Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Cofnod y Trafodion
The Record of Proceedings

Dydd Mawrth, 10 Ionawr 2012
Tuesday, 10 January 2012

Cynnwys
Contents

Cwestiynau i’r Prif Weinidog
Questions to the First Minister

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Business Statement and Announcement

Datganiad: Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: 'Gofal gydag Urddas?’—Cynnydd
Statement:Older People’s Commissioner for Wales: 'Dignified Care?’—Progress

Cynnig i Gymeradwyo Rheoliadau Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain (Hysbysebu a Masnachu) (Cymru) 2012
Motion to approve the London Olympic Games and Paralympics Games (Advertising and Trading) (Wales) Regulations 2012

Setliad Llywodraeth Leol
The Local Government Settlement

Rhaglenni Ewropeaidd
European Programmes

Cyfnod Pleidleisio
Voting Time

Dadl Fer:  Gwneud Trafnidiaeth Gynaliadwy’n Haws ar gyfer Cymunedau Gwledig Short
Debate: Making Sustainable Transport Easier for Rural Communities

Yn y golofn chwith, cofnodwyd y trafodion yn yr iaith y llefarwyd hwy ynddi yn y Siambr. Yn y golofn dde, cynhwyswyd cyfieithiad.
In the left-hand column, the proceedings are recorded in the language in which they were spoken in the Chamber. In the right-hand column, a translation has been included.

Cyfarfu’r Cynulliad am 1.30 p.m. gyda’r Llywydd (Rosemary Butler) yn y Gadair.
The Assembly met at 1.30 p.m. with the Presiding Officer (Rosemary Butler) in the Chair.

Y Cofnod

Y Llywydd: Galwaf Gynulliad Cenedlaethol Cymru i drefn.

The Presiding Officer: I call the National Assembly for Wales to order.

Cwestiynau i’r Prif Weinidog
Questions to the First Minister

Y Cofnod

Blaenoriaethau

Priorities

1. Rhodri Glyn Thomas: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn newydd. OAQ(4)0279(FM)

1. Rhodri Glyn Thomas: Will the First Minister outline his priorities for the new year. OAQ(4)0279(FM)

Y Prif Weinidog (Carwyn Jones): Byddwn yn parhau i greu’r amgylchiadau iawn i sicrhau swyddi; yn parhau gyda’n cynlluniau i helpu’r economi; ac, fel a gyhoeddwyd yn y datganiad a wnaed y bore yma ym Mhenybont, yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth yr ydym wedi dweud ei bod yn fwriad gennym ei chyflwyno yn cael ei phasio; ac, wrth gwrs, i greu Cymru gref, Prydain gref ac Ewrop gref.

The First Minister (Carwyn Jones): We will continue to create the right environment to create jobs; continue with the plans that we have in place to assist the economy; and, as announced this morning in Bridgend, to ensure that the legislation that we have committed to taking forward is passed; and, of course, to create a strong Wales, a strong Britain and a strong Europe.

Rhodri Glyn Thomas: You will be aware that concerns have been raised and, indeed, serious allegations made about the management of the All Wales Ethnic Minority Association. I trust that you have had an opportunity to read the report, which has resulted from the inquiry into the management of that organisation. Normally, I would not ask you to comment on such organisations, or individuals involved in them, but, in this case, this particular association manages £8.4 million in European projects. Can you tell us this afternoon, First Minister, whether you still have confidence in the ability of the association to manage those projects, and specifically, in its chief executive, Naz Malik?

Rhodri Glyn Thomas: Byddwch yn ymwybodol bod pryderon wedi’u codi ac, yn wir, bod honiadau difrifol wedi’u gwneud am y gwaith o reoli Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan. Hyderaf y byddwch wedi cael cyfle i ddarllen yr adroddiad, sydd wedi deillio o’r ymchwiliad i reolaeth y sefydliad hwnnw. Fel arfer, ni fyddwn yn gofyn i chi roi sylwadau ar sefydliadau o’r fath, neu unigolion sy’n ymwneud â hwy, ond, yn yr achos hwn, mae’r gymdeithas arbennig hon yn rheoli £8.4 miliwn mewn prosiectau Ewropeaidd. A allwch chi ddweud wrthym y prynhawn yma, Brif Weinidog, a oes gennych hyder o hyd yng ngallu’r gymdeithas i reoli’r prosiectau hynny ac, yn benodol, yn ei phrif weithredwr, Naz Malik?

The First Minister: The allegations are serious. A full investigation is taking place and we will comment once that investigation is concluded.

Y Prif Weinidog: Mae’r honiadau yn rhai difrifol. Mae ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal a byddwn yn gwneud sylwadau unwaith y bydd yr ymchwiliad wedi’i gwblhau.

Christine Chapman: First Minister, like many people around Wales, I was sickened by reports in local and national papers over recent weeks describing horrific attacks on a range of domestic animals. This is something that we should take seriously, as a growing body of evidence and academic research suggests that there is a link between violence towards animals and violence towards people, including child abuse and domestic violence. Bearing in mind the seriousness of this issue, will you give us an assurance that we can make tackling this issue a priority for 2012?

Christine Chapman: Brif Weinidog, fel nifer o bobl ledled Cymru, roeddwn wedi fy mrawychu gan adroddiadau mewn papurau lleol a chenedlaethol dros yr wythnosau diwethaf yn disgrifio’r ymosodiadau erchyll ar amrywiaeth o anifeiliaid domestig. Mae hyn yn rhywbeth y dylem ei gymryd o ddifrif, gan fod corff cynyddol o dystiolaeth a gwaith ymchwil academaidd yn awgrymu bod cysylltiad rhwng trais tuag at anifeiliaid a thrais tuag at bobl, gan gynnwys cam-drin plant a thrais yn y cartref. O gofio difrifoldeb y mater hwn, a roddwch sicrwydd i ni y gallwn roi blaenoriaeth i fynd i’r afael â’r mater hwn yn 2012?

The First Minister: Absolutely. The legislation exists, and I would urge any member of the public who is aware of abuse of animals to make their concerns known to the RSPCA or to the police.

Y Prif Weinidog: Yn bendant. Mae’r ddeddfwriaeth yn bodoli, a byddwn yn annog unrhyw aelod o’r cyhoedd sy’n ymwybodol o achosion o gam-drin anifeiliaid i hysbysu’r RSPCA neu’r heddlu ynghylch eu pryderon.

Paul Davies: Brif Weinidog, un o’r blaenoriaethau yn eich rhaglen lywodraethu yw gwella’r gwasanaeth iechyd. Yr wyf yn siwr y cytunwch ei bod yn hanfodol bod unrhyw newidiadau a chynigion newydd o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn dryloyw ac yn atebol i’r bobl y maent yn eu gwasanaethu. Mae’n hollbwysig felly fod gan bobl a chymunedau yr hawl i fod yn rhan lawn o unrhyw broses ymgynghori. Yn sgîl y newidiadau y bydd byrddau iechyd lleol yn eu cyflwyno yn y dyfodol agos, a yw’r Prif Weinidog yn cytuno bod yn rhaid i fyrddau iechyd lleol ymgynghori’n llawn gyda’r cyhoedd a chymunedau, ac, os felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod hyn yn digwydd?

Paul Davies: First Minister, one of the priorities in your programme for government is to improve the health service. I am sure that you will agree that it is vital that any changes and new proposals within the health service in Wales are transparent and accountable to the people who use the service. It is essential, therefore, that people and communities have the right to be included fully in any consultation process. In light of the changes that will be introduced in the near future by local health boards, does the First Minister agree that there should be full consultation between local health boards and the public and communities, and if so, what is the Welsh Government doing to ensure that that happens?

Y Prif Weinidog: Yr wyf yn cytuno’n llwyr â’r hyn a ddywedodd yr Aelod. Mae’n bwysig dros ben bod y byrddau iechyd yn ymgynghori’n fanwl gyda chymunedau lleol, a bydd proses graffu yn cael ei chynnal gan y fforwm clinigol cenedlaethol, a chan Weinidogion Cymru.

The First Minister: I wholeheartedly agree with what the Member has said. It is very important that the health boards consult in detail with local communities, and a scrutiny process will be carried out by the national clinical forum and by Welsh Ministers.

Eluned Parrott: First Minister, I was very pleased to hear you say that the economy would be your top priority going into the new year. As I am sure you are aware, we welcomed the launch of the Wales economic growth forum on 12 December. However, I understand that the Federation of Small Businesses has a number of major concerns about the practicalities of delivering the scheme, specifically about the ratio of match funding to funding available and the timing of the deadline, which gives people six weeks to develop and cost proposals, raise a minimum of £100,000, and then write and submit an application. Are you entirely satisfied with the level of applications?

Eluned Parrott: Brif Weinidog, roeddwn yn falch iawn o’ch clywed yn dweud mai’r economi fydd eich prif flaenoriaeth yn y flwyddyn newydd. Fel y gwyddoch, mae’n siŵr, gwnaethom groesawu lansiad fforwm twf economaidd Cymru ar 12 Rhagfyr. Fodd bynnag, deallaf fod gan y Ffederasiwn Busnesau Bach nifer o bryderon mawr ynghylch yr agweddau ymarferol ar gyflawni’r cynllun, yn benodol ynghylch y gymhareb rhwng yr arian cyfatebol a’r arian sydd ar gael ac amseriad y dyddiad cau, sy’n rhoi chwe wythnos i bobl ddatblygu a chostio cynigion, i gasglu o leiaf £100,000, ac yna i lunio ac i gyflwyno cais. A ydych yn gwbl fodlon ar lefel y ceisiadau?

Y Cofnod

The First Minister: Yes, I am. It is inevitable that the money will have to be spent within a certain time, but we are encouraged by the healthy number of applications received to date. However, details of those applications obviously are commercially confidential at this time.

Y Prif Weinidog: Ydw. Mae’n anochel y bydd yn rhaid gwario’r arian o fewn amser penodol, ond rydym wedi ein calonogi gan nifer iach y ceisiadau a ddaeth i law hyd yn hyn. Fodd bynnag, mae manylion y ceisiadau hynny yn amlwg yn fasnachol gyfrinachol ar hyn o bryd.

The Presiding Officer: Before we move to question 2, I had hoped that I would not have to remind people so early in the new year that this is question time. If you can keep your preamble short and make the questions a little longer, it would be helpful.

Y Llywydd: Cyn inni symud i gwestiwn 2, roeddwn yn gobeithio na fyddai’n rhaid i mi atgoffa pobl mor gynnar yn y flwyddyn newydd mai amser ar gyfer cwestiynau yw hwn. Os gallwch gadw eich rhaglith yn fyr a gwneud eich cwestiynau ychydig yn hwy, byddai o gymorth.

Cytuniad UE

EU Treaty

2. Sandy Mewies: A yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw asesiad o’r effaith ar Gymru yn sgil penderfyniad diweddar Prif Weinidog y DU i roi feto ar newidiadau i’r cytuniad UE. OAQ(4)0287(FM)

2. Sandy Mewies: Has the Welsh Government made any assessment of the impact the Prime Minister’s recent veto of changes to the EU treaty will have on Wales. OAQ(4)0287(FM)

The First Minister: It will not be possible to gauge the impact of the alleged veto at the European Council until a clearer picture emerges of the fiscal compact. However, it is important that the UK does not appear to be marginalised in Europe.

Y Prif Weinidog: Ni fydd yn bosibl mesur effaith y feto honedig yn y Cyngor Ewropeaidd nes y daw darlun cliriach o’r cytundeb cyllidol i’r amlwg. Fodd bynnag, mae’n bwysig nad yw’n ymddangos bod y DU ar y cyrion yn Ewrop.

Sandy Mewies: Thank you for that. Wales’s links with Europe are essential to our future economic prosperity. The EU is our biggest trade destination, and hundreds of thousands of Welsh jobs are dependent on those links. Therefore, First Minister, is it not the case that we in Wales need to continue to strengthen links with Europe and be at the centre of decision making, rather than engaging in the posturing and pandering behaviour displayed by David Cameron, which will only result in isolation and a weakening of our economic interests?

Sandy Mewies: Diolch am hynny. Mae cysylltiadau Cymru ag Ewrop yn hanfodol i’n ffyniant economaidd yn y dyfodol. Yr UE yw ein  marchnad fasnach fwyaf, ac mae cannoedd o filoedd o swyddi yng Nghymru yn dibynnu ar y cysylltiadau hynny. Felly, Brif Weinidog, onid yw’n wir fod angen i ni yng Nghymru barhau i gryfhau cysylltiadau ag Ewrop a bod yn rhan o’r penderfyniadau a wneir, yn hytrach na dilyn  ymddygiad ymhongar David Cameron sydd ond yn ceisio plesio, a fydd yn arwain at ynysu’r wlad ac at wanhau ein buddiannau economaidd?

The First Minister: There are two important points here. First, we in Wales have benefited handsomely from European funding, particularly, but not exclusively, structural funds. Also, there are a number of employers who are in Wales because they can access the single European market, and nothing should interfere with that access.

Y Prif Weinidog: Gwnaethoch ddau bwynt pwysig. Yn gyntaf, rydym ni yng Nghymru wedi elwa’n fawr ar gyllid Ewropeaidd, yn enwedig, ond nid yn unig, drwy gronfeydd strwythurol. Hefyd, mae nifer o gyflogwyr wedi’u lleoli yng Nghymru oherwydd eu bod yn gallu cael mynediad i’r farchnad Ewropeaidd sengl, ac ni ddylai unrhyw beth ymyrryd â’r mynediad hwnnw.

William Graham: First Minister, having been in Brussels three weeks ago today, I know that it was absolutely definite that all officials were only too pleased to engage with the United Kingdom delegation on all aspects of the European Union. The Prime Minister’s veto was specifically with regard to financial services, and while they may not be a very popular thing, they employ well over 1 million people, including people in Wales. Anything that does for the prosperity of Wales must be good.

William Graham: Brif Weinidog, oherwydd i mi fod ym Mrwsel dair wythnos yn ôl i heddiw, gwn yn gwbl bendant fod yr holl swyddogion yn falch o ymgysylltu â dirprwyaeth y Deyrnas Unedig ar bob agwedd ar yr Undeb Ewropeaidd. Roedd feto’r Prif Weinidog yn ymwneud yn benodol â gwasanaethau ariannol, ac er nad ydynt efallai yn boblogaidd iawn, maent yn cyflogi ymhell dros 1 filiwn o bobl, gan gynnwys pobl yng Nghymru. Mae’n rhaid bod unrhyw beth a ddaw â ffyniant i Gymru yn beth dda.

The First Minister: The difficulty with the Prime Minister’s position is that it has had no effect, because the reality is that every country in the European Union is now going off to do its own thing, and Britain is now left isolated. What troubles me is that the Prime Minister is in favour of the European Union—and I take him at his word on that—so it is unfortunate that those who were celebrating most were those members of the Conservative Party who, if they thought they could get elected, would stand under a UKIP banner.

Y Prif Weinidog: Yr anhawster gyda safbwynt y Prif Weinidog yw nad yw wedi cael unrhyw effaith oherwydd, mewn gwirionedd, mae pob gwlad yn yr Undeb Ewropeaidd yn awr yn dilyn ei thrywydd ei hun, ac mae Prydain yn awr wedi’i hynysu. Yr hyn sy’n fy mhryderu i yw bod y Prif Weinidog o blaid yr Undeb Ewropeaidd—ac rwyf yn cymryd ei air ar hynny—ac felly mae’n anffodus mai’r rhai a oedd yn dathlu fwyaf oedd yr aelodau hynny o’r Blaid Geidwadol a fyddai’n sefyll o dan faner UKIP, pe byddent yn credu y gallent gael eu hethol.

Simon Thomas: First Minister, do you agree with me that it is rather ironic that we have a UK Prime Minister who has refused us a referendum on membership of the European Union but thinks that he can tell Scotland when it should have its referendum on membership of the United Kingdom? What are you doing, First Minister, to ensure that whatever happens between the UK Government and Brussels, Wales’s voice is directly represented by your Government as we discuss CAP reform and the future of structural funds?

Simon Thomas: Brif Weinidog, a ydych yn cytuno â mi ei bod yn eithaf eironig bod gennym Brif Weinidog yn y Deyrnas Unedig sydd wedi gwrthod rhoi refferendwm i ni ar aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd ond sy’n credu y gall ddweud wrth yr Alban pryd y dylai gynnal ei refferendwm ar ei aelodaeth o’r Deyrnas Unedig? Beth rydych yn ei wneud, Brif Weinidog, i sicrhau bod llais Cymru yn cael ei gynrychioli’n uniongyrchol gan eich Llywodraeth wrth i ni drafod diwygio’r PAC a dyfodol y cronfeydd strwythurol, beth bynnag sy’n digwydd rhwng Llywodraeth y DU a Brwsel?

The First Minister: You will of course have seen my views on Wales’s national interests, which I expressed before Christmas. There is pragmatic co-operation between the UK Government and the Welsh Government in a number of areas, as the public would expect, but there will be some issues where there is little scope for agreement. When it comes to the Scottish referendum, I always think it unwise for a UK Prime Minister to get involved in the politics of Scotland when that UK Prime Minister does not represent a Scottish seat.

Y Prif Weinidog: Byddwch, wrth gwrs, wedi gweld fy safbwynt ar fuddiannau cenedlaethol Cymru, a fynegais cyn y Nadolig. Ceir cydweithredu pragmataidd rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru mewn nifer o feysydd, fel y byddai’r cyhoedd yn ei ddisgwyl, ond bydd rhai materion lle nad oes llawer o gwmpas i gytuno arnynt. O ran refferendwm yr Alban, rwyf bob amser yn meddwl ei bod yn annoeth i Brif Weinidog y DU gymryd rhan yng ngwleidyddiaeth yr Alban pan nad yw’n cynrychioli sedd yn yr Alban.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Questions Without Notice from the Party Leaders

Arweinydd Plaid Cymru (Ieuan Wyn Jones): Rwyf yn siŵr eich bod yn ymwybodol erbyn hyn, Brif Weinidog, fod yr economi’n gwegian a’i bod yn bosibl yr awn i ddirwasgiad eto cyn hir—os nad ydym yno yn barod. Gan eich bod wedi dadlau bod pwerau trethiannol pwysig yn nwylo Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, onid yw’n rhyfedd felly nad ydych wedi ysgrifennu’r un llythyr at David Cameron ar fater yr economi er mis Mai? Pam hynny?

The Leader of Plaid Cymru (Ieuan Wyn Jones): I am sure that you will be aware by now, First Minister, that the economy is creaking and that it is possible that we will re-enter recession before long—if we are not there already. As you have argued that important powers on taxation lie in the hands of the UK Government, is it not astonishing that you have not written a single letter to David Cameron on the issue of the economy since May? Why is that?

Y Prif Weinidog: Mae sawl achlysur wedi bod lle cafwyd trafodaeth am yr economi. Llofnodwyd communiqués y llynedd gennyf fi, Alex Salmond, Peter Robinson a Martin McGuinness yn mynegi barn am gyflwr yr economi. Y gwahaniaeth i ni, wrth gwrs, yw sicrhau ein bod yn delifro ac nid yn ysgrifennu.

The First Minister: We have had discussions on the economy on a number of occasions. Last year, communiqués were signed by me, Alex Salmond, Peter Robinson and Martin McGuinness expressing our views on the state of the economy. The difference for us, of course, is to ensure that we deliver and not just write.

Ieuan Wyn Jones: Fel y’ch atgoffais ychydig yn ôl, nid ydych wedi ysgrifennu llythyr am yr economi at David Cameron, ond yr ydych wedi ysgrifennu llythyr am ffiniau etholiadol, sydd yn amlwg yn dangos eich blaenoriaethau chi.

Ieuan Wyn Jones: As I just reminded you, you have not written a single letter on the economy to David Cameron, but you have written a letter on electoral boundaries, which clearly demonstrates your priorities.

Ar fater arall, er mis Mai, mae Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi chwe Bil. Un a gyhoeddwyd gennych chi, a hwnnw ar fater allweddol is-ddeddfau llywodraeth leol. Hoffwn eich atgoffa, lle bo Llywodraeth Cymru’n Un yn y cwestiwn, yn y ddau fis cyntaf hyd at fis Medi 2007, roedd Llywodraeth Cymru’n Un wedi cyhoeddi tri Gorchymyn a thri Mesur. Mewn datganiad ym mis Medi 2007, dywedoch ein bod 'wedi cymryd camau breision ymlaen’ wrth ddwyn deddfwriaeth gerbron.

On another issue, the Scottish Government has published six Bills since May. You have published just one, on the crucial issue of local authority bye-laws. I would like to remind you that, as far as the One Wales Government was concerned, in the first two months up to September 2007, the One Wales Government had published three Orders and three Measures. In a statement in September 2007, you said that we had 'made substantial progress’ in bringing forward legislation.

Pam yr oedi gyda’ch Biliau y tro hwn, Brif Weinidog?

Why the delay with your own Bills this time, First Minister?

Y Prif Weinidog: Mae dau Bapur Gwyn wedi cael eu cyhoeddi. Fel y mae’r Aelod yn gwybod, mae rhaglen o ddeddfwriaeth wedi cael ei chyhoeddi gan y Llywodraeth. Nid oes prinder syniadau ar yr ochr hon. Mae’n rhaid imi ddweud nad oedd dim syniadau o gwbl am unrhyw ddeddfwriaeth yn y maniffesto a gyhoeddwyd gan ei blaid ef cyn yr etholiad.

The First Minister: Two White Papers have been published. As the Member knows, a programme of legislation has been published by the Government. There is no lack of ideas on this side. I must say that there were no ideas at all on legislation in the manifesto published by his party before the election.

Ieuan Wyn Jones: Rwyf yn eich atgoffa mai chi yw’r Prif Weinidog, ac y byddwn yn craffu ar eich rhaglen ddeddfwriaethol chi, pan fyddwn yn ei chael. Brif Weinidog, ar fater yr economi, y realiti yw nad ydych wedi gwneud dim sylwadau i David Cameron mewn llythyr, ac, o ran materion deddfwriaethol, un Bil rydych chi wedi’i gyhoeddi mewn bron i flwyddyn. Rydych yn dangos diffyg gweithgarwch, brwdfrydedd ac uchelgais dros Gymru ar faterion yn ymwneud â’r economi a deddfu. Ar ôl wyth mis, onid ydy hon yn feirniadaeth ddamniol o’ch Llywodraeth?

Ieuan Wyn Jones: I remind you that you are the First Minister, and it is your programme of legislation that we will scrutinise, when we get it. First Minister, the reality on the economy is that you have made no written representations to David Cameron, and on legislation, you have published just one Bill in almost 12 months. On the issue of the economy and legislation there is a lack of action, enthusiasm and ambition for Wales. After eight months, is that not a damning criticism of your Government?

Y Prif Weinidog: Yr argraff yr wyf yn ei chael yw bod Plaid Cymru fel hen gar sydd wedi torri lawr wrth ochr y ffordd heb unrhyw danwydd, neu heb syniadau. O ran helpu’r economi, rhoddwyd £55 miliwn i helpu busnesau, rhoddwyd £90 miliwn fel arian cyfalaf, a rhoddwyd £38.9 miliwn yn syth i mewn i’r economi. Y bore yma, gwnaed datganiad am £30 miliwn i helpu sgiliau. Mae’r arian hwn yn dangos ein bod, fel Llywodraeth, eisiau delifro. Y cyfan y mae Plaid Cymru yn ei wneud yw ysgrifennu llythyron.    

The First Minister: The impression that I get of Plaid Cymru is that of an old banger, broken down at the side of the road with no fuel, without ideas. In relation to assisting the economy, £55 million has been invested to assist businesses, £90 million has been invested on capital, and £38.9 million has been invested directly in the economy. This morning, an announcement was made of £30 million to assist with skills. That demonstrates that we, as a Government, want to deliver. All that Plaid Cymru does is write letters.

The Leader of the Opposition (Andrew R.T. Davies): Some four months ago, First Minister, your Minister for Business, Enterprise, Technology and Science announced the creation of enterprise zones. Little or no information has since come out to facilitate any understanding of how these enterprises will work; why is this?

Arweinydd yr Wrthblaid (Andrew R.T. Davies): Tua phedwar mis yn ôl, Brif Weinidog, cyhoeddodd eich Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth y bydd ardaloedd menter yn cael eu creu. Prin yw’r wybodaeth a gyhoeddwyd ers hynny i hwyluso unrhyw ddealltwriaeth ynghylch sut y bydd y mentrau hyn yn gweithio; pam hynny?

The First Minister: We are waiting for final clarification from the Treasury on the capital allowances. We are looking to make an announcement towards the end of this month.

Y Prif Weinidog: Rydym yn aros am eglurhad terfynol gan y Trysorlys ar y lwfansau cyfalaf. Rydym yn bwriadu gwneud cyhoeddiad tua diwedd y mis hwn.

Andrew R.T. Davies: Time and again, I have asked this question. As I understand it, the information is available to your Government. Businesses are waiting, as are the local authorities that will be integral partners in delivering the enterprise zones. Back in the summer, your Minister said

Andrew R.T. Davies: Rwyf wedi gofyn y cwestiwn hwn dro ar ôl tro. Hyd y deallaf, mae’r wybodaeth ar gael i’ch Llywodraeth. Mae busnesau’n aros, fel y mae’r awdurdodau lleol a fydd yn bartneriaid hanfodol yn y broses o gyflwyno’r ardaloedd menter. Yn ôl yn yr haf, dywedodd eich Gweinidog

'what’s been made clear to me over the summer from industry and all the people I’ve spoken to is they regard enterprise zones as a real focal point for them.’

gwnaethpwyd yn glir imi dros yr haf gan ddiwydiant a’r holl bobl rwyf wedi siarad â hwy eu bod yn ystyried ardaloedd menter fel canolbwynt gwirioneddol.

                                                              

Is it not time that Government officials and your Minister started to drive this programme forward so that people can have confidence that your Government is engaged in economic regeneration in this country?

Onid yw’n amser i swyddogion y Llywodraeth a’ch Gweinidog fwrw ymlaen â’r rhaglen hon  fel y gall pobl fod yn hyderus bod eich Llywodraeth yn ymwneud ag adfywio economaidd yn y wlad hon?

The First Minister: I repeat that we have not received the information that we require on capital allowances. We look forward to receiving it.

Y Prif Weinidog: Dywedaf eto nad ydym wedi cael y wybodaeth sydd ei hangen arnom ar lwfansau cyfalaf. Rydym yn edrych ymlaen at ei chael.

Andrew R.T. Davies: I think that the information exists and is available to you. Listen to what senior business leaders are talking about; David Stevens, who is the chief executive of Admiral Group, has said that if the group was thinking of locating itself in a part of the United Kingdom or the European Union today, it would probably not consider Wales. One of Sir Terry Matthews’s senior executives has compared your Government with something between a small government and a local authority regarding its critical mass and size. When are you and your Minister going to get a grip on economic development in Wales, so that we can move off the bottom of the prosperity table and start moving to the top?

Andrew R.T. Davies: Credaf fod y wybodaeth yn bodoli a’i bod ar gael i chi. Gwrandewch ar yr hyn y mae’r uwch arweinwyr busnes yn ei drafod; mae David Stevens, sef prif weithredwr Grŵp Admiral, wedi dweud pe bai’r grŵp yn ystyried lleoli ei hun mewn rhan o’r Deyrnas Unedig neu’r Undeb Ewropeaidd heddiw, mae’n debyg na fyddai’n ystyried Cymru. Mae un o uwch swyddogion Syr Terry Matthews wedi disgrifio eich Llywodraeth fel rhywbeth rhwng llywodraeth fach ac awdurdod lleol o ran ei màs critigol a’i maint. Pryd rydych chi a’ch Gweinidog yn mynd i fynd i’r afael â datblygu economaidd yng Nghymru, fel y gallwn symud oddi ar waelod y tabl ffyniant a dechrau symud i’r brig?

The First Minister: We look forward to seeing the money being made available for the electrification of the Valleys lines and the railway line between Cardiff and Swansea, both of which would stimulate economic development. I can tell the leader of the opposition that both of those schemes would cost substantially less than a one-mile tunnel in Buckinghamshire—it will cost £500 million to buy off the Secretary of State for Wales, and that is money that could be used for the Welsh rail network.

Y Prif Weinidog: Rydym yn edrych ymlaen at weld yr arian yn cael ei ddarparu ar gyfer trydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd a’r llinell reilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe; byddai’r ddau ohonynt yn ysgogi datblygiad economaidd. Gallaf ddweud wrth arweinydd yr wrthblaid y byddai’r ddau gynllun hynny’n costio llawer llai na thwnnel un filltir yn Swydd Buckingham—bydd yn costio £500 miliwn i dalu’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, a gellid defnyddio’r arian hwnnw ar gyfer rhwydwaith rheilffyrdd Cymru.

The Leader of the Welsh Liberal Democrats (Kirsty Williams): First Minister, before the election last May, Labour promised that it would require general practitioners to make surgeries more accessible by opening in the evenings and on Saturday mornings. In the run-up to Christmas, we saw a number of health boards having to close facilities so that they could redirect their staff to larger centres because of an issue with recruitment and retention of staff. In November, you told us that you were launching a campaign to attract doctors to Wales to address these staff shortages. However, there is still no sign of that campaign, either. When will you make progress on these two health promises that you have made to the people of Wales?

Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (Kirsty Williams): Brif Weinidog, cyn yr etholiad fis Mai diwethaf, addawodd Llafur y byddai’n ei gwneud yn ofynnol bod meddygon teulu yn gwneud meddygfeydd yn fwy hygyrch drwy agor gyda’r nos ac ar foreau Sadwrn. Yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig, bu’n rhaid i nifer o fyrddau iechyd gau cyfleusterau er mwyn iddynt allu ailgyfeirio eu staff i ganolfannau mwy oherwydd y broblem o ran recriwtio a chadw staff. Ym mis Tachwedd, dywedasoch wrthym eich bod yn lansio ymgyrch i ddenu meddygon i Gymru i fynd i’r afael â’r prinder staff. Fodd bynnag, nid oes dal unrhyw arwydd o’r ymgyrch honno ychwaith. Pryd y byddwch yn gwneud cynnydd ar y ddau addewid iechyd hyn rydych wedi’u gwneud i bobl Cymru?

1.45 p.m.

The First Minister: First, progress is being made with GP appointments. The other issue that you raise is to do with accident and emergency departments, particularly in Pwllheli, Tenby and, I believe, Pembroke Dock, where staff had to be diverted to Withybush General Hospital. We will begin the campaign to attract new doctors to Wales this month.

Y Prif Weinidog: Yn gyntaf, mae cynnydd yn cael ei wneud o ran apwyntiadau meddyg teulu. Mae’r mater arall rydych yn ei godi yn ymwneud ag adrannau damweiniau ac achosion brys, yn enwedig ym Mhwllheli, yn Ninbych y Pysgod ac, rwy’n credu, yn Noc Penfro, lle’r oedd rhaid i staff gael eu symud i Ysbyty Cyffredinol Llwyn Helyg. Byddwn yn dechrau’r ymgyrch i ddenu meddygon newydd i Gymru y mis hwn.

Kirsty Williams: Thank you for that clarity, First Minister. However, constituents continue to raise questions about access to GPs, and no decision has yet been taken by the Minister for Health and Social Services to sign off on that recruitment campaign for doctors.

Kirsty Williams: Diolch am yr eglurder hwnnw, Brif Weinidog. Fodd bynnag, mae etholwyr yn parhau i ofyn cwestiynau am gael gafael ar feddygon teulu, ac nid yw’r  Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gwneud penderfyniad eto o ran cymeradwyo’r ymgyrch recriwtio ar gyfer meddygon.

Moving on to another area in which there is concern about a lack of progress, in October, the Minister for Business, Enterprise, Technology and Science scrapped the Prince of Wales Innovation Scholarships scheme that supported research projects of national and international excellence within the business sector. Before Christmas, she announced a further delay in providing the details of the long-awaited enterprise zones. Could you clarify when a decision will be made on a successor project for POWIS? With regard to the enterprise zones, could you confirm that your Minister has set the boundaries for those zones, and has established the policy interventions in each of them? Her letter of last month indicated that she had done neither.

