hyfforddiant drwy raglenni Ewropeaidd, a thybed a allwch ddweud wrthyf pa fygythiad a allai fod i gyflawni pethau ar y llinellau hynny pe na bai gennym fynediad at bethau fel cronfeydd strwythurol yn y dyfodol.
 
14:22
Edwina HartBywgraffiad
Wel, wrth gwrs, pan edrychwn ar y cronfeydd Ewropeaidd, mewn gwirionedd maent yn hanfodol i ddatblygiad rhai o’r rhaglenni a’r prosiectau sydd gennym yng Nghymru, ac rwy’n credu ei bod yn bwysig cydnabod bod angen i ni allu gwneud hynny. Ac yn amlwg, mae’r agenda sgiliau yn allweddol i ddenu cwmnïau fel Aston Martin a phobl eraill rydym yn siarad â hwy, a byddai’n drueni pe na baem yn gallu ariannu’r rhaglenni hyfforddi angenrheidiol er mwyn denu’r lefel honno o fuddsoddiad i mewn.
 
14:22
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Diolch yn fawr, Weinidog.
 
14:22
3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Ni chyflwynwyd cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad.
 
14:22
4. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei Ymchwiliad i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn at eitem 4, sef dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei ymchwiliad i gynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i gynnig y cynnig—Ann Jones.
 
Cynnig NDM5974 Ann Jones
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
 
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar yr ymchwiliad i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Rhagfyr 2015.
 
Cynigiwyd y cynnig.
 
14:22
Ann JonesBywgraffiad
A gaf i ddechrau’r ddadl hon gyda diolch i aelodau’r pwyllgor a’r bobl a ddaeth i siarad gyda’r pwyllgor? Rwy’n gobeithio y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn pleidleisio o blaid yr adroddiad hwn.
 
Hoffwn ddechrau drwy—efallai y dylwn gyfieithu hynny rhag ofn nad oeddent yn deall fy Nghymraeg, ond ni wnaf. Rwyf am ddechrau fy araith yn awr drwy ddiolch i’r Gweinidog yn gyhoeddus am y modd adeiladol y mae wedi gweithio gyda’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ac rwy’n gobeithio y bydd hynny’n parhau ar ôl i mi gyflwyno fy araith heddiw; rwy’n gobeithio y gallwn ddal i wenu ar ei diwedd.
 
Mae gan gynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg (CSCAu) botensial i sicrhau cynnydd sylweddol yn nifer y plant a phobl ifanc sy’n cael eu dysgu, sy’n meithrin sgiliau ac sy’n cyflawni cymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd llawer o randdeiliaid yn frwdfrydig iawn ynghylch y potensial hwn pan gyflwynwyd y CSCAu, ond mae nifer cynyddol ohonynt wedi cael eu siomi. Credant na fu digon o effaith, nad yw’r potensial wedi’i wireddu a bod CSCAu hyd yma wedi bod yn gyfle a gollwyd.
 
Ond i amddiffyn y system CSCAu, mae’n dal yn ifanc iawn ac mae’n dal i ddatblygu. Ac mae’n amlwg o’r dystiolaeth a gafodd y pwyllgor fod llawer i’w wneud o hyd i sicrhau bod y cynlluniau hyn yn helpu i gyflawni uchelgais Llywodraeth Cymru.
 
Os caf droi at ganfyddiadau allweddol yr ymchwiliad, mae casgliadau allweddol y pwyllgor yn ymwneud â gweithio’n well mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol. Mae CSCAu yn ganolog i allu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg, ac mae’r Gweinidog eisoes wedi cydnabod ei bod yn annhebygol y bydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd ei tharged ar gyfer 2020 heb wella cynllunio a chamau gweithredu ar lefel awdurdodau lleol. Dyna un o heriau sylfaenol y system CSCAu. Mae ei llwyddiant yn dibynnu ar gydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, ac ymrwymiad ar y cyd i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru. Ni chlywodd y pwyllgor unrhyw beth yn ystod yr ymchwiliad, ac nid oes unrhyw beth yn ymateb y Gweinidog i adroddiad y pwyllgor hwn sy’n egluro sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynorthwyo awdurdodau lleol i gyflawni gwelliannau o ran cynllunio a’r camau gweithredu sydd eu hangen i gyrraedd targedau 2020.
 
Os caf droi at rai argymhellion penodol, nododd y pwyllgor nifer o feysydd eraill lle y mae angen gwelliannau, a gwnaed 17 o argymhellion i gyd. Mae’r Gweinidog wedi gwrthod pump o’r argymhellion hyn, ac rwy’n gobeithio defnyddio’r amser yn y ddadl hon i ganolbwyntio ar y pum argymhelliad hynny.
 
Mae argymhelliad 5 yn galw ar y Gweinidog i adolygu’r broses ar gyfer categoreiddio iaith ysgol, gyda’r bwriad o’i symleiddio. Yn ymateb y Llywodraeth, mae’r Gweinidog yn datgan bod y ddeddfwriaeth berthnasol yn cael ei monitro i asesu a yw’n gweithio ac na fu unrhyw arwydd fod angen symleiddio’r broses. Weinidog, daeth cymhlethdod y system bresennol i sylw’r pwyllgor yn gyntaf mewn cyflwyniad ysgrifenedig ar y cyd gan gonsortiwm rhanbarthol ERW ac awdurdod addysg lleol Sir Gaerfyrddin. Yn y cyflwyniad hwnnw, gofynnwyd iddynt ddewis un flaenoriaeth allweddol yr oedd angen i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â hi, yn eu barn hwy. Dyna oedd y mater a ddewiswyd ganddynt ac maent wedi ailadrodd y pryder hwnnw’n gyhoeddus ers hynny yn ystod tystiolaeth lafar i’r pwyllgor. Mae gennyf rai pryderon fod consortiwm rhanbarthol ac awdurdod lleol yn dweud wrth y pwyllgor ei bod yn cymryd gormod o amser i newid categori ieithyddol ysgol a bod hynny’n llesteirio’u hymdrechion i gyflawni uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg. Weinidog, a fyddech yn ystyried cael trafodaeth gyda’ch swyddogion, consortiwm rhanbarthol ERW ac awdurdod addysg lleol Sir Gaerfyrddin, pe bai hynny ond i gadarnhau bod y rhesymeg dros wrthod argymhelliad y pwyllgor yn gywir?
 
O ran argymhelliad 6, galwasom ar Lywodraeth Cymru i drafod gydag awdurdodau lleol y trefniadau ar gyfer cyhoeddi adroddiadau blynyddol ar gynnydd CSCAu. Gwrthododd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn ar y sail ei bod yn credu bod y dystiolaeth i gefnogi’r argymhelliad hwn wedi dod gan un awdurdod lleol yn unig. Mae Llywodraeth Cymru yn ychwanegu nad yw’n ymwybodol fod pob awdurdod lleol o’r un farn. Dyna’r geiriau pwysig, rwy’n credu, yn hyn, a dyna pam rwy’n ei grybwyll heddiw—nad ydych ‘yn ymwybodol’ a oes ganddynt y gallu neu eu bod o’r un farn, ac eto mae’r argymhelliad wedi cael ei ddiystyru. Credwn fod hyn yn ymwneud â thryloywder, a chredwn y dylai rhanddeiliaid, rhieni a chynrychiolwyr etholedig gael mynediad at yr holl wybodaeth hon. Byddwn yn ddiolchgar, Weinidog, pe baech yn rhoi ymrwymiad y bydd eich swyddogion yn trafod y mater hwn gydag awdurdodau lleol. Os yw awdurdodau lleol yn cadarnhau y byddai hyn yn gosod baich afresymol arnynt, o leiaf byddai pob un ohonom yn ymwybodol mai dyna oedd y sefyllfa.
 
Mae argymhelliad 7 yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi adroddiad yn flynyddol, gan gynnwys manylion am ei hymateb i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg pob awdurdod lleol a phan fo’n briodol, y rhesymau pam y cafodd CSCA ei gyfeirio yn ôl at awdurdod lleol i’w addasu. Unwaith eto, mae’r argymhelliad hwn yn ymwneud â thryloywder. Dywedodd llawer o gyfranwyr wrth y pwyllgor nad yw’r system bresennol yn rhoi gwybodaeth ddigon clir i randdeiliaid, gan gynnwys rhieni. Mae ymateb y Llywodraeth yn awgrymu y dylai rhanddeiliaid a rhieni sydd am nodi sut y mae CSCAu wedi newid dros amser gymharu’r fersiwn wreiddiol â’r fersiwn ddiwygiedig o’r CSCA. Wel, ni fydd hynny’n dweud wrthynt pam y gwnaed y newidiadau, ac ni fydd yn dweud wrthynt beth y bwriadent ei gyflawni neu rôl Llywodraeth Cymru yn y broses honno. Weinidog, roedd eich ymateb i’r argymhelliad hwn yn siomedig. Rydych yn dweud nad ydych yn credu ei bod yn briodol cyhoeddi’r wybodaeth hon gan mai diddordeb cyhoeddus cyfyngedig, os o gwbl, sydd ynddi. Weinidog, gofynnodd rhanddeiliaid am i’r wybodaeth hon gael ei gwneud yn gyhoeddus wrth roi tystiolaeth i’r pwyllgor, ac roedd y pwyllgor yn teimlo bod digon o ddiddordeb yn y mater hwn i roi argymhelliad yn yr adroddiad. Nid ydym yn credu y byddai’r argymhelliad yn cyflwyno baich ychwanegol. Mae’r wybodaeth y mae’r pwyllgor yn gofyn am ei chyhoeddi eisoes yn bodoli, felly nid ydym yn credu y byddai unrhyw faich ychwanegol.
 
Rhoddwyd esboniad manwl i’r pwyllgor yn gyhoeddus o’r rhesymau pam y cyfeiriwyd CSCAu yn ôl yn y gorffennol. Felly, unwaith eto, nid oes unrhyw sensitifrwydd. Mae hyn yn ymwneud ag atebolrwydd hefyd. Pan fydd Gweinidogion yn gofyn i awdurdodau lleol addasu eu CSCAu, dylai gwybodaeth ynghylch y penderfyniadau gweinidogol hynny fod ar gael i’r cyhoedd ac i Aelodau’r Cynulliad. Weinidog, unwaith eto, hoffwn ofyn i chi, yng ngoleuni’r ddadl heddiw a theimladau cryf rhanddeiliaid ynghylch y mater hwn, i ailystyried eich penderfyniad i wrthod yr argymhelliad hwnnw.
 
Mae argymhelliad 14 yn ymwneud ag argaeledd lleoedd gofal plant Dechrau’n Deg cyfrwng Cymraeg ar gyfer plant dwy a thair oed, a’r effaith y gall lefelau presennol y ddarpariaeth hon ei chael ar darged Llywodraeth Cymru i 25 y cant o blant saith oed gael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Rwy’n gwybod bod hwn yn fater y mae gan gyd-Aelodau ar y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ddiddordeb gweithredol ynddo. Ac yn eich ymateb, Weinidog, rydych yn datgan na fyddai’r cynnydd o ran dewis rhieni a darpariaeth cyfrwng Cymraeg Dechrau’n Deg dilynol yn effeithio’n sylweddol ar allu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei thargedau o 25 y cant o blant saith oed yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Gwnaeth y Prif Weinidog yr un datganiad yn ddiweddar mewn llythyr at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, ac eto nid oes unrhyw eglurhad wedi’i roi ynglŷn â sut y daethpwyd i’r casgliad hwn. A gaf fi ofyn i chi pam eich bod yn credu na chaiff argaeledd darpariaeth cyfrwng Cymraeg Dechrau’n Deg effaith sylweddol? Byddwn hefyd yn ddiolchgar pe gallech dynnu sylw’r pwyllgor, a’r Cynulliad, at unrhyw dystiolaeth sy’n cefnogi’r datganiadau a wnaed gennych chi a’r Prif Weinidog.
 
O ran argymhelliad 17, galwasom ar Lywodraeth Cymru i ailystyried ei strategaethau addysg cyfrwng Cymraeg, gyda’r nod o sicrhau y caiff pwysigrwydd addysg ôl-16 ei adlewyrchu ynddynt, ac yna, yn ei dro, o fewn awdurdodau lleol. Clywodd y pwyllgor dystiolaeth fod angen mwy o bwyslais ar addysg ôl-16, er mwyn creu system addysg cyfrwng Cymraeg, o’r blynyddoedd cynnar hyd at ddarpariaeth addysg bellach. Byddai hyn hefyd yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu gweithlu dwyieithog. Nawr, aeth Comisiynydd y Gymraeg gyn belled â dweud mai addysg ôl-16 oedd y rhan o’r jig-so a oedd ar goll yn gyfan gwbl. Weinidog, a ydych yn fodlon fod eich strategaethau cyfredol yn mynd i’r afael â’r pryderon a glywyd gan y pwyllgor?
 
Felly, fel y dywedais, rwy’n ddiolchgar fod y Gweinidog wedi derbyn 12 o argymhellion y pwyllgor. Ac fel y dywedais ar ddechrau fy araith, rydych bob amser wedi bod yn adeiladol wrth ymdrin â’r pwyllgor hwn, ac rwy’n gobeithio, drwy amlinellu’r hyn rydym yn ei weld fel beirniadaeth adeiladol i’ch helpu, y byddwch yn gallu ymateb yn gadarnhaol i rai o’n hymatebion ni i ymateb Llywodraeth Cymru i’r pum argymhelliad gennym rydych wedi’u gwrthod. Byddwn yn ddiolchgar pe baech yn ystyried rhai o’r pwyntiau a wnaed yn yr araith agoriadol hon.
 
Yn olaf, Lywydd, hoffwn ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i’r pwyllgor, i aelodau’r pwyllgor, ond yn bwysicach i staff y pwyllgor sydd wedi helpu i gynhyrchu’r adroddiad hwn. Diolch yn fawr iawn.
 
Daeth Peter Black i’r Gadair.
 
14:32
Peter BlackBywgraffiad
Diolch. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), nid yw’r Dirprwy Llywydd wedi dethol y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig. Galwaf felly ar Simon Thomas.
 
14:32
Simon ThomasBywgraffiad
Diolch, Ddirprwy Lywydd dros dro. Mae Ann Jones, Cadeirydd y pwyllgor, wedi gosod allan yn glir beth yw pryderon y pwyllgor ynglŷn â’r ddarpariaeth ar gyfer y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, a hoffwn i, nawr, ychwanegu at hynny, drwy olrhain ychydig o’r pethau rwy’n meddwl a all wella’r sefyllfa.
 
Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n cofio’r cyd-destun y mae hyn yn digwydd ynddo. Mae yna strategaeth ar gyfer Cymraeg mewn addysg—un genedlaethol a ddarparwyd gan y Llywodraeth flaenorol, pan oedd Plaid Cymru yn rhan o’r glymblaid, bryd hynny, ac mae gweithredu’r strategaeth honno, ar lefel awdurdod lleol, yn nwylo'r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, rhywbeth a ddarparwyd mewn deddfwriaeth gan y Gweinidog blaenorol, Leighton Andrews, yn ystod y Cynulliad hwn.
 
Pryder y pwyllgor, a phryder y dystiolaeth a gawsom ni yn y pwyllgor, oedd nad oedd y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, ar lefel leol, yn darparu'r math o gynnydd a fyddai’n cwrdd â’r targedau a oedd gan y Llywodraeth yn genedlaethol. Rwyf fi jest am olrhain ychydig o’r pwyntiau penodol rwy’n meddwl a fyddai’n gwneud gwahaniaeth i wella ein cyrhaeddiad ni o dan y strategaeth, a hefyd i wella'r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg o ran eu heffeithlonrwydd.
 
Rydym yn dechrau, wrth gwrs, gyda’r plant yn yr oedran cynnar—gyda Dechrau’n Deg, y Flying Start. Mae’n wir fod angen cydlynu’r polisïau ar gyfer yr oedran cynnar yma gyda’r strategaeth genedlaethol a’r ddarpariaeth yn y WESPs. Mae hefyd yn bwysig, wrth i blentyn fynd drwy’r ysgol, fod y ddarpariaeth drafnidiaeth yn ychwanegu ac yn cefnogi dewis y rhieni, a dewis y plentyn, ac mae hynny yn rhywbeth sydd yn fwyfwy problematig, yn enwedig gyda’r newidiadau sydd gyda ni mewn addysg Gymraeg ar ôl 16. Rwy’n credu, ar y ddau ben yna, fod angen i’r Llywodraeth—y Llywodraeth ar lefel genedlaethol—fynd i’r afael â’r broblem, yn hytrach na beth sy’n dueddol o ddigwydd nawr—ac rwy’n deall pam mae’n digwydd nawr—sef gwthio’r broblem i lawr i’r awdurdod lleol, a golchi dwylo ar lefel genedlaethol.
 
Mae Ann Jones wedi crybwyll un mater arall, sef pa mor anodd yw e i newid categori ysgol. Mae’n wir i ddweud nad yw pob rhan o Gymru yn defnyddio’r categori, wrth gwrs, ond mae’n wir i ddweud hefyd fod yna ddiffyg ymwybyddiaeth genedlaethol ynglŷn â manteision addysg Gymraeg. Mae’n bwysig pwysleisio bod addysg Gymraeg yn darparu addysg drylwyr yn Gymraeg, ond mae hefyd yn darparu, wrth gwrs, addysg yn yr iaith Saesneg. Mae’n darparu sgiliau Saesneg gwych yn ogystal, ac mae’r dystiolaeth yn ddigon clir o ran hynny. Roedd gan y Llywodraeth yma ymgyrch genedlaethol i hybu a hyrwyddo buddion addysg Gymraeg, ond, yn anffodus, mae e fel bod yr ymgyrch yna wedi mynd i’r gwellt ac nid oes llawer o ôl yr ymgyrch yma, hyd y gwelaf i. Mae’n bwysig, felly, ein bod yn ailafael yn y dasg genedlaethol yma o berswadio, darbwyllo, os leiciwch chi, ond yn gyntaf oll o hysbysu pobl, o roi gwybodaeth i bobl ynglŷn â manteision addysg drwy’r Gymraeg a’r ffordd mae addysg Gymraeg yn arwain at blant a phobl ifanc sy’n rhugl yn y Gymraeg ac yn y Saesneg. O dan hynny, wrth gwrs, mae’r ffaith bod y Gymraeg yn eiddo i bawb yng Nghymru yn hynod bwysig.
 
