Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :
Nôl i'r rhestr dogfennau Gweld y dudalen hon heb lincs
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:31 gyda’r Llywydd (y Fonesig Rosemary Butler) yn y Gadair.
 
13:31
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Prynhawn Da. Dyma ddechrau trafodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
 
13:31
Datganiad gan y Llywydd
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Cyn i ni ddechrau ar yr agenda y prynhawn yma, rwyf wedi adolygu Cofnod y Trafodion, fel y dywedais y buaswn yn ei wneud ddoe, a chafodd nifer o bethau annerbyniol eu dweud yn ystod y ddadl ddoe ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Undebau Llafur y DU. Gelwais arweinydd yr wrthblaid i drefn am gyfeirio at grŵp o Aelodau fel ‘you lot’. Ni chlywais y gair ‘mob’ ar y pryd. Ond ar ôl adolygu’r Cofnod, gwelaf fod arweinydd yr wrthblaid wedi’i ddefnyddio, ac rwy’n sicr yn ystyried bod hynny hefyd yn annerbyniol. A hoffwn ofyn i’r Aelodau eto—yr holl Aelodau—i fod yn barchus wrth gyfeirio at ei gilydd ac at bobl y tu allan i’r Siambr yn ystod y trafodion.
 
1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
 
13:32
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at eitem 1, sef cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a daw cwestiwn 1 gan Mohammad Asghar.
 
Gwasanaethau i Gleifion Canser
 
13:32
Mohammad AsgharBywgraffiad
1. Pa gamau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd i wella gwasanaethau i gleifion canser yng Nghymru am weddill tymor y Cynulliad hwn? OAQ(4)0674(HSS)
 
13:32
Vaughan GethingBywgraffiadY Dirprwy Weinidog Iechyd
Diolch am y cwestiwn. Yn ddiweddar, gwneuthum hi’n ofynnol i bob bwrdd iechyd bennu cynlluniau gwella 100 diwrnod i ganolbwyntio ar wella gwasanaethau a chanlyniadau i gleifion. Mae’r cynllun cyflawni ar gyfer canser yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau canser yng Nghymru, a chefnogir y cynllun hwnnw gan glinigwyr, elusennau canser, a grwpiau ymgyrchu, sydd hefyd yn rhan o’r grŵp gweithredu canser.
 
13:33
Mohammad AsgharBywgraffiad
Diolch i chi am yr ateb cadarnhaol, Weinidog. Ond mae cleifion yng Nghymru yn wynebu mwy o oedi yn y ddarpariaeth o ofal canser. Ledled Cymru, gwelwyd cynnydd o 6 y cant yn y nifer sy’n aros am ofal canser brys. Pa gamau fydd y Gweinidog yn eu cymryd i roi sylw i’r dirywiad hwn sy’n peri pryder mewn amseroedd aros canser yng Nghymru, os gwelwch yn dda?
 
13:33
Vaughan GethingBywgraffiad
Diolch am y cwestiwn. Fel y gŵyr pawb ohonom, bu cynnydd sylweddol yn nifer y cleifion canser sy’n cael eu hatgyfeirio, nifer y bobl sy’n cael diagnosis o ganser. Yr wythnos hon, yn yr adroddiad canser blynyddol, nodais fod tua 19,000 o bobl yn cael triniaeth canser yn ystod y flwyddyn dan sylw. Felly, bydd mwy o bobl yn mynd i mewn i’r gwasanaeth. Mae’r heriau hyn yn bodoli ar draws y DU. Mae’r cynlluniau 100 diwrnod yn ymwneud â chanolbwyntio ar ymdrin â’r amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, ac fel y dywedaf, â gwella canlyniadau, oherwydd, i mi, y peth pwysicaf yw pa ganlyniadau rydym yn eu sicrhau i’n pobl, a gwyddom, mewn gwirionedd, fod mwy o bobl yn dal i gael eu gweld o fewn yr amser gofynnol—cafodd 28 y cant yn fwy o bobl eu gweld o fewn yr amser gofynnol. Mae gennym amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth gwell na Lloegr o hyd, ond mae hwn yn faes lle rydym yn cydnabod bod angen ei wella, ac yn arbennig, er mwyn ymdrin â’r ôl-groniad o bobl sy’n dal i aros. Felly, rwy’n glir ynghylch fy nisgwyliadau, ac rwy’n credu y bydd byrddau iechyd yn cyflawni a byddwch yn gweld amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn gwella dros y chwarter nesaf.
 
13:34
David ReesBywgraffiad
Ddirprwy Weinidog, fel y byddwch yn gwybod mae’n siŵr, edrychodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y cynllun cyflawni ar gyfer canser, a chynhyrchu adroddiad arno, a oedd yn dangos bod cynnydd da yn cael ei wneud. Ond roedd un neu ddau o bryderon, ac un ohonynt oedd y gweithiwr allweddol a rôl y nyrs glinigol arbenigol. A allwch chi ddweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella’r nifer sy’n cael gweithiwr allweddol, er mwyn sicrhau bod digon yno i bobl, oherwydd maent yn hanfodol nid yn unig er mwyn darparu gofal canser, ond hefyd yr holl faterion atodol eraill, sy’n ymwneud yn arbennig â’r wybodaeth y byddant yn ei derbyn ar y pryd?
 
13:34
Vaughan GethingBywgraffiad
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Mae’n gwneud pwynt teg ynglŷn â’r canlyniadau, ac ansawdd y gofal a sut y caiff pobl eu trin drwy gydol eu triniaeth, a deall y diagnosis a’r mathau eraill o gymorth y gallant fod eu hangen. Felly, rydym wedi bod yn glir iawn, unwaith eto, yn ein canllawiau ynghylch rôl y gweithiwr allweddol. Roedd arolwg canser 2013 yn cydnabod bod dwy ran o dair o gleifion wedi cael gweithiwr allweddol ac yn gwybod pwy oeddynt. Rydym yn disgwyl gweld gwelliant, ac mae’n flaenoriaeth amlwg i ni, oherwydd rydym yn cydnabod, yn ogystal â deall y wybodaeth ynglŷn â’u triniaeth a’u llwybr triniaeth a beth fydd hynny’n ei olygu iddynt hwy, rydym yn awyddus i weld bod y person hwnnw’n cael ei drin fel person cyflawn yn y teulu, yn y gymuned a’r hyn sy’n bwysig iddynt. Felly, rwy’n glir ynglŷn â’r canllawiau rydym wedi’u cyhoeddi. Rwy’n glir ein bod yn disgwyl i fyrddau iechyd wella eu safleoedd, ac rwy’n credu y bydd hynny’n digwydd ac yn cael ei gadarnhau yn yr arolwg cleifion canser, ond rwyf hefyd yn disgwyl bod yna fwy y gallem ac y dylem ei wneud yn y dyfodol.
 
13:35
John GriffithsBywgraffiad
Weinidog, ddiwedd yr wythnos diwethaf, ynghyd â’r Llywydd, Lindsay Whittle a llawer o rai eraill, bûm yn gweld y dywarchen gyntaf yn cael ei thorri gan y Gweinidog iechyd yn Hosbis Sefydliad Dewi Sant yng Nghasnewydd—hosbis 15 gwely sydd wedi cael cryn fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd ac amryw o rai eraill. A fyddech yn cytuno bod hyn yn dangos pa mor bwysig yw buddsoddi mewn gwasanaethau sy’n cefnogi pobl ar bob cam o’r cyflwr?
 
13:36
Vaughan GethingBywgraffiad
Ydw, rwy’n sicr yn cydnabod hynny, ac rwy’n falch iawn fod y Gweinidog wedi cael y cyfle i dorri’r dywarchen gyntaf a hithau’n arllwys y glaw ac nad oedd yn rhywbeth y bu’n rhaid i mi ei wneud. Ond mae hon yn enghraifft dda o edrych ar yr holl wahanol fathau o driniaeth a chymorth sydd eu hangen ar bobl ar bob cam o’u taith. Mae’n enghraifft dda iawn o bartneriaeth rhwng iechyd, llywodraeth leol a’r trydydd sector hefyd. Rwy’n falch iawn o’r gwaith rydym yn ei wneud gyda’r mudiad hosbis ar weld gwahanol fathau o ofal sy’n briodol i anghenion pobl ar y pwynt hwnnw yn eu triniaeth, ac rydym yn gwneud cynnydd go iawn yn y maes, a gofal diwedd oes yn enwedig, gyda phobl sydd, yn anffodus, yn dioddef o ganser.
 
13:36
Sandy MewiesBywgraffiad
Ddirprwy Weinidog, rwy’n siŵr fod pawb yma’n croesawu’r newyddion bod cyfraddau goroesi canser yn gwella yng Nghymru, a hynny er gwaethaf y ffaith fod mwy nag erioed o bobl yn cael diagnosis o ganser. A allwch chi ddweud wrthyf beth y mae’r Llywodraeth a’r GIG yng Nghymru, drwy weithio gyda’i gilydd, yn ei wneud i wella diagnosis cynnar?
 
13:37
Vaughan GethingBywgraffiad
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn ac unwaith eto, am dynnu sylw at y ffaith fod gwasanaethau canser yn gwella yng Nghymru. Mae’n stori lwyddiant gadarnhaol iawn i GIG Cymru fod lefelau goroesi blwyddyn a lefelau goroesi pum mlynedd yn gwella, ac am y tro cyntaf erioed, disgwylir i fwy na hanner y bobl sy’n cael diagnosis o ganser i fyw’n hwy na phum mlynedd.
 
O ran diagnosis cynnar, mae hon yn flaenoriaeth genedlaethol y mae’r grŵp gweithredu ar gyfer canser wedi’i dewis ar ei gyfer ei hun. Mae gwaith yn cael ei wneud ar wella mynediad at ddiagnosteg ac mae gwaith pwysig yn cael ei wneud ar ganser yr ysgyfaint fel blaenoriaeth benodol. Rydym yn cydnabod nad ydym yn gweld digon o bobl yn hunangyfeirio’n ddigon cynnar; maent yn cael eu gweld yn hwyrach ar y llwybr nag y dylent, felly nid yw canlyniadau gystal ag y dylent fod ychwaith. Felly, rydym hefyd yn cydnabod y gwaith rydym yn ei wneud gyda gofal sylfaenol—gwaith rydym yn ei wneud gyda Macmillan a’r gwasanaeth oncoleg—i alluogi clinigwyr gofal sylfaenol i nodi ac atgyfeirio’n gynharach, fel y gall pobl gael triniaeth benodol a chymorth wedi hynny hefyd.
 
Buddsoddiad mewn Gwasanaethau Iechyd yng Ngwent
 
13:38
John GriffithsBywgraffiad
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd yng Ngwent? OAQ(4)0688(HSS)
 
13:38
Mark DrakefordBywgraffiadY Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Yn ystod y flwyddyn ariannol hon, byddwn yn buddsoddi dros £1 biliwn mewn gwasanaethau iechyd yng Ngwent, neu £1,848 ar gyfer pob person yn y boblogaeth. Bydd hynny’n cynyddu mwy eto y flwyddyn nesaf o ganlyniad i’r £260 miliwn o fuddsoddiad refeniw ychwanegol mewn gwasanaethau iechyd a gyhoeddwyd yng nghyllideb ddrafft mis Rhagfyr.
 
13:38
John GriffithsBywgraffiad
Weinidog, rydym ar daith tuag at ddarpariaeth ehangach o wasanaethau mewn gofal sylfaenol, yn hytrach na gofal eilaidd. Er mwyn gwneud y newid hwnnw mor llyfn ac mor effeithiol ag y bo modd, a fyddech yn cytuno ei bod yn bwysig iawn i ni roi’r cyfleusterau cymunedol yn eu lle cyn i wasanaethau gael eu tynnu’n ôl, fel petai, o’r sector eilaidd? Yn hynny o beth, a fyddech hefyd yn cytuno ei bod yn bwysig iawn fod canolfannau iechyd, megis canolfan iechyd Ringland, sydd wedi’i chynllunio ers amser a disgwyl eiddgar amdani, yn rhan o’r newid hwnnw yn y ddarpariaeth?
 
13:39
Mark DrakefordBywgraffiad
Cytunaf yn llwyr â’r hyn y mae John Griffiths wedi’i ddweud am yr angen i symud gwasanaethau o ofal eilaidd i wasanaethau cymunedol a sylfaenol. Mae hynny’n golygu bod yn rhaid i ni fuddsoddi yn seilwaith ein hystad sylfaenol a chymunedol. Mae’r Gweinidog Cyllid wedi cael ambell drafodaeth ffrwythlon iawn gyda Banc Buddsoddi Ewrop mewn perthynas â’r rhaglen fuddsoddi yn Iwerddon, rhaglen y mae’r banc buddsoddi wedi’i chefnogi er mwyn moderneiddio a gwella eu hystad gofal sylfaenol, ac mae’n llwybr rydym yn bwriadu ei ddilyn dros y misoedd i ddod.
 
13:39
William GrahamBywgraffiad
Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol o gyfraniad diwydiant preifat i godi £100 miliwn mewn cyllid ecwiti, mewn perthynas â Proton Partners International, a fydd yn agor canolfan therapi pelydr proton gyntaf y Deyrnas Unedig yng Nghasnewydd yn ddiweddarach eleni. A fyddai’r Gweinidog yn cytuno y gallai meddygaeth gyhoeddus a meddygaeth breifat ategu’i gilydd a chyfrannu at wella iechyd pobl yng Nghymru?
 
