Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Comisiwn y Cynulliad
Assembly Commission

NAFWC 2010 (Papur 4 Rhan 1)
Gwasanaethau dwyieithog ar gyfer y Pedwerydd Cynulliad

Dyddiad:30 Tachwedd 2010
Amser:Ar ôl y Cyfarfod Llawn
Lleoliad:Ystafell Gynadledda 4B
Enw a rhif ffôn yr awdur: Craig Stephenson, estyniad 8230

Paratowyd y papur hwn i'w ystyried gan Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Penderfynwyd ei bod yn addas ei gyhoeddi wedi iddo gael ei ystyried yn unol â rheolau'r Comisiwn ar gyfer cynnal busnes. Ni chaniateir i gynnwys y papur hwn gael ei gyhoeddi na'i ddatgelu'n rhy gynnar oherwydd gallai hyn ddylanwadu ar drafodaethau'r Comisiwn.

1.0 Diben a chrynodeb o’r materion

1.1 Yn ei gyfarfod ar 19 Mai 2010 cytunodd y Comisiwn y dylai’r Prif Gynghorydd Cyfreithiol baratoi cynigion manwl ar gyfer Mesur i osod dyletswyddau’r Cynulliad a’r Comisiwn mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau dwyieithog ar sylfaen statudol gadarn.  Mae’r papur hwn yn nodi cyfres ddrafft o gynigion manwl ar gyfer Mesur o’r fath i’w trafod a’u cymeradwyo gan y Comisiwn.

1.2 Mae’r papur hwn hefyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Gomisiwn y Cynulliad ar y cynnydd a wnaed i wella ein gwasanaethau dwyieithog o ganlyniad i’r Adolygiad Annibynnol o Wasanaethau Dwyieithog.  Cyflwynodd yr Adolygiad Annibynnol ei adroddiad i Gomisiwn y Cynulliad ym mis Mai 2010. Mae’r papur hefyd yn gofyn am  gadarnhad ynglyn â threfniadau arfaethedig ar gyfer llunio Cynllun Ieithoedd Swyddogol newydd o dan y fframwaith deddfwriaethol arfaethedig.

2.0 Argymhellion

2.1 Gofynnir i Gomisiwn y Cynulliad:

  • gymeradwyo’r egwyddorion a’r cynigion deddfwriaethol (yn amodol ar unrhyw addasiadau y mae’r Comisiwn am eu gwneud), (paragraffau 3.8, 3.13 a 3.15 isod ac Atodiadau A a B)

  • nodi cynigion ar gyfer Cynllun Ieithoedd Swyddogol newydd yn 2011 (paragraff 4.1);

  • cytuno ar amserlen ar gyfer ymgynghori ar yr egwyddorion,  y Mesur arfaethedig drafft a’n Cynllun Ieithoedd Swyddogol drafft (paragraff 5.1);

  • nodi’r cynnydd a wnaed o ran gweithredu rhai o brif argymhellion yr Adolygiad Annibynnol o’n gwasanaethau dwyieithog (paragraff 6.1 ac Atodiad  C); a

  • nodi’r sefyllfa ddiweddaraf ynghylch yr ymchwiliad statudol arfaethedig gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg (paragraff 7.1)

3.0 Trafodaeth – Y sefyllfa gyfreithiol ar hyn o bryd

3.1 Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn datgan:

“ The Assembly must, in the conduct of Assembly proceedings, give effect, so far as is both appropriate in the circumstances and reasonably practicable, to the principle that the English and Welsh languages should be treated on a basis of equality.
(Adran 35(1))

“In the exercise of the functions of the Assembly Commission effect must be given, so far as is both appropriate in the circumstances and reasonably practicable, to the principle that the English and Welsh languages should be treated on a basis of equality.”
(Atodlen 2, paragraff 8(3))

3.2 Er nad yw darpariaethau Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn gymwys i’r Cynulliad ei hun, mae erthygl 6 o Orchymyn Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Statws y Goron) (Rhif 2) 2007 yn darparu bod y Comisiwn i gael ei drin fel corff y Goron at ddibenion Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, gan felly alluogi’r Comisiwn i fabwysiadu Cynllun Iaith Gymraeg a fyddai’n destun gwaith monitro gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