Felly, i Blaid Cymru mae’n bwysig bod pob plentyn yn cael addysg Gymraeg, i bob pwrpas, yn y cyfnod sylfaen a bod y blynyddoedd cynnar hynny yn rhai lle mae’r Gymraeg yn cael ei chyflwyno i bob plentyn yng Nghymru, gan ddechrau, wrth gwrs, yn yr ardaloedd hynny lle mae angen cefnogi’r Gymraeg fel iaith gymunedol. Mae hefyd yn bwysig, rwy’n meddwl, wrth edrych ar Donaldson a’r ffordd yr ydym yn ehangu’r cwricwlwm newydd, ein bod yn gweld y Gymraeg fel iaith a chyfrwng dysgu yn hytrach na rhywbeth sy’n cael ei ddysgu i bobl. Rydym i gyd yn ymwybodol o ba mor ddiffygiol yw dysgu Cymraeg fel ail iaith yng Nghymru i droi ein pobl ifanc ni yn siaradwyr Cymraeg, ac rwy’n un o’r bobl hynny. Rwy’n credu ei bod yn bwysig, felly, ein bod ni’n tanlinellu pa mor allweddol yw e bod y cwricwlwm newydd yn cyd-fynd â chynllunio strategol Cymraeg mewn addysg i wneud y Gymraeg yn iaith cyfrwng dysgu i bob un plentyn ar ryw adeg yn ystod ei gyfnod mewn ysgol.
 
Y peth olaf yr hoffwn ei ychwanegu fan hyn at adroddiad y pwyllgor yw bod Plaid Cymru o’r farn bod angen cryfhau’n statudol ar y pwerau sydd gan y Gweinidog i sicrhau bod y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yn cael eu gweithredu. Nid yw’r pwerau yn ddigon clir, yn fy marn i, yn y ddeddfwriaeth bresennol. Er bod y pwyllgor wedi cael cyngor cyfreithiol i ddangos bod gan y Gweinidog rywfaint o bŵer dros hyn, hoffwn i weld rhywbeth penodol iawn i sicrhau bod yr awdurdodau lleol, wrth gynllunio ar gyfer addysg Gymraeg, yn glynu wrth y cynlluniau hynny ac yn darparu ac yn cyrraedd y nod.
 
14:37
Keith DaviesBywgraffiad
Rwy’n falch hefyd fod yr adroddiad hwn o’n blaen ni heddiw, achos fel rhywun sydd wedi bod yn brwydro dros addysg Gymraeg dros y blynyddoedd, pan ddaeth y WESPs i fodolaeth roeddwn yn meddwl, ‘Dyna un o’r pethau gorau sydd wedi digwydd ers blynyddoedd.’ Mae geiriau’r cynnig heddiw yn hynod o arwyddocaol. Ar ôl 15 mlynedd a mwy o ddatganoli, nid ydym yn trafod yr egwyddor o addysg Gymraeg nawr; rydym yn gytûn ar yr egwyddor. Rydym i gyd yn awyddus i weld Cymru’n wlad ddwyieithog. Dyna pam rydym yn siarad am strategaeth ac nid egwyddor. Y gwir yw, rydym erbyn hyn yn ymgyrchu at y nod. Rydym yn siarad am y ffordd orau ymlaen. Mewn geiriau eraill, rydym yn siarad am y dyfodol ac nid y gorffennol.
 
Sut ydym yn gwneud llwyddiant o’r broses? Ers amser, rydym wedi bod yn trafod sut orau y cawn ddiogelu’r Gymraeg wrth wneud y symudiad o addysg gynradd i addysg uwchradd. Oherwydd llwyddiant Dechrau’n Deg, a’r addewid i sicrhau gofal plant i bob plentyn rhwng tair a phedair oed, mae Cynulliad Cymru wedi creu problem newydd i’w datrys: sut ydym yn datblygu’r defnydd o’r Gymraeg o gynllun mentrus Dechrau’n Deg a’r addewid newydd i gwricwlwm yr ysgol gynradd? Felly, y cwestiwn mae’n rhaid ei ateb wrth ystyried pob argymhelliad gan y pwyllgor yw: pa mor llwyddiannus fydd yr argymhelliad ac a fydd mesur y llwyddiant yn dibynnu ar fesur ymarferol, sef maint a natur y Gymraeg sy’n cael ei defnyddio ar lafar ac yn ysgrifenedig, er enghraifft wrth edrych ar Gymraeg ail iaith a chael ei wared, fel mae’r Athro Sioned Davies wedi ei ddweud a’r Athro Donaldson? Nid cywirdeb gwleidyddol yw’r cwestiwn ac nid egwyddor chwaith ond, yn hytrach, ymarferoldeb y llwybr ymlaen.
 
Fel mae ymateb Llywodraeth Cymru yn nodi: erbyn hyn mae Llywodraeth Cymru’n gweithio ar y cyd â thri awdurdod lleol lle mae’r galw am addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn isel. Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn enwi Llanelli, Blaenau Gwent a sir y Fflint. Mae pethau’n well na’r hyn sy’n cael ei awgrymu yn y geiriau noeth. Yn Llanelli, er enghraifft, mae yna dwf aruthrol wedi bod mewn addysg Gymraeg mewn ysgolion cynradd, gydag ysgol newydd, Ysgol Gymraeg Ffwrnes, yn mynd i gael rhwng 400 a 500 o blant, ac mae yna sôn, oherwydd twf Ysgol y Strade, efallai y bydd angen ail ysgol gyfun Gymraeg arnom ni yn y dref.
 
Ar y llaw arall, synhwyrol yw nodi Blaenau Gwent a sir y Fflint. Dyna’r talcen caled, fel y bydden nhw’n dweud mewn cyn-bentrefi glo o gwmpas Llanelli. A hyd yn oed ym Mlaenau Gwent a sir y Fflint, tan yn gymharol ddiweddar, roedd y Gymraeg yn cael ei chlywed yn y capeli ac yn nhŷ tad-cu a mam-gu—haws cynnu tân ar hen aelwyd, fel mae’r hen ddywediad yn ei ddweud. Dyma’r hyn sy’n bwysig hefyd: mae sawl ardal yng Nghymru lle rydym yn ailgyflwyno diwylliant sydd wedi mynd ar goll. Nid ydym yn gwthio ar blant rhywbeth sydd yn ddieithr—i’r gwrthwyneb: maent yn ailddarganfod eu hetifeddiaeth.
 
Heb os nac oni bai, nid yw ewyllys da yn ddigon ac mae sawl mater yn codi o’r adroddiad. Er enghraifft, mae’n rhaid rhoi statws i’r fforymau—y grwpiau cymunedol sy’n ceisio addysg Gymraeg. Er pob tegwch i’r awdurdodau, mae Llywodraeth Cymru yn dweud y dylai’r awdurdodau drafod â’r fforymau, ond, os felly, bydd rhaid gwneud hynny’n statudol ac nid dim ond ei adael i ewyllys da yn unig.
 
Mae’n rhaid hefyd rhoi hawl statudol i riant sy’n dymuno gweld ei blentyn yn derbyn addysg Gymraeg. Bydd yr hawl yn cael blaenoriaeth pan fydd ystyriaethau trafnidiaeth yn codi, fel y soniodd Simon yn gynharach. Rwy’n pryderu am y ffaith mai’r awdurdod lleol sy’n penderfynu beth yw’r ysgol addas agosaf i’r dysgwyr, ac nid rhyw gorff arall.
 
Yn olaf, mae’r awdurdodau wedi cael tair blynedd i ddatblygu eu cynlluniau strategol, ond mae yna ffordd i fynd cyn iddynt fod yn fwy effeithiol. Nid ydynt wedi gweithio’n ddigon caled, yn fy marn i, ar y cynlluniau. Rwy’n falch i weld fod y Llywodraeth yn ystyried cynnal cyfres o gyfarfodydd wedi’u targedu at rai awdurdodau lleol yn 2016 a thu hwnt, achos fel mae pethau yn awr, nid ydynt yn ddigonol. Diolch.
 
14:42
Aled RobertsBywgraffiad
A gaf fi jest ategu beth mae ein Cadeirydd wedi’i ddweud—a llongyfarchiadau ar eich defnydd o’r Gymraeg—a hefyd Simon a Keith, achos rwy’n meddwl mai beth sydd gennym yma ydy’r ffaith ein bod ni’n diolch i’r Gweinidog am dderbyn chwech o’n hargymhellion ni, a hefyd chwech ychwanegol mewn egwyddor, ond rwy’n meddwl ein bod ni’n siomedig bod y pump arall—? Achos beth rydym yn trio ei wneud fel pwyllgor ydy adeiladu ar y gwaith sydd wedi’i wneud, ond dangos ein rhwystredigaeth ni, i ryw raddau, o ran beth sydd yn digwydd ar lawr gwlad o achos—. Mi gyfeiriodd Keith yn gynharach at sir y Fflint. Sir y Fflint oedd y sir gyntaf yng Nghymru i gael ysgol gynradd ac ysgol uwchradd Gymraeg. Brodor o’r Rhos oedd y cyfarwyddwr addysg yn y sir bryd hynny. Ond, ers hynny, wrth gwrs, mae’r sir ar hyn o bryd yn ystyried cau ysgol fechan yng ngogledd y sir, yn yr ardal fwyaf traddodiadol o ran yr iaith Gymraeg o fewn y sir, sydd yn warth, os ydym yn ystyried beth ydy strategaeth Llywodraeth Cymru.
 
Rydym hefyd mewn sefyllfa lle mae sir gyfagos, sir Ddinbych, yn ystyried newid statws Ysgol Pentrecelyn—ysgol cyfrwng Cymraeg—ac yn dweud eu bod yn mynd i roi’r ysgol newydd yn Llanfair yn yr ail gategori. Felly, mae’n hawdd iawn inni ddweud yma fod pethau’n digwydd a bod yna gynnydd, ond ar lawr gwlad nid ydy hynny’n digwydd. Mae’n amser inni ddweud erbyn hyn nad yw rhai o’r strategaethau yma’n gweithio, ac os nad ydynt yn gweithio, mae’n hen bryd inni weithredu. Yn y pen draw, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gyfaddef nad yw eu strategaeth nhw o ran cynyddu nifer y plant saith oed sydd yn mynd i siarad Cymraeg neu’n derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn gweithio gan fod y nifer yn disgyn. Ac mae’r Gweinidog ei hun, o fewn yr adroddiad blynyddol o ran y strategaeth Gymraeg, wedi cyfaddef eu bod yn mynd i fethu eu targed ar gyfer 2020.
 
Felly, mae’n rhaid inni ofyn y cwestiwn: beth sydd yn mynd o’i le? Rwy’n meddwl mai diffyg arweiniad strategol o ran yr awdurdodau sydd ar led yma a’r ffaith ein bod ni fel pwyllgor, fel y dywedodd ein Cadeirydd ni, yn adlewyrchu tystiolaeth a gawsom ni gan awdurdodau eu hunain. Roedden nhw’n dweud bod yna rwystredigaeth ar lefel deddfwriaeth, i ryw raddau. Rwy’n cefnogi beth a ddywedodd ein Cadeirydd ni. Os oes yna gamddealltwriaeth o ran dehongliad deddfwriaeth ar lefel llywodraeth leol, mae yna gyfle’r prynhawn yma i’r Gweinidog ddweud hynny. Mi oedd yna un sir a oedd yn dweud wrthym os oedden nhw’n ymateb i gynnydd o ran galw o fewn addysg Gymraeg mewn sir, a’u bod nhw eisiau newid categori iaith ysgol, fod yn rhaid iddyn nhw fynd trwy’r broses ffurfiol o gau’r ysgol ac ailagor yr ysgol. Felly, os nad yw hynny’n gywir, a gawn ni ei glywed o'r prynhawn yma?
 
Rydw i hefyd yn meddwl bod yna ddiffyg cynllunio, achos rydw i yn cefnogi cynnydd yn narpariaeth Dechrau’n Deg, ond mae hynny’n amharu, mewn rhai ardaloedd, ar y niferoedd sy’n mynd i mewn i’r cylchoedd meithrin. Felly, mae yna ryw ddatgysylltiad i ryw raddau, rhwng un polisi a’r polisi arall. Dyna pam roeddwn i’n gofyn am ryw fath o gyswllt rhwng Dechrau’n Deg a’r targed o ran plant 7 oed.
 
Felly, rwyf yn teimlo, fel pwyllgor, ein bod ni wedi dod i gasgliad bod yna broblem efo’r cynlluniau addysg Gymraeg yma. A gaf i ddweud, yn Wrecsam, er enghraifft, rydych chi wedi dweud nad oes angen inni gael gwybodaeth a fuasai’n rhoi baich ar y cyngor a hyn a’r llall? Yn Wrecsam, nid oes yna unrhyw batrwm o ran mynediad i’r fforymau addysg. Yn Wrecsam, fe gafodd grŵp o rieni eu cicio allan o gyfarfod o achos eu bod nhw wedi mynd yno i weld pam nad oedd y cyngor yn ymateb i’r galw am addysg Gymraeg. Rwy’n mynd i ddweud wrth y Gweinidog, os yw e’n credu bod y gyfundrefn yma’n gweithio, mae angen i rai o’i swyddogion o fynd allan i’r awdurdodau hyn a gweld yn union beth mae rhieni’n ei ddweud, achos nid ydyn nhw’n fodlon efo’r sefyllfa, a’n lle ni, fel Aelodau’r Cynulliad yma, ydy dweud wrth y Llywodraeth nad ydym ni, ychwaith, yn fodlon, fel aelodau’r pwyllgor.
 
14:47
Peter BlackBywgraffiad
Galwaf ar y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Huw Lewis.
 
14:47
Huw LewisBywgraffiadY Gweinidog Addysg a Sgiliau
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i’r pwyllgor am ei adroddiad ar gynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg? Mae hwn yn gyfraniad i’w groesawu ac yn un amserol i ddatblygiad CSCAu am ddau reswm. Yn gyntaf, rydym yn y broses o gymeradwyo’r drydedd fersiwn a’r un derfynol o’r genhedlaeth gyntaf o gynlluniau tair blynedd llawn. Dros y misoedd nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried pa newidiadau o ran ffocws, pwyslais, ffurf a chynnwys y gellid eu gwneud ar gyfer y tair blynedd rhwng 2017 a 2020.
 
Yn ail, mae’r Llywodraeth eisoes wedi comisiynu gwerthusiad o’r strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg, a fydd yn edrych, ymhlith pethau eraill, ar rôl ac effaith CSCAu, yn enwedig o ran y gwaith o gynllunio a chyflwyno darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Nid wyf mewn sefyllfa, hyd yma, i sôn yn fanwl am ganfyddiadau’r adroddiad gwerthuso, ond rwy’n disgwyl iddo gael ei gyhoeddi fis nesaf, a bryd hynny byddaf yn gwneud datganiad ynglŷn â’r ffordd ymlaen.
 
Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn 12 o’r 17 o argymhellion gan y pwyllgor yn llawn neu mewn egwyddor ac rwy’n gobeithio bod hynny’n awgrymu—o leiaf, mae’n awgrymu i mi—fod sylfaen gyffredinol o gytundeb ynghylch proses y CSCAu. Fodd bynnag, mae’n bwysig i bawb ohonom ddeall na all CSCAu anwybyddu neu osgoi prosesau penderfynu lleol neu gynllunio strategol lleol. Ni allant ond gwella tryloywder a darparu fforwm parhaus ar gyfer mewnbwn cyhoeddus lleol a hefyd, wrth gwrs, maent yn galluogi Llywodraeth Cymru i ddylanwadu ar lefel genedlaethol ar yr hyn sy’n digwydd ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol. Ni allant fod yn ateb i bob problem na datrys yr holl broblemau a allai godi’n lleol, ni waeth pa mor llesteiriol ydynt.
 
Ond gadewch i mi ymdrin â’r argymhellion a bwysleisiwyd gan y Cadeirydd fesul un. Rwy’n credu y byddai hynny’n ddefnyddiol fel ymateb. Argymhelliad 5: ar hyn, y broses o newid categori ieithyddol ysgolion, mae’r camau i’w cymryd wedi’u hamlinellu’n glir yn y cod trefniadaeth ysgolion. Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar y broses hon yn ôl yn 2012. Mae hyn yn ddieithriad yn galw am gyhoeddi hysbysiad statudol, yn ogystal â chyfnod priodol o ymgynghori er mwyn sicrhau bod pawb sydd â diddordeb yn cael cyfle i gyflwyno eu safbwyntiau o fewn cyfnod penodol o amser. Rwy’n siŵr y byddai’r pwyllgor eisiau sicrwydd fod angen ystyried yn ofalus unrhyw newid sylfaenol i’r system addysg. Rydym wedi monitro gweithrediad cyffredinol Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 ac mae’n amlwg fod nifer o awdurdodau lleol wedi cynnal prosesau effeithlon ar gyfer cynigion trefniadaeth ysgolion ac wedi cydymffurfio â’r amserlenni a nodir yn y ddeddfwriaeth. Os bydd unrhyw awdurdod lleol yn mabwysiadu prosesau sy’n mynd y tu hwnt i ofynion y ddeddfwriaeth, mater iddynt hwy yw hynny, wrth gwrs.
 
O ran argymhelliad 6, fel y dywedais yn fy ymateb i’r pwyllgor, cafodd y posibilrwydd o’i gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol lunio a chyhoeddi adroddiadau blynyddol ei ystyried yn ystod y broses o ddrafftio Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu’r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 2013. Fe’i gwrthodwyd oherwydd y byddai’n gosod baich arall ar awdurdodau lleol, gan eu bod eisoes yn adolygu eu cynlluniau’n flynyddol, yn ogystal ag ymgynghori ar y fersiynau diwygiedig, a chyhoeddi’r cynllun a gymeradwywyd, wrth gwrs. Roedd y dystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru yn nodi eu bod yn fodlon ar y trefniadau adrodd presennol. Fodd bynnag, nid yw’n ymwneud â gallu awdurdodau lleol i gynhyrchu’r adroddiadau hyn; mae’n ymwneud â pha un a yw’r farn a fynegwyd gan un tyst—sef Caerfyrddin, rwy’n credu—yn cynrychioli barn y 21 o awdurdodau lleol eraill. Fodd bynnag, rwy’n hapus i gytuno i fy swyddogion fynd ymlaen yn awr i drafod hyn gydag awdurdodau lleol, fel y gallwn gytuno ar gonsensws ar y pwynt hwn.
 
