Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :
Nôl i'r rhestr dogfennau Gweld y dudalen hon heb lincs
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (y Fonesig Rosemary Butler) yn y Gadair.
 
13:30
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Prynhawn da. Dyma ddechrau trafodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
 
13:30
Datganiad gan y Llywydd
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Cyn i mi alw ar y Prif Weinidog, mae'n rhoi pleser mawr i mi gyhoeddi, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, y rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i Fil Cymwysterau Cymru ar 5 Awst.
 
13:30
1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn at eitem 1 nawr, sef cwestiynau i'r Prif Weinidog, a Mike Hedges sydd gyntaf y prynhawn yma.
 
Rhaglen Her Ysgolion Cymru
 
13:31
Mike HedgesBywgraffiad
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ganlyniadau TGAU ysgolion sy'n dod o dan raglen Her Ysgolion Cymru? OAQ(4)2421(FM)
 
13:31
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Gwnaf. Rwy’n falch iawn bod tua dwy ran o dair o’r 40 ysgol Her Ysgolion Cymru wedi nodi gwelliant yn nifer eu disgyblion a lwyddodd i gael canlyniadau da mewn pump neu fwy o bynciau TGAU yr haf hwn. Disgwyliwn y canlyniadau dros dro yn ddiweddarach y mis hwn, ond mae hyn yn dangos cychwyn cadarn i'r rhaglen.
 
13:31
Mike HedgesBywgraffiad
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna? Yn dilyn llwyddiant ysgubol y rhaglen Her Ysgolion yn Llundain, rwyf wedi bod yn gefnogwr cryf o Her Ysgolion Cymru. A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i longyfarch Pentrehafod, un o ysgolion Her Ysgolion Cymru yn Nwyrain Abertawe, ar eu canlyniadau TGAU sydd wedi gwella’n aruthrol?
 
13:31
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Gwnaf, ymunaf â’r Aelod i longyfarch Pentrehafod—eu set o ganlyniadau TGAU gorau erioed. Newyddion da i'r athrawon a'r disgyblion a dylid, wrth gwrs, eu llongyfarch. Rydym ni’n gwybod bod ysgolion eraill wedi nodi cynnydd da hefyd, gan gynnwys Coleg Cymunedol Tonypandy ac Ysgol Gyfun y Coed Duon. Rwy'n credu ei bod yn iawn i ddweud ein bod yn aros am y canlyniadau swyddogol yn llawn gobaith.
 
13:32
Suzy DaviesBywgraffiad
Prynhawn da, Brif Weinidog. Rwy'n siŵr eich bod yn ymuno â mi i longyfarch yr holl bobl ifanc hynny a gafodd ganlyniadau TGAU da eleni, ac i gydymdeimlo â'r rhai sydd efallai wedi eu siomi. A ydych chi mewn sefyllfa eto i ddweud wrthym pa mor dda y mae’r plant hynny y nodwyd eu bod yn fwy galluog a thalentog wedi gwneud mewn ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig nad ydynt yn elwa ar raglen Her Ysgolion Cymru?
 
13:32
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, fel y gwyddom, rydym ni’n aros am y canlyniadau rhagarweiniol, ond rydym ni’n hyderus bod addysg yn symud i'r cyfeiriad cywir yng Nghymru. Rydym ni wedi gweld y canlyniadau o'r ysgolion Her Ysgolion Cymru; rydym ni wedi gweld y canlyniadau ledled Cymru, ac rydym ni’n gwybod y byddai ei phlaid hi’n torri gwariant ar addysg gan 20 y cant.
 
13:32
Simon ThomasBywgraffiad
Mae’ch Llywodraeth, Brif Weinidog, wedi addo y byddwch yn cau y bwlch cyrhaeddiad ar gyfer plant sy’n derbyn prydau ysgol am ddim yn ysgolion Her Ysgolion Cymru. Ond, bythefnos yn ôl, mewn datganiad ysgrifenedig, fe wnaeth eich Gweinidog addysg ostwng y targed o 37 y cant o’r plant hyn i gyrraedd gradd C TGAU i 34 y cant ar gyfer categoreiddio’r ysgolion. Wedi methu targed roedd eich Llywodraeth eich hunan yn dweud nad oedd yn ddigon uchelgeisiol, mae’ch Llywodraeth wedi newid y targed. Bob tro rydych yn methu cyflawni, eich ateb yw newid y targed. Pryd fydd angen newid y Llywodraeth?
 
13:33
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Nid yw’n wir i ddweud ein bod ni wedi lleihau’r targedau, achos 37 y cant yw’r targed cyfun ynglŷn â nifer y disgyblion sy’n gallu cael cinio ysgol am ddim o ran sicrhau eu bod nhw’n cael pump TGAU da yn y pen draw. Dyna felly yw’r targed erbyn 2017.
 
Cam-drin Plant yn Rhywiol
 
13:33
Angela BurnsBywgraffiad
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â cham-drin plant yn rhywiol yng Nghymru? OAQ(4)2429(FM)
 
13:34
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Gwnaf. Rydym ni’n gweithio gyda rhanddeiliaid i gefnogi gwelliant parhaus i arfer proffesiynol o ran mynd i'r afael â cham-drin a cham-fanteisio rhywiol ar blant. Bydd y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol yn cryfhau'r fframwaith diogelu ymhellach a bydd yn cefnogi gwelliannau i arfer ledled Cymru.
 
13:34
Angela BurnsBywgraffiad
Diolch yn fawr. Brif Weinidog, Cymru yw'r unig un o’r gwledydd cartref nad yw'n cadw cofnod o ba mor hir y bu gan blentyn gynllun amddiffyn plant ar waith neu ei fod ar gofrestr amddiffyn plant. Mae bod ar y gofrestr neu fod â chynllun ar waith yn ddangosydd allweddol o blentyn mewn perygl, ond cipolwg diwedd blwyddyn yw’r unig wybodaeth sydd gan eich Llywodraeth ar hyn o bryd ac nid yw'n mesur am ba hyd y mae plentyn wedi ei amlygu i risg. Os nad yw’r mesur pwysig hwn ar waith gennym, Brif Weinidog, sut mae eich Llywodraeth yn mynd i allu canfod pa un a oes gennym blant nad ydynt yn cael sylw yn y system a heb gael datrysiad pendant i'r sefyllfa y maen nhw’n canfod eu hunain ynddi?
 
13:34
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Yr hyn y byddwn yn ei ddadlau yw bod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 yn cryfhau’r trefniadau diogelu presennol ar gyfer plant ymhellach, mae'n cyflwyno dyletswydd newydd i hysbysu’r awdurdod lleol, ac mae'n diffinio 'plentyn mewn perygl'. Rydym ni’n gwybod y bydd yn ofynnol i sefydliadau eraill, fel gwasanaethau iechyd, gwasanaeth yr heddlu a gwasanaethau prawf, hysbysu’r awdurdod lleol pan fo ganddynt achos rhesymol i gredu bod plentyn mewn perygl. Yn dilyn hysbysiad o'r fath, bydd yr awdurdodau lleol yn arfer eu dyletswydd bresennol i ymchwilio o dan y Ddeddf Plant 2004 bresennol. Felly, fy nadl i fyddai bod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 yn cryfhau'r ddarpariaeth sydd ar gael i blant sydd mewn perygl, ac mae hynny'n rhywbeth rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n ei groesawu.
 
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
 
13:35
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn at gwestiynau gan arweinwyr y pleidiau nawr, ac arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, sydd gyntaf y prynhawn yma.
 
13:35
Leanne WoodBywgraffiadArweinydd Plaid Cymru
Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wneud ei hun yn fwy atebol am ganlyniadau yn y GIG?
 
13:35
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, mae canlyniadau'n rhywbeth yr wyf i ac, yn wir, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael ein holi amdanynt yn rheolaidd yn y Siambr hon.
 
13:36
Leanne WoodBywgraffiad
Brif Weinidog, rydych chi wedi dweud bod yr etholiad nesaf yn mynd i ymwneud yn llwyr a’ch hanes yn y swydd, ac ni allwn gytuno mwy â hynny. Dyna pam yr hoffwn ofyn i chi heddiw am eich penderfyniad i ddiddymu’r targed wyth munud i ambiwlansys yn ogystal â’ch penderfyniad i beidio â chyhoeddi'r ffigurau perthnasol hefyd. Nawr, ar 23 Mai 2013, dywedodd y Gweinidog iechyd, mewn datganiad ysgrifenedig:
 
‘Deallaf bwysigrwydd cadw’r wybodaeth am ymateb o fewn wyth munud er mwyn gallu cymharu perfformiad â gwledydd eraill y DU’
 
Fis yn ddiweddarach, ar lawr y Siambr hon, rhoddodd fe sicrhaodd y byddai'r data ar amseroedd ymateb wyth munud ar gael i graffu arno. Pam y cafodd sicrhad y Gweinidog iechyd ei wrthdroi?
 
13:36
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Yn gyntaf oll, wrth gwrs, y rheswm pam mae’r newidiadau hyn yn cael eu gwneud yw, yn y trafodaethau gyda'r ambiwlans—y parafeddygon eu hunain—ac, yn wir, gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, ac, yn wir, gyda'r byrddau iechyd lleol, bod Lloegr yn newid y ffordd y mae’n mesur amseroedd ymateb ambiwlansys, ac nid ydym yn mynd i fod mewn sefyllfa lle, oherwydd y ffordd yr ydym ni wedi ei wneud yn hanesyddol, ein bod mewn sefyllfa waeth na Lloegr dim ond oherwydd y ffordd yr ydym ni’n cyfrif. Yn amlwg, rydym ni’n gwybod, er nad cystadleuaeth rhwng Cymru a Lloegr yw hon, ei bod yn bwysig y gall pobl gael dulliau cymharol debyg ar gyfer cymharu amseroedd ymateb ambiwlansys. Dyna'n union yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud.
 
13:37
Leanne WoodBywgraffiad
Brif Weinidog, rwy’n cytuno efallai’n wir fod y targed ynddo’i hun—y targed ymateb wyth munudyn yn rhy syml fel targed, ond mae'n annerbyniol rhoi'r gorau i gyhoeddi data dim ond oherwydd ei fod yn gwneud i chi edrych yn wael. Nawr, efallai’n wir fod y targed wyth munud yn amherffaith, ond mae gan bobl yr hawl i gymharu perfformiad a chraffu ar ganlyniadau. Mae ganddyn nhw’r hawl i’ch dwyn chi i gyfrif. Felly, beth sy'n gwneud i chi feddwl y dylech chi gael yr hawl i guddio eich methiannau?
 
13:37
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, yn gyntaf oll mae hi'n achwyn am y newid i’r amser ymateb wyth munud ac yna'n dweud nad yw'n cytuno ag ef beth bynnag. Hynny yw, ni all hi ei chael hi bob ffordd. Ac, yn ail, nid ydym yn peidio â chyhoeddi data; bydd y data ar gael, fel sy'n digwydd bob amser, a bydd y data ar gael i’r Cynulliad Cenedlaethol hwn graffu arno. Nid wyf yn gweld sut y gall hi ddweud, rywsut, nad yw data’n mynd i gael ei gyhoeddi yn y dyfodol; mi fydd, yn amlwg.
 
13:38
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn nawr at arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
 
13:38
Andrew R.T. DaviesBywgraffiadArweinydd yr Wrthblaid
Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, a ydych chi’n dal i feddwl bod Jeremy Corbyn yn ddewis anarferol fel arweinydd y Blaid Lafur? Oherwydd, yn amlwg, yn yr ymgyrch etholiadol, dywedasoch eich bod yn meddwl ei fod yn ddewis anarferol, ond rhoddodd eich Gweinidog iechyd gymeradwyaeth frwd iddo.
 
13:38
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, fel Prif Weinidog Cymru, ac arweinydd Llafur Cymru, rwyf yma i ateb cwestiynau am Lywodraeth Cymru, nid unrhyw un arall.
 
13:38
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
Yn ôl a ddeallaf, rydych chi’n credu ei bod yn eithaf pwysig—y berthynas rhwng yr arweinydd yn San Steffan ac arweinydd Plaid Lafur Cymru, sef Jeremy Corbyn, nid chi eich hun. Rydych chi’n cyfarfod ag ef yfory—rydych chi’n cyfarfod ag ef yfory, ac rwy’n gobeithio'n fawr y byddwch yn siarad ag ef am eich ystadegau iechyd erchyll. Addawsoch lywodraeth a oedd yn mynd i gyflawni. Ar ddiwedd mis Gorffennaf, roedd 443,000 o bobl yn aros i ddechrau triniaeth yma yng Nghymru—443,000. Yr hyn y mae eich Llywodraeth a'ch amser fel Prif Weinidog wedi ei gyflawni yw dyblu amseroedd aros yma yng Nghymru. Beth fyddwch chi’n ei ddweud wrth Jeremy Corbyn am eich hanes yma yng Nghymru?
 
13:39
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, nid oes gennyf obsesiwn â Llundain fel sydd ganddo fe; Nid wyf yn cymryd gorchmynion gan Lundain, fel y mae ef. Fel rydym ni wedi ei weld o'r blaen, mae'n aros diwrnod neu ddau cyn iddo ddweud unrhyw beth, fel ei fod yn cael y golau gwyrdd gan ei feistri yn Llundain. Gadewch i mi ddweud rhywbeth wrtho: rydym ni wedi darparu gwasanaeth iechyd da, rydym ni wedi gwneud yn siŵr bod y gwariant ar iechyd yn tyfu, er gwaethaf y toriad o 10 y cant i’n cyllideb gan ei blaid ef, ac nid wyf ef wedi gwneud dim byd o gwbl am hynny. Ac ni fyddwn yn torri gwariant ar addysg gan 20 y cant, ni fyddwn yn torri llywodraeth leol gan 12 y cant, ni fyddwn yn torri gwariant ar greu swyddi gan 30 y cant—yr holl bethau y mae ef eisiau eu gwneud. Byddwn bob amser yn sefyll dros Gymru, yn ymladd dros Gymru. Mae'n drueni ei fod ef mor fud.
 
13:40
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
Byddwn ni’n amddiffyn y cyllidebau iechyd, rhywbeth nad ydych chi wedi ei wneud ac wedi methu â’i wneud, Brif Weinidog. Mae pedwar cant a phedwar deg tri o filoedd o bobl—[Torri ar draws.]—yn aros i ddechrau eu triniaeth—
 
13:40
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Trefn. Trefn.
 
13:40
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
[Yn parhau.]—Brif Weinidog. Mae hynny’n ddwbl y nifer a oedd yn aros pan ddaethoch chi yn Brif Weinidog. Dyna beth yr ydych chi wedi ei gyflawni dros bobl Cymru a'r cleifion sy'n aros i ddechrau eu triniaeth. Gresynodd Jeremy Corbyn, pan yr oedd yng Nghaerdydd, y toriadau iechyd dinistriol rydych chi wedi eu gwneud i gyllideb y GIG yng Nghymru. Gresynodd hynny. A fyddwch chi’n ymddiheuro? A fyddwch chi’n ymddiheuro am y toriadau hynny pan fyddwch chi’n cyfarfod ag ef yfory, Brif Weinidog?
 
13:40
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Roedd yn sôn am y toriadau a orfodwyd gan eich plaid chi. Peidiwch â cheisio defnyddio ei sylwadau allan o’u cyd-destun. Yr un peth am arweinydd yr wrthblaid yw nad yw'n ei deall hi, ydy e? Pan roedd y Torïaid yn rhedeg Cymru, roedd amseroedd aros yn flynyddoedd—blynyddoedd. Rydym ni’n cofio’r 1990au. Rydym ni’n cofio pan roedden nhw wrth y llyw a phobl yn aros dwy neu dair blynedd am lawdriniaethau cataract fel mater o drefn. Felly ni all ein darlithio ni ar amseroedd aros. Mae'n eistedd yn y fan yna ac yn dweud dim pan, er enghraifft, fo’r system gyfiawnder yn cael ei dinistrio gan daliadau sy’n cael eu codi mewn achosion llys troseddol sy'n gwneud i’r system gyfiawnder edrych fel dim byd mwy na thwyll. Ni ddywedodd ddim am gau llysoedd ynadon a llysoedd sirol ledled Cymru—dim byd o gwbl. Nid yw’n dweud dim pan fyddwn ni’n gweld toriadau’n cael eu gorfodi ar gyllideb Cymru. Rydym ni’n gwybod, er tegwch—mae e wedi bod yn onest—mae e wedi dweud y byddai’n torri gwariant ar addysg gan 20 y cant. Rydym ni wedi mynd trwy hyn: 30 y cant o ran creu swyddi; 12 y cant o ran llywodraeth leol; cynnydd enfawr i’r dreth gyngor o ganlyniad i hynny— [Torri ar draws.] Maen nhw wedi bod yn onest ac wedi dweud—
 
13:41
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Trefn.
 
13:41
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae'n drueni mawr, yn wahanol i ni ar y meinciau hyn, na all orfodi ei hun i feddwl drosto'i hun a sefyll dros Gymru.
 
13:41
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Nid yn aml y byddaf yn dweud na allaf glywed Andrew R.T. Davies, ond ni allwn heddiw. Felly, a allwn ni dawelu ychydig? Symudwn nawr at arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams.
 
13:42
Kirsty WilliamsBywgraffiadArweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, a wnewch chi amlinellu pa weithredoedd a chamau y mae eich Llywodraeth wedi eu cymryd i wella oedi wrth drosglwyddo gofal yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf?
 
13:42
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, rydym ni wedi gweld, wrth gwrs, y ffigurau’n gwella. Mae hynny oherwydd ein bod wedi gwneud yn siŵr bod gwariant ar wasanaethau cymdeithasol wedi ei ddiogelu. Rydym ni’n gwybod bod y cyllidebau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol wedi’u cysylltu'n agos. Mae ceisio gwahanu un oddi wrth y llall yn afrealistig, ac rydym ni’n gwybod bod gwariant ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol 8 y cant yn uwch yng Nghymru fesul pen na’r hyn sy'n wir yn Lloegr.
 
13:42
Kirsty WilliamsBywgraffiad
Mae’n amlwg nad yw'n gweithio, Brif Weinidog, ac nid wyf yn gwybod pa ffigurau yr ydych chi wedi bod yn edrych arnynt. Hyd yn hyn, bu cynnydd flwyddyn ar ôl blwyddyn yn nifer y bobl sy’n cael eu cadw’n ddiangen mewn gwely ysbyty yng Nghymru yn ystod pob mis yn 2015. Mae tri allan o'r saith mis hynny y mae ffigurau ar gael ar eu cyfer yn dangos cynnydd o fwy na 20 y cant i nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal y llynedd. Pa effaith ydych chi’n meddwl y bydd yr achosion hynny o oedi wrth drosglwyddo gofal yn ei chael ar allu'r GIG i dderbyn cleifion i wardiau ysbyty yn brydlon?
 
13:43
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, nid oes unrhyw un yn dymuno gweld pobl yn aros yn yr ysbyty am fwy o amser nag sydd angen. Rydym ni’n gwybod bod nifer y cleifion sy’n dioddef oedi wrth drosglwyddo gofal wedi gostwng dros amser. Mae'n iawn i ddweud, yn ddiweddar, bod y niferoedd wedi amrywio. Bu gostyngiadau. Nid ydynt wedi bod yn ostyngiadau cyson; rwy’n derbyn hynny. Gallaf ddweud bod y Dirprwy Weinidog wedi bod yn cyfarfod ag uwch swyddogion byrddau iechyd a'u hawdurdodau lleol i drafod y rhesymau dros oedi wrth drosglwyddo gofal a'r camau y mae’r cyrff hynny’n eu cymryd i sicrhau gostyngiad cyson i’w nifer a’u hyd.
 
13:43
Kirsty WilliamsBywgraffiad
Brif Weinidog, rydych chi wir yn ymestyn ffiniau hygrededd pan eich bod yn dweud bod y rhifau hyn yn gwella. Ionawr: cynnydd o 22 y cant ers mis Ionawr y llynedd. Chwefror: cynnydd o 20 y cant ers mis Chwefror y llynedd. Gorffennaf eleni: cynnydd o 10 y cant ers mis Gorffennaf y llynedd. Gorffennaf eleni: roedd 503 o gleifion mewn gwelyau pan nad oedd angen iddyn nhw fod yno. Mae hynny bron i holl welyau Ysbyty Maelor Wrecsam. Nid yw'n gredadwy eich bod yn sefyll yn y fan yna a dweud bod y rhifau’n gwella. Mae'r dystiolaeth yn wahanol. Ac rydych chi wedi ei ailadrodd eto heddiw. Rydych chi wedi ei ailadrodd eto heddiw. Eich amddiffyniad, a ddefnyddiwyd gennych chi a’ch Gweinidog iechyd ers amser maith i egluro perfformiad gwael yn erbyn targedau eraill yn y GIG, fu dweud ei fod oherwydd eich bod yn gwario arian ar wasanaethau cymdeithasol. Nawr, mae'r achosion hyn o oedi wrth drosglwyddo gofal yn awgrymu nad yw hyn yn gweithio. Nid yw'n gwneud gwahaniaeth. Mae'r Swyddfa Dywydd eisoes wedi rhoi rhybudd y gallai’r gaeaf hwn fod yn un arbennig o galed ac anodd. Pa gamau uniongyrchol—dim mwy o drafodaethau gyda'r Dirprwy Weinidog, ond pa gamau uniongyrchol wnewch chi eu cymryd i sicrhau y gwneir y defnydd gorau posibl o nifer y gwelyau yn y GIG yng Nghymru fel nad yw pobl yn cael eu gadael mewn gwely neu’n ei chael yn anodd cael eu derbyn o’r gymuned neu o adran damweiniau ac achosion brys orlawn?
 
13:44
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Yn gyntaf oll, mae cynlluniau ar waith ar gyfer y gaeaf bob amser. Bydd hi’n gwybod, y llynedd, bod y cynlluniau hynny ar gyfer y gaeaf ar waith ac, er gwaethaf yr heriau a wynebwyd gan y GIG yng Nghymru ym mis Rhagfyr a mis Ionawr, ni welsom yr un golygfeydd a welsom yn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys Lloegr, lle'r oedd pebyll yn cael eu codi mewn meysydd parcio i weld pobl. Ond roedd hi’n anodd; nid oes amheuaeth am hynny. Rydym ni’n gwybod, yn y gaeaf, ein bod yn gweld derbyniadau i adrannau damweiniau ac achosion brys yn cynyddu’n helaeth, ond mae ein BILlau yn barod am hynny.
 
Mae hi wedi defnyddio ffigurau mewn ffordd benodol. Rydym ni’n gwybod bod oedi wrth drosglwyddo gofal wedi gostwng—nid gostyngiad cyson bob mis, ond mae’r duedd am i lawr—ac mae hynny oherwydd ein bod yn gwybod ein bod ni wedi diogelu gwariant ar wasanaethau cymdeithasol, yn enwedig wrth i ni weld yr hyn sy'n digwydd yn Lloegr, lle mae’r union wrthwyneb yn digwydd. Y rheswm rydym ni’n gwneud hynny yw oherwydd na allwch chi wahanu gwariant ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Yr hyn sydd wedi digwydd yn Lloegr yw bod gwariant wedi cael ei gymryd allan o’r gwasanaethau cymdeithasol a nawr, wrth gwrs, rydym ni’n gweld y canlyniadau.
 
13:45
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn ôl at y cwestiynau ar y papur nawr, a chwestiwn 3—Joyce Watson.
 
Polisi Caffael Cyhoeddus
 
13:45
Joyce WatsonBywgraffiad
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi caffael cyhoeddus Llywodraeth Cymru? OAQ(4)2436(FM)
 
13:46
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Cyhoeddwyd datganiad polisi caffael Cymru diwygiedig gennym ym mis Mehefin, yn egluro ein disgwyliadau ar gyfer cyrff cyhoeddus a sut y bydd perfformiad yn cael ei fesur a'i fonitro. Bydd y pwerau newydd a ddaeth i rym ym mis Awst yn ein galluogi i reoleiddio ar faterion caffael, gan gryfhau’r datganiad polisi hwnnw ymhellach.
 
13:46
Joyce WatsonBywgraffiad
Diolchaf i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Cyhoeddodd y grŵp adeiladu trawsbleidiol adroddiad, dan arweiniad y diwydiant, ar y broses gaffael, ddiwedd y tymor diwethaf. Rydych chi newydd gyhoeddi ein bod wedi derbyn pwerau newydd i reoleiddio yn y maes penodol hwn. Gyda chontractau sector cyhoeddus gwerth £4.3 biliwn, mae hwnnw’n gyfle enfawr i roi hwb i fusnesau cartref. Sut fydd y pwerau newydd o fudd i'r busnesau ar lawr gwlad, yn enwedig yn fy ardal i, Brif Weinidog, ac yn helpu busnesau bach?
 
13:46
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mae’r gallu gan Weinidogion Cymru erbyn hyn i reoleiddio ar faterion caffael, gan gynnwys cryfhau datganiad polisi caffael Cymru, ac mae swyddogion Gwerth Cymru yn datblygu cynllun ar gyfer defnyddio’r pwerau newydd hynny. Cafwyd datganiad newydd, fel y soniais, ar 9 Mehefin. Rydym yn galluogi ein cyflenwyr lleol i gynyddu eu cyfran o gaffael yng Nghymru, ac enillir 65 y cant o gyfanswm y dyfarniadau contract a gyhoeddir ar GwerthwchiGymru gan gyflenwyr wedi'u lleoli yng Nghymru.
 
13:47
Paul DaviesBywgraffiad
Brif Weinidog, efallai eich bod chi wedi gweld y rhaglen ar y BBC yn ddiweddar, sef ‘The Farmer and the Food Chain’. Yn y rhaglen honno, roedd nifer yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yna newid sylweddol o ran contractau caffael ar gyfer ysgolion, ysbytai a chyrff cyhoeddus yng Nghymru i sicrhau bod cynhyrchwyr lleol yn cael eu trin yn fwy teg. Felly, yn sgil hyn, a allwch chi ddweud wrthym ni pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael gydag awdurdodau lleol ynghylch polisïau caffael bwyd, er mwyn sicrhau bod cynhyrchwyr bwyd lleol yn cael y cyfle i werthu eu cynnyrch i awdurdodau lleol, ac, wrth gwrs, i gyrff cyhoeddus eraill?
 
13:48
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Mewn ffordd, y sector bwyd a wnaeth arwain ar hwn. Rwy’n cofio, mwy na 10 mlynedd yn ôl, sicrhau bod cig eidion o Gymru’n cael ei ddefnyddio yn y gwasanaeth iechyd. Y broblem oedd nid bod yna ryw broblem gyda’r byrddau iechyd eu hunain ynglŷn â phrynu bwyd o Gymru, ond bryd hynny, nid oedd digon o gwmnïau a oedd yn gallu sicrhau bod bwyd ar gael dydd ar ôl dydd, wythnos ar ôl wythnos. Cafodd hynny ei ddelio gydag ef ac wedyn, wrth gwrs, aeth cig eidion o Gymru i mewn i’r gwasanaeth iechyd.
 
Rwy’n gwybod, er enghraifft, bod sawl awdurdod lleol—mae Sir Gâr wedi bod yn flaengar yn ers blynyddoedd ynglŷn â hyn—sydd â swyddogion sy’n delio gyda materion caffael er mwyn sicrhau bod cynhyrchwyr lleol yn cael y cyfle i fidio am gytundebau. Rŷm yn gweld hynny’n digwydd ar draws Cymru. Fel y dywedais i, mae yna fwyafrif yn awr, ynglŷn â rhai contractau, sy’n cael eu hennill gan gwmnïau lleol.
 
13:49
Rhun ap IorwerthBywgraffiad
Rwy’n croesawu’n sicr y ffaith bod rheoliadau newydd ynglŷn â chaffael cyhoeddus yn mynd i gael eu cyflwyno’r flwyddyn nesaf, ond a yw’r Prif Weinidog yn cydnabod na allwn ni fforddio aros eiliad yn rhagor cyn gweld gweithredu’n digwydd yn y maes hwn? Mae yna ormod o gwmnïau rwy’n siarad â hwy—yn cynnwys un cwmni rwy’n ymweld ag ef bore yfory, fel mae’n digwydd—yn teimlo eu bod nhw’n cael eu heithrio rhag gallu cystadlu am gytundebau cyhoeddus pwysig. Rwy’n falch o glywed Joyce Watson ar feinciau cefn Llafur yn dweud ei bod hi’n cytuno bod y Llywodraeth Lafur hon wedi methu ag ennill tir sylweddol o ran caffael cyhoeddus. Ni allwn fforddio oedi rhagor.
 
13:49
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, nid dyna beth y dywedodd hi, i fod yn hollol deg iddi hi; nid dyna’r hyn a ddywedodd hi o gwbl. Rŷm ni wedi bod yn llwyddiannus dros ben ynglŷn â sicrhau bod mwy o gontractau’n cael eu hennill gan fusnesau o Gymru. Mae 55 y cant, er enghraifft, o wariant blynyddol ynglŷn â chaffael yn cael ei ennill, unwaith eto, gan gwmnïau o Gymru. Mae yna ‘jump’ sylweddol wedi bod yn y nifer o gwmnïau sydd yn gallu cael busnes drwy ennill contractau drwy’r system caffael yma yng Nghymru. Wrth gwrs, mae gennym ni nawr fwy o bwerau fel Gweinidogion er mwyn sicrhau bod y gwellhad yn parhau.
 
13:50
Kirsty WilliamsBywgraffiad
Lywydd, rwyf yn datgan buddiant: bod fy ngŵr yn bartner mewn busnes ffermio. Yr wythnos diwethaf, Brif Weinidog, ymunais â phorwyr ar Fynydd Epynt gan weini rholiau cig oen i'r milwyr a oedd yn hyfforddi yn y cyfleuster arbennig hwnnw, yn rhan o ymgyrch Back British Farming Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr. Yn ogystal â gwneud yr hyn a allwch i gynyddu caffael cyhoeddus o gynnyrch o Gymru, gan gynnwys cig oen Cymru, o ystyried bod pris y farchnad mor wael ar hyn o bryd, a wnewch chi ymrwymo i ysgrifennu at y Weinyddiaeth Amddiffyn i sicrhau bod holl adrannau'r Llywodraeth, pa un a ydynt yn Llywodraeth Cymru ai peidio neu, yn wir, yn Llywodraeth San Steffan, yn chwarae eu rhan i gefnogi'r defnydd o fwyd o Gymru a bwyd o Brydain mewn contractau sector cyhoeddus?
 
13:51
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Gwnaf, mi wnaf hynny. Mae'n rhywbeth a wnaed o'r blaen, rai blynyddoedd yn ôl. Nid yw’r Weinyddiaeth Amddiffyn yr adran rwyddaf i ymdrin â hi o ran cael ateb syml i unrhyw beth, ond, yn sicr, byddaf yn ysgrifennu yn y modd y mae hi wedi ei awgrymu. Rwy'n sicr yn fwy na hapus i ymuno â hi ac, yn wir, yr undebau ffermio i annog mwy o bobl i fwyta cynnyrch o Gymru.
 
Argyfwng y Ffoaduriaid o Syria
 
13:51
Ann JonesBywgraffiad
4. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymateb Cymru i argyfwng y ffoaduriaid o Syria? OAQ(4)2434(FM)
 
Jeff CuthbertBywgraffiad
6. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddelio â’r argyfwng ffoaduriaid a dyngarol yn Ewrop? OAQ(4)2422(FM)
 
13:51
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Gwnaf. Lywydd, rwy’n deall eich bod wedi rhoi caniatâd i gwestiynau 4 a 6 gael eu grwpio. Byddaf yn arwain uwchgynhadledd ddydd Iau i ddod â’r asiantaethau a’r darparwyr gwasanaeth allweddol ynghyd i ddatblygu dull cydgysylltiedig ledled Cymru.
 
13:52
Ann JonesBywgraffiad
Diolch yn fawr iawn am hynna, Brif Weinidog. Hoffwn ddiolch i chi am eich arweinyddiaeth gref iawn ac am fod yr arweinydd cyntaf o un o wledydd y DU i leisio eich barn a dweud y byddwn yn chwarae ein rhan i helpu'r bobl hynny sy'n ffoi rhag rhyfel Syria? A wnewch chi hefyd ymuno â mi i rannu ag Esgob Llanelwy, sydd yn lleisio’i farn yn eglur iawn ar y ffaith y dylem i gyd fod yn chwarae ein rhan ac y dylem bellach fod yn dod o hyd i ffyrdd ymarferol o symud ymlaen a chadw’r croeso hwnnw i’r bobl hynny—? Mae gan Gymru draddodiad balch a da iawn o fod yn wlad amlddiwylliannol, ac, o dan eich arweinyddiaeth chi, rwy'n siŵr y byddwn yn gallu chwarae ein rhan, os nad oes unrhyw un arall eisiau ymuno â ni.
 
