Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 

Llythyr cyflwyno - Ymgynghoriad cyhoeddus ar Wasanaethau Dwyieithog cyn y broses ddeddfu

Annwyl Syr / Madam

Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad Cenedlaethol) yw'r corff sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i gynrychioli buddiannau Cymru a'i phobl, i ddeddfu ar gyfer Cymru ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Mae gan y Cynulliad Cenedlaethol 60 o Aelodau Cynulliad a etholir gan bobl Cymru.

Mae Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Comisiwn y Cynulliad) yn gwasanaethu’r Cynulliad Cenedlaethol i feithrin sefydliad democrataidd cryf, hygyrch a blaengar, a deddfwrfa sy’n darparu’n effeithiol ar gyfer pobl Cymru.

Mae Comisiwn y Cynulliad wedi cytuno i gyflwyno deddfwriaeth newydd er mwyn rhoi dyletswyddau’r Cynulliad Cenedlaethol a Chomisiwn y Cynulliad yng nghyswllt darparu gwasanaethau dwyieithog ar sail statudol gadarn, ac i gyflwyno Cynllun Gwasanaethau Dwyieithog newydd o fewn y fframwaith deddfwriaethol arfaethedig.

Bydd Comisiwn y Cynulliad yn ymgynghori’n gyhoeddus ar Fil (Drafft) Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) ac ar y Cynllun Gwasanaethau Dwyieithog drafft yn ystod yr haf ac yn gynnar yn yr hydref. Disgwylir i fersiynau drafft y Bil a’r Cynllun fod yn barod i’w hystyried gan y Cynulliad Cenedlaethol cyn diwedd y flwyddyn.

Fe’ch gwahoddir drwy gyfrwng y llythyr hwn, felly, i gyfrannu at yr ymgynghoriad cyn y broses ddeddfu ar Fil (Drafft) Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) ac ar y Cynllun Gwasanaethau Dwyieithog drafft. Yn benodol, byddem yn croesawu’ch sylwadau ar y cwestiynau a welir yn y dogfennau ymgynghori a ddarperir.

1. Cefndir

Mae gan Gomisiwn y Cynulliad ddyletswydd i sicrhau bod gan y Cynulliad Cenedlaethol y cyfleusterau i sicrhau bod trafodion y Cynulliad a’i ymgysylltiad â’r cyhoedd yn gallu digwydd yn ddwyieithog, a hynny mewn modd effeithiol. Yn Neddf Llywodraeth Cymru, nodir y ddyletswydd hon yn adran 35(1) yng nghyswllt gwaith y Cynulliad Cenedlaethol, ac ym mharagraff 8(3) yn Atodlen 2 yng nghyswllt dyletswyddau Comisiwn y Cynulliad. Dywed y Ddeddf:

 “The Assembly must, in the conduct of Assembly proceedings, give effect so far as is both appropriate in the circumstances and reasonably practicable, to the principle that the English and Welsh languages should be treated on a basis of equality.  

“In the exercise of the functions of the Assembly Commission effect must be given, so far as is both appropriate in the circumstances and reasonably practicable, to the principle that the English and Welsh languages should be treated on a basis of equality.”

Esbonnir y modd y mae Comisiwn y Cynulliad yn darparu gwasanaethau dwyieithog yng Nghynllun Iaith Gymraeg y Cynulliad Cenedlaethol. Daeth y Cynllun cyfredol i ben ym mis Gorffennaf 2011. Mae Comisiwn y Cynulliad wedi bod yn adolygu’r cynnwys ac yn ystyried newidiadau yn sgîl argymhellion yr Adolygiad Annibynnol o Wasanaethau Dwyieithog, profiadau’r Trydydd Cynulliad, arferion da yn rhyngwladol, a Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf 2011, cytunodd Comisiwn y Cynulliad i gyflwyno deddfwriaeth newydd a fyddai’n rhoi dyletswyddau’r Cynulliad Cenedlaethol a Chomisiwn y Cynulliad yng nghyswllt darparu gwasanaethau dwyieithog ar sail statudol gadarn.

2. Bil Drafft Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol)

Beth yw Bil?