O ran argymhelliad 7, rwy’n dal heb gael fy argyhoeddi y bydd llawer i’w ennill o nodi pwy sydd wedi cyflwyno newidiadau i unrhyw gynllun penodol—y Llywodraeth neu’r awdurdod lleol. Yn yr un modd, ni fyddai cyhoeddi trafodaethau ag awdurdodau lleol ynglŷn ag addasiadau yn ychwanegu fawr ddim at y broses yn fy marn i. Mae digon o gyfle drwy’r broses ymgynghori flynyddol i rai sydd â diddordeb ddylanwadu ar gynnwys cynllun. I raddau helaeth, dyna yw defnyddioldeb y CSCAu yn y lle cyntaf. Y peth pwysig yw y cwblheir y broses gymeradwyo statudol, fel bod gan awdurdod gynllun wedi’i gymeradwyo ac yn bwysicach, wrth gwrs, ei fod yn bwrw ymlaen â’i weithredu.
 
O ran argymhelliad 14, cafodd y targed strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg i 25 y cant o blant saith oed gael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ei bennu drwy gyfeirio at yr hyn a allai fod yn rhesymol i anelu tuag ato o ganran y plant saith oed sy’n cael eu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, a 21 y cant oedd hwnnw ar y pryd, yn y flwyddyn sylfaen yn 2009. Ni chafodd ei wneud drwy gyfeirio at y nifer neu’r ganran o leoedd Dechrau’n Deg cyfrwng Cymraeg, lle nad oes targed cenedlaethol wedi’i osod.
 
O ran argymhelliad 17, mae’r ddyletswydd statudol i baratoi CSCA wedi’i osod ar awdurdodau lleol ac wrth gwrs, nid oes gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb dros ddarpariaeth addysg bellach. Mae galluogi pobl ifanc i barhau â’u haddysg cyfrwng Cymraeg yn allweddol i gryfhau dewis ieithyddol a defnyddio’r iaith Gymraeg, wrth gwrs, ond er gwaethaf hynny, ni allaf gynnwys darpariaeth addysg bellach o fewn CSCAu. Dylid nodi bod gan sefydliadau addysg bellach eu cynlluniau eu hunain a mater iddynt hwy yw sut y maent yn datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Fodd bynnag, mae yna ddisgwyliad y bydd y Gymraeg, wrth gwrs, yn nodwedd allweddol wrth ddatblygu cyrsiau ac wrth farchnata eu cynnig i ddysgwyr cyn-16.
 
Rwyf am ddiolch i’r pwyllgor am eu gwaith ac am sylwadau craff a dysgedig yr Aelodau y prynhawn yma. Nid wyf yn amau, mewn gwirionedd, fod pwnc cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yn faes sy’n esblygu o ran polisi’r Llywodraeth ac o ran natur a sylwedd y cynlluniau eu hunain. Mae’n werth oedi i ystyried bod gennym yn awr, yng Nghymru, gyfle blynyddol cyhoeddus i bawb sy’n ymwneud â Chymraeg mewn addysg arolygu a darparu mewnbwn i benderfyniadau lleol pwysig yn y maes. Bydd hynny, rwy’n meddwl, wrth ei natur o gychwyn dadl barhaus sy’n esblygu ar y pwnc, yn ein harwain i’r cyfeiriad cywir.
 
14:55
Peter BlackBywgraffiad
Diolch yn fawr, Weinidog. Galwaf ar Ann Jones i ymateb i’r ddadl.
 
14:55
Ann JonesBywgraffiad
Diolch yn fawr iawn. A gaf fi yn gyntaf oll ddweud diolch, Weinidog? O leiaf nid wyf yn credu bod un allan o bump yn ddrwg—i’ch cael i gytuno i fynd i gyfarfod ag ERW a’r awdurdod addysg lleol. Mae’n ymwneud â cheisio canfod bod yna neges gyson, ac rwy’n meddwl mai’r hyn roeddem am ei weld oedd bod arferion da, lle y’u ceir, yn cael eu lledaenu ledled Cymru ac nad yw pobl yn chwarae’r gêm, fel y gwnant yn aml, o ddweud ‘Wel, nid yw hynny’n digwydd yn fy ardal i, ond mae’n digwydd yma.’ Felly, dyna rydym ei eisiau, rwy’n credu—cysondeb. Felly, cymeraf yr un llwyddiant fel rhywbeth rydych wedi’i ildio.
 
Mae’n ymwneud â dweud yn syml ein bod yn angerddol iawn ynglŷn ag addysg cyfrwng Cymraeg mewn gwirionedd, a’i fod yn faes sy’n tyfu, rydym yn teimlo, ac rydym yn awyddus i’w helpu i dyfu, ac eisiau i bobl ddeall nad yw’n rhan o’r system addysg sy’n unigryw i un math o bobl neu mewn un gymuned. Dyna pam rydym wedi gofyn am i’r wybodaeth i gyd fod ar gael i bobl edrych arni, yn y gobaith na fydd pobl yn ofnus ynglŷn ag addysg cyfrwng Cymraeg.
 
Diolch i Aled. Mae’n debyg fy mod wedi gollwng y gath o’r cwd yn awr. Ni fyddwch yn gallu siarad Cymraeg gyda mi yn awr gan y byddwch bellach yn gwybod fy mod yn ei deall, hyd yn oed os nad wyf yn ei siarad. Felly, mae’n debyg na fûm yn ddigon gofalus yn hynny o beth, ond serch hynny, roeddwn yn credu ei bod yn bwysig dweud, fel rhywun sydd wedi cael Cymraeg wedi’i dysgu iddi yn yr ysgol, er bod hynny amser maith yn ôl, y bu’n rhaid i mi droi at sianel arall i ddefnyddio’r addysg cyfrwng Cymraeg honno a dyna’r hyn nad wyf am ei weld a pham rwy’n meddwl bod Simon wedi gwneud y pwynt ynglŷn â dechrau gyda Dechrau’n Deg a’i symud ymlaen, fel ei fod yn dod yn beth naturiol. Dyna rwy’n gobeithio y bydd fy wyrion yn gallu ei wneud; byddant yn cyfnewid rhwng y Gymraeg a’r Saesneg, a fydd wedyn, fel y dywedodd Keith, yn cadarnhau natur ddwyieithog ein gwlad rydym i gyd yn ymdrechu i’w—. Felly, diolch i chi am hynny. Rwy’n mynd i gymryd buddugoliaeth. Y rheini ohonoch sy’n gwybod fy mod yn hoffi pêl-droed—byddwn wrth fy modd ag un gôl i fy nhîm ar hyn o bryd; ie, un gôl i fy nhîm ar hyn o bryd. Felly, fe gymeraf hynny fel gôl ac fe gymeraf hynny fel buddugoliaeth.
 
Ond a gaf fi ddweud diolch ar ran y pwyllgor, fel y dywedais o’r blaen, am y ffordd rydych wedi ymgysylltu â’n pwyllgor? Hoffwn ddweud, unwaith eto, diolch i holl aelodau’r pwyllgor am y modd rydym i gyd wedi gweithio, rwy’n credu, yn gydsyniol, i’ch cynorthwyo i gyflwyno system addysg dda ar gyfer cenedlaethau Cymru yn y dyfodol. Diolch yn fawr iawn.
 
14:58
Peter BlackBywgraffiad
Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
 
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
 
5. Dadl ar yr Adroddiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar Weithgareddau’r Cynrychiolwyr o Gymru ar Bwyllgor Rhanbarthau’r UE
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Aled Roberts.
 
14:58
Peter BlackBywgraffiad
Yr eitem nesaf yw’r ddadl ar yr adroddiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar weithgareddau’r cynrychiolwyr o Gymru ar Bwyllgor Rhanbarthau’r UE. Galwaf ar Mick Antoniw i gynnig y cynnig.
 
Cynnig NDM5925 Mick Antoniw
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
 
Yn nodi adroddiad Pwyllgor y Rhanbarthau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Ionawr 2016.
 
Cynigiwyd y cynnig.
 
14:58
Mick AntoniwBywgraffiad
Diolch i chi am hynny. Mae’n bleser mawr gennyf gyflwyno’r adroddiad cyntaf erioed ar y gwaith y mae fy nghyd-Aelod Rhodri Glyn Thomas a minnau, fel cynrychiolwyr Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru, a hefyd cynrychiolwyr llywodraeth leol Cymru, wedi’i gyflawni ym Mrwsel ym Mhwyllgor y Rhanbarthau. Ein hadroddiad ar y cyd ydyw, ac fe’i cyflwynir heddiw i gydnabod y rôl gynyddol y mae Cymru yn ei chwarae yn yr Undeb Ewropeaidd, y manteision y mae ein haelodaeth yn eu creu i Gymru a’r cyfleoedd y mae’n eu rhoi i Gymru fel rhan o un o flociau masnachu mwyaf a chyfoethocaf y byd, un o’r dynamos economaidd mwyaf ar gyfer ymchwilio ac arloesi, a’r un mor bwysig, un o’r partneriaethau sy’n sefydlogi fwyaf ar gyfer sicrhau cydweithrediad economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ar draws gwledydd sydd â hanes ers cenedlaethau yn y gorffennol naill ai o ymladd ei gilydd neu o ofni ei gilydd.
 
Mae hwn, drwy gyd-ddigwyddiad, yn adroddiad amserol iawn yng ngoleuni digwyddiadau diweddar, ac rwy’n gobeithio y bydd y ddadl heddiw’n gosod y llwyfan ar gyfer trafodaeth flaengar, sy’n edrych tua’r dyfodol, ar rôl y Cynulliad hwn yng Nghymru, o fewn y DU ac o fewn Ewrop, yn awr ac yn y dyfodol. Cefais yr anrhydedd mawr ers ychydig dros ddwy flynedd o gynrychioli Cymru ar Bwyllgor y Rhanbarthau. Dyma’r corff a sefydlwyd o dan gytuniad Maastricht i roi llais i lywodraeth leol a rhanbarthol, sef corff o gynrychiolwyr o ddinasoedd a rhanbarthau Ewrop yn dod at ei gilydd i rannu profiadau, i ddatblygu partneriaethau, i greu swyddi a chyfleoedd hyfforddi, ac i feithrin hegemoni, partneriaethau a phrofiad gwaith cymdeithasol a diwylliannol a chyfleoedd ar draws ffiniau. Rydym yn cyfrannu ein profiad fel cenedl fach a dwyieithog, ac rydym yn rhannu profiadau cenhedloedd eraill. Mae Cymru yn cyflawni’n well na’r disgwyl yn Ewrop, ac mae gwledydd ledled Ewrop yn dilyn ein hesiampl o ran y ffordd rydym wedi diogelu swyddi ac wedi creu swyddi’n rhagweithiol. Drwy ReAct a ProAct, rydym yn arwain y ffordd. O ran camau amgylcheddol, mae Ewrop yn awr yn dilyn ein hesiampl mewn meysydd fel ardollau bagiau plastig a glynu’n agos at y ddeddf arloesol, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
 
Drwy farn a gyflwynais yn ddiweddar ar safonau cyflogau ledled yr Undeb Ewropeaidd, rydym yn ymgysylltu â’r Comisiwn Ewropeaidd, Senedd Ewrop a chymunedau Ewropeaidd ynghylch datblygu’r cysyniad o gyflog byw fel rhan o Ewrop gymdeithasol.
 
Drwy ei weithgarwch sylweddol, mae fy nghyd-aelod ar Bwyllgor y Rhanbarthau, Rhodri Glyn, wedi codi’r lefel o ddealltwriaeth a chydweithrediad rhanbarthol ar botensial ynni môr, lle y caiff Cymru ei gweld yn gynyddol fel arweinydd yn Ewrop, yn ogystal â’i rapporteuriaeth ar y defnydd o gyllid lleol a rhanbarthol ar y cyd â chyfleoedd ariannu Ewropeaidd a Banc Buddsoddi Ewrop i greu cyfleoedd economaidd a chymdeithasol—gwaith sy’n amhrisiadwy wrth i ni fwrw ymlaen â phrosiectau mawr, fel metro de Cymru.
 
Mae’r cynghorwyr Bob Bright a Ronnie Hughes wedi cyfrannu eu gwybodaeth a’u profiad sylweddol i ddatblygu rôl llywodraeth leol mewn addysg alwedigaethol ac mewn strategaethau hyfforddi. Mae’r arweinyddiaeth hon yn helpu i godi proffil Cymru yn Ewrop ymhellach, proffil sy’n tyfu o ganlyniad i’n henw da am gynnal digwyddiadau chwaraeon gwych, ein hymchwil arloesol a chael ein hadnabod fel gwlad sy’n cynnig profiad gwych i ymwelwyr.
 
O’r ochr Ewropeaidd, rydym yn elwa cymaint yn awr o well dealltwriaeth o sut y gallwn ddatblygu ynni adnewyddadwy, yn ogystal ag ynni sy’n eiddo i’r gymuned, dinasoedd deallus, cynhwysiant digidol ac i ni yng Nghymru, trafnidiaeth integredig a datblygu dinas-ranbarthau a systemau trafnidiaeth metro. Mae’r holl syniadau arloesol hyn, prosiectau sy’n aml yn gweddnewid pethau, wedi deillio o flynyddoedd o waith cydweithredol ar draws ffiniau rydym yn elwa arno a gwaith y mae ein partneriaid Ewropeaidd yn ninasoedd a rhanbarthau Ewrop yn elwa arno.
 
Wrth gwrs, rydym i gyd yn ymwybodol o fanteision ariannol ein haelodaeth a’n hymgysylltiad â’r Undeb Ewropeaidd. Rydym i gyd yn ymwybodol o’r prosiectau cymdeithasol a datblygu busnes na fyddai wedi digwydd oni bai am sbardun cyllid Ewropeaidd, ac sy’n annhebygol o barhau pe baem yn penderfynu gadael yr Undeb Ewropeaidd, pethau megis Cyllid Cymru, Twf Swyddi Cymru, ein rhaglenni prentisiaethau a nifer fawr o rai eraill.
 
Gallaf edrych o amgylch fy etholaeth fy hun a cheisio dychmygu sut y byddai’n edrych heb ffordd osgoi Pentre’r Eglwys, a gyllidwyd ac a gefnogwyd gan Ewrop; heb gynllun amddiffyn rhag llifogydd Ilan Rhydyfelin, sydd wedi diogelu’r gymuned yno rhag llifogydd ar dri achlysur yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf; neu Bontypridd heb y parth cerddwyr a grëwyd yn ddiweddar a phwll nofio Pontypridd sydd wedi’i adnewyddu’n hyfryd ym Mharc Ynysangharad—i enwi ond ychydig; ac yn y dyfodol, dim metro. Oherwydd, os ydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, nid wyf yn credu y gwelwn byth yn ne-ddwyrain Cymru neu’n wir yn y gogledd y math o brosiectau economaidd a chymdeithasol gweddnewidiol rydym eu hangen mor daer ac sy’n cael eu rhoi ar waith gennym.
 
Ond mae’n ymwneud â mwy nag arian hefyd. Mae yna resymau llawer mwy, sy’n mynd â ni’n ôl at yr egwyddorion a’r rhesymau sylfaenol dros greu partneriaeth Ewropeaidd—rhesymau sy’n golygu llawer i mi, yn bersonol. Roedd fy nhad yn ffoadur o Ukrain ar ôl y rhyfel—gwlad a gollodd 12 miliwn o fywydau yn y rhyfel erchyll hwnnw. Daeth pentref fy nhad yn rhan o’r rheng flaen yn y rhyfel dair gwaith. Pe na bai fy nhad wedi cael lloches yma, byddai bron yn sicr o fod wedi’i alltudio gyda’r rhan fwyaf o weddill fy nheulu i wersylloedd llafur Siberia. Yn ddiweddar, bu chwyldro yn y wlad i’w galluogi i ddod yn rhan o’r prosiect Ewropeaidd ac i ymuno â’r nifer o wledydd eraill a oedd hefyd unwaith yn rhan o’r unbennaeth Stalinaidd. Rydym weithiau’n anghofio bod bod yn rhan o Ewrop yn ymwneud â sefydlogrwydd economaidd a ffyniant, yn sicr, ond mae hefyd yn ymwneud â datblygiad democratiaeth a heddwch. Mae’n gydnabyddiaeth yn ein cymuned fyd-eang na all unrhyw wlad oroesi fel ynys, ac mai ein gobaith gorau am heddwch a ffyniant yw gweithio gyda’n gilydd mewn cydweithrediad a chydag amcanion cyffredin. Mae llawer o newid yr hoffwn ei weld yn Ewrop. Rwyf am weld Ewrop sy’n fwy cymdeithasol, cyflogau gweddus, swyddi, iechyd, addysg a rhannu cyfrifoldeb dros ein hamgylchedd. Ni allwn ond cyflawni hyn drwy fod yn rhan o Ewrop ac nid drwy eistedd ar y cyrion a gadael i wledydd eraill osod yr agenda a’r rheolau na fydd gennym unrhyw lais ynddynt wedyn.
 
Drwy Bwyllgor y Rhanbarthau, ar ôl gweithio ochr yn ochr â’r rhai o wledydd eraill a dynnodd y llen haearn i lawr i ddod yn rhan o Ewrop, ac ar ôl gweld sut y maent, drwy’r Undeb Ewropeaidd, wedi dechrau gweddnewid eu cymdeithasau, rwy’n gwrthod y dadleuon sy’n edrych tuag yn ôl, dadleuon a gyflwynwyd gan y rhai a fuasai, drwy adael Ewrop, yn torri’r cysylltiadau a’r berthynas rhwng gwledydd sydd wedi cymryd cenedlaethau i ddatblygu, a bydd yn creu llen haearn gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol newydd yn Ewrop—ond y tro hwn, byddai’r llen haearn o gwmpas Prydain a ni ein hunain fuasai wedi’i greu.
 
Daeth y Llywydd (y Fonesig Rosemary Butler) i’r Gadair.
 
15:06
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, David Melding.
 