13:52
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, diolchaf i'r Aelod am ei sylwadau. Roeddwn yn meddwl ei bod yn bwysig gwneud datganiad fel Prif Weinidog ar hyn, er gwaethaf y ffaith nad yw'n fater sydd wedi'i ddatganoli, ond, weithiau—ac mae pleidiau eraill wedi dweud yr un peth. Felly, nid yw hwn yn fater o blaid wleidyddol o gwbl, yn fy marn i. Ond mae'n bwysig dweud y pethau hyn. Diben dydd Iau yw gwneud yn siŵr y gallwn siarad ag awdurdodau lleol a chydag asiantaethau eraill—y cyrff hynny a fydd yn gyfrifol am adsefydlu pobl—i drafod ac i ddeall gyda nhw beth yw’r heriau, beth sydd angen ei wneud a pha gymorth allwn ni ei roi iddyn nhw, er mwyn gwneud yn siŵr, pan fyddwn ni’n ceisio adsefydlu pobl, y gallwn ni i gyd weithio gyda'n gilydd er mwyn gwneud yn siŵr bod hynny’n cael ei wneud mor effeithiol â phosibl.
 
13:53
Jeff CuthbertBywgraffiad
A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i longyfarch ICE Caerffili, y 'Caerphilly Observer' a YMCA Bargoed yn fy etholaeth i, a phobl ddi-ri eraill ledled Cymru, am eu help i gasglu dillad a buddion ymarferol eraill i’r bobl anffodus hynny sy’n gaeth yn yr argyfwng dyngarol ofnadwy hwn? A wnaiff ef hefyd gytuno â mi bod pobl Cymru ymhell ar y blaen i Lywodraeth y DU o ran tosturi a’u synnwyr o ddyletswydd?
 
13:54
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Gwnaf, mi wnaf, ac rwy’n sicr yn ymuno â'r Aelod i gynnig fy llongyfarchiadau. Rwy’n gresynu’r ffaith y bu ymateb y Prif Weinidog yn araf. Ni allwch gladdu eich pen yn y tywod pan fo pobl yn peryglu eu bywydau ar gychod nad ydynt yn ddiogel ar gyfer y môr i groesi i fan y maen nhw’n ei ystyried yn lle diogel. Mae pobl yn mynd i wneud hynny’n naturiol. Gwelodd pob un ohonom y lluniau ofnadwy o blant ifanc a oedd wedi boddi o ganlyniad i’r daith honno. Nid yw ei anwybyddu'n mynd i wneud y mater ddiflannu, ac rwy’n credu ei bod yn bwysig—ceir pobl eraill yn y Siambr mewn pleidiau eraill sydd wedi dweud yr un peth—ein bod ni yng Nghymru yn gallu cynnig croeso i bobl, wrth i ni weld un o'r argyfyngau dyngarol mwyaf i daro cyfandir Ewrop ers diwedd yr ail ryfel byd.
 
13:54
Leanne WoodBywgraffiad
Brif Weinidog, yn ôl ym mis Ebrill diwethaf, gofynnais i chi a oeddech chi’n barod i gefnogi dull trawsbleidiol yma yng Nghymru i sicrhau ein bod yn chwarae ein rhan i leddfu’r hyn a alwyd ar y pryd yn argyfwng ffoaduriaid Môr y Canoldir. Yn anffodus, mae’r argyfwng hwnnw wedi gwaethygu, ac mae mwy o ffoaduriaid yn chwilio am ddiogelwch yn Ewrop erbyn hyn. A ydych chi’n cefnogi system gwota ar gyfer y DU ac, yn sgil hynny, system gwota ar gyfer gwledydd y DU, ac a fydd y mater hwnnw ar agenda eich uwchgynhadledd ddydd Iau?
 
13:55
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Rwyf yn cefnogi system gwota. Mewn egwyddor, rwy’n cefnogi'r syniad o system gwota ar gyfer pob gwlad hefyd. Nid wyf yn credu y bydd dydd Iau yn ymwneud cymaint â cheisio cytuno ar nifer y bobl y dylem ni eu cymryd. Rwy'n credu bod honno’n lefel artiffisial, yn enwedig o ystyried yr hyn sydd wedi digwydd yn ystod yr wythnos neu ddwy ddiwethaf. Ond rwyf yn meddwl ei bod yn bwysig ein bod yn barod ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru i allu adsefydlu pobl pan ddaw'r amser hwnnw. Nid wyf yn sicr o safbwynt Llywodraeth y DU. Mae'n ymddangos y bydd yn gwario arian cymorth ar helpu pobl yn y gwersylloedd mewn lleoedd fel Libanus, yn hytrach na’r bobl hynny a fyddai eisiau adsefydlu yn y DU. Rwy'n aneglur am hynny. Rwy'n gweld yr arweinyddiaeth y mae’r Almaen wedi ei rhoi. Rwyf hefyd yn gweld yr anawsterau y mae’r Almaen wedi eu hwynebu o ran y llif o bobl i mewn i’r Almaen ei hun. Fodd bynnag, un peth yr ydym ni yn ei wybod, fel Ewropeaid, yw bod pobl yn ffoi rhyfel er mwyn dod o hyd i rywle sy'n heddychlon; ac rydym ni’n gweld hynny nawr mewn niferoedd mawr. Ni allwn anwybyddu hynny. Ni allwn esgus, rywsut, bod y DU ar wahân i weddill y byd yn y ffordd honno. Mae'n bwysig—ac rwy’n diolch iddi am ei sylwadau hefyd, o ran yr hyn a ddywedodd—ein bod ni wir yn dweud, 'Edrychwch; mae gennym ni argyfwng dyngarol mawr. Rydym ni’n fodau dynol. Mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd o helpu ac adsefydlu pobl sydd mewn angen dybryd'.
 
13:56
Mohammad AsgharBywgraffiad
Brif Weinidog, mae Casnewydd yn un o ardaloedd gwasgaru dynodedig y DU ar gyfer ceiswyr lloches yng Nghymru, ac mae nifer y ceiswyr lloches yn y ddinas wedi dyblu yn ystod y tair blynedd diwethaf. A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau y bydd unrhyw gyllid cynyddol a ddarperir gan Lywodraeth y DU ar gyfer cefnogi ceiswyr lloches yng Nghymru yn mynd i’r ardaloedd gwasgaru dynodedig hyn yn unig, ar ôl iddynt gymryd cyfrifoldeb am y costau sy'n gysylltiedig â'r broses loches yma yng Nghymru?
 
13:57
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, rydym ni’n deall bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ariannu adsefydliad y ffoaduriaid. Rydym ni’n croesawu hynny. Wrth gwrs, bydd yr arian yn cael ei wario at y diben hwnnw. Rwyf wedi osgoi defnyddio'r ymadrodd 'ceisiwr lloches' yn fwriadol gan ei fod wedi caffael ystyr o ragfarn ym meddwl y cyhoedd; ac 'ymfudwyr', gan fod 'ymfudwyr', ym meddyliau cymaint o bobl, yn golygu pobl sy'n symud er mwyn dod o hyd i swyddi. Mae'r bobl hyn yn ffoaduriaid gwirioneddol. Nid ydynt ddim gwahanol i'r bobl a oedd yn croesi Ewrop ym 1945 yn sgil yr ail ryfel byd. Maen nhw’n symud i ffwrdd o’u gwledydd genedigol, heb unrhyw ddewis eu hunain, oherwydd y dadleoli sy'n cael ei achosi gan ryfel ac ofn. Maen nhw’n ffoaduriaid yn union yr un ffordd â’r bobl hynny y bu’n rhaid iddynt ymfudo yn eu miliynau ar draws Ewrop ym 1945. Dyna pam mae’n bwysig ein bod yn sicrhau bod y cyllid ar gael—ac mae'n ymddangos, gan Lywodraeth y DU, ei fod yn cael ei roi ar gael i helpu pobl i adsefydlu—a hefyd, wrth gwrs, i wneud yn siŵr y gall pobl adsefydlu, ac yna, wrth gwrs, chwarae rhan lawn yn y gymdeithas y maen nhw’n ymuno â hi. Rydym ni’n gwybod yn iawn mai profiad pobl sy'n ffoaduriaid yw eu bod yn dod i le, eu bod yn hapus gyda'r heddwch a’r diogelwch y mae’r lle hwnnw’n eu cynnig iddynt, a’u bod yn aelodau brwdfrydig o gymdeithas o ganlyniad.
 
13:58
John GriffithsBywgraffiad
Brif Weinidog, mae pobl yng Nghasnewydd—fel pobl mewn mannau eraill—yn cael eu heffeithio’n fawr gan y trychinebau sy’n wynebu’r ffoaduriaid, y maen nhw’n amlwg yn eu gweld ar y teledu ac mewn ffotograffau yn ein papurau newydd. Maen nhw’n deall ein bod yn ffodus iawn o fod yn byw mewn sefydlogrwydd, diogelwch a ffyniant cymharol. Mae etholwyr wedi cysylltu â mi i ofyn a fydd unrhyw ganllawiau’n cael eu darparu o ran y cymorth ymarferol y gallant ei gynnig fel unigolion ac fel cymunedau pan fydd pobl yn dod o Syria a mannau eraill. Byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech roi syniad i mi ynghylch pa un a fydd y wybodaeth honno’n cael ei rhoi iddynt.
 
13:59
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Mae'n rhywbeth yr ydym yn ei ystyried, ac un o'r materion, wrth gwrs, yn ddiau, y byddwn yn eu hystyried yn yr uwchgynhadledd ddydd Iau. Rwy'n credu ei bod yn werth pwysleisio—rwyf wedi dweud hyn o'r blaen, ond rwyf am ei ddweud eto yn y Siambr hon—fod pawb sy'n byw ar yr ynys hon yn ddisgynyddion mewnfudwr. Mae’r cwbl yn gwestiwn o bryd y daeth ein teuluoedd. Beth yw'r dyddiad terfyn? A yw ar ôl i'r Rhufeiniaid adael, 1066, 1485? A yw ar ôl diwedd y rhyfel cartref? A yw ar ôl diwedd y rhyfel byd cyntaf neu ddiwedd yr ail ryfel byd? Hynny yw, beth yw’r dyddiad terfyn? Yn y pen draw, mae pawb ar yr ynys hon yn ddisgynnydd rhywun a ddaeth yma o rywle arall. Dylem ni gofio hynny yn ystod ein myfyrdodau o ran tynged y bobl a welwn ar draws dwyrain Ewrop.
 
14:00
William PowellBywgraffiad
Brif Weinidog, wrth i Gymru gymryd camau i gynnig lloches i’n cyfran o ffoaduriaid Syria, a ydych hi’n cytuno â mi fod gan fyrddau iechyd ledled Cymru ran allweddol i'w chwarae yn y gwaith o gynllunio wrth gefn? Yn arbennig, pa gymorth ydych chi’n barod i’w roi ar gael i fyrddau iechyd Cymru, yn enwedig mewn rhannau o Gymru wledig, i sicrhau eu bod wedi’u paratoi’n dda i ymdrin ag anghenion iechyd penodol teuluoedd ac unigolion, pan fo llawer ohonynt yn ffoi rhag trawma annirnadwy yn y daith y maen nhw wedi ei gwneud?
 
14:00
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae hynny'n rhan o'r broses y byddwn yn mynd drwyddi ddydd Iau. Y peth cyntaf y mae'n rhaid i ni ei wneud yw gwneud asesiad—ar ôl gwrando ar ein partneriaid o gwmpas y bwrdd—o’r hyn sydd angen ei wneud, beth yw’r heriau a beth yw'r gost; mae’n rhaid ystyried hynny hefyd, yn anochel. Ar ôl i’r asesiad hwnnw gael ei wneud, wrth gwrs, gallwn symud ymlaen wedyn. Gallaf ddweud, Lywydd, wrth yr Aelodau y bydd datganiad yn cael ei gyhoeddi ar ôl yr uwchgynhadledd ddydd Iau, a byddaf wrth gwrs yn sicrhau bod Aelodau'n cael eu diweddaru o'r uwchgynhadledd a thu hwnt o ran yr hyn yr ydym ni’n ei wneud fel Llywodraeth, yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud gydag eraill sy’n awdurdodau cyhoeddus ac, yn wir, yr hyn sy'n cael ei wneud o ran gweithio gyda Llywodraeth y DU.
 
14:01
Simon ThomasBywgraffiad
Rwy’n croesawu beth mae’r Prif Weinidog wedi’i ddweud ar ran pob un yng Nghymru heddiw, rwy’n meddwl, ynglŷn â rhoi croeso i ffoaduriaid—a ffoaduriaid yw’r bobl hyn. Yn dilyn cwestiwn John Griffiths, rwyf wedi cael llawer o ymholiadau gan etholwyr sydd yn dymuno ac yn deisyfu bod yn help, ac sy’n cynnig help—cynnig llety a chynnig pob math o gymorth. Rŷm ni yn awr yn deall, wrth gwrs, fod canllawiau’r Swyddfa Gartref yn anghywir yn yr hyn y maen nhw’n ei argymell, a’u bod yn cyfeirio pobl at fudiadau nad ydynt mewn sefyllfa i gynorthwyo. Er nad yw’r mater hwn wedi’i ddatganoli, mae’n effeithio ar lety a thai a’r gwasanaeth iechyd ac addysg, sydd i gyd wedi’u datganoli ac yn nwylo’r Llywodraeth. Felly, a wnewch chi ychwanegu—yn sicr yn sgil yr uwchgynhadledd y byddwch yn ei chynnal ddydd Iau—yr hyn y mae Llywodraeth Cymru’n mynd i’w wneud i sicrhau bod y ddarpariaeth yn ei lle, a bod y ddarpariaeth honno yn ddarpariaeth Gymraeg—croeso Cymraeg sydd yn gydnaws â ni fel cenedl? Rydym am groesawu’r bobl hyn i’n cenedl ac i’n plith, fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol, fel yr ydych chi wedi’i ddweud, ond mae angen i hynny gael ei weithredu ar lefel leol ac ar y cyd gydag awdurdodau lleol hefyd. Rwy’n ofni nad yw’r Llywodraeth Brydeinig, ar hyn o bryd, wedi ystyried yn llwyr yr effaith ar gymunedau a’r ffordd y gallwn adeiladu ar y dyngarwch y mae ein pobl ni yn ei ddangos ar hyn o bryd.
 
14:02
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
I’m sure that we will discuss that on Thursday. As regards the guidelines themselves, with the Home Office, what sometimes happens is that they issue the information and the details to people and they refer people to bodies that do not exist in Wales. We’ve seen this many times before. Then, we have to ensure that those errors are resolved. I will consider this on Thursday, of course, because it’s exceptionally important that any guidelines available are relevant to Wales and our Welsh structures.
 
14:03
Janet Finch-SaundersBywgraffiad
Wel, rwy’n falch o ymuno â'r Prif Weinidog i groesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi neilltuo £1 biliwn o gyllideb cymorth rhyngwladol y DU i gynghorau ledled y DU. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi ysgrifennu atoch chi, Brif Weinidog, yn galw am lansio tasglu cenedlaethol. Pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ar yr £1 biliwn? Hefyd, sut ydych chi’n bwrw ymlaen â'r cais gan CLlLC o ran y tasglu?
 
14:03
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Dydd Iau fydd hi. Yr holl bwynt, mewn ymateb i CLlLC—neu’n rhannol fel ymateb i safbwynt CLlLC—yw bod yr uwchgynhadledd ddydd Iau wedi’i threfnu er mwyn cynnwys CLlLC. Rwy'n ddiolchgar iddi am y cadarnhad y bydd £1 biliwn yn cael ei wario gan Lywodraeth y DU i adsefydlu ffoaduriaid, gan nad ydym ni wedi cael y cadarnhad hwnnw, mae’n rhaid i mi ddweud. Yr hyn sy'n gwbl aneglur yw a yw'r arian sy'n cael ei ddyrannu ar gyfer pobl sydd eisoes mewn gwersylloedd mewn gwledydd eraill er mwyn iddyn nhw aros yno, neu a yw'r arian yn mynd i fod ar gael i adsefydlu pobl o fewn y DU. Nawr, os yw hi'n dweud mai hynny yw’r gwir, rwy’n croesawu hynny. Ond, yn sicr, nid yw hynny'n rhywbeth y mae Llywodraeth y DU wedi ei gadarnhau i ni o gwbl.
 
14:04
Eluned ParrottBywgraffiad
Brif Weinidog, yn dilyn ymlaen o bwynt Simon Thomas, rwyf innau hefyd wedi cael nifer o bobl yn dod ataf ac yn dweud yr hoffent gynnig llety i ffoaduriaid ond nad ydyn nhw wir yn gwybod ble i fynd. A wnewch chi ddydd Iau, efallai, ystyried sefydlu cronfa ddata ganolog Llywodraeth Cymru y gall pobl gofrestru arni i gynnig lle i ffoadur yma yng Nghymru?
 
14:04
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Rwy'n credu bod hwnnw'n syniad diddorol a diolchaf i’r Aelod amdano. Unwaith eto, mae hynny'n rhywbeth y dylem ni ei ystyried yn rhan o drafodaethau dydd Iau. Mae'n iawn i ddweud bod llawer o bobl wedi cynnig llety i ffoaduriaid—mae hi yn llygad ei lle—ac mae'n bwysig, wrth gwrs, gwneud yn siŵr eu bod yn gwybod sut i fynd ati i wneud hynny. Felly, byddaf yn cymryd hynny i ystyriaeth ar gyfer dydd Iau.
 
14:05
Jenny RathboneBywgraffiad
Hoffwn eglurhad o ba gymorth, os o gwbl, y mae Llywodraeth y DU yn barod i’w gynnig i'n galluogi ni i roi'r croeso cynhesaf posibl i ffoaduriaid, fel y gallwn sicrhau eu bod yn cael y gwasanaethau iechyd a'r ysgolion sydd eu hangen arnynt pan fyddant yn cyrraedd. Nid oes gennym ddim i'w ofni gan ffoaduriaid, gan fod rhai o'r bobl fwyaf dawnus yn y wlad hon wedi dod fel ffoaduriaid yn wreiddiol ar ôl, yn ystod neu cyn yr ail ryfel byd. Ond, hyd yn hyn, nid yw Llywodraeth y DU wedi cyfrannu at y ffoaduriaid y daethpwyd â nhw’n ganolog i’m hetholaeth i. Mae'r gwasanaethau hynny yn gorfod cael eu hariannu allan o gyllid arall Llywodraeth Cymru, ac roeddwn i’n meddwl tybed a oes unrhyw arwydd y bydd hynny'n newid.
 
14:06
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, heblaw am y datganiad y bydd Llywodraeth y DU yn darparu swm o arian i gynorthwyo ffoaduriaid—dim byd. Fel rwy’n dweud, nid ydym yn gwybod a yw'r arian hwnnw i gynorthwyo'r rhai sydd eisoes mewn gwersylloedd ffoaduriaid, yn Libanus yn arbennig, lle mae un o bob pedwar o boblogaeth Libanus mewn gwersyll ffoaduriaid erbyn hyn. Mae dros 600 o ffoaduriaid yng Ngwlad yr Iorddonen hefyd. Nid ydym yn gwybod a yw'r arian yn mynd i fod—. Hynny yw, gwelsom y Prif Weinidog yn ymweld â’r gwersylloedd hyn ddoe; ni wnaeth hi’n eglur: a yw'r arian yno i dalu i bobl aros yn y gwersylloedd hynny, neu a yw'r arian yno, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, er mwyn helpu i adsefydlu pobl yn y DU? Nid ydym yn gwybod hynny. Ar hyn o bryd, nid ydym wedi cael cadarnhad llawn o hynny. Os yw'n wir y bydd arian ar gael i adsefydlu pobl yn y DU, rydym ni’n croesawu hynny. Bydd yr arian, wrth gwrs, yn cael ei roi ar gael at y diben y’i bwriadwyd ar ei gyfer yn hynny o beth, ond nid yw’r eglurder gennym hyd yn hyn. Unwaith eto, mae oherwydd nad yw Llywodraeth y DU wedi bod yn gyflym yn yr ymateb y mae wedi ei gynnig i'r argyfwng sydd wedi bod yn digwydd dros yr wythnosau diwethaf.
 
14:07
Gwenda ThomasBywgraffiad
Diolch i chi am eich arweinyddiaeth ar y mater pwysig hwn, Brif Weinidog. A wnaiff yr uwchgynhadledd ddydd Iau gymeradwyo rôl y sector wirfoddol yn hyn, ac a fydd y sector yma yn bartner yn y gynhadledd? Rwy’n meddwl, wrth gwrs, am sectorau fel Achub y Plant, Plant yng Nghymru, Barnardo’s a’r Red Cross, er enghraifft.
 
14:07
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, mae eu cyfraniad nhw, wrth gwrs, yn hollbwysig. Rŷm ni’n gwybod bod y sector wirfoddol yn gallu rhoi llawer o wasanaethau i bobl ac yn gallu help pobl, felly byddwn i’n erfyn iddyn nhw fod yn rhan o’r cynllun er mwyn helpu pobl i ddod i Gymru.
 
14:08
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Nid oes gennyf unrhyw un arall, felly symudwn ymlaen at gwestiwn 5—Sandy Mewies.
 
Ymweliad â Japan
 
14:08
Sandy MewiesBywgraffiad
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei ymweliad diweddar â Japan? OAQ(4)2435(FM)
 
14:08
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Gwnaf. A gaf i gyfeirio’r Aelod at y datganiad a gyhoeddwyd, gobeithio, yn gynharach heddiw?
 
14:08
Sandy MewiesBywgraffiad
Cewch, a do. Diolch yn fawr. Mae'r swyddi a’r buddsoddiad newydd, sy'n cael eu creu o ganlyniad i'n cysylltiadau â Japan, i'w croesawu fel tystiolaeth bellach o fentrau Llywodraeth Lafur Cymru i hyrwyddo Cymru ledled y byd. Mae'n helpu busnesau i dyfu a’n marchnad dwristiaeth i ehangu. Mae’n amlwg bod gan gwmnïau Japaneaidd hyder ynom ni yma yng Nghymru, ond rydym ni’n cydnabod bod heriau o hyd i economi Cymru, fel y nodwyd gan adroddiad Sefydliad Bevan yn ddiweddar, oherwydd toriadau i wariant cyhoeddus digynsail a'r dirwasgiad dwfn. Felly, Brif Weinidog, pa asesiad ydych chi wedi ei wneud o'r adroddiad hwnnw, ac a fyddech chi’n cytuno â mi ein bod yn datblygu'r sgiliau, y cydnerthedd a’r natur gystadleuol a fydd yn ein galluogi i arloesi ac i barhau i dyfu ein heconomi?
 
14:09
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, rwy’n ymwybodol o adroddiad Sefydliad Bevan. Dau beth: yn gyntaf oll, mae economi Japan yn edrych mwy erbyn hyn, rwy’n amau, nag y mae wedi ei wneud ers y degawd diwethaf ar fuddsoddiad tramor mewn ffordd nad yw wir wedi digwydd yn ystod y degawd hwnnw. Ac mae'n rhywbeth, pan gyfarfûm â chwmnïau fel Hitachi a Sony a Toyota, a wnaed yn eglur i mi—Panasonic—eu bod nhw’n edrych mwy nawr nag y maen nhw wedi bod yn ei wneud yn y blynyddoedd diwethaf ar fuddsoddi, ac mae Cymru mewn sefyllfa dda i elwa ar y buddsoddiad hwnnw. Gwelsom, wrth gwrs, y cyhoeddiad gyda Sony.
 
Sgiliau yw popeth—popeth. Bu amser yng Nghymru—diwedd y 1980au, dechrau'r 1990au—pan roedd polisi buddsoddi, neu strategaeth fuddsoddi yn seiliedig ar ddod â chwmnïau i Gymru ar y sail bod ein cyfraddau cyflog yn is nag yn unman arall yng ngorllewin Ewrop. Nawr, diflannodd hynny ddiwedd y 1980au pan ddaeth y llen haearn i lawr, ac roedd cwmnïau a oedd yn mynd ar drywydd costau llafur isel yn diflannu o amgylch y byd. Ac nid oes angen i ni gystadlu yn y farchnad honno beth bynnag. Yr hyn yr ydym ni ei eisiau yw gwneud yn siŵr bod ein pobl yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen ar fuddsoddwyr. Ceir dau gwestiwn y mae buddsoddwyd bob amser yn eu gofyn i mi: (a) aelodaeth o'r UE, a (b) 'A oes gennych chi’r llif sgiliau sydd ei angen arnom ni i fod yn gynaliadwy ac yn llwyddiannus yng Nghymru?' Wrth gwrs, yr ateb i hynny’n gynyddol yw 'oes'. Gallwn eu cyfeirio’n aml at gwmnïau fel nhw eu hunain sydd eisoes yn llwyddo yng Nghymru, a dyna pam, wrth gwrs, yr ydym ni wedi gwneud buddsoddiad mor fawr mewn prentisiaethau ac mewn cynlluniau fel Twf Swyddi Cymru.
 
14:10
William GrahamBywgraffiad
Gan nodi’r hyn a ddywedwch, Brif Weinidog, byddwch yn gwybod ei bod yn bron i 45 mlynedd ers i Sony wneud ei fuddsoddiad mawr cyntaf yn Ewrop, yng Nghymru. Gwn fod Ysgrifennydd Tramor y DU wedi ymweld â Japan dim ond ychydig wythnosau ar eich ôl chi. A oedd eich adrannau chi ac yntau’n gallu cydgysylltu i sicrhau mai Cymru yw'r cyrchfan o ddewis ar gyfer buddsoddiad o Japan?
 
14:10
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Wel, nid yr Ysgrifennydd Tramor, mewn gwirionedd, yw’r person rydym ni’n cydgysylltu ag ef; Masnach a Buddsoddi'r DU fydd hi, yn benodol, a'r llysgenadaethau. Rhaid i mi ddweud bod y cymorth rydym ni’n ei gael gan lysgenadaethau Prydain dramor yn ardderchog. Mae'r berthynas waith gydag UKTI yn dda. Rydym ni’n bwriadu lleoli ein swyddfa Japaneaidd yn y llysgenhadaeth, ond mae problem ynghylch y rhent y mae’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad eisiau ei godi ar hyn o bryd, ond, wrth gwrs, mewn mannau eraill o gwmpas y byd, rydym ni wedi gwneud yn union hynny. Mae’n gwneud synnwyr perffaith i wneud hynny. Felly, rydym ni’n gweithio gydag asiantaethau Llywodraeth y DU, fel UKTI, ac rydym ni’n derbyn cefnogaeth sylweddol gan lysgenadaethau tramor.
 
14:11
Simon ThomasBywgraffiad
Mae’ch datganiad ysgrifenedig y bore yma yn cyfeirio at nifer o fuddsoddiadau sylweddol a phwysig yng Nghymru sydd wedi deillio o Japan, ac rŷch chi newydd gydnabod un o’r rhesymau dros y buddsoddiadau hynny—sgiliau, ie—ond y rheswm arall yw ein bod ar garreg drws yr Undeb Ewropeaidd, ac mae aelodaeth yr undeb honno yn hanfodol bwysig i Gymru. A wnewch chi gadarnhau eto, felly, a fyddech chi’n ymgyrchu gyda fi a phobl eraill i gadw Cymru yn rhan o’r undeb honno, beth bynnag y dywed eich arweinydd newydd chi?
 
14:12
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Gwnaf. Nid yw’n mynd i newid fy safbwynt i. Mae’n haelodaeth ni o’r undeb Ewropeaidd yn hollbwysig i iechyd economaidd Cymru yn y pen draw.
 
14:12
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Grwpiwyd cwestiwn 6 gyda chwestiwn 4, felly symudwn at gwestiwn 7 nawr, sy’n dod gan Lynne Neagle.
 
Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain
 
14:12
Lynne NeagleBywgraffiad
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am raglen Ysgolion y 21ain Ganrif? OAQ(4)2427(FM)
 
14:12
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Gwnaf. Mae ein buddsoddiad o £1.4 biliwn yn y rhaglen hon o fudd i fwy na 150 o ysgolion mewn 22 o ardaloedd awdurdodau lleol ledled Cymru. Yn yr ail flwyddyn o raglen bum mlynedd, rhoddwyd cymeradwyaeth derfynol eisoes i waith fynd yn ei flaen ar 77 achos busnes, sy’n cynrychioli 51 y cant o darged cyffredinol y rhaglen.
 
14:12
Lynne NeagleBywgraffiad
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Rwy’n falch iawn fod y rhaglen yn parhau i fod ar y trywydd iawn. Ers lansio'r rhaglen yn 2010, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi gweithio'n ddiwyd i sicrhau cyllid, i wneud newidiadau ac i fwrw ymlaen â'r rhaglen. Er nad yw'r newidiadau hyn wedi dod heb eu heriau eu hunain, mae'r cyngor wedi cyflwyno elfennau o'r cynllun yn llwyddiannus, ac mae plant yn Nhorfaen eisoes yn elwa. Yn wir, disgwylir i waith adeiladu ar gyfer tair ysgol gynradd newydd ddechrau yn ddiweddarach y mis hwn, a’r gobaith yw y byddant yn barod i agor ar gyfer Medi 2016. Brif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i ganmol y gwaith y mae cyngor Torfaen wedi ei wneud ar y rhaglen hon, a pha sicrwydd allwch chi ei gynnig y bydd yn parhau i gael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â’r fenter ardderchog hon?
 
14:13
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Bydd, mi fydd y gefnogaeth honno’n parhau, wrth gwrs. Rydym ni’n gwybod y bydd buddsoddiad o £81.6 miliwn yn rhaglen strategol gymeradwy Torfaen, ac y bydd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu dros £40 miliwn. Bydd yr Aelod yn ymwybodol, wrth gwrs, o'r prosiectau sydd wedi cael eu cymeradwyo hyd yn hyn—y rhaglen adeiladu ysgolion fwyaf ers degawdau lawer; nid oes amheuaeth am hynny. Rwy'n falch bod plant Torfaen yn elwa ar y gwaith a wnaed gan gyngor Torfaen ac, wrth gwrs, y cyllid rydym ni’n ei roi ar gael.
 
14:13
Nick RamsayBywgraffiad
Brif Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi bod ysgol gynradd Eglwys yng Nghymru newydd sbon Rhaglan yn fy etholaeth i, a ariannwyd yn rhannol gan raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, yn enghraifft wych o Lywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdod lleol sy’n cael ei redeg yn dda. Onid yw'n bryd nawr i chi ailystyried y cynlluniau ad-drefnu llywodraeth leol gwael diweddaraf a chaniatáu i gynghorau fel Cyngor Sir Fynwy i barhau â’r gwaith o adeiladu ysgolion newydd o'r radd flaenaf ar gyfer ei bobl ifanc heb ymyrraeth yn y strwythur llywodraeth leol a fyddai'n niweidio'r broses honno?
 
14:14
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Pam mae cyngor Sir Fynwy yn destun mesurau arbennig ar gyfer addysg? Nid dyna’r sefyllfa gryfaf i ofyn cwestiwn—am yr unig awdurdod lleol yng Nghymru sy'n cael ei redeg gan y Ceidwadwyr, ac mae'n destun mesurau arbennig ar gyfer addysg. Rwy’n croesawu’r ffaith fod yr ysgol wedi cael ei hadeiladu, ond byddwn yn atgoffa'r Aelod—roedd yn ddigon hael ar ddechrau ei gwestiwn, i ddiolch i Lywodraeth Cymru am ei buddsoddiad. Fe’i trodd yn fedrus yn gwestiwn am ad-drefnu llywodraeth leol. Ond, byddwn yn ei atgoffa, wrth gwrs, nad oes gan Loegr raglen adeiladu ysgolion. Felly, ni fyddai Rhaglan, pe byddai yn Lloegr, wedi cael ysgol newydd o gwbl.
 
14:15
Aled RobertsBywgraffiad
Brif Weinidog, er bod pob un ohonom ni efo esiamplau o ysgolion newydd yn cael eu hadeiladu, rwy’n meddwl bod yn rhaid cywiro Lynne Neagle: mae’r rhaglen, wrth gwrs, lawer iawn ar ei hôl hi o ran y bwriad gwreiddiol. Wrth feddwl am yr adolygiad yn ystod yr hydref, lle mae’n debyg bod yr arian sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn mynd I brinhau unwaith eto, a ydyw’n fwriad gennych I ehangu’r cynllun, wrth ystyried bod y Gweinidog cyllid wedi dweud y llynedd, ym mis Tachwedd, fod arian preifat yn cael ei roi I mewn i’r cynllun yn rhan 2, sydd I ddechrau yn 2019?
 
14:15
Carwyn JonesBywgraffiadY Prif Weinidog
Yn gyntaf, mae’r Aelod yn dweud bod y rhaglen y tu ôl iddi—nid ydyw o gwbl. Mae hon yn rhaglen pum mlynedd. Rydym yn yr ail flwyddyn ac mae mwy na hanner y rhaglen wedi cael ei chwblhau yn barod. Felly, nid wyf yn gweld ein bod y tu ôl iddi. Nid ydym yn erfyn cwblhau’r rhaglen mewn dwy flynedd—rhaglen sydd yn bum mlynedd. Wrth gwrs, mae’n wir i ddweud ein bod yn aros i weld beth fydd y setliad cyllidol o Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Nid ydym yn optimistaidd iawn ynglŷn â beth fydd hynny’n meddwl, ond, rydym ni fel Llywodraeth yn wado ymlaen gyda’r cynllun fel y mae er mwyn sicrhau bod mwy a mwy o blant yng Nghymru yn cael yr ysgolion maen nhw’n eu haeddu.
 
