Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 

Cwestiynau Cyffredin

Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth bwysig sy'n ymwneud â'r Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad

Pam mae'r Panel Arbenigol wedi cael ei sefydlu?

Mae Deddf Cymru 2017 yn rhoi rheolaeth i'r Cynulliad dros ei faterion ei hun i helpu i wneud y sefydliad hwn yn ddeddfwrfa gryfach, fwy hygyrch, cynhwysol a blaengar sy'n cyflawni'n effeithiol ar gyfer pobl Cymru. Mae Comisiwn y Cynulliad wedi penderfynu bwrw ymlaen â gwaith a gychwynnwyd gan Gomisiwn y Pedwerydd Cynulliad i fynd i'r afael â chapasiti'r Cynulliad, gan weithredu ar ran y sefydliad, gyda chefnogaeth drawsbleidiol, ac yn bwysicaf oll, er budd pobl Cymru. Sefydlwyd y Panel Arbenigol i ystyried tri mater allweddol:

  • faint o Aelodau y mae eu hangen ar y Cynulliad i gyflawni ei swyddogaethau hanfodol, sef dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, deddfu ar gyfer Cymru, cytuno ar drethi ar gyfer Cymru, a chynrychioli pobl Cymru;
  • y system etholiadol fwyaf addas i'w defnyddio ar gyfer eu hethol; a'r
  • oedran pleidleisio isaf ar gyfer etholiadau'r Cynulliad.
Pryd fydd y Panel Arbenigol yn cyhoeddi ei gasgliadau a'i argymhellion?

Mae'r Panel Arbenigol wedi cael y dasg o gyflwyno adroddiad yn hydref 2017.

Faint o Aelodau y mae eu hangen ar y Cynulliad?

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn senedd fechan ac mae'r Aelodau o'r farn nad yw'n ddigon mawr i gyflawni ei swyddogaethau deddfu, craffu a chynrychioli. Dyma hefyd oedd barn y Comisiwn annibynnol ar Ddatganoli yng Nghymru yn 2014 yn ei adroddiad i Lywodraeth y DU.

Mae maint y rhaglen ddeddfwriaethol a'r cynnydd sylweddol ym mhwerau'r Cynulliad ers ei sefydlu, gan gynnwys pwerau i godi trethi, wedi effeithio ar allu'r Aelodau i gyflawni eu rôl graffu hanfodol.  Mae ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd hefyd yn debygol o greu pwysau ychwanegol.

Rhan o rôl y Panel Arbenigol yw paratoi casgliadau ac argymhellion sy'n annibynnol ac yn wleidyddol niwtral ar sail y dystiolaeth ynghylch nifer yr Aelodau y mae eu hangen ar y Cynulliad

Beth fyddai cost mwy o Aelodau?

Ym mis Ionawr 2015, cyflwynodd Comisiwn y Pedwerydd Cynulliad adroddiad ar ddyfodol y Cynulliad ac amcangyfrif o gostau uniongyrchol y cynnydd o 20, 30 neu 40 yn nifer yr Aelodau. Roedd yr amcangyfrifon yn amrywio o rhwng £7m a £9m ar gyfer 20 o Aelodau ychwanegol (gyda <£1m o hyn yn gostau untro), i rhwng £14m ac £17m ar gyfer 40 o Aelodau ychwanegol (gyda hyd at £2m o hyn yn gostau untro). Byddai pen uchaf yr amrediad hwn yn arwain at newid yng nghyllideb y Comisiwn o 0.3 y cant i 0.4 y cant o gyllideb ddatganoledig Cymru.

Beth fydd cost gwaith y Panel?

Mae aelodau'r Panel yn arbenigwyr yn eu meysydd. Bydd eu hadroddiad a'u hargymhellion yn gadarn, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn wleidyddol ddi-duedd, gan nodi opsiynau ar gyfer diwygio rhai o drefniadau cyfansoddiadol mwyaf sylfaenol Cymru.

Bydd aelodau'r Panel yn cael eu talu am eu gwaith yn unol â'r cyfraddau sy'n cael eu talu i ddeiliaid swyddi tebyg eraill yn cynghori'r Cynulliad. Y cyfraddau dyddiol yw £333 ar gyfer Cadeirydd y Panel a £267 ar gyfer aelodau'r Panel.

Mae'r Panel Arbenigol wedi cael y dasg o gyflwyno adroddiad yn hydref 2017. Bydd costau gwaith y Panel yn cael eu cyhoeddi fel rhan o'i adroddiad terfynol.

Pwy sy'n eistedd ar y Panel?

