Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :
Nôl i'r rhestr dogfennau Gweld y dudalen hon heb lincs
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:31 gyda’r Llywydd (y Fonesig Rosemary Butler) yn y Gadair.
 
13:31
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Prynhawn Da. Dyma ddechrau trafodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
 
1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
 
13:31
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Cwestiynau i’r Prif Weinidog yw’r eitem gyntaf y prynhawn yma. Cwestiwn 1, Lynne Neagle.
 
Diwygiadau Lles
 
13:31
Lynne NeagleBywgraffiad
1. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch effaith diwygiadau lles ar Gymru? OAQ(4)2698(FM)
 
13:31
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad rheolaidd â Gweinidogion y DU am yr agenda diwygio lles a'r effeithiau ar bobl yng Nghymru. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda swyddogion o'r Adran Gwaith a Phensiynau ar y newidiadau i fudd-daliadau lles wrth iddynt gael eu rhoi ar waith ledled Cymru er mwyn amddiffyn pobl Cymru rhagddynt.
 
13:31
Lynne NeagleBywgraffiad
Yr wythnos diwethaf, dyfarnodd y Llys Apêl bod treth ystafell wely Llywodraeth y DU yn gyfystyr â gwahaniaethu anghyfreithlon yn dilyn dau achos, gan gynnwys un a ddygwyd gan deulu o Gymru â phlentyn anabl. Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu mynd â’r mater hwn i'r Goruchaf Lys nawr—penderfyniad a gondemniwyd ac a dderbyniwyd ag anghrediniaeth. A wnewch chi godi'r mater hwn gyda Llywodraeth y DU ar ran pawb sy’n cael eu heffeithio yng Nghymru gan y polisi sbeitlyd hwn, ac a fyddech chi’n cytuno â mi, pe byddai gan y Llywodraeth Dorïaidd hon unrhyw barch o gwbl, y byddai’n tynnu’r apêl hon yn ôl ac yn rhoi'r gorau i erlid plant anabl a’u teuluoedd a'r holl bobl sy'n agored i niwed?
 
13:32
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Yn sicr. A gaf i sicrhau'r Aelod fy mod i wedi ysgrifennu heddiw at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, yn galw arno i roi'r gorau i unrhyw apêl ac yn galw arno i sicrhau nad oes unrhyw wahaniaethu yn erbyn y rhai a oedd yn rhan o'r achos llys yr wythnos diwethaf, y rhai sydd wedi dioddef trais yn y cartref, a’r rhai, a dweud y gwir, sy’n gofalu am blant anabl. Yn anffodus, mae Llywodraeth y DU wedi cymryd y safbwynt ei bod eisiau apelio. Mae wedi cyfaddef gwahaniaethu yn erbyn plant anabl ac eto mae eisiau apelio i'r Goruchaf Lys nawr. Rwy'n ofni ei fod yn arwydd o Lywodraeth sy’n gollwr gwael heb unrhyw gydwybod.
 
13:33
Mark IsherwoodBywgraffiad
Mae adroddiad y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru ar effaith diwygiadau lles ar dai, fel yr wyf yn siŵr y gwyddoch, yn nodi'r diffyg o ran tai llai o faint priodol i denantiaid allu symud iddynt. Pam, o gofio bod Cartrefi i Bawb Cymru wedi rhybuddio Llywodraeth Cymru am argyfwng tai ddegawd cyn cael gwared ar y cymhorthdal ystafell ​​sbâr, a bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau ar gael gwared ar y cymhorthdal ​ystafell ​sbâr ddwy flynedd cyn iddo fynd, wnaeth Llywodraeth Cymru dorri’r cyflenwad o dai cymdeithasol newydd gan 70 y cant a methu â buddsoddi mewn cartrefi llai tan ar ôl i’r newidiadau ddod i rym?
 
13:33
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae'n sefyll yn y fan yna ac yn amddiffyn gwahaniaethu yn erbyn plant anabl. Mae’n methu â chondemnio ei blaid ei hun am yr hyn y mae wedi'i wneud i rieni plentyn sy'n anabl ac eraill. Mae’n methu ag esbonio pam y dylai’r rhai sy'n dioddef trais yn y cartref gael eu cosbi’n ariannol gan ei blaid, ac mae'n ceisio rhoi’r bai arnom ni fel Llywodraeth. Ei blaid ef gyflwynodd y polisi hwn yn y lle cyntaf, ei blaid ef lansiodd eu rhyfel bach preifat eu hunain yn erbyn plant anabl, ei blaid ef wahaniaethodd yn erbyn y rhai sy'n dioddef trais yn y cartref, a'i blaid ef sy'n gorfod esbonio i bobl Cymru, a phobl Prydain, pam mae eisiau rhoi’r bobl hynny trwy hyd yn oed mwy o boen nawr trwy apelio i'r Goruchaf Lys yn hytrach na derbyn eu bod wedi colli, fel y byddai unrhyw blaid â chydwybod yn ei wneud.
 
13:34
Alun Ffred JonesBywgraffiad
Fel rhan o’r ymdrechion i warchod pobl Cymru, ydy Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymchwil i fesur effaith y newidiadau hyn ar y gyfundrefn les ac, os felly, a yw’r dadansoddiad a’r dystiolaeth ar gael ar lefel sirol
 
13:35
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, wrth gwrs, mae ystadegau yn cael eu cynnal gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Nid ydynt yn torri’r ffigurau i lawr er mwyn inni wybod, er enghraifft, beth yw’r sefyllfa leol a hefyd y sefyllfa ynglŷn â faint sy’n mynd i gael eu heffeithio ar ôl y dyfarniad yr wythnos diwethaf. Rydym ni yn gwybod bod yna 29,987 o bobl yng Nghymru sydd wedi cael eu heffeithio gan doriadau yn y budd-daliad, ac rydym ni’n gwybod, wrth gwrs, fod hyn yn rhywbeth sydd wedi effeithio yn fawr arnyn nhw. Ac, felly, fe fydd yr Aelod yn gwybod ein bod ni’n anghytuno yn llwyr â’r ffaith eu bod nhw nawr eisiau apelio yn erbyn dyfarniad y llys yr wythnos diwethaf, ac, wrth gwrs, yn para ymlaen i redeg y frwydr hon yn erbyn pobl sydd yn edrych ar ôl plant anabl.
 
13:36
Gwenda ThomasBywgraffiad
Roedd fy nghwestiwn atodol yn mynd i fod ar union yr un pwnc â chwestiwn Lynne Neagle, ac rwy’n gwerthfawrogi’n fawr iawn ymateb cadarn ein Prif Weinidog y prynhawn yma.
 
13:36
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, diolchaf i'r Aelod am hynna. Mae'n drueni mawr bod Ceidwadwyr Cymru, ar y mater hwn, unwaith eto, ddim ond yn eistedd yn y fan yna ac yn dweud dim i amddiffyn plant anabl a'u gofalwyr a'r rhai sy'n dioddef trais yn y cartref.
 
Cefnogaeth Economaidd (Canol De Cymru)
 
13:36
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth economaidd Llywodraeth Cymru i Ganol De Cymru? OAQ(4)2695(FM)
 
13:36
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Gwnaf. Rydym ni’n darparu amrywiaeth o ymyriadau sy'n cefnogi swyddi a thwf ledled Cymru, gan fuddsoddi mewn cefnogaeth seilwaith ar gyfer busnes a sgiliau.
 
13:36
Andrew R.T. DaviesBywgraffiadArweinydd yr Wrthblaid
Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Un o'r sylfeini allweddol, yn amlwg, i Ganol De Cymru yw'r cytundeb dinas, y mae cyflwyniadau wedi eu gwneud ar ei gyfer gan Lywodraeth Cymru a'r awdurdodau lleol. Nododd y Canghellor, yn ei araith i Glwb Busnes Caerdydd, yr hoffai weld cytundeb erbyn cyllideb mis Mawrth. A allwch chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y trafodaethau sydd ar y gweill ar y mater hwn, gan fy mod i’n siŵr yr hoffai holl drigolion Canol De Cymru, yn ogystal â minnau fel Aelod etholedig dros Ganol De Cymru, weld y cytundeb hwn yn cael ei wneud erbyn y terfyn amser y mae'r Canghellor wedi ei bennu?
 
13:37
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Nid oes unrhyw reswm pam na ellir dod i gytundeb. Rydym ni wedi rhoi gwerth £580 miliwn o arian—o arian newydd—ar gael. Mae'r awdurdodau lleol wedi gwneud eu hymrwymiadau hwythau hefyd. Rydym ni’n aros nawr am ymateb Trysorlys y DU fel y gallwn selio'r cytundeb.
 