Bil yw cyfraith arfaethedig. Unwaith fydd Bil wedi’i basio gan y Cynulliad Cenedlaethol ac wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol, daw yn Ddeddf Cynulliad. Gall y Cynulliad Cenedlaethol wneud Deddfau yn ymwneud ag unrhyw Bwnc a restrir yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Yn gyffredinol, dilynir proses ag iddi bedwar cam wrth ystyried Bil. Gellir cael rhagor o fanylion am Filiau a Deddfau Cynulliad ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol, drwy ddilyn y linc yma: http://nafwcy.method4.co.uk/bus-home/bus-legislation/bus-legislation-bills.htm

Gwaith craffu cyn y broses ddeddfu

Mae’r arfer gorau wrth ddeddfu yn gofyn am waith craffu cyn y broses ddeddfu, er enghraifft, caniatáu i’r cyhoedd wneud sylwadau am y Bil drafft hyd yn oed cyn y caiff ei gyflwyno’n ffurfiol i’w ystyried gan y Cynulliad Cenedlaethol. Mae hyn yn galluogi diwygio’r Bil ar sail y sylwadau a wneir gan y cyhoedd, fel bod gan y Bil, pan gaiff ei gyflwyno, y gefnogaeth fwyaf bosibl gan y cyhoedd, a bod y drafftio o’r safon gorau posibl.

Beth a wna’r Bil?

Mae’r cynigion deddfwriaethol yn canolbwyntio ar ddiwygio ac ehangu’r darpariaethau yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 sy’n ymwneud â thriniaeth gyfartal i’r Gymraeg a’r Saesneg gan y Cynulliad Cenedlaethol a Chomisiwn y Cynulliad. Byddai’r ddeddfwriaeth arfaethedig yn diweddaru’r darpariaethau fel a ganlyn:

-       byddai datganiad clir a syml, sydd wedi’i fodelu ar y datganiadau a wneir mewn deddfwrfeydd dwyieithog eraill ac sydd hefyd yn gyson ag amcanion Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, yn nodi bod y ddwy iaith yn ieithoedd swyddogol y Cynulliad Cenedlaethol ac y dylid eu trin yn gyfartal;

-       byddai hawl unigolion sy’n cymryd rhan yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol (yn dystion ac Aelodau) i wneud hynny yn y naill iaith neu’r llall yn cael ei nodi ar wyneb y Ddeddf (eto yn unol â’r arfer mewn deddfwrfeydd dwyieithog eraill);

-       byddai gan Gomisiwn y Cynulliad ddyletswydd i wneud y trefniadau ymarferol a fyddai’n galluogi’r Cynulliad Cenedlaethol i weithredu’n ddwyieithog (e.e. drwy ddarparu’r cyfleusterau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd angenrheidiol), a dyletswydd i drin y ddwy iaith yn gyfartal wrth gynnal ei waith ei hun;

-       byddai’r manylion yn nodi sut fyddai Comisiwn y Cynulliad yn galluogi’r Cynulliad Cenedlaethol i gydymffurfio â’r ddyletswydd i drin y ddwy iaith yn gyfartal, a sut fyddai Comisiwn y Cynulliad ei hun yn gweithredu’n ddwyieithog, yn cael eu cynnwys mewn Cynllun Gwasanaethau Dwyieithog;

-       byddai angen i’r Cynllun, ar y cyd â phethau eraill, nodi’r trefniadau ar gyfer cyfieithu dogfennau ac ar gyfer cyfieithu ar y pryd;

-       byddai angen nodi mecanwaith yn y Cynllun i ddelio gyda chwynion yn ymwneud ag unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio â’r Cynllun, boed yn gwynion gan Aelodau neu’r cyhoedd;

-       bydd angen i Gomisiwn y Cynulliad ymgynghori gydag Aelodau’r Cynulliad a chyda’r cyhoedd ar gynnwys y Cynllun drafft, a bydd angen i’r Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo’r Cynllun terfynol; a

-       wedi iddo gael ei fabwysiadu, gellid adolygu’r Cynllun o dro i dro. Byddai unrhyw newidiadau yn destun ymgynghori a chymeradwyaeth gan y Cynulliad Cenedlaethol yn yr un modd â’r Cynllun ei hun.

