Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

 
       

Hanes datganoli yng Nghymru

Pierhead clock 

 

Gellir olrhain gwreiddiau datganoli yng Nghymru yn ôl i ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ym 1886, sefydlwyd Cymru Fydd i hyrwyddo amcanion y Blaid Ryddfrydol yng Nghymru ac ymgyrchu o blaid “ymreolaeth” i Gymru. Er mai byrhoedlog fu llwyddiant Cymru Fydd, cyd-darodd ei weithgareddau â datblygiadau gwleidyddol eraill oedd yn berthnasol i Gymru, fel pasio Deddfau a oedd yn gymwys i Gymru’n benodol, am y tro cyntaf yn Senedd y DU. Roedd hefyd yn cyd-daro â chychwyn datganoli gweinyddol yng Nghymru drwy sefydlu Bwrdd Addysg Cymru ym 1907.

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, sbardunodd sawl datblygiad y broses o drosglwyddo pwerau o San Steffan i Gymru.

Cafodd deisebau i greu Ysgrifennydd Gwladol Cymru eu gwrthod gan Lywodraeth Lafur 1945-50, ond ffurfiwyd Cyngor Cymru a Sir Fynwy ym 1948 yn ei le. Corff etholedig oedd hwn, a oedd yn rhoi cyngor i’r Llywodraeth ar faterion Cymreig.

Ym 1951, cafodd y swydd o Weinidog Gwladol Materion Cymreig ei chreu gan Lywodraeth Geidwadol y DU. Yn y lle cyntaf, roedd yn weinidog iau yn y Swyddfa Gartref ac o 1957 ymlaen, roedd y swydd ynghlwm â’r Weinyddiaeth Tai a Llywodraeth Leol.

Ymrwymodd y Blaid Lafur i greu Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ei maniffesto ar gyfer etholiad 1959, ond roedd rhaid disgwyl tan ei llwyddiant yn Etholiad Cyffredinol y DU ym 1964 cyn creu’r rôl a sefydlu’r Swyddfa Gymreig. I ddechrau, roedd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru gyfrifoldeb dros dai, llywodraeth leol a ffyrdd, ond cafodd meysydd fel addysg a hyfforddiant, iechyd, masnach a diwydiant, a’r amgylchedd ac amaethyddiaeth eu hychwanegu’n raddol dros y blynyddoedd.

Cafwyd y bleidlais gyntaf ar ddatganoli yng Nghymru ar 1 Mawrth 1979. Roedd hyn yn dilyn y Comisiwn Brenhinol ar y Cyfansoddiad ym 1973, o dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Crowther ac wedyn yr Arglwydd Kilbrandon, a argymhellodd creu cyrff etholedig ar gyfer yr Alban a Chymru. Ym 1979, cafodd y cynnig i greu Llywodraeth Cymru ei wrthod yn llwyr gan boblogaeth Cymru a bleidleisiodd o bedwar i un yn erbyn cynnig Llywodraeth Lafur y DU.

Yn y cyfnod yn dilyn y refferendwm ym 1979, daeth datganoli yn fater gwleidyddol cwsg yng Nghymru. Serch hynny, o ganlyniad i bolisïau Llywodraeth Geidwadol y DU yn ystod cyfnod economaidd anodd yr 1980au, ynghyd â lefelau isel o gefnogaeth etholiadol yng Nghymru (o’i chymharu â gweddill y DU), cafwyd galwadau o’r newydd am sefydliad democrataidd penodol i Gymru.

Ym mis Mai 1997, pan ddychwelodd y Blaid Lafur i bŵer am y tro cyntaf ers 1979, roedd maniffesto’r Blaid Lafur yn cynnwys ymrwymiad i gynnal refferendwm ar sefydlu Cynulliad Cymru. Cyhoeddwyd Papur Gwyn, Llais i Gymru, ym mis Gorffennaf 1997 a oedd yn amlinellu cynigion Llywodraeth y DU, a chynhaliwyd refferendwm ar 18 Medi 1997.

Wrth i’r canlyniadau gael eu cyhoeddi fesul etholaeth, roedd yn rhaid i Gymru ddisgwyl tan y datganiad olaf un cyn clywed y canlyniad terfynol. O blith y sawl a bleidleisiodd, roedd 50.3 y cant o blaid datganoli - mwyafrif cul iawn o 6,721 o bleidleisiau.

