Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 

Y Cynllun Gwasanaethau Dwyieithog Drafft

Cyflwyniad

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r corff sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i gynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, i ddeddfu ar gyfer Cymru ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Mae’n cynnwys 60 o Aelodau Cynulliad a etholwyd gan bobl Cymru.

Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Sefydlwyd Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Comisiwn y Cynulliad) ym mis Mai 2007 i sicrhau bod gan y Cynulliad Cenedlaethol yr adeilad, y staff a’r gwasanaethau sy’n angenrheidiol iddo allu cyflawni ei rôl yn effeithiol ac effeithlon.

Comisiwn y Cynulliad yw corff corfforaethol y Cynulliad Cenedlaethol sy’n pennu ei nodau, amcanion, safonau a gwerthoedd strategol, yn ystyried os cânt eu cyflawni; yn goruchwylio newid ac yn annog arloesedd a menter ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae Comisiwn y Cynulliad yn cynnwys y Llywydd, a phedwar Aelod Cynulliad arall, a enwebir gan bob un o’r pedwar grŵp plaid. Mae’r pum Comisiynydd yn atebol i’r Cynulliad Cenedlaethol am swyddogaethau Comisiwn y Cynulliad. I helpu i gyflawni’r swyddogaethau hyn, mae’r Comisiynwyr yn gyfrifol am bortffolios trawsbynciol.

Ceir rhagor o wybodaeth am strwythurau, y rhaglen waith a phobl y Cynulliad Cenedlaethol yma http://www.cynulliadcymru.org

Fel prif sefydliad democrataidd Cymru, mae dyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol i alluogi pob dinesydd ac Aelod Cynulliad i gael gwybodaeth am y broses ddemocrataidd, ac i gyfrannu’n llawn ati, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Drwy ddarparu gwasanaethau dwyieithog, mae Comisiwn y Cynulliad yn anelu at sicrhau bod y Cynulliad yn sefydliad wirioneddol ddwyieithog.

Mae Comisiwn y Cynulliad hefyd yn darparu gwybodaeth mewn fformatau hygyrch, gan gynnwys Braille, print mawr a sain, ac mae llawer o’n gwybodaeth gyhoeddus ar gyfer ymwelwyr i ystâd y Cynulliad Cenedlaethol ar gael mewn ieithoedd eraill.

Mae’r Cynllun hwn, sydd i’w baratoi ac i’w fabwysiadu’n unol â darpariaethau’r paragraff 8(3) newydd arfaethedig o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn nodi sut mae Comisiwn y Cynulliad yn bwriadu darparu gwasanaethau dwyieithog i Aelodau’r Cynulliad a’r cyhoedd. Mae’n cynnwys:

  • uchelgais y Cynulliad Cenedlaethol i fod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog sy’n galluogi Aelodau’r Cynulliad a’r staff i weithio yn y ddwy iaith; trefniadau dwyieithog wrth baratoi ar gyfer trafodion y Cynulliad Cenedlaethol yn y Cyfarfod Llawn a’r pwyllgorau, ac wrth eu cynnal a’u cofnodi;

  • gohebiaeth ddwyieithog ar gyfer y cyhoedd i annog pobl i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd.

Bydd unrhyw ohebiaeth gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru na ddisgrifiwyd yn benodol yma yn cael ei chynhyrchu mewn modd sy’n cyd-fynd â’r egwyddorion cyffredinol a ymgorfforir yn y Cynllun hwn, a amlinellwyd yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006.

Llywodraeth Cymru

Nid yw’r Cynllun yn ymwneud â swyddogaethau Llywodraeth Cymru, sydd â’i threfniadau ei hun ar gyfer darparu ei gwasanaethau dwyieithog.

Mesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011

Nid yw’r Cynllun hwn yn cael ei reoli gan y fframwaith cyfreithiol a nodir ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.  

Diffiniad o’r cyhoedd       

Yn y Cynllun hwn, mae’r term ‘cyhoedd’ yn golygu unigolion, cyrff cyfreithiol a chyrff anghorfforaethol. Mae’n cynnwys y cyhoedd yn gyffredinol, neu ran o’r cyhoedd, yn ogystal ag aelodau unigol o’r cyhoedd. Mae’r term yn cynnwys cyrff gwirfoddol ac elusennau. Daw cyfarwyddwyr ac unigolion eraill sy’n cynrychioli cwmnïau cyfyngedig o dan y term ‘cyhoedd’ hefyd. Fodd bynnag, nid yw’n cynnwys pobl mewn cyrff cyhoeddus wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau swyddogol.

Cefndir

Mae Adran 35(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn nodi’r hyn a ganlyn ar hyn o bryd, yng nghyd-destun Cydraddoldeb o ran Ymdriniaeth:

(1)The Assembly must, in the conduct of Assembly proceedings, give effect, so far as is both appropriate in the circumstances and reasonably practicable, to the principle that the English and Welsh languages should be treated on a basis of equality.

Mae Atodlen 2, paragraff 8 (3) i’r Ddeddf, sy’n ymwneud â’r egwyddorion y mae swyddogaethau Comisiwn y Cynulliad yn eu gweithredu, yn ychwanegu'r hyn a ganlyn:

(3)…. effect must be given, so far as is both appropriate in the circumstances and reasonably practicable, to the principle that the English and Welsh languages should be treated on a basis of equality.

Mae Adran 111 (5) o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol bod yn rhaid gwneud Deddfau’r Cynulliad yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Uchelgais y Cynulliad Cenedlaethol

Uchelgais y Cynulliad Cenedlaethol yw bod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog.  

Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried bod y Cynllun hwn yn galluogi i’r uchelgais hwnnw gael ei wireddu. 

Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn sefydliad lle gall Aelodau’r Cynulliad a’r cyhoedd ddewis gweithio neu gyfathrebu yn Gymraeg neu yn Saesneg, neu yn y ddwy iaith. Golyga hyn y dylai fod gan bob aelod o staff rai sgiliau sy’n briodol i’w swyddi yn y ddwy iaith, sy’n amrywio o’r gallu i wneud cyfarchion sylfaenol i’r gallu i ddrafftio a chyfieithu dogfennau cymhleth yn y ddwy iaith.

Diben strategaethau ac uchelgeisiau’r Cynulliad Cenedlaethol yw sicrhau bod gan y ddwy iaith yr un statws o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. 

I wneud hynny, rhaid i’r Cynulliad Cenedlaethol:

  • allu ymgymryd â phob agwedd ar ei fusnes yn Gymraeg a Saesneg ar sail gyfartal;

  • gwarantu y bydd unrhyw broses ymgynghori rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a phobl Cymru yn gwbl ddwyieithog;

sicrhau bod unrhyw gyfathrebu rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a phobl Cymru yn ddwyieithog.

