Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Comisiwn y Cynulliad
Assembly Commission

NAFWC 2010 (Papur 9)
Adroddiad y Bwrdd Rheoli i’r Comisiwn

Dyddiad: 30 Tachwedd 2010
Amser:Ar ôl y Cyfarfod Llawn
Lleoliad: Ystafell Gynadledda 4B
Enw a rhif ffôn yr awdur: Claire Clancy, est 8823

Paratowyd y papur hwn i'w ystyried gan Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Penderfynwyd ei bod yn addas ei gyhoeddi wedi iddo gael ei ystyried yn unol â rheolau'r Comisiwn ar gyfer cynnal busnes. Ni chaniateir i gynnwys y papur hwn gael ei gyhoeddi na'i ddatgelu'n rhy gynnar oherwydd gallai hyn ddylanwadu ar drafodaethau'r Comisiwn.

1.0 Nodau Strategol Comisiwn y Cynulliad

1.1 Nod strategol – Hyrwyddo datganoli ac yn annog mwy o bobl i gymryd rhan yn y broses

(a)Sylw yn y Cyfryngau

Yn ystod y chwarter olaf, yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant gafodd y sylw blaenllaw yn y wasg, ei effaith ar Gymru, gan gynnwys ei effaith ar gyllideb a’r modd y caiff S4C ei llywodraethu yn y dyfodol.  Rhoddwyd sylw hefyd i gyfarfodydd cychwynnol y Bwrdd Taliadau, a chafwyd cyfweliad da gyda chadeirydd y Bwrdd, sef y Gwir Anrhydeddus George Reid, ar raglen The Politics Show ar y BBC.

Mae’r ymgyrch yn y cyfryngau i gyd-fynd ag ymgyrch allgymorth Pleidleisiwch 2011 hefyd wedi dechrau o ddifrif. Ar y dechrau, mae tîm y cyfryngau wedi bod yn targedu’r cyfryngau lleol yn yr ardaloedd hynny y mae bws y Cynulliad yn ymweld â nhw fel rhan o’r daith i ymweld â’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.  Cafwyd cryn lwyddiant gan gynnwys y sywla a gafwyd yn y Denbighshire Free Press yn ogystal ag erthygl yn Flintshire Chronicle yn cyflwyno syniadau’r Llywydd.

Roedd y sylw a gafodd rhai o adroddiadau pwyllgor yn ardderchog, yn enwedig adroddiad y Pwyllgor Cyfle Cyfartal ar hygyrchedd gorsafoedd rheilffyrdd yng Nghymru. Yn yr achos hwn, cafwyd hyd i nifer o astudiaethau achos a’u hanfon at rai o sefydliadau penodol ym myd y cyfryngau. O ganlyniad i’r gwaith hwnnw, cafwyd sylw eang nid yn unig  ar y llwyfannau traddodiadol fel BBC Wales Today, Wales Tonight, ITV, Good Evening Wales, a The Daily Post, ond hefyd ar orsafoedd radio annibynnol fel Heart FM , Red Dragon a Real Radio.  Rhoddodd papurau newydd lleol fel The Pontypool Free Press gryn dipyn o sylw i’r adroddiadau hefyd. Mae hyn yn dangos y gallwn godi ymwybyddiaeth o’n gwaith drwy ddarparu’r pecyn priodol i’r cyfryngau priodol, ac mae hyn yn rhan ganolog o strategaeth tîm y cyfryngau i feithrin cysylltiadau â’r cyfryngau.

(b)Allgymorth a chysylltiadau rhyngwladol

Yn ystod y ddau fis diwethaf, daeth nifer o bobl adnabyddus i ymweld â’r Cynulliad:

Ar 30 Medi, croesawyd y Dirprwy Brif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus Nick Clegg AS,  i’r Senedd gan y Llywydd, y Prif Weithredwr a’r Clerc ac Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.  Hwn oedd ei ymweld cyntaf â Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Croesawyd Arlywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Jose Manuel Barosso hefyd i’r Senedd y noson honno.

Ar yr un diwrnod, cynhaliwyd trafodaeth yn y Pierhead ar Gytuniad Lisbon.  Yn ystod y drafodaeth, a oedd yn cynnwys pedwar ASE Cymru, rhoddodd y Llywydd araith gyweirnod ar bresenoldeb a dylanwad y Cynulliad Cenedlaethol yn Ewrop drwy waith ein Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol a gwaith y Dirprwy Lywydd sy’n cynrychioli’r Cynulliad yng nghynadleddau CALRE.

