Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :
Nôl i'r rhestr dogfennau Gweld y dudalen hon heb lincs
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:32 gyda’r Llywydd (y Fonesig Rosemary Butler) yn y Gadair.
 
13:32
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Prynhawn Da. Dyma ddechrau trafodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
 
1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
 
13:32
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Cwestiynau i'r Prif Weinidog yw’r eitem gyntaf y prynhawn yma. Daw cwestiwn 1 gan Jenny Rathbone.
 
Ymgyrch Cadw Dydd Sul yn Arbennig
 
13:32
Jenny RathboneBywgraffiad
1. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r ymgyrch i gadw dydd Sul yn arbennig ('Keep Sunday Special')? OAQ(4)2712(FM)
 
13:32
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Nid yw masnachu ar y Sul yn fater datganoledig ac rydym ni’n disgwyl am ragor o fanylion ar gynigion Llywodraeth y DU ar hyn o bryd. Ond mae'n hynod bwysig, wrth gwrs, bod buddiannau’r rhai sy'n gweithio ar y Sul yn cael eu diogelu a bod y breintiau y maen nhw’n eu mwynhau ar hyn o bryd yn parhau yn y dyfodol.
 
13:32
Jenny RathboneBywgraffiad
Mae'n amlwg yn siomedig iawn i'r rhai sydd wedi bod yn ymgyrchu i gadw Dydd Sul yn arbennig, yn enwedig o ran yr oddeutu 130,000 o weithwyr siopau yng Nghymru, a oedd yn meddwl bod Llywodraeth y DU wedi addo peidio ag ymyrryd â'r deddfau masnachu ar y Sul, ond maen nhw’n gwneud hynny drwy'r drws cefn erbyn hyn, drwy'r Bil menter. Beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i amddiffyn bywyd teuluol gweithwyr siopau yng Nghymru?
 
13:33
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Rydym ni o'r farn bod hwn yn fater y dylid ei ddatganoli. Rydym ni wedi dadlau i hyn gael ei ddatganoli. Edrychwn ymlaen at ymateb gan Lywodraeth y DU yn hynny o beth. Gallaf ddweud, pe byddai’r pwerau hyn yn cael eu datganoli, y byddwn yn ymgynghori â'r Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol, gydag awdurdodau lleol, gyda busnesau, gyda gweithwyr siopau a'r cyhoedd, a byddem yn gwrando ar yr hyn y maen nhw’n ei ddweud ac yn gweithredu'n unol â hynny.
 
13:33
William GrahamBywgraffiad
Gan nodi’r hyn a ddywedasoch, Brif Weinidog, byddwch yn cydnabod y byddai mwyafrif yr awdurdodau lleol yn y Deyrnas Unedig yn sicr yn hoffi cael y pwerau hyn fel y gallent eu dehongli yn y ffordd orau yn lleol. A fyddech chi’n cefnogi cam o'r fath?
 
13:33
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Rwy’n credu y dylai'r pwerau hyn gael eu datganoli i bobl Cymru. Mae'n fater wedyn i’r sefydliad hwn benderfynu i ble y dylai'r pwerau hynny fynd, yn yr un modd ag yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ni allaf weld pam y dylai Cymru gael ei thrin yn wahanol.
 
Amseroedd Aros y GIG (Canol De Cymru)
 
13:34
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael ag amseroedd aros y GIG yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)2711(FM)
 
13:34
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Rydym ni wedi sefydlu’r rhaglen gofal wedi'i gynllunio, a arweinir gan glinigwyr, i helpu i ddatblygu gwasanaethau cynaliadwy yn GIG Cymru. I gynorthwyo hyn, rydym ni wedi buddsoddi £45 miliwn ychwanegol yn 2015-16, i gynorthwyo byrddau iechyd lleol i gyflawni'r gwelliannau i amseroedd a nodir yn eu cynlluniau tymor canolig integredig.
 
13:34
Andrew R.T. DaviesBywgraffiadArweinydd yr Wrthblaid
Diolch yn fawr, Brif Weinidog, am yr ateb yna. Rydym ni’n gwybod, yn ystod eich cyfnod fel Prif Weinidog, bod amseroedd aros wedi dyblu yma yng Nghymru. Yng Nghanol De Cymru, ceir problem benodol ynghylch amseroedd aros orthopedig, a dangosodd ystadegau’r BBC yn ddiweddar amseroedd aros sylweddol ar gyfer cluniau, er enghraifft—arhosiad o 197 diwrnod yng Nghymru, o'i gymharu â 75 diwrnod yn Lloegr. Pa gysur allwch chi ei roi i’m hetholwyr yng Nghanol De Cymru o ran pa gamau y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd i fynd ati i leihau amseroedd aros fel bod y meddyg ymgynghorol yn gallu rhoi amser y gallant ddibynnu arno i gael y driniaeth pan fyddant yn mynd i’r ysbyty?
 
13:35
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, gadewch i ni edrych ar adrannau damweiniau ac achosion brys, er enghraifft. Mae nifer y bobl sy’n treulio mwy na 12 awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru wedi gostwng—gostyngiad o 23 y cant—ym mis Rhagfyr 2015, o'i gymharu â'r mis blaenorol. Rydym ni’n gwybod, fodd bynnag, bod nifer y bobl sy'n aros am yr un faint o amser mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn Lloegr wedi dyblu i 124,000 o bobl mewn dwy flynedd. Rydym ni’n gwybod bod oedi wrth drosglwyddo gofal yn cynyddu yn Lloegr. Rydym ni’n gwybod bod amseroedd aros diagnostig yn lleihau yng Nghymru. Rydym ni’n gwybod bod pobl yn aros llai o amser am lawdriniaethau ac rydym ni’n gwybod, yn wahanol i Loegr, nad oes gennym yr anhrefn—anhrefn Cameron o streic meddygon iau.
 
13:35
Mick AntoniwBywgraffiad
Brif Weinidog, rydym ni’n gwybod mai un o'r cyfranwyr at restrau aros yw'r effaith ar ofal cymdeithasol i oedolion, y byddai'r Torïaid yn ei wahanu o’r GIG. Yn Lloegr, yr enghraifft yw y bu toriad o 15 y cant i wariant ar ofal cymdeithasol i oedolion, a chynnydd o 100 y cant o ran blocio gwelyau, yn cynyddu o 50,000 y mis, i 100,000 y mis. Byddai'r Torïaid yn dinistrio gofal cymdeithasol i oedolion. A ydych chi’n cytuno bod safbwynt Llywodraeth Cymru o gefnogi gofal cymdeithasol i oedolion yn rhan annatod o driniaeth y GIG yn cyfrannu at well triniaeth a gwell canlyniadau i bawb?
 
13:36
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, tueddiad y Torïaid yn Lloegr yw awgrymu, rywsut, nad oes unrhyw gysylltiad rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. [Torri ar draws.]
 
13:36
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Esgusodwch fi; dim ond ar gwestiwn 2 ydym ni. A wnewch chi dawelu, os gwelwch yn dda, a gwrando ar ateb y Prif Weinidog? A chi’n benodol yw hwnnw, Darren Millar, felly ddylech chi ddim cymeradwyo. Brif Weinidog.
 
13:36
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae'n dueddiad gan y Torïaid i awgrymu, rywsut, nad oes unrhyw gysylltiad rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, ac felly maen nhw wedi torri gofal cymdeithasol i'r asgwrn yn Lloegr, maent wedi dadlwytho’r cyfrifoldeb am ddarparu gofal cymdeithasol i’r awdurdodau lleol, felly’r awdurdodau tlotaf fydd â’r broblem fwyaf o ran darparu gofal cymdeithasol. Rydym ni yng Nghymru yn gwario mwy, fesul pen, ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol nag y mae Lloegr—saith y cant yn fwy—a byddwn yn parhau i ofalu am y rhai sydd fwyaf angen gofal.
 
13:37
Leanne WoodBywgraffiadArweinydd Plaid Cymru
Dyna ateb diddorol i'r cwestiwn yna, Brif Weinidog, oherwydd, pan fydd Plaid Cymru yn sôn am integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, mae Llafur yn ein cyhuddo o fod eisiau diddymu'r GIG, sy’n gelwydd noeth.
 
Nawr, Brif Weinidog, mewn rhai rhannau o Ganol De Cymru, gall cael apwyntiad gyda meddyg teulu fod yn broses hirfaith. Mae'r mater yn arbennig o ddifrifol yn rhannau mwyaf gogleddol y Rhondda, lle mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn dweud wrthym fod hanner yr holl feddygon teulu ar fin ymddeol. I Aelodau nad ydynt yn ymwybodol, mae'r Rhondda yng Nghanol De Cymru. Nawr, nid yw mynediad at feddyg teulu wedi cael ei helpu drwy gael gwared ar y gwasanaeth y tu allan i oriau yn y Rhondda a Chwm Cynon. Nawr, pan fo gofal sylfaenol yn wan, ceir sgil-effaith anochel ar ysbytai, trwy gynyddu'r galw o ran amseroedd aros a gwasanaethau. Brif Weinidog, rydych chi wedi cyfaddef yn y gorffennol eich bod wedi cymryd eich llygad oddi ar y bêl pan ddaw i addysg; a ydych chi’n cyfaddef nawr eich bod wedi cymryd eich llygad oddi ar y bêl o ran iechyd a recriwtio meddygon hefyd?
 
13:38
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, mae'n ymddangos bod arweinydd Plaid Cymru yn meddwl ein bod wedi dechrau cwestiynau’r arweinwyr yn barod. Rwy'n siŵr ei bod hi'n ymwybodol ein bod ni'n dal ar gwestiwn 2. Mae niferoedd cyffredinol meddygon teulu yng Nghymru wedi cynyddu 10.5 y cant rhwng 2004 a 2015. Erbyn hyn, mae dros 2,000 o feddygon teulu yn gwasanaethu cymunedau ledled Cymru. Rydym ni’n gwybod, wrth gwrs, bod hon yn farchnad fyd-eang pan ddaw i ddenu meddygon, a dyna pam yr ydym ni’n lansio'r ymgyrch wedi'i thargedu o’r enw Dewch i Rannu Eich Dyfodol Chi Gyda’n Dyfodol Ni, yn esbonio pam mae Cymru, er enghraifft, yn lle gwych i fod yn feddyg iau. Lle ceir ymddeoliadau, mae gan fyrddau iechyd lleol gynlluniau ar waith. Lle mae meddygfeydd wedi penderfynu cau eu drysau, cyflwynwyd meddygon teulu cyflogedig yn eu lle, ac rydym ni wedi gweld hynny, er enghraifft, yn Betsi Cadwaladr. A bod yn deg, nid wyf yn cyhuddo Plaid Cymru o geisio chwalu’r GIG—rwy’n gwybod eu bod nhw eisiau gweld gwasanaeth iechyd cyhoeddus gwell, fel ninnau. Nid ydym yn cytuno â nhw o ran y strwythur y maen nhw eisiau ei gyflwyno, ond, serch hynny, mae gennym yr un safbwynt yn hynny o beth. Ond mae gennym ni fwy a mwy—mae gennym ni 2,000 yn fwy o feddygon teulu ers 2004 ac maen nhw’n gwasanaethu ein cymunedau yn dda.
 
13:39
Eluned ParrottBywgraffiad
Brif Weinidog, ceir gwahaniaeth mawr rhwng yr amser atgyfeirio i brawf diagnostig i gleifion canser ar y llwybr brys a'r rhai ar y llwybr nad yw'n frys. Tybed pa gymorth ychwanegol allai Llywodraeth Cymru ei roi ar waith ar gyfer gofal sylfaenol i wneud yn siŵr, pan fydd meddygon teulu yn gwneud y penderfyniad hwn rhwng atgyfeiriadau brys a heb fod yn frys, eu bod yn hyderus eu bod yn gwneud penderfyniadau diogel a phriodol?
 
13:40
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Nid wyf i’n gweld hon fel problem benodol yng Nghanol De Cymru, ond serch hynny mae'n iawn i ddweud bod mwy o feddygon teulu yn atgyfeirio pobl yn gynnar, yn naturiol ddigon, os ydyn nhw’n amau ​​y gallai canser fod yn bresennol. I’r mwyafrif llethol o bobl, wrth gwrs, nid dyna’r achos, ond caiff yr atgyfeiriad ei wneud beth bynnag. Caiff y diagnosis hwn ei wneud o fewn 22 diwrnod wedyn fel rheol, er y gall fod yn fwy anodd ceisio nodi beth yw'r broblem ar gyfer rhai mathau o ganser. Mae canser pancreatig yn broblem arbennig, fel y gwyddom, oherwydd gall y symptomau fod mor gyffredinol a gallant ddynwared symptomau afiechydon eraill. Ond rydym ni’n gwybod, wrth gwrs, ein bod yn perfformio'n well na Lloegr pan ddaw i’r targed 31 diwrnod, neu’r amserlen 31 diwrnod, ar gyfer canser brys, a'r amserlen 62 diwrnod ar gyfer canserau nad ydynt yn frys, ac rydym ni’n bwriadu gwneud yn siŵr bod hynny'n parhau i fod yn wir yn y dyfodol.
 
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
 
13:41
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn at gwestiynau gan arweinwyr y pleidiau nawr, ac arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams, sydd gyntaf y prynhawn yma.
 
13:41
Kirsty WilliamsBywgraffiadArweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, yn etholiadau diwethaf y Cynulliad Cenedlaethol, dywedodd fy mhlaid i y byddem yn darparu mwy o arian i ysgolion trwy dargedu arian ychwanegol at ddisgyblion sydd fwyaf ei angen. Mae cyllideb heddiw yn golygu y bydd y premiwm disgyblion werth £1,150 y disgybl ym mis Ebrill, diolch i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru. Ac roedd adroddiad diweddar Estyn yn dweud bod hynny’n gwneud gwahaniaeth pendant i'r plant hynny. I fod yn gymwys ar gyfer y cymorth hwn, Brif Weinidog, mae’n rhaid i rieni gofrestru ar gyfer prydau ysgol am ddim. Pa waith wnaiff eich Llywodraeth ymrwymo i’w wneud i sicrhau bod pob plentyn sydd angen y cymorth hwn yn derbyn y cymorth hwn?
 
13:41
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Nid wyf yn ymwybodol bod hon yn broblem arbennig. Mae'n bwysig, wrth gwrs, bod ysgolion yn gallu cyfathrebu gyda rhieni fel bod rhieni’n ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael iddyn nhw, ac mae gan awdurdodau addysg lleol, wrth gwrs, gyfrifoldeb i wneud yr un peth.
 
13:41
Kirsty WilliamsBywgraffiad
Brif Weinidog, mae hyn yn broblem; mae rhai teuluoedd yn credu bod stigma mewn gwneud cais am brydau ysgol am ddim, a dylid eu sicrhau ei fod nid yn unig o fudd iddyn nhw ond o fudd i ysgol y disgybl i wneud y cais hwnnw. Bydd yn gwneud gwahaniaeth pendant i gyllideb ysgol eu plant. Ond bydd y gyllideb y prynhawn yma hefyd yn darparu cyllid ychwanegol ar gyfer y gwasanaeth iechyd, ac yn yr un modd â chyllid ysgolion, ni fydd hynny ond yn werth chweil os yw'n gwneud gwahaniaeth pendant i’r canlyniad i bobl. Pa effaith fyddwch chi’n ei ddisgwyl i gleifion yng Nghymru, a pha syniadau ffres a newydd sydd gennych chi i wneud yn siŵr bod yr adnoddau ychwanegol sy’n mynd i mewn i'r GIG yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i brofiadau cleifion?
 
13:42
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Yn gyntaf oll, a gaf i gydnabod yr hyn a ddywedodd am brydau ysgol am ddim ac awgrymu ffordd ymlaen? Gwn fod rhai ysgolion yng Nghymru sydd wedi arloesi cardiau plastig sy'n cael eu cyn-lwytho gydag arian ar gyfer rhai disgyblion, ond y gellir, wrth gwrs, eu defnyddio heb arian wedi’i gyn-lwytho i’r rhai ar brydau ysgol am ddim. Does neb yn gwybod y gwahaniaeth; dyna'r peth pwysig. Pan oeddwn i yn yr ysgol, roedd gan y rhai ar brydau ysgol am ddim docyn cinio, fel yr oeddem ni’n eu galw, o liw gwahanol. Mae'r dyddiau hynny diolch byth, gobeithio, wedi mynd i raddau helaeth, ond mae honno'n un ffordd, wrth gwrs, o gael gwared ar y stigma hwnnw, y ​​mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn gwbl gywir i ddweud sy’n dal i fodoli.
 
Pan ddaw i iechyd, wrth gwrs, rydym ni eisiau gweld darpariaeth—rydym ni eisiau gweld amseroedd aros diagnostig yn parhau i leihau, arosiadau damweiniau ac achosion brys yn parhau i leihau, amseroedd aros am lawdriniaethau yn parhau i leihau, i weld yr amserlenni yr ydym ni wedi’u cyflwyno ar gyfer triniaethau canser yn gwella ac i weld amseroedd ymateb ambiwlansys yn parhau i wella hefyd. Mae'n bwysig, wrth gwrs, wrth i fwy o arian gael ei gyfrannu, y gall pobl weld y canlyniadau yn cael eu cyflawni ar y diwedd.
 
13:43
Kirsty WilliamsBywgraffiad
Un o’r rhannau o'r GIG yr ydym ni’n gwybod sydd wir yn achosi rhwystredigaeth i bobl, a phroblem y gwnaethoch addo ei datrys yn ystod y Llywodraeth hon, yw cael gweld eu meddyg teulu pan eu bod angen hynny. I lawer o bobl, nid yw aros tair wythnos am apwyntiad meddyg teulu yn anghyffredin. A wnewch chi edrych ar yr hyn y mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn bwriadu ei fuddsoddi mewn cynllun ar gyfer cael gweld meddyg teulu wedi’i ariannu'n briodol a fyddai'n cymell meddygon teulu i ehangu'r tîm gofal iechyd sylfaenol fel eu bod ond yn gweld pobl y mae angen iddyn nhw eu gweld? Ac a fyddech chi’n derbyn nad yw gwario arian ar locwm drud i gynnig cymorth pan fydd meddyg teulu yn ymddeol yn ddefnydd effeithlon o arian y GIG?
 
13:44
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Yn gyntaf oll, mae gwahaniaeth rhwng locwm a meddyg teulu cyflogedig. Y gwir amdani yw bod y rhan fwyaf o feddygon teulu yn edrych ar y model cyflogedig yn fwy ffafriol na'r model contractwr erbyn hyn. Maen nhw eisiau’r hyblygrwydd, gan nad ydynt eisiau cael eu clymu i un feddygfa am weddill eu hoes gweithio, ac nid oes ganddynt ddiddordeb mewn prynu i mewn i feddygfa. Ac mae mwy a mwy o feddygon teulu eisiau cael yr hyblygrwydd o fod yn gyflogedig. Nid yw hynny yr un fath â bod yn locwm—nid oes rhaid i chi brynu i mewn fel partner mewn meddygfa er mwyn cael eich ystyried yn feddyg teulu go iawn. Felly, o ran cael gweld meddygon teulu, mae yn amrywio, mae hynny'n wir. Ceir rhai meddygfeydd teulu yng Nghymru lle y gellir gwneud apwyntiadau a gweld meddyg y diwrnod hwnnw; rwy’n gwybod hynny, gan fy mod i’n ei weld yn fy ardal fy hun. Ceir eraill nad ydynt mor effeithlon. Ceir her yno, ac rydym ni wedi gwella, wrth gwrs, y sefyllfa o ran pobl yn gallu cael gweld meddygon teulu fin nos ac ar benwythnosau, ond ceir her yn y fan yna i rai meddygfeydd teulu ddal i fyny ag arfer gorau pobl eraill. Nid oes unrhyw reswm yn y dyfodol pam y dylai'r lefel honno o anghysondeb fodoli. Rydym ni’n sôn am gontractwyr annibynnol, ond bydd y drafodaeth honno yn parhau i sicrhau bod yr hyn sydd wedi cael ei gyflawni hyd yn hyn o ran cael gafael ar feddyg fin nos ac ar benwythnosau yn parhau yn y dyfodol.
 
13:45
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn nawr at arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
 
13:45
Andrew R.T. DaviesBywgraffiadArweinydd yr Wrthblaid
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Brif Weinidog, mae'r gyllideb wedi'i gosod ar gyfer y ddadl y prynhawn yma ac, yn llifo o'r gyllideb honno, mae’r setliad llywodraeth leol drafft wedi ei osod ar gyfer ystyriaeth hefyd. Rwy’n gweld ar y blaen-ragolygon mai’r dyddiad y bydd hynny’n dod i'r Cynulliad ar gyfer pleidlais yw 8 Mawrth. A ydych chi’n hyderus mai’r setliad drafft a roddwyd ar gael i awdurdodau lleol ar hyd a lled Cymru fydd y setliad y byddwn ni'n pleidleisio arno yma ar 8 Mawrth, neu a ydych chi’n gweld y bydd newidiadau i liniaru effaith ddinistriol rhai o'r toriadau hynny i awdurdodau gwledig?
 
13:45
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Er gwaethaf toriadau’r Torïaid a orfodwyd arnom ni dros y pum mlynedd diwethaf, rydym ni’n hyderus y bydd y setliad llywodraeth leol yn deg yn y cyd-destun hwnnw.
 
13:46
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
Felly, rwy’n cymryd o hynny mai hwn fydd y setliad y byddwn yn pleidleisio arno ar 8 Mawrth ac na fydd unrhyw lefelwr neu sefydlogydd yn cael ei roi i mewn ar gyfer awdurdodau lleol, fel Powys, fel Ceredigion, fel Sir Benfro neu Sir Fynwy, sydd yn wynebu toriadau llym yn eu gwasanaethau—hyd at 4 y cant i Bowys.
 
Peth arall sydd gennych chi yn eich cyllideb, Brif Weinidog, yw addysg uwch. Mae toriad o 32 y cant i addysg uwch yma yng Nghymru yn cael ei wneud gan eich Llywodraeth os bydd y gyllideb hon yn cael ei phasio. Bydd hynny'n rhoi pwysau aruthrol ar gyrsiau rhan-amser, ar fynediad at addysg uwch, ac, yn anad dim, ar ymchwil mewn prifysgolion. Rydym ni’n gwybod bod llai o arian o gwmpas, ond beth fydd eich Llywodraeth yn ei wneud i gynorthwyo prifysgolion, gan wneud yn siŵr y ceir mynediad i brifysgolion ar gyfer myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig, bod cymorth ar gyfer ymchwil mewn prifysgolion, a bod cymorth ar gyfer cyrsiau rhan-amser, o gofio eich bod wedi dewis torri 32 y cant o'r cymorth i addysg uwch?
 
13:47
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae arweinydd yr wrthblaid yn ceisio rhagfarnu datganiad y gyllideb, ac nid wyf i’n mynd i gael fy nhemtio i mewn i hynny. Bydd yn rhaid iddo aros i weld beth sy’n cael ei gyhoeddi yn y gyllideb derfynol ddrafft. Mae'n rhaid i mi ddweud wrtho ei fod wedi datgan ei fod yn dymuno gweld toriad o 12 y cant i lywodraeth leol. Mae wedi ei ddatgan. Nid oes dianc rhag hynny; mae yno’n ysgrifenedig yn y ddogfen a luniwyd gan ei blaid fel cyllideb ddrafft amgen, ac nid yw wedi newid ei safbwynt ers hynny. Pan ofynnwyd y cwestiwn hwn iddo ar y radio, dywedodd, 'Nid ydym ni wedi dadansoddi’r rhifau eto.' Wel, mae i fyny iddo fe. Nid ei sesiwn gwestiynau ef yw hwn—rwy’n deall hynny—ond daw amser pan fydd pobl Cymru eisiau gwybod pa doriadau y mae ei blaid ef yn bwriadu eu gwneud i lywodraeth leol. Nid all ddianc rhag y cwestiwn hwnnw am byth. Ar hyn o bryd, mae'n 12 y cant. Dyna'r toriad y mae ef ei eisiau. Mae hynny'n cyfateb i gynnydd o 38 y cant i’r dreth gyngor.
 
Yr ail beth y soniodd amdano oedd addysg uwch. Mae ef eisiau treblu ffioedd dysgu i fyfyrwyr—i osod treth ar fyfyrwyr yn yr un modd ag yn Lloegr. Rydym ni wedi gweld y toriadau ym maes addysg uwch yn Lloegr. Nid ydym ni’n mynd i fradychu ein myfyrwyr, ac nid ydym ni’n mynd i roi ein myfyrwyr mewn sefyllfa lle maen nhw’n gadael y coleg gyda lefelau enfawr o ddyled. Dyna’n union y mae ei blaid ef ac yntau eisiau ei wneud.
 
13:48
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
Nid ydych chi wedi cynnig unrhyw atebion o gwbl, Brif Weinidog. Rydych chi’n cyfeirio yn ôl at gyllideb a gynigiwyd i’r etholwyr yn 2011. Rwy’n derbyn eich bod wedi ennill yr etholiad hwnnw; chi ffurfiodd y Llywodraeth. Mae hi’n 2016 nawr. Pe byddai ein cyllideb ni wedi cael ei chyflwyno, ni fyddai gwerth £1 biliwn o doriadau wedi eu gwneud i GIG Cymru, yr ydych chi’n ceisio gwneud tro pedol cyflym yn ei gylch. Rwy’n croesawu pechadur sy'n edifarhau ac yn dod drosodd atom ni—dod draw at ein meddylfryd ni o ran diogelu'r gyllideb iechyd. Da iawn chi, Brif Weinidog. Ond rwyf wedi gofyn cwestiynau dilys i chi heddiw am y gyllideb a fydd ger ein bron yn ddiweddarach. Yn y gyllideb honno, mae gennych chi gynnydd o £7.5 miliwn i’ch cyllideb gwasanaethau canolog hefyd, ac eto rydych chi’n cymryd £32 miliwn allan o AU. Mae honno'n ffaith; mae hynny i’w weld mewn du a gwyn. Felly, pam mae angen £7.5 miliwn arnoch yn y gyllideb gwasanaethau canolog fel cynnydd oherwydd eich bod chi’n Llywodraeth, ac eto rydych chi’n barod i gymryd 32 y cant allan o AU, ac nid ydych yn fodlon buddsoddi mewn darparu gwasanaethau lleol gan awdurdodau gwledig?
 
13:49
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Fel y dywedais wrtho, bydd datganiad y gyllideb yn dod yn ddiweddarach, a bydd cyfle i ofyn cwestiynau ar yr adeg briodol. Ni fyddai'n iawn i’r datganiad gael ei ragfarnu. Mae'n rhaid i mi ddweud wrtho ei fod yn parhau i ddweud bod y ffigurau y cyfeiriais i atynt yn hen. Iawn. Ble mae'r ffigurau cyfredol? Nid oes rhai. Nid oes rhai. Felly, unwaith eto, rwy’n atgoffa pobl: toriad o 12 y cant i lywodraeth leol, toriad o 12 y cant i addysg, toriad o 30 y cant i’r economi a thrafnidiaeth, toriadau enfawr ym maes tai, toriadau enfawr i wasanaethau canolog.
 
