Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :
Nôl i'r rhestr dogfennau Gweld y dudalen hon heb lincs
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:31 gyda’r Llywydd (y Fonesig Rosemary Butler) yn y Gadair.
 
13:31
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Prynhawn da. Dyma ddechrau trafodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
 
1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
 
13:31
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol, a galwaf ar Christine Chapman i ofyn y cwestiwn cyntaf. Christine Chapman.
 
Cyfraddau Ailgylchu
 
13:31
Christine ChapmanBywgraffiad
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfraddau ailgylchu yng Nghymru? OAQ(4)0409(NR)
 
13:31
Carl SargeantBywgraffiadY Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Diolch i’r Aelod dros Gwm Cynon am ei chwestiwn. Rwy’n falch iawn o berfformiad ailgylchu Cymru. Ni yw’r gorau yn y DU a’r pedwerydd yn Ewrop. Diolch i bobl Cymru ac awdurdodau lleol am eu hymdrechion gwych hyd yn hyn.
 
13:31
Christine ChapmanBywgraffiad
Diolch yn fawr, Weinidog. Rwy’n croesawu’r gwelliant cyson yn y cyfraddau ailgylchu ac rwy’n credu, fel y dywedwch, mai canlyniad gwaith caled ar ran Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, a chymunedau a dinasyddion ledled Cymru yw hyn. Rwyf am sôn am gynllun ailgylchu gwastraff bwyd Rhondda Cynon Taf yn benodol, sydd wedi arwain at ddyblu’r maint o wastraff a gesglir i’w ailgylchu dros y chwe mis diwethaf. A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Rhondda Cynon Taf, a sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â chynghorau er mwyn rhannu arfer arloesol a ffyrdd newydd o annog cyfranogiad cymunedol?
 
13:32
Carl SargeantBywgraffiad
Diolch am eich cwestiwn. Wrth gwrs, rwy’n llongyfarch Andrew Morgan a Rhondda Cynon Taf ar eu hymdrechion i ysgogi’r casgliadau gwastraff bwyd. Ymwelais â’r prif safle casglu. Gwn fod rhaglen ymgysylltu â’r gymuned wedi bod yn weithredol yn Rhondda Cynon Taf i edrych ar ailgylchu gwastraff bwyd a’r gwasanaethau ailgylchu eang a gynigir gan y cyngor. Maent yn arwain y ffordd mewn sawl modd ac rwy’n llongyfarch yr awdurdod a’r bobl sy’n gweithio yno.
 
13:32
Russell GeorgeBywgraffiad
Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol bod rhai awdurdodau lleol wedi symud i gasgliadau bin bob tair wythnos. Gwn fod rhywfaint o dystiolaeth anecdotaidd fod hyn wedi arwain at gynnydd mewn tipio anghyfreithlon. Ond byddwn yn ddiolchgar os ydych wedi gwneud unrhyw ddadansoddiad ar—neu pa ddadansoddiad y mae’r Llywodraeth wedi’i wneud ar y manteision, a hefyd ar effeithiau niweidiol, symud i gasgliadau bin bob tair wythnos ac mewn perthynas â chyfraddau ailgylchu?
 
13:33
Carl SargeantBywgraffiad
Mae casgliadau bin bob tair wythnos yn fater i’r awdurdodau lleol sy’n eu gweithredu. Ond ni ddylai’r Aelod ddod â data anecdotaidd i’r Siambr hon bob amser—dylai seilio ei fanylion ar ffeithiau. Y ffaith yw mai ni yw’r gorau yn y DU am ailgylchu, a’r pedwerydd gorau yn Ewrop, a byddwn yn gwella drwy ddefnyddio ein hawdurdodau lleol clyfar, sy’n gweithio ar ailgylchu, ond hefyd pobl yn cyflawni ar draws ein cymunedau.
 
13:33
Llyr GruffyddBywgraffiad
Rydym ni i gyd, wrth gwrs, yn croesawu’r ffaith bod awdurdodau lleol yn perfformio lawer, lawer yn well, o safbwynt ailgylchu gwastraff erbyn hyn. Ond, wrth gwrs, nid yw’r modd rydym ni’n mesur hynny, drwy fesur faint o dunelli sy’n cael eu hailgylchu, ddim o reidrwydd yn adlewyrchiad digon ystyrlon, oherwydd mae yna ddadl nawr dros ddefnyddio gwerth carbon y gwastraff yna, fel ffon fesur. A charwn i ofyn pa ystyriaeth y mae’r Llywodraeth wedi ei rhoi i symud oddi wrth fesur tunelli i fesur gwerth carbon, a fyddai yn adlewyrchiad tecach, rwy’n meddwl, o’r cyfraniad sydd angen ei wneud.
 
13:34
Carl SargeantBywgraffiad
Rwy’n cydnabod barn yr Aelod ar hynny, ac rwyf hefyd yn rhannu, yn rhannol—credaf fod cyfle i ni weithio ar dunelledd, ond hefyd ar y carbon sy’n cael ei ryddhau o wastraff. Cyfarfûm â sefydliad y bore yma i drafod yn union hynny, a’r hyn rwyf wedi gofyn iddynt ei wneud, ac eraill, gan gynnwys WRAP Cymru, yw edrych ar y cyfleoedd a’r heriau sy’n ein hwynebu, o ran casglu tunelledd hawdd o gymharu â dal carbon. Felly, mae’n rhywbeth rydym yn gweithio arno.
 
13:34
Eluned ParrottBywgraffiad
Weinidog, y llynedd, llwyddodd cyngor Caerdydd i osgoi dirwy o drwch blewyn am y gostyngiad yn ei gyfradd ailgylchu, diolch i gynllun ar gyfer cynyddu ailgylchu a gafodd ei gymeradwyo gennych chi. Rhan o’r cynllun oedd rhoi biniau du llai o faint yn lle biniau du mawr. Bydd y biniau hynny’n awr yn cael eu hailgylchu ar ôl cael eu casglu. A fyddai’n dderbyniol i chi, wrth adolygu cyfraddau ailgylchu Cyngor Caerdydd dros y flwyddyn nesaf, os yw’n cynnwys pwysau’r holl finiau a ailgylchwyd?
 
13:35
Carl SargeantBywgraffiad
Fy nhargedau ailgylchu i ydynt; mater i’r awdurdod lleol yw’r ffordd y maent yn gwneud hynny.
 
Yr Amgylchedd yn y Gymru Drefol
 
13:35
John GriffithsBywgraffiad
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru i wella'r amgylchedd yn y Gymru drefol? OAQ(4)0412(NR)
 
13:35
Carl SargeantBywgraffiad
Diolch i’r Aelod dros Ddwyrain Casnewydd am ei gwestiwn. Mae amgylchedd trefol glân, diogel, hygyrch a deniadol yn rhan hanfodol o’r Gymru rydym ei heisiau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Er mwyn cyflawni hyn, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i newid agweddau ac ymddygiad y cyhoedd drwy gyllid grant, addysg, gweithio mewn partneriaeth a rhaglenni gorfodi.
 
13:36
John GriffithsBywgraffiad
Diolch am hynny, Weinidog. Rwy’n credu bod yr amgylchedd ar stepen y drws yn bwysig iawn i ansawdd bywyd, i iechyd, i adfywio cymunedol, ac i werthfawrogi ymrwymiad tuag at ein hamgylchedd. O ystyried yr holl fanteision hynny, Weinidog, tybed a allwch fy sicrhau y bydd yr hyn a ddysgwyd o gynlluniau fel Cynefin yn parhau i’r dyfodol, ac yn arbennig efallai wrth edrych ar waith Cyfoeth Naturiol Cymru a sut y gall hwnnw sicrhau bod y manteision hynny’n parhau. Ac rwy’n credu bod hynny’n arwyddocaol iawn yng ngoleuni adroddiad yr archwilydd cyffredinol yn ddiweddar, y credaf ei fod yn ffafriol ac yn ganmoliaethus iawn ynglŷn â gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru.
 
13:36
Carl SargeantBywgraffiad
Wrth gwrs. Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Mae’r rhaglen Cynefin wedi cyflwyno cydnerthedd a chyfleoedd gwych mewn cymunedau, gan gynnwys cymuned yr Aelod, ac mae’n rhywbeth rydym yn edrych arno ar hyn o bryd i weld beth yw rhannau da Cynefin y gallwn eu dwyn ymlaen i weithrediadau newydd. Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod hefyd am grybwyll y mater ynghylch gweithrediad Cyfoeth Naturiol Cymru. Rwy’n synnu heddiw nad yw’r gwrthbleidiau wedi tynnu sylw at yr adroddiad hyd yn hyn, gan fod yr archwilydd cyffredinol wedi cynhyrchu adroddiad gwych ar y gwaith gwych y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi’i wneud. Rwy’n synnu nad yw Darren Millar a’i gyd-Aelodau wedi sôn llawer amdano yn y wasg heddiw. Ond rwy’n siŵr y bydd digon o gyfleoedd yn ystod y sesiwn gwestiynau hon i longyfarch staff Cyfoeth Naturiol Cymru.
 
13:37
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Nid ydych i fod i brocio pobl i ofyn cwestiynau, Weinidog. Suzy Davies.
 
13:37
Suzy DaviesBywgraffiad
Diolch, Lywydd. Weinidog, byddai pob tref a dinas, wrth gwrs, yn hoffi enw da am ddiogelwch a glanweithdra. Hebddo, mae’n dod yn anodd denu busnesau a siopau ac wrth gwrs, hyd yn oed pobl i ddefnyddio canol y dinasoedd hynny. Mae ardal gwella busnes Abertawe wedi gweithio’n galed iawn i wella enw da Abertawe am lanweithdra a diogelwch, gyda nifer o weithgareddau yn amrywio o gael gwared ar gwm cnoi oddi ar balmentydd i gyflwyno wardeniaid i helpu’r rhai sydd wedi gorwneud pethau efallai yn mwynhau eu heconomi nos, gadewch i ni ddweud. Mewn dinas lle y mae’r wylan yn frenin, sut y gallwch helpu cyngor y ddinas i gyflawni ei ddyletswyddau ei hun i gadw’r strydoedd yn rhydd o sbwriel a sicrhau nad yw cydweithrediad â phartneriaid eraill yn dod yn orddibynnol ar y partneriaid hynny?
 
13:38
Carl SargeantBywgraffiad
Rwy’n credu ein bod wedi gweld symudiadau cadarnhaol iawn ledled Cymru yn y ffordd y maent yn gofalu am yr amgylcheddau trefol. Yn Abertawe, mae awdurdod Llafur Abertawe, os caf ddweud, yn gwneud gwaith gwych hefyd. Mae mater gwylanod yn un y mae llawer o bobl yn ei drafod gyda mi yn ysgrifenedig. Ceir trwyddedau ar gyfer rheoli gwylanod, ond rwyf hefyd yn cydnabod y ffaith fod yn rhaid i ni, fel preswylwyr ac awdurdodau lleol, gael rheolaeth dros sbwriel a bwydo’r gwylanod hefyd, sy’n ychwanegu at y broblem a welwn.
 
13:38
Lindsay WhittleBywgraffiad
Weinidog, pa fesurau penodol rydych wedi’u gweithredu a beth sydd wedi’i wneud drwy’r cynllun grantiau a gyhoeddwyd gan John Griffiths yn 2012 i ddiogelu ac ehangu cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt trefol? Darllenais yn arbennig yn ddiweddar am anifeiliaid fel draenogod, a oedd yn gyffredin gynt ond sydd dan fygythiad bellach mewn gwiirionedd.
 
13:39
Carl SargeantBywgraffiad
Unwaith eto, rwy’n gwybod bod gan yr Aelod a llawer o gyd-Aelodau yn y Siambr hon ddiddordeb mawr mewn bywyd gwyllt. Roedd llawer o’r buddsoddiadau a wnaed gennym, gan gynnwys y gronfa natur, y buddsoddom yn sylweddol ynddi, a nifer o’r 20 o raglenni tirwedd cydweithredol diweddar o dan y gronfa natur a oedd yn weithredol o 2014-15, yn cynnwys elfennau allweddol gyda’r nod o wella ansawdd yr amgylchedd trefol. Un enghraifft yw prosiect Swyn Naturiol yn Nhorfaen, sy’n edrych ar greu cynefinoedd ar gyfer peillwyr, ac sy’n un llwyddiannus iawn.
 