Ddechrau mis Hydref, bu’r Dirprwy Lywydd yn bresennol yng Nghyfarfod Llawn Cynhadledd Cynulliadau Deddfwriaethol Rhanbarthol Ewrop (CALRE) 2010 yn Trento, yr Eidal.

Daeth Llygennad Gwlad Belg, Ei Ardderchogrwydd Johan Verbeke, i’r Cynulliad Cenedlaethol i gyfarfod â thîm rhyngwladol y Cynulliad. Rhoddodd y llysgennad dystiolaeth hefyd i’r Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol.

Croesawyd Brenhines Brenhiniaeth Lesotho, Masenate Mohato Seeiso, i’r Cynulliad hefyd.

Aeth Veronica German AC ac Alun Davies AC i 8fed seminar blynyddol Senedd Canada yn Ottowa.  Seminar ar gyfer gwleidyddion newydd neu wleidyddion a etholwyd yn ddiweddar oedd hon, ac roedd yn canolbwyntio ar thema benodol, sef “Cryfhau democratiaeth, rôl seneddwyr” yng nghyd-destun problemau a dulliau o’u datrys.

Ym mis Tachwedd, croesawyd dirprwyaeth o Weinidogaeth Datblygu Rhanbarthol Ffederasiwn Rwsia i’r Cynulliad, mewn cydweithrediad â Bwrdd yr Iaith Gymraeg.  Roedd y ddirprwyaeth yn awyddus iawn i ddysgu rhagor am brofiadau Cymru ym maes diogelu a hyrwyddo ieithoedd lleiafrifol, ac am y modd yr ydym yn gweithredu fel Cynulliad dwyieithog.

Digwyddiadau

Cynhaliwyd 54 o ddigwyddiadau ar Ystâd y Cynulliad ers dechrau’r tymor gan groesawu dros 4000 o bobl i’r ystâd i ymgysylltu â’r Cynulliad a’i Aelodau drwy amrywiol weithgareddau.

Dyma’r uchafbwyntiau:

Cynhaliwyd digwyddiad ‘Craffu Cenedlaethol a Lleol’ yn y Pierhead – cynhadledd ar y cyd rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Sefydliad Bevan a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i ystyried gwaith craffu cenedlaethol a lleol.

Lansiodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Digwyddiadau Mawr, a fydd yn rhoi cyfle i arddangos y Senedd fel adeilad eiconig yng Nghymru.

Estynnodd Cybermen groeso i’r rhai a ddaeth i’r Senedd ym mis Hydref i fod yn rhan o seremoni wobrwyo The Guardian ac Observer Travel. Dyma’r tro cyntaf i’r seremoni wobrwyo nodedig hon gael ei chynnal yng Nghymru a manteisiodd y tîm digwyddiadau ar y cyfle i arddangos y Senedd ar ei gorau ac i gyflwyno canolfan democratiaeth Cymru i gynulleidfa newydd ac amrywiol.

Defnyddiodd Gwyl Dylunio Caerdydd y safleoedd arddangos yn  Pierhead fis Hydref. Cynhaliwyd pum digwyddiad ar wahân ar yr ystâd, pob un yn dathlu ac yn hyrwyddo’r sector dylunio yng Nghymru.  Yn ystod yr wyl, cafodd graffigwaith a dodrefn ei arddangos ynghyd â gwaith dylunwyr mewnol a dylunwyr y cyfryngau newydd a’r nod oedd dangos eu gwaith i’r cyhoedd.

Yn ystod diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, cynhaliodd Hafal ddigwyddiad yn y Cynulliad i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o iechyd meddwl a salwch meddwl ac i wella’u dealltwriaeth ohono.

Mis Hanes Pobl Dduon oedd mis Hydref a chroesawyd arddangosfa Rhwydwaith Sector Gwirfoddol Pobl Dduon Cymru i dynnu sylw at faterion allweddol.