Mae'n sôn am doriad o £1 biliwn o’r gwasanaeth iechyd. Nid yw’n wir, gan ein bod ni’n gwybod, wrth gwrs, ein bod ni’n gwario mwy ar iechyd fesul pen nag y mae Lloegr. Felly, rydym ni’n gwybod bod hynny’n amlwg yn anwir, ac nid yw byth yn dweud, pe byddai wedi gwario £1 biliwn arall, o ble y byddai wedi dod, oherwydd yn y wlad cog a chwmwl sy'n bodoli draw yn y rhan yna o'r Siambr, mae arian yn tyfu ar goed. Nid oes cwestiwn o wneud penderfyniadau anodd, nid oes cwestiwn o orfod gwneud toriadau er mwyn talu am flaenoriaethau, mae arian yn tyfu ar goed—gellid dod o hyd i £1 biliwn heb unrhyw drafferth. Y gwir amdani yw bod angen i bobl Cymru gael Llywodraeth ddarbodus a realistig ac nid un—fel y byddai'r wrthblaid—sy’n byw gyda’r tylwyth teg.
 
13:50
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn nawr at arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
 
13:50
Leanne WoodBywgraffiadArweinydd Plaid Cymru
Diolch, Lywydd. Bythefnos yn ôl, Brif Weinidog, gofynnais i chi wrthdroi eich cynlluniau i wneud toriadau llym i’r cyllid ar gyfer ein prifysgolion. Fe wnaethoch wrthod gan ddweud fwy neu lai wrth brifysgolion i dderbyn y toriadau hynny. Nawr, gwrthodwyd gennych hefyd honiadau y byddai swyddi’n cael eu colli o ganlyniad i'r toriadau hynny i’r sector prifysgolion. A allwch chi gadarnhau yn awr, y prynhawn yma, na fydd tro pedol munud olaf ar gyllid prifysgolion pan gaiff eich cyllideb ei chyflwyno yn nes ymlaen?
 
13:51
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Bydd hynny'n dod yn eglur pan gaiff y gyllideb ei chyflwyno.
 
13:51
Leanne WoodBywgraffiad
Wel, dyna ateb diddorol, Brif Weinidog, ac nid wyf yn hollol siŵr pa un a yw hyn yn golygu eich bod yn parhau i wadu effaith eich cynigion, felly efallai y gallai rhywfaint o dystiolaeth gan Brifysgol Caerdydd fod o gymorth i chi. Dywedasant, ac rwy’n dyfynnu:
 
Yn 2015-16, mae CCAUC wedi blaenoriaethu cyllid uniongyrchol i brifysgolion i helpu i gynnal meddygaeth a deintyddiaeth israddedig. Bu gostyngiad o 50% eisoes yn 2015-16 i gyllid CCAUC ar gyfer y ddarpariaeth hon; bydd erydu’r cyllid hwn ymhellach neu ei golli yn rhoi addysg meddygon a deintyddion yng Nghymru ar gyfer Cymru mewn perygl. Mae'r pynciau hyn yn costio mwy na £15,000 fesul myfyriwr bob blwyddyn ac mae'n amlwg na ellir eu darparu o Ffi Gweddilliol o £6,230 yn unig. Ar adeg pan fo’r gyllideb Iechyd yn cael ei chynyddu, byddai lleihau’r buddsoddiad yn y genhedlaeth nesaf o feddygon a deintyddion yn groesebol.
 
Mae Prifysgol Caerdydd, felly, yn credu y bydd canlyniadau pellgyrhaeddol o’ch toriadau i'r sector addysg uwch. A ydych chi’n derbyn hynny?
 
13:52
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Nac ydw, ac nid Prifysgol Caerdydd yw'r unig brifysgol yng Nghymru. Mae ganddi £300 miliwn o gronfeydd wrth gefn hefyd. Nawr, nid wyf yn credu ei bod yn afresymol, pan fo gan sector gyfanswm o £1.3 biliwn mewn cronfeydd wrth gefn, bod yn rhaid iddo reoli’r hyn a fydd yn fân-ostyngiadau i’w gyllidebau. Mae gan Gaerdydd ar ei phen ei hun £300 miliwn. Felly, ydy, mae’n anodd. Roedd yn anodd i faes addysg bellach y llynedd; mae wedi bod yn anodd ar draws y Llywodraeth. Ond nid yw'n gofyn gormod i faes addysg uwch, ar ôl i’w incwm gynyddu’n sylweddol ers 2012, allu rheoli’r hyn sydd, yng nghyd-destun pethau, yn doriad cymharol fach i’r gyllideb.
 
13:53
Leanne WoodBywgraffiad
Brif Weinidog, nid Prifysgol Caerdydd yw'r unig brifysgol yng Nghymru ac nid oes gan bob prifysgol yr un lefel o gronfeydd wrth gefn y gallai fod gan Brifysgol Caerdydd. Rwy’n gofyn eto i chi heddiw, Brif Weinidog: diddymwch y toriadau arfaethedig hynny, cefnogwch addysg yng Nghymru, cefnogwch ddyfodol diogel i’n gwasanaeth GIG. Rydych chi’n gwrthod yn gyson rhoi gweledigaeth ni ar gyfer addysg uwch yn y wlad hon. Pam? Oherwydd nad oes gennych i un, nac oes? Yr unig beth a gadarnhawyd i ni gennych chi yw eich bod chi eisiau gwneud toriad o £41 miliwn, sy'n doriad o 32 y cant, i brifysgolion Cymru. Pam ydych chi’n trosglwyddo toriadau'r Torïaid i sector y mae'r wlad hon yn dibynnu arno ar gyfer ei ffyniant yn y dyfodol yn ogystal â'i gweithwyr iechyd proffesiynol yn y dyfodol?
 
13:54
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, oni bai bod fod gan arweinydd Plaid Cymru belen grisial, nid oes ganddi unrhyw ffordd o wybod beth sy'n mynd i fod yn natganiad y gyllideb datganiad—
 
13:54
Leanne WoodBywgraffiad
Wel, roeddech chi i fod i ateb y cwestiwn am y peth.
 
13:54
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Trefn, trefn. [Torri ar draws.] Trefn, trefn. Brif Weinidog.
 
13:54
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, mae’r gweiddi yn hynny o beth yn profi pethau, onid yw? Mae'r datganiad yn ddiweddarach. Dyna pryd y byddwch chi’n cael yr atebion, iawn. Mae'r datganiad yn ddiweddarach, a bydd dadl a byddwch yn cael y cyfle i ofyn y cwestiynau hynny bryd hynny. Y gwir amdani yw, o'ch safbwynt chi, gallaf ddweud wrthych chi bod llawer yn y sector prifysgolion sy'n anghytuno â'r grant ffioedd dysgu a chyda'ch cynigion chi, sef gwneud yn siŵr bod ffioedd pobl sy'n aros yng Nghymru yn cael eu talu, sef yr hyn yr ydych chi wedi ei ddweud bob amser yn y gorffennol—[Torri ar draws.] —O, nid dyna yr ydych chi wedi ei ddeud. Felly, nid dyna bolisi Plaid Cymru; wel, arhoswn i weld beth—. Rwy’n cael fy nghyhuddo o beidio â bod â gweledigaeth ar gyfer prifysgolion. Nawr, nid ydym ni’n gwybod beth ar y ddaear yw polisi Plaid Cymru mewn gwirionedd. Bydd datganiad y gyllideb yn ei gwneud yn gwbl eglur. Pe na byddech chi wedi gwrthod bod yn rhan o’r trafodaethau ar y gyllideb o’r cychwyn cyntaf, efallai y byddech chi wedi gallu cyfrannu at bethau.
 
13:55
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Diolch. Mae cwestiynau’r arweinwyr wedi dod i ben nawr, a symudwn yn ôl at gwestiynau ar y papur. Daw cwestiwn 3 gan Lindsay Whittle.
 
Cyllid ar gyfer Hosbisau
 
13:55
Lindsay WhittleBywgraffiad
3. Beth yw polisi presennol Llywodraeth Cymru ar gyllid ar gyfer hosbisau yng Nghymru? OAQ(4)2709(FM)
 
13:55
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Rydym ni’n parhau i gefnogi datblygiad gwasanaethau gofal diwedd oes a lliniarol arbenigol, gan gynnwys hosbisau yng Nghymru. Mae hynny'n cynnwys gwerth £3 miliwn o gyllid i gefnogi hosbis newydd Dewi Sant yng Nghasnewydd.
 
13:55
Lindsay WhittleBywgraffiad
Diolch i chi am eich ateb, Brif Weinidog. A allech chi esbonio pam, yn ystod y pum mlynedd diwethaf, y mae cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer hosbisau yng Nghymru wedi gostwng o 24 y cant o'u costau rhedeg i ddim ond 19 y cant? Nawr, yn sicr, er gwaethaf unrhyw straen ar gyllidebau, a gwn ei bod yn anodd, mae'n rhaid diogelu gwasanaeth mor hanfodol â’r un a ddarperir gan hosbisau, ac nid ei fygwth, a byddwn yn eich annog i ailystyried hynny. Byddai'n eithriadol o gostus i'r GIG pe byddai unrhyw un o'r elusennau yn mynd i’r wal oherwydd diffyg cyllid, gan y byddai’n rhaid i’n gwasanaethau GIG craidd gymryd cyfrifoldeb am y rhan fwyaf o ddarpariaeth y gwasanaeth.
 
13:56
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae'r ffaith ein bod yn ariannu'r hosbis yng Nghasnewydd yn arwydd o'n hymrwymiad. Ni yw'r unig wlad yn y DU i ddarparu cymorth a chyngor 24/7 i weithwyr iechyd proffesiynol sy'n gofalu am bobl sy’n agosáu at ddiwedd eu hoes. Ers 2008, rydym ni wedi buddsoddi £6.4 miliwn y flwyddyn mewn gwasanaethau gofal diwedd oes a lliniarol arbenigol yng Nghymru. Cyhoeddwyd £1 filiwn arall yn 2015-16 i gefnogi darpariaeth y cynllun gofal diwedd oes yn ychwanegol at y cyllid hwnnw, a bydd dros £900,000 o’r arian newydd hwnnw yn cael ei ddefnyddio i ehangu darpariaeth hosbis yn y cartref ledled Cymru. Bydd yr arian sy'n weddill yn cael ei ddefnyddio i ariannu mentrau gofal diwedd oes, fel cynllunio gofal uwch a digwyddiadau codi ymwybyddiaeth y cyhoedd.
 
13:57
Altaf HussainBywgraffiad
Brif Weinidog, ar yr un diwrnod ag y lansiodd Marie Curie ei apêl daffodil, rydym ni’n trafod cyllideb ddrafft a fydd yn gweld £0.3 miliwn yn cael ei dynnu o gymorth hosbis. Mae hosbisau’n hanfodol, fel y dywedasoch—rhan o ofal diwedd oes Cymru. Mae pwyslais gofal hosbis modern ar helpu pobl i fyw’n dda tan iddyn nhw farw. Mae angen i ni sicrhau, waeth ble yr ydych chi’n byw yng Nghymru, y byddwch chi’n gallu cael mynediad at ofal hosbis. Felly, Brif Weinidog, a wnewch chi sicrhau bod hosbisau’n derbyn cyllid cynaliadwy?
 
13:57
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Gwnaf, a dyna pam y cyfeiriais at y pwynt a wneuthum yn gynharach—ein bod ni wedi sicrhau bod cyllid yn parhau, rydym ni wedi cyfrannu arian ychwanegol at ofal, ac nid ydym wedi torri cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol fel y mae plaid yr Aelod wedi ei wneud yn Lloegr. Mae gofal cymdeithasol wedi ei daro'n galed iawn yn Lloegr. Rydym ni’n gwybod bod y cyfrifoldeb wedi ei drosglwyddo i awdurdodau lleol, sydd mewn sefyllfa wael i ariannu’r gofal cymdeithasol hwnnw. Ni fyddwn yn gwneud hynny yng Nghymru a byddwn yn parhau i ariannu gofal cymdeithasol ar y lefel y mae pobl yn ei ddisgwyl.
 
Busnesau sy’n Allforio
 
13:58
Gwenda ThomasBywgraffiad
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu busnesau sy'n allforio? OAQ(4)2702(FM)
 
13:58
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Gwnaf. Mae cynyddu allforion o Gymru yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru. Rydym ni’n cynnig amrywiaeth o fesurau i gynorthwyo allforwyr Cymru yn ystod pob cam o'u taith allforio, gan gynnwys cyngor unigol am ddim, a help i ddod o hyd i gwsmeriaid newydd, a help i gael mynediad at farchnadoedd tramor.
 
13:58
Gwenda ThomasBywgraffiad
Diolch am hynna, Brif Weinidog. Nodaf fod yr offeryn Exporting is GREAT yn dod i Gymru y mis hwn a bydd yn cynorthwyo cwmnïau i ddatblygu eu hallforion i Ewrop a gweddill y byd. A ydych chi’n cytuno â mi, Brif Weinidog, os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, y bydd masnachu gyda’r bloc economaidd hwn yn cael ei wneud yn llawer mwy anodd?
 
13:59
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Nid oes unrhyw amheuaeth am y peth. Rydym ni wedi gweld yr holl anawsterau y mae Prif Weinidog y DU wedi eu cael yn sicrhau setliad newydd hyd yn hyn. Rwy’n cefnogi ei safbwynt, ei fod eisiau i ni aros yn yr UE. Nid yw’n ymddangos bod neb arall yn ei blaid yn ei gefnogi, neu nid ydyn nhw’n llafar iawn am y peth, ond rwyf i’n cefnogi ei safbwynt. Y gwir amdani yw, os na fyddwn ni’n cael mynediad at y farchnad Ewropeaidd sy’n ddi-dariff ac yn agored, bydd busnesau yng Nghymru yn dioddef. Mae'r syniad o pe byddai'r DU yn gadael yr UE y byddai’r UE yn gwneud ei gorau glas i gynnig cytundeb ffafriol i’r DU yn wallgofrwydd, a dweud y gwir. Nid yw’n mynd i ddigwydd. Pam ar y ddaear y byddai'r Undeb Ewropeaidd eisiau gwneud hynny i’r DU a fyddai newydd adael yr Undeb Ewropeaidd? Felly, yn fy marn i, mae sicrwydd yn bwysig i fusnes. Gwnaeth Prif Weinidog y DU y pwynt bod refferendwm yr Alban wedi creu ansicrwydd yn yr Alban; fe wnaeth. Mae'r un peth yn digwydd gyda’r refferendwm hwn. Mae'r ffaith y bydd refferendwm yn creu ansicrwydd yn y DU. Mae angen ei ddatrys, er nad Mehefin, yn amlwg, yw’r dyddiad yr wyf i, nac eraill yn y Siambr ychwaith, yn ei ffafrio, ond y gwir amdani yw, os oes gennych chi fynediad at farchnad o 500 miliwn, os gallwch chi werthu i'r bobl hynny, mae unrhyw beth y byddwch yn ei wneud i ymyrryd â’r mynediad hwnnw yn sicr o fod yn ddrwg i weithgynhyrchwyr, i dwristiaeth ac i ffermwyr.
 
14:00
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Bu’n rhaid i mi gael sgwrs gyda chi yr wythnos diwethaf, Andrew R.T. Davies. Peidiwch â dal ati i barablu. Os ydych chi eisiau siarad, byddaf yn eich galw. Mark Isherwood.
 
14:00
Mark IsherwoodBywgraffiad
Mae ffigurau cyhoeddedig diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer allforion hyd at drydydd chwarter 2015 yn dangos, yn y flwyddyn hyd at drydydd chwarter 2015, y bu cynnydd i allforion yn chwech o 12 gwlad a rhanbarth y DU, ond cafwyd yr ail ostyngiad mwyaf yng Nghymru, sef 8.6 y cant, yn codi i 16.8 y cant ar gyfer masnach ac allforion i wledydd eraill yr UE. Sut, felly, ydych chi’n ymateb i'r datganiad ym maniffesto busnes y CBI ar gyfer etholiad Cynulliad 2016 y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu cymorth allforio gwell ar gyfer busnesau canolig eu maint?
 
14:01
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, petroliwm sy’n gyfrifol am y gostyngiad, sy'n swm sylweddol o allforion i ni. Pryd bynnag y bydd arafu yn y purfeydd, neu bod purfa’n cael ei cholli, mae'n effeithio ar ein ffigurau allforio. Rydym ni wedi gweld hynny yn y gorffennol. Ond nid yw’r DU yn perfformio'n arbennig o dda. Rydym ni eisoes wedi gweld George Osborne yn paratoi ei esgusodion, gan ddweud, 'Wel, os yw pethau'n mynd yn wael, bai Tsieina ac economi’r byd yw’r cwbl'. Wel, y gwir amdani yw hyn: rydym ni’n allforio bron i hanner yr hyn yr ydym ni’n ei weithgynhyrchu a’i gynhyrchu i'r Undeb Ewropeaidd. Mae colli mynediad at y farchnad honno yn drychineb i fusnes ac i’n heconomi. Ar y llaw arall, dim ond 10 y cant o'r hyn y mae'r UE yn ei gynhyrchu y mae’n ei allforio i’r DU. Rydym ni’n llawer mwy dibynnol ar ein marchnad allforio yn yr UE na'r ffordd arall. Mae'n bwysig ein bod yn cofio, wrth i ni edrych at y refferendwm a fydd yn cael ei gynnal eleni, mae’r hyn sydd yn y fantol yma yw cannoedd a miloedd o swyddi yng Nghymru. Dylid gwneud y penderfyniad ar sail dos o realiti economaidd ac nid ar ryw fath o genedlaetholdeb gwyllt.
 
14:02
Rhun ap IorwerthBywgraffiad
Buaswn i’n licio tynnu sylw at y berthynas rhwng polisi caffael ac allforion. Mi fydd y Prif Weinidog yn ymwybodol fy mod i wedi bod yn galw am gymryd camau i gynyddu’r gyfran o gytundebau cyhoeddus yng Nghymru sy’n mynd i gwmnïau Cymreig, ac y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn deddfu i symud i’r cyfeiriad yma. A yw’r Prif Weinidog yn cytuno bod hybu cwmnïau Cymreig drwy help sicrhau rhagor o gytundebau cyhoeddus yn fodd i sicrhau bod y cwmnïau yna wedyn yn cryfhau, ac yn datblygu yn eu gallu nhw i allforio, ac y byddai’r economi Gymreig, yn y ffordd honno, yn ennill ddwywaith?
 
14:02
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, mae hynny wedi digwydd, wrth gwrs. Mae yna lot fawr o gwmnïau nawr yn cael y cyfle i fidio am gytundebau. Mae llawer mwy o gwmnïau o Gymru nawr yn gallu cael cytundebau, o gymharu â beth oedd ar gael o’r blaen. Beth na allaf gytuno ag e arno yw deddfu ar hyn. Nid yw’n gyfreithlon i roi targedau cyfreithiol ynglŷn â faint o fusnes ddylai gael ei roi i gwmnïau lleol. Mae hynny’n hollol yn erbyn cyfraith Ewropeaidd. Beth sy’n bwysig yw sicrhau ein bod ni’n cario ymlaen i hybu cwmnïau, er mwyn eu bod nhw mewn sefyllfa i gymryd mantais o’r cytundebau pan maen nhw’n dod.
 
14:03
Peter BlackBywgraffiad
Brif Weinidog, mae fy rhanbarth i’n wynebu dinistr economaidd posibl ar ôl colli cannoedd o swyddi yn Tata Steel. Wrth gwrs, mae aelodaeth o'r Gymuned Ewropeaidd yn gwbl hanfodol o ran ceisio adfywio’r ardal benodol honno. A allwch chi gadarnhau pa waith y mae eich Llywodraeth yn ei wneud gydag Ewrop i geisio lliniaru’r colledion hynny a cheisio datblygu diwydiannau newydd a arweinir gan allforion yn ardal Port Talbot?
 
14:03
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Rydym ni wedi bod yn gohebu â'r Comisiwn Ewropeaidd, gan gyflwyno ein barn, yn gryf iawn, bod angen cael rhwystrau tariff cryfach yn erbyn mewnforion o'r tu allan. Rydym ni wrthi’n llunio pecyn ariannol, na fydd yn ddigon ar ei ben ei hun. Bydd angen iddo gael ei ategu gan becyn ariannol mwy gan Lywodraeth y DU, ac mae’r broses honno yn parhau.
 
Canser y Pancreas
 
14:04
Mohammad AsgharBywgraffiad
5. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i helpu cleifion canser pancreatig yng Nghymru? OAQ(4)2707(FM)
 
14:04
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Yn rhan o'r cynllun cyflawni ar ganser, mae'r grŵp gweithredu ar ganser yn bwrw ymlaen â nifer o ddarnau o waith, a fydd yn gwella’r broses o adnabod symptomau canserau fel canser pancreatig ac, ar ôl i symptomau gael eu nodi, yn galluogi mynediad cyflym at brofion, diagnosis a thriniaeth.
 
14:04
Mohammad AsgharBywgraffiad
Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Canser pancreatig sydd â’r gyfradd oroesi waethaf o'r 21 canser mwyaf cyffredin yng Nghymru. Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal wedi dweud na ddylai'r GIG yn Lloegr ariannu’r cyffur canser Abraxane oherwydd y gost. A wnaiff y Prif Weinidog sicrhau’r rhai sy’n dioddef o ganser pancreatig yng Nghymru y bydd y cyffur ymestyn bywyd hwn yn parhau i fod ar gael yn y GIG yng Nghymru?
 
14:05
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Gwnaf. Cytunwyd yn ddiweddar, er enghraifft, y byddwn yn parhau trafodaethau gyda'r gweithgynhyrchydd i ystyried y dewisiadau ar gyfer mynediad parhaus at Abraxane yn GIG Cymru. Bydd Abraxane yn parhau i fod ar gael yng Nghymru yn y cyfamser.
 
Gwasanaethau Iechyd Meddwl
 
14:05
Janet Finch-SaundersBywgraffiad
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru? OAQ(4)2714(FM)
 
14:05
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Gwnaf. Ar 29 Ionawr, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog y fframwaith gwella ar gyfer Betsi Cadwaladr. Mae hwnnw'n nodi ein disgwyliadau ar gyfer gwelliant ym mhob un o'r meysydd a nodwyd o dan fesurau arbennig, gan gynnwys iechyd meddwl.
 
14:05
Janet Finch-SaundersBywgraffiad
Diolch. Ystyrir bod cymorth a mynediad at wasanaethau i blant dan 18 oed sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol bron yn anhygyrch yn fy etholaeth i yn Aberconwy, wrth i ddioddefwyr ifanc orfod aros hyd at ddwy flynedd i gael mynediad at CAMHS. Mae oedi o'r fath ar adeg mor hynod o fregus ym mywydau ein pobl ifanc yn gwbl annerbyniol, Brif Weinidog, ac er y bu adolygiad diweddar o CAMHS, mae’n sicr nad yw wedi gwneud gwerth dimai o wahaniaeth i fy nioddefwyr i yn Aberconwy, nac wedi cyflawni unrhyw newid. Yn wir, ni all Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy hyd yn oed gael mynediad at ffigurau ar gyfer y rhai sydd angen triniaeth ac ymyrraeth gan CAMHS. Weinidog, mae hwn yn fethiant enfawr ar ran eich Llywodraeth, ac rydych chi’n siomi ein pobl ifanc mwyaf agored i niwed ar adeg pan eu bod nhw’n drwblus iawn. Beth ydych chi’n mynd i’w wneud i roi sylw i hyn, os gwelwch yn dda?
 
14:06
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, rydym ni wedi darparu cynnydd o 18 y cant i gyllid CAMHS, fel y bydd yr Aelod yn gwybod—£7.6 miliwn. Mae'r rhaglen newid a datblygu’r gwasanaeth yn cael ei datblygu gan yr Athro Fonesig Sue Bailey, a bydd 130 o aelodau staff ychwanegol yn cael eu recriwtio, a fydd yn gwella gwasanaethau ac yn lleihau amseroedd aros dros amser.
 
14:07
Bethan JenkinsBywgraffiad
Brif Weinidog, roedd rhywun o’r tu allan i’m hetholaeth i wedi cysylltu â mi i’w helpu nhw gydag achos, oherwydd ei bod yn gwybod fy mod i wedi gwneud lot ar iechyd meddwl. Roedd y fenyw yma wedi bod yn aros am bedair blynedd ac wedi dweud wrth ei GP ei bod hi eisiau cyflawni hunanladdiad. Dim ond pan wnes i, fel Aelod Cynulliad, godi’r mater hwn gyda’r GP yn lleol y gwnaeth unrhyw beth symud o ran ei helpu hi. Gallai’r sefyllfa honno fod wedi arwain at stori yn y wasg, lle ei bod hi wedi cyflawni’r hyn nad oedd neb yn yr ystafell hon am iddi ei wneud. Pa fath o waith yr ydych chi’n ei wneud gyda GPs, nid i ofyn iddyn nhw i gael hyfforddiant, ond i’w gorfodi i gael hyfforddiant yn hynny o beth, fel na fydd yna fwy o drasiedïau yn digwydd yng Nghymru, lle nad yw pobl yn cael y driniaeth y maent ei hangen mewn da bryd?
 
14:07
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Ynglŷn â’r gogledd, bydd yr arian ychwanegol yn y gogledd yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod triniaeth seicolegol ar gael yn glouach, a hefyd ynghylch ymyrraeth gynnar ynglŷn â sicrhau bod seicosis yn cael ei ddelio ag ef, a hefyd, wrth gwrs, i gyllido gwasanaeth argyfwng i blant a phobl ifanc, yn enwedig yn yr adrannau argyfwng yn yr ysbytai. Felly, bydd yr arian hwnnw—ac rwy’n sôn am yr arian i Betsi Cadwaladr, ond rwy’n erfyn i hyn i gael ei wneud ledled Cymru—yn sicrhau bod gwasanaethau ar gael yn gyflymach nag efallai oedd yn wir o’r blaen. Wrth gwrs, bydd mwy o bobl ar gael i roi’r cyngor hwnnw a’r help hwnnw pan fydd eisiau.
 
