Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Cofnod y Trafodion
The Record of Proceedings

Dydd Mawrth, 26 Mehefin 2012
Tuesday, 26 June 2012

Cynnwys
Contents

Cwestiynau i’r Prif Weinidog
Questions to the First Minister

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Business Statement and Announcement

Datganiad: Lansio’r Ymgynghoriad ar Ddiwygio’r Fframwaith Deddfwriaethol ar gyfer Anghenion Addysgol Arbennig
Statement: Launch of the Consultation on Reform of the Legislative Framework for Special Educational Needs

Datganiad: Hygyrchedd i Gyfreithiau Cymru a Datblygu Llyfr Statud i Gymru—Y Wybodaeth Ddiweddaraf
Statement: Access to Welsh Laws and Developing a Welsh Statute Book —An Update

Rheoliadau Seibiannau i Ofalwyr Plant Anabl (Cymru) 2012
Breaks for Carers of Disabled Children (Wales) Regulations 2012

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cyllid Llywodraeth Leol
Legislative Consent Motion on the Local Government Finance Bill

Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus
Public Service Reform

Cyfnod Pleidleisio
Voting Time

Yn y golofn chwith, cofnodwyd y trafodion yn yr iaith y llefarwyd hwy ynddi yn y Siambr. Yn y golofn dde, cynhwyswyd cyfieithiad.
In the left-hand column, the proceedings are recorded in the language in which they were spoken in the Chamber. In the right-hand column, a translation has been included.

Cyfarfu’r Cynulliad am 1.30 p.m.gyda’r Dirprwy Lywydd (David Melding) yn y Gadair.
The Assembly met at 1.30 p.m.with the Deputy Presiding Officer (David Melding) in the Chair.

Y Cofnod

The Deputy Presiding Officer: The National Assembly for Wales is now in session.

Y Dirprwy Lywydd: Dyma ddechrau trafodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cwestiynau i’r Prif Weinidog
Questions to the First Minister

Y Cofnod

Trafnidiaeth Gyhoeddus ym Mae Abertawe

Public Transport in Swansea Bay

1. Mike Hedges: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog rhagor o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn ardal Bae Abertawe. OAQ(4)0584(FM)

1. Mike Hedges: What action is the Welsh Government taking to encourage more people to use public transport in the Swansea Bay area. OAQ(4)0584(FM)

The First Minister (Carwyn Jones): We are committed to a sustainable transport policy and to the delivery of our priorities for public transport, as outlined in the national transport plan. For example, the modernised Swansea High Street train station recently reopened, which now provides significantly improved accessibility.

Y Prif Weinidog (Carwyn Jones): Rydym wedi ymrwymo i bolisi cludiant cynaliadwy ac i gyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, fel yr amlinellir yn y cynllun trafnidiaeth cenedlaethol. Er enghraifft, mae’r orsaf drenau yn Stryd Fawr Abertawe wedi’i moderneiddio ac ailagorodd yn ddiweddar. Mae’r orsaf bellach yn fwy hygyrch o lawer.

 

 

Mike Hedges: I thank the First Minister for his response. Substantial work on public transport has been done by the Welsh Government in the Swansea area. Unfortunately, that has not been matched by the local bus company, which seems intent on closing down a whole range of bus services. What consideration have you given to implementing quality transport contract schemes for providers of public transport to sign up to when bidding for public contracts, in order to ensure that we have sustainable public transport in Swansea?

Mike Hedges: Diolch i’r Prif Weinidog am ei ymateb. Mae gwaith sylweddol ar drafnidiaeth gyhoeddus wedi cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru yn ardal Abertawe. Yn anffodus, nid oes gwaith cyfatebol wedi ei wneud gan y cwmni bysiau lleol, sy’n ymddangos yn benderfynol o ddod ag ystod eang o wasanaethau bysiau i ben. Pa ystyriaeth yr ydych wedi’i rhoi i weithredu cynlluniau cytundebau trafnidiaeth o safon er mwyn i ddarparwyr trafnidiaeth gyhoeddus ymgofrestru â hwy wrth ymgeisio am gontractau cyhoeddus, er mwyn sicrhau bod gennym drafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy yn Abertawe?

 

 

The First Minister: Provisions in the Transport Act 2000 provide powers for local authorities to make quality contract schemes, and set out requirements on the quality, timing and frequency of services covered by the scheme, as well as maximum fares. This is a matter for the local authority to pursue.

Y Prif Weinidog: Mae darpariaethau yn Neddf Trafnidiaeth 2000 yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol wneud cynlluniau cytundebau o safon, ac yn nodi gofynion o ran ansawdd, amseru ac amlder y gwasanaethau a gwmpesir gan y cynllun, yn ogystal â phrisiau uchaf. Mae hwn yn fater i’r awdurdod lleol.

 

 

Suzy Davies: First Minister, in the previous One Wales Government programme, a transport entitlement card, similar to London’s Oyster card, was included in the national transport plan and envisaged to be available for use on buses and trains in 2014. Are you and your Government still committed to simpler ticketing payments for travellers to and from Swansea and beyond, and if so, by when?

Suzy Davies: Brif Weinidog, yn rhaglen flaenorol Llywodraeth Cymru’n Un, cafodd cerdyn hawliau, yn debyg i gerdyn Oyster Llundain, ei gynnwys yn y cynllun trafnidiaeth cenedlaethol a rhagwelir y bydd ar gael i’w ddefnyddio ar fysiau a threnau yn 2014. A ydych chi a’ch Llywodraeth wedi ymrwymo o hyd i daliadau tocynnau symlach ar gyfer teithwyr i Abertawe ac oddi yno a thu hwnt, ac os felly, erbyn pryd?

 

 

The First Minister: Yes, we are. We are, at the moment, piloting schemes on the two railways in Wales that help in terms of accessibility to transport, and we are continuing to look at how an Oyster-style card could operate in the Welsh context.

Y Prif Weinidog: Ydym. Ar hyn o bryd, rydym yn cynnal cynlluniau peilot ar y ddwy reilffordd yng Nghymru sy’n helpu o ran hygyrchedd i gludiant, ac rydym yn parhau i edrych ar sut y gallai cerdyn yn debyg i’r cerdyn Oyster weithredu yng nghyd-destun Cymru.

Bethan Jenkins: Yn fy nghyfarfod diwethaf â chyn arweinydd cyngor Abertawe, dywedodd fod y cyngor yn gorfod ystyried darparu mwy o fysiau ystwyth—y bendy buses—oherwydd ei fod yn rhagweld na fyddai myfyrwyr, neu bobl ar incwm isel, yn gallu fforddio gyrru ceir yn y ddinas. A yw hwn yn fater mae Llywodraeth Cymru wedi’i drafod gyda’r cyngor ar ei newydd wedd yn Abertawe, ac a fyddech yn cymryd camau i ymchwilio i’r sefyllfa hon?

Bethan Jenkins: In my last meeting with the former leader of Swansea council, he said that the council had to consider providing more bendy buses because he anticipated that students, or people on low incomes, would not be able to afford to drive cars in the city. Is this an issue that the Welsh Government has discussed with the council in its new form in Swansea, and would you take steps to investigate this situation?

Y Prif Weinidog: Mae’n bwysig bod system cludiant cyhoeddus Abertawe yn gwasanaethu pobl Abertawe. Mae hynny’n wir am y bysiau a’r trenau. Er enghraifft, rydym yn ailddeuoli’r rheilffordd rhwng Casllwchwr a Thre-gŵyr a fydd yn helpu pobl o’r gorllewin i deithio i Abertawe.

The First Minister: It is important that the public transport system in Swansea serves the people of Swansea. That is true for buses and trains. For example, we are redoubling the railway line between Loughor and Gowerton, which will help people from the west to travel to Swansea.

Economi Gorllewin Cymru

The Economy in West Wales

2. Elin Jones: Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i’r economi yng ngorllewin Cymru. OAQ(4)0597(FM)

2. Elin Jones: What support is the Welsh Government giving to the economy in west Wales. OAQ(4)0597(FM)

Y Prif Weinidog: Rydym yn cynorthwyo’r economi ym mhob rhan o Gymru, trwy fuddsoddi mewn seilwaith, sgiliau ac arloesedd, a hefyd trwy wella’r amgylchedd busnes.

The First Minister: We are supporting the economy in all parts of Wales, by investing in infrastructure, skills, innovation and improving the business environment.

Elin Jones: Un o’r dangosyddion ar gyfer cymuned ag economi gynaliadwy yw’r gallu i gadw canran uchel o bobl ifanc yn gweithio ac yn byw yn y gymuned honno. Wrth i chi ddatblygu’ch Bil datblygu cynaliadwy, a wnewch chi ystyried casglu data ar nifer y bobl ifanc sy’n gallu aros, gweithio a byw yn eu cymuned yn lleol, fel y gallwn fesur cynaliadwyedd ein cymunedau yn y gorllewin a thrwy Gymru?

Elin Jones: One of the indicators for a community with a sustainable economy is the ability to retain a high percentage of young people working and living in that community. As you develop your sustainable development Bill, will you consider collecting data on the number of young people who can stay, work and live in their local community, so that we can measure the sustainability of our communities in the west and across Wales?

Y Prif Weinidog: Os cofiaf, rydym yn gwneud hynny’n barod. Mae’n bwysig bod cyfleoedd ar gael i bobl sydd eisiau aros yn eu hardaloedd, a bod cyfleoedd ar gael i bobl sydd eisiau dod yn ôl i’w hardaloedd hefyd. Rydym yn gweld hynny mewn cymunedau fel Aberaeron, lle mae hyn wedi digwydd yn barod. Rydym yn casglu ffigurau er mwyn sicrhau bod gennym ddarlun o beth sy’n digwydd yn nghefn gwlad o ran pobl ifanc.

The First Minister: If I recall, we are already doing so. It is important that opportunities are available to people who want to stay in their areas, and that opportunities are also available to people who want to come back to their areas. We see that in communities such as Aberaeron, where this has already happened. We collect figures to ensure that we have a picture of what is happening in the countryside in relation to young people.

Paul Davies: Rwy’n falch bod y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth wedi sefydlu ardal yr Haven yn fy etholaeth i yn ardal fenter. Gobeithiaf y bydd hyn yn cael effaith bositif, nid yn unig yn yr ardal o amgylch yr Haven, ond ar draws sir Benfro. Derbyniaf y bydd y Gweinidog busnes yn gwneud datganiad pellach yr wythnos nesaf, ond a all y Prif Weinidog ddweud wrthym beth fydd prif fanteision yr ardal hon i fusnesau presennol a newydd yn fy etholaeth i?

Paul Davies: I am pleased that the Minister for Business, Enterprise, Technology and Science has established the Haven area in my constituency as an enterprise zone. I hope that this will have a positive impact, not only in the area around the Haven, but across Pembrokeshire. I accept that the Minister for Business will make a further statement next week, but can the First Minister tell us what the main advantages of this area will be to new and existing businesses in my constituency?

Y Cofnod

Y Prif Weinidog: Rydym am sicrhau bod lwfansau cyfalaf ar gael yn yr ardaloedd hyn a bod grantiau ar gael i ddatblygu sgiliau ac ar gyfer ymchwil, a hefyd i sicrhau bod pecyn o gefnogaeth ar gael i fusnesau. Ar hyn o bryd, mae problem oherwydd bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dweud nad yw’n bosibl i gael lwfansau cyfalaf a manteision eraill fel rhan o’r ardaloedd menter yn y dyfodol. Nid yw hynny o fudd i Gymru, ac rydym yn dadlau’r pwynt hwnnw gyda’r Llywodraeth ar hyn o bryd.

The First Minister: We want to ensure that capital allowances are available in these areas and that grants are available to develop skills and for research, and also to ensure that a package of support is available to businesses. At present, there is a problem because the United Kingdom Government says that it is not possible to have capital allowances and other benefits as part of the enterprise zones in future. That does not benefit Wales, and we are currently disputing that point with the Government.

Y Cofnod

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Questions Without Notice from the Party Leaders

The Leader of the Opposition (Andrew R.T. Davies): First Minister, the UK has been proven to be the most attractive place for inward investment in the European Union; the European Commission and a recent Ernst and Young survey of business have confirmed that. However, regrettably, Wales is now at the bottom of the league table. We are not second from bottom, but bottom of the league table for countries and regions of the United Kingdom where companies look to locate. Why is that?

Arweinydd yr Wrthblaid (Andrew R.T. Davies): Brif Weinidog, mae tystiolaeth yn dangos mai’r DU yw’r lle mwyaf deniadol ar gyfer mewnfuddsoddi yn yr Undeb Ewropeaidd; ac mae’r Comisiwn Ewropeaidd ac arolwg diweddar o fusnes gan Ernst and Young wedi cadarnhau hynny. Fodd bynnag, yn anffodus, mae Cymru erbyn hyn ar waelod y tabl cynghrair. Nid ydym yn ail o’r gwaelod, ond ar waelod y tabl cynghrair ar gyfer gwledydd a rhanbarthau’r Deyrnas Unedig lle y mae cwmnïau yn ystyried lleoli. Pam hynny?

 

 

The First Minister: We have reformed our overseas operation. I have spoken personally to all staff who work overseas for the Welsh Government. We are beginning to see the fruit of that with the announcement by Tata of the £800 million investment into Port Talbot. We will, of course, be taking advantage of the Olympics and playing our part with UK Trade and Investment in selling Wales. We will, of course, be using our new office in London to act as a hub to attract investment into Wales.

Y Prif Weinidog: Rydym wedi diwygio ein gwaith dramor. Rwyf wedi siarad yn bersonol â’r holl staff sy’n gweithio dramor ar ran Llywodraeth Cymru. Rydym yn dechrau gweld ffrwyth hynny wrth i Tata gyhoeddi  buddsoddiad o £800 miliwn ym Mhort Talbot. Byddwn, wrth gwrs, yn manteisio ar y Gemau Olympaidd ac yn chwarae ein rhan gyda Masnach a Buddsoddi y DU drwy werthu Cymru. Byddwn, wrth gwrs, yn defnyddio ein swyddfa newydd yn Llundain i weithredu fel canolbwynt i ddenu buddsoddiad i Gymru.

 

 

Andrew R.T. Davies: Thank you for that answer, First Minister. It is a little concerning when you say that you have spoken to everyone around the world who works for the Welsh Government regarding the offering that we have around the world. I have asked questions of the Minister for Business, Enterprise, Technology and Science and, if you take the North American market, for example, all Welsh Government staff are located on the east coast. However, on the west coast is California, with Silicon Valley and other research centres, but we have no presence there. Despite that, in your earlier answer, you indicated that you are happy with the configuration that we have. Is it not a key consideration for the Welsh Government to be out promoting Wales in the research-intensive industries as somewhere that they can locate themselves in the European Union?

Andrew R.T. Davies: Diolch am yr ateb hwnnw, Brif Weinidog. Mae’n peri pryder pan ddywedwch eich bod wedi siarad â phawb ar draws y byd sy’n gweithio i Lywodraeth Cymru ynghylch yr hyn sydd gennym i’w gynnig ar draws y byd. Rwyf wedi gofyn cwestiynau i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth ac, os cymerwch farchnad Gogledd America, er enghraifft, mae holl staff Llywodraeth Cymru wedi eu lleoli ar yr arfordir dwyreiniol. Fodd bynnag, ar yr arfordir gorllewinol mae Califfornia, gyda Silicon Valley a chanolfannau ymchwil eraill, ond nid oes gennym bresenoldeb yno. Er gwaethaf hynny, yn eich ateb cynharach, dywedasoch eich bod yn fodlon ar y trefniant sydd gennym. Onid yw’n ystyriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru fod wrthi’n hyrwyddo Cymru yn y diwydiannau ymchwil-ddwys fel rhywle y gallant eu lleoli eu hunain yn yr Undeb Ewropeaidd?

 

 

The First Minister: Yes, I agree, and one of the things that I am looking at is placing someone in California, working with UKTI, in order to represent Wales in the western part of the States. The leader of the opposition is quite right to say that we need to ensure that we have proper coverage in the US, and this is something that will be dealt with pretty quickly.

Y Prif Weinidog: Rwy’n cytuno, ac un o’r pethau yr wy’n ystyried ei wneud yw lleoli rhywun yng Nghaliffornia, gan weithio gyda Masnach a Buddsoddi’r DU, er mwyn cynrychioli Cymru yn rhan orllewinol yr Unol Daleithiau. Mae arweinydd yr wrthblaid yn llygad ei le wrth ddweud bod angen inni sicrhau bod gennym nifer priodol o gynrychiolwyr yn yr Unol Daleithiau, a bydd hyn yn cael ei wneud yn eithaf cyflym.

 

 

Andrew R.T. Davies: I am pleased to hear the positive engagement that we are having today, First Minister. I will raise another example of the contradiction within your Government. You came back from China saying that you wanted to establish an air link to China, or to look at the feasibility of doing so. I recently questioned the relevant Minister in writing about the priority that the Welsh Government puts on the Chinese tourism market. The Minister indicated that no money was made available to the UK tourist board to promote Wales as a destination for Chinese tourists and confirmed that, in the tourism plan, the Wales Tourist Board, as it used to be, did not recognise China as a growing market for Wales to promote itself. You, as the First Minister, want to establish an air link, yet the Welsh Government is putting no resources into promoting Wales as a destination. What is it to be?

Andrew R.T. Davies: Rwy’n falch o glywed yr ymgysylltiad cadarnhaol yr ydym yn ei gael heddiw, Brif Weinidog. Codaf enghraifft arall o’r gwrth-ddweud o fewn eich Llywodraeth. Daethoch yn ôl o Tsieina gan ddweud eich bod am sefydlu cyswllt awyr i Tsieina, neu edrych ar y posibilrwydd o wneud hynny. Yn ddiweddar, bu imi holi’r Gweinidog perthnasol yn ysgrifenedig am y flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i’r farchnad dwristiaeth yn Tseina. Dywedodd y Gweinidog nad oedd dim arian ar gael i fwrdd croeso’r DU i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan ar gyfer twristiaid o Tseina a chadarnhaodd nad oedd Bwrdd Croeso Cymru, fel yr arferai fod, yn cydnabod yn y cynllun twristiaeth fod Tsieina yn farchnad sy’n tyfu lle y gall Cymru hyrwyddo ei hun. Rydych chi, fel Prif Weinidog, yn awyddus i sefydlu cyswllt awyr ond nid yw Llywodraeth Cymru yn darparu dim adnoddau i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan. Beth sy’n digwydd?

 

 

The First Minister: We believe that it is best to work with the British tourism authority—Visit Britain, as it is now—in order to promote Wales. It has resources that we, inevitably, do not have. The issue of the air link to China is still very much a live issue, and I look forward, with the first meeting of the airport task force taking place soon, to pursuing this and other matters.

Y Prif Weinidog: Rydym yn credu mai’r peth gorau i’w wneud yw gweithio gydag awdurdod twristiaeth Prydain—Visit Britain, fel y mae yn awr—er mwyn hyrwyddo Cymru. Mae ganddo adnoddau nad ydynt gennym ni, wrth reswm. Mae’r cyswllt awyr i Tsieina yn dal yn fatersy’n cael sylw ar hyn o bryd, ac edrychaf ymlaen, pan fydd cyfarfod cyntaf tasglu’r maes awyr yn cael ei gynnal yn fuan, at fynd ar drywydd hyn a materion eraill.

 

 

The Leader of the Welsh Liberal Democrats (Kirsty Williams): First Minister, at one stage in the last 10 years, Wales attracted the highest amount of foreign direct investment of any region or nation in the UK. As we have seen from the latest figures, we are now at the bottom of that league table. What has happened in the last 10 years to see us go from the very best to the worst?

Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (Kirsty Williams): Brif Weinidog, ar un adeg yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, roedd Cymru yn denu’r swm uchaf o fuddsoddiad uniongyrchol tramor o blith pob rhanbarth neu wlad yn y DU. Fel y gwelwn yn ôl y ffigurau diweddaraf, erbyn hyn rydym ar waelod y tabl cynghrair. Beth sydd wedi digwydd dros y 10 mlynedd diwethaf i esbonio pam mai ni yw’r gwaethaf, bellach, yn lle’r gorau?

 

 

The First Minister: One of the issues that we needed to address was to ensure that we had proper representation overseas, that it was known overseas what the message from Wales was, and also that we worked very closely with UKTI. I am pleased to say that the relationship that we have with UKTI is a very good one, particularly with Lord Green as the appropriate Minister, but also with the organisation as a whole.

Y Prif Weinidog: Un o’r materion yr oedd yn rhaid i ni fynd i’r afael â hwy oedd sicrhau bod gennym gynrychiolaeth briodol dramor, ei bod yn hysbys dramor beth oedd y neges gan Gymru, a hefyd ein bod yn gweithio’n agos iawn â Masnach a Buddsoddi’r DU. Yr wyf yn falch o ddweud bod ein perthynas â Masnach a Buddsoddi’r DU yn un dda iawn, yn enwedig â’r Arglwydd Green, sef y Gweinidog priodol, ond hefyd â’r sefydliad yn ei gyfanrwydd.

 

 

Kirsty Williams: In your economic renewal programme, you said that

Kirsty Williams: Yn eich rhaglen i adnewyddu’r economi, dywedasoch

 

 

'Securing Foreign Direct Investment (FDI) and stimulating trade will be integral parts of our sector approach’

'Bydd sicrhau Buddsoddi Uniongyrchol Tramor ac ysgogi masnach yn rhannau hanfodol o’n dull sector ni’ 

 

and you have outlined today some of the steps that you have taken, but it is clearly not working, First Minister. Wales has shown the largest UK decline in foreign direct investment projects, with its share of UK projects falling to a paltry 1.3% last year. In 2003, we were punching above our weight at 9%. What has gone wrong with your approach?

ac rydych wedi amlinellu heddiw rai o’r camau yr ydych wedi’u cymryd, ond mae’n amlwg nad yw’n gweithio, Brif Weinidog. Yng Nghymru y cafwyd y gostyngiad mwyaf yn y DU o ran prosiectau buddsoddiad uniongyrchol tramor, gyda’i chyfran o brosiectau’r DU yn gostwng i 1.3% pitw y llynedd. Yn 2003, roeddem yn cyflawni’n well na’r disgwyl, gan fod y ffigur yn 9%. Beth sydd wedi mynd o’i le gyda’ch dull chi?

 

 

The First Minister: Things are certainly improving. I have already mentioned the £800 million investment from Tata. We know about the investment from Firstsource, and the Japanese investment in TES Aviation Group in my constituency in the last few days. I believe that the structure is now right for us to be able to compete with countries around the world and to attract investment into Wales, and we have just seen the beginnings of that policy bearing fruit.

Y Prif Weinidog: Mae pethau’n gwella yn sicr. Rwyf eisoes wedi sôn am yr £800 miliwn o fuddsoddiad gan Tata. Rydym yn gwybod am y buddsoddiad gan Firstsource, a’r buddsoddiad gan Siapan yng Ngrŵp TES Aviation yn fy etholaeth i dros y dyddiau diwethaf. Credaf fod y strwythur yn iawn yn awr inni allu cystadlu â gwledydd ledled y byd a denu buddsoddiad i Gymru, ac rydym wedi gweld y polisi hwnnw yn dechrau dwyn ffrwyth.

 

 

Kirsty Williams: That is an interesting definition of success. The figures for last year show that the position is getting worse since you took these initiatives. Ernst and Young says that investor confidence in the UK remains strong. If confidence in the UK as a whole is high, why is the performance of your Government in attracting inward investment so low?

Kirsty Williams: Mae hwnnw’n ddiffiniad diddorol o lwyddiant. Mae’r ffigurau ar gyfer y llynedd yn dangos bod y sefyllfa yn gwaethygu ers i chi gychwyn y mentrau hyn. Mae Ernst and Young yn dweud bod hyder buddsoddwyr yn y DU yn dal yn gryf. Os yw lefel yr hyder yn y DU yn gyffredinol yn uchel, pam mae perfformiad eich Llywodraeth o ran denu mewnfuddsoddiad mor isel?

 

 

The First Minister: The leader of the Liberal Democrats chose to ignore what I just said, particularly with regard to Tata and companies such as TES. The reality is that we are successful in attracting overseas investment and we intend to be more successful in the future. That is why we are ensuring that our office in London will be a hub for potential investors in the future and during the Olympics. It is an office that, I have to say, the UK Government opposed.

Y Prif Weinidog: Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol wedi dewis anwybyddu’r hyn yr wyf newydd ei ddweud, yn enwedig o ran Tata a chwmnïau fel TES. Y gwir amdani yw ein bod yn llwyddiannus o ran denu buddsoddiad tramor ac rydym yn bwriadu bod yn fwy llwyddiannus yn y dyfodol. Dyna pam yr ydym yn sicrhau y bydd ein swyddfa yn Llundain yn ganolbwynt ar gyfer buddsoddwyr posibl yn y dyfodol ac yn ystod y Gemau Olympaidd. Mae’n rhaid i mi ddweud i Lywodraeth y DU wrthwynebu’r swyddfa honno.

 

 

The Leader of Plaid Cymru (Leanne Wood): First Minister, we in Plaid Cymru have sometimes criticised you for lacking new ideas for stimulating the Welsh economy and helping to create jobs. Is that what prompted your embarrassing statement last week to welcome Trident to Wales? What does this say about your ambition for Wales? Edinburgh gets the green investment bank and Pembrokeshire gets weapons of mass destruction. Is that now official policy of the Labour Cabinet and Labour’s Assembly group? Is this Labour’s vision for Wales?

Arweinydd Plaid Cymru (Leanne Wood): Brif Weinidog, rydym ni ym Mhlaid Cymru weithiau wedi eich beirniadu am eich diffyg syniadau newydd ar gyfer hybu economi Cymru a helpu i greu swyddi. Ai dyna a ysgogodd eich datganiad yr wythnos diwethaf i groesawu Trident i Gymru—datganiad a gododd gywilydd? Beth y mae hyn yn ei ddweud am eich uchelgais i Gymru? Cafodd Caeredin y banc buddsoddi gwyrdd ac mae Sir Benfro yn cael arfau distryw mawr. Ai dyma yw polisi swyddogol y Cabinet Llafur a’r grŵp Llafur yn y Cynulliad bellach? Ai dyma yw gweledigaeth Llafur ar gyfer Cymru?

 

 

The First Minister: I would take the criticism more seriously had it not come from a party with one idea, namely Build for Wales and nothing else, including any ideas to build the Welsh economy. Is the leader of Plaid Cymru saying that she does not welcome any defence jobs in Wales? If that is the case, does she want to see the closure of General Dynamics or indeed companies such as Cassidian? I am sure that the people of Wales would want to know. We will continue to look for ways to secure jobs for Wales in the future.

Y Prif Weinidog: Byddwn wedi cymryd y feirniadaeth yn fwy o ddifrif oni bai ei bod wedi dod oddi wrth blaid sydd ag un syniad, sef Adeiladu dros Gymru a dim byd arall, gan gynnwys unrhyw syniadau i adeiladu economi Cymru. A yw arweinydd Plaid Cymru yn dweud nad yw hi’n croesawu unrhyw swyddi amddiffyn yng Nghymru? Os felly, a hoffai weld General Dynamics neu gwmnïau fel Cassidian yn cau? Rwy’n siŵr y byddai pobl Cymru eisiau gwybod. Byddwn yn parhau i chwilio am ffyrdd i sicrhau swyddi i Gymru yn y dyfodol.

 

 

Leanne Wood: We have not stopped talking about jobs in this Chamber, First Minister. Over 1,200 people are already employed in the refineries and the LNG terminals at Milford Haven. This is more than the 1,109 people actually employed because of Trident in Scotland—a far cry from the 6,000 jobs that you stated. How many of the jobs currently at Milford Haven would be lost if a nuclear submarine base were to be built there? What effect would that have on attracting other jobs to the area? Is it not true, First Minister, that your discredited plan would cost Wales more jobs than it would create?

Leanne Wood: Nid ydym wedi peidio â siarad am swyddi yn y Siambr hon, Brif Weinidog. Mae dros 1,200 o bobl yn cael eu cyflogi eisoes yn y purfeydd a’r terfynfeydd LNG yn Aberdaugleddau. Mae hynny’n fwy na’r 1,109 a gyflogir o ganlyniad i Trident yn yr Alban—yn wahanol iawn i’r 6,000 o swyddi, fel y dywedasoch chi. Faint o’r swyddi sydd eisoes yn Aberdaugleddau fyddai’n cael eu colli petai canolfan llongau tanfor niwclear yn cael ei hadeiladu yno? Pa effaith y byddai hynny’n ei chael ar ddenu swyddi eraill i’r ardal? Onid yw’n wir, Brif Weinidog, y byddai eich cynllun, sydd wedi’i ddifrïo, yn costio mwy o swyddi i Gymru nag y byddai’n eu creu?

 

 

The First Minister: It is quite clear from the UK Government that the fleet will remain at Faslane, so the issue is now entirely academic. However, there are issues that the leader of Plaid Cymru needs to clarify for the people of Wales. First, does she agree with her colleague Bethan Jenkins that Martin McGuinness, the Deputy First Minister of Northern Ireland, is naive in shaking the Queen’s hand? Secondly, she knows that the leader of her parliamentary party, Elfyn Llwyd, met Argentinian diplomats. I accept Elfyn Llwyd’s explanation for why he met them, but does she support the right of the people of the Falkland islands to self-determination? She raises issues of defence; I am sure that there are issues in Plaid Cymru that would be very interesting for the people of Wales to have clarified.

Y Prif Weinidog: Mae Llywodraeth y DU wedi ei gwneud yn eithaf clir y bydd y fflyd yn aros yn Faslane, felly mae’r mater erbyn hyn yn hollol academaidd. Fodd bynnag, mae angen i arweinydd Plaid Cymru egluro rhai materion i bobl Cymru. Yn gyntaf, a ydy hi’n cytuno â’i chyd-Aelod Bethan Jenkins fod Martin McGuinness, Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, yn naïf wrth gytuno i ysgwyd llaw’r Frenhines? Yn ail, mae hi’n gwybod bod arweinydd ei phlaid seneddol, Elfyn Llwyd, wedi cwrdd â diplomyddion o’r Ariannin. Rwy’n derbyn esboniad Elfyn Llwyd am ei resymau dros gyfarfod â hwy, ond a yw hi’n cefnogi hawl pobl ynysoedd y Falkland i benderfynu drostynt eu hunain? Bu iddi godi materion ynglŷn ag amddiffyn; rwy’n siŵr bod materion ym Mhlaid Cymru y byddai’n ddiddorol iawn i bobl Cymru glywed eglurhad arnynt.

 

 

Leanne Wood: If it is an academic exercise, First Minister, why did you welcome Trident jobs to Wales last week? First Minister, the biggest concern for me is about values—your values. It is 31 years since Wales declared itself a nuclear weapons-free country. It is 31 years since a group of women from this country, including your Minister, Jane Hutt, began their march to Greenham Common. The Welsh bishops of the Catholic and Anglican churches, the leaders of the free churches, the Unite and Unison unions and the majority of people in Wales do not agree with you. They say that weapons of mass destruction have no place on Welsh soil or in Welsh waters. First Minister, you are meant to speak for Wales; is it not the case that, on this occasion, you were just speaking for yourself?

Leanne Wood: Os yw’n ymarferiad academaidd, Brif Weinidog, pam y gwnaethoch groesawu swyddi Trident i Gymru yr wythnos diwethaf? Brif Weinidog, y pryder mwyaf i mi yw gwerthoedd—eich gwerthoedd chi. Mae 31 mlynedd wedi mynd heibio ers i Gymru ddatgan ei bod yn wlad heb arfau niwclear. Mae 31 mlynedd ers i grŵp o fenywod o’r wlad hon, gan gynnwys eich Gweinidog, Jane Hutt, ddechrau eu gorymdaith i Gomin Greenham. Nid yw esgobion Cymru, rhai’r eglwysi Catholig ac Anglicanaidd, arweinwyr yr eglwysi rhydd, undebau Unite ac Unsain, na’r rhan fwyaf o bobl Cymru yn cytuno â chi. Maent yn dweud nad oes lle i arfau distryw mawr ar dir Cymru nac yn nyfroedd Cymru. Brif Weinidog, rydych i fod i siarad dros Gymru; onid yw’n wir eich bod, y tro hwn, yn siarad drosoch eich hun yn unig?

1.45 p.m.

