Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 25 Medi 2017 i'w hateb ar 2 Hydref 2017

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn cromfachau)

Mae'n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y maent i gael eu hateb.  Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Caiff yr atebion eu cyhoeddi yn yr iaith y maent yn cael eu darparu, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a ddarperir yn Gymraeg.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau polisi Llywodraeth Cymru ar arddangos baneri ar ei hadeiladau a'i heiddo o dan reolaeth ei asiantaethau? (WAQ74252)W

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau polisi Llywodraeth Cymru ar arddangos baneri ar ei hadeiladau a'i heiddo o dan reolaeth ei asiantaethau, i nodi  achlysuron o bwys arbennig, megis achlysuron o bwys o ran ein diwylliant a'n treftadaeth? (WAQ74253)W

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Prif Weinidog restru holl achlysuron yn ystod y weinyddiaeth hon y mae baneri wedi'u harddangos ar adeiladau Llywodraeth Cymru/eiddo o dan reolaeth ei hasiantaethau am gyfnod penodol o amser i nodi achlysuron pwysig a beth oedd yr achlysuron hyn? (WAQ74254)W

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau pa un a gafodd baner Glyndŵr ei harddangos ar unrhyw adeiladau Llywodraeth Cymru a/neu eiddo o dan reolaeth ei hasiantaethau (e.e. cestyll Cadw) i nodi diwrnod Glyndŵr ar 16 Medi? (WAQ74255)W

Derbyniwyd ateb ar 3 Hydref 2017

Prif Weinidog Cymru (Carwyn Jones): Polisi Llywodraeth Cymru yw arddangos y Ddraig Goch, baner yr Undeb a baner yr Undeb Ewropeaidd ar ei hadeiladau bob dydd.
Mae safleoedd Cadw yn arddangos y Ddraig Goch a baner yr Undeb ar ddyddiau penodedig. (Mae cestyll Rhuddlan a Rhaglan yn arddangos baneri rhydd-ddeiliaid y cestyll ar ddyddiau penodedig).
Yn ogystal, rydym wedi arddangos y baneri canlynol yn ystod y weinyddiaeth hon:
Baner trawsrywedd
18-21 Tachwedd 2016 i nodi Diwrnod Coffáu Pobl Drawsryweddol
Baner yr enfys
12-14 Awst 2016 ar gyfer Pride Cymru
9-15 Chwefror 2017 i nodi Mis Hanes LGBT
17 Mai 2017 i nodi’r Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Trawsffobia a Deuffobia
27 Gorffennaf 2017 i nodi 50 mlwyddiant pasio Deddf Troseddau Rhywiol 1967
25-28 Awst 2017 ar gyfer Pride Cymru
Baner y Gymanwlad
14 Mawrth 2017 i nodi Diwrnod y Gymanwlad
Baner Diwrnod y Lluoedd Arfog
18-25 Mehefin 2016
17-24 Mehefin 2017
Ni chafodd baner Owain Glyndŵr ei harddangos ar 16 Medi 2017.

 

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu gwybodaeth am nifer y cyfarfodydd y mae wedi'u cynnal gydag archfarchnadoedd ynglŷn â Brexit? (WAQ74256)W

Derbyniwyd ateb ar 5 Hydref 2017

Carwyn Jones: Nid wyf wedi cyfarfod yn uniongyrchol â’r archfarchnadoedd i drafod y mater. Bu Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith mewn cyfarfod â Chonsortiwm Manwerthu Cymru yn ystod yr haf a thrafodwyd y mater yno. Ar lefel ehangach, mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn cadeirio Tasglu Tesco. Mae swyddogion a busnesau yng Nghymru, gan gynnwys archfarchnadoedd, hefyd yn ymgysylltu â’i gilydd yn rheolaidd yn barhaus gan drafod effeithiau posibl Brexit a’u cynorthwyo i baratoi ar gyfer unrhyw effeithiau niweidiol.