14:16
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Diolch yn fawr, Brif Weinidog.
 
14:16
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn at eitem 2 nawr, sef y datganiad a chyhoeddiad busnes. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, Jane Hutt.
 
14:16
Jane HuttBywgraffiadY Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
Lywydd, mae nifer o newidiadau i'w hadrodd i'r datganiad busnes ar gyfer yr wythnos hon. Bydd y Dirprwy Weinidog Iechyd yn gwneud datganiad ar y model ymateb clinigol newydd ar gyfer gwasanaethau ambiwlans brys; bydd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus yn gwneud datganiad ar weithlu’r gwasanaethau cyhoeddus; a bydd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi yn gwneud datganiad ar dai a phoblogaeth sy'n heneiddio.
 
14:17
Andrew R.T. DaviesBywgraffiad
Arweinydd y tŷ, a allem ni gael dau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Gofynnais ychydig cyn toriad yr haf pe gellid cael y newyddion diweddaraf am ddatblygiadau ar Five Mile Lane ym Mro Morgannwg. Hyd yn hyn, nid wyf yn credu bod y diweddariad hwnnw wedi ei roi. Mae hwn yn brosiect y mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu arian sylweddol ar ei gyfer—£25 miliwn. Mae wedi bod yn cael ei gynllunio ers amser maith, ac eto mae’n ymddangos mai ychydig neu nad oes dim cynnydd yn cael ei wneud i ddechrau'r prosiect. A allwn ni gael y wybodaeth ddiweddaraf fel y gallwn naill ai wybod y bydd y prosiect hwn yn cael ei gyflawni cyn etholiad y Cynulliad, neu a yw wedi’i ohirio’n bendant erbyn hyn, oherwydd yr anghytuno â Chyngor Bro Morgannwg a Llywodraeth Cymru?
 
Yn ail, a gawn ni datganiad gan y Gweinidog iechyd ar ba gefnogaeth y mae'n ei chynnig i Fwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf o ran darpariaeth y tu allan i oriau meddygon teulu yn ardal Cwm Taf? Cyhoeddodd y bwrdd iechyd ddoe ei fod yn tynnu gwasanaethau yn ôl o ddau ysbyty cymuned ac yn canolbwyntio ar Ysbyty Brenhinol Morgannwg, gan fod prinder meddygon a fyddai’n gallu llenwi'r rotas. Mae hon yn broblem barhaus mewn llawer o fyrddau iechyd yng Nghymru. Mae gen i, yn amlwg, fwy o ddiddordeb yn hyn yn fy rhanbarth etholiadol i. Hyd yma, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn dawel iawn ar y mater penodol hwn. Byddwn yn croesawu datganiad gan y Gweinidog o ran sut y mae'n gweithio gyda bwrdd iechyd Cwm Taf i oresgyn y prinder meddygon, i lenwi'r rotas, fel y gellir ailgyflwyno’r gwasanaethau meddyg teulu y tu allan i oriau hyn.
 
14:18
Jane HuttBywgraffiad
O ran eich cwestiwn cyntaf, gwn fod Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth wedi bod yn bwrw ymlaen â hyn mewn cyfarfodydd gyda Chyngor Bro Morgannwg ac mae wedi cytuno i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am gynnydd—bydd honno’n dod maes o law. Wrth gwrs, o ran eich ail bwynt, mater i fwrdd iechyd Cwm Taf yw hwn, ond rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig cydnabod y fframwaith cynaliadwyedd newydd i feddygon teulu a hefyd y ffaith ein bod, ym mis Mehefin, wedi buddsoddi £34 miliwn i ddatblygu gwasanaethau gofal sylfaenol ledled Cymru yn 2015-16, £6 miliwn ychwanegol yn uniongyrchol i glystyrau gofal sylfaenol yng Nghymru. Ac, wrth gwrs, mae hyn yn rhan o'r ymateb gan Lywodraeth Lafur Cymru er mwyn darparu’r gwasanaethau pwysig hyn.
 
14:19
Mick AntoniwBywgraffiad
Weinidog, cyhoeddodd y Prif Weinidog ddatganiad ysgrifenedig ar 9 Medi 2015 ar ddarn arbennig o niweidiol o ddeddfwriaeth gwrth-weithwyr—y Bil Undebau Llafur—a drafodwyd yn San Steffan ddoe. Yn y datganiad hwnnw, mae Prif Weinidog Cymru’n ei gwneud yn eglur ei fod o’r farn bod y potensial ganddo i achosi niwed sylweddol i wead cymdeithasol ac economaidd y DU. Mae hefyd yn codi'r pwynt, yn bwysig, ei fod mewn gwirionedd yn tanseilio, neu'n mynd yn groes i gyfrifoldebau datganoledig y Cynulliad hwn, lle mae gennym arferion a pherthnasoedd gwaith da iawn. Ar ddiwedd ei ddatganiad, mae'n dweud ei fod yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau, ond pe byddai Aelodau'n dymuno cael datganiad pellach neu iddo ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, y byddai'n hapus i wneud hynny. A gaf i ofyn bod amser yn cael ei roi ar gael i ni ar gyfer dadl lafar ar yr oblygiadau i Gymru a achosir gan y darn arbennig o wael hwn o ddeddfwriaeth?
 
14:20
Jane HuttBywgraffiad
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Fel y dywedwch, Mick Antoniw, mae'r Prif Weinidog eisoes wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ac, yn wir, gwnaed datganiad i'r wasg gan y Prif Weinidog hefyd, ac mae wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU am y mater pwysig hwn. Wrth gwrs, bydd cyfle i drafod, rwy'n siŵr. Mae'n ddiddorol iawn, os edrychwch chi ar yr erthygl olygyddol yn y 'Financial Times' heddiw, mae'n dweud bod,
 
Llywodraeth y DU yn croesi'r ffordd i ddechrau brwydr. Ceir perygl y bydd gor-reoleiddio undebau yn arwain at ragor o darfu ar weithleoedd.
 
Dylent hefyd gydnabod y pryderon nad yw’n cael eu rhannu gennym ni yma yn unig, a chan y Prif Weinidog a Llywodraeth Lafur Cymru, ond gan lawer o leisiau eraill hefyd, hyd yn oed ym myd busnes.
 
14:21
William PowellBywgraffiad
Arweinydd y tŷ, a allem ni gael datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol os gwelwch yn dda, ar oblygiadau’r penderfyniad diweddar i gyfuno gwasanaeth cludiant yr uned gofal dwys pediatrig—hynny yw, y gwasanaeth cludiant ar gyfer plant difrifol wael—sy’n gweithredu o ddwy ganolfan yng Nghaerdydd a Chasnewydd ar hyn o bryd, fel bod y gwasanaeth wedi’i leoli ar draws y ffin ym Mryste yn unig erbyn hyn? Fel y gwyddoch, yn ddiweddar, cymeradwyodd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru y cynigion i gyfuno’r ddau wasanaeth, a cheir pryderon difrifol a fynegwyd, yn enwedig yng ngorllewin fy rhanbarth i, o ran yr effaith negyddol y gallai hyn ei chael ar brognosis plant difrifol wael a’u teuluoedd. Rwy'n credu fod hwn yn fater o hynod o bwysig a’i fod yn haeddu datganiad gan y Llywodraeth.
 
14:22
Jane HuttBywgraffiad
Diolchaf i William Powell am y cwestiwn yna. Wrth gwrs, o ran gwasanaeth cludiant pediatrig Cymru, mae gwasanaeth newydd a gomisiynwyd ar y cyd yn cael ei sefydlu i wasanaethu unedau gofal dwys ac unedau dibyniaeth uchel yn ne Cymru a de-orllewin Lloegr, gan gynnwys ein hysbyty plant ar gyfer Cymru ac ysbyty plant Bryste. Rwy’n meddwl bod y newidiadau hynny’n cael eu gwneud er mwyn darparu gwasanaeth mwy cynaliadwy, gan sicrhau gwasanaeth o ansawdd da 24 awr y dydd. Nid oedd hynny ar waith cynt; tynnwyd arbenigedd meddygol o'r uned yn ystod cludiant. Bydd y trefniadau cludiant newydd yn caniatáu i'r unedau yng Nghaerdydd a Bryste fodloni safonau cenedlaethol ar gyfer cludiant a gofal dwys pediatrig ar draws yr ardaloedd y maen nhw’n eu gwasanaethu.
 
14:22
Darren MillarBywgraffiad
Weinidog, a gaf i alw am ddau ddatganiad? Mae un gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ar ymateb Llywodraeth Cymru i'r newidiadau arfaethedig i reolau masnachu ar y Sul yn y DU. Rwy'n bryderus iawn am y newidiadau arfaethedig a'r effaith y gallent ei chael ar weithwyr mewn busnesau a allai fod eisiau gweithredu saith diwrnod yr wythnos. Mae'n ymddangos ei bod yn dybiaeth gyffredinol, y mwyaf yw gweithgarwch economaidd y DU, yr hapusaf y bydd pobl y DU. Wel, nid wyf yn derbyn hynny, ac nid wyf yn derbyn y bydd o reidrwydd yn arwain at welliannau yn yr economi ychwaith. Yn sicr, nid yw wedi bod yn broblem i’r Almaen, sydd â rheolau masnachu ar y Sul llawer llymach, ac rwy’n meddwl y dylai fod gan bob gweithiwr hawl i o leiaf un diwrnod i ffwrdd yr wythnos.
 
A allem ni gael datganiad hefyd, os gwelwch yn dda, gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau arbennig ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr? Fe’n hysbyswyd y byddai gwelliannau o fewn 100 diwrnod; mae’r 100 diwrnod hynny yn dod i ben yr wythnos hon, ac mae'n ymddangos mai prin yw’r cynnydd yn y gogledd, ac yn sicr mae llawer iawn o bryder mewn rhai rhannau o’r gogledd am gyflymder y cynnydd o ran cyflawni gwelliannau i ofal iechyd yn y rhanbarth.
 
Efallai yr hoffwn hefyd wneud cais am y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog ar fater cynnydd Tawel Fan, o ran gwasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd. Mae teuluoedd yn y gogledd y mae eu perthnasau wedi dioddef camdriniaeth ar ward Tawel Fan wedi bod mewn cysylltiad â mi i ddweud eu bod yn bryderus iawn nad yw’r ail ddarn o waith, sydd i fod i gynnwys Donna Ockenden, awdur yr adroddiad ar gam-drin ar y ward benodol honno, wedi dechrau’n iawn eto nac wedi cael ei gomisiynu gan y bwrdd iechyd. Nid yw hynny, yn fy marn i, yn dangos bwrdd sydd eisiau gweddnewid gwasanaethau yn gyflym, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig bod y Cynulliad hwn yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf cyn gynted â phosibl.
 
14:25
Jane HuttBywgraffiad
Yn amlwg, mae Darren Millar yn mynd i fod yn gwneud ei ffordd, byddwn yn meddwl, i gynhadledd y Blaid Geidwadol, oni fyddwch, gyda'ch pryderon ynghylch newidiadau polisi Llywodraeth y DU o ran gwasanaethau’n agor ar y Sul? Rwy’n meddwl o ran eich ail bwynt, y materion yn ymwneud â bwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr, eich bod yn gwybod bod yr ymgynghoriad cyhoeddus ar newidiadau dros dro i wasanaethau mamolaeth menywod yn y gogledd wedi dechrau ar 24 Awst, ac, yn amlwg, mae’r ymgynghoriad hwnnw ar agor tan 5 Hydref, ac anogir pawb sydd â diddordeb yn y mater hwn i ymateb i'r ymgynghoriad hwnnw. Ac, wrth gwrs, yn gyffredinol, o ran y bwrdd iechyd, rydym ni wedi cymryd camau pendant i fynd i'r afael â phryderon am arweinyddiaeth, llywodraethu a chynnydd ym mwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae hynny’n cael ei wneud mewn ffordd agored a thryloyw, a bydd y Dirprwy Weinidog yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn ddiweddarach yr wythnos hon.
 
14:26
Christine ChapmanBywgraffiad
Arweinydd y tŷ, rwy’n croesawu'r newyddion y bydd Llywodraeth Cymru yn anfon safbwyntiau ymgyrchwyr yn erbyn y gwaharddiad ar ddynion hoyw a deurywiol rhag cael rhoi gwaed at Bwyllgor Cynghori Llywodraeth y DU ar Ddiogelwch Gwaed, Meinweoedd ac Organau. Byddwch yn ymwybodol bod hon yn ymgyrch sydd wedi ennyn llawer o gefnogaeth o bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol, ac rwy’n croesawu'r ffaith fod y Gweinidog wedi nodi ar goedd ei gred bersonol efallai fod y rheolau wedi dyddio. Roeddwn i’n falch o allu codi hyn yn y Cyfarfod Llawn y llynedd, ond a allem ni gael y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog iechyd ar y datblygiad pwysig hwn, a pha fesurau eraill y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog rhoi gwaed yn ddiogel gan bob dinesydd cymwys yng Nghymru?
 
14:26
Jane HuttBywgraffiad
Diolchaf i Christine Chapman am y cwestiwn yna. Wrth gwrs, mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn awyddus i sicrhau y caiff cymaint o bobl â phosibl roi eu gwaed i fodloni'r galw gan gleifion. Yn hynny o beth, mae'n credu efallai fod angen diwygio’r meini prawf ar gyfer gwahardd rhag rhoi gwaed, ac mae'n hapus i gyflwyno safbwyntiau ymgyrchwyr, fel y dywedasoch, ar y mater pwysig hwn yr ydym ni’n ei godi. Ac, yn amlwg, mae’n rhaid bwrw ymlaen â hyn o ran pa ddylanwad y gall ei gael hefyd o ran cyngor gan Bwyllgor Cynghori Llywodraeth y DU ar Ddiogelwch Gwaed, Meinweoedd ac Organau i Weinidogion. 
 
14:27
Paul DaviesBywgraffiad
Weinidog, byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi ofyn i'r Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd gyflwyno datganiad yn egluro safbwynt Llywodraeth Cymru o ran mynediad cynnar at y cynllun taliadau sylfaenol, a, Lywydd, dylwn ddatgan buddiant bod teulu fy ngwraig yn rhedeg fferm laeth. Mae'r Dirprwy Weinidog wedi cadarnhau i mi mewn llythyr diweddar y gallai taliadau o hyd at 50 y cant o hawliad gael eu gwneud o 16 Hydref. Fodd bynnag, mae'r Dirprwy Weinidog wedi dweud, ac rwy’n dyfynnu, na all Taliadau Gwledig Cymru brosesu’r nifer ofynnol o ffurflenni cais sengl i ddefnyddio'r ddarpariaeth hon. Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno bod y sector ffermio, a’r diwydiant llaeth yn arbennig, yn wynebu heriau enfawr, a byddai'n lleddfu rhywfaint o'r pwysau ariannol ar ffermwyr pe byddent yn derbyn rhywfaint o'u taliad sylfaenol yn gynharach, ac o ystyried ei bod yn bosibl i Lywodraeth Cymru dalu’r arian hwn yn gynnar, ond mae'n ymddangos ei bod yn dewis peidio, yn destun pryder mawr. Dan yr amgylchiadau, byddwn yn ddiolchgar felly pe gallai'r Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd gyflwyno datganiad cyn gynted â phosibl yn esbonio pam mae Llywodraeth Cymru yn gwrthod gwneud taliadau o fis Rhagfyr, er bod y modd ganddi i wneud hynny.
 
14:29
Jane HuttBywgraffiad
Gwn fod y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd yn ymgynghori, ac yn hysbysu a diweddaru yn wir, yn rheolaidd, yr undebau ffermio’n arbennig a'r rhai sydd â buddiant, a hefyd trwy swyddogion o ran symud ymlaen â'r taliadau sylfaenol. Wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru ar y blaen o ran y penderfyniadau a wnaed ynglŷn â’r trefniadau talu sylfaenol. Ond, yn amlwg, taliadau cynnar yw'r hyn yr ydym ni’n ceisio ei sicrhau. 
 
14:29
Lynne NeagleBywgraffiad
Hoffwn ofyn am ddadl yn amser y Llywodraeth ar ddyfodol y BBC. Rydym ni’n gwybod bod Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar yr adolygiad o'r siarter brenhinol, ac rwy'n siŵr nad fi yw'r unig un sy’n teimlo'n ofnus ynghylch beth allai agenda Llywodraeth y DU fod o ran y BBC, yr wyf yn ei ystyried yn un o'n hasedau diwylliannol pwysicaf yn ogystal â rhan hanfodol o'n democratiaeth. Rwy'n credu y byddai'n gwbl gywir i’r Cynulliad Cenedlaethol fynegi barn yn y trafodaethau hyn, ac rwy’n gobeithio y gellir rhoi amser ar gael cyn gynted â phosibl ar gyfer dadl o'r fath.
 
14:30
Jane HuttBywgraffiad
Diolchaf i Lynne Neagle am y cwestiwn yna, a gallaf ei sicrhau hi, a’r Aelodau ar draws y Siambr, bod y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cyfarfod ag aelodau o glymblaid diwygio’r cyfryngau. Cyfarfu â nhw ym mis Gorffennaf i drafod yr heriau hynny sy'n wynebu ein sectorau darlledu ac, wrth gwrs, y sector papurau newydd yng Nghymru, gan wneud yn eglur ein pryderon am yr heriau sy'n wynebu BBC Cymru Wales ac S4C. Hefyd, mae'n hanfodol bod cytundeb siarter newydd y BBC yn sicrhau cyllid digonol ar gyfer BBC Cymru ac S4C, gan adlewyrchu’n llawn buddiannau pobl Cymru yn y setliad datganoledig presennol a’r un sy’n newid.
 
14:30
Nick RamsayBywgraffiad
Weinidog, tybed a allem ni gael y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog iechyd am yr hyn sy'n cael ei wneud i wella amseroedd ymateb ambiwlansys yng Nghymru. Cyhoeddwyd cyfres arall o ystadegau gwael ym mis Awst. Rwy’n derbyn bod gwahanol straeon y tu ôl i rai o'r ystadegau hynny, ond serch hynny mae angen i weithredu ar sail yr hyn y mae'r ystadegau’n ei ddweud wrthym. Roedden nhw’n arbennig o wael ar gyfer fy etholaeth i yn Sir Fynwy. A allwn ni gael golwg arall ar hyn—datganiad neu ddadl yn y Siambr hon efallai? Rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol iawn pe byddai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynigion i fynd i'r afael â'r broblem hon mewn gwirionedd yn hytrach na'r hyn a awgrymwyd yn ddiweddar, sef newid y ffordd y mae’r ffigurau’n cael eu coladu.
 
14:31
Jane HuttBywgraffiad
Rwy'n meddwl bod yr ystadegau yn siarad drostynt eu hunain. Mae'r ystadegau’n dangos nawr mai dim ond chwe munud a 27 eiliad oedd yr amser ymateb brys safonol ar gyfer y mis Gorffennaf hwn—Gorffennaf 2015—y cyflymaf y iddo fod ers Tachwedd 2013. Hefyd, rwy'n credu y bydd yr Aelodau'n gwbl ymwybodol o ganlyniadau'r arolwg cenedlaethol diweddar a ddatgelodd bod gan 97 y cant o bobl a oedd mewn cysylltiad â’r gwasanaeth ambiwlans hyder yn sgiliau parafeddygon, sy'n darparu tystiolaeth wych o ymroddiad a gwaith caled staff sy'n aml yn cael eu beirniadu’n annheg.
 
14:32
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Diolch yn fawr, Weinidog.
 
14:32
3. Datganiad: Model Ymateb Clinigol Newydd ar gyfer y Gwasanaeth Ambiwlans Brys
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at eitem 3, sef datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd ar fodel ymateb clinigol newydd ar gyfer gwasanaethau ambiwlans brys. Galwaf ar Vaughan Gething.
 
14:32
Vaughan GethingBywgraffiadY Dirprwy Weinidog Iechyd
Diolch i chi, Lywydd. Ym mis Gorffennaf, cyhoeddais y byddai gwasanaeth ambiwlans Cymru yn rhoi prawf ar fodel ymateb clinigol newydd, sy'n cynnwys dangosyddion clinigol newydd, am 12 mis gan ddechrau y mis Hydref hwn. Dywedais y byddwn yn rhoi mwy o wybodaeth i'r Aelodau am y ffordd newydd hon o weithio, gan gynnwys yr hyn y bydd yn ei olygu i gleifion a'r cyhoedd a system gofal heb ei drefnu ehangach y GIG. Mae'r newidiadau hyn yn cael eu gwneud mewn ymateb i dystiolaeth gan glinigwyr arweiniol ac adolygiad clinigol o’r ffordd yr ydym yn mesur prydlondeb ac ansawdd y gwasanaeth ambiwlans brys yma yng Nghymru. Mae’r targed amser presennol i ymateb o fewn wyth munud yn fwy na 40 mlwydd oed. Mae wedi ei seilio ar dystiolaeth o'r cyfnod hwnnw a oedd yn awgrymu ei fod yn gwella canlyniadau i bobl sy'n dioddef trawiad ar y galon y tu allan i'r ysbyty. Roedd adolygiad McClelland o wasanaeth ambiwlans Cymru yn 2013 yn dweud y dylem newid y targed wyth munud gan nad yw’n berthnasol iawn yn glinigol i'r mwyafrif helaeth o’r galwadau i'r gwasanaeth ambiwlans.
 
Arweiniwyd adolygiad clinigol eleni o brydlondeb ac ansawdd y gwasanaethau ambiwlans gan Dr Brendan Lloyd, cyfarwyddwr meddygol gwasanaeth ambiwlans Cymru. Canfu nad oedd unrhyw dystiolaeth bod ymateb mewn wyth munud yn gwneud gwahaniaeth i tua 95 y cant o ganlyniadau pobl. Trwy dreialu ffordd newydd o weithio yn y gwasanaeth ambiwlans, byddwn yn rhoi anghenion a gofal cleifion yn gyntaf. Bydd y model ymateb clinigol newydd yn rhoi blaenoriaeth i'r cleifion sydd fwyaf difrifol wael— y rhai hynny sydd yn debygol o farw oni bai eu bod yn cael cymorth o fewn munudau. Byddant yn cael yr ymateb cyflymaf posibl er mwyn helpu i achub eu bywydau. Bydd y galwadau 999 hyn, pan fo bywyd rhywun mewn perygl, yn cael eu galw’n alwadau 'coch' a byddant yn parhau i gael eu mesur yn erbyn targed wyth munud. Bydd galwadau i'r gwasanaeth ambiwlans pan nad oes bywyd yn y fantol ar unwaith yn cael eu galw’n alwadau 'melyn'. Bydd y bobl sy’n ateb y galwadau hyn yn cael hyd at 120 eiliad ychwanegol i asesu’r cleifion hyn i sicrhau eu bod yn cael ymateb sydd wedi'i deilwra i'w salwch neu eu hanaf nhw. Mae hyn yn debyg i'r cynllun ambiwlans 'anfon ar sail cyflwr', sydd wedi cael ei dreialu'n llwyddiannus mewn dwy ardal yn Lloegr.
 
Mae'r ffordd y mae'r gwasanaeth ambiwlans yn ymateb i alwadau melyn yn gwella canlyniadau i gleifion drwy sicrhau eu bod yn derbyn yr ymyriad clinigol mwyaf priodol a cherbyd sy'n gallu eu cludo i'r ysbyty yn yr amser cyflymaf posibl, os oes angen triniaeth barhaus arnynt. Ni fydd targed amser ymateb ar gyfer y galwadau hyn. Bydd galwadau melyn yn cael eu hasesu yn erbyn ystod o ddangosyddion clinigol, a fydd yn mesur ansawdd y gofal clinigol a ddarperir yn erbyn y dystiolaeth orau sydd ar gael. Dylai'r rhain roi sicrwydd ynglŷn ag ansawdd a diogelwch y gofal a ddarperir gan glinigwyr ambiwlans.
 
Bydd y dangosyddion hyn yn dangos i bobl Cymru y lefel o ofal y gallant ddisgwyl ei gael pan fo ganddynt broblem feddygol brys ac, am y tro cyntaf, byddant yn dwyn y gwasanaeth ambiwlans i gyfrif am y gofal y mae'n ei ddarparu, nid pa mor gyflym y gall criwiau ambiwlans yrru i safle digwyddiad. Byddant yn cyd-fynd â dangosyddion a ddefnyddir mewn rhannau eraill o'r DU ac yn rhyngwladol, gan ein galluogi i gymharu a meincnodi ansawdd y gofal clinigol a ddarperir gan staff rheng flaen ledled Cymru. Byddwn yn parhau i fesur a chyhoeddi yr amseroedd ymateb ar gyfer pob galwad, ac yr wyf yn disgwyl gweld gostyngiad cynyddol yn yr amseroedd ymateb hiraf yn ystod y cyfnod prawf.
 
Yn ogystal â'r mesurau hyn, ac i gyd-fynd â'r symudiad tuag at ganolbwyntio ar ddangosyddion clinigol, mae ein rhaglen gofal heb ei drefnu yn datblygu cyswllt rheolaidd rhwng gwybodaeth am gleifion a gasglwyd gan glinigwyr ambiwlans, gwybodaeth am gleifion yn yr ysbyty, a gwybodaeth pan fo unigolyn yn cael ei ryddhau o'r ysbyty. Nawr, nid yw hyn ar gael mewn unrhyw le arall yn y DU, a byddai'n gwneud Cymru yn arweinydd o ran deall taith y claf o'r adeg y mae rhywun yn gwneud galwad 999 i pan fyddant yn gadael yr ysbyty mewn gwirionedd. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi buddsoddi £1.1 miliwn yn y cynnyrch peniau digidol ar gyfer ambiwlansys er mwyn gallu casglu gwybodaeth gywirach a mwy prydlon am gleifion. Bydd staff rheng flaen yn defnyddio'r peniau digidol newydd ledled Cymru o'r wythnos hon ymlaen.
 
Bydd trydydd categori o alwadau—y galwadau gwyrdd—yn cyfeirio at y digwyddiadau hynny nad ydynt yn ddifrifol ac y gellir yn aml eu rheoli gan wasanaethau iechyd eraill, gan gynnwys cyngor gofal iechyd neu hunan-ofal. Bydd y categori hwn yn cynnwys galwadau gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol hefyd, a fydd yn cael eu trin mewn ffordd wedi ei threfnu yn y dyfodol, ac mae'r dull hwn eisoes wedi cael prawf llwyddiannus yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf, ac mae wedi ei ymestyn i ardal Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan erbyn hyn.
 
Mae'r cynllun prawf wedi cael cefnogaeth eang gan glinigwyr rheng flaen, uwch feddygon gofal brys, colegau proffesiynol, cynghorau iechyd cymuned, elusennau iechyd, a’r Gymdeithas Prif Weithredwyr Ambiwlans. Fodd bynnag, yr wyf yn cydnabod bod newid o unrhyw fath yn gallu bod yn gyfnod pryderus i rai, ac yn anodd i eraill. Mae'r cynllun prawf 'anfon ar sail cyflwr' ar gyfer ambiwlansys yn Lloegr wedi dangos yn llwyddiannus bod rhoi ychydig mwy o amser i’r rhai sy’n galw er mwyn asesu cleifion cyn anfon ambiwlans, yn golygu y gellid darparu lefel mwy effeithlon a phriodol o ofal. Mae’r cynlluniau prawf hynny yn Lloegr wedi dangos y gall llawer mwy o gleifion gael eu rheoli yn ddiogel dros y ffôn heb fod angen ambiwlans, gan ddiogelu adnoddau ambiwlans brys ar gyfer y cleifion hynny sydd â'r angen mwyaf.
 
Wrth i’r cynllun prawf yng Nghymru fynd yn ei flaen, fel y dywedais, yr wyf yn disgwyl gwelliant cynyddol a pharhaus. Dylem weld manteision i gleifion wrth ryddhau gallu ambiwlansys ar gyfer achosion brys trwy ddefnyddio adnoddau’n fwy effeithlon; newidiadau yn y fflyd, a gefnogir gan ein buddsoddiad parhaus mewn cerbydau ac offer ambiwlans o’r radd flaenaf; datblygu cymysgedd sgiliau’r staff, a gefnogir gan gynnydd sylweddol mewn cyllid i barafeddygon sy’n fyfyrwyr, yn ogystal â buddsoddiad parhaus a chefnogaeth i gynyddu sylfaen addysg a gwybodaeth y staff presennol.
 
Bydd y cynllun prawf yn darparu gwasanaeth ambiwlans o safon uchel sy’n perfformio’n dda i bobl Cymru. Byddwn yn mesur mwy nag yr ydym erioed wedi’i wneud o'r blaen, a byddwn yn cyhoeddi’r mesurau hyn yn chwarterol mewn modd hawdd ei ddeall, hygyrch a thryloyw. Bydd cyflwyno'r model ymateb clinigol ym mis Hydref yn gweithredu fel catalydd ar gyfer newidiadau pellach i'r system gofal heb ei drefnu yng Nghymru. Rwyf yn disgwyl i fyrddau iechyd a'r gwasanaeth ambiwlans weithio gyda'i gilydd i ddatblygu gwasanaethau ar gyfer trigolion lleol i sicrhau bod pob claf yn derbyn y gofal priodol, ar yr adeg briodol ac yn y lle priodol, er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i bawb.
 
14:39
Darren MillarBywgraffiad
Diolch, Ddirprwy Weinidog, am eich datganiad. Wrth gwrs, mae llawer o bobl yn y Siambr hon, a'r tu allan i'r Siambr hon, yn teimlo bod y cyhoeddiad am newidiadau i'r targedau ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans wedi’u cymell gan gyfleustra gwleidyddol yn hytrach na’r hyn a oedd yn iawn o reidrwydd. Ond yr wyf yn cytuno bod angen i ni wneud rhai newidiadau, mewn gwirionedd, i’r ffordd yr ydym yn mesur perfformiad ein gwasanaeth ambiwlans, ac nid wyf yn anghytuno â’r ffaith bod dangosyddion eraill y mae angen i ni fod yn eu hystyried. Felly, rwyf yn croesawu'r ffaith y bydd cynllun prawf; mae'n rhywbeth yr wyf i yn sicr wedi ei drafod gyda'ch cydweithiwr, y Gweinidog Iechyd, ar sawl achlysur, ac mae'n rhywbeth yr wyf yn ei lwyr gefnogi.
 
Nid wyf yn sicr, fodd bynnag, bod y modd y mae cynnydd yn cael ei nodi yn erbyn argymhellion adolygiad McClelland yn mynd rhagddo’n ddigon cyflym. Un o'r cyhoeddiadau a wnaed bron yn syth ar ôl cyhoeddi adroddiad adolygiad McClelland oedd bod y gwasanaethau cludo cleifion yn mynd i gael ei wahanu oddi wrth y gwasanaethau cludiant clinigol brys a ddarperir gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru. Nid yw hyn wedi digwydd mewn unrhyw fodd, felly tybed, Weinidog, a ydych chi’n gallu darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am hynny, o ystyried eich bod yn gwneud y datganiad pwysig hwn heddiw.
 
Fe wnaethoch gyfeirio at gyfres gyfan o ddangosyddion, y byddwn yn gallu mesur perfformiad y gwasanaeth ambiwlans yn eu herbyn, ond nid ydych yn dweud beth fydd y dangosyddion hynny mewn gwirionedd. Weinidog, a fyddai'n bosibl i chi gyhoeddi yn union beth fydd y dangosyddion hynny, yn enwedig o ystyried y ffaith y byddant yn cael eu rhoi ar waith mewn ychydig o wythnosau?
 
Tybed hefyd, Weinidog, a fyddech chi’n gallu taflu unrhyw oleuni ar gategoreiddio pob galwad gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol fel bod yn alwadau gwyrdd ar gyfer ymateb ambiwlans. Mae hynny'n achosi pryder i mi oherwydd, wrth gwrs, weithiau, pan fydd meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol arall yn galw, bydd hynny oherwydd bod sefyllfa frys, a byddai categoreiddio galwad fel un coch dan yr amgylchiadau hynny yn llawer mwy priodol na galwad gwyrdd. Felly, pa sicrwydd y gallwch ei roi inni, pan wneir galwad brys, hyd yn oed gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall, y bydd yn cael ei gategoreiddio yn briodol ac nid dim ond yn cael ei wthio i'r categori gwyrdd, gan ei bod yn ymddangos mai dyna fydd yn digwydd o’r wybodaeth yn eich datganiad?
 