  • I wireddu’r uchelgais hwn, byddwn yn ystyried y ffactorau a ganlyn:

  • y ddarpariaeth bresennol o wasanaethau dwyieithog ar hyn o bryd;

  • yr arfer gorau y mae sefydliadau eraill yn ei ddangos wrth gynnig gwasanaethau dwyieithog;

  • nifer y staff dwyieithog ar hyn o bryd, a chymryd pob cyfle i gynyddu’r nifer hwnnw;

  • cyfyngiadau ariannol a blaenoriaethau sy’n cystadlu;

  • y gwersi a ddysgir o Seneddau dwyieithog eraill;

  • arfer da o ran dwyieithrwydd mewn ymgysylltiad cyhoeddus;

  • adroddiad ‘Panel Adolygu Annibynnol ar Wasanaethau Dwyieithog’ Comisiwn y Cynulliad;

  • egwyddorion Bil (Drafft) Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol).

Awdurdod dros gydgysylltu’r Cynllun hwn a chyfrifoldeb amdano

Mae’r Cynulliad Cenedlaethol a Chomisiwn y Cynulliad yn awdurdodi’r Cynllun hwn ac yn rhoi cymorth a chymeradwyaeth lwyr iddo.

Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Cenedlaethol sydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol dros sicrhau y caiff y Cynllun hwn ei weithredu a’i fonitro’n flynyddol. Y Pennaeth Cyfathrebu yw’r Uwch Reolwr sy’n gyfrifol am gydgysylltu’r gwaith o fonitro a diwygio’r Cynllun.

O ddydd i ddydd, bydd Cydgysylltwyr y Cynllun Ieithoedd ym mhob maes gwasanaeth yn gyfrifol am weithredu’r Cynllun yn y meysydd hynny. Dylai’r cydgysylltwyr gwrdd pob chwarter blwyddyn i ystyried y cynnydd yn erbyn gofynion y Cynllun, gan barhau i hysbysu’r Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi o unrhyw newidiadau i’r ymrwymiadau darparu.

Mae gan bob rheolwr gyfrifoldeb wedi’i ddirprwyo iddo dros weithredu’r agweddau hynny ar y Cynllun sy’n berthnasol i’w waith a thros annog staff i ddefnyddio eu sgiliau ieithyddol.

Staff y Cynulliad sy’n gyfrifol am sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r mesurau yn y Cynllun ac am gydymffurfio â hwy wrth iddynt wneud eu gwaith o ddydd i ddydd. Bydd yn rhaid i reolwyr llinell sicrhau bod aelodau newydd o staff yn ymwybodol o’r Cynllun, ei uchelgeisiau, safonau’r gwasanaeth ac ethos dwyieithog y Cynulliad Cenedlaethol.

Monitro ac adrodd

Bydd gweithredu yn unol â’r Cynllun hwn yn fater o gydymffurfio.

Pob blwyddyn ariannol, byddwn yn monitro sut rydym yn cydymffurfio â’r Cynllun ac yn cyflwyno adroddiad i Gomisiwn y Cynulliad ei ystyried. Gosodir yr adroddiad hwnnw gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

Rhoddir trefniadau monitro ar waith a allai gynnwys casglu barn unigolion a sefydliadau sydd wedi defnyddio gwasanaethau’r Cynulliad Cenedlaethol yn Gymraeg, gan gynnwys grwpiau ffocws, arolygon a siopwyr dirgel.

Bydd y cynnydd o ran cyflawni’r Cynllun hwn yn cael ei fonitro a’i fesur.

Adolygu a diweddaru’r Cynllun

Adolygir y Cynllun hwn ar ôl  pum mlynedd er mwyn paratoi ar gyfer y Cynulliad nesaf. I fesur y cynnydd mewn perthynas â chyflawni’r bwriad i fod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog, bydd yr adolygiad yn dadansoddi unrhyw newidiadau yn nifer y staff dwyieithog a sut y cynigir gwasanaethau dwyieithog.

Mae’n bosibl y bydd angen diwygio’r Cynllun hwn oherwydd newid mewn swyddogaethau, neu yn yr amgylchiadau ar gyfer gweithredu’r swyddogaethau hynny, neu am unrhyw reswm arall ar ddiwedd y cyfnod o bum mlynedd neu yn ystod y cyfnod hwnnw. Ni wneir unrhyw newidiadau i’r Cynllun heb gymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol.

Ni chaiff Comisiwn y Cynulliad fabwysiadu Cynllun drafft neu welliant arfaethedig oni bai:

  • bod ymgynghoriad wedi cael ei gynnal ar y Cynllun, a bod unrhyw gyflwyniadau wedi cael eu hystyried; neu,

  • fod y Cynllun wedi’i gyhoeddi;

  • wedi’i osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol; neu,

  • wedi’i gymeradwyo drwy benderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Rhoi cyhoeddusrwydd i’n gwasanaethau dwyieithog a’u hyrwyddo

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod Aelodau’r Cynulliad, y cyhoedd a staff y Cynulliad yn ymwybodol o’r Cynllun hwn a’r gwasanaethau a ddarperir. Byddwn yn rhoi cyhoeddusrwydd i’n gwasanaethau dwyieithog drwy:

  • hyrwyddo bodolaeth y Cynllun wrth ymgysylltu â’r cyhoedd a’n rhanddeiliaid;

  • gosod y Cynllun mewn man amlwg ar ein gwefan;

  • cynnwys cyfeiriadau at y Cynllun mewn bwletinau staff a gohebiaeth arall;

  • rhoi’r deunyddiau ‘Iaith Gwaith’ i staff sy’n siarad Cymraeg ym mhob man cyhoeddus ar ystâd y Cynulliad Cenedlaethol;

  • sicrhau y gellir cynnig ein holl wasanaethau cyhoeddus, i’r gorau o’n gallu, yn ddwyieithog pan fydd y cyhoedd yn cysylltu â ni am y tro cyntaf, boed hynny wyneb yn wyneb, yn ysgrifenedig neu drwy ddarparwyr gwasanaeth eraill ar ein rhan;

  • hyrwyddo’r Cynllun yn y rhaglen gynefino ar gyfer Aelodau newydd y Cynulliad, eu staff cymorth a staff y Cynulliad.

  • cynnwys hyfforddiant mewn ymwybyddiaeth ieithyddol yn y broses gynefino orfodol ar gyfer cyflogeion newydd.

Ymdrin â chwynion

Ein harfer safonol fydd sicrhau bod gwasanaethau o safon uchel ar gael yn Gymraeg a Saesneg ar yr un pryd. Byddwn yn hyrwyddo’r gwasanaethau sydd ar gael fel y nodwyd, ac yn cynghori ein cwsmeriaid pan na fydd hynny’n bosibl.