13:37
Jeff CuthbertBywgraffiad
Y bore yma, Brif Weinidog, cadeiriais seminar ar brentisiaethau yng Nghymru, pryd yr atgoffwyd y rhai a oedd yn bresennol bod hanner y prentisiaethau yng Nghymru yn cael eu darparu gyda chymorth arian Cronfa Gymdeithasol Ewrop—mae'n hanfodol i hybu'r economi yng Nghymru, ac i gyflawni ein hagenda sgiliau. Brif Weinidog, a fyddech chi’n cytuno â mi bod Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn hollbwysig ar hyn o bryd i gefnogi economi Cymru, ei bod yn un o nifer o ddangosyddion sy'n dangos pwysigrwydd aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd i Gymru, ac y gellir ei defnyddio’n effeithiol i hybu lefelau sgiliau trwy raglenni fel prentisiaethau, a gweithio gyda chyflogwyr, addysg bellach a dysgwyr i hybu economi Cymru?
 
13:38
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Rwyf yn llwyr gytuno â'r hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud. Bydd yn gwybod, wrth gwrs, y ffaith fod arian Ewropeaidd wedi ei ddefnyddio, er enghraifft, yn Nhwf Swyddi Cymru, a gwyddom ei fod wedi gwneud cyfraniad sylweddol at y cyfleoedd i bobl ifanc ar hyd a lled y wlad hon. Heb yr arian hwnnw, mae’n iawn i ddweud na fyddai hyfforddiant ar gael ac na fyddai gan y bobl hynny y sgiliau a’r gobaith sydd ganddyn nhw erbyn hyn.
 
13:38
Eluned ParrottBywgraffiad
Brif Weinidog, a fyddech chi’n cytuno â mi mai un o'r pethau allweddol i sicrhau bod economi Cymru yn ddiogel yn y dyfodol yw galluogi ein busnesau bach i dyfu a throi’n fusnesau canolig eu maint yn y dyfodol, a bod cyfle, felly, yn ailddatblygiad banc datblygu Cymru i ddod â chyllid a chymorth at ei gilydd ar gyfer busnesau bach i un lle, lle y gall busnesau bach wneud defnydd ohono?
 
13:39
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Byddwn, rwy’n credu bod y syniad o wneud yn siŵr bod siop un stop ar gael yn sicr yn atyniadol. Rwy’n cytuno â hi ar hynny. Ac rydym ni wedi gweithio'n agos iawn gyda sefydliadau sy'n cefnogi busnesau bach, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi. Rydym ni’n gwybod, er enghraifft, fod y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach wedi cael effaith gadarnhaol enfawr ar lawer o fusnesau, yn enwedig, ond nid yn unig, ar y rhai â gwerth ardrethol o lai na £6,000 y flwyddyn.
 
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
 
13:39
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn at gwestiynau gan arweinwyr y pleidiau nawr, ac arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, sydd gyntaf y prynhawn yma.
 
13:39
Leanne WoodBywgraffiadArweinydd Plaid Cymru
Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, fis Tachwedd diwethaf, gofynnais i chi am gyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant ac oedolion. Ar y pryd, roeddwn i eisiau sicrwydd gennych chi nad oedd cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl wedi cael ei dorri. Derbyniais wybodaeth gan y byrddau iechyd sy'n dangos bod rhai byrddau iechyd wedi torri cyllidebau a niferoedd staff rhwng 2011-12 a 2014-15. A allwch chi ddweud wrthym, os gwelwch yn dda: a wnaed hyn gyda chymeradwyaeth eich Llywodraeth?
 
13:40
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Naddo. Fel yr eglurais i arweinydd Plaid Cymru ym mis Tachwedd, neilltuwyd arian gennym ar gyfer iechyd meddwl. Rhoddwyd arian ychwanegol gennym i mewn i iechyd meddwl plant a'r glasoed, hefyd, ac rydym ni’n disgwyl i'r byrddau iechyd lleol ddefnyddio'r arian hwnnw at y diben a fwriadwyd.
 
13:40
Leanne WoodBywgraffiad
Wel, Brif Weinidog, bu toriadau, ac roedd Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, a basiwyd gan y Cynulliad hwn, a gefnogwyd gan ein dwy blaid, i fod i wneud yn siŵr nad yw gwasanaethau iechyd meddwl yn dargedau hawdd ar gyfer torri costau. Rydym ni’n gwybod bod y swyddfa archwilio, yn ôl yn 2011, wedi mynegi pryder, a dywedodd y canlynol am y trefniadau i neilltuo cyllid iechyd meddwl:
 
ceir diffyg eglurder, ni ellir eu monitro'n hawdd ac efallai na chydymffurfiwyd â nhw.
 
A ydych chi’n pryderu, Brif Weinidog, ei bod yn ymddangos eich bod yn arwain Llywodraeth nad yw'n gwybod beth y mae ei byrddau iechyd wedi bod yn ei wneud a pha un a ydyn nhw wedi bod yn cydymffurfio ag ysbryd deddfwriaeth eich Llywodraeth?
 
13:41
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Rydym ni’n gwybod bod y byrddau iechyd wedi bod yn cydymffurfio ag ysbryd y ddeddfwriaeth a'r cyllid. Rwyf wedi siarad fy hun ag ymarferwyr sy'n gweithio yn CAMHS, ac maen nhw wedi bod yn awyddus iawn i ddweud wrthyf faint yn fwy o arian sydd ar gael i'w cynorthwyo erbyn hyn. Rydym ni’n gwybod bod galw wedi cynyddu, a’u profiad nhw yw bod y cyllid yn cynyddu ac rydym ni’n gweld hynny ar draws Cymru gyfan.
 
13:41
Leanne WoodBywgraffiad
Diben y buddsoddiad yr ydych chi wedi ei gyhoeddi ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yw gwrthdroi'r toriadau i chi eu gwneud yn y gorffennol, yn hytrach na buddsoddi mewn gwasanaethau a’u hehangu. Brif Weinidog, rydych chi wedi methu ag amddiffyn gwasanaethau iechyd meddwl, sy'n golygu bod plant yn aros yn hwy am driniaeth. Yn yr un modd ag y mae gormod o bobl yn aros am rai profion diagnostig sylfaenol, yn yr un ffordd ag yr ydych chi wedi methu targedau ar gyfer canser ac amseroedd aros am driniaeth ar gyfer rhai clefydau difrifol iawn, maen nhw’n llawer rhy hir. A wnewch chi dderbyn nawr, Brif Weinidog, ac a ydych chi’n barod i gyfaddef nawr, eich bod wedi cael pethau’n anghywir iawn o ran iechyd?
 
13:42
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Yn gyntaf oll, rydym ni wedi diogelu gwariant ar iechyd meddwl ac wedi ei gynyddu ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed pan oedd y galw yno. Felly, rydym ni wedi gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei ariannu'n briodol. Rydym ni’n gweld amseroedd aros diagnostig yn lleihau; rydym ni’n gweld cyfraddau ymateb ambiwlansys yn gwella; rydym ni’n gweld amseroedd aros yn lleihau; rydym ni’n gweld oedi wrth drosglwyddo gofal yn lleihau tra eu bod yn mynd y ffordd arall yn Lloegr. Na, rydym ni wedi sicrhau bod iechyd yn cael mwy o arian fesul pen yng Nghymru nag sy'n wir yn Lloegr; mwy o arian o bell ffordd fesul pen ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol wedi’u cyfuno nag yn Lloegr. Rydym yn gweld, nawr, yr hyn sy'n digwydd yn Lloegr gyda gwasanaethau cymdeithasol, a chwalfa gwasanaethau cymdeithasol yno, nad yw'n rhoi unrhyw bleser arbennig i mi ei ddweud. Ond rydym ni wedi gwneud y peth iawn i’r rhai, yn enwedig pobl ifanc, sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl, ac mae'r cyllid ychwanegol i CAMHS yn dangos hynny.
 
13:42
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn nawr at arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams.
 
13:43
Kirsty WilliamsBywgraffiadArweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Brif Weinidog, mae ffigurau newydd gan y Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai yn dangos bod nifer y cartrefi newydd a gofrestrwyd yng Nghymru wedi gostwng 2 y cant y llynedd, o'i gymharu â chynnydd o 7 y cant ar draws gweddill y DU. Pa un sy'n gwneud i chi deimlo waethaf, Brif Weinidog—y ffaith fod cenedlaetholwyr yr Alban ynteu Torïaid Lloegr yn rhagori arnoch?
 
