Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Comisiwn y Cynulliad
A
ssembly Commission

NAFWC 2010 (Papur 8 Rhan 1)
E
in hymrwymiad i gynaliadwyedd

Dyddiad: 30 Tachwedd 2010
Amser:Ar ôl y Cyfarfod Llawn
Lleoliad:Ystafell Gynadledda 4B
Enw a rhif cyswllt yr awdur: Neil Bradley, est 8961

Paratowyd y papur hwn i'w ystyried gan Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Penderfynwyd ei bod yn addas ei gyhoeddi wedi iddo gael ei ystyried yn unol â rheolau'r Comisiwn ar gyfer cynnal busnes. Ni chaniateir i gynnwys y papur hwn gael ei gyhoeddi na'i ddatgelu'n rhy gynnar oherwydd gallai hyn ddylanwadu ar drafodaethau’r Comisiwn

1.0 Diben a chrynodeb o’r materion

1.1 Ym mis Tachwedd 2009 cytunodd Comisiwn y Cynulliad ar strategaeth Rheoli Carbon er mwyn sicrhau ystâd garbon-niwtral erbyn 2015.

1.2 Adroddiad er gwybodaeth yn unig yw hwn ac mae’n nodi’r cynnydd a wnaed ym mlwyddyn gyntaf y Rhaglen Rheoli Carbon.

2.0 Argymhellion

2.1 Gwahoddir Comisiwn y Cynulliad i nodi:

  1. cyflawniad ein targed ym Mlwyddyn 1; a

  2. rhagor o fanylion am y cynnydd a’r cynllun gweithredu ar gyfer Blwyddyn 2 yn Atodiad A.

3.0 Trafodaeth

3.1 Ar 25 Tachwedd 2009, cymeradwyodd y Comisiwn y Strategaeth Rheoli Carbon a’r cynllun gweithredu ar gyfer bod yn Gynulliad Carbon-Niwtral.  Mae’r ddogfen, ‘Ein Hymrwymiad i Gynaliadwyedd’, sydd ynghlwm (Atodiad B) yn cyfeirio atynt.

3.2 Amcanion sylfaenol y strategaeth yw:

  • sicrhau Niwtraliaeth Carbon erbyn 2015;

  • cyflawni targedau lleihau allyriadau blynyddol o 8 y cant ar gyfer ynni a 3 y cant ar gyfer teithio busnes; a

  • chanolbwyntio ar leihau allyriadau a defnyddio gwrthbwyso carbon fel y penderfynir yn ddiweddarach yn y cyfnod targed.

4.0 Y cynnydd a’r cyflawniadau

4.1 Roedd y strategaeth yn amlinellu’r pecyn cychwynnol o welliannau a oedd yn dod i amcangyfrif cychwynnol o £900,000.  Ym mlwyddyn 1, cafodd y costau a oedd yn gysylltiedig â’r gwelliannau eu hariannu drwy’r gyllideb bresennol, gan ddod i £100,000.  Mae Atodiad A yn rhoi manylion am y gwaith a wnaed.

4.2 Ym Mlwyddyn 1, buom yn llwyddiannus i gyflawni targed lleihau o 8 y cant mewn allyriadau ynni ar draws yr ystâd.  Mae hyn yn awgrymu bod ein cyfrifiadau gwreiddiol ar gyfer lleihau yn realistig.  Mae’r lleihad hwn gyfwerth ag arbediad o 247 tunnell o garbon a £50,000 mewn arbedion costau.

4.3 Cyflawnwyd lleihad o 18 y cant ar gyfer allyriadau teithio busnes, gan wella’n targed gwreiddiol o 3 y cant y flwyddyn.  Mae hyn o ganlyniad i newid mewn agweddau cyflogeion tuag at deithio, o ganlyniad i gyfyngiadau ar y gyllideb yn anad dim, ond hefyd oherwydd gwell ymwybyddiaeth ymhlith staff o ddewisiadau teithio cynaliadwy.  Mae’r lleihad hwn gyfwerth ag arbediad o 35 tunnell o garbon ac arbedion costau o £150,000 yn ystod y flwyddyn flaenorol.

4.4 Cafodd cymhelliant parhaus y Cynulliad i greu gweithle cynaliadwy ei gydnabod eleni gyda gwobr am y Sefydliad Mwyaf Cynaliadwy yn y Sector Cyhoeddus – yng nghategori’r Llywodraeth, gan Wobrwyon Rheoli Cyfleusterau Cynaliadwy 2010.  Mae’r wobr yn dyst i’r rhaglen barhaus o welliannau yr ydym yn eu gwneud i’n hadeiladau a’r ffordd yr ydym yn gweithio.