 

Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog gyhoeddi dadansoddiad Llywodraeth Cymru o'r effaith y bydd yr Undeb Ewropeaidd yn ei chael ar y sector gwyddorau bywyd yng Nghymru? (WAQ74261)

Derbyniwyd ateb ar 2 Hydref 2017

rif Weinidog Cymrurif Weinidog Cymru (Carwyn Jones): Full and unfettered access to the Single Market for goods, services and capital is our top priority for us. It is vital that businesses in Wales are not disadvantaged through tarriff and non-tarriff barriers to trade.
The Life Sciences sector is highly regulated and whilst some of this regulation originates from membership of the EU the global nature of the life sciences market means that the industry already enjoys a level of harmonisation with regard to regulatory requirements.
Life Sciences officials are working with the Office for Life Sciences within the UK Government who are considering a recently published Life Sciences Industrial Strategy. Together they are exploring the potential impact of Brexit and how to continue the growth of the Life Sciences sector and create long-term strategic partnerships between government and industry.
The Welsh Government continues to offer an attractive and competitive proposition to current and potential life science companies with financial support, a growing and diverse industry ecosystem and strong ties with academia and the Welsh NHS. 
 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am amseroedd aros ar gyfer llawdriniaeth ar y llygaid yng Nghymru? (WAQ74258)

Derbyniwyd ateb ar 29 Medi 2017

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon(Vaughan Gething): At the end of July 2017, 82% of patients waiting for an ophthalmology appointment or treatment were waiting less than 26 weeks, with 5% waiting over 36 weeks. The median wait at the end of July 2017 was 13.6 weeks. I have recently announced an additional £50 million to improve waiting times and I expect to see reductions by the end of March 2018.
We launched the ophthalmic planned care programme to look at redesigning the way ophthalmic services are planned and delivered. This includes maximising the whole service across secondary care and community services to ensure patients are seen in the right place and at the right time. There are now more patients appointments available in the community, including follow-up appointments, for those people who need regular review for their long term eye conditions. 


Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi i fyrddau iechyd ynghylch ceisiadau am gyllid cleifion unigol pan fo rhestrau aros yn hwy na'r canllawiau? (WAQ74259)

Derbyniwyd ateb ar 3 Hydref 2017

Vaughan Gething: I expect all patients to be seen in order of clinical priority and within the Welsh Government waiting times standards. This includes patients whose clinician wishes to provide a treatment that is not routinely available and requires an application to the Individual Patient Funding Requests (IPFR) system. The NHS Wales IPFR national guidance requires these applications to be dealt with quickly and the decision of the panel conveyed within five working days. Many applications are for the treatment of very seriously ill individuals and all health boards have special emergency procedures in place to deal with urgent cases. 
 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu gwybodaeth am nifer y cyfarfodydd y mae wedi'u cynnal gydag archfarchnadoedd ynglŷn â Brexit? (WAQ74257)W

Derbyniwyd ateb ar 5 Hydref 2017

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig (Lesley Griffiths): Nid wyf wedi cynnal unrhyw gyfarfodydd ffurfiol gyda manwerthwyr er mwyn trafod Brexit yn benodol, ond rwyf yn cyfarfod gyda’r manwerthwyr. Gwnes gyfarfod yn ddiweddar â Chonsortiwm Manwerthu Cymru yn ystod Sioe Frenhinol Cymru 2017. Rwyf hefyd yn derbyn y newyddion diweddaraf am y gadwyn gyflenwi gan Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru.
 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): Pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn dod â'r holl brosiectau a ariennir gan PFI i mewn i'r portffolio cyllid cyhoeddus yn llawn? (WAQ74260)

Derbyniwyd ateb ar 3 Hydref 2017

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol (Mark Drakeford): We have no plans to do so at the current time.