Rwyf am symud ymlaen i faes arall lle mae pryder am ddiffyg cynnydd. Ym mis Hydref, bu i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth gael gwared ar gynllun Ysgoloriaeth Arloesi Tywysog Cymru, a oedd yn cefnogi prosiectau ymchwil o ragoriaeth genedlaethol a rhyngwladol o fewn y sector busnes. Cyn y Nadolig, dywedodd fod oedi pellach o ran darparu manylion yr ardaloedd menter hir-ddisgwyliedig. A allwch egluro pryd y bydd penderfyniad yn cael ei wneud ar brosiect i olynu POWIS? O ran yr ardaloedd menter, a allwch gadarnhau bod eich Gweinidog wedi gosod y ffiniau ar gyfer yr ardaloedd hynny, a’i bod wedi sefydlu’r ymyriadau polisi ym mhob un ohonynt? Mae ei llythyr, a anfonodd fis diwethaf, yn dangos nad yw wedi gwneud yr un o’r pethau hynny.

The First Minister: In relation to POWIS, the plan is to look at putting forward a replacement scheme during the course of this month. With regard to the enterprise zones, we still await the full information on capital allowances. We remain committed, of course, to enterprise zones. We have had a number of new applications for enterprise zones in other parts of Wales, and they are currently being assessed.

Y Prif Weinidog: Mewn perthynas â POWIS, y bwriad yw edrych ar gynnig cynllun newydd yn ystod y mis hwn. O ran yr ardaloedd menter, rydym yn dal i aros am y wybodaeth lawn am lwfansau cyfalaf. Rydym yn parhau i ymrwymo, wrth gwrs, i’r ardaloedd menter. Rydym wedi cael nifer o geisiadau newydd ar gyfer ardaloedd menter mewn rhannau eraill o Gymru, ac maent yn cael eu hasesu ar hyn o bryd.

Kirsty Williams: With respect, First Minister, that is not the question I asked you. In her letter to me last month, the Minister confirmed that she had not agreed the boundaries of the enterprise zones that she had already announced, nor had she agreed the exact policy interventions for them. I ask you again: has she now made a decision on those two crucial, strategic questions? She had not in December. Is it not the reality that decision after decision is flunked, delayed, fudged or avoided altogether? The Minster for housing tells us that there is a need for the Government to set a target for the building of new homes; no target has been set. The Minister for environment has kicked a decision on bovine TB into the long grass, and the Minister for transport is keeping councils and bus companies waiting with regard to the level of grant that will be available. Whether it is health, the economy, the environment or transport, your Government is failing to take the decisions that the people of Wales need. Should that not be your new year’s resolution: to take those decisions and get Wales moving?

Kirsty Williams: Gyda pharch, Brif Weinidog, nid dyna’r cwestiwn a ofynnais ichi. Yn ei llythyr i mi fis diwethaf, cadarnhaodd y Gweinidog nad oedd wedi cytuno ar ffiniau’r ardaloedd menter yr oedd wedi’u cyhoeddi eisoes, ac nad oedd wedi cytuno ar yr union ymyriadau polisi ar eu cyfer. Gofynnaf ichi eto: a yw hi bellach wedi gwneud penderfyniad ar y ddau fater hanfodol a strategol hyn? Nid oedd wedi gwneud hynny ym mis Rhagfyr. Onid y realiti yw bod penderfyniad ar ôl penderfyniad yn methu, yn cael ei oedi, yn cael ei wyrdroi, neu’n cael ei osgoi yn gyfan gwbl? Mae’r Gweinidog tai yn dweud wrthym fod angen i’r Llywodraeth bennu targed ar gyfer adeiladu cartrefi newydd; nid oes targed wedi’i osod. Mae Gweinidog yr amgylchedd wedi rhoi’r penderfyniad ar TB buchol o’r neilltu, ac mae’r Gweinidog trafnidiaeth yn cadw cynghorau a chwmnïau bysiau i aros o ran lefel y grant a fydd ar gael. P’un a ydyn yn sôn am iechyd, yr economi, yr amgylchedd neu drafnidiaeth, mae eich Llywodraeth yn methu â gwneud y penderfyniadau y mae pobl Cymru eu hangen. Onid hynny ddylai fod eich adduned blwyddyn newydd: i wneud y penderfyniadau hynny ac i symud Cymru ymlaen?

The First Minister: We have a number of decisions that will be announced in the near future. They have been considered very carefully. It cannot be right, on the one hand, to accuse the Government of prevarication and, on the other, to suggest that it should consult widely. The two things do not go together in the sense of ensuring that people have the opportunity to have their say before Ministers take decisions. We all saw what happened to the UK Government with feed-in tariffs on solar panels; it took a decision to get rid of the subsidy before the consultation period had even ended. We saw what happened in the court action that took place afterwards. We have shown time and again that we are delivering for the people of Wales, and we will continue to do so.

Y Prif Weinidog: Mae gennym nifer o benderfyniadau, a fydd yn cael eu cyhoeddi yn y dyfodol agos. Maent wedi cael eu hystyried yn ofalus iawn. Ni all fod yn iawn, ar y naill law, i gyhuddo’r Llywodraeth o osgoi ymateb ac, ar y llaw arall, i awgrymu y dylai ymgynghori’n eang. Nid yw’r ddau beth yn cyd-fynd o ran sicrhau bod pobl yn cael y cyfle i leisio eu barn cyn i Weinidogion wneud penderfyniadau. Gwelsom i gyd yr hyn a ddigwyddodd i Lywodraeth y DU gyda’r tariff cyflenwi trydan ar gyfer paneli solar; penderfynodd gael gwared ar y cymhorthdal ​​cyn i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben, hyd yn oed. Gwelsom yr hyn a ddigwyddodd yn yr achos llys a ddigwyddodd ar ôl hynny. Rydym wedi dangos dro ar ôl tro ein bod yn cyflawni dros bobl Cymru, a byddwn yn parhau i wneud hynny.

Digartrefedd

Homelessness

3. Rebecca Evans: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddigartrefedd yng Nghymru. OAQ(4)0284(FM)

3. Rebecca Evans: Will the First Minister make a statement on homelessness in Wales. OAQ(4)0284(FM)

The First Minister: The latest figures show a continued increase in homelessness in Wales. This is due to a combination of economic and housing market pressures, which will not be helped by the policies of the UK Government. We will do all that we can to mitigate those pressures.

Y Prif Weinidog: Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos cynnydd parhaus mewn digartrefedd yng Nghymru. Mae hyn o ganlyniad i gyfuniad o bwysau economaidd a phwysau yn y farchnad dai, na fydd yn cael eu helpu gan bolisïau Llywodraeth y DU. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i liniaru’r pwysau hynny.

Rebecca Evans: First Minister, homelessness is at a five-year high in Wales, and with rising living costs and cuts to housing benefit, many families face an uncertain future in 2012. I welcome your commitment to getting long-term empty properties back into use. How are you supporting local authorities to take urgent strides in that direction?

Rebecca Evans: Brif Weinidog, mae digartrefedd yng Nghymru yn uwch nag y bu ar unrhyw bryd yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Gyda chostau byw yn codi a thoriadau i’r budd-dal tai, mae llawer o deuluoedd yn wynebu dyfodol ansicr yn 2012. Croesawaf eich ymrwymiad i ddefnyddio eiddo sydd wedi bod yn wag dros gyfnod hir o amser. Sut ydych yn cefnogi awdurdodau lleol i gymryd camau brys yn y cyfeiriad hwnnw?

The First Minister: In December we announced £5 million of new investment for a national co-ordinated programme of action to tackle empty homes. It provides local authorities with working capital to develop a recyclable loan fund, which will help to overcome one of the main barriers to empty homes being brought back into use.

Y Prif Weinidog: Ym mis Rhagfyr, gwnaethom gyhoeddi £5 miliwn o fuddsoddiad newydd ar gyfer rhaglen weithredu genedlaethol gydlynol i fynd i’r afael â chartrefi gwag. Mae’n rhoi cyfalaf gweithio i awdurdodau lleol er mwyn iddynt ddatblygu cronfa ar gyfer benthyciadau y gellir eu hailgylchu, a fydd yn helpu i oresgyn un o’r prif rwystrau i ddefnyddio cartrefi gwag eto.

Mark Isherwood: As you know, one of the main contributory factors to homelessness is mortgage repossession—either repossession of the homeowner or, increasingly, repossession of the landlord, where the tenant may be vulnerable if there was not an effective tenancy agreement in place. The good news is that the Council of Mortgage Lenders has indicated that the number of repossessions in 2011 was significantly below the number forecast.

Mark Isherwood: Fel y gwyddoch, un o’r prif ffactorau sy’n cyfrannu at ddigartrefedd yw adfeddiannu mewn perthynas â morgais—naill ai adfeddiannu eiddo perchennog tŷ neu, yn gynyddol, adfeddiannu eiddo landlord, lle gallai’r tenant fod yn agored i niwed os nad oedd cytundeb tenantiaeth effeithiol ar waith. Y newyddion da yw bod Cyngor Benthycwyr Morgeisi wedi nodi bod nifer yr achosion o adfeddiannu yn 2011 yn sylweddol is na’r nifer a ragwelwyd.

Y Cofnod

In Wales, we know that the figures peaked at nearly 8,000 in 2008 but fell to around 3,000 in 2011. However, as the council has said, it is not sanguine. We are all aware that we face difficult times, that there are ongoing pressures and there is no doubt that there are difficult times ahead for homeowners, landlords and tenants. Therefore, what action is your Government taking to prevent mortgage repossessions for homeowners and in cases where tenants are affected by action being taken against their landlords?

Yng Nghymru, rydym yn gwybod bod y ffigurau wedi cyrraedd uchafbwynt o bron i 8,000 yn 2008, ond iddynt ostwng i tua 3,000 yn 2011. Fodd bynnag, fel y mae’r cyngor wedi dweud, nid yw’n sefyllfa obeithiol. Rydym i gyd yn ymwybodol ein bod yn wynebu cyfnod anodd, bod pwysau parhaus, ac nid oes amheuaeth bod cyfnod anodd i ddod ar gyfer perchnogion tai, landlordiaid a thenantiaid. Felly, pa gamau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i atal adfeddiannu mewn perthynas â morgais i berchnogion tai ac mewn achosion lle bydd camau sy’n cael eu cymryd yn erbyn landlordiaid yn effeithio ar eu tenantiaid?

The First Minister: We have committed £1.4 million over two years to help to mitigate the impact of the housing benefit cuts through offering advice to tenants and landlords. We have put in place a comprehensive review of the existing legislation on homelessness, which is part of the work being done as we move forward on the housing Bill. The homelessness grant programme continues to support a range of services to prevent homelessness and supports more than 100 projects across Wales.

Y Prif Weinidog: Rydym wedi ymrwymo £1.4 miliwn dros ddwy flynedd er mwyn helpu i liniaru ar effaith y toriadau i fudd-dal tai drwy gynnig cyngor i denantiaid ac i landlordiaid. Rydym wedi sefydlu adolygiad cynhwysfawr o’r ddeddfwriaeth bresennol ar ddigartrefedd, sy’n rhan o'r gwaith sy’n cael ei wneud wrth inni symud ymlaen ar y Bil tai. Mae’r rhaglen grantiau digartrefedd yn parhau i gefnogi amrywiaeth o wasanaethau i atal digartrefedd ac mae’n cefnogi mwy na 100 o brosiectau ledled Cymru.

Leanne Wood: First Minister, the changes to housing benefit, coupled with other attacks on the welfare state, will have—and are already having—a detrimental impact on the level of homelessness in Wales. These are ideological changes that are being carried out to appease the Tory press, rather than being based on evidence. The logical conclusion of opposition to Westminster taking decisions like this is that decisions should instead be made here, where we can at least make those decisions based on the interests of the people living in Wales as opposed to the interests of tabloid headline writers. Does the First Minister agree with that analysis?

Leanne Wood: Brif Weinidog, bydd y newidiadau i’r budd-dal tai, ynghyd ag ymosodiadau eraill ar y wladwriaeth les, yn cael effaith andwyol ar lefel y digartrefedd yng Nghymru; yn wir, mae eisoes yn cael  effaith andwyol arni. Mae’r rhain yn newidiadau ideolegol sy’n cael eu gwneud i fodloni’r wasg Dorïaidd, yn hytrach na bod yn seiliedig ar dystiolaeth. Os ydych yn gwrthwynebu bod San Steffan yn gwneud penderfyniadau fel hyn, y casgliad rhesymegol yw y dylid gwneud penderfyniadau yn y fan hon, lle gallwn o leiaf wneud y penderfyniadau hynny ar sail buddiannau’r bobl sy’n byw yng Nghymru, yn hytrach na buddiannau awduron penawdau’r papurau tabloid. A yw’r Prif Weinidog yn cytuno ar y dadansoddiad hwnnw?

The First Minister: I have always been a strong supporter of devolution, but I always counsel carefully against taking powers without having the budget to follow. One concern that I would have were housing benefit to be completely devolved would be that the UK Government would fail to deliver the right level of financial support to enable the Government to do what it wished to do in Wales.

Y Prif Weinidog: Rwyf bob amser wedi cefnogi datganoli yn gryf, ond rwyf bob amser yn cynghori’n ofalus yn erbyn cymryd pwerau heb gael y gyllideb i ddilyn hynny. Pe bai budd-dal tai yn cael ei ddatganoli yn llwyr, byddwn yn pryderu y byddai Llywodraeth y DU yn methu â darparu’r lefel gywir o gymorth ariannol i alluogi’r Llywodraeth i wneud yr hyn a oedd yn dymuno ei wneud yng Nghymru.

Joyce Watson: First Minister, you will have seen reports in the news last week about the increase in the number of people turning to payday loans to cover their mortgage or rent. As more people feel the squeeze, do you agree that free debt advice services offer vital support to those struggling with debt and helping them to avoid falling into arrears and risking losing their homes? What can your Government do to put pressure on the UK Government to force banks to continue to fund free debt services after this April, when that funding is due to come to an end? What can the Welsh Government do to crack down on rogue debt advice firms that charge hidden fees and cold call vulnerable people?

Joyce Watson: Brif Weinidog, byddwch wedi gweld adroddiadau yn y newyddion yr wythnos diwethaf am y cynnydd yn nifer y bobl sy’n troi at fenthyciadau diwrnod cyflog i dalu eu morgais neu eu rhent. Wrth i fwy o bobl deimlo’r wasgfa, a ydych chi’n cytuno bod gwasanaethau cyngor ar ddyledion am ddim yn cynnig cefnogaeth hanfodol i’r rheini sy’n cael trafferth â dyledion ac yn eu helpu i osgoi mynd i ddyled a’r perygl o golli eu cartrefi? Beth all eich Llywodraeth ei wneud i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i orfodi banciau i barhau i ariannu gwasanaethau dyled am ddim ar ôl mis Ebrill eleni, pan fydd y cyllid yn dod i ben? Beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i fynd i’r afael â chwmnïau cyngor ar ddyledion twyllodrus sy’n codi ffioedd cudd ac yn ffonio pobl sy’n agored i niwed heb rybudd?

The First Minister: We work closely with Citizens Advice Cymru and other stakeholders to identify these issues and deal with them. However, it is right to say that the advice sector, particularly third sector providers, is facing significant pressures, particularly in light of welfare reform and the changes being made to legal aid and the impact of the reduction in funding through the financial inclusion fund. However, we are in close contact with the independent advice providers’ forum in order to support not-for-profit organisations in Wales to ensure that we can help to mitigate the effect of the changes that are occurring.

Y Prif Weinidog: Rydym yn gweithio’n agos â Chyngor ar Bopeth Cymru a rhanddeiliaid eraill i nodi’r materion hyn ac i ymdrin â hwy. Fodd bynnag, mae’n iawn dweud bod y sector cynghori, ac yn enwedig darparwyr yn y sector preifat, yn wynebu pwysau sylweddol, yn enwedig yng ngoleuni diwygiadau lles a’r newidiadau sy’n cael eu gwneud i gymorth cyfreithiol ac effaith y gostyngiad i’r cyllid sydd ar gael drwy’r gronfa cynhwysiant ariannol. Fodd bynnag, rydym mewn cysylltiad agos â fforwm y darparwyr cyngor annibynnol er mwyn cefnogi sefydliadau di-elw yng Nghymru i sicrhau y gallwn helpu i liniaru ar effaith y newidiadau sy’n digwydd.

Sector Manwerthu

Retail Sector

4. Peter Black: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisïau ei Lywodraeth ynghylch y sector manwerthu yng Nghymru. OAQ(4)0282(FM)

4. Peter Black: Will the First Minister make a statement on his Government’s policies concerning the retail sector in Wales. OAQ(4)0282(FM)

The First Minister: As the Member will be aware, we are currently reviewing the best way to support businesses in Wales, particularly small and micro-businesses, many of which are retailers. Members will know that we are also reviewing our business rate policy.

Y Prif Weinidog: Fel y mae’r Aelod yn gwybod, ar hyn o bryd rydym yn adolygu’r ffordd orau o gefnogi busnesau yng Nghymru, yn enwedig busnesau bach a microfusnesau, y mae llawer ohonynt yn fanwerthwyr. Bydd Aelodau yn gwybod ein bod hefyd yn adolygu ein polisi cyfraddau busnes.

Peter Black: Thank you for that answer, First Minister. You will know that many retailers, particularly those based in town and city centres, complain about the impact that out-of-town retail centres and large supermarkets have on their business. When you put together the promised Bill on planning, will you look at this aspect? What views do you have regarding ways in which we can counter that influence?

Peter Black: Diolch am hynny, Brif Weinidog. Byddwch yn gwybod bod llawer o fanwerthwyr, yn enwedig y rhai sydd wedi’u lleoli yng nghanol trefi a dinasoedd, yn cwyno am yr effaith y mae canolfannau manwerthu y tu allan i’r dref ac archfarchnadoedd mawr yn ei gael ar eu busnes. Pan fyddwch yn llunio’r Bil cynllunio a addawyd gennych, a fyddwch yn edrych ar yr agwedd hon? Beth yw eich barn ynghylch sut y gallwn wrthbwyso’r dylanwad hwnnw?

The First Minister: This is one issue that clearly resonates with members of the public. It is important that town centres are attractive places for people to come to shop. It is also important that we consider carefully what town centres should look like in the future—as they clearly will not be the same as they were 10 or 20 years ago—to ensure that there is sufficient business in town centres to attract people in and to ensure that retailers can make a living.

Y Prif Weinidog: Mae hwn yn fater sy’n amlwg yn bwysig i aelodau o’r cyhoedd. Mae’n bwysig bod canol trefi yn lleoedd atyniadol i bobl ddod i siopa. Mae hefyd yn bwysig ein bod yn ystyried yn ofalus sut y dylai canol trefi edrych yn y dyfodol—gan ei bod yn amlwg na fyddant yr un fath ag yr oeddent 10 neu 20 mlynedd yn ôl—er mwyn sicrhau bod digon o fusnes yng nghanol trefi i ddenu pobl i mewn ac i sicrhau y gall manwerthwyr ennill bywoliaeth.

Nick Ramsay: First Minister, you spoke earlier about the importance of delivery, and I am sure that you will agree that there is a world of difference between words and actions when it comes to delivery. In terms of the problems affecting our town centres at the moment and the threat posed by supermarkets and other organisations, in the run up to the Assembly elections, my party proposed a shopkeeper strategy as a way of listening to those in the retail sector so that Government policy could be better fitted. Will you consider adopting a shopkeeper strategy or a wider retail strategy that will genuinely listen to the problems that shopkeepers are having, so that we can address that particular problem?

Nick Ramsay: Brif Weinidog, soniasoch yn gynharach am bwysigrwydd cyflawni, ac rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno bod byd o wahaniaeth rhwng geiriau a gweithredoedd pan mae cyflawni yn y cwestiwn. O ran y problemau sy’n effeithio ar ganol ein trefi ar hyn o bryd a’r bygythiad a berir gan archfarchnadoedd a sefydliadau eraill, yn y cyfnod cyn etholiad y Cynulliad, cynigiodd fy mhlaid strategaeth ar gyfer perchnogion siopau fel ffordd o wrando ar y rhai yn y sector manwerthu, fel y gellid teilwra polisi’r Llywodraeth yn well. A fyddwch yn ystyried mabwysiadu strategaeth ar gyfer perchnogion siopau neu strategaeth manwerthu ehangach a fydd wir yn gwrando ar broblemau perchnogion siopau, er mwyn inni fynd i’r afael â’r broblem honno?

Y Cofnod

The First Minister: We always listen to the problems of small retailers; I am sure that all Assembly Members do so as part of their work. These are difficult times for retailers, and not just for smaller retailers—as we know from the results that have been published, these are also difficult times for larger retailers. There was a particular challenge to retailers last year from online retailing, and that challenge will increase in years to come. It is important that we take steps—planning is one way of doing this—to make sure that our towns have vibrant centres.     

Y Prif Weinidog: Rydym bob amser yn gwrando ar broblemau manwerthwyr bach; rwy’n siŵr bod holl Aelodau’r Cynulliad yn gwneud hynny fel rhan o’u gwaith. Mae hwn yn gyfnod anodd i fanwerthwyr, ac nid yn unig ar gyfer manwerthwyr llai—fel y gwyddom o ddarllen y canlyniadau a gyhoeddwyd, mae hefyd yn gyfnod anodd ar gyfer manwerthwyr mwy o faint. Roedd manwerthwyr yn wynebu her arbennig y flwyddyn ddiwethaf o ganlyniad i fanwerthu ar-lein, a bydd yr her honno yn cynyddu yn ystod y blynyddoedd nesaf. Mae’n bwysig ein bod yn cymryd camau—mae’r broses gynllunio yn un ffordd o wneud hyn—i sicrhau bod canol ein trefi yn ffynnu.  

Alun Ffred Jones: Gyda thymor pwysig y Nadolig newydd fynd heibio, byddwch yn ymwybodol bod nifer o ffactorau yn effeithio’n negyddol ar siopau yng nghanol trefi—dyna pam mae Plaid Cymru yn credu y dylid cael strategaeth fanwerthu. Os bydd adolygiad ardrethi busnes yr Athro Brian Morgan yn argymell ehangu’r cynllun rhyddhad ardrethi busnes, a fyddwch mewn sefyllfa i allu ymateb yn gadarnhaol?

Alun Ffred Jones: The important Christmas season has just ended, so you will be aware that a number of factors negatively impact upon shops in town centres—that is why Plaid Cymru believes that we should have a retail strategy. If the business rate review being carried out by Professor Brian Morgan recommends extending the business rate relief scheme, will you be in a position to respond positively?

Y Prif Weinidog: Gallwn ymateb, wrth gwrs, ond mae pethau yn dibynnu ar faint o arian sydd ar gael.

The First Minister: We can respond, of course, but things depend on how much money is available.

The Presiding Officer: Question 5, OAQ(4)0285(FM), has been withdrawn.

Y Llywydd: Tynnwyd Cwestiwn 5, OAQ(4)0285(FM), yn ôl.

Undeb Ewropeaidd

European Union

6. William Powell: A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad am ei ohebiaeth ddiweddar â Phrif Weinidog y DU yn ymwneud â’r Undeb Ewropeaidd. OAQ(4)0294(FM)

6. William Powell: Will the First Minister update the Assembly on his recent correspondence with the Prime Minister on the European Union. OAQ(4)0294(FM)

The First Minister: Following the UK veto at December’s European Council, I wrote to the Prime Minister voicing my concern that the UK was in danger of marginalising itself and outlining the difficulties that would be caused to devolved administrations through a lack of consultation. He has responded, and I welcome his words that the UK will remain a committed and influential member of the EU.

Y Prif Weinidog: Yn dilyn feto y DU yn y Cyngor Ewropeaidd ym mis Rhagfyr, ysgrifennais at y Prif Weinidog i leisio fy mhryder bod y DU mewn perygl o ymyleiddio ei hun ac i amlinellu’r anawsterau i weinyddiaethau datganoledig o ganlyniad i ddiffyg ymgynghori. Mae wedi ymateb, a chroesawaf y ffaith ei fod wedi dweud y bydd y DU yn parhau i fod yn aelod ymrwymedig a dylanwadol o’r UE.

William Powell: As was said in answer to an earlier question, there is particular concern that the marginalisation that might result from the exercise of the so-called veto may make things difficult in conducting negotiations on the development of the common agriculture policy, the common fisheries policy and other critical areas. Have you raised those specific areas with the Prime Minister or with any other representatives in Westminster or Brussels?   

William Powell: Fel y dywedwyd mewn ateb i gwestiwn blaenorol, mae pryder arbennig y gallai’r ymyleiddio a allai ddeillio o arfer y feto hon, fel y’i gelwir, wneud pethau’n anodd wrth gynnal trafodaethau ar ddatblygu’r polisi amaethyddol cyffredin, y polisi pysgodfeydd cyffredin a meysydd allweddol eraill. A ydych wedi codi’r materion penodol hynny gyda’r Prif Weinidog neu gydag unrhyw gynrychiolwyr eraill yn San Steffan neu ym Mrwsel?   

The First Minister: I have said publicly that where a country is marginalised without any friends or allies in Europe, it is a failure of diplomacy. It is also important to understand that the rules will continue to be drawn up by the European Commission and the European Council but that the UK’s influence on those rules will be diminished as a result. However, UK producers will still have to follow them. It is crucial that the UK plays a strong and central role in the European Union for the good of our manufacturers, and particularly for the good of our farmers.

Y Prif Weinidog: Lle bo gwlad ar yr ymylon heb unrhyw ffrindiau neu gynghreiriaid yn Ewrop, mae’n fethiant o ran diplomyddiaeth. Rwyf wedi dweud hynny yn gyhoeddus. Mae hefyd yn bwysig deall y bydd y rheolau yn parhau i gael eu llunio gan y Comisiwn Ewropeaidd a’r Cyngor Ewropeaidd, ond y bydd dylanwad y DU ar y rheolau hynny yn lleihau o ganlyniad. Fodd bynnag, bydd cynhyrchwyr y DU yn dal yn gorfod eu dilyn. Mae’n hanfodol bod y DU yn chwarae rhan gref a chanolog yn yr Undeb Ewropeaidd, er budd ein cynhyrchwyr, ac yn enwedig er budd ein ffermwyr.

Byron Davies: Is not unreasonable for us to expect you, in your position as First Minister and given the importance of improving the Welsh economy, to have a handle on Welsh exports within the EU. Can you explain how you got Wales’s export figures to the EU so wrong in your letter to the Prime Minister? Do you appreciate that we are the least exposed nation within the UK to EU trade? What are your plans to deal with this?

Byron Davies: Nid yw’n afresymol inni ddisgwyl i chi, yn eich swydd fel Prif Weinidog, ac o ystyried pwysigrwydd gwella economi Cymru, ddeall sefyllfa allforion Cymru yn yr UE. A allwch esbonio sut y cawsoch ffigurau allforio Cymru i’r UE mor anghywir yn eich llythyr at y Prif Weinidog? A ydych yn sylweddoli mai ni yw’r genedl leiaf agored yn y DU o ran masnachu i’r Undeb Ewropeaidd? Beth yw eich cynlluniau i ddelio â hyn?

The First Minister: Does the Member really believe that the Ford factory would be in Bridgend if we were not members of the European Union? Does he believe that Tata Steel would be in Port Talbot if we were not members of the European Union? Does he believe that Airbus UK would be on Deeside if we were not members of the European Union? The UK market is too small; the European market is very large. In line with many other parts of the UK, 150,000 jobs in Wales rely on our membership of the European Union and access to the single European market. Without it, we would lose those jobs, and, on top of that, our farming industry would be decimated.

Y Prif Weinidog: A yw’r Aelod wir yn credu y byddai’r ffatri Ford wedi’i lleoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr os nad oeddem yn aelodau o’r Undeb Ewropeaidd? A yw’n credu y byddai Tata Steel wedi’i leoli ym Mhort Talbot os nad oeddem yn aelodau o’r  Undeb Ewropeaidd? A yw’n credu y byddai Airbus UK wedi’i leoli ar Lannau Dyfrdwy os nad oeddem yn aelodau o’r Undeb Ewropeaidd? Mae marchnad y DU yn rhy fach; mae’r farchnad Ewropeaidd yn fawr iawn. Yn unol â llawer o rannau eraill o’r DU, mae 150,000 o swyddi yng Nghymru yn dibynnu ar ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd a mynediad at y farchnad Ewropeaidd sengl. Heb hynny, byddem yn colli’r swyddi hynny, ac, ar ben hynny, byddai ein diwydiant ffermio yn cael ei ddifetha.

Llyr Huws Gruffydd: Gyda Phrydain wedi ei hynysu i’r fath raddau a goblygiadau hynny i fuddiannau Cymru, a fyddech yn cytuno, Brif Weinidog, ei bod yn bwysicach nag erioed fod gan Gymru ei llais uniongyrchol ei hun o fewn yr Undeb Ewropeaidd?

Llyr Huws Gruffydd: Given that Britain has become so marginalised, with the resulting implications for Wales’s interests, would you agree, First Minister, that it is more important than ever that Wales has its own, direct voice within the European Union?

Y Prif Weinidog: Mae’n bwysig iawn fod gan Gymru lais cryf, ac mae hynny’n rhywbeth yr ydym wedi ei adeiladu dros y blynyddoedd. Mae hynny’n cynnwys swyddfa a staff amser llawn ym Mrwsel yn cynrychioli Cymru o ddydd i ddydd.

The First Minister: It is very important that Wales has a strong voice, and that is something that we have built up over the years. That includes an office and full-time staff in Brussels, representing Wales from day to day.

Y Cofnod

Trydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd

Electrification of Valley Lines

7. Julie Morgan: Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cynnal gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Network Rail am drydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd. OAQ(4)0288(FM)

7. Julie Morgan: What discussions has the First Minister had with the Secretary of State for Wales and Network Rail about the electrification of the Valleys Lines. OAQ(4)0288(FM)

2.00 p.m.

Y Cofnod

The First Minister: We have held a number of discussions with the UK Government on the electrification of the Valleys network, and these are continuing. We have worked closely with Network Rail and others in preparing an outline business case, which was submitted to the Department for Transport in December.

Y Prif Weinidog: Rydym wedi cynnal nifer o drafodaethau â Llywodraeth y DU ar drydaneiddio rhwydwaith y Cymoedd, ac mae’r rhain yn parhau. Rydym wedi gweithio’n agos â Network Rail ac eraill wrth baratoi achos busnes amlinellol a gyflwynwyd i’r Adran Drafnidiaeth ym mis Rhagfyr.

Julie Morgan: If the business case for the electrification of the Valleys lines is viewed positively by the Treasury—which I am sure that it will be—what will be the next steps? How will funding be achieved in view of the fact that it is mostly non-devolved funding that will be required, and what will be the timetable?

Julie Morgan: Os bydd yr achos busnes ar gyfer trydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd yn cael ymateb cadarnhaol gan y Trysorlys—ac rwy’n siŵr y bydd—beth fydd y camau nesaf? Sut y bydd y cyllid yn cael ei sicrhau o ystyried mai cyllid sydd heb ei ddatganoli sydd ei angen yn bennaf, a beth fydd yr amserlen?

The First Minister: Funding for railways infrastructure is not devolved, so it is reasonable that the people of Wales should expect to see a substantial amount of money come to Wales. The electrification of the Valleys network and of the line between Cardiff and Swansea would work out far cheaper than the 1.4 mile tunnel that is being built in Buckinghamshire for HS2. I have no comment to make about that tunnel; that is a matter for the people who live there and the UK Government but, if £500 million is going to Buckinghamshire, Wales deserves electrification.

Y Prif Weinidog: Nid yw ariannu’r seilwaith rheilffyrdd wedi’i ddatganoli, felly mae’n rhesymol y dylai pobl Cymru ddisgwyl gweld swm sylweddol o arian yn dod i Gymru. Byddai trydaneiddio rhwydwaith y Cymoedd a’r lein rhwng Caerdydd ac Abertawe yn llawer rhatach na’r twnnel 1.4 milltir o hyd sy’n cael ei adeiladu yn Swydd Buckingham ar gyfer HS2. Nid oes gennyf unrhyw sylwadau i’w gwneud ar y twnnel; mae’n fater i’r bobl sy’n byw yno a Llywodraeth y DU ond, os yw £500 miliwn yn mynd i Swydd Buckingham, mae Cymru yn haeddu trydaneiddio.

Andrew R.T. Davies: The First Minister seems to be fixated with the Secretary of State for Wales’s constituency. You have your own budget, which is Barnettised, and you allocate that money accordingly. That was a perfectly reasonable question from your own backbencher as to what actions you will take, but you chose to speak again about the Secretary of State’s constituency. When are you going to start facing up to things and representing people in Wales and working for the best interests of businesses in Wales? We on this side wholly support the electrification of the Valleys lines and we will offer that support to the Government. Instead of reverting to your bunker in Cathays park, it is time that you engaged positively with the Westminster Government for the betterment of Wales.