5.0 Edrych ymlaen

5.1 Yn ystod y rhaglen, mae’n amlwg bod ymrwymiad ariannol yn hanfodol er mwyn sicrhau ein bod yn gwella’n raddol wrth i ni ddefnyddio opsiynau cost isel sy’n ffordd gyflym o lwyddo, a buddsoddi mewn technoleg sydd wedi’i brofi er mwyn cyflawni’n targedau.  Gall diffyg buddsoddi cyfalaf ei gwneud yn sylweddol anoddach i gyflawni’r targedau hyn.  Bydd unrhyw fuddsoddiad cyfalaf yn destun gwerthusiad ariannol llawn a chywir a chaiff prosiectau eu hasesu ar sail dichonolrwydd, hyd yr amser talu’n ôl a’r goblygiadau posibl ar ddefnyddwyr yr adeilad.  Caiff costau’r pecyn gwaith a amlinellwyd yn y Cynllun Gweithredu Blwyddyn 2 eu datblygu.

5.2 Nodir y Cynllun Gweithredu ar gyfer Blwyddyn 2 yn Atodiad A a chafodd £100,000 ei gynnwys yng nghyllideb 2011-12 ar gyfer hyn.

6.0 Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Lleihau Carbon

6.1 Nid ydym yn ‘gyfranogwyr’ llawn yn y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Lleihau Carbon gan fod ein hôl troed carbon ar gyfer ynni o dan y trothwy presennol ac o ganlyniad i hynny, ni fydd unrhyw oblygiadau ariannol.  Fodd bynnag, rydym wedi cofrestru ‘datgeliad gwybodaeth’,  sy’n cynnwys ein data ynni o dan ganllawiau’r cynllun.  Dros gyfnod o amser, bydd y trothwy’n gostwng ond cyn belled â’n bod yn parhau i leihau’n defnydd o ynni mae’n debygol y byddwn yn parhau i gael ein heithrio.

7.0 Canlyniad

7.1 Mae’r Cynllun Rheoli Carbon yn profi i fod yn ddefnyddiol dros ben i leihau effaith gweithgareddau’r Cynulliad ar yr amgylchedd.  Mae’r cynnydd yn ystod y flwyddyn gyntaf yn galonogol; fodd bynnag, byddai angen ymrwymiad ariannol parhaus er mwyn sicrhau y gall y nod hirdymor o niwtraliaeth garbon fod yn realiti cyraeddadwy.

Annex A

1.0 Cefndir

1.1 Yn 2008-09,  2,890 tunnell o CO2 oedd ôl-troed carbon y Cynulliad. Daw’r rhan fwyaf o hwn o ddwy brif ffynhonnell:

  • defnydd o ynni yn adeiladau’r Cynulliad; a

  • teithio busnes (yn y gwaith).

1.2 Mae’r Cynllun Rheoli Carbon yn gosod targed i leihau allyriadau CO2 o 40 y cant erbyn 2015.  Roedd y cynllun i gyflawni’r Strategaeth Lleihau Carbon yn cynnwys rhestr o brosiectau a oedd â’r potensial i greu lleihad o 380 tunnell mewn allyriadau carbon yn ystod cyfnod y rhaglen.

Tabl 1.0 Y cynnydd hyd yma yn erbyn y prosiectau hyn

Manylion y pecyn gwaith penodol

Cynnydd hyd yma

Model o’r adeilad fel y mae ar hyn o bryd er mwyn asesu dichonolrwydd yr opsiynau  awyru naturiol

Cwblhawyd y gwaith modelu fel rhan o adroddiad Arups.

Gosod goleuadau sy’n seiliedig ar symudiad drwy’r adeilad

Mae rhaglen barhaus yn mynd rhagddi i osod goleuadau PIR drwy’r swyddfa cyn belled â bod arian ar gael yn y gyllideb. Ymysg y swyddfeydd sydd eto i’w cwblhau mae swyddfeydd Llywodraeth y Cynulliad yn 5A a swyddfeydd Aelodau’r Cynulliad.

Gosod synwyryddion PIR mewn ystafelloedd cyfarfod, systemau aerdymheru a goleuadau meysydd parcio.

Gosodwyd synwyryddion PIR mewn ystafelloedd cyfarfod ac ystafelloedd  cynadledda gydag unedau aerdymheru annibynnol.  Felly, bydd yr unedau hyn yn diffodd yn awtomatig pan fydd yr ystafelloedd hyn yn wag.

