Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Ymgynghoriad ar Fil (Drafft) Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol)

1.           Mae Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Comisiwn y Cynulliad) am geisio barn y cyhoedd ac Aelodau’r Cynulliad ar gynnig i ddiweddaru’r fframwaith cyfreithiol sy’n llunio’r ffordd y mae’r Cynulliad Cenedlaethol a Chomisiwn y Cynulliad yn gweithredu’n ddwyieithog drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Er mwyn gwneud hynny, mae Comisiwn y Cynulliad yn cyhoeddi Bil drafft Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) sy’n amlinellu sut y gellir cyflawni hyn. Mae’r ddogfen hon yn:

  • rhoi esboniad byr o’r cefndir i’r Bil drafft;

  • esbonio ei ddarpariaethau; a,

  • thynnu sylw at nifer o nodweddion penodol yn y Bil drafft y bydd y cyhoedd (ac Aelodau’r Cynulliad) yn dymuno rhoi sylwadau arnynt (er, wrth reswm, gellir rhoi sylwadau ar bob agwedd ar y cynnig).

Cyflwyniad

2.           Sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad Cenedlaethol) yn wreiddiol dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998. Gwnaethpwyd diwygiadau mawr i’w strwythur a’i bwerau gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (“Deddf 2006”). Ymhlith y diwygiadau hyn oedd sefydlu Comisiwn y Cynulliad fel corff (ag iddo statws cyfreithiol ar wahân i’r Cynulliad Cenedlaethol ei hun) i fod yn gyfrifol am ddarparu eiddo, staff a gwasanaethau at ddibenion y Cynulliad Cenedlaethol. 

3.           Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn gwasanaethu cymuned ddwyieithog. Yn ôl cyfrifiad 2001, roedd 21% o boblogaeth Cymru’n gallu siarad Cymraeg (yn uwch na’r 18.5% yn 1991) ac mae llawer o siaradwyr Cymraeg yn awyddus i ddefnyddio’r iaith gymaint â phosibl, nid yn unig fel rhan o’u bywyd cymdeithasol, ond ar gyfer busnes, wrth gael mynediad at y cyfryngau ac wrth gyfathrebu â llywodraeth, gan gynnwys y Cynulliad Cenedlaethol. Mae llawer o Aelodau’r Cynulliad, yn ogystal â phobl sy’n rhoi tystiolaeth i bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol, yn awyddus i ddefnyddio’r iaith yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol.   

4.           Mae’r egwyddor y dylai’r Cynulliad Cenedlaethol a Chomisiwn y Cynulliad weithredu yn unol ag anghenion cymuned ddwyieithog wedi’i gorffori yn y fframwaith sy’n llunio’r ffordd y mae’r ddau yn gweithio.

Deddfwriaeth bresennol

5.           Mae Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (“Deddf 1998”) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cynulliad Cenedlaethol:

“in the conduct of its business (to) give effect, so far as is both appropriate in the circumstances and reasonably practicable, to the principle that the English and Welsh languages should be treated on a basis of equality.”

6.           O dan Ddeddf 1998, roedd y Cynulliad Cenedlaethol yn gorff y goron ac, felly, i raddau cyfyngedig, yn destun darpariaethau Rhan 2 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 2003 a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i rai cyrff cyhoeddus  baratoi cynllun iaith Gymraeg a’i gyflwyno i Fwrdd yr Iaith Gymraeg i’w gymeradwyo (neu, yn achos cyrff y goron, benderfynu’n wirfoddol i wneud hynny).

7.           Roedd Deddf 2006 yn ailddatgan y ddyletswydd a roddwyd ar y Cynulliad Cenedlaethol gan Ddeddf 1998, er bod y cyfeiriad at “drafodion” y Cynulliad Cenedlaethol yn hytrach na “busnes” y Cynulliad Cenedlaethol yn adlewyrchu’r ffaith mai corff seneddol yn unig oedd y Cynulliad Cenedlaethol bellach. Mae adran 35(1) o Ddeddf 2006 -

“(1)    The Assembly must, in the conduct of Assembly proceedings, give effect, so far as is both appropriate in the circumstances and reasonably practicable, to the principle that the English and Welsh languages should be treated on a basis of equality.”

8.           Mae hefyd yn gosod dyletswydd gyfochrog ar Gomisiwn y Cynulliad newydd (paragraff 8(3) o Atodlen 2 i Ddeddf 2006) –

“(3)    In the exercise of the functions of the Assembly Commission effect must be given, so far as is both appropriate in the circumstances and reasonably practicable, to the principle that the English and Welsh languages should be treated on a basis of equality.”