13:39
David ReesBywgraffiad
Weinidog, yn amlwg, mae llygredd yn un o’r effeithiau mwyaf ar yr amgylchedd mewn ardaloedd trefol ac yn Aberafan, rydym wedi bod yn wynebu her ansawdd aer ers llawer o flynyddoedd. Ond yn awr, mae’n ymddangos ein bod hefyd yn wynebu’r posibilrwydd o lygredd dŵr o ganlyniad i ddrilio drwodd am fethan gwely glo neu nwy siâl. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu yn erbyn ffracio, ac rwy’n gwerthfawrogi ac yn cymeradwyo’r hyn y maent wedi’i wneud, ond rydych eisoes wedi nodi ei bod yn broses wahanol i ddrilio prawf yn hynny o beth. Os nad yw drilio prawf yn cyflawni unrhyw beth yn y pen draw, rhaid holi a oes pwrpas i ddrilio prawf. A wnewch chi, felly, edrych ar adolygiad o’r canllawiau rydych yn ei rhoi i awdurdodau cynllunio er mwyn ystyried a ddylid caniatáu drilio prawf, gan ystyried ei effaith yn y dyfodol?
 
13:40
Carl SargeantBywgraffiad
Rydym wedi trafod hyn droeon ac mae’r Aelod yn parhau i wthio’n galed iawn ar hyn. Mae’r cyfarwyddyd hysbysu a gyhoeddais yn atal awdurdodau lleol rhag rhoi caniatâd ar gyfer datblygu olew a nwy anghonfensiynol, ac mae hyn yn cynrychioli dull rhagofalus o ran cynllunio. Byddaf yn parhau i wneud hynny yn ystod tymor y Llywodraeth hon. Fel rydym wedi’i grybwyll o’r blaen mewn perthynas ag archwilio tyllau turio, ceir defnydd eang i dyllau turio archwiliol, ac nid ar gyfer ffracio yn unig. Rwy’n credu y byddai rhywfaint o berygl o ran gweithredu pe baem ond yn cael hysbysiad ar dyllau turio yn unig. Ond gofynnaf i fy nhîm edrych ar hynny yn fanylach i weld a allwn fod yn fwy defnyddiol i gymunedau ledled Cymru.
 
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
 
13:41
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at gwestiynau’r llefarwyr, ac yn gyntaf y prynhawn yma, llefarydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, William Powell.
 
13:41
William PowellBywgraffiad
Diolch, Lywydd. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn â chylch gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru o ran darparu cyfleoedd hamdden yn yr awyr agored i bobl Cymru?
 
13:41
Carl SargeantBywgraffiad
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn ac rwyf hefyd yn cofnodi fy niolch i staff ac aelodau gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r adroddiad a dderbyniwyd gan yr archwilydd cyffredinol heddiw yn dangos bod datblygiad y sefydliad hwnnw’n profi’n deilwng iawn.
 
O ran cwestiwn yr Aelod ynghylch rôl Cyfoeth Naturiol Cymru yn hyn, wrth gwrs, maent wedi’u rhwymo gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a ddaw i rym ym mis Ebrill eleni, a bydd honno’n rhan o’r olwg gyfannol ar lesiant cymunedol, a fydd, wrth gwrs, yn cynnwys cefn gwlad a mynediad i gefn gwlad, y cyfeiria’r Aelod ato.
 
13:42
William PowellBywgraffiad
Diolch yn fawr iawn i chi am yr ymateb, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae Ffordd Goedwig Cwmcarn bellach wedi’i chau i geir ers mis Tachwedd 2014, er mwyn caniatáu gwaith ar gwympo dros 150,000 o larwydd heintiedig. Mae cryn ansicrwydd wedi bod ymhlith y cyhoedd ynghylch dyfodol hirdymor yr atyniad arbennig hwnnw a hefyd mewn perthynas â llwybrau tramwy sy’n dal ar agor i gerddwyr ac i feicwyr mynydd. Rwy’n deall bod canolfan ymwelwyr Coedwig Cwmcarn yn debygol o gofnodi gostyngiad o 10 y cant o leiaf yn nifer yr ymwelwyr. Credir bod hyn yn deillio’n rhannol o gamddealltwriaeth ynghylch statws presennol y rhwydwaith llwybrau. Gwn fod fy nghyd-Aelod, Jocelyn Davies, wedi ysgrifennu ar y pwnc yn y wasg leol yn ddiweddar. Yn hyn o beth, hefyd, mae Rob Southall, cadeirydd cyfeillion Ffordd Goedwig Cwmcarn, wedi cyflwyno deiseb i’r Pwyllgor Deisebau. O ystyried pwysigrwydd y ffordd goedwig, beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gynorthwyo Cyfoeth Naturiol Cymru i fynd i’r afael â phryderon y gymuned leol ac i sicrhau ei bod yn agor eto a chyn gynted ag y bo modd?
 
13:43
Carl SargeantBywgraffiad
Gwn fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio’n galed iawn yn yr ardal i geisio datrys y materion hyn, ond mae diogelwch biolegol yr ardal honno a gweddill Cymru yn hynod o bwysig. Rwy’n credu eu bod yn ymdrin â’r sefyllfa’n dda iawn. Wrth gwrs, byddem yn hoffi gweld Ffordd Goedwig Cwmcarn ar agor, ond mae’n fater o sicrhau ein bod yn gallu ymdrin â haint phytophthora ramorum sydd ar droed yn y rhanbarth hwnnw.
 
13:43
William PowellBywgraffiad
Weinidog, diolch yn fawr iawn i chi. Enghraifft arall yn unig yw hyn, rwy’n meddwl, o’r cyfyng-gyngor sy’n wynebu Cyfoeth Naturiol Cymru o ran adnoddau i gyflawni ei gylch gwaith pan ddyrennir llai a llai o arian iddo am resymau sy’n hysbys i ni. Rwy’n deall hefyd y bydd Swyddfa Archwilio Cymru yn adrodd yn fuan ar faterion yn ymwneud â hyn ac yn gwneud asesiad ynghylch gallu Cyfoeth Naturiol Cymru i fynd i’r afael â’r heriau y mae’n eu hwynebu fel sefydliad. Yng ngoleuni hyn, a chyda Bil yr Amgylchedd (Cymru) yn cael ei basio ddoe yn unig, pa sicrwydd y gallwch ei roi bod dyfodol amgylchedd naturiol Cymru yn ddiogel yn nwylo’r sefydliad hwnnw ac yn eich dwylo chi?
 
13:44
Carl SargeantBywgraffiad
Ddoe, pasiwyd Bil yr Amgylchedd (Cymru) yn unfrydol gennym i fod yn Ddeddf, pan fyddwn, gobeithio, yn derbyn Cydsyniad Brenhinol ar hynny. Dyma’r pecyn cymorth i Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer cyflawni. Rwy’n hyderus y gall y sefydliad barhau â’i waith gwych ac fel y mae’r adroddiad gan yr archwilydd cyffredinol yn ei ddatgan heddiw, maent yn gwneud gwaith da.
 
13:44
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at lefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Janet Haworth.
 
13:44
Janet HaworthBywgraffiad
Diolch i chi, Lywydd. Weinidog, rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno â mi ei bod yn well gwneud na dweud—teimlad y mae pleidleiswyr Cymru yn ei gymeradwyo. Heddiw, hoffwn eich holi ynghylch dau gam gweithredu y mae dioddefwyr y llifogydd yng Nghymru yn awyddus i glywed amdanynt. Yn gyntaf, faint o’r £3 miliwn a mwy a gyhoeddwyd yn y Siambr hon yn ôl ar ddechrau mis Ionawr sydd wedi cyrraedd y bobl sy’n dal i ymdopi â chanlyniadau llifogydd, a faint o arian ychwanegol y byddwch yn ceisio ei ryddhau o’r £250 miliwn a mwy y mae’r Llywodraeth Lafur hon wedi’i gasglu yn ei chronfeydd wrth gefn?
 
13:45
Carl SargeantBywgraffiad
Cwestiwn diddorol. Gallaf ateb y rhan gyntaf yn gyflym iawn. Yn gyffredinol, ni allaf gytuno â’r mwyafrif o’r pethau rydych yn eu dweud. Yn ail, ar fater y £3 miliwn a ddyrannwyd ac a gyhoeddwyd gennyf i a’r Prif Weinidog, mae’r ceisiadau wedi dod i law gan awdurdodau lleol, rydym wedi ystyried y dyfarniadau ac maent wedi cael eu hysbysu am hynny. Rwy’n disgwyl iddynt fod yn gweithio’n gyflym iawn. Er diddordeb, ymwelais ag etholaeth yr Aelod wythnos i ddydd Gwener diwethaf i siarad gyda phobl leol ynglŷn â’r materion go iawn a oedd yn digwydd ac i gael gwared ar y wleidyddiaeth boeth rydym yn aml yn ei gweld yn y Siambr hon. Roedd yn sgwrs ddefnyddiol iawn â hwy, ac roedd llawer ohonynt yn ddiolchgar iawn am y gwaith, unwaith eto, a wnaed gan wirfoddolwyr a gwasanaethau brys ar y diwrnod hwnnw.
 
13:46
Janet HaworthBywgraffiad
Diolch yn fawr, Weinidog. O fewn mis i’r llifogydd yn yr Alban, mae cynlluniau’n cael eu llunio i atal ac ymdrin â llifogydd pellach. Yn Lloegr, mae gwaith wedi’i ddechrau ar ddod â rhanddeiliaid at ei gilydd ac i ymgysylltu â ffermwyr yn arbennig i ddyfeisio cynlluniau draenio dŵr a chynlluniau dalgylchoedd dŵr. Weinidog, a fyddwch yn adrodd ar y gwaith sy’n aros i gael ei wneud yma yng Nghymru? Rwy’n gwerthfawrogi adroddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru a gafodd eu crybwyll yn gynharach, ond yn benodol, pa bryd fydd adroddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru ar y digwyddiadau diweddar yn cael eu cwblhau, a pha bryd y byddant yn cael eu cyhoeddi? Weinidog, mae pleidleiswyr Cymru yn aros i chi ddangos arweiniad. A fyddwch yn comisiynu ymchwiliad annibynnol i blanhigfeydd coedwigaeth ac arferion draenio ar ein hucheldir craig galed yng ngogledd Cymru fel mater o frys? Weinidog, rwy’n dal i gael adroddiadau ar fethiannau gyda draenio trefol, gan arwain at garthion yn gorlifo i strydoedd ac o bosibl, i gartrefi. Weinidog, mae’n warth ac mae’n galw am eich sylw ar frys. A yw’n mynd i gael eich sylw? Beth fyddwch chi’n ei wneud?
 
13:47
Carl SargeantBywgraffiad
Wel, nid wyf yn gwybod lle y mae’r Aelod wedi bod ers cymaint o amser oherwydd, mewn gwirionedd, dim ond dal i fyny â’r hyn rydym ni’n ei wneud y mae Lloegr a’r Alban. Mae gennym gynlluniau rheoli llifogydd ledled Cymru. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau lleol a gwasanaethau atal llifogydd yn eu lle. Ni allaf reoli’r tywydd, ond pan fyddwn yn wynebu tywydd garw, fel y gwelsom ar Ŵyl San Steffan, mae fy nhimau allan am 7 o’r gloch y bore yn edrych ar ôl eich trigolion. Felly, mae angen i’r Aelod sylweddoli nad yw hi yn Lloegr na’r Alban; yng Nghymru, rydym yn gwneud rhywbeth llawer gwell. Os yw hi wir eisiau edrych ar y llifogydd a’r difrod a achoswyd, edrycher ar y newyddion ac edrycher ar yr hyn a ddigwyddodd yn Kendal a rhannau o ogledd Lloegr. Ni ddigwyddodd hynny yng Nghymru, yn ffodus—ychydig bach o lwc, ond hefyd rhan dda iawn ohono’n deillio, o’n rhan ni, o gynllunio gyda’n rheoleiddwyr.
 