The First Minister: She assumes that she has the support of the people of Wales, but I do not believe that she does. We have seen that in elections time and again. She has been offered the opportunity to clarify her party’s position with regard to what her colleague said, but she has failed to do so. She has been offered the opportunity to clarify her party’s position with regard to the right of the people of the Falkland islands to self-determination, and she has failed to do so. There are issues that Plaid Cymru needs to clarify urgently to the people of Wales in order for it to regain any credibility at all.

Y Prif Weinidog: Mae hi’n tybio bod pobl Cymru yn ei chefnogi, ond nid wyf yn credu eu bod. Rydym wedi gweld hynny mewn etholiadau dro ar ôl tro. Mae hi wedi cael cyfle i egluro safbwynt ei phlaid o ran yr hyn a ddywedodd ei chydweithiwr, ond mae hi wedi methu â gwneud hynny. Mae hi wedi cael cyfle i egluro safbwynt ei phlaid o ran hawl pobl ynysoedd y Falkland i benderfynu drostynt eu hunain, ac mae hi wedi methu â gwneud hynny. Mae angen i Blaid Cymru egluro rhai materion i bobl Cymru ar frys er mwyn iddi allu adennill unrhyw hygrededd o gwbl.

Canlyniadau Iechyd

Health Outcomes

3. Paul Davies: Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella canlyniadau iechyd i bobl Cymru. OAQ(4)0585(FM)

3. Paul Davies: What is the Welsh Government doing to improve health outcomes for the people of Wales. OAQ(4)0585(FM)

Y Prif Weinidog: Mae ein cynlluniau a’n blaenoriaethau ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru gyfan i’w gweld yn ein rhaglen lywodraethu.

The First Minister: Our plans and priorities for the health service for the whole of Wales can be found in our programme for government.  

Paul Davies: Fel rwy’n siŵr eich bod yn cytuno, mae’n hanfodol bod ysbytai a chlinigau yn cael eu staffio yn briodol i sicrhau bod cleifion yn derbyn y driniaeth sydd ei hangen arnynt. Yn ddiweddar, mae etholwyr wedi cysylltu â fi sy’n dioddef o arthritis gwynegol ac maen nhw wedi cael gwybod y bydd rhaid iddynt aros am gyfnod amhenodol am driniaeth oherwydd problemau staffio. Rwy’n siŵr bod y Prif Weinidog yn cytuno â fi bod hyn yn annerbyniol, ond a allai amlinellu’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i recriwtio nyrsys arbenigol ar gyfer afiechydon fel arthritis gwynegol, fel y gall etholwyr gael y driniaeth y maent yn ei haeddu?

Paul Davies: As I am sure you would agree, it is essential that hospitals and clinics are appropriately staffed in order to ensure that patients receive the treatment that they need. Recently, constituents have contacted me who are suffering from rheumatoid arthritis and they have been told that they will have to wait for an unspecified period of time for treatment because of staffing problems. I am sure the First Minister agrees with me that this is unacceptable, but could he outline what the Welsh Government is doing to recruit specialist nurses for diseases such as rheumatoid arthritis, so that constituents can get the treatment that they deserve?

Y Prif Weinidog: Rydym wedi nodi bod problem yng Nghymru ynglŷn â recriwtio staff meddygol. Dyna pam wnaethom lansio ymgyrch i recriwtio staff at y dyfodol. Roeddwn i mewn achlysur neithiwr ac yr oedd hyn yn rhan bwysig ohono, er mwyn sicrhau bod meddygon ac eraill sy’n gweithio yn y sector meddygol yn gwybod bod Cymru yn lle da i weithio ac yn rhywle y gall pobl fod yn uchelgeisiol ynglŷn â’r triniaethau maen nhw eisiau eu creu.

The First Minister: We have noted that there is a problem in Wales in terms of recruiting medical staff. That is why we have launched a campaign to recruit staff for the future. Last night, I attended an event and this was an important part of that event, to ensure that doctors and others working in the medical sector know that Wales is a good place to work and a place where people can be ambitious in terms of the treatments that they want to create.

Keith Davies: With the listening and engagement process finishing earlier this year, Hywel Dda Local Health Board is set to consult on its plans in late summer. It concerns me that the Hywel Dda board intends to release its plans earlier than other health boards. It will have less time to engage with other boards on creating models that can work together, and respondents will have less opportunity to consider other plans in their responses. Will the First Minister reiterate guidance to Hywel Dda health board that plans should be collaborative?

Keith Davies: Ar ôl i’r broses gwrando ac ymgysylltu orffen yn gynharach eleni, mae disgwyl i Fwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda ymgynghori ar ei gynlluniau ddiwedd yr haf. Mae’n peri pryder i mi fod bwrdd Hywel Dda yn bwriadu rhyddhau ei gynlluniau yn gynharach na’r byrddau iechyd eraill. Bydd ganddo lai o amser i ymgysylltu â byrddau eraill ynghylch creu modelau sy’n gallu gweithio gyda’i gilydd, a bydd ymatebwyr yn cael llai o gyfle i ystyried cynlluniau eraill wrth ymateb. A wnaiff y Prif Weinidog bwysleisio’r arweiniad i fwrdd iechyd Hywel Dda y dylai cynlluniau gydweithio â’i gilydd?

The First Minister: I do not think that it is entirely fair to say that it has somehow tried to narrow the consultation process; it did start before anybody else. It is also right to say that formal, widespread public consultation will begin on 6 August and the health board has planned a series of consultation activities and events throughout the 12 weeks of August, September and October. I will, of course, expect it to be as thorough as possible in the consultation process.

Y Prif Weinidog: Nid wyf yn credu ei bod yn gwbl deg dweud ei fod rywsut wedi ceisio cyfyngu’r broses ymgynghori; fe ddechreuodd cyn i neb arall wneud hynny. Mae hefyd yn iawn dweud y bydd ymgynghori cyhoeddus ffurfiol ac eang yn dechrau ar 6 Awst ac mae’r bwrdd iechyd wedi trefnu cyfres o weithgareddau a digwyddiadau ymgynghori drwy gydol y 12 wythnos ym mis Awst, Medi a Hydref. Byddaf, wrth gwrs, yn disgwyl iddo fod mor drylwyr â phosibl yn y broses ymgynghori

.

Aled Roberts: Brif Weinidog, wythnos diwethaf, cyhoeddwyd ffigurau yn y gogledd bod bron i 8,000 o bobl wedi cael eu gyrru adref o ysbytai rhwng 11 p.m. a 6 a.m., gan gynnwys 74 o unedau iechyd meddwl. A ydych yn credu bod hynny’n dderbyniol? A yw’n dderbyniol hefyd o ran diogelwch clinigol? Os yw’r ffigurau hyn yn gywir, beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud yn eu cylch? Mae rhai pobl yn dweud mai’r ffaith bod cyn lleied o welyau ysbyty yn y gogledd yw’r rheswm pam bod pobl yn cael eu gyrru adref o ysbytai yng nghanol y nos.

Aled Roberts: First Minister, last week, figures were published in north Wales stating that almost 8,000 people were sent home from hospitals between 11 p.m. and 6 a.m., including 74 from mental health units. Do you believe that that is acceptable? Also, is it acceptable from the point of view of clinical safety? If these figures are accurate, what is your Government doing about them? Some people are saying that the fact that there are so few hospital beds in north Wales is the reason why people are sent home from hospitals in the middle of the night.

Y Prif Weinidog: Bydd rhaid i ni egluro’r ffigur hwnnw. Mae’r Aelod ei hun wedi sôn nad yw’n siŵr a ydyw’r ffigur hwnnw yn hollol gywir. Gwnaf ysgrifennu ato u

nwaith y bydd y ffigur hwnnw wedi ei egluro.

The First Minister: That figure will need to be clarified. The Member himself mentioned that he is not certain whether that figure is completely accurate. I will write to him once that figure has been clarified.

David Rees: I have been informed by Abertawe Bro Morgannwg University Local Health Board that it is likely that it will fail to recruit the full quota of C2 doctors to cover all rotas of emergency medical admissions at Neath Port Talbot Hospital from 1 August. It tells me that it will probably be able to provide the services in the short term, but in the longer term it might not be achievable in terms of ensuring safe delivery. I commend the health board for the innovative way in which it is looking at recruitment, but could you make a statement on the progress being made on doctor recruitment in the Welsh NHS?

David Rees: Rwyf wedi cael gwybod gan Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ei bod yn debygol y bydd yn methu â recriwtio’r cwota llawn o feddygon C2 i fodloni holl rotas y derbyniadau meddygol brys yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot o 1 Awst. Mae’n dweud wrthyf y bydd yn debygol o allu darparu’r gwasanaethau yn y tymor byr, ond yn y tymor hwy efallai na fydd yn bosibl o ran sicrhau darpariaeth ddiogel. Cymeradwyaf y bwrdd iechyd am y ffordd arloesol y mae’n edrych ar recriwtio, ond a allwch roi datganiad am y cynnydd o ran recriwtio meddygon yn GIG Cymru?

The First Minister: Yes, as I mentioned earlier, we have a recruitment campaign that has been launched. It is right to say that there is a shortage of accident and emergency specialists, and that is true across the whole of the UK, not just in Wales. Given that situation, we need to make sure that we recruit enough A&E specialists to cover A&E services in Wales in the future.

Y Prif Weinidog: Gallaf, fel y soniais yn gynharach, rydym wedi lansio ymgyrch recriwtio. Mae’n wir dweud bod prinder arbenigwyr damweiniau ac achosion brys, ac mae hynny’n wir ar draws y DU gyfan, nid Cymru yn unig. O ystyried y sefyllfa honno, mae angen inni sicrhau ein bod yn recriwtio digon o arbenigwyr damweiniau ac achosion brys ar gyfer gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru yn y dyfodol.

Russell George: First Minister, I have a constituent who cannot access NHS dental treatment in Newtown as there is no capacity. She has been given two options: to travel to Machynlleth or to Llanfair Caereinion, which are 50-mile round trips and she does not drive, which makes it a challenging journey just to access dental treatment. I also understand that there are no NHS dentists available in Welshpool. You have made a clear commitment in your programme for government to improve access and to increase the number of NHS dentists. What further representations can you make to Powys Teaching Local Health Board to ensure that these commitments are delivered in Montgomeryshire?

Russell George: Brif Weinidog, mae gennyf etholwr nad yw’n gallu cael triniaeth ddeintyddol GIG yn y Drenewydd oherwydd diffyg capasiti. Mae ganddi ddau ddewis: teithio i Fachynlleth neu i Lanfair Caereinion. Maent yn deithiau 50 milltir—mynd a dod—ac nid yw hi’n gyrru, felly mae’n daith heriol i gael triniaeth ddeintyddol. Rwyf yn cael ar ddeall hefyd nad oes deintyddion GIG ar gael yn y Trallwng. Rydych wedi gwneud ymrwymiad clir yn eich rhaglen lywodraethu i wella’r hawl i weld deintyddion GIG a chynyddu eu nifer. Pa sylwadau pellach y gallwch eu gwneud i Fwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys i sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn yn cael eu cyflawni yn sir Drefaldwyn?

The First Minister: The situation regarding NHS dental services has improved markedly over the last few years, but if the Member wishes to write to me with the particular circumstances of his constituent’s case, I would be pleased to investigate for him.

Y Prif Weinidog: Mae’r sefyllfa o ran gwasanaethau deintyddol y GIG wedi gwella’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, ond os yw’r Aelod yn dymuno ysgrifennu ataf yn nodi amgylchiadau penodol achos ei etholwr, byddwn yn falch i ymchwilio i’r mater ar ei gyfer.

Rebecca Evans: People with learning disabilities have poorer health outcomes than the rest of the population. How is the Welsh Government ensuring that its public health advice and information is accessible to people with learning disabilities?

Rebecca Evans: Mae gan bobl ag anableddau dysgu ganlyniadau iechyd gwaeth na gweddill y boblogaeth. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ei chyngor a’i gwybodaeth am iechyd cyhoeddus ar gael i bobl ag anableddau dysgu?

The First Minister: We have produced an easy-read booklet, '4 Steps to Better Health’, which is available on the Health Challenge Wales website. We have also modified the successful primary school physical activity programme, The Class Moves!, for use in special schools, and this has been distributed to those schools by local healthy schools co-ordinators. Other issues have been taken forward; for example, a consortium of learning disability organisations has been commissioned to develop an online accessibility initiative.

Y Prif Weinidog: Rydym wedi cynhyrchu llyfryn hawdd ei ddarllen, '4 Cam at Iechyd Gwell’, sydd ar gael ar wefan Her Iechyd Cymru. Rydym hefyd wedi addasu’r rhaglen lwyddiannus ar gyfer gweithgarwch corfforol mewn ysgolion cynradd, Symud y Dosbarth!, i’w defnyddio mewn ysgolion arbennig, ac mae wedi’i dosbarthu i’r ysgolion hynny gan y cydlynwyr ysgolion iach lleol. Mae materion eraill wedi’u datblygu; er enghraifft, comisiynwyd consortiwm o sefydliadau anabledd dysgu i ddatblygu menter hygyrchedd ar-lein.

The Deputy Presiding Officer: Question 4, OAQ(4)0592(FM), has been withdrawn.

Y Dirprwy Lywydd: Tynnwyd cwestiwn 4, OAQ(4)0592(FM), yn ôl.

Twf Economaidd yng Ngorllewin Cymru

Economic Growth in West Wales

5. Angela Burns: A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu manylion y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hybu twf economaidd yng ngorllewin Cymru. OAQ(4)0596(FM)

5. Angela Burns: Will the First Minister provide details of measures the Welsh Government is taking to encourage economic growth in west Wales. OAQ(4)0596(FM)

The First Minister: We are taking measures to encourage economic growth across Wales, including plans for strengthening the conditions for job creation and retention, and encouraging investment in infrastructure, skills and innovation.

Y Prif Weinidog: Rydym yn cymryd camau i annog twf economaidd ledled Cymru, gan gynnwys cynlluniau ar gyfer cryfhau’r amodau ar gyfer creu swyddi a’u cadw, ac annog buddsoddiad mewn seilwaith, sgiliau ac arloesedd.

Angela Burns: Thank you for that response, First Minister. The Organisation for Economic Co-operation and Development has stated that small businesses play an important role in job creation, which is something that we all agree with around here. Princes Gate Spring Water in my constituency gained funds from the economic growth fund, which meant that it could cut its running costs and give the firm far more room for growth. As you know, First Minister, many businesses have failed to gain finance from the economic growth fund as a result of the vast number of applications. Which steps is your Government taking to support similar businesses in west Wales that wish to grow, expand and employ more people to help to fuel our economic renewal?

Angela Burns: Diolch am eich ymateb, Brif Weinidog. Mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi dweud bod busnesau bach yn chwarae rhan bwysig o ran creu swyddi, ac mae pawb yma yn cytuno â hynny. Cafodd Princes Gate Spring Water yn fy etholaeth arian gan y gronfa twf economaidd, a oedd yn golygu y gallai leihau ei gostau rhedeg ac a roddodd lawer mwy o le i’r cwmni dyfu. Fel y gwyddoch, Brif Weinidog, mae llawer o fusnesau wedi methu â chael cyllid gan y gronfa twf economaidd oherwydd bod cynifer o geisiadau. Pa gamau mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i gefnogi busnesau tebyg yn y gorllewin sydd am dyfu, ehangu a chyflogi mwy o bobl i helpu i ysgogi ein hadnewyddiad economaidd?

The First Minister: As the Member said, Princes Gate Spring Water has received funding from the Government’s economic growth fund. I believe that the Minister for Business, Enterprise, Technology and Science has visited the company as well. Good luck to it in the future. The economic growth fund has offered a substantial amount of money around Wales and has safeguarded a substantial number of jobs. For example, in Carmarthenshire, it has created around 107 jobs and safeguarded some 353; in Pembrokeshire, some 65 new jobs have been created and a further 74 jobs have been safeguarded.

Y Prif Weinidog: Fel y dywedodd yr Aelod, mae Princes Gate Spring Water wedi cael cyllid gan gronfa twf economaidd y Llywodraeth. Credaf fod y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth wedi ymweld â’r cwmni yn ogystal. Pob lwc iddo yn y dyfodol. Mae’r gronfa twf economaidd wedi cynnig swm sylweddol o arian ledled Cymru ac mae wedi diogelu nifer sylweddol o swyddi. Er enghraifft, yn sir Gaerfyrddin, mae wedi creu oddeutu 107 o swyddi ac wedi diogelu rhyw 353; yn sir Benfro, mae tua 65 o swyddi newydd wedi’u creu ac mae 74 o swyddi eraill wedi’u diogelu.

Rhodri Glyn Thomas: Yng nghyd-destun swyddi yn y de-orllewin, pa gysylltiad a fu rhyngoch chi ac Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau a pherchnogion y cwmnïau olew a nwy yn Aberdaugleddau cyn ichi ddatgan eich bod yn croesawu arfau niwclear i’r porthladd, a beth oedd eu hymateb ynglŷn â’r swyddi a fyddai’n cael eu colli o ganlyniad i hynny?

Rhodri Glyn Thomas: In terms of jobs in the south-west, what contact had there been between you and the Milford Haven Port Authority and the owners of the oil and gas companies in Milford Haven before you made the statement that you would welcome nuclear arms to the port, and what was their response regarding the jobs that would be lost as a result?

Y Prif Weinidog: Mae’r cwmnïau sydd yn yr hafan yn Aberdaugleddau yn hollol hapus i weithio gyda Llywodraeth Cymru ac, wrth gwrs, maent yn gweld y gefnogaeth y mae’r Llywodraeth yn ei rhoi iddynt.

The First Minister: The companies in the haven in Milford Haven are perfectly happy to work with the Welsh Government and, of course, they see the support that the Government gives to them.

Y Dirprwy Lywydd: Tynnwyd cwestiwn 6, OAQ(4)0588(FM), yn ôl.

The Deputy Presiding Officer: Question 6, OAQ(4)0588(FM), has been withdrawn.

Nifer y Bobl sy’n Ysmygu

The Numbers of People who Smoke

7. Jenny Rathbone: Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau nifer y bobl sy’n ysmygu. OAQ(4)0593(FM)

7. Jenny Rathbone: What is the Welsh Government doing to reduce the numbers of people who smoke. OAQ(4)0593(FM)

The First Minister: The tobacco control action plan for Wales aims to drive down smoking levels to 16% by 2020. Our current programme of measures, which includes ASSIST, Stop Smoking Wales and Smokers Helpline Wales, helps to discourage young people from starting to smoke and supports those who want to give up smoking.

Y Prif Weinidog: Nod y cynllun gweithredu i reoli tybaco yng Nghymru yw lleihau lefelau ysmygu i 16% erbyn 2020. Mae ein rhaglen gyfredol o fesurau, sy’n cynnwys Treial Rhoi’r Gorau i Ysmygu mewn Ysgolion, Dim Smygu Cymru a’r Llinell Gymorth i Smygwyr yng Nghymru, yn helpu i atal pobl ifanc rhag dechrau ysmygu ac yn cefnogi’r rhai sydd am roi’r gorau i ysmygu.

Jenny Rathbone: It remains the biggest cause of premature death among people in Wales and we know that over 5,000 people die prematurely of smoking-related causes each year. The UK Government is currently consulting on the possibility of introducing plain packaging so that the cigarette companies have less of an opportunity to market their cigarettes to capture young people early on. What possibility is there that the Welsh Government could fast forward that process, assuming that we have to wait for the UK Government to legislate on this matter?

Jenny Rathbone: Ysmygu sy’n achosi mwyaf o farwolaethau cyn pryd ymhlith pobl yng Nghymru o hyd, a gwyddom fod dros 5,000 o bobl yn marw cyn pryd o achosion sy’n gysylltiedig ag ysmygu bob blwyddyn. Mae Llywodraeth y DU ar hyn o bryd yn ymgynghori ar y posibilrwydd o gyflwyno pecynnu plaen fel bod llai o gyfle i’r cwmnïau sigaréts farchnata eu sigaréts i ddal pobl ifanc yn gynnar. A oes posibilrwydd y gallai Llywodraeth Cymru gyflymu’r broses honno, gan dybio y bydd rhaid aros i Lywodraeth y DU ddeddfu ar y mater hwn?

The First Minister: We are part of the process. We were involved in the work prior to the consultation being developed and we are participating in the UK-wide consultation. Certainly, we want to see these regulations being brought in as quickly as possible in order to deter more people from smoking.

Y Prif Weinidog: Rydym yn rhan o’r broses. Roeddem ynghlwm wrth y gwaith cyn datblygu’r ymgynghoriad ac rydym yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar draws y DU. Yn sicr, rydym eisiau gweld y rheoliadau hyn yn cael eu cyflwyno cyn gynted â phosibl i atal mwy o bobl rhag ysmygu.

Y Cofnod

William Graham: First Minister, you will be aware that the average age at which people in Wales start to smoke is between 11 and 12 years. Among Welsh 15-year-olds, 23% of girls and 12% of boys report regular smoking. It is known that tobacco use is responsible for the gap in life expectancy between the most advantaged and the most disadvantaged in our society. We are all aware of the concept of a no-smoking day. I wonder whether you might consider having a no-smoking month, particularly for those campaigning in schools. As you know, a month is a sufficient period of time to demonstrate measurable benefits to health and fitness and, of course, financial savings.

William Graham: Brif Weinidog, byddwch yn ymwybodol mai’r oedran y mae pobl yng Nghymru yn dechrau ysmygu, ar gyfartaledd, yw rhwng 11 a 12 oed. Ymhlith pobl 15 oed yng Nghymru, mae 23% o ferched a 12% o fechgyn yn dweud eu bod yn ysmygu’n rheolaidd. Mae’n hysbys mai defnyddio tybaco sy’n gyfrifol am y bwlch mewn disgwyliad oes rhwng y mwyaf breintiedig a’r mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas. Rydym oll yn ymwybodol o’r cysyniad o ddiwrnod dim ysmygu. Tybed a fyddech yn ystyried cael mis dim ysmygu, yn enwedig ar gyfer y rhai sy’n ymgyrchu mewn ysgolion? Fel y gwyddoch, mae mis yn gyfnod digonol o amser i ddangos y manteision mesuradwy i iechyd a ffitrwydd ac, wrth gwrs, yr arbedion ariannol.

The First Minister: The idea has merit in principle. I will look at the matter further with the Minister for Health and Social Services on the Member’s behalf to investigate the practicalities.

Y Prif Weinidog: Mae’n syniad da mewn egwyddor. Edrychaf ar y mater ymhellach gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ran yr Aelod i ymchwilio i’r ochr ymarferol.

Jocelyn Davies: First Minister, you are also committed to outlawing smoking in cars when children are present, to protect their health, if there is not a significant reduction in smoking in cars. How are you monitoring the level of this activity? What level is acceptable to your Government?

Jocelyn Davies: Brif Weinidog, rydych hefyd wedi ymrwymo i wahardd ysmygu mewn ceir pan fydd plant yn bresennol, i ddiogelu eu hiechyd, os na fydd gostyngiad sylweddol mewn ysmygu mewn ceir. Sut yr ydych yn monitro lefel y gweithgaredd hwn? Pa lefel sy’n dderbyniol i’ch Llywodraeth?

The First Minister: This policy is still in its early days. However, if we find that people are continuing to smoke in cars, legislation will be required. The health behaviour in school-aged children survey indicates that around a fifth of 11 to 16-year-olds in Wales report being exposed to second-hand smoke when they travelled last year. In terms of assessing the impact of the campaign, success would mean a significant decrease in exposure during the campaign. If a decision is made in future to consider introducing legislation to ban smoking in cars, a full consultation exercise would be carried out.

Y Prif Weinidog: Mae’n gynnar o hyd o ran y polisi hwn. Fodd bynnag, os byddwn yn gweld bod pobl yn parhau i ysmygu mewn ceir, bydd angen deddfwriaeth. Dangosodd yr arolwg i ymddygiad iechyd mewn plant oedran ysgol bod oddeutu un rhan o bump o blant rhwng 11 ac 16 oed yng Nghymru yn dweud eu bod wedi cael profiad o fwg ail law wrth deithio y llynedd. O ran asesu effaith yr ymgyrch, byddai llwyddiant yn golygu gostyngiad sylweddol o ran cael profiad o fwg ail law yn ystod yr ymgyrch. Os gwneir penderfyniad yn y dyfodol i ystyried cyflwyno deddfwriaeth i wahardd ysmygu mewn ceir, byddai ymgynghoriad llawn yn cael ei gynnal.

Polisi Cynllunio

Planning Policy

8. William Powell: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi cynllunio Llywodraeth Cymru ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru. OAQ(4)0587(FM)

8. William Powell: Will the First Minister make a statement on the Welsh Government’s planning policy for Mid and West Wales. OAQ(4)0587(FM)

The First Minister: The Welsh Government’s planning policy for Wales is set out in 'Planning Policy Wales’.

Y Prif Weinidog: Mae polisi cynllunio Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru wedi’i nodi yn 'Polisi Cynllunio Cymru’.

William Powell: I thank the First Minister for that answer. My region is unique in Wales in that it encompasses all three of Wales’s national parks. Given this, an equal divergence occurs in that planning policy resides with the national park, whereas responsibility for regeneration sits with the relevant principal local authorities. Naturally, this causes a degree of tension in respect of decision making, and can, on occasion, make it difficult for areas to build a cohesive planning and regeneration policy. I see the reaction of your Minister for Business, Enterprise, Technology and Science on this issue. I believe that this message is also coming through in the ministerial task and finish group for the Powys growth zones. With this in mind, what specific steps are you and your Government prepared to take to address this issue, particularly in the dire economic circumstances in which we find ourselves?

William Powell: Diolch i’r Prif Weinidog am ei ateb. Mae fy rhanbarth yn unigryw yng Nghymru gan ei fod yn cwmpasu tri pharc cenedlaethol Cymru. O ystyried hyn, mae dargyfeiriad cyfartal yn digwydd am fod polisi cynllunio yn gyfrifoldeb i’r parc cenedlaethol, tra bo adfywio yn gyfrifoldeb i’r prif awdurdodau lleol perthnasol. Yn naturiol, mae hyn yn achosi rhywfaint o densiwn o ran gwneud penderfyniadau, ac fe all, ar adegau, ei gwneud yn anodd i ardaloedd greu polisi cydlynol o ran cynllunio ac adfywio. Rwy’n gweld ymateb y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth i’r mater hwn. Credaf fod y neges hon hefyd yn cael ei chyfleu yn y grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol ar gyfer parthau twf Powys. Gyda hyn mewn golwg, pa gamau penodol yr ydych chi a’ch Llywodraeth yn barod i’w cymryd i fynd i’r afael â’r mater hwn, yn enwedig o ystyried ein hamgylchiadau economaidd enbyd?

The First Minister: Once the task and finish group has reported, further consideration will be given to how to ensure that regeneration takes place appropriately in the different parts of the region that the Member represents. It is important that all planning authorities work together to provide social and economic sustainability for the communities that they represent.

Y Prif Weinidog: Ar ôl i’r grŵp gorchwyl a gorffen adrodd, bydd ystyriaeth bellach yn cael ei rhoi i sut i sicrhau bod adfywio yn digwydd yn briodol yn y gwahanol rannau o’r rhanbarth y mae’r Aelod yn ei gynrychioli. Mae’n bwysig bod pob awdurdod cynllunio yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu cynaladwyedd cymdeithasol ac economaidd ar gyfer y cymunedau y maent yn eu cynrychioli.

Russell George: I have been dealing with a number of constituents, whose properties are affected by section 106 agreements, hampering mortgage procurement and property sales. While those agreements are a tool to ensure that more affordable housing is delivered, the way in which they have been used has not been completely effective. I know that the Government is examining its section 106 guidance. What specific thinking has the Government undertaken on new guidance to operate on a more regional level rather than across the 22 local authorities?

Russell George: Rwyf wedi bod yn delio â nifer o etholwyr yr effeithir ar eu heiddo gan gytundebau adran 106, sy’n rhwystro caffael morgeisi a gwerthiant eiddo. Er bod y cytundebau hynny yn arf i sicrhau bod mwy o dai fforddiadwy yn cael eu darparu, nid ydynt wedi cael eu defnyddio mewn ffordd gwbl effeithiol. Gwn fod y Llywodraeth yn edrych ar ei ganllawiau adran 106. Pa fath o ganllawiau newydd y mae’r Llywodraeth wedi’u hystyried i weithredu ar lefel fwy rhanbarthol yn hytrach nag ar draws y 22 awdurdod lleol?

The First Minister: This matter is bound up in the planning Bill. It is open to the Assembly to amend or repeal section 106 agreements with the powers that we have. There are limitations, because of the community infrastructure levy, which does not give this Assembly the full power that it should have over the benefits that are outlined in section 106. These issues are being examined at the moment, with a view to looking at the planning Bill as the way forward for improving the planning system in Wales.

Y Prif Weinidog: Mae’r mater hwn ynghlwm wrth y Bil cynllunio. Mae’r Cynulliad yn gallu diwygio neu ddiddymu cytundebau adran 106 gan ddefnyddio’r pwerau sydd gennym. Mae cyfyngiadau, oherwydd yr ardoll seilwaith cymunedol, am nad yw’n rhoi i’r Cynulliad y pŴer llawn a ddylai fod ganddo dros y buddion sydd wedi’u hamlinellu yn adran 106. Mae’r materion hyn yn cael eu harchwilio ar hyn o bryd, gyda’r bwriad o edrych ar y Bil cynllunio fel y ffordd ymlaen ar gyfer gwella’r system gynllunio yng Nghymru.

Simon Thomas: Today, the Twitter account of your Minister with responsibility for planning tells us that there is an event in Pembroke Dock, looking at the sustainable development Bill for Wales, where we are imagining that it is 2032 and are looking back at the scale of challenges that we have faced. Could you set out for the Assembly the scale of planning challenges that you now face in changing Pembroke Dock and Milford Haven from being a hub for energy in Wales to a home for nuclear submarines?

Simon Thomas: Heddiw, mae cyfrif Twitter eich Gweinidog â chyfrifoldeb dros gynllunio yn dweud bod digwyddiad yn Noc Penfro, sy’n edrych ar y Bil datblygu cynaliadwy i Gymru, lle yr ydym yn dychmygu ei bod yn 2032 a’n bod yn edrych yn ôl ar faint yr heriau yr ydym wedi’u hwynebu. A allwch ddweud wrth y Cynulliad beth yw maint yr heriau cynllunio yr ydych bellach yn eu hwynebu o ran newid Doc Penfro ac Aberdaugleddau o fod yn ganolfan ar gyfer ynni yng Nghymru i fod yn gartref i longau tanfor niwclear?

The First Minister: It is always a giveaway with the Member when he rubs his hands before he asks a question; you know what is coming then. [Laughter.] I advise him not to do that. In answer to his question, there are no plans to change the haven as an energy hub for Wales. We want to see it prosper in the future and that is why an enterprise zone has been set up there.

Y Prif Weinidog: Mae bob amser yn amlwg pan fydd yr Aelod yn rhwbio ei ddwylo cyn gofyn cwestiwn; rydych yn gwybod beth sydd i ddod. [Chwerthin.] Rwy’n ei gynghori i beidio â gwneud hynny. Yr ateb i’w gwestiwn yw nad oes cynlluniau i newid y porthladd o fod yn ganolfan ynni i Gymru. Rydym am ei weld yn ffynnu yn y dyfodol, a dyna pam y sefydlwyd ardal fenter yno.

2.00 p.m.

Y Cofnod

Salwch Meddwl

Mental Ill health

9. Rebecca Evans: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth i bobl sydd â salwch meddwl. OAQ(4)0591(FM)

9. Rebecca Evans: Will the First Minister make a statement on support for people with mental ill-health. OAQ(4)0591(FM)

The First Minister: Our new draft strategy, 'Together for Mental Health’, recognises that a cross-Government approach is required to improve mental health and mental wellbeing.

Y Prif Weinidog: Mae ein strategaeth ddrafft newydd, 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’, yn cydnabod bod angen dull trawslywodraethol o weithredu er mwyn gwella iechyd meddwl a lles meddyliol pobl.

Rebecca Evans: First Minister, disability organisations—and, last week, job centre bosses also—have warned that benefit changes could have profound effects on vulnerable people. How is the Welsh Government ensuring that advice agencies in Wales are able to identify, support and signpost people whose mental health is suffering because of welfare reform?