9.           Yn yr achosion hyn i gyd, cafodd y ddyletswydd ei geirio er mwyn adlewyrchu darpariaethau Deddf 1993, sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddangos sut mae cyrff cyhoeddus yn cynnig gweithredu’r egwyddor:

“so far as is both appropriate in the circumstances and reasonably practicable, to the principle that in the conduct of public business and the administration of justice in Wales the English and Welsh languages should be treated on a basis of equality.”

10.       Bellach, mae’r gyfraith mewn perthynas â’r Gymraeg wedi symud ymlaen. Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”), a ddaeth yn gyfraith ar 9 Chwefror 2011 (ond a fydd yn dod i rym drwy gyfrwng gorchmynion cychwyn gan Weinidogion Cymru), yn diddymu Deddf 1993 a chyfundrefn y cynlluniau iaith, ac yn eu lle yn cyflwyno “safonau” a gaiff eu gosod gan Weinidogion ac y gellir eu gorfodi yn y llysoedd gan Gomisiynydd y Gymraeg. Mae’r Mesur hefyd yn cael gwared ar Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Yn unol ag egwyddorion cyfansoddiadol sylfaenol nid yw naill ai’r Cynulliad Cenedlaethol ei hun na Chomisiwn y Cynulliad yn destun y trefniadau newydd hyn sy’n cael eu goruchwylio gan Weinidogion. Yn hytrach, maent yn parhau’n destun y dyletswyddau o dan Ddeddf 2006 (gweler paragraffau 7 ac 8 uchod).

11.       Ers ei sefydlu, mae’r ffordd y mae’r Cynulliad Cenedlaethol (gyda chefnogaeth y cyfleusterau a ddarperir gan Gomisiwn y Cynulliad) yn cyflawni ei ddyletswydd bresennol wedi bod yn destun cynllun iaith Gymraeg ar ffurf y rhai a baratowyd gan gyrff cyhoeddus dan Ddeddf 1993, yn unol â’r canllawiau a roddwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac a gymeradwywyd gan y Bwrdd. Mae diddymu’r Bwrdd yn golygu na fydd parhau â’r dull hwn yn ddewis a fydd ar gael i’r Cynulliad Cenedlaethol a Chomisiwn y Cynulliad.

Darpariaeth ddwyieithog

12.       Yn unol â’r dyletswyddau cyfreithiol a amlinellir uchod, mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal ei drafodion yn Gymraeg a Saesneg yn y Cyfarfod Llawn ac yn ei bwyllgorau, gyda chyfieithu ar y pryd i Saesneg o’r cyfraniadau llafar a wneir yn Gymraeg. Caiff cofnod ysgrifenedig o’r trafodion eu cyhoeddi, gyda thrawsgrifiad o bob cyfraniad yn yr iaith y’i gwneir. Yn ogystal, caiff cyfraniadau a wneir yn Gymraeg eu cyfieithu i’r Saesneg. Caiff agendâu ac adroddiadau eu paratoi a’u cyhoeddi’n ddwyieithog. Caiff deddfwriaeth y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ddwyieithog. Caiff deunyddiau sy’n esbonio gwaith y Cynulliad Cenedlaethol i’r cyhoedd, yn cynnwys deunyddiau ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol, eu cyhoeddi’n ddwyieithog. Caiff staff y mae’n well ganddynt wneud cymaint â phosibl o’u gwaith yn Gymraeg eu hannog i wneud hynny ac mae cefnogaeth ymarferol eang ar gael i’r rhai sydd am ddysgu Cymraeg neu ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg. 

Pam mae angen rhagor o ddeddfwriaeth?

13.       Cafodd penderfyniad Comisiwn y Cynulliad i edrych ar y fframwaith deddfwriaethol sy’n pennu’r ffyrdd y caiff gwasanaethau dwyieithog eu darparu gan y Cynulliad Cenedlaethol a Chomisiwn y Cynulliad ei ysgogi gan waith y Panel Adolygu Annibynnol ar Wasanaethau Dwyieithog (“y Panel Adolygu”) a sefydlwyd ym mis Medi 2009 ac a gyflwynodd ei adroddiad ym mis Mai 2010. Roedd sefydlu’r panel ynddo’i hun yn ymateb ar ran Comisiwn y Cynulliad i’r dadleuon a godwyd yn sgil ei benderfyniad i gyfyngu cyfieithu’r cofnod o drafodion y Cyfarfod Llawn i gyfieithiad o Gymraeg i Saesneg yn unig.