Rydym am i’r cyhoedd, Aelodau’r Cynulliad a’u staff ein hysbysu ynghylch enghreifftiau o ddiffyg cydymffurfio â’r Cynllun cyn gynted â phosibl. Bydd hyn yn ein galluogi i gywiro’r sefyllfa, i gau unrhyw fylchau, i ddysgu gwersi ac i wella’r gwasanaeth yr ymdrechwn i’w ddarparu.

Byddwn yn ymdrin â chwynion yn unol â Chod Ymarfer y Cynulliad Cenedlaethol ar Gwynion, sy’n nodi y byddwn yn ymateb o fewn 15 diwrnod gwaith o’r dyddiad y daeth y gŵyn i law.

Gellir cwyno’n ysgrifenedig neu dros y ffôn drwy gysylltu â: 

Rheolwr Cynllun Gwasanaeth Dwyieithog

Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Tŷ Hywel
Bae Caerdydd
CAERDYDD
CF99 1NA

Ffôn: 029 2089 8647

E-bost: GwasanaethauDwyieithog@cymru.gov.uk

Os na fydd staff yn gallu ymdrin â mater er boddhad y sawl sy’n cwyno, mae hawl ganddo ofyn i’r mater gael ei adolygu gan Gomisiwn y Cynulliad.

Gwasanaethau dwyieithog ar gyfer Aelodau’r Cynulliad a’u staff

Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn falch o’i gyflawniadau o ran gallu cynnal trafodion gwbl ddwyieithog a’i statws fel corff a etholwyd yn ddemocrataidd a gydnabyddir yn rhyngwladol, sydd wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau dwyieithog arloesol mewn cyd-destun seneddol. 

Ein huchelgais yw hwyluso’r broses o sicrhau bod trafodion y Cynulliad Cenedlaethol yn wirioneddol ddwyieithog drwy roi deunyddiau dwyieithog i Aelodau’r Cynulliad a’r dulliau iddynt gyfathrebu â’i gilydd a’r cyhoedd yn ddwyieithog.

Mae gweddill yr adran hon yn amlinellu sut rydym yn darparu gwasanaethau dwyieithog wrth baratoi ar gyfer busnes y Cynulliad Cenedlaethol yn y Cyfarfod Llawn a’r cyfarfodydd pwyllgor, ac wrth ei gynnal a’i gofnodi. Mae hefyd yn amlinellu’r ddarpariaeth sy’n galluogi Aelodau’r Cynulliad i gynhyrchu deunydd cyhoeddusrwydd dwyieithog i gefnogi eu gwaith fel Aelodau’r Cynulliad.

Gwasanaethau dwyieithog: paratoi ar gyfer y Cyfarfod Llawn a’r cyfarfodydd pwyllgor

Bydd y dogfennau i’w hystyried yn y Cyfarfod Llawn, a ddrafftiwyd gan Gomisiwn y Cynulliad, Aelodau’r Cynulliad (ar wahân i’r rheini sydd â dyletswyddau fel Gweinidog) a staff y Cynulliad ar gael ar yr un pryd yn Gymraeg a Saesneg. Os bydd eitem yn cael ei chynnwys yn agenda’r Cyfarfod Llawn ar fyr rybudd, efallai na fydd yn bosibl cynhyrchu’r papurau hynny’n ddwyieithog, er y byddwn yn ceisio gwneud hynny ar bob achlysur.

Bydd y dogfennau i’w hystyried yn ystod cyfarfodydd pwyllgor a ddrafftiwyd gan Gomisiwn y Cynulliad, Aelodau’r Cynulliad (ar wahân i’r rheini sydd â dyletswyddau fel Gweinidog) a staff y Cynulliad ar gael ar yr un pryd i aelodau’r pwyllgorau yn Gymraeg a Saesneg ac o leiaf ddau ddiwrnod gwaith cyn y cyfarfodydd perthnasol. Bydd y cadeiryddion pwyllgor sy’n ddwyieithog yn cael papurau briffio dwyieithog i annog mwy o ddefnydd o’r Gymraeg yn ein trafodion. Os bydd eitem frys yn cael ei chynnwys yn agenda pwyllgor ar fyr rybudd, efallai na fydd yn bosibl cyhoeddi’r papurau hynny’n ddwyieithog, er y byddwn yn ceisio gwneud hynny ar bob achlysur.

Bydd ceisiadau am ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau pwyllgor yn cael eu cyflwyno yn ddwyieithog a byddwn yn gwneud cais i ddogfennau a geir gan sefydliadau allanol neu drydydd parti y bwriedir eu cyhoeddi a / neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol fod yn ddwyieithog. Dylai’r sefydliadau hynny sydd â chynlluniau, safonau, neu bolisïau iaith Gymraeg gyflwyno ymatebion yn y ddwy iaith i sicrhau y gall Aelodau’r Cynulliad a’r cyhoedd ymateb i’r trafodion yn y ddwy iaith. Lle nad yw’n bosibl cael y dogfennau yn y ddwy iaith, byddwn yn eu cyhoeddi yn yr iaith y cyflwynwyd hwy yn wreiddiol gan nodi mai dim ond yn yr iaith honno y’u cyflwynwyd. Lle y gallai hyn amharu ar fusnes y Cynulliad Cenedlaethol, er enghraifft, os bydd dogfen yn cael ei chyflwyno yn Gymraeg yn unig, efallai y bydd yn angenrheidiol i’r Cynulliad Cenedlaethol wneud cais am grynodeb yn Saesneg neu drefnu cyfieithiad gan y trydydd parti. 

Bydd dogfennau ategol ar gyfer pwyllgorau a’r Cyfarfod Llawn, fel papurau briffio ymchwil, yn cael eu paratoi yn y ddwy iaith swyddogol, cyhyd â bod hynny’n rhesymol ymarferol. Byddwn yn darparu’r rhain i hwyluso mwy o ddefnydd o’r Gymraeg gan Aelodau’r Cynulliad yn ein trafodion. Lle bydd hyn yn anymarferol, byddwn yn cynghori Pennaeth y Gwasanaeth perthnasol.

Gwasanaethau dwyieithog: cynnal y Cyfarfod Llawn a chyfarfodydd pwyllgor

Mae trafodion y Cynulliad Cenedlaethol yn y Cyfarfod Llawn a’r pwyllgorau yn dilyn y gweithdrefnau yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheolau Sefydlog y Cynulliad Cenedlaethol 2011.

Gall y cyfraniadau yn y Cyfarfod Llawn neu mewn cyfarfodydd pwyllgor fod yn Gymraeg neu Saesneg. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd i gyfieithu’r cyfraniadau a wneir yn Gymraeg. Rhoddir clustffonau i bobl nad ydynt yn siarad Cymraeg (aelodau’r pwyllgor, tystion a’r ymwelwyr yn yr orielau cyhoeddus) i’w galluogi i ddilyn y trafodion.