Yr angen i ddiwygio

3.3 Nid yw Adran 35(1) o’r Ddeddf wedi achosi unrhyw anawsterau. Fodd bynnag, mae wedi’i geirio mewn iaith sy’n adlewyrchu Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. Bydd rhannau perthnasol o’r Ddeddf yn cael ei diddymu gan Fesur y Gymraeg (Cymru) sy’n cael ei ystyried gan y Cynulliad ar hyn o bryd (ac y mae ei egwyddorion cyffredinol eisoes wedi’u cymeradwyo).  Er nad yw geiriad presennol adran 35(1) yn cyfiawnhau deddfwriaeth ar ei phen ei hun o bosibl, mae’r angen i adolygu Atodlen 2, paragraff 8(3) yn rhoi’r cyfle i ddiweddaru adran 35(1) a’i gwneud yn fwy cydnaws ag iaith y darpariaethau statudol cyfatebol sy’n berthnasol i ddeddfwrfeydd dwyieithog eraill

3.4 Mae angen cadarnhau a diwygio effaith Atodlen 2, paragraff 8(3) a’i chydberthynas â Gorchymyn Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Statws y Goron) (Rhif 2) 2007. Mae cymhwysedd y darpariaethau hyn â’r Cynllun Iaith Gymraeg presennol wedi bod yn achos ansicrwydd a dadleuon a hynny oherwydd y cafodd y Cynllun Iaith presennol ei baratoi yn rhannol gan yr Ail Gynulliad (a oedd yn gorff y Goron ac felly, o reidrwydd, yn ddarostyngedig i Ddeddf 1993), cyn i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ddod i rym, ac yn rhannol gan y Comisiwn ar ôl i Ddeddf 2006 ddod i rym, a mabwysiadwyd ef gan y Cynulliad (nad yw, ac na all fyth fod, yn gorff y Goron).  Hefyd, hyd yn oed os yw Deddf 1993 (yn groes i farn y Comisiwn) yn rhoi fframwaith ar gyfer sicrhau bod gwasanaethau dwyieithog ymarferol ac effeithiol yn cael eu darparu gan y Comisiwn, mae darpariaethau perthnasol y Ddeddf (fel yr esbonnir uchod) yn debygol o gael eu diddymu yn y dyfodol agos.

Cymhwysedd deddfwriaethol

3.5 Rhoir cymhwysedd deddfwriaethol i’r Cynulliad i wneud yr addasiadau angenrheidiol gan Faterion 13.2 (Rhoi swyddogaethau i Gomisiwn y Cynulliad ar gyfer ac mewn cysylltiad â hwyluso arfer gan y Cynulliad ei swyddogaetha) a 20.1 (Hybu neu hwyluso’r defnydd o’r iaith Gymraeg; a thrin yr iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg ar sail cydraddoldeb).  Mae Atodlen 5 Rhan 2 paragraff 6(2) o Ddeddf  Llywodraeth Cymru 2006 yn rhoi’r hawl  i Fesur y Cynulliad ddiwygio adran 35(1) ac Atodlen 2 paragraff 8(3).

Opsiynau ar gyfer diwygio – adran 35(1)

3.6 Enghraifft amlwg o batrwm ar gyfer adran 35(1) fodern yw adran 6 o Ddeddf Ieithoedd Swyddogol New Brunswick  2002:

6.English and French are the official languages of the Legislature and everyone has the right to use either language in any debate and other proceeding of the Legislative Assembly or its committees.”

3.7 Un arall yw adran 6 o Ddeddf Ieithoedd Swyddogol Iwerddon 2003:

6. (1) A member of either House of the Oireachtas has the right to use either of the official languages in any debates or other proceedings in that House or of a committee of either House, a joint committee of both Houses or sub-committee of such a committee or joint committee.

(2) A person appearing before either House of the Oireachtas or before such a committee, joint committee or sub-committee as aforesaid has the right to use either of the official languages.

(3) Every official report of the debates and other proceedings of the Houses of the Oireachtas shall be published in each of the official languages, except that contributions (whether oral or in writing) in either of the official languages by persons may be published therein solely in that language.”

3.8 Cynigir y byddai addasu’r enghreifftiau hyn ar gyfer amgylchiadau Cymru yn sail ar gyfer cyfres o egwyddorion ac adran 35(1) ddiwygieidig o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, fel a nodir yn Atodiadau A a B.

Opsiynau ar gyfer diwygio – Atodlen 2, paragraff 8(3)

3.9 Yn achos y Cynulliad, y Comisiwn sy’n darparu'r cyfleusterau sy’n angenrheidiol i ddarparu gwasanaethau dwyieithog yn effeithiol, nid yn unig mewn cysylltiad â thrafodion y Cynulliad ond hefyd mewn cysylltiad â’r cyhoedd.  Felly, rhaid i ddeddfwriaeth ymdrin yn effeithiol â rôl y Comisiwn i wneud hynny.