Rebecca Evans: Brif Weinidog, mae sefydliadau anabledd—ac, yr wythnos diwethaf, penaethiaid canolfannau gwaith—wedi rhybuddio y gallai newidiadau i fudd-daliadau gael effaith ddwys ar bobl sy’n agored i niwed. Sut y mae Llywodraeth Cymru’n sicrhau bod asiantaethau cynghori yng Nghymru yn gallu canfod pwy yw’r rhaiobl y mae eu hiechyd meddwl yn dioddef oherwydd diwygio lles, ac yna yn eu cefnogi a’u cyfeirio?

The First Minister: We have serious reservations about the UK Government’s planned changes to the benefits system and their potential impacts. The ministerial task and finish group is assessing the cumulative impact of all the welfare changes and we will use its findings to help mitigate the negative implications.

Y Prif Weinidog: Mae gennym amheuon difrifol am newidiadau arfaethedig Llywodraeth y DU i’r system fudd-daliadau a’u heffeithiau posibl. Mae’r grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol yn asesu effaith gronnus yr holl newidiadau lles, a byddwn yn defnyddio ei ganfyddiadau i liniaru ar y goblygiadau negyddol hynny.

Janet Finch-Saunders: First Minister, I am in possession of a report by an esteemed expert in the field regarding 'Together for Mental Health’. That report states that the Welsh measure is intensely committed to making services available through the medium of Welsh, if possible; it is also committed to personalised services. However, the only Welsh-speaking psychiatrist in north Wales left last year, dismayed at the disintegration of services in north-west Wales. His view is that, 10 years ago, the services were the best in Wales and a wonderful place to work, and that the decline has been unbearable to witness. Patients have also voiced complaints and written in with complaints about the disintegrating situation and how much this has become the antithesis of a personalised service. First Minister of Wales, how can you defend the fact that mental health services in north Wales are best described as 'disintegrating’?

Janet Finch-Saunders: Brif Weinidog, mae gennyf adroddiad ar y strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’ gan arbenigwr o fri yn y maes dan sylw. Mae’r adroddiad hwn yn nodi bod gan y mesur Cymreig hwn ymrwymiad dwys i sicrhau bod gwasanaethau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, os yn bosibl; mae’n cynnwys ymrwymiad hefyd i wasanaethau personol. Fodd bynnag, y llynedd, gadawodd yr unig seiciatrydd yn y gogledd a oedd yn siarad Cymraeg, gan ei fod yn siomedig bod gwasanaethau yng ngogledd-orllewin Cymru ar chwâl. Yn ei farn ef, 10 mlynedd yn ôl, dyma oedd y gwasanaethau gorau yng Nghymru, ac roedd y gogledd-orllewin yn lle gwych i weithio. Dywedodd fod gwylio’r dirywiad wedi bod yn broses annioddefol. Mae cleifion hefyd wedi lleisio cwynion a nodi eu cwynion yn ysgrifenedig am y dirywiad hwn, ac am y graddau y mae’r sefyllfa hon yn gwbl groes i’r cysyniad owasanaeth personol. Brif Weinidog, sut y gallwch chi amddiffyn y ffaith mai’r ffordd orau o ddisgrifio gwasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru yw eu bod 'ar chwâl’?

The First Minister: It is difficult for me to respond to an anonymous comment from an anonymous report from an anonymous expert. What I can say to the Member is that ring-fenced funding for mental health services has increased year on year, from £387.5 million in 2008-09 to £572.01 million in 2011-12. That ring fence represents the minimum amount that LHBs should spend on mental health services and efficiency savings must be reinvested. We have shown our commitment to mental health services by ring-fencing a minimum amount of spend so that they are adequate for the areas that they serve.

Y Prif Weinidog: Mae’n anodd imi ymateb i sylwadau dienw o adroddiad dienw gan arbenigwr dienw. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrth yr Aelod yw bod y cyllid sydd wedi’i neilltuo ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn, o £387.5 miliwn yn 2008-09 i £572.01 miliwn yn 2011-12. Mae’r cyllid sydd wedi’i neilltuo yn cynrychioli’r swm lleiaf y dylai byrddau iechyd lleol ei wario ar wasanaethau iechyd meddwl, ac mae’n rhaid iddynt ail-fuddsoddi arbedion effeithlonrwydd. Rydym wedi dangos ein hymrwymiad i wasanaethau iechyd meddwl drwy neilltuo isafswm cyllid, er mwyn sicrhau bod gan y gwasanaethau hyn ddigon o gyllid ar gyfer yr ardaloedd y maent yn eu gwasanaethu.

Alun Ffred Jones: Un garfan sylweddol sy’n llenwi ein llysoedd, ein carchardai a’n hunedau iechyd meddwl yw cyn-filwyr, yn enwedig y rhai sydd wedi bod mewn rhyfeloedd fel rhyfel anghyfreithlon Iraq, ac yn Afghanistan. Bydd llawer iawn o filwyr yn dychwelyd o Afghanistan dros y blynyddoedd nesaf a bydd llawer yn gadael y fyddin am resymau eraill. Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i sicrhau bod gofal iechyd meddwl ar gael i’r garfan hon, sydd wedi gwasanaethu ei gwlad ond sydd, oherwydd yr erchylltra y maent wedi’i weld, yn wynebu problemau difrifol wrth geisio dod yn ôl yn aelodau o’u cymunedau?

Alun Ffred Jones: One significant cohort that fills our courts, prisons and our mental health units are veterans, particularly those who have been in wars such as the illegal Iraq war, and in Afghanistan. Many soldiers will return from Afghanistan over the next few years and many will leave the army for other reasons. What plans does the Government have to ensure that mental health care is available for this cohort, who have served their country but who, because of the horrors that they have witnessed, face serious problems in trying to return to being members of their communities?

Y Prif Weinidog: Mae cyllid blynyddol o £485,000 ar gael i gefnogi’r rhai sy’n dychwelyd o ryfeloedd—y veterans. Mae hyn yn unigryw yn y Deyrnas Unedig, ac mae’n dangos pa mor ddifrifol yr ydym yn cymryd eu sefyllfa pan ddônt yn ôl.

The First Minister: Annual funding of £485,000 is available to support those returning from wars—the veterans. This is unique in the UK, and it demonstrates how seriously we take their situation when they return.

Eluned Parrott: First Minister, Wales is the only UK nation that does not have a residential care facility for veterans with post-traumatic stress disorder, or indeed, for personnel with PTSD in other emergency services. In its report, 'Healthcare and the Armed Forces Community in Wales’, Healthcare Inspectorate Wales recommended that the Welsh Government should consider the utility of establishing a form of residential facility in Wales. Will you commit to doing just that, First Minister? Those affected do not understand why they should be the only people in the UK who do not have that kind of access. Will you investigate the feasibility and ask your Minister to report back to the Assembly?

Eluned Parrott: Brif Weinidog, Cymru yw’r unig genedl yn y DU lle nad oes cyfleuster gofal preswyl ar gael ar gyfer cyn-filwyr sydd ag anhwylder straen wedi trawma, neu yn wir, ar gyfer personél yn y  gwasanaethau brys eraill sydd ag anhwylder straen wedi trawma. Yn ei adroddiad, 'Gofal Iechyd a Chymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru’, mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ystyried pa mor ddefnyddiol fyddai sefydlu rhyw fath o gyfleuster preswyl yng Nghymru. A wnewch chi ymrwymo i wneud hynny, Brif Weinidog? Nid yw’r rhai yr effeithir arnynt yn deall pam mai nhw yw’r unig bobl yn y DU nad oes ganddynt y math hwnnw o fynediad. A wnewch chi ymchwilio i ddichonoldeb y cynllun hwn, a gofyn i’ch Gweinidog adrodd yn ôl i’r Cynulliad?

The First Minister: I understand that the ministerial advisory group is looking at this issue, and I can report back to the Assembly once that investigation has taken place.

Y Prif Weinidog: Rwyf yn deall bod y grŵp cynghori gweinidogol yn edrych ar y mater hwn, a gallaf adrodd yn ôl i’r Cynulliad wedi i’r ymchwiliad hwnnw gael ei gwblhau.

Datblygu Twf yn Aberafan

Developing Growth in Aberavon

10. David Rees: A wnaiff y Gweinidog amlinellu dull gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu twf yn Aberafan. OAQ(4)0590(FM)

10. David Rees: Will the First Minister outline the Welsh Government’s approach to developing growth in Aberavon. OAQ(4)0590(FM)

The First Minister: Our approach to driving economic growth across Wales includes plans for strengthening the conditions for job creation and retention, and to invest in infrastructure, skills and innovation.

Y Prif Weinidog: Mae ein dull o ysgogi twf economaidd ledled Cymru yn cynnwys cynlluniau ar gyfer cryfhau’r amodau ar gyfer creu a chadw swyddi, ac ar gyfer buddsoddi mewn isadeiledd, sgiliau ac arloesedd.  

Y Cofnod

David Rees: Thank you for that answer, First Minister. You have already alluded to the £800 million investment by Tata Steel today, and I am pleased to say that the £185 million rebuild of No. 4 blast furnace at the works in Port Talbot is already under way. Despite today’s announcement regarding the possible delay in the relighting of that furnace, that should encourage other businesses by showing that the steel industry has a strong future in Wales and that growth can follow.

David Rees: Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Brif Weinidog. Rydych eisoes wedi cyfeirio at y buddsoddiad o £800 miliwn a wnaed heddiw gan Tata Steel, ac rwyf yn falch o ddweud bod y cynllun i ailadeiladu ffwrnais chwyth rhif 4 yn y gwaith ym Mhort Talbot, sydd werth £185 miliwn, eisoes yn mynd rhagddo. Er gwaethaf y cyhoeddiad heddiw ynghylch yr oedi posibl yn y broses o aildanio’r ffwrnais honno, dylai’r buddsoddiad hwnnw annog busnesau eraill drwy ddangos iddynt fod gan y diwydiant dur ddyfodol cryf yng Nghymru, a bod twf yn gallu dilyn hynny.

 

However, energy costs are high for our energy-intensive industries, and, here in the UK, we are seeing disproportionate costs incurred compared to our European competitors, again, as the announcement highlights, in a very competitive European market. What discussions have you and your officials had with UK Government Ministers about creating an even playing field across Europe for energy prices for these industries, which will provide the backbone for growth in areas such as Aberavon?

Fodd bynnag, mae costau ynni yn uchel ar gyfer ein diwydiannau sy’n defnyddio llawer o ynni. Yn ogystal, yma yn y DU, rydym unwaith eto’n gweld costau anghymesur o’u cyymharu â’n cystadleuwyr Ewropeaidd, fel y dengys y cyhoeddiad, o fewn marchnad Ewropeaidd sy’n gystadleuol iawn. Pa drafodaethau yr ydych chi a’ch swyddogion wedi’u cael gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU am greu system deg ar draws Ewrop ar gyfer prisiau ynni ar gyfer y diwydiannau hyn, sef asgwrn cefn y broses o greu twf mewn ardaloedd fel Aberafan?

The First Minister: We have raised the issue of energy costs several times with UK Ministers. It is right to say that UK energy costs are a serious disadvantage when it comes to competition. It is not just Government saying that; businesses say it time after time. Indeed, this morning I had a meeting with a business that said the same thing again and which was concerned about UK energy prices. There is no doubt that there has to be a reduction in UK energy prices in order to ensure that we do not lose heavy manufacturing in the UK to countries where energy prices are lower.

Y Prif Weinidog: Rydym wedi codi’r mater o gostau ynni nifer o weithiau gyda Gweinidogion y DU. Mae’n wir i ddweud bod costau ynni yn y DU yn peri anfanteision difrifol o ran cystadlu. Nid y Llywodraeth yn unig sy’n dweud hynny; mae busnesau yn dweud hynny dro ar ôl tro. Yn wir, cefais gyfarfod y bore yma gyda busnes a ddywedodd yr un peth eto, ac a oedd yn pryderu am brisiau ynni yn y DU. Nid oes amheuaeth bod yn rhaid inni gael gostyngiad mewn prisiau ynni yn y DU er mwyn sicrhau nad ydym yn colli diwydiant gweithgynhyrchu trwm yn y DU i wledydd lle mae prisiau ynni yn is.

Suzy Davies: Aberavon remains one of the poorest constituencies in Europe, despite two rounds of structural funds. With West Wales and the Valleys due to receive a further round of EU funding, what kind of business activity do you expect either to create or attract to Aberavon, especially as it is some distance from the nearest enterprise zone?

Suzy Davies: Mae Aberafan yn parhau i fod yn un o etholaethau tlotaf Ewrop, er gwaethaf dau gylch o gronfeydd strwythurol. Gyda Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn disgwyl cael rownd arall o arian gan yr UE, pa fath o weithgarwch busnes yr ydych chi’n disgwyl ei greu yn Aberafan, neu’n disgwyl ei ddenu yno, yn enwedig o gofio ei fod ychydig o bellter o’r ardal fenter agosaf?

The First Minister: There are great opportunities for Aberavon and the surrounding area. For example, should the Atlantic Array go ahead, there will be opportunities for the port to be used in terms of, possibly, manufacturing, but certainly maintenance of the turbines out to sea. That, in turn, will, we hope, attract more businesses to the area that will wish to cluster around the businesses that will be created there. So, there are opportunities out to sea that would help to develop the port at Port Talbot and also to provide more jobs for the local community.

Y Prif Weinidog: Mae cyfleoedd gwych ar gael i Aberafan a’r ardal gyfagos. Er enghraifft, os bydd yr Atlantic Array yn mynd yn ei flaen, bydd cyfleoedd i ddefnyddio’r porthladd ar gyfer gweithgynhyrchu, o bosibl, ac yn sicr ar gyfer cynnal a chadw tyrbinau sydd ar y môr. Rydym yn gobeithio y bydd hynny, yn ei dro, yn denu mwy o fusnesau i’r ardal a fydd yn dymuno ymgasglu o amgylch y busnesau a fydd yn cael eu creu yno. Felly, mae cyfleoedd allan ar y môr a fyddai’n helpu’r broses o ddatblygu’r porthladd ym Mhort Talbot, a chreu mwy o swyddi ar gyfer y gymuned leol.

Bethan Jenkins: This morning, as has been mentioned, we learned that Tata Steel has announced that it may not relight No. 4 blast furnace at Port Talbot after it has undergone its £185 million rebuild, if the current levels of demand in world markets persist. Have you discussed this matter with Tata Steel and has the Welsh Government formulated any projections of what consequences such a move from Tata might have for the local economy?

Bethan Jenkins: Y bore yma, fel y crybwyllwyd eisoes, clywsom fod Tata Steel wedi cyhoeddi ei bod yn bosibl na fydd yn aildanio ffwrnais chwyth rhif 4 yn y gwaith ym Mhort Talbot ar ôl iddo gael ei ailadeiladu am gost o £185 miliwn, os bydd y lefelau presennol o alw ym marchnadoedd y byd yn parhau. A ydych chi wedi trafod y mater hwn gyda Tata Steel, ac a yw Llywodraeth Cymru wedi llunio unrhyw ragamcaniadau o’r canlyniadau y gallai penderfyniad o’r fath gan Tata ei gael ar yr economi leol?

The First Minister: The investment that Tata is putting into Port Talbot, in terms of rebuilding No. 4 blast furnace, indicates that it wants to use No. 4 blast furnace, otherwise it would not invest in it in the first place. From its point of view, it will need to test the market for steel when the work is completed in order to see when that blast furnace should come back on line. That is standard practice within the steel industry. I certainly welcome the substantial investment that is being put into rebuilding the furnace.   

Y Prif Weinidog: Mae buddsoddiad Tata ym Mhort Talbot, o ran ailadeiladu ffwrnais chwyth rhif 4, yn dynodi bod y cwmni am ddefnyddio ffwrnais chwyth rhif 4. Fel arall, ni fyddai’n buddsoddi yn y ffwrnais yn y lle cyntaf. O safbwynt y cwmni, bydd angen iddo brofi’r farchnad dur pan fydd y gwaith yn cael ei gwblhau er mwyn gweld pryd y dylid aildanio’r ffwrnais chwyth honno. Mae’r arfer honno yn gyffredin yn y diwydiant dur. Yn sicr, rwyf yn croesawu’r buddsoddiad sylweddol sy’n cael ei wneud i ailadeiladu’r ffwrnais.

Y Cofnod

Dyffryn Clwyd

The Vale of Clwyd

11. Ann Jones: A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Dyffryn Clwyd. OAQ(4)0595(FM)

11. Ann Jones: Will the First Minister provide an update on the Welsh Government’s priorities for the Vale of Clwyd. OAQ(4)0595(FM)

The First Minister: Yes, our priority for the Vale of Clwyd, as for other parts of Wales, is to implement the programme for government.

Y Prif Weinidog: Gwnaf. Ein blaenoriaeth ar gyfer Dyffryn Clwyd, ac ar gyfer rhannau eraill o Gymru, yw gweithredu’r rhaglen lywodraethu.

Ann Jones: Thank you very much for that, First Minister. The Taste Academy in my constituency is a social enterprise designed to give real-life work experience in the catering industry to the long-term unemployed. It has engaged with a significant number of learners, a third of whom have gone on to gain full employment. However, it now faces closure as its funding runs out. What more could the Welsh Government do to ensure that successful social enterprises such as this are fully supported and, when necessary, given help to find alternative funding?

Ann Jones: Diolch yn fawr iawn am yr ateb hwnnw, Brif Weinidog. Mae’r Taste Academy  yn fy etholaeth i yn fenter gymdeithasol a luniwyd er mwyn rhoi profiad gwaith go iawn yn y diwydiant arlwyo i bobl sy’n ddi-waith yn y tymor hir. Mae’r fenter wedi ymgysylltu â nifer sylweddol o ddysgwyr, ac mae traean ohonynt wedi mynd ymlaen i gael cyflogaeth lawn. Fodd bynnag, mae perygl bellach y bydd y fenter gorfod cau am fod ei chyllid yn dod i ben. Beth arall y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod mentrau cymdeithasol llwyddiannus fel y fenter hon yn cael eu cefnogi’n llawn ac, yn ôl yr angen, yn cael cymorth ar gyfer dod o hyd i gyllid amgen?

The First Minister: We provide a variety of support to social enterprises, which includes funding of specialist business support and a representative voice for the sector through the Welsh Social Enterprise Coalition. Our commitment to the sector was set out in the 2009 social enterprise action plan, and we are continuing to implement that plan.

Y Prif Weinidog: Rydym yn darparu cymorth amrywiol i fentrau cymdeithasol, gan gynnwys cyllid ar gyfer cymorth busnes arbenigol a llais sy’n cynrychioli’r sector drwy Gynghrair Mentrau Cymdeithasol Cymru. Mae ein hymrwymiad i’r sector wedi’i nodi yng nghynllun gweithredu mentrau cymdeithasol 2009, ac rydym yn parhau i weithredu’r cynllun hwnnw.

Antoinette Sandbach: One matter of concern for constituents in the Vale of Clwyd, which was raised at a recent community health council meeting, is the quality of communications that should accompany patients being discharged from Ysbyty Glan Clwyd. In some instances local GPs are left waiting more than three months to receive essential information on treatment and medication for long-term care needs. What steps is your Government taking to ensure that care is not compromised by entirely preventable oversight, and how can patients in the Vale and across north Wales trust your Government to oversee the health board when simple and straightforward matters such as this are overlooked?

Antoinette Sandbach: Un mater sy’n peri pryder i etholwyr yn Nyffryn Clwyd ac a godwyd mewn cyfarfod diweddar o’r cyngor iechyd cymuned, yw ansawdd y cyfathrebu a ddylai fod ynghlwm â rhyddhau cleifion o Ysbyty Glan Clwyd. Mewn rhai achosion, mae meddygon teulu lleol yn gorfod aros mwy na thri mis i gael gwybodaeth hanfodol am driniaeth a meddyginiaeth ar gyfer anghenion gofal tymor hir. Pa gamau y mae eich Llywodraeth chi yn eu cymryd i sicrhau nad yw gofal yn cael ei beryglu drwy amryfusedd y gellir ei osgoi yn gyfan gwbl? Yn ogystal, sut y gall cleifion yn Nyffryn Clwyd  ac ar draws gogledd Cymru ymddiried yn eich Llywodraeth i oruchwylio gwaith y byrddau iechyd pan fydd materion syml fel hyn yn cael eu hesgeuluso?

The First Minister: If the Member can produce any evidence to support what she is saying, I would be prepared to look at that evidence, but, given the absence of it at this stage, there is nothing further that I can add.

Y Prif Weinidog: Os gall yr Aelod gyflwyno unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r hyn y mae’n ei ddweud, byddwn yn barod i edrych ar y dystiolaeth honno. Serch hynny, yn absenoldeb y math hwnnw o dystiolaeth ar hyn o bryd, nid oes unrhyw beth arall y gallaf ei ychwanegu.

Y Cofnod

Kenneth Skates: First Minister, there are many historic sites in the Vale of Clwyd, and, on Friday, I hosted a conference in my constituency looking at the importance of local heritage to the culture and the visitor economy of north-east Wales. One of the issues to come out of the conference was the relative lack of participation by children and young adults in community and heritage schemes. A possible solution to this could be through creating community asset lists of local heritage sites and historic buildings. First Minister, will you look at how we can map our local heritage and ensure that we encourage the next generation to play its part in protecting and promoting Wales’s historic community assets in the forthcoming heritage Bill?

Kenneth Skates: Brif Weinidog, mae llawer o safleoedd hanesyddol yn Nyffryn Clwyd. Ddydd Gwener, cynhaliais gynhadledd yn fy etholaeth a oedd yn edrych ar bwysigrwydd treftadaeth leol i ddiwylliant ac i economi ymwelwyr gogledd-ddwyrain Cymru. Un o’r materion a ddaeth i’r amlwg yn y gynhadledd oedd y diffyg cymharol o gyfranogiad a welwyd gan blant ac oedolion ifanc yn y gymuned ac yng nghynlluniau treftadaeth. Un ateb posibl i’r sefyllfa hon byddai creu rhestrau o asedau cymunedol a fyddai’n cynnwys safleoedd treftadaeth lleol ac adeiladau hanesyddol. Brif Weinidog, a wnewch chi edrych ar sut y gallwn fapio ein treftadaeth leol  a sicrhau ein bod yn annog y genhedlaeth nesaf i chwarae ei ran wrth ddiogelu a hybu asedau hanesyddol cymunedau Cymru yn y Bil treftadaeth sydd ar y gweill?

The First Minister: The heritage Bill provides us with a once-in-a-generation opportunity to develop a suite of modern-day measures for the protection of the historic environment. I fully support the need to encourage greater participation by young people in local heritage, and the establishment of local or community heritage lists may provide one such mechanism for achieving this.

Y Prif Weinidog: Mae’r Bil treftadaeth yn rhoi cyfle unwaith mewn cenhedlaeth inni ddatblygu cyfres o fesurau modern ar gyfer gwarchod yr amgylchedd hanesyddol. Rwyf yn llwyr gefnogi’r angen i annog pobl ifanc i gymryd mwy o ran ym maes treftadaeth leol, a gallai creu rhestrau lleol neu gymunedol fod yn un dull o gyflawni’r nod hwn.

Llyr Huws Gruffydd: O ganlyniad i’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn torri £3 miliwn o’r arian sydd ar gael ar gyfer cymorthdaliadau i wasanaethau bysys, mae Cyngor Sir Dinbych yn ymgynghori ar hyn o bryd ar dorri hyd at £145,000 o’r gwasanaethau yn y sir honno, sydd yn cynnwys Dyffryn Clwyd, wrth gwrs. Felly, a ydych yn cytuno ei bod yn eironig bod eich rhaglen lywodraethu yn sôn am eich bwriad i wella gwasanaethau bysys a chryfhau trafnidiaeth gynaliadwy, tra bydd y toriadau arfaethedig hyn yn golygu bod mwy o geir ar y ffordd, mwy o allyriadau carbon a mwy o dlodi trafnidiaeth?

  

Llyr Huws Gruffydd: As a result of the fact that the Welsh Government is cutting £3 million from the money available for subsidies for bus services, Denbighshire County Council is consulting at the moment on cutting up to £145,000 from services in that county, which includes the Vale of Clwyd, of course. Therefore, do you agree that it is ironic that your programme for government mentions your intention to improve bus services and to strengthen sustainable transport, while the proposed cuts will mean that there are more cars on the road, greater carbon emissions, and more transport poverty?

Y Prif Weinidog: O ran hyn, mae’r Gweinidog wedi bod yn gweithio’n galed gyda’r rhai sy’n rhedeg y bysys ac awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod gwasanaethau yn parhau, o gofio’r ffaith fod llai o arian ar gael yn awr nag oedd ar gael flynyddoedd yn ôl.

The First Minister: With regard to this, the Minister has been working hard with the people running the buses and local authorities to ensure that services continue, bearing in mind the fact that there is less money available now than was the case years ago.

Y Cofnod

Cerdyn Adroddiad Diogelwch Plant

The Child Safety Report Card

12. William Graham: Pa ystyriaeth y mae’r Prif Weinidog wedi’i rhoi i safle Cymru ar Gerdyn Adroddiad Diogelwch Plant yr UE. OAQ(4)0594(FM)

12. William Graham: What consideration has the First Minister given to Wales’ position on the EU’s Child Safety Report Card. OAQ(4)0594(FM)

The First Minister: I welcome the Welsh child safety report card. It shows that while good practice in Wales has resulted in improvements, there is still more that can be done and we look forward to further improvements.

Y Prif Weinidog: Rwyf yn croesawu cerdyn adroddiad diogelwch plant Cymru. Mae’n dangos, er bod arfer da yng Nghymru wedi arwain at welliannau, bod mwy y gellir ei wneud, ac rydym yn edrych ymlaen at welliannau pellach.

William Graham: I thank the First Minister for his answer, but he will know that Wales was twenty third out of the 31 countries covered by the report, scoring 31 out of a possible 60. The report highlighted that, if Wales were as safe as the Netherlands, 21 out of 57 child deaths during 2009 might have been prevented. Will the First Minister highlight what his administration is doing to improve child safety?

William Graham: Hoffwn ddiolch i’r Prif Weinidog am ei ateb. Fodd bynnag, bydd yn gwybod mai Cymru oedd rhif 23 ar y rhestr o’r 31 o wledydd yn yr adroddiad, gyda sgôr o 31 allan o 60 o farciau posibl. Roedd yr adroddiad yn amlygu’r ffaith y byddai modd arbed bywyd 21 plentyn o’r 57 a farwodd yn ystod 2009 pe bai Cymru mor ddiogel â'r Iseldiroedd. A wnaiff y Prif Weinidog dynnu sylw at yr hyn y mae ei weinyddiaeth yn ei wneud i wella diogelwch plant?

The First Minister: The child safety project, for example, which is funded by the Welsh Government through the Health Challenge Wales voluntary sector grant scheme, promotes and co-ordinates child safety work across Wales. The aim of that project was to bring together practitioners on a local level with policy makers on a national level to improve the practice of promoting child safety across Wales. That project will continue to receive funding to 2012-13.

Y Prif Weinidog: Un enghraifft yw’r prosiect diogelwch plant, sef prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru drwy gynllun grantiau sector gwirfoddol Her Iechyd Cymru. Mae’r prosiect hwn yn hyrwyddo ac yn cydgysylltu gwaith diogelwch plant ledled Cymru. Nod y prosiect oedd dod ag ymarferwyr ar lefel leol ynghyd â llunwyr polisi ar lefel genedlaethol i wella arferion hyrwyddo diogelwch plant ledled Cymru. Bydd y prosiect yn parhau i gael cyllid hyd at 2012-13.

Lindsay Whittle: First Minister, once again, this report has highlighted the legislative weakness of this institution as being detrimental to an area that I think we can all agree should be a priority for any Welsh Government. The predictable response to some of the criticisms has been to blame the Government in England. First Minister, will you accept this report’s findings and that, as the European Child Safety Alliance said, there is a clear need for the Welsh Government to seek further powers so that such a response is not an option for the current or any future Welsh Government? Also, will you reconsider your refusal to set targets?

Lindsay Whittle: Brif Weinidog, unwaith eto, mae’r adroddiad hwn wedi tynnu sylw at y ffaith bod gwendid deddfwriaethol y sefydliad hwn yn niweidiol i un maes a ddylai fod yn flaenoriaeth—fel y credaf y bydd pob un ohonom yn cytuno—i unrhyw Lywodraeth Cymru. Yr ymateb rhagweladwy i rai o’r beirniadaethau hyn oedd beio’r Llywodraeth yn Lloegr. Brif Weinidog, a wnewch chi dderbyn canfyddiadau’r adroddiad hwn, ac a wnewch chi dderbyn, fel y dywedodd Cynghrair Diogelwch Plant Ewrop, fod angen clir i Lywodraeth Cymru geisio pwerau pellach er mwyn sicrhau nad yw ymateb o’r fath yn opsiwn i’r Llywodraeth bresennol nac i unrhyw Lywodraeth Cymru yn y dyfodol? Hefyd, a wnewch chi ailystyried eich penderfyniad i wrthod gosod targedau?

The First Minister: I have not blamed any Government elsewhere as part of my answer to this question, nor have I done so at all today, which I am sure will be a first for some Members to notice. We understand that there is a need to improve child safety in Wales, and I have already mentioned one such project that aims to do that.

Y Prif Weinidog: Nid wyf wedi beio unrhyw Lywodraeth mewn unrhyw fan arall fel rhan o’m hateb i’r cwestiwn hwn, ac nid wyf wedi gwneud hynny o gwbl heddiw. Rwyf yn siŵr bod rhai Aelodau wedi sylwi hynny am y tro cyntaf. Rydym yn deall bod angen gwella diogelwch plant yng Nghymru, ac rwyf eisoes wedi sôn am un prosiect o’r fath sy’n ceisio gwneud hynny.

Diwydiant Ynni Dŵr

Hydro Energy Industry

13. Llyr Huws Gruffydd: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i hybu’r diwydiant ynni dwr. OAQ(4)0598(FM)

13. Llyr Huws Gruffydd: Will the First Minister make a statement on the Welsh Government’s plans to promote the hydro energy industry. OAQ(4)0598(FM)

Y Prif Weinidog: Mae Llywodraeth Cymru yn hybu gweithgareddau ynni dŵr yng Nghymru trwy’r rhaglen Ynni’r Fro.

The First Minister: The Welsh Government promotes hydro energy activity in Wales through the Ynni’r Fro programme.

Llyr Huws Gruffydd: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Brif Weinidog. A fyddech yn cytuno fod gofyniad Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ynglŷn â flow splitting, sy’n rhannu lefel y dŵr fel mai dim ond hanner dŵr yr afon sy’n gallu cael ei ddefnyddio ar gyfer ynni hydro, yn rhy eithafol, yn enwedig o gofio nad yw Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr na’r Alban yn gofyn am yr un peth, a bod hynny felly yn golygu fod buddsoddi yn y sector yng Nghymru yn llai atyniadol ac yn tanseilio twf y sector o ganlyniad?

Llyr Huws Gruffydd: Thank you for that response, First Minister. Would you agree that the requirement of the Environment Agency Wales with regard to flow splitting, which separates the flow of water so that only half of the river flow can be used for hydro energy, is too extreme, particularly bearing in mind that the Environment Agencies in England and Scotland do not make such a demand, and that that therefore makes investing in the sector in Wales less attractive and undermines the growth of the sector as a result?

2.15 p.m.

Y Prif Weinidog: Barn Asiantaeth yr Amgylchedd yw bod hwn yn ffordd mwy effeithiol o edrych ar y mater hwn. Mae’n bwysig dros ben bod pob cais sy’n ymwneud ag ynni dŵr yn cael ei ystyried yn unigol. Fodd bynnag, rydym eisiau sicrhau bod y corff sengl a ddaw i fodolaeth fis Ebrill nesaf yn edrych ar hwn mewn ffordd newydd i sicrhau bod gennym ffordd o hybu datblygiadau fel hyn yn y dyfodol gan gofio’r angen i sicrhau dyfodol yr amgylchedd.

The First Minister: The view of the Environment Agency is that this is a more effective way to approach the issue. It is very important that every application involving hydro energy be considered individually. However, we want to ensure that the single body, which will come into being next April, will consider this in a new way to ensure that we have a means of promoting such development in future, bearing in mind the need to safeguard the future of the environment.