Tystion

Gall y rheini sy’n rhoi tystiolaeth i’r pwyllgorau wneud hynny yn Gymraeg neu Saesneg. Byddwn yn annog tystion i ddefnyddio’r Gymraeg os gallant wneud hynny.

Fideo gynadledda mewn pwyllgorau

Pan gynhelir cyfarfodydd/cyflwyniadau gan ddefnyddio adnoddau fideo gynadledda, bydd yr un egwyddorion â’r rhai sy’n sail i gyfarfodydd wyneb-yn-wyneb yn berthnasol, yn amodol ar gyfyngiadau technolegol.

Ystyried deddfwriaeth drafft i Gymru

Bydd unrhyw Filiau Cynulliad a gaiff eu hystyried gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gael yn y ddwy iaith a gall Aelodau’r Cynulliad gynnal eu gwaith craffu yn y naill iaith neu’r llall, ac eithrio o dan yr amgylchiadau a amlinellir yn Rheol Sefydlog 26.5.

Gwasanaethau dwyieithog: cofnod o’r Cyfarfod Llawn a’r cyfarfodydd pwyllgor

Yn unol â Rheol Sefydlog 31, rhaid i Gomisiwn y Cynulliad “wneud trefniadau yn unol â gofynion adran 31(6) o’r Ddeddf, lle y bo’n gymwys, ar gyfer: (i) cadw cofnod o benderfyniadau’r Cynulliad Cenedlaethol, gan gynnwys penderfyniadau pwyllgorau ac is-bwyllgorau; (ii) cofnodi trafodion y Cynulliad Cenedlaethol, gan gynnwys trafodion pwyllgorau ac is-bwyllgorau a gynhelir yn gyhoeddus; a, (iii) cyhoeddi’r cofnod hwnnw o benderfyniadau ac adroddiad ar y trafodion.”

[Bydd Comisiwn y Cynulliad yn penderfynnu ar y trefniadau ar gyfer cofnodi trafodion y Cynulliad Ceneldaethol yn ystod tymor y Hydref 2011 a bydd yr adran hon yn cael ei diwygio yn sgil y penderfyniad hwnnw. Croesewir eich barn ar y materion hyn fel rhan o’r ymgynghoriad hwn.]

Dogfennau cyhoeddusrwydd a gohebiaeth etholaethol Aelodau’r Cynulliad

Bydd papur â phennawd, cardiau busnes a hysbysebion ar gyfer cymorthfeydd nad ydynt yn rhai pleidiol wleidyddol yn cael eu cyhoeddi’n ddwyieithog a’u hariannu gan Gomisiwn y Cynulliad. 

Nid yw’r ohebiaeth a anfonir at Aelodau’r Cynulliad gan etholwyr wedi’i chynnwys yn y Cynllun hwn. Fodd bynnag, os bydd etholwyr yn dymuno cysylltu â’u Haelodau Cynulliad yn Gymraeg, mae gwasanaeth i ddarparu cyfieithiad testun o Gymraeg i Saesneg ar gyfer y gwaith hwn ar gael i Aelodau’r Cynulliad. O dan y trefniant hwn, rhoddir lwfans blynyddol i bob Aelod, a reolir drwy swyddfeydd y grŵp plaid.

Datblygu sgiliau Cymraeg

Mae Comisiwn y Cynulliad wedi ymrwymo i ddarparu adnodd parhaus i alluogi Aelodau i ddysgu Cymraeg neu i wella eu sgiliau Cymraeg.

Bydd y gwasanaeth hwn wedi’i deilwra i fodloni anghenion penodol Aelodau unigol a bydd yn cynnig ystod o gyfleoedd dysgu a fydd yn cynnwys y defnydd o dechnoleg.

Gohebiaeth gan staff i Aelodau’r Cynulliad

Bydd unrhyw ohebiaeth a anfonir gan staff at Aelodau’r Cynulliad fel grŵp mewn e-byst, neu a gyhoeddir ar fewnrwyd yr Aelodau, ar gael yn ddwyieithog.

Byddwn yn ceisio anfon gohebiaeth ysgrifenedig at Aelodau unigol, grwpiau plaid neu fforymau eraill yn ddwyieithog neu yn Gymraeg neu Saesneg pan fydd dewis wedi’i fynegi. Byddwn yn hysbysu’r Aelodau pan na fydd hyn yn bosibl.

Monitro ein gwasanaethau

Pan na allwn ddarparu’r gwasanaethau dwyieithog a nodwyd, mae’n angenrheidiol bod aelodau o staff y Cynulliad yn hysbysu Cydgysylltwr Cynllun Ieithoedd eu gwasanaeth. Mae’r Cydgysylltwyr yn gyfrifol am gadw cofnod o’r achlysuron pan fyddwn yn methu â darparu gwasanaethau gwirioneddol ddwyieithog ac am sicrhau y cânt eu cynnwys yn ein hadroddiad cydymffurfio blynyddol.

Gwasanaethau dwyieithog i gyfathrebu ac ymgysylltu â’r cyhoedd

Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn falch o’i gyflawniadau a’i ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau dwyieithog o’r safon gorau i’r cyhoedd.

Ein huchelgais yw galluogi’r cyhoedd i gyfathrebu ac ymgysylltu â’r Cynulliad Cenedlaethol yn ddwyieithog. 

Mae gweddill yr adran hon yn amlinellu sut y byddwn yn cyflawni hyn.

Ein delwedd gyhoeddus

Byddwn yn ceisio cyflenwi ein holl waith hysbysebu, cyhoeddusrwydd ac ymgyrchu, neu unrhyw ddulliau eraill a ddefnyddir i dargedu’r cyhoedd, yn ddwyieithog, neu bydd fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân ar gael ar yr un pryd. Byddwn yn trin y ddwy iaith yn gyfartal gan sicrhau, lle bo hynny’n berthnasol, fod y geiriad Cymraeg yn ymddangos yn gyntaf neu ar y brig. Os bydd y fersiynau Cymraeg a Saesneg ar gael ar wahân, bydd eu fformat, eu maint a’u hansawdd yn gyfartal a byddant yr un mor amlwg. Dyma fydd yr arfer safonol ar gyfer y cyhoeddiadau a ganlyn: 

  • cyhoeddiadau i’r wasg;

  • arwyddion ac arddangosfeydd, boed hwy’n rhai parhaol neu’n rhai dros dro;

  • posteri a llyfrynnau gwybodaeth gyhoeddus (gan gynnwys rhai electronig);

  • brandiau, logos, stondinau codi a deunyddiau arddangos;

  • dogfennau ymgynghori, codau ymarfer neu ddogfennau tebyg;

  • llythyrau penderfynu y bwriedir iddynt gyfleu polisi i gynulleidfa ehangach;

  • papurau â phennawd, cardiau busnes, deunyddiau papur a thystysgrifau;

  • ffurflenni, arolygon ac ymholiadau;

  • llinellau ffôn neu beiriannau ateb i’r cyhoedd allu ymateb i ymgyrchoedd neu gystadlaethau;

  • hysbysebion mewn papurau newydd, cylchgronau neu gylchlythyrau Saesneg a ddosbarthir yn bennaf neu’n gyfan gwbl yng Nghymru;

  • hysbysebion ar wefannau;

  • hysbysebion recriwtio;

  • arddangosfeydd clyweledol, CD Roms, teithiau rhith-wirionedd neu gyfryngau rhyngweithiol eraill;

  • hysbysebion ar y gwefannau cyfryngau cymdeithasol, y teledu, y sinema, y rhyngrwyd neu’r radio;

  • pob gwybodaeth hyrwyddo aml-gyfrwng (fideos, podlediadau, e-byst, ac ati).