14.       Er nad oedd darpariaethau deddfwriaethol manwl yn rhan o gylch gwaith penodol y Panel Adolygu, roedd ei argymhellion, a oedd yn cyfeirio at ddarparu gwasanaethau dwyieithog, wedi’u drafftio mewn ffordd a fyddai’n galluogi’r Cynulliad Cenedlaethol a Chomisiwn y Cynulliad i weithredu o fewn unrhyw fframwaith deddfwriaethol a oedd mewn grym. Serch hynny, teimlai’r Panel Adolygu y dylid datgan “ei bod hi’n werth ymchwilio ymhellach i rinweddau Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd)”. Roedd y farn hon yn seiliedig ar dystiolaeth a roddwyd gerbron y Panel Adolygu ynghylch y ffordd y mae dyletswyddau o ran darpariaeth ddwyieithog wedi’u diffinio mewn gwledydd dwyieithog neu amlieithog eraill fel Canada, Iwerddon a’r Swistir. 

15.       Ystyriodd Comisiwn y Cynulliad hefyd y ffaith fod y fframwaith deddfwriaethol presennol, oherwydd y rhesymau a esboniwyd eisoes, bellach wedi dyddio. Mae ei iaith yn seiliedig ar Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, sydd bellach wedi’i disodli gan Fesur y Gymraeg 2011, ac mae’n adlewyrchu dull o weithredu’r ddyletswydd i weithio’n ddwyieithog na chaiff ei gyfleu mewn ffordd sy’n briodol i sefydliad seneddol sydd â’r statws sydd gan y Cynulliad Cenedlaethol bellach.

16.       Mae’r ffyrdd y mae’r Bil drafft yn ymateb i’r materion hyn yn cael eu hesbonio isod, drwy gyfeirio at y newidiadau penodol i’r gyfraith y byddai’r Bil yn eu gwneud.

Y Bil drafft

17.       Mae’r Bil drafft yn diwygio'r darpariaethau presennol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 sy’n amlinellu dyletswyddau cyffredinol y Cynulliad Cenedlaethol a Chomisiwn y Cynulliad mewn perthynas â’r defnydd o’r Gymraeg (adran 35(1) ac Atodlen 2 paragraff 8(3) - gweler paragraffau 7 ac 8 uchod). Mae’r tabl yn yr Atodiad yn cymharu geiriad presennol y darpariaethau hyn â’r rhai a gynigir gan y Bil drafft.

Adran 1

18.       Mae’r adran hon yn disodli adran 35(1) o Ddeddf 2006 ac yn cyflwyno pedair isadran newydd yn ei lle.

19.       Mae is-adran (1) newydd yn cynnwys datganiad clir a syml mai’r Gymraeg a’r Saesneg yw ieithoedd swyddogol y Cynulliad Cenedlaethol. Mae’r dull hwn yn adleisio’r dull sydd wedi’i fabwysiadu mewn deddfwriaeth sy’n llywodraethu deddfwrfeydd dwyieithog eraill (ee Deddf Ieithoedd Swyddogol New Brunswick 2002, adran 6: “English and French are the official languages of the Legislature”).

20.       Mae is-adran (1A) yn ail-ddatgan, ar ffurf addasedig, yr egwyddor sydd ar hyn o bryd yn adran 35(1). Mae’r newid yn y ffordd y caiff y ddyletswydd ei mynegi, sy’n cyfeirio’n syml at ddyletswydd i drin yr ieithoedd “ar y sail eu bod yn gyfartal”, yn adleisio newid cyfochrog a wnaed gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (gweler adran 1(3) (a) “…enactments which…require the Welsh and English languages to be treated on the basis of equality in the conduct of the proceedings of the National Assembly for Wales”).   

21.       Mae is-adran (1B) eto’n adlewyrchu’r arfer mewn deddfwriaethau dwyieithog eraill o roi’r hawl i ddefnyddio’r ddwy iaith yn glir ar wyneb y ddeddfwriaeth berthnasol (gweler Deddf Ieithoedd Swyddogol New Brunswick 2002, adran 6: “…and everyone has the right to use either language in any debate and other proceedings of the Legislative Assembly or its Committees.” ) Mae’r is-adran hon hefyd yn ei gwneud yn glir fod yr hawl i ddefnyddio’r Gymraeg neu’r Saesneg yn ymestyn nid yn unig i Aelodau’r Cynulliad, ond i eraill sy’n cymryd rhan mewn trafodion, ee tystion sy’n rhoi tystiolaeth i bwyllgorau. (Mae hyn yn cyd-daro â’r arfer presennol ond nid yw hynny wedi’i nodi’n benodol yn y ddeddfwriaeth.)