3.10 Byddai’r opsiwn o nodi’n fanwl ddyletswyddau’r Comisiwn ar wyneb y ddeddfwriaeth yn peri anawsterau ymarferol.  Yn benodol, byddai’n ei gwneud yn anodd ymateb i newidiadau annisgwyl mewn amgylchiadau (byddai angen Mesur diwygio).

3.11 Opsiwn arall fyddai cynnwys y Cynulliad a’r Comisiwn o fewn cwmpas Mesur Arfaethedig y Gymraeg (hy i alluogi Gweinidogion a Chomisiynydd y Gymraeg i osod safonau i’r Cynulliad a’r Comisiwn ac i’r Comisiynydd wneud y safonau hynny’n orfodol).  Ni fyddai hyn yn gyfansoddiadol briodol gan y byddai, i bob pwrpas, yn gwneud y Cynulliad yn atebol i Weinidogion mewn perthynas â darpariaeth ddwyieithog pan, yn gyfansoddiadol, Gweinidogion ddylai fod yn atebol i’r Cynulliad.

3.12 Dewis arall mwy hyblyg (sydd â’r fantais ychwanegol o fod yn adeiladu ar arfer presennol) fyddai ei gwneud yn ofynnol i’r darpariaethau manwl angenrheidiol gael eu cynnwys gan y Comisiwn mewn Cynllun i’w gymeradwyo gan y Cynulliad.  Byddai Cynllun o’r fath, ar y cyfan, yn debyg o ran ei ffurf i Gynllun presennol y Cynulliad a bydd modd i’r Mesur ymgorffori darpariaethau trosiannol fel y byddai unrhyw Gynllun presennol yn cael ei drin fel yr un sy’n ofynnol gan y Mesur.

3.13 Cynigir felly y dylid diwygio (ac ymestyn) paragraff 8(3) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 fel y nodir yn Atodiad B.

3.14 Yn dilyn cyfnod o ymgynghori (gweler paragraff 5.1 isod), cynigir bod y Mesur yn cael ei gyflwyno ar ddechrau’r Pedwerydd Cynulliad er mwyn i bwyllgor deddfwriaeth graffu arno.

Egwyddorion creiddiol y Mesur arfaethedig

3.15 Byddai darpariaethau Deddf Llywodraeth Cymru 2006 sy’n ymwneud â thrin yr iaith Gymraeg a Saesneg yn gyfartal gan y Cynulliad a Chomisiwn y Cynulliad yn cael eu diweddaru fel a ganlyn:

  • byddai datganiad clir, syml, ar batrwm y rhai sydd i’w cael mewn deddfwrfeydd dwyieithog eraill, fod y ddwy iaith yn ieithoedd swyddogol yn y Cynulliad ac y dylid eu trin yn gyfartal;

  • byddai hawl unrhyw un sy’n cymryd rhan yn nhrafodion y Cynulliad  (yn dystion ac yn Aelodau) i wneud hynny yn y naill iaith neu’r llall yn cael ei nodi ar wyneb y Ddeddf (eto, yn unol â’r arfer  mewn deddfwrfeydd dwyieithog eraill);

  • byddai dyletswydd ar Gomisiwn y Cynulliad i wneud y trefniadau ymarferol i alluogi’r Cynulliad i weithredu’n ddwyieithog  (ee drwy ddarparu’r cyfleusterau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd angenrheidiol), yn ogystal â thrin y ddwy iaith yn gyfartal pan fydd yn cynnal ei weithgareddau ei hun;

  • byddai manylion ynghylch sut y byddai’r Comisiwn yn galluogi’r Cynulliad i gydymffurfio â’i ddyletswydd i drin y ddwy iaith yn gyfartal, a sut y byddai’r Comisiwn ei hun yn gweithredu’n ddwyieithog, wedi’u nodi yn y Cynllun Ieithoedd Swyddogol (a fyddai’n glynu’n glos at Gynllun Iaith Gymraeg presennol y Cynulliad sy’n dod i ben y flwyddyn nesaf);

  • byddai angen i’r Cynllun, ymhlith gofynion eraill, amlinellu’r trefniadau ar gyfer cyfieithu dogfennau a chyfieithu ar y pryd;

  • byddai hefyd angen i’r Cynllun gynnwys dull ar gyfer ymdrin â chwynion ynghylch diffyg  cydymffurfio â’r Cynllun, boed y cwynion hynny gan Aelodau neu gan y cyhoedd;

  • byddai angen i’r Comisiwn ymgynghori ag Aelodau’r Cynulliad a’r cyhoedd ar gynnwys Cynllun drafft a byddai’n rhaid i’r Cynllun ar ei ffurf derfynol gael ei gymeradwyo gan y Cynulliad;

  • byddai modd i’r Cynllun, pan fyddai wedi’i fabwysiadu, gael ei adolygu o bryd i’w gilydd. Byddai’r adolygiadau’n amodol ar yr un gofynion i ymgynghori ac i dderbyn cymeradwyaeth y Cynulliad sy’n berthnasol i’r Cynllun ei hun.