Rydych chi wedi cyfeirio at y ffaith eich bod eisiau gweld gostyngiad cynyddol yn yr amseroedd ymateb hiraf. Rwyf innau hefyd. Mae pobl yn aros yn llawer rhy hir i’w hambiwlansys gyrraedd ar hyn o bryd, gan gynnwys mewn sefyllfaoedd pan fo bywyd yn y fantol. Ond nid ydych yn nodi targed penodol ar gyfer y gostyngiadau. A ydych chi’n bwriadu cynnwys adeg hiraf o ran amser ymateb erbyn pryd y mae'n rhaid i ambiwlansys gyrraedd y claf? Rwyf yn credu, Weinidog, efallai y byddai'n ddefnyddiol pe gallech ddweud wrthym yn union pa fath o ostyngiadau yr ydych yn dymuno eu gweld, pa mor hir y dylai pobl orfod aros fel adeg hiraf i ambiwlans gyrraedd ar ôl i un gael ei alw.
 
Gwnaethoch gyfeirio hefyd at hyfforddiant i barafeddygon. Rwy'n falch iawn o weld eich bod yn gwneud rhywfaint o fuddsoddiad ychwanegol mewn hyfforddiant i barafeddygon. Rydym yn gwybod fod gennym brinder, yn enwedig yn y gogledd, ac anawsterau yn y gogledd o ran recriwtio parafeddygon, ond, wrth gwrs, byddwch hefyd yn gwybod mai un o'r rhesymau am hynny yw nad oes unrhyw gyfle i barafeddygon hyfforddi yng ngogledd Cymru, er enghraifft ym Mangor neu gyda darparwyr hyfforddiant eraill. Tybed, Weinidog, a fyddwch yn edrych ar y trefniadau hyfforddiant yng Nghymru fel nad oes rhaid i bobl ddod i’r de i hyfforddi os ydynt yn dod o'r gogledd, fel y gallant hyfforddi mewn gwirionedd yn y rhanbarth hwnnw er mwyn cadw'r sgiliau hynny yn y rhanbarth ac nad ydynt yn llifo i mewn i rannau eraill o Gymru neu, yn wir, dros y ffin.
 
Soniasoch am gyflwyno adroddiadau chwarterol. Wrth gwrs, rydym yn derbyn ystadegau ambiwlans yn fisol ar hyn o bryd. Mae'n gyfleus iawn i gyflwyno adroddiadau’n chwarterol. Mae'n golygu eu bod ond yn dod o dan y chwyddwydr bob chwarter, yn hytrach nag ar sail fwy rheolaidd, a tybed, Weinidog, a fyddwch chi’n fodlon ystyried newid i adroddiadau misol yn hytrach na chyflwyno adroddiadau chwarterol? Rydym yn gwybod bod pethau'n cael eu hadrodd yn wythnosol yn Lloegr, dros y ffin. Felly, nid wyf yn gwybod pam bod hyn yn angenrheidiol. Pryd bynnag y byddaf yn mynd i ymweld â Phencadlys yr ambiwlansys, mae ganddynt ffigurau yn fyw ar y sgriniau am berfformiad y gwasanaeth ambiwlans. Ni welaf unrhyw reswm o gwbl pam y dylem orfod aros am gyfnod o 12 wythnos neu 13 wythnos er mwyn derbyn gwybodaeth, yn enwedig yn ystod cyfnod y cynllun prawf, pryd, yn fy marn i, bydd angen mwy o graffu ar y pethau hyn yn hytrach na llai. Felly, byddwn yn gobeithio, Weinidog, y byddech yn barod i ystyried symud i adroddiadau misol yn hytrach na bob chwarter.
 
Ac yn olaf, un cwestiwn olaf: gwnaethoch awgrymu y gallai cyhoeddi newid yn yr agwedd tuag at dargedau ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans fod yn gatalydd mewn gwirionedd ar gyfer newidiadau pellach yn y modd y bydd targedau gofal heb ei drefnu yn fwy eang yn cael eu hystyried. A allwch chi ddweud wrthym pa dargedau gofal heb ei drefnu eraill y byddwch yn ystyried eu diddymu neu eu newid? Rwyf yn cymryd yn ganiataol mai’r holl rai yr ydych yn methu â’u bodloni ar hyn o bryd fyddan nhw, gan gynnwys y targedau amser brys, gan gynnwys y targedau meddyg teulu y tu allan i oriau ac eraill y mae eich Llywodraeth wedi eu gosod ac wedi methu â’u bodloni. A allwn ni ddisgwyl i’r rhai hynny gael eu diddymu cyn yr etholiad nesaf hefyd? Diolch yn fawr.
 
14:44
Vaughan GethingBywgraffiad
Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. Gyda phob parch, Lywydd, ni fyddaf yn gallu ateb pob un o'r cwestiynau hynny, neu byddwn i'n cymryd yr holl amser ar bapur trefn heddiw—
 
14:44
Y Llywydd / The Presiding OfficerBywgraffiad
Rwy'n siwr y gallwch ymdopi.
 
14:44
Vaughan GethingBywgraffiad
Na, nid er mwyn rhoi ateb gonest i bob un o'r rhai hynny yr wyf o’r farn bod y Siambr hon yn ei haeddu. O ran y pwynt cyntaf ynghylch amseriad a'r awgrym bod hyn yn ymwneud â chyfleustra gwleidyddol, mae hyn yn ymwneud â chael cyngor clinigol priodol a chyfredol ac yna gweithredu arno. Nid fi sy’n gyfrifol am pryd y gellir darparu’r cyngor hwnnw, ond mae gen i gyfrifoldeb i weithredu pan fydd hwnnw wedi ei dderbyn, a dyna beth yr wyf wedi ei wneud. Pe byddai’r cyngor wedi ei ddarparu yn gynharach, byddwn wedi bod yn hapus i wneud penderfyniad yn gynharach, ond rydym yn y sefyllfa hon oherwydd fy mod i wedi gwneud penderfyniad yn seiliedig ar y cyngor clinigol gorau sydd ar gael.
 
Rwyf yn falch, serch hynny, eich bod wedi cydnabod ar ddechrau eich cyfres o gwestiynau, bod angen newid ac nad oedd y targed presennol o wyth munud er lles gorau'r cleifion na sut yr ydym yn asesu yn briodol ansawdd y gofal y mae'r gwasanaeth ambiwlans yn ei ddarparu.
 
O ran rhai o'r pwyntiau penodol yr oeddech yn sôn amdanynt, a'r pwynt am gludiant cleifion, rwyf yn disgwyl gallu darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau yn y misoedd nesaf am wahanu’r gwasanaethau cludo cleifion oddi wrth y gwasanaeth ambiwlans brys, a byddaf yn hapus i roi rhagor o wybodaeth pan fydd hynny'n briodol a’i bod ar gael. Yr un pwynt ar y dangosyddion newydd—bydd 25 o ddangosyddion newydd sydd wedi eu cynllunio i geisio rhoi dealltwriaeth briodol i bobl am y gwahanol rannau, ansawdd y gofal, canlyniadau cleifion a phrofiad drwy'r gwasanaeth ambiwlans brys. Mae'r rheini wedi eu datblygu ac maent yn cael eu datblygu ar y cyd â'r pwyllgor gwasanaethau ambiwlans brys, a byddant yn cyhoeddi pob un o'r dangosyddion hynny yn chwarterol. Mae cyhoeddi’n chwarterol, rwy’n credu, yn gwneud synnwyr, oherwydd y bydd cyfle i gael llawer mwy o ddealltwriaeth a chraffu, a hynny mewn modd ehangach a dyfnach o’r hyn y mae'r gwasanaeth ambiwlans brys yn ei wneud. Bydd amser ar gyfer dadansoddiad priodol i'r unigolion sy’n cyhoeddi'r wybodaeth a hefyd ar gyfer yr Aelodau eu hunain. Nid wyf yn credu am eiliad y bydd y lle hwn ac aelodau o'r cyhoedd rhywsut yn rhoi'r gorau i edrych ar yr hyn y mae'r gwasanaeth ambiwlans yn ei wneud rhwng yr adegau cyhoeddi, felly bydd y cyhoeddiad chwarterol hwnnw yn cael ei wneud, fel yr wyf wedi ei nodi.
 
O ran galwadau gan weithwyr iechyd proffesiynol, yr wyf yn cydnabod y pwynt yr ydych yn ceisio ei hybu, ond byddwn yn dweud, os ydych yn edrych eto ar y datganiad a'r hyn yr wyf wedi ei ddweud, ein bod yn seilio hyn ar yr hyn sydd wedi digwydd mewn gwirionedd ym mwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf. Mae wedi bod yn ffordd lwyddiannus o reoli galwadau, mae wedi bod yn well i'r gweithwyr iechyd proffesiynol eu hunain sydd wedi gwneud y galwadau, ac mae wedi bod yn fwy rhagweladwy iddynt hwy ac, yn allweddol, i'r claf hefyd. Felly, rydym yn cyflwyno system sydd eisoes wedi cael ei threialu mewn un ardal bwrdd iechyd cyfan a dyna beth yr ydym yn awr yn disgwyl ei weld yn cael ei gyflwyno ledled Cymru. Fel y dywedais yn gynharach, ar bob un o'r mesurau hyn, byddwn yn cyhoeddi yr amser y mae'n ei gymryd i bobl gyrraedd, ond, yn hollbwysig, byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth ar ganlyniadau ac ansawdd y gofal a ddarperir.
 
Eich pwynt olaf, y byddaf yn ymdrin ag ef cyn i mi gymryd cwestiynau gan Aelodau eraill yn y Siambr, yw'r awgrym y dylwn i gyflwyno cyfres newydd o dargedau amser—uchaf neu isaf. Mae'r datganiad heddiw yn ymwneud â symud ymlaen at fodel clinigol gwirioneddol ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans brys. Y peth olaf yr wyf i'n mynd i’w wneud yw cyhoeddi cyfres newydd o dargedau amser cwbl fympwyol heb unrhyw gyngor a thystiolaeth feddygol briodol ar yr hyn y dylent fod a sut y byddant yn gwella profiad y claf a chanlyniadau i gleifion. Felly, byddaf yn gwrthod yn dawel ond yn bendant eich gwahoddiad i gynhyrchu cyfres newydd o fesurau nad ydynt yn berthnasol i ofal cleifion priodol.
 
14:48
Lynne NeagleBywgraffiad
A gaf i ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad heddiw? Mae llawer i'w groesawu yn y datganiad, yn enwedig y pwyslais newydd ar ansawdd y gofal a ddarperir gan barafeddygon. Ond bydd y Dirprwy Weinidog yn ymwybodol fy mod wedi mynegi amheuon ynglŷn â symud oddi wrth y system flaenorol ar adeg pan, yn enwedig yn fy ardal fy hun, nad oeddem yn gallu dod yn agos at fodloni’r targed. Felly, yr wyf yn dal yn bryderus am hynny ond yn cydnabod ein bod yn mynd ar y llwybr hwn.
 
Mae gen i ychydig o gwestiynau. Cynllun prawf yw hwn, ond mae'n gynllun prawf sy'n mynd i gael ei weithredu ledled Cymru gyfan. A gaf i ofyn pa ystyriaeth a roddodd y Llywodraeth i’w gynnal fel cynllun prawf mewn ardal gulach er mwyn i ni allu gweld pa mor effeithiol ydyw? Byddai gennyf ddiddordeb hefyd mewn cael rhagor o wybodaeth am y cynlluniau prawf sydd wedi bod ar waith yn Lloegr yn y maes hwn a pha fath o ardal ddaearyddol yr oeddynt yn ei chwmpasu.
 
Ac yn olaf, ar y galwadau melyn, pryder arbennig i mi, yn amlwg ar wahân i'r problemau cyffredinol gydag amseroedd ymateb yn Nhorfaen, yw bod ambiwlansys yn gyson wedi cael eu tynnu allan o Dorfaen i Ysbyty Brenhinol Gwent ac ysbyty Neville Hall, felly mae hi wedi bod yn anodd iawn, iawn i ailganolbwyntio adnoddau fel bod gennym ambiwlans ar gael pan fydd pobl ei angen yn fy etholaeth i. O ystyried nad oes targed amser ymateb i fod ar gyfer y galwadau melyn hyn, pa sicrwydd ydych chi’n mynd i allu ei roi i mi heddiw nad yw hynny'n mynd i ddigwydd eto, oherwydd bydd yr ambiwlansys hynny yn cael eu tynnu allan i ymdrin â'r galwadau coch ac, felly, ni fydd pobl sydd ag angen ambiwlans yn cael un oherwydd nad ydynt wedi eu nodi fel bod yn alwad coch yn Nhorfaen?
 
14:50
Vaughan GethingBywgraffiad
Iawn, diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. Rwy'n falch o nodi y bu cynnydd pellach o ran amseroedd ymateb, gyda chyfres o fisoedd o welliant cyson, cynyddol. Unwaith eto, y pwynt am gyhoeddiad heddiw a'r cyhoeddiad a wnes i ym mis Gorffennaf yw ein bod yn canolbwyntio mewn gwirionedd ar ganlyniadau ar gyfer cleifion ac ansawdd y gofal y maent yn ei dderbyn, yn hytrach na dim ond bod ag obsesiwn ynglŷn â’r targed amser.
 
O ran cynllun prawf Cymru gyfan, rydym yn gwneud y penderfyniad ar sail y cyngor a gawsom, a'r cyngor oedd i symud at gynllun Cymru gyfan. Bu cyfres o wahanol gynlluniau prawf llai mewn amrywiaeth o ardaloedd byrddau iechyd, a'r un y cyfeiriais ato yn gynharach sydd wedi arwain at gategoreiddio galwadau fel bod yn rhai gwyrdd, ond dylai hefyd helpu gyda'ch pwynt olaf am ambiwlansys a sut maent yn gallu gwasanaethu gwahanol gymunedau lleol—.Gwelsom o fewn y cynllun prawf hwnnw, a gynhaliwyd yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf, ei fod yn gwneud gwahaniaeth mawr iawn i'r modd yr oedd yr adnoddau hynny yn cael eu defnyddio a’u cynllunio, ac roedd yn golygu bod gwasanaeth ar gael i bobl yn yr ardal honno lle y byddech, yn flaenorol, wedi gweld yr adnoddau ambiwlans yn cael eu llusgo i lawr yn fwy tuag at y de, lle bynnag y mae ysbyty mwy o faint. Mae'n effeithio ar wahanol rannau o Gymru, ac rwyf yn cydnabod bod rhai cymunedau yn y Cymoedd, yn arbennig, wedi eu heffeithio gan hynny. Felly, mae hyn yn bendant yn fy meddwl i ac ym meddwl y clinigwyr sydd wedi rhoi’r cyngor hwn i ni hefyd.
 
Felly, credaf fod yr agweddau hynny o gymorth i lywio'r hyn a ddylai fod yn gynllun prawf ar gyfer Cymru gyfan, ac mae'n ddefnyddiol cysylltu hyn â’r pwyntiau yr ydych yn eu gwneud am y cynlluniau prawf yn Lloegr. Roedd y ddau gynllun prawf yn cynnwys mwy na 10 miliwn o bobl yn Lloegr, ac o ran maint y cynlluniau prawf sydd yno, nid wyf yn credu y byddai wedi bod yn synhwyrol nac yn ymarferol i fod wedi cynnal cynllun prawf mewn un rhan benodol o Gymru. Dyna oedd y cyngor a roddwyd: i gynnal y cynlluniau prawf Cymru gyfan. Rydym wedi derbyn hynny. Bydd gennym 12 mis. Bydd gwerthusiad priodol, felly bydd yr Aelodau yn gweld y gwerthusiad. Bydd yn cael ei gyhoeddi. Ni fydd unrhyw guddio o ran yr hyn a ddigwyddodd, ac os oes mwy o bethau y gallem ac y dylem eu gwneud ar ddiwedd y 12 mis hynny i wella ansawdd y gofal a ddarperir, yna yn sicr ni fydd ofn gwneud hynny arnaf.
 
Daeth Rhodri Glyn Thomas i’r Gadair.
 
Vaughan GethingBywgraffiad
Felly, gallaf roi rhywfaint o sicrwydd am yr hyn sydd ym meddwl y Llywodraeth ac am yr hyn yr ydym yn chwilio amdano o ran y gwelliant yr ydym yn disgwyl ei weld. Ond bydd hyn yn gwbl seiliedig ar y dystiolaeth a’r cyngor gorau un i wella canlyniadau i bobl.
 
14:52
Rhodri Glyn ThomasBywgraffiad
Llefarydd Plaid Cymru, Elin Jones.
 
14:52
Elin JonesBywgraffiad
Diolch, Lywydd dros dro. Diolch i’r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad. Fel mae dau Aelod o’r Cynulliad yma wedi sôn eisoes, mae perfformiad eich Llywodraeth chi wedi bod yn weddol o drychinebus ar yr ambiwlansys yn cyrraedd y targed ŷch chi fel Llywodraeth wedi bod yn ymrwymedig iddo dros y pedair blynedd diwethaf yma. Felly, yng nghyd-destun y perfformiad gwael yna, rwy’n siŵr nad ydych chi’n synnu bod yna rywfaint o sinigiaeth yn bodoli taw’ch ateb chi i hynny yw gollwng y targed yn llwyr ar gyfer pob galwad ambiwlans, oni bai am y galwadau mwyaf brys—y rhai coch hynny. Y prynhawn yma, y cwestiwn cyntaf i’r Prif Weinidog oedd a oedd eich Llywodraeth chi yn gollwng targedau ar TGAU mewn addysg oherwydd methiant i gwrdd â’r targedau yna. Nawr, o fewn awr a hanner i hynny, rydym ni’n trafod methiant eich Llywodraeth chi i gwrdd â thargedau a’ch bod chi’n gollwng y targedau hynny eto.
 
Nawr, mae’ch datganiad chi, wrth gwrs, yn sôn am yr astudiaeth yna sydd yn dweud bod yr ymateb ambiwlans o fewn union wyth muned ddim yn gwneud y gwahaniaeth ‘outcome’ pwysig yna mewn 95 y cant o achosion. Mae hynny’n wir, wrth gwrs, am yr union amser o wyth muned, a bach iawn o wahaniaeth ‘outcome’ sydd yna rhwng saith muned a naw muned. Ond, mae yna wahaniaeth ‘outcome’, wrth gwrs, yn bosib rhwng saith muned a 27 muned, neu 47 muned. O fis Hydref ymlaen, yr hyn ŷch chi wedi’i gyhoeddi yw na fydd yna darged amser ateb ambiwlans i alwadau ambr o gwbl, sef i unrhyw berson sydd o bosib yn dioddef strôc, ‘haemorrhage’ neu ‘aortic aneurysm’ yn ymdorri. NI fydd gan eich Llywodraeth chi bellach ddim targed ymateb ambiwlans, ac mae hwnnw’n gam sylweddol, mawr i chi i’w gymryd, Weinidog. Yn y cwestiynau ŷch chi wedi’u cael hyd yn hyn hefyd, nid ydych chi wedi rhoi dim arweiniad inni fel Siambr—hyd yn oed os ydych chi’n ymwrthod rhag gosod targed i’r gwasanaeth ambiwlans, nid ydych chi wedi rhoi unrhyw arweiniad inni i feddwl beth yw’r cyfartaledd amser aros am ambiwlans y byddech chi’n credu y byddai’n dderbyniol i bawb sydd yn cwympo o fewn y categori ambr yna.
 
Rydych chi wedi cyfeirio yn eich datganiad chi at y ffaith bod yna beilots o’r math yma eisoes yn gweithredu yn Lloegr, lle maen nhw wedi gwahaniaethu rhwng galwadau coch a rhai ambr. Ond, yn Lloegr, maen nhw wedi gosod targed o 19 munud ar gyfer categorïau’r galwadau sydd ddim yn rhai coch. Felly, pam ŷch chi wedi penderfynu peidio rhoi targed I hynny? O beidio penderfynu rhoi targed, pa ddisgwyliad amser ar gyfartaledd sydd gennych chi? Rwy’n credu bod y bobl sy’n mynd I fod yn gwneud y galwadau hynny â rhyw fath o hawl I ddisgwyl rhyw arweiniad oddi wrth y Llywodraeth ar beth sy’n ddisgwyliedig ai peidio.
 
Mae fy nghwestiwn olaf yn gysylltiedig â’r cwestiwn a ofynnwyd gan Lynne Neagle, sef y mater yma sy’n berthnasol i ardaloedd y mae Lynne Neagle yn eu cynrychioli, ac i finnau hefyd mewn ardal wledig, sef y ffaith bod cymaint o ambiwlansys a siffts ambiwlansys yn ffeindio’u hunain allan o’u hardal eu hunain yn ymateb i alwadau sydd ymhell o’u hardal, gan hala’u siffts i gyd, efallai, o gwmpas rhai o’n canolfannau mwy trefol ni. Mae hynny’n broblematig mewn ardaloedd gwledig. Rwyf i ar ddeall bod Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf wedi rhedeg peilot ar gadw mwy o ambiwlansys yn lleol o fewn ardal y bwrdd iechyd hwnnw. Fe fyddwn i wedi gobeithio, efallai, y byddech chi wedi gallu cyhoeddi i ni heddiw eich bwriad chi i sicrhau bod yna well arweiniad i’r gwasanaeth ambiwlans er mwyn iddo sicrhau bod y siffts ambiwlans hynny’n gwasanaethu’r ardaloedd y maen nhw’n cael eu lleoli ynddyn nhw.
 
14:56
Vaughan GethingBywgraffiad
Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. Nodaf eich sylwadau agoriadol gan gyfeirio at berfformiad trychinebus. Rwy'n credu bod hon yn union un o'r heriau mawr yr ydym yn ceisio symud ymlaen oddi wrthi. Os ydym ni ddim ond yn siarad am amseroedd ymateb a heb fod yn ceisio mesur, asesu a disgrifio yr hyn sy’n ofal clinigol da, ac yna sut yr ydym yn asesu pa un a yw hwnnw’n cael ei ddarparu, byddwn yn parhau i siarad am yr ymateb mewn wyth munud nad yw’n dweud yr holl stori ac sy'n amhriodol i'r mwyafrif helaeth o alwadau ambiwlans a galwadau brys, ac ni fyddwn yn craffu ar y gwasanaeth yn briodol nac yn cydnabod yn briodol ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu. Mae hyn yn ymwneud â symud ymlaen at gyfres briodol o dargedau, a bydd mwy o graffu, a mwy o wybodaeth yn cael ei darparu. Nid dim ond hanes o bobl sydd gennym yn cydnabod ac yn dod yn rhesi i ddweud nad oedd y targed amser ymateb wyth munud ar gyfer y categorïau presennol o alwadau yn gwneud synnwyr, nad yw'n sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i gleifion, ac nad yw'n gwneud y defnydd gorau o adnoddau, ond yr hyn sydd gennym bellach yw cyngor clinigol cyfredol—y cyngor clinigol gorau sydd ar gael, nid yn unig am ddiffygion yr hen darged, ond cyngor am system well ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans brys. Yn yr awgrymiadau a wnewch, yn dilyn ymlaen o eiriau Darren Millar, ynglŷn â bod eisiau cael targed amser ymateb newydd sydd wedi’i dynnu o'r awyr nad yw wedi ei gynnal na’i gefnogi gan y cyngor clinigol gorau sydd ar gael, dyna'n union beth nad wyf i'n ei wneud. Nid wyf yn ymddiheuro am wneud hynny. Rwy'n ymateb i ac yn gweithredu ar sail y dystiolaeth a'r cyngor clinigol gorau sydd ar gael. Os yw gwleidyddion y gwrthbleidiau yn dymuno cael system wahanol sy'n gwrthod y cyngor clinigol hwnnw, mae hynny'n fater i chi. Nid wyf yn credu y byddai person cyfrifol yn y sefyllfa hon yn rhoi’r cyngor hwnnw i’r naill ochr ac yn ceisio diwygio system newydd sydd wedi'i chynllunio’n benodol i wella canlyniadau i gleifion.
 
Y pwynt, ’does bosib, yw: a oes gennym system o ddeall sut y caiff adnoddau ambiwlans eu defnyddio, a sut y cânt eu craffu, sy'n dda i wleidyddion neu’n dda i gleifion? Wrth wneud dewis ynghylch yr hyn sy'n dda i gleifion, rwy'n cydnabod y caf i fy meirniadu fel gwleidydd. Dydw i ddim yn cilio oddi wrth hynny, ond dyma'r peth iawn i'w wneud, ac mae'n ddull sy'n seiliedig ar dystiolaeth a hwn yw'r dull gorau ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans a'r bobl y mae'n eu gwasanaethu. Mae angen i ni symud i ffwrdd o’r hen system lle, os oes rhywun yn cyrraedd ar ôl saith munud a 59 eiliad, ac os yw'r person hwnnw yn cael profiad gwael neu os yw’n marw, mae hynny'n dal i fod yn llwyddiant yn y ffordd bresennol o fesur y gwasanaeth ambiwlans. Ar ôl wyth munud ac un eiliad, hyd yn oed os ydynt yn achub bywyd y person hwnnw, ystyrir hynny’n fethiant. Mae honno'n ffordd hurt o asesu, mesur a chraffu ar y gwasanaeth ambiwlans, a dyna beth yr ydym yn symud i ffwrdd oddi wrtho. Rwy'n falch o fod yn gwneud hynny, nid am ei fod yn dda i mi, nid am fy mod yn meddwl bod yna ffordd wahanol i wneud pethau, ac nid am ei fod yn gyfleus i mi, ond oherwydd bod gennym y dystiolaeth a’r cyngor clinigol gorau ar beth i'w wneud i wella'r system ar gyfer cleifion yng Nghymru.
 
Dyna pam y byddwn yn parhau i gyhoeddi amseroedd ymateb er mwyn i bobl wybod a gweld pa mor gyflym y mae ambiwlansys yn cyrraedd. Bydd y dangosydd yn cael ei gyhoeddi bob chwarter ar 25 o wahanol feysydd o arfer, ansawdd a diogelwch, er mwyn i bobl allu gweld beth yw ansawdd y gofal sy’n cael ei ddarparu. Rwyf yn disgwyl i bobl ofyn cwestiynau am hynny a chael fy nghraffu ar hynny. Rwyf yn disgwyl i'r pwyllgor gymryd diddordeb ac Aelodau yn y Siambr hon. Edrychaf ymlaen at y sgwrs fwy deallus ac aeddfed honno am yr hyn y mae'r gwasanaeth ambiwlans yn ei wneud mewn gwirionedd a'r hyn y dylai ei wneud, sef achub bywydau pobl a rhoi gofal o ansawdd da i bobl lle bynnag y maent ei angen: y person iawn ar yr adeg iawn, yn darparu'r gofal iawn.
 
15:00
Rhodri Glyn ThomasBywgraffiad
Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams.
 
15:00
Kirsty WilliamsBywgraffiad
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd dros dro; diolch i chi, Weinidog. Person ffôl iawn, wrth gwrs, fyddai’n credu mai amser yn unig oedd yr unig faen prawf ar gyfer gwasanaeth ambiwlans llwyddiannus. Yn amlwg nid yw cyrraedd galwad o fewn wyth munud, ac yna cael triniaeth annigonol gan y parafeddyg, yn wasanaeth. Ond, byddech chi hyd yn oed—hyd yn oed chi, Ddirprwy Weinidog—yn gorfod cyfaddef bod ymateb prydlon yn elfen allweddol o wasanaeth parafeddygol brys llwyddiannus. Mae dweud nad yw amser yn cyfrif o gwbl, yn syml, yn amhriodol. Allech chi roi cyngor i mi, wrth osod—. Gan eich bod wedi dweud heddiw mai galwadau coch yw'r rhai ar gyfer cleifion sy'n debygol o farw os nad ydynt yn derbyn cymorth o fewn munudau, a allech chi egluro ai cyngor clinigol yr ymddiriedolaeth ambiwlans sydd wedi eich arwain at osod targed yr ydych chi, yn yr achosion hynny, ond yn disgwyl i ambiwlans gyrraedd yno o fewn wyth munud 65 y cant o'r amser? Gadewch i ni fod yn glir, hyd yn oed wrth chwarae o gwmpas â’r targedau hyn, rydych yn dal ond yn disgwyl i ambiwlansys gyrraedd galwad goch categori A—eich galwad goch newydd—o fewn wyth munud 65 y cant o'r amser, tra yn Lloegr, mae'n 75 y cant. Felly, a ydych chi wedi gosod y targed hwnnw ar sail cyngor clinigol? Hefyd, gaf i ofyn i chi: pryd ydych chi'n disgwyl i bob galwad goch—oherwydd cofiwch, yn eich geiriau chi, mae'r rhain yn bobl sydd yn debygol o farw os nad ydynt yn cael cymorth o fewn munudau—gael eu hateb o fewn wyth munud yng Nghymru?
 
A gaf i wedyn symud ymlaen at fater y targedau melyn? Rwy’n pryderu’n aruthrol am y bobl hynny a fydd yn canfod eu hunain o fewn mater o—wel, yr wyf yn gwerthfawrogi y byddant yn cael 120 eiliad ychwanegol i wneud y penderfyniad. Rwyf yn bryderus iawn am y bobl hynny a fydd yn canfod eu hunain wedi eu neilltuo fel galwad melyn. Nid ydych wedi gosod unrhyw ddisgwyliadau o gwbl i'r bobl hynny gael help. Felly, gadewch i ni ystyried y math o beth a allai ddigwydd. Gallech fod y chwaraewr rygbi o Abertawe sydd bellach yn enwog, â’i goes wedi ei thorri ar gae rygbi, ac nid oes unrhyw dargedau bellach ar gyfer pryd y bydd yr ambiwlans yn eich cyrraedd, oherwydd nid ydych yn debygol o farw o ganlyniad i dorri eich coes. Felly, gallech fod yn aros am hanner awr; gallech fod yn aros am dri chwarter awr; gallech fod yn aros am awr; neu fe allech chi fod yn aros am ddwy awr, yn gorwedd ar y llawr wedi torri’ch coes. Ond mae hynny'n iawn oherwydd bydd yr ambiwlans yn eich cyrraedd ryw bryd ar ryw adeg. Gallech fod yn fenyw ar fin cael babi; gallech fod yn fenyw ar fin cael babi. Yn gyffredinol, diolch byth, rydym yn byw mewn cymdeithas lle nad yw menywod yn marw wrth esgor. Gallai'r ambiwlans eich cyrraedd o fewn 15 munud, hanner awr, neu dri chwarter awr. Ond mae'n iawn: nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw ddisgwyliadau o gwbl o ran pryd y bydd yr ambiwlans yn eich cyrraedd chi. Gadewch i ni fod yn glir: dros y ffin, mae 75 y cant o alwadau coch 1 categori A i gael eu bodloni o fewn wyth munud; mae 75 y cant o'r galwadau coch 2 categori A i’w bodloni o fewn wyth munud; a galwadau C o fewn 19 munud. Mae disgwyliad yn bodoli. Bydd pob galwad arall wedyn yn destun targedau y cytunwyd arnynt ac a gyhoeddwyd yn lleol. Ond nid ydym am gael dim o hyn yng Nghymru o gwbl: dim targedau y cytunwyd arnynt ac a gyhoeddwyd yn lleol; dim targedau ar gyfer y galwadau melyn. A wnewch chi gyfiawnhau eich penderfyniad? A wnewch chi gyhoeddi'r dystiolaeth yr ydych wedi ei chael gan yr ymddiriedolaeth ambiwlans sy'n datgan nad oes angen cael targedau ar gyfer unrhyw beth arall ar wahân i'r galwadau coch? A allwch chi egluro i mi y system sy’n golygu eich bod yn disgwyl y bydd mwy o graffu pan nad oes gennym unrhyw dargedau ar gyfer galwadau melyn o gwbl? Sut ydym ni i fod i wybod a yw'r gwasanaeth yn perfformio'n briodol?
 
A allech chi hefyd achub ar y cyfle hwn i ddweud, pe byddech yn derbyn unrhyw dystiolaeth—unrhyw dystiolaeth o gwbl—a oedd yn dangos bod galwadau yn cael eu hisraddio o goch i felyn wrth iddi ddod yn amlwg nad oedd yr ambiwlans yn mynd i gyrraedd o fewn y targed o wyth munud, y byddech yn ystyried hynny yn fethiant proffesiynol difrifol, ac y byddech yn disgwyl i sefydliadau ymateb yn briodol pe byddai unrhyw dystiolaeth yn dod ger eich bron bod galwadau yn cael eu hisraddio? Os gwnewch chi gadarnhau hynny, byddwn yn ddiolchgar iawn ac yn dawel iawn fy meddwl.
 
