Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Comisiwn y Cynulliad
A
ssembly Commission

NAFWC 2010 (Papur 6 Rhan 1)
Canolfan Llywodraethiant Cymru yn y Pierhead

Dyddiad:30 Tachwedd 2010
Amser:Ar ôl y Cyfarfod Llawn
Lleoliad:Ystafell Gynadledda 4B
Enw a rhif cyswllt yr awdur: Helen Birtwhistle, estyniad 8647

Paratowyd y papur hwn i'w ystyried gan Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Penderfynwyd ei bod yn addas ei gyhoeddi wedi iddo gael ei ystyried yn unol â rheolau'r Comisiwn ar gyfer cynnal busnes. Ni chaniateir i gynnwys y papur hwn gael ei gyhoeddi na'i ddatgelu'n rhy gynnar oherwydd gallai hyn ddylanwadu ar drafodaethau’r Comisiwn.

1.0 Diben a chrynodeb o’r materion

1.1 Yn ei gyfarfod ar 19 Mai 2010, cytunodd Comisiwn y Cynulliad mewn egwyddor i gefnogi cynnig o fenter ar y cyd rhwng y Comisiwn a Chanolfan Llywodraethiant Cymru o Brifysgol Caerdydd.

1.2 Fel rhan o’r fenter, byddai Canolfan Llywodraethiant Cymru yn helpu i ddatblygu’r Pierhead fel fforwm ar gyfer cynnal dadleuon cyhoeddus am faterion sy’n berthnasol i waith y Cynulliad ac i gynnal ymchwil annibynnol gyda phrifysgolion eraill o Gymru.

1.3 Er mwyn galluogi’r fenter hon i gael ei chyflawni, bydd caniatâd gan y Ganolfan i ddefnyddio swyddfeydd gwag yn y Pierhead, yn ddigontract, heb fod ar draul ychwanegol i’r Comisiwn.

1.4 Byddai’r cynnig yn cynnwys rhaglen o weithgareddau y cytunwyd arnynt, a disgwyliadau cilyddol manwl.

1.5 Ers mis Mai, mae staff y Comisiwn wedi bod yn gweithio ar fanylion y cynnig hwn.  Codwyd sawl pwynt i’w cadarnhau, a chafwyd cadarnhad boddhaol ar gyfer pob un.  Yn ddiweddar, paratowyd a thrafodwyd Memorandwm o Ddealltwriaeth ac roedd y ddwy ochr yn cytuno arno i raddau.

1.6 Ers i’r Comisiwn gytuno mewn egwyddor i’r cynnig bod Canolfan Llywodraethiant Cymru yn cael defnyddio’r Pierhead, mae newid wedi bod i sefyllfa ac ymdriniaeth ariannol y Cynulliad.  O ganlyniad i hyn, mae staff y Comisiwn wedi ceisio cyngor pellach ar arfarniad rhentu’r adeilad a gwerth tebygol y swyddfeydd gwag ar y farchnad.

1.7 Mae’r Comisiwn yn dal y Pierhead fel rhan o’i swyddogaethau, i ddarparu’r eiddo, staff a'r gwasanaethau sydd eu hangen ar y Cynulliad er mwyn codi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd o’r system lywodraethu ddatganoledig bresennol neu unrhyw ddarpar system o lywodraethu ddatganoledig.  Oherwydd y fframwaith gyfreithiol mae’n rhaid i Gomisiwn y Cynulliad weithredu oddi mewn iddo wrth ddelio gydag asedau fel y Pierhead, ni fyddai gan y Comisiwn ryddid i wneud trefniadau masnachol pur â darpar breswylwyr.

1.8 Serch hynny, o dan yr amgylchiadau ariannol presennol, mae’n bwysig bod Comisiwn y Cynulliad yn fodlon bod y fenter yn cynnig gwerth am arian.  Mewn trafodaethau, cytunodd Canolfan Llywodraethiant Cymru mewn egwyddor y byddai’n derbyn y posibilrwydd o orfod talu am unrhyw gostau ychwanegol sydd y tu hwnt i weithrediadau arferol y Pierhead.  Un enghraifft o hynny fyddai talu am staff ar gyfer digwyddiadau tu allan i oriau gwaith arferol.

2.0 Argymhellion

2.1 Bod Comisiwn y Cynulliad yn cadarnhau’r penderfyniad blaenorol i gefnogi’r fenter mewn egwyddor ac yn cytuno y dylai Canolfan Llywodraethiant Cymru gael defnyddio swyddfeydd gwag yn y Pierhead yn gyfnewid am raglen o ddigwyddiadau sydd wedi’i diffinio’n glir.

3.0 Trafodaeth

3.1 Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru yn y Pierhead yn ffordd amlwg, ddychmygus ac arloesol o ddefnyddio mannau gwag ar ystâd y Cynulliad er mwyn manteisio ar gyngor, mewnbwn ac adnoddau arbenigol am y gost isaf posibl i’r Cynulliad ac mewn ffordd sy’n gefnogol o, ac yn berthnasol i swyddogaethau statudol y Comisiwn o gefnogi gwaith y Cynulliad ac o godi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd o lywodraeth ddatganoledig yng Nghymru.