Gellir paratoi eitemau a fwriedir ar gyfer rhaglenni teledu, y cyfryngau, cyhoeddiadau neu wefannau Cymraeg yn Gymraeg yn unig. Byddwn yn osgoi is-deitlo Cymraeg neu ddybio i’r Gymraeg ar wahân i’r achosion pan ddefnyddir trosleisio neu pan y’u defnyddir at ddibenion hygyrchedd.

Bydd dogfennau cyfreithiol a chytundebau cyfreithiol gydag unigolion, sefydliadau neu grwpiau yn cael eu cynnig yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd mapiau neu unrhyw ddogfennau eraill a gynhwysir mewn cytundebau o’r fath a gaiff eu benthyg neu eu defnyddio o dan drwydded yn ymddangos yn iaith y ffynhonnell wreiddiol.

Er bod ein hunaniaeth gorfforaethol yn ddwyieithog, gelwir y lleoliadau a ganlyn gan eu henwau Cymraeg yn unig:

  • y Senedd a mannau penodol yno; y Neuadd, y Cwrt, yr Oriel a’r Siambr;

  • Tŷ Hywel a man y tu mewn iddo; Siambr Hywel.


Bydd cyhoeddiadau ar y systemau sain, gan gynnwys y rhai yn y lifftiau ar yr ystâd, yn ddwyieithog.

Pan fyddwn yn rhyddhau gwybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, byddwn yn ei chyfieithu i ddewis iaith y sawl sy’n gofyn am y wybodaeth, ar yr amod na fydd yn rhaid cyfieithu mwy na 100 o eiriau. Bydd llythyrau neu e-byst eglurhaol yn cael eu darparu yn Gymraeg neu Saesneg, gan ddibynnu ar yr iaith y gwnaed y cais.

Mae’n angenrheidiol bod aelodau o staff yn cadw cofnod o bob achlysur lle nad ydym wedi bodloni’r safonau hyn er mwyn mesur hyd a lled yr arfer.

Cyfathrebu â’r cyhoedd (e-byst neu gopïau caled o ddogfennau)

Pan fydd aelod o’r cyhoedd yn cysylltu ag aelod o staff y Cynulliad, byddwn yn:

  • ateb yn yr un iaith;

  • ymateb i’r holl ohebiaeth, p’un a yw yn Gymraeg, yn Saesneg neu yn y ddwy iaith, o fewn 15 diwrnod;

  • sicrhau bod unrhyw ohebiaeth yn dilyn cyfarfod neu sgwrs ffôn yn Gymraeg yn cael ei darparu yn Gymraeg, oni bai ein bod yn ymwybodol y byddai’n well gan y sawl sy’n ei derbyn ei chael yn Saesneg neu’n ddwyieithog.


Pan fyddwn yn dechrau cyfathrebu ag unigolyn, grŵp neu sefydliad:

  • byddwn yn gwneud hynny’n ddwyieithog, oni bai ein bod yn gwybod y byddai’n well ganddynt gyfathrebu yn Gymraeg neu yn Saesneg yn unig;

  • bydd gohebiaeth safonol neu gylchlythyrau a anfonir i sawl person yng Nghymru yn ddwyieithog oni bai ein bod yn gwybod y byddai’n well gan bob un ohonynt eu cael yn Gymraeg neu yn Saesneg yn unig;

  • os bydd angen cyhoeddi’r fersiynau Cymraeg a Saesneg o unrhyw ohebiaeth ar wahân, ein dull arferol fydd sicrhau bod y ddwy fersiwn ar gael ar yr un pryd a’u bod o’r un safon, ffurf a maint ac yr un mor amlwg, gan adlewyrchu’r egwyddor o gydraddoldeb;

  • bydd unrhyw ddogfennau a anfonir gyda llythyrau dwyieithog yn ddwyieithog, pan fyddant ar gael;

  • bydd datganiad byr sy’n nodi ein bod yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg yn cael ei gynnwys ar bapur swyddogol ac mewn llofnodion awtomatig e-byst a chyhoeddiadau swyddogol;

  • bydd llofnod awtomatig a negeseuon allan o’r swyddfa holl aelodau staff y Cynulliad yn ddwyieithog.

Cyfathrebu dros y ffôn

Ein dull arferol bydd i sicrhau y gall y cyhoedd siarad yn Gymraeg neu Saesneg wrth siarad â ni dros y ffôn. Mae’r gwasanaethau ar gael i sicrhau:

  • y bydd unrhyw aelod o’r cyhoedd sy’n cysylltu â’n switsfwrdd yn cael ei gyfarch yn ddwyieithog;

  • y bydd ein prif switsfwrdd yn defnyddio neges ddwyieithog ar ei beiriant ateb;

  • y bydd gweddill ein staff, erbyn 2012, yn ateb y ffôn gyda chyfarchiad dwyieithog ac yn recordio negeseuon dwyieithog ar eu peiriannau ateb personol;

  • os bydd rhywun yn galw un o’n llinellau uniongyrchol ac yn dymuno siarad yn Gymraeg, ond nad yw’r sawl sy’n ateb yr alwad yn gallu siarad Cymraeg, byddant yn ceisio trosglwyddo’r alwad i gyd-weithiwr sy’n siarad Cymraeg i ymdrin â’r ymholiad;

  • os nad oes rhywun sy’n siarad Cymraeg ar gael i ymdrin â’r ymholiad, rhoddir y dewis i’r sawl sy’n galw gael siaradwr Cymraeg i’w ffonio yn ôl cyn gynted â phosibl, neu, os yw’n dymuno hynny, gall barhau â’r alwad yn Saesneg neu gyflwyno ei ymholiad yn Gymraeg mewn llythyr neu e-bost.

