Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Comisiwn y Cynulliad
Assembly Commission

NAFWC 2010
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 30 Tachwedd 2010

Dyddiad: 30 Tachwedd 2010
Amser:Ar ôl y Cyfarfod Llawn
Lleoliad: Ystafell gynadledda 4B

Presennol:,
Peter Black AC (y Democratiaid Rhyddfrydol), Cadeirydd
Lorraine Barrett AC (Llafur)
Chris Franks AC (Plaid Cymru)
William Graham AC (y Ceidwadwyr)

Swyddogion yn bresennol:
Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc
Dianne Bevan, Prif Swyddog Gweithredu    
Keith Bush, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol
Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad  
Ian Summers, Pennaeth yr Uned Gorfforaethol
Aled Eirug, Cynghorydd Cyfansoddiadol
Craig Stephenson, Pennaeth y Rhaglen Newid
Helen Birtwhistle, Pennaeth Cysylltiadau Allanol  
Helen Finlayson, Ysgrifenyddiaeth

Cynghorydd Annibynnol:
Mair Barnes

Arsylwi:
Dim

Eraill:
Dim

1. Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cafwyd ymddiheuriad gan y Llywydd.  Cytunodd y Comisiwn y byddai Peter Black yn cadeirio’r cyfarfod yn absenoldeb y Llywydd.

Datgan buddiannau
Nid oedd dim buddiannau i’w datgan.

Cofnodion y cyfarfod – 30 Medi 2010
Cytunwyd ar y cofnodion yn ffurfiol.

Materion yn deillio o’r cyfarfod ar 30 Medi 2010
Nid oedd dim materion yn deillio.

2. Cynlluniau trefniadol ar gyfer y dyfodol
Cyflwynwyd yr ail bapur gan Claire Clancy, a nododd mai’r hyn a sbardunodd y strwythur newydd oedd amgylchiadau ariannol cyfredol, blaenoriaethau sy’n newid, ac, yn bennaf, yr angen i  sicrhau bod gwasanaethau wedi’u strwythuro mewn ffordd a fyddai’n rhoi’r gwasanaethau gorau i Aelodau’r Cynulliad. Dywedodd bod y newidiadau arfaethedig wedi’u cyfleu wrth yr holl staff, ac y byddai’r strwythur newydd yn cael ei chyflwyno ar ddechrau mis Rhagfyr ac yn cael ei chwblhau erbyn amser diddymu’r Cynulliad ym mis Mawrth.

Bu’r Comisiwn yn trafod y strwythur newydd, a gofynnodd am ddarparu papur i’r Comisiwn ar gynigion ar gyfer siop y Cynulliad.

Nododd y Comisiwn y byddai Non Gwilym yn dychwelyd i’r gwaith o’i habsenoldeb mamolaeth y diwrnod canlynol, a diolchodd i Helen Birtwhistle am ei gwaith caled a’i phroffesiynoldeb wrth lenwi’r swydd dros dro.

Nododd y Comisiwn y cynlluniau i ail-strwythuro a chroesawodd y pwyslais ar wasanaethau a oedd yn canolbwyntio ar yr Aelodau.

3. Uno rhwydwaith TGCh y Cynulliad (UNO)
Cyflwynodd Dianne Bevan y trydydd papur, a nododd fod y prosiect UNO i gael ei gwblhau yn ffurfiol yr wythnos ganlynol. Cwblhawyd y prosiect o fewn y gyllideb, ond roedd wedi creu nifer o heriau, yn rhannol oherwydd ei faint. Roedd rhoi’r prosiect ar waith ymhlith yr Aelodau a’u staff wedi’i gwblhau ar amser, ond er bod un ar ddeg o faterion technegol heb eu datrys o hyd, roedd y rhain yn y broses o gael eu datrys. Ar ôl gorffen y cam hwn o’r prosiect, byddai rhagor o waith i ddatblygu’r gwasanaeth a’r trefniadau cefnogi gyda Siemens, ar sail canlyniadau’r ymgynghoriad i-change â defnyddwyr.