13:40
Mark DrakefordBywgraffiad
Diolch i William Graham am dynnu sylw at y clinig therapi pelydr proton yng Nghasnewydd. Mae’n cael ei sefydlu yno o ganlyniad i fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru hefyd, drwy adran fy nghyd-Aelod, Edwina Hart. Rydym yn gobeithio y bydd yn llwyddiant mawr ac y daw â buddsoddiad a gwaith ymchwil pellach i Gymru. Yn sicr, rydym yn hyderus y bydd clinig therapi pelydr proton ar waith yng Nghymru fel y cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig.
 
13:40
Lindsay WhittleBywgraffiad
Weinidog, bydd yr Aelodau wedi derbyn hysbysiad gan Fwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan ar y gostyngiad yn niferoedd gwelyau iechyd meddwl yn yr ardal. O ystyried eich datganiad diweddar am bwysigrwydd cynlluniau iechyd meddwl 10 mlynedd, pa gamau a gymerwch i gynorthwyo bwrdd iechyd prifysgol Aneurin Bevan i fynd i’r afael â’u prinder staff iechyd meddwl ar hyn o bryd?
 
13:41
Mark DrakefordBywgraffiad
Diolch i Lindsay Whittle am hynny. Bydd cynigion bwrdd iechyd Aneurin Bevan yn arwain at ostyngiad o un gwely, o 61 i 60 o welyau, pan fydd y gwaith o ailgynllunio’i wasanaethau wedi’i gwblhau. Mae yna waith sydd angen i’r bwrdd iechyd ei wneud mewn perthynas â’i wasanaethau iechyd meddwl ar gyfer cleifion mewnol. Mae’n darparu mwy o welyau fesul 1,000 o’r boblogaeth na thri chwarter y cyrff iechyd yn y Deyrnas Unedig. Felly, mae’n ddibynnol iawn ar welyau yn hytrach na rhai gwasanaethau cymunedol. Byddwn yn cynorthwyo’r bwrdd iechyd gyda’r ailgynllunio, a fydd yn golygu canoli’r gwasanaethau sydd ganddo mewn lleoliadau penodol, ail-leoli’r staff fel y gall wneud y gorau o’r staff sydd ganddo a pharhau i ddarparu gwasanaeth diogel i’w boblogaeth leol.
 
13:42
Kirsty WilliamsBywgraffiadArweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Weinidog, dywedodd y Prif Weinidog ddoe nad oedd problem recriwtio a chadw meddygon yng Nghymru, ond eto, dros gyfnod y Nadolig, nid oedd bwrdd iechyd Aneurin Bevan yn gallu cyflawni’r rota pediatrig a chafodd eu gwasanaethau eu hadleoli o Ysbyty Nevill Hall i Ysbyty Brenhinol Gwent am y cyfnod hwnnw. Yn ffodus, mae’r rotas hynny bellach wedi’u llenwi a’r gwasanaethau yn ôl fel arfer. Ond rwy’n siŵr y byddech yn cytuno â mi nad yw hon yn ffordd dda o ddarparu gwasanaeth iechyd ar gyfer poblogaeth. Pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau bod staff digonol ar bob lefel yn ein hysbytai cyffredinol dosbarth? A fyddech chi’n cytuno â mi y gellid bod wedi osgoi’r sefyllfa yn Y Fenni pe bai’r ganolfan gofal arbenigol a chritigol eisoes ar waith?
 
13:43
Mark DrakefordBywgraffiad
Credaf ei bod yn bwysig cael rhywfaint o bersbectif ar y mater y mae’r Aelod yn cyfeirio ato. Un ward oedd hon, mewn un ysbyty am un wythnos, a chafodd ei wneud mewn modd a gynlluniwyd o flaen llaw a’i gyfathrebu’n ofalus i bawb y byddai’n berthnasol iddynt, ac mae’r gwasanaeth bellach yn ôl yn gweithredu’n llawn yn y lle y bwriedir iddo fod yn y tymor hir. Mae 96 y cant o holl swyddi’r GIG yng Nghymru wedi’u llenwi. Rydym yn cael nifer dda iawn o geisiadau am y mwyafrif helaeth o swyddi’r GIG yng Nghymru. Fel rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, mae yna nifer lai o arbenigeddau lle y ceir prinder meddygon a lle sy’n rhaid i ni gystadlu ag eraill i ddenu’r bobl hynny i’r GIG yng Nghymru. Un o’r ffyrdd o wneud hynny yw sicrhau bod y cyfleusterau diweddaraf gennym a’n bod yn gallu cynnig i bobl sy’n dymuno gweithio yng Nghymru yr amodau y byddent eu heisiau i ymarfer meddygaeth. Mae’r ganolfan gofal arbenigol a chritigol yn sicr yn rhan o hynny ar gyfer poblogaeth de-ddwyrain Cymru. Dyna pam rwyf wedi darparu £36.9 miliwn yn rhaglen gyfalaf y flwyddyn nesaf i ganiatáu i hynny ddigwydd cyn gynted ag y byddwn wedi cytuno ar y cam nesaf o’r cynllun busnes.
 
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
 
13:44
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at gwestiynau gan lefarwyr y pleidiau ac yn gyntaf y prynhawn yma, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar.
 
13:44
Darren MillarBywgraffiad
Diolch i chi, Lywydd. A gaf fi ofyn i chi, Weinidog: a fyddwch chi’n achub croen byrddau iechyd lleol nad ydynt wedi gallu adennill eu costau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon?
 
13:44
Mark DrakefordBywgraffiad
Mae sefyllfa’r byrddau iechyd yn union yr un fath eleni ag oedd hi y llynedd. Bydd y prif grŵp gwariant iechyd yn aros o fewn yr hyn a ryddheir iddo gan y Cynulliad Cenedlaethol hwn. Ni fyddaf yn caniatáu i wasanaethau cleifion, mewn unrhyw ran o Gymru gael eu peryglu gan rai o’r heriau ariannol a wynebir gan fyrddau iechyd lleol. Efallai mai ‘achub croen’ rydych chi’n galw hynny; rwy’n ei ystyried yn ffordd synhwyrol o reoli ein cyllid i sicrhau mai anghenion cleifion yw’r flaenoriaeth a’u bod yn cael sylw priodol. Pan fydd byrddau iechyd yn ei chael hi’n anodd dod i ben ar yr arian a roddir iddynt, rydym yn gweithio gyda hwy er mwyn eu rhoi yn y sefyllfa honno. Mae 75 y cant o fyrddau iechyd yng Nghymru ar y trywydd cywir i ddod i ben ar yr arian a roddir iddynt eleni. Mae disgwyl y bydd 75 y cant o sefydliadau iechyd yn Lloegr, lle y mae ei blaid wrth y llyw, yn methu â dod i ben ar yr hyn a roddir iddynt.
 
13:45
Darren MillarBywgraffiad
Fel y gwyddoch, Weinidog, mae’r trefniadau ariannol yn wahanol iawn yn Lloegr i’r trefniadau ariannol yma yng Nghymru. Ond yr hyn sy’n glir yn y ffigurau diweddaraf a adroddwyd i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yw bod disgwyl i’r GIG yng Nghymru orwario £142 miliwn. Nawr, rydym wedi clywed gan brif weithredwr y GIG yng Nghymru fod disgwyl i’r ffigur hwnnw leihau wrth agosáu at ddiwedd y flwyddyn, i tua £60 miliwn. Ond onid yw hyn yn dangos anghynaliadwyedd trefniadau ariannol y GIG yma yng Nghymru o ganlyniad i’r toriadau y mae eich plaid wedi’u gwneud—y toriadau mwyaf erioed dros y blynyddoedd—ac a ydych chi’n derbyn yn awr na ddylech fod wedi gwneud y toriadau hynny ac y byddai gan y GIG yng Nghymru £1 biliwn yn fwy yn awr ers 2010-11 pe baech wedi dilyn ein cynlluniau ni ar gyfer y GIG yng Nghymru?
 
13:46
Mark DrakefordBywgraffiad
Wel, mae’r rhan gyntaf un o’r hyn a ddywedodd yr Aelod yn gywir, hynny yw, fod y gorwariant a ragwelwyd ar ganol y flwyddyn yn gostwng yn wir, ac yn gostwng yn gyflym. Rydym yn sôn am 1 y cant ar frig y gyllideb, ac mae’n dal i fod rhaid i ni fynd i’r afael ag ef yma yng Nghymru. Mae’n sefyllfa hollol wahanol i’r un a wynebir yn Lloegr, sydd, unwaith eto eleni, fel y mae’n dweud, yn gorfod trosglwyddo £1 biliwn o gyfalaf er mwyn chwyddo ochr refeniw y GIG yn Lloegr. Rydym ymhell o fod yn tanariannu’r GIG yma yng Nghymru, ac os edrychwch ar y llynedd, am bob person yng Nghymru, buddsoddwyd £85 ychwanegol gennym am bob pen o’r boblogaeth. Yn Lloegr, £65 oedd y ffigur hwnnw, a £10 yn yr Alban. Rydym yn gwario mwy ar y GIG yng Nghymru nag erioed o’r blaen ac mae gennym record rydym yn hynod falch i’w hamddiffyn.
 
13:47
Darren MillarBywgraffiad
Ni waeth pa ffigurau rydych yn ceisio’u rhestru, Weinidog, y gwir amdani yw bod eich Llywodraeth wedi gwneud toriadau, wedi cau ac israddio gwasanaethau ledled Cymru ac o ganlyniad, mae cleifion yn talu’r pris. Un o’r prisiau y mae cleifion yn eu talu yw cynnydd mewn hawliadau yn sgil esgeuluster yn erbyn clinigwyr. Yr wythnos diwethaf, gwelsom ffigurau a ddatgelwyd ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr sydd i’w gweld yn dangos eu bod yn neilltuo ffigur disgwyliedig o £90 miliwn yn erbyn hawliadau yn sgil esgeuluster yn y rhan honno o Gymru. Pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau y bydd gwasanaethau’n ddiogel pan gânt eu darparu ac y bydd costau esgeuluster yn lleihau yn y dyfodol?
 
13:48
Mark DrakefordBywgraffiad
Mae hawliadau yn sgil esgeuluster clinigol ar draws y Deyrnas Unedig wedi cynyddu—nid ydynt wedi cynyddu cymaint yng Nghymru ag y maent yn Lloegr, lle y mae ei blaid wrth y llyw—ac maent wedi cynyddu am ystod eang o resymau. Yn rhannol, maent wedi cynyddu oherwydd datblygiadau ym maes meddygaeth ei hun, sy’n golygu y bydd rhywun yn gynnar yn ei fywyd a fydd yn goroesi rhywbeth sydd wedi mynd o’i le yn eu bywyd yn byw’n hwy, ac mae llysoedd yn pennu dyfarniadau sy’n ystyried hynny. Fodd bynnag, un o’r pethau y byddwn yn ei wneud yw gweithio gyda’r Adran Iechyd ar waith y maent yn ei arwain, lle y maent yn edrych ar y costau cyfreithiol anghymesur sy’n cael eu hawlio am ganlyniadau esgeuluster clinigol gwerth isel i gleifion. Rydym yn falch iawn o weithio gyda hwy i weld beth y gallwn ei wneud i leihau’r galw hwnnw ar y pwrs cyhoeddus.
 
13:49
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at lefarydd Plaid Cymru, Elin Jones.
 
13:49
Elin JonesBywgraffiad
Weinidog, roedd adroddiad a gafodd ei gyhoeddi yr wythnos diwethaf yn dangos bod 55 y cant o fyfyrwyr meddygaeth Cymru yn dod o gefndir yr 20 y cant mwyaf cyfoethog a bod dim ond 6.5 y cant o gefndir yr 20 y cant lleiaf cyfoethog. Mae tystiolaeth ryngwladol yn dangos bod meddygon o gefndir tlawd yn llawer mwy tebygol o wasanaethu mewn cymunedau tlawd. A ydych chi’n bwriadu cymryd camau pellach i hyrwyddo meddygaeth fel pwnc mewn ysgolion yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig ni?
 
13:49
Mark DrakefordBywgraffiad
Wel, rydw i’n cydnabod y pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud. Rydw i wedi siarad â’r brifysgol yma yng Nghaerdydd jest ar y pwnc yna, ac maen nhw yn trial; maen nhw’n gwneud lot o waith mewn ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig, ble maen nhw’n trial dangos i bobl ifanc fod cyfleon iddyn nhw weithio yn yr NHS yma yng Nghymru ac i ddechrau ar y llwybr sy’n arwain atyn nhw’n gweithio fel doctoriaid. Felly, mae lot o waith yn mynd ymlaen yn barod, ac mae’r bobl sy’n gweithio yn y maes addysg yn cydnabod ac yn ymwybodol o’r pwynt y mae Elin Jones wedi’i godi. Mae yna fwy y gallwn ei wneud, ac rŷm ni’n fodlon, wrth gwrs, edrych ar unrhyw syniad sy’n gallu ein helpu ni i fwrw ymlaen â’r agenda rŷm ni’n ei rannu.
 
