Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
 

Egwyddorion llywodraethu a darpariaethau ategol

 

Cyflwyniad  

 1.  Mae Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi mabwysiadu'r egwyddorion llywodraethu a'r darpariaethau ategol a ganlyn. Gyda'i gilydd, bwriedir iddynt helpu i feithrin diwylliant o weithredu effeithiol ym mhob rhan o'r sefydliad a hynny, yn ei dro, yn helpu'r broses o reoli risgiau busnes allweddol. 

2.   Mae'r egwyddorion a'r darpariaethau ategol yn gyson â Chod Arfer Da  Llywodraethu Corfforaethol Trysorlys EM, Cod Llywodraethu Corfforaethol y DU a'r Fframwaith Rhyngwladol: Llywodraethu Da yn y Sector Cyhoeddus, a chânt eu defnyddio i lywio gwaith y Comisiwn a'i staff.

3.   Llywodraethu corfforaethol yw'r ffordd y mae sefydliadau'n cael eu cyfarwyddo, eu rheoli a'u harwain. Mae'n diffinio perthynas pobl â'i gilydd, a'r modd y caiff hawliau a chyfrifoldebau eu dosbarthu ymhlith y rhai sy'n gweithio yn y sefydliad a chydag ef, yn penderfynu ar y rheolau a'r gweithdrefnau a ddefnyddir i bennu amcanion y sefydliad, ac yn darparu'r dull o gyflawni'r amcanion hynny ac o fonitro perfformiad. Yn bwysig, mae'n diffinio pwy sydd ag atebolrwydd ar draws y sefydliad.

4.   Mae'r Comisiwn wedi'i sefydlu fel corff corfforaethol i ddarparu eiddo, staff a gwasanaethau sy'n angenrheidiol at ddibenion y Cynulliad. Felly, mae'r Cynulliad, a phobl Cymru y mae'n eu cynrychioli, yn rhanddeiliaid allweddol, ac mae'n ddyletswydd ar y Comisiwn i ymgysylltu â hwy er mwyn sicrhau ei fod yn darparu gwasanaeth o'r safon uchaf posibl ar eu cyfer. Mae llywodraethu da yn ganolog i weithrediad effeithiol y sefydliad. Corfforaeth nad yw'n gwneud elw yw Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ond mae angen iddo weithredu fel busnes a hynny yn unol ag egwyddorion cydnabyddedig llywodraethu da:

  • arweinyddiaeth - mynegi gweledigaeth glir ar gyfer y sefydliad a dangos yn eglur sut y mae gweithgareddau'n cyfrannu at gyflawni'r weledigaeth hon, gan gynnwys pennu'r parodrwydd i dderbyn risg a rheoli risg;

  • effeithiolrwydd - defnyddio amrywiaeth eang o brofiadau perthnasol, gan gynnwys drwy gynnig her gadarn, a chraffu ar berfformiad;

  • atebolrwydd - hyrwyddo tryloywder drwy ddulliau adrodd clir a theg; a

  • chynaliadwyedd - llunio barn synhwyrol ar gyfer yr hirdymor am yr hyn y mae'r sefydliad yn ceisio'i gyflawni a'r hyn y mae'n ei wneud i gyrraedd ei nod.

5. Mae Atodlen 2 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn nodi'r egwyddorion y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy wrth arfer ei swyddogaethau. Sef:

  • Rhaid i Gomisiwn y Cynulliad wneud trefniadau priodol o ran cadarnhau bod ei swyddogaethau'n cael eu harfer gan ystyried yr egwyddor y dylid sicrhau cyfle cyfartal i bawb.

  • Wrth arfer swyddogaethau Comisiwn y Cynulliad, rhaid rhoi sylw priodol i'r egwyddor o ddatblygu cynaliadwy.

  • Wrth arfer swyddogaethau Comisiwn y Cynulliad, rhaid rhoi effaith, cyn belled ag sy'n briodol yn yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol, i'r egwyddor y dylai'r iaith Gymraeg a'r Saesneg gael eu trin yn gyfartal.

 

Adran A: Arweinyddiaeth

A.           1 Rôl y Comisiwn

Comisiwn y Cynulliad sy'n gyfrifol am lwyddiant hirdymor Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac am helpu i'w wneud yn sefydliad democrataidd cryf, hygyrch a blaengar ac yn ddeddfwrfa sy'n cyflawni'n effeithiol ar gyfer pobl Cymru. 