Gofynnodd Peter Black fod rhagor yn cael ei wneud i ddatgan wrth yr Aelodau bod hyfforddiant ar gael, a bod ystyriaeth yn cael ei roi i ddarparu archwilwyr wrth law ar hyd y lle cyn diwedd y tymor. Roedd yn bryderus bod y problemau gyda’r system Gweithiwr Achos yn cael eu datrys cyn gynted ag sy’n bosibl. Gofynnodd bod Aelodau’n cael eu hysbysu bod y contract Blackberry i gael ei adnewyddu’n fuan.         

Diolchodd Peter Black hefyd i staff am eu gwaith caled yn datrys y problemau yr oedd Aelodau a’u staff wedi’u profi. Nododd y Comisiwn y cynnydd a wnaed ar weithredu UNO ond dywedodd y dymunai weld y problemau a oedd yn parhau yn cael eu datrys cyn gynted fyth ag sy’n bosibl.

4. Gwasanaethau dwyieithog ar gyfer y Pedwerydd Cynulliad
Cyflwynwyd y pedwerydd papur gan Craig Stephenson, a nododd, yn dilyn adroddiad y panel annibynnol ar wasanaethau dwyieithog bod Mesur drafft, sy’n cefnogi egwyddorion a chynllun ieithoedd swyddogol drafft wedi’i baratoi i osod gwasanaethau dwyieithog a ddarperir gan y Comisiwn ar sylfaen statudol a chyfansoddiadol cadarn.   

Nododd y Comisiwn y cynnydd a fu o ran gweithredu prif argymhellion y panel adolygu annibynnol a nododd y sefyllfa ddiweddaraf gyda’r  ymchwiliad statudol arfaethedig gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Gofynnodd y Comisiwn bod y dystiolaeth a anfonir at Fwrdd yr Iaith Gymraeg mewn ymateb i’w ymchwiliad yn cael ei ddosbarthu i’r Comisiynwyr hefyd.

Cytunodd y Comisiwn y dylai’r egwyddorion a’r cynigion deddfwriaethol a nodwyd yn yr atodiadau i’r papur gael ymgynghoriad cyhoeddus, ac y dylai’r ymgynghoriad a pharatoi Cynllun Iaith Gymraeg/Cynllun Ieithoedd Swyddogol drafft newydd ddigwydd ar ddechrau 2011.  Gofynnodd y Comisiwn bod canlyniadau’r ymgynghoriad yn cael eu cyflwyno i gyfarfod yn y dyfodol i gael eu hystyried ymhellach fel bod modd i’r Comisiwn, yng ngoleuni’r canlyniadau, wneud penderfyniad ynghylch bwrw ymlaen â’r Mesur.

5. Gweithgareddau cyfathrebu i gefnogi Pleidleisiwch 2011
Cyflwynodd Helen Birtwhistle y pumed papur, a nododd fod gan y Comisiwn bwerau statudol penodol i hybu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o’r system etholiadau i’r Cynulliad ac unrhyw systemau presennol neu systemau yn y dyfodol sy’n perthyn i lywodraeth ddatganoledig yng Nghymru, bod Pleidleisiwch 2011 yn rhoi cyfle cyffrous i ymgysylltu â phobl Cymru yn y broses ddemocrataidd a gwybodaeth iddynt ynglyn â gwaith y Cynulliad. Nododd Helen y tri meincnod hanfodol yr oedd holl waith Pleidleisiwch 2011 yn cael eu hasesu yn eu herbyn: cywirdeb; awdurdod; bod yn ddiduedd, a nododd fod yr holl weithgareddau’n cael eu trafod â Phrif Gynghorydd Cyfreithiol y Cynulliad i sicrhau eu bod yn ateb goblygiadau’r Cynulliad o ran y meincnodau hyn.   

Roedd gweithgareddau i gefnogi ymgyrch Pleidleisiwch 2011, a gafodd ei ariannu o gyllidebau presennol Cysylltiadau Allanol, yn cynnwys: defnyddio deunyddiau marchnata traddodiadol; gweithgareddau ar-lein; targedu’r cyfryngau lleol; gwaith allgymorth gan gynnwys taith gan y Llywydd; hysbysebu ar-lein; sesiwn yn y Pierhead; a chydweithio â’r Comisiwn Etholiadol, y Swyddfa Gymreig a Llywodraeth Cymru.                