Cafodd synwyryddion PIR hefyd eu cysylltu â system oleuadau’r maes parcio tanddaearol er mwyn galluogi’r goleuadau hyn i ddiffodd pan nad oes unrhyw un yn bresennol yn y maes parcio tanddaearol.

Gosodiadau T5 (sy’n cymryd lle’r T8s presennol)

Gosodwyd drwy’r adeilad.

Goleuadau maes parcio LED

Amnewidiwyd goleuadau’r maes parcio allanol am oleuadau LED mwy effeithlon o ran ynni.

Unedau trydan i gynhesu dwr poeth domestig

Mae’r rhain wedi’u gosod yn holl geginau a phwyntiau gwneud te’r staff,  yn ogystal â switsys amseru fel bod y rhain wedi’u diffodd y tu allan i oriau gwaith.

Gwelliannau i awyrellau mecanyddol

Gweler y gyriannau amrywio cyflymder isod

Gwella adferiad gwres

Gwnaed newidiadau i uned trin aer bloc B er mwyn gwella adferiad gwres yn yr ardal hon.

Pympiau / gwyntyllau amrywio cyflymder

Gosodwyd gyriannau amrywio cyflymder yn yr holl wyntyllau a phympiau er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni y systemau gwresogi ac aerdymheru.

Inswleiddio waliau a thoeon (yn ôl rheoliadau)

Strategaeth tymor hwy barhaus

Gwella effeithlonrwydd bwyleri ac oerwyr

Strategaeth tymor hwy barhaus

Gwella ymdreiddiad

Strategaeth tymor hwy barhaus

Strategaeth awyru modd cymysg

Bu’r arbrawf o ddefnyddio dull awyru naturiol yn llwyddiannus yn yr  adran EFM ar y llawr gwaelod yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ac mae’n gweithio’n dda yn y rhan hwn o’r adeilad.

Mae rhagor o arbrofion wedi’u cynllunio ar gyfer rhannau eraill o’r adeilad fel rhan o’r cynllun i Dy Hywel ddychwelyd at ddull naturiol o awyru.

Awyru hollol naturiol

Strategaeth tymor hwy barhaus

1.3 Fe wnaethom hefyd nodi y byddem yn sicrhau’r lleihad o 380t sy’n weddill drwy System Rheoli Amgylcheddol y Ddraig Werdd.  Mae hon yn parhau i fod yn hynod o effeithiol wrth gymell newid diwylliannol, gwella ymrwymiad a newid barn a meddwl.

1.4 Lleihad yn y defnydd o ynni a chynnydd yn y dewisiadau cynaliadwy o ran teithio busnes yw’r dangosyddion mwyaf eglur bod cynaliadwyedd yn dechrau sefydlu mewn busnes o ddydd i ddydd.  Fodd bynnag, o ran cyflawni’r heriau mwy fel gweithio mewn mannau sydd wedi’u hawyru’n naturiol, cynyddu nifer y staff sy’n gweithio gartref a “rhewi” rhannau o’r adeilad yn dymhorol, bydd angen derbyn mwy o newidiadau.

1.5 Mae’r tabl isod yn crynhoi sut mae’r cynnydd yn erbyn y camau hyn wedi lleihau allyriadau CO2 ac wedi arwain at arbedion  costau.

Tabl 1.1 Arbedion o ran Carbon a Chostau

Ynni (tC02)*

Teithio Busnes  (tC02)*

Cyfanswm

2008-09 (blwyddyn sylfaenol)

2,653

237

2890

2009/10 (blwyddyn 1)

2,441

194

2635

Arbed Carbon (tC02)

212

43

255

Arbediad o ran Costau (£)

£50,000

£150,000

£200,000

* Yn y cyfnod rhwng cyfrifo ôl-troed carbon y Cynulliad drwy’r Cynllun Rheoli Carbon a’r flwyddyn bresennol, mae Groundwork Cymru - y sefydliad sy’n gyfrifol am weinyddu System  Amgylcheddol y Ddraig Werdd wedi penderfynu mabwysiadu ffactorau cyfnewid Defra ar gyfer cofnodi nwyon ty gwydr wrth iddynt gael eu diweddaru’n flynyddol.  Mae hyn wedi arwain at ail-gyfrifyddu’r ffigyrau yn y flwyddyn sylfaenol (2008-09) sydd wedi arwain at gynnydd cyffredinol yn allyriadau’r Cynulliad ar gyfer ynni a lleihad yn yr allyriadau ar gyfer teithio.  Nid yw hyn wedi newid yr ôl-troed carbon cyffredinol yn sylweddol.