Y Comisiynwyr sy'n gyfrifol am drefniadau llywodraethu'r sefydliad ac maent yn atebol i'r Cynulliad. Mae cyfrifoldebau'r Comisiynwyr fel y "bwrdd llywodraethu" yn cynnwys gosod nodau strategol y sefydliad, darparu'r arweinyddiaeth i'w rhoi ar waith, goruchwylio'r ffordd y caiff y nodau strategol eu cyflawni a chyflwyno adroddiadau a bod yn atebol i'r Cynulliad ynglŷn â'u stiwardiaeth.

Mae gan y Comisiynwyr gyfrifoldeb ar y cyd dros benderfyniadau, ac mae ganddynt statws cyfartal mewn trafodaethau. Dylai'r Llywydd, Comisiynwyr eraill a chynghorwyr annibynnol herio Comisiynwyr unigol:

  • os nad ydynt yn parchu her adeiladol gan eraill;

  • os nad ydynt yn cefnogi'r cyfrifoldeb ar y cyd hwn am gyflawni diben y sefydliad;

  • os nad ydynt yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni'r canlyniadau a fwriedir ar gyfer y Cynulliad a phobl Cymru; ac

  • os yw'n ymddangos eu bod yn gweithredu er budd y grŵp gwleidyddol y maent yn gysylltiedig ag ef yn unig, yn hytrach nag er budd y Cynulliad yn ei gyfanrwydd.

Egwyddorion

  • Rôl y Comisiwn yw darparu arweinyddiaeth i'r sefydliad o fewn fframwaith o reolaethau doeth ac effeithiol, sy'n golygu y gellir asesu risg a'i rheoli.

  • Dylai'r Comisiwn bennu nodau strategol y sefydliad, a darparu eglurder strategol. 

  • Dylai'r Comisiwn sicrhau bod yr adnoddau angenrheidiol ar gael, fel y gall y sefydliad gyflawni ei amcanion a sicrhau bod cynlluniau ar waith i ddiwallu anghenion y presennol ac anghenion yn y dyfodol.

  • Dylai'r Comisiwn sicrhau bod gwybodaeth reoli gadarn, glir a chyson ar gael i helpu i sicrhau gwelliant parhaus, a dylai'r Comisiwn hefyd adolygu perfformiad rheolwyr yn rheolaidd.

  • Mae cyfraniad y Comisiynwyr fel arweinwyr yn bwysig wrth helpu i sefydlu diwylliant y sefydliad. Dylent arwain drwy esiampl er mwyn annog ymddygiad da ar draws y sefydliad.

  • Rhaid i Gomisiynwyr weithredu ar y cyd o ran yr hyn y maent yn ei ystyried sydd er budd pennaf y Cynulliad, gan fod yn gyson ag unrhyw rwymedigaethau statudol.

Darpariaethau

  • Dylai'r Comisiwn gyfarfod yn ddigon rheolaidd i gyflawni ei ddyletswyddau'n effeithiol.

  • Dylai'r adroddiad blynyddol gynnwys datganiad ar sut y mae'r Comisiwn yn gweithredu, gan gynnwys datganiad lefel uchel ynghylch pa fathau o benderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan y Comisiwn a pha fathau y dylid eu dirprwyo i reolwyr. Dylai'r adroddiad blynyddol nodi nifer y cyfarfodydd a gaiff eu cynnal gan y Comisiwn a phresenoldeb unigol gan y Comisiynwyr.

A.2 Dosbarthu cyfrifoldebau

Egwyddor

  • Dylai cyfrifoldebau'r Comisiwn gael eu gwahanu'n glir oddi wrth rai rheolwyr gweithredol busnes y sefydliad.

Darpariaethau

  • Dylid sefydlu'n glir a chytuno sut y caiff cyfrifoldebau'r Comisiwn (a'r Llywydd fel ei Gadeirydd) eu gwahanu oddi wrth gyfrifoldebau'r Prif Weithredwr a'r Clerc.

A.3 Y Llywydd

Egwyddorion

  • Mae'r Llywydd yn gyfrifol am arweinyddiaeth y Comisiwn a sicrhau ei fod yn effeithiol ym mhob agwedd ar ei rôl.