13:43
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Gwyddom fod adeiladu tai wedi cynyddu 20 y cant mewn bron i flwyddyn yng Nghymru, felly gwyddom fod adeiladu tai wedi cynyddu'n aruthrol. Mae gennym ni Cymorth i Brynu—Cymru, sydd wedi bod yn hynod bwysig o ran galluogi pobl i brynu eu cartrefi cyntaf, ac, wrth gwrs, rydym ni ar y trywydd iawn o ran ein hadeiladu tai ar gyfer y rhai sy'n rhentu yn y sector cyhoeddus.
 
13:43
Kirsty WilliamsBywgraffiad
Brif Weinidog, gostyngodd nifer y cartrefi newydd a gofrestrwyd y llynedd yng Nghymru, o'i gymharu â chynnydd—cynnydd sylweddol— ar draws gweddill y DU. Rydym ni wedi arfer, yng Nghymru, bod ar restrau aros y GIG, ond a allech chi ddweud wrthyf yn union faint o filoedd o bobl yng Nghymru sydd ar restr aros am dŷ fforddiadwy?
 
13:44
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Gallaf ddweud wrth arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol y bu tuedd gadarnhaol hirdymor o ran adeiladu tai yng Nghymru—dechreuwyd 20 y cant yn fwy o dai yn 2014-15 nag yn y flwyddyn flaenorol. Hefyd, rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2015, cwblhawyd cyfanswm o 1,736 o gartrefi newydd, sy'n gynnydd o 17 y cant o’r un chwarter yn 2014. Rydym ni’n gwybod bod Cymorth i Brynu—Cymru wedi’i hen sefydlu. Rydym ni’n gwybod y bydd dros 6,000 o gartrefi newydd wedi eu hadeiladu erbyn 2021, a groesawyd yn eang gan adeiladwyr tai. Felly, rydym ni ar y trywydd iawn pan ddaw i wneud yn siŵr bod gan bobl do uwch eu pennau.
 
13:44
Kirsty WilliamsBywgraffiad
Felly wir, rwy’n amau y bydd hynny’n newyddion i'r 90,000 o ddinasyddion yng Nghymru sy’n dioddef ar restr aros am dai fforddiadwy. Mae gennym ni argyfwng tai, gyda phobl yng Nghymru bellach yn gorfod benthyg bron i bedair gwaith eu hincwm os ydynt eisiau prynu tŷ, ac ni all llawer o'n dinasyddion fyth gyrraedd hynny. Mae gan fy mhlaid i gynlluniau i ddyblu nifer y tai fforddiadwy a chyflwyno cynllun rhentu i brynu a fyddai'n caniatáu i bobl wneud taliadau misol sy’n gyfwerth â'r rhent i adeiladu cyfran yn eu cartrefi heb fod angen blaendal. A wnewch chi edrych ar y cynlluniau hyn a chymryd camau brys i fynd i'r afael â dyheadau'r 90,000 hwnnw o bobl sydd angen cartref fforddiadwy?
 
13:45
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, yr hyn y mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ei wneud yw eu bod wedi gweld ein bod ni ar y trywydd iawn i adeiladu 10,000 o gartrefi, felly maen nhw wedi meddwl am ffigur i’w ddyblu, heb esbonio sut y byddent yn talu amdano—nod canmoladwy, rwy’n cyfaddef hynny, ond gadewch i ni weld sut y gellid talu am hynny. Mae gennym ni Cymorth i Brynu—Cymru; nid yw fel pe byddai dim wedi ei wneud i helpu'r rhai yn y sector preifat. Rydym ni wedi bod yn edrych ar gynlluniau rhannu ecwiti, ymddiriedolaethau tir cymunedol, sy'n helpu i leihau cost tai. Mae’r holl fodelau hyn yn briodol ar gyfer y dyfodol. Yr hyn nad ydym wedi ei wneud yw tynnu’n ôl o’r pwyslais ar adeiladu tai cyhoeddus, fel y mae Lloegr yn ei wneud, gan orfodi pobl i fod yn berchen-feddianwyr pa un a ydynt yn gallu ei fforddio ai peidio, a pha un a ydynt yn ei hoffi ai peidio. Rydym ni’n sylweddoli bod angen cymysgedd ym marchnad dai Cymru ac rydym ni wedi gweld, fel y dywedais, cynnydd o 20 y cant i’r cartrefi newydd a ddechreuwyd yn 2014-15, o'i gymharu, wrth gwrs, â'r flwyddyn flaenorol.
 
13:46
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Ac yn olaf, arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
 
13:46
Andrew R.T. DaviesBywgraffiadArweinydd yr Wrthblaid
Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, mae cyswllt awyr Ynys Môn yn fuddsoddiad pwysig y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud dros nifer o flynyddoedd. Caiff symiau sylweddol o arian—tua £1.5 miliwn y flwyddyn—eu cyfrannu at y prosiect hwnnw gan Lywodraeth Cymru. Mae’n debyg mai dim ond hanner y stori fyddai dweud bod y saith neu wyth mis diwethaf wedi bod yn anhrefnus, wrth i dystysgrifau diogelwch gael eu tynnu'n ôl a chwmnïau hedfan yn cael eu siarteru ar frys. Clywais ddoe, hyd yn oed, sut y bu’n rhaid siarteru dwy awyren saith sedd i hedfan y llwybr, gan fod mwy na saith o bobl yn mynd i fyny i Ynys Môn ar y diwrnod penodol hwnnw. Rydych chi wedi gwneud y buddsoddiad hwnnw ac, fel y dywedais, mae’n ymddangos bod y saith mis diwethaf wedi bod yn anhrefnus a dweud y lleiaf. Rwy’n deall bod y llwybr allan ar gyfer tendr; a allwch chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am beth yn union yw’r cyfeiriad teithio—esgusodwch y chwarae ar eiriau—i Lywodraeth Cymru yn y ffordd yr ydych chi’n rheoli’r buddsoddiad sylweddol hwn ar ran Llywodraeth Cymru o £1.5 miliwn?
 
13:46
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Methodd y cwmni hedfan a oedd yn rhedeg y gwasanaeth ag ennill ei dystysgrif diogelwch. O ganlyniad, cymerwyd y gwasanaeth drosodd. Ni fu unrhyw darfu ar deithwyr ac, wrth gwrs, bydd y gwasanaeth yn cael ei ail-dendro wedyn. Roedd yn fater a oedd y tu hwnt i'n rheolaeth. Cymerwyd camau i wneud yn siŵr na amharwyd ar y gwasanaeth, ac mae’n wasanaeth a werthfawrogir yn fawr gan lawer, gan gynnwys, rwy’n gwybod, ef ei hun, gan fy mod i wedi ei weld ar yr awyren.
 
13:47
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
Rwy’n cymeradwyo’r gwasanaeth. Rwy'n byw yn agos iawn at y maes awyr, a gallaf gyrraedd Ynys Môn mewn 40 munud. Y pwynt yr wyf yn ei wneud i chi yw: mae'n fuddsoddiad yr ydych chi’n ei wneud o £ 1.5 miliwn, a dim ond hanner y stori, a dweud y lleiaf, fyddai dweud bod y saith neu wyth mis diwethaf wedi bod yn anhrefnus.
 
Symudwn ymlaen at brosiect arall y mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi ynddo yn ddiweddar, prosiect Rhondda Life, y cyfrannodd Llywodraeth Cymru £1.6 miliwn ato, ond gwerthwyd asedau Rhondda Life am £220,000 yn ddiweddar, gan gostio colled i'r trethdalwr o dros £1 filiwn. A allwch chi nodi pa lefel o gymorth yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i'r prosiect hwnnw, sydd wedi gadael llawer o bobl wedi’u dadrithio, gadewch i ni ddweud, am nodau adfywio'r prosiect hwnnw, oherwydd yn y pen draw, collwyd cymaint o arian cyhoeddus a cheir teimlad yn y Rhondda bod Llywodraeth Cymru wedi troi ei chefn ar y bobl a roddodd eu hunain ar y lein ar gyfer y prosiect penodol hwn?
 
13:48
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, yn gyntaf oll, mae arweinydd yr wrthblaid yn dweud y bu anhrefn o ran y gwasanaeth o'r gogledd i'r de; ni fu anhrefn o gwbl. Mae hwnnw’n ddatganiad diog. Mae'r gwasanaeth wedi gweithredu fel arfer. Cyn belled ag y mae teithwyr yn y cwestiwn, nid ydynt wedi gweld unrhyw wahaniaeth o gwbl. Mae ymhell o fod yn anhrefn; mae pethau wedi bod yn rhedeg yn ddidrafferth, er gwaethaf yr anawsterau i un cwmni hedfan eu cael.
 