22.       Gall y Cynulliad Cenedlaethol ond cydymffurfio â’r dyletswyddau yn is-adrannau (1A) ac (1B) i’r graddau y mae Comisiwn y Cynulliad yn darparu’r staff a chyfleusterau eraill er mwyn i’r Cynulliad Cenedlaethol wneud hynny. Mae is-adran (1C) yn cyfeirio at Atodlen 2, paragraff 8, sy’n cynnwys y dyletswyddau perthnasol ar ran Comisiwn y Cynulliad.

Adran 2

23.       Mae’r adran hon yn disodli is-baragraff 8(3) o Atodlen 2 i Ddeddf 2006 ac yn cyflwyno saith is-baragraff newydd yn ei lle sy’n cynnwys darpariaethau manwl sy’n diffinio dyletswyddau Comisiwn y Cynulliad mewn perthynas â’r defnydd o’r Gymraeg a’r Saesneg, gan gynnwys cefnogaeth gan Gomisiwn y Cynulliad i alluogi’r Cynulliad Cenedlaethol i gyflawni ei ddyletswyddau dan adran 35(1), (1A) ac (1B) o Ddeddf 2006 (fel y’i diwygiwyd).

24.       Mae is-baragraff (3) newydd yn ei gwneud yn ofynnol i Gomisiwn y Cynulliad drin y ddwy iaith ar y sail eu bod yn gyfartal. Mae hyn yn ailddatgan, ar ffurf addasedig, y ddyletswydd yn yr is-baragraff (3) presennol. Fodd bynnag, at hynny, mae’r is-baragraff newydd yn ei gwneud yn ofynnol i Gomisiwn y Cynulliad wneud trefniadau ar gyfer galluogi’r Cynulliad Cenedlaethol i gyflawni ei ddyletswyddau dan adran 35 (fel y’i diwygiwyd).

25.       Mae’r is-baragraffau newydd eraill yn ategu’r dyletswyddau dan is-baragraff (3) drwy ddarparu dull o sicrhau cydymffurfiad effeithiol â’r dyletswyddau hynny.

26.       Y dull hwnnw fydd Cynllun Gwasanaethau Dwyieithiog a fydd yn pennu’r camau y mae Comisiwn y Cynulliad yn bwriadu eu cymryd er mwyn cydymffurfio â’r dyletswyddau dan is-baragraff (3). Mae is-baragraffau (4), (7) ac (8) yn ymdrin â’r broses o baratoi, mabwysiadu ac adolygu’r Cynllun. Bydd rhaid cyhoeddi drafft o’r Cynllun a’i osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol, a bydd angen i Gomisiwn y Cynulliad ystyried sylwadau a gyflwynir gan aelodau’r cyhoedd a’r Cynulliad Cenedlaethol (er enghraifft, adroddiad unrhyw bwyllgor Cynulliad y gofynnir iddo ystyried y Cynllun drafft). Bydd angen i’r Cynllun wedyn (fel y’i diwygir yn sgil y broses ymgynghori hon) gael ei gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.

27.       Ar hyn o bryd, bydd y Bil drafft yn ei gwneud yn ofynnol i Gomisiwn y Cynulliad adolygu’r Cynllun, a’i ddiwygio os oes angen, unwaith bob pedair blynedd. Y bwriad yw y dylid adolygu’r Cynllun unwaith yn ystod pob tymor Cynulliad Cenedlaethol o bedair blynedd. Fodd bynnag, yn dilyn cyflwyno tymhorau pum mlynedd sefydlog ar gyfer Tŷ’r Cyffredin, bydd tymor presennol y Cynulliad Cenedlaethol yn para pum mlynedd, ac nid yw’n glir ar hyn o bryd beth fydd hyd tymhorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn y dyfodol. Felly, bydd angen ailystyried y ddyletswydd arfaethedig i gynnal adolygiad o leiaf bob pedair blynedd yn wyneb y newidiadau hyn.