14:08
Aled RobertsBywgraffiad
Brif Weinidog, rydych wedi cyfeirio at ymyrraeth gynnar. Mae eich Gweinidog addysg wedi cydnabod pwysigrwydd seicolegwyr addysg wrth sicrhau bod y cwrs hyfforddi yng Nghaerdydd yn parhau. Hefyd, rydym yn symud at gyfnod o Ddeddf newydd o ran addysg arbennig. A gaf i ofyn i chi felly—? Mae yna broblemau yn codi yn y gogledd ynglŷn ag anghysondeb rhwng awdurdodau ynglŷn â’r ffaith bod cwota yn cael ei roi i ysgolion o ran faint o oriau y mae seicolegwyr addysg yn cael defnyddio ym mhob ysgol. Rwyf wedi edrych i mewn i hyn ac nid oes adolygiad wedi bod i mewn i’r sefyllfa yng Nghymru ers 2004, pan roddwyd cyfrifoldeb i’r awdurdodau addysg. A fyddech yn barod i ailedrych, a chreu adolygiad o’r newydd, fel ein bod yn gallu ystyried hwn fel rhan o’r ddeddfwriaeth newydd?
 
14:09
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
I will write to the Member with regard to that issue. It is a very important point that there should be consistency, especially in the education system. I will ensure that I write to the Member to set out the Government’s current stance.
 
Cynllun Cyflawni ar gyfer Strôc
 
14:09
Gwyn R. PriceBywgraffiad
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd y mae'r GIG wedi'i wneud tuag at gynllun cyflawni ar gyfer strôc Llywodraeth Cymru ? OAQ(4)2708(FM)
 
14:10
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae'r adroddiad strôc blynyddol a gyhoeddwyd fis diwethaf yn dangos y cynnydd a wnaed o ran darparu’r cynllun. Mae hynny yn cynnwys mwy o godi ymwybyddiaeth, ymyriadau priodol, gwell gofal yn yr ysbyty a gwell gwasanaethau rhyddhau ac adsefydlu. Mae'r camau hyn wedi helpu i wella cyfraddau goroesi yn dilyn strôc ac i leihau anableddau tymor hwy.
 
14:10
Gwyn R. PriceBywgraffiad
Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Mae cyhoeddiad diweddar y trydydd adroddiad Cymru gyfan blynyddol ar strôc yn dangos bod 1,000 yn llai o bobl yn marw o strôc bob blwyddyn na 10 mlynedd yn ôl. Beth mae hyn yn ei ddweud wrthym am ymroddiad parhaus staff y GIG a'r rhan maen nhw’n ei chwarae wrth ddarparu’r gwasanaeth hwn?
 
14:10
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae'n dweud llawer iawn wrthym, a diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn. Mae gennym hanes ardderchog o gymryd rhan yn yr archwiliadau strôc cenedlaethol a gynhelir gan Goleg Brenhinol y Meddygon. Mae gennym system o dargedau deallus, fel bod data ar gael yn hawdd i glinigwyr, a all wneud gwelliannau wedyn i wasanaethau strôc ar lefel leol. Mae ein parafeddygon, wrth gwrs, yn hynod fedrus o ran nodi cleifion strôc yn gyflym, ac wrth gwrs mae ein staff nyrsio wedi bod yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr y cynigir triniaeth cyn gynted â phosibl i’r rhai sy'n cyrraedd yr ysbyty ar ôl cael strôc, gan ein bod yn gwybod bod hynny’n cael effaith enfawr ar eu gallu nid yn unig i oroesi, ond i osgoi anabledd hirdymor.
 
14:11
Darren MillarBywgraffiad
Mae i’w groesawu’n fawr yn wir y bu gwelliannau i ganlyniadau strôc yng Nghymru, ond yn anffodus rydym ni’n dal ar waelod tabl cynghrair y DU, er ein bod ni wedi gwneud y cynnydd hwnnw. Pa gymorth ychwanegol ydych chi'n mynd i allu ei ddarparu i fyrddau iechyd Cymru fel y gallant gyrraedd cyfartaledd y DU o leiaf, os nad mynd y tu hwnt i hynny, yn ystod y blynyddoedd nesaf?
 
14:11
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, rydym ni’n gweithio gyda'r sector gwirfoddol yn arbennig, mae hynny'n bwysig, i helpu'r rhai sydd wedi dioddef strôc, ond hefyd, wrth gwrs, er mwyn helpu i wella diagnosis cynnar. Mae gennym ni, er enghraifft, yr hyn a elwir yn broses FAST—y prawf wyneb, breichiau, lleferydd—sy’n galluogi’r rhai sy'n ateb galwadau yn y ganolfan rheoli ambiwlansys i nodi pobl a allai fod wedi cael strôc yn gynnar fel y gall parafeddygon eu cyrraedd yn gynnar, a sicrhau wedyn, wrth gwrs, eu bod yn cyrraedd clinigwyr—a bydd y clinigwyr wedi defnyddio, wrth gwrs, y wybodaeth y maen nhw wedi ei derbyn drwy'r broses archwilio. Mae hefyd yn wir i ddweud bod ein timau amlddisgyblaeth o glinigwyr strôc a rheolwyr gwasanaeth strôc wedi arwain y ffordd o ran cynllunio gwelliannau i wasanaethau, a dyna pam yr ydym ni’n gweld, wrth gwrs, canlyniadau’n gwella.
 
14:12
Simon ThomasBywgraffiad
Rwy’n croesawu’r ffaith bod yna gynnydd wedi bod yng Nghymru yn gyffredinol ar y mater yma, er bod yna gamu yn ôl dros y 12 mis diwethaf, fel mae’n digwydd, ym mwrdd iechyd Hywel Dda. Rŷm ni i gyd eisiau gweld gwelliant o ran pobl yn goresgyn strôc, ond, drwy wneud hynny, wrth gwrs, mae gan bobl fwy o anghenion gofal yn ystod y misoedd sy’n dilyn strôc, ac mae lot o’r baich yna yn cwympo ar wasanaethau cymdeithasol, gymaint ag y mae’n cwympo ar y gwasanaeth iechyd. Felly, beth ydych chi’n ei wneud i sicrhau bod gyda ni well adroddiadau ar ôl chwe mis na sydd gennym ar hyn o bryd ynglŷn â’r ffordd y mae pobl yn delio gyda sgil-effeithiau strôc?
 
14:13
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Y peth cyntaf, wrth gwrs, yw sicrhau bod y diagnosis yn gyflym, bod y ‘paramedics’ yn gallu mynd at y person yn gyflym iawn, a mynd i uned arbennig ynglŷn â strôc i sicrhau eu bod nhw’n cael triniaeth mor gyflym â phosibl drwy ddefnyddio cyffuriau, a drwy’r gofal y maen nhw’n gallu ei gael.
 
Ond, wrth gwrs, un o’r pethau sy’n effeithio pobl, weithiau, gyda strôc yw ei fod yn effeithio ar eu meddwl ac yn effeithio ar y ffordd y maen nhw’n ystyried bywyd—mae ysbryd rhywun yn gallu cwympo. Felly mae’n bwysig dros ben eu bod nhw’n cael yr help seicolegol a chymdeithasol yna er mwyn eu helpu nhw ar y daith i ddod yn well unwaith eto. Felly, gweithio gyda’r teuluoedd, gweithio gyda’r trydydd sector—rwyf wedi sôn am hynny yn barod—er mwyn sicrhau bod yna system gynhwysfawr o’u cwmpas nhw i’w helpu nhw i ddod yn well.
 
Mae triniaeth feddygol yn bwysig, ond wrth gwrs dyna’r cam cyntaf. Mae’n bwysig wedyn ein bod ni’n gweithio gyda’r trydydd sector a hefyd gyda theuluoedd er mwyn sicrhau bod y gwellhad yn gallu parhau yn y pen draw.
 
Ffermydd Solar
 
14:14
Nick RamsayBywgraffiad
8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth sydd ar gael i gymunedau yr effeithir arnynt gan ddatblygu ffermydd solar? OAQ(4)2705(FM)
 
14:14
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Materion i'r awdurdod cynllunio lleol yw’r rhain, wrth gwrs, ond wrth gwrs byddem yn annog unrhyw ddatblygwr i ystyried arfer gorau o ran cyfranogiad cymunedol, o ran cyfleoedd cadwyn gyflenwi a threfniadau buddion, fel y gall cymunedau elwa fwyaf.
 
14:14
Nick RamsayBywgraffiad
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae gwaith adeiladu ar fferm solar 38,000 panel wedi dechrau ar gyrion pentref Llanfable yn fy etholaeth i. Prin yw’r trafodaethau y mae'r datblygwr, Conergy, wedi eu cael gyda'r gymuned hyd yn hyn i drafod buddion cymunedol, ac mae wedi bod yn anodd iawn cysylltu a chyfathrebu â nhw. Pa gymorth all Llywodraeth Cymru ei gynnig i gymunedau ledled Cymru yn ystod y cyfnod trafod ar gyfer buddion cymunedol, er mwyn sicrhau eu bod yn cael popeth sy’n ddyledus iddynt ac yn derbyn yr hawl llawn o fuddion sy'n ddyledus iddynt o dan y gofrestr o fuddiannau cymunedol ac economaidd?
 
14:15
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Byddai'n llawer haws i ni fel Llywodraeth allu hwyluso hyn pe byddai’r ardoll seilwaith cymunedol wedi ei datganoli. Nid yw hynny wedi digwydd. Yr anhawster, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, yw mai adran 106 yw’r weithdrefn bresennol ar gyfer sicrhau buddion cymunedol, ond mae'n gwrthdaro â’r CILT. O ganlyniad i hynny, mae'n cyfyngu ar yr hyn y gallwn ei wneud i annog buddion cymunedol. Fy marn i, a barn y Llywodraeth, yw bod CILT yn ardoll cynllunio ac y dylid ei ddatganoli. Nid dyna farn Llywodraeth y DU. Mae'n anffodus, gan ei bod yn golygu na allwn ni gael dull cynhwysfawr o ddatblygu polisi ar fuddion cymunedol drwy adran 106 a thrwy ddull yn hytrach na CILT, y byddem yn dymuno ei gael.
 
14:15
William PowellBywgraffiad
Brif Weinidog, agorwyd y fferm solar gyntaf a redir ac sy’n eiddo i awdurdod lleol yng Nghymru yn Wrecsam. Gwnaed llawer o'r gwaith sylfaen o dan arweiniad fy ffrind a’m cydweithiwr Aled Roberts. Ceir bron i 9,000 o baneli solar ar y fferm—dros 43 erw—ac mae’n cael yr effaith o leihau ôl-troed carbon Wrecsam o 1,300 tunnell o garbon deuocsid y flwyddyn. Yn yr un modd â chwmni ynni dielw Robin Hood, sydd wedi ei gyflwyno yn Swydd Nottingham, byddwn yn dadlau bod y ddau gyfleuster yn dangos y cyfle y mae ynni adnewyddadwy yn ei gynnig i gymunedau ac awdurdodau lleol, yn gweithio mewn partneriaeth. Brif Weinidog, a ydych chi’n cytuno â mi y dylem ni weithio tuag at gyflwyno mwy o bartneriaethau o'r fath rhwng cymunedau lleol a phrif awdurdodau lleol? Beth all Llywodraeth Cymru ei wneud, mewn modd pendant, i hwyluso hyn?
 
14:16
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Ydw, mi ydwyf. Mae’r Aelod yn gwneud iddi swnio fel pe byddai ei gydweithiwr Aled Roberts yn cloddio tyllau’n gorfforol ar gyfer y cyfleuster newydd. [Chwerthin.] Byddai hynny'n rhywbeth a fyddai'n mynd y tu hwnt i ddyletswyddau arferol Aelod Cynulliad, ac yn rhywbeth y byddwn yn ei gymeradwyo i Aelodau eraill pe byddai hynny’n wir.
 
Ond, mae’r Aelod yn iawn. Mae gennym ni Ynni'r Fro, sy'n bwysig o ran helpu cynlluniau ynni cymunedol, gan ein bod yn gwybod bod ganddynt botensial mawr, nid yn unig i gyfrannu at ynni adnewyddadwy, nid yn unig i gyfrannu at leihau ein hôl troed carbon, ond i roi arian mewn economïau lleol hefyd. Felly, trwy gynlluniau fel Ynni'r Fro, a phe byddai’r CILT yn cael ei ddatganoli hefyd, byddai gennym ystod lawn o ddewisiadau wedyn i hyrwyddo’r mathau hynny o gynlluniau ymhellach.
 
14:17
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Diolch yn fawr, Brif Weinidog.
 
Cwestiwn Brys: Y Bil Undebau Llafur
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
 
14:17
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Rwyf wedi cytuno i dderbyn cwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66. Galwaf ar Mick Antoniw i ofyn y cwestiwn.
 
14:17
Mick AntoniwBywgraffiad
Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU am y Bil Undebau Llafur, yn sgil y llythyr gan Weinidog Gwladol y DU dros sgiliau ynghylch symud y Bil ymlaen yng Nghymru? EAQ(4)2717(FM)[R]
 
14:17
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae hwn yn Fil sy’n ymosodiad gwleidyddol uniongyrchol ar undebau llafur a'r rhai a gynrychiolir ganddynt yn y gweithle. Ni fydd yn syndod i’r Aelodau ein bod yn gwrthwynebu'r Bil Undebau Llafur. Pan ddaw i'r meysydd datganoledig, rydym ni wedi ei gwneud yn eglur i Lywodraeth y DU ein bod ni o’r farn, mewn gwasanaethau cyhoeddus datganoledig, bod materion sy'n ymwneud ag aelodaeth o undeb llafur yn fater i'r Llywodraeth hon ac nid Llywodraeth y DU.
 
14:18
Mick AntoniwBywgraffiad
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae'r llythyr yn codi materion cyfansoddiadol difrifol a phwysig iawn yr wyf yn credu y mae angen i chi roi ystyriaeth ddifrifol iddynt. Hoffwn ddarllen y darn perthnasol o'r llythyr a ddatgelwyd, mae'n dweud:
 
Rydym ni wedi ceisio cyngor cyfreithiol gan Brif Gwnsler y Trysorlys sydd wedi cadarnhau bod gennym achos cryf bod y darpariaethau hyn wedi’u cadw o ran yr Alban, ond achos gwan iawn o ran Cymru.
 
Maen nhw’n cadarnhau’r cyngor ar Gymru, y cyngor cyfreithiol gan TUC Cymru a bron pob corff arall, ac yn mynd yn hollol groes i'r safbwynt a fabwysiadwyd gan arweinydd Ceidwadwyr Cymru hyd yn oed. Fy mhryder, Brif Weinidog, yw hyn: byddai i unrhyw Weinidog Llywodraeth fwrw ymlaen â'r ddeddfwriaeth hon yn San Steffan—ar y sail y maen nhw’n ceisio ei chymhwyso i Gymru gan wybod y cyngor hwnnw a’r farn gyfreithiol honno—yn gamddefnydd o swyddogaeth weinidogol. Byddai'n fater, o'i ddatgelu, a fyddai'n fater ymddiswyddo i unrhyw Weinidog ei godi. Ac, mae hefyd yn ergyd drom i'r protocolau y cytunwyd arnynt rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o ran y setliad datganoli. Mae'n eu chwalu’n llwyr. A gaf i ofyn, Brif Weinidog, oherwydd difrifoldeb y materion hyn, i chi godi'r mater hwn yn uniongyrchol gyda Phrif Weinidog y DU, oherwydd y perygl yw nid yn unig bod y setliad cyfansoddiadol rhyngom ar y trywydd anghywir, mae mewn perygl difrifol o chwalu gyda goblygiadau difrifol i'r berthynas rhwng Cymru a'r Deyrnas Unedig yn y dyfodol?
 
14:19
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Byddwn i'n cytuno â llawer o'r hyn y mae’r Aelod wedi ei ddweud. Yr hyn sy'n gwbl eglur, ac mae'n werth dyfynnu hyn eto, pan ddaw i’r Bil Undebau Llafur, ceisiodd Llywodraeth y DU gyngor gan Brif Gwnsler y Trysorlys, sydd wedi, ac rwy'n dyfynnu, cadarnhau bod gan Lywodraeth y DU
 
achos cryf bod y darpariaethau hyn wedi’u cadw o ran yr Alban, ond achos gwan iawn o ran Cymru.
 
Mae hynny'n tanseilio’r safbwynt y maen nhw wedi ei ddatgan yn gyson. Cefais lythyr ar 2 Hydref gan Brif Weinidog y DU. Roedd hynny cyn y llythyr hwn a ddatgelwyd, ond mae’r llythyr hwnnw’n dweud, 'O ran cyfrifoldebau datganoledig, fel y nododd y Gweinidog Gwladol dros Sgiliau a nodir yn ei ohebiaeth i chi ar 15 Gorffennaf, mae'r Bil yn ymwneud â hawliau cyflogaeth, dyletswyddau a chysylltiadau diwydiannol, y mae pob un ohonynt yn amlwg yn faterion a gadwyd. Ceir dau gwestiwn yma: a oedd y Prif Weinidog wedi gweld y cyngor hwn cyn iddo anfon y llythyr hwn, ac os felly, mae’r llythyr yn gamarweiniol; neu, nad oedd wedi gweld y cyngor, ac os felly, pam oedd ef yn ddigon di-hid i gyflwyno safbwynt sy'n amlwg yn sigledig? Rwy'n meddwl bod pobl Cymru yn haeddu atebion yn hynny o beth. Ond, yn y pen draw, wrth gwrs, dylem ni gofio bod hwn yn ddarn o ddeddfwriaeth sy'n effeithio'n uniongyrchol ar sefyllfa pobl sy'n gweithio yng Nghymru. Mae'n ymosodiad gwleidyddol uniongyrchol ar yr undebau llafur ac mae'n gwbl eglur, unwaith eto, mai’r hyn a welwn yn Whitehall yw anhrefn Cameron.
 
14:21
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
Yn amlwg, yr is-bennawd newydd o fainc flaen Llafur yw 'anhrefn Cameron', gan ein bod ni wedi clywed hynny yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog. [Torri ar draws.]
 
14:21
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Trefn. Trefn.
 
14:21
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
Gallwch droi hynny’n 'anhrefn Carwyn' yn ddigon cyflym. Pan edrychwn ni wythnos ar ôl wythnos, gallwn weld hynny’n syth.
 
14:21
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Rhy hwyr.
 
14:21
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
A allwn ni gadw at y cwestiwn brys?
 
14:21
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
Y broblem i'r Prif Weinidog yw bod anghytuno yma. Roedd ymrwymiad maniffesto—ymrwymiad maniffesto eglur—ar ran y Ceidwadwyr, y pleidleisiwyd arno, ac mae'r Llywodraeth yn San Steffan yn Llywodraeth Geidwadol â mwyafrif. Ceir safbwynt cryf yn y Siambr hon ac yn y Llywodraeth, ac rwy’n meddwl bod angen parchu a deall y safbwyntiau hynny, ac mae angen cynnal y ddeialog. Sut mae'r Prif Weinidog yn mynd i fwrw ymlaen â’r safbwyntiau hynny a’r trafodaethau hynny gyda Llywodraeth San Steffan, sydd ag ymrwymiad maniffesto i ddeddfu yn y maes hwn, ac wedi mapio'n eglur sut y byddent yn effeithio ar y ddeddfwriaeth honno wrth ei chyflwyno? Nid yw’n wir mai dim ond un llinell oedd yn y maniffesto; roedd yn mapio'n eglur sut y byddai’r Llywodraeth, pe byddai’n cael ei hethol, yn deddfu yn y maes hwn. Felly, yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw gwneud yn siŵr ein bod yn gallu cael y cyfathrebiad yna i weithio ar ddau ben yr M4 i gael dealltwriaeth eglur o sut y gall hyn symud ymlaen.
 
14:22
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae cyfathrebu yn digwydd, a safbwynt Llywodraeth y DU yw, 'Rydym ni’n mynd i anwybyddu popeth a bwrw ymlaen beth bynnag.' Dyna eu syniad nhw o ddeialog. Os ydych chi eisiau enghraifft o drafod gyda Llywodraeth y DU, dyma hi, 'Dyma beth rydym ni’n ei wneud, dyna’i diwedd hi.' Dyna’r hyn y mae trafod yn ei olygu i Lywodraeth y DU. Edrychwch, y gwir amdani yw na etholwyd Llywodraeth y DU ar y sail y byddai'n newid telerau ac amodau mewn gwasanaethau cyhoeddus datganoledig. Os gallwch chi ddangos hynny i mi yn eich maniffesto, byddai gen i ddiddordeb mewn ei weld. A rhoddwyd hynny yn y maniffesto er gwaethaf y ffaith ei bod yn hysbys bod Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 wedi ymestyn pwerau'r Cynulliad hwn. Os mai drafftio gwael gan eich plaid yw hyn, mae'n rhaid i chi esbonio hynny. Ni enillodd eich plaid gefnogaeth pobl Cymru ym mis Mai, yng Nghymru. Mae'n wir i ddweud bod y gefnogaeth gennych chi ar draws y DU, ond y gwir amdani yw nad oes gennych chi gefnogaeth i newid telerau ac amodau mewn gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Nid yw pobl wedi cefnogi hynny, ni fyddwn ni’n cefnogi hynny, nid yw’r cyngor a roddwyd i’ch plaid eich hun yn cefnogi hynny, ac eto mae eich Gweinidogion yn parhau i wthio’r myth yma, rywsut, eu bod ar dir cadarn pan eu bod yn honni nad yw hyn wedi’i ddatganoli. Mae'r cyngor cyfreithiol, drwy'r llythyr hwn a ddatgelwyd, yn ei gwneud hi'n hollol eglur mai’r cyngor a roddwyd i Lywodraeth y DU yw bod ganddi achos gwan iawn wrth awgrymu nad yw hyn wedi ei ddatganoli, a byddwn yn parhau i wneud popeth y gallwn i wneud yn siŵr bod y Bil hwn yn cael ei drechu, a bod y cymalau sy'n cyfeirio at wasanaethau cyhoeddus datganoledig yn cael eu dileu mewn amser gan y sefydliad hwn, a etholir gan bobl Cymru. Ond, onid yw hi'n anhygoel bod gennym ni—rwy’n credu bod gair ar ei gyfer—chutzpah sy'n cael ei arddangos gan Lywodraeth y DU, lle mae’n honni bod hwn yn amlwg yn fater wedi’i gadw, pan fo’r cyngor cyfreithiol y maen nhw eu hunain wedi ei dderbyn i’r gwrthwyneb yn llwyr? Beth arall maen nhw wedi bod yn ei guddio oddi wrthym ni?
 
14:24
Bethan JenkinsBywgraffiad
Rwy'n edrych ymlaen at holl Aelodau’r Blaid Geidwadol yn rhuthro i brynu eu copi cyntaf o 'Socialist Worker', y datgelwyd y llythyr hwn iddo. [Chwerthin.] Ond, ar lefel difrifol, yn amlwg, yn dilyn ymlaen o'r hyn y mae Mick Antoniw wedi ei ddweud, byddai rhoi hyn ar waith yng Nghymru yn dibynnu ar Gymru ddim yn mabwysiadu model pwerau wedi’u cadw. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU yn cyfaddef na all gynnig rhywbeth i Gymru yn wleidyddol nad yw'n ei gynnig i'r Alban. Beth yw eich asesiad o’r consesiwn sy’n cael ei drafod yn y llythyr a ddatgelwyd, a sut ydych chi’n bwriadu bwrw ymlaen â phwerau wedi’u cadw yng ngoleuni'r llythyr hwn ac yng ngoleuni'r dyfarniad gan y Goruchaf Lys?
 
14:25
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, mae'n iawn i ddweud y byddai’r Bil Cymru presennol yn cael gwared ar allu'r Cynulliad hwn i ddeddfu ar y Bil Undebau Llafur. Dyna pam, wrth gwrs, yn hynny o beth ac mewn llawer iawn o agweddau eraill, y mae’n gwrthdroi datganoli; mae hynny'n rhywbeth, wrth gwrs, y mae pob plaid, a bod yn deg, yn y Siambr hon wedi bod yn amharod i’w dderbyn. Mae'n peri pryder eu bod nhw’n gallu gweld Cymru drwy brism yr Alban yn unig—na allwch chi, rywsut, roi rhywbeth i Gymru oni bai ei fod hefyd ar gael i'r Alban; nid yw'n gweithio y ffordd arall. Mae’n dangos i chi ba mor wrth-Gymru yw Llywodraeth y DU. Ni all wneud rhywbeth dros Gymru heb edrych drwy brism yr Alban, ac mae’r llythyr hwn yn dangos yn blaen beth yw ei safbwynt o ran Cymru. Mae’r setliad datganoli—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i? Mae'r setliad datganoli yng Nghymru yn digwydd bod, o ganlyniad i Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014, yn ehangach na'r setliad datganoli yn yr Alban yn hyn o beth, a dyna un o'r rhesymau pam y mae gennym ni Fil Cymru fel y mae hi, gan eu bod yn torri eu boliau i wrthdroi pwerau'r Cynulliad hwn a etholir gan bobl Cymru. Pe byddai ond yn wir, dim ond am unwaith—dim ond am unwaith—bod y Ceidwadwyr yn y Siambr hon yn cymryd ochr Cymru yn hytrach na'u cydweithwyr, yna byddai hynny’n gam ymlaen.
 
14:26
Peter BlackBywgraffiad
Brif Weinidog, rwyf innau hefyd yn cytuno â'r rhan fwyaf o'r hyn a ddywedodd Mick Antoniw, ac rwy’n credu ei bod yn gwbl eglur yn y llythyr a'r cyngor cyfreithiol bod y Llywodraeth yn sôn am gyflwyno rhwymedigaeth statudol i Weinidogion y DU ymgynghori â Gweinidogion Cymru o ran rhai cymalau o'r Bil hwn, ond nid yw'n dweud mewn gwirionedd pa un a fyddai gennych chi feto ar y cymalau penodol hynny. Mae ar waelod y dudalen o dan y pennawd 'E-balloting', os ydych chi’n chwilio am y cymal penodol hwnnw. Brif Weinidog, a gaf i ofyn a ydych chi’n bwriadu nawr, yng ngoleuni'r cyngor cyfreithiol hwn, mynd yn ôl at Lywodraeth y DU a dweud wrthynt, os ydynt yn bwrw ymlaen gyda'r Bil hwn fel y mae wedi’i ddrafftio ar hyn o bryd—ac nid wyf i’n credu’n bersonol y byddai'n mynd trwy Dŷ'r Arglwyddi fel y mae ar hyn o bryd—nad yw rhwymedigaeth statudol i ymgynghori yn ddigonol, ac y dylai fod hawl statudol i Gynulliad Cymru a Llywodraeth Cymru i gyflwyno feto ar gymalau penodol ar gyfer Cymru?
 