2.0 Edrych ymlaen – Blwyddyn 2

2.1 Bydd Blwyddyn 2 y strategaeth yn canolbwyntio ar ‘fwy o’r un peth’ gyda hyd yn oed mwy o bwyslais ar reoli ynni a lleihau defnydd drwy wneud rhagor o welliannau i’r adeilad, cynyddu ymwybyddiaeth o’r defnydd o ynni drwy’r ystâd a’r potensial i osod paneli solar ar do Ty Hywel er mwyn creu trydan.

2.2 Her allweddol i’r Cynulliad fydd sicrhau bod adnoddau ar gael i ariannu a chefnogi mentrau allweddol a all fod angen buddsoddi’n sylweddol er mwyn elwa yn y tymor hir, gan mai dim ond y lefel uchaf o frwdfrydedd, ymrwymiad a dealltwriaeth dechnegol fydd yn sicrhau canlyniad cadarnhaol.

2.3 Cafodd cynllun gweithredu’r Ddraig Werdd ar gyfer 2010-11, sy’n cefnogi’r strategaeth, ei adolygu’n ddiweddar gan y Grwp Clear Skies fel rhan o adolygiad rheoli blynyddol y Ddraig Werdd.  Nodwyd y cynnydd a phenderfynwyd ar y camau i’w cymryd er mwyn helpu i gyflawni’r targed o leihau allyriadau o 8 y cant.  Bydd cyflenwad y cynllun gweithredu’n parhau i gael ei fonitro drwy’r flwyddyn.  

2.4 Mae hyn gweithio ochr yn ochr â’r pecyn gwaith arfaethedig ar gyfer gwella systemau rheoli’r adeilad ym Mlwyddyn 2 sydd fel a ganlyn:

Cynllun Gweithredu  - Blwyddyn 2

Manylion y camau a ddewiswyd

Cynnal rhagor o arbrofion awyru naturiol drwy’r adeilad

Parhau i gyflwyno PIR

Inswleiddio waliau a thoeon (yn ôl y rheoliadau);

Gwella effeithlonrwydd bwyleri ac oerwyr

Gwella ymdreiddiad

Canolbwyntio ar reoli ynni

Gwelliannau i adeilad y 4ydd Cynulliad

Cyfle posibl i greu ynni’r haul (gan drawsnewid golau’r haul i ynni)

Parhau i adolygu’r rheoliadau rheoli adeiladau presennol

Adolygu’r systemau gwresogi ac aerdymheru’n barhaus

Asesu effeithlonrwydd cau offer TGCh newydd i lawr yn awtomatig

Gwella ymddygiad preswylwyr drwy dargedu gohebiaeth amgylcheddol

Cyhoeddi data perfformiad bob mis er mwyn annog perchnogaeth o’r defnydd o ynni

Adolygu pwyntiau gosod ffermydd gwasanaethu

Asesu dichonoldeb aerdymheru fferm wasanaethu Ty Hywel am ddim yn ystod misoedd y gaeaf.

2.5 Bydd y camau a amlinellir uchod yn arwain at ragor o arbedion ariannol a lleihad mewn allyriadau carbon. Dylid nodi nad yw arbedion ariannol a wireddir, ar hyn o bryd yn cael eu neilltuo na’u hail-fuddsoddi mewn rhagor o fentrau cynaliadwy ac efallai bod hyn yn rhywbeth y gellid ei ystyried wrth symud ymlaen.

3.0 Gwrthbwyso

3.1 Fe wnaethom nodi yn y strategaeth ynni y byddwn yn canolbwyntio ar leihau yn unig yn 2015.  Yn unol â hyn, nid ydym wedi gwrthbwyso unrhyw allyriadau ym Mlwyddyn 1.  Er ein bod wedi bwriadu gwrthbwyso’r allyriadau o deithio awyr a defnydd Aelodau o geir preifat yn ddi-oed, ni ddigwyddodd hyn o ganlyniad i’r gostyngiad mawr mewn teithio awyr a’r lleihad yn y ffactor trawsnewid.  Hefyd mae angen gwella argaeledd data teithio Aelodau er mwyn pennu ein gwrthbwysiadau’n gywir.  

3.2 Os byddwn yn dewis mabwysiadu’r dull hwn ym Mlwyddyn 2, caiff yr adnoddau ariannol fydd eu hangen eu drafftio i’r gyllideb ar ôl i ni gael data dibynadwy mynych.



Partners & Help