4.0 Cynllun Ieithoedd Swyddogol newydd arfaethedig

4.1 Bydd Comisiwn y Cynulliad yn ymwybodol bod y Cynllun Iaith Gymraeg presennol yn dod i ben yn 2011.  Mae’n cael ei adolygu ar hyn o bryd yng ngoleuni adroddiad yr Adolygiad Annibynnol o Wasanaethau Dwyieithog, profiad dros y tair blynedd a hanner diwethaf ac arfer da mewn mannau eraill. Cynigir y dylai’r Cynllun Ieithoedd Swyddogol drafft ddod i rym, ar sail dros dro, ar gyfer y Pedwerydd Cynulliad. Wedyn byddai modd ei gymeradwyo fel Cynllun y Cynulliad a’r Comisiwn yn y Cyfarfod Llawn ar yr un pryd â chymeradwyo’r Mesur.

5.0 Ymgynghori

5.1 Cynigir y dylid cael ymgynghoriad cyhoeddus ar yr egwyddorion, y Mesur arfaethedig drafft a’r Cynllun Ieithoedd Swyddogol drafft yn gynnar yn 2011 am gyfnod o rhwng chwech ac wyth wythnos.  Byddai’r amserlen hon yn galluogi i sylwadau gael eu hystyried cyn cyflwyno’r Mesur ar gyfer craffu arno ac i unrhyw welliannau gael eu gwneud i’r Cynllun drafft.

6.0 Adolygiad Annibynnol o’n Gwasanaethau Dwyieithog

6.1 Ers cyhoeddi adroddiad yr Adolygiad Annibynnol, dechreuwyd rhoi rhai o’r argymhellion ar waith.  Bydd Comisiwn y Cynulliad am nodi y bydd y mwyafrif o’r argymhellion yn cael eu cynnwys fel pwyntiau neu dargedau penodol yn ein Cynllun Ieithoedd Swyddogol drafft newydd ac y gwneir cynnydd o ran y lleill ar wahân i’r trefniadau hynny ee mae’r argymhelliad ynglyn â datblygu Cynllun Archif wedi’i nodi yn y Strategaeth Rheoli Gwybodaeth ddrafft. Nodwyd cynnydd o ran rhai o’r prif argymhellion yn Atodiad C hefyd.

7.0 Ymchwiliad gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg

7.1 Bydd y Comisiynwyr yn ymwybodol fod Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi ysgrifennu at y Prif Weithredwr a’r Clerc ar 24 Medi yn cadarnhau bod y Bwrdd am ymchwilio’n ffurfiol i’r materion ynghylch ein penderfyniad i beidio â darparu cyfieithiad llawn o’r Cofnod o Drafodion o ddechrau’r tymor newydd ym mis Medi ac a ydym yn mynd yn groes i ymrwymiadau ein Cynllun Iaith Gymraeg presennol.  Deallwn y bydd hyn yn golygu adolygu’r papurau a gaiff eu cadw gan y Bwrdd.  Mae’r Bwrdd bellach wedi ysgrifennu atom ynglyn â’r trefniadau ar gyfer yr adolygiad (mae copi o’r ohebiaeth i’w weld yn Atodiad D).  Pan fydd yr ymchwiliad wedi’i gwblhau, darperir adroddiad i ni, ynghyd â chopi at y Gweinidog dros Dreftadaeth.  Os daw’r Bwrdd i’r casgliad ein bod yn torri amodau ein Cynllun Iaith Gymraeg, bydd argymhellion yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad.  Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Gomisiwn y Cynulliad ynglyn â’r ymchwiliad wrth iddo barhau.

Atodiad A

Diwygiad i  Adran 35(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006

“(1)The official languages of the Assembly are English and Welsh and must, in the conduct of Assembly proceedings, be treated on a basis of equality.

(1A)Either official language may be used by any person when participating in Assembly proceedings.

(1B)Paragraph 8 of Schedule 2 makes provision about the duty of the Assembly Commission to enable effect to be given to subsections (1) and (1A).”

Atodiad B

Diwygiad i Atodlen 2 paragraff 8(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006

“(3)The Assembly Commission must, in the exercise of its functions—

  • treat the English and Welsh languages on a basis of equality, and

  • make arrangements to enable effect to be given to sections 35(1) and (1A).

