Yr Ymgynghorydd Annibynnol ar Safonau Ymddygiad
Yn unol â Rheol Sefydlog 16.3, bydd y Cynulliad yn penodi person nad yw’n Aelod o’r Cynulliad nac yn aelod o’i staff i roi cyngor a chymorth i’r Llywydd ar unrhyw fater ynglyn ag ymddygiad yr Aelodau. Yn ogystal â phenodi ei ymgynghorydd ei hun fel y bo’n briodol o dan baragraff 8.14, gall y Pwyllgor wahodd y sawl a benodir gan y Cynulliad i ymchwilio i faterion ffeithiol sy’n codi o unrhyw fater dan ei sylw.
Penodwyd Mr Richard Penn yn Ymgynghorydd Annibynnol ar Safonau Ymddygiad. Gellir cael mynediad i ragor o wybodaeth ar rôl yr Ymgynghorydd isod:-