Y Cofnod

Gemau Olympaidd 2012

The 2012 Olympic Games

14. Keith Davies: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl Cymru yng Ngemau Olympaidd 2012. OAQ(4)0583(FM)

14. Keith Davies: Will the First Minister make a statement on Wales’ role in the 2012 Olympic Games. OAQ(4)0583(FM)

Y Prif Weinidog: Llywodraeth Cymru sydd wedi arwain y gwaith o gydlynu a darparu’r cyfleoedd Olympaidd drwy Gymru gyfan. Mae cynllun gweithredu’r Llywodraeth, a gyhoeddwyd yn 2011, yn pwysleisio’r angen i wneud yn fawr o’r cyfleoedd sydd ar gael cyn, yn ystod, ac ar ôl y gemau.

The First Minister: It is the Welsh Government that has led the efforts to co-ordinate and deliver the Olympic Games’ opportunities across Wales. The Government’s action plan, published in 2011, focuses on maximising the opportunities before, during and after the games.

Keith Davies: Diolch am yr ateb, Brif Weinidog. Yn dilyn gweithred a chyffro y gemau, mae’n hanfodol eu bod yn gadael etifeddiaeth a theimlad o lwyddiant. Mae timau rhyngwladol wedi dewis Cymru yn fan hyfforddi, sydd nid yn unig yn creu cysylltiadau ond yn ysbrydoli plant Cymru. Beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod manteision y gemau yn cael eu gweld yng nghymunedau Cymru am flynyddoedd i ddod?

Keith Davies: Thank you for the response, First Minister. It is crucial that, following the occasion and excitement of the games, there be a legacy and an atmosphere of success. International teams have chosen Wales as a training location, which not only creates connections but inspires the children of Wales. What is the Government doing to ensure that the benefits of the games can be felt in the communities of Wales for years to come?

Y Prif Weinidog: Drwy sicrhau bod pobl yn chwarae rhan yn y Gemau Olympaidd a’u bod yn teimlo eu bod yn rhan o’r gemau ei hunain, er bod y rhan fwyaf o’r gweithgareddau yn Llundain. Gwn fod y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol wedi bod yn gweithio i sicrhau bod pobl yn cofio’r Gemau Olympaidd ar ôl iddynt fod ym Mhrydain Fawr, a bod etifeddiaeth, yn enwedig mewn rhai chwaraeon sydd heb lawer o chwaraewyr ar hyn o bryd. Felly, mae’n bwysig dros ben ein bod yn adeiladu ar yr etifeddiaeth honno yn y dyfodol.

The First Minister: By ensuring that people participate in the Olympic Games and that they feel that they are part of the games themselves, although most of the activities will take place in London. I know that the International Olympic Committee has been working to ensure that people remember the Olympic Games after being in Great Britain, and to ensure that there is a legacy, particularly in some sports that are currently minority sports. Therefore, it is exceptionally important that that legacy be built on for the future.

Y Cofnod

Mohammad Asghar: First Minister, the opening and closing ceremonies of the Olympic Games will provide a once-in-a-lifetime opportunity to promote Wales to a worldwide audience. What is the Welsh Government doing to ensure that Wales will be effectively represented in these ceremonies so that we do not miss yet another opportunity to get the maximum benefit for Wales from the Olympic Games?

Mohammad Asghar: Brif Weinidog, bydd y seremonïau ar gyfer agor a chau’r Gemau Olympaidd yn gyfle unwaith mewn oes i hyrwyddo Cymru i gynulleidfa fyd-eang. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau y bydd Cymru’n cael ei chynrychioli’n effeithiol yn y seremonïau hyn, fel nad ydym yn colli cyfle arall i gael y budd mwyaf posibl i Gymru o’r Gemau Olympaidd?

The First Minister: We are working closely with UK Trade and Investment to promote Wales. We also have the office in London, which has been mentioned, which will act as a hub for Wales during the Olympics and, indeed, beyond. With regard to the opening ceremony, we still hope to be in a position where there will be some kind of event before the first event at the Millennium Stadium. Discussions are ongoing with the Olympic committee to ensure that that happens.

Y Prif Weinidog: Rydym yn gweithio’n agos gyda Masnach a Buddsoddi y DU i hyrwyddo Cymru. Yn ogystal mae gennym swyddfa yn Llundain, a grybwyllwyd eisoes, a fydd yn gweithredu fel canolbwynt ar gyfer Cymru yn ystod y Gemau Olympaidd ac, yn wir, y tu hwnt i hynny. O ran y seremoni agoriadol, rydym yn dal i obeithio y bydd rhyw fath o ddigwyddiad yn cael ei gynnal cyn y cynhelir y digwyddiad cyntaf yn Stadiwm y Mileniwm. Mae trafodaethau gyda’r pwyllgor Olympaidd yn parhau er mwyn sicrhau bod hynny’n digwydd.

Bethan Jenkins: Y bore yma, cefais gyfarfod â swyddogion Chwaraeon Cymru, ac roedd yn ddiddorol clywed am eu cynlluniau i ehangu ar y syniad o gemau stryd, sef menter i gynyddu cyfranogiad pobl ifanc o ardaloedd llai breintiedig mewn chwaraeon. A oes gan Lywodraeth Cymru gynlluniau i gynyddu ymwybyddiaeth chwaraeon a chyfranogiad mewn chwaraeon adeg y Gemau Olympaidd, yn enwedig ymhlith y grŵp penodol hwnnw o bobl ifanc?

Bethan Jenkins: This morning, I had a meeting with Sport Wales officials, and it was very interesting to hear about their plans to expand on the idea of street games, which is an initiative to increase participation in sport among young people from more disadvantaged areas. Does the Welsh Government have any plans to increase awareness of sport and participation in sport during the Olympic Games, particularly among that specific group of young people?

Y Prif Weinidog: Mae’r cyngor chwaraeon yn rhan o’r Llywodraeth, a’r cyngor sydd â’r cyfrifoldeb o hybu chwaraeon yng Nghymru. Mae’n bwysig dros ben bod pobl ifanc yn cael mynediad i chwaraeon yn y ffordd sydd rhwyddaf iddynt. Er enghraifft, gwn am gynlluniau gyda rygbi’r gynghrair ers blynyddoedd i helpu plant i chwarae gemau’r stryd, felly mae cyfle yno i’r cyngor chwaraeon sicrhau bod hwnnw’n parhau.

The First Minister: The sports council is part of the Government, and it has responsibility for promoting sport in Wales. It is exceptionally important that young people have access to sports in the easiest way for them. For example, with rugby league, I know of plans that have been in place for years to help children to play street games, so there is an opportunity there for the sports council to ensure that that continues.

Simon Thomas: Brif Weinidog, a ydych yn cefnogi’r alwad i’r arian sydd dros ben o’r Gemau Olympaidd ddod yn ôl i sawl cronfa’r loteri yn hytrach nag i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol? A fyddech yn cefnogi’r alwad honno i sicrhau etifeddiaeth ar ffurf datblygu cynlluniau mwy lleol, megis y trac rhedeg yn Aberystwyth? Pa gamau ydych chi, fel Llywodraeth, yn eu cymryd i sicrhau ein bod ni, ar ôl y Gemau Olympaidd, yn elwa ar eu presenoldeb yn Llundain a sicrhau bod cynlluniau lleol i arian y loteri?

Simon Thomas: First Minister, do you support the call for any money left over from the Olympic Games to be returned to the several lottery funds rather than to the UK Government? Would you support that call to ensure a legacy by way of more localised plans, such as the running track in Aberystwyth? What steps are you, as a Government, taking to ensure that, after the Olympics, we benefit from the holding of the Olympics in London and that there are local plans for lottery funding?

Y Prif Weinidog: Yn gyntaf, dylem weld a oes arian ar gael. Rwy’n cytuno â’r Aelod ei fod yn bwysig dros ben bod cyfran deg o’r arian yn dod yn ôl i Gymru, efallai drwy’r loteri, neu efallai drwy ryw ffordd arall.

The First Minister: First, we should see whether any money is available. I agree with the Member that it is important for a fair share of that funding to come back to Wales, perhaps through the lottery or perhaps through other means.

Y Cofnod

Amseroedd Aros ar gyfer Trin Canser

Waiting Times for Cancer Treatment

15. Peter Black: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd aros ar gyfer trin canser. OAQ(4)0586(FM)

15. Peter Black: Will the First Minister make a statement on waiting times for the treatment of cancer. OAQ(4)0586(FM)

Y Cofnod

The First Minister: Improving cancer services is one of the Welsh Government’s top priorities for the NHS in Wales. Clear targets are in place for treatment for cancer, and the vast majority of patients are being treated within those target times.

Y Prif Weinidog: Mae gwella gwasanaethau canser yn un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y GIG yng Nghymru. Mae targedau clir wedi’u pennu ar gyfer triniaeth canser, ac mae’r mwyafrif llethol o gleifion yn cael eu trin o fewn y cyfnod targed.

Peter Black: Thank you for that answer, First Minister. My health board and yours, namely Abertawe Bro Morgannwg University Local Health Board, is consistently among the worst-performing health boards in meeting targets on starting cancer treatment within 62 days of diagnosis. In fact, ABMU health board has consistently been among the worst performers for over a year. What are you doing to try to correct this situation?

Peter Black: Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Brif Weinidog. Mae fy mwrdd iechyd i a’ch bwrdd iechyd chi, sef Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, yn gyson ymhlith y byrddau iechyd sy’n perfformio waethaf o ran cyrraedd targedau ar gyfer dechrau triniaeth canser o fewn 62 diwrnod i’r diagnosis. Yn wir, bu Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn gyson ymhlith y perfformwyr gwaethaf am dros flwyddyn. Beth ydych chi’n ei wneud i geisio unioni’r sefyllfa hon?

The First Minister: There will be differences in performance between different boards, that is correct, and where boards are falling below the target, I would expect them to improve. That is a clear message that I would send to them. As far as Wales is concerned, performance against the 31-day target continues to be above the 90% target that we have set, achieving 98.2% in April. It is important that we continue with the good work that is being done, while ensuring that, where we fall below those targets, we rapidly catch up with them.

Y Prif Weinidog: Mae’n wir dweud y bydd gwahaniaeth mewn perfformiad rhwng gwahanol fyrddau, ac mewn achosion lle mae byrddau yn disgyn yn is na’r targed, byddwn yn disgwyl iddynt wella. Dyna’r neges glir y byddwn yn ei hanfon atynt. O ran Cymru, mae’r perfformiad yn erbyn y targed 31 diwrnod yn parhau i fod yn uwch na’r targed o 90% a bennwyd gennym, a gyrhaeddodd 98.2% ym mis Ebrill. Mae’n bwysig ein bod yn parhau gyda’r gwaith da sy’n cael ei wneud, a hynny gan sicrhau ein bod—mewn achosion lle rydym yn syrthio o dan y targedau hynny—yn dal i fyny â’r targedau yn gyflym.

Andrew R.T. Davies: First Minister, I am a little surprised that you did not refer to the national cancer plan that was recently launched by your Government. I greatly welcome that, and we have debated it extensively in the Chamber. I suggest to you that one flaw in the cancer plan is the lack of an oncologist to monitor its outcomes and work with health boards across Wales to ensure that there is a uniform service. Will you please address that anomaly, as I see it, as do others in the Chamber, and appoint, as happens in other parts of the United Kingdom, an oncologist to work with the Government to drive up cancer services in unison with the national cancer plan that you have developed?

Andrew R.T. Davies: Brif Weinidog, rwyf yn synnu ychydig na chyfeiriasoch at y cynllun canser cenedlaethol a lansiwyd yn ddiweddar gan eich Llywodraeth. Rwyf yn croesawu’r cynllun hwnnw’n fawr, ac yr ydym wedi ei drafod yn helaeth yn y Siambr. Hoffwn awgrymu mai un o wendidau’r cynllun canser yw’r ffaith nad oes oncolegydd i fonitro ei ganlyniadau ac i weithio gyda byrddau iechyd ledled Cymru i sicrhau bod gwasanaeth unffurf yn cael ei ddarparu. A wnewch chi fynd i’r afael â’r sefyllfa hon, sy’n sefyllfa anghyson yn fy marn i ac ym marn eraill yn y Siambr, a phenodi oncolegydd, fel sy’n digwydd mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, i weithio gyda’r Llywodraeth i wella gwasanaethau canser, yn unol â’r cynllun canser cenedlaethol yr ydych wedi’i ddatblygu?

The First Minister: There will of course be proper monitoring of the national cancer plan. This is ultimately a matter for the Minister. If the Minister feels that there is a need to make such an appointment, I am sure that she will consider it.

Y Prif Weinidog: Wrth gwrs, bydd y cynllun cenedlaethol ar gyfer canser yn cael ei fonitro’n briodol. Yn y pen draw, mater i’r Gweinidog yw hwn. Os yw’r Gweinidog yn teimlo bod angen gwneud penodiad o’r fath, rwyf yn siŵr y bydd hi’n ystyried hynny.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Business Statement and Announcement

Y Cofnod

The Minister for Finance and Leader of the House (Jane Hutt): I have one change to report to this week’s planned business: the Business Committee has agreed to postpone tomorrow’s short debate. The business for the next three weeks is as shown on the business statement and announcement, which can be found among the agenda papers that are available to Members electronically.

Y Gweinidog dros Gyllid ac Arweinydd y Tŷ (Jane Hutt): Mae gennyf un newid i’w adrodd i fusnes yr wythnos hon. Mae’r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i ohirio’r ddadl fer yfory. Nodir y busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd ar gael ymhlith y papurau agenda sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

Antoinette Sandbach: Minister, will you ask the Minister for Environment and Sustainable Development to make a statement on the outcome of the consultation on the natural environment framework? The Environment and Sustainability Committee is being asked to scrutinise an Order that sets up the body, without having the full details of the aims and outcomes of the consultation from the Minister or the precise criteria that the Minister is seeking to have that body deliver. Therefore, it makes scrutiny of that Order very difficult, if not impossible.

Antoinette Sandbach: Weinidog, a wnewch chi ofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i wneud datganiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad ar y fframwaith amgylchedd naturiol? Gofynnwyd i’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd graffu ar Orchymyn a fydd yn sefydlu’r corff hwn, a hynny heb gael y manylion llawn am nodau a chanlyniadau’r ymgynghoriad gan y Gweinidog, na’r meini prawf penodol y mae’r Gweinidog am i’r corff hwnnw eu cyflawni. Felly, mae’r sefyllfa hon yn gwneud y dasg o graffu ar y Gorchymyn hwnnw’n anodd iawn, os nad yn amhosibl.

Jane Hutt: I hope that I am correct in presuming that the Member is raising a question about 'A Living Wales’, the natural environment framework for Wales. I reassure the Member that the consultation paper and the Green Paper outlined changes to the governance and delivery of the management and regulation of the environment in Wales. The consultation period closed on 31 May. The responses are now being considered with a view to publishing proposals in an environment Bill White Paper in 2013.

Jane Hutt: Gobeithiaf fy mod yn gywir i ragdybio bod yr Aelod yn gofyn cwestiwn am 'Cymru Fyw’, sef y fframwaith amgylchedd naturiol i Gymru. Gallaf sicrhau’r Aelod fod y papur ymgynghori a’r Papur Gwyrdd yn amlinellu newidiadau i’r dull o lywodraethu a darparu’r drefn ar gyfer rheoli a rheoleiddio’r amgylchedd yng Nghymru. Daeth y cyfnod ymgynghori i ben ar 31 Mai. Mae’r ymatebion yn cael eu hystyried ar hyn o bryd, gyda golwg ar gyhoeddi cynigion mewn Papur Gwyn ar gyfer Bil ar yr amgylchedd yn 2013.

Rhodri Glyn Thomas: Weinidog, mewn datganiad gan y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, dywedodd ei fod yn croesawu arfau niwclear Trident i dde-orllewin Cymru. Erbyn hyn, mae’n dweud wrthym nad yw’n fwriad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig symud y diwydiant hwnnw o’r Alban. O ystyried eich cefndir chi—a chyfeiriwyd at hynny y prynhawn yma, ac rwy’n ymwybodol iawn o’ch ymrwymiad i wrthwynebu arfau niwclear—onid ydych yn credu bod angen datganiad o leiaf yn y lle hwn os nad dadl lawn am bolisi Llywodraeth Cymru bellach? Rwy’n cymryd bod y Prif Weinidog yn mynegi dyhead Llywodraeth Cymru, beth bynnag fo penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Beth yw polisi Llywodraeth Cymru o ran arfau niwclear? A yw Llywodraeth Cymru yn croesawu arfau niwclear i dde-orllewin Cymru neu unrhyw ran arall o Gymru? A wnewch chi sicrhau ein bod yn cael datganiad o leiaf os nad dadl lawn am hyn cyn diwedd y tymor hwn?

Rhodri Glyn Thomas: Minister, in a statement made by the First Minister last week, he said that he would welcome Trident nuclear weapons to south-west Wales. Now, he tells us that the UK Government has no intention of moving that industry from Scotland. Given your background—and that was referred to this afternoon, and I am acutely aware of your commitment to opposing nuclear weapons—do you not think that we need a statement in this place at least, if not a full debate, about the Welsh Government’s policy now? I assume that the First Minister is expressing the wishes of the Welsh Government, whatever the decision of the UK Government. What is the Welsh Government’s policy with regard to nuclear weapons? Would the Welsh Government welcome nuclear weapons to south-west Wales or any other part of Wales? Will you ensure that we at least have a statement, if not a full debate, on this before the end of this term?

Jane Hutt: I believe that this issue has been aired sufficiently this afternoon. I do not think that there is anything that can usefully be added to what the First Minister said in response to his questions.

Jane Hutt: Credaf fod y mater hwn wedi cael ei wyntyllu’n ddigonol y prynhawn yma. Ni chredaf ei fod yn bosibl ychwanegu unrhyw beth defnyddiol at yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog wrth ateb ei gwestiynau ef.

Kirsty Williams: Minister, I wonder whether you are in a position this afternoon to give feedback on the requests that were made by me and other Members during the business statement last week for a statement on the Government’s cancer plan. You will have heard the arguments last week that this is a long-awaited and significant policy announcement made by the Welsh Government, and it continues to be the subject of questions from Assembly Members across the piece. I wonder whether you have had time to reflect on those requests and whether you will be able to acquiesce. If that is not the case, why not?

Kirsty Williams: Weinidog, tybed a ydych mewn sefyllfa y prynhawn yma i roi adborth inni ar y ceisiadau a wnaed gennyf innau a chan Aelodau eraill yn ystod y datganiad busnes yr wythnos diwethaf am ddatganiad ar gynllun canser y Llywodraeth. Byddwch wedi clywed y dadleuon yr wythnos diwethaf am y ffaith bod y cyhoeddiad polisi hwn yn un hir-ddisgwyliedig a phwysig gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n parhau i fod yn destun cwestiynau gan Aelodau’r Cynulliad ar draws y Siambr. Tybed a ydych wedi cael amser i fyfyrio ar y ceisiadau hynny, ac ynghylch a fyddwch yn gallu ymateb yn gadarnhaol iddynt. Os na fyddwch yn gallu gwneud hynny, paham?

Jane Hutt: Usefully, the cancer delivery plan was also raised in questions to the First Minister this afternoon, and I know that Members will welcome that plan, as did the leader of the opposition, Andrew R.T. Davies. 'Together for Health—Cancer Delivery Plan’ focuses on the importance of early diagnosis, surgery and other proven effective treatments. There will be many opportunities not only to promote and publicise that and to scrutinise the Minister for health, but to monitor it. That was the important contribution during questions to the First Minister this afternoon.

Jane Hutt: Yn ddefnyddiol, cyfeiriwyd at y cynllun cyflawni ar gyfer canser yn ystod cwestiynau i’r Prif Weinidog y prynhawn yma, a gwn y bydd yr Aelodau’n croesawu’r cynllun hwnnw, fel y gwnaeth arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies. Mae’r ddogfen 'Law yn Llaw at Iechyd—Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser’ yn canolbwyntio ar bwysigrwydd diagnosis cynnar, llawdriniaeth a thriniaethau eraill y profwyd eu heffeithioldeb. Bydd nifer o gyfleoedd, nid yn unig i hyrwyddo a rhoi cyhoeddusrwydd i’r cynllun hwnnw ac i graffu ar waith y Gweinidog iechyd, ond hefyd i fonitro’r cynllun. Dyna oedd y cyfraniad pwysig a wnaed yn ystod cwestiynau i’r Prif Weinidog y prynhawn yma.

Julie Morgan: June is Gypsy Roma Traveller History Month, and I know that the Minister spoke at the excellent symposium organised at Cardiff City Hall by Isaac Blake last Friday, but could she find time to make a statement about the importance of the month in recognising the culture and heritage of these different communities, and also to assess what progress has been made in giving them equal rights in society in Wales?

Julie Morgan: Mis Mehefin yw Mis Hanes Sipsiwn Roma a Theithwyr, a gwn fod y Gweinidog wedi siarad yn y symposiwm ardderchog a drefnwyd yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, gan Isaac Blake ddydd Gwener ddiwethaf. Fodd bynnag, a fyddai’n bosibl iddi ddod o hyd i amser i wneud datganiad am bwysigrwydd y mis o ran cydnabod diwylliant a threftadaeth y cymunedau gwahanol hyn, ac i asesu pa gynnydd a wnaed wrth roi hawliau cyfartal iddynt mewn cymdeithas yng Nghymru?

Jane Hutt: I thank the Member for Cardiff North for that question. I was delighted to join her at the symposium at City Hall last Friday, and I am happy to agree to give a statement as an update, not only on how the history month went—and Members will be aware of events in their constituencies, such as the week of community events celebrating Gypsy traditions in Ceredigion and Pembrokeshire—but also on progress in delivering 'Travelling to a Better Future’, which I launched last year. It is the first framework for action for Gypsies and Travellers in the UK. I also agreed to look specifically at the needs and interests of the Roma community in Wales.

Jane Hutt: Diolch i’r Aelod dros Ogledd Caerdydd am y cwestiwn hwnnw. Roeddwn wrth fy modd i gael ymuno â hi yn y symposiwm yn Neuadd y Ddinas ddydd Gwener diwethaf, ac rwyf yn fodlon cytuno i wneud datganiad er mwyn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf, nid yn unig am sut yr aeth y mis hanes—a bydd Aelodau’n ymwybodol o’r digwyddiadau a gynhelir yn eu hetholaethau, fel yr wythnos o ddigwyddiadau cymunedol i ddathlu traddodiadau Sipsiwn yng Ngheredigion a Sir Benfro—ond hefyd am y cynnydd a wnaed wrth weithredu 'Teithio at Ddyfodol Gwell’, sef cynllun a lansiwyd gennyf y llynedd. Dyma’r fframwaith gweithredu cyntaf ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yn y DU. Rwyf hefyd yn cytuno i edrych yn benodol ar anghenion a buddiannau’r gymuned Roma yng Nghymru.

Nick Ramsay: Leader of the House, I wonder whether we could have an update from the Welsh Government on the proposed innovation strategy. I think that I am right in saying that we were originally expecting it in the spring but are now looking at the autumn. It is clearly an important development for the Welsh Government and for Wales in general. Although, in some areas, universities in Wales have been punching above their weight, there are real issues across the board. A proper hold is required on innovation problems in research and development, in universities and in business. It would be helpful if we had an outline of when we will get that strategy.

Nick Ramsay: Arweinydd y Tŷ, tybed a allem gael y newyddion diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar y strategaeth arloesedd arfaethedig. Credaf fy mod yn iawn i ddweud ein bod, yn wreiddiol, wedi disgwyl cael y strategaeth hon yn y gwanwyn, ond, yn awr, rydym yn edrych ar yr hydref. Yn amlwg, mae hwn yn ddatblygiad pwysig i Lywodraeth Cymru ac i Gymru yn gyffredinol. Er y bu rhai prifysgolion yng Nghymru mewn rhai ardaloedd yn cyflawni’n well na’r disgwyl, mae materion o bwys yn bodoli drwyddi draw. Mae gwir angen mynd i’r afael â phroblemau arloesi ym maes ymchwil a datblygu, mewn prifysgolion ac mewn busnes. Byddai o gymorth pe bai gennym syniad pa bryd y byddwn yn cael y strategaeth honno.

Jane Hutt: I am certainly prepared to discuss with Ministers the need for an update on this important area of research and development and innovation.

Jane Hutt: Rwyf yn sicr yn barod i drafod gyda Gweinidogion yr angen am y wybodaeth ddiweddaraf am y maes pwysig hwn o ymchwil, datblygu ac arloesi.

Peter Black: Minister, you will be aware of the Wales Audit Office report that projected that local health boards would be facing a £200 million plus deficit at the end of this financial year—with the exception of ABMU, which, when it was asked, did not appear to know what it would face at the end of this year. Is it possible to have a statement on this before the end of term so that we can scrutinise the Minister for health on the issue, preferably before the health boards’ plans for the reconfiguration of services are published in the summer?

Peter Black: Weinidog, byddwch yn ymwybodol o’r adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru a ragwelodd y byddai byrddau iechyd lleol yn wynebu diffyg o £200 miliwn neu fwy ar ddiwedd y flwyddyn ariannol—ac eithrio Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Pan ofynnwyd i’r bwrdd hwnnw am y mater hwn, nid oedd yn ymddangos ei fod yn gwybod beth fyddai’n ei wynebu ar ddiwedd y flwyddyn hon. A fyddai’n bosibl inni gael datganiad ar y mater hwn cyn diwedd y tymor, er mwyn inni gael cyfle i graffu ar waith y Gweinidog iechyd, a hynny cyn y bydd cynlluniau’r byrddau iechyd ar gyfer ad-drefnu gwasanaethau yn cael eu cyhoeddi yn yr haf?

Jane Hutt: There is a due process for managing and handling WAO reports, and I know that the Minister will want to respond accordingly.

Jane Hutt: Mae gennym drefn briodol ar gyfer rheoli ac ymdrin ag adroddiadau gan Swyddfa Archwilio Cymru, a gwn y bydd y Gweinidog yn awyddus i ymateb yn unol â’r drefn hon.

2.30 p.m.

Simon Thomas: I ask for a statement in Government time or, even better, a debate on the proposals for marine conservation zones and their highly protected status. We now know what the First Minister thinks about the rights of Falklands’ fishermen. What about the rights of Welsh fishermen and fisherwomen from Pembrokeshire to Pwllheli to continue in their daily task and employment? It is not only the fishermen who are concerned about this consultation; many conservationists have also come out with their concerns and it seems increasingly likely that the Government has misjudged its consultation on this issue. The consultation closes at the end of this term and it would be good to have a debate or statement in Government time so that we can question the Minister and understand a little better why he has proposed the consultation in the way he has. In particular, why has he proposed 10 zones when he only wants to see three or four, and how are we actually going to make a decision about the right level of marine conservation and the right balance between protecting our fishermen and enabling the survivability of the marine environment?

Simon Thomas: Gofynnaf am ddatganiad yn amser y Llywodraeth neu—hyd yn oed yn well—ddadl ar y cynigion a wnaed ar gyfer parthau cadwraeth morol, a’u statws gwarchodedig iawn. Rydym bellach yn gwybod beth y mae’r Prif Weinidog yn ei feddwl am hawliau pysgotwyr Ynysoedd y Falkland. Beth am hawliau pysgotwyr Cymru o Sir Benfro i Bwllheli i barhau â’u tasg feunyddiol a’u cyflogaeth? Nid dim ond y pysgotwyr sy’n pryderu am yr ymgynghoriad hwn; mae nifer o gadwraethwyr hefyd wedi mynegi eu pryderon ac mae’n ymddangos yn fwyfwy tebygol bod y Llywodraeth wedi camfarnu ei ymgynghoriad ar y mater hwn. Daw’r ymgynghoriad i ben ar ddiwedd y tymor hwn a byddai’n dda cael dadl neu ddatganiad yn amser y Llywodraeth fel y gallwn ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a deall ychydig yn well pam ei fod wedi cynnig ymgynghori yn y ffordd hon. Yn benodol, pam mae ef wedi cynnig 10 parth er ei fod am weld tair neu bedair yn unig, a sut rydym mewn gwirionedd yn mynd i wneud penderfyniad ar y lefel gywir o gadwraeth forol a’r cydbwysedd iawn rhwng amddiffyn ein pysgotwyr a galluogi’r amgylchedd morol i oroesi?

Jane Hutt: I know the Minister will be aware of these issues and will also be aware of the importance of reassuring our fishing community and industry. He will also be very aware of the importance of the objectives of the marine conservation zones and the consultation will enable him to respond effectively to those concerns.

Jane Hutt: Rwy’n gwybod y bydd y Gweinidog yn ymwybodol o’r materion hyn a bydd hefyd yn ymwybodol o bwysigrwydd tawelu meddyliau ein cymuned a diwydiant pysgota. Bydd hefyd yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd amcanion y parthau cadwraeth morol a bydd yr ymgynghoriad yn ei alluogi i ymateb yn effeithiol i’r pryderon hynny.

Mark Isherwood: I call for a Welsh Government statement on support for people with epilepsy. I asked for a statement four weeks ago following an Epilepsy Aware event at the Senedd, which I hosted. You replied that the Welsh Government was working to ensure not only prevention awareness, but engagement with those affected. Further to that, there was an event in the Senedd last week, hosted by your colleague Keith Davies with Epilepsy Action Cymru, which called for action on epilepsy in education, epilepsy in employment and epilepsy in social aspects, particularly health aspects and the service development directive for epilepsy. We were told that although this outlined a vision where the boundaries between primary, community and secondary care services are broken down, and where partnerships are strengthened between health, social care and the voluntary sector, this was not happening and that people with epilepsy are waiting months, not weeks, to see a consultant neurologist and to have tests. Given these two significant events, which were well supported by members of all parties, and the range of issues raised, I think the Assembly would welcome a Welsh Government statement on the provision of services for people with epilepsy and their families and those who care for them.

Mark Isherwood: Galwaf am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar gymorth i bobl sydd ag epilepsi. Gofynnais am ddatganiad bedair wythnos yn ôl wedi imi noddi digwyddiad yn y Senedd i godi ymwybyddiaeth am epilepsi. Eich ymateb chi oedd bod Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau nid yn unig ymwybyddiaeth o sut i atal epilepsi, ond ymgysylltiad a’r rhai yr effeithiwyd arnynt. Yn ogystal â hynny, cynhaliwyd digwyddiad Epilepsy Action Cymru yn y Senedd yr wythnos diwethaf, a noddwyd gan eich cydweithiwr, Keith Davies, a alwodd am weithredu ar epilepsi mewn addysg a chyflogaeth ac o ran agweddau cymdeithasol, yn enwedig agweddau iechyd a’r gyfarwyddeb datblygu gwasanaeth ar gyfer epilepsi. Dywedwyd wrthym, er bod hyn yn amlinellu gweledigaeth lle mae’r ffiniau rhwng gwasanaethau gofal sylfaenol, cymunedol ac eilaidd yn cael eu diddymu, a lle mae partneriaethau rhwng iechyd, gofal cymdeithasol a’r sector gwirfoddol yn cael eu cryfhau, nid oedd hyn yn digwydd ac mae pobl ag epilepsi yn aros misoedd, nid wythnosau, i weld niwrolegydd ymgynghorol ac i gael profion. O ystyried y ddau ddigwyddiad pwysig hyn, a gefnogwyd yn dda gan aelodau o bob plaid, a’r ystod o faterion a godwyd, credaf y byddai’r Cynulliad yn croesawu datganiad gan Lywodraeth Cymru ar ddarparu gwasanaethau ar gyfer pobl sydd ag epilepsi a’u teuluoedd a’r rhai sy’n gofalu amdanynt.

Daeth Peter Black i’r Gadair am 2.32 p.m.
Peter Black took the Chair at 2.32 p.m.

Y Cofnod

Jane Hutt: As Mark Isherwood is aware, the Welsh Government responds to the representations that are made at these very important events, hosted by Assembly Members across the Chamber, particularly relating to conditions where there is a need for cross-sectoral and cross-Governmental response. I know that the Ministers concerned will take this into account in relation to epilepsy services.

Jane Hutt: Fel y gŵyr Mark Isherwood, mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i’r sylwadau a wneir yn y digwyddiadau pwysig hyn, a noddir gan Aelodau Cynulliad o bob plaid, yn enwedig mewn perthynas ag amodau lle mae angen ymateb ar draws sectorau a’r Llywodraeth. Gwn y bydd y Gweinidogion dan sylw yn ystyried hyn mewn perthynas â gwasanaethau epilepsi.