Cyfarfodydd unigol

Pan fydd aelod o’r cyhoedd yn dymuno trafod gweithdrefnau neu wasanaethau’r Cynulliad Cenedlaethol wyneb-yn-wyneb, mae croeso iddo wneud hynny yn Gymraeg neu Saesneg. Byddwn yn trefnu’r cyfarfod drwy ganfod ymlaen llaw pa iaith yr hoffai’r aelod o’r cyhoedd ei siarad, ac os yw’n dewis y Gymraeg, byddwn yn trefnu bod siaradwr Cymraeg yn mynd i’r cyfarfod. Os nad yw hynny’n bosibl, byddwn yn trefnu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd, lle bo hynny’n rhesymol ymarferol. Os nad yw’r opsiynau hynny ar gael, gwahoddir yr aelod o’r cyhoedd i ymdrin â’r mater mewn gohebiaeth yn Gymraeg neu i barhau â’r cyfarfod yn Saesneg. Pan gynhelir cyfarfodydd wyneb-yn-wyneb ar fyr rybudd, dilynir y camau uchod, ond ni allwn warantu y gallwn drefnu bod siaradwr Cymraeg ar gael bob tro.

Fideo gynadledda

Pan gynhelir cyfarfodydd fideo gynadledda, bydd yr un egwyddorion â’r rhai sy’n sail i’r cyfarfodydd wyneb-yn-wyneb yn berthnasol, yn amodol ar gyfyngiadau’r dechnoleg sydd ar gael.

Y rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol

Bydd pob dogfen y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn ei pharatoi y gellir ei llwytho o’n gwefannau ar gael yn ddwyieithog. Bydd y cyflenwad o wybodaeth ar ein gwefannau cyfryngau cymdeithasol hefyd ar gael yn ddwyieithog, naill ai drwy un cyfrif dwyieithog neu drwy gyfrifon Cymraeg a Saesneg ar wahân.

Cyhoeddir gwybodaeth sy’n ymwneud â’r Cynulliad Cenedlaethol ar ddwy wefan, un yn Gymraeg yn www.cynulliadcymru.org a’r llall yn Saesneg yn www.assemblywales.org. Mae wedi’i strwythuro mewn ffordd sy’n galluogi’r defnyddiwr i symud yn uniongyrchol o dudalen yn un fersiwn i’r dudalen gyfatebol yn yr iaith arall. Ein harfer safonol fydd cyhoeddi fersiynau dwyieithog neu fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân o ddogfennau gan y Cynulliad Cenedlaethol ar y wefan. Efallai na fydd hyn yn bosibl bob tro os oes gan y dogfennau hyd oes byr iawn neu os oes angen eu cyhoeddi ar frys. Byddwn yn cadw cofnodion o’r achlysuron pan fyddwn yn cyhoeddi dogfennau a gyflwynwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn un iaith yn unig er mwyn monitro’r arfer. 

At ddibenion chwilio a mynegeio, cyhoeddir y wybodaeth ar rai o’n proffiliau cyfryngau cymdeithasol yn Saesneg yn gyntaf ac yna yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb i’r ymholiadau ar ein proffiliau cyfryngau cymdeithasol yn yr iaith y cânt eu postio, waeth beth fo iaith y proffil a ddefnyddir (er enghraifft, byddwn yn rhoi ateb yn Gymraeg i ymholiad Cymraeg ar dudalen Saesneg Facebook, ac i’r gwrthwyneb).

Pan fyddwn yn dylunio gwefannau newydd, neu pan fyddwn yn datblygu ein gwefan, byddwn bob tro’n ystyried y canllawiau diweddaraf ar ddwyieithrwydd a thechnoleg gwybodaeth.

Ymgysylltu â’r cyhoedd – digwyddiadau’r Cynulliad

Ar gyfer pob cyfarfod, seminar, digwyddiad neu arddangosfa gyhoeddus a drefnir gan staff y Cynulliad sy’n ymwneud â thrafodion y Cynulliad Cenedlaethol, byddwn yn:

  • cyhoeddi gwahoddiadau a hysbysebion dwyieithog;

  • asesu’r galw am wasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i Saesneg ac yn hysbysu’r rhai sy’n debygol o ddod i ddigwyddiad ynghylch yr adnodd er mwyn eu hannog i gyfrannu yn eu dewis iaith;

  • darparu unrhyw bapurau atodol ac adroddiadau dilynol a phob gwybodaeth arall yn ddwyieithog;

  • gwneud bob dim posibl i sicrhau bod staff sy’n siarad Cymraeg ar gael mewn cyfarfodydd/digwyddiadau o’r fath.


Bydd yr un egwyddorion yn berthnasol i ddigwyddiadau nad ydym wedi’u eu trefnu ond y byddwn yn mynd iddynt.

Digwyddiadau ac arddangosfeydd a noddir gan Aelod Cynulliad

Disgwylir i sefydliadau sydd â safonau, polisïau neu gynlluniau dwyieithog ac sy’n cynnal digwyddiadau ar ein hystâd sy’n targedu Aelodau’r Cynulliad neu’r cyhoedd weithredu yn unol â’r egwyddorion yn yr adran hon. Anogir sefydliadau nad oes ganddynt gynlluniau iaith i weithredu yn unol ag egwyddorion eu cynlluniau.

Ymwelwyr i ystâd y Cynulliad Cenedlaethol

Bydd aelodau dwyieithog o staff y tîm cyswllt cyntaf yn gwisgo bathodynnau ‘Iaith Gwaith’ Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

Yn y mannau cyhoeddus a reolir gan Gomisiwn y Cynulliad (y Senedd, y Pierhead, Tŷ Hywel a swyddfa’r Cynulliad Cenedlaethol yng ngogledd Cymru, ac mewn cyfarfodydd pwyllgor a digwyddiadau cyhoeddus a gynhelir y tu allan i adeiladau’r Cynulliad Cenedlaethol) gall y cyhoedd siarad â staff rheng flaen naill ai yn Gymraeg neu Saesneg, yn unol â’u dewis.

Pan fydd cwsmeriaid yn archebu ymweliadau addysg neu deithiau yn y Senedd, gofynnir iddynt a hoffent eu cynnal yn Gymraeg neu Saesneg. Byddwn yn parhau i gynnig teithiau munud olaf o’r Senedd yn Gymraeg a Saesneg hyd orau ein gallu.

O bryd i’w gilydd, ni fydd yn bosibl sicrhau bod siaradwyr Cymraeg o’n gwasanaeth cyswllt cyntaf ar gael, ond rydym wedi ymrwymo i wella sgiliau Cymraeg y staff sy’n cynnig y gwasanaethau hyn a byddwn yn ystyried egwyddorion y cynllun hwn wrth gynllunio hyfforddiant staff a recriwtio.

Datblygu gwasanaethau newydd i’r cyhoedd

Wrth ymdrin â’r cyhoedd mewn ffyrdd eraill, bydd y Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal a bydd hyn yn cael ei gynnwys yn y prosesau cynllunio. Bydd gwasanaethau newydd ar gael yn ddwyieithog o’r cychwyn cyntaf. Mae hyn yn cynnwys eitemau amrywiol fel sylwebaeth sain, cyfryngau rhyngweithiol, teithiau sain rhithwir, a theithiau tywys.