(4)The Assembly Commission must—

(a)adopt, and

(b)publish

an Official Languages Scheme (“the Scheme”) specifying the measures which it proposes to take in order to comply with its duties under sub-paragraph (3).

(5)The Scheme must include (amongst other things) provision relating to—

(a)simultaneous interpretation from one official language into the other;

(b)publication of documents in both official languages, and

(c)procedures for dealing with complaints by Assembly members and by members of the public that the Scheme has not been complied with.

(6)Nothing in section 35(1) or in sub-paragraphs (3) or (5) of this paragraph is to be interpreted as requiring all words spoken or written in one of the official languages to be interpreted or translated into the other.

(7)The Assembly Commission—

(a)must, at least once every four years, review the Scheme and

(b)may, at any time, adopt a new Scheme or an amendment to the existing Scheme.

(8)A Scheme, or an amendment to the existing Scheme, may not be adopted by the Commission unless—

(a)a draft of the Scheme (or of the proposed amendment) has been—

(i)published, and

(ii)laid before the Assembly,

(b)the Commission has invited representations on the draft by Assembly Members and by members of the public and has given a reasonable opportunity for such representations to be made,

(c)the Commission has considered any such representations, and

(d)the Scheme (or the amendment), incorporating such modifications as the Commission may, as a result, make  has been laid before, and approved by resolution of, the Assembly.

(9)The Commission must give effect to the Scheme.

(10)The Commission must, in respect of each financial year—

(a)prepare and

(b)as soon as possible after the end of that year, lay before the Assembly,

a report describing how the requirements of the Scheme have been complied with during the period to which the report relates.

Atodiad C

Cynnydd o ran argymhellion yr Adolygiad Annibynnol o Wasanaethau Dwyieithog – Tachwedd 2010

Daeth cyfieithu’n llawn y Cofnod o Drafodion i ben ar ddechrau’r tymor newydd. Roedd nifer fach o geisiadau cychwynnol am fersiynau wedi’u cyfieithu o’r Cofnod ac rydym wedi cael cais am wybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Mae Cofnod Cryno cwbl ddwyieithog a fwriadwyd ar gyfer ymgysylltu’n well â’r cyhoedd wedi’i gyhoeddi, ar sail arbrofol, ers dechrau tymor yr hydref.  Byddwn yn adolygu hwn ar ddechrau’r gwanwyn ac yn ystyried unrhyw newidiadau sydd eu hangen er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni’r argymhelliad yn adroddiad y Panel yn llawn.

Gwnaethpwyd gwaith i ddatblygu sgiliau cyfarch dwyieithog y tîm diogelwch dros yr haf a dechrau tymor yr hydref. Mae staff dwyieithog mewnol wedi darparu’r hyfforddiant i garfan o oddeutu 20 o staff diogelwch.  Mae’u cynnydd wedi gwneud argraff dda ac eisoes rydym yn cael atborth cadarnhaol.  Bydd hyfforddiant ystafell ddosbarth bellach yn cael ei grybwyll fel rhan o’r cais am y swydd.  Drwy recriwtio i greu tîm diogelwch mwy dwyieithog a hyfforddiant parhaus i’r garfan gyfan, rydym yn hyderus y bydd hyn yn cyfrannu tuag at ethos dwyieithog y sefydliad dros amser.

Mae Aelodau’r Cynulliad bellach yn cael enghreifftiau o gwestiynau Cymraeg a Saesneg mewn Pwyllgorau drwy’r timoedd clercio i annog mwy o ddefnydd o’r iaith Gymraeg yn ein trafodion.  Mae papurau ymchwil newydd a Hysbysiadau Hwylus, a gynhyrchir gan y Gwasanaeth Ymchwil, ac sydd ar gael ar wefan y Cynulliad hefyd yn cael eu cyhoeddi’n ddwyieithog.  Yn ychwanegol at berthynas gryfach â’r Gwasanaeth Cyfieithu, mae canran uwch o staff dwyieithog bellach yn gweithio i Wasanaeth Ymchwil yr Aelodau.

Mae’r tîm prosiect mewn cysylltiad â sefydliadau eraill y soniwyd amdanynt yn adroddiad y Panel Annibynnol ac mae’n datblygu perthynas weithiol gyda hwy i gynnwys arferion gorau wrth inni ddarparu a datblygu ein gwasanaethau dwyieithog.

Mae Dragon Naturally Speaking wedi’i ddiweddaru i’r holl ddefnyddwyr yn y Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi a byddwn yn parhau i adolygu datblygiadau o ran meddalwedd adnabod llais er mwyn sicrhau, pan fydd wedi’i ddatblygu’n ddigonol, y bydd modd ei ddefnyddio’n effeithiol at ein dibenion ni.