3.2 Mae’r weledigaeth yn seiliedig ar fanteisio ar gapasiti ymchwil sefydliadau addysg uwch mwyaf blaenllaw Cymru er mwyn cefnogi gwaith Cynulliad Cenedlaethol Cymru, er mwyn helpu llywodraethu datganoledig yng Nghymru i fod mor effeithiol â phosibl ac, yn y pen draw, i wella ansawdd bywyd dinasyddion Cymru.  Mae’r cynnig yn berthnasol, yn benodol, i’r Pedwerydd Cynulliad ac i’r cymorth y gellir ei gynnig i’r Aelodau.

3.3 Byddai Canolfan Llywodraethiant Cymru yn y Pierhead yn dod â’r pum prifysgol a lofnododd Datganiad Dydd Gwyl Dewi (Caerdydd, Aberystwyth, Bangor, Abertawe a Morgannwg) ynghyd. Bydd hefyd yn ehangu ac yn dwysau’r ddadl polisi o fewn ein sefydliadau o lywodraeth ddatganoledig.  Gan nad oes cytundeb swyddogol rhwng Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd a’r prifysgolion eraill, mae cyfarwyddwr y Ganolfan yn nodi bod llawer o gymorth a diddordeb yn y fenter.

3.4 Ni fyddai’r fframwaith cyfreithiol sy’n rhaid i’r Comisiwn weithredu oddi mewn iddo yn caniatáu iddo rentu rhannau o’r Pierhead i denantiaid ar sail fasnachol.  Pan ystyriwyd pa ddefnydd y gellid ei wneud o’r Pierhead yn 2007, ceisiodd pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol gyngor i ba raddau yr oedd yr opsiynau hynny wedi’u cyfyngu gan ofynion Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (a oedd ar fin dod i rym bryd hynny).  Ym marn y cynghorydd byddai’n rhaid i unrhyw ddefnydd o’r adeilad, neu ran ohono, gan Gomisiwn y Cynulliad fod yn gyfyngedig i’r swyddogaethau sydd wedi’u hamlinellu yn adran 27(5) ac Atodlen 2, paragraffau 2, 3, 4 a 5 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.  Cyngor y Prif Gynghorydd Cyfreithiol presennol yw na fyddai gosod rhannau o’r Pierhead yn fasnachol yn dod o dan unrhyw rai o’r swyddogaethau hynny ac y byddai, felly, yn ultra vires.

3.5 Byddai gosod rhan o’r Pierhead i gorff sy’n gysylltiedig â swyddogaethau’r Comisiwn (fel Canolfan Llywodraethiant Cymru (gweler paragraff 3.1 uchod) o fewn pwerau’r Comisiwn, ac y gellir, mewn egwyddor, codi tâl (e.e. ‘rhent’) am y gosod fel rhan o’r trefniadau.

3.6 Fodd bynnag, gall crybwyll codi ‘rhent’ gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru fod yn broblematig.  Y cynnig y cytunodd y Comisiwn arno mewn egwyddor oedd y dylid cael ‘partneriaeth’ (annhechnegol), sef trefniant (mae’r Memorandwm o Ddealltwriaeth yn ei ddisgrifio fel menter) y gall y Cynulliad elwa o weithgareddau penodol gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru a bod Canolfan Llywodraethiant Cymru yn elwa o’r llety gan y Comisiwn, heb rent, yn ddigontract a chyda disgwyliad cyfyngedig yn unig dros sicrwydd meddiant.  Yn ymarferol, ni fyddai’n bosibl codi tâl ‘rhent y farchnad’ ar Ganolfan Llywodraethiant Cymru am y trefniant heb iddo newid yn sylfaenol.  Byddai’r hyn y mae Canolfan Llywodraethiant Cymru yn ei elwa o’r trefniant yn cael ei leihau’n sylweddol a byddai’n rhaid diffinio eu cyfraniad nhw’n gywirach a gosod ei werth ariannol yn erbyn y “rhent”.  Er bod profiad yn dangos bod gan waith Canolfan Llywodraethiant Cymru botensial i fod o werth i’r Comisiwn – ac er y byddai’n rhaid i’r Comisiwn dalu costau sylweddol pe byddai’n chwilio yn rhywle arall am yr arbenigedd sy’n cael ei gynnig gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru – mae’n anodd rhoi’r syniad o ‘rent y farchnad’ ar waith lle mae’n rhaid i’r ‘tenant’ ddarparu gwasanaethau i’r ‘landlord’ sy’n unigryw i’r ddwy ochr dan sylw.