Yn olaf, byddwch, rwy'n siŵr, yn sylweddoli nad yw llawer o'r problemau sy'n gysylltiedig â'r amseroedd ymateb sobr o sâl gan ambiwlansys, y mae pobl yng Nghymru wedi bod yn eu goddef ers blynyddoedd, o ganlyniad i drefniadaeth ambiwlans; maent o ganlyniad i golli oriau ambiwlans—gan fod ambiwlansys a pharafeddygon yn cael eu cadw y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys, neu, yn wir, yn cael eu cadw y tu mewn i adrannau damweiniau ac achosion brys, yn methu â rhyddhau eu cleifion. Pa ddadansoddiad ydych chi’n ei gynnal ar gyflwr presennol yr oriau ambiwlans a gollwyd, ac, fel rhan o'ch trefn newydd o fod yn gwbl dryloyw ac agored a bod yn gallu gweld sut y mae pethau yn perfformio, a fyddwch yn cyhoeddi bellach, ar sail reolaidd, yr oriau ambiwlans sy’n cael eu colli mewn adrannau damweiniau ac achosion brys?
 
15:06
Vaughan GethingBywgraffiad
A gaf i ddiolch i'r Aelod am y gyfres o gwestiynau? Mae hyn, os mynnwch, yn ail-adrodd un o'r pwyntiau canolog am y newid a gyhoeddwyd gennym ym mis Gorffennaf, sy'n cael ei weithredu ddechrau mis Hydref. Beth yw lle amser yr ymateb o ran mesur a deall ansawdd y gwasanaeth a ddarperir, ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu, o'i gymharu â'r dangosyddion a’r canlyniadau clinigol eraill? Mae'r cyngor a gawsom ni, yr wyf wedi gweithredu ar ei sail, yn ymdrin â’r categori o alwadau lle y mae ymateb wyth munud yn briodol. Mae hwn yn grŵp o alwadau gwahanol i’r rhai yr ydym ar hyn o bryd yn anfon ymateb wyth munud iddynt; mae’n ddefnydd llawer mwy priodol o'r adnoddau ambiwlans brys sylweddol ac arbenigol. Dylai hynny ynddo'i hun olygu bod mwy o bobl y mae angen y lefel honno o ofal yn fwy prydlon arnynt dderbyn hynny, ac yr wyf yn disgwyl, pan fydd y wybodaeth yn cael ei chyhoeddi ar brydlondeb yr ymateb i alwadau coch, melyn a gwyrdd, y bydd pobl, wrth gwrs , yn gallu craffu arnom. Nid yw'r awgrym y byddwn yn cuddio ac na fyddwn yn cyhoeddi’r wybodaeth honno yn gywir o gwbl. Pan fydd y wybodaeth honno yn cael ei darparu a'i chyhoeddi, bydd pobl yn gallu gweld beth yw’r amser ymateb cyfartalog, faint o bobl sy’n cael eu gweld o fewn amser penodol. Yr hyn nad wyf yn mynd i'w wneud yw peidio â chymryd sylw o unrhyw gyngor—neu nid unrhyw fath o gyngor am yr hyn sy’n amser priodol i’w osod, ond yr hyn a fyddai o fudd i'r claf i osod targed newydd ar gyfer galwadau melyn. Nid wyf yn mynd i osod targed heb unrhyw ystyriaeth—hyd yn oed os yw Aelodau'r wrthblaid yn mynnu fy mod yn gwneud hynny. Nid wyf yn mynd i osod targed amser ymateb newydd ar gyfer y categori melyn hwnnw o alwadau. Nid oes unrhyw dystiolaeth mai hynny fyddai'r peth gorau i'w wneud er lles y gwasanaeth nac er lles y cleifion y mae’r gwasanaeth yno ar eu cyfer mewn gwirionedd.
 
O ran bod yn gallu deall, nid dim ond pa mor gyflym y mae pobl yn cyrraedd galwad melyn, a bydd hyn yn dal i fod o dan amodau golau glas, ond ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu, yr ydych yn dweud, 'Sut y byddwn yn gallu craffu ar hyn?’  Wel, bob chwarter, bydd 25 o wahanol ddangosyddion am ansawdd y gofal a ddarperir yn cael eu cyhoeddi. Bydd llawer mwy o graffu. Rwyf yn disgwyl wynebu llawer mwy o gwestiynau am ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu gan y gwasanaeth ambiwlans, a pha lefel o amrywioldeb sy’n bodoli neu nad yw’n bodoli o amgylch hynny, a phob chwarter bydd hynny yno, ar gael, yn amlwg, i bobl yn y lle hwn ac i ddinasyddion Cymru edrych arno a deall beth yw ansawdd y gwasanaeth, a ydym yn gweld gwelliannau, a yw’n gwneud gwahaniaeth i ganlyniadau cleifion? Oherwydd hynny, wedi'r cyfan, yw'r pwynt o wneud y newid hwn. Mae'r newid hwn yn ymwneud â gwella canlyniadau i unigolion, i bobl sydd angen y gwasanaeth hwnnw ar wahanol adegau mewn amser. Rwy'n mynd yn ôl eto, ac rwy'n fwy na hapus i ailadrodd, bod hyn yn ymwneud â chael y gofal iawn, yn y lle iawn, ar yr adeg iawn.
 
Ynglŷn ag un o'r pwyntiau olaf a wnaethoch, yr wyf yn cydnabod yr hyn a ddywedwch am oriau ambiwlans, ac mae'n bwnc sydd yn rhywbeth yr wyf i yn sicr yn edrych ac yn craffu arno. Pan fyddaf yn dychwelyd i'r pwyllgor, rwyf yn disgwyl, ar gyfer eich adolygiad pellach o'r gwasanaeth ambiwlans brys, y bydd gennyf fwy i’w ddweud a gwybodaeth i’w rhoi am oriau ambiwlans. Ond rwy'n credu fy mod i eisiau ymdrin â'r pwynt am sicrwydd ar israddio o goch i felyn. Mae angen i'r hyfforddiant sy'n cael ei ddarparu ym mhob rhan o’r ymddiriedolaeth ambiwlans a’r byrddau iechyd i gyflwyno'r system newydd sicrhau bod y system yn cael ei chyflwyno mewn modd didrafferth a gonest. Nid wyf yn disgwyl, ac ni fyddwn yn goddef, galwadau coch yn cael eu hisraddio i rai melyn, dim ond er mwyn osgoi sefyllfa lle y ceir targed. Fel yn yr achos lle rydym yn cyhoeddi gwybodaeth sydd, a dweud y gwir, yn ei gwneud yn anodd i ateb cwestiynau yn awr am y targed presennol a'r ffordd yr ymdrinnir ag ef—ond rydym yn cyhoeddi’r wybodaeth honno yn onest—bydd gwybodaeth onest a thryloyw ynghylch yr hyn sy'n digwydd gyda galwadau coch a galwadau melyn a sut y cânt eu categoreiddio. Felly, dyna yn sicr yr wyf yn ei ddisgwyl. Mae gen i ddiddordeb mewn gwelliannau i gleifion; nid oes gen i ddiddordeb mewn chwarae’r system dim ond i geisio creu neu ysgogi mantais sy'n rhoi o'r neilltu yr holl bwynt ynghylch pam y mae’r gwasanaeth hwn yn bodoli a phwy y mae'n eu gwasanaethu.
 
15:09
Rhodri Glyn ThomasBywgraffiad
Rydym ni eisoes wedi mynd y tu hwnt i’r amser ar gyfer y datganiad yma, ac mae llefarydd y Ceidwadwyr wedi cael cyfle i ofyn cyfres o gwestiynau, felly a gaf i ofyn i Suzy Davies ofyn cwestiwn penodol i’r Dirprwy Weinidog?
 
15:10
Suzy DaviesBywgraffiad
Diolch yn fawr, Lywydd dros dro.
 
Dim ond un cwestiwn byr, Ddirprwy Weinidog. Mae hyn yn ymwneud â swyddogaeth cyd-ymatebwyr yn eich cynllun prawf. Mae bodolaeth y gwasanaeth hwn mewn ardaloedd gwledig fel y Gŵyr, yn fy rhanbarth i, yn bwysig ac yn achub bywydau. Roedd yn fater o bryder rai blynyddoedd yn ôl fod nifer y categorïau galwadau difrifol yr oeddynt wedi gallu ymateb iddynt wedi lleihau o 115 i ddim ond pump. Hoffwn i gredu na fydd arbenigedd y bobl hyn sy’n achub bywydau yn cael eu colli o ganlyniad i’ch cynlluniau. O gofio bod diffiniad mor gul yn mynd i fod ar gyfer y categori coch, a wnewch chi gadarnhau a fydd cyd-ymatebwyr yn gallu ymateb i'r rheini? Diolch yn fawr.
 
15:10
Vaughan GethingBywgraffiad
Diolch am y cwestiynau. Rydym yn disgwyl gweld y cynlluniau cyd-ymatebwyr yn parhau. Rydym yn parhau i gael sgyrsiau adeiladol gyda'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus a'r gwasanaeth tân am rannau eraill o'r sector cyhoeddus yn helpu gydag ymatebion cyntaf, ac yn yr un modd, y cynllun ymatebwyr cyntaf cymunedol, sydd mewn gwirionedd yn llwyddiannus iawn ym Mhowys, ac mae’n helpu i wella canlyniadau i gleifion yn sylweddol. Felly, mae hyn, unwaith eto, yn ymwneud â darparu'r ymateb iawn ar yr adeg iawn, ac mae cyd-ymatebwyr ac ymatebwyr cyntaf cymunedol yn bendant yn rhan o'r hyn yr ydym yn disgwyl ei weld yn parhau.
 
15:11
Rhodri Glyn ThomasBywgraffiad
Diolch yn fawr iawn, Weinidog.
 
15:11
4. Datganiad: Datblygu Arfer Proffesiynol drwy'r Fargen Newydd
Rhodri Glyn ThomasBywgraffiad
Galwaf ar y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Huw Lewis.
 
15:11
Huw LewisBywgraffiadY Gweinidog Addysg a Sgiliau
Diolch, Lywydd dros dro.
 
Rwyf wedi nodi o'r blaen y diben ysgogol y tu ôl i’r fargen newydd—i gefnogi ac arfogi gweithlu addysg hynod fedrus a phroffesiynol i ddarparu'r addysg gorau posibl i'n dysgwyr a sefydlu proffesiwn uchel ei statws. Hoffwn gyflwyno adroddiad ar y cynnydd a wnaed eisoes ac amlinellu’r gwaith pellach sydd wedi'i gynllunio dros y misoedd nesaf.
 
Mae llawer o'n hysgolion mwyaf effeithiol eisoes yn arwain datblygiad proffesiynol eraill mewn partneriaeth â'u consortia. Rwyf am ddatblygu’r gwaith hwn ac felly ar ddiwedd y tymor diwethaf, ac mewn partneriaeth â'r consortia, gwnaethom ofyn am ddatganiadau o ddiddordeb gan ysgolion sy'n dymuno bod yn rhan o rwydwaith genedlaethol o ysgolion arloesi. Bydd rhai o'r arloeswyr hyn yn arwain datblygiad y cwricwlwm newydd, tra bydd eraill yn datblygu ac yn hwyluso dysgu proffesiynol yn rhan o'r fargen newydd. Mae'r broses ddethol wedi cychwyn a byddaf yn cyhoeddi pa ysgolion fydd yn cymryd rhan tua diwedd mis Hydref.
 
Cyhoeddais ym mis Mawrth fy mod wedi gofyn i Gyngor y Gweithlu Addysg arwain y gwaith o ddatblygu pasbort dysgu proffesiynol i gefnogi ymarferwyr i fyfyrio ar eu hanghenion a’u profiadau dysgu proffesiynol ac i hwyluso dilyniant gyrfa. Rwy'n falch bod cam cyntaf y datblygiad cyffrous hwn wedi’i lansio yn gynharach y mis hwn ac mae ar gael i'r holl ymarferwyr ar wefan Cyngor y Gweithlu Addysg. Yn seiliedig ar farn ymarferwyr a rhanddeiliaid, a chan ddatblygu eu profiad o'r fersiwn prototeip, bydd Cyngor y Gweithlu Addysg yn datblygu ac yn mireinio'r pasbort ymhellach. Bydd hyn yn sicrhau bod fersiwn derfynol y pasbort yn rhoi’r budd mwyaf i ymarferwyr pan gaiff ei lansio ym mis Medi 2016. Mae hwn yn enghraifft o leoli'r offer ar gyfer dysgu proffesiynol yn lle mae angen iddynt fod—yn nwylo'r proffesiwn.
 
Yn ystod y misoedd diwethaf, mae consortia llywodraeth a rhanbarthol wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd i nodi cyfleoedd datblygu proffesiynol sydd ar gael ar hyn o bryd ledled Cymru, rhannu arbenigedd, a nodi bylchau yn y ddarpariaeth. Rwyf am symud yn gyflym tuag at sefyllfa lle y gallwn sefydlu fframwaith cenedlaethol o ddysgu proffesiynol o ansawdd uchel, wedi’i gydgysylltu gan y consortia, a fydd ar gael ar gyfer yr holl ymarferwyr a’r arweinyddion ble bynnag y maent yn gweithio yng Nghymru. Bydd y fframwaith hwn yn cefnogi llwybrau gyrfa clir er mwyn i ymarferwyr allu cymryd cyfrifoldeb cynyddol am eu dysgu proffesiynol eu hunain. Byddwn yn ymgynghori ag ymarferwyr a rhanddeiliaid am ffurf y llwybrau datblygu gyrfa a’r fframwaith dysgu proffesiynol yn ystod tymor yr hydref.
 
Yn y cyfamser, mae'r ddarpariaeth yn parhau i gael ei chryfhau. O fis Medi eleni mae dau gonsortiwm yn cyflwyno rhaglenni sefydlu braenaru newydd, a fydd yn edrych ar y potensial ar gyfer mwy o ddarpariaeth mewn ysgolion i fynd i'r afael ag anghenion yr athrawon hynny sydd newydd gymhwyso ac sy'n cael eu cyflogi fel athrawon cyflenwi tymor byr. Cafwyd llif cyson o adnoddau ar Dysgu Cymru i alluogi ysgolion yng Nghymru i rannu arfer gorau yn eu darpariaeth gyda'u staff ar gyfer dysgu proffesiynol effeithiol.
 
Rydym wedi sefydlu fframwaith deddfwriaethol o reoli perfformiad a chynllunio datblygiad ysgolion sy'n rhoi datblygiad ymarferwyr wrth wraidd ein gwaith gwella ysgolion. Mae’n rhaid i bob ysgol gael cynllun datblygu staff yn rhan o'u cynllun datblygu ysgol o'r mis hwn ymlaen. Mae undebau a chyflogwyr yn gweithio gyda ni ar hyn o bryd mewn partneriaeth gymdeithasol i ddatblygu canllawiau ar y modd gorau o ddefnyddio hyn i gefnogi ymarferwyr, ysgolion a cholegau. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod dealltwriaeth gyffredin o'r hawl i ddysgu proffesiynol o ansawdd uchel ac ymrwymiad ar y cyd i wneud i hynny ddigwydd.
 
Mae'r safonau proffesiynol yn cael eu hadolygu fel eu bod yn ffurfio fframwaith cydlynol ar gyfer y gweithlu addysg ac yn llywio ac yn ysbrydoli ymarfer proffesiynol wrth i ni symud tuag at y cwricwlwm newydd. Mae’r grŵp arbenigol a gomisiynwyd gennyf wedi cwblhau gwaith cynnar i adolygu'r safonau proffesiynol mewn gwledydd eraill a defnyddio'r gwersi a ddysgwyd i awgrymu trefn gyffredin ar gyfer safonau ar draws y gweithlu addysg yma yng Nghymru. Er mwyn i safonau proffesiynol gael effaith wirioneddol mae angen iddynt gyd-daro â phrofiad dyddiol ymarferwyr. Ni fydd hyn ond yn digwydd os bydd gan ymarferwyr swyddogaeth weithredol yn eu datblygiad. Felly, y tymor hwn, bydd cyfleoedd strwythuredig i ymarferwyr gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu fframwaith safonau newydd. Bydd y cyntaf o'r rhain yn digwydd yr wythnos nesaf pan fydd y bwrdd datblygu arweinyddiaeth cenedlaethol yn cynnal seminar o ymarferwyr blaenllaw a rhanddeiliaid allweddol eraill gyda chyfranogiad yr Athro Graham Donaldson a'r Athro John Furlong. Gyda'i gilydd, byddant yn helpu i ddatblygu'r weledigaeth ar gyfer addysgu yn y dyfodol a gallu arweinyddiaeth, a fydd yn sail i’r safonau proffesiynol a adolygwyd. Bydd ymgynghoriad ffurfiol ar y safonau yn cychwyn yn gynnar yn 2016.
 
Pan gyflwynais fy natganiad ar hyfforddiant ac addysg gychwynnol athrawon ym mis Mehefin, wnes i ddim celu’r ffaith mai fy uchelgais yw i Gyngor y Gweithlu Addysg gael mwy o swyddogaeth wrth ddarparu dysgu proffesiynol gydol gyrfa. Os ydym am roi perchnogaeth a chyfrifoldeb am godi safonau ac ar gyfer datblygu a gwella arfer yn nwylo’r gweithwyr addysg proffesiynol, mae'n iawn inni drafod pa un a yw'n briodol i'r Llywodraeth gadw'r dulliau allweddol o newid neu a ddylem drosglwyddo’r rhain ymlaen i'r proffesiwn. Dros y misoedd nesaf, byddaf yn ceisio barn y rhai sydd yn y system addysg yng Nghymru ynghylch pa un a ddylem ddatblygu a gwella swyddogaeth Cyngor y Gweithlu Addysg i fod yn gorff proffesiynol sy'n debycach i rai mewn proffesiynau eraill. Gallai hyn olygu gosod safonau ar gyfer mynediad i'r proffesiwn, ariannu, achredu a chefnogi ystod o ddysgu proffesiynol yn ogystal â'i swyddogaeth bresennol o ran cofrestru a disgyblu gweithwyr proffesiynol.
 
Mae'n amlwg ein bod yn symud i gyfnod newydd a chyffrous yng Nghymru, sy'n gosod ymarferwyr wrth y llyw. Yr wyf yn dal yn argyhoeddedig y bydd y dull hwn yn cyflwyno'r gwelliannau yr ydym yn ceisio eu sicrhau i ganlyniadau dysgwyr drwy fuddsoddi mewn datblygu gweithlu proffesiynol medrus ac ymroddedig.
 
15:18
Rhodri Glyn ThomasBywgraffiad
Llefarydd y Ceidwadwyr, Angela Burns.
 
15:18
Angela BurnsBywgraffiad
Diolch. Weinidog, diolch yn fawr iawn am gyflwyno eich datganiad heddiw. Byddaf, ar y cychwyn, yn dweud fy mod i a fy mhlaid yn amlwg yn cytuno â chi i'r carn bod angen gwell mynediad at ddatblygiad proffesiynol parhaus ar athrawon—nid ar gyfer eu hunain yn unig, ond i godi’r safonau yn y proffesiwn addysgu yn gyffredinol ac i roi’r proffesiwn hwnnw yn ôl wrth wraidd ein cymdeithas a rhoi’r statws priodol y mae'n ei haeddu iddo, ac mae’n hen bryd i ni wneud hynny.
 
Mae gennyf un neu ddau o gwestiynau, fodd bynnag, o'ch datganiad. Y cyntaf, Weinidog, yw nad ydych yn sôn am gyllid o gwbl. Byddwn yn hoffi cael eglurhad i ddeall o ble y mae'r cyllid ar gyfer y rhaglen hon yn dod. A yw yno eisoes o fewn y consortia rhanbarthol, neu a ydych chi’n ei gyflwyno o adran arall? Os felly, o ba adran y gallai fod yn dod?  Byddai gennyf ddiddordeb mewn deall cost gyffredinol y fenter hon.
 
Aethoch ymlaen i sôn am y ffaith eich bod chi a'r consortia yn bwriadu nodi bylchau yn y ddarpariaeth. Byddai gennyf ddiddordeb mewn deall yr hyn y gallech fod wedi ei ganfod tra’r oeddech yn gwneud hynny a'r hyn sydd wedi'i roi ar waith i lenwi'r bylchau hynny. Rydych yn sôn am ddatblygu fframwaith cenedlaethol o ddysgu proffesiynol o ansawdd uchel. Tybed pa mor hir ydych chi’n credu y gallai ei gymryd i roi hynny ar waith, o ystyried, mae’n rhaid i mi ddweud, hanes braidd yn wantan y consortia rhanbarthol o fod wedi eu sefydlu a gweithredu fel menter ym mhob agwedd heblaw mewn enw am y ddwy flynedd gyntaf. Mae gwir angen gweld hyn yn symud ymlaen yn gyflym iawn.
 
Rydych yn sôn yn un o'r paragraffau eich bod yn dymuno cyflwyno fframwaith deddfwriaethol ar gyfer rheoli perfformiad, ac yr ydych yn sôn am sicrhau bod gan athrawon yr hawl i gyfleoedd hyfforddi. Hoffwn i wybod, Weinidog, sut yr ydych mewn gwirionedd yn mynd i ymdrin â'r mater anodd hwnnw. Rwyf yn gwybod, er enghraifft, am ysgolion sy'n defnyddio eu diwrnodau HMS ar gyfer hyfforddiant i’r ysgol gyfan ac, yn aml, yn enwedig mewn lleoliad cynradd, os yw eu hysgol yn cael ei gorfodi i gau, er enghraifft oherwydd tywydd garw, byddant, mewn gwirionedd yn aberthu diwrnod HMS er mwyn gwneud yn siŵr nad ydynt yn dioddef unrhyw ganlyniadau anffafriol o ganlyniad i fod wedi cau. Mae’n ymddangos bod athrawon iau—athrawon sydd, efallai, ar y gris isaf ac ond yn dechrau dringo i fyny, nad ydynt yn arweinyddion proffesiynol, ac nad oes ganddynt fawr o brofiad—yn cael llawer iawn o anhawster wrth geisio cael hyfforddiant, gan nad oes gan yr ysgolion y capasiti i’w rhyddhau. Felly, Weinidog, tybed sut ydych chi’n mynd i allu ymdrin â hyn mewn gwirionedd. Efallai ei bod yn wych cael cynllun datblygiad proffesiynol parhaus ardderchog wedi’i sefydlu, ond os na all unrhyw un gymryd rhan ynddo, yna nid yw o unrhyw ddefnydd o gwbl.
 
A wnewch chi hefyd, Weinidog, ddweud wrthym beth fydd cynnwys y rhaglenni sefydlu braenaru mewn gwirionedd? Soniasoch fod dau gonsortiwm yn bwrw ymlaen â hynny. Wrth gwrs, rydym hefyd yn gwybod bod un neu ddau o’r consortia wedi cael problemau difrifol yn y gorffennol o ran gallu denu pobl ddigon da i’w swyddi staff cyffredinol, heb sôn am ddatblygu mentrau newydd fel hyn. A allwch chi ddweud wrthym a yw pob un o’r pedwar consortia rhanbarthol bellach yn gwbl weithredol, a ydynt wedi’u staffio'n llawn, ac a fyddant i gyd mewn sefyllfa i allu datblygu’r ymarfer rhaglen sefydlu braenaru hwn?
 
Mae eich paragraff olaf ond un yn codi fy nghalon, er fy mod yn ei weld yn gwbl rwystredig, oherwydd credaf fy mod yn iawn i ddweud bod yr holl bleidiau—yr holl wrthbleidiau—yma yn y Cynulliad wedi’ch annog chi i gymryd camau mwy cadarn ar ddatblygiad proffesiynol parhaus yn ystod Cyfarfodydd Llawn a sesiynau pwyllgor Bil Addysg (Cymru). Roeddem i gyd yn dweud ei bod yn bwysig iawn i gael hyfforddiant priodol ar waith ar gyfer athrawon. Er fy mod yn croesawu hyn, rydych wir yn hwyr yn gwneud hyn, a tybed beth y byddwch yn gallu ei wneud i brofi’n gadarn i ni y byddwch yn gallu symud hyn yn ei flaen a’i ymgorffori ym maes addysgu yng Nghymru.
 
Yn olaf, Weinidog, hoffwn nodi ein bod yn deall mai un o'r rhesymau pam yr ydych yn cyflwyno'r newidiadau i ddatblygiad proffesiynol parhaus yw i baratoi athrawon Cymru ar gyfer y newidiadau cwricwlwm a gynigiwyd gan adroddiad yr Athro Donaldson. Nawr, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn ymwybodol o sylwadau Prif Weinidog yr Alban yn gymharol ddiweddar, nad yw addysg yn yr Alban yn ddigon da, ac rwyf eisiau gwybod os ydych chi’n edrych ar ymarfer gwersi a ddysgwyd er mwyn sicrhau ein bod yn cymryd y gorau o’r hyn a wnaeth yr Athro Donaldson yn yr Alban a chyflwyno hynny yng Nghymru cyn i ni ddechrau ar hyn er mwyn sicrhau ein bod yn dilyn y llwybr hollol gywir, oherwydd credaf nad yw newid aruthrol arall ym maes addysg yn rhywbeth y gall y diwydiant, yr athrawon na'r myfyrwyr ymdopi ag ef.
 
15:23
Huw LewisBywgraffiad
A gaf i ddiolch i Angela Burns am y pwyntiau a'r cwestiynau yna, ac rwyf yn diolch yn arbennig iddi am gytuno’n llwyr â'r hanfodion, o leiaf, y tu ôl i'r newidiadau yr wyf i wedi bod yn eu disgrifio heddiw? Yn gyntaf oll, o ran cyllid, nid yw’r fargen newydd—ac rwyf wedi dweud hyn eisoes—yn ymwneud ag arian newydd; mae'n ymwneud ag ysgolion a cholegau, ac ymarferwyr yn gwneud y defnydd gorau o'r cyllid sydd eisoes yn y system, ac wrth gwrs mae’r cyllid yn eithaf sylweddol mewn gwirionedd. Nid yw'r cytundeb newydd yn ymwneud â chael mwy o arian, ac nid yw ychwaith, ar hyn o bryd o leiaf, yn ymwneud â chael mwy o amser; mae'n ymwneud ag edrych ar yr hyn sydd eisoes yn cael ei wneud yn dda. Ceir enghreifftiau o arfer gorau rhagorol ledled Cymru, ac mae a wnelo, trwy gydlynu’r consortia, a sicrhau bod arfer gorau yn dod yn arfer cyffredin ym mhob man ym mhob rhan o’r system. Nid oes angen cyllid newydd ar gyfer hyn, yn fy marn i. Mae'n ymwneud â sicrhau bod dysgu proffesiynol yn cael ei gynllunio'n iawn, ac mae gennym sail ddeddfwriaethol bellach i’r cyfrifoldeb am hynny fod yn gorwedd gyda'r pennaeth a'r llywodraethwyr. Mae’n rhaid i'r ysgol gael cynllun datblygu. O fewn y cynllun datblygu, mae'n rhaid cael cynllun datblygu staff. O fewn hynny, bydd y gweithiwr proffesiynol unigol yn cario eu pasbort dysgu proffesiynol, sydd yn fesur diogelu ar gyfer y gweithiwr proffesiynol hwnnw, gan ddisgrifio'r camau nesaf yn ei ddatblygiad proffesiynol, yn ogystal ag yn fodd o ddiogelu ar gyfer yr ysgol ac i'r pennaeth sicrhau bod gan bob gweithiwr proffesiynol fomentwm ymlaen o ran ei ddatblygiad proffesiynol. Bydd hwn yn cael ei gofrestru gyda chyngor y gweithlu, a bydd yn eiddo i'r gweithiwr proffesiynol ei hunan.
 
Gofynnodd Angela Burns am nodi bylchau. Wrth gwrs, yn ddiau, os byddwn yn gofyn i ddau ddwsin o weithwyr proffesiynol byddem yn cael dau ddwsin o atebion ychydig yn wahanol o ran beth yw'r bylchau mewn datblygiad proffesiynol ar hyd a lled y wlad. Yn sicr, mae datblygiad proffesiynol yn hanesyddol yn y Deyrnas Unedig, nid yn unig yng Nghymru, wedi bod yn llawer rhy ysbeidiol, anghyson ac amrywiol o ran ansawdd, ond yn amlwg, yn fy marn i, un o'r bylchau strategol y mae angen i ni fynd i'r afael ag ef, a byddaf yn mynd i'r afael ag ef fel mater o flaenoriaeth, yw’r bwlch hwnnw yn y gefnogaeth i’r gweithwyr proffesiynol hynny sydd am wneud y naid i swyddi penaethiaid. Rwy'n credu bod llawer o ddirprwy benaethiaid, er enghraifft, ledled y wlad sydd yn aros yn y swyddi hynny oherwydd eu bod yn credu bod y gagendor rhwng y gofynion proffesiynol arnynt o ran lle y maent a lle y byddent pe byddent yn dod yn bennaeth yn ormodol, yn aml, i rai pobl ystyried gwneud hynny, o gofio’r math o rwydweithiau cymorth sydd ar gael ar hyn o bryd. Rwy'n credu bod angen rhoi sylw i hynny yn gyflym, a bydd ymestyniad o 50 y cant, gyda llaw, yn y niferoedd sy'n cael eu harwain drwy'r cymhwyster pennaeth yn ystod y flwyddyn hon.
 
Pa mor hir fydd hyn yn ei gymryd i’w sefydlu a’i weithredu? Wel, wrth gwrs, mae eisoes wedi ei sefydlu a’i weithredu yn yr ardaloedd hynny yr wyf wedi eu disgrifio sydd eisoes yn gwneud arfer gorau. Yr hyn yr wyf yn ei gynnig i’r proffesiwn yw sail gyfreithiol ar gyfer hyn—mae pawb yn glir ynghylch eu cyfrifoldebau o dan y gyfraith bellach—cynnig pasbort i’r gweithwyr proffesiynol sydd wedi ei gofrestru gyda’u sefydliad proffesiynol eu hunain, fel bod pob unigolyn yn gwybod ble maent yn sefyll a phob pennaeth fel arweinydd yn ei ysgol yn gwybod beth yw sefyllfa pob gweithiwr proffesiynol o ran ei ddatblygiad proffesiynol. Ni all y gwleidydd, yn fy marn i, ond mynd ran o’r ffordd. Gwaith y gwleidydd yw sicrhau bod yr adnoddau ar gael, bod strwythurau ar gael, a bod rhwystrau yn cael eu clirio o lwybr y gweithwyr proffesiynol. Hanfod y fargen newydd yn y dechrau, o'r cychwyn cyntaf, yw dweud na all gwleidyddion gyflawni hyn i gyd. Mae'n eiddo i’r gweithiwr proffesiynol a rhaid iddi fod felly. Mae’n rhaid i hyn fod yn eiddo i'r proffesiwn addysgu. Rhaid i’r proffesiwn ei berchnogi. Ac felly, o ran pa mor hir y bydd yn ei gymryd i gwblhau'r fargen newydd, wel, nid wyf yn credu y byddwn ni byth yn cwblhau’r fargen newydd oherwydd dylai'r broses o ddatblygiad proffesiynol barhau ar sail barhaus trwy gydol gyrfa gweithiwr proffesiynol.
 
Mae hi'n hollol iawn i dynnu sylw at y gair 'hawl' a ddefnyddiais yn fy natganiad, ac yr wyf wedi siarad am y pasbort dysgu proffesiynol fel ffordd o sicrhau bod yr hawl hwnnw yn cael ei ddarparu, a'r cyfrifoldeb hefyd ar yr ysgol i wneud yn siŵr bod yna gynllun datblygu staff y gellir craffu arno; mae hynny ar gael.
 
O ran diwrnodau HMS ac amser wedi'i neilltuo, wrth gwrs, mae fy nwylo yn rhwym i ryw raddau gan y ffaith fod telerau ac amodau athrawon yn parhau i fod heb eu datganoli. Yr wyf wedi dweud y byddwn yn croesawu’r ystyriaeth o ddatganoli’r pwerau hynny fel y gallaf weithio mewn partneriaeth gymdeithasol gyda'r gweithwyr addysgu proffesiynol yng Nghymru i edrych ar ffyrdd y gallwn gynnig amser yn fwy hyblyg o fewn y flwyddyn academaidd i wneud yn siŵr bod pob un gweithiwr proffesiynol yn gallu cael yr hawl hwnnw yr ydym wedi sôn amdano.
 
Mae hi'n hollol iawn i ddweud bod y fargen newydd wedi ymwneud i raddau helaeth â’r newid yn y cwricwlwm yr ydym ar fin mynd drwyddo, ond nid hynny’n unig. Mae gwella ysgolion ym mhob rhan o’r system, hyd yn oed pe na fyddem yn newid ein cwricwlwm, a hyd yn oed pe byddai popeth arall yn sefyll yn llonydd o fewn y system—er nid wyf yn credu eich bod yn gallu sefyll yn llonydd mewn system addysg mewn gwirionedd—. Mae lefel y datblygiad proffesiynol sydd wedi bod ar gael yn y gorffennol, yn fy marn i, wedi bod yn annigonol. O ran mesurau rhyngwladol, mae'n sicr wedi ei ganfod fel bod yn annigonol mewn sawl mesur, ac nid ydym yn cynnig i’n gweithwyr proffesiynol, neu nid ydym wedi cynnig i’n gweithwyr proffesiynol, yr hyn y maent ei angen a’r hyn y maent yn ei haeddu er mwyn bod y gorau y gallant fod ac i ddarganfod eu cryfder proffesiynol gwirioneddol ym mhob un ysgol.
 
