Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2 (2007-2011)
Y Trydydd Cynulliad (2007 - 2011)
Sefydlwyd y Pwyllgor gan y Trydydd Cynulliad ar 9 Rhagfyr 2008, fel un o’r pum pwyllgor deddfwriaeth parhaol, i ystyried deddfwriaeth a gyflwynwyd i’r Cynulliad yn bennaf gan Lywodraeth Cymru a chyflwyno adroddiad arni. Mae hefyd yn bosibl i’r Pwyllgor ystyried deddfwriaeth heblaw deddfwriaeth y Llywodraeth a chyflwyno adroddiad arni fel y bo’n briodol.
Mae pwerau’r Pwyllgor wedi’u nodi yn Rheolau Sefydlog Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn benodol Rheol Sefydlog 10, 22 a 23.