13:50
Elin JonesBywgraffiad
Gan eich bod chi’n siarad â’r ysgol feddygol yng Nghaerdydd, a ydych chi wedi siarad â nhw ynglŷn â’r 32 y cant o doriad i gyllideb addysg uwch sydd yng nghyllideb eich Llywodraeth chi, sy’n cynnwys 32 y cant o doriad, wrth gwrs, i bynciau drud fel addysg feddygol? Fe ddywedodd Prifysgol Caerdydd yn ddiweddar yn eu tystiolaeth i’r Pwyllgor Cyllid fan hyn:
 
‘2015-16 already saw a 50% reduction in HEFCW funding’
 
to medicine and dentistry and
 
‘further erosion or loss of this funding will put at risk the education of doctors and dentists within Wales for Wales.’
 
Gyda 32 y cant o doriad pellach, faint yn llai o ddoctoriaid a fydd yn cael eu haddysg yma yng Nghymru er mwyn gweithio yn y pen draw i NHS Cymru?
 
13:51
Mark DrakefordBywgraffiad
Nid oes unrhyw gynlluniau o gwbl i leihau nifer y meddygon sy’n cael eu hyfforddi yma yng Nghymru. Mae’r Llywodraeth hon yn buddsoddi, drwy fy mhortffolio, £350 miliwn a mwy mewn addysg feddygol yma yng Nghymru. Mae hwnnw’n fuddsoddiad rwyf am barhau i’w wneud. Rwyf am iddo roi mwy o elw i drethdalwyr Cymru o ran y meddygon sy’n cwblhau eu hyfforddiant ac sy’n mynd ymlaen i weithio yn y GIG yma yng Nghymru. Mae yna bethau y gallwn eu gwneud i sicrhau ein bod yn cael yr elw ychwanegol, ond nid oes gostyngiad yn lefel y buddsoddiad ac nid oes unrhyw gynlluniau i leihau nifer y meddygon sy’n cael eu cynhyrchu o ganlyniad iddo.
 
13:51
Elin JonesBywgraffiad
Ond mae hynny’n hollol wahanol i’r dystiolaeth a roddodd Prifysgol Caerdydd i’r Pwyllgor Cyllid fan hyn. Maen nhw’n adnabod y ffaith bod yna gysylltiad uniongyrchol rhwng y £15,000 mae’n costio i roi addysg i fyfyriwr meddygol israddedig—. Nid yw’n bosib ariannu hynny yn gyfan gwbl allan o’r ffioedd, ac felly fe fydd y toriad o 32 y cant mewn pynciau drud yn effeithio’n uniongyrchol ar eu gallu nhw i hyfforddi ac i roi addysg i feddygon y dyfodol. Ateb y Prif Weinidog ddoe ar hyn oedd y dylai prifysgolion edrych i ddefnyddio cronfeydd wrth gefn i wneud yn iawn am y toriad yma. A ydych chi’n disgwyl i brifysgol fel Caerdydd ddefnyddio cronfeydd wrth gefn i hyfforddi doctoriaid y dyfodol?
 
13:52
Mark DrakefordBywgraffiad
Wel, cafodd mater cyffredinol cyllido addysg uwch yng Nghymru ei drafod yn drwyadl iawn yma ddoe gan y Prif Weinidog. Ni all prifysgolion ddisgwyl cael eu harbed rhag y pwysau sy’n wynebu pob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru, yn enwedig ar adeg lle y maent mewn sefyllfa well na bron bob gwasanaeth cyhoeddus arall i roi camau ar waith o fewn eu gallu eu hunain i fynd i’r afael â’r sefyllfa honno. Nid wyf ond yn ailadrodd y pwynt a wneuthum i Elin Jones funud yn ôl: mae’r portffolio iechyd yn buddsoddi’n helaeth mewn addysg feddygol yma yng Nghymru ac nid oes unrhyw gynlluniau o gwbl i leihau hynny.
 
13:53
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at lefarydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams.
 
13:53
Kirsty WilliamsBywgraffiad
Diolch i chi, Lywydd. Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch gyda’ch cyd-Aelod, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, am yr effaith ar Gymru yn sgil penderfyniad Llywodraeth Geidwadol San Steffan i gael gwared ar fwrsarïau i fyfyrwyr nyrsio?
 
13:53
Mark DrakefordBywgraffiad
Wel, yn wir, rwyf wedi trafod hyn gyda fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Addysg, a chymerodd y ddau ohonom ran mewn trafodaeth ar y gwaith sydd ganddo ar y gweill i ddarparu adroddiadau i Lywodraeth Cymru ar gyllido addysg uwch yng Nghymru yn y dyfodol. Mae hynny’n gwrthgyferbynnu’n bendant â’r tawelwch llwyr gan Weinidogion yn San Steffan nad ydynt wedi manteisio un waith ar y cyfle i gysylltu â’r Llywodraeth hon i egluro natur eu cynigion, na’r effaith y maent yn debygol o’i chael arnom ni yma yng Nghymru.
 
13:54
Kirsty WilliamsBywgraffiad
Diolch yn fawr, Weinidog. Rwy’n siomedig i glywed hynny. Weinidog, o ystyried bod myfyrwyr nyrsio yn treulio 50 y cant o’u hamser wrth astudio mewn ymarfer clinigol uniongyrchol ac yn gweithio dros 2,300 awr mewn amgylchedd clinigol, a ydych yn credu ei bod yn deg dileu’r cymorth ariannol sy’n eu galluogi i hyfforddi mewn ffordd sy’n aml yn eu rhwystro rhag cael gwaith arall i ychwanegu at eu hincwm?
 
13:54
Mark DrakefordBywgraffiad
Mae’r Aelod yn gwneud pwyntiau da iawn. Yma yn y Siambr ddoe, Lywydd, câi maniffesto’r Blaid Geidwadol ei lusgo o gwmpas y Siambr fel pe bai wedi’i ysgrifennu gan Moses. Dyma benderfyniad a wnaed gan Weinidogion yn Lloegr heb gyfeirio unwaith yn eu maniffesto at y posibilrwydd hwn. Hyd y gwelaf fi, prin oedd yr Adran Iechyd yn gwybod am y peth cyn ei gyhoeddi ychwaith. Fe gysylltom â hwy yn syth ar ôl y cyhoeddiad i ofyn iddynt am fanylion pellach a dywedasant y byddent yn dod yn ôl atom ym mis Ionawr pan fyddent yn ei ddeall yn well eu hunain. Rydym yn dal i aros i glywed oddi wrthynt. Mae’r pwyntiau y mae’r Aelod yn eu gwneud yn union y math o bethau y dylent fod yn eu hystyried wrth edrych ar effaith y penderfyniad a wnaed.
 
13:55
Kirsty WilliamsBywgraffiad
Mae gennyf bryderon mawr ynghylch yr effaith honno a’r hyn y bydd yn ei olygu o ran y gallu i recriwtio nyrsys i ysbytai yma yng Nghymru, ond hefyd i’r ysbytai y mae fy etholwyr yn eu defnyddio ar draws y ffin yn Lloegr. Os ydynt yn bwrw ymlaen, a fyddech chi’n cefnogi galwadau’r Democratiaid Rhyddfrydol i dalu cyflog i nyrsys dan hyfforddiant am yr oriau y maent yn eu treulio’n gweithio ar wardiau, os nad yw Llywodraeth San Steffan yn barod i gefnogi eu hyfforddiant?
 
13:55
Mark DrakefordBywgraffiad
Rwy’n deall yn iawn y bydd yr Aelod yn gyfarwydd â manylion y ddadl yn ei chyfanrwydd, o ystyried ei gwaith ar y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) yma yn y Cynulliad. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthi yw fy mod eisoes wedi cael cyfle cychwynnol i drafod y materion hyn gyda Tina Donnelly, pennaeth y Coleg Nyrsio Brenhinol yma yng Nghymru. Roedd ganddi rai syniadau y dymunai eu crybwyll wrthyf. Wrth i ni ddysgu mwy am effaith y penderfyniadau yn Lloegr, byddwn mewn gwell sefyllfa i wneud penderfyniadau o ran yr hyn y gallwn ei wneud yng Nghymru. Gallaf ddweud yr hyn a ddywedais wrthi yn y pwyllgor iechyd wythnos neu ddwy yn ôl, sef nad oes gennym unrhyw gynlluniau yn y dyfodol agos i newid unrhyw drefniadau yng Nghymru, y bydd unrhyw un sy’n dechrau dilyn cwrs ym mis Medi eleni yma yng Nghymru yn dechrau o dan y system sydd gennym ar hyn o bryd, ac y byddwn, yn ôl ein harfer, yn gweithio’n agos gyda’r proffesiwn a chyda’r gwasanaeth iechyd i geisio dod o hyd i ffordd drwy’r canlyniadau a ddaw i Gymru yn sgil penderfyniad a wnaed yn rhywle arall.
 
13:56
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn ôl yn awr at y cwestiynau ar y papur a daw cwestiwn 3 gan Peter Black.
 
Amseroedd Ymateb Ambiwlansys
 
13:57
Peter BlackBywgraffiad
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(4)0679(HSS)
 
13:57
Vaughan GethingBywgraffiad
Diolch am y cwestiwn. Mae’r ffigurau amseroedd ymateb ambiwlansys diweddaraf, a gafodd eu rhyddhau heddiw, yn dangos mai perfformiad rhanbarth Gorllewin De Cymru oedd y gorau yng Nghymru, gydag ymateb o fewn wyth munud i 76 y cant o gleifion categori coch ym mis Rhagfyr 2015.
 
13:57
Peter BlackBywgraffiad
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Wrth gwrs, fe fyddwch yn ymwybodol o’r problemau mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ar ddechrau’r mis, yn ysbyty Tywysoges Cymru ac ysbyty Treforys. Yn y cyntaf, roedd un achos lle roedd 13 o ambiwlansys yn ciwio y tu allan i’r adran ddamweiniau ac achosion brys, ac wrth gwrs mae problemau gyda’r adrannau damweiniau ac achosion brys yn rhanbarth Gorllewin De Cymru. Mae’r ffigurau diweddaraf ar gyfer adrannau damweiniau ac achosion brys yn dangos bod 812 o bobl wedi aros dros wyth awr i gael eu gweld yn yr adrannau penodol hynny. A gaf fi ofyn, Weinidog, o ystyried yr effaith a gaiff y ffigurau hyn yn yr adrannau damweiniau ac achosion brys ar amseroedd ymateb ambiwlansys, pa gamau sy’n cael eu cymryd i geisio mynd i’r afael â’r broblem honno?
 
13:57
Vaughan GethingBywgraffiad
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn dilynol. Treuliais beth amser yn gweithio gyda’r bwrdd iechyd a phartneriaid eraill ac yn trafod y materion hyn yn uniongyrchol gyda hwy, nid yn unig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, ond hefyd ymhellach i mewn i orllewin Cymru, yn Hywel Dda, i gydnabod y ffaith fod yna system gofal iechyd ar y cyd yn y rhan honno o Gymru. Mae’n fater y bûm yn glir yn ei gylch ers nifer o fisoedd, ac nid yn ddiweddar yn unig. Mae’r uned gyflawni wedi mynd i mewn i system hefyd ac rwy’n disgwyl gweld gwelliant yn yr amser y mae pobl yn ei dreulio yn cael eu gweld, eu trin ac yna’u rhyddhau mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Nid oes effaith sylweddol wedi bod ar amseroedd ymateb ambiwlansys yn ardal Ysbyty Treforys ei hun nag ym Mhen-y-bont ar Ogwr hyd yn oed, ond fy mhryder i yw bod unrhyw gyfnod o amser y bydd ambiwlansys yn aros yn ddiangen yn amser nad yw’n cael ei dreulio ar gyrraedd y claf nesaf a fydd angen ambiwlans brys. Felly, rydym o ddifrif ynglŷn â’r sefyllfa, a’n dealltwriaeth ohoni, ac o’r angen i wella ar draws y system gyfan, ac mae’r ffigurau newydd a ryddheir heddiw ar gyfer y chwarter cyntaf yn rhoi llawer mwy o fanylder ynghylch ansawdd y gofal sy’n cael ei ddarparu a’r meysydd y gallant fynd ati i’w gwella. Felly, credaf fod hon yn sefyllfa sy’n gwella a gallwn ddisgwyl gweld cynnydd pellach yn y chwarter nesaf a’r un ar ôl hwnnw hefyd.
 
13:59
Mike HedgesBywgraffiad
Ddirprwy Weinidog, pa asesiad rydych wedi’i wneud o fisoedd cyntaf y model ambiwlansys newydd? A ellir cymharu perfformiad yng Nghymru â gwasanaethau mewn rhannau eraill o Brydain?
 