13:48
Janet HaworthBywgraffiad
Diolch yn fawr, Weinidog. Rwyf wedi siarad â chynrychiolwyr ffermio, trigolion a busnesau yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd diweddar. Ddoe, treuliodd y Siambr hon sawl awr yn trafod Bil sy’n ceisio amddiffyn treftadaeth hanesyddol Cymru. A allwch egluro, felly, pam y mae Prif Swyddog Gweithredol Cadw wedi gwrthod cyfarfod â mi i drafod y difrod y mae’r llifogydd yn nyffryn Conwy wedi’i wneud i Gastell Gwydir yn Llanrwst? Weinidog, a wnewch chi fy helpu i gael cyfarfod gyda Phrif Swyddog Gweithredol Cadw, sefydliad annibynnol sydd wedi ymrwymo i warchod adeiladau Cymreig, yn ôl pob sôn?
 
13:49
Carl SargeantBywgraffiad
Mae gennyf farn bersonol ynglŷn â pham efallai nad yw’r prif weithredwr eisiau cyfarfod â’r Aelod. [Chwerthin.] Fodd bynnag, gyda’r parch mwyaf, mater i Ken Skates, sy’n ymdrin â Chadw, yw hwn, a byddaf yn sicrhau ei fod yn cael gwybod am eich cwestiwn a ofynnwyd y prynhawn yma.
 
13:49
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at lefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
 
13:49
Llyr GruffyddBywgraffiad
Diolch, Lywydd. Cwestiwn i’r Dirprwy Weinidog sydd gen i, wrth gwrs. Mae, fel rŷm ni’n gwybod, nifer o ffermwyr yn dal i aros am eu taliadau sylfaenol, ac rŷch chi, er tegwch, wedi dweud wrthym ni fel Aelodau os oes pobl yn cysylltu â ni i’w cyfeirio nhw atoch chi, mewn amgylchiadau neilltuol. Ond, nid oes amheuaeth bod nifer o ffermwyr yn sefyll ar ymyl y dibyn yn aros am y taliadau yma—mewn cyd-destun ariannol, wrth gwrs. A gaf i ofyn pa ystyriaeth, felly, mae’r Llywodraeth wedi ei rhoi i ddarparu rhyw fath o fenthyciadau di-log, neu ryw fath o flaendaliad bychan, i’r rhai achosion yma lle mae yna ffermydd efallai na fydd yn derbyn eu taliadau am dipyn eto, ond sydd yn wynebu problemau ariannol difrifol?
 
13:50
Rebecca EvansBywgraffiadY Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd
Diolch am y cwestiwn. Darparaf y wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ein bod hyd at heddiw wedi talu 80 y cant o’n ffermwyr—neu dalu’n rhannol, dylwn ddweud, i 80 y cant o’n ffermwyr. Felly, dyna 12,435. Rhwng y rheini, maent wedi derbyn taliad gwerth £102.78 miliwn. Felly, dyna gofnodi hynny. Ac unwaith eto, rydym yn parhau i berfformio’n well na Llywodraethau yn Lloegr a’r Alban ar y mater hwn. Cyfarfûm â’r banciau yn ôl ym mis Medi i drafod benthyciadau di-log ar gyfer eu cwsmeriaid, a chyfarfûm eto gydag un o’r banciau yn hwyr yr wythnos diwethaf, a chadarnhasant eu bod wedi mynd ati i gysylltu â’u cwsmeriaid sy’n ffermwyr i gynnig benthyciadau di-log iddynt hyd at werth 60 y cant o daliad eu cynllun taliad sylfaenol i’w cynorthwyo dros y cyfnod pan fyddent fel arfer yn disgwyl cael taliadau ar ddechrau’r cyfnod talu ym mis Rhagfyr. Ac fel y gwyddoch, mae’n gyfnod o saith mis, ond rydym yn anelu i dalu ffermwyr cyn gynted ag y gallwn.
 
13:51
Llyr GruffyddBywgraffiad
Mae wedi dod i’r amlwg hefyd, wrth gwrs, fod yna lawer iawn o ffermwyr yn cael eu cosbi oherwydd gor-hawliadau—‘over-declarations’—ac mae hynny wedi dod fel syndod i nifer. Mae’n debyg bod yna broblemau gyda lluniau o’r awyr, ac yn y blaen, a choed yn taflu cysgod a rhyw elfennau felly. Mae hynny hefyd yn golygu bod rhai ffermwyr yn derbyn llai nag yr oedden nhw wedi ei ragweld. A gaf i ofyn felly: sut fyddwch chi fel Llywodraeth yn sicrhau na fydd gwallau fel hyn yn digwydd yn y dyfodol?
 
13:51
Rebecca EvansBywgraffiad
Diolch. Fe fyddwch yn cofio bod yna gryn drafodaeth beth amser yn ôl, pan gyflwynwyd y system gennym, ynglŷn â sut y byddem yn ymdrin â nodweddion aneglur—coed, ac yn y blaen. Rwyf wedi cyflwyno proses apelio symlach er mwyn i ffermwyr apelio yn erbyn unrhyw benderfyniadau a wnaethom nad ydynt yn credu eu bod yn gywir o ran y swm rydym wedi’i dynnu am orchudd canopi coed. Rwy’n credu bod honno’n broses teg, a byddwn yn annog ffermwyr sy’n dadlau ynglŷn â’r arwynebedd rydym wedi’i dynnu i gysylltu â Taliadau Gwledig Cymru ac yna byddwn yn edrych ar y broses cam 1 honno.
 
13:52
Llyr GruffyddBywgraffiad
Ond y cwestiwn y gwnes i ei ofyn oedd, nid sut y gall ffermwyr apelio, ond sut allwn ni sicrhau na fydd angen mynd i apêl mewn sefyllfa o’r fath yn y dyfodol. Byddwn i’n gofyn i chi efallai i ystyried sut byddai modd gwneud hynny.
 
Rwyf hefyd wedi codi gyda chi yn y gorffennol, wrth gwrs—ac mae’r undebau ac eraill wedi codi’r un pwynt—yr angen i ddarparu grantiau bychain i ffermwyr o’r cynllun datblygu gwledig. Mae yna deimlad bod y cynllun grant cynnyrch cynaliadwy, er enghraifft, tu hwnt i gyrraedd gormod o ffermwyr, er ei fod e’n addas i rai, a bod angen cynllun llawer mwy hygyrch lefel is. Yn y pwyllgor amgylchedd nôl ym mis Hydref, mi ddywedoch chi a’ch swyddogion wrthym ni ei bod yn anodd gwneud hynny oherwydd bod y Comisiwn Ewropeaidd yn pennu trothwy lleiafswm ar gefnogaeth y gellid ei darparu. Wel, ers hynny, rwyf wedi cael copi o lythyr gan y Comisiwn Ewropeaidd sydd yn dweud nad oes yna drothwy wedi cael ei osod, ac mi ddarllenaf i’r llythyr:
 
Nid oes gan yr EU reolau penodol ynghylch uchafswm ac isafswm trothwyon ar gyfer cymorth budsoddi. At hynny, yn wyneb y cyfiawnhad uchod o awdurdodau Cymru, nid yw'n ymddangos bod yr amod dan sylw yn torri unrhyw reolau nac egwyddorion UE perthnasol.
 
Yn sgil cadarnhad felly nad oes rheol Ewropeaidd yn dweud na allwch chi gyflwyno cynllun grantiau bach, fel maen nhw wedi’i wneud yn yr Alban, wrth gwrs, a wnewch chi ailystyried a symud er mwyn sicrhau bod yna gynllun o’r fath yn cael ei gyflwyno yng Nghymru?
 
13:53
Rebecca EvansBywgraffiad
Wel, roedd cryn dipyn o ddiddordeb yn ein grant cynhyrchu cynaliadwy am ein bod wedi penderfynu ein bod am wneud newid trawsnewidiol yn y diwydiant, ac ni fydd grantiau bach annibynnol yn cyflawni hynny. Fodd bynnag, rydym wedi bod yn glir y byddwn yn ystyried grantiau bach fel rhan o fentrau strategol, a chyfarfûm ag aelodau o’r diwydiant yr wythnos diwethaf er mwyn gwneud hynny. Gallai enghreifftiau o grantiau o’r fath fod yn debyg i’r system darllenydd electronig rydym wedi’i chyflwyno, a chynigiasom grantiau drwy Hybu Cig Cymru ar gyfer hynny. Felly, os ydym yn mynd i gynnig grantiau bach, byddent yn rhan o fentrau strategol ehangach i symud y diwydiant yn gyfan tuag at yr amcanion rydym i gyd eu heisiau—proffidiol, gwydn, mwy cynaliadwy ac wedi’i reoli’n fwy proffesiynol, ac yn y blaen. Felly, mae lle i grantiau bach, ond nid grantiau bach annibynnol nad ydynt yn cynnig gwerth am arian.
 
13:54
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn ôl at y cwestiynau ar y papur yn awr a daw cwestiwn 3 gan Gwyn Price.
 
Ffordd Goedwig Cwmcarn
 
13:54
Gwyn R. PriceBywgraffiad
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y wybodaeth ddiweddaraf a roddwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru i Lywodraeth Cymru am ffordd goedwig Cwmcarn? OAQ(4)0411(NR)
 
13:54
Carl SargeantBywgraffiad
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud cynnydd da ar gwympo a thynnu’r llarwydd heintus yng Nghwmcarn ac maent hanner ffordd drwy’r rhaglen waith ddwy flynedd.
 
13:54
Gwyn R. PriceBywgraffiad
Diolch i chi am yr ateb. Weinidog, bûm mewn cyfarfod cyhoeddus gorlawn yn fy etholaeth ar gyfer lansio Cyfeillion Ffordd Goedwig Cwmcarn. Dywedodd cynrychiolwyr ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru wrth y cyfarfod eu bod yn gwthio ar ddrws agored yn eu dyhead i weld Ffordd Goedwig Cwmcarn yn gwbl hygyrch. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau bod y Llywodraeth yn rhannu’r awydd hwn ac y bydd yn parhau i weithio gyda phawb sydd â diddordeb mewn adfer un o drysorau tirwedd naturiol gwych Cymru?
 
13:55
Carl SargeantBywgraffiad
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn, ond hefyd am y llythyrau y mae’n parhau i’w hanfon ataf ar yr union fater hwn. Mae’r cyfrifoldeb am reoli ffordd goedwig hardd Cwmcarn wedi ei ddirprwyo i Cyfoeth Naturiol Cymru. Rwy’n ymwybodol o boblogrwydd y ffordd ac nid yw’r awdurdod wedi penderfynu ar ei dyfodol eto. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru bob amser wedi dweud yn glir iawn na allant ymrwymo i’w hailagor tan y gellir dod o hyd i gyllid i gefnogi’r gwaith sy’n gysylltiedig â hi. Maent yn parhau i edrych ar y posibiliadau a’r opsiynau sydd ar gael iddynt, ond rwy’n parhau i gynnal trafodaethau gyda Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn ceisio datrys y mater yn lleol.
 
13:56
William GrahamBywgraffiad
Rwy’n ddiolchgar iawn am sylwadau’r Gweinidog y prynhawn yma. Bydd yn gwybod bod Cyfoeth Naturiol Cymru, sy’n cael ei ganmol yn fawr, yn awyddus i ailagor ffordd hardd Cwmcarn fel yr awgrymodd yr holwr blaenorol. Nodaf fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cael llwyddiant mawr gyda Pharc Beicio Cymru ym Merthyr eleni, ac rwy’n meddwl tybed a allai hynny fod yn un o’r pethau a allai ysgogi datblygiad Ffordd Goedwig Cwmcarn yn y dyfodol, ac yn fwy penodol efallai, mae eich Llywodraeth wedi enwi 2016 fel Blwyddyn Antur. A allai Ffordd Goedwig Cwmcarn fod yn elfen allweddol yn hyn?
 