15:06
David MeldingBywgraffiad
Diolch i chi, Lywydd, ac a gaf fi groesawu’r ddadl hon ac adroddiad cynrychiolwyr Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Bwyllgor Rhanbarthau’r UE? Hoffwn atgoffa’r Cynulliad mai ym mis Mawrth 2014 y cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei adroddiad ar rôl Cymru ym mhroses yr UE o wneud penderfyniadau. Yn yr adroddiad hwnnw, gwnaethom 13 o argymhellion, y rhan fwyaf ohonynt, wrth gwrs, ar gyfer Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, roedd un o’r argymhellion a wnaethom yn ymwneud â Phwyllgor y Rhanbarthau a’i gynrychiolwyr. Credem efallai nad oedd y gwaith yn cael digon o sylw yn y Cynulliad mewn gwirionedd. Roedd y dystiolaeth a gymerwyd gennym yn dangos bod peth gwaith rhagorol yn mynd rhagddo—clywsom yn y dystiolaeth fod gwaith hynod o arloesol yn digwydd, mewn gwirionedd—ond nid oeddem yn cael y budd llawn ohono o ran ei glywed yn ein trafodaethau. Fe wnaethom argymell y dylid gosod datganiad ysgrifenedig gerbron y Cynulliad, ond rwy’n credu bod adroddiad a dadl yn syniad hyd yn oed yn well, ac efallai ei fod yn gyfle hefyd i’r Cynulliad drafod materion eraill sy’n ymwneud â’r Undeb Ewropeaidd yn flynyddol. Wrth gwrs, rwy’n dweud hynny heb geisio dylanwadu ar yr hyn sy’n mynd i ddigwydd yn y refferendwm. Ond os yw ein haelodaeth yn parhau, yna rwy’n meddwl bod y math hwn o gyswllt yn bwysig iawn a dylem fanteisio i’r eithaf ar ein cynrychiolaeth ar Bwyllgor y Rhanbarthau.
 
Yn wir, mae wedi darparu llwyfan effeithiol iawn. Ers ei sefydlu o dan gytuniad Maastricht, gwelsom dwf yn nylanwad y Senedd Ewropeaidd. I ryw raddau, mae hyn wedi bwrw Pwyllgor y Rhanbarthau i’r cysgodion. Ond pan fo wedi ymgymryd â gwaith penodol, megis dyfodol ieithoedd lleiafrifol yn y gymuned, er enghraifft, rydym mewn sefyllfa i wneud gwaith pwysig iawn i helpu i archwilio’r materion pwysig hynny. Rwy’n meddwl bod yna le arbennig i Bwyllgor y Rhanbarthau gan fod rôl sefydliadau a Llywodraethau is-wladwriaethol yn yr UE yn un sy’n mynd i gael pwyslais cynyddol. Weithiau credwn yn gryf fod datganoli yn y Deyrnas Unedig yn broses sydd ond yn effeithio arnom ni, ond mewn gwirionedd mae’n rhan o duedd lywodraethu fyd-eang. Rydych wedi’i weld o amgylch Ewrop, gyda Ffrainc a’r Eidal yn symud tuag at gyfansoddiadau llawer mwy datganoledig. Felly, credwn fod rhoi adnoddau tuag at waith y Pwyllgor y Rhanbarthau yn werthfawr—a chysylltu hynny hefyd, efallai, â’r gwaith sy’n mynd rhagddo yn Senedd Ewrop. Mae cysylltu â’n ASEau yn ffordd bwysig arall o dynnu sylw at faterion pwysig.
 
A gaf fi fachu ar y cyfle i hysbysu’r Cynulliad am y gwaith arall y mae’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi’i gyflawni ar faterion Ewropeaidd? Rydym ar fin cyhoeddi adroddiad byr iawn ar agenda diwygio’r UE yng nghyd-destun refferendwm yr UE. Dechreuasom ar y gwaith yn yr hydref. Aethom i Frwsel i drafod gyda swyddogion beth fyddai elfennau tebygol yr aildrafodaethau a fyddai’n cael eu cynnal, ac mae’n rhaid i mi ddweud bod y dystiolaeth a gawsom yn eithaf proffwydol. Mae cymhariaeth agos iawn i’w wneud, rwy’n meddwl, rhwng y dystiolaeth honno a’r hyn sydd wedi digwydd mewn gwirionedd o ran beth y mae Llywodraeth y DU bellach wedi’i drafod. Credwn ei bod yn bwysig iawn nad yw’r dimensiwn Cymreig yn hyn oll yn mynd yn angof, felly byddwn yn cyhoeddi adroddiad byr ar hynny.
 
Rwyf eisoes wedi cyfeirio at yr adroddiad pwysig a wnaethom, rwy’n meddwl, ar rôl Cymru ym mhroses yr UE o wneud penderfyniadau. Mae ein gweithgareddau eraill wedi ymwneud â rôl is-aelod-wladwriaethau ym mhroses lywodraethu’r UE. Rydym wedi ysgrifennu llythyrau at lywydd yr UE a’r Comisiwn yn ategu pwysigrwydd y gwaith hwn. Rydym hefyd wedi ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar sybsidiaredd yng nghyd-destun yr adolygiad a gynhaliwyd o’r cydbwysedd cymwyseddau.
 
Fel pwyllgor, ni sy’n ysgwyddo’r prif gyfrifoldeb dros sybsidiaredd a thros ei fonitro. Rydym wedi edrych ar amrywiaeth eang o faterion, o gynigion ar gyfer rheoliadau Ewropeaidd ar organeddau a addaswyd yn enetig i gynigion i wahardd y defnydd o rwydi drifft yn nyfroedd yr UE, caffael cyhoeddus, cynhyrchion tybaco ac amrywiaeth o bethau eraill. Yn olaf, cymerais ran yn fforwm EC-UK, yn cyfarfod â chadeiryddion pwyllgorau eraill tebyg yn San Steffan, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
 
Felly, rwy’n credu bod hwn yn achlysur pwysig iawn ac rwy’n gobeithio, os ydym yn parhau i fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, y byddwn yn gweld hon yn gwreiddio’n ddadl flynyddol yn y Cynulliad. Diolch.
 
15:12
Yr Arglwydd / Lord Elis-ThomasBywgraffiad
Mae’n bleser cymryd rhan yn y ddadl gyntaf erioed ar adroddiad o’r math yma, fel y cyfeiriodd fy nghyfaill Mick Antoniw, ac, yn arbennig, cael dilyn y Dirprwy Lywydd sydd wedi cymryd rhan, fel chithau, Fonesig Lywydd, yn amlwg, yng ngweithgareddau’r Undeb Ewropeaidd ac yn enwedig y dimensiwn rhanbarthol.
 
Un o’r pethau sydd yn fy mhoeni i o weld sut y mae’r drafodaeth gyhoeddus ar berthynas Cymru â’r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn datblygu yw nid yw llawer o’r gwaith gwerthfawr sy’n digwydd yn barod yn cael y sylw dyladwy, ac y mae’r dadleuon yma yn troi o gwmpas rhyw ffeithiau honedig a rhyw ddyfodol niwlog nad ydym yn ymwybodol o beth allai fod yn digwydd. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn bwysig i’w gwneud hi’n glir yn y fan yma fod pob un ohonom ni sydd wedi cael y cyfle i gynrychioli’r Cynulliad Cenedlaethol yn fy achos i, fel yn achos y Fonesig Lywydd a’r Dirprwy, fel rhan o CALRE, y gynhadledd sefydlog o gadeiryddion neu lywyddion aelodau o’r Undeb Ewropeaidd sydd hefyd yn rhanbarthau deddfwriaethol—. Roedd hynny’n glir iawn fod yn rhaid iddyn nhw fod yn rhanbarthau deddfwriaethol er mwyn gallu cael eu cynrychioli ar CALRE. Mi oeddem ni fel Cymru a’r Cynulliad hwn yno o’r dechrau, oherwydd bod gennym ni bwerau deddfwriaethol, er eu bod nhw’n bwerau cyfyngedig. Ond yn y gwaith yna, rydym yn gwneud hynny nid jest i gynrychioli ein sefydliadau, ond hefyd i gyfrannu tuag at ddealltwriaeth Ewropeaidd.
 
Mi garwn i gyfeirio nid yn unig at waith fy nghyd-Aelod yn y grŵp yma, Rhodri Glyn Thomas, ond hefyd fy nghyd-ddinesydd yn sir Conwy, y Cynghorydd Ronnie Hughes, dirprwy arweinydd cyngor Conwy, sydd yn wir, fel y Cynghorydd Bob Bright, Casnewydd, wedi cyfrannu yn arbennig at y gweithgaredd ymarferol sydd wedi cael ei wneud. Rwy’n croesawu, fel y dywedais i hefyd, gyfraniadau Rhodri Glyn oherwydd y mae o wedi dewis arbenigo ar faterion o bwys mawr i Gymru, yn enwedig y farn ddiweddar a gynhyrchwyd ganddo fo, ac a basiwyd yn adroddiad y cyfarfod llawn ym mis Hydref 2015—y ddogfen ar ddatblygu potensial ynni’r môr. Mae’r gwaith yma yn sicr yn waith a fydd yn parhau, a dyma’r cwestiwn rwyf eisiau ei godi heddiw inni feddwl amdano fo. Ni fedraf i ddychmygu na fyddai’r Cynulliad Cenedlaethol hwn a Llywodraeth Cymru am barhau i gyfrannu i ddatblygiad Ewrop fel cyfandir ac fel grym gwleidyddol, beth bynnag fydd penderfyniad y refferendwm sydd i ddod. Hyd yn oed pe na fyddai’r Deyrnas Unedig yn ffurfiol yn aelod-wladwriaeth yn yr Undeb Ewropeaidd, fedraf i ddim gredu na fyddai hi yn briodol i Gymru beidio â chael perthynas uniongyrchol, neu gyda rhanbarthau deddfwriaethol tebyg, neu i gael perthynas â rhyw gorff arall y byddai modd ei greu, er mwyn sicrhau ein bod fel rhanbarthau deddfwriaethol yn gallu cwrdd â’n gilydd a trafod—yn enwedig gan fod y materion sydd o bwys i ni, y materion amgylcheddol yn arbennig, yn faterion sydd yn cael eu trin ar lefel cyfandirol.
 
Ac nid materion deddfwriaethol yn unig: mae un mater bach arall sydd wedi rhoi pleser mawr i mi ers blynyddoedd bellach—mi ddylwn i ddatgan diddordeb, mae’n siŵr, gan fy mod i’n briod â pherson sydd yn un o’r bobl sy’n gwneud y gwaith cyfieithu achrededig yn y sefydliadau Ewropeaidd—a hynny yw’r defnydd o’r Gymraeg fel iaith swyddogol yn sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd, yng Nghyngor y Gweinidogion, fel y gwnaeth Alun Ffred Jones pan oedd o yn Weinidog, ac, wrth gwrs, mae Rhodri Glyn Thomas wedi cael y fraint o gyflwyno ei farnau yntau yn y Gymraeg. Mae’n rhyfedd imi feddwl, fel Aelod o Senedd y Deyrnas Unedig, na chaf i siarad Cymraeg yn y fan honno, ond y caiff y sawl sy’n cynrychioli Cymru yn sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd arfer yr iaith yn barchus.
 
15:16
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudais ymlaen braidd yn rhy gyflym yn awr. Dylwn fod wedi galw ar William Powell i gynnig y gwelliant, a gyflwynir yn enw Aled Roberts. Felly, William, a wnewch chi ei gynnig yn awr, os gwelwch yn dda.
 
Gwelliant 1—Aled Roberts
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
 
Yn credu y dylai Cymru a'r DU barhau i fod yn aelodau o'r UE ac yn penderfynu meithrin deialog gadarnach gyda sefydliadau Ewropeaidd fel Pwyllgor y Rhanbarthau.
 
Cynigiwyd gwelliant 1.
 
15:17
William PowellBywgraffiad
Dŵr o dan y bont, Lywydd.
 
Rwy’n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw. Nid yn lleiaf oherwydd ei bod yn ein hatgoffa’n amserol o’r rhesymau pam rydym ni ar y meinciau hyn, fel y dywed ein gwelliant yn glir iawn, yn credu y dylai Cymru, fel cenedl o fewn aelod-wladwriaeth y DU, aros yn rhan o Undeb Ewropeaidd ddiwygiedig. Wrth wneud hynny, dylem addunedu i ddatblygu deialog gryfach gyda’r sefydliadau Ewropeaidd, megis Pwyllgor y Rhanbarthau. Rwyf hefyd yn croesawu’r ffaith fod adroddiad o’r math hwn wedi cael ei gyflwyno am y tro cyntaf gerbron y Cynulliad yn dilyn argymhellion, fel y mae’r Cadeirydd eisoes wedi amlinellu, gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y dylai Pwyllgor y Rhanbarthau o dro i dro adrodd yn ôl ar ei waith i’r Cynulliad yn y ffordd hon.
 
Siaradaf heddiw fel aelod o’r mudiad hollbleidiol Ewropeaidd, a sefydlwyd gan Syr Winston Churchill yn ôl yn 1948 i feithrin aelodaeth Prydain Fawr o deulu ehangach Ewrop, y mudiad, wrth gwrs, yr oedd y diweddar Charles Kennedy yn llywydd arno hyd ei farwolaeth annhymig.
 
Roedd yr adroddiad ger ein bron heddiw yn amlinellu’n glir pa mor effeithiol yw aelodau ein Pwyllgor Rhanbarthau a’r effaith y mae eu gwaith wedi’i chael yng nghalon Ewrop. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw priodol at y gwaith a wnaed gan Rhodri Glyn Thomas, y deallaf ei fod ym Mrwsel heddiw yn bwrw ymlaen â rhai o’r materion pwysig hyn. Cefais fy nharo’n arbennig gan berthnasedd ac amseroldeb ei waith ar Fanc Buddsoddi Ewrop, ac mae’n amlwg fod y gwaith hwn wedi cryfhau’r ffordd y mae Banc Buddsoddi Ewrop wedi bod yn ymwneud yn ddiweddar â Llywodraeth Cymru. Mae potensial enfawr gan Fanc Buddsoddi Ewrop i fod yn ffynhonnell o arian arloesi ac yn sicr mae mwy y gall Cymru ei wneud yn hyn o beth. Mae sylwebwyr gwrthrychol yn cadarnhau arwyddocâd cyfraniad Rhodri Glyn yn y maes hwnnw. Rwyf hefyd yn gobeithio y bydd Llywodraeth nesaf Cymru yn parhau i adeiladu ar y sylfeini rhagorol hyn.
 
Bydd argymhellion 2 a 3 o’r adroddiad ar yr angen am adolygiad o flaenoriaethau a strategaeth UE ddiwygiedig yn bwysig os yw hyn i wella ac atgyfnerthu llais Cymru ymhellach ym Mrwsel. Mae hefyd yn briodol fod yr adroddiad yn tynnu sylw at y gwaith a wnaed gan Mick Antoniw, a gyflwynodd y ddadl hon mor huawdl yn gynharach. Mae ei arweiniad mewn perthynas â’r argyfwng yn Ukrain yn bwysig iawn. Mae ei wybodaeth bersonol am y wlad a’i ddealltwriaeth ohoni’n galluogi Mick i chwarae rôl werthfawr fel llefarydd swyddogol ar argyfwng Ukrain o fewn y gynghrair flaengar o sosialwyr Ewropeaidd, y grŵp PES, gan ymweld ag Ukrain yn anterth y trais ac yn wir, wynebu amgylchiadau personol go beryglus ar adegau y pryd hwnnw, a chyfrannu at nifer o ddadleuon a mynychu nifer o gyfarfodydd lefel uchel, gan gynnwys gyda Dirprwy Brif Weinidog Llywodraeth Ukrain yn ôl yn 2014. Cefais fy nharo hefyd gan y geiriau dirdynnol a ddefnyddiodd yn gynharach ac yn wir, gan y cyfweliad a roddodd heddiw ar ei etifeddiaeth yn y ‘Western Mail’. Mae hyn i gyd yn berthnasol iawn i bwnc y ddadl heddiw.
 
I mi, dyma’n union y math o ddiplomyddiaeth sy’n dangos partneriaeth a chyd-drafod Ewropeaidd ar ei orau. Heb ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd, heb gael cynrychiolwyr mewn sefydliadau megis Pwyllgor y Rhanbarthau, mae’n sicr y byddai ein hawl a’n gallu i ddylanwadu, fel y dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, yn llawer iawn llai. Mae argymhelliad 1 o’r adroddiad hwn yn awgrymu y dylai’r Cynulliad fabwysiadu penderfyniad cyn diwedd y Cynulliad hwn yn datgan ei gefnogaeth i barhâd aelodaeth y DU o’r UE, ac rwy’n gwbl gefnogol i’r amcan hwnnw.
 
Wrth gwrs, mae yna resymau economaidd pam y dylem aros: cymorth arian strwythurol i’n cymunedau ôl-ddiwydiannol, cymorth i’n diwydiant ffermio a’r economi wledig ehangach. Ond fel y dywedais o’r blaen, i mi, mae’r Undeb Ewropeaidd yn ymwneud â llawer mwy nag arian, a llawer mwy, hyd yn oed, na swyddi. Gyda’i holl ddiffygion, mae’n dal i ymgorffori rhai o agweddau gorau’r ddynoliaeth yn gweithio gyda’i gilydd. Mae’n bell o fod yn berffaith, ond gwaith ar y gweill ydyw ac fel y cyfryw, mae’n destun eiddigedd y byd o ran magu democratiaethau. Gyda’i gilydd, mae’r UE wedi creu ardal masnach rydd fwyaf y byd, wedi sicrhau heddwch, ac yn parhau i roi cyfle i bobl Prydain fyw, gweithio a theithio’n rhydd. Mae Prydain yn well yn Ewrop, ac mae Ewrop yn well gyda Phrydain, gyda Chymru, yn ganolog iddi. Mae gwaith Pwyllgor y Rhanbarthau yn rhoi tystiolaeth werthfawr o’r ffaith honno.
 
15:22
Alun DaviesBywgraffiad
Fel eraill, croesawaf yn fawr yr adroddiad rydym yn ei drafod y prynhawn yma, ac rwy’n croesawu’r ffordd y cafodd ei gyflwyno gan fy nghyd-Aelod, Mick Antoniw. Rwy’n credu ei fod yn amlinellu’n dda iawn, nid yn unig y gwaith a wnaed gan y pedwar aelod sydd gennym ar Bwyllgor y Rhanbarthau, ond sut y gallant ddylanwadu ar, a llywio penderfyniadau a pholisïau ym Mrwsel ac yn sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd.
 