14:27
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Edrychwch, dyma ein safbwynt ni fel Llywodraeth: nid ydym ni eisiau gweld y Bil Undebau Llafur o gwbl, ond o gofio’r ffaith—. Wyddoch chi, mae'n iawn i ddweud bod gan Lywodraeth y DU fandad i'w symud ymlaen drwy Senedd y DU; yr hyn nad oes ganddi yw mandad i newid telerau ac amodau y rhai sy'n gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru sydd o fewn cylch gwaith Llywodraeth Cymru. Nid oes mandad ar gyfer hynny. Nid yw ymgynghori’n ddigon. Rydym ni o'r farn bod gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yn union hynny—eu bod nhw o fewn cylch gwaith Llywodraeth Cymru—ac nad oes gan Lywodraeth y DU unrhyw swyddogaeth yn hynny o beth. Dyna’r hyn y mae pobl Cymru wedi pleidleisio drosto ddwywaith, ym 1997 ac yn 2011. Ac felly, unwaith eto, rydym ni’n gwybod bod eu sefyllfa yn wan. Bydd y Gweinidog yn trafod â Llywodraeth y DU gan ddefnyddio'r llythyr hwn, yn amlwg, fel tystiolaeth gefnogol i ddweud, 'Edrychwch, mae eich cyngor cyfreithiol eich hun yn dangos eich bod mewn sefyllfa wan iawn; ein barn ni yw bod hyn wedi’i ddatganoli; parchwch ddatganoli yng Nghymru.'
 
14:28
Yr Arglwydd / Lord Elis-ThomasBywgraffiad
Mae’n debyg y dylwn i ddatgan diddordeb oherwydd fy mod i wedi pleidleisio yn erbyn rhannau allweddol o’r Bil yma yn ail dŷ Senedd San Steffan, a gobeithio y bydd yna gyfle i wneud hynny eto. Ond dyma beth roeddwn i am ofyn i’r Prif Weinidog, ac anghytuno gydag arweinydd yr wrthblaid: nid mater o wahaniaeth barn yw hwn; mater yw o gyfreithwyr yn Llywodraeth San Steffan ac, o bosibl, yn Senedd y Deyrnas Unedig, nad ydyn nhw’n deall datganoli, yn wahanol i’r lle hwn lle mae cyfreithwyr Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol a chyfreithwyr Llywodraeth Cymru yn un ynglŷn â’n dealltwriaeth ni o’r sefyllfa. A phan mae arweinydd yr wrthblaid yn dweud bod hwn yn addewid mewn maniffesto, pa hawl sydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i geisio gweithredu cyfraith nad yw’n gyfreithlon, gan esgus bod hwnnw mewn maniffesto? Ac felly, Brif Weinidog, rwy’n eich annog chi i beidio â thrafod gyda Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig. Awn i etholiad yn y Cynulliad hwn. Down yn ôl â mandad i ddatblygu setliad cyfansoddiadol a fydd yn ein cadw ni mas o drafferthion fel hyn.
 
14:29
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, rwy’n siŵr bydd pobl Cymru yn clywed y neges ynglŷn â beth yw safbwynt y Torïaid yn Lloegr tuag at Gymru a gwneud y penderfyniad y maen nhw eisiau, er rwy’n siŵr fy mod i a fe mewn sefyllfa wahanol ynglŷn ag ym mha ffordd y dylen nhw benderfynu. Ond mae’r pwynt y mae e’n ei wneud yn bwynt difrifol ac yn bwynt teg, sef nad mater yw hwn o beth yw’ch barn chi ar y Bil ei hunan, ond beth yw’ch barn chi ar y setliad cyfansoddiadol ar ôl y Bil amaethyddol. Gallai’r mater hwn fod am unrhyw beth; nid yw’r pwnc yn bwysig. Rŷm ni’n cymryd y safbwynt fan hyn taw rhywbeth i bobl Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yw hwn, ac nid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Barn y Torïaid yma yn y Siambr yw taw nid rhywbeth i bobl Cymru yw e, ond rhywbeth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig—eu cymdogion nhw yn Llundain. Nid felly, rwy’n siŵr, yw barn y pleidiau eraill yn y Siambr hon.
 
14:31
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at y datganiad busnes a galwaf ar Jane Hutt y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth,.
 
14:31
Jane HuttBywgraffiadY Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
Lywydd, ni fu unrhyw newidiadau i'r datganiad busnes ar gyfer busnes yr wythnos hon. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, a welir ymhlith papurau'r agenda sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
 
14:31
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
Arweinydd y tŷ, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog addysg am y rheolau newydd sy'n llywodraethu absenoldeb yn ystod y tymor? Deallaf fod Llywodraeth Cymru wedi uwchraddio ei chyngor i awdurdodau lleol ac ysgolion yn ddiweddar ar y mater penodol hwn, ond mae gen i etholwr, Heather Wards, sy'n anfon ei phlant i Ysgol Gynradd Birchgrove, a ganfu ei hun yn torri'r rheolau ac yn wynebu dirwy o £60 am fynd â'i phlant allan o'r ysgol yn ystod y tymor. Rwyf yn credu y byddai gwell dealltwriaeth o'r rheolau a hyblygrwydd o fewn y system yn gwella perthynas yn helaeth ym mhob ysgol ledled Cymru, oherwydd mae hwn wedi bod yn faes sydd wedi achosi pryderon dwfn ymhlith athrawon a rhieni, ac, yn arbennig, gallu rhieni i ganiatáu i'w plant gael profiadau teuluol yn ystod y tymor sydd yn fy marn i yn rhan bwysig o'r amgylchedd teuluol. Felly, pe gallem gael datganiad yn cyfeirio at beth yw’r canllawiau newydd diweddaraf y mae Llywodraeth Cymru wedi eu rhoi i awdurdodau lleol ac ysgolion, rwyf yn credu y byddai hynny’n gwella yn fawr iawn y ddealltwriaeth sydd gan rieni ac athrawon o’r hyn y mae ysgolion yn gweithio tuag ato.
 
14:32
Jane HuttBywgraffiad
Mae Andrew R.T. Davies yn ymwybodol, fel y dywedodd, o’r canllawiau newydd gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau, ac, wrth gwrs, bydd yn achub ar bob cyfle i egluro sylwedd y canllawiau newydd hynny.
 
14:32
Bethan JenkinsBywgraffiad
A fedrwn ni gael datganiad gan y Llywodraeth a’r Gweinidog addysg ynglŷn â’r grŵp gorchwyl ar gerddoriaeth a ddaeth mas yn ddiweddar? Cawsom ddatganiad trwy e-bost ond dim datganiad ar lafar gan y Gweinidog, ac mae hyn yn yr un wythnos ag y mae cyngor Abertawe wedi penderfynu i beidio â rhoi addysg gerddoriaeth, neu diwtora cerddorol, am ddim, ar y cyd â Chastell-nedd Port Talbot. Rwy’n credu, os oes cyngor newydd wedi dod o Lywodraeth Cymru, fod angen i gynghorau lleol edrych ar hynny, ac, os oes toriadau’n digwydd heb edrych ar y cyngor hynny, fod angen i ni gael datganiad llafar gan y Gweinidog yma yn y Senedd.
 
14:33
Jane HuttBywgraffiad
Wel, materion i awdurdodau lleol ac awdurdodau addysg lleol yw'r rhain, ac, wrth gwrs, bydd y Gweinidog , unwaith eto, yn gwneud yn glir unrhyw gyngor y mae wedi’i roi o ran addysg gerddoriaeth mewn ysgolion.
 
14:33
Kirsty WilliamsBywgraffiad
Weinidog, tybed a allech chi drefnu i gael datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog cyfrifol o ran y canllawiau i awdurdodau lleol ynghylch cau ffyrdd ar gyfer digwyddiadau penodol. Mae'n ymddangos bod polisïau dirifedi a ddefnyddir gan awdurdodau lleol ledled Cymru, a'r rhan fwyaf ohonynt yn gwneud yn siŵr na fydd unrhyw gostau yn gysylltiedig â chau ffyrdd pan fo digwyddiad yn ddigwyddiad elusennol. Byddai hynny'n ddefnyddiol iawn i Ymddiriedolaeth Bracken yn fy etholaeth i— sy'n lle y gwn eich bod yn ei adnabod yn dda—sy'n cynnal digwyddiadau codi arian o amgylch y llyn yn Llandrindod, ac sydd wedi cael gwybod y bydd yn rhaid iddi bellach dalu £660 am drwydded i gau’r ffordd. Onid yw'n wir, Weinidog, o dan delerau'r Ddeddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847, nad yw cynghorau yn gorfod talu am hysbysebu drud ar gyfer cau ffyrdd; gallant ddefnyddio darpariaethau'r ddeddfwriaeth honno, hyd yn oed ar ôl yr holl flynyddoedd hynny, i gau ffyrdd ar gyfer digwyddiadau o'r fath heb fod unrhyw gost ar y sefydliad elusennol?
 
14:34
Jane HuttBywgraffiad
Wrth gwrs, fel y mae Kirsty Williams yn ymwybodol iawn, mae cau ffyrdd, fel y mae'n dweud, yn heriol iawn ar gyfer y digwyddiadau untro hyn ac, yn wir, i rai o'r prif ddigwyddiadau yr ydym yn eu cefnogi a’u hariannu yng Nghymru, yn ogystal â’r digwyddiadau lleol hynny , a allai, wrth gwrs, fod yn ddigwyddiadau elusennol. Mae hyn yn rhywbeth, o ran awdurdodau lleol ac, yn wir, Llywodraeth Cymru o ran cefnffyrdd, yr wyf yn siŵr y bydd y Gweinidog yn awyddus i egluro pwerau a chyfrifoldebau ynglŷn ag ef.
 
14:35
William GrahamBywgraffiad
Weinidog Busnes, tybed a gaf i ofyn i chi a wnewch chi ofyn i'ch cydweithiwr Lesley Griffiths am ddatganiad ynghylch y gostyngiad yn y gefnogaeth i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, o ran ei grant. Ar hyn o bryd, mae’r holl sefydliadau hynny sy'n gysylltiedig â hwy, yn gallu cael gwasanaeth archwiliad Datgelu a Gwahardd yn rhad ac am ddim. Yn y dyfodol, bydd y sefydliadau unigol hynny yn gorfod talu amdanynt. Rwyf yn siŵr y bydd y Gweinidog yn ymuno â mi i ganmol y sefydliadau hynny sy'n gwneud cymaint gyda phlant, pobl ifanc, ac oedolion sy'n agored i niwed, ond lle y mae archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn gwbl hanfodol.
 
14:35
Jane HuttBywgraffiad
Ie, mae archwiliadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn hanfodol, ac mae'r CGGC wedi chwarae rhan hir a phwysig o ran y trydydd sector. Gwn fod y Gweinidog yn ystyried y materion hyn.
 
14:36
Eluned ParrottBywgraffiad
Weinidog, rwyf yn meddwl tybed, i ychwanegu at gwestiwn Aled Roberts ar y pwnc o hygyrchedd adroddiadau seicolegwyr addysg, a gaf i ofyn am ddatganiad ychydig yn ehangach gan y Gweinidog addysg. Dywedwyd wrthyf fod ysgolion ym Mro Morgannwg yn gweithredu system gwota ar gyfer adroddiadau seicolegwyr addysgol, ac adroddodd un ysgol imi, sydd â 450 o ddisgyblion, bod ganddi ddau gyfle o'r fath bob blwyddyn. Mae hynny'n golygu bod plant yr amheuir bod ganddynt anhwylder ar y sbectrwm awtistig na fyddant yn cael eu hasesu mewn unrhyw flwyddyn benodol. Mae hyn yn achosi pryder mawr iawn i mi, ac rwy’n meddwl tybed a gaf i ofyn am ddatganiad am sut y penderfynir ar nifer y lleoedd fesul ysgol a sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y ddarpariaeth yn ddigonol ym mhob ysgol a phob cymuned. A, hefyd, ceir rhai pryderon ymhlith rhieni sydd wedi dewis talu am adroddiadau seicolegwyr addysg preifat na fydd yr awdurdod lleol wedyn yn rhoi mesurau priodol ar waith i sicrhau bod y plentyn yn gallu sefydlu ei hun yn iawn yn y man dysgu, ac rwy’n meddwl tybed a allech chi ddarparu datganiad ar hynny.
 
14:37
Jane HuttBywgraffiad
Mae’r Gweinidog, rwyf yn siŵr, yn awyddus i egluro'r pwynt yna. Credaf ei fod yn werth edrych ar Ddeddf Addysg 1996, sy'n gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu addysg addas i bob disgybl, gan gynnwys y rhai sydd ag anghenion addysgol arbennig. Ac, yn wir, hyd y bydd y ddeddfwriaeth yn newid, mae pob awdurdod lleol yn gorfod cadw at gyfrifoldebau statudol presennol mewn cyswllt ag AAA, ac, wrth gwrs, mae hyn hefyd yn cynnwys cael gweld seicolegwyr addysg, sy'n hanfodol o ran asesu anghenion. Ond, yn amlwg, mae hwn yn bwynt a fydd yn cael ei ystyried.
 
14:38
Darren MillarBywgraffiad
A gaf i ofyn, Weinidog, am ddatganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau? Rwyf braidd yn bryderus am newyddion o fy etholaeth yn ymwneud â chyfyngiadau pellach ar leoliadau gwaith yn Sir Conwy. Yn ôl pob sôn, mae hyn o ganlyniad i doriadau yng nghyllideb Gyrfa Cymru, sydd wedi arwain at gael gwared ar ei gwiriadau iechyd a diogelwch ac archwilio cefndir ar leoliadau profiad gwaith. Nawr, yn amlwg, mae profiad gwaith yn adnodd gwerthfawr iawn ar gyfer ein pobl ifanc gan ei fod yn rhoi blas o fywyd y tu allan i'r ysgol iddynt. A allwn ni gael datganiad ar hyn cyn gynted ag y bo modd er mwyn i ni gael y system hon i symud eto, fel y gall ein pobl ifanc gael y profiad gwaith y maent yn ei haeddu?
 
14:38
Jane HuttBywgraffiad
Wel, yn amlwg, mae hyn yn wybodaeth a gawsoch yn ôl pob tebyg gan etholwyr. Ond mae'n ymwneud â pholisïau a phenderfyniadau, yn ôl yr hyn a ddeallaf, gan Gyngor Conwy. Credaf ei fod yn bwysig i ddechrau gyda'r awdurdod hwnnw, o ran unrhyw newidiadau, cyn i ni ystyried hwn fel mater a allai effeithio ar eraill ledled Cymru. Oherwydd, wrth gwrs, fel y dywedwch, mae lleoliadau gwaith yn bwysig iawn.
 
14:39
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Diolch yn fawr, Weinidog. Symudwn yn awr at eitemau 3 a 4, sef Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) Gorchymyn 2016, a Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 2) 2016. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, rwyf yn cynnig bod y ddwy eitem ganlynol yn cael eu trafod gyda'i gilydd. A oes unrhyw un yn gwrthwynebu? Dim gwrthwynebiad.
 
14:39
3. & 4. Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2016 a Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Galwaf ar y Prif Weinidog i gynnig y cynigion—Carwyn Jones.
 
Cynnig NDM5950 Jane Hutt
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
 
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2016 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Rhagfyr 2015.
 
Cynnig NDM5949 Jane Hutt
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
 
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Rhagfyr 2015.
 
Cynigiwyd y cynigion.
 
14:39
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Diolch, Lywydd. A gaf fi, felly, symud hwn? Mae’n bleser mawr i agor y ddadl hon ar Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016 ac ar y Gorchymyn i ddiwygio atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. A gaf fi droi yn gyntaf at y Gorchymyn i ddiwygio Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg? Mae Atodlen 6 i’r Mesur yn enwi’r cyrff sy’n agored i orfod cydymffurfio â safonau.
 
Ond mae Atodlen 6 wedi dyddio ers i’r Mesur gael ei basio yn 2011—nid yw rhai cyrff sydd wedi’u henwi yn bodoli mwyach, mae rhai wedi newid eu henw neu wedi uno, ac mae cyrff newydd wedi cael eu creu. Hefyd, yn dilyn cynnal ymchwiliadau safonau, mae’r comisiynydd wedi gofyn inni baratoi safonau ar gyfer rhai cyrff nad oedd wedi’u henwi yn yr Atodlen 6 wreiddiol. Yr hyn y mae’r Gorchymyn o’ch blaen chi heddiw yn ei wneud yw diweddaru Atodlen 6. Mae’n sicrhau bod y comisiynydd yn medru gosod safonau ar bob corff sydd wedi’i enwi yn rheoliadau rhif 2.
 
A gaf i droi at Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016? Mae’r rheoliadau yn caniatáu i’r comisiynydd osod safonau ar 32 o gyrff. Mae’r rhain yn gyrff cenedlaethol sy’n darparu gwasanaethau pwysig i’r cyhoedd ac yn cyflogi nifer fawr o weithwyr yng Nghymru. Rŷm ni’n sôn fan hyn am gyrff fel S4C, Amgueddfa Cymru, Adnoddau Naturiol Cymru, Estyn, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru. Mae gan y mwyafrif helaeth o’r cyrff yn y rheoliadau hyn gynlluniau iaith, felly maent yn brofiadol o ran darparu gwasanaethau Cymraeg a bod yn atebol am hynny. Bydd y safonau hyn yn adeiladu ar yr hyn y mae nhw eisoes, felly, yn ei wneud.
 
Un rhan yn unig o’r jig-so, wrth gwrs, yw gosod safonau ar gyrff. Mae’n rhaid inni weithio gyda’n gilydd i annog mwy o siaradwyr Cymraeg i fod yn ddigon hyderus i ddefnyddio gwasanaethau Cymraeg, gan sicrhau eu bod hefyd yn derbyn gwasanaethau o’r un safon â’r rhai Saesneg. Felly, byddaf yn dod â mwy o reoliadau at eich sylw cyn diwedd tymor y Cynulliad yma ym mis Mawrth, sef y mis nesaf, wrth gwrs. Bydd y rheoliadau hynny yn cyflwyno safonau i’r sector addysg, yr heddluoedd a’r gwasanaethau brys, a thribiwnlysoedd.
 
Fy mwriad yw cyflwyno safonau i’r sector iechyd gerbron y Cynulliad nesaf, i wireddu dymuniad y comisiynydd i ddod â’r sector gofal sylfaenol o dan yr un fframwaith safonau â’r cyrff iechyd eraill. Mae angen gwaith polisi manwl, felly, cyn cyflwyno’r rheoliadau hyn. Fy mwriad, felly, yw ymgynghori ar y rheoliadau hyn yn y Cynulliad nesaf. Felly, Lywydd, rwy’n symud.
 
14:42
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, David Melding.
 
14:42
David MeldingBywgraffiad
Diolch i chi, Lywydd. Rwy'n bwriadu cyfyngu fy sylwadau i'r Gorchymyn sydd ger ein bron, a ystyriwyd gennym yn ein cyfarfod ar 11 Ionawr. Ar gyfer y cofnod, cafodd y rheoliadau adroddiad clir. Mae'r Gorchymyn yn ceisio diwygio Atodlen 6 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae Atodlen 6 yn nodi’r categorïau o sefydliadau y mae’n rhaid iddynt gydymffurfio â safonau'r Gymraeg. Adroddasom ar rinweddau yr offeryn oherwydd y diffyg eglurder ynghylch pam y mae sefydliadau yn cael eu hychwanegu at Atodlen 6. Er mwyn cael eu hychwanegu at Atodlen 6, mae’n rhaid i'r sefydliadau fod mewn categori a bennir yn Atodlen 5 y Mesur. Nid oedd y Gorchymyn ei hun na'r memorandwm esboniadol gwreiddiol yn esbonio pa un o'r categorïau yn Atodlen 5 sy’n berthnasol i bob un o'r sefydliadau y mae'r Gorchymyn yn bwriadu eu hychwanegu at Atodlen 6. Heb yr wybodaeth hon mae’n fwy anodd penderfynu a yw'r pwerau perthnasol wedi'u harfer yn briodol. Rydym ni hefyd yn credu ei bod yn bwysig ymgynghori â sefydliadau sydd i'w cynnwys yn y ddeddfwriaeth. Mae hwn yn faes pwysig o bolisi cyhoeddus lle mae tryloywder yn hollbwysig. Nodwn fod ymateb Llywodraeth Cymru, a ddarparodd yr wybodaeth yr wyf newydd gyfeirio ati, wedi ymrwymo i’w hychwanegu at femorandwm esboniadol diwygiedig. Croesawaf benderfyniad Llywodraeth Cymru a'i chamau gweithredu wrth lunio memorandwm esboniadol diwygiedig mor fuan ar ôl ein cyfarfod. Diolch.
 
14:44
Suzy DaviesBywgraffiad
Rydym yn tueddu tuag at gefnogi'r Gorchymyn heddiw, ond hoffwn i'r Prif Weinidog egluro'r sefyllfa o ran y mater a godwyd gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol cyn i ni wneud hynny. Mae rhai o'r sefydliadau sydd i’w cynnwys ar restr Atodlen 6 o dan y Gorchymyn yn ychwanegiadau newydd yn hytrach na'u bod yn cymryd lle sefydliadau sydd wedi uno neu wedi newid eu henw. Ni ymgynghorwyd â’r sefydliadau newydd hynny ynglŷn â'u cynnwys yn y Gorchymyn hwn. Mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, ymatebodd y Llywodraeth drwy ddweud nad oedd angen ymgynghoriad ar yr achlysur hwn, oherwydd bod proses ar gyfer ei gwneud yn ofynnol i sefydliad gydymffurfio â safonau, a bod y broses honno yn darparu nifer o gyfleoedd i sefydliad gymryd rhan yn y broses a nodi unrhyw bryderon sydd ganddo, ac ategodd hynny gan ddweud bod y Mesur ei hun hefyd yn nodi na fydd yn ofynnol i unrhyw sefydliad gydymffurfio â’r safonau hyd nes y bodlonwyd gofynion penodol.
 
Mae’r ymateb hwnnw, fodd bynnag, yn tybio y dylai'r sefydliad fod ar y rhestr Atodlen 6 ac felly'n ddarostyngedig i safonau yn y lle cyntaf. Mae’r Llywodraeth erbyn hyn, yn dilyn adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar y rheoliadau drafft hyn, wedi darparu tystiolaeth, fel yr ydym wedi clywed, ond tybed a wnewch chi gadarnhau, Brif Weinidog, na chafodd y sefydliadau newydd sy’n gynwysedig yn y Gorchymyn gyfle i gyflwyno achos dros beidio â bod ar restr newydd Atodlen 6, er y byddwn i’n dweud bod yr wybodaeth a roddwyd i'r Pwyllgor yn y pen draw yn eithaf cymhellol.
 
Rwyf hefyd yn sylwi, gan droi at y rheoliadau yn awr, bod y rhestr o sefydliadau yn y Gorchymyn yn cynnwys rhai sy'n cymryd lle enwau presennol, a bod rhai o'r sefydliadau hynny ar gyfer y DU gyfan. Erbyn hyn mae rhagor ohonynt yn Atodlen 6 nag yr oedd o'r blaen, er nad ydynt i’w gweld wedi eu cynnwys yn Atodlen 6 at ddibenion y rheoliadau sydd ger ein bron heddiw. Wrth gwrs, mae’r cyrff hynny o’r DU sy'n cael eu crybwyll yn gweithredu o fewn Cymru a dylem ddisgwyl i’r safonau fod yn gymwys i'w gweithrediadau yng Nghymru, pan fo hynny’n rhesymol ac yn gymesur. Fodd bynnag mae'n fwy anodd asesu beth sy'n rhesymol ac yn gymesur pan gaiff y safonau eu cymhwyso i sefydliad nad yw'n gweithredu yng Nghymru yn unig nag i sefydliad sydd yn gweithredu yng Nghymru yn unig.
 
Bydd yr holl safonau a restrir yn y rheoliadau, ac eithrio dau, yn berthnasol i’r holl sefydliadau a restrir yn y rheoliadau drafft. Mae’n rhaid i mi ddweud, mae braidd yn anodd i mi ddod i'r casgliad bod cymhwyso’r holl safonau yn rheoliad 2 i sefydliad o'r fath yn ei gyfanrwydd yn rhesymol ac yn gymesur. Ni allaf ddod i'r casgliad hwnnw.
 
Rwy’n credu bod pob darpariaeth amlwg ynglŷn â'r hawliau y caiff y cyhoedd eu harfer, a chredaf yn ôl pob tebyg yr achos dros resymoldeb a chymesuredd, wedi ei gwneud. Ni waeth a yw prif swyddogaethau sefydliad yn bennaf yn rhywle arall, os oes gan 3 miliwn aelod posibl o'r cyhoedd yr hawl i gyfathrebu yn y Gymraeg, yna credaf fod angen i chi fod yn barod am hynny fel sefydliad. Os oes gennych nifer uchel o staff yng Nghymru, fel sydd yn y BBC, er enghraifft, yna ni waeth beth yw'r niferoedd yn y sefydliad yn ei gyfanrwydd, rwyf yn amau ​​ei bod yn briodol i'r holl safonau yn y rheoliadau hyn fod yn gymwys.
 
Fodd bynnag, ceir dau sefydliad sydd wedi eu henwi, sef y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac Ofcom—sef y ddau y sylwais arnyn nhw’n benodol—sydd â nifer eithaf bach o staff yng Nghymru mewn gwirionedd, ac, yn yr amgylchiadau hynny, tybed beth sy'n digwydd os yw swydd benodol yn digwydd bod, ar hyn o bryd, yn arbenigedd unigolyn sydd â sgiliau cyfyng yn y Gymraeg neu nad oes ganddo sgiliau o gwbl ynddi. Rwyf hefyd yn gofyn: a yw'n rhesymol ac yn gymesur i dîm polisi yn Llundain ystyried popeth a ragwelir yn y Gorchymyn hwn? A yw'n rhesymol ac yn gymesur i wybodaeth benodol gael ei llwytho yn ddwyieithog i system gyfathrebu fewnol system sy'n gweithredu ledled y DU? Nid wyf yn gofyn hyn oherwydd ein bod yn mynd i bleidleisio yn erbyn y rheoliadau hyn, ond dim ond i ofyn cwestiwn am ba un a ydym ni'n edrych ar gwestiwn o awdurdodaeth ar wahân yma nad oedd wedi ei gynnwys yn y Mesur mewn gwirionedd.
 
Er efallai fod adroddiadau yr ymchwiliad ar gael ar-lein, nid wyf yn credu bod y memorandwm esboniadol wedi ein helpu rhyw lawer i asesu rhesymoldeb a chymesuredd yr holl safonau y cyfeirir atynt ar gyfer yr holl gyrff. Nid oes pwyllgor polisi sydd wedi edrych ar hyn. Fel yr wyf yn ei ddweud, nid wyf i’n hyderus y gallaf ddod i gasgliad. Mae’n un o blith sawl rheswm pam yr wyf i’n gadarn yn fy marn y dylai Comisiynydd y Gymraeg annibynnol fod yn atebol i'r Cynulliad hwn yn hytrach nag i'r Llywodraeth.
 
