Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :
Nôl i'r rhestr dogfennau Gweld y dudalen hon heb lincs
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (y Fonesig Rosemary Butler) yn y Gadair.
 
13:30
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Prynhawn Da. Dyma ddechrau trafodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
 
1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
 
13:30
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Cwestiynau i'r Prif Weinidog yw’r eitem gyntaf, a daw cwestiwn 1 gan Mohammad Asghar.
 
Ffyrdd Iach o Fyw (Dwyrain De Cymru)
 
13:30
Mohammad AsgharBywgraffiad
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo ffyrdd iach o fyw yn Nwyrain De Cymru? OAQ(4)2718(FM)
 
13:30
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, rydym ni’n canolbwyntio ar sicrhau dull cymdeithas gyfan o wella iechyd y boblogaeth, gan gynnwys cefnogi ffyrdd iach o fyw, amddiffyn cymunedau a mynd i'r afael â phenderfynyddion ehangach iechyd, fel cyflogaeth dda, tai o ansawdd a threchu tlodi.
 
13:30
Mohammad AsgharBywgraffiad
Diolch am yr ateb, Weinidog. Datgelodd ffigurau diweddar a gynhyrchwyd gan raglen mesur plant Cymru bod chwarter y plant yn Nwyrain De Cymru dros eu pwysau neu'n ordew erbyn y byddant yn dechrau’r ysgol. Roedd Blaenau Gwent, Caerffili a Thorfaen i gyd yn uwch na chyfartaledd cenedlaethol Cymru o blant dros eu pwysau a gordew yn dechrau’r ysgol. Pa gamau wnaiff Llywodraeth Cymru eu cymryd i wrthdroi'r ystadegau gwirioneddol syfrdanol hyn a hybu ffyrdd iachach o fyw i rieni yn Nwyrain De Cymru?
 
13:31
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, yn 2010, lansiwyd llwybr gordewdra Cymru gyfan gennym, sy'n rhoi cyfeiriad strategol cenedlaethol, trwy nodi dull haenog ar gyfer atal a thrin gordewdra, o atal yn y gymuned ac ymyrraeth gynnar i wasanaethau meddygol a llawfeddygol arbenigol.
 
13:31
John GriffithsBywgraffiad
Brif Weinidog, er mwyn cael Cymru fwy corfforol egnïol ac iachach, rydym ni angen i sefydliadau allweddol ddod at ei gilydd a derbyn eu cyfrifoldeb. Yng ngoleuni hynny, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu'r gwaith sy'n cael ei wneud yn fy ardal i, lle mae Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan, Newport Live—yr ymddiriedolaeth hamdden—Cyngor Dinas Casnewydd, cyrff chwaraeon, ac amrywiaeth o sefydliadau eraill, yn cyfarfod i ddatblygu strategaeth a pholisi ar y cyd ar gyfer poblogaeth fwy corfforol egnïol ac iachach?
 
13:32
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Gwnaf. Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Rwy’n croesawu'n fawr iawn, wrth gwrs, y gwaith trawsbynciol sy'n cael ei wneud gan y sefydliadau hynny. Rydym ni’n gwybod nad yw'n achos syml y gall un sefydliad ar ei ben ei hun newid arferion pobl ac annog pobl i wneud mwy o ymarfer corff. Pan eu bod yn dod at ei gilydd, wrth gwrs, yna gallant gael llawer mwy o effaith.
 
13:32
Lindsay WhittleBywgraffiad
Wel, Weinidog, yn wyneb y ffaith bod adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi nodi, ac rwy’n dyfynnu,
 
‘Mae effaith rhaglenni sy’n canolbwyntio ar newid un ymddygiad penodol yn debygol o fod yn gyfyngedig’,
 
sut allwn ni gyfiawnhau parhau i wario arian cyhoeddus ar geisio newid dewisiadau ffordd o fyw pobl pan fo’r dull hwn yn amlwg yn methu, ac mae llawer o bobl—nid fi—yn ei ystyried fel ymyrraeth y wladwriaeth faldodus beth bynnag? Ac a ydych chi’n credu y dylai fod mwy o bwyslais ar ganolbwyntio ar blant yn bwyta'n iach, os gwelwch yn dda?
 
13:33
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, rwy’n credu bod angen pwysleisio y gall pobl gaffael iechyd da, neu wella eu hiechyd, ar unrhyw oedran. Mae’r Aelod yn iawn i ddweud, o ran plant, ei bod yn bwysig bod plant yn dysgu arferion da yn ifanc. Ond mae hefyd yn bwysig sicrhau bod pobl yn cael eu hannog i roi'r gorau i ysmygu. Rydym ni’n gwybod bod hynny yn cael effaith enfawr ar eu hiechyd, hyd yn oed yn nes ymlaen yn eu bywydau. Nid wyf yn gweld hynny fel gwladwriaeth faldodus; rwy’n gweld hynny fel rhywbeth sy'n mynd ati i helpu pobl i roi’r gorau i arfer sy'n bendant yn niweidio eu hiechyd.
 
13:33
Jeff CuthbertBywgraffiad
A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i ganmol gwaith Diabetes UK i baratoi eu llyfr ‘100 Things I Wish I’d Known about Living with Diabetes’? Nod y llyfr yw casglu profiadau go iawn pobl â diabetes a'r cyngor y maen nhw’n ei gynnig ar sut y maen nhw’n ymdopi â'r cyflwr. Yn amlwg, mae byw bywyd iach yn bwysig iawn i rywun â diabetes ac, osgoi ysmygu yn arbennig.
 
13:34
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Ydw, rwy’n cytuno’n llwyr bod Diabetes UK Cymru yn bartneriaid hynod werthfawr. Rydym ni’n gwybod bod eu hadnoddau wedi helpu llawer o bobl i ddod i delerau â’u cyflwr, a dysgu ei reoli. Rydym ni’n gweithio'n agos gyda Diabetes UK Cymru. Mae ganddo sedd ar y grŵp gweithredu’r cynllun cyflawni ar ddiabetes, ac, wrth gwrs, rydym ni’n edrych ymlaen at weithio'n agos â nhw yn y dyfodol.
 
Hyfforddi Doctoriaid a Nyrsys
 
13:34
Mike HedgesBywgraffiad
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am hyfforddi doctoriaid a nyrsys ym Mhrifysgol Abertawe? OAQ(4)2719(FM)
 
13:34
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Gwnaf. Mae Prifysgol Abertawe yn chwarae rhan allweddol o ran cefnogi'r GIG yng Nghymru drwy ddarparu amrywiaeth eang o raglenni addysg a hyfforddiant. Gwn, o ran lleoedd hyfforddi i nyrsys yn Abertawe, ein bod ni ar hyn o bryd ar y lefel uchaf yr ydym ni wedi ei weld yn ystod y Llywodraeth hon o ran y lleoedd hyfforddi nyrsys a gomisiynwyd. 331 yw’r ffigur hwnnw ar hyn o bryd.
 
13:34
Mike HedgesBywgraffiad
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Wrth gwrs, pan grëwyd y Cynulliad, nid oedd unrhyw feddygon dan hyfforddiant ym Mhrifysgol Abertawe; mae hynny’n rhywbeth sydd wedi dod dim ond ers i'r Cynulliad fod yma. Rwy'n falch iawn o nodi'r cynnydd i’r niferoedd ac rwy’n cytuno â'r Prif Weinidog bod amrywiaeth eang o wasanaethau eraill, fel ffisiotherapyddion, ac ati, ond nid wyf yn meddwl y byddwn i wedi cael heibio'r Llywydd pe byddwn i wedi rhestru pob un ohonyn nhw yn y cwestiwn, felly cadwais at feddygon a nyrsys, ond rwy’n sylweddoli bod y lleill i gyd yn bwysig. Onid yw hon yn enghraifft o Lywodraeth Lafur Cymru yn cefnogi GIG Cymru trwy gael mwy o feddygon a mwy o nyrsys?
 
13:35
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Yn sicr. Mae gennym fwy o feddygon nag erioed, rydym ni’n cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi i nyrsys a nodwn gyda phryder yr hyn sy'n digwydd, wrth gwrs, gyda bwrsariaethau nyrsys yn Lloegr ac rydym ni’n chwilio am fwy o wybodaeth gan adran y Llywodraeth yno o ran sut y byddai hynny'n gweithio cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn. Ond fe wnaeth y Gweinidog gyhoeddi pecyn £85 miliwn i gefnogi amrywiaeth o raglenni addysg a hyfforddiant ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, ac rydym ni’n gwybod bod buddsoddi yn ein gweithlu yn allweddol i gynaliadwyedd y GIG yn y dyfodol.
 
13:36
Suzy DaviesBywgraffiad
O ystyried bod nifer y meddygon teulu yn gostwng a bod y boblogaeth meddygon teulu yn heneiddio, Brif Weinidog, pa waith y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i helpu i berswadio myfyrwyr ôl-raddedig sydd wedi astudio yn Abertawe i ystyried bod yn feddyg teulu fel llwybr gyrfa, a sut byddai Llywodraeth Cymru yn eu hannog i gymryd rhandaliad yn eu meddygfeydd eu hunain?
 
13:36
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Yn gyntaf oll, dylem osgoi meddwl mai'r unig ffordd i feddygon teulu ymarfer yn y dyfodol yw trwy brynu eu hunain i mewn i feddygfa. Mae’r model hwnnw’n dirywio’n gynyddol, ac mae mwy a mwy o feddygon teulu yn dymuno bod yn feddygon teulu cyflogedig. Maen nhw yr un mor ddilys, os caf ei roi felly, â’r rhai sy'n dymuno prynu i mewn i feddygfa. Yr hyn sy'n bwysig, wrth gwrs, yw'r gwasanaeth sydd ar gael i'r cyhoedd. Rydym ni’n gweithio'n agos iawn gyda Chymdeithas Feddygol Prydain, wrth gwrs, i nodi unrhyw rwystrau a allai fodoli i recriwtio meddygon teulu. Serch hynny, mae gennym ni 2,000 yn fwy o feddygon teulu nag yr oedd gennym ni 10 mlynedd yn ôl, ac mae hynny'n dangos bod y buddsoddiad yr ydym ni wedi ei wneud fel Llywodraeth yn dwyn ffrwyth.
 
13:36
Peter BlackBywgraffiad
Brif Weinidog, mae Cymdeithas Feddygol Prydain wedi ysgrifennu at y Gweinidog mewnfudo i fynegi pryder am gynigion sy’n cael eu gwneud gan y pwyllgor cynghori ar fudo, a fydd, maen nhw’n dweud, yn cael effaith aruthrol ar y 500 o feddygon tramor sy'n graddio o ysgolion meddygol y DU bob blwyddyn, oherwydd y newidiadau i fisâu sy'n cael eu cynnig gan y pwyllgor hwnnw. A gaf i ofyn a ydych chi wedi cynnal gwerthusiad o effaith y cynigion ar ysgolion meddygol yng Nghymru a pha un a ydych chi hefyd wedi gwneud sylwadau i Lywodraeth y DU ynghylch y cynigion hynny?
 
13:37
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, nid oes amheuaeth y byddant yn niweidiol. Ceir rhai sy’n dadlau nad ydym yn rheoli ein ffiniau. Wel, dywedwch hynny wrth y myfyrwyr hynny nad ydynt yn dod yma oherwydd gofynion fisa a’r meddygon hynny sydd bellach yn teimlo na allant aros yng Nghymru, fel y bydden nhw wedi ei wneud yn y blynyddoedd a fu er mwyn cynnig eu sgiliau i bobl Cymru. Rwy'n aml yn clywed y ddadl bod ymfudwyr, rywsut, yn faich ar y gwasanaeth iechyd. Cyn belled ag y gallaf i ei weld, y rhai o wledydd tramor sy’n staffio llawer o'r gwasanaeth iechyd mewn gwirionedd, ac, yn sicr, mae’r gwasanaeth iechyd yn ddibynnol ar y sgiliau y maen nhw’n eu cynnig ac yn ddiolchgar amdanynt. Ond mae unrhyw beth, wrth gwrs, sy'n rhwystro’r rhai sy'n dymuno defnyddio eu sgiliau er lles pobl Cymru, yn rhywbeth y byddem yn ei wrthwynebu.
 
13:38
David ReesBywgraffiad
Brif Weinidog, mae’r £85 miliwn a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd proffesiynol i’w groesawu’n fawr, ac mae hynny'n cynnwys nyrsys, ond hefyd gweithwyr proffesiynol eraill, fel radiograffwyr a ffisiotherapyddion. Rwy’n datgan buddiant ar y pwynt hwn gan fod fy ngwraig yn radiograffydd. A ydych chi’n cytuno â mi bod y buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn y rhain yn ategu gwaith Prifysgol Abertawe mewn gwirionedd, gan fod Prifysgol Abertawe yn gwneud gwaith rhagorol i hyfforddi meddygon, nyrsys a pharafeddygon? A wnewch chi hefyd ystyried y posibilrwydd o ehangu'r ddarpariaeth ym Mhrifysgol Abertawe i gynnwys y proffesiynau eraill?
 
13:38
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae'n sicr yn rhywbeth a fydd yn cael ei ystyried yn y dyfodol, ac, fel y nodwyd eisoes, ar un adeg, roedd hyfforddiant meddygol wedi’i ganolbwyntio o amgylch Caerdydd i raddau helaeth. Oedd, roedd myfyrwyr meddygol yn treulio amser mewn ysbytai ledled Cymru, ond nid oeddent yn ganolfannau hyfforddi yn y ffordd y mae Abertawe erbyn hyn. Rydym ni’n gwybod, fel y dywedais yn gynharach, mai'r hyn sy'n bwysig yw buddsoddi yn y gweithlu er mwyn sicrhau bod pobl Cymru yn cael mynediad at y lefel cywir o wasanaethau yn y dyfodol.
 
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
 
13:38
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn at gwestiynau gan arweinwyr y pleidiau nawr, ac arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies, sydd gyntaf y prynhawn yma.
 
13:39
Andrew R.T. DaviesBywgraffiadArweinydd yr Wrthblaid
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. [AELODAU'R CYNULLIAD: 'Boris.'] Mae ganddo fwy o wallt na fi. [Chwerthin.]
 
Brif Weinidog, ar hyn o bryd, mae adrannau damweiniau ac achosion brys ac, yn wir, ysbytai, o dan bwysau enfawr ar hyd a lled Cymru, ond hefyd ar hyd a lled y Deyrnas Unedig; rwy’n derbyn y pwynt hwnnw. Pa un a yw yn y gorllewin, yn y de neu yn y gogledd, mae pobl yn cael eu cynghori i beidio â mynd i ysbytai oherwydd y pwysau sydd ar rai adrannau damweiniau ac achosion brys. Pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi ei wneud o'r galw sydd ar ein gweithwyr meddygol ymroddedig ar hyd a lled Cymru, ac a oes unrhyw geisiadau ychwanegol wedi eu derbyn am adnoddau gan ein byrddau iechyd i gefnogi gweithrediadau ein hysbytai cyffredinol dosbarth o ddydd i ddydd, fel na fydd llawdriniaethau’n cael eu canslo ac na fydd pobl yn wynebu oedi gormodol?
 
13:39
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Yn gyntaf oll, mae lefel y galw am adrannau damweiniau ac achosion brys yn ddigynsail. Mae'n fy nharo i y gall fod yn anodd asesu beth fydd lefel y galw dros y gaeaf, ac rydym ni wedi gweld galw anhygoel o uchel y tro hwn. Rwy'n ddiolchgar i ymroddiad y staff mewn adrannau damweiniau ac achosion brys am y gwaith y maen nhw wedi ei wneud. Gwn, yn sicr cyn belled ag y mae Ysbyty Gwynedd yn y cwestiwn heddiw, fod rhywfaint o'r pwysau wedi ei godi oddi ar Ysbyty Gwynedd, gan fod y pethau hyn yn tueddu i fynd i fyny ac i lawr yn gyflym iawn. Nid oes unrhyw geisiadau am adnoddau ychwanegol. Rydym ni’n gwybod bod ein byrddau iechyd yn ymdopi.
 
O ran peidio â mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys, mae'n dod yn ôl i’r pwynt hwn: dylai pobl ddewis yn dda. Gwasanaeth brys yw adran damweiniau ac achosion brys. Dylai pobl weld y fferyllydd fel y stop cyntaf, nyrs mewn meddygfa deulu, ac yna, wrth gwrs, y meddygon teulu eu hunain, yn hytrach na mynd yn syth i’r adran damweiniau ac achosion brys. Wrth gwrs, pan fo pobl mewn argyfyngau gwirioneddol, yr adran damweiniau ac achosion brys yw lle y dylen nhw fynd, ond rydym ni’n gofyn i bobl, ar hyn o bryd a bob amser, i ystyried ai’r adran damweiniau ac achosion brys yw'r lle gorau iddyn nhw fynd i gael y driniaeth sydd ei hangen arnynt mewn gwirionedd.
 
13:40
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
Un peth a fyddai'n helpu, yn amlwg, yw ailgyflwyno unedau mân-anafiadau, sef yr hyn a gynigiwyd gan fy mhlaid i rai wythnosau yn ôl erbyn hyn. Hefyd, y pwynt arall yw y gallai’r pwysau hyn ar ysbytai gael effaith sylweddol ar amseroedd aros. Ychydig cyn y toriad hanner tymor, yn amlwg, cyhoeddwyd yr amseroedd aros newydd, a oedd yn dangos cynnydd eto i amseroedd aros ac sydd wedi dyblu yn ystod eich cyfnod chi fel Prif Weinidog. Yn y pen draw, yr hyn y mae pobl eisiau ei wybod yw pryd y byddant yn cael y driniaeth lawfeddygol a neilltuwyd iddyn nhw, yn amlwg, gan eu hysbyty. A allwch chi roi ymrwymiad bod gan eich Llywodraeth reolaeth dros yr amseroedd aros, sydd, fel y dywedais, wedi dyblu yn ystod eich arweinyddiaeth chi ac, yn y pen draw, nad ydynt yn dangos unrhyw seibiant o’r patrwm am i fyny yr ydym ni wedi ei weld dros y pum mlynedd diwethaf?
 
13:41
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, rwy’n anghytuno ag ef ar hynny. Rydym ni wedi gweld amseroedd aros, wrth gwrs, yn dechrau lleihau. Rydym ni wedi dyrannu adnoddau ychwanegol i ymdrin â’r mater o amseroedd aros nawr ac yn y dyfodol. Mae'n rhaid i mi ddweud, er enghraifft, o ran adrannau damweiniau ac achosion brys, dwy awr a 10 munud yw’r arhosiad ar gyfartaledd mewn adrannau damweiniau ac achosion brys o hyd. Oes, mae mwy o bobl sydd wedi aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys am fwy na 12 awr. Weithiau mae hynny oherwydd mai’r dewis arall yw eu derbyn i’r ysbyty am dri diwrnod. Mae'n aml yn well dewis iddyn nhw fod yn yr adran damweiniau ac achosion brys am ychydig yn hwy nag yn yr ysbyty am fwy o amser fyth. Nawr, rydym ni’n gwybod, yn Lloegr, bod y ffigyrau yn wreiddiol yn Lloegr yn dangos bod ychydig filoedd o bobl mewn adrannau damweiniau ac achosion brys am fwy na 12 awr. Rydym ni’n gwybod erbyn hyn mai 124,00 yw’r ffigur hwnnw gan fod BBC Radio 5 wedi darganfod hynny. Felly, rydym ni’n gwybod bod pwysau ar draws y DU gyfan, ac, er tegwch, tynnodd arweinydd yr wrthblaid sylw at hynny. Ond yr hyn yr ydym ni’n ei weld yng Nghymru yw amseroedd aros yn lleihau ac mae amseroedd ymateb ambiwlansys yn gwella. Rydym ni’n gweld, er enghraifft, amseroedd aros canser yn gwella, hefyd. Maen nhw ar lefel uchel gyson o’u cymharu â Lloegr, ac rwy'n hyderus y byddwn ni’n gweld amseroedd aros yn parhau i leihau yn y dyfodol.
 
13:42
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
Yn anffodus, o ran amseroedd aros canser, nid ydynt yn gwella, Brif Weinidog. Mae’r amseroedd aros canser mwyaf diweddar yn fy ardal etholiadol fy hun yn dangos gostyngiad sylweddol i lawr i 78 y cant o amser atgyfeirio pan fo eich targed yn 95 y cant. Ond, yn y daflen a gyhoeddwyd gennych yn 2007, rhoesoch ymrwymiad, yn y pen draw, y byddai Llywodraeth Lafur, pe byddai’n cael ei hethol, yn sicrhau amseroedd aros byrrach yn ein GIG. Roedd hynny bron i 10 mlynedd yn ôl. Yn eich cynhadledd yr wythnos hon, roeddech chi’n dweud nad ydych chi ond hanner ffordd drwy eich degawd o gyflawni. Wel, mae eich degawd o gyflawni wedi rhoi un o bob saith o bobl ar restr aros yng Nghymru. Mae hynny bron i 15 y cant o'r boblogaeth ar restr aros yma yng Nghymru. Hefyd, gyda'ch addewidion, nid ydych chi wedi ymrwymo i ddiogelu cyllideb y GIG. Sut ar y ddaear all unrhyw un fod ag unrhyw hyder y byddwch chi’n gallu cael rheolaeth dros y rhestrau amseroedd aros sydd allan o reolaeth yn llwyr o dan eich arweinyddiaeth, gyda’r effaith o ddydd i ddydd ar gleifion a chlinigwyr ar hyd a lled Cymru nad ydynt yn cael y gwasanaeth sydd ei angen arnynt?
 
13:43
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae'n rhaid i mi ddweud wrth arweinydd yr wrthblaid ein bod ni’n gwybod erbyn hyn bod ffigurau yn Lloegr wedi cael eu tylino, gan fod BBC Radio 5 wedi canfod hynny trwy amseroedd aros o fwy na 12 awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Rydym ni’n gweld y mwyaf o arian erioed yn mynd i mewn i GIG Cymru, tua 46 y cant o'n cyllideb. Rydym ni’n gwario 1 y cant yn fwy fesul pen ar iechyd yng Nghymru nag y mae Lloegr yn ei wneud a 7 y cant yn fwy ar iechyd a gofal cymdeithasol. Dim ond heddiw, rydym ni’n gweld y Gymdeithas Llywodraeth Leol yn Lloegr yn dweud bod gofal cymdeithasol ar fin chwalu yn Lloegr gan nad oes digon o arian yn mynd i mewn i ofal cymdeithasol. Nid yw hynny’n digwydd yng Nghymru. Ni allwch ysgaru’r ddau; mae un yn dilyn y llall. Mae gennym ni hanes balch o sicrhau bod ein GIG yn gweithio. Er gwaethaf y toriad o 10 y cant a gawsom gan ei blaid ef yn Llundain i’n cyllideb, rydym ni wedi llwyddo i gynyddu gwariant ar iechyd fel canran uwch o'n gwariant cyffredinol. Rydym ni wedi gwneud hynny er gwaethaf y toriadau y mae ei blaid wedi eu gorfodi arnom ni. Mae hwnnw'n hanes yr ydym ni’n falch o’i rannu â phobl Cymru ym mis Mai.
 
13:44
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn nawr at arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
 
13:44
Leanne WoodBywgraffiadArweinydd Plaid Cymru
Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, dywedasoch yn ddiweddar mewn ymateb i'r argyfwng recriwtio meddygon teulu yn y gogledd,
 
Bydd problemau o bryd i'w gilydd pan fydd meddyg teulu yn penderfynu rhoi'r gorau iddi ond parheir â’r gwasanaeth hwnnw gan feddyg teulu cyflogedig wedyn. O'n safbwynt ni, nid wyf yn credu fod argyfwng.
 
A ydych chi’n derbyn bod yr ymateb hwn yn ddiystyriol o bryderon pobl ac a ydych chi’n difaru peidio â dangos mwy o gydymdeimlad at gleifion sy'n cael problemau yn sgil yr argyfwng recriwtio meddygon teulu yn y gogledd?
 
13:45
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae’n rhaid i mi ddweud nad wyf yn ymwybodol o gleifion sy'n dioddef o ganlyniad i ddiffyg meddygon teulu yn y gogledd. Roedd y cwestiwn a ofynnodd hi i mi yn ymwneud â rhai meddygfeydd sydd wedi penderfynu peidio â pharhau fel meddygfeydd. Mae eu gwasanaethau nhw’n cael eu cynnig gan feddygon teulu cyflogedig. Cyn belled ag y mae’r cyhoedd yn y cwestiwn, bydd y gwasanaeth yn aros yr un fath.
 
13:45
Leanne WoodBywgraffiad
Brif Weinidog, mae hynna’n swnio fel na allwch chi gyfaddef maint y broblem. Mae ysgrifennydd pwyllgor meddygol lleol y gogledd yn credu bod angen camau brys o ran y gwasanaeth y tu allan i oriau yn y gogledd. Mae is-gadeirydd pwyllgor meddygol lleol y gogledd wedi dweud bod y sefyllfa ar fin chwalu. A wnewch chi dderbyn nawr bod argyfwng recriwtio ac a wnewch chi gytuno bod cleifion yn haeddu gwell?
 
13:45
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Rwy’n derbyn bod her o ran recriwtio meddygon teulu mewn rhai rhannau o Gymru, mae cymaint â hynny’n wir, a cheir amryw o resymau am hynny nad ydynt yn ymwneud â meddygaeth. A dweud y gwir, maen nhw'n ymwneud â’r cyfleoedd sydd ar gael i’w teuluoedd. Serch hynny, rydym ni’n gweithio gyda Chymdeithas Feddygol Prydain i nodi, fel y dywedais yn gynharach, unrhyw rwystrau a allai fodoli i recriwtio. Mae gennym ni 2,000 yn fwy o feddygon teulu yng Nghymru nag oedd yn wir yn sicr ddegawd yn ôl ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni’n bwriadu adeiladu arno yn y dyfodol.
 
13:46
Leanne WoodBywgraffiad
Brif Weinidog, mae gan Gymru lai o feddygon fesul pen o'r boblogaeth na phob un ond tair o wledydd yr UE. Mae’n ymddangos nad ydych chi’n derbyn y ffaith honno. A yw'n dderbyniol i chi, Brif Weinidog, bod pobl yn gorwedd ar loriau adrannau brys yn aros i gael eu gweld? A yw'n dderbyniol i chi bod meddygon teulu yn tynnu eu contractau yn ôl? A yw'n dderbyniol i chi fod yr holl achosion ond y rhai brys wedi cael eu troi i ffwrdd o feddygfa deulu? Rydych chi’n dweud wrthym ni eich bod chi hanner ffordd trwy ddegawd o gyflawni, Brif Weinidog, o dan eich stiwardiaeth. Os cewch chi gyfle i gyflawni’r gwaith, pa fath o GIG fydd ar ôl gennym ar ddiwedd eich cyfnod?
 
13:46
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Bydd gennym ni GIG lle y mae mwy yn cael ei wario fesul pen nag yn Lloegr, lle y dyrannwyd mwy o arian, lle mae mwy o arian yn mynd i iechyd meddwl—dyna un o'r cwestiynau y mae hi wedi ei ofyn i mi yn y gorffennol—a swm sylweddol yn fwy o arian i ofal iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Byddwn yn gweld Cymru lle ceir cronfa triniaethau newydd ar gyfer afiechydon sy'n peryglu bywydau. Byddwn yn gweld buddsoddiad— [Torri ar draws.] Byddwn yn gweld buddsoddiad i adeiladau'r GIG. Byddwn yn gweld rhagor o enghreifftiau, fel y gwelsom yn Nhreforys, o wyneb newydd sbon i'r adeilad, estyniad gwych i'r adeilad sy'n ei gwneud yn llawer haws i bobl fynd trwy adrannau damweiniau ac achosion brys ac yn llawer haws i bobl weld meddygon. Dyna fyddwn ni’n ei weld: cyfleusterau da i bobl Cymru, y telir amdanynt o'r pwrs cyhoeddus heb breifateiddio—nid polisi ei phlaid hi; rwy’n gwybod hynny—ond heb breifateiddio, wedi eu darparu am ddim ar y pwynt o angen i’n pobl.
 
13:47
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn nawr at arweinydd Democratiaid— [Torri ar draws.] Trefn. Mawredd mawr. Symudwn nawr at arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams.
 