Pan ddaw i Rhondda Life—ac roedd yr Aelod dros y Rhondda yn gynhyrfus iawn a gofynnodd y cwestiwn a oedd arweinydd yr wrthblaid wedi bod yno mewn gwirionedd—. Serch hynny, bu’n rhaid rheoli Rhondda Life yn ofalus, ac mae'n brosiect sydd serch hynny wedi cael effaith ar y bobl sy'n byw yn y rhan honno o'r Rhondda.
 
13:48
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
Fel arfer, rydych chi wedi camddeall y naws a’r cyfeiriad teithio yn llwyr, sef y golled o symiau sylweddol o arian i'r trethdalwr yng Nghymru. Dim ond i dawelu meddwl yr Aelod presennol dros y Rhondda, nid yn unig yr wyf i wedi ymweld, ond rwyf hefyd wedi ymgysylltu â'r bobl sy’n teimlo eu bod wedi cael eu gadael ar y clwt, h.y. y bobl a roddodd eu calonnau a’u heneidiau i’r prosiect hwn. Ond rwyf newydd amlinellu dau brosiect penodol iawn y mae Llywodraeth Cymru wedi eu rheoli neu wedi buddsoddi ynddynt. O ran yr ail brosiect, rydych chi wedi colli swm sylweddol o arian trethdalwyr Cymru; o ran y prosiect cyntaf, bu anhrefn wrth wraidd hyn. A ydych chi'n credu ei bod yn synhwyrol siarteru dwy awyren saith sedd? A ydych chi'n meddwl ei bod yn synhwyrol bod y wefan yn dweud nad oes unrhyw archebion yn cael eu derbyn ar gyfer y dyfodol? Yn y pen draw, mae hyn yn ymwneud â chymhwysedd Llywodraeth Cymru. Yr wythnos diwethaf, gwnaethoch ymddiheuriad gan fod eich Llywodraeth wedi colli degau o filiynau o bunnoedd o ran gwarediad tir Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio. Nawr, rydym ni wedi cael yr ymddiheuriad, rwyf wedi nodi o leiaf dau brosiect yr ydych chi wedi colli symiau sylweddol o arian arnynt. Beth ydych chi'n mynd i fod yn ei wneud a pha gamau eraill y byddwch chi’n eu cymryd fel Prif Weinidog i ddwyn pobl i gyfrif a oedd yn gyfrifol am gynnig CBCA? Ac, yn y pen draw, pa hyder allwn ni ei gael mai nad hon yw’r bennod olaf, fel y nododd eich Gweinidog cymunedau yr wythnos diwethaf wrth iddi roi sylw i’r mater hwn?
 
13:50
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Yn gyntaf oll, gadewch i ni edrych ar yr hyn y mae ef eisiau ei wneud. Mae e eisiau torri gwariant ar yr economi gan 30 y cant. Mae hynny’n golygu torri gwariant ar swyddi, torri gwariant ar sgiliau, a thorri gwariant ar gefnogi prosiectau sydd wedi creu swyddi ar hyd a lled Cymru. Cymerwyd y maes awyr drosodd gennym—maes awyr yr oedd ei blaid ef eisiau gadael iddo gau. O 2007 i 2013, collodd y maes awyr hanner ei deithwyr o dan berchnogaeth breifat. Mae bellach yn cael adfywiad. Pe byddai ef wedi cael ei ffordd, byddai’r maes awyr hwnnw ar gau nawr a byddai British Airways Maintenance Cardiff wedi mynd gydag ef. Felly, dyna derfyn yr uchelgais a welwn gan y Torïaid. Mae'n siarad am gymhwysedd; gadewch i ni edrych ar yr hyn y mae ei blaid ef wedi ei wneud yn Llundain, ie? Ad-drefnu’r GIG—£3 biliwn wedi’i wastraffu. Rydych chi wedi gwastraffu dros £1 biliwn yn cyflogi ac ailgyflogi staff y GIG. Rydych chi wedi colli £1 biliwn ar werthiant y Post Brenhinol yn ôl Pwyllgor Busnes, Arloesedd a Sgiliau San Steffan. Collwyd £2.3 biliwn gennych o ganlyniad i werthu Eurostar. Collwyd £1 biliwn gennych o ganlyniad i werthu cyfranddaliadau Royal Bank of Scotland. Rydych chi wedi colli £100 miliwn mewn un flwyddyn ar brosiectau TG. Oes, mae problemau y mae’n rhaid eu datrys, wrth gwrs, o ran CBCA, a byddant yn cael eu datrys trwy gyfrwng ymateb llawn. Ond pan ddaw i wastraffu arian, mae'r Torïaid ar frig y dosbarth.
 
13:51
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn ôl at gwestiynau—[Torri ar draws.] Trefn. Symudwn yn ôl at y cwestiynau ar y papur nawr, a daw cwestiwn 3 gan Mohammad Asghar.
 
Canlyniadau Addysgol (Cydraddoldeb)
 
13:51
Mohammad AsgharBywgraffiad
3. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau mwy o gydraddoldeb o ran canlyniadau addysgol disgyblion? OAQ(4)2696(FM)
 
13:51
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Rydym ni wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn ac unigolyn ifanc yng Nghymru, waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau personol, yn gwireddu eu potensial llawn mewn addysg ac yn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl.
 
13:52
Mohammad AsgharBywgraffiad
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae bwlio yn yr ysgol yn risg benodol i ddisgyblion o leiafrifoedd ethnig a gall effeithio'n ddifrifol ar eu lefelau cyrhaeddiad addysgol. Dywedodd adroddiad Estyn yn 2014 y canfuwyd bod ymwybyddiaeth a dealltwriaeth llawer o ysgolion o fwlio a’u polisïau a'u gweithdrefnau ar gyfer ymdrin ag ef yn aml yn wan. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd i fynd i'r afael â bwlio mewn ysgolion ers yr adroddiad Estyn i hybu mwy o gydraddoldeb o ran cyrhaeddiad addysgol?
 
13:52
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Rydym ni wedi, wrth gwrs, symud ymlaen gyda'r hyn a nododd adroddiad Estyn yn 2014. Mae wedi crybwyll yn benodol dysgwyr o leiafrifoedd ethnig. Bydd yn ymwybodol y rhoddwyd trefniadau grant newydd ar waith ym mis Ebrill y llynedd er mwyn cynorthwyo dysgwyr o leiafrifoedd ethnig, ac mae'r grant gwella addysg yn caniatáu i ymarferwyr ar lefel leol benderfynu orau ble a sut i dargedu cyllid i gefnogi'r dysgwyr hynny.
 
13:53
Rhodri Glyn ThomasBywgraffiad
Brif Weinidog, un o’r pethau sydd wedi bod yn poeni nifer ohonom ni ers sefydlu y Cynulliad, mewn gwirionedd, ydy bod plant mewn gofal yn methu â chyrraedd y safonau y mae plant sydd y tu allan i’r system gofal yn eu cyrraedd. A ydych chi’n teimlo fod yna welliant wedi ei wneud o ran hynny yn ystod y ddwy flynedd ar bymtheg diwethaf?
 
13:53
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Ydw, ond mae yna fwy o ffordd i fynd; rwy’n deall hynny. Un o’r pethau y gwnes i sôn amdanynt yn ôl yn 2011 oedd y broblem a oedd yna er mwyn sicrhau bod potensial plant sydd mewn gofal yn cael ei gefnogi. Nawr, wrth gwrs, rydym ni wedi cynhyrchu strategaeth yr wythnos diwethaf, ar 29 Ionawr, ynglŷn â helpu plant mewn gofal a’u huchelgeisiau, a hefyd i sicrhau eu bod nhw’n gwneud yn well yn yr ysgol. Bydd y strategaeth hon yn gyrru gwelliannau ynglŷn â dyfodol y plant hyn.
 
13:54
Aled RobertsBywgraffiad
Brif Weinidog, rwy’n siŵr y byddech chi’n cytuno â fi bod y grant amddifadedd erbyn hyn yn dechrau dangos bod yna fodd inni gau’r bwlch o ran cyrhaeddiad o ran plant difreintiedig. Rydych chi wedi cyfeirio at y datganiad yr wythnos diwethaf ynglŷn â phlant mewn gofal, ond un o’r ffigurau sydd yn achosi pryder ar hyn o bryd ydy’r ffigur ynghylch cyrhaeddiad plant o deuluoedd Teithwyr a Sipsiwn. A oes gennych chi fel Llywodraeth, felly, unrhyw fwriad i edrych ar y broblem barhaol o ran cyrhaeddiad y plant yna, o gofio, wrth gwrs, fod y grant unigol ar gyfer y grŵp yna wedi cael ei gyflwyno erbyn hyn o ran grant cyffredinol i ysgolion?
 