14:48
Yr Arglwydd / Lord Elis-ThomasBywgraffiad
Clywch, clywch.
 
14:49
Suzy DaviesBywgraffiad
Diolchaf i chi am hynna. Serch hynny, mae'r sefydliadau hyn a restrwyd yn y rheoliadau hyn eisoes wedi'u rhestru yn Atodlen 6 ac wedi arfer â llawer o'r hyn sy'n ofynnol gan y rheoliadau hyn eisoes. Felly, er mwyn gallu cefnogi'r rheoliadau hyn, rwyf wedi dod i'r casgliad y dylai hawl i apelio fod yn ddigonol i'w diogelu rhag defnydd gorfrwdfrydig o hysbysiadau cydymffurfio, ac ar gyfer y sefydliadau hyn, byddwn yn cefnogi'r rheoliadau heddiw. Gallai fod yn sefyllfa wahanol pe byddai’r sefydliadau hynny sydd wedi eu cynnwys, drwy'r Gorchymyn, mewn unrhyw Atodlen 6 yn y dyfodol, yn destun hysbysiadau cydymffurfio, ac rwy'n siŵr y bydd hynny yn dod yn ôl ger ein bron yn y pumed Cynulliad. Diolch.
 
14:49
Keith DaviesBywgraffiad
Hoffwn i hefyd groesawu rheoliadau safonau’r Cymraeg a osodir o’n blaenau heddiw. Fel siaradwr Cymraeg a chadeirydd y grŵp trawsbleidiol, mae’n bwysig bod pobl Cymru’n cael cymaint o gyfleoedd i siarad Cymraeg ag sy’n bosib. Mae’r system o safonau’n sicrhau ein bod yn gallu cysylltu â’r sefydliadau cyhoeddus a restrir drwy gyfrwng y Gymraeg. Er bod newyddion drwg wedi dod allan o’r cyfrifiad olaf am nifer y siaradwyr Cymraeg, rwy’n gweld ymrwymiad cadarn gan rai sefydliadau yn y sector cyhoeddus. Hoffwn enwi Cyngor Sir Gâr yn arbennig, a wnaeth ymrwymo drwy fesur trawsbleidiol i’r nod o weinyddu’n bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg gydag amser.
 
Fodd bynnag, nid yw’r rheoliadau heddiw yn sôn am lywodraeth leol. Maent yn cyfeirio at nifer o gyrff gwahanol sy’n gwneud rhwydwaith y sector cyhoeddus yng Nghymru. Ond mae pryderon gyda fi—yr un pethau ag yr oedd Suzy Davies yn sôn amdanyn nhw’n gynharach. Mae rhai o’r cyrff yn gweithredu ar draws Cymru a Lloegr, neu ar draws y Deyrnas Unedig. Mae ond yn deg bod dyletswydd ar sefydliad sy’n gweithredu’n rhannol yng Nghymru i ddarparu lefel sylfaenol o wasanaeth i siaradwyr Cymraeg. Hoffwn ofyn i’r Prif Weinidog faint o drafodaethau y mae Comisiynydd y Gymraeg wedi eu cael gyda’r sefydliadau y mae’r safonau newydd yma yn effeithio arnyn nhw.
 
Rwyf hefyd yn pryderu nad oes mwy o ddyletswydd ar gyrff Cymru’n unig i gynnal mwy o’u gweinyddiaeth fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r rheoliadau’n cyfeirio at nifer o sefydliadau a all wneud mwy i hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg. Dylai’r comisiynydd edrych ar addasu effaith y safonau ar y sefydliadau a restrir yn y dyfodol. Dylai staff yn y sector cyhoeddus yng Nghymru gael cyfleoedd rhesymol i ddefnyddio eu Cymraeg yn y gweithle. I orffen, hoffwn gymeradwyo’r rheoliadau yma fel cam yn y cyfeiriad cywir tuag at Gymru lle mae yna ddewis gwirioneddol i siaradwyr Cymraeg yn eu trafodion â’r sector cyhoeddus.
 
14:51
Simon ThomasBywgraffiad
Bydd Plaid Cymru’n cefnogi’r Gorchymyn a’r rheoliadau heddiw, ac yn diolch i’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am y gwaith craffu, yn arbennig ar y Gorchymyn, sydd wedi dod â mwy o wybodaeth gan y Llywodraeth sy’n esbonio’r broses. Mae yna wers, rwy’n meddwl, ar gyfer y dyfodol ar sut mae’r cyrff newydd yn cael eu cymhwyso yn y broses honno.
 
Wrth groesawu’r safonau heddiw, hoffwn i ategu nifer o’r pethau sydd wedi cael eu dweud eisoes, yn enwedig gan Keith Davies. Mae eisiau gweld y safonau yna yn weithredol i hybu defnydd o’r Gymraeg gan y cyrff hyn, ond hefyd yn fewnol yn rhai o’r cyrff hyn. Mae hefyd yn bwysig i nodi bod y rhan fwyaf o’r cyrff yn rhai sydd eisoes yn dod o dan y Ddeddf iaith bresennol ac yn hen gyfarwydd â gweithredu cynlluniau iaith erbyn hyn.
 
Yr hyn sydd yn werth ei nodi, efallai, yw ei bod yn bum mlynedd ers pasio’r Mesur iaith gwreiddiol gan y lle hwn. Rwy’n meddwl ei fod yn bum mlynedd bron i heddiw, hyd yn oed, ac rydym ni’n gweld dim ond yr ail set o reoliadau yn cael eu cyflwyno. Rwy’n credu bod y broses yna angen cael ei chyflymu rhywsut neu’i gilydd. Rwy’n derbyn y pwyntiau sydd wedi cael eu gwneud ynglŷn ag ymgynghori ac ynglŷn â chynnwys pobl, ond rwy’n credu bod hefyd broses fan hyn y mae siaradwyr Cymraeg hefyd yn disgwyl gweld yn cael ei chyflawni er mwyn rhoi iddyn nhw’r hawliau a oedd y tu ôl i’r Mesur iaith yn y lle cyntaf—i ddarparu hawliau drwy osod dyletswyddau ar gyrff cyhoeddus a chyrff sylweddol sy’n derbyn arian cyhoeddus.
 
Mae yna gwpl o gwestiynau yr hoffwn i eu gofyn i’r Prif Weinidog sy’n deillio o gymeradwyo’r rheoliadau heddiw. Yn gyntaf oll, gan fod yna doriadau sylweddol eto yn y gyllideb i gyllideb Comisiynydd y Gymraeg, a fedr y Prif Weinidog esbonio sut mae’n ffyddiog bod gan y comisiynydd ddigon o adnoddau bellach i gyflawni ei dyletswyddau hi, yn benodol wrth weithredu’r safonau hyn a phlismona’r safonau hyn? A all y Prif Weinidog hefyd esbonio pam mae safonau ynghylch cynnal cyfarfodydd yn ymwneud â llesiant unigolion, a oedd yn rhan o gylch cyntaf y safonau, wedi cael eu hepgor yn yr ail gylch yma? Rwy’n deall bod y cyrff yma yn gyrff gwahanol—nid ydyn nhw’n awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus felly—ond mae yna gyrff fan hyn—y comisiynydd plant, comisiynydd pobl hŷn, ac ambell un arall—y byddech chi’n disgwyl i fod yn cynnal cyfarfodydd yn ymwneud â llesiant unigolion, ac felly byddech chi’n disgwyl gweld safon yn ymwneud â defnydd o’r Gymraeg yn y cyd-destun yma.
 
Mae’r Prif Weinidog, wrth gynnig y ddeddfwriaeth heddiw, wedi sôn am y dyfodol ac wedi sôn am yr hyn y mae’n dymuno ei wneud yn y Cynulliad nesaf. A fedr y Prif Weinidog felly gadarnhau beth yw’r amserlen ar gyfer y sector telegyfathrebu yn benodol, gan fod hwn yn cael ei weld yn hollbwysig bellach i ddefnydd y Gymraeg gan siaradwyr Cymraeg yn yr oes fodern?
 
Nid oedd ymgynghoriad ar y rheoliadau hyn; mae Cadeirydd y pwyllgor wedi gwneud y pwynt yna. Rwy’n credu beth sydd yn bwysicach, a dweud y gwir, wrth fynd ymlaen, yw codi ymwybyddiaeth nawr o’r safonau. Mi ddylai’r cyrff yma fod yn ymwybodol o ddeddfwriaeth yng Nghymru, i fod yn onest, ond mae sut yn union y mae hyn yn gweithredu yn fater o godi ymwybyddiaeth, ac nid wyf yn dal yn siŵr, gan fod yr hawliau hyn, a’r dyletswyddau hyn, yn dod i rym ddiwedd mis Mawrth eleni, ym mha ffordd y mae’r Llywodraeth am godi’r ymwybyddiaeth yna—ar y cyd, wrth gwrs, â’r comisiynydd iaith.
 
Y cwestiwn olaf rwyf eisiau ei ofyn, cyn, efallai, tewi ar y mater yma yn y Cynulliad hwn—a byddwn ni’n siŵr o ddychweled at rai o’r materion hyn yn y Cynulliad nesaf, pan fydd, gobeithio, gyfle i ddeddfu’n fwy ffres ar y mater. Ond mae’r hyn sydd gyda ni ar hyn o bryd o ran Mesur iaith, a safonau iaith, yn seiliedig ar LCO a’r broses hirwyntog hynny a wnaeth gyflwyno i ni rai cyfyngderau, yn benodol—ac mae’n berthnasol i’r rheoliadau sydd gyda ni gerbron ar hyn o bryd—ynglŷn â faint o arian cyhoeddus y flwyddyn roedd corff yn ei dderbyn cyn penderfynu a oedd yn dod o dan cylch y Mesur iaith ac a oedd yna safonau felly yn gymwys i’r corff hwnnw.
 
Mae’r grŵp gorchwyl a gorffen ar yr iaith Gymraeg a datblygu economaidd a oedd wedi’i gomisiynu gan y Llywodraeth wedi argymell yn benodol y dylid cael gwared ar y trothwy ffug yma, mewn ffordd, ac y dylai fod yn llawer mwy clir i fusnesau a chyrff sydd yn cael grantiau gan Lywodraeth Cymru i ddangos eu bod nhw’n gallu darparu gwasanaeth yn ddwyieithog ac i ddangos felly eu gweithgaredd dwyieithog yng Nghymru. I fi, mae yna wers hefyd i ni, fel Cynulliad, wrth basio’r rheoliadau heddiw. Y wers honno yw bod yn rhaid i ni yn y Cynulliad nesaf fod yn llawer mwy ymwybodol o’r ffaith bod gan gyrff sy’n derbyn arian cyhoeddus ddyletswydd i ddarparu gwasanaethau dwyieithog yng Nghymru.
 
14:57
Aled RobertsBywgraffiad
Mae’n siŵr bod y rhan fwyaf o’r cwestiynau wedi cael eu codi gan y siaradwyr blaenorol, ond a gaf i hefyd ategu beth ddywedodd Simon Thomas? Rydw i’n meddwl ein bod ni’n siomedig braidd. Er y byddwn ni yn cefnogi’r Gorchymyn a’r rheoliadau, rydym ni’n siomedig bod cymaint o oedi wedi bod ynglŷn â’r holl reoliadau yma’n cael eu cyhoeddi. Rydw i’n dallt beth ddywedodd y Prif Weinidog erbyn hyn: bod yna sectorau a fydd rŵan yn cael cyfnod pellach o ymgynghori o dan y Cynulliad nesaf. Er hynny, rydw i’n meddwl bod yna ddiddordeb yn y sector telegyfathrebu yn benodol ac yn y ffaith bod yna lawer iawn o ddistawrwydd ynglŷn â’r sefyllfa yna.
 
Hefyd, wrth ystyried bod y safonau newydd yma’n dod i rym ar 30 Mawrth, ac wrth gofio bod cyllideb y comisiynydd wedi’i thorri, a fydd yna gyllideb benodol, un ai gan Lywodraeth Cymru neu gan y comisiynydd, i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â hawliau Cymry Cymraeg yn benodol o dan y safonau newydd yma?
 
Hefyd, hoffwn i jest ategu beth ddywedodd Suzy Davies ac eraill, gan gynnwys Keith Davies, ynglŷn â’r ffaith bod nifer o fudiadau wedi cysylltu, mae’n debyg, â ni fel unigolion. Hwyrach mai pedwar corff sy’n cael eu rhestru yn y rheoliadau yma sydd yn bennaf â phencadlys yn Lloegr ond sydd yn gweithredu ar lefel Gymreig. Rydw i’n meddwl eu bod nhw’n pryderu ynglŷn â pha mor gymesur fydd y ffordd y mae’r rheoliadau yma’n cael eu hystyried. Rydw i’n dallt y bydd yna broses lle mae yna gynllun yn cael ei gyhoeddi a lle bydd cyfnod o ymgynghori, a bod rhai prosesau ynglŷn ag apêl, ac, yn y pen draw, wrth gwrs, bydd y comisiynydd yn dirwyo’r cyrff hynny sydd ddim yn cwrdd â’r rheoliadau. Ond rydw i’n meddwl bod angen i ni wybod yn union pa fath o ystyriaeth o ran cymesuredd fydd yn cymryd lle.
 
Yn olaf, fe godais y tro diwethaf y ffaith bod nifer cynyddol o wasanaethau yng Nghymru erbyn hyn yn cael eu hallanoli oddi wrth lywodraeth leol yn benodol, a jest i sicrhau dealltwriaeth y Prif Weinidog bod yr holl fudiadau yna, a’r cyrff newydd yna, yn dod o dan y rheoliadau newydd hyn, wrth ystyried, wrth gwrs, fod llawer iawn o’r rheini wedi cael, neu wedi derbyn, cytundebau allanoli gan lywodraeth leol, lle, am wn i, nid oes sôn am eu cyfrifoldebau o ran safonau iaith.
 
15:00
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Y Prif Weinidog i ateb.
 
15:00
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
A gaf i ddelio yn gyntaf gyda sylwadau Suzy Davies? Fy marn i yw: os yw corff yn gweithredu yng Nghymru, mae dyletswydd arno i sicrhau bod gwasanaeth ar gael yn Gymraeg. Nid oes ots lle mae ei bencadlys. Mae’n bwysig dros ben eu bod nhw yn darparu gwasanaeth Cymraeg i bobl Cymru. Mae hynny’n rhywbeth sy’n hollol resymol a rhywbeth y maent yn gyfarwydd ag ef o gofio Deddf 1993.
 
Roedd sawl cwestiwn gan Simon Thomas. Gobeithio y gallaf ateb pob un ohonynt. O ran y gyllideb, mae’r comisiynydd wedi cael mwy o arian er mwyn helpu’r broses o sefydlu’r rheoliadau. Mae hynny’n rhywbeth yr ydym wedi ei ystyried er mwyn sicrhau bod yr adnoddau hynny ar gael yn y cyfnod hwn. Y comisiynydd, wrth gwrs, sy’n gyfrifol am benderfynu pa gyrff sy’n dod o dan ei hymchwiliad hi. Felly, mater i’r comisiynydd yw penderfynu pwy sy’n dod o dan yr ymchwiliad hwnnw. Jobyn y Llywodraeth, wrth gwrs, yw paratoi’r rheoliadau eu hunain.
 
Ynglŷn â thelegyfathrebu, mae hynny’n rhywbeth sy’n mynd i gael ei ystyried o dan y set nesaf a’r setiau ar ôl hynny. Bydd y drydedd set gyflawn yn dod o flaen y Cynulliad yn ystod y Cynulliad nesaf. Mae gwaith paratoi yn cael ei wneud ynglŷn â hynny yn barod. Ynglŷn ag ym mha ffordd y dylai’r cyhoedd wybod pa wasanaethau sydd ar gael, byddwn ni’n parhau i hyrwyddo cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg er mwyn sicrhau bod pobl yn gwybod bod gwasanaethau ar gael yn y Gymraeg iddyn nhw. Un peth, wrth gwrs, yw sicrhau bod y gwasanaeth ar gael. Rhywbeth arall, mwy eang, yw sicrhau, wrth gwrs, bod gan bobl yr hyder i ddefnyddio’r gwasanaeth yn y lle cyntaf. Mae hynny’n dod o dan bopeth arall yr ydym yn ei wneud fel Llywodraeth drwy gynlluniau fel Bwrw Mlaen a chynllunio sy’n hybu pobl i ddefnyddio’r iaith mewn modd y byddent yn ystyried fel ffordd ffurfiol. Hefyd, mae dyletswydd ar y cyrff eu hunain i sicrhau bod pobl yn deall bod gwasanaeth ar gael yn Gymraeg.
 
Ynglŷn â’r pwynt wnaeth Aled Roberts godi ynglŷn â beth sy’n digwydd pan fydd gwasanaethau’n cael eu darparu gan drydydd parti, efallai drwy gontract, a gaf i ddweud—? Os yw corff yn darparu gwasanaeth sy’n dod o dan safonau, mae’n rhaid i’r corff hwnnw gydymffurfio â’r safonau sydd wedi’u gosod arnynt. Mae hynny’n wir os taw nhw sy’n darparu’r gwasanaeth neu os yw’r gwasanaeth hwnnw’n cael ei ddarparu ar eu rhan nhw gan drydydd parti drwy gontract neu drefniant arall. Felly, nid oes dianc o’r dyletswyddau sydd yno o dan y rheoliadau eu hunain, os bydd awdurdod lleol neu unrhyw gorff cyhoeddus arall yn penderfynu taw trydydd parti sy’n gweithredu unrhyw wasanaeth yn y gymuned.
 
Rwy’n credu taw hynny oedd popeth. Mae sawl un wedi sôn am yr amser y mae wedi’i hala i ddod i’r sefyllfa hon. Wrth gwrs, rydym wedi gorfod sefydlu’r comisiynydd a sefydlu’r tribiwnlys. Mae’n wir i ddweud y bydd gwaith i’w wneud yn y dyfodol er mwyn gwella’r Mesur ei hun, o gofio’r ffaith bod y Mesur wedi cael ei greu mewn cyfnod cyfreithiol gwahanol o gymharu â nawr. Mae’n bwysig dros ben hefyd, wrth gwrs, bod ymgynghori yn digwydd gyda chyrff. Y pwynt arall a gafodd ei godi gan Suzy Davies oedd ynghylch pa gyfle oedd gan y cyrff hyn—y 32—i roi sylwadau ynglŷn â’u sefyllfa nhw, o gofio’r ffaith nad oes unrhyw ymgynghori ffurfiol wedi digwydd. Wel, fe wnaeth y 32 corff ymateb i ymchwiliad safonau’r comisiynydd. Bydd cyfle arall iddynt i ddatgan eu barn pan fydd y comisiynydd yn ymgynghori ar yr hysbysiad cydymffurfio cyn gosod safonau arnynt. Wrth gwrs, mae proses, fel mae sawl Aelod wedi sôn, o apêl. Wrth gwrs, nid yw’r rheoliadau eu hunain yn anghyfarwydd, o gofio’r ffaith eu bod wedi’u hadeiladu ar sail y set gyntaf o reoliadau. Felly, byddant yn gyfarwydd iawn i’r cyrff hyn o ran pa fath o ddyletswyddau y byddant yn gorfod eu gweithredu, o weld beth sydd wedi digwydd nid dim ond yn Neddf 1993, ond hefyd yn y rheoliadau cyntaf a gafodd eu gwneud sawl mis yn ôl. Felly, rwy’n symud unwaith eto y rheoliadau hyn, a’r newidiadau i Atodlen 6 i’r Mesur, o flaen y Cynulliad.
 
15:05
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Y cynnig yw derbyn y cynnig o dan eitem 3. A oes unrhyw un yn gwrthwynebu? Dim gwrthwynebiad, felly mae'r cynnig o dan eitem 3 wedi ei dderbyn.
 
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
 
15:05
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Y cynnig yw derbyn y cynnig o dan eitem 4. A oes unrhyw un yn gwrthwynebu? Dim gwrthwynebiad, felly mae'r cynnig o dan eitem 4 wedi ei dderbyn.
 
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
 
15:05
5. Gorchymyn Deddf Tai 1985 (Diwygio Atodlen 2A) (Troseddau Difrifol) (Cymru) 2016
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at eitem 5, sef Gorchymyn Deddf Tai 1985 (Diwygio Atodlen 2A) (Troseddau Difrifol) (Cymru), a galwaf ar y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi i gynnig y cynnig—Lesley Griffiths.
 
Cynnig NDM5948 Jane Hutt
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
 
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Deddf Tai 1985 (Diwygio Atodlen 2A) (Troseddau Difrifol) (Cymru) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Tachwedd 2015.
 
Cynigiwyd y cynnig.
 
15:05
Lesley GriffithsBywgraffiadY Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o gyflwyno’r cynnig hwn ar Orchymyn Deddf Tai 1985 (Diwygio Atodlen 2A) (Troseddau Difrifol) (Cymru) 2016. Mae adran 84A Deddf Tai 1985 yn darparu ar gyfer meddiant annedd sy'n destun tenantiaeth ddiogel ar sail ymddygiad gwrthgymdeithasol difrifol. Mae Sail 7(a) yn Rhan I Atodlen 2 i Ddeddf Tai 1988 yn darparu sail gyfatebol am feddiant ar gyfer tenantiaethau sicr. Mae'r ddwy sail dros feddiannu ar sail ymddygiad gwrthgymdeithasol difrifol yn cyfeirio at euogfarn am drosedd ddifrifol. Mae'r troseddau difrifol wedi’u rhestru yn Atodlen 2A o Ddeddf 1985.
 
Mae'r diwygiadau a wneir gan y Gorchymyn hwn yn bwysig. Byddent yn caniatáu i landlord geisio meddiant ar y sail bod tenant wedi cyflawni trosedd caethwasiaeth, caethwasanaeth, llafur dan orfod neu orfodol neu drosedd masnachu mewn pobl, cyn belled â bod meini prawf eraill ar gyfer ceisio meddiant o dan y sail hon wedi’u bodloni. Mae Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 yn cydgrynhoi ac yn symleiddio troseddau presennol caethwasiaeth a masnachu pobl mewn un darn o ddeddfwriaeth i ddarparu eglurder a phwyslais wrth erlyn pobl sy'n ymwneud â chaethwasiaeth a masnachu. Mae'r Ddeddf yn cynnwys pecyn o ddiwygiadau cyfreithiol sydd wedi'u cynllunio i wella ymatebion i orfodi'r gyfraith, ac i sicrhau bod goroeswyr yn cael eu diogelu a’u cynorthwyo yn y modd gorau posibl. Mae Rhan 1 y Ddeddf Caethwasiaeth Fodern yn atgyfnerthu ac yn egluro troseddau presennol caethwasiaeth a masnachu pobl a hefyd yn cynyddu'r gosb uchaf am droseddau o'r fath. Yng ngoleuni cyflwyno’r troseddau hyn, mae angen diweddaru’r rhestr o droseddau difrifol sy'n sail i feddiannu tŷ annedd ar sail ymddygiad gwrthgymdeithasol difrifol. Byddwn yn croesawu cefnogaeth yr Aelodau i roi’r Gorchymyn hwn ar waith. Diolch.
 
15:07
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Nid oes gennyf siaradwyr, felly awn yn syth at y bleidlais. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid oes gwrthwynebiadau. Felly, mae wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
 
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
 
15:07
Datganiad y Gweinidog ynghylch Cydsyniad y Frenhines Ei Mawrhydi a Dug Cernyw
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Nawr rwy'n mynd i ofyn i'r Dirprwy Weinidog wneud datganiad am gydsyniad y Frenhines a Dug Cernyw. Ken Skates.
 
15:08
Kenneth SkatesBywgraffiadY Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
Diolch. Mae gen i orchymyn gan Ei Mawrhydi y Frenhines a Dug Cernyw i roi gwybod i'r Cynulliad, ar ôl cael gwybod am berwyl Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), eu bod ill dau wedi rhoi eu cydsyniad i’r Bil hwn.
 
15:08
6. Dadl Cyfnod 4 ar Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at eitem 6, sef Cyfnod 4 Bil yr amgylchedd hanesyddol. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i gynnig y cynnig—Ken Skates.
 
Cynnig NDM5955 Kenneth Skates
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
 
Yn cymeradwyo Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru).
 
Cynigiwyd y cynnig.
 
15:08
Kenneth SkatesBywgraffiadY Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
Diolch, Lywydd. Heddiw, rwy'n gofyn am eich cymeradwyaeth i'r Bil Amgylchedd Hanesyddol (Cymru). Bydd nifer o’i fesurau’n rhoi Cymru ar y blaen i wledydd eraill y DU o ran gofalu am yr amgylchedd hanesyddol. Rwy'n ddiolchgar am gymorth gweithredol rhanddeiliaid a'r cyhoedd yn gyffredinol. Yn arbennig, mae'r Bil wedi elwa ar arbenigedd aelodau o'r grŵp cyfeirio allanol.
 
O ganlyniad, roedd y Bil a gyflwynais ym mis Mai y llynedd yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn a dealltwriaeth glir o anghenion y sector a'r heriau y mae'n eu hwynebu. Mae hefyd wedi cael ei fireinio a'i gryfhau yn ystod ei daith drwy'r Cynulliad, ac am hyn rwy’n ddiolchgar i Gadeiryddion ac Aelodau'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol a’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a hefyd y Pwyllgor Cyllid, am eu hystyriaeth drylwyr. Hoffwn hefyd ddiolch i swyddogion Comisiwn y Cynulliad ac, wrth gwrs, i fy swyddogion i am eu gwaith caled ar ddatblygu a phasio’r Bil. Mae llefarwyr treftadaeth y gwrthbleidiau hefyd wedi bod yn barod iawn i gymryd rhan, yn aml mewn trafodaethau agored am y Bil a'i ddarpariaethau. Rwyf wedi gwrando'n ofalus ar y dadleuon yn ystod craffu ac wedi cyflwyno gwelliannau gan y Llywodraeth, neu wedi cefnogi gwelliannau a gyflwynwyd gan Aelodau eraill, lle’r wyf wedi teimlo y byddant yn dod â gwelliannau. O ganlyniad, Cymru fydd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i fod â rhestr genedlaethol statudol o enwau lleoedd hanesyddol, a fydd yn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o werth a phwysigrwydd y rhan unigryw hon o'n treftadaeth.
 
Cymru hefyd fydd y cyntaf i gadw cofnodion statudol o’r amgylchedd hanesyddol. Mae angen i bob penderfyniad rheoli da fod yn seiliedig ar wybodaeth awdurdodol a manwl. Bydd y cofnodion hyn a’r rhestr o enwau lleoedd hanesyddol yn helpu ein cyrff cyhoeddus allweddol i wneud penderfyniadau doeth am newidiadau a fydd yn effeithio ar ein hamgylchedd hanesyddol.
 