13:59
Vaughan GethingBywgraffiad
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Fy asesiad i o berfformiad y model newydd yw ei fod yn llwyddiant. Wrth weld model newydd yn cael ei gyflwyno, yn aml byddech yn disgwyl gweld problemau a thrafferthion cychwynnol gyda hynny, ond mewn gwirionedd rydym wedi gweld perfformiad yn cynyddu ac yn gwella o fis i fis, a chyda’r ffigurau manwl a ryddhawyd heddiw fe welwch lawer mwy ynglŷn ag ansawdd y gofal y mae’r gwasanaeth ambiwlans yn ei ddarparu a llawer mwy o fanylion am feysydd y gellir eu gwella rhwng byrddau iechyd a’r gwasanaeth ambiwlans ei hun. Fodd bynnag, mae’n parhau i fod yn anodd cymharu’r perfformiad yma’n uniongyrchol â rhannau eraill o’r DU. Mae’n debyg mai’r hyn y gellir ei gymharu’n fras yw’r ffigur coch 1 yn Lloegr, ond mewn gwirionedd mae gennym fwy o amodau i’w cyflawni ym mwndel coch Cymru. Rydym yn aros i weld ffigurau Lloegr a gyhoeddir yn ystod yr wythnosau nesaf ar gyfer mis Rhagfyr, ac rwy’n siŵr y bydd pobl yn gwneud cymariaethau eu hunain. Ond rwy’n hynod hyderus y bydd Cymru yn parhau i berfformio ar lefel uchel iawn ac yn cymharu’n ffafriol â Lloegr.
 
14:00
Altaf HussainBywgraffiad
Weinidog, unwaith eto, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy’n aros mwy nag wyth munud am ymateb brys i alwad goch. Yn ne-orllewin Cymru, gwelsom 84 o bobl yn aros mwy nag wyth munud a gwelsom ambiwlansys yn ciwio y tu allan i Ysbyty Treforys. Mae diffyg gwelyau a phrinder meddygon adrannau damweiniau ac achosion brys yn yr ysbytai’n effeithio ar amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys ac yn arwain at ymatebion ambiwlansys gwael. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella nifer y gwelyau a’u rheolaeth yn ein hysbytai?
 
14:01
Vaughan GethingBywgraffiad
Mae cwestiynau’r Aelod yn peri dryswch i mi, gan nad yw’r ffeithiau’n cefnogi’r hyn y mae’r Aelod newydd ei ddweud. Mae amseroedd ymateb ambiwlansys yn gwella o fis i fis ledled Cymru, ac yn ne-orllewin Cymru, yn y rhanbarth rydym yn sôn amdano, y ceir yr amseroedd ymateb ambiwlansys gorau yng Nghymru ar gyfer mis Rhagfyr. Awgrymaf y dylai’r Aelod, a phwy bynnag sy’n ysgrifennu ei gwestiynau, fynd yn ôl i wirio’r ffeithiau. Ewch yn ôl, edrychwch ar y ffeithiau a chydnabod bod amseroedd ymateb ambiwlansys yng Nghymru yn gwella. Rydych yn gwneud anghymwynas â chi eich hun a’r GIG drwy gael y ffigurau’n anghywir a mynnu fy mod yn derbyn darlun cwbl anghywir o’r hyn rydym yn ei wneud. Rydych yn gwneud anghymwynas â chi eich hun. [Torri ar draws.]
 
14:01
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Trefn. Trefn.
 
14:01
Vaughan GethingBywgraffiad
Mae’r ffigurau yno.
 
14:01
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Wir, ni allwn gael sgrechian a gweiddi o’r fath o’r meinciau cefn.
 
Bethan Jenkins. Os gallwn gael atebion byr, Weinidog, oherwydd nid oes amser ar ôl. Bethan Jenkins.
 
14:02
Bethan JenkinsBywgraffiad
Nid wyf yn feddyg, ond rwyf wedi siarad â pharafeddygon yn y maes. Maent yn dweud wrthyf fod gan ymgyrch Dewis Doeth £45,000 a’u bod wedi bod yn eich lobïo i geisio chwyddo’r arian hwnnw fel bod pobl yn cael eu hatgyfeirio’n briodol at fferyllfeydd, Galw Iechyd Cymru a’r gwasanaeth y tu allan i oriau, fel nad ydym yn wynebu’r posibilrwydd o weld yr un faint o ambiwlansys y tu allan i Dreforys ag y byddem wedi’u gweld dros y Nadolig o anghenraid. Felly, rwy’n eich annog, Weinidog, i weld a allech chi edrych ar hynny eto a gweld a oes unrhyw botiau ychwanegol o arian y gellid eu dargyfeirio tuag at yr ymgyrch benodol honno.
 
14:02
Vaughan GethingBywgraffiad
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Byddwn bob amser yn edrych ar sut y gallwn wella ymgyrch Dewis Doeth er mwyn rhoi’r wybodaeth gywir i bobl ar sut i gael mynediad at y math cywir o ofal, triniaeth, cefnogaeth a chyngor. Mae rhywfaint o hynny, wrth gwrs, ar gael dros y ffôn, a byddwch wedi gweld o’r ffigurau a ryddhawyd heddiw y nifer sylweddol o bobl sy’n cael eu gweld, eu trin a’u rhyddhau dros y ffôn, ond hefyd drwy Galw Iechyd Cymru, lle y cafwyd bron i filiwn o drawiadau yn ystod y chwarter diwethaf gan bobl a gafodd gyngor o bell. Felly, mae mwy y gallem ac y dylem ei wneud. Rydym yn awyddus i ddeall llwyddiant yr ymgyrch eleni ac yna i ddeall yr hyn y gallem ac y dylem ei wneud i wella hynny dros y blynyddoedd i ddod.
 
14:03
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn at gwestiwn 4, ond os gallwn gael atebion ychydig yn fwy cryno, gan mai ond ar gwestiwn 4 rydym ni ac mae ein hamser bron ar ben. Leanne Wood.
 
Capasiti’r GIG
 
14:03
Leanne WoodBywgraffiad
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gapasiti'r GIG yng Nghymru i fodloni'r galw gan gleifion? OAQ(4)0683(HSS)
 
14:03
Vaughan GethingBywgraffiad
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Mae’r GIG yng Nghymru yn parhau i reoli galw cynyddol mewn gwasanaethau gofal heb ei drefnu a gwasanaethau gofal a gynlluniwyd. Y gaeaf hwn, fodd bynnag, gwelwyd gallu gwell i wrthsefyll galw cynyddol yng Nghymru. Er mwyn gallu darparu gofal o ansawdd uchel yn y dyfodol, bydd angen diwygio a gwella iechyd a gofal cymdeithasol yn ogystal â newid yn agweddau ac ymddygiad y cyhoedd.
 
14:03
Leanne WoodBywgraffiadArweinydd Plaid Cymru
Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae staff y GIG wedi cysylltu â mi i rannu eu pryderon ynglŷn â’r ffordd y mae ysbytai’n cael eu rhedeg yng Nghymru, ac i rannu eu rhwystredigaethau ynglŷn â nifer y llawdriniaethau y bu’n rhaid eu canslo. Fe fyddwch yn gwybod o ohebiaeth breifat fod un o fy etholwyr wedi gorfod wynebu canslo triniaeth i archwilio a oes canser arni ai peidio ar fwy nag un achlysur. Pan ychwanegwch y dystiolaeth anecdotaidd at y data caled sy’n dangos bod 950 o lawdriniaethau wedi’u canslo yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn unig ers mis Ebrill 2013 am nad oedd gwelyau ar gael, a 136 pellach wedi’u canslo am nad oedd cyfarpar ar gael, a allwch chi ddeall rhwystredigaeth gyfunol staff y GIG a chleifion?
 
14:04
Vaughan GethingBywgraffiad
Rwy’n credu y bydd unrhyw aelod o staff yn teimlo’n rhwystredig pan fydd triniaethau llawfeddygol yn cael eu canslo neu eu symud. Rwy’n gwybod, yn arbennig, am y rhwystredigaeth y mae’r aelod o’r cyhoedd yn ei deimlo. Mae’n amlwg na allaf roi sylwadau ar yr achos unigol rydym yn gohebu yn ei gylch, ond yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw ein bod, yn gyffredinol, o fewn y system, yn gwybod bod llawer mwy o weithgarwch dewisol yn digwydd eleni o’i gymharu â’r llynedd, yn arbennig drwy’r gaeaf, ac mae hynny wedi bod yn llwyddiant gwirioneddol i’r GIG y gaeaf hwn, eu bod wedi delio â phwysau ychwanegol y gaeaf, ac ar yr un pryd, fod hyd yn oed mwy o weithgarwch dewisol wedi digwydd. Mae yna ystod eang o dystiolaeth ffeithiol i gadarnhau hynny. Felly, rwy’n cydnabod yr angen i barhau i wneud mwy. Mae hynny’n golygu, fodd bynnag, fod arnom angen gwahanol systemau a ffordd wahanol o weithio yn awr ac yn y dyfodol.
 
14:05
Christine ChapmanBywgraffiad
Ddirprwy Weinidog, cafodd Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf, sy’n darparu gwasanaethau iechyd yn fy etholaeth, wobr GIG yn ddiweddar am ei waith ar wella llif cleifion. A fyddech yn ymuno â mi i longyfarch y bwrdd? Ac a yw’n cytuno bod y gwaith hwn yn dangos nad niferoedd gwelyau neu beth sy’n digwydd yn yr adran damweiniau ac achosion brys yn unig sy’n pennu capasiti, ond sut y mae’r system iechyd gyfan yn gweithio?
 
14:05
Vaughan GethingBywgraffiad
Ydw, rwy’n cytuno’n llwyr, ac mae Cwm Taf yn arwain y ffordd ar lif cleifion o’r adeg cyn i rywun gyrraedd yr ysbyty, drwy system yr ysbyty, ac allan o’r ysbyty hefyd. Mae’n arbennig o bwysig edrych ar y system iechyd a gofal cymdeithasol yn ei chyfanrwydd, fel y mae Cwm Taf wedi’i gydnabod; mae ganddynt bartneriaethau effeithiol gyda’u partneriaid awdurdod lleol. Mae stori yma ar gyfer Cymru gyfan hefyd. Am dri mis yn olynol, rydym wedi gweld gostyngiad yn yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal yma yng Nghymru; y gymhariaeth â Lloegr yw bod ganddynt lefelau uwch nag erioed o achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal. A thrwy’r gaeaf, mae hwnnw’n gyflawniad gwirioneddol sylweddol. Mae’n dangos y system gyfan yn gweithio’n fwy effeithiol gyda’i gilydd, ac mae honno’n stori rydym am weld mwy ohoni yn y dyfodol.
 
14:06
Andrew R.T. DaviesBywgraffiadArweinydd yr Wrthblaid
Weinidog, yr wythnos diwethaf cawsom adroddiad y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys ar staffio mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ac o’n hymchwil ein hunain, dangosir yn glir nad yw’r rotas staffio, mewn llawer o’r adrannau damweiniau ac achosion brys, cystal ag y dylent fod, yn enwedig yn ôl meincnod y coleg brenhinol ei hun. Rwy’n meddwl mai 45 y cant yn unig o’r hyn y dylai fod oedd y cyfartaledd fis Mehefin diwethaf. Pa gamau rydych chi fel Llywodraeth yn eu cymryd (a) i ddeall faint o feddygon ymgynghorol a ddylai fod ar ddyletswydd mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, a (b) i weithio gyda’r coleg brenhinol i wneud iawn am y diffyg hwn yn nifer y meddygon ymgynghorol sydd ar gael mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ledled Cymru?
 
14:07
Vaughan GethingBywgraffiad
Wel, fel y bydd yr Aelod yn ei wybod o’r sylw sylweddol a roddwyd i’r mater hwn yr wythnos diwethaf, mae cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y meddygon ymgynghorol—dros 50 y cant. Rydym yn parhau i weithio i gael y lefelau cywir o staff yn ein hadrannau—nid meddygon ymgynghorol yn unig, ond y gymysgedd gyfan o staff, yn ogystal. Rydym yn parhau i roi sylw i’r gwaith a wneir y tu allan i’r ysbyty i gadw pobl rhag mynd i’r ysbyty’n ddiangen ac i gael dewisiadau eraill o ran triniaeth. Ac yn arbennig, rydym yn edrych ar y system gyfan—am fod y coleg brenhinol yn arbennig o bryderus ynglŷn â’r hyn y maent yn cyfeirio ato fel blocio’r ffordd allan; rydym ni’n ei alw yn oedi wrth drosglwyddo gofal. Ac unwaith eto, rwy’n gwneud yr un pwynt: mae oedi wrth drosglwyddo gofal yn gwella yma yng Nghymru. Y trydydd mis yn olynol gwelwyd gostyngiad, drwy’r gaeaf—stori lwyddiant go iawn, mewn cyferbyniad uniongyrchol â’r hyn sy’n digwydd yn Lloegr.
 
14:07
Aled RobertsBywgraffiad
Weinidog, mi oedd pob un o ysbytai’r gogledd dros gyfnod y Nadolig a’r flwyddyn newydd, o fewn eu hadrannau brys, wedi cael eu rhoi yn y categori uchaf, rwy’n meddwl, o ran dwy ohonynt, a’r ail gategori o ran y llall. Mae sefyllfa lle mae pobl o fewn yr adran frys am nifer o oriau, eraill yn aros yn yr ambiwlansys am oriau yn y maes parcio: mae hynny’n creu sefyllfa hefyd lle mae problemau yn Wrecsam yn benodol o ran cael cleifion allan o’r ysbyty, ac mae nifer y gwlâu wedi gostwng yn sylweddol dros y blynyddoedd diweddar. Felly, a ydych chi wedi gofyn, yn sgil hynny, i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr adolygu eu cynlluniau ar gyfer y gaeaf wrth feddwl am y sefyllfa sydd wedi bodoli dros y Nadolig a’r flwyddyn newydd?
 
