Gwybodaeth am y Cynulliad
Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r corff sy’n cael ei ethol yn ddemocrataidd i gynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, i ddeddfu ar gyfer Cymru, i gytuno ar drethi yng Nghymru, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.
Mae’r adran hon yn egluro mwy am weinyddiaeth y Cynulliad a sut mae’n gweithio, llwyddiannau’r Cynulliad, a hanes y sefydliad a’i ystâd.
Mae’r Cynulliad yn cynnwys 60 Aelod Cynulliad o bob rhan o Gymru. Cânt eu hethol gan bobl Cymru i’w cynrychioli nhw a’u cymunedau, deddfu ar gyfer Cymru a chraffu ar waith Llywodraeth Cymru.
Yr enw ar gorff corfforaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw Comisiwn y Cynulliad. Canfyddwch sut caiff y Comisiwn ei ffurfio a mwy am y strwythurau a’r rheolau sy’n rheoli sut y caiff y Cynulliad ei lywodraethu.
Mae Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi ei gynlluniau i ddatblygu prif elfennau o'i raglen i ddiwygio senedd Cymru. Darllenwch ragor
Gweld hefyd:
Agorwyd y Senedd yn 2006, a dyma lle mae Aelodau’r Cynulliad yn ymgynnull ar gyfer y Cyfarfod Llawn ddwywaith yr wythnos. Canfyddwch fwy am y Cynulliad a’i ystâd yn yr adran hon.
Os ydych yn byw yng Nghymru, mae pum Aelod Cynulliad yn eich cynrychioli. Mae'n hawdd cysylltu ag Aelod Cynulliad - gallwch godi materion dros y ffôn neu'r e-bost, neu drwy drefnu cyfarfod wyneb yn wyneb.
Ar ôl siarad â chi, gall eich Aelod Cynulliad godi'r mater yng Nghyfarfod Llawn y Cynulliad Cenedlaethol.
Os hoffech weithio yn y Cynulliad Cenedlaethol, gallwch geisio am swydd gyda Chomisiwn y Cynulliad, sy'n darparu gwasanaethau i'r 60 Aelod Cynulliad, neu weithio i Aelod Cynulliad.
Darllenwch am ein swyddi gwag cyfredol