Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Y Comisiynwyr a'u rôl

Mae’n ofynnol i’r Cynulliad, yn ôl y gyfraith, benodi Comisiynwyr y Cynulliad, sy’n gyfrifol am ddarparu’r staff a’r adnoddau sydd eu hangen i’r Cynulliad gyflawni ei waith yn effeithiol ar gyfer pobl Cymru. Caiff y Comisiwn ei gadeirio gan y Llywydd, ac mae’n cynnwys pedwar Aelod Cynulliad sydd wedi cael eu hethol gan y Cynulliad. Mae gan bob aelod o’r Comisiwn bortffolio o gyfrifoldebau penodol ar gyfer y Pumed Cynulliad.

PortffolioComisiynydd

​Y Llywydd fel Cadeirydd y Comisiwn
Cyfathrebu ac ymgysylltu

​Elin Jones AM, Llywydd

​Cyllideb a llywodraethiant, gan gynnwys Archwilio a Sicrwydd Risg, aelodau pwyllgorau

​Suzy Davies AM

​Cydraddoldebau, a’r Comisiwn fel cyflogwr staff y Cynulliad

​Joyce Watson AM

​Ieithoedd swyddogol, a darparu a thrawsnewid gwasanaethau i’r Aelodau

​Adam Price AM

​Diogelwch ac adnoddau’r Cynulliad

​Caroline Jones AM

 
 


 

Partners & Help