13:54
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae’r grant gwelliant y gwnes i sôn amdano funud yn ôl wrth gwrs yn rhywbeth sydd ar gael i blant o gefndir teithio. Hefyd, mae yna adnoddau ar gael i gefnogi’r rhai hynny sydd yn dod o’r cefndir yna yn yr ysgol. Mae hwnnw wedi bod ar gael ers mis Mawrth 2014. So, mae yna adnoddau ar gael i ysgolion ac mae arian ar gael hefyd, wrth gwrs, er mwyn eu helpu nhw i lwyddo yn y pen draw.
 
Cyflymu Cymru
 
13:55
Rhun ap IorwerthBywgraffiad
4. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun Cyflymu Cymru? OAQ(4)2700(FM)[W]
 
13:55
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae £150 miliwn wedi cael ei fuddsoddi lan hyd nawr i sicrhau bod 0.5 miliwn o dai a busnesau ar draws Cymru wedi cael mynediad i fand eang, ac rŷm ni’n parhau i arwain y ffordd ynglŷn â band eang o wledydd Prydain.
 
13:56
Rhun ap IorwerthBywgraffiad
Mae yna lawer o rwystredigaeth yn fy etholaeth i, fel sydd rwy’n siŵr ym mhob etholaeth, gan y rheini sydd ddim eto wedi cael eu cysylltu gan y rhaglen Cyflymu Cymru, er, wrth gwrs, mae’n rhaid cydnabod bod yna dros flwyddyn ar ôl i redeg ar y rhaglen. Ar ddiwedd y rhaglen, wrth gwrs, rŷm ni’n disgwyl na fydd 4 y cant o bob tŷ, pob busnes, wedi cael eu cysylltu. Rŵan, mi ofynnais i i’r Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg ym mis Medi beth oedd y Llywodraeth am allu ei wneud i geisio adnabod y rheini sydd ddim yn mynd i gael eu cysylltu cyn diwedd y rhaglen er mwyn gallu dechrau chwilio am ffyrdd amgen o’u cysylltu nhw. Mi gefais i sicrwydd bod camau yn cael eu cymryd, ond a all y Prif Weinidog roi sicrwydd i ni ynglŷn â beth yn union sydd yn neu wedi bod yn digwydd i adnabod y llefydd hynny fel bod neb yn gorfod aros tan ddiwedd rhaglen Cyflymu Cymru cyn darganfod eu bod nhw wedi colli allan?
 
13:56
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, i’r bobl yna a’r busnesau yna bydd yn rhaid ystyried ffyrdd eraill o sicrhau band eang sydd ddim yn defnyddio ceblau’r teleffon ei hunan. Un modd o wneud hynny yw defnyddio lloeren ac efallai defnyddio—os yw, er enghraifft, y bedwaredd genhedlaeth ar gael yn yr ardal—ffyrdd o sicrhau bod band eang ar gael y ffordd hynny. Ond mae’n wir i ddweud na fydd y tai hyn a’r bobl hyn yn gallu cael eu cyrraedd gan system o linellau o geblau teleffon. Ond mae yna ffyrdd eraill rŷm ni’n ystyried ar hyn o bryd er mwyn eu helpu nhw.
 
13:57
William GrahamBywgraffiad
Brif Weinidog, rwy'n siŵr, fel finnau, y byddwch chi’n croesawu'r datblygiadau a wnaed gyda'r cynllun SuperConnected Cities yng Nghasnewydd a Chaerdydd—elfen allweddol, wrth gwrs, yw'r talebau cysylltu sy’n cynnig cymorth ariannol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Ond o ran ardaloedd fel Sir Fynwy wledig, sydd â chysylltiad gwael a phentref rhwng y fan hon a Chasnewydd, nid naw milltir o'r adeilad hwn, sydd hefyd â chysylltiad gwael iawn, pa fentrau ydych chi’n mynd i’w defnyddio i hyrwyddo rhai cwmnïau annibynnol, fel Spectrum Internet, am eu defnydd arloesol o dechnoleg i gysylltu mannau sy’n wan ar hyn o bryd?
 
13:58
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, byddwn yn disgwyl y bydd y mwyafrif llethol o aneddiadau, a thai a busnesau yn wir, yn cael eu cysylltu o ganlyniad i Gyflymu Cymru ac mae hwnnw, wrth gwrs, yn gynllun, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, yr ydym ni’n ei gyflwyno tua chanol y flwyddyn nesaf. Heb y cynllun hwnnw, mae'n iawn i ddweud na fyddai'r farchnad yn darparu band eang i rannau mawr o Gymru y tu allan i goridor yr M4 ac ar draws yr A55. Felly, yr hyn y byddwn i’n ei ddweud wrth bobl nad ydynt yn gallu cael mynediad at fand eang cyflym iawn ar hyn o bryd yw ein bod yn disgwyl iddyn nhw allu gwneud hynny erbyn diwedd rhaglen Cyflymu Cymru.
 
13:58
Peter BlackBywgraffiad
Brif Weinidog, a gaf i dynnu eich sylw at broblem benodol yn fy rhanbarth i, ym mhentref Jersey Marine. Addawyd band eang cyflym iawn iddynt erbyn mis Mawrth 2015. Yna, fe’i haddawyd iddynt eto erbyn mis Gorffennaf 2015. Y wybodaeth ddiweddaraf yw bod y cabinet wedi cael ei osod ers chwe mis ond nid ydynt wedi ei gael o hyd gan ei bod yn ymddangos bod problem i gael y ceblau ar draws rheilffordd, sydd wedi bod yno ers 1890. Nid yw hyn yn argoeli'n dda ar gyfer proses gynllunio BT na'u contractwyr. Dywed un etholwr a gysylltodd â mi ei fod yn gweithio o’i gartref, sydd o dan anfantais ddifrifol oherwydd band eang gwael sydd ddim ond yn 1MB ac ni all gymryd rhan mewn fideo-gynadleddau na rhannu rhith-fyrddau gwaith. Pa ateb fyddech chi'n ei gynnig i bobl yn Jersey Marine sydd angen y band eang cyflym iawn hwn ac na allant gael mynediad ato?
 
13:59
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Yn amlwg, bwriedir iddyn nhw allu cael mynediad at fand eang cyflym iawn, ond pe gallwn i ysgrifennu at yr Aelod gyda rhagor o fanylion, efallai wedyn y gallem ni ymchwilio i beth fu’r broblem, a hefyd i ddarparu dyddiad mwy pendant yn y dyfodol ar gyfer y rhai sydd wedi cysylltu ag ef.
 
13:59
Kirsty WilliamsBywgraffiad
Brif Weinidog, mae band eang cyflym a dibynadwy yn hanfodol i economi Brycheiniog a Sir Faesyfed, ac felly hefyd sicrwydd gan Openreach ynghylch pryd y bydd y busnesau hynny’n cael y gwasanaethau. Nawr, mewn achosion fel Llanwrthwl, maen nhw wedi cael eu gollwng i lawr y rhaglen o flwyddyn yn llythrennol. Ar hyn o bryd, ar y funud, wedi’i gadarnhau gan Openreach, mae eu gwefan yn anfon negeseuon yn dweud nad yw'r cabinet yn y cynllun ar hyn o bryd i gael ei uwchraddio yn rhan o'r rhaglen, pan ei fod yn y rhaglen i gael ei uwchraddio mewn gwirionedd. Siawns y gallem ni fod wedi disgwyl gwell o’r swm sylweddol o arian trethdalwyr a fuddsoddwyd yn y cynllun hwn ar ran Llywodraeth Cymru. Dylid disgwyl gwasanaeth gwell.
 
14:00
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Unwaith eto, pe caf i ysgrifennu at yr Aelod o ran y mater penodol yn Llanwrthwl. Byddaf yn gwneud yn siŵr bod hynny'n cael ei ymchwilio a bod ateb llawn yn cael ei ddarparu.
 
14:00
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Cwestiwn 6, Lindsay Whittle. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i, esgusodwch fi. Rwyf ar y blaen arnaf fy hun. Cwestiwn 5, Jenny Rathbone.
 
Cynllun Benthyca i Fyfyrwyr Ôl-raddedig
 
14:00
Jenny RathboneBywgraffiad
5. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch gallu Llywodraeth Cymru i weithredu cynllun benthyca i fyfyrwyr ôl-raddedig yn y flwyddyn academaidd nesaf? OAQ(4)2701(FM)
 
14:01
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Ysgrifennodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau at y Gweinidog Gwladol dros Brifysgolion a Gwyddoniaeth i fynegi ei bryder na all y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr weithredu'r cynllun ar gyfer Cymru yn 2016-17 gan fod Lloegr yn cael blaenoriaeth. Mae hynny'n gwbl annerbyniol.
 