14:08
Vaughan GethingBywgraffiad
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Rwyf wedi cael nifer o gwestiynau gyda’r bwrdd iechyd ynghylch statws eu cynlluniau ar gyfer y gaeaf a’r hyn y maent yn ei wneud i ystyried y sefyllfa ar lawr gwlad. Mae gwahaniaeth gwirioneddol yn llif cleifion o’i gymharu â, dyweder, Bangor, ac o’i gymharu â’r ddau safle mawr arall yng ngogledd Cymru, ac mae pethau y gallant eu dysgu yn y bwrdd iechyd ynglŷn â beth yw’r ffordd fwyaf effeithiol o weithio. Fodd bynnag, y gwir amdani yw bod y mwyafrif o bobl yn cael eu gweld, eu trin a’u rhyddhau yn brydlon ac yn gyflym. Rwy’n cydnabod bod angen gwneud mwy er mwyn sicrhau nad yw pobl yn aros yn hir i gael eu trin a’u rhyddhau, ond—ac mae’r Gweinidog yn gwneud y pwynt hwn yn rheolaidd—byddai’n well gennym weld pobl a’u rhyddhau na’u derbyn i’r ysbyty’n artiffisial er mwyn curo’r system yn unig. Felly, mae angen i ni ddeall yr holl ganlyniadau, taith gyfan y claf, ac wrth gwrs, dysgu o’r hyn sy’n gweithio’n fwyaf effeithiol o fewn y system yn barod.
 
Gwasanaethau Iechyd i Bobl Anabl
 
14:09
Mohammad AsgharBywgraffiad
5. Pa gamau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd i wella gwasanaethau iechyd i bobl anabl yng Nghymru am weddill tymor y Cynulliad hwn? OAQ(4)0673(HSS)
 
14:09
Mark DrakefordBywgraffiad
Diolch am y cwestiwn. Ymhlith y camau sydd i’w cymryd yn ystod gweddill tymor y Cynulliad hwn, mae cadarnhau trefniadau’r grant byw’n annibynnol ar gyfer 2016-17, penderfynu ar niferoedd nyrsys anabledd dysgu newydd sy’n dechrau hyfforddiant fis Medi 2016, a chyhoeddi fframwaith gwasanaethau integredig newydd ar gyfer pobl fyddar a phobl sy’n drwm eu clyw.
 
14:10
Mohammad AsgharBywgraffiad
Diolch i chi am yr ateb, Weinidog. Pobl anabl yw dros 20 y cant o boblogaeth Cymru, cyfran uwch o bobl anabl nag a geir mewn unrhyw wlad arall yn y Deyrnas Unedig, a’r rhan fwyaf o’i rhanbarthau. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau y bydd ei ymgynghoriad ar wella ansawdd a llywodraethu yn y GIG yn gwneud gwella gwasanaethau i bobl anabl yn flaenoriaeth, a pha bryd y mae’n disgwyl cyhoeddi canlyniad ei ymgynghoriad?
 
14:10
Mark DrakefordBywgraffiad
Cytunaf yn llwyr â’r Aelod ynglŷn â phwysigrwydd rhoi sylw i anghenion pobl anabl, a gwrando’n ofalus ar yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud. O ran y fframwaith gwasanaethau integredig, y cyfeiriais ato yn yr ateb, mae’r ymgynghoriad ar hwnnw wedi cwblhau un cylch, ac rwy’n disgwyl cael cyngor yn ystod y pedair wythnos nesaf. Yna, byddwn yn trafod ymhellach y ffyrdd mwyaf ymarferol y gallwn wneud gwahaniaeth gyda phobl sydd â’r anableddau hynny eu hunain.
 
14:11
Gwyn R. PriceBywgraffiad
Weinidog, pa effaith y bydd y cynigion sy’n ymwneud â’r toiledau cyhoeddus ym Mil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yn ei chael ar bobl anabl yng Nghymru?
 
14:11
Mark DrakefordBywgraffiad
Diolch i Gwyn Price am ei gwestiwn pwysig. Yn wir, o ran blaenoriaethau ar gyfer pobl anabl yn ystod gweddill tymor y Cynulliad hwn, mae cael y Bil iechyd cyhoeddus ar y llyfr statud, gyda’r gwahaniaeth y bydd yn ddi-os yn ei wneud mewn perthynas â darparu toiledau i’w defnyddio gan y cyhoedd, yn flaenoriaeth bwysig, ac o ran y ffordd rydym wedi datblygu’r cynlluniau y mae’n rhaid i awdurdodau lleol eu llunio, a’r ffyrdd y bydd yn rhaid iddynt adrodd arnynt, yn ogystal ag asesu’r angen cymunedol cyffredinol am doiledau, bydd rhwymedigaethau penodol ar sicrhau bod lleoedd newid ar gael ar gyfer pobl anabl.
 
Blaenoriaethau ar gyfer Gofal Cymdeithasol
 
14:11
Joyce WatsonBywgraffiad
6. A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru am weddill y pedwerydd Cynulliad? OAQ(4)0689(HSS)
 
14:12
Mark DrakefordBywgraffiad
Hoffwn ddiolch i Joyce Watson am y cwestiwn. Mae paratoi ar gyfer gweithredu’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2014) ar 6 Ebrill yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru yn ystod gweddill tymor y Cynulliad hwn.
 
14:12
Joyce WatsonBywgraffiad
Diolch i chi am grybwyll y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). A fydd yn helpu i hyrwyddo mwy o annibyniaeth a rhoi llais cryfach i’r bobl, y defnyddwyr gwasanaethau, sydd ei hangen, a mwy o reolaeth dros y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt? Os yw’n mynd i wneud hynny, a fyddwch yn darparu diweddariad ar ein cyfer ar weithredu’r ddeddfwriaeth flaenllaw hon, a sut y bydd o fudd i bobl pan ddaw i rym?
 
14:12
Mark DrakefordBywgraffiad
Wel, mae rhoi mwy o lais a rheolaeth i ddefnyddwyr gwasanaethau dros y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, fel y dywedodd yr Aelod, yn bendant yn ganolog i’r Ddeddf. Gwn y bydd hi, yn arbennig, wedi croesawu penderfyniad y llys apêl heddiw mewn perthynas â’r achos yng Nghlunderwen o deulu anabl yn ceisio edrych ar ôl plentyn ag anableddau o dan effaith uniongyrchol y dreth ystafell wely, ac mae’n ganlyniad gwych ac yn un cyfarwydd yn ei rhan hi o Gymru. Bydd y math hwnnw o weithredu yn atgyfnerthu’r hyn rydym yn gallu ei wneud drwy’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Rydym wedi cynnal 250 o ddigwyddiadau i baratoi staff ar gyfer y Ddeddf, mae dros 7,000 o aelodau staff yng Nghymru wedi’u mynychu, ac rydym yn hyderus ein bod wedi paratoi’n dda ar gyfer 6 Ebrill.
 
14:13
Nick RamsayBywgraffiad
Weinidog, fe ymweloch yn ddiweddar â phrosiect Rhaglan, sydd wedi cael llawer o ganmoliaeth, gan gynnwys gan y comisiynydd pobl hŷn, am ei waith fel cymuned ddementia-gyfeillgar. Mae’n enghraifft wych, rwy’n siŵr eich bod yn cytuno, o system gofal cymdeithasol fodern yn seiliedig yn y gymuned, sy’n gofalu am y rhai sy’n gweithio o fewn y system a’r rhai sy’n derbyn gofal. Sut rydych yn cyflwyno’r prosiect, a’r arferion gorau o’r prosiect, ledled gweddill Cymru?
 
14:14
Mark DrakefordBywgraffiad
Diolch i Nick Ramsay am y cwestiwn. Mwynheais fy mhrynhawn yn Rhaglan yn fawr iawn; euthum allan gyda gweithwyr gofal cartref i weld sut y mae eu system yn gweithio, ac yn ddi-os, mae’n cyflawni manteision arwyddocaol iawn i ddefnyddwyr y gwasanaethau. I’r bobl sy’n gweithio yn y gwasanaethau hyn, mae darparu amgylchedd gwaith lle y teimlant eu bod yn gallu gwneud y gwaith y mae gofyn iddynt ei wneud, yn golygu bod pobl yn cael eu cadw, yn parhau i ddysgu’r gwaith ac yn gallu darparu’r hyn y mae’r gwaith yn gofyn amdano’n well. Rwy’n argymell model Rhaglan yn nifer o’r cyfarfodydd rwy’n eu cael gyda chyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol ac eraill yng Nghymru, ac yn bwriadu parhau i wneud hynny.
 
14:14
Lindsay WhittleBywgraffiad
Weinidog, a allech chi egluro pam y mae angen i chi gynnal ymgynghoriad ar effaith contractau dim oriau ar gadw gweithwyr gofal cartref pan fo’r gwaith ymchwil a gomisiynwyd ac a gyhoeddwyd gennych yr wythnos diwethaf yn dangos yn glir fod contractau dim oriau yn effeithio’n negyddol ar gadw’r gweithwyr hynod o bwysig hyn?
 
14:15
Mark DrakefordBywgraffiad
Mae angen i mi gynnal ymgynghoriad, Lywydd, er mwyn cyflawni’r ymrwymiadau a roddais i’r Cynulliad hwn ac er mwyn cyflawni rhwymedigaethau’r Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, gyda’r rhwymedigaethau ychwanegol i ymgynghori a osodwyd yn y Ddeddf o ganlyniad i argymhellion gan bwyllgorau’r Cynulliad hwn. Roeddwn yn falch iawn o gomisiynu’r ymchwil; mae’n dweud rhywbeth pwysig wrthym. Byddwn yn ymgynghori arno er mwyn gwneud gwahaniaeth ymarferol i fywydau gwaith pobl sy’n darparu gwasanaethau i bobl sy’n derbyn gofal cymdeithasol ac o ganlyniad, i wella ansawdd y gwasanaethau y maent yn eu cael.
 
14:15
William PowellBywgraffiad
Weinidog, mae adroddiadau diweddar yn y wasg am ddigwyddiadau trasig a ddigwyddodd yn fy rhanbarth yn gynnar yn y Cynulliad hwn yn ein hatgoffa unwaith yn rhagor am rôl hanfodol chwythwyr chwiban yn datgelu camdriniaeth, esgeulustod a niwlogrwydd biwrocrataidd ar ran awdurdodau lleol ac eraill, yn enwedig ym maes gofal cymdeithasol. Weinidog, o ystyried y dewrder a ddangosir gan chwythwyr chwiban mewn sefyllfaoedd o’r fath, ond hefyd y peryglon proffesiynol sy’n eu hwynebu wrth iddynt gyflwyno eu gwybodaeth, beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i’w diogelu rhag y peryglon sy’n eu hwynebu, fel bod ganddynt hyder i wneud y peth iawn?
 
14:16
Mark DrakefordBywgraffiad
Mae’r Aelod yn gwneud nifer o bwyntiau pwysig iawn, a pholisi’r Cynulliad hwn erioed, ac ar draws y pleidiau, yw sicrhau bod pobl sydd â phethau pwysig i’w dweud am wasanaethau yn gallu gwneud hynny ac yn cael eu hamddiffyn rhag unrhyw ganlyniadau niweidiol y gallent eu hwynebu wrth wneud hynny. Ceir darpariaethau ychwanegol a gryfhawyd o ganlyniad i ddiwygio’r Ddeddf gofal cymdeithasol wrth iddi fynd drwy’r Cynulliad, o ran ei rheoleiddio a’i harolygu, a byddwn yn ceisio gwella’r mesurau diogelwch yn yr union ffordd a amlinellodd.
 
14:17
Gwenda ThomasBywgraffiad
Weinidog, mae’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo’r posibilrwydd o daliadau uniongyrchol i ddefnyddwyr gwasanaethau. Mewn llawer iawn o achosion, wrth gwrs, bydd hyn yn helpu i sicrhau eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, ond mewn rhai achosion, ni fydd taliadau uniongyrchol yn briodol. A allwch fy sicrhau, pan gânt eu gweithredu, y bydd y rheoliadau a’r codau ymarfer nid yn unig yn egluro ystyr y Ddeddf, ond yn meithrin ei hysbryd? Hefyd, gan fod rhaid i flaenoriaethau fod yn seiliedig ar werthfawrogi’r gweithlu, pa asesiad a wnaethoch o effaith isafswm cyflog cenedlaethol y Canghellor, fel y’i gelwir—cyflog byw, dylwn ddweud—ar y sector gofal cymdeithasol?
 
14:17
Mark DrakefordBywgraffiad
Diolch i Gwenda Thomas am y ddau bwynt pwysig hwnnw. Mae’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn ystwytho’r system daliadau uniongyrchol yma yng Nghymru. Mae’n golygu y dylai fod yn un o’r pethau cyntaf sy’n cael eu harchwilio gyda phobl, nid ôl-ystyriaeth munud olaf ar ôl i bopeth arall gael ei archwilio. Bydd pobl yn gallu defnyddio taliadau uniongyrchol ar gyfer ystod ehangach o sefyllfaoedd pan fo angen gofal a chymorth; byddant yn gallu cyflogi perthnasau, er enghraifft, am y tro cyntaf erioed. Ond mae yna fesur diogelwch pwysig yn y Ddeddf, wedi’i osod ganddi hi yn wir, i sicrhau bod yn rhaid i adrannau gwasanaethau cymdeithasol fod yn fodlon fod taliadau uniongyrchol yn ffordd o ddiwallu anghenion yr unigolyn. Bydd y rheoliadau, yn wir, yn mynegi ysbryd y Ddeddf yn y modd y mae hi wedi’i amlinellu.
 