Y diwrnod hwnnw, disgrifiodd Ron Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, ddatganoli yng Nghymru fel “proses, nid digwyddiad”. Mae stori datblygiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru ers 1999 wedi profi’r pwynt hwn.

Datganoli yng Nghymru - “proses nid digwyddiad”

Yn dilyn y refferendwm, cafodd Deddf Llywodraeth Cymru 1998 ei phasio gan Senedd y DU. Cafodd y Cynulliad Cenedlaethol ei sefydlu o dan y Ddeddf fel corff corfforaethol - gyda’r adran weithredol (y Llywodraeth) a’r ddeddfwrfa (y Cynulliad ei hun) yn gweithio fel un.

O’u cymharu â’r pwerau deddfu a roddwyd i Senedd yr Alban, roedd pwerau Cynulliad Cymru wedi eu cyfyngu i greu is-deddfwriaeth, a hynny ond â chaniatâd Senedd y DU. Roedd y pwerau hynny yn debyg yn fras i’r pwerau a oedd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn flaenorol.

Cynhaliwyd yr etholiad cyntaf i’r sefydliad newydd ar 6 Mai 1999.

Y deng mlynedd cyntaf, a newid y strwythur

Roedd llawer o nodweddion cadarnhaol i’r Cynulliad newydd o ran hygyrchedd cyhoeddus a gwleidyddiaeth fwy cynwysedig a chydsyniol, ond cafwyd problemau o ganlyniad i’r strwythur o gorff corfforaethol sengl. Pwysleisiwyd yr angen am newid cyfansoddiadol a sefydlogrwydd gan yr anawsterau a brofwyd gan y weinyddiaeth leiafrifol Lafur o geisio sicrhau cytundeb cyson gan bleidiau eraill yn y Cynulliad, yn ogystal â disodli'r Prif Ysgrifennydd ym mis Chwefror 2000.

O ganlyniad i’r galwadau niferus am newid, cytunodd y Cynulliad ar benderfyniad yn 2002 i wahanu’r ddwy swyddogaeth o fewn fframwaith Deddf 1998. Gwnaethpwyd hyn drwy bennu’r term Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddisgrifio’r corff a oedd yn gyfrifol am bolisïau a gweithredoedd y Cabinet, er mwyn gwahaniaethu rhwng y corff hwnnw a’r Cynulliad Cenedlaethol a oedd yn meddu ar fwy o annibyniaeth o ran cynnig cyngor, ymchwil a chefnogaeth i Aelodau a phwyllgorau’r Cynulliad.

Sefydlwyd Comisiwn Richard gan Lywodraeth Cymru yn 2002 i archwilio pwerau a threfniadau etholiadol y Cynulliad. Argymhellodd y dylid gwahanu’r ddeddfwrfa a’r corff gweithredol yn gyfreithiol, gan greu dau endid cyfreithiol ar wahân. Cyflawnwyd hyn yn ffurfiol yn dilyn etholiadau’r Cynulliad yn 2007 a gweithredu Deddf Llywodraeth Cymru 2006.

Drwy’r gwahanu, gwnaeth Deddf 2006 swyddogaethau'r ddau sefydliad yn fwy eglur. Daeth Llywodraeth Cymru (yn cynnwys Prif Weinidog Cymru, Gweinidogion Cymru, Dirprwy Weinidogion a’r Cwnsler Cyffredinol) yn gyfrifol am wneud a gweithredu penderfyniadau, polisïau ac is-deddfwriaeth.

Mae’r Cynulliad Cenedlaethol (y corff o 60 o Aelodau etholedig) yn craffu ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru ac yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif. Mae’r Cynulliad Cenedlaethol hefyd yn deddfu ac yn cynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl.

Roedd Deddf 2006 yn datgan y byddai eiddo, staff a gwasanaethau’r Cynulliad yn cael eu darparu gan Gomisiwn y Cynulliad.