14:01
Jenny RathboneBywgraffiad
Wel, rwy’n cytuno, Brif Weinidog, ac rwyf wedi cael llawer o ohebwyr yn bryderus iawn fod hyn yn gwahaniaethu yn erbyn myfyrwyr o Gymru a phrifysgolion yng Nghymru sy'n dibynnu ar gynlluniau ôl-raddedig i'n helpu ni i danio’r economi. Pa drafodaethau y mae eich Llywodraeth wedi eu cael gyda'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, sy'n eu galluogi i wahaniaethu mor amlwg o blaid un rhan o'r DU dros un arall?
 
14:01
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, maen nhw’n ei wneud er gwaethaf y ffaith bod Gweinidogion yno i gadw rheolaeth drostynt. Mae'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yno i wasanaethu pedair gwlad a phedair Llywodraeth, ond mae'n ymddangos bod Llywodraeth y DU yn meddwl ei bod yn gweithredu fel Llywodraeth Lloegr ar yr achlysur hwn ac yn gwahaniaethu, fel y mae’r Aelod wedi ei ddweud yn gwbl briodol, yn erbyn y rhai yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Rydym ni’n ystyried sut y gallem ni fwrw ymlaen â hyn ein hunain. Mae hon yn enghraifft arall lle, yn blwmp ac yn blaen, nad yw’r rhai yn Whitehall yn gwybod yn union pwy maen nhw i fod i’w gwasanaethu.
 
14:02
Angela BurnsBywgraffiad
Rwy'n siŵr, Brif Weinidog, y byddwch chi’n deall pwysigrwydd astudiaethau ôl-raddedig a pha mor hanfodol yw hi bod system gymorth ar waith i helpu’r myfyrwyr hynny. Fodd bynnag, cefais fy synnu yr wythnos diwethaf o glywed y Gweinidog addysg yn gwrthod pryderon y sector addysg uwch am gyllid yn llwyr—gan gyfeirio at y pryderon hyn fel 'pledio arbennig'. Brif Weinidog, a fyddech chi’n cytuno â’ch Gweinidog addysg ar hynny?
 
14:02
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae'r cwestiwn hwn am fenthyciadau ôl-raddedig, felly gadewch i mi ddychwelyd at hynny. Sylwaf nad yw’r Aelod Ceidwadol yn gwneud dim i brotestio yn erbyn penderfyniad bwriadol ei Llywodraeth ei hun i wahaniaethu yn erbyn myfyrwyr o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae'n warthus bod y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn gweld ei hun fel bod yn blaenoriaethu Lloegr yn unig ac nid pedair gwlad y DU. Mae'n gywilydd i’r Blaid Geidwadol ei bod, unwaith eto, wedi methu â sefyll dros Gymru.
 
14:03
Simon ThomasBywgraffiad
Wel canlyniad hwn, wrth gwrs, yw y bydd prifysgolion Lloegr yn fwy deniadol i raddedigion i astudio ymchwil na phrifysgolion yng Nghymru. Gall hynny gosti cymaint â £10 miliwn i brifysgolion yng Nghymru, ar ben y toriadau rŷch chi eisoes wedi’u rhoi i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Rŷch chi’n ‘keen’ iawn i feio Llywodraeth San Steffan am hyn ac rwy’n rhannu’r feirniadaeth yna—dylai hwn fod ar gael i bawb—ond beth ydych chi’n ei wneud fel Llywodraeth i sicrhau bod cynllun benthyg ar gyfer astudio ôl-radd ar gael yng Nghymru mor fuan ag sy’n bosibl?
 
14:03
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
A gaf i ddweud wrth yr Aelod nad yw hyn yn effeithio prifysgolion Cymru? Mae’n effeithio myfyrwyr o Gymru achos bydd myfyrwyr o Loegr yn gallu cael y gefnogaeth i ddod i Gymru i astudio. Felly, dyna beth yw’r broblem; nid rhywbeth i’r prifysgolion yw hi, ond problem ar gyfer y myfyrwyr. Rwy’n cytuno’n hollol nad yw hwn yn rhywbeth sy’n dderbyniol. Rŷm ni wedi ysgrifennu yn barod a byddwn yn parhau I bwyso a dweud nad yw’n dderbyniol lle mae gennych chi gorff sydd I fod I weithredu dros y Deyrnas Unedig yn gyfan gwbl ond nid yw’r corff hwnnw yn gweithredu dros bobl yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Problem yw hon nid yn unig i’r cwmni; problem yw hon I Weinidogion San Steffan sydd ddim yn derbyn bod hwn yn rhywbeth sy’n effeithio’r gwledydd eraill yn y Deyrnas Unedig ac sy’n blaenoriaethu Lloegr.
 
14:04
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Cwestiwn 6 yn awr, Lindsay Whittle.
 
Maes Awyr Caerdydd
 
14:04
Lindsay WhittleBywgraffiad
Diolch, Lywydd. Rydych chi’n sicr yn fy nghadw i’n effro.
 
6. Beth yw strategaeth 10 mlynedd Llywodraeth Cymru ar gyfer Maes Awyr Caerdydd? OAQ(4)2691(FM)
 
14:04
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Ein canolbwynt ar Faes Awyr Caerdydd yw y dylai fod y maes awyr o ddewis i Gymru, yn fasnachol lwyddiannus, ac yn sbardun hyd yn oed mwy pwerus o swyddi a thwf yn yr economi ehangach.
 
14:05
Lindsay WhittleBywgraffiad
Brif Weinidog, diolch i chi am eich ateb. Fel cyn-gynghorydd sir Morgannwg Ganol o 1977, rwy'n falch bod y maes awyr, mewn gwirionedd, yn ôl mewn perchnogaeth gyhoeddus. Ond, y mis diwethaf, dywedodd adroddiad gan y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru ar y maes awyr nad oes adnoddau digonol wedi'u hymrwymo i farchnata, ac mae Croeso Cymru, yn ddiweddar, wedi ei feirniadu am wario llai na'r cyrff cyfatebol yn y DU. Felly, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i ddenu defnydd cynyddol i Faes Awyr Caerdydd ymhlith ymwelwyr o'r tu allan i'r DU ac o fewn y DU?
 
14:05
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, 'Edrychwch ar y ffigurau' yw'r hyn y byddwn i'n ei ddweud. Gwyddom, er enghraifft, o'u cymharu â mis Ionawr y llynedd, bod y ffigurau 42 cant yn uwch. Ar gyfer y mis diwethaf, roedd 56 y cant yn uwch. Mae'r maes awyr yn gwella ar ôl y chwe blynedd o esgeulustod iddo ei ddioddef o dan ei berchnogion preifat blaenorol. Rydym ni’n disgwyl gweld mwy o gwmnïau awyrennau yn dod i'r maes awyr yn y dyfodol. Mae'n dangos, gyda'r ymrwymiad a ddangosir gan y Llywodraeth, ei bod yn bosibl gweddnewid maes awyr, yn union fel y mae’r Alban wedi ei wneud gyda Prestwick, ac, yn wir, yn union fel y mae llywodraeth leol yn ei wneud yn Lloegr, gan mai llywodraeth leol sy'n berchen ar faes awyr Manceinion a maes awyr Stanstead hefyd, o ran hynny. Rydym ni’n falch o weld bod y maes awyr yn symud i'r cyfeiriad iawn; rydym ni’n falch o weld bod mwy a mwy o deithwyr yn defnyddio'r maes awyr ac mae'n dangos bod y penderfyniad a wnaed gennym i brynu'r maes awyr, yn wir, yr un cywir.
 
14:06
Mick AntoniwBywgraffiad
Brif Weinidog, mae’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i gymryd y maes awyr drosodd, i achub y maes awyr, nid yn unig wedi bod yn llwyddiant: mae wedi arwain at gynnydd aruthrol i nifer y teithwyr. Onid ydych chi’n cytuno â mi ei bod yn gwbl gywilyddus bod plaid Geidwadol Cymru yn gwneud popeth a allant i danseilio’r maes awyr? Pe bydden nhw wedi bod mewn Llywodraeth, a ydych chi’n cytuno â mi y byddent wedi troi eu cefnau ar y maes awyr ac, erbyn hyn, y byddai'r maes awyr wedi cau ac os mai dyna'r canlyniad, faint o swyddi fyddai'r Torïaid wedi eu taflu i ffwrdd oherwydd eu methiant i sefyll dros sbardun economaidd a sefydliad yng Nghymru?
 