O ran y cyflog byw fel y’i gelwir, rwy’n siŵr bod Aelodau eraill yma yn derbyn gohebiaeth gan ddarparwyr gofal sy’n mynegi pryder mawr. Mae’n ddigon hawdd i Lywodraeth San Steffan gyhoeddi bwriadau o’r fath, ond os ydynt yn mynd i’w wneud, mae’n rhaid iddynt gefnogi hynny gyda’r adnoddau i’w wneud yn bosibl. Hyd yn hyn, nid oes yr un geiniog ar gael ganddynt i helpu’r sector—y sector pwysig iawn hwnnw y mae cynifer o bobl yn dibynnu arno—er mwyn eu galluogi i gyflawni’r rhwymedigaethau sydd bellach yn cael eu gosod arnynt. Byddwn yn gweithio’n ofalus gyda hwy er mwyn mynd i’r afael â’r problemau sy’n cael eu creu iddynt yng Nghymru. Rydym eisiau i’r gweithlu gael ei dalu’n dda, ond deallwn, os ydych am i hynny ddigwydd, fod rhwymedigaeth ar ddarparwyr cyhoeddus sy’n creu’r rhwymedigaethau hyn i ddarparu’r cyllid i ganiatáu i hynny ddigwydd. Hyd y gwyddom, nid oes un geiniog yn cael ei darparu gan y Blaid Geidwadol yn Lloegr.
 
14:19
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Diolch yn fawr, Weinidog. A gaf fi atgoffa’r Aelodau, pan fyddant yn siarad o’r llawr, y dylent gyfarch y Cadeirydd ac nid aelodau penodol o’r Cynulliad?
 
2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
 
14:19
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at eitem 2, sef cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau. Daw cwestiwn 1 gan David Rees.
 
Ardoll Prentisiaethau
 
14:19
David ReesBywgraffiad
1. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am gyflwyno'r ardoll prentisiaethau? OAQ(4)0674(ESK)
 
14:20
Julie JamesBywgraffiadY Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg
Roedd Llywodraeth Cymru wedi cael nifer o drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch cyflwyno ardoll prentisiaethau. Yn ganolog i’r trafodaethau hyn y mae anghenion cyflogwyr yng Nghymru, a fydd yn wynebu’r dreth gyflogaeth annymunol hon.
 
14:20
David ReesBywgraffiad
Diolch i chi am yr ateb, Ddirprwy Weinidog. Yn amlwg, yn dilyn y cyhoeddiad gan Tata Steel yr wythnos diwethaf a’i oblygiadau, mae’n effeithio’n fawr ar fy ardal i. Mae Tata, rwy’n gwybod, yn dal yn awyddus i recriwtio prentisiaid i annog y genhedlaeth nesaf o bobl i mewn i’r diwydiant, ond bydd yr ardoll yn cael effaith sylweddol ar Tata. A ydych wedi cael trafodaethau ynglŷn â pha gyfran o’r ardoll fydd a ddychwelir, ac a ydym yn gwybod a fydd y gyfran yn cael ei defnyddio mewn gwirionedd gan y diwydiannau ac yn yr ardaloedd y caiff ei chodi, yn enwedig ardaloedd Tata?
 
14:20
Julie JamesBywgraffiad
Nid ydym wedi cael trafodaethau manwl ynglŷn â Tata ei hun, er y gallaf ddweud ein bod, wrth gwrs, yn y broses o lunio tasglu. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf o is-grŵp sgiliau’r tasglu yn gynharach yr wythnos hon, a chyfarfûm â chadeirydd y grŵp hwnnw i lawr yn Llanelli, gan mai rhan o gylch gwaith y tasglu yw cynorthwyo Tata i barhau yn y dyfodol, yn ogystal â chynorthwyo’r unigolion sy’n gadael. Felly, rwy’n siŵr y bydd yn rhan ganolog o’r drafodaeth, er nad ydym wedi cael y trafodaethau penodol hynny eto.
 
Yn fwy cyffredinol, nid ydym yn gwybod eto a fydd yr ardoll yn dychwelyd unrhyw arian ychwanegol i Gymru. Sylwais fod Simon Thomas a Phlaid Cymru wedi cyhoeddi peth cyllid ar gyfer prentisiaethau y diwrnod o’r blaen yn seiliedig ar yr ardoll, felly os oes ganddo fwy o wybodaeth na minnau, byddwn yn ddiolchgar iawn i glywed. Ond o’r hyn y deallaf, mae’n mynd i gael ei Farnetteiddio, ac nid yw’n debygol iawn y cawn unrhyw gyllid ychwanegol i Gymru, ond nid ydym mewn sefyllfa eto i ddweud y naill ffordd neu’r llall am nad yw’n glir i ni eto. Mae gennyf gyfarfod rhwng Gweinidogion y pedair gwlad yn fuan i drafod y mater, felly efallai y bydd gennyf fwy o wybodaeth wedi hynny.
 
14:21
William GrahamBywgraffiad
Ddirprwy Weinidog, rwy’n clywed yr hyn a ddywedwch, ond roedd yr ymgynghoriad yn nodi’n glir iawn y byddai unrhyw arian ychwanegol yn cael ei ddychwelyd i ddiwydiannau allweddol eraill, yn arbennig y diwydiant dur yng Nghymru.
 
14:21
Julie JamesBywgraffiad
Nid yw hynny’n glir, mewn gwirionedd; caiff yr ardoll prentisiaethau ei chasglu drwy Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi fel treth. Mae’n mynd i gael ei dychwelyd i Lywodraeth y DU drwy Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, ac rydym yn trafod gyda Llywodraeth y DU sut y caiff ei datganoli. Ar hyn o bryd, nid yw’n glir sut y caiff ei datganoli. Felly, nid wyf yn gallu dweud y naill ffordd neu’r llall, fel rwy’n parhau i’w ddweud. Rwy’n gobeithio’n fawr y cawn rywfaint o eglurder cyn bo hir. Mae gennyf y cyfarfod pedairochrog gyda’r Gweinidog ddechrau mis Chwefror, ac efallai y byddaf yn gallu dweud mwy bryd hynny, ond ar hyn o bryd, nid wyf yn gwybod.
 
14:22
Bethan JenkinsBywgraffiad
Mae cyfarwyddwr cyffredinol Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, Carolyn Fairbairn, wedi awgrymu, os na fydd Llywodraeth y DU yn camu’n ôl rhag cyflwyno’r ardoll prentisiaethau, efallai y gallai gyflwyno cynllun treuliau a ganiateir a fyddai’n caniatáu i gwmnïau adennill rhywfaint o’r costau cysylltiedig. Mae hefyd wedi awgrymu amryw o fesurau ar gyfer cwmnïau bach, a allai fod yn fwy perthnasol i ni yma yng Nghymru o bosibl. Tybed pa drafodaethau a gawsoch gyda’ch cymheiriaid yn y DU ar hyd y llinellau hynny i weld a ellir archwilio rhai o’r syniadau eraill hyn.
 
14:23
Julie JamesBywgraffiad
Nid ydym wedi cael y trafodaethau hynny am ei fod yn fater a ddatganolwyd i Gymru, ac mae Llywodraeth y DU yn hwyr yn y dydd yn dweud, yn gywir, mai mater i ni yw’r polisi sgiliau. Felly, y darn diddorol i ni yw faint o arian fydd ynghlwm wrth hynny, a sut y caiff ei ddatganoli. Ac yna mater i ni fwrw ymlaen ag ef yma yng Nghymru fydd ein polisi sgiliau. Cyhoeddais yn ddiweddar, er enghraifft, ein bod yn bwrw ymlaen â’n polisi prentisiaethau, fel y byddem wedi’i wneud cyn cyflwyno’r ardoll. Ni fyddwn yn gweithredu cynllun talebau yma yng Nghymru, ond un o’r pethau diddorol rydym yn ei drafod gyda chyflogwyr yw a fyddant yn gallu defnyddio’r cynllun talebau yn Lloegr i’w gwario yng Nghymru. Felly, os meddyliwch am gwmni sy’n masnachu’n drawsffiniol—unrhyw un o’r cwmnïau mawr sy’n masnachu’n drawsffiniol—a fyddant yn gallu gwario talebau Lloegr ar gyfer y rhan o’u busnes sy’n gysylltiedig â Lloegr gyda chwmnïau hyfforddi yng Nghymru? Nid yw’n glir i ni eto a allent wneud hynny ai peidio. Mae arnaf ofn fy mod o’r farn mai’r rheswm am hynny yw nad yw manylion y cynllun yn glir i Lywodraeth y DU eto.
 
14:23
Eluned ParrottBywgraffiad
Un pryder sydd gennyf, Ddirprwy Weinidog, yw y gall yr ysfa i gwmnïau adennill yr hyn y maent wedi’i fuddsoddi yn yr ardoll prentisiaethau eu harwain i gael eu temtio i styffylu rhywfaint o ddysgu yn y gwaith a fodolai’n flaenorol at ei gilydd yn gynnig o ansawdd is, a’i ddisgrifio fel prentisiaeth. Beth y gallwn ei wneud i ddiogelu ansawdd y cyfleoedd dysgu ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru?
 
14:24
Julie JamesBywgraffiad
Dyna broblem real iawn oherwydd yr hyn sydd gennym yma yw disgwyliad y cyflogwyr sy’n talu’r ardoll y bydd yn cael ei ddychwelyd iddynt, fwy neu lai, ac mewn gwirionedd, nid dyna sut y mae’n mynd i weithio. Rwyf eisoes wedi cael trafodaethau gyda rhai o’r sectorau ynglŷn â sut y gallai weithio yma yng Nghymru. Mae’n bwysig hefyd i Aelodau sylweddoli bod hyn yn effeithio ar bob cyflogwr, nid busnesau’n unig—mae’n effeithio ar sefydliadau mawr yn y sector cyhoeddus, ni ein hunain, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, ac yn y blaen. Felly, mae’n creu llawer o ddisgwyliadau, ond heb ddarparu llawer yn ei sgil. Rwyf innau hefyd yn ofni y bydd y brand prentisiaeth yn cael ei wanychu gan y cynigion yn Lloegr, ond fel y dywedais wrth William Graham pan gawsom y drafodaeth hon yr wythnos diwethaf, rwy’n parhau i fod yn obeithiol na fydd hynny’n digwydd, ond hyd yma nid ydym wedi gweld y cynigion. Yr hyn rwyf wedi’i weld yw y bydd y busnesau bach yn defnyddio’r ardoll o ardoll heb ei hawlio a heb ei gwario a delir gan fusnesau a sefydliadau sector cyhoeddus mwy o faint. Mae’n rhaid i mi ddweud nad wyf yn credu bod honno’n ffordd arbennig o dda o fynd o’i chwmpas hi. Felly, yr hyn sy’n rhaid i chi ei wneud yw aros i gyflogwr mawr beidio â gwario ei holl arian cyn y gallwch ddweud wrth gyflogwr llai beth y gall ei gael, ac i mi, nid yw honno’n swnio fel system gydgysylltiedig wedi’i chynllunio’n dda.
 
Cefnogi Athrawon Cyflenwi
 
14:25
David ReesBywgraffiad
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi athrawon cyflenwi? OAQ(4)0673(ESK)
 
14:25
Huw LewisBywgraffiadY Gweinidog Addysg a Sgiliau
Diolch i’r Aelod dros Aberafan. Mae Llywodraeth Cymru yn gwbl ymrwymedig i gefnogi ein gweithlu addysg cyfan, gan gynnwys athrawon cyflenwi, yn eu gwaith. Er enghraifft, yn ddiweddar, rydym wedi lansio porth gwybodaeth ar-lein yn benodol ar gyfer athrawon cyflenwi, gan roi trosolwg o adnoddau, cyfleoedd hyfforddi, rhwydweithiau a chymorth y gall athrawon cyflenwi yng Nghymru fanteisio arno.
 
14:26
David ReesBywgraffiad
Diolch am yr ateb, Weinidog. Rwy’n gwerthfawrogi’n fawr iawn fod y gwaith hwnnw eisoes wedi’i wneud, ond roedd adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar waith cyflenwi yn tynnu sylw at yr angen am fodel newydd ar gyfer darparu athrawon cyflenwi ledled Cymru. Ar hyn o bryd, New Directions sydd wedi cael y contract ar gyfer darparu athrawon cyflenwi ar draws y 22 awdurdod lleol: monopoli, i bob pwrpas. Mae athrawon yn fy etholaeth wedi cael gwybod, os ydynt yn dymuno gwneud gwaith cyflenwi o gwbl, y dylent gofrestru â New Directions: fel arall ni fyddant yn cael gwaith. Mae athrawon cyflenwi yn dweud wrthyf nad ydynt ond yn cael tua 60 y cant o’r ffioedd a godir gan yr asiantaeth ac ni chânt eu trin yn gyfartal â chydweithwyr amser llawn yn yr ystafell ddosbarth nesaf. Pa bryd y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati i roi camau ar waith i roi diwedd ar fonopoli o’r fath a sicrhau bod athrawon cyflenwi yn cael eu trin â’r parch a’r urddas y maent yn eu haeddu?
 