3.7 Er na fyddai’n bosibl gosod i denant masnachol, am y rhesymau a nodwyd uchod, mae staff y Comisiwn wedi trefnu gwerthusiad annibynnol, er mwyn cymharu, o werth masnachol swyddfeydd y Pierhead.  O hynny, amcangyfrif o rent masnachol yr adeilad yw £11 am bob troedfedd sgwâr.  Maint y tair ystafell y gellir eu defnyddio yw 888 troedfedd sgwâr, felly mae gwerth rhent damcaniaethol o tua £9,768 y flwyddyn gan y swyddfeydd.  Wrth amcangyfrif gwerth y Pierhead, nododd y syrfewyr eiddo annibynnol bod digon o eiddo eraill, ac eiddo mwy deniadol i’w rhentu yn lleol o fewn yr un ystod o bris.  Yn ogystal, nid yw’r swyddfeydd/stafelloedd gwag yn werthadwy iawn gan bod nifer o ystafelloedd gwag mewn adeilad sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer ystod o weithgareddau ac nid fel swyddfeydd yn bennaf.  Nid yw’r swyddfeydd yn agos at ei gilydd, ac oherwydd natur yr adeilad does dim lifft ar gael i gyrraedd llawr uchaf yr adeilad, sy’n cyfyngu ar hygyrchedd yr adeilad.

3.8 Er ei bod yn anodd rhoi ffigwr pendant ar ‘werth’ y gwasanaethau y gall Canolfan Llywodraethiant Cymru eu cynnig i’r Cynulliad, mae staff y Comisiwn wedi ymchwilio i gymharu costau.  O ran cynnwys y rhaglen o ddigwyddiadau a pha mor aml y cânt eu cynnal, mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi nodi ei bod yn amhriodol i fod yn or-ragnodol nes ei fod mewn sefyllfa i gael trafodaethau manwl gyda gweddill y prifysgolion sy’n rhan o’r Datganiad Dydd Gwyl Dewi.  Serch hynny, fel arwydd eang, gan fod y Ganolfan wedi awgrymu trefnu dau ‘edefyn’ maes polisi bob blwyddyn, yn ogystal â nifer o ddigwyddiadau unigryw, mae’r Cyfarwyddwr yn rhagweld y bydd Canolfan Llywodraethiant Cymru yn trefnu o leiaf un digwyddiad yr wythnos yn y Pierhead yn ystod tymor y Cynulliad unwaith iddo gael ei draed oddi tano.  Bydd y digwyddiadau’n cynnwys seminarau, cyflwyniadau, gweithdai, cynadleddau a darlithoedd. Mae costau digwyddiadau yn amrywio’n amlwg, yn dibynnu ar eu natur a’u steil, y siaradwyr, rheoli rhestr o’r gwesteion, arlwyo, llwyfannu arbennig a mewnbwn staff.  Gall cynadleddau mawr gostio miloedd o bunnoedd.  Fodd bynnag, drwy weithio ar sail seminarau, gweithdai a darlithoedd sy’n llai, amcangyfrif o’r gost resymol ar gyfer digwyddiadau fydd rhwng £500 a £1000 am ddigwyddiad, a fydd yn talu am baratoi a staffio.  Gan amcangyfrifo gyda’r swm lleiaf o £500, byddai un digwyddiad yr wythnos dros y 36 wythnos y mae’r Cynulliad yn eistedd yn rhoi cyfanswm o £18,000 y flwyddyn i’r Cynulliad.  Nid yw’r ffigwr hwnnw’n cynnwys yr adnoddau ychwanegol gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru am yr astudiaethau academaidd a’r rhyngweithio gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

3.9 Hyd yma, mae polisi’r Comisiwn mewn perthynas ag eraill yn defnyddio lle o fewn yr ystâd wedi’i chyfyngu i’r rhai sydd â chyswllt uniongyrchol i waith y Cynulliad ac mae’r prydles hefyd yn cyfyngu ar hyn.  Mae’r prydleswr, yn unol â natur swyddogaethau’r Cynulliad a’r Comisiwn, yn rhagweld defnydd o’r ystâd at ddibenion Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu gyrff cyhoeddus cysylltiol ond nid ar gyfer sefydliadau masnachol.

3.10 Mae materion gweithredol yn bodoli hefyd a fyddai’n cyfyngu ar atyniad damcaniaethol yr adeilad i ddarpar denantiaid, er enghraifft: mynediad cyfyngedig pan fydd digwyddiadau’n cael eu cynnal yn y Brif Neuadd; diffyg hyblygrwydd pan fydd y Cynulliad yn gweithredu ei bolisïau a’i weithgareddau ei hun (er enghraifft cau’r ystâd dros y Nadolig); diogelwch a mynediad; diffyg mannau parcio; a chymeriad defnydd eraill o’r adeilad, er enghraifft, y ffaith bod gan y sefydliadau sydd â swyddfeydd yn yr adeilad gysylltiad clir â gwaith y Cynulliad.



Partners & Help