13:47
Kirsty WilliamsBywgraffiadArweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Brif Weinidog, y llynedd, yn dilyn ymddiswyddiad gweinidogol a chwestiynau a godwyd am weithrediadau’r cod gweinidogol, dywedasoch wrth y Cynulliad y byddech chi’n fodlon ystyried newidiadau posibl pellach i ymchwiliadau o dan y cod hwnnw. A allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am eich ystyriaethau i ni?
 
13:48
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i wedi ystyried y mater hwn, fel y mae hi’n ei ddweud, ond nid wyf yn gweld yr angen am ryw fath o broses ddyfarnu annibynnol, ac, wrth gwrs, nid yw hynny'n bodoli yn Llundain ychwaith.
 
13:48
Kirsty WilliamsBywgraffiad
Mae'n ddrwg gen i nad yw eich ystyriaethau wedi dod i gasgliad mwy cadarnhaol, Brif Weinidog. Ar yr un pryd, dywedais ei bod yn gwbl briodol ac, yn wir, dylai'r Llywodraeth gymryd cyngor o’r tu allan, ond dylai’r cyngor hwnnw o’r tu allan hefyd fod yn dryloyw. Pan ofynnais i chi gyhoeddi manylion cyfarfodydd rhwng Gweinidogion â lobïwyr a grwpiau pwyso, atebasoch:
 
Nid oes rhai...nid yw'n bolisi gennym i gyfarfod â lobïwyr.
 
Ond mae ceisiadau rhyddid gwybodaeth yn dangos eich bod chi’n bersonol wedi cyfarfod â sefydliadau allanol 144 o weithiau ers mis Mai y llynedd. Nawr, rwy’n tybio nad dim ond cael sgwrs ac yfed te oeddech chi. A wnewch chi ymrwymo i greu cofrestr hygyrch o bob cyfarfod rhwng Gweinidogion Llywodraeth Cymru a sefydliadau anllywodraethol i fod ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru?
 
13:49
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Nid lobïwyr yw’r rhain. Sefydliadau yr wyf i wedi cyfarfod â nhw pan yr wyf i wedi bod yn teithio o gwmpas Cymru yw’r rhain, busnesau a sefydliadau yr wyf i wedi cyfarfod â hwy yma yng Nghaerdydd. Nid lobïwyr ydyn nhw. Nid ydym ni’n cyfarfod â chwmnïau na sefydliadau lobïo proffesiynol. Dyna yw ein polisi ac ni chynhelir unrhyw gyfarfodydd o'r fath fyth.
 
13:49
Kirsty WilliamsBywgraffiad
Brif Weinidog, fel y dywedais, pan fyddwch chi’n cyfarfod â’r sefydliadau hyn, sut bynnag y byddwch chi’n penderfynu eu diffinio, nid dim ond sgwrsio ydych chi. Nid oes amheuaeth eu bod yn manteisio ar y cyfle i geisio dylanwadu ar syniadau’r Llywodraeth, ac mae hynny'n berffaith dderbyniol. Rwy'n gofyn eich bod yn gwneud hynny’n hygyrch i bobl Cymru fel eu bod yn gwybod gyda phwy yr ydych chi'n cyfarfod a beth yr ydych chi’n ei drafod. Ond a gaf i droi at drydydd mesur o dryloywder yn y ffordd yr ydym ni’n ymgymryd â’n gwleidyddiaeth yma yng Nghymru? O dan y rheolau presennol, penodir Cadeiryddion pwyllgorau'r Cynulliad gan arweinwyr y pleidiau. Nawr, mae hon yn system o nawdd a rheolaeth y dygwyd cymaint o anfri arni nad ydynt hyd yn oed yn gwneud hynny yn San Steffan mwyach. A allwch chi feddwl am un rheswm da pam na ddylai’r swyddi hyn gael eu hethol gan y Cynulliad cyfan yn hytrach na bod yn nwylo arweinwyr y pleidiau, ac a fyddech chi’n cefnogi newid o'r fath? [Torri ar draws.]
 
13:50
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Trefn, trefn.
 
13:50
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Nid wyf yn gwybod sut y mae pethau'n gweithredu yn ei phlaid hi, ond nid yw’r Cadeiryddion pwyllgorau yn fy mhlaid i yn fy nwylo i fel arweinydd. Fe’u hetholir gan y grŵp cyfan ac ni chânt eu penodi gennyf i, a dyna sut y dylai fod. Y peth olaf ddylai ddigwydd yw bod arweinwyr y pleidiau yn penodi Cadeiryddion ac yn cael gwared arnyn nhw ar sail mympwy. Gadawaf hynny i bleidiau eraill, ond nid yw'n digwydd yn fy mhlaid i. Mae'n rhaid cael elfen o annibyniaeth. Pan ddaw i bwyllgorau craffu— [Torri ar draws.]
 
13:50
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Trefn, trefn. Mae’n ddrwg gen i—
 
13:50
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, mae arweinydd yr wrthblaid yn uchel iawn ei gloch—mae ef, wrth gwrs, wedi diswyddo Cadeirydd pwyllgor; felly, mae'n debyg y byddai'n gwybod mwy nag yr wyf i am hyn, gan fy mod i’n deall mai’r arweinydd sy'n penodi'r Cadeiryddion yn ei blaid ef. Mae'n lefel o reolaeth sydd—[Torri ar draws.]
 
13:51
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Trefn.
 
13:51
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
O ran yr awgrym—
 
13:51
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Trefn.
 
13:51
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
O ran yr awgrym a wnaeth hi, mae’n syniad diddorol ac mae'n rhywbeth yr wyf yn credu sydd yn werth ei ystyried yn y Cynulliad nesaf.
 
13:51
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Gobeithio y byddwn yn symud i sesiwn tawelach nawr, a chawn gwestiwn 3 gan Darren Millar.
 
Cymunedau Arfordirol
 
13:51
Darren MillarBywgraffiad
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth ar gyfer cymunedau arfordirol yng Nghymru? OAQ(4)2720(FM)
 
13:51
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Gwnaf. Mae ein rhaglen adfywio flaenllaw Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid wedi arwain at awdurdodau lleol yn rhannu dros £100 miliwn o gyllid cyfalaf ar gyfer cynlluniau adfywio. Buddsoddwyd y cyllid hwnnw ledled Cymru, gan gynnwys cymunedau arfordirol. Er enghraifft, darparwyd £12 miliwn i Fae Colwyn a £7 miliwn i Gaergybi.
 
13:51
Darren MillarBywgraffiad
Brif Weinidog, byddwch yn ymwybodol bod twristiaeth yn hanfodol bwysig i’r economi arfordirol, gan gynnwys yn fy etholaeth fy hun, mewn lleoedd fel Bae Colwyn, ac yn wir Towyn a Bae Cinmel hefyd, ond un o'r pethau a allai roi'r diwydiant twristiaeth mewn perygl yw'r symudiad posibl i gasgliadau bin bob pedair wythnos yn ardal fy awdurdod lleol i, a allai weld cynnydd i dipio anghyfreithlon, sbwriel a'r plâu a allai ddeillio o ganlyniad i hynny. Pa gamau wnewch chi eu cymryd i sicrhau bod awdurdodau lleol yn gyfrifol yn y ffordd y maen nhw’n rheoli eu gwasanaethau casglu gwastraff fel nad yw’r mathau hyn o ganlyniadau anfwriadol yn codi ac nad ydynt yn achosi problem i dwristiaeth?
 
13:52
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, mater, wrth gwrs, i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yw hwn. Mae'n rhaid iddyn nhw wneud eu penderfyniad, yn seiliedig ar annog ailgylchu—mae hynny'n wir; nid oes gennym ni gymaint o dyllau yn y ddaear i roi sbwriel ag yr oedd unwaith yn wir yng Nghymru—a hefyd, wrth gwrs, sicrhau bod y gyfradd gasglu yn ddigon cadarn i osgoi tipio anghyfreithlon, sydd, wrth gwrs, yn ystyriaeth y mae'n rhaid iddyn nhw ei gwneud wrth iddyn nhw ystyried pa system y maen nhw’n ei mabwysiadu a pha mor aml y maen nhw’n casglu.
 
13:53
Joyce WatsonBywgraffiad
Brif Weinidog, wrth gwrs un gymuned arfordirol yn fy rhanbarth i sydd wedi derbyn cymorth arbennig yw cymuned Abergwaun ac Wdig, y dyfarnwyd £50,000 iddi ddwy flynedd yn ôl o gronfa partneriaeth canol tref y Llywodraeth hon. Mae'r arian hwnnw wedi helpu i ddarparu pob math o bethau, ac i enwi dim ond rhai: gwell Wi-Fi, siopau codi, mapiau a chanllawiau, ac ap bae Abergwaun wrth gwrs. Felly, Brif Weinidog, a gaf i ofyn: a fydd y Llywodraeth hon, neu unrhyw Lywodraeth yn y dyfodol, yn asesu gwerth y prosiectau hynny fel y gallwn eu symud i'r cam nesaf?
 
13:53
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Bydd, fel y dywed yr Aelod, dyfarnwyd £50,000 i'r bartneriaeth canol tref yn Abergwaun ac Wdig. Yr hyn sydd wedi digwydd yw ei fod wedi dyfeisio a datblygu ei weithredoedd pwrpasol ei hun ar gyfer yr ardal leol. Mae'r ap canol tref wedi cael ei grybwyll eisoes. Ceir gŵyl Aberjazz hefyd. Mae'n bwysig, wrth gwrs, ein bod ni’n gallu asesu effeithiolrwydd y cyllid hwnnw, ond mae'n ymddangos mai’r dystiolaeth gynnar o Abergwaun ac Wdig yw ei fod wedi cael ei ddefnyddio’n dda iawn.
 
13:54
Rhun ap IorwerthBywgraffiad
Mi hoffwn i droi at hyfywedd economaidd cymunedau arfordirol yng Nghymru fel rhan o strategaeth twf glas, os liciwch chi. Yn ei adroddiad diweddar ar botensial yr economi forol yng Nghymru, mi wnaeth y Pwyllgor Menter a Busnes, yr wyf yn aelod ohono fo, alw am strategaeth glir yn y maes yma i gynnwys mentrau ynni, twristiaeth amgylcheddol, trafnidiaeth, ac yn y blaen. A yw’r Prif Weinidog yn cytuno â’n hargraff ni fel pwyllgor bod ymateb y Llywodraeth yma i ddatblygu’r economi forol wedi bod yn ddarniog—yn ‘fragmented’—ac nad oes yna dystiolaeth ddigonol o weithredu fel Llywodraeth gyfan, rhywbeth sydd yn hanfodol mewn ardaloedd cwbl arfordirol, fel fy etholaeth i, Ynys Môn?
 
13:55
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, wrth edrych ar Ynys Môn, wrth gwrs, mae yna botensial mawr ar yr ynys i ddatblygu ynys ynni gyda’r pwerau newydd a fydd yn dod, rydym yn gobeithio, ym Mesur Cymru. Byddai’n rhwyddach, felly, i ddatblygu’r potensial hwnnw. Mae yna botensial mawr yng Nghaergybi, ac rydym wedi sicrhau bod £7 miliwn ar gael i Gaergybi hefyd. Ynglŷn ag Ynys Môn, wrth gwrs, rydym wedi datblygu’r llwybr o amgylch yr ynys hefyd, ac rydym yn dal i weithio gyda’r cyngor er mwyn datblygu economi a thwristiaeth Ynys Môn ymhellach.
 
13:55
Aled RobertsBywgraffiad
A gaf i ofyn pa ystyriaeth sydd wedi cael ei roi ynglŷn â’r effaith o ran y problemau o ran y llifogydd ar y rhaglen yr ydych newydd gyfeirio ati, sef y Vibrant and Viable Places ‘scheme’? A oes yna waith ychwanegol y bydd yn rhaid ei wneud o achos y difrod sydd wedi cael ei achosi yn yr ardaloedd ar y glannau?
 
13:55
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Os edrychwn ni ar Fae Colwyn, wrth gwrs, mae llawer o waith wedi cael ei wneud yno dros y blynyddoedd. Rwyf wedi bod ddwywaith i ganolfan Chwaraeon Dŵr Bae Colwyn. Mae hwnnw’n ddatblygiad pwysig dros ben i’r dref ei hun. Rydym wedi buddsoddi, wrth gwrs, mewn amddiffyn yn erbyn llifogydd mewn sawl rhan o Gymru. Wrth gwrs, fe wnes i ddatganiad sawl wythnos yn ôl ynglŷn â delio â’r sefyllfa ar yr A55 a hefyd yn Nhalybont.
 
Y Cynllun Datblygu Gwledig
 
13:56
Llyr GruffyddBywgraffiad
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau strategol y cynllun datblygu gwledig? OAQ(4)2729(FM)[W]
 
13:56
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Prif amcan Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru—sef, wrth gwrs, y rhaglen datblygu gwledig—yw cefnogi’r economi wledig, ac amaethyddiaeth yn benodol, drwy gyfnod o newid sylweddol.
 
13:56
Llyr GruffyddBywgraffiad
Diolch i chi am eich ateb. Agorwyd y ffenest geisiadau ar gyfer y chwe chynllun o dan y cynllun datblygu gwledig yn gynharach y mis yma. Petai'r ceisiadau i gyd yn cael eu talu allan, rydym yn sôn am ryw 250 o geisiadau llwyddiannus. Rydych hefyd wedi cyhoeddi yn awr na fydd unrhyw ffenest yn agor ar gyfer Glastir ‘entry’. Felly, bydd rhyw 1,600 na fydd yn gallu parhau i gyflawni’r gwaith ar y lefel benodol yna. Nawr, mi wnaeth holl ffermwyr Cymru, wrth gwrs, gyfrannu 15 y cant o biler 1 i biler 2 er mwyn ariannu’r cynllun datblygu gwledig, ond y realiti yw mai carfan fechan iawn sy’n mynd i lwyddo i gael mynediad i lawer o’r arian hwnnw. Felly, a gaf i ofyn beth yr ydych yn ei wneud i sicrhau, er mwyn gweld y newid trawsnewidiol yr ydym eisiau ei weld ar draws y diwydiant, bod nifer digonol o amaethwyr yn cael ‘access’ i’r arian yna? Fel arall, bydd yr arian yn mynd, wrth gwrs, i garfan sy’n rhy fach o lawer i weld y newid sylweddol yr ydym i gyd am ei weld.
 
13:57
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Fe wnaeth, wrth gwrs, y Gweinidog ddatganiad bythefnos yn ôl ynglŷn â’r ddau gynllun grant lle mae’r ffenest wedi agor. Mae £7.7 miliwn wedi cael ei dalu lan at nawr ynglŷn â chyllido’r cynllun newydd. Wrth gwrs, mae arian wedi cael ei ymrwymo hefyd i rai grwpiau ynglŷn â’r rhaglenni sydd ganddynt yn y dyfodol. Wrth gwrs, rydym am sicrhau bod y rhan fwyaf o ffermwyr yn gallu cael cymorth o dan y cynllun datblygu gwledig. Wrth gwrs, y broblem fawr yw a fydd yna gynllun datblygu gwledig gyda chronfeydd Ewropeaidd ar gael yn y pen draw? Mae hwnnw, wrth gwrs, yn gwestiwn i blaid arall yn y Siambr hon.
 
13:58
Russell GeorgeBywgraffiad
Brif Weinidog, byddwch yn ymwybodol bod gan y grant cynhyrchu cynaliadwy isafswm gwariant o £40,000, a bod 40 y cant o hwn yn gymwys i gael ei ariannu wedyn. Yn yr hinsawdd ffermio sydd ohoni, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno ei bod yn anodd iawn i ffermwyr ymrwymo i fuddsoddiad mor anodd. Ychydig iawn o aelodau sydd wedi gwneud cais o ganlyniad i’r cwmpas cyfyngedig. Rwy'n ymwybodol o'ch ateb blaenorol a datganiad y Gweinidog rai wythnosau'n ôl, ond sut ydych chi’n mynd i roi sylw i wneud y Cynllun Datblygu Gwledig yn fwy hygyrch i gyfran uwch o ffermwyr?
 
13:59
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, mae'n rhaid i mi ddweud mai barn arweinydd ei blaid ddoe oedd y dylai’r cynllun hwn fod yn llai hygyrch fyth, o ystyried y ffaith ei fod yn mynd i bleidleisio i adael yr UE, ond nid yr ymgyrch i adael yr UE, rwy’n deall, ac yn dymuno cymryd mwy na £200 miliwn o gymorth oddi wrth ffermwyr Cymru. Nawr, yr hyn nad yw wedi ei esbonio-[Torri ar draws.] Hynny yw, mater iddo fe yw hwn, ond rydym ni’n disgwyl yr esboniad ynghylch o ble y mae'r arian hwnnw’n mynd i ddod yn y dyfodol gan ei bod yn sicr na allwn ni ei fforddio yma. O'n safbwynt ni, byddwn yn parhau i gefnogi ffermio yng Nghymru. Byddwn yn parhau i fanteisio ar gronfeydd Ewropeaidd. Bydd Llafur Cymru yn sefyll dros ffermwyr Cymru, wrth i Dorïaid Cymru eu gwerthu i lawr yr afon.
 
13:59
William PowellBywgraffiad
Brif Weinidog, fel rydych chi newydd ei ddweud, mae’r penderfyniad gan arweinydd yr wrthblaid ddoe i wrthwynebu aelodaeth Prydain o'r Undeb Ewropeaidd yn mynd yn groes i’r union gonsensws a gafwyd yn y Siambr hon dros y 17 mlynedd diwethaf. Yn y cyfnod hwnnw, mae’r cynllun datblygu gwledig dros dri chyfnod olynol wedi gwneud dros £100 miliwn o fuddsoddiad mewn cymunedau gwledig yng Nghymru. Yn y cyd-destun hwnnw, Brif Weinidog, ac o gofio’r perygl y bydd eithafwyr gwallgof eraill yn rhuthro am y clogwyni hefyd, oni fyddai'n ddoeth i Lywodraeth bresennol Cymru gynyddu’r sgwrs gyda chymunedau gwledig ledled Cymru, er mwyn bod dealltwriaeth lawnach o'r hyn sydd yn y fantol yn y misoedd i ddod?
 
14:00
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Rwy’n cydnabod y brwdfrydedd y mae’r Aelod wedi ei ddangos am y mater cyfansoddiadol pwysicaf y byddwn yn ei wynebu eleni. Bydd ffermwyr Cymru yn nodi, yn ôl pob golwg, bod un o’u plith yn credu y dylid peryglu cymorthdaliadau. Bydd yn cael cyfle i esbonio ei safbwynt, rwy’n gwybod, ac mae wedi dweud y bydd yn gwneud hynny, ond y cwestiwn i ni yw hwn: mae ffermio yng Nghymru yn derbyn gwerth mwy na £200 miliwn o gymhorthdal ​​uniongyrchol bob blwyddyn, o ble fydd yr arian hwnnw’n dod yn y dyfodol? O ble mae'n mynd i ddod yn y dyfodol? Ni all ddod gan Lywodraeth Cymru. Mae'n ormod o arian i ni allu ei fforddio. Y gwir amdani yw bod ffermwyr Cymru yn gwybod ble maen nhw’n sefyll ar hyn o bryd, a byddant yn gwrthsefyll cael eu gwahodd i neidio oddi ar ymyl clogwyn yn y gobaith bod rhwyd ​​yr ochr arall, fel y’u gwahoddwyd i’w wneud gan arweinydd yr wrthblaid.
 
14:01
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Wyddoch chi, mae adleisiau ofnadwy yma heddiw? Rwy'n siŵr nad yw'r Siambr wedi newid ers yr wythnos diwethaf, felly mae'n rhaid mai’r bobl sydd ynddi sydd ar fai. Os gwelwch yn dda, gadewch i’r Gweinidogion ateb ac i bobl eraill ofyn eu cwestiynau. Cwestiwn 5 nawr gan William Graham.
 
Uwchraddio Adeiladau Ysgolion
 
14:01
William GrahamBywgraffiad
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effeithiolrwydd buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn uwchraddio adeiladau ysgolion? OAQ(4)2725(FM)
 
14:01
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Gwnaf. Bydd ein rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn gwneud buddsoddiad o £1.4 biliwn dros y cyfnod o bum mlynedd hyd at 2019. Bydd pob un o'r 22 awdurdod yn elwa ar y buddsoddiad hwn, a fydd yn arwain at ailadeiladu ac ailwampio 150 o ysgolion a cholegau ledled Cymru. Hyd yma, cymeradwywyd 96 o brosiectau yn rhan o’r rhaglen.
 
14:02
William GrahamBywgraffiad
Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei ateb. Efallai y bydd yn cofio yn 2006, i Rhodri Morgan, ei ragflaenydd, ddweud bod llawer o'n hysgolion yng Nghymru wedi eu hadeiladu'n wael iawn—sef y rheswm am y rhaglen y mae’n rhaid i chi ei chyflwyno nawr. Ond mae eich cyllid wedi gostwng o 50 y cant i 30 y cant, ac yn arwain at sefyllfaoedd fel yr hyn a ddigwyddodd gydag Ysgol Uwchradd Duffryn yng Nghasnewydd. Byddwch yn gwybod mai’r posibilrwydd yno o hyd yw cael ysgol cyfrwng Cymraeg ar yr un safle, gan ryddhau rhywfaint o gyllid i ailwampio’r ysgol, ac eto rhwystrodd Cyfoeth Naturiol Cymru y cais hwnnw ar ran olaf un yr ymgynghoriad. A ellir osgoi hynny yn y dyfodol?
 
14:02
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, mater i’r cyngor, wrth gwrs, yw beth sy'n digwydd o ran cynllunio. Dim ond i’w gwneud yn gwbl eglur, fel bod yr Aelod yn gwybod, nid yw’r mater o ailwampio Duffryn ac adeiladu ysgol gyfun cyfrwng Cymraeg newydd yn ymwneud â chyllid. Mae'r arian yno. Roedd yn fater lle y gwrthodwyd cais cynllunio. Rwy’n deall y bydd cais cynllunio newydd, ac yna wrth gwrs mae’n fater i'r cyngor benderfynu arno. Ond mae'r arian yno i ailwampio ysgolion drwy ein rhaglen, a cheir rhai materion cynllunio, yn amlwg, y mae angen eu datrys.
 
14:03
Lynne NeagleBywgraffiad
Brif Weinidog, mae cyngor Torfaen yn ymgynghori ar gau Ysgol Gynradd Victoria Village ac Ysgol Feithrin Brynteg yn Nhorfaen ar hyn o bryd yn rhan o raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Rwyf wedi codi nifer o bryderon trwy gydol y broses ymgynghori statudol. Rwy’n sylweddoli na allwch chi roi sylwadau ar gynigion i gau ysgolion unigol, ond mewn llythyr diweddar ataf i, dywedodd y Dirprwy Weinidog y bydd y broses newydd o gau ysgolion yng Nghymru, y mae gennyf lawer o bryderon yn ei chylch, yn destun adolygiad gan Lywodraeth Cymru. A gaf i ofyn am eich sicrwydd y bydd unrhyw adolygiad yn cymryd safbwyntiau rhieni a chymunedau i ystyriaeth, ac a gaf i ofyn i chi drafod hyn gyda'r Gweinidog addysg, er mwyn sicrhau bod hynny'n digwydd?
 
14:03
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
A gaf i ddiolch i'r Aelod am godi'r mater hwn? Rwy'n gwybod bod hwn yn fater y mae hi wedi bod yn weithgar iawn arno yn ei chymuned. Rwy’n deall ei bod wedi trefnu cyfarfod gyda'r Dirprwy Weinidog, Julie James beth bynnag, a gwn y bydd yn dadlau’n rymus ar ran yr etholaeth.
 
14:04
Simon ThomasBywgraffiad
Wrth gwrs, wrth i ysgolion gael eu hadnewyddu neu wrth i ysgolion newydd ddod yn eu lle, mae yna beryg, ac yr ydym yn ei weld e o le i le, y bydd un garfan iaith yn cael ei gosod yn erbyn carfan iaith arall. Rydym yn gweld anghytuno ynglŷn â dyfodol ysgolion Saesneg â ffrwd Cymraeg ac ysgolion Cymraeg yn llefydd mor amrywiol â Hwlffordd a sir Frycheiniog ar hyn o bryd. Beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau, felly, fod hawliau o ran dewisiadau iaith yn cael eu cydnabod yn y broses o adeiladu a chreu ysgolion o’r newydd? Hefyd, o gofio nad ydych chi ar eich targed ar hyn o bryd yn genedlaethol i gyrraedd y nod o gael plant i mewn i ysgolion Cymraeg, sut ydych chi’n mynd i sicrhau y bydd y cynllun yma yn darparu ar gyfer y pwrpas hwnnw?
 
14:04
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Cwestiwn sy’n berthnasol iawn. Yn gyntaf, wrth gwrs, beth sy’n bwysig yw bod awdurdodau lleol, yn gyntaf i gyd, yn ystyried y cynlluniau strategol addysg Gymraeg sydd ganddyn nhw, sef y WESPs. Mae'n rhaid iddyn nhw sicrhau eu bod yn cynllunio tuag at y galw sydd yna am addysg Gymraeg. Un o’r rhesymau, rwy’n credu, sydd wedi achosi llai o dwf na’r hyn y byddwn i eisiau ei weld, ynglŷn â’r nifer sy’n mynd i ysgolion Cymraeg, yw’r pellter sy’n gorfod ei deithio mewn rhai rhannau o Gymru i fynd i ysgol Gymraeg. Mae’n ffaith y bydd yna ysgol gyfun newydd yng Nghasnewydd—rwy’n gobeithio y bydd hynny o help. Rwy’n gobeithio gweld mwy o drefniadau ynglŷn ag addysg Gymraeg yn yr ysgolion uwchradd ym Mhowys hefyd. Os yw rhieni’n gweld ei bod yn rhwydd mynd i ysgol gynradd a hefyd yn rhwyddach i fynd i ysgol gyfun, i fi, bydd hynny’n help mawr i sicrhau bod rhieni’n ystyried addysg drwy’r iaith Gymraeg, ac nid dim ond mewn ysgolion cynradd, achos rydym yn gwybod ein bod yn colli plant ar ôl yr ysgolion cynradd, ond trwy oes eu plant, tra’u bod nhw yn yr ysgol.
 
14:06
Mick AntoniwBywgraffiad
Brif Weinidog, pe byddai’r Ceidwadwyr wedi ennill yr etholiad diwethaf, byddai’r toriad o 20 y cant y byddent wedi ei wneud ym maes addysg wedi golygu na fyddai unrhyw raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, a fyddai'n golygu na fyddai ysgol newydd y Pant gwerth £24 miliwn yn fy etholaeth wedi cael ei hadeiladu; ni fyddai'r ysgol £43 miliwn ar gyfer Tonyrefail wedi cael ei hadeiladu; ni fyddai ysgol newydd yn Llwyncrwn yn y Beddau; ni fyddai ysgol newydd i Williamstown ym Mhenrhiwfer; ac ni fyddai gwaith uwchraddio arall gwerth miliynau o bunnoedd yn fy etholaeth i wedi digwydd pe byddai’r Torïaid wedi ennill yr etholiad diwethaf, a phe bydden nhw’n ennill yr un nesaf. A allech chi amlinellu i mi, oherwydd llwyddiant y rhaglen hon, beth yw cynlluniau'r Llywodraeth o ran cam nesaf rhaglen adeiladu ysgolion yr unfed ganrif ar hugain Llafur Cymru? Mae gennym ni lawer o waith i'w wneud o hyd, Brif Weinidog.
 
14:06
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae’r Aelod yn gywir i dynnu sylw at yr holl ysgolion newydd sydd wedi eu hadeiladu yn ei etholaeth. Byddwn yn parhau â'n rhaglen i wneud yn siŵr ein bod yn disodli ysgolion ledled Cymru ac yn ailwampio ysgolion lle mae angen eu hailwampio.
 
Atgoffaf y blaid gyferbyn mai un o'r pethau cyntaf a wnaethant pan aethant i mewn i Lywodraeth yn Llundain oedd cwtogi’r rhaglen adeiladu ysgolion, i'r graddau bod bron dim yn digwydd yn Lloegr erbyn hyn. Ni fyddwn yn gwneud hynny i blant yng Nghymru.
 
Rwy’n cofio cyn etholiad diwethaf y Cynulliad—er tegwch, roedd ganddyn nhw wahanol arweinydd bryd hynny—ond, ymddangosodd yn fyw ar 'Wales Today' gan ddweud y byddai toriad o 20 y cant i addysg. Ers yr etholiad, mae’r blaid gyferbyn wedi dweud, 'Nid 20 y cant yw ef, 12 y cant yw ef', a nawr maen nhw’n dweud, 'Mae’r ffigur yna’n hen, ond nid ydym ni wedi dadansoddi’r rhifau eto'—yn union eiriau arweinydd yr wrthblaid. Byddai pobl Cymru wrth eu boddau o wybod beth yw maint y toriad y mae’r blaid gyferbyn—y Blaid Gweidwadol—yn ei gynnig mewn gwirionedd.
 