Mae'r Bil hefyd yn rhoi pwerau newydd i awdurdodau i gymryd camau brys pan fo adeiladau’n dadfeilio. Gwn fod llawer o Aelodau yn rhannu fy mhryder ynghylch colli adeiladau hanesyddol nodedig. Pan wnes i gydnabod yr hoffai’r Cynulliad i’r Bil fynd hyd yn oed ymhellach, roeddwn yn falch o gefnogi gwelliant Peter Black i ganiatáu datblygu system o hysbysiadau cadwraeth. Bydd hyn yn rhoi cyfle pwysig i sefydlu fframwaith cyfreithiol i weithredu yn dilyn ymgynghoriad.
 
Rwy’n sylweddoli na fydd y Bil yn datrys pob un o'r heriau cymhleth sy'n wynebu'r amgylchedd hanesyddol. Mae llawer o'r hyn sydd ei angen hefyd yn ymwneud ag adnoddau a phartneriaeth, na ellir ymdrin â hwy’n uniongyrchol drwy ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, fy amcan drwy gydol y broses oedd darparu mwy o atebolrwydd a gwarchodaeth fwy effeithiol a chymesur, pan fo angen hynny a phan ei fod yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn.
 
Yn ystod y ddadl, clywsom hefyd fynegiadau angerddol am yr angen inni ddod o hyd i ffyrdd newydd o ddefnyddio adeiladau fel, wrth gwrs, capeli nad ydynt o reidrwydd o bwysigrwydd cenedlaethol ond sy’n annwyl gan lawer o bobl yn ein cymunedau lleol. Nid mwy o gamau diogelu yw’r ateb bob amser; yn wir, gall hynny arwain at ganlyniadau annymunol. Felly, yn lle hynny, mae angen inni ddatblygu ffyrdd newydd i gyrff cyhoeddus weithio gyda chymunedau a'r sector preifat a'r trydydd sector i ddod o hyd i ddyfodol hyfyw i’r adeiladau hyn—adeiladau sy'n parhau i fod yn rhan hanfodol o economi a chymdeithas Cymru.
 
Un enghraifft yw fforwm newydd i fwrw ymlaen â'r cynllun gweithredu strategol ar gyfer mannau addoli hanesyddol yng Nghymru. Gall deddfwriaeth ddarparu sail i weithredu unedig o'r fath ac rwy'n edrych ymlaen at weld y ddeddfwriaeth hon yn galluogi ac yn annog ymdrech ar y cyd i gynyddu’r gwerth a roddwn ar ein treftadaeth yng Nghymru.
 
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Melding) i’r Gadair.
 
15:12
Suzy DaviesBywgraffiad
Ddirprwy Weinidog, rwy’n gobeithio na fydd ots gennych os dechreuaf drwy gynnig fy niolch i staff y Comisiwn polisi a deddfwriaeth sydd wedi helpu Aelodau'r wrthblaid i weithio gyda’r Bil hwn. Mae wedi bod yn Fil anodd i geisio ei ddiwygio, fel y credaf ein bod wedi’i ddweud yng Nghyfnod 3. Ond, roeddwn eisiau rhoi hynny ar y cofnod.
 
Rwyf hefyd yn diolch i chi, wrth gwrs, Ddirprwy Weinidog, unwaith eto am gadw eich drws ar agor wrth ddatblygu'r Bil hwn. Ni weithiodd cystal i ni fel Ceidwadwyr rhwng Cyfnodau 2 a 3, ac rwy'n sicr hyd yn oed nawr y gallem fod wedi datrys gwahaniaethau ynglŷn â maint pridiannau tir lleol, er enghraifft, pe byddem wedi cael cyfle i siarad â’n gilydd am hynny.
 
Rwy’n sylweddoli, wrth gwrs, mai rhan o'ch cymhelliant ar y polisi drws agored yw bod angen y niferoedd arnoch. Ond, serch hynny mae i'w ganmol i Weinidogion eraill fel arfer gorau ac rwy’n gobeithio y bydd hynny’n parhau yn y Cynulliad nesaf.
 
O ran y niferoedd, rwy’n amau ​​y byddwch wedi cyflawni hynny. Ond, rwy’n gresynu na fydd gennych gefnogaeth y Ceidwadwyr Cymreig, mae arnaf ofn. Fel y gwyddoch, rydym wedi cynnig ein cefnogaeth drwy gydol datblygiad y ddeddfwriaeth hon, er ein bod wedi eich dwyn i gyfrif yn briodol ar fformat y Bil hwn. Mae'n parhau i fod bron yn anhreiddiadwy i'r cyhoedd yn gyffredinol ac mae'n ffynhonnell o rwystredigaeth i'r rhai hynny ohonom sydd efallai ychydig yn fwy cyfarwydd â gweithio gyda statudau. Roedd gennym hefyd amheuon ynghylch y grŵp cynghori, er enghraifft. Ond, rwy'n meddwl y gallem fod wedi cytuno â hynny i gyd.
 
Ond, gwnaethoch ein colli ar fater y baich profi. Rydych yn gwybod pa mor agos oedd y bleidlais ac roeddech yn gwybod bod hwn yn fater llinell goch inni. Nid wyf am sôn am hynny eto heddiw, ond rwy’n dal i feddwl eich bod yn anghywir o ran cydbwyso gwarchod ein treftadaeth werthfawr ac amddiffyn yr egwyddor o ddieuog hyd nes y profir yn euog. Yn fy marn i, does dim modd caboli’r smotyn hwn allan i weld y bwriadau da oddi tano. Mae wedi difwyno’r Bil, ac rwy'n credu y bydd yn difwyno’r gyfraith.
 
15:14
Bethan JenkinsBywgraffiad
Yn gyntaf oll, hoffwn barhau yn yr un modd ag y dechreuodd Suzy drwy ddiolch i dîm y Comisiwn, yn enwedig y tîm deddfwriaethol a helpodd fi i ddrafftio gwelliannau. Roedd yn Fil anodd iawn yn yr ystyr hwnnw, oherwydd roedd yn rhaid inni edrych ar wahanol ddarnau o ddeddfwriaeth. Rwy’n credu mai dyna yw fy mhwynt. Yn hyn o beth, mae Llywodraeth Cymru wedi cael pum mlynedd ar gyfer Bil atgyfnerthu. Cawsom gyngor arbenigol gan bobl cynllunio a ddaeth i'r Cynulliad, i'r pwyllgor, gan ddweud y bydd angen ei gyfuno’n nes ymlaen beth bynnag, ac yr wyf hefyd wedi cael negeseuon e-bost yn gofyn am gyfarfodydd ynglŷn â rhai o'r syniadau y gwnes eu cyflwyno mewn gwelliannau yn ymwneud â grantiau posibl i bobl i allu diweddaru eu hadeiladau, oherwydd maent eisoes wedi cydnabod wrthyf na chafodd hynny sylw llawn yn y Bil hwn. Felly, onid yw'n drasig, felly, ein bod ni yma'n trafod rhoi rhyw fath o stamp ar y Bil hwn pan fo llawer iawn o faterion heb gael sylw o hyd? Iawn, mae croeso i restr o enwau Cymraeg, ond gallem fod wedi gwella hynny. Sut y gallwn roi’r warchodaeth honno, â dim ond rhestr? Mae angen inni roi pethau ar waith a fydd yn sicrhau y caiff ei monitro'n effeithiol.
 
Mae Suzy yn fwy caredig na mi, rwy’n meddwl. Mae hi'n dweud y bu gan y Gweinidog bolisi drws agored, ond mae’n rhaid nad oeddwn y siâp cywir i’r drws hwnnw, oherwydd nid oedd yn ymddangos bod fy ngwelliannau i’n cael rhyw lawer o ddylanwad ar y Gweinidog, er bod llawer o'r hyn yr oeddem yn ei wneud yn ymwneud â mwy o atebolrwydd—[Torri ar draws.] Roedd yn ymwneud â mwy o atebolrwydd, roedd yn ymwneud â cheisio sicrhau bod y lle hwn yn gweld llawer o'r hyn a oedd yn digwydd o fewn y sector. Efallai na fydd ACau eraill wedi edrych ar hyn gymaint â mi, ond mae'r eithriadau’n rhywbeth pwysig iawn imi. Cefais wybod bod llawer o enwadau nad ydynt, yn syml, yn rhan o'r strwythurau Cadw presennol, ac felly roeddwn am gynnig yr adolygiad hwnnw fel y gallwn o leiaf eu dwyn i gyfrif am y prosesau adolygu sydd ganddynt ar waith, y mae’n rhaid i bobl eraill eu dwyn ymlaen. Mae'r un peth yn wir am welliannau eraill y gwnes eu cyflwyno—yn y bôn, dim ond i geisio galw am adolygiadau a monitro yn y lle hwn. Nid wyf yn meddwl eu bod yn radical; nid wyf yn meddwl eu bod yn gynhennus. Felly, rwy’n meddwl, er na fyddwn yn gwrthwynebu'r Bil hwn, y bydd Plaid Cymru yn ymatal. Rwy'n meddwl ei fod yn colli cyfle i wneud newid radical yn y sector. Os ydych am ryddhau datganiad i'r wasg i ddweud, 'Rydym wedi cwblhau ein holl gyfreithiau yn y tymor hwn'; wel, byddai'n well gen i gael cyfreithiau effeithiol sydd wedi'u datblygu'n dda yn hytrach na dim ond darn o bapur. Gwnaf ddweud wrthych y byddwn yn ôl yma—hyd yn oed os nad fi, bydd Aelodau'r Cynulliad yn ôl yma yn edrych ar y mater hwn eto gan na chafodd flaenoriaeth o fewn Llywodraeth Cymru fel y dylai fod wedi’i chael, a dylech fod wedi ymladd am hynny, Weinidog.
 
15:17
Peter BlackBywgraffiad
Yn amlwg, mae ein treftadaeth hanesyddol yn llawn o ddrysau â siapiau gwahanol iawn. Roeddwn yn falch o gael cydweithrediad y Gweinidog, nid yn unig o ran rhai o'r gwelliannau y gwnes i eu cyflwyno, ond hefyd, fel Aelodau eraill, hoffwn ddiolch iddo ef a'i dîm Bil, ac wrth gwrs tîm y Comisiwn, am weithio mor galed ar y Bil hwn, a oedd, rwy’n credu, yn Fil anodd am y rheswm syml nad oedd yn ceisio atgyfnerthu'r gyfraith—credaf fod Suzy Davies ac eraill wedi gwneud y pwynt hwnnw. Oherwydd hynny, roedd gweithio gyda'r gwahanol gymalau yn arbennig o anodd. Rwy'n meddwl bod cymalau o fewn is-gymalau o fewn is-gymalau mewn llawer o achosion, ac mae'n anodd iawn, rwy’n meddwl, cael darlun clir, wrth edrych ar y Bil, o’r hyn yn union yr ydym wedi'i wneud.
 
Fodd bynnag, rwy’n falch iawn ein bod wedi cael o leiaf un consesiwn gan y Gweinidog o ran esgeuluso adeiladau gwag. Helpodd y Gweinidog fi i ailddrafftio rhai o fy ngwelliannau fy hun o ran galw perchnogion i gyfrif os caiff adeiladau gwag eu hesgeuluso’n fwriadol. Credaf fod gennym nawr bŵer i wneud rheoliadau, a byddwn yn annog y Gweinidog i roi rhywfaint o sicrwydd y bydd yn edrych—a gobeithio y bydd ei olynwyr yn edrych—ar ddefnyddio’r pŵer rheoleiddio hwnnw i'r effaith fwyaf, i sicrhau nid yn unig bod awdurdodau lleol yn cyhoeddi hysbysiadau cadw, ond bod ganddynt bwerau i ddirwyo perchnogion pan nad ydynt yn cydymffurfio â’r hysbysiadau hynny ac y ceir achos clir o esgeulustod bwriadol. Rwy'n meddwl bod hynny'n gwbl hanfodol, oherwydd rwy’n meddwl mai un o'r problemau mwyaf sydd gennym—a cheir enghreifftiau o hyn ledled Cymru—yw adeiladau sydd wedi'u rhestru fel rhai o ddiddordeb hanesyddol sydd wedi cael eu gadael i ddadfeilio—yn fwriadol mewn llawer o achosion—nes eu bod yn y diwedd yn llosgi i lawr ac yn troi’n adfail ac, mewn rhai achosion, yn ddim ond darn o dir wedi’i glirio. Rwy’n meddwl bod angen inni wneud llawer mwy i geisio helpu awdurdodau lleol a pherchnogion i ganfod ffyrdd o ddefnyddio’r eiddo hwnnw, ac rwy’n meddwl ei bod yn bosibl iawn bod hynny’n rhywbeth y bydd angen edrych arno eto yn y Cynulliad nesaf. Ond, yn sicr, rwy’n credu bod y pŵer hwnnw yno, ac y gallai'r Gweinidog ei ddefnyddio pe byddai angen.
 
Weinidog, rwy'n falch iawn y bydd y panel cynghori—er nad wyf o hyd yn gwbl argyhoeddedig bod angen panel cynghori—nawr yn adrodd yn flynyddol; rwy’n meddwl bod hynny’n welliant da arall yn rhan o hyn, a hefyd, wrth gwrs, bod dyletswydd i ymgynghori ar bartneriaethau treftadaeth hefyd.
 
Yr un gofid sydd gennyf—ac mae hyn yn rhywbeth y hoffwn ailedrych arno mewn Cynulliad yn y dyfodol—yw adeiladau o ddiddordeb lleol arbennig. Rwy’n credu ein bod wedi cael trafodaeth eithaf diddorol am y gwelliannau hynny yng Nghyfnod 3, yn enwedig adeiladau fel y Vulcan ac adeiladau eraill o'r fath nad oedd yn haeddu eu rhestru'n hanesyddol, ond sy’n amlwg yn ffurfio rhan o wead cymdeithasol cymuned. Rwy’n meddwl bod angen inni edrych ar sut y gallwn wneud mwy i warchod y mathau hynny o adeiladau. Rwy’n meddwl, fel y dywedodd y Gweinidog ei hun, nad oes digon o dir yn Sain Ffagan i ailadeiladu’r holl adeiladau hynny yno, fel sy’n digwydd â’r Vulcan, ond rwy’n meddwl bod angen inni sicrhau bod rhywbeth yn cael ei wneud i geisio eu diogelu, ac rwy’n gobeithio y gallwn ailystyried hynny. Ond ar y cyfan, rwy’n meddwl bod hwn yn well Bil nawr yng Nghyfnod 4 nag yr oedd pan gafodd ei gyflwyno gyntaf, ac am y rheswm hwnnw, Ddirprwy Lywydd, byddwn yn ei gefnogi.
 
15:20
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
A’r Gweinidog i ateb.
 
15:21
Kenneth SkatesBywgraffiadY Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn wir i'r Aelodau am eu sylwadau. I Suzy Davies, rwy'n ddiolchgar iawn am eich cyngor adeiladol drwy gydol y broses. Nid ydym wedi cytuno bob amser, ond rwyf bob amser wedi parchu eich barn ac mae'n ddrwg gennyf na fydd Ceidwadwyr Cymru’n gallu cefnogi'r Bil. Rhoddwyd ystyriaeth lawn i'r hawl i gael prawf teg wrth ddatblygu darpariaethau’r Bil, ac rwy'n hyderus y bydd gan y darpariaethau nod dilys ac y byddant yn darparu modd cyfiawn a chymesur o gyflawni'r nod hwnnw, heb atal prawf teg.
 
Bethan Jenkins, gallaf eich sicrhau bod y drws o’r maint iawn, a bod fy nrws i, fel fy meddwl, yn agored i chi bob amser. [Torri ar draws.] Siâp; mae'n ddrwg gennyf. Rwy'n ymddiheuro. Roedd fy meddwl bob amser ar agor i’ch barn a’ch awgrymiadau, ond yn anffodus ni fyddai rhai awgrymiadau, fel y dreth ar berchnogion eiddo sy’n adeiladau rhestredig, wedi bod yn deg nac yn briodol, ac mae'n ddrwg gennyf y bydd Plaid Cymru yn ymatal, oherwydd ceir darpariaethau a fydd yn ddiau yn arwain at ddiogelu ein treftadaeth yng Nghymru yn well, ac rwy'n drist iawn na fydd eich plaid yn gallu cefnogi'r darpariaethau hynny.
 
Peter Black, rwy'n ddiolchgar iawn wir am y gefnogaeth a'r cyngor amhrisiadwy yr ydych wedi gallu eu cynnig drwy gydol y broses o ddylunio’r ddeddfwriaeth hon. Mae'n debyg na fyddwch yn dymuno clywed hyn, ond rwy’n meddwl bod eich cyfraniadau wedi bod mor ddefnyddiol â llawer o gyfraniadau’r Aelodau ar fy meinciau fy hun, ac mae wedi bod yn fraint fawr gweithio gyda chi mewn llawer o achosion ar y Bil hwn. Rwy’n gobeithio y gallwn yn wir sicrhau bod adeiladau o ddiddordeb lleol yn cael eu diogelu, nid dim ond gennyf i a fy swyddogion a'r gwaith sy'n digwydd yn fy mhortffolio, ond hefyd ar draws y Llywodraeth a gan Weinidogion eraill.
 
Ddirprwy Lywydd, mae'n rhaid i’r Cynulliad nawr benderfynu a gaiff Cymru ei deddfwriaeth bwrpasol gyntaf ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol. Mae'r Bil yn cynrychioli, yn fy marn i, penllanw proses hir o ddatblygiad, yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn ac ymgysylltu parhaus â’r cyhoedd, â rhanddeiliaid ac ag Aelodau’r Cynulliad hwn. Mae ein hamgylchedd hanesyddol wedi siapio ein hunaniaeth fel cenedl, ac mae'n parhau i fod yn fater hollbwysig i'n dinasyddion a'n cymunedau. Mae'r dadleuon, a fu’n aml yn angerddol, am esgeuluso ein hadeiladau rhestredig, ein henwau lleoedd hanesyddol a’n hadeiladau crefyddol wedi dangos pa mor bwysig yw hyn inni. Bydd y Bil yn helpu i ddiogelu ein safleoedd hanesyddol a drysorir fwyaf. Bydd yn caniatáu inni wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth gadarn a bydd yn caniatáu i’n penderfyniadau fod yn fwy atebol a thryloyw. Yn fyr, bydd yn caniatáu i amgylchedd hanesyddol Cymru barhau i gynnig manteision economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ac yn gwneud cyfraniad parhaol i les Cymru a'i phobl. Felly, rwy’n annog y Cynulliad i basio'r Bil Amgylchedd Hanesyddol (Cymru).
 
15:24
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
 
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio
 
7. Dadl ar Gyllideb Ddrafft 2016-17
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies, a gwelliannau 2, 3 a 4 yn enw Elin Jones.
 
15:24
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Eitem 7 yw’r ddadl ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2016-17. Galwaf ar Weinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth i gynnig y cynnig. Jane Hutt.
 
Cynnig NDM5947 Jane Hutt
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:
 
Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol 2016-2017 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth ar 8 Rhagfyr 2015.
 
Cynigiwyd y cynnig.
 
15:24
Jane HuttBywgraffiadY Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
Ddirprwy Lywydd, croesawaf y cyfle heddiw i drafod ein cyllideb ddrafft, 'Cymru Decach, Cymru Well—Buddsoddi at y Dyfodol'. Mae’r ddadl hon yn canolbwyntio ar ein cynlluniau gwario yn y dyfodol, ond rwyf hefyd yn cyhoeddi’n nes ymlaen heddiw yr ail gyllideb atodol ar gyfer 2015-16, sy'n nodi'r ffigurau cyllideb diweddaraf a’r dyraniadau ar gyfer y flwyddyn ariannol hon ar gyfer dadl ddechrau mis Mawrth.
 
Mae ein cyllideb ddrafft yn nodi ffordd glir ymlaen i Gymru. Rydym yn cadw at ein hegwyddorion fel Llywodraeth Lafur Cymru drwy roi ein gwasanaethau cyhoeddus yn gyntaf a’u rhoi ar sail gynaliadwy i ddiogelu a gwella'r gwasanaethau sydd bwysicaf i bobl Cymru.
 
Mae gan y gyllideb ddrafft hon nifer o nodweddion gwahaniaethol. Rydym wedi dyrannu bron i £300 miliwn yn ychwanegol i GIG Cymru, sydd hefyd wedi darparu £30 miliwn ychwanegol o gyllid i’r gronfa gofal canolraddol i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mwy integredig, a heddiw cyhoeddwyd cyfalaf ychwanegol o £10 miliwn i’r gronfa gofal canolraddol ar gyfer cyfleusterau llai dwys ac ailalluogi. Rydym yn rhoi £30 miliwn i mewn i wasanaethau i bobl hŷn a gwasanaethau iechyd meddwl, a £21 miliwn ychwanegol i lywodraeth leol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol. Mae'r buddsoddiad hwn yn ein gosod ar wahân yn glir yng nghyd-destun cyllid cyhoeddus y DU; mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod ein gwariant cyfunol ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol 7 y cant yn uwch y pen nag yn Lloegr.
 
Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid, ac yn wir i holl bwyllgorau'r Cynulliad, am eu gwaith, sydd wedi’i gywasgu i amserlen fer oherwydd bod yr adolygiad o wariant Llywodraeth y DU yn hwyr. Byddaf, wrth gwrs, yn ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyllid maes o law. Ond, Ddirprwy Lywydd, mae'n glir bod bod yn bendant am ein blaenoriaethau ar gyfer y gyllideb hon wedi effeithio ar feysydd eraill yn y gyllideb. Mae'r asesiad o’r effaith integredig strategol yn amlinellu effeithiau allweddol a sut y byddwn yn ceisio eu lliniaru. Gadewch imi atgoffa’r Aelodau ein bod i gyd wedi wynebu ansicrwydd wrth aros am y setliad. Er gwaethaf yr amserlen heriol, cyhoeddwyd cyllideb ddrafft gennym o fewn pythefnos i'r adolygiad o wariant, gan ddarparu eglurder a sicrwydd cynnar i’n partneriaid. Ond mae ein cyllideb wedi cael gostyngiad o 3.6 y cant mewn termau real dros y pedair blynedd nesaf a bydd ein cyllideb 11 y cant yn is erbyn diwedd y degawd nag yr oedd yn 2010. Mae adolygiad gwariant y Canghellor wedi methu â nodi diwedd i gyni. Yn wir, mae'n bell o fod drosodd, ac mae toriadau i gyllideb Cymru yr un mor debygol ar gyfer y dyfodol ag y buont yn y gorffennol.
 
Ar ôl i ni gyhoeddi ein cynlluniau, ymatebodd ein partneriaid yn gadarnhaol ar unwaith. Dywedodd Conffederasiwn GIG Cymru:
 
'Rydym yn croesawu'r cynnydd yn y gwariant ar iechyd a gynigiwyd yn y gyllideb ddrafft heddiw.... Mewn cyfnod o gyni, ynghyd â mwy o alw, cynnydd yng nghostau darparu gwasanaethau a disgwyliad dealladwy i barhau i wella ansawdd a diogelwch, mae GIG Cymru yn wynebu her ariannol sylweddol.'
 
Wrth ymateb i'n cyllideb ddrafft, dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton:
 
Rydym hefyd yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddiogelu gwasanaethau fel addysg a gofal cymdeithasol. Mae hyn yn cydnabod yr alwad gref a wnaed gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am gydnabyddiaeth i gyfraniad pwysig y gwasanaethau a redir gan gynghorau tuag at leihau pwysau costus mewn gwasanaethau cyhoeddus eraill fel y GIG.
 
Rydym yn buddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus oherwydd mae’r dystiolaeth yn dweud wrthym y rhagamcanir y bydd nifer y bobl dros 65 a nifer y bobl ifanc yn cynyddu, gan nodi pwysau a fydd yn effeithio ar ein hysgolion ac ar ein hiechyd ac ar ein gwasanaethau cymdeithasol. Mae gennym gyfrifoldeb a dyletswydd i ymateb.
 
I gynnal ein hymrwymiad i unioni anghydraddoldebau mewn cyrhaeddiad addysgol, bydd bron i £35 miliwn o'r £40 miliwn o gyllid ychwanegol a ddarperir i ysgolion hefyd yn cael ei ariannu drwy'r grant cynnal refeniw. Rydym hefyd wedi cynyddu’r buddsoddiad yn y grant amddifadedd disgyblion, yn unol â'r cytundeb cyllideb gyda Democratiaid Rhyddfrydol Cymru. Rydym yn diogelu addysg bellach, gyda £5 miliwn yn fwy i greu 2,500 o brentisiaethau. Ychydig dros bythefnos yn ôl, dywedodd pennaeth Coleg Pen-y-bont ar Ogwr:
 
'Mae'n galonogol iawn, yn ystod cyfnod anodd fel hwn, bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad 5 miliwn ychwanegol yn y gyllideb prentisiaethau.'
 
Rydym yn dal i fod yn ymrwymedig i wario ar wasanaethau a rhaglenni a all naill ai atal problemau rhag digwydd neu atal problemau rhag gwaethygu, a dyna pam yr ydym wedi diogelu ein buddion cyffredinol, gan gadw cyllidebau Dechrau'n Deg, Cymunedau yn Gyntaf a Chefnogi Pobl ar yr un lefel â’r flwyddyn ddiwethaf.
 
Er ein bod wedi cael cynnydd bach yn ein cyllideb cyfalaf ar gyfer y flwyddyn nesaf, mae'n methu â lliniaru'r toriadau yr ydym wedi’u cael yn y blynyddoedd blaenorol. Fodd bynnag, mae ein hanes o gyflawni ar draws cyfres eang o ddangosyddion economaidd yn dangos ein bod yn iawn i fuddsoddi mewn swyddi a thwf economaidd, ac rwy'n cyhoeddi heddiw hwb cyfalaf pellach o £120 miliwn ar gyfer 2016-17 i gefnogi ein blaenoriaethau buddsoddi a nodir yn ein cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru. Mae hyn yn adeiladu ar y £230 miliwn ychwanegol a nodwyd eisoes yn y gyllideb ddrafft, ond mae'r arian newydd yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw yn cefnogi buddsoddiad ar draws nifer o sectorau, gan gynnwys £50 miliwn ar gyfer prosiectau trafnidiaeth blaenoriaeth, £20 miliwn i gefnogi cyflenwad tai ac adfywio, y £10 miliwn yr wyf wedi sôn amdano i’r gronfa gofal canolraddol i gefnogi byw'n annibynnol, £20 miliwn i gefnogi buddsoddiad cyfalaf yn y gwasanaeth iechyd, yn benodol £10 miliwn ar gyfer ambiwlansys newydd a £10 miliwn ar gyfer gwasanaethau newyddenedigol. Mae gan yr arian ychwanegol hwn y potensial i greu tua 2,000 o swyddi yn gysylltiedig â'r camau adeiladu, gan gynnal twf economaidd yn y tymor byr a'r tymor hir. Gyda'r cyllid a gyhoeddwyd heddiw, rydym wedi dyrannu £1.6 biliwn ychwanegol o arian ar ben cyllidebau adrannol craidd i gefnogi prosiectau blaenoriaeth drwy'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, a hefyd, wrth gwrs, wedi defnyddio ystod o ddulliau cyllid arloesol i roi hwb i'n hadnoddau.
 