Datganiad: Lansio’r Ymgynghoriad ar Ddiwygio’r Fframwaith Deddfwriaethol ar gyfer Anghenion Addysgol Arbennig
Statement: Launch of the Consultation on Reform of the Legislative Framework for Special Educational Needs

Y Cofnod

The Minister for Education and Skills (Leighton Andrews): I am pleased to announce that pre-legislative consultation begins today on how the Welsh Government intends to reform the law that currently applies to learners with special educational needs, including disabilities. The consultation document is entitled 'Forward in Partnership for Children and Young People with Additional Needs’. This was chosen to reflect the cross-cutting approach that the Minister for Health and Social Services and I agreed to support children, young people and their families who frequently rely on help from more than one agency. For those with the most severe and/or complex needs, this may include education, social services, health and the third sector. While the current system has undoubted strengths, it has been criticised as being too complex, bureaucratic and costly, and as insufficiently child-centred or user-friendly. We therefore wish to utilise the unique opportunity to build on the best of the existing arrangements to develop a truly person-centred system, with the child, young person and their parents or carers as partners in the process. These proposals also build on the principles set out in the social services Bill consultation, which recently concluded.

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau (Leighton Andrews): Rwy’n falch o gyhoeddi bod ymgynghoriad cyn y broses ddeddfu yn dechrau heddiw ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu diwygio’r gyfraith bresennol ar gyfer dysgwyr ag anghenion addysgol arbennig, gan gynnwys anableddau. Teitl y ddogfen ymgynghori yw 'Ymlaen mewn Partneriaeth dros Blant a Phobl Ifanc ag Anghenion Ychwanegol’. Dewiswyd hyn i adlewyrchu’r ymagwedd drawsbynciol y mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a minnau wedi ei gymeradwyo er mwyn cefnogi plant, pobl ifanc a’u teuluoedd sy’n aml yn dibynnu ar gymorth gan fwy nag un asiantaeth. Ar gyfer y rhai sydd â’r anghenion mwyaf difrifol a/neu gymhleth, gall hyn gynnwys addysg, gwasanaethau cymdeithasol, iechyd a’r trydydd sector. Er nad oes amheuaeth bod gan y system bresennol gryfderau, fe’i beirniadwyd am fod yn rhy gymhleth, biwrocrataidd a chostus, am beidio â chanolbwyntio’n ddigonol ar y plentyn ac am ei bod yn anodd i’w defnyddio. Felly, dymunwn ddefnyddio’r cyfle unigryw hwn i ddatblygu’r trefniadau presennol gorau er mwyn datblygu system sy’n wirioneddol ganolbwyntio ar y person, gyda’r plentyn, y person ifanc a’u rhieni neu ofalwyr fel partneriaid yn y broses. Mae’r cynigion hyn hefyd yn datblygu’r egwyddorion a nodir yn yr ymgynghoriad ar y Bil gwasanaethau cymdeithasol a ddaeth i ben yn ddiweddar.

We also want to strengthen existing partnerships between education, health and social services.  Where this works well now, children and young people are able to receive person-centred support close to home, instead of being placed outside their home authority. We also propose that, wherever possible, there should be an integrated approach to assessment for children and young people and one plan, known as the individual development plan, to replace or integrate the range of plans that a child might otherwise receive. While this may present challenges for organisations and agencies to work more effectively, I am sure you will agree that it is a prize well worth winning. Vulnerable learners and their families should not have to repeat their story to numerous agencies as happens now. We need to ensure better involvement of all interested parties, including schools, local authority education and social services departments, the health service, third sector agencies, parents or carers and, most importantly, the children or young people themselves.

Rydym hefyd am gryfhau’r partneriaethau sy’n bodoli eisoes rhwng addysg, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Lle mae hwn yn gweithio’n dda yn awr, gall plant a phobl ifanc gael cymorth sy’n canolbwyntio ar unigolion yn agos at eu cartrefi, yn hytrach na’u bod yn cael eu lleoli y tu allan i ardal eu hawdurdodau eu hunain. Rydym hefyd yn cynnig, lle bynnag y bo modd, y dylid cael dull integredig o asesu plant a phobl ifanc ac un cynllun, a elwir yn gynllun datblygu unigol, i gymryd lle neu integreiddio’r ystod o gynlluniau y gallai plentyn eu cael fel arall. Er y gall hyn gyflwyno heriau ar gyfer sefydliadau ac asiantaethau i weithio’n fwy effeithiol, rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno ei bod yn wobr sy’n werth ei hennill. Ni ddylai dysgwyr sy’n agored i niwed a’u teuluoedd orfod ailadrodd eu stori i nifer o asiantaethau gwahanol, fel sy’n digwydd nawr. Mae angen inni sicrhau bod pob cyfranogydd yn chwarae mwy o ran yn y broses, gan gynnwys ysgolion, awdurdodau addysg lleol ac adrannau gwasanaethau cymdeithasol, y gwasanaeth iechyd, asiantaethau’r trydydd sector, rhieni neu ofalwyr ac, yn bwysicaf oll, y plant a’r bobl ifanc eu hunain.

The responsibility for making connections between agencies has been on the shoulders of parents and carers for too long. What we are proposing, especially for those with the most severe and/or complex needs, is that multi-agency assessment planning should be in place as soon as needs are identified. A panel made up of the relevant agencies will consider how the individual’s needs are to be met and who has the responsibility for ensuring that it happens. This will place an ongoing requirement on agencies to work to an integrated assessment and individual development plan for the child or young person.

Mae’r cyfrifoldeb dros wneud cysylltiadau rhwng asiantaethau wedi cael ei ysgwyddo gan rieni a gofalwyr yn rhy hir. Yr hyn yr ydym yn ei gynnig, yn enwedig i’r rhai sydd â’r anghenion mwyaf difrifol a/neu gymhleth, yw y dylai’r broses o gynllunio ar gyfer asesiad aml-asiantaeth fod ar waith cyn gynted ag y nodir yr anghenion. Bydd panel o’r asiantaethau perthnasol yn ystyried sut y bydd anghenion yr unigolyn yn cael eu bodloni a phwy sy’n gyfrifol am sicrhau ei fod yn digwydd. Bydd hyn yn gosod gofyniad parhaus ar asiantaethau i weithio yn unol ag asesiad integredig a chynllun datblygu unigol ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc.

Previous policies have set the direction of travel, but we are now at a milestone in taking forward the reform of the legislative framework for additional needs. Many of the proposals contained within the consultation document have been developed in pilot projects. This process is still ongoing in eight local authorities, which are working with families that have agreed to be part of the trials. I express my thanks to those families in particular for their input in taking this agenda forward and to SNAP Cymru for its support to the families involved.

Mae polisïau blaenorol wedi nodi i ba gyfeiriad yr ydym yn teithio, ond rydym yn awr wedi cyrraedd carreg filltir o ran bwrw ymlaen â diwygio’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer anghenion ychwanegol. Mae nifer o’r cynigion a gynhwysir yn y ddogfen ymgynghori wedi cael eu datblygu mewn prosiectau peilot. Mae’r broses hon yn mynd rhagddi o hyd mewn wyth awdurdod lleol, sy’n gweithio gyda theuluoedd sydd wedi cytuno i fod yn rhan o’r treialon. Hoffwn fynegi fy niolch i’r teuluoedd hynny yn arbennig am eu mewnbwn wrth fwrw ymlaen â’r agenda hon ac i SNAP Cymru am ei gefnogaeth i’r teuluoedd a gymerodd ran.

The changes envisaged in the consultation document will require further work to make them a reality and to develop an implementation plan. For some agencies, the changes will be small, as they are already working in a highly effective multi-agency way. For others, it will require a change management process. However, there is not anything in the document that we think cannot be achieved. We propose that implementation be introduced on a phased basis. Once complete, we hope to achieve the more effective use of existing resources across the whole system.

Bydd angen gwneud rhagor o waith i wneud y newidiadau a ragwelir yn y ddogfen ymgynghori ac i ddatblygu cynllun gweithredu. I rai asiantaethau, bydd y newidiadau yn fach, gan eu bod eisoes yn gweithio gyda nifer o asiantaethau mewn ffordd hynod effeithiol. I eraill, bydd angen proses reoli newydd. Fodd bynnag, nid oes unrhyw beth yn y ddogfen y credwn na ellir ei gyflawni. Rydym yn cynnig y dylid gweithredu hyn fesul cam. Ar ôl ei gwblhau, rydym yn gobeithio gwneud defnydd mwy effeithiol o’r adnoddau presennol ar draws y system gyfan.

I believe that the reforms will lead to increased trust and confidence on the part of children, parents and carers in the system, provide greater consistency between schools and local authorities, and foster more effective partnerships between agencies. The reforms should remove duplication for agencies and the parents or carers and make the journey smoother for the child or young person.

Credaf y bydd y diwygiadau yn arwain at fwy o ymddiriedaeth a hyder gan blant, rhieni a gofalwyr yn y system, yn sicrhau mwy o gysondeb rhwng ysgolion ac awdurdodau lleol, ac yn arwain at feithrin partneriaethau mwy effeithiol rhwng asiantaethau. Dylai’r diwygiadau ddileu unrhyw ddyblygu ar gyfer asiantaethau a rhieni neu ofalwyr a gwneud y daith yn fwy llyfn ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc.

We know the importance that parents attach to the security of being able to take a case to the Special Educational Needs Tribunal for Wales. It is vital that they have confidence in the proposed statutory framework to replace statements. The proposals will therefore allow continued rights of appeal to the tribunal for those with a level of need that currently brings entitlement to a statement. In addition, to reflect the greater emphasis on multi-agency working, we intend to explore the possibility of broadening the remit of the present SEN Tribunal for Wales to include health and social care, subject to appropriate safeguards for issues of clinical judgment of need. We are also developing a twenty-first century solution for the creation of an individual development plan. Work is ongoing to ensure a web-based option is deliverable, acceptable, cost-effective and secure.  

Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw i rieni eu bod yn gallu mynd ag achos i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Mae’n hanfodol bod ganddynt hyder yn y fframwaith statudol arfaethedig a fydd yn cymryd lle datganiadau. Bydd y cynigion felly yn rhoi hawl parhaus i’r rhai sydd ag anghenion sy’n caniatáu iddynt hawlio datganiad ar hyn o bryd i apelio i’r tribiwnlys. Yn ogystal, er mwyn adlewyrchu’r cynnydd yn y pwyslais ar gydweithio rhwng nifer o asiantaethau, rydym yn bwriadu edrych ar y posibilrwydd o ehangu cylch gwaith Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru i gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, yn amodol ar fesurau diogelu priodol ar gyfer materion yn ymwneud â barn glinigol ar anghenion. Rydym hefyd yn datblygu ateb ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain ar gyfer creu cynllun datblygu unigol. Mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau y gellir cynnig opsiwn ar y we sy’n dderbyniol, yn gost-effeithiol ac yn ddiogel.

Everyone involved in the development of this web-based approach has recognised the potential this would bring, giving parents or carers a real-time view of the situation and of who has done what and why. Access to a web-based plan would remove barriers so that parents and carers do not have to make numerous phone calls, perhaps, to see whether an appointment with a specialist has been made or who is responsible for doing what.

Mae pawb sy’n rhan o ddatblygu’r dull hwn ar y we wedi cydnabod ei botensial, gan y byddai’n rhoi golwg cyfredol i rieni neu ofalwyr ar y sefyllfa ac yn dangos pwy sydd wedi gwneud beth a pham. Byddai mynediad at gynllun ar y we yn cael gwared ar rwystrau fel nad yw rhieni a gofalwyr yn gorfod gwneud sawl galwad ffôn, efallai, er mwyn gweld a oes apwyntiad wedi cael ei wneud gydag arbenigwr neu bwy sy’n gyfrifol am wneud beth.

Workforce implications across the sectors will be further considered during and after the consultation process, and engagement with the various sectors will be an ongoing strand of development work. The vision is that there will be benefits to the existing workforce, with reduced pressures to attend multiple planning meetings. This is reflected in the consultation document.

Ystyrir y goblygiadau i’r gweithlu ar draws y sectorau ymhellach yn ystod y broses ymgynghori ac wedi iddi ddod i ben, a bydd y broses o ymgysylltu â’r gwahanol sectorau yn elfen barhaus o’r gwaith datblygu. Y weledigaeth yw y bydd manteision i’r gweithlu presennol, gyda llai o bwysau i fynd i fwy nag un cyfarfod cynllunio. Adlewyrchir hyn yn y ddogfen ymgynghori.

I believe that these developments represent a made-in-Wales approach to developing our framework for supporting those with additional needs and are another example of our placing the citizen at the centre of our programme of government. The consultation exercise will run until October. I look forward to a constructive engagement.

Credaf fod y datblygiadau hyn yn dangos ymateb Cymreig i ddatblygu ein fframwaith ar gyfer cefnogi’r rhai sydd ag anghenion ychwanegol ac maent yn enghraifft arall sy’n dangos mai’r dinesydd yw canolbwynt ein rhaglen lywodraethu. Bydd yr ymgynghoriad yn parhau tan fis Hydref. Edrychaf ymlaen at ymgysylltiad adeiladol.

Angela Burns: Well, Minister, you and the Minister for Health and Social Services are in severe danger of getting two cheers from me today over this consultation. I am delighted to see it and wholeheartedly welcome it because it is an area that I know many Members will have dealt with time and again through casework. It is terribly distressing and limiting in terms of the positives that can be had from life, for so many children. It is confusing and bureaucratic and I must say that, since I took up this post, I have been surprised at how many agencies there are out there that are involved in this field, and how disconnected a great many of them are. I therefore welcome this consultation very much.

Angela Burns: Wel, Weinidog, rydych chi a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perygl difrifol o gael dwy fonllef gennyf fi heddiw oherwydd yr ymgynghoriad hwn. Rwy’n falch iawn o’i weld ac yn ei groesawu yn frwd gan ei fod yn faes y mae nifer o Aelodau wedi ymdrin ag ef dro ar ôl tro yn eu gwaith achos. Mae’n peri gofid ac yn gyfyngol o ran y pethau cadarnhaol y mae nifer o blant yn gallu eu profi mewn bywyd. Mae’n ddryslyd ac yn fiwrocrataidd ac mae’n rhaid imi ddweud, ers imi gymryd y swydd hon, rwyf wedi synnu faint o asiantaethau sy’n gweithio yn y maes hwn, a pha mor ddigyswllt yw nifer fawr ohonynt. Felly, rwy’n croesawu’r ymgynghoriad hwn yn fawr iawn.

I have had a first pass over the document itself; I will be looking at it in greater detail and submitting a response, but I have a couple of comments that I would like to make now. First, could you confirm that, until the proposed reforms are in place, the current system stands? I have seen a number of cases not just in my own constituency, but from other authorities, and I have seen commentary from organisations about other authorities saying that, because everybody knows that this whole area is being looked at, the statementing process is being sidelined, and statements are not being issued in a timely fashion for children. I am concerned that they will fall through the gap.

Rwyf wedi darllen y ddogfen yn fras; byddaf yn edrych arni’n fanylach ac yn cyflwyno ymateb, ond mae gennyf un neu ddau o sylwadau yr hoffwn eu gwneud yn awr. Yn gyntaf, a allwch gadarnhau y bydd y system bresennol yn parhau nes y bydd y diwygiadau arfaethedig yn eu lle? Rwyf wedi gweld nifer o achosion, nid yn unig yn fy etholaeth i, ond mewn awdurdodau eraill, ac rwyf wedi gweld sylwadau gan gyrff am awdurdodau eraill yn dweud, oherwydd bod pawb yn gwybod bod y maes cyfan yn cael ei ystyried, fod y broses ddatganiadau yn cael ei gwthio i’r neilltu, ac nid yw datganiadau yn cael eu cyhoeddi yn brydlon ar gyfer plant. Rwy’n poeni y byddant yn syrthio drwy’r bwlch.

I am also pleased to see that additional needs are now included. I note that you are trying to be very clear about what an additional need is and how you define the different levels of such need. However, I would like to seek clarity on what additionality is and whether we can assume, when we look at these needs here, that we are not just talking about a child with a specific educational need, but a child who has a need that impacts upon their ability to access education. I will stop there, because I want you to answer that.

Rwyf hefyd yn falch o weld bod anghenion ychwanegol yn cael eu cynnwys yn awr. Sylwaf eich bod yn ceisio bod yn glir iawn ynghylch beth yw angen ychwanegol a sut rydych yn diffinio’r gwahanol lefelau o angen o’r fath. Fodd bynnag, hoffwn ofyn am eglurhad o ychwanegedd ac os gallwn gymryd yn ganiataol, wrth edrych ar yr anghenion hyn, nad ydym yn sôn am blentyn sydd ag anghenion addysgol penodol, ond plentyn sydd ag angen sy’n effeithio ar ei allu i gael mynediad at addysg. Dof i ben ar y pwynt hwnnw oherwydd fy mod am ichi ateb hynny.

However, would you also be able to give us some clarification as to how you will assess the cut-off points? I know that you have published a list of what you think would be an additional need, but I am looking for a culture of positive discretion; rather than saying, 'This is a borderline child, so we will shove them down a level so that we can put less effort and less funding into them’, we should have a culture of discretion that pushes a child up. This is something that we need to push out to local authorities. So, basically, what is an additional need? How will we define all of those different levels? How will we pick up a child who does not display any additional needs at present, but may develop them later in life? The Children and Young People Committee is doing an inquiry into adoption at present, and one of the things that has come out is that some children who are adopted, and some who are looked after, will develop needs when they are 7 or 8, or as they hit puberty. There is an issue as to how we pick them up.

Fodd bynnag, a allwch hefyd roi rhywfaint o eglurhad ynghylch sut y byddwch yn asesu’r terfynau? Gwn eich bod wedi cyhoeddi rhestr o’r hyn y credwch a fydd yn cyfrif fel angen ychwanegol, ond rwy’n edrych am ddiwylliant o ddisgresiwn cadarnhaol; yn hytrach na dweud, 'Mae’r plentyn hwn ar y ffin, felly fe’i gwthiwn i lawr lefel fel y gallwn wneud llai o ymdrech a rhoi llai o arian ar ei gyfer’, dylai fod gennym ddiwylliant o ddisgresiwn sy’n gwthio plentyn i fyny. Mae hyn yn rhywbeth y mae angen ei wthio allan i awdurdodau lleol. Felly, yn y bôn, beth yw angen ychwanegol? Sut y byddwn yn diffinio’r holl lefelau gwahanol? Sut y gallwn adnabod plentyn nad oes ganddo unrhyw anghenion ychwanegol amlwg ar hyn o bryd, ond efallai y bydd yn eu datblygu yn nes ymlaen mewn bywyd? Mae’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn cynnal ymchwiliad i fabwysiadu ar hyn o bryd, ac un o’r pethau sydd wedi codi yw bod rhai plant sy’n cael eu mabwysiadu, a rhai sy’n derbyn gofal, yn datblygu anghenion pan fyddant yn 7 neu 8 oed, neu wrth iddynt aeddfedu. Mae problem o ran sut yr ydym yn eu hadnabod.

I am very pleased about the extended age range, but again, I have a real worry about the application of that and how you will monitor and control the outcomes for those children, because you are basically putting it, as I see it, into local authority hands. As with anything where we end up relying on local authorities to deliver, I would like to see how we will control that effectively and ensure that they employ a culture of positive discretion. I am delighted to see that we may have an end to local authorities going around employing very skilled barristers to bash parents into the ground. I would like to see more details on that.

Rwy’n falch iawn ynghylch yr ystod oedran estynedig ond, eto, rwy’n pryderu’n fawr am y ffordd y gweithredir hynny a sut y byddwch yn monitro a rheoli’r canlyniadau ar gyfer y plant hynny, oherwydd, yn y bôn, hyd y gwelaf fi, rydych yn ei adael yn nwylo awdurdodau lleol. Fel yn achos unrhyw beth lle rydym yn dibynnu ar awdurdodau lleol i ddarparu, hoffwn weld sut y byddwn yn rheoli hynny’n effeithiol a sicrhau eu bod yn defnyddio disgresiwn cadarnhaol. Rwyf yn falch iawn o weld diwedd posibl ar y sefyllfa lle mae awdurdodau lleol yn cyflogi bargyfreithwyr medrus iawn i fwrw rhieni i mewn i’r ddaear. Hoffwn weld mwy o fanylion am hynny.

I also notice that, in paragraph 10.1, you talk about post-16 specialist placements and say that you might look at developing centralised provision so that children do not have to go out of county or out of country. I will take this opportunity to make the point that some such provision is available now, but what happens is that local authorities choose not to use it for a variety of reasons, even though they have been passed by all of the statutory bodies and are very often cheaper than the local authority putting those children into its own facilities. I would really like to have your view on that.

Rwyf hefyd yn sylwi, ym mharagraff 10.1, eich bod yn sôn am leoliadau arbenigol ôl-16 ac yn dweud y byddwch efallai yn edrych ar ddatblygu darpariaeth ganolog fel nad oes yn rhaid i blant fynd y tu allan i’r sir neu allan o’r wlad. Cymeraf y cyfle hwn i wneud y pwynt bod rhywfaint o ddarpariaeth o’r fath ar gael yn awr, ond bod awdurdodau lleol yn dewis peidio â’i ddefnyddio am amryw resymau, er eu bod wedi cael eu pasio gan yr holl gyrff statudol ac er ei bod yn aml yn rhatach iddynt eu defnyddio na phe bai’r awdurdod lleol yn rhoi rhai plant yn ei gyfleusterau ei hun. Byddwn yn wir yn hoffi clywed eich barn am hynny.

2.45 p.m.

You make the comment that you think that this will be cost neutral. I would, again, like to have an understanding from you as to how that can really be so. You want to extend the age range to 25, but there is an acceptance by a great many of us, and a great many committees, that children are already not getting the additional needs provision that they require. Therefore, there will be a cost associated with having an extra speech therapist, or whatever it may be. How can it possibly end up being cost neutral and how will you ensure that local authorities will put some of their budget towards this excellent piece of work? I have lots more questions, but I do not want the acting Deputy Presiding Officer to get cross with me, so I will come back to you on this.

Rydych yn dweud eich bod yn credu y bydd hyn yn niwtral o ran cost. Byddwn, unwaith eto, yn hoffi i chi esbonio sut y gallai hynny fod yn wir. Rydych am ehangu’r ystod oed i 25, ond mae llawer iawn ohonom yn derbyn, a llawer iawn o bwyllgorau hefyd, nad yw plant eisoes yn cael y ddarpariaeth anghenion ychwanegol sydd ei hangen arnynt. Felly, bydd cost yn gysylltiedig â chael therapydd lleferydd ychwanegol, neu beth bynnag y bo. Sut yn y byd gall hynny fod yn niwtral o ran cost a sut y byddwch yn sicrhau y bydd awdurdodau lleol yn rhoi rhan o’u cyllideb tuag at y gwaith ardderchog hwn? Mae gen i lawer mwy o gwestiynau, ond nid wyf am i’r Dirprwy Lywydd dros dro wylltio gyda mi, byddaf yn dod yn ôl atoch ar hyn.

I genuinely welcome this consultation, because, without a doubt, some of the most distressing pieces of casework that come to me are about people who have to fight so incredibly hard to ensure the best opportunities for the child whom they love. We all want that for our children. I definitely give two cheers to the Minister, but I will be back to ensure that you live up to the promise of this consultation document.

Rwyf wirioneddol yn croesawu’r ymgynghoriad hwn, oherwydd, heb os nac oni bai, mae’r gwaith achos sy’n peri’r gofid mwyaf i mi yn ymwneud â phobl sydd wedi gorfod ymladd yn anhygoel o galed i sicrhau’r cyfleoedd gorau ar gyfer y plentyn maent yn ei garu. Rydym oll yn dymuno hynny ar gyfer ein plant. Rwy’n bendant yn rhoi dwy fonllef i’r Gweinidog, ond byddaf yn dychwelyd i sicrhau eich bod yn cyflawni addewid y ddogfen ymgynghori hon.

Leighton Andrews: There is always a sting in the tail from the Member, is there not? I welcome her two cheers today. She is absolutely right; all of us as constituency Members have taken through a number of cases that have come up against bureaucratic obstruction, if I can put it that way, to the opportunities for young people and parents struggling to address those issues. I know that I have come up against that in my own constituency, as I am sure have most Members.

Leighton Andrews: Mae tro yng nghynffon yr Aelod bob amser, onid oes? Rwy’n croesawu ei dwy fonllef heddiw. Mae hi’n hollol gywir; mae pob Aelod etholaeth wedi ymdrin â nifer o achosion lle bu rhwystr biwrocrataidd, os gallaf ei roi felly, i’r cyfleoedd ar gyfer pobl ifanc a’r rhieni sy’n ei chael hi’n anodd mynd i’r afael â’r materion hynny. Rwyf wedi profi hynny yn fy etholaeth fy hun, fel y rhan fwyaf o Aelodau rwy’n siŵr.

What we are seeking to do in this consultation is to move to a more child-centred approach. I confirm to the opposition spokesperson that, of course, the current system still stands and that we must be clear about that until the legislation goes through. If there are examples of local authorities that are causing unnecessary delays in the process of statementing, they need to be brought to our attention. The Member will be aware of the work that has been done by the president of the Special Educational Needs Tribunal for Wales in this area. There are many lessons to learn from her annual reports and I commend the work that is being done on that.

Yn yr ymgynghoriad hwn, rydym yn ceisio symud at ddull sy’n canolbwyntio mwy ar y plentyn. Rwy’n cadarnhau i lefarydd yr wrthblaid fod y system bresennol, wrth gwrs, yn parhau a bod yn rhaid inni fod yn glir am hynny hyd nes bydd y ddeddfwriaeth yn mynd trwyddo. Os oes enghreifftiau o awdurdodau lleol yn achosi oedi diangen yn y broses o gael datganiad, mae angen iddynt gael eu dwyn i’n sylw. Bydd yr Aelod yn gwybod am waith llywydd Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru yn y maes hwn. Mae llawer o wersi i’w dysgu o’i hadroddiadau blynyddol ac rwy’n cymeradwyo’r gwaith sy’n cael ei wneud ar hynny.

In terms of additional needs, on page 15 of the consultation document, we have set out a long list that outlines the different groups that may have additional learning needs. During the process of this consultation, it will be open to people to come back to us with any other issues that they wish to raise. I can certainly say to the Member that it is not just educational need, but that, yes, we are considering other factors that bear on the education of the young person.

O ran anghenion ychwanegol, ar dudalen 15 o’r ddogfen ymgynghori, rydym wedi nodi rhestr hir sy’n amlinellu’r gwahanol grwpiau a allai fod ag anghenion dysgu ychwanegol. Yn ystod yr ymgynghoriad, bydd yn agored i bobl ddod yn ôl atom gydag unrhyw faterion eraill y maent yn dymuno eu codi. Gallaf ddweud yn sicr wrth yr Aelod na fydd yn ymwneud ag anghenion addysgol yn unig, ond y byddwn yn ystyried ffactorau eraill sy’n dylanwadu ar addysg y person ifanc.

I welcome what she said on the need for a culture of positive discretion. I think that I know what she means by that. That is the kind of climate that we want to engender.

Rwy’n croesawu’r hyn a ddywedodd am yr angen am ddiwylliant o ddisgresiwn cadarnhaol. Credaf fy mod yn gwybod beth mae’n ei olygu wrth hynny. Dyna’r math o hinsawdd yr ydym am ei feithrin.

In respect of the costings, we believe that, where best practice is applied and where effective collaboration is taking place, it is a more cost-effective process over the lifetime of the needs of the children. Therefore, if best practice is spread, we should be able to address this in the way that we have set out. However, again, this is a consultation, and there will be an opportunity over the next three months for people to bring forward their own assessments of what we have said in the document. We look forward to receiving those.

O ran y costau, credwn fod y broses, pan fydd arfer gorau yn cael ei gymhwyso a phan fydd cydweithio effeithiol yn digwydd, yn fwy cost-effeithiol dros yr holl adeg y mae gan y plant anghenion. Felly, os caiff arfer gorau ei ledaenu, dylem allu ymdrin â hyn yn y ffordd yr ydym wedi’i nodi. Fodd bynnag, unwaith eto, ymgynghoriad yw hwn, a bydd cyfle yn ystod y tri mis nesaf i bobl gyflwyno eu hasesiadau hwy o’r hyn yr ydym wedi’i ddweud yn y ddogfen. Rydym yn edrych ymlaen at eu cael.

I take very much the point that she makes about out-of-county and out-of-country provision. I do not think that we have got that right in Wales. There is significantly further to go, and that will require further collaboration between local authorities. We have seen examples in the past where provision has not been fully supported by local authorities in other parts of Wales.

Rwy’n derbyn ei phwynt am y ddarpariaeth y tu allan i’r sir a thu allan i’r wlad yn llwyr.  Nid ydym wedi llwyddo gyda hynny yng Nghymru. Mae llawer pellach i fynd, a bydd angen mwy o gydweithio rhwng awdurdodau lleol ar hynny. Rydym wedi gweld enghreifftiau yn y gorffennol lle na chafodd darpariaeth gefnogaeth lawn gan awdurdodau lleol mewn rhannau eraill o Gymru.

Therefore, there are lessons that we are aware of, but, as I say, this is a consultation and I look forward to receiving the responses.

Felly, rydym yn ymwybodol o’r gwersi, ond, fel y dywedais, ymgynghoriad yw hwn ac edrychaf ymlaen at gael yr ymatebion.

Simon Thomas: Hoffwn innau ychwanegu bonllef at ddwy fonllef Angela Burns a chroesawu’r datganiad heddiw a lansio’r ymgynghoriad hwn. Croesawaf a chefnogaf yr egwyddorion sy’n sail i’r ymgynghoriad. Yn arbennig, rwy’n croesawu’r hyn a ddywedodd y Gweinidog ynglŷn â helpu teuluoedd i beidio â gorfod dweud eu stori dro ar ôl tro wrth wahanol asiantaethau, oherwydd, yn fy mhrofiad o weithio gydag etholwyr, un o’r pethau sydd fwyaf o fwrn a thraul ar deuluoedd yw gorfod mynd o le i le yn dweud yr un stori, a chael gwahanol wrandawiad i’r stori honno o bryd i’w gilydd. Rwy’n croesawu hynny ac yn edrych ymlaen at wneud y broses yn llawer mwy agored er mwyn i deuluoedd reoli a goruchwylio eu hunain, yn enwedig o ran yr hyn roedd y Gweinidog yn ei ddweud am y system ar-lein. Gobeithiaf y bydd hwn hefyd yn ysgogiad i awdurdodau lleol i wneud eu gwaith yn llawer mwy effeithiol. Un o’r problemau rydym yn eu hwynebu fel Aelodau Cynulliad yw delio ag awdurdodau lleol nad ydynt yn dod i ben â gwneud y gwaith hwn mewn da bryd, gan adael teuluoedd yn aros am ddatganiad neu am gefnogaeth i’w plant.

Simon Thomas: I would like to add a cheer to Angela Burns’s two cheers and welcome today’s statement and the launching of this consultation. I welcome and support the principles that underpin the consultation. I particularly welcome what the Minister had to say on assisting families not to have to repeat their stories time and again for different agencies, because, in my experience of working with constituents, the greatest burden for families is having to go from place to place telling the same story time and again, with it being given a different hearing on occasion. I welcome that and look forward to seeing the process being made much more open for families to manage themselves and to oversee themselves, especially in terms of what the Minister had to say about the online system. I hope that this will also be an incentive for local authorities to work much more effectively. One of the problems that we all face as Assembly members is dealing with local authorities that do not carry out this work in good time, thereby leaving families waiting for a statement or for support for their children.

Hoffwn godi tri mater penodol sy’n deillio o’r hyn a ddywedodd y Gweinidog heddiw. Yn gyntaf, o ran y datganiad, rwy’n deall eich bod yn ymgynghori ar y newidiadau hyn, ond rwy’n gweld gwahaniaeth mawr ar hyn o bryd rhwng gwahanol siroedd o ran sut y maent yn gwneud datganiad. Mae oedi yn y system, fel y dywedodd Angela Burns. Mae rhai siroedd, fel sir Benfro, lle mae rhieni’n dweud wrthyf nad yw’r sir yn cefnogi gwneud datganiad i blentyn o gwbl os yw hynny’n bosibl. Hoffwn sicrhau bod cysondeb yn y system newydd, nad oes modd i wahanol siroedd amrywio sut y maent yn gweithredu a bod dim ffordd i blant sydd â’r un anghenion gael gwahanol darpariaeth a gwahanol gefnogaeth yn dibynnu ar lle maent yn byw. Mae hynny’n sicr yn digwydd ar hyn o bryd, a gobeithiaf fod cyfle yma i ddeddfu ac ymgynghori ar y mater hwn er mwyn gwneud pethau’n well ac yn fwy cyson ar lefel genedlaethol.