Mae trefniadau archifo wedi’u cynnwys yn ein Strategaeth Rheoli Gwybodaeth ddrafft.

Penodwyd Hyrwyddwr safonol yr Iaith Gymraeg, a gaiff ei gynrychioli ar y Bwrdd Rheoli.

Atodiad D

1 Tachwedd 2010
Claire Clancy
Prif Weithredwr a Chlerc
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
CAERDYDD
CF99 1NA

Annwyl Claire

Ymchwiliad i’r Cynllun Iaith Gymraeg

Diolch am eich llythyr dyddiedig 30 Medi 2010.

Fel yr eglurwyd wrthych, mae’r Bwrdd wedi penderfynu cynnal ymchwiliad dan adran 17 Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 (y Ddeddf).  Sail yr ymchwiliad yw penderfyniad y Comisiwn i ddarparu Cofnod o drafodion cyfarfod llawn y Cynulliad ar ffurf newydd ac amheuaeth y Bwrdd y gall y ffurf newydd fod yn groes i ymrwymiadau’r Cynllun Iaith.  Yn benodol (ond heb gyfyngu ar yr hyn y gallasai’r ymchwiliad ei ganfod) cred y Bwrdd y gall y ddarpariaeth newydd fod yn groes i ymrwymiadau paragraff 4.8 y Cynllun Iaith Gymraeg a hefyd i ddatganiadau yn adran 2.  

Nid oedd y penderfyniad i gynnal ymchwiliad yn yr achos hwn yn seiliedig ar gwyn.  Gall y Bwrdd, yn unol ag adran 17 y Ddeddf benderfynu cynnal ymchwiliad ar sail cwyn neu ar sail tystiolaeth “arall”.  Y dystiolaeth a oedd yn sail i’r penderfyniad oedd Cofnod o drafodion cyfarfod llawn y Cynulliad ar 21 Medi 2010.   

Croesawn eich ymrwymiad i gydweithredu gyda’r ymchwiliad.  Mae adran 17(2) y Ddeddf yn rhoi disgresiwn eang i’r Bwrdd benderfynu ar y drefn ar gyfer cynnal ymchwiliad.  

Amlinellir isod y camau y bwriadwn eu dilyn y tro hwn.  Os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu sylwadau am sut y dylid ei diwygio, byddwn yn ddiolchgar o’u derbyn erbyn 15 Tachwedd 2010.  Byddwn yn rhoi ystyriaeth resymol i unrhyw awgrymiadau sydd gennych  a dderbynnir o fewn y terfyn amser.  Fel arall, byddwn yn bwrw ymlaen â’r drefn isod.

  • Cynhelir yr ymchwiliad gan swyddog dirprwyedig y Bwrdd, sef Dyfan Sion, neu’r sawl a enwebir gan y Bwrdd o dro i dro.

  • Bydd y Bwrdd yn ceisio tystiolaeth a gwybodaeth gan y Comisiwn, a chan eraill y bo’r Bwrdd yn eu hystyried yn briodol.  Tystiolaeth ysgrifenedig a ddisgwylir yn y lle cyntaf.  Amgaeir y cais am dystiolaeth a gwybodaeth gan y Comisiwn yn atodiad 1.  Fe wahoddir y Comisiwn hefyd i ddarparu unrhyw dystiolaeth arall sy’n berthnasol i’r ymchwiliad.

  • Disgwyliwn i’r Comisiwn ymateb i’r cais am dystiolaeth erbyn 30 Tachwedd 2010.

  • Bydd unrhyw dystiolaeth a dderbynnir gan eraill fel rhan o’r ymchwiliad yn cael ei rhannu â’r Comisiwn, a bydd cyfle gan y Comisiwn i ymateb yn ysgrifenedig o fewn 20 niwrnod gwaith i’w derbyn gan y Bwrdd.

  • Bydd y Bwrdd yn ystyried y dystiolaeth a’r wybodaeth i gyd.  Yn sgil hynny gall y Bwrdd holi’r Comisiwn am dystiolaeth neu wybodaeth ychwanegol.  Byddwn yn gofyn i’r Comisiwn ymateb o fewn 20 niwrnod gwaith i gais y Bwrdd.