13:56
Carl SargeantBywgraffiad
Rwy’n siŵr y bydd Ken Skates yn falch iawn o ystyried yr hyn sydd gan yr ardal arbennig honno i’w gynnig ar gyfer y Flwyddyn Antur. Gallaf ddweud bod mater tynnu coed wedi’u heintio gan P. ramorum wedi ei gwneud hi’n ofynnol i gau ffordd Cwmcarn, ond uchelgais y Llywodraeth a Cyfoeth Naturiol Cymru yw edrych ar ddyfodol—dyfodol cadarnhaol—i’r ardal honno.
 
13:57
Jocelyn DaviesBywgraffiad
Diolch. Lywydd, rwy’n datgan buddiant fel aelod o grŵp Cyfeillion Ffordd Goedwig Cwmcarn.
 
Weinidog, rwy’n amau ​​nad oes amser yn ystod y tymor Cynulliad hwn i’ch gwahodd i gerdded gyda mi yng nghoedwigoedd Cwmcarn— [Aelodau’r Cynulliad: ‘O’] Rwy’n gwybod y byddech wedi bachu ar y cyfle hwnnw. [Chwerthin.] Ond rwy’n gobeithio y byddwch yn sylweddoli y bydd llawer o’r mynydd hwn, heb y ffordd, yn dod yn anhygyrch i bawb ond y cerddwr mwyaf ffit a mwyaf penderfynol. Felly, a wnewch chi gadw mewn cof, yn eich trafodaethau gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, fod pobl o bob oed a gallu corfforol am barhau i fwynhau’r cwm ar ôl i’r coed larwydd heintus gael eu cwympo?
 
13:57
Carl SargeantBywgraffiad
Wrth gwrs. Rwy’n teimlo fy mod yn dod yn gyfaill i Ffordd Goedwig Cwmcarn hefyd yn ôl faint o ohebiaeth a chwestiynau rwy’n eu cael gan Aelodau’r Siambr, ac nid oes ots gennyf oherwydd mae’n lleoliad pwysig i etholwyr a phobl fel ei gilydd. Rwy’n ddiolchgar am wahoddiad yr Aelod. Y tro diwethaf i ni fynd am dro bach, aeth yr Aelod â mi dros ffens weiren bigog, os cofiaf yn iawn. [Chwerthin.] Felly, fe wrthodaf ar yr achlysur hwn, os caf i. Ond rwy’n ddiolchgar, ac mae’n amserol iawn fod yr Aelod wedi crybwyll y mater wrthym heddiw. Mae’n rhan bwysig ac yn nodwedd o dirwedd Cymru, ac mae’n rhywbeth y mae angen i ni edrych arno’n ofalus iawn.
 
Cyfoeth Naturiol Cymru (Blaenoriaethau)
 
13:58
Nick RamsayBywgraffiad
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau i Gyfoeth Naturiol Cymru am weddill tymor y Cynulliad hwn? OAQ(4)0406(NR)
 
13:58
Carl SargeantBywgraffiad
Rwyf wedi trafod fy mlaenoriaethau gyda bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ddiweddar a byddaf yn cyhoeddi llythyr cylch gwaith 2016-17 at y cadeirydd yn fuan. Bydd cyd-destun deddfwriaethol newydd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Bil yr Amgylchedd (Cymru)—a fydd yn Ddeddf o fis Mawrth 2016 ymlaen—yn pennu egwyddorion a diben gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru wrth symud ymlaen.
 
13:58
Nick RamsayBywgraffiad
Diolch yn fawr, Weinidog. A gaf fi eich holi ynghylch proses ymgynghori Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystod gwaith coedwigaeth? Mae trigolion pentref Cleddon yn fy etholaeth yn pryderu’n fawr am rwystr y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei godi, gan flocio llwybr mynediad y mae pobl leol wedi dibynnu arno ers degawdau. Ni fu unrhyw ymgynghori cyn i hyn ddigwydd, ac mae wedi achosi anghyfleustra a gofid mawr i drigolion Cleddon. Pan fyddwch yn edrych ar hyn, efallai y gallwch ddod gyda mi a Jocelyn Davies am dro bach drwy’r goedwig i edrych ar y problemau. Pa ganllawiau sydd ar waith i sicrhau bod trigolion yn cael eu cynnwys yn llawn cyn y gwneir y mathau hyn o newidiadau yn y dyfodol?
 
13:59
Carl SargeantBywgraffiad
Rwy’n meddwl bod y mater ynglŷn ag ymgynghoriad yn bwysig iawn—mae’r Aelod yn nodi pwynt difrifol yn hynny o beth. Nid wyf yn gwybod am y cynllun penodol y mae’r Aelod yn ei nodi, ond fe ofynnaf i Cyfoeth Naturiol Cymru ymateb yn uniongyrchol i’r aelod mewn perthynas â hynny.
 
13:59
Peter BlackBywgraffiad
Weinidog, fe wyddoch fod yr oedi ar forlyn llanw Abertawe yn ymwneud yn bennaf â Llywodraeth y DU yn penderfynu ar bris streic, ond ceir oedi hefyd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru yn penderfynu ar y trwyddedau amrywiol ar gyfer y morlyn ac mae’n llusgo ymlaen braidd. A allwch roi syniad i ni pa bryd y disgwyliwch i Cyfoeth Naturiol Cymru wneud penderfyniad ar y mater hwn?
 
14:00
Carl SargeantBywgraffiad
Rwy’n disgwyl i Cyfoeth Naturiol Cymru weithredu’n briodol wrth roi trwyddedau ac ystyried effeithiau unrhyw gynllun yn llawn. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, nid yw Llywodraeth y DU byth wedi cytuno ar bris streic ac felly, mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru ychydig o gyfle i ymdrin â’r materion a grybwyllodd yr Aelod.
 
Perygl Ymsuddo Sydyn
 
14:00
Gwenda ThomasBywgraffiad
5. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i godi ymwybyddiaeth o berygl ymsuddo sydyn? OAQ(4)0398(NR)
 
14:00
Carl SargeantBywgraffiad
Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Rydym yn tynnu sylw at ymsuddo mewn polisi cynllunio cenedlaethol a byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid ar y mater.
 
14:00
Gwenda ThomasBywgraffiad
Diolch am hynny, Weinidog. Mae ymsuddo sydyn yn arwain at lyncdyllau yn hynod beryglus. Pan achosodd digwyddiad o’r fath yn ddiweddar i dwll ymddangos yn Heol Cimla yn fy etholaeth, er mai 18 modfedd sgwâr yn unig ydoedd ar y wyneb, roedd y gwagle isod yn 20 troedfedd o led ac 20 troedfedd o ddyfnder ac roedd angen ei lenwi â 64 tunnell o gerrig a choncrid. Rhaid i mi ddweud bod yr ymateb amlasiantaethol yn ardderchog a chyflym a chymeradwyaf bawb a oedd yn gysylltiedig â hynny. A allwch amlinellu pa waith sy’n cael ei wneud i fapio a monitro perygl llyncdyllau a mathau eraill o ymsuddiant mewn ardaloedd fel maes glo de Cymru, lle y ceir perygl penodol?
 
14:01
Carl SargeantBywgraffiad
Gallaf. Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Mae daeareg Cymru a’r hanes helaeth o weithgarwch cloddio tanddaearol yn golygu nad yw’n bosibl rhagweld achosion o ymsuddo sydyn ac nid ydym yn ymwybodol o unrhyw gyfrifoldebau presennol sydd gan Lywodraeth Cymru o ran codi ymwybyddiaeth gyffredinol o risg ymsuddo o’r fath.
 
Nid oes gennyf unrhyw gynlluniau, ar hyn o bryd, i lansio ymgyrch gyffredinol i addysgu’r cyhoedd am y peryglon sy’n gysylltiedig â hyn. Yn gyffredinol, mae’n fater o pan fyddant yn ymddangos. Rwy’n ddiolchgar am sylwadau’r Aelod ynghylch y gwasanaethau brys a’r awdurdodau a ymdriniodd â’r broblem yn dda iawn. Rwy’n annog awdurdodau lleol a chyrff cyfrifol eraill i ddarparu ymatebion wedi’u targedu ar yr ardaloedd lle y mae’r risg yn hysbys.
 
14:02
Altaf HussainBywgraffiad
Weinidog, mae pryder yn fy rhanbarth ynghylch y diddordeb cynyddol mewn nwy anghonfensiynol, yn enwedig nwyeiddio glo tanddaearol, a’r perygl y bydd yn arwain at ymsuddo sydyn. Mae eich Llywodraeth wedi arddel safbwynt cadarn ar ffracio. A wnewch chi yn awr arddel safbwynt cadarn tebyg ar nwyeiddio glo oherwydd y perygl y mae’n ei greu i ddaeareg yn fy rhanbarth?
 
14:02
Carl SargeantBywgraffiad
Wel, rwy’n synnu—wel, a ddylwn i synnu at y rhaniad yn y blaid gyferbyn? Rydym yn arddel safbwynt cadarn iawn ar ffracio a nwyeiddio glo. Mae Aelodau’r blaid gyferbyn yn San Steffan yn annog gweithgarwch yn ymwneud â ffracio a’r broses hon. Rwy’n credu bod cwestiwn yr Aelod yn rhyfedd iawn, ond rwy’n croesawu ei sylwadau ar y sail ein bod yn ceisio amddiffyn Cymru. Ac wrth gwrs, mae croeso iddo—rwy’n siŵr y down o hyd i gadair iddo os yw eisiau un mewn gwirionedd.
 
14:02
Kirsty WilliamsBywgraffiadArweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Weinidog, mae llyncdyllau wedi ymddangos yng ngerddi eiddo yn Llystawel yn Ystradgynlais a achoswyd gan Afon Tawe yn torri dros wal yr afon ac yn golchi tir i ffwrdd y tu ôl i’r wal. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru yn cytuno bod corff trefol hanesyddol wedi adeiladu’r wal ar ryw adeg, ond nid oes neb yn barod i gymryd cyfrifoldeb amdani yn awr. A wnewch chi edrych â chydymdeimlad ar yr achos dros atgyweirio wal afon Llystawel i atal unrhyw ddifrod pellach i eiddo yn yr ardal ac i atal toriad enfawr i mewn i Afon Tawe?
 
14:03
Carl SargeantBywgraffiad
Mae’r Aelod wedi ysgrifennu ataf ynglŷn â’r mater hwn, Lywydd, a byddaf yn ei ystyried ymhellach.
 
Rheoli Gwelyau Afonydd a Llifogydd
 
14:03
Mark IsherwoodBywgraffiad
6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio rheoli gwelyau afonydd i atal llifogydd? OAQ(4)0399(NR)
 
14:03
Carl SargeantBywgraffiad
Caiff y gwaith o reoli gwelyau afonydd ei gyflawni yn unol â’n dull dalgylch cyfan o reoli perygl llifogydd. Caniateir rheoli gwelyau afonydd drwy drwydded ar sail achosion unigol ar ôl asesu ei effaith ar yr afon, yn ogystal â’r effaith ddilynol ar berygl llifogydd i gartrefi a busnesau.
 
14:03
Mark IsherwoodBywgraffiad
Diolch. Wel, ar ôl i dirfeddiannwr o Ynys Môn gysylltu â mi i ddweud ei fod wedi clirio gwely’r afon ar ei ochr ef, ond fod y fferm gyfagos yn gwrthod gwneud, gan ddweud mai mater i Cyfoeth Naturiol Cymru oedd gwneud hynny, cysylltais â Cyfoeth Naturiol Cymru gyda’r rhybudd y byddai hyn yn arwain at lifogydd dros y gaeaf. Eu hateb oedd nad oedd yn ymddangos ei fod yn achosi unrhyw berygl o lifogydd i bobl neu eiddo. Afraid dweud, yn ystod y glaw trwm fis Rhagfyr, roedd hanner y cae dan ddŵr oherwydd y rhwystr. Cysylltodd fy etholwr eto â Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud bod tirfeddianwyr yn awr yn mynd i gyfrannu ar y cyd i ariannu’r gwaith clirio, ac yn lle cael cymorth, atebodd Cyfoeth Naturiol Cymru drwy ddweud, ‘Bydd angen caniatâd ymlaen llaw arnoch, mae angen i chi gael ffurflen, llenwi ffurflen, cyflwyno map, bla, bla, bla’ yn hytrach na gweithio gyda hwy i wneud yr hyn y dylent fod wedi’i wneud yn y lle cyntaf. Sut, felly, y byddech yn ymateb i’r pryder a fynegwyd gan fy etholwr ar Ynys Môn—rwy’n dyfynnu—’no wonder we’re having flooding. It’s down to bad management of rivers’?
 