Yn ystod Diwrnod Fferyllfa Gymunedol, cafodd y Senedd ei gweddnewid wrth i ymgyrchwyr drafod â gwleidyddion a chodi ymwybyddiaeth o’u hymgyrch drwy bentyrru 120 o finiau fferyllol melyn gwag yn y Neuadd.  Nod y digwyddiad oedd tynnu sylw at y gwastraff sy’n digwydd bob dydd yn y diwydiant. Roedd yn enghraifft o’r modd y gall tîm digwyddiadau’r Cynulliad helpu i roi cyngor i ymgyrchu’n greadigol i dynnu sylw’r Cynulliad a’i Aelodau at y materion sy’n peri pryder iddynt.

Ym mis Tachwedd, cynhaliodd y Cynulliad ei ginio gala cyntaf yn y Pierhead ers iddo agor ym mis Mawrth. Roedd Cinio Gala Rhyddid Bwyd yr RSPCA yn gyfle i weithio’n agos gyda Charlton House i weddnewid Prif Neuadd y Pierhead ar gyfer digwyddiad o’r fath. Mae hyn yn ychwanegu at yr amrywiaeth o ddigwyddiadau y gall y Cynulliad eu cynnal ar yr ystâd i grwpiau a chyrff ymgysylltu ag Aelodau’r Cynulliad.

Allgymorth

Fel rhan o’r ymgyrch Pleidleisiwch 2011, ymwelodd y Bws Allgymorth â nifer o drefi a chanolfannau ar hyd a lled y Gogledd, a bydd yn teithio drwy’r Canolbarth a’r De ym mis Rhagfyr a mis Ionawr.  Mae’r cyhoedd a’r wasg genedlaethol wedi bod yn gefnogol iawn o ymdrech y Cynulliad i fod yn weledol ar hyd a lled Cymru ac i annog pobl Cymru i ddefnyddio’u pleidlais yn 2011.

Hefyd, ymwelodd y tîm allgymorth â nifer o brifysgolion a cholegau yn ystod wythnos y glas i ledaenu’r neges ymhlith myfyrwyr, yn enwedig y rhai a fydd yn pleidleisio am y tro cyntaf.

1.2 Nod strategol  – Dangos undod ac arweiniad ac ymateb yn feiddgar i newidiadau cyfansoddiadol

(a)Y newyddion diweddaraf am fusnes y Cynulliad

Y rhaglen ddeddfwriaethol

Ers yr adroddiad diwethaf i’r Comisiwn, mae’r broses o graffu ar y Mesur Arfaethedig ynghylch Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) wedi dechrau ac rydym yn disgwyl y caiff y Mesur Arfaethedig ynghylch Tai (Cymru) ei gyflwyno cyn bo hir.

Mae pedwar Mesur arfaethedig ar y gweill ar hyn o bryd gan gynnwys Mesur Arfaethedig y Gymraeg (Cymru) a ddechreuodd Cyfnod 3 ar 22 Hydref.

Ar hyn o bryd, mae cyfanswm o 12 Mesur a 15 Gorchymyn wedi cael Cymeradwyaeth Frenhinol yn ystod y Trydydd Cynulliad. Mae’r Cynulliad wedi pasio tri arall, sef y Mesur Arfaethedig ynghylch Gwastraff Cymru, y Mesur Arfaethedig ynghylch Iechyd Meddwl (Cymru) a Mesur arfaethedig Dai Lloyd ynghylch Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) a chânt eu cyflwyno gerbron y Cyfrin Gyngor ar 15 Rhagfyr.

(b)Y Rhaglen Newid Busnes

Cynhaliodd Craig Stephenson, Rheolwr Rhaglenni, a Lynne Flux, Pennaeth yr Adran Archwilio Mewnol, adolygiad beirniadol o bob prosiect ym mis Hydref. Mae canlyniadau’r adolygiad hwn yn cael eu hystyried gan Fwrdd y Rhaglen Newid wrth benderfynu ar y prosiectau y dylid buddsoddi ynddynt yn y dyfodol. Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar wella gallu’r sefydliad i reoli prosiectau ac mae tua 40 o bobl wedi bod ar ein cwrs rheoli prosiectau mewnol newydd.

(c)Y newyddion diweddaraf am brosiect UNO

Mae prosiect UNO yn awr yn tynnu tua’i derfyn, gyda nifer fechan o broblemau i’w datrys, gwersi a ddysgwyd i’w nodi ac adroddiadau terfynu prosiect i’w cwblhau. Mae’r gyllideb ar gyfer y prosiect wedi’i rheoli’n dynn iawn a disgwylir y bydd yr alldro o fewn y gyllideb a gyflwynwyd i’r Comisiwn a’r Pwyllgor Cyllid    (tua.£4.3m).