Andrew R.T. Davies: Mae’n ymddangos bod gan y Prif Weinidog obsesiwn ag etholaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Mae gennych eich cyllideb ei hun, sy’n destun fformiwla Barnett, ac rydych yn dyrannu arian yn unol â hynny. Roedd y cwestiwn hwnnw’n gwbl resymol gan Aelod o’ch meinciau cefn eich hun o ran pa gamau y byddwch yn eu cymryd, ond rydych yn mynnu siarad am etholaeth yr Ysgrifennydd Gwladol. Pryd ydych chi’n mynd i ddechrau wynebu pethau a chynrychioli pobl yng Nghymru a gweithio er budd busnesau yng Nghymru? Rydym ni ar yr ochr hon i’r Siambr yn gwbl gefnogol i drydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd a byddwn yn cynnig y gefnogaeth honno i’r Llywodraeth. Yn hytrach na chilio’n ôl i’ch byncer ym mharc Cathays, mae’n amser ichi  weithio’n gadarnhaol â Llywodraeth San Steffan er budd Cymru.

The First Minister: He does not know that railway infrastructure is not devolved. He does not know that the budget is held in Westminster, not in Cardiff. The reality is that money for electrification is held by the UK Government for the benefit of England and Wales. The point that I make is simply this: if £500 million can be found for a 1 mile tunnel in Buckinghamshire, that money can be found for Valleys lines electrification and, indeed, for electrification of the line between Cardiff and Swansea. It is a shame that the leader of the opposition keeps on cleaving to his mistress’s line.

Y Prif Weinidog: Nid yw e’n gwybod bod seilwaith y rheilffyrdd heb ei ddatganoli. Nid yw’n gwybod mai yn San Steffan, ac nid yng Nghaerdydd, y mae’r gyllideb yn cael ei chadw. Y realiti yw bod yr arian ar gyfer trydaneiddio yn cael ei gadw gan Lywodraeth y DU er lles Cymru a Lloegr. Mae’r pwynt yr wyf i’n ei wneud yn un syml: os oes modd dod o hyd i £500 miliwn ar gyfer milltir o dwnnel yn Swydd Buckingham, gellir dod o hyd i arian i drydaneiddio rheilffordd y Cymoedd ac, yn wir, i drydaneiddio’r lein rhwng Caerdydd ac Abertawe. Mae’n drueni bod arweinydd yr wrthblaid yn mynnu glynu at yr hyn y mae ei feistres yn ei ddweud wrtho.

Lindsay Whittle: First Minister, it was 42 years ago, in 1970, that Dr Phil Williams and I stood outside Bargoed train station calling for the electrification of the Rhymney valley line. So we may be getting there. Will you use your influence to ensure that electrification begins at the Heads of the Valleys and moves south? I fear that if electrification starts at the cities and moves north it will take another 42 years to get there.

Lindsay Whittle: Brif Weinidog, 42 mlynedd yn ôl, yn 1970, roeddwn i a Dr Phil Williams yn sefyll y tu allan i orsaf drenau Bargoed yn galw am drydaneiddio rheilffordd cwm Rhymni. Felly, efallai ein bod yn cyrraedd pen y daith yn ara deg. A wnewch chi ddefnyddio eich dylanwad i sicrhau bod trydaneiddio’n dechrau ym Mlaenau’r Cymoedd ac yn symud i’r de? Rwy’n ofni pe bai trydaneiddio’n dechrau yn y dinasoedd ac yn symud i’r gogledd y bydd yn cymryd 42 mlynedd arall i’w gwblhau.

The First Minister: It has to go all the way. There would be no point electrifying between Rhymney and Pontlottyn, but I understand that you would want electrification between Rhymney and Cardiff. Electrification is a serious issue. I hope that, in the medium to long term, we will see electrification across other networks across Wales, but electrification of the Valleys lines would help the economy of all of the communities on the network going into Cardiff, and electrification between Cardiff and Swansea would help all those communities west of Cardiff and towards Swansea. We will work in good faith with the DfT to ensure that electrification takes place, but it is fair to say that, if money can be found for one tunnel, it surely can be found for Wales.

Y Prif Weinidog: Mae’n rhaid iddo fynd yr holl ffordd. Ni fyddai unrhyw bwynt trydaneiddio rhwng Rhymni a Phontlotyn, ond rwy’n deall y byddech am drydaneiddio rhwng Rhymni a Chaerdydd. Mae trydaneiddio’n fater difrifol. Rwy’n gobeithio, yn y tymor canolig a’r tymor hir, y byddwn yn gweld trydaneiddio rhwydweithiau eraill ledled Cymru, ond byddai trydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd yn helpu economi yr holl gymunedau ar y rhwydwaith sy’n mynd i Gaerdydd, a byddai trydaneiddio rhwng Caerdydd ac Abertawe yn helpu’r holl gymunedau hynny i’r gorllewin o Gaerdydd a thuag at Abertawe. Byddwn yn gweithio’n ddidwyll â’r Adran Drafnidiaeth i sicrhau bod trydaneiddio’n digwydd, ond mae’n deg dweud, os gellir dod o hyd i arian ar gyfer un twnnel, mae’n sicr y gellir dod o hyd i’r arian i Gymru.

Hawliau Cyflogaeth

Employment Rights

8. Vaughan Gething: Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael ynghylch cynigion Llywodraeth y DU i newid hawliau cyflogaeth. OAQ(4)0289(FM)

8. Vaughan Gething: What discussions has the First Minster had regarding the UK Government’s proposals to change employment rights. OAQ(4)0289(FM)

The First Minister: I have written to the UK Government expressing my concerns and have sought to ensure proper engagement to ensure that these proposals do not impact on the fundamental rights of the workforce in Wales.

Y Prif Weinidog: Rwyf wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn mynegi fy mhryderon ac wedi ceisio sicrhau ymrwymiad priodol i sicrhau nad yw’r cynigion hyn yn effeithio ar hawliau sylfaenol y gweithlu yng Nghymru.

Vaughan Gething: As you will be aware, the UK already has some of the most, if not the most, liberal employment legislation in Europe. Does the Welsh Government share my view that making it even easier to sack employees will not create a single new job at a time when creating jobs should be the over-riding priority of the UK Government?

Vaughan Gething: Fel y gwyddoch, mae’r DU ymysg y gwledydd sydd â’r ddeddfwriaeth cyflogaeth mwyaf rhyddfrydol yn Ewrop—os nad y mwyaf rhyddfrydol. A yw Llywodraeth Cymru yn rhannu fy marn na fydd gwneud pethau’n haws fyth i gwmnïau ddiswyddo gweithwyr yn creu’r un swydd newydd, a hynny mewn cyfnod pan ddylai creu swyddi fod yn flaenoriaeth hollbwysig i Lywodraeth y DU?

The First Minister: I fail to understand the logic that, at a time when we are trying to create jobs, the UK Government wants to make it easier to destroy jobs. I do not follow the logic of that. It is clear that, by sacking one person, you do not create a job; you ensure that that person is without a job. It is absolutely right that those rights that have been fought for over many years by so many working people across the whole of the UK, and elsewhere in Europe, should be preserved.

Y Prif Weinidog: Nid wyf yn deall y rhesymeg, a ninnau’n ceisio creu swyddi, pam bod Llywodraeth y DU am ei gwneud yn haws i ddinistrio swyddi. Nid wyf yn dilyn y rhesymeg honno. Mae’n amlwg nad yw diswyddo un person yn creu swydd arall; rydych ond yn sicrhau nad oes gan y person hwnnw swydd. Mae’n gwbl iawn y dylid cadw’r hawliau hynny y mae cynifer o weithwyr yn y DU a rhannau eraill o Ewrop wedi brwydro cymaint dros y blynyddoedd i’w hennill.

Y Cofnod

Angela Burns: You will be aware that the Government has said clearly that it will ensure that a package of measures will remain to protect people. The whole point about being able to dismiss someone is that currently, if you run a small business and have an employee who is useless at their job, and, despite the training that you have given them, you simply cannot improve them and they are hindering your business from growing, it is almost impossible to get rid of them. I speak from personal experience of trying to get someone terminated: you have to pay a huge amount of money. Therefore, surely, First Minister, you need to go out and talk to small businesses in Wales about what they need in order to be able not to get rid of jobs left, right and centre, as your backbencher implied, but to have the right person in the right job in order to enable those small businesses to carry on and prosper in a difficult economic time.

Angela Burns: Rydych yn ymwybodol bod y Llywodraeth wedi nodi’n glir y bydd yn sicrhau y bydd pecyn o fesurau i ddiogelu pobl yn parhau mewn grym. Yr holl bwynt ynglŷn â’r gallu i ddiswyddo rhywun ar hyn o bryd yw, os ydych yn rhedeg busnes bach a bod gennych weithiwr sy’n anobeithiol yn ei swydd ac, er gwaethaf yr hyfforddiant rydych wedi’i roi iddo, mae’n amhosibl ei wella ac mae’n rhwystro’ch busnes rhag tyfu, ei bod bron yn amhosibl cael gwared arno. Rwy’n siarad o brofiad personol o geisio terfynu cyflogaeth rhywun: rhaid i chi dalu swm enfawr o arian. Felly, Brif Weinidog, mae angen i chi fynd allan a siarad â busnesau bach yng Nghymru am yr hyn sydd ei angen arnynt, nid i’w galluogi i gael gwared ar swyddi fel y mynnont, fel yr awgrymodd eich Aelod o’r meinciau cefn, ond er mwyn cael y person cywir ar gyfer y swydd gywir fel bod y busnesau bach hynny yn parhau ac yn ffynnu mewn cyfnod economaidd anodd.

The First Minister: It is still possible to dismiss people; it is not as if people have absolute protection from being dismissed. It is right that people should be free from exploitation, expect a minimum wage, and ultimately—it is a topical issue—expect to be paid the same for the same job in Bridgend as in Brighton. With regional pay, we have seen that the objective of the UK Government is to reduce public sector wages in Wales, and we know that that will have an adverse effect on the Welsh economy.

Y Prif Weinidog: Mae’n dal yn bosibl diswyddo pobl; nid yw fel pe bai pobl yn cael eu diogelu’n llwyr rhag cael eu diswyddo. Mae’n iawn y dylai pobl fod yn rhydd rhag cael eu hecsbloetio, y dylent ddisgwyl isafswm cyflog, ac yn y pen draw—mae hwn yn bwnc amserol—y dylent ddisgwyl cael eu talu yr un faint am wneud yr un gwaith ym Mhen-y-bont ar Ogwr ag yn Brighton. Gyda chyflogau rhanbarthol, rydym wedi gweld mai amcan Llywodraeth y DU yw gostwng cyflogau sector cyhoeddus yng Nghymru, ac rydym yn gwybod y bydd hynny’n cael effaith andwyol ar economi Cymru.

Bethan Jenkins: Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol bod cyfarwyddeb Ewrop ar weithwyr asiantaeth yn dod i rym yn hwyrach y mis hwn. Mae’r wasg adain dde ym Mhrydain eisoes yn hawlio y bydd yn costio degau o filoedd o swyddi pan, mewn gwirionedd, mae’r nod yw rhoi mwy o sicrwydd i rai sydd ar gontractau dros dro. A oes gan y Llywodraeth ddarlun o sut y bydd y ddeddfwriaeth newydd hon yn effeithio ar fusnesau a gweithwyr yng Nghymru yn benodol?

Bethan Jenkins: The First Minister will be aware that the European agency workers directive is coming into force later this month. The right-wing press at a UK level have already claimed that it will cost tens of thousands of jobs when, in reality, the aim will be to provide more certainty for those who are on temporary contracts. Does the Government have any picture of how this new legislation will impact upon businesses and workers, specifically here in Wales?

Y Prif Weinidog: Mae’r wasg yn hoff o ddweud bydd unrhyw reoliadau newydd sy’n effeithio diogelwch, iechyd neu gyflogaeth yn cael effaith negyddol ar yr economi ac ar fywydau pobl. Nid wyf yn credu bod hynny’n wir. Mae’n bwysig sicrhau bod astudiaeth fanwl o unrhyw reoliadau newydd i sicrhau nad oes effaith rhy negyddol ar y gallu sydd gennym yng Nghymru i sicrhau dyfodol economaidd i’n hunain.

The First Minister: The press love to say that any new regulations that impact on health, safety or employment will have some kind of negative impact on the economy and on people’s lives. I do not believe that that is true. Of course, it is important to ensure that any new regulations are studied in detail so that they do not have an excessively negative impact on our ability in Wales to secure an economic future for ourselves.

Y Cofnod

Blaenoriaethau ar gyfer Dyffryn Clwyd

Priorities for the Vale of Clwyd

9. Ann Jones: Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Dyffryn Clwyd yn 2012. OAQ(4)0281(FM)

9. Ann Jones: What are the Welsh Government’s priorities for the Vale of Clwyd in 2012. OAQ(4)0281(FM)

The First Minister: Our priorities for the Vale of Clwyd, as for other parts of Wales, are outlined in the programme for government.

Y Prif Weinidog: Mae ein blaenoriaethau ar gyfer Dyffryn Clwyd, ag ar gyfer rhannau eraill o Gymru, wedi eu hamlinellu yn y rhaglen lywodraethu.

Ann Jones: Thank you for that. I thank the Welsh Government for the work that it has done in the Vale of Clwyd over the past years. I hope that that will continue. David Cameron promised that his administration, when it took over, would be the most family-friendly Government ever. That Tory promise is like pie crusts: easily broken. A recent report by the Institute for Fiscal Studies has revealed that a couple with two children will be £1,250 a year worse off by 2015 as a result of the Tory tax and benefit reforms. First Minister, will you assure me that families in the Vale of Clwyd can rely on a more responsible and honest financial approach from your Government?

Ann Jones: Diolch i chi am hynny. Diolchaf i Lywodraeth Cymru am y gwaith y mae wedi’i wneud yn Nyffryn Clwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rwy’n gobeithio y bydd yn parhau. Addawodd David Cameron, mai ei weinyddiaeth ef, pan fyddai’n dod i rym, fyddai’r un fwyaf cyfeillgar i deuluoedd erioed. Mae’r addewid Torïaidd hwnnw fel crwst pastai: yn hawdd ei dorri. Mae adroddiad diweddar gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi dangos y bydd cwpl gyda dau o blant ar eu colled o £1,250 y flwyddyn erbyn 2015 o ganlyniad i ddiwygiadau treth a budd-daliadau’r Torïaid. Brif Weinidog, a wnewch chi fy sicrhau y gall teuluoedd yn Nyffryn Clwyd ddibynnu ar agwedd ariannol fwy cyfrifol a gonest gan eich Llywodraeth chi?

The First Minister: Yes. An example of what I regard as the wrong-headed approach to this is the fact that, when it comes to child benefit, from next year, families who earn £48,000 a year will lose child benefit, while families who earn £80,000 a year will not. Clearly, that is not fair or right, but I am afraid that it demonstrates how the UK Government has approached the issue of child benefit.

Y Prif Weinidog: Gallaf. Enghraifft o’r agwedd bengam hon yw’r mater o fudd-dal plant. O flwyddyn nesaf, bydd teuluoedd sy’n ennill £48,000 y flwyddyn yn colli budd-dal plant, ond bydd teuluoedd sy’n ennill £80,000 y flwyddyn yn ei gadw. Yn amlwg, nid yw hynny’n deg nac yn gywir, ond yr wyf yn ofni ei fod yn dangos sut mae Llywodraeth y DU wedi ymdrin â’r mater o fudd-dal plant.

Mark Isherwood: I will come back to devolved matters and to the Vale of Clwyd and services provided by Denbighshire County Council, rather than referring to versions of services provided by another place. Will you join me in congratulating Denbighshire County Council on being the highest performing council in Wales, based on figures from the Welsh Government’s local government data unit? There are 143 performance indicators and the council has the highest number of indicators in the top quarter in Wales. Will you also join me in congratulating the leader of Denbighshire County Council on being awarded the Order of the British Empire in the Queen’s new year honours list?

Mark Isherwood: Rwyf am ddychwelyd at faterion sydd wedi’u datganoli ac i Ddyffryn Clwyd a’r gwasanaethau a ddarperir gan Gyngor Sir Ddinbych, yn hytrach na chyfeirio at fersiynau o wasanaethau a ddarperir gan le arall. A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Cyngor Sir Ddinbych am fod y cyngor sy’n perfformio orau yng Nghymru yn ôl ffigurau uned ddata llywodraeth leol Llywodraeth Cymru? Mae 143 o ddangosyddion perfformiad i’w cael, a’r cyngor hwnnw sydd â’r nifer uchaf o ddangosyddion yn y chwarter uchaf yng Nghymru. A wnewch chi hefyd ymuno â mi i longyfarch arweinydd Cyngor Sir Ddinbych am dderbyn Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig yn rhestr anrhydeddau blwyddyn newydd y Frenhines?

The First Minister: I will do that. I welcome any improvement in local government. However, I am slightly saddened by the fact that it is felt that child benefits and benefits in general are unworthy of discussion in this Chamber.

Y Prif Weinidog: Gwnaf hynny. Rwy’n croesawu unrhyw welliannau mewn llywodraeth leol. Fodd bynnag, rwyf ychydig yn drist bod pobl yn credu nad yw budd-daliadau plant a budd-daliadau yn gyffredinol yn deilwng o’u trafod yn y Siambr hon.

Y Cofnod

Llyr Huws Gruffydd: Y bore yma, cyflwynwyd deiseb i Bwyllgor Deisebau’r Cynulliad ar yr angen i ailedrych ar gynlluniau datblygu lleol. Mae enghraifft Bodelwyddan, yn etholaeth Dyffryn Clwyd, wedi ei godi yma’n gyson. A ydych o’r farn bod treblu maint unrhyw gymuned—nid oes angen ichi gyfeirio at unrhyw gymuned yn benodol wrth ateb—yn gydnaws ag egwyddorion datblygu cynaliadwy?

Llyr Huws Gruffydd: This morning, a petition was brought before the Assembly’s Petitions Committee on the need to review local development plans and the example of Bodelwyddan, in the Vale of Clwyd constituency, has been raised here regularly. Do you believe that trebling the size of any community—you do not have to refer to any specific community in responding—is in keeping with the principles of sustainable development?

Y Prif Weinidog: Gan y soniwyd am Fodelwyddan, mae’n amhosibl imi ddweud unrhyw beth ynglŷn â’r sefyllfa o ran y gymuned honno. Serch hynny, mae’n bwysig dros ben bod y system gynllunio’n cael ei gweithredu mewn modd agored, a bod gan bobl hyder ynddi.

The First Minister: As Bodelwyddan has been mentioned, it is impossible for me now to say anything about the situation with regard to that community. However, it is exceptionally important that the planning system is implemented in a manner that is open and that people have confidence in it.

Y Cofnod

Loteri Cod Post o ran rhoi Presgripsiwn am Feddyginiaethau

Post Code Lottery for Prescribing Medicines

10. William Graham: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i’r afael â’r loteri cod post o ran rhoi presgripsiwn am feddyginiaethau. OAQ(4)0286(FM)

10. William Graham: Will the First Minister outline the Welsh Government’s policies for addressing the post code lottery for prescribing medicines. OAQ(4)0286(FM)

The First Minister: I do not accept that there is a postcode lottery.

Y Prif Weinidog: Nid wyf yn derbyn bod yna loteri cod post.

William Graham: I make particular reference, First Minister, to cross-border areas, where this is immediately apparent. What steps can you take to alleviate the problem that arises when a person living in Wales and a person living in England go to the same GP surgery but do not receive the same medicines?

William Graham: Rwy’n cyfeirio’n benodol, Brif Weinidog, at ardaloedd trawsffiniol, lle mae hyn i’w weld yn glir. Pa gamau allwch chi eu cymryd i liniaru ar y broblem sy’n codi pan fydd rhywun sy’n byw yng Nghymru a rhywun sy’n byw yn Lloegr yn mynd i’r un feddygfa ond ddim yn cael yr un meddyginiaethau?

The First Minister: There is no reason why people cannot receive the same medicines. It is a matter for the prescribing clinician.

Y Prif Weinidog: Nid oes unrhyw reswm pam na all pobl gael yr un meddyginiaethau. Mae’n fater i’r clinigydd rhagnodi.

Lynne Neagle: As you are aware, First Minister, I have been doing a lot of work recently around the individual patient funding request process and its implications for cancer patients. Transparency is vital if we are all to be able to scrutinise the operation of this new process. The Minister for health has recently agreed to consider publishing data on funding requests and approvals on an all-Wales basis. Are you able to provide any update on progress in delivering this aim? Further to that, would you consider going further as a Government and publishing the figures on an LHB basis so that we can have genuine transparency to assure ourselves that there is indeed no postcode lottery?

Lynne Neagle: Fel y gwyddoch, Brif Weinidog, rwyf wedi bod yn gwneud llawer o waith ynglŷn â’r broses ceisiadau cyllido cleifion unigol a goblygiadau hynny i gleifion â chanser. Mae tryloywder yn hanfodol os disgwylir i bob un ohonom allu craffu ar sut y bydd y broses newydd hon yn gweithredu. Mae’r Gweinidog iechyd wedi cytuno yn ddiweddar i ystyried cyhoeddi data ar geisiadau am gyllid, a’r rhai sy’n cael eu cymeradwyo, ar sail Cymru gyfan. A allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd wrth gyflawni’r nod hwn? Yn ychwanegol at hynny, a fyddech yn ystyried mynd ymhellach fel Llywodraeth a chyhoeddi’r ffigurau yn ôl bwrdd iechyd lleol fel y gallwn gael tryloywder gwirioneddol i’n sicrhau nad oes loteri cod post yn bodoli?

The First Minister: Yes, we wish to publish that information on an LHB basis. We are now finalising with the LHBs the template that would be used to make that information available.

Y Prif Weinidog: Rydym yn dymuno cyhoeddi’r wybodaeth honno fesul bwrdd iechyd lleol. Rydym wrthi’n cwblhau’r templed â’r byrddau iechyd lleol a fydd yn cael ei ddefnyddio i gyflwyno’r wybodaeth honno.

Undebau Credyd

Credit Unions

11. Lynne Neagle: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion i hyrwyddo Undebau Credyd yng Nghymru. OAQ(4)0291(FM)

11. Lynne Neagle: Will the First Minister make a statement on efforts to promote Credit Unions in Wales. OAQ(4)0291(FM)

The First Minister: Yes. Marketing and publicity to help promote Welsh credit unions is being organised with our partners in the social investment business. There is a television advertising campaign scheduled to begin next month.

Y Prif Weinidog: Gwnaf. Mae’r gwaith  marchnata a chyhoeddusrwydd i hyrwyddo undebau credyd Cymru yn cael ei drefnu gyda’n partneriaid yn y busnes buddsoddi cymdeithasol. Mae ymgyrch hysbysebu ar y teledu i fod i gychwyn fis nesaf.

Lynne Neagle: As you know, at this time of year, many people will fall victim to loan sharks, legal and otherwise, who prey on those struggling to make ends meet. I am very proud of the efforts of my party in fostering the growth of the credit union movement over the past decade. I welcome recent regulatory changes that will make it easier for credit unions to compete with banks and other lenders. I welcome what you have said about the television advertising campaign; I was going to ask whether you would consider that. Could you give assurances that the campaign will be a very high-profile campaign that will, hopefully, ensure that fewer families fall into the kind of debt that we would like to see them avoid next Christmas?

Lynne Neagle: Fel y gwyddoch, ar yr adeg hon o’r flwyddyn, mae llawer o bobl yn mynd i ddyled i siarcod benthyca—rhai cyfreithlon ac anghyfreithlon—sy’n manteisio ar y rhai sy’n ei chael hi’n anodd cadw dau ben llinyn ynghyd. Rwy’n falch iawn o ymdrechion fy mhlaid i feithrin twf y mudiad undebau credyd dros y degawd diwethaf. Rwy’n croesawu’r newidiadau rheoleiddio diweddar a fydd yn ei gwneud yn haws i undebau credyd gystadlu â banciau a benthycwyr eraill. Croesawaf yr hyn rydych wedi’i ddweud am yr ymgyrch hysbysebu ar y teledu; roeddwn yn mynd i ofyn a fyddech yn ystyried hynny. Allech chi roi sicrwydd y bydd yr ymgyrch yn un uchel ei phroffil a fydd, gobeithio, yn sicrhau bod llai o deuluoedd yn mynd i’r math o ddyled y byddem yn hoffi eu gweld yn ei osgoi Nadolig nesaf?

The First Minister: Yes. The campaign needs to have a significant impact. I know that the UK Government is working with the credit industry to improve consumer protection in the high-cost credit market, as it is described. As we know, concerns have been raised many times about the impact on vulnerable customers of this market. That has to be done at the UK level, given that so many of these companies operate across the whole of the UK.

Y Prif Weinidog: Gallaf. Mae angen i’r ymgyrch gael effaith sylweddol. Rwy’n gwybod bod Llywodraeth y DU yn gweithio gyda’r diwydiant credyd i wella diogelwch i ddefnyddwyr yn y farchnad gredyd cost uchel, fel y caiff ei disgrifio. Fel y gwyddom, mae pryderon wedi’u codi sawl gwaith am effaith y farchnad hon ar gwsmeriaid sy’n agored i niwed. Mae’n rhaid gwneud hynny ar lefel y DU, o ystyried bod cynifer o’r cwmnïau hyn yn gweithredu ledled y DU.

Mark Isherwood: The chief executive of the Association of British Credit Unions has described changes to the Credit Unions Act 1979, which came into force a few days ago, on 8 January 2012, as a major breakthrough in the delivery of credit union services to communities around Britain. What action is the Welsh Government proposing to take to maximise the freedoms delivered by this amended legislation to extend their reach and work with organisations such as housing providers, employers and charities to bring financial services to new groups of people?

Mark Isherwood: Mae prif weithredwr Cymdeithas Undebau Credyd Prydain wedi disgrifio’r newidiadau i Ddeddf Undebau Credyd 1979, a ddaeth i rym ychydig ddyddiau yn ôl, ar 8 Ionawr 2012, yn gam pwysig ymlaen o ran darparu gwasanaethau undeb credyd i gymunedau ledled Prydain. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd i wneud y gorau o’r rhyddid y mae’r ddeddfwriaeth hon yn ei chynnig i ymestyn eu cyrhaeddiad a gweithio gyda sefydliadau fel darparwyr tai, cyflogwyr ac elusennau er mwyn cyflwyno gwasanaethau ariannol i grwpiau newydd o bobl?

The First Minister: I should expand on the earlier point and say that the advertising campaign is being taken forward to help Welsh credit unions to promote their services more widely. As a result of the changes that have been made, the next stage is to ensure that as many members of the public as possible know about the services that are offered by credit unions, so that they can take advantage of them.

Y Prif Weinidog: Dylwn ehangu ar y pwynt cynharach a dweud bod yr ymgyrch hysbysebu yn cael ei datblygu i helpu undebau credyd Cymru i hyrwyddo eu gwasanaethau yn ehangach. O ganlyniad i’r newidiadau sydd wedi’u gwneud, y cam nesaf yw sicrhau bod cymaint o’r cyhoedd â phosibl yn gwybod am y gwasanaethau a gynigir gan undebau credyd, fel y gallant fanteisio arnynt.

Leanne Wood: First Minister, in a paper submitted to the former Enterprise and Learning Committee in July 2010, the Co-operatives and Mutuals Wales cited the example of the regional co-operatives capital fund that is available in Quebec. It began in 2001 and by 2010 C$905 million had been raised from individuals in the private sector, and this money was supporting—through loans—225 co-operative enterprises. Would your Government be prepared to support and promote an initiative such as the one in Quebec, perhaps linked to the credit union network, in order to provide personal loans and business loans in order to stimulate the Welsh economy?

Leanne Wood: Brif Weinidog, mewn papur a gyflwynwyd i’r cyn-Bwyllgor Menter a Dysgu ym mis Gorffennaf 2010, nododd sefydliad Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru enghraifft y gronfa gyfalaf ranbarthol sydd ar gael i fentrau cydweithredol yn Quebec. Dechreuodd yn 2001 ac erbyn 2010 roedd C$905 miliwn wedi’i godi gan unigolion yn y sector preifat, ac roedd yr arian hwn yn cefnogi—drwy fenthyciadau—225 o fentrau cydweithredol.

A fyddai eich Llywodraeth yn barod i gefnogi a hyrwyddo menter fel un Quebec, ac un sydd efallai wedi’i chysylltu â’r rhwydwaith undebau credyd, a fyddai’n darparu benthyciadau personol a benthyciadau busnes er mwyn ysgogi economi Cymru?

2.15 p.m.

The First Minister: Yes, we are willing to look at that model. Of course, I should add that direct financial support from the Welsh Government and the European regional development fund to improve the long-term sustainability and financial viability of credit unions has amounted to just over £4 million over the past three years. There has been substantial investment from the Government. In addition, from 2010, funding was made available to each credit union to support local marketing and publicity.

Y Prif Weinidog: Rydym yn barod i edrych ar y model hwnnw. Wrth gwrs, dylwn ychwanegu bod dros £4 miliwn wedi’i roi dros y tair blynedd diwethaf mewn cymorth ariannol uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru a chronfa datblygu rhanbarthol Ewrop i wella cynaliadwyedd hirdymor a hyfywedd ariannol undebau credyd. Bu buddsoddiad sylweddol gan y Llywodraeth. Yn ogystal, o 2010, mae arian wedi bod ar gael i bob undeb credyd i gefnogi marchnata a chyhoeddusrwydd lleol.

Cynlluniau ar gyfer Digwyddiadau Mawr

Plans for Major Events

12. Julie James: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer digwyddiadau mawr dros weddill tymor y Cynulliad hwn. OAQ(4)0283(FM)

12. Julie James: Will the First Minister outline the Welsh Government’s plans for major events for the remainder of the Assembly term. OAQ(4)0283(FM)

The First Minister: Yes. Our major events strategy sets out how we will build on the historic successes of the Ashes test in 2009 and the Ryder Cup in order to develop a portfolio of events that enhances Wales’s reputation.

Y Prif Weinidog: Gwnaf. Mae ein strategaeth digwyddiadau mawr yn nodi sut y byddwn yn adeiladu ar lwyddiannau hanesyddol gêm brawf y Lludw yn 2009 a Chwpan Ryder er mwyn datblygu portffolio o ddigwyddiadau sy’n gwella enw da Cymru.

Julie James: As you know, I am very keen that the centenary of Dylan Thomas’s birth in 2014 is a national and international celebration. Dylan Thomas is an established Welsh brand internationally, and I believe that the economic and cultural benefits for Swansea and Wales as a whole as a result of such a celebration would be very significant. Will you commit your Government to getting behind a major event that would raise the profile of Swansea and Wales as a whole on the international stage on the back of such a celebration, attracting investment and tourism?

Julie James: Fel y gwyddoch, rwy’n awyddus iawn y bydd canmlwyddiant geni Dylan Thomas yn 2014 yn ddathliad cenedlaethol a rhyngwladol. Mae Dylan Thomas yn frand sefydledig Cymreig ar y llwyfan rhyngwladol, ac rwy’n credu y byddai manteision sylweddol economaidd a diwylliannol i Abertawe a Chymru yn gyffredinol yn sgîl dathliadau o’r fath. A wnewch chi ymrwymo eich Llywodraeth i gefnogi digwyddiad mawr a fyddai’n codi proffil Abertawe a Chymru gyfan ar y llwyfan rhyngwladol ar gefn y fath ddathliad, gan ddenu buddsoddiad a thwristiaeth?

The First Minister: Yes, we have already established a Dylan Thomas 2014 steering group led by the Welsh Government, including the City and County of Swansea, the Arts Council of Wales, the family of Dylan Thomas and others. The group reports directly to Ministers, including me. Following its initial meeting and an open seminar with stakeholders, the group is developing detailed proposals that will be announced this spring.

