Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

 Content Editor

Y process deddfau

Cyfnod 1: penderfyniad ynghylch a yw'r Cynulliad yn cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil

Ar ddechrau Cyfnod 1 caiff Bill ei osod yn Swyddfa Gyflwyno'r Cynulliad gan yr Aelod sy'n gyfrifol (Gweinidog fel arfer). 'Gosod y Bil' yw'r enw ar hyn.

Bydd Pwyllgor Busnes y Cynulliad yn penderfynu a ddylid cyfeirio'r Bil at bwyllgor cyfrifol (a phennu terfyn amser i'r Pwyllgor gyflwyno adroddiad). Yna:

  • os caiff y Bil ei gyfeirio at bwyllgor cyfrifol, bydd y pwyllgor yn ymgynghori ac yn cymryd tystiolaeth ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Yna, bydd yn cyhoeddi 'adroddiad Cyfnod 1 ar y Bil. Gall pwyllgorau eraill hefyd lunio adroddiadau ar y Bil. Yna, cynhelir dadl yn y Cyfarfod Llawn (cyfarfod o'r Cynulliad cyfan) ar yr egwyddorion cyffredinol y Bil, yn seiliedig ar yr adroddiadau hyn; neu
  • os na fydd y Bil yn cael ei gyfeirio at bwyllgor cyfrifol, bydd y Cynulliad yn symud yn syth at ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol y Bil.

Yn dilyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar egwyddorion cyffredinol y Bil, gofynnir i'r Aelodau gytuno ar yr egwyddorion cyffredinol:

  • os bydd yr Aelodau'n derbyn egwyddorion cyffredinol y Bil, bydd yn symud ymlaen i Gyfnod 2; neu
  • os na fydd yr Aelodau'n derbyn egwyddorion cyffredinol y Bil, bydd y Bil yn methu.

Cyfnod 2: cyfnod diwygio


Gall Aelodau'r Cynulliad ddechrau cyflwyno gwelliannau (cynnig newidiadau) i'r Bil cyn gynted ag y bydd Cyfnod 2 yn dechrau (y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl cwblhau Cyfnod 1).

Cyn y gall pwyllgor ystyried y gwelliannau, rhaid i'r Cynulliad gytuno ar benderfyniad ariannol ar gyfer y Bil. Os na gytunir ar benderfyniad ariannol o fewn 6 mis i'r bleidlais Cyfnod 1, bydd y Bil yn methu. Yn aml, cytunir ar benderfyniadau ariannol ar yr un diwrnod â'r bleidlais Cyfnod 1.

Bydd pwyllgor yn trafod ac yn pleidleisio ar y gwelliannau. Dim ond Aelodau'r pwyllgor cyfrifol a gaiff bleidleisio ar y gwelliannau.

Ar ôl pleidleisio ar y gwelliant olaf, bydd y Bil yn symud i Gyfnod 3.

Cyfnod 3: cyfnod diwygio

Cyfnod 3

 

Gall Aelodau'r Cynulliad ddechrau cyflwyno gwelliannau (cynnig newidiadau) i'r Bil cyn gynted ag y bydd Cyfnod 3 yn dechrau (y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl cwblhau Cyfnod 2).

Bydd yr Aelodau'n trafod ac yn pleidleisio ar y gwelliannau yn y Cyfarfod Llawn (cyfarfod o'r Cynulliad cyfan).

Ar ôl pleidleisio ar y gwelliant olaf yng Nghyfnod 3, mae'r rhan fwyaf o Filiau yn symud ymlaen i Gyfnod 4.

Fodd bynnag, gellir cynnal cyfnodau diwygio ychwanegol hefyd, ac ar y pwynt hwn gall y Bil symud i Gyfnod 3 pellach neu Gyfnod Adrodd.

Cyfnod 3 pellach: cam diwygio dewisol

Ar ôl trafod yr holl welliannau a gyflwynwyd yng Nghyfnod 3, caiff yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil, neu unrhyw aelod o’r Llywodraeth, gynnig bod y Cynulliad yn ystyried gwelliannau pellach i’r Bil mewn Cyfnod 3 pellach. Yna:

  • os bydd y Cynulliad yn cytuno i wneud hynny, cynhelir Cyfnod 3 pellach; neu
  • os na fydd y Cynulliad yn cytuno, bydd y Bil yn symud i Gyfnod 4 neu'r Cyfnod Adrodd

Dim ond yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil, neu unrhyw aelod o’r Llywodraeth, a gaiff gyflwyno gwelliannau i’r Bil yn ystod Cyfnod 3 pellach. Dim ond er mwyn egluro darpariaeth mewn Bil, neu roi effaith i ymrwymiadau a wnaed yn ystod Cyfnod 3, y ceir cyflwyno gwelliannau o'r fath.

Bydd yr Aelodau'n trafod ac yn pleidleisio ar y gwelliannau yn y Cyfarfod Llawn (cyfarfod o'r Cynulliad cyfan).

Ar ôl pleidleisio ar y gwelliant olaf, bydd y Bil:

  • yn symud ymlaen i Gyfnod 4; neu
  • yn symud ymlaen i'r Cyfnod Adrodd.

Y Cyfnod Adrodd: cam diwygio dewisol

Ar ôl cwblhau Cyfnod 3 (neu Gyfnod 3 pellach), caiff yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil gynnig bod y Cynulliad yn ystyried gwelliannau pellach mewn Cyfnod Adrodd. Yna:

  • os bydd y Cynulliad yn cytuno i wneud hynny, cynhelir Cyfnod Adrodd; neu
  • os na fydd y Cynulliad yn cytuno, bydd y Bil yn symud i Gyfnod 4.

Gall unrhyw Aelod gyflwyno gwelliannau i'r Bil yn ystod y Cyfnod Adrodd. Dim ond er mwyn egluro darpariaeth mewn Bil, neu roi effaith i ymrwymiadau a wnaed yn ystod Cyfnod 3, y ceir cyflwyno gwelliannau o'r fath.

Bydd yr Aelodau'n trafod ac yn pleidleisio ar y gwelliannau yn y Cyfarfod Llawn (cyfarfod o'r Cynulliad cyfan).

Ar ôl pleidleisio ar y gwelliant olaf, bydd y Bil:

  • yn symud ymlaen i Gyfnod 4; neu
  • yn symud ymlaen i Gyfnod Adrodd pellach.

Cyfnod Adrodd pellach: cam diwygio dewisol

Ar ôl trafod yr holl welliannau a ddetholwyd yn y Cyfnod Adrodd, caiff yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil, neu unrhyw aelod o’r Llywodraeth, gynnig bod y Cynulliad yn ystyried gwelliannau pellach i’r Bil mewn Cyfnod Adrodd pellach. Yna:

  • os bydd y Cynulliad yn cytuno i wneud hynny, cynhelir Cyfnod Adrodd pellach; neu
  • os na fydd y Cynulliad yn cytuno, bydd y Bil yn symud i Gyfnod 4.

Dim ond yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil, neu unrhyw aelod o’r Llywodraeth, a gaiff gyflwyno gwelliannau i’r Bil yn ystod Cyfnod Adrodd pellach. Dim ond er mwyn egluro darpariaeth mewn Bil, neu roi effaith i ymrwymiadau a wnaed yn ystod y Cyfnod Adrodd, y ceir cyflwyno gwelliannau o'r fath.

Bydd yr Aelodau'n trafod ac yn pleidleisio ar y gwelliannau yn y Cyfarfod Llawn (cyfarfod o'r Cynulliad cyfan).

Ar ôl pleidleisio ar y gwelliant olaf, bydd y Bil yn symud i Gyfnod 4.

Cyfnod 4: penderfynu a ddylid pasio'r Bil

Ar ôl y ddadl yn y Cyfarfod Llawn (cyfarfod o'r Cynulliad cyfan), bydd yr Aelodau'n pleidleisio ynghylch a ydynt am basio'r Bil:

  • os bydd y Cynulliad yn cytuno i basio'r Bil, bydd yn symud i'r cyfnod 'Ar ôl Cyfnod 4'.
  • os na fydd y Cynulliad yn cytuno, bydd y Bil yn methu.

Ar ôl Cyfnod 4: aros am Gydsyniad Brenhinol

Ar ôl i'r Cynulliad basio Bil, mae cyfnod o bedair wythnos lle mae'r canlynol yn digwydd:

  • caiff y Cwnsler Cyffredinol neu'r Twrnai Cyffredinol gyfeirio'r cwestiwn a yw'r Bil, neu unrhyw ddarpariaeth ynddo, yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, i'r Goruchaf Lys am benderfyniad; a
  • chaiff Ysgrifennydd Gwladol Cymru wneud gorchymyn yn gwahardd y Bil rhag cael ei anfon i gael Cydsyniad Brenhinol.

Os na chaiff y Bil ei herio yn y fath fodd, bydd yn symud ymlaen i gael Cydsyniad Brenhinol

Cydsyniad Brenhinol

Pan fydd Bil wedi cwblhau'r holl gyfnodau deddfwriaethol, rhaid iddo gael Cydsyniad Brenhinol cyn dod yn Ddeddf Cynulliad (cyfraith).

Cydsyniad Brenhinol yw cytundeb y Frenhines i wneud y Bil yn Ddeddf a mater o ffurf yw hyn.

Bydd y Clerc yn hysbysu’r Cynulliad am ddyddiad y Cydsyniad Brenhinol drwy osod datganiad gerbron y Cynulliad.

Yn y Cyfarfod Llawn cyntaf (cyfarfod o'r Cynulliad cyfan) ar ôl i'r Clerc osod datganiad, bydd Llywydd y Cynulliad yn gwneud cyhoeddiad byr i ddweud y rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol.

Ar ôl cael Cydsyniad Brenhinol

Bydd rhai o ddarpariaethau Deddf yn cychwyn ar unwaith, ar ôl cyfnod penodol, a bydd angen pasio is-ddeddfwriaeth ar gyfer rhai eraill (bydd pob Deddf yn nodi ei darpariaethau cychwyn).

Llywodraeth Cymru, nid Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sy'n gyfrifol am weithredu'r ddeddfwriaeth.

Fodd bynnag, gall un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddewis cynnal adolygiad ôl-ddeddfwriaethol (archwiliad o'r broses o weithredu deddfwriaeth gan Lywodraeth Cymru).

 
 

Hynt deddfwriaeth ar hyn o bryd

Canllawiau ar ddeddfwriaeth

Darllenwch y canllawiau presennol ar gyflwyno a chraffu ar Ddeddfwriaeth.

Hynt Biliau'r Cynulliad

​Darllenwch am hynt Biliau'r Cynulliad mae'r Cynulliad yn craffu arnynt ar hyn o bryd

Testun Deddfau a basiwyd

Mae testun Deddfau'r Cynulliad a Biliau'r DU y maent yn eu diwygio i'w gweld ar wefan Legislation.gov.uk

Ewch i Legislation.gov.uk

 ​
 

Busnes blaenorol y Cynulliad​​

Deddfau yn ystod y Pedwerydd Cynulliad (2011-2016)

​Ers mis Mai 2011, mae deddfwriaeth sylfaenol y Cynulliad ar ffurf Deddfau Cafodd cymhwysedd deddfwriaeth y Cynulliad ei ymestyn yn sylweddol hefyd.

Measurau yn y Trydydd Cynulliad (2007-2011)

Rhoeddwyd pwerau deddfu newydd i'r Cynulliad ar ddechrau'r Trydydd Cynulliad ym mis Mai 2007. Galli'r Cynulliad basio "Mesurau" mewn meysydd roedd ganddo hymhwysedd deddfwriaethol ynddynt.

Offerynnau statudol yn y Cynulliad Cyntaf a'r Ail Gynulliad

Pan sefydlwyd y Cynulliad, roedd y pwerau i ddeddfu yn gyfyngedig i basio Offerynnau Statudol.

 
 

 

​​​​

Partners & Help