Cafodd y rhaglen ar gyfer cyflwyno’r prosiect ei chwblhau ar amser gan gysylltu staff y Cynulliad â’r system newydd mewn tri cham yn ystod mis Awst. Cysylltwyd Aelodau’r Cynulliad a’u staff cymorth rhwng 13 Medi a 20 Hydref gan wneud hynny fesul swyddfa.  Roedd hyn yn golygu eu bod yn cael eu cysylltu’r un pryd, waeth ble roedd eu swyddfa.  Roedd hyn yn gryn her o gofio bod yn rhaid i dîm y prosiect ymweld â defnyddwyr, a rhoi hyfforddiant sylfaenol iddynt, mewn dros 70 o leoliadau ledled Cymru mewn ychydig llai na chwe wythnos.

Mae nifer o broblemau wedi effeithio ar y gwasanaeth i’r Aelodau.  Mae Bwrdd y Prosiect yn ymwybodol ohonynt ac yn ceisio’u datrys yn y modd cyflymaf a mwyaf cost effeithiol ar sail y blaenoriaethau a ganlyn:

  • mae’r broblem yn effeithio ar y modd y mae Aelodau’r Cynulliad yn gweithio;

  • mae’r broblem yn effeithio ar y modd y mae’r cyhoedd yn rhyngweithio â’r Cynulliad;

  • mae’r broblem yn atal staff sy’n defnyddio’r system rhag gwneud eu gwaith;

  • mae’r broblem yn effeithio ar nifer fawr o ddefnyddwyr.

Mae hen gyfrifiaduron a gliniaduron Aelodau’r Cynulliad a’u staff cymorth wedi’u casglu a’u cadw’n ddiogel dan glo mewn mannau lle nad oes mynediad i neb heblaw staff TGCh a pheirianwyr Siemens.  Cadwyd cyfarpar am chwe wythnos o leiaf rhag ofn y byddai angen i beirianwyr Siemens adfer data a gadwyd ar y peiriannau.  Bydd y cyfarpar sy’n gydnaws â’r system TG newydd yn cael ei ailadeiladu a’i ailddefnyddio fel stoc. Bydd peiriannau hyn, nad ydynt yn gydnaws â’r parth GF newydd, yn cael eu hanfon i Remploy a fydd yn dileu’r holl ddata oddi ar y disgiau caled.  Os yw’r peiriant mewn cyflwr da, caiff ei ailwampio a’i ailwerthu (a bydd y Cynulliad yn cael ad-daliad).  Os penderfynir nad oes modd ailwerthu’r peiriant, bydd y cydrannau’n cael eu hailgylchu.  Mae Remploy wedi’n sicrhau ni na fydd unrhyw rannau’n cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi. Rydym yn gobeithio y bydd yr ad-daliad a gaiff y Cynulliad am y cyfrifiaduron a’r gliniaduron yn talu am y broses waredu.

1.3 Nod strategol – Parch, cywirdeb a llywodraethu da

(a)Y Pwyllgor Archwilio – 4 Tachwedd

Cyfarfu Pwyllgor Archwilio’r Cynulliad ar 4 Tachwedd. Bu’n trafod Llythyr Rheoli Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2009-10 a nododd nad oedd yn cynnwys unrhyw fater a oedd yn peri pryder mawr.  Deliwyd â’r holl faterion a godwyd neu mae’r tîm cyllid wrthi’n ymdrin â nhw. Cyflwynodd Swyddfa Archwilio Cymru eu cynigion ar gyfer archwilio lwfansau’r Aelodau yn 2010-11, a chytunodd y Pwyllgor â’r cynigion hyn.  Mae’r cynigion yn seiliedig ar argymhelliad y Panel Adolygu Annibynnol ac mae’n sicrhau y bydd lwfansau pob Aelod Cynulliad wedi’u harchwilio erbyn etholiad 2011.  Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am gyllideb ddrafft 2011-12 a chronfa Bensiynau’r Aelodau.

Fel rhan o’r rhaglen adolygu risg, ystyriodd y Pwyllgor y risgiau allweddol a oedd ynghlwm wrth Nod Strategol 5 – “byddwn yn gofalu bod gan y Cynulliad y gwasanaeth gorau, a gaiff ei ddarparu yn y ffordd fwyaf effeithiol”.