Y Prif Weinidog: Gwnaf. Rydym eisoes wedi sefydlu grŵp llywio Dylan Thomas 2014 o dan arweiniad Llywodraeth Cymru, ac sydd hefyd yn cynnwys Dinas a Sir Abertawe, Cyngor Celfyddydau Cymru, teulu Dylan Thomas ac eraill. Mae’r grŵp yn adrodd yn uniongyrchol i Weinidogion ac i minnau. Yn dilyn ei gyfarfod cychwynnol a seminar agored â rhanddeiliaid, mae’r grŵp wrthi’n datblygu cynigion manwl a fydd yn cael eu cyhoeddi yn y gwanwyn.

Mohammad Asghar: First Minister, your portfolio responsibilities include major events, and you claim that you are working hard to attract an American National Football League match to Wales. I am sure that you agree that such an event would have significant economic benefits for the whole nation. Therefore, can you outline why you have not had a single meeting with the NFL, when a senior delegation from the NFL visited Cardiff in November? Can you provide an update on progress to attract NFL games to Wales please?

Mohammad Asghar: Brif Weinidog, mae eich cyfrifoldebau portffolio yn cynnwys digwyddiadau mawr, ac rydych yn honni eich bod yn gweithio’n galed i ddenu gêm Bêl-droed Americanaidd NFL i Gymru. Rwy’n siŵr y byddech yn cytuno y byddai digwyddiad o’r fath yn dod â manteision economaidd sylweddol i’r genedl gyfan. Felly, allwch chi esbonio pam nad ydych wedi cael yr un cyfarfod â’r NFL, er yr ymwelodd dirprwyaeth o’r NFL â Chaerdydd ym mis Tachwedd? A allwch roi’r wybodaeth ddiweddariad am y cynnydd i ddenu gemau NFL i Gymru?

The First Minister: I can tell you that there was communication between our officials and NFL officials. They came to visit the Millennium Stadium, and attracting an NFL game to Cardiff is something that I fully support. However, we should remember that we will host Olympic football at the Millennium Stadium this year and that, next year, we will co-host the Rugby League World Cup. We will also be hosting the WOMEX, the world’s leading annual music showcase, and in 2014 we will have the Senior Open championship, which will be staged at Royal Porthcawl Golf Club. In 2015, Glamorgan will build on its position as being among the world’s leading international cricket venues by hosting another Ashes test match. We have a fine record on which to build in Wales.

Y Prif Weinidog: Gallaf ddweud wrthych fod ein swyddogion ni a swyddogion yr NFL wedi bod yn cyfathrebu â’i gilydd. Daethant i ymweld â Stadiwm y Mileniwm, ac mae denu gêm NFL i Gaerdydd yn rhywbeth yr wyf yn ei gefnogi’n llawn. Fodd bynnag, dylem gofio y byddwn yn cynnal gemau pêl-droed y Gemau Olympaidd yn Stadiwm y Mileniwm eleni, a’r flwyddyn nesaf byddwn yn cyd-gynnal Cwpan Rygbi Cynghrair y Byd. Byddwn hefyd yn cynnal y WOMEX, sef arddangosfa gerddoriaeth flynyddol fwyaf blaenllaw y byd, ac yn 2014 byddwn yn cynnal y bencampwriaeth Agored Hŷn yng Nghlwb Golff Brenhinol Porthcawl. Yn 2015, bydd Morgannwg yn adeiladu ar ei enw da fel un o leoliadau mwyaf blaenllaw y byd criced rhyngwladol drwy gynnal gêm brawf arall yng nghyfres y Lludw. Mae gennym record dda i adeiladu arni yng Nghymru.

Bethan Jenkins: Mae fy nghwestiwn i am rygbi’r gynghrair. Fi gynhaliodd y digwyddiad yn y Senedd, felly nid wyf yn deall y broblem sydd gan y gwleidydd Ceidwadol a gododd y cwestiwn yn gynharach. Roeddwn am i chi groesawu’r ffaith bod gêm i’w chynnal yn y Knoll yng Nghastell-nedd fel rhan o Gwpan y Byd Rygbi’r Gynghrair, ac i groesawu’r ffaith bod y gamp hon yn tyfu yng Nghymru a bod y gêm yn ein hysgolion ac ar lawr gwlad wedi cael ei hybu’n sylweddol.

Bethan Jenkins: My question is on rugby league. I hosted the event here in the Senedd, and so I do not understand the problem of the Conservative politician who raised the question earlier. I just want you to welcome the fact that that game will be held at the Knoll in Neath as part of the Rugby League World Cup, the fact that the sport is developing in Wales and that there is a huge boost to the game in our schools and at grass-roots level in Wales.

Y Prif Weinidog: Yr wyf yn croesawu’n fawr y ffaith bod rygbi’r gynghrair yn dod yn ôl i Gymru fel rhan o gwpan y byd, a hynny am y tro cyntaf, rwy’n credu, er 2000. Wrth gwrs, rwy’n edrych ymlaen at weld Cymru yn gwella ar ôl yr hyn a ddigwyddodd y tymor hwn. Mae’n bwysig sylweddoli bod lot fawr o dalent yn dod drwyddo yn rygbi’r gynghrair yng Nghymru, ac mae hynny’n adlewyrchu’r gwaith sydd wedi’i wneud gan Rygbi Cynghrair Cymru, sef corff llywodraethol y gamp yng Nghymru.

The First Minister: I welcome very much the fact that rugby league is returning to Wales for the world cup, for, I think, the first time since 2000. Of course, I look forward to seeing Wales doing better after what happened this season. However, I realise that there is a great deal of talent coming through in rugby league in Wales. That demonstrates the work that has been put in by Wales Rugby League, the governing body of the sport in Wales.

Tariffau Cyflenwi Trydan

Feed-in Tariffs

13. Jenny Rathbone: A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am effaith penderfyniad Llywodraeth y DU i haneru’r tariffau cyflenwi trydan ar weithgynhyrchwyr ynni adnewyddadwy yng Nghymru. OAQ(4)0293(FM)

13. Jenny Rathbone: Will the First Minister give an update on the impact of the UK Government’s halving of feed-in tariffs on Welsh renewable energy manufacturers. OAQ(4)0293(FM)

The First Minister: If they proceed, there seems no doubt that the UK Government’s proposals will have a negative effect on the thriving and vibrant solar photovoltaic panel manufacturing and installation sectors in Wales

Y Prif Weinidog: Os byddant yn dod i rym, nid oes dwywaith na fydd cynigion Llywodraeth y DU yn cael effaith negyddol ar y sectorau ffyniannus a bywiog yng Nghymru ym maes gweithgynhyrchu a gosod panelau solar ffotofoltig.

 

Jenny Rathbone: Do you agree with me that the so-called greenest Government ever of David Cameron is all over the place and has absolutely no strategy? Today, it has invested an extra £197 million in the feed-in tariff programme, having lost a court case before Christmas. It would appear that that might then cause a further reduction in the feed-in tariff after April 2012. This makes it hugely difficult for the renewables industry to plan for any sort of programme and to know what the demand will be. Is there anything that the Welsh Government can do to try to provide some stability and ongoing planning for this important industry?

Jenny Rathbone: A ydych yn cytuno â mi fod y Llywodraeth y mae David Cameron yn ei galw’r Llywodraeth fwyaf gwyrdd erioed dros y lle yn llwyr ac nad oes ganddi ddim strategaeth? Heddiw, mae wedi buddsoddi £197 miliwn ychwanegol yn y rhaglen tariffau cyflenwi trydan, ar ôl colli achos llys cyn y Nadolig. Mae’n ymddangos y gallai hynny yn ei dro achosi gostyngiad pellach yn y tariff ar ôl mis Ebrill 2012. Mae hyn yn ei gwneud yn hynod o anodd i’r diwydiant ynni adnewyddadwy gynllunio ar gyfer unrhyw fath o raglen, ac i wybod beth fydd y galw. A oes unrhyw beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i geisio darparu rhywfaint o sefydlogrwydd a chynllunio parhaus ar gyfer y diwydiant pwysig hwn?

Y Cofnod

The First Minister: There needs to be certainty when it comes to renewable energy. That is true of solar photovoltaics, as it is of other forms of renewable energy, which is why the present uncertainty regarding renewables obligation certificates is not helpful in terms of promoting renewable energy in Wales and creating green jobs based on that sector.

Y Prif Weinidog: Mae angen sicrwydd pan ddaw’n fater o ynni adnewyddadwy. Mae hynny’n wir am banelau solar ffotofoltig, fel y mae ar gyfer mathau eraill o ynni adnewyddadwy, a dyna pam nad yw’r ansicrwydd presennol ynghylch tystysgrifau rhwymedigaeth ynni adnewyddadwy yn helpu o ran hyrwyddo ynni adnewyddadwy yng Nghymru a chreu swyddi gwyrdd yn seiliedig ar y sector hwnnw.

Janet Finch-Saunders: First Minister, the practical reforms to the unmanageable system of feed-in tariffs that the UK Government inherited from Labour have been designed to make the system more predictable and much more market responsive, similar to the successful German model. A change in feed-in tariffs means much better value for energy customers, ensuring that the generation of renewable energy still remains a sensible choice. Doing nothing would add approximately £90 to consumers’ bills. Would you agree, First Minister, that rather than pursuing your party’s negative and apathetic approach, you should focus on the more sustainable and affordable benefits that this policy would bring to developing our green economy and our renewable programme?

Janet Finch-Saunders: Brif Weinidog, mae’r diwygiadau ymarferol i’r system anhydrin o dariffau cyflenwi trydan yr etifeddodd Llywodraeth y DU gan Lafur wedi cael eu cynllunio i wneud y system yn fwy rhagweladwy ac yn fwy ymatebol i’r farchnad, yn debyg i fodel llwyddiannus yr Almaen. Mae’r newid yn y tariffau yn golygu gwell gwerth am arian i gwsmeriaid ynni, gan sicrhau bod y genhedlaeth o ynni adnewyddadwy yn parhau’n ddewis synhwyrol. Byddai gwneud dim byd yn ychwanegu tua £90 i filiau defnyddwyr. A fyddech chi’n cytuno, Brif Weinidog, yn hytrach na dilyn agwedd negyddol a difater eich plaid, y dylech ganolbwyntio ar y manteision mwy cynaliadwy a fforddiadwy a fyddai’n dod yn sgîl y polisi hwn o ran datblygu ein heconomi werdd a’n rhaglen adnewyddadwy?

The First Minister: Sharp in Wrexham wanted to double production of solar panels. It took on 400 additional staff, but they all had to go. I do not see how that is a positive benefit to the economy. I also do not understand why there has been a sudden change to the system in the middle of a consultation; that is something that we would never do as a Government here. If you have a consultation, it has to finish before you take a decision. That is why the UK Government lost in court.

Y Prif Weinidog: Roedd cwmni Sharp yn Wrecsam yn awyddus i ddyblu nifer y panelau solar yr oedd yn ei gynhyrchu. Cyflogodd 400 o staff ychwanegol, ond bu’n rhaid cael gwared ar bob un. Ni allaf weld ym mha ffordd y mae hyn o fudd i’r economi. Ni allaf ddeall chwaith pam y bu newid sydyn i’r system yng nghanol ymgynghoriad; mae hynny’n rhywbeth na fyddem ni byth yn ei wneud fel Llywodraeth yma. Os oes gennych ymgynghoriad, mae’n rhaid iddo orffen cyn i chi wneud penderfyniad. Dyna pam y collodd Llywodraeth y DU yn y llys.

The Presiding Officer: I call Dafydd Elis-Thomas.

Y Llywydd: Galwaf Dafydd Elis-Thomas.

Lord Elis-Thomas: I do not have a question.

Arglwydd Elis-Thomas: Nid oes gennyf gwestiwn.

The Presiding Officer: Fine. We will move on to question 14.

Y Llywydd: O’r gorau. Symudwn ymlaen i gwestiwn 14.

Polisi Ynni

Energy Policy

14. Russell George: Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU dros y tri mis diwethaf ynglyn â’r polisi ynni. OAQ(4)0290(FM)

14. Russell George: What discussions has the First Minister had with the UK Government in the last three months in relation to energy policy. OAQ(4)0290(FM)

The First Minister: I have had many discussions with the UK Government on a wide range of energy matters.

Y Prif Weinidog: Rwyf wedi cael nifer o drafodaethau â Llywodraeth y DU ar ystod eang o faterion ynni.

Russell George: I am sure that you would agree, First Minister, that the UK Government’s policy of implementing a green investment bank will help to increase investment in wider renewable energy, such as energy generation from waste. Your Government has indicated an interest in housing the site in Cardiff, which would give credence to your policy of making Cardiff an enterprise zone that focuses on financial services. With the deadline of that site application set for the end of this month, have you formally submitted a bid to the UK Government or are you in the process of doing so?

Russell George: Rwy’n siŵr y byddech yn cytuno, Brif Weinidog, y bydd polisi Llywodraeth y DU o sefydlu banc buddsoddi gwyrdd yn helpu i gynyddu’r buddsoddiad ehangach mewn ynni adnewyddadwy, megis cynhyrchu ynni o wastraff. Mae eich Llywodraeth wedi mynegi diddordeb mewn lleoli’r safle yng Nghaerdydd, a fyddai’n rhoi coel i’ch polisi o wneud Caerdydd yn ardal fenter sy’n canolbwyntio ar wasanaethau ariannol. Gyda’r dyddiad cau ar gyfer y cais lleoli hwnnw ddiwedd y mis hwn, a ydych wedi cyflwyno cais ffurfiol i Lywodraeth y DU neu a ydych yn y broses o wneud hynny?

The First Minister: We are in the process of getting the final bid submitted by the end of the month. The Minister for Business, Enterprise, Technology and Science discussed the issue with Vince Cable, and we have made the case clearly that Cardiff, particularly the central business district, is the ideal place for the green investment bank to be situated. Therefore, the formal bid will be submitted before the deadline.

Y Prif Weinidog: Rydym yn y broses o gyflwyno’r cais terfynol erbyn diwedd y mis. Trafododd y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth y mater â Vince Cable, ac rydym wedi cyflwyno achos clir mai Caerdydd, ac yn enwedig yr ardal fusnes ganolog, yw’r lle delfrydol i leoli’r banc buddsoddi gwyrdd. Felly, bydd y cais ffurfiol yn cael ei gyflwyno cyn y dyddiad cau.

Kenneth Skates: First Minister, a recent report by Save the Children showed that growing up in cold, damp houses can slow children’s development as well as worsen long-term problems such as asthma and increase hospital admission rates. Although the UK Government has introduced a new mandatory warm home discount scheme, Save the Children is concerned that this currently reaches only 3 per cent of the families most at risk of fuel poverty. In its words, the scheme is 'fundamentally flawed’. What work is the Welsh Government doing to ensure that low-income families in areas such as mine are supported through the cold winter months and to tackle the impact of fuel poverty?

Kenneth Skates: Brif Weinidog, dangosodd adroddiad diweddar gan Achub y Plant y gall tyfu i fyny mewn tai oer a llaith arafu datblygiad plant yn ogystal â gwaethygu problemau hirdymor fel asthma a chynyddu cyfraddau derbyn i ysbyty. Er bod Llywodraeth y DU wedi cyflwyno cynllun gostyngiad cartrefi cynnes gorfodol newydd, mae Achub y Plant yn pryderu bod y cynllun ar hyn o bryd ond yn cyrraedd 3% o’r teuluoedd sydd yn y perygl mwyaf o fod mewn tlodi tanwydd. Yn ôl Achub y Plant, mae’r cynllun yn 'sylfaenol ddiffygiol’. Pa waith mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod teuluoedd incwm isel mewn ardaloedd fel fy un i yn cael cymorth drwy fisoedd oer y gaeaf ac i fynd i’r afael ag effaith tlodi tanwydd?

The First Minister: The fuel poverty strategy, which was published in July 2010, sets out the action that we are taking to tackle fuel poverty in Wales. One example is the new fuel poverty scheme, entitled Nest, which started on 1 April. It includes a central co-ordination point to ensure that all households can access some advice and support to reduce their fuel bills, to improve the energy efficiency of their home and to maximise their income.

Y Prif Weinidog: Mae’r strategaeth tlodi tanwydd a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2010 yn nodi’r camau rydym yn eu cymryd i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru. Un enghraifft yw’r cynllun tlodi tanwydd newydd, o’r enw Nest, a ddechreuodd ar 1 Ebrill. Mae’n cynnwys pwynt cydlynu canolog er mwyn sicrhau y gall pob cartref gael rhywfaint o gyngor a chymorth i leihau eu biliau tanwydd, gwella effeithlonrwydd ynni eu cartref a gwneud y mwyaf o’u hincwm.

Yr Arglwydd Elis-Thomas: Ymddiheuraf, Lywydd, am fy arafwch ar y cwestiwn blaenorol. Gofynnaf i’r Prif Weinidog pryd y mae’n bwriadu cyhoeddi datganiad ysgrifenedig neu lafar pellach ar ei gyfrifoldebau strategol ynglŷn â pholisi ynni.

Lord Elis-Thomas: I apologise, Presiding Officer, for my slowness on the last question. I ask the First Minister when he intends to make a further written or oral statement on his strategic responsibility for energy policy.

Y Prif Weinidog: Cyhoeddir datganiad cyflawn yn ystod y misoedd nesaf. Rwyf eisiau sicrhau bod datganiad cynhwysfawr am ynni yn cael ei gyhoeddi cyn y gwanwyn.

The First Minister: A full statement will be issued over the coming months. I want to ensure that a comprehensive statement on energy is published before the spring.

Aled Roberts: Mae’n glir erbyn hyn fod rhwydwaith trydan presennol y gogledd yn annigonol i ddelio â phob datblygiad. Mae Llywodraeth yr Alban wedi mynnu bod y rhwydwaith rhwng yr Alban a Lloegr, rhwng Hunterston a Celstryn, ar lannau Dyfrdwy, yn rhwydwaith o geblau tanfor. A yw eich Llywodraeth wedi gwneud datganiad o ran yr hyn y mae’n ei ffafrio yng nghyswllt y dechnoleg o gofio’r problemau a gafwyd yn ystod yr haf yn sir Drefaldwyn o ran y rhwydwaith trydan?

Aled Roberts: It is clear by now that the current north Wales electricity network is inadequate to deal with all of the developments. The Scottish Executive has insisted that the network between Scotland and England, between Hunterston and Kelsterton, on Deeside, is a network of undersea cables. Has your Government shown any preference as to the technology in the light of all of the problems in Montgomeryshire during the summer with regard to the electricity network?

Y Prif Weinidog: Cyfrifoldeb Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw hyn. Mae’r sefyllfa’n wahanol yn yr Alban, ond yr ydym wedi dweud ei bod yn bwysig dros ben i gladdu’r llinellau hyn, lle bo hynny’n beth call i’w wneud, a hefyd i ystyried y peilonau newydd sydd wedi eu dylunio dros y misoedd diwethaf er mwyn sicrhau bod yr effaith ar gymunedau lleol yn cael ei lleihau.

The First Minister: This is a United Kingdom Government responsibility. The situation is different in Scotland, but we have said that it is very important that these cables should be undergrounded, where that is wise, and also that the new pylons designed over the past few months are considered in order to ensure that the impact on local communities is reduced.

Gwasanaeth Iechyd

The Health Service

15. Simon Thomas: Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog ar gyfer y gwasanaeth iechyd yn y Canolbarth a Gorllewin Cymru. OAQ(3)0292(FM) W

15. Simon Thomas: What plans does the First Minister have for the health service in Mid and West Wales. OAQ(4)0292(FM) W

Y Prif Weinidog: Mae ein cynlluniau a’n blaenoriaethau ar gael yn ein rhaglen lywodraethu.

The First Minister: Our plans and priorities can be found in our programme for government.

Simon Thomas: Mynegwyd llawer o siom a phryder yn y rhanbarth dros y Nadolig wrth i bobl weld gwasanaethau’n symud o ysbytai lleol, megis y rheini yn Ninbych-y-pysgod, Pwllheli, Doc Penfro a Llanelli, ac yn cael eu canoli mewn ysbytai mawr sydd, mewn sawl achos, yn gofyn am ryw awr o daith ar drafnidiaeth gyhoeddus. Pan fyddwch yn dod i Lanelli ddydd Iau, a fyddwch yn rhoi addewid i drigolion Llanelli y bydd y gwasanaethau’n cael eu symud yn ôl, ac na fydd ysbyty Llanelli yn colli’r un gwasanaeth?

Simon Thomas: A great deal of disappointment and concern was expressed in the region over Christmas as people saw services being moved from local hospitals, such as those at Tenby, Pwllheli, Pembroke Dock and Llanelli, and centralised in large hospitals that, in many cases, were an hour’s journey by public transport. When you come to Llanelli on Thursday, will you give a pledge to the people of Llanelli that they will regain the services that have been lost, and that the Llanelli hospital will not lose any services?

Y Prif Weinidog: Mae’r newidiadau a wnaethpwyd cyn y Nadolig yn newidiadau dros dro—nid ydynt yn newidiadau parhaol. Yr oeddwn yn ysbyty Llanelli ar sawl diwrnod yn yr wythnos cyn y Nadolig yn ymweld ag aelod o’r teulu, a deallaf gryfder y gefnogaeth sydd i’r ysbyty yn yr ardal. Dylai Gweinidogion, y fforwm clinigol cenedlaethol a chymunedau lleol graffu ar unrhyw newidiadau. Mae’n bwysig dros ben bod hynny’n cael ei wneud er mwyn i aelodau’r cyhoedd deimlo y gallant fynegi barn am ddyfodol y gwasanaeth iechyd yn eu hardal.

The First Minister: The changes made before Christmas are temporary—they are not permanent changes. I was as Llanelli hospital on a number of days in the week before Christmas visiting a relation, and I understand the strength of the support that exists locally for the hospital. Ministers, the national clinical forum and local communities should scrutinise any changes. It is exceptionally important that that is done in order to ensure that the public feel that they are able to express an opinion on the future of the health service in their area.

Darren Millar: I take this opportunity to thank Members for their good wishes during my absence from the Assembly during the past two months.

Darren Millar: Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i Aelodau am eu dymuniadau da yn ystod fy absenoldeb o’r Cynulliad yn ystod y ddau fis diwethaf.

First Minister, it was not only Mid and West Wales that was affected by the announcements made just before the Christmas period. Indeed, my constituency was affected, as minor injury units in Rhuthun and Colwyn Bay were also closed. Is it not becoming obvious that the starvation of cash from the Welsh NHS under your leadership and your Government is having a serious impact on front-line services, such as minor injury units? We face winter pressures annually, but never before have these services had to close. It is therefore down to your Government alone. Will you now review your funding arrangements for the Welsh NHS in the light of these closures?

Brif Weinidog, nid Canolbarth a Gorllewin Cymru yn unig yr effeithiwyd arnynt gan y cyhoeddiadau a wnaed cyn y Nadolig. Yn wir, effeithiwyd ar fy etholaeth i, wrth i unedau mân anafiadau yn Rhuthun a Bae Colwyn gael eu cau hefyd. Onid yw’n dod yn amlwg bod y diffyg arian yn y GIG yng Nghymru o dan eich arweiniad chi a’ch Llywodraeth yn cael effaith ddifrifol ar wasanaethau rheng flaen, fel unedau mân anafiadau? Rydym yn wynebu pwysau’r gaeaf bob blwyddyn, ond nid yw’r gwasanaethau hyn erioed wedi gorfod cau o’r blaen. Felly, mae hyn wedi digwydd yn unig oherwydd eich Llywodraeth chi. A fyddwch yn awr yn adolygu eich trefniadau ariannu ar gyfer GIG Cymru yng ngoleuni hyn?

The First Minister: I welcome the Member back to the Assembly and express my delight that we were able to spare him a journey for the budget debate and vote.

Y Prif Weinidog: Rwy’n croesawu’r Aelod yn ôl i’r Cynulliad ac rwy’n falch inni allu arbed taith iddo ar gyfer y drafodaeth a’r bleidlais ar y gyllideb.

I must say to him that the spiralling waiting times and waiting lists that are seen across the border are not seen in Wales. This has nothing to do with money. The recruitment of accident and emergency staff is a long-standing problem. One of the reasons is the unsociable hours, and the situation has been compounded by the fact that because of the new restrictions on the issuing of visas by the UK Government, it is no longer possible to bring in as many doctors as before. As I have already said to the Assembly, our intention is to begin the campaign to attract new doctors to Wales this month and to ensure that we get more accident and emergency specialists in Wales—a specialism to which it has proven difficult to recruit people over a number of years.

Mae’n rhaid i mi ddweud wrtho nad yw’r cynnydd mawr yn yr amseroedd a’r rhestrau aros sydd i’w gweld dros y ffin yn cael ei weld yng Nghymru. Nid oes a wnelo hyn ag arian o gwbl. Mae recriwtio staff damweiniau ac achosion brys yn broblem ers tro. Un o’r rhesymau yw’r oriau anghymdeithasol, ac mae’r sefyllfa wedi cael ei chymhlethu gan gyfyngiadau newydd Llywodraeth y DU ar roi teithebau, sy’n golygu nad yw’n bosibl dod â chynifer o feddygon i mewn ag o’r blaen. Fel rwyf eisoes wedi ei ddweud wrth y Cynulliad, rydym yn bwriadu dechrau’r ymgyrch i ddenu meddygon newydd i Gymru y mis hwn ac i sicrhau ein bod yn cael mwy o arbenigwyr damweiniau ac achosion brys yng Nghymru—arbenigedd y mae wedi profi’n anodd recriwtio pobl iddi dros nifer o flynyddoedd.

William Powell: Last week, I was fortunate enough to meet leading members of the aBer campaign group that has been working for some years to retain and enhance services at Bronglais hospital in Aberystwyth. One concern that has been consistently raised by members of the group in meetings has been the unwillingness of the Hywel Dda Local Health Board to engage with the public on terms other than its own. For example, it regularly refuses to attend public meetings and instead sends out its unhelpfully named 'battle bus’ or, indeed, engages with the public by sending out direct mail DVDs. Will you join with me, First Minister, in urging the officials of that health board to engage directly with the public so that there is greater confidence going forward in the LHB’s plans?

William Powell: Yr wythnos diwethaf, roeddwn yn ddigon ffodus i gwrdd ag aelodau blaenllaw o grŵp ymgyrchu aBer sydd wedi bod yn gweithio am rai blynyddoedd i gadw a gwella gwasanaethau yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth. Un pryder sydd wedi’i mynegi’n gyson gan aelodau o’r grŵp mewn cyfarfodydd yw amharodrwydd Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda i ymgysylltu â’r cyhoedd ar delerau ar wahân i’w delerau ei hun. Er enghraifft, mae’n gwrthod yn rheolaidd i fynychu cyfarfodydd cyhoeddus ac, yn hytrach, mae’n anfon ei 'fws brwydr’, sy’n enw annefnyddiol, neu, yn wir, mae’n ymgysylltu â’r cyhoedd drwy anfon DVDs yn uniongyrchol drwy’r post. A wnewch chi ymuno â mi, Brif Weinidog, i annog swyddogion y bwrdd iechyd hwnnw i ymgysylltu’n uniongyrchol â’r cyhoedd fel bod mwy o hyder wrth symud ymlaen yng nghynlluniau’r byrddau iechyd lleol?

2.30 p.m.

The First Minister: It is important that there is sufficient engagement so that members of the public are able to fully understand the issues that are involved and to take a view according to those issues. However, in relation to Bronglais, I would ask people in Aberystwyth to look at the work that is taking place there now and the substantial investment that has been put into the hospital, which is being taken forward even as we speak. That is not the action of a Government or an LHB that, in some way, wishes to reduce the value of the hospital to the community. Bronglais remains an important hospital and, as I have said many times, any proposals that are brought forward by LHBs for service reconfiguration will need to be scrutinised thoroughly by local communities, the national clinical forum and, indeed, by Welsh Ministers.

Y Prif Weinidog: Mae’n bwysig bod digon o ymgysylltu fel y gall aelodau’r cyhoedd ddeall y materion o dan sylw yn iawn a llunio barn ar y materion hynny. Fodd bynnag, mewn perthynas â Bronglais, byddwn yn gofyn i bobl yn Aberystwyth edrych ar y gwaith sy’n digwydd yno ar hyn o bryd a’r buddsoddiad sylweddol yn yr ysbyty, sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Nid yw hwn yn gam gan Lywodraeth neu fwrdd iechyd lleol sydd, mewn rhyw ffordd, yn dymuno lleihau gwerth yr ysbyty i’r gymuned. Mae Bronglais yn parhau i fod yn ysbyty pwysig ac, fel y dywedais sawl gwaith, bydd angen i gymunedau lleol, y fforwm clinigol cenedlaethol ac, yn wir, Weinidogion Cymru graffu’n drwyadl ar unrhyw gynigion a gyflwynir gan fyrddau iechyd lleol ar gyfer ad-drefnu gwasanaethau.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Business Statement and Announcement

Y Cofnod

The Minister for Finance and Leader of the House (Jane Hutt): There are no changes to report to this week’s planned business. Business for the next three weeks is as shown on the business statement and announcement, which can be found among the agenda papers that are available to Members electronically.

Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ (Jane Hutt): Nid oes unrhyw newidiadau i’w hadrodd i’r busnes a drefnwyd ar gyfer yr wythnos hon. Dangosir y busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd ar gael ymhlith papurau’r agenda sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

Darren Millar: Minister, will you be able to bring forward, within future Government business, a statement on post-traumatic stress disorder services for veterans? We were all very saddened to learn of the tragic death of Dan Collins very recently, which opens up the issue of PTSD services and access to those services for veterans in Wales. You will be aware that the Health, Wellbeing and Local Government Committee produced a report in February of last year; the Welsh Government responded very positively to that report, accepting pretty much all of the recommendations. It is time for an update on that report, and I would be very grateful if the Minister could bring one to the Chamber.

Darren Millar: Weinidog, a allwch wneud datganiad ar wasanaethau i drin anhwylder straen wedi trawma i gyn-filwyr ym musnes Llywodraeth yn y dyfodol? Roeddem oll yn drist iawn i glywed am farwolaeth drasig Dan Collins yn ddiweddar iawn, sy’n amlygu’r mater o wasanaethau PTSD a mynediad at y gwasanaethau hynny i gyn-filwyr yng Nghymru. Byddwch yn ymwybodol bod y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol wedi cyhoeddi adroddiad ym mis Chwefror y llynedd; ymatebodd Llywodraeth Cymru yn gadarnhaol iawn i’r adroddiad hwnnw, gan dderbyn yr holl argymhellion, i bob diben. Mae’n amser i ni gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad hwnnw, a byddwn yn ddiolchgar pe gallai’r Gweinidog ei chyflwyno yn y Siambr.

Jane Hutt: I welcome Darren Millar back to the Chamber. In response to his question, we are, as you know, investing £485,000 each year in the all-Wales health and wellbeing service for veterans, and that is being developed and implemented by health boards across Wales. However, I will certainly speak to the Minister about whether an update can be provided on progress.

Jane Hutt: Croesawaf Darren Millar yn ôl i’r Siambr. Mewn ymateb i’w gwestiwn, fel y gwyddoch, rydym yn buddsoddi £485,000 bob blwyddyn yn y gwasanaeth iechyd a lles drwy Gymru gyfan i gyn-filwyr, ac mae hwnnw’n cael ei ddatblygu a’i weithredu gan fyrddau iechyd ledled Cymru. Fodd bynnag, byddaf yn bendant yn siarad â’r Gweinidog ynghylch a ellir darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed.

Rebecca Evans: The post office diversification fund has been a lifeline for many post offices, allowing them to expand the services that they provide and better meet the needs of local communities. I understand that the fund is currently closed to new applications, pending the findings of an evaluation that took place last year. I would welcome a statement from the Government on the findings of that evaluation, and your assurances that the Government is committed in the long term to supporting post offices to diversify the services that they are able to provide.

Rebecca Evans: Mae cronfa arallgyfeirio swyddfa’r post wedi achub nifer o swyddfeydd post, ac mae wedi’u galluogi i ehangu’r gwasanaethau y maent yn eu darparu a diwallu anghenion cymunedau lleol yn well. Deallaf fod y gronfa ar gau ar hyn o bryd i geisiadau newydd, nes y cyhoeddir canfyddiadau gwerthusiad a gynhaliwyd y llynedd. Byddwn yn croesawu datganiad gan y Llywodraeth ar ganfyddiadau’r gwerthusiad hwnnw, a sicrwydd gennych fod y Llywodraeth wedi ymrwymo yn y tymor hir i gefnogi swyddfeydd post i arallgyfeirio’r gwasanaethau y gallant eu darparu.