14:04
Carl SargeantBywgraffiad
Rwy’n credu mai’r gwir am y mater y mae’r Aelod yn ei grybwyll, yn dweud bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud mai’r broses sydd ei hangen i wneud hyn—. Gall tirfeddianwyr ymgymryd â gwaith cynnal a chadw cyrsiau dŵr eu hunain ac rwyf wedi cwrdd â nifer o ffermwyr sy’n gwneud hynny, cyn belled â’u bod yn cael caniatâd gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Nid wyf yn credu ei fod yn rhy gymhleth. Y ffaith amdani yw, mae gweithio gyda’n gilydd yn bwysig iawn, ond ni allwn ganiatáu carthu neu reoli cyrsiau dŵr yn y dirgel, gan fod hynny’n effeithio ar fannau eraill. Dyna pam y mae’n rhaid cael proses reoli yn ei gylch.
 
14:05
Ann JonesBywgraffiad
Weinidog, gwn eich bod wedi gweld y difrod i eiddo yn sgil llifogydd â’ch llygaid eich hun ac rydych wedi dod gyda mi, sawl gwaith, i ardaloedd yn fy etholaeth sy’n dioddef o lifogydd. Fodd bynnag, credaf ei bod yn hanfodol fod pob asiantaeth sy’n ymwneud â hyn yn parhau i arfer dull cytbwys a rheoledig o reoli perygl llifogydd. A wnewch chi, felly, wrthsefyll galwadau i ganiatáu rhyddid direolaeth i dirfeddianwyr wneud gwaith draenio heb ystyried y canlyniadau i gymunedau i lawr yr afon?
 
14:05
Carl SargeantBywgraffiad
Wrth gwrs, ac fel rwyf newydd ei ddweud wrth yr Aelod yn flaenorol, mae’n ymwneud â gweithio gyda’r sector ffermio a thirfeddianwyr i weld sut y gallwn sicrhau bod gennym gynlluniau draenio ar gyfer rheoli tir. Nid oes gennym unrhyw gynlluniau i ddilyn model Lloegr drwy ganiatáu gwaith draenio ar ffosydd o unrhyw hyd, heb asesiad priodol o lifogydd. Bydd fy swyddogion yn parhau i gysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â’r mater. Bydd ein polisi, fel arfer, yn seiliedig ar dystiolaeth go iawn, yn hytrach nag adwaith difeddwl i ddigwyddiadau diweddar.
 
14:06
Alun Ffred JonesBywgraffiad
Rwy’n gwybod, Weinidog, nad ydych chi wedi cael cyfle i ddod i weld y difrod yn dilyn y llifogydd a ddigwyddodd ar ôl y Nadolig yma yn Arfon, ond mi gafodd dros 100 o dai eu gorlifo, a rhai yn uniongyrchol o afonydd yn gorlifo. Wrth gwrs, mae amryw o’r teuluoedd hynny yn dal allan o’u cartrefi. Pryd fydd adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru ar y llifogydd a rhan yr afonydd yn y difrod hwnnw yn cael ei gyhoeddi, ac a ydy Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyd-awdurdodi’r adroddiad hwnnw gyda’r awdurdod lleol a Dŵr Cymru? Diolch.
 
14:07
Carl SargeantBywgraffiad
Bydd yn rhaid i mi ysgrifennu at yr Aelod gyda manylion ynglŷn â dyddiad yr adroddiad a pha bryd y bydd yn cael ei ryddhau. Rwyf wedi cyfarfod â Cyfoeth Naturiol Cymru yn ddiweddar i drafod yr union fater hwn, ac rwy’n credu ei bod yn bwysig i ni ddysgu gwersi o’r digwyddiadau ym mis Rhagfyr. Ymwelais ag Arfon ychydig cyn y llifogydd mewn gwirionedd, sy’n llai na defnyddiol o ran yr hyn a ddigwyddodd ym mis Rhagfyr, ond rwy’n arbennig o ymwybodol o’r ardal a ddioddefodd lifogydd, a hoffwn fynegi fy nghydymdeimlad â’r teuluoedd a’r busnesau yr effeithwyd arnynt yn eich etholaeth.
 
14:07
Aled RobertsBywgraffiad
Weinidog, rydych chi wedi ei wneud e’n amlwg nad ydych chi’n barod i adolygu’r polisi o ran glanhau afonydd, ond a gaf i ofyn i chi—? Rydych chi’n cynnal adolygiad ynglŷn â’r sefyllfa yn Llanrwst, ond, i fod yn deg, mi oedd llawer iawn o’r gwaith sydd wedi cael ei wneud o gwmpas Llanrwst yn eithaf llwyddiannus. Ond mae yna broblemau yn nyffryn Conwy yn ei gyfanrwydd. Mae yna gynlluniau llifogydd ar gyfer yr afon Conwy, ond a ydych chi’n barod i ailystyried y sefyllfa o gofio bod cobiau yn ardal Llanrwst wedi cael eu dileu, ond mae yna gobiau, yn arbennig rhwng ardal Tan Lan a Threfriw, sydd, ar hyn o bryd, yn dal mewn bod.
 
14:08
Carl SargeantBywgraffiad
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn i ni barhau i fod â meddwl agored ar hyn. Mae gennym gynllun strategol ein bod yn gweithio ar ble y mae gennym risg hysbys o ran llifogydd. Ond fel y gwelsom ym mis Rhagfyr, cafwyd tua 1m o law yng Nghapel Curig, sy’n ddigynsail. Mae cynllunio ar gyfer hynny’n wirioneddol anodd. Yr hyn sy’n rhaid ni ei wneud yw adolygu’r materion a gododd drwy fis Rhagfyr a mis Ionawr ac edrych ar ba ddulliau ataliol y gallwn eu rhoi ar waith i liniaru rhai o’r risgiau hynny. Unwaith eto, mae’r meysydd y mae’r Aelod yn eu dwyn i fy sylw yn bethau y gwn fod Cyfoeth Naturiol Cymru a fy nhîm llifogydd yn edrych arnynt.
 
Y Cynllun Datblygu Gwledig
 
14:09
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
7. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae'r cynllun datblygu gwledig yn bwriadu gwella economi'r Gymru wledig? OAQ(4)0413(NR)
 
14:09
Rebecca EvansBywgraffiad
Mae adnewyddu economaidd yn ganolog i raglen datblygu gwledig 2015-20 Llywodraeth Cymru i gymunedau gwledig drwy’r dull twf gwyrdd. Cefnogir ymyriadau gwybodaeth ac arloesedd drwy dargedu buddsoddiad a fydd o fudd i swyddi a thwf yn y sector diwydiannau’r tir, y gadwyn cyflenwi bwyd a busnesau eraill yn ein cymunedau gwledig.
 
14:09
Andrew R.T. DaviesBywgraffiadArweinydd yr Wrthblaid
Diolch i chi am eich ateb, Weinidog. Clywais yr hyn a ddywedoch wrth ateb cwestiynau blaenorol am grantiau, a grantiau bach yn arbennig, o dan y cynllun datblygu gwledig, ond rwy’n credu, o ystyried dosbarthiad arian hyd yn hyn o dan y cynllun datblygu gwledig, fod lle i gynnig grantiau bach i ffermwyr yn arbennig, a fyddai wedyn efallai yn gallu datblygu arferion busnes gorau. A allwch ehangu ar eich atebion cynharach ynglŷn â’r pwynt strategol a wnaethoch? Oherwydd fe ddywedoch eich bod yn cydymdeimlo â chreu llwybrau strategol o gymorth, ac fe sonioch am ddyfeisiau darllen nodau defaid a dyfeisiau electronig o’r fath. A allwch roi ffrâm amser pan allech fod yn cyflwyno cynigion o’r fath i sicrhau bod y dyfeisiau hyn ar gael a’r pecynnau cymorth allan o’r cynllun datblygu gwledig?
 
14:10
Rebecca EvansBywgraffiad
Gallaf, bydd y cynigion hyn yn cael eu datblygu mewn partneriaeth â’r diwydiant. Byddent yn dod yn bennaf o dan y prosiectau cydweithredol sydd gennym fel un o elfennau’r rhaglen datblygu gwledig. Dyna gynllun datblygu’r gadwyn cyflenwi a chydweithredu. Rydym eisoes wedi agor un cyfnod ar gyfer cyflwyno datganiad o ddiddordeb ynglŷn â hyn ac yn dilyn hynny, rydym wedi cyhoeddi 29 o ymgeiswyr a ddewiswyd i fynd ymlaen i’r cam nesaf o gael cymeradwyaeth ffurfiol. Mae rhai o’r rheini yn brosiectau a fydd yn cynorthwyo ffermwyr yn sylfaenol ledled Cymru gyfan mewn ffordd sy’n benodol i’r sector i gyflawni newid trawsnewidiol yn gyffredinol. Mae hynny’n cynnwys opsiynau o grantiau bach i alluogi i’r pethau hynny ddigwydd.
 
14:10
Elin JonesBywgraffiad
Ddirprwy Weinidog, mae yna ffermwyr ifanc yn fy etholaeth i sy’n awyddus i chi fod yn cyhoeddi manylion eich cynllun mynediad ffermwyr ifanc. Y wybodaeth ddiweddaraf maen nhw wedi ei chlywed yw na fydd yna gynllun yn cael ei gyhoeddi tan o leiaf mis Mehefin. Mae hynny, wrth gwrs, ar ôl y dyddiad cau ar gyfer ffurflenni IACS am eleni, ac mae hynny’n creu problemau ymarferol iawn i rai o’r bobl ifanc yma. A allech chi edrych, felly, at gyhoeddi’r cynllun yma ac agor y cynllun ar gyfer ceisiadau ynghynt yn hytrach nag yn hwyrach, a gwneud hynny cyn mis Mai?
 
14:11
Rebecca EvansBywgraffiad
Diolch. Ein blaenoriaeth, hyd yn hyn, o dan y rhaglen datblygu gwledig ar gyfer ffermwyr ifanc yw buddsoddi mewn sgiliau a thwf ac yn y blaen, yn enwedig gyda chyhoeddi ein cynllun Mentro, sef cynllun a ddatblygwyd gennym i helpu i gyflwyno trefniadau ffermio cyfran i ffermwyr ifanc. Felly, dyna beth yw ein blaenoriaeth hyd yn hyn, a hefyd i ddatblygu’r gwaith o dan Cyswllt Ffermio. Felly, AgriScot, Academi Amaeth ac yn y blaen. Dyna oedd ein blaenoriaeth ar ddechrau’r rhaglen datblygu gwledig na chawsom gymeradwyaeth iddi hyd nes fis Mai y llynedd. Credaf ei bod yn hawdd anghofio mai saith mis yn unig i mewn i raglen saith i 10 mlynedd rydym ni.
 
14:12
Kirsty WilliamsBywgraffiad
Rwy’n datgan buddiant fod fy ngŵr yn bartner mewn busnes ffermio ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed. Weinidog, mae pob ffermwr wedi cyfrannu at y Cynllun Datblygu Gwledig drwy’r trosglwyddo o golofn i golofn, ac eto, os yw cylch cyntaf y cynllun grant cynhyrchu cynaliadwy yn ffon fesur, ychydig iawn a fydd yn elwa, mewn gwirionedd. Pa gamau y gall ffermwyr ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed ddisgwyl i chi eu cymryd i sicrhau bod gan gymaint ohonynt â phosibl fantais o gymryd rhan yn y cynllun datblygu gwledig mewn cynlluniau a fydd nid yn unig yn eu helpu i fuddsoddi yn eu busnesau o ran technoleg newydd, ond a fyddech yn ystyried, er enghraifft, cynllun tebyg i’r un yn ne Iwerddon a oedd yn canolbwyntio ar gronfeydd data genetig a’r gallu i wella ein stoc bridio?
 
