Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 

Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Barn y Cyhoedd 2008

Rhagair gan yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chadeirydd Comisiwn y Cynulliad

Presiding Officer

Dyma’r astudiaeth ymchwil a’r arolwg mwyaf awdurdodol a chynhwysfawr erioed o farn y cyhoedd yng Nghymru.

Mae gan Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddyletswydd i hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o ddatganoli yng Nghymru.

Er mwyn canfod barn pobl am ddatganoli, gwaith Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’r diddordeb yn y Cynulliad, cafodd yr astudiaeth hon ei chomisiynu gan y Cynulliad Cenedlaethol a’i chynnal gan Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, Prifysgol Cymru, Aberystwyth a chwmni GfK NOP Social Research. Holwyd sampl o 2,538 o bobl drwy Gymru sy’n golygu mai dyma’r arolwg gwleidyddol mwyaf erioed i gael ei gynnal yng Nghymru.

Mae’r arolwg yn rhoi darlun i ni o ddealltwriaeth a barn pobl Cymru, a chredaf fod hynny’n rhoi arweiniad clir i ni fel Aelodau’r Cynulliad Cenedlaethol.

Gwelwn o’r arolwg fod diddordeb drwy’r wlad yng ngwaith Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac mae hynny’n galonogol. Gwelwn yn ogystal fod cefnogaeth gynyddol dros ehangu pwerau deddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Ond ceir hefyd rybudd ynghylch amseriad y refferendwm sy’n angenrheidiol o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 er mwyn i’r Cynulliad gael rhagor o bwerau deddfwriaethol.

Pwysleisir hefyd y dryswch sy’n bodoli ymhlith pobl Cymru ynghylch y berthynas rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Credaf y gallai’r Llywodraeth gymryd un cam syml iawn i ddatrys y dryswch hwn – drwy gael gwared ar y gair ‘Cynulliad’ o’i deitl. Byddai’r berthynas rhwng y ddau gorff yn eglur ar unwaith.      

Wrth i ni nesáu tuag at ddeng mlynedd ers sefydlu’r Cynulliad, mae’r gefnogaeth a’r ddealltwriaeth gynyddol drwy bob rhan o Gymru ynghylch gwaith y Cynulliad yn fy nghalonogi. Mae hyn hefyd yn fodd o atgoffa’r Cynulliad Cenedlaethol bod yn rhaid gweithio a chreu cysylltiadau gyda phobl drwy Gymru benbaladr er mwyn llwyddo i feithrin perthynas wirioneddol â hwy, ac ni ddylem gyfyngu’n hunain i’n cylch gwleidyddol bach ym Mae Caerdydd.

Mae’r arolwg yn edrych ar sawl mater, gan gynnwys y farn yng Nghymru am y Cynulliad a datganoli, dealltwriaeth pobl o waith a chyfrifoldebau’r Cynulliad, a’r gwahanol gyfryngau y bydd pobl yn eu defnyddio i gael gwybodaeth. Maent i gyd yn ffactorau a allai ddylanwadu ar sut mae’r Cynulliad yn rhyngweithio gyda dinasyddion Cymru.

Roedd y mwyafrif o’r rhai a ymatebodd (39%) am i Gymru barhau i fod yn rhan o’r DU ond gyda’i Senedd etholedig ei hun a phwerau deddfu a threthu llawn. Roedd 31% o’r bobl a holwyd am i’r Cynulliad gadw’i bwerau presennol ac roedd 10% am weld Cymru’n wladwriaeth annibynnol. Felly, roedd saith deg y cant o’r sampl cynrychioladol o blaid datganoli llawn neu rannol i Gymru. Ar yr un pryd, dim ond 15% sydd bellach am gael gwared ar y Cynulliad – canran sydd wedi haneru ers 1999.

Mae’r arolwg hwn yn her i ni i gyd i ailafael yn ein gwaith â brwdfrydedd newydd yn ail ddegawd datganoli, ac rwy’n sicr y bydd yn ein hysbrydoli i edrych ar sut y gallwn weithio’n well fel Aelodau’r Cynulliad a chryfhau ein perthynas â phobl Cymru.

Cynnwys

Crynodeb Gweithredol

1. Cwmpas yr Ymchwil

2. Cynnal yr Arolwg

3. Barn y cyhoedd am y Cynulliad Cenedlaethol a datganoli

4. Diddordeb y cyhoedd yn y Cynulliad Cenedlaethol a’u gwybodaeth amdano

5. Ffynonellau gwybodaeth y cyhoedd

6. Casgliadau

Adroddiad gan: Yr Athro Roger Scully (Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, Prifysgol Aberystwyth), gyda chyfraniadau ychwanegol gan: Yr Athro Richard Wyn Jones a Gwenan Creunant (Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, Prifysgol Aberystwyth), Richard Glendinning a Vicki Wright (GfKNOP)

13 Hydref 2008

Partners & Help