I would like to raise three specific issues emanating from what the Minister has said today. First, on statementing, I understand that you are consulting on these changes, but the way in which different counties deal with the statementing varies a great deal. There are delays in the system, as Angela Burns said. There are certain areas, like Pembrokeshire, where parents tell me that the county does not support statementing if at all possible. I would like to ensure that there is consistency in the new system, that counties cannot vary how they operate and that children with the same needs cannot receive differing services depending on where they live. That certainly happens at the moment, and I would hope that there was an opportunity here to legislate and to consult on this issue in order to improve the situation and to work more consistently at a national level.

Yn ail, hoffwn ofyn cwestiwn i’r Gweinidog am yr iaith Gymraeg. Nid oes sôn eto sut mae’r Gweinidog yn bwriadu delio â hawl plentyn a rhieni i gael cefnogaeth anghenion arbennig drwy’r iaith Gymraeg. Mae therapi lleferydd, er enghraifft, wedi bod yn broblem yng Nghymru ers degawdau, bellach, ac mae methiant wedi bod o ran darparu therapi lleferydd yn y Gymraeg. Edrychaf ymlaen at weld yr ymgynghoriad, a chyfrannu ato o ran sut y gallwn sicrhau hawl i bobl gael cefnogaeth yn yr iaith Gymraeg ar gyfer anghenion arbennig. Gobeithiwn fod modd gosod rhyw hawl cyfreithiol yn y cyd-destun hwn. Rwyf hefyd yn gobeithio bod yr hawl gyfreithiol honno’n ymestyn i bob iaith, i ddweud y gwir, a bod modd i’r Llywodraeth ystyried sut y gallwn sicrhau bod yr hawl hon yn cael ei hadlewyrchu. Dywedodd y Gweinidog ei fod yn seilio’r datganiad hwn ar yr egwyddorion ynghylch hawliau sydd gan y Llywodraeth mewn gwahanol agweddau ar ei gwaith cymdeithasol. Rwyf felly’n edrych ymlaen at sut y bydd hynny’n cael ei adlewyrchu yn y cynlluniau.  

Secondly, I would like to ask the Minister about the Welsh language. There has been no mention yet of how the Minister intends to deal with the rights of children or parents to receive special needs assistance through the medium of Welsh. Speech therapy, for example, has been a problem in Wales for decades, and there has been a failure to provide Welsh-medium speech therapy. I look forward to seeing the consultation and to feed into the consultation on how we can ensure the right for people to have their needs addressed through the medium of Welsh. I would hope that there would be a means of providing a legal right in that regard. I also hope that that legal right would extend across all languages and that it would be possible for the Government to consider how we can ensure that this right is reflected. The Minister did say that he was basing this on the Government’s rights agenda on different aspects of its social work. I look forward to seeing how this is reflected in the plans.

Yn olaf, hoffwn ofyn cwestiwn am awtistiaeth yn arbennig, oherwydd rwy’n meddwl bod problem arbennig mewn perthynas â’r mater hwn yng Nghymru. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o broblemau, eto yn sir Benfro, fel y mae’n digwydd, lle rwyf wedi cwrdd â rhieni sydd wedi aros am saith blynedd i gael diagnosis ar gyfer eu plentyn. Yn y cyd-destun hwnnw, yr hyn a oedd fwyaf poenus oedd nad oedd darpariaeth yn y cyfamser; wrth aros i lywodraeth leol benderfynu ar y gefnogaeth, dylai fod rhywbeth ar gael i gefnogi anghenion yn y cyfamser. Pan ddaeth yr achos hwnnw’n gyhoeddus yn ystod yr wythnos diwethaf, dywedodd y Dirprwy Weinidog bod angen cefnogaeth wrth aros am ddiagnosis yn achos awtistiaeth. Rwy’n meddwl ei bod yn eithriadol o bwysig fod y broses newydd hon yn fwy o broses, yn fwy o sbectrwm ac yn fwy effeithiol wrth adnabod y gwahanol raddfeydd. Rwy’n hynod o awyddus fod y system newydd hon yn sicrhau nad oes rhaid aros am ddiagnosis meddygol cyn rhoi cefnogaeth i blentyn sydd ag anghenion arbennig.

Finally, I would like to ask a question specifically about autism, because I think that there is a particular problem in Wales with regard to autism. The Minister will be aware of problems, again in Pembrokeshire, as it happens, where I have met parents who have waited seven years to have their child diagnosed. In that context, what was most concerning was that there was no provision in the meantime; while you are waiting for local government to make a decision on the support available, there should be something available in the interim. When that case came to the public’s attention over the last few weeks, the Deputy Minister said that support was needed while people were waiting for a diagnosis in the case of autism. I think that it is exceptionally important that this new process is more of a process, more of a spectrum and more effective in recognising the various degrees. I am very keen that the new system ensures that people do not have to wait for a medical diagnosis before support is provided for a child with special needs.

Gyda hynny, croesawaf yr ymgynghoriad a’r egwyddorion sydd yma, gan edrych ymlaen at graffu ar gynlluniau terfynol y Llywodraeth.

With those few words, I welcome the consultation and the principles involved, and look forward to scrutinising the Government’s final proposals.

Leighton Andrews: I thank the Member for his comments. He has also welcomed the proposals that we are putting forward. He is right to make the point that key to this is the importance of ensuring that parents, carers and young people do not have to repeat the same story to a number of different agencies. We hope that the online assessment tools will contribute to that in how these things are taken forward. He is also right to stress the importance of collaboration between local authorities.

Leighton Andrews: Diolch i’r Aelod am ei sylwadau. Mae hefyd wedi croesawu’r cynigion yr ydym yn eu cyflwyno. Mae’n iawn i nodi bod y pwysigrwydd o sicrhau nad yw rhieni, gofalwyr a phobl ifanc yn gorfod ailadrodd yr un stori i nifer o asiantaethau gwahanol yn allweddol. Gobeithiwn y bydd y dulliau asesu ar-lein yn cyfrannu at hynny wrth i bethau gael eu datblygu. Mae hefyd yn iawn i bwysleisio pwysigrwydd cydweithio rhwng awdurdodau lleol.

In respect of the three specific points that he made, we have set out in the consultation document the plans to move from the statementing process to individual development plans. That is key to what we are suggesting. We have given some context in the document about how we are developing these plans based on the experience of the pilot schemes, and based on the work of the Education, Lifelong Learning and Skills Committee, chaired by the acting Deputy Presiding Officer in a previous Assembly. There has been a significant amount of material on which we have been able to draw.

O ran y tri phwynt penodol a wnaeth, rydym wedi nodi’r cynlluniau ar gyfer symud o’r broses ddatganiadau i gynlluniau datblygu unigol yn y ddogfen ymgynghori. Mae hynny’n allweddol i’r hyn yr ydym yn ei awgrymu. Rydym wedi rhoi rhywfaint o gyd-destun yn y ddogfen am y ffordd yr ydym yn datblygu’r cynlluniau hynny’n seiliedig ar brofiad y cynlluniau peilot, ac yn seiliedig ar waith y Pwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, a gafodd ei gadeirio gan y Dirprwy Lywydd dros dro mewn Cynulliad blaenorol. Rydym wedi gallu defnyddio cryn dipyn o ddeunydd i’n cynorthwyo.

In respect of the Welsh language, he will be aware that there has recently been a consultation on Welsh-language services within the healthcare sector. We are conscious of the shortages in certain professions in respect of the Welsh language. I am certain that this is an area in which the Welsh Language Commissioner will want to take an interest in due course. We have the framework in place to address some of these issues, but there are going to be issues of supply in particular professions. Again, I would welcome input during the consultation on these issues from Members and from people outside the Assembly.

O ran yr iaith Gymraeg, bydd yn ymwybodol y bu ymgynghoriad diweddar ar wasanaethau Cymraeg yn y sector gofal iechyd. Rydym yn ymwybodol bod prinder mewn rhai proffesiynau o ran yr iaith Gymraeg. Rwy’n sicr y bydd Comisiynydd y Gymraeg am gymryd diddordeb yn hynny maes o law. Mae gennym fframwaith ar waith i fynd i’r afael â rhai o’r materion hyn, bydd problemau cyflenwi mewn rhai proffesiynau. Unwaith eto, byddwn yn croesawu mewnbwn ar y materion hyn gan yr Aelodau a chan y bobl y tu allan i’r Cynulliad yn ystod yr ymgynghoriad.

In respect of autism, we all saw the coverage of the family in Pembrokeshire at the end of last week. We have the autism action plan in place, on which my colleague the Deputy Minister for Children and Social Services leads. I am pleased that the consultation that we are announcing today has been conducted on a cross-departmental basis between my department and the department of the Minister for Health and Social Services. There is significant co-operation here; we have both put our names to this document, and any specific challenges in particular areas are ones that we would want to see addressed during this consultation process. There are very specific issues in respect of autism that we will no doubt return to. We have been through a series of discussions within the Assembly on issues in respect of autism, and I know that these matters are being taken forward by the Deputy Minister for Children and Social Services.

O ran awtistiaeth, gwelodd pawb y sylw a gafodd y teulu yn sir Benfro ddiwedd yr wythnos ddiwethaf. Mae gennym gynllun gweithredu ar gyfer awtistiaeth ar waith, sy’n cael ei arwain gan fy nghyd-Weinidog, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol. Rwy’n falch bod yr ymgynghoriad yr ydym yn ei gyhoeddi heddiw wedi cael ei drefnu ar y cyd rhwng fy adran i ac adran y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae cydweithio sylweddol yma; mae’r ddau ohonom wedi rhoi ein henwau ar y ddogfen hon, a hoffwn weld unrhyw heriau penodol mewn meysydd penodol yn cael sylw yn ystod y broses ymgynghori. Mae yna faterion penodol iawn yn ymwneud ag awtistiaeth y byddwn yn sicr o ddychwelyd atynt. Rydym wedi cael cyfres o drafodaethau yn y Cynulliad ar faterion yn ymwneud ag awtistiaeth, a gwn fod y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol yn bwrw ymlaen â’r materion hyn.

Aled Roberts: I am sure that everyone here today will welcome the fact that there is movement to address this particular issue. The matter has been the subject of various committee reports going back as far as 2005. The fact that the Government is now moving forward on this agenda is to be welcomed. We have seen a lengthy period of demand by various bodies that want progress on this issue, and while you talk about implementation progressing on a phased basis, Minister—I understand the reasons for that—it would be helpful if some indication could be given of likely timelines. I have been unable today to obtain any information with regard to progress on the pilot schemes, which I think go back to the suggestion being given Royal Assent in 2009 and moneys being put to one side. There is reference in the statement to eight pilot schemes, but I am unclear whether those schemes will report by the end of the consultation period so that lessons learned can be fed into the process.

Aled Roberts: Rwy’n siŵr bod pawb yma heddiw yn croesawu’r ffaith bod symud tuag at ymdrin â’r mater penodol hwn. Mae’r mater wedi bod yn destun adroddiadau pwyllgor amrywiol yn mynd yn ôl cyn belled â 2005. Mae’r ffaith bod y Llywodraeth yn awr yn symud ymlaen â’r agenda hon i’w groesawu. Rydym wedi gweld cyfnod hir o alw gan wahanol gyrff sydd eisiau cynnydd ar y mater hwn, ac er eich bod yn siarad am weithredu yn symud ymlaen yn raddol, Weinidog—rwy’n deall y rhesymau am hynny—byddai o gymorth i gael rhywfaint o syniad am yr amserlen debygol. Heddiw, rwyf wedi methu â chael gafael ar unrhyw wybodaeth am gynnydd y cynlluniau peilot, y credaf sy’n mynd yn ôl at yr awgrym yn cael Cydsyniad Brenhinol yn 2009 ac arian yn cael ei roi i un ochr. Ceir cyfeiriad yn y datganiad at wyth cynllun peilot, ond nid yw’n glir a fydd y cynlluniau hynny yn adrodd erbyn diwedd y cyfnod ymgynghori fel y gellir bwydo’r gwersi a ddysgwyd i mewn i’r broses.

3.00 p.m.

I welcome the fact that the consultation will involve the Government listening to views on the number of agencies and professionals involved in the delivery of services to these youngsters. In my time in Wrexham, I was astounded in one case to be told that there were 60 professionals working with one child in a high school who had very specific needs. That was dealt with through a lead professional being appointed across the county, but the one problem that we came across then was that, even though the agencies were working together, they were unwilling to share information, on occasions, because of their own internal protocols. So, I think that there is a need for the Government, as part of this process, to outline, for example, why assessments are carried out by the NHS on youngsters up to the age of five and then completely new assessments are needed because the NHS is unwilling to pass those assessments on to local authorities. In 2012, surely, that cannot be a proper way of dealing with matters.

Croesawaf y ffaith y bydd yr ymgynghoriad yn cynnwys y Llywodraeth yn gwrando ar farn y nifer o asiantaethau a gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau i’r bobl ifanc. Yn ystod fy nghyfnod yn Wrecsam, cefais fy synnu i glywed, mewn un achos, bod 60 o weithwyr proffesiynol yn gweithio gydag un plentyn mewn ysgol uwchradd oedd ag anghenion penodol iawn. Aethpwyd i’r afael â hynny drwy benodi gweithiwr proffesiynol arweiniol i weithio ar draws y sir. Fodd bynnag, un broblem a ddaeth i’n sylw bryd hynny oedd y ffaith bod yr asiantaethau, er eu bod yn gweithio gyda’i gilydd, yn amharod i rannu gwybodaeth ar adegau, yn sgîl eu protocolau mewnol. Felly, fel rhan o’r broses hon, credaf fod angen i’r Llywodraeth amlinellu, er enghraifft, pam mae’r GIG yn cynnal asesiadau ar blant hyd at bump oed, ond yna mae angen asesiadau cwbl newydd oherwydd bod y GIG yn amharod i rannu’r asesiadau hynny ag awdurdodau lleol. Yn sicr, yn 2012, nid yw hon yn ffordd briodol o ymdrin â materion.

I have also looked at the situation, and you mentioned workforce development in your statement. I was interested to note that the Enterprise and Learning Committee in 2008 and the Leader of the House, in her response to the report of the committee, looked at the establishment of a task group to review teacher training, as far as special educational needs were concerned. There was an announcement regarding the appointment of a secondee from Bangor University. Again, I have not been able to obtain any information with regard to any recommendations arising out of that particular task group.

Soniasoch am ddatblygu’r gweithlu yn eich datganiad, ac rwyf hefyd wedi edrych ar y sefyllfa hon. Roedd yn ddiddorol nodi bod y Pwyllgor Menter a Dysgu yn 2008, yn ogystal ag Arweinydd y Tŷ, yn ei hymateb i adroddiad y pwyllgor, wedi edrych ar sefydlu grŵp gorchwyl i adolygu hyfforddiant athrawon, mewn perthynas ag anghenion addysgol arbennig. Cafwyd cyhoeddiad ynghylch penodi rhywun ar secondiad o Brifysgol Bangor. Unwaith eto, nid wyf wedi gallu cael dim gwybodaeth ynglŷn ag unrhyw argymhellion a ddeilliodd o’r grŵp gorchwyl penodol hwnnw.

As far as schools are concerned, I think that there is a need for special schools to understand how they will be part of this process, given that there is currently no common assessment framework to enable them to provide data to the Government to monitor progression of students who are in their care.

Cyn belled ag y mae ysgolion yn y cwestiwn, credaf fod angen i ysgolion arbennig ddeall sut y byddant yn rhan o’r broses hon, o ystyried y ffaith nad oes fframwaith asesu cyffredin ar hyn o bryd i’w galluogi i ddarparu data i’r Llywodraeth i fonitro cynnydd y myfyrwyr sydd yn eu gofal.

Finally, I wonder whether we could hear your views on what provision you envisage will be made for children in mainstream classes, who, with the proposals with regard to numeracy and literacy tests being introduced, may not be eligible to sit those same tests. How will those proposals tie into this particular statement today?

Yn olaf, tybed a fyddai modd inni glywed eich barn am yr hyn y rhagwelwch y bydd yn cael ei ddarparu ar gyfer plant mewn dosbarthiadau prif ffrwd? Yn sgîl y cynigion a wnaed o ran cyflwyno profion rhifedd a llythrennedd, mae’n bosibl na fydd y plant hynny’n gymwys i sefyll y profion hynny. Sut y bydd y cynigion hynny’n cyd-fynd â’r datganiad penodol hwn heddiw?

I would support Simon Thomas’s views with regard to provision in the Welsh language. In my area, you are unable to obtain infant-age provision through the medium of Welsh for additional or special needs. The report that was referred to in the Dragon’s Eye programme last week, with regard to autism, made quite stark reading. Despite the action plan, the reality is that there is a postcode lottery with regard to the provision of services. A damning remark made in the report noted that if you move from one part of Wales to the other, you cannot be assured of continuity of service, even if you have been successful in achieving that service in one particular area.

Cefnogaf farn Simon Thomas o ran darpariaeth yn yr iaith Gymraeg. Yn fy ardal i, nid yw’n bosibl cael darpariaeth oedran babanod drwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer anghenion ychwanegol neu anghenion arbennig. Roedd darllen yr adroddiad y cyfeiriwyd ato ar raglen Dragon’s Eye yr wythnos diwethaf, mewn perthynas ag awtistiaeth, yn brofiad eithaf annymunol. Er gwaethaf y cynllun gweithredu, y gwir amdani yw bod loteri cod post o ran darparu gwasanaethau. Yn ôl un sylw damniol a wnaed yn yr adroddiad, os byddwch yn symud o un rhan o Gymru i ran arall, ni allwch fod yn sicr o barhad y gwasanaeth yr ydych yn ei gael, hyd yn oed os ydych wedi bod yn llwyddiannus wrth geisio sicrhau’r gwasanaeth hwnnw mewn un ardal benodol.

Overall, I welcome the report. It shows a positive approach as far as the Government is concerned, and the devil is in the detail.

Ar y cyfan, rwyf yn croesawu’r adroddiad. Mae’n dangos ymagwedd gadarnhaol ar ran y Llywodraeth, a’r manylion sy’n bwysig.

Leighton Andrews: We have obviously had some success today in attracting support from all the opposition parties in respect of the broad direction of travel. This is a consultation exercise and an opportunity for people to give us further views, to submit further evidence, to assess how they think our proposals will work in practice, and we look forward to receiving input from all sides.

Leighton Andrews: Yn amlwg, rydym wedi llwyddo heddiw i ennyn rhywfaint o gefnogaeth gan yr holl wrthbleidiau mewn perthynas â chyfeiriad cyffredinol y daith hon. Ymgynghoriad yw hwn, ac mae’n gyfle i bobl gyflwyno sylwadau pellach, cyflwyno rhagor o dystiolaeth, ac asesu sut y bydd ein cynigion yn gweithio yn ymarferol. Edrychwn ymlaen at gael mewnbwn o bob tu.

In respect of the pilots, the eight pilots are described in the consultation document. They have been through their development phase. Work is being evaluated at present, and we will obviously draw on that work as we move forward into legislation. In respect of the individual development plans, they are set out in some detail on pages 18 to 19 of the consultation document, as to how we see those working.

O ran y cynlluniau peilot, amlinellir yr wyth cynllun peilot yn y ddogfen ymgynghori. Maent wedi bod drwy gyfnod datblygu. Mae’r gwaith yn cael ei werthuso ar hyn o bryd. Yn amlwg, byddwn yn defnyddio’r gwaith hwnnw wrth inni symud ymlaen i ddeddfwriaeth. O ran y cynlluniau datblygu unigol, maent wedi’u nodi’n fanwl ar dudalennau 18 a 19 yn y ddogfen ymgynghori, o ran sut yr ydym yn eu gweld yn gweithio.

The Member is right to raise the question of the effective sharing of information between different agencies, including the NHS, and the Minister for Health and Social Services and I have discussed that, and that is why we have been able to bring forward this document jointly today. I think that we have made significant progress in that area.

Mae’r Aelod yn iawn wrth godi’r cwestiwn yn ymwneud â rhannu gwybodaeth yn effeithiol rhwng asiantaethau gwahanol, gan gynnwys y GIG, ac mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a minnau wedi trafod y mater hwnnw. Dyna sut yr oedd yn bosibl inni gyflwyno’r ddogfen hon ar y cyd heddiw. Credaf ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol yn y maes hwnnw.

In respect of the issues that he raised on the Welsh language and autism, I have responded to those in answer to the questions from the Plaid Cymru spokesperson. On the numeracy and literacy issues, I think that those are separate matters for another day.

O ran y materion a godwyd ganddo ynghylch yr iaith Gymraeg ac awtistiaeth, rwyf wedi ymateb iddynt wrth ateb y cwestiynau a ofynnwyd gan lefarydd Plaid Cymru. Credaf fod y materion sy’n ymwneud â rhifedd a llythrennedd yn faterion ar wahân ar gyfer diwrnod arall.

Christine Chapman: First, I thank the Minister for his statement today, and I echo the sentiments of other Members. I think that this is a welcome statement today, and that the person-centred approach is the right one, given the discussions that I have had with many parents over the years, and that I know that other Assembly Members will have had. I know how desperate parents of children with special educational needs can be, and how much they have had to battle to be heard in a complex system to get adequate and appropriate help for their children and, quite often, that help is still not forthcoming. Therefore, as I said, I am pleased that this statement is being made today.

Christine Chapman: Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i’r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw, ac rwyf yn adleisio’r teimladau a fynegwyd gan Aelodau eraill. Credaf fod hwn yn ddatganiad i’w groesawu heddiw, a chredaf hefyd mai canolbwyntio ar yr unigolyn yw’r dull cywir o weithredu, o ystyried y trafodaethau yr wyf wedi’u cael gyda nifer o rieni dros y blynyddoedd. Gwn  y bydd Aelodau eraill wedi cael y trafodaethau hyn hefyd. Gwn mor anobeithiol y gall y sefyllfa sy’n wynebu rhieni sydd â phlant ag anghenion addysgol arbennig fod, a gwn hefyd sut y maent wedi gorfod brwydro i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed o fewn system gymhleth, a hynny er mwyn cael cymorth digonol a phriodol ar gyfer eu plant. Yn aml iawn, nid yw’r cymorth hwnnw’n dod. Felly, fel y dywedais, rwyf yn falch bod y datganiad hwn wedi’i wneud heddiw.

One of the things that parents feel is important is early diagnosis and support, because they feel that this is critical to the future wellbeing of their child. They say that time is always important because, every day that goes by, the problem gets worse. That leads to great fears about what help can be given and what the potential could be for their child, so time is important in this regard. I know that a number of parents who cannot afford it feel that they have been forced to pay privately for a diagnosis, which is totally unacceptable. I would be keen to hear your comments on that as well.

Un o’r pethau y mae rhieni’n teimlo ei fod yn bwysig yw cael diagnosis a chymorth cynnar, gan eu bod yn teimlo bod hyn yn ffactor hanfodol i les eu plentyn yn y dyfodol. Maent yn dweud bod yr amser hwnnw bob amser yn bwysig oherwydd bod y broblem yn gwaethygu gyda phob dydd sy’n mynd heibio. Mae’r sefyllfa hon yn arwain at ofnau mawr ynghylch y cymorth y gellir ei roi a’r hyn a allai ddigwydd o ran eu plentyn. Felly, mae amser yn bwysig yn hyn o beth. Gwn fod nifer o rieni nad ydynt yn gallu fforddio talu am ddiagnosis preifat yn teimlo eu bod wedi cael eu gorfodi i wneud hynny, ac mae hynny’n gwbl annerbyniol. Byddwn yn awyddus i glywed eich sylwadau ar y mater hwnnw hefyd.

This is a significant development, Minister, so how will you access the views of parents in this consultation? I know that you will be talking to what we would call the usual suspects—the organisations that are well set up to respond—but I am keen for you to talk to those parents who are at the sharp end of this. Frankly, at the moment, most of them feel quite powerless in this situation.

Mae hwn yn ddatblygiad sylweddol, Weinidog. Felly, sut y byddwch yn cael barn rhieni yn yr ymgynghoriad hwn? Gwn y byddwch yn siarad â’r enwau arferol—y sefydliadau hynny sydd wedi’u strwythuro’n dda ar gyfer ymateb—ond rwyf yn awyddus ichi siarad â’r rhieni hynny sydd yn y sefyllfa waethaf. A dweud y gwir, ar hyn o bryd, mae’r rhan fwyaf ohonynt yn teimlo’n ddi-rym yn wyneb y sefyllfa hon.

Last week, I attended a meeting of parents of children with attention deficit hyperactivity disorder and autism. On ADHD, to the uninformed it is a condition that is not well understood, and many assumptions can be made by professionals that children are simply badly behaved. Again, a lot of information needs to be discussed in this regard. These parents were telling me about the lack of support for their children on occasion, which was sometimes put down to a lack of awareness on the part of some teachers and others, and inconsistent strategies to deal with this.

Yr wythnos diwethaf, bûm mewn cyfarfod o rieni plant sydd ag anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd ac awtistiaeth. O ran anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd, i’r anwybodus mae’n gyflwr nad oes neb yn ei ddeall yn dda, a gall llawer o ragdybiaethau gael eu gwneud gan weithwyr proffesiynol, sef bod plant yn ymddwyn yn wael. Unwaith eto, mae angen trafod llawer o wybodaeth yn y cyswllt hwn. Roedd y rhieni hyn yn dweud wrthyf am y diffyg cefnogaeth ar gyfer eu plant ar adegau, a hynny’n deillio weithiau o ddiffyg ymwybyddiaeth ar ran rhai athrawon a phobl eraill, ac o strategaethau anghyson i ymdrin â’r mater hwn.

Finally, Minister, you referred in your statement to workforce issues that the new framework will include. Will it also include an element of training for health and education professionals, because I know that this is a great source of frustration and worry for many parents? As I said, I welcome this statement and I look forward to further debates on it.

Yn olaf, Weinidog, yn eich datganiad, cyfeiriasoch at y materion sy’n ymwneud â’r gweithlu y bydd y fframwaith newydd yn eu cynnwys. A fydd y fframwaith hefyd yn cynnwys elfen o hyfforddiant ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym meysydd iechyd ac addysg, gan fy mod yn ymwybodol bod hyn yn esgor ar gryn rwystredigaeth a phryder i lawer o rieni? Fel y dywedais, rwyf yn croesawu’r datganiad hwn ac rwyf yn edrych ymlaen at drafodaethau pellach arno.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair am 3.08 p.m.
The Deputy Presiding Officer took the Chair at 3.08 p.m.

Y Cofnod

Leighton Andrews: I thank the Member for Cynon Valley for what she said. She is right to stress the change to the person-centred approach being right at the centre of this document. Like many of us, she has been in the position of giving support to parents who are battling for assessments, as she put it, and she is right to raise the whole issue of the need for early diagnosis. That is something that we are all well aware of and committed to. I agree with her on everything she said about parents who have felt that they have been forced to pay privately for assessments. I have had similar cases.

Leighton Andrews: Diolch i Aelod Cwm Cynon am yr hyn a ddywedodd hi. Mae hi yn llygad ei lle wrth bwysleisio’r ffaith bod newid i ddull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn elfen ganolog o’r ddogfen hon. Fel llawer ohonom, mae hi wedi bod yn rhoi cymorth i rieni sy’n brwydro i gael asesiadau, fel y dywedodd hi, ac mae hi’n iawn wrth godi’r holl gwestiwn yn ymwneud â’r angen am ddiagnosis cynnar. Rydym i gyd yn ymwybodol o’r angen hwnnw, ac wedi ymrwymo iddo. Cytunaf â phopeth a ddywedodd hi am rieni sy’n teimlo eu bod wedi cael eu gorfodi i dalu am asesiadau preifat. Rwyf wedi cael achosion tebyg.

I pay tribute to the work of Snap Cymru in supporting many parents through this whole process. Its contribution to this consultation has been important.

Hoffwn dalu teyrnged i waith Snap Cymru, sy’n cefnogi llawer o rieni drwy’r holl broses hon. Mae cyfraniad y sefydliad hwnnw i’r ymgynghoriad hwn wedi bod yn bwysig.

She asked about ensuring as wide as possible inputs. We will be making the document widely available and consulting with appropriate stakeholders, but I would also encourage Assembly Members to share the document with groups of parents in their own constituencies, to carry out local consultations and bring forward any views that local groups may have to us, as a Government. We would be very pleased to hear about them.  

Gofynnodd yr Aelod inni sicrhau bod y mewnbynnau’n dod o ffynonellau sydd mor eang â phosibl. Byddwn yn sicrhau bod y ddogfen hon ar gael yn eang, a byddwn yn ymgynghori â’r rhanddeiliaid priodol. Fodd bynnag, anogaf Aelodau’r Cynulliad i rannu’r ddogfen â grwpiau o rieni yn eu hetholaethau, i gynnal ymgyngoriadau lleol, ac i gyflwyno unrhyw farn sydd gan y grwpiau lleol hyn i ni, fel Llywodraeth. Byddem yn falch iawn o glywed amdanynt.

In respect of the workforce issues, we will be looking at the whole issue of training, and workforce issues will be considered during and after the consultation process. Part of the development work for this will be about engagement with the different workforces as we take this forward. Our view is that there will be significant benefits to existing practitioners. For example, there should be less of a need for them to attend multiple planning meetings if we can get the person-centred approach right, and that is one of our aims.   

O ran y materion sy’n ymwneud â’r gweithlu, byddwn yn edrych ar yr holl gwestiwn yn ymwneud â hyfforddi, a bydd materion ynglŷn â’r gweithlu yn cael eu hystyried yn ystod ac ar ôl y broses ymgynghori. Bydd rhan o’r gwaith datblygu cysylltiedig yn ymwneud ag ymgysylltu â’r gwahanol weithluoedd wrth inni fwrw ymlaen â’r cynllun hwn. Ein barn ni yw y bydd manteision sylweddol i ymarferwyr presennol. Er enghraifft, dylai fod llai o angen iddynt fynychu nifer o gyfarfodydd cynllunio os gallwn sicrhau bod y dull o ganolbwyntio ar yr unigolyn yn gweithio’n iawn, a dyna un o’n hamcanion.

Jenny Rathbone: I would like to give the Government three cheers on this one, unreservedly. Like Angela Burns, I have been rather disturbed by some of the evidence we have heard in the adoption inquiry. Specifically, last week, we heard representatives of social workers saying that they often had battles with the health service over who was going to pay for counselling services for adopted children, as the impact of their interrupted attachment was not evident until they were in adolescence, by which time the original authority in whose area they used to live was in the mists of history. Clearly, adoptive families should not have to go through that sort of agony, having to navigate between different public services. However, I am sure that that will not be happening if we have this sort of framework.

Jenny Rathbone: Hoffwn roi tair bloedd i’r Llywodraeth ar y mater hwn, a hynny’n ddiamod. Fel Angela Burns, mae rhannau o’r dystiolaeth yr ydym wedi’i chlywed yn ystod yr ymchwiliad i fabwysiadu wedi peri pryder imi. Yn benodol, yr wythnos diwethaf, clywsom gan dystion a oedd yn cynrychioli gweithwyr cymdeithasol. Dywedasant eu bod yn aml yn gorfod brwydro â’r gwasanaeth iechyd ynghylch pwy oedd yn mynd i dalu am wasanaethau cwnsela i blant a fabwysiadwyd, gan nad oedd effaith eu hymlyniad bylchog yn amlwg hyd nes eu bod yn eu llencyndod, ac, erbyn hynny, roedd yr awdurdod gwreiddiol a oedd yn gyfrifol am yr ardal lle yr oeddent yn arfer byw wedi diflannu i niwloedd hanes. Yn amlwg, ni ddylai teuluoedd sy’n mabwysiadu orfod dioddef y math hwn o ofid, sef symud rhwng gwasanaethau cyhoeddus gwahanol. Fodd bynnag, rwyf yn siŵr na fydd hynny’n digwydd os bydd gennym y math hwn o fframwaith.