14:13
Rebecca EvansBywgraffiad
Diolch am eich cwestiwn. Wrth gwrs, ers mis Mai, rydym eisoes wedi sicrhau bod gwerth mwy na £200 miliwn o gymorth ar gael, ac mae’r mwyafrif helaeth yn mynd i ffermwyr a thirfeddianwyr. Mae sector diwydiannau’r tir wedi cael prif flaenoriaeth yn y rhaglen. Rydym eisoes wedi agor cyfnodau cyflwyno datganiadau o ddiddordeb ar gyfer Cyswllt Ffermio, Glastir Uwch, Glastir – Tir Comin, Glastir Organig, Glastir – Adfer Coetir, Glastir – Creu Coetir, y grant cynhyrchu cynaliadwy, y grant buddsoddi mewn busnesau bwyd, y gronfa datblygu cymunedau gwledig, y cynllun cydweithredu a datblygu’r gadwyn gyflenwi, LEADER a phartneriaeth arloesedd Ewrop. Mae’r mwyafrif helaeth o’r rheini ar gael i ffermwyr yn unig mewn gwirionedd. Felly, credaf fod ffermwyr wedi cael llawer o gyfleoedd eisoes o dan ein rhaglen datblygu gwledig, sydd ond wedi bod yn weithredol ers saith mis, fel y dywedais.
 
Cynllun Trydan Dŵr Rhaeadr y Graig Lwyd
 
14:13
Janet Finch-SaundersBywgraffiad
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynllun trydan dŵr Rhaeadr y Graig Lwyd? OAQ(4)0403(NR)
 
14:13
Carl SargeantBywgraffiad
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wrthi’n ystyried y cais am y drwydded tynnu dŵr sy’n gysylltiedig â’r prosiect hwn. Ni allaf wneud unrhyw sylwadau ar agweddau cynllunio’r cynllun hwn.
 
14:14
Janet Finch-SaundersBywgraffiad
Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol o’r oddeutu 6,000 o lofnodion i wrthwynebu cynllun trydan dŵr Rhaeadr y Graig Lwyd. Mae’r pryderon yn ymwneud yn bennaf â diffyg ymgynghori, methiant i ymgysylltu, a phrinder manylion. Gyda gwaith mor fawr, ac mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol, sy’n atyniad enfawr i dwristiaeth ac yn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, mae’n hanfodol fod barn y rhai yr effeithir arnynt yn cael ei hystyried yn rhan bwysig o’r broses gynllunio hon. Mae nifer yr enghreifftiau o fethiant i gydymffurfio mewn perthynas â thrwyddedau trydan dŵr ym mharc cenedlaethol Eryri wedi mwy na dyblu yn ystod y tair blynedd ddiwethaf, a hynny sydd wrth wraidd llawer o’r amheuaeth. Sut y byddwch yn sicrhau bod y sylwadau hyn yn cael eu clywed, eu hystyried a’u mynegi’n gywir er mwyn adlewyrchu pob barn, o blaid ac yn erbyn y cynllun?
 
14:14
Carl SargeantBywgraffiad
Lywydd, fel y dywedais yn glir iawn yn y gorffennol, ni allaf roi sylwadau ar gais cynllunio byw. Mae’r Aelod yn gwybod hynny’n iawn.
 
14:15
Julie MorganBywgraffiad
Mae’r Gweinidog yn ymwybodol o fy mrwdfrydedd ynglŷn â’r cynllun trydan dŵr yng nghored Radur, sydd ar afon Taf. Gwn fy mod wedi’i grybwyll sawl gwaith yn y Siambr hon, gan fy mod yn credu ei fod yn gynllun gwych, a thalaf deyrnged i’r awdurdod lleol am yr hyn y maent wedi’i wneud. Ond pa fath o gymhellion y gall y Gweinidog eu cynnig i grwpiau cymunedol neu awdurdodau lleol er mwyn harneisio grym y digonedd o ddŵr sydd gennym yng Nghymru, a chynyddu nifer cynlluniau o’r fath, fel cored Radur, ledled Cymru?
 
14:15
Carl SargeantBywgraffiad
O’r holl wahoddiadau a dderbyniais heddiw, rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y gwahoddiad i fynd gyda Julie Morgan i weld y cynllun hwn cyn bo hir. Mae’n gynllun gwych, a thalaf deyrnged hefyd i’r bobl sy’n ymwneud ag ef yn lleol. Rydym yn gweld mwy o fuddsoddi mewn cynlluniau trydan dŵr; mae gennym ddigonedd o gyflenwad. Bûm yn y Cymoedd yn ddiweddar yn edrych ar gynllun newydd sy’n cael ei ddatblygu yno gyda Brendan Toomey. Unwaith eto, fe allwn, ac fe ddylem, ddefnyddio cymaint o’r adnodd naturiol hwn â phosibl. Mae gennym gynllun rydym newydd ei lansio sy’n system gefnogi ar ôl Ynni’r Fro lle’r ydym yn helpu i alluogi cymunedau i greu cynlluniau fel hyn yn ei hetholaeth hi.
 
14:16
Yr Arglwydd / Lord Elis-ThomasBywgraffiad
Rwy’n datgan diddordeb, gan fy mod i’n byw ar bwys Rhaeadr y Graig Lwyd.
 
A fyddai’r Gweinidog yn cytuno y dylai Aelodau’r Cynulliad adael i bwyllgorau cynllunio perthnasol gymryd penderfyniadau mewn achosion o gynllunio?
 
14:16
Carl SargeantBywgraffiad
Wrth gwrs, mater i’r awdurdod cynllunio lleol neu/a Cyfoeth Naturiol Cymru yw hwn. Mae’r rhain yn benderfyniadau pwysig, ac rwy’n disgwyl i’r holl benderfyniadau, heb ragfarn, gael eu gwneud yn deg. Ond weithiau mae’n amhriodol i Aelodau wneud sylwadau amhriodol pan na chyflwynwyd yr holl fanylion o’u blaenau, manylion y gellid cyfeirio atynt ar brydiau ac mewn rhai amgylchiadau.
 
14:17
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Diolch yn fawr iawn, Weinidog.
 
2. Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
 
14:17
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at eitem 2, sef cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, a daw cwestiwn 1 gan Janet Haworth.
 
Janet HaworthBywgraffiad
Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda chynrychiolwyr y diwydiant ffermio i sefydlu cynlluniau a allai atal llifogydd yn y dyfodol?
 
14:17
Lesley GriffithsBywgraffiadY Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Nid wyf yn credu mai fy nghwestiwn i yw hwnnw.
 
14:17
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Nid wyf yn credu mai dyna’r cwestiwn sydd ar y papur.
 
14:17
Janet HaworthBywgraffiad
Na, mae’n ddrwg gennyf.
 
14:17
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Wel, na; a ydych chi’n mynd i ofyn y cwestiwn, neu a wnawn ni symud ymlaen?
 
14:17
Janet HaworthBywgraffiad
Ydw, mae’n ddrwg gennyf am hynny.
 
Ceiswyr Lloches
 
14:17
Janet HaworthBywgraffiad
1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i sefydlu ceiswyr lloches yng Nghymru? OAQ(4)0420(CTP)
 
14:17
Lesley GriffithsBywgraffiad
Nid yw polisi lloches a gwasgaru ceiswyr lloches wedi’i ddatganoli i Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, rydym yn croesawu ceiswyr lloches o fewn y pedair ardal wasgaru yng Nghymru.
 
14:18
Janet HaworthBywgraffiad
Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fod pobl yn ein rhanbarthau a’n hetholaethau yn bryderus iawn am yr argyfwng ffoaduriaid, a bydd ein hawdurdodau lleol ar flaen y gad gydag unrhyw gynlluniau adsefydlu. Felly, pa bryd y gallwch roi mwy o wybodaeth am gynlluniau sefydlu?
 
14:18
Lesley GriffithsBywgraffiad
Tybiaf fod yr Aelod yn cyfeirio at y rhaglen a arweinir gan Lywodraeth y DU i adsefydlu ffoaduriaid Syria, rhaglen yr ydym yn gweithio’n agos iawn arni gyda Gweinidog Llywodraeth y DU ar gyfer ffoaduriaid Syria. Fe fyddwch yn ymwybodol fod pob un o’r 22 awdurdod lleol yn awyddus i adsefydlu ffoaduriaid Syria. Bu i bedwar ohonynt—Ceredigion, Torfaen, Castell-nedd Port Talbot, a Chaerffili—sefydlu tua 50 o ffoaduriaid Syria cyn y Nadolig, a gwn fod y 18 awdurdod lleol arall ar wahanol gamau o’u hystyriaethau.
 
14:19
Joyce WatsonBywgraffiad
Rwyf wedi lleisio’r pryderon hyn sawl gwaith, Weinidog, ac yn awr mae Europol yn amcangyfrif bod o leiaf 10,000 o blant ar eu pen eu hunain wedi diflannu ar ôl cyrraedd Ewrop. Ofnir bod llawer wedi syrthio i ddwylo masnachwyr pobl cyfundrefnol, ac mae’r nifer yn y DU yn unig wedi dyblu y mis hwn. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud mai dim ond plant sy’n agored i niwed o’r Eidal a Gwlad Groeg, ac sydd â chysylltiad teuluol yn y DU fydd Prydain yn eu derbyn—felly nid unrhyw blentyn o Calais—ac mae Cymru, wrth gwrs, yn rhwym i’r penderfyniad hwnnw. Ond a allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni, Weinidog, ynglŷn â’r rhaglen i adsefydlu ffoaduriaid Syria yma yng Nghymru, ac a allwch ddarparu diweddariad ar yr hyn rydym yn ei wneud fel gwlad o ran derbyn, canfod a diogelu ffoaduriaid sy’n blant?
 
14:19
Lesley GriffithsBywgraffiad
Diolch i Joyce Watson am ei chwestiwn. Fe glywsoch fy ateb i Janet Haworth ynghylch sefyllfa’r awdurdodau lleol mewn perthynas â’r rhaglen i adsefydlu ffoaduriaid Syria. Yr wythnos nesaf byddaf yn cadeirio’r ail dasglu yn edrych ar raglen ffoaduriaid Syria. Ddydd Llun byddaf yn cael sgwrs dros y ffôn gyda Richard Harrington, sef Gweinidog Llywodraeth y DU, i gadarnhau’r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud mewn perthynas â’r niferoedd helaeth o blant ar eu pen eu hunain rydych newydd gyfeirio atynt. Fe fyddwch yn ymwybodol fod Llywodraeth y DU wedi dweud na fyddai unrhyw blant ar eu pen eu hunain ymysg y gyfran gyntaf o ffoaduriaid i ddod i mewn i’r wlad, ond pan gaf y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog byddaf yn hapus iawn i hysbysu’r Aelodau.
 
14:20
Alun Ffred JonesBywgraffiad
Gyda sylw ar eich ymateb i Janet Haworth, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch cyngor Ceredigion o dan arweinyddiaeth ddoeth a chadarn Ellen ap Gwynn ar y modd y trefnwyd croeso a llety i ffoaduriaid o Syria yn y cyfnod cyn y Nadolig?
 
14:21
Lesley GriffithsBywgraffiad
Gwnaf, yn sicr. Soniais fod pedwar awdurdod lleol—Ceredigion, Torfaen, Castell-nedd Port Talbot a Chaerffili—wedi arwain y ffordd. O ran Ceredigion yn benodol, credaf nad oes unrhyw ffoaduriaid neu geiswyr lloches wedi bod yn eu hardal o’r blaen, felly maent wedi gwneud cryn waith ac wedi dangos ymrwymiad i sicrhau, pan gyrhaedda’r ffoaduriaid hynny—oherwydd gallwch werthfawrogi efallai nad y cyfnod cyn y Nadolig yw’r amser gorau, gan gofio bod gwasanaethau cyhoeddus yn cau dros y Nadolig. Felly, credaf fod y pedwar awdurdod lleol hwnnw, gan gynnwys Ceredigion, yn sicr wedi arwain y ffordd.
 