  • Mae'r Llywydd yn gyfrifol am sicrhau bod digon o amser ar gael i drafod yr holl eitemau ar yr agenda, a materion strategol yn benodol. Dylai'r Llywydd hefyd hyrwyddo diwylliant o fod yn  agored, ac o drafod, drwy hwyluso cyfraniad effeithiol gan gynghorwyr annibynnol, a sicrhau y caiff cysylltiadau adeiladol eu meithrin.

  • Dylai'r Llywydd hwyluso dulliau cyfathrebu effeithiol ag Aelodau'r Cynulliad a sicrhau bod hynny'n digwydd (gweler Atodiad E).

  • Dylai'r Llywydd yn bersonol roi cyfrif yn yr adroddiad blynyddol ynghylch sut y rhoddwyd ar waith yr egwyddorion sy'n ymwneud ag arweinyddiaeth ac effeithiolrwydd y Comisiwn.

A.4 Cynghorwyr annibynnol

Egwyddorion

  • Dylai cynghorwyr annibynnol herio'n adeiladol a helpu i ddatblygu cynigion yn ymwneud â strategaeth.

  • Dylai cynghorwyr annibynnol helpu i gefnogi a chraffu ar berfformiad rheolwyr o ran cyflawni nodau ac amcanion y cytunwyd arnynt, a monitro adroddiadau ar berfformiad. Dylent fodloni eu hunain o ran uniondeb y wybodaeth ariannol sydd ar gael a bod rheolaethau a systemau rheoli risg ariannol yn gadarn a bod modd eu hamddiffyn.

Darpariaeth

  • Pan fydd cynghorwyr annibynnol yn pryderu, i'r graddau na ellir datrys y pryderon hynny, am y modd y caiff y sefydliad ei redeg neu am gamau y bwriedir eu cymryd, dylent sicrhau bod eu pryderon yn cael eu cofnodi yn y cofnodion. Pan fydd yn ymddiswyddo, dylai cynghorwr annibynnol ddarparu datganiad ysgrifenedig i'r Comisiwn os oes ganddo unrhyw bryderon o'r fath.

Adran B: Effeithiolrwydd

B.1 Ymrwymiad

Egwyddor

  • Dylai Comisiynwyr a chynghorwyr annibynnol allu neilltuo digon o amser i gyflawni eu cyfrifoldebau yn effeithiol.

Darpariaeth

  • Dylai'r Comisiwn wneud trefniadau i werthuso ei effeithiolrwydd o bryd i'w gilydd. Dylai hyn, o leiaf, gynnwys adroddiad etifeddiaeth sy'n cwmpasu enghreifftiau o arfer da a gwersi a ddysgwyd ar ddiwedd pob Cynulliad.

B.2 Datblygiad

Egwyddorion

  • Dylai Comisiynwyr a chynghorwyr annibynnol newydd gael cyfnod cynefino priodol wrth eu penodi.

  • Dylai uwch reolwyr ddarparu'r adnoddau angenrheidiol ar gyfer unrhyw ofynion priodol o ran datblygu neu hyfforddi sydd gan Gomisiynydd neu gynghorwr annibynnol.

  • Er mwyn gweithio'n effeithiol, mae angen gwybodaeth briodol am y sefydliad a mynediad at ei weithrediadau a'i staff ar bob Comisiynydd a chynghorwr annibynnol.

B.3 Gwybodaeth a chymorth

Egwyddorion

  • Dylai'r Comisiwn, mewn modd amserol, gael gwybodaeth ar ffurf ac o ansawdd sy'n briodol i'w alluogi i gyflawni ei ddyletswyddau.

  • Y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac Aelodau sy'n gyfrifol am sicrhau bod y Comisiynwyr yn cael gwybodaeth gywir, amserol a chlir.

  • Mae cyfrifoldebau'r Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac Aelodau yn cynnwys sicrhau bod gwybodaeth yn llifo'n dda yn y Comisiwn a rhwng uwch-reolwyr a chynghorwyr annibynnol, yn ogystal â hwyluso hyfforddiant cynefino a chynorthwyo gyda gweithgareddau datblygu eraill a allai fod yn ofynnol.