I am sure that having an IT system that allows everyone, including the parents, to look up who is doing what and by when it should be done will be excellent. However, some families will rely on a key worker to help them to navigate their way through the system. I wonder whether those with IDPs would always have a named key worker who would obviously be the most appropriate person, depending on the individual child’s needs.

Rwyf yn siŵr y bydd cael system technoleg gwybodaeth sy’n caniatáu i bawb, gan gynnwys rhieni, chwilio am bwy sy’n gwneud beth, ac chanfod erbyn pryd y dylid cwblhau’r tasgau hyn, yn rhagorol. Fodd bynnag, bydd rhai teuluoedd yn dibynnu ar weithiwr allweddol i’w helpu i symud drwy’r system. Tybed a fydd y rhai sydd â chynllun datblygu unigol bob amser yn defnyddio gweithiwr allweddol a enwir, sef y person mwyaf priodol, yn amlwg, yn ddibynnol ar anghenion y plentyn unigol?

Turning to my other question, how well do you think this joined-up person-centred support close to home is going to shift the focus of education authorities to ensure that disabled access in schools is a bit higher up the agenda, specifically in secondary schools, where the norm is for students to move around between lessons for different subjects? The challenge of making secondary schools accessible for disabled people is therefore that much greater, but hugely important for the young person who wants to have the option of being able to go to the same school as their peers from primary school.

Gan droi at fy nghwestiwn arall, pa mor llwyddiannus y bydd y dull cydgysylltiedig hwn o ddarparu cymorth yn agos i’r cartref, a hynny mewn modd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, o ran symud ffocws awdurdodau addysg er mwyn sicrhau bod hygyrchedd adeiladau ysgolion i bobl anabl ychydig yn uwch ar yr agenda, yn benodol mewn ysgolion uwchradd, lle y mae’n arferol i fyfyrwyr symud o gwmpas rhwng gwersi ar gyfer pynciau gwahanol? Mae’r her o sicrhau bod ysgolion uwchradd yn hygyrch i bobl anabl yn llawer mwy, felly, ond mae’n hynod o bwysig i berson ifanc sydd am gael yr opsiwn o allu mynychu’r un ysgol â’i gyfoedion o’r ysgol gynradd.

Leighton Andrews: To respond to those three issues, I hear what the Member for Cardiff Central says about the whole issue of families in the circumstances of adoption. Sections 8.3 and 8.4 of the consultation document set out how the existing SEN code of practice would be revised. In that revision, we will be looking in detail at the roles and responsibilities of local authorities, schools and the third sector. It is our ambition to develop a charter of rights, roles and responsibilities that will apply to young people, parents, carers and others in respect of services from local authorities and other agencies. There is an opportunity there to open up further consideration of the issue she raises.

Leighton Andrews: Byddaf yn ymateb i’r tri mater hynny. Clywais yr hyn a ddywedodd yr Aelod dros Ganol Caerdydd am deuluoedd sydd yn ymwneud â’r broses fabwysiadu. Mae adrannau 8.3 a 8.4 yn y ddogfen ymgynghori yn nodi sut y byddai’r cod ymarfer presennol ar gyfer anghenion addysgol arbennig yn cael ei adolygu. Yn yr adolygiad hwnnw, byddwn yn edrych yn fanwl ar rolau a chyfrifoldebau awdurdodau lleol, ysgolion a’r trydydd sector. Ein huchelgais yw datblygu siarter ar gyfer hawliau, rolau a chyfrifoldebau a fydd yn berthnasol i bobl ifanc, rhieni, gofalwyr ac eraill, mewn perthynas â gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill. Dyma gyfle i ystyried y materion a godwyd ganddi ymhellach.

I welcome her support for what we are seeking to do with the online provision of information. She is right to say that some families will access information via a key worker. I see no reason why we would want to make any change to that arrangement. If she has views specifically on how we might take that forward, I would welcome hearing from her.

Croesawaf ei chefnogaeth i’r hyn yr ydym yn ceisio ei wneud o ran darparu gwybodaeth ar-lein. Mae hi’n iawn wrth ddweud y bydd rhai teuluoedd yn cael mynediad at wybodaeth drwy weithiwr allweddol. Ni welaf ddim rheswm pam y byddem yn dymuno newid y drefn honno o gwbl. Os oes ganddi farn benodol ar sut y gallem fwrw ymlaen â hynny, hoffwn glywed ganddi.

I am not certain that this document itself will shift the approach of local authorities in respect of disabled access in, for example, secondary schools. However, I hope that it will set a climate and a very clear sense of how local authorities need to make better provision for pupils with additional needs very much a core part of their overall approach to planning provision for the future. I think that we are talking about cultural change and, as we all know, that does not happen overnight. This is part of the process of seeking to achieve that.

Nid wyf yn sicr y bydd y ddogfen ei hun yn newid dulliau awdurdodau lleol o weithredu mewn perthynas â sicrhau hygyrchedd i bobl anabl, er enghraifft, mewn ysgolion uwchradd. Fodd bynnag, gobeithio y bydd y cynllun hwn yn creu hinsawdd arbennig ac ymdeimlad clir iawn ynghylch sut y bydd angen i awdurdodau lleol sicrhau gwell darpariaeth ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion ychwanegol, a bod hynny’n rhan greiddiol o’u hymagwedd gyffredinol tuag at gynllunio darpariaeth ar gyfer y dyfodol. Credaf ein bod yn sôn am newid diwylliannol ac, fel y gwyddom, nid yw hynny’n digwydd dros nos. Mae’r mater hwn yn rhan o’r broses o geisio cyflawni hynny.

The Deputy Presiding Officer: Finally, for a focused question, I call Mark Isherwood.

Y Dirprwy Lywydd: Yn olaf, galwaf Mark Isherwood i ofyn cwestiwn mwy penodol.

Mark Isherwood: I speak both as someone who sat on the committee that carried out the special needs review in the second Assembly and as a parent who, twelve years ago, was battling to get a statement, without which a child of mine would not have had the early intervention he ultimately received—thanks only to the statement—and which has led to him now being a hugely successful young man with a string of academic qualifications and life experiences behind him. However, so many parents find themselves in that position.

Mark Isherwood: Siaradaf fel rhywun a oedd yn eistedd ar y pwyllgor a gynhaliodd yr adolygiad o anghenion arbennig yn yr ail Gynulliad. Siaradaf hefyd fel rhiant a frwydrodd, 12 mlynedd yn ôl, i gael datganiad. Pe na fyddwn wedi llwyddo yn y frwydr honno, ni fyddai un o’m plant wedi cael yr ymyrraeth gynnar a gafodd yn y pen draw—diolch, yn unig, i’r datganiad hwnnw. Yn sgîl yr ymyrraeth hon, mae’n ddyn ifanc hynod o lwyddiannus erbyn hyn, ac wedi cael llu o gymwysterau academaidd a phrofiadau mewn bywyd. Fodd bynnag, mae cynifer o rieni’n wynebu’r sefyllfa honno.

3.15 p.m.

How will you address the concern that, in moving from statements to a different statutory framework and to individual development plans, you will not simply replicate the problems with new labels? The statement or individual plan should not be a certificate of entitlement, but should only be a safety net. However, as Aled Roberts highlighted from the report on diagnostic services, which was made public last week, although dated December 2010, there is a lack of understanding by the senior management in those key partnerships that you are referring to. How, also, would you address the concern identified in that committee report over how to define severe and complex needs? There is a danger that that, again, could be used as a means for rationing, rather than expanding, early intervention services.

Sut y byddwch yn mynd i’r afael â’r pryder y byddwch, drwy symud o ddatganiadau i fframwaith statudol gwahanol a chynlluniau datblygu unigol, yn ailadrodd y problemau gyda labeli newydd yn unig? Ni ddylai’r datganiad neu gynllun unigol fod yn dystysgrif o hawl, ond yn rhwyd ​​achub yn unig. Fodd bynnag, fel y bu i Aled Roberts bwysleisio ynghylch yr adroddiad ar wasanaethau diagnostig, a gafodd ei gyhoeddi’r wythnos diwethaf er ​​ei fod yn ddyddiedig mis Rhagfyr 2010, mae diffyg dealltwriaeth ar ran yr uwch-reolwyr yn y partneriaethau allweddol yr ydych yn cyfeirio atynt. Sut, hefyd, y byddech yn mynd i’r afael â’r pryder a nodwyd yn yr adroddiad pwyllgor hwnnw ynglŷn â sut i ddiffinio anghenion difrifol a chymhleth? Mae perygl, unwaith eto, y gallai hynny gael ei ddefnyddio fel modd i gyfyngu ar wasanaethau ymyrraeth cynnar, yn hytrach na’u hehangu.

 

Leighton Andrews: The Member for North Wales speaks with great insight into these issues and from his experience in this area and I know that he was a member of a committee in the past that looked into this in some detail. What we are seeking to do is to effect a cultural change in respect of a move to better integration of provision and a plan centred on the child. That is the whole point of the individual development plan, which has a sense, I suppose, of giving impetus to the needs of the child, rather than a rather more bureaucratic approach, which may be adopted in local circumstances in some areas at the present time.

Leighton Andrews: Mae’r Aelod dros Ogledd Cymru yn siarad yn graff ynghylch y materion hyn ac o’i brofiad yn y maes hwn a gwn y bu’n aelod o bwyllgor yn y gorffennol a edrychodd ar hyn yn fanwl. Yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud yw sicrhau newid diwylliannol mewn perthynas â symud at integreiddio’r ddarpariaeth a chael cynllun sy’n canolbwyntio ar y plentyn. Dyna holl bwynt y cynllun datblygu unigol, sydd, am wn i, yn ymwneud â blaenoriaethu anghenion y plentyn, yn hytrach na dull ychydig yn fwy biwrocrataidd, sydd efallai yn cael ei fabwysiadu mewn amgylchiadau lleol mewn rhai ardaloedd ar hyn o bryd.

 

As I said in answer to my colleague the Member for Cardiff Central, I do not think that you achieve cultural change overnight. What we are seeking to do here is to put in place a framework of legislation that makes very clear to all agencies involved in addressing the needs of a particular child what their responsibilities will be. As we revise the SEN code, that may give us the opportunity to address some of the points that the Member has made. I would certainly encourage him to make his views clear in the consultation. If he has particular questions arising from his experience, or from the experience of others, we would obviously want to hear them.

Fel y dywedais wrth ateb fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Ganol Caerdydd, nid wyf yn credu eich bod yn cyflawni newid diwylliannol dros nos. Yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud yma yw sefydlu fframwaith o ddeddfwriaeth sy’n ei gwneud yn glir iawn i’r holl asiantaethau sy’n ymwneud â chwrdd ag anghenion plentyn penodol beth fydd eu cyfrifoldebau. Wrth inni adolygu’r cod AAA, efallai y bydd gennym gyfle i fynd i’r afael â rhai o’r pwyntiau y mae’r Aelod wedi eu gwneud. Rwy’n sicr yn ei annog i gyfleu ei farn yn glir yn yr ymgynghoriad. Os oes ganddo gwestiynau penodol sy’n deillio o’i brofiad, neu o brofiad pobl eraill, byddem yn amlwg yn awyddus i’w clywed.

Datganiad: Hygyrchedd i Gyfreithiau Cymru a Datblygu Llyfr Statud i Gymru—Y Wybodaeth Ddiweddaraf
Statement: Access to Welsh Laws and Developing a Welsh Statute Book—An Update

Y Cofnod

The Counsel General (Theodore Huckle): Good afternoon, everyone. Last autumn, I spoke about some of the challenges faced by you, our legislators and the new guardians of what is a substantial part of the statute book of England and Wales. I referred to the need for our laws to be accessible and the importance of them being intelligible, clear and predictable in their effect. I highlighted three issues that militate against this aim.

Y Cwnsler Cyffredinol (Theodore Huckle): Prynhawn da, bawb. Hydref diwethaf, bu imi siarad am rai o’r heriau sy’n eich wynebu chi, ein deddfwyr a gwarcheidwaid newydd rhan sylweddol o lyfr statud Cymru a Lloegr. Cyfeiriais at yr angen i’n cyfreithiau fod yn hygyrch a’i bod yn bwysig eu bod yn ddealladwy, yn glir ac yn rhagweladwy o ran eu heffaith. Tynnais sylw at dri mater sy’n llesteirio’r nod hwn.

 

The first is the volume of legislation, with its plethora of interconnecting provisions, which, at the moment, create a patchwork of law affecting Wales. The second is the process of devolution itself, which can make legislation within the devolved areas more complex than would otherwise be the case. The third is the extent to which legislation in its updated form, in other words incorporating amendments made to existing legislation, is readily available to the public.

Y cyntaf yw faint o ddeddfwriaeth sydd, gyda’i llu o ddarpariaethau cysylltiol, sydd, ar hyn o bryd, yn creu clytwaith o gyfraith sy’n effeithio ar Gymru. Yr ail yw’r broses ddatganoli ei hun, sy’n gallu gwneud deddfwriaeth o fewn y meysydd datganoledig yn fwy cymhleth nag y byddai fel arall. Y trydydd yw i ba raddau y mae deddfwriaeth sydd wedi’i ddiwygio, neu sydd, mewn geiriau eraill, yn cynnwys diwygiadau a wnaed i’r ddeddfwriaeth bresennol, ar gael yn rhwydd i’r cyhoedd.

 

I spoke also of the limitations to what can be done to remedy these issues, both constitutional and practical, but said that much could be achieved. I wish, therefore, to update Members on what has already been done in the few months that have passed since that time.

Soniais hefyd am y cyfyngiadau o ran yr hyn y gellir ei wneud i ddatrys y materion hyn, yn gyfansoddiadol ac yn ymarferol, ond dywedais y gellir cyflawni llawer. Hoffwn, felly, roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am yr hyn sydd eisoes wedi’i wneud yn ystod yr ychydig fisoedd a aeth heibio ers hynny.

 

In my previous statement, I expressed the view that updated legislation should be available free of charge to the public, and, given that both language versions are equal in law, and as a matter of principle, I believe that it should be available in Welsh as well as in English. Whatever they do, the people of Wales have a right to easy access in readily understandable form to the laws that govern their lives.

Yn fy natganiad blaenorol, mynegais fy marn y dylai deddfwriaeth sydd wedi’i diweddaru fod ar gael yn rhad ac am ddim i’r cyhoedd, ac, o ystyried bod y fersiynau yn y ddwy iaith yn gyfartal yn y gyfraith, ac fel mater o egwyddor, credaf y dylai fod ar gael yn y Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg. Beth bynnag y maent yn ei wneud, mae gan bobl Cymru’r hawl i gael mynediad rhwydd at y deddfau sy’n rheoli eu bywydau ar ffurf sy’n hawdd i’w deall.

 

Since then, progress has been made to improve the legislation.gov.uk website. This is being done in three separate ways. First, two new officials have recently been recruited by the Welsh Government to begin the process of updating Welsh provisions on that website. I expect that, within the near future, the major part of Welsh legislation will be available in its updated form. Secondly, at our behest, the National Archives has begun a process of signposting the territorial application of statutory provisions. The intention is that the reader will be assisted in identifying whether a provision applies, for example, to Wales only, to England only, or to England and Wales. This is a significant point in what is a complex system of dual legislatures. Thirdly, the legislation.gov.uk team recently came to Cardiff to test new functionality for its site, including an option to navigate the site in Welsh and to access and view both language versions of Welsh legislation side by side. This will, we are assured, be available soon.

Ers hynny, gwnaed cynnydd o ran gwella gwefan legislation.gov.uk. Mae hyn yn cael ei wneud mewn tair ffordd wahanol. Yn gyntaf, mae dau swyddog newydd wedi cael eu recriwtio yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru i ddechrau ar y broses o ddiweddaru’r darpariaethau Cymreig ar y wefan. Rwy’n disgwyl, yn y dyfodol agos, y bydd y rhan fwyaf o ddeddfwriaeth Gymreig ar gael wedi’i diweddaru. Yn ail, ar ein cais ni, mae’r Archifau Cenedlaethol wedi dechrau’r broses o gyfeirio gweithrediad tiriogaethol darpariaethau statudol. Y bwriad yw y bydd y darllenydd yn cael cymorth o ran nodi a yw darpariaeth yn cael ei gweithredu, er enghraifft, yng Nghymru yn unig, yn Lloegr yn unig, neu yng Nghymru a Lloegr. Mae hwn yn bwynt pwysig mewn system gymhleth o ddeddfwrfeydd deuol. Yn drydydd, daeth tîm legislation.gov.uk i Gaerdydd yn ddiweddar i brofi swyddogaethau newydd ar gyfer ei safle, gan gynnwys opsiwn i symud o gwmpas y safle yn Gymraeg ac i weld y ddwy fersiwn o ddeddfwriaeth Gymreig yn y ddwy iaith ochr yn ochr. Cawsom sicrwydd y byddai hyn ar gael yn fuan.

 

I spoke also of my intention to develop an explanatory narrative of Welsh legislation—in effect, an encyclopaedia of Welsh law, helpful to lawyers and non-lawyers alike. I am pleased to make a significant announcement in this respect, as the Government has now begun a process of collaborating with Westlaw, one of the UK’s main legal publishers, with a view to developing an online service. The intention is to develop a new website that will be available free of charge to the public. It remains early days, but this is, we think, a very exciting development.

Soniais hefyd am fy mwriad i ddatblygu naratif esboniadol o ddeddfwriaeth Gymreig—i bob pwrpas, gwyddoniadur o gyfraith Gymreig, a fydd yn ddefnyddiol i gyfreithwyr a’r rheini nad ydynt yn gyfreithwyr fel ei gilydd. Rwy’n falch o wneud cyhoeddiad arwyddocaol yn hyn o beth, gan fod y Llywodraeth nawr wedi dechrau’r broses o gydweithio gyda Westlaw, un o brif gyhoeddwyr cyfreithiol y DU, er mwyn ceisio datblygu gwasanaeth ar-lein. Y bwriad yw datblygu gwefan newydd a fydd ar gael yn rhad ac am ddim i’r cyhoedd. Mae’n gynnar eto, ond credwn fod hwn yn ddatblygiad cyffrous iawn.

 

In the previous statement, I spoke also of how access to the law could be improved significantly through an approach to legislation that incorporates more Wales-only text in Wales-only Acts in order to move gradually towards free-standing Welsh legislation—or a Welsh statute book, as it has been referred to on occasion. This would involve revising, codifying and consolidating the law. To the extent that it is possible, Welsh laws should be drafted afresh, instead of amending existing provisions—a practice that also prevents the development of Welsh-language texts, because, as things stand, most of the existing text of legislation that can be amended is in English only.

Yn y datganiad blaenorol, soniais hefyd am sut y gellid gwella mynediad at y gyfraith yn sylweddol drwy ddull o ymdrin â deddfwriaeth sy’n cynnwys mwy o destun i Gymru’n unig mewn Deddfau i Gymru’n unig er mwyn symud yn raddol tuag at gael deddfwriaeth Gymreig annibynnol—neu lyfr statud Cymreig, fel y’i gelwir weithiau. Byddai hyn yn golygu adolygu, cyfundrefnu a chydgrynhoi’r gyfraith. I’r graddau y mae hynny’n bosibl, dylid drafftio cyfreithiau Cymreig o’r newydd, yn hytrach na diwygio darpariaethau presennol—arfer sydd hefyd yn atal datblygiad testunau Cymraeg, oherwydd, ar hyn o bryd, mae’r rhan fwyaf o destun presennol deddfwriaeth y gellir ei ddiwygio ar gael yn Saesneg yn unig.

 

I also stated that, where practicable, new legislation in Cardiff should be drafted in a way that simplifies the statute book by consolidating Welsh legislation and separating it from legislation that also applies to England. I am pleased to say that this has indeed been a feature of a number of the Bills that the Government has introduced or is consulting upon and this approach permeates the drafting method applied by office of the legislative counsel of the Welsh Government. The Schools Standards and Organisation (Wales) Bill, for example, as well as reforming the law on intervention in schools and local authorities and school organisation, brings together a number of provisions currently found in several existing statutes.

Bu imi ddatgan hefyd, lle y mae’n ymarferol gwneud hynny, y dylai deddfwriaeth newydd yng Nghaerdydd gael ei drafftio mewn ffordd sy’n symleiddio’r llyfr statud, drwy gydgrynhoi deddfwriaeth Gymreig a’i gwahanu oddi wrth ddeddfwriaeth sydd hefyd yn berthnasol i Loegr. Rwy’n falch o ddweud bod hyn yn wir am nifer o’r Biliau y mae’r Llywodraeth wedi eu cyflwyno neu yn ymgynghori arnynt ac mae’r dull hwn yn treiddio drwy’r dull drafftio a ddefnyddir gan swyddfa cwnsler deddfwriaethol Llywodraeth Cymru. Er enghraifft, yn ogystal â diwygio’r gyfraith ar ymyrraeth mewn ysgolion ac awdurdodau lleol a threfniadaeth ysgolion, mae’r Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) yn dwyn ynghyd nifer o ddarpariaethau sydd ar gael ar hyn o bryd mewn sawl statud sy’n bodoli eisoes.

 

The policy goals behind the local government bye-laws and human transplantation Bills could have been achieved by amending existing legislation applicable to England and Wales, and, in the latter case, Northern Ireland. However, wherever possible, we prefer to make stand-alone provision for Wales and this is what has been done in both those cases.

Gallai’r nodau polisi y tu ôl i’r Biliau is-ddeddfau llywodraeth leol a thrawsblannu dynol fod wedi cael eu cyflawni drwy ddiwygio’r ddeddfwriaeth bresennol sy’n berthnasol i Gymru a Lloegr, ac, yn yr achos olaf, Gogledd Iwerddon. Fodd bynnag, lle bynnag y bo’n bosibl, mae’n well gennym wneud darpariaeth annibynnol ar gyfer Cymru a dyma sydd wedi cael ei wneud yn y ddau achos hynny.

 

I stated also that I was to begin assessing the feasibility of developing a separate fast-track consolidation programme to run alongside the main legislative programme. If such a programme is to succeed, we need also to develop an institutional infrastructure to facilitate the development and fast-tracking of Bills that simply clarify and consolidate rather than change the law. These initiatives would accelerate the development of a substantial stand-alone body of Welsh law.

Bu imi ddatgan hefyd fy mod ar fin dechrau asesu ymarferoldeb datblygu rhaglen gydgrynhoi llwybr carlam ar wahân i redeg ochr yn ochr â’r brif raglen ddeddfwriaethol. Os yw rhaglen o’r fath yn mynd i lwyddo, mae angen datblygu seilwaith sefydliadol hefyd i hwyluso datblygiad Biliau sy’n egluro a chydgrynhoi yn hytrach na newid y gyfraith, a’r dull o’u rhoi ar lwybr carlam. Byddai’r mentrau hyn yn cyflymu datblygiad corff sylweddol o gyfraith annibynnol i Gymru.

 

This aspect of the access-to-legislation initiative remains at a very early stage, but officials have been in contact with officials in Commonwealth countries who have extensive experience of such systems. I hope to make further progress on this over the coming summer months. I have recently written to the Presiding Officer about this and am consulting with Assembly officials in considering this important issue. We hope that this is an area of legal development in which Wales will be seen to lead the way in the United Kingdom. I have also recently met the chair of the Law Commission, Lord Justice Sir James Munby, and his fellow commissioner Frances Patterson Queen’s Counsel in Cardiff to explore ways in which we could work more closely together.

Rydym yn gynnar iawn yn y broses o ddatblygu’r agwedd hon ar y fenter i ddarparu mynediad at ddeddfwriaeth, ond bu swyddogion mewn cysylltiad â swyddogion yng ngwledydd y Gymanwlad sydd â phrofiad helaeth o systemau o’r fath. Rwy’n gobeithio gwneud cynnydd pellach ar hyn yn ystod misoedd yr haf. Rwyf wedi ysgrifennu at y Llywydd am hyn yn ddiweddar ac rwy’n ymgynghori â swyddogion y Cynulliad wrth ystyried y mater pwysig hwn. Rydym yn gobeithio bod hwn yn faes o ddatblygu cyfreithiol lle y bydd Cymru yn arwain y ffordd yn y Deyrnas Unedig. Rwyf hefyd wedi cyfarfod yn ddiweddar â chadeirydd Comisiwn y Gyfraith, Arglwydd Ustus Syr James Munby, a’i gyd-gomisiynydd Frances Patterson Cwnsler y Frenhines yng Nghaerdydd i archwilio ffyrdd y gallem weithio’n agosach gyda’n gilydd.

 

To conclude, good progress has, we think, been made, but much more needs to be done to promote clarity and improve access to the law. As I have said before, accessing the law is an essential part of the democratic process. It is vital to the people of Wales’s understanding of the huge impact that work done here in Cardiff on their behalf by you, our legislature, already has and will increasingly have on the things that most matter to them in their daily lives: their health, environment, homes, education, local administration and so on. I will make a further statement at the end of this year to outline what further progress has been made in these areas.

I gloi, credwn fod cynnydd da wedi cael ei wneud, ond mae angen gwneud llawer mwy i hyrwyddo eglurder a gwella mynediad at y gyfraith. Fel y dywedais o’r blaen, mae cael mynediad at y gyfraith yn rhan hanfodol o’r broses ddemocrataidd. Mae’n hanfodol i ddealltwriaeth pobl Cymru o’r effaith enfawr y mae’r gwaith yr ydych chi, ein deddfwrfa, yn ei wneud yma yng Nghaerdydd ar eu rhan yn ei chael yn barod a’r effaith y bydd yn ei chael yn y dyfodol ar y pethau pwysicaf iddynt yn eu bywydau bob dydd: eu hiechyd, yr amgylchedd, tai, addysg, gweinyddiaeth leol, ac yn y blaen. Gwnaf ddatganiad arall ar ddiwedd y flwyddyn hon i amlinellu pa gynnydd pellach a wnaed yn y meysydd hyn.

 

Suzy Davies: Thank you, Counsel General, for your statement and for updating the Assembly. It is certainly of some interest to those of us on the Constitutional and Legislative Affairs Committee, as we are looking at this in the context of a separate Welsh legal jurisdiction. I think that you have made good progress—I remember that you promised Julie James a lot of progress by the time we saw you next, and I note that some of the proposals are in their early stages, but, nevertheless, they are very welcome.

Suzy Davies: Diolch, Gwnsler Cyffredinol, am eich datganiad ac am roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad. Mae’n sicr o ddiddordeb i’r rhai ohonom sy’n aelodau o’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, gan ein bod yn edrych ar hyn yng nghyd-destun sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru. Credaf eich bod wedi gwneud cynnydd da—cofiaf ichi addo i Julie James y byddai llawer o gynnydd erbyn y tro nesaf y byddwn yn eich gweld, a nodaf fod rhai o’r cynigion yn eu camau cynnar, ond, serch hynny, mae croeso mawr iddynt.

 

I have a few questions for you, and, while you may not be able to answer them in full, because some of your proposals are at an early stage, I would be grateful for any answers that you can give.

Mae gennyf ychydig o gwestiynau i chi, ac, er efallai na fyddwch yn gallu eu hateb yn llawn, gan fod rhai o’ch cynigion ar gam cynnar, byddwn yn ddiolchgar am unrhyw atebion y gallwch eu rhoi.

 

My first query is with regard to the cost implications of some of these proposals. Clearly, there will be some. I am thinking in particular of the appointment of the new officials and any potential contracts with Westlaw and legislation.gov.uk. I was particularly glad to hear what you have told us today about the ability to engage with that website through the medium of Welsh—that is a big step forward.

Mae fy ymholiad cyntaf yn ymwneud â goblygiadau cost rhai o’r cynigion hyn. Yn amlwg, bydd rhai goblygiadau. Rwy’n meddwl yn benodol am benodiad y swyddogion newydd ac unrhyw gytundebau posibl gyda Westlaw a legislation.gov.uk. Roeddwn yn arbennig o falch o glywed yr hyn yr ydych wedi ei ddweud wrthym heddiw am y gallu i ymgysylltu â’r wefan hwnnw drwy gyfrwng y Gymraeg—mae hynny’n gam mawr ymlaen.

 

The second query concerns your work with the National Archives. I appreciate what you said in your statement, but, if resources were less of an issue, would the path that you are taking with the National Archives be easier to follow if we had a separate national archive in Wales? Perhaps you would like to consider that in your response.

Mae’r ail gwestiwn yn ymwneud â’ch gwaith gyda’r Archifau Cenedlaethol. Rwy’n gwerthfawrogi’r hyn a ddywedasoch yn eich datganiad, ond, pe bai adnoddau yn llai o broblem, a fyddai’r llwybr yr ydych yn ei gymryd gyda’r Archifau Cenedlaethol yn haws i’w ddilyn pe bai gennym archif cenedlaethol ar wahân yng Nghymru? Efallai yr hoffech ystyried hynny yn eich ymateb.

 

The potential relationship with Westlaw is a very exciting development. Are you able to tell us anything at this stage about the possible contributors to the commentary that you referred to? I remember that, back in October last year, you talked about the potential of having a 'wiki’ way forward. Is that still your thinking, or do you have something a little more formal in mind?

Mae’r berthynas bosibl gyda Westlaw yn ddatblygiad cyffrous iawn. A allwch ddweud unrhyw beth wrthym ar hyn o bryd am y cyfranwyr posibl at y sylwebaeth y cyfeiriasoch ato? Rwy’n cofio, yn ôl ym mis Hydref y llynedd, y bu ichi sôn am y posibilrwydd o gael ffordd ymlaen drwy ddefnyddio 'wiki’. A ydych yn dal i gredu hynny, neu a oes gennych rywbeth sydd ychydig yn fwy ffurfiol mewn golwg?

 

Finally, on the point about consolidating law and fresh law, I look forward to hearing from you later in the year about progress on the consolidation of laws. Do you agree that with regard to Bills such as the School Standards and Organisation (Wales) Bill, it needs to be completely clear where a Bill is consolidating and where it is amending or creating new law? Does that need to be completely clear? Also, with regard to fresh law, you say that you

Yn olaf, ar y pwynt am gydgrynhoi’r gyfraith a chael cyfraith newydd, edrychaf ymlaen at glywed gennych yn ddiweddarach yn y flwyddyn am y cynnydd a wnaed o ran cydgrynhoi cyfreithiau. A ydych yn cytuno, o ran Biliau fel y Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru), bod angen iddo fod yn gwbl glir lle mae Bil yn cydgrynhoi cyfreithiau a lle mae’n diwygio’r gyfraith neu’n creu cyfraith newydd? A oes angen i hynny fod yn gwbl glir? Hefyd, o ran cyfraith newydd, dywedwch fod yn well gennych

 

'prefer to make stand-alone provision for Wales’

'wneud darpariaeth annibynnol ar gyfer Cymru’

and that

ac y

 

'Welsh laws should be drafted afresh, instead of amending existing provisions’.

'dylid drafftio cyfreithiau Cymreig o’r newydd, yn hytrach na diwygio darpariaethau presennol’.

 

Could you venture an opinion on whether that principle should also apply to Orders consequent on existing UK law, rather than amending existing UK law? They are different, but I wonder whether you would say that the principle applies to both. I am thinking particularly of the Orders consequent on the Public Bodies Act 2011.

A allwch chi fentro rhoi barn ar p’un a ddylai’r egwyddor honno hefyd fod yn berthnasol i Orchmynion sy’n deillio o gyfraith y DU sy’n bodoli eisoes, yn hytrach na newid cyfraith y DU sy’n bodoli eisoes? Maent yn wahanol, ond tybed a fyddech yn dweud bod yr egwyddor yn gymwys i’r ddau. Rwy’n meddwl yn benodol am y Gorchmynion sy’n deillio o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011.

 

Theodore Huckle: Thank you for those five sets of questions. Last week, I was unable, although helped by one of the Members of the Assembly, to give any details about costings. I am in a position now to say a bit about that. Members may be aware that the office of Counsel General does not have a budget as such—it is not a ministerial portfolio. The position as far as these initiatives are concerned is this: I am told that from about 1999, that is, from the outset, about £20,000 was allowed out of the available funds to establish the Wales Legislation Online website. Then, when the Assembly and Government were split, from 2007, match funding of £20,000 from each was agreed.