(b)Y Pwyllgor Cyllid – 8 Tachwedd

Ar 8 Tachwedd, ymddangosodd y Llywydd, y Prif Weithredwr a’r Clerc a’r Prif Swyddog Gweithredu gerbron y Pwyllgor Cyllid a oedd yn craffu ar gyllideb ddrafft y Comisiwn ar gyfer 2011-12.  Disgwylir adroddiad ffurfiol y Pwyllgor ar 29 Tachwedd.  Yn dilyn y cyfarfod, gofynnodd y Pwyllgor am ragor o wybodaeth am UNO, arbedion effeithlonrwydd gwasanaethau ac effaith y Cynllun Ymadael yn Gynnar ar ysbryd y staff yn ogystal ag eglurhad o’r swm y penderfynodd y Comisiwn ei ymrwymo i bob nod strategol a sut yr aeth y Comisiwn ati i fonitro’r gwaith a wnaed yng nghyswllt pob nod.

Anfonwyd ymateb i’r Pwyllgor Cyllid ar 16 Tachwedd ac mae swyddogion yn awr yn gweithio i gyflwyno’r ddogfen a’r cynnig cyllidebol terfynol i’w gytuno ar 8 Rhagfyr 2010.

(c)Y Bwrdd Taliadau

Cynhaliodd y Bwrdd Taliadau ei drydydd cyfarfod ar 11 Tachwedd pan fu’n ystyried argymhellion y Panel Adolygu Annibynnol; cyflogau Aelodau’r Cynulliad a materion yn ymwneud â gallu strategol yn y Cynulliad.  Gwnaed nifer o benderfyniadau yng nghyswllt argymhellion y Panel Adolygu Annibynnol a phenderfynwyd pennu cyflog sylfaenol sefydlog ar gyfer Aelodau’r Cynulliad yn ystod pedair blynedd y Cynulliad nesaf.

Bydd y Bwrdd yn cynnal ei gyfarfod ffurfiol nesaf ar 10 Rhagfyr. Bydd aelodau’r Bwrdd yn cyfarfod yn anffurfiol â deiliaid swyddi a staff cymorth Aelodau’r Cynulliad ar 8 a 9 Rhagfyr.  Bydd y Bwrdd hefyd yn cynnal colociwm yn y Pierhead ar 9 Rhagfyr i drafod adnoddau a diben strategol y Cynulliad, a bydd Aelodau o’r holl bleidiau’n cymryd rhan.

(d)Cynadleddau Stonewall

Gwahoddwyd Craig Stephenson, cadeirydd OUT-NAW, sef rhwydwaith staff lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LGBT) y Cynulliad, i siarad yng nghynhadledd gyntaf Stonewall Cymru ym mis Hydref.  Gofynnwyd iddo siarad am bwysigrwydd cael staff LGTB yr oedd eraill yn awyddus i’w hefelychu mewn sefydliadau a’r effaith y mae hyn wedi’i gael yn y Cynulliad ers 2007.  Yn dilyn cynhadledd lwyddiannus, gofynnwyd iddo siarad yng nghyfarfod lansio “Starting Out, sef canllaw recriwtio Stonewall, o flaen cynulleidfa o fyfyrwyr a chyflogwyr a hynny ddechrau mis Tachwedd.  Roedd y ddau ddigwyddiad yn gyfle i ddangos yr arfer da sydd i’w weld drwy’r Cynulliad ac i hyrwyddo ymgyrch Pleidleisiwch 2011 a phwysigrwydd gofalu bod llais pawb yn cael ei glywed.

1.4 Nod strategol – Gweithio’n gynaliadwy

(a)Gwobrau Rheoli Cyfleusterau Cynaliadwy 2010

Ym mis Hydref, cafodd y Cynulliad ei enwi gan Wobrau Rheoli Cyfleusterau Cynaliadwy 2010 fel y corff mwyaf cynaliadwy yn sector cyhoeddus y DU, ar lefel llywodraeth.