14:07
Aled RobertsBywgraffiad
Brif Weinidog, un o’r heriau sy’n wynebu unrhyw Lywodraeth i wella cyflwr ein hysgolion ni ydy presenoldeb asbestos. A gaf i ofyn i chi felly—? Mae’n amlwg bod yna weithgor arbennig wedi cael ei sefydlu yn Lloegr gan yr adran addysg sydd yn delio â hyn. Ond, maen nhw wedi bod yn hollol glir yn dweud bod ganddyn nhw gyfrifoldeb tuag at Loegr yn unig. Felly, a gaf i ofyn hyn i chi: wrth gofio bod y gweithgor hwnnw yn cynnwys aelodau o undebau llafur ac arbenigwyr penodol, a oes yna le inni edrych ar weithgor tebyg yng Nghymru? Neu a fyddech chi’n barod i ofyn am gynrychiolaeth o Gymru ar y gweithgor yn Llundain?
 
14:08
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Yr HSE sy’n gyfrifol am sicrhau bod ysgolion yn saff. Mae yna ganllawiau rydym wedi eu rhoi allan i berchnogion sydd â dyletswydd—‘duty holders’ yn Saesneg—er mwyn sicrhau eu bod yn gwybod yn gwmws beth yw eu dyletswyddau nhw ac, wrth gwrs, fel eu bod nhw’n gwybod beth yw eu dyletswyddau o dan y rheoliadau iechyd a diogelwch. Mae yna grŵp gweithredu wedi cael ei sefydlu er mwyn sicrhau bod ein canllawiau ni yn ganllawiau sy’n briodol i’r dyfodol, a hefyd i adolygu polisi a chanllawiau yng Nghymru.
 
Ansawdd Gofal Iechyd yn y DU
 
14:09
Ann JonesBywgraffiad
6. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o adroddiad diweddar yr OECD ar yr adolygiad o ansawdd gofal iechyd yn y DU? OAQ(4)2731(FM)
 
14:09
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Daeth y corff rhyngwladol uchel iawn ei barch hwn o hyd i ansawdd wrth wraidd system iechyd Cymru a'n bod yn rhoi blaenoriaeth i ofal o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar y claf. Mae'r adroddiad terfynol hwn yn gwrthbrofi o’r diwedd yr honiadau bod gwasanaeth iechyd penodol mewn un rhan o'r DU yn well na'r lleill.
 
14:09
Ann JonesBywgraffiad
Diolch yn fawr iawn am yr asesiad yna. Rwy’n credu hefyd bod adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi ymchwilio’n drylwyr iawn i’r sefyllfa gofal sylfaenol newydd sy'n datblygu yn fy etholaeth i, ar ôl i’r model ariannu meddygfeydd teulu ddangos o’r diwedd, pan fyddant eisiau rhoi’r gorau iddi, y cânt ymddeol a gadael eu rhestr cleifion yno. Nodir y ganolfan gofal sylfaenol yr ydym ni’n mynd i’w chael i ddisodli dwy feddygfa ym Mhrestatyn yn adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd fel y model i symud gofal sylfaenol yn ei flaen. Rwy'n gwybod y byddwch chi’n cytuno â mi ei bod yn bryd i Lywodraeth y DU edrych dros y ffin hon gydag eiddigedd ar y ffordd yr ydym ni’n cyd-drafod ac yn gwerthfawrogi ein holl staff sy'n gweithio yn y GIG. Mae'n hen bryd i Cameron a Hunt gytuno i'ch cais ac ymddiheuro’n ddiffuant o waelod calon am y niwed y maen nhw wedi ei wneud i aelodau gweithgar ac ymroddgar ein GIG yng Nghymru.
 
14:10
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, mae’r dystiolaeth annibynnol gennym ni yma sy'n dangos bod yr honiadau a wnaed gan y Prif Weinidog yn anghywir. Mae mor syml â hynny. Do, clywsoch fy nghais y dylai ymddiheuro; nid yw wedi gwneud hynny eto. Ond, un peth y gallaf ei addo i bobl Cymru yw nad ydym yn mynd i fewnforio streic meddygon iau y Torïaid i Gymru. Byddwn yn trin ein staff meddygol gyda pharch; byddwn yn siarad â nhw, yn hytrach na gorfodi contractau arnynt.
 
14:11
Darren MillarBywgraffiad
Beth am ddod yn ôl i realiti, ie? Y ffaith yw na wnaeth y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ystyried amseroedd aros ar gyfer profion diagnostig ac ni wnaethant ystyried amseroedd aros am driniaeth ychwaith. Y ffaith yw, Brif Weinidog, os ydych chi’n byw yng Nghymru, rydych chi’n fwy tebygol o fod ar restr aros, rydych chi’n fwy tebygol o aros yn hwy am eich profion diagnostig, ac rydych chi’n fwy tebygol o aros yn hwy am eich triniaeth ddiagnostig. Mae'n hanes gwarthus i'ch Llywodraeth—cwbl gywilyddus. Pam mae pobl yn aros yn hwy am eu llawdriniaethau dargyfeiriol ar y galon, pam mae pobl yn aros yn hwy am eu llawdriniaethau cataract, eu llawdriniaethau torgest a’u llawdriniaethau ar y glun—hyd at bron i dair gwaith cyn hired—os ydynt yn byw yng Nghymru o’i gymharu â Lloegr? Mae hynny'n annerbyniol. Dyna'r ffeithiau. Dyna eich hanes.
 
14:11
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae ei lais bob amser yn codi'n uchel pan fo pethau wedi mynd i'r pen. A ydych chi wedi sylwi hynny amdano, am yr Aelod dros Orllewin Clwyd?
 
14:11
Darren MillarBywgraffiad
Amddiffynnwch ef. Dewch yn eich blaen—
 
14:11
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Gadewch i mi ei atgoffa—
 
14:11
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Darren Millar, nid oes angen i weiddi yn y Siambr hon, yn enwedig pan fyddwch chi’n eistedd i lawr—ac mae hynny'n eich cynnwys chithau, Andrew R.T. Davies. Rhowch gorau iddi, os gwelwch yn dda. Brif Weinidog.
 
14:12
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, Lywydd, mae'n debyg ei fod yn wahanol i weiddi ar ei gilydd, sef yr hyn yr ydym ni wedi ei weld yn y diwrnodau diwethaf. Y gwir am y sefyllfa yw hyn—dyma ddywedodd adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd mewn gwirionedd:
 
mae “ansawdd” wrth wraidd system iechyd Cymru,
 
a rhoddir blaenoriaeth lefel uchel i bwysigrwydd gofal o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar y claf.
 
Mae gwella ansawdd gofal yn ymrwymiad sydd wedi’i sefydlu’n ddwfn ac a rennir yn eang yn system iechyd Cymru...Gwnaed ymdrech amlwg yng Nghymru i ddefnyddio pryderon a chwynion cleifion i helpu i wella ansawdd gofal.
 
Mae'n datgan bod Cymru ar y blaen o ran cysylltu data iechyd a gofal cymdeithasol unigolion yn ddiogel ac yn defnyddio rhai dangosyddion ansawdd yn ymarferol; bod yr ymrwymiad gan staff a'r cyhoedd i werthoedd y GIG yng Nghymru yn ymddangos yn gryf; a bod ystod dda o wybodaeth system iechyd, gan gynnwys am ansawdd, yn cael ei chasglu’n systematig yng Nghymru.
 
14:12
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Darren Millar, a wnewch chi wrando ar yr ateb? Brif Weinidog.
 
14:12
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae'n datgan bod cyflwyno cylch cynllunio tair blynedd ar gyfer y GIG yng Nghymru yn gam ymlaen o gylchoedd cyllideb blynyddol; bod gan y cam o greu clystyrau gofal sylfaenol y potensial o fod yn adnodd pwysig yng Nghymru; bod gan Gymru bensaernïaeth monitro a gwella ansawdd gyfoethog; bod yr ymgyrch 1,000 o Fywydau wedi bod yn ffordd lwyddiannus o feithrin diwylliant o wella ansawdd; bod labordy profi deunyddiau llawfeddygol Cymru yn fodel diddorol ar gyfer gwledydd eraill y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Gallwn barhau. Rydym ni’n gwario mwy ar iechyd yng Nghymru fesul pen nag y mae Lloegr, a dyna pam y mae'r blaid gyferbyn mor anobeithiol a gwichlyd gyda'u sylwadau.
 
14:13
Eluned ParrottBywgraffiad
Ydych, Brif Weinidog, rydych chi yn gwario mwy fesul pen efallai ar iechyd yng Nghymru nag unrhyw wlad arall, ond yn ôl adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, nid oes unrhyw ddarlun cyson yn dod i'r amlwg bod unrhyw un o bedair system iechyd y Deyrnas Unedig yn perfformio'n well na'r lleill, ac nid yw hynny'n cynnwys, wrth gwrs, amseroedd aros, fel y mae Darren Millar wedi dweud. Wel, yn amlwg, o ran cyllidebau iechyd, nid maint yw popeth. Pam mae eich Llywodraeth chi, yn ôl eich rhesymeg eich hun, yn cael llai o'ch buddsoddiad o ran canlyniadau a phrofiad cleifion yn erbyn arian a fuddsoddir yn y gwasanaeth iechyd nag mewn unrhyw ran arall o'r DU?
 
14:14
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Os gwnaiff hi edrych ar yr adroddiad, bydd yn gweld bod meysydd lle mae GIG Cymru yn gwneud yn well na GIG Lloegr, a cheir meysydd lle mae'r gwrthwyneb yn wir—mae hynny'n gywir—a dyna’r meysydd lle mae angen gwelliant. Ond, yr hyn yr ydym ni’n ei wybod yw pan ddaw i amseroedd aros, bod Lloegr yn tylino ei ffigurau. Mae pobl yn gofyn i mi beth yw’r dystiolaeth o hynny, ac mi wnaf ddweud: canfu BBC Radio 5, pan roedd yn dod i amseroedd aros Damweiniau ac Achosion Brys o fwy na 12 awr, mai ychydig filoedd oedd y ffigur swyddogol, ond mai 124,000 oedd y ffigur go iawn. Pam? Oherwydd bod Lloegr yn cyfrif ei chanolfannau galw i mewn fel canolfannau damweiniau ac achosion brys ac, wrth gwrs, nid oes gennym ni ganolfannau galw i mewn yng Nghymru. Mae'n ffordd hawdd o gyflwyno eich ffigurau os yw’r ffigur hwnnw gennych. Un peth y gallaf ei addo i'r Aelodau yn y Siambr hon yw na fyddwn fyth yn lleihau gwariant fesul pen ar iechyd yng Nghymru i'r lefelau y maen nhw o dan y Torïaid yn Lloegr.
 
Darpariaeth Addysg (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
 
14:15
Kirsty WilliamsBywgraffiad
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth addysg Brycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)2726(FM)
 
14:15
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Gwnaf, cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw darparu addysg yn yr ardal hon. Mae'n rhaid iddo benderfynu faint a pha fath o ysgolion y dylid eu darparu a sicrhau, gyda'r consortiwm rhanbarthol, y gall y rhain ddarparu'r canlyniadau gorau posibl ar gyfer disgyblion.
 
14:15
Kirsty WilliamsBywgraffiad
Diolch yn fawr iawn, Brif Weinidog. Rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol bod cannoedd, cannoedd yn llythrennol, o bobl wedi ymgynnull y tu allan i neuadd y sir yn Llandrindod y bore yma i brotestio yn erbyn y cynigion sy'n cael eu cyflwyno gan y cyngor o ran ad-drefnu ysgolion uwchradd yn Sir Frycheiniog a Sir Faesyfed. Brif Weinidog, mae'n ofid i mi ddweud hyn, ond rwy’n meddwl bod pobl fy etholaeth i wedi colli pob hyder yng ngallu cabinet Cyngor Sir Powys i gynllunio'n llwyddiannus ar gyfer dyfodol addysg yn y rhan honno o'r sir, a’u cwestiwn i mi y bore yma oedd, 'Beth mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud am y peth?' Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu y bydd y cynlluniau a gyflwynwyd yn gwella'r allbwn addysgol ar gyfer y sir nac ar gyfer y plant, ond mae digon o dystiolaeth bod cynigion y sir yn gosod cymuned yn erbyn cymuned ac, o bosibl, yn gosod iaith yn erbyn iaith. A fyddech chi’n cytuno â mi nad yw honno’n unrhyw ffordd o recriwtio a chadw'r staff addysgu gorau yn y sir ac nad yw'n unrhyw ffordd o ysbrydoli pobl ifanc Brycheiniog a Sir Faesyfed i lwyddo yn eu hysgolion?
 
14:16
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae'r Aelod yn cynrychioli’r achos a gyflwynwyd gan ei hetholwyr yn rymus. Bydd hi'n deall na all Gweinidogion Cymru wneud sylwadau ar gynigion ad-drefnu unigol ond mae'n sefyll i reswm, lle ceir cynigion newydd, bod cymaint o ymgynghori â phosibl, lle cymerir safbwyntiau’r cyhoedd i ystyriaeth, a bod penderfyniadau’n gwbl seiliedig ar yr hyn sydd orau i blant. Mae hi wedi gwneud y pwynt ei bod yn poeni bod iaith yn cael ei gosod yn erbyn iaith, cymuned yn erbyn cymuned. Mae hynny'n peri gofid mawr i mi ac rwy'n credu ei bod yn hynod bwysig fod Powys yn gallu datrys y problemau hynny a darparu system addysg sy'n ennyn cefnogaeth rhieni—eu penderfyniad nhw yw hwn yn y pen draw—ac, wrth gwrs, mae hynny’n cymryd safbwyntiau rhieni i ystyriaeth.
 
14:17
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Diolch yn fawr, Brif Weinidog.
 
14:17
Cwestiwn Brys: Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Rwyf wedi derbyn cwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66, a galwaf ar Llyr Gruffydd i ofyn y cwestiwn. Llyr Gruffydd.
 
14:17
Llyr GruffyddBywgraffiad
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gwasanaethau dan bwysau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? EAQ(4)0694(HSS)
 
14:17
Vaughan GethingBywgraffiadY Dirprwy Weinidog Iechyd
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Yn debyg iawn i lawer o rannau eraill o'r Deyrnas Unedig, mae gwasanaethau gofal brys ac argyfwng yn y gogledd wedi bod trwy gyfnod o bwysau a galw sylweddol ers troad y flwyddyn. Ceir lefel uchel o gleifion ac ambiwlansys yn cyrraedd adrannau damweiniau ac achosion brys o hyd ac mae'r holl staff yn gweithio'n galed i ddarparu gwasanaethau diogel ac effeithiol.
 
14:17
Llyr GruffyddBywgraffiad
Ddirprwy Weinidog, fe’m hysbyswyd gan nyrsys yn Wrecsam yn ddiweddar y cyflwynwyd rhybudd coch yn ysbyty Maelor wythnos neu ddwy yn ôl, a dweud y gwir, a bod yr adran damweiniau ac achosion brys yno wedi cau am gyfnod byr o amser. Gwyddom fod Betsi Cadwaladr, wrth gwrs, wedi bod yn destun mesurau arbennig o dan eich Llywodraeth ers wyth mis bellach ac nid yw'n ymddangos, pan welwn y mathau hyn o ddigwyddiadau, bod llawer o oleuni ar ben y twnnel penodol hwn fel y saif pethau. Mae'n wir, fel yr atgoffodd y Prif Weinidog ni, nad oes angen i rai pobl fod mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ond, wrth gwrs, gan eich bod wedi cau unedau mân-anafiadau, gan eich bod wedi methu â staffio gwasanaethau meddygon teulu’n briodol, ac wedi methu â darparu gwasanaeth meddygon teulu da y tu allan i oriau, nid yw hynny wedyn yn rhoi fawr o ddewis i lawer o bobl ond mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys. Rydym ni’n gwybod bod meddygon a nyrsys a staff eraill yn gwneud gwaith rhagorol o dan y pwysau y maen nhw’n ei wynebu, ond mae'n cael effaith arnyn nhw ac, wrth gwrs, yn cael sgil-effeithiau. Felly, oni fyddech chi’n cytuno, Ddirprwy Weinidog, bod angen i ni hyfforddi a recriwtio mwy o feddygon a nyrsys ar frys fel y gallwn fynd i'r afael â'r argyfwng staffio yr ydym ni’n ei ddioddef yn y gogledd, fel y gallwn leddfu’r pwysau ar y gwasanaeth a gwneud ein GIG yn well?
 
14:18
Vaughan GethingBywgraffiad
Wel, rwy’n gresynu at y ffordd y mae'r Aelod wedi fframio ei gwestiwn heddiw. Ceir pwysau sylweddol ar staff yn ein gwasanaethau damweiniau ac achosion brys, ac nid yw awgrymu bod pwysau a'r cynnydd sylweddol mewn galw sy'n dod trwy ddrysau ysbytai ar draws y gogledd Cymru yn unrhyw beth i'w wneud â mesurau arbennig yn cael ei gefnogi gan y ffeithiau, a byddwn yn gofyn i chi fyfyrio ar hynny. Ym mis Ionawr, ar y Suliau, roedd mwy na 25 y cant o gynnydd mewn galw o’i gymharu â'r llynedd. Yn wir, roedd galw cyffredinol fyny 10 y cant o'i gymharu â mis Ionawr y llynedd. Nid oes amheuaeth bod galw ychwanegol. Mae'r rhain yn bobl sydd angen bod mewn ysbyty. Mae'r rhain yn bobl sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty. Mae'r gyfradd derbyn i'r ysbyty wedi cynyddu tua 6 y cant o'i gymharu â mis Ionawr y llynedd. Felly, mae problem ynghylch pobl nad oes angen iddyn nhw fod mewn adran damweiniau ac achosion brys ac rwy’n annog pobl, fel y dywedodd y Prif Weinidog, i ddewis yn dda a pheidio â mynd i adran damweiniau ac achosion brys os nad oes angen iddyn nhw fod yno; mae dewisiadau eraill ar gael. Rhan o'n her, fodd bynnag, yw sut yr ydym ni’n cynllunio ar gyfer y gaeaf bob blwyddyn a phoblogaeth lle’r ydym ni’n cydnabod bod mwy a mwy o bobl yn dod i mewn i'n hadrannau bob blwyddyn. Mae hon yn broblem ac yn her ledled y DU. Er, hyd yn oed gyda'r galw ychwanegol sy’n dod drwy'r drws, mae’r un nifer o bobl yn cael eu gweld o fewn pedair awr o'i gymharu â'r misoedd cynt. A, phan fyddwch chi’n meddwl am y gweithgarwch dewisol sy'n dal i ddigwydd, rydym ni wedi gweld mwy o bobl ar weithgarwch dewisol o’i gymharu â'r gaeaf diwethaf. Felly, ceir pwysau gwirioneddol ac rwy’n cydnabod y gofynion sylweddol y mae staff yn eu hwynebu, ac rwy’n diolch ac yn cydnabod ymroddiad y staff, y cwrddais i â nhw yn Wrecsam ac yn Llandudno yr wythnos diwethaf. Ond nid yw hwn yn fater lle y ceir ateb syml, hawdd.
 
Rydym ni’n cynllwynio diwygiad i’r system fel bod gan fwy o bobl ddewisiadau eraill ar gyfer triniaeth y tu allan i'r ysbyty. Mae'r gwasanaeth y tu allan i oriau yn gwella ar draws y gogledd, fel rhan allweddol o'r hyn yr ydym ni eisiau gweld Betsi Cadwaladr yn ei wneud, ac rwy’n hyderus bod ein staff yn darparu gwasanaeth diogel ac effeithiol. Rwy'n hapus i ymdrin â chraffu ar y pwysau yr ydym ni’n ei wynebu, ond nid wyf wir yn meddwl bod awgrymu bod hyn yn gysylltiedig mewn unrhyw ffordd â mesurau arbennig yn ddefnyddiol nac yn gywir.
 
14:20
Darren MillarBywgraffiad
Mae'n dystiolaeth eglur bod eich polisi o gau unedau mân-anafiadau a chymryd y dewisiadau eraill hynny i ffwrdd wedi bod yn fethiant llwyr, ac yn achosi mwy o bwysau ar ysbytai yn y gogledd. Mae hefyd yn dystiolaeth eglur nad yw'r cynlluniau sydd wedi eu datblygu ar gyfer y gaeaf tra eich bod chi wedi bod yn gyfrifol am y bwrdd iechyd wedi bod yn ddigonol i fynd i'r afael â'r problemau capasiti yn ein hysbytai. A ydych chi'n difaru bod yn rhan o Lywodraeth sydd wedi gweld gostyngiad o un rhan o bump i nifer y gwelyau cleifion mewnol mewn ysbytai dros y 15 mlynedd diwethaf, ac a ydych chi’n derbyn bod hynny wedi ychwanegu at y pwysau hyn yn ein hysbytai lle mai capasiti’r ysbytai yw'r broblem, nid nifer y bobl sy’n cyrraedd drws ffrynt yr ysbyty o reidrwydd?
 
14:21
Vaughan GethingBywgraffiad
Wel, mae'n ddatganiad eithaf anhygoel i ddweud nad nifer y bobl sy'n cyrraedd yw'r broblem, pan ein bod yn gweld y lefelau mwyaf erioed o alw. Nid wyf yn deall sut y gallai unrhyw berson rhesymegol neu resymol gymryd hynny fel casgliad. Ac er yr holl ddicter ac ebychiadau gan Darren Millar, mae'n rhaid i mi ddweud bod ein staff yn y GIG yn cydnabod eu bod mewn gwasanaeth sy'n eu gwerthfawrogi, eu bod mewn gwasanaeth sy'n cydnabod y pwysau sydd arnyn nhw, ac rwy'n falch o fod yn rhan o Lywodraeth sy'n gwerthfawrogi ein gwasanaeth iechyd gwladol, nid fel mater o gyfleustra gwleidyddol, ond fel mater o argyhoeddiad. Rydym ni’n blaid o argyhoeddiad dros y GIG, gwasanaeth sy'n atebol i'r cyhoedd yr ydym ni’n falch ohono, ac yr ydym ni’n dal i ddisgwyl i bobl allu troi i fyny a chael gwasanaeth diogel ac effeithiol, a gwasanaeth a fydd yn para ar gyfer y dyfodol. Rwy'n falch iawn o'r hyn yr ydym ni’n ei wneud, ac rwy'n falch iawn o'r hyn y mae ein staff yn ei wneud ar ran pobl ym mhob rhan o Gymru bob un dydd.
 
14:22
Aled RobertsBywgraffiad
Rwy’n rhannu’r balchder hwnnw yn y GIG. Rydych chi wedi sôn ei fod yn ffenomen ar draws y DU, ond, o ystyried eich bod chi yn Wrecsam yr wythnos diwethaf, a gawsoch chi unrhyw drafodaethau gyda'r bwrdd iechyd gan roi sylw i adroddiad y bwrdd iechyd ym mis Rhagfyr, pan ddywedodd rheolwyr iechyd
 
mae rhywbeth sy'n unigryw i Maelor Wrecsam, ei arferion a sut y mae ei boblogaeth yn defnyddio'r adran achosion brys?
 
Efallai fod hyn oherwydd y gostyngiad i nifer yr ysbytai cymuned yn y gogledd-ddwyrain a chau unedau mân-anafiadau, ac rwy’n meddwl tybed a ydych chi wedi gofyn am unrhyw esboniad gan y bwrdd iechyd yn ystod y cyfnod o fesurau arbennig o’i ddatganiad ei hun bod rhywbeth unigryw ac sy’n peri pryder yn digwydd yn Wrecsam, o gofio bod yr un bwrdd iechyd hwnnw wedi hysbysebu swyddi ar lefel ymgynghorol yn yr adran damweiniau ac achosion brys am rai misoedd, ac yn or-ddibynnol ar nyrsys locwm a banc yn yr un adran, fel y gwelir gan chwythwr chwiban a aeth i'r wasg yn ein hardal ni yr wythnos diwethaf?
 
14:23
Vaughan GethingBywgraffiad
Siaradais yn uniongyrchol â staff, staff nyrsio ac ymgynghorol, pan ymwelais â'r ysbyty—ymweliad dirybudd, a dweud y gwir—fore dydd Gwener. A gwnaeth lefel yr ymroddiad gryn argraff arnaf, fel y dywedais, ac nid wyf yn meddwl bod—. Ni ddylem gymryd yn ganiataol yr ymrwymiad gwirioneddol y mae angen i’n staff ei ddangos. Maen nhw’n cydnabod bod hyn yn ymwneud â galw ychwanegol yn dod drwy'r drws na allent ac na wnaethant ei ragweld eu hunain. Ac rwyf yn dweud, er gwaethaf y galw sy'n dod drwy'r drws, bod y ffaith fod y system yn ymdopi yn gamp nodedig i’n staff a'r system yr ydym ni’n ei chynnal ac yn dibynnu arni. Ond rwyf wedi siarad â'r bwrdd iechyd ar sawl achlysur am berfformiad ar draws gofal heb ei drefnu yn y gogledd, am yr angen i weld adeiladu ar ragor o welliannau yn y gwasanaeth y tu allan i oriau, ac i weld rhagor o ddewisiadau amgen i osgoi derbyniadau yn y lle cyntaf. Mae hynny'n ymwneud â gofal sylfaenol yn gweithio gyda gofal eilaidd, yn gweithio gyda gwasanaethau cymdeithasol, yn gweithio gyda'r sector gwirfoddol ac yn gweithio gyda darparwyr tai hefyd. Felly, mae ceisio awgrymu bod hwn yn ddarlun syml a bod un ateb—nid wyf erioed wedi derbyn hynny; mae hynny wir yn gwneud anghyfiawnder â’r heriau y mae'r gwasanaeth yn eu hwynebu.
 
Rwyf wedi ei gwneud yn eglur iawn fy mod i’n disgwyl gweld gwelliant ar draws y system. Rwyf hefyd wedi ei gwneud yn eglur bod amrywiadau yng ngofal iechyd y gogledd rhwng y ffigurau gofal heb ei drefnu ym Mangor ar y naill ochr a Glan Clwyd a Wrecsam hefyd. Ac mae rhai o'r rheini’n ymwneud â diwylliant unigol ac nid yn unig, o ran y boblogaeth, y ffordd y maen nhw’n defnyddio'r ysbyty, ond hefyd am rai o'r heriau yn y gymysgedd staff a’r arweinyddiaeth yno. Felly, mae angen i ni weld rhai o'r arferion hynod lwyddiannus sy'n bodoli ym Mangor yn cael eu trosglwyddo i Lan Clwyd a Wrecsam hefyd. Rwy'n falch iawn o weld bod grŵp o staff brwdfrydig, gan gynnwys y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys, sy'n cydnabod ein parodrwydd i weithio â nhw a'r uned gyflawni a'r boblogaeth leol i wella canlyniadau gofal iechyd i bobl ledled y gogledd.
 
14:25
Janet Finch-SaundersBywgraffiad
Ddirprwy Weinidog, o ganlyniad i lawer o ymgyrchu ar fy rhan i a llawer o bobl eraill yn lleol, mae gennym ni uned mân-anafiadau wych yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno erbyn hyn â staff rhagorol a chymwysedig. Mae'r uned hon, wrth gwrs, yn darparu cyfleuster ar gyfer llawer o'r rhai yr ystyrir yn aml fel yr achosion 'unrhyw beth a phopeth’ i gael eu trin yn briodol ac yn fwy lleol, gan leihau'r pwysau ar, dyweder, Glan Clwyd. Ond mae'r ymwybyddiaeth o'r uned hon yn dal i fod yn isel iawn.
 