  • Gall y Bwrdd, ar ôl ystyried y dystiolaeth gychwynnol, estyn gwahoddiad i dyst neu dystion gael eu cyfweld er mwyn rhoi tystiolaeth ar lafar.  Mater o ddewis i’r unigolyn fydd hi a yw am dderbyn y gwahoddiad ai peidio.  Bydd unrhyw gyfweliad yn breifat, ond gall y cofnodion gael eu cyhoeddi fel rhan o adroddiad y Bwrdd, a byddant yn cael eu rhannu â’r Comisiwn.  Bydd y Bwrdd yn ystyried yr angen i olygu neu grynhoi datganiadau er mwyn diogelu unigolion mewn rhai amgylchiadau.  Bydd cyfle gan y Comisiwn i ymateb yn ysgrifenedig i ddatganiadau tystion o fewn 20 niwrnod gwaith i’w derbyn.

  • Bwriad y Bwrdd yw gorffen casglu tystiolaeth erbyn Ionawr 2011, ond fe allai’r broses gymryd yn hirach na hynny.

  • Bydd swyddog dirprwyedig y Bwrdd yn paratoi adroddiad drafft yn seiliedig ar y dystiolaeth a’r wybodaeth a gasglwyd.  Byddwn yn anfon copi o’r adroddiad drafft at y Comisiwn am sylwadau.  Bydd angen i’r Comisiwn ddarparu unrhyw sylwadau o fewn 20 niwrnod gwaith o dderbyn yr adroddiad drafft.  

  • Bydd sylwadau’r Comisiwn ar yr adroddiad drafft yn cael eu hystyried yn llawn gan swyddog dirprwyedig y Bwrdd.  Bydd y Bwrdd yn fodlon rhannu unrhyw dystiolaeth neu wybodaeth berthnasol a ddefnyddiwyd i lunio casgliadau’r ymchwiliad gyda’r Comisiwn.  

  • Bydd yr adroddiad drafft yn cael ei gyflwyno i Banel Cwynion ac Ymchwiliadau Statudol y Bwrdd.  Cylch gorchwyl y Panel yw trafod cynnwys adroddiadau ymchwiliadau a dod i benderfyniad ynghylch argymhellion y gellid fod angen eu cyflwyno yn yr adroddiad yn unol ag adran 19(3) y Ddeddf.  

  • Bydd y Bwrdd yn anfon yr adroddiad terfynol yn cynnwys yr argymhellion at y Comisiwn, gyda chopi at y Gweinidog dros Dreftadaeth yn y Llywodraeth.  Caiff yr adroddiad ei gyhoeddi ar wefan y Bwrdd.  

  • Bydd y Bwrdd yn rhoi ystyriaeth deg i unrhyw gais am estyniad amser am reswm da, ond mae’r Bwrdd yn cadw’r hawl i bennu dyddiad terfynol ar gyfer derbyn gwybodaeth, tystiolaeth ac ymateb, ac i dynnu unrhyw gasgliadau rhesymol os na fydd tystiolaeth neu wybodaeth benodol wedi eu cyflwyno.  

Credaf fod y wybodaeth uchod yn ateb y cwestiynau yn eich llythyr dyddiedig 30 Medi.  Hyderaf fod y drefn arfaethedig yn eglur, ond os oes unrhyw gwestiynau’n codi, byddwn yn ddiolchgar pe baech yn cysylltu rhag blaen.

Yn gywir  

Meirion Prys Jones
Prif Weithredwr

Atodiad 1

Cais am dystiolaeth a gwybodaeth gan Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer yr Ymchwiliad i’r Cynllun Iaith Gymraeg

Ymrwymiadau’r Cynllun Iaith Gymraeg

1. A yw’r Comisiwn o’r farn fod ffurf newydd Cofnod y Trafodion a gyhoeddwyd am y tro cyntaf ym Medi 2010 yn cydymffurfio gydag ymrwymiad adran 4.8 y Cynllun Iaith Gymraeg?  Darparwch, os gwelwch yn dda, unrhyw dystiolaeth berthnasol sy’n cefnogi eich ateb.

Cyn gynted ag y bo modd ar ôl y cyfarfod, cyhoeddir cofnod gair-am-air dwyieithog o bob Cyfarfod Llawn.....

2. A yw’r Comisiwn o’r farn fod ffurf newydd Cofnod y Trafodion yn cydymffurfio â gofynion Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a gaiff eu hamlygu ymhellach yng nghymal 2.1 y Cynllun Iaith Gymraeg?  Darparwch, os gwelwch yn dda, unrhyw dystiolaeth berthnasol sy’n cefnogi eich ateb.

“Mae adran 35(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cynulliad weithredu’r egwyddor y dylid trin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal wrth gynnal trafodion y Cynulliad, cyhyd ag y bo hynny’n briodol dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol”

3. Pa effaith mae’r newidiadau i’r Cofnod yn ei gael ym marn y Comisiwn ar yr uchelgais a’r genhadaeth yng nghymal 2.2 y Cynllun Iaith Gymraeg?  Darparwch, os gwelwch yn dda, unrhyw dystiolaeth berthnasol sy’n cefnogi eich ateb.