 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg 

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal asesiad o'r effaith y bydd cyflwyno Deddf Cymru 2017 yn ei chael ar allu Cynulliad Cenedlaethol Cymru i osod dyletswyddau o safbwynt y Gymraeg ar gyrff yn y sector preifat? (WAQ74237)W

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau bod Llywodraeth Cymru o'r farn y bydd y gallu i osod dyletswyddau iaith Gymraeg ar y sector preifat o fewn cymhwysedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru pan ddaw darpariaethau Deddf Cymru 2017 i rym? (WAQ74238)W

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau ei bod wedi gofyn am gyngor cyfreithiol penodol wrth ddatblygu cynigion y Papur Gwyn, 'Taro'r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg', ynghylch effaith debygol dileu atodlenni Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ar allu Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gyflwyno dyletswyddau iaith i'r sector preifat? (WAQ74239)W

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau ei bod wedi gofyn am gyngor cyfreithiol penodol wrth ddatblygu cynigion y Papur Gwyn, 'Taro'r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg', ynghylch effaith debygol dileu atodlenni Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ar allu Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gyflwyno dyletswyddau iaith i gyrff preifat sydd eisoes wedi'u rhestru ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 fel ag y mae? (WAQ74240)W

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau ei bod wedi gofyn am gyngor cyfreithiol penodol wrth ddatblygu cynigion y Papur Gwyn, 'Taro'r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg', ynghylch effaith debygol dileu atodlenni Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ar allu Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gyflwyno dyletswyddau iaith o'r newydd yn dyfodol i fathau o gyrff preifat (e.e. banciau ac archfarchnadoedd) sydd eisoes wedi'u rhestru ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 fel ag y mae? (WAQ74241)W

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau, yn seiliedig ar unrhyw asesiadau a wnaed ac unrhyw gyngor cyfreithiol a dderbyniwyd, a fyddai'n gyfreithiol bosibl i Gynulliad Cenedlaethol Cymru osod dyletswyddau ar fanciau os bydd y cynigion ym Mhapur Gwyn y Gymraeg yn cael eu gwireddu?  (WAQ74242)W

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau, yn seiliedig ar unrhyw asesiadau a wnaed ac unrhyw gyngor cyfreithiol a dderbyniwyd, a fyddai'n gyfreithiol bosibl i Gynulliad Cenedlaethol Cymru osod dyletswyddau ar archfarchnadoedd os bydd y cynigion ym Mhapur Gwyn y Gymraeg yn cael eu gwireddu? (WAQ74243)W

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau, yn seiliedig ar unrhyw asesiadau a wnaed ac unrhyw gyngor cyfreithiol a dderbyniwyd, a fyddai'n gyfreithiol bosibl i Gynulliad Cenedlaethol Cymru osod dyletswyddau ar gwmnïau telathrebu os bydd y cynigion ym Mhapur Gwyn y Gymraeg yn cael eu gwireddu? (WAQ74244)W

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau, ar sail unrhyw asesiadau a wnaed ac unrhyw gyngor cyfreithiol a dderbyniwyd, a fyddai'n gyfreithiol bosibl i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gyflwyno dyletswyddau iaith i'r holl gyrff yn y sector preifat sydd wedi'u henwi ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 fel ag y mae os bydd y cynigion ym Mhapur Gwyn Cymraeg yn cael eu gwireddu? (WAQ74245)W

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gyhoeddi prif gasgliadau unrhyw gyngor cyfreithiol penodol y mae wedi'i gael wrth ddatblygu cynigion y Papur Gwyn, 'Taro'r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg', ynghylch effaith debygol dileu atodlenni Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ar allu Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gyflwyno dyletswyddau iaith i'r sector preifat? (WAQ74248)W

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gyhoeddi crynodeb o brif gasgliadau unrhyw gyngor cyfreithiol penodol y mae wedi'i gael wrth ddatblygu cynigion y Papur Gwyn, 'Taro'r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg', ynghylch effaith debygol dileu atodlenni Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ar allu Cynulliad Cenedlaethol Cymru i osod dyletswyddau iaith ar gyrff preifat sydd eisoes wedi'u rhestru ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 fel ag y mae? (WAQ74249)W