Hefyd, rwy’n deall mai’r straen presennol o ffliw sy’n mynd o gwmpas yw H1N1, sy’n straen difrifol iawn, iawn o ffliw ac mae’n targedu oedolion iau a systemau anadlu’r rheini ac, wrth gwrs, yr henoed, ac eto mae'r nifer sydd wedi manteisio ar y brechlyn ffliw eleni yn arbennig o isel. Mae'r ddau o'r rhain yn achosion ac enghreifftiau o bryd y ceir lefelau cyfathrebu gwael yn dod oddi wrth y bwrdd, ond hefyd oddi wrthych chi fel Dirprwy Weinidog, sy'n gyfrifol am ymyriad bwrdd Betsi yn ystod mesurau arbennig. Ddirprwy Weinidog, sut ydych chi’n bwriadu gwella’r lefelau cyfathrebu ynghylch yr uned mân-anafiadau yn Llandudno ac, yn bwysicach, ynghylch yr angen pendant i bobl fanteisio ar y brechlyn ffliw, o ystyried y straen ffyrnig iawn sy’n mynd o gwmpas ar hyn o bryd?
 
14:27
Vaughan GethingBywgraffiad
Rwy’n croesawu cefnogaeth Janet Finch-Saunders i’r uned mân-anafiadau yn Llandudno. Nid wyf yn ymwybodol bod ganddi unrhyw ddylanwad ar y penderfyniad i fuddsoddi ynddi. Roeddwn i’n falch iawn o ymweld â staff yn yr uned—[Torri ar draws.] Rwy’n bod yn berffaith onest. Roeddwn i’n falch iawn o ymweld â staff i weld y gwaith y maen nhw’n ei wneud, ond hefyd i weld y lefel uchel iawn o ymwybyddiaeth sy'n datblygu ymhlith y boblogaeth leol ac ymarferwyr lleol yn wir. Felly, rwy’n credu ei fod yn wasanaeth yr ydym ni wedi bod yn iawn i fuddsoddi ynddo. Rwy'n falch iawn o'r hyn y maen nhw’n ei wneud.
 
O ran y pwynt yr ydych chi’n ei wneud am y brechlyn ffliw, rydym ni’n gwybod, bob un blwyddyn, ein bod yn gwneud ymdrech sylweddol i wneud pobl yn ymwybodol o'r angen a’r dymunoldeb i dderbyn y brechlyn ffliw. Bob blwyddyn, mae Gweinidogion yn cael y cyfle i godi cywilydd arnynt eu hunain, fel y gwneuthum i eleni, fel cyfle chwithig i gael tynnu llun yn rhan o'r ymgyrch brechlyn ffliw. Mae ar gyfer pobl hŷn ac mae ar gyfer pobl sydd mewn perygl, gan gynnwys fi. Rwyf i yn y boblogaeth mewn perygl oherwydd fy nghlefyd yr arennau yn y gorffennol. Ac felly rydym ni eisiau annog mwy a mwy o bobl i dderbyn y brechlyn. Rhan o'n her fodd bynnag, yw bod llawer o bobl yn ymwybodol o'r brechlyn, ei fod ar gael, eu bod mewn categori sydd mewn perygl, ond maen nhw’n dewis peidio â’i gymryd. Mae hynny'n cynnwys staff gofal iechyd proffesiynol a gormod o bobl hŷn hefyd. Felly, ceir her barhaus o ran cyfathrebu, ond nid wyf yn credu ei bod yn ddefnyddiol o gwbl ceisio awgrymu mai bai un unigolyn yw hyn, boed hynny yn y Llywodraeth neu yn rhywle arall. Ceir her ehangach yma ac mae angen mwy nag un ffurf o gyfathrebu arnom a mwy o bobl yn annog pobl i wneud y peth synhwyrol a derbyn y brechlyn ffliw pan fo’n cael ei gynnig a'i fod ar gael.
 
14:28
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Diolch, Ddirprwy Weinidog.
 
14:28
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at eitem 2, sef y datganiad a chyhoeddiad busnes. Galwaf ar Weinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, Jane Hutt.
 
14:28
Jane HuttBywgraffiadY Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
Diolch, Lywydd. Ni fu unrhyw newidiadau i'r datganiad busnes ar gyfer busnes yr wythnos hon, ac mae’r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, y gellir ei weld ymhlith papurau'r agenda sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
 
14:29
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
Arweinydd y tŷ, a yw'n bosibl cael datganiad gan y Gweinidog iechyd yn ymwneud â pharcio yn Ysbyty Athrofaol Cymru? Rwyf yn derbyn yn llwyr mai mater gweithredol rhwng y bwrdd iechyd a'i gontractwyr yw hwn, ond mae problem enfawr bellach yn datblygu ynglŷn â dirwyon posibl yn erbyn aelodau staff yr ysbyty mewn cyswllt â pheidio â thalu o ganlyniad i anghysondebau mewn hysbysiadau a meysydd eraill sy'n peri pryder. Mae rhai aelodau staff yn wynebu rhwymedigaethau enfawr o bosib. Unwaith eto, nid wyf yn rhoi'r bai ar Lywodraeth Cymru yn y fan yma, ond rwyf yn credu bod angen cymorth gan drydydd parti i geisio llywio llwybr rhwng gweithredwr y gyfundrefn barcio yn ysbyty’r Mynydd Bychan a'r bwrdd iechyd ei hun gan fod llawer o staff yn canfod eu hunain yn derbyn hysbysiadau ac maent yn llythrennol ar ben eu tennyn oherwydd bygythiadau achos llys. Byddwn yn ddiolchgar iawn o ddeall a oes gan Lywodraeth Cymru ffordd o gynorthwyo i hwyluso rhyw fath o ddatrysiad i hyn, fel y gall aelodau staff barhau â'r gwaith y maent yn awyddus iawn i’w wneud, sef gofalu am bobl yn yr ysbyty.
 
14:30
Jane HuttBywgraffiad
Mae arweinydd yr wrthblaid yn llygad ei le; mater gweithredol i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro yw hwn. Yn wir, cyfarfûm ag aelodau staff, fel, yn wir—. Gwyddom am yr anawsterau sy'n wynebu aelodau'r staff ac rydym yn ymwybodol iawn ohonynt, ac wrth gwrs, mae'r bwrdd iechyd yn awyddus i fynd i'r afael â hyn. Mae hwn yn gontract tymor hir, yn anffodus, sy'n mynd yn groes i'n polisi Llywodraeth Cymru— polisi Llywodraeth Lafur Cymru—i gael parcio ceir am ddim, meysydd parcio rhad ac am ddim, yn ein cyfleusterau iechyd, sydd, fel y gwyddoch, yn hwyluso ac yn darparu mynediad da i gleifion a pherthnasau, ac, yn bwysicaf oll, fel y dywedwch, aelodau'r staff. Ond mae hyn yn fater gweithredol allweddol, y mae’r bwrdd iechyd yn ymdrin ag ef.
 
14:30
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
William Powell. William Powell, peidiwch â sgwrsio â Dafydd Elis-Thomas.
 
14:30
William PowellBywgraffiad
Diolch, Lywydd. Weinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, yn dilyn y newyddion cadarnhaol gan Gyngor Gwynedd yr wythnos diwethaf, ynglŷn â dyfodol Amgueddfa Lloyd George? A fyddai'n bosibl cael datganiad gan y Dirprwy Weinidog diwylliant ar ddyfodol tymor hir y cyfleuster pwysig hwnnw, gan fod y cyngor wedi nodi na fydd, yn y tymor hir, yn gallu ymrwymo i’w hariannu, ac o gofio pwysigrwydd coffáu Prif Weinidog pwysicaf Cymru?
 
14:31
Jane HuttBywgraffiad
Wel, wrth gwrs, mae hwn eto yn fater i Gyngor Gwynedd. Gwn y bydd y Dirprwy Weinidog yn ymwybodol o hyn, ac yn ymwybodol, fel llawer ohonom sydd wedi ymweld â’r amgueddfa honno, pa mor bwysig yw hi o ran ein hanes, ac wrth gwrs i gydnabod y Cymro allweddol hwnnw.
 
14:31
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
William Graham. William Graham.
 
14:31
William GrahamBywgraffiad
Mae'n ddrwg gennyf. [Chwerthin.] Rwyf yn ymddiheuro.
 
Weinidog Busnes, tybed a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog treftadaeth ynglŷn â llong ganoloesol Casnewydd. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol, trwy ymdrechion gwirfoddolwyr yn gyfan gwbl, bod y llong wedi'i chadw, ar ôl cael cyllid cychwynnol gan Lywodraeth Cymru. Mae'n dod ar adeg pan fo rhai busnesau lleol wedi gallu helpu hynny, ond tybed a allai fod arian penodol yn y gyllideb sydd ar ddod. Yn y dimensiwn Ewropeaidd, wrth gwrs, bydd y Gweinidog yn ymwybodol yr adeiladwyd y llong mewn gwirionedd yn Sbaen, ond ei bod wedi masnachu ar arfordir Cymru yn gynnar yn y bymthegfed ganrif.
 
14:32
Jane HuttBywgraffiad
Wel, mae gennyf ddiddordeb mawr, William Graham, yn y ffaith eich bod yn crybwyll y dimensiwn Ewropeaidd hwnnw mewn termau cadarnhaol, o ran pwysigrwydd y llong honno, a'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi ei hachub mewn gwirionedd, ac wedi ariannu—peth amser yn ôl nawr—o ran y chwistrelliad arian hwnnw, ond, hefyd, i gydnabod pwysigrwydd hanesyddol. Ac rwyf yn siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog diwylliant yn awyddus i glywed yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y datblygiadau, o ran gwarchod y llong hanesyddol arbennig honno.
 
14:33
Kirsty WilliamsBywgraffiad
Weinidog, yr wythnos hon yw wythnos anhwylderau bwyta rhyngwladol, pan fydd pobl yn ceisio edrych ar y frwydr barhaus y mae nifer o bobl yn ei hwynebu o ran anhwylderau bwyta. A wnaiff y Gweinidog sicrhau bod datganiad ysgrifenedig ar gael, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad ynghylch y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddarparu mwy o wasanaethau i bobl sy'n dioddef o anhwylderau bwyta yng Nghymru? Mae llawer o bobl yn gorfod dod o hyd i leoliadau ymhell o gartref, ac rwyf yn gwybod bod y Llywodraeth yn ymrwymedig i ddatblygu gwasanaethau yn lleol, fel y gall pobl ddod o hyd i gymorth a chefnogaeth o fewn eu cymunedau. Byddwn yn gwerthfawrogi cael y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith hwn yn fawr iawn.
 
14:33
Jane HuttBywgraffiad
Byddai'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, mi wn, yn hapus iawn i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf honno, o ystyried, dros y blynyddoedd, ein bod wedi datblygu llwybr, ac wedi bod yn arbennig o awyddus i edrych ar ffyrdd y gallwn ddarparu gwasanaethau i bobl ag anhwylderau bwyta mor agos i'w cartrefi â phosibl.
 
14:33
Russell GeorgeBywgraffiad
Weinidog, a wnewch chi ofyn i'r Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd i wneud datganiad brys ar y rhesymau y tu ôl i'r oedi o ran ffermwyr yn derbyn llythyrau gan Daliadau Gwledig Cymru ar statws eu taliadau, o dan cynllun y taliadau sylfaenol? Mae dwsinau o ffermwyr wedi cysylltu â mi, am nad ydynt wedi derbyn eu taliadau nac unrhyw ohebiaeth yn amlinellu amserlen ar gyfer talu, er gwaethaf sicrwydd gan Lywodraeth Cymru y byddai llythyrau yn cael eu hanfon at y ffermwyr yr effeithiwyd arnynt ddiwedd mis Ionawr a dechrau mis Chwefror. Mae hwn yn fater parhaus, sy'n cael effaith niweidiol ar y gadwyn gyflenwi amaethyddol gyfan. A gaf i ofyn am ddatganiad brys ar hyn? Mae ffermwyr angen eglurder a brys ynghylch yr amserlen ar gyfer taliadau, i leddfu'r pwysau diangen sydd arnynt. A gaf i ofyn ymhellach—? Rwyf wedi ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog amaethyddiaeth a bwyd ar ran nifer o etholwyr ynghylch statws eu taliadau. Roedd hynny dair wythnos yn ôl. Rwyf yn dal i aros am ateb. A gaf i ofyn i chi godi hyn gyda'r Dirprwy Weinidog a gofyn am gael ymateb cyflym i ymholiadau o'r fath?
 
14:35
Jane HuttBywgraffiad
Wel, rwyf yn falch, Russell George, fy mod yn gallu egluro'r sefyllfa y prynhawn yma. Ni fu oedi o ran y llythyr a anfonwyd at fusnesau fferm gyda thaliadau heb eu talu. Fel yr eglurodd y Dirprwy Weinidog yn y datganiad ysgrifenedig i Aelodau'r Cynulliad a gyhoeddwyd ar 13 Ionawr, byddai Llywodraeth Cymru yn ysgrifennu i bob busnes fferm nad ydynt wedi derbyn eu taliad ar gyfer cynllun y taliad sylfaenol erbyn diwedd mis Ionawr. Argraffwyd y llythyr ar 3 Chwefror, ac fe’i hanfonwyd ar 4 Chwefror ac esboniodd y llythyr hwnnw y rhesymau pam nad oedd taliadau cynllun y taliadau sylfaenol wedi'u gwneud ac eglurodd pwy a allai ddisgwyl derbyn eu taliad a phryd y gallent ddisgwyl ei dderbyn. Ni fu unrhyw newid mewn amgylchiadau. Mae Taliadau Gwledig Cymru yn dal i ddisgwyl talu ym mhob achos ac eithrio’r rhai mwyaf cymhleth erbyn diwedd mis Mawrth ac eglurwyd hynny hefyd, fel y gwyddoch, yn y datganiad ysgrifenedig ar 13 Ionawr. Ac, yn wir, mae’r datganiad a'r llythyr ar gael, wrth gwrs, er gwybodaeth i chi.
 
14:36
Mark IsherwoodBywgraffiad
Galwaf am ddau ddatganiad. Yn gyntaf, ar y gyfran o blant sy’n dechrau derbyn gofal yng Nghymru. Cynyddodd nifer y ceisiadau gofal yng Nghymru 16 y cant yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2015, ac mae wedi parhau i godi ers hynny. Er y gwrandewir ar 30 y cant o geisiadau adran gofal 31 gan ynadon yng Nghymru, mae'n wahanol iawn i'r sefyllfa yn Lloegr lle y mae cyfran y plant sy’n dechrau derbyn gofal yn sylweddol is nag yng Nghymru. Dywedodd y comisiynydd plant y gallai ffactorau perthnasol gynnwys gwasanaethau cymorth i deuluoedd llai effeithiol, mwy o weithwyr proffesiynol a thimau cyfreithiol sydd yn wrth-risg, a lefelau tlodi plant uwch, ac y mae’n rhaid i bwyslais Llywodraeth Cymru ar leihau niferoedd y plant sy’n derbyn gofal gyd-fynd â chymorth effeithiol ar gyfer plant a'u teuluoedd, sydd, wrth gwrs, yn cynnwys y ddau riant. Galwaf am ddatganiad i'r Cynulliad yn unol â hynny.
 
Yn ail ac yn olaf, a gaf i alw am ddatganiad ynglŷn â mynediad at yr uned cofnodion troseddol ar gyfer Cymru a redir ar hyn o bryd gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru? Mae Llywodraeth Cymru wedi hysbysu sefydliadau'r trydydd sector bellach na fydd ganddynt fynediad at y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a ddarperir gan y CGGC o fis Mai 31, ac rydym ar ddeall bod hyn heb unrhyw ymgynghori na thrafodaeth ymlaen llaw. Mae'r gwasanaeth, Weinidog, yn darparu cyfle hanfodol i lawer o sefydliadau yn y trydydd sector bwyso a mesur gwirfoddolwyr posibl, a gallai ei golli olygu canlyniadau tymor hir trychinebus, gyda chanlyniadau a fyddai'n peri llawer o bryder i’r gwasanaethau a ddarperir gan y trydydd sector, gan arwain at gost uwch i Lywodraeth Cymru ac i'r sector cyhoeddus yn y pen draw. Mae Cymdeithas Chwaraeon Cymru, sy’n cynrychioli’r holl gyrff rheoli chwaraeon cenedlaethol yng Nghymru, yn dweud y bydd hyn yn achosi pryder sylweddol i lawer o sefydliadau yn y sector gwirfoddol, a cheir pryderon y bydd ei gau yn effeithio ar rai o’r aelodau mwyaf agor i niwed mewn cymdeithas. Mae prif weithredwr St John Cymru yn dweud bydd y penderfyniad yn effeithio ar bob elusen yng Nghymru, ei fod yn annoeth, ac y gallai fod yn niweidiol iawn i'r sector yn ei gyfanrwydd. Unwaith eto, a gaf i alw am ddatganiad yn unol â hynny?
 
14:38
Jane HuttBywgraffiad
Mark Isherwood, rydym yn croesawu’n fawr iawn, wrth gwrs, polisi clir y comisiynydd plant, ei meddylfryd a’i thystiolaeth, ac, yn wir, ei phrofiad helaeth ei hun ym maes gofal o ran y cyfleoedd i sicrhau bod plant yn gallu aros yn eu cartrefi gyda'r cymorth sydd ei angen arnynt ac y maent ei angen. Ond, gan gydnabod bod hyn yn fater lle'r ydym yn gytûn â barn a thystiolaeth y comisiynydd plant—wrth gwrs, dyna'r hyn yr ydym yn gweithio tuag ato gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; rydym yn gweithio ar y manylion o ran yr argymhellion polisi hynny o adroddiad y comisiynydd plant.
 
Wrth gwrs, ar yr ail bwynt, codwyd hwn mewn sesiynau blaenorol yn y Senedd. Mae’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi yn gweithio'n agos iawn â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i sicrhau y gallwn fynd i'r afael â'r mater hwn—gan ei fod yn wasanaeth pwysig iawn—ac nad oes, unwaith eto, unrhyw anhawster wrth weithio drwy hyn i wneud yn siŵr y gall y gwasanaeth hwnnw fod ar gael, yn enwedig ar gyfer y trydydd sector.
 
14:39
Eluned ParrottBywgraffiad
Weinidog, rwy'n siwr y byddwch yn cytuno â mi pan ddywedaf fy mod i wedi fy rhyfeddu o glywed Aelodau yn cwyno am oedi mewn taliadau PAC i ffermydd, a allai ddewis wedyn i ymgyrchu am iddynt orffen am byth. Tybed a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog amaethyddiaeth am yr effaith debygol ar y diwydiant ffermio yng Nghymru pe byddem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, fel gwlad. Yn amlwg, mae'n bwysig bod gennym ffeithiau gonest i allu eu cynnig i bobl, yn hytrach na’u seilio ar ofergoeliaeth yn unig.
 
Yn ail, rwyf yn nodi, y cyhoeddwyd ddoe, y llwybr ar gyfer Velothon Cymru. Byddwch yn ymwybodol, yn flaenorol, y bu rhai pryderon am faterion trefniadol. Tybed a gaf i ofyn am ddatganiad ar y cyd gan y Dirprwy Weinidog twristiaeth a Gweinidog yr economi ar ddau fater: yn gyntaf, y trefniadau gweithredol o ran sicrhau bod gwersi wedi’u dysgu o ddigwyddiadau blaenorol ac, yn ail, ynghylch pa un a fydd rhyddhad caledi ar gyfer ardrethi busnes ar gael ai peidio i fusnesau yr effeithir arnynt yn andwyol.
 
14:40
Jane HuttBywgraffiad
Ie, ni allaf ond cytuno ag Eluned Parrott ar ei phwynt am y cymorth a roddwn i—credaf mai 16,000 o fusnesau ffermio ydyw drwy'r Undeb Ewropeaidd, a'r cymorth o £200 miliwn, wrth gwrs, y cyfeiriodd y Prif Weinidog ato yn gynharach, a phwysigrwydd y rhaglen datblygu gwledig, sydd, wrth gwrs, ledled Cymru, wedi cyflawni nid yn unig yn y rhaglen ddiwethaf, ond sydd bellach yn symud i mewn i’r rhaglen nesaf ac yn cael effaith mor bwysig, o ganlyniad i ymgynghori llawn, nid yn unig â busnesau ffermio, ond hefyd y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu ac y maent wedi eu lleoli ynddynt.
 
Mae eich ail bwynt, wrth gwrs, yn rhywbeth lle y bydd ymgynghori cynnar yn datblygu ar y velothon nesaf yng Nghymru, er mwyn sicrhau y deallir y llwybrau hynny’n llawn, ac, wrth gwrs, lle y mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldebau o ran trefniadau profi, cynllunio a gorchmynion traffig.
 
14:41
Darren MillarBywgraffiad
A gaf i ofyn am un neu ddau o ddatganiadau ynglŷn â gwasanaethau casglu gwastraff os gwelwch yn dda, Weinidog? Un gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymwneud ag effeithiau casgliadau bin bob pedair wythnos ar iechyd y cyhoedd. Un peth nad ystyriwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, a fydd, wrth gwrs, yn ystyried y materion hyn y prynhawn yma, yw cael gwared ar wastraff anifeiliaid anwes a'r perygl posibl y mae hynny'n ei beri i weithredwyr awdurdodau lleol wrth waredu'r gwastraff hwnnw, yn enwedig, wrth gwrs, os bydd rhywun yn colli casgliad bin am ba bynnag reswm ac y caiff rhywbeth ei adael yn crawni yn y biniau hynny am wyth wythnos neu fwy. Nid oes digon o sylw yn cael ei roi i’r risgiau hynny gan yr awdurdod lleol hwnnw, ac rwyf yn amau os bydd eraill yn gwneud yr un fath â Chonwy, os bydd yn penderfynu mabwysiadu casgliadau bin bob pedair wythnos, gallai hynny wedyn gael effaith wael iawn ar iechyd ein cyhoedd.
 
A gaf i hefyd ofyn am ddatganiad ar wasanaethau casglu gwastraff gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am gydraddoldeb? Y rheswm fy mod yn gofyn am hynny, Weinidog, yw, er bod yr awdurdod lleol yn fy etholaeth i, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, wedi ystyried goblygiadau casgliadau bob pedair wythnos i'r bobl hynny sydd â phlant mewn clytiau ac sydd wedi trefnu i gael casgliadau ychwanegol ar gyfer y clytiau hynny, nid yw wedi ystyried y goblygiadau i bobl hŷn a allai fod yn defnyddio cynhyrchion anymataliaeth. Wrth gwrs, gallent yn aml iawn fod yn bobl eithaf agored i niwed, a phe byddai casgliadau ar wahân yn ofynnol ar gyfer y mathau hynny o gynhyrchion, neu unrhyw gynhyrchion clinigol eraill y gallent fod angen cael gwared arnynt, gellid eu nodi yn bobl agored i niwed o ganlyniad i’r gwasanaeth casglu gwastraff a allai gael ei gyflwyno. Rwyf yn bryderus iawn am y goblygiadau. Nid wyf yn credu bod y rhain wedi eu hystyried yn briodol. Rwy'n credu bod hyn yn gofyn am rywfaint o ymateb o ran y mater cydraddoldeb y mae hyn yn ei godi ac, yn wir, y materion iechyd y cyhoedd y mae'n eu codi. Byddwn yn croesawu datganiadau gan Weinidogion yn Llywodraeth Cymru ar hyn.
 
14:43
Jane HuttBywgraffiad
Mae'n ddefnyddiol iawn, rwyf yn credu, Darren Millar, fy mod yn gallu rhoi ateb i'ch cwestiwn yn seiliedig ar y ffigurau dros dro a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf o ran ystadegau gwastraff trefol. Maent yn dangos cynnydd pellach tuag at gyrraedd ein targedau uchelgeisiol ar gyfer ailgylchu yng Nghymru, sy’n dystiolaeth o waith caled yr awdurdodau lleol ledled Cymru. Rwyf yn siŵr eich bod yn gwneud eich sylwadau i'ch awdurdod lleol o ran rheoli gwastraff, ond, wrth gwrs, mae hefyd yn deyrnged i gymunedau a thrigolion sy’n cofleidio ffyrdd newydd o reoli eu gwastraff cartref. Bydd gweithio i wneud y defnydd gorau o'n hadnoddau, wrth gwrs, yn dod â buddion economaidd ac amgylcheddol diamheuol i Gymru. Rwyf yn credu ei fod yn arbennig o galonogol, eto, i weld bod y gyfradd dros dro chwarterol gyffredinol wedi cyrraedd 60 y cant ledled Cymru am y tro cyntaf. Rwyf yn siŵr, Darren Millar, eich bod yn croesawu’r ffigurau dros dro hynny o’r wythnos diwethaf. Wrth gwrs, rydym yn edrych ar wella'r ffyrdd y gallwn ddysgu am reoli newid, gan weithio'n agos gyda'n holl awdurdodau lleol a sicrhau, yn arbennig, y caiff arfer gorau nid yn unig ei weithredu, ond ei rannu ledled y wlad.
 
14:45
3. Datganiad: Y Diweddaraf am y Rhaglen Buddsoddi i Arbed
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at eitem 3, sef datganiad gan yr un Gweinidog i roi’r newyddion diweddaraf am y rhaglen buddsoddi i arbed. Galwaf ar y Gweinidog, Jane Hutt.
 
14:45
Jane HuttBywgraffiadY Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
Lywydd, hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad am yr hyn y mae’r gronfa buddsoddi i arbed wedi ei gyflawni ers ei lansio yn 2009 a rhoi manylion am y cynlluniau diweddaraf y mae’r rhaglen yn eu cefnogi. Rhwng 2009 a 2015, mae’r gronfa benthyciadau ailgylchadwy wedi cefnogi 140 o brosiectau ac wedi buddsoddi cyfanswm o £128 miliwn. Canfu adolygiad annibynnol o'r gronfa a gyhoeddwyd yn 2014 ei bod yn creu arbedion gros o £3 am bob £1 a fuddsoddir. Ym mis Rhagfyr, cyhoeddodd Swyddfa Archwilio Gogledd Iwerddon adroddiad ar gynlluniau buddsoddi i arbed a chyfeiriodd at gronfa Llywodraeth Cymru fel model y gellid dysgu llawer oddi wrtho o ran ymarfer gweithredol da. Mae'r fenter hon, sydd bellach wedi'i hen sefydlu gan Lywodraeth Cymru, yn unigryw ac yn llwyddiannus, yn hunangynhaliol, yn helpu sefydliadau i wireddu arbedion, ac yn annog arloesi.
 
Yn ychwanegol at yr adolygiad annibynnol, mae'r gronfa hefyd wedi bod yn destun craffu gan Bwyllgor Cyllid y Cynulliad, ac ystyriwyd argymhellion y pwyllgor yn ofalus a'u cynnwys wrth roi’r gronfa ar waith. Mae Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru hefyd wedi cyhoeddi adroddiad, ym mis Tachwedd 2014, ar sut y gellir defnyddio’r gronfa i ledaenu arfer da ar draws y sector cyhoeddus. Mae cynnydd da wedi ei wneud i gyflawni'r nod hwnnw.
 
Ers 2009, mae'r gronfa wedi bod yn weithgar ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus ledled Cymru—mae llywodraeth leol, y GIG a chyrff a noddir i gyd wedi manteisio ar y gronfa. Yn fwy diweddar, rydym wedi gweld diddordeb sylweddol gan y sectorau addysg bellach ac uwch, ac rydym hefyd yn datblygu ein prosiect cyntaf yn y trydydd sector. Y cydweithio rhwng y Gweinidog Adnoddau Naturiol, Carl Sargeant, a minnau i wella'r gronfa twf gwyrdd yw'r datblygiad diweddaraf i gynorthwyo sefydliadau i ddarparu atebion effeithlonrwydd ynni mwy cost-effeithiol ac arloesol.
 
Lansiais yr unfed ar ddeg o’r cylchoedd ceisiadau buddsoddi i arbed ym mis Hydref, ac rwy'n falch o gyhoeddi cefnogaeth i’r prosiectau canlynol yn y gyfran gyntaf hon o gyhoeddiadau yn y cylch hwn: £450,000 i Ganolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Chymru Gyfan. Nawr, mae'r fenter hon yn cael ei chefnogi gan brif fferyllwyr ar draws holl gyrff y GIG yng Nghymru a bydd yn sicrhau bod cyffuriau’n cael eu caffael yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol, gan fodloni arferion gorau clinigol. Dyma'r math o brosiect lle caiff arferion da eu rhoi ar waith ar draws sector cyfan o'r cychwyn cyntaf, ac amcangyfrifir y bydd yr arbedion posibl o leiaf £375,000 y flwyddyn.
 
