Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

​Cynigion a Gwelliannau i'w trafod ar 3 Mai 2017

Cynigion a gyflwynwyd ar 25 Ebrill 2017

 
Dadl Fer
 
NDM6294 Hannah Blythyn (Delyn)

Ysgol Wleidyddiaeth – grymuso'r genhedlaeth nesaf o ddinasyddion gweithgar yng Nghymru

NDM6296 Lynne Neagle (Torfaen)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar yr ymchwiliad i'r Grant Gwella Addysg: Plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a phlant o leiafrifoedd ethnig a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Chwefror 2017.

NDM6295 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod gwasanaethau cyhoeddus lleol o safon yn allweddol i ffyniant a llesiant ein cenedl.

2. Yn gresynu bod cyllid ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru wedi gostwng 6.5 y cant ers 2011-12, gan effeithio'n anghymesur ar rai o'r bobl mwyaf gwan a hawdd eu niweidio mewn cymunedau ledled Cymru.

3. Yn cydnabod y rhan bwysig y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae o ran:

a) datblygu economïau lleol mewn partneriaeth â'r gymuned fusnes;

b) sicrhau bod ein strydoedd yn lân ac yn ddiogel;

c) darparu addysg o safon; a

d) darparu gofal gwasanaethau cymdeithasol sy'n gofalu am y bobl mwyaf bregus mewn cymunedau ledled Cymru.

4. Yn nodi bod cyfartaledd cyflog Prif Weithredwyr Cynghorau a gaiff eu harwain gan Blaid Cymru bron £22,000 yn is na'r Cynghorau yng Nghymru a gaiff eu harwain gan Lafur.

5. Yn credu y dylai prosiectau datblygu tai fforddiadwy lleol fod yn seiliedig ar anghenion y gymuned.

6. Yn nodi llwyddiant y model tracio datblygiad plentyn, a ddefnyddir gan Gyngor Ceredigion - yr unig gyngor a ddyfarnwyd gan Estyn ei fod yn perfformio'n rhagorol yng Nghymru yn y cylch llawn diwethaf o arolygiadau - i sicrhau bod plant yn cyrraedd eu llawn botensial, gyda chymorth yn gynnar iawn i'r rhai nad ydynt yn cyflawni yn ôl y disgwyl.

7. Yn gresynu bod canran cyfanswm gwariant caffael llywodraeth leol yng Nghymru wedi parhau'n sefydlog ar 58 y cant ers 2012.

8. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu contractau dim oriau yn y sector gofal cymdeithasol.

NDM6297 David J Rowlands (Dwyrain De Cymru):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cyfarwyddo Llywodraeth Cymru i adolygu ei pholisïau cynhyrchu ynni a'i pholisi effaith amgylcheddol.

2. Yn nodi bod nod o gyflawni economi di-garbon yng Nghymru.

3. Yn credu:

a) mai cymunedau ddylai gael y gair olaf o ran cymeradwyo ffermydd solar yn eu hardal;

b) na ddylai coed aeddfed gael eu torri er mwyn adeiladu ffermydd solar; ac

c) y dylid cefnogi'r ffordd y mae adeiladau preswyl, y sector cyhoeddus a busnesau yn defnyddio llai o ynni, drwy:

i) annog gosod ffenestri gwydr triphlyg mewn adeiladau preswyl ac adeiladau eraill; a

ii) annog gosod boeleri sy'n rhad ar danwydd.

 

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 26 Ebrill 2017

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau a ganlyn i gynigion

 

NDM6295

1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu popeth ar ôl pwynt 1.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 27 Ebrill 2017

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM6295
 
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu bod cyllid ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru wedi gostwng 6.78 y cant ers 2013-14, gan effeithio'n anghymesur ar ein cymunedau gwledig, gan gynnwys toriadau o 9.98 y cant i Sir Fynwy, 9.36 y cant i Fro Morgannwg a 7.96 y cant i Gonwy.

2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn nodi mai cyflog Prif Weithredwr Cyngor Sir Fynwy, a gaiff ei arwain gan y Ceidwadwyr Cymreig yw un o'r isaf yng Nghymru, ac yn cymeradwyo tryloywder y cyngor o ran cyhoeddi pob gwariant. 

3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu pwynt 6 a rhoi yn ei le:

Yn nodi hawl pob plentyn a pherson ifanc i gael cyfle i gyrraedd eu llawn botensial, ac yn nodi pwysigrwydd cyllid uniongyrchol ar gyfer ysgolion o ran galluogi rhieni i allu dewis yr ysgol orau i'w plant.

4. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu pwynt 8 a rhoi yn ei le:

Yn nodi gwerth gweithwyr gofal cymdeithasol o ran cynorthwyo gwasanaethau'r GIG sydd wedi'u canoli a'u gor-lwytho, a phwysigrwydd integreiddio rhwng y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

NDM6297

1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi strategaeth bolisi Llywodraeth Cymru ar ynni sef Ynni Cymru.

2. Yn nodi'r targed deddfwriaethol o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru o leiaf 80 y cant erbyn 2050.

3. Yn cydnabod y ffaith bod y system gynllunio'n creu cyfleoedd i warchod tirwedd unigryw Cymru a hefyd yn hyrwyddo cyfleoedd i gynhyrchu ynni adnewyddadwy. 

Ynni Cymru


2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1:

'gyda'r nod o sicrhau 40 y cant o ostyngiad mewn allyriadau carbon erbyn 2020, gostyngiad o 80 y cant mewn allyriadau carbon erbyn 2050 ac economi ddi-garbon.'

3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Dileu pwynt 2.

4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Yn is-bwynt 3(a) dileu 'mai cymunedau ddylai gael y gair olaf' a rhoi yn ei le 'y dylai cymunedau gael mynegi barn'.

5. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnwys ar ddiwedd is-bwynt 3(a):

'drwy strwythurau democrataidd lleol a chenedlaethol ar gyfer gwneud penderfyniadau, ar sail egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.'

'Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015'

6. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Dileu is-bwynt 3(b).

7. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Dileu is-bwynt 3(c) a rhoi yn ei le:

'y dylid cefnogi'r ffordd y mae adeiladau preswyl, y sector cyhoeddus a busnesau yn defnyddio llai o ynni, gyda rheoliadau adeiladu cryfach ar gyfer adeiladau newydd i fod bron yn ddi-ynni a thrwy raglen ôl-ffitio ar raddfa fawr ar gyfer cartrefi preswyl presennol.'

 

Partners & Help