Nododd Claire Clancy yr asesiad risg a wnaed mewn cysylltiad ag ymgyrch Pleidleisiwch 2011, a phwysleisiodd mor bwysig yr oedd eglurdeb, tryloywder a sail gyfreithiol gadarn ar gyfer y gwaith. Soniodd am y wybodaeth Pleidleisiwch  2011 a oedd ar gael ar wefan y Cynulliad.

Gofynnodd Chris Franks fod gwybodaeth yn cael ei darparu i Gomisiynwyr ar y sylw a gafwyd yn y cyfryngau a’r atborth o’r bws allgymorth a thaith y Llywydd.

Trafododd y Comisiwn ymgysylltiad Aelodau ag ymgyrch Pleidleisiwch 2011 er eu bod yn sylweddoli’r pryderon ynghylch y posibilrwydd ar gyfer canfyddiadau o ddiffyg bod yn ddiduedd yn y Cynulliad tuag at yr ymgyrchoedd Ie neu Na, neu tuag at ymgeiswyr neu bleidiau penodol os nad oedd ymwneud gan Aelodau neu bleidiau unigol yn cael ei drefnu mewn modd sensitif.

Nododd y Comisiwn y gweithgareddau cyfathrebu a ddatblygwyd i gefnogi Pleidleisiwch 2011, a gofynnodd fod yr Aelodau’n cael gwybodaeth ddiweddar ac eglurder ynghylch sut y bydd modd iddynt gael eu cynnwys yn yr ymgyrch Pleidleisiwch 2011.  Gofynnodd y Comisiwn bod gofal yn cael ei gymryd o hyd i sicrhau bod yr holl weithgareddau’n cydymffurfio â goblygiadau statudol y Cynulliad, a bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y Comisiwn yn y dyfodol yn trafod canlyniadau ac atborth o’r gweithgareddau amrywiol.

6. Canolfan Llywodraethu Cymru
Cyflwynodd Helen Birtwhistle y chweched papur, a nododd fod y Comisiwn wedi cytuno mewn egwyddor yn ei gyfarfod ym mis Mai y dylai Canolfan Llywodraethu Cymru gael lle yn y Pierhead am ddarparu rhaglen ddigwyddiadau glir.

Dywedodd Keith Bush bod y Comisiwn yn dal y Pierhead fel rhan o’i swyddogaeth i ddarparu adeiladau, staff a gwasanaethau at ddibenion y Cynulliad ac i hyrwyddo ymwybyddiaeth gyhoeddus am y system llywodraeth ddatganoledig gyfredol neu sydd i ddod. Dywedodd, o gofio’r fframwaith cyfreithiol y mae’n ofynnol i’r Comisiwn weithredu ynddo wrth ymdrin ag asedau fel y Pierhead, nad oedd yn rhydd i fynd i drefniadau cwbl fasnachol â deiliaid posibl felly nid oedd cymariaethau rhwng rhenti masnachol a’r buddion a ddisgwylid iddynt ddeillio o’r trefniadau â’r Ganolfan ddim yn berthnasol yn uniongyrchol.

Roedd staff y Comisiwn wedi comisiynu prisiad masnachol o’r gofod a ddarperir ac amlinelliad o’r incwm rhent damcaniaethol, gan ystyried apêl fasnachol gyfyngedig y gofod swyddfa arbennig dan sylw. Gwnaed gwaith hefyd i amcangyfrif y costau y byddai’r Comisiwn yn eu hwynebu pe byddai’n rhoi rhaglen ddigwyddiadau ar waith a fyddai’n debyg i’r un yr oedd Canolfan Llywodraeth Cymru’n bwriadu ei chynnal.

Mewn ymateb i ymholiadau gan William Graham a Lorraine Barrett, nododd Keith Bush delerau’r Memorandwm Dealltwriaeth drafft a drafodwyd â Chanolfan Llywodraethu Cymru, yn cynnwys dal y gofod ar sail trwydded, manylion ar hygyrchedd yr adeilad, a chymal yn caniatáu terfynu’r cytundeb gyda rhybudd o ddeuddeng mis gan y naill ochr neu’r llall.