Bydd £421,000 i fwrdd iechyd addysgu Powys. Bydd y cyllid hwn yn caniatáu i'r bwrdd wneud gwelliannau i dimau adnoddau cymunedol, gwasanaethau iechyd meddwl, technolegau cynorthwyol a sgiliau nyrsio. Yn ogystal â gwella’n sylweddol y dewisiadau gofal sydd ar gael yn ardal Powys, bydd y prosiectau yn creu arbedion amcangyfrifedig o tua £443,000 y flwyddyn. Bydd £105,000 i Ddinas a Sir Abertawe i gefnogi cyflogi gweithiwr therapi grŵp ar gyfer cynllun arbrofol tair blynedd i weithio gydag oedolion ifanc agored i niwed â phlant fel y gellir eu helpu cyn i ymyraethau statudol mwy costus gael eu defnyddio, a hefyd i leihau nifer yr achosion o esgeulustod a cham-drin. Bydd £152,000 i fwrdd iechyd prifysgol Caerdydd a'r Fro i wella triniaeth diabetes yn ardal Caerdydd a'r Fro. Mae'r bwrdd yn amcangyfrif y bydd y gwelliant hwn yn creu arbedion o ychydig dros £100,000 y flwyddyn. Mae nifer o brosiectau eraill hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer y cylch hwn a chânt eu cyhoeddi maes o law.
 
Mae datblygiad diweddar y gronfa twf gwyrdd buddsoddi i arbed fel rhan newydd a gwahanol o fuddsoddi i arbed yn fenter Cymru gyfan sydd â’r nod o gynorthwyo sector cyhoeddus Cymru i gyflawni targedau ar gyfer lleihau allyriadau carbon. Mae'r gronfa twf gwyrdd buddsoddi i arbed yn fenter ar y cyd â'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol i sicrhau allyriadau carbon ynghyd â chostau rhedeg is. O fewn ychydig fisoedd byr o weithredu, mae'r rhan hon o'r gronfa eisoes wedi gwneud buddsoddiadau sylweddol, gan gynnwys gosod goleuadau stryd LED yng Nghyngor Sir Fynwy, Cyngor Gwynedd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae gwerth y tri phrosiect hyn yn £2.7 miliwn. Mae hefyd £333,000 i Gyfoeth Naturiol Cymru i roi nifer o fesurau effeithlonrwydd ynni ar waith; £4 miliwn i osod goleuadau LED ar rannau o rwydwaith cefnffyrdd Llywodraeth Cymru; a £2.1 miliwn i gefnogi prosiectau effeithlonrwydd ynni ar draws amryw o adeiladau cyngor dinas Caerdydd.
 
Ar y cyd â’r prosiectau a gyhoeddwyd yn gynharach yn y datganiad hwn, mae’r prosiectau effeithlonrwydd ynni hyn yn golygu bod y gronfa yn cefnogi 15 o brosiectau eraill â gwerth o oddeutu £11 miliwn. Mae hyn yn cynyddu nifer y prosiectau a gefnogir i 154, ac mae cyfanswm gwerth y buddsoddiad bron yn £140 miliwn.
 
Mae’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol hefyd wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig heddiw, sy’n ymdrin â pherthnasedd y prosiect effeithlonrwydd ynni i bolisi Llywodraeth Cymru ar effeithlonrwydd ynni. Mae'r prosiectau effeithlonrwydd ynni diweddaraf hyn yn parhau â’r gwaith a ddechreuwyd gan y gronfa mewn cylchoedd ceisiadau blaenorol, ac yn golygu bod cyfanswm y buddsoddiad gan y gronfa mewn prosiectau effeithlonrwydd ynni dros y 12 mis diwethaf yn fwy na £13 miliwn. Bydd y buddsoddiad hwn yn creu arbedion sy'n rhyddhau arian blynyddol o £2.4 miliwn ac yn lleihau allyriadau carbon gan dros 8,000 tunnell fetrig y flwyddyn. Yn ychwanegol at y prosiectau effeithlonrwydd ynni diweddar, mae piblinell o brosiectau i weithredu ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru yn cael eu datblygu.
 
Yn gyffredinol, mae'r gronfa buddsoddi i arbed wedi dangos yr hyn y gellir ei gyflawni â chwistrelliad cymharol fach o adnoddau a chostau rhedeg. Does gen i ddim amheuaeth y bydd yn parhau i gael ei gweld fel ffynhonnell gyllid bwysig i ganiatáu i'r sector cyhoeddus yng Nghymru wireddu buddion arian parod gwirioneddol ac i helpu i sbarduno arloesedd.
 
14:51
Nick RamsayBywgraffiad
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad heddiw a'r wybodaeth ddiweddaraf am fuddsoddi i arbed? Rwy'n falch o fod wedi cael fy ngalw i siarad cyn i Mike Hedges ofyn fy holl gwestiynau; rwy'n gwybod bod Mike yn frwdfrydig iawn am y mater hwn.
 
Weinidog, mae buddsoddi i arbed yn amlwg yn rhaglen bwysig, sy’n seiliedig ar egwyddor dda iawn. Rwy'n credu y gallwn i gyd gytuno â hynny. Fodd bynnag, pa mor hunangynhaliol ydyw? Mae'n dibynnu yn glir ar arian yn dod yn ôl i mewn i'r coffrau, nid dim ond mynd allan. A yw'r arian hwnnw'n cael ei ad-dalu ar amser ac, os nad yw, pa fath o oedi yr ydym ni’n ei weld? Rwy'n dychmygu yn y rhan fwyaf o achosion ei fod yn dod yn ôl ar amser, ond mae’n rhaid bod rhai meysydd lle y mae gennych bryderon am dalu’r arian yn ôl. A oes unrhyw ddyledion yn cael eu dileu, dylwn ofyn, yn ogystal?
 
Yn ail, ym mha ffyrdd y mae buddsoddi i arbed yn annog yr arloesedd yr ydych yn siarad amdano? A yw’r arloesedd hwnnw yn hirdymor, ac a yw’r arloesedd ei hun yn hunangynhaliol?
 
I droi at y cylch cynigion presennol, yr ydych newydd gyfeirio ato, pa feini prawf ydych chi wedi'u defnyddio i ddewis y prosiectau hyn? Gwelaf fod dinas Abertawe yn cael £105,000 i gyflogi gweithiwr therapi—gwobr amlwg i Mike Hedges am ei holl flynyddoedd o gwestiynu ffyddlon ar y pwnc. Rwy'n falch hefyd o weld y cyhoeddiad ar osodiad—. Wel, rwy'n falch iawn o weld gosod goleuadau stryd LED yng Nghyngor Sir Fynwy. Y gobaith yw y byddant o gwmpas yn ddigon hir i dalu'r arian yn ôl ichi. Rydych bob amser yn dweud wrthym pa brosiectau a gafodd eu derbyn, ond yr hyn nad ydych yn ei ddweud wrthym, neu na ydych mor agored amdano, yw'r prosiectau sy'n cael eu gwrthod a'r meini prawf sydd wedi arwain at y gwrthodiad hwnnw. A fyddech chi’n ystyried cyhoeddi mwy o fanylion ynglŷn â pham nad yw rhai prosiectau wedi cyrraedd y nod, a pha gyngor yr ydych chi’n ei roi i brosiectau i wneud yn siŵr y byddant, yn y dyfodol, yn llwyddo i gael yr arian y maent yn chwilio amdano?
 
14:52
Jane HuttBywgraffiad
Diolch i Nick Ramsay am y cwestiynau yna. Fel y dywedwch, y ffaith yw ein bod wedi datblygu llawer iawn o gonsensws am ddatblygu a chyflawni’r gronfa buddsoddi i arbed. Fel yr wyf wedi’i ddweud, rwyf wedi diolch i'r Pwyllgor Cyllid am ei adolygiad llawn ac, yn wir, wedi ymgorffori ei argymhellion wrth ddarparu’r gronfa buddsoddi i arbed, ond mae'r gronfa buddsoddi i arbed hefyd wedi elwa ar werthusiadau eraill, sydd, wrth gwrs, yn cynnwys Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru. Mae wedi ein galluogi i sicrhau y gallwn, yn ogystal â dysgu oddi wrth arfer gorau, rannu hynny o ran y sector cyhoeddus ledled Cymru. Mae'n ddiddorol iawn bod y mentrau llwyddiannus sydd bellach yn cael eu rhoi ar waith yng Nghymru yn cael eu dilyn a'u copïo erbyn hyn mewn rhannau eraill o'r DU. Rwy’n credu, yn y gyfran ddiweddaraf, bod y dyraniad, fel yr wyf wedi’i ddweud, o £450,000 i brosiect sy'n cynnwys y trefniadau pwrcasu fferyllol ar draws yr holl fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yng Nghymru wir yn dangos arloesedd a chydweithredu. Wrth gwrs, rydym yn chwilio am ffyrdd y gallwn barhau i ddysgu o’r arfer gorau hwnnw. Yn wir, mae Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru yn cynnal adolygiad dilynol gan ein bod bron i 18 mis o ddyddiad cyhoeddi eu hadroddiad gwreiddiol.
 
Dim ond o ran y darparu ac, a dweud y gwir, y prawf bod prosiectau yn creu’r arbedion y maent yn eu haddo, mae pob prosiect yn destun monitro chwarterol i asesu cynnydd ac i ganfod unrhyw broblemau o ran darparu. Yna, ar ddiwedd pob prosiect, cynhelir astudiaeth achos neu werthusiad prosiect, i asesu budd-daliadau, gan sefydlu beth sydd wedi gweithio’n dda, a hefyd i edrych ar yr hyn na wnaeth weithio'n dda a lle y gellir dysgu gwersi, ond gan wneud yn siŵr hefyd bod hynny’n cael ei drosglwyddo o ran lledaenu arfer da wrth ddatblygu achosion busnes o wahanol sectorau ledled Cymru. Rydym yn cyhoeddi, wrth gwrs, astudiaethau achos ar wefan buddsoddi i arbed Llywodraeth Cymru.
 
Unwaith eto, rwy’n meddwl bod yn rhaid inni fynd yn ôl at y ffigur hollbwysig hwnnw—bod y gronfa buddsoddi i arbed yn cynhyrchu £3 am bob £1 a fuddsoddir. Dim ond o ran y meini prawf, fel y soniasoch, rydym wrth gwrs yn ceisio arloesi yn y sector cyhoeddus, sydd wedyn yn arwain at rai o'r prosiectau hynny. Rwyf wedi sôn am y trefniadau pwrcasu fferyllol, ond rwy’n meddwl bod y prosiect a grybwyllwyd gennych o ran cyngor dinas Abertawe, unwaith eto, yn ffordd newydd arall y gallwn edrych ar bwyslais ataliol buddsoddi i arbed. Fe wnaethom gefnogi un neu ddau o brosiectau yn y rownd ddiwethaf, a byddwch yn cofio un a oedd yn seiliedig yn Nhorfaen, hefyd, gyda chorff RSL arall, yn gweithio gyda'i gilydd unwaith eto i geisio ymyrryd cyn i ymyraethau statudol costus ddod i rym. Ceir yr enghraifft, unwaith eto, o wella triniaeth diabetes, sy’n amcangyfrif, fel y dywedais, arbedion o ychydig dros £100,000 y flwyddyn. Rydym bellach wedi datblygu’r elfen newydd hon, sef yr elfen effeithlonrwydd ynni, sydd nid yn unig yn creu arbedion, ond yn torri allyriadau carbon. Mae hynny'n ddatblygiad, wrth gwrs, ar draws y Llywodraeth, o ran gweithio a chyflwyno hynny.
 
Mae rhai prosiectau, fel y dywedais, ar gyfer y cylch hwn, nad ydynt eto wedi cyrraedd y cam lle gallwn gymeradwyo buddsoddiad ariannu. Rwy’n meddwl, gyda llawer o'r prosiectau a gyflwynir, mai proses o weithio gydag ymgeiswyr prosiectau yw hi yn hytrach na dweud bod gennym restr yr ydym yn ei chymeradwyo neu’n ei gwrthod. Mae'n fater o fynd allan ac annog ceisiadau newydd a gweithio gyda phobl sy’n mynegi diddordeb i gefnogi cynifer â phosibl ohonynt, ar sail y wybodaeth sydd gennym am yr hyn sy'n gweithio a'r hyn sy'n berthnasol.
 
14:57
Mike HedgesBywgraffiad
Croesawaf y datganiad hwn. Fel y dywedodd Nick Ramsay, rwyf wedi cefnogi buddsoddi i arbed ac eiriol drosto ers amser maith, ac nid wyf yn ymddiheuro am hynny. Mae'n hunangynhaliol, mae’n annog arloesi ac mae’n helpu sefydliadau i wneud arbedion y gallant eu hail-fuddsoddi ymhellach. Beth sydd yna i beidio â bod yn hoff ohono? Rwy'n falch iawn bod y Gweinidog wedi derbyn argymhelliad y Pwyllgor Cyllid hefyd i beidio â chynyddu’r swm lleiaf ar gyfer buddsoddi i arbed, ac rwy’n gweld bod nifer o brosiectau bach ond da iawn wedi dod drwodd eleni. Bu nifer o brosiectau goleuadau stryd LED a mesurau arbed ynni eraill. Ni allaf feddwl am unman yng Nghymru na fyddai'n elwa o brosiectau o'r fath, a dweud y gwir. Beth arall ellir ei wneud i berswadio mwy o sefydliadau i ddefnyddio buddsoddi i arbed ar gyfer prosiectau o'r fath, a fyddai'n dda i'r amgylchedd ac yn dda i’r sefydliadau yn ariannol?
 
14:58
Jane HuttBywgraffiad
Diolch i Mike Hedges am y cwestiynau yna. Rwy'n credu, unwaith eto, bod dylanwad y Pwyllgor Cyllid, a'r dystiolaeth a gymerwyd ganddo, wedi effeithio ar ein dealltwriaeth o bwysigrwydd galluogi prosiectau llai i barhau i gael eu datblygu a’u cyflwyno ar gyfer cymeradwyaeth. O ran datblygu effeithlonrwydd ynni, ochr yn ochr â'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol, rwy’n meddwl ei bod yn werth edrych ar ddatganiad ysgrifenedig y Gweinidog heddiw ar ei strategaeth effeithlonrwydd ynni, lle gallwn weld sut gall buddsoddi i arbed gydweddu. Yn arbennig, gwelodd ddoe enghraifft gosod goleuadau LED yn ysbyty plant Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro, ac yn y twneli o dan y ddaear ym mhrif Ysbyty Athrofaol Cymru—£252,000 oedd gwerth y benthyciad, ac mae’n creu arbedion o £63,000 y flwyddyn. Pwy na fyddai'n mabwysiadu hyn yn y gwasanaeth iechyd? Mae hyn yn rhywbeth, unwaith eto, lle, o ran addysg uwch, os yw un brifysgol yn ei wneud, pam nad ydynt i gyd yn dilyn yr esiampl? Rydym yn sicr yn awyddus i sicrhau y gall y gronfa hon ymateb i’r math hwnnw o gyflwyno—a chyflwyno a fyddai, pe byddai hyn yn gweithio’n effeithiol—buddsoddi i arbed ar gyfer effeithlonrwydd ynni, yn enwedig drwy osod goleuadau LED yn lle’r hen rai.
 
14:59
Alun Ffred JonesBywgraffiad
Rwyf innau’n croesawu’r datganiad ac yn gefnogol iawn o’r strategaeth, wrth gwrs. Mae’r gronfa yn un defnyddiol iawn a manteision amlwg iddi, fel sydd wedi cael ei nodi yn barod.
 
Edrych ymlaen mae’r datganiad yma yn bennaf, wrth gwrs, ond a gaf i jest edrych ar ddwy enghraifft sydd yma? Mae un â £150,000 i gynllun trin clefyd siwgr ym mwrdd iechyd Caerdydd a’r Fro, ac mae hwn yn rhagweld arbedion o £100,000 y flwyddyn, sydd yn ffigwr eithriadol o uchel, a chalonogol, wrth gwrs. Ond os ydy cynllun fel hwn mor effeithiol â hynny, oni ddylai fod yn cael ei ailadrodd ym mhob rhan o Gymru, a hynny ar fyrder? Achos nid yn unig ei fod o’n gwella’r driniaeth, ond mae hefyd yn dod ag arbedion. Ond rydych yn dweud yn eich datganiad bod
 
‘good practice across the public sector and good progress has been made’—.
 
Sori, rwy’n camddyfynnu—bod ‘good practice’ a’i ledaeniad ar draws y sector cyhoeddus yn digwydd, ond nid ydych yn dweud sut y mae’n digwydd. Felly, sut ydych chi’n gallu symud cynllun mor eithriadol o lwyddiannus â hwn i gael ei weithredu ym mhob rhan o Gymru?
 
Wedyn, un arall sydd wedi cael cyfeiriad ato fo ydy’r goleuadau LED yma a’r cynlluniau yma yng Ngwynedd, Mynwy a Wrecsam. Nid oes gwybodaeth yn y datganiad ynglŷn â’r potensial am arbedion, ond, unwaith eto, a chymryd mai dyna ydy bwriad y cynllun, pryd a sut y byddwch chi yn sicrhau bod y cynllun hwn yn digwydd unwaith eto ym mhob rhan o Gymru, gan ei fod o mor amlwg yn gynllun sydd â chanlyniadau mor llesol?
 
Yr unig gwestiwn arall sydd gennyf ydy: rydych yn sôn am asesu pob cynllun; pwy sy’n gyfrifol am wneud yr asesiad hwnnw? Sut ydych chi’n sicrhau cywirdeb yr asesiad?
 
15:02
Jane HuttBywgraffiad
Diolch i Alun Ffred Jones am y cwestiynau perthnasol iawn yna oherwydd mae’n sicr yn dilyn yr hyn a ddywedodd Mike Hedges am y prosiectau hyn: os yw’n gweithio ym mwrdd iechyd prifysgol Caerdydd a'r Fro o ran gwella triniaeth diabetes a chyflawni’r arbedion hynny, pam nad gweddill Cymru? Gallai pob bwrdd iechyd symud ymlaen a mabwysiadu hynny, ac mae angen inni sicrhau bod—. Mae hwn yn un pwynt da am wneud datganiad llafar o'r math hwn heddiw, oherwydd mae’n rhoi ar gof a chadw yr hyn sy'n cael ei gyflawni a sut y gellir dilyn hynny drwodd. Wrth gwrs, mae’r gwasanaeth iechyd, mewn sawl ffordd, wedi mabwysiadu—nid dim ond dilyn arfer un bwrdd iechyd a’i fabwysiadu mewn bwrdd iechyd arall, ond mae rhai cynlluniau ar gyfer Cymru gyfan a arweinir gan y GIG, sydd wrth gwrs wedi golygu bod gennym gysondeb ledled Cymru. Os edrychwn ar y byrddau iechyd, y GIG sydd wedi elwa i'r graddau mwyaf o ran defnyddio prosiectau buddsoddi i arbed. Rwy’n meddwl bod hynny’n tystio i'r ffaith y gallwn, wrth gwrs, o fewn ein perthynas â GIG Cymru, fabwysiadu a sbarduno’r arfer hwnnw.
 
Ond mae'n bwysig hefyd edrych ar ffyrdd eraill y gallwn hyrwyddo canlyniadau buddsoddi i arbed. Rydym hefyd yn gweithio gyda'r labordy arloesi a sefydlwyd yn ddiweddar ar nifer bach o brosiectau lle’r ydym yn edrych ar werthusiadau amser real. Bydd hynny’n ein helpu i adeiladu’r sylfaen dystiolaeth, a fydd yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni, a hefyd yn rhoi cymhellion i fabwysiadu ffyrdd newydd o weithio a darparu gwasanaethau.
 
Wrth gwrs, mae eich pwyntiau am effeithlonrwydd ynni eto’n bwysig. Dim ond o ran goleuadau LED, yn ogystal â’r pedwar cynllun awdurdod lleol rydym, fel y byddwch yn cofio, wedi cefnogi nifer o sefydliadau eraill yn 2015-16: goleuadau stryd LED Cyngor Sir Caerfyrddin; goleuadau stryd a chanolfan hamdden LED Cyngor Sir Ynys Môn; Prifysgol Caerdydd—£1 filiwn; Betsi Cadwaladr—£450,000; Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru—£165,000. Felly, rydym yn adeiladu ar hyn. Dim ond o ran effaith hynny, mae'r prosiectau diweddaraf yn golygu ein bod wedi buddsoddi llawer mwy yn y flwyddyn ariannol hon o ganlyniad i fabwysiadu hyn ledled Cymru ac ar draws sectorau erbyn hyn—llawer mwy na'r £3 miliwn a ddyrannwyd i'r gronfa dros gyfnod o ddwy flynedd yn benodol ar gyfer prosiectau effeithlonrwydd ynni. Rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig gwybod ein bod yn defnyddio gwasanaethau sefydliad o’r enw Salix i gefnogi prosiectau effeithlonrwydd ynni. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £10.4 miliwn gyda Salix, sy'n helpu i gefnogi 39 o sefydliadau sector cyhoeddus i roi dros 300 o brosiectau ar wahân ar waith. Felly, mae hyn eto'n cael ei gyflwyno.
 
15:05
Peter BlackBywgraffiad
Weinidog, diolch am y datganiad. Rwyf eisiau gofyn rhai cwestiynau penodol ynglŷn â'r adroddiad blynyddol a’r cyfeiriadur o brosiectau, sef sail y datganiad, rwy’n credu. Yn benodol o ran caffael, rwy’n gweld prosiect buddsoddi i arbed mawr iawn, £5.9 miliwn ar gyfer y gwasanaeth caffael cenedlaethol yng Nghymru, sydd i fod i gynnwys Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol, byrddau iechyd, gwasanaeth yr heddlu, y gwasanaeth tân, a chyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru, ac rwy’n meddwl bod hynny’n gwbl amhrisiadwy ac y byddai’n sicr yn werth mynd ar ei drywydd. Byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod dros ba gyfnod y bydd yr ad-dalu ar y buddsoddiad mawr hwnnw. Ond, yn yr adran honno, rydych hefyd wedi rhoi £300,000 i raglen gaffael Cymru gyfan ar gyfer gwasanaethau a rennir y GIG, ac mae pum cynllun arall yn yr adran gaffael hon—yr holl arian yn cael ei roi i wasanaethau caffael yn y cannoedd o filoedd. Rwy’n pryderu, ar ôl buddsoddi £5.9 miliwn mewn gwasanaeth caffael hollgynhwysol, pam yr ydym yna’n gwario cannoedd o filoedd o bunnoedd ar chwe gwasanaeth caffael arall, er ei bod yn ymddangos yn glir nad ydynt yn rhan o’r gwasanaeth caffael hollgynhwysol hwnnw. A wnewch chi egluro beth yw’r dyblygu hwnnw a sut y maent i fod i weithio gyda'i gilydd?
 
Y cwestiwn arall oedd gen i, Weinidog, yn dilyn cwestiynau blaenorol am ledaenu arfer da—. Rwy'n meddwl bod lledaenu arfer da yn bwysig, ac mae llawer o brosiectau unigol yn y ddogfen hon yr wyf yn credu y byddent yn sicr yn dod o dan y label arfer da hwnnw, felly mae gen i ddiddordeb—a oes gennych chi unrhyw enghreifftiau penodol o lle mae cynllun buddsoddi i arbed wedi ei ariannu gan y prosiect penodol hwn a bod awdurdodau eraill wedyn wedi cymryd yr awenau a’i gyflawni mewn gwirionedd? Rwy'n credu bod goleuadau LED yn un, ond a allech roi un arall imi?
 
15:07
Jane HuttBywgraffiad
Diolch yn fawr iawn, Peter. Rwy’n meddwl bod eich cwestiynau’n berthnasol iawn ynghylch y cyllid a roddwn er mwyn galluogi'r gwasanaeth caffael cenedlaethol i ddechrau arni fel ffordd draws-sector cyhoeddus y gallwn gaffael yn fwy effeithiol o ran gwerth am arian, ac o ran sicrhau ein bod hefyd yn caffael cyn belled â phosibl gan fusnesau o Gymru a busnesau lleol. Ond, wrth gwrs, mae’r gwasanaeth caffael cenedlaethol yn dal i ddatblygu. Nid yw wedi cymryd drosodd yr holl gaffael ar draws y sector cyhoeddus. Yn amlwg mae gan y GIG fraich gref iawn ar gyfer caffael a darparu gwasanaethau a rennir, sydd mewn gwirionedd yn rhagflaenu’r gwasanaeth caffael cenedlaethol ac sydd â rhan bwysig iawn i'w chwarae o hyd. Ond, wrth gwrs, rydym wedi cynorthwyo hynny, fel y dywedwch, ochr yn ochr â’r gwasanaeth caffael cenedlaethol. Rwy'n falch iawn eich bod wedi tynnu sylw at y manylion yn ein hadroddiad blynyddol. Byddwn yn hapus i egluro mewn gohebiaeth y gwahaniaeth rhwng nodau ac amcanion buddsoddi i arbed yn y gwasanaeth caffael cenedlaethol ac mewn prosiectau eraill sy’n darparu gwasanaethau caffael.
 
O ran lledaenu arfer da, ydy, mae LED yn un enghraifft glir o ble y gallwn weld pobl eraill ar draws y sector cyhoeddus yn dilyn yr esiampl. Rwy'n meddwl bod arfer da o ran arloesi a chydweithredu a darparu gwasanaethau cyhoeddus ac integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn faes arall. Byddwn yn awyddus iawn i ddangos, yn enwedig drwy waith Y Lab, y math hwnnw o arloesi o ran gweddnewid darpariaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus.
 
15:09
Jenny RathboneBywgraffiad
Rwyf innau’n rhannu brwdfrydedd Mike Hedges am fuddsoddi i arbed. Rwy'n meddwl ei fod yn un o feysydd mwyaf arloesol y Llywodraeth. Rwy’n meddwl bod rhai o'r astudiaethau sydd wedi eu cynnal wedi cydnabod hynny. Rwy’n croesawu'r gronfa twf gwyrdd buddsoddi i arbed yn arbennig, ac rydych eisoes wedi amlinellu rhai o'r arbedion, yn ariannol ac o ran allyriadau carbon. Roeddwn i’n meddwl tybed a allech chi ddweud wrthym pa gyfleoedd sy'n bodoli i fudiadau'r trydydd sector neu fudiadau cymunedol i wneud cais am arian buddsoddi i arbed fel y gall y ddau ohonynt gynhyrchu cyfoeth yn lleol a hefyd darparu rhywfaint o gystadleuaeth i'r chwe chwmni ynni mawr, a fethodd â gostwng eu prisiau ynghyd â'u costau.
 
15:09
Jane HuttBywgraffiad
Diolch, Jenny Rathbone. Rydym newydd ddechrau datblygu mwy o ymgysylltu â'r trydydd sector o ran buddsoddi i arbed—nid, ar hyn o bryd, cyn belled ag y gwn i, o ran effeithlonrwydd ynni a chysylltiadau â'r gronfa twf gwyrdd, ond mae hwnnw'n sicr yn faes y gallem ei archwilio nawr.
 
15:10
Julie MorganBywgraffiad
Mae'r Gweinidog wedi cyfeirio at y goleuadau LED yn BILl Caerdydd a'r Fro, ac roeddwn yn falch o ymweld â'r ysbyty plant ddoe gyda'r Gweinidog, Carl Sargeant, lle’r aethom o amgylch yr ysbyty plant yn edrych ar y goleuadau ac, yn benodol, yn edrych ar y goleuadau yn y pwll hydrotherapi, a oedd yn ysbrydoledig iawn, a dweud y gwir, fel cyfleuster. Dywedodd y person â gofal cyffredinol am yr adeilad wrthym, pryd bynnag y caiff ward ei hailwampio nawr, fod goleuadau LED yn cael eu gosod, sy'n enghraifft o’r lledaenu arfer da yr ydym eisoes wedi sôn amdano. Tybed a fyddai'r cyllid ar gyfer hynny’n rhan o fuddsoddi i arbed, ynteu a yw lledaeniad arfer da yn rhan o arian cynnal y bwrdd iechyd o ddydd i ddydd?
 
15:11
Jane HuttBywgraffiad
Diolch i Aelod Gogledd Caerdydd am sylw yna, yn dilyn ei hymweliad ddoe. Yn wir, rydym wedi ymweld â’r ysbyty plant ar fwy nag un achlysur i weld manteision hyn—dull sydd nawr yn ymddangos mor amlwg nes bod yn rhaid ei gynnwys ym mhob prosiect adeiladu newydd o ran buddsoddi i arbed, ond hefyd effaith fuddiol y goleuadau LED hynny. Ni allwn ond defnyddio buddsoddi i arbed i ysgogi’r math hwn o newid, er mwyn helpu i ryddhau arbedion, ond yna wrth gwrs bydd angen ei ddatblygu i mewn i unrhyw waith cynllunio busnes ar gyfer ystadau cyfalaf.
 