Darpariaethau

  • O dan gyfarwyddyd y Prif Weithredwr a'r Clerc, mae cyfrifoldebau'r Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac Aelodau yn cynnwys:

  • datblygu a chytuno ar yr agenda ar gyfer cyfarfodydd y Comisiwn gyda'r Llywydd, gan sicrhau bod yr holl eitemau perthnasol yn cael eu dwyn i sylw'r Comisiwn;

  • sicrhau bod gwybodaeth yn llifo'n dda yn y Comisiwn a rhwng uwch-reolwyr a chynghorwyr annibynnol, gan gynnwys:

  • herio papurau a gwybodaeth a sicrhau eu hansawdd;

  • sicrhau bod papurau yn dod i law'r Comisiynwyr yn unol ag amserlen a gytunwyd; a

  • darparu cyngor a chefnogaeth ar faterion llywodraethu a helpu i weithredu gwelliannau yn y strwythur a'r trefniadau llywodraethu.

  • sicrhau bod y Comisiwn yn dilyn y drefn briodol; a

  • chofnodi penderfyniadau'r Comisiwn yn gywir, a sicrhau bod camau gweithredu yn cael eu cyflawni.

Adran C: Atebolrwydd

C1. Bod yn atebol i'r Cynulliad

Egwyddorion

  • Mae'r Comisiynwyr yn gyfrifol am gyflawni swyddogaethau statudol y Comisiwn ac maent yn atebol i'r Cynulliad. Mae ganddynt ddyletswydd i'r Cynulliad i fod yn gyfrifol am holl bolisïau, penderfyniadau a gweithredoedd y sefydliad, ac i gael eu dwyn i gyfrif amdanynt.

  • Y Prif Weithredwr a'r Clerc yw Prif Swyddog Cyfrifyddu'r Comisiwn yn rhinwedd Adran 138 o Ddeddf 2006. Mae'n bersonol gyfrifol ac atebol i'r Cynulliad am drefniadaeth Comisiwn y Cynulliad ac ansawdd y gwaith rheoli, gan gynnwys ei ddefnydd o arian cyhoeddus a sut y mae'n gwarchod ei asedau. 

Darpariaethau

  • Caiff y Comisiynwyr ddyrannu cyfrifoldeb am oruchwylio ystod ddiffiniedig o waith sefydliadol i Gomisiynydd unigol.

  • Dylid cofnodi pa rai o swyddogaethau'r Comisiwn a ddirprwywyd i'r Prif Weithredwr a'r Clerc, a dylid nodi'n eglur unrhyw eithriadau ac unrhyw beth a gedwir yn ôl.

  • Amlinellir dyletswyddau'r Prif Swyddog Cyfrifyddu mewn llythyr dynodi a gyhoeddir gan y Trysorlys. Dylai'r Swyddog Cyfrifyddu ddyrannu cyfrifoldebau'n glir ymhlith swyddogion a chofnodi hynny, ond mae'n cadw cyfrifoldeb personol cyffredinol ac atebolrwydd i'r Cynulliad am:

  • briodoldeb a rheoleidd-dra;

  • gweinyddu doeth a darbodus;

  • osgoi gwastraff ac afradlondeb;

  • sicrhau gwerth am arian, o ran bloc Cymru ac yn fwy eang ar gyfer y Trysorlys yn ei gyfanrwydd, nid dim ond ar gyfer Comisiwn y Cynulliad;

  • defnyddio'r adnoddau sydd ar gael yn effeithlon ac effeithiol; a

  • threfnu, staffio a rheoli Comisiwn y Cynulliad.

  • Os bydd y Prif Swyddog Cyfrifyddu yn cael cyfarwyddyd gan y Comisiwn, neu'r Llywydd yn gweithredu ar ei ran, i gymryd camau gweithredu y mae'n credu eu bod yn groes i'w gyfrifoldebau personol, rhaid iddo ofyn am gyfarwyddyd ysgrifenedig gan y Comisiwn. Ni chaiff ddibynnu ar gofnodion y Comisiwn yn lle cyfarwyddyd ysgrifenedig ffurfiol. Bydd cyfarwyddiadau o'r fath yn cael eu hanfon ymlaen at yr Archwilydd Cyffredinol, a fydd, fel arfer, yn dwyn y mater i sylw'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

  • Dylai pob cyfarwyddyd, a fyddai'n cael eu datgelu'n gyhoeddus o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 pe bai cais priodol yn cael ei wneud, gael ei ddatgelu yn y datganiad llywodraethu sy'n rhan o'r cyfrifon blynyddol am y cyfnod y rhoddwyd y cyfarwyddyd ar ei gyfer.

ADRAN D: Rheoli risg

D.1 Rheolaethau mewnol a threfniadau rheoli risg

Egwyddorion

  • Dylai'r Comisiwn a'r Prif Weithredwr a'r Clerc sicrhau bod trefniadau effeithiol ar gyfer llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth fewnol ar gyfer Comisiwn y Cynulliad.