Rwy’n credu ei fod hefyd yn dangos pa mor bwysig yw ein gweledigaeth o Ewrop o bobloedd, Ewrop y bobl, ac nid Ewrop o wladwriaethau’n unig, lle y caiff pobl eu cynrychioli, lle y caiff gwasanaethau ac awdurdodau lleol eu cynrychioli, a lle y gallant lunio polisïau a gwaith y Comisiwn a phenderfyniadau’r Senedd a’r Cyngor. Rhaid bod hyn yn tramgwyddo rhai o’r ymynyswyr adain dde a glywsom ar y cyfryngau yn y dyddiau diwethaf. Nid yw’n fawr o syndod eu bod am dynnu allan o sefydliad sy’n rhoi sylw o’r fath i’r hyn y mae pobl yn ei ddweud a beth y mae pobl yn ei feddwl.
 
Rwy’n gobeithio y bydd y ddadl a gawn y prynhawn yma’n cyfoethogi’r ddadl gyffredinol a gawn ar yr Undeb Ewropeaidd, yn yr un modd ag y mae ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd yn cyfoethogi ein dadleuon ein hunain ar ein materion domestig ein hunain. Gwn fod y gwaith a wnaed gan Mick a Rhodri ar gronfeydd strwythurol, ar bolisi cymdeithasol, yr amgylchedd, ynni a datblygu gwledig wedi cael dylanwad go iawn dros y blynyddoedd, a gwn y bydd Joyce Watson, a ddaeth yn lle Mick, yn parhau i wneud y gwaith hefyd. Gwyddom y bu dylanwad go iawn ar broses y gyllideb ac ar gyflogaeth gyhoeddus o ganlyniad i’r gwaith a wnaed yma, a gwyddom hefyd fod yr effaith ar waith y Comisiwn wedi bod yn debyg i’r effaith ar waith Llywodraeth Cymru a Banc Buddsoddi Ewrop ac mae’r gwaith y maent wedi’i wneud ar lunio’r ffordd y gallwn fuddsoddi yn ein heconomi yn dyst i waith Pwyllgor y Rhanbarthau.
 
Fel eraill yn y ddadl hon, rwy’n cefnogi’n llawn yr argymhellion a wneir yn yr adroddiad hwn. Cytunaf yn gryf y dylai llais y Cynulliad Cenedlaethol hwn gael ei glywed yn y ddadl genedlaethol. Mae’n bwysig bod y Cynulliad yn lleisio ac yn arwain y ddadl yng Nghymru er mwyn siarad yn uchel am yr hyn mae’r Undeb Ewropeaidd yn ei olygu i ni, fel unigolion a phleidiau gwleidyddol, ond yn bwysicach efallai, fel pobl sy’n byw yn y wlad hon a phobl sy’n magu ein teuluoedd yn y wlad hon: fod yr Undeb Ewropeaidd yn rhan hanfodol o’n hunaniaeth ac fel Ewropeaid, ein bod eisiau parhau i fod yn rhan o’r undeb, ond hefyd ein bod am i’r sefydliadau yng Nghymru ymestyn, dyfnhau ac ehangu eu perthynas a’u gwaith gyda sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd. Mae’n iawn ac yn briodol ein bod yn adolygu ymgysylltiad Cymru â’r Undeb Ewropeaidd yn rheolaidd. Rwy’n gobeithio y byddwn yn gallu gwneud hynny.
 
Rwyf hefyd am archwilio ac adolygu strategaeth Llywodraeth Cymru a’i hymgysylltiad â sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd. Mae hwn yn fater a adlewyrchwyd yng ngwaith y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Rwy’n gobeithio y bydd y Cynulliad newydd yn ymgymryd â’r gwaith, ond yn sicr, mae’n rhaid i ni fel Cynulliad Cenedlaethol gael safbwynt ar y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd, a ffocws go iawn hefyd ar gyfeiriad ac amcanion y gwaith hwnnw.
 
Rwy’n gobeithio y byddwn, dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, yn gallu cyfrannu at ddadl gyfoethog ar ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd. Nid wyf yn credu y bydd pobl y wlad hon yn diolch i ni am ddadl sydd yn y bôn yn ddim mwy na thrafodaeth rhwng dau gyfrifydd ynglŷn â phris mantolen. Rwy’n gobeithio bod ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd yn rhan o’r math o wlad rydym eisiau i’r wlad hon fod yn y dyfodol. Rwy’n gobeithio ei fod yn ymwneud â phwy ydym, ein gwerthoedd diwylliannol, ein gwareiddiad ac yn ymwneud â’r math o Gymru rydym am ei chreu. Ni allwn greu’r math o Gymru rwyf am ei gweld yn y dyfodol drwy godi rhwystrau a chreu ffiniau, drwy bwyntio bysedd at bobl a llunio polisi ar sail gwahaniaeth.
 
Wrth i ni ddadlau a thrafod y materion sy’n ymwneud â Phwyllgor y Rhanbarthau y prynhawn yma, rwy’n gobeithio y gallwn hefyd ddechrau trafod o ddifrif y berthynas sydd gennym gyda’r Undeb Ewropeaidd, ac rwy’n gobeithio, o ganlyniad i’r ddadl honno, y byddwn yn cydnabod pwysigrwydd yr Undeb Ewropeaidd i ni, nid yn unig yn ariannol neu’n weithrediadol, ond i’r hyn ydym fel cymuned, fel gwlad, fel pobl ac fel cenedl.
 
15:26
Alun Ffred JonesBywgraffiad
Rwy’n falch iawn o gael cyfrannu at y drafodaeth. Mae Rhodri Glyn Thomas, fel rydych wedi ei glywed, ym Mrwsel heddiw yn adrodd yn ôl i un o bwyllgorau’r undeb, a dyma’i gyfarfod olaf cyn i’w aelodaeth o Bwyllgor y Rhanbarthau ddod i ben, ac mae o’n estyn ei ymddiheuriadau, wrth gwrs.
 
A gaf i ategu hefyd bopeth a ddywedodd Mick Antoniw, sydd wedi gosod y drafodaeth yma mewn cyd-destun eang y mae angen i ni ei ystyried yn llawn wrth i ni wynebu yr hyn sydd o’n blaenau ni, sef y drafodaeth yma ar ddyfodol Prydain o fewn yr Undeb Ewropeaidd? Mae hon yn flwyddyn arwyddocaol iawn, iawn, ac mae Plaid Cymru o’r farn, er mwyn sicrhau llwyddiant economaidd hirdymor Cymru a rhesymau eraill, ei bod yn bwysig ein bod ni’n parhau i fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd.
 
Mae Pwyllgor y Rhanbarthau yn gyfrwng pwysig er mwyn sicrhau bod aelodau rhanbarthol yr Undeb Ewropeaidd yn cael eu dweud, fel ffordd o ddylanwadu hefyd ar bolisïau yr undeb ei hun, ac, fel rydym ni wedi ei glywed, mae Rhodri Glyn Thomas wedi arwain ar yr amgylchedd ac ynni, ac mae o wedi siarad yn rheolaidd yn ystod sesiynau cyfarfod llawn Pwyllgor y Rhanbarthau ar nifer o bynciau, gan gynnwys cyllid a chyllideb yr undeb, agenda diwygio’r undeb, cyflogaeth, a’r argyfwng ffoaduriaid, gan roi safbwynt Cymreig i’r materion hyn.
 
Mae’n amlwg hefyd o’r adroddiad bod gan y ddirprwyaeth o Gymru ar Bwyllgor y Rhanbarthau berthynas waith ardderchog ag Aelodau Cymru o Senedd Ewrop, ac maen nhw yn cyfarfod yn rheolaidd ac mewn digwyddiadau yr Undeb Ewropeaidd yn ôl yng Nghymru, ac mae Aelodau Cymru o Senedd Ewrop wedi cael gwahoddiad i gyfrannu eu barn wrth baratoi safbwyntiau drafft Pwyllgor y Rhanbarthau. Felly, mae hynny i gyd yn arwydd bod gennym ni agwedd aeddfed tuag at y sefydliadau o fewn yr undeb.
 
Mae Dafydd Elis-Thomas wedi cyfeirio at y defnydd o’r Gymraeg ym Mrwsel, ac mae Rhodri Glyn wedi cyflwyno pob un o’r pedwar o’i adroddiadau yn y Gymraeg yn y cyfarfodydd llawn, gan wneud defnydd o gytundeb a lofnodwyd rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Phwyllgor y Rhanbarthau ym mis Tachwedd 2008, sy’n galluogi’r Gymraeg i gael ei defnyddio yn swyddogol.
 
The term is ‘rapporteurism’, I believe, and it’s one of the most effective means of influencing the policy of the European Union. Rhodri Glyn has spoken regularly on marine energy, and, as has already been said, he presented an opinion on developing the potential of marine energy in March 2015, and that report was adopted at the plenary in October 2015. Ocean energy, of course, is extremely relevant to us here in Wales. It does offer huge potential to address the great challenges as regards climate change and to develop renewable energy, which has the potential of creating a number of jobs and economic growth.
 
Mae yna amcangyfrif y gall hyd at 0.5 miliwn o swyddi gael eu creu o fewn yr Undeb Ewropeaidd erbyn 2050, a 26,000 yn uniongyrchol erbyn 2020, o ddatblygu yr adnodd hwn yn y dyfodol. Ac mae nifer o brosiectau, wrth gwrs, ar hyd a lled yr Undeb Ewropeaidd, sydd yn chwilio am ffyrdd o fanteisio ac i ddatblygu yr ynni yma. Mae yna bedwar o’r rheini yng Nghymru, ac mae gan yr Alban, wrth gwrs, gynllun tyrbin grid cymunedol—pŵer morol cyntaf y Deyrnas Unedig—yn Shetland.
 
Wrth gwrs, nid yw’r aelod-wladwriaethau bob amser mor frwd ag y mae’r rhanbarthau wedi bod o ran datblygu ynni adnewyddol, ond mae Pwyllgor y Rhanbarthau wedi galluogi i’r farn yma, ac i’r sylwadau yma, gael eu clywed yn eang. Felly, mae Pwyllgor y Rhanbarthau yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod llais y rhanbarthau yn cael ei glywed ar faterion pwysig fel hyn, yn enwedig pan fod yna, efallai, wahaniaeth rhwng yr aelod-wladwriaeth a’r rhanbarthau.
 
Felly, a gaf fi groesawu’r adroddiad, a’r cyfle yma i gyfrannu at drafodaeth adeiladol, sydd yn ceisio gosod Cymru yng nghyd-destun Ewrop, fel y dylai hi fod? Ac rydym ni hefyd yn gefnogol i welliant y Rhyddfrydwyr, wrth gwrs, am y rhesymau sydd wedi cael eu datgan eisoes. Diolch yn fawr.
 
15:32
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Galwaf ar Mick Antoniw i ymateb i’r ddadl.
 
15:32
Mick AntoniwBywgraffiad
A gaf fi yn gyntaf oll ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan, gan y credaf fod hon wedi bod yn ddadl o ansawdd, am ei bod wedi ymwneud â gweledigaeth, yn hytrach na mantolen, fel y soniodd un siaradwr? A gaf fi, yn arbennig, fodd bynnag, ddiolch i David Melding am ei sylwadau, gan mai’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol yw’r corff a fu’n gwerthuso rhai o’r datblygiadau yn Ewrop yn y modd mwyaf cyson a thrwyadl, ac a fu’n gwerthuso hefyd ein rôl mewn perthynas ag Ewrop, ein hymwneud â hi, a natur gyfansoddiadol y cysylltiadau penodol hynny? Ac yn wir, mae’r ffaith ein bod ar y cam rydym wedi’i gyrraedd heddiw yn deillio o hynny’n rhannol, a ninnau am y tro cyntaf erioed ers sefydlu’r Cynulliad, yn siarad am rôl rhai o’r swyddogaethau pwysig hyn.
 
Rydym yn gwbl sicr ynglŷn â’r hyn yw rôl wirioneddol Pwyllgor y Rhanbarthau, a lle y mae’n sefyll mewn perthynas â—boed yn Senedd Ewrop neu sefydliadau eraill. Ond yr hyn ydyw yw llais i Gymru yn Ewrop. Mae’n gyfle i ddod i gysylltiad â’r Comisiwn. Mae’n gyfle i ymgysylltu â llawer o rannau eraill o Ewrop gyda materion tebyg iawn, problemau tebyg iawn, lle y gallwn rannu’r hyn rydym yn ei wneud, a gallant hwythau hefyd. Y gallu hwnnw i ymgysylltu sydd mor hanfodol bwysig. A’r ymgysylltiad hwn sydd wedi bod mor bwysig i ddatblygiad y democratiaethau mwy newydd yn Ewrop, er enghraifft, sy’n wynebu llawer o heriau, ond sydd wedi trawsnewid o fod yn wledydd unbenaethol i fod yn wledydd democrataidd bellach.
 
Dafydd Elis, fe nodoch gyfres o sylwadau am bwysigrwydd partneriaeth—ac rwy’n meddwl bod y siaradwyr i gyd, o William Powell i Alun Davies ac Alun Ffred wedi gwneud hynny—ein bod mewn gwirionedd yn gweld bod hyn yn ymwneud â beth yw ein rôl, rôl Cymru, yn rhan o fyd mwy o faint, a sut rydym yn ymgysylltu. Ac rwy’n meddwl, i bawb, gallwn siarad, gallwn ddweud, ‘Wel, wrth gwrs, ydy, mae Cymru £836 miliwn y flwyddyn yn well ei byd o fod yn Ewrop’, ac yn y blaen. Ond mae yna weledigaeth lawer mwy yn rhan o hynny, a dyna fydd y dyfodol.
 
Mae hyn yn ymwneud â dyfodol Cymru, dyfodol y Deyrnas Unedig ac yn wir, dyfodol Ewrop, a’r byd, oherwydd mae’r hyn sy’n digwydd mewn gwahanol rannau o Ewrop—ni allwn osgoi’r canlyniadau. Mae ansefydlogrwydd, tensiwn a gwrthdaro sy’n digwydd mewn un rhan o’r byd, neu mewn un rhan o Ewrop, yn effeithio arnom ni. Ac fel gwlad, gallwn naill ai fod yn rhan o’r dod at ein gilydd i gyflawni atebion i adeiladu ffyniant a heddwch, neu gallwn guddio, gallwn dynnu’n ôl, gallwn edrych yn ôl at y cyfnod cyn 1948, gyda’r holl ganlyniadau. Felly, pan ddywedais—nid rhyw fath o sylw bachog yn unig oedd hyn, pan ddywedais fy mod yn meddwl bod perygl o greu llen haearn newydd yn Ewrop—mae yna berygl. Drwy’r ddadl, rydym yn siarad am y posibilrwydd o ailsefydlu llen haearn newydd sy’n ein gwahanu rhag pobl eraill sydd â’r un buddiannau a’r un amcanion â ni.
 
Diolch i bawb am eu cyfraniadau. Rwy’n sicr yn gobeithio y bydd unrhyw drafodaeth yn y dyfodol ynglŷn â’r materion hyn o’r un ansawdd a’r un weledigaeth a’r un edrych tua’r dyfodol ar gyfer ein cenhedlaeth iau ac ar gyfer holl bobl Cymru a’r DU, nodwedd y credaf ei bod ar goll o lawer o’r drafodaeth hyd yn hyn, yn anffodus. Rwy’n credu bod ein hymwneud ym Mhwyllgor y Rhanbarthau a chyfranogiad y pedwar Aelod—roedd Christine Chapman o fy mlaen i. Rwy’n credu ei bod yn iawn cydnabod y gwaith sylweddol sydd wedi digwydd a sut y mae angen i ni glymu hynny mewn gwirionedd o fewn ein strwythur a’n hymgysylltiad yn Ewrop ar gyfer y dyfodol, ac rwy’n gobeithio’n fawr iawn y bydd yn parhau am flynyddoedd lawer i ddod. Diolch.
 
15:35
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Y cynnig yw derbyn gwelliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad]. Gwrthwynebiad. Felly, gohiriaf yr holl bleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
 
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
 
6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Democratiaeth Leol
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Elin Jones, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Aled Roberts. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael ei ddad-ddethol.
 
15:36
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at eitem 6, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Galwaf ar Janet Finch-Saunders i gynnig y cynnig.
 
Cynnig NDM5976 Paul Davies
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
 
1. Yn cydnabod pwysigrwydd rhoi'r grym i unigolion a grwpiau cymunedol fynd i'r afael â materion o bwys lleol;
 
2. Yn croesawu'r ymgyrch i sbarduno refferendwm ar gyfer cyflwyno maer a etholir yn uniongyrchol i Gaerdydd ac yn nodi'r rhan y gallai rôl debyg ei chwarae ledled Cymru o ran gwella democratiaeth, atebolrwydd a'r broses o wneud penderfyniadau ar y lefel leol;
 
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i feithrin cenedl o ddinasyddion gweithgar a gwybodus sy'n cymryd rhan ac yn ymgysylltu drwy:
 
(a) cyflwyno refferenda ar gynlluniau arfaethedig i uno cynghorau a chynyddu treth gyngor awdurdodau lleol uwchlaw trothwy penodol fel bod unigolion yn cael mwy o lais mewn perthynas â sut y caiff penderfyniadau eu gwneud yn eu hardal;
 
(b) cyflwyno pwerau newydd i wella'r broses o gynnwys unigolion mewn penderfyniadau lleol allweddol, fel yr hawl gymunedol i wneud cais a'r hawl gymunedol i herio, oll o dan agenda hawliau cymunedol; ac
 
(c) gostwng y trothwy ar gyfer deiseb i sbarduno refferendwm ar feiri a etholir yn uniongyrchol mewn ardal.
 
Cynigiwyd y cynnig.
 
15:36
Janet Finch-SaundersBywgraffiad
Diolch i chi, Lywydd. Cynigiaf y cynnig heddiw yn enw Paul Davies AC.
 
Rwy’n falch iawn i arwain ar y ddadl hon, un sy’n canolbwyntio i raddau helaeth ar wir ystyr datganoli, ac wrth hynny, yr hyn rwy’n ei olygu yw datganoli grym gwirioneddol i’n cymunedau a’n pobl leol. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw’n fynych ar Weinidogion i ddangos mwy o hyder, mwy o barch ac i roi mwy o rym i’n cymunedau a’u pobl ar draws Cymru—ac yn unman yn fwy felly nag yn fy etholaeth i, sef Aberconwy. Cawsom ein bendithio gan lawer o unigolion a grwpiau gweithgar a chydwybodol, sy’n gweithio ddydd ar ôl dydd ym mhob tywydd i wneud tamaid bach o wahaniaeth i’w cymuned leol. Gall fod ar brosiect arbennig i godi arian ar gyfer elusen neu mae’n bosibl fod y fyddin hon o wirfoddolwyr yn gweithio yn un o’n cyrff elusennol niferus i’w cynorthwyo i gyrraedd eu nodau, unwaith eto, i wneud gwahaniaeth i fywydau’r rhai sy’n byw yn ein cymunedau. Y bobl hyn yw arwyr di-glod ein trefi a’n pentrefi ac yn aml iawn, ni chânt unrhyw gydnabyddiaeth o gwbl. Wel, heddiw, Aelodau, hoffwn gofnodi fy niolch o galon i’r holl hyrwyddwyr cymunedol hynny ar draws Cymru sy’n bwrw iddi’n dawel ac yn ddiffwdan ond gan wneud cymaint o wahaniaeth. Rwy’n talu gwrogaeth iddynt oll.
 