Gofynnodd y Comisiwn bod y defnydd o ofod y Pierhead ar gyfer digwyddiadau’n cael ei reoli’n ofalus er mwyn sicrhau nad yw’r defnydd ohono gan Ganolfan Llywodraethu Cymru yn atal y defnydd ohono gan Aelodau, nac yn lleihau’r hyblygrwydd hwnnw.  Atebodd Helen Birtwhistle y byddai’r rhaglen ddigwyddiadau’n cael ei rheoli gan weithgor a oedd yn cynnwys Aelodau cynrychioliadol, eu staff cymorth, staff y Cynulliad a Chanolfan Llywodraethu Cymru.

Cytunodd y Comisiwn y dylid rhoi lle i Ganolfan Llywodraethu Cymru yn y swyddfeydd nad ydynt yn cael eu defnyddio yn y Pierhead am raglen ddigwyddiadau sydd wedi’i diffinio’n glir, ac a  gaiff ei llywio gan anghenion y Cynulliad.

7. Strategaeth ryngwladol
Cyflwynodd Helen Birtwhistle y seithfed papur, a nododd mai diben y strategaeth ryngwladol, a ddatblygwyd mewn cydweithrediad rhwng staff drwy’r Cynulliad, oedd dwyn ynghyd y gweithgareddau rhyngwladol cyfredol o fewn fframwaith rhagweithiol a hyblyg er mwyn hyrwyddo ymgysylltu systematig ag Aelodau a dull cadarn o werthuso manteision ei weithgareddau rhyngwladol i’r Cynulliad.

Cymeradwyodd y Comisiwn y dull gweithredu ar gyfer datblygu fframwaith ar gyfer gweithgareddau rhyngwladol y Cynulliad.

8. Ein hymrwymiad i gynaliadwyedd
Cyflwynodd Dianne Bevan yr wythfed papur, ac amlinellodd yr hyn a gyflawnwyd ym mlwyddyn gyntaf y strategaeth rheoli carbon, yn cynnwys gostyngiad o wyth y cant mewn allyriadau, a oedd yn cyfateb i arbediad o 247 tunnell o garbon a £50,000 o arbedion cost, a gwobr fel y Sefydliad Mwyaf Cynaliadwy yn y Sector Cyhoeddus yng nghategori Llywodraeth y Gwobrau Rheoli Cyfleusterau Cynaliadwy. Nododd, y byddai angen cynlluniau mwyfwy creadigol i leihau carbon dros y blynyddoedd nesaf, ac angen rhywfaint o fuddsoddi yn ystâd y Cynulliad, er y byddai modd cyflawni rhai o’r gwelliannau drwy’r rhaglen gynnal a chadw ac adnewyddu arferol.

Gofynnodd Lorraine Barrett a William Graham fod rhagor o ystyriaeth yn cael ei roi i’r goleuo yn y maes parcio tanddaearol yn Nhy Hywel.  Gofynnodd yr holl Gomisiynwyr bod sylw brys yn cael ei roi i’r lefelau tymheredd yn y Senedd yn ystod y tywydd oer. Llongyfarchodd Mair Barnes y Comisiwn ar yr hyn a gyflawnwyd fel y nodwyd yn y papur.

Diolchodd, Peter Black, y Cadeirydd, i’r Aelodau, eu staff cymorth a staff y Cynulliad am eu hymrwymiad i gynaliadwyedd, ac am eu rhan yn sicrhau ein bod wedi gwneud cynnydd da yn ôl y strategaeth rheoli carbon. Nododd y Comisiwn ein bod wedi cyrraedd targedau fel y nodwyd ar gyfer blwyddyn gyntaf y strategaeth, ac eisoes wedi cyflawni’r cynllun gweithredu arfaethedig ar gyfer yr ail flwyddyn.

9. Adroddiad y Bwrdd Rheoli i’r Comisiwn
Croesawodd y Cadeirydd yr adroddiad ar weithgareddau sy’n digwydd drwy’r Cynulliad i gefnogi ei amcanion strategol, yn benodol gwaith y rhaglen Newid Busnes, rôl y Cynulliad yn nigwyddiadau diweddar Stonewall a gwaith y tîm cyfryngau i hyrwyddo ymchwiliadau pwyllgorau ac ymgyrch Pleidleisiwch  2011.  Ni chodwyd unrhyw bwyntiau eraill.

10. Materion i’w nodi

Nododd y Comisiwn adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei gyllideb ddrafft ar gyfer 2011-12.



Partners & Help