Jane Hutt: I thank Rebecca Evans for that question, because it provides an opportunity for me to update Members on the progress of the evaluation of the post office diversification fund, which was an independent evaluation carried out in the summer of last year. I understand that a final evaluation report will be published on the Welsh Government website in the week commencing 30 January, and the Welsh Government has already committed to continuing to provide support for the post office network. There will be an announcement shortly by the Minister on this matter.

Jane Hutt: Diolchaf i Rebecca Evans am y cwestiwn hwnnw, oherwydd ei fod yn rhoi cyfle i mi roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am gynnydd y gwerthusiad o gronfa arallgyfeirio swyddfa’r post, a oedd yn werthusiad annibynnol a gynhaliwyd yn ystod yr haf y llynedd. Deallaf y bydd adroddiad gwerthuso terfynol yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru yn yr wythnos yn dechrau 30 Ionawr, ac mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i barhau i gefnogi rhwydwaith swyddfa’r post. Bydd y Gweinidog yn gwneud cyhoeddiad yn fuan ar y mater hwn.

Bethan Jenkins: Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi argymell cymeradwyo cynlluniau ar gyfer gorsaf bŵer biomass yn nyffryn Llynfi, yn rhannol ar sail y ffaith bod y datblygiad, gan ddefnyddio ffynhonnell ynni cynaliadwy, yn cydymffurfio ag amcanion y Llywodraeth o gyflawni datblygiad cynaliadwy a lleihau allyriadau carbon yng Nghymru.

Bethan Jenkins: Bridgend County Borough Council has recommended the approval of plans for a biomass power station in the Llynfi valley, partly on the basis of the fact that the development, using a sustainable energy source, complies with the Government’s aims of securing sustainable development and reducing carbon emissions in Wales.

O ystyried bod yr argymhellion hyn yn mynd yn erbyn barn nifer fawr o bobl leol, yn enwedig ynghylch pa mor gynaliadwy fydd dod ag adnoddau i’r orsaf o bellter, a’r effaith ar yr amgylchedd lleol, a fyddai modd inni gael dadl yma ar lawr y Senedd ar bolisi biomass y Llywodraeth, er mwyn inni gael trafodaeth agored ac amserol ar y mater pwysig hwn?

Given that these recommendations are contrary to the views of a large number of local people, especially with regard to the sustainability of transporting resources over large distances to the station and the impact on the local environment, could we have a debate on the floor of the Senedd on the Government’s biomass policy, so that we can have an open and timely debate on this important issue?

Jane Hutt: I understand that the matter is being considered by Bridgend County Borough Council. It is a local planning matter, and authorities have to abide by Welsh Government guidance.

Jane Hutt: Deallaf fod y mater yn cael ei ystyried gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’n fater cynllunio lleol, ac mae’n rhaid i awdurdodau gydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

Aled Roberts: Weinidog, wrth ymateb i gwestiynau Simon Thomas a Darren Millar, dywedodd y Prif Weinidog nad problemau ariannol a oedd yn gyfrifol am y penderfyniad i gau rhai unedau yn y gogledd, gan gynnwys yn Ysbyty Bryn Beryl yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru ac yn Rhuthun yn rhanbarth Gogledd Cymru. Fodd bynnag, mae datganiad y bwrdd iechyd lleol yn dangos bod sefyllfa ariannol y bwrdd yn rhannol gyfrifol am y penderfyniad i gau’r unedau. Nid wyf yn siŵr a ydych yn ymwybodol, ond mae’r cyngor iechyd cymunedol heddiw wedi galw am gyfarfod gyda rheolwyr y bwrdd er mwyn cael esboniad. A wnaiff y Llywodraeth ddatganiad i ddangos ei bod yn anfodlon bod rhai byrddau iechyd wedi cyhoeddi ar 21 Rhagfyr eu bod yn cau unedau lleol am gyfnod o rhyw fis?

Aled Roberts: Minister, in reply to questions from Simon Thomas and Darren Millar, the First Minister said that financial problems were not behind the decisions to close some units in north Wales, including those in Ysbyty Bryn Beryl in the Mid and West Wales region and in Ruthin in the North Wales region. However, the local health board’s statement shows that the board’s financial position in partly responsible for the decision to close those units. You may not be aware, but the community health council has today called for a meeting with the board’s management so that they can clarify the situation. Will the Government make a statement to signal its dissatisfaction that some health boards announced on 21 December that they were closing local units for a period of about a month?

Jane Hutt: The Member for North Wales usefully highlights the role of community health councils in this respect. They are the patients’ voice for raising concerns and clarifying matters. There were temporary closures; we can refer back to our comments about minor injuries units earlier on in questions to the First Minister and there were other temporary closures with regard to wards. Community health councils must engage on major service changes as well as have a clear position on local and temporary changes. The Minister for health is given assurances about when a change is temporary or a more long-standing, major service change.

Jane Hutt: Mae’r Aelod dros Ogledd Cymru yn tynnu sylw at rôl y cynghorau iechyd cymunedol yn hyn o beth, sy’n ddefnyddiol. Hwy sy’n cyfleu pryderon cleifion ac yn egluro materion. Bu unedau ar gau dros dro; gallwn gyfeirio’n ôl at ein sylwadau ynghylch unedau mân anafiadau yn gynharach yn ystod y cwestiynau i’r Prif Weinidog, ac roedd wardiau eraill wedi cau dros dro. Mae’n rhaid i gynghorau iechyd cymuned ymgysylltu ar newidiadau mawr i wasanaethau yn ogystal â chael safbwynt clir ar newidiadau lleol a rhai dros dro. Rhoddir sicrwydd i’r Gweinidog iechyd ynghylch pryd y bydd newid i wasanaeth yn un dros dro neu’n un mwy hirsefydlog.

Andrew R.T. Davies: Minister, like many Members for the South Wales Central area, you will be aware of the issue of fly grazing. Horses are illegally placed on waste ground and on ground belonging to charities such as the Woodland Trust, causing enormous distress to the people who have contributed to those facilities. It also causes enormous distress in terms of the welfare of the horses and animals concerned. This was highlighted on television last week, when dead horses were shown lying in a field, unattended. Animal welfare is a clear responsibility of the Welsh Government. I seek a statement from the Minister for animal health and a commitment from the Government that it will organise a stakeholder group to once and for all address the issue of horses placed illegally on common ground, on ground owned by charities and on private land. The terrible situation in south Wales must come to an end and the authorities that implement enforcement on the ground must know that the Welsh Government stands behind them, and that they have the power to enact their powers of entry to sort this problem out.

Andrew R.T. Davies: Weinidog, fel nifer o’r Aelodau dros ardal Canol De Cymru, byddwch yn ymwybodol o’r broblem o bori anghyfreithlon. Mae ceffylau’n cael eu gosod yn anghyfreithlon ar dir gwastraff ac ar dir sy’n perthyn i elusennau megis Coed Cadw, gan beri gofid mawr i’r bobl sydd wedi cyfrannu at y cyfleusterau hynny. Mae hefyd yn peri gofid mawr ynghylch lles y ceffylau a’r anifeiliaid o dan sylw. Amlygwyd hyn ar y teledu yr wythnos diwethaf, pan ddangoswyd ceffylau wedi marw yn gorwedd mewn cae, ar eu pen eu hunain. Mae lles anifeiliaid yn gyfrifoldeb clir i Lywodraeth Cymru. Gofynnaf am ddatganiad gan y Gweinidog dros iechyd anifeiliaid ac ymrwymiad gan y Llywodraeth y bydd yn sefydlu grŵp rhanddeiliaid i fynd i’r afael â’r broblem o osod ceffylau’n anghyfreithlon ar dir cyffredin, ar dir sy’n eiddo i elusennau ac ar dir preifat unwaith ac am byth. Mae’n rhaid i’r sefyllfa ofnadwy yn ne Cymru ddod i ben ac mae’n rhaid i’r awdurdodau sy’n gweithredu’r dulliau gorfodi ar lawr gwlad wybod bod Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi, a bod ganddynt y pŵer i weithredu eu pwerau mynediad i ddatrys y broblem hon.

Jane Hutt: The leader of the opposition’s concern for animal welfare is expressed across this Chamber. The constituency issues that he raises are close to my concerns. It is a multi-agency matter, as well as cross-governmental and local government matter in terms of powers. The Government will look at this matter in terms of its responsibility.

Jane Hutt: Mae pryder arweinydd yr wrthblaid ynghylch lles anifeiliaid yn cael ei fynegi ar draws y Siambr hon. Mae’r materion etholaethol y mae’n eu codi yn agos at fy mhryderon i. Mae’n fater aml-asiantaethol, yn ogystal â bod yn fater ar draws y llywodraeth a llywodraeth leol o ran pwerau. Bydd y Llywodraeth yn edrych ar y mater hwn mewn perthynas â’i chyfrifoldeb.

Yr Arglwydd Elis-Thomas: Rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno ei bod wedi bod yn bleser cael croesawu Llysgennad Denmarc i’r Cynulliad, yn enwedig i’r rhai ohonom a gafodd y fraint o gwrdd â hi mewn cydbwyllgor anffurfiol y bore yma. A fyddai’r Gweinidog yn trefnu, dros y misoedd nesaf, ddadl yn amser y Llywodraeth er mwyn i’r Cynulliad drafod yn llawn bwysigrwydd ein perthynas â’r Undeb Ewropeaidd ar bob lefel, ac er mwyn inni ddangos yn glir y gwahaniaeth rhwng agwedd y Cynulliad ac agwedd ddilornus Prif Weinidog Llywodraeth y Deyrnas Unedig?

Lord Elis-Thomas: I am sure that the Minister will agree that it was a pleasure to welcome the Danish Ambassador to the Assembly, particularly for those of us who had the privilege of meeting with her in an informal joint committee this morning. Would the Minister arrange, over the coming months, a debate in Government time so that the Assembly can discuss fully the importance of our relationship with the European Union at all levels, and so that we can clearly illustrate the difference between the attitude of the Assembly and the insulting attitude of the Prime Minister of the UK Government?

Jane Hutt: Unfortunately, I was not able to meet with the Danish Ambassador, but I am glad that the opportunity was welcomed and afforded the clear status that it deserves. This afternoon’s debate, led by the First Minister, will be an opportunity for Dafydd Elis-Thomas and colleagues to express their views on the importance of the European Union for Wales.

Jane Hutt: Yn anffodus, ni fedrais gwrdd â Llysgennad Denmarc, ond rwyf yn falch bod y cyfle wedi’i groesawu ac y rhoddwyd y statws amlwg y mae’n ei haeddu iddo. Bydd y drafodaeth y prynhawn yma, o dan arweiniad y Prif Weinidog, yn gyfle i Dafydd Elis-Thomas a’i gydweithwyr fynegi eu barn ar bwysigrwydd yr Undeb Ewropeaidd i Gymru.

Peter Black: Minister, you will have heard the question from Rhodri Glyn Thomas to the First Minister earlier regarding AWEMA and the allegations that have been made against it. This falls within your portfolio, and the First Minister responded by saying that there was an investigation. Are you prepared to lay a written statement setting out the terms of that investigation, who is conducting it and the timescale to which it is being operated?

Peter Black: Weinidog, byddwch wedi clywed y cwestiwn gan Rhodri Glyn Thomas i’r Prif Weinidog yn gynharach ynghylch AWEMA a’r honiadau a wnaed yn ei erbyn. Daw hyn o fewn eich portffolio, ac ymatebodd y Prif Weinidog drwy ddweud bod ymchwiliad yn cael ei gynnal. A ydych yn barod i wneud datganiad ysgrifenedig yn nodi telerau’r ymchwiliad hwnnw, pwy sy’n ei gynnal a’r amserlen ar ei gyfer?

Jane Hutt: I am aware of those concerns and would like to assure Peter Black that, having assessed the information that we have received in respect of AWEMA, the Welsh Government and WEFO, co-ordinating with the Big Lottery Fund, have resolved to instigate an investigation to ensure that the public funding provided has been properly spent and can be accounted for. We will come back to you when that has been concluded.

Jane Hutt: Rwyf yn ymwybodol o’r pryderon hynny, a hoffwn sicrhau Peter Black, ar ôl asesu’r wybodaeth rydym wedi’i chael mewn perthynas ag AWEMA, fod Llywodraeth Cymru a WEFO, gan gydlynu â’r Gronfa Loteri Fawr, wedi penderfynu lansio ymchwiliad i sicrhau bod y cyllid cyhoeddus a ddarperir wedi’i wario’n briodol a bod cofnod ohono. Gwnawn gyhoeddiad i chi pan ddaw hwnnw i ben.

Mark Isherwood: I call for a statement on two matters. The first is the Welsh Government’s community transport concessionary fare initiative. I have previously, on a number of occasions, raised concerns expressed by Flintshire’s Welsh Border Community Transport and Denbighshire’s Dial-A-Ride about their future. Age Cymru e-mailed six Assembly Members from across the parties during recess saying that this is an area of concern that has been raised with it consistently over past months. It copied us in on a letter from Pembrokeshire providers expressing concern about the Welsh Government’s concessionary travel policy and the forthcoming closure of the community transport concessionary fares initiative, which, as it says, will severely impact on elderly and disabled people who currently rely on the service to access essential services and maintain independence. It said that one of the Welsh Government’s core pledges is to retain free bus travel for elderly and disabled people and for their carers. It cannot understand how the Welsh Government on the one hand can continue to fund a concessionary travel scheme for all those over the age of 60, while the very elderly and the most disabled have to pay, even for essential journeys, such as basic shopping or visiting the doctor. It acknowledges the severe constraints on public finances, but also points out that any saving that the Welsh Government makes by closing the scheme will be more than offset by increased costs to other budgets as people lose their ability to remain independent at home and are moved on to more intensive and expensive health and social care. It concluded by appealing urgently to those Members to look into this issue.

Mark Isherwood: Galwaf am ddatganiad ar ddau fater. Y cyntaf yw menter tocynnau rhatach ar gludiant cymunedol Llywodraeth Cymru. Rwyf wedi codi’r pryderon a fynegwyd gan Drafnidiaeth Gymunedol y Gororau yn Sir y Fflint a Dial-a-Ride yn Sir Ddinbych ynghylch eu dyfodol ar sawl achlysur o’r blaen. Anfonodd Age Cymru e-bost at chwe Aelod Cynulliad o bob plaid yn ystod y toriad i ddweud bod hwn yn faes sy’n peri pryder a godwyd gydag ef yn gyson yn ystod y misoedd diwethaf. Anfonodd gopi atom o lythyr gan ddarparwyr Sir Benfro yn mynegi pryder ynghylch polisi teithio rhatach Llywodraeth Cymru a’r ffaith y bydd y fenter tocynnau rhatach ar gludiant cymunedol yn dod i ben cyn hir. Dywed y bydd hynny’n cael effaith ddifrifol ar bobl oedrannus ac anabl sydd ar hyn o bryd yn dibynnu ar y gwasanaeth i allu defnyddio gwasanaethau hanfodol a chadw eu hannibyniaeth. Dywedodd mai un o addewidion craidd Llywodraeth Cymru yw cadw teithio ar fysiau am ddim i bobl oedrannus ac anabl ac ar gyfer eu gofalwyr. Nid yw’n deall sut y gall Llywodraeth Cymru, ar y naill law, barhau i ariannu cynllun teithio rhatach ar gyfer pawb dros 60 oed, tra bod bobl oedrannus iawn a’r bobl fwyaf anabl yn gorfod talu, hyd yn oed ar gyfer teithiau hanfodol, fel mynd i siopa am gynnyrch sylfaenol neu ymweld â’r meddyg. Mae’n cydnabod y cyfyngiadau llym ar arian cyhoeddus, ond mae hefyd yn nodi y bydd unrhyw arbedion a wneir gan Lywodraeth Cymru yn cael eu gwrthbwyso gan y costau cynyddol i gyllidebau eraill gan fod pobl yn colli eu gallu i aros yn annibynnol yn eu cartrefi ac yn cael eu symud i ofal iechyd a chymdeithasol mwy dwys a drud. Gorffennodd drwy apelio ar frys i’r Aelodau hynny ystyried y mater hwn.

My second and final point is to call for a statement on the Supporting People national review update. Cymorth Cymru, the representative body for providers of housing-related support and homelessness and supported living services, has said that many providers and landlords feel that the make-up of the collaborative committees proposed by Professor Mansel Aylward in his review of Supporting People is too imbalanced and that there needs to be greater parity between local authority and non-local-authority representatives. During the recess, all North Wales Assembly Members and local constituency Members were invited to Flintshire County Council’s social and health care overview and scrutiny committee. Unfortunately, only Aled Roberts and I were able to attend. Members of all parties expressed concern that local authorities across north Wales were set to lose over 20% of their Supporting People funding over the period and asked whether the Welsh Government is able to reconsider a level of reduction that will provide protection for north Wales.

Fy ail bwynt, a’r pwynt terfynol, yw fy mod am alw am ddatganiad ar y wybodaeth ddiweddaraf am adolygiad cenedlaethol Cefnogi Pobl. Mae Cymorth Cymru, y corff sy’n cynrychioli’r rhai sy’n darparu cymorth ar dai a gwasanaethau digartrefedd a byw â chymorth, wedi dweud bod nifer o ddarparwyr a landlordiaid yn teimlo bod cyfansoddiad y pwyllgorau ar y cyd a gynigiwyd gan yr Athro Mansel Aylward yn ei adolygiad o Cefnogi Pobl yn rhy anghytbwys a bod angen mwy o gydraddoldeb rhwng yr awdurdod lleol a’r cynrychiolwyr nad ydynt yn gweithio i awdurdodau lleol. Yn ystod y toriad, gwahoddwyd holl Aelodau Cynulliad Gogledd Cymru ac Aelodau etholaethau lleol i gyfarfod o bwyllgor arolygu a chraffu ar ofal cymdeithasol ac iechyd Cyngor Sir y Fflint. Yn anffodus, dim ond Aled Roberts a minnau oedd yn gallu mynd i’r cyfarfod. Mynegodd aelodau o bob plaid bryder y bydd awdurdodau lleol ledled gogledd Cymru yn colli dros 20% o’u cyllid Cefnogi Pobl yn ystod y cyfnod o dan sylw a gofynnwyd a yw Llywodraeth Cymru yn gallu ailystyried gosod lefel o ostyngiad a fydd yn gwarchod gogledd Cymru.

Jane Hutt: Mark Isherwood raised two points of policy. The Welsh Government is proud of the continuing investment that we have put into the concessionary fares scheme and into supporting, maintaining and safeguarding Supporting People, enabling Mansel Aylward, the distinguished chair of the review of the Supporting People arrangements, to come forward with proposals that are widely accepted. Of course, there will be consideration at each stage of implementation. Both of the points that have been raised today are about the implementation of policy and delivery by the Government, which we have addressed.

Jane Hutt: Cododd Mark Isherwood ddau bwynt polisi. Mae Llywodraeth Cymru yn falch o’i buddsoddiad parhaus yn y cynllun teithio rhatach ac mewn cefnogi, cynnal a chadw a diogelu Cefnogi Pobl, gan alluogi Mansel Aylward, cadeirydd nodedig yr adolygiad o drefniadau Cefnogi Pobl, i gyflwyno cynigion a dderbynnir yn eang. Wrth gwrs, bydd pob cam gweithredu’n cael ei ystyried. Mae’r ddau bwynt a godwyd heddiw yn ymwneud â’r Llywodraeth yn gweithredu polisi ac yn ei gyflwyno, ac rydym wedi mynd i’r afael â hynny.

Mohammad Asghar: Does the Minister know that, over the Christmas period, the residents of South Wales East were in a position of severe disadvantage? One of my constituents is a pastor of Asian Christians in Newport and was utterly flabbergasted when he was ordering goods on the internet. He was happy to pay the postage and packaging charges; however, to his horror, he was also made to pay the Severn bridge toll charges on the items that he bought for Christmas. I would like to know why Welsh residents are being penalised for living this side of the Severn bridge when our English and Scottish counterparts do not have to face such problems. Has your Government made any effort to make the public aware of such scenarios?

Mohammad Asghar: A yw’r Gweinidog yn gwybod y bu trigolion de-ddwyrain Cymru o dan anfantais ddifrifol dros gyfnod y Nadolig? Mae un o fy etholwyr yn weinidog i Gristnogion Asiaidd yng Nghasnewydd ac roedd wedi rhyfeddu’n fawr wrth iddo archebu nwyddau ar y rhyngrwyd. Roedd yn hapus i dalu’r costau postio a phacio; fodd bynnag, fe’i harswydwyd bod yn rhaid iddo hefyd dalu tollau pont Hafren ar yr eitemau a brynodd ar gyfer y Nadolig. Hoffwn wybod pam mae trigolion Cymru yn cael eu cosbi am fyw ar yr ochr hon i bont Hafren pan nad oes yn rhaid i’n cymheiriaid yn Lloegr ac yn yr Alban wynebu problemau o’r fath. A yw eich Llywodraeth wedi gwneud unrhyw ymdrech i hysbysu’r cyhoedd ynghylch sefyllfaoedd o’r fath?

Jane Hutt: I am sure that Mohammad Asghar has taken the opportunity to draw this matter to the attention of the appropriate authorities.

Jane Hutt: Rwyf yn siŵr bod Mohammad Asghar wedi manteisio ar y cyfle i dynnu’r mater hwn i sylw’r awdurdodau priodol.

2.45 p.m.

Datganiad: Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: 'Gofal gydag Urddas?’—Cynnydd
Statement: Older People’s Commissioner for Wales: 'Dignified Care?’—Progress


Y Cofnod

The Minister for Health and Social Services (Lesley Griffiths): In March 2011, the Older People’s Commissioner for Wales published her first review, which looked at the dignity and respect shown to older people in acute hospital settings in Wales. Good and bad practice was found, and the report identified 12 recommendations for action by the Welsh Government, NHS Wales organisations and their partner local authorities. Subsequent to this report being published, the Welsh Government has prioritised dignity in care in its new NHS delivery framework for 2011-12, which NHS Wales must deliver on. Every NHS organisation now has an action plan approved by the commissioner in place, and implementation is being actively monitored by the Welsh Government.

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Lesley Griffiths): Ym mis Mawrth 2011, cyhoeddodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ei hadolygiad cyntaf, a oedd yn edrych ar yr urddas a’r parch a ddangosir i bobl hŷn mewn ysbytai aciwt yng Nghymru. Daethpwyd o hyd i arfer da a gwael, ac mae’r adroddiad yn nodi 12 o argymhellion i’w gweithredu gan Lywodraeth Cymru, sefydliadau GIG Cymru a’r awdurdodau lleol sy’n bartneriaid iddynt. Yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu urddas mewn gofal yn fframwaith cyflawni newydd y GIG ar gyfer 2011-12, y mae’n rhaid i GIG Cymru ei roi ar waith. Mae gan bob sefydliad GIG bellach gynllun gweithredu, a gymeradwywyd gan y comisiynydd, ar waith ac mae’r dull o’i weithredu’n cael ei fonitro gan Lywodraeth Cymru.

To support our commitment to make improvements in patient care, a number of actions have been taken. In particular, Professor Jean White, the chief nursing officer, has interviewed each of the nurse directors to review progress on initiatives already under way to improve the quality of patients’ experience. Professor White has also discussed the individual action plans that each NHS organisation has developed and has had confirmation that every executive board has discussed, and agreed to act on, the report’s findings and recommendations. The chief nursing officer has reinforced my message to the NHS that improving the quality and safety of patient care, with care delivered with appropriate dignity and compassion, is of paramount importance.

Cymerwyd nifer o gamau i gefnogi ein hymrwymiad i wneud gwelliannau ym maes gofal cleifion. Yn benodol, mae’r Athro Jean White, y prif swyddog nyrsio, wedi cyfweld â phob un o’r cyfarwyddwyr nyrsio i adolygu’r cynnydd a wnaed ar gynlluniau sydd eisoes ar y gweill i wella ansawdd profiad cleifion. Mae’r Athro White hefyd wedi trafod y cynlluniau gweithredu unigol y mae pob sefydliad GIG wedi’u datblygu ac wedi cael cadarnhad bod pob bwrdd gweithredol wedi trafod canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad, ac wedi cytuno i weithredu arnynt. Mae’r prif swyddog nyrsio wedi atgyfnerthu fy neges i’r GIG bod gwella ansawdd a diogelwch gofal cleifion, gyda’r gofal yn cael ei ddarparu gyda’r urddas a’r tosturi priodol, o’r pwys mwyaf.

A number of the initiatives are already showing improvements in care. For example, Transforming Care is a ward-based improvement programme that empowers ward teams to increase the amount of time staff spend on direct patient care, to reduce adverse events, such as pressure sores and falls, and to increase patient satisfaction. Another example is the nutrition care pathway, which has introduced standard food and fluid charts into every in-patient area in Wales and requires organisations to protect patients at mealtimes from non-urgent medical interventions. To ensure that all staff know what is required of them, an e-learning package was introduced in September 2011, with all ward staff required to complete it within 12 months of taking up their post.

Mae nifer o’r mentrau eisoes yn dangos gwelliannau mewn gofal. Er enghraifft, mae Trawsnewid Gofal yn rhaglen wella sy’n seiliedig ar wardiau sy’n rhoi grym i dimau ward i gynyddu faint o amser y mae staff yn ei dreulio ar ofal cleifion uniongyrchol, i leihau digwyddiadau niweidiol, fel briwiau gorwedd a phobl yn cwympo, ac i gynyddu boddhad cleifion. Enghraifft arall yw’r llwybr gofal maeth, sydd wedi cyflwyno siartiau bwyd a hylif safonol ym mhob man ar gyfer cleifion mewnol yng Nghymru ac sy’n ei gwneud yn ofynnol bod sefydliadau’n gwarchod cleifion yn ystod prydau bwyd rhag ymyriadau meddygol nad ydynt yn rhai brys. Er mwyn sicrhau bod yr holl staff yn gwybod beth a ddisgwylir ganddynt, cyflwynwyd pecyn e-ddysgu ym mis Medi 2011, y mae’n ofynnol i’r holl staff ei gwblhau o fewn 12 mis iddynt ddechrau yn eu swydd.

There are national work programmes on oral health and hygiene, continence care, cleanliness standards, and expansion of the fundamentals of care audit tool to gain more evidence from patients about their experiences. I acknowledge that initiatives need time to become fully embedded across all areas in Wales, to make sure that they move from 'initiative’ to 'the way we do things routinely’. This needs commitment and strong clinical leadership from the board to the ward level, and this message will be reinforced.

Mae rhaglenni gwaith cenedlaethol ar iechyd a hylendid y geg, gofal ymataliaeth, safonau glendid, ac ehangu’r offeryn archwilio hanfodion gofal i gael mwy o dystiolaeth gan gleifion am eu profiadau. Rwyf yn cydnabod bod angen amser i ymgorffori’r mentrau’n llawn ym mhob ardal yng Nghymru, i sicrhau eu bod yn symud o fod yn  fentrau i fod yn rhywbeth rydym yn ei wneud fel mater o drefn. Mae angen ymrwymiad ac arweinyddiaeth glinigol gref ar hyn o lefel y bwrdd i lefel y ward, a bydd y neges hon yn cael ei hatgyfnerthu.

Last month, the chief nursing officer requested updates from all organisations on progress with their action plans. All NHS organisations are working to their individually agreed timescales for each action point, and each organisation is progressing well. The action plans and progress are monitored as part of the monthly performance management meetings and joint executive team meetings. A wide range of activities is under way by NHS organisations designed to meet local needs. However, all have introduced the mandatory leadership course for ward sisters and charge nurses.

Fis diwethaf, gofynnodd y prif swyddog nyrsio am y wybodaeth ddiweddaraf gan bob sefydliad ar gynnydd eu cynlluniau gweithredu. Mae holl sefydliadau’r GIG yn gweithio i’w hamserlenni unigol y cytunwyd arnynt ar gyfer pob pwynt gweithredu, ac mae pob sefydliad yn gwneud cynnydd da. Caiff y cynlluniau gweithredu a’r cynnydd eu monitro fel rhan o’r cyfarfodydd rheoli perfformiad a chyfarfodydd gweithredol y timau ar y cyd a gynhellir bob mis. Mae ystod eang o weithgareddau ar y gweill gan sefydliadau’r GIG a gynlluniwyd i ddiwallu anghenion lleol. Fodd bynnag, mae pob un wedi cyflwyno’r cwrs arweinyddiaeth gorfodol ar gyfer prif nyrsys ward.

Aneurin Bevan Local Health Board is rolling out its frailty programme to all localities and undertaking an awareness-raising campaign. It has recently launched its dignity in care campaign DVD called Look Closer—See Me.

Mae Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan yn cyflwyno ei raglen pobl fregus i bob lleoliad ac yn cynnal ymgyrch i godi ymwybyddiaeth. Mae wedi lansio DVD ei ymgyrch urddas mewn gofal o’r enw Look Closer—See Me.

Betsi Cadwaladr University Local Health Board has introduced protected mealtimes into its ward areas. The initiative encourages relatives to visit the ward at mealtimes so that they can assist their relative with eating and drinking. The health board has also developed a continence action plan. Continence training for all staff is progressing well and is led by the continence nurse specialists. Hywel Dda Local Health Board has initiated a 10-point dignity challenge and has developed an e-learning tool on dignity on its intranet. Cardiff and Vale University Local Health Board has introduced a new frail elderly project led by the Director of Therapies and Health Science. There is a standing item on dignity and respect on the board’s agenda, with patients’ stories used to illustrate the messages. Powys Teaching Local Health Board has completed a baseline audit of dementia care and increased patient involvement in care planning.

Mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cyflwyno amserau bwyd wedi’u gwarchod yn ei wardiau. Mae’r fenter yn annog perthnasau i ymweld â’r wardiau yn ystod prydau bwyd fel y gallant gynorthwyo eu perthynas i fwyta ac yfed. Mae’r bwrdd iechyd hefyd wedi datblygu cynllun gweithredu ar ymataliaeth. Mae’r hyfforddiant ar ymataliaeth ar gyfer yr holl staff yn datblygu’n dda ac fe’i harweinir gan y nyrsys sy’n arbenigo mewn ymataliaeth. Mae Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda wedi cyflwyno her urddas 10 pwynt ac wedi datblygu offeryn e-ddysgu ar urddas ar ei fewnrwyd. Mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi cyflwyno prosiect newydd ar gyfer pobl oedrannus sy’n fregus o dan arweiniad y Cyfarwyddwr Therapïau a Gwyddor Iechyd. Mae eitem sefydlog ar urddas a pharch ar agenda’r bwrdd, gyda straeon cleifion yn cael eu defnyddio i gyfleu’r negeseuon. Mae Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys wedi cwblhau archwiliad sylfaenol o ofal dementia a chyfranogiad cynyddol cleifion mewn cynllunio gofal.

A considerable amount of work is already under way to improve dementia services in Wales, including targets that have been set for the NHS to reduce the time between the onset of symptoms and diagnosis and treatment. These intelligent targets are also being used to improve dignity in care, as recommended by the commissioner.

Mae cryn dipyn o waith eisoes ar y gweill i wella gwasanaethau dementia yng Nghymru, gan gynnwys targedau a bennwyd ar gyfer y GIG i leihau’r amser rhwng ymddangosiad y symptomau a’r diagnosis a’r driniaeth. Mae’r targedau deallus hyn hefyd yn cael eu defnyddio i wella urddas mewn gofal, fel yr argymhellwyd gan y comisiynydd.

The national dementia vision for Wales, launched in February last year, sets out how we intend to develop high-quality services for people with dementia; this commitment is also reflected in 'Together for Health’. The key actions for this Welsh Government, as set out in the programme for government, include a commitment to improve care and support for people with dementia and their families. It builds on 'Sustainable Social Services for Wales: A Framework for Action’, which recognised that a major future challenge is how best to approach the implications of an ever-ageing population and increased incidence of associated dementia.

Mae’r weledigaeth genedlaethol ar ddementia i Gymru, a lansiwyd ym mis Chwefror y llynedd, yn nodi sut rydym yn bwriadu datblygu gwasanaethau o ansawdd uchel i bobl â dementia; adlewyrchir yr ymrwymiad hwn hefyd yn 'Law yn Llaw at Iechyd’. Mae’r camau allweddol ar gyfer Llywodraeth Cymru, fel y nodir yn y rhaglen lywodraethu, yn cynnwys ymrwymiad i wella’r gofal a’r gefnogaeth ar gyfer pobl â dementia a’u teuluoedd. Mae’n datblygu cynnwys 'Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu’, a oedd yn cydnabod mai her fawr yn y dyfodol fydd dewis y ffordd orau o ymdrin â goblygiadau poblogaeth sy’n heneiddio a’r achosion cynyddol o ddementia sy’n gysylltiedig â hynny.