14:21
Eluned ParrottBywgraffiad
Weinidog, rwyf wedi derbyn sylwadau gan nifer o etholwyr a fyddai’n dymuno rhoi cartref i blentyn ar ei ben ei hun pe bai Llywodraeth y DU yn gwneud yr hyn y dylai ei wneud a chroesawu rhagor o’r bobl ifanc hyn sy’n agored i niwed i mewn i’n gwlad. Tybed a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried sefydlu cofrestr o’r bobl hynny fel bod modd cyflawni rhai o’r cyn-wiriadau a’r gwaith papur ymlaen llaw o bosibl.
 
14:22
Lesley GriffithsBywgraffiad
Mae nifer o unigolion o bob rhan o Gymru wedi ysgrifennu ataf i gynnig llety, ac rwyf wedi eu rhoi mewn cysylltiad â’u hawdurdodau lleol perthnasol, gan fy mod yn credu ei fod yn rhywbeth y gallant ei drafod. Gwn fod Llywodraeth y DU wedi ystyried yr hyn y gellid ei wneud ynghylch y mater hwn, ond oherwydd y ffoaduriaid sy’n dod i mewn, credaf efallai nad cartref unigolyn yw’r lle gorau ar eu cyfer. Ond credaf ei fod yn rhywbeth y mae awdurdodau lleol yn sicr yn awyddus i gronni’r wybodaeth yn ei gylch, a byddaf yn gofyn i’r Gweinidog am y wybodaeth ddiweddaraf pan fyddaf yn cael sgwrs ffôn ag ef ddydd Llun.
 
14:22
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Cwestiwn 2, Janet Finch-Saunders.
 
A wnaiff yr Aelodau geisio peidio â llusgo ar ôl?
 
Trosglwyddo Asedau Cymunedol
 
14:22
Janet Finch-SaundersBywgraffiad
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drosglwyddo asedau cymunedol? OAQ(4)0417(CTP)
 
14:22
Lesley GriffithsBywgraffiad
Ar 7 Rhagfyr, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ar ddiogelu asedau cymunedol. Roedd yn rhoi diweddariad ar yr ymatebion i’r ymgynghoriad, a ddaeth i ben ar 11 Medi. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi gwaith yn y maes hwn. Bydd angen i Lywodraeth yn y dyfodol ystyried deddfu mewn perthynas ag asedau cymunedol.
 
14:23
Janet Finch-SaundersBywgraffiad
Diolch yn fawr, Weinidog. Rydym yn aml yn clywed straeon yn y Siambr hon yn cymharu â llwyddiant Llywodraeth y DU. Wel, dyma un arall. Mae’r hawl gymunedol i wneud cais yn Lloegr wedi cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn, gyda thros 2,600 wedi’u rhestru erbyn hyn ar draws y wlad, yn cynnwys tafarndai. Mae cant a hanner—ie, 150—o asedau bellach wedi’u trosglwyddo i berchnogaeth y gymuned. Weinidog, mae eich Llywodraeth yn gwrthod yn lân â mabwysiadu’r model hwn, ac eto mae’r ffigurau mor gadarnhaol. A wnewch chi ddweud wrth y Siambr faint o asedau sydd wedi cael eu trosglwyddo i berchnogaeth gymunedol o dan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru?
 
14:23
Lesley GriffithsBywgraffiad
Nid yw’r ffigur hwnnw gennyf wrth law, ond rwy’n falch iawn, yn dilyn yr ymgynghoriad, ei bod yn amlwg iawn fod y rhan fwyaf o’r rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad hwnnw’n dymuno gweld ymagwedd sy’n benodol i Gymru. Byddaf yn sicr yn edrych ar yr hyn sydd wedi’i wneud yn Lloegr, yn enwedig mewn perthynas â Deddf Lleoliaeth 2011, ond mae fy swyddogion yn sicr yn gweithio’n galed yn awr, gydag ymgysylltiad da iawn â rhanddeiliaid ar lawr gwlad i sicrhau’r ymagwedd amgen honno yng Nghymru.
 
14:24
Ann JonesBywgraffiad
Weinidog, rydych yn cyfeirio at y ddogfen ymgynghori ar eich cynigion ar gyfer trosglwyddo asedau cymunedol, a gafodd groeso eang. Credaf ei bod yn bwysig sicrhau ein bod yn cadw gwasanaethau a chyfleusterau lleol pwysig a’n bod yn sicrhau bod y cyfleusterau hynny’n parhau, a’n bod hefyd yn creu swyddi a sgiliau o fewn ein cymunedau lleol i bobl leol. A ydych yn cytuno, felly, fod angen i ni wrando ar bawb a gefnogodd eich ymgynghoriad?
 
Fe gyfeirioch at yr ymatebion rhagorol a gawsom i’r ymgynghoriad, ond maent yn dymuno gweld prosiect a chynllun trosglwyddo asedau cymunedol sy’n benodol i Gymru, a dylem fod yn gweithio tuag at hynny.
 
14:25
Lesley GriffithsBywgraffiad
Yn hollol; credaf fod yr ymgynghoriad wedi canfod cryn gefnogaeth, fel y dywedais, dros sefydlu ymagwedd sy’n benodol i Gymru. Teimlai’r rhan fwyaf o ymatebwyr hefyd y dylai penderfyniadau gael eu gwneud ar lefel leol, ac os oes unrhyw restrau i’w cadw, y dylid eu cadw ar lefel leol, wedi’u llywio gan y cyd-destun lleol. Felly, rwy’n parhau i fod o’r farn y dylai fod gennym ymagwedd sydd wedi’i theilwra i’r hyn sydd orau i Gymru. Rwy’n sicrhau bod gwaith pellach yn cael ei wneud ar hyn, fel y dywedais, ond os bydd angen deddfwriaeth arnom, bydd yn fater ar gyfer y Llywodraeth nesaf.
 
14:25
Aled RobertsBywgraffiad
Weinidog, mae yna nifer o gynigion ar hyn o bryd yn y gogledd i drosglwyddo asedau cymunedol, yn cynnwys rhai llyfrgelloedd. Un o’r problemau sy’n ymddangos ydy’r ffaith bod cynghorau ddim yn barod i ryddhau rhestrau llyfrau llyfrgelloedd sydd yn cael eu cadw ganddyn nhw yn ganolog. Felly, a wnewch chi gael trafodaethau efo’ch cyd-Weinidog Ken Skates, i weld a yw hi’n bosibl ichi edrych ar hynny, sydd yn rhwystr sylfaenol, ar hyn o bryd, i’r cynigion yma fynd yn eu blaen?
 
14:26
Lesley GriffithsBywgraffiad
Gwnaf, yn bendant. Nid oeddwn yn ymwybodol o hynny, ond byddaf yn hapus iawn i gael trafodaeth gyda Ken Skates ynglŷn â hynny, oherwydd os yw’n rhwystr i lyfrgelloedd sy’n dod i mewn i berchnogaeth gymunedol, yna yn amlwg, rwy’n sicr y gellid dod dros hynny’n ddidrafferth. Ond rwy’n hapus iawn i gael y drafodaeth honno a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gyda’r canlyniad.
 
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
 
14:26
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at gwestiynau gan lefarwyr y pleidiau. Yn gyntaf y prynhawn yma, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Mohammad Asghar.
 
14:26
Mohammad AsgharBywgraffiad
Diolch i chi, Lywydd. Weinidog, croesawaf y penderfyniad i ddyfarnu cyllid i Anabledd Cymru i’w alluogi i barhau â’i waith yn hyrwyddo hawliau, annibyniaeth a chydraddoldeb pobl anabl ar ôl iddo golli ei gyllid craidd yn y lle cyntaf. Fodd bynnag, bydd incwm Anabledd Cymru yn dal i fod wedi’i leihau’n sylweddol. Gan mai eich adran chi sy’n gyfrifol am Anabledd Cymru, a fyddwch yn gweithio’n agos gyda’r sefydliad yn ystod ei adolygiad strategol i sicrhau bod ganddo ddyfodol cynaliadwy yma yng Nghymru?
 
14:27
Lesley GriffithsBywgraffiad
Fel y nododd yr Aelod, methodd y sefydliad yn ei gais am gyllid; roedd yn broses gystadleuol ac ni lwyddasant i gael y cyllid hwnnw. Maent yn cael eu hariannu gennyf, ac rwy’n gweithio’n agos iawn gyda’r sefydliad i weld a allwn ddod o hyd i ffordd ymlaen. Nid wyf yn hollol siŵr sut y gallwch ddweud y bydd cyllid craidd yn cael ei golli, gan nad yw’r swm hwnnw o arian wedi’i gyrraedd eto, ond rwy’n hapus iawn i barhau i weithio gyda hwy. Cyfarfûm â llawer ohonynt o’r sefydliad yr wythnos diwethaf mewn digwyddiad i ddathlu cyrsiau hyfforddi roedd llawer o’u haelodau wedi bod arnynt.
 
14:28
Mohammad AsgharBywgraffiad
Diolch yn fawr, Weinidog, ond mae’r cyllid yn dal i fod wedi’i leihau. Mae Pwyllgor Cydraddoldebau Menywod Tŷ’r Cyffredin wedi gwneud dros 30 o argymhellion i fynd i’r afael â gwahaniaethu yn erbyn pobl drawsrywiol. Mae’r rhain yn cynnwys adolygiad o’r bôn i’r brig o’r modd y mae’r GIG yn trin pobl drawsrywiol, rhagor o hyfforddiant i staff ysgolion i gefnogi pobl ifanc rhywedd gwahanol a hyfforddiant ar gyfer swyddogion yr heddlu ar droseddau casineb trawsffobig. A wnaiff y Gweinidog ystyried yr argymhellion hyn a gwneud datganiad i’r Cynulliad hwn ar ba gamau y bydd yn eu rhoi ar waith i hyrwyddo cydraddoldeb trawsrywiol yng Nghymru?
 
14:28
Lesley GriffithsBywgraffiad
Mae hynny’n rhywbeth y bûm yn canolbwyntio arno dros y 12 mis diwethaf, ac rwyf wedi cael sawl cyfarfod eto gydag aelodau o’r gymuned drawsrywiol. Credaf ein bod wedi bwrw ymlaen â chryn dipyn o waith. Byddaf yn hapus iawn i edrych ar unrhyw argymhellion a gyflwynir.
 
14:28
Mohammad AsgharBywgraffiad
Diolch yn fawr, Weinidog. Mae Llywodraeth y DU wedi lansio gwefan Educate Against Hate fel rhan o ymgyrch newydd i fynd i’r afael ag eithafiaeth yn ein hysgolion. Weinidog, a wnewch chi ategu fy nghroeso i’r fenter hon, a pha drafodaethau rydych wedi’u cael gyda’ch cyd-Weinidogion ynghylch cyflwyno mesurau i fynd i’r afael ag eithafiaeth bosibl yn ein hysgolion yng Nghymru?
 
14:29
Lesley GriffithsBywgraffiad
Unwaith eto, mae’r maes hwn wedi bod yn ffocws ar draws y Llywodraeth. Yn ddiweddar, cefais gyfarfod gyda fy nghyd-Aelodau Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, a Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, i weld yn union beth arall y gallwn ei wneud gyda’n disgyblion mewn ysgolion ledled Cymru.
 
14:29
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at lefarydd dros dro Plaid Cymru, Lindsay Whittle.
 
14:29
Lindsay WhittleBywgraffiad
Diolch, Lywydd. Weinidog, mae llawer o bobl ifanc yn gweld bod mynediad at swyddi gwell sy’n talu cyflogau uwch yn dod yn llawer haws pan fyddant yn gallu nodi interniaethau neu brofiad gwaith gwirfoddol a gawsant. Yn aml, mewn marchnad swyddi gystadleuol, gall hyn olygu’r gwahaniaeth rhwng cael a methu â chael swydd. Nid oes gan lawer o’n pobl ifanc sydd o gefndiroedd tlotach y modd neu’r cyfle i allu gwneud y pethau hyn. Sut y gallwn ni sicrhau chwarae teg drwy ddarparu mwy o fynediad at interniaethau a gwaith gwirfoddol ar gyfer pobl ifanc o gefndiroedd tlotach?
 