  • Y Prif Weithredwr a'r Clerc sy'n gyfrifol am baratoi'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol i'w gyhoeddi gyda'r cyfrifon adnoddau bob blwyddyn.

Darpariaethau

  • Dylai'r Prif Weithredwr a'r Clerc fod yn sicr ynddo'i hun ynghylch effeithiolrwydd system a gweithdrefnau rheoli risg y sefydliad, a'i reolaethau mewnol. Dylai roi arweiniad clir ynglŷn â'r parodrwydd i dderbyn risg a geisir ar gyfer y sefydliad a sicrhau:

    • bod fframwaith priodol o reolaethau doeth ac effeithiol ar gael, fel y gellir asesu a rheoli risgiau, a chymryd risgiau'n bwyllog;

    • bod atebolrwydd clir ar gyfer rheoli risgiau; a

    • bod swyddogion yn meddu ar y sgiliau ac yn cael yr arweiniad angenrheidiol i gyflawni'r rolau a bennwyd iddynt yn effeithiol ac yn effeithlon.

d.2 Archwilio mewnol a'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg

Egwyddor

  • Dylai'r Comisiwn a'r Prif Swyddog Cyfrifyddu gael eu cefnogi gan:

    • Bwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg, o dan gadeiryddiaeth cynghorwr annibynnol sydd â phrofiad addas; a

    • gwasanaeth archwilio mewnol sy'n gweithredu'n unol â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus.

Darpariaethau

  • Dylai'r Pennaeth Archwilio Mewnol gael ei wahodd o dro i dro i ddod i gyfarfodydd uwch-reolwyr, lle mae materion allweddol yn cael eu trafod yn ymwneud â llywodraethu, rheoli risg neu reolaeth fewnol.

  • Dylai'r Comisiwn a'r Prif Swyddog Cyfrifyddu gael eu cefnogi gan Bwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg, sy'n cynnwys o leiaf dri chynghorwr annibynnol. Dylai o leiaf un o aelodau'r pwyllgor hwn, ond yn ddelfrydol rhagor na hynny, feddu ar brofiad ariannol diweddar a pherthnasol.

  • Rôl i'r Comisiwn a'r uwch-reolwyr yw cynghori ar risgiau allweddol. Dylai'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg gefnogi'r rôl hon, fodd bynnag.

  • Ni ddylai'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg fod ag unrhyw gyfrifoldebau gweithredol  ac ni ddylai fod yn gyfrifol am wneud na chymeradwyo unrhyw benderfyniadau. Dylai gymryd gofal i barhau'n annibynnol. Dylai'r Pwyllgor gael ei sefydlu, a dylai weithredu yn unol â Llawlyfr Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg y Trysorlys.

  • Cyhoeddir y Datganiad Llywodraethu Blynyddol gyda'r cyfrifon adnoddau bob blwyddyn. Wrth ei baratoi, dylai'r Prif Swyddog Cyfrifyddu asesu'r risgiau sy'n wynebu'r sefydliad, a sicrhau bod ei systemau rheolaeth fewnol a rheoli risg yn effeithiol. Y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a ddylai arwain yr asesiad hwn fel arfer.

  • Dylai cylch gorchwyl y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg, gan gynnwys ei rôl a'r awdurdod a ddirprwywyd iddo gan y Comisiwn, fod ar gael i'r cyhoedd ei weld. Dylai'r Pwyllgor gyflwyno adroddiad blynyddol i'r Comisiwn, a ddylai adrodd yn flynyddol ar waith y Pwyllgor yn ei adroddiad i'r Cynulliad.

Adran E: Taliadau

E.1 Aelodau

Egwyddorion

  • Mae'r Bwrdd Taliadau ('y Bwrdd') yn Fwrdd annibynnol a sefydlwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Nod y Bwrdd yw sicrhau bod Aelodau'r Cynulliad yn cael eu talu'n briodol ac yn cael yr adnoddau ariannol angenrheidiol i weithredu'n effeithiol mewn sefydliad seneddol modern.

  • Mae'n bwysig bod Comisiwn y Cynulliad a'r Bwrdd Taliadau yn cyfathrebu a chynnal sgyrsiau rheolaidd . Mae hyn er mwyn cydnabod rolau statudol a rhyng-ddibyniaeth y ddau gorff o ran darparu cymorth a gwasanaethau i Aelodau'r Cynulliad.