In addition to the action plans that the Welsh Government and NHS organisations have in place, Healthcare Inspectorate Wales began conducting unannounced dignity spot checks in December 2011. These visits are conducted by small teams, which include a senior nurse and a lay reviewer. The focus of the visits is on the experience of the individual, particularly in terms of dignity and respect, and whether their essential care needs were met in a timely manner. As the spot checks have only just started, it is too soon to have data on their findings.

Yn ychwanegol at gynlluniau gweithredu Llywodraeth Cymru a sefydliadau’r GIG, dechreuodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru gynnal archwiliadau urddas dirybudd ym mis Rhagfyr 2011. Cynhelir yr ymweliadau hyn gan dimau bach, sy’n cynnwys uwch nyrs ac adolygydd lleyg. Mae’r ymweliadau yn canolbwyntio ar brofiad yr unigolyn, yn enwedig o ran urddas a pharch, ac a yw ei anghenion gofal hanfodol yn cael eu bodloni mewn modd amserol. Gan fod yr archwiliadau dirybudd ond newydd ddechrau, mae’n rhy fuan i gael data ar eu canfyddiadau.

In a brief statement such as this, it is not possible to describe in detail the breadth of activity under way in Wales. The commissioner’s report has brought the issue of dignity in care to the fore and I am pleased to see the energy that all NHS organisations are putting into implementing their respective action plans. There is much that still needs to be done, but there is now good evidence that improvements can be made with the right leadership. We will continue to work with our partners to maintain this momentum and build on the improvements achieved.

Mewn datganiad byr fel hwn, nid yw’n bosibl disgrifio’n fanwl ehangder y gweithgareddau sydd ar y gweill yng Nghymru. Mae adroddiad y comisiynydd wedi dod â’r mater o urddas mewn gofal i’r amlwg ac rwyf yn falch o weld y brwdfrydedd y mae holl sefydliadau’r GIG yn ei ddangos wrth weithredu eu cynlluniau gweithredu unigol. Mae llawer o hyd sydd angen ei wneud, ond mae tystiolaeth dda bellach y gellir sicrhau gwelliannau gyda’r arweiniad cywir. Byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid i gynnal y momentwm hwn ac i ddatblygu’r gwelliannau a gyflawnwyd.

Darren Millar: Thank you for your statement, Minister. Before I ask some questions on this issue, I pay tribute to Ruth Marks, the older people’s commissioner, and her staff for their excellent work in producing the report. Let us not forget that some horrific truths were exposed in it. All of us in the Chamber want to deal with those issues. It was a bold report, and we need to make real cultural changes with regard to how the NHS has approached this issue in the past. I am hopeful that we will see visible and concrete outcomes as a result of the announcements that you have made today.

Darren Millar: Diolch i chi am eich datganiad, Weinidog. Cyn i mi ofyn rhai cwestiynau ar y mater hwn, talaf deyrnged i Ruth Marks, y comisiynydd pobl hŷn, a’i staff am eu gwaith rhagorol yn llunio’r adroddiad. Gadewch i ni beidio ag anghofio bod rhai gwirioneddau erchyll wedi’u datgelu ynddo. Mae pob un ohonom yn y Siambr am ymdrin â’r materion hynny. Roedd yn adroddiad beiddgar, ac mae angen i ni wneud newidiadau diwylliannol gwirioneddol mewn perthynas â sut yr aeth y GIG i’r afael â’r mater hwn yn y gorffennol. Rwyf yn obeithiol y byddwn yn gweld canlyniadau pendant a gweladwy o ganlyniad i’r cyhoeddiadau a wnaethoch heddiw.

Minister, why did it take three responses from the Welsh Government before the older people’s commissioner was happy with the actions proposed to deal with the recommendations made in the report? I note that you say that there is active monitoring of the implementation of the plans that have been produced by the board. You have touched a little on how that monitoring is undertaken. What sanctions would you be willing to impose on those particular boards that were not living up to their obligations and the commitments that they had made to the older people’s commissioner in response to the report?

Weinidog, pam y bu’n rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi tri ymateb cyn bod y comisiynydd pobl hŷn yn fodlon ar y camau arfaethedig i ymdrin â’r argymhellion a wnaed yn yr adroddiad? Nodaf eich bod yn dweud bod y dull o weithredu’r cynlluniau a luniwyd gan y bwrdd yn cael ei fonitro. Rydych wedi cyfeirio rhywfaint at sut y gwneir y gwaith monitro hwnnw. Pa gosbau y byddech yn barod i’w gosod ar y byrddau hynny nad oeddent yn cyflawni eu rhwymedigaethau a’r ymrwymiadau a wnaethant i’r comisiynydd pobl hŷn mewn ymateb i’r adroddiad?

I am pleased to hear that the dignity spot checks have now commenced. I am also pleased to hear some of the examples of good practice by different local health boards around Wales. However, can you tell us how you intend to implement that best practice across Wales, so that we do not have inconsistency in the quality of care and our approach with regard to dignity in care for older people?

Rwy’n falch o glywed bod yr archwiliadau urddas dirybudd bellach wedi dechrau. Rwyf hefyd yn falch o glywed ynghylch rhai o’r enghreifftiau o arfer da gan fyrddau iechyd lleol gwahanol ledled Cymru. Fodd bynnag, a allwch ddweud wrthym sut rydych yn bwriadu gweithredu’r arfer gorau hwnnw ledled Cymru, fel nad oes gennym anghysondeb o ran ansawdd y gofal a’n dull o ymdrin ag urddas mewn gofal i bobl hŷn?

One issue raised in the report of the older people’s commissioner was staffing levels, the pressure that those can put on teams of staff in hospitals, and the problems that they can cause with regard to how staff deliver care, particularly with regard to the time that they are able to spend with patients. You will be aware, because it has been raised a number of times in this Chamber, that staffing shortages have resulted in the closure of some facilities in my constituency, and in Mid and West Wales too, because staff have had to be redeployed. What action is the Welsh Government taking to ensure an adequate supply of nursing, medical and clinical staff, so that dignity in care is paramount when elderly people are admitted to hospital?

Un mater a godwyd yn adroddiad y comisiynydd pobl hŷn oedd lefelau staffio, y pwysau y gall y rhain ei roi ar dimau o staff mewn ysbytai, a’r problemau y gallant eu hachosi o ran sut y mae’r staff yn darparu gofal, yn enwedig o ran yr amser y gallant ei dreulio gyda’r cleifion. Byddwch yn ymwybodol, oherwydd codwyd hyn nifer o weithiau yn y Siambr hon, fod prinder staff wedi arwain at gau rhai cyfleusterau yn fy etholaeth i, ac yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru hefyd, oherwydd bod staff wedi cael eu hadleoli. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod cyflenwad digonol o staff nyrsio, meddygol a chlinigol, fel y rhoddir y pwys mwyaf ar urddas mewn gofal pan fydd pobl oedrannus yn cael eu derbyn i’r ysbyty?

Another issue that has been raised by a number of organisations is that of the ageing population, and the massive increase that we will see in the number of people aged over 65 over the next few decades. It has been estimated that 32% of the population will be aged over 65 by 2030, and the WRVS and other organisations have flagged this up as a concern. That is bound to increase pressure on health and social services, and on their budgets, and I wonder what plans the Welsh Government has to ensure that the NHS gets the resources that it needs to maintain and improve services for that significant older population in Wales in future.

Mater arall a godwyd gan nifer o sefydliadau yw’r ffaith bod y boblogaeth yn heneiddio, ac y bydd cynnydd aruthrol yn ystod y degawdau nesaf yn nifer y bobl sydd dros 65 oed. Amcangyfrifwyd y bydd 32% o’r boblogaeth yn hŷn na 65 oed erbyn 2030, ac mae Gwasanaeth Brenhinol Gwirfoddol y Merched a sefydliadau eraill wedi tynnu sylw at hyn fel pryder. Mae hynny’n siŵr o gynyddu’r pwysau ar wasanaethau iechyd a chymdeithasol, ac ar eu cyllidebau. Tybed pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y GIG yn cael yr adnoddau sydd eu hangen arno i gynnal a gwella gwasanaethau ar gyfer y boblogaeth hŷn arwyddocaol honno yng Nghymru yn y dyfodol.

To move on to my final question, could you tell us about consistency across Wales? You have indicated that the action plans will be drawn up individually by local health boards, and I think that we are in danger of having an inconsistent approach. We need best practice across Wales, and I wonder whether the Welsh Government ought to take more direct leadership of this issue to ensure that, whether someone is admitted to hospital in Barry or Bangor, they get the same quality of service.

I symud ymlaen i fy nghwestiwn olaf, a allwch ddweud wrthym am y cysondeb ledled Cymru? Rydych wedi nodi y bydd y cynlluniau gweithredu’n cael eu llunio’n unigol gan fyrddau iechyd lleol, a chredaf ein bod mewn perygl o gael dull anghyson. Mae angen arfer gorau ledled Cymru, a tybed a ddylai Llywodraeth Cymru arwain ar y mater hwn mewn modd mwy uniongyrchol er mwyn sicrhau bod rhywun sy’n mynd i’r ysbyty yn y Barri neu ym Mangor yn cael gwasanaeth o’r un safon.

Lesley Griffiths: Thank you, Darren Millar—it is nice to see you back in the Chamber. I, too, would like to pay tribute to Ruth Marks and her team, and I probably should have done so in my opening statement. You are right: this report has meant that we have seen a cultural change, and people who go into the healthcare profession do want to care and assist. You asked why it took three responses; obviously, there was a change of Minister during the process, we had an election, and I met with Ruth Marks, but we got it absolutely right, and I am pleased that we accepted the recommendations and that work is progressing well.

Lesley Griffiths: Diolch i chi, Darren Millar—mae’n braf eich gweld yn ôl yn y Siambr. Hoffwn innau hefyd dalu teyrnged i Ruth Marks a’i thîm, ac, yn ôl pob tebyg, dylwn fod wedi gwneud hynny yn fy natganiad agoriadol. Rydych yn gywir: mae’r adroddiad hwn wedi golygu ein bod wedi gweld newid diwylliannol, ac mae’r bobl sy’n dilyn proffesiwn gofal iechyd yn dymuno gofalu a chynorthwyo. Gwnaethoch ofyn pam y cymerodd dri ymateb; yn amlwg, cafwyd Gweinidog newydd yn ystod y broses, cawsom etholiad, a chefais gyfarfod â Ruth Marks, ond roeddem yn llygad ein lle, ac rwyf yn falch ein bod wedi derbyn yr argymhellion a bod y gwaith yn mynd rhagddo’n dda.

The chief nursing officer is the official who ensures that close monitoring is undertaken. She meets the director of nurses in each LHB regularly. You mentioned the dignity spot checks, and they were universally welcomed. As I said, it is a bit early to have any data on their findings, because they have only just started, but the focus of the visits will be on the experience of the individual, and I want to see more feedback from patients and their families on the care that they get. It is important that we learn from those experiences. You also mentioned nursing staff levels; health boards and trusts are responsible. The health and wellbeing of patients and staff is of paramount importance, and it is up to the health boards and trusts to ensure that there are the right levels of staff to care for the local population. We give them very large budgets, and it is important that they do that.

Y prif swyddog nyrsio yw’r swyddog sy’n sicrhau bod gwaith monitro agos yn cael ei wneud. Mae’n cyfarfod â’r cyfarwyddwr nyrsys ym mhob bwrdd iechyd lleol yn rheolaidd. Gwnaethoch sôn am yr archwiliadau urddas dirybudd, a chawsant eu croesawu’n gyffredinol. Fel y dywedais, mae ychydig yn gynnar i gael unrhyw ddata ar eu canfyddiadau, oherwydd eu bod ond newydd ddechrau, ond bydd yr ymweliadau yn canolbwyntio ar brofiad yr unigolyn, ac rwyf am weld mwy o adborth gan gleifion a’u teuluoedd ar y gofal y maent yn ei gael. Mae’n bwysig ein bod yn dysgu o’r profiadau hynny. Gwnaethoch grybwyll lefelau staffio nyrsio hefyd; byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau sy’n gyfrifol am hynny. Mae iechyd a lles cleifion a staff o’r pwys mwyaf, a chyfrifoldeb y byrddau iechyd a’r ymddiriedolaethau yw sicrhau bod lefelau cywir o staff i ofalu am y boblogaeth leol. Rydym yn rhoi cyllidebau mawr iawn iddynt, ac mae’n bwysig eu bod yn gwneud hynny.

In relation to the ageing population, that is why we as a Government announced a 'National Dementia Vision for Wales’. We are aware of the ageing population, which will pose very real and huge challenges in respect of our services. The national dementia vision builds on 'Sustainable Social Services for Wales: A Framework for Action’, and sets out how we as a Government intend to develop high-quality services for people with dementia.

Mewn perthynas â’r boblogaeth sy’n heneiddio, dyna pam rydym ni fel Llywodraeth wedi cyhoeddi 'Gweledigaeth Genedlaethol Cymru ar Ddementia’. Rydym yn ymwybodol o’r boblogaeth sy’n heneiddio, a fydd yn creu heriau gwirioneddol a sylweddol mewn perthynas â’n gwasanaethau. Mae’r weledigaeth genedlaethol ar ddementia yn datblygu cynnwys 'Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu’, ac yn nodi sut rydym fel Llywodraeth yn bwriadu datblygu gwasanaethau o safon uchel i bobl â dementia.

You talk about consistency, and that is the one thing that I want to see in the NHS. I do not want to see inequalities. I only want to see best practice. You are right that this report showed that there was good and bad practice, but I do not think that we should be too pessimistic. Mostly, there is good practice, and bad practice will not be tolerated.

Rydych yn siarad am gysondeb, a dyna’r un peth rwyf am ei weld yn y GIG. Nid wyf am weld anghydraddoldebau. Rwyf am weld arfer gorau yn unig. Rydych yn iawn fod yr adroddiad hwn yn dangos bod arfer da a gwael, ond nid wyf yn credu y dylem fod yn rhy besimistaidd. Yn bennaf, ceir arfer da, ac ni fydd arfer gwael yn cael ei oddef.

3.00 p.m.

Rebecca Evans: I welcome your statement, and I am pleased that the Government has decided to prioritise dignity in care and that progress is being made. I welcome particularly the mandatory training via leadership courses for ward sisters and charge nurses, as well as the spot checks. However, I would like to seek further information relating to some of the specific recommendations made by the commissioner, the first of which relates to the sharing of patient information. I welcome the recommendation that patients should expect a higher degree of privacy when their information is discussed, and that, wherever possible, individual consultations should take place in a private ward facility, although it should still be accessible and appropriate. It is completely unacceptable for patients’ conditions and treatment to be discussed in front of other patients and their visitors. Minister, what assessment have you made of the extent of this poor practice in Wales at the moment, although I accept that there is good practice too? How are you working with clinical staff to raise their awareness of the fact that there is a need to improve privacy? What steps are you taking to direct and enable health boards and hospitals to create these private spaces on wards? Finally, how will you be monitoring improvements in that regard?

Rebecca Evans: Croesawaf eich datganiad, ac rwy’n falch fod y Llywodraeth wedi penderfynu blaenoriaethu urddas mewn gofal a bod cynnydd yn cael ei wneud. Croesawaf yn arbennig yr hyfforddiant gorfodol drwy gyfrwng cyrsiau arweinyddiaeth ar gyfer prif nyrsys, yn ogystal â’r archwiliadau dirybudd. Fodd bynnag, hoffwn ofyn am ragor o wybodaeth yn ymwneud â rhai o’r argymhellion penodol a wnaed gan y comisiynydd. Mae’r cyntaf o’r rhain yn ymwneud â rhannu gwybodaeth am gleifion. Rwy’n croesawu’r argymhelliad y dylai cleifion ddisgwyl lefel uwch o breifatrwydd pan fydd eu gwybodaeth yn cael ei drafod, ac y dylid cynnal ymgynghoriadau unigol mewn cyfleuster preifat yn y ward lle bynnag y bo modd, er y dylai barhau i fod yn hygyrch ac yn briodol. Mae trafod cyflyrau a thriniaeth cleifion o flaen cleifion eraill a’u hymwelwyr yn gwbl annerbyniol. Weinidog, pa asesiad rydych wedi’i wneud o hyd a lled yr arfer gwael hwn yng Nghymru ar hyn o bryd, er fy mod yn derbyn bod arfer da hefyd? Sut rydych yn gweithio gyda staff clinigol i godi eu hymwybyddiaeth o’r ffaith bod angen gwella preifatrwydd? Pa gamau rydych yn eu cymryd i gyfeirio a galluogi byrddau iechyd ac ysbytai i greu’r lleoedd preifat hyn ar wardiau? Yn olaf, sut y byddwch yn monitro gwelliannau yn hynny o beth?

Moving on to recommendation 6, which relates to the use of volunteers, you will know of my interest in the third sector, and I know that you will join me in welcoming the good work that volunteers do on behalf of older people in hospital and in the community. The commissioner recommends that the health boards and the trusts should recognise the expertise of the third sector and work with it to realise the potential and the appropriate and imaginative use of volunteers. How is the Welsh Government helping the health boards and the trusts to recognise that expertise and to use volunteers appropriately? The development, management and support of volunteers is an important and skilled job. How is the Welsh Government supporting third sector organisations to do that work in what are difficult times financially for many organisations? I thank you again for today’s statement, and hope that this is only one of many opportunities that we will have to discuss progress.

Symudaf ymlaen i argymhelliad 6, sy’n ymwneud â’r defnydd o wirfoddolwyr. Byddwch yn gwybod am fy niddordeb yn y trydydd sector, ac rwy’n gwybod y byddwch yn ymuno â mi i groesawu’r gwaith da y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud ar ran pobl hŷn yn yr ysbyty ac yn y gymuned. Mae’r comisiynydd yn argymell y dylai’r byrddau iechyd a’r ymddiriedolaethau gydnabod arbenigedd y trydydd sector a gweithio gydag ef er mwyn gwireddu potensial gwirfoddolwyr a gwneud defnydd priodol a chreadigol ohonynt. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu’r byrddau iechyd a’r ymddiriedolaethau i gydnabod yr arbenigedd hwnnw ac i ddefnyddio gwirfoddolwyr mewn modd priodol? Mae datblygu, rheoli a chefnogi gwirfoddolwyr yn waith pwysig a medrus. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi sefydliadau yn y trydydd sector i wneud y gwaith hwnnw mewn cyfnod sy’n anodd yn ariannol i lawer o sefydliadau? Diolch ichi unwaith eto am y datganiad heddiw, ac rwy’n gobeithio nad yw hwn ond yn un o nifer o gyfleoedd y byddwn yn eu cael i drafod cynnydd.

Lesley Griffiths: I thank the Member for Mid and West Wales for those questions. With regard to patients being able to discuss their conditions in a private area, this is something that should not have to be even said; it is of paramount importance. When I have visited hospitals across Wales, I have been pleased to see that health boards are making such places available. I went to a physiotherapy department, for instance—in the Hywel Dda LHB area, I think—which had completely reorganised the unit so that there are much larger cubicles with actual walls rather than just curtains, which means that patients can discuss their condition in far more privacy. Buildings are what they are; if you were starting again, you probably would not have them the way they are, but I am pleased that health boards are ensuring, where they can, that patients are able to discuss matters in private.

Lesley Griffiths: Rwy’n diolch i’r Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru am y cwestiynau hynny. O ran galluogi cleifion i drafod eu cyflyrau mewn ardal breifat, mae hyn yn rhywbeth na ddylai fod angen ei ddweud hyd yn oed; mae’n hollbwysig.  Pan fyddaf yn ymweld ag ysbytai ledled Cymru, rwy’n falch o weld bod byrddau iechyd yn sicrhau bod mannau o’r fath ar gael. Er enghraifft, ymwelais ag adran ffisiotherapi—yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol Hywel dda, rwy’n credu—a oedd wedi ad-drefnu’r uned yn llwyr fel bod ciwbiclau llawer mwy o faint gyda waliau go iawn yn hytrach na llenni yn unig, sy’n golygu y gall cleifion drafod eu cyflwr mewn llawer mwy o breifatrwydd. Rhaid i’r adeiladau aros fel y maent; pe baech yn dechrau eto, mae’n debyg na fyddech yn eu hadeiladu yn yr un modd, ond rwy’n falch bod byrddau iechyd yn sicrhau, lle y gallant, bod cleifion yn gallu trafod materion yn breifat.  

You mentioned the use of volunteers. I pay tribute to the many people who volunteer in so many different ways in hospital. Since I have been in post, I have met many people who work in the shop, take the trolley round or help to feed patients. It is something that I want to encourage, along with relatives going in to help. As I mentioned, most of my monitoring is done by my chief nursing officer, Professor Jean White, who speaks weekly to the directors of nursing and, unless there is a problem, reports back to me monthly. We then ascertain how the recommendations are being implemented.

Rydych yn crybwyll y defnydd o wirfoddolwyr. Rwy’n talu teyrnged i’r nifer o bobl sy’n gwirfoddoli mewn cymaint o wahanol ffyrdd yn yr ysbyty. Ers i mi fod yn y swydd hon, rwyf wedi cyfarfod llawer o bobl sy’n gweithio yn y siop, yn gwthio’r troli neu’n helpu i fwydo cleifion. Mae’n rhywbeth rwyf am ei annog, ynghyd â pherthnasau yn mynd i mewn i helpu. Fel y dywedais, mae’r rhan fwyaf o’m gwaith monitro yn cael ei wneud gan fy mhrif swyddog nyrsio, yr Athro Jean White, sy’n siarad â’r cyfarwyddwyr nyrsio yn wythnosol ac, oni bai fod problem, yn adrodd yn ôl i mi bob mis. Yna rydym yn canfod sut mae’r argymhellion yn cael eu rhoi ar waith.

Lindsay Whittle: A lot of my contribution has been scribbled out now, because so much of what I was going to say has already been said. While I welcome the Minister’s statement on the progress made following the report of the older people’s commissioner, there are still a few questions that need answering. Governments—and this one, with respect, is no exception—are usually pretty strong on rhetoric and policy statements, but not so strong on the details of how those statements of intent are going to be put into practice. However, I genuinely believe that this statement is a pretty good start. We need to know, Minister, who will be the partners working with you to monitor the dignity and respect that old people have the right to enjoy? How will you personally go about checking on the quality of the care and the support of older people, particularly those in hospitals and care homes? The occasional visit in the past, as we have all agreed, was of little use. In view of some of the appalling cases of neglect that came to light, it was obvious that the present system for monitoring dignity and respect had failed.

Lindsay Whittle: Rwyf wedi gadael allan llawer o’m cyfraniad nawr, oherwydd bod cymaint o’r hyn yr oeddwn yn mynd i’w ddweud eisoes wedi cael ei ddweud. Er fy mod yn croesawu datganiad y Gweinidog ar y cynnydd a wnaed yn dilyn adroddiad y comisiynydd pobl hŷn, mae ychydig o gwestiynau sydd angen eu hateb o hyd. Mae Llywodraethau—ac nid yw’r Llywodraeth hon, gyda pharch, yn eithriad—fel arfer yn eithaf cryf o ran rhethreg a datganiadau polisi, ond nid ydynt mor gryf ar y manylion ynghylch sut y bydd y datganiadau hynny o fwriad yn cael eu rhoi ar waith. Fodd bynnag, rwyf wir yn credu bod y datganiad hwn yn ddechrau eithaf da. Mae angen i ni wybod, Weinidog: pwy fydd y partneriaid a fydd yn  gweithio gyda chi i fonitro’r urddas a’r parch y mae gan bobl hŷn yr hawl i’w fwynhau? Sut y byddwch chi’n bersonol yn mynd ati i arolygu ansawdd y gofal a’r gefnogaeth ar gyfer pobl hŷn, yn enwedig y rheini sydd mewn ysbytai a chartrefi gofal? Nid oedd ymweliad achlysurol yn y gorffennol, fel yr ydym oll wedi cytuno, yn ddefnyddiol iawn. O ystyried rhai o’r achosion echrydus o esgeulustod a ddaeth i’r amlwg, roedd yn amlwg bod y system bresennol ar gyfer monitro urddas a pharch wedi methu.

I genuinely welcome your statement, Minister, and the news that unannounced dignity spot checks will be carried out. That is one of the best pieces of news that I have heard in the new year. Spot checks should cover inappropriate bathing and shower facilities, inadequate room temperature, a lack of privacy for patients—as Rebecca Evans mentioned—and a lack of attention given to the hygiene needs of patients. In the past, I have heard a complaint relating to a patient being bathed and dried with pillow cases because not enough towels were available. That cannot go on. The family in that case was absolutely horrified.

Rwyf wir yn croesawu eich datganiad, Weinidog, ac rwy’n croesawu’r newyddion y bydd archwiliadau urddas dirybudd yn cael eu cynnal. Dyna un o’r darnau gorau o newyddion rwyf wedi ei glywed yn y flwyddyn newydd. Dylai archwiliadau dirybudd gwmpasu cyfleusterau ymolchi a chawod, tymheredd ystafell annigonol, diffyg preifatrwydd i gleifion—fel y crybwyllwyd gan Rebecca Evans—a diffyg sylw a roddir i anghenion hylendid cleifion. Yn y gorffennol, clywais gŵyn sy’n ymwneud â chlaf yn cael ei olchi a’i sychu gyda chasys gobennydd am nad oed digon o dywelion ar gael. Ni all hynny barhau. Roedd y teulu yn yr achos hwnnw wedi’u harswydo.

Minister, people whose relatives are vulnerable will want to hear from you that, in future, the success of the health boards will not be measured solely according to whether or not they achieve their financial targets. It cannot all be about money, can it? They will need to prove that the quality of the care that they provide reaches standards that will be regularly and systematically scrutinised by, I assume, you, Minister, and by the appropriate Assembly committee. For this reason, Minister, I hope that you will seek the advice of third sector organisations regarding how best to measure performance in terms of the quality of one-to-one care. It will not be an easy task, but you and the Government have to tackle this. Minister, will you involve voluntary organisations, who do sterling work in Wales? Let us be honest: without them, Wales would close down. Do you believe that ward sisters should be given total responsibility and more powers? These are the people who are best placed to provide dignified care for elderly people.

Weinidog, bydd pobl y mae eu perthnasau yn agored i niwed am eich clywed yn dweud na fydd llwyddiant y byrddau iechyd, yn y dyfodol, yn cael ei fesur yn unig yn ôl a ydynt yn cyflawni eu targedau ariannol. Nid arian yw sail popeth, onid e? Bydd angen iddynt brofi bod ansawdd y gofal y maent yn ei ddarparu yn cyrraedd safonau a fydd cael eu harchwilio yn rheolaidd ac yn systematig gennych chi, rwy’n tybio, Weinidog, a chan y pwyllgor priodol yn y Cynulliad. Am y rheswm hwn, Weinidog, rwy’n gobeithio y byddwch yn gofyn am gyngor gan sefydliadau trydydd sector o ran beth yw’r ffordd orau o fesur perfformiad ansawdd gofal un i un. Ni fydd yn dasg hawdd, ond rhaid i chi a’r Llywodraeth fynd i’r afael â hyn. Weinidog, a fyddwch yn cynnwys mudiadau gwirfoddol, sy’n gwneud gwaith rhagorol yng Nghymru? Gadewch i ni fod yn onest: hebddynt hwy, ni fyddai Cymru yn gweithio. A ydych yn credu y dylid rhoi cyfrifoldeb llwyr a rhagor o bwerau i brif nyrsys ward? Dyma’r bobl sydd yn y sefyllfa orau i ddarparu gofal gydag urddas ar gyfer pobl oedrannus.

I look forward to receiving regular updates from you, Minister, regarding the process of monitoring dignity and respect and the ways in which this is being addressed. This is a tough task and it is your responsibility. You have to carry out this task. I am not a lover of confrontational politics. In fact, I sometimes wonder why I am here. However, if you carry out this task, you should be confident that Assembly Members will stand shoulder to shoulder with you to look after the generation who looked after us.

Edrychaf ymlaen at gael y wybodaeth ddiweddaraf gennych yn rheolaidd, Weinidog, am y broses o fonitro urddas a pharch ac am sut rydych yn mynd i’r afael â hyn. Mae hon yn dasg anodd a’ch cyfrifoldeb chi ydyw. Rhaid ichi gyflawni’r dasg hon. Nid wyf yn hoff o wleidyddiaeth ymosodol. Yn wir, weithiau rwy’n gofyn pam rwyf yma. Fodd bynnag, os ydych yn cyflawni’r dasg hon, dylech fod yn hyderus y bydd Aelodau’r Cynulliad yn sefyll ochr yn ochr â chi i ofalu am y genhedlaeth a ofalodd amdanom ni.

Lesley Griffiths: Thank you for that, Lindsay Whittle, and for your questions. You asked who the partners will be. Obviously, the Welsh Government will work closely with the commissioner, who meets the chief executives of the health boards and the trust and who also works with Healthcare Inspectorate Wales. The commissioner will work with the National Leadership and Innovation Agency for Healthcare, community councils and the Wales Audit Office. The chief nursing officer, who is the main person who monitors for me, will also work closely with all of those organisations.

Lesley Griffiths: Diolch ichi am hynny, Lindsay Whittle, ac am eich cwestiynau. Gwnaethoch ofyn pwy fydd y partneriaid. Yn amlwg, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos â’r comisiynydd, sy’n cwrdd â phrif weithredwyr y byrddau iechyd a’r ymddiriedolaeth ac sydd hefyd yn gweithio gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Bydd y comisiynydd yn gweithio gyda’r Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd, cynghorau cymuned a Swyddfa Archwilio Cymru. Bydd y prif swyddog nyrsio, sef y prif berson sy’n monitro ar fy rhan, hefyd yn gweithio’n agos â’r holl sefydliadau hynny.

You mentioned the third sector, to which I cannot pay sufficient tribute. It has a huge role to play. I meet third sector organisations regularly and last met them just before the Christmas recess. Those organisations are very clear about the role that they can play. They are to be encouraged and we will do everything that we can to assist them in playing that role.

Rydych yn sôn am y trydydd sector—ni allaf dalu digon o deyrnged iddo. Mae ganddo rôl enfawr i’w chwarae. Rwy’n cwrdd â sefydliadau trydydd sector yn rheolaidd a chefais fy nghyfarfod diwethaf ychydig cyn toriad y Nadolig. Mae’r sefydliadau hynny yn glir iawn ynghylch y rhan y gallant ei chwarae. Rhaid inni eu hannog a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’w cynorthwyo i chwarae’r rôl honno.

You may be aware of 'Free to Lead, Free to Care’, which is a national nurse-led programme that focuses on improving in-patient care for all patients. It ran from 2008 to 2011 and produced several recommendations, which focused on enhancing the powers of ward sisters and charge nurses to manage their ward. They are the people who show leadership and they can affect every aspect of a patient’s experience. We should not be too pessimistic. I certainly do not want to demoralise the fantastic staff that we have in the NHS. As I have said, there was some bad practice, which will not be tolerated and which is unacceptable. However, we should focus on the good practice that we have in the NHS.

Efallai eich bod yn ymwybodol o 'Rhyddid i Arwain, Rhyddid i Ofalu’, sef rhaglen genedlaethol sy’n cael ei arwain gan nyrsys ac sy’n canolbwyntio ar wella gofal ar gyfer pob claf mewnol. Roedd y rhaglen yn rhedeg o 2008 i 2011 a nododd nifer o argymhellion, a oedd yn canolbwyntio ar wella pwerau prif nyrsys o ran rheoli eu ward. Y rhain yw’r bobl sy’n dangos arweiniad ac maent yn gallu effeithio ar bob agwedd o brofiad y claf. Ni ddylem fod yn rhy besimistaidd. Yn sicr, nid wyf ddim am ddigalonni’r staff gwych sydd gennym yn y GIG. Fel y dywedais, roedd rhywfaint o arfer gwael, ond ni fydd hyn yn cael ei oddef ac mae’n annerbyniol. Fodd bynnag, dylem ganolbwyntio ar yr arferion da sydd gennym yn y GIG.

Peter Black: I welcome the Minister’s statement and the examples that she set out of actions being taken by various health boards around Wales to deal with this. I am encouraged that there are action plans in place to deal with the issues that were raised in the report of the commissioner for older people in Wales. Some of the report’s findings were shocking, and it even used the phrase 'shamefully inadequate’ to describe the treatment of some older people in hospital.

