Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

 

 

Gweinyddu Etholiadol yng Nghymru

Darganfyddwch sut bydd Bil y Senedd ac Etholiadau yn newid gweinyddu etholiadol Cymru.

 

 

Anghymhwyso


Bydd y Bil Senedd ac Etholiadau yn newid y gyfraith sy'n anghymhwyso rhywun rhag bod yn Aelod o'r Senedd.

Bydd y Bil yn dweud yn glir wrth ddarpar ymgeiswyr i'r Senedd a ydyn nhw'n gymwys i sefyll ar gyfer etholiad. Bydd yn addasu'r pwynt lle daw'r rhan fwyaf o anghymwysiadau i rym. Bydd hyn yn galluogi mwy o bobl i sefyll heb orfod ymddiswyddo yn gyntaf; yn hytrach dim ond os cânt eu hethol y bydd yn rhaid iddynt ymddiswyddo.

Er mwyn osgoi gwrthdaro rhwng buddiannau, byddai'r Bil yn anghymhwyso aelodau o Dŷ'r Arglwyddi oni bai eu bod yn cymryd absenoldeb ffurfiol o San Steffan.

Bydd y trefniadau anghymhwyso newydd yn dod i rym o etholiad nesaf y Cynulliad.

 

Committee meeting in the Senedd 

 

Ariannu’r Comisiwn Etholiadol a’i atebolrwydd


Mae’r Bil Senedd ac Etholiadau yn gwneud darpariaeth i'r Senedd fod yn gyfrifol am atebolrwydd ac ariannu'r Comisiwn Etholiadol ar gyfer etholiadau datganoledig.

Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU.  Caiff ei ariannu gan Senedd y DU ac mae'n atebol iddo. O ganlyniad, er bod y Cynulliad yn gweithio'n agos gyda'r Comisiwn Etholiadol ac yn ystyried canfyddiadau adolygiadau o etholiadau datganoledig Cymru, nid yw mewn sefyllfa ar hyn o bryd i benderfynu sut mae'r Comisiwn Etholiadol yn gwneud ei waith yng Nghymru.

Gan fod bellach gan y Cynulliad bwerau dros etholiadau datganoledig (etholiadau lleol ac etholiadau'r Cynulliad), mae'r Bil yn cynnwys dyletswydd ar y Senedd i ystyried y trefniadau ariannol a goruchwylio ar gyfer gwaith y Comisiwn Etholiadol mewn perthynas ag etholiadau datganoledig Cymru a refferenda datganoledig.


Voting at a polling station


Newidiadau eraill


Bydd y Bil Senedd ac Etholiadau yn gwneud newidiadau eraill i drefniadau etholiadol a threfniadau mewnol y Cynulliad. 

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • darparu ar gyfer ad-drefnu cyfraith etholiad, os yw Comisiwn y Gyfraith yn argymell hynny.
  • ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyfarfod cyntaf y Cynulliad ar ôl etholiad o saith diwrnod i bedwar diwrnod ar ddeg.
  • eglurhad fod gan Gomisiwn y Cynulliad y pŵer i godi tâl am wasanaethau nad ydynt yn gysylltiedig â'i swyddogaethau.


 
 

 

Rhaglen ddiwygio'r Cynulliad

Mae Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi ei gynlluniau i ddatblygu prif elfennau o'i raglen i ddiwygio senedd Cymru.  

Darllenwch ragor 


 
Mae eich barn yn bwysig

Eich Cynulliad chi ydym ni, ac rydym ni yma i’ch cynrychioli chi.

Darllenwch ragor am sut y gallwch helpu i lywio ein gwaith.


Mae eich barn yn bwysig

 

Cofrestrwch i dderbyn diweddariadau e-bost am waith diwygio Comisiwn y Cynulliad

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf



 

 


 

Partners & Help