Rhagor o bwerau

Canfu adroddiad Comisiwn Richard yn 2004 y cyfyngwyd ar allu’r Cynulliad i gyflawni ei ofynion deddfwriaethol gan anawsterau ymarferol ers 1999. Ychwanegodd y byddai cynyddu pwerau deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol i lefel tebyg i bwerau Senedd yr Alban yn helpu i oresgyn problemau o’r fath.

Dylanwadodd yr argymhellion hyn ar gynnwys Papur Gwyn Lywodraeth y DU, Trefn Lywodraethu Well i Gymru, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2005, a ddaeth yn asgwrn cefn i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Rhoddodd Deddf 2006 bwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol ddeddfu ar gyfer Cymru mewn meysydd penodol. Galluogodd hyn i’r Cynulliad Cenedlaethol ennill rhagor o bwerau mewn meysydd datganoledig yn raddol a fesul maes pwnc. Roedd hyn yn digwydd drwy orchmynion cymhwysedd deddfwriaethol a oedd yn cael eu cymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol a dau Dŷ Senedd y DU neu drwy bwerau fframwaith a drosglwyddwyd i’r Cynulliad Cenedlaethol yn uniongyrchol drwy gymalau yn Neddfau Senedd y DU.

Roedd Deddf 2006 hefyd yn rhoi modd i’r Cynulliad Cenedlaethol ennill yr holl bwerau yn y meysydd datganoledig a amlinellwyd yn syth drwy bleidlais gadarnhaol mewn refferendwm, heb orfod cael caniatâd Senedd y DU.

Yn dilyn etholiad y Cynulliad yn 2007, ymunodd y Blaid Lafur a Phlaid Cymru mewn clymblaid ffurfiol a oedd yn dwyn yr enw ‘Cymru’n Un’. Elfen allweddol o’r cytundeb hwnnw oedd symud tuag at ganlyniad llwyddiannus mewn refferendwm ar bwerau deddfu llawn a byddai’r paratoadau ar gyfer hyn yn cynnwys sefydlu Confensiwn Cymru Gyfan.

Ar 3 Mawrth 2011, pleidleisiodd etholwyr Cymru o blaid rhagor o bwerau ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol o ddau etholwr i un a phleidleisiodd pob etholaeth ond un o blaid y cynnig. Daeth y pwerau hyn i rym yn dilyn etholiad y Cynulliad ar 5 Mai 2011.

Datganoli yng Nghymru - trosolwg

Tua’r flwyddyn 940 Cyfreithiau Cymru yn dod ynghyd fel un cod o dan Hywel Dda.

1282 Cymru’n cael ei threchu gan Edward I a chyfnod o lywodraeth gan Dywysogion brodorol o Gymru yn dod i ben.

1400 Gwrthryfel Owain Glyndŵr yn dechrau a sefydlu egin wladwriaeth Gymreig. Cynhaliwyd seneddau yn Harlech a Machynlleth.

1536 Y Deddfau Uno – a oedd yn gwneud Cymru’n rhan o Loegr gan ddarparu ar gyfer seddau Seneddol i Aelodau Seneddol o Gymru.

1881 Deddf Cau ar y Sul yn cael ei phasio – y gyfraith gyntaf i gael ei llunio’n benodol i Gymru.

1907 Adran Gymraeg y Bwrdd Addysg yn cael ei chreu.

1920 Yr Eglwys yng Nghymru yn dod yn gorff annibynnol, ar wahân i’r wladwriaeth.

1951 Swydd Gweinidog Gwladol Cymru yn cael ei chreu.

1964 Y Swyddfa Gymreig yn cael ei sefydlu gyda swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn y Cabinet.

1979 Cynnig cyntaf i sefydlu Cynulliad Cymru yn cael ei wrthod.

1997 Cymru yn pleidleisio o blaid creu Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn refferendwm.

1999 Etholiadau cyntaf yn cael eu cynnal; Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n dechrau ar ei waith; Deddf Llywodraeth Cymru 1998 yn dod i rym.

2007 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn dod i rym; y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru yn cael eu gwahanu’n ffurfiol a’r Cynulliad Cenedlaethol yn ennill rhagor o bwerau i ddeddfu ar gyfer Gymru mewn meysydd penodol.

2011 Cymru yn pleidleisio o blaid rhoi rhagor o bwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol.

 
             
 
 

Partners & Help