Peter Black: Rwy’n croesawu datganiad y Gweinidog a’r enghreifftiau a amlinellodd o ran y camau a gymerir gan fyrddau iechyd amrywiol ledled Cymru i ymdrin â’r mater hwn. Rwyf wedi fy nghalonogi bod cynlluniau gweithredu ar waith i ddelio â'r materion a godwyd yn adroddiad Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Roedd rhai o ganfyddiadau’r adroddiad yn frawychus, ac roedd hyd yn oed yn defnyddio’r ymadrodd 'yn warthus o annigonol’ i ddisgrifio sut y caiff rhai pobl hŷn eu trin yn yr ysbyty.

I would like first to raise a particular issue in relation to Betsi Cadwaladr University Local Health Board. There is a reference in the action plan to protected meal times and there are clearly issues relating to nutrition and monitoring nutritional values for older people in hospitals. One of the suggestions was that information about the weight of elderly people admitted to hospital should be collated so that there could be proper monitoring of nutritional standards. Is that part of protected mealtimes, or is it in the action plan that has been put in place for Betsi Cadwaladr University Local Health Board?

Yn gyntaf, hoffwn godi mater penodol mewn perthynas â Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr. Ceir cyfeiriad yn y cynllun gweithredu at gael amseroedd bwyd penodedig, ac yn amlwg mae problemau yn ymwneud â maeth a monitro gwerthoedd maeth ar gyfer pobl hŷn mewn ysbytai. Un o’r awgrymiadau oedd y dylid coladu gwybodaeth am bwysau pobl hŷn sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty fel y gellid monitro safonau maeth yn briodol. A yw hynny’n rhan o amseroedd bwyd penodedig, neu a yw’n rhan o’r cynllun gweithredu a luniwyd ar gyfer Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr?

Although there is a lot of good stuff in the statement, it strikes me that the best way of addressing the issues raised in the report is to put systems in place to deal with them. Do the action plans that have been put in place deal with systems, or do they just include a list of things that each board has to deal with? If you have systems in place, you can guarantee dignity on the ward, including continence care, and preventing the discussion of private and confidential information in public. We need a system to ensure that there is improvement in the process of discharging older people, so that it is done in a timely and effective way, and that older people who need community care have that in place on arrival at home. Those types of things need to be built into the day-to-day running of hospitals, rather than being a part of a particular action plan, because actions are sometimes dealt with, and then they slip and are allowed to lapse accordingly. Therefore, what systems are being put in place to deal with this? What steps are being taken to address the staffing level issue that was found to exist, and what better training has been given to staff treating those suffering with dementia? How are we spreading best practice across the NHS in Wales? Finally, what procedures have been put in place so that the experiences of older people and their families of the NHS can be gathered and used to drive improvements in care standards?

Er bod llawer o bethau da yn y datganiad, mae’n fy nharo mai’r ffordd orau o fynd i’r afael â'r materion a godwyd yn yr adroddiad yw rhoi systemau ar waith i ymdrin â hwy. A yw’r cynlluniau gweithredu sydd wedi eu llunio yn delio â systemau, neu a ydynt dim ond yn cynnwys rhestr o bethau y mae angen i bob bwrdd ymdrin â hwy? Os oes gennych systemau yn eu lle, gallwch sicrhau urddas ar y ward, gan gynnwys gofal ymataliaeth, ac atal trafod gwybodaeth breifat a chyfrinachol yn gyhoeddus. Mae angen system i sicrhau bod y broses o ryddhau pobl hŷn yn gwella, fel ei fod yn cael ei wneud mewn modd amserol ac effeithiol, a bod gan bobl hŷn sydd angen gofal yn y gymuned y gofal hynny mewn lle ar ôl cyrraedd gartref. Rhaid cynnwys y pethau hynny yn y gwaith o redeg ysbytai o ddydd i ddydd, yn hytrach na bod yn rhan o gynllun gweithredu penodol. Weithiau, ymdrinnir â chamau gweithredu ond yna maent yn llithro ac felly yn methu. Felly, pa systemau sy’n cael eu rhoi ar waith i ymdrin â hyn? Pa gamau sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r broblem ynghylch lefelau staffio a ganfuwyd, a pha hyfforddiant gwell sydd wedi cael ei roi i staff sy’n trin y rhai sydd â dementia? Sut ydym yn lledaenu arfer gorau ar draws y GIG yng Nghymru? Yn olaf, pa weithdrefnau sydd wedi cael eu rhoi ar waith fel y gellir casglu profiadau pobl hŷn a’u teuluoedd yn y GIG a’u ddefnyddio i wella safonau gofal?

Lesley Griffiths: I thank the Member for those questions. In relation to protected mealtimes at Betsi Cadwaladr University Local Health Board, that is an example of best practice that I want to see rolled out across Wales. All patients are weighed when they are admitted to hospital, but protected mealtimes are important. I accept that there may be times when medical interventions are needed, but non-medical interventions should not be allowed during mealtimes. I mentioned that I want to see volunteers and relatives engaged in mealtimes as well, if that is what they want. Mealtimes, food and fluid have now been given the same level of importance as medication, which is important. It is not just about initiatives, which take a while to bed in; it is also about systems. The minimum requirement is to ensure that all boards deliver on the 12 recommendations identified. However, the boards need to demonstrate that improvements are taking place in an older person’s experience across the range of services, and that monitoring of progress is being undertaken against the action plans. We also have the annual fundamentals of care audit report.

Lesley Griffiths: Rwy’n diolch i’r Aelod am y cwestiynau hynny. Mewn perthynas ag amseroedd bwyd penodedig ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, mae hynny’n enghraifft o arfer gorau rwyf am weld yn cael ei chyflwyno ledled Cymru. Mae pob claf yn cael eu pwyso pan gânt eu derbyn i’r ysbyty, ond mae amseroedd bwyd penodedig yn bwysig. Rwy’n derbyn y gall fod adegau pan fydd angen ymyriadau meddygol, ond ni ddylid caniatáu ymyriadau nad ydynt yn feddygol yn ystod amser bwyd. Soniais fy mod am weld gwirfoddolwyr a pherthnasau yn cymryd rhan mewn prydau bwyd yn ogystal, os mai dyna eu dymuniad. Mae prydau bwyd, bwyd a hylif bellach ar yr un lefel o bwysigrwydd â meddyginiaeth, ac mae hyn yn bwysig. Nid mentrau yn unig sy’n bwysig, sy’n cymryd amser i’w sefydlu; mae systemau hefyd yn bwysig. Y gofyniad sylfaenol yw sicrhau bod pob bwrdd yn cyflawni ar y 12 o argymhellion a nodwyd. Fodd bynnag, mae angen i fyrddau ddangos bod profiad pobl hŷn yn gwella ar draws yr ystod o wasanaethau, a bod cynnydd yn cael ei fonitro yn erbyn y cynlluniau gweithredu. Mae gennym hefyd yr adroddiad blynyddol ar yr archwiliad o hanfodion gofal.

I also mentioned feedback. I want to get more feedback from patients and their families because that is a way in which we can find out what the quality of care is. I believe that most of the feedback would be positive—my experience from visiting hospitals is that what patients want to tell me is positive.

Soniais hefyd am adborth. Rwyf am gael rhagor o adborth gan gleifion a’u teuluoedd am fod hynny yn ffordd i ni gael gwybod beth yw ansawdd y gofal. Rwy’n credu y byddai’r rhan fwyaf o’r adborth yn gadarnhaol—fy mhrofiad o ymweld ag ysbytai yw bod yr hyn y mae cleifion am ei ddweud wrthyf yn gadarnhaol.

You also mentioned training. Training is about not just expertise, but compassion, which also needs to be encompassed in this work.

Gwnaethoch hefyd grybwyll hyfforddiant. Nid yw hyfforddiant yn ymwneud ag arbenigedd yn unig, ond mae’n ymwneud â thosturi, sydd hefyd angen cael ei gynnwys yn y gwaith hwn.

Cynnig i Gymeradwyo Rheoliadau Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain (Hysbysebu a Masnachu) (Cymru) 2012
Motion to approve the London Olympic Games and Paralympics Games (Advertising and Trading) (Wales) Regulations 2012

Y Cofnod

Cynnig NDM4880 Jane Hutt

Motion NDM4880 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

To propose that the National Assembly for Wales, in accordance with Standing Order 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain (Hysbysebu a Masnachu) (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Tachwedd 2011.

Approves that the draft The London Olympic Games and Paralympic Games (Advertising and Trading) (Wales) Regulations 2012 is made in accordance with the draft laid in the Table Office on 18 November 2011.

The Minister for Environment and Sustainable Development (John Griffiths): I move the motion.

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy (John Griffiths): Cynigiaf y cynnig.

These draft regulations, seeking the approval of the National Assembly for Wales, are required by the London Olympic Games and Paralympic Games Act 2006. The controls introduced by the regulations are intended to uphold the host city contract made between the London organising committee and the international Olympic committee.  

Mae’r rheoliadau drafft hyn, sy’n ceisio cymeradwyaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn ofynnol yn ôl Deddf Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2006. Diben y rheolaethau a gyflwynwyd gan y rheoliadau yw cynnal  contract y ddinas groesawu a wnaed rhwng pwyllgor trefnu Llundain a’r pwyllgor Olympaidd rhyngwladol.

Football matches at the Millennium Stadium in Cardiff and at Hampden Park in Scotland join the other Olympic and Paralympic events taking place in England. A common approach has been taken across the three administrations within the respective regulations to ensure that the games have a consistent look and feel across London and the UK; to prevent ambush marketing within the vicinity of venues; and so that spectators and those participating in the games can get in and out of venues easily and safely.

Mae’r gemau pêl-droed yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd ac yn Hampden Park yn yr Alban yn ymuno â’r digwyddiadau Olympaidd a Pharalympaidd eraill sy’n digwydd yn Lloegr. Defnyddiwyd dull cyffredin ar draws y tair gweinyddiaeth o fewn y rheoliadau perthnasol i sicrhau bod y gemau yn edrych ac yn teimlo yn gyson ledled Llundain a’r DU; i atal marchnata rhagod yn ardal y lleoliadau; ac fel y gall gwylwyr a’r rhai sy’n cymryd rhan yn y gemau fynd i mewn ac allan o’r lleoliadau yn  rhwydd ac yn ddiogel.

I note the report of the Constitutional and Legislative Affairs Committee, which considered this draft legislation on 5 December. The host city contract does not allow for companies that are not official sponsors to create and profit from a greater association with the Games. This is dealt with by the 2006 Act. These regulations are the technical implementation of the principles set out in the contract, applying them to the local circumstances of Cardiff. In seeking to achieve the aims of the regulations, a deliberately wide definition of advertising and ambush marketing has been included within the regulations, to ensure that innovative forms of marketing do not infringe the host city contract.  

Rwy’n nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a drafododd y ddeddfwriaeth ddrafft hon ar 5 Rhagfyr. Nid yw contract y ddinas groesawu yn caniatáu i gwmnïau nad ydynt yn noddwyr swyddogol greu a gwneud elw yn sgîl dod i gysylltiad agosach â’r Gemau. Ymdrinnir â hyn yn Neddf 2006. Y rheoliadau hyn yw’r gweithrediad technegol o’r egwyddorion a nodir yn y contract, wedi’u cymhwyso i amgylchiadau lleol Caerdydd. Wrth geisio cyflawni amcanion y rheoliadau, rhoddwyd diffiniad o hysbysebu a marchnata rhagod a oedd yn fwriadol eang yn y rheoliadau, er mwyn sicrhau nad yw dulliau arloesol o farchnata yn torri contract y ddinas groesawu.  

3.15 p.m.

I recognise that the unique city-centre location of the Millennium Stadium, with its many access routes, makes it challenging to achieve the aims of the regulations. However, I consider that the regulations take a proportionate approach to achieving the aims, balancing the necessary restrictions with sufficient exemptions to protect the interests of residents and businesses within the designated event zone, seeking to ensure, as far as possible, business as usual.

Rwy’n cydnabod bod lleoliad unigryw Stadiwm y Mileniwm yng nghanol y ddinas, gyda’i amryw lwybrau mynediad, yn ei gwneud yn heriol i gyflawni amcanion y rheoliadau. Fodd bynnag, rwyf o’r farn bod y rheoliadau yn defnyddio dull cymesur i gyflawni’r nodau, gan gydbwyso cyfyngiadau angenrheidiol gyda digon o eithriadau i ddiogelu buddiannau trigolion a busnesau o fewn parth dynodedig y digwyddiad, a chan geisio sicrhau, cyn belled ag y bo modd, fod pethau’n mynd yn eu blaen fel arfer.

I commend these regulations to the National Assembly.

Cymeradwyaf y rheoliadau hyn i’r Cynulliad Cenedlaethol.

Mohammad Asghar: I am pleased to support the approval of these regulations. It is imperative that a balance is struck between enabling businesses within event zones to trade with minimal disruption and to meet the host city contract set by the International Olympic Committee. Given the magnitude of the Games, without these regulations, arguably, unmanageable levels of commercial activity would buckle in close proximity to Games venues. This could place the safety of spectators in jeopardy. Regulations for England, Scotland and Wales have a common theme, to give the Games a consistent look and feel, to prevent ambush marketing and to ensure that spectators can enter and exit venues safely. The regulation will apply in Cardiff in three blocks for a total of 13 days. Leading up to this, it is crucial that the Welsh Government works proactively with Olympic bodies and the UK Government to ensure that awareness of these regulations is raised.

Mohammad Asghar: Rwyf yn falch o gefnogi’r gymeradwyaeth o’r rheoliadau hyn. Mae’n hanfodol taro cydbwysedd rhwng galluogi busnesau o fewn y parthau digwyddiad i fasnachu gyda’r amhariad lleiaf posibl a bodloni contract y ddinas groesawu a osodwyd gan y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol. O ystyried maint y Gemau, heb y rheoliadau hyn, gellid dadlau y byddai lefelau na ellir eu rheoli o weithgarwch masnachol yn digwydd yn agos at leoliadau’r Gemau. Gallai hyn beryglu diogelwch y gwylwyr. Mae thema gyffredin i’r rheoliadau ar gyfer Lloegr, yr Alban a Chymru, sef rhoi cysondeb o ran gwedd a naws, atal marchnata rhagod a sicrhau y gall gwylwyr fynd i mewn ac allan o leoliadau yn ddiogel. Bydd y rheoliadau yn berthnasol yng Nghaerdydd mewn tri bloc am gyfanswm o 13 diwrnod. Yn arwain at y digwyddiadau, mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gweithio’n rhagweithiol â’r cyrff Olympaidd a Llywodraeth y DU i godi  ymwybyddiaeth o’r rheoliadau hyn.

Simon Thomas: During the next couple of minutes I hope to persuade other Members to vote against this dismal piece of law making and to show a bit of backbone in negotiations with the Olympic Delivery Authority and with the Government in Westminster. It is a great shame that one of the first pieces of law that we are making here since the referendum is one that protects the corporate interests of Coca-Cola and McDonald’s and does nothing to address the opportunities for Welsh businesses around the marketing of the Olympic events in Wales.

Simon Thomas: Yn ystod yr ychydig funudau nesaf rwy’n gobeithio darbwyllo Aelodau eraill i bleidleisio yn erbyn y darn sâl hwn o ddeddfwriaeth ac i ddangos ychydig o asgwrn cefn yn y trafodaethau ag Awdurdod Gweithredu’r Gemau Olympaidd a’r Llywodraeth yn San Steffan. Mae’n drueni mawr fod un o’r darnau cyntaf o gyfraith rydym yn eu pasio yma ers y refferendwm yn un sy’n gwarchod buddiannau corfforaethol Coca-Cola a McDonald’s ac yn gwneud dim i fynd i’r afael â’r cyfleoedd i fusnesau Cymru mewn perthynas â marchnata digwyddiadau’r Gemau Olympaidd yng Nghymru.

There are two fundamental objections to this legislation. First and foremost, it is a sledge hammer to crack a nut. The reversal of the burden of proof in these regulations, as the Constitutional and Legislative Affairs Committee has noted, is unnecessary and breaks the fundamental tenets of human rights, as recognised by UK Government Ministers who have said that these regulations could be said to interfere with the right to be presumed innocent, affirmed by Article 6(2) of the European Convention on Human Rights. This is the truth. We are breaking the way that regulations should be made by a new law-making parliament, which is to put the burden of proof on people first and foremost, and not to reverse that burden of proof, and assume that people are guilty before we have examined their case. That is the first reason for objecting to these regulations.

Mae dau wrthwynebiad sylfaenol i’r ddeddfwriaeth hon. Yn bennaf, maent yn llawdrwm iawn. Mae gwrthdroi’r baich profi yn y rheoliadau hyn, fel mae’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi ei nodi, yn ddiangen ac yn torri egwyddorion sylfaenol hawliau dynol, fel y cydnabuwyd gan Weinidogion Llywodraeth y DU sydd wedi dweud y gallai’r rheoliadau hyn ymyrryd â’r hawl i ragdybiaeth o fod yn ddieuog, fel y mae Erthygl 6(2) o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn ei gadarnhau. Dyma yw’r gwir. Rydym yn torri’r ffordd y dylai rheoliadau gael eu gwneud gan senedd ddeddfu newydd, sef rhoi’r baich profi ar bobl yn gyntaf oll, yn hytrach na gwrthdroi’r baich profi hwnnw a thybio bod pobl yn euog cyn inni archwilio eu hachos. Dyna’r rheswm cyntaf dros wrthwynebu’r rheoliadau hyn.

The second reason for objecting to these regulations is by asking what they are trying to achieve. The purpose of the legislation is to protect the pockets of the biggest and strongest and to crack down on the weakest. The weakest people in Cardiff are those who are scraping a living off the streets, quite literally sometimes—the street traders, or the people who will paint a little Welsh sticker or the Olympic flag, or whatever it might be, on your face as you go into an event. They will be excommunicated from Cardiff city centre and, what is more, the police will have direct powers to move them on under these regulations. We are going against the tenet of the free exercise of community life in Cardiff in and around the celebration of the Olympic Games. The Government’s own cost assessment says that street traders who are already there will lose £25,000 because of these regulations, and we are allowing an agreement made directly between the Olympic authorities and London—an agreement in which the Welsh Assembly Government in 2004 played no part—to dictate the legislation that we are passing here. That is not good enough, and we should not allow it. As it happens, the Olympic Games started as a voluntary activity in modern times in Shropshire, just over the border. Since then, the Olympics have been tarnished by corruption, big business and drugs; and now, we have a £10 billion Olympics for which Wales has had a £9 million return so far. We do not even have the opportunity to market our businesses, our culture and our nation on the back of Olympic events happening in Cardiff.

Yr ail reswm dros wrthwynebu’r rheoliadau hyn yw drwy ofyn beth maent yn ceisio ei gyflawni. Diben y ddeddfwriaeth yw gwarchod pocedi’r bobl fwyaf a chryfaf a sathru ar y gwannaf. Y bobl wannaf yng Nghaerdydd yw’r rheini sy’n crafu bywoliaeth oddi ar y stryd, yn llythrennol weithiau—y masnachwyr stryd, neu’r bobl a fydd yn paentio sticer Cymru neu’r faner Olympaidd, efallai, ar eich wyneb wrth i chi fynd i mewn i ddigwyddiad. Byddant yn cael eu hesgymuno o ganol dinas Caerdydd ac, yn waeth byth, bydd gan yr heddlu bwerau uniongyrchol i’w symud ymlaen o dan y rheoliadau hyn. Rydym yn mynd yn erbyn yr egwyddor o’r rhyddid i ymarfer bywyd cymunedol yng Nghaerdydd fel rhan o ddathliad y Gemau Olympaidd. Mae asesiad cost y Llywodraeth ei hun yn dweud y bydd y masnachwyr stryd sydd eisoes yno yn colli £25,000 oherwydd y rheoliadau hyn, ac rydym yn caniatáu i gytundeb a wnaed yn uniongyrchol rhwng yr awdurdodau Olympaidd a Llundain—cytundeb nad oedd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhan ohono yn 2004—i bennu’r ddeddfwriaeth rydym yn ei phasio yma. Nid yw hynny’n ddigon da, ac ni ddylem ei ganiatáu. Fel mae’n digwydd, dechreuodd y Gemau Olympaidd fel gweithgaredd gwirfoddol yn y cyfnod modern yn Swydd Amwythig, ychydig dros y ffin. Ers hynny, mae’r Gemau Olympaidd wedi cael eu pardduo gan lygredd, busnesau mawr a chyffuriau, ac erbyn hyn, mae gennym Gemau Olympaidd gwerth £10 biliwn y mae Cymru ond wedi cael £9 miliwn ohono hyd yn hyn. Nid ydym hyd yn oed yn cael y cyfle i farchnata ein busnesau, ein diwylliant a’n cenedl ar gefn y digwyddiadau Olympaidd yng Nghaerdydd.

It is a great shame that the Government has not negotiated a better deal for the Olympics in a financial sense, in respect of public sector money, and with regard to these regulations. I very much regret that we are passing regulations that, in particular, reverse the burden of proof. When the Olympics come, we in Plaid Cymru will be 100 per cent behind our athletes and those trying to win medals for the UK and Wales. However, I hope that our athletes do a better job than our Government has on these regulations.

Mae’n drueni mawr nad yw’r Llywodraeth wedi sicrhau gwell bargen ar gyfer y Gemau Olympaidd, o ran y trefniant ariannol, o ran arian y sector cyhoeddus, ac o ran y rheoliadau hyn. Gresynaf yn fawr ein bod yn pasio rheoliadau sydd, yn benodol, yn gwrthdroi’r baich profi. Pan ddaw’r Gemau Olympaidd, byddwn ni ym Mhlaid Cymru 100 y cant tu ôl i’n hathletwyr a’r rheini sy’n ceisio ennill medalau dros y DU a Chymru. Fodd bynnag, rwy’n gobeithio y bydd ein hathletwyr yn cael gwell hwyl arni na chafodd y Llywodraeth gyda’r rheoliadau hyn.

Eluned Parrott: I would like to welcome the fact that Cardiff will be a host city for the 2012 Olympics. The city has a fantastic record of hosting very successful sporting events without the need for such overburdensome regulations as those before us today. As well as practical arrangements, I know that event organisers often cite things like the atmosphere and the warmth of welcome received in Cardiff. These organisers trust Wales and Cardiff to deliver for them. I put on record my thanks to Cardiff Council and the Wales major events team for their record of success. I look forward to seeing the Olympics come to our nation’s capital and to seeing that also being a major success for Wales.

Eluned Parrott: Hoffwn groesawu’r ffaith y bydd Caerdydd yn ddinas groesawu ar gyfer Gemau Olympaidd 2012. Mae gan y ddinas record wych o gynnal digwyddiadau chwaraeon yn llwyddiannus heb yr angen am reoliadau gor-feichus fel y rhai sydd ger ein bron heddiw. Yn ogystal â’r trefniadau ymarferol, rwy’n gwybod bod trefnwyr digwyddiadau yn aml yn crybwyll ffactorau fel yr awyrgylch a’r croeso cynnes a dderbyniwyd yng Nghaerdydd. Mae’r trefnwyr hyn yn ymddiried yng Nghymru a Chaerdydd i ddarparu ar eu cyfer. Hoffwn gofnodi fy niolch i Gyngor Caerdydd a thîm digwyddiadau mawr Cymru am eu record lwyddiannus. Rwy’n edrych ymlaen at weld y Gemau Olympaidd yn dod i brifddinas ein cenedl ac at weld hynny fel llwyddiant mawr i Gymru hefyd.

However, I want to put on record specific reservations about the details of these regulations as they apply to Cardiff. One of these is concern over the size of the exclusion zone. In the context of Wembley, the Olympic village or Sydney, 500m does not constitute a major impact on a city centre. In Cardiff, however, the exclusion zone encompasses a number of retail premises and a huge number of hostelries that are used to trading extremely well during major sporting events. We need to ensure that these businesses are clear about what they can and cannot do as part of the Olympics, as well as how they can operate to their best advantage and to the credit of Cardiff.

Fodd bynnag, rwyf am gofnodi amheuon penodol am fanylion y rheoliadau hyn a’r modd y maent yn gymwys i Gaerdydd. Un o’r rhain yw pryder ynghylch maint y parth gwahardd. Yng nghyd-destun Wembley, y pentref Olympaidd neu Sydney, nid yw 500m yn golygu fawr o effaith ar ganol y ddinas. Yng Nghaerdydd, fodd bynnag, mae’r parth gwahardd yn cwmpasu nifer o safleoedd manwerthu a nifer fawr o dafarndai sydd wedi arfer gwneud busnes da yn ystod digwyddiadau chwaraeon mawr. Mae angen i ni sicrhau bod y busnesau hyn yn glir ynghylch yr hyn y gallant ac na allant ei wneud fel rhan o’r Gemau Olympaidd, yn ogystal â sut y gallant fanteisio i’r eithaf er eu budd eu hunain ac er budd Caerdydd.

There are also concerns over human rights, the presumption of guilt and the need for those accused of breaching these regulations to prove their innocence. This overturns everything that we understand of justice, and it is overbearing. Of course, we recognise the reasons why major event organisers need to protect their sponsors, who provide the funding that enables events to take place. However, that does not mean that we should bow down to them and offer them everything on a plate, damaging our own indigenous companies—based in Cardiff and other parts of Wales—so that we can protect the interests of others that will only come here for 13 days in the course of a decade. I object to this piece of legislation on the basis that it is overbearing and sets a poor precedent for the future. We cannot support it today without two assurances: first, that these regulations are policed with a light touch, so that common sense prevails and so that local traders can trade without fear of prosecution and having to prove their innocence; and secondly, that this piece of legislation is never used as a model for future major events that come to our great city.

Mae pryderon hefyd dros hawliau dynol, y rhagdybiaeth o euogrwydd a’r angen i’r rhai sy’n cael eu cyhuddo o dorri’r rheoliadau hyn brofi eu bod yn ddieuog. Mae hyn yn gwyrdroi ein dealltwriaeth o gyfiawnder, ac mae’n ormesol. Wrth gwrs, rydym yn cydnabod y rhesymau pam bod trefnwyr digwyddiadau mawr angen diogelu eu noddwyr, sy’n darparu’r cyllid sy’n galluogi’r digwyddiadau i ddigwydd. Fodd bynnag, nid yw hynny’n golygu y dylem foesymgrymu a chynnig popeth ar blât iddynt, gan niweidio ein cwmnïau cynhenid—​​sydd wedi’u lleoli yng Nghaerdydd a rhannau eraill o Gymru—fel y gallwn ddiogelu buddiannau eraill a fydd yn dod yma am 13 diwrnod yn unig. Rwy’n gwrthwynebu’r darn hwn o ddeddfwriaeth ar y sail ei fod yn ormesol ac yn gosod cynsail gwael ar gyfer y dyfodol. Ni allwn ei gefnogi heddiw heb ddau sicrwydd: yn gyntaf, bod y rheoliadau yn cael eu plismona’n ysgafn, fel bod synnwyr cyffredin yn bodoli ac fel y gall masnachwyr lleol fasnachu heb ofni erlyniad na’r rheidrwydd i brofi eu bod yn ddieuog; ac yn ail, nad yw’r darn hwn o ddeddfwriaeth byth yn cael ei ddefnyddio fel model ar gyfer digwyddiadau mawr yn y dyfodol sy’n dod i’n dinas wych.

The Minister for Environment and Sustainable Development (John Griffiths): I recognise that there are mixed views among Members regarding these regulations. There was a general welcome for these events coming to Cardiff. Obviously, they will bring very substantial benefits. The restrictions are designed to ensure that necessary sponsorship is forthcoming, as it plays a significant role in bringing the Olympic Games to the UK and these events to Cardiff. It is clear that, without that level of protection, the sponsorship that has played a large part in financing the Games. [Interruption.]

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy (John Griffiths): Rwy’n cydnabod bod yna farn gymysg ymhlith Aelodau ynghylch y rheoliadau hyn. Cafwyd croeso cyffredinol ar gyfer gweld y digwyddiadau hyn yn dod i Gaerdydd. Yn amlwg, byddant yn dod â manteision sylweddol iawn. Mae’r cyfyngiadau wedi’u cynllunio i sicrhau’r nawdd angenrheidiol, gan ei fod yn chwarae rhan sylweddol wrth ddenu’r Gemau Olympaidd i’r DU a’r digwyddiadau hyn i Gaerdydd. Mae’n amlwg, heb y lefel honno o ddiogelwch, fod y nawdd sydd wedi chwarae rhan fawr yn ariannu’r Gemau. [Torri ar draws.]

The Presiding Officer: Order. Are you making an intervention? I see that you are. Perhaps you would like to stand up rather than shout from your seat. Minister, will you take an intervention?

Y Llywydd: Trefn. A ydych yn gwneud ymyriad? Gwelaf eich bod. Efallai yr hoffech sefyll i fyny yn hytrach na gweiddi o’ch sedd. Weinidog, a wnewch chi dderbyn ymyriad?

John Griffiths: Certainly.

John Griffiths: Yn sicr.

Simon Thomas: The Minister is claiming that the corporations are paying for the Olympics. It is £10 billion of public money that is paying for the Olympics.

Simon Thomas: Mae’r Gweinidog yn honni mai’r corfforaethau sy’n talu am y Gemau Olympaidd. Y £10 biliwn o arian cyhoeddus sy’n talu am y Gemau Olympaidd.

John Griffiths: No, I was saying that that sponsorship plays a significant role in enabling the Games to take place and, by extension, these events to come to Cardiff. I think that that is quite widely accepted.

John Griffiths: Na, dweud oeddwn i fod nawdd yn chwarae rhan sylweddol wrth alluogi’r Gemau i ddigwydd a, thrwy hynny, alluogi’r digwyddiadau hyn i ddod i Gaerdydd. Credaf fod pobl yn derbyn hynny’n gyffredinol.

Eluned Parrott: On the subject of sponsors, regulations of this nature were not required for hosting the Rugby World Cup and for other large-scale events in Cardiff. I wonder why they are necessary for this event. Can you give me an assurance that they will not be required for events in future just in order to pander to sponsors?

Eluned Parrott: Ar fater y noddwyr, nid oedd angen rheoliadau o’r fath pan gynhaliwyd Cwpan Rygbi’r Byd na digwyddiadau mawr eraill yng Nghaerdydd. Tybed pam eu bod yn angenrheidiol ar gyfer y digwyddiad hwn. Allwch chi roi sicrwydd na fyddant yn ofynnol ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, er mwyn plesio noddwyr yn unig?

John Griffiths: I cannot give the Member that assurance; it would not be within my power to do so. However, I can say that a specific set of circumstances apply to the Olympic Games. Negotiations took place between the UK Government, the International Olympic Committee and others and, of course, a contract was arrived at. Obviously, that is specific to these Olympic Games, and other major events would be subject to different processes.

John Griffiths: Ni allaf roi’r sicrwydd hwnnw gan nad oes gen i’r pŵer i wneud hynny. Fodd bynnag, gallaf ddweud bod cyfres benodol o amgylchiadau yn gymwys i’r Gemau Olympaidd. Cynhaliwyd trafodaethau rhwng Llywodraeth y DU, y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol ac eraill ac, wrth gwrs, lluniwyd contract yn sgîl hynny. Yn amlwg, mae hwnnw’n benodol ar gyfer y Gemau Olympaidd, a byddai disgwyl i ddigwyddiadau mawr eraill fod yn destun prosesau gwahanol.

Notwithstanding Members’ concerns, I believe that these regulations are proportionate, strike the right balance and implement the negotiated host city contract, implementing it here in Wales. Obviously, specific concerns have been raised. The 500m restriction has been a concern to many, for example. We have to bear in mind, as far as that is concerned, that we are talking about 13 days. Indeed, there was a collaborative consultation to arrive at that restriction and the process around it, and we must recognise that there were opportunities for views to be expressed. If Members look at the views that were expressed, they do not bear out the concerns that have been raised today.