Mae’r wobr yn cydnabod ein hymrwymiad parhaus i leihau’n ôl-troed carbon drwy ymgymryd â newidiadau cost effeithiol, ac arloesol, drwy reoli’r amgylchedd a systemau cyfathrebu ac mae’n dangos cefnogaeth hefyd i’r manteision sy’n deillio o’r rhaglen arloesol o fentrau a amlinellwyd yng Nghynllun Rheoli Carbon y Cynulliad ynghyd â’n hymrwymiad strategol i weithio’n gynaliadwy.

1.5 Nod strategol - Y gwasanaeth gorau, wedi’i ddarparu yn y ffordd fwyaf effeithiol

(a)Y wybodaeth ddiweddaraf am y feithrinfa

Mae Darling Buds wedi cwblhau’r gwaith o ymestyn ac addasu’r feithrinfa ac maent  wedi sicrhau achrediaeth gan ASGC ac wedi recriwtio athrawes sy’n gallu siarad Cymraeg i gynnig gwasanaethau dwyieithog yn y feithrinfa. Gan hynny, mae’r feithrinfa’n gwbl weithredol yn awr a phostiwyd eitem newyddion ar 2 Tachwedd i roi gwybod i bawb sy’n defnyddio’r adeilad am y cyfleusterau sydd ar gael a sut i gael lle yn y feithrinfa.

(b)Arlwyo

Cynhaliwyd arolwg ymhlith staff ac Aelodau yn ystod mis Medi ynglyn â defnyddio Bwyd Rhyddid fel rhan o’r gwasanaethau arlwyo.  Cafwyd bron dau gant o ymatebion gyda mwyafrif o 81 y cant yn pleidleisio o blaid defnyddio Bwyd Rhyddid.  Gan hynny, o 17 Tachwedd ymlaen, bydd pob wy cyfan a werthir yn y Cynulliad, a phob wy a ddefnyddir fel cynhwysion, yn ogystal â chynnyrch eog, wedi cael eu hachredu fel Bwyd Rhyddid.  Bydd cynnyrch fel cyw iâr, porc a chig eidion yn cael eu gwerthu hefyd cyn gynted ag y byddant ar gael gan y cyflenwyr.  Mae’r RSPCA wedi llongyfarch y Cynulliad gan ddweud mai hwn yw’r sefydliad cyntaf yn y DU i ddewis bwyd sy’n hybu lles anifeiliaid, ac roedd yn cymeradwyo Aelodau’r Cynulliad a’u staff.

Fel rhan o’r gofyniad i adolygu’r gwasanaethau a chostau arlwyo, gan ystyried y gostyngiad mewn cyllidebau, cafodd gwasanaeth brecinio ei dreialu yn ystod toriad mis Hydref.  Gofynnwyd i bobl ymateb drwy gyfrwng linc arolwg ar y dudalen newyddion a chafwyd dros 90 o ymatebion.  Mae’r canlyniadau a’r gwerthiant dros y cyfnod o’i gymharu â gwerthiant dros doriadau eraill yn cael eu dadansoddi a bydd atborth manwl i’w weld ar y dudalen newyddion ar ôl cwblhau’r gwaith hwn.

(c)Parcio

Penderfynwyd ar daliadau parcio a bydd y taliadau newydd yn dod i rym ddechrau mis Ionawr 2011.  Ar hyn o bryd rydym yn paratoi canllawiau i sicrhau bod y staff hynny sy’n dymuno defnyddio’r meysydd parcio ar ôl cyflwyno’r system newydd yn gallu gwneud hynny.  Bydd manylion llawn am sut i gofrestru ar gyfer y pas parcio newydd ac erbyn pryd y dylid gwneud hynny, yn cael eu cyhoeddi ar y rhyngrwyd.

2.0 Gweithgareddau a digwyddiadau allweddol

2.1 Y wybodaeth ddiweddaraf am staffio

Daeth y cynllun ymadael yn wirfoddol ar gyfer staff y Cynulliad, ac a gytunwyd gan y Comisiwn i gynyddu arbedion cylchol fel rhan o’n strategaeth i leihau gwariant, i ben ar 13 Awst.

Arweiniodd y broses at 34 o geisiadau pendant, a chymeradwywyd 25 o’r rhain.  Yn ogystal â’r gost, roedd parhad busnes a cholli sgiliau’n ystyriaethau allweddol wrth asesu’r ceisiadau. Gadawodd ugain o staff y Cynulliad ar 22 Hydref, a bydd y pump arall yn gadael erbyn 10 Rhagfyr.  Rydym yn rhagweld y bydd angen llenwi pedair o’r swyddi hyn yn fewnol (un ohonynt ar raddfa is na chynt).  Rydym hefyd yn gweithio i ad-drefnu’r Gwasanaeth Diogelwch er mwyn darparu gwasanaeth mwy hyblyg a chyflogi llai o staff.