Felly, ydy, mae hyn yn ymwneud â’r newid yn y cwricwlwm, ond mae hefyd yn ymwneud â math newydd o broffesiwn addysgu, gyda safonau uwch, ein disgwyliadau ohonynt yn uwch a pharch y cyhoedd tuag atynt hefyd yn uwch. Ac rwyf yn credu mai dyna lle y mae pawb eisiau bod; dyna lle y mae'r proffesiwn yn haeddu bod a dyna y mae ein pobl ifanc yn ei haeddu o ran y proffesiwn sy'n eu gwasanaethu.
 
Wrth gwrs, rydym yn dysgu gwersi o'r Alban ac mae'r Athro Donaldson, fel y gwyddoch, yn dal i fyw yn yr Alban, rwy’n credu. Roedd yn ymwneud yn agos â'r cwricwlwm ar gyfer rhagoriaeth yn yr Alban, ond nid dyna'r unig le yr ydym yn dysgu gwersi oddi wrtho. Mae tebygrwydd i’r profiad a gafodd yr Alban ychydig amser yn ôl, ond yr wyf bob amser yn awyddus iawn i sicrhau bod swyddogion yn cadw llygad ar ddatblygiadau ledled y Deyrnas Unedig, Ewrop a thu hwnt.
 
15:31
Rhodri Glyn ThomasBywgraffiad
Rydym eisoes wedi cymryd dwy ran o dair o’r amser sydd wedi’i ddynodi ar gyfer y datganiad yma ac mae yna dri eto i ofyn cwestiynau. Jeff Cuthbert.
 
15:32
Jeff CuthbertBywgraffiad
Diolch, Lywydd dros dro. Weinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad heddiw a chofnodi fy nghefnogaeth i'r camau yr ydych yn eu cymryd i wella'r cyfleoedd datblygiad proffesiynol sydd ar gael i weithwyr addysg proffesiynol yma yng Nghymru? Gwn ein bod yn fy etholaeth i yng Nghaerffili wedi gweld canlyniadau TGAU a Safon Uwch calonogol iawn yn ystod yr haf ac rwy’n llwyr gefnogi'r fargen newydd o ran ein helpu i adeiladu ar y momentwm newydd yr ydym yn ei weld mewn addysg yng Nghymru i wella'r addysgu a’r dysgu ymhellach yn yr ystafell ddosbarth yn ystod y blynyddoedd nesaf.
 
Dim ond un neu ddau bwynt cyflym iawn oddi wrthyf i. Mae un ynglŷn ag ymgysylltu â'r proffesiwn ei hun. Mae’r maes addysg, undebau llafur a'u haelodau yn ei gwneud yn glir iawn eu bod yn cefnogi'r dull partneriaeth gymdeithasol yr ydych chi’n ei ddatblygu yma yng Nghymru ar gyfer polisi addysg. Yn benodol, tybed a wnewch chi ddweud ychydig mwy am sut yr ydych yn ymgysylltu'n effeithiol â’r gweithlu yma yng Nghymru i sicrhau bod y fargen newydd yn darparu'r datblygiad proffesiynol mwyaf effeithiol, cyfredol a pherthnasol posibl i ymarferwyr ar, fel yr oeddwn yn arfer ei ddweud pan oeddwn yn yr ysgol, yr wyneb sialc.
 
Mae addysg bellach yn agwedd bwysig iawn o ddysgu. Felly, yn ail, os gwelwch yn dda a wnewch chi egluro’r defnydd o'r egwyddorion a manteision y fargen newydd i'r sector addysg bellach.
 
15:33
Huw LewisBywgraffiad
A gaf i ddiolch i Jeff Cuthbert? Ydw, wrth gwrs, yr wyf yn disgwyl gweld mwy o gydweithio rhwng yr holl bartneriaid allweddol sy'n rhan o’r diwygiadau pwysig hyn—y consortia, cyngor y gweithlu ei hun, Estyn yn wir, a'r undebau gweithlu. Mae pawb yn gwybod beth sy'n gweithio. Mae gennym syniad eithaf da o lle mae'r arfer ragorol, a dim ond trwy sicrhau bod yr holl actorion hynny yn y ddrama yn gweithio gyda'i gilydd y gallwn wneud yn siŵr bod yr arfer rhagorol hwn yn dod yn arfer cyffredin ar hyd a lled y wlad. Un o fy nghamau gweithredu cynnar oedd sefydlu grŵp partneriaeth ar gyfer y fargen newydd; yn y bôn, partneriaeth gymdeithasol rhwng fy swyddogion, undebau llafur a chyflogwyr, ac mae’r grŵp hwnnw eisoes yn datblygu canllawiau i ysgolion a cholegau ar sut y gellir sicrhau hawl i ddysgu proffesiynol ar gyfer pob ymarferydd, er enghraifft. Felly, dyna beth y maent yn gweithio arno ar hyn o bryd.
 
Sefydlwyd grŵp consortiwm bargen newydd hefyd, sy'n cynnwys y swyddogion sy'n gyfrifol am y fargen newydd ac arweinwyr gweithredol o’r consortia, ac amcanion y grŵp hwnnw yw sicrhau bod pob ymarferydd yn cael cyfle i ddilyn datblygiad proffesiynol o ansawdd uchel a bod yr holl ddysgu proffesiynol o werth ac ansawdd digonol fel ei fod yn galluogi ymarferwyr i fireinio eu hymarfer drwy gydol eu gyrfa. Wrth gwrs, mae'r sector addysg bellach yn bartner cyfartal yn hyn i gyd. Mae egwyddorion dysgu proffesiynol effeithiol ar gyfer yr holl ymarferwyr addysg mewn gwirionedd, a byddwn yn disgwyl i sefydliadau addysg bellach ystyried sut y gall y model dysgu proffesiynol gael ei gymhwyso yng nghyd-destun datblygu eu gweithlu, ac maent yn sicr o blaid gwneud hynny, ac yn rhan o’r bartneriaeth ehangach honno.
 
15:35
Rhodri Glyn ThomasBywgraffiad
Llefarydd Plaid Cymru, Simon Thomas.
 
15:35
Simon ThomasBywgraffiad
Diolch, Ddirprwy Lywydd dros dro. Mae Plaid Cymru yn credu’n gryf y dylai fod gan y proffesiwn addysgiadol safonau wedi eu cytuno gan y proffesiwn ei hun, wedi eu harwain gan y proffesiwn, a bod datblygu proffesiynol yn rhan hanfodol o’r ddarpariaeth ar gyfer athrawon a chynorthwywyr dosbarth, a phobl sy’n gweithio yn y maes, ac y dylai fod yna hawl—ac yn fwy na hawl, hyd yn oed, dylai fod yna orfodaeth, i raddau—i gadw lan gyda datblygiad proffesiynol. Ac, i’r graddau y mae datganiad heddiw gan y Gweinidog yn ein symud ni tuag at y nod yna, rwy’n croesawu’r hyn sydd ganddo i’w ddweud, ond mae yna ddau neu dri chwestiwn yn aros.
 
Mae’n rhaid gofyn yn gyntaf i’r Gweinidog a all e esbonio mwy am y ffordd y mae’r proffesiwn yn mynd i arwain a gosod safonau. Soniodd am y digwyddiadau a fydd yn digwydd yn yr hydref yma, a soniodd y bydd safonau yn cael eu hymgynghori arnyn nhw yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Ond, ym mha ffordd—ym mha ddulliau—y bydd y partneriaid, nid jest ond yn rhan o’r broses, ond yn arwain ac yn gosod y nod? Mae’n amlwg bod gan Gyngor y Gweithlu Addysg newydd rôl hanfodol i’w chwarae yn hwn. Ac, fel y dywedodd Angela Burns, mae’n eironig bod y math o weledigaeth a oedd gen i—ac, rwy’n meddwl, gan bleidiau eraill hefyd—o’r cyngor yma wedi cael ei gwrthod gan y Gweinidog ar y pryd, wrth i ni drafod y Bil, ac sydd nawr wedi dod i realaeth. Rwy’n croesawu hynny, ond rwy’n ofni—wel, yn hytrach nag ofni, rwy’n gofyn i’r Gweinidog pa drafodaethau, felly, y mae’n eu cael gyda Chyngor y Gweithlu Addysg newydd a’r undebau i wirio bod y cyngor yn addas o hyd ar gyfer y pwrpas mwy eang yma.
 
Rwy’n poeni’n arbennig bod aelodau’r cyngor wedi eu penodi yn uniongyrchol gan y Gweinidog, lle rwyf i o’r farn y dylai fod y proffesiwn ei hun yn arwain ar faes datblygu proffesiynol. Rwyf hefyd yn ofni a ydyw’r cyngor wedi ei ariannu a’i gyllido’n ddigonol. Os edrychwch chi ar yr arian sydd wedi ei neilltuo ar gyfer y fargen newydd, mae tua, rwy’n credu, £40 y pen fesul athro neu fesul gweithiwr addysg. Nid yw’n swnio’n llawer i fi i gynnal y math o weledigaeth y mae’r Gweinidog wedi ei gosod heddiw.
 
Un o’r pethau eraill sydd ar goll o’r datganiad, neu sydd ddim wedi ei esbonio’n llawn yn y datganiad, yw yr hyn fydd yn digwydd i athrawon cyflenwi a’r hyn sy’n digwydd i athrawon newydd i wneud yn siŵr bod y ddau set yna o athrawon, sydd wedi cael eu hepgor yn y gorffennol o ddatblygiad proffesiynol, yn cael eu diwallu o ran eu hanghenion. Fe soniodd y Gweinidog fod dau gonsortiwm yn edrych ar ddulliau newydd o gynnwys athrawon newydd, ac rwy’n croesawu hynny, ond mae yna bedwar consortiwm yng Nghymru ac mae eisiau gwneud yn siŵr bod yna ddynesiad cenedlaethol tuag at athrawon newydd ac athrawon cyflenwi. Felly, byddwn i’n hoffi clywed ychydig mwy gan y Gweinidog ar hynny.
 
Y cwestiwn mawr arall, ac fe soniodd y Gweinidog amdano wrth ateb—rwy’n credu taw i Angela Burns oedd e, ond wrth ateb, beth bynnag—yw’r ffaith nad yw amodau a chyflogau athrawon wedi eu datganoli, wrth gwrs. Byddwn i’n gwerthfawrogi diweddariad gan y Gweinidog ynglŷn ag unrhyw drafodaethau sy’n digwydd yn nhermau deddfwriaeth newydd, a symud tuag at ddull newydd o ddatganoli, a dull newydd o gynnal cyfansoddiad y lle hwn; ydy cyflogau ac amodau athrawon yn rhan o hynny? Peth da yw darparu ar gyfer hyfforddiant a datblygu proffesiynol, ond un o’r pethau sy’n tanseilio morâl y proffesiwn, ac athrawon hefyd, yw baich gwaith, a’r ffaith eu bod yn gorfod delio â gwahanol dargedau a gwahanol ddisgwyliadau sydd yn cael eu gosod, ar hyn o bryd, ar lefel Cymru a Lloegr, ac nid yw hynny bellach yn addas, gan fod Lloegr mor wahanol, mor wahanol, o ran ei natur i Gymru.
 
A oes gan y Gweinidog ragor i’w ddweud hefyd am y radd Meistr mewn ymarfer addysgiadol? Mae yna adroddiadau brith ynglŷn â llwyddiant y radd hon. Roedd i fod yn rhan o’r ateb gan y Llywodraeth tuag at y diffyg datblygiad proffesiynol, yn enwedig ymysg athrawon newydd, ond rwy’n clywed bod yna ddiffygion yn y system, yn enwedig wrth ganfod a chynnal y system mentora tu fewn i’r Meistr. Byddem ni’n hoffi clywed beth yw’r sefyllfa ddiweddaraf ar ran hynny.
 
Mae’r cwestiwn olaf oll ynglŷn â datblygu hyfforddiant athrawon tu fewn i golegau. Wrth gwrs, fe gawsom ni adroddiad cynhwysfawr iawn gan yr Athro Furlong, ond nid ydym wedi clywed llawer ers hynny ynglŷn â’r gwelliannau sydd eu hangen, ac sydd wedi cael eu cydnabod gan y Gweinidog sydd eu hangen, ar gyfer gwella ymarfer dysgu, ac, yn benodol, ar gyfer gwella sgiliau athrawon o flaen y dosbarth, a sgiliau athrawon ar gyfer cau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng y plant mwyaf difreintiedig a’r gweddill. Rwy’n gobeithio bod modd i’r Gweinidog ateb rhai o’r cwestiynau yna a gwneud hynny ar sail y ffaith fy mod i eisiau gweld yr un peth yn digwydd ag y mae ef wedi’i osod yn y datganiad yma.
 
15:40
Huw LewisBywgraffiad
A gaf i ddiolch i Simon Thomas am y sylwadau yna? Yr wyf yn rhannu ei farn bod yn rhaid i weithwyr proffesiynol berchnogi’r broses gyfan hon. Yn wir, mae’n rhaid iddi fod eu proses nhw dros amser, os yw i fod mor llwyddiannus ag y byddem yn dymuno iddi fod. O ran sut y caiff hyn ei harwain a sut y caiff ei ddarparu, wel, rwyf wedi disgrifio'r trefniadau partneriaeth gymdeithasol yr ydym yn gweithio drwyddynt ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn ffyrdd eithaf gwreiddiol—newydd o weithio. Nid yw hyn erioed wedi digwydd o'r blaen mewn gwirionedd yn ein system ni, ac rwyf yn falch iawn hyd yma â'r ffordd y mae partneriaid yn dod ynghyd gyda meddylfryd cadarnhaol am wthio pethau ymlaen: cyflogwyr, undebau llafur a'r Llywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd fel un ar gyfer cyfres o flaenoriaethau y cytunwyd arnynt ar gyfer y dyfodol.
 
Rwyf wedi disgrifio hefyd sut, dros amser, y byddwn yn gweld y corff a fyddai’n etifeddu gwaith cyngor y gweithlu—pa un a fydd yn parhau i gael ei alw yn gyngor y gweithlu ai peidio; nid wyf yn gweld unrhyw reswm, i newid yr enw, mewn gwirionedd—yn esblygu i fod yn gorff sy'n mynd y tu hwnt i reoleiddio a disgyblu o ran y dyletswyddau y mae'n eu hysgwyddo ac yn dod yn sefydliad proffesiynol sy'n sbarduno gwelliant, goruchwylio ansawdd, gwneud galwadau ar ei aelodau, ond hefyd yn mynnu parch at ei aelodau hefyd. Nid wyf yn meddwl y gellir deddfu ar gyfer hyn dros nos. Unwaith eto, mae’r math hwnnw o sefydliad—.Roedd angen i gyngor y gweithlu ddod i fodolaeth gyfreithiol, os mynnwch chi, a dyna oedd diben y Bil. Nid wyf yn credu y gallwch ddeddfu i gael y math hwnnw o gapasiti—y math hwnnw o weddnewidiad o berthnasoedd o fewn y system—i ymddangos dros nos. Mae'n rhaid gweithio ar hynny. Rwy'n meddwl bod esblygiad y system hon yn ddull realistig o wneud yn siŵr bod ffydd yn cael ei gynnal yn y system, bod y sioc i'r system, a fyddai Simon Thomas ac eraill, rwy'n siŵr, wedi cwyno amdano, 'Diwygio enfawr eto o fewn y system addysg' ac yn y blaen, a byddai’r undebau llafur wedi dweud rhywbeth tebyg—. Rwy'n credu bod y ffordd hon ymlaen, lle mae deialog cyson rhwng y partneriaid sy'n cymryd rhan, yn fwy cynaliadwy ac yn fwy tebygol o ennyn ffydd, ac mae ffydd yn bwysig iawn o ran y berthynas rhwng yr holl bartneriaid sydd ynghlwm.
 
Mae'n iawn i ddweud nad oes digon o arian. Rydw i wedi dweud hyn fy hun ac rwyf wedi dweud hynny’n gyhoeddus; Rwyf wedi dweud hynny wrth yr undebau llafur ac unrhyw un arall sy'n barod i wrando: os ydym yn mynd i gael datblygiad proffesiynol parhaus o’r radd flaenaf, y bydd cyngor y gweithlu yn ei oruchwylio ac yn rheoli ei ansawdd yn y dyfodol, yna mae'n rhaid cael agwedd newydd tuag at sut y mae hyn yn cael ei ariannu. Ac, wrth gwrs, mae llawer o broffesiynau allan yna, o gyfreithwyr i ffisiotherapyddion, sy'n codi i'r her hon ac, wrth gwrs, mae her yn rhan annatod o’r hyn rwy'n ei ddweud yma ar gyfer y gweithwyr addysgu proffesiynol eu hunain o ran y rhesymeg sy'n dilyn. Os ydym am gael y safon uchaf, os ydym am gael y gorau yn y byd, bydd Llywodraeth Cymru yno—bydd Llywodraeth Cymru yn bartner yn y broses—ond yn syml nid oes digon o arian yn y system fel ag y mae. Felly, mae’r cwestiwn yn bodoli. Bydd yn rhaid i gyflogwyr, y gweithwyr proffesiynol eu hunain a'r Llywodraeth godi i’r sialens: y tri ohonynt, gan gynnwys y gweithwyr proffesiynol.
 
Mae athrawon cyflenwi wedi eu cynnwys. Wrth gwrs, bydd ganddynt hwythau eu pasbort proffesiynol, ond mae'n iawn i ddweud bod dylanwad Whitehall yn parhau i fod yno o ran tâl ac amodau. Ni allaf roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddo am sefyllfa’r trafodaethau ar Fil Cymru a lle y gallem fod o ran cyflog ac amodau; rwy'n ofni bod hynny'n digwydd ychydig yn uwch na fy ngradd cyflog i ar hyn o bryd ac mae yn rhywle yn y cyfathrebu rhwng Whitehall a swyddfa'r Prif Weinidog, mae’n siŵr. Ond byddaf yn gallu rhoi diweddariad—wel, rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn fuan iawn o ran yr hyn y mae Bil Cymru yn ei olygu i ni, ond mae'n iawn i ddweud, ac yr wyf yn cytuno ag ef ar hyn, ac mae hyn yn bwysig iawn, bod y model Cymru a Lloegr hwn o reoli’r proffesiwn a’i gyflog a’i amodau yn dod yn fwyfwy anghynaladwy.
 
Mae natur dameidiog y system yn Lloegr eisoes yn anhebyg iawn i’r ffordd y mae pethau'n cael eu gweithredu yng Nghymru, ac yn sicr nid yw'n cynrychioli model y byddem ni yn dymuno ei efelychu mewn unrhyw ffordd o gwbl—wel, ni allaf feddwl am unrhyw ffordd, beth bynnag. Felly, yn fy marn i, o ran yr hyn sydd orau i'n disgyblion, sydd orau ar gyfer ein hysgolion ac sydd orau ar gyfer ein gweithwyr proffesiynol, yw ein bod yn cael mynd ati i ddatblygu a llunio system sy'n addas i'r drefn addysgol yng Nghymru: a dyna, siawns, yw diben datganoli.
 
Mae’r cwrs Meistr, wrth gwrs, yn dal i gael ei ddarparu. Roedd rhai materion yn ymwneud â mentora. Fy nealltwriaeth i yw bod y problemau yn ymwneud â staffio a mentora, a oedd, rwy’n meddwl, o ganlyniad i nifer fawr o broblemau iechyd annisgwyl ymysg rhai mentoriaid ac yn y blaen, ond byddaf yn ysgrifennu ato gyda’r wybodaeth ddiweddaraf—fy nealltwriaeth i yw bod y diffygion hynny wedi'u bodloni. Mae’r cwrs Meistr, wrth gwrs, yn rhywbeth arall y bydd angen i ni ei ddatblygu wrth i ni siarad am yr hyn y mae Furlong yn ei olygu, sy'n dod â mi at ei bwynt olaf. Byddaf yn gwneud cyhoeddiadau pellach ynghylch gwaith dilynol ar adroddiad John Furlong, sydd yr un mor bwysig—yr un mor bwysig i'r fargen newydd—yn fuan iawn; rwy’n rhagweld mai’r mis nesaf fydd hynny.
 
15:47
Rhodri Glyn ThomasBywgraffiad
Unwaith eto, rŷm ni wedi mynd y tu hwnt i’r amser sydd wedi’i ddynodi ar gyfer y datganiad hwn ond mae yna un llefarydd i ofyn cwestiynau eto, ac nid oes modd i’w ddal ef yn gyfrifol am y ffaith ein bod wedi mynd y tu hwnt i’r amser—Aled Roberts, llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol.
 
15:47
Aled RobertsBywgraffiad
Diolch, Ddirprwy Lywydd dros dro. Rwy’n siŵr y gwnaf gymryd eich cyfarwyddyd chi.
 
A gaf i jest ofyn yn fras, Weinidog, rydych chi wedi sôn, wedi cyfaddef, i ryw raddau, bod—. Nid wyf yn meddwl bod unrhyw un o’r gwrthbleidiau’n anghytuno efo’r bwriad yma bod y proffesiwn yn gyfrifol am ffordd ymlaen ac yn gyfrifol am safonau a, hwyrach, ein bod ni fel gwleidyddion yn camu’n ôl, i ryw raddau. Ond, wrth wneud hynny, wrth gwrs, rydych chi wedi dweud bydd yna gost i hynny. A gaf i ofyn ichi, wrth i chi ddweud y prynhawn yma eich bod chi’n bwriadu bod y pasbort electronig yma yn cael ei gyflwyno’n llawn erbyn mis Medi 2016, os yw’r gost o redeg y pasbort yna’n flynyddol, rŵan, wedi cael ei asesu?
 
Wrth symud ymlaen i’r cyngor neu ba gorff bynnag fydd yno yn y dyfodol yn derbyn cyfrifoldeb dros y proffesiwn a safonau’r proffesiwn a datblygiad proffesiynol, rydych chi wedi sôn y bydd yna drafodaethau rhwng yr undebau, cyflogwyr a’r Llywodraeth dros y misoedd sydd i ddod. Mae’n debyg mai’r prif rwystr i unrhyw gytundeb, i ryw raddau, ydy’r gost, os ydych chi’n trosglwyddo’r gost i’r athrawon unigol. A ydy’r holl waith yna wedi’i gwblhau, wrth gofio, wrth gwrs, bod y ffioedd ar hyn o bryd, i ryw raddau, yn cael eu derbyn gan y cynghorau? Os oes yna godiad sylweddol o ran y gost i’r athrawon, a ydych chi wedi trafod, hwyrach, efo’r Gweinidog Cyllid, os bydd yna drefniadau dros dro am gyfnod i ysgwyddo rhan o’r baich o ran y Llywodraeth?
 
Rydych chi hefyd wedi dweud bod y consortia, neu ddau o’r consortia, yn cwblhau gwaith o ran trefniadau ar gyfer athrawon newydd. Mae’r pwyllgor plant, wrth gwrs, wedi bod yn poeni’n fawr am y sefyllfa wrth i’r athrawon newydd yna fod yn gyfrifol am lawer iawn o’r swyddi cyflenwol. A allwch ddweud wrthym ni pa gonsortia sydd yn cyflwyno’r rhaglenni yna ac a ydy’r ddwy raglen yn union yr un fath neu a fyddwch chi fel Llywodraeth yn asesu llwyddiant y ddwy raglen wahanol? A ydych chi’n bwriadu y bydd yna amserlen benodol i gael cyflwyno’r trefniadau newydd yna ar gyfer athrawon cyflenwi o fewn hyn a hyn o amser?
 
Rwy’n croesawu beth rydych chi wedi dweud prynhawn yma ynglŷn â phrifathrawon. Mae gennyf brofiad yn f’ardal i o ddirprwyon nid eu bod nhw ddim yn awyddus i gael swyddi fel prifathrawon, ond eu bod nhw ddim yn gallu mynd ar y cwrs, ac, o achos hynny—. Mae yna bolisi o fewn rhai cynghorau, heb y cymhwyster yna, eich bod chi ddim hyd yn oed yn gallu ceisio am swydd prifathro.
 
Hefyd, a gaf i ofyn ichi a ydy’r cyfarwyddyd yma o ran y canllawiau newydd o ran cynlluniau datblygu staff—a ydy’r cynghorau wedi ysgrifennu at y cyrff llywodraethol? Mi oedd gennyf gyfarfod o gorff llywodraethol wythnos diwethaf adref, ac roeddem ni’n trafod cynllun datblygu'r ysgol, ond nid oeddwn i’n ymwybodol tan heddiw bod yna ganllawiau newydd yn eu lle ar gyfer datblygu staff. Felly, hwyrach bod yna angen i’r Llywodraeth wneud yn siŵr bod y neges yna yn cael ei gyflwyno i’r ysgolion unigol er mwyn i lywodraethwyr—os ydych chi’n dweud eu bod nhw’n gyfrifol—dderbyn y cyfrifoldeb yna.
 
15:51
Huw LewisBywgraffiad
A gaf i ddiolch i Aled Roberts am y pwyntiau yna? Rwy'n credu ei fod yn hollol iawn, ac yr wyf yn meddwl bod consensws yn dod i'r amlwg o fewn Cymru, yn wleidyddol ac mewn mannau eraill, am yr angen i wleidyddion, dros amser, gamu'n ôl—rwy’n meddwl mai dyna’r ymadrodd a defnyddiodd Aled Roberts. Rwy'n credu bod hynny'n hollol iawn. Rwy'n meddwl bod y corff allweddol o bobl y mae angen rhoi’r egni a'r gallu iddynt os ydym am wella ysgolion—.Os yw ein system am fod yn drefn hunan-wella, nid yw'r corff allweddol o bobl yn cynnwys gwleidyddion; mae'n cynnwys gweithwyr addysgu proffesiynol. Yn wir, caf fy atgoffa o gyfweliad a glywais unwaith gyda Gweinidog Addysg y Ffindir, a ddywedodd unwaith, yn ei fodd di-flewyn ar dafod sy’n nodweddiadol iawn o’r gwledydd Sgandinafaidd, ei bod yn wych i fod yn Weinidog Addysg yn y Ffindir gan nad oedd llawer iawn i'w wneud. Byddwn yn edrych ymlaen at hynny. [Chwerthin.] Nid wyf yn gwybod os byddaf yn byw yn ddigon hir i weld hynny, ond rwy’n meddwl eich bod yn deall yr hyn yr oeddwn yn ei olygu.
 
O ran y pasbort, byddwn yn dweud ynglŷn â'ch sylwadau am y cyngor a'r adnoddau gweithlu, nad oes mwy o adnoddau. Cydweithwyr y Ceidwadwyr Cymreig yn Whitehall sy’n gyfrifol am hynny. Nid oes mwy o adnoddau na'r hyn sydd eisoes yn bodoli yn y system. Mae'r pasbort ei hun yn gost isel, mewn gwirionedd. Yn ei hanfod, mae’n ddogfen electronig a fydd yn cael ei gynnal gan gyngor y gweithlu a'i ddiweddaru gan y gweithiwr proffesiynol mewn ymgynghoriad â'i reolwyr llinell, gyda'i bennaeth, a bydd goruchwyliaeth, wedyn, drwy'r consortia o ran gwneud yn siŵr bod pawb yn deall hyn i gyd. Felly, ni fyddwn yn rhagweld y byddai gwariant enfawr yn hynny o beth.
 
Ond rydych yn hollol iawn i ddweud, pan geir newid sylweddol cyffredinol mewn ansawdd darpariaeth datblygiad proffesiynol parhaus, wel, rydym ni, yn ôl pob tebyg, yn siarad am lefelau gwahanol iawn o adnoddau. Rwyf wedi gofyn i swyddogion ddechrau modelu, yn fras, fel amlinelliad, yr hyn y gallai ei olygu o ran y cyfraniadau gan y Llywodraeth, efallai gan lywodraeth leol a chonsortia, a chan y gweithwyr proffesiynol hefyd, a pha fath o fodelau o gyd-ariannu y gallem ddechrau eu trafod trwy bartneriaeth gymdeithasol. Nawr, mae llawer iawn yn dibynnu ar agwedd y cyrff proffesiynol yn hyn o beth. Mae system, efallai, sy’n cyfuno adnoddau trwy gyngor y gweithlu, system sydd ar raddfa amrywiol yn ôl statws a chyflog y gweithiwr proffesiynol, fel bod penaethiaid, wrth gwrs, yn talu ychydig yn fwy nag athrawon sydd newydd gymhwyso, yn ymddangos yn rhesymol, ond nid ydym wedi trafod y pethau hyn eto, ac nid oes gennyf unrhyw fwriad o orfodi model heb gael trafodaeth briodol i ddechrau. Ond rwyf wedi gofyn i swyddogion ddechrau llunio rhai modelau amgen yn fras ar gyfer ystyriaeth gychwynnol. Bydd y rheini ar gael yn fuan, a byddaf yn eu cadw’n gwbl gyfrinachol.
 
O ran ei sylwadau am gyrff llywodraethu, rwy'n bryderus iawn am hynny. Byddwn i’n meddwl, trwy'r cylchlythyrau a diweddariadau arferol, y dylai cyrff llywodraethu fod yn ymwybodol o hyn. Byddaf yn gofyn i’m swyddogion ymchwilio. Rwy’n gobeithio mai achos unigol yn unig yw hwn, a byddaf yn ysgrifennu ato, ar ôl i mi fynd at wraidd yr hyn sy'n digwydd yn y fan yna.
 
15:55
Rhodri Glyn ThomasBywgraffiad
Diolch yn fawr iawn, Weinidog.
 
15:55
5. Datganiad: Gweithlu’r Gwasanaethau Cyhoeddus
Rhodri Glyn ThomasBywgraffiad
A statement by the Minister for Public Services, public service workforce. I call on the Minister for Public Services, Leighton Andrews.
 
15:55
Leighton AndrewsBywgraffiadY Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Diolch, Ddirprwy Lywydd dros dro.
 
Mae'r Llywodraeth hon yn cydnabod bod gwasanaethau cyhoeddus cryf yn dibynnu ar weision cyhoeddus ymroddedig sydd â’r sgiliau a'r gefnogaeth briodol i'w cyflawni.
 
Mae heriau pwysig i fynd i'r afael â nhw wrth ddiogelu a gwella ein gwasanaethau cyhoeddus yn erbyn cefndir o fesurau cyni Llywodraeth y DU. Ond nid yw’r heriau yn dod o ganlyniad i’r mesurau cyni yn unig. Mae’r ffaith bod anghenion a disgwyliadau ein dinasyddion yn newid a thechnolegau newydd hefyd yn golygu bod gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i esblygu a diwygio. Trwy weithio mewn partneriaeth gymdeithasol â chyflogwyr ac undebau llafur drwy Gyngor Partneriaeth y Gweithlu Gwasanaethau Cyhoeddus rydym yn sicrhau diwygiadau sy'n darparu cyfleoedd ar gyfer datblygu'r gweithlu yn ogystal â cheisio darparu diogelwch ar gyfer y dyfodol i'n gweithlu gwasanaethau cyhoeddus a werthfawrogir. Mae gan Lywodraeth Cymru agenda ar gyfer datblygu a chefnogi’r gweithlu gwasanaethau cyhoeddus i wneud cymaint o gyfraniad â phosib tuag at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus datganoledig.
 
Fel un rhan o hyn, ar 24 Mawrth, cyhoeddais y byddwn yn sefydlu Comisiwn Staff Gwasanaethau Cyhoeddus anstatudol. Yn dilyn hynny cyhoeddais fod Gill Lewis wedi ei phenodi yn gadeirydd. Yn ymuno â Gill mae Sally Ellis, Margaret Foster, Graham Jones, Martin Mansfield a Harry Thomas—pum unigolyn medrus ac uchel eu parch yn eu meysydd. Rydym hefyd wedi penodi prif weithredwr y comisiwn staff, yn dilyn ymarfer recriwtio allanol agored. Bydd Alison Phillips, sy’n ddirprwy gomisiynydd yn swyddfa’r comisiynydd pobl hŷn yng Nghymru ar hyn o bryd, yn dechrau cyn bo hir.
 
Bydd y comisiwn staff yn cynnal ei gyfarfod cyntaf gyda Chyngor Partneriaeth y Gweithlu fis nesaf i drafod ei raglen waith. Yn amlwg, mae'r diwygiadau i lywodraeth leol yn golygu bod materion gweithlu allweddol i’r comisiwn eu hystyried. Credaf y bydd cyflogwyr awdurdod lleol, gweithwyr ac undebau yn croesawu'r cyngor awdurdodol y gall y comisiwn ei gynnig. Fodd bynnag, mae'r blaenoriaethau strategol i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer newid trawsnewidiol a gwella gwasanaethau cyhoeddus yn ymwneud â materion sy'n mynd y tu hwnt i lywodraeth leol, felly bydd y comisiwn staff yr un mor bwysig wrth gynghori a chefnogi newid mewn rhannau eraill o'n sector cyhoeddus.
 