15:12
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Diolch, Weinidog.
 
15:12
4. Rheoliadau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at eitem 4, sef Rheoliadau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016, a galwaf ar y Gweinidog Addysg a Sgiliau i gynnig y cynnig—Huw Lewis.
 
Cynnig NDM5973 Jane Hutt
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
 
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Ionawr 2016.
 
Cynigiwyd y cynnig.
 
15:12
Huw LewisBywgraffiadY Gweinidog Addysg a Sgiliau
Diolch, Lywydd. Rwy’n croesawu'r cyfle i drafod yr offeryn statudol drafft, Rheoliadau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016. Câi’r rheoliadau eu gwneud o ganlyniad i Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015, a sefydlodd Cymwysterau Cymru fel rheolydd annibynnol cymwysterau a ddyfarnwyd yng Nghymru. Roedd y Ddeddf yn diddymu swyddogaethau Gweinidogion Cymru yn Neddf Addysg 1997 sy'n ymwneud â rheoleiddio cymwysterau a ddyfarnwyd yng Nghymru, ac yn disodli’r cyfyngiad yn Neddf Dysgu a Medrau 2000 ar gyllid cyhoeddus i gyrsiau penodol â chyfyngiad tebyg yn adran 34 y Ddeddf. Mae'r rheoliadau hyn yn diweddaru cyfeiriadau mewn deddfwriaeth arall i adlewyrchu'r system newydd o reoleiddio cymwysterau yng Nghymru o ganlyniad i'r Ddeddf. Dylent hefyd ei gwneud yn haws i Gymwysterau Cymru gyflawni ei swyddogaethau o dan y Ddeddf drwy ei ychwanegu at restrau o unigolion rhagnodedig y caiff unigolion penodol ddatgelu gwybodaeth benodol iddynt.
 
Ni allem fod wedi sefydlu Cymwysterau Cymru heb gefnogaeth ac ymgysylltiad adeiladol gan Aelodau'r Cynulliad hwn, ac rwy’n mawr obeithio y gwnaiff yr Aelodau gefnogi'r cynnig y prynhawn yma.
 
15:13
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr eraill, felly y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dim gwrthwynebiad, felly caiff y cynnig ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
 
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
 
15:13
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Diolch, Weinidog.
 
15:13
5. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Tai a Chynllunio sy'n ymwneud â Rhyddfreinio ac Estyn Lesddaliadau Hir
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Rydym nawr yn symud ymlaen at eitem 5, sef y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Tai a Chynllunio sy'n ymwneud â rhyddfreinio ac ymestyn prydlesi hir. Galwaf ar y Gweinidog, Lesley Griffiths, i gynnig y cynnig.
 
Cynnig NDM5968 Lesley Griffiths
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Tai a Chynllunio sy'n ymwneud â rhyddfreinio ac estyn lesddaliadau hir, i'r graddau y maent yn dod o dan gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y Deyrnas Unedig.
 
Cynigiwyd y cynnig.
 
15:14
Lesley GriffithsBywgraffiadY Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Diolch, Lywydd, ac rwy’n cynnig y cynnig. Rwy'n falch o allu cyflwyno’r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn ar gyfer Bil Tai a Chynllunio Llywodraeth y DU. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol am graffu ar y memorandwm, a nodaf nad oes ganddynt unrhyw wrthwynebiad.
 
Mae'r newidiadau a gwmpesir gan y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol hwn yn dechnegol eu natur. Cafodd y gilt a ddefnyddiwyd yn y fformiwla ar gyfer taliadau rhent ac i gyfrifo symiau sy'n daladwy am ryddfreinio lesddaliadau ac estyniadau ei adbrynu gan Lywodraeth y DU ar 5 Gorffennaf, 2015. Yn y bôn, mae hyn yn golygu bod lesddeiliaid dan anfantais oherwydd y ffaith nad yw’r fformiwlâu hyn yn ddilys mwyach. Mae'r effaith hon i’r diwygiadau yn ymwneud â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Tai a Chynllunio yn caniatáu cyfrifo'r fformiwlâu yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, yn hytrach nag yn unol â rheoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Mae hyn yn golygu y gallwn roi fformiwlâu newydd ar waith cyn gynted ag y bo modd ac rwy’n cymeradwyo'r cynnig i'r Siambr.
 
15:15
Lindsay WhittleBywgraffiad
Byddwn yn pleidleisio o blaid y cynnig cydsyniad deddfwriaethol heddiw, a fydd yn rhoi pwerau gwneud rheoliadau i Weinidogion Cymru dros y fformiwla sy’n cyfrifo’r gost i lesddeiliaid am arfer eu hawliau i ryddfreinio ac ymestyn prydlesi. Mae cyfraith lesddaliadau, wrth gwrs, yn ddrwg-enwog am ei chymhlethdod. Bu nifer o achosion yn y blynyddoedd diweddar pan fo lesddeiliaid wedi prynu eiddo heb ddeall canlyniadau llawn posibl y cytundebau cyfreithiol y maent wedi ymrwymo iddynt, ac yna wedi eu canfod eu hunain yn wynebu miloedd o bunnoedd mewn costau trwsio dros lawer o flynyddoedd yn ddiweddarach. Roeddwn yn rheolwr tai mewn bywyd blaenorol ac rwy'n gwybod yr anawsterau y mae wedi’i achosi. Roedd un achos enwog, wrth gwrs, yn ymwneud â phreswylwyr bloc tŵr enwog iawn yng Nghwmbrân a enillodd yn y diwedd eu brwydr gyfreithiol i osgoi talu biliau hyd at £27,000 yr un am waith gwella i'w fflatiau. Ac er bod y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn yn ymwneud â newidiadau cyfreithiol technegol i gyfraith bresennol, hoffwn achub ar y cyfle hwn i ofyn i'r Gweinidog, os gwelwch yn dda, barhau i edrych ar wneud cyfraith lesddaliadau’n decach ac yn gliriach, a sicrhau bod lesddeiliaid yng Nghymru wedi’u diogelu rhag costau trwsio gormodol. Diolch.
 
15:16
Lesley GriffithsBywgraffiadY Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Diolch, Lywydd, a diolch i Lindsay Whittle am ei gyfraniad. Fel y soniais, yr unig ganlyniad i beidio â chefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn fyddai rhoi lesddeiliaid yng Nghymru dan anfantais o'u cymharu â'u cymheiriaid dros y ffin. O ran cais penodol Lindsay Whittle i barhau i weithio, byddwch yn ymwybodol fy mod wedi gwneud datganiad ysgrifenedig yn ddiweddar iawn ynglŷn â'r gwaith yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd ynglŷn â'r mater hwn. Diolch.
 
15:16
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid oes unrhyw wrthwynebiadau. Mae'r cynnig wedi’i dderbyn yn unol â’r Rheolau Sefydlog.
 
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
 
15:16
6. Cynnig i Amrywio Trefn Gwelliannau ar gyfer Cyfnod 3 y Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru)
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn ymlaen nawr at eitem 6, sef y cynnig i amrywio trefn y gwelliannau ar gyfer Cyfnod 3 y Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru). Galwaf ar Weinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth i gynnig y cynnig—Jane Hutt.
 
Cynnig NDM5969 Jane Hutt
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:
 
Yn cytuno i waredu'r adrannau a'r atodlenni i'r Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn a ganlyn:
 
a. Adrannau 2-36
 
b. Adrannau 38-81
 
c. Adran 37
 
d. Adrannau 83-116
 
e. Adran 82
 
f. Adrannau 118-156
 
g. Adran 117
 
h. Adrannau 157-170
 
i. Adrannau 172-184
 
j. Adran 171
 
k. Adrannau 185-195
 
l. Adran 1
 
m. Teitl Hir.
 
Cynigiwyd y cynnig.
 
15:17
Jane HuttBywgraffiadY Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
Cynigiaf y cynnig.
 
15:17
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Wedi’i gynnig yn ffurfiol. Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr.
 
Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dim gwrthwynebiad. Felly, caiff y cynnig ei dderbyn yn unol â’r Rheolau Sefydlog.
 
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
 
15:17
7. Cynnig i Amrwyio Trefn Gwelliannau ar gyfer Cyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn ymlaen nawr at eitem 7, sef cynnig i amrywio trefn y gwelliannau ar gyfer Cyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru). Galwaf ar y Gweinidog iechyd y cyhoedd i gynnig y cynnig. A wnaiff rhywun gynnig y cynnig?
 
Cynnig NDM5970 Jane Hutt
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:
 
Yn cytuno i waredu'r adrannau a'r atodlenni i'r Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn a ganlyn:
 
a. Adrannau 2-31
 
b. Atodlenni 1 a 3
 
c. Adrannau 32-52
 
d. Atodlen 2
 
e. Adrannau 53-57
 
f. Adrannau 59-96
 
g. Atodlen 4
 
h. Adran 58
 
i. Adrannau 97-117
 
j. Atodlen 5
 
k. Adrannau 118-126
 
l. Adran 1
 
m. Teitl Hir.
 
Cynigiwyd y cynnig.
 
15:17
Jane HuttBywgraffiadY Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
Cynnig.
 
15:17
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Diolch. Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr ac, felly, y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, caiff y cynnig ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
 
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
 
8. Dadl ar Adroddiad Blynyddol Estyn
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Elin Jones, gwelliant 2 yn enw Paul Davies, a gwelliant 3 yn enw Aled Roberts.
 
15:17
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn ymlaen nawr i drafod adroddiad Estyn. Galwaf ar y Gweinidog Addysg a Sgiliau i gynnig y cynnig—Huw Lewis.
 
Cynnig NDM5972 Jane Hutt
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
 
Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2014-15.
 
Cynigiwyd y cynnig.
 
15:18
Huw LewisBywgraffiadY Gweinidog Addysg a Sgiliau
Diolch, Lywydd. Rydych yn bendant o gwmpas eich pethau heddiw. A gaf i agor y ddadl hon heddiw drwy ddiolch i Meilyr Rowlands am ei adroddiad blynyddol cyntaf fel Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru? Mae adroddiad eleni yn rhoi inni, unwaith eto, ffynhonnell gyfoethog a gwerthfawr o wybodaeth i'w defnyddio i lunio ein syniadau am ddyfodol addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Hoffwn ddiolch i dîm Estyn am eu holl waith caled dros y 12 mis diwethaf.
 
Mae canfyddiadau'r adroddiad yn tynnu sylw at gynnydd parhaus ein hysgolion, ein colegau a’n hawdurdodau lleol yma yng Nghymru, gan ddangos cynnydd eleni yr holl ffordd o'r blynyddoedd cynnar hyd at addysg bellach. Mae'r prif arolygydd yn tynnu sylw at, a dyfynnaf,
 
mwy o aeddfedrwydd, hyder ac ymdeimlad a rennir o ymdrech o fewn y system addysg yng Nghymru.
 
Mae'r adroddiad yn ei gwneud yn glir, lle mae'r cyfnod sylfaen yn cael ei weithredu'n dda, bod safonau’n rhagorol a bod dysgwyr yn gwneud cynnydd da iawn. Mae hefyd yn amlwg, er bod angen gwaith o hyd i ymgorffori ethos presenoldeb da, bod y camau yr ydym yn eu cymryd i leihau absenoldeb o ysgolion yn cael effaith gadarnhaol.
 
Yr hyn sydd o ddiddordeb arbennig i mi yw sylwadau adeiladol y prif arolygydd ynglŷn â’r ymyraethau sydd â’r nod o gefnogi disgyblion difreintiedig, gan gynnwys y grant amddifadedd disgyblion. Mae'r adroddiad yn cadarnhau bod ysgolion yn fwy hyderus ynghylch defnyddio'r grant ac yn ystyried ei fod yn cael effaith bendant ar addysgu a dysgu yn ogystal ag ar les dysgwyr. Dangosodd canlyniadau TGAU yr haf diwethaf hynny’n glir: cafodd 31.6 y cant o ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim bum TGAU gradd A* i C, gan gynnwys Saesneg neu Gymraeg iaith gyntaf a mathemateg. Mae hyn 3.9 y cant yn uwch nag yn 2013-14, ac mae'r bwlch rhwng y rhai nad ydynt yn cael prydau ysgol am ddim a'r rhai sydd yn eu cael yn cau.
 
Rwyf hefyd wrth fy modd bod yr adroddiad yn adlewyrchu'r gwaith caled a wneir gan ysgolion i adeiladu ar y sylfeini yr ydym wedi’u sefydlu drwy’r fframwaith llythrennedd a rhifedd. Mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau bod ymarferwyr yn teimlo bod ganddynt gefnogaeth i gyflawni ar lythrennedd a rhifedd, ac rydym yn parhau i fuddsoddi yn y maes hwn a gweithio gyda phartneriaid yn y consortia addysg rhanbarthol.
 
Mae’r adroddiad yn dangos, fodd bynnag, bod llawer o waith i'w wneud o hyd i unioni’r cyferbyniad rhwng ansawdd addysgu a dysgu yn ein darparwyr addysg gorau ac yn ein rhai gwannaf. Rydym yn gweithio gyda'r consortia a'r bwrdd datblygu arweinyddiaeth cenedlaethol i adnewyddu ein strategaeth arweinyddiaeth. Mae gwella safonau addysgu ac arweinyddiaeth yn flaenoriaethau allweddol sy'n sail i bwrpas, egwyddorion a gweithrediad y cytundeb newydd, ac rwy'n ddiolchgar i adroddiad eleni am ein helpu i lunio ein ffordd o feddwl am y camau nesaf ymlaen.
 
Mae'r data yn yr adroddiad Estyn yn dangos gwelliant cyffredinol yn y system addysg. Bu gwelliannau eleni ym mhob maes yn ddieithriad, o'r cyfnod sylfaen hyd at gyfnod allweddol 4, gan ddangos tuedd gadarnhaol tuag at i fyny o ran safonau addysgol. Mae cyfran rhagoriaeth mewn ysgolion cynradd wedi cynyddu dros y pum mlynedd diwethaf o 8 y cant i 18 y cant eleni, ac mae cynnydd bychan yn nifer yr ysgolion cynradd a arolygwyd ac y barnwyd eu bod yn 'dda'. Mae cyfran rhagoriaeth mewn ysgolion uwchradd wedi cynyddu o 23 y cant bum mlynedd yn ôl i 38 y cant eleni. Fodd bynnag, mae tua’r un gyfran o ysgolion uwchradd yn anfoddhaol, ac mae gostyngiad yng nghyfran yr ysgolion uwchradd a arolygwyd sydd yn dda, ac mae angen inni edrych ar hyn yn ofalus o ran ein sector ysgolion uwchradd.
 
Rwy'n falch iawn o gynnydd parhaus ein hysgolion arbennig yng Nghymru, ac rwy'n awyddus i sicrhau ein bod fel system yn well am drosglwyddo rhywfaint o'r arfer rhagorol a welwn yno i mewn i'r system prif ffrwd. Mae'r arweinyddiaeth a’r hunanwerthuso rhagorol ar ran staff addysgu ysgolion arbennig, yn enwedig, yn rhywbeth y mae angen inni ddysgu oddi wrtho. Rwy'n falch o weld, ym mhob ysgol arbennig, bod llawer o ddysgwyr hŷn yn cael y sgiliau a'r cymwysterau perthnasol sydd eu hangen i’w paratoi ar gyfer eu bywyd diweddarach.
 
Rwyf hefyd yn falch o weld bod yr holl unedau cyfeirio disgyblion a arolygwyd wedi’u barnu fel darpariaeth dda, ond fel y bydd yr Aelodau’n ei wybod, fel sector rwy’n cydnabod bod gennym fwy o waith i'w wneud o ran codi safonau ym mhob maes. Bydd y gwaith y mae Ann Keane yn ei arwain yn y maes hwn, rwy’n gobeithio, yn ein harwain i gyflawni safonau uwch a gwell arweinyddiaeth, fel yr hoffem i gyd ei weld.
 
Mae'r adroddiad yn dangos, ar draws yr holl raglenni addysg bellach yn 2014, bod 86 y cant o weithgareddau dysgu wedi eu cyflawni'n llwyddiannus. Mae hyn yn gynnydd cyffredinol o 2 y cant oddi ar y flwyddyn flaenorol, ac yn parhau’r duedd o gyfraddau llwyddiant yn codi’n raddol.
 
Mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu rhai canlyniadau dymunol o arolygu darparwyr seiliedig ar waith. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £5 miliwn ychwanegol ar gyfer prentisiaethau y flwyddyn nesaf, ac rwy'n awyddus inni barhau i adeiladu ein henw da am ansawdd mewn dysgu galwedigaethol.
 
Mae'n amlwg bod y polisïau yr ydym wedi eu rhoi ar waith, o'r cyfnod sylfaen i’r fframwaith llythrennedd a rhifedd, i'r consortia rhanbarthol cryfach a'r grant amddifadedd disgyblion, yn helpu i sbarduno gwelliannau mewn safonau ar draws y wlad. Mae gennym fwy i'w wneud, ond mae adroddiad eleni’n dangos y cynnydd clir yr ydym yn ei wneud. Rwy'n ddiolchgar i'r athrawon, yr arweinwyr a’r rheolwyr ar draws y sector am eu cyfraniad at yrru’r polisïau hyn yn eu blaenau. Rydym i gyd yn rhannu'r un uchelgais am system addysg ragorol. Y cwbl sydd ar ôl i mi ei wneud yw diolch unwaith eto i Meilyr Rowlands a'i dîm am y gwaith a wnaethpwyd i gynhyrchu'r adroddiad hwn eleni. Diolch.
 
15:24
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Rwyf wedi dethol tri gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Simon Thomas i gynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Elin Jones.
 
Gwelliant 1—Elin Jones
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
 
Yn nodi bod adroddiad Estyn yn nodi ‘mewn ysgolion sydd ag arweinwyr llwyddiannus, ceir diwylliant cadarn o ddysgu proffesiynol a ffocws ar wella ansawdd addysgu a dysgu’ ac yn credu y byddai talu premiwm addysgu i staff addysg tra chymwysedig sy'n cynnal eu datblygiad proffesiynol yn cyfrannu'n sylweddol at godi safonau addysgu.
 
Cynigiwyd gwelliant 1.
 
15:24
Simon ThomasBywgraffiad
Diolch yn fawr, Lywydd, ac rwy’n dechrau drwy gytuno a’r Gweinidog yn ei ddiolchiadau I Meilyr Rowlands am yr adroddiad eleni, a hefyd hoffwn I ddiolch I Ann Keane, y cyn brif arolygydd, am ei gwaith hithau gydag Estyn dros y Cynulliad hwn. Rwy’n credu ei bod hi’n briodol, gan ein bod ni’n trafod adroddiad blynyddol Estyn am y tro olaf yn y Cynulliad hwn, fy mod i’n rhoi ar gofnod pa mor bwysig y mae tystiolaeth Estyn wedi bod I fi ac I Blaid Cymru, ac rwy’n credu I bob un plaid arall hefyd, yn y ffordd rŷm ni wedi dehongli a dal y Llywodraeth I gyfrif ar nifer o faterion addysgiadol. Mae’n ddiddorol I nodi y ffordd mae Estyn wedi datblygu dros y blynyddoedd o fod yn gorff arolygu ysgolion I fod yn gorff tystiolaeth y system addysgol yn ei chyfanrwydd. Rwy’n credu bod hynny yn rhywbeth rŷm ni wedi’I weld yn fudd mawr i’r Cynulliad hwn, I waith y pwyllgor plant a phobl ifanc hefyd, a gobeithio i’r ddadl gyhoeddus ynglŷn â’n cyfundrefn addysg ni.
 
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Melding) i’r Gadair.
 
Simon ThomasBywgraffiad
Fel roedd y Gweinidog yn cyfeirio ato, mae yna bethau i’w croesawu yn yr adroddiad hwn, ond y mae pethau i boeni yn eu cylch hefyd. Rwy’n credu mai’r prif bryder sydd gen i yw’r amrywiaeth mewn safonau addysgu sydd yn digwydd rhwng yr ysgolion gwaethaf a’r ysgolion gorau. Mae’n fater o bryder rwy’n meddwl, mewn cyd-destun lle rŷm ni wedi gweld y Llywodraeth yn sefydlu nifer o wahanol gynlluniau—y prif un, wrth gwrs, yw Her Ysgolion Cymru—i weld bod nifer yr ysgolion uwchradd sydd wedi gwaethygu wedi cynyddu. Er bod nifer yr ysgolion uwchradd sydd wedi gwella hefyd wedi cynyddu, mae’r pegynnu sydd yn digwydd—dyna’r gair, rwy’n meddwl, y mae’r prif arolygydd yn ei ddefnyddio yn ei adroddiad—rhwng y gorau a’r ardderchog a’r gwachul yn ein system addysg ni yn fater o bryder, ac yn rhywbeth sydd eisiau mynd i’r afael ag ef.
 
Mae Estyn yn dweud mai dim ond arweinwyr ysgolion ac athrawon all unioni’r amrywioldeb hwn mewn safonau. Dim ond hyn a hyn y gall y Llywodraeth ei wneud i osod yr amgylchedd iawn; mae angen arweinyddiaeth ac addysgu o safon uchel i unioni’r amrywioldeb hwn. Mae Plaid Cymru yn sicr o'r farn ein bod yn dymuno gweld pob disgybl yn cael ei addysgu gan athrawon da dan arweiniad penaethiaid cryf, a dyna pam mae ein gwelliant heddiw yn cyflwyno ein cynigion ar gyfer yr etholiad ym mis Mai, yn ogystal â phremiwm addysgu o hyd at 10 y cant i’r holl athrawon hynny sy'n cyflawni cymhwyster Meistr mewn ymarfer addysgol neu'r hyn sy'n cyfateb i hynny o ran sgiliau, yn aros yn y sector ac yn cynnal y lefelau sgiliau hynny. Hoffem hefyd ymestyn y cynnig hwn i gynorthwywyr addysgu sy'n ennill sgiliau ar lefel 3 neu uwch. Y rheswm pam yr ydym yn gwneud hyn yw ein bod wedi cael dadl am bum mlynedd yn y lle hwn ynglŷn â datganoli tâl ac amodau athrawon. Nid yw hynny wedi digwydd, nid yw'n debygol o ddigwydd yn y dyfodol agos, ac mae angen inni wneud rhywbeth i nodi ein cred bod arnom angen proffesiwn addysgu lle mae sgiliau a datblygiad proffesiynol yn cael eu hystyried fel bod yn bwysicaf, lle mae hynny'n orfodol i bob pwrpas, a lle’r ydym yn disgwyl i addysgu fod o’r safon honno a chynnal y safon honno ar bob lefel. Hoffem, felly, i athrawon da gael eu gwobrwyo am eu harferion addysgu, ac nid yn unig drwy ddod yn rheolwyr neu’n benaethiaid neu ddirprwy benaethiaid, ond hefyd drwy ddefnyddio eu sgiliau addysgu yn eu hysgolion, yn eu clystyrau ysgolion, ac yn yr ysgolion arloesol newydd sy’n darparu ein cwricwlwm cenedlaethol. Mae hyn yn gydnabyddiaeth o'r gofyniad enfawr y byddwn yn ei roi ar ein proffesiwn addysgu dros y pum mlynedd nesaf i ddarparu’r cwricwlwm cenedlaethol newydd ac agenda Donaldson.
 
Gall y premiwm addysgu hwn weithio ochr yn ochr â thorri biwrocratiaeth mewn ysgolion, gan roi amser i athrawon addysgu ac amser i benaethiaid arwain ar safonau addysgol, yn y gobaith, wrth gwrs, y byddwn yn denu mwy i ddod yn benaethiaid yn eu tro, oherwydd un o'r pethau eraill sydd y tu ôl i’r adroddiad hwn yw nad dim ond, efallai, diffyg safonau sy’n gyfrifol am y diffyg arweinyddiaeth ymhlith penaethiaid; yn amlach, mae’n digwydd oherwydd nad oes digon o benaethiaid i ymgymryd â'r gwaith hwn yng Nghymru ac nad oes digon o gefnogaeth, felly, i’r rhai sydd eisiau symud i swyddi penaethiaid.
 
Gwnawn dderbyn y gwelliant gan y Ceidwadwyr hefyd. Credwn ei fod yn cyd-fynd â'n meddylfryd ar yr angen i gau'r bwlch rhwng y disgyblion tlotaf a'r disgyblion sy’n cael y gefnogaeth orau. Ni allwn dderbyn y gwelliant gan y Democratiaid Rhyddfrydol. Rwy’n gwybod bod gan y Democratiaid Rhyddfrydol ddiddordeb mewn maint dosbarthiadau—maent wedi ei ailddarganfod ar ôl anghofio am y peth am 10 mlynedd—ond mae’n rhaid imi ddweud wrth siaradwr y Democratiaid Rhyddfrydol fy mod yn cytuno â'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn hyn o beth, ym mis Ebrill 2014 pryd y gwnaethant ddweud yn glir iawn,
 
Mae systemau addysg sy'n perfformio'n dda yn tueddu i roi blaenoriaeth i ansawdd athrawon dros fewnbynnau eraill, yn fwyaf nodedig maint dosbarthiadau.
 
Credaf fod pwyslais Plaid Cymru ar bremiwm ar gyfer athrawon o safon uchel yn blaenoriaethu ansawdd athrawon dros faint y dosbarth, a’i fod felly’n well polisi na'r hyn a argymhellir gan bartïon eraill.
 
15:30
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Galwaf ar Angela Burns i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
 
Gwelliant 2—Paul Davies
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
 
Yn nodi bod adroddiad Estyn eleni yn dangos bod angen gwneud mwy i leihau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion ysgolion uwchradd sy’n cael prydau ysgol am ddim a’u cyfoedion.
 
Cynigiwyd gwelliant 2.
 
15:30
Angela BurnsBywgraffiad
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i gael siarad yn y ddadl heddiw, ac, fel fy nghyd-Aelod, Simon Thomas, hoffwn innau ddiolch i Estyn am eu gwaith caled, ac am eu trylwyredd wrth archwilio ein gwasanaeth addysg. Ac rwyf innau hefyd, fel y Gweinidog Addysg, yn teimlo bod llawer o newyddion da yn yr adroddiad hwn. Roedd rhai newidiadau sydd wedi dangos rhywfaint o welliant.
 
Fodd bynnag, mae addysg yng Nghymru yn parhau i fod yn gymysg iawn, a hoffwn ganolbwyntio fy nghyfraniad heddiw ar un maes penodol yr wyf yn credu ei fod yn dioddef o ganlyniad i her amrywioldeb a nodwyd gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi, sef y cyfnod pontio rhwng yr ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd, a all fod yn brofiad cyffrous ond brawychus i blentyn—ysgol newydd, ffrindiau newydd, athrawon newydd, heriau newydd. Cyfnod o newid enfawr. A’r hyn sy’n hanfodol yn ystod y cyfnod hwn o newid yw parhad datblygiad addysgol plentyn—bod y wybodaeth a gafodd yn yr ysgol gynradd yn gweithredu fel sylfaen i’r disgybl dyfu, ac mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer disgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim.
 
Ni ddylai disgyblion o gefndiroedd incwm isel fod dan anfantais ychwanegol. Mae’n rhaid iddynt allu casglu gwybodaeth a dealltwriaeth a fyddai'n eu helpu i godi eu hunain allan o dlodi, a thuag at ddyfodol boddhaus a hapus, â rhagolygon da. Ac mae'r adroddiad diweddaraf, yma, yn dangos arwyddion bod hyn yn digwydd i ddisgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim yn ystod eu blynyddoedd cynradd, ac mae hynny i'w groesawu’n fawr iawn. Canfu'r adroddiad blynyddol fod 91 y cant o ddisgyblion ysgolion cynradd wedi cyflawni eu dangosydd craidd cyfnod sylfaen pan eu bod yn saith oed, a 93 y cant arall pan eu bod yn 11 oed, ac ni fyddai neb yn dymuno dadlau â hynny.
 
Fodd bynnag, gostyngodd cyfran y plant sy’n cael prydau ysgol am ddim a gyflawnodd y dangosydd pwnc craidd yn 14 oed, gan dros 10 y cant, cyn gostwng gan y swm anhygoel o 43 y cant erbyn iddynt fod yn 16 oed. Er mwyn rhoi'r canfyddiad olaf yn fwy plaen, llai na 30 y cant o'r disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim a gyflawnodd dangosydd pwnc craidd cyfnod allweddol 4, bwlch o 31.9 y cant rhyngddyn nhw a'u cyfoedion nad ydynt yn cael prydau ysgol am ddim.
 