Theodore Huckle: Diolch ichi am y pum cyfres o gwestiynau hynny. Yr wythnos diwethaf, nid oeddwn yn gallu rhoi unrhyw fanylion am gostau, er fy mod wedi cael cymorth gan un o Aelodau’r Cynulliad. Rwyf mewn sefyllfa yn awr i ddweud ychydig am hynny. Efallai bod Aelodau’n ymwybodol nad oes gan swydd y Cwnsler Cyffredinol gyllideb fel y cyfryw—nid yw’n bortffolio gweinidogol. Y sefyllfa o ran y mentrau hyn yw: dywedwyd wrthyf mai’r sefyllfa o tua 1999, hynny yw, o’r cychwyn cyntaf, yw bod tua £20,000 wedi cael ei ganiatáu o’r arian sydd ar gael i sefydlu gwefan Deddfwriaeth Cymru Ar-lein. Yna, pan rannwyd y Cynulliad a’r Llywodraeth, o 2007, cytunwyd y byddai’r ddau yn cyfrannu arian cyfatebol o £20,000 yr un.

 

As I have indicated before, and as you may already be aware, the Wales Governance Centre requested an increase in those match funds to £50,000 each. I think that I did say at one stage in my statement that concerns were expressed before I came into post that that website was not delivering what people needed, broadly. There were consultations about that, but they did not achieve the progress that the Assembly Commission wanted, with the result that the Assembly Commission—I do not criticise—ceased the original match funding. The result of that was that the Wales Governance Centre decided that its priorities lay elsewhere.

Fel y dywedais o’r blaen, ac efallai eich bod yn ymwybodol o hyn, gofynnodd Ganolfan Llywodraethu Cymru am gynnydd yn yr arian cyfatebol i £50,000 yr un. Credaf fy mod wedi dweud ar un pwynt yn fy natganiad y mynegwyd pryderon cyn imi ddechrau yn y swydd nad oedd y wefan yn cyflawni’r hyn yr oedd pobl ei angen, ar y cyfan. Roedd ymgynghoriadau am hynny, ond nid oedd llwyddiant o ran sicrhau’r cynnydd yr oedd Comisiwn y Cynulliad am ei weld, felly bu i Gomisiwn y Cynulliad—ac nid wyf yn beirniadu—roi diwedd ar yr arian cyfatebol gwreiddiol. Canlyniad hynny oedd penderfyniad gan Ganolfan Llywodraethu Cymru bod ganddo flaenoriaethau eraill.

 

3.30 p.m.

The Welsh Government was then left in this position. We believe strongly in the points that I have made and the initiatives that I have taken forward, and we have sought, particularly given the current economic climate, to do this in as cost-effective a way as we can. The position is that the Welsh Government was prepared, subject to clarification and improvement of the services made available, to agree to that overall figure of £50,000, which comes out of general administrative budgets and the Legal Services budget, rather than portfolio budgets. That is the amount of money that we are currently working with, which is intended to cover the cost of the two new officials, whose salaries are approximately £20,000 each. The remaining £10,000 of that notionally allocated figure is intended to cover the Welsh Government costs in establishing a free-standing website to develop the 'encyclopaedia’, for want of a better expression.

Cafodd Llywodraeth Cymru ei gadael yn y sefyllfa hon. Credwn yn gryf yn y pwyntiau yr wyf wedi’u gwneud a’r mentrau yr wyf wedi’u datblygu, ac rydym wedi ceisio gwneud hynny yn y ffordd fwyaf costeffeithiol sy’n bosibl, yn enwedig o ystyried yr hinsawdd economaidd sydd ohoni. Roedd Llywodraeth Cymru, yn amodol ar egluro a gwella’r gwasanaethau sydd ar gael, yn barod i gytuno ar £50,000, sy’n dod o gyllidebau gweinyddol cyffredinol a chyllideb y Gwasanaethau Cyfreithiol yn hytrach na chyllidebau portffolios. Dyna’r swm yr ydym yn gweithio gydag ef ar hyn o bryd, a bwriedir iddo dalu am gost y ddau swyddog newydd, y mae eu cyflogau tua £20,000 yr un. Y bwriad ar gyfer y £10,000 sy’n weddill o’r ffigur hwnnw, sydd wedi’i ddyrannu mewn egwyddor, yw talu am gostau Llywodraeth Cymru wrth sefydlu gwefan annibynnol i ddatblygu’r 'gwyddoniadur’, yn niffyg gair gwell i’w gyfleu.

The way this works is that Westlaw UK, with whom we are entering collaboration, is itself in the process of establishing a similar encyclopaedia arrangement for the whole of its service across the UK. It has agreed to work with us so that it can provide services of that kind in relation to Welsh law and Welsh provisions, but we can also have the content managed by it in conjunction with us available on a separate free-standing website of our own. There is no final decision yet on whether that is to be done as an immediate part of the Welsh Government website, or whether it would be a completely free-standing website, linked from the Welsh Government website—and elsewhere, I am sure. Therefore, that is the general arrangement and I have, so far, not had to go to Cabinet to ask for any further funding. However, I do not rule out the possibility that I will have to, and if I do, as usual, a business case will be prepared and a request will be made. I do not know whether the £20,000 formerly contributed by the Assembly Commission might be available if we need additional funds to promote these initiatives, but we will see what happens.

Dyma sut y bydd yn gweithio: mae Westlaw UK, y byddwn yn cydweithio ag ef, yn y broses o sefydlu gwyddoniadur tebyg ar gyfer ei holl wasanaeth ar draws y DU. Mae wedi cytuno i weithio gyda ni i ddarparu gwasanaethau o’r fath ar gyfer cyfraith a darpariaethau Cymru, ond gall hefyd reoli’r cynnwys ar y cyd â ni, ar wefan annibynnol ar wahân  gennym ni. Nid oes penderfyniad terfynol eto ynghylch a fydd hynny’n rhan uniongyrchol o wefan Llywodraeth Cymru, neu a fydd yn wefan gwbl annibynnol, gyda chyswllt iddi o wefan Llywodraeth Cymru—ac o fannau eraill, rwy’n siŵr. Felly, dyna’r trefniant cyffredinol ac nid wyf, hyd yma, wedi gorfod gofyn i’r Cabinet am ragor o gyllid. Fodd bynnag, nid wyf yn diystyru’r posibilrwydd y bydd yn rhaid imi wneud hynny, ac os byddaf yn gwneud hynny, bydd achos busnes yn cael ei baratoi, fel arfer, a chais yn cael ei wneud. Ni wn a fydd yr £20,000 a gyfrannwyd yn flaenorol gan Gomisiwn y Cynulliad ar gael os bydd angen cyllid ychwanegol i hyrwyddo’r mentrau hyn, ond cawn weld beth fydd yn digwydd.

That is the general structure. There is no specific allocated budget, but that is the amount of money that I am currently working with, and we do think that we can achieve what we need to in the first two parts of the threefold initiative, if I can put it that way, with that sort of money. As you will appreciate, it means achieving an awful lot for a very small, relatively speaking, amount. Nevertheless, contrary to what may have been implied recently, I know that the Welsh Government takes very seriously, as do I, the need not to spend money that does not need to be spent. That is the position.

Dyna’r strwythur cyffredinol. Nid oes cyllideb benodol wedi’i dyrannu, ond dyna’r swm yr wy’n gweithio gydag ef ar hyn o bryd, ac rydym yn credu y gallwn gyflawni’r hyn sydd ei angen yn nwy ran gyntaf y fenter driphlyg, os gallaf ei gyfleu felly, gyda’r arian hwnnw. Fel y byddwch yn sylweddoli, mae’n golygu cyflawni llawer iawn gyda swm cymharol fychan o arian. Serch hynny, yn groes i’r hyn a awgrymwyd yn ddiweddar efallai, gwn fod Llywodraeth Cymru yn cymryd o ddifrif calon, fel fi, yr angen i beidio â gwario arian nad oes angen ei wario. Dyna’r sefyllfa.

Should we have a separate national archive, completely separate from the legislation.gov.uk/National Archives arrangements? It would be nice but, again, the considerations as to the available resources apply, and while we have concerns and need to work with the National Archives to ensure that the legislation.gov.uk site works properly to provide, bilingually and cross-referably, the legislation emanating from here, we accept that the National Archives has a great deal of expertise in providing these services. From our point of view, it is far more cost-effective, as things presently stand, to improve upon that service rather than to run one of our own completely separately. That is the line that we currently take on that.

A ddylem gael archif genedlaethol ar wahân, a fyddai’n gwbl ar wahân i drefniadau legislation.gov.uk/Archifau Gwladol? Byddai hynny’n braf ond, unwaith eto, mae ystyriaethau o ran yr adnoddau sydd ar gael, ac er bod gennym bryderon a bod angen inni weithio gyda’r Archifau Gwladol i sicrhau bod safle legislation.gov.uk yn gweithio’n iawn wrth ddarparu, yn ddwyieithog a chyda ffordd i groesgyfeirio, y ddeddfwriaeth sy’n deillio o’r lle hwn, rydym yn derbyn bod gan yr Archifau Gwladol lawer iawn o arbenigedd o ran darparu’r gwasanaethau hyn. O’n safbwynt ni, mae’n llawer mwy costeffeithiol, fel y mae pethau ar hyn o bryd, gwella’r gwasanaeth hwnnw yn hytrach na sefydlu ein gwasanaeth ein hun yn gwbl ar wahân. Dyna ein safbwynt ar hynny.

Just to be specific about it, although based in Cardiff, the two officials are being employed by Welsh Government to work specifically with the National Archives and for no other work, so that is very much a dedicated provision of manpower—or womanpower.

Yn benodol, er y bydd y ddau swyddog wedi’u lleoli yng Nghaerdydd, byddant wedi’u cyflogi gan Lywodraeth Cymru i weithio’n benodol gyda’r Archifau Gwladol ac nid ar unrhyw waith arall, felly bydd y gweithlu wedi’i ddarparu’n benodol.

Can I tell you about the contributors to the online encyclopaedia? The answer is 'no’. I have personally made certain approaches. I know that Westlaw UK obviously has access to a large number of people within the legal community of England and Wales generally, which will include people who have the requisite skills and expertise applicable to the laws of Wales. No final decisions have been made about any of that, and we are in the process of working together to agree the specific practical arrangements for how the website will work. However, it is very much intended that the work of contributors will take place at the end of this year, to provide a service beginning during the course of next year.

A allaf ddweud wrthych am y cyfranwyr i’r gwyddoniadur ar-lein? Yr ateb yw 'na allaf’. Rwyf wedi cysylltu â rhai’n bersonol. Gwn fod Westlaw UK, yn amlwg, yn gallu cysylltu â nifer fawr o bobl yng nghymuned y gyfraith yng Nghymru a Lloegr yn gyffredinol, a fydd yn cynnwys pobl sy’n meddu ar y sgiliau angenrheidiol a’r arbenigedd sy’n berthnasol i gyfreithiau Cymru. Nid oes penderfyniadau terfynol wedi’u gwneud ar hynny, ac rydym yn y broses o weithio gyda’n gilydd i gytuno ar y trefniadau ymarferol penodol ar gyfer sut bydd y wefan yn gweithio. Fodd bynnag, y bwriad yw y bydd gwaith y cyfranwyr yn digwydd ddiwedd y flwyddyn, er mwyn dechrau darparu’r gwasanaeth yn ystod y flwyddyn nesaf.

On consolidation, I think your question was on whether we can have clarity in the Bills coming forward now, in Cardiff, as to what is new law and what is consolidated. I think that that was what you meant, and I hope that we can. To be honest, I have not been asked about that before, and I have not really considered the mechanics of it, but I am rather assuming that, by methods of explanatory notes and so on, explanations are given as to which parts of a Bill are new and which are intended to bring in-house what is already there. This brings in the issue of a mechanism for simple consolidation. The difficulty with consolidation always is that bringing a Bill before a legislature means that it will be considered by a committee and debated, and that process, as you all know, takes time. If you are simply seeking to restate existing provisions, perhaps because time does not allow or the policy agenda is not present to look at them again substantively, obviously that system does not work particularly well to enable that simple method of restating existing provisions. So, the issue is whether we can develop something to enable that to be done in the particular circumstances where there are all these separate provisions in among statutes issuing from Westminster, which, frankly, confuse the picture enormously. As to the mechanism of identifying which draft provisions in a Bill are consolidation provisions and which are new provisions, I suppose that that is a matter for the management of the Bills rather than for me, strictly. However, I can ask about it if you would like me to.

O ran cydgrynhoi, rwy’n meddwl bod eich cwestiwn ynghylch a allwn gael eglurder yn y Biliau sy’n cael eu cyflwyno, yng Nghaerdydd, ynghylch beth sy’n gyfraith newydd a beth sydd wedi’i gydgrynhoi. Rwy’n meddwl mai hynny yr oeddech yn ei olygu, a gobeithio y gallwn. A bod yn onest, nid wyf wedi cael fy holi am hyn o’r blaen, ac nid wyf wedi ystyried o ddifrif sut y byddai’n gweithio, ond rwy’n tybio y bydd esboniadau yn cael eu rhoi, drwy nodiadau esboniadol ac yn y blaen, ynghylch pa rannau o Fil sy’n newydd a pha rannau y bwriedir iddynt fewnoli’r hyn sy’n bodoli eisoes. Yr hyn sy’n codi yn sgîl hyn yw dull ar gyfer cydgrynhoi syml. Yr anhawster gyda chydgrynhoi bob tro yw bod dod â Bil gerbron deddfwrfa’n golygu y bydd yn cael ei ystyried gan bwyllgor ac yn cael ei drafod, ac mae’r broses honno, fel y gwyddoch, yn cymryd amser. Os mai’r cyfan yr ydych yn ei wneud yw ceisio ailddatgan darpariaethau sy’n bod yn barod, efallai oherwydd nad oes amser neu nad yw’r agenda bolisi yn bodoli i edrych arnynt eto o ddifrif, mae’n amlwg nad yw’r system honno’n gweithio’n arbennig o dda o ran galluogi’r dull syml hwnnw o ailddatgan darpariaethau sy’n bod yn barod. Felly, y cwestiwn yw a oes modd inni ddatblygu rhywbeth i alluogi gwneud hynny yn yr amgylchiadau penodol pan fydd llawer o ddarpariaethau ar wahân ymhlith statudau sy’n dod o San Steffan, sydd, a bod yn onest, yn ddryslyd iawn. O ran y mecanwaith ar gyfer nodi pa ddarpariaethau drafft mewn Bil sy’n ddarpariaethau cydgrynhoi a pha rai sy’n ddarpariaethau newydd, rwy’n cymryd mai mater i reolwyr y Biliau yw hynny yn hytrach na mater i mi, a bod yn fanwl gywir. Fodd bynnag, gallaf holi ynghylch hynny os hoffech i mi wneud hynny.

The last question was about whether the principles could be extended to ministerial Orders. Strictly, no, I think, because ministerial Orders work under whatever powers have been granted to Ministers—and I am very much focusing here on legislation. Clearly, where secondary legislation is issued or made which impacts on previously existing provisions, one would hope that that is acknowledged and dealt with in some way. Again, I suppose that the same issues arise about identifying what the other relevant provisions are, dealing with the field in question, and if necessary making some provision to change, modify or remove them. It is a different issue because the ministerial Orders operate at the secondary level, while what we are trying to ensure that we get right is the new area, which is the full legislative competence and powers of the Assembly, and the way in which that new law is accessed by the public.

Roedd y cwestiwn olaf ynghylch a ellir ehangu’r egwyddorion i Orchmynion gweinidogol. A bod yn fanwl gywir, credaf nad oes modd, oherwydd mae Gorchmynion gweinidogion yn gweithio o dan ba bwerau bynnag sydd wedi’u rhoi i Weinidogion—ac rwy’n canolbwyntio ar ddeddfwriaeth yma. Yn amlwg, pan fydd is-ddeddfwriaeth yn cael ei chyhoeddi neu’n cael ei gwneud sy’n effeithio ar ddarpariaethau a oedd yn bod eisoes, byddai rhywun yn gobeithio y byddai hynny’n cael ei gydnabod ac y byddid yn ymdrin â hynny rywfodd. Unwaith eto, rwy’n tybio bod yr un materion yn codi ynghylch nodi beth yw’r darpariaethau perthnasol eraill, ymdrin â’r maes dan sylw, ac—os bydd angen—gwneud rhywfaint o ddarpariaeth i’w newid, i’w haddasu neu i’w dileu. Mae’n fater gwahanol gan fod y Gorchmynion gweinidogol yn gweithredu ar lefel eilaidd, ond yr hyn yr ydym ni’n ceisio sicrhau ein bod yn ei wneud yn iawn yw’r maes newydd, sef cymhwysedd a phwerau deddfwriaethol llawn y Cynulliad, a’r ffordd y mae’r gyfraith newydd honno’n cael ei defnyddio gan y cyhoedd.

Simon Thomas: Hoffwn ddweud wrth y Cwnsler Cyffredinol i ddechrau fy mod yn siŵr ei fod yn siom nad oes cyllideb ganddo, ond mae bathodyn arian braf i wneud i fyny am hynny. Mae’n siŵr ei fod yn ddiolchgar am hynny.

Simon Thomas: First of all, I want to say to the Counsel General that I am sure that he is disappointed that he does not have a budget, but he does have a wonderful silver badge to make up for it. I am sure that he is very grateful for that.

Diolchaf iddo am ei ddatganiad a’r hyn a oedd ganddo i’w ddweud heddiw. Mae cynnydd wedi bod ac rwy’n croesawu hynny. Agwedd Plaid Cymru yw y byddai awdurdodaeth ar wahân i Gymru yn helpu yn y broses hon gan symleiddio sawl agwedd ar y gymysgfa sy’n bodoli yma ar hyn o bryd o ran sefydlu llyfr statud i Gymru. Gan fod y Llywodraeth ond newydd gau ei hymgynghoriad ar yr awdurdodaeth, hoffwn glywed, os yw’n bosibl, beth yw’r camau nesaf yn dilyn yr ymgynghoriad hwnnw. Nid wyf yn disgwyl ateb am y penderfyniad, ond beth sy’n digwydd nesaf gan fod yr ymgynghoriad wedi cau a nifer fawr o bobl wedi ymateb iddo? Mae ymchwiliad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yr wyf yn aelod ohono wedi ennyn tipyn o ddiddordeb yn y cwestiwn hwn.

I thank him for his statement and for what he has had to say today. There has been progress and I welcome that. Plaid Cymru’s approach is that a separate jurisdiction for Wales would assist in this process as it would simplify many aspects of the confusion that currently exists in respect of establishing a statute book for Wales. As the Government has only just concluded its consultation on such a jurisdiction, I want to hear from him if possible what the next steps are following that consultation. I do not expect an answer about the decision, but I would like to know what happens next given that the consultation has closed and very many people have responded to it. The inquiry by the Constitutional and Legislative Affairs Committee, of which I am a member, has sparked a great deal of interest in this question.

Hoffwn droi at yr Archifau Gwladol a chroesawu’r penodiadau a wnaed a’r camau positif sydd wedi’u cymryd i wneud pethau’n fwy hygyrch. Mae o leiaf un Aelod Cynulliad a fyddai’n croesawu mynediad at ddeddfwriaeth Gymreig sy’n fwy diweddar. Rwy’n croesawu hynny, felly, er ein lles ni i gyd. A yw’r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno bod angen gwneud rhywbeth tebyg o ran y llysoedd yng Nghymru yn y pen draw—ac yn Lloegr hefyd, a dweud y gwir? Un broblem yw adnabod y gyfraith, a derbyniaf mai sôn am y llyfr statud y mae’r Cwnsler Cyffredinol heddiw, ond mae gweddill y gyfraith ar faterion Cymreig, penderfyniadau’r barnwyr ac ati, sydd hefyd yn bwysig iawn, yn cael ei greu, yn aml iawn, yn Llundain. Byddai modd o olrhain y rheini drwy’r system, fel y gwneir gan yr Archifau Gwladol, o help yn y pen draw i weld y corpws llawn o gyfreithiau sy’n effeithio ar bobl yng Nghymru.

I will turn to the National Archives and welcome the appointments made and the positive steps taken to make things more accessible. There is at least one Assembly Member who would welcome access to Welsh legislation that is more up-to-date. I welcome that, therefore, for the benefit of us all. Does the Counsel General agree that something similar needs to be done with the courts in Wales, ultimately—and in England as well, to be honest? One problem is identifying the law, and I accept that the Counsel General is talking about the statute book today, but the rest of the law on Welsh issues, including decisions taken by judges and so on, which are also very important, is formulated, very often, in London. A way of tracing those through the system, as is done by the National Archives, would be of assistance in seeing the full corpus of laws that have an impact on the people of Wales.

Croesawaf yr hyn a ddywedodd am gydweithredu â Westlaw UK. Hoffwn fod yn glir ar hynny, gan i Suzy Davies a chithau sôn am y dull 'wiki’posibl. Ai sylwebaeth gyfreithiol lawn fyddai honno yn y pen draw? Croesawaf y ffaith y bydd yn agored i’r cyhoedd, ond a fydd yn gwneud y gwaith o wasanaethu’r proffesiwn? Mae hynny’n hynod bwysig, ac, yn y cyd-destun hwn, rwy’n meddwl am y gwaith o dan y rhaglen SLS yng Ngogledd Iwerddon, gan wasanaethu’r proffesiwn a bod ar gael i’r cyhoedd hefyd.

I welcome what he said about collaboration with Westlaw UK. I want to be clear on that, as Suzy Davies and you mentioned the possible 'wiki’method. Are we talking here about full legal commentary here, ultimately? I welcome the fact that it is to be open to the public, but will it do the job of serving the legal profession? That is extremely important and, in this context, I am thinking of the work done under the SLS programme in Northern Ireland, which serves the profession as well as being made available to the public.

Wrth sôn am y datblygiadau hyn, ac am eich awydd fel cwnsler i weld adolygu, cyfansoddi a sefydlu’r gyfraith, rydych, i bob pwrpas, yn sôn am waith comisiwn y gyfraith—a nodaf eich bod newydd gyfarfod â Chomisiwn y Gyfraith i Gymru a Lloegr. A welwch yn y pen draw y bydd angen rhyw fath o gorff, megis Comisiwn y Gyfraith i Ogledd Iwerddon neu Gomisiwn y Gyfraith i Gymru a Lloegr, a fydd yn gallu goruchwylio’r broses o adolygu a diwygio’r gyfraith, a hefyd i ddod â’r gyfraith ynghyd mewn ffordd gyfansawdd? Mae honno’n agwedd bwysig.

In mentioning these developments, and your desire as Counsel General to see the revision, constitution and establishment of the law, you are, to all intents and purposes, talking about the work of a law commission—and I note that you have just met the Law Commission for England and Wales. Do you foresee that some sort of body will ultimately be required, similar to the Law Commission for Northern Ireland or the Law Commission for England and Wales, to oversee the process of reviewing and amending, and also consolidating the law? That is a very important aspect.

Croesawaf yr agwedd yn eich datganiad bod angen i’r lle hwn gyfreitha lle bynnag y bo’n bosibl. Byddem yn dymuno gweld yr un agwedd tuag at gyfreitha gan bob Gweinidog, er efallai y gwelwn yn nes ymlaen nad yw hynny’n hollol wir. Beth bynnag am hynny, croesawaf eich agwedd, a gobeithio y bydd yr agwedd honno’n treiddio’n ddyfnach drwy’r Llywodraeth.

I welcome the approach in your statement to the need for this place to legislate whenever possible. I would like to see every Minister having the same attitude towards law making, although we may see later on that that is not entirely the case. Regardless of that, I certainly welcome your stance on that, and I hope that that will permeate through Government more deeply.

Yn olaf, hoffwn sôn am y cyfeiriad yn eich datganiad at edrych a thrafod gyda’r Llywydd, rwy’n cymryd, ynghylch sut y gallwn ni yn y fan hon hwyluso’r broses o ddod â chyfreithiau ynghyd—o gyfansoddi cyfreithiau. Fel y dywedasoch gynnau fach, nid yw hynny’n golygu cyfreithiau newydd, ond dod â gwahanol statudau ynghyd, fel bod pethau’n haws i’r cyhoedd a chyfreithwyr hefyd eu deall. Credaf fy mod yn iawn i ddweud bod gan Gynulliad Gogledd Iwerddon y dull hwn o hwyluso’r broses hon yn benodol. Mae’n sicr yn bodoli mewn ambell aelod-wlad o’r Gymanwlad. A oes gennych chi fwy i’w ddweud am y dull y byddech yn dymuno ei weld, a sut y gallai hynny gael ei ymgorffori yn ein Rheolau Sefydlog yma gan gyfoethogi’r gwaith yr ydym yn ei wneud wrth graffu ar y Llywodraeth yn gyffredinol?

Finally, I want to talk about the reference in your statement to looking at and discussing with the Presiding Officer, I take, how we here can facilitate the process of consolidating legislation—of constituting laws. As you said a little earlier, that does not necessarily mean passing new legislation, but consolidating various statutes, so that things are more easily understood by the public and lawyers as well. I think that I am right in saying that the Northern Ireland Assembly uses this method of facilitating this specific process. It certainly exists in certain member countries of the Commonwealth. Do you have anything further to say about the approach that you would like to see taken, and how that could be incorporated in our Standing Orders, enhancing the work that we do in scrutinising the Government more generally?

Mr Huckle: Let me make one thing clear: this very nice silver badge was bought for me by my wife.

Mr Huckle: Gadewch i mi wneud un peth yn glir: fy ngwraig a brynodd y bathodyn arian hyfryd hwn imi.

Simon Thomas: It was not that one I was referring to. [Laughter.]

Simon Thomas: Nid at hwnnw yr oeddwn yn cyfeirio. [Chwerthin.]

Mr Huckle: I think that you had six questions in all. First, you have raised the issue of the consultation. I am not sure that this is the time to go into that, but, as far as the next steps in the process are concerned, they are the normal ones. The consultation responses are now in, and we are delighted with the number of responses. Officials, particularly in Legal Services, and I will engage in the process of analysing and considering what advice it is appropriate to give, particularly to the First Minister, who co-led the launch of the consultation with me—is that the right way around? I co-led it with him; let us put it that way—regarding what policy the Welsh Government will arrive at on this issue. The context for all of us, as you will know from membership of the committee, is the approach to part 2 of the Silk commission; I do not think that I can usefully say any more about that.

Mr Huckle: Credaf fod gennych chwe chwestiwn i gyd. Yn gyntaf, sonioch am yr ymgynghoriad. Nid wyf yn siŵr ai dyma’r adeg i fanylu am hynny, ond, y camau nesaf yn y broses yw’r rhai arferol. Rydym wedi cael yr ymatebion i’r ymgynghoriad ac wrth ein bodd gyda nifer yr ymatebion. Byddaf i a swyddogion, o’r Gwasanaethau Cyfreithiol yn benodol, yn rhan o’r broses o ddadansoddi ac ystyried pa gyngor y mae’n briodol ei roi, yn enwedig i’r Prif Weinidog, a gydarweiniodd lansiad yr ymgynghoriad gyda mi—ai dyna’r drefn gywir? Bu imi ei gyd-arwain gydag ef; gadewch i ni ddweud hynny—ynglŷn â’r polisi y bydd Llywodraeth Cymru’n ei ddatblygu ar y mater hwn. Y cyd-destun i ni i gyd, fel y gwyddoch o ganlyniad o fod yn aelod o’r pwyllgor, yw’r dull yr ydym yn trin rhan 2 o gomisiwn Silk; Nid wyf yn meddwl y gallaf ddweud mwy am hynny fydd o ddefnydd i chi.

3.45 p.m.

You asked about the work of the National Archives and whether similar work could be done in relation to court decisions. Perhaps it is my fault for not being clear enough about this matter. The work of the National Archives is directed simply at the publication of the legislative provisions in a readily accessible, bilingual and cross-referred way. The idea of the online encyclopaedia is not to replicate that in any way, but to provide a mechanism by which commentary on those provisions and other provisions that relate to them in the given fields, principally in the devolved fields, but it need not be restricted to those, must include revision, assessment and commentary on the judicial decisions that have flowed from the legislative provisions. So, that comes in under this area.

Gofynasoch am waith yr Archifau Cenedlaethol ac a allai gwaith tebyg gael ei wneud mewn perthynas â phenderfyniadau llys. Efallai mai fi sydd ar fai am beidio â bod yn ddigon clir am y mater hwn. Gwaith yr Archifau Cenedlaethol yn syml yw cyhoeddi’r darpariaethau deddfwriaethol mewn ffordd hygyrch, ddwyieithog wedi ei groesgyfeirio. Nid dyblygu hynny yw’r syniad y tu ôl i’r gwyddoniadur ar-lein, ond darparu mecanwaith sy’n meddwl bod yn rhaid i sylwebaeth ar y darpariaethau hynny a darpariaethau eraill sy’n berthnasol iddynt yn y meysydd a roddir, yn bennaf yn y meysydd datganoledig, ond nid oes rhaid ei gyfyngu i’r rheini, gynnwys adolygu, asesu a sylwebaeth ar y penderfyniadau barnwrol a ddeilliodd o ddarpariaethau deddfwriaethol. Felly, mae hynny’n dod o dan y maes hwn.

In your third question, you reminded me quite rightly about the use of the expression 'wiki’. I think that that was intended to indicate that we will be looking—this is a standard model in legal services or in the legal world, if I can put it that way, in the United Kingdom—for contributors who will not be expecting to be paid, as I would put it, for reasons on which I have already touched. I am afraid that the funds are not there to pay a substantial amount of money to legal academics or practising lawyers to join with us in this effort. However, we do not think that that will be necessary because the current model is that practicing lawyers—and I am one of them—are content, for profiling reasons, to provide content and that they like to be seen as the person who is the authoritative commentator in their field of law. That is not an unusual thing. That is where I was heading with the use of the expression 'wiki’. Obviously, we will not be allowing—how can I put this without appearing rude, because that is not my intention—just anybody to put their thoughts on the Welsh statute book onto a website; that is not the purpose. It will have to be properly overseen and edited, and the first step of the process is to identify appropriate general editors, overall editors and sub-editors to ensure the quality of what is published. That is an important aspect of this matter. It is intended that it will be authoritative and a resource that is easily accessible to the public, but also to the legal community. It has to be good enough for that purpose; to be used as a reference work in court proceedings, for example.

Yn eich trydydd cwestiwn, bu ichi fy atgoffa yn gwbl briodol am y defnydd o’r ymadrodd 'wiki’. Credaf mai’r bwriad oedd nodi y byddwn yn edrych—a mae hwn yn fodel safonol o ran gwasanaethau cyfreithiol neu yn y byd cyfreithiol, os gallaf ei roi felly, yn y Deyrnas Unedig—am gyfranwyr nad ydynt yn disgwyl cael eu talu, fel y byddwn i yn ei ddweud, am y rhesymau yr wyf wedi sôn amdanynt eisoes. Mae arnaf ofn nad yw’r arian ar gael i dalu swm sylweddol o arian i academyddion cyfreithiol neu gyfreithwyr i ymuno â ni yn yr ymdrech hon. Fodd bynnag, nid ydym yn credu y bydd hynny’n angenrheidiol oherwydd mai’r model presennol yw bod cyfreithwyr—ac rwy’n un ohonynt—yn fodlon, am resymau proffilio, i ddarparu cynnwys a’u bod yn hoffi cael eu gweld fel y sylwebydd awdurdodol yn eu maes hwy o’r gyfraith. Nid yw hynny’n beth anghyffredin. Dyna lle yr oeddwn yn mynd â’r defnydd o’r ymadrodd 'wiki’. Yn amlwg, ni fyddwn yn caniatáu—sut y gallaf ddweud hyn heb ymddangos yn anghwrtais, oherwydd nid hynny yw fy mwriad—i unrhyw un i roi eu barn ar lyfr statud Cymru ar wefan; nid dyna yw’r pwrpas. Bydd yn rhaid iddo gael ei oruchwylio yn briodol a’i olygu, a cham gyntaf y broses yw dod o hyd i olygyddion cyffredinol priodol, golygyddion gyda throsolwg o’r cwbl ac is-olygyddion i sicrhau ansawdd yr hyn sy’n cael ei gyhoeddi. Mae hynny’n agwedd bwysig ar y mater hwn. Y bwriad yw y bydd yn awdurdodol ac yn adnodd sy’n hygyrch i’r cyhoedd, ond hefyd i’r gymuned gyfreithiol. Rhaid iddo fod yn ddigon da at