14:07
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Byddent wedi taflu 1,700 o swyddi i ffwrdd. Dyna beth y bydden nhw wedi ei wneud. Fel yr wyf i wedi dweud wrthyn nhw o'r blaen, pan fuom yn siarad—[Torri ar draws.]. Mae'n brifo, rwy’n gwybod, ac rydych chi’n hoff iawn o weiddi.
 
14:07
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Trefn, trefn.
 
14:07
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Y gwir am y sefyllfa yw hyn: dywedodd y cwmni a oedd yn berchen ar y maes awyr mewn cyfarfod gyda mi yn blwmp ac yn blaen wrthyf eu bod yn disgwyl i’r maes awyr ddirywio a chau. Nid oedd ganddyn nhw ddiddordeb mewn gwerthu i brynwr preifat arall; roedd ganddyn nhw ddiddordeb mewn ei werthu i ni fel Llywodraeth. Nid oedd ganddyn nhw ddiddordeb mewn gweithio gyda ni ar ddatblygu llwybrau; gwnaethant hynny’n eglur. Cymerwyd y maes awyr drosodd gennym, achubwyd y swyddi hynny gennym, mae'r maes awyr yn tyfu, mae mwy o bobl yn defnyddio'r maes awyr. Byddai Ceidwadwyr Cymru wedi gadael i’r rhedfa honno droi’n laswellt, i’r maes awyr gau ac i British Airways Maintenance gau, y cwbl oherwydd problem ideolegol, gul yr oedd ganddynt gyda pherchnogaeth gyhoeddus. Rydym ni o'r farn bod y maes awyr yn sbardun economaidd, rydym ni’n gweld mwy o deithwyr, mwy o bobl yn cael eu cyflogi yno, ac mae'n iawn fod y maes awyr mewn perchnogaeth gyhoeddus ac yn ffynnu—nid y trychineb y byddai wedi bod pe byddai’r Torïaid wedi bod wrth y llyw.
 
14:08
William GrahamBywgraffiad
Dyfynnaf o adroddiad yr archwilydd cyffredinol, Brif Weinidog, na pharatowyd cynllun rhesymoli budd-daliadau ffurfiol gan Lywodraeth Cymru yn rhan o'i achos busnes ar gyfer prynu'r maes awyr. A allai hwn fod yn un o'r rhesymau pam y gwnaethoch chi lwyddo i dalu ddwywaith gwerth y farchnad? A allech chi fynd ymlaen i nodi’r manteision posibl hyn o’r caffaeliad a sut y byddwch chi’n eu rheoli ar ôl eu prynu er mwyn sicrhau y byddant yn cael eu cyflawni?
 
14:08
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Pedwar cant saith deg a dau o filiynau o bunnoedd yw’r cyfraniad i'r economi. Mae'n rhyfedd, onid yw, oherwydd pan brynwyd y maes awyr, fe’i croesawyd gan un Aelod Ceidwadol, Mohammad Asghar. Fe’i croesawodd ar Twitter. Yna, fe’i gorfodwyd i’w ddileu. Roedd yn bod yn eironig, mae'n debyg. [Chwerthin.] Ond dyna ni, mae'n dangos ei fod yn dilyn gorchmynion, yn union fel y gweddill ohonyn nhw.
 
Y gwir amdani yw bod y perchnogion gwreiddiol eisiau £200 miliwn am y maes awyr—£200 miliwn. Talwyd £52 miliwn gennym ni ar ôl prisiad annibynnol a chawsom y maes awyr. Dyna pam mae’n ffynnu; dyna pam mae buddsoddiad yn cael ei wneud ynddo. Ni chafodd unrhyw beth am flynyddoedd. Roedd y seilwaith yn dadfeilio, roedd ffenestri wedi cracio ac roedd cwmnïau awyrennau a oedd yn gadael y maes awyr. Yn 2007, roedd ganddo 2.1 miliwn o deithwyr, erbyn 2013, 1.07 miliwn o deithwyr. Dyna oedd llwyddiant y cwmni a redodd y maes awyr o dan berchnogaeth breifat. Nawr, rydym ni’n gweld cynnydd enfawr i nifer y teithwyr, gan fod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau na fyddai'r bobl a oedd yn gweithio yno a'r bobl sy'n ei ddefnyddio yn cael eu siomi.
 
14:09
Mike HedgesBywgraffiad
Brif Weinidog, a ydych chi’n cytuno â mi bod y cynnydd a wnaed ym Maes Awyr Caerdydd hyd yn hyn wedi bod yn ardderchog? Ac, onid yw’n well i Gymru ac economi Cymru gael maes awyr llwyddiannus, yn hytrach na’r hyn fyddai'r dewis arall—cael llawer o dai newydd yn cael eu hadeiladu yn y Rhŵs?
 
14:09
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Yn sicr. Wel, ni fyddai ots gan y Ceidwadwyr am hynny. Cyn belled nad oes unrhyw siawns o unrhyw elfen o berchnogaeth gyhoeddus, byddai wedi bod yn well ganddynt weld y maes awyr yn cau, sef yn union beth fyddai wedi digwydd. Byddai cyflogwr mawr ym Mro Morgannwg wedi cael ei golli i bobl Bro Morgannwg ac i Gymru. Rydym ni’n gwybod, pan ddaw i’r Torïaid, mai dinistrio swyddi y maen nhw'n ei wneud orau, nid eu creu.
 
Rheoli Traffig yn Sir Drefaldwyn
 
14:10
Russell GeorgeBywgraffiad
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am faterion rheoli traffig yn Sir Drefaldwyn? OAQ(4)2692(FM)
 
14:10
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Rydym ni’n symud ymlaen â nifer o gynlluniau i fynd i'r afael â gwahanol faterion rheoli traffig. Er enghraifft, bydd ffordd osgoi ar yr A483 a'r A489 yn y Drenewydd yn helpu’n aruthrol i leddfu problemau traffig yn etholaeth yr Aelod.
 
14:10
Russell GeorgeBywgraffiad
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae gennyf bryderon am y goblygiadau rheoli traffig ynghylch symud cydrannau tyrbinau ar gyfer ffermydd gwynt Tirgwynt a Garreg Lwyd. Rwy'n pryderu na ddylai’r cyhoedd sy'n teithio, gan gynnwys twristiaid, fod o dan anfantais fwy nag sy'n angenrheidiol. Rydych chi wedi sôn am ffordd osgoi'r Drenewydd, sydd, wrth gwrs, i'w chroesawu'n fawr, ond ni fydd ar agor yn ystod y gwaith o adeiladu’r ffermydd gwynt hyn. Felly, a gaf i ofyn i chi orfodi swyddogion i sicrhau na chaniateir i’r cydrannau tyrbinau hyn gael eu symud yn ystod cyfnodau brig o ran y ffermydd gwynt yr wyf i wedi eu crybwyll?
 
14:11
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Gallaf sicrhau'r Aelod bod swyddogion yn gwneud yn union hynny, gan weithio gyda'r datblygwyr i sicrhau bod cydrannau mawr yn cael eu symud ar adeg wahanol i draffig oriau brig, yn amlwg, i sicrhau cyn lleied â phosibl o unrhyw darfu ar y ffyrdd.
 
14:11
William PowellBywgraffiad
Brif Weinidog, fel y gwyddoch, mae pont Dyfi yn elfen gwbl hanfodol o reoli traffig yng ngogledd-orllewin Sir Drefaldwyn ac mae hefyd yn brif lwybr allweddol. Yng nghyd-destun ei phwysigrwydd, mae'n fater o falchder arbennig i ni yn Nemocratiaid Rhyddfrydol Cymru ein bod yn gallu sicrhau gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad cadarn i greu ail bont Dyfi yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf. Yng nghyd-destun y problemau diweddar, Brif Weinidog, a fu gyda llifogydd a difrod i'r ffordd bresennol, a wnewch chi ymuno â'ch cydweithiwr, y Gweinidog trafnidiaeth i dawelu meddyliau’r gymuned leol ym Machynlleth a'r cyffiniau y bydd y prosiect hwn yn cael ei hwyluso, o ystyried y manteision lu a fydd yn llifo o’i gyflwyno?
 
14:12
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Gallaf sicrhau'r Aelod y bydd y prosiect yn cael ei symud ymlaen cyn gynted â phosibl. Ceir llawer ohonom ni sy'n gyfarwydd â phont Dyfi—cysylltiad hanfodol rhwng Powys a Gwynedd a rhan hanfodol o’n rhwydwaith ffyrdd. Gwyddom fod y bont ei hun yn eithaf isel dros yr afon a’i bod yn dueddol o ddioddef llifogydd, ac rydym ni’n symud ymlaen â'r prosiect cyn gynted â phosibl.
 