Darpariaethau

  • Nid yw'r Bwrdd yn ddarostyngedig i gyfarwyddyd na rheolaeth y Cynulliad na Chomisiwn y Cynulliad. Mae penderfyniadau'r Bwrdd yn derfynol, ac nid ydynt yn gorfod cael eu cadarnhau na'u cymeradwyo.

  • Cyfrifoldeb Comisiwn y Cynulliad yw gweithredu Penderfyniad y Bwrdd.

  • Mae'r Bwrdd Taliadau wedi cytuno ar ei Egwyddorion Llywodraethu a'i ganllawiau ei hun o ran cynnal busnes.

  • Mae'n ofynnol i'r Comisiwn ddarparu cefnogaeth ysgrifenyddol i'r Bwrdd er mwyn iddo allu gweithredu'n effeithiol. Y Gwasanaeth Cymorth Busnes i'r Aelodau sy'n gyfrifol am weithredu Penderfyniadau'r Bwrdd a chynghori Aelodau'r Cynulliad a'u staff cymorth ar faterion sy'n ymwneud â'r Penderfyniad.

E.2 Tâl uwch-reolwyr

Egwyddorion

  • Dylai lefelau cydnabyddiaeth fod yn ddigonol i ddenu, cadw a chymell uwch-reolwyr o'r safon sy'n ofynnol i redeg y sefydliad, gan roi sylw i faterion ehangach o ran cyflogau a chydnabyddiaeth yn y sector cyhoeddus.

  • Dylid bod â gweithdrefn ffurfiol a thryloyw ar gyfer datblygu polisi ar gydnabyddiaeth swyddogion gweithredol ac ar gyfer pennu pecynnau cydnabyddiaeth y Prif Weithredwr a'r Clerc a chyfarwyddwyr. Ni ddylai unrhyw unigolyn fod yn rhan o broses o benderfynu ar ei dâl ei hun.

Darpariaethau

  • Dylai'r Comisiwn benodi Pwyllgor Taliadau sy'n cynnwys o leiaf dri chynghorwr annibynnol i roi cyngor ar dâl.

  • Pan fydd uwch-reolwyr yn ymwneud â chynghori neu gynorthwyo'r Pwyllgor Taliadau, dylid cymryd gofal i gydnabod buddiannau ac i osgoi gwrthdaro rhwng buddiannau.

  • Dylai'r Pwyllgor Taliadau sicrhau bod ei gylch gorchwyl, sy'n egluro ei rôl, ar gael i'w weld. Pan gaiff ymgynghorwyr eu penodi mewn cysylltiad â chydnabyddiaeth, dylid sicrhau bod datganiad ar gael yn nodi a oes ganddynt unrhyw gysylltiad arall â'r sefydliad.

Adran E: Cysylltiadau ag Aelodau'r Cynulliad

E.1 Deialog ag Aelodau'r Cynulliad

Egwyddor

  • Dylai'r Comisiwn a'r Prif Weithredwr a'r Clerc sefydlu deialog reolaidd ag Aelodau'r Cynulliad yn seiliedig ar gyd-ddealltwriaeth o amcanion.

  • Dylai'r Prif Weithredwr a'r Clerc a'r Llywydd sicrhau bod pob Comisiynydd a chynghorwr annibynnol yn ymwybodol o brif faterion a phryderon Aelodau'r Cynulliad.

Darpariaethau

  • Dylai'r Prif Weithredwr a'r Clerc a'r Llywydd sicrhau bod safbwyntiau Aelodau'r Cynulliad yn cael eu cyfleu i'r Comisiwn yn ei gyfanrwydd.

  • Dylai'r Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac Aelodau gyfathrebu ag Aelodau'r Cynulliad drwy amrywiaeth o ddulliau i sicrhau eu bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau'r Comisiwn, ac i glywed am unrhyw bryderon a phroblemau sydd gan yr Aelodau o bosibl, ac i ymdrin â hwy.

  • Dylai'r Comisiwn ddatgan yn yr adroddiad blynyddol y camau y mae wedi'u cymryd i sicrhau bod y Comisiynwyr yn datblygu dealltwriaeth o farn yr Aelodau am y sefydliad, er enghraifft, drwy gyswllt uniongyrchol wyneb yn wyneb, a thrwy arolygon barn.

 

 

Partners & Help