Mae gan y Panel arbenigedd helaeth ym meysydd systemau etholiadol, gwaith a chapasiti Seneddau, sefyllfa gyfansoddiadol y Cynulliad Cenedlaethol, a materion ehangach o ran llywodraethu, gan gynnwys cydraddoldeb, amrywiaeth ac ymgysylltu.

Dyma aelodau'r Panel:

  • Yr Athro Laura McAllister (Cadeirydd) – Athro Polisi Cyhoeddus a Llywodraethiant Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru
  • Yr Athro Rosie Campbell – Athro Gwleidyddiaeth, Birkbeck, Prifysgol Llundain a'r Athro Sarah Childs – Athro Gwleidyddiaeth a Rhywedd ym Mhrifysgol Bryste (aelodaeth ar y cyd)
  • Rob Clements – cyn-Gyfarwyddwr Darparu Gwasanaethau yn Nhŷ'r Cyffredin
  • Yr Athro David Farrell – Cadeirydd Gwleidyddiaeth yng Ngholeg Prifysgol Dulyn
  • Dr Alan Renwick – Dirprwy Gyfarwyddwr Uned y Cyfansoddiad yng Ngholeg Prifysgol Llundain
  • Syr Paul Silk – Cadeirydd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru rhwng 2011 a 2014, a chyn-Glerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Sut y gall y cyhoedd fynegi eu barn?

Mae'r Panel Arbenigol wedi gwahodd arbenigwyr, rhanddeiliaid a'r cyhoedd i roi sylwadau neu dystiolaeth i lywio ei waith. Mae modd anfon sylwadau neu dystiolaeth erbyn 19 Mai 2017 drwy e-bost at newid.cyfansoddiadol@cynulliad.cymru. Mae'r Panel Arbenigol wedi paratoi polisi preifatrwydd sy'n amlinellu sut y caiff sylwadau a thystiolaeth eu defnyddio.

Wedi i'r Panel gyflwyno'i adroddiad yn hydref 2017, bydd Comisiwn y Cynulliad yn ystyried sut i symud ymlaen ag unrhyw ddiwygiadau i drefniadau etholiadol y Cynulliad. Os bydd y Comisiwn yn cyflwyno cynigion, bydd yn awyddus i roi cyfle ffurfiol i bobl leisio eu barn ar drefniadau etholiadol yn y dyfodol. Felly, bydd unrhyw gynigion yn destun ymgynghoriad cyhoeddus, yn ogystal â gwaith craffu gan y Cynulliad a'i Aelodau.

Dysgwch fwy am broses craffu ddeddfwriaethol y Cynulliad.

A fyddai angen deddfwriaeth i gynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad?

Er mwyn gweithredu unrhyw newidiadau y bydd y Panel Arbenigol yn eu hargymell, bydd angen i'r Cynulliad basio Bil yn nodi manylion y newidiadau. Cafodd y pwerau i gyflwyno deddfwriaeth i newid nifer yr Aelodau a'r system etholiadol eu rhoi i'r Cynulliad drwy Ddeddf Cymru 2017.

Byddai unrhyw Fil o'r fath yn destun prosesau craffu deddfwriaethol y Cynulliad. Hefyd, byddai angen uwch fwyafrif ar y Bil yn ei gyfnod deddfwriaethol terfynol. Mae hyn yn golygu y byddai angen bod o leiaf 40 o Aelodau yn pleidleisio o blaid y Bil.

Dysgwch fwy am broses craffu ddeddfwriaethol y Cynulliad.

Beth yw'r Grŵp Cyfeirio Gwleidyddol?

Mae'r Panel Arbenigol yn gweithredu'n annibynnol ar y Cynulliad a'r pleidiau gwleidyddol. Fodd bynnag, er mwyn helpu'r Panel Arbenigol i sicrhau bod ei waith yn cael ei seilio ar y realiti gwleidyddol o ddemocratiaeth gynrychioliadol yng Nghymru, mae'r Llywydd wedi sefydlu ac yn cadeirio Grŵp Cyfeirio Gwleidyddol. Mae aelodau'r Grŵp Cyfeirio Gwleidyddol wedi cael eu henwebu gan arweinwyr y pleidiau gwleidyddol a gynrychiolir yn y Cynulliad. Rôl gynghori sydd gan y Grŵp Cyfeirio Gwleidyddol. Bydd yn ystyried ac ymateb i ganfyddiadau'r Panel wrth iddynt ddod i'r amlwg, a bydd yn helpu'r Panel i sicrhau bod ei waith yn arwain at argymhellion ymarferol.

 

Partners & Help