Ddirprwy Lywydd, rydym wedi gwrando'n ofalus ar y sylwadau a wnaethpwyd am y dystiolaeth o effeithiau rhai penderfyniadau cyllidebol, ac, o ganlyniad, heddiw rwy’n cyhoeddi’r addasiadau canlynol i'n cynlluniau. Roedd y setliad grant cynnal refeniw dros dro yn arwydd clir o gryfder ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau lleol. Ar gyfartaledd o 1.4 y cant, roedd y gostyngiad yn llawer is na'r hyn a ragwelwyd. Ar ôl adolygu'r dystiolaeth gan awdurdodau lleol am y pwysau sy’n eu hwynebu, rwy’n gwneud dyraniad ychwanegol o £2.5 miliwn o'r cronfeydd wrth gefn i gefnogi cynghorau Powys, Ceredigion a Sir Fynwy, a dim ond i’r tri awdurdod hyn y bydd y dyraniad penodol hwn ar gael.
 
Mae'r newid arfaethedig i gyllideb Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru hefyd wedi ei godi yn ystod y cyfnod craffu, ac rydym wedi bod yn glir bod hyn yn cynnwys dwy elfen: yn gyntaf, £21.1 miliwn yw elfen olaf trosglwyddo’r grant ffioedd dysgu o CCAUC i Lywodraeth Cymru, yn unol â chynlluniau y cytunwyd arnynt yn flaenorol. Ond, yn dilyn trafodaethau pellach gyda'r sector, rydym wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen â'r trosglwyddiad hwn ar gyfer 2016-17, ac adlewyrchir yr addasiad hwn yn ein cyllideb derfynol. Cyn belled ag y mae cyllidebau rhaglenni CCAUC dan sylw, y myfyrwyr fu ein blaenoriaeth bob amser, i sicrhau bod pawb sydd â'r potensial i gael budd yn gallu cael mynediad i addysg uwch, waeth beth fo'u hamgylchiadau na’u dull astudio. Yn unol â'n hamcanion, rwy’n clustnodi £10 miliwn o arian ychwanegol i’w gario ymlaen i 2016-17, a defnyddir £5 miliwn o hwnnw i gefnogi darpariaeth ran-amser. A £5 miliwn hefyd fel y gallwn barhau i adeiladu ein gallu a’n rhagoriaeth yng Nghymru, gan gynnwys ymchwil gwyddonol o safon fyd-eang—un arall o flaenoriaethau allweddol y Llywodraeth Cymru hon.
 
Mae Ken Skates eisoes wedi cyhoeddi cynlluniau i newid y toriad a gynlluniwyd i Gyngor Llyfrau Cymru, ond, Ddirprwy Lywydd, mae craffu ar ein cyllideb ddrafft eleni eto wedi tynnu sylw at yr her o gyflawni blaenoriaethau ar gyfer Cymru decach, a gwell pan fo cyllidebau’n gostwng. Pan oeddem o’r farn bod y dystiolaeth honno’n rymus, rydym wedi gwneud rhai addasiadau i'n cynlluniau gwariant i gefnogi ein blaenoriaethau. Ddirprwy Lywydd, ni fyddwn yn cefnogi'r gwelliannau; rydym yn hyderus mai ein cynlluniau ni yw'r cynlluniau cywir i fuddsoddi yn nyfodol Cymru: ffordd glir ymlaen, cefnogi twf swyddi a'r gwasanaethau sy'n golygu fwyaf i bobl Cymru. Cynigiaf y cynnig cyllideb ddrafft.
 
15:33
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Jocelyn Davies.
 
15:33
Jocelyn DaviesBywgraffiad
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Eleni, roedd craffu ar y gyllideb ddrafft yn hwyrach nag arfer, ac, wrth gwrs, caniataodd hyn i’r Pwyllgor Cyllid gynnal ymgynghoriad ar y ffigurau gwirioneddol yn y gyllideb ddrafft, a fu’n ddull llwyddiannus, gan arwain at y nifer fwyaf o ymatebion a gafwyd i unrhyw ymgynghoriad cyllideb yn ystod y Cynulliad hwn. Felly, roedd yn ddefnyddiol iawn i’n hystyriaeth o'r gyllideb ddrafft ein bod wedi cael cynifer o ymatebion gwybodus. Nawr, roedd y pwyllgor yn ymwybodol, wrth ystyried y gyllideb ddrafft, ein bod yn craffu ar wariant a fydd yn digwydd yn y pumed Cynulliad, ac mai’r Llywodraeth nesaf fydd yn ei gyflawni. Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys nifer o gasgliadau ac argymhellion, ac rwy'n siŵr y byddwch yn falch o glywed na fyddaf yn sôn amdanynt i gyd yn fy nghyfraniad y prynhawn yma, ond rwy’n argymell yn gryf bod Llywodraeth Cymru yn derbyn pob un ohonynt.
 
Nawr, y llynedd, un o brif bynciau gwaith craffu’r pwyllgor ar y gyllideb oedd y cynnydd yn y dyraniad cyllid i'r gwasanaeth iechyd, a gwelsom hynny’n parhau eleni. Dywedodd y Gweinidog wrthym fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ar y cyd mai iechyd fyddai’r flaenoriaeth, ac, wrth gwrs, nid lle’r pwyllgor yw cwestiynu blaenoriaethau'r Llywodraeth, ond rydym yn cwestiynu’r cynnydd yn y dyraniad i iechyd, gan nad yw’n ymddangos bod llawer o dystiolaeth o weddnewid gwasanaethau. Clywsom rai enghreifftiau lleol o'r mentrau sy'n digwydd mewn rhai meysydd iechyd, ond ni chlywsom unrhyw dystiolaeth o ddiwygio gwasanaethau yn ehangach ac yn strategol ar gyfer y tymor hir. Mae'r pwyllgor yn annog y Llywodraeth i nodi sut y caiff gwariant ychwanegol ei ddefnyddio tuag at weddnewid y gwasanaeth.
 
Mae'r dystiolaeth gan dystion llywodraeth leol yn dangos, o gymharu â'r toriadau y buont yn eu disgwyl, eu bod yn gymharol fodlon â’r setliad a gawsant. Fodd bynnag, mae'r pwyllgor yn parhau i fod yn bryderus ynghylch sut y gallai'r toriadau i lywodraeth leol effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau, sydd yna’n effeithio ar y sector iechyd. Yn amlwg, mae lle i'r gwasanaethau ataliol a gynigir gan lywodraeth leol wrth gefnogi gwaith y gwasanaeth iechyd, ac mae'n rhaid ystyried hyn fel ffactor pwysig wrth wneud penderfyniadau am ariannu.
 
Hefyd, rydym yn pryderu y bydd parhau â thoriadau i’r gyllideb yn effeithio'n sylweddol ar wasanaethau anstatudol, fel llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden—gwasanaethau sydd hefyd yn cyfrannu at iechyd a lles pobl Cymru. Rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru edrych ar fecanweithiau darparu amgen a all gefnogi darpariaeth barhaus gwasanaethau anstatudol. Rwy'n siŵr y bydd Ceredigion, Powys a Sir Fynwy wrth eu boddau â’r cyhoeddiad a glywsom heddiw, ond rydym hefyd yn argymell y dylid adolygu'r fformiwla ar gyfer setliadau llywodraeth leol yn sylfaenol, ynghyd â chyflwyno terfyn isaf ariannu i gyfyngu ar y toriadau i awdurdodau unigol er mwyn diogelu darpariaeth gwasanaethau.
 
Nawr, toriadau i addysg uwch oedd y pwnc y cafodd y pwyllgor y mwyaf o dystiolaeth ysgrifenedig amdano. Dangosodd y dystiolaeth y bydd y toriadau arfaethedig yn cael effaith anffafriol ar wasanaethau a gynigir gan brifysgolion Cymru. Mae'n amlwg y byddai'r gostyngiad yn y cyllid yn effeithio ar allu'r prifysgolion i gyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, er enghraifft, ehangu mynediad, astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, astudio rhan-amser, ac ymchwil, ymysg pethau eraill. Felly, mae'r pwyllgor yn argymell adolygu hyn. Yn amlwg, rwyf wedi clywed yr hyn a oedd gan y Gweinidog i'w ddweud y prynhawn yma, ac roeddem yn falch bod y Gweinidog, yn ystod tystiolaeth, wedi ein sicrhau ei bod yn cymryd ein pryderon o ddifrif.
 
Buom hefyd yn edrych ar ddulliau’r Llywodraeth o drechu tlodi, ac rydym yn derbyn nad oes gan Lywodraeth Cymru rai o'r ysgogiadau allweddol y gellir eu defnyddio i leihau tlodi. Ond credwn fod y Llywodraeth yn canolbwyntio gormod ar liniaru tlodi, yn hytrach nag ymdrin â'i achosion gwreiddiol. Felly, mae'r pwyllgor yn argymell bod y Llywodraeth yn hyrwyddo dull mwy cydgysylltiedig o leihau tlodi wrth lunio polisïau, ar draws pob adran.
 
Rydym hefyd yn gwneud ple i gynnal gwasanaethau cam-drin domestig, yn unol â'r warchodaeth a roddir i Cefnogi Pobl yn y gyllideb. Roeddem yn ddifrifol bryderus na fyddai diogelu cyllideb Cefnogi Pobl yn cadw gwasanaethau, gan fod darparwyr yn disgwyl toriad sylweddol iawn, sy’n groes i'r hyn y mae’r gyllideb ddrafft hon yn honni ei ddangos.
 
Yn olaf, hoffwn roi sylw i'r ffordd y mae'r Llywodraeth yn cyflwyno’r gyllideb. Drwy gydol tymor y Cynulliad hwn, rydym wedi gweithio gyda'r Gweinidog i wneud newidiadau cadarnhaol i'r ffordd y cyflwynir cyllidebau. Fodd bynnag, eleni, rydym yn siomedig o weld sut y mae cymariaethau blwyddyn ar ôl blwyddyn wedi eu cyflwyno, ac rydym yn credu bod hyn yn lleihau tryloywder ac yn gwneud y broses o graffu ar wariant Llywodraeth Cymru yn fwy anodd. Byddem yn argymell bod Llywodraethau Cymru yn y dyfodol yn ymgynghori gyda'r Pwyllgor Cyllid wrth wneud newidiadau sylweddol i gyflwyno cyllidebau, er mwyn sicrhau bod craffu effeithiol yn bosibl.
 
Fel bob amser, hoffwn hefyd ddiolch i bawb a ymatebodd i'r ymgynghoriad, er iddo gael ei gynnal dros gyfnod y Nadolig. Mae'r pwyllgor yn ddiolchgar i'r holl unigolion a sefydliadau a roddodd o'u hamser i ymateb. Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth lafar i'r pwyllgor, a hoffwn ddiolch yn arbennig i'r Gweinidog am ei chydweithrediad a’i chydweithio cyson â gwaith y Pwyllgor Cyllid, ac, wrth gwrs, i staff y Comisiwn am eu hymdrechion i’n cefnogi ni.
 
Hon yw cyllideb ddrafft olaf y Cynulliad hwn, a’r gyllideb olaf a ddaw gerbron y Pwyllgor Cyllid gyda mi fel Cadeirydd. Felly, hoffwn i hon fod yn adeg, rwy’n meddwl, i fyfyrio ar ba mor effeithiol y bu ein craffu ar wariant Llywodraeth Cymru, ac, yn wir, mae'n rhaid imi ddweud, a yw wedi arwain at y newidiadau i’r gyllideb? Ac rwy’n meddwl, weithiau, bod hynny'n drueni mawr. Oherwydd mae'n rhaid i hyn fod yn fwy na dim ond proses yr ydym yn ymgymryd â hi’n rheolaidd, ac mae'n rhaid i’r Cynulliad nesaf, rwy’n meddwl, ymdrechu i ddod o hyd i ffordd o sicrhau bod y craffu hwn yn ystyrlon ac yn gynhyrchiol, neu ni fydd unrhyw un yn credu ei fod yn werth chweil. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
 
15:39
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Nick Ramsay i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
 
Gwelliant 1—Paul Davies
 
Dileu pob dim a rhoi yn ei le:
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
 
Yn credu nad yw Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17 yn diwallu anghenion pobl Cymru.
 
Cynigiwyd gwelliant 1.
 
15:39
Nick RamsayBywgraffiad
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ac, fel y mae ein gwelliant yn ei nodi, ni fydd Ceidwadwyr Cymru yn cefnogi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17, y dilyniant i gyllideb rhan 1 Llywodraeth Cymru—Dem Rhydd y llynedd.
 
Fel cynifer o ddilyniannau dros y blynyddoedd, nid yw'n taro’r marc yn llwyr, Weinidog. Gyda chynyddiadau tameidiog mewn iechyd ac addysg, mae'r gyllideb hon yn fwy o ymgais i wneud iawn am danariannu yn y gorffennol na buddsoddiad gwirioneddol yn ein gwasanaethau hanfodol. Hoffwn ganolbwyntio ar iechyd, addysg a llywodraeth leol fel tri phrif faes pryder. Mae'r gyllideb ddrafft yn dangos cynnydd o £245 miliwn mewn gwariant adnoddau ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, diolch i £260 miliwn yn ychwanegol mewn cyllid ar gyfer darparu gwasanaethau craidd y GIG.
 
Fodd bynnag, mae hyn, wrth gwrs, yng nghyd-destun cefndir o bum mlynedd o doriadau gan Lywodraeth Lafur Cymru. Mewn gwirionedd, mae gwariant ar y GIG yng Nghymru wedi gostwng 2.4 y cant ers 2010-11. Wedi'i addasu ar gyfer oedran, mae gwariant ar iechyd fesul pen yng Nghymru yn parhau i fod £50 yn is nag yn Lloegr. Mae Ymddiriedolaeth Nuffield wedi dangos, o ran gwariant y pen am wasanaethau’r GIG, bod Cymru yn gwario £1,875 fesul pen, o'i gymharu â £1,925 dros y ffin yn Lloegr. Mae Ceidwadwyr Cymru wedi rhybuddio Llywodraeth Lafur Cymru yn gyson am y methiant i fuddsoddi’n ddigonol yn y GIG yng Nghymru. Ac nid dim ond ni sy’n dweud hyn. Mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi dweud, 'Pan gawsom y newyddion am ein dyraniad, roeddem yna’n gallu gosod hynny yn erbyn yr holl gostau hyn, ac i ni, cawsom ein gadael ag angen dod o hyd i oddeutu £26 miliwn o arbedion o hyd.'
 
Weinidog, mae un o bob saith o bobl yng Nghymru ar restr aros, mae'r nifer sy'n aros dros 26 wythnos am driniaeth i fyny 70 y cant ers 2011, ac mae nifer y gwelyau gofal critigol yng Nghymru yr isaf yn Ewrop—mae canlyniadau’r toriadau i’r gyllideb iechyd dros y pum mlynedd diwethaf wedi bod yn enfawr.
 
Ac mae pethau'n mynd yn waeth. Fel y mae casgliad 3 adroddiad y Pwyllgor Cyllid yn ei gwneud yn glir, ni chafodd y pwyllgor ddigon o dystiolaeth y bydd cyllid ychwanegol eleni yn arwain at welliannau i wasanaethau a diwygio sylweddol, yn hytrach na dim ond gwneud iawn am orwario. Felly, ceir marc cwestiwn, marc cwestiwn gwirioneddol, ynghylch a yw’r arian hwn yn mynd i gyflawni ei nod. Weinidog, onid yw'n wir nad yw cyllid tameidiog i’r GIG yng Nghymru, fel yr ydym wedi dod i'w ddisgwyl gan y Llywodraeth hon yng Nghymru, cystal â chyllideb GIG wedi’i chyllido'n briodol, a’i hamddiffyn yn briodol? Dyma beth a gawsant yn Lloegr, dyma beth y dylai pobl allu ei ddisgwyl o fyw yma—[Torri ar draws.] Dydych chi ddim yn hoffi clywed y ffeithiau, ond cawsant hynny yno; ni chawsant hynny yma. Pum mlynedd o danwario ac rydych yn meddwl nawr—
 
15:42
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Trefn, trefn. Rydym yn dadlau am y gyllideb ddrafft. Rwyf am glywed yr hyn y mae’r Aelod yn ei ddweud a dylech chithau wrando. Mae'n rhan o'r broses. Nick Ramsay.
 
15:42
Nick RamsayBywgraffiad
Felly, er ein bod yn croesawu mwy o fuddsoddi yn y GIG, mae’r symiau hyn yn gyfystyr â chyfaddefiad o fethiannau blaenorol. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, pum mlynedd o fethiannau blaenorol, o danariannu’r gwasanaeth iechyd hwn. Ni fydd y symiau hyn yn gwneud iawn am doriadau blaenorol. Yn syml, Weinidog, mae'n rhy ychydig, yn rhy hwyr.
 
I droi at addysg a sgiliau, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £10 miliwn ychwanegol i gefnogi myfyrwyr addysg uwch. Mae'n swnio'n wych. Fodd bynnag, fel yr ydym i gyd yn ei wybod, ac mae o leiaf rhai ohonom yn ei gydnabod, mae cost y cymhorthdal ​​ffioedd dysgu ar ei ffurf bresennol yn anghynaladwy. Fel y dywedodd Prifysgol Caerdydd wrth y Pwyllgor Cyllid, tanamcangyfrifodd Llywodraeth Cymru y swm o arian yr oedd ei angen ar gyfer y grant ffioedd dysgu, sydd wedi arwain at drosglwyddo dros £20 miliwn o gyllideb CCAUC i gefnogi dysgwyr ôl-16.
 
Roeddwn yn falch iawn o glywed cyhoeddiad y Gweinidog yn gynharach ynghylch gohirio—ac o'r hyn y gallwn ei gasglu oddi wrth eich sylwadau, Weinidog, roedd yn swnio’n debycach i ohirio na chanslo—tynnu’r arian hwnnw o gyllideb CCAUC. Rwy'n falch eich bod wedi gwrando ar y Pwyllgor Cyllid, rwy'n falch eich bod wedi gwrando ar y sector addysg uwch ar y mater hwn, oherwydd roedd angen ichi wneud hynny. Ond mae gennych agendor o hyd, bwlch anghynaliadwy, yn y cyllid i addysg uwch, a bydd rhaid rhoi sylw iddo, ac efallai nad ydych am roi sylw iddo yr ochr hon i'r etholiad, ond bydd angen rhoi sylw iddo’n hwyr neu'n hwyrach. Felly, rydych wedi dechrau arni, rydym yn croesawu hynny, ond rydym yn chwilio am gydnabyddiaeth bellach o'r ffaith bod angen ichi wneud ymrwymiadau gwario gwahanol.
 
Bydd y toriadau i’r gyllideb addysg uwch yn cael yr effaith drymaf ar y rheini sy'n ceisio cael mynediad at gyrsiau rhan-amser neu'r rheini sydd yn dymuno dilyn cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn mynd yn groes i flaenoriaethau honedig Llywodraeth Cymru. Beth yw pwynt blaenoriaethau os nad ydych yna’n mynd i roi eich arian ar eich gair ac ariannu’r sector addysg uwch yn ddigonol yng Nghymru? Ond rwy’n cydnabod bod y cyhoeddiad hwnnw wedi’i wneud heddiw, Weinidog, a bod unrhyw symudiad i’r cyfeiriad cywir yn dda.
 
Mae llawer o bethau negyddol tymor hir am fethu ag ariannu addysg uwch yn effeithiol. Gall torri cyllid ymchwil gael effaith andwyol ar bynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, a fydd yn effeithio ar economi Cymru yn y dyfodol, gan ein bod yn gwanhau’r gallu i adeiladu ansawdd ein sylfaen sgiliau. Mae'r pwyllgor wedi argymell bod y Gweinidog yn edrych eto ar y dyraniadau hyn. Wrth gwrs, unwaith eto, collwr mawr y gyllideb ddrafft hon oedd llywodraeth leol. Roeddwn, unwaith eto, yn falch iawn o glywed sylwadau'r Gweinidog am o leiaf dri o'r awdurdodau gwledig yn gynharach. Roedd y toriad arfaethedig o 4.1 y cant i gyllideb awdurdod Powys yn amlwg yn gwbl annerbyniol. Roedd y toriadau i gyllidebau Ceredigion a Sir Fynwy hefyd yn annerbyniol, ac rwy’n meddwl bod y Gweinidog wedi gorfod cydnabod hynny.
 
15:45
Alun DaviesBywgraffiad
A dderbyniwch chi ymyriad ar hynny?
 
15:45
Nick RamsayBywgraffiad
Gwnaf, mi wnaf.
 
15:45
Alun DaviesBywgraffiad
Diolch yn fawr iawn, rwy’n ddiolchgar iawn ichi. Gwnaethoch ddisgrifio toriad o 4 y cant fel bod yn ‘gwbl annerbyniol’, felly rwy’n cymryd y byddech yn defnyddio'r un geiriau i ddisgrifio'r toriad 6.7 y cant y mae eich Llywodraeth chi wedi’i roi ar lywodraeth leol dros y ffin.
 
15:45
Nick RamsayBywgraffiad
Roedd y 4.1 y cant, yn amlwg, yn annerbyniol, oherwydd mae'r Gweinidog wedi mynd yn ôl ar ei air ar hynny heddiw drwy roi arian ychwanegol i mewn. Mae'n drueni na wnaeth y fainc flaen roi gwybod ichi am drafodaethau’r Cabinet, onid yw? Ond mae'n debyg eu bod wedi dysgu’r wers honno amser maith yn ôl, Alun.
 
Felly, rwy'n falch y bydd rhywfaint o arian ychwanegol i awdurdodau lleol, ond rydym wedi galw, ar draws y Siambr hon, am grant sefydlogi gwledig. Mewn rhai ffyrdd, rwy’n gobeithio—nid wyf wedi gweld y manylion eto, ond rwy’n gobeithio mai dyna sut y bydd y cyllid ychwanegol hwn yn gweithio. Ond mae’n dal i fod yn brin o’r ymrwymiad i gronfa sefydlogi wledig yr oeddem yn chwilio amdano.
 
Yn ei sylwadau, dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid mai dim ond brig y rhewfryn yw hyn. Mae gennym hefyd broblem fformiwla llywodraeth leol, a chafwyd trafodaethau ar y pwyllgor hwnnw am yr angen i symud rywsut at fformiwla well. Rwy’n glynu at y sylwadau hynny. Rwy’n meddwl bod hyn yn gychwyn i’r cyfeiriad cywir heddiw, Weinidog, ond, ar y cyfan, mae arnom angen sicrwydd o arian i awdurdodau lleol ledled Cymru. Mae arnom angen gweld grant sefydlogi gwledig ar waith yn y tymor byr, ac mae arnom angen gweld fformiwla llywodraeth leol wedi’i diwygio a fydd yn cydnabod y straen sydd ar gyllidebau awdurdodau lleol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
 
Wrth gwrs, tra ein bod yn siarad am y toriadau i gyllidebau llywodraeth leol, ac mae'r Gweinidog emeritws Alun Davies yn sôn am doriad o 6 y cant i Gymru—nid oedd y fainc flaen yn gwrando arnoch, Weinidog—[Torri ar draws.] Wel, i Loegr. Efallai nad oedd y fainc flaen yn gwrando arnoch, ond roeddwn i. Ar yr un pryd, mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu eu dyraniad ar gyfer gweinyddu, un o'r ychydig godiadau yn y gyllideb hon. Mae awdurdodau lleol Cymru yn cael eu rhoi o dan bwysau ychwanegol, ac eto bydd cyllideb weinyddu llywodraeth leol Cymru yn cynyddu. Nid yw’n syndod, nad yw, bod yna sinigiaeth am wleidyddiaeth heddiw pan fyddwch yn gweld toriadau ym mhob maes, ond nid yw’n ymddangos bod Llywodraeth Cymru ei hun yn gallu, neu mewn sefyllfa i wneud arbedion tebyg i'r rhai y maent yn disgwyl i lywodraeth leol eu gwneud. Mae cynghorau wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd i dorri cyllid mewn mannau eraill, yn aml mewn gwasanaethau ataliol, gan greu mwy fyth o broblemau ar gyfer y dyfodol, a beth mae hynny i gyd yn ei olygu yn ymarferol? Wel, cyfraddau treth gyngor uwch yn ôl pob tebyg, a chartrefi Cymru’n wynebu'r ergyd ddwbl o gynnydd pellach i’w biliau treth gyngor ar yr un pryd â cholli gwasanaethau lleol hanfodol.
 
I gloi, Ddirprwy Lywydd, nid dim ond cynghorau gwledig sy'n cael eu cosbi. Mae hon yn gyllideb ddrafft arall sy’n achosi pryder mawr i amaethyddiaeth yng Nghymru; mae toriad o £3.7 miliwn mewn termau arian i'r gyllideb amaethyddiaeth a bwyd yn fwy o newyddion drwg i ffermwyr y genedl ac i'n cymunedau gwledig. Mae'r toriad hwn yn cynnwys £0.5 miliwn yn llai i gefnogi marchnata cynnyrch bwyd a diod o Gymru a llai o gyllid i gyflwyno'r cynllun datblygu gwledig. Ceir toriadau i les anifeiliaid o £0.75 miliwn—unwaith eto, bydd hyn yn effeithio’n anghymesur ar ardaloedd gwledig a ffermwyr Cymru, heb sôn am y gostyngiadau mewn cyllid i reoli dileu TB a chlefydau endemig eraill.
 
I gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy'n falch ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn cyfaddef ei ffolineb dros y blynyddoedd diwethaf ac yn sylweddoli bod angen rhoi mwy o arian i mewn i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae'n hen bryd, ond mae'n rhy ychydig ac mae'n bendant yn rhy hwyr.
 
15:49
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Galwaf ar Alun Ffred Jones i gynnig gwelliannau 2, 3 a 4 a gyflwynwyd yn enw Elin Jones.
 
Gwelliant 2—Elin Jones
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
 
Yn gresynu at y ffaith nad yw'r gyllideb ddrafft yn ymgymryd â dull gweithredu Cymru gyfan mewn perthynas â buddsoddi cyfalaf yn y dyfodol;
 
Gwelliant 3—Elin Jones
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
 
Yn gresynu at y ffaith bod y gyllideb ddrafft yn cynnig toriad niweidiol a difrifol i gymorth ariannol ar gyfer sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.
 