28.       Bydd y darpariaethau hyn yn ei gwneud yn glir y bydd Comiswn y Cynulliad yn atebol am ei wasanaethau dwyieithog yn uniongyrchol i Gynulliad Cenedlaethol (ac, felly, i’r cyhoedd) yn hytrach nag i Gomisiynydd y Gymraeg a Gweinidogion Cymru fel yn achos cyrff cyhoeddus y gosodir safonau arnynt dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

29.       Mae is-baragraff (8) yn ei gwneud yn glir y gall Comisiwn y Cynulliad fabwysiadu Cynllun sydd wedi cydymffurfio â gofynion y Ddeddf wrth ei baratoi hyd yn oed os cafodd y camau angenrheidiol eu cymryd cyn i’r Ddeddf ddod i rym. Bydd hyn yn galluogi i unrhyw adolygiad o’r Cynllun Iaith Gymraeg presennol gael ei fabwysiadu fel y Cynllun Gwasanaethau Dwyieithog er bod y gwaith o’i baratoi ac ymgynghori arno wedi cychwyn cyn i’r Ddeddf arfaethedig ddod i rym.

30.       Mae is-baragraffau (5) a (6) yn ymdrin â rhai (ond nid â phob un) o’r materion y bydd angen i’r Cynllun fynd i’r afael â hwy; yn benodol, cyfieithu ar y pryd yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol a chyhoeddi dogfennau’n ddwyieithog.

31.       Mae is-baragraff (6) yn ei gwneud yn glir nad yw’r Ddeddf o angenrheidrwydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cynllun ddarparu cyfieithu ysgrifenedig a chyfieithu ar y pryd o’r Saesneg i’r Gymraeg yn ogystal ag o’r Gymraeg i’r Saesneg ym mhob sefyllfa. Felly, gall y Cynllun gyfyngu ar ei ddarpariaeth cyfieithu ar y pryd drwy gyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg yn unig (hyn fu’r arfer ers sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol). Mae’r ddarpariaeth hon yn adlewyrchu’r hyn sydd yn Neddf Ieithoedd Swyddogol Iwerddon 2002 (adran 6(3)): “Every official report of the debates and other proceedings of the Houses of the Oireachtas shall be published in each of the official languages, except that contributions (whether oral or in writing) in either of the official languages by persons may be published therein solely in that language.”

32.       Mae is-baragraff (9) yn ei gwneud yn glir, unwaith y caiff y Cynllun ei fabwysiadu’n ffurfiol, bod dyletswydd ar Gomisiwn y Cynulliad i’w weithredu.    

Adran 3

33.       Mae’r adran hon yn cynnwys enw’r ddeddfwriaeth ac yn nodi y daw i rym y diwrnod ar ôl y bydd y Bil yn cael Cydsyniad Brenhinol.

Materion y croesewir sylwadau arnynt

a)           A ydych yn cytuno bod angen diweddaru’r fframwaith cyfreithiol mewn perthynas â safonau’r ddarpariaeth ddwyieithog yng ngwaith y Cynulliad Cenedlaethol?

b)           Beth yw eich barn ar ddull cyffredinol y Bil, sef y dylid cynnwys datganiadau clir ynglŷn â statws y Gymraeg a’r Saesneg yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol ac yn swyddogaethau Comisiwn y Cynulliad ar wyneb Deddf Llywodraeth Cymru 2006?

c)           A ydych yn cytuno y dylai’r datganiadau hyn ei gwneud yn glir fod y Gymraeg a’r Saesneg yn ieithoedd swyddogol y Cynulliad Cenedlaethol ac y dylid eu trin ar y sail eu bod yn gyfartal?

d)           Os na, pa ddull amgen ddylid ei fabwysiadu?

e)           A ydych yn cytuno y dylai manylion y modd y dylid cyflawni’r egwyddor o ddwyieithrwydd yn ymarferol gael eu cynnwys mewn Cynllun Gwasanaethau Dwyieithog i’w baratoi gan Gomisiwn y Cynulliad?

f)            Os na, drwy ba ffyrdd eraill y dylid diffinio’r manylion am sut y caiff dwyieithrwydd ei gyflawni yn y Cynulliad Cenedlaethol?

g)           A ydych yn cytuno y dylai Comisiwn y Cynulliad, wrth lunio a gweithredu’r Cynllun, fod yn atebol i’r Cynulliad Cenedlaethol?

h)           A ddylai Comisiwn y Cynulliad fod yn atebol i unrhyw un arall, naill ai yn ogystal â bod yn atebol i’r Cynulliad Cenedlaethol neu ar wahân i’r Cynulliad Cenedlaethol?

i)            A ddylai’r bylchau rhwng cyfnodau adolygu’r Cynllun Gwasanaethau Dwyieithog gael eu cysylltu â phob tymor Cynulliad Cenedlaethol (p’un ai yw’r tymor yn un pedair neu bum mlynedd)?

j)            Os na, pa mor aml ddylid ei adolygu?

k)           A oes gennych unrhyw sylwadau ar ddarpariaethau manwl y Bil drafft?