Bydd y gost untro net ychwanegol o £0.6m (£0.9m crynswth) yn 2010-11 yn arwain at arbedion o hyd at £2.8m dros y pedair blynedd nesaf.

Er mwyn sicrhau na fydd gostyngiad yn nifer y staff yn effeithio ar safon gwasanaethau, mae Penaethiaid Gwasanaeth yn gweithio gyda’u timau i weld sut y gallant arbed arian a sut y gellir sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio ar gyfer meysydd blaenoriaeth.  Mae cynigion i wella hyblygrwydd staff yn mynd rhagddynt yn dda ac yn cael eu trafod ar hyn o bryd gan y Bwrdd Rheoli a chynrychiolwyr Unedau Llafur.  Drwy ddatblygu mwy o hyblygrwydd ymhlith staff, y nod yw ei gwneud yn haws i ni symud staff i feysydd blaenoriaeth naill ai’n barhaol neu dros dro gan roi mwy o gyfle i staff feithrin eu sgiliau a defnyddio sgiliau trosglwyddadwy.

2.2 Penodiadau cyhoeddus

Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ar 17 Tachwedd, penderfynodd y Cynulliad benodi Gerard Elias QC fel ei Gomisiynydd Safonau statudol annibynnol cyntaf. Bydd yn dechrau ar ei waith ar 1 Rhagfyr gan gwblhau proses lwyddiannus, a ddechreuodd yn 2002 gydag argymhelliad yr Athro Diana Woodhouse i greu swydd o’r fath. Dim ond ar ôl i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ddod i rym y bu’n bosibl rhoi’r cynnig ar waith.  Dyma rai o nodweddion pwysicaf y broses:

  • rhoi un o hen amcanion y Cynulliad ar waith yn llwyddiannus drwy gyfrwng y Mesur Cynulliad cyntaf a gynigiwyd gan Bwyllgor – sef y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn yr achos hwn;

  • proses benodi gadarn a thryloyw a oedd yn cynnwys: dewis yr ymgeisydd llwyddiannus yn wrthrychol drwy gyfrwng panel a oedd yn cynnwys cadeirydd y pwyllgor perthnasol; gwrandawiad cadarnhau cyhoeddus a gynhaliwyd gan y pwyllgor hwnnw a arweiniodd at benderfyniad unfrydol y pwyllgor i argymell y dylai’r Cynulliad fwrw ymlaen â’r penodiad; a phenodi’r Comisiynydd Safonau’n ffurfiol gan y Cynulliad mewn Cyfarfod Llawn.

Ar hyn o bryd dim ond yr Ombwdsmon, yr Archwilydd Cyffredinol a’r Comisiynydd Safonau sy’n cael eu penodi gan y Cynulliad, neu’n dilyn ei argymhelliad, ond mae’r broses uchod yn dangos bod gan y Cynulliad weithdrefn ar gyfer gwneud penodiadau o’r fath sydd gyda’r gorau sydd ar gael, ac mae’n dangos hefyd y gallai’r Cynulliad, yn y dyfodol, ymgymryd yn hyderus â’r swyddogaeth o wneud penodiadau cyhoeddus eraill, pe bai deddfwriaeth yn galw am hynny.

2.3 Diddymu’r Cynulliad a Rhaglen y Pedwerydd Cynulliad.

Mae’n debyg y bydd y cyfnod diddymu cyn yr etholiad yn dechrau ganol nos, nos Wener, 1 Ebrill 2011.  Gan fod y Pasg yn hwyr eleni, mae hyn mwy neu lai’n cyd-daro â’r hyn a fyddai wedi bod yn doriad y Pasg, gan ychwanegu wythnos at gyfnod arferol y toriad.

Mae’r holl Aelodau wedi cael gwybod am benderfyniad y Comisiwn ynglyn â diddymu’r Cynulliad a’r cynlluniau ar gyfer y Pedwerydd Cynulliad. Gellir gweld y wybodaeth ddiweddaraf am y materion hyn ar y rhyngrwyd: http://aps/presidingoffic/corporate/Supporting%20Excellence/The%20Change%20Prog/4AP/AMs/4AP_Newspage_2010.htm.