“(i) Galluogi’r Cynulliad i gynnal pob agwedd ar ei waith yn Gymraeg ac yn Saesneg ar y sail bod y ddwy yn gyfartal”

“(iii) Darparu gwasanaeth gwybodaeth i’r cyhoedd, gwasanaeth addysg, a gwasanaeth i ymwelwyr sy’n gwbl ddwyieithog”

Penderfyniad i newid ffurf y Cofnod erbyn Medi 2010

4. Pa ystyriaethau arweiniodd y Comisiwn i benderfynu newid ffurf y Cofnod?  Pwy wnaeth y penderfyniad i newid ffurf y Cofnod?  Darparwch, os gwelwch yn dda, gopïau o unrhyw ddogfennau a chofnodion sy’n ymwneud â’r penderfyniad.

5. A oes ymgynghori neu geisio barn wedi bod ynghylch y penderfyniad diweddaraf i newid ffurf y Cofnod - e.e. gydag aelodau Cynulliad?  Darparwch, os gwelwch yn dda, gopïau o unrhyw ddogfennau perthnasol.  

6. A yw’r Comisiwn wedi ymgynghori gydag unrhyw sefydliadau eraill ynghylch goblygiadau posibl peidio darparu cyfieithiad Cymraeg o gyfraniadau Saesneg yn y Cofnod?  Darparwch, os gwelwch yn dda, gopïau o unrhyw ddogfennau perthnasol.

7. Roedd cylch gorchwyl y Panel Adolygu Annibynnol a gyflawnodd yr Adolygiad o Wasanaethau Dwyieithog Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn datgan bod angen “d) argymell ffordd ymlaen i’r Pedwerydd Cynulliad a thu hwnt (bydd cyfnod y Cynllun Iaith cyfredol wedi dod i ben erbyn hynny)” .  Cytunodd y Comisiwn yn ei gyfarfod ar 19 Mai 2010 ar “ar yr amserlen gweithredu a amlinellwyd yn yr adroddiad”.  Allwch chi esbonio felly pam fod argymhelliad y Cofnod ym mharagraff 68 yr adroddiad yr Adolygiad wedi cael ei weithredu o fewn cyfnod y trydydd Cynulliad?  Darparwch, os gwelwch yn dda, gopïau o unrhyw ddogfennau a chofnodion sy’n ymwneud â’r penderfyniad.  

8. A yw rheol sefydlog 30 y Cynulliad, “Adroddiadau ar y Trafodion”, wedi ei adolygu yn ddiweddar yn sgil newid ffurf Cofnod y Trafodion?  A oes cynlluniau i ail-ystyried neu addasu rheol sefydlog 30 yn y dyfodol yn sgil y datblygiadau diweddar?  Os felly, beth fyddai’r drefn ar gyfer gwneud hynny?  Darparwch, os gwelwch yn dda, gopïau o unrhyw ddogfennau a chofnodion perthnasol.  

Adolygiad o Wasanaethau Dwyieithog Cynulliad Cenedlaethol Cymru

9. Mae adroddiad y Panel Adolygu Annibynnol yn cynnwys 30 o argymhellion i gyd.  Darparwch, os gwelwch yn dda, wybodaeth am unrhyw gynllun neu amserlen sydd wedi ei gytuno ar gyfer gweithredu'r argymhellion eraill.  

  • Mae un o argymhellion y Panel yn nodi mai “senedd.TV ddylai fod y prif gofnod cynhwysfawr a gedwir ar gyfer ymchwilwyr a haneswyr yn y dyfodol” (paragraff 71).  A yw’r Comisiwn wedi rhoi ystyriaeth i wneud i ffwrdd â’r Cofnod ysgrifenedig yn llwyr?  A yw hyn yn debyg o fod yn ystyriaeth ar gyfer y dyfodol?  Darparwch, os gwelwch yn dda, gopïau o unrhyw ddogfennau neu gofnodion perthnasol.

  • Un o argymhellion eraill y Panel oedd datblygu “Cofnod y Werin” (a elwir yn “Cofnod Cryno erbyn hyn).  Mae’r Cofnod Cryno wedi ymddangos ar wefan y Cynulliad ers dechrau’r tymor newydd.  A oes unrhyw asesiad wedi ei wneud hyd yma ynghylch defnydd neu lwyddiant yr adnodd newydd hwn? A oes bwriad i gynnal asesiad o’r fath?  Darparwch, os gwelwch yn dda, gopïau o unrhyw ddogfennau perthnasol.



Partners & Help