ATODIAD

Cymhariaeth o ddarpariaethau presennol Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a’u ffurf ddiwygiedig dan y Bil drafft

Deddf 2006 (presennol)

Deddf 2006 (arfaethedig)

                                                Adran 35

(1)  Rhaid i’r Cynulliad weithredu’r egwyddor y dylid trin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal wrth gynnal trafodion y Cynulliad, cyhyd ag y bo hynny’n briodol dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol.

(1)      Y Gymraeg a’r Saesneg yw ieithoedd swyddogol y Cynulliad.

(1A) Wrth gynnal trafodion y Cynulliad, rhaid trin yr ieithoedd swyddogol ar y sail eu bod yn gyfartal.

(1B) Caiff unrhyw berson ddefnyddio’r naill iaith neu’r llall wrth gymryd rhan yn nhrafodion y Cynulliad.

(1C) Mae paragraff 8 o Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â sut y mae’n rhaid i Gomisiwn y Cynulliad weithredu is-adrannau (1), (1A) a (1B).      

                                        Atodlen 2 Paragraff 8

(2)         Wrth arfer swyddogaethau Comisiwn y Cynulliad rhaid gweithredu’r egwyddor y dylid trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal, cyhyd ag y bo hynny’n briodol dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol.

(3)   Wrth arfer ei swyddogaethau, rhaid i Gomisiwn y Cynulliad —

(a) trin ieithoedd swyddogol y Cynulliad ar y sail eu bod yn gyfartal; a,

(b)  gwneud trefniadau ar gyfer galluogi gweithredu adran 35(1), (1A) a (1B).

(4)   Rhaid i Gomisiwn y Cynulliad—

(a) fabwysiadu, a

(b) cyhoeddi,

cynllun i’w alw’n Gynllun Gwasanaethau Dwyieithog Comisiwn y Cynulliad (“y Cynllun”), a fydd yn pennu’r camau y mae’n bwriadu eu cymryd er mwyn cydymffurfio â’i ddyletswyddau dan is-baragraff (3).

(5)   Rhaid i’r Cynllun gynnwys (ymhlith pethau eraill) ddarpariaethau mewn perthynas â—

(a) cyfieithu ar y pryd o’r naill iaith swyddogol i’r llall; a,

(b) cyhoeddi dogfennau yn y ddwy iaith swyddogol.

(6)   Nid oes dim yn adran 35(1) nac yn is-baragraffau (3) neu (5) o’r paragraff hwn i’w ddehongli fel gofyniad i gyfieithu, yn cynnwys cyfieithu ar y pryd, pob gair a gaiff ei ysgrifennu neu ei siarad, o’r naill iaith swyddogol i’r llall.

(7)   O ran Comisiwn y Cynulliad—

(a) rhaid iddo, o leiaf unwaith bob pedair blynedd, adolygu'r Cynllun; a,

(b) caiff, ar unrhyw adeg, fabwysiadu Cynllun newydd neu ddiwygiad i’r Cynllun cyfredol.

(8)   Ni all Comisiwn y Cynulliad fabwysiadu Cynllun, neu ddiwygiad i’r Cynllun, oni bai (p’un ai cyn neu ar ôl i’r paragraff hwn ddod i rym)—

(a) bod drafft o’r Cynllun (neu o’r diwygiad) —

(i) wedi ei gyhoeddi; a,

(ii) wedi ei osod gerbron y Cynulliad,

(b) bod Comisiwn y Cynulliad wedi ystyried unrhyw sylwadau a wnaed ar y Cynllun drafft (neu’r diwygiad drafft) gan—

(i) aelodau’r cyhoedd; a,

(ii) y Cynulliad, ac

(c)       bod y Cynllun (neu’r diwygiad) sy’n ymgorffori y newidiadau o’r math y caiff Comisiwn y Cynulliad eu gwneud, ar ôl ystyried sylwadau o’r fath, wedi ei osod gerbron y Cynulliad a’i gymeradwyo gan benderfyniad gan y Cynulliad.

(9)  Rhaid i Gomisiwn y Cynulliad weithredu’r Cynllun.

Partners & Help