Deuoli’r A465
 
14:12
Christine ChapmanBywgraffiad
8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith deuoli ar yr A465, sef ffordd Blaenau'r Cymoedd? OAQ(4)2693(FM)
 
14:12
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Rydym ni eisoes wedi cwblhau deuoli rhannau 1, 3 a 4. Mae Rhan 2 rhwng Gilwern a Brynmawr ar y safle; bydd honno’n cael ei chwblhau erbyn 2018. Disgwylir i’r ddwy olaf—rhan 5, Dowlais i'r A470, a Rhan 6, yr A470 i Hirwaun—gael eu cwblhau erbyn 2020.
 
14:13
Christine ChapmanBywgraffiad
Brif Weinidog, roeddwn i’n falch iawn o gael yr ymateb hwnnw i’m llythyr gan Weinidog yr economi, yn cadarnhau y byddai’r prosiect deuoli cyffredinol yn cael ei gwblhau yn 2020. Yn amlwg, croesawyd hyn yn fawr iawn gan fy etholwyr. Hoffwn bwyso arnoch ymhellach heddiw, fodd bynnag, am leoliadau arfaethedig cyffyrdd, yn enwedig gan eu bod yn effeithio ar Hirwaun a mynediad at gwm Cynon. Roedd cryn bryder mewn arddangosfa gyhoeddus nad yw’r cynlluniau a arddangoswyd yn cymryd datblygiadau eiddo diweddar i ystyriaeth. Pa sicrwydd allwch chi ei roi y bydd unrhyw gynlluniau’n cymryd y sylwadau hyn i ystyriaeth, fel bod anghenion cymunedau lleol yn cael eu diwallu a bod y ffordd wedi’i deuoli yn cysylltu’n ddi-dor â rhwydweithiau trafnidiaeth ehangach?
 
14:13
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Gallaf roi sicrwydd i’m cyfaill yr Aelod dros Gwm Cynon y bydd ymgysylltiad llawn â'r cyhoedd a'r rhanddeiliaid trwy gydol cyfnod dylunio’r ffordd ei hun. Mae'n bwysig ein bod yn gallu llywio dyluniad y ffordd wrth i hynny symud ymlaen. Bydd cyfle i wneud sylwadau ffurfiol ar y Gorchmynion statudol drafft a'r cynigion amgylcheddol pan gaiff y Gorchmynion drafft eu cyhoeddi. Rydym ni’n rhagweld y bydd angen ymchwiliad cyhoeddus lleol yn ystod gwanwyn 2017, gerbron arolygydd annibynnol. Gallaf gadarnhau iddi fod lleoliad a natur y cyffyrdd ar hyd y llwybr yn elfennau allweddol o'r adolygiad dylunio sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd.
 
14:14
Nick RamsayBywgraffiad
Brif Weinidog, mae'n dda gweld gwaith yn mynd rhagddo ar ddeuoli rhan ceunant Clydach yr A465 rhwng Gilwern a Brynmawr, rhan 2 y ffordd y cyfeiriasoch ati. Ond bu rhai materion o bryder. Mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi, sydd ag adeiladau ar hyd y llwybr nad ydynt wedi cael eu prynu’n orfodol, ond, serch hynny, wedi cael eu dibrisio gan y prosiect. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda phobl sy’n canfod eu hunain yn y sefyllfa hon, a sut ydych chi’n sicrhau bod pawb sy'n cael eu heffeithio'n andwyol gan waith adeiladu yn cael eu digolledu’n briodol?
 
14:15
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, rydym ni o'r farn y bydd y rhai sy'n cael eu heffeithio yn cael iawndal priodol. Mae'n iawn i ddweud, wrth gwrs, efallai y bydd rhai pobl yn canfod eu bod ychydig yn agosach at y ffordd nag o'r blaen. Mae hynny'n anochel, ond mae'n iawn y dylen nhw gael eu digolledu am y golled amwynder honno, a chredwn fod hynny'n digwydd ar sail deg.
 
Dechrau’n Deg
 
14:15
Mike HedgesBywgraffiad
9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth Dechrau’n Deg? OAQ(4)2687(FM)
 
14:15
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Gwnaf. Dechrau'n Deg yw un o'n prif ymrwymiadau. Mae'n gwella canlyniadau i blant a'u teuluoedd, a rhagorwyd ar ein targed i ddyblu nifer y plant sy'n elwa ar Ddechrau'n Deg flwyddyn yn gynnar, gan gefnogi dros 37,000 o blant ledled Cymru.
 
14:15
Mike HedgesBywgraffiad
Wel, amlygwyd ei lwyddiant yn Abertawe gan y Gweinidog addysg yr wythnos diwethaf pan ymwelodd â dwy ysgol yn fy etholaeth i, lle’r oedd y penaethiaid yn awyddus iawn i nodi pa mor ddefnyddiol oedd Dechrau'n Deg i blant cyn-meithrin, a sut yr oedd y cyfnod pontio addysg feithrin gymaint yn haws pan fo plant wedi bod trwy Ddechrau'n Deg. A wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i barhau Dechrau'n Deg—a yw honno’n enghraifft arall eto o'r Torïaid i’r cyfoethog, a Llafur i’r gweddill?
 
14:16
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Cwbl gywir. Cwbl gywir. Wel, gwelsom hynny ddim ond yn gynharach heddiw a chyda’r dyfarniad llys yr wythnos diwethaf. Mae’n profi’n union beth yw safbwynt y Torïaid o ran y rheini y maen nhw eisiau eu cefnogi. [Torri ar draws.] Sosialaeth yw e; ie, rydych chi'n iawn. Rwy'n eithaf hapus iddo grybwyll hynny; dyna yw e. Mae gofalu am y rhai sydd angen cymorth fwyaf yn rhan o'r hyn yr ydym yn sefyll drosto fel plaid. Os mai sosialaeth yw hynny, rydym ni i gyd yn credu yn hynny. Felly, mae’n bechod os nad yw arweinydd yr wrthblaid yn credu ynddo. Byddwn yn parhau â Dechrau'n Deg. Fel y mae’r Aelod yn ei ddweud yn gywir, mae wedi helpu miloedd lawer o bobl, ac rydym ni fel Llywodraeth yn falch o'r hyn y mae wedi ei gyflawni.
 
14:16
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Janet Finch-Saunders.
 
14:16
Janet Finch-SaundersBywgraffiad
Diolch i chi, Lywydd, ac, i'r Prif Weinidog, mae Ceidwadwyr Cymru’n cefnogi egwyddor Dechrau'n Deg yn llwyr. Fodd bynnag, amlygodd yr adroddiad Cam 1 diweddar fod lefel yr ymwybyddiaeth i deuluoedd—ymwybyddiaeth o hawliau—yn dibynnu’n fawr iawn ar y wybodaeth a roddir iddynt gan eu hymwelydd iechyd ac, yn amlwg, mae'r berthynas rhwng ymwelydd iechyd a’r teuluoedd hyn yn allweddol iawn yn hyn o beth, ac mae'n dibynnu’n fawr ar hynny. Pan nad oes ymwelydd iechyd ar gael, mae llawer nad ydynt yn gallu manteisio ar y cynllun hwn nawr. Sut ydych chi'n gweithio fel Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r methiannau a amlygwyd yn yr adroddiad Cam 1?
 
14:17
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, rwy'n falch o glywed yr hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud am gefnogi Dechrau'n Deg, er bod hwn yn faes a fydd yn dioddef toriad o 20 y cant, yn ôl ei phlaid ei hun. Felly, dyna ni. Mae hynny'n rhywbeth y bydd yn rhaid iddyn nhw ei ddatrys eu hunain, er, fel y dywedodd arweinydd yr wrthblaid, nid ydynt wedi dadansoddi’r rhifau eto, sef yr hyn a ddywedodd yn y ddadl arweinwyr a gawsom ar ‘Sunday Politics Wales’, pan ofynnais iddo o ble’r oedd ei ffigurau’n dod. Dyna ni.
 
Gall pob awdurdod lleol arfer rhywfaint o hyblygrwydd o fewn rhaglen Dechrau'n Deg trwy gynnig cymorth drwy allgymorth. Rydym ni’n gwybod bod allgymorth yn galluogi teuluoedd sy'n byw y tu allan i ardaloedd Dechrau'n Deg i gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt, a, chan ddefnyddio gwybodaeth leol ac asesiad cadarn o flaenoriaeth, gall awdurdodau lleol sicrhau bod y rhai sydd fwyaf mewn angen yn derbyn y gwasanaeth hwn.
 
14:18
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Ac yn olaf, Leanne Wood.
 
14:18
Leanne WoodBywgraffiad
Diolch i chi am eich ateb yn y