Swyddogaeth y comisiwn fydd datblygu cyngor ar faterion y gweithlu sydd angen camau gweithredu a datrysiad yn codi o ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus, yn ogystal â nifer o faterion ar draws y sector cyhoeddus. Yn rhan o'i waith, rwyf yn disgwyl i'r comisiwn adeiladu ar ddadansoddiad sydd eisoes yn bodoli, gan gynnwys y gwaith a wnaed gan yr adolygiad o weithlu'r GIG.
 
Mae gwasanaethau cyhoeddus yn rhan annatod o fywydau pob un ohonom. Nid ydynt yn cael eu sicrhau drwy waethygu telerau ac amodau’r bobl sy'n eu darparu. Er mwyn cefnogi gwasanaethau da, felly, rydym wedi bod yn datblygu materion gweithlu pwysig eraill mewn partneriaeth ag undebau llafur a chyflogwyr y sector cyhoeddus yng Nghyngor Partneriaeth y Gweithlu.
 
Ar 7 Gorffennaf, cyhoeddais mewn datganiad ysgrifenedig y byddwn yn cyhoeddi ymchwil i'r defnydd o gontractau dim oriau a’u heffaith yn y gwasanaethau cyhoeddus datganoledig. Mae'r ymchwil yn tynnu sylw at yr amgylchiadau amrywiol lle mae contractau dim oriau yn cael eu defnyddio ym mhob rhan o’r gwasanaethau cyhoeddus ac yn amlygu materion sy'n gysylltiedig â'u defnydd sy'n haeddu ystyriaeth a gweithredu pellach.
 
Rwyf wedi gofyn i Gomisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus ddatblygu canllawiau er mwyn ymdrin â materion sy'n gysylltiedig â'r defnydd o gontractau dim oriau. Bydd hyn yn gosod disgwyliadau clir ar arferion y dylem eu disgwyl gan bob cyflogwr yn y sector cyhoeddus i sicrhau nad yw contractau dim oriau yn cael eu defnyddio'n amhriodol. Ochr yn ochr â hyn, mae gwaith ar y gweill ar hyn o bryd i gyhoeddi cyngor am gaffael i osod disgwyliadau tebyg ar gyfer contractwyr gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cychwyn ymchwil penodol ar effaith materion, gan gynnwys dim oriau, yng nghyd-destun gofal cymdeithasol, oherwydd rhai o'r goblygiadau penodol ar gyfer y sector hwnnw.
 
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Melding) i’r Gadair.
 
Leighton AndrewsBywgraffiad
Rydym yn gwybod bod y canllawiau statudol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn cael effaith gadarnhaol ar faterion sy'n effeithio ar y gweithlu. Y llynedd, ailgyhoeddwyd y cod dwy haen gyda hysbysiad cynghori ar gaffael yn cyd-fynd ag ef. Mae gwaith monitro a wnaed gyda chyngor partneriaeth y gweithlu ers hynny wedi dangos, yn gyffredinol, bod awdurdodau lleol yn gweithredu darpariaethau’r cod mewn contractau.
 
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi swyddogaeth cyflog byw i leddfu problemau a achosir gan gyflogau isel yn rhan o'n hagenda trechu tlodi, annog cyflogwyr yn y sector cyhoeddus, y trydydd sector a'r sector preifat i dalu cyflog byw gwirioneddol. Gweithredodd y GIG yng Nghymru y cyflog byw ar gyfer pob gweithiwr a gyflogir yn uniongyrchol o 1 Ionawr eleni ymlaen, ac nid yw hyn yn wir yn Lloegr. Dengys gwaith sydd wedi’i wneud bod dros 4,000 o weithwyr cyfwerth ag amser llawn yn elwa'n uniongyrchol ar y cynnydd hwn. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar y gyfradd a bennir gan y Sefydliad Cyflog Byw, ac nid y fformiwla arall, is a gynigiwyd gan Lywodraeth y DU. Byddwn yn parhau i lynu at ein hegwyddorion cyflog teg, gan wrthod dull Llywodraeth y DU fel y gwnaethom ar eu cynigion diffygiol ar gyfer tâl sector cyhoeddus rhanbarthol. Dros y misoedd nesaf, byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol â chyflogwyr yn y sector cyhoeddus ac undebau llafur i ddeall costau darparu cyflog byw ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru ac i archwilio sut y gall y cyflog byw gael ei gymhwyso'n gyson ym mhob rhan o lywodraeth leol yng Nghymru.
 
Un o flaenoriaethau allweddol cyngor partneriaeth y gweithlu yw gwneud cynnydd o ran cynllunio'r gweithlu yn strategol a symudedd ym mhob rhan o’r sector cyhoeddus datganoledig. Mae gwaith ar y gweill i gynnal ymarfer cynllunio'r gweithlu gyda holl gyflogwyr y sector cyhoeddus datganoledig, a fydd yn cefnogi symudedd staff yn y dyfodol ym mhob rhan o’r sector cyhoeddus a datblygu ymyriadau amserol a phriodol. Mae'n rhaid i ddulliau o gynllunio'r gweithlu fod yn ddigon hyblyg i ymateb i'r newidiadau sy'n datblygu o ran darparu gwasanaethau, ac i alluogi gweithwyr y sector cyhoeddus i gadw neu ddatblygu eu sgiliau yn y sector, hyd yn oed os yw hyn gyda chyflogwr newydd. Ein nod cyffredinol yw cadw gweithwyr medrus yn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, gan sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o'r gweithlu i ddarparu gwasanaethau o safon, hyd yn oed yn wyneb mesurau cyni parhaus Llywodraeth y DU.
 
Rydym yn gwrthod y dull ymrannol a gymerwyd gan Lywodraeth y DU, fel y dangosir gan y Bil Undebau Llafur y mae wedi ei gyflwyno. Mae Prif Weinidog Cymru wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU i nodi’n glir ein bod yn credu y bydd y Bil hwn yn arwain at fwy o wrthdaro yn y berthynas rhwng cyflogwyr a gweithwyr, ac yn y pen draw yn tanseilio, yn hytrach na chefnogi, y gwasanaethau cyhoeddus a'r economi. Rydym yn gwybod nad oes unrhyw atebion hawdd i lawer o'r materion sy'n wynebu ein gwasanaethau cyhoeddus, ac rydym yn cydnabod na fydd yn bosibl cyflawni popeth yr ydym ei eisiau bob amser. Fodd bynnag, yr wyf yn dal i gredu bod ein dull partneriaeth gymdeithasol yn rhoi'r cyfle gorau i sicrhau ein bod yn gallu gwneud y defnydd gorau o'r doniau a'r ymroddiad a welwn ddydd ar ôl dydd gan ein gweithlu yn y gwasanaethau cyhoeddus.
 
16:03
Janet Finch-SaundersBywgraffiad
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad yma heddiw. Fodd bynnag, hoffwn godi ambell bwynt. Soniasoch am y diwygiadau i lywodraeth leol. Hoffwn eich atgoffa nad yw’r diwygiadau hyn—yn enwedig y map yr ydych wedi ei orfodi ar gyfer uno awdurdodau lleol—wedi eu cytuno gan unrhyw fandad democrataidd. Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i mi eich hysbysu bod ein hawdurdodau lleol—llawer o'u staff a’u haelodau—yn dal yn bryderus iawn yng nghanol yr anhrefn yr ydych chi eich hun wedi ei greu yn hyn o beth.
 
Mae nifer o gwestiynau yr hoffwn eu gofyn ynghylch Comisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus. Sut y bydd y comisiwn yn atebol, ac i bwy? Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau tryloywder a niwtraliaeth wleidyddol rhwng y comisiwn, gweithwyr yn y gwasanaethau cyhoeddus a Llywodraeth Cymru? Sut y byddwch yn egluro sut y bydd y comisiwn yn cael ei hyrwyddo i staff lleol, sy'n bryderus iawn am eu cyflogaeth eu hunain ar hyn o bryd?
 
Rydym yn croesawu eich sylwadau ar gontractau dim oriau, Weinidog, yng nghanol rhagrith eich Llywodraeth eich hun, pan ein bod yn gwybod bod gan awdurdod lleol y Prif Weinidog ei hun—cyngor a arweinir gan y Blaid Lafur—lawer o drefniadau dim oriau ar waith. Mae Ceidwadwyr Cymru yn ymrwymo i fynd i'r afael â chontractau dim oriau sy'n camfanteisio ar bobl. Fodd bynnag, rydym yn gobeithio y bydd y comisiwn yn cydnabod bod patrymau gwaith mwy hyblyg yn fuddiol i rai pobl. Rydym yn gobeithio y bydd y comisiwn yn sicrhau na fydd camau’n cael eu cymryd i fygwth amodau gwaith y bobl hynny sydd mewn gwirionedd yn elwa ar y contractau hyn.
 
Cyfeiriasoch hefyd at y Bil Undebau Llafur, a fydd yn cydbwyso'r gallu i streicio â hawl miliynau o bobl i fyw eu bywydau bob dydd heb fod tarfu arnynt ar fyr rybudd ac i gael gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Yfory, bydd dadl y Ceidwadwyr Cymreig yn edrych ar record eich Llywodraeth ar wasanaethau cyhoeddus. Onid ydych yn cytuno y bydd sicrhau mandad democrataidd gwirioneddol a phriodol gan aelodau undebau ar gyfer mynd ar streic yn mynd ran o'r ffordd i warchod y ddarpariaeth o wasanaethau i bobl Cymru?
 
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ers amser i Gymru fod y genedl gyntaf i dalu cyflog byw, ac mae menter y Canghellor i weithredu cyflog byw cenedlaethol yn ôl ym mis Gorffennaf yn neges glir bod Llywodraeth y DU yn cydnabod gwaith caled. Mae Llywodraeth y DU wedi gweithredu strategaeth glir i symud y Deyrnas Unedig tuag at economi cyflog uchel, treth isel, gan fod yn feiddgar wrth gefnogi dyheadau pobl sy'n gweithio, a bydd llawer o bobl sy'n gweithio'n galed ar hyd a lled Cymru bellach yn gweld eu cyflog yn codi i £7.20 yr awr erbyn mis Ebrill nesaf, gan gynyddu i £9 erbyn 2020. Rydym yn croesawu hyn yn llwyr ar ran pobl Cymru.
 
16:06
Leighton AndrewsBywgraffiad
Wel, os caf ddechrau gyda'r cwestiwn am y diwygiadau i lywodraeth leol, nid oes map wedi ei orfodi o lywodraeth leol; mae map sydd wedi ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru fel y map y mae yn ei ffafrio. Mae hwn yn adeiladu ar y gwaith a wnaed yn flaenorol gan gomisiwn Williams ac, fel yr ydym wedi ei ddweud dro ar ôl tro yn y Siambr hon, ac yn wir yn y pwyllgor, byddwn yn ymgynghori ar y map hwnnw ochr yn ochr â’r ail Fil llywodraeth leol yn ddiweddarach eleni.
 
O ran Comisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus, rydym wedi mynd trwy broses penodiadau cyhoeddus agored ar gyfer swydd y cadeirydd ac ar gyfer aelodau'r comisiwn, ac mae hynny'n gwbl briodol. Bydd y comisiwn staff yn gweithio gyda chyngor partneriaeth y gweithlu, a bydd trafodaethau yng nghyngor partneriaeth y gweithlu, fel y dywedais, fis nesaf, a fydd yn helpu i lunio'r rhaglen waith ar gyfer y comisiwn staff. Yn amlwg, bydd y comisiwn staff hefyd yn gallu edrych ar yr hyn a ddigwyddodd yn y 1990au, gyda'r comisiwn staff blaenorol yno, ac rydym wedi trafod hynny, wrth gwrs, yn y pwyllgor. Rwy'n meddwl bod rhai gwersi gwerthfawr i'w dysgu o wneud hynny. Bydd staff lleol, wrth gwrs, yn gallu ymgysylltu â gwaith y comisiwn drwy'r cyfarfodydd y bydd yn eu cynnal, trwy eu cynrychiolwyr eu hunain, trwy undebau llafur cydnabyddedig, felly nid wyf yn credu bod unrhyw faterion yn y fan yna.
 
Clywais yr hyn a ddywedodd hi ynglŷn â chontractau dim oriau. Gwneuthum ddatganiad llawnach am hynny yn yr haf. Roeddem yn cydnabod yn y datganiad hwnnw bod weithiau hyblygrwydd lle y mae angen mwy o hyblygrwydd wrth weithredu contractau penodol, ond rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni fod yn onest am y ffaith bod llawer o bobl ar hyn o bryd y gorfodir amodau arnynt, ac rydym am unioni'r sefyllfa honno.
 
O ran y Bil Undebau Llafur, mae arnaf ofn bod yn rhaid i mi anghytuno'n llwyr â hi. Roedd hwnnw yn Fil, yn amlwg, a gafodd ei drafod yn helaeth ddoe yn Nhŷ'r Cyffredin. Mae gen i ddiddordeb mawr yn y sylwadau a wnaed am y Bil Undebau Llafur, yn amlwg, gan fy nghydweithwyr fy hun yn Nhŷ'r Cyffredin, ac mewn mannau eraill gan undebau llafur, ac, yn wir, gan yr Aelod Seneddol Ceidwadol, David Davis, sy'n dweud:
 
mae darnau ohono sy'n ymddangos i fod dros ben llestri, fel ei gwneud yn ofynnol i bicedwyr roi eu henwau i'r heddlu. Beth yw hyn? Nid Prydain Franco yw hon, Prydain Y Frenhines Elizabeth II yw hi.
 
Dyna oedd geiriau'r AS Ceidwadol David Davis. Dylwn ychwanegu ar frys nad David Davies, yr Aelod Seneddol dros Sir Fynwy yw hwn ond David Davis heb yr 'e' yn ei gyfenw.
 
16:09
Alun Ffred JonesBywgraffiad
Diolch am y datganiad. Rydym ni ar yr ochr yma yn croesawu sefydlu Comisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus, gan obeithio y bydd yn cyflawni gobeithion y Gweinidog. Mae yna gwestiynau yn codi o hyn, wrth gwrs. Mae’r comisiwn yno i gynghori, ac rwy’n cymryd mai cynghori’r Gweinidog y mae’r comisiwn yn wneud. A fydd y cyngor yma yn cael ei gyhoeddi, a fydd yn gyhoeddus, a hynny’n gyson? Wedi’r cwbl, rydych chi wedi sôn am y comisiwn yn cydgysylltu â staff ar hyd a lled Cymru. Mi fyddwn i’n disgwyl felly y byddai trafodaethau, ac yn sicr ganlyniadau’r trafodaethau hynny, yn cael eu gwneud yn gyhoeddus.
 
Rydych chi’n defnyddio’r dywediad yn y datganiad am yr angen am newid trawsffurfiannol yn ein gwasanaethau cyhoeddus, a bod hynny’n gwbl angenrheidiol. A allech esbonio sut y bydd gwaith y comisiwn yn arwain at y newid sylfaenol yma? Roedd comisiwn Williams, er enghraifft, yn nodi un gwendid o fewn llywodraeth leol, sef diffyg arweinyddiaeth gref. Beth ydych chi’n ei wneud i sicrhau bod y diffyg hwn yn cael sylw? A fydd yn rhan o waith y comisiwn?
 
O ran y cyflog byw a’r contractau ‘zero-hours’, wrth gwrs, mae Plaid Cymru wedi hyrwyddo a chefnogi cyflog byw ers y dechrau, ac rydym ni’n croesawu sylwadau’r Gweinidog. O ran gwireddu’r nod yma o fewn llywodraeth leol, sut mae’r Gweinidog yn disgwyl i gynghorau gyflawni hyn wrth wynebu’r toriadau llym sydd yn digwydd ar hyn o bryd? A ydy’r Llywodraeth wedi gwneud unrhyw amcangyfrif, er enghraifft, o gost cyflwyno’r cyflog byw yma o fewn llywodraeth leol? Os nad ydy hi, a ydy’r gwaith yma yn mynd yn ei flaen ar hyn o bryd? Rwy’n dweud hyn fel un sydd, wrth gwrs, yn bleidiol iawn I weld gweithwyr yn cael cyflog teg, ond rwyf hefyd yn ymwybodol ei fod yn digwydd mewn cyd-destun sydd—. Mae Cyngor Gwynedd, er enghraifft, fel llawer o gynghorau eraill hefyd, yn wynebu gwneud arbedion a thoriadau o £30 miliwn yn ei gyllideb, ac mae wynebu’r math yna o ‘scale’ o doriadau tra hefyd yn chwilio am ffyrdd o wella amodau gwaith y gweithwyr yn amlwg yn fwy na her. Byddwn i’n awgrymu ei fod bron yn amhosibl.
 
Yn olaf, mae cyfeiriad yma at weledigaeth y Llywodraeth Lafur o greu un gwasanaeth cyhoeddus Cymreig. Ond rwyf wedi clywed y weledigaeth yma yn cael ei datgan ers rhai blynyddoedd bellach, ac yn sicr, mae’n rhan o bolisi Plaid Cymru hefyd. Pa gynnydd sydd wedi bod yn y 12 mlynedd diwethaf yma ar gyflawni hyn? A oes amserlen gennych chi, Weinidog, ar gyfer gwireddu’r weledigaeth?
 
16:12
Leighton AndrewsBywgraffiad
A gaf i ddiolch i lefarydd Plaid Cymru am ei sylwadau a’i gefnogaeth gyffredinol i waith Comisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus? Bydd, fe fydd swyddogaeth i'r comisiwn, yn amlwg, wrth gynghori Gweinidogion, ond yn yr un modd rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod y bydd y comisiwn yn gosod y fframwaith ar gyfer trafodaethau ar ddyfodol gwasanaethau cyhoeddus, gan edrych yn arbennig ar ddiwygiadau llywodraeth leol i ddechrau, a byddwn yn gwneud hynny mewn cydweithrediad â chyngor partneriaeth y gweithlu, lle y mae gennym gynrychiolwyr cyflogwyr gwasanaeth cyhoeddus ac undebau llafur. Gofynnodd a fyddem yn gyhoeddus ac yn dryloyw o ran gwaith y comisiwn, ac yn sicr dyna yr wyf yn bwriadu ei wneud. Byddwn yn cyflwyno adroddiadau gan y comisiwn. Byddwn yn sicr yn sicrhau bod y cylch gorchwyl terfynol ar gael i'r Aelodau pan fyddant wedi eu cytuno gan y comisiwn a chyngor partneriaeth y gweithlu. Rwyf eisoes wedi sicrhau bod adroddiad y comisiwn staff o’r 1990au ar gael—wedi ei dynnu o'r archifau, mewn gwirionedd—oherwydd credaf ei fod yn berthnasol i'r pwyllgor a oedd yn edrych ar Fil Llywodraeth Leol (Cymru), ac yr oedd gwersi pwysig, fel yr wyf wedi dweud, i’w dysgu o hynny.
 
O ran arweinyddiaeth gwasanaethau cyhoeddus, mae gennym nifer o fentrau ar y gweill ar hyn o bryd i gefnogi datblygiad arweinyddiaeth gryfach yn y gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys panel arweinyddiaeth y gwasanaethau cyhoeddus, a grëwyd gennyf yn gynharach eleni. Mae gennym gynhadledd arweinyddiaeth gwasanaethau cyhoeddus yn digwydd yn yr hydref. Mae gennym waith ein hacademi gwasanaethau cyhoeddus hefyd, a gynhaliodd ysgol haf lwyddiannus iawn ym mis Mehefin ar gyfer gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus o bob cwr o Gymru, ac o amrywiaeth o wahanol gefndiroedd. Credaf fod y rhaglen waith honno mewn gwirionedd wedi ei datblygu yn dda iawn.
 
Gofynnodd am y cyflog byw, ac mae'n werth atgoffa'r Siambr, wrth gwrs, fod y GIG wedi bod yn gyflogwr cyflog byw ers 1 Ionawr eleni. Mae'n iawn, wrth gwrs, i dynnu sylw at y sefyllfa ariannol anodd y mae awdurdodau lleol yn ei hwynebu, fel yng Ngwynedd, ei awdurdod lleol ei hun, ond hoffwn ddweud wrtho bod arweinydd cyngor Rhondda Cynon Taf wedi ei gwneud yn glir ei fod yn bwriadu gwneud ei gyngor yn gyflogwr cyflog byw ac mae'n bwriadu gwneud hynny erbyn yr adeg hon y flwyddyn nesaf. Rwy'n credu y dylai cynghorau eraill ruthro i sgwrsio ag arweinydd cyngor Rhondda Cynon Taf, oherwydd rwy’n siwr y gallant ddysgu o’r gwaith y mae'n ei sefydlu.
 
O ran y gwaith o ddatblygu un gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru, rwyf yn credu bod yn rhaid i ni wneud hyn mewn camau. Bydd yn gwybod o'i amser fel Gweinidog bod cymhlethdodau yn hyn oherwydd y gwahanol delerau ac amodau, y gwahanol gontractau cyflogaeth, y perthnasoedd gwahanol sy'n bodoli mewn gwahanol rannau o'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Rydym yn gobeithio, drwy’r gwaith ar symudedd, yn arbennig—a fydd yn cael ei wneud gan Gomisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus, ac sy’n cael ei ddatblygu eisoes gan fy nghydweithiwr y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, ar y cyd â chyflogwyr y gwasanaethau cyhoeddus a'r undebau llafur—y gallwn symud ymlaen ar hyn. Rwy'n credu mai un o'r pethau cyntaf y mae'n rhaid i ni ei greu yw ymdeimlad o ddiwylliant un gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru ac mae hynny'n rhywbeth y bydd ein cynhadledd arweinyddiaeth gwasanaethau cyhoeddus ym mis Tachwedd yn helpu i gyfranu ato.
 
16:16
Peter BlackBywgraffiad
A gaf innau hefyd groesawu'r datganiad a chroesawu’r bwriad i sefydlu comisiwn staff? Rwy'n credu ei fod yn ddatblygiad pwysig ac yn un, gobeithio, a fydd yn ychwanegu gwerth at waith y gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Weinidog, dim ond un neu ddau o gwestiynau sydd gen i, yn benodol ynglŷn â gwaith y cyngor partneriaeth a'r comisiwn staff. Rydych yn sôn am ddatblygu cyngor ar faterion y gweithlu y mae angen camau gweithredu a datrysiad arnynt sy'n codi o’r diwygio yn y gwasanaethau cyhoeddus, yn ogystal â nifer o faterion ar draws y sector cyhoeddus. Mae nifer fawr o awdurdodau lleol, wrth gwrs, yn cael nifer o'u gwasanaethau o ffynhonnell allanol ac mae’r modd y mae’r gwasanaethau hynny yn cael eu darparu, gan gymryd y gweithwyr hynny naill ai allan o'r sector cyhoeddus neu i mewn i'r sector lled-gyhoeddus, yn yr ystyr bod, er enghraifft, Castell-nedd Port Talbot wedi trosglwyddo ei gartrefi preswyl i gymdeithas dai a’r gweithwyr hynny wedi gweld eu telerau a’u hamodau yn gostwng o ganlyniad i’r weithred benodol honno. Rwyf yn credu bod hynny yn mynd i ddod yn fwy cyffredin wrth i awdurdodau lleol geisio dod i delerau â'r newidiadau yn y cyllid sydd ar gael iddynt o ganlyniad i doriadau a mesurau cyni.
 
A gaf i ofyn, felly, sut y mae gwaith y comisiwn staff yn berthnasol i’r gweithwyr penodol hynny? A fydd ganddo gylch gwaith a fydd yn edrych ar delerau ac amodau gweithwyr yn y cyrff allanol hynny, yn enwedig os mai cymdeithas dai ydyw, er enghraifft, o ran diogelu eu buddiannau, a gweithio gydag awdurdodau lleol ar sut y gallant ddiogelu buddiannau eu staff os ydynt yn mynd i ddefnyddio gwasanaethau allanol yn y modd hwn? A fydd gan y comisiwn unrhyw gylch gwaith i gyflwyno sylwadau i Weinidogion ar y mater penodol hwnnw o ran y newidiadau y gellir eu gwneud, naill ai i ddeddfwriaeth neu i ganllawiau, er mwyn ceisio amddiffyn telerau ac amodau y staff penodol hyn?
 
Sylwais ar eich cyfeiriad at gontractau dim oriau. Croesawaf yn fawr iawn y gwaith ymchwil yr ydych eisoes wedi ei gomisiynu a'i gyhoeddi; rwy’n credu bod hynny'n ddefnyddiol iawn. Rwyf braidd yn siomedig am eich cyfeiriad at y gwaith ymchwil penodol ar gontractau dim oriau yng nghyd-destun gofal cymdeithasol, o ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi cael y cyfle i bleidleisio ar welliannau i Fil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ar y mater penodol hwn a’i bod wedi gwrthod gwneud hynny. Ond, yn sicr, os yw’r ymchwil newydd hwn yn symud tuag at y sefyllfa a oedd yn y gwelliant hwnnw, yna byddai croeso mawr i hynny.
 
Rwy'n cefnogi yn fawr iawn yr hyn yr ydych yn ei ddweud am y cyflog byw. Yr wyf yn meddwl eich bod yn iawn nad oedd y cyflog byw a oedd yn cael ei gynnig gan Lywodraeth y DU yn ddigonol ac nad yw’n gyflog byw priodol. Ond mae’n gam tuag at y nod penodol hwnnw, nid yw'n cyflawni'r hyn y mae aseswyr annibynnol wedi penderfynu sy’n gyflog byw priodol i weithwyr. Credaf fod hynny'n rhywbeth y mae angen i ni fynd i'r afael ag ef eto dros y misoedd nesaf.
 
16:19
Leighton AndrewsBywgraffiad
Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i lefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol am ei gefnogaeth i’r hyn yr ydym yn ceisio ei wneud yn y datganiad hwn? Gadewch i mi ddechrau gyda'r cyflog byw—rwy’n falch ei fod yn cytuno â'n dehongliad o'r hyn sy'n cael ei gynnig gan Lywodraeth y DU a'i fod yn dewis, fel yr ydym ninnau yn ei wneud, y cyflog byw gwirioneddol. O ran y gwaith yr ydym ni yn ei wneud, fe ddywedais yn y datganiad, wrth gwrs—gofynnodd am faterion defnyddio gwasanaethau allanol—ein bod wedi ailgyhoeddi'r cod dwy haen gyda nodyn cyngor caffael i gyd-fynd ag ef y llynedd. Fel y dywedais, unwaith eto, yn y datganiad, mae'r gwaith monitro rydym wedi ei wneud wedi dangos, yn gyffredinol, bod awdurdodau lleol wedi bod yn gweithredu darpariaethau'r cod hwnnw yn eu contract. Felly, yn fy marn i, mae gennym fframwaith ar gyfer mynd i'r afael â'r materion hynny, ac rwyf yn credu ei fod wedi bod yn gymharol llwyddiannus. Rydym wedi gorfod atgoffa un neu ddau o awdurdodau lleol am eu rhwymedigaethau o dan y cod dwy haen gan eu bod wedi cytuno iddo, ond credaf fod hynny wedi rhoi rhywbeth i ni yng Nghymru na ddilynir mor gadarn mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.
 
O ran gwaith cyffredinol Comisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus, mae’n gynnar yn y broses. Nid yw'r prif weithredwr wedi dechrau eto; bydd hi'n dechrau mewn mis neu ddau. Rwyf wedi cwrdd â'r cadeirydd a'r aelodau ac maent yn cynnal eu cyfarfod cyntaf yfory, rwyf yn credu, ac felly rwyf o'r farn bod amser o hyd i roi ffurf ar y gwaith sy'n cael ei wneud. Rwy'n hapus iawn i Aelodau ysgrifennu ataf gydag unrhyw sylwadau sydd ganddynt ar hynny. Bydd trafodaeth lawn yng nghyngor partneriaeth y gweithlu fis Hydref nesaf. Mae'n rhaid i mi wrth-ddweud y camgyhuddiad gan yr Aelod o ran y Bil gwasanaethau cymdeithasol a llesiant; mae wedi bod yn amlwg iawn mai ein safbwynt yn y Siambr hon yw nad ydym yn barod i beryglu’r Bil hwnnw gyda gwelliant yr oeddem o’r farn y gallai fynd â’r Bil hwnnw i sefyllfa lle byddai'n rhaid i ni ei amddiffyn yn y Goruchaf Lys. Gallai fod yn fater o gymhwysedd, a gallai fod wedi cael ei herio.
 
16:21
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Diolch yn fawr, Weinidog.
 
16:21
6. Datganiad: Cartrefi i Boblogaeth sy’n Heneiddio
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Symudwn yn awr at eitem 6, sy'n ddatganiad gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi ar roi tai i boblogaeth sy'n heneiddio. Galwaf ar Lesley Griffiths.
 
16:21
Lesley GriffithsBywgraffiadY Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Heddiw, rwy’n gwneud y datganiad pwysig hwn am ddau reswm. Yn gyntaf, i dynnu sylw at adroddiad gan un o ffrydiau gwaith y fforwm partneriaeth cenedlaethol, fforwm cynghori'r Gweinidog ar heneiddio. Teitl yr adroddiad yw 'Materion Tai ar gyfer Pobl Hŷn a Swyddogaeth Tai mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol', ac mae copi ohono wedi ei rannu gydag Aelodau. Yr ail reswm yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am y camau yr ydym yn eu cymryd fel Llywodraeth i ymateb i rai o'r heriau y tynnwyd sylw atynt yn adroddiad y fforwm a'r camau nesaf.
 
Mae'r fforwm partneriaeth cenedlaethol yn cynnwys pobl hŷn a sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl hŷn ac ar eu rhan. Mae mewn sefyllfa dda i gynghori’r Llywodraeth ar anghenion pobl hŷn ac i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r strategaeth ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru. Diolchaf i'r fforwm am yr adroddiad hwn, sy'n rhoi darlun i ni o'r materion tai eang iawn sy'n effeithio ar bobl hŷn. Mae heneiddio, a'i oblygiadau ar gyfer y ffordd yr ydym yn byw ein bywydau, yn rhywbeth y gall y rhan fwyaf ohonom uniaethu ag ef - naill ai'n uniongyrchol neu drwy brofiad teulu a ffrindiau.
 
Pa mor fawr yw’r her? Disgwylir y bydd un o bob tri o'r babanod a anwyd yn y DU yn 2013 yn dathlu ei ben-blwydd yn gant oed. Yng Nghymru mae'r gyfran uchaf o bobl hŷn ymhlith gwledydd y DU, a bydd hyn yn parhau i fod yn wir am yr 20 mlynedd nesaf. Erbyn 2026, bydd bron i chwarter poblogaeth Cymru yn 65 oed neu'n hŷn a bydd bron i un o bob 20 o bobl yn hŷn na 85 oed. Rhagwelir y bydd nifer y bobl hŷn ag anghenion iechyd cymhleth, fel dementia, yn codi hefyd. Gan ystyried hyn oll, mae'r fforwm yn codi nifer o faterion hollbwysig. Mae'n tynnu sylw at yr angen am strategaeth tai fwy cydlynol ar gyfer pobl hŷn. Mae angen i bobl gael eu cefnogi i aros yn eu cartrefi eu hunain. Dylai fod dewis deniadol o dai a llety i fodloni anghenion amrywiol pobl hŷn. Mae angen gwasanaethau gwybodaeth a chyngor amserol hefyd i helpu pobl i ddod o hyd i'r ateb cywir iddyn nhw.
 
Rwy'n gwybod bod llawer o awdurdodau lleol a llawer o sefydliadau cyhoeddus yn mynd i'r afael â heriau poblogaeth sy'n heneiddio ar hyn o bryd, ac wedi bod yn gwneud hynny ers peth amser. Mae’n gwbl briodol bod Lywodraeth Cymru yn darparu cyfeiriad o ran arweinyddiaeth a pholisi. Mae strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl hŷn eisoes yn nodi rhai o'r camau allweddol y mae angen eu cymryd i ddiogelu buddiannau cymdeithasol, amgylcheddol ac ariannol ein cenhedlaeth hŷn. Nododd ein Papur Gwyn 'Cartrefi i Gymru' yn 2012 ymrwymiad y Llywodraeth hon i effeithiolrwydd y system dai yn ei chyfanrwydd, gan gynnwys gwella ansawdd cartrefi a chynyddu'r cyflenwad a'r dewis o dai. Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn tanlinellu ymhellach ymrwymiad y Llywodraeth hon i wella pob agwedd ar gyflenwad, ansawdd a safonau tai yng Nghymru.
 
O fewn y cyd-destun ehangach hwn, bydd gan ein poblogaeth sy'n heneiddio rai anghenion penodol. Dyna pam yr wyf yn ystyried sefydlu grŵp arbenigol, a fydd yn gweithredu am gyfnod penodol, i gynghori'r Llywodraeth yn 2016 ar ei agwedd o ran polisi ar gyfer y dyfodol ynglŷn â darparu tai i boblogaeth sy'n heneiddio. Byddaf yn sicrhau bod yr Aelodau yn cael y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â'r mater hwn.
 