14:26
Huw LewisBywgraffiad
Diolch i’r Aelod dros Aberafan unwaith eto. Rhoddais dystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i waith cyflenwi ac rwy’n ymwybodol eu bod wedi cyhoeddi eu hadroddiad fis diwethaf. Byddaf yn ymateb yn ffurfiol i adroddiad y pwyllgor yn gynnar y mis nesaf a byddwn yn cael dadl ar y mater ar 10 Chwefror yma yn y Cynulliad. Mae’n rhaid i mi ddweud yn glir, fel y mae yn ein canllawiau, ‘Rheoli presenoldeb gweithlu ysgolion yn effeithiol’ a gyhoeddwyd gennym y llynedd, nad oes unrhyw orfodaeth ar ysgolion i ddefnyddio’r darparwr gwasanaethau a reolir. Yn y pen draw, dyletswydd penaethiaid unigol a’u corff llywodraethu yw penderfynu ar y ffordd orau o reoli absenoldebau a darparu athrawon llanw yn eu hysgolion. Nawr, wrth gwrs, yn y cyd-destun hwn, mae’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus hefyd wedi cynnal ymgynghoriad ar fodelau cyflawni amgen ar draws y sector cyhoeddus, a bydd y canfyddiadau hynny’n llywio ein barn a’n gweledigaeth hirdymor fel Llywodraeth ar gyfer darparu athrawon cyflenwi mewn ysgolion. Rwy’n meddwl y dylem, er enghraifft, ymchwilio i’r dewis arall cydfuddiannol yn drylwyr mewn perthynas â darparu athrawon cyflenwi. Mae angen i ni feddwl sut rydym yn symud ymlaen hefyd yng nghyd-destun y posibilrwydd o ddatganoli cyflogau ac amodau athrawon i sicrhau gweithlu mwy hyblyg o safon uchel. Ond mae’r Aelod yn hollol gywir: nid yw’r sefyllfa bresennol yn ddigon da.
 
14:28
Russell GeorgeBywgraffiad
Weinidog, fel y byddwch yn ymwybodol, mae’n rhaid i bob athro sydd newydd gymhwyso gwblhau cyfnod ymsefydlu llawn o 380 sesiwn, sy’n cyfateb i dri thymor ysgol. Yn ystod yr ymchwiliad y llynedd ar athrawon cyflenwi, sydd wedi cael ei grybwyll, cafodd y pwyllgor plant a phobl ifanc dystiolaeth ysgrifenedig gan Gyngor y Gweithlu Addysg yn datgan bod llai na 50 o athrawon cyflenwi wedi bodloni eu safonau ar gyfer athrawon wrth eu gwaith ers mis Medi 2012. Felly, a gaf fi ofyn pa gamau y mae’r Llywodraeth wedi’u rhoi ar waith i alluogi athrawon cyflenwi i ddangos eu bod yn cyrraedd safonau athrawon proffesiynol?
 
14:28
Huw LewisBywgraffiad
Wel, fel y dywedais, rydym yn edrych ar y materion hynny y mae gennym bwerau i ddylanwadu arnynt. Mae hwn—mae’r Aelod yn hollol iawn—yn fater sydd angen ei ystyried ochr yn ochr, er enghraifft, â’n diwygiadau o ran hyfforddiant cychwynnol athrawon a’r hyn sy’n digwydd yng nghamau cynnar gyrfa athro sydd newydd gymhwyso. Ond rwy’n ailadrodd ein bod wedi cael ein gadael mewn sefyllfa amhosibl braidd yn hyn o beth gan nad oes gennym unrhyw reolaeth ddatganoledig dros gyflog ac amodau athrawon, ffaith sy’n lliwio’r ddadl ac yn cyfyngu ar allu Llywodraeth Cymru i weithredu.
 
14:29
Alun Ffred JonesBywgraffiad
Beth bynnag ydy lefelau sgiliau athrawon cyflenwi, wrth gwrs nid ydynt yn gallu cyflawni gwaith athrawon sefydlog llawn-amser am bob math o resymau. A oes gennych chi ystadegau sydd yn dangos a oes rhagor o ddyddiau athrawon llanw yn digwydd yn ein hysgolion yn 2014 o gymharu â’r blynyddoedd cynt?
 
14:30
Huw LewisBywgraffiad
Bydd hwn yn fater i awdurdodau lleol, wrth gwrs. Nid wyf yn ymwybodol o gasgliad cenedlaethol o ddata o’r fath, ond byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod os wyf yn anghywir ynglŷn â’r pwynt hwnnw.
 
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
 
14:30
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at gwestiynau gan lefarwyr y pleidiau ac yn gyntaf y prynhawn yma, llefarydd Plaid Cymru, Simon Thomas.
 
14:30
Simon ThomasBywgraffiad
Diolch, Lywydd. Weinidog, ar ddiwedd pum mlynedd o Lywodraeth Lafur, a chithau nawr wedi datgan eich bod chi’n ymddeol fel Gweinidog, mae'r 10 y cant mwyaf breintiedig o ddisgyblion Cymru yn is eu cyrhaeddiad yn arolwg y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr na'r 10 y cant mwyaf difreintiedig o ddisgyblion Sianghai. Ai dyma record rydych chi’n falch ohoni hi?
 
14:30
Huw LewisBywgraffiad
Ni all y llefarydd ar ran Plaid Cymru, newyddiadurwyr a sylwedyddion eraill, barhau i ailadrodd ffigurau PISA 2012 fel pe baent wedi digwydd yr wythnos diwethaf. Ac mae’n ymwybodol iawn, wrth gwrs, ers y gyfres ddiwethaf o brofion PISA ledled Cymru, fod Llywodraeth Cymru, a’r system addysg yn ei chyfanrwydd, wedi bod yn rhan o’r set fwyaf o ddiwygiadau ers Deddf Addysg 1944. Nid yw parhau i geisio taflu llwch i lygaid y cyhoedd drwy ailadrodd ffigurau PISA 2012 fel pe baent yn newyddion yn ddigon da. Mae’r system gyfan wedi symud ymlaen ers hynny ac mae llawer iawn wedi digwydd, fel y mae’n gwybod yn iawn. Mae canlyniadau TGAU’r haf diwethaf—a oedd yn uwch nag erioed—yn dystiolaeth bendant o’r newid hwnnw.
 
14:31
Simon ThomasBywgraffiad
Wel, Lywydd, nid fi sy’n ailadrodd y ffigurau—Andreas Schleicher, y person a gomisiynoch i wneud eich adroddiad annibynnol ar eich system addysg, yn siarad neithiwr ar BBC Cymru, a ailadroddodd y ffigurau hyn.
 
Ond fe wnawn ni droi at rywbeth fedrwch chi ddim dweud sydd yn dyddio yn ôl i 2012—adroddiad prif arolygydd Estyn yr wythnos hon. Mae’n dangos pa mor bell o hyd y mae’n rhaid i ni fynd. Mae’n cyfeirio at amrywiaeth o safonau addysg a phegynu—pegynu rhwng y da a’r gwachul—yn ein hysgolion ni. Felly, ai addysgu da ac arweiniad penigamp, yn eich barn chi, yw’r dulliau mwyaf effeithlon o godi cyrhaeddiad holl ddisgyblion Cymru?
 
14:32
Huw LewisBywgraffiad
Wel, rydym i gyd yn ymwybodol iawn—mae’r dystiolaeth ryngwladol i gyd yn bendant ar y pwynt hwn—mai ansawdd yr addysgu a’r dysgu, gydag ansawdd yr arweinyddiaeth yn dynn wrth eu sodlau, yw’r penderfynyddion cyrhaeddiad allweddol ymhlith pobl ifanc yn ein hysgolion. Mae hynny’n hysbys iawn. Nid yw’n syndod ychwaith fod Estyn yn parhau i dynnu ein sylw at yr amrywioldeb o fewn y system ysgolion yng Nghymru. Ceir ysgolion sydd wedi llwyddo, o ran ansawdd yr addysgu a’r dysgu, a’r arweinyddiaeth, a’r rhai sydd â gwaith eto i’w wneud. Ond mae’n bendant yn wir fod y grŵp cyntaf yn tyfu o ran nifer, a bod y grŵp olaf yn parhau i grebachu o ran nifer.
 
14:33
Simon ThomasBywgraffiad
Wel, o’r diwedd, rydym ni wedi dod at rywbeth rydym ni’n cytuno arno fe, Weinidog. Ac felly, er bod adroddiad Estyn yn dweud bod yna gynnydd bach yn nifer yr ysgolion a oedd yn ‘rhagorol’ y tro yma, mae hefyd yn datgan bod traean o’n hysgolion cynradd ni, ac, yn fwy gofidus fyth, yn fy marn i, dros hanner—57 y cant—o’n hysgolion uwchradd ni, lle mae’r rheolaeth a’r arweiniaeth ond yn ‘ddigonol’ neu, yn wir, yn ‘anfoddhaol’. Felly, yn fy marn i, fe ddylai pob disgybl yng Nghymru gael ei ddysgu gan athro ‘da’ neu ‘ragorol’, mewn ysgol wedi ei harwain gan brifathro ‘rhagorol’. Gan fod Estyn yn dangos bod dros hanner ein hysgolion lle na cheir hynny, pa gamau ydych chi’n eu cymryd nawr i sicrhau bod pob ysgol yng Nghymru, a phob disgybl, felly, yn cael eu chwarae teg?
 
14:34
Huw LewisBywgraffiad
Wel, mae’r Aelod yn hollol iawn i nodi bod ein hysgolion cynradd, mewn sawl ffordd, yn arwain y ffordd o ran gwella ysgolion, ac mae angen i’n hysgolion uwchradd weithio’n llawer caletach er mwyn dal i fyny gyda’r agenda. Ond bydd yr Aelod hefyd yn ymwybodol fy mod, am y tro cyntaf erioed, wedi sefydlu system sy’n golygu nid yn unig fod gennym amgyffred amser real o safle ysgol ar ei thaith i wella fel ysgol—ac rwy’n sôn yma am ein system gategoreiddio; bydd y canlyniadau ar gyfer eleni yn cael eu cyhoeddi yfory, yn fanwl—nid yn unig ein bod yn deall lle y mae pob ysgol yng Nghymru ar y daith honno, ond mae gennym hefyd strwythur a mecanwaith, drwy ein consortia, drwy waith da Estyn, a thrwy awdurdodau lleol hefyd, i ymyrryd ar unwaith pan welwn nad yw ysgol yn cyrraedd y safon mewn materion fel ansawdd yr addysgu a’r dysgu a’r arweinyddiaeth. Dyna’r tro cyntaf i hynny ddigwydd, a dyna’r tro cyntaf i hynny ddigwydd yn y Deyrnas Unedig. Yng Nghymru yn unig y gall y Gweinidog fwrw golwg amser real ar beth yn union sy’n digwydd mewn ysgol benodol ac archwilio’r camau a roddir ar waith i wella ansawdd y dysgu a’r addysgu yn yr ysgol honno.
 
14:35
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at lefarydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Aled Roberts.
 
14:35
Aled RobertsBywgraffiad
Diolch, Lywydd. Weinidog, wrth ystyried yr holl sylw sydd wedi cael ei roi i addysg uwch yn ystod y pythefnos olaf yma, mae’r gyfundrefn ôl-raddedigion yn Lloegr wedi newid ers mis Medi. A ydych chi wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i gyflwyno math o gyfundrefn debyg yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf?
 
14:35
Huw LewisBywgraffiad
Wel, do, wrth gwrs. Fel y bydd yr Aelod yn gwybod, roedd cymorth ôl-raddedig yn un o’r blaenoriaethau allweddol a gyflwynais i’r Athro Syr Ian Diamond mewn perthynas â’r hyn y gobeithiwn y byddai’n ei ystyried yn ei adolygiad ac wrth gwrs, bydd yn dychwelyd gyda syniadau a chynigion pendant ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru ynglŷn â sut y dylai cymorth ôl-raddedig weithio.
 
Yn y cyfamser, rwy’n gweithio gyda sefydliadau addysg uwch yng Nghymru i weld beth y gellir ei wneud i gynorthwyo mewn perthynas â chymorth ôl-raddedig ar gyfer y flwyddyn ariannol hon yn arbennig, ac mae’r gwaith hwnnw’n parhau. Ond rwy’n ystyried hyn yn flaenoriaeth ac mae’n hollol gywir i dynnu sylw ato.
 
14:36
Aled RobertsBywgraffiad
Diolch am hynny. Rwy’n falch o glywed bod yna waith yn mynd rhagddo. Un o’r problemau, wrth gwrs, ydy, os ydym ni’n cyflwyno cyfundrefn debyg yma yng Nghymru i’r un sydd yn Lloegr, cwmni benthyciadau myfyrwyr a fydd yn gyfrifol am hynny. Maen nhw wedi datgan y bydd yn amhosib, hyd yn oed os ydym yn cael union yr un gyfundrefn yma, cyflwyno’r gyfundrefn newydd yna ar gyfer 2016-17. Felly, wrth ystyried yr holl bwysau fydd ar brifysgolion o ran eu cyllidebau nhw flwyddyn nesaf, a ydych chi’n poeni bydd yna ostyngiad yn nifer y myfyrwyr ôl-raddedig yng Nghymru yn y dyfodol?
 
