Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :



Cysylltiadau Rhyngwladol


Mae'r tîm cysylltiadau rhyngwladol yn edrych i adeiladu ar y gwaith o'r Pedwerydd Cynulliad, gan adlewyrchu Blaenoriaethau Strategol Comisiwn y Cynulliad. Wedi'i chynnwys o fewn y blaenoriaethau strategol mae amcan i hyrwyddo Cymru a democratiaeth Cymru i'r byd ehangach.

Drwy fod yn rhan o rwydweithiau rhyngwladol seneddol a thrwy ymgysylltu â rhaglenni a gweithgareddau pwrpasol, mae'r Cynulliad yn ceisio hyrwyddo a chyfnewid arferion seneddol gorau ar lwyfan ryngwladol, ac yn ceisio sicrhau bod y Cynulliad yn cael ei osod ar lwyfan y byd fel deddfwrfa ryngwladol unigryw, arloesol a blaengar.

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru Dîm Cysylltiadau Rhyngwladol pwrpasol sy'n cynorthwyo’r Llywydd, y Dirprwy Lywydd ac Aelodau’r Cynulliad gyda’u gwaith rhyngwladol.

 
  
 

 

Partners & Help