Staff y Cynulliad a’n trefniadau corfforaethol

Mae Comisiwn y Cynulliad yn cyflogi tua 350 o staff, ac mae tua un rhan o dair ohonynt yn ddwyieithog. Ers cyhoeddi Cynllun Iaith Gymraeg cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol yn 2007, mae cyfran y staff sy’n siarad Cymraeg wedi cynyddu’n flynyddol, i hwyluso gwaith dwyieithog yn y mwyafrif o’n meysydd rheng flaen yn benodol. Mae nifer o staff yn parhau i ddysgu Cymraeg, wedi bod ar sesiynau ar sut i ateb y ffôn yn ddwyieithog neu wedi cael hyfforddiant cwrdd a chyfarch anffurfiol. 

Rheoli ac annog sgiliau dwyieithog staff y Cynulliad  

Er mwyn i ni wireddu ein huchelgais i fod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog, byddwn yn: 

  • asesu nifer y staff dwyieithog ym mhob maes gwasanaeth yn flynyddol;

  • ystyried a yw ein darpariaeth ddwyieithog yn ddigonol i ddarparu gwasanaethau;

  • paratoi cynlluniau sgiliau ieithyddol ar gyfer pob maes gwasanaeth i fynd i’r afael ag unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth;

  • recriwtio’r bobl addas i swyddi lle nodir bod y gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol neu’n ddymunol;

  • darparu hyfforddiant gorfodol ar ymwybyddiaeth ieithyddol yn ystod cyrsiau cynefino corfforaethol. 

Byddwn yn parhau i sicrhau mai dim ond staff cyfieithu a chyfieithu ar y pryd achrededig fydd yn gwneud y gwaith cyfieithu testun a chyfieithu ar y pryd, ac fe’u hanogir i fod yn aelodau o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru neu sefydliad proffesiynol tebyg. Bydd hyfforddeion yn cael eu cyflogi o bryd i’w gilydd hefyd. Fodd bynnag, er mwyn osgoi dibynnu’n ormodol ar y gwasanaeth cyfieithu, byddwn yn parhau i annog staff sy’n siarad Cymraeg sydd â’r sgiliau angenrheidiol i ddarparu gwasanaeth dwyieithog.

Yn ogystal ag annog staff i ddysgu Cymraeg neu i wella eu sgiliau Cymraeg, rydym yn bwriadu lleihau ein dibyniaeth ar ein gwasanaeth cyfieithu dros amser. Bydd hyn yn debygol o olygu y bydd angen i fwy o’n staff dwyieithog ddatblygu eu sgiliau drafftio yn Gymraeg. Mae’r defnydd cynyddol o’r gwasanaeth gwirio testun yn awgrymu y bu gwelliannau yn y maes hwn a bod mwy o staff yn paratoi papurau drafft yn ddwyieithog. Fodd bynnag, bydd angen i ni ddatblygu’r maes hwn ymhellach yn y dyfodol. Os ydym am wireddu uchelgais y Cynllun hwn, mae angen i nifer y bobl sy’n dysgu Cymraeg gynyddu hefyd. Cynigir y bydd pob aelod o staff yn gallu siarad rhywfaint o Gymraeg erbyn mis Gorffennaf 2012 yn unol â’n hethos dwyieithog. 

I hwyluso’r twf yn y defnydd o’n sgiliau dwyieithog, byddwn yn darparu strategaeth sgiliau dwyieithog drafft erbyn mis Mawrth 2012, a fydd yn ystyried y ffactorau a ganlyn: 

  • archwiliadau cyfnodol ar nifer y staff sy’n ddwyieithog a’u lleoliad;

  • lefel y sgiliau siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg a monitro gwelliannau yn flynyddol;

  • hyfforddiant ffurfiol i staff ddysgu a gwella eu sgiliau Cymraeg a gwerthuso llwyddiant y buddsoddiad;

  • y gwersi a ddysgwyd o diwtora Aelodau’r Cynulliad;

  • dull gweithredu wedi’i strwythuro i helpu staff i wella eu sgiliau cwrdd a chyfarch anffurfiol a’u sgiliau ateb y ffôn yn ddwyieithog;

  • yr angen i sefydlu cronfa o fentoriaid a hyfforddwyr Cymraeg o fewn meysydd gwasanaeth;

  • sut rydym yn cyflwyno ein hethos dwyieithog a’n hyfforddiant ar ymwybyddiaeth ieithyddol yn y broses gynefino;

  • cynyddu’r casgliad o enghreifftiau da o ddysgu Cymraeg yn y gwaith;  

  • sut rydym yn codi ymwybyddiaeth staff ynghylch opsiynau i ddysgu’r Gymraeg;

  • sut rydym yn cynnwys gwella sgiliau ieithyddol yn yr amcanion yn ein proses Rheoli Perfformiad ac Adolygu Datblygiad a’n Cynlluniau Uchelgais Gyrfa;

  • cyllideb Comisiwn y Cynulliad;

  • yr angen am gyfleoedd dysgu hyblyg;

  • sut rydym yn gweithredu’r Cynllun ac yn monitro a gwerthuso’r cynnydd.

Bydd y strategaeth sgiliau dwyieithog yn cael ei gweithredu ar ôl proses o ymgynghori a thrafod mewnol gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg neu ei olynydd.

Recriwtio

Mae Comisiwn y Cynulliad yn gyflogwr cyfle cyfartal. Mae hyn yn golygu bod pawb yn cael yr un cyfle i gael eu cyflogi a’u dyrchafu ar sail eu gallu, eu cymwysterau a pha mor addas ydynt ar gyfer y swydd. O ganlyniad, ni ddylai unrhyw un fod o dan anfantais oherwydd amgylchiadau neu ofynion na ellir eu cyfiawnhau.

Bydd cynllun iaith pob maes gwasanaeth yn cael ei ystyried pan fydd angen recriwtio staff. Os na ellir canfod ymgeiswyr addas sy’n siarad Cymraeg ar gyfer swydd y mae siarad Cymraeg yn ddymunol ar ei chyfer, anogir pob ymgeisydd a benodir i ddysgu Cymraeg, a bydd y deunyddiau cynefino yn nodi’n glir sut mae hyn o fudd i staff y Cynulliad.

Gellir penodi ymgeisydd nad yw’n gallu siarad Cymraeg i swydd yr ystyrir bod y Gymraeg yn hanfodol ar ei chyfer os oes dealltwriaeth y rhoddir amser iddo ddysgu’r iaith. Yn yr achosion hyn, bydd dysgu’r iaith i’r lefel disgwyliedig, a hynny o fewn cyfnod rhesymol o amser y cytunir arno, yn faen prawf perfformiad penodol.