Er gwaethaf pryderon yr Aelodau, credaf fod y rheoliadau hyn yn gymesur, yn sicrhau’r cydbwysedd cywir ac yn gweithredu contract y ddinas groesawu, a’i roi ar waith yma yng Nghymru. Yn amlwg, mynegwyd pryderon penodol. Mae’r cyfyngiad 500m wedi bod yn bryder i lawer, er enghraifft. Mae’n rhaid i ni gofio, cyn belled â bod hynny yn y cwestiwn, ein bod yn siarad am 13 diwrnod. Yn wir, cafwyd ymgynghoriad ar y cyd cyn cytuno ar y cyfyngiad hwnnw a’r broses o’i amgylch, a rhaid inni gydnabod y cafwyd cyfleoedd i fynegi barn. Os bydd Aelodau’n edrych ar y farn a fynegwyd, nid ydynt yn adlewyrchu’r pryderon a godwyd heddiw.

A number of Members have raised as an issue the reversal of the burden of proof. Contrary to the impression that some Members might have given the Chamber, this reversal of the burden of proof is, in fact, in line with existing advertising and trading legislation and regulations. It is by no means unprecedented. Of course, there are legal issues involved and various views on this, but we can say that a prosecutor would be required to prove beyond reasonable doubt that an offence had been committed. Only if that were established would an accused person have to prove the defence on the balance of probabilities. That procedure is very much consistent with the existing advertising and trading legislation and other regulatory offences. Indeed, in its fifteenth report, the Joint Committee on Human Rights dealt with these matters and thought that the clause was compatible with the presumption of innocence in the European Convention on Human Rights. Therefore, in that context, I think that I can provide Members with some reassurance that we have considered all of these issues.

Mae nifer o Aelodau wedi codi’r mater o wrthdroi’r baich profi. Yn groes i’r argraff y gallai rhai Aelodau fod wedi ei rhoi i’r Siambr, mae gwrthdroi’r baich profi, mewn gwirionedd, yn unol â’r ddeddfwriaeth a’r rheoliadau presennol ar hysbysebu a masnachu. Mae’n bell o fod yn ddigynsail. Wrth gwrs, mae materion cyfreithiol o dan sylw yma, a barn amrywiol arnynt, ond gallwn ddweud y byddai’n rhaid i erlynydd brofi y tu hwnt i amheuaeth resymol fod trosedd wedi ei chyflawni. Dim ond pe byddai hynny wedi’i gadarnhau y byddai rhaid i’r cyhuddedig brofi’r amddiffyniad yn ôl pwysau tebygolrwydd. Mae’r weithdrefn honno’n gyson â’r ddeddfwriaeth hysbysebu a masnachu bresennol a throseddau rheoleiddiol eraill. Yn wir, yn ei bymthegfed adroddiad, aeth y Cydbwyllgor ar Hawliau Dynol i’r afael â’r materion hyn gan ddod i’r casgliad bod y cymal yn gydnaws â’r rhagdybiaeth o fod yn ddieuog yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Felly, yn y cyd-destun hwnnw, rwy’n credu y gallaf roi tipyn o sicrwydd i Aelodau ein bod wedi ystyried yr holl faterion hyn.

Before closing, I should say that we believe that a light touch is appropriate with regard to enforcement, and I know that local authority enforcement officers in Wales will be taking that approach. I commend these regulations to the National Assembly.

Cyn cloi, dylwn ddweud ein bod yn credu na ddylid bod yn llawdrwm wrth orfodi, ac rwy’n gwybod y bydd swyddogion gorfodi awdurdodau lleol yng Nghymru yn gwneud yr un peth. Cymeradwyaf y rheoliadau hyn i’r Cynulliad Cenedlaethol.

The Presiding Officer: The proposal is to agree the motion. Are there any objections? I see that there are. Therefore, voting on this item will be deferred until voting time.

Y Llywydd: Y cynnig yw bod y cynnig yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw wrthwynebiad? Gwelaf fod. Felly, caiff y bleidlais ar yr eitem hon ei gohirio tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisiau tan y cyfnod pleidleisio.
Votes deferred until voting time.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Melding) i’r Gadair am 3.29 p.m.
The Deputy Presiding Officer (David Melding) took the Chair at 3.29 p.m.

Setliad Llywodraeth Leol
The Local Government Settlement

Y Cofnod

Cynnig NDM4881 Jane Hutt

Motion NDM4881 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2012-2013 (Setliad Terfynol - Cynghorau), a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Rhagfyr 2011.

To propose that the National Assembly for Wales, in accordance with Section 84H of the Local Government Finance Act 1988, approves the Local Government Finance Report (No. 1) 2012-2013 (Final Settlement - Councils), which was laid in the Table Office on 9th December 2011.

The Minister for Local Government and Communities (Carl Sargeant): I move the motion.

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau (Carl Sargeant): Cynigiaf y cynnig.

I am pleased to present to the Assembly for its approval next year’s local government settlement for the 22 unitary authorities in Wales. The settlement confirms the uplift in funding for 2012-13 that I announced in last year’s settlement as part of a three-year proposal. While we should be under no illusions that this is a challenging settlement, the Welsh Local Government Association recognises that this is as good an outcome as local government could have expected. At a time of cutbacks, this settlement represents an increase to local government funding for 2012-13 at an average of 0.02% in cash terms.  

Mae’n bleser gennyf gyflwyno i’r Cynulliad i’w gymeradwyo setliad llywodraeth leol flwyddyn nesaf ar gyfer y 22 awdurdod unedol yng Nghymru. Mae’r setliad yn cadarnhau’r cynnydd mewn cyllid ar gyfer 2012-13 a gyhoeddais yn setliad y llynedd fel rhan o gynnig dros dair blynedd. Er na ddylem gael unrhyw gamargraff nad yw hwn yn setliad heriol, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cydnabod mai hwn yw’r canlyniad gorau y gallai llywodraeth leol fod wedi’i ddisgwyl. Ar adeg o doriadau, mae’r setliad hwn yn cynrychioli cynnydd o 0.02% ar gyfartaledd mewn termau arian parod ar gyfer 2012-13.

3.30 p.m.

Over the four-year spending review period, local government in Wales can expect an overall increase in funding of around 0.07%. That is significantly better than in England, where, on a like-for-like basis, funding is set to decrease by 0.06%. It reaffirms this Government’s commitment to prioritise support for the vital services delivered by local authorities in Wales, such as education, social services and social care. Our commitment to protecting funding for schools and social care over the four years means that we are making available an additional £80 million for schools and £35 million for social services.  

Yn ystod y cyfnod adolygu gwariant o bedair blynedd, gall llywodraeth leol yng Nghymru ddisgwyl cynnydd cyffredinol mewn cyllid o tua 0.07%. Mae hynny gryn dipyn yn well na’r cynnydd yn Lloegr, lle, ar sail tebyg am debyg, mae disgwyl i’r cyllid ostwng 0.06%. Mae’n ailddatgan ymrwymiad y Llywodraeth hon i flaenoriaethu’r arian ar gyfer y gwasanaethau hanfodol a ddarperir gan awdurdodau lleol yng Nghymru, fel addysg, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol. Mae ein hymrwymiad i ddiogelu cyllid ar gyfer ysgolion a gofal cymdeithasol dros y pedair blynedd yn golygu ein bod yn darparu £80 miliwn ychwanegol ar gyfer ysgolion a £35 miliwn ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol.  

The details on specific grants that I provide to local authorities with the settlement announcement show that local authorities will also receive the necessary funding to support projects key to the support and future of Wales, such as Supporting People and the foundation phase. I expect local authorities to continue to build on their efforts to forge greater partnerships, working across authorities, and greater collaboration across the public sector, in order to find better ways of delivering more with less. That has to be taken forward through the public service leadership group and the local service boards. My proposed reforms for the partnership council will also ensure that Welsh Government and local government continue to work effectively in partnership to improve public services in Wales.

Mae’r manylion ar grantiau penodol rwyf yn eu rhoi i awdurdodau lleol gyda’r cyhoeddiad ar y setliad yn dangos y bydd awdurdodau lleol hefyd yn cael y cyllid angenrheidiol i gefnogi prosiectau sy’n allweddol i gefnogi Cymru a’i dyfodol, fel Cefnogi Pobl a’r cyfnod sylfaen. Rwyf yn disgwyl i awdurdodau lleol barhau i ddatblygu eu hymdrechion i greu mwy o bartneriaethau, gan weithio ar draws awdurdodau, ac i sicrhau mwy o gydweithredu ar draws y sector cyhoeddus, er mwyn dod o hyd i ffyrdd gwell o gyflawni mwy gyda llai o arian. Mae’n rhaid datblygu hynny drwy’r grŵp arweinyddiaeth gwasanaethau cyhoeddus a’r byrddau gwasanaethau lleol. Bydd fy niwygiadau arfaethedig ar gyfer y cyngor partneriaeth hefyd yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yn parhau i weithio’n effeithiol mewn partneriaeth i wella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

I am also pleased to remind Members that 'A Compact for Change’ was agreed in the partnership council meeting last month, demonstrating the commitment of local government to our agenda of making services better and more efficient. I will make more detailed announcements on 'A Compact for Change’ on 24 January. It is no secret that the future outlook for capital funding is challenging, but the Welsh Government has sought to shield the Welsh local authorities from the cuts imposed on the Welsh block. Consequently, this has enabled authorities in Wales to increase their borrowing, offsetting unavoidable reductions in capital grant, and, as a result, this year, planned local authority capital expenditure in Wales is just under £1 billion, almost 6% higher than in 2010-11. In contrast, local authorities in England are reducing their capital spend by around 12%.

Rwyf hefyd yn falch o atgoffa Aelodau y cytunwyd ar y 'Compact ar gyfer Newid’ yng nghyfarfod y cyngor partneriaeth y mis diwethaf, sy’n dangos ymrwymiad llywodraeth leol i’n hagenda i wella gwasanaethau ac i’w gwneud yn fwy effeithlon. Byddaf yn gwneud cyhoeddiadau mwy manwl ar y 'Compact ar gyfer Newid’ ar 24 Ionawr. Nid yw’n gyfrinach bod y rhagolygon ar gyfer y dyfodol ar gyfer cyllid cyfalaf yn heriol, ond mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio gwarchod awdurdodau lleol Cymru rhag y toriadau i’r bloc Cymreig. O ganlyniad, mae hyn wedi galluogi awdurdodau lleol yng Nghymru i gynyddu eu benthyciadau, gan wrthbwyso gostyngiadau na ellir eu hosgoi yn y grant cyfalaf, ac, o ganlyniad, y flwyddyn hon, mae’r gwariant cyfalaf a gynlluniwyd ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru ychydig yn llai na £1 biliwn, sydd bron i 6% yn uwch na’r swm yn 2010-11. Ar y llaw arall, mae awdurdodau lleol yn Lloegr yn lleihau eu gwariant cyfalaf tua 12%.

Maintaining our capacity to invest is vital, not just to improve services, but to provide a wider economic stimulus at a time when we need it most. That is why we are working closely with local government to develop an initiative to boost borrowing over the next few years. The intention is to provide local government with additional revenue funding to enable it to fund borrowing over and above current plans. The revenue that we will provide will help local authorities to borrow up to £170 million to fund much-needed local highway improvement schemes in all parts of Wales. It is also vital that all public bodies exploit their existing asset base to maximise benefits through, for example, shared facility arrangements where appropriate. They must also seek opportunities to share facilities with other public sector and voluntary partners. That makes financial sense and can often lead to more comprehensive and holistic service provision for the public. It is now for local authorities to set their budgets for 2012-13. Average council tax levels in Wales remain around 20% lower than those in England due to the higher proportion of support that the Welsh Government provides towards local government spending in Wales. I have made it very clear that I am prepared to use my capping powers should the need arise. However, from my discussions with local government, I am confident that local authorities in Wales will continue to act responsibly in setting their council tax for the next year.

Mae cynnal ein gallu i fuddsoddi yn hanfodol, nid yn unig er mwyn gwella gwasanaethau, ond er mwyn darparu ysgogiad economaidd ehangach ar adeg pan rydym ei angen fwyaf. Dyna pam rydym yn gweithio’n agos â llywodraeth leol i ddatblygu cynllun i roi hwb i fenthyca dros y blynyddoedd nesaf. Y bwriad yw rhoi cyllid refeniw ychwanegol i lywodraeth leol er mwyn ei alluogi i gyllido benthyciadau y tu hwnt i’r cynlluniau presennol. Bydd y refeniw y byddwn yn ei roi yn helpu awdurdodau lleol i fenthyg hyd at £170 miliwn i ariannu cynlluniau gwella priffyrdd lleol, y mae angen mawr amdanynt, ym mhob rhan o Gymru. Mae hefyd yn hanfodol bod yr holl gyrff cyhoeddus yn manteisio ar eu sylfaen asedau presennol i wneud y defnydd gorau o fudd-daliadau drwy, er enghraifft, drefniadau i rannu cyfleusterau lle bo hynny’n briodol. Rhaid iddynt hefyd geisio cyfleoedd i rannu cyfleusterau gyda phartneriaid sector cyhoeddus a gwirfoddol eraill. Mae hynny’n gwneud synnwyr yn ariannol ac yn aml gall arwain at ddarparu gwasanaeth mwy cynhwysfawr a chyfannol i’r cyhoedd. Mae’n amser bellach i awdurdodau lleol bennu eu cyllidebau ar gyfer 2012-13. Mae lefelau cyfartalog y dreth gyngor yng Nghymru yn parhau i fod tua 20% yn is na’r rhai yn Lloegr oherwydd y gyfran uwch o arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu ar gyfer gwariant llywodraeth leol yng Nghymru. Rwyf wedi ei gwneud yn glir iawn fy mod yn barod i ddefnyddio fy mhwerau capio pe bai’r angen yn codi. Fodd bynnag, ar sail fy nhrafodaethau â llywodraeth leol, rwyf yn hyderus y bydd awdurdodau lleol yng Nghymru yn parhau i ymddwyn yn gyfrifol wrth osod y dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf.

I believe that this is a fair and realistic settlement for local government, achieved in very difficult circumstances. It underlines our commitment to maintaining public services for the needy and vulnerable, and to continuing to invest in local government in the face of reductions elsewhere. I commend this settlement to the Assembly.

Credaf fod hwn yn setliad teg a realistig ar gyfer llywodraeth leol, a gyflawnwyd o dan amgylchiadau anodd iawn. Mae’n pwysleisio ein hymrwymiad i gynnal gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer yr anghenus a’r rheini sy’n agored i niwed, ac i barhau i fuddsoddi mewn llywodraeth leol yn wyneb gostyngiadau mewn mannau eraill. Cymeradwyaf y setliad hwn i’r Cynulliad.

Janet Finch-Saunders: At the start, I would like to put on record my congratulations, as shadow Minister for local government, to Mark James, chief executive of Carmarthenshire council, who has been appointed a Citizen of the British Empire, and to Hugh Evans, the leader of Denbighshire council, and Kefin Wakefield, the former head of economic development at Pembrokeshire council, who have both been awarded an Order of the British Empire for their services to Welsh local government. We, as Members, should be grateful to them for all their efforts in local government.

Janet Finch-Saunders: I ddechrau, hoffwn gofnodi’r ffaith fy mod, fel Gweinidog llywodraeth leol yr wrthblaid, yn llongyfarch Mark James, prif weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin, a benodwyd yn Ddinesydd yr Ymerodraeth Brydeinig, a Hugh Evans, arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, a Kefin Wakefield, cyn-bennaeth datblygu economaidd cyngor Sir Penfro, sydd ill dau wedi cael Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig am eu gwasanaethau i lywodraeth leol Cymru. Dylem ni, fel Aelodau, fod yn ddiolchgar iddynt am eu holl ymdrechion mewn llywodraeth leol.

Minister, thank you for bringing this settlement forward. I am pleased to take part in this important debate today. However, we cannot support the motion as the settlement is unimaginative, not innovative at all, and certainly does not maximise the use of our limited funds.

Weinidog, diolch i chi am gyflwyno’r setliad hwn. Rwyf yn falch o gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon heddiw. Fodd bynnag, ni allwn gefnogi’r cynnig gan fod y setliad yn ddiddychymyg, nid yw’n arloesol o gwbl, ac yn sicr nid yw’n gwneud y defnydd gorau o’n cronfeydd cyfyngedig.

We all know that local government is important to bringing democracy to the heart of our communities and, as such, certainly deserves the necessary resources. I would like to make several points today. We know and acknowledge that this is a challenging settlement for local authorities in Wales. However, in real terms, there is a cut of 5.15% from 2011-12 to 2013-14. Local authorities are responsible for some of the most fundamental and important services that are made available to the people of Wales. Therefore, they need, and must have, the resources to deliver these services. That becomes increasingly difficult when local authorities have less money to pay for more provision, such as subsidies for non-residential social services and the strategy for older people. The £10 million allocated for the first steps improvement package will ease some of this pressure, but there is no denying that local authorities will be feeling the squeeze, especially those at a demographic disadvantage. I have raised this before, and I am glad that it is our Government that is looking at the funding settlement from the UK to Wales, yet this Welsh Labour Government is continuing with the existing local government funding formula. That is why I reckon that this is not innovative, imaginative nor in the best interests of Wales or of our local authorities. The £10 million allocated for the first steps improvement package will ease some of this pressure, but there is no denying that local authorities will be very disadvantaged by this.

Gŵyr pawb fod llywodraeth leol yn bwysig o ran sicrhau bod democratiaeth yn ganolog i’n cymunedau ac, o’r herwydd, yn sicr mae’n haeddu cael yr adnoddau angenrheidiol. Hoffwn wneud sawl pwynt heddiw. Rydym yn gwybod ac yn cydnabod bod hwn yn setliad heriol i awdurdodau lleol yng Nghymru. Fodd bynnag, mewn termau real, mae toriad o 5.1% rhwng 2011-12 a 2013-14. Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am rai o’r gwasanaethau mwyaf sylfaenol a phwysig sydd ar gael i bobl Cymru. Felly, mae angen, yr adnoddau hyn arnynt i ddarparu’r gwasanaethau hyn, ac mae’n rhaid iddynt eu cael. Daw hynny’n fwyfwy anodd pan fydd gan awdurdodau lleol lai o arian i dalu am fwy o ddarpariaeth, fel cymorthdaliadau ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol dibreswyl a’r strategaeth ar gyfer pobl hŷn. Bydd y £10 miliwn a ddyrannwyd ar gyfer y pecyn gwella camau cyntaf yn lleddfu rhywfaint ar y pwysau hwn, ond ni ellir gwadu y bydd awdurdodau lleol yn teimlo’r wasgfa, yn enwedig y rhai sydd o dan anfantais ddemograffig. Rwyf wedi codi hyn o’r blaen, ac rwyf yn falch mai ein Llywodraeth ni sy’n edrych ar y setliad cyllid gan y DU i Gymru, ond eto mae’r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn parhau â’r fformiwla bresennol ar gyfer ariannu llywodraeth leol. Dyna pam y credaf nad yw hyn yn arloesol, yn llawn dychymyg nac o’r budd gorau i Gymru a’n hawdurdodau lleol. Bydd y £10 miliwn a ddyrannwyd ar gyfer y pecyn gwella camau cyntaf yn lleddfu rhywfaint ar y pwysau hwn, ond ni ellir gwadu y bydd awdurdodau lleol o dan anfantais fawr oherwydd hyn.

With regard to the 58 notional service areas covered by the local government settlement, while I support the continued heavy weighting towards our younger population, there is not enough focus on those aged over 65. Changing demographics in Wales mean that we are seeing increases in dementia and other age-related illnesses, and these, as any local authority will tell you, require expensive care packages. While provision is made in the settlement for those aged over 85, there is a large population of people aged over 65 who are inadequately accounted for in this settlement. I am disappointed in this unrepresentative skewing of the distribution of resources, which leads on to my second point, which is the uneven recognition in non-hypothecated funding of demographic need.

O ran y 58 o feysydd gwasanaeth tybiannol a gwmpesir gan y setliad llywodraeth leol, er fy mod yn cefnogi’r pwysiad trwm parhaus tuag at ein poblogaeth iau, nid oes digon o ffocws ar bobl dros 65 oed. Mae’r ddemograffeg newidiol yng Nghymru yn golygu ein bod yn gweld cynnydd mewn dementia ac mewn salwch arall sy’n gysylltiedig ag oed, ac mae angen pecynnau gofal drud ar y rhain, fel y byddai unrhyw awdurdod lleol yn eich hysbysu. Er bod darpariaeth yn y setliad ar gyfer pobl dros 85 oed, mae poblogaeth fawr o bobl dros 65 oed na roddir ystyriaeth ddigonol iddynt yn y setliad hwn. Rwyf yn siomedig o weld y gogwyddiad anghynrychioliadol hwn yn nosbarthiad yr adnoddau, sy’n arwain at fy ail bwynt, sef y gydnabyddiaeth anwastad o angen demograffig mewn arian heb ei ddyrannu.

The revenue support grant takes into account the demographics of the populations for which local authorities are responsible, but the redistribution of national non-domestic rates does not. For that reason, I do not believe that the standard spending assessment is representative of every authority in Wales. The redistribution of NNDR pro rata to adult population means that 20% of the SSA ignores many important factors, such as our rural land mass and our proportion of people aged over 65, both factors that need recognising in a local authority needs-based funding formula. When the NNDR accounts for over £890 million of the SSA, we cannot ignore these facts.

Mae’r grant cynnal refeniw yn ystyried demograffeg y poblogaethau y mae awdurdodau lleol yn gyfrifol amdanynt, ond nid yw’r broses o ailddosbarthu trethi annomestig cenedlaethol yn gwneud hynny. Am y rheswm hwnnw, ni chredaf fod yr asesiad o wariant safonol yn cynrychioli pob awdurdod yng Nghymru. Mae ailddosbarthu’r ardreth annomestig genedlaethol yn ôl yr un gyfradd â’r boblogaeth o oedolion yn golygu bod 20% o’r asesiad o wariant safonol yn anwybyddu ffactorau pwysig, fel màs ein tir gwledig a’r gyfran o bobl sydd dros 65 oed. Mae angen cydnabod y ddau ffactor mewn fformiwla cyllido awdurdodau lleol sy’n seiliedig ar anghenion. Pan fo’r ardreth annomestig genedlaethol yn cyfrif am dros £890 miliwn o’r asesiad o wariant safonol, ni allwn anwybyddu’r ffeithiau hyn.

Thirdly, in these times of austerity, we must take a serious look at the tens of millions of pounds that are wasted in local government in Wales on unnecessary bureaucracy and complicated and costly grant incentives. There is a distinct lack of consideration or acknowledgement of these issues in this settlement. That must be dealt with, and the Welsh Conservatives have raised this time and again in the Chamber. I suggest that a good place to start would be cutting the use of hypothecated grants. Even the WLGA has estimated that 10%—

Yn drydydd, yn y cyfnod hwn o galedi, rhaid inni edrych o ddifrif ar y degau o filiynau o bunnoedd sy’n cael eu gwastraffu mewn llywodraeth leol yng Nghymru ar fiwrocratiaeth ddiangen a chymhelliannau grant cymhleth a chostus. Mae diffyg ystyriaeth neu gydnabyddiaeth amlwg o’r materion hyn yn y setliad hwn. Rhaid ymdrin â hynny, ac mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi codi hyn dro ar ôl tro yn y Siambr. Awgrymaf mai lle da i ddechrau fyddai lleihau’r defnydd o grantiau wedi’u neilltuo. Mae hyd yn oed Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi amcangyfrif bod 10%—

Y Dirprwy Lywydd: Trefn. Gorffenwch, os gwelwch yn dda.

The Deputy Presiding Officer: Order. Conclude, please.

Mike Hedges: I join Janet Finch-Saunders in congratulating those in Welsh local government who were honoured in the new year honours list. To come back to the local government settlement, we need to see it in light of the background against which it is set. It is set against a background of cuts imposed on the Assembly by the Westminster Government—it is a fact that those cuts have been made. It is also set against a background of an £80 million gross increase between 2004-05 and 2009-10, which is an increase of over 20%, and a 69% increase between 1999 and 2011. Welsh local government did very well during the years of a Labour Government in Westminster and a Labour Government in Cardiff. Unfortunately, we now no longer have a Labour Government in Westminster.

Mike Hedges: Ymunaf â Janet Finch-Saunders i longyfarch y rhai mewn llywodraeth leol yng Nghymru a gafodd eu hanrhydeddu yn rhestr anrhydeddau’r flwyddyn newydd. I ddychwelyd i’r setliad llywodraeth leol, mae angen inni ei weld yng nghyd-destun y cefndir iddo. Yn gefndir iddo ceir toriadau a osodwyd ar y Cynulliad gan Lywodraeth San Steffan—mae’n ffaith y gwnaed y toriadau hynny. Yn gefndir iddo hefyd mae’r cynnydd o £80 miliwn gros rhwng 2004-05 a 2009-10, sef cynnydd o dros 20%, a chynnydd o 69% rhwng 1999 a 2011. Gwnaeth llywodraeth leol yng Nghymru yn dda iawn yn ystod y blynyddoedd o gael Llywodraeth Lafur yn San Steffan a Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd. Bellach, yn anffodus, nid oes gennym Lywodraeth Lafur yn San Steffan.

I want to take you back to the budget debate. Local government is the only major area of Assembly expenditure for which the opposition did not ask for an increase in the budget. If you remember, they wanted more money for health, education and for the economy, but there was no mention whatsoever of local government. I agree with Janet Finch-Saunders about the importance of local government, but local government was not important to the Conservatives or the other opposition parties when we debated the budget. I want to issue a warning on hypothecation: when you come out of hypothecation and you give the money to local authorities according to the formula, there will be winners and losers. Those who are old enough to remember the all-Wales strategy for the development of services for mentally handicapped people will know that when the money for that was put into the main budget and distributed by formula, and the provision in direct grants ended, there were many local authorities that were losers and many that were winners. When you start saying, 'Let it all go out via the formula’, there will be winners and losers, and the winners will be those who have not spent money on the services that were being supported and the losers will be those who have spent money on those services.

Rwyf am fynd â chi yn ôl i’r drafodaeth ar y gyllideb. Llywodraeth leol yw’r unig faes mawr o wariant y Cynulliad na ofynnodd y gwrthbleidiau am gynnydd yn y gyllideb ar ei gyfer. Os cofiwch, roeddent am gael mwy o arian ar gyfer iechyd, addysg a’r economi, ond nid oedd unrhyw sôn o gwbl am lywodraeth leol. Cytunaf â Janet Finch-Saunders ynghylch pwysigrwydd llywodraeth leol, ond nid oedd llywodraeth leol yn bwysig i’r Ceidwadwyr na’r gwrthbleidiau eraill pan roeddem yn trafod y gyllideb. Rwyf am roi rhybudd ynghylch neilltuo arian: pan fyddwch yn peidio â neilltuo arian ac yn rhoi’r arian i awdurdodau lleol ar sail y fformiwla, bydd enillwyr a chollwyr. Bydd y rhai sy’n ddigon hen i gofio’r strategaeth Cymru gyfan i ddatblygu gwasanaethau ar gyfer pobl sydd ag anfantais feddyliol yn gwybod, pan roddwyd yr arian ar gyfer hwnnw yn y brif gyllideb a’i ddosbarthu drwy fformiwla, a phan ddaeth y ddarpariaeth mewn grantiau uniongyrchol i ben, roedd nifer o awdurdodau lleol ar eu colled a nifer ohonynt ar eu hennill. Pan fyddwch yn dechrau dweud 'Gadewch iddo i gyd gael ei ddosbarthu drwy’r fformiwla’, bydd enillwyr a chollwyr, a’r enillwyr fydd y rhai nad ydynt wedi gwario arian ar y gwasanaethau a oedd yn cael eu cefnogi, a’r collwyr fydd y rhai sydd wedi gwario arian ar y gwasanaethau hynny.

Let us compare the settlement in Wales with that in England. Over the next four years, there is a 0.75% increase in Wales, and, on a like-for-like basis, a 0.6% decrease in England. There is a 0.24% increase this year, plus £700 million in specific grants, including £101 million for the foundation phase. There is good news for Welsh local government, in contrast to local government in England. There is £161 million allocated for capital, despite the substantial cuts made to the Welsh capital budget. To echo what Carl Sargeant said earlier, average band D council tax in Wales is up to 25% less than that in England, and average council tax levels in Wales are around 20% less than those in England.

Gadewch inni gymharu’r setliad yng Nghymru â’r setliad yn Lloegr. Dros y pedair blynedd nesaf, bydd cynnydd o 0.7% yng Nghymru, ac, ar sail tebyg am debyg, bydd gostyngiad o 0.6% yn Lloegr. Mae cynnydd o 0.24% y flwyddyn hon, yn ogystal â £700 miliwn mewn grantiau penodol, gan gynnwys £101 miliwn ar gyfer y cyfnod sylfaen. Mae newyddion da i lywodraeth leol yng Nghymru, yn wahanol i lywodraeth leol yn Lloegr. Mae £161 miliwn wedi’i ddyrannu ar gyfer cyfalaf, er gwaethaf y toriadau sylweddol a wnaed i gyllideb cyfalaf Cymru. I adleisio’r hyn a ddywedodd Carl Sargeant yn gynharach, mae’r dreth gyngor band D gyfartalog yng Nghymru hyd at 25% yn llai na’r dreth yn Lloegr, ac mae lefelau cyfartalog y dreth gyngor yng Nghymru tua 20% yn llai na’r rhai yn Lloegr.

What are the Conservatives saying? The Local Government Association has said that the settlement for 2011-12 is the toughest in living memory and will inevitably lead to cuts in services. That is how England is being affected. While it is up to local authorities and individual councils how they spend their money, and I would never want to change that, we must remember that the local government share of the total Welsh Government managed expenditure is greater than at any time in the past four years. I am, however, disappointed to see that, overall, councils in Wales have reduced the percentage of gross revenue spent on education from 43.4% to 38% over the past 10 years, which is £41 million less than if the percentage had stayed the same. One thing that has happened there is that we have seen a number of local authorities go out of Labour control and into a combination of control by Liberal Democrats and a whole range of other people, and they have decided that education is the area from which money should be taken.

Beth y mae’r Ceidwadwyr yn ei ddweud? Mae’r Gymdeithas Llywodraeth Leol wedi dweud mai’r setliad ar gyfer 2011-12 yw’r un caletaf o fewn cof ac y bydd yn anochel yn arwain at doriadau mewn gwasanaethau. Dyna sut yr effeithir ar Loegr. Er mai awdurdodau lleol a chynghorau unigol sy’n gyfrifol am sut y maent yn gwario eu harian, ac ni fyddwn fyth am newid hynny, mae’n rhaid i ni gofio bod cyfran llywodraeth leol o’r holl wariant a reolir gan Lywodraeth Cymru yn fwy nag y bu ar unrhyw adeg yn ystod y pedair blynedd diwethaf. Fodd bynnag, rwyf yn siomedig i weld bod cynghorau yng Nghymru, ar y cyfan, wedi gostwng canran y refeniw gros a gaiff ei wario ar addysg o 43.4% i 38% dros y 10 mlynedd diwethaf, sef £41 miliwn yn llai na phe bai’r ganran wedi aros yr un fath. Un peth sydd wedi digwydd o ran hynny yw bod nifer o awdurdodau lleol wedi peidio â bod o dan reolaeth Lafur a’u bod bellach yn cael eu rheoli gan gyfuniad o’r Democratiaid Rhyddfrydol ac ystod eang o bobl eraill, ac maent wedi penderfynu y dylid cymryd yr arian o faes addysg.

This is a fair, if challenging, settlement for the councils of Wales. I am looking to local authorities to prioritise the provision of key services over any vanity projects and the protection of the substantial reserves that many of them have. Overall, Welsh local government has done as well as could have been expected, and better than it would have done had the opposition parties won the budget debate or had we had a Conservative-Liberal Democrat Government in Wales. I hope that Members will support this motion.

Mae hwn yn setliad teg, ond heriol, ar gyfer cynghorau Cymru. Rwyf yn disgwyl i awdurdodau lleol roi blaenoriaeth i ddarparu gwasanaethau allweddol yn hytrach nag i unrhyw brosiectau ofer ac i ddiogelu’r cronfeydd wrth gefn sylweddol sydd gan nifer ohonynt. Ar y cyfan, mae llywodraeth leol yng Nghymru wedi gwneud cystal ag y gellid bod wedi ei ddisgwyl, ac yn well nag y byddai wedi’i wneud pe bai’r gwrthbleidiau wedi ennill y ddadl ar y gyllideb neu pe bai gennym Lywodraeth Geidwadol-Ddemocrataidd Ryddfrydol yng Nghymru. Rwyf yn gobeithio y bydd yr Aelodau’n cefnogi’r cynnig