Nawr, Weinidog, rwy’n disgwyl ichi ateb drwy ddweud wrthym bod hyn yn culhau'r bwlch cyrhaeddiad, ac mae hynny'n wir—culhau sy’n cyfateb i ddim ond 0.5 y cant, o'i gymharu â'r llynedd. Ac, ydy, mae’r symudiad i’r cyfeiriad cywir, ond y gwir yw ei fod yn digwydd yn rhy araf. Rwy’n deall nad yw'n rhywbeth a fydd yn digwydd ar unwaith, ond mae cynnydd y culhau hwnnw bron yn amhosibl ei weld. Ac, ar ôl pum mlynedd, mae'r bwlch yn dal i fod yn bryderus o ystyfnig.
 
Dywedodd y Gweinidog fod dileu'r cysylltiad rhwng tlodi a chyrhaeddiad yn un o'i amcanion sylfaenol ef, a’i Lywodraeth, ac, er nad wyf yn amau ​​eich awydd, Weinidog, i weld hyn yn digwydd, mae'r dystiolaeth yn dangos, yn syml, nad yw’n digwydd ar gyfradd ddigon cyflym. Rydych wedi cyflwyno polisïau fel Her Ysgolion Cymru, ac rydym wedi cefnogi eu diben. Ac, er bod y polisi’n dal i fod yn ei gamau eginol, mae darganfod bod rhai ysgolion, ar ôl £20 miliwn o arian cyhoeddus, wedi cymryd cam yn ôl o ran cyfran eu disgyblion sy'n cyrraedd lefel 2 TGAU yr haf diwethaf yn peri pryder. Mae hyn yn dangos na wnaiff arian ar ei ben ei hun ddatrys y broblem—mae angen defnyddio’r arian hwnnw’n effeithiol.
 
Er enghraifft, mae cyflwyno Teach First yng Nghymru yn rhywbeth yr ydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr o’i blaid. Roedd adroddiad diweddar gan Arad ar effaith gwaith yr elusen yng Nghymru’n nodi bod uwch reolwyr a phenaethiaid adrannau yn dweud bod cyfranogwyr Teach First wedi cael effeithiau cadarnhaol ar eu hysgolion mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys cefnogi cyrhaeddiad dysgwyr a deilliannau mwy meddal fel cymhelliant, agweddau, ymgysylltu ac ansawdd gwaith dysgwyr. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod Teach First yn cynnig llwybr amgen i mewn i addysgu sy’n gallu, ac sydd yn, denu pobl ddawnus i mewn i'r proffesiwn ac ychwanegu gwerth at y gweithlu addysg yng Nghymru. Ac, fel y dywedodd Simon Thomas, bydd athro gwych yn gwneud mwy na digon i gydbwyso cefndir difreintiedig dysgwr.
 
Mae yna, wrth gwrs, lawer iawn o athrawon da yng Nghymru. Ond byddem yn dadlau bod angen mwy, a dyma sut y byddem yn ymdrin â hyn. Mae angen inni hefyd ymdrin â rheswm arall pam nad yw cyrhaeddiad rhwng cynradd ac uwchradd mor gyson ag y dylai fod, sef yr angen i ymdrin ag ymddieithriad â dysgu, ac mae hyn yn berthnasol i ddisgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim ac i’r rhai nad ydynt yn cael prydau ysgol am ddim. Nid yw'n gwneud synnwyr gorfodi disgybl 14 mlwydd oed i astudio pwnc academaidd os yw’n well ganddo neu ganddi ddisgyblaethau mwy technegol neu ymarferol, neu os yw’n fwy medrus yn y meysydd hynny.
 
Er ei bod yn hollbwysig bod y lefelau cywir o hyfedredd mewn Saesneg a mathemateg yn hanfodol, dylai disgyblion hefyd allu adeiladu ar eu talentau a dilyn eu diddordebau, boed hynny mewn peirianneg, y celfyddydau neu bensaernïaeth. Byddem yn meddwl y byddai adroddiad blynyddol blaenorol Estyn wedi rhybuddio Llywodraeth Cymru i weithredu ar ei methiannau o ran rheoli’r bwlch hwn rhwng cyrhaeddiad disgyblion tlotach. Mae adroddiad eleni yn dangos nad oes digon o lawer yn digwydd ac rwy’n gobeithio y bydd adroddiad y flwyddyn nesaf yn unioni’r sefyllfa honno.
 
15:35
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Galwaf ar Aled Roberts i gynnig gwelliant 3, a gyflwynwyd yn ei enw ef.
 
Gwelliant 3—Aled Roberts
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
 
Yn credu ar adeg pan fo nifer y disgyblion mewn ysgolion cynradd yn cynyddu, pan fo ysgolion yn cau, a phan fo prinder athrawon, fod dosbarthiadau llai ar gyfer babanod yn bwysicach nag erioed i roi amser i athrawon addysgu ein plant yn iawn.
 
Cynigiwyd gwelliant 3.
 
15:35
Aled RobertsBywgraffiad
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf yn cynnig gwelliant 3. Wrth wneud hynny, rwy’n ategu beth ddywedodd Simon Thomas: rwy’n meddwl bod yna le i ni ddiolch i Estyn am eu gwaith. Rwy’n meddwl bod eu hadroddiadau blynyddol nhw wedi creu sylfaen ar gyfer rhai o’r trafodaethau yma o fewn y Cynulliad. Diolch yn arbennig i Meilyr Rowlands yn ystod ei gyfnod cyntaf, er rwy’n ategu hefyd beth ddywedodd y Gweinidog ynglŷn â’r gwaith y mae Ann Keane, fel ei ragflaenydd o, wedi’i wneud. Gobeithio y bydd hi’n dod ag argymhellion ymlaen o ran rhai o’r newidiadau, hwyrach, sydd eu hangen o ran y plant hynny sydd ddim, ar hyn o bryd, yn llwyr o fewn y gyfundrefn addysg.
 
Rwyf yn meddwl y dylem ni gydnabod beth mae’r Gweinidog wedi’i ddweud y prynhawn yma, bod yna nifer o lwyddiannau sydd i’w cydnabod o fewn yr adroddiad, ond rwyf i hefyd yn croesawu’r ffaith bod y Gweinidog wedi dweud bod yna nifer o faterion eraill sydd angen mwy o waith arnyn nhw. Ac rwy’n meddwl bod Simon Thomas wedi dweud y peth sydd yn fy mhoeni i fwyaf, sef y ffaith bod yna begynnu, i ryw raddau, rhwng yr ysgolion yma sy’n gwella. Mae’r canran o ran yr ysgolion uwchradd sydd wedi’u hasesu’n ‘ardderchog’ wedi cynyddu o 23 y cant i 38 y cant dros y pum mlynedd diwethaf, ond, er hynny, mae yna nifer erbyn hyn sydd yn anfoddhaol—canran tebyg i’r rhai sydd yn ardderchog. Ac mae nifer yr ysgolion sydd wedi’u beirniadu’n dda neu’n well wedi gostwng, wrth gwrs, ers y llynedd.
 
Rwyf yn croesawu ac fe fyddwn ni’n cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr. Rwy’n meddwl, o ran y grant amddifadedd erbyn hyn, rydym ni’n dechrau gweld newid. Mae’n amlwg bod yna nifer o faterion a oedd angen mynd ar eu holau nhw yn ystod y flwyddyn neu 18 mis cyntaf, ond, erbyn hyn, rwy’n meddwl bod arfer da yn dechrau lledaenu. Rwy’n meddwl hefyd fod angen inni fod yn ofalus, achos rwy’n meddwl nad oedd rhai o’r plant yma sy’n 14, 15, 16 oed—mi oedd Angela Burns yn cyfeirio atyn nhw, wrth gwrs—wedi cael y buddsoddiad tra’r oedden nhw o fewn yr ysgolion cynradd. Felly, rwy’n meddwl ei bod hi’n deg i weld bod y cynnydd o ran y plant sy’n derbyn cinio ysgol am ddim yn well o fewn yr ysgolion cynradd nag o fewn yr ysgolion uwchradd.
 
Ond mae yna angen inni fynd ar ôl yr anghysondeb o ran y ffaith bod y plant yma o gefndiroedd difreintiedig yn dal i gyflawni’n waeth na’u cyfoedion nhw. Hefyd, rwy’n meddwl bod angen inni ofyn cwestiynau. Mae’r canran o ran presenoldeb o fewn ein hysgolion ni wedi gwella, ond mae’n amlwg bod yna’n dal i fod problem o ran y plant mwyaf difreintiedig. Nhw sydd yn waeth o ran eu presenoldeb o fewn yr ysgol a hefyd mae yna ganran fwy ohonyn nhw sy’n absennol yn gyson o’n hysgolion ni. Rwyf yn meddwl bod ffigwr sir Ddinbych—y sir y drws nesaf i ni—lle mae 6.3 y cant o’r plant yn absennol yn gyson, yn rhywbeth y bydd yn rhaid inni fynd ar ei ôl.
 
Felly, mae yna wendidau, mae yna anghysondeb, ac rwy’n meddwl y cwestiwn sy’n codi ydy: pa waith y mae’r awdurdodau lleol a’r consortia rhanbarthol yn ei wneud i ledaenu arfer da? Dyna beth sydd angen inni fynd ar ei ôl erbyn hyn. Rwyf yn cefnogi beth mae’r Gweinidog wedi’i ddweud, bod angen inni edrych ar beth yn union maen nhw’n ei wneud, ond hefyd mae yna le i’r Llywodraeth cwestiynu rhai o’u strategaethau nhw. Mae yna gyfeiriad ar dudalen 30 o’r adroddiad sydd yn sôn am wendidau o ran strategaeth lythrennedd a rhifedd y Llywodraeth a’r ffordd y mae’r ysgolion yn ymdrin â hynny. Rwy’n mynd i gyfeirio at hyn. Maen nhw’n dweud:
 
Mae llawer o ysgolion wedi lleihau’r amser sy’n cael ei dreulio ar bynciau a meysydd dysgu nad ydynt yn rhai craidd. Mae hyn yn digwydd yn aml ar ôl cyflwyno dulliau llawdrwm i ddatblygu llythrennedd a rhifedd, gyda'r nod o wella data perfformiad a chanlyniadau profion blynyddol yn hytrach na chyflawniadau’r plant.
 
Yn anffodus, ni fyddwn ni’n cefnogi gwelliant Plaid Cymru. Rwy’n deall yn union beth mae Simon Thomas yn mynd ar ei ôl, ond mae’n rhaid imi ddweud nad wyf i ar hyn o bryd wedi cael fy narbwyllo mai cyflog ychwanegol sydd ei angen. Rwyf wedi gweld, o fewn llywodraeth leol ac fel llywodraethwr ysgolion, i ryw raddau, fod taliadau ychwanegol yn y gorffennol wedi cael eu gwneud heb unrhyw fath o gyfeiriad at berfformiad ac addysg. Rwy’n teimlo, hwyrach, ar hyn o bryd, nad yw’r cymhwyster Meistr addysg, o reidrwydd, yn creu athro neu athrawes dda. Ond rwyf yn meddwl bod yna ddigon o dystiolaeth I gefnogi’r hyn rydym yn ei ddweud ynglŷn â rhyddhau amser athrawon I ddysgu. Mae hynny, wrth gwrs, yn cael ei gefnogi gan yr undebau athrawon ac, yn y pen draw, y proffesiwn y dylem wrando arno yn hytrach na’r OECD.
 
15:40
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Y Gweinidog i ymateb.
 
15:40
Huw LewisBywgraffiadY Gweinidog Addysg a Sgiliau
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i, yn gyntaf oll, ddiolch i'r Aelodau am eu sylwadau heddiw? Dywedais yn gynharach ein bod yn gwneud cynnydd fel system. Rydym wedi clywed llawer o Aelodau yn sôn yn raslon am y gwelliannau hynny y prynhawn yma. Fodd bynnag, rwyf hefyd wedi dweud bod heriau sylweddol yn dal i fodoli. Fel Gweinidog, rwy’n benderfynol y bydd gennym ddulliau gonest a, chyn belled ag y bo modd, cyfunol i ymdrin â hwy.
 
Fel y mae sylwadau’r prif arolygydd yn y rhagair yn ei amlinellu, ac fel y mae llawer o Aelodau wedi’i adleisio y prynhawn yma, dylai amrywioldeb addysgu a dysgu fod ar frig ein rhestr o bryderon. Wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth yr wyf yn awyddus i ymdrin ag ef drwy ein bargen newydd i’r proffesiwn addysgu.
 
Mae Simon Thomas yn llygad ei lle: mae’n rhaid i athrawon ac arweinwyr eu hunain sbarduno hyn, ond, i gyfeirio at ei welliant, mae’n rhaid imi ddweud bod tâl ac amodau yn dal i fod heb eu datganoli. Yn ogystal â hynny, rwy’n disgwyl, ac rwy’n meddwl y dylem i gyd ddisgwyl, y dylai ein holl athrawon fod yn weithwyr proffesiynol sy’n hunan-wella o ran eu hymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol, ac nid dim ond rhai ohonynt. Felly, rydym yn gweithio gyda'r proffesiwn i ddatblygu safonau proffesiynol newydd, a fydd yn ailddiffinio'r disgwyliadau sydd gennym ar ein gweithlu addysgol i ddarparu addysgu ac arweinyddiaeth o safon uchel. Bydd ein rhwydwaith o ysgolion arloesol y fargen newydd yn chwarae rhan arweiniol wrth ddatblygu ffyrdd o gryfhau'r ddarpariaeth ar gyfer dysgu proffesiynol ac yn cefnogi'r gweithlu i groesawu heriau yn y dyfodol, gan gynnwys, wrth gwrs, y cwricwlwm newydd.
 
Rwy’n bwriadu sefydlu fframwaith cenedlaethol o ddysgu proffesiynol o safon uchel wedi’i gydgysylltu gan gonsortia, a fydd ar gael i bob ymarferydd ac arweinydd gyda disgwyliad y dylai pob ymarferydd ac arweinydd ymgysylltu ag ef. Caiff ei ategu gan basbort dysgu proffesiynol ar-lein cryfach, a gynhelir gan y cyngor addysg a’r gweithlu, a fydd yn cefnogi amrywiaeth o lwybrau gyrfa ac yn galluogi ymarferwyr i gymryd mwy o gyfrifoldeb am eu dysgu proffesiynol eu hunain. Dyna, rwy’n gobeithio, ac rwy’n argyhoeddedig, yw’r ffordd orau inni unioni’r amrywioldeb hwn.
 
Un maes ag angen sylw parhaus wrth inni symud ymlaen yw dilysrwydd, cywirdeb a dibynadwyedd asesiadau athrawon. Er mwyn rhoi sylw i bryderon yn y maes hwn, rydym wedi gweithio'n agos â chonsortia ac ag Estyn yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf i adeiladu hyder yn y system asesu athrawon. Mae hyn yn cynnwys datblygu system newydd o ddilysu allanol a gweithio i gryfhau dealltwriaeth rhanddeiliaid o egwyddorion asesu athrawon. Rwy'n bwriadu gofyn i Estyn gynnwys adolygiad thematig ar werthuso asesiadau athrawon yn llythyr cylch gwaith blynyddol 2016-17 Estyn, a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am hyn yn nes at yr amser.
 
Mae adroddiad arolygu Estyn o Ganolfan Addysg Athrawon Gogledd a Chanolbarth Cymru yn adlewyrchu llawer o ddiffygion ac rwyf wedi bod yn glir yn y Siambr hon o'r blaen am fy mhryderon fy hun am ansawdd y ddarpariaeth HCA bresennol ledled Cymru a'r diffyg cyflymder gan ein sefydliadau addysg uwch o ran sbarduno gwelliannau.
 
Mae'r Athro John Furlong wedi ei gomisiynu i gadeirio grŵp gorchwyl a gorffen i adolygu ein meini prawf statudol presennol ar gyfer achrediad ac i newid pethau fel bod y system yn fwy cadarn ac addas i’w diben. Mae'r gwaith i fod i ddod i ben yn fuan iawn, ym mis Mawrth, gyda golwg ar achredu pob cwrs yn erbyn y trefniadau diwygiedig o fis Medi 2018 ymlaen.
 
Nodaf y canfyddiadau yn yr adroddiad fod lefelau cofrestru a chyrhaeddiad arholiad yn y gwyddorau yn parhau i achosi pryder, fel y mae'r dilyniant o TGAU i Safon Uwch i gyrsiau israddedig. Mae'n amlwg bod ar ein heconomi angen mwy o unigolion i symud i yrfaoedd sy'n seiliedig ar STEM, a dyna pam yr ydym yn lansio cyfeiriadur athrawon o ddysgu a datblygiad proffesiynol parhaus mewn gwyddoniaeth, mathemateg a TGCh a fydd yn cefnogi athrawon i wella sgiliau a gwybodaeth. Bydd angen inni weithio'n agos gyda chonsortia, awdurdodau lleol ac ysgolion gyda chyllid wedi’i ganolbwyntio i ymdrin â materion yn y pynciau STEM, ac rwy’n gobeithio y byddwn yn gwneud cynnydd ar yr agenda hon wrth inni symud ymlaen yn ystod y blynyddoedd nesaf.
 
Rwyf hefyd yn bwriadu gofyn i Estyn gynnwys adolygiad thematig ar wyddoniaeth yng nghyfnodau allweddol 3 a 4 yng nghylch gwaith blynyddol 2016-17 Estyn. Unwaith eto, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am hynny ar ôl imi gwblhau ein gwaith cynllunio.
 
Nodaf hefyd ganfyddiadau’r adroddiad bod safonau Cymraeg ail iaith yn gwella’n rhy araf ac nad yw defnyddio’r iaith yn gymdeithasol yn cael ei hyrwyddo’n ddigon da. Ein nod yw i bawb allu defnyddio eu Cymraeg gyda balchder a hyder, beth bynnag yw lefel eu gallu, a bydd y cwricwlwm newydd yr ydym yn ei ddatblygu yn galluogi dysgwyr i wneud mwy o gynnydd tuag at hyfedredd lle bynnag yng Nghymru y maent yn mynd i'r ysgol. Tra bod y cwricwlwm newydd yn cael ei ddatblygu, byddwn yn cefnogi camau gweithredu er budd dysgwyr sydd ar hyn o bryd yn dilyn y rhaglen astudio statudol Cymraeg ail iaith.
 
Mae fframwaith arolygu Estyn yn nodi gwendidau yn ein system, ond, yn bwysicach, mae’n sicrhau gwelliant parhaus drwy weithredu dilynol. Mae gennym lawer i'w ddathlu yng Nghymru. Dywedodd adroddiad Estyn y llynedd fod momentwm newydd yng Nghymru ac mae adroddiad eleni yn dangos ein bod yn dal i wneud cynnydd. Y llynedd, gwelsom y canlyniadau TGAU gorau erioed yng Nghymru. Mae ein canlyniadau cynhwysol lefel 2 i fyny 2.5 y cant ar 2014 i 57.9 y cant; cyflawnodd 69.7 y cant A* i C mewn Saesneg neu Gymraeg, a oedd i fyny 2.5 y cant ar y flwyddyn flaenorol; a chyflawnodd 64.4 y cant A* i C mewn mathemateg, i fyny 2.7 y cant ar y flwyddyn flaenorol. Rwy'n arbennig o falch bod y bwlch rhwng disgyblion difreintiedig a'u cyfoedion wedi cau mwy na mewn unrhyw flwyddyn ddiweddar arall, ynghyd â phwyslais newydd drwy'r grant amddifadedd disgyblion, gwell cynllunio ac effaith categoreiddio.
 
Efallai nad yw’r cynnydd yn ddigon cyflym i Angela Burns, nac efallai i minnau ychwaith, ond mae hwn yn gyntaf hanesyddol. Bydd y bobl sy’n gwybod hefyd yn dweud wrthych bod hyn yn dilyn patrwm y newid dramatig a welsom yn Llundain, lle mae gwersi i bawb ohonom, a lle’r oedd ysgolion cynradd, gyda llaw, yn arwain y ffordd o ran gweddnewid safonau yn y ddinas honno.
 
Fel sydd wedi’i ddangos yn glir, mae llawer o'r polisïau yr ydym wedi'u rhoi ar waith yn cyflawni canlyniadau ac rwy'n falch iawn o hynny. Mae gennym fwy i'w wneud, ac rwy’n credu y bydd yr adroddiad hwn yn ein helpu i lunio ein camau nesaf. Mae Angela Burns yn gywir yn siarad am drylwyredd yn adolygiad blynyddol Estyn ac, fel bob amser, mae'r map ffordd at ragoriaeth wedi’i ddisgrifio yn adroddiad blynyddol Estyn mewn du a gwyn ac mewn termau cymharol syml. Nid oes unrhyw esgus i gonsortia, i awdurdodau lleol nac, yn wir, i benaethiaid unigol. Dylai pawb ddarllen yr adroddiad hwn, dylai pawb ddeall yr adroddiad hwn, a dylai pawb sydd â swyddogaeth arweinyddiaeth mewn addysg ei roi ar waith.
 
15:48
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Y cynnig yw derbyn gwelliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
 
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
 
9. Dadl ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010—Dyletswydd i Adolygu—Adroddiad Terfynol
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Elin Jones, a gwelliant 2 yn enw Aled Roberts.
 
15:49
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Eitem 9 yw dadl ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010—Dyletswydd i Adolygu— Adroddiad Terfynol. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynnig—Mark Drakeford.
 
Cynnig NDM5971 Jane Hutt
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
 
Yn nodi cynnwys Adroddiad Terfynol y Ddyletswydd i Adolygu Asesiad Ôl-Ddeddfwriaethol o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.
 
Cynigiwyd y cynnig.
 
15:49
Mark DrakefordBywgraffiadY Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch iawn o gyflwyno’r ddadl hon ar yr adroddiad terfynol a gafodd ei lunio o dan adran 48 o Fesur iechyd meddwl 2010. Yr adran hon oedd yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i adrodd ar agweddau penodol ar y ddeddfwriaeth newydd hon a’r system newydd y mae wedi ei chreu ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru.
 
Mewn gwirionedd, mae’r adroddiad gerbron y Cynulliad Cenedlaethol heddiw yn mynd y tu hwnt i ofynion adran 48. Mae’n delio ag ystod ehangach o faterion gweithredu. Yn benodol, mae’n canolbwyntio ar y canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaethau, yn ogystal â mewnbynnau ac allbynnau darparwyr gwasanaethau. Wrth wneud hynny, mae’r adroddiad hefyd yn adlewyrchu un o egwyddorion allweddol y Mesur, a’r egwyddor honno yw ailalinio’r berthynas rhwng y rheini sy’n derbyn gwasanaethau a’r rheini sy’n eu darparu. Drwy wneud hynny, gallwn ni sicrhau bod defnyddwyr gwasanaethau a’u teuluoedd wrth galon ein dull ni o fynd i’r afael ag iechyd meddwl.
 
Ddirprwy Lywydd, mae Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol eang bob amser yn ystod y cyfnod y mae wedi mynd drwy'r Cynulliad hwn. Mae ei gynnydd wedi ei ddilyn yn ofalus bob amser gan Aelodau. Mae'r ddyletswydd i adrodd wedi cynhyrchu deunydd pwysig i ganiatáu i’r cynnydd gael ei olrhain ym mhob un o'r tair blynedd diwethaf. Cyhoeddwyd yr ‘Adroddiad Dechreuol Dyletswydd i Adolygu’ yn 2013 ac roedd yn nodi sut yr oedd y Llywodraeth yn bwriadu cyflawni’r ymrwymiad adran 48. Cyhoeddwyd yr ‘Adroddiad Interim Dyletswydd i Adolygu’ ym mis Ebrill 2014, ac roedd yn cynnwys y canfyddiadau oedd ar gael hyd at y dyddiad hwnnw. Yna, ym mis Rhagfyr y llynedd, cyhoeddais yr ‘Adroddiad Terfynol Dyletswydd i Adolygu’. Mae'r adroddiad yn nodi ei ganfyddiadau ac yn gwneud nifer o argymhellion. Er mwyn cael dealltwriaeth gyflawn o effaith y Mesur, ac i allu gwneud argymhellion a fyddai'n sicrhau bod arfer yn parhau i wella, mae'r adolygiad terfynol wedi tynnu ar wybodaeth o amrywiaeth eang o ffynonellau. Mae'r rhain yn cynnwys grwpiau gorchwyl a gorffen y mae rhanddeiliaid wedi eu cynrychioli arnynt i ystyried materion penodol sy'n codi o'r Mesur. Mae wedi tynnu ar ymchwil annibynnol a gomisiynwyd, arolygon boddhad defnyddwyr gwasanaeth a meddygon teulu, arolygon a sylwadau trydydd sector, asesiad o gydymffurfiad â gofynion cyfreithiol y Mesur, mesurau perfformiad ansoddol, a chraffu ôl-ddeddfwriaethol y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar argymhellion y Mesur .
 
Er, fel gydag unrhyw newid mewn proses ac ymarfer, bod angen amser i wireddu gwell canlyniadau yn llawn, roedd craffu ar ôl deddfu ar y Mesur gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cydnabod—a dyfynnaf o'i adroddiad—bod
 
gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru wedi gwella o ganlyniad. Mae mynediad at asesiad iechyd meddwl sylfaenol yn haws, mae cynlluniau gofal a thriniaeth gan fwy o bobl sy'n derbyn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd, ac mae mwy o bobl yn gallu cael mynediad at eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol.
 
Mae'r ‘Adroddiad Terfynol Dyletswydd i Adolygu' yn cefnogi canfyddiadau'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol bod y Mesur wedi gwella gwasanaethau. Mae'n dod i’r casgliad hwnnw ar draws pedair cydran allweddol y Mesur—creu gwasanaeth cymorth iechyd meddwl sylfaenol yn lleol, cynllunio gofal a thriniaeth, yr hawl i ailasesiad ar gyfer cleifion gofal eilaidd a ryddhawyd a darparu eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol. Mae hefyd yn dod i'r casgliad bod y Mesur wedi cynrychioli gwerth am arian a bod y gwelliannau y mae wedi'u rhoi ar waith yn parhau.
 
Darparwyd y cyllid presennol o £5 miliwn yn y lle cyntaf i fyrddau iechyd o fewn yr arian a glustnodwyd ar gyfer iechyd meddwl i gefnogi gweithrediad parhaus y Mesur. Yn ystod y Llywodraeth hon, rydym wedi parhau i fuddsoddi yn y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl, gyda mwy o gyllid ychwanegol nag erioed o'r blaen, er enghraifft, yn mynd i wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yn y flwyddyn ariannol hon er mwyn cefnogi gwelliannau angenrheidiol.
 
Er gwaethaf hyn a buddsoddiadau eraill, rydym yn ymwybodol bod angen gwneud mwy ac, yn arbennig, bod angen i ni sicrhau pan fydd pobl yn dioddef problemau iechyd meddwl am y tro cyntaf, eu bod yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt mewn modd prydlon. Dyna pam y byddwn yn parhau i fuddsoddi arian newydd mewn gwasanaethau iechyd meddwl yn y flwyddyn ariannol nesaf, gan ddefnyddio'r £30 miliwn ychwanegol y mae'r Gweinidog Cyllid wedi’i neilltuo ar gyfer pobl hŷn a gwasanaethau iechyd meddwl. Rwy'n bwriadu defnyddio rhywfaint o'r £30 miliwn hwnnw i gefnogi gweithredu parhaus a gwella gwasanaethau o fewn y Mesur iechyd meddwl. Byddwn hefyd yn gweithredu, Ddirprwy Lywydd, i fynd i'r afael â'r argymhellion yn yr adroddiad sy'n tynnu sylw at feysydd eraill lle y gallwn wneud mwy i adeiladu ar y llwyddiant hyd yn hyn.
 