Gellir gweld cwestiynau’r ymgynghoriad a gwybodaeth am fanylion Bil Drafft Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) & gellir gweld copi o’r Bil drafft

3. Cynllun Gwasanaethau Dwyieithog Drafft

Bwriedir i’r Cynllun Gwasanaethau Dwyieithog drafft gael ei baratoi yn unol â’r paragraff 8(3) newydd arfaethedig yn Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ac mae’n nodi sut mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu darparu gwasanaethau dwyieithog i Aelodau’r Cynulliad ac i’r cyhoedd. Mae’n ymdrin â:

  • dyhead y Cynulliad Cenedlaethol i fod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog sy’n galluogi Aelodau’r Cynulliad a staff i weithio yn y ddwy iaith;

  • trefniadau dwyieithog ar gyfer paratoi ar gyfer trafodion y Cynulliad Cenedlaethol yn y Cyfarfod Llawn ac mewn pwyllgorau, ac ar gyfer eu cynnal a’u cofnodi; ac â,

  • chyfathrebu dwyieithog â’r cyhoedd gyda’r bwriad o annog pobl i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd.

Bydd unrhyw gyfathrebu rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a’r cyhoedd yng Nghymru sydd heb ei ddisgrifio’n benodol yma yn cael ei wneud mewn modd sy’n gyson ag egwyddorion cyffredinol y Cynllun hwn ac fel y’i nodir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006.

Gellir gweld cwestiynau’r ymgynghoriad ar y Cynllun Gwasanaethau Dwyieithog drafft & gellir gweld copi o’r Cynllun drafft

4. Cyflwyno Tystiolaeth

Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig at GwasanaethauDwyieithog@cymru.gov.uk gan ddefnyddio’r teitl canlynol yn eich neges e-bost: Ymgynghoriad—Gwasanaethau Dwyieithog. 

Fel arall, gallwch ysgrifennu at: Rheolwr y Cynllun Gwasanaethau Dwyieithog, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA

Dylai tystiolaeth ddod i law erbyn 14 Hydref 2011. Efallai na fydd modd inni ystyried ymatebion a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn.

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am y broses ddeddfwriaethol yma

Dylech gadw’r canlynol mewn cof wrth baratoi tystiolaeth:

-       Hoffem gael eich atebion i’r cwestiynau penodol yn y dogfennau ymgynghori. Fodd bynnag, os hoffech wneud sylwadau ychwanegol perthnasol i’r cynigion, gallwch wneud hynny.

-       Bydd y Cynulliad Cenedlaethol fel rheol yn sicrhau bod ymatebion i ymgynghoriad cyhoeddus ar gael yn gyhoeddus, ac efallai y cânt eu gweld a’u trafod gan Aelodau’r Cynulliad mewn cyfarfodydd pwyllgor;

-       Os nad ydych am i’ch ymateb na’ch enw gael eu cyhoeddi, mae’n bwysig eich bod chi’n nodi hynny’n glir wrth gyflwyno’r dystiolaeth. Dylech hefyd wybod y gallai’r wybodaeth a gyflwynir gennych wrth ymateb i’r ymgynghoriad, gael ei chyhoeddi neu ei datgelu yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. O ganlyniad, byddai’n ddefnyddiol pe bai modd ichi esbonio pam yr ystyriwch fod y wybodaeth a gyflwynwyd gennych yn gyfrinachol. Os derbyniwn gais sy’n gofyn am weld y wybodaeth honno, byddwn yn rhoi ystyriaeth lawn i’ch esboniad, ond ni allwn warantu y bydd modd cynnal cyfrinachedd ym mhob achos; a,

-       gofynnwn ichi nodi ai ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad yr ydych; a,

-       gofynnwn ichi nodi pa un a fyddech yn barod i roi tystiolaeth lafar i bwyllgor ai peidio.

Mae Comisiwn y Cynulliad yn croesawu cyfraniadau yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Caiff yr ymatebion i’r ymgynghoriad ysgrifenedig eu hystyried yn yr hydref.

Os oes gennych gwestiynau pellach, e-bostiwch GwasanaethauDwyieithog@cymru.gov.uk

Yn gywir,

Rhodri Glyn Thomas AC

Comisynydd y Cynulliad sy’n gyfrifol am yr Iaith Gymraeg

Partners & Help