14:37
Huw LewisBywgraffiad
Na. Nid wyf yn credu y daw i hynny. Yn gyntaf oll, mae’n bwysig deall, er bod y gefnogaeth uchel ei chloch hon i gymorth i fyfyrwyr ôl-raddedig yn Lloegr yn ymddangos fel peth da ar yr wyneb, yr hyn y mae’r Ceidwadwyr wedi’i wneud yn Lloegr wrth gwrs yw talu am hynny drwy gael gwared ar bob math o grantiau cynhaliaeth i israddedigion. Maent wedi gwneud cam â’r myfyrwyr tlotaf yn Lloegr er mwyn talu am gymorth i ôl-raddedigion sy’n cael cymaint o sylw. Felly, nid ydym am efelychu Lloegr yn hynny o beth—hynny yw, heb unrhyw fath o gydraddoldeb neu degwch ac nid dyma’r ffordd y byddem eisiau gweithredu yng Nghymru.
 
Rwy’n ymwybodol iawn o ddiffygion y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr o ran eu gallu i ymwneud â systemau datganoledig. Gallaf ddweud wrth yr Aelod fy mod wedi cael trafodaethau adeiladol iawn gyda fy Ngweinidogion cyfatebol yng Ngogledd Iwerddon ac yn yr Alban o ran sut y gallwn, fel grŵp teiran o wledydd datganoledig, oresgyn y diffygion yng nghapasiti’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr mewn perthynas â’r galwadau a wneir arno gan y Gweinidog yn Lloegr.
 
Ni ellir cynnal y sefyllfa bresennol lawer yn hwy a bydd angen i ni ystyried dulliau a mecanweithiau eraill o weinyddu cymorth i fyfyrwyr ar draws y gwledydd datganoledig yn y DU.
 
14:39
Aled RobertsBywgraffiad
Yn olaf, a gaf i droi at adroddiad blynyddol Estyn, sydd yn dangos bod yna 27 yn llai o ysgolion cynradd yng Nghymru eleni o’u cymharu â’r adroddiad blaenorol? Er hynny, mae yna gynnydd o tua 4,000 yn nifer y plant ysgol gynradd yn y wlad. Mae’r ffigwr, felly, yn 6 y cant yn uwch eleni nag yr oedd o pum mlynedd yn ôl—mae yna bum mlynedd o dyfiant wedi bod. Wrth gofio’r holl bwysau y mae Estyn a’r Llywodraeth yn ei roi ar awdurdodau lleol i leihau llefydd gweigion o fewn ysgolion cynradd, a oes yna angen i’r Llywodraeth ac i Estyn ailystyried o ran cynllunio? Ac a oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn â maint dosbarthiadau o fewn ysgolion cynradd, o achos y twf yma yn nifer y plant oedran ysgol gynradd yng Nghymru?
 
14:40
Huw LewisBywgraffiad
Nid wyf yn ymwybodol fod unrhyw un o’r 22 ardal awdurdod lleol yn adrodd am unrhyw bryderon neilltuol ynghylch y cyflenwad o leoedd mewn ysgolion. Mae’r Aelod yn hollol iawn: mewn rhai rhannau o Gymru, mae’r boblogaeth ysgol yn cynyddu, ond mewn rhannau eraill o Gymru, mae’r gwrthwyneb yn wir. Mae’r darlun yn amrywiol iawn ledled y wlad. Byddwn yn ychwanegu fod y gwaith a wnaed dros y pedair i bum mlynedd diwethaf ar leihau nifer y lleoedd gwag wedi bod yn anhepgor o ran gwneud ein system yn fwy cadarn yn ariannol ac mae’n un o’r rhesymau pam ein bod wedi llwyddo i oroesi’r cyfnod hwn o galedi heb roi gormod o bwysau ar ein hysgolion.
 
Unwaith eto, mae’r cyferbyniad yma gyda Lloegr yn amlwg: mae Cymru yn gallu cynllunio ar gyfer newidiadau yn nifer y boblogaeth o blant a phobl ifanc sy’n dechrau yn yr ysgol, ac rwy’n gallu ymwneud ag awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod hynny’n digwydd. Mae ysgolion rhydd ac academïau yn Lloegr yn creu llanast o unrhyw agenda sy’n cynnwys cynllunio ar gyfer lleoedd ysgol ac yn gwneud hynny’n amhosibl, i’r graddau y gallwch gael ysgolion rhydd gyda 50 y cant o leoedd gwag a desgiau gwag ar un pen i’r stryd, ac ysgol awdurdod lleol ar ben arall y stryd yn llawn i’r ymylon. Nid dyna’r ffordd i redeg system ac nid wyf yn ymwybodol o unrhyw bwysau, yn enwedig o ran blaengynllunio, ar draws y 22 awdurdod lleol yma yng Nghymru.
 
14:41
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Angela Burns.
 
14:41
Angela BurnsBywgraffiad
Diolch i chi, Lywydd. Weinidog, gadewch i ni siarad am rywbeth y dylech allu ei reoli, gobeithio. Y newyddion da yn Estyn yw bod 91 y cant o ddisgyblion ysgolion cynradd sy’n cael prydau ysgol am ddim wedi cyflawni eu dangosydd craidd cyfnod sylfaen yn saith oed, a 93 y cant arall yn 11. Fodd bynnag, gwelwyd gostyngiad o dros 10 y cant yng nghyfran y plant sy’n cael prydau ysgol am ddim a gyflawnodd y dangosydd pynciau craidd yn 14 oed, a cheir gostyngiad syfrdanol o 43 y cant erbyn iddynt gyrraedd 16 oed. Beth yw eich casgliadau wrth ystyried hyn, Weinidog?
 
14:42
Huw LewisBywgraffiad
Lywydd, mae’r Aelod yn bod yn greadigol tu hwnt gyda rhifau ac ystadegau yn y fan hon. Mae’n hysbys iawn, wrth gwrs, fod pobl ifanc yr effeithir ar eu bywydau gan dlodi ac amddifadedd yn gweld yr effaith yn cynyddu wrth iddynt dyfu’n hŷn. Ond yr hyn a welwn am y tro cyntaf yn hanes addysg yng Nghymru yw bod disgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim, ym mhob cyfnod allweddol o addysg, yn dal i fyny gyda’u cyfoedion mwy cefnog: yn y cyfnod sylfaen, cyfnod allweddol 2, cyfnod allweddol 3 a chyfnod allweddol 4. Nid oes unrhyw bwynt darlunio gostyngiad cyffredinol rhwng y cyfnod sylfaen a chyfnod allweddol 4, fel pe bai rhyw fath o fethiant yn y system. Bydd yn cymryd mwy o amser i’r grwpiau oedran hŷn ddal i fyny oherwydd, wrth gwrs, mae cymaint o’u cyrhaeddiad wedi’i adeiladu ar yr hyn a ddaeth o’r blaen. Synnwyr cyffredin rhesymegol yw hynny.
 
14:43
Angela BurnsBywgraffiad
O diar, Weinidog, am drueni—yn hytrach na cheisio amddiffyn eich hun, roeddwn yn gobeithio y gallech feddwl am rywbeth hollol ddadlennol i’w ddweud ynglŷn â sut rydych yn mynd i helpu pobl ifanc sy’n cael prydau ysgol am ddim i bontio’n well, yn fwy diogel ac yn fwy cydlynol rhwng yr ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd, ond na, rydym newydd gael darlith fach ar, ‘Mae bron â gwella ychydig bach; byddwch yn amyneddgar gyda ni’. Mae’r plant hyn yn y system addysg yn awr a’r hyn yr hoffwn ei ddeall, Weinidog, yw beth rydych chi’n mynd i’w wneud i wella hynny. Mewn ysgolion cynradd, rwy’n cydnabod y ffaith eich bod yn cyflawni canlyniadau eithriadol, ond yr hyn rwy’n methu â’i ddeall yw pam y dylech chi fel Llywodraeth, y wladwriaeth, a’r trethdalwr roi’r holl arian i helpu’r bobl ifanc hyn er mwyn iddo beidio â gweithio pan gyrhaeddant yr ysgol uwchradd—er mwyn i 43 y cant ohonynt lithro ar ei hôl hi pan fyddant yn 16 oed. Oherwydd bryd hynny mae’n anodd iawn eu hachub, mae’n anodd iawn eu dal, ac mae’n anodd iawn eu rhoi ar lwybr da lle y byddant yn cael dyfodol llewyrchus.
 
14:44
Huw LewisBywgraffiad
Wel, wyddoch chi, un peth yw tylino’r ffeithiau, a pheth arall yw ymroi i lawdriniaeth geiropractaidd arnynt. Gadewch i mi daflu goleuni ar y pwynt, unwaith eto, ar gyfer llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig: mae pobl ifanc sy’n cael prydau ysgol am ddim ar bob cam o addysg yng Nghymru yn dal i fyny â’u cyfoedion mwy cefnog, pa un a ydynt yn 16 oed neu’n bedair oed, ac ar bob pwynt yn y canol. Ni fu modd profi’r ffaith hon erioed o’r blaen yn hanes addysg. Byddwn yn gofyn iddi gyfeirio ei sylwadau o bosibl at ei chymheiriaid ar draws y ffin yn Lloegr, lle nad yw’n ffaith o fath yn y byd.
 
14:45
Angela BurnsBywgraffiad
I fod yn hollol onest, ychydig iawn o ddiddordeb sydd gennyf yn yr hyn sy’n digwydd yn Lloegr, gan mai Gweinidog addysg yr wrthblaid yma yng Nghymru wyf fi, a disgyblion Cymru yng Nghymru sy’n wynebu dyfodol economaidd yng Nghymru yn benodol yw fy niddordeb, a buaswn ond yn falch pe bai gennych chithau’r un diddordeb ynddynt ag sydd gennych mewn bachu ar bob cyfle i ladd ar Loegr. Felly, dof yn ôl at fy mhwynt gwreiddiol: mae 43 y cant ohonynt yn llithro ar ei hôl hi yn 16 oed. Nawr, mae’r rheini’n—
 
14:45
Huw LewisBywgraffiad
Nid ydynt yn llithro ar ei hôl hi. Mae hyn yn anwiredd.
 
14:45
Angela BurnsBywgraffiad
Ac mae hyn yn—. I’r bobl nad ydynt wedi cael cyfle i ddarllen adroddiad Estyn ers ddoe, nid fi sy’n dweud hyn; mae’n ffaith ddiymwad fel y mae adroddiad Estyn, yr arolygydd ysgolion, yn ei nodi. Felly, y cyfan rwy’n ei ofyn i chi, Weinidog—cwestiwn syml iawn y dylech chi hyd yn oed allu ei ateb—yw: beth rydych chi’n mynd i’w wneud i geisio gwella’r cyfnod pontio er mwyn i ni allu cau’r bwlch ymhellach? Rwy’n gobeithio eich bod wedi deall y cwestiwn.
 
14:46
Huw LewisBywgraffiad
Lywydd, fe wnaf bob ymdrech i ddal fy ngafael ar realiti y prynhawn yma. Mae llefarydd yr wrthblaid yn ceisio dadlau bod du yn wyn. Sut y gall pobl ifanc 16 oed sy’n cael prydau ysgol am ddim fod yn gwella eu cyrhaeddiad flwyddyn ar ôl blwyddyn ar gyfradd gyflymach na’u cyfoedion a pharhau i syrthio ar ei hôl hi ar yr un pryd? Mae hyn yn nonsens llwyr. Yr hyn rydym yn ei weld yma yw gwahaniaeth syml ar draws yr ystod oedrannau lle y mae’n debygol y bydd newidiadau gwirioneddol ryfeddol wedi digwydd erbyn i’r bobl ifanc ar brydau ysgol am ddim yn ein cyfnod sylfaen gyrraedd eu blynyddoedd TGAU yn nes ymlaen yn ystod eu gyrfa ysgol oherwydd yr hyn a ddigwyddodd yn eu haddysg cyn hynny. Rwy’n gyn athro fy hun a heb fwrdd du, diagramau, neu ryw fath o fwrdd gwyn rhyngweithiol, ni allaf ei wneud yn symlach i’r Ceidwadwyr Cymreig na hynny. [Chwerthin.]
 
14:46
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn ôl yn awr at y cwestiynau ar y papur. Daw cwestiwn 3 gan Leanne Wood.
 
Y Cyfnod Sylfaen
 
14:47
Leanne WoodBywgraffiad
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am record Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r cyfnod sylfaen yn ystod y Cynulliad hwn? OAQ(4)0679(ESK)
 
14:47
Huw LewisBywgraffiad
Rwy’n falch o’r cyfnod sylfaen a’r hyn y mae’n ei gyflawni. Mae’r gwerthusiad annibynnol a gyhoeddwyd y llynedd yn dangos ei fod yn cyflawni gwelliannau go iawn. Yn wir, rydym wedi cyrraedd a rhagori ar y targed i leihau’r bwlch cyrhaeddiad mewn perthynas â thlodi ar ddiwedd y cyfnod sylfaen dair blynedd yn gynharach nag a ragwelwyd.