Byddai grŵp o'r fath yn ein galluogi i rannu gwybodaeth a phrofiadau unigolion allweddol sy'n ymwneud â chynllunio a darparu tai a gwasanaethau cysylltiedig. Bydd angen i bob awdurdod lleol, cymdeithasau tai, adeiladwyr tai, sefydliadau'r trydydd sector, a'n partneriaid ym maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol gymryd rhan hefyd. Rwyf am fanteisio ar arbenigedd cyfunol grŵp o'r fath i sicrhau y bydd tai yn rhan briodol o sicrhau bod Cymru yn lle gwych i heneiddio ynddo.
 
Bu cynnydd mewn meysydd eraill hefyd. Er 2002, gyda chymorth o £161 miliwn gan Lywodraeth Cymru, mae 37 o gynlluniau gofal ychwanegol wedi eu cwblhau ledled Cymru, gan ddarparu dros 1,700 o fflatiau ar gyfer pobl hŷn. Mae pum cynllun arall ar y cam adeiladu ar hyn o bryd, sy’n darparu 230 o fflatiau ychwanegol ar gyfer pobl hŷn, wedi'u cefnogi gan £21 miliwn o gyllid Lywodraeth Cymru. Gydag un cynllun o leiaf ym mhob awdurdod, mae hyn wedi helpu i ehangu'r dewis sydd ar gael yn lleol. Rwyf wedi ymweld â nifer o'r cynlluniau yng Nghonwy, Gwynedd, Torfaen a Bro Morgannwg, a gwnaethant gryn argraff arnaf, nid yn unig o ran safon y llety, ond hefyd y ffordd o fyw y maent yn ei darparu. Er na fydd cynlluniau o'r fath yn darparu ateb i bopeth, maent yn ein galluogi i ailystyried y ffordd yr ydym yn ystyried yr atebion o ran tai ar gyfer pobl hŷn.
 
Bydd llawer o bobl eisiau aros yn eu cartrefi eu hunain, ac mae'n bwysig eu bod yn cael eu cefnogi i wneud hyn. Rydym wedi ystyried sylwadau ynglŷn â'r broses o ddarparu addasiadau ar gyfer byw'n annibynnol, ac rydym yn edrych ar ffyrdd o wella'r system. Yn hollbwysig, rydym yn gwneud hynny ar y cyd â chydweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol. 
 
Trwy'r rhaglen Cefnogi Pobl, rydym yn cynnig cymorth hanfodol i helpu pobl hŷn i fyw'n annibynnol. Rwyf wedi fy nghalonogi’n fawr iawn gan yr amrywiaeth o wahanol fodelau o ofal a chymorth a ddatblygwyd o dan y gronfa gofal canolraddol. Rwyf wedi fy nghalonogi yn yr un modd gan y dystiolaeth yr ydym hefyd wedi ei gweld o'r ymdeimlad cryfach o bartneriaeth ym maes gofal cymdeithasol, iechyd a thai, er fy mod yn derbyn bod llawer mwy i’w wneud.
 
Rydym eisoes wedi dechrau rhoi sylw i rai o'r materion a godwyd yn adroddiad y fforwm drwy gynyddu dewis, drwy ymateb i alwadau am system addasiadau fwy effeithiol a thrwy wella safonau. Fel y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, rwy’n awyddus y dylem wneud mwy. Rwy'n gweld y grŵp arbenigol yr wyf yn ei ystyried fel y cam pwysig nesaf, gan y bydd yn helpu i nodi'r camau ymarferol sydd eu hangen i fodloni anghenion tai ein cymdeithas sy'n heneiddio.
 
16:27
Mark IsherwoodBywgraffiad
Rydych yn cyfeirio at grŵp cynghori'r Gweinidog ar heneiddio ac adroddiad y fforwm partneriaeth cenedlaethol, 'Materion Tai ar gyfer Pobl Hŷn a Swyddogaeth Tai mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol'. Mae hwn yn nodi, ymysg pethau eraill, y problemau parhaus gydag amseroedd aros ac oedi ar gyfer grantiau cyfleusterau i'r anabl ac addasiadau tai ym mhob deiliadaeth, neu’n nodi’r mater penodol hwnnw. Rydych yn dweud yn eich adroddiad eich bod wedi ystyried sylwadau ar y broses ar gyfer darparu addasiadau byw'n annibynnol ac eich bod yn edrych ar ffyrdd o wella'r system, ac yn edrych ar y cyd â chydweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol. Pam mae hyn wedi cymryd cyhyd? Pam yr ydym ni'n dal i aros? Mae'n fwy na dwy flynedd ers i’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol wneud ei adroddiad ar y mater hwn. Mae sawl blwyddyn arall ers i’r Gymdeithas Brydeinig a Choleg y Therapyddion Galwedigaethol dynnu sylw at arfer da, er enghraifft, yng Nghonwy, gyda gweithio ar y cyd rhwng yr adran dai a therapyddion galwedigaethol lleol. O ystyried mai dim ond ychydig fisoedd sydd ar ôl o'r Cynulliad hwn—. Mewn gwirionedd, mae hyn wedi ei roi o'r neilltu ac yn anffodus nid yw'n cyflawni fel yr oeddem wedi gobeithio.
 
Roedd yr adroddiad hwnnw hefyd yn sôn am dargedu aneffeithiol o ran cynlluniau effeithlonrwydd ynni a grantiau i unigolion hŷn sy'n berchnogion cartrefi. Mewn gwirionedd, mae'n dweud bod 140,000 o bobl hŷn yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd a bod 70 y cant yn fwy o bobl dros 75 oed yn marw yn y gaeaf. Ym mis Mehefin, holais chi yma, am fonitor tlodi tanwydd diweddaraf National Energy Action y DU ar gyfer 2014-15, a’r datganiad penodol yn hwnnw y dylai’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi yn Llywodraeth Cymru—chi—felly weithio gydag adrannau perthnasol eraill yng Nghymru i ganfod i ba raddau y mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn cyflawni eu dyletswyddau presennol o ran safonau tai, a chymryd camau priodol. Pa gamau ydych chi wedi'u cymryd ers i’r adroddiad hwnnw gael ei gyhoeddi ac ers imi godi hyn gyda chi dros dri mis yn ôl?
 
Mae Sefydliad Bevan a Sefydliad Joseph Rowntree, yn y cyd-destun hwnnw, hefyd wedi datgan y dylai tlodi tanwydd fod yn ganolog i'r cynllun gweithredu ar gyfer trechu tlodi. A wnewch chi ymrwymo i hynny? Rwy’n gwybod eich bod wedi gwneud newidiadau i'ch cynllun tlodi a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf. Dywedasoch y byddech yn tynnu sylw, yn gwbl briodol, at dlodi bwyd, ond a ydych chi'n cydnabod erbyn hyn bod sefydliadau Bevan a Joseph Rowntree yn iawn yn hyn o beth?
 
Mae'r adroddiad y cyfeiriasoch ato—y fforwm partneriaeth cenedlaethol—yn galw am fwy o economi gymysg o ran dewis ac yn dweud y dylai gwasanaethau newydd gael eu cyflwyno, rhai sy’n annog pobl i gynllunio ble y maent eisiau byw pan fyddant yn hŷn. Hollol iawn—nod y dylem ni i gyd ymrwymo iddo. Rydych yn dweud eich bod yn sefydlu grŵp arbenigol—neu’n ystyried sefydlu grŵp arbenigol—ac, ydy, mae’r amrywiaeth o bartneriaid yr ydych yn eu cynnig yn cyflawni’r elfennau angenrheidiol ar gyfer hynny, gyda chynrychiolaeth o bob un o'r tri sector. Pam mai dim ystyried grŵp arbenigol yr ydych chii? Oni allwch chi ymrwymo i sefydlu grŵp arbenigol, o ystyried nid yn unig argymhellion yr adroddiad hwn, ond argymhellion sawl adroddiad arall, a chyfeiriais at rai ohonynt yn gynharach yn fy nghyflwyniad?
 
Mae eich adroddiad yn cyfeirio at y cynlluniau gofal ychwanegol. Fel chithau, rwyf wedi ymweld â llawer ohonynt. Yn fy achos i, dim ond yng ngogledd Cymru; chi, rwy'n siŵr, ledled Cymru. Er ein bod yn croesawu'r ffaith y bydd bron i 2,000 mwy o dai ar gyfer pobl hŷn, fel arfer y rhai sy’n hŷn na 55 oed, yn ystod y cyfnod hwnnw, dim ond diferyn yn y môr yw hynny o'i gymharu â'r angen cyffredinol, fel y gwn y byddwch yn ei gydnabod. Yn ystod yr haf, roeddwn yn ddigon ffodus i fod yn agoriad swyddogol datblygiad byw'n annibynnol newydd Cartrefi Conwy, Cysgod y Gogarth, ar gyfer pobl hŷn na 55 oed yn Llandudno, sy’n ganolradd. Mae'n sefyll rhywle rhwng y model traddodiadol a gofal ychwanegol llawn, gan ei fod yn galluogi'r buddsoddiad i fynd ymhellach ac i gyflawni mwy. Cyfarfûm â phreswylwyr yno a oedd wrth eu boddau â'u cartrefi newydd. A ydych chi'n gweld hwnnw yn fodel y gellir ei ddefnyddio hefyd o fewn y ddarpariaeth gymysg i ddarparu mwy o gartrefi gyda’r adnoddau sydd ar gael? Yn yr un modd, rwy’n gwybod bod y ddarpariaeth gofal ychwanegol wedi cynnwys rhent, prynu neu rannu ecwiti, ond rwy’n deall o'r trafodaethau a gefais yn y cyfarfod hwnnw, ei fod yn mynd yn fwy anodd cyflawni’r model hwnnw, ac felly mae angen i ni fod yn ystyried datblygiadau gyda, er enghraifft , McCarthy & Stone neu ddarparwyr eraill y sector preifat o ran yr elfen breifat i alluogi'r bunt gymdeithasol i fynd ymhellach. A ydych chi'n cytuno bod hynny'n rhywbeth y dylem fod yn ei ddilyn?
 
Mae eich adroddiad yn cyfeirio at Gefnogi Pobl. Rwyf bron wedi trafod yr holl bwyntiau yr wyf yn dymuno eu trafod. Gwn eich bod chi—yn flaenorol, o ran yr ymgyrch y bu'r ddau ohonom yn y lansiad ar ei gyfer ac y mae'r ddau ohonom wedi siarad amdano mewn digwyddiadau amrywiol—wedi dweud eich bod wedi gofyn am dystiolaeth o'r gwerth ychwanegol o'r cynllun hwnnw. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am hynny? A fu unrhyw gynnydd neu ddatblygiad? Mae’r fforwm partneriaeth cenedlaethol yn cyfeirio at yr angen am wasanaethau gofal a chymorth effeithiol— gwasanaethau sy'n galluogi pobl hŷn i fyw'n annibynnol. Nid yw eich adroddiad yn cyfeirio at Gofal a Thrwsio ac, yng ngoleuni'r ad-drefnu diweddar, tybed a allech chi wneud unrhyw sylw ynghylch darparu gwasanaethau gan Gofal a Thrwsio yng nghyd-destun yr adroddiad. Yn olaf—. A dweud y gwir, o'r diwedd, rwy’n meddwl y byddaf yn gorffen gan fod y cloc yn prysuro ymlaen, ac edrychaf ymlaen at glywed eich ymatebion. Diolch yn fawr.
 
16:33
Lesley GriffithsBywgraffiad
Diolch yn fawr. Diolchaf i Mark Isherwood am ei gwestiynau a’i sylwadau. Dechreuwn gyda Gofal a Thrwsio. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i ni gydnabod y gwaith sylweddol y mae'r asiantaethau Gofal a Thrwsio yn ei wneud. Nhw sy'n gyfrifol am weinyddu'r rhaglen addasiadau brys, er enghraifft, sydd yn amlwg yn cadw pobl yn eu cartrefi. Mae'n atal llawer o oedi wrth drosglwyddo gofal, ac rydym wedi rhoi dros £2 filiwm o gyllid yn 2015-16 i gefnogi eu rhaglen. Maent, fel y dywedasoch, yn ad-drefnu mewn rhyw ffordd. Bu llawer o uno ac rwy’n meddwl eu bod yn mynd yn dda iawn. Rwy'n credu mai'n ddiweddarach yr wythnos hon y byddaf yn siarad yng nghynhadledd Gofal a Thrwsio eleni, fel y gwneuthum y llynedd.
 
Rydych wedi cyfeirio at y gwaith sy'n cael ei wneud o ran yr addasiadau a pham y mae wedi cymryd cyhyd. Mae'n bwysig iawn ein bod yn cael hyn yn iawn. Rwy'n meddwl bod y grantiau addasiadau ffisegol yn galluogi tenantiaid i aros yn eu cartrefi ac rydym yn gweithio'n agos iawn gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig hefyd.
 
Fe wnaethoch ofyn am y grŵp cynghori allanol neu’r grŵp arbenigol, yr wyf yn ei ystyried. Ar hyn o bryd rwy’n ystyried yr aelodaeth ac ati, ond rwy’n hapus iawn i ymrwymo yn y Siambr i gael grŵp o'r fath. Rwy’n meddwl y dylai pobl sy'n gweithio gyda phobl hŷn a’r bobl hŷn eu hunain fod yn y grŵp hwnnw. Rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn eu bod yn ein helpu gyda hyn. Rwy'n credu y byddant yn rhoi cynigion ymarferol a chyraeddadwy iawn i'r Gweinidog fydd yn gyfrifol am dai, yn dilyn etholiad y flwyddyn nesaf.
 
Rwyf am iddo fod yn grŵp dros gyfnod penodol iawn—chwe mis yn fwy na thebyg—ac adrodd, wedyn, yn amlwg, yn y flwyddyn newydd. Fel y dywedais, rwyf yn ei ystyried; Rwy'n edrych ar yr aelodaeth a byddwn eisiau iddynt gyflwyno rhaglen waith i mi yn gyflym iawn ac mae gennyf syniadau cadarn iawn am y rhaglen waith honno.
 
Soniasoch am y cyfleusterau gofal ychwanegol ac rwy’n meddwl eu bod yn gwbl wych. Nid yw ar gyfer pawb ac rwy’n derbyn hynny; dim ond un rhan o'r system gyfan ydyw, os mynnwch chi. Mae gennym bellach, fel y soniais yn fy natganiad, o leiaf un ym mhob ardal awdurdod lleol sydd wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Maent yn ddrud iawn—rwy’n gwybod bod awdurdodau lleol yn dweud hynny wrthyf—ond maent yn sicr yn ystyried pa un a oes modd iddynt ddarparu mwy ohonynt ledled Cymru.
 
Soniasoch am dlodi tanwydd ac, yn sicr, rwyf wedi bod yn gweithio'n agos iawn, yn enwedig gyda fy nghydweithiwr y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, ac rwy’n gwybod ei fod wedi darparu cyllid yn ddiweddar ynglŷn â hynny, ond, wrth gwrs, rydym yn derbyn bod tlodi tanwydd yn broblem i lawer o bobl yng Nghymru.
 
Fe wnaethoch ofyn am Gefnogi Pobl, a gwn eich bod chi, fel minnau, yn ymwybodol iawn o'r gwaith rhagorol y mae'r rhaglen yn ei wneud. Ond roedd yn bwysig iawn ein bod yn cael y canlyniadau hynny, fel y gallwn gael tystiolaeth i sicrhau bod y rhaglen yn bodloni’r amcanion strategol allweddol, ac yn sicr mae’r gwaith hwnnw wedi cynyddu. Yn ystod y flwyddyn yr wyf wedi bod yn gyfrifol am y portffolio hwn, rydym bellach yn gweld miloedd mwy o ganlyniadau, a’r dystiolaeth honno, felly rwy’n hapus iawn o’ch sicrhau bod y dystiolaeth honno’n cael ei chasglu.
 
16:36
Lindsay WhittleBywgraffiad
Roeddwn, mewn bywyd blaenorol, yn weithiwr proffesiynol ym maes tai am 25 mlynedd, ac felly rwy’n gwybod pa mor bwysig yw tai da, diogel a chynnes i’r henoed. Rydym yn gwybod, Weinidog, fod llawer yn fodlon symud, ond bod eraill, ac mae hynny'n briodol, eisiau aros, nid yn unig yn eu cymuned, ond yn y cartref teuluol sydd â chymaint o atgofion melys, lle y maent yn adnabod eu cymdogion. Nid yw’n wir i bawb, gyda'n poblogaeth nad yw'n byw yn yr un man yn barhaol, ond yng Nghymru, mae'n well gennym deimlo ein bod yn perthyn, onid yw, ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn.
 
Mae gennyf lawer o gwestiynau yma, ond rwy’n credu bod Mark Isherwood, yn ôl pob tebyg wedi cymryd hwy o amser i holi ei gwestiynau nag y gwnaethoch chi wrth gyflwyno eich datganiad, felly gallaf ddileu llawer ohonynt—diolch, Mark; nid yw'n feirniadaeth, gyda llaw. Ond, mae unigrwydd ymhlith pobl hŷn yn broblem ddifrifol a chynyddol; a ydych chi'n bwriadu rhoi sylw i’r rhan hon o’ch strategaeth o wneud Cymru yn lle gwych i heneiddio ynddo? A, sut y byddwch yn ystyried unigrwydd ac ynysu pobl hŷn yn rhan o'ch strategaeth dai, gan efallai ganolbwyntio'n arbennig ar atal hyn yn y tymor hir, cyn iddo ddigwydd, ac o ran ymyrraeth, os gwelwch yn dda?
 
Yn gysylltiedig ag addasrwydd tai, rydym yn gwybod, Weinidog, bod pryderon wedi eu mynegi gan y Comisiynydd Pobl Hŷn yng Nghymru ynghylch awdurdodau lleol yn cyflawni eu gofynion statudol wrth brosesu'r grantiau cyfleusterau i'r anabl, i alluogi pobl hŷn i gael cymhorthion ac addasiadau i’w cartrefi. Soniodd Mark am hyn, rhoesoch chithau ateb iddo, ond mae eich datganiad yn dweud eich bod yn edrych ar ffyrdd o wella; a allech chi ddweud wrthym ym mha ffordd, oherwydd eich bod yn amlwg yn cydnabod bod problem? Unwaith eto, nid oes sôn am dlodi tanwydd yn y datganiad, ond a allwn ni gael sicrwydd y bydd eich grŵp yn archwilio ansawdd tai, os gwelwch yn dda, a ddylai gynnwys—ac nid cyfrifoldeb y Gweinidogion eraill yw hyn, mewn gwirionedd—effeithlonrwydd ynni? Rwy’n credu bod hynny'n bwysig iawn. Roeddwn eisiau gofyn cwestiynau eraill, ond rwy’n credu eu bod wedi eu trafod eisoes. A wnewch chi ofyn i'ch grŵp arbenigol roi sylw i’r materion hynny, os gwelwch yn dda? Diolch yn fawr.
 
16:39
Lesley GriffithsBywgraffiad
Diolchaf i Lindsay Whittle am ei gwestiynau. Gwnaf, yn sicr—gan ddechrau gyda'r un olaf—mae effeithlonrwydd ynni yn rhywbeth y gallwn gael y grŵp i edrych arno. Yr hyn yr oeddwn yn ei ddweud oedd fy mod yn gweithio gyda, yn amlwg, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, ond mae safonau yn bwysig iawn. Dylai pawb fyw mewn cartref boddhaol, nid yn unig pobl hŷn, ac rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod hynny'n digwydd. Ond, mae angen inni edrych yn enwedig ar bobl sy'n agored i niwed a phobl sy’n dlawd.
 
Soniasoch am unigrwydd ac rwy'n credu bod hwnnw'n fater pwysig iawn i’w godi. Rwy'n credu bod cyfleusterau gofal ychwanegol yn un ffordd y gallwch weld yn bendant sut y gall pobl sy’n byw yn y cyfleusterau hyn gael gwared ar y teimlad hwn o fod wedi eu hynysu. Ymwelais ag un—yn Nhorfaen rwy'n credu—yn ystod yr haf, ac roedd cyfleuster gofal ychwanegol wedi ei adeiladu, ond, ar yr ochr arall i'r ffordd, roedd oddeutu 40 o unedau tai wedi'u hadeiladu hefyd, rhai ag un ystafell wely a rhai â dwy ystafell wely, ac roedd y bobl a oedd yn byw yn y tai hynny, hefyd yn cael defnyddio, er enghraifft, y tŷ bwyta yn y cyfleuster gofal ychwanegol. Roeddwn i'n meddwl bod honno'n ffordd ardderchog o ddenu pobl a chael, fel y dywedasoch, yr ymdeimlad hwnnw o berthyn.
 
Rwy'n credu bod angen inni edrych ar amrywiaeth o fesurau, ac mae cyfleusterau gofal ychwanegol yn un ohonynt, mae pentrefi ymddeol a modelau cyd-drigo yn rai eraill. Rwy'n credu eu bod i gyd yn rhan o'r ateb cyffredinol. Nid oes un peth arbennig. Rwy'n credu bod angen inni edrych ar y mathau hyn i gyd, ond rwy’n credu, hefyd, bod angen inni ddysgu o brofiad y bobl hynny sy'n byw yn y cyfleusterau hynny ac, yn sicr, pan fyddaf i'n ymweld â nhw, byddaf yn achub ar y cyfle i siarad â nhw i weld, wyddoch chi, beth yw eu barn. Wyddoch chi, roedd un wraig yn Nhorfaen wedi darganfod ei bod yn dda iawn am wneud celf, er enghraifft, oherwydd bod dosbarth celf ar gael. Roedd hi yn ei 70au ac erioed wedi gwneud celf o'r blaen, ond fe wnaeth hi ddarganfod ei bod yn dda iawn, a meddyliais, wyddoch chi, fod hynny'n fantais ychwanegol o fyw mewn cyfleuster o'r fath.
 
Fe wnaethoch ofyn am y grŵp arbenigol, ac rwyf wedi dweud fy mod i'n hapus iawn iddynt edrych ar effeithlonrwydd ynni. Dyna’r holl gwestiynau, rwy’n credu.
 
16:41
Mike HedgesBywgraffiad
A gaf innau hefyd groesawu datganiad y Gweinidog? Yn ystod y mis diwethaf, rwyf wedi ymweld â boreau coffi neu gyfarfodydd grŵp yn 11 o'r 12 llety gwarchod y cyngor yn Nwyrain Abertawe, ac rwy’n ymweld â’r deuddegfed ddydd Llun nesaf. Rwy’n mynd i, efallai, barhau o ble wnaeth Lindsay Whittle orffen, gan ei bod yn ddiau'n wir bod y canolfannau gwarchod hyn yn cadw pobl yn eu cartrefi eu hunain yn hirach. Maent yn darparu, yn ôl pob tebyg, y peth pwysicaf i bobl hŷn sy'n byw ar eu pennau eu hunain: cwmnïaeth. Yn ôl arolwg omnibws unigrwydd TNS ar gyfer Age UK a gynhaliwyd ym mis Ebrill 2014, disgrifiodd 75,000 o bobl hŷn na 65 oed yng Nghymru eu hunain fel bod yn unig naill ai 'bob amser' neu 'yn aml'. Mae pedwar deg chwech y cant, sef bron eu hanner, yn dweud mai eu teledu neu eu hanifail anwes yw eu prif ffurf o gwmni. Rwy’n credu bod hyn yn drist iawn.
 
Mae'r galw am lety gwarchod y cyngor yn uchel yn Nwyrain Abertawe, ac rwy’n cymryd yn ganiataol ei fod yn uchel ledled gweddill Cymru hefyd. Rydym wedi gweld bod adeiladu llety gan awdurdodau lleol mwy neu lai wedi dod i ben ers 1979. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi y bydd llety gwarchod mewn adeiladau cynghorau yn lleihau'r pwysau ar adrannau iechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol yn ogystal â darparu gwell gwasanaeth i lawer o bobl hŷn? A wnaiff y Gweinidog gefnogi ac annog cynghorau i adeiladu cyfadeiladau gwarchod newydd?
 
16:42
Lesley GriffithsBywgraffiad
Gwnaf, yn sicr, gall llety gwarchod ddarparu'r gwasanaethau yr ydych newydd eu crybwyll. Yn amlwg, penderfyniad awdurdodau lleol yw gwneud asesiad o anghenion tai eu poblogaeth, ond byddwn yn hapus iawn i gael y sgwrs honno. I barhau â’r hyn yr oeddech yn ei ddweud am unigrwydd—a Lindsay Whittle, hefyd—credaf ei bod yn bwysig iawn bod y seilwaith yno i helpu pobl i barhau i fod yn egnïol ac yn brysur yn eu cymunedau, felly rwy'n credu bod yn rhaid i chi edrych ar sut y mae pobl yn siopa, er enghraifft, a sut y maent yn cymdeithasu i sicrhau eu bod yn dal i gael y cyfle i wneud hynny.
 
Ond, yr hyn yr oeddwn yn ei ddweud wrth Lindsay Whittle yw nad yw hyn ond yn ymwneud ag un math o dai; mae'n ymwneud â sicrhau bod gennych, mae’n debyg, y math iawn o dai yn y lle iawn, os mynnwch. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn edrych ar yr amgylchedd o amgylch y tai i sicrhau bod hwnnw'n addas i oedran hefyd.
 
16:43
Peter BlackBywgraffiad
A gaf innau hefyd groesawu'r datganiad, Weinidog, a hefyd fynegi fy syndod eich bod, ar ôl nodi mewn modd cynhwysfawr y materion sy'n wynebu darparu tai ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru, yn mynd ymlaen i ddweud wedyn eich bod yn dal i ystyried pa un a ddylech sefydlu grŵp arbenigol i roi cyngor i chi am hyn? Byddwn wedi gobeithio y gallech fod wedi dod i ddatganiad mwy pendant na hynny, ond a allwch chi roi syniad o'r amserlen ar gyfer gwneud y penderfyniad hwn a phryd y gallwn ddisgwyl datganiad pellach ar sefydlu'r grŵp arbenigol hwn, er mwyn inni wybod, neu beidio, yn ôl y digwydd, yr hyn sydd yn eich meddwl o ran y mater arbennig hwnnw?
 
Roedd diddordeb mawr gennyf yn yr adroddiad yr ydych yn cyfeirio ato yn y datganiad gan y fforwm partneriaeth cenedlaethol ac rwy’n awyddus iawn i edrych ar yr argymhellion sydd ynddo, y rhan fwyaf ohonynt heb fod yn newydd, rwy’n meddwl, fel y nodwyd. Cyhoeddwyd yr adroddiad hwn ym mis Mawrth eleni, sydd bellach oddeutu chwe mis yn ôl, o ran hynny. Wrth gwrs, mae llawer o'r argymhellion yn yr adroddiad wedi ymddangos mewn adroddiadau pwyllgorau yn y gorffennol ac, wrth gwrs, mewn adroddiadau gan un o'i awduron, Chris Jones, hefyd, sydd wedi, rwy’n credu, llunio adroddiadau ar gyfer Gweinidogion y Llywodraeth yn y gorffennol. Mae diddordeb gennyf, felly, yn y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran yr argymhellion sydd yn yr adroddiad hwn, yn enwedig o ran sicrhau bod pob landlord cymdeithasol yn gweithredu cynlluniau dyrannu tai sy’n sicrhau bod tai addas a hygyrch yn cael eu gosod i'r rhai sydd fwyaf mewn angen. Mewn geiriau eraill, a ydym ni, mewn gwirionedd, yn ailosod tai a addaswyd i'r bobl sydd eu hangen?
 
Hefyd, ar yr argymhelliad i ddefnyddio arian grant yn gallach i hwyluso symud i dai mwy addas a hygyrch y gellir eu haddasu'n rhwydd, rwy'n credu mai synnwyr cyffredin yw hynny a gwn fod rhai awdurdodau lleol wedi bod yn edrych ar hyn ers peth amser. A ydych chi wedi rhoi unrhyw ganllawiau i’r awdurdodau lleol hynny ar sut y dylent fod yn gwneud hyn, a pha sylwadau ydych chi wedi'u cael gan awdurdodau lleol o ran sut y maent wedi bod yn gallu gwneud y peth penodol hwn o ran sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau hynny sydd eisoes wedi'u gwario ar addasu cartrefi?
 
Mae gennyf ddiddordeb hefyd yn y syniad o dargedu arian grant ar gyfer cartrefi gwag mewn ffyrdd a fyddai'n cynyddu cyflenwad y tai addas ar gyfer pobl hŷn yn lleol. Credaf fod hynny, mewn gwirionedd, yn argymhelliad newydd, ond, yn sicr, o ystyried y cyllid sydd ar gael ar gyfer cartrefi gwag, mae gennyf ddiddordeb hefyd yn y ffordd y byddwch yn defnyddio hynny—ac erbyn hyn rwy’n credu ein bod, yn ôl pob tebyg, wedi canfod y cartrefi gwag hawdd i ymdrin â hwy o ran eu hadnewyddu i’w defnyddio eto—a sut yr ydym yn defnyddio'r arian sydd gennych ar gael i sicrhau y gall y cartrefi gwag hynny sydd ar gael, ac rwy’n credu bod yn dal i fod o leiaf 20,000 ar ôl, gael eu defnyddio eto ar gyfer tai fforddiadwy ac ar gyfer tai wedi'u haddasu i ddarparu'r math o gyflenwad sydd â galw mawr amdano, fel y nodir yn eich datganiad. Diolch yn fawr, Weinidog.
 
16:46
Lesley GriffithsBywgraffiad
Diolch i chi, Peter Black. Nid wyf yn siŵr os clywodd yr Aelod fy ateb i Mark Isherwood, ond fe wnes i ymrwymo i sefydlu grŵp arbenigol. Felly, er fy mod i wedi bod yn ei ystyried dros yr haf, wedi derbyn yr adroddiad hwn gan fy nghydweithiwr, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, rwyf wedi ymrwymo i wneud hynny. Yr hyn y byddwn yn ei ystyried yw y bydd ar gyfer cyfnod penodol yn unig, felly rhywle rhwng chwe mis ac efallai blwyddyn ar y mwyaf un, ond byddwn eisiau, cyn gynted ag y gallwn—. Rwy’n ystyried yr aelodaeth nawr. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn edrych ar yr aelodaeth a sicrhau bod pobl hŷn yn y grŵp, awdurdodau lleol, landlordiaid cofrestredig, er enghraifft, a chymdeithasau tai. Felly, rwy’n credu ei bod yn bwysig i gael yr aelodaeth honno’n iawn.
 
Byddwn eisiau i'r grŵp gyflwyno rhaglen waith yn eithaf cyflym. Mae gennyf rai syniadau am yr hyn y byddwn eisiau ei weld, ac rwy'n siŵr y bydd syniadau ganddynt hwythau hefyd. Mae'n amlwg y bydd angen iddynt archwilio'r adroddiad yn agos iawn, yn ofalus iawn. Dylwn ddweud hefyd imi gomisiynu, pan ddechreuais yn y swydd—tua mis Hydref y llynedd, mae’n debyg—rhywfaint o ymchwil gan Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru i ymchwilio i'r mater hwn yn benodol, ac rwy'n disgwyl yr adroddiad hwnnw hefyd yn ddiweddarach y mis hwn. Felly, rwy'n siŵr y bydd hynny'n helpu'r grŵp gyda'u rhaglen waith.
 
Rwy’n credu bod y mater a godwyd gennych ynghylch addasu tai yn bwysig iawn. Yn sicr, mae'r sgyrsiau yr wyf wedi eu cael gydag awdurdodau lleol ynglŷn â’r ffaith ei bod yn bwysig iawn nad ydynt ond yn gweithio yn eu hardaloedd eu hunain—sef os oes tŷ dros y ffin mewn awdurdod lleol arall a allai fod yn addas heb wneud mwy o addasiadau, yna, dylid edrych ar hynny, ac efallai y dylent ystyried cael rhyw fath o gofrestr er mwyn gallu gwneud hynny.
 
O ran y cynllun Troi Tai'n Gartrefi, mae'n debyg eich bod yn ymwybodol ein bod wedi adnewyddu bron i 4,500 o dai i’w defnyddio eto ers blwyddyn gyntaf y Llywodraeth hon, yn ôl yn 2011. Felly, rydym ar y trywydd iawn i ragori ar ein targed o adnewyddu 5,000 i'w defnyddio unwaith eto. Ein targed hyd at ddiwedd eleni yw hwnnw, yn amlwg. Pa un a fydd mwy o arian ar gael i gefnogi—. Fel y dywedasoch, rydym yn gwybod, yn amlwg, nad dim ond 5,000 o dai gwag sydd yng Nghymru, mae llawer, llawer mwy, ond mae'n amlwg mai mater sy'n ymwneud â chyllid yw hyn.
 
16:48
Y Dirprwy Lywydd / The Deputy Presiding OfficerBywgraffiad
Diolch yn fawr, Weinidog. Dyna ddiwedd busnes heddiw.
 
Daeth y cyfarfod i ben am 16:48.
 
Nôl i'r rhestr dogfennau

Partners & Help