Gwelliant 4—Elin Jones
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
 
Yn gresynu at y ffaith nad yw cynnig drafft y gyllideb ar gyfer pwysau ariannu parhaus ar lywodraeth leol wedi cael ei baru â chynnig ar gyfer grant sefydlogi gwledig.
 
Cynigiwyd gwelliannau 2, 3 a 4.
 
15:49
Alun Ffred JonesBywgraffiad
Diolch yn fawr. Rwy’n falch iawn o gael cynnig y gwelliannau yma a gyflwynwyd yn enw Elin Jones.
 
Mae cefndir y gyllideb yma yn rhy gyfarwydd erbyn hyn, ac mae cynlluniau George Osborne i gael cyllideb gyfartal dros y chwe blynedd diwethaf yma wedi methu dro ar ôl tro. Er gwaethaf yr holl boen, mae gwerth cyflogau gweithwyr yn gyffredinol yn dal i fod 9 y cant yn is nag yr oedd cyn chwalfa 2008. Eto, ar yr un pryd, rydym ni’n gweld sector ariannol wedi adennill ei hyder ac yn dal i ymddwyn mor anghyfrifol ag erioed. Mi fyddwn i’n eich annog chi i gyd i fynd i weld y ffilm newydd ‘The Big Short’, i sylweddoli sut y cafodd pobl gyffredin ar draws y gorllewin eu twyllo a’u tlodi yn 2008, ac, ers hynny, maent yn dal i dalu am y twyll hwnnw, wrth gwrs.
 
O ran y gyllideb bresennol, a derbyn y cefndir yna, rydym ni’n croesawu, wrth gwrs, y cynnydd yn y gwario ar iechyd. Mae yna gwestiynau sy’n codi o hynny. Os ydy’r gwario yng Nghymru gymaint yn uwch y pen, fel mae’r Llywodraeth yn honni, yna pam mae’r rhestrau aros mor annerbyniol o hir? Wrth gwrs, efallai bod hynny’n ymwneud â phwynt y mae fy nghyfaill Mike Hedges yn ei godi’n bur aml yn y Pwyllgor Cyllid, sef ‘productivity’, sydd, mae’n debyg, yn ôl un o adroddiadau Nuffield, sy’n cael ei ddyfynnu’n bur aml yn y Siambr yma, wedi gostwng yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf yma. Rydw i’n credu bod hwnnw’n fater ddaru i Jocelyn Davies hefyd gyfeirio ato o ran y gwerth am arian rydym ni’n ei gael o’r gyllideb fawr honno.
 
O ran y gyllideb yma, a derbyn yr anawsterau sydd yn wynebu’r Llywodraeth o ran gwario, mae yna dri maes rydym ni’n teimlo y dylai’r Llywodraeth ailfeddwl amdanynt, ac rydym ni’n falch iawn eich bod chi, fel Llywodraeth, wedi gwrando nid yn unig arnom ni, ond ar y sectorau arbennig a’r achos a gafodd ei gyflwyno. Mae pob cyngor sir o dan warchae y dyddiau yma. Hyd yn oed gyda chyhoeddiad y prynhawn yma, y gwir amdani ydy bod pob cyngor yn chwilio am doriadau i’w gwasanaethau sylfaenol. Yn fy achos i, yng Nghyngor Gwynedd, mae yna doriadau o £5 miliwn yn mynd i ddigwydd yn y flwyddyn neu ddwy nesaf ar wasanaethau. Mae hynny’n mynd i olygu hefyd ddiswyddo pobl a chrebachu ar wasanaethau sydd, yng nghefn gwlad ac yn y trefi, yn rhoi cysur a chefnogaeth i bobl. Wrth gwrs, roeddem ni’n poeni’n benodol am y cynghorau hynny a oedd yn cael yr ergyd drymaf, ac mi fydd y swm cymharol fychan yma o £2.5 miliwn yn cael ei werthfawrogi gan y cynghorau hynny. Ond, mae’r heriau yn dal i aros.
 
Nid oes gennyf i lawer o amynedd siarad am y cynghorau trefol yn erbyn y rhai gwledig—mae hynny’n amherthnasol—ond roedd y toriadau i Bowys, Penfro a Cheredigion yn sefyll allan ac yn creu sefyllfa amhosib yno. Felly, rydym ni’n ddiolchgar i’r Gweinidog am y symud yno.
 
Roedd hi’n amlwg, hefyd, fod yr ergyd i addysg uwch yn rhy llym ac yn profi bod polisi presennol Llywodraeth Cymru ar ffioedd dysgu, er enghraifft, yn anghynaladwy yn y tymor hir. Roedd o’n dangos hefyd ddiffyg dealltwriaeth o’r sector addysg uwch, ac rwy’n credu bod hynny’n fwy o ddychryn i ni i gyd. Mae’r toriadau real hyn i gyllideb HEFCW yn mynd i danseilio hygrededd y sector. Er enghraifft, efo Prifysgol Bangor, mi fyddai’r toriadau gwreiddiol wedi golygu colled, efallai, rhwng £3 miliwn a £5 miliwn mewn blwyddyn. Mi fyddai hynny wedi effeithio ar holl gynlluniau’r brifysgol dros y 10 i 15 mlynedd nesaf i fenthyca er mwyn creu adeiladau ac adnoddau gwell i’w myfyrwyr, ac, wrth greu adnoddau gwell, godi safonau’r ymchwil a’r profiad dysgu, ac, wrth wneud hynny, sicrhau dyfodol y brifysgol. Felly, dyna oedd y realiti a oedd yn wynebu’r brifysgol. Mae’r sôn bod gan brifysgolion Cymru ‘reserfau’ o £1.3 biliwn yn nonsens anwybodus. Nid yw’n wir, ac nid wyf yn gwybod pam mae’r Prif Weinidog yn dal i bedlera’r ffigwr yna. Fel rydw i’n dweud, prin mae prifysgol fel Bangor, er enghraifft, yn talu ei ffordd, mewn gwirionedd, ac mae angen gwarged fechan arni bob blwyddyn er mwyn sicrhau ei benthyciadau a’i chynlluniau ar gyfer y dyfodol. Ond, rydym ni’n ddiolchgar am y newid meddwl hwn gan y Llywodraeth, sydd wedi dangos eu bod nhw wedi gwrando ac wedi deall effaith a chanlyniadau eu cynlluniau gwreiddiol.
 
15:54
Joyce WatsonBywgraffiad
A wnaiff yr Aelod ildio?
 
15:54
Alun Ffred JonesBywgraffiad
Ar bob cyfrif. Gwnaf.
 
15:54
Joyce WatsonBywgraffiad
Diolch yn fawr i chi am dderbyn ymyriad. Rydym yn sôn am addysg, ac rydym yn sôn am doriadau yng Ngwynedd. A wnewch chi siarad â’ch Aelodau yng Ngwynedd a gofyn iddynt newid eu meddwl ynghylch y cynnydd arfaethedig i deithio i Goleg Meirion-Dwyfor, a’r cynnydd arfaethedig o ddwy ran o dair yn y tocyn bws o £60 i £100 y tymor? Dyna beth yr ydych yn ei wneud pan eich bod wrth y llyw.
 
15:55
Alun Ffred JonesBywgraffiad
Wel, mae enghreifftiau fel yna’n mynd i amlhau, ac maent yn digwydd ym mhob sir yng Nghymru, oherwydd y sefyllfa. Nid wyf yn credu ei fod yn berthnasol i’r drafodaeth yma heddiw.
 
O ran y cynlluniau cyfalaf, mae’r Llywodraeth wedi rhoi cannoedd o filiynau o bunnoedd yn yr arian wrth gefn heb ei glustnodi, er ein bod ni wedi clywed cyhoeddiad byr heddiw am beth o’r arian hwnnw. Ni allwn gefnogi cyllideb sy’n gwrthod datgan ble yn union y mae’r cynlluniau cyfalaf hynny’n mynd i ddigwydd, ac rydym yn dal yn bryderus am hynny. Rwyf eisiau gwneud un cyfeiriad arall at y gyllideb ym maes yr amgylchedd. Mae gennym ni bryder mawr ynglŷn â gallu Cyfoeth Naturiol Cymru i ymateb i’w ddyletswyddau ac i gyflawni ei ddyletswyddau o dan y Deddfau a’r Biliau sydd wedi cael eu pasio yn ddiweddar yn y maes hwnnw. Rwy’n gwybod bod pryder mawr o fewn y sector na fyddan nhw’n gallu cyflawni’r hyn sy’n ofynnol o dan y Deddfau hynny.
 
Gwelaf fod y Llywodraeth Lafur yn parhau i ymrwymo i wario ei gallu benthyca cyfan ar gynllun llwybr du yr M4 o amgylch Casnewydd. Rydym yn gweld hyn fel methiant i gymryd ymagwedd Cymru gyfan at fuddsoddi cyfalaf yn y dyfodol. Mae hon yn ffin glir o wahaniaeth rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru. Mae angen i ni weld pob buddsoddiad cyfalaf yn y dyfodol yn cael ei ailasesu a’i ailflaenoriaethu fel ei fod yn cofleidio’r genedl gyfan. Ni fyddwn yn cefnogi cyllideb na Llywodraeth yr ydym o'r farn nad yw'n gallu diwallu anghenion pob un o ranbarthau ein gwlad.
 
15:57
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Galwaf ar lefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Peter Black.
 
15:57
Peter BlackBywgraffiad
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddechrau drwy ddatgan fy niddordeb fel aelod o Gyngor Dinas a Sir Abertawe o ran gwelliant 4, a hefyd cofnodi bod fy ngwraig yn gweithio i Brifysgol Abertawe, oherwydd byddwn yn siarad am AU hefyd?
 
Ddirprwy Lywydd, mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn croesawu’r cyhoeddiad y mae’r Gweinidog Cyllid newydd ei wneud ynglŷn â llywodraeth leol ac addysg uwch. Dywedodd Nick Ramsay ychydig funudau yn gynharach fod toriad o 4.1 y cant i gyllideb Powys yn annerbyniol, ac rwy’n cytuno ag ef. Mae’r Cynulliad, wrth gwrs, yn wynebu toriad llawer mwy i’w gyllideb ei hun, ac yn ôl pob tebyg byddai Nick hefyd yn cytuno bod hynny’n annerbyniol hefyd. Ond yn amlwg, mae penderfyniadau anodd i’w gwneud o ganlyniad i hynny. Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn cydnabod hynny, ac rydym yn gwneud ein gorau i weithio gyda’r Llywodraeth i geisio cael cyllideb sy’n gytbwys ac sy’n darparu blaenoriaethau yr ydym yn meddwl sy’n bwysig, yn ogystal â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ei hunan. Nid yw hynny’n golygu ein bod yn cytuno â phopeth yn y gyllideb—nid ydym. Yn amlwg, mae gennyf bryderon ynghylch nifer o faterion yn y gyllideb, ond rwy’n eithaf balch o weld bod blaenoriaethau Democratiaid Rhyddfrydol Cymru sydd wedi’u nodi yn y fargen gyllideb honno ddwy flynedd wedi'u cynnwys. Ac, am y rheswm hwnnw, byddwn yn caniatáu i’r gyllideb fynd drwyddo, er na fyddwn yn pleidleisio o’i phlaid, oherwydd, wrth gwrs, nid ein cyllideb ni yw hi, ac ni ymgynghorwyd â ni ar y gyllideb gyfan. Ond yn sicr, byddwn yn ymatal fel y gall y gyllideb gael ei phasio.
 
Rydym wedi gweithio gyda’r Gweinidog cyllid, gyda llywodraeth leol a’r sector addysg uwch i geisio unioni’r materion a gododd o’r gyllideb ddrafft. Rydym yn teimlo bod hwnnw’n ddull llawer mwy adeiladol na gweiddi o’r cyrion, sef y dull a ddefnyddir gan Blaid Cymru a’r Ceidwadwyr. Ac, wrth gwrs, cafodd Plaid Cymru gyfle i gymryd rhan mewn trafodaethau â Llywodraeth Cymru, ond penderfynodd ildio’r hawl hwnnw a gadael i ni wneud yr holl waith budr ar ei rhan. Felly, dyna’r sefyllfa yr ydym yn canfod ein hunain ynddi nawr, lle mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru mewn gwirionedd wedi sicrhau £223 miliwn o fuddsoddiad mewn nifer o bolisïau allweddol a sicrhawyd yn ystod ein trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru. Hyd yn oed wedi’i rannu dros ddwy flynedd, dyma’r pecyn ariannu mwyaf a sicrhawyd mewn trafodaethau ar y gyllideb yn ystod tymor hwn y Cynulliad. Credaf ei fod yn cymharu’n ffafriol â’r £30 miliwn a sicrhawyd gan Blaid Cymru yn 2012. Mae hon yn fargen gyllideb o £223 miliwn. Mae’n fuddsoddiad clir mewn plant a phobl ifanc, gan helpu i sicrhau eu bod yn cael y cyfleoedd gorau a dechrau teg mewn bywyd.
 
Yn rhan o’r fargen dwy flynedd honno, rydym wedi sicrhau cynnydd yn y grant amddifadedd disgyblion i £1,150 fesul disgybl, gan helpu i roi hwb i gyllid ysgolion i fuddsoddi mewn plant o’r cefndiroedd tlotaf un. Roeddem yn croesawu’r adroddiad ail werthusiad diweddar ar y grant amddifadedd disgyblion, a oedd yn cadarnhau bod yr arian ychwanegol yn gwneud gwahaniaeth i ganlyniadau addysgol ar gyfer disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Diolch i’r cyllid a sicrhawyd gennym ar gyfer y polisi hwn yn 2011 i ddechrau, bu gwelliannau sylweddol mewn llythrennedd, rhifedd, ymddygiad, hyder a hunan-barch disgyblion dan anfantais. Mae cyfradd y gwelliant mewn cyrhaeddiad TGAU y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim bron wedi dyblu ers cyflwyno’r grant amddifadedd disgyblion. Mae’r cytundeb ariannu dwy flynedd hefyd wedi rhoi mwy o sicrwydd i ysgolion dros gyllid y Grant Amddifadedd Disgyblion yn y dyfodol, gan eu galluogi i gynllunio ymlaen i sicrhau bod cyllid yn cael ei wario yn y modd mwyaf effeithiol.
 
Rydym hefyd wedi sicrhau £7.5 miliwn i ymestyn y grant amddifadedd disgyblion i blant dan bump oed, sydd o fudd i dros 12,500 o ddisgyblion meithrin ar draws Cymru. Canfu Ymddiriedolaeth Sutton fod y plant tlotaf 19 mis ar ei hôl hi o ran bod yn barod ar gyfer mynd i'r ysgol yn bump oed. Dyna pam y mae ymyrraeth gynnar yn allweddol, ac mae angen i ni wneud yn siŵr bod pob plentyn yn cael y gofal a’r sylw y mae'n ei haeddu pan ei fod yn ifanc iawn.
 
Rydym hefyd wedi sicrhau diogelwch yn erbyn y toriadau arfaethedig i brentisiaethau gyda chyllid ar gyfer tua 5,000 o brentisiaethau newydd dros ddwy flynedd. Yn Lloegr, o dan y Llywodraeth glymblaid, gwelsom gynnydd mewn prentisiaethau ar raddfa ddigynsail, gyda bron i 2.5 miliwn o brentisiaethau yn dechrau dros y pum mlynedd diwethaf. Ar y llaw arall, yng Nghymru gwelsom ostyngiad mewn prentisiaethau, gyda ffigurau dim ond yn ddiweddar yn dychwelyd i lefel 2006. Mewn bron i ddegawd, dim ond wedi llwyddo i fod yn ôl i lle yr oeddem yr ydym. Rydym yn falch, drwy’r gyllideb, ein bod wedi sicrhau cyllid ar gyfer prentisiaethau i helpu i adeiladu’r gweithlu tra medrus yng Nghymru y mae ei angen arnom.
 
Rydym wedi sicrhau £14.75 miliwn ar gyfer ein cynllun teithio rhatach i ieuenctid ar gyfer teithwyr ifanc, sy’n rhoi teithio ar fysiau am bris gostyngol i rai 16 i 18 oed ar draws Cymru. Hyd yn hyn, mae dros £1.9 miliwn wedi ei ddyrannu i awdurdodau lleol yn y de-ddwyrain, £801,960 i'r de-orllewin, dros £1 filiwn i'r gogledd, £97,440 i Geredigion a £148,360 i Bowys. Mae’r cynllun hwn yn agored i 112,500 o bobl ifanc yng Nghymru, gan eu helpu i gael mynediad at waith, addysg, hyfforddiant a phrentisiaethau.
 
Yn dilyn ein dadl ddiweddar, rydym hefyd yn croesawu bod y grant Cefnogi Pobl wedi ei ddiogelu, sy’n darparu cefnogaeth mor hanfodol i rai o’r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru. Mae pob £1 a fuddsoddwyd yn y rhaglen Cefnogi Pobl yn arbed £2.30 ar draws iechyd, gofal cymdeithasol a thai, gan ddangos bod hwn yn fuddsoddiad gwirioneddol werth chweil. Rydym yn croesawu’r gwariant uwch ar iechyd o £245 miliwn, neu 3.5 y cant. Mae dau gan miliwn o bunnoedd yn cael ei roi i gefnogi cyflwyno craidd y GIG, ac rydym yn gobeithio y bydd hyn yn helpu i sicrhau bod gennym lefelau staffio diogel ar ein wardiau ysbytai, fel bod staff yn cael yr amser i roi’r gofal sydd ei angen ar gleifion. Mae’r £30 miliwn ychwanegol ar gyfer iechyd meddwl a phobl hŷn hefyd i’w groesawu, ond mae angen inni weld llawer mwy o fuddsoddiad mewn iechyd meddwl i lefel sy'n gyfartal â'i faich clefyd. O gofio'r ffaith bod 23 y cant o faich clefyd y DU yn dod o salwch meddwl, er mai dim ond 11.4 y cant o gyllideb GIG Cymru sy'n cael ei wario ar salwch meddwl, yn amlwg, mae angen gwneud mwy. Mae gwario mwy o arian ar ofal iechyd meddwl yn fuddsoddiad. Mae salwch meddwl yn costio £7.2 biliwn y flwyddyn i Gymru; byddai gwario mwy ar ofal iechyd meddwl yn osgoi gwario mwy costus ar salwch corfforol a nifer y diwrnodau gwaith a gollir oherwydd salwch meddwl, gan arbed arian yn y tymor hir.
 
Mae’r Setliad Llywodraeth Leol wedi achosi cryn bryder, er bod y toriadau cyffredinol yn y gyllideb ddrafft yn llai nag a ofnwyd. Dywedodd Bob Wellington, arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, fod y
 
setliad yn cynnig arafu derbyniol yn y lefel frawychus o doriadau cyllideb y mae llywodraeth leol wedi’i brofi dros y blynyddoedd diwethaf.
 
Ac fe wnaeth hynny. Fodd bynnag, mae’n amlwg bod problem ynglŷn ag awdurdodau gwledig, a chyfeiriwyd at y rheini eisoes. Wrth gwrs, mae hynny’n amlygu ei hun yn enwedig o ran Powys a Cheredigion, a welodd doriad o 4.1 y cant a 3.4 y cant yn y drefn honno. Er bod y bleidlais ar y setliad llywodraeth leol ar wahân i’r bleidlais hon heddiw, ac wrth gwrs ar wahân i’r cytundeb cyllideb a wnaethom gyda Llywodraeth Cymru, gwnaeth Democratiaid Rhyddfrydol Cymru fynegi'n glir na fyddem wedi cefnogi setliad sy’n taro ardaloedd gwledig mor wael. Dyna pam y cawsom y trafodaethau adeiladol hynny gyda’r Gweinidog cyllid ac rydym yn falch iawn â’r cyhoeddiad heddiw o gyllid ychwanegol ar gyfer Powys, Ceredigion a Sir Fynwy. Rydym wedi gweithio gyda nhw, ac rydym wedi gweithio gyda llywodraeth leol a’r sector AU i unioni’r problemau hynny o’r gyllideb ddrafft, ac rwy’n meddwl ein bod wedi llwyddo. Nid yw hyn yn ymwneud â gweiddi o’r cyrion; mae hyn yn cyflawni canlyniadau gwirioneddol.
 
Wrth gwrs, nid yw’r trefniant hwn yn gynaliadwy. Bargen unwaith ac am byth ydyw. Ni allwn barhau i gael y broblem hon flwyddyn ar ôl blwyddyn, a dyna pam y mae angen i ni gael yr adolygiad llawn o’r fformiwla ariannu a ddygwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gerbron y Pwyllgor Cyllid wrth roi tystiolaeth ar y gyllideb. Fodd bynnag, mae'n rhaid i mi ddweud, fel nodyn o rybudd, na all neb ragweld beth fydd canlyniad hynny. Wrth gwrs, pan fod gennych boblogaeth sy’n lleihau mewn ardaloedd gwledig, yna, yn anochel, fe fydd problem gyda fformiwla sy’n seiliedig ar boblogaeth. Ond, rwy’n falch ein bod wedi datrys hyn am y tro. Credaf fod hwn yn waith sydd angen ei wneud yn y Cynulliad nesaf. Yn sicr, mae angen i ni wneud yn siŵr bod y data sy’n cael eu defnyddio yn y fformiwla yn cael ei ddiweddaru, fel y gallwn fod yn sicr bod y fformiwla yn gweithio’n iawn.
 
Croesawn y cynnydd o £64.6 miliwn o arian cyfalaf ar gyfer y grant tai cymdeithasol. Ond, mae’n rhaid i ni fod yn fwy uchelgeisiol os ydym i ddarparu lefel y tai y bydd ei angen arnom yn y Cynulliad nesaf. Nododd adroddiad Holmans fod arnom angen 12,000 o gartrefi y flwyddyn, a bod 5,200 o’r rhain yn dai cymdeithasol. Mae hwnnw’n sylweddol fwy na'r 10,000 y tymor y mae'r Llywodraeth y Cynulliad hon wedi ymdrechu ei gyflawni. Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi ymrwymo i 20,000 dros dymor nesaf y Cynulliad, y credaf sy’n dod â ni yn nes at y dyhead yn adroddiad Holmans.
 
Ddirprwy Lywydd, fel y dywedais ar ddechrau’r ddadl hon, mae’r gyllideb yn un sydd wedi ei gwella’n sylweddol, rwy’n credu, o ganlyniad i ymyrraeth Democratiaid Rhyddfrydol Cymru. Nid ein cyllideb ni yw hi. Mae pethau ynddi rwy’n credu y gallent fod yn well ac y gellid eu darparu’n well. Ond, credaf fod yr arian ychwanegol yr ydym yn ei roi ar gyfer disgyblion tlotach ym myd addysg, yr arian yr ydym ei gyflwyno ar gyfer cludiant rhatach i rai 16 i 18 mlwydd oed, y prentisiaethau ychwanegol, a’r cyllid cyfalaf ychwanegol yr ydym wedi trefnu iddo gael ei gyflwyno ledled Cymru yn ei gwneud yn gyllideb y dylai ei phasio heddiw yn ein barn ni. Diolch.
 
16:06
Lynne NeagleBywgraffiad
Rwy’n falch iawn o gael siarad heddiw ar setliad cyllideb cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru a’r Gymru decach a gwell y mae’n gosod y seiliau ar ei chyfer. Mae ein dull cadarn a chynaliadwy i wasanaethau cyhoeddus yn golygu gwariant uwch fesul pen ar wasanaethau iechyd a chymdeithasol, buddsoddiad parhaus mewn addysg, a mwy o ddiogelwch i gynghorau nag yn Lloegr. Nid yw hynny'n golygu nad oes dewisiadau anodd ar ôl chwe blynedd o gyni gan San Steffan. Ni yw’r weinyddiaeth gyntaf ers dechrau datganoli sydd wedi cael dim ond toriadau i ymdrin â nhw—11 y cant mewn termau real erbyn 2020. Felly, mae’n ddigalondid bod gwelliant y Torïaid heddiw yn ceisio tanseilio darparu’r gyllideb hon pan, mewn gwirionedd, ein bod yn ymateb i’r hyn a roddwyd i ni gan Lywodraeth yn San Steffan sydd â’i bryd ar doriadau a chyni pa beth bynnag fo’r gost i gymunedau.
 
Ger ein bron heddiw y mae cyllideb sy’n cyflawni ar flaenoriaethau Llafur. Rwyf eisiau siarad yn gyntaf ac yn bennaf am rai o’r ymrwymiadau gwario yr wyf yn falch o'u gweld wedi eu cynnwys. Y cyhoeddiad lleol pwysicaf ar gyfer fy etholwyr i yw’r dyraniad cyllid cyfalaf ar gyfer y ganolfan gofal critigol arbenigol sydd wedi’i lleoli yng Nghwmbrân. Mae’r achos busnes yn dal i fod gyda Llywodraeth Cymru ond, fel arwydd o ymrwymiad, mae hi wedi dyrannu £36 miliwn, y dyraniad unigol mwyaf yng nghyllideb cyfalaf eleni. Gan fy mod wedi ymgyrchu dros y datblygiad hwn, rwyf wrth fy modd ei fod wedi ei gynnwys a byddaf yn parhau i weithio gyda Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan a Llywodraeth Cymru i sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni ar amser. Bydd yr ysbyty £500 miliwn hwn yn darparu gofal iechyd yr unfed ganrif ar hugain ar gyfer y Cymoedd ac mae’n mynd yn groes i rethreg y gwrthbleidiau ynghylch tanariannu mewn gwasanaethau ysbytai lleol. Mae hon yn Llywodraeth Lafur Cymru sy’n amddiffyn y GIG. Diolch i'r £300 miliwn ychwanegol eleni a’r £1.1 biliwn a fuddsoddwyd eisoes dros y ddwy flynedd diwethaf, rydym yn gwario mwy fesul pen ar iechyd nag y mae Lloegr.
 
Mae’r gwasanaethau cymdeithasol, wrth gwrs, yn hanfodol ar gyfer darparu gofal iechyd o’r radd flaenaf. Rwy’n falch ein bod ni yng Nghymru yn cydnabod y cysylltiad hwnnw drwy ddiogelu cyllid. Rwyf bob amser wedi rhoi'r achos dros fwy o fuddsoddiad ym maes gofal cymdeithasol ac rwyf wrth fy modd o weld £21 miliwn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yn y gyllideb ddrafft. Mae hyn mewn gwrthgyferbyniad llwyr â Lloegr lle mae toriadau enfawr yn achosi anhrefn. Rydym hyd yn oed wedi gweld cynigion gan un cyngor yn Lloegr i godi £26 ar gyfer pob preswylydd hŷn sy’n agored i niwed sy’n cael codwm yn y nos. Mae’n dangos y pwysau ar gynghorau lleol i ymdopi wrth i’r Canghellor addo mwy o arian ar gyfer y GIG gan dorri rh