Os na ellir canfod unrhyw ymgeiswyr addas sy’n siarad Cymraeg ar gyfer swydd yr ystyrir bod y Gymraeg yn hanfodol ar ei chyfer (neu os yw ymgeisydd nad yw’n gallu siarad Cymraeg wedi’i benodi a’i fod yn dysgu’r iaith), byddwn yn gwneud trefniadau dros dro ar gyfer darparu gwasanaeth Cymraeg (drwy ddefnyddio, er enghraifft, staff sy’n siarad Cymraeg o fannau eraill yn ein sefydliad i gyflenwi rhannau o’r gwasanaeth).

Bydd pecynnau gwybodaeth a ffurflenni cais yn cael eu darparu’n ddwyieithog bob tro. Gall ymgeiswyr lenwi eu ffurflenni cais yn eu dewis iaith.

Bydd cyfweliadau dwyieithog yn cael eu cynnal ar gyfer swyddi lle mae sgiliau ieithyddol yn Gymraeg a Saesneg yn hanfodol. Yn ogystal, bydd sgiliau’r ymgeisydd yn Gymraeg a Saesneg yn cael eu hasesu fel rhan o’r broses ddethol.

Cyfathrebu mewnol

Ers i Gynllun cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol gael ei gymeradwyo yn 2007, bu cynnydd yn ein gohebiaeth fewnol ddwyieithog i adlewyrchu’r ffaith bod tua un rhan o dair o’n staff yn ddwyieithog a bod nifer yn dysgu Cymraeg. I wneud y defnydd gorau o’n hadnoddau cyfyngedig, byddwn yn parhau i flaenoriaethu argaeledd y dogfennau dwyieithog sydd ar gael i Aelodau’r Cynulliad a’r cyhoedd.

Yn unol ag ethos dwyieithog y sefydliad, byddwn bob tro yn paratoi'r negeseuon mewnol a ganlyn i staff yn ddwyieithog:

  • pob neges fer ar dudalen newyddion y staff (er nad yw’r linciau sy’n mynd â defnyddwyr i ddogfennau mewnol eraill neu dudalennau eraill ar y fewnrwyd bob tro yn ddwyieithog);

  • negeseuon e-bost grŵp i’r holl staff;

  • arolygon staff.

Byddwn yn ceisio cynyddu’r defnydd o wybodaeth ddwyieithog i staff mewn ffyrdd eraill hefyd, er enghraifft drwy gael tudalennau glanio statig dwyieithog ar y fewnrwyd a ffurflenni y gall y staff eu defnyddio o bryd i’w gilydd. Bydd y datblygiadau hyn yn cael eu hystyried gan y meysydd gwasanaeth gyda’r bwriad o gynyddu’r defnydd o Gymraeg yn fewnol a gweithio tuag at wireddu ein huchelgais o fod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog.


Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd i’r holl staff, a bydd y bwriad i’w ddarparu mewn cyfarfodydd o grwpiau llai yn cael ei ddatblygu i roi mwy o gyfleoedd i siarad Cymraeg mewn cyfarfodydd.

Defnyddio Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu dwyieithog

Adlewyrchir yr angen i ddarparu gwybodaeth a gwasanaethau yn Saesneg ac yn Gymraeg, ac i weithredu’n unol â’r Cynllun hwn, yn null gweithredu Comisiwn y Cynulliad o ran technoleg gwybodaeth a chyfathrebu. Wrth ddatblygu a phrynu technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, byddwn yn ystyried Canllawiau a Safonau ar gyfer Meddalwedd Dwyieithog Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn ei gyfanrwydd.

Gweithio mewn partneriaeth

Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau eraill sy’n gweithredu’n ddwyieithog er mwyn monitro, adolygu a gwella ein gwasanaethau dwyieithog fel sy’n addas.

Os bydd Comisiwn y Cynulliad yn gweithredu fel arweinydd strategol ac ariannol o fewn partneriaeth ffurfiol, bydd yn sicrhau bod elfennau gwasanaethau cyhoeddus y bartneriaeth yn cydymffurfio â’r Cynllun hwn.

Os bydd Comisiwn y Cynulliad yn ymuno â phartneriaeth ffurfiol o dan arweinyddiaeth sefydliadau eraill, bydd cyfraniad Comisiwn y Cynulliad yn cydymffurfio â’r Cynllun hwn ac anogir y partneriaid eraill i gydymffurfio â’r Cynllun neu o leiaf gydag ysbryd Deddf Iaith Gymraeg 1993.

Os bydd Comisiwn y Cynulliad yn dod yn bartner mewn consortiwm, byddwn yn annog y consortiwm hwnnw i gydymffurfio â’r Cynllun hwn. Pan fyddwn yn gweithredu yn enw’r consortiwm hwn, byddwn yn gwneud hynny un unol â’r Cynllun hwn.

Gwasanaethau drwy drydydd parti

Bydd unrhyw gytundebau neu drefniadau rhwng Comisiwn y Cynulliad a thrydydd parti (fel asiantaethau recriwtio, cwmnïau arlwyo, ymgynghorwyr a chontractwyr, ac ati) i ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd yn cael eu rhoi ar waith yn unol â rhannau perthnasol y Cynllun hwn. Bydd gwybodaeth yn cael ei rhoi i gyflenwyr yn ystod y broses dendro sy’n amlinellu’n fanwl pa nwyddau neu wasanaethau sy’n gorfod cydymffurfio â’r Cynllun hwn. Gwneir hyn yn ysgrifenedig ar ddechrau’r broses i sicrhau bod y ceisiadau a’r prisiau yn gyfartal ac yn gyson. Bydd gofyn i gyflenwyr nwyddau neu wasanaethau gyflwyno adroddiadau ar gydymffurfio â rhannau perthnasol y Cynllun yn unol â’r cymal/cymalau yn y cytundeb/archeb gwasanaeth rhwng Comisiwn y Cynulliad a’r contractwr unigol. Bydd canllawiau ysgrifenedig penodol (sy’n nodi’r cyngor gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg neu Comisiynydd y Gymraeg) yn cael eu rhoi i staff a chyflenwyr i sicrhau bod y dull gweithredu a’r adroddiadau cydymffurfio yn gyson.

Fel arfer, bydd gwahoddiadau i gynnig tendr yn cael eu hanfon at gyflenwyr yn eu dewis iaith lle bo hynny’n wybyddus, neu fel arall byddant yn ddwyieithog. Oni bai bod y rheini sy’n rhan o’r broses yn deall Cymraeg, at ddibenion gwerthuso mewnol, bydd unrhyw geisiadau am dendr sydd yn Gymraeg yn unig yn cael eu cyfieithu. Bydd staff sy’n cynnal y broses asesu’n sicrhau bod digon o amser yn eu hamserlen ar gyfer y gwaith cyfieithu. Dros gyfnod o amser, gyda nifer gynyddol o staff dwyieithog, dylai’r angen am gyfieithu o’r fath leihau.  

Partners & Help