Hoffwn dynnu sylw at ddim ond tri o'r meysydd hynny y prynhawn yma. Yn gyntaf, byddwn yn cyflwyno rhai newidiadau i ddeddfwriaeth eilaidd a fydd yn galluogi ystod ehangach o staff sy'n addas o gymwysedig a chymwys i ymgymryd ag asesiadau iechyd meddwl sylfaenol lleol a'r swyddogaeth cydgysylltu gofal. Roedd hon yn thema gref yn y dystiolaeth a gasglwyd yn rhan o'r adolygiad terfynol, ac rwy’n bwriadu cyflwyno cynigion a fydd, wrth gwrs, yn destun trafod ac ymgynghori pellach. Yn ail, mae'r Llywodraeth yn bwriadu ymgynghori ar newidiadau posibl o ran mynediad plant a phobl ifanc at ailasesiad pan gânt eu rhyddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd. Mae’r hawl hwn eisoes gan oedolion, ac mae'r adolygiad yn argymell ein bod yn rhoi'r un hawliau i bobl ifanc ac i blant. Rwy'n credu bod hynny'n iawn, a byddwn yn cyflwyno cynigion i ymgynghori i wneud i hynny ddigwydd. Yn drydydd, byddwn yn rhoi dulliau ar waith i fonitro'r gwell mynediad at ymyrraeth therapiwtig mewn gwasanaethau cymorth iechyd meddwl gofal sylfaenol lleol. Rydym yn disgwyl gweld gwelliant yn y fan honno o ganlyniad i'r buddsoddiad ychwanegol a wnaed gennym yn y ddarpariaeth o therapïau seicolegol, ac mae'n iawn y dylem roi dulliau ar waith i fonitro’r gwelliant hwnnw. Dyna pam yr wyf yn hapus i dderbyn yr ail welliant ar bapur trefn heddiw; mae'n adlewyrchu un o argymhellion yr adroddiad terfynol.
 
Byddwn yn parhau, yn ogystal, i gyhoeddi a bod yn glir ynghylch cydymffurfio â thargedau ar gyfer gwella mynediad at wasanaethau. Am y tro cyntaf, ac yn rhannol o ganlyniad i gynigion gan bwyllgor plant y Cynulliad, rydym wedi casglu data ers mis Ebrill 2015 i ddangos cydymffurfiad â'r Mesur yn ôl grŵp oedran. Mae'r rhain yn dangos bod amseroedd aros targed ar gyfer asesu ac ymyrryd ar gyfer plant a phobl ifanc mewn gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol wedi gwella gan dros 20 y cant. Ond rydym yn gwybod y gallwn ni wneud yn well, a dyna pam, yn y flwyddyn ariannol hon, yr wyf wedi cyhoeddi buddsoddiad ychwanegol o £800,000 yn y gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol, yn benodol i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc. Oherwydd fy mod yn cydnabod bod y mater o fynediad prydlon mor bwysig rwy’n barod i gefnogi'r gwelliant cyntaf ar bapur trefn heddiw. Er nad hyd y rhestr aros sy'n bwysig, fel y mae’r gwelliant yn ei awgrymu, rwy’n derbyn ysbryd y gwelliant, oherwydd rydym yn dymuno lleihau'r cyfnod amser y mae plant a phobl ifanc yn aros am y gwasanaeth sydd ei angen arnynt.
 
Yn fwy cyffredinol, Ddirprwy Lywydd, fe wnaethom gryfhau'r Mesur y llynedd drwy leihau'r cyfnod y mae angen darparu ymyraethau therapiwtig o fewn iddo a ddarperir yn y Mesur, o 56 i 28 diwrnod. Rwy'n falch o gadarnhau i Aelodau, ym mis Rhagfyr 2015, ar gyfartaledd, bod 80 y cant o bobl eisoes yn cael eu gweld ar gyfer asesiad ac ymyrraeth therapiwtig o fewn y terfyn amser byrrach hwnnw. Trwy weithredu argymhellion yr adroddiad, rwy'n hyderus y byddwn yn gwella effeithiolrwydd y gwasanaethau a ddarperir o dan y Mesur ymhellach a sicrhau ein bod yn gallu dangos yn well y canlyniadau y mae gwasanaethau yn eu cyflawni ar gyfer y rhai sy'n gwneud defnydd ohonynt. Yn y cyfamser, rwy’n gobeithio bod yr adroddiad yn rhoi ffynhonnell bwysig o wybodaeth i'r Aelodau, ac un sydd â phethau cadarnhaol i'w dweud am effaith deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
 
15:59
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Rwyf wedi dethol y ddau welliant, a galwaf ar Elin Jones i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn ei henw.
 
Gwelliant 1—Elin Jones
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
 
Yn credu bod rhestrau aros ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yn annerbyniol o uchel.
 
Cynigiwyd gwelliant 1.
 
15:59
Elin JonesBywgraffiad
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n cyflwyno’r gwelliant yn enw Plaid Cymru. Fel y mae’r Gweinidog wedi gorffen drwy ddweud, mae’r adroddiad o’n blaenau ni heddiw yn un cadarnhaol ac yn cadarnhau gwerth cyflwyno’r Mesur iechyd meddwl yn 2010. Mae yna gynnydd pwysig wedi’i wneud, ac mae yna argymhellion i ddiwygio’r rheoliadau a’r Mesur, ac mae'r rheini’n ymddangos yn rhai synhwyrol. Byddaf yn eu cefnogi, ac roeddwn yn falch i glywed y Gweinidog yn amlinellu’r camau nesaf ar rai o’r rheini.
 
Mae yna ddau fater penodol rwyf eisiau cyfeirio atyn nhw o’r adroddiad y prynhawn yma. Yn gyntaf, mae gofal sylfaenol, ‘primary care’, a rôl y meddyg teulu yn hollbwysig i lwyddiant gwasanaethau iechyd meddwl. Mae’n siom, felly, i ddeall bod 25 y cant o’n meddygon teulu ni yn anwybodus, yn ôl yr adroddiad, o’r gwasanaethau iechyd meddwl sydd ar gael i’w cleifion nhw. Fe nododd 25 y cant o ddefnyddwyr y gwasanaeth hefyd bod eu meddygon teulu wedi dangos diffyg dealltwriaeth ac empathi gyda chyflwr yr unigolion hynny. Nawr, mae hynny’n ganran llawer rhy uchel o hyd, ac yn amlwg yn ddarn o waith sydd angen ymgymryd ag ef ar fyrder gan y byrddau iechyd a chynrychiolwyr y meddygon teulu i sicrhau perfformiad gwell yn y gwasanaeth sydd yn cael ei gyflawni gan ein meddygon teulu ni i ddioddefwyr iechyd meddwl.
 
Un o’r beirniadaethau meddygon teulu yn yr adroddiad yma yw’r diffyg mynediad at wasanaethau a therapïau seicolegol. Mae amseroedd aros yn rhy hir ac mae angen gwella mynediad at y therapïau yma yn gyffredinol. Mae yna farn gan arbenigwyr bod y ganran o ddefnyddwyr sy’n nodi eu bod yn cael cynnig meddyginiaeth presgripsiwn yn dal yn rhy uchel—72 y cant o bobl yn nodi eu bod nhw’n dal yn cael eu cynnig meddyginiaeth presgripsiwn yn gyntaf, a bod angen eto i shiffto’r gwasanaeth oddi wrth yr orddibyniaeth ar feddyginiaeth bresgripsiwn a thuag at wasanaethau therapiwtig. Felly, mae’n bwysig bod data ar fynediad at wasanaethau a thriniaethau seicolegol yn cael eu cofnodi o fewn y gwasanaeth sylfaenol, ac yn cael eu cyhoeddi yn rheolaidd ar draws y byrddau iechyd fel ein bod yn gallu mesur y perfformiad a mesur y cynnydd ar hyn, ac fel y Gweinidog, fe fyddwn i hefyd yn cefnogi’r gwelliant yn enw’r Democratiaid Rhyddfrydol ar hyn.
 
Nid yw’n bosibl i drafod iechyd meddwl yn y lle yma heb gyfeirio at wasanaethau meddwl ar gyfer plant a phobl ifanc. Beth bynnag yw’r camau da sydd wedi’u cymryd yn y gwasanaethau iechyd meddwl ers 2010, mae’n gwbl glir fod yr amseroedd aros ar gyfer plant a phobl ifanc i gefnogaeth iechyd meddwl yn fater o gywilydd i ni i gyd o hyd. Mae nifer ohonynt sy’n aros dros 10 wythnos wedi treblu o 24 y cant i 70 y cant rhwng Mawrth 2013 a Medi 2015. Rwy’n derbyn bod y galw wedi cynyddu, ond mae’n amlwg i bawb bod angen darparu ar gyfer gwasanaethau anfeddygol i bobl ifanc yn enwedig, ac mae yna gyfrifoldeb nawr ar y Llywodraeth nesaf i wella perfformiad ar gyfer ein pobl ifanc ni, sydd yn haeddu’r mynediad cyflym yna i wasanaethau cyn i’w cyflwr nhw ddirywio ymhellach.
 
Yn olaf, wrth i fi baratoi ar gyfer y ddadl yma heddiw, fe ges i fy nghysylltu gan etholwyr—eu mab nhw yn ddyn ifanc yn byw yn Aberystwyth wedi mynd yn sâl eto gydag afiechyd meddwl ac yn mynd i uned frys Bronglais dros y penwythnos ac angen gwely, ond dim gwely, wrth gwrs, ar gael ym Mronglais oherwydd bod y gwelyau hynny wedi’u cau dwy neu dair blynedd yn ôl erbyn hyn; nid oedd gwely chwaith ar gael iddo fe yn Hywel Dda, nac ym Mangor, ei ddewis cyntaf ar ôl hynny. Erbyn hyn, mae e ym Mhort Talbot, ac o bosibl yn gorfod cael ei symud i Ben-y-bont. Nawr, mae e’n ddyn ifanc, Cymraeg allan o’i gymuned yn bell, bell o’i deulu a’u cymorth, a’r hyn oll o ddim help i’w wellhad e fel unigolyn, ac yn fy atgoffa i heddiw, yng nghanol y ddadl yma, a gobeithio yn atgoffa’r Gweinidog hefyd, fod lot fawr i’w wneud eto I sicrhau bod ein gwasanaethau iechyd meddwl ni’n addas ac o fewn cyrraedd I bob cymuned yng Nghymru.
 
16:04
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Galwaf ar Kirsty Williams i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Aled Roberts.
 
Gwelliant 2—Aled Roberts
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
 
Yn gresynu at y ffaith bod targedau amseroedd aros cyfredol yn cuddio amseroedd aros am therapïau seicolegol sy'n aml yn hir ac yn galw am ddata mwy tryloyw a rheolaidd am amseroedd aros ar gyfer ymyriadau seicolegol.
 
Cynigiwyd gwelliant 2.
 
16:04
Kirsty WilliamsBywgraffiad
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.  Cynigiaf y gwelliant yn ffurfiol yn enw Aled Roberts.
 
Fel yr amlinellodd y Gweinidog yn ei gyfraniad agoriadol, mae hon yn ddadl bwysig ar ddarn pwysig o ddeddfwriaeth—darn o ddeddfwriaeth yr oedd fy mhlaid yn ei gefnogi. Ar y pryd, roedd yn amlwg i ni bod adolygiad trylwyr o effaith y ddeddfwriaeth yn gwbl hanfodol i'w llwyddiant, ac rwy’n gobeithio y bydd y model yr ydym wedi’i gael o ran y ddeddfwriaeth iechyd meddwl yn fodel ar gyfer deddfwriaeth arall yn ogystal, fel y gallwn wir asesu'r effaith y mae'n ei chael. Mae'n rhaid i’r ddeddfwriaeth gael ei barnu, fel y dywedais, ar ei heffaith ac ar ganlyniadau—canlyniadau ar gyfer unigolion yng Nghymru sy'n aml yn canfod eu hunain yn arbennig o agored i niwed ac y gallant ei chael yn anodd iawn, iawn i godi eu llais a siarad drostynt eu hunain. Rwy’n credu bod deddfwriaeth, fel y nodwyd yn yr adroddiad, wedi arwain at welliannau yn y gwasanaeth, ac mae hynny i'w groesawu’n fawr. Ond mae'n rhaid i ni hefyd gydnabod, fel yn wir y gwnaeth y Gweinidog yn ei ddatganiad agoriadol, bod mwy i'w wneud i wella gwasanaethau ar draws y darn. Fel Elin Jones, rwy’n credu mai blociau adeiladu sylfaenol unrhyw wasanaeth GIG llwyddiannus yw cael y gofal sylfaenol yn iawn.
 
Rydym yn gwybod, os gall pobl gael mynediad at ymyraethau cynnar mewn argyfwng, yna mae eu canlyniadau yn well yn gyffredinol a gellir byrhau hyd eu salwch. Eto i gyd, pan ddaw’n fater o empathi a dealltwriaeth wrth drafod y materion hyn gyda gofal sylfaenol, rydym yn dal i ganfod bod gwaith i'w wneud i rymuso staff gofal sylfaenol—ac nid meddygon teulu yn unig, ond y tîm gofal iechyd sylfaenol cyfan—i gael gwell empathi a dealltwriaeth. Mae'n cymryd llawer o ddewrder i rywun gerdded i mewn i feddygfa ei feddyg i siarad am drallod meddwl a salwch meddwl—llawer o ddewrder. Os yw hynny’n cael ei ateb gan ddiffyg dealltwriaeth ar y gorau, neu ddifaterwch ar y gwaethaf, gall hynny fod yn gwbl ddinistriol i unigolyn. Felly, mae sicrhau bod pob agwedd ar y tîm gofal iechyd sylfaenol â'r hyder, y wybodaeth a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen arnynt i ymateb yn briodol yn gwbl hanfodol.
 
Ac wrth gwrs, mae'n rhaid i ni fynd y tu hwnt i empathi a dealltwriaeth. Mae'n rhaid i ni allu cynnig ymyrraeth briodol. Fel yr awgryma ein gwelliant, mae fy ngrŵp i yn parhau i fod yn bryderus ynghylch mynediad at therapïau seicolegol fel dewis arall. Roedd Rhan 1 y Mesur yn gosod y ddyletswydd gyfreithiol i gynnig ystod o gymorth ac ymyraethau ar gyfer pobl sy'n dioddef o salwch meddwl. Ond, fel y gwelsom o'r adroddiad ac fel yr ydym wedi clywed eisoes, pan ddaw at gynigion o ymyrraeth, mae cynnig cyffur presgripsiwn yn parhau i gael ei ddefnyddio o flaen unrhyw fesur arall sy'n cael ei gyflwyno i glaf o ran ymyrraeth a allai fod ar gael iddo.
 
Mae'r cynigion o fathau eraill o gymorth yn tyfu ac mae hynny i’w groesawu, ond mae anghydbwysedd o hyd. Rwy'n arbennig o bryderus, pryd y cynigir ymyrraeth seicolegol, bod yn rhaid i bobl aros cryn dipyn o amser. Gwn fod arian newydd wedi ei roi ar gael. Mae'r Prif Weinidog wedi gwneud rhai ymrwymiadau sylweddol iawn am ba mor hir y bydd pobl yn aros am therapi siarad. Rwy’n gobeithio y bydd yr arian wir yn cyflawni'r canlyniadau hynny i bobl. Ond mae llawer o ffordd i fynd eto i sicrhau bod gennym eglurder a dealltwriaeth o ba mor hir y mae pobl yn aros am fewnbwn therapi seicolegol.
 
Gwasanaethau cleifion mewnol—mae'n braf iawn gweld nifer y bobl mewn gwasanaethau cleifion mewnol sy’n ymwybodol o'u hawliau ac y gwrandewir ar eu barn pan fo cynlluniau gofal yn cael eu llunio. Mae hynny'n dderbyniol iawn, iawn ac yn gam ymlaen o lle’r oeddem ni o'r blaen, pan deimlai llawer o gleifion nad oedd cynlluniau yn adlewyrchu, mewn gwirionedd, yr hyn yr oeddent yn ei deimlo oedd yn bwysig iddynt. Ond, fel yr ydym wedi clywed gan y siaradwr blaenorol, mae problem yn dal i fod ynghylch mynediad at welyau cleifion mewnol. Rwy'n gwybod y cysylltwyd â fy nghydweithiwr Aled Roberts yn ddiweddar gan deulu oedd â pherthynas mewn argyfwng a aeth at wasanaethau yn lleol yn Wrecsam, dim ond i gael gwybod nad oedd gwely ar gael ac, mewn gwirionedd, efallai y dylent fynd i Fryste. Pan fyddwch chi mewn argyfwng, mae angen i chi fod mor agos at eich cartref, at eich mecanweithiau cymorth, ag y bo modd. Prin fod dweud wrth rywun yn Wrecsam bod y gwely ar gael ym Mryste yn ymyrraeth o fath therapiwtig—gwell na dim, rwy’n cydnabod, ond prin y mae'n mynd i ychwanegu at y mewnbwn therapiwtig ar gyfer hynny.
 
Yna, yn olaf, i symud ymlaen at fater plant—rwy’n gwerthfawrogi bod y Gweinidog yn aml yn dweud nad yw nifer y plant ar y rhestr aros yn bwysig yn yr ystyr bod llawer o bobl arni pan nad oes angen iddynt fod arni, ond mae gennym broblem yn dal i fod. Os ydynt ar y rhestr honno, mae hynny oherwydd nad oes dewisiadau addas eraill a bod clinigwyr yn teimlo nad oes ganddynt unrhyw ddewis arall ond rhoi plant ar restr aros CAMHS a byddwn yn ddiolchgar o glywed gan y Gweinidog yn ei ddatganiad i gloi pa gynnydd sy’n cael ei wneud i gynnig cyfres gynhwysfawr o ymyraethau i deuluoedd a phlant pan fo ganddynt bryderon am bobl ifanc a'u lles meddyliol.
 
16:09
John GriffithsBywgraffiad
Ddirprwy Lywydd, mae defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl a'r sefydliadau a grwpiau sy'n eu cynrychioli wedi mynnu gwelliant sylfaenol, a hynny'n briodol, i wasanaethau iechyd meddwl ac maent yn parhau i wneud hynny. Rydym yn aml yn clywed y ffigur o un o bob pedwar o bobl yn dioddef o broblem iechyd meddwl ar ryw adeg yn eu bywydau. Pa bynnag ffigur sy’n cael ei ddefnyddio, mae'n amlwg bod materion iechyd meddwl yn gyffredin iawn yn ein cymdeithas heddiw ac yn effeithio ar lawer iawn o bobl. Felly, mae'n hollol iawn y dylid cael y pwyslais hwnnw ar wasanaethau iechyd meddwl, ac yn enwedig oherwydd, fel y dywedir yn aml, y bu esgeuluso cymharol ar wasanaethau iechyd meddwl yn hanesyddol. Felly, rwy’n credu ei fod yn amlwg bod llawer o waith yr oedd angen ei wneud, ac mae llawer o waith i'w wneud o hyd, i wella'r gwasanaethau hyn ar gyfer ein pobl yma yng Nghymru. Dyna pam rwy'n falch iawn, iawn fod Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 wedi darparu fframwaith a phwyslais ar gyfer y gwelliant angenrheidiol hwnnw—pwyslais ar gyfer byrddau iechyd, awdurdodau lleol ac eraill, ac rwy'n credu bod hynny'n gwbl glir o adroddiad yr adolygiad.
 
Mae hyn i gyd, wrth gwrs, yng nghyd-destun 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' a mwy o gyllid wedi’i ddarparu gan Lywodraeth Cymru. Felly, er bod llawer iawn o waith i’w wneud, ac mae gwaith sylweddol i'w wneud o hyd, rwy’n credu ei bod yn amlwg bod cynnydd sylweddol wedi'i wneud, ac mae hynny oherwydd, rwy’n credu, i raddau helaeth, y pwyslais, y flaenoriaeth, sydd wedi bod yn amlwg yn y Cynulliad—o bob ochr, o bob plaid wleidyddol a llawer o Aelodau, sydd wedi ei gwneud yn glir eu bod yn gweld yr angen i wella gwasanaethau yn sylfaenol a gwneud iawn am yr esgeulustod hanesyddol hwnnw. Maent yn glir ynghylch pa mor bwysig ydyw i gynifer o bobl, ac rydym wedi cael llawer o enghreifftiau personol gan Aelodau'r Cynulliad ynghylch sut y maent hwy eu hunain wedi wynebu problemau iechyd meddwl.
 
Felly, rwy’n meddwl bod hanes tymor y Cynulliad hwn ac, yn wir, cyn hynny, yn gryf, ond mae llawer iawn eto i'w wneud. Un enghraifft o hynny yw gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed, ac rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn derbyn y gwelliant heddiw am y rhesymau a nodwyd gan y Gweinidog yn gynharach. Mae cynnydd sylweddol o hyd i'w wneud, a dyna un enghraifft, felly hefyd yr enghraifft a gynhwysir yn y gwelliant arall o ran gwasanaethau seicolegol, amseroedd aros, a'r angen am driniaeth gynnar. Ond rwy’n credu bod hyn i gyd yn cael ei gydnabod yn 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' ac, yn wir, yn y pwyslais a’r fframwaith a ddarperir gan y Mesur hwn.
 
Mae 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' ac, yn wir, ei gynllun cyflawni a'r arian cynyddol y mae Llywodraeth Cymru wedi’i ddarparu yn sbarduno'r gwelliant angenrheidiol ar gyfer ein gwasanaethau iechyd meddwl. Maent yn cael eu hail-lunio a'u gwella. Mae’r defnyddwyr gwasanaeth eu hunain a grwpiau sy'n eu cynrychioli yn chwarae rhan sylweddol yn hynny. Ceir newid mewn diwylliant, ac rwyf yn credu bod y Gweinidog wedi bod yn gryf iawn ar hynny, ac os byddwn yn parhau â'r newid hwnnw mewn diwylliant, rwy’n credu y byddwn yn gweld y gwelliant sylweddol pellach yr wyf yn sicr y byddai pob Aelod sydd yma heddiw yn ei gefnogi.
 
Ddirprwy Lywydd, mae mwy o flaenoriaeth i iechyd meddwl, fel y dywedais, wedi bod yn thema nodedig y Cynulliad hwn, ar bob ochr i'r Siambr, a bydd y cynnydd sylweddol hwnnw, yn fy marn i, yn cael ei yrru ymlaen ymhellach os bydd y gefnogaeth drawsbleidiol honno yn cael ei chynnal yn y dyfodol. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at wneud yn siŵr ei fod yn fater gwirioneddol a phwysig yn yr ymgyrch a’n maniffestos wrth i ni symud tuag at etholiad y Cynulliad sydd ar ddod.
 
16:13
Darren MillarBywgraffiad
Rwyf innau, hefyd, yn awyddus i godi i ddiolch i'r Gweinidog am ddod â'r ddadl bwysig hon i'r Siambr heddiw. Rwy'n credu ei fod wedi bod yn nodwedd o’r Cynulliad hwn y bu consensws trawsbleidiol ar geisio sbarduno gwelliannau mewn iechyd meddwl, ac mae wedi bod yn wych gweld cyflawniad fel Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) wedi'i sefydlu. Wrth gwrs, mae'r adolygiad hwn a gynhaliwyd wedi nodi y bu cynnydd ar iechyd meddwl—cynnydd sydd i’w groesawu’n fawr yn wir—ond wrth gwrs mae hefyd yn nodi rhai o'r gwendidau y mae angen mynd i'r afael â nhw, ac nid yw ond yn iawn ac yn briodol ein bod, gyda'n gilydd, yn ceisio sbarduno’r gwelliannau hynny ar sail drawsbleidiol, boed hynny mewn Llywodraeth neu wrthbleidiau ar ôl yr etholiad, er mwyn gwneud yn siŵr bod y materion hynny a nodwyd yn cael sylw.
 
Rwy'n credu mai un o nodweddion eraill, rhyfeddol, y dirwedd iechyd meddwl, os mynnwch chi, yng Nghymru yw'r ymgysylltiad aruthrol sydd gennym o'r trydydd sector, gan sefydliadau fel Gofal, Hafal, Mind, a llu o sefydliadau llai eraill, o amgylch Cymru, sydd wedi chwarae eu rhan wrth helpu i lunio deddfwriaeth a llunio'r ffordd y mae wedi cael ei rhoi ar waith ar lawr gwlad ledled ein gwasanaeth iechyd gwladol.
 
Mae'n hollol iawn bod gwelliannau wedi'u cyflwyno heddiw sy'n tynnu sylw at ddau faes y mae angen i ni wneud gwelliannau arnynt, yn enwedig yr amseroedd aros ar gyfer mynediad at wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed a'r angen am gydraddoldeb, os mynnwch, rhwng yr amseroedd aros iechyd meddwl a’r amseroedd aros iechyd corfforol sydd gennym yn ein gwasanaeth iechyd gwladol, a chael y cydbwysedd cywir rhwng yr ymyraethau fferyllol a seicolegol hynny. Nid yw wedi bod yno yn y gorffennol, ond, wrth gwrs, mae’r holl ddata yn awgrymu bod pethau'n mynd i'r cyfeiriad cywir ac, er gwaethaf y problemau sydd yno yn eithaf clir, mae'n galonogol gweld pethau'n symud ar y trywydd cywir.
 
Mae ychydig o bethau yr oeddwn eisiau eu codi nad oes neb arall wedi’u crybwyll hyd yma. Un yw'r gwelyau cleifion mewnol ar draws Cymru. Bu rhai cyfeiriadau at achosion unigol yma. Ond, pan fo gennych bobl ifanc yn arbennig yn gorfod cael eu rhoi gannoedd o filltiroedd i ffwrdd oddi wrth eu teuluoedd ac oddi wrth eu hanwyliaid pan eu bod nhw mewn sefyllfa o argyfwng, rwy’n meddwl bod honno’n sefyllfa warthus. Rydym yn gwybod bod nifer o welyau nad ydynt yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd. Cyfeiriaf at yr enghraifft yn fy etholaeth fy hun gyda'r prosiect blaenllaw gwych ar safle ysbyty Abergele, gyda'r buddsoddiad aruthrol a aeth i mewn yno gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu cyfleuster cleifion mewnol gyda nifer digonol o welyau i fodloni’r angen ar draws y gogledd, ac eto rydym yn dal i leoli pobl gannoedd o filltiroedd i ffwrdd dros y ffin yn Lloegr mewn cyfleusterau eraill. Rwy'n credu bod yn rhaid cael rhywfaint o ail-raddnodi cydbwysedd gwelyau cleifion mewnol fel ei fod yn bodloni'r galw sydd yno ac mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod gennym ddigon o staff ar gael i wneud yn siŵr y gall pobl gael gofal yn nes at eu cartrefi.
 
Mae problem gynyddol hefyd o ran capasiti cleifion mewnol ar gyfer gwelyau iechyd meddwl pobl hŷn yn awr yn y gogledd, yn rhannol o ganlyniad, yn gwbl briodol, cau ward Tawel Fan o ganlyniad i'r adroddiad ofnadwy hwnnw yr ydym i gyd wedi’i ddarllen. Ond, mae’r capasiti hwnnw wedi ei golli, nid oes unrhyw beth wedi dod yn ei le ac rydym yn gwybod bod angen cynyddol am y cyfleusterau hynny i gleifion mewnol. Tybed, Weinidog, yn eich ymateb a fyddwch yn sôn rhywfaint am y camau yr ydych yn eu cymryd i wneud yn siwr bod y capasiti yno yn y dyfodol.
 
Bu cyfeiriad eisoes yn y Siambr at agweddau ymhlith staff gofal sylfaenol, ond rwy’n credu bod yr ymgyrch Amser i Newid wedi dechrau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a dweud y gwir yn y gymdeithas yng Nghymru o ran agweddau tuag at iechyd meddwl, sydd wedi bod yn dderbyniol iawn yn wir. Un peth y mae llawer o bobl yn dal ddim yn cael digon o fynediad ato, fodd bynnag, yw cymorth eiriolaeth—eiriolaeth annibynnol pan fo pethau'n mynd o chwith—ac mae hyn yn rhywbeth a nodwyd gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ei adroddiad ac nid yw wir yn cael ei drafod yn helaeth yn yr adolygiad. Ond, rwyf yn credu ei bod yn bwysig gwneud yn siŵr bod pobl yn ymwybodol bod eiriolaeth ar gael, bod ganddynt hawl i’r eiriolaeth annibynnol hwnnw pan fo pethau'n mynd o chwith ac i fanteisio arno.
 
Yn olaf, Weinidog, os caf: un agwedd arall ar y gwasanaethau nad yw wedi ei chrybwyll heddiw, sy'n rhywbeth y gallwn barhau i’w ddathlu yma yng Nghymru, yw gwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr, sydd wedi derbyn buddsoddiad sylweddol yn y blynyddoedd diweddar. Ond, unwaith eto, mae rhai materion capasiti sy'n dal angen eu gwella a tybed, Weinidog, a fyddwch chi'n rhoi syniad o ba un a fydd buddsoddiad pellach yn y gwasanaeth hwnnw tan y ceir adolygiadau pellach yn y dyfodol.
 
16:18
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
A’r Gweinidog i ateb.
 
16:18