Mae staff y Cynulliad yn parhau i gysylltu â’r Aelodau a enwebwyd gan yr Arweinwyr Plaid i gael atborth ar yr arweiniad a’r manylion ymarferol yn ymwneud â chyfnod yr etholiad a’r Pedwerydd Cynulliad.  Gyda chymorth a chymeradwyaeth yr Aelodau, mae trafodaethau am faterion sy’n effeithio ar staff cymorth hefyd yn cael eu cynnal gyda staff yr Aelodau a’u cynrychiolwyr.  Mae’r rhain yn cynnwys materion fel cyflwyno cytundeb cyflogaeth safonol a llawlyfr ar gyfer staff cymorth yr Aelodau, ac sy’n codi o argymhellion adroddiad “Yn Gywir i Gymru”.  Mae staff y Cynulliad yn gweithio’n agos gyda’r Bwrdd Taliadau i weld a oes unrhyw feysydd gwaith yn gorgyffwrdd er mwyn osgoi unrhyw ddyblygu.

3.0 Adroddiad ariannol

Mae’r adroddiad diweddaraf ar gyfer y cyfnod tan ddiwedd mis Medi 2010 yn dangos bod y gwir wariant 4 y cant yn is nag a ragwelwyd ar ddechrau’r flwyddyn ariannol a’r prif reswm dros y tanwariant yw’r swm y rhagwelwyd y byddai’n cael ei wario ar brosiectau.  Mae’r rhagolwg ar gyfer diwedd y flwyddyn o fewn y goddefiant o 2 y cant.  Gan fod y gwaith o gyflwyno prosiect UNO wedi parhau cyhyd, bydd y prosiectau sy’n dibynnu ar Dechnoleg Gwybodaeth yn awr yn cael eu cyflwyno yn ystod pum mis olaf y flwyddyn. Mae hyn yn cynyddu’r risg y gall gwariant ar brosiectau gael ei wthio ymlaen i 2011-12.  Mae’r risg yn cael ei fonitro’n ofalus gan y Bwrdd Newid sydd wedi cytuno ar fesurau lliniaru penodol gan gynnwys dod â gwariant ymlaen o 2011-12 os oes modd.

4.0 Gwybodaeth ychwanegol

4.1 Mae rhestr o wybodaeth a ddatgelwyd ers yr adroddiad diwethaf o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ynghlwm yn Atodiad A. Gall y Comisiynwyr ddarparu’r datgeliad llawn ar gais.

ANNEX A

GWYBODAETH A RYDDHAWYD YN DILYN CEISIADAU I WELD GWYBODAETH

Medi-Tachwedd 2010

  • Manylion yn ymwneud â cherdyn caffael y Cynulliad

  • Gwybodaeth am y rhai sydd â phas Ty Hywel

  • Costau’n ymwneud â Bws Allgymorth y Cynulliad

  • Manylion yn ymwneud â’r Bwrdd Rheoli, lle'r oedd yr aelodau’r byw pan gawsant eu penodi

  • Nifer y staff yn y meysydd gwasanaeth

  • Siartiau’n dangos strwythur meysydd gwasanaeth Cyllid a TGCh

  • Papurau’r Comisiwn yn ymwneud â Chofnod y Trafodion

  • Manylion Aelodau’r Cynulliad sydd wedi hawlio llai na’r cyflog sylfaenol llawn y mae ganddynt hawl iddo

  • Rhestr o gostau a gwariant ar staff ym mhob maes gwasanaeth

  • Gwybodaeth yn ymwneud â defnyddio’r cerdyn caffael

  • Manylion yr ardaloedd awdurdodau lleol hynny lle mae gan Aelodau eiddo y gallant hawlio Lwfans Costau Ychwanegol arnynt

GWYBODAETH NA RYDDHAWYD YN DILYN CEISIADAU I WELD GWYBODAETH

Medi-Tachwedd 2010

  • Gwybodaeth yn ymwneud â Chynllun Pensiwn Aelodau’r Cynulliad, gwybodaeth y penderfynwyd nad oedd y Cynulliad yn ei chadw

  • Cyngor cyfreithiol yn ymwneud â’r adroddiad ‘Mynediad i Ddwr Mewndirol’



Partners & Help