Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Gwahodd sylwadau ar y cynllun drafft ar gyfer gwasanaethau dwyieithog

Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad Cenedlaethol) yw’r corff sy’n cael ei ethol yn ddemocrataidd i gynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, i ddeddfu ar gyfer Cymru ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Mae’n cynnwys 60 o Aelodau a etholwyd gan bobl Cymru.

Mae Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol (Comisiwn y Cynulliad) yn gwasanaethu’r Cynulliad Cenedlaethol i feithrin sefydliad democrataidd cryf, hygyrch a blaengar a deddfwrfa sy’n darparu’n effeithiol ar gyfer pobl Cymru.

Cefndir

Fel prif sefydliad democrataidd Cymru, mae gan y Cynulliad Cenedlaethol ddyletswydd i alluogi pob dinesydd a phob Aelod Cynulliad i fod yn wybodus am y broses ddemocrataidd, ac i gyfrannu at y broses honno’n llawn, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Drwy ddarparu gwasanaethau dwyieithog, mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn ceisio bod yn sefydliad wirioneddol ddwyieithog.

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn datgan:

“The Assembly must, in the conduct of Assembly proceedings give effect, so far as is both appropriate in the circumstances and reasonably practicable, to the principle that the English and Welsh languages should be treated on a basis of equality”.

ac,

“In the exercise of the functions of the Assembly Commission effect must be given, so far as is reasonably practicable, to the principle that the English and Welsh languages should be treated on a basis of equality”.

Hyd yn hyn, mae dyletswyddau’r Cynulliad Cenedlaethol a Chomisiwn y Cynulliad o ran darparu gwasanaethau dwyieithog wedi’u modelu ar Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. O dan y fframwaith deddfwriaethol hwn, datblygodd Comisiwn y Cynulliad Gynllun Iaith Gymraeg ar gyfer y Trydydd Cynulliad. Disodlwyd Deddf yr Iaith Gymraeg gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Yn unol ag egwyddorion cyfansoddiadol sylfaenol, nid yw’r Cynulliad Cenedlaethol na Chomisiwn y Cynulliad yn ddarostyngedig i drefniadau cyfreithiol newydd y Mesur.

Gyda hynny mewn golwg, yn ystod ei gyfarfod ym mis Gorffennaf 2011, cytunodd Comisiwn y Cynulliad i gynnig Bil newydd, sef Bil (Drafft) Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol), er mwyn sicrhau bod dyletswyddau’r Cynulliad Cenedlaethol a Chomisiwn y Cynulliad ar sail statudol gadarn.

Mae’r Bil drafft yn datgan bod yn rhaid i Gomisiwn y Cynulliad, gyda chytundeb y Cynulliad Cenedlaethol, fabwysiadu a chyhoeddi cynllun, a gaiff ei alw’n Gynllun Gwasanaethau Dwyieithog, sy’n nodi’r mesurau y mae’n cynnig eu rhoi ar waith er mwyn cydymffurfio a’i ddyletswyddau yn y maes hwn.

Mae Comisiwn y Cynulliad wedi paratoi Cynllun Gwasanaethau Dwyieithog drafft, a hoffai eich gwahodd i roi sylwadau ar gynnwys y cynllun. Yna, bydd yn rhaid i’r Cynulliad Cenedlaethol ystyried a cymeradwyo’r cynllun, fel y’i diwygir yn sgil yr ymgynghoriad hwn.


Byddai Comisiwn y Cynulliad yn arbennig o ddiolchgar i glywed eich barn am y materion a ganlyn:

a)           A ydych yn cytuno y dylai’r manylion ynghylch sut y bydd yr egwyddor o ddwyieithrwydd yn cael ei wireddu’n ymarferol gael eu gosod allan mewn cynllun gwasanaethau dwyieithog a gaiff ei baratoi gan Gomisiwn y Cynulliad a’i gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol?

b)           Os nad ydych yn cytuno â hyn, sut ddylai’r manylion ynghylch y modd y bydd dwyieithrwydd yn cael ei wireddu yn y Cynulliad Cenedlaethol gael eu diffinio?

c)           Beth yw eich barn chi ar ddull cyffredinol y cynllun o fynd i’r afael a’r mater hwn?

d)           Pa ddulliau amgen y dylid eu mabwysiadu, os o gwbl?

e)           Beth yw eich barn chi am y gwasanaethau dwyieithog y byddwn yn eu darparu i aelodau’r cyhoedd, yn unol â chynigion y cynllun?

f)            A ydym wedi cynnig ffyrdd priodol a digonol i’r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod y sawl sydd am gyfathrebu â ni yn Gymraeg yn cael eu trin mewn modd teg?

g)           Yn eich barn chi, a oes unrhyw bwyntiau ychwanegol na chafodd eu cwmpasu gan y cynllun drafft?

h)           A oes gennych unrhyw sylwadau pellach i’w gwneud ynghylch y cynllun a sut y caiff ei weithredu?

Gallwch gyflwyno sylwadau tan 14 Hydref 2011. Dylid anfon sylwadau ysgrifenedig at y cyfeiriad a ganlyn:

GwasanaethauDwyieithog@cymru.gov.uk

Rebecca Spiller
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Tŷ Hywel
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA

Partners & Help