14:30
Lesley GriffithsBywgraffiad
Credaf eich bod yn crybwyll pwynt pwysig iawn, gan fy mod yn siŵr y bydd Aelodau o gwmpas y Siambr yn aml wedi cael pobl yn holi i weld a allwn helpu gyda phrofiad gwaith ac yn y blaen, ac yn aml, y rhieni sy’n cysylltu â ni gan eu bod yn ein hadnabod ac yn y blaen. Felly, credaf eich bod yn tynnu sylw at y pwynt nad yw’r cysylltiadau hynny, o bosibl, gan bobl ifanc o gefndiroedd mwy difreintiedig. Mae’n sicr yn rhywbeth rwyf wedi’i drafod gyda swyddogion i weld beth arall y gallwn ei wneud, o fewn rhai o’n rhaglenni cyfredol, er enghraifft, i weld a oes yna agwedd ar hyn lle y gallwn roi profiad gwaith i ddisgyblion o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf. Mae hwnnw’n un maes y bûm yn canolbwyntio arno.
 
14:30
Lindsay WhittleBywgraffiad
Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy’n gwerthfawrogi ein bod yng nghamau cynnar proses y gyllideb ar hyn o bryd, ond a yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw asesiad o effaith y toriadau i addysg bellach ar ddysgwyr benywaidd, a’r grwpiau hynny sydd bellaf oddi wrth astudio, a phellaf oddi wrth y gweithle o ganlyniad i hynny?
 
14:31
Lesley GriffithsBywgraffiad
Rwy’n siŵr fod hynny wedi cael ei ystyried yn ein hasesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb, ond ni allaf roi’r manylion ar hynny i chi yn y Siambr.
 
14:31
Lindsay WhittleBywgraffiad
Diolch yn fawr, Weinidog. Weinidog, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i alluogi ac i annog menywod i gael mynediad at brentisiaethau mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, os gwelwch yn dda?
 
14:31
Lesley GriffithsBywgraffiad
Mae hwnnw’n waith sydd wedi bod yn mynd rhagddo ers blynyddoedd lawer, ac yn sicr, pan oeddwn yn Ddirprwy Weinidog Sgiliau, Arloesi a Gwyddoniaeth, roedd yn rhywbeth roeddem yn ei annog. Ac rwyf wedi cael trafodaethau gyda fy nghyd-Aelod Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, i weld beth arall y gallwn ei wneud. Unwaith eto, mae’n waith rwyf wedi bod yn edrych arno gyda’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol—mae’n rhywbeth rwyf wedi’i drafod gyda hwy—a gwn y bydd cyhoeddiad, y tymor hwn gobeithio, ynghylch prentisiaethau.
 
14:31
Lindsay WhittleBywgraffiad
Iawn. Diolch.
 
14:31
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at lefarydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Peter Black.
 
14:32
Peter BlackBywgraffiad
Diolch i chi, Lywydd. Weinidog, mae adroddiadau’r ‘South Wales Evening Post’ heddiw yn dweud eu bod wedi cael gwybod gan Lywodraeth Cymru na fydd yr arian cyfalaf sydd dros ben o Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio yn cael ei wario, ac na fydd unrhyw gyhoeddiad ar hynny, tan ar ôl etholiadau’r Cynulliad. Mae hynny’n groes i’r hyn a ddywedoch wrth y pwyllgor ar 21 Ionawr. A allwch roi rhywfaint o eglurhad ynglŷn â hyn, os gwelwch yn dda?
 
14:32
Lesley GriffithsBywgraffiad
Fe fyddwch yn gwybod ein bod erbyn hyn wedi cael yr adroddiad terfynol, mewn ffordd—mae nifer o ymchwiliadau parhaus wedi bod i Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio. Ond mae’n golygu ein bod mewn sefyllfa bellach i ryddhau arian sylweddol, a fydd o fudd i gymunedau ledled Cymru. Rydym mewn trafodaethau ar hyn o bryd. Mae’r cyllid hwnnw bellach wedi’i ryddhau, ond yn anffodus, oherwydd amseru, gallai hynny fod ar ôl yr etholiad ym mis Mai.
 
14:32
Peter BlackBywgraffiad
Wel, diolch am eich eglurhad o’ch datganiad cynharach i’r pwyllgor, Weinidog. Rwy’n siomedig iawn, os mai felly y mae. Fel y byddwch yn gwybod, mae cynllun arbennig o dda yn y Mwmbwls, ger pier y Mwmbwls, sydd angen yr arian hwnnw’n ddybryd, ac sydd wedi’i ohirio ers i holl saga Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio gychwyn. A gaf fi ofyn a fyddai modd i chi gael golwg ar y prosiect hwnnw yn y Mwmbwls yn benodol i weld a allwch ei gynorthwyo i gael ei draed dano’n gyflymach, yn hytrach na’u bod yn gorfod aros am ragor o fisoedd cyn bod unrhyw syniad ganddynt pa bryd y byddant yn gallu dechrau?
 
14:33
Lesley GriffithsBywgraffiad
Gwn fod fy swyddogion wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd â chynrychiolwyr o brosiect pier y Mwmbwls, drwy gydol y cyfnod er pan ataliwyd Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, a gwn fod y cyfarwyddwr tai ac adfywio wedi ymweld â’r prosiect ei hun, ac wedi gweld ei rinweddau. Felly, byddaf yn gofyn i swyddogion barhau i gael y trafodaethau hynny.
 
14:33
Peter BlackBywgraffiad
Diolch yn fawr, Weinidog. Bydd hynny’n ddefnyddiol iawn. Mae’n siomedig fod yr arian hwn wedi’i roi i un ochr i bob pwrpas, ac na fu modd ei wario. Fe fyddwch yn gwybod, wrth gwrs, fod nifer o’ch swyddogion mewn gwirionedd yn ymwneud â bwrdd Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, a hefyd gyda’r holl saga ynghylch y gost gyda’r arian hwn, a gwerthu tir. Ac wrth gwrs, roedd yr adroddiad yn feirniadol iawn o’r cyngor a roddwyd i fwrdd Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio gan ymgynghorwyr allanol, ond hefyd, rwy’n tybio, gan swyddogion Llywodraeth Cymru, a oedd yn ymwneud â hyn hefyd. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn erbyn swyddogion a ddarparodd y cyngor hwnnw, a oedd mor anghywir?
 
14:34
Lesley GriffithsBywgraffiad
Wel, fe fyddwch yn ymwybodol fod y prosiect wedi’i gyflwyno yn ôl yn 2010. Mae’r adroddiad bellach wedi’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru, ac rwyf wedi ymrwymo i roi ymateb cyn diwedd y tymor hwn. Felly, mae adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn rhywbeth rydym yn ei ystyried yn ofalus iawn, ac rwy’n siŵr y bydd y cwestiynau a ofynnwch yn cael eu hateb yn ein hymateb.
 
Cymunedau yn Gyntaf
 
14:34
Mohammad AsgharBywgraffiad
3. Pa systemau sydd ar waith i fonitro effeithiolrwydd y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf? OAQ(4)0411(CTP)
 
14:34
Lesley GriffithsBywgraffiad
Diolch. Mae system rheoli perfformiad AspireView, sy’n seiliedig ar atebolrwydd ar sail canlyniadau, yn darparu adroddiadau ar allbynnau a chanlyniadau Cymunedau yn Gyntaf. Mae hyn yn caniatáu i ni fonitro perfformiad, cymharu a chael adborth ar lefelau lleol a chenedlaethol yn ôl fframwaith canlyniadau’r rhaglen. Cafwyd adroddiadau am ganlyniadau cynyddol gadarnhaol. Cyhoeddwyd data perfformiad ar gyfer 2014-15 ar ein gwefan.
 
14:35
Mohammad AsgharBywgraffiad
Diolch i chi am yr ateb manwl, Weinidog. Sefydlwyd y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf er mwyn cau’r bwlch economaidd, y bwlch sgiliau a’r bwlch iechyd rhwng yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a’r ardaloedd mwy cefnog. Fodd bynnag, yn 2013-14, cafwyd tanwariant o £550,000 yng nghyllideb Cymunedau yn Gyntaf cyngor dinas Abertawe. Y llynedd, cafwyd tanwariant o dros £200,000 gan Abertawe, a bellach, eleni, yn ôl pob tebyg, bydd tanwariant o dros £160,000 yn Abertawe. A wnaiff y Gweinidog roi gwybod i ni faint o arian a ddychwelwyd i Lywodraeth Cymru gan awdurdodau lleol nad ydynt yn gwario’u cyllid Cymunedau yn Gyntaf, a sut y caiff y gwariant hwn ei fonitro i sicrhau gwerth am arian yn hytrach na’i fod yn cael ei wastraffu?
 
14:36
Lesley GriffithsBywgraffiad
Nid awdurdodau lleol yw pob un o gyrff cyflawni arweiniol Cymunedau yn Gyntaf. Mae nifer ohonynt yn sefydliadau trydydd sector. Felly, ni allaf roi’r ffigurau penodol hynny i chi yn awr. Mae un o’ch cyd-Aelodau wedi cyflwyno cwestiwn Cynulliad ysgrifenedig yn gofyn yr un peth yn union, a phan gaiff ateb i’r cwestiwn hwnnw, fe wnaf yn siŵr eich bod yn cael yr un ateb hefyd.
 
14:36
Jenny RathboneBywgraffiad
Fy mhryder i yw a ydym yn cyrraedd y teuluoedd sydd fwyaf o angen gwasanaethau Cymunedau yn Gyntaf mewn gwirionedd. Sut y gwyddom nad yw rhaglenni ond yn ymdrin â’r bobl sy’n dod i’r golwg yn hytrach na’r rhai sydd fwyaf o’u hangen, y rhai sydd angen allgymorth o’r fath? Felly, pa waith a wneir gyda’r ystadegau a gasglwch er mwyn sicrhau bod y rhain yn ffigurau ystyrlon, a’n bod yn poeni mwy am y bobl nad ydym yn eu gweld yn hytrach na’r bobl rydym yn eu gweld?
 
14:36
Lesley GriffithsBywgraffiad
Rwy’n meddwl eich bod yn crybwyll pwynt pwysig iawn. Yn amlwg, mae Cymunedau yn Gyntaf yn rhaglen gyffredinol. Nid yw’n seiliedig ar brawf modd—mae ar gael i bawb yn yr ardal honno, ond mae’n bwysig iawn ein bod yn cyrraedd y bobl sydd fwyaf o’i hangen. Ac yn sicr, fy mhrofiad i o Cymunedau yn Gyntaf yw bod y gweithwyr allgymorth—y bobl sy’n mynd allan i’r cymunedau—yn cyrraedd y teuluoedd hynny. Yn sicr, os meddyliwch mai hon yw ein prif raglen ar gyfer trechu tlodi ers 17 mlynedd, mae’r gwaith y mae’r bobl hynny wedi’i wneud yn y cymunedau, ar ddatblygu ffydd a hyder unigolion yn y gymuned, wedi’u harwain i allu sicrhau ein bod yn estyn allan o ddifrif at bobl sydd angen ein cefnogaeth mewn gwirionedd.
 
Cydraddoldeb ym Maes Cyflogaeth
 
14:37
Julie MorganBywgraffiad
4. Pa gynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru o ran hyrwyddo cydraddoldeb ym maes cyflogaeth yng Nghymru? OAQ(4)0421(CTP)
 
14:37
Lesley GriffithsBywgraffiad
Diolch. Mae cynnydd da wedi’i wneud ar bob un o gamau gweithredu ein rhaglen lywodraethu a’n cynllun cydraddoldeb strategol i hyrwyddo cydraddoldeb mewn cyflogaeth yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys trechu anghydraddoldeb yn y sector cyhoeddus datganoledig, mynd i’r afael â gwahaniaethau mewn tâl a chyflogaeth ac annog gweithleoedd cynhwysol.
 
14:37
Julie MorganBywgraffiad
Diolch i’r Gweinidog am yr ymateb hwnnw. A oes unrhyw beth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i gymell cwmnïau preifat i gyflogi pobl â nam ar y clyw? Rwy’n siŵr bod y Gweinidog yn ymwybodol fod pobl â nam ar eu clyw bedair gwaith yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith na gweddill y boblogaeth, ac yn aml bydd pobl yn cuddio’r ffaith fod nam ar eu clyw pan fyddant yn ymgeisio am swyddi.
 
14:38