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn credu’n gryf yn ein cymunedau ac yn yr arwyr cymunedol hyn. Ond credwn hefyd y dylent gael eu grymuso i ymateb i unrhyw her sy’n codi ac a allai eu hwynebu. Gallai fod yn drefnu ymgyrch i achub tafarn leol, llyfrgell gymunedol neu adeilad cyhoeddus. Yn aml, mae’r rhain yn cynnwys yr angen i godi arian yn y tymor hir, ond gall sefydlu cyfansoddiad i gynnwys swyddi a enwir yn benodol fel cadeirydd a thrysorydd, a chynnal cyfarfodydd cyffredinol blynyddol ac yn y blaen ymddangos yn anodd iawn ar y dechrau. Credwn mai dyma’r adeg y bydd angen cefnogaeth ac arweiniad proffesiynol o’r fath ac rydym hefyd yn teimlo y dylid cael cefnogaeth ac arweiniad o’r fath. Gallai cyrff fel Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ac awdurdodau lleol gael eu grymuso ymhellach i helpu’r grwpiau hyn. Ond y rhwystr mwyaf i ni yng Nghymru, wrth gwrs, yw nad ydym bob amser yn gwybod pwy sy’n berchen ar adeilad penodol sydd o ddiddordeb—a dyna pam ei bod yn hanfodol cael cofrestr leol a chenedlaethol o asedau cymunedol a’i bod yn cael ei chyhoeddi’n lleol i bawb ei gweld ac ar gael ar-lein.
 
O dan y Blaid Lafur yma, rydym wedi gweld gwrthodiad haerllug i roi pwerau newydd i’n pobl i herio a llunio’r broses o wneud penderfyniadau, gydag awdurdodau lleol yn dal heb fod o dan rwymedigaeth ar hyn o bryd i drosglwyddo asedau cymunedol. Yn lle hynny, rydym wedi gweld agenda ganolog o’r brig i lawr. Mae’r modd y mae cynlluniau uno awdurdodau lleol sydd ar ddod wedi’u gwthio drwodd heb ymgysylltiad cymunedol, y cynnydd afresymol blynyddol yn y dreth gyngor a natur unbenaethol Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 i gyd yn enghreifftiau gwych o hyn. Rwyf i a fy nghyd-Aelodau wedi galw’n gyson yn y modd cryfaf ar y Llywodraeth hon i fabwysiadu nifer o’r erthyglau yn Neddf Lleoliaeth 2011, Deddf sydd eisoes yn effeithio’n sylweddol a chadarnhaol ar fywydau nifer o grwpiau cymunedol ac unigolion ar draws y wlad.
 
Cafodd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ei hun ar ddiogelu asedau cymunedol ymateb hynod o ffafriol i’r union beth rydym yn galw amdano heddiw. Ond anwybyddwyd hyn i raddau helaeth gan y Llywodraeth hon, gyda 59 y cant o’r rhai a ymatebodd i’r arolwg cenedlaethol ar gyfer Cymru yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf eu bod yn teimlo y gallent ddylanwadu ar benderfyniadau lleol. Ers ei gyflwyno yn 2012, mae’r nifer sy’n manteisio ar hawl y gymuned i wneud cais wedi cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae mwy na 2,600 o asedau sy’n annwyl i bobl yn awr wedi’u rhestru ledled y wlad, gan gynnwys bron i 900 o dafarnau, a throsglwyddwyd 150 o asedau i berchnogaeth y gymuned.
 
Yn ddiweddar, pan ofynnais y cwestiwn yma, nid oedd y Gweinidog yn gallu ymateb a phan ofynnwyd faint o asedau cymunedol o’r fath a gadwyd gan unigolion neu grwpiau lleol, dywedodd y byddai’n dod yn ôl ataf. Rwy’n dal i aros am yr ateb hwnnw.
 
Yn dilyn ei hymgynghoriad ar asedau o werth cymunedol, dywedodd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi:
 
‘Bydd angen i Lywodraeth yn y dyfodol ystyried deddfu mewn perthynas ag asedau cymunedol.’
 
Wel, rwy’n dweud wrthych, bydd Llywodraeth Geidwadol yng Nghymru yn datganoli pwerau sylweddol yn fwy lleol, gan ein bod yn credu mai ein hyrwyddwyr lleol a chymunedol sy’n gwybod orau. Er bod yr hawl i wneud cais wedi’i rhoi i gymunedau yn Lloegr bedair blynedd yn ôl, yma yng Nghymru, rydym yn dal i aros am gychwyn Pennod 3, Rhan 5 o Ddeddf Lleoliaeth 2011. Mae hyn er gwaethaf cyfaddefiad y Gweinidog ei hun, yn ei datganiad ym mis Rhagfyr, fod
 
‘llawer iawn o gefnogaeth i sefydlu cynllun ar gyfer Cymru’
 
yn debyg i’r hawl i wneud cais—anwybyddwyd hyn yn llwyr.
 
Mae Llafur wedi’i gwneud yn gynyddol anodd i bobl leol leisio barn ar faterion sy’n effeithio ar y ddarpariaeth o wasanaethau lleol hanfodol. Mae’r ymgyrch i sbarduno refferendwm lleol ar faer a etholir yn uniongyrchol i Gaerdydd yn newyddion da iawn, ac mae llawer o gefnogaeth i hynny yma ar y meinciau hyn. Fodd bynnag, mae’r gefnogaeth o 10 y cant sy’n ofynnol i sbarduno refferendwm o’r fath yn ddwbl y 5 y cant sy’n ofynnol yn Lloegr.
 
Gallai rhywun ofyn pam fod agwedd y Llywodraeth hon mor negyddol? A yw Llywodraeth Lafur Cymru yn ofni’r posibilrwydd fod cymuned a phobl Caerdydd yn gwybod yn well beth y maent ei eisiau, a sut y maent am ei gael? Rydym yn galw heddiw am fod yn gyfartal â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig wrth alw am refferendwm ar feiri a etholir yn uniongyrchol.
 
Byddai’r Ceidwadwyr Cymreig mewn Llywodraeth hefyd yn cyflwyno pwerau cymunedol newydd i herio’r ffordd y mae awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau o dan agenda hawliau cymunedol, gan ganiatáu i bobl leol gael y gallu i ddylanwadu ar gynllunio yn eu cymunedau, i redeg gwasanaethau eu hunain, a’r gallu i wneud cynnig neu gais am adeilad neu leoliad y maent yn teimlo ei fod yn amwynder lleol ac sydd o ddiddordeb arwyddocaol. Nid ydym ychwaith yn celu rhag galw am refferenda mewn achosion o godiadau gormodol yn y dreth gyngor, gan roi cyfle i wahardd neu gymeradwyo penderfyniadau pwysig o’r fath.
 
Wrth gwrs, mae’r Ceidwadwyr Cymreig hefyd yn credu’n gryf iawn fod gan ein trigolion a thalwyr y dreth gyngor yr hawl—ac yn gwybod yn well na neb arall sut y maent am i’r arian hwn gael ei wario, a phan roddir swm canlyniadol i rewi’r dreth gyngor, mae rhoi’r arian hwnnw yn ôl yn eu pocedi gryn dipyn yn well na’i weld yn cael ei wastraffu yma gan adrannau Llywodraeth ar fentrau eraill heb unrhyw ganlyniadau ymarferol neu ystyrlon. Ar ben hynny, mae gan lawer o awdurdodau lleol arian a neilltuwyd ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned, ac eto faint o’n hetholwyr sy’n gwybod hyn hyd yn oed?
 
Sir Fynwy dan arweiniad y Ceidwadwyr—yr awdurdod sy’n arwain y ffordd—un o’r awdurdodau cyntaf un i gynnal digwyddiadau ymgynghori rheolaidd iawn, gan alluogi preswylwyr i leisio barn ar sut y dylid gwario eu harian ac ar beth. Ac er bod y syniad yn dwyn ffrwyth mewn mannau eraill, mae awdurdodau eraill yn bwrw ymlaen gyda’u cynlluniau eu hunain i dorri gwasanaethau hanfodol wrth chwilio am arbedion effeithlonrwydd.
 
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy—yn ddiweddar iawn yn lleihau casgliadau biniau i bob pedair wythnos. Rwy’n diolch i fy nghyd-Aelod Darren Millar y bûm yn gweithio gydag ef ar hyn, ac mae ein deisebau ar-lein wedi denu llawer o gefnogaeth gan gannoedd o etholwyr. Codi taliadau parcio ym mhob maes parcio am ddim a chyrchfannau twristiaeth poblogaidd a chael gwared ar wasanaeth bws rhif 19—gwasanaeth hanfodol i’n hardaloedd mwy gwledig. Mae hyn i gyd wedi digwydd heb unrhyw ymgynghori o gwbl â’r rhai y mae’n effeithio arnynt.
 
Bydd y cynigion a gyflwynwyd heddiw gan y Ceidwadwyr Cymreig yn rhoi parch, ymddiriedaeth a grym yn ôl i’n cymunedau ac i’n pobl leol. Rwy’n eich annog i gyd i gefnogi’r amcanion hyn.
 
15:44
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Galwaf ar Simon Thomas i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Elin Jones.
 
Gwelliant 1—Elin Jones
 
Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:
 
Yn credu bod cynigion Plaid Cymru ar gyfer ymgysylltu lleol, a nodir yn y papur ar ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus, yn darparu sail gadarnhaol i gyrraedd y nod o rymuso unigolion yn y Cynulliad nesaf.
 
Cynigiwyd gwelliant 1.
 
15:45
Simon ThomasBywgraffiad
Diolch i chi, Lywydd, a chynigiaf welliant 1. Fel y gallwn ddweud o’r gwelliant, rydym yn cytuno â’r Ceidwadwyr ar bwynt cyntaf y cynnig hwn ac ar fawr ddim arall iawn, yn sicr ar fawr iawn arall y soniodd llefarydd y Ceidwadwyr amdano.
 
Rwy’n credu mai peth eithaf rhyfedd yw siarad am atebolrwydd mewn llywodraeth leol heb gydnabod bod atebolrwydd llywodraeth leol yn deillio’n bennaf o etholiadau ac mai’r hyn y dylem ei wneud o ran cryfhau atebolrwydd yw cryfhau cyfrifoldeb cynghorwyr lleol dros eu wardiau drwy gyflwyno’r bleidlais sengl drosglwyddadwy neu system bleidleisio fwy teg. Dylem ei gefnogi drwy’r cynnydd yng nghynrychiolaeth ein cynghorwyr—mwy o fenywod, mwy o bobl ifanc, mwy o bobl ag anableddau yn gallu cymryd rhan mewn trafodaethau cyngor a sefyll etholiadau. Dyna’r mater go iawn yma, nid rhyw ymagwedd gul tuag at wneud penderfyniadau unigol gan gymunedau fel y nododd llefarydd y Ceidwadwyr. Rwy’n ofni ei bod hi wedi gwneud hynny.
 
15:46
Janet Finch-SaundersBywgraffiad
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
 
15:46
Simon ThomasBywgraffiad
O, o’r gorau.
 
15:46
Janet Finch-SaundersBywgraffiad
A ydych yn dweud, felly, fel Aelod, nad ydych yn cytuno y dylid rhoi grym yn ôl yn nwylo ein cymunedau lleol a’r bobl rydym yn eu gwasanaethu?
 
15:46
Simon ThomasBywgraffiad
Na, nid wyf yn dweud hynny. Dyna pam y dywedais ein bod yn cytuno â phwynt cyntaf eich cynnig, ond rwy’n nodi ein cynigion amgen, rwy’n meddwl, yn ein gwelliant. Rwy’n dweud bod cryfder a chyfrifoldeb ac atebolrwydd yn bendant yn deillio o etholiadau democrataidd ac ymgynghori ar ôl hynny, ydw, ond nid, rwy’n ofni, ymgynghori—er enghraifft, refferenda ar y cynigion unigol ar gyfer uno, sydd mewn gwirionedd yn ddim ond deilen ffigys dros eich embaras nad oes gennych bolisi cenedlaethol neu weledigaeth genedlaethol neu unrhyw syniad cenedlaethol o sut y dylai llywodraeth leol weithio ar y cyd â llywodraeth genedlaethol neu lywodraeth ranbarthol yng Nghymru. Nid yw refferenda lleol yn ddim ond deilen ffigys i guddio diffyg polisi yn y cyd-destun hwnnw.
 
Rwy’n credu ei bod hefyd yn eironig eich bod wedi dewis trafod meiri etholedig heddiw ar yr union adeg pan fo’ch plaid yn cael ei rhwygo yn ei hanner gan faer etholedig yn herio eich Prif Weinidog ac yn anghytuno â chynigion y Llywodraeth. Yn aml iawn, nid yw meiri etholedig ond yn ffynhonnell amgen o rym i herio’r corff arall a allai fod â rôl ehangach yn gynrychiadol.
 
15:47
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
 
15:47
Simon ThomasBywgraffiad
O’r ymgyrch dros adael, fe wnaf yn sicr.
 
15:47
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
Ie, ac ymgyrchydd balch hefyd. Yr hyn rwy’n eithaf dryslyd yn ei gylch yma yw bod eich Rhif 2 ar restr ranbarthol de Cymru, Neil McEvoy, yn gwbl gefnogol i sefydlu maer a etholir yn uniongyrchol yma yng Nghaerdydd, mae wedi bod yn lansiad yr ymgyrch, ac eto rydych yn gwrthddweud yr hyn y mae ef yn ei ddweud. Beth yw safbwynt Plaid Cymru ar hyn?
 
15:47
Simon ThomasBywgraffiad
Nid wyf yn gwrthddweud Neil McEvoy o gwbl. Mae safbwynt Plaid Cymru yn glir iawn. Os yw pobl Caerdydd am gael maer etholedig, gallant gael refferendwm a gallant gael maer etholedig. Mae’n rhaid i mi ddweud wrth Andrew R.T. Davies fy mod wedi hen arfer ymgyrchu dros feiri etholedig. Ceredigion yw’r unig ran o Gymru sydd wedi mynd drwy hyn yn y gorffennol o dan y ddeddfwriaeth bresennol, ac mae Elin Jones a minnau wedi hen arfer ymgyrchu dros hynny. Ni allwn ddweud a oedd yn gywir ai peidio fod pobl Ceredigion wedi gwrthod maer etholedig. Y cyfan rwy’n ei gofio yw hyn: roedd y nifer ar y ddeiseb yn galw am y refferendwm yn uwch na’r bobl a gymerodd ran mewn gwirionedd ac a bleidleisiodd dros y maer yn y pen draw. Felly, weithiau, mae refferenda a deisebau dros feiri etholedig yn ymwneud mwy â diffyg arweinyddiaeth yn yr awdurdod lleol a diffyg arweinyddiaeth gan y Blaid Lafur leol, efallai, nag y maent yn ymwneud â rhinweddau meiri etholedig neu fel arall—[Torri ar draws.] Wel, nid oedd Ceredigion dan arweiniad Plaid Cymru ar yr adeg honno, gallaf ddweud wrthych. Câi ei harwain gan griw o annibynwyr ceidwadol—gadewch i ni ei roi felly.
 
Felly, pan edrychwn ar ddyfodol llywodraeth leol, mae’n rhaid i ni gael dull cydlynol sydd ar gael yn genedlaethol i bob rhan o Gymru, nid rhywbeth sy’n adeiladu ar sail un ardal unigol yng Nghymru yn dweud, ‘Nid ydym yn gallu cydweithio ag ardal arall oherwydd cawsom refferendwm gyda 12 y cant o’r boblogaeth yn pleidleisio’, sef y nifer a bleidleisiodd yng Ngheredigion, er enghraifft. Felly, mae’n rhaid i ni fod yn ofalus, rwy’n meddwl, fod yn rhaid i ni gael ymdeimlad o strategaeth genedlaethol, pwrpas cenedlaethol, gweledigaeth genedlaethol ac felly, cyflawniad cenedlaethol ynghyd â phartneriaid mewn llywodraeth leol. Dyna pam y mae ein gwelliant yn cyfeirio yn syml iawn at ein cynigion ar gyfer diwygio llywodraeth leol. Efallai nad ydych yn cytuno â hwy; rwy’n derbyn hynny. Ond mae yna etholiad yn dod ym mis Mai pan fydd pobl Cymru yn penderfynu ar natur llywodraeth leol yng Nghymru gan y byddant yn dewis y Llywodraeth a fydd yn cyflawni hynny. Rwy’n credu mai un peth y gallwn gytuno arno yn y fan hon—ond yn anffodus rwy’n difaru nad yw’r Blaid Geidwadol i’w gweld yn cytuno ar hyn—yw bod llywodraeth leol, yn dilyn sefydlu llywodraeth genedlaethol yng Nghymru, angen ei diwygio, angen ei had-drefnu ac angen ailedrych arni. Rwy’n dal i aros am weledigaeth y Blaid Geidwadol ar hynny.
 
15:49
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Galwaf ar Peter Black i gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Aled Roberts. Peter Black
 
Gwelliant 2—Aled Roberts
 
Dileu pwynt 2.
 
Gwelliant 3—Aled Roberts
 
Dileu pwynt 3(a) a rhoi yn ei le:
 
cyflwyno pleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau llywodraeth leol er mwyn sicrhau bod cynghorwyr yn fwy atebol i’w hetholwyr.
 
Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.
 
15:50
Peter BlackBywgraffiad
Diolch i chi, Lywydd. A gaf fi gynnig gwelliannau 2 a 3 yn enw Aled Roberts a dechrau drwy ddweud fy mod yn cytuno gydag ychydig mwy o’r cynnig hwn na Simon Thomas, ond nid yw hynny’n golygu fy mod yn cytuno â phob rhan ohono, a dyna pam rydym wedi cyflwyno’r gwelliannau hyn? Yn benodol, rwy’n cytuno, fel y gwnaeth Simon Thomas, ynghylch pwysigrwydd rhoi grym i unigolion a grwpiau cymunedol fynd i’r afael â materion o bwys yn lleol.
 
Rwy’n cytuno gyda Simon fod atebolrwydd yn dod drwy etholiadau lleol, ond byddwn yn ychwanegu hefyd fod angen i ni gael proses ymgynghori a grymuso ystyrlon yn rhan o hynny, a dyna pam rydym yn hapus i gefnogi 3(b) yn y cynnig penodol hwn, oherwydd rwy’n meddwl ei bod yn hen bryd i lawer o gynghorau Cymru gael yr hawliau a gyflwynwyd yn Lloegr, ac na fanteisiwyd arnynt yma yng Nghymru. Credaf y byddai cynnwys unigolion mewn penderfyniadau lleol allweddol a sicrhau hawl y gymuned i wneud cais a hawl y gymuned i herio ac agenda hawliau cymunedol yn helpu i drawsnewid y ffordd y mae llywodraeth leol yn cael ei rhedeg yng Nghymru. Yn sicr, rydym yn barod i gefnogi’r agwedd benodol honno o’r cynnig hwn.
 
O ran gweddill y cynnig, rwy’n meddwl bod yna rai materion eraill sydd angen rhoi sylw iddynt. Yn amlwg, o ran y refferendwm i ethol maer yn uniongyrchol yng Nghaerdydd, nid wyf mewn sefyllfa i fynegi barn ar hynny oherwydd nid wyf yn cynrychioli Caerdydd, ac rwy’n credu ei bod yn bwysig nad wyf yn sefyll yma a dweud beth sy’n iawn a beth nad yw’n iawn i Gaerdydd—mater i bobl yng Nghaerdydd eu hunain yw hynny. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw fy mod wedi siarad â fy mhlaid yng Nghaerdydd ac nid ydynt yn gefnogol i’r refferendwm hwn ar hyn o bryd, a’r rheswm y maent wedi’i roi dros hynny, a chredaf ei fod yn rheswm dilys iawn, yw oherwydd, gyda’r posibilrwydd o ad-drefnu llywodraeth leol, nid yw’r amser yn iawn i gael refferendwm o’r fath. Os ydych yn mynd i gael refferendwm, gadewch i ni gael strwythur sefydlog a ffiniau sefydlog ar gyfer ardal Caerdydd ar gyfer cael y refferendwm hwn, fel ein bod yn gwybod yn union pwy fyddai’r maer yn ei gynrychioli a pha ardaloedd y byddai’r maer yn eu cynrychioli. Rwy’n meddwl, o ran hynny, fod y cymal penodol hwn yn y cynnig yn gynamserol. Rwy’n credu hefyd nad yw’n briodol i’r Cynulliad hwn ddyfarnu ynglŷn â chael refferendwm. Unwaith eto, mater i bobl Caerdydd yw hynny ac ni fyddwn am gefnogi dim sy’n ceisio achub y blaen ar yr hyn y mae pobl Caerdydd am ei wneud.
 
Fel mae’n digwydd, rwy’n weddol agored i’r syniad o feiri etholedig. Rwyf wedi bod yn meddwl am hyn ers amser hir iawn. Rwy’n gwybod, yn achos Abertawe—ac mae angen i mi ddatgan buddiant fel aelod o Gyngor Dinas a Sir Abertawe, Lywydd—lle rwy’n dal yn gynghorydd, rwy’n digwydd meddwl mewn gwirionedd y gallai cael maer etholedig ar gyfer Abertawe newid y dynamig, os mynnwch, o ran helpu Abertawe i gael ei chlywed yn well yng Nghymru ac mewn mannau eraill. Ond unwaith eto, mater i bobl Abertawe yw hynny a dyna fy marn bersonol, ac mae angen i mi ddwyn perswâd ar fy mhlaid ynghylch hyn a bydd angen i mi berswadio pobl Abertawe ynghylch hyn hefyd. Felly, mae hwn yn fater sydd angen ei benderfynu, rwy’n meddwl, mewn ffordd ddemocrataidd ac nid lle’r Cynulliad hwn yw gwneud y penderfyniad ar ran Caerdydd, neu hyd yn oed Abertawe, neu unrhyw ran arall o Gymru.
 
O ran y gwelliannau eraill rydym wedi eu rhoi i mewn, nid wyf yn arbennig o hoff o refferenda ar gamau arfaethedig i uno cynghorau a chodiadau yn nhreth gyngor awdurdodau lleol. Mae gennym ddemocratiaeth gynrychiadol. Mae gennym gynghorwyr etholedig i wneud y penderfyniadau hynny. Gellir eu gwneud yn atebol, yn enwedig os oes gennych system etholiadol fwy ystyrlon, fel y disgrifiodd Simon Thomas—pleidlais sengl drosglwyddadwy, sy’n golygu bod y cynghorwyr sy’n cael eu hethol yn fwy cynrychiadol o’r bobl sy’n pleidleisio. Mae canlyniad yr etholiadau hynny’n adlewyrchu’r ffordd y mae pobl wedi pleidleisio, ac mae hynny’n eu gwneud yn fwy cynrychiadol. Oherwydd eu bod yn fwy cynrychiadol, maent yn fwy atebol sy’n gwella’r broses o wneud penderfyniadau ac yn gwneud penderfyniadau’n fwy tryloyw. Rwy’n meddwl os oes gennych y system honno ar waith, nid oes angen i chi gael y refferenda cyson hyn. Yr hyn y gallwch ei wneud, fodd bynnag, yw cael prosesau ymgynghori gwell, grymuso gwell ac rwy’n meddwl y byddai hynny’n sicr yn gwella pethau. Mike.
 
15:53
Mike HedgesBywgraffiad
Hefyd, gyda’r bleidlais sengl drosglwyddadwy, mae gennych wardiau mawr iawn lle y mae cynghorwyr yn bell iawn oddi wrth yr aelodau. Onid yw hynny’n wir?
 
15:54
Peter BlackBywgraffiad
Wel, Mike, mae’n ymddangos ei bod yn gweithio’n dda iawn yn yr Alban, sydd ag ardaloedd gwledig mawr, ac yng Ngogledd Iwerddon hefyd. Wrth gwrs, yn yr ardal rydych chi a minnau’n ei chynrychioli, mae gennym wardiau mawr yn ogystal â phoblogaethau mawr. Felly, mae’r bleidlais sengl drosglwyddadwy yn gweithio yn y wardiau hyn sydd â mwy nag un aelod, hyd yn oed mewn ardaloedd gwledig, fel y dangoswyd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac wrth gwrs, yng Ngweriniaeth Iwerddon yn ogystal. Nid wyf yn credu bod hynny’n rhwystr arbennig i gael system pleidlais sengl drosglwyddadwy, a fyddai, rwy’n credu, yn creu llywodraethau lleol mwy cynrychiadol. Rwy’n credu fy mod wedi gwneud yn glir hefyd, os ydym yn mynd i ad-drefnu llywodraeth leol—ac nid wyf yn cefnogi’r cynigion presennol—yna, mae angen i chi gael system pleidlais sengl drosglwyddadwy, system gyfrannol o ethol cynghorwyr ar gyfer yr awdurdodau mwy o faint hynny, neu fel arall, mae’n mynd i fod yn anodd iawn eu dwyn i gyfrif. Mae’n ymddangos i mi fod honno’n agwedd bwysig o hyn.
 
Felly, rwy’n meddwl, Lywydd, i gloi, er bod nifer o elfennau yn y cynnig hwn y gallwn eu cefnogi, byddai’n gwella’n aruthrol drwy basio ein gwelliannau, a byddwn yn gobeithio y bydd y Cynulliad yn eu cefnogi.
 
15:55
Mark IsherwoodBywgraffiad
Mae datblygu cymunedol ar sail asedau yn symudiad mawr a chynyddol sy’n ystyried pobl fel blociau adeiladu sylfaenol mewn datblygu cymunedol cynaliadwy. Mewn geiriau eraill, mae hyn yn ymwneud â rhoi llais, dewis, rheolaeth a grym go iawn i’r bobl yn ein cymunedau. Gan adeiladu ar sgiliau trigolion lleol, grym cymdeithasau lleol a chefnogaeth sefydliadau lleol, mae’n ymwneud â phwyso ar gryfderau cymunedol presennol i adeiladu cymunedau cryfach ar gyfer y dyfodol. Mae hyn, wrth gwrs, yn anathema i ddull Llafur Cymru o drefnu cymdeithas yn wladwriaethol a rheolaeth o’r brig i lawr dros bobl a gweithgareddau o fewn eu hawdurdodaeth, gyda chefnogaeth Plaid Cymru yn ôl pob golwg, fel y clywsom.
 
Ers Deddf Lleoliaeth 2011 y DU, rydym wedi ymgyrchu dros roi ei darpariaethau grymuso cymunedau mewn grym yng Nghymru. Fodd bynnag, bu’n rhaid i ni aros tan 2015 i Lywodraeth Lafur Cymru amlinellu ei chynlluniau ar gyfer perchnogaeth gymunedol, fersiwn wanach o’r cyfleoedd sydd ar gael yn Lloegr, gan adael cymunedau yng Nghymru â llais llawer llai grymus na’u cymheiriaid yn Lloegr. Mae Llafur Cymru bellach wedi gohirio cynigion ar gyfer cynnwys grwpiau cymunedol yn y broses o gyflwyno gwasanaethau lleol tan ar ôl etholiadau’r Cynulliad 2016, cynigion sy’n dal i fethu â chynnwys hawl statudol i gymunedau herio gwasanaethau cyngor neu wneud cais am eiddo awdurdod lleol.
 
Cyflwynodd Deddf Lleoliaeth 2011 gynlluniau datblygu cymdogaethau sy’n caniatáu i bobl leol gael y math iawn o ddatblygiad ar gyfer eu cymuned, ac sy’n gorfod parhau i ateb yr anghenion ar gyfer yr ardal ehangach ac ystyried asesiad y cyngor lleol o anghenion datblygu tai ac anghenion datblygu eraill. Mae cynlluniau manwl neu gyffredinol yn nodi beth y mae pobl leol ei eisiau, lle y dylid adeiladu cartrefi a swyddfeydd newydd, sut y dylent edrych, ond caiff hyn ei wrthod i bobl yng Nghymru. Byddai’r Ceidwadwyr Cymreig yn cyflwyno cynllunio cymdogaethau, gan gynnwys hawl gymunedol i adeiladu a chynlluniau datblygu cymdogaethau, gan ganiatáu cymunedau i gyflwyno datblygiadau ar raddfa fach a arweinir gan y gymuned, megis siopau, gwasanaethau neu dai fforddiadwy, a chaniatáu i gymunedau ddangos lle y byddent yn hoffi cael datblygiad newydd a sut y dylai edrych.
 
Erbyn Ebrill 2014, roedd 1,000 o gymunedau yn Lloegr wedi rhoi’r camau ffurfiol cyntaf o gynlluniau datblygu ar waith, 80 yn destun ymgynghoriad a 13 wedi’u pasio mewn refferenda lleol. Byddai’r pwerau newydd hyn yng Nghymru yn ymgysylltu â chymunedau ar lefel leol, gan roi llais iddynt lunio dyfodol gwasanaethau awdurdodau lleol, asedau a chynllunio yn eu cymdogaethau.
 
Ystyriwch y sector rhentu preifat. Gan ddyfynnu Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid, roedd adroddiad pwyllgor ar ddiwedd y Cynulliad diwethaf yn dweud y dylai fod cyfryngau mynediad ar draws Cymru gyfan i’r sector rhentu preifat ar gyfer pobl sy’n agored i niwed, fel Gosodiadau Cefni, partneriaeth o ymddiriedaeth rhwng y sector preifat ac awdurdodau lleol, gyda landlordiaid a’r trydydd sector yn gweithredu ac yn darparu mwy am lai yn hytrach na dyblygu am gost uwch. Dywedodd y rhain wrthyf fod hyn yn galw am ffordd newydd o weithio, gwir bartneriaeth gyda’r sector cyhoeddus a chyfnod o newid er mwyn i’r cyflenwad tai ddod yn gydradd â’r galw. Yn lle hynny, cyflwynodd Llywodraeth Cymru reoliadau gwrth-fusnes i’r holl landlordiaid, gan daro buddsoddiad a chyflenwad, yn hytrach na gorfodaeth wedi’i thargedu yn erbyn landlordiaid gwael a throseddol a chymorth i’r tenantiaid yr effeithiwyd arnynt waethaf.
 
Fel y mae adroddiad tai y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol yn nodi, mae angen i ni ailgyfeirio gwariant ar lety dros dro i frid newydd o asiantaethau gosod tai cymdeithasol, gan ddarparu sicrwydd hirdymor a chymorth i rentwyr sy’n agored i niwed, gan gynyddu nifer y landlordiaid sy’n barod i rentu i rai ar fudd-daliadau hefyd. Mae’r archwilydd cyffredinol yn datgan bod angen i gynghorau ystyried dulliau amgen o ddarparu, ond gwelodd, er bod rhai cynghorau yn llwyddo i ddarparu gwasanaethau allweddol gyda llai o arian, mae llawer o gynghorau yn rhy araf yn adolygu dulliau amgen o ddarparu ac yn colli allan ar gyfleoedd i leihau gwariant. Er enghraifft, darganfu fod 18 o’r 22 cyngor yng Nghymru wedi lleihau gwariant ar gefnogi gwasanaethau hamdden, gyda’r arbedion mwyaf lle roedd cynghorau wedi trosglwyddo cyfleusterau hamdden i ymddiriedolaethau cymunedol. Fodd bynnag, yn Sir y Fflint y gwelwyd y cynnydd mwyaf ond un yn y gwariant ac eto, un o’r gostyngiadau mwyaf yn nifer y bobl sy’n ymweld â chanolfannau hamdden, er bod 14 o gynghorau wedi gweld cynnydd.
 
Mewn ymateb i doriadau mawr gan Lywodraeth Cymru yn y cyllid ar gyfer atal digartrefedd a chyllid cynghorau gwirfoddol lleol, mae sefydliadau cymunedol yn datgan mai economi ffug yw hon a fydd yn dinistrio eu gallu i gefnogi mwy o wasanaethau ataliol a chosteffeithiol a arweinir gan ddefnyddwyr. A yw’n unrhyw syndod mai yng Nghymru y mae’r lefel isaf o ffyniant, y lefel uchaf o dlodi pant a’r nifer fwyaf o bobl heb waith yn y DU ar ôl 17 mlynedd o hyn? Mae’n amser troi mater grym wyneb i waered, dylunio’r system am yn ôl a rhyddhau’r bobl.
 
16:00
Jenny RathboneBywgraffiad
Rhaid i mi ddweud fy mod yn cytuno gyda phopeth a ddywedodd Mark Isherwood, ond nid wyf yn meddwl fod gennyf amser i drafod hynny i gyd. Rwy’n credu ei bod yn anodd iawn anghytuno â phwynt cyntaf eich cynnig:
 
‘Yn cydnabod pwysigrwydd rhoi’r grym i unigolion a grwpiau cymunedol fynd i’r afael â materion o bwys lleol’.
 
Rwy’n credu ein bod i gyd yn cytuno â hynny. Ni allaf feddwl am neb yn y Siambr hon, oni bai eu bod ar feinciau’r Torïaid, a fyddai’n anghytuno â hynny.
 
Felly, credaf fod y ffaith fod y Ceidwadwyr yn awr yn ymuno â rhai cynghorwyr Llafur anghydffurfiol a Neil McEvoy mewn ymgais i gael maer i Gaerdydd yn ddiddorol iawn. Mae angen i ni gofio, fel rwy’n ei wneud ar garreg y drws, fod ymgais gynharach i gynhyrchu maer a chabinet yng Nghaerdydd drwy’r drws cefn wedi arwain at elyniaeth hollol angerddol yn erbyn yr unigolyn dan sylw a thros ddegawd yn ddiweddarach, mae’n dal i fod cryn dipyn o amheuaeth ynglŷn â’r syniad o’r fath rym wedi’i grynhoi yn nwylo un person.
 
Mae angen i ni gofio mai polisi Llywodraeth y DU o dan y Llywodraeth Lafur Newydd a gyflwynodd y syniad hwn o feiri etholedig yn 2000, ac mae’n ddiddorol nodi bod y mwyafrif helaeth o feiri etholedig yn, ac wedi bod yn feiri Llafur. Yn hwyr yn y dydd y cynhesodd y Blaid Geidwadol at y syniad. Nid tan 2009 y gwelsom ni chi’n hyrwyddo’r cysyniad hwn, a chafodd y Democratiaid Rhyddfrydol eu cynnwys yn rhan o gytundeb clymblaid 2010. Mae’n ddiddorol nodi bod y Democratiaid Rhyddfrydol bellach yn cynnig dileu pwynt 2.
 
Rwy’n meddwl mai’r brif amheuaeth ynghylch meiri etholedig yw’r crynodiad o ormod o rym yn nwylo un unigolyn. Mewn gwirionedd, mae’n fwy o ganfyddiad na realiti. Nid oes gan feiri etholedig, o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, fwy o bwerau nag arweinydd cyngor yn gweithio gyda chabinet. Mae’n rhaid i faer etholedig weithio gyda chabinet o gynghorwyr etholedig yn yr un ffordd ag y mae arweinydd etholedig yn ei wneud. Y gwahaniaeth yw y byddent wedi cael eu hethol yn uniongyrchol gan y trigolion, yn hytrach na chan eu cymheiriaid ar y cyngor. Mae’n ymwneud i raddau helaeth â sgiliau arwain yr unigolyn sy’n cael ei ddewis i ymgymryd â’r rôl honno.
 
Er enghraifft, penderfynodd Bryste ethol maer yn 2015, a digwyddodd hyn ar don o wrth-wleidyddiaeth a ysgubodd yr ymgeisydd annibynnol, George Ferguson, i rym. Mae ymchwil gan yr Athro Hambleton o Brifysgol Gorllewin Lloegr a Dr Sweeting o Brifysgol Bryste yn dangos y cafwyd gwelliant canfyddedig yn yr arweinyddiaeth a gweledigaeth gliriach ar gyfer dinas Bryste. Yn sicr, roedd cyngor Caerdydd yn ei ystyried yn berson da i wneud busnes ag ef fel rhan o waith Caerdydd i ddatblygu cynghrair pwerdy’r gorllewin rhwng Bryste, Caerdydd a Chasnewydd.
 
Ond nid yw meiri etholedig, mae’n rhaid i ni gofio, bob amser wedi bod yn gymaint o lwyddiant ysgubol, gan ddechrau gyda H’Angus the Monkey a etholwyd gyntaf yn Hartlepool yn 2002, y daeth ei drydydd tymor i ben drwy gael ei wrthod yn drybeilig gan bobl Hartlepool, a benderfynodd yn bendant eu bod am ddychwelyd at y model arweinydd a chabinet. Yn fwy diweddar hefyd, cawsom brofiad Lutfur Rahman yn Tower Hamlets—ymgeisydd annibynnol honedig arall a wrthodwyd gan y llysoedd, a ddatganodd ei fod wedi’i ethol yn annilys.
 
Yn fy marn i, nid yw llywodraeth ar gyfer y bobl, yn hytrach na gyda hwy, yn fodel sy’n gweithio mewn byd newydd o wleidyddiaeth caledi. Nid yw’r hen fodel o wobrwyo a chosbi i sicrhau cydymffurfiaeth â’r grŵp sy’n rheoli yn bosibl o gwbl mewn llywodraeth leol heddiw. Fel y mae ‘Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus’ yn ei wneud yn glir, mae heriau enfawr yn wynebu llywodraeth leol, ac nid yw’n debygol y bydd rheoli gwasanaethau’n well neu wneud llai yn ddigon ohonynt eu hunain. Mae gwneud pethau’n wahanol yn galw am ymgysylltiad a chaniatâd y boblogaeth leol, sydd, yn fy marn i, yn anodd ei wneud ar ffurf un person.
 
Ar ôl dechrau petrus, mae arweinyddiaeth bresennol cyngor Caerdydd yn ymgysylltu â’i dinasyddion ynghylch y dewisiadau anodd sy’n eu hwynebu o ganlyniad i bolisi economaidd y Torïaid sy’n seiliedig ar galedi, ac yn creu atebion cydweithredol lle y bo’n bosibl. Nodaf fod Deddf cenedlaethau’r dyfodol yn rhoi cryfder cymunedau a datblygu cynaliadwy wrth wraidd popeth y bydd angen i wasanaethau cyhoeddus eu cyflawni yn y dyfodol. Yn fy marn i, gwneir hynny’n well gan arweinwyr etholedig gyda chabinetau etholedig.
 
16:05
Mohammad AsgharBywgraffiad
Datganoli ar waith go iawn yw lleoliaeth. O’i roi’n syml, mae’n ymwneud â throsglwyddo grym o’r llywodraeth ganolog i awdurdodau lleol. Mae’n ymwneud â grymuso cymunedau er mwyn iddynt gael mwy o lais yn y materion sy’n bwysig iddynt. Mae’n siomedig nodi, felly, bod Llywodraeth Cymru wedi methu â gweithredu’r agenda hawliau cymunedol yng Nghymru. Mae Deddf Lleoliaeth 2011 yn nodi cyfres o fesurau sydd â’r potensial i sicrhau bod grym sylweddol yn trosglwyddo i’n pobl leol.
 
Dwy o’r hawliau hyn oedd hawl y gymuned i herio a hawl y gymuned i wneud cais. Yn gyntaf, hawl y gymuned i herio: nid yw hyn wedi cychwyn yng Nghymru o hyd. Mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn wynebu cyfyngiad cyllidebol a gallant geisio lleddfu’r pwysau drwy ollwng gafael ar asedau megis canolfannau hamdden. Heb hawl y gymuned i herio, i ganiatáu i gymunedau ymgymryd â’r gwaith o redeg gwasanaethau, gallai’r asedau hyn gael eu colli am byth. Mae’r cynghorau gorau yng Nghymru yn gyson yn chwilio am ffyrdd newydd a gwell o gynllunio a chyflwyno gwasanaethau lleol. Mae llawer yn cydnabod potensial mentrau cymdeithasol a grwpiau cymunedol i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uwch a gwerth da. Dylent weithio gyda’i gilydd i ddarparu’r gwasanaethau hyn, ond nid oes rhaid i gynghorau yng Nghymru gadw cofrestr o asedau o werth cymunedol.
 
Y llynedd, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar ddiogelu asedau cymunedol. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn cefnogi hawliau cymunedol i Gymru, ac roedd mwyafrif llethol yn awyddus i gychwyn trosglwyddo o ddwylo cyrff cyhoeddus, gan bwysleisio’r gefnogaeth yng Nghymru i hawl y gymuned i wneud cais. Mae pob cymuned yn gartref i adeiladau neu gyfleusterau sy’n chwarae rhan hanfodol yn y bywyd lleol. Mae’r rhain yn cynnwys canolfannau cymunedol, llyfrgelloedd, pyllau nofio, siopau pentref, marchnadoedd a thafarndai. Mae’n fater o bryder fod 26 o lyfrgelloedd cyhoeddus wedi cau yng Nghymru rhwng 2010 a 2015—llawer ohonynt er gwaethaf gwrthwynebiad lleol. Gall cau’r asedau hyn beri colled wirioneddol i’r gymuned. Yn aml mae angen mwy o amser ar grwpiau cymunedol i drefnu cais i godi arian na mentrau preifat a allai fod yn gwneud cais yn eu herbyn. Dyma pam y mae arnom angen rhestr o asedau o werth cymunedol, wedi’u henwebu gan y cymunedau lleol eu hunain. Os yw’r asedau a restrir yma wedyn yn mynd ar werth neu’n newid dwylo, bydd grwpiau cymunedol yn cael amser i ddatblygu cais a chodi’r arian sydd ei angen i gadw’r asedau hyn yn rhan o’r bywyd lleol. Rwy’n credu y dylai’r hawliau hyn gael eu hymestyn i Gymru i wella trosglwyddo asedau cymunedol a’r rhaglenni cyfleusterau a gweithgareddau cymunedol sy’n bodoli eisoes.
 
Mae caniatáu i gymunedau herio’r awdurdodau lleol hyn ynghylch y gwasanaethau y maent yn eu darparu neu i ddatblygu eu gwasanaethau eu hunain yn gwella cyfranogiad ac ymgysylltiad â’r gymuned yn fawr. Lywydd, mae’r agenda hawliau cymunedol wedi bod o fudd i Loegr dros y pum mlynedd diwethaf. Mewn cyferbyniad, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn chwarae ar ymylon hawliau cymunedol ers llawer gormod o amser. Mae eu hagwedd tuag at y pwnc yn dangos Llywodraeth sy’n amlwg wedi blino ac wedi mynd yn brin o syniadau, wedi rhedeg allan o stêm, a’i hamser yn dirwyn i ben. O ganlyniad, mae cymunedau Cymru yn cael eu rhoi dan anfantais. Galwaf ar y Gweinidog i groesawu’r agenda hawliau cymunedol ac i weithredu’r Ddeddf Lleoliaeth yn llawn yng Nghymru. Rwy’n cefnogi’r cynnig hwn. Diolch.
 
16:09
Julie MorganBywgraffiad
Roeddwn i eisiau siarad am y rhan o’r cynnig sy’n croesawu’r ymgyrch dros gyflwyno maer a etholir yn uniongyrchol i Gaerdydd.
 
Yn gyntaf oll, roeddwn eisiau dweud ychydig am Gaerdydd. Rwy’n credu bod Caerdydd yn lle gwych i fyw a gweithio ynddo, ac mae’n amlwg ei fod ar frig llawer o restrau ac arolygon fel un o’r llefydd gorau i fyw ynddo yn y DU. Mewn arolwg o breswylwyr dinasoedd gorau Ewrop yn 2014, Caerdydd oedd y lle gorau i fyw ynddo yn y DU. Mae’n ddinas sydd ar y brig yn y DU o ran ansawdd bywyd: roedd 92 y cant o drigolion yn dweud eu bod yn hoffi byw yma a 93 y cant yn dweud eu bod yn hapus gydag atyniadau diwylliannol y ddinas—mwy na’r nifer ym Mharis a Berlin. Mae hefyd yn un o’r dinasoedd mwyaf gwyrdd yn y DU. Dywedodd y Gynghrair Werdd y mis hwn mai dyma’r bedwaredd ddinas fwyaf gwyrdd yn Lloegr a’r DU, gan fod 16 y cant o’i defnydd o drydan yn deillio o ynni adnewyddadwy. Mae hynny, wrth gwrs, yn mynd i gynyddu pan fydd cynllun trydan dŵr cored Radyr yn agor ac yn dod yn weithredol, a bydd Caerdydd hyd yn oed yn fwy gwyrdd. Mae’n cael ei chydnabod yn ddinas werdd ac wrth gwrs, mae’n un o’r dinasoedd sy’n tyfu gyflymaf yn y DU. Mae Caerdydd wedi cyflawni’r holl bethau gwych hyn heb y fantais o gael maer y ddinas wrth gwrs.
 
Rwy’n credu ei bod yn bwysig cael cymaint o ddemocratiaeth leol ag sy’n bosibl. Rwy’n credu bod annog a chynnwys pobl yn y broses ddemocrataidd yn un o’r pethau a all wneud gwahaniaeth go iawn i ddinas, sydd, wrth gwrs, wedi cael ei wneud yng Nghaerdydd, gydag ymgynghori helaeth yn y cylch cyllidebol anodd iawn hwn. Cafwyd ymgynghori dwys ym mhob rhan o Gaerdydd. Y ffordd arall, wrth gwrs, o wneud democratiaeth yn fwy real yw cael cynghorwyr sy’n cynrychioli’r cymunedau y dont ohonynt yn eang. Mae Llafur yn cychwyn yr etholiadau awdurdodau lleol nesaf gydag addewid y bydd hanner eu cynghorwyr yn fenywod. Rwy’n credu mai’r mathau hynny o fentrau yw’r math o bethau a fydd yn gwneud cynghorau yn fwy atebol.
 
Ond yn hytrach na gwella democratiaeth leol, rwy’n meddwl o ddifrif y byddai cael maer etholedig yn tynnu sylw oddi wrth y materion sy’n rhaid mynd i’r afael â hwy mewn llywodraeth leol ar hyn o bryd—a’r pwysicaf o’r rhain, wrth gwrs, yw mynd i’r afael â’r gostyngiad yng nghyllid yr awdurdod lleol a achoswyd gan y toriadau mawr yn y cyllid i’r Cynulliad gan y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan. Dyna’r hyn y mae llywodraeth leol yn mynd i’r afael ag ef. Mae cyngor Caerdydd a chynghorau ledled Cymru yn ceisio meddwl am ffyrdd dychmygus o warchod trysorau’r ddinas—fel y New Theatre, fel Neuadd Dewi Sant ac fel y llyfrgelloedd—ac yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o gadw’r sefydliadau diwylliannol gwych hyn. Felly, pam ar y ddaear y byddem eisiau ymyrraeth fel yr ymgyrch i sbarduno refferendwm? Ni allaf ddychmygu pam y mae’r Ceidwadwyr yn credu bod hwn yn fater mor bwysig. Rwy’n credu ei fod yn ymyrraeth lwyr sy’n tynnu sylw oddi ar y problemau go iawn.
 
Mae hefyd yn cael ei wneud ar adeg amhriodol iawn. Soniwyd eisoes am ad-drefnu llywodraeth leol. Mae yna hefyd ddadl yn mynd rhagddi ynghylch sicrhau cytundeb dinas i Gaerdydd, sydd, wrth gwrs, yn cynnwys 10 awdurdod lleol yn gweithio gyda’i gilydd. Rydym yn siarad yn awr yn nhermau’r rhanbarthol. Yn y cynlluniau i ad-drefnu llywodraeth leol, un o’r cynigion yw y gallai Caerdydd uno gyda’r Fro, felly byddai pleidlais nad yw ond yn cynnwys pobl yng Nghaerdydd yn eithaf diystyr. Felly, pam ar y ddaear rydym eisiau cael haen arall o lywodraeth yn y cyfnod anodd, a phrin o arian hwn? Byddai cost y refferendwm bron yn £0.5 miliwn. A yw’r Ceidwadwyr o ddifrif yn cynnig y dylai’r £0.5 miliwn hwn fynd tuag at refferendwm, yn y cyfnod hwn? Os yw’n llwyddiannus, byddai etholiad yn costio £0.5 miliwn arall.
 
16:13
Nick RamsayBywgraffiad
Diolch i Julie Morgan am ildio. Rydych yn dweud bod hyn yn ymyrraeth ddiangen, ac yn gofyn pam y dylem gael haen arall o lywodraeth. Ond y pwynt rydym wedi’i wneud yw mai’r bobl yn yr ardaloedd hynny fydd yn penderfynu a ydynt am gael yr haen ychwanegol o lywodraeth. Nid wyf yn deall pam rydych mor ofnus ynglŷn â rhoi hawl i’r bobl ddewis y math o strwythur y maent ei eisiau.
 
16:14
Julie MorganBywgraffiad
Rwy’n sicr yn credu ei bod yn hollol anghywir cael ymyrraeth ymgyrch refferendwm, a’r holl gost o dalu am refferendwm. Rwy’n meddwl mai ymyrraeth lwyr yw hynny. Rwyf hefyd yn credu, fel y mae Jenny Rathbone wedi dweud, y byddai hyn yn symud tuag at system lawer mwy canolog, a gormod o rym i un person. Gellir cael gwared ar arweinwyr cynghorau drwy bleidlais eu cyd-aelodau, ond mae’n anodd iawn cael gwared ar feiri etholedig cyn i’w hamser yn y swydd ddod i ben. Mae’r rhan fwyaf o’r ymdrechion i gael meiri etholedig wedi cael eu trechu gan bleidleisiau lleol. Mae cynnig George Osborne ar gyfer Pwerdy Gogledd Lloegr yn creu rhwymedigaeth i gael maer etholedig, er bod y dinasoedd sy’n bennaf gysylltiedig wedi pleidleisio yn erbyn cael meiri etholedig yn y trefi a dinasoedd gogleddol hynny mewn gwirionedd. Felly, rwy’n credu na ddylid bwrw ymlaen â’r mater hwn.
 
16:15
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
Rwy’n croesawu’r cyfle i gyfrannu at y ddadl hon heddiw, a hoffwn gyfyngu fy sylwadau efallai i’r rhan o’r cynnig sy’n ymwneud â meiri a etholir yn uniongyrchol, a hefyd cynghorau tref a chymuned, a’r rhan bwysig y credaf sydd gan lawer o’r cynghorau tref a chymuned i’w chwarae fel sylfaen ein democratiaeth mewn gwirionedd.
 
Yn sicr, mae rhan gyntaf y cynnig yn cydnabod yr angen i rymuso unigolion a grwpiau cymunedol i fynd i’r afael â materion o bwys lleol. Mae gennym dros 700 o gynghorau tref a chymuned ar hyd a lled Cymru, ac rwyf wedi holi’r Gweinidog droeon yn y Siambr hon pa lefel o ymgysylltiad sydd gan y Llywodraeth a pha rôl, wrth symud ymlaen, y mae’n credu y gall llawer o’r cynghorau tref a chymuned hynny ei chael wrth fod, fel y dywedais, yn sylfaen i’n democratiaeth. I lawer o bobl, dyna’r dull gwirfoddol: fod llawer o bobl yn rhoi o’u hamser i fynd i gynrychioli eu cymuned a dechrau mewn gwleidyddiaeth, er bod llawer o gynghorau tref a chymuned yn anwleidyddol oherwydd, yn amlwg, dyna’r strwythur y maent yn ei ddewis. Rwy’n credu eu bod yn ased nad yw’n cael ei ddefnyddio’n ddigonol, ac rwy’n credu, yn enwedig pan edrychwch ar rai o’r cynghorau tref mwy o faint, megis y Barri yn yr ardal lle cefais fy ethol—credaf mai dyna’r cyngor tref mwyaf yng Nghymru—ond yn yr un modd, mae gan lawer o ardaloedd eraill yng Nghymru gynghorau sylweddol gyda chyfrifoldebau sylweddol wedi’u gosod arnynt, a gallent fod yn llawer mwy o ran yn y broses gynllunio i fynd i’r afael â llawer o’r pryderon y mae llawer o bobl yn eu hwynebu yn y system gynllunio, lle y credant nad yw eu llais yn cael ei glywed yn y broses ymgynghori y mae’r awdurdod sirol mwy o faint wedi’i chynnal ar eu rhan yn ôl yr honiad, ond eto nid ydynt yn teimlo eu bod wedi bod yn rhan o’r broses honno.
 
Ond o symud ymlaen at faer a etholir yn uniongyrchol, rwy’n credu bod hwn yn gyfle gwych i ardaloedd, yn enwedig Caerdydd, yn fy ardal etholiadol fy hun sef Canol De Cymru, i ddechrau cystadlu go iawn, yn enwedig yn economaidd, gyda Bryste ar garreg ein drws, a chanddi faer a etholir yn uniongyrchol. Ac os ewch i ogledd Cymru, lle y mae gennych Lerpwl a Manceinion ar garreg y drws, mae llawer o’r heriau economaidd sy’n wynebu gogledd Cymru yn deillio o’r ffaith fod pobl yn mynd i Lerpwl a Manceinion oherwydd y cymhellion ac oherwydd y penderfyniadau’n ymwneud â Phwerdy Gogledd Lloegr. Mae’n hanfodol nad yw ardal gogledd Cymru yn cael ei adael ar ôl, ac mae cyfle i allu datganoli cyfrifoldeb a grym allan o’r lle hwn, yn enwedig ar faterion economaidd. Rwy’n sylwi bod y CBI yn awyddus iawn i’r broses honno o wneud penderfyniadau gael ei lleoleiddio yng ngogledd Cymru, a pha ffordd well o wneud hynny na thrwy faer a etholir yn uniongyrchol, a fyddai’n atebol am yr ardal benodol honno ar gylch o bedair neu bum mlynedd?
 
Mae’n ddiddorol nodi hefyd, pan fyddwch yn edrych ar Fryste fel enghraifft—sy’n her economaidd o bwys i dde-ddwyrain Cymru—fod ardal Avon hefyd yn edrych ar y cysyniad o ‘faer metro’ i gydgrynhoi llawer o’r agweddau ar ddatblygu economaidd yn nwylo maer metro a fyddai yn y pen draw yn siarad ar ran ardal lawer ehangach nag ardal Bryste’n unig.