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gyhoeddi crynodeb o brif gasgliadau unrhyw gyngor cyfreithiol penodol y mae wedi'i gael wrth ddatblygu cynigion y Papur Gwyn, 'Taro'r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg', ynghylch effaith debygol dileu atodlenni Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ar allu Cynulliad Cenedlaethol Cymru i osod dyletswyddau iaith yn y dyfodol ar fathau o gyrff preifat (e.e. banciau ac archfarchnadoedd) nad ydynt eisoes wedi'u rhestru ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 fel ag y mae? (WAQ74250)W

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gyhoeddi prif gasgliadau unrhyw gyngor cyfreithiol penodol y mae wedi'i gael wrth ddatblygu cynigion y Papur Gwyn, 'Taro'r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg', ynghylch effaith debygol dileu atodlenni Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ar allu Cynulliad Cenedlaethol Cymru i osod dyletswyddau iaith ar gwmnïau telathrebu? (WAQ74251)W

Derbyniwyd ateb ar 5 Hydref 2017

Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes (Alun Davies): Nod y cynigion yn ein Papur Gwyn, 'Taro'r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg', yw ein helpu i wireddu ein gweledigaeth i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Rwyf ar ddeall nad yw Deddf Cymru 2017 yn nodi unrhyw faterion penodol a gadwyd yn ôl oddi wrth y Cynulliad o ran pwerau i osod dyletswyddau ar fusnesau preifat ynghylch y Gymraeg. O dan y model pwerau a gedwir yn ôl, mae'r hyn nad yw wedi'i gadw'n ôl wedi'i ddatganoli, cyn belled nad yw'r hyn a fwriedir yn mynd yn groes i unrhyw un arall o'r cyfyngiadau yn Neddf Cymru.

Mae yna rai materion penodol a gadwyd yn ôl, er enghraifft gwasanaethau ariannol, gan gynnwys bancio ac yswiriant. Nid yw deddfu ar faterion a gadwyd yn ôl o fewn pŵer y Cynulliad. Fodd bynnag, mae yna ddarpariaeth hefyd sy'n golygu bod modd gosod dyletswyddau mewn perthynas â'r Gymraeg ar bersonau sy'n dod o fewn cwmpas y materion eraill hynny a gadwyd yn ôl. Unwaith eto, yr amod yw nad yw'r hyn a fwriedir yn mynd yn groes i unrhyw un arall o'r cyfyngiadau.

Yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus, byddwn yn cwblhau'n derfynol ein cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg. Bydd darpariaethau Deddf Cymru 2017 yn ei gwneud yn ofynnol ystyried yn ofalus yng ngoleuni'r cynigion hynny.

 

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau y byddai'n dymuno gweld banciau o dan ddyletswydd gyfreithiol i beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg os bydd y cynigion yn Mhapur Gwyn y Gymraeg yn cael eu gwireddu? (WAQ74246)W

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau y byddai'n dymuno gweld archfarchnadoedd o dan ddyletswydd gyfreithiol i beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg os bydd y cynigion yn Mhapur Gwyn y Gymraeg yn cael eu gwireddu? (WAQ74247)W

Derbyniwyd ateb ar 5 Hydref 2017

Alun Davies: Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda busnesau i gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg fel rhan o’r broses o wireddu ein gweledigaeth o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Yn sgil dyrannu £2 miliwn ychwanegol i helpu i hyrwyddo’r Gymraeg eleni, rydym wedi rhoi blaenoriaeth i fuddsoddi mewn prosiectau sy’n cefnogi ac yn annog busnesau i ddefnyddio’r Gymraeg.
Yn ein Papur Gwyn, rydym wedi ymrwymo i ystyried priodoldeb ac effeithiolrwydd tebygol gosod dyletswyddau cyfreithiol mewn perthynas â’r Gymraeg ar sectorau a busnesau’r sector preifat.
Byddwn yn ystyried ymatebion i’r ymgynghoriad yn ofalus